Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau (testun cyfansawdd)

Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau (testun cyfansawdd)

gan Robert Thomas (Ap Vychan)

I'w darllen pennod wrth bennod gwelerer Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader

CADWALADR JONES,

DOLGELLAU.

—————————————

EI FUCHEDD, EI WEINIDOGAETH, EI DDEFNYDDIOLDEB CYFFREDINOL,
A PHRIF LINELLAU EI NODWEDDIAD.



—————————————

DAN OLYGIAETH

R. THOMAS, BANGOR.

—————————————



LIVERPOOL: SWYDDFA "Y TYST CYMREIG."

————————

MDCCCLXX

CYFLWYNIR

Y COFIANT HWN,

YN BARCHUS I

FRODORION LLANUWCHLLYN,,

LLE Y MAGWYD EI WRTHDDRYCH, A'R LLE Y DECHREUODD

BREGETHU; I'R CYNULLEIDFAOEDD FUONT DAN EI OFAL

GWEINIDOGAETHOL YN

NOLGELLAU, A'I HAMGYLCHOEDD;,

AC I

DDARLLENWYR Y "DYSGEDYDD,",

YR HWN A FU AM DYMHOR HIR DAN EI OLYGIAETH,

GAN EI FAB,

C. R. JONES,,

A'I GYFAILL,

Y GOLYGYDD.,


AT Y DARLLENWYR.

—————————————

ANWYL GYDWLADWYR,

Nid wyf yn gweled fod unrhyw esgusawd yn angenrheidiol dros gyhoeddi cofiant i'r diweddar Barchedig Cadwaladr Jones. Ni wnaed ond a ddylesid wneyd. Yr oedd ef yn haeddu cael gwneuthur o honom hyn iddo. Yr oedd yn un o ragorolion y ddaear, a bu am dymhor hir iawn, yn un o brif golofnau y weinidogaeth yn ein mysg, ac yn addurn iddi yn mhob peth.

Mewn perthynas i'r gwaith, gelwir sylw y darllenwyr at y pethau canlynol:—

1. Ychydig iawn a ysgrifenodd Mr. Jones o'i hanes ei hun. Nid oedd dim yn mron i'w gael ar hyny yn mysg yr ysgrifau a adawodd ar ei ol, oddieithr ambell gofnodiad byr a diffygiol, a ellid ddefnyddio fel awgrym am bethau eraill. Yr oedd hyny yn anfantais fawr, yn enwedig i ysgrifenu hanes boreuddydd ei fywyd.

2. Gan fod y cofiant wedi ei ysgrifenu gan wahanol bersonau, pell oddiwrth eu gilydd, ceir yn y gwaith fod amryw o'r ysgrifenwyr yn crybwyll yr un pethau yn nodweddiad Mr. Jones; megys, ei arafwch a'i amynedd mawr—pethau ynddo ef oeddynt yn amlwg iawn i'w holl gydnabyddion. Nis gellid tynu y pethau hyn allan o'r gwahanol ysgrifau, a'u gadael yn unig yn ngwaith un o'r ysgrifenwyr, heb anafu gormod ar y cyfansoddiadau eraill. Ac heblaw hyny, y mae pob un sydd yn crybwyll y cyfryw bethau yn gwneuthur hyny yn ei ddull ei hunan. Nid yw ysgrifenwyr y Beibl yn petruso dim wrth grybwyll pethau a nodasid o'r blaen gan eraill am bersonau ac amgylchiadau; ac y mae fod dau neu dri o dystion yn dywedyd yn un—air am yr un ffeithiau, yn profi eu cywirdeb: ond nid llawer o hyny chwaith sydd yn y cofiant.

3. Ceir nodiadau Duwinyddol o eiddo Mr. Jones, yn y llyfr hwn, mewn ffurf ddadleuol. Buasai yn well genyf fi pe buasent mewn dull gwahanol; ond nid oedd modd eu cael ond yn y ffurf y gwelir hwynt yma. Buasai eu troi i arddull arall, ond odid, yn gam a'u hysgrifenydd. Nid oedd arno ef ddim ofn i'w olygiadau gael eu profi wrth safon y Beibl a rhesymeg, ac nid oes ar y rhai sydd yn barnu yn gyffelyb iddo, ddim ofn y prawf mwy nag yntau. Amcan y cofiant. ydyw dangos beth oedd golygiadau yr Hen Olygydd, ar rai o byngciau Duwinyddiaeth, ac nid profi eu cywirdeb, na'u hannghywirdeb. Gadewir hyny, yn bur dawel, i'r rhai a ewyllys- iont eu dwyn at y safon, ac i benderfyniad y dydd a ddaw. 4. Bu y llyfr yn hwy nag y buasai yn ddymunol yn cael ei ddwyn allan drwy y wasg, ond ni fu dim ocdiad, a allesid ei hebgor, yn hyny chwaith. Ond er byred yw yr amser er pan hunodd yr hybarch Cadwaladr Jones, y mae lluaws o gawri y weinidogaeth wedi disgyn i byrth y bedd ar ol ei ymadawiad ef, ac yn eu plith, rai y mae eu nodiadau yn y llyfr hwn. Y mae eraill yn tynu tua phen eu taith, a'r "nos yn dyfod;" ond yr Arglwydd sydd yn teyrnasu," a'i ewyllys ef a wneler, yn mhob peth.

Y GOLYGYDD.

Mawrth 23, 1870.

O.Y.—Dymuna y Cyhoeddydd gydnabod caredigrwydd awdwyr y gwahanol ysgrifau yn y cofiant hwn, a'u parodrwydd i gynorthwyo yn nygiad allan y gwaith. Yr oedd amryw frodyr eraill, a chydlafurwyr â'r "Hen Olygydd," y buasai yn hoff ganddynt ychwanegu eu teyrnged o barch i'w goffadwriaeth; ond buasai cyhoeddi eu hysgrifau yn chwyddo maint a phris y llyfr y tu hwnt i'r terfynau a fwriadwyd ac a drefnwyd o'r dechreuad; felly, bu raid gadael cynyrchion amryw o'r neilldu, er mor dda fuasai ganddo eu dodi i mown. Y mae rhai gwallan argraphyddol wedi diane er pob gofal, ond nid ydynt ond ychydig a dibwys.

CYNWYSIAD.


COFIANT.

PENNOD I.

Ei Fro Enedigol—Ei Rieni—Helyntion boreuol—Pennantlliw—Arferion yr Ardal—Abraham Tibbot—Dr. Lewis—Ei Ddychweliad at Grefydd— Dechreuad yr Achos yn Llanuwchllyn—Lewis Rees—Gweinidogaeth y Dr. Lewis—Pugh, o'r Brithdir; Williams, wedi hyny o'r Wern; Jones, Trawsfynydd; Robert Roberts, Tyddynfelin, ac eraill—Ei godiad i bregethu gan y Dr. Lewis a'r Eglwys yn Llanuwchllyn—Llanuwchllyn yn Fagwrfa Pregethwyr—Ei fynediad i'r Athrofa—Ei Gydfyfyrwyr—Marwolaeth y Parch. H. Pugh o'r Brithdir—Ei Alwad fel olynydd Mr. Pugh—Ei Urddiad, &c.

BRODOR o Benllyn, yn Meirionydd, oedd yr Hybarch Cadwaladr Jones. Ei rieni oeddynt John a Dorothy Cadwaladr, o'r Deildref Uchaf, Pennantlliw Bach, Llanuwchllyn. Tyddyn prydferth ar lan y Lliw yw y Deildref Uchaf, a lle digon cysurus i deulu bychan i fyw arno. Mae yno amrywiaeth o fryndir, rhosdir, a doldir; ac addurnir y cyfan gan y gwahanol fathau o goed a dyfant yn y gymmydogaeth. Saif y tyddyndŷ mewn llanerch ddymunol, a rhed ffrwd gref o "ddwfr glan gloyw" heibio iddo, i'r brif afon. Gyferbyn, ar yr ochr arall i'r cwm, y mae llechweddau heirddion Pennantlliw Fawr. I'r gorllewin, y mae mynyddoedd uchel, a chreigiau danneddog; ac yn eu mysg, Carn Dochan. Ar ben y garn hon y mae hen gastell, yr hwn a fu, oesoedd maith yn ol, yn breswylfod, ac yn amddiffynfa gadarn i ryw deuluoedd o fri, a gyfaneddent ynddo; dylanwad y rhai oedd y pryd hwnw, yn ddiau, yn cael ei deimlo yn yr ardal: ond aethant oll i "dir anghof," ac nid oes yn aros, er ys canrifoedd bellach, ond adfeilion eu cartrefle diogel gynt.

