Yr Hen Lwybrau/S. J. Evans

Ceiriog a'i Neuadd Yr Hen Lwybrau

gan John Davies (Isfryn)

John Fisher, Offeiriad


XVI

S. J. EVANS

FEL y dychwelwn o Fangor un tro croesais bont y Borth i Borthaethwy ac Eryl Môr i ymweld â'r gŵr mwyn o ger Menai. Clywswn nad oedd ei iechyd yn dda. Curais wrth ei ddôr, a'r newydd a glywais yno oedd ei fod yn well ar y pryd, ond ei fod ymhell o fod yn dda. Ar ôl aros ychydig o amser gwahoddwyd fi i fyny i'w ystafell wely. Clywais wedyn mai ei ddeffro a wnaeth ei briod i'w hysbysu pwy oedd yno. Pan oeddwn ar drothwy drws ei ystafell estynnodd allan ei law i afael yn fy llaw innau. Daeth llonder i'r llygad siriol hwnnw a gwên hyfryd i'w wynepryd mwyn. Ar hyn daeth pwff o chwerthin drosto, a chwarddodd yn iach am ryw stori ddigri a ddarllenasai ddiwrnod neu ddau yn ôl.

Dywedais wrtho nad oeddwn am aros ond ychydig funudau rhag ei flino, a'm taith innau ymhell. "Na, na, fachgen", meddai yntau yn ei ddull arferol, "y mae gennyf lawer o bethau i siarad â chwi". Yna ceisiodd gennyf dynnu fy nghadair yn nes at erchwyn ei wely. Ac fe adroddodd hanes ei daith ef a Mrs. Evans i Rydychen, ei ymweld â'r meddygon, a'r driniaeth a gafodd, a'i ddyfod yn ôl i Eryl Môr ym Mhorthaethwy. Dywedodd iddo fod yn bur sâl, ac iddo bron golli'r dydd ddwywaith ddiwrnod neu ddau yn ôl. "Ond yn awr", meddai, "y mae fy wyneb at y goleuni, a diolch am hynny". A chyda'r geiriau hyn yn seinio yn fy ysbryd ymadewais â thristwch trwm yn fy nghalon. Mwmiwn â mi fy hunan ar fy ffordd adref a gawn i ei weld ef eto yn y fuchedd hon. Gobeithiwn y cawn, ac eto ofnwn, a'r ofn hwn a godai ddeigryn i'r llygad a chreu rhyw wacter prudd yn y galon.

Teimlwn wrth eistedd wrth erchwyn ei wely fy mod yng nghwmni un a oedd yn y glyn, tywyll a du i ni yr ochr yma, ond iddo ef yr oedd goleuni. A dyma oleuni'r hwyr y sonia Sechareia amdano—"A bydd goleuni yn yr hwyr". Dywedai iddo bron suddo ddwywaith rai dyddiau yn flaenorol, ond yn awr yr oedd pob ofn wedi cilio, a'i brofiad ydoedd eiddo'r Salmydd, "Nid ofnaf niwaid, canys yr wyt ti gyda mi, dy wialen a'th ffon a'm cysura". Ei ffon ef yn y glyn oedd y goleuni a gafodd, a'r goleuni hwnnw a alltudiodd y tywyllwch, a liniarodd y poenau, ac a droes lyn cysgod angau yn olau ddydd. Ymddangosai i mi ar y pryd ei fod ymhell yn y glyn, ac yn edrych yn ôl bron o'r lan draw. Ni soniodd air am y llyfr emynau newydd, y llafuriodd yn galed a diwyd wrtho am tua phedair blynedd, ac yntau yn dad iddo, canys ar ei awgrym ef yr ymgymerwyd â'r gwaith. Ciliai popeth yn awr o'i olwg, ond y goleuni hwnnw y soniodd ddwywaith amdano. Tybiwn ar y pryd mai goleuni adferiad iechyd oedd yn ei feddwl, ond pan fyfyriais ar y geiriau ar fy ffordd adref, a chofio tôn y llais a gwên yr wyneb, deffroais i'r ffaith bod mwy yn y geiriau nag adferiad iechyd. Fe allai iddo roddi'r ystyr o adferiad iechyd i'r geiriau i esmwytháu ein teimladau cynhyrfus ni, canys ni fu neb erioed yn fwy tyner nag ef. Carai wella, a gwnaeth ei orau i wella, canys nid ydoedd ond cymharol ieuanc ac yn alluog i flynyddoedd o waith, a gwyddai fod gwaith pwysig o'i flaen. Ond nid oedd yno ddim grwgnach am fod ei ffyrdd Ef yn y môr a'i lwybrau yn y dyfroedd dyfnion. Rhyw dawelwch a hunan-ymostyngiad hyfryd oedd yno, nes creu awyrgylch nefolaidd yn yr ystafell. Yr oedd ei ystafell wely yn oleuedig gan y goleuni hwnnw a welai ef. Crwydrai angau o gwmpas y gwely, dynesai yn esmwyth iawn, a rhoddai ei law yn dyner ar ysgwydd y cystuddiedig, a sibrydai yn ei glust, “Y mae bron yn bryd inni fynd adref weithian, canys y mae'r nos yn nesu", a thybiwn ei glywed yntau yn ateb, "O'r gorau".

