Gwaith da!

golygu

Gwaith ardderchog gen ti Alwyn! Un llithriad bach yn y feddalwedd:edrych ar [Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/21 hn], mae na dalp o destun ar goll. Rhagor yn nes ymlaen! John Jones (sgwrs) 14:23, 8 Tachwedd 2020 (UTC)Ateb

Diolch am sylwi a rhoi gwybod imi, John Jones, mae'r paragraff coll yn ôl yn ei le bellach. AlwynapHuw (sgwrs) 17:01, 8 Tachwedd 2020 (UTC)Ateb

Dy waith diweddar

golygu

Gwych gweld fod 4 neu 5 llyfr newydd wedi eu creu gen ti! Gwych iawn! Beth am roi dy gampweithiau ar Hafan y wici (top dde)? Newidiadau diweddaraf, efo'r cloriau? Er gwybodaeth, dw i'n gweithio ar Lyfr Coch Hergest ar hyn o bryd. Llywelyn2000 (sgwrs) 15:44, 2 Gorffennaf 2021 (UTC)Ateb

Cymorth

golygu

Newydd weld dy gais i arbenigwyr wicidestun ieithoedd eraill ein helpu yma ac i'r broses o ychwanegu gwybodaeth gael ei symlhau. Dw i'n cytuno fod y broses o greu llyfr yma'n un cymhleth ac mae gen i lawer i'w ddysgu, ond os ti isio sesiwn Zoom yna gallem wneud hynny a gwahodd rhywun profiadol atom ni. Os oes gen ti dderbynebion am feddalwedd agored, danfon nhw ata i i WMUK weld os fedrwn ni ad-dalu'r costau. Danfonais air i Comin y dydd o'r blaen jyst i gadarnhau fy mod ar y llwybr cywir o ran sgans Llyfr Coch Hergest, ar yr yr un pryd danfonais at y wicidestun amlieithog ond dim ateb yn fano chwaith. Felly, dw i'n cytuno fod hyn i gyd yn rhwystredig iawn. Un llwybr sy'n agored i ti yw danfon y llyfrau at yr Internet Archives, i'w sganio a'u cadw. Sgwrs unrhyw bryd, cofia! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:58, 13 Gorffennaf 2021 (UTC)Ateb

Ychwanegu chydig o nodion a'r Gernyweg

golygu

Fel y gwelais ar en-WS, roedd na gdrafodaeth ar gerdd mewn Cernyweg Canol. Nes bod y Cernywiaid wedi cael amser i drafod hyn, a gan fod en-WS am ddileu'r gerdd, dw i wedi ei rhoi yma. Dydy hi ddim yn cysylltu a'r gerdd ei hun yn anffodus. Unrhyw gymorth plis? Yn ail, dw i wedi copio chydig o Nodion (templates) drosodd i fama - ella y byyuddan nhw o ddefnydd ryw dro ee y trwyddedau hawlfraint. Llywelyn2000 (sgwrs)

@Llywelyn2000 Wedi rhoi'r trawsgrifiad YMA mae bellach yn ymddangos fel tudalen ddarllen (gyda chyfieithiadau i'r Gymraeg a'r Saesneg) ar dy dudalen Rhan o waith mewn Cernyweg Canol (Add. Ch. 19491) AlwynapHuw (sgwrs) 17:29, 5 Awst 2021 (UTC)Ateb

How we will see unregistered users

golygu

Hi!

You get this message because you are an admin on a Wikimedia wiki.

When someone edits a Wikimedia wiki without being logged in today, we show their IP address. As you may already know, we will not be able to do this in the future. This is a decision by the Wikimedia Foundation Legal department, because norms and regulations for privacy online have changed.

Instead of the IP we will show a masked identity. You as an admin will still be able to access the IP. There will also be a new user right for those who need to see the full IPs of unregistered users to fight vandalism, harassment and spam without being admins. Patrollers will also see part of the IP even without this user right. We are also working on better tools to help.

If you have not seen it before, you can read more on Meta. If you want to make sure you don’t miss technical changes on the Wikimedia wikis, you can subscribe to the weekly technical newsletter.

We have two suggested ways this identity could work. We would appreciate your feedback on which way you think would work best for you and your wiki, now and in the future. You can let us know on the talk page. You can write in your language. The suggestions were posted in October and we will decide after 17 January.

