Yr Hen Lwybrau/Tro yng Ngheredigion (1)
← John Fisher, Offeiriad | Yr Hen Lwybrau gan John Davies (Isfryn) |
Tro yng Ngheredigion (2) → |
XVIII
TRO YNG NGHEREDIGION (1)
GYDA dyfodiad yr haf deffrôdd awydd cryf ynof i fynd am dro. Eisteddais i fyfyrio i b'le'r awn. Cynigiai llawer lle, pell ac agos, ei hunan i'm sylw. Yr hyn yn fwy na dim a benderfynodd y cwestiwn oedd y man yr oeddwn ynddo ar y pryd. Eisteddwn un hwyrnos hyfryd o haf mewn cysgod yn ymyl y tŷ. O'r tu cefn i mi yr oedd mynyddoedd yr Eifl, ar yr aswy Eryri a mynydd-gadwyn Meirion, ar fy ne y rhimyn mynydd a dyr Lŷn yn ddwy ran, ac o'm blaen Fae Ceredigion, a thuhwnt iddo yntau drumiau bryniau'r De, a haul y Gorllewin yn eu gwneuthur yn hynod eglur. Ac wrth edrych arnynt yn y pellter draw yng nghysgodion prudd yr hwyr, teimlwn hwynt yn amneidio arnaf i fynd yno am dro. Er mai llanerchau gwledig oeddynt, a minnau ar y pryd yn trigo mewn rhanbarth gwledig, gwyddwn y cawn rai pethau yno na chawn yma. Cawn gyfarfod â hen gyfoedion maboed, a rhodio'r hen lwybrau, gweld yr hen dŷ y'm ganed ynddo, a'r ddau arall y treuliais fy mlynyddoedd cyntaf ynddynt-y blynyddoedd hapus hynny cyn i amser ddechrau rhwygo a gwasgaru; ac o dan y dylanwadau cudd yma,
Out of my country and myself I go.
Fore Llun yr oeddwn ar fy nhaith at y bryniau pell a welswn y noson gynt, ac a deimlwn yn amneidio arnaf. Yn gymdeithion imi ar un llaw yr oedd y môr, aflonydd a distaw y diwrnod hwnnw, ac ar y llall y mynyddoedd uchel a niwl yn ysgeiniau teneuon yn wisg amdanynt. Ymadewais â hwynt heb fod yn hir, ac yn fuan yr oeddwn, nid yn unig yng ngolwg y bryniau pell, ond yn awr yn eu cwmni. A hwyr yr un diwrnod safwn ar y rhimyn uwchlaw mynwent ac eglwys Gwnnws.
Mor arddunol oedd yr olygfa oddi yma! Gwelais hi lawer gwaith o'r blaen ac ar wahanol dywydd ond yn nhawch yr hwyr y noson honno yr oedd yn hollol newydd. Yn y pellter yr oedd cylch o fryniau yn amgylchu'r holl fro gyda'r eithriad o un bwlch. A thrwy'r bwlch hwnnw gwelwn fynyddoedd yr Eifl ar y gorwel, yr Eryri, "a'r Wyddfa gyrhaeddfawr". Ac wrth edrych ar yr olygfa trodd fy meddwl i fyfyrio ar fel mae'r mynyddoedd a'r bryniau a'r dyffrynnoedd yn dylanwadu ar y cymeriad cenedlaethol, a'r unigol o ran hynny. O'r Gogledd a chymdogaeth yr Wyddfa y caed y diwygwyr a "droes agoriadau drws y Gwaredwr", ac o'r Deau y caed y deffrowyr a wasgarodd y peraroglau, fel na raid i'r De genfigennu wrth y Gogledd, na'r Gogledd wrth y De, mwy nag "Effraim wrth Juda, a Juda wrth Effraim". Rhaid oedd wrth y ddau—"Deffro di, ogleddwynt, a thyred ddeheuwynt, chwyth ar fy ngardd fel y gwasgarer ei pheraroglau hi"; "ac felly y daw'r Anwylyd i'w ardd i fwyta ei ffrwyth peraidd ei hun".
