Y Siswrn (testun cyfansawdd)

Y Siswrn

gan Daniel Owen

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Y Siswrn
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Daniel Owen
ar Wicipedia

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader

Y Clawr

Y SISWRN

Y SISWRN:


SEF

DETHOLION PRUDD A DYDDANOL,
NEWYDD A HEN , O WEITHIAU

DANIEL OWEN,

(Awdwr “Rhys Lewis," "Y Dreflan," &c.)


—————————————

Hwyl lawen gaiff teuluoedd—a mîn iawn
I ymwneyd â gwisgoedd;
Ni syfl gwerth na safle goedd
"Y SISWRN" yn oes oesoedd!

NEIFION .

—————————————

Yr Wyddgrug:

J. LL. MORRIS , HEOL NEWYDD.

MDCCCLXXXVI

AT Y DARLLENYDD

Gyda chaniatâd ein cymydog, Mr. Daniel Owen, yr ydym wedi anturio cyhoeddi y gyfrol fochan hon o ddetholion o'i weithiau. Mar y croesaw gwresog a roddwyd gan ein cyd -genedl i weithiau yr Awdwr, sef y Dreflan a Rhys Lewis, y peri i ni obeithio na fydd Y Siswrn yn annerbyniol. Gwêl y cyfarwydd fod yma amryw o'r detholion na fuont mewn argraff o'r blaen, ac eraill a ymddangosasant mewn Cylchgronau na feddent ond dosbarth neillduol o ddarllenwyr, ac eraill a gyhoeddwyd mewn cyfrol sydd allan o argratff er ys llawer o flynyddoedd. I'r lliaws bydd yr oll yn newydd, ac i'r ychydig sydd yn cofio wyneb ambell ddernyn hyderwn nad anhyfryd a fydd ail-gydnabyddiaeth.


Yr WyddgrugY CYHOEDDWR.

CYNNWYSIAD

Yr Ysmygwr

Pennod agoriadol i hanes anysgrifenedig.

Rwyf yn meddwl, ond nid wyf yn sicr, mai y flwyddyn 1876 neu 1877 ydoedd. Y gwaelaf yn y byd ydwyf am gofio dyddiau a blynyddau wedi yr elont heibio; ac oherwydd fy mod yn ymwybodol o'r diffyg hwn, a rhag poeni y darllenydd gydag anghysonderau, ni wnaf ond can lleied ag a allaf o gyfeiria lau at ddyddiadau, gan nad ydynt ar y goreu ond pethau sychion, ac oddiar yr ystyriaeth mai gwell i ddyn diofal beidio bod yn fanwl. Am yr adroddaf y ffeithiau yn gywir pa bwys am y dyddiad? Pethau amser ydyw dyddiadau, ond nid allwn ymysgwyd oddiwrth ffeithiau bywyd hyd yn nod yn y byd a ddaw. Ceidw rhai pobl ddydd lyfr yn yr hwn y croniclant eu teimladau, a'u gweithredoedd, a phrif ddygwyddiadau pob diwrnod o'u bywyd. Os ydyw eu bywyd yn gyffelyb i'r eiddo fi ac i eiddo dynion yn gyffredin, ac os ydynt yn onest gyda'r gwaith hwn, da fyddai ganddynt, mi gredaf, gael hamdden cyn marw i'w losgi. Ond os ysgrifennu y maent bethau difyr i'w darllen ganddynt hwy eu hunain a chan eu perthynasau ryw amser sydd i ddyfod, yna rhagrithwyr ydynt, a chânt allan ryw dro fod llyfr coffadwriaeth arall yn bod cwbl wahanol o ran ei fanylion. Ond yr wyf yn meddwl, fel y dywedais, mai y flwyddyn 1876 ydoedd—tua chanol y cynhauaf ŷd. Yr oedd wedi bod yn dymor poeth iawn, ac yr oedd rhai ffermwyr yn gallu dyrnu eu hydoedd ar y maes cyn eu casglu i'w hŷdlanau. Mae ffaith fechan yn peri i mi gofio hyn : Yr oedd cynrychiolydd y Feibl Gymdeithas Frytanaidd a Thramor wedi anfon gair at y pen blaenor yma y byddai efe yn dyfod i'n hardal ar y diwrnod a'r diwrnod i ddadleu hawliau y Gymdeithas; ac yr oedd y pen blaenor yntau, yn ei dro,—yr hwn oedd fferm ŵr cyfrifol wedi anfon gair yn ôl i ddyweyd y byddai raid i'r cynrychiolydd oedi ei ymweliad oherwydd fod cyhoeddiad yr engine ddyrnu yn ein hardal ar y diwrnod hwnnw; yr hwn drefniant a hysbyswyd yn ei amser priod i'r frawdoliaeth ac a dderbyniodd gymeradwyaeth ddyladwy. Yr oeddwn yn feistr arnaf fy hun, fel y dywedir; hynny ydyw, gallwn fyned oddicartref heb ofyn cennad neb, ac aros cyhyd ag y mynnwn heb golledu neb ond fy hunan. Nid oedd gennyf na meistr na gwraig i ofyn caniatâd ganddynt. A hon oedd rhagorfraint bennaf fy mywyd—rhyddid. Nid oedd gennyf ddim at fy nghynhaliaeth ond a enillwn gyda fy neng ewin—nid oeddwn yn anghenus ac nid oedd gennyf ond ychydig wrth gefn. Pa fodd bynnag, un bore, cefais ddrychfeddwl newydd, sef nad oeddwn lawn can iached ag y dylaswn fod. Yr wyf yn lled sicr erbyn hyn mai drychfeddwl ydoedd, oblegid dy i gydag ef fwy o bleser nag o ofid, a theimlwn braidd yn falch ohono, fel y gwna bardd o linell newydd, bert. Yn wir effeithiodd arnaf mor fawr nes fy nwyn i'r penderfyniad fy mod yn haeddu gŵyl, neu holiday, yr hwn beth mai ychydig, fel y tybiwn i, oedd yn ei haeddu, ac mai y rhai oedd yn ei haeddu leiaf oedd yn cael mwyaf ohono. Oddiar yr egwyddor pwyth rhag llaw a arbed naw, a rhag i mi waethygu, tybiais mai goreu po gyntaf yr awn oddicartref. Ni chymerodd i mi prin bum' mynyd i benderfynu ar y lle yr awn i dreulio fy ngŵyl, ac awgrymodd Llan drindod ei hun i mi ar unwaith. Gan mor gyflym y daeth y lle i fy meddwl, yr wyf erbyn hyn braidd yn tybied fy mod wedi penderfynu ar y lle cyn darganfod nad oeddwn mor iach ag y dymunaswn fod. Ni fuaswn erioed o'r blaen yn Llandrindod, ac eto, wedi darllen fwy nag unwaith y "Tridiau" a'r "Tridiau Eto," gan Glan Alun, teimlwn raddau o gydnabyddiaeth â'r lle. Cychwynais i'm taith, a phan oeddwn ar fy ffordd i'r orsaf yn myned heibio yr Hendre Fawr, gwelwn fod yr engine ddyrnu wedi dyfod yn ffyddlon i'w chyhoeddiad. Yn wir yr oedd hi wrthi er's meityn yn drystfawr ac ysglyfaethus, a'i holwynion yn troelli yn gyflym, a'i hagerdd a'i mwg yn es gyn i'r awyr, ac amryw wŷr o'i deutu heb gôb na gwasgod—rhai yn taflu yr ysgubau i'w chrombil, eraill yn pentyrru y gwellt, ac eraill yn cylymu cêg y sachau, a phawb yn ymddangos càn brysured a iar a deugyw, ac yn gwaeddi mor uchel wrth siarad fel ag yr oeddwn yn gallu eu deall yn burion o'r ffordd. Gwelwn Ifan Wmphre, y pen blaenor, nid fel y bydd ai yn y capel, sef yn araf—deg a hamddenol, ond wedi deffro o’i goryn i'w sawdl ac yn llawn bywiogrwydd. Ymddangosai yr hen frawd i mi fel pe buasai yn ar gyhoeddedig ped arosasai y gwr chwimwth a ddiwallai yr engine gegrwth ond am un eiliad, y buasai y peiriant yn ddiymdroi yn ymosod yn ffyrnig ac ysglyfaethus ar bob copa walltog o'r rhai oedd o'i ddeutu, os nad ar y tŷ, ac ar y wraig a'r plant hefyd. Pan euthum yn ddigon pell oddiwrth sŵn y peiriant i allu clywed fy myfyrdodau, meddyliwn mai nid peth dibwys, wedi'r cwbl, oedd dyfodiad yr engine ddyrnu i ardal, pe na buasai ond am y bywyd a'r egni a ddygai gyda hi, ac a gyfrannai i'r rhai oeddynt, ar brydiau eraill, yn hollol ddifraw. Ac eto nid allwn beidio dychymygu am wyneb cynrychiolydd y Feibl Gymdeithas,—yr hwn oedd ŵr doniol a thafodog, a'r sense of humour yn gryf ynddo—y bore y derbyniodd efe y llythyr a gynhwysai y "rheswm digonol" dros iddo oedi ei ymweliad â'n hardal. Diammheu gennyf iddo roddi i mewn ar unwaith, yn ei feddwl, i resymoldeb, y cais, ac iddo ganfod fod un engine ddyrnu yn llawn ddigon yn ein hardal ar yr un diwrnod! Tybiwn hefyd mai y gair uchaf yn meddwl Ifan Wmphre y diwrnod hwnw oedd, "Nid ar Feibl yn unig y bydd fyw dyn." Tarawyd fi gyda hyn gan y syniad——pe buasai ymweliad gwahanol gynrychiolwyr galluog y Fam Gymdeithas yn cael edrych arno gyda'r fath ddyddordeb, ac yn dylanwadu mor rymus ar bawb yn ein hardal ag a wnâi dyfodiad yr engine ddyrnu ar deulu yr Hendre Fawr—mai nid deuddeg punt a fuasai swm ein casgliad blynyddol at y gymdeithas ddigyffelyb honno.

Yr oeddwn wedi rhoi fy ngharbed bag dan ofal hogyn, a'i anfon o fy mlaen i'r orsaf—nid am fy mod yn y falch i'w gario fy hun, ond rhag i neb wybod fy mod yn myned oddicartref ac iddynt holi a stilio i ba le yr awn. Canys gwyddwn pan elai un diwraig neu ddiŵr i Landrindod fod tuedd mewn rhai pobl i briodoli iddo neu iddi amcanion amgen na gwellhau yr iechyd; er na fuasai raid i mi ofni y priodolasid amcan felly i mi, gan fy mod, fel y tybiwn, yn un pur annhebyg i wneyd argraff ddofn ar neb, neu o dderbyn argraff arosol gan neb. Eto meddyliwn fod cadw safnau y trigolion yn ngheuad yn werth chwe' cheiniog, yr hwn swm a delais yn onest i'r hogyn, ac am yr hwn swm yr oedd efe yn dra diolchgar, oblegid can gynted ag y derbyniodd efe y chwe' cheiniog, poerodd arno i'r dyben, gallwn feddwl, iddo lynu yn ei law, oherwydd nid oedd ganddo boced gyfan ar ei helw, mi gymerwn fy llw. Yn wir telais fwy na hynny lawer gwaith drosodd yn ystod fy oes, i gadw tafodau yn segur, a theimlaf y fynyd hon mai dyna yr investment goreu y gall dyn ei wneyd.

Yr oeddwn wedi prysuro yn gymaint i ddal y trên fel, pan gymerais fy eisteddle yn y gerbydres, y teim lŵn dipyn yn wasgedig a churedig fy nghalon, ac yr oedd ynof duedd gref i orwedd. Nid anhyfryd gennyf oedd teimlo felly, oblegid dyfnhâi fy argyhoeddiad nad oeddwn mor gryf ag oedd ddymunol, ac elai ymhell i dawelu fy nghydwybod nad oeddwn yn myned oddi cartref i wastraffu wythnos neu bythefnos o amser gwerthfawr heb amcan teilwng. Wrth farnu yn deg a diduedd yr wyf yn cael fod dyn—hyny ydyw, yr wyf yn cael fy hunan——oblegid nid oes ynof awydd pinio fy meiau fy hun wrth ddynion yn gyffredinol——yr wyf yn cael fy hun, meddaf, yn chwareu llawer cast gyda fy nghydwybod. Rhaid i mi, a phob dyn gonest, gyd nabod mai hi ydyw y frenhines, gwg neu wên yr hon gan nad pa mor deyrngarol ydym—nis gallwn ei anwybyddu. Pob dyn gonest, meddaf; ac wrth hynny y meddyliaf—pob dyn sydd wedi ymddeffroi o gysgad rwydd anystyriaeth i ymholi o ba le y daeth? i ba le y mae yn myned? beth ydyw neges a dyben ei fodolaeth?beth ydyw ystyr yr hyn a wêl o'i amgylch? dy breuddwyd a'i dameg ydyw? beth ydyw ef ei hun, a'i math o beiriant bwyta? ai cannwyll a lysg i lawr i'w socet rai o'r dyddiau nesaf? ai ynte seren i fyned o'r golwg i oleuo ar ryw hemisphere arall? Nis gall y fath un fod yn ddiystyr o lais ei gydwybod. Ond nid cydwybod ydyw yr oll o ddyn: mae ganddo ei ddymuniadau a'i dueddiadau, ac nid ydyw y rhai hyn bob amser yn cydgordio â llais ei gydwybod. A phan ddygwyddo yr anghydgord hwn, y fath ystumiau a wna dyn i geisio perswadio ei hun mai anghydgord naturiol, ys dywed y cantorion, ydyw, neu discord o angenrheidrwydd. Er mwyn gwneyd fy hun yn eglur,—a pha ddyben ydyw ysgrifennu os nad ysgrifennir yn eglur—a pha mor fynych y priodolir i ambell ysgrifennydd" ddyfnder " pryd nad ydyw mewn llawer amgylchiad yn ddim amgen na niwl, ac fe ŵyr pawb fod niwl, pa un bynnag ai naturiol ai meddyliol, yn gamarweiniol, ac yn peri i'r anghyfarwydd weithiau dybied ei fod yn canfod eidion, pryd mewn gwirionedd mai llo fydd o flaen ei lygaid—ond er mwyn gwneyd fy hun yn eglur, fel y dywedais, meddylier yn awr, er enghraifft, am ddyn a'i gydwybod yn dyweyd wrtho y dylai fynd i foddion gras—i'r cyfarfod gweddïo, neu i'r Ysgol Sul, (os ydyw yr Ysgol Sul yn foddion gras, oblegid tybia rhai dynion call y dyddiau hyn mai sefydliad i blant a phobl dlodion ydyw, a chredant pe buasai Mr. Charles ar dir y rhai byw pryd y mae gan Gymru dair o brif ysgolion, y gwelsai y ffolineb o annog pob dosbarth ac oedran o bobl i ddyfod ynghyd i ddarllen y Beibl) ac fod ei dueddfryd yn wrthwynebol hollol i hynny. Yn yr amgylchiad hwnw onid ydyw unrhyw esgus gwirioneddol neu ddychymygol sydd yn ffafrio ei ddymuniad ac yn tueddu i ddystewi ei gydwybod yn dra derbyniol ganddo?

Wel, dyna oedd fy sefyllfa i pan oeddwn yn cychwyn i Landrindod. Dywedai fy nghydwybod fy mod yn berffaith iach; a'r cwestiwn a ofynnwn i mi fy hun oedd—a oedd gennyf hawl i dreulio nifer o ddyddiau oddicartref heb amcan uwch yn fy ngolwg na mwyn hau fy hun? Ammheuwn fy hawl, a dechreuais chwilio am amcan uwch, ac, fel y dywedais, bu agos i mi berswadio fy hun nad oeddwn yn gryf o ran fy iechyd. Ffansïwn fod y gydwybod yn ysgwyd ei phen arnaf. Ond pa beth a wyddai hi am ystâd iechyd dyn? pethau moesol oedd ei phethau hi, ac wrth ymyrraeth a rhoi ei barn 'ar bwnc o iechyd yr oedd yn myned allan o'i thiriogaeth. A chofiwn ddwy linell o hen gân, chwai i'r pwrpas—

Ac os na chaf fwynhau fy hun,
Waeth bod yn geffyl nag yn ddyn.

Heblaw hyny, pa raid oedd i mi fod yn well na fy nghymydogion? Yn sicr nid oeddwn yn cymeryd arnaf fy mod yn well na hwy; a gwyddwn nad oedd у rhai a adwaenwn i a arferent fyned i Landrindod yn blino eu hunain gyda chwestiynau o'r fath. Y ffaith oedd mai y rhai iachaf, gwridocaf, a hoenusaf, a welwn i bob amser yn myned yno. Dyna Mr. Jones, y Faenol Fawr, ffermwr bochgoch, cnodiog, croen yr hwn a ymddangosai bob amser yn rhy fychan i'w gorff, a'r hwn na welid un amser yn gwisgo menyg, am nad oedd yn bosibl cael y "size"—elai ef bob blwyddyn yn ddi-ffael i'r ffynonau. Dyna Mr. Prydderch, y draper, pictiwr o iechyd—yn werth ei fframio unrhyw ddiwrnod—onid elai yntau yno? A dyna y ddwy Miss Davies, Rosemary Cottage, y rhai nad oedd raid iddynt byth ofni orfod rhoddi cyfrif am waethio yn rhy galed, a'r rhai pe gwyddai Mr. Evans yr hyn a wn i, sef eu bod ryw dro, er's talwm, wedi yfed rhyngddynt hanner potel o'r Quinine Bitters, na phetrusai wario can ' punt i gael eu darlun ar ei advertisement, gan mor gwmpasog a llyfndew ydynt! Os oes rhywrai yn ammheu am y rhai olaf, gadewch iddynt ofyn i'r ci bach gwyn, blewog, sydd yn Rosemary Cottage, ac fe ddywed ef wrthynt, a'i wallt yn ei lygaid, os nad ei ddagrau, fod yn gâs ganddo feddwl am dymor yr haf, pryd y gadewir ef at drugaredd y for wyn, heb neb i'w nyrsio tra bydd ei ddwy feistres yn Llandrindod. Meddyliais am lawer eraill cyffelyb na fyddai o un dyben son am danynt yn y fan hon, tystiolaeth unfrydol y rhai, wedi iddynt ddychwelyd gartref, a fyddai " eu bod wedi derbyn lles dirfawr ac wedi cael ail lease ar eu bywyd."

Erbyn hyn yr oeddwn ar delerau da â mi fy hun, a fy myfyrdodau yn hyfryd. Goleuais fy mhibell, ac oherwydd nad oedd neb ond mi fy hun yn y smoking compartment, ffurfiais bont rhwng y ddwy fainc gyda fy nghoesau, ac arni y lledais fy mhapyr newydd, ond ni ddarllenais ddim ohono, eto tybiwn, os dygwyddai i mi gael cwmni, mai yr argraff a wnâi yr olwg arnaf a fyddai fy mod wedi ei ddarllen oll. Yr wyf yn meddwl ei bod yn ffaith mai ychydig o'r rhai, cyffelyb i mi fy hun, nad ânt oddicartref ond rhyw unwaith yn y flwyddyn, a allant fwynhâu newyddiadur yn y trên. Y mae ein "newyddion" yn yr hyn a welwn oddi allan yn hytrach nag yn y newyddiadur. Ond yr ydym yn dymuno ymddangos fel rhai arferol â theithio, ac yr ydym wedi cael allan mai yr arwydd ydyw—y newyddiadur, a chymeryd arnom ein bod wedi ymgolli ynddo. Y mae un arwydd arall, sef bod yn hollol ddiystyr o bawb a phobpeth oddifewn ac oddiallan, a ryw hanner cysgu a gofalu am ddeffro yn sydyn wrth ddyfod i station. Yr hwn a dalo sylw i'r arwyddion hyn, ac a ofalo na wna yr argraff a'r neb ei fod yn feddw, a all gael ei ystyried yn hen stager. Yr oeddwn wedi dewis y smoking compartment nid am fy mod mor hoff o ysmygu, fel y gŵyr pawb sydd yn fy adnabod, ond er mwyn diogelu fy hun rhag merched a babanod yn eu breichiau, a rhag personiaid—neu fel y dywed pobl Llandrindod, offeiriaid—yn enwedig yr rhai olaf; ac hefyd fel protest yn erbyn hymnbygoliaeth. Oblegid mi a wolais fwy nag un per son, ac eraill, o ran hyny, pan ddygwyddent ddyfod i compartment a rhywun yn ysmygu ynddo, yn y fan yn dechreu crychu eu trwynau, fel pe buasent yn cymer yd ffisig, yn pesychu, ac yn tagu, ac yn arddangos y fath wewyr o drueni fel y tybid eu bod ar drengu, tra y gwyddwn o'r goreu eu bod, pan fyddent gartref, yn byw ac yn bod mewn mwg tybaco. Ceisient ym ddangos eu bod yn ffieiddio yr arferiał ffol, ond yn fy ngolwg i oedd yn eu hadwaen, hymbygs oeddynt. Na chamddealled neb fi. Mi wn fod llawer yn casâu ysmygu ac nad allant oddef yr arogl, ac mae ganddynt berffaith hawl i ddadgan eu teimlad ac i am ddiffyn eu hunain rhag y fath anghyfforddusrwydd: ond pe buasai pob ysmygwr fel fi ni chlywsid neb yn cwyno, oblegid ni fedrais erioed fwynhau mygyn os gwyddwn fod hyny yn blino rhywun. Bydded i bob ysmygwr roddi esiampl dda i'r gwrth ysmygwyr drwy ymwadu â'i fwyniant ei hun er mwyn dedwyddwch eraill. Ond gyda golwg ar argyhoeddi y gwrth ysmygwr fod gwir fwyniant (daearol, wrth gwrs,) i'w gael yn y mwg, mae hyny yn anobeithiol—oherwydd—yn gyntaf, fod ei ragfarn yn rhy gryf; yn ail, am nad ydyw yn dyfod o fewn cylch ei brofiad; yn drydydd ac yn olaf, am ei fod yn amheus a ydyw y pwnc ynddo ei hun yn beth i ymresymu yn ei gylch. Cymwysiad—bydded pob un sicr yn ei feddwl ei hun.

Yr hyn a achlysurodd i mi wneyd y sylwadau uchod oedd hyn: wedi teithio am hanner awr ar draws gwlad boblog, a phan safodd y trên gyntaf i gymeryd ei wynt, daeth i mewn i'r un compartment a mi ŵr corphol, a phibell yn ei ben, gan anadlu yn drwm trwy ei phroenau, fel un yn cerdded yn ei gwsg a'i lygaid yn agored. Yr oedd efe mor drwsiadus ei wisgiad a phe buasai yn mynd i gael tynnu ei lun. Yr oedd ei wallt a'i wiscars cán goched a gwasgod gwas gŵr bonheddig, a'i wyneb—yn enwedig ei drwyn yn tueddbenu at yr un lliw, yr hyn a barai i mi feddwl—yn gyfeiliornus, hwyrach—nad y bibell oedd ei unig foeth. Cán gynted ag y cauodd efe y drws ac yr eisteddodd, dechreuodd siarad. Yr wyf wedi sylwi fwy nag unwaith y gellir teithio yn y trên am ugain milldir gyda chydymaith ansmygyddol, heb dori Cymraeg; ond ni welais erioed hyn yn dygwydd mewn smoking compartment. Athroniaeth y peth, mi debygaf, ydyw hyn: mae y cydymaith ansmygyddol yn unknown quantity—nid oes dim rhyngom ag ef i dori ar y dyeithrwch: pryd mai gweled cetyn yn nghilfin un ar y fainc acw, a'r ymwybyddiaeth fod un gyffelyb yn ein cilfin ninau ar y fainc yma, yn arwydd ac yn gyfaddefiad o frawdoliaeth, a’n bod yn un mewn un peth o leiaf, ac yn arweiniad diseremoni i ymddyddan. Wel, wedi gwneyd sylw ar yr hin ac i minnau gydolygu ag ef, ebe fy nghydymaith,——

"Peth rhyfedd ryfeddol (nid oedd efe yn ofalus am siarad yn ramadegol mwy nag y byddaf finnau yn fynych) yn bod ni wedi 'n gadel yn hunen, a nine mewn smoking compartment."

"Mae y frawdoliaeth fygyddol yn brin bore heddyw," atebais.

"Nid hyny oeddwn yn feddwl," ebe fe, "ond synnu 'roeddwn i fod y compartment heb ei lenwi efo merched, achos mae nhw'n wastad yn stwffio'u hunen lle bydd smocio."

"Tybed?" ebe fi, " yr oeddwn bob amser yn meddwl mai fel amddiffyniad i ferched, a rhai cyffelyb, y gofalodd y Cwmni am le i ni, yr ysmygwyr, ar ein pennau ein hunain."

"Digon gwir, syr; ond y mae'r amcan wedi 'golli'n hollol. Esgusodwch fi am ofyn dau beth i chi: ydach chi wedi priodi? ac ydach chi'n myn'd efo'r trên yn amal?

"Nac ydwyf, y naill na'r llall," atebais.

Hir y prathoch chi felly," ebe fe. " Cyn priodi mi fydde hon acw a fine yn myn'd am dro, wyddoch, ac yn cymyd diwrnod o holiday 'rwan ac yn y man; a mi fyddwn, wrth gwrs, yn smocio tipyn weithie—nid rhw lawer, a sigârs fyddwn i yn smocio pan fydde hi efo fi. A welsoch chi 'rioed mor ffond fydde hi o arogl y mŵg, a mi fydde yn synu pa wrth'nebiad oedd gan rai merched i ddyn fydde yn smocio. Ond toc ar oli ni briodi mi newidiodd my lady ei chân, a—wel, Hyny oeddwn i'n myn'd i ddeyd wrthoch chi—yr ydw i'n mynd efo'r trên i'r Mwythig unweth, ac weithie ddwyweth, bob wythnos; a fydda'i byth yn myn'd i smoking compartment na ddaw 'na ferched i mewn.' "Pa fodd yr ydych yn rhoddi cyfrif am hyny? ai am eu bod yn hoffi mŵg tybaco," gofynais.

"Dim peryg!" ebe fe, " ond gwybod y mae nhw y bydd yn y smoking compartment ddynion, a mi aiff merched i bob man lle bydd dynion, hyny ydi, merched ifinc a gwragedd gweddwon."

"Yr ydych yn rhy galed arnynt," ebe fi."

Ydach chi'n arfer betio?" gofynodd fy nghydymaith, ac wedi i mi ateb yn nacaol, ychwanegodd

"Ho, felly. Wel, does dim drwg mewn betio catied o dybaco? Dyma ni rwan just a chyrhaedd station Ruabon, ac os rhowch chi'ch llaw allan gan ddal eich pibell yn y golwg, ac os na ddaw yma ferch i mewn aton ni, mi fyddaf wedi colli'r gatied. Treiwch chi."

O ran cywieinrwydd gwneuthum felly; a chan sicred a'r byd wele dynes ieuanc, ac nid anmhrydferth, gweddus ei gwisgiad, yn agor y drws. Yr oedd hi mewn "du" isel bris a ddynodai ei bod yn perthyn i'r dosbarth gweithiol a'i bod yn galaru ar ol rhywun. Duw wyr pa faint o hyny sydd yn myned ymlaen yn y byd o hyd! a phe gallai y "du" y mae ambell un yn ei wisgo ddangos y duwch sydd yn ei ysbryd, y gofid a'r hiraeth sydd yn ei galon, hwyrach y byddai llai o gynghori a mwy o gydymdeimlo yn bod. Pan oedd y ferch yn yr act o agor y drws, gwaeddodd fy nghyd deithiwr

"Wraig! rydan ni'n smocio yma!"