Y tro nesaf wedyn imi ymweld â Phorthaethwy oedd dydd ei gynhebrwng a'i gladdu. Gan fod y cynhebrwng yn breifat yn y tŷ ac yn gyhoedd yn yr eglwys, i'r eglwys yr euthum i gyda'r dyrfa fawr. Y gwasanaeth drosodd yn yr eglwys cludid yr arch a'r un blethdorch gan bedwar ffrind a'r gynulleidfa fawr yn canu'n bruddaidd "Yr awr hon, Arglwydd, y gollyngi dy was mewn tangnefedd". Yn Llantysilio ar ynys fechan ym Menai y rhoddwyd y corff i orffwys ac Archesgob Cymru yn gweinyddu.

Yr oedd Mr. Evans yn M.A. o Brifysgol Llundain, ac anrhydeddwyd ef â'r tair llythyren O.B.E. am ei wasanaeth i'w wlad a'i genedl. Ym myd addysg yr oedd ef yn fwyaf amlwg, a chysegrodd ei fywyd a'i holl egnion i'r gwaith hwn. Bydd hir gofio amdano ynglŷn ag Ysgol Ganolradd Llangefni, y bu yn brifathro arni am ran fawr o'i oes, gan ei dyrchafu yn allu a ddylanwadodd nid yn unig yn y sir, ond hefyd ymhell y tu hwnt i derfynau Môn. Yng nghanol ei waith a'i brysurdeb mynnai fynych egwyl gyda llenyddiaeth ei wlad, ei hanes, a'i hynafiaethau, a bu ei bin yn prysur ychwanegu at eu cyfoeth mewn cylchgronau a llyfrau. Y fath symbyliad a roes ei Ramadeg i fechgyn a merched i ddysgu'r iaith. Heblaw hyn oll meddai ar drwydded yr Archesgob i weinyddu mewn eglwysi, a bu'n ffyddlon a diwyd yn y gwaith hwn fel ymhob gwaith arall. Trylwyredd oedd un o'i nodweddion amlycaf. Yr oedd ymron ar bob bwrdd a phwyllgor, nid yn unig yn yr Esgobaeth, ond hefyd yn y dalaith Gymreig, ac yr oedd yn ŵr doeth o gyngor ar bob achlysur.

Tynnodd gwys hir a honno'n gŵys union a glân i hyfforddi ieuenctid yn yr ystyr ehangaf. Mawr oedd ei ddiddordeb yn ei ddisgyblion, nid yn unig pan oeddynt o dan ei ofal, ond hefyd ar ôl ymado ohonynt i gylchoedd eraill. Credai yn nylanwad esiampl dda i hyfforddi, a chafodd ei ddisgyblion esiampl nad oedd bosibl ei gwell. A phrawf o hyn oedd y llu mawr ohonynt a ddaeth i'w gynhebrwng, a'r teimladau tyner a ddangosid wrth weld ei gludo i'w fedd.

Ni allai ef gyflawni'r gwaith a wnaeth onibai am yr un a fu yn ei ymyl ar hyd y blynyddoedd yn gymorth iddo ac mewn cydymdeimlad â'i ddelfrydau, a chydnabyddai hynny â gwên ar ei wyneb. Yr oedd ef a'r cylchoedd y troai ynddynt o dan ddyled fawr i Mrs. Evans.