Fe aeth yr olygfa hon heibio, ac yr oeddwn mewn awyrgylch arall. Rhodiwn yr hen lwybrau a rodiais ganwaith o'r blaen. Ychydig oedd y gwahaniaeth ynddynt, rhy ychydig bron i dynnu sylw. Gwelais fy hun unwaith eto â llyfr neu ddau dan fy nghesail, a gwelwn yr hen lwyni yr arferwn eistedd dan eu cysgod. Dyma'r hen dŷ y'm ganed ynddo, a'r ddau arall y'm magwyd ynddynt heb ond ychydig iawn o gyfnewidiad i'r hyn oeddynt gynt. Euthum trwy'r cyntaf a'r trydydd, a thrwy eu gerddi, a hen atgofion yn ymwthio ar draws ei gilydd trwy'r cof a'r meddwl. Yr oeddynt hwy bron yr un fath, ond fod eu hen breswylwyr wedi hen ymado.
Teithiwn trwy'r fro yng nghwmni efrydydd ieuanc. Gymaint y gwahaniaeth oedd rhyngom! Yr oedd fy nghlustiau i yn fyw i'r awel-donnau a gludai atgofion o'r amser gynt ac yntau â'i glustiau yn agored i'r presennol. Gwelwn i y rhieni yn y plant, a nodweddion y teulu yn blodeuo mewn ysbrigyn ieuanc. Adnabyddwn i'r plant wrth eu rhieni. Mor rhyfedd a hyfryd oedd edrych ar yr hen foncyff trwy gangau'r olewydden! Er prydferthed oedd y cangau irion a thyner, ar yr hen foncyff yr edrychwn i, a'r cangau irion a thyner a dynnai sylw a serch fy nghydymaith. Na, nid oedd fawr o orffennol i'w hanes ef. Adwaenai ef y rhieni wrth y plant, a minnau'r plant wrth eu rhieni, a chyd-deithiem fel hynny'n hapus gyda'n gilydd: ef yn derbyn cyfarchiad hwn a'r llall ar ein llwybr, a minnau'n gwrando ar leisiau o'r amser gynt. Yr oeddwn i â gorffennol i'm bywyd, ac ar y cyfan ei lawenydd yn gorbwyso ei dristwch ac yn gallu sibrwd wrth fy nghydymaith ieuanc—
Grow old along with me
The best is yet to be,
The last of life for which the first was made.
Buom gryn ysbaid yn yr awyrgylch yma, awyrgylch llwythog o atgofion am hen gyfeillion, a rhai ohonynt yn fwy na chyfeillion, na allaf eu henwi heb golli deigryn o hiraeth ar eu hôl, ond ar y cyfan teimlwn—
'Tis better to have loved and lost
Than never to have loved at all.
Mewn man neilltuol ar y daith fe'm teimlwn fy hun yn cael fy nyrchafu o awyrgylch yr hen atgofion. Yr oedd y fro yn awr yn fwy newydd, a rhaid oedd holi enwau'r tai a'r tiroedd a'r preswylwyr. Ymddangosai'r wlad yn hyfryd dan haul Gorffennaf. Clywn fy nghydymaith yn cyfarch rhai o'r fforddolion wrth eu henwau, a hwythau yn talu'r un deyrnged yn ôl, a minnau'n perthyn i'r oes gynt.