"Dim pws, yr odw i wedi hen arfer a hynni, ys gwn i," ebe'r ferch, ac i mewn a hi. Wrth ei chwt daeth i mewn ŵr brethynog—ond fod y brethyn dipyn yn ddigotwm—llaes ei gôb, a chantelog ei het. Gwisgai wasgod heb fotymau arni—yn y golwg o leiaf—ac ymddangosai ei du blaen fel ffrynt pulpud pan fyddo y gweinidog newydd farw, ond fod ar ei ffrynt ef—y gwr yr wyf yn son am dano—rai ysmotiau a ddangosent nad oedd efe wedi camgymeryd y compartment. Edrychodd o'i gwmpas yn gyffelyb, fel y tybiwn i, i'r modd yr edrychasai ar ei berchyll cyn cychwyn oddicartref, a gwthiodd ei hunan i'r gornel bellaf oddi wrthym, a rhoddodd besychiad cras, hyglyw, a'm hargyhoeddodd ei fod wedi ei hen arfer mewn Eglwys wag. "Ac yr ydach chi wedi arfer a mwg tybaco?" ebe fy nghyd-deithiwr, fel apology wrth oleuo ei bibell ac ail ddechreu ysmygu.

"O odw, mwy nag y gwnâi eto ys gwn i prid," ebe y wraig.

"A ydwyf i ddeall, wraig fach, eich bod wedi colli'ch gŵr?" gofynnodd fy nghydymaith diseremoni. "Odw," ebe'r wraig, ac fel pe buasai yn falch o gael siarad ychwanegodd,—"Odw, syweth! Dos ond wthnos pan gleddes e, ac anghofia i hyni rhawg. Dos nemor gyda blwyddin er pan gwities i gartre, ond mi weles lywer tro ar fid ddâr hyni! I weini y dos i i'r lan o'r South, a thoc mi drewes arno e. Rodd e yn llencyn del a chwmws ddigon, a mine'n estron. Dai wiw mo'r son, dodd cwrdd na chapel na welwn i e. Y machgen glân! mae e heddi yn isel ei ben! Fe gerddws lywer i'r plas lle'r own i'n gweini i moin am dana' ar dywidd a hindda; dod nacâ arno. Dodd idde na thêd na mem, na browd na chwar. Mi testes e'n dost tu hwnt, a mawr mor front fûm wrtho e! Rodd arna i fai, mi wn, waith rodd y nghalon gydag e o'r funid gynta, oc os palle ddod i'r lan ar noson pwylmant, nid gwiw cawn gau fy llygaid hid adeg cwnnu, rhag ofan taw gwâl odd e, ne idde gwrdd a lodes decach. Ai e ai fi odd fwya ynfid, nis gwn i prun—dodd ddewis arnon. Cyn imi weini dou gwarter fe brodson; a heles air o hyni i mem am fis ne fw—waith rodd arna i gwiddil, ac nid heb reswm.—Dodd gynnon na thi na dodren na lle i drigo ond lodging. Ond pa iws son am hyni'n awr. Ron ni'n ffero'n buron i aros ti, a fu dou yriod fw dedwdd—heb air na châs. Ond Duw sy'n rwlo! Toc gyda thri mis ar ôl i'n brodi heb arna i feddwl, fe frifws y ngwas gwrion yn y gwâth yn dost. Dâth arno e bywer o bwyse nas gwn i sut, a'i sigo'n Anghofia i'r diwarnod tra fw i biw! Pan weles e'n dod i'r lan mewn cert, a dou o'r dynnon ar i bws'n ei gynnal, mi ffentes off, a Duw a'm safodd rhag myn'd i mâs o'm co! Rodd ei lefe'n tori nghalon, a mowr odd y ngofid nad allwn shero'i bôn."

Yn у fan hon torrodd argae teimladau y weddw ieuanc, a dechreuodd wylo yn hidl, yr hyn a barodd i mi feddwl yn well ohoni, oblegid rhaid i mi ddyweyd fod ei dull o adrodd ei hanes yn ymddangos i mi braidd yn "iach." Siaradai yn gyflym, accenai ei geiriau yn groew a hyglyw, fel un yn adrodd dernyn o blank verse. Ond deallais am y tro cyntaf nad oedd teimlad gwir ofidus wedi ei gysylltu yn annatodol â thôn hirllaes a throm fel yr eiddom ni, y Gogleddwyr, a gwelais mai gwahaniaeth talaethiol yn unig a barai iddi hi ymddangos i mi yn iach ei hysbryd. Gwyddwn fod fy nghyd—ogleddwr yn teimlo yn gyffelyb i mi, ac i ni ein dau newid ein syniad am y weddw yr un foment. Anghofiodd fy nghydymaith fygu, ac edrychodd gyda llygaid llaith a thosturiol ar yr eneth, oblegid nid oedd hi, o ran oedran, ond geneth. Edrychai y person fel pe buasai yn gwrando ar un yn areithio ar Ddadgysylltiad, ac ni ddywedodd un ohonom air arosem i ruthr ei theimladau fyned drosodd. Yn y man, sychodd y ferch ei llygaid, ac wedi ocheneidio ddwywaith neu dair ychwanegodd yn gyflym—

"Rown i'n estron, fel gwedes, ac ynte nemor well. Thynes i mo nillad am thefnos gron, ond tendo, tendo, arno e ddid a nos. Ond dod hyni ddim, waith dod arna i gwsg na blinder, a fe odd yn dodde'n giwt na choeliech, a digon gwâth i un fod ar i bûs i sychu'r chwŷs oddar i ben. Fe wede rhyw beth wrthw i o'r funid gynta na chiwrie, a fe fu fisodd lywer yn dihoeni i'r dim ar weli, a nine'n dlowd. Rodd gen i, bid siŵr, rou punodd wedi'u safo at ddodren ti; ond toc yr oethon i gael chware teg iddo am ddim dos dim i gael o gartre. Fe fu, serch hyni, rou cymdogon yn ffeind tu hwnt, nes iddynt flino. Mae pawb yn blino rhoi os na fydd cariad fe ddala hwnnw byth. Fe nes y ngore ac eitha mhywer idde, a rodd canmil mwy'n y nghalon. Ond rodd ei amser wedi dod i ben, a Duw a fyne i hyni fod, a mi glous y mem yn gweud—lle llysio Duw na thycie ffisig na phlaster, a phan fo'r Ne yn galw y rhaid i ddyn farw. Mi wn yn serten fod e heddi'n well ei le, waith rodd e'n fachgen piwr, a fe wede gant o dnode o'i go, a'i ofid mwya odd ei ofan fod e wedi ngharu i yn fwy na'i Brynwr. Rodd arno whant cael trengu er's tro, waith rodd e'n rhy wan i ddal ei wendid, adodd prin ei lun mewn gweli. Rodd e'n pôni hefyd pan ffeindiodd fod pob penny wedi myn'd, a'n bod ni'n biw ar wyllys da'n cymdogon. Mi gedwes hyn oddi wrtho e cyd y medrwn, ond ffeindo nâth. A phan ffeindws fod ni'n derbyn lusen plw dodd arno e mwy ach whant cael biw. Serch hyni e lingrws yn hir. Y noson ola bu e biw, rown i ar'i bûs yn'i wylio. Rodd ei bône lywer llai, a mine'n meddwl taw gwell odd e. Fe slwmbrws; ac fe slwmbres ine a'm clustie'n agored. Nid hir y bu heb waeddi 'Mary?' 'Be sy fy machgen?' be fine. Be sy ar bobol y capel eisie yma'n nawr?' be fe. Dos dim ohonynt yma, machgen,' be fine. Oôs, maent o'r tu fas i'r ddôr yn canu'n brâf, chlywch chi monyn, Mary? be fe, ac fe geuws ei lygaid fel i wrando'n well, ac fe drengws, a mi greda byth taw canu'r Ne a glywe ngwâs. Rodd arna i whant cael trengu gydag e, waith dodd gen i ddim ar y ddaear wedi iddo e fyn'd i hido am dano. Dodd gen i beni i hela llythyr i mem. Fe ddaru'r Plw ei gladdu, a rown i'n crigo fwy nag y coeliech wrth weld ei goffin—rodd e'n wâl drosben—a mi goelia taw hen focs sebon odd e, a mi gries nes own i'n sick. Siawns y gwelsoch y relieving officer yn station yn moin tocyn i mi i'm hela gartre. Ac yno'n awr rw i'n mynd; ond ma nghalon gydag e 'n y fynwent yn mhlw Riwabon."

"Ymhle y mae eich cartre, wraig fach?" gofynodd yr ysmygwr.

"Aberdar," ebe hi.

"Oes gynoch chi deulu yno?" gofynodd eilwaith.

"Ma imi fem afiach a thlowd; ond 'dawn unweth yno mi fyddwn efo 'mhobol, a ma pobol y South yn gnesach a mw cymdogol." Edrychodd yr ysmygwr i wyneb y person, cystal a dyweyd—"rhowch gynghor neu air o gysur i'r weddw ieuanc," a chymerodd yntau yr awgrym, ac ebe fe, "Mae o'n trugaredd mawr i chi bod chi'n ifanc a dim plant gynoch chi. Mi gellwch mynd i lle ar un weth, a dene peth gore i chi gneyd mynd i service at once. "

Wedi clywed cynghor y person, ebe yr ysmygwr, "Dydwi'n amme dim, wraig fach, nad ydach chi wedi dwad trwy lawer o helynt; ac yr ydw i wedi sylwi, ac yn brofiadol o'r peth fy hun, y gellir priodoli y rhan fwyaf, os nad yr oll, o helyntion y byd yma i'r ffaith fod pobol yn mynu priodi. Dydw i yn gwbod am ddim da yn deillio i neb o'r priodi yma ond i'r personiaid a'r pregethwyr—mae o'n rhan o'u hincwm nhw—yn enwedig y personiaid, achos mi glywes fod rhai o'r pregethwyr yn gneyd y job am ddim. Ond bydae pawb yn gneyd penderfyniad i beidio priodi mi fydde diwedd ar yr helyntion i gyd ymhen rhyw drugain mlynedd—fe âi pawb i ffwrdd yn ddystaw ac yn llonydd, ac fe fydde'r cwbl drosodd. Ond y mae yn debyg mai nid felly y bydd hi, a thra mae pawb ond ychydig o rai synwyrol—yn mynu priodi, 'does dim ond helyntion i'w dysgwyl yn oes oesoedd. Cyn i mi briodi—a chymeryd geneth ddiarth i'w chadw, nad oedd hi yn perthyn ddim byd i mi—yr oeddwn i yn berffaith hapus; ond ar ol gneyd y job hono, wel,—dawch am danaf! Ddiwrnod 'y mhriodas mi gês ddigon o Eglwys am byth bythoedd; ac felly dydw i ddim yn gweld fy hun yn gymwys i roi cynghor i chi yn eich helynt; ac ychydig eraill a gewch chi yn barod i'ch cynghori os na cha nhw dâl am'u gwaith. Mi ddarllenes stori dda er's talwm—mi cofies hi byth. Un tro yr oedd dau longwr—yr unig ddau o'r criw oedd wedi'u safio pan aeth y llong i lawr yn y storm. Yr oedd y ddau rywfodd wedi llwyddo i gael cwch, ac yr oeddan nhw wedi bod am rai dyddiau ar wyneb y dyfnder heb damed na llymed ac heb obaith am waredigaeth. O'r diwedd fe feddyliodd y ddau fod hi yn y pen arnyn nhw, ac y bydde raid iddyn nhw farw, ac entro i'r byd mawr tragwyddol, a fe aethon i feddwl am'u heneidie, fel y bydd raid i ni gyd ryw ddiwrnod, ddyliwn. Wel i chi, roedd y ddau yn ddigon annuw iol, fel fine. Fedre 'run o'r ddau ddarllen, bydase gynyn nhw lyfr i'w ddarllen, a fedre nhw na chanuna gweddio. A bre un o honyn nhw—Jack, mae hi yn y pen arnom ni, a rhaid i ni neyd rhywbeth. Fedrwn ni na chanu na gweddio, ond ni fedrwn neyd casgliad, 'a mi a'th efo'r het o gwmpas, a mi deimlodd y ddau yn well o lawer ar ol gneyd y casgliad.' Wel, wraig fach, yr ydw inau yn teimlo yn debyg iawn iddyn nhw—dydio ddim yn fy line i i'ch cynghori, ond mi fedraf neyd casgliad i chi." Gan gymeryd ei het a rhoi dau ddarn hanner coron ynddi, estynodd hi ataf fi a chyfrenais inau rywbeth yn ol fy mhoced. Estynodd yr ysmygwr yr het drachefn at y person, ond ysgydwodd y gwr eglwysig ei ben gan ddadgan fod ganddo ef ddigon o le yn 'ei blwyf ei hun i gyfranu ei arian, ac nad oedd efe yn adnabod y wraig oedd newydd adrodd ei hystori. " Dowch, dowch, peidiwch a bod yn galed, ŵr da," ebe'r ysmygwr. Yn gwneuthur daioni na ddiffygwn."

Digon gwir," ebe'r person, "ond mae isio edrach yn lle ac i pwy i gneyd daioni." "Risciwch hi am y tro, "ebe'r ysmygwr.—Be wyddoch chi na yriff rhagluniaeth briodas extra i chi am y weithred dda hon? Ac y mae amser y degwm yn ymyi, chwi wyddoch."

"Na, fi dim rhoi dim."

"Agorwch eich calon, frawd," ebe'r ysmygwr yn "Yr ydw i yn credu yn solet yn yr olyniaeth apostolaidd, a mi glywes fod pobpeth yn gyffredin ganddyn nhw. A mi gewch chi gredit am y weithred hyd yn nod bydae chi yn gneyd mistake; ond am danaf fi dydw i yn dysgwyl dim, achos yr ydw i wedi. fy gazettio mewn gweithredoedd da er's talwm. " Gyda llawer o ymadroddion eraill, ac yn hollol hamddenol, y blinodd, y cribodd ac y crafodd yr ysmygwr y gŵr eglwysig, gan ddefnyddio rhai geiriau rhyfygus, ac arfer hyfdra mawr, gyda'r canlyniad naturiol o chwerwi a brochi y person, yr hwn, o'r diwedd, a waeddodd allan yn ffyrnig

"Pa right sy gynoch chi i hymbygio fi? chi ddim yn gŵr boneddig."

Gwir bob gair, syr," ebe'r ysmygwr, gan danio ei getyn, " fum i 'rioed yn wrboneddig, a fydda i byth chwaith. Ffermwr tlawd ydw i, syr, a phrif amcan a diben 'y modolaeth i ydi talu degwm—i hyny y crewyd fi a fy sort. Gŵr boneddig wir! be bydae chi yn 'y ngweld i gartre, syr, mewn clôs cord ac yn faw at benau 'y ngliniau? adwaenech chi byth mona' i! Twyllo pobol yr ydw i, wyddoch, efo'r dillad brethyn yma; achos dydw i ddim wedi talu am danyn nhw, cofiwch. Mi fyddaf yn gneyd i'r teiliwr rodio wrth ffydd a byw mewn gobaith, ac yn deyd wrth y siopwr a'r gôf am gymeryd eu gwynt; ond bydawn i ddiwrnod ar ol heb dalu'r degwm fedrwn i ddim cysgu yn 'y ngwely, syr, gan gnofeydd cydwybod! Y diwrnod o'r blaen, syr, yr oeddwn i yn talu deunaw punt-ar-hugain o ddegwm, a choeliech chi byth mor hapus oeddwn i yn teimlo ar ol gneyd hyny! Beti, 'meddwn i wrth hon acw,' wyt ti ddim yn meddwl y mod i yn ddyn ods o liberal! Be wyt ti yn son am dy swllt yn y mis at yr achos! Dyma fi heddyw wedi talu agos i ddeugain punt i ddyn am bregethu'r Efengyl na chlywes i 'rioed mono yn agor ei geg, ond pan oedd o yn claddu fewyrth Nedmond mi dales iddo am y job hono ar ei phen ei hun. Son a wnaiff pobol am Rad Ras! Symol rhad, os gwelwch chi'n dda! Wyddost ti be, Bet, ' meddwn i, os na chawn ni fynd i'r nefoedd yn y diwedd mi fydd yn andros o gwilydd.—Dyma ti efo dy swllt yn y mis, a fine efo fy dros dair punt yn y mis, wel, siwr ddyn na wrthoda nhw monon ni yn y diwedd? ne mi ddylen droi'r arian yn ol—a mi fydde hyny i'r plant yma yn swm go deidi. Ond prun bynag, ' meddwn i, ' mae'r degwm wedi 'i dalu—a mi gaiff y Cymry, druain, Efengyl am dipyn eto, a chymered pawb eraill'u siawns! Mae nghydwybod i yn dawel,' a mi gysges fel top y nos waith hono, syr.'

Cyrhaeddasom station—nid wyf yn cofio ei henw a phrin y cafodd y trên sefyll cyn i'r gwr eglwysig ruthro allan. Edrychodd yr ysmygwr ar ei ol: ac wedi tynu ei ben i mewn a chyflwyno yr arian i'r weddw—yr hon, ar y dechreu, oedd yn anmbarod iawn i'w derbyn, ond wedi hyn a'u cymerodd yn ddiolchgar—ebe fe

"Mi wyddwn mai newid ei compartment yr oedd y brawd. Yr ydw i yn nabod yr hen godger yna cyn heddyw. Fe ddaru i'n cyfeilles yma pan soniodd hi am gwrdd a chapel' adamanteiddio olynwr yr apostolion mewn chwinciad! Wni ddim be ydach chi, syr, (gan fy anerch i) o ran eich crefydd, a dydio ddim llawer o bwys gen i. Ond a wyddoch chi? feder y chaps yna ganfod, na deall, na theimlo dim os na fyddant ar dop y clochdy. Y clochdy ydyw eu harsyllfa, eu deddf foesol, a'u hefengyl, a goreu po gyntaf y tynir y clochdy i lawr, meddaf fi. Yr ydach chi yn dallt 'y meddwl i? Fel 'roeddwn i'n deyd wrthoch chi—yr ydw i yn nabod y chap yna cyn heddyw. Mae ganddo living yn Sir Ddinbych, a hono yn un dda—rhy dda o'r hanner i'w groen o. Mae y gymydogaeth wedi ei meddianu gan yr Ymneillduwyr, a'u capeli nhw yn llawn, ac y mae nhw yn talu yn ewyllysgar i'w gweinidogion o'u pocedau eu hunain; ac yntau, y creadur druan! ar ol i'w gloch o fod yn tincian yn ddigalon am chwarter awr, yn gorfod wynebu cynnulleidfa anferth—agos gymaint a hono yr oedd Noah yn pregethu iddi yn yr arch, adeg y diluw. Pan fydd o yn darllen y Deg Gorchymyn, bydae o yn 'u rhanu nhw rhwng ei gynnulleidfa mi fyddai raid i rai o honyn nhw gymeryd mwy nag un hyd yn nod bydae o yn cymeryd "Na ladrata" iddo fo ei hun. Tuag ugain mynyd fydd hyd "y gwasanaeth." "Yr hen bum' munyd," mae nhw yn 'i alw fo—achos dyna ydi hyd 'i bregeth o. Wyr o fwy am pulpit sweat nag a wyr pry' copyn am y frêch wen. Ei waith ar hyd yr wythnos ydi dawnsio i'r Squire, a cheisio creu rhagfarn yn erbyn ysgolfeistr y Board School, yr hwn, am chwarter y cyflog, sydd yn gneyd mwy o waith mewn wythnos nag y mae ef yn ei neyd mewn blwyddyn. Bydae o yn gorfod byw ar gynnyrch ei ymenydd fe lwge cyn pen yr wythnos—os na wnai ei floneg ei gadw yn fyw dipyn yn hwy. Pa fath bobol, syr, ydach chi yn ein galw ni y Cymry? Slaves di enaid a diyni yr ydw i yn 'u galw nhw yn dyodde y pla yma er's oesoedd. Mi fyddaf yn synu na fasen ni er's talwm wedi codi fel un gwr i ymlid y lot ddiog hyn oddiar ein porfëydd! Maent yn casâu ein hiaith, ac wedi gneyd eu goreu i'n cael dan draed y Saeson, ac ar yr un pryd y maent yn bwyta brasder ein gwlad a chynnyrch ein tiroedd—a ninan a'n llaw wrth ein het iddynt am neyd hyny! Ond y mae dydd eu dial hwythau yn dod—dydi eu barnedigaeth nhw ddim yn hepian. Henffych fore! Pan welaf ddydd y Dadgysylltiad—ac yr ydw i'n credu y gwelaf fi o—a phan fydd raid i bawb fyw ar 'i liwt 'i hun, mi fyddaf yn barod i ddeyd 'Yr awr hon y gollyngi dy was'! Wel, dyma fi ymhen fy nhaith. Siwrnai dda i chwi, a pheidiwch a synu os gwelwch chwi finau yn Llandrindod."

Ni welais yr ysmygwr byth ond hyny. Dichon ei fod yn extreme man, ond er hyny yr oedd rhywbeth yn ddymunol ynddo. Bore dranoeth, yn Llandrindod, mi a yfais—fel ynfydion eraill oedd yno—wyth gwydriad o iechyd da i'r ysmygwr, a hyny cyn brecwest.

Tiberias

TIBERIAS ymgynhyrfa drwyddo draw!
Y morwyr dewr lewygant oll gan fraw!
Eu tranc hylldremia arnynt o dan guwch
Y dòn fradwrus, gwyd yn uwch, ac uwch.
A'r tal fynyddoedd mawrfryd, pell, yn syn,
Edrychant ar gynddaredd ffrom y llyn.

O'r neilldu, cwsg Creawdwr mawr y byd;
Ymryson am y fraint o siglo 'i gryd
Wna 'r gwyntoedd gwylltion; yntau, er mewn hûn,
A'u dalia yn ei ddyrnau bob yr un!
Y morwyr âg un lef gyfodant gri
"Darfu am danom! Arglwydd cadw ni!"
Sibryda "Ust! "—a'r gwyntoedd yn y fan,
Ddiangant am y cyntaf tua 'r lan,
I ogofëydd y creigiau gwyllt, lle trig
Ysbrydion anwar yr ystormydd dig!
A'r tal fynyddoedd mawrfryd, erbyn hyn,
Edmygant wyneb tawel, llyfn, y llyn.


Yr ENAID ymgynhyrfa drwyddo draw
Gan ddirfawr bwys sylweddau 'r byd a ddaw
A wasgant arno! Dyheuadau pur
Y galon effro:—yna ing a chur
Gobeithion wedi eu siomi. Prudd-der du
A dry y galon iddo 'i hun yn dý,
I weithio ynddi hyll ddelweddau ofn,
A dychryn, arswyd, ac ammheuaeth ddofn!
Y cor anfarwol chwŷth ei udgorn cry'
Uwch mynwent y gorphenol;—cyfyd llu
O hen weithredoedd marw—eto 'n fyw,
Edliwiant fyth i'r enaid ddigio Duw;
Cydgasglant deisi glo i gadw tân
CYDWYBOD euog fyth i losgi ymlaen!
DYCHYMYG afreolus lama 'n hy'
I dynu lluniau erch ar bared du
Y cudd ddyfodol, gan arlwyo gwledd
O uthr wallgofrwydd ar bentanau 'r bedd!
Ystorm Tiberias! Beth yw hono i hon?—
Corwyntoedd bywyd yn anrheithio 'r fron!
Ystorm yr ENAID! ysbryd fflamllyd dyn
Yn boddi yn ei eigion mawr ei hun!
Yr engyl tal dros braff ganllaw'au 'r nef,
Dosturiant wrth ei gyflwr enbyd ef.
Ai cysgu mae ein Meistr? Codwn gri,
"Darfu am danom! Arglwydd, cadw ni!"


Siarad a Siaradwyr

A fydded i'r penawd uchod anesmwytho dim ar ein brodyr y pregethwyr a'r darlithwyr, oblegid nid ydym yn bwriadu, ar hyn o bryd beth bynag, son gair am danynt, er, fel y gwêl y darllenydd sylwgar, eu bod hwy "yn gorwedd yn naturiol yn y testyn." Bydd a fyno "ein hychydig sylwadau" â gwrthrychau llawer mwy diymhongar a chyffredin, y rhai a gyfarfyddwn nid yn y pulpud nac yn y neuadd gyhoeddus, eithr yn ein teuluoedd a'n crwydriadau dyddiol. Yn yr ysgrif fer hon, nis gall wn ychwaith ond prin gyffwrdd, llawer llai benderfynu, y pwnc pwysig, pa un ai y meibion ai y merched sydd yn siarad fwyaf a challaf? Ar y pen hwn, gallwn ddyweyd cymaint a hyn, fod y ddau ryw yn siarad gormod yn aml, ac mewn perthynas i gallineb, fod lle i welliant o'r ddwy ochr; ac hwyrach y buasai yn llawn mor briodol galw y dail ysgwydedig hyny yn ddail tafod mab a'u galw yn ddail tafod merch, fel y gwneir yn gyffredin. Dywedai rhyw ddyhiryn pe buasai gan y merched ddau dafod—un o bobtu eu safn—y buasai yna lawer iawn i'w ddweyd o bob ochr! hyny. Ond cofier mai dyhiryn a ddywedodd Nid anfynych y clywir saith neu wyth o ferched yn siarad i gyd ar unwaith, a phob un ohonynt yn gallu cymeryd i mewn yr oll o'r ymddyddan heb un anhawsder. Dyma wybodaeth ry ryfedd i'r meibion: uchel yw—ni fedrant oddiwrthi! Mae hyn yn ffaith amlwg, fod mwy o siarad yn bod (ac o ysgrifenu hefyd o ran hyny) nag sydd o feddwl. Pe gwerthid dynion ar yr un egwyddor ag y gwerthwyd y parrot hwnw gynt, sef fel un oedd yn meddwl llawer mwy nag oedd yn siarad, mae lle cryf i ofni mai llonydd a fyddai y farchnad.

Pwy o honom nad yw yn cyfarfod yn feunyddiol â'r dyn sydd yn siarad gormod? Yr ydych yn ei gyfarfod yn aml yn y trên. Hwyrach eich bod wedi cymeryd eich eisteddle o'i flaen ef. Yn y man, y mae yntau yn dyfod i mewn yn sydyn a ffwdanus, a chyn iddo eistedd i lawr, y mae wedi dyweyd " Boreu da i chwi," wedi sylwi ar yr hin, ac ar ddiffygion yr orsaf, wedi dyweyd o ba le y daeth, i ba le y mae yn myned, pa le y bu yr wythnos flaenorol, i bwy y mae yn perthyn, &c., a'r cwbl i gyd ar yr un gwynt; ac os ceisiwch roddi brawddeg i mewn eich hunan, bydd ef wedi ei gorphen cyn i chwi edrych o'ch cwmpas, ac yn carlamu yn ei flaen at rywbeth arall, tra y gorfyddir chwi i ymfoddloni ar ddyweyd rhwng crom fachau, " Ho," ac " Ai ê, " ac " Felly yn wir." Wedi i chwi ymadael a'ch gilydd, ni wyddoch yn y byd mawr pa beth a fydd efe wedi ei ddyweyd, a'r unig effaith a fydd ei hyawdledd wedi ei wneyd arnoch a fydd swn mawr yn eich pen, fel pe byddech newydd ddyfod allan o felin neu factory wlan.

