Yr Hen Lwybrau/Tro yn Sgotland

Ysgub Eto o Loffion Yr Hen Lwybrau

gan John Davies (Isfryn)

Ceiriog a'i Neuadd


XIV

TRO YN SGOTLAND

DDECHRAU Awst diwethaf cychwynnodd dau ohonom i fynd am dro i Sgotland, a hynny am y tro cyntaf yn ein hanes. Yr oedd y bore'n braf gyda'r eithriad o haenen denau o niwl yn gorchuddio bro a bryn. Pelydrai'r haul weithiau trwy'r gorchudd tenau gan daflu cysgodion y coedydd a'r gwrychoedd yn emwaith cyfrodedd ar y ffordd. Yr oedd llyn Tegid fel môr o wydr yn adlewyrchu'r bryniau o gwmpas yn ei ddyfroedd grisialaidd. Ymlaen â ni fel hyn fel dynion yn mynd trwy wlad hud a lledrith. Terfyn siwrnai'r dydd cyntaf oedd Caerliwelydd (Carlisle). Ac yr oeddem wedi teithio 232 o filltiroedd neu o gwmpas hynny.

Fore trannoeth cychwynnwyd yn dra bore, a'n hwynebau yn awr ar iseldiroedd yr Alban, a heb fod yn hir daethom i Gretna Green. Yno aethom i'r efail enwog am ei phriodasau dirgelaidd, ond nid yr hynt honno oedd ein neges ni. Gwelsom yr hen eingion a'r morthwyl a benderfynai'r amod, a gwrandawsom ar y gof, os gof hefyd, yn mynd trwy druth o wir ac anwir, a'r gwyddfodolion yn llyncu pob gair a ddiferai dros ei wefusau fel efengyl iachus. O'r fan honno prysurwyd trwy wlad brydferth a'r mynyddoedd uchel yn y pellter draw yn dyfod i'r golwg, ac yn y man yr oeddem yn Ecclefeçhan, pentref genedigol Thomas Carlyle. Yn awr yr oeddem yn ôl traed yr hen Gymry gynt, canys Eglwys Fach yw'r ystyr. Y peth cyntaf a dynnodd ein sylw oedd y tŷ y ganed y Doethor ynddo. Ac yn y fynwent gerllaw yr oedd ei fedd. Bu ef farw ar y 5 o Chwefror, 1881. Cefais ymgom hir ag un a'i cofiai ac a'i hadwaenai'n dda. Ar gwr y pentref yr oedd delw ohono yn eistedd ar gadair mewn dwys fyfyrdod. Darllenais yn ddiweddar erthygl arno gan ŵr o nod a ddywedai mai ef oedd prif bregethwr ei oes, er na fu mewn pulpud erioed. Trwy ei lyfrau y pregethai ef, a hynny yn bennaf yn erbyn ffug a rhagrith. Edrychai ar ei oes fel un arwynebol iawn, a'i ymdrechion oedd deffro'r wlad i ddifrifolwch a gwirionedd. Fe'i gwelir ef yn bur gyflawn mewn un frawddeg o'i eiddo, "Nature is the time vesture of God revealing Him to the wise, and hiding Him from the foolish",—Natur yn datguddio Duw i'r doeth ac yn ei guddio rhag yr annoeth. Fe ddywedwyd yr un gwirionedd gan y proffwyd Eseia, ac fe'i dyfynnwyd gan yr Iesu "Gan glywed clywch, ond na ddeallwch, a chan weled gwelwch, ond na wybyddwch". A fyn wybod meddwl Carlyle darllened ei Sartor Resartus. Cefnasom ar y pentref tawel hwn a'i atgofion hyfryd, a chyfeiriasom ein hwynebau tua Dumfries.

