Yr Hen Lwybrau/Ysgub Arall o Loffion

Ysgub o Loffion Yr Hen Lwybrau

gan John Davies (Isfryn)

Ysgub Eto o Loffion


XII

YSGUB ARALL O LOFFION

DRANNOETH i'r wledd yng Nghastell Gwydir yr oedd Arwest Glan Geirionydd, a'r Wŷs a'r Gwahawdd wedi eu hanfon i'r frawdoliaeth gyfarfod yn llety'r Prifardd Pendant yn brydlon erbyn hanner awr wedi saith yn y bore. Cododd yr haul y bore hwnnw ar ddiwrnod na fu ei fath cynt na chwedyn. Suai awelon mwyn Awst gyda digon o fin arnynt i ymlid ymaith bob syrthni, a symbylu hoenusrwydd corff ac ysbryd, oni chreid teimlad ei bod yn werth byw, a byw i fynd i Arwest Glan Geirionydd. Cychwynnais o'r tŷ mewn digon o amser i gyrraedd yn hamddenol y man penodedig. Gwelwn rai o'r frawdoliaeth yma ac acw yn gwneuthur am yr un cyfeiriad. A chennyf ddigon o amser cyfeiriais fy ngherddediad tua'r orsaf, a gwelwn Elis o'r Nant yn dyfod â'i wyneb llon yn bradychu direidi ei galon. Cyd-gerddasom yn ôl i gwrdd â Thudno yn ei gôt fawr hyd ei sodlau ymron, gyda ffon yn ei law a modrwy ar ei fys, ac yn ei gwmni ef aed i lety Gwilym Cowlyd.

Yno yr oedd Penfro ac un neu ddau arall. Ar y bwrdd yr oedd y corn gwlad a'r hen gleddyf yn ei wain yn gorffwys yn ei ymyl, ac yn pwyso ar yr hen gwpwrdd tridarn gyferbyn â'r ffenestr yr oedd ysgub dda o wyngyll. Yr oedd golwg urddasol a difrifol ar y Prifardd Pendant wedi rhannu ei wallt ar ochr ei ben er mwyn bod yn do dipyn tewach ar y corun. Disgynnai ei wallt yn bwythau sythion hyd ymylon colar ei gôt, a chyrliai ychydig yn ei flaenion. Yr oedd pob blewyn yn ei le, ac wedi ei arfaethu gan yr ennaint i gadw ei le am y gweddill o'r dydd hwnnw, beth bynnag. Mynych yr ymwelai'r bys a'r bawd â'r blwch snisin arian a oedd yng nghadw yn ei law aswy, a dyrchafai beth ohono at ei drwyn, a disgynnai peth ohono yn ronynnau gloywddu i lawr ei farf ar hyd ymylon ei wisgoedd. A phawb yn barod ac ar eu traed, ac yn arfog â'r gwyngyll, anerchwyd y frawdoliaeth cyn cychwyn gan Wilym Cowlyd, a dymunai ar i bawb fod yn weddus a difrifol, a llygadai ar Elis, canys yr oeddynt yn mynd i Fynydd y Tŷ. "Mynydd oedd ef ddoe", meddai, gydag oslef mynach o'r Oesoedd Canol, "a mynydd fydd e fory, eithr heddiw y mae'n Fynydd y Tŷ, a gweddus yw i bawb gofio hynny", a thaflodd olwg eilwaith at Elis.

Cychwynnwyd i'r daith yn orymdaith lawen, ac ar bont Llanrwst rhoddwyd bloedd ar y Corn Gwlad onid oedd y sŵn yn atseinio o Garreg y Gwalch. Dilynwyd y ffordd sydd yn arwain i'r ffordd rhwng Betws-y-coed a Threfriw, ac arhoswyd yno yn ymyl hen dderwen ar ymyl y ffordd, a elwid y Pren Gwyn, a pherthynai hanes diddorol iddo. Unwaith ymhell bell yn ôl ymwelai hen wrach yn achlysurol â'r Pren Gwyn, oedd ei hofn a'i harswyd ar yr holl fro. Rheibiai wartheg a defaid a cheffylau, a hyd yn oed y trigolion eu hunain, a daeth yn ddychryn gwlad. Heb fod yn hir ar ôl dymchweliad y mynachlogydd yr oedd hyn.