Dosbarth arall llawn mor boenus i un fod yn eu cymdeithas ydyw y rhai tawedog—y rhai sydd yn siarad rhy ychydig. Nid ydyw dystawrwydd bob amser yn arwydd o ddoethineb. Mae rhai yn ddyst aw am eu bod yn yswil, ac eraill am nad oes ganddynt ddim i'w ddweyd. Nis gwyddom pa fodd y bydd y bobl dawedog yn teimlo eu hunain, ond ein profiad ni ein hunain ydyw, mai un o'r pethau mwyaf anffortunus a all ddygwydd i ddyn ydyw gorfod cydgerdded â'r cyfryw am saith neu wyth milldir, neu fod mewn ystaf ell heb neb ond hwy a chwithau yn bresennol. Nid gwaeth a fyddai i chwi ddysgwyl am gael plwm wedi i chwi gymeryd cyfranau mewn gwaith mine na dysgwyl iddynt hwy gymeryd rhan mewn ymddyddan. Eithaf eu hyawdledd ydyw dyweyd ei bod yn debyg i wlaw, neu ei bod yn braf. Wedi i chwi wneyd cais aflwydd ianus at bobpeth ymron, nid oes genych ddim i'w wneyd ond boddloni i fod yn ddystaw, a gwrandaw ar swn eich traed wrth gerdded, neu yr awrlais yn tician, nes y bydd y dystawrwydd wedi myned yn boenus, ac hyd yn nod yn drystfawr.

Dyna ddosbarth arall ydyw y siaradwyr clapiog. Mae у dosbarth hwn yn awyddus i siarad, ond eu bod yn ddiffygiol o allu. Fel y mae rhai pobl yn peidio tyfu pan yn bur ieuanc, felly hefyd y bydd rhai yn rhoddi heibio dysgu geiriau wedi gadael naw neu ddeg oed. Yr un geiriau sydd ganddynt i adrodd pob hanesyn, ac i fynegu pob teimlad. Yr un ugain gair bob amser, yn cael eu cynorthwo gan yr ymadroddion, "ydach chi 'n gwel'd," "wyddoch," " fel ynte," a " bethma." Os anturiant ddyweyd tae, " gair a mwy na dau sill ynddo, ond odid fawr na chânt godwm, ac y byddwch chwithau yn gorfod rhedeg i'w cynorthwyo i ddyfod dros gamfa y sill olaf! Ac eto maent yn gallu hacio trwyddi yn lled dda os cânt eu ffordd eu hunain. Ond yr aflwydd ydyw, os byddwch mewn brys, eich bod yn gorfod dyweyd hanner yr ys tori eich hunan, er na fyddwch yn ei gwybod.

Ar gyfer y dosbarth a enwyd ddiweddaf, ac yn ffurfio math o eithafion iddo, y mae dosbarth arall a alwn y siaradwyr chwyddedig. Nodwedd arbenicaf y dos barth hwn ydyw, eu bod yn siarad iaith na fedr meidr olion cyffredin ei deall. Mewn un ystyr, y maent yn debyg i Edward Green yn ysgol y Llan er's llawer dydd. Dywedai Edward wrth ei athraw gyda golwg ar ddarllen, nad oedd y geiriau bychain yn werth myn ed i'r drafferth o'u dyweyd, ac fod y geiriau mawr yn rhy anhawdd eu dweyd. Y mae y siaradwyr chwyddedig yn credu y rhan flaenaf o athrawiaeth Green, ond y maent ymhell o gredu y rhan olaf. Pe gofynid i un o'r dosbarth hwn siarad iaith gyffredin y bobl, ystyriai hyny, yn ddiammheu, "yn warthrudd oesol ar urddasolrwydd ei bersonoliaeth, ac annheilwng hollol o feddwl arddansoddol, ac o un hyddysg mewn uchanianaeth. Yn hytrach na defnyddo ieithwedd dlodaidd a lliprinaidd y bodau iswybrenol, a elwir y werinos, dewisach a fyddai ganddo gael ei alltudio dros derfyn gylch y bydysawd, a threulio ei oes ar glogwyn y fall mewn pendristedd hunymdeimladol, neu ei wneuthur yn nod i atgasedd y cydfyd." Rhywbeth tebyg i'r frawddeg ddiweddaf y byddant yn siarad yn gyffredin. Ond beth pe clywech chwi hwynt pan fyddant wedi esgyn at yr aruchel? Ar y cyfryw adegau, yr hyn sydd yn digwydd yn lled fynych, ni ddefnyddiant un gair os na fydd yn ddigon o bryd i ddyn. O bob math o siaradwyr, y rhai hyn ydynt y rhai mwyaf anhawdd eu goddef. Mae eu clywed yn baldorddi yn ddigon a chodi cyfog ar ddyn synwyrol.

Ond rhaid i ni roddi terfyn ar ein llith, nid am nad oes genym ychwaneg i'w ddweyd, ys dywedai Robert Thomas, Llidiardau, oblegid gallesid dweud rhywbeth ar y siaradwyr bonglerus, y rhai, fel Mrs. Partington, na fyddant byth yn agor eu safn heb roddi eu troed ynddi, ac ar y siaradwyr gorfanwl, y rhai a siaradant bob amser fel pe byddent yn ymwybodol fod reporter yn gwrandaw arnynt. Gallesid dweyd rhywbeth ar siarad Cymraeg a Saesneg, siarad cwmpasog, a siarad i bwrpas, siarad gwag, a siarad syn wyr, siarad yn y wyneb, a siarad tu ol i'r cefn, siarad maswedd, a siarad er adeiladaeth. Onid ydyw Siarad a Siaradwyr yn destyn campus i wneyd darlith arno? Dyna ddrychfeddwl i'r rhai sydd â gwendid ynddynt yn y cyfeiriad hwnw. Cofiwn fod siarad dyn yn gyffredin yn dangos beth sydd ynddo. Os cregin fydd yn y cwd, cregin ddaw allan. Dyma gynghor Catwg Ddoeth, "Gofala beth y gwetych, pa fodd y gwetych, pa le y gwetych, ac wrth bwy y gwetych." Dyma a ddywed yr Hen Lyfr ar y pwnc o siarad, "O helaethrwydd y galon y llefara y genau." "O mor dda yw gair yn ei amser."

Beth sydd oreu.

Ai arian, ai clod sydd orau—i ddyn?
Wn i ddim; ond diau
Na bod yn ol—mae'n olau—
Gwell i ddyn golli y ddau.


Canig

( Efelychiad o John Gay.)

E chwythai'r gwynt yn ffyrnig,
Dyrchafai tonau'r aig,
Tra geneth ledorweddai
Ar uchaf gopa'r graig:
Ei gwedd oedd wyllt a gwelw,
Fel calchen wen—a'i gwallt
A chwifiai yn y dymestl,
Uwchben yr eigion hallt.

"Aeth blwyddyn gyfan heibio,
A rhagor ddeng-nydd du;
Paham yr eist, f'anwylyd,
I'r moroedd creulon cry'?
Dystawa, paid â'th gynhwrf,
O fôr, gâd hedd i'w fron;
Ah! beth yw'th donau mawrion
Wrth donau'r fynwes hon.


"Brawycha y marsiandwr
Pan glyw y dymestl gref;
Ond colli fy anwylyd
Sydd fwy na'i golled ef:
Os lluchir di ar lanau
Yr aur a'r perlau pell,
Cei gyfoethocach geneth,
Ond neb a'th gâr yn well.

"Dywedant na wnaed unpeth
Yn ofer gan yr Ior,—
I beth y gwnaed y creigiau,
Dan donau mawr y môr?
Ni chenfydd neb y creigiau,
A llechant dan y lli',
Sy'n ddystryw i f'anwylyd,
A chwerw gri i mi?"

Fel hyn am ei hanwylyd
Cwynfanai' llwythog fron,
Pob chwa y rhoe ochenaid,
A deigryn am bob ton;
A phan gyfododd, gwelai
Ei gorff yn nofio i'r lan!
Ac megis lili—hithau
A drengodd yn y fan!


Rhai o Fanteision Tlodi

PAN ystyriom mor ychydig ydyw manteision gwirioneddol y cyfoethog o'u cymharu â manteision lliosog y tlawd, mae yn rhyfedd y fath wanc sydd mewn dyn am fod yn berchen eiddo. Anfynych y cyfarfyddir â dyn tlawd sydd felly o ddewisiad; y mae naill ai wedi methu er ceisio, neu ynte wedi bod yn rhy ddifater neu wastraffus i fod yn gyfoethog. Ychydig ydyw nifer y tlodion, os oes rhai o gwbl, na lawenhaent yn fawr pe rhoddid ar ddeall iddynt y byddent yn gyfoethog, gan nad pa mor bell yn y dyfodol a fyddai hyny. Ond prin, dybygid, y mae y rhagolwg am fod yn gyfoethog yn cyfreithloni dyn i lawenhâu yn fawr. Cyfrifir yn gyffredin fod holl fanteision bywyd yn eiddo y cyfoethog, a'r holl anfanteision yn gynysgaeth y tlawd; ond gwna ychydig ystyriaeth ddangos yn ddigon eglur, gallwn feddwl nad felly y mae pethau yn sefyll. Mae y nifer lliosocaf o'r manteision a gyfrifir sydd yn eiddo y cyfoethog yn ddychymygol, twyllodrus, a chyfnewidiol; felly hefyd o'r ochr arall y mae anfanteision y tlawd, gan mwyaf, yn ddychymygol, eithr yn barhaol. A ddeilliai rhyw les, tybed, o gredu peth fel hyn? Gwnai yn sicr: byddem yn llai bydol ein hysbryd, ac yn fwy boddlon ar ein sefyllfa. Càn lleied o honom ni, y tlodion, sydd yn gallu edrych ar bethau yn eu goleuni priodol, fel y gwnaeth y llwynog hwnw gynt, yr hwn wedi methu cael y grawnwin a ddywedodd eu bod yn surion! Mae un fantais yn eiddo y cyfoethog ag y byddai yn werth ymdrechu er mwyn ei meddu, sef y cyfleusderau sydd ganddo i wneuthur daioni. Mae hon yn fantais wirioneddol nad all y tlawd, dybygid, feddu syniad priodol am y dedwyddwch a arlwya i'w pherchenog. Dedwyddach yw rhoddi na derbyn. Dichon hefyd pan gyll y cyfoethog ei iechyd fod ganddo well gobaith am adferiad na'r tlawd, am y gall alw y meddygon goreu at ei wasanaeth, a chael pobpeth a fyddo yn gymwys i'w amgylchiadau. Ond y mae yr hunan a nodwedda y peth olaf yn cymedroli llawer ar rinwedd y fantais, oddi gerth i ni ganiatau fod son am fantais ar unwaith yn tybio hunanoldeb. Tybir yn gyffredin fod y cyfoethog yn cael mwy o barch na'r tlawd; ond camgymeriad mawr ydyw hyn. Y cyfoeth sydd yn cael parch, ac nid y cyfoethog. Difeddianner dyn o'i gyfoeth, ac fel rheol cyll ei barch yr un amser, Os parheir i'w barchu wedi iddo fyned yn dlawd, yna eglur yw nad fel cyfoethog y perchir ef. Mae lle i feddwl fod gal wadau dyn yn mwyhâu ac yn dwyshâu yn gyfatebol i'w gyflenwadau, ac fod cyfartaledd neu ratio ei hapusrwydd yn lled debyg ymhob amgylchiad. Nid oes un rheswm, am a wn i, dros feddwl fod hapusrwydd y dyn sydd yn cadw ceffyl yn fwy nac yn uwch nag eiddo y dyn sydd yn cadw mochyn, ac i ni gymeryd i ystyriaeth yr holl brofedigaethau sydd ynglŷn â'r blaenaf. Pa fodd bynag, y mae yn policy doeth yn y dyn tlawd i edrych ar ei sefyllfa fel y sefyllfa oreu, a bod yn ddiolchgar am dani, yn enwedig os na bydd ganddo obaith am fod yn gyfoethog. Os oes rhyw swyn mewn hynafiaeth a lliosogrwydd cymdeithion, y mae gan y dyn tlawd yn anad neb le i ymfalchïo. Ymffrostia y Free Masons fod eu brawdoliaeth càn hyned a dyddiau Solomon, ond gall y dyn tlawd ol rhain ei achau càn belled a Job, a dweyd y lleiaf. Mae gan gymdeithas y tlodion gyfrinfa ymhob pentref a chymydogaeth trwy y byd adnabyddus, ac y mae manteision ei haelodau yn llawer. Nid oes byth berygl i'r llywodraeth fyned i chwilio i lyfrau ac amgylchiadau y dyn tlawd, ac nid ydyw byth dan demtasiwn i ddweyd celwydd wrth roddi cyfrif o'i enillion blynyddol. Os gŵr ieuanc tlawd a chall ydych, arbedwch y drafferth o fyned i'ch priodi, a'r helbul ar ol hyny. Os merch ieuanc dlawd ydych, ac os nad ydych yn nodedig o brydferth, byddwch yn lled debyg o gael llonydd yn y byd drwg presennol—ni aflonydda neb ar eich dedwyddwch—ni flina neb chwi â llythyrau—ni lygadrytha neb ar eich ol—ni chwilia neb i'ch hanes—ni feirniada neb eich gwisg. Os digwydd i chwi briodi, a hyny, wrth gwrs, gyda'r amcan o lluosogi cymdeithas y tlodion, ni raid ymorol am weision a morwynion. Mae sefyllfa y cyfoethogion yn hynod o druenus ynglyn â'r peth hwn. Beth all fod yn fwy o flinder i ŵr neu wraig na chlywed y forwyn, yr hon a gafwyd drwy fawr drafferth, wedi iddi fod gyda hwynt am dri diwrnod, yn rhoddi mis o rybudd am fod gormod o waith iddi i'w wneyd, neu rhy ychydig o fwyd iddi i'w gael, neu am na chaiff aros allan hyd ddeg o'r gloch ar y nos? Beth gynhyrfa dymherau dyn yn fwy na phan fydd arno angen am y gwas, ac na fedr wneyd hebddo—iddo ei gael wedi meddwi ac yn cysgu yn y gwellt yn yr ystabl? Arbeda y tlawd yr holl helbul hwn. Ni raid iddo gadw ei hun yn effro drwy y nos, er mwyn galw y forwyn i gyfodi yn ddigon boreu—ni raid iddo gadw dryll llwythog yn nhop y tý rhag ofn lladron—ni raid iddo yswirio ei dy. Os dig wydd iddo fyned i'r gwely heb gofio cloi y drws, raid iddo ddim codi, oblegid nid oes ganddo lawer i'w golli—bydd pobpeth yn eu lle yn y boreu. Nid oes ganddo ystafell y bydd raid iddo fyned iddi yn ei slippers neu yn nhraed ei hosanau rhag ei llygru—nid yw y piano byth yn myn'd allan o gywair—hyd nes y bydd ei badell ffrïo—os bydd yn feddianol ar un, wedi llosgi yn dwll. Arbeda y tlawd y drafferth o fyned i lawr ac i fyny y seler, oblegid nid oes ganddo un, a phe buasai ganddo un, ni fuasai dda i ddim ond i ysbrydion drwblo ynddi. Ni raid i'r tlawd anfon ei blant gan' milldir oddicartref i goleg neu boarding school, er mwyn iddynt anghofio iaith eu mam, a dysgu siarad iaith na fedr ef mo'i deall, a dysgu rhodres fydd yn gwneyd pobl gall yn sâl. Gall ddyfalu ar ddwywaith beth a gaiff i'w ginio os nad biff eidion, mae yn sicr mai " biff у filain fydd, yr hyn o'i gyfieithu yw bacwn! Ond na ofelwch, mae ganddo ystumog fel cyllell, a chalon fel llew. Anaml y mae yn bilious, ac ni wyr fod ganddo yr hyn a eilw y cyfoethog yn constitution. Nid yw byth mewn penbleth pa ddillad i'w gwisgo. Dywedai cyfaill wrthyf y dydd o'r blaen, os mynai ef gael suit o ddillad yn ei goffr, y byddai raid iddo eistedd yn ei grys ar y ceuad, neu ynte fyned i'r gwely, a'r cwrs olaf a gymerai bob amser pan fyddai wedi gwlychu at y croen, yr hyn a ystyriai ef yn fantais fawr. Os tlawd ydych, ni wna neb eich gorbrisio—ni wna neb gamgymeryd eich erwau am eich synwyr—na'ch arian am eich cymeriad. Pan glafychwch, ni chewch eich blino â llawer o ymwelwyr; a phan ewch i farw, ni fydd angen am i chwi wneyd ewyllys, ac ni chaiff neb ei siomi ar eich ol. O sefyllfa hapus, pe baem ond yn gweled hyny!

Hwyrach fod y darllenydd yn meddwl mai cellwair yr ydym; ond mewn difrifwch, y mae gan y tlawd lawer o fanteision gwirioneddol, a champ fawr bywyd ydyw bod yn ddedwydd, a'r unig ffordd i fod yn ddedwydd ydyw trwy fod yn dda, defnyddiol a boddlawn. Os ydym yn awyddu am fod yn gyfoethog er mwyn bod yn fwy defnyddiol, purion; ond am bob amcan arall ynglŷn â chyfoeth, hunan ydyw o'r top i'r gwaelod. Nid ydyw hapusrwydd o angenrheidrwydd yn eiddo y cyfoethog mwy nag yn eiddo y tlawd; ac os byddwn sobr a diwyd, heb fod yn gybyddlyd a bydol, yr ydym yn lled debyg o gael ein cadw rhag angen, a chael ein rhan o ddedwyddwch y byd hwn. Dywedai un ei fod wedi dysgu bod yn foddlawn ymhob sefyllfa. Pe buasai y darllenydd yn byw yn yr oes o'r blaen, ac iddo fod wedi digwydd myned i Lundain, ac i heol neillduol yno, ac oherwydd fod y lle yn ddyeithr, iddo fethu cysgu, a phe buasai yn clustfeinio yn oriau mân y boreu, gallasai glywed dau ddyn yn cerdded yr heol, gan siarad a chwerthin yn uchel. Pwy oeddynt? Wel, neb llai na Dr. Samuel Johnson, a'i gyfaill Savage, yn cerdded yr ystrydoedd drwy y nos, am nad oedd dwy geiniog a dimai—yr hyn oll a feddent rhyngddynt yn ddigonol i sicrhau lletý iddynt! Ac eto, yr oeddynt yn gallu chwerthin yn galonog. Nid ydyw y mawrion bob amser yn gyfoethog. Darllenasom am Un nwy na Dr. Johnson yn rhodio ystrydoedd dinas enwog arall, heb le i roddi ei ben i lawr,

Oriel

RHIF I.

MOR Gymreig yw'r hen wreigan—hapus, dew,
Mewn pais stwff a bedgwan;
Llon ei hysbryd sieryd siận
Werth Iesu—wrth wau hosan!

RHIF II.

Geneth o ffurf a gwyneb—hynod dlos,
Ond tlawd o dduwioldeb:
Ah! gresyn yw hyn fod heb
Hyawdl swyn Duw—dlysineb!

RHIF III.

Nid mor dlawd! na, ymerawdwr—ydyw
Edward fel gweddïwr;
Oes undyn yn fwy marsiandwr?
Delia â Duw, er yn dlawd ŵr!


RHIF IV.

"Y set fawr sy'n fy siwtio fi—a gwn
Am y gwaith Cyhoeddi ';
A sut i 'Osod Seti, '
Weilch y fainc! welwch chi V?"

RHIF V.

Ymagweddus ymguddio—a gâr hwn;
Gŵr hoff yw o wrando;
Adwaenir y gair am danom
" Doniol ŵr! nid dyna'i le o!"

RHIF VI.

Rhian goeth heb yr un gŵr—yn darbod
Erbyn daw'r pregethwr;
Claiar agwedd clerigwr—sy'n bywhâu
Gyda'i moethau, ei seigiau, a'i siwgwr!

RHIF VII.

Ar y Sul mae yn orselog—tỳn wèp
Taena wae i'r euog;
Duw ŵyr am y dau eiriog—
Caru'r aur y ceir y rôg!

RHIF VIII.

Benyw a'i bryd ar ei bonnet—a'i gwallt,
A'i gown, a'i silk jacket;
A'i chelf yw dal â melfet
Segur ŵr y cigarett!


RHIF IX.

Grwgnachwr, beiwr heb heda—adwaenir
Fel "Croendeneu," "Llym winedd."
'Rwy'n addaw pan ddaw ei ddiwedd
Yn ddaear, y beia'r bedd!

RHIF X.

Hwyliog! a mawr ei helynt—try bob ffordd,
Trwy bob ffurf fel corwynt;
Poeth ac oer—pwytha gerynt;
Ow! enwog geiliog y gwynt!

RHIF XI.

Ceidwad y ffydd! pocedog,—tremia 'lawr,
Trwm ei lais, och'neidiog;
Nid oes well wr fflangellog
A'i 'winedd o ddanedd ôg.


Bethma

DRO yn ol cyfarfyddais â boneddwr o Gymro, yr hwn sydd yn ysgolhaig gwych. Gwyddwn dda ei fod yn deall Lladin, Groeg, French, a German. Yn ystod yr ymddyddan a fu rhyngom, gofynais iddo a wyddai efe am air yn un o'r ieithoedd â enwyd mor gynwysfawr a chyfleus a'r gair Cymraeg " bethma." Gwyrodd y boneddwr ei ben—cauodd ei lygaid. Bugnodd ei gôf i'w waelodion, ac yn y man dywedodd Na, ni wn am air mewn unrhyw iaith yr wyf fi yn digwydd bod yn gydnabyddus â hi cyffelyb i'r gair a enwch." Yr oedd ei atebiad yn gymwys fel y disgwyliais iddo fod; ac y mae ymholiadau ac ym. chwiliadau dilynol wedi cadarnhâu y dydiaeth oedd yn fy meddwl nad oes air cyffelyb iddo yn holl ieithoedd y byd! Yn sicr,"bethma" ydyw y gair rhyfeddaf y mae tafod dyn yn ei barablu! Gwna y tro yn enw ar bobpeth bywydol ac anfywydol, ac y mae yn air y gellir ei ddefnyddio ar bob amgylchiad. Gwelais yn y newyddiaduron am gynllun i ddysgu French mewn chwe' mis, yr hwn â raid fod yn un hynod iawn. Ond yr wyf yn meddwl y gellir myned tu hwnt iddo. Gyda chynorthwy y gair "bethma," gellir dysgu siarad Cymraeg mewn chwech wythnos! Mae ystyr y gair yn eang, amrywiol a phwrpasol. Er engraifft, pan fydd dyn yn sâl, dywedir ei fod yn bethma, a phan fydd yn iach, dywedir ei fod yn bathma. Os bydd un yn gybyddlyd, dywedir mai un digon bethma ydyw; ac os bydd un yn haelionus, dywedir mai un bethma dros ben ydyw. Os bydd dyn yn un cyfrwysgall, un bethma ryfeddol ydyw; ac os bydd un yn ynfyd a gwirion, onid ydyw yn un bethma? Os digwydd i un bregethu yn faith, clywir yn union, oni fu o yn bethma anwedd? ac os digwydd iddi dori y bregeth yn fêr, oni ddarfu iddo ddarfod yn bethma iawn? Gwelir fod y gair yn un hynod bwrpasol, ac y gellir ei ddefnyddio i ddesgrifio beth â fynir. Mae yn air cyfleus iawn i ddau ddosbarth o bobl. Dyna un dosbarth ydyw y bobl hyny nad oes ganddynt ond ychydig o eiriau. Maent yn gallu siarad yn ddidor, ond erbyn i chwi sylwi, rhyw chwech o eiriau yn unig a ddefnyddir ganddynt, a'r gair bethma fel gwas lifrai yn dal pen ceffyl—yn marchogaeth tu ol—ac yn agor ac yn cau drwg cerbyd pob brawddeg! Dyna y dosbarth arall ag y mae y gair yn hwylus iawn iddynt, sef y rhai y mae eu côf yn hwyrdrwm. Mae ganddynt gyflawnder o eiriau, ond fod y rhai hyny yn entfudd pan elwir arnynt; a rhag bod bwlch yn y frawddeg, y mae y bethma yn garedig iawn yn llenwi yr adwy, ac erbyn i bethma wneyd ei waith, y mae y gair a ddymunid wedi cyraedd, ac yn cymeryd ei le priodol.

Prif ogoniant y gair bethma ydyw hyn—tra y mae yn gosod allan unrhyw beth a phobpeth, fod yna gyd-ddealltwriaeth dystaw yn mhawb am ba beth y mae yn sefyll, a phwy y mae yn ei wasanaethu. Ond er mor ragorol ydyw y gair, ac er mor wasanaethgar ydyw, y mae y mynych arferiad o hono ar adegau yn swnio rhyfedd ar y glust. Y dydd o'r blaen, yr oeddwn yn cyfarfod â chymydoges i mi yn dyfod o'r dref. Gwyddwn fod ei gwr yn wael ei iechyd er's peth amser, a gofynais iddi, "Sut y mae Mr. Jones heddyw?" "Wel yn wir," ebe hi, "digon bethma ydi o. Wedi bod yn siop y doctor yr ydw i rwan yn nol bethma iddo fo—os gwnaiff o rw bethma iddo fo. Yn wir, y mae gen i ofn fod o wedi aros yn rhy bethma, fel yr oedd y bethma yn deyd heddyw bore. "Yr oeddwn yn deall ei meddwl yn berffaith. Yr hyn a'm tarawodd yn rhyfedd oedd, os oedd Mr. Jones eisoes yn ddigon bethma, paham yr oedd yn rhaid cyrchu rhagor o bethma iddo. Nid allwn beidio meddwl wedi hyn, pe buasai Mr Jones wedi bod yn fwy cymedrol, a chymeryd llai o'r bethma, na fuasai mor bethma ag ydoedd. Gall yr ymddengys yn paradoxical; ond ffaith ydyw fod bethma yn air ag y mae pawb yn deall am ba beth y mae yn sefyll, âc ar yr un pryd nid oes air cyffelyb iddo i guddio y meddwl. Un tro yr oeddwn yn myned gyda'r trên. Wedi cymeryd fy eisteddle, daeth i'r un compartment â mi ŵr ieuanc newydd briodi. Daethai ei wraig i'w ddanfon i'r station. Pan oedd y trên ar gychwyn ymaith, a'r gŵr ieuanc â'i ben trwy y ffenestr, ac yn dal ei het yn ei law, ac yn cymeryd yr olwg olaf arni – hyny ydyw, ar ei wraig, nid ar ei het—gwelwn ei anwylyd yn rhedeg ato, ac yn dweyd wrtho—" John, cofiwch am y bethma." " Mi wnaf yn siwr," ebe John. Nid oedd neb yn gwybod—ac nid oedd eisiau i neb wybod beth oedd y bethma—ond yr oedd John yn deall yn burion.