Yr oedd yr wybren uwchben yn las o gwr i gwr a chyn lased â'r genhinen, a chymylau gwynion yn britho'r glesni Ac yn y pellter draw mynyddoedd yr ucheldiroedd yn ymddangos fel yn cwrdd â'r glesni, a'r glesni yn gefndir iddynt. Yn Dumfries fe aethom yn ddi-oed i weld delw-golofn Robert Burns. Ganed ef yn 1796 a bu farw yn 1803 yn ddim ond 37 mlwydd oed. Gadawyd ei fedd ef a beddau ei blant hefyd a'i wraig, ei bonnie Jean. Arosasom am ychydig ar garreg ei ddrws, ac ar y garreg honno y syrthiodd y bardd ffwdanus ac y cysgodd a chaenen wen o eira yn orchudd arno yn y bore. "Yr ydych yn falch o Burns", meddwn wrth ddyn a ddigwyddai aros gerllaw. "Ydym", meddai'r ateb, "ac y mae'r byd yn falch o Burns". Defnyddia Burns y gair bonnie, canys dyna fel yr ysgrifennai ef y gair, ac nid bonny, fel y gwneir yn aml gan ysgrifenwyr. Nid oes gennym ni yn Gymraeg na Saesneg air yn ateb iddo nac yn ei gynnwys. Meddylier am bonnie Dundee ; bonnie, bonnie banks of Loch Lomond; a bonnie Jean. Croeswyd y trothwy, a rhowd tro trwy'r tŷ, a'r ystafell a'r gwely y bu arno, y gegin a pheth o'r dodrefn a berthynai i'r bardd. Ac yno yr oedd delw mewn plastr o'i ben, a phen yr un ffunud â phen Goronwy Owen. Yr oedd yr Iberiad yn gryf yng Ngoronwy ac yntau, a'r Iberiad oedd y bardd, y cerddor, a'r cyfriniwr, a chydoesai'r ddau â'i gilydd, ac un arall o'r un cyfnod oedd Ieuan Brydydd Hir, ond bod y Goidel yn gryfach ynddo ef, ac o ganlyniad yn llai o fardd, ond yn fwy o hynafiaethydd. Dynion a gwendidau amlwg iawn oedd y tri, a'r un mor amlwg â hynny oedd eu rhinweddau, eu hedifeirwch a'u parodrwydd a'u hawydd i wneud iawn am eu beiau. Nid oes yng ngweithiau yr un ohonynt feddyliau isel a di-chwaeth. Trafferthus o ffwdanus fu bywydau'r tri, ond gadawsant ar eu hôl weithiau a restrir ymysg y clasuron. Yr oedd yn rhaid mynd unwaith eto, ac yn awr i gyfeiriad Ayr gyda glannau Nith am ryw ran o'r ffordd.

Ac yma y ganed Burns. Gwelsom ei dŷ, a'r noson honno darllenasom ei "Cotter's Saturday Night", a dyna ddisgrifiad o'i deulu, ei dad a'i fam a'i frodyr a'i chwiorydd. Yn awr yr oedd yn hwyrhau a chan nifer yr ymwelwyr yn y dref brydferth ar lan y môr, nid oedd gwely i'w gael am bris yn y byd a ninnau mor flin. Mynd oedd raid eto, a gwelsom mai ofer oedd colli amser i holi am wely a brecwast. Ar ôl hir deithio cyraeddasom Gaer Alclud (Dunbarton), ac ar ôl croesi Clwyd (Clyde) cawsom lety cysurus.