Thank you. /Johan (WMF)

18:11, 4 Ionawr 2022 (UTC)

Sillafu hynafol

golygu

Dechreuais ar wirio Cofiant Daniel Owen. Fy ngreddf yw y dylai'r trawsgrifiad gyd-fynd â'r testun wedi'i sganio, ac eithrio teipos a diffygion amlwg eraill yn y cysodi. Ac felly dyna beth wnes i. Ond mae'n ymddangos fy mod yn mynd yn groes i'r hyn yr oeddet ti wedi'i wneud o'r blaen, sef defnyddio Cymraeg cyfoes da. Felly rwyf wedi stopio am y tro. Beth ddylai y polisi fod ar gyfer testunau hŷn fel hwn? Mae’n anodd dweud a yw geiriau wedi’u camsillafu mewn testunau a gyhoeddwyd cyn Orgraff yr Iaith Gymraeg ym 1928. ––Craigysgafn (sgwrs) 10:06, 20 Ebrill 2022 (UTC)Ateb

@Craigysgafn: Y polisi yw cadw at orgraff y cyhoeddwr. Os yw llyfr yn dweud "Anwyl mam" Anwyl mam dylid bod yn y trawsgrifiad hefyd heb ei wirio i Annwyl fam.
Mi osodais fy ymgais gyntaf i drawsysgrifio sgan yma ar 29 Mehefin 2021. Rwyf wedi ceisio sicrhau bod o leiaf un llyfr yr wythnos yn cael ei drawsysgrifio ers hynny. I gadw at y target does dim modd imi trosi unrhyw lyfr dros tua 200 tudalen. Mae sganiau o lyfrau dros 700 tudalen wedi eu gosod yma. Arbrawf oedd Cofiant Daniel Owen i weld os oedd modd cyhoeddi llyfr ar frys trwy wirio'r testun gyda Cysill. Pe bai'r arbrawf wedi llwyddo, mi fyddai wedi caniatáu imi gyhoeddi "fersiwn" o rai o’r llyfrau hirfaith heb weithio arnynt am wythnosau, a thrwy hynny gadael y safle heb lyfr newydd am wythnosau. Methiant bu'r arbrawf, cymerodd mwy o amser i wirio camgymeriadau orgraff Cofiant D O efo Cysill nac y byddai wedi cymryd i wirio’r gwallau OCR y sgan efo llaw a llygad. AlwynapHuw (sgwrs) 13:22, 20 Ebrill 2022 (UTC)Ateb
Diolch, Alwyn. Rwy'n deall y cyfan nawr. Byddaf yn falch o ddal ati i wirio testunau. Mae’r prosiect hwn yn waith pwysig, a byddaf yn elwa o ddarllen y pethau hyn. ––Craigysgafn (sgwrs) 14:30, 20 Ebrill 2022 (UTC)Ateb

Tecel

golygu

Haia Alwyn. Tybed faset ti mor garedig a rhoi'r llyfryn bychan yma - File:Tecel gan Gabriel Parry, cyhoeddwyd yn 1854.pdf - Wikimedia Commons, yn ei wely? Mi wna i fynd drwyddo i wiro'r OCR. Mi feddyliwn i fod y llyfryn yn brin iawn, efallai mai dyma'r unig gopi, bellach. Can diolch! ON Paid a phoeni os nad oes gen ti amser ar hyn o bryd. Robin Llywelyn2000 (sgwrs) 19:40, 14 Chwefror 2024 (UTC)Ateb

