Yr Hen Lwybrau/Ysgub Eto o Loffion

Ysgub Arall o Loffion Yr Hen Lwybrau

gan John Davies (Isfryn)

Tro yn Sgotland


XIII

YSGUB ETO O LOFFION

AR ôl i Wilym orffen adrodd ei stori am fuddugoliaeth y Nant a oedd fwy ei maint na hyd yn oed fuddugoliaeth Wellington ar faes Waterloo, yr oeddem wedi dyfod i ben y llwybr a redai yn gyfochrog â Dyffryn Conwy, ond yn droedfeddi lawer yn uwch. Yn y tro hwnnw bwriwyd un olwg ychwanegol dros un o ddyffrynnoedd prydferthaf Cymru. Yr oedd y dyffryn wedi ei ordoi â haenen denau o niwl, a chyn deneued â gorchudd y ddyweddi yn nydd ei phriodas, a thrwy'r gorchudd cyfriniol hwnnw, a guddiai ac a ddatguddiai, gwelem long dan hwyliau ar yr afon, a'r tir oddeutu yn symud i fyny, a chyn arafed â bysedd yr awrlais, a'r haul yn tywynnu ar yr olygfa onid oedd yn debyg i ymadawiad Arthur,—

A speck that bare the king
Down that long water opening on the deep
Somewhere far off, pass on and on, and go
From less to less and vanish into light.

Trowyd yma ar y chwith, ac yr oeddem allan o wres yr haul mewn coedwig fel mewn teml gyda'i cholofnau uchel a'i bwâu cyfriniol o ganghennau irion cyn ysgafned a theneued â Gwallt y Forwyn neu we'r pry copyn, ac yn gwau'n gyfrodedd trwy'i gilydd. Y llawr oedd garped rhwydwaith o fwsog ac eiddew gyda thusw yma ac acw o Sanau'r Gog yn frodwaith iddo. Arafwyd ein camau yma i fwynhau'r olygfa a'i hinsawdd dymherus. Ond dyna waedd oddi wrth un o'r cwmni, a gwelid gwiwer yn dringo'r goeden gan ysboncio i fyny, ac yn rhyw gip-edrych yn llygadlon yn awr ac yn y man ar y cwmni oddi tani, ac yn dyfalu beth oeddynt, a pheth oedd eu neges yn troseddu mor ddiseremoni fel hyn ar ei thiriogaeth hi. Amgylchai rhai y goeden, ond a amgylchwyd hi sydd broblem y rhaid i rifyddiaeth ei phenderfynu. Coediog iawn oedd Dyffryn Conwy yn nyddiau'r hen Farchog o Wydir a chyn hynny, ac mor goediog fel y gallai gwiwer gerdded brigau'r goedwig o Gonwy i Ddolwyddelan heb gymaint â disgyn unwaith.

Allan led cae neu ddau o'r winllan goed daethom at adwy yn pwyso ar drawst o bentan i bentan. Yr ochr arall i'r adwy yr oedd ffordd gul am tua chanllath ac adwy arall. Ni wnaed ond prin cael a chael yr adwy gyntaf nad oedd tarw milain yr olwg ar ein gwarthaf. A lwc dda oedd inni roddi'r trawst yn ôl fel y'i caed. Rhuthrwyd at yr adwy arall am ddihangfa ac Elis yn tywallt melltithion ar ben Gwilym am eu tywys i'r fath le. Erbyn cyrraedd yr adwy honno yr oedd ci mwy mileinig yr olwg yn ein gwylio ac fel pe'n dywedyd "hyd yma y deuwch ond ddim ymhellach". 'Wiw oedd troi'n ôl canys yno yr oedd y tarw yn malu ewyn ac yn ceibio'r tyweirch â'i draed, a phe neidiem dros un o'r ddau glawdd byddem wedyn yn ei afaelion. Yno yr oeddem mewn cul de sac. Rhuai'r tarw ni at y ci, a'r ci yn ein cyfarth yn ôl at y tarw. Yno y buom rhwng megis Pihahiroth, Balseffon, a'r môr, neu Scylla a Charybdis, a hynny am ddigon o hyd i ofni bron cael byw. O'r diwedd gwelem het yn nesu atom, a phob yn dipyn daeth y dyn oedd dan yr het i'r golwg. Ac aeth Elis ato, yn awr yn dra ffyrnig yr olwg, a dywedodd,—"Pam na chedwch chi drefn a dosbarth ar eich bwystfilod, ddyn ?"