Cyfnod oedd hwnnw y gollyngwyd llawer iawn o ysbryd-ion drwg yn rhyddion, ac i'r cyfnod hwnnw y perthynai hen wrach y Pren Gwyn. Aeth yr hanes amdani i glustiau Syr John Wynne o Wydir, ac nid un i gellwair ag ef oedd yr hen Farchog wedi yr enynnai ei lid. Penderfynodd waredu'r wlad o'r hen wrach, ac i'r diben hwnnw ymwelodd â'r lle, ac yr oedd y lle yn ymyl ei gastell. O'i weled dringodd yr hen wrach i frigau'r goeden, ac oddi yno taranai felltithion ar ben ei hymlidydd, a rhybuddiai ef o'r dynged a oedd yn ei aros, y byddai i'w enaid gael ei gladdu dan raeadr y Wennol yn Nyffryn Lligwy, ac mai yn ôl lled gwenithen y flwyddyn y dychwelai i'w gastell. Ond beth oedd dwrn y Babaeth at ddwrn yr hen Farchog? Yntau yn gweled nad oedd ei gymhellion yn tycio a gyneuodd dân wrth fôn y Pren Gwyn i fygu'r hen wrach i lawr. Pa un a lwyddodd yr oruchwyliaeth honno ai peidio nid oes a ŵyr yn awr, gan fod tafod traddodiad yn ddistaw ar y pen. Fodd bynnag, cafodd y fro lonydd byth wedyn, ac nid yw'n anodd dyfalu tynged yr hen wrach o feiddio gwrthsefyll un o dymer yr hen Farchog, ond nid heb i'r tân losgi twll dwfn i foncyff yr hen dderwen, ac i'r ceudod hwnnw yr edrychid y bore dan sylw.

Mewn oesau diweddarach trowyd ceudod llosg y Pren Gwyn yn llythyrdy gan herlod y fro o Faethebrwyd, a thir Abad, a Felin-y-coed, i fyny i Gapel Garmon ar un llaw a Maenan ar y llaw arall. Yno y gosodent eu peithynod serch a'u harwyddion cyfrin. Llawer tro y gwelid geneth ieuanc yn yr hen wisg Gymreig, na fu ei thebyg mewn harddwch, yn dynesu'n llechwraidd i deimlo am ei pheithynen neu ei rhoddi yno, ac wedyn yn diflannu fel ewig ofnus, ac yn wrid o glust bwy'i gilydd gan yswildod, ac yn rhyw feddwl bod llygaid y fro arni. Cyn ymron inni orffen adrodd a gwrando yr hanesion hyn gwelem ddyn mewn gwasgod wen yn dyfod o gyfeiriad Betws-y-coed.

Un o wahoddedigion y wledd y noson gynt oedd ef wedi colli ei ffordd adref a mynd i Gapel Garmon, lle y caed ef ar lasiad y dydd yn holi'n flinedig am heol Dinbych yn Llanrwst. Yr oedd yntau wedi derbyn y wŷs i'r Arwest, ond ofnai ymddiried y daith i aelodau mor flinedig ag oedd yn ei gario y bore hwnnw, er bod ei feddwl yn barod. Aeth ef adref a ninnau yn ein blaen ar hyd y ffordd sy'n arwain i Nant Bwlch yr Heyrn. Ac wrth droi ohoni heibio i'r rhaeadr a elwid Cynffon y Gaseg Wen, arhosodd yr Archdderwydd Gwilym, a chyfeiriodd at y Nant, gan ddywedyd i fuddugoliaeth gael ei hennill yno, a daflai frwydr Waterloo i'r cysgod, ac os mynnem, gwnâi adrodd yr hanes wrth rodio ar hyd y darn hwnnw o'r llwybr. Bron nad oedd yr olwg arddunol ar Ddyffryn Conwy y bore hwnnw, ac anian yn casglu ei phylacterau ynghyd i ddatguddio'r afon, yr hen afon, Afon Gonwy, fel sarff arian yn ymdroelli trwy'r dyffryn, nad oes ei harddach yng Nghymru, yn peri inni droi clust fyddar i Wilym, a mwynhau yn hytrach y golygfeydd arddunol a oedd o'n blaen, ond fel arall y bu, ac ni fu'n edifar gennym, canys cawsom glywed ganddo hanesyn a gynhyrfodd ein teimladau hyd at ollwng deigryn.