Ychydig o'r neilldu i Garn Dochan y mae Rhaiadr Mwy, yn rhuo yn ddiseibiant, ac yn seinio ei udgorn rhybuddiol yn uwch nag arferol o flaen gwlawogydd. Mae yr ardal yn dryfrith o'r ffynnonau oerion goreu sydd yn y byd, ac yn cael ei dosranu gan rifedi mawr o aberoedd iachus, a ymdreiglant o'r bryniau a'r mynyddoedd, i'r Lliw. Tra y mae y fangre y saif y Deildrefi arno yn dir diwylliedig a chynyrchiol, mae y lleoedd sydd yn uwch i fyny yn y cwm, yn aros etto fel cynt, yn eu gwylltedd naturiol; a digon tebyg mai felly y parhant, yn drigfanau rhedyn, brwyn, a grugoedd, perthi a byrlwyni, ceryg a charneddau, yn yr oesoedd dyfodol; ac na ellir gwneyd o honynt ond porfaoedd i ychain a defaid, a noddfeydd i'r ychydig o greaduriaid gwylltion a berthynant i'r fath anialdiroedd. Dyna arddull y ewm y ganwyd ac y magwyd gwrthddrych y cofiant hwn ynddo. Dyna y golygfeydd y syllai efe arnynt, bedwar ugain mlynedd yn ol, pan yn dechreu codi allan, gyda ei dad, i'r mynydd-dir i edrych a fyddai y gwartheg yn eu rhifedi, a'r defaid yn cadw yn eu manau priodol.

Yr oedd tad a mam Cadwaladr Jones yn byw yn y Deildref Uchaf er cyn ei enedigaeth ef, ac yno y treuliasant weddill eu hoes faith, a thawel. Pobl wledig a dirodres oeddynt, ac yn byw yn gyfiawn yn eu cysylltiad â'r byd hwn. Talent yn fanwl i bawb yr eiddo. Gwnaent gymwynas i gymmydog wrth angen. Buont fyw yn gariadus yn mhlith eu hardalwyr, ac ni chlywid gair isel ac anmharchus am danynt. gan neb. Yr oedd John Cadwaladr dipyn yn wyllt o ran ei dymher naturiol, a thaflai profedigaeth ddisymwth ef oddiar ei echel, am ychydig o funudau; ond ni ddaliai ddigofaint, a byddai yr helynt drosodd gyda iddi ddechreu bron. Yr oedd Dorothy Cadwaladr, o'r ochr arall, yn araf a phwyllog, ac yn wastadol yn llywodraethu ei thymherau a'i nwydau, i berffeithrwydd. Yr oedd pwyll ac amynedd yn ei holl symudiadau, ei geiriau a'i gweithredoedd. Rhagorai ar y rhan fwyaf o'i chymmydogion mewn synwyr cyffredin cryf, a byddai ei sylwadau ar wahanol bethau yn hynod o finiog a chyrhaeddgar. Yr oedd rhyw fawredd gwledig yn perthyn iddi, a barai i un deimlo wrth ymddiddan â hi, ei fod yn siarad â gwraig synwyrol iawn, a thra annghyffredin o ran sylw a chraffder. Yr oedd yn ei gwr dueddfryd cryf at hela, a soniai yn ddifyr am helyntion ei helwriaethau. Cadwai ddaeargi a bytheiad at y gorchwyl iachus a difyrus hwnw: ond gyda y buchod a'r lloi, y llaeth, yr ymenyn, a'r caws, a chyda ei hosan yn yr hwyrau, y byddai hi. Anfynych y gwelid hi yn mhell oddiwrth ei thŷ. Yr oedd trefn ar bob peth a wnai, a glanweithdra yn hynodi ei pherson a'i hannedd.

Ni bu John Cadwaladr a'i wraig erioed yn perthyn i'r Ymneillduwyr. Tueddu at yr Eglwys Sefydledig yr oeddynt hwy. Nid yn aml y gwelid hwy mewn capel. Pa mor ddiwyd oeddynt yn eu hymarferiad a moddion gras yn y llan, y mae yn anhawdd gwybod yn bresenol i sicrwydd. Yr oeddynt yn tynu i gryn oedran pan oedd ysgrifenydd y llinellau hyn yn ieuangc: ond nid yn aml y gwelid hwy mewn cynnulleidfaoedd cyhoeddus y pryd hwnw. Buont fyw i oedran teg, a buont feirw, ill dau, oddeutu deg a phedwar ugain oed. Os wyf yn cofio yn iawn, yr oedd Dorothy Cadwaladr yn unarddeg a phedwar ugain pan fu farw. Claddwyd hwy yn Llanuwchllyn, gyda y torfeydd a gladdesid yno o'u blaenau. Heddwch i lwch y pâr gonest a dihoced hwn. Mae yn hawddach o lawer cael eu gwaeth na'u gwell mewn cymmydogaeth, ac yn mysg proffeswyr crefydd, hefyd, gyda gwahanol enwadau. Pe na ddaethent hwy i'r byd i ddim ond i fagu gwrthddrych y cofiant hwn, ni buasai eu dyfodiad yma yn ddiennill i'r ddaear; ond gobeithiwn am danynt "bethau gwell, a phethau yn nglyn wrth iachawdwriaeth."

Ganwyd Cadwaladr Jones yn y Deildref Uchaf, yn mis Mai, 1783, a bedyddiwyd ef ar y dydd cyntaf o Fehefin, yn y flwyddyn hono, yn eglwys Llanuwchllyn, gan y Parchedig Mr. Jones, o'r Ddolfawr, wedi hyny o Wyddelwern.

Gan mai efe oedd unig blentyn ei rieni, gallwn fod yn dra sicr fod eu serch tuag ato, a'u gofal gwastadol am dano, yn fawr iawn. Canwyll eu llygaid, yn ddiau, oedd yr unig blentyn hwn. Yr oedd dau feddwl, dwy galon, a phob dymuniad am ei les a'i lwyddiant, yn cydgyfarfod ynddo, ar bob awr o'r dydd. Yr oedd ei rieni yn gysurus o ran eu sefyllfa yn y byd, yn fwy felly na llawer o'u cymmydogion, a diau na arbedasant ddim a ystyrient yn angenrheidiol i ddwyn Cadwaladr bach i fyny yn deilwng, yn ol eu golygiadau hwy ar y pwnge hwnw. Cafodd gartref clyd; ymborth iachus y wlad hono; gwisgoedd priodol i'r haf a'r gauaf, "Sul, a gwyl, a gwaith ;" gofal serchus a thyner; llawer o sirioldeb chwarëus gan ei dad a chynghorion, cyfarwyddiadau, a rhybuddion, gan ei fam feddylgar, fanylgraff, a synwyrol. Felly, wrth fwynhau pob peth angenrheidiol iddo dan gronglwyd ei rieni, golygfeydd amrywiaethol yr ardal, ac awelon bywiol Pennantlliw, cynnyddodd, a daeth yn fachgen heinyf, a chwimwth anarferol ar ei droed, a dechreuodd henuriaid y gymmydogaeth feddwl yn uchel am dano; a diau fod hyny yn foddlonrwydd iddo ef ei hun, ac i'w rieni hefyd, er na ddywedent hwy nemawr ddim ar faterion o'r fath hyny. Nid oes neb yn awr yn fyw yn yr ardal hono, mae yn debyg, a "gyd-chwareuai âg e'n fachgen," nac, yn sicr, neb oedd mewn oedran i sylwi arno yn y tymhor hwnw o'i oes, i roddi i ni unrhyw sylwadau ar ei foes a'i arferion yn ei ddygiad i fyny; gan hyny, nid oes genym ond dyfalu ei fod, yn y rhan fwyaf o bethau, yn gyffelyb i fechgyn eraill y fro fynyddig hono, yn yr oes ddilynol i'r eiddo ef.