Hawdd iawn a fuasai lliosogi engreifftiau o ddefnyddioldeb y gair pe buasai gofod yn caniatau. Oni allai un ysgrifenu cyfres ddiderfyn o erthyglau o dan y penawd Pethau Bethma? Gyda'r fath deitl, gallai draethu am byth ar bob peth o dan yr haul, ac uwch law yr haul, heb osod ei hun yn agored i gael ei gyhuddo o grwydro oddiwrth y pwnc! Un peth sydd yn fy nharaw i fel peth bethma iawn y dyddiau hyn ydyw y difaterwch dybryd a welir mewn llawer o ieuenctyd ein cynulleidfaoedd am bob gwybodaeth fuddiol ac adeilado. lMae yr ystyriaeth yn un bwysig fod cenedl—neu o leiaf ddosbarth o bobl ieuainc—yn codi sydd yn hynod gydnabyddus â phob comic song, a phob . slang, a phobpeth sydd yn awfully jolly, beth bynag a olygir wrth air mor wirion, ac na fedrant adrodd penill o hymn nac adnod yn gywir. Ac y mae y dull rhodresgar yr ymddygir tuag at bob peth Cymreig yn ymddangos i mi yn fwy bethma fyth. Os gafaelir mewn llyfr Cymraeg, cauir ef y fynyd hono—Cymraeg ydyw, bid siwr! Os bydd dyn yn adrodd synwyr yn Gymraeg, dry stick ydyw yn union, a'r ganmoliaeth uchaf a roddir iddo ydyw, pity na fuasai yn siarad yn Saesneg. Defnyddir ymadroddion fel hyn gan rai y gwyddis mai tatws llaeth oeddynt y geiriau cyntaf a ddysgasant. Anaml y blinir neb yn y dyddiau hyn gan ddim Cymreig. Anfynych y mae neb yn cael y ddanodd. O na, y tic, neu y neuralgia, sydd ar bawb. Ni flinir neb gan ddolur gwddf—sore throat ydyw y poenwr yn awr, oddigerth y bydd dyn mewn sefyllfa led uchel, yna y. mae yn bronchitis. A glywodd rhywun yn ddiweddar am rywun yn cwyno gan waew yn ei gefn? Chlywais i ddim am neb, ond clywais lawer yn cwyno eu bod yn dyoddef gan y lumbago. Mae yn bryd i ni ofyn i ba le yr ydym yn myned. Os awn ymlaen fel hyn yn hir, byddwn fel y Tichborne hwnw—ni bydd ein cymyd ogion yn adnabod ein lleferydd, a byddwn o dan orfod i ddangos ein bodiau i'r diben o brofi mai ni ydym ni! Os nad ydyw peth fel hyn yn bethma, wn i ddim beth sydd yn bethma.

Darlun.[1]

MAE Mr.—— wedi gweled gwell dyddiau. Byddai yn anhawdd, oddiwrth yr olwg arno, ddyfalu beth ydyw ei oed; ac y mae yntau yn bur i'r clwb henlancyddol—yn gommedd dyweyd ei hunan. Ond gallwn sicrhâu, oddiar awdurdod uchel, ei fod agos os nad wedi cyrhaedd yr addewid. Y mae yn bwysig o gorffolaeth, fel y gallasai "Ffan," ei ferlen ymadawedig, dystio oddiar hir brofiad. Mae ei wyneb yn grwn a llyfndew, heb lawer o flew i'w urddo na'i anurddo. Dynodir ei gymeriad i raddau helaeth gan y mân rychau yn nghonglau ei lygaid meinion, cellweirus.

Fel pregethwr, ni ellir ei restru ymhlith y dosbarth blaenaf, nac ymhlith un dosbarth arall; oblegid y mae yn ffurfio dosbarth ynddo ei hun. Nid ydyw yn debyg i neb. Nid ydyw yn ddawnus nac yn ymadroddus; mewn gwirionedd, y mae arno brinder geiriau; er hyny y mae yn boblogaidd yn ei ffordd ei hun, ac nid oes odid i neb yn fwy adnabyddus nag ef trwy Ddê a Gogledd Cymru. Y mae ei ddull yn sefyll yn y pulpud yn neillduol. Y mae yn taflu ei ben braidd yn ol, ac fel pe byddai yn ei suddo ychydig i'w wddf. Bydd y llaw chwith bron yn wastad yn mhoced ei wasgod, a'r llaw arall yn cael ei thynu yn awr ac yn y man trwy ei wallt. Darllena yn gyffredin gyfran o rai o lyfrau Solomon, gan wneyd sylwadau buddiol a digrifol wrth fyned ymlaen. Y mae wedi ymgydnabyddu llawer a Solomon, ac wedi chwilio llawer i'w ysgrifeniadau; ac erbyn hyn y mae wedi dwyn ffrwyth yr ym chwiliad hwnw i ffurf y gall yr oes a ddel ei fwynhâu. Bydd y weddi o flaen y bregeth yn hynod o fèr, heb lawer o "hwyl " ynddi, fel y dywedir. Y mae ei wrandawyr yn bryderus am gael clywed ei destyn, gan ddysgwyl cael yr adnod ryfeddaf a mwyaf digynnyg o fewn y Bibl; ac anfynych y byddant yn cael eu siomi yn hyn. Nodweddir y bregeth gan ystorfa helaeth a manwl o hanesyddiaeth ysgrythyrol. Ni bydd llawer o efengyl ynddi; ond buom yn synu lawer gwaith sut yr oedd yn gallu rhoddi cymaint gyda'r fath destynau. Nid ydyw yn fedrus ar drin pwnc. Clywsom ef unwaith yn gwneyd cais at hyny; ond yr oeddym yn gorfod teimlo mai y pwnc oedd yn ei drin ef. Pe gofynid i ni roddi cyfrif am ei boblogrwydd, atebem ei fod i'w briodoli i'w adnabyddiaeth helaeth o'r natur ddynol, ei arabedd, a'i naturioldeb.

Mae yn cadw i fyny ei neillduolrwydd yn y Cyfarfod Misol. Os na bydd yn dygwydd bod yn llywydd, byddai yn orchwyl caled i chwi ei weled yn eistedd yn llonydd am hanner awr. Y mae yn crwydro yn ol ac ymlaen, i mewn ac allan, a gallai dyn dyeithr dybied nad ydyw yn cymeryd sylw o ddim sydd yn myned ymlaen; ond dengys ei awgrymiadau synwyrol yn wastad ei fod all there; a bydd yr awgrym a gynnygia yn cael ei ddyweyd ganddo yn fynych fel pe byddai wedi ei gael y tro diweddaf y bu allan.

Yn y tŷ, y mae yn gwmni difyr a llawen; ac y mae pawb yn gallu agosâu ato a myned yn hyf arno, ac yntau yn gallu gwneyd ei hunan yn hapus a chartrefol lle bynag y byddo, os caiff rywun i ymddyddan âg ef, a digon o siwgwr yn ei dê.

Y mae yn hynod o barchus yn ei Sîr, a rhoddir gair da iddo yn ei gartref; ac y mae yr olaf yn beth mawr iddo ef, am ei fod yn cael ei roddi y tu ol i'w gefn, gan mai anfynych y gwelir ef gartref. Pan wel Duw yn dda ei gymeryd ato ei hun, teimlir colled fawr ar ei ol, a llawer o chwithdod.

Yn y Capel

YR ydym yn gorfod credu mai ychydig yw y rhai sydd yn meddu dysgyblaeth a meistrolaeth hollol ar eu meddyliau a'u myfyrdodau; ac ychydig hefyd, tybygaf, ydyw y rhai sydd yn ymwybodol càn lleied o'r gallu gwerthfawr hwn y maent yn feddiannol arno. Nid ydyw diffyg dysgyblaeth meddwl yn dyfod yn fwy i'r golwg yn unman nag yn yr addoldy; a buom yn rhyfeddu lawer gwaith fod yr amlygiad o hono heb ddyrysu y pregethwr, a pheri iddo yntau fyned yn grwydredig ei feddwl.

Rhoddwn ein hunain am fynyd yn lle y pregethwr. Dacw fo wedi cau ei hun i fyny yn y pulpud ar fur pellaf yr addoldy. Mae efe yn awr yn darllen y bennod, fel nad ydyw, o drugaredd, yn gallu gweled yr hyn sydd yn cymeryd lle o'i flaen. Y mae oddeutu dwy ran o dair o'r gynnulleidfa arferol eisoes yn eu heisteddleoedd, ac y mae y rhan arall yn dyfod i mewn drib drab, fel y dywedir. Y mae un yn dyfod i mewn trwy y drws ar y ddê—nid mor ddystaw ag y gallai, y mae yn wir—ond gyda ei fod yn y golwg, y mae yr holl gynnulleidfa ag sydd yn gallu ei weled yn troi eu llygaid ato, ac yn cadw eu llygaid arno nes iddo gyrhaedd ei eisteddle, a rhoi ei het yn ei lle priodol gyda'r hwn orchwyl y bydd ystŵr nid ychydig, weithiau. Ac wedi iddo roddi ei ben i lawr, neu ynte roddi ei law ar ei dalcen, bydd y gynnulleidfa wedi darfod gydag ef. Gyda bod hyn drosodd, y mae dynes barchus yn dyfod i mewn, trwy y drws ar yr ochr chwith; ac er ei bod yn aelod ffyddlawn o'r gynnulleidfa, a phawb yn ei hadwaen yn dda, eto y mae yn rhaid i'r gynnulleidfa gael edrych arni hithau, a'i dilyn â'u llygaid nes y bydd wedi eistedd i lawr, fel pe byddent yn ofni ei bod er y Sabboth blaenorol wedi anghofio pa le yr oedd ei heisteddle arferol. Os bydd ambell un yn para i ddyfod i mewn ar ol dechre y bregeth, bydd y gynnulleidfa yn ymddwyn yn gyffelyb at y rhai hyny.

Yn hyn oll, y mae lle i gredu, nad ydyw y gynnulleidfa yn gyffredinol yn ymwybodol o'u hymddygiad, a llawer llai o wrthuni y peth; ond i un fydd yn y pulpud neu y sêt fawr, y mae yr olyfa yn ddigrifol ac anweddaidd. Ac mor ddiddysgyblaeth ydyw meddw dyn yn gyffredin fel y gwna y trwst lleiaf, a'r amgylchiad distadlaf, dynu ei sylw oddiar yr hyn a ddywed y pregethwr. Dim ond i blentyn bach waeddi, a gwelir yr holl gynnulleidfa bron yn troi eu llygaid i chwilio plentyn pwy ydyw, er aflonyddwch i'r pregethwr, a phoen dirfawr i fam y bychan, yr hon sydd yn gwrido ac yn chwysu dan lygaid anfoddus y gynnulleidfa. Ni wnai swn plentyn bach beri llawer o ddyryswch i'r addoliad oni byddai fod y gwrandawyr yn tynu eu sylw oddiar y pregethwr, ac yn ei osod ar y plentyn, ac o ganlyniad yn peri i'r pregethwr anghofio ei lith. Os dygwydd i'r nwy fod â gormod o force arni, ac i frawd caredig frysio i wastadhâu y goleuni, pa raid sydd ar y gynnulleidfa adael i'r pregethwr rwyfo ymlaen ei hun, a gwneyd eu hunain yn oruchwylwyr ar y dyn sydd yn ceisio cywiro y gwall, i weled a ydyw yn gwneyd yn iawn ai peidio? Bydd ambell un yn yr addoliad yn gwneyd sŵn uchel trwy ei ffroenau gyda chynnorthwy ei gadach poced; ac er nad ydyw y dyn ond yn awgrymu i'ch meddwl y gwnaethai aelod rhagorol mewn seindorf bres, eto rhaid i'r gynnulleidfa gael edrych arno!

Hwyrach, wedi ystyried, fod y pethau y cyfeiriwyd atynt yn arwydd o lawn cymaint o ddiffyg defosiwn ag ydyw o ddiffyg dysgyblaeth meddwl. Cadarnhëir hyn, yr ydym yn meddwl, ar adeg y weddi. Pe byddai i un wneyd ei hun yn sylwedydd am dro, yn lle yn addolwr, pan fydd y pregethwr yn gweddïo, gymaint o ddiffyg defosiwn a ganfyddai yn ymddangosiad llawer o'r dyrfa. Canfyddai fod y nifer lliosocaf â'u penau i lawr, neu o leiaf ar ffurf ag sydd yn dangos eu bod yn ceisio cydweddïo â'r pregethwr; ond canfyddai hefyd, ddosbarth arall ag y mae eu hymddangosiad yn dangos yn amlwg fod eu meddwl yn hollol ddyeithr i'r weddi. Bydd wyneb ambell un yn dangos cymaint o wagder a syrthni nes peri i un ammheu a ydyw yn ymwybodol o gwbl pa beth sydd yn myned ymlaen. Bydd eraill i'w gweled â'u llygaid yn cynniwair drwy y dorf i archwilio dilladau eu cyd addolwyr. Ac yn wir, y maent yn cael digon o wrthddrychau gwerth syllu arnynt yn y ffordd hon, oni bae fod y lle a'r amser yn anghyfaddas. Gallwn edmygu gwisgoedd gwerthfawr a gweddus cystal ag un dyn; ond onid oes lle i ofni fod llawer merch ieuanc, er hwyrach yn ei diniweidrwydd, ac yn ddiarwybod o anweddusrwydd y peth, yn edrych ar yr addoldŷ fel rhyw fath o exhibition, lle y mae ganddi stall i ddangos ei nwyddau, y rhai na chaiff neb eu rhagori hyd y mae yn ei gallu hi. Pa ryfedd os na fedrir dyweyd ar ol dyfod allan o'r addoldy pa beth oedd y testyn, heb son am y bregeth? Pa ryfedd fod llawer yn mynychu ein capelydd heb ddeall y gwasanaeth, ac yn tyfu i fyny heb wneyd un ymdrech at hyny? Pa ryfedd os ydyw y pregethwr yn gorfod gofyn yn feunyddiol, "Pwy a gredodd i'n hymadrodd?" Yr ydym yn addef y gall un ymddangos yn bur ddefosiynol, ac eto fod ei ysbryd ymhell oddiwrth y pethau Dwyfol, ac i un arall ymddangos yn bur aflêr a'i enaid yn nghanol y pethau. Ond eithriadau ydyw y rhai hyn; ac yr ydym yn credu fod hyfforddiant mewn astudrwydd a gweddus rwydd yn yr addoliad cyhoeddus wedi ei esgeuluso yn fawr genym. Dylid, ar bob cyfrif, beidio rhoi un achlysur i arwain y meddwl oddiwrth ysbryd y weddi a mater y bregeth. Dylai y neb sydd yn dyfod i'r moddion ar ol i'r gwasanaeth ddechre fyned i'w eisteddle mor ddystaw ag y mae yn bosibl iddo wneyd; ac yr wyf yn barod i feddwl na ddylai yr un foneddiges sydd yn gwisgo gwn sidan fod hanner mynyd ar ol yr amser priodol. Bydd y sŵn fel awel o wynt a achosir gan y dilledyn prydferth hwn yn aflonyddu yr addoliad yn fynych, ac yn peri i ambell un ddymuno am i'r rhai sydd yn ei wisgo fod, er yn anamserol,

"Oll yn ei gynau gwynion,
Ac ar eu newydd wedd."


Mr. Jones y shop a George Rhodric.

MAE yn debyg fod rhyw wir yn y dywediad fod pawb yn fawr yn ei ffordd ei hun. Eglur yw nad yr hyn ydyw dyn ynddo ef ei hyn sydd yn ei wneyd yn fawr, ond yr hyn ydyw o'i gymharu â phobl eraill yn yr un ardal âg ef. Mae a fyno lle gryn lawer â'r hyn sydd yn cyfansoddi mawredd mewn dyn. Ni byddai yr hwn a ystyrir yn fawr mewn un gymydogaeth ond bychan a disylw mewn cymydogaeth arall. Ar yr un pryd, ni byddai yn gyfiawn ynom geisio di feddiannu dyn o'i fawredd ar y dybiaeth na byddai yn fawr pe symudai i ardal arall. Annheg i'r eithaf a fyddai ceisio tynu un iod nac un tipyn oddiwrth fawredd John Jones, neu fel yr adwaenir ef gan ei gymydogion, Mr. Jones y shop. Os na chafodd fanteision addysg yn more ei oes, nid ei fai ef oedd hyny. Pe cawsai hwynt, dilys y buasai wedi gwneyd defnydd da o honynt. Gan fod yr ardal lle y trigianna yn un boblogaidd, a llawer o weithfeydd ynddi, darfu iddo mewn amser cymhariaethol fyr, trwy ddiwydrwydd, gyrhaedd sefyllfa ag yr edrychid arno gan ei gymydogion fel "dyn pur dda arno." Dechreuodd gadw shop mewn tŷ lled fychan; ac am rai wythnosau meddyliodd mai ei chadw hi a fyddai raid iddo, ac na ddeuai y shop byth i'w gadw ef. Ond drwy brynu yn y farchnad ore, a gwerthu am brisiau rhesymol, daeth yn fuan yn fasnachwr llwyddianus. Wedi cyrhaedd sefyllfa gysurus, fel pob dyn call cymerodd ato gymhar bywyd. Merch ydoedd hi i amaethwr cefnog yn y gymydogaeth, yr hon, heblaw ei bod wedi cael addysg dda, oedd feinwen landeg a hardd. Os oedd llawer o fân fasnachwyr yn cenfigenu wrth Mr. Jones am ei lwyddiant blaenorol, yr oedd mwy o ddynion ieuainc yr ardal yn cenfigenu wrtho am ei lwyddiant diweddaf hwn; oblegid edrychid ar Miss Richards—canys dyna oedd ei henw morwynol—fel y ferch ieuanc fwyaf priodadwy yn y lle; ac nid oedd gan ei gelynion penaf ddim mwy o ddrwg i'w ddyweyd am dani na'i bod "braidd yn uchel ei ffordd," ac hwyrach fod rhyw gymaint o sail i'r cyhuddiad hwn.

Y cyntaf yn yr ardal i deimlo effeithiau priodas Mr. Jones ydoedd George Rhodric, y teiliwr; canys hyd yn hyn buasai Mr. Jones yn gwsmer rhagorol iddo; ac yr oedd y siopwr yn dyfod i fyny ymhob ystyr â drychfeddwl y dilledydd am gwsmer da, sef yn un oedd yn gwisgo llawer o ddillad, un hawdd ei ffitio, un hawdd ei foddio, ac un yn talu arian parod yn ddirwgnach. Pan ddaeth y si allan gyntaf am y briodas, nid oedd neb yn fwy zelog yn seinio clodydd doethineb dewisiad Mr. Jones na George Rhodric; ac yn ddystaw bach rhyngddo âg ef ei hun, dysgwyliai ysglyfaeth nid bychan ynglŷn â'r amgylchiad; ac er iddo, pan agosäodd yr amser, gael ei siomi yn y peth diweddaf, nid allai lai na chanmawl cynnildeb Mr. Jones, pan adgofiodd mai yn ddiweddar iawn y gwnaethai efe suit newydd iddo, ac fod hono yn un eithaf pwrpasol i'r amgylchiad hapus, er, ar yr un pryd, yr oedd yn gorfod cyfaddef wrth ei brentis na buasai neb yn beio Mr. Jones am gael suit newydd gogyfer â'i briodas. Ond pa faint oedd ei brofedigaeth, pan ddeallodd, mewn ymddyddan â gwas i Mr. Jones y noson cyn y briodas, fod ei feistr wedi cael dillad newydd o'r dref fawr nesaf? Yr oedd naill ai yn rhy synwyrol, neu ynte yr oedd y brofedigaeth yn ormod iddo allu dyweyd llawer; ond aeth adref â'i ben yn ei blŷf. Yr oedd ganddo faner o ganfas wedi ei pharotoi, a'r geiriau " LLWYDDIANT I'R PÂR IEUANG wedi eu gwneyd o wlanen goch a'u gwnïo yn gywrain arni, yr hon a fwriadasai gwhwfanu o ffenestr y llofft ddydd y briodas; ond ar ol yr ymddyddan y cyfeiriwyd ato, lapiodd hi i fyny mewn papyr llwyd hyd ryw amgylchiad dyfodol. Yr oedd yn dda ganddo, erbyn hyn, nad oedd wedi rhoi enwau y pâr ieuanc ar y faner, fel y bwriadasai ar y cyntaf. Sylwyd, ddydd y briodas, gan y cymydogion, na ddaeth George Rhodric na'i brentis allan o'r tŷ; a'r rheswm a roddid am hyny oedd eu bod yn rhy brysur. Yr oedd hyn yn brofedig aeth fawr i'r prentis, gan y rhoddid tê a bara brith i blant yr Ysgol Sul gan gyfeillion Mr. a Mrs. Jones; ond gwnaed i fyny iddo am hyny, i raddau, trwy i'w feistr roddi iddo dair ceiniog am aros i mewn, ac addewid am holiday y dydd Llun canlynol. Er na ddaeth George Rhodric allan o'r tŷ ddydd y briodas, tystiai y prentis ddarfod iddo, pan oedd y priodfab a'i wraig yn pasio ei dŷ, edrych yn ddirgelaidd trwy y ffenestr; ond yr unig eiriau y clywodd y prentis ef yn ddyweyd oeddynt, "Wel, fuasai raid iddo ddim myned i Gaer— i gael y rhai yna."

Yr oedd gan Rhodric ychydig edmygwyr, y rhai a fynychent ei weithdy, i wrandaw ar ei ddoethineb, ac i gael "pibellaid." Nid allai y rhai hyn lai na nogio eu penau, i ddangos eu cymeradwyaeth, pan y byddai y dilledydd yn siarad yn awgrymiadol ac mewn hanner brawddegau. " Sôn yr oeddych, " meddai " am briodas Mr. Jones. Wel, dyma ydi fy meddwl i,—y dylai dyn fod yn ddyn, ac nid cael ei lywodraethu gan ei wraig. Mae arian yn burion yn eu lle; ond nid arian ydi pobpeth. 'Does gen i ddim i'w ddyweyd am Mr. Jones; ac am Mrs. Jones—wel, nid fy lle i ydi dyweyd dim." Nid yn yr awgrymiadau hyn a'r cyffelyb, yn unig, y canfyddid y cyfnewidiad yn syniadau George, mewn perthynas i'w barchedigaeth i Mr. Jones, ond gwnai ei ymddangosiad ar achlysuron cyhoeddus. Yn flaenorol, pan y gelwid ar Mr. Jones i "ddyweyd gair" ar unrhyw fater, byddai Rhodric fel pe buasai yn llyncu pob gair a ddeuai o'i enau, ac yn porthi y gwasanaeth yn y fath fodd fel ag y buasai dyn llai synwyrol na Mr. Jones yn ymfalchïo, ac yn myned i feddwl llawer o'i ddawn; ond ar ol yr am gylchiadau y cyfeiriwyd atynt, byddai George Rhodric naill ai yn ymddangos mewn myfyrdod dwfn neu ynte yn troi dalenau y llyfr hymnau.

Buasai yn beth i ryfeddu ato pe na buasai cysylltiad newydd Mr. Jones â theulu oedd yn dda arnynt, ac yntau ei hun eisoes mewn amgylchiadau cysurus, heb effeithio rhyw gymaint ar fanteision ac ymddangosiad ei fasnachdy. Nid hir y bu, pa fodd bynag, heb wneyd y tŷ yn llawer helaethach, a'r shop yn llawer mwy cyfleus a golygus. Ond yr hyn a synodd rai o'r cymydogion fwyaf oedd y cyfnewidiad yn y sign uwch ben y faelfa. Yr hyn a arferai fod ar yr hen sign oedd, "J. Jones, Grocer. Licensed to sell Tobacco." Ond ar y sign newydd, yr hon oedd gymaint ddwy waith â'r un flaenorol, yr oedd, "J. R. Jones, Provision Merchant." Cafodd rhai o'r ardalwyr diniwed eu twyllo yn hollol pan welsant y sign newydd. Tybiasant ar unwaith fod Mr. Jones yn bwriadu gadael y gymydogaeth, a myned i fyw ar ei arian, a'i fod yn parotoi y shop i ryw berthynas agos iddo, ac y bydd ai'r fasnach yn rhywbeth hollol wahanol i'r hyn oedd wedi arfer a bod, hyd nes yr aeth rhai o honynt at George Rhodric. Wel, yr ydych yn rhai diniwed, bobl bach," ebe fe; "oni wyddoch beth ydyw y llythyren gyntaf yn enw teulu Mrs. Jones? ac oni wyddoch fod yr enw J. Jones yn enw common iawn—annheilwng o ddyn cyfoethog? 'Does dim eisieu i neb ddeyd wrtha i pwy sydd wedi bod wrth y gwaith yna. Mae Mr. Jones yn ddyn da; ond y mae llawer dyn da cyn hyn wedi cael ei andwyo gan ei wraig. Mi feder balchder wneyd ei ffordd i le gwledig fel hyn, yr un i Lunden. Dyna meddwl i."

Afreidiol yw dyweyd fod sylwadau ac awgrymiadau George Rhodric wedi taflu y fath oleuni ar y cyfnewidiadau y cyfeiriwyd atynt nes llwyr foddloni meddyliau ei edmygwyr ar sefyllfa pethau, ac fod ei dreiddgarwch a'i ddoethineb yn fwy yn eu golwg nag erioed; ac ni ddarfu un o honynt ddychymygu am foment fod un gair a ddywedodd yn tarddu oddiar genfigen.

Teg ydyw hysbysu y darllenydd mai nid trwy lygaid George Rhodric yr edrychai mwyafrif cymydogion Mr. Jones, ac yn enwedig pobl y capel, ar y cyfnewidiadau a gymerasent le yn ei amgylchiadau. Gan fod yr eglwys y perthynai Mr. Jones iddi yn cael ei gwneyd i fyny gan mwyaf o bobl lled dlodion, yr oodd efe, er ys amser bellach, yn gefn mawr iddi mewn ystyr arianol; ac yr oedd y parch a delid iddo yn gyffredinol gan yr eglwys yn tarddu, nid yn gymaint oddiar yr ystyriaeth ei fod yn uwch mewn ystyr fydol na'r cyffredin o honynt hwy, ond oddiar anwyldeb dwfn â gynnyrchwyd gan ei garedigrwydd, ei haelioni crefyddol, a'i gymeriad gloew, Credu yr ydym y buasai William Thomas, y pen blaenor, yn tori ei galon pe dygwyddasai i amgylchiadau gymeryd Mr. Jones o'r gymydogaeth, gan fel yr oedd yn ei garu fel y cyfaill goreu y cyfarfyddodd ag ef ar y ddaear. Gan i ni son am William Thomas, mae efe yn teilyngu i ni ei ddwyn i bennod arall.

Mr. Jones y shop a William Thomas.

TUA'R adeg yr ydym yn ysgrifenu yn ei chylch, nid oedd ar yr eglwys y perthynai Mr Jones iddi ond dau flaenor yn unig, ac edrychid ar William Thomas fel y pen blaenor. Ennillodd y swydd, a'r uchafiaeth yn y swydd, yn gwbl yn rhinwedd purdeb ei gymeriad ac ysbrydolrwydd ei grefydd. Gweithiwr mewn ffermdy a fuasai ei dad o'i flaen, a gweithiwr yn yr un man ydoedd yntau. Nid ennillasai erioed fwy na deunaw swllt yn yr wythnos. Magasai loned tŷ o blant, ac o anghenrheidrwydd ni chododd yn ei fywyd uwchlaw prinder. Ond er hyn, yr oedd efe, yn ddiau, y cyfoethocaf tuag at Dduw yn yr holl gymydogaeth; ac ni theimlodd bangfa anghen erioed ond fel yr oedd yn anfantais ynglŷn â chrefydd. Yn y wedd hon, teimlodd i'r byw, a llawer tro y llifodd y dagrau dros ei ruddiau am na fedrai roddi lletty i bregethwr, na chyfranu fel y dymunai at ryw achos y byddai ei galon yn llosgi am ei lwyddiant. Er cymaint oedd y gwahaniaeth yn eu sefyllfa fydol, llawer tro y teimlasai Mr. Jones yn y cyfarfodydd eglwysig y buasai yn barod i roddi ei shop a'i holl eiddo am grefydd ac ysbrydolrwydd William Thomas.