Y Dyn. "Pa fwystfilod sydd yn aflonyddu arnoch chi, ŵr dieithr ?"

Elis. "Ŵr dieithr, ai e? Wyddoch chi ddim â phwy ych chi yn siarad, a phwy sy'n siarad â chi? 'Chlywsoch chi ddim sôn amdana' i"?

Y Dyn. "Naddo".

Elis. "Na darllen fy ngwaith?"

Y Dyn. "Darllen eich gwaith, wir; pa waith a all llipryn fel chi neud?"

Elis. "O, mi wela'; un o'r rheiny ych chi sy'n caru'r tywyllwch yn fwy na'r goleuni".

Y Dyn. "Pwy yw'r dynion acw sy'n eu cwrcwd yn yr hesg a'r rhedyn, a beth yw'r ymguddio sydd arnynt ?"

Elis. "Gwilym Cowlyd, a—". Ond cyn i Elis enwi'r lleill, yr oedd y dyn drwy'r adwy ac yn rhedeg i ysgwyd llaw â Gwilym. A phan oedd y ci yn pasio i fynd ar ôl ei feistr, ysgyrnygodd Elis ei ddannedd gan anelu ergyd arno â'i ffon, ac oni bai i'r meistr gyfryngu, buasai dannedd y ci wedi eu plannu yn y tipyn cnawd a oedd am esgyrn coesau Elis.

I'r Arwest yr oedd y dyn yntau'n mynd ond fel y trodd o'r ffordd gan gyfarth y ci a bugunad y tarw. Dywedodd Gwilym wrtho pwy oeddem, yn un ac un—"A dyma Elis o'r Nant", meddai. "A hwn yw Elis o'r Nant?" meddai'r dyn gyda llais cyffrous; "clywais lawer o sôn amdano a darllenais lawer o'i weithiau, ac ni wn i am neb yn fwy", a chan estyn ei law, gofynnodd yn ostyngedig "Sut yr ydach chi, syr ?" Oedd, yr oedd Elis yn iawn ond fod y bwystfilod hynny wedi terfysgu cryn dipyn ar ei ysbryd, a dywedodd hynny wrth y dyn, ac o dan fendith y gawod o ganmoliaeth, ychwanegodd gufyddau at ei faintioli. Yna, trodd y dyn at y tarw gan fwmian rhyngddo ag ef ei hun—"Y'th di yn fwystfil, 'y ngwas i", a chosodd rhwng ei ddau gorn, a'r hen darw yn llyfu ei frest, nid ei frest ei hun ond brest y dyn. "Na, na", meddai gan ychwanegu, "yr ydych yn camsynied, gyfeillion; y mae hwn mor ddiniwed â'r baban". "Wel", meddai Elis, "tyrd Gwilym, dw i yn hidio fawr am fabanod yr ardal", ac ymaith ag ef gan ryw sisial, "Dyn o grebwyll a barn addfed yw hwnacw sydd gyda'i faban".

Ac felly yr aed ymlaen a phawb yn diolch am y waredigaeth a gafodd. Wedi mynd ond ychydig iawn o bellter daethpwyd at dŷ a elwid yn Dyn-y-coed, os nad yw chwarter canrif o amser wedi dileu'r argraff, a'r tŷ hwnnw oedd yr un y ganed Trebor Mai ynddo. Arddunol iawn oedd yr olygfa a gaed o ffrynt y tŷ. Draw ymgodai llechweddau Sir Ddinbych a Mynydd Hiraethog ar y gorwel. Cyfrifid Trebor yn ei ddydd yn Arch-englynydd Cymru, anrhydedd a hawlid i Ddewi Hafesp hefyd. Yr oedd y ddau yn dda. Dyn a gysegrodd ei fywyd i ganu'n syml wrth ei ddiwrnod gwaith oedd Trebor. Gwneud englyn oedd ei hoffusaf peth, a gwnaeth filoedd ohonynt, a llawer yn "bigion englynion ei wlad". Canodd gywydd ac awdl, a phryddest, a llawer iawn o ganeuon a thelynegion, a'r cwbl yn dwyn naws Mai arnynt. Yr oedd Mai yn ei natur a'i gân, ei awdl a'i bryddest, ac yn enwedig yn ei englyn, ac am hynny nid rhyfedd iddo ei alw ei hun yn Drebor Mai er y myn rhai ddadlau mai I am Robert o chwith yw'r enw.