Gallwn yn hawdd ddychymygu iddo dreulio llawer dydd. teg, yn hafau dyddiau ei faboed, ar làn y nant sydd yn myned heibio i'r Deildref Uchaf, a'r afon Lliw, sydd yn golchi un ochr i ddôl a berthyn i'r tyddyn, yn chwareu, ac yn ceisio dal y pysgod gwylltion a heigient ynddynt. A gallwn farnu, yr un mor naturiol, ei fod yn ddiwyd yn ymlithro ar hyd eu rhewogydd yn y gauafau, ac yn cael ei geryddu gan ei fam pan ddigwyddai gael codwm, a tharaw ei wegil yn y blymen, neu, pan wlychai ei draed, oblegid tori o'r rhew o dan ei bwysau, a dyfod i'r tŷ, ati hi, i gwyno oblegid y damweiniau. Gallwn feddwl mai dyddiau pwysig yn ei olwg ef, fel eraill, oedd dyddiau dasu y mawn, golchi y defaid a'u cneifio; dyddiau cael y gwair a'r yd'; "ffair Llan yr haf;" a dydd cyfarfod blynyddol yr Hen Gapel." Gallwn feddwl y chwareuodd lawer tua "Chwrt y Person," wrth ddychwelyd yn y prydnawniau, gydag eraill, o ysgol ddyddiol Rhosyfedwen; a'i fod yn aml yn ofni ac yn petruso wrth geisio myned dros y sarn, pan fyddai y llif ychydig dros y ceryg, ac wedi cyflawni y gamp hono, yn neidio ac yn llemain o lawenydd am lwyddiant ei wrhydri, yn hyny o beth. Digon tebyg ei fod ef, fel ei gyffelyb o ran oed, yn brysur tua chalanmai yn chwilio am nythod adar, ac yn Medi, yn chwilio am y cnau yn y byrgyll. A hawdd i ni gredu ei fod ar lawer min nos, yn dyfal wrandaw ar isalaw ddofn Rhaiadr Mwy, ac yn dyfod yn ei ol i'r tŷ yn llawer mwy sobr nag yr aethai allan. Bu lawer noswaith, mae yn debyg, yn cael y fraint o aros ar yr aelwyd, yn lle myned i'w wely, pan fyddai cymmydogion yn dyfod i gyfarfod nosawl i wau hosanan, i dŷ ei rieni. Bu yn gwrandaw eu chwedleuon am amgylchiadau yr ardal, y rhyfel â Ffraingc, helwriaeth, ymddangosiad ysbrydion, dewiniaeth, llofruddiaethau, ymladdfeydd rhwng personau unigol, yn nghyd ag ychydig o helyntion crefyddol yr Hen Gapel." Nid llawer o'r dosbarth olaf a geid ychwaith yn y Deildref Uchaf, oblegid nad oedd John a Dorothy Cadwaladr yn aelodau yno; a diau mai cynil a gofalus y siaradai hen bobl Pennantlliw ar faterion eglwysig, ar aelwyd "pobl o'r byd." Gallwn feddwl yn hawdd fod areithyddiaeth Abraham Tibbott yn synu peth ar y bachgen ieuangc, a bod yr addoliad cyhoeddus yn dechreu denu ei fryd. Y mae hyny hefyd yn berffaith gyson a bod ganddo hyfrydwch, yn yr oedran yr oedd ynddo y pryd hwnw, yn mân gampiau y gymmydogaeth, megys, ymaflyd codymau, ymryson rhedeg, taflu maen a throsol, a'r cyffelyb. Clywsom lawer gwaith yn yr ardal hono, fod Cadwaladr Jones, o'r Deildref, pan oedd yn laslangc, yn fuan fel hydd ar ei droed, ac nad oedd neb yn y wlad a'i curai mewn gyrfa. Yr oedd yn gryf, yn ysgafn, yn chwimwth, yn ystwyth fel yr helygen, a'i anadl yn hir ac yn gref. Er. hyn oll, nid yn hir y bu ef heb gael ei ennill trwy yr efengyl i ymhyfrydu mewn pethau mwy pwysig na'r pethau a nodwyd, ac yn fuan tröes ei gefn arnynt oll.

Pan oedd gwrthddrych ein cofiant yn unarddeg oed, ymadawodd y diweddar Barchedig George Lewis, D.D., a Chaernarfon, ac ymsefydlodd yn weinidog yn Llanuwchllyn; a bu yn llafurio yn ddyfal yn yr ardal hono am dros ddwy flynedd ar bymtheg. I wrandaw arno ef y byddai pobl Pennantlliw, agos oll, yn myned y pryd hwnw; ac yn eu plith yr oedd Cadwaladr Jones yn wrandawwr cyson arno, ac yn mawr hoffi ei weinidogaeth. Y mae amrywiaeth barn yn mysg dynion deallus a chrefyddol am rai pyngciau yn nuwinyddiaeth y Doctor Lewis; ond nid oes dim ond un farn yn mysg y rhai a'i hadwaenent ef oreu, yn ei gylch ef ei hunan, am dano fel dysgawdwr crefydd i'w gynnulleidfa. Yr oedd yn fanwl, yn rymus, ac yn ysgrythyrol, a bu yn dra llwyddianus yn Llanuwchllyn. Ni feddyliodd y Dr. Lewis erioed am ddwyn dynion i gysylltiad ag eglwys Dduw trwy rinwedd "sebon meddal" a gweniaith, ond trwy olchiad yr adenedigaeth, ac adnewyddiad yr Ysbryd Glân; ac am hyny yr oedd yn yr eglwys oedd dan ei ofal, ddynion. yn meddu dirnadaeth ysbrydol, yn saint wedi eu cymhwyso i waith y weinidogaeth, i adeilad corff Crist. Yr oedd yno lawer o'r cyfryw bobl. Dyna y bobl a fyddent yn cydfyned i'r capel, ac yn cyd-ddychwelyd o hono, gyda Chadwaladr Jones; gwyddys fod eu hymddiddanion a'u hymddygiadau wedi bod iddo ef, ac i eraill hefyd, o ddirfawr les. Ni wyddom pa fodd yr ennillwyd ef i roddi ei hunan yn gwbl i Iesu Grist, ac i'w bobl, yn ol ei ewyllys ef; hyny yw, ni wyddom pa foddion a arferwyd yn bennodol yn ei achos ef. Gwyddom pwy sydd yn brif ysgogydd yn mhob gwir ddychweliad. Diau iddo ef, fel eraill, fod am dymhor yn y gyfeillach grefyddol ar brawf, cyn ei dderbyniad yn gyflawn aelod; a phur debyg hefyd yw, iddo fyned drwy arholiad manwl a difrifol cyn iddo gael ei dderbyn, yn ol arfer y gweithiwr difefl oedd yn weinidog yn y lle. Y cwbl a wyddys yn ddilys yn awr ydyw hyn: fod Cadwaladr Jones wedi cael ei dderbyn yn aelod cyflawn o'r eglwys a ymgyfarfyddai yn yr Hen Gapel, yn mis Mai, 1803, pan oedd efe yn ugain mlwydd oed.

O'I DDERBYNIAD YN AELOD EGLWYSIG HYD EI FYNEDIAD I'R ATHROFA.

