Y Cywyddwyr Llyfrau'r Ford Gron/I ofyn March

I Sion Eos (a grogwyd yn y Waun) Y Cywyddwyr Llyfrau'r Ford Gron
Y Cywyddau
gan Tudur Aled

Y Cywyddau
Marwnad Merch (Tudur Aled)

I ofyn March

TUDUR ALED

HYYDER Lewis Amhadawg—
Erchi, a rhoi, march y rhawg,
A'i ddewis, erbyn mis Mai,
Merch deg, a march a'i dygai.

Trem hydd, am gywydd, a gais,
Trwynbant, yn troi i'w unbais;
Ffriw yn dal ffrwyn, o daliwn,
Ffroen y sy gau, fal Ffrawns gwn;
Ffroen arth, a chyffro'n ei ên,
Ffrwyn a ddeil ei ffriw'n ddolen.

Llygaid fal dwy ellygen
Llymion byw'n llamu'n ei ben;
Dwy glust feinion aflonydd,
Dail saeds, uwch ei dâl y sydd;
Trwsio, fal goleuo glain,
Y bu wydrwr, ei bedrain;
Ei flew fal sidan newydd,
A’i rawn o liw gwawn y gwŷdd;
Sidan ym mhais ehedydd,
Siamled yn hûs am lwdn hydd.

Ail y carw, olwg gorwyllt,
A'i draed yn gweu drwy dân gwyllt;
Dylifo, heb ddwylo, ’dd oedd,
Neu weu sidan, nes ydoedd!

Ysturio cwrs y daran,
A thuthio pan fynno'n fân.

Bwrw'i naid i'r wybr a wnâi,
Ar hyder yr ehedai,
Cnyw praff yw yn cnoi priffordd,
Cloch y ffair, ciliwch o'i ffordd!
Sêr neu fellt o'r sarn a fydd
Ar godiad yr egwydydd;
Drythyll ar bedair wyth-hoel,
Gwreichionen yw pen pob hoel;
Dirynnwr dry draw'n y fron,
Deil i'r haul dalau'r hoelion;
Gwreichion a gaid ohonun,
Gwnïwyd wyth bwyth ym mhob un;
I arial a ddyfalwn
I elain coch ym mlaen cŵn;
Yn ei fryd, nofio'r ydoedd,
Nwyfawl iawn anifail oedd;
O gyrrir draw i'r gweirwellt,
Ni thyrr â'i garn wyth o'r gwellt!

Neidiwr dros afon ydoedd,
Naid yr iwrch rhag y neidr oedd;
Wynebai a fynnai fo,
Pe'r trawst, ef a'i praw trosto;
Nid rhaid, er peri neidio,
Dur fyth wrth ei dorr efô,
Dan farchog bywiog, di bŵl,
Ef a wyddiad ei feddwl;
Draw, os gyrrir dros gaered,
Gorwydd yr arglwydd a red;

Llamwr drud, lle mwya'r drain,
Llawn ergyd, yn Llan Eurgain;
Gorau 'rioed, gyrru i redeg,
March da am arwain merch deg —
Mae'n f'aros yma'n forwyn
Merch deg, pe ceid march i'w dwyn!

Oes dâl am y sud elain
Amgen no mawl am gnyw main?