Fore drannoeth yr oeddem ar lan Loch Lomond ac yn teithio'r ffordd a redai fin-fin ag ef am 25 milltir, a'r mynyddoedd uchel o boptu iddo, ac yn bwrw eu cysgodion i'w lesni distaw a llonydd. Pasiem ynys ar ôl ynys o wahanol faintioli, ac yr oedd 30 ohonynt yn britho'i wyneb. Daethpwyd o'r diwedd i'w derfyn a dechreuwyd dringo'n raddol gefndir o fynydd, ond cyn mynd nepell gwelsom ddyn yn eistedd ar ymyl y ffordd yn cymryd hamdden. Euthum ato ac fe eisteddais yn ei ymyl tra oedd fy nghydymaith yn crwydro o gwmpas. Ie, dyn o'r gymdogaeth ydoedd, ac yn cyfeirio tuag adref. Ar ôl holi ac ateb ein gilydd, gofynnodd imi a fûm i ar ben Ben, gan bwyntio â'i fys at Ben Lomond. Ysgydwais fy mhen yn nacaol. "Ddim ar ben Ben", meddai gyda syndod. Dywedais ei bod yn ormod o'r dydd i mi ddringo i'w ben. Tynnodd yntau glamp o oriawr o'i boced ac addefodd ei bod. Ar ôl ymado ag ef aethom rhagom ar hyd ffordd unig am filltiroedd lawer gan hiraethu am lety a gwely a thamaid a llymaid i dorri ein newyn a'n syched. O'r diwedd gwelsom ryw hanner dwsin o dai heb fod ymhell a modurdy gerllaw, ond nid yn agos. Arhoswyd wrth y modurdy, ac fe aeth John i holi am lety. Yn union wedi iddo droi ei gefn dyma fodur o gyfeiriad arall yn prysuro i lawr ac yn aros wrth dŷ'r modur. Neidiodd y gyriedydd allan ar ffrwst a chan edrych yn llidiog arnaf, gofynnodd pa hawl oedd gennyf adael fy 'merfa' wrth y drws i'w atal ef i mewn. Galw fy Awstin 10 yn ferfa a'm cythruddodd yn aruthr, ac fe edrychais ar y dyn, yn llewys ei grys erbyn hyn, yn dra ffyrnig, ac mor ffyrnig nes llareiddio ohono gryn dipyn. Cyn i ddim pellach ddigwydd yr oedd John yn ei ôl i symud y modur ac yn ei roddi yn y modurdy, canys yr oedd wedi sicrhau llety yn un o'r tai. Yn od ddigon tŷ y dyn hwnnw oedd ein llety y noson honno, a chawsom ymgom hapus ag ef a'i briod a chryn dipyn o hanes y fro a'i thrigolion.

Y lle nesaf y daethom iddo, ar ôl oriau o deithio, oedd Callendar ac ar y ffordd cawsom gip ar Loch Katrine a'r Trossachs. Rhamantus iawn oedd y lleoedd hyn a'r dref ymnythu'n dawel rhwng y mynyddoedd cribog ac uchel. Carem aros yno'n hwy ond yr oedd amser yn ein herbyn, ac am hynny trowyd pen y modur i gyfeiriad Edinburgh. Yn awr yr oedd yn rhaid prysuro canys yr oedd gennym ffordd go bell i fynd. Cyrhaeddwyd yno gyda'r hwyr, ond yn rhy hwyr i weld dim o'r ddinas, fwy na mynd i'r Sŵ i basio heibio ychydig amser cyn mynd i noswylio.

Drannoeth yr oeddem ar ein ffordd i'r Castell trwy'r brif heol a elwir yn Princes Street. Parciwyd y cerbyd ar lawnt y Castell a chawsom arweinydd medrus i'n tywys trwyddo. Adroddodd ei hanes yn fyr a chryno, ac ar ôl gorffen ohono a'n gadael i ni ein hunain, aethom at y War Memorial nad oes ei ail na'i gyffelyb yn unman. Treuliasom gymaint o amser ag a allem i edrych o gwmpas ar yr adeilad gorwych i gofio'r rhai a syrthiasai yn y Rhyfel Mawr. Y mae'n rhaid gweld yr adeilad hwn, a threulio mwy o amser ynddo nag oedd yn bosibl i ni, i weld ei odidowgrwydd a'i fwynhau. Methais â chael neb i ddywedyd wrthyf pwy a'i dyfeisiodd. O ben y Castell cawsom olwg odidog ar y wlad brydferth o amgylch.