Dyna fraslun tra amherffaith o gymeriad cyhoedd Mr. Evans. Ond beth am y dyn yn ei gartref ac ymysg ei gyfeillion? Yno y mae gweld dyn ar ei orau. Cafodd tri ohonom y fraint fawr hon, a braint y bydd yn felys cofio amdani hyd y diwedd.

Fel y dywedwyd eisoes tynnodd gŵys hir, ac wedi dyfod ohono i ben y dalar prynodd dŷ a gardd a lawnt hyfryd ym Mhorthaethwy ar lan Menai. Nid cynt yr ymsefydlodd ef a'i deulu yno nag y meddyliodd am lyfr emynau newydd i'r Eglwys yng Nghymru. Pasiwyd mynd ynghyd â'r gwaith yn un o gynadleddau Esgobaeth Bangor, a chadarnhawyd y penderfyniad gan y Governing Body. Codwyd pwyllgor o bob Esgobaeth, a phwyllgor gweithio o bedwar, a Mr. Evans yn un ohonynt, ac yn ysgrifennydd i'r ddau gydag Esgob Abertawe a Brycheiniog yn gadeirydd. Cafodd weld y casgliad o eiriau wedi ei orffen ac eithrio'r ychwanegu a diwygio y bydd yn rhaid rhoddi sylw iddynt. Pan ddaeth gwaith ei dalar i ben ciliodd oddi wrthym yn dangnefeddus yn sŵn cân yr hen Simeon.

Yn ei gwmni ar ben ei dalar y cafodd tri ohonom y fraint o'i adnabod yn ei dŷ, wrth ei fwrdd, a cher y tân yn y gaeaf ac ar y lawnt ger y tŷ yn yr haf. Wythnosau hyfryd oedd y rhain. Ar gais Mr. Evans, a thrwy ei ddylanwad, bu i Esgobion Cymru, a'r Archesgob ddwywaith, wahodd y pwyllgor gweithiol i'w plasau. Wythnosau nad anghofir yn fuan oedd y rhain. Ond nid oedd yr un tŷ yn fwy dymunol gennym i aros am wythnos ynddo nag Eryl Môr, canys yno yr oedd ef yn ei gartref, a chwith iawn meddwl bod y bennod hapus hon wedi dyfod i ben. Dyma'r pethau bach hynny sy'n melysu bywyd, ac yn ei wneud yn werth ei fyw, canys fe ellir edrych yn ôl at y rhain gyda boddhad. Dyma rai o'i nodweddion y sylwasom arnynt ac y cawsom brawf ohonynt.

Ei garedigrwydd. Yr ydoedd yn eithriadol o garedig heb y drafferth leiaf i ddangos hynny. Teimlid ein bod yng nghwmni dyn syml a naturiol. Ei gartref ef oedd eich cartref chwi wrth aros yn ei dŷ a Mrs. Evans yn rheoli'r tŷ a'r prydiau bwyd i'r amser penodol. Ai ef i'w wely o gwmpas y deg bob nos yn gyson, a gadawai i'w wahoddedigion wneud a fynnent. Ac yn y bore ef a fyddai gyntaf i lawr.

Yr oedd yn weithiwr diwyd a chaled. Ni fynnai wastraffu un awr o amser. Ar ôl gorffen ohonom ni ein gwaith a mynd allan am dro, arhosai ef gyda'i waith. Yn rhai o'r cyfarfodydd diwethaf dangosai arwyddion o flinder, ond ni fynnai gydnabod hynny. Pan aem ni allan am dro, gorffwysai yntau mewn cadair esmwyth. Dechreuai ei afiechyd ddweud ar ei feddwl, ond yr oedd ei benderfyniad mor gryf fel y mynnai aros gyda'i waith. A phan fethai dywedai'n syml, "Wel, fe'i gadawn hi fan yna'n awr".

