Bywyd Ieuan Gwynedd Ganddo Ef Ei Hun (testun cyfansawdd)

Bywyd Ieuan Gwynedd Ganddo Ef Ei Hun

gan Ieuan Gwynedd

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Bywyd Ieuan Gwynedd Ganddo Ef Ei Hun
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Evan Jones (Ieuan Gwynedd)
ar Wicipedia

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader




CLASURON CYMRU. III.
Dan olygiaeth OWEN M. EDWARDS.

BYWYD IEUAN GWYNEDD.

GANDDO EF EI HUN.






1900.

CAERNARFON: CWMNI'R WASG GENEDLAETHOL GYMREIG (CYF.)

RHAGAIR.

Nid oes odid fywyd, yn holl hanes bechgyn ieuainc Cymru, mor llawn o wersi ì wyr ieuainc yr oes hon â bywyd Ieuan Gwynedd. Yn ei egni dros Dduw a Chymru, trwy dlodi ac afiechyd a hiraeth a dioddef, y mae yn fywyd na ddylai'r Cymry byth anghofio am dano. Ei roi yn fyw o flaen yr oes hon, ar gyfer canrif newydd, yw amcan y pigion hyn o eiriau Ieuan ei hun. Rhodder pob parch i gof ei fywgraffydd ffyddlon,—Robert Oliver Rees o Ddolgellau,— yr hwn a roddodd i Ieuan anfarwoldeb ym meddwl Cymru trwy eì ddarluniadau manwl o'i fywyd a'i waith.

Ganwyd Evan Jones (Ieuan Gwynedd), ym Mryn Tynoriad, ar ochr y Garneddwen, Meirion, Medi 5, 1820. Yn y Ty Croes, chydig yn is i lawr i gyfeiriad Dolgellau, y treuliodd ei febyd. Yn 1837 trodd oddicartref i gadw ysgol; dechreuodd bregethu yn 1838. O'r ysgol ym Marton aeth i Goleg Aberhonddu. Ym Mehefin 1845 ymsefydlodd yn Nhredegar. Priododd Catherine Sankey, o sir Amwythig, tra yno; bu farw ei wraig a'i blentyn. Diflannodd ei iechyd, gadawodd ei eglwys, ymroddodd i lenyddiaeth. Gloewodd ei ffurfafen ychydig drachefn; bu yn golygu papyr yn Llundain; ymbriododd â Rachel Lewis, o Dredwstan. Ond collodd ei iechyd eto, a daeth i Forgannwg yn ol. Bu farw ei fam yn 1849. Bu yntau farw fore Chwefrol 23, 1852, yn 31 oed, a chladdwyd ef ym mynwent y Groes Wen.

Carodd Gymru â chariad angerddol,—y mae ei weithiau, ei GYMRAES, a'i ADOLYGYDD eto gennym. Arhosed ei ysbryd yn gwmni i fechgyn Cymru tra'r dŵr yn rhedeg rhwng ei mynyddoedd.

BRYN TYNORIAD.

BYWYD IEUAN GWYNEDD.


I. ARDAL MEBYD.

I. ADGOFION.

Yn ei Afiechyd Olaf, ddechreu 1852.

YN ystod y ddwy flynedd ac wyth mis diweddaf, yr ydwyf wedi treulio lawes mwy na hanner fy amser yn y gwely. Am chwe mis cyfan, treuliais yr oll ynddo, ond rhyw ychydig oriau yn y rhai y'm symudid o un lle i'r llall. Nid wyf yn codi cyn deuddeg ond anfynych, nac yn aros ar ol naw heb ddychwelyd, pan fyddwyf ar y goreu. Am hir amser, bu fy mreichiau yn rhy wan i ddal un llyfr, ac yn awr nis gallaf byth gynnyg eu dodi allan heb gael yr anwyd. Gan fod y cyflwr hwn yn Wahanol i'r dull y treuliais y rhan flaenorol o fy mywyd, naturiol i adgofion mebyd ac ieuenctyd ddyfod yn fynych i fy meddwl. Ac y maent yn dyfod ac yn chwareu o fy mlaen lawer awr pan yn effro gan chwys neu beswch yng nghanol nos, neu pan y byddaf yn edrych ar y coed nes britho fy llygaid wrth aros amser codi. Hen leoedd, hen bobl, hen olygfeydd, hen ddigwyddiadau, hen deimladau, a hen helyntion a ymwelant â mi; ac yn lle fy ngadael i fyw yn nychdod yr amser presennol, hwy a'm dygant yn ol i adegau pan y gallwn orffwys fy mhen ar fynwes fy mam, eistedd ar lin fy nhad a cherdded yn llaw fy mrawd. Nis gallaf wneyd yr un o'r pethau hyn yn awr. Mae prydweddau fy mam wedi gweled llygredigaeth ym mynwent Rhydymain, mae fy nhad ymhell oddiwrthyf yn ei hen gartref, a'm brawd yng Nghaerynarfon, a minnau yng Nghaerdydd. Gallwn gynt neidio, a rhodio, a rhedeg; yn awr nis gallaf gerdded degllath heb ddiffygio. Gallwn gynt waeddi nes y'm clywid gryn ddau led cae o bellder, ond yn awr nis gallaf ymddiddan ond mewn llais isel yn wastad, ac yn fynych yn anhyglyw.

Ac onid yw yn garedig iawn yn yr Adgofion hyn ymweled â mi? Beth pe y gadawent fi i gyfrif rhuthriadau y peswch, i edrych ar lesni fy ewinedd, i fesur amgylchoedd fy nghoes a'm braich, i wrandaw curiad neidiol ac ansefydlog fy nghalon, neu i deimlo y poen dibaid yn fy ystlysau a'm hysgwyddau? Byddwn yn druenus Ond mae yr Adgofion hyn fel elfodau caredig o fro arall yn fy nwyn yn ol i ddyddiau dedwyddach, mewn rhyw ystyr, na'r rhai sydd yn disgyn i'm rhan yn bresennol. Eto danghosant i mi nad oeddwn yn mwynhau dedwyddwch digymysg y pryd hwnnw, a chadwant fi rhag gofidio o herwydd fy nghyflwr diymadferth presennol. Nid ydyw yr Adgofion hyn, wrth reswm, yn perthyn dim i neb ond fy hunan; ond gan eu bod yn gwneyd lles i mi, dichon y cyfarfyddant lygaid rhyw gyd-greadur cystuddiedig, ac y gwnant les iddo yntau drwy arwain ei feddwl yn ol i oriau diddan mebyd. Y mae ynddynt ryw felusder, ac nis gallwn byth sugno yr holl felusder o un gwrthddrych cyfreithlawn. Nid yw y wenynen yn cludo ymaith holl ddefnydd mêl y blodeuyn; ac os dewiswn ninnau edrych yn ol ar oriau mebyd, cawn allan na fwynhasom eu holl hyfrydwch pan yn eu treulio.

Y lle cyntaf i mi wybod rhywbeth am dano oedd tŷ o'r enw Bryn Tynoriad, yn nhref-ddegwm y Brithdir Uchaf, ym mhlwyf hirfaith Dolgellau. Nis gallaf ddywedyd beth ydyw ystyr "Tynoriad," os nad yw yn arwyddo llain o dir gwastad, gwastadle, neu ddyffryn bychan. Y mae hyn yn burion ystyr iddo, ac o ran dim a wn i, dyna ydyw mewn gwirionedd. Am Fryn Tynoriad nid oes gennyf ond ychydig o gof, gan i mi adael y lle pan yn flwydd ac wyth mis oed. Yr wyf yn cofio fod gallt y Wenallt ar gyfer y tŷ, ffridd y Celffant wrth ei gefn, ac afon Wnion o'i flaen. "Celffant," yn ol Geirlyfr Meirion, yw "diogi;" ac nid anhebyg gennyf nad oedd caledwch, gerwindod, ac anffrwythlondeb y lle hwn yn ddigon i yrru un dyn yn ddiog. Cafodd ei arloesi ymhen blynyddoedd ar ol ein hymadawiad ni â'r lle; ac fel y digwyddodd, yr oedd gan fy nhad ran yn y gwaith. Yr wyf yn cofio yn dda fy mod yn myned i edrych am dano yno, a dyna y pryd y ffurfiais fy meddylddrychau am yr annedd y'm ganed ynddi.

Yr oedd erbyn hyn wedi ei throi yn feudy. Troais o fy llwybr i edrych arni. Amgylchais y ty yn ol ac ymlaen. Chwiliais am le y ffenestr o flaen pa un y'm ganesid; ac fel yr oeddwn yn myned yn ol a blaen o gylch y fan, teimlwn fel na theimlais erioed o'r blaen. Dyna y llannerch lle y dechreuaswn fyw. Yno y'm brys-fedyddiwyd rhag fy marw yn ddifedydd, a chael yr helbul o fy nghladdu yn y nos ym mynwent Dolgellau, yr hon oedd dros saith milldir o ffordd o'r lle. Yno y gorweddaswn i a fy mam am oriau, a'r bobl yn disgwyl i ni farw am y cyntaf, ac yno y cyneuwyd ynnof y ganwyll yr hon na losga tragwyddoldeb allan. Nid oedd waeth mai beudy ydoedd yn awr, ac mai yr anifail ydoedd fy olynydd—yno y dechreuaswn i y dirgelwch mawr o fywyd. Yno y dechreuodd fy ngenau archwaethu—yno y disgynnodd gwrthddrychau ar rwydell fy llygaid nes i mi weled—yno y tarawodd tonnau swn ar fy nghlust nes y clywais—yno y dechreuodd peiriant rhyfedd y galon weithio, yr hwn sydd hyd yma heb sefyll, er fod hir gystudd wedi ei wasgu ymhell o'i le naturiol—ac yno y dechreuais deimlo a meddwl. Pa waeth oedd i mi beth oedd y lle yn awr? Buasai yn gysgodfa i mi yn nyddiau gweinion mebyd—atebasai ei ddiben y pryd hwnnw; ac er fod cysylltu maes at faes yn awr wedi troi annedd dyn yn dy yr anifail nid oedd i mi yn llai dyddorol. Yno y dechreuaswn fyw, yno y dechreuaswn farw. Yno y dechreuais fy llwybr i'r wybrenau, ac yno y dechreuais fy ffordd i'r bedd. Pwy allai ymweled â'r fath le heb deimlo iasau o syndod prudd—fyfyriol yn rhedeg drwy ei galon? Nis gallwn i, ac ymdroais yn hir yn ymyl lle fy ngenedigaeth; ac er i mi ei weled gannoedd o weithiau ar ol hynny, eto ni bum byth yn ei ymyl nac o'i fewn, er fod cefnder i mi wedi ei hir breswylio.

Lle tawel neillduedig ydoedd, yn sefyll, fel y crybwyllwyd, yn nyffryn main yr Wnion. Nid oedd un ty yn agos iawn iddo, ac nid oedd y lle yn nodedig am ddim ond unigrwydd gwladaidd. Nid pell iawn oedd Coed y Ddôl, lle y ganesid y diweddar Barch. David Jones, o Dreffynnon; ac ar y brif-ffordd yn gyfagos, yr oedd dau le enwog ar y daith o Ddolgellau i'r Bala, sef Tafarn Drws y Nant, a Thollborth y Ronwydd. Dichon nad oedd dau le mwy nodedig yr amser hwnnw o Langollen i Ddolgellau. I dollborth y Ronwydd y canodd Mr. Titley, o Gaerlleon, ymhen blynyddoedd wedi hynny.—

"Adeilad wael, ac ddim yn ddiddos,
Heb wely clyd i orwedd y nos."

Lle nodedig oedd yr ardal hon am eglurdeb yr enwau oedd ar y tai. Nid oeddynt yn amgen nag ansoddeiriau lleol. Enw nant oedd y Rhonwydd, yr un a Rhondda y Deheudir, a Rhein y Cyfandir. Wnion yw enw yr afon a ddechreua lifo tua Dolgellau oddiwrth fargod y Pant Gwyn, heibio i Ddrws y Nant uchaf, y Pant Clyd, Dyfn-nant, a Gallt y Gwinau, ac islaw y Cae Coch, nes cyrraedd Dol y Ddeulif, lle yr oedd afon arall yn ei chyfarfod. Yr holl enwau hyn ydynt yr un mor briodol heddyw a'r dydd cyntaf eu harferwyd. Ymddengys fod gan amgylchiadau lawer llai i'w wneyd âg enwi tai yr ardal hon, na'u sefyllfa. Ar lan afon Gawr, cawn Esgair Gawr yn sefyll ar drumell o dir, Pont Gawr drosti, a Gwern Gawr, lle yr ymarllwysa i'r Wnion. Ar ael y drum, canfyddir y Brithfryniau, ac wrth fyned ychydig ymlaen, croesir nant fechan yn llifo drwy wely coch, a cheir y Rhyd Goch. Yna deuir at Lety Wyn; ond nis gwn pa un ai lleddfiad yw hwn o Lety Gwyn, ynte a fu rhyw Wyn yn pabellu yn y lle yn yr hen amser gynt. Yna ar y drum saif yr Esgeiriau, ac yn nesaf ato ceir y Tyddyn Mawr, er na wyddom am un Tyddyn bach yn gyfagos. Wedi hyn eir drwy Goed y rhos lwyd, a chanfyddir y Llwyn Coed, y Coed Mwsoglog, y Llety hen, y Prysg-lwyd, Braich y Ceunant, Bryn Coed y Wiwair, a gellir gorffwys ym Mhant y Panel, os na ewyllysir disgyn at Bont Llyn y Rhaiadr, i edrych ar yr eogiaid yn neidio. Ond nid yw Amser wedi gadael priodoldeb yr enwau hyn mor ddiamheuol a'r rhai a nodais o'r blaen. Nid yw y Tyddyn Mawr yn dyddyn mawr na bach yn awr, lleoedd digon noethlwm yw y Llwyn Coed a'r Coed Mwsoglog, ac y mae hen fanwydd y Prysg-lwyd oll wedi diflannu. Mae y dynion a enwasant yr holl leoedd hyn wedi syrthio i holl esgeulusdod tir Anghof, mae gwaith eu dwylaw wedi darfod; ond y mae enwau eu cartrefydd, y bryniau, a'r mynyddoedd eto yn para yr un. Er nad yw eu lleoedd yn eu hadnabod mwyach, eto adnabyddir eu lleoedd oddiwrthynt hwy. Nid rhyw lawer o gyfnewidiad y mae celfyddyd wedi ei wneyd ar wyneb anian yma er y dyddiau y byddai y preswylwyr yn gadael eu haneddau yn yr haf, ac yn esgyn gyda'u deadelloedd i'r haf-foddai; ond y mae amser wedi llwyr ddileu yr arferiad hon, os nad ydyw ei gweddillion yn aros eto yn Nolyddeulif. Yr oeddynt hyd yn ddiweddar, ac yr wyf yn cofio tŷ Rhys Llwyd yn cael ei ysbeilio unwaith yn absenoldeb y teulu yn yr Hafod, a chlywais Deio Llwyd yn cael ei ddyfarnu i saith mlynedd o alltudiaeth am y trosedd.

Yn Bryn Tynoriad, fel y crybwyllwyd, y treuliais yr ugain mis cyntaf o'm bywyd—yma y dechreuais gofio. Nid ydwyf yn sicr fy mod yn cofio codwm a gefais un nos Sul ym mreichiau fy mam, wrth iddi fyned i'm rhoddi yn y cryd. Y mae argraff gref ar fy meddwl fy mod, ac mai maglu a ddarfu ar draws y ci du; ond mae bron yn anichonadwy, gan nad oeddwn ond ychydig uwchlaw blwydd oed ar y pryd. Ond yr wyf yn cofio y diwrnod mudo i'r Rhyd Goch yn eithaf da, gan fy mod wedi gwneyd yr orchest o gario "ystol mam" ar draws yr aelwyd. Dyna yr holl adgofion a feddaf am y tymor hwn. Ni wn ddim ymhellach, ond a glywais am ei wasgfeuon, ei wendid, ei ddagrau, a'i beryglon. Ni wn ddim am fy mod ar fin syrthio i lyn y Ddolgaled a boddi, ac mai mam fy nghyfaill Edward Roberts, Cwmafon, a'm hachubodd, er i hynny ddigwydd. "Nid oes rhith nac eilun cof," yn aros am fy ngwenau na'm dagrau cyntaf. Suwyd fi gan fy mam, ond nis gwybuwn; magwyd fi gan fy nhad, a chusanwyd "y bachgen bach" gan ei frawd, ond am yr holl bethau hyn nid oes un crybwylliad ar ddalen cof. Ar ol hyn y dechreua fy adgofion o'r anwyldeb a'r blinder, o'r hyfrydwch a'r gofid, o'r poen a'r pleser, o'r cystudd a'r iechyd a hynodent ddyddiau fy mebyd. Ni bum erioed yn ddigon cryf i beidio teimlo gwendid, nac yn ddigon llon i fod yn anwybodus o dristwch. Dechreuais gydnabyddiaeth â'r cymylau yn foreuach nag â'r heulwen, a gwn fwy am y gauaf nag am yr haf. Ond er mor siomedig yw bywyd, teimlir ymlyniad wrtho; er amled ei ystormydd, ni ddymunir dianc o'u cyrraedd i ogof y bedd. Glynir wrtho, ymsefydla y meddwl arno, a gwna hyd yn oed adgofion chwerwder, yn gystal a phleserau mebyd, ei ddwyn i'w garu yn fwy anwyl.


"IFAN TY CROES."

(Darlun Robert Oliver Rees o'r bachgen Ieuan Gwynedd.)

[A gawn ni wahodd y darllennydd i ddyfod ar adenydd dychymyg yma i Ddolgellau ar yr uchel wyl gyntaf gofiadwy, Mawrth 27, 1837? Mae holl ddirwestwyr y cylch wedi dyfod yn lluoedd banerog i'r dref. Mae y dref oll yn oddaith gan y tân dirwestol. Dyma o ddwy i dair mil o feibion a merched brwdfrydig Dirwest, yn un gosgorddlu trefnus, yn amgylchu y garreg feirch ar y Stryd Fawr, ac yn cydganu, cyn i un o wroniaid dirwestol Cymru esgyn arni i'w gwefreiddio âg araeth drydanol. Maent yn canu y gydgan,—

"Cawn ganu Haleluia, cyn bo hir,
Adseinio per Hosanna, cyn bo hir,
Llais dirwest wedi darfod
Mewn canmol am y cymod;
Pa bryd y gwawria'r diwrnod? Cyn bo hir.


Mae hwyl y dorf yn angerddol, onid yw? Ha!——a glywch chwi yr hen Gader a'r bryniau amgylchynol,—hen ddirwestwyr trwyadl, yfwyr dwfr glân y nefoedd, erioed,—a glywch chwi eu hadsain llon o uchel floedd cydgan y dorf,—

"Dirwest! Dirwest!!
Cydganwn—oll—am—Ddirwest!!!"

Mae tân y geiriau yn tanio ysbrydoedd y cantorion oll. Rhyw goelcerth o foliant ydyw i Ddirwest a'r Duw a'i rhoes. A welwch chwi y bachgen acw gyferbyn â ni, yn front y cylch mawreddog,—y bachgen tal, teneu, llwyd a llym ei wedd acw? Mae ei wisg lwyd, wledig, dlodaidd, yn bradychu tlodi ei gartref,—het frethyn isel henafol ar ei ben; coat ffwstian llwyd, a'i waist i fyny bron at ei geseiliau; a'i flap hen ffasiwn o'r tu ol yn llawer rhy fyr i gyrraedd ei amcan, a'i arddyrnau meinion, esgyrnog, yn ymestyn fodfeddi allan o'i llewis; ei drowsers corduroy mor gwta; ac a welwch chwi ofal tyner ei hen fam am y gweddill o'i goesau yn y gaiters uchel o'r un defnydd, a wnant i fyny am gwtogrwydd y trowsers? Chwi welwch brofion rhy eglur i'r dillad acw gael eu gwneyd iddo flynyddau yn ol. Ond a welwch chwi y pâr llygaid acw sydd dan yr het, sydd, fel ser y ffurfafen, yn goleuo a gloewi ei holl wynepryd? Fel y mae ei ysbryd byw yn trydanu ei holl gorff! Onid ydych yn teimlo fod yn y llanc hynod acw rywbeth nad yw allanolion ei wisg a'i wedd yn gwneyd un math o gyfiawnder âg ef? Oes, y mae un o ysbrydoedd etholedig y nef yn y bachgen acw. "Ifan Ty Croes" y geilw y cyffredin ef; ond, fel trwy ryw ymdeimlad proffwydol o ddyfodol disgleiriach o'i flaen, meiddia alw ei hun yn "Ieuan Gwynedd." Efe ydyw awdwr y geiriau welwn yn gwefreiddio ysbrydoedd y dorf fawr mor angerddol, ac y mae caniad y dorf o honynt yn ei wefreiddio yntau i'r ystumiau dieithriol acw gyda'r dôn. Mor hunanfoddhaol a thorsyth yw ei olwg! Gallem dybied mai efe, o'r holl wroniaid enwog sydd yma, ydyw gwron mawr y dydd. Mor naturiol, mor faddeuol, onide, ydyw i fachgen mor ieuanc deimlo yn hunanol—yn hunanol nodedig—wrth weled cynhyrchion ei awen yn rhoddi y fath wledd feddyliol, yn creu y fath frwdfrydedd pur yn ysbrydoedd torf mor fawr ac mor oleuedig a hon. Oni theimlech yn foddlon i holl fechgynos chwyddedig Cymru deimlo mor hunanol, ac ymddangos mor dorsyth, ag yntau—ar yr un telerau?]

II. Y BRITHDIR.

Ym Mhen y Bont Fawr, 1838.

WRTH imi deithio 'r hyd y wlad, y dolydd mad ganfyddir,
A'r rhosyn coch, a'i siriol sawr a'i dirion wawr, a welir;
Ond eto, er pob gwrthddrych cain, mwy mirain ydyw'r Brithdir.

Mi welais lawer gwrthddrych llon, a wnaeth fy mron yn ddifyr,
Er trymed fy nghystuddiau prudd, fy nghalon sydd yn gywir;
Er gwella'm meddwl clwyfus, claf, edrychaf tua'r Brithdir.

Yr wyn a chwery ar y bryn, a godrau'r llyn ariannir,
Y ddaear wisga'i chlogau gwyrdd, ac ochrau'r ffyrdd a herddir;
Ond oer a phruddaidd ydyw'r haf i'm meddwl claf heb Frithdir.

Y brithyll chwery yn y nant, a'r dŵr i'r pant a dreiglir,
Mewn anferth gryd neu wely, 'r môr gan nerth y lloer a siglir;
Ac felly minnau sydd o hyd mewn gwresog fryd i'r Brithdir.

Ymhell yn sir Feirionnydd fâd fy mam a'm tad a welir,
A minnau yma'n Mhenbont Fawr, yn llwyd fy ngwawr, dywedir;
Nid oes i'm bleser yn y byd, ond troi fy mryd i'r Brithdir.

Mi welais flodau'r lili lân, a chân yr eos glywir,
O fewn y tŷ o gylch y tân aml deulu glân ganfyddir;
Ni welais unpeth is y sêr i mi mor dêr a'r Brithdir.

Rhyw rai a soniant yn y byd am degwch bryd eu brodir,
Ymhlith y dyrfa yma'n glau trwy rwystrau minnau restrir;
Pe byddai yn fy ngallu gwnawn ryw folawd iawn i'r Brithdir.

Mae treigliad Wnion groch ei chri yn rhoddi bri i'm brodir,
A swn y nant a red trwy'r glyn yn fenaid syn a glywir;
Mae yno, oes, bob gwrthddrych hardd i swyno bardd y Brithdir.


III. BYTHOD CYMRU.

[1851.]

O dlysion Fythod Cymru, sy'n mygu yn y glyn,
Ac ar y gwyrddion lethrau, a'u muriau oll yn wyn!
Mae'r gwenyn wrth eu talcen neu gysgod clawdd yr ardd,
A'r rhosyn coch a'r lili o'u deutu yno dardd.

O dawel Fythod Cymru! mor ddedwydd ydych chwi!
Er bod heb fawredd breiniol, nac un daearol fri;
O'ch mewn y triga'n wastad y cariad cu a'r hedd,
Nad ydynt yn berthynol i'r ymerodrol sedd.

O hawddgar Fythod Cymru, sy'n gwenu ger y nant,
A'u gerddi'n llawn o flodau, a hwythau'n llawn o blant!
Mor glaer a'r dwr tryloew yw llygaid y rhai bach,
A'u gruddiau, fel y rhosyn, yn brydferth gochwyn iach.

O ddistaw Fythod Cymru, sy'n mhell o swn y dref!
Ni flinir chwi gan derfysg, nac un anfoesol lef;
Ni thyr ar eich distawrwydd ond chwarddiad llon y plant,
A sibrwd dail y goedwig, a murmur mwyn y nant.