Dyna ni wedi dilyn ein diweddar frawd nes y daeth yn aelod yn eglwys Dduw, mewn ardal oedd wedi ei breintio yn helaeth â manteision crefyddol. Dechreuasid yr achos crefyddol yn Llanuwchllyn trwy ymdrechion hunanymwadol yr Hybarch Lewis Rees, pan ydoedd yn gweinidogaethu yn Llanbrynmair. Daeth i bregethu i dŷ yn y plwyf o'r enw Gweirglodd Gilfach, drwy anogaeth gwr y tŷ, a pherchenog y lle. Mae hanes yr oedfa hono yn ddigon hysbys, fel na raid ei adrodd yma. Bu Mr. Rees yn dyfod i Lanuwchllyn yn rheolaidd am dro, i bregethu yr efengyl, ac yn achlysurol am flynyddoedd lawer wedi hyny. Adeiladwyd capel yn yr ardal hono yn y flwyddyn 1746, rhyw wyth neu naw mlynedd wedi i Mr. Rees fod yn pregethu am y tro cyntaf yn Ngweirglodd Gilfach. Bu yn Llanuwchllyn, o leiaf, BUMP o weinidogion cyn i'r Dr. Lewis ymsefydlu yno; ond dan ei weinidogaeth ef y cyfodwyd yr Hen Gapel i'r bri a berthynai iddo yn y deuddeng mlynedd cyntaf o'r ganrif bresenol. Gwyddys fod gwrthddrych y nodiadau hyn yn mawrygu gweinidogaeth y Dr. Lewis, megys agos bawb a gawsant ei mwynhau yn Llanuwchllyn. Bu yn addysgiadol iawn iddo; ac er na bu ef erioed yn gaeth-ddilynwr i'r gwr enwog hwnw yn ei olygiadau neillduol, nac yn gaeth-ddilynwr i neb arall yn eu golygiadau neillduol, mwy nag yntau; etto, bu pregethau a llyfrau ei weinidog llafurus yn foddion effeithiol i sefydlu ei olygiadau ar y rhan fwyaf o byngciau yr athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb. Bu gweinidogaeth a chyfeillach Mr. Pugh, o'r Brithdir; Mr. Williams, wedi hyny o'r Wern; Mr. Jones, o Drawsfynydd; a'r Hybarch Robert Roberts, Tyddynyfelin; ac Ellis Thomas, Tymawr, un o'i gymmydogion agosaf, o gryn adeiladaeth iddo yn mlynyddoedd cyntaf ei fywyd crefyddol. Ond ei weinidog ei hun oedd ei brif hyfforddwr ef, a gair Duw, at yr hwn y cyfeiriai gweinidogaeth sefydlog "yr Hen Gapel" ef bob amser. Wedi i Mr. Jones fod am dair blynedd yn aelod dichlynaidd, diwyd, a defnyddiol yn yr eglwys y perthynai iddi, ac i'w gydaelodau gael prawf o hono, a boddlonrwydd ynddo, fel gwr ieuangc sobr a chrefyddol, deallgar a gwybodus, ac awyddus am gael ei gyd-bechaduriaid at yr Arglwydd Iesu, ac i fwynhad o'r un grefydd ag a roddasai dawelwch i'w gydwybod euog ef ei hun, anogwyd ef i ymarfer y ddawn a roddasai yr Arglwydd iddo i bregethu yr efengyl, yn ol fel y byddai amser a chyfleusdra yn caniatau iddo wneuthur. Mewn ufudd-dod i'r anogaeth hono, dechreuodd draethu ychydig o'i syniadau ar ranau o'r ysgrythyrau, megys ar brawf yn y cyfeillachau neillduol. Yn mis Gorphenaf, 1806, y dechreuodd efe arfer ei dalent yn y ffordd hono yn yr eglwys. Y canlyniad o'r prawf hwn o hono ydoedd, pasio penderfyniad unfrydol gan yr holl frodyr a'r chwiorydd: "Fod rhyddid i Cadwaladr Jones i lefaru yn gyhoeddus, pa le bynag a pha bryd bynag y gelwid arno i wneuthur hyny." Dyna ef wedi ei osod yn rheolaidd yn ei swydd fel pregethwr trwy unol lais y gynnulleidfa. Yr oedd hyny, yn ddiau, yn galondid mawr iddo i ymaflyd yn y gwaith pwysig a gymerasai i'w gyflawni. Ni ddylai dyn dan amgylchiadau cyffredin ruthro i bregethu yr efengyl yn ol ei fympwy ei hun, ac heb ei alw yn rheolaidd at y gwaith gan eglwys Dduw. Gwaith yr eglwys, dan arweiniad ei blaenoriaid ac yn ofn yr Arglwydd, yw cyfodi pregethwyr. Nis gellir llai na chymeradwyo y dull y cyfodwyd Cadwaladr Jones i bregethu gan y Dr. Lewis a'r eglwys barchus oedd y pryd hwnw dan ei ofal.

Cafodd y gwahanol enwadau crefyddol sydd yn ein plith, o bryd i bryd, lawer o bregethwyr defnyddiol o ardal Llanuwchllyn. Cafodd yr Eglwys Sefydledig y diweddar Barch. Henry Parry, Llanasa, oddiyno; y Parch. Lewis Anwyl, o Lanllyn; a'r Parch. Mr. Jones, o'r Ddolfawr. Cafodd y Bedyddwyr John R. Jones, Ramoth; Joseph a Dafydd Richards; Dafydd Roberts, o'r Hendref; Thomas Edwards, o'r Ty'nyfedw; Edward Humphreys; ac Ellis Evans, D.D. Llanuwchllyn a roddodd i'r Methodistiaid Calfinaidd yr Hybarch Evan Foulk, a'i feibion; Foulk Evans; a Robert Evans; a brawd i Evan Foulk, o'r enw Edward Foulk; Dafydd Rowlands, Llidiardau; John Jones, Afonfechan; Robert Williams, Wernddu; Dafydd Edwards, Brynmawr, Mynwy; Foulk Parry, Croesoswallt; William Pugh, Llandrillo, ac eraill, feallai, nad ydym yn ddigon cydnabyddus â hwynt i nodi y manylion yn eu cylch. Gwyddom fod y rhai a ganlyn o bregethwyr yr Annibynwyr wedi dyfod allan o'r un ardal:—Robert Lloyd, Porthmadog; Rowland Roberts, Pen-rhiw-dwrch; Robert Roberts, Tyddynyfelin; John Evans, Penyffridd; John Lewis, Hafod-yr-haidd, gynt o'r Bala; Dafydd Davies, Bryncaled; Llewelyn Howell, Utica; Dafydd Jones, Treffynnon; ei nai John Jones, Ty'nywern; Morris Roberts, Remsen; Ellis Thomas Davies, Abergele; Michael D. Jones, Bala; R. Thomas, Bangor; Edward Roberts, Coedpoeth; John Williams, gynt o'r Bryniau; Cadwaladr W. Evan, Awstralia; Lewis Jones, Tynycoed, yn nghyd ag eraill feallai.

Nid ydym yn proffesu rhoddi rhestr gyflawn o'r pregethwyr a ddaethant o ardal Llanuwchllyn. Nis gallwn wneuthur hyny; ond yn ddiamheu, y mwyaf yn eu mysg mewn amryw ystyriaethau oedd y diweddar Barchedig foneddwr Cristionogol Cadwaladr Jones, o Ddolgellau. Magodd Llanuwchllyn ddau bregethwr i'r Wesleyaid-Robert Jones, Maltford Hill; a Robert Jones, Merthyr.

Wedi i Mr. Jones ddechreu pregethu yn gyhoeddus, bu yn ddiwyd, ymroddgar, ac egnïol iawn yn y gwaith pwysig yr ymafaelasai ynddo. Pregethai ar y Sabbothau yn agos ac yn mhell, fel y byddai galwad am ei wasanaeth. Pregethai lawer ar nosweithiau gwaith yn ardaloedd y plwyf eang y ganesid ef ynddo, a Chwm-glan-llafar. Nid oedd braidd dŷ yn mhlwyf Llanuwchllyn na bu ef ynddo yn pregethu, yn ystod y tymhor, o'r flwyddyn 1806 hyd 1811; ac yr oedd ei weinidogaeth yn dderbyniol a chymeradwy gan bob gradd. Yr oedd amryw bethau yn dra ffafriol iddo fel pregethwr. Ni chawsai nemawr o anogaeth i fyned i'r weinidogaeth gan ei rieni. Yr oedd yn wr ieuangc glândeg a lluniaidd, a hynod o serchus yn ei holl ymwneyd â'i gymmydogion. Yr oedd yn sobr a siriol, a'i ymddygiadau yn mhob peth yn addas i'r efengyl. Yr oedd yn bwyllus a synwyrol, ac yn deall ei Feibl yn dda. Yr oedd ei lais yn beraidd a swynol iawn, ac ni flinai ei wrandawyr â phregethau afresymol o feithion. Yr oedd yn agos at bawb heb fod yn rhy agos at neb, ac yn byw yn ddirodres fel ei gymmydogion yn gyffredinol.

EI DDERBYNIAD I'R ATHROFA.