Rhwng fod Mr. Jones wedi bod mor gaeth i'w fasnach, a William Thomas yn byw bellder o ddwy filldir mewn diffeithwch yn y wlad, ni buasai y blaenaf erioed yn nhŷ y diweddaf, er iddo addaw iddo ei hun y pleser hwnw ugeiniau o weithiau. Ond un prydnawngwaith yn mis Mehefin, cyfeiriodd Mr. Jones ei gamrau tuag yno; ac wedi dyfod o hyd i babell yr hen bererin, safodd am enyd mewn syndod yn edrych arno. Er ei fod yn weddol gydnabyddus âg amgylchiadau W. Thomas, ni feddyliodd erioed ei fod yn preswylio mewn annedd mor ddiaddurn; ac nid allai lai, yn yr olwg arno, na gofyn iddo ei hun, wrth adgofio y gwleddoedd a fwynhasai yn nghymdeithas ei breswylydd, ai onid oedd iselder sefyllfa a chyfyngder amgylchiadau yn fanteisiol i adgynnyrchu ysbryd yr Hwn nad oedd ganddo le i roddi ei ben i lawr. "Tŷ a siamber," fel y dywedir, oedd yr annedd, a thô gwellt arno. Yr oedd gwal isel o'i flaen, a llidiart bychan gyferbyn â drws y tŷ. Yr oedd yn hawdd gweled oddiwrth y llestri a'r celfi oeddynt ar hyd y wal, eu bod yno am nad oedd ystafell briodol i dderbyn y cyfryw oddimewn. Ar y naill ochr i'r tŷ, yr oedd gardd fechan a thaclus; ar yr ochr arall yr oedd popty, o wneuthuriad diammheuol y preswylydd, neu ynte un o'i hynafiaid. Ar ben simdde yr adeilad, yr oedd padell bridd heb yr un gwaelod iddi, ac wedi ei throi â'i gwyneb yn isaf. Ychydig y naill du yr oedd adeilad bychan arall, lle y porthid un o hiliogaeth creaduriaid rhochlyd gwlad y Gadareniaid. Yr oedd yr adeilad hwn yn ddiweddarach o ran arddull na'r tŷ annedd, gan fod iddo lofft â mynediad i mewn iddi o'r tu allan, lle y cysgai rhyw arall o greaduriaid, ac o ba le hefyd y clywid, yn oriau cyntaf y bore—gan nad pa mor dderbyniol a fyddai hyny i'r chwyrnwr a gysgai yn y gwellt odditano—lais uchel a chlir y rhybuddiwr a weithredodd mor effeithiol ar Simon Pedr gynt. Tra yr oedd Mr. Jones yn edrych o'i gwmpas, daeth bachgen bychan bywiog ar ei redeg i ddrws y tŷ; ond càn gynted ag y gwelodd efe y gwr dyeithr, rhedodd yn ei ol, gan waeddi ar ei fam fod dyn yr adnod " wrth у llidiart. Gelwid Mr. Jones yn "ddyn yr adnod" gan blant William Thomas am mai efe yn gyffredin a fyddai yn gwrandaw y plant yn dyweyd eu hadnodau yn y cyfarfodydd eglwysig.

Daeth y fam, yr hon oedd gryn lawer yn ieuengach na'r gŵr, i gyfarfod Mr. Jones; a gwahoddodd ef i ddyfod i mewn, "os gallai," gan gyfeirio yn ddiammheu at fychander y drws. Yr oedd William Thomas erbyn hyn wedi sylweddoli ei ddyfodiad, ac wedi tynu ei yspectol, a'i wyneb yn dysgleirio gan lawenydd. Canfyddodd Mr. Jones nad oedd gwedd dufewnol y tŷ yn rhagori llawer ar yr allanol. Yr oedd hyny o ddodrefn oedd yno yn hynafol, ac yn ymddangos eu bod wedi gwasanaethu llawer cenedlaeth. Ar un ochr i'r tân yr oedd hen settle dderw, lle y gallai tri neu bedwar eistedd; yr ochr arall yr oedd cadair ddwy fraich, i'r hon yr arweiniwyd Mr. Jones. Yr oedd y cyfleusderau eraill i eistedd yn gynnwysedig mewn ystolion, y rhai oeddynt yn amrywio mewn maint a llun; a rhwng y rhai hyny a'r plant yr oedd cryn gyfatebiaeth. Nid oedd yr hyn a alwent yn fwrdd, mewn gwirionedd, ond ystôl megys wedi gordyfu; a gallai yr anghyfarwydd dybied mai hi ydoedd mam yr holl ystolion eraill. Yr oedd muriau yr annedd yn llwydion, ac yn hollol ddiaddurn, oddigerth gan un neu ddau o ddarluniau a gymerasid o "gyhoeddiad y corff," ac a ddodasid mewn hen fframiau, un o ba rai oedd darlun o'r diweddar Barch. Henry Rees. Yr oedd y darlun yn ymddangos yn lled newydd, ond yr oedd y ffrâm yn dangos yn rhy eglur ei bod wedi gwasanaethu darlun neu ddarluniau eraill, y rhai oeddynt oll wedi gorfod rhoddi lle i'w gwell. Y dodrefnyn gwerthfawrocaf yn y tŷ oedd hen awrlais â gwyneb pres iddo, yr hwn, yn ol pob golwg, oedd wedi disgyn o dad i fab am genedlaethau, ac wedi duo cymaint gan henaint fel nad ellid dyweyd pa faint ydoedd ar y gloch arno heb fyned yn glos i'w ymyl.

Ac nid ar allanolion yr hen gloc yn unig yr oedd amser wedi effeithio, canys yr oedd profion rhy amlwg fod ei lungs yn ddrwg; oblegid pan fyddai ar ben taro, byddai yn gwneyd sŵn anhyfryd, fel dyn â brest gaeth, ac yn ymddangos fel ar ddarfod am dano; ond wedi i'r bangfa fyned trosodd, byddai yn dyfod ato ei hun, ac yn adfeddiannu ei iechyd am awr. Nid oedd llawer o ddibyniad ychwaith i'w roddi ar gywirdeb yr hen greadur, ac o herwydd hyny byddai W. Thomas, er mwyn i'r wraig wybod pa bryd i'w ddysgwyl gartref, yn gadael ei oriawr ar hoel uwchben y lle tân, wrth yr hon yr oedd yn grogedig gadwen o fetal, sêl, a dwy gragen fechan. Yr oedd y plant oeddynt yn dygwydd bod yn y tŷ pan ddaeth Mr. Jones i mewn, wedi hel yn dwr i un gongl, ac yn edrych yn yswil iawn; un yn cnoi ei frat, y llall â'i fŷs yn ei safn, a'r trydydd yn amlwg yn sugno ei gof, oddiar ofn i Mr. Jones ofyn iddo am adnod.

Wedi cyfarch gwell, a dadgan eu llawenydd o weled eu gilydd, gwelid yr hen batrïarch yn dwyn ymlaen yr unig groesaw y gallai ei gynnyg i ŵr o safle Mr. Jones, yr hwn groesaw a gedwid yn mhoced ei wasgod, ac oedd yn gynnwysedig mewn blwch corn hirgrwn, a'r ddwy lythyren, W. T., wedi eu tori ar ei gauad. Ië, hwn ydoedd yr unig foeth daearol a dianghenrhaid у bu William Thomas yn euog o ymbleseru ynddo; a phwy, pa mor wrthsmocyddol bynag, a fuasai yn ei warafun iddo? "

Wel, William Thomas, yr wyf wedi dyfod yma i ofyn ffafr genych." "Ffafr gen'i, Mr. Jones bach?" ebe fe. "Ië, ffafr genych chwi, W. Thomas. Yr wyf yn deall fod teulu y Fron Hên yn ymadael â'r gymydogaeth; a chwi a wyddoch nad oedd neb ond hwy yn arfer derbyn pregethwyr yma; ac nid wyf wedi clywed fod un lle arall yn agor i'w derbyn; ac y mae Mrs. Jones a minnau wedi bod yn siarad â'n gilydd am ofyn i chwi a gawn ni eu croesawu. Yrwan, ar ol i ni altro y tŷ acw, yr wyf yn meddwl y gallwn eu gwneyd yn lled gysurus. A dyweyd y gwir i chwi, William Thomas, dyna oedd un amcan mawr mewn golwg genyf wrth wneyd y lle acw gymaint yn fwy; bod dipyn yn fwy defnyddiol gyda'r achos, os byddwch mor garedig a chaniatau ein cais. "

Ar hyn daeth rhywbeth i wddf W. Thomas, fel nad allai ateb mewn mynyd. O'r diwedd dywedodd ei fod yn ofni ei fod wedi cael anwyd, gan fod rhyw grugni yn ei wddf, ac yn wir ei fod yn teimlo ei lygaid yn weiniaid. Nid oedd yr anwyd hwn, pa fodd bynag, ond o fyr parhâd, canys ennillodd W. Thomas ei lais clir arferol yn fuan. "Wel, bendith arnoch, Mr. Jones! yr ydych yn garedig dros ben, ac wedi cymeryd baich mawr oddiar fy meddwl i, sydd wedi peri i mi fethu cysgu yn iawn er pan glywais fod fy nghyd—swyddog a'i deulu o'r Fron Hên yn myn'd i'n gadael. Yr oeddwn i yn dirgel gredu o hyd yr agorai yr Arglwydd ddrws o ymwared i ni rhag i'w weision orfod ysgwyd y llwch oddiwrth eu traed yn yr ardal yma. Chwi wyddoch, Mr. Jones, fod yma eraill yn meddu ar y cyfleusderau, ond y mae gen' i ofn nad ydi'r galon ddìm ganddynt. Mi gewch fendith, Mr. Jones; fe dal y pregethwr am ei le i chwi. "Nac anghofiwch lettŷgarwch, canys wrth hyny y llettŷodd rhai angylion yn ddiarwybod." Un hynod o lettŷgar oedd yr hen batriarch. Pan ddaeth y bobl ddyeithr hyny heibio ei dŷ, ni wyddai fo yn y byd mawr pwy oeddan' nhw, ond ei fod yn guessio eu bod yn weision yr Arglwydd ; 'ac efe a fu daer arnynt, ac â roes y croeso gore iddynt; a chyn y bore yr oeddynt wedi troi allan yn angylion, ae fe'i cadwyd yntau rhag i un dafn o'r gawod frwmstan syrthio ar ei goryn. Yr oedd George Rhodric yn sôn wrtha'i am i ni dalu hyn a hyn y Sabbath am le y pregethwr; ond er na fedra'i roi llettŷ i bregethwr fy hunan, yr ydw' i yn hollol yn erbyn y drefn yna. Pe buaswn i yn bregethwr, fuaswn i ddim yn gallu mwynhâu pryd o fwyd yr oeddwn i yn gwybod fod rhywun arall yn talu hyn a hyn am dano. Mi fuaswn yn myn'd i feddwl faint, tybed, oeddan nhw yn dalu, ac â oeddwn i wedi bwyta tua'r marc, neu â oeddwn yn peidio myn'd dros ben y marc; er, byd a'i gŵyr o, y mae y rhei'ny welais i o honynt yn bwyta digon ychydig, ac yn enwedig y bechgyn â'r gwynebau llwydion o'r Bala yna. Ha! mi fuasai yn o arw gan Mair a Martha gymeryd tâl am le yr Athraw, goelia' i, Mr. Jones. Ar yr un pryd, yr wyf yn credu mai diffyg ystyriaeth sydd wedi rhoi cychwyniad i'r drefn mewn ìlawer man. Mae pobl yn eu

hanystyriaeth yn cymysgu rhinweddau crefyddol, ac yn tybied os cyflawnant un gorchymyn yn lled dda fod hyny yn gwneyd i fyny am orchymyn arall tebyg iddo. Mae ambell ddyn da yn meddwl os bydd o yn cyfranu yn haelionus at y weinidogaeth, fod hyny yn gwneyd i fyny am letygarwch, er ei fod, hwyrach, yn meddu tŷ da a chysurus, a digon o eiddo. Ond y mae hyny yn gamgymeriad, yr ydw' i yn meddwl; yr hen drefn sydd iawn. Diolch yn fawr i chwi, Mr. Jones; mi gewch fendith yn siwr i chwi." "Yr ydych yn hollol yn eich lle gyda golwg ar lettygarwch, William Thomas," ebe Mr. Jones; "a chan fy mod wedi cael fy neges, rhaid i mi ddyweyd nos dawch i chwi i gyd, a hwylio at yr hen lyfrau acw." Ond cyn ymadael galwodd ato bob un o'r plant, a rhoddodd ddarn gwyn yn llaw pob un; ac os rhaid dyweyd y gwir, yr oedd yn well gan y crefyddolion bychain gael y darn gwyn na chael dyweyd adnod. Fel yr oedd Mr. Jones yn agosâu at y drws, yr oedd llaw ddehau William Thomas yn dyrchafu yn raddol i uwchder ei ben; ac fel yr oedd Mr. Jones yn yr act o gau y drws ar ei ol, daeth y llaw i lawr gyda nerth i gyffyrddiad â phen ei lin. "Mary," ebe efe, " rhaid i ni gael gwneyd Mr. Jones yn flaenor!"

William Thomas a'r dewis Blaenoriaid.

WEDI i deulu y Fron Hên ymadael a'r fro, llettŷid pob pregethwr a ddeuai i'r daith gan Mr. Jones y shop; a gadawyd William Thomas yn unig swyddog ar yr eglwys. Pa opiniynau bynag eraill a ddaliai yr hen flaenor yn wleidyddol ac eglwysyddol, nid oedd yn credu mewn unbenaeth; a mynych y cwynai o herwydd ei unigrwydd yn yswydd, ac y dangosai yr anghenrheidrwydd am gael rhywrai i'w gynnorthwyo. Gan fod Mr. Jones y shop yn cymeryd gofal y llyfrau, ac hefyd yn gweithredu fel trysorydd, yr oedd mwyafrif yr eglwys yn teimlo yn ddigon boddlawn i bethau aros fel yr oeddynt. Ond dadleuai William Thomas drachefn ei henaint a'i anfedrusrwydd yn y swydd, ynghyd a'r cyfrifoldeb oedd yn ei gymeryd arno ei hun wrth fod yn unig swyddog mewn eglwys lle yr oedd amryw eraill mawr yr yn gymhwys i'r gwaith. Buasai George Rhodric yn cefnogi â'i holl galon ymbiliau William Thomas am gael ychwaneg o flaenoriaid, oni buasai fod dau rwystr ar ei ffordd. Yn un peth, yr oedd yn credu yn sicr pe yr elid i ddewis, y buasai Mr. Jones y shop yn myned i fewn; ac hefyd yr oedd yn gweled y posiblrwydd iddo ef ei hunan gael ei adael allan; ac yn ngwyneb y ddau beth hyn, penderfynodd fod yn ddystaw ar y pwnc. Ond yr oedd rhyw eneiniad amlwg i'w ganfod ar yr hen frawd Siôr yn ddiweddar; nid oedd mor dueddol i bigo beïau ag y bu, ac yr oedd rhyw ystwythder anarferol yn ei ysbryd, ac arwyddion eglur ei fod yn awyddus i fod ar delerau da â phawb, hyd yn nod â Mr. Jones y shop a'i deulu. Buasai yn anfrawdol yn neb briodoli y cyfnewidiad hwn er gwell ynddo i unrhyw amcanion hunangar ac uchelgeisiol, ac nid oedd neb yn ei groesawu ac yn llawenhâu mwy yn yr olwg arno na'r syml a'r difeddwl—drwg William Thomas.

Fel yr awgrymwyd yn barod, yr oedd nifer lliosocaf yr eglwys yn eithaf parod i bethau aros fel yr oeddynt; ac yr oedd yr hen bobl, yn enwedig yr hen chwiorydd, yn parhâu i ddyweyd na chaent neb tebyg i William Thomas; ond yr oedd yr aelodau callaf a galluocaf, tra yn ofni i'r amgylchiad droi allan yn achlysur cythrwfl ac anghydwelediad yn gorfod cydnabod rhesymoldeb ac ysgrythyroldeb cais eu hen swyddog parchus. O'r diwedd, pa fodd bynag, llwyddodd yr hen frawd i gael gan yr eglwys anfon at y Cyfarfod Misol "fod anghen arni am ychwaneg o swyddogion."

Yn ngwyneb yr amgylchiad oedd bellach yn ym ddangos yn debyg o gymeryd lle, yr oedd yn yr eglwys dri o ŵyr yn teimlo yn bur wahanol i'w gilydd. Yr oedd un gŵr yn ystyried y dylasai gael ei ddewis; yr oedd un arall yn ofni cael ei ddewis; ac yr oedd un arall yn benderfynol na chymerai ei ddewis. Y gŵr a ystyriai ei hun yn feddiannol ar holl anhebgorion blaenor ydoedd George Rhodric; canys yr oedd yn un o'r aelodau hynaf yn yr eglwys, ac yn un o'r athrawon hynaf yn yr Ysgol Sabbothol; nid oedd ychwaith o ran dawn a gwybodaeth yn ddirmygedig; ac nid allai neb ddyweyd dim yn erbyn ei garitor. Wrth roddi y pethau hyn i gyd at eu gilydd, yr oedd efe yn ystyried y gallai sefyll cymhariaeth â phigion yr eglwys, ac na wnaethid camgymeriad wrth ei ddewis. Heblaw hyn, yr oedd o'r farn fod eisieu "gwaed newydd " yn y swyddogaeth. Nid oedd y class o bregethwyr oedd yn arfer dyfod yno i wasanaethu y peth y dylasai fod; ac yr oedd yn canfod llawer iawn o ddiffyg trefn mewn amryw bethau eraill y buasai efe wedi galw sylw atynt er ys llawer dydd oni buasai ei fod yn ofni i rywrai dybied ei fod yn ceisio " ystwffio ei hun ymlaen." Y gŵr oedd yn ofni cael ei ddewis ydoedd Mr. Jones y shop. Yr oedd y rhan flaenllaw yr oedd wedi ei chymeryd gyda'r plant yn yr Ysgol Sabbothol, ac mewn cyfarfodydd eraill, ei waith yn cymeryd gofal llyfrau yr eglwys, a'r ffaith fod ei dŷ erbyn hyn yn gartref i bregethwyr, yn peri iddo weled nid yn unig y posiblrwydd, ond hefyd y tebygolrwydd, y dewisid ef. Er ei fod bob amser yn awyddus i wneyd yr hyn oedd yn ei allu dros achos crefydd, yr oedd yn ystyried fod cymaint o bwysigrwydd ynglŷn â swydd blaenor, ac yn ammheu cymaint am ddiogelwch ei gyflwr ysbrydol, a'i gymhwysder personol i'r gwaith, fel y buasai yn rhoddi unrhyw beth bron i'r eglwys am beidio ei ddewis.

Y gŵr arall oedd yn benderfynol na chymerai ei ddewis ydoedd Noah Rees. Gŵr ieuanc ydoedd ef, eiddil, gwyneblwyd, ac yn cael y gair fod ganddo lawer o lyfrau; ac yr oedd rhai yn myned mor bell ac eithafol a dyweyd fod ganddo gymaint a thri Esboniad ar y Testament Newydd, ac o leiaf ugain o lyfrau eraill ar wahanol bynciau. Er fod y chwedl anhygoel hon yn cael ei hammheu yn fawr ar y cyntaf, ennillasai fwy o gred yn ddiweddarach gan y ffaith ddarfod i'r gwr ieuanc ennill dwy wobr mewn Cyfarfod Cystadleuol; un yn werth hanner coron, a'r llall yn werth tri swllt. Taenid y gair hefyd na byddai efe byth yn myned i'r gwely hyd un ar ddeg o'r gloch ar y nos, a bod ei fam yn cwyno ddarfod i Noah ddyfetha mwy o ganwyllau mewn un flwyddyn nag a ddarfu ei dad yn ystod ei holl oes, a'i bod yn sicr mai y diwedd a fyddai iddo golli ei iechyd. Heblaw fod Noah yn fwy difrifol, ac yn fwy rhwydd ac ufudd na'i gyfoedion pan elwid arno i gymeryd rhan yn y moddion cyhoeddus, yr oedd ei gôt, yr hon oedd bob amser o liw tywyll, gyda gwasgod yn cau yn glos at y gwddf, ynghyd a'r ymarferiad o amddiffyn у rhan a enwyd olaf â muffler pan y byddai yr hîn heb fod yn gynhes iawn, yn dangos yn eglur at ba alwedigaeth yr oedd yn cymhwyso ei hun. Tra nad oedd y nifer lliosocaf o'i gyfoedion yn cofio ar nos Sadwrn pwy a fyddai wedi ei gyhoeddi i bregethu yno drannoeth, byddai Noah yn cofio yn dda, ac yn gwybod o ba gyfeiriad i'w ddysgwyl, ac yn gyffredin yn myned i'w gyfarfod, a'i arwain i'w letty. Er nad oedd wedi hysbysu ei gyfrinach i neb, yr oedd amryw yn gallu ei ddarllen, ac yn gwybod cystal ag ef ei hun fod ei lygaid ar rywle y byddai raid i'r blaenoriaid edrych i fyny ato, fel nad oedd raid iddo wneyd penderfyniad mor gadarn na chymerai ei ddewis yn flaenor.

I dori yr hanes yn fyr, caniatäwyd cais yr eglwys gan y Cyfarfod Misol, a phenodwyd dau frawd i fyned yno i ddwyn y dewisiad oddiamgylch. Noswaith y cyfarfod eglwysig, wythnos cyn yr adeg yr oedd y dewisiad i gymeryd lle, ystyriai William Thomas hi yn ddyledswydd arno alw sylw y frawdoliaeth at yr amgylchiad, a'u hannog i weddïo am ddoethineb a chyfarwyddyd i wneyd pobpeth mewn tangnefedd a chariad, er lles yr achos, a gogoniant y Pen mawr. Tra yr oedd efe yn myned ymlaen yn y ffordd hyn, yr oedd yn eistedd yn ymyl y sêt fawr, a'i phwys ar ben ei ffon, hen wreigan ddiniwed a duwiol, yr hon a glustfeiniai yn ddyfal; ac yn y man cododd yn sydyn ar ei thraed, a dywedodd

"William Thomas, deudwch chi wrtho ni pwy i ddewis; y chi ŵyr ore o lawer; ac mi wna i, beth bynag, yn union fel y byddwch chi yn deyd, ac mi wnaiff pawb arall, 'does bosib'. Chawn ni neb gwell na chi na chystal, mi wn, a dydw i yn gweled neb yma cymhwys iawn ond Mr. ——

Amneidiodd William Thomas arni hi i dewi; ac efe a aeth ymlaen mor agos ag y gallwn gofio yn y geiriau canlynol:—"Mae Gwen Rolant bob amser yn dyweyd ei meddwl yn onest, ac y mae genyf ddiolch iddi am feddwl mor dda o honof; ond nid oes neb yn gwybod yn well na mi fy hun mor anghymhwys ydwyf i'r swydd, ac fod yma amryw o'm brodyr â allent ei llenwi yn llawer gwell. (Gwen Rolant yn ysgwyd ei phen mewn anghrediniaeth.) Er nad wyf yn ewyllysio, ac na byddai yn iawn ynof enwi neb, fel yr oedd Gwen Rolant yn gofyn, eto hwyrach, fy nghyfeillion, y goddefwch i mi, o herwydd fy oedran, roddi gair o gynghor i chwi. Gallaf eich sicrhâu nad ydyw swydd blaenor yn un i'w chwen nychu, ond yn unig fel y mae yn gyfleusdra i fod yn fwy gwasanaethgar i Dduw. Yr wyf yn meddwl y gallai pob un o honoch addoli yn well heb fod yn flaenor. Mae y blaenor wrth ei swydd yn gorfod gwrando ar bob cŵyn yn erbyn pawb, ac yn gwybod hefyd pa swm y mae pob aelod yn ei gyfranu at y weinidogaeth, ac at achosion eraill; ac os bydd ambell un heb fod yn cyfranu fel y bydd Duw wedi ei lwyddo, pan elwir ar y brawd hwnw at ryw wasanaeth cyhoeddus, nid yw y blaenor yn gallu cydaddoli a'i holl galon fel y gall yr hwn nad yw yn gwybod. Pan fyddwch yn myned i ddewis, fy mrodyr, gofelwch nid yn unig am ddynion â chrefydd dda ganddynt, ond gofelwch am rai yn meddu ar ddynoliaeth dda hefyd, heb yr un crac yn eu caritor. Ni wnaiff ychwanego gyfrifoldeb, a chwaneg o bwysau wella'r crac, ond yn hytrach beri iddo ymagor ac ymollwng. Os bydd crac neu bydrni yn moth yr olwyn, fel y gwyddoch, er fod cànt cryf amdano, ni wna llwyth trwm ddaioni yn y byd iddo. Yr un modd, er i chwi wybod fod dyn wedi cael cànt cryf gras amdano, os bydd crac yn ei garitor, ni wna swydd ond ychwanegu ei berygl. Aci mi ddyweyd fy mhrofiad fy hun i chwi, yr wyf yn credu fod tlodi, er nad yn anghymhwyder, yn anfantais fawr i ddyn fod yn flaenor. Nid all y blaenor tlawd annog i letygarwch a haelioni crefyddol fel y dymunai wneyd. Bydd raid iddo hefyd wrth ei swydd ymwneyd â llawer o arian perthynol i'r achos; ac y mae arian yn brofedigaeth i ddyn fydd mewn anghen Anhawdd ydyw i sach wâg sefyll yn unionsyth. Yr wyf fi, fel y gwyddoch, wedi gwrthod bob amser fod yn drysorydd i unrhyw fund. Os beunyddol. gellwch, dewiswch ddynion na bydd arian yn brofedigaeth iddynt. (Mr. Jones y shop yn chwys dyferol.) Os bydd pob peth arall yn cydfyned, da a fyddai i chwi gael dynion parod o ran dawn gweddi, a gallu i siarad yn gyhoeddus. (George Rhodric yn edrych i dop y capel.) Profedigaeth fawr llawer blaenor ydyw ei fod yn ddi-ddawn; oblegid bydd gwaith cyhoeddus yn fynych yn syrthio i'w ran pan fydd pawb eraill naill ai yn anmharod neu ynte yn anufudd. Mae o bwys i chwi hefyd, fy nghyfeillion, gael dynion ag y bydd eu cyd ymdeimlad yn ddwfn â'r pregethwr. Melldith i eglwys ydyw blaenor brwnt a phigog. Mae llawer oedfa wedi cael ei handwyo o herwydd ymddygiad anserchog ac oer y blaenor tuag at y pregethwr; ac, o'r ochr arall, y mae llawer pregethwr wedi cael iechyd i'w galon a chodiad i'w ysbryd mewn pum' mynyd o ymddyddan serchoglawn â'r blaenor cyn myned i'r capel. Ceisiwch, os gellwch, ddewis dynion y bydd eu hysbryd yn cydredeg âg yspryd y pregethwr, a'u calon yn llosgi am lwyddiant ei amcan mawr. Na ddiystyrwch ieuenctyd neb. Os ydych yn gweled yma ryw fachgenyn addawol, darllengar, a ffyddlawn, er nad oes ganddo ond dwy dorth a dau bysgodyn, na throwch ef o'r naill du oherwydd ei ieuenctyd. (Noah Rees yn rhoi ei ben i lawr.) Pan ddaw yr adeg i chwi ddewis, bydded i chwi, fy nghyfeillion, gael eich cynhyrfu oddiar gyd wybod i Dduw, ac nid oddiar amcanion hunanol a phersonol."