O lwydion Fythod Cymru, sy'n llechu is y llwyn!
Er bod heb furiau mynor, a'u to yn wellt neu frwyn,
O'u mewn mae llawer argel yn hoffi troi ei ben,
I syllu mewn gorfoledd ar etifeddion Nen.

O diriion Fythod Cymru! o'u mewn, ar doriad gwawl,
Ac yn y coed o'u hamgylch, y plethir odlau mawl;
Y feinir gân yn gynnar, a'r adar gyda hi,
Eu diolch-gerdd foreuol am rad eu nefol Ri.

O anwyl Fythod Cymru! ni fedd un wlad eu hail;
Na lygrer eu haelwydydd, na sigler byth eu sail!
Byth, byth, mor bêr a'r blodau sy'n gwisgo siriol wên,
Ar fryn a dôl o'u deutu, bo Bythod Cymru hen!


II. FY MAM.

I. RHIENI FY MAM.

CALED ydyw calon, a rhewllyd ydyw mynwes y plentyn a eill edrych ar fedd ei fam yn ddigyffroad. Trom yw sefyllfa yr hwn nas hebgor rhyw gyfran o'i enaid i drysori coffadwriaeth yr hon a'i hymddug, ac a oddefodd holl bangau merthyrdod mamolaidd er ei fwyn cyn iddo agor ei lygaid ar oleu dydd. Anfynych iawn y mae un fam heb gyflawni miloedd o weithredoedd serchus, y rhai a deilyngant i'w henw gael ei ddwfn gerfio ar lechau cnawdol y galon. Hanes y fam i raddau helaeth ydyw hanes y plentyn. Yn y cyffredin, hi sydd yn ffurfio y tueddiadau, y rhai a ddadblygir mewn blynyddoedd dyfodol. Yn sefyllfa bresennol Cymru, y mae pob peth perthynol i'r cymeriad mamaidd o bwys; a hyderir y gall rhai o ferched a mamau ein gwlad dderbyn ychydig lesâd oddiwrth y crybwyllion canlynol am fy mam; ac efallai na bydd y cofion eglwysig y cyfeirir atynt yn anerbyniol i'r cyffredin.

Yr oedd rhieni fy mam yn dlodion. Nid oedd ganddynt ddim i fyw arno ond llafur eu breichiau. Priodasant yn ieuanc, a bu iddynt lawer o blant. Y maent ill dau yn gorwedd yn agos i fedd Llywarch Hen, ym mynwent Llanfor, gerllaw y Bala, lle y ganwyd hwynt, y priodwyd hwynt, y buont fyw, ac y buont feirw. Hunant yn dawel gyda'u tadau.

Fy mam oedd eu cyntafanedig. Ganwyd hi Mawrth 18, 1773—Gwneid cymaint o groesaw i'r ddyeithres fach ar y pryd ag a allai teulu y dyn tlawd ganiatau. Yr oedd Dafydd Zaccheus mor hoff o'i eneth fechan a phe buasai yn iarll neu ardalydd, ac nid llai oedd llawenydd ei wraig Gwen na phe y gwisgasai goron duces ar ei grudd. Ni roddodd Duw gyfoeth i'r holl hil ddynol, ond rhoddodd serch i bawb. Amser lled isel ar grefydd oedd dyddiau boreol fy mam. Yr oedd Dafydd Zaccheus yn Fethodist gwresog, ac yn ddyn da, arafaidd, a duwiol. Yr oedd ei wraig yn myned i'r Eglwys Wladol y pryd hwnnw, ac felly y parhaodd drwy ei bywyd. Felly yr oedd ei mam o'i blaen; ac nid oedd lle i ddisgwyl iddi ymadael heb deimlo nerthoedd y byd a ddaw, gan eu bod yn byw o dan nodded teulu y Rhiwlas, y rhai sydd wedi bod yn nodedig, er dyddiau Siarl II., am eu hymlyniad wrth Eglwys y Llywodraeth, a'u gwrthwynebiad i'r eglwys ysbrydol. Yn y flwyddyn 1774. galwyd fy nhaid gyda y meiwyr lleol (local militia) i Ddolgellau. Beth a arweiniodd y gŵr da i wisgo y dillad cochion sydd anhysbys i mi. Tebyg mai ei dynnu a gafodd, a'i fod fel dyn tlawd yn rhwym o sefyll, gan nas gallai dalu i neb am sefyll yn ei le. Gwyddom, pa fodd bynnag, nad oedd ar delerau da ag arferion milwraidd. Er fod y meiwyr yn gorfod gwisgo dillad cochion, yr oeddynt dan yr angenrheidrwydd o wynlychu (to powder) eu gwallt nes y byddai eu pennau yn berffaith wynion. Nid oedd y driniaeth hon yn cydweddu mewn un modd ag arferion a theimladau fy nhaid. Yr oedd y llwch yn disgyn i'w lygaid, a'i glustiau, a'i war, nes peri iddo deimlo yn dra anghysurus. Un diwrnod ym Mai, pan yn dra lluddedig ar farian Dolgellau, rhwbiai ychydig ar ei glust yn erbyn coler ei grys. Sylwodd un o'r swyddogion arno, a gwaharddodd ef; ond ymhen ychydig achlysurodd llwch y gwallt iddo anghofio y gwaharddiad, yr hyn a enynnodd ddigofaint y swyddog; ac wrth ollwng y gatrawd o flaen y lle y saif neuadd bresennol y dref, tarawodd ef ar ei gefn â'i ffon, nes cododd y cig oddiwrth yr esgyrn. Mewn helbulon fel hyn y treuliodd Dafydd Zaccheus, druan, ei fywyd milwraidd.

Un canol dydd, anturiodd gŵr dyeithr o'r Deheudir gynnyg pregethu ar y garreg feirch ar ganol yr heol. Cynhyrfodd hyn y werin yn ddychrynllyd, a bu gorfod i'r llefarwr gipio ei geffyl ar frys gwyllt, a gwneud y goreu o'i ffordd tua'r Bont Fawr: ond erbyn cyrraedd yno, yr oedd Eglwyswyr selog Dolgellau wedi cymeryd meddiant o'r bont, gyda'r bwriad, mae'n debyg, o'i faeddu yn greulon, neu ei anfon drosti i ffrydiau Wnion. Yr oedd un o'r tylwyth a thryfer fawr yn ei law yn rhedeg ar ei ol. Wrth weled y bont yn gauedig, nid oedd ganddo ond troi i'r cae lle y saif y neuadd, a nofio yr afon. Wrth weled fod llidiart cauedig o'i flaen yr ochr arall, rhedai fy nhaid ei oreu er ei agor; ond cafwyd y blaen arno gan wraig eglwyswr y dryfer, yr hon, yn ei charedigrwydd a'i ffwdan, a gollodd ei modrwy aur, ac ni chafodd hi mwyach. Anfonodd fy nhaid y gŵr dyeithr drwy Wtra y Llwyn, ac i fyny Rhiw Carreg Feurig, nes oedd o gyrraedd ei erlidwyr. Yr oedd pobl Dolgellau yn ffol iawn y pryd hwnnw; hyderwn nad oes llawer o honynt yn ddigon ffol i gymeryd eu hudo gan yr un Eglwys yn awr. Yr oedd eu sel y pryd hwnnw yn ddigon tanbaid i ddringo Rhiw Fronserth tua Phant y Cra, er lladd Thomas Foulkes o'r Bala, a'i gladdu yn y pwll mawnog; a phan fethasant a'i gael, nid oedd ganddynt ond tynnu rhan o'r ty i lawr. Efallai i Dduw. esgeuluso amseroedd yr anwybodaeth hwnnw; ond y mae goleuni Efengyl am un mlynedd ar bymtheg a thriugain yn ychwanegu yn ddirfawr at rwymedigaeth trigolion pob ardal a'i mwynhao. Na fydded i Dolgellau fod yn ddibris o'r goleuni byth mwyach.

II. TRADDODIADAU'R BALA.

Nid oedd fy nhaid yn debyg o beidio adrodd pethau fel hyn i'w ferch fechan. A byddai yn eu hadrodd wrth fyned a dyfod ar foreuau Sabbath o Lanfor i'r Bala, a darfu iddi hithau eu cofio. Dechreuodd Ymneillduaeth yn lled fore yn y Bala, a pherthynai i'r dref luaws o adgofion cynhyrfus y dyddiau gynt. Lled debyg i'r achos Ymneillduol gael ei sefydlu yn nyddiau Cromwell, os nad yn foreuach. Pwy oedd offeryn ei gychwyniad nis gwyddom. Nid oedd Gwrecsam, lle bu Walter Cradoc yn gweinidogaethu, yn bell iawn; a dichon iddo dalu ymweliad â'r lle. Beth bynnag am hynny, y mae traddodiad i Vavasor Powell bregethu yn ysgubor y Bryn Hynod, ym mhlwyf Llangower. Dywedir iddo ddechreu ei bregeth pan oedd yr haul yn tywynnu ar un ochr i'r ysgubor, ac na ddiweddodd nes oedd yn machludo ar yr ochr arall. Yr ydym yn sicr fod Powell wedi ymweled â Meirionnydd, ond dichon fod yn anhawdd penderfynu yr amser.

Tebyg i'w helyntion yn y gogledd ddigwydd pan oedd yn byw yn y Goetref, ym mhlwyf Ceri, yn swydd Drefaldwyn, yr hyn a wnaeth o'r flwyddyn 1648 i 1653. Gan ei fod yn teithio bron yn wastadol, nid anhebyg nad dyma yr adeg yr ymwelodd â'r Bala, a rhannau eraill o Feirionnydd. Cadarnheir ni yn y dyb mai naill ai Cradoc neu Powell a sefydlodd yr achos yn y gymydogaeth hon, drwy y ffaith fod cryn nifer o Grynwyr ym Mhenllyn yn y flwyddyn 1662, pryd yr ymwelwyd â hwy gan y llafurus Richard Davies o'r Cloddiau Cochion, gerllaw y Trallwm, yr hwn a sefydlodd "gyfarfod rheolaidd yn eu mysg trwy allu Duw." Yn gyffredin, yr oedd y Crynwyr, ar y cyntaf, yn encilwyr oddiwrth enwadau eraill, a digon tebyg y gallai fod felly yma. Ac wrth ystyried nad oes un hanes yn crybwyll fod yn Eglwys Ymneillduol y Bala Fedyddwyr, cynydda y tebygolrwydd iddi gael ei ffurfio gan Cradoc, neu ynte yn flaenorol i'r flwyddyn 1654 neu 1655, yn y gyntaf o'r rhai y dechreuodd Powell newid ei farn am fedydd, ac yn yr olaf y bedyddiwyd ef drwy drochiad. Parhaodd y cymysgedd hwn o daenellwyr a throchwyr yn eglwys Llanbrynmair, y Scafell, ac eraill am hir flynyddoedd; ac och! na feddianasai yr eglwysi ar ddigon o ras i ymgadw hyd yma yn undeb y ffydd. Gan ein bod ar dir tebygolrwydd, gallwn grybwyll eto fod yn debyg iawn i eglwys fechan y Bala fwynhau gweinidogaeth Hugh Owen o Fron y Clydwr, yn ei gylchdeithiau apostolaidd am y tymor hirfaith rhwng 1662 a 1699, pryd yr hunodd yr athraw parchedig. Beth a ddaeth o'r ychydig braidd yn yr anialwch am y deugain mlynedd dyfodol, nis gwyddom; ond yn fuan ar ol hynny yr ydym yn cael y llafurus Lewis Rees o Lanbrynmair, yn rhwymo y gorsen ysig, ac yn tywallt olew ar y llin oedd yn mygu; ac o'r pryd hwnnw hyd yr awr hon, mae "y berth yn llosgi, ond heb ei difa."

Mewn perthynas i'r Crynwyr, yr oeddynt yn dra lluosog ym Mhenllyn, ac yn 1675, erlidid hwy yn drwm. Yn y flwyddyn hon, cedwid rhai o'r cyfarfodydd yn nhy Thomas Cadwaladr o'r Wern Fawr. Rhoddid gwarantau allan yn eu herbyn gan y Milwriad Price o'r Rhiwlas, a'r Milwriad Salisbury o Rug. Dyn o'r enw Robert Ifan oedd cyhuddwr y brodyr y pryd hwnnw. Ymhen amser ar ol hyn, llwyddodd Richard Davies, drwy Iarll Powys, i gael gan Duc Beaufort, Arglwydd Lywydd Cymru, ysgrifennu llythyr at y Milwriad Price i'w wahardd i erlid mwyach. Yr oedd yr eiddo a gymerid oddiar y Crynwyr yn cael ei rannu rhwng y brenin a'r achwynwr; a phan ddarfu gwaith Robert Ifan, aed i edrych dros ei gyfrifon; ond yr oedd Robert, druan, wedi gwario rhan y brenin, fel nad oedd ganddo ddigon braidd i dalu, drwy yr hyn y syrthiodd i'r tlodi y buasai mor awyddus i wthio eraill iddo. Yn fuan ar ol hyn, erlidiwyd hwy gan Price, offeiriad Llanfor, am y degwm; ond llwyddodd medrusrwydd cyfreithiol Richard Davies i drechu mab Lefi, er hired dannedd ei gigwain. Yn 1677, darfu i'r Barnwr Walcott fygwth crogi y Crynwyr yn y Bala, a llosgi eu gwragedd am deyrnfradwriaeth, oherwydd eu bod yn gwrthod cymeryd llwon ufudd-dod a breinioliaeth. Trwy ymdrechion R Davies, Thomas Lloyd o Dolboran, a'r Dadleuydd Corbett o'r Trallwm, diddymwyd y ddeddf drwy yr hon y bwriadai Walcott gael ei wynfyd arnynt yn yr eisteddfod honno o'r Senedd. Gan fod y Crynwyr wedi darfod o gymydogaethau y Bala a Dolgellau, lle y buont unwaith yn dra lluosog, mae yn ddiau i hynny gael ei brysuro drwy ymfudiad rhifedi mawr o honynt at William Penn a'i olynwyr i dalaeth Pennsylvania, yn niwedd yr eilfed ganrif ar bymtheg.

Yn y cyfwng o 1740, pan yr ymwelodd Lewis Rees a'r Bala, hyd enedigaeth fy mam, yr oedd dyfodiad Methodistiaeth wedi gwneyd cyfnewidiad mawr yn y dref. Yr oedd eu hachos wedi dyfod yn gryf, a'u dylanwad wedi sobri yr ardaloedd i raddau helaeth. Cyrchai fy mam yn llaw ei thad i wrando arnynt am flynyddoedd, ac nis gallaf roddi cyfrif manwl am yr hyn a'i harweiniodd i wrando ar yr Anibynwyr. Byddai ar achlysuron yn dilyn ei nain i'r Eglwys; ond nid da y cydunai y ddwy am yr athrawiaeth. Arferai yr hen wraig ddywedyd, ar ol dychwelyd o'r llan, "Wel, moliant i Dduw, ni a gawsom bregeth dda; pe gwnaem yr hanner, byddai o'r gorau arnom." "Ie, fy nain," meddai fy mam, "pwy sydd i wneyd yr hanner arall?" Byddai y gofyniad hwn bob amser yn difa amynedd a rhesymeg yr hen wraig; ac os rhoddid un ateb iddo, gweinyddid ef drwy fonclust lled hawdd ei deimlo, er nad mor hawdd ei oddef. Peth digon naturiol i blentyn craffus oedd holi pwy oedd i wneyd yr hanner yr oedd fy hen nain yn ei osod o'r neilldu mor ddiddefod yn wastadol. A pheth digon dyryslyd i gyneddfau plentynaidd oedd derbyn cernod cil-ddwrn i esbonio gofyniad mor naturiol a phwysig.

III. ADDYSG FY MAM.

Nid oedd dim neillduol yn yr addysg gartrefol a dderbyniodd fy mam oddiwrth fy nain. Nis gallai yr hen wraig ddarllen; ond yr oedd yn ofalus i argraffu ar feddyliau y plant y pwys o fod yn eirwir a gonest. Gwreiddiodd y ddwy egwyddor hon yn meddwl fy mam; a chyfansoddent ran bwysig o'i haddysg hithau i'w phlant. Dull fy nain o bregethu gonestrwydd oedd pwyso ar feddwl y rhai ieuainc eu dyledswydd o "adael pob peth fel y caent ef." Bu fy mam unwaith mewn cryn ffwdan o herwydd cyflawni y ddyledswydd yn rhy lythyrennol. Yr oedd yn myned ar neges un diwrnod i dy cymydog, lle yr arferai gael croesaw gan feistres y tŷ. Yr oedd llidiart y ffordd fawr yn agor i'r cae yd, a chafodd fy mam ef yn llydan agored ar yr achlysur hwn. Er mwyn gadael pob peth fel y cafodd ef, cymerodd ofal i beidio cau y llidiart. Wedi iddi gyrraedd y tŷ, dechreuwyd ei holi a oedd wedi cau y llidiart; i'r hyn yr atebodd nad oedd, gan adrodd athrawiaeth ei mam er cyfiawnhau ei hymddygiad. Taflodd hyn hi allan o lyfrau arglwyddes y tŷ yn erchyll; ac nid oedd dim yn sefyll rhyngddi ac esgymundod, ond ei bod wedi cyfaddef y gwir. Er nad oedd addysg fy nain mewn moesoldeb a chrefydd yn eang, eto yr oedd yn werthfawr. Yr oedd fy rhaid yn rhagori ar ei briod; ei addysg ef a weithiodd ar feddwl fy mam. Llawenhai yr hen wr wrth weled ei bod yn derbyn ei eiriau; ac hyd derfyn ei oes teimlai yn serchus iawn at ei "eneth fawr," fel yr arferai ei galw.

Ni bu addysg ddyddiol fy mam ond byr iawn. Holl swm ei hysgolheigiaeth dyddiol fu deuddeg diwrnod i ddysgu Cymraeg. Ei hathraw oedd yr hybarch bererin Dafydd Cadwaladr. Digon tebyg na buasai Dafydd Cadwaladr yn un o etholedigion athrawol yr oes oleu hon. Ond byddai Dafydd yn gweddio yn daer fore a hwyr yn yr ysgol, a soniai fy mam am ei weddiau ymhen triugain mlynedd ar ol eu hoffrymu. Yr oedd yr hen wr yn cadw gwialen fawr yn yr ysgol; nid at gefnau y plant, ond at gefnau y meinciau y byddid yn ei chymhwyso, wrth i Dafydd Cadwaladr redeg ar eu holau drwy yr addoldy er mwyn iddynt gael ymdwymno. Dyma ddull yr hen wr o ymarfer corfforol.

IV. Y BEIBL COCH.

Wedi pymthegnos o ysgol, chwilio am le oedd gorchwyl nesaf geneth henaf y gŵr tlawd. Bu fy mam mewn amryw. Mewn rhai cafodd driniaeth ddigon caled; ond yn eraill, yr oedd pethau ychydig yn well. Bychan oedd yr ennill ymhob man. Er prawf o hyn gallwn nodi nas gallai dalu am Feibl ar unwaith. Cafodd goel gan Mr. Charles am dri mis, a thalodd am dano ar yr amser penodedig. Beibl wythplyg ydoedd; ac argraffesid ef yn y flwyddyn 1769. Dydd pwysig yn y Bala oedd y dydd y derbyniodd Mr. Charles y sypyn hwnnw o Feiblau. Yr oedd ei dy yn llawn o ymgeiswyr am danynt. Gwnaeth gymwynas fawr â fy mam, ac eraill, drwy adael iddi dalu am y Beibl bob yn ychydig. Gwisgodd ef mewn brethyn coch. Parchai y Beibl yn fawr. Ac o'r pryd hwnnw hyd yr awr hon, y Beibl Coch" ydyw yr enw a ddygir ganddo. Byddai ysgrifennu hanes defnyddioldeb y "Beibl Coch" yn orchwyl anhawdd. Darllennodd fy mam ef ugeiniau o weithiau drosodd. Trodd lawer ar y cyfeiriadau ar waelod y ddalen, y rhai oeddynt yr unig esboniad yn y tŷ. Darllennodd ef fore a hwyr. Darllennodd ef yng Nghymru a Lloegr; a chyn iddi ddysgu Saesoneg, efe oedd ei "chysegr" bychan yn y wlad olaf. Darllennodd ef i feddyg ieuanc afradlon ar ei wely angeu, nes tawelu i raddau ei gydwybod anesmwyth. Darllennodd ef gannoedd o weithiau yn y weddi deuluaidd. Darllennodd ef i'w phlant. Darllennodd ef wrth eu ceryddu, ac wrth eu cysuro, ac wrth eu cynghori. Darllennodd ef drwy ei bywyd, a darllennodd ef hyd angeu. Yn y" Beibl Coch" y dysgodd fy nhad ffordd yr Arglwydd yn fanylach. O hono ef y dysgodd eu dau blentyn y Salm gyntaf, y deg gorchymyn, ac "Yn y dechreuad yr oedd y Gair," &c. Efe oedd brenin y llyfrau: ac o'i flaen ef yr ymgrymai y plant gyda gwylder a pharchedig ofn, canys gweinyddid cosb drom am yr amharch lleiaf i'r "Beibl Coch.' Mae fy nhad, a'i ddau fab, yn parchu y "Beibl Coch" yn fawr eto; a diau os byw fydd y plant ar ol yr hen ŵr, na welant un peth a edy o'i ol mor werthfawr a'r "Beibl Coch." Rhy anhawdd i'r un o honom fynegu ein rhwymedigaethau i'r "Beibl Coch." Beth bynnag ydym i'n teuluoedd, i'r byd, ac i'r eglwys, yr ydym felly i raddau helaeth drwy y "Beibl Coch," fy mam, a charedigrwydd tynergalon Thomas Charles o'r Bala. Nid anhebyg na bydd rhan helaeth o dragwyddoldeb y gŵr da hwn yn cael ei gymeryd i fyny mewn gwrando am ddefnyddioldeb y Beiblau a ledaenodd. Y mae rhoddwr y Beibl yn fynych, fel offeryn, yn rhoddwr bywyd a thragwyddoldeb.

Pan oedd fy mam o gylch un mlwydd ar bymtheg oed, torrodd Diwygiad grymus allan yn y Bala. Fel y crybwyllwyd yn flaenorol, yr oedd yn gwrando gyda'r Anibynwyr y pryd hwn. Gweinidog y Bala ar yr adeg hon oedd y Parch. William Thomas, gynt o Hanover Yr oedd Mr. Thomas yn ŵr dysgedig, ac yn gyfieithydd amryw lyfrau i'r iaith Gymraeg. Dichon ei fod bron yn rhy ryddfrydig i'w amser, ac ni bu ei weinidogaeth yn rhydd oddiwrth ofidiau chwerwon. Gallwn feddwl nad oedd arferion a theimladau Mr. Thomas yn ei gyfaddasu yn neillduol at y fath ddiwygiadau ag a gymerent le yn yr amseroedd hynny.

