Yr Hen Lwybrau/Dan Arwydd Y Llew Coch

O'r Gogledd i'r De Yr Hen Lwybrau

gan John Davies (Isfryn)

Ysgub o Loffion


X

DAN ARWYDD Y LLEW COCH

MYND i weld y dyn bodlon ac aros dan arwydd y Llew Coch fu fy hanes tua diwedd Medi 1927. Ac fel hyn y digwyddodd. Daeth ymwelydd bychan heibio na welais ers rhai misoedd. Dawnsiai o gwmpas fel pe i dynnu fy sylw. Y robin ydoedd wedi dychwelyd o'r wlad i'w hen gynefin. Adnabûm ef wrth bluen wen yn ei adain chwith. Deffrôdd yr olwg arno ysfa ynof am fynd am dro i weld hen gydnabod a'r dyn mwyaf bodlon a adwaenwn, a gwyddwn y byddai awr neu ddwy yn ei gwmni yn wir fwynhad. Brysiais i'r bws, ac o'r bws i'r trên ; a disgynnais yn yr orsaf agosaf ato, er bod oddi yno dair neu bedair milltir dda i'w cerdded. Cul a throfaog oedd y ffordd, a honno ar i fyny.

Arhoswn yn awr ac yn y man i edrych ar fynyddoedd Meirion, ac yn enwedig ar y Gader a ymwisgai ar y pryd â gorchudd o niwl tenau, a chyn deneued â gwawn y gweunydd, a'i cuddiai ac a'i datguddiai bob yn ail. Weithiau codai ei phen fel pe'n ymhyfrydu edrych arni hi ei hunan yng ngwisg gwisgoedd ei gogoniant. Tebyg ydoedd i'r Archoffeiriad ddydd mawr y Cymod yn mynd trwy'r wahanlen i wyddfod yr Anweledig yn y santeiddiolaf ac i wrando ar yr anhraethadwy. Euthum yn fy mlaen ac yn ddyfnach i ryw ddistawrwydd llesmeiriol, a heibio i goedwig a brain ar frigau uchaf y canghennau fel llongau dihwyl ar y cefnfor, Gorweddai'r fuches ar y weirglodd gan gnoi ei chil yn farwaidd ddigon. Distawrwydd a syrthni a orffwysai'n drwm ar fro a bryn. Nid oedd na sŵn aderyn na si chwilen i'w clywed yn unman.

Mewn tro yn y ffordd gwelwn ddyn yn gorwedd ar wastad ei gefn. Dan ei ben yr oedd pecyn mewn cadach glas, a'i ddwy law ymhleth dan ei wegil, a'i ffon yn ei ymyl. Dyn mewn cytgord â natur ydoedd yno'n cysgu. Methais â'i basio heb ei ddeffro; cododd a chyd-deithiodd ran o'r ffordd gan ymddiddan ac ymgomio, ac felly aethpwyd ymlaen nes cyrhaeddyd ohonom bentref.

Wedi cael o hyd i geidwad allwedd yr hen Eglwys euthum i mewn a'r ceidwad gyda mi. Ni fuom yno'n hir nes goleuo o fellten yr Eglwys o gwr i gwr a dangos y groes ar yr

allor yn danbaid, ac o fewn eiliad neu ddwy dyna daran fel pe'n disgyn ar do'r Eglwys ac yn ymrolio a marw yn y pellter, ac ar ei hôl un arall, ac un wedyn, a'r mellt yn gwau'n frawychus. A chyda hyn dyma'r glaw yn disgyn fel petasai cwmwl wedi torri; disgynnai'n syth nes tasgu o'r defnynnau ar y palmant.

Manteisiais ar y cyfleustra cyntaf i redeg am nodded i'r Llew Coch yr ochr arall i'r ffordd ac nid oedd nepell. Cegin hen ffasiwn oedd yno ac aelwyd gysurus, a hen ŵr yn eistedd yn ei gadair freichiau a golwg urddasol a phatriarchaidd arno. Fe'm hysbysodd nad oedd moddion yn y byd yno i'm hebrwng i'r orsaf nac unman arall, a pherygl bywyd fyddai mentro allan ar y fath law, yn enwedig heb ddarparu ar ei gyfer. Amaethdy oedd y Llew Coch yn awr er iddo fod yn dafarndy unwaith a'r hen enw'n glynu wrtho o hyd.

Byw gyda'i ferch ydoedd ef, a hithau'n weddw. Wrth ymgomio â'n gilydd o bobtu i'r tân, a'r gath yn rhyw bendwmpian ar yr aelwyd ac yn deffro i olchi y tu ôl i'w chlust â'i phawen, yn arwydd o ddyfodiad rhyw ymwelydd, daeth y ferch i mewn a phrysurodd i ddarparu cwpanaid o de, ac yng nghwrs yr ymgom o amgylch y ford fach gron deellais i'r hen ŵr fod yn yr un hen ysgol â minnau, ond flynyddoedd yn gynharach.