Yr oedd yn ddyn pwyllgor ac o farn aeddfed a theg. Ni châi'r un emyn fynd i'r casgliad er mwyn plesio'r awdur. Weithiau dywedai yn ei ddull syml, "Na, wir, fechgyn, nid yw hwn i fyny â'r safon". Dro arall dywedai, "Fe fydd canu ar hwn". Pan fyddai'n ansicr ei feddwl am ryw emyn, darllenai ef i Mrs. Evans er cael ei barn hi arno, a meddai hithau farn bur gywir am werth emyn. Dyma'r unig gasgliad o emynau nad oes ynddo yr un emyn i blesio'r awdur. Fe fydd y casgliad newydd yn bur lân o'r bai hwn beth bynnag. Nid ysgolheigion ac emynwyr yw'r beirniaid gorau bob amser ar werth emyn.

Yr oedd yn ddyn llawn o hiwmor. Mwynhâi ddywediad pert a stori ddigri, ond yr oedd yn rhaid iddynt bob amser fod yn lân a chwaethus. Ar ôl gwaith y dydd, fe eisteddid wrth y ford o ddeg y bore hyd wyth yr hwyr ac eithrio'r ychydig seibiannau gyda'r prydiau bwyd. Ar ôl swper tynnid at y tân yn y gaeaf ac ar lawntiau yn yr haf, a llecid ychydig ar linynnau'r bwa, a mynych y dywedai y byddai'r munudau hynny yn gystal a gwell na photelaid o ffisig. Clywaf yn awr ei bwff iach o chwerthin o waelod ei galon.

Arfer Ap Ceredigion, pan godai'r hwyl, oedd codi ar ei draed a'i gefn at y tân a'i wyneb cyn sobred ag wyneb barnwr ar y fainc, ac yn byrlymu arabedd, ac S.J. yn ymrolio gan chwerthin. Tua deg o'r gloch edrychai ar ei oriawr a dywedai’n siriol, "Wel, fechgyn, y mae'n bryd i mi fynd".

Gweithiai tri ohonom gydag ef fel hyn am tua phedair blynedd heb na gair croes na chroesdynnu. Pan fyddai gwahanol farnau am ryw emyn, ac fe ddigwyddai hyn yn aml, fe welai S.J. y sefyllfa, ac yn ddeheuig iawn awgrymai ohirio'r drafodaeth i eisteddiad arall, ac erbyn hynny fe fyddai'r cymylau wedi chwalu a'r wawr wedi torri. Gwn y cytuna Canon W. H. Harris ac Ap Ceredigion â mi na threuliasom flynyddoedd hapusach erioed, ac i S.J. yr ydys yn ddyledus am hyn, ac i S.J. yn fwy na neb arall y mae'r Eglwys yng Nghymru yn ddyledus am y llyfr emynau newydd.

Ni feiddiwn i sangu ar dir mor gysegredig â'i fywyd preifat oni bai am yr olwg agos a gefais arno. Adwaenwn ef yn y gŵys hir o'i fywyd cyhoedd, a darllenaswn bopeth a gyhoeddai, ond ei weld ef o bell yr oeddwn y pryd hwnnw. Ond ar ddyfod ohono i ben ei dalar deuthum i'w weld ef yn ymyl, wrth ei ford a cher ei dân, a deuthum i'w edmygu a'i garu â'm holl galon. Edmygwn ef o bell, ond yn agos carwn ef.

Y tro olaf y gwelais ef yn Eryl Môr ym Mhorthaethwy edrychai 'mlaen i ddyfod i Arwystli, ac i rodio glannau Hafren a red yn furmurol heibio i'm drws. Fe wyddai ef am Hafren a Phowys er pan oedd yn brifathro ysgol ganolradd Trallwm, a byth er hynny yr oedd swynion yr hen afon a'i broydd teg wedi suddo'n ddwfn i'w serchiadau. "Dof, fachgen", meddai, "tua'r Pasg acw i Arwystli am ychydig ddyddiau, a Mrs. Evans gyda mi, ac fe rodiwn lannau Hafren a'r wlad baradwysaidd o amgylch". Dywedai hyn a gobeithia hyn, ond ryw fodd teimlwn ei fod yn ymwybodol ei fod yn rhodio glannau afon arall, a'i draed bron yn cyffwrdd â'i dyfroedd. Fe ddaeth y Pasg ond nid S.J. Erbyn heddiw y mae wedi croesi'r afon, ac ni fu'r croesi'n arw. Pan groesodd pererin Bunyan yr hen afon fe seiniodd holl glychau'r ddinas, a chanodd yr utgyrn—"Gartref o'r diwedd".

Nodiadau golygu