V. YN Y DIWYGIAD.

Ym mysg plant y Diwygiad, rhifid fy mam. Teimlodd nerthoedd byd a ddaw. Ymaflodd rhywbeth" rhyfeddol ynddi. Llanwodd hi ag anobaith, nes y penderfynodd roddi terfyn ar ei hoedl. Aeth allan gyda'r bwriad o daflu ei hun i'r afon ryw noswaith. Nid oedd, yn ei thyb hi, ddim trugaredd iddi gyda Duw, a phenderfynai beidio dangos dim iddi ei hun. Yn yr artaith meddwl hwn, gorweddodd rhwng dwy garreg fawr ar ganol cae cyn cyrraedd ceulan yr afon. Bu yn y sefyllfa hon am hir amser, nes y clywodd, neu y tybiodd glywed rhyw lais yn dywedyd wrthi, "Deffro di yr hwn wyt yn cysgu; a chyfod oddiwrth y meirw, a Christ a oleua i ti." Ysgafnhaodd hyn ei baich yn uniongyrchol. Aeth tua'r tŷ dan wylo yn drwm, ac ymdrechai ymguddio dan y bwrdd nes i'r teulu fyned i orffwys. Cafodd foddlonrwydd i'w meddwl yn raddol; ac yn Tachwedd, 1790, derbyniwyd hi yn aelod eglwysig gan Mr. Thomas. Os gofynnir i mi roddi cyfrif am y teimladau a ddesgrifir uchod, rhwydd gyfaddefaf nas gallaf wneyd dim o'r fath. Dywedwyd. wrthyf am ormod o bersonau a deimlodd yn gyffelyb i mi anturio gwadu eu bodolaeth; ond gan na theimlais ddim yn gyffelyb fy hunan, nis gallaf eu hesbonio. Nis gallaf farnu eu bod yn angenrheidiol er gwir droedigaeth; eto, gall y cyfryw droedigaeth fod yn gydfynedol â hwy. Dichon mai amgylchiadau yr oes ydyw yr allwedd a'u hegyr yn oreu ger ein bron. Yr oedd yr oes honno yn anwybodus ac yn ofergoelus. Mae pobl anwybodus ac ofergoelus bob amser yn hawdd eu dychrynu. Ofn ydyw un o'r cynhyrfiadau grymusaf yn eu mynwes. Os deffroir ofn, deffroir lleng o deimladau dychrynllyd ar ei ol. Yn y dyddiau hynny, nid "cân cariad un hyfrydlais, ac yn canu yn dda," oedd y weinidogaeth. Mwg, mellt, a tharanau ydoedd. Ni byddai un oedfa yn arddeledig heb "sain udgorn, a llef geiriau." Pregeth sychlyd oedd honno pryd na byddai "y mynydd yn llosgi gan dân," ac yn crynnu yn ofnadwy iawn. Hawdd rhoddi cyfrif am hyn. Cafodd Howell Harris a Rowlands a'u cydoeswyr y bobl yn ymdroi mewn anwybodaeth echrys, ac anuwioldeb dychrynllyd. Rhybuddiasant hwy i ffoi am eu heinioes tua Soar, cyn y byddai dinas distryw yn wenfflam. Atebodd hyn y diben. Ymdrechodd olynwyr y gwŷr da ddwyn y gwaith ymlaen drwy yr un moddion. Gwisgasant yr un arfogaeth. Dechreuasant daranu, pob un yn ol y gallu a roddwyd iddo. Dygai gwŷr dieithr y Deheubarth eu taranau gyda hwy, ac os methent daranu, nid uchel y bernid am danynt. Bron na wrthododd y Methodistiaid Mr. Charles am nad oedd ganddo daranau. Ond yr oedd ganddo bethau gwell. Yr oedd ganddo ddysg yn ei ben, gras yn ei galon, a Beiblau ar goel i blant tlodion. Mae oes y taranau, a chenedlaeth y taranwyr, wedi myned; eithr y mae enaid ac ysbryd Charles ymhob Ysgol Sabbothol trwy Gymru, ac o fewn braidd bob bwthyn trwy y byd lle y ceir Beibl ynddo. Gweinidogaeth cariad yw yr Efengyl, ac y mae perffaith gariad yn bwrw allan ofn. Ni effeithia y weinidogaeth daranllyd ond ar oes anwybodus ac ofergoelus, ofnau yr hon sydd yn hawdd eu cynhyrfu. Llawer gwell i fy mam fu y "Beibl Coch" na'r dyddiau a'r nosweithiau a dreuliodd ar derfynau anobaith. Dymunwn siarad yn barchus am ei theimladau, ond ni ddymunwn annog neb i ewyllysio na disgwyl eu cyffelyb. Achubwyd un lleidr ar y groes, ond nid oes croes i achub pob lleidr.

Wedi ymuno â'r eglwys, dygodd fawr sel dros foddion gras. Ystyriai hwy yn rhy bwysig i'w hesgeuluso, ac yn rhy werthfawr i'w colli. Fel morwyn, yr oedd anhawsderau ar ei ffordd, ond symudai lawer o honynt ymaith drwy lafur ac ymdrech ychwanegol. Pan mewn gwasanaeth gydag amaethwr, bu am dymor yn rheoli wyth o fuchod, ac yn cerdded wyth milldir erbyn oedfa hanner awr wedi naw yn y bore. Ymhen blynyddoedd ar ol hynny, teithiai tua saith milldir erbyn y cyfarfod deg o'r gloch, a byddai yno yn brydlawn. Ni bydd llawer o lewyrch ar grefydd proffeswyr esgeulus o foddion gras. Cyfododd amgylchiadau yn ddiweddarach mewn bywyd a arweiniasant fy mam i esgeuluso y moddion, a bu yr esgeulusdod hwnnw yn niweidiol iawn iddi. Ond ym more ei hoes ni bu hyn yn fai arni; bu yn ffyddlon ac ymdrechgar gyda holl weinyddiadau crefydd.

VI. MEWN GWASANAETH.

Ni wneir digon o ystyriaeth o sefyllfa gweision a morwynion yn gyffredin. Rhy fynych y gwneir caethion ymarferol o honynt, ac y cedwir hwy mewn anwybodaeth. O bump yn y bore hyd ddeg yn yr hwyr, llafur yw eu rhan. Ni chaniateir iddynt amser i ddar- llen, nac i gyrraedd un gangen o wybodaeth. Anfynych y gofala y penteulu am ddysgu ffordd yr Arglwydd iddynt yn fanylach. Trinir nwy fel creaduriaid israddol o ran cyrff a meddyliau. Bu fy mam yn ffodus iawn mewn dau le. Derbyniodd garedigrwydd, tynerwch, a hyfforddiad. Bu yn ddiolchgar am y caredigrwydd, a gwnaeth ddefnydd o'r addysg. Y lleoedd hyn oeddent Coed y Foel, gyda'r hynaws a'r dduwiol Dorothy Jones; ac yn y Bala, gyda Mr. Evan Evans, llawfeddyg, tad y diweddar Barch. William Evans o Stockport. Yr oedd Dorothy Jones yn wir fam yn Israel. Yr oedd yn hynaws, siriol, a llariaidd gyda'i gweinidogion, a thriniai ei holl amgylchiadau yn fedrus a phwyllgar. Dwywaith yn y dydd yr ymneillduai i'w hystafell ddirgel, a bore a hwyr y gofalai na byddai allor Duw yn ei theulu heb arogldarth. Bu farw y wraig rinweddol hon yn y flwyddyn 1846, ar ol proffes anrhydeddus o bymtheg mlynedd ar hugain o barhad. Gŵr dysgedig, gwybodus, a synwyrol oedd Mr. Evan Evans. Ei dŷ oedd noddfa cyfeillion rhyddid gwladol yn y Bala, yn amser chwyldroad Ffrainc. Yr oedd yn lle manteisiol a dymunol i ddynes ieuanc drigo ynddo.

Wedi gadael ei bro enedigol, treuliodd fy mam rai blynyddoedd yn ardal Gwrecsam a Chaerlleon. Cafodd gyfle drwy hyn i weled ychydig mwy o'r byd nag sydd yn digwydd i ran llawer o ferched Cymru. Ymhen amser dychwelodd yn ol i'w gwlad, ac at ei phobl ei hun. Yn fuan ar ol hynny, symudodd i Ddolgellau, lle y treuliodd amryw flynyddoedd yng ngwasanaeth Francis Roberts, Ysw., a'i briod, yr hon oedd yn un o hiliogaeth yr hybarch Edmund Prys, Archddiacon Meirionnydd. Nid wyf yn meddwl fod gan yr Anibynwyr wasanaeth rheolaidd yn Nolgellau y pryd hwnnw. Tua'r Brithdir, Rhyd y Main, a Llanelltyd yr oedd raid myned i ymofyn am fara y bywyd. Yr oedd yn Nolgellau amryw gyfeillion ffyddlon. Yn yr adeg hon yr oedd Pugh o'r Brithdir yn ei flodau," yn llafurio mewn amser ac allan o amser. Yr oedd Mr. Pugh yn bregethwr hyawdl a galluog, yn serchog o ran ei deimladau, ac yn gyfaddas iawn ym mhob ystyr i fod yn efengylwr ei fro enedigol. Mae yn wir y byddai ei fam, yr hybarch Mary Pugh, yn ei ddisgyblu yn dost ambell dro am wyro yn yr "athrawiaeth;" ond gyda fy holl barch i goffadwriaeth Mary Pugh, a'm hadgofion hyfryd am bob brechdan fêl a gefais ganddi, credaf ei bod braidd yn rhy brysur yn y gorchwyl yma, ac y gallai y mab fod yn well duwinydd na'i fam.

VII. PRIODAS.

Symudodd fy mam o Ddolgellau i'r Hengwrt Uchaf, yn ymyl Rhyd y Main, ac yno y priododd. Fy nhad oedd fab hynaf dau hen bererin a fuont yn aelodau yn Rhyd y Main am flynyddoedd meithion, John a Margaret Evans o'r Esgeiriau. Gorffennodd ef ei yrfa yn 1827, a hithau yn 1845, ill dau mewn oedran teg. Buont ddiwyd gyda phethau y byd hwn, a buont yn ffyddlon yn eu hymwneyd â moddion gras. Anfynych, tra y gallodd ymsymud, er fod ei golwg wedi pallu, y byddai fy nain yn absennol o Ryd y Main; a phan oedd ei chnawd a'i chalon yn pallu, hoffus iawn oedd ganddi gael cyfarfod gweddi yn y tŷ. Tangnefedd i'w llwch! yn ol eu gwybodaeth buont ffyddlon. Nid oedd fy nhad yn grefyddwr pan y priododd. O herwydd hyn ymneillduodd fy mam o gymundeb yr eglwys. Anhyall'i mi ddywedyd i ba ddiben, oblegid dychwelodd yn ei hol yn ddioed. Y prawf cadarnaf ei bod wedi "ieuo yn anghymarus " oedd fod yn agos i bymtheg mlynedd o wahaniaeth oedran rhyngddi hi a fy nhad. Yr oedd hyn yn wall mewn barn, yn enwedig gan fod yr henaint o'i thu hi. Pa mor ddedwydd bynnag y dichon amgylchiadau teuluaidd fod, teimlir hyn i ryw raddau. Y mae undeb teimlad a chydymdrech yn ddiffygiol. Gwywa un tra mae y llall yng nghryfder ei nerth, a'i fronnau yn llawn llaeth. Ond yr wyf yn methu a deall gwerth adferiad eglwysig o drosedd ag y parheir ynddo, ac nas gellir edifarhau am dano. Pe y gellid edifarhau, byddai rheswm mewn adferiad o dan ddysgyblaeth. Ar yr un pryd, caniateir i mi grybwyll fy mod yn credu yn gadarn nad oes nemawr rwystr mwy effeithiol i rym a llwyddiant crefydd na phriodasau rhwng y credadyn a'r anghredadyn. Nis gall crefydd deuluaidd flaguro, ac nis gall y penteulu rodio ynghyd i gynteddoedd Arglwydd y lluoedd. Bydolir meddwl y proffesedig y rhan fynychaf. Yn anffodus i ewyllys dyn, gwirionedd perffaith ydyw nas gellir "gwasanaethu dau arglwydd." Arbedwyd i fy mam y trallodion hyn drwy i fy nhad ymuno â chrefydd yn fuan. Os nad wyf yn camgymeryd, efe oedd y cyntaf a dderbyniwyd yn Nolgellau yn yr oes hon. Nid oedd dim o ddisgyblion yr "athraw parchedig" Hugh Owen o Fron y Clydwr, y rhai gynt a ymgasglent yn y "Ty Cyfarfod," yn aros. O'r Brithdir a Rhyd y Main yr ail ddygwyd ei egwyddorion i'w hau yn Nolgellau—ar y cyntaf ym Mhenbryn Glas, ac wedi hynny yn yr addoldy presennol. Y mae yn awr ffrwyth lawer iawn.

Ni bu amgylchiadau teuluaidd fy mam ond siomedig a thrallodus. Bu farw tri o bump o blant. Buont feirw yn eu hieuenctid, Ganwyd yr hynaf yn Nolserau, yn 1810, ac wedi ei fedyddio gan Mr. Williams o'r Wern, efe a ehedodd

"Ar edyn boreu adeg
I aros fry, o'r oes freg."

Mae yr ail eto yn fyw, yr hwn oedd gobaith a dymuniad llygaid fy mam. Y trydydd baban, fel y cyntaf, a hunodd ar ddydd ei enedigaeth, a

"Rhoed y bach yn nghryd y bedd,
Yn Beuno, oer-wlyb annedd."

Yn yr un modd, diangodd y pedwerydd baban, merch fechan, o freichiau gobaith. Huna hi a'i brawd hynaf yn Nolgellau, tra y gorwedd yr ail yn Llanecil. Ganwyd y pumed plentyn yn 1820, ac er fod ei einioes o hynny hyd y pryd hwn yn esboniad ymarferol ar y geiriau, "Wedi ein bwrw i lawr, ond heb ein llwyr ddyfetha," y mae yn aros hyd yr awrhon, gan rodio mewn petrusder rhwng bywyd ac angeu, a beunyddiol ddisgwyl am awr ei ymadawiad. Y mae yn teimlo ei hun fel carcharor, i'r hwn y rhoddir cennad i rodio yn y llannerch las o flaen drws y carchar. Nis gall fyned ymhellach, ac ni wyr pa mor fuan y rhaid iddo roddi i fyny yr ychydig a fwynheir ganddo.

VIII. ADDYSG YR AELWYD.

Yr oedd gofal fy mam am ei phlant yn fawr, a'i serch tuag atynt yn wresog. Yr oedd ei hawydd am iddynt fod yn "blant da" yn cael ei ddangos yn ddyddiol, drwy y gwaharddiadau llymaf rhag ymgymysgu â "phlant drwg." Mynych atelid hwy drwy hyn o chwareuaethau diniwaid ieuenctyd. Ond nid oedd ei thriniaeth o honynt bob amser yn ddoeth. Ceryddai yn llym, a hynny mewn nwyd, ac nid mewn cariad, y rhan fynychaf. Yr oedd hyn yn gadael argraff o greulonder ar y meddwl, yn enwedig pan y byddai priodoldeb y gosp braidd yn amheus, fel y digwyddai fod ambell dro. Ond yr oedd hi yn meddwl yn gryf fod curo ei phlentyn â gwialen yn foddion lled debyg o gadw ei enaid rhag uffern. Dichon fod y dduwinyddiaeth gosbawl hon yn gywir, ond nid llawer o gredinwyr ynddi sydd ymysg plant ieuainc. Beth bynnag am hynny, nis gellir beio yn ormodol yr arferiad o guro plant am ddamweiniau, ac am weithredoedd nas gallant fod yn hysbys o'u natur a'u tueddiadau. Nid yw pethau o'r fath yn tarddu oddiar arferion meddwl, ffurfiad priodol y rhai a ddylai fod unig ddiben cerydd. Os llithra troed plentyn ar y llawr nes iddo drwy hynny dori llestr gwerthfawr, creulondeb barbaraidd yw ei gernodio am hynny, neu ei ysgwyd nes y byddo ei asennau yn siglo. Gwyddai fy mam pa fodd i geryddu yn ysbryd yr ysgrythyr, a gwnelai hynny yn achlysurol. Sancteiddiai y cerydd drwy air Duw a gweddi.

Yr oedd awydd fy mam yn fawr am i'w phlant gael addysg. Dysgasant ddarllen yn ieuainc, a gwneid hwy yn fwy hylithr yn hyn drwy ei bod yn eu gosod i ddarllen iddi pan fyddai seibiant. Yr oedd gan ei mab hynaf gof da, a thrysorodd lawer o'r Beibl yn ei gof. Yr oedd wedi ei fedyddio gan Dr. Lewis, a mawr oedd hyder fy mam y buasai yn troi allan yn bregethwr. Gall llawer ddiystyrru teimlad fel hyn mewn dynes dlawd, ac edrych arno fel balchder. Ond beth sydd yn fwy ardderchog na gweled mam yn aberthu anwylyd ei henaid ar allor Duw? Mae yn olygfa fil-fil mwy gogoneddus na phe y dymunai iddo goron ymerodraeth eangaf y ddaear. Ond yn hyn. siomwyd fy mam. Ni throdd ei mab hynaf allan yn bregethwr; a phan yn y diwedd y bwriodd ei goelbren ymysg y Wesleyaid, bu yr hen fam am gryn amser mewn cryn amheuaeth am ddiogelwch ei enaid. Credai, beth bynnag, rai blynyddoedd cyn ei marw, ei fod yn "fachgen duwiol," er mai prin y gallai faddeu y Wesleyaeth. Mor bell y mae rhagfarn ac anwybodaeth yn arwain pobl dda o'u lle! Pe y gwrandawai Crist ar yr ysbryd hwn, byddai cawodydd tân ar y ddaear yn llawer amlach na chawodydd gwlaw. "Nid ydynt yn dilyn gyda ni:" nac ydynt, y mae yn wir, ond y maent yn dilyn yr Athraw, ac y mae iddynt, o ganlyniad, Arweinydd gwell na "NI."

Nid lleoedd nodedig am addysg ac ysbryd darllen oedd Rhyd y Main a'r Brithdir, bump a deg ar hugain o flynyddoedd yn ol. Nid oedd ysgolion dyddiol ond afreolaidd a diwerth. Yr oedd y dyn a dderbyniai y Seren Gomer neu y Dysgedydd, yn oracl; ac os meddai rhywun fwy o lyfrau na'r Beibl, yr Holwyddoreg, llyfr Hymnau heb ei rwymo, sypyn o hen Almanacau wedi eu gwnio ynghyd, a nifer o gerddi yn yr un gadwraeth, yr oedd ganddo "lawer iawn o lyfrau." Yr oedd presenoldeb "Corff Duwinyddiaeth" Dr. Lewis agos yn rhoddi cwbl urddau i dŷ.

Yr oedd tŷ fy rhieni yn llawn o'r tlodi llenyddol hwn. Cynhwysai dri Beibl, Testament Newydd, un llyfr Hymnau, "Taith y Pererin," "Llyfr y Tri Aderyn," "Ffynhonnau yr Iechydwriaeth," (gan Mr. Jones, Pwllheli,) dau rifyn o Drysorfa Mr. Charles, amryw bregethau, diwedd neu ddechreu y rhai oedd ar goll yn gyffredin, ac ychydig o fân-draethodau eraill. Ychwanegwyd at y rhai hyn rywbryd gan fy mrawd yr "Ysgerbwd Arminaidd," a'r "Bardd Cwsg." Yn eu dyddiau plentynaidd, yr oedd y mab hynaf yn bysgotwr campus, a'r ieuengaf bob amser yn hoffi llyfr. Fel y bu oreu y ffawd, yr oedd teulu caredig yn byw yn Esgairwen, lle y derbynnid Seren Gomer, a lle yr oedd amryw lyfrau gwerthfawr eraill, megys Esboniad Dr. Gill, a Hanes Prydain Fawr gan Titus Lewis. Drwy gael benthyg y rhai hyn, a'r Dysgedydd o leoedd eraill, yr oedd, yn gyffredin, ddigon o waith i'r darllennydd ieuanc. Daeth hefyd ar draws y "Blodeu-gerdd," "Gorchestion Beirdd Mon," "Drych y Prif Oesoedd," a "Helyntion y Byd a'r Amseroedd." Darllennodd y rhan fwyaf o'r llyfrau hyn cyn bod yn naw mlwydd oed; ac oni buasai hwy, buasai yn amddifad o'r ychydig wybodaeth gyffredinol a gasglodd yn ei ddyddiau boreol. Rhoddai fy mam bob cefnogaeth 'r awydd hwn am ddarllen.

IX. GWERTH ADDYSG.

Ond o hyn allan, yr oedd tymhestl i gyfodi. Barnai fy nhad y dylasai y bachgen erbyn hyn ddechreu meddwl am ennill ei fara. Nid oedd ei syniadau ef am ddarllen mor uchel a'r eiddo fy mam. Gwyddai hi mai trwy ddarllen y cesglid gwybodaeth, ac mai trwy wybodaeth yr oedd dyrchafiad; a gwyddaí fy nhad mai "trwy chwys dy wyneb y bwytai fara." Ymrwymaf nad oedd dyn yn y wlad yn deall nac yn cofio yr ysgrythyr hon yn well. Yr oedd perthynasau, a phobl dda ddiwyd y Brithdir hefyd, yn hollol o'r un farn; a byddai fy mam, ambell dro, bron o'r un syniadau, wrth gofio, mae yn debyg, mai "yn amlder cynghorwyr y mae diogelwch." Ond, ar y cyfan, gwnai ymdrechion canmoladwy i hyfforddi ac i geisio llyfrau i'r "bachgen bach." Parhau a wnaeth yntau i ddarllen; a phan y dechreuodd feddwl y gallai brydyddu, barnodd fy nhad fod diwedd am dano, ac y dygai ei benwyni i'r bedd mewn tristwch. Credai nad oedd yn ei aros, os dilynai y fath fywyd segurllyd, ond y carchar a'r crogbren.

Ond wedi hir dymhestloedd, wedi parhau o honynt am bump neu chwe' blynedd, canodd yr efrydydd ieuanc yn iach i dŷ ei dad; ac o radd i radd, argyhoeddwyd yr hen wr fod ei fab wedi gweithio iddo ei hun gymeriad gwerth ei gadw; ac o hynny allan, ei gyngor ymadawol bob amser fyddai, —" Edrych atat dy hun; mae dy gymeriad ar dy law dy hun, ac os na ofeli di am dano, ni wna neb arall." Cyngor da, llawn o'r doethineb puraf; a mynych y rhoddwyd ef wrth sefyll ar y ffordd, neu ael y mynydd, neu eistedd ar y dorlan, yn adeg yr ymadawiad.

Ond y fam, wedi y cyfan, oedd wedi ffurfio y meddwl. Oni buasai hi, nis gallasai y meddwl ieuanc lai na suddo. Cauesid ef mewn cylch bychan tywyll a buasai yn alltud bythol i bleserau melusion gwybodaeth, ac yn anwybodus am eangder cyfoeth llenyddiaeth. Ysgrifennir hyn er addysg i famau Cymru. O flaen pob peth, bydded iddynt roddi addysg i'w plant. Gallant eu gadael heb arian, ac heb gyfoeth; ond hwy a agorant y Nefoedd a'r ddaear o'u blaen trwy hyn. Bydded iddynt ychwanegu, fel y gwnaeth fy mam, esiampl dda, a gofal am eu moesoldeb, a'u mynych gyflwyno i ofal y Nef, a'u "plant a gyfodant ac a'u galwant yn ddedwydd."

X. Y TY CROES.

Ni wenodd y byd ar fy rhieni. Er dechreu yn dda, eto, drwy golledion anffodus ar anifeiliaid, a gorfod gwerthu eu heiddo ar symudiad anisgwyliadwy o dyddyn, pan yr oedd prisiau uchel y rhyfel Ewropeaidd wedi gostwng, ni flagurasant fel y lawryf gwyrdd. Er mai llaw y diwyd a gyfoethoga," eto, "nid yw y post aur yn tyfu wrth ddrws pawb." Trefnodd Rhagluniaeth iddynt fywyd isel dros y chwe' blynedd ar hugain diweddaf o einioes fy mam, mewn tyddyn bychan, lle y porthwyd hwy â digon o fara, er na chawsant nemawr o ddanteithion bywyd. Cawsant ran y cyffredin o lafurwyr a mân amaethwyr Cymru. Ni buont heb y fuwch yn y beudy, yr ychydig ddefaid yn y Cae Porfa, na'r pistyll gloew gris- ialaidd o flaen y drws, drwy yr amser. Yn henaint a gwendid fy mam, dangoswyd iddi fawr garedigrwydd a chydymdeimlad gan amryw gyfeillion a chymydogion. Hedd, dedwyddwch, a llwydd- iant iddynt hwy a'r eiddynt oll.

XI. Y DADLEUON.

Fel y crybwyllwyd yn barod, ymunodd fy mam â chrefydd pan yn ieuanc, ac ymlynodd wrthi hyd ei hen ddyddiau. Bu yn addurn ei hieuenctyd, ac yn goron ei phenllwydni. Yr oedd ei sel dros yr achos bob amser yn wresog. Ei barnau athrawiaethol oeddynt uchel-Galfinaidd. Tebyg i'r syniadau hyn gael eu mabwysiadu ganddi yn amser ymraniad eglwysig a gymerodd le yn y Bala, yn fuan ar ol iddi ymuno â'r eglwys yno. Nis gallaf lai nag ystyried rhwygiadau eglwysig yn felldithion crefyddwyr. Crebachant eneidiau dynion, fel na aliant oddef dim, na theimlo dim, ond eu shiboleth gredoawl eu hunain. Llanwant y meddwl â rhagfarn, a thueddant braidd bob creadur bychan i gymeryd arno fod agoriadau pyrth Paradwys yn ei law. Darllennir llyfr Arfaeth mor llithrig a'r llyfr corn. Y mae dirgelion etholedigaeth ar bennau y bysedd. Deallir cyfamod y Prynedigaeth yn well na thaflen pen-llanw y môr yn yr Almanac. Nid oes dim dirgelwch mewn prynedigaeth neillduol. Nid yw esbonio cyfiawnhad yn fwy anhawdd na phlethu gwden llidiart. Mae parhad mewn gras yn athrawiaeth mor hawdd ei deall ag yw teimlo oerfel ar wyliau Nadolig. Nid oes lle i ddadl am danynt. Ynfyd yw y dyn a'u hamheuo. Nid yw yn iach yn y ffydd; mae y gwahanglwyf arno. A'r un modd mae gyda y blaid wahanol. Mae eu hathrawiaethau hwythau fel yr haul, a'r haul fel ei Greawdwr, ac am hynny yn berffaith; a dyna ben ar y mater. Anhawdd i mi ofidio yn rhy ddwys, er mai ofer yw, i rwygiad eglwys Llanuwchllyn niweidio ysbryd crefyddol fy mam. Trwy hyn treuliais flynyddoedd boreuaf fy mywyd yn swn brwydrau duwinyddawl, ac yn cael ar ddeall fod bron holl weinidogion Gogledd Cymru wedi cyfeiliorni yn ddirfawr. Enciliodd fy rhieni o gymundeb yr eglwys yn y Brithdir, gan ystyried eu hunain yn aelodau gyda'r "Hen Bobl," er mai anfynych yr elent i Lanuwchllyn o herwydd pellder y ffordd. Cynyrchodd hyn oerfelgarwch crefyddol. Esgeuluswyd moddion gras i raddau, ac aeth y gwrandawiad yn afreolaidd. Eto, cynhelid yr addoliad teuluaidd i fyny gyda mesur dymunol o reoleidd-dra. Wedi i holl helyntion cyfreithiol Llanuwchllyn fyned drosodd, ac i'r cyfeillion yno gael prawf fod cyfeiliornad mewn buchedd yn llawer mwy dinistriol yn ei effeithiau na chyfeiliornad tybiedig mewn barn, ymunodd fy rhieni drachefn â'r eglwys yn y Brithdir; ond treuliasant fel hyn flynyddoedd gwerthfawr i ennill dim-ond chwerwder ysbryd. Bendith i fyd ac eglwys fuasai heb glywed erioed am derfysg nodedig Llanuwchllyn.