Un o fanteision mynd am dro fel hyn, parhaed y tro ddiwrnod neu wythnos, yw fod y golygfeydd yn newid bron bob awr. Daw golygfeydd newyddion i ddenu'r sylw a bywiogi'r ysbryd yn barhaus. Eir ymlaen trwy olygfeydd hen a diweddar, ac weithiau deuir at hen furddun neu glogwyn a egyr faes eang i fyfyrdod. Pan fyddys ar wyliau, neu'n mynd am dro, rhaid yw bod yn barod i dderbyn yr argraffiadau a gynigir ar y pryd, a gwneuthur y gorau ohonynt. O fynd fel hyn "deuthum", meddai Bunyan, i "fan lle'r oedd ffau, ac yno y gorweddais ac y cysgais, ac y breuddwydiais", a gallai ychwanegu, "a'm calon oedd yn effro". Ac fel yntau deuthum innau i fan neilltuedig. Yno yr oedd aber fechan. I'r Dwyrain a'r De ymgodai rhes o fryniau, ac yn y gongl rhyngddynt ar wastadedd coediog, a hwnnw yn ymestyn ymhell i'r Gorllewin, yr oedd hen furddun, a'r hen furddun hwnnw oedd mynachlog Ystrad Fflur. Môr dawel a neilltuedig oedd y lle! Y mae'r hen fynachlog wedi ysgrifennu ei henw yn ddwfn ar y fro o amgylch. Trysorir ei hanes yn enwau'r tai a'r tiroedd o amgylch, ymhell ac agos. Mynnai'r dychymyg redeg yn ôl i'r Oesoedd Canol, pan oedd y frawdoliaeth yma yn ei bri, a gwaith y dydd wedi ei ddosbarthu’n drefnus, a phawb i'w gwaith. Bu am rai canrifoedd yn dŷ elusen, gweddi, ac ympryd. Ac yn awr nid yw ond hen fagwyr ers dim a dim i bedwar cant o flynyddoedd, ac ni cheir "i dosturio wrth ei llwch hi", ond ambell hynafiaethydd gyda'i gaib a'i raw yn cloddio at ei lloriau, a datguddio’i cholofnau. Y mae ei bil i'r fro, ac i Gymru, yn un hir, a heb ei dalu i gyd eto. Wrth "amgylchu'i thyrau hi", bron na chlywn yr hen fynach hwnnw ar ei dymchweliad wrth grwydro'r llechweddau o amgylch, yn cwynfan—"Daw, fe ddaw dial; daw, fe ddaw”.
Fel y mae teithiwr yn symud o un lle i'r llall yn cael golygfeydd newyddion yn barhaus i ddenu ei fryd, yn yr un modd fe symuda neu fe'i symudir i oesoedd gwahanol, a hyn a ddigwyddodd i minnau fwy nag unwaith ar fy mhererindod. Ymhen ychydig ar ôl cefnu ar "fur Ystrad Fflur a'i phlas", croesais y bont y dywedodd Edward Richard amdani,
Na welwyd un ellyll na bwbach mor erchyll
Erioed yn trawsefyll tros afon.
Ac yr oeddwn yn Ystrad Meurig, ac yn y ddeunawfed ganrif. Gwir fod yma haenau hŷn o hanes, ac yn enwedig ar y bryncyn y safai yr hen gastell arno, a'm tywysai'n ôl i amser y Normaniaid, ac yn ei gerrig sy'n awr ym muriau beudai yr Henblas. Yr oedd yr hen eglwys, a ddisodlwyd gan yr eglwys newydd bresennol, yn cysylltu'r lle â'r hen fynachlog yn yr un modd ag y cysylltir Ysbyty Ystwyth, Ysbyty Cynfyn, a Phont y Gŵr Drwg. Oedd, yr oedd yma haenau ar haenau o hanes, a llawer o'r rheiny yn dangos dylanwad aruthrol yr hen Fynachlog.