Aeth yr hen flaenor ymlaen yn y dull uchod am yspaid; ac ar y diwedd annogodd un o'r enw Peter Watcyn, yr hwn a gyfrifid ei fod yn deall Saesonaeg yn dda, i egluro i'r frawdoliaeth y drefn o ddewis swyddogion y penodasid arni gan y Corff, yr hwn a wnaeth gyda deheurwydd mawr. Yn yr eglurhad a roddwyd gan Watcyn, soniodd gryn lawer am y " balot," "y tugel," "y rhai presennol," "a'r rhai absennol," "dwy ran o dair," "a thair rhan o bedair," âc., yr hyn oll i Gwen Rolant, er clustfeinio ei goreu, oedd yn Roeg perffaith. Pa fodd bynag, wedi i ddau frawd ofyn cwestiwn a chael atebion boddhäol, terfynwyd y cyfarfod.

Ar y ffordd gartref dywedai George Rhodric fod yn hawdd iawn gweled at bwy yr oedd William Thomas yn naddu, a phwy oedd ei ddyn o. Dywedai Gwen Rolant ei bod hi yn ofni fod crefyddwyr yr oes hon yn myned i dir pell iawn. Pan oedd hi yn ieuanc, y ffordd y byddid yn dewis blaenoriaid oedd i ddau bregethwr, neu ynte bregethwr a blaenor ddyfod i'r seiat, ac i bawb fyned atynt, a dyweyd pwy oeddynt am ddewis; ond yrwan fod rhyw Balet yn dwad, pwy bynag oedd hwnw—yr oedd hi yn ofni oddiwrth ei enw ei fod yn perthyn rywbeth i Belial. Ac am y tiwgl yr oeddynt yn son am dano, yr oedd hi yn siwr mai Sais oedd hwnw, ac mai gwaith Peter Watcyn oedd ei gael yno, fel y cai o wybod pan nesa' y gwelai " Ni chymer'sai William Thomas lawer o hono ei hun," ychwanegai yr hen chwaer, " â nol Saeson yma, ac ni ddarfu o gymaint a henwi un o honynt y noson hono, yr hyn oedd yn dangos yn ddigon plaen mai gwaith Peter Watcyn oedd y cwbl."

Afreidiol ydyw dyweyd fod Gwen Rolant, pan hi o. ddaeth noswaith y dewisiad, wedi cael ei siomi o'r ochr oreu, ac na welodd ac na chlywodd, er chwilio a chlustfeinio ei goreu, yr un Sais yn y cyfarfod, ond yn hytrach pregethwr a blaenor. Y cyntaf a adwaenai yn dda, ac oedd anwyl iawn ganddi. Ac yr oedd Gwen druan yn diolch o'i chalon nad oedd crefyddwyr yr oes hon wedi myned i dir mor bell ag yr oedd hi wedi ofni.

Dewis Blaenoriaid

MOR chwithig a digrifol a fyddai clywed un yn anerch ei gyd-aelodau eglwysig ac yn rhoddi ei farn iddynt ar y Fugeiliaeth, Cronfa y Gweinidogion, Cyfansoddiad y Gymdeithasfa, achosion tramor y Cyfundeb, sef y cenadaethau, addysg y Colegau, rhyfeloedd cartrefol, a rhyfeloedd gydag enwadau eraill, gan addaw gwneyd hyn a'r llall os dewisid ef yn flaenor! Onid edrychid ar y fath un fel un hollol annheilwng o gael ei ddewis? Ac eto ni feddyliai neb synhwyrol am roddi ei bleidlais i ymgeisydd am eisteddle seneddol heb yn gyntaf gael gwybod ei opiniynau ar brif bynciau y dydd, a chael addewid ddifrifol ganddo y byddai iddo bleidleisio dros, o leiaf, y mwyafrif o'r mesurau hyny a gymeradwyir ganddo ef ei hun. Edrychir ar lafur ac ymdrech egnïol ymgeisydd am gynnrychiolaeth ei fwrdeisdref neu ei sir fel un rheswm ychwanegol at ei gymhwysderau personol dros wneyd pob peth a ellir o'i blaid; ac, yn wir, anaml y gall neb ennill zêl a brwdfrydedd yr etholwyr dros ei achos heb iddo ef ei hun yn gyntaf arddangos ymröad diflino ymhlaid ei ymgeisyddiaeth. Ond mor rhyfedd ydyw y ffaith mai càn gynted ag y dengys dyn ei fod yn awyddus am gael ei wneyd yn flaenor eglwysig, yr un foment fe'i teflir o'r neilldu gan ei gyd-aelodau, gan nad beth fyddont ei gymhwysderau personol. Yr hyn sydd yn fywyd ac yn gymhwysder anhebgorol bron mewn un amgylchiad, sydd yn farwolaeth ac yn ddinystr yn yr amgylchiad arall. Ymddengys, yn ol sefyllfa pethau, mai un o'r prif gymhwysderau mewn dyn tuag at fod yn flaenor ydyw, na freuddwydiodd ac na ddychymygodd erioed am yr anrhydedd,—leiaf nas amlygodd ei fod wedi breuddwydio neu ddychymygu am hyny. Gall un fod â'i lygad ar y swydd am flynyddau, ac wedi ymbarotoi yn ddyfal ar ei chyfer; ond os bydd yn gall ac yn meddwl llwyddo, rhaid iddo gadw ei gyfrinach i gyd iddo ef ei hun; oblegid i'r graddau yr amlyga i'r frawdoliaeth ei ddeisyfiad, i'r un graddau y bydd ei ragolygon yn lleihâu.

Beth all fod y rheswm am hyn, nid ydym yn cymeryd arnom fod yn alluog i ddyfalu. A oes mwy o jealousy ynglŷn â chrefydd nag â gwleidyddiaeth?

Byddai yn ddrwg genym orfod credu hyny. Gall rhywun awgrymu fod y gwahaniaeth rhwng un yn ceisio swydd eglwysig ac un yn ceisio eisteddle seneddol yn gorwedd yn natur y ddwy swydd: un yn ysbrydol, a'r llall o'r ddaear yn ddaearol. Ond, attolwg, beth a ddywedwn am un yn cynnyg ei hun yn bregethwr? Hyd y gwyddom ni, ni ddarfu i'r ffaith fod un yn cynnyg ei hun yn bregethwr beri i neb feddwl yn llai o hono, na bod yn un rhwystr iddo, os byddai pobpeth arall yn foddhäol. Ac onid ydyw yn bosibl i anghenrhaid gael ei osod ar ddyn, ac mai gwae iddo oni flaenora, yn gystal ag oni phregetha yr efengyl? Nid ydym yn anghofio y cymerir yn ganiatäol fod yr eglwys yn gwneyd ei dyledswydd trwy weddïo am gyfarwyddyd, a bod rhyw arweiniad Dwyfol i'w ddysgwyl ganddi er mwyn syrthio ar y dynion da eu gair. Ond ar yr un pryd nid allwn gau ein llygaid ar y ffaith fod llawer o gamgymeriadau yn cael eu gwneyd yn yr amgylchiadau hyn. Oni ddewisir dynion yn fynych yn flaenoriaid nad ŵyr yr eglwys nemawr am eu golygiadau ar y pynciau y teimlir y dyddordeb mwyaf ynddynt? Onid oes amryw wedi iddynt fod am ychydig amser yn y swydd, a chael cyfleusdra i egluro beth oeddynt, yn dangos yn rhy amlwg nad ydynt yn cynnrychioli teimladau na syniadau yr eglwys y maent yn arweinwyr proffesedig iddi? Ac onid oes eraill yn amlygu mai pwynt uchaf eu gweithgarwch gyda symudiadau pwysicaf yr eglwys ydyw bod yn oddefol—bod yn ôloriaid? Ac eto parhant yn eu swydd, os bydd eu cymeriad yn weddol ddilychwin, hyd nes y lluddir hwynt gan farwolaeth. Cofier mai son yr ydym am eithriadau; ond ceir hwynt yn eithriadau lled fynych ymhlith ein brodyr y blaenoriaid. Y maent fel dosbarth yn ddynion grasol, galluog, a rhyddfrydig; ond i'n tyb ni, y mae yn hen bryd i ni gael rhyw ddyfais i symud o'r ffordd у dos barth hwnw sydd yn rhwystr i lwyddiant crefydd, ac yn fagl ar bob symudiad daionus ynglŷn â'r eglwys y maent yn swyddogion iddi.

Son yr oeddym am aelod yn syrthio allan o ffafr yr eglwys wrth arddangos awydd am gael ei wneyd yn flaenor. Mae yn ddiammheuol fod rhyw reswm i'w roddi am hyn pe gellid dyfod o hyd iddo, ac mai fel y mae pethau y maent oreu. Hwyrach mai rhywbeth i'w ddarganfod gan eraill, ac nid gan y dyn ei hun, ydyw y cymhwysder i fod yn flaenor. Yr ydym yn tueddu i feddwl fel hyn wrth ddychymygu atebiad un a fyddai wedi ei ddewis i fod yn flaenor pan ofynid y cwestiwn iddo yn y Cyfarfod Misol, "Beth ydyw eich teimlad gyda golwg ar waith yr eglwys yn eich galw i fod yn flaenor iddi? " Pe yr atebai, " Wel, yn wir, yr wyf yn meddwl fod yr eglwys wedi gwneyd yn gall iawn. Yr oedd arnaf chwant mawr er ys blynyddoedd am gael bod yn flaenor, ac yr wyf yn meddwl y gallaf wneyd un rhagorol, ac y bydd yr eglwys ar ei mantais yn fawr iawn o herwydd y dewisiad hwn, "—oni chreai hyn gyffro? ac onid elwid pwyllgor ynghyd ar unwaith i ystyried achos y brawd gonest?

Er nad oes gysylltiad uniongyrchol rhwng y sylwadau uchod â dewisiad blaenoriaid "capel William Thomas," fel y gelwid ef gan blant y gymydogaeth; hyny, pa fodd bynag, fu yr achlysur i ni eu hysgrifenu. Yr oedd pob lle i feddwl fod yr eglwys wedi gwrandaw i bwrpas ar gynghorion William Thomas, ac edrychid ar yr amgylchiad fel un o'r pwysigrwydd mwyaf. Ni chollodd George Rhodric o Bant y Draenog yr un cyfleusdra i awgrymu ei gymhwysder diammheuol ei hun i'r swydd. Gyda y rhai a ystyriai fel ei edmygwyr, ni phetrusai siarad yn eglur; ond gydag eraill nad oeddynt mor iach yn y ffydd ddraenogaidd, boddlonai ar arddangos cymaint o garedigrwydd ag a fedrai, a mwy o grefyddolder nag a feddai. Sylwyd hefyd gan y craff fod Siôr, heblaw dyfod yn gyson a difwlch i foddion gras, yn ymddangos yn eu mwynhâu tu hwnt i bobpeth, yn gymaint felly nes cynnyrchu rhyw ledneisrwydd caruaidd yn ei ysbryd, yr hwn a ymweithiai hyd i flaenau ei fysedd, ac na fyddai foddlawn heb gael ysgwyd dwylaw a phôb cyflawn aelod, agos, wrth ddyfod allan o'r capel. Deuddydd cyn y dewisiad, yr oedd ei ragolygon mor obeithiol fel y synwyd ei brentis gan ei yınddangosiad siriol. Cyn i'r prentis gael dechre gweithio ar ol brecwest, dywedai ei feistr wrtho, "Bob, f'aset ti'n leicio cael walk heddyw bore?" "B'aswn i wir, syr," ebe Bob. Wel, dydi hi ddim ond pedair milldir o ffordd. Cymer y ddeunaw 'ma, a cher' i shop Mr Pugh y printer, a gofyn am y Dyddiadur gore—un deunaw, cofia. Paid a chymryd arnat i bwy mae o."

"O'r gore, syr; dyddiadur 'gethwr ydach chi'n feddwl ynte, a lastic arno fo? " "Un deunaw yr ydw i'n deyd i ti. Paid a bod yn hir."

Yr oedd Bob yn meddu mwy o gyfrwysdra a chraffder nag a roddid credyd iddo gan Rhodric; ac nid cynt yr oedd allan o olwg ei feistr nag y dechreuai ysgrwtian a chodi ei ysgwydd chwith gan wincian yn gyfrwysddrwg a'i ddau lygad bob yn ail, a siarad âg ef ei hun, "Wel, yr hen law, mi all'sech ch'i safio y ddeunaw 'ma, 'dwy'n meddwl, os ydi'n nhad yn gw'bod rh'wbeth. Y ch'i yn flaenor, wir! Mi fyddwch yn o hen.! "Gwnaeth Bob ei neges yn rhagorol ac mewn byr amser; a phan ddychwelodd, cafodd ei feistr yn ei ddysgwyl, ac wedi llwytho ei bibell ond heb ei thanio—nid ei getyn a arferai wrth ei waith, ond ei bibell hir yr hon a arferai yn unig ar achlysuron neillduol. Gofynoid, "Gês ti o, Bob?"

"Do, syr."

"Ddaru Mr. Pugh ofyn i ti i bwy yr oedd o?"

"Naddo, syr, ond ddyliwn y fod o'n dallt," ebe Bob, yn anwyliadwrus.

"Dallt bybe?" ebe ei feistr.

"Dallt fod rhwfun eisio gweld hanes у ffeirie a phethe felly," ebe Bob, gan osgoi y cwestiwn.

"Ho!" ebe Rhodric.

Cymerodd y dilledydd gader a gosododd hi o flaen y tân. Eisteddodd i lawr yn bwyllog; gosododd ei draed un ar bob pentan; taniodd ei bibell, trôdd ddalenau y Dyddiadur yn hamddenol nes dyfod at restr pregethwyr ei sir; ac yna safodd—sefydlodd ei hun i lawr yn ei gader, cymerodd sugndyniad neu ddau lled nerthol o'r bibell i sicrhâu fod yno dân, a chymerodd y pwyntil allan o'i logell. Yr oedd Bob, er yn cymeryd arno fyned ymlaen hefo ei waith, yn ei wylio yn ddyfal, a malais yn chwareu yn nghonglau ei lygaid, tra y clywai ei feistr yn siarad âg ef ei hun:

"Wel, ddoi di ddim yma eto; na thithe; unwaith yn y flwyddyn yn ddigon i tithe; unwaith bob dwy flynedd yn hen ddigon iddo fo," &c. Wedi dyhysbyddu y rhestr, a phenderfynu tynged pob un, dywedai Meistr Rhodric yn y man,

"Bob, sut y mae dy dad yn meddwl y troith hi nos Iau? "

"Mae o yn meddwl y caiff Mr. Jones ei ddewis, syr," ebe Bob.

"Purion; pwy arall? " "Dydi o ddim yn siŵr am neb arall, syr."

"Chlywest ti mono fo yn deyd dim byd am dana i? "

"Daeth y cwestiwn hwn mor sydyn ar Bob, druan, fel na wyddai yn iawn sut i'w ateb a chadw y ddysg! yn wastad.

"Tyr'd, tyr'd, y machgen i, paid ofni deyd y gwir."

Wel, mi clywes o yn deyd rhwbeth, syr."

"Deyd beth? allan a fo, Bob." "Yr oedd o yn deyd ei fod yn meddwl ych bod chi—dwi ddim yn leicio deyd, syr. "

"Paid ofni deyd y gwir."

"Wel, yr oedd o yn deyd ei fod yn meddwl ych bod ch'i yn y nghadw i yn rhy glòs!

"Ho, ai dyne'r cwbl," ebe Rhodric yn siomedigaethus, a dilynwyd hyn â dystawrwydd megys yspaid haner awr. Pan oedd Bob yn myned i'w ginio, dywedai ei feistr wrtho,

"Bob, 'does yma ddim rhyw lawer o daro heddyw p'nawn, ac mi elli gymryd hanner gŵyl os leici di, â fory hefyd ran hyny os oes gan dy dad rywbeth i ti i neyd."

Thenciw, syr," ebe Bob, wedi ennill ei bwynt tu hwnt i'w ddysgwyliad; a'i feistr o'r ochr arall yn tybied ei fod wedi gwneyd good stroke of policy.

Hyfrydwch o'r mwyaf bob amser oedd gan Mrs. Jones y shop groesawu a llettya pawb a fyddent yn dwyn cysylltiad uniongyrchol â'r achos; ac nid ydyw ond gonestrwydd ynom i ddyweyd fod ei sirioldeb a'i chroesaw wedi cyrhaedd eu pwynt uchaf pan dderbyniodd hi y cenadon dros y Cyfarfod Misol oddeutu awr cyn yr adeg yr oeddynt i fyned i'r cyfarfod eglwysig i ddewis blaenoriaid. Yr oedd Mrs. Jones yn dra naturiol yn ystyried fod y diwrnod wedi dyfod, yr hwn a ddylasai fod wedi dyfod yn llawer cynt, i osod yr anrhydedd hwnw ' ar ei gŵr, yr hwn o bawb, fel y credai hi, oedd yn ei deilyngu fwyaf. Yr oedd yr hyfrydwch yr oedd hi yn ei deimlo am fod y diwrnod wedi dyfod o'r diwedd, i'w ganfod yn ei holl ysgogiadau, ac i'w weled a'i brofi yn y tê a'r danteithion a osodid o flaen y brodyr dyeithr. Ond yn hollol fel arall y teimlai Mr. Jones. Ni fu gas ganddo erioed o'r blaen weled na phregethwr na blaenor yn dyfod i'w dŷ; ac achlysur eu dyfodiad yn unig a barai iddo edrych arnynt felly y tro hwn. Yr oedd golwg ysmala arno y noson hono. Ni fedrai eistedd yn llonydd am fynyd. Cerddai yn ol a blaen, i mewn ac allan, fel pe buasai yn chwilio am rywbeth ac na wyddai beth oedd. Ceisiodd wneyd pob esgus a chreu pob rhwystr, rhag myned i'r capel y noson hono, ond yn aflwyddianus. Buasai yn dda ganddo glywed fod anghaffael ar y ceffyl, neu ryw anhwyldeb ar y fuwch, neu ynte weled trafaeliwr yn dyfod i'r shop y buasai yn rhaid iddo aros gydag ef. Ond yr oedd ei holl ddymuniadau yn ofer, a bu raid iddo fyned i'r capel gyda y cenadon. Nid oedd ei sefyllfa ronyn gwell wedi iddo fyned i'r capel. Teimlai boethder annyoddefol yn ei ben, a rhyw anesmwythder mawr yn ei du mewn, yn enwedig yn nghymydogaeth ei galon. Meddyliodd fwy nag unwaith ei fod wedi cael clefyd, a phenderfynodd lawer gwaith fyned allan; ond er hyny arosodd yn yr un fan. Ni welodd erioed gyfarfod mor faith, ac ychydig, os dim, a wyddai beth a ddywedid yno.

Yr oedd y cyfarfod yn un neillduol o liosog. Yr oedd yno rai na welwyd yn y seiat ganol yr wythnos er ys blynyddau, ac amryw na wyddid yn iawn a oeddynt yn aelodau ai peidio, yn awr yn profi eu haelodaeth. Ni chymerodd dim neillduol le oddigerth gwaith Gwen Rolant yn mynu cael dyweyd yn hytrach nag ysgrifenu i bwy yr oedd hi yn votio, yr hyn a wnaeth mewn llais lled uchel. Hysbyswyd gan y cenadon, er fod deg wedi cael eu henwi, mai tri oeddynt wedi cael y nifer angenrheidiol o bleidleisiau, sef Mr. Jones y shop, Mr. Peter Watcyn, a Mr. James Humphreys. Yr oedd William Thomas yn eistedd yn nghongl y sêdd fawr â'i ben patriarchaidd yn pwyso ar ei law. Ar dderbyniad y newydd, cauodd ei lygaid ac ymdaenai diolchgarwch dros ei wyneb, fel pe buasai yn dyweyd, " Yr awrhon, Arglwydd, y gollyngi dy was," âc. Yr oedd yno wyneb arall yn y gynnull eidfa ag oedd yn ffurfio gwrthgyferbyniad hollol i wyneb William Thomas, a'r wyneb hwnw oedd yr eiddo George Rhodric!

Y Blacnoriaid newydd yn y Glorian.

A DDEWISWYD blaenoriaid erioed ag oeddynt wrth fodd calon pawb? Na, yr ydym yn tybied fod hyny hyd yn hyn heb gymeryd lle. Naill ai y mae y blaenor newydd yn rhy hen neu yn rhy ieuanc,—yn rhy gyfoethog neu yn rhy dlawd,—yn rhy flaenllaw neu yn rhy lwfr. Pa fodd bynag, mae yn gysur i bob blaenor newydd-ddewisedig, fod y mwyafrif o'i gyd-aelodau eglwysig yn ei ystyried yn ŵr cymhwys i'r swydd, gan nad beth fyddo ei olygiadau ef am dano ei hun. Gellir dyweyd na ddewiswyd blaenoriaid erioed gyda mwy o unfrydedd na blaenoriaid capel William Thomas; ond wrth ddyweyd hyn nid ydym am i neb feddwl nad oedd yno rai yn edrych arnynt gydag anfoddlonrwydd mawr.

Ni fu erioed dri gŵr mor wahanol i'w gilydd o ran cymeriadau â Mr. Jones y shop, Peter Watcyn, a James Humphreys, er y rhaid fod ynddynt rywbeth cydnaws a thebyg, ac onidê ni ddewisasid hwynt, tybed, gan yr un corff o bobl. Yr oedd Mr. Jones yn ŵr hynaws a bywiog, ac yn meddu ar gryn lawer o adnabyddiaeth o'r byd, yn dda arno o ran ei amgylchiadau, yn haelfrydig yn ei roddion, ac yn llawn awydd i wneuthur daioni; ond eto yr oedd rhyw ledneisrwydd ynddo ag oedd yn ei gadw yn ol oddiwrth bethau cyhoeddus i raddau mawr. Dyn yr un drychfeddwl ydoedd Peter Watcyn. Fel y dywedwyd o'r blaen, yr oedd efe yn cael y gair ei fod yn deall Saesoneg yn dda, ac yn gwybod y gwybodaethau tu hwnt i'w gyfoedion. Ond pwnc mawr Peter Watcyn oedd canu; ac yr oedd cerddoriaeth wedi cymeryd cymaint o'i fryd fel nad allai edrych ar ddim bron ond trwy farrau yr erwydd, na rhoddi ei farn ar ddim ond wrth sŵn y pitchfork. Ymha le bynag y gwelem ef, pa un ai ar yr heol, neu yn ei dŷ ei hun, neu yn y capel, yr oedd y geiriau "Hen Nodiant" a "Tonic Sol-ffa " yn dyfod i'n meddwl er ein gwaethaf. Heb i ni mewn un modd amcanu gwneuthur cam âg ef, yr ydym yn meddwl y cafodd llawer pregethwr le cryf i gredu fod Peter yn cael mwy o bleser yn Llyfr Ieuan Gwyllt nag yn y bregeth, ië nag hyd yn nod yn y Bibl ar y pryd. Gwr diddysg, hywaeth a diniwed, ydoedd James Humphreys, ac mewn gwth o oedran. Gloŵr ydoedd wrth ei alwedigaeth; a bu raid iddo ddisgyn i waelod y pwll glo cyn derbyn dim addysg ond a gawsai yn yr Ysgol Sabbothol. Càn gynted ag y cafodd fyn'd ar ei "bige," ys dywed y glowyr, priododd, a bendithiwyd ef âg amryw o blant, y rhai, yn ol ei allu, a ddygodd i fyny yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Yr oedd galluoedd ei feddwl mor fychain, yn enwedig yn ei olwg ei hun, fel mai anfynych yr anturiai ddyweyd ei farn ar unrhyw bwnc. Ni byddai byth yn cymeryd gafael mewn newyddiadur; ac anfynych yr edrychai ar unrhyw lyfr oddieithr y Bibl, Esboniad James Hughes, a Geiriadur Charles. Yr oedd ei ffydd yn y natur ddynol yn ymylu bron ar blentynrwydd, a buasai agos can hawsed i ddyhiryn ei dwyllo â thwyllo baban. Yr oedd James Humphreys yn un o'r dynion hyny sydd yn peri i un feddwl na wyddant ddim am lygredigaeth y natur ddynol, oni bae eu bod hwy eu hunain yn cwyno yn barhâus o'i herwydd. Yr oedd ei holl fyd yn gynnwysedig yn eu deulu, y gwaith glo, a'r capel; ac o angenrheidrwydd yr oedd ei wybodaeth yn gyfyngedig iawn. Ac eto pan âi James Humphreys ar ei liniau, yr oeddym yn gorfod teimlo ein hunain yn fychain a llygredig yn ei ymyl, a'i fod yn meddu yr allwedd a allai agor dôr y byd ysbrydol. O ddyn dedwydd! pa sawl gwaith y buom yn cenfigenu wrthyt? Ar nos Sadwrn, yn dy fwtri dlawd, pan ymolchit ac y glanheid dy hun oddiwrth barddu a baw y pwll glo, yr oeddit ar yr un pryd yn golchi ymaith olion yr wythnos a gofalon y byd oddiar dy feddwl, a'th ysbryd yn ymadnewyddu ac yn dyheu am y Sabboth, yr hwn a wnaethpwyd er mwyn dyn? Os gwael ac anfedrus a fyddai y pregethwr, pa wahaniaeth a wnai hyny i James Humphreys? Yr oedd ei ystymog ysbrydol â'r fath awch arni fel y byddai yr ymborth mwyaf cyffredin yn flasus ac yn ddanteithiol ganddo. Nid oedd na shop, na fferm, na bargeinion, un amser yn croesi ei feddwl, nac yn rhwystro iddo wrandaw ar bob gair a ddeuai allan o enau y pregethwr. Ammheuon! ni wyddai efe beth oedd y rhai hyny. Yr oedd ei feddwl yn rhy fychan i ganfod anghysondeb, a'i galon yn rhy lawn o gariad i roddi lle i'r posibl rwydd o hono! Tra yr oedd rhai yn rhy fydol eu meddyliau, ac eraill yn rhy ddifater, ac eraill yn rhy feirniadol, i allu mwynhâu y bregeth, byddai efe yn ei bwyta gyda blas, ac yn myned allan o'r addoldy ar ben ei ddigon. Yn yr Ysgol Sabbothol, drachefn, tra yr oedd eraill yn pendroni ynghylch hanes y seren a ymddangosodd yn y dwyrain, yr oedd efe yn cyflwyno anrhegion o flaen y Mab Bychan, fel ei aur, ei thus, a'i fyrr. Tybygem nas treuliodd efe awr erioed mewn gwagfeddyliau uchelgeisiol; a phan glywodd efe y cenadon dros y Cyfarfod Misol yn cyhoeddi ei fod wedi cael ei ddewis yn flaenor, pa ryfedd iddo ymddangos fel pe buasai wedi ei daro â mellten, ac iddo fethu a chysgu y noson hono, ac mai hon ydoedd y noswaith fwyaf anhapus yn hanes ei fywyd? Ar ei ffordd gartref o'r cyfarfod eglwysig, dywedai Gwen Rolant wrth Rhodric, " Wel, George, a ge'st ti dy blesio heno? Naddo, mi dy wranta, ne y mae yn od iawn gen'i." "Yr ydach chi yn gofyn ac yn ateb, " ebe George; " ond am unwaith, beth bynag, yr ydach chi'n ateb yn iawn. Dydw iddim am ragrithio, naddo; chês i mo mhlesio; a waeth gen i pwy gŵyr o. Mae peth' fel hyn yn ddigon a gneyd dyn nad a'i o byth yn agos atyn' nhw. I fod yn flaenor y dyddie yma, rhaid i ddyn fod yn gyfoethog neu yn ddwl; a dydi o ddim ods p'run am wn i. Mae yn dda gen' i nad ydw i yr un o'r ddau. Mae dynion galluog a thalentog, sydd wedi bod yn llafurio ar hyd eu hoes gyda'r achos, yn cael eu taflu o'r naill du rwan; ac un yn cael ei ddewis am fod gyno fo shop, a'r llall yn cael ei ddewis am ei fod o yn debyg i'w nain, a'r trydydd am i fod o yn wyneb galed."