XII. CYFARFODYDD GWEDDI CYMRU.

Yr oedd fy mam yn gallu darllen yn dda, a thrwy hynny dygai holl rannau yr addoliad teuluaidd ym mlaen yn rhwydd. Yr oedd ei galluoedd i weddio yn rhagori ar y cyffredinolrwydd o feibion a merched. Ei bai pennaf mewn gweddi oedd meithder. Clywais ambell weddi deuluaidd dri chwarter awr o hyd. Yr oedd hyn bedair gwaith rhy hir, beth bynnag; ac o'm rhan fy hun, ni ofalwn ddywedyd ei bod yn fwy na hynny. Y mae meithder mor anferthol yn lladd y sylw, ac yn creu mwy o ddymuniad am yr Amen nag am y fendith ofynedig. Arferai fy mam hefyd weddio yn gyhoeddus. Pan oedd yn byw yn Ty'n y Graig, yn agos i'r Arennig, nid oedd ond ychydig foddion gras mewn cyrraedd, heblaw y cyfarfodydd gweddi a gynhelid yn gylchynol yn nhai gwasgaredig y gymydogaeth. Nid oedd nifer y gweddiwyr ond ychydig, ac amryw o'r ychydig hynny yn lled anfedrus. Parodd hyn i'w gwasanaeth fod yn dra derbyniol a chymeradwy. I fy meddwl i, y mae crefydd yn y mynyddau fel yn gwisgo Cymru â gogoniant mwy ysblenydd na phe bai y mynyddau yn oreuredig âg aur coeth. Dacw hwy, ychydig lafurwyr ac amaethwyr tlodion, ar ol hir-ddydd o waith blinderus, yn gadael eu cartrefi ym mrig yr hwyr, ac yn myned dros ffosydd, ac ar hyd y sarn drwy gorsydd, a thros bontbrenau creginllyd, am ddwy neu dair milldir yn yr hwyr i addoli Duw yn rhai o'u tai bychain. Mae y bwthyn wedi ei ysgubo yn drefnus, y tân yn loewach nag arferol, a chanwyll wêr yn barod yn rhyw ran neu gilydd o'r tŷ. Mae Beibl a'r Llyfr Hymnau ar y bwrdd; a chyn hir, darllennir y bennod, rhoddir allan yr emyn, cenir y mawl, ac aberthir y weddi. Nid yw yr addolwyr yn gyfarwydd â llawer o donau, ac ni ddefnyddiant amrywiaethau mawr o fesurau. Mae "Talybont" a'r "Hen Ganfed" ymysg y rhai mwyaf arferol. A phan wrandewir arnynt yn canu

"Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau
Nid oes neb a ddeil fy mhen,"

neu,

"Mae nghyfeillion wedi myned,
Draw yn lluoedd o fy mlaen,"

mynych y gellir meddwl eu bod wedi cael benthyg

"Swn telynau'r saint,"

neu eu bod am ennyd wedi eu cipio i fyny hyd ym Mharadwys. Ac wedi i'r ban olaf gael ei ddyblu a'i dreblu yn yr emyn, hwy a droant bawb i'w ffordd ei hun, weithiau yn nhywyllwch y ddunos, ac weithiau is pelydr y lloer. Ni ymdrafferthant hwy i esbonio deddfau anian pan ruo y daran uwchben, ond gwyddant y "gwna efe daranu â'i lais yn rhyfedd." Gall y fellten wau o'u hamgylch heb iddynt feddwl am ddim ond yr Hwn sydd yn "gwneuthur ffordd i fellt y taranau." Pan siglo y corwynt eu bythod, meddyliant am yr Hwn sydd yn "marchog ar ei adenydd." A phan ddisgynna y curwlaw yn bistylloedd llifeiriol, eithaf nôd eu hathroniaeth ydyw meddwl am "wlaw mawr ei nerth ef." Gwened y neb a ewyllysio ar y bywyd hwn, y mae yn fywyd dedwydd. Bywyd ydyw sydd yn gloewi cyneddfau, ac yn llonni ysbryd ei feddianwyr. Hebddo buasai gwlad fynyddig fel Cymru yn druenus. Ni buasai pobl Blaen y Cwm na theulu Ty'n y Mynydd nemawr uwch taw barbariaid. Ond y mae Cymru, gyda'i Beibl, ei salmau, hymnau, ac odlau ysbrydol, yn meddu ar elfennau gwir wareiddiad ac enwogrwydd, er ei holl anfanteision a'i diffygion. Hir, hir, mor hir ag einioes y ddaear, y blaguro crefydd ym mynyddoedd Cymru

XIII. WRTH DRAED DR. LEWIS.

Saith milldir oedd taith Sabbathol fy rhieni yn yr amser hwn. Ac eto, byddent yn yr Hen Gapel yn brydlawn i glywed Dr. Lewis yn rhoddi allan ei hoff emyn,—

"Unwaith yn rhagor, fy enaid prudd,
Y gweli'r dydd yn olau;
Unwaith eto cei foliant roi,
I'r hwn sy'n troi'r wybrennau."

Ac ar ol gwrando y bregeth olau ysgrythyrol a ddilynai, ymlwybrent drachefn eu saith milldir yn ol. Ond yr oedd Dr. Lewis yn werth cerdded pedair milldir ar ddeg i'w wrando. Y mae ef, yn ei Esboniad a'i "Ddrych Ysgrythyrol," yn llefaru eto; ac ni wn am un esboniad na chorff o dduwinyddiaeth yn y Gymraeg a ragora arnynt. Y mae mor gynwysfawr ac ysgrythyrol, nes y gellir yn briodol eu galw yn "afalau aur mewn gemwaith arian." Yr oedd golygiadau Dr. Lewis yn Galfinaidd: ac felly yr oedd fy mam, fel yr awgrymwyd yn barod, yn hoff o'r un syniadau. Rhoddodd yr Athrawiaeth Newydd," "Sefyllfa Prawf," a "Gallu Dyn," lawer o boen iddi. Ond drwy y cyfan, ymorweddai ei henaid ar Iawn mawr y Gwaredwr. "Gwaed yr Oen" oedd testyn ei chân yn nhŷ ei phererindod. Goddefodd lawer o gystudd ym mlynyddoedd olaf ei hoes, ond ei hiaith arferol oedd,—

"A raid i gystudd garw'r gro's
Ddilyn fy ysbryd ddydd a nos?
Os rhaid, gwna fi yn toddlon iawn."


AT EI FAM, AR EI DYDD GENEDIGOL.

Mawrth 18fed, 1846.

Fy Mam!—pa fodd y teimlwch chwi,
Os canig fer anfonaf fi,
I'ch annerch, yn lle llythyr rhydd,
Ar hwn, eich genedigol ddydd?
Eich plentyn ie'ngaf ydwyf fi,
A mab eich henaint gerwch chwi:


Eich cofio pan ymhell fel hyn,
Wna'm llygad glas yn ddyfrllyd lyn.
Na thybiwch, er fy mod ymhell,
Nad wyf yn fynych yn fy nghell,
Yn meddwl am fy anwyl fam,
A'm cadwai gynt rhag cur a cham.
Na! agos i fy meddwl i
A'm calon dyner, ydych chwi:
Nis gall ond angau beri nam
I fy serchiadau at fy mam.

Anghofio 'Mam!-nis gallaf hyn,
Tra b'wyf yn teithio yn y glyn;
Ond ati hi, o ddydd i ddydd,
Fy meddwl yn ehedeg sydd.
Er rhaid oedd gadael mam a thad,
Er mwyn yr hon adawai'i gwlad,
Mewn llwyr ymddiried ynnof fi,
Ni pheidiaf byth a'ch cofio chwi.
Fel teg angyles, buoch chwi,
Trwy nos a dydd i'm gwylio i;
Ac, yn eich cofio, gwnaf fy rhan,
Pan ydych hen, a llesg, a gwan.
Yr ydych, Mam, yn mynd yn hen,
Mwy trymaidd yw eich siriol wên,
Nag yn y dyddiau dedwydd fu,
Pan oeddych ieuanc, cref, a chu.
Saith deg a thair o flwyddau'ch oes
Ddarfuant; ac yn ol nid oes
Ond gyrfa fer hyd lan y bedd,
Ac oddiyno fry i Hedd.

FY MAM, da gennyf weld eich bod,
Er dyddiau blin, yn gallu dod,
Rai prydiau, i rodfeydd eich Duw,
At ffrydiau pur y dyfroedd byw.

Cwyd hyn eich meddwl ar eich taith,
Sydd wedi bod yn flin a maith:
Cewch olwg ar y Wlad sydd well,
Cyn esgyn i'r ardaloedd pell.
Ffarwel, FY MAM!-i chwi a'm tad
Cyflwynwn ein hanerchion mad :
Os na chawn byth eich gweld yn nhref,
Cawn gydgyfarfod yn y Nef.

XVI. DYDD ANGLADD FY MAM.

Ac fel hyn, o don i don, ac o nerth i nerth, hi deithiodd ddyffryn adfyd, hyd nos Lun, Ion. 29, 1849, pan y safodd peiriant natur, ac y gadawodd yr enaid yr hen gartref y trigasaí ynddo am 76 o flynyddoedd ond ychydig o wythnosau. Bu farw yn dawel ac yn orfoleddus, meddant i mi. Ond ni chefais yr hyfrydwch trymllyd o ganu yn iach iddi. Yn y munudau yr oedd hi yn gadael pob gofid, yr oeddwn i a chyfaill iddi yn gwneud rhyw drefniadau bychain er ei chysur dyfodol; ond nid oedd eu heisieu. Yr oedd erbyn hyn yn etifedd pob peth. Ar y Mercher canlynol, ar ol dychwelyd o'r swyddfa yn siriolach nag arferol, y peth cyntaf a dderbyniwn oedd llythyr caredig fy hen athraw hybarch, Mr. Jones o Ddolgellau, yn fy hysbysu nad oedd i mi fam mwyach. Nid oedd gennyf bellach ond ymdrechu talu y gymwynas olaf iddi; a thrwy gymhorth ager a cherbydau, dygwyd fi mewn ugain awr i ben taith o wythnos ychydig flynyddoedd yn ol. Yr oedd fy nhad yn weddw, eto, yn hyfrydach ganddo fy ngweled, efallai, nag erioed o'r blaen. Am fy mam, yr oedd hi yn ddistaw iawn,-y waith gyntaf i mi ei gweled yn ddistaw ar fy ymweliad â chartref. Ond nid oedd yn awr na gair na deigryn fel y bu Yr oedd y prydweddau yn lled. debyg fel arferol, ond eu bod yn oerion iawn. Nid oedd llinell o'r wynepryd o'i le, ond y bennaf-bywyd. Ac y mae yn deimlad crynllyd, synllyd, a dychrynllyd i blentyn edrych ar yr hon a roddes fywyd iddo, heb fywyd ei hunan.

Ond y mae yn bryd dechreu yr ŵylnos. Mae y "Beibl Coch" ar y bwrdd, a'r Llyfr Hymnau. Daw yr hen gymydogion i mewn o un un nes oedd y ty yn llawn. Mae Mr. Jones o Ddolgellau wedi dyfod, a'r addoliad wedi dechreu. Bum mewn llawer ŵylnos, gwelais blant yn wylo ar ol rhieni, ond ni theimlais o'r blaen beth oedd wylnos mam. Ond yr oedd yr hen wynebau, yr hen acenion, yr hen donau yn cael effaith ryfedd arnaf. Teimlwn y gallaswn ganu gyda hwy, er fod fy llais ar bob adeg arall yn dra aflafar. Ond ymddangosai y cwbl i mi yn sylwedd. Pan gyfeirid at yr Iorddonen, yr oedd fy mam wedi ei chroesi. Os sonnid am yr Archoffeiriad mawr, yr oedd wedi ei chyfarfod. Os dywedid am wynfyd, yr oedd hi wedi ei gyrraedd. Yr oedd cystudd a galar wedi ffoi ymaith, a llawenydd tragwyddol wedi ei oddiweddyd. Hoff i mi oedd gwrando drachefn ar fy hen athraw, yr hwn er ys mwy na naw mlynedd ar hugain cyn hynny, a offrymasai drosof, ar ddydd fy ngenedigaeth, y weddi gyhoeddus gyntaf, pan y disgwyliai pawb o'm hamgylch i mi farw. Gyda diwedd y gwasanaeth, cyrhaeddodd fy mrawd o'i daith hirbell yntau. Blwyddyn a chwe' mis, cyn y noswaith honno, ymadawem â'n gilydd ar lan Menai, heb dybied mai yn wylnos ein mam y cyfarfyddem nesaf. Ond dyna gyfnewidiadau amser.

A daeth drannoeth, dydd angladd fy mam. Ymgasglai y cymydogion: elai hwn a'r llall "i edrych y corff;" cymerid yr olygfa olaf; cauid yr arch; darllennid a gweddiai William Richard, (un o weddiwyr goreu yr oes,)[1] gyda'i holl ddwysder arferol, a chychwynem i addoldy Rhyd y Main, lle yr addolasai fy mam am lawer blwyddyn. Yno, pregethai cyfaill hoff i fy mam, Mr. Roberts o Lanuwchllyn; ac ar lan y bedd areithiai Mr. Jones. Araf ollyngem y gweddillion marwol i'r gwaelod, eneiniem hwynt â'n dagrau, a chodem ein llygaid tua chymylau y nef, o'r hwn le y disgwyliwn yr Arglwydd a'r Iachawdwr, Iesu Grist, i'w galw ato ei hun yn nydd yr ymweliad. Creulawn ac aniwalladwy yw y bedd! O fewn dwy flynedd a thri mis, gorfododd fi i hebrwng i'w fynwes blentyn, priod, a mam; ond rhyddheir ei holl garcharorion yn nydd dadgload tiriogaeth angeu. "Os ydym yn credu farw Iesu a'i adgyfodi, felly hefyd y rhai a hunasant yn yr Iesu, a ddwg Duw hefyd gydag ef." Yn yr hyder hwn y gadawem lan y breswylfa lonydd, ac y dychwelem i'r Ty Croes, yr hwn le nid oedd mwyach i adwaen fy mam. Yr oedd ei lle yn wâg a'i llais yn ddistaw. Gwawriasai bore anfarwoldeb ar ei henaid, a gorffwys ei chnawd mewn gobaith am adgyfodiad gwell. Y mae weithian wedi gorffwys blwyddyn ym mro llygredigaeth, a dichon yr erys yno eto fyrddiynau o flynyddoedd; ond gofala yr Hwn sydd yn gwylio ei llwch am "i'r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth, ac i'r marwol hwn wisgo anfarwoldeb."

Wedi hir fwynhad ei hoes—a gweled
Mai gwaeledd yw einioes;
Hi, drwy ffydd, o'n daear ffoes,
Ar alwad Rhoddwr eiloes.


Huna yn dy ddistaw wely, blinaist ar helbulon oed,
Uwch dy ben y cân yr adar gerdd dy gwsg, o frigau'r coed,
Llithra ffrydiau Iddon heibio, er dy sio yn dy hûn;
Pery honno'n dawel ddedwydd, hyd foreuddydd Mab y dyn.

Mwy ni swyna llais dy glustiau, nes cyhoedda udgorn Nen
Alwad hyfryd i ail fywyd, gwynfyd na ddaw byth i ben;
Trwy fy nagrau gwelaf forau pan gyfodi heb un clwy';
Henflych forau yr ymweliad—ni bydd blin ysgariad mwy!


["Byth nid anghofiwn yr olwg ar Ieuan ar lan y bedd, uwchben gweddillion marwol ei fam, pan yr oedd ei dad ysbrydol yn annerch y dorf,—ei wyneb mor deneu a gwelw, yn edrych i fyny tua'r nef, ei ruddiau rhychiog yn ffrydio o ddagrau, tra yr oedd ei lygaid llymion, treiddgar, yn pelydru o sirioldeb, fel pe yn gweled, trwy ei ddagrau ei hun a'r cymylau uwchben, ysbryd gogoneddedig ei fam yng nghanol Paradwys Duw.

"Buasai yn fam ddyblyg iddo, naturiol ac ysbrydol. Pa wasanaeth bynnag a gyflawnasai i Dduw a'i wlad, a pha safle bynnag a gyrhaeddasai yn eglwys Crist ac yn y byd, o gychwyniad ei yría gyhoeddus hyd lan y bedd hwnnw, teimlai ei fod yn fwy dyledus am y cyfan ag ydoedd i'r cychwyniad rhagorol a gawsai yn blentyn gan yr un a orweddai yn farw i lawr yn ei waelod, nag i neb arall o'i gyd-farwolion. Yr oedd i Catharine Jones, ar lan y bedd y prydnawn hwnnw, y gofgolofn fwyaf priodol a ddymunasai byth gael o'r hyn ydoedd ac a wnaethai hi yn ei bywyd—IEUAN GWYNEDD.

"Nod uchaf uchelgais ei fam oedd i Ifan bach' fod yn bregethwr, i dreulio ei alluoedd a'i fywyd i gyhoeddi y Gwaredwr a'i cadwodd hi yn Waredwr i golledigion ei wlad. Ond i'w phlentyn hi gael yr anrhydedd hwn, boddlawn iawn yr edrychaí ar holl anrhydedd a chyfoeth y ddaear yn myned i'r sawl a'u carent. Ei syniad uchaf hi am urddas daearol, a nod uchaf ei llafur yn addysgu ei dau blentyn, oedd iddynt gael gwasanaethu Duw yn efengyl ei Fab ef. Cafodd argoelion boreuol iawn yn yr ieuengaf fod yr Arglwydd yn debyg o foddhau ei dymuniadau a gwobrwyo ei llafur yn hyn. Pan yn pobi, nyddu, neu wau, neu ynghylch rhyw orchwyl arall wrth y bwrdd mawr' neu ar yr aelwyd, gwnai i'r plentyn, pan nad oedd eto ond tua phump neu chwech mlwydd oed, eistedd gyferbyn, i ddarllen iddi rannau o'r Beibl yn uchel, er mwyn ei addysgu i ddarllen a phwysleisio yn gywir fel pregethwr.' Brydiau eraill cymerai ei destyn, codai ei bennau, a phregethai iddi —nid fel pechadures, ond fel beirniad, i'w hyfforddi yn y gwaith; a hawdd y gellir dychymygu y farn lle yr oedd y fam yn feirniad. Pan nad allai ei fam wrando arno, ai i ben carreg fawr—y garreg olchi—wrth y drws, a phregethai oddiar honno i'r dderwen fawr a'r pistyll bychan gyferbyn gyda brwdfrydedd a boddhad mawr. Mae y pulpud carreg wrth ddrws y Ty Croes, a'r dderwen uchelfrig a'r pistyll bychan gloew gyferbyn ag ef eto; ond y pregethwr plentynaidd ei le nid edwyn ddim o hono ef mwy.'" "R. O. REES."]

III. BORE OES.

I. GWEDDI YR AELOD IEUANC.

(Medi 24, 1857, y noswaith y derbyniwyd ef i gymundeb eglwysig yn y Brithdir.)

O ARGLWYDD! dyro im' dy ras,
I deithio tua'r Wlad;
Rho imi gymorth dan bob ton,
I gofio Tŷ fy Nhad.

I eglwys Crist derbyniwyd fi,
Duw, nertha'm henaid gwan,
I lynu wrth y Groes o hyd,
Nes dod o'r byd i'r lan.

Rhy im' dy lon gymdeithas di,
A chadw fi o hyd,
I rodio yn dy lwybrau glân,
Tra byddwyf yn y byd.

O! dal fy ysbryd dan bob ton,
I gofio Iesu Grist;
A'r "balm o Gilead" dyro di,
I lonni'm henaid trist.

Rho nerth i ddilyn llwybrau'r praidd,
Wrth deithio'r anial dir,
Nes delo'r awr im' ddyfod fry,
I breswyl Salem bur.


II "GORFFENNWYD."

(Sabbath Cymundeb y Brithdir, Hyd. 22, 1837.)

GORFFENNWYD y teithiau, gorffennwyd pregethu,
Gorffennwyd y gwyrthiau, y Pasg sydd yn nesu;
A chwerwder yr enaid ar fyr a orffennir,
Yng ngardd Gethsemane y rhuddwaed a chwysir.

Y Pasg a fwytawyd yng ngwydd y bradychwr,
A'r Swper ordeiniwyd yng ngwyddfod y gwadwr.
Dechreua'r ddyfalach, ddyfalach fawr wasgía,
Trist iawn ydoedd enaid Gwaredwr hil Adda.
Llwyd rew Gethsemane gan ruddwaed daenellwyd,
Yr anwyl Fessia gan fradwr gusanwyd;
Y cusan a deimlwyd yn llymach na'r hoelion,
A'r gwadu dig'wilydd drywanodd ei galon.
Heolydd Caersalem a'i waedlif a liwiwyd,
A'i hoff ben anwylaf å drain a goronwyd.
Y porffor a wisgwyd, yn Bozrah gorchfygodd,
A'i saethau yng ngwaed yr Edomiaid a liwicdd.
Ar groesbren Golgotha yr Iesu a hoeliwyd,
Bu uchel y grochfloedd, "Gorffennwyd"—Gorffennwyd!
Yr haul a dywyllwyd, y ddaear a grynnodd,
A siol yr Hen Ddraig Efe a'i hysigodd.
Y proffwydoliaethau yn awr a gyflawnwyd,
Y bicell a'i gwanodd—"Gorffennwyd:"—Gorffennwyd!
Y gwaed a ddylifodd ar glogwyn Golgotha,
Ylch hen bechaduriaid yn wynnach na'r eira..
Ceir balm o'i archollion, a gwin yn ei ddagrau,
Nyni a iachawyd trwy rinwedd ei gleisiau;
Ein holl anwireddau yn ddiau a ddygodd,
Ein holl gosbedigaeth yn llawn ddioddefodd.
Ein gwendid a gymerth, fe ddug ein doluriau,
Efe a archollwyd o achos camweddau;
Am gamwedd ei bobl y pla ddioddefodd,
Y Bugail darawyd, yr Arglwydd a'i drylliodd.

.
O garchar a barn Efe a gymerwyd,
O dir y rhai byw ei einioes a dorrwyd.
Ferch Seion, paham na chwareui dy donau?
Fe aeth dy Waredwr yn angau i angau,
Y cwpan a yfodd, er chwerwed y gwaddod,
Yn lle pechaduriaid fe aeth dan y ddyrnod.
Hosanna! Hosanna! y frwydr a enillwyd,
Marwolaeth ac Uffern a hollol orchfygwyd.
Boed clodydd i'r Iesu! ei lafur ddibenwyd,
Y goncwest a gafodd,-" Gorffennwyd!"-Gorffennwyd!

III. DIFLANIAD BORE OES.

(Medi 5, 1841, ei enedigol ddydd, yn 21 oed).

MOR fyrion dyddiau bore f'oes, gwag a siomedig fuont hwy:
Fel cwmwl diflanasant oll, ac yn fy meddiant nid ynt mwy.

"Fel doe" i mi yw dyddiau'm hoes o fewn yr anial llawn o gur;
Doe y dechreuais broń blas y byd a'i gwpaneidiau sur.

Doe 'r oeddwn i yn sugno'r fron, yn faban bach, heb deimlo nam;
Doe y chwareuwn, gyda nwyf, o amgylch gliniau 'nhad a 'mam.

Doe y cydgerddwn gyda'm brawd, ar hyd y dawel werddlas ddol;
Doe rhodiwn drwy'r coedwigoedd glwys, a'u deiliog lwyni'n mlaen ac ol.

Doe rhodiwn gyda llawer un sydd heddyw yn y distaw fedd;
Doe teimlwn bwysau gofid cudd o'm mynwes yn cilgwthio hedd.