Yn fuan wedi iddo ddechreu pregethu, dechreuodd Mr. Jones deimlo ei angen am ychwaneg o ddysg mewn trefn i fod yn weinidog defnyddiol yn eglwys Dduw, ac aeth i'r Athrofa oedd y pryd hwnw dan ofaly Parch. Jenkyn Lewis yn Ngwrexham. Derbyniwyd ef fel myfyriwr yno Tachwedd 30, 1806. Treuliodd dros bedair blynedd, weithiau yn yr Athrofa ac weithiau gartref gyda ei dad yn gweithio ar y tyddyn. Treuliai y gauaf yn Ngwrexham, a'r haf yn y Deildref; a bu yn ddyfal iawn yn casglu gwybodaeth yn y Coleg, ac yn pregethu o gylch ei gartref bob yn ail, y blynyddau hyn. Ar ei draul ei hun yr oedd efe yn yr Athrofa, os nad ydym yn camgofio; ac felly, rhanai ei amser rhwng ei hawliau meddyliol a'i oruchwylion tymhorol. Yr oedd yr enwog Williams o'r Wern yn y Coleg ar unwaith ag ef ar y cyntaf, a'r galluog Michael Jones wedi dyfod yno cyn iddo ef ganu yn iach i Wrexham. Bu yn gydfyfyriwr a'r ddau am dro, a mawr oedd ei barch iddynt tra fu byw.

Pan yn preswylio gyda ei rieni yn Llanuwchllyn, pregethai Mr. Jones yn fynych yn Rhydymain, y Brithdir, Dolgellau, Llanelltyd, a'r Cutiau, y lleoedd yn mha rai yr ydoedd "Pugh o'r Brithdir yn ei flodau" yn gweinidogaethu, gan lafurio yn galed a diflino mewn amser ac allan o amser. Brodor o'r Brithdir oedd Mr. Pugh. Ei gartref cyn iddo briodi oedd y Perthi-llwydion. Dywed un pur gymhwys i farnu am dano fel y canlyn:—"Yr oedd Mr. Pugh yn bregethwr hyawdl a galluog, yn serchog o ran ei deimladau, ac yn gyfaddas iawn yn mhob ystyr i fod yn efengylwr ei fro enedigol." Yr oedd cylch gweinidogaeth Mr. Pugh yn cyrhaeddyd o'r Garneddwen i'r Abermaw, ac o Fwlch-oer- ddrws i ucheldiroedd y Ganllwyd; darn o wlad oedd yn ddeunaw milldir o hyd wrth ddeuddeg o led. Nid am ryw lawer o flynyddoedd y bu y pregethwr ieuangc hyawdl a gwlithog hwnw ar y maes; ond bu yn dra llwyddianus a chymeradwy gan bawb yn ei dymhor byr. Efe oedd y gweinidog cyntaf a fu yn llafurio gyda yr Annibynwyr yn sefydlog, yn yr ardaloedd o amgylch Dolgellau. Pregethai yn mhob man lle yr agorai Rhagluniaeth ddrws iddo. Yn ei amser ef y derbyniwyd y personau canlynol yn aelodau eg- lwysig:—yn Llanelltyd Mr. Thomas Davies, Trefeiliau; y Parch. Edward Davies, Trawsfynydd; Evan James, Cylchwr; Richard Roberts, o Felin y Ganllwyd, a'i wraig; Rees Griffith, Farchynys, a'i wraig; Cathrine Jones, o'r Sylfaen; Margaret Jones, o'r Faner, ac eraill llai adnabyddus. Derbyniwyd yn y Brithdir o gymmydogaethau Dolgellau, fel ffrwyth llafur Mr. Pugh, cyn bod un eglwys ffurfiedig yn y dref ei hun gan yr Annibynwyr, John Evan, Talywaun, a'i wraig; Evan Dafydd, Gellilwyd, a'i wraig; Ann Jones, Pant-y-piod; William Vincent; Morris Dafydd, (Meurig Ebrill); Evan Owen, Gyllestra; Cathrine Thomas, Dolrisglog; John Mills, Hafod-dywyll, a'i wraig; Morris Evan, o'r Gilfachwydd; Elizabeth Ellis; John Lewis Owen, ac amryw eraill. Yr ydym yn enwi y rhai uchod am fod Mr. Jones wedi eu nodi fel rhai oeddynt yn ei wahodd ef i weinidogaethu i'r ardaloedd hyny, fel olynydd i Mr. Pugh. Gallai hefyd na fydd yn ddrwg gan gymmydogion iddynt a adwaenent rai o honynt, a disgynyddion oddiwrthynt, weled eu henwau yn Nghofiant yr Hybarch Cadwaladr Jones.

Yn Ebrill, 1808, prynodd Mr. Pugh addoldy y Trefnyddion Calfinaidd yn Nolgellau, yn nghyd a'r tai perthynol iddo, am £500; a phregethwyd yn y capel gan y ddwy blaid hyd nes y daeth capel newydd y Trefnyddion yn gymhwys iddynt i addoli ynddo.

Un waith cyn ymadawiad y Trefnyddion, gweinyddwyd swper yr Arglwydd i gynifer o'r Annibynwyr a allwyd gael yn nghyd o Rydymain, Brithdir, Llanelltyd, a'r Cutiau, pryd yr eglurodd Mr. Pugh sylfaeni Ymneillduaeth, y dull ysgrythyrol o ymarfer a'r ordinhad o swper yr Arglwydd, a dybenion. sefydliad yr ordinhad, ac amryw o bethau pwysig eraill. Bu ei sylwadau yn achlysur i roddi tramgwydd i rai o'r Trefnyddion; ond rhoddasant foddlonrwydd mawr i lawer eraill.

Nid hir y bu Mr. Pugh yn llafurio gyda ei hyfryd waith wedi sefydliad yr eglwys yn Nolgellau; oblegid bu farw o'r clefyd coch, Hydref 28, 1809, er mawr alar i'r holl fân eglwysi oedd dan ei ofal, a cholled i ogledd Cymru yn gyffredinol.

EI ALWAD YN OLYNYDD I'R PARCH. H. PUGH.

Yn y flwyddyn ganlynol, 1810, dechreuwyd meddwl am gael olynydd teilwng i Mr. Pugh. Tueddid rhai i roddi galwad i'r diweddar Barch. D. Morgan, o Lanegryn y pryd hwnw, a thueddid eraill i roddi galwad i Cadwaladr Jones, o Lanuwchllyn. Clywsom fod etholiad tỳn wedi cymeryd lle ar yr amgylchiad, ac mai Cadwaladr Jones a ennillodd, neu yn hytrach y dosbarth oedd drosto, o ryw ychydig iawn. Ymostyngodd y lleiafrif i'r mwyafrif; rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. Jones, a chydsyniodd yntau â hi. Clywsom mai un peth a barodd i Mr. Jones gael mwy o enwau drosto na Mr. Morgan ydoedd, fod rhywbeth yn ei lais yn debyg i'r eiddo Mr. Pugh, tra yr oedd Mr. Morgan y pryd hwnw, yn enwedig, yn llefaru yn gyflym iawn, ac yn annealladwy i lawer. Yr oedd yr holl eglwysi a fuasent dan ofal Mr. Pugh yn cyduno yn ngalwad Mr. Jones i fod yn fugail arnynt; sef, Rhydymain, Brithdir, Dolgellau, a'r Cutiau. Yr oedd Llanelltyd a'r Ganllwyd wedi sefydliad yr eglwys yn y dref, yn dyfod yno i gymundeb, yn nghyd ag Islaw'r-dref.

Er fod dymuniad cryf yn y gwahanol gynnulleidfaoedd hyn, ar i'r gweinidog dewisedig ganddynt ddyfod i'w plith yn ddioed, etto, llwyddodd ef i gael ganddynt adael iddo aros am rai misoedd yn hwy yn yr Athrofa, i yfed ychydig yn ychwaneg o ffrydiau melus dysgcidiaeth, cyn dechreu o hono ar ei waith pwysig yn ei gylch newydd. Yn mysg papurau Mr. Jones cawsom lythyr a ysgrifenodd efe yn y cyfwng hwnw at Robert Pugh, Perthi-llwydion, Brithdir; a chan ei fod yn dangos ychydig o agwedd meddwl ei ysgrifenydd ar y pryd, ni a'i rhoddwn ef yma.

WREXHAM, Hydref 27, 1810.

