Yr Hen Lwybrau/Ceiriog a'i Neuadd

Tro yn Sgotland Yr Hen Lwybrau

gan John Davies (Isfryn)

S. J. Evans


XV

CEIRIOG A'I NEUADD GOFFA

DAETH tyrfa fawr ynghyd i weld agor yn ffurfiol y Neuadd Goffa i Geiriog yn Llanarmon, Dyffryn Ceiriog. Nid oedd raid i Geiriog wrth unrhyw goffa mwy nag i Wren am fonument yn Eglwys Gadeiriol St. Paul, Llundain. Eglwys Gadeiriol St. Paul yw monument Christopher Wren. A Glyn Ceiriog yw monument John Ceiriog Hughes.

Y tro cyntaf y gwelais i Geiriog, a'r tro olaf hefyd, gadawodd ei ddelw ar fy meddwl nes gallu ohonof ei weld yn awr. Yr oedd yn ddyn lluniaidd o gorff, a thrwsiadus ei wisg. Ei wyneb oedd lawn ac agored, a heb linell o grychni arno, a'r wyneb hwnnw yn adlewyrchu'r galon iach a gurai yn ei fynwes. Ei ddau lygad oedd fel dwy seren yn pelydru dan aeliau trymion, a'i dalcen oedd lydan a thal. Yr oedd ei wyneb yn agored i ddylanwad ei feddwl byw, a direidus weithiau, a basiai fel heulwen dros ddyffryn Ceiriog. Ar brydiau, a phrydiau anaml iawn, rhedai cwmwl dros yr wyneb nes pylu o'r sirioldeb gwefreiddiol hwnnw a'i nodweddai. Delweddai ei wynepryd Ddyffryn Ceiriog.

Cofiaf yn dda hefyd y troeon y darllenais ei weithiau gyntaf—Oriau'r Hwyr, Oriau'r Bore, Y Bardd a'r Cerddor. Yr oedd hynny ar aelwyd gysurus yn Sir Aberteifi fin nosau gaeaf, a rhai o'r cymdogion wedi dyfod ynghyd i glywed un o'r darllenwyr penodedig yn darllen Myfanwy Fychan, Alun Mabon, Syr Meurig Grynswth, Y Fenyw Fach a'r Beibl Mawr, Wyres fach Ned Puw, a Ti wyddost beth ddywed fy nghalon, i enwi ond rhai o'i ddarnau'n unig. Yr oedd dylanwad y gwahanol ddarnau a ddarllenid yn debyg i effeithiau'r awelon ar y tonnau yn eu gwneud yn llon, ac yn lleddf bob yn ail, a rhyw bwff o chwerthin iach yn torri weithiau, ac yn union deg y deigryn distaw yn mwydo'r rudd, a llaw greithiog ambell wrandawr yn crwydro'n ddirgelaidd at y llygaid ac yn symud y deigryn. Nid oedd un wyneb sych pan ddarllenid ar goedd,

Mi geisiaf eto ganu cân,
I'th gael di'n ol, fy ngeneth lân,
I'r gadair siglo ger y tân,
Ar fynydd Aberdyfi;
Paham, fy ngeneth hoff, paham,
Gadewaist fi a'th blant dinam?
Mae Arthur bach yn galw'i fam,
A'i galon bron a thorri;
Mae'r ddau oen llawaeth yn y llwyn,
A'r plant yn chware efo'r ŵyn;
O tyrd yn ol, fy ngeneth fwyn,
I fynydd Aberdyfi.

Ni wn am un bardd, hen na diweddar, a ogleisia'r teimladau fel Ceiriog, a hynny a'i rhydd yn rhwydd ar ben rhestr telynegwyr ein gwlad.

Fel yr adlewyrcha'i wyneb cyfoethog Ddyffryn Ceiriog, felly yr adlewyrcha'i delynegion ei bersonoliaeth gref ac iach.

Gwelaf y rhydd Almanac y Miloedd ddydd ei farw ar gyfair Ebrill 23, 1887. Dydd ei eni—Medi 25, 1832, a ddylid roddi ynglŷn âg ef, a gadael dydd ei farw'n blanc, neu fel y gwneid â seintiau'r Oesoedd Canol, a rhoddi Ebrill 23, 1887, renatus.

Cofiaf ddydd claddu'i gorff yn dda. Safwn ar y pryd ar orsaf Croesoswallt, y dwthwn hwnnw'n orsaf newid, ac yng nghwmni dwsin neu lai o hynafiaethwyr yn ymgomio â'i gilydd. Tynnwyd ein sylw at nifer dda o ddynion mewn dillad duon a hetiau top yn dyfod i'r platform i fynd gyda'r tren i Gaer Sws. Ac fe ofynnodd rhywun i b'le y gallent fod yn mynd, ac fe atebodd un o'r cwmni mai i gynhebrwng Ceiriog yn Llanwnog yr aent. "Ceiriog, who is he or who was he?" meddai un o'r ymgomwyr. Ac atebwyd ef

gan hynafiaethwr o fri. "He was a bit of a bard". Gorfu i un neu ddau ohonom gnoi ein tafodau. He was a bit of a bard! Y mae'r hynafiaethwr hwnnw wedi marw, a Cheiriog yn fyw.

O ran y corff gorffwysa Ceiriog ym mynwent Llanwnog, a'r englyn hwn o'i waith ef ei hun ar garreg ei fedd:—

Carodd eiriau cerddorol,—carodd feirdd,
Carodd fyw'n naturiol;
Carodd gerdd yn angerddol,
Dyma ei lwch—a dim lol.


Nodiadau golygu