Doe mi a bechais lawer iawn yn erbyn deddfau Iesu Grist;
Doe mi ofidiais Ysbryd Duw, gan wneud "Colomen" Nefyn drist.

Ah! heddyw eto gennyf sydd heb lithro i'r bytholfyd mawr;
Ac euraidd byrth Paradwys fry ni chauwyd rhagof hyd yn awr.
Ond haul fy heddyw cyn bo hir a guddir gan gysgodau'r hwyr;
Cymylau pruddaidd angau du a'u caddug cuddiant ef yn llwyr.
Ah! beth er hyn? y fory sydd ddiderfyn eang faes o'm blaen;
Di-rif fyrddiynau ynddo fydd o oesau meithion fel ar daen.
Os treulio heddyw gyda doe a wnaf yn ffol a dilesâd,
Fy nghosbedigaeth fydd yn drom yfory, mewn uffernol wlad.
Ond os caf bwyso ar yr Hwn sy'n cynnal Nef a daear lawr,
Caf dreulio bore oes am byth yng nghwmni y Jehofah mawr.
Am hyn, O Dduw, fy nysgu gwna i dreulio heddyw 'n ddifrif iawn,
Fel caffwyf dreulio gyda Thi yfory mewn gorfoledd llawn.

IV. ATHRAWON.

I DR. WILLIAM OWEN PUGHE.

(O bryddest gystadleuol pan oedd yn bymtheg oed.)

COLEDDU iaith y Cymry mad, â gwir
Ddyfalwch hir, bu'r Athraw Owain Puw.
Ei ddau Eiriadur fydd yn orwych gof,
Mai mawr ei lafur ydoedd ef o hyd;
Y"Mabinogion " hefyd gyda hwy;
"Coll Gwynfa," prif orchestwaith beirdd y byd,
Sydd gennym ni trwy ei ymdrechion ef;
A "Palestina," gwaith ein Heber fawr,
A wisgwyd ganddo ef â'r hen Gymraeg.


Ac yn ei fanion mae hyfrydwch mawr
I'w gael-Idrison oedd eu hawdwr oll.
Fel diliau mêl ei gyfansoddion sydd;
Am unrhyw wagedd, dim na haeddai glod
Ei bin ar bapyr byth ni roddai ef.
Mor foneddigaidd hefyd ydoedd, fel
Na roddai byth un sen i'w wawdwyr câs;
Addfwynder ydoedd ei brif deithi ef.




II. JOHN ROBERTS, LLANBRYNMAIR.

DE a Gogledd, athraw gwiwglod, ddarfu deithio lawer tro,
I bregethu am bleserau nwyfawl fryniau nefol fro;
Son am werthfawr aberth Iesu, son am gannu yn y gwaed,
Son am achub pechaduriaid, a'r trueiniaid mwyaf gaed.

Dacw'r delyn aur ddisgleiriol, addurniadol dlws y nef,
Rhwng ei ddwylo yn adseinio, melus byncio "Iddo Ef,"
Wedi gadael poenau bywyd am y gwynfyd melus, pur,
I bêr blethu mawl i'r Iesu, fu o dan yr hoelion dur.




III. WILLIAMS O'R WERN.

YNG nghanol ei fawredd a'i rym, ymgiliodd o gynnwrf y byd;
Ei gleddyf oedd finiog a llym, a'i saethau yn loewon o hyd;
Ei goron lewyrchai fel haul, pan ydoedd ar syrthio i lawr:
P'le mwyach y gwelir ei ail? mae colled ein cenedl yn fawr.

Y tafod gynhyrfai y wlad, sydd weithian yn llonydd a mud;
Y llygaid dywynnent mor fad, a gauwyd am byth ar y byd;
Y medrus ryfelwr nid yw, mae Seion a'i dagrau yn llif;
Ond IESU, ei Brenin, sydd fyw, a'i filwyr sydd eto'n ddi-rif.



IV. JOHN JONES, MARTON.

Fy hoff athraw, fu farw, Tach. 30, 1840, yn 42 mlwydd oed.

O! FY athraw hawddgar, siriol, 'mha le caf dy drigía di?
Ofer 'rwyf yn chwilio am danat, methu'th ganfod yr wyf fi:
Wrth y ddesc ni'th welaf mwyach, lle y buost lawer awr;
Llwyr oferedd im' dy geisio mwy yn unlle ar y llawr.

Na, cyn rhoddi'r ymchwil heibio, mi af eto at y ddor,
Lle y'th glywais gynt yn fynych yn ymbilio á dy iôr;
Ust! feallai dy fod yna, mewn cyfrinach gyda'th Dduw;
Ah ! distawrwydd sy'n teyrnasu, yna f'athraw hoff nid yw.

Cerddaf eilwaith i'r Addoldy, man a garai gynt yn fawr;
Yno, f'allai, mae yn dadleu dros Dywysog Ne a llawr;
Cynnyg mae, yn enw Iesu, fywyd byth i farwol ddyn,
Neu, yn annog yr afradlon i ddychwelyd "ato'i hun."

Trof, à chalon brudd, hiraethlon, tua'r gladdfa draw yn awr;
Wele fedd, a lawrwyf gwyrddion arno'n wylo dagrau'r wawr;
O! ai tybed fod fy athraw yma yn yr oergell brudd?
"Ydyw, yma mae yn huno," ebe meinlais distaw, cudd.

O! fy athraw, gad im' glywed peth o hanes Byd y Mawl—
Peth o hanes rhyfeddodau disglaer fryniau Gwlad y Gwawl;
Gynt dywedaist lawer wrthyf am hyfrydwch pur y Ne';
Llawer mwy im' d'wedi heddy w, gan dy fod o fewn i'r lle.

"Nid cyfreithlawn i farwolion yw ymholi am wlad y Ne',
Ond parhau i ddyfal chwilio am y llwybr cul i'r lle;
Mae peroriaeth ein telynau yn rhy beraidd iddynt hwy;
Rhyfeddodau anrhaethadwy welir yma fwy na mwy.

"Moroedd dyfnion, amhlymiadwy ydyw'r cyfan yma i'r byd;
Pethau hollol anirnadwy yw'r gwrthddrychau yma i gyd;
Gwlad hyfrydwch anherfynol, gwlad ddi-bechod, gwlad ddi-boen,
Ydyw'r wlad wyf heddyw ynddi, gwlad gogoniant Duw a'r Oen:—


"Gwlad sy'n llawn o bur gymdeithas, gwlad heb fradwr ynddi'n bod,
Gwlad y mae ei holl breswylwyr fyth mewn hwyl yn rhoddi'r clod
I'r Gwaredwr bendigedig brynnai'n bywyd ar y groes,
Gwlad sy'n llawn o bêr orfoledd, wrth adgofio'i ingawl loes.

"Bydoedd disglaer, gogoneddus, yn yr eangderau maith,—
Ydynt yn ororau iddi, lle i ni gyflawni'n gwaith,—
Lle i ganfod rhyfeddodau, na dd'ont byth i galon dyn,
Hyd nes dėl i fyny yma, i gael gweled oll ei hun.

"Nid yw'r ser, a'u siriol wenau, sy'n goleuo ar y byd,
Ddim ond megis mân ardaloedd, a adwaenom oll i gyd—
Ddim ond prydferth addurniadau i drigfannau Tŷ ein Tad,
Lampau disglaer i oleuo pererinion tua'u gwlad.

"Yn y gwagle maith, aruthrol, saif yr orsedd glaerwen, fawr;
Pellach ydyw fyrdd o weithiau na gororau eitha'r wawr;
Mangre ddisglaer ei breswylfod, cysegr ei ogoniant yw,
Prif frenhinllys gwych y Duwdod, teml yr Hollalluog Dduw."

Anwyl Athraw, dywed imi am drigolion pur y wlad,
Am gymdeithas hoff y brodyr sydd ynghyd yn Nhy ein Tad;
A oes gennych ryw hyfrydwch yn ein cyflawniadau ni?
A yw'n bosibl i chwi gofio gwlad y ddaear yma fry?

Bysh nis gallwn beidio cofio, tra bo telyn yn y Nef,
Na, amhosibl byth anghofio, tra yn canu Iddo Ef:'
Ar y ddaear mae Calfaria, lle bu'r Iesu ar y pren;
Byth ni wnawn anghofio'r llannerch lle y trengodd Brenin Nen.

"Mynych pan yn cydymddiddan am anialwch maith y byd,
Synnwn at y gras a'n nerthodd i ymdeithio yno c'yd;
Mynych ar adenydd gwisgi, myrdd cyflymach nag yw'r wawr,
Byddwn yn cymeryd gwibdaith yna i wlad y cystudd mawr.

"Hoff yw gennym weld y mannau buom mewn peryglon gynt—
Mannau cawsom ein hadfywio gan awelon dwyfol wynt:
Hoff yw gennym weled llwyddiant ar y Deyrnas gyda chwi;
Ennyn hynny fflam nefolaidd trwy ein holl ororau ni.


"Y mae gweled hen gyfeillion, ar ol ymdrech deg yr oes,
Wedi taflu'r cleddyf heibio, wedi gorffen dwyn y groes,—
Mynych tannir ein heneidiau gan lawenydd dwyfol, pur,
Pan yn cofio'n truan gyflwr yna yn yr anial dir.

"Melus iawn yw gwrando Stephan yn rhoi darlith ar ei hynt,
Ar y gawod fawr o gerrig a syrthiasai arno gynt:
Melus iawn yw gennym glywed hanes gyrfa ryfedd Paul,
Gwrando'i brofiad tra yn teithio trwy y byd yn mlaen ac ol.

"Hoff yw gennym gymdeithasu gyda'n hen gyfeillion måd,
Owen Thomas, Robert Roberts, o fy ngenedigol wlad;
Roberts, Lewis, Jones, a Williams, hyfryd iawn eu gweled hwy;
Hynod fedrus y dywedant am yr OEN a'i farwol glwy'.

"Ond hyfrydwch penna'n henaid ydyw gweled IESU gwiw,—
Gwrando arno 'n rhoddi darlith ar sefyllfa dynolryw,—
Clywed am ei ymdrech meddwl, pan yn chwysu'r dafnau gwaed,—
Gweled ol yr hoelion llymion yn ei ddwylaw pur a'i draed.

"Dyma sydd yn llenwi'r Nefoedd â gorfoledd maith, didrai;
Dyma ffynnon gwir hyfrydwch byth i'r gwaredigol rai:
Gyda bod yr Iesu'n gorffen, bydd pob telyn mewn llawn hwyl,
A'r holl Nefoedd mewn gorfoledd, fel yn cadw uchel wyl.

"Bellach, dos, rhaid i mi fyned at yr orsedd fry yn awr;
Dacw un o'm hen gyfeillion wedi d'od o'r cystudd mawr:
Rhaid im' fyned ato'n union, i gael clywed am ei daith;
Dos yn ol o blith y bedday, bydd yn ddiwyd gyda'th waith."

Hyn, dros ennyd, a'm dyrysodd, tybiais fy mod gydag ef;
A meddyliais, am ychydig, fy mod bron yng ngwlad y Nef;
Tybiais fod cydrhwng fy mreichiau delyn un o deulu'r Hedd;
Erbyn edrych, nid oedd gennyf ond tywarchen oer ei fedd.


V. CATHLAU BLINDER.

I. Y CLAF.

Ebrill, 1845, ar ol amryw wythnosau o gystudd trwm.

Y CLAF a ganfyddais, a nodau y bedd
Yn dewion a frithent ei ruddiau;
Drwy argraff ei glefyd edrychai ei wedd
Yn welw ym mlagur ei ddyddiau.

Y Claf oedd bellenig o freichiau ei fam,
A rhyngddynt y cribog fynyddoedd,
Yr anial wellt goedwig, a llawer hir lam,
Ysgarent, a'r bryniau a'r cymoedd.

Y Claf ydoedd estron o fwthyn ei dad,
A bryniau hen Feirion iachusol,
Yn unig a thruan o'r anwyl hoff wlad,
Lle triga ei geraint serchiadol.

O'i amgylch estroniaid ofynnent ei hynt,
Fel cwmwl yn cuddio yr heulwen;
Nid tebyg eu lleisiau i effaith y gwynt.
Yn ymlid y nifwl o'r wybren.

Eu gwên ydoedd oerllyd, eu llais oedd yn wan,
Arwyddion o fewnol ddibrisdod;
Ac yntau, wrth ganfod mai hyn oedd ei ran,
Ymsuddai yn ddyfnach i drallod.

Ei gell ydoedd lymllyd, a blodau y ddôl
Nid oeddynt yng nghyrraedd ei lygad;
Ni welai drwy'r ffenestr ond dernyn o gol.
Yr wybren, fel bwa o gariad.


Mor drymllyd i'r llygad oedd canfod ei boen,
Blinderus oedd gwrando ei ruddfan;
A meddwl mor gyflym y ciliodd yr hoen
Fu gynt yn ei wneuthur yn ddiddan.

Nid hir bydd yr ymdrech, ond buan ei fedd
A wlychir gan ddagrau rhieni;
A'i frawd dywallt ddeigryn yn athrist ei wedd,
Ac arall sydd dlysach na'r lili.

II. YMGOMIAD AM ANGEU.

Hydref, 1846.

ADDAS yw ar derfyn amser dafiu ymaith bryder bron,
Gweddus yw i'r meddwl godi uwch caledi'r ddaear hon ;
Er nad oes i'r corff ond gwendid, hir afiechyd dybryd, dwys,
Gall yr enaid wenu arno, er yn suddo dan ei bwys.

Buan, Amser, yw dy rediad, cynt na'r glwys oleuni glân,—
Cynt na'r fellten gochwen, ddeifiog, yn ei fforchog, dorchog dân;
Rhedaist á fy einioes ymaith, mae fy ymdaith fer ar ben:
Mae fy enaid bron ar gyrraedd byd na choda'r byw ei len.

Rhaid im' edrych arnat, Angeu, er mor erchyll yw dy wedd;
Rhaid im' edrych yn ddigyffro ar dy lym, angeuol gledd;
Dyna'r cleddyf fydd yn fuan yn frathedig yn fy mron,
Wele'r min, cyn nemawr ddyddiau, dyr linynau'r galon hon.

Lled anhyfryd ydyw tremio ar dy greulon, atgas bryd;
Ond, ai addas llygad-gauad ymadawiad byth â'r byd?
Na, mi dremiaf ar dy bicell, ac ni chrynaf ger dy fron,
Er mai ti yw llofrudd creulon holl drigolion daear gron.

Gwelaf di yn araf rodio, er rhoi diben ar fy môd;
Edrych arnat 'rwyf er deufis, pan gwnai ddewis, gelli ddod;
Eto ni chaiff dy arafwch dd'rysu heddwch pur fy mron;
Tyred yn dy flaen, a tharo, nes y syrthio'r babell hon.

Angeu, er nad wyf ond ieuanc, rhagot ni arbedir fi;
Ac nid ydwyf yn arswydo syrthio i dy faglau di;
Er y rhaid i'm corff falurio, hirfaith huno, yn y bedd,
Tawel iawn ar hyn edrychaf, gwenu allaf ar dy gledd.

Profais o bleserau bywyd, gwn beth ydyw adfyd du;
Rhodiais drwy iselder tlodi, codais i esmwythder cu;
Gwelais lawer cilwg aeldrom, gwelais fil o wenau llon;
Rhedodd holl bleserau daear felly'n gynnar drwy fy mron.

Profais nerth y grymus deimlad, Cariad, a'i lywodraeth gref,
Unodd fi â'r un ystyriaf yr hawddgaraf is y nef;
Dyna hi, a dyna'n baban, dyma finnau'r truan dad,
Ar eu gadael yn amddifaid rhwng dieithriaid estron wlad.

Maent yn rhwymau cadarn, nerthol, eto dynol ydynt hwy;
Eraill feddant rwymau tynnach, cryfach, hirach, meithach, mwy;
Hwy deimlasant awr eu drylliad, ac nid oedd eu teimlad hwy
Ond yr un a'm teimlad innau, minnau ni chaf ddyfnach clwy.

Trwm yw gadael gweddw hawddgar,-trymder na ddarlunia dyn,
Cyn y caffo fenthyg Duwdod i'w adnabod ef ei hun;
Dryllia fil-fil o linynan, sydd yn fyw gan deimlad pur,
Yfed diluw yw o drallod, bustl a wermod erchyll sur.

Gadael baban, brathiad llymdost, sydd yn gloesi'r galon, yw;
Ond y baban llesg a'r weddw gânt eu cadw gan fy Nuw;
Enaid! gwyddost pwy a'th dderbyn, onid Brenin mawr y Nef?
Cyflawn ymddiriedaist ynddo, byth dy ado ni wna Ef.

Clod a Gobaith, Parch a Mawredd, ymaith a'ch ynfydrwydd ffol;
Ewch o'm golwg, ciliwch, brysiwch, na ddychwelwch byth yn ol;
Draw ar unig gopa'r mynydd, boed fy ilonydd wely llaith;
Man priodol, mwyn, i'r prydydd, pan y derfydd poen ei daith.

Ddaear! beth yw'th wael deganau? dyma Angau o fy mlaen!
Gwelaf fod ei saeth yn barod, edyn fenaid sydd ar daen;
Dos, fy meddwl, i'w gyfarfod, gyda'th elyn ysgwyd law;
Noetha'th fynwes at ei ergyd, colli'th fywyd yn ddi-fraw.


Paid a chrynnu wrth ei weled yn dynesu bob yn gam;
Mantais yw i dremio arno, well na phan y daw ar lam;
Paid a rhoddi un ochenaid, pan yr ysa'i boen dy gnawd;
Cadw'th ddagrau—wyla'th briod, dy rieni, a dy frawd.

Wylai eraill, o ran hynny, pe y byddai iti'n lles;
Ond ni wna y chwerwaf ddagrau atal Angau i ddod yn nes;
Weithiau daw mewn oer wasgfeuon, weithiau mewn llewygon poeth;
Weithiau cuddia flaen ei bicell, weithiau dengys hi yn noeth.

Paid a grwgnach, pan y byddo cur y gwaed yn araf iawn,—
Pan fo'r oerllyd chwys yn tarddu dros dy ruddiau y prydnawn,—
Pan fo llannerch ar dy wyneb megis rhosyn coch y bedd,—
Pan fo'th galon wan yn sefyll na foed newid ar dy wedd.

Dal, pan wlycho tyner ddagrau ereill dy guriedig rudd,—
Pan ffarwelíant âg ochenaid, safa di ar dalgraig ffydd:
Gwena ar dy brudd gyfeillion, chwardd ar Angau—gâd dy chwyth—
Cau dy lygaid, er eu hagor yn yr oror olau byth.

III. MARWOLAETH BABAN.

Hydref, 1846. Ganwyd y baban Medi 15fed, a bu farw Hydref 22ain.

Fy maban hoff, mor fuan daeth
Dy oes i ben gan farwol aeth !
Fel deilen rydd y dygwyd di
Ar donnau y cynddeiriog li'.
Ti wywaist, fel blodeuyn haf
Cyn gauaf oer. Dy lygaid claf
Gauasant dan gysgodau'r nos,
Fel blodau tyner ael y rhos.
Pan oeddwn i a'th anwyl fam
Yn gwenu ar dy wedd ddinam,
Ein gwên a droed yn alar du,
A threiddiodd drwy ein calon lu
O brudd deimladau heb ymdroi,
Pan ddarfu ti o'n breichiau ffoi.

Gan ddwylaw oerllyd Angau erch
Fe dorrwyd holl linynau serch.
Y mêl a droed yn waddod sur,
A'r galon siriol lanwodd cur.
Er na bu ar dy wyneb wên,
Ond golwg boenus, athrist, hen;
Er hynny, gwan y galon yw,
Wrth edrych ar blanigyn gwyw,
A dorrwyd gan y gwyntoedd croes,
Wrth ddechreu ar ei egwan oes.
Fy maban, cwsg; esmwythach fydd
Dy hun o fewn y gwely pridd,
Nag a gefaist ar y fron
A'th garai gyda serch mor lon.
Myfi a'th fam cyn llawer lloer
Ddown atat ti i'r gwely oer.*
Pan ddygwyd di gan Angau du,
Gwnaeth erom gymwynasau cu;
Cynhesodd i ni'r oerllyd fedd,
Anwylodd wlad anfarwol hedd,—
Dy gartref di, a'r lle, cyn hir,
Gyrhaeddwn ni o'r anial dir,
1 gwrdd â'n JOHN yn ysbryd byw
Gerbron i orsedd danbaid Duw.
O hyfryd ddydd, ail fyw heb loes
Marwolaeth drwy anfarwol oes.



*Dy fam a ddaeth, a chyda thi
Yn ddistaw, ddistaw, huna hi;
Wyth loer ni welwyd yn y nen,
Cyn ar dy ol y plygai'i phen
I fynwes bedd:—a chodwyd di
I orffwys ar ei mynwes hi,
Mewn newydd fedd; ac yno'n gudd
Eich hûn, yn felus, felus sydd;
A minnau unig, unig wyf,
Yn gwaedu dan fy nyblyg glwyf,
A chrwydro fel drychiolaeth wyw,
Yn methu marw—methu byw.

Ebrill, 1848,

IV. BETH YW SIOMIANT.

Mawrth, 1847, pan oedd Mrs. Jones yn glaf iawn, a'i hadferiad yn anobeithiol.

BETH yw Siomiant? Tywyll ddu-nos.
Yn ymdaenu ganol dydd,
Nes i flodau gobaith wywo,
Syrthio megis deilach rhydd.
Beth yw Siomiant? Pryf gwenwynig
Yn anrheithio gwraidd y pren,
Nes ymdaena cryndod drwyddo,
Er dan iraidd wlith y nen.

Beth yw Siomiant? Llong ysblenydd,
Nofia'n hardd i lawer man,
Wrth ddychwelyd tua 'i phorthladd,
Yn ymddryllio ar y lan.
Beth yw Siomiant? Cwpan hawddfyd
Yn godedig at y min,
Ac yn profi'n fustlaidd wermod,
Yn lle bywiol felus win.

Beth yw Siomiant? Calon dyner,
Drom, yn gwaedu dan ei chlwyf,
Mewn distawrwydd, pan o'i deutu
Y mae pawb yn llawn o nwyf.
Beth yw Siomiant? Cynllun bywyd
Mewn amrantiad wedi troi,
Ninnau ar ei ol yn wylo,
Yntau wedi bythol ffoi!

Beth yw Siomiant? Tad yn edrych
Ar ei faban tlws, dinam,—
Arno'n gwenu,—yna'n trengu,
Pan ar fron ei dyner fam.
Beth yw Siomiant? Sylwi'n mhellach.
Ar y fam yn wyw ei gwedd,
Ac yn plygu, megis lili,
I oer wely llwm y bedd.


Beth yw Siomiant? Dim ond teimlad
Meddwl claf yn llawn o wae,
Pan yn canfod pob meddygon
Yn ei adael fel y mae.
Beth yw Siomiant? Chwennych bywyd,
Eto methu'n deg a byw;
Yna plygu'r pen i farw
Dan och'neidio—DYNA YW!


V. IN MEMORIAM.[2]

ℭ. 𝔍.

OBIIT APRIL XXV., A. D. MDCCCXLVII.

ÆTAT XXVIII.

BLIN yw llym arteithiau gofid, pan, yn eigion mynwes brudd,
Y cartrefant hwyr a borau, heb ymadael nos na dydd;
Pwy all draethu'r blinder yma, cyn ei deimlo yn ei rym?
Pwy a'i teimla, heb ymsuddo dan ei ddirdyniadau llym?

O fy mynwes! llwythog ydwyt o ofidiau chwerw—ddwys,
Trwm yw baich fy ngalarnadau, wyf heb nerth i ddal eu pwys;
Collais iechyd, collais faban—cyntaf—unig—tlws ei wedd;
A fy mhriod hoff a hawddgar ddygodd Angau cas i'r bedd.

Trom yw'm calon, gwlyb fy llygad, cartref hiraeth yw fy mron;
Mangre galar yw'm gwynepryd, dieithr wyf i deimlad llon;
Estron ydwyf yn fy nghartref, cerfiodd Angau yn fy ngwedd,
Mewn llyth'rennau hawdd eu darllen, erchyll ddychryniadau'r bedd.


O! pa iaith a lawn esbonia gyflwr fy nheimladau prudd!
Beth ddynoetha'r pryf gwenwynig ysa'm hedd o ddydd i ddydd?
Pa ryw eiriau gaf ddefnyddio, pan yn siarad am fy ngwae?
Nid oes iaith i'w osod allan oll yn gyflawn fel y mae.

Peidied haul y nef a chodi mwyach ar yr anial fyd,
Na thywynned seren oleu mwy o'r wybren las ei phryd,
Nac ymdreigled ffrwd risialaidd byth o ochr y bryn i lawr,
A distawed mwyn gerddoriaeth creadigaeth oll yn awr.