Anwyl Frawd,
Yr wyf yn anfon atoch hyn o linellau, gan obeithio eich bod yn iach fel yr wyf finnau yn bresenol. Bu dda genyf dderbyn y llythyr a anfonasoch ataf. Yr wyf wedi bod yn y cyfarfod yn Llanfyllin. Ni a gawsom gyfarfod cysurus iawn yno, ac yr wyf yn hyderu ei fod o les i fy enaid. Nid oes genyf ddim rhyfedd i'w fynegu i chwi. Mae y dref a'r wlad o'i chylch yn gyffredin o iach; etto yr wyf yn parhau i weled amryw o'm cyd-ddynion yn cael eu cludo i'r bedd er pan ydwyf yma. Bu yn chwith hynod genyf glywed am farwolaeth Hugh Edwards, o Lanyrafon, yn ymyl Towyn. Ond er mor aml y rhybuddir fi, etto, teimlo fy hun yr ydwyf yn gwisgo pob effeithiau dymunol oddiar fy meddwl yn fuan. O wythnos i wythnos mae yr, amser yn nesáu i mi ddyfod tuag adref os byddaf byw. Byddaf yn rhyfeddu yn fawr weithiau, os gwelir fi yn ceisio cadw lle fy anwyl frawd (gynt) Hugh Pugh. Gallaf ddywedyd yn hawdd, fy mod yn ystyried fy hun yn analluog iawn i'r gorchwyl mawr ei bwys. "Un a gymerir a'r llall a adewir." Nid oedd yr Arglwydd, yn ddiau, heb olwg ar un i ddyfod i'ch plith fel eglwysi, pan yn ei gymeryd ef ymaith. Nid oes genyf yn awr ond gorchymyn fy hunan i ofal eich gweddïau. Pan yn absenol oddiwrth ein gilydd gallwn anfon gweddïau tua'r nef dros ein gilydd. Dywedwch wrth fy mrodyr yn eich amgylchoedd, fy mod yn cofio atynt i gyd, ac yn dymuno cael fy nghofio ganddynt o flaen gorseddfaingc y gras. Peidiwch ag addaw byd da ar grefydd trwy fy nyfodiad i atoch, os caf fyw i ddyfod, rhag i chwi gael eich siomi. Mae'r llwyddiant yn llaw Duw yn unig. Bellach frodyr, byddwch wych. Byddwch berffaith, diddaner chwi, syniwch yr un peth, byddwch heddychol; a Duw y cariad a'r heddwch a fyddo gyda chwi.

Hyn oddiwrth eich brawd a'ch cyfaill,
CADWALADER JONES, Llanuwchllyn.

Robert Pugh, Perthi-llwydion.

EI URDDIAD YN NOLGELLAU.

Yn nechreu y flwyddyn 1811, gadawodd Mr. Jones yr Athrofa, dychwelodd i'r Deildref-uchaf, ac yn nechreu y gwanwyn hwnw dechreuodd lafurio yn Nolgellau a'r amgylchoedd; a phan ddaeth dydd Iau Dyrchafael, Mai 23, 1811, neillduwyd ef yn gyhoeddus i'r weinidogaeth yn Nolgellau. Dewiswyd Dolgellau i gynnal y cyfarfod pwysig hwnw am fod y dref yn ganolog i'r gwahanol gynnulleidfaoedd ymgasglu yn nghyd. Y gweinidogion a gymerasant ran yn y gwasanaeth, neu a oeddynt yn bresenol ar yr achlysur, oedd y rhai canlynol:—George Lewis, Llanuwchllyn; Benjamin Jones, Pwllheli; John Roberts, Llanbrynmair; James Griffiths, Machynlleth; William Hughes, Dinas; William Jones, Trawsfynydd; John Lewis, Bala; David Roberts, Llanfyllin; James. Davies, Aberhafhesp; William Williams, Wern; a Jonathan Powell, Rhosymeirch. Ni lwyddasom i gael manylion y cyfarfod, a pha ran o'r gwaith a gyflawnai y naill a'r llall o'r brodyr enwog a ddaethant iddo. Ond gallwn fod yn dra sicr fod presenoldeb y fath Henuriaid yn llawer o galondid i Mr. Jones y diwrnod hwnw ac wedi hyny hefyd, yn nghyflawniad. ei swydd anrhydeddus yn mysg y cynnulleidfaoedd bychain y gweinyddai iddynt. Bychain a ddywedasom? Ie, bychain. Dyma rif yr aelodau pan ddaeth Mr. Jones i Ddolgellau:— Rhydymain, 23; Brithdir, 34; Dolgellau, yn cynnwys Islaw'r dre, Llanelltyd, a'r Ganllwyd, 39; Cutiau, 17; y cyfan gyda eu gilydd, 113. Dyna sefyllfa yr eglwysi pan gyflwynodd gwrthddrych y cofiant hwn ei hun i waith y weinidogaeth yn eu plith. Mae ger ein bron y drwydded a gafodd efe i bregethu yr efengyl mewn llys agored yn y Bala, ar yr unfed dydd a'r bymtheg o Orphenaf, 1807, wedi ei harwyddo gan ysgrifenydd yr heddwch yn y llys; ond nid yw o bwys debygem ei dodi i mewn yma. Y mae hefyd ger ein bron y dystysgrif a arwyddwyd gan y gweinidogion oeddynt yn ei urddiad, wedi ei hysgrifenu yn ddestlus iawn gan y Parch. Benjamin Jones, Pwllheli. Mae hon yn werth ei rhoddi i mewn. Dyma hi:

DOLGELLEY, 23rd of May 1811.

This is to certify to all whom it may concern that the Rev. Cadwaladr Jones was publickly and solemnly set apart and ordained by prayer and imposition of hands, as a Protestant Dissenting Minister of the Congregational order at Brithdir, Dolgelley, &c., on Thursday, 23 day of May, one thousand eight hundred and eleven. Witness our hands the day and year above written.

Benjamin Jones, P.D. M, Pwllheli.
George Lewis, Llanuwchllyn.
John Roberts, Llanbrynmair.
James Griffiths, Machynlleth.
William Hughes, Dinas.
William Jones, Trawsfynydd.
David Roberts, Llanfyllin.
James Davies, Aberhavesp.
John Lewis, Bala.
William Williams, Wern.
Jonathan Powel, Rhosymeirch.

Y cwbl a allasom ni gael allan am waith y cyfarfod ydyw, mai Dr. Lewis a bregethodd ar ddyledswydd y gweinidog. Ni ddywedir wrthym pa destyn a gymerodd. Heblaw hyny, dywedir mewn nodyn o eiddo y gweinidog ieuangc, fod Dr. Lewis; William Jones, Penstreet; a John Lewis, Bala, wedi ymadael a'r dref cyn i Mr. Jones, Pwllheli, gael y dystysgrif yn barod i'w harwyddo y dydd hwnw. Nid ydym yn rhy- feddu fod y Doctor Lewis yn prysuro tuag adref wedi gorphen ei waith; na bod Mr. Jones, Trawsfynydd, yn cychwyn yn gynar i'w ffordd faith, lechweddog, a throm; ond pa brysur- deb, tybed, oedd ar Mr. John Lewis, o'r Bala, y diwrnod hwnw, mwy na rhyw ddydd arall? Byddai ef ar ol bob amser yn mhob man; a phe buasai yn byw yn ein dyddiau ni, ni chawsai afael byth ar y gerbydres. Cwmni y Duwinydd o Lanuwchllyn, mae yn debyg a'i denodd i droi adref mor gynarol. Wedi y cwbl, odid fawr nad oedd efe ryw hyd rhaff ar ol y Doctor yn myned dros y bont o'r dref.