"Aros! aros! George," ebe'r hen wreigan, "paid ti siarad yn rhy ffast. Yr wyt ti yn myn'd ymlaen yn debyg iawn i ddyn wedi cael ei siomi; ac mae gen'i ofn nad wyt ti ddim mewn ysbryd priodol."

"Y fi fy siomi;" ebe Rhodric," mi fase'n o ffiaidd gen'i."

"Wn i p'run am hyny," ebe Gwen; " yr wyt yn cofio stori'r llwynog a'r grawnwin yn well na fi. A pheth arall, pan wela i ddyn yn gneyd ei hun yn o amlwg o flaen amser dewis blaenoriaid, ac yn prynu Dyddiadur, a phethe felly, mi fydda i'n meddwl yr adeg hono fod ei lygad o tua'r sêt fawr. (Edrychodd George arni gyda syndod, ac aeth Gwen ymlaen.) Ac am fod yn gyfoethog, mi faset tithe mor gyfoethog â Mr. Jones, dase ti'n medryd, mi dy wranta di. Ac am fod yn debyg i'r nain, mi fase'n dda i lawer fod yn debycach i'w nhain; mi fase gwell graen ar eu crefydd nhw, a rhwbeth fase'n 'u cadw nhw o'r tafarnau. Mi wyddost, George, nad oes dim blew ar y nhafod i, a fedra i ddim dyodde i ti redeg y blaenoriaid newydd i lawr. 'Dwyt ti ddim yn deilwng, wel di, i glymu esgid Mr. Jones fel dyn na christion; ac am James Humphreys, os ydi o'n ddiniwed ac yn ddiddysg, fel fy hunan, mae gyno fo grefydd y bydde'n dda i ti gael marw yn ei chysgod. Ond ddaru minnau, yn wirionedd, ddim votio i Pitar; ac wn i ddim be naeth i'r eglwys ei ddewis o. Mae'r bachgen wedi mwydro'i ben hefo'r canu 'ma, fel na wn i ddim beth i feddwl o hono fo. Pan oeddwn i yn ifanc, cyfarfod gweddi fydde gyno ni am bump o'r gloch p'nawn Sul, i ofyn am fendith ar yr odfa; ond yrwan rhyw 'do, do, sol' sydd gan Pitar a'i griw o flaen yr odfa; ac mae'n anodd gen'i gredu fod y Brenin Mawr yn fwy parod i wrando ar y.'do, do, sol' ma nag ar ddyn ar ei linie. A chyn i Pitar a'i sort gymeryd y canu, un pennill fydde ni'n ganu, a hwnw lawer gwaith drosodd, pan ddoe'r hwyl; ond yrwan, dyn a'm helpio, rhaid canu yr hymn ar ei hyd, a hyny cyn chwyrned a'r gwynt, na wyr neb be mae nhw'n ganu. Chawn ni byth ddiwygiad crefyddol, goelia i, tra bydd yr hen 'do, do, sol' ma'n cael ei rygnu. Ond dydi'r bachgen ond ifanc eto, a 'rydw' i'n gobeithio y caiff o ras i ymgroesi. Pe cae ni un o'r hen ddiwygiadau anwyl eto, ac iddo gael trochfa go lew, mi wranta i y tafle fo 'i 'do, do, Sol' i'r tân, ag y bydde'n dda ganddo gael canu yr un pennill ganwaith drosodd."

"Wel,' ebe Rhodric, " mi wela, Gwen Rolant, nad ydach chithe ddim wedi'ch plesio'n hollol; ac er y mod i'n 'styried Peter yn ddyn hollol annheilwng i fod yn flaenor, fedra i ddim cydweled â chi ynghylch y Tonic Sol-Ffa. Mae Peter wedi gneyd lles mawr i'r canu. Mae yr oes wedi newid er pan oeddach chi'n ifanc, a rhaid myn'd i ganlyn yr oes. Ac am y peth a alwch yn ddiwygiad, pe dae chi byw am gan' mlynedd, chae chi byth weld pobl yn neidio ac yn gwaeddi fel er stalwm pan oedd y wlad mewn anwybodaeth. Mae pethe wedi newid yn fawr er hyny, a wiw i chi ddysgwyl am beth felly eto."

"Be wyt ti'n ddeyd, George?" ebe yr hen chwaer yn gynhyrfus, gan sefyll ar ganol y ffordd, a chodi ei ffon fel pe buasai ar fedr ei daro. "Be wyt ti'n ddeyd? na wiw i mi ddim meddwl am gael diwygiad! Wyt ti'n gwirioni, dywed? Gwir a dd'wedaist, ysywaeth, fod yr oes wedi newid. Mae pobl yrwan yn meddwl mwy am wisgoedd a chrandrwydd nag am wledd i'r enaid. A be wyt ti'n son fod yr oes o'r blaen yn anwybodus? yr oes hon sy'n anwybodus. Yn fy amser i, 'doedd eisio na Llyfr Hymns na 'Fforddwr gyno ni yn y capel, ond pawb yn 'u medryd nhw ar 'u tafod leferydd. Ond yrwan wrth adrodd y 'Fforddwr, rhaid i bawb gael llyfr o'i flaen, ne mi fydd yn stop buan, mi wranta; a phe bae pregethwr ddim ond yn rhoi allan yr hen bennill, "Dyma Geidwad i'r colledig, mi geit weld ugeiniau yn sisial yn nglustiau 'u gilydd, "W'at pêds? w'at pêds? " hefo'u hen Sasneg. Ydi, mae'r oes wedi newid; ond wyt ti'n meddwl fod Duw wedi newid? 'Iesu Grist, ddoe, heddyw, yr un ac yn dragywydd.' Ddysgest ti erioed mo'r adnod anwyl ene, dywed? Wyt ti'n meddwl mai Duw yn troi i ga'lyn y ffasiwn ydi'n Duw ni? Ni fyrhäodd braich yr Arglwydd fel nad allo achub, ni thrymhäodd ei glust fel na allo glywed; a phan ddêl, efe a argyhoedda y byd o bechod, o gyfiawnder, ac o farn. A phe caet ti, George, weled diwygiad tebyg i'r un a welodd William Thomas a fine, mi neidiet tithe lathen oddiwrth y ddaear, er mor afrosgo wyt ti, ac er balched ydi dy galon.

O na ddeuai'r hên awelon,
Megys yn y dyddiau gynt.'

lë, mi âf trosto fo eto er gwaetha dy "do, do, sol," ebe yr hen wraig zelog, gan ganu nerth ei phen; ac yn canu y gadawodd Rhodric hi. Ond nid oedd dim ysbryd canu yn George Rhodric ei hun; ond yn galon—drom, bendrist, â gwyneb sur a sarug, yr aeth efe i'w dŷ. Pa fodd bynag, heblaw canu Gwen Rolant, rhyw lanco rigymwr siriol ddireidus, a ganodd y noson hono fel hyn:—

George Rhodric, druan, fynai fyn'd i'r top;
Ow! er ei siomiant, rhoddwyd arno stop!
Ond Jones a James a geid o isel fryd,
I fyny â hwy! pleidleisiem bawb i gyd;


A Peter Watcyn, zelog gyda'r mawl,
I fyn'd yn uwch ennillai yntau'r hawl;
O Siorsyn, dysg dy wers: dôs, dos i lawr
Cân yn lle beio—felly doi di'n fawr.

Y Parch. Richard Owen,
Y Diwygiwr

Ah! pa was teilwng o'r Apostolion!
Dyma "Olyniad" i'w deimlo'n union!
Arweinia feddwl yr anufuddion
Garw a difraw i guro dwyfron!
O hynaws awel! o enau Seion
Ceir Haleliwia!—ceir "hwyl" alawon!
Hyfrydlais yr afradlon—leinw'r wlad,
A sain adfywiad yw swŷn odfeuon.

Hiraethgan:

Ar ol y diweddar Barch. John Evans, Croesoswallt,
(Gynt o Garston.)

NID dagrau benthyg, nid och'neidiau pryn,
Offrymir ar dy fedd, fy nghyfaill cu;
Fy hiraeth heddyw yn ddigymhell fyn
Gysgodi'th lannerch fel yr ywen ddu,
Gauadfrig, drist; mewn oerni, ac mewn gwrês,
Yr un yw hi; claer belydr haul y dydd,
Un wedd a'r lwydlas loer, ni thraidd yn nês
I waelod tristwch dwfn ei chalon brudd.

'Rwyt wedi myn'd—neu fel y dwêd y byd
'Rwyt wedi marw; ac ni wyddwn i
Cyn hyny pa mor dýn ymgenglai 'nghyd
Hir wydnion wreiddiau'n cyfeillgarwch ni:
Ysgytiad aruthr gês! ac angeu glâs
A chwarddai'n oeraidd wawdlyd am fy mhen;
Fel chwardd y ffyrnig storm ei chrechwen gras
Ar rwygiad daear werdd pan syrth y pren.


Nid cartref, ond athrofa ydyw'r byd;
Anfonwyd dithau yma gan dy Dad
I ddysgu meddwl, siarad, a rhoi 'nghyd
Feddyliau Duw yn ngeiriau'r nefol wlad:
Y Bibl oedd dy lyfr; a'i wersi fu
Yn fwyd a diod iti nos a dydd;
Dy lechen ydoedd calon Cymru gu,
Dy bensil—iaith yr hen Frythoniaid rhydd!

Dy gyd—efrydwyr yn yr Ysgol Fawr
Yn llu edmygol o dy gylch a gaid,
Yn gwylio'th symudiadau bob yr awr,
Tra gwers ar wers a ddysgit yn ddibaid;
Eu serch oedd gynhes atat, a'u mwynhad
Digymysg oedd d'anwylo yn eu côl;
Ond Och! daeth gwŷs ar frys o dŷ dy Dad
Yn galw am danat adref yn dy ol!

Ni chanaf alar—nad i ti, fy ffrynd;
I'r aflan, pwdr, llygredig, gwneler hyn:
A'r bydol ddyn truenus orfydd fyn'd
A gadael ei bleserau yn y glýn,
Ni chanaf chwaith am wobr, pe hyny wnawn
Cynhyrfai d'esgyrn yn dy dawel fedd!
Ni feiddiwn yn dy wyneb dremio'n llawn,
Pan gwrddwn fry, heb g'wilydd ar fy ngwedd!


Fy odlau nyddir gan fy adgof prudd,
Yn 'stafell wâg fy nghalon, lanwet ti
A'th gyfeillgarwch didwyll yn dy ddydd
Ond sydd yn awr yn wâg ac oer i mi!
A'm cân gaiff fod yn gân o beraidd glôd
Yn gymysgiedig gyda hiraeth dŵys:
O glod—i'th fuchedd bur, a'th gywir nod:
O hiraeth—am dy roddi dan y gŵys.

Gwir blentyn natur oeddit ti erioed:
Ei hunan welai ynot fel mewn drych;
Arddelai ei pherthynas o dy droed
Hyd at dy rudd, a'th wallt cydynog, crych:
Hi oedd dy fam a'th fammaeth trwy dy oes,
A Rhodres falch, gymhengar, ni cha'dd ddod
A'i throed o fewn ei thợ i ddysgu moes
I'w bachgen, nac i osod arno 'i nôd.

Dy gynnysgaethu wnaeth â synwyr cryf;
A chalon dyner, eang, onest, lân;
A meddwl mawr, ymchwilgar, beiddgar, hŷf,
Ac ysbryd anturiaethus llawn o dân:
Gwir anhebgorion y ddynoliaeth lawn,
A dodrefn gloewon cyfeillgarwch pur
I'th ofal roes, a thithau'n brydferth iawn
A'u cedwaist mewn ffyddlondeb fel y dur.


Rhagluniaeth ddoeth ofalodd wneyd dy le
Yn nghanol gwerin bobl isel fryd
Hen Gynwyd lonydd—pell o sŵn y dre,
A themtasiwnau gwychder, balchder, byd.
Ddihalog ardal! Natur yno sydd
Mewn dwfn dawelwch yn mwynhâu ei hun
Fel bardd breuddwydiol newydd dd'od yn rhydd
O rwymau'r ddinas, ac o ddwndwr dyn!

Dy faboed dreuliaist yn y lannerch hon,
Mewn diniweidrwydd anwybodol mwyn;
Heb bryder blin na gofal dan dy fron
Yn lolian gyda'r aber glir a'r llwyn;
Y llwyn o hyd a dyfai'n nes i'r nef;
A'r aber glir wrth fyned yn ei blaen
Ymledai, chwyddai hyd yn afon gref,
Gan godi teyrnged drom ar ddôl a gwaen.

Ac felly tithau;—dyheuadau brwd
Dy fynwes ieuanc cryfach aent o hyd;
Ac yn eu llwybrau difent lwch a rhwd
Adawyd gan segurwyr yn y byd:
Anniwall syched, ac angerddol aidd,
Am wir wybodaeth, daniai'th fron ddi-frâd,
Pob anhawsderau losgit hyd eu gwraidd,
Eu cur wrthodit—mynit eu lleshâd.


Efengyl ddiwair—harddaf ferch y nef
A'th welodd yn mhrydferthwch teg dy foes
Yn chwilio'r gair a'i "ddyfnion bethau Ef,"
Yn ddysgybl addolgar wrth y groes;
A'th garu wnaeth â chariad dwfn di-làn
A lifrai'r nef a roes am danat ti,
A'r byd a'th adnabyddai yn mhob man,
Gan bwyntio atat fel ei ffafryn hi!

Yn ymwybodol o'th annrhaethol fraint,
Ymdrwsit mewn cyfiawnder, gobaith, ffydd
Ddihalogedig brydferth wisg y saint
Ni chyll ei chotwm yn yr olaf ddydd!
Dy uchel nôd oedd gwasanaethu Duw
Drwy ymgeleddu pechaduriaid trist:
Yr hyn bregethit hyny a wnait fyw
Holl ddigonolrwydd cariad Iesu Grist.

Ac fel dy Feistr—purdeb clir dy foes,
Nid oedd wrthyrol gan fursendod llym:
Yn hytrach tynai fel y Ddwyfol Groes
Bawb ato 'i hun ag anorchfygol rym!
A'r mwya'i fai dderbyniai fwyaf llês,
Os unwaith deuai i dy gwmni di,
A theimlai wrth fyn'd adre' i fod yn nês
At Dduw, at Grist, at farw Calfari,


Eisteddais wrth dy ochr lawer awr
Ar fainc y Coleg, ddyddiau hapus gynt,
Pan oedd hoenusrwydd ysbryd yn rhoi gwawr.
Ar ein breuddwydion—aethant gyda'r gwynt!
Pa le mae'r bechgyn oeddynt gylch y bwrdd?
Rhai yma, a rhai acw,—rhai 'n y ne':
A gawn ni eto gyda'n gilydd gwrdd,
Heb neb ar ol—heb neb yn wâg ei le?

Coll gwynfa ydoedd colli'r dyddiau pan
Gydrodiem hyd ymylon Tegid hen,
Cyn i'w ramantus gysegredig làn
Gael ei halogi'n hagr gan y trên!
Er byw yn fain, fel " hen geffylau Rice,"[2]
Ein calon oedd yn hoew ac yn llon:
Pwy feddyliasai, dywed, ar ein llais,
Mor weigion oedd ein pyrsau'r adeg hon!

Ah, gyfaill hoff! ychydig wyddem ni
Pryd hwnw, pan agorid cîl hen ddôr
Chwareudy bywyd, beth oedd gan ein Rhi
Lawr a'r ei Raglen ini mewn ystôr!
Mi wn i rywbeth am helbulon byd,
A siomiant bywyd—geudeb, gwagedd dyn;
Ond gwyddost di beth ydyw myn'd ar hyd
Oer risau angeu ar dy ben dy hun!


Na, nid dy hunan chwaith: r'oedd yno Un
Ffyddlonach wrth dy ochr na dy wraig;
Cymerodd dy ofidiau arno'i hun,
Gan osod dy gerddediad ar y graig:
Mewn bywyd, ac mewn iechyd d'arwain wnai;
A phan êst di i d'wll'wch tew y glýn
O olwg dy gyfeillion, gwyddem mai
Efe oedd dy arweinydd y pryd hyn.

Tri chwarter diwrnod gefaist yn y gwaith
Ti "roddaist heibio" 'n gynnar y prydnawn:
Ond Llyfr y Cyfrif, mewn diamwys iaith,
A ddengys wrth dy enw "ddiwrnod llawn"!
Difefl ymroddiad—ymegnïad llwyr—
Nodweddai'th fywyd yma ar y llawr;
A'r Brenin alwodd arnat cyn yr hwyr—
"Was da a ffyddlawn, tyr'd i'r swper mawr! "

Gwell genyt oedd, mi wn, y gwaith na'r wledd,
A dyna p'am yr oedaist braidd yn hir
Heb ufuddhau—nid ofni'r glýn a'r bedd
Ond awydd eilwaith gael pregethu'r gwir:
Ond llaw dy Feistr gododd gwr y llen,
Er mwyn it weled cyfoeth llawn y bwrdd;
A'r foment hono syrthiodd yr holl gèn
Oddiar dy lygaid—tithau est i ffwrdd!


Gadewaist ar dy ôl adgofion lu
Yn amgueddfa calon llawer un,
A hir fyfyrir mewn anwyldeb cu,
Nes eilwaith ceir dy weled di dy hun;
Dy goeth bregethau'n rhan o honom sydd,
Tra par'wn ni, hwythau barhant ynghyd:
Symudol, bywiol, wirioneddau ffydd,
Gerddant o gwmpas hefom yn y byd.

I mi, hyfrydol waith a melus dasg
Ar hirnos gauaf wrth fy nghanwyll gŵyr
Fydd darllen dy feddyliau yn y wasg,
I dori hiraeth hallt, hyd oriau hwyr:
A hyn a'th ddwg yn ôl o farw i fyw,
Gan ddifa'r pellder dirfawr rhyngom sydd,
Ac anesmwythder bar i angeu gwyw
Gwna iddo feddwl am yr olaf ddydd!

Wel, gyfaill cu I dy ymadawiad sydd
Yn rheswm ychwanegol i'm' ymroi
I wasanaethu crefydd yn fy nydd,
A cheisio'r amddiffynfa heb ymdroi:
Oblegid onid âf i mewn i'r nef
Dy wyneb hawddgar byth ni welaf mwy;
Can's yno mae dy gartref gydag Ef
Yr Hwn a'th guddiodd yn ei farwol glwy.


Llythyr fy Nghefnder
Y ddwy ochr i'r cwestiwn

YN awr pan y mae ymron ymhob tref, treflan, cymydogaeth a chwm, ysgoldai cyfleus ac ysgolfeistriaid cymwys i gyfrannu addysg; a phan y mae y School Attendance Officer yn dilyn sodlau ac yn tori ar chwareuon plant gyda eu bod wedi gadael bronau eu mamau, a chyfraith wrth ei gefn i'w gorfodi i fyned dan hyfforddiant; pan nad allwn, fel y dywed rhai, gau ein llygaid ar y ffaith fod yr iaith Saesonaeg yn ymledu ymhob man, yn hydreiddio ein cymoedd, ein cynulleidfaoedd, a'n teuluoedd, ac fod hyd yn nod William Cadwaladr, o'r Tŷ Calch, yn ein hanerch gyda'i "gŵd mornin," a'i "gŵd neit," yn lle bore da, a nos dawch; a bod hyd yn nod Mrs. Prys o'r Siop Fach yn son yn barhâus am yr anghenrheidrwydd am "Inglis Côs "—hwyrach nad annyddorol gan y darllenydd a fydd y llythyr canlynol o eiddo Fred, fy nghefnder, gan ei fod yn traethu ar bwnc pwysig i ni fel Cyfundebau Crefyddol Cymreig. Dylwn ddyweyd fod Fred yn dipyn o wag; ond yr wyf yn credu ei fod yn gristion cywir, yn genedlgarwr, ac yn bendifaddeu, yn enwad-garwr.

—————————————

Llety'r Llenor, Tresaeson
Hydref

FY ANWYL GEFNDER,—

YR wyf wedi cymeryd fy ngwynt yn lled hir cyn ateb dy lythyr; ond yn dâl am hynny cei epistol mor faith y tro hwn fel na fydd arnat anghen am un arall, mi gredaf, am blwc. Gofyn yr oeddit pa fodd yr oedd yr Achos Saesonig yn dyfod ymlaen yma, a pha beth a fy "witchiodd i fwrw fy nghoelbren gyda'r Hengistiaid dienwaededig?" Gan i ti ofyn, a gofyn mewn ffurf nad ydyw, a dyweyd y goreu, yn gefnderol, chwaethach brawdol, yr wyf yn teimlo rhwymedigaeth arnaf gymeryd pwyll, a gosod o dy flaen yn deg sefyllfa pethau ynglŷn â'r Achos Seisonig yn Nhresaeson; ac hefyd adrodd wrthyt am yr hyn a fy "witchiodd" i gymeryd y cam a gymerais, a fy mhrofiad mewn canlyniad. Gwn dy fod yn Gymro o'r gwraidd i'r brig, ond nid ydwyt waeth am hynny. Rhwng cromfachau, megys, y Cymro ydyw y crefyddwr goreu a welais i hyd yn hyn; a pho fwyaf yr ymrwbiaf yn y Saeson yma, mwyaf oll o grit Cymreig a deimlaf. Wel, y mae Tresaeson yn wahanol iawn i'r hyn ydoedd pan oeddit ti a minnau ystalwm yn myned gyda'n gilydd i'r seiat plant, a phan fyddai dy fam yn gwau hosan wrth fyned i a dyfod o'r capel ar noson waith, a phan fyddai hi adegau eraill yn myned dros nos yng ngwagen Plas Coch i Sasiwn y Bala, a phan nad oedd yn yr Eglwys Sefydledig yma ond gwasanaeth Cymraeg yn unig. Pan ddaeth y railway i'n tref, daeth y Saeson gyda hi i edrych ansawdd y wlad, a chawsant hi, dybygid, yn dda odiaeth, a'i thrigolion yn dra choelgrefyddol, tybygasant hwy. Ymsefydlasant yn ein plith ac adeiladasant dai iddynt eu hunain. Tynasant i lawr ein siopau, a gwnaethant rai mwy, gyda plate glass windows. Nid hir y buont heb ffurfio Gas Company, Mwy o oleuni! meddynt. A'r bobloedd a welsant oleuni mawr. Daethant yma fel Commercial Missionaries; ond yn wahanol i'r cenhadon a anfonwn ni i'r India—yn lle dysgu ein hiaith, gwnaethant i ni ddysgu eu hiaith hwy. A'r barbariaid a fuont garedig iddynt, gan roddi croesaw i'w hefengyl. Dysgasant i ni pa fodd i fyw—pa beth i'w fwyta ac i'w yfed. Toc iawn bu farw ein cyd-drefwr, Mr. Llymru, ac yn fuan wedi hyn cymerwyd ei frawd Uwd yn wael, ac anfynych y gwnâi ei ymddangosiad. Addysgwyd ni hefyd gan y Saeson am wir amcan gwisgo, sef mai er ymddangosiad, ac nid er clydwch, yr ydoedd. Troai eu merched allan yn fain eu gwasg, ac yn fingauad, penuchel, plyfog, blodeuog, a serch hudol. A meibion Duw a briodasant ferched dynion. Nid ar unwaith, wrth gwrs, y cymerodd y pethau hyn le; ond felly y bu; ac nid ydyw yr hyn a nodais ond tameidyn o'r cyfnewidiadau a gymerasant le er pan aethost di oddiyma.