Dechreuodd adrodd fel yr oedd rai blynyddoedd yn ôl ŵr a gwraig newydd briodi yn dechrau eu byd yn y Nant. Rhyw dyddyn bychan oedd ganddynt. Yr oedd yr amser yn galed, a llawer o ddioddefaint a newynu oni bai am yr hen dirfeddianwyr caredig a maddeugar yn troi'n ôl beth o'r rhenti. Dechreuasant o ddifrif ar eu byd yn y blynyddoedd celyd hynny. Dygent eu nwyddau i farchnad Llanrwst. Cymhellai hi ef i aros gartref, ond ni fynnai ef iddi hi gario'r basgedi ei hunan gan gymaint ei serch ati, ac arhosai yn y dref i gario'r basgedi gweigion yn ôl. Aeth blynyddoedd heibio heb i ddim neilltuol dorri ar eu heddwch mwy na bod mwy o eneuau i'w porthi a chyrff i'w dilladu. Faint oedd ei gofid hi un diwrnod pan welodd arwyddion iddo ef fod dan arwydd y Llew Gwyn a'r Ceffyl Du, ac eto, ni fynnai ddywedyd gair i glwyfo priod mor serchog a thad mor dyner. Cynyddodd yr arwydd yn raddol gydag amser, a daeth y byd i wasgu fwy fwy o'r naill flwyddyn i'r llall, a hithau o hyd yn parhau yn ei distawrwydd rhag clwyfo ei deimladau. Un prynhawn methodd ef â'i chyfarfod hi fel arfer i gario'r basgedi gweigion, ac aeth adref ei hun a'i chalon yn gostrel o ofid. Fe'i cyhuddai hi ei hunan o ddiofalwch, a chyhuddai bawb ond y fo. Ac eto yn ei gofid cadwai'r cwbl iddi hi ei hunan. Un diwrnod marchnad, ac yntau heb ddyfod i'w chyfarfod, mentrodd fynd yn ddistaw trwy ddrws tŷ arwydd y Llew Gwyn, a thrwy gil dôr yr ystafell gwelai ei gŵr yn swrth a'i ên ar ei frest. Trodd hithau yn ei gwrthol, a brysiodd adref i roddi te i'r plant, a'u hwylio i'r gwely rhag gweld eu tad. Golwg dosturus oedd arno y noson honno pan ddychwelodd adref. Fore trannoeth dywedodd fod arno eisiau mynd ar neges i'r dref, a rhoes ryw esgus. Na, nid oedd dim i'w rwystro ond yn unig ei bod hi wedi paratoi ar gyfer corddi yn y prynhawn, ac yr hoffai gael ei help. Atebodd yntau y byddai'n ôl mewn pryd i'r awr gorddi, a bu yn unol â'i air; llonnodd hithau drwyddi, er mai ychydig o help a allai ef roddi. Aeth wythnosau heibio heb un arwydd o ddiwygiad. Gwelai hi erbyn hyn ddinistr y gŵr a garai, a beth oedd bywyd iddi hi, hyd yn oed yng nghwmni ei phlant, hebddo ef? Dydd y farchnad a ddaeth, a'r prynhawn hwnnw aeth hi yn eofn a llygaid llaith drwy ddrws tŷ arwydd y Ceffyl Du. Yno yr oedd ei gŵr yng nghanol ei gymdeithion. Ond O! mor wahanol i'r hyn ydoedd yn ei gartref. Clywodd ei lais garw a oedd yn fiwsig yn ei chlustiau hi gartref, a'r iaith anweddus yn disgyn dros wefusau a oedd felysach ar ei grudd na diferion y diliau. Diflannodd pob pelydr o obaith o ddiwygiad, a chan roddi ei basgedi ar lawr, curodd y bwrdd, a thrawodd y curo y cymdeithion â syfrdandod, a galwodd am yr un peth ag a oedd gan ei gŵr, a thaflodd ddernyn o arian ar y ford. Ond cyn iddi roddi'r gwefusau tyner hynny at y cwpan, neidiodd y gŵr ar ei draed, a chyda'r llais hwnnw a oedd yn fiwsig ar ei chlyw dywedodd wrthi, "Paid, Nans fach, nid dyma dy le di. Tyrd, fy ngeneth i, adref". Ac adref yr aed yn sŵn meddyliau ei gilydd. Y farchnad ddilynol cariodd y basgedi hyd at y Pren Gwyn a throdd yn ei ôl, ac wrth y Pren Gwyn yr arhosai amdani yn y prynhawn, a pharhaodd felly am wythnosau, a daeth hapusrwydd yn ôl i'r tŷ, a llwyddiant yn sglein arno.

Nodiadau golygu