Y lleoedd nesaf i ymweld â hwynt oedd mynachlog Melrose ac Abbotsford, ac yn awr yr oeddem yng ngwlad Syr Walter Scott. Aethom i'w dŷ a thrwyddo, neu yn hytrach y rhan honno o'r tŷ a breswyliai ef. Ac yr oedd yn union yr un fath â'r pryd hwnnw, a phopeth yn ei le fel y'i gadawodd y tro olaf. Gwelsom ei lyfrgell fawr o 20,000 o gyfrolau, ac ynddi ei gadair a'i ddesg. Yn y neuadd yr oedd ei ffon a'i het fel pe'n disgwyl am eu perchennog, ac yn yr ystafell yn ymyl, ei wely. Yr oedd yno amryw o ymwelwyr â'r lle. Oddi yno aethom i Dryburgh Abbey i weld ei fedd a bedd Iarll Haig yn ymyl. Carreg a chroes wedi ei thorri arni oedd ar fedd yr olaf yn union deg yr un fath a'r un faint â'r miloedd croesau a welir yn Ffrainc a Fflandrys.

Y noson honno lletyasom yn Kelso, ac fe ymwelsom ag adfeilion yr hen fynachlog. Piti oedd i'r fath ddinistr oddiweddyd yr hen fynachlogydd Sistersaidd hyn. Hawdd y gallasid eu haddasu ar gyfair yr oes newydd a oedd ar y trothwy. Rhaib anniwall yw dinistrio hen sefydliadau fel y rhain, a cholled na ellir ei sylweddoli. Yr un dynged a ddigwyddodd i hen fynachlogydd Cymru y sydd heddiw yn addurn i'n gwlad yn eu hadfeilion, ac yn dystion o'u duwiolfrydedd a'u gofal, yn enwedig o'r tlawd a'r anghenus.

Y lle nesaf i ymweld ag ef oedd Coldstream ac yn y gymdogaeth yma yr oeddem i ymweld â theulu a adwaenem. Ar ôl ymgom hapus â'r teulu, symudasom i Ferwig ar Glwyd (Berwick on Tweed). Yr oedd hyn ar dydd Sadwrn, ac yma fe ddisgynnodd rhyw flinder annisgrifiadwy arnom gweld cymaint, a theithio cymaint, o ddydd i ddydd, collasom bob archwaeth at weld dim mwy. Sychedem am ychydig seibiant i fyfyrio ar a welsom ac a glywsom. Ond ni allem feddwl am aros ym Merwig dros y Sul, a'r cwestiwn oedd b'le i fynd. Yn ystod tamaid a llymaid yn Coldstream penderfynasom droi pen y cerbyd yn ôl—teithiwyd yn ddibwynt fel hyn am lawer o filltiroedd. Yn sydyn trawyd ni â'r syniad mai gwell oedd mynd i Gaerliwelydd o'r lle y cychwynasom, a chyrhaeddwyd yno gyda'r hwyr.

Fore trannoeth aethom i'r moddion yn yr Eglwys Gadeiriol a dyrchafasom ein calonnau mewn diolch i Dduw am ein cynnal a'n cadw ar hyd y daith.

A dyma'n taith ni yn yr Alban drosodd yn union fel y cynlluniasem hi, ond inni ei gwneud mewn llai o amser o ddeuddydd neu dri. Teithiasom trwy wlad Thomas Carlyle, Robert Burns, a Syr Walter Scott, y sydd mor amlwg yn hanes Sgotland a'r byd. Ein tuedd ni yng Nghymru yw aros gartref ormod yn lle mynd o amgylch i ehangu ein meddyliau a gweld gorwelion newydd, a chyfoethogi ein llenyddiaeth trwy ymgydnabyddu â llenyddiaeth gwledydd eraill.

Digwyddiad hollol ddamweiniol oedd inni fynd i ardal y llynnoedd yng Nghumberland, a gwlad Wordsworth. Cychwynnwyd o Gaerliwelydd trwy Penrith, dros y Shap i Kendal, Windermere, Grasmere, Ambleside, Derwent, Bassenthwaite, Maryport, Silloth, ac yn ôl. Fel y mae'r mynyddoedd bwrw'u cysgodion i ddyfroedd grisialaidd y llynnoedd, felly yn yr un modd yr adlewyrchir hwy yn "Excursion" Wordsworth. Y fath fwynhad yw darllen yr "Excursion" ar ôl ymweld â'r wlad a'i gweld hi a'i harferion yn fyw ynddi. Drannoeth, teg edrych tuag adref.

Nodiadau golygu