Peidied blodau teg y dolydd gwasgar peraroglau mwy,
Na sisialed yr awelon eu hyfrydlon donau'n hwy,
Na foed arwydd o orfoledd yn un man o ddaear Duw,—
Prin dangosai'r byd fel yna fy mlinderau aml ei rhyw.

Mi allaswn fod yn dawel mewn afiechyd nychlyd, gwyw;
Ni suddaswn er im' golli IOAN bach o dir y byw;
Ond pan rwygwyd o fy mynwes fy hawddgaraf briod lon,
Cefais glwyf nad oes a'i gwella tra b'wyf ar y ddaear hon.

Blwyddyn lawn sydd wedi treiglo er yr hwyr gwnaem ganu'n iach;
Ond at ddifa prudd—der calon, nid yw hyn ond ennyd fach;
Ger fy mron y mae dy ddelw lesg, guriedig, megis pan
Yn arteithiau olaf Angau darfu dy anadliad wan.

Nid fel yna gynt y'th welais, ail y rhosyn oedd dy rudd,
Hawddgar oedd dy lednais amrant, megis amrant deg y dydd;
Bywyd oedd dy wên gariadus, melus oedd dy dyner iaith,
Tlysach na holl flodau daear oedd dy rudd dan ddeigryn llaith,—

Dan y deigryn fynych dreiglai pan o fewn i gysegr Duw,—
Pan wresogai'th enaid hawddgar wrth y son am Brynwr byw;
Gwawr y rhosyn coch a'r lili oedd unedig yn dy bryd;
Ond y tegwch newidiasai Angau cyn dy ddwyn o'r byd.

Wrth dy gofio 'rwyf yn synnu, d'rysu mae fy meddwl blin;
Gwelais ynnot iechyd nwyfus, ond fe ddaeth tymhestlog hin;
Ciliai'r gwrid, a'r cnawd a guriodd, darfu'r wên mor llednais fu,
Ger fy mron nid oedd ond cysgod o dy berson prydferth, cu.


Blin i'r meddwl yw adgofio, eto methu peidio mae,
Am y dyddiau hyfryd, diddan, cyn y profem ddafn o wae;
Oriau llawn o bob hyfrydwch ellir brofi ar y llawr;
Ond y tymor hwnnw ddarfu, darfu megis munud awr

O dynered oedd ein hundeb! cryfion oedd llinynnau serch;
Ond eu dryllio wnaed yn fuan gan gynddaredd Angau erch;
Trwm oedd eistedd wrth y gwely, edrych arno'n agoshau,
Gweld am bump o fisoedd meithion fod ei allu yn cryfhau.

Hwyr a borau, nawn a dú—nos, ddygent eu harwyddion prudd,
Fod ein bythol, drwm ysgariad yn neshau o ddydd i ddydd.
Siarad weithiau am adferiad, yna siarad am y Nef,
Yna wylo dagrau heilltion, a dyrchafu athrist lef.

Gwenu weithiau ar ein gilydd, nes i'r llygad droi yn llaith;
Canfod popeth yn mynegu dy fod bron ar ben y daith;
Yna sychu'r cyflym ddagrau, edrych gyda siriol wedd,
Nes yr ail frawychai'r galon pan feddyliem am y bedd.

Ac o'r diwedd, daeth yr adeg iddi gefnu ar y byd,
Dirdyniadau poenfawr Angau ymddanghosent yn ei phryd;
Rhaid oedd rhoddi'r cusan olaf ar y wefus oedd fel ià;
Bloesga'r tafod, gwibia'r llygaid, llinyn bywyd torri wna.

Dyna yr ochenaid olaf, dyna'r llaw yn cwympo i lawr;
Swn y dymestl a ddistawodd, distaw iawn yw'r cwbl yn awr;
Llwyd yw'r llygad, oedd fel seren, marwol—welw yw ei phryd;
Nid oes yma ddim ond Angau, bywyd sy mewn amgen byd.

Rhaid oedd cilio o'r ystafell, Angau oedd ei harglwydd hi;
Cilio wnawn yn weddw unig, anial oedd y byd i mi;
Câr nid ydoedd ar fy aelwyd, yn y dymestl fawr ei grym;
Hiraeth wanai drwy fy enaid fil-fil o bicellau llym.


Weithiau syllwn ar ei darlun, siarad wnawn â'r papyr mud,
Tremiwn ar y lle'r eisteddai pan yn iach, nes oedd ei phryd
Yn adgodi megis bywyd, am ryw ennyd ger fy mron,
Yna deffro,—deffro i deimlo nad oedd ar y ddaear hon.

Trwm oedd edrych ar ei llyfrau, trymach ar ei hysgrif—law,
Cofio fod yr hon a'i lluniodd yn y beddrod oerllyd draw;
Methwn ddarllen ei llythyrau, gan y cof nad ydoedd mwy;
Llewyg—iasau lanwai'm calon, na wyr dyn eu llymder hwy.

Pan yn rhodio yn fy nhrymder, Natur oedd yn clwyfo'm bron,
Chwith i mi oedd gweled unpeth yn meddiannu golwg lon;
Gwnaethwn bron gusanu'r gwlithyn, am fod deigryn ar ei rudd,
Dagrau oeddynt fy anwyliaid, hoff i mi bob golwg brudd.

Dyna rai o'r blin deimladau drigent yn fy mynwes wan,
Pan ddylaswn lawenychu mai nid daear yw ei rhan;
Yn lle meddwl am ei Nefoedd, meddwl am ei bedd a wnawn;
Dow fy Mhrynnwr! maddeu imi, nid yw hyn yn ddoeth nac iawn.

Huna dithau, dlws fy enaid, er fy nagrau ar dy fedd;
Maddeu im', nid wyf yn wylo am dy fod mewn Dwyfol hedd;
Anhawdd yw i deimlad beidio hidlo deigryn, pan y mae
Calon glwyfus yn gorlifo gan lifogydd mewnol wae.

Cwsg yn dawel—mae ein baban yna'n gorwedd gyda thi;
Cwsg yn dawel—fel y dwedaist, buan deuaf atat ti;
Cwsg yn dawel—ail gyfarfod gawn uwch holl wendidau'r cnawd,
Pan y gwisgwn anfarwoldeb pur ar ddelw'n hynaf Frawd.

Huna di—dy dymor gweithio ddarfu—cefaist fynd i'r wledd;
Lydd fy mhrofiad i sy'n para, er mor egwan yw fy ngwedd;
Purir fi drwy ddioddefiadau, yna daw i ben fy nydd;
Gwylia droswyf o'r Uchelder, nes i'm henaid ddod yn rhydd.

Ebrill 25, 1848.

VI. GWAITH BYWYD.

(Pigion, i ddangos terfynau gwaith, cyfeiriadau cydymdeimlad, a nodau athrylith.)

I. ARGYFWNG YN HANES CYMRU.

NID ydyw llwybr ein traed ond cyfyng. Ar y clogwyn hwn y mae cenedl yn ein dwylaw cenedl a'r oll a berthyn iddi am amser a thragwyddoldeb. Yr ydym wedi ei derbyn fel cymunrodd gysegredig oddi wrth ein tadau. Anfonwyd hi i'n dwylaw drwy newyn a noethni Walter Caradoc a Vavasor Powell. Casglwyd hi yn yr ogofau a'r mynyddoedd gan Stephen Hughes a Hugh Owen. Aeth Howel Harris a Lewis Rees ar ei hol trwy y coedwigoedd anial, trwy y llaid, a thrwy yr afonydd, a holl gŵn y fagddu wrth eu sodlau. Gofalwyd am dani dan bwys a gwres y dydd gan William Williams a Richard Tibbot. Rhewodd dwylaw Thomas Charles wrth gasglu deadell y mynyddoedd. Ni throsglwyddwyd erioed i ddynion ymddiried mwy pwysig: a dichon na bu dynion erioed mewn sefyllfa fwy peryglus. Gwylir ein hymddygiadau gan y cwmwl tystion hyn, y rhai, tra yn gorffwys oddiwrth eu llafur, a edrychant arnom dros ganllawiau y Nefoedd. Ond os yw ein hanhawsderau yn lluosog, nid ydym heb ein manteision. Mae y wlad yn ein meddiant, ac arfau y gwirionedd yn ein dwylaw. Y mae mwy gyda ni nag sydd yn ein herbyn. Gwir fod Rhufain yn ein herbyn, Caergaint yn ein herbyn, ac Uffern yn ein herbyn. Ond y mae y bobl o'n plaid, y gwirionedd o'n plaid, a'r Nefoedd o'n plaid.


II. FFURFIAD NODWEDD CENEDL.

Er ffurfio nodweddiad cenedlaethol da, rhaid dechreu yn llygad y ffynnon. Cyn i deml ysblenydd Jerusalem ddyrchafu ei mawredd ar fryn Moriah, a pheri i'w haur a'i marmor wenu ar y wawr ac ymogoneddu ym mhelydr haul, yr oedd hanes ei defnyddiau i'w ddilyn drwy orchwylion yr adeiladydd a'r purydd i'r gloddfa greiglyd a'r mwnglawdd lleídiog. Felly, rhaid i ninnau fyned heibio i'r adail fawr genedlaethol, a gweithio ein ffordd i'r aelwyd, a gwylio o amgylch y cryd, cyn y gwelwn deulu dyn rywbeth yn agos i'r hyn y dymunem iddo fod. Y mae yn llawer haws darlunio a gweled effeithiau ffurfiad nodweddiad personol na nodweddiad cenedl. Er gweled yr olaf rhaid i ni feddiannu ein hunain mewn amynedd. Pel byddai i'r llinellau hyn gael yr argraff mwyaf dymunol ar wyryfon a mamau Cymru, nes eu dwyn i benderfynu gwneud yr oll a allant er gwneuthur nodwedd ein gwlad yn ogoniant yr holl ddaear, a phe y gweithredent yn ol eu penderfyniad, byddent hwy a'r ysgrifennydd wedi myned i ffordd yr holl ddaear cyn y gwelid ond ychydig o ffrwyth eu llafur. Nid mynych y mae yr hwn sydd yn plannu y fesen yn byw i orffwys dan gysgod y dderwen. Darparodd Dafydd ddefnyddiau, ond Solomon ei fab a adeiladodd y deml. Cyn medi mewn gorfoledd, mynych y rhaid dwyn yr had gwerthfawr mewn dagrau. Cyn y cyfodir John Roberts o Lanbrynmair i ddisgyn i'r beddrod mewn henaint teg, fel ysgafn o yd yn ei amser, a'i enw yn berarogl cenedl, rhaid cael y fam dduwiol i ddywedyd mewn serch a dagrau wrth y baban bloesg am werth enaid a phwysigrwydd cariad at Iesu. Dywedai Napoleon Buonaparte mai mamau oedd eisieu yn Ffrainc. Dywedwn ninnau mai angen Cymru, a'r byd, yw merched a mamau deallgar a duwiol.


III. ADDYSG MERCHED.

Nid ar fara a chaws ac ymenyn yn unig y bydd byw dyn. Mae ar y meddwl eisieu gwybodaeth; ac os bydd y fam a'r famaeth yn amddifad o hono, cyfyd cenedl o dan eu dwylaw, fel trigolion Ninife, heb wybod rhagor rhwng y llaw ddeheu a'r llaw aswy. Er mor ddymunol ydyw gweled yr hosanau yn nwylaw diwyd rhianod a hynafwragedd ein gwlad, byddai yn dra dymunol hefyd gweled y llyfr yno yn achlysurol. Gwir y gwelir Beibl yn fynych ar dalcen y bwrdd, pan y bydd y bysedd yu prysur drin y pwythau er gweu y gam—redynen ar feilwng yr hosan. Llyfr y llyfrau ydyw y Beibl. Efe ydyw Arglwydd y lluoedd ym meusydd llenyddiaeth; ond dylai ein merched wybod am lawer o bethau pwysig eraill. Llyfr enaid yw y Beibl; yr arweinydd i fyd arall ydyw. Ond cyn cyrraedd i'r byd hwnnw rhaid i ni deithio drwy y byd yma. Dysgir iaith Canan ganddo ef a chanddo ef yn unig. Ond cyn y bydd ein traed yn y wlad sydd yn llifo o laeth a mêl, mae yn rhaid i ni fyned drwy yr anialwch a rhosydd Moab. Eto ofnwn fod llawer o'n mamau a'n merched heb wybod digon am hanesyddiaeth y Beibl. Nid ydynt wedi talu ond ychydig sylw i'w. ddaearyddiaeth, i'w fywgraffyddiaeth, ac i'w hanesyddiaeth. Gofidiwyd ein henaid lawer gwaith wrth wrando ar rieni—crefyddol mewn enw—yn difyrru eu plant â gwrachïaidd chwedlau am ysbrydion a thylwyth teg, ac ellyllon cyffelyb. Os oes eisieu difyrru plant â hanesion, pa le y ceir llyfr tebyg i'r Ysgrythyrau? O hanes Cain, a Joseff, a Moses, a Samuel, a Josiah, hyd ddyddiau y plentyn Iesu, y mae yn gorlifo o hanesion llawn o duedd i fagu hynawsedd, tynerwch, tosturi, a theimlad. Gallwn gymhwyso geiriau Iesu Grist ato, a dywedyd,—"Y cynhauaf yn wir sydd fawr, ond y gweithwyr yn anaml." Pe byddai i rianod ein gwlad dalu mwy o sylw i'r Hen Destament nag i chwedlau caru, a meddwl mwy am y Newydd nag am wisgoedd newyddion, byddai o fudd anrhaethadwy iddynt eu hunain, ac i'r rhai a ddichon Ragluniaeth eu gosod o dan eu gofal. Truenus meddwl y bydd meddyliau mor dlodion, mor wag, mor anial, ac mor ddiffrwyth a'r eiddo llawer merch ieuanc, yn fuan yn unig drysorfa gwybodaeth, cyneddfau grymus ac awyddus am addysg. Iddynt hwy nid yw holl gerddoriaeth anian ond ysgrechian aflafar. Nid yw tlysni swynol y ddôl flodeuog a'r llwyni llawn o rosynau ond golygfeydd di-addysg. O'r gedrwydden gadarn y mae ei gwraidd wedi ymwthio i agenau y graig, a'r brig wedi chwedleua am oesoedd ag awel deneu oerlem Libanus, hyd yr isop a dyf allan o'r mur yng ngardd Ty'n y Buarth, nid yw meddyliau plant mamau anwybodus i dderbyn un addysg. Gall y gwanwyn ymwisgo mewn mil myrdd o wenau deniadol, ond ni dderbyn un wen yn ol oddiwrth filoedd o feddyliau y dylai fod hyfrydlais cân cariad yn eu genau yn ei gyfarfod. Coronir y flwyddyn à daioni gan ddwylaw Creawdwr yr haf, ond ni ddeffry coron o wneuthuriad a phlethiad dwyfol un teimlad yng nghalon cenedl anwybodus; ac nis gall lai na bod yn anwybodus, os felly y bydd eu mamau. Gellir profi gwirionedd y sylw hwn yn hawdd drwy edrych ar blant dynion of alluoedd cedyrn a grymus. Rywsut neu gilydd, y mae y cyfryw ddynion yn ymbriodi â menywod tra israddol iddynt eu hunain. Anfynych iawn y mae plant y cyfryw yn cyrraedd enwogrwydd y tadau, tra y mae plant gwragedd gwybodus a deallgar bron yn ddieithriad yn dyfod yn gawri yn y tir.




IV. OLWEN.

Bu farw, a chladdwyd hi mewn arch wael ar draul y plwyf, ac ym mhen ychydig wythnosau, dilynodd y baban druan i feddrod gwarthruddedig ei fam. Ni thynerwyd ei gwely angeu gan ddeigryn, ochenaid, na gweddi.

Y mae bedd glas yng nghornel mynwent Llan y Marian, ac yno, heb nod nac argraff, y gorffwys gweddillion marwol Olwen Dafydd. Mae y gwynt yn chwareu â'r glaswellt, fel y bu gynt â'i gwallt melyn, modrwyog; a'r gwlith yn gwlychu ei bedd rhag i rianod Cwm Bradwen wylo rhy fach am gwymp mor fawr.


V. GWAITH DAFYDD IONAWR.

Nid yn unig yr oedd ei waith yn fawr, ond yr oedd y draul o'i gyflawni yn aruthr. Mewn anhunedd, mewn afiechyd, mewn trallod, ac mewn ing, cysegrodd holl nerth ei enaid i wasanaethu ei Dduw. Gallasai dynion ereill wneyd yn gyftelyb, ond yr oeddynt hwy fel

Llongau wrth ddryll angor,"

yn cael eu lluchio oddiamgylch am na feddent ar sefydlogrwydd bwriad. Gallem gyferbynnu Yswain Glanymorfa âg Yswain y ——— ym Meirionnydd. Cafodd y cyntaf addysg dda, felly cafodd yr olaf. Yr oedd i'r cyntaf etifeddiaeth; yr oedd i'r olaf etifeddiaeth fwy. Ymroddodd y cyntaf yn ddisgybl i'r awen; felly y darfu yr olaf. Gorfu i un ei dilyn dan wg y byd; taenwyd rhosynau ar lwybr y llall. Cyfrannodd un at lenyddiaeth ei wlad, felly y gwnaeth ei gydyswain. Bu y ddau fyw i henaint teg, a gadawsant ar eu hol ffrwythau eu hawen. Ond beth oedd y ffrwythau hynny?

Canodd un ar destynau cyffredin; ymroddodd y llall i bynciau cysegredig. Mydrodd un i gyfoethogion mewn aur; trodd y llall ei wyneb at gyfoethogion mewn gras. Defnyddiodd un ei awen i fawrhau ei gyfoeth; defnyddiodd y llall ei gyfoeth i fawrhau ei awen. Plethodd un ei fflangell ddreigiawg i ffrewyllu crefyddwyr ei oes; plethodd y llall ei ffrewyll ysgorpionawg i fflangellu ei hannuwiolion, yn lleyg ac yn llên. Canodd un i bleserau trythyllwch; eiliodd y llall ei gân i hyfrydwch santeiddrwydd. Amcanodd un am glod ei oes ei hun; bwriodd y llall ei fara ar wyneb dyfroedd. oesau y ddaear. Canodd un i ddynion: canodd y llall i Dduw. Yr oedd y ddau yn foneddigion o'r un swydd, yn ddynion o dalentau, ac yn aelodau o'r un Eglwys, eto mor wahanol eu llwybrau. Yr oedd un wedi gosod ei nod yn uchel; hoffai gyfrinachu âg angylion— â'r Drindod; ymfoddlonodd y llall ar gael ei weled gan ddynion, ac efe a dderbyniodd ei wobr. Fel enw yr afon ar lan yr hon y trigai, yr hon a gollir mewn un arall, y mae ei enw wedi ei golli yn ffrwd llenyddiaeth. Ond am Dafydd Ionawr, y mae ei enw ef, fel enw ei gartref boreol, wedi ei uno â môr athrylith. Y mae gagendor mawr wedi ei sicrhau rhwng athrylith wedi ei gysegru i Dduw, ag athrylith yn crwydro y ddaear yn ddifwriad, ac yn ddiorffwys fel Cain.




VI. Y WEINIDOGAETH YMNEILLDUOL.

Os ydym fel gweinidogion Ymneillduol yn gweled ein cyflogau yn fychain, gwell i ni droi i'r Eglwys Wladol. Os nad ydym yn foddlon i ddioddef adfyd gyda phobl Dduw, trwy dderbyn y cyflog bach, trwy fyw yn yr annedd salw, a thrwy ymborthi wrth y bwrdd diddanteithion, nid ydym yn ddilynwyr teilwng i efengylwyr Cymru, nac i apostolion Crist. Y mae ein cyflwr ni yn well na'r eiddo ein tadau.

Buont hwy fyw er ein mwyn ni, yr ydym ninnau i fyw er mwyn eraill. Gwir y gallem gyrraedd manteision uniongyrchol mewn ystyr dymhorol pe y rhoddai Arglwydd John Russel £150 yn flynyddol i bob un o honom. Ond beth fyddai sefyllfa ein holynwyr?

Beth fyddai sefyllfa grefyddol Cymru ymhen deugain mlyndd o amser? A ydyw hanes y byd yn ein cynysgaeddu âg un engraifft am weinidogion, y rhai, pan mewn undeb â'r llywodraeth wladol, a barhausant yn ffyddlawn i Dduw a'r bobl? Goddefed ein brodyr gweinidogaethol air y cyngor. Nid oes un ffordd fwy uniongyrchol iddynt golli eu dylanwad ar y bobl, a llofruddio eu hegwyddorion, na thrwy awgrymu fod eu cyflogau yn isel, a son am gysylltu swydd gweinidog â swydd athraw, ac i'r athraw hwnnw dderbyn arian y llywodraeth. Cofiwn nad ymddirieda y bobl ynnom ni heb i ni ymddiried ynddynt hwythau; ac os ymddiriedwn yn Nuw a'r bobl, ni bydd eisieu arnom. Y mae cyfarwyddwyr y bobl yn cyfeiliorni yn fynychach na'r bobl eu hunain.

Gŵyr yr ysgrifennydd beth yw ffyddlondeb y bobl. Nis gall ef ymffrostio mewn talentau ysplenydd, na dylanwad grymus. Nid ydyw yn fab y daran, nac yn fab diddanwch. Nid ydyw coron anrhydeddus penllwydni ar ei ben. Ni welir yn ei lygad fywiogrwydd swynol ieuenctyd, ac ni ddengys ei rudd ond y gwywdod afiach, y fynwes ofidus, a'r galon drom. Ond dichon nad yw dalennau hanesyddiaeth Cymru yn cynnwys profion o ymlyniad mwy serchus wrth un gweinidog nag a ddangosir ato gan ei eglwys a'i gynulleidfa. Drwy fisoedd meithion o gystudd, gwyliasant drosto gyda thynerwch rhieni. Wylasant gydag ef pan y gosododd ei gyntaf a'i uniganedig yn y bedd. Cymysgasant eu dagrau a'u gweddiau â'r eiddo yntau am adferiad priod ei fynwes; a phan yn y diwedd y rhwygwyd hi o'i fynwes gan y gelyn diweddaf, pan y newidiwyd ei hwyneb, ac yr anfonwyd hi i ffordd yr holl ddaear, trefnasant gyda'r serch tyneraf er ei gosod hi a'i baban i dreulio eu hun dawel, hirfaith, yn ogof Duw, yr hon a eneiniasant â'u dagrau. A thra y mae ef gyda chalon glwyfus yn crwydro o ardal i ardal, ym min suddo dan bwysau llethedig galar ac afiechyd, esgyn eu gweddiau hwy fel mwgdarth peraidd at orsedd y Nef ddydd ar ol dydd, ac wythnos ar ol wythnos, am ei adferiad.

Gwir nas gellir cymharu ei gyflog â'r eiddo gweinidogion yr Eglwys Wladol, a gweision y llywodraeth; ond pa swm a ellir ei gymharu â'r hyn a enillir drwy lafur caled, a offrymir gyda gweddiau y ffyddloniaid, ac a gysegrir á dagrau teulu y ffydd? Pwy a werthai y fath serch, ac a ymwrthodai â'r lle a feddiennir fel hyn mewn cannoedd o galonnau, am holl wenau y llywodraeth?

Nid yr ysgrifennydd.




VII. CEIDWADAETH LLENYDDOL

Hanner dwsin o gyfansoddiadau da a ddodant amgenach urdd ar ddyn na chylymiad ysnoden las am ei fraich mewn gorsedd. Ni bu dwylaw un cadeirfardd ar ben Samuel Roberts o Lanbrynmair; gwaded y neb a ewyllysio anfarwoldeb mewn ffordd na hoffem ni, nad yw fardd. Gall ein hen ddefodau cenedlaethol fod yn anwyl iawn i ni, ond y mae yn ddigon hawdd talu gormod am danynt. Ac os ydym i aros mewn llyffetheiriau er mwyn eu cadw, gwell i ni fod yn rhydd. Gwell aberthu y gadair farddonol, y tlysau aur a'r tlysau arian, nag anrheithio barddoniaeth ein gwlad. Llafuriwn i roddi iddi lenyddiaeth o deilyngdod, rhoddwn iddi farddoniaeth y gellir ei chymharu â'r eiddo cenedloedd eraill, a gadawn rhwng ein gwlad a chymeradwyo ein hymdrech neu beidio. Mae yn ormod o'r dydd i ni ymruthro yn ol i eigion y ddunos. Mae ffrydlif gwelliant a chynnydd wedi ein cludo yn rhy bell i feddwl am nofio yn ei erbyn. Ni newidir Pont Menai am geubalfa Porthaethwy, Ni newidir Pont Menai ei hunan am Bont Britannia. Ni throir at Ddosbarth Dafydd ab Edmwnd am ddosbarth Morgannwg, ac ni throir at ddosbarth cynghaneddol Morgannwg yn lle y mesurau rhyddion, am fod cynghanedd, yng ngeiriau pwysig yr hen Iolo, yn caethu y synwyr, a'r ymbwyll, a thrwy hynny y GWIRIONEDD.