Pistyllai'r glaw, a derbyniais wahoddiad y teulu i aros yno y noson honno. Yr oedd gwaith y dydd drosodd yn awr, a'r ferch wedi gafael yn ei hosan a dechrau gwau a ninnau'n dau'n ymgomio am yr hen amser gynt.

Yn ôl arwydd y gath daeth cymydog i mewn, a chyn braidd iddo eistedd dilynwyd ef gan un arall. Yr oeddwn yn awr yng nghwmni triawd o hen batriarchiaid diddan a pharablus, a'r crochan â'r uwd yn berwi ar y tân.

Digwyddais ddywedyd mai aelwydydd croesawgar a chysurus oedd hen aelwydydd Cymru. "Ie", meddai hen batriarch y tŷ, "croesawgar o hyd, ond cysurus! Wel, pan oedd y tân ar lawr, yr oedd cysur y pryd hwnnw". Ac yna aeth yn ei flaen i adrodd am ei daid yn ddyn ifanc yn dyfod o Sir Gaernarfon i Sir Feirionnydd, a dwyn gydag ef y tân mewn crochan i gadw'r olyniaeth rhwng yr hen breswyl a'r newydd, ac arwydd o anlwc fuasai i'r tân ddiffodd. Ac ni fu diffodd ar y tân ar aelwyd y Llew Coch hyd o fewn y pum mlynedd ar hugain diwethaf, pryd y gorfodwyd rhoddi grât ar gyfer glo, am fod y fawnog wedi ei gweithio allan. Dyhuddid y tân bob nos, a dadebrid ef bob bore, ac anffawd amheus fuasai iddo ddiffodd. Gosodai'r tân ryw gysegredigrwydd ar yr aelwyd a chreai ryw awyrgylch cyfriniol y gellid ei deimlo, a pha ryfedd pan gofir mai'r tân, yn ôl Darwin, yw prif ddarganfyddiad y byd. Hawdd dyfalu'r gofal i gadw'r elfen gyfriniol hon yn fyw pan ddarganfuwyd hi gyntaf, a'r pryder o'i cholli wedi ei chael, a bu'r pryder yna a'r gofal i'w teimlo o'r amser pell hwnnw y sy'n awr yn ymlochesu yn niwl y gorffennol, hyd ein dyddiau ni. Ac nid rhyfedd i'r cysegredigrwydd hwn barhau cyhyd ag y parhaodd y tân ar yr aelwyd ac iddo ddiflannu gyda dyfodiad y grât a'r glo.

Dan fantell y simnai a thanllwyth ar yr aelwyd, a'r gwynt yn chwibanu yn y simnai, a'r penteulu yn ei gadair freichiau o dderw du, a brenhines yr aelwyd ar gadair arall is gyferbyn, a rhyngddynt hanner cylch o blant yn fechgyn a merched, ac yn gymysg â hwynt ddau neu dri o gymdogion neu gymdogesau—dyna oedd yr aelwyd Gymraeg pan oedd Bess yn teyrnasu, ie, a chyn Bess, a hefyd ar ôl dyddiau Bess.

"Da y cofiaf yr hen aelwyd Gymreig, ac yn wir yr hen aelwyd hon cyn y grât a'r glo", meddai un o'r ddau gymydog, ac yntau'n pwyso'n drwm ar ei bedwar ugain, ac aeth yn ei flaen i adrodd yr hanes.

Noson Gwau Gwryd. Cofiai am wragedd a merched y fro yn dyfod ynghyd, ac ynghyd i'r aelwyd honno, i dreulio noson lawen, ac i wau gwryd. Mesurid yr un faint o edafedd i bob un, a hwnnw o hyd gŵr. Byddai tanllwyth ar yr aelwyd, y crochan llymru yn crogi'n uchel wrth y bach, a channwyll newydd yn Siôn Segur, a dyna ddechrau ar wau.

Am awr dda ni chlywid ond y gweill yn clecian, y crochan yn berwi a chwerthiniad iach ar y straeon chwaethus a digrif a'r dywediadau pert. Y gyntaf a orffennai'r gwryd oedd y gyntaf ohonynt i briodi, ac fe ddigwyddodd hynny unwaith i hen ferch a oedd wedi gweld ei 70, a mawr oedd llawenydd ac ysmaldod y lleill, a hithau yn treio ei chysuro'i hun yn wyneb fath aflwydd trwy ddywedyd, "Wel, wel, dyna'n diwedd ni i gyd".