Buasai yn ddymunol iawn genym pe gallasem godi y llen a daenodd amser dros amryw o bethau cysylltiedig â chyfarfod urddiad Mr. Jones, heblaw manylion gwasanaeth y cwrdd ei hun; megy's Pwy o wyr Pennantlliw oedd yn bresenol ynddo? A oedd Harri Rowlands, y Deildref Isaf; Ellis Thomas, Tymawr; Cadwaladr Williams, Wernddu; John Williams, Ty'nybryn; Thomas Cadwaladr, y Wern, &c., yn bresenol fel hen gymmydogion, a brodyr crefyddol, i roddi ychydig of galondid i'w brawd ieuangc ar ddechreuad ei weinidogaeth? A oedd Jane Howell; Elizabeth Thomas; ac Ellen Jones, y chwiorydd deallus oeddynt ar y pryd yn Llanuwchllyn, wedi anturio dros y Garneddwen i'r cyfarfod? Beth oedd barn doethion ei hen ardal am ragolygon y gweinidog ieuangc? A oedd ei dad, neu ei fam, neu y ddau, yn y cwrdd dyddorol hwnw? Buasai yn dda iawn genym wybod a welodd cu llygaid hwy eu hunig fab, a'u hunig blentyn, yn wir, yn cael ei neillduo i'r weinidogaeth; ac a glywodd eu clustiau yr oll a ddywedwyd wrth yr Arglwydd, ac wrth ddynion yn ngwas- anaeth dydd yr urddiad; a pha beth oeddynt yn feddwl, a pha fodd y teimlent ar y pryd. Ond y mae llai na thri-ugain mlynedd wedi symud y posiblrwydd o wybod y pethau hyn, a'u cyffelyb o'n cyrhaedd, mor drylwyr, agos, a phe buasent wedi cymeryd lle cyn y diluw. Clywsom lawer gwaith, nad oedd John Cadwaladr yn golygu fod ei fab yn ymddwyn yn ddoeth wrth ymgymeryd a gwaith y weinidogaeth. Digwydd- odd unwaith pan oedd Cadwaladr Jones gartref yn y tymhor haf, wedi iddo dreulio y gauaf cyn hyny yn yr Athrofa, i'w dad ymddiried iddo y gorchwyl o wneyd y ddås-wair; ond pan ddaeth ef o'r cae i'r weirlan i edrych pa fodd yr oedd Cadwaladr yn cyflawni ei orchwyl, gwelai fod y ddas yn gwyro tipyn i un ochr, pan y dylasai fod yn wastad. Galwai y daswr i gyfrif, a dywedai wrtho, braidd yn wyllt ei dymher, "Os na fedri di wneyd pregeth yn well nag y medri wneyd das o wair, ni thali di mo'r baw." Mae y pethau a glywsom o bryd i bryd ar y mater hwn, yn codi rhyw awydd ynom am wybod yn gywir beth oedd syniadau a theimladau y rhieni, pan welsant eu mab yn rhoddi y cam, dialw yn ol, i gyflawn. waith y weinidogaeth; ond nis gallwn ond dyfalu eu bod yn meddwl cryn lawer, ac yn dyweyd ond ychydig; a bod y gwas crefyddol a defnyddiol iawn oedd ganddynt, Cadwaladr Richards, a chefnder i Cadwaladr Jones, yn digaregu y ffordd o'u blaenau, gan gyfiawnhau penderfyniad y gweinidog ieuangc; a bod y cymmydogion yn gwneyd yr un peth; a bod John a Dorothy Cadwaladr yn ymfoddloni i'r drefn.

PENNOD II.

TREM AR SEFYLLFA CREFYDD YN NGOGLEDD CYMRU AR DDECHREUAD TYMHOR EI WEINIDOGAETH.

Dylanwad yr Eglwys Wladol yn Nghymru—Newyn am Fara y Bywyd— Codiad Methodistiaeth—Howell Harris, a Daniel Rowlands—Enwogion Methodistiaeth yn y gogledd—Hir-lyniad wrth yr Eglwys Wladol—Dechreu urddo yn eu plith yn 1811—Y Bedyddwyr, a'r Wesleyaid—"Dydd y pethau bychain" ar Grefydd—Henafiaeth yr Annibynwyr—Annibynwyr dan enwau eraill er dyddiau y Werinlywodraeth—Llafur Morgan Llwyd, Walter Cradoc, Vavasor Powell, Ambrose Mostyn, Hugh Owen, o Fronyclydwr, Henry Williams, o'r Ysgafell, ac eraill— Codiad amryw o Wyr Enwog yn mhlith yr Annibynwyr yn y gogledd—Lewis Rees, R. Tibbot, G. Lewis, D.D., Jenkyn Lewis, Dr. Williams, o Groesoswallt—Cynydd araf, a'r rheswm am hyny.

PRIN y mae yn angenrheidiol cofnodi mai ychydig iawn of ddaioni a wnaethai yr Eglwys Wladol yn Ngwynedd a Phowys, er y pryd yr adfeddianasai ei hawdurdod ar y wlad, yn nheyrnasiad Charles yr Ail. Gellid darllen llawer o wirionedd yn ei herthyglau athrawiaethol; ond yno y llechai, ac anfynych iawn y gwelid pelydr o hono yn mhregethau ei hoffeiriaid. Moes-wersi oerion, nychlyd, didalent, a meirwon, a draddodid i'r ychydig a gyrchent i'r llanau i'r gwasanaeth. Yr oedd ffurfioldeb, anystyriaeth, a bydolrwydd megys parlys wedi llwyr wywo ei nerth, er ys oesoedd lawer, ac yn gorwedd arni fel y barug a'r llwydrew. Yr oedd yn aros yn dawel "yn marwolaeth." Ymroddai y gweinidogion i fyw "yn ol helynt y byd hwn," gan fwynhau gwaddol eu Heglwys, a phob rhyw ddifyrwch llygredig oedd mewn bri yn yr "amseroedd enbyd" hyny. Nid ymdrechent ond ychydig am ddychwelyd eneidiau at Iesu Grist. O'u rhan hwy, buasai gogledd Cymru, hyd y dydd hwn, yn anialwch moesol, gwag erchyll. Diau, hefyd, fod eithriadau i'r dull hwnw o fyw i'w gweled, yma a thraw, yn eu plith; ond yr oeddynt yn anaml, fel ymweliadau angylion, ac yn hollol amddifad o ddylanwad cyffredinol ar y boblogaeth. Cafodd yr Eglwys. Wladol yn Nghymru, ragorach manteision i grefyddoli y wlad nag a gafodd ei chwaer yn yr Iwerddon; ond er hyny profodd. ei hunan yn hynod o ddiwerth, ac yn hollol annheilwng o'r sefyllfa bwysig y gosodwyd hi ynddi. Yr oedd ganddi waith. mawr i'w gyflawni, a gwaddol mawr a sier i fyw arno; ond yr hyn a wnaeth hi oedd, byw ar y cyfoeth, esgeuluso y gwaith, ac erlid a dirmygu yr Ymneillduwyr, y rhai dan bob anfanteision, a ymdrechent ei gyflawni. Pan oedd gwrthddrych y cofiant presenol yn llangc, yr oedd crefydd ysbrydol yn isel iawn, yn yr eglwys sefydledig, drwy yr holl wlad, yn gystal ag yn y plwyf lle y magwyd ef. Safai eglwys y plwyf, yn Llanuwchllyn, yn y canol rhwng capelau yr Ymneillduwyr. Ychydig oedd nifer y bobl a gyrchent iddi. Ar foreuau y Sabbothau, brysiai yr offeiriad drwy y gwasanaeth, ac yna, rhuthrai y clochydd allan, safai ar ben clawdd y fynwent, pan fyddai y bobl yn dychwelyd i'w cartrefi o'r moddion yn yr addoldai ymneillduol, i gyhoeddi ffeiriau, a phethau cyffelyb, er adeiladaeth dymhorol i drigolion y plwyf. Wrth ystyried pethau fel hyn, nid ydym yn rhyfeddu fod meddwl gwastad. a golenedig Cadwaladr Jones yn eilio yn naturiol oddiwrth y llan, ac yn ymwasgu at yr Ymneillduwyr, er fod ei rieni yn ymlynu wrth y defodau a ddysgasid iddynt gan eu hynafiaid. Parodd gweinidogaeth ddeddfol a di-Grist y personiaid, ac ymddifadrwydd y llanau o grefydd ysbrydol, i luoedd o'r Cymry droi eu cefnau arnynt am byth. Iddynt hwy eu hunain, mewn rhan, y mae y llanwyr i briodoli dechreuad, cynnydd, a goruchafiaeth Ymneillduaeth yn y Dywysogaeth, yn y ganrif ddiweddaf, a dechreuad yr un bresenol. Nid oedd Ymneillduwyr egwyddorol mor lluosog yn y dyddiau hyny ag ydynt yn y dyddiau hyn. Newyn am fara y bywyd oedd ar ein tadau, a'r offeiriaid yn rhoddi iddynt geryg i dori y newyn hwnw; gan hyny, nid oedd ganddynt ddim i'w wneuthur ond myned i'r lleoedd y gallent gael gwleddoedd yr efengyl yn eu blas, ac yn eu holl gyflawnder.