VIII. NOD CWESTIWN A RHYFEDDNOD.

Goddefwyd rhai i gymeryd ychydig win" er mwyn -?-


IX. CYNHYRFIAD AC EGWYDDOR.

Dros ennyd awr yr erys ac yr effeithia cynhyrfiad ar y meddwl dynol. Arferwyd gormod o gynhyrfiadau yn yr achos. Meddyliasom fod yr yspardun yn ddigon nerthol i fyned a'r gorchwyl i ben; ond yn awr, pan y mae y cynhyrfiadau wedi darfod, y mae y Gymdeithas wedi syrthio i lewygfa. Dichon cynhyrfiadau, fel toriad cwmwl, wneud galanastra mawr dros ychydig amser, ond y mae egwyddorion yn ffrydio fel Euphrates, yn wastad, parhaus, ac anorchfygol, yn sicr o'r môr, ac nis gall neb sefyll yn eu herbyn.


X. CYMEDROLWYR.

Dangos meddwyn i'w plant ydoedd llwybr y Spartiaid i'w cadw rhag meddwdod; trwy ddangos yfwyr cymedrol i'w hepil y mae rhieni Prydain wedi magu cenedlaeth o feddwon-wedi dwyn i fyny filoedd o greaduriaid y gwridodd dynoliaeth o'u herwydd, yr ochen- eidiodd daear Duw wrth eu cynnal, y wylodd angylion yn eu hachos, ac yr ymeangodd Uffern ei safn yn anferth i'w derbyn. Po ragoraf fyddo cymeriad yr hwn a roddo esiampl ddrwg, mwyaf oll y perygl i'r rhai a edrychant arno gael eu harwain ar gyfeiliorn. Y mae gan y meddwl fwy o ymddiried ynddo, a thrwy hynny aiff ymlaen fel oen yn cael ei arwain i'r lladdfa. Y mae o'r pwys mwyaf gan hynny i Ddirwestwyr ymdrechu ym mhob modd i oleuo yr yfwyr cymedrol, a dangos iddynt eu bod yn awr fel hud- lewyrnau yn arwain i dir diffaith a phyllau, i dir ing a chysgod angeu.




XI. YR HEN AMSER.

Yng Nghymru, y mae y cyfnewidiad mwyaf wedi cymeryd lle mewn pob ystyriaeth. O gylch cant a phymtheg mlynedd yn ol, nid oedd pump o bob cant yn gallu darllen. Yr oedd ymladdfeydd gwaedlyd yn cymeryd lle rhwng plwyfydd cyfain a'u gilydd. Yn ffair y Waen, yn swydd Forgannwg, ac yn ffair y Rhos, yn swydd Aberteifi, byddai brwydrau dychrynllyd yn cymeryd lle. ffeiriau Dolgellau, byddai ymladd arswydus rhwng pobl y plwyf hwnnw a phlwyf Llanfachreth; ac os gallai pobl Dolgellau guro pobl Llanfachreth drwy yr aton tua'u hochr eu hunain, byddai y fuddugoliaeth yn ogoneddus. Ar y Sabbath, ymgynullai rhan o'r ddau blwyf yn y Ddolgoed, ger y Bontnewydd, i ddangos eu deheurwydd gyda'r bel droed. Nid oedd un gymydogaeth heb ei thwmpath chwareu, nac un clochdy heb fod yn wasanaethgar i chwareu pel. Yr oedd person Llanwddyn yn difyr eistedd gyda chwedleuwyr y llan, wrth dân yr odyn, ar hirnos gauaf, i ymryson dywedyd anwiredd â hwy. Yr oedd ef wedi bod yn pysgota, ac wedi dal, a'r creyrglas wedi llyncu ei bysgodyn, a'i gludo yntau gerfydd llinyn yr enwair o bellder daear i ymyl tý ei fam, yn swydd Aberteifi. Yr oedd ryw dro wedi colli ei ffordd yn Dover, a myned i gysgu. mewn cyflegr, yr hon a daniwyd bore drannoeth, ac ysgubwyd ef fel lluch-belen drwy yr awyr, hyd nes y disgynnodd o fforchog ar ben tâs mawn ei fam drachefn. Yr oedd y chwedleuwyr, hwythau, wedi gweled llysieuyn, neu foronyn coch, yr hwn nas gallasai deg pen o geffylau prin ei symud. Yr oedd un arall wedi gweithio y badell bres a'i berwasai. Yr oedd un wedi curo hoelen drwy y lleuad, ac un arall wedi bod wrth ei chefn yn ei hadergydio. Wrth fyned adref o'r farchnad, yr oedd gwr Llidiart y Rhos yn digwydd syrthio yn fynych ar draws palff o ddyn meddw, yr hwn, fel y ceid allan yn y diwedd, nid oedd yn neb llai ei urddas nag offeiriad y plwyf. Yr oedd y bobl yn methu o eisieu gwybodaeth. Nid oed weledigaeth yn y wlad. Ciliasai y gogoniant o'r deml, a throisid nefoedd yn bres gan wyneb-galedwch y ddaear. Nid oedd dy cwrdd i'w gael. Ni pheraroglid yr awyrgylch gan offrymau yr un allor deuluaidd. Nid oedd cwrdd gweddi, cyfeillach grefyddol, nac Ysgol Sabbothol mewn bod.



XII. JOHN ELIAS.

O brif areithiwr! fu'n daniwr dynion;
Ei wlad a alwodd at lu duwiolion;
O'i hir oferedd, a'i gwag arferion,
Efe a'i dygodd at Nef a'i digon;
AC ELIAS, was Duw lôn,-fawrygir,
Ei enw gofir yn hwy nag Arfon.



XIII. RHAG-GYFEILLACH.

Dylai rhieni hyfforddi eu plant pa fodd i ymddwyn. Ni ddylent eu hatal, a'u bwgwth, a'u herlid, fel y gwneir yn aml. Dylent ddysgu iddynt nad yw y fath gyfeillach ond oferedd profedigaethus hyd nes y byddo ganddynt ryw olwg am fywioliaeth. Pan y byddo hynny, ni ddylid taflu un rhwystr ar eu ffordd. Bydded rhieni mor resymol fel y gallo eu plant roddi ymddiried ynddynt. Y mae llawer dyn ieuanc, yr hwn ni phrynnai fuwch heb farn ei dad, yn rhuthro i ddewis gwraig heb ofyn ei gyngor ac heb wybod iddo, os geill. Mae llawer merch ieuanc, yr hon ni phrynnai gap heb gyfarwyddyd ei mam, yn dewis gwr heb roddi iddi yr awgrym lleiaf. Trwy hyn ymddifadir y plant o bwyll, a phrofiad, a chydymdeimlad eu rhieni. Hawdd i bobl siarad am gariad, a serch, a dewisiad, a rhes gyhyd a braich o eiriau anwyl fel yna. Ond hwy a gânt weled fod ychydig bwyll a doethineb yn beth tra dymunol wrth briodi, a lled anfynych y maent hwy eu hunain yn meddu digon o'r cymhwysderau hyn ar y pryd.




XIV. DAFYDD IONAWR A WILLIAMS PANT Y CELYN.

Nid ydym am honni mai bardd y Drindod fu y mwyaf defnyddiol o feirdd Cymru. Na, o ran defnyddioldeb, y mae William Williams, o Bant y Celyn, fel angel yn ehedeg yng nghanol y nef, mewn cymhariaeth i bawb arall. Yn anffodus, dewisodd Dafydd Ionawr ymddilladu mewn gwisg a'i caua am byth o'r cysegr. Ymdrwsiodd Williams yn ei wisgoedd offeiriadol, a chyneuodd dân ar allor Duw, yr hwn na ddiffoddir yn ei ffurf ddaearol nes y diffydd y marworyn olaf o ddaear a chreigiau Cymru yn y goddaith cyffredinol. Parha Dafydd Ionawr yn "Fardd Teulu" i'r coeth, y llenydd, a'r doethwr Cristionogol, tra y pery yr iaith; ond a Williams i mewn ac allan o flaen y bobl. Bloesg-lefara babanod ei odlau, cenir hwynt yn y gynulleidfa fawr, a siriolir gly n cysgod angeu â'u cerddoriaeth. Fel bardd awenyddol, dichon ei fod goruwch Dafydd Ionawr; ond yr oedd yn amddifad o'i rymusder a'i gyflawnder, ac yn anhraethol. islaw iddo fel celfyddydwr llenoraidd. Nid ydym yn gwneud y sylwadau hyn er iselu Dafydd Ionawr, ond yr ydym yn eu cynnyg fel teyrnged gyfiawn i athrylith a chymeriad Peraidd Ganiedydd Cymru, enw yr hwn ni welir yn fynych ymysg cof-lyfrau brawdoliaeth y beirdd. Er ei holl wallau llenyddol, y mae ei "Olwg ar Deyrnas Crist" yn gydymaith teilwng i "Gywydd y Drindod."




XV. DULLIAU PREGETHWYR.

Yr oedd meddyliau John Foster yn ogoneddus, yr oedd ei iaith yn goethedig i'r eithaf, ond yr oedd ei bregethau yn gwaghau yr addoldai-nid oedd yn effeithiol. Yr oedd Robert Hall yn rhesu. meddyliau gorwych, yn eu gwisgo mewn iaith ysblenydd, ac yn effeithio ar gynulleidfaoedd deallus. Ni feddyliodd neb erioed fwy na Foster; nid mynych y gwnaeth neb lai. Gall meddyliau gor- uchel gael eu gwisgo mewn iaith wael, a gwnaed hynny gan Williams o'r Wern, ond yr oedd y traddodiad yn effeithiol. Gall iaith chwyddedig gael ei rhaffu allan, fel y gwneir gan ŵr enwog sydd ar dir y byw, nes y synnir, ond ni theimlir. Gwisgai John Elias feddyl- iau canolig mewn iaith bur a grymus, ond coroníd y cyfan gan ei draddodiad. Y mae Mr. Williams[3] yn debycach i Robert Hall nag i un o'r rhai a nodasom. Wrth gwrs yr ydym yn cofio fod Hall yn ysgolhaig manwl a chywrain, wedi darllen gweithiau prif areithwyr a beirdd y byd, ac wedi mabwysiadu eu tlysau yn eiddo iddo ei hun. Yn amgylchiadau Robert Hall, buasai Mr. Williams yn debyg iawn iddo, er y buasai yn amddifad o'i allucedd gwawdlym. Nid allai Mr. Williams ddywedyd dim ond "dyn bychan," gallasai Robert Hall ddywedyd, "Gellid rhoddi ei enaid mewn plisgyn cneuen, ac er hynny ymgripiai oddiyno drwy dwll y gwyfyn." Ni allai Mr. Williams ond dywedyd wrth ddadleuydd cecrus, "Nid ydych yn gweled, frawd;" ond ysgrifenasai Hall y gair Duw ar dipyn o bapyr, gan ofyn iddo a oedd yn gweled hwnnw; ac wedi derbyn ateb cadarnhaol, buasai yn gosod penadur arno, ac yn gadael y gŵr da i'w fyfyrdodau. Y mae meddyliau Mr. Williams yn goethedig, ei frawddegau yn llawn ac ymchwyddawl, fel rhediad afon fawreddog, a gwneir i chwi gredu fod y pregethwr yn teimlo ei hunan. Dywedir gan rai nad yw yn dangos digon ar ei berlau i'w wrandawyr; os. gwir hyn, nid eu prinder, ond eu gorlawnder yw yr achos o hynny. Nid un neu ddau o feddyliau sydd ganddo ef i'w dangos yn ei bregeth, ond y maent yn lluaws. Yr oedd Dr. Chalmers yn ymaflyd mewn un meddwl, ac yn ei ddilyn drwy y greadigaeth; yn edrych arno o bob man, ac yn tremio ar ei holl rannau. Nid ydym yn bwriadu ymyrryd â'r ddadl pa un yw y goreu. Meddyliem y rhaid ei fod yn boenus i ddyn ymwybodol o deilyngdod ei feddylddrychau, gymeryd gafael ynddynt y naill ar ol y llall, a dywedyd wrth y gynulleidfa, Welwch chwi mor dlws yw y meddwl yma?" ac am y llall, Edrychwch ar brydferthwch hwn." Pan oeddym yn ieuanc, yr oedd gan berthynas i ni oriawr, yr hon oedd y gyntaf a welsom erioed. Byddai yn arfer ei dangos i ni—y cefn, a'r wyneb, a'r bysedd, ac yn ei dodi wrth ein clust er mwyn i ni ei chlywed yn tipian. Yr oedd honno yn ffordd dda gyda phlentyn, ond nid oes ei hangen—o'r hyn lleiaf ni ddylai fod—ar bobl mewn oed.




XVI. Y MOR FORE'R ADGYFODIAD.

Mewn eigionau mae, rhwng creigiau,
Yn nyfnderau muriau môr,
Ystafellau, boddiad oesau,
Dan fynorol, ddyfrol ddôr;
Ysgafn donnau, gwyrdd eu lliwiau,
Dawnsiant donau uwch eu pen,

Ym mhelydrau haul y borau,
Dan weniadau nodau nen;
Gwena Angau ar y cellau,
Fel ei hawliau ef ei hun ;
Ond, mewn munud,—difrif arswyd—
Pawb ddeffroir o'u cysglyd hun.

Tonnau tawel, is yr awel,
Gwyd yn uchel gad yn awr,
Yn derfysglyd dorf wreichionllyd,
Eistedd arswyd ar eu gwawr;
Dryllir bolltau hen ogofau,
O'u crombiliau oll yn rhydd,
Caethion Angau ddont yn rhengau,
Allan o bob cellau cudd;
Wyla yntau ar eu holau.
Halltach dagrau nag un don;
Gweld eu codiad sydd drywaniad,
Ingol frathiad, yn ei fron.






XVII. PA LE Y MAE?

Yn ystod anrhaith y pla yng Nghaerefrog Newydd, ym mis Gorffennaf, 1849. gwelid dynes ieuanc anffodus yn llawn o brysurdeb cymwynasgar yng nghladdle y meirwon. Ei gorchwyl oedd taenu. dail a blodau ar hyd y beddau, a chanu tonau gwylltion a phruddaidd yn eu mysg. Yr oedd, yn ol pob ymddangosiad, wedi hollol golli ei synwyrau, ac, fel y cyfryw, cydymdeimlid å hi yn ddwys gan bawb a'i gwelent. O'r diwedd, collwyd hi o'r ddinas ac o'r gladdfa, ac ni wyddai neb pa beth a ddaeth o honi. Yr oll a gafwyd o'i hanes sydd fel y canlyn.—O gylch pedair blynedd yn flaenorol, tiriodd hi a'i brawd yng Nghaerefrog. Ymadawsant yn fuan ar ol hynny yn Rochester, tref yn y dalaeth honno, drwy iddo ef ymuno a'r fyddin, a myned i Ryfel Mexico. Ni chlywodd ei brawd ond unwaith oddiwrthi ar ol hyn, ac yr oedd y pryd hwnnw yng Nghaerefrog, ac yn caru dyn ieuanc o'r enw John Weber. Gan mai Catherine Weber oedd yr enw wrth yr hwn ei hadwaenid yn y gladdfa, casglai ei brawd iddynt briodi, ond ni wyddai neb yno pa beth a ddaethai o'i gŵr. Yr oedd hi yn enedigol o Wompen Noof, Foernstrou, yn Bavaria. Pan gyrhaeddodd ei brawd i Gaerefrog, ar ol gadael y fyddin, ni allai gael dim o'i hanes, ond yr hyn a nodwyd. Nid oedd ganddo ond gofyn PA LE Y MAE, heb neb, ysywaeth, i adrodd iddo helyntion ei chwaer. Mae yr amgylchiad ynddo ei hun mor bruddaidd a chyffrous, fel y mae yn anhawdd peidio a theimlo wrth ei ddarllen.

Pa le y mae? A yw ei chân
Yn deffro eto gyda'r wawr?
A ydyw y gorffwyllog dân
O'í mewn yn llosgi hyd yn awr?
O blith y meirwon collwyd hi,
Darfyddodd sain ei thonau gwae,
Distawodd ei dolefus gri,
Oes neb a wyr pa le y mae?

Nid ydyw yn Bavaria hen,
Yn chwareu fel ei gwelwyd gynt,
Pan oedd ei hwyneb oll yn wên,
A'i chalon fel yr ysgafn wynt;
Nid yw yn chwareu gyda'i brawd,
Yn ymyl ffynon cwr y cae,
Ond crwydra hi yn estron tlawd
Os neb a wyr pa le y mae?

Pa le y mae? Nid ydyw hi
Yn croesi dulas lif y don;
Pan nad oedd ar ei gwefus gri,
Na phoenus archoll is ei bron;
Nid yw yn sefyll gyda'i brawd,
Gan ddeisyf arno'n daer nad ae
I waedlyd ryfel, tost ei ffawd,
Oes neb a wyr pa le y mae?


Pa le y mae? Nid yw yn awr
Ym mraich ei phríod hyd y dref,
Nid yw mewn bwthyn glân ei lawr
Yn disgwyl ei ddychweliad ef;
Wrth golli priod cu a brawd,
Ymddrysai hi gan fewnol wae;
Anffodion wnaent o honi wawd,
Oes neb a wyr pa le y mae?

Pa le y mae? Nid wrth y bedd,
Yn gwasgar blodau ar ei lwch;
Nid ydyw à galarus wedd
Yn cyfrif mwy ei ebyrth trwch;
Ni chana araf donau prudd,
Mor lawn a'r bedd ei hun o wae;
Os yw goruwch ei ddorau cudd,
Oes neb a wyr pa le y mae?

Pa le y mae? A ydyw hi
Yn crwydro'n unig drwy y byd,
A'i gwefus eto'n arllwys cri,
Orlifa o siomedig fryd,
Heb frawd na phriod wrth ei llaw,
I ymlid drychiolaethau gwae,
A chadw'i bron uwch hud a braw?
Oes neb a wyr pa le y mae?

Oes, y mae UN a edwyn fan
Yr eneth unig, serchog hon;
Gwyr EF yn dda beth yw ei rhan,
Ar wyneb tir neu ddyfnder ton;
EFE a gofia'r cwpan llawn.
A yfodd o waddodion gwae;
A gwylia hi'n ofalus iawn.
A chofia byth pa le y mae.

Pan eilw Duw, i olau dydd,
Y meirw cudd, daw gyda hwy,
Heb gwmwl athrist ar ei gwedd,
A'i chwynion maith ni chana mwy;

Ei chân ni bydd orffwyllog lef,
Ni thafl ei llygad ddibwyll wawl ;
Ei phryd fydd lawn o harddwch Nef,
A'i llais yn adsain llysoedd mawl,






XVIII. ANERCHIAD YMADAWOL I EGLWYS SARON, TREDEGAR.




(Adroddwyd yng Nghapel Saron, Ion. 9fed, 1848).

"Gwneled yr Arglwydd drugaredd â chwi, fel y gwnaethoch chwi a'r meirw ac a minnau."—RUTH i. 8. Mae y byd hwn yn llawn o ddirgelwch. Annichonadwy cael golwg glir a gwastad ar yrfa dyn drwyddo. Cauir ei ffyrdd â drain, a murir ei lwybrau à cherrig nadd, nes ydyw yn fynych yn gorfod cymeryd ei holl ymdaith "ar hyd ffordd ddisathr." Nid eiddo gwr ei ffordd, oblegid mynych yr ydym yn cael cynlluniau teg yn cael eu tynnu, a ffyrdd esmwyth, gwastad, a dymunol yn cael eu llinellu; ond buan yr ydym yn eu gweled yn llawn o bydewau, y cerrig geirwon wedi eu gorlanw, a holl wyrddlesni eu hymylau wedi diflannu. Nid oes gennym yn fynych ond synnu oblegid ein siomedigaeth, a wylo y deigryn chwerw uwchben ein gofid. Paham y mae amgylchiadau yn troi allan mor groes i'n dysgwyliadau sydd wybodaeth ry ryfedd i ni; uchel yw, ac ni fedrwn oddiwrthi. Nid oes gennym ond tewi, gan ddywedyd, "Tydi, Arglwydd, a wnaethost hyn," a disgwyl yn ddistaw hyd ddydd dadguddiad y dirgelion.

Pobl ryfeddol oedd yr Iddewon. Arweiniwyd hwy dan ofal neillduol, ac yn llaw Duw ei hun, am lawer cant o flynyddoedd. Gosododd elfennau natur yn fyddinoedd cedyrn o'u plaid, ac amddiffynnodd hwy â nerthoedd y nefoedd. Efe a'u cafodd mewn tir anial, ac mewn diffeithwch gwag, erchyll; arweiniodd hwynt o amgylch a pharodd iddynt ddeall, a chadwodd hwynt fel canwyll ei lygad. Efe ydoedd tarían eu cynorthwy, a chleddyf eu hardderch— awgrwydd. Yr oedd eu gwlad hefyd yn rhyfeddol. Eiddo hi oedd hyfrydwch y ddaear, hyfrydwch cynnyrch yr haul, a hyfrydwch addfed ffrwyth y lleuadau. Arni hi y defnynai bendithion y nefoedd fel yr ir—wlaw tyner. Hi ydoedd tegwch bro, a llawenydd bryn, a gogoniant yr holl ddaear. Ond nid oedd ei therfynau yn rhydd. oddiwrth ofid, na'i phreswylwyr yn ddiogel rhag blinder. Cawn eglurhad o hyn yn y bennod gyntaf yn llyfr Ruth. Daeth newyn i'r wlad, ac aeth Elimelech, gŵr o Bethlehem—juda, a'i deulu, i ymdaith i dir Moab. Dyma fel y mae dynion yn gyffredin: pan dywylla arnynt mewn un man, rhoddant gynnyg ar le arall, er na wyddant yr hyn a'u herys yno. Yn yr ystod byr o ddeng mlynedd, bu farw Elimelech; priododd ei ddau fab, a buant feirw. Ní bu eu heinioes. ond megis cysgod yn cilio. Diflannodd eu nerth; ebrwydd y darfu, a hwy a ehedasant ymaith. Gwnaeth yr Arglwydd yn chwerw â'r weddw Naomi. Aeth i dir Moab yn gyflawn, ond dychwelodd yn wag.

Er fod Rhagluniaeth yn aml yn chwerw iawn yn ei throion, eto anfynych, os byth, y gellir nodi dyn, os bydd yn y mwynhad o'i reswm, wedi ei wneud yn hollol, drwyadl, anadferadwy druenus yn y fuchedd hon. Anfynych y gwelir pob defnyn o gysur wedi ei atal,—pob mymryn o drugaredd wedi ei golli,—pob gwawr o obaith wedi darfod,—pob llais caredig wedi ei ddistewi,—y galon oll yn archolledig, heb un dafn o falm yn cael ei dywallt iddi,—pob deigryn tosturiol wedi ei sychu,—y ddaear wedi myned yn gallestr dan draed, a'r nefoedd yn bres uwchben. Nid felly y mae. Yng nghanol yr ystorm chwerwaf, gynddeiriocaf, pan yr ydym yn dueddol i feddwl fod y ddaear dan ein traed yn ymsiglo fel meddwyn, ac yn ymsymud fel bwth; a phan yr ydym yn barod i gredu fod y nefoedd a'i holl luoedd yn myned heibio gyda thwrf; eto, os gallwn feddiannu ein hunain am ychydig funudau, gallwn weled fod daioni a thrugaredd wedi ein cylchynu holl ddyddiau ein heinioes. Pan mewn llewyg ar lawr, a'n cnawd a'n calon wedi pallu,—ein pen oll yn glwyfus a'n calon yn llesg.—yn yr adeg ddu, drymllyd 'honno, "ei law aswy sydd dan ein pen, a'i ddeheulaw yn ein cofleidio."