Gwrandawyd ar stori'r gwau gwryd â chlustiau a geneuau agored, yn enwedig y tri phlentyn a eisteddai o fewn y cylch crwn ar yr aelwyd. Ond beth oedd y syndod pan ddywedodd y cyfaill—distaw hyd yn hyn-mai—Aelwydydd Cymru oedd crud llenyddiaeth ein gwlad a'i deffroadau crefyddol. O glywed hyn distawodd pawb gan droi eu hwynebau at y llefarwr â rhyw ddisgwyliad am chwaneg yn argraffedig ar bob wynepryd. "Ie", meddai, "aelwydydd Cymru yw crud ei llenyddiaeth a'i deffroadau, a dyma ichwi enghraifft deg o un o hen aelwydydd Cymru, nid yn gymaint fel ag y mae hi heno, er bod yr olion yma, ond fel yr oedd hi hyd 25 mlynedd yn ôl pan oedd y tân ar lawr", ac fe aeth yn ei flaen i adrodd fel y cyfarfyddai cymdogion a dieithriaid i adrodd straeon ar y no man's land rhwng rhengoedd y goleuni a'r tywyllwch, yr ysgarmesau blin â brodorion y nos, a'r gweledigaethau brawychus. Oes y rhamant a'r dychmygion oedd yr oes honno, ac nid ofergoeliaeth. A'r rhamant yw dechreuad llenyddiaeth pob gwlad. Ac ar aelwydydd Cymru y stofwyd y Mabinogion a ddylanwadodd gymaint ar drwbadwriaid Ewrop. Ac aelwydydd Cymru a baratôdd y ffordd i'r deffroadau crefyddol. Cofiai ef yn dda am ddiwygiad, neu'n fwy cywir, ddeffroad '59, y pregethau tanllyd yn disgrifio dirdyniadau'r colledigion yn annwn, a beth oedd yn fwy naturiol nag iddynt gynhyrfu meddyliau a oedd eisoes yn eirias o'r ofnadwy. Dyn cyffredin, a llai na'r cyffredin oedd Dafydd Morgan, ond yr oedd ei ddisgrifiad o'r colledigion yn arswydus. Dyna fel yr oedd hi gyda Daniel Rowland, a Howel Harris. Y llyfr a ddarllenid fwyaf o unrhyw lyfr yn y ddeunawfed ganrif oedd Y Bardd Cwsg, a chredid ef bob gair.

Aelwydydd Cymru a arloesodd y ffordd, a hwynt-hwy a fu'n siglo crud llenyddiaeth ein gwlad.

"Yr ydych wedi moli llawer ar aelwydydd Cymru", meddai merch y tŷ, a chododd o'i chadair gan roddi heibio ei hosan, ac ymhen ychydig eiliadau yr oedd lliain gwyn a glân fel pe newydd ddyfod o'r olchfa ar y ford gron a chwpanau pren a llwy bren ymhob un, a'r crochan uwd ar drybedd fechan ar y ford a'r llefrith a'r enwyn mewn dwy jwg yn ymyl, a gwahoddiad i bawb i estyn ati a'i helpu ei hun o swper Cymreig ar aelwyd Gymreig.

Trowyd eilchwyl at y tân a'r ferch yn clirio'r ford ac yn golchi'r llestri ar y ford fawr, ac yn ymgomio â'r plant a eisteddai ar sedd y ffenestr. "Gan mlynedd yn ôl", meddai hen batriarch y tŷ, "tafarndy ydoedd y tŷ hwn fel y gwelir wrth yr arwydd"." Unwaith eto yr oeddem yn glustiau i gyd i wrando arno yn adrodd y modd y daeth yn dafarndy. Medd oedd diod yr hen Gymru, ac fe yfid yn helaeth ohoni yn y gaeaf, ac yn enwedig yn ystod cynhaeaf y mêl, ac o'r gair 'medd' y daw'r gair 'meddwi'. Diod ddinistriol iawn i iechyd oedd y medd. A rhag i'r genedl gyflawni hunanladdiad trwy yfed medd, darparwyd tai fel y tŷ hwn i fragu diod wannach o ffrwyth yr heidden, ac fe geir hen dai fel hyn yn ymyl yr eglwysi, a hwynt-hwy fu'n foddion i sobri'r wlad. Tai dirwest oedd y rhain i ddechrau, a chyflawnasant waith da yn eu dydd.

Ac felly yr aeth y nos heibio fel y canodd Cynddelw—

Yn gwau y mae Gwen,
Gwnaf innau lwy bren,
Mor dawel mae'r nos yn mynd heibio.

Gyda Nos Da i bawb esgynnais risiau o dderi du, ac i wely deri o wneuthuriad cartref, ond cyn mynd ni allwn lai nag anadlu englyn-weddi Eben Fardd:—

Y Duw di-wyrni dod arnaf—hun cwsg
Ac yna y cysgaf,
A fy nheulu cu, os caf,
Dan len Dy aden dodaf.


Nodiadau golygu