Ond ti a ddywedi, Pa beth oedd a wnelo hyn â'r capel Cymraeg? Hyn: Gwelsom yn fuan ogwydd yn ein pobl ieuainc i efelychu y Saeson, yn gyntaf yn eu rhagoriaethau, sef i ddal eu pennau i fyny, i gerdded yn gyflymach, ac i wisgo yn dwtiach; yna yn eu ffaeleddau, sef i fod yn fwy cymhenllyd, cellweirus, a di-hidio am bawb; yna yn eu ffolineb, sef i gredu fod y Sais wedi ei wneyd o well clai na'r Cymro, ac fod cymaint o wahaniaeth rhyngddynt ag sydd rhwng potiau Bwcle a porcelain Stoke-upon-Trent. Yr wyf yn meddwl mai ein rhïanod teg a argyhoeddwyd gyntaf o hyn: ac mor fawr oedd y gyfaredd, fel yr hudwyd rhai o'u mamau i'w rhagrith hwy. Teg ydyw dyweyd fod yma rai cannoedd na phlygasant eu gliniau i Baal Saeson, ac a lynasant yn glos wrth eu prophwyd Taliesin a'i arwyddair, "Eu hiaith a gadwant." Ond nid allem beidio sylwi, ymlaenaf oll, fod ein plant yn myned yn fwy carnbwl wrth adrodd eu hadnodau yn y seiat, ac fod acen Seisonig ar eu lleferydd. Gofidiai, hyn fi yn fawr. Aeth pethau ymlaen yn y modd yma am y rhawg; a deallais yn y man fod yn ein cynulleidfa amryw ieuenctyd heb ddeall ond ychydig o Gymraeg, ac yn treulio eu Sabbothau yn ddifûdd, os nad rhywbeth gwaeth na hynny. Perthynai y dosbarth hwn i'r rhai mwyaf cefnog o'n haelodau, a mwyaf esgeulus am roddi magwraeth grefyddol i'w plant gartref. Deuent i'r moddion yn stately ddigon; ond yr oedd yn amlwg i'r hwn a sylwai ar eu hwynebau gwag, a'u gwaith yn edrych o'u cwmpas yn ystod y moddion, nad oeddynt yn deall ond ychydig o'r bregeth, ac yn hidio llai na hyny. Yr wyf yn meddwl i mi ac eraill wneyd ein rhan i annog rhieni i siarad Cymraeg gartref er mwyn eu plant, gan geisio dangos nad oedd berygl iddynt fod yn waelach Saeson o'r herwydd. Ond y mae arnaf ofn mai ychydig fendith a fu ar ein siarad. Yr wyf yn cofio am un bore Sabboth, pryd yr oedd ein gwasanaethu yr hwn, ti a addefi, a'i gymeryd drwodd a thro, ydyw y pregethwr mwyaf poblogaidd yn sydd yn perthyn i'r Cyfundeb. Odfa anghyffredin ydoedd; un o'r hen odfeuon Cymreig, pryd yr oedd yn orchest peidio gwaeddi "Diolch! " Yr oedd edrych o'r sedd fawr ar y gynulleidfa wedi cael llenwi eu genau â chwerthin a'u llygaid â dagrau, yn fforddio cymaint o fwynhad i mi ag oedd gwrando'r bregeth. Ar fy nghyfer gwelwn ferch ieuanc oddeutu ugain oed, yr hon a wyddwn a gawsai addysg dda, ac a berthynai i'r dosbarth y cyfeiriais ato yn barod. Edrychai fel pe buasai wedi ei syfrdanu; ac ofnwn—pe buaswn yn ofni hefyd—ei chlywed yn tori allan i waeddi. Fel y dygwyddai fod, cydgerddwn â hi o'r odfa . Gofynais iddi—yn Saesoneg wrth gwrs pa fodd yr oedd yn hoffi y bregeth? Torodd i wylo yn hidl; a thybiais fud y bregeth wedi cael yr effaith ddymunol arni. Ond wedi tawelu ychydig, ebe hi, "Mae arnaf gywilydd cyfaddef; ond y gwir ydyw, nid oeddwn yn deall ond ychydig iawn o'r bregeth. Gwyddwn fod rhyw ddylanwad rhyfedd yn cydfyned â geiriau y pregethwr; gwelwn hyny ar wynebau y gynnulleidfa, a theimlwn rywbeth yn fy ngherdded dros fy holl gorff, ac yn cyffwrdd â fy nghalon; ond ni wyddwn beth ydoedd. Ar y pryd buaswn yn rhoddi pobpeth ar fy helw am fod yn alluog i ddeall beth oedd yn myned ymlaen; oblegid credwn fod mwynhâd y rhai oeddynt yn deall Cymraeg yn werthfawr iawn. Ond nis gallwn; ac nid wrth fy nrws i mae'r holl fai yn gorwedd. Gwyddoch mai Saeson gwael ydyw fy rhieni, ac na fedrant siarad hanner dwsin o frawddegau heb wneyd camgymeriadau dybryd. 'Everythink' a ddywed fy nhad bob amser am 'everything' , 'silling' am 'shilling,' ac 'ôl' am 'all.' Ac er ei fod wedi rhoddi addysg dda i mi, ac na fuasai berygl i mi beidio dysgu Saesoneg, ac er mai i'r capel Cymraeg yr oeddym fel teulu yn myned bob Sabboth, Saesoneg, y fath ag ydoedd, a glywais i erioed gartref. Yr wyf yn teimlo fy mod wedi treulio fy Sabbothau am ugain mlyneda yn ofer; ac yr wyf yn ofni mai i'r un peth y gellir priodoli dirywiad fy mrawd hynaf a'i ddifaterwch hollol ynghylch pethau crefyddol. Erbyn hyn, yr wyf yn meddwl mai y peth goreu i mi a fyddai myned i Eglwys Loegr, neu at y Wesleyaid Seisonig. Nis gallaf oddef bod fel hyn yn hwy." Yr oeddwn wedi fy synnu. Credwn bob amser fod Miss Jones—oblegid dyna oedd ei henwyn deall Cymraeg, er nad oedd yn ei siarad. Nid allwn ddygymod â meddwl iddi hi ymadael a'n Cymundeb. Gwyddwn ei bod yn alluog i ddarllen Cymraeg yn rhigl, a gofynnais iddi a oedd hi yn awyddus i ddeall yr hen iaith anwyl. Atebodd nad oedd dim a hoffasai yn fwy. " Yna," ebe fi, "mi a'ch cynorthwyaf." Ac felly y gwnaethum. Cyn i ni ymadael â'n gilydd y bore hwnnw, rhoddais iddi ychydig gyfarwyddiadau. Annogais hi i ddarllen yn ddi—ffael bob dydd adnod neu ddwy o'r Bibl Cymraeg, neu ynte chwe' llinello unrhyw lyfr Cymraeg a ddewisai, a mynnu gwybod, gyda chynnorthwy Geir—lyfr Cymraeg a Saesoneg, ystyr pob gair nad oedd yn ei ddeall. Nid oedd i roddi heibio ei gwaith hyd yn nod ar y Sabboth: yr oedd i ysgrifennu o leiaf ddwsin o eiriau nad oedd yn eu deall yn y pregethau a wrandawai, ac i chwilio i'w hystyr cyn myned i orphwyso. Dygwyddwn fod yn Arolygwr yr Ysgol Sul y pryd hwnnw; ac ymhen ychydig wythnosau llwyddais i osod Miss Jones yn athrawes ar dur o blant bach lle yr oedd i siarad Cymraeg, a dim ond Cymraeg. Ymgymerodd â'r cyfan yn galonnog. A gredi di? yr oedd Miss Jones yn Gymraes ragorol mewn llawer llai na blwyddyn! A rhag i mi anghofio dyweyd hyny eto, mae Miss Jones wedi glynu hyd y dydd hwn wrth yr achos Cymraeg, ac yn aelod ffyddlawn a defnyddiol. Ond nid i'w rhieni y mae diolch am hyny.

Bu cyfaddefiad Miss Jones o'i hanallu i ddeall Cymraeg yn achlysur i mi wneyd ymchwiliad gydag eraill a dybiwn eu bod mewn sefyllfa gyffelyb; a dychrynwyd fi gan y nifer a gyfaddefent yn rhwydd nad oeddynt yn deall ond ychydig o'r hyn a elai ymlaen yn moddion gras. Cefais allan hefyd eu bod yn druenus o anwybodus yn mhethau'r Bibl. Yr oeddwn yn zelog dros y Gymraeg, mor zelog ag wyt tithau yn awr, a thybiais gan i mi lwyddo gyda Miss Jones y gallwn lwyddo gydag eraill. Yr oedd gennyf ffydd yn fy ngallu perswadiol, ac ymegnïais i'w hannog a'u cyfarwyddo i ddysgu eu mamiaith. Ond buan y didwyllwyd fi. Yr oeddynt yn rhy ddifater a mursennaidd i ymgymeryd â dim llafur, ac nid ystyrient fod y game yn werth y gannwyll. Ni wnaeth fy zêl dros y Gymraeg ond peri iddynt fingrychu yn anwesog, a thrydar am "English cause." Beth oedd i'w wneyd? Yn yr ystâd yr oeddynt ynddi, nid oeddynt nemawr well na respectable heathens mewn pethau crefyddol. Pa un ai yn gam ai yn gymwys nis gwn; ond yn fy zêl dywedwn wrthynt mai gwell o lawer, yn hytrach nag ymfodloni ar eu sefyllfa, a fuasai iddynt ymuno â'r Wesleyaid Seisonig, neu ynte fyned i Eglwys Loegr, neu hyd yn nod fyned at y Pabyddion. Edrychent arnaf fel un a f'ai yn ynfydu; ond, Duw a wyr, yr oeddwn yn credu yr hyn a ddywedwn, oblegid sicr oeddwn nad oedd ganddynt ddrychfeddwl am y gwahaniaeth hanfodol rhwng Methodistiaeth a Phabyddiaeth, ond yn unig iddynt glywed, a bod yn eu pennau ryw vague idea fod y Pabyddion yn addoli Mair a'r seintiau. Yr oedd Eglwys Loegr y pryd hwnnw yn hanner gwag, ac felly yr oedd capel y brodyr Wesley aid Seisonig; ac er na wyddai y cyfeillion ieuainc yr wyf yn son am danynt ystyr y geiriau predestination a ritual, ac er nad ydyw yn hanfodol bwysig, yn ôl fy marn i, gyda pha enwad crefyddol y cedwir dyn am y cedwir ef, gwell oedd ganddynt ddilyn y moddion yn y capel Cymraeg fel delwau dienaid na gadael yr Hen Gorff; a'u trydar beunyddiol, fel y dywedais, oedd am "English cause." Yr oedd amryw yn cyd-drydar â hwy, yn enwedig eu rhieni, y rhai a fuasent ar hyd y blynyddoedd yn rhy ddifater i feddwl am les ysbrydol a thragywyddol eu plant, fel ag i'w gwneyd yn gydnabyddus â'r iaith y proffesent addoli Duw ynddi.

Heblaw hyny, yr oedd rhywrai o'r tu allan i ni, o'r ardaloedd pell, yn edrych arnom drwy ysbienddrych, ac yn cymeryd dyddordeb llosgol yn ein llwyddiant ysbrydol, ac yn garedig iawn yn galw sylw y Gymdeithasfa at ein sefyllfa a'r perygl yr oeddym ynddo o golli ein holl aelodau, y rhai, meddynt hwy, oeddynt yn myned drosodd yn lluoedd at enwadau eraill o ddiffyg achos Seisonig Methodistaidd, er na wyddem ni yma am un enghraifft o hyny. Maentumiant y gwyddent ein hanghenion yn well na ni ein hunain. A nifer y rhai a'u credasant oedd ugain a phump.

Gwelwn fod y teimlad yn addfedu i gael achos Seisonig; ond ni ddychymygais y buasai a wnelwyf fi ddim ag ef, a hyny oherwydd y rhesymau canlynol: yr oedd fy ymlyniad yn fawr wrth yr achos Cymraeg. Yr oedd fy ysbryd hefyd wedi sori wrth weled cymaint oedd y difrawder a'r amddifadrwydd hollol o ysbryd llafur meddyliol a chrefyddol a nodweddai y rhai oeddynt fwyaf zelog dros y symudiad. Wrth edrych ar ein hen achosion Seisonig ar hyd y Goror, a meddwl am eu hystâd wywedig, amheuwn a oedd gennym y genius at y gwaith, ac ai ni fyddem fel Methodistiaid wedi cyflawni ein rhedegfa, ac wedi llenwi y cylch y bwriadwyd ni iddo gan Ragluniaeth pan ddarfyddai yr iaith Gymraeg, os oedd i ddarfod hefyd. Ond pa beth oedd i'w wneyd â'r Paganiaid Methodistaidd? Yr oedd yn gwestiwn difrifol. Penderfynais na fyddai i mi wrthwynebu y symudiad Seisonig, rhag fy mod yn ymladd yn erbyn Duw; ond ni ddangosais unrhyw zel o'i blaid am yr un rheswm.

I dori fy ystori yn fer—drwy gymhelliad taer a dirwasgiad y pelledigion, penderfynwyd cael achos Seisonig; ac o herwydd fy mod yn Sais gweddol, gwnaed apêl zelog ataf i ymuno â'r pioneers. Ufuddheais o gydwybod, ac nid o dueddfryd. Rhoddwyd cheers i ni gan y pelledigion, yr hyn oedd galongol. Wel, fy idea i am gychwyn achos oedd dechre drwy gynnal cyfarfodydd gweddïo, ac Ysgol Sul, a theimlo ein ffordd yn raddol. Ond llefai eraill am gael sicrhau gwasanaeth great guns yr enwad er mwyn gwneyd good start, ac ardrethu ystafell gyhoeddus tra y byddid yn adeiladu capel costu3; a'u llefau hwynt a orfuant, a chyhoeddwyd ein hanes yn yr holl newyddiaduron Cymreig. Yr wyt yn hysbys ddigon o'r cyfnod hwn yn ein hanes, ac felly nid ymhelaethaf, fel y dywed y pregethwyr.

Yn awr adroddaf wrthyt fy mhrofiad ynglŷn a'r achos Seisonig. Nid ydyw yn helaeth na hirfaith, ac hwyrach y dywedai rhywrai nad ydyw i ddibynnu arno. Pa fodd bynnag y mae " dyweyd profiad " yn nodweddiadol o Fethodist Calfinaidd; ac os nad ydyw yn brofiad uchel nid ydyw hyny ychwaith yn ddyeithr i ni, yr Hen Gorff.

Dyma fy mhrofiad a'm credo. Credaf ei bod yn ddyledswydd arbennig ar bob Cymro yn y dyddiau hyn feddu y wybodaeth helaethaf sydd yn bosibl iddo o'r iaith Saesonaeg, a hyny o herwydd rhesymau rhy liosog i'w henwi. Credaf hefyd nad ydyw yr holl resymau hyn gyda'u gilydd yn ffurfio un rheswm dros iddo beidio bod yn Gymro da, ac na fydd ei ofal am fod yn gyfarwydd yn iaith ei fam yn un rhwystr, eithr yn hytrach yn help iddo, ddysgu Saesonaeg. Y teuluoedd yr wyf fi yn gydnabyddus â hwynt yn Nhresaeson sydd wedi gofalu dysgu Cymraeg i'w plant ydynt y Saeson goreu o'r Cymry, yn ddiddadl. Addefaf yn rhwydd ein bod yn llafurio dan anfantais i gadw ein hiaith yn fyw. Un o geidwaid iaith lafaredig ydyw ei llenyddiaeth ysgrifenedig. Pa beth a ddaethai o'r Saesonaeg pe buasai ei llenyddiaeth yn gyfyngedig i'r Puritaniaid, ei philosophyddion, a'i hesgobion? A ydyw ieuenctyd Lloegr yn gyffredinol yn darllen Goodwin, Howe, Locke, a Stuart Mill? Ac a ellir dysgwyl i lanciau a lodesi Cymru yn gyffredinol ddarllen "Traethodau Dr. Edwards," " Emmanuel " Hiraethog, " y Gwyddoniadur," a llyfrau sylweddol Dr. Hughes? Y plant a biau TRYSORFA Y PLANT a llyfrau cyffelyb. Ac y mae y syniad wedi myned ar led—pa fodd, nis gwn—mai i'r pregethwyr, a'r blaenoriaid, a'r bobl dduwiol, y bwriedir y DRYSORFA fawr, y Dysgedydd, ac. Pa ddarpariaeth sydd gennym ar gyfer y werin ddigrefydd, a'n pobl ieuainc a fynnant gael darllen rhywbeth? Mae ein llenyddiaeth yn rhy unrhywiol, classic, trom, a phrudd. Yn eisieu llyfrau Cymraeg Cymreig—gwreiddiol, swynol, hawdd eu darllen, ond pur ac adeiladol. Mae yn yr iaith Saesonaeg doraeth o'r cyfryw.

Credaf hefyd fod mewn rhai lleoedd, o herwydd eu hamgylchiadau neillduol, wir anghen am achos Seisonig Methodistaidd, ac fod ein harweinwyr sydd yn fyw i'r anghen hwn yn onest yn eu zel ac yn haedda parch dauddyblyg. Tra yn dywedyd fel hyn, yr wyf yr un mor argyhoeddedig fod achos Seisonig wedi ei sefydlu mewn mwy nag un man gan y Methodistiaid a'r Annibynwyr heb ddim mwy yn galw am dano na rhodres a mursendod hanner dwsin o bersonau bydol a choegfalch, y rhai a ystyriant wybodaeth ammherffaith o'r Gymraeg yn barchusrwydd, os nad yn rhinwedd hefyd. Gwyddost nad ydwyf yn Eisteddfodwr, ond nid wyf yn cymeryd clod i mi fy hun am hyny. Mae amcan gwreiddiol yr Eisteddfod, sef amaethu talent a chenedlaetholdeb, i'w edmygu. Yn ol fy marn i, y mae i bob cenedl dan y nef ei harbenigion nodweddiadol; ac nis gall golli y rhai hyny heb ar yr un pryd golledu y byd, a rhoi cam yn nghyfeiriad unrhywiaeth dof, oer, masw, ac annaturiol. Dyledswydd pob cenedl ydyw ymaflyd yn manteision dysg a gwareiddiad; ond os esgeulusa ac os diystyra hi ei nodweddion cenedlaethol, y mae yn dianrhydeddu yr Hwn a'i gwnaeth yn genedl. Duw a wnaeth o un gwaed bob cenedl o ddynion. Wel, y mae arnaf ofn nad ydyw cenedlgarwch a iaithgarwch yn cael eu meithrin gennym ynglŷn â'n crefydd. Pe dangosasid gan ein Cyfundeb hanner y zel dros y Gymraeg ag a ddangoswyd dros yr achosion Seisonig, a phe treuliasid hanner yr arian a dreuliwyd i'r un perwyl i gynnyrchu chwaeth Gymreig, buasai y ffrwyth, mi gredaf, yn anhraethol fwy gwerthfawr. Pa beth a enillasom yn grefyddol drwy ddygiad i mewn yr elfen Seisonig? Llawer ymhob rhyw fodd y Penny readings a andwyasant ein cyfarfodydd llenyddol, y cyngerdd gwagsaw, y Bazaar ("Nodachfa," pondigrybwyll!) a'r hap chwareu—"yr elw at ddyled y capel." Treth eglwys mewn triag!! Pa beth a gollasom? Maent yn rhy liosog i'w henwi. Ond y pennaf peth a gollasom ydyw chwaeth at bobpeth duwinyddol a Biblaidd.

Mae tuedd yr oes ieuanc at yr hyn sydd yn costio lleiaf o lafur, yn enwedig mewn llenyddiaeth; ac nid oes gennym yn Gymraeg y ddarpariaeth a ddylasai fod gennym ar ei chyfer; ac esgeulusir yr iaith, a chollwn ninnau y cyfleusdra i ennill ambell un i gydio mewn pethau mwy sylweddol a thrwm. Ni raid i mi ddyweyd wrthyt fy mod yn ffieiddio scurrility. Nid oes genyf gynymdeimlad â'r rhai a siaradant yn isel am weinidogion y gair, ac a ddiystyrant fugeiliaeth eglwysig, Ond y mae arnaf ofn gobeithiaf fy mod yn methu—fod tuedd yn yr achosion Seisonig yr wyf fi yn gydnabyddus â hwynt i anwybyddu (yr wyf yn defnyddio y gair hwn er mwyn dangos i ti nad wyf yn esgeuluso fy Nghymraeg!) nodweddion Methodistiaeth. Yr ydym rywfodd gyda'r Saesonaeg yn colli ein nodwedd werinol, ac yn prysur fyned i grefydda by proxy. Mae y gweinidog Seisonig fel cloc wyth niwrnod yn myn'd, myn'd; ac os dygwydd iddo fod eisieu ei windio, ni wyr neb faint ar y gloch ydyw. Efe, wrth gwrs, sydd yn pregethu, ac weithiau yn cyhoeddi, ac yn fynych iawn yn dechre ac yn diweddu yr ysgol. Pen draw hyn fydd clerigiaeth, ac ni wna hyny y tro, mi gredaf, i'r Cymry. A son am yr Ysgol Sul, yma drachefn yr ydym yn colli ein nodwedd Fethodistaidd. Mae gan y Saeson ffordd fwy rhagorol. Os ânt i'r nefoedd—ac y maent yn sicr yn eu meddyliau eu hunain yr ant—bydd i Mr. Charles ofyn am apology ganddynt. Ni fynychir yr ysgol ond gan y plant ac ychydig athrawon. Mae ein haelodau parchusaf wedi dysgu eu gwala o'r Bibl, ac ar bryd nawniau Suliau gorweddant ar eu hesmwyth—feinciau ar ben eu digon. Dyma'r gwir, lladded a laddo. Ac mi glywais frawd o'r capel Cymraeg yn dyweyd fod y cyfeillion hyn wedi dysgu cast i'r Cymry, a'u bod yno hefyd erbyn hyn yn dechre barnu pa beth ydyw sefyllfa fydol dynion yn ol fel y byddont yn dyfod neu yn peidio dyfod i'r Ysgol Sul. Ond y nhw a ŵyr am hyny. Nid wyf am son dim am y seiat Saesonig caiff hono siarad drosti ei hun.

Gyda'r achos Seisonig, pan ddygwyddo i bregethwr gael ei gymeryd yn wael, neu ynte iddo dori ei gyhoeddiad, ni welaist di 'rioed 'shwn fyd fydd yma, yr hela a'r howla a fydd am ryw sort o bregethwr. Ac os dygwydd i'r gair fyned allan na ddaw y pregethwr i'w gyhoeddiad, ni welaist erioed gynnifer o'n haelodau fydd yn indisposed! Yr ydym yn teimlo rywfodd yn y capel Seisonig yma nad ydyw yn bosibl myned ymlaen am un Sabboth heb bregethwr; ac o herwydd hyny byddwn yn cael pob math o lefarwyr, a chymaint o amrywiaeth yn ystod blwyddyn ag oedd yn llenllian Pedr. Yn misoedd yr haf cawn ambell bregethwr ardderchog; ond y rhan fynychaf rhai yn "treio'u llaw" at y Saesonaeg a gawn. Wel, y mae hyn yn peri i mi feddwl fod perygl i'n hachosion Seisonig fod yn amlach na'n pregethwyr Seisonig, ac fod eisieu rhoddi у brake ar y cyntaf, a steam ar yr olaf. Nid oes ammheuaeth yn fy meddwl, fod yn rhaid i ni wrth yr achosion Seisonig; ond nid wyf yn gweled hyd yn hyn fod y supply yn cyfarfod y demand sydd yn mynwesau rhai brodyr zelog ac anwyl.

Dywedais ar y dechre y buaswn yn cymeryd pwyll; ond ti a weli mai "ar draws ac ar hyd" yr ysgrifenais; a gwn y buasai llygad llai Cymroaidd na'r eiddot ti yn canfod ambell dwll yn fy malad. Gyda'r achos Seisonig y mae fy llinynau, a chyda hwn yr wyf bellach yn penderfynu aros; ond pe buasai pawb fel myfi, ni fuasai achos am yr achos hwn, a buasai ein breintiau, mi gredaf, yn llawer uwch. Mae fy nghariad at efengyl Duw yn Gymraeg yn myned yn ddyfnach bob dydd. Mae rhyw bethau estronol yn dyfod i'n plith sydd yn trethu ein hiaith i ffurfio geiriau newyddion, megys "nodachfa" a'r cyffelyb; ond y mae meddwl a bwriadau Duw at fyd pechadurus yn gorwedd yn esmwyth a naturiol yn ei breichiau, ac yn cynghaneddu yn hyfryd â'i holl seiniau gwreiddiol a dymunol, fel pe buasai yr Anfeidrol Ddoeth wrth ein ffurfio yn genedl â'i lygad arnom fel dewisol bobl i fynegu ei ddadguddiedigaethau Ef. Yr wyf yn cydnabod ac yn mawrhâu defnyddioldeb a chyfoeth dihysbydd y Saesonaeg ynglyn â masnach a llenyddiaeth; ond pe byddai raid i mi gredu fod dyddiau ymadroddion Dwyfol y Bibl Cymraeg, y rhai sydd wedi ymgyfrodeddu â ni fel cenedl, a hymnau ysbrydoledig Pantycelyn, Ann Griffiths, ac Edward Jones, Maesyplwm, wedi eu rhifo, oerai fy nghalon ynof. Ond nid wyf yn gweled argoel o hyny. Er dyddiau'r dreth cyfododd gau brophwydi lawer, ac a fuont feirw; ond y mae yr hen iaith yn arddangos cymaint o yni âg erioed. Mae iddi ddyfodol dysglaer, mi gredaf. Erbyn hyn y mae tywysogion a mawrion yn ei hastudio; a phwy ddydd yr oeddwn yn clywed eu bod yn sôn am ei dwyn i mewn i'n hysgolion dyddiol? Ac ai gwir yr ystori a glywais fod Cymry Llundain yn son am anfon cenadon i ddysgu Cymraeg i drigolion Cwmcadach-llestri? Gwnai hyn les, yn ddiammheu. Pa fodd bynag erfyniaf arnat i barhâu yn dy zel i ennyn chwaeth Gymreig yn y Cymry Methodistaidd, a'u hannog i beidio dilyn esiampl Richard John Davies, Ysw., yr hwn a aeth i Lundain ystalwm a'i drwyn o fewn llathen i gynffon llo. Wel, yr un modd a chyda phob symudiad cenedlaethol arall, rhaid i ni a'r Annibynwyr gymeryd y blaen i osod ein gwyneb yn erbyn dwyn i mewn yr arferion gan y Saeson sydd yn niweidiol i grefydd, megys gwneyd yr Ysgol Sabbothol yn sefydliad i blant yn unig, âc. Mae'r Eisteddfod wedi dirywio i fod yn lle i Gymry wyntio eu Saesonaeg, ac i ennill gwobrwyon am ganu; ac os cyll y pulpud a'r Ysgol Sabbothol eu nodweddion Cymreig, byddwn yn fuan wedi ein llyncu i fyny gan Ddicsiôndafyddiaeth. Pell y bo'r dydd!—

Yr eiddot yn gywir,

FRED.

Adgof:
Am y diweddar Mr. Hugh Jones, Argraffydd, Wyddgrug

AR y mur yn mharlwr hiraeth
Adgof hongiodd ddarlun byw,
O hen gyfaill â'n gadawodd
I fyn'd adref at ei Dduw;
Y mae misoedd lawer bellach
Er pan aeth i'r ardal bell,
Ond mae'r darlun wrth heneiddio
Yn parhau i fyn'd yn well.

Darlun yw—nid ef ei hunan
Ef ei hun ni welir mwy,
Ac nid yw ond ofer cwyno
Am nad arosasai 'n hwy;
Nid oedd hinsawdd oer y ddaear
Yn dygymod gydag ef
Aeth i wlad yr haf trag'wyddol
Ar gyfandir mawr y nef.


Nid rhyw lawer o ddylanwad
Feddai'r ddaear arno ef,
Ond yr hyn oedd ynddi'n debyg
I naturiaeth bur y nef
Seiat, Sabboth, cyfarfod gweddi,
Beibl, pregeth, Crist a Duw
Dyna'r pethau aent a'i feddwl
Tra bu yn y byd yn byw.

Gwan ei gorff—ac nid rhyw lawer
O dalentau ddaeth i'w ran
Ond 'roedd ef yn gryf a chadarn
Lle 'roedd eraill braidd yn wan;
Cryf ei obaith—cryf ei deimlad
Cryf ei ffydd yn Nuw a dyn
Wrth gredu gormod yn yr olaf
Câdd niwed lawer iddo 'i hun.

Diniweidrwydd (fel colomen
Noah) grwydrodd lawer awr,
Nes y cafodd yn ein cyfaill
Le i roi ei throed i lawr;
Ac mae eto, 'rol ei golli,
'N hofran uwch y diluw dig,
Heb un llecyn i orphwyso,
Nac un ddeilen yn ei phig.


IOAN JONES

Llawer cyfrol a argraffodd
Llawer " Gwaith " gan lawer un,
Ond ei olaf " Waith " oedd hwnw
Ystrydebu ef ei hun,
Ar galonau ei berth'nasau,
A'i gyfeillion oll yn glau;
Am y gyfrol hon mae galw "
Mawr hyd heddyw yn parhau!



Ioan Jones, Rhuthyn


Wele gŵr yr alegori—sy'n fud!
Swn ei fawl wnaeth dewi;
Ei laniad i oleuni—wnai i'r engyl
Yn y gwr anwyl haner gwirioni.


Satan

Yn ei gut pa sut mae Satan—yn byw
Ac yn bod mewn brwnstan?
Mi ofynais i'm fy hunan
Be dae'r diawl 'n rhoi'r byd ar dân!



Ar Farwolaeth Dewi Havesp

Nid dy anglod, wir, ond d'englyn—gyfaill,
Gofir uwch dy ddyffryn;
Er doe yr ydym bawb, ŵyr dyn!
A fory—heb yr un dyferyn!



Ar Farwolaeth y Parch. John Evans,
Croesoswallt ( gynt o Garston )

Cywir was fu, ac er oes fér—gwyddai
Am guddiad ei chryfder;
Uwch ei ben ysgrifener—Cymraeg lân
Ni fu Ioan Ifan fyw yn ofer.




—————————————

ARGRAFFWYD GAN J. LL. MORRIS, YR WYDDGRUG

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.

 
  1. Cymerwyd y darlun hwn from life, fel y dywedir, ond y mae y gwrthrych erbyn hyn, wedi myned trosodd at y mwyafrif er ys tro; eto, gan mor adnabyddus oedd efe, a chan mor gywir ydyw y darlun ohono, nid anmhriodol, efallai, ydyw ei osod i hongian ar faen Y Siswrn.—CYHOEDDWR
  2. Y diweddar Mr, Rice Edwards, Bala, yr hwn a arferai logi ceffylau i'r myfyrwyr