Rhaid oedd brysio weithian, ond pwy a allai fynd heibio i'r hen Lan a gysegrwyd yn y chweched neu'r seithfed ganrif i Rychwyn Sant heb aros orig yn ei chynteddau? Aed i'r fynwent trwy'r porth hynafol, ac o amgylch Seion gan "ystyried ei rhagfuriau", ac edrych yn syn ar yr hen yw â'u cangau cyhyrog a gurwyd gan stormydd llawer canrif. Yn ffodus yr oedd y drws yn agored. Pyrth isel a chulion sydd i'r hen eglwysi yn ddieithriad, ac yn neilltuol felly i'r hen eglwys Geltaidd hon a adeiladwyd fel y cyfryw ar ffurf y Deml ac nid Basilica Rhufain, a throai'r drws ar ei golyn. Iddi hi yr arferai'r dywysoges—priod Llywelyn Fawr ddyfod i addoli o Neuadd Llywelyn yn Nhrefriw, ac ar ei chyfer hi yr adeiladodd ef Eglwys Trefriw i arbed iddi y daith anhygyrch i Lanrhychwyn. A bu yntau ei hun yn plygu ei ben trwy yr un drws, a hwnnw yn ddigon isel a chul, ac yn cadw mewn cof gwastadol y porth cyfyng a'r ffordd gul i wrêng a bonheddig, cardotyn a thlawd.

Wrth sefyll yng nghanol y gafell santaidd dyrchafodd un ei lais gydag oslef mynach o'r Oesoedd Canol a dywedodd,—"Nid oes gyda fi wrthwynebiad i bawb addoli fel y mynnont, ond rhowch i mi yr hen demlau hyn sydd yn ddameg o grefydd a phortread o Gristnogaeth".

Ymadawyd o'r Eglwys, a chymerwyd y llwybr a arweiniai ar draws ychydig gaeau a ffriddoedd i lawnt Taliesin ar lan Llyn Geirionydd, a'r Elis direidus yn rhagflaenu'r cwmni, ac yn gwichian yn awr ac yn y man am inni brysuro gan fod yr awr anterth yn dynesu. Gwilym yntau a ddechreuodd ein hannerch fel un yn ymwybodol mai hwn oedd y tro olaf iddo ef, a phwysai arnom i gario 'mlaen y ddefod o flwyddyn i flwyddyn, a dadlennai gyfrinachau rhyfedd nad yw yn weddus i glustiau'r dienwaededig i'w clywed, a hyderai y byddai i bob un â'i law dde ar ei forddwyd aswy dyngu llw yn y man cysegredicaf ar y ddaear y dydd hwnnw, a phob cylchdro blynyddol o'r dydd, y byddai iddo gadw'r defodau gyda phob manylrwydd, ac yn bendifaddau arfer pob dylanwad i gadw'r ethnig (a llygadai ar Elis) o fewn gweddeidd—dra pan ddarostyngid Pair Ceridwen ar Fryn y Caniadau.

Yng nghwmni Gwilym a'i anerchiad ymadawol yn goglais y clyw hyd at gyffwrdd â llinynnau tyneraf y galon, cyrhaeddwyd lawnt Taliesin a Bryn y Caniadau. Syrthiodd gwŷr y Gwyngyll, bob un i'w le, wrth y meini gwynion a'r porthorion wrth y pyrth, ac yntau, Gwilym, gydag un neu ddau arall ar y Maen Llog yn bennoeth a'r haul yn anterth ei nerth. Yna ymwahanwyd i gynnal yr Eisteddfod ynglŷn â'r Arwest wrth Gadair a Cholofn Taliesin, Pen Beirdd y Gorllewin. Yno'r oedd y delyn a'r crwth wrth eu gwaith.

Aeth un neu ddau ohonom o amgylch y llyn a'i ddyfroedd grisialaidd, a dychwelwyd i'r bryncyn y mae Cadair Taliesin yn ei gesail. Yno'r oedd y delyn, ac eisteddasom yn ei hymyl. Chwythai awel denau ar y pryd, a llanwai croth pob tant o'r delyn â melys leisiau a'n dyrchafodd i fyd y sylweddau tragwyddol.

Those strains that once did sweet in Zion glide.

Nodiadau golygu