Yny lhyvyr hwnn/Kymro yn danvon Annerch at y darlheawdyr

Hanes bywyd Syr John Prys Yny lhyvyr hwnn

gan John Prys


golygwyd gan John H. Davies
Gwyðor kymraeg

Yny lhyvyr hwnn y traethir.[1]

Gwyðor kymraeg.

Kalandyr.

Y gredo, ney bynkeu yr ffyð gatholig.

Y pader, ney weði yr arglwyð.

Y deng air deðyf.

Saith Rinweð yr egglwys.

Y kampey arveradwy

ar Gwyðieu gochlad­wy ae keingeu.

M.D.XLVI.

Kymro yn danvon Annerch at y darlheawdyr.

YR awr nad oes dim hoffach gán ras yn brenhin vrðassol ni. No gwelet bot geirieu duw ae evengil yn ker­ðet yn gyffredinol ymysk y bobyl ef, y peth y ðengys y vot ef yn dywys­soc mor dwyvawl ac y mae kadarn. A phan roes eiswys gymmaint o ðonieu pres­sennol y genedyl kymry. Ny byð lhesgach y gennadhau yðyn ðonyeu ysprydawl.

Am hynny gweðys yw rhoi yngymraec beth or yscrythur lan, o herwyð bod lhawer o gymry a vedair darlhein kymraeg, heb vedru darlhein vn gair saesnec na lhadin, ag yn enwedic y pync­keu y sy anghenrheydiol y bob rhyw gristion y gwybot dan berigyl y enaid, sef yw hynny: pync­keu yr ffydd gatholic, ar weddi a ðysgoeð duw y­ni, a elwir y pader, ar deng air deðyf, ar gwydyeu gochladwy ar kampeu arveradwy.

Ac er bod y rhain gyda lhawer o betheu da e­railh yn yskrivennedic mewn bagad o hen lyfreu kymraeg, etto nyd ydy yr lhyyfreu hynny yn gyffre din ol ymysk y bobyl. Ac yr awr y Rhoes duw y prynt yn mysk ni er amylhau gwybodaeth y eireu bēdigedic ef, iawn yni, val ygwnaeth holh gristi onogaeth heb law, gymryt rhann or daeoni hwn­nw gyda yn hwy, val na bai ðiffrwyth rhoð kyst­al a hon yni mwy noc y erailh, ac er ym ðymyno gwybod o bob vn om kiwdawdwyr i yr kymry sa esneg ney ladin, lhe traethir or petheu hyn yn ber­ffeithach, etto am na elhir hynuy hyd pan welo duw yn ða a wahanoeðieythoð y byd er yn kospedigaeth ni, pechod mawr oeð ado yr sawl mil o enaideu y vyned ar gyfyrgolh rac eiseu gwybo­daeth y fyð gatholic, ac y syð heb wybod iaith yny byd onyd kymraeg.

Kanys heb ffyð ny elhir rhēgi boð duw, ar periglo ryon y sy yny mysk, oswaethhiroeð, y nailh ae nys medran, ae nys mynnan ðangos yw plwyvogy­on y petheu y maen yn rhwymedic y lhailh yw dā ­gos, ar lhalh eu gwybod, duw ae dycko yr iawn ac y aðnabod y perigleu, pa weð y gorffo arnyn at teb am yr eneideu elo ar gyfyrgolh drwy y heisieu hwy. Ac er bod y gofal mwya, yn perthyn yr peri­glorion, etto ny byð neb dibwl, ac y rhoes duw ðo­nyeu ney gyfarwyðyd yðaw, ny wnelo y peth y alho er hysbyssu yðy gydristiō y pynkeu y sy mor anhepkor ar rhain. Ac am hynny gyt a gwelet vot rhan vawr om kenedyl gymry mewn tywylhwch afriuaido eisieu gwybodaeth duw ae orchymineu ac o herwyð hynny y dygwyðo mewn dyfynder pechodeu a gwyðyeu yn rhagorach no chenedloeð erailh, ac am synyeid y bod a donyeu da o synwyr a dealh gwedy y ðuw y rhoi yðynt, val y gobei­thwn y bai hawð gentyn welhau en drycarveron onyd discu yr iawn forð yðyn, mi a veðyliais er ka riad vyngwlad roi yðyn y pynkeu hyn ynghymra eg erdāgos blas yðyn o velysper ewylhus duw ac er kadw eu henaidieu, y rhai ny alho ēnilh kyfrwy ðyd rhagorach drwy ieithoð erailh, y peth y ðym­ynwn yðyn y geisiaw yn ðyfal weithian dangos­swch vynghytwladwyr o hynn alhan nad o ðrwc aniā onyd o eisieu gwybodaeth y byoch veiys kyn hynn, na edwch y minney gymryd hynn o drava­el yn ðiffrwyð dryssoch, ac yn lhekwvyl o dal am yn rhavael y kymmeraf inney, os chwi a gymmer ffrwyth o hynn. drwy ðuw ae rad heb yr hwn ny cheffir dim ac y vo da. yrr hwnn y bo gogonyant tragwyðawl, poet gwir.

Nodiadau

golygu
  1. Gwnaed defnydd eang o drawsgrifiad Text Creation Partnership, Prifysgol Rhydychen o'r ddogfen hon. Mae'r testun ar gael trwy drwydded Creative Commons 0 1.