Wedi gwneud mae o ar gael ar Indecs:Tecel gan Gabriel Parry, cyhoeddwyd yn 1854.pdf Os oes angen unrhyw cymorth rho floedd. AlwynapHuw (sgwrs) 22:57, 14 Chwefror 2024 (UTC)Ateb
Diolch yn fawr iawn Alwyn: mi fasa 'di cymryd mis i mi (ac yna rhoi'r ffidiol yn y to dw i'n siwr!) Cadwa dy lygad, os g yn dda, cafodd yr OCR ei wneud yn y 1980au! Diolch o galon! Llywelyn2000 (sgwrs) 08:49, 15 Chwefror 2024 (UTC)Ateb
Dyma fi'n cychwyn dy blagio! Ydy'r testun yma'n cyd-fynd a'r ddelwedd, neu oes delwedd ar goll, efallai? Llywelyn2000 (sgwrs) 09:12, 15 Chwefror 2024 (UTC)Ateb
Ydi, i raddau. Mae yna broblem efo'r ffeil, sef ei fod wedi ei sganio efo 2 "du" ar bob dalen, sydd yn gwneud OCR yn anodd. Rwyf wedi ail osod y ffeil yma Indecs:Tecel gan Gabriel Parry.pdf efo tudalennau unigol. Mae tudalennau 8-11 ar goll, ond dyw hynny ddim yn rheswm dros beidio â chyhoeddi gweddill y llyfr; os ddaw'r tudalennau coll i'r fei, gallwn eu hychwanegu eto. I gaffael OCR gweddol dda, pwyswch y botwm "Trawsysgrifio"   ac yna dewiswch Google OCR  (dydy’r ddau arall ddim yn gweithio'n dda i'r Gymraeg). Ar ôl gwneud trawsgrifiad pwysa'r botwm melyn ar waelod y dudalen ger y geiriau "Statws y dudalen" i ddangos bod y gwaith wedi wneud. AlwynapHuw (sgwrs) 13:03, 15 Chwefror 2024 (UTC)Ateb
Ew, diolch o galon Alwyn! Llywelyn2000 (sgwrs) 13:10, 16 Chwefror 2024 (UTC)Ateb
Mae'n dod yn araf. Sut mae cael y tudalenau eraill i ymddangos yn yr indecs, Alwyn? ee Mae cerdd 8 yn bodoli - a thudalenau 15 - 26. Llywelyn2000 (sgwrs) 11:42, 20 Chwefror 2024 (UTC)Ateb
Yr unig ffordd i osod tudalennau eraill yn yr indecs yw trwy lwytho copi newydd o’r PDF cyfan i gomin i gymryd lle'r hen un. Dim ond y person â uwchlwythodd y ffeil gwreiddiol sy'n gallu uwchlwytho copi newydd (Ti ar gyfer File:Tecel gan Gabriel Parry, cyhoeddwyd yn 1854.pdf neu fi ar gyfer File:Tecel gan Gabriel Parry.pdf.) Ar ôl uwchlwytho ffeil newydd efo'r union un enw, bydd yr indecs yn diweddaru ei hun o few tua awr. Bydd y trawsgrifiadau sydd wedi eu gwneud yn cael eu cadw wedi eu trawsysgrifio yn yr indecs diwygiedig. AlwynapHuw (sgwrs) 13:20, 20 Chwefror 2024 (UTC)Ateb
Ah! Doeddan nhw ddim yn ymddangos, ond mae 15 - 26 yno rwan! Gwych! Diolch Alwyn! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:14, 20 Chwefror 2024 (UTC)Ateb
Rhywbeth yr wyf wedi osgoi gwneud am ormod o flynyddoedd yw creu tudalennau cymorth ar gyfer Wicidestun. Y prif reswm yw ei fod wedi cymryd 4 blynedd o chwysu dros y tudalennau cymorth Saesneg cyn i mi osod y testun+ sgan gyntaf yma. Wedi dysgu rhywfaint (ac rwy'n bell o fod yn arbenigwr) rwyf wedi teimlo bod "egluro" Wicidestun fel egluro cau criau, "rwy'n gwybod sut i'w gwneud ond sut ddiawl mae ei egluro i eraill?"
Mae dy gwestiynau di wedi fy ysgog i brofi bawd troed yn y môr oer a cheisio mynd trwy'r broses o sganio llyfr hyd at ei gyhoeddi, pob yn dipyn a cheisio dweud, yn syml be wnes i!
Dyma fy arbrawf cyntaf, yn ceisio egluro sut fy mod wedi mynd o uwchlwytho llyfr Moelona "Plant y Goedwig" i sut caiff ei gyhoeddi hyd at Dilyswyd]
Hoffwn feirniadaeth gignoeth o bob ffaeledd yn y cynnig ac awgrymiadau am wella, cyn mynd ymlaen a'r prosiect. AlwynapHuw (sgwrs) 03:19, 21 Chwefror 2024 (UTC)Ateb

Reminder to vote now to select members of the first U4C

golygu
You can find this message translated into additional languages on Meta-wiki. Cyfieithu i'ch iaith chi

Dear Wikimedian,

You are receiving this message because you previously participated in the UCoC process.

This is a reminder that the voting period for the Universal Code of Conduct Coordinating Committee (U4C) ends on May 9, 2024. Read the information on the voting page on Meta-wiki to learn more about voting and voter eligibility.

The Universal Code of Conduct Coordinating Committee (U4C) is a global group dedicated to providing an equitable and consistent implementation of the UCoC. Community members were invited to submit their applications for the U4C. For more information and the responsibilities of the U4C, please review the U4C Charter.

Please share this message with members of your community so they can participate as well.

On behalf of the UCoC project team,

RamzyM (WMF) 23:17, 2 Mai 2024 (UTC)Ateb