Y Cywyddwyr Llyfrau'r Ford Gron/Claddu Ithel ap Robert

Y Llafurwr Y Cywyddwyr Llyfrau'r Ford Gron
Y Cywyddau
gan Iolo Goch

Y Cywyddau
Byd a Bywyd

Claddu Ithel ap Robert

IOLO GOCH

Y DDAEAR ddu'n dyrru dwst,
Yn crynu faint fu'r crynwst;
Mam pob cnwd brwd brigowgffrwyth
Mantell oer rhag maint ei llwyth,
Pan gychwynnwyd, breuddwyd brau,
I'r eglwys lân aroglau
O Goed y Mynydd ag ef,
A'i dylwyth oll yn dolef.
Gwae ddwyfil gwedi'i ddyfod
O fewn yr eglwys glwys glod.
Och glywed—tristed fu'r trwst—
Clyr a chrwydr clêr a chrydwst.
A goleuo, gwae, lawer,
Tri mwy na serlwy o sêr,
Torsau hoyw ffloyw o famgwyr
Fal llugyrn tân lluchgyrn llwyr.
Rhai'n gwasgu bysedd gwedd gwael,
Mawr ofid fel marw afael.
Rhianedd cymyrredd cu,
Rhai'n llwygo, rhai'n llewygu;
Rhai'n tynnu top o boparth
Gwallt y pen megis gwellt parth.
Siglo a wnai'r groes eglwys
Gan y godwrdd a'r dwrdd dwys.
Fal llong eang wrth angor
Crin, fydd yn crynu ar fôr.