Felly y bu gyda Naomi. Gwelodd lygad ei gŵr yn cau yn yr angeu, rhwygwyd holl ffynonau tynerwch yn ei mynwes, a dylifodd ffrydiau o alar dros ei gruddiau. Gadawyd hi yn wraig weddw. Mae y weddw yn wrthddrych a ddylai dderbyn tynerwch mawr, o herwydd y mae ei sefyllfa yn unig, trymllyd, a digysur. Eto, rhy fynych yr edrychir arni gyda diystyrrwch ac esgeulusdod gan bob llygad, ond eiddo yr Hwn sydd wedi cyhoeddi ei hun o'i breswylfa sanctaidd yn Farnwr y gweddwon." Ond er i Naomi golli Elimelech, er i lwch ei hanwylyd ymgymysgu â phriddellau gwlad Moab, ac er iddi dywallt uwch ei fedd chwerwaf ddagrau gofid; eto, nid oedd ei holl gysur wedi darfod: yr oedd Mahlon a Chilion wedi eu gadael er ei chysuro a'i chynnal. Priodasant, ac nid oes le i feddwl i hynny achosi gofid i'w mam; ond cyn hir, "Mahlon a Chilion a fuant feirw hefyd ill dau, a'r wraig a adawyd yn amddifad o'i dau fab a'i gŵr hefyd." Mae ei sefyllfa wedi myned yn fwy cyfyng yn awr nag erioed.-mae wedi suddo yn ddyfnach yn y dyfroedd dyfnion, ac ysguba y llifeiriant drosti gyda mwy o rym. Ond, eto, trugarog a thosturiol iawn yw yr Arglwydd: yng nghanol barn y mae yn cofio trugaredd. Yr oedd ganddi ferched yng nghyfraith tyner a serchog; a chlywodd hefyd newyddion da o fangre ddewisol y ddaear, "fod yr Arglwydd wedi ymweled â'i bobl, gan roddi iddynt fara." Penderfynodd ddychwelyd, a chyfeirio ei chamrau unigol tua gwlad yr addewid. Cychwynodd â'i dwy waudd gyda hi, ar hyd y ffordd i ddychwelyd i wlad Juda. Golwg effeithiol ydyw gweled gwraig weddw yn myned mewn unigolrwydd a thlodi tua'i gwlad-wedi myned allan yn gyflawn, ond yn dyfod eilwaith yn wag, a thrysorau hoffus ei chalon wedi eu gadael yn mynwes oerllyd y bedd. Diau fod yma rai o honoch wedi teimlo hyn, -bum innau yn ceisio meddwl beth fuasai teimladau un, pe y buasai yn y sefyllfa honno; ond croeswyd y cyfan i mi. Heddyw, a fory, a threnydd, caf deimlo holl chwerwder hyn fy hunan; ac wrth wyf wedi ei deimlo yn barod, gwn fod eto gwpan- eidiau wermodaidd yn fy aros; ond yr un Gŵr sydd wedi cymysgu y wermod a'r Hwn y mae ei gariad yn well na'r gwin.

Ust! dacw y tair yn sefyll ar ben y bryn,-weithiau yn edrych tua gwlad Moab, ac weithiau yn troi eu hwynebau tua chyffiniau Canaan wlad." Mae awr y penderfynu, y ffarwelio, y dychwelyd, a'r ymlynu wedi dyfod. "Ewch," meddai Naomi, dychwelwch bob un i dŷ ei mam; gwneled yr Arglwydd drugaredd â chwi, fel y gwnaethoch chwi â'r meirw, ac à minnau." Dacw gusan ymadawol Orpah wedi ei roddi, a llw ymlynol Ruth wedi ei dyngu. Y mae y flaenaf yn troi yn ol, ond yr olaf a deithia gyda ei mam yng nghyfraith tua gwlad Juda. Hoff ac anrhydeddus i'r natur ddynol ydyw gweled serch mor dyner, a chariad mor anorchfygol. Dyma y pryd y mae ein natur yn ymdebygu mwyaf i Dduw, canys "Duw cariad yw."

Dyben y sylwadau blaenorol ydyw dangos nad ydyw Duw, yn yr amgylchiadau chwerwaf a mwyaf trymllyd, yn ein rhoddi i fyny, nac yn ein llwyr adael. Y mae yn rhoddi achosion canu yn y nos. Y mae yn tueddu rhyw galonau tyner i wneyd trugaredd "a'r meirw ac à minau" yn wastadol.

Tair blynedd i'r Sabbath nesaf y safwn yn "y lle ofnadwy hwn " am y waith gyntaf ar brawf, fel person tebygol o ymsefydlu yn eich mysg. Mor gyflawn ydyw y tair blynedd hyn wedi bod o ddygwyddiadau pwysig i chwi a minau. Y fath fywyd ydwyf wedi ei fyw yn yr amser byr hwn, neu, yn wir, yn y cylch byrrach o ddwy flynedd a dau fis. O ran fy nghysylltiad â'r eglwys, tebyg na chafodd neb mewn tair blynedd lai o achos gofid; mewn cysylltiadau eraill mwy cyhoeddus, mae fy llwybr wedi bod mor esmwyth a blodeuog ag y gellid dymuno iddo fod, ac yn llawer mwy felly nag y gallesid ei ddisgwyl. Ac er fod y cymylau wedi bod yn dduon iawn, a'r dymhest! frochus wedi rhuo yn ddychrynadwy, gan ysgubo fy holl drysorau daearol, nes y gallwn daywedyd, Myfi fy hun yn unig a adawyd;" eto, y mae llawer pelydr hyfryd ac adfywiol o oleuni wedi llewyrchu ar fy llwybr dyrys a thrymllyd, nes " troi cysgod angeu yn oleu dydd."

Yn awr, gyfeillion hoff, yr ydwyf yn sefyll ger eich bron am y tro diweddaf. Nid oes genyf amser i'w dreulio, na nerth i siarad heno; canys fy nerth a ballodd ynnof. Wedi ymdrechu yn galed âg afiechyd am un mis ar bymtheg, yr wyf yn cilio o'r ymdrech. Heb fod erioed yn gryf—bron bob amser"wedi fy mwrw i lawr, ond eto heb fy nifetha," y mae cystuddiau personol a theuluaidd, a gofid meddwl, o'r diwedd wedi cael y goreu arnaf. Nis gallaf sefyll mwyach o flaen arch Duw. Y mae arwain y bobl wedi dyfod yn waith rhy drwm i mi. Nis gallaf ddal fy sefyllfa bresennol yn hwy heb wneud cam â'r achos. Yr ydwyf, gan hynny, fel gweinidog Duw, yn gwylaidd a gostyngedig ymddiosg o wisgoedd fy swydd, ac yn cilio o'r neilldu er rhoddi lle i ryw frawd teilwng arall i ddyfod yn olygwr ar y praidd hyn—ar "eglwys Dduw, yr hon a bwrcasodd efe â'i briod waed."

Ni feddylia neb o honoch sydd yn fy adnabod, fy mod yn gwneuthur hyn heb ddirfawr ofid calon. Yma—a chydag amgylchiadau cysylltiedig â'r lle hwn—y mae holl serch fy mynwes, a holl deimladau fy enaid, wedi ymblethu Yma y dechreuais fy ngweinidogaeth, yma yr cedd fy meddwl yn gwneyd ei gartref dro ei fywyd, —yma yr oeddwn yn ffurfio cyfeillgarwch, ac yn dewis. cyfeillion,—yma y llawenychais â llawenydd priodfab,— yma y treuliais ddyddiau a misoedd o ddedwyddwch, y rhai na threuliais o'r blaen, ac na threuliaf byth mwyach eu cyffelyb,—yma y clywodd fy nghlustiau y geiriau,— "Ganwyd i ti fab," ac yr edrychodd fy llygaid ar fy nghyntafanedig,—yma y profais deimladau priodfab, priod, a thad, yn eithafion eu dwysder, ac yn nyfnderau tynerwch, yma y dilynais fy maban i'r bedd, gwelais y blodeuyn yn cau cyn bron dechreu agor, ac yn prysur gilio yn ol cyn braidd iddo roddi ei droed dros drothwy y ddaear,—yma y dadwinodd fy llygaid a'm henaid gan ofid wrth weled hyfrydwch fy nghalon, a dymuniad fy llygaid, yn gwywo o fy mlaen,—am fod cyntafanedig angeu yn bwyta ei chryfder, ac wrth edrych ar frenin dychryniadau yn araf ddynesu ati am bump o fisoedd hirfeithion, a hithau, fel seren y bore, o'r diwedd, yn diffodd yn y goleuni,— yma y teimlais yr ergyd a'm gwnaeth yn alltud ar fy aelwyd fy hun, yn estron yn mysg cyfeillion, ac yn ddieithr—ddyn ar y ddaear,—yma y gorwedd, yn mhriddellau oer marwolaeth, y gweddillion anwyl yn y rhai yr ymhoffais gynt,— yma yr hyderais y buaswn yn cael cydorwedd â hwy i aros yr adgyfodiad gwell.—yma hefyd y mae i mi gyfeillion anwyl, y rhai y mae gennyf feddwl cryf am eu cyfarfod yn y Nefoedd,—ac yma "y gwnaed trugaredd â mi ac â'r meirw;" ond pan y mae Duw yn llefaru, nid oes gan ddyn ond tewi. "Pwy a uniona yr hyn a gamodd efe?" Ni wyddom beth fydd y canlyniad o hyn. Anichonadwy i ni dreiddio drwy leni amser dyfodol: y mae hwnnw oll yn guddiedig, ac nid oes gennym ond disgwyl mewn amynedd am esboniad ar yr hyn sydd eto yn dywyll. Hyd yn hyn y mae fy ngyrfa wedi bod mor holloi groes i'r hyn a allesid ddisgwyl, fel nad yw ond ofer anturio dyfalu pa beth a ddaw o honof. Ond deued a ddelo, y mae un cysur: mae y llaw sydd yn dal y llyw yn cael ei hysgogi gan ddoethineb anghyfeiliornadwy. "Myfi a wn y dygi fi i'r bedd, ac i'r ty rhagderfynedig i bob dyn byw;" ac er na wn yr amser, gwn fod yr Hwn a'i gwna yn gwneud pob peth yn dda." Ein dyledswydd ni yw ymostwng, a rhodio yn ostyngedig ger ei fron.

Diau fod ar eglwysi ddyledswydd o ddarparu ar gyfer eu gweinidogion mewn cystudd; ond lle y gwneir hyny gyda sirioldeb serchiadol, heb air o gymhell, nid oes eisieu son am dani, ac y mae genyf i'w ddywedyd am danoch chwi yn Saron, fel eglwys, eich bod wedi gwneyd hyn gyda serchawgrwydd rhieni a thynerwch perthynasau. Nid adawsoch arnaf eisieu dim. Dangosasoch ofal teilwng o'i efelychu, a serch y byddai yn werth i lawer ymdrechu ei gyrraedd a'i arferyd. Am hynny, "gwneled yr Arglwydd drugaredd â chwi, fel y gwnaethoch chwi â'r meirw ac â minnau." Dyma fi yn myned, ond yr ydwyf yn gadael y gwirionedd a bregethais ar ol. Derfydd adlais fy llais egwan yn fuan, anghofir ei swn; ond yr hyn a gyhoeddais, y mae nerth bywyd anherfynol ynddo. Rhua tymhestloedd y gauaf, a marchog y dymhestl mewn cynddaredd, ond ni ddistewir hwn.

Yn iach, weddillion cysegredig, gorweddwch yna yn dawel hyd fore yr ail-uno. Yn iach, hen ac ieuainc, un ac oll. Yn iach, gyfeillion fy enaid, a brodyr fy nghalon. "Gwneled yr Arglwydd drugaredd â chwi, megis y gwnaethoch chwi â'r meirw ac â minnau."




XIX. DARN O DDYDDLYFR.

Bum gynt yn yr arferiad o gadw dyddiaduron. Ysgrifennwn ynddynt rywbeth bron bob dydd, ond yr oeddynt bron oll mewn Saesoneg. Yn lled agos i amser fy mhriodas gadewais hyn heibio, ac nid oes yn awr ddim wedi ysgrifennu yn rheolaidd iawn er ys tua thair blynedd. Adegau pwysig yn fy mywyd oedd y blynyddoedd hyn, ond y maent yn awr wedi myned heibio. Dichon y caf hamdden rywbryd i ysgrifennu ychydig nodau draw ac yma i'w gosod i fyny fel meini cof am danynt. Profais ynddynt felusder bywyd a chwerwder marwolaeth. Bu blodau gobaith yn hyfryd yn aml, ac yn llawn o berarogl; ond difawyd hwynt oll gan y tymhestloedd duon. Ni theimla neb arall fawr o ddyddordeb ynddynt, ond y maent yn bethau anwyl i mi fy hun. Gallaf ddweyd mai eiddo fi wely cystudd, glyn cysgod angau, ac iselder y bedd. Maent oll wedi eu cysegru á fy nagrau a'm hocheneidiau.

Sefydlais yn Nhredegar yn Meh. 1845. Urddwyd fi y dyddiau olaf o Orffennaf yn y flwyddyn honno. Priodais ar y 14 o Dachwedd â Catherine, trydedd ferch Mr. John Sankey, o Rorrington Hall, swydd yr Amwythig. Merch gall, hawddgar, a duwiol nodedig ydoedd. Pan briodasom yr oedd mewn iechyd da ac yn gryf a nerthol, fel y mae merched ieuanc sydd wedi byw yn y wlad yn arferol bod. Buom byw am yn agos i un mis'ar ddeg yn ddedwydd iawn.

Yn ystod yr amser hwn ganwyd i ni fab bychan. Ymhen pum wythnos, ar ol nychdod blin, bu farw ein baban. Ganwyd ef Medi 15, a bu farw Hyd. 22, 1846. Yr oeddwn i yn afiach y pryd hwn, ac yn dechreu methu gyda'r weinidogaeth, a thra yr oeddwn i yn glaf yn y gwely, daeth hithau yno,—byth i gyfodi mwy. Bu farw ar nos Sul, y 25 o Ebrill, 1847, yn saith mlwydd ar hugain a chwe mis. oed. Hebryngwyd hi i'r bedd y Gwener canlynol gan dyrfa luosog ac y mae yn awr yn gorwedd gyda'i baban mewn beddgell dlos yn addoldy Saron i aros yr adgyfodiad gwell. Melus fyddo ei hun, ac ym more y deffroad mawr cyfoded hi a'i hanwylyd bychan yn fwy ysblenydd na'r wawr, a bydded i ninnau gael cydfyw â hwy,

"::heb deimlo loes,
Marwolaeth drwy anfarwol oes."

Ar ol hyn aeth fy iechyd yn ddrwg iawn. Torrodd llestr gwaed yn fy nwyfron ym mhen pymthegnos ar ol yr angladd. Dygodd hyn fi bron i'r bedd. Ymadawais â Thredegar am ddeg wythnos, a bum yn ffynhonnau Llanfair ym Muallt, Dolgellau, Caernarfon, a chyda fy nheulu yn—nghyfraith, a dychwelais yn ol yn rhyw gymaint gwell. Pregethais yn achlysurol am dri mis, ond dywedai y meddyg wrthyf na ddylaswn bregethu, ac yn y diwedd penderfynais ymadael. Cefais fy newis yn ysgrifennydd i'r National Temperance Society yn Llundain. A gwerthais fy nodrefn, a sypynais fy llyfrau gyda'r bwriad o fyned yno. Ond bum yn glaf iawn am wythnosau. Treuliais tua phum wythnos gyda'r Arglwyddes Hall yn Llanover. Aethum oddiyno i Gaerdydd at Dr. Edwards, meddyg, lle y darbwyllwyd fi yn niwedd Mawrth ganddo ef ac eraill i gymeryd. golygiaeth y Principality, ac y rhoddais fy swydd yn Llundain i fyny. Ni bum yn gysurus iawn yn y sefyllfa hon, gan fod meddwl y meddiannydd yn dra ansefydlog. O'r diwedd aeth i ewyllysio gwneyd y papyr yn dyner iawn at bleidwyr addysg y Llywodraeth, ac yn hollol amddifad o Wladoldeb Cymreig. Teimlais fod hyn yn drysu ei amcan a'i egwyddorion dechreuol, a gadewais ef yn niwedd Medi 1848, ar ol ei olygu am chwe mis. Nis gallaswn yn fy marn i wasanaethu Cymru ac addysg rydd mwy. Rhoddais rybudd i ymadael ar y chweched o Fedi, ac ar y seithfed derbyniais wahoddiad oddiwrth John Cassell, Ysw., i gymeryd rhan yng ngolygiaeth y Standard of Freedom yn Llundain. Cydsyniais, ac ymadewais o Gaerdydd yr wythnos gyntaf yn Hydref, 1848.

Nov. 1st, Called yesterday with the Rev. Henry Richard, Secretary of Peace Society, and will dine with him on Monday. I have found out several of the Welsh people here, and my admiration of everything Welsh is continually increasing.

Nov. 14.-Two years to-day I was very ill. This time twelvemonths my mind was much depressed at the prospect of leaving Tredegar; but to-day, I write standing as it were on the ruins of a former existence, and just commencing to raise a new fabric. Such is the lapse of time. It goes. It heals wounds which nothing else could touch. May the Lord enable me to live that my deeds may remain and follow me as a cloud of witnesses to prove that I have not altogether lived in vain.

Hyd. 22, 1848.—Ai Sabboth yw hi? Sabboth yn Llundain!

Lle dieithr a rhyfedd i mi; ond dyma fi yn awr yn terfynu fy ail Sabboth yma; ymhell o wlad fy nhadau, ynghanol pobl o bob llwyth ac iaith a chenedl. Wele fi yn awr yn unig mewn ystafell yn ysgrifennu y llinellau hyn. Mae un ganwyll wedi myned allan a'r llall bron ar fyned. Mor debyg i hyn oedd arnaf ddwy flynedd yn ol! A byth ni anghofiaf yr amser. Eto rhaid i mi fyw. Ac yr wyf am hynny yn penderfynu ail briodi. A gweled Duw yn dda i mi gael bod mor ddedwydd ag yr oeddwn o'r blaen! Gwn fod fy anwireddau yn fy ngosod bron tu draw i derfynau daioni a thrugaredd, ond "os creffi ar anwiredd, O Arglwydd, pwy a saif?"

Hyd. 29.—Y mae wythnos arall wedi ymlithro, a dyma fi wedi cyrraedd yn ddiangol i'w diwedd. Mae y trydydd Sabboth yn Llundain wedi ei dreulio, a'r ychydig linellau hyn yn cael eu gosod i lawr er cyfodi un yn rhagor o gyfarwyddion daioni a thrugaredd. Dyma un Ebenezer eto yn gyflwynedig i Dduw.

Yn gyflwynedig i Dduw! Y fath feddwl! Mor anhawdd i feidr- oldeb y creadur agoshau at Anfeidroldeb y Creawdwr! Addoli Duw, ofni Duw, caru Duw, mor anhawdd i'r pechadur wneyd hyn. Mor sobr meddwl am ddynesu at orsedd yr Ysbryd Tragwyddol, y bod di-gread, a'r llywydd mawr di-newid! Dychryn sydd yn dyfod arnaf yn fynych wrth feddwl am dano. Un o ddirgelion. dyrys fy nyddiau ieuangaf oedd tragwyddoldeb, yn ystod di-ddechreu a'i hyd di-ddiwedd! Bum lawer gwaith yn meddwl am dano pan yn chwech, saith, ac wyth oed nes arswydo, a phrysuro fy nghamrau ar y ffordd. Y mae argraff rymus ar fy meddwl hyd heddyw am ryw dro yr oeddwn yn meddwl am y parhad dihaniad wrth y dderwen fawr, yn ymyl y Bont Newydd, ger ty fy nhad a mam. Sefais uwch ei ben nes brawychu ac arswydo a chrynnu. Y mae yn awr dros ugain mlynedd wedi myned heibio er hynny. Yr wyf wedi meddwl am lawer o bethau ar ol hynny, ond y mae y tragwyddoldeb di-ddechreu a di-ddiwedd yn parhau yn wybodaeth ry ryfedd i mi. Uchel yw, ni fedraf oddiwrthi; nid oes gennyf ond edrych nes y mae fy llygaid yn dallu, a chodi fy ngolwg mewn cryndod a braw at y Duw Mawr. Ond y fath anfeidroldeb sydd yn ei amgylchu! Mae yn trigo yn y goleuni, yn ysgogi pob peth, ac yn canfod pob dim. Ei air ydyw anadl y pryfyn, ac y mae llygaid angel yn rhy egwan i'w ganfod; a'i lais ydyw y daran sydd yn siglo colofnau y ddaear. O am ysbryd i blygu mewn gostyngeiddrwydd wrth ei draed! O am feddwl i ymarfer ag ef, ac i ystyried am dano, nes y bydd y goleuni yn gwanhau mewn tiriondeb, y pellder yn darfod mewn agosrwydd, a'r uchelder anfeidrol yn ymostwng mewn cymdeithas!

Tachwedd 26.—Dyma Sabboth olaf mis Tachwedd. Buan y daw Sabboth olaf y flwyddyn; a buan y daw Sabboth olaf yr oes. Yr oeddwn yn meddwl heno wrth ddyfod o'r cwrdd am y byd di-Sabboth. Mor druenns ydyw yr olwg ar y rhai nad ydynt yn cadw y Sabboth! Perffeithrwydd daioni y ddaear fydd y nefoedd. Perffeithrwydd trueni y byd fydd uffern. Mor ddirfawr yw rhwymau y byd i Dduw am y Sabboth! Buasai yn druenus iawn hebddo. Sabboth di-derfyn fydd y nefoedd. Byd y dedwyddwch di-ddiwedd fydd gwlad y goleuni. Byd di-seibiant fydd uffern. Felly y darlunnir ef yn y Beibl ac felly y bydd. Ni chant orffwysdra ddydd na nos yn oes oesoedd. Bydd egwyddorion drwg wedi cyrraedd eu llawn dwf. Bydd holl gronfil drygioni yn ymdywallt yn ddiarbed Bydd yn rhyferthwy tragwyddol yn ymdywallt am byth. Yno y bydd y meddwl drwg yn ymdreiglo yn rhwydau ei ddrygioni. Y galon yma ydyw ffynhonell pob drwg. Boddheir ei nwydau dychrynllyd yma drwy gyfrwng synhwyrau y corff. Ond yng ngwlad y gwae ni bydd modd eu boddhau. Bydd holl foddion boddhad chwant wedi eu dihysbyddu, ac yna chwant pan orffenner a esgor ar farwolaeth. Marwolaeth ydyw eithafion dioddefaint y ddaear. Marwolaeth enaid fydd bustl a wermod di-gymysg y trueni. Pregethodd Mr. Williams yn y boreu ar foddlonrwydd, ac yn yr hwyr ar deyrnas Crist yn ei dechreuad a'i chynnydd.

Rhag. 31.—Sabboth olaf un o flwyddyn ryfeddaf y ddaear,— rhyfedd i mi, rhyfedd i bawb, a rhyfedd i'r byd. Dyma hi ar ben. A dyma finnau yn ddedwydd iawn. Parhaed Duw yn ei ras a'i wenau, a bydd gennyf achos llawenhau a diolch.

XX. TI WYLIAIST WRTH FY NGWELY.

[O'r rhagymadrodd i gyfrol gyntaf y Gymraes. Cyflwynedig i'w wraig].

Ti wyliaist wrth fy ngwely
Pan ydoedd haul yr haf,
A'i danbaid wres bob diwrnod,
Yn gwywo'th briod claf;
Ti wyliaist wrth fy ngwely
Nosweithiau gauaf oer,
Pan syrthiai ar y lleni
Oleuni llwyd y lloer.

Ti wyliaist wrth fy ngwely
Pan oedd yn wely gwaed,
A ffrydiau coch y galon
Yn drochion wrth dy draed;
Ti wyliaist wrth fy ngwely
Pan oedd y peswch blin,
Drwy'r nos, yn peri imi
Ddihoeni yn ddihûn.

Ti wyliaist wrth fy ngwely
A mawredd cariad merch;
Dy enaid wrthyf rwymwyd,
Ni syflwyd dim o'th serch;
Ti wyliaist wrth fy ngwely
Ym misoedd nychiant maith,
A'th fron dy hun mewn cystudd,
A'th dyner rudd yn llaith.

Ti wyliaist wrth fy ngwely,
Dan wenu gyda'r wawr;
Dy serch nid oedd yn pallu
Pan suddai 'r haul i lawr;
Ti wyliaist wrth fy ngwely
Pan giliai eraill draw;
Fel angel glân Goleuni,
Cawn lynu yn dy law:.

Nodiadau

golygu
  1. Dichon i grybwylliad fel hyn daro yn chwithig ar rai clustiau, er yr hyderaf na thynnaf ddwfr o un llygad. Yr ydwyf wedi gweled rhyw gymaint o Loegr a Chymru yn y deuddeg mlynedd diweddaf o'm heinioes. Clywais lawer o weddiau gan weinidogion ac aelodau. Ond am briodoldeb ymadrodd, priodoldeb erfyniadau, syniadau mawreddig am y Duwdod, hyder ffyddlawn yn aberth y Gwaredwr, ac amgyffred cynwysfawr am ddylanwadau Ysbryd Duw, ni chlywais eto amgenach William Richard. Pa bryd bynnag yr huna, gellir ysgrifennu ar ei fedd,—

    "Yn y graian yma gorwedd un allasai fod yn llawn—
    O wir rywiog fflamau'r awen, a phrydyddol ddenol ddawn;
    Dwylaw all'sent lywio teyrnas, a theyrnwialen wych ei gwawr,
    Ond iselder rewodd ffrydiau swydd—gyneddfau'r enaid mawr."
  2. Er cof am C. J. (Catherine Jones). Bu farw Ebrill 25ain, 1847, yn 21 mlwydd oed. (Ond ÆTAT XXVIII, sef 28 oed, yn ôl y sylwadau Lladin)
  3. Williams Llanwrtyd.
 

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.