Y gwrthrych y teimlwn i ddiddordeb ynddo ar hyn o bryd oedd Edward Richard a'i safle yn y ddeunawfed ganrif. Ond ni ellir ei enwi ef heb gofio ei fugeilgerdd a gyhoeddwyd gyntaf mewn hen almanac. Wrth fynd heibio, diddorol yw canfod tebygrwydd ei brofiad ar ôl ei fam, Gwenllian, i brofiad Tennyson ar ôl ei gyfaill, Arthur Hallam. Weithiau y mae'r ddau yn hynod o debyg yn eu mynegiadau o'u profiad. Pe na chyflawnasai Edward Richard ond hyn, byddai wedi sicrhau lle oesol iddo ei hun yn nheml clod. Eto, ei waith achlysurol yn unig oedd y rhain, a gwreichion yn tasgu oddi ar ei eingion. Ei brif waith oedd sefydlu ysgol ramadegol yn ei ardal, ac yr oedd yn gymaint diwygiwr â Daniel Rowland, a bron yn gymydog iddo, ond ei fod ef yn cefnogi yr ochr addysgol o'r deffroad. Pan oedd Daniel Rowlands yn taranu yn Ffair Rhos, a'r Ffairhosiaid yn dawnsio gan ryw wallgofrwydd crefyddol, gwenu oedd Edward Richard ar yr olygfa. A phan anfonodd Gân y Bont i Daniel Rowland, beirniadaeth hwnnw amdani oedd fod y canu'n dda ond y testun ddim cystal. Cynhyrchion deffroad y ddeunawfed ganrif oedd y ddau, ond eu bod yn perthyn i'r ddwy ysgol wahanol a oedd mewn llawn gwaith ar y pryd. Creid cymaint o sŵn gan ysgol Daniel Rowland nes tueddu'r wlad i anwybyddu gwaith distaw a pharhaol yr ysgol a gynrychiolid gan Edward Richard, y bu i'w lafur distaw, ei hunanaberth mawr, a'i gariad angerddol at ei gyd-genedl, ac at ei fro enedigol, ddylanwadu ar yr ysbryd cynhyrfus ac afreolus a ddeffroisid gan Daniel Rowland. Er nad oedd fawr gydymdeimlad rhwng y naill a'r llall yn bersonol, gwelir yn eglur yn awr fod eu gwaith yn rhedeg yn gyfochrog, a'r ddau yr un mor angenrheidiol i wir gynnydd, a'u bod yn yfed o'r un ysbryd, ac yn offerynnau yn yr un mudiad. Yr oedd teimlad Daniel Rowland yn ddyfnach a mwy angerddol, tra oedd Edward Richard yn fwy pwyllog ac yn gweled ymhellach. Heddiw y mae'r teimlad dwfn a'r gwelediad pell yn ymgymysgu ac yn nesu at ei gilydd i godi'r hen wlad yn ei blaen.
Un o arwyddion addawol y dyddiau hyn yw fod Cymru yn bwrw golwg mwy pwyllog ar y dylanwadau a fu'n cyfeirio'i cherddediad, ac yn eu holrhain yn ôl i'w ffynonellau.
A mi yn y myfyrdodau hyn cododd chwa dyner i ogleisio fy arleisiau, a dyrchefais fy ngolygon i weld yr haul yn tynnu gorchudd tenau dros ei wynepryd, ac yn machlud yn fflamgoch yn y Gorllewin. Syrthiai natur yn raddol i drymgwsg. Distawai holl ferched cerdd. Yn y penelin draw yr oedd yr hen fynachlog yn ymwisgo mewn mantell dew o niwl ac yn ei lledu fel gwrthban dros y llechweddau cyfagos. Yr oedd yn ddistawrwydd a ellid ei deimlo. Ar i fyny yr oedd fy nhaith, a phan edrychais yn ôl o ben fy siwrnai yr oedd yr holl fro wedi ei gorchuddio â brodwaith cywreiniach nag a wisgodd Solomon am ddyweddi ei gân. Bron na allwn benlinio mewn edmygedd o'r olygfa arddunol. Drannoeth yr oeddwn innau yn dilyn yr haul tua'r Gorllewin ond fy mod i ar y pryd yn cael fy nghludo'n gyflymach. Cefais fwy nag a fargeiniais. Yn yr hwyr yr oeddwn yn fy ngardd yn edrych ar y blodau ac yn dyfrhau'r sychedig.