Oddeutu 46 o flynyddoedd cyn geni gwrthddrych ein cofiant y dechreuodd Methodistiaeth yn Nghymru, trwy lafur caled a hunanymwadol Mr. Howell Harries, o Drefecca, a'r Parch. Daniel Rowlands, o Langeitho. Dau ŵr oedd y rhai hyn ag enaint Duw arnynt, ac Ysbryd Duw ynddynt, ac wedi eu gwisgo a nerth o'r uchelder. Aethant allan i'r prif-ffyrdd a'r caeau, y pentrefi a'r dinasoedd, y cymoedd a'r mynyddau, ac yr oedd llaw yr Arglwydd gyda hwynt, a llwyddiant mawr ar eu gweinidogaeth. Cafodd gogledd Cymru, yn gystal a'r deheudir, ran o'u sylw a'u llafur, a sefydlwyd cymdeithasau crefyddol mewn llawer iawn o ardaloedd yn y parthau gogleddol hyn. Yn raddol, cyfododd yr Arglwydd gynnorthwywyr lawer i gychwynwyr y Diwygiad, a rhai o honynt yn ddynion hynod mewn gwybodaeth, duwioldeb, a thalentau. Yr oedd y gwyr hyn, yn gystal a Harries a Rowlands, yn llawn o ysbryd cenhadol. Ymwelent a phob parth o'r wlad, ac yr oedd awelon iachawdwriaeth yn cydgerdded a hwynt, a thywalltiadau o'r Ysbryd Glân yn bedyddio y cynnulleidfaoedd a ymdyrent i'w gwrando; ac felly fe lwyddodd y gwaith, ac fe ddechreuodd annuwioldeb, o bob math, grynu, gwelwi, a gwywo, ger bron disgleirdeb tanllyd gogoniant yr Arglwydd yn y weinidogaeth.

Heblaw yr ychain banawg a ddeuent yn eu tro o'r dehau i ymweled a'r gogledd, cyfodwyd dynion galluog, talentog, a llawn o dân dwyfol yn y parthau hyn hefyd, i ddwyn yr achos yn mlaen; megys, Mr. Robert Roberts, Clynog; Mr. John Jones, Edeyrn; a'r diweddar areithiwr hyawdl John Elias; a'r ysgrifenwr galluog Thomas Jones, o Ddinbych. Nid oedd y gwyr a blanasant yr eglwysi Methodistaidd, ac a'u dyfrhasant am faith flynyddoedd wedi hyny, mor fanwl yn ymgadw o fewn cylch penodol wrth draethu eu syniadau ar byngciau yr athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb, ag y daeth eu dilynwyr i wneyd felly, mewn blynyddoedd diweddarach. Enill eneidiau at Grist oedd pwngc mawr y dosbarth cyntaf, a'r ail, o bregethwyr y Trefnyddion; gan ofalu, ar yr un pryd, na wyrent yn mhell oddiwrth ganol ffordd y Datguddiad dwyfol. Rhodd bennaf y Brenin Mawr i'r Trefnyddion Calfinaidd yn ngogledd Cymru, yn rhestr eu pregethwyr, oedd y Parch. Thomas Charles, o'r Bala. Bu y gwr doeth ac efengylaidd, a'r ysgolhaig rhagorol hwnw, yn un o'r prif offerynau a ddefnyddiodd Duw i oleuo ac i fendithio siroedd y gogledd. Teithiodd a phregethodd lawer iawn; sefydlodd ysgolion dyddiol a Sabbothol trwy ranau helaeth o'r wlad; bu yn foddion i ddwyn digonedd o Feiblau i gyrhaedd y werin; ysgrifenodd lawer iawn, a'r cyfan ar bethau buddiol, ac mewn iaith goeth, a chyda chwaeth bur; ac ni chyfododd etto yr un ysgrifenydd Cymreig yn rhagori arno ef.

Bu y Methodistiaid, yn hir iawn, yn ceisio glynu wrth Eglwys Loegr. Gweinidogion wedi eu hurddo yn yr Eglwys hono a weinyddent yr ordinhadau efengylaidd yn eu mysg, am oddeutu deg a thriugain o flynyddau wedi eu cychwyniad: ond, yn raddol, aethant bellach bellach oddiwrth y sefydliad gwladol; ac, yn y flwyddyn 1811, urddasant weinidogion o'ut plith eu hunain, i weinyddu yr ordinhadau; ac felly llwyrymadawsant a'r llanau. Digwyddodd hyny ryw fis o amser ar ol i Mr. Cadwaladr Jones gael ei ordeinio yn Nolgellau; felly yr oedd ef oddeutu yr un oed, fel gweinidog, a'r gweinidogion cyntaf a neillduwyd gan y Methodistiaid; ond yr oedd y corff Trefnyddol, erbyn hyn, yn Enwad cryf a dylanwadol iawn yn ngogledd Cymru. Yn ddiweddarach na'r Trefnyddion Calfinaidd y daeth y Bedyddwyr yn Enwad pwysig yn siroedd y gogledd, er eu bod yn hen, yn gryfion, a dylanwadol yn y deheudir, ac yn Lloegr. Buasai pregethwyr o'r eiddynt yn llafurio yn y parthau hyn yn yr eilfed ganrif ar bymtheg, ac wedi hyny, yn achlysurol, a bu llwyddiant amlwg ar eu hymdrechion; ond yn yr haner olaf o'r ddeunawfed ganrif y daethant i gael eu teimlo, yn mysg yr Enwadau yn ngogledd Cymru. Yr oedd amryw o lafurwyr diwyd a ffyddlon yn eu plith; a chyn diwedd y ganrif hono, cyfododd. dau o brif bregethwyr yr oes o'u plith hwy, i draethu cenadwri yr efengyl i Wyllt Walia; sef, Mr. J. R. Jones, o Ramoth; a Christmas Evans, o Fôn. Yr oedd y golygfeydd o'u blaenau y pryd hwnw yn addawol iawn, dros ychydig amser: ond cyfododd dadleuon yn eu mysg, ar bethau digon dibwys, mewn cymhariaeth, a hyny yn benaf oblegid mympwyon Mr. J. R. Jones, yr hwn a chwenychai ffurfio yr eglwysi Cymreig yn ol cynllun eglwysi y Bedyddwyr yn yr Alban, a dwyn i mewn iddynt syniadau gwahanol i'r rhai a goleddid gan Enwad y Bedyddwyr yn Nghymru, ar ffydd, a rhai pyngciau Duwinyddol eraill. Ymraniad hollol a ganlynodd, yr hwn a fu yn dra niweidiol i lwyddiant achos crefydd, yn mysg y ddwy blaid. Taflodd hyny y Bedyddwyr yn ol, yn y gogledd, am amser maith. Dyna oedd eu sefyllfa, fel Enwad, yma, pan ymsefydlodd Mr. Cadwaladr Jones yn maes ei lafur. Yr oedd y pen Diwygiwr, J. R. Jones, wedi ei fagu yn mhlwyf Llanuwchllyn, ac yn gar agos i wrthddrych y cofiant hwn, ac ar yr Annibynwyr yr arferai wrando, pan yn ieuangc: ond ni fu nemawr o gyfeillach rhyngddo ef a'i gar o Ddolgellau. Yr oedd dyfodiad y Wesleyaid i ogledd Cymru yn ddiweddarach na'r eiddo y Bedyddwyr. Tua dechreuad y ganrif bresennol yr anfonasant hwy genhadon i bregethu yr efengyl ac i ffurfio eglwysi, yn y wlad hon. Cyfododd dadleuon brwd iawn rhyngddynt hwy a'r Enwadau eraill, y rhai a barhausant am lawer o flynyddoedd. Gallai fod y gynneddf ymladdgar yn lled gref yn y cenhadon cyntaf a ddaethant i Wynedd i sefydlu Wesleyaeth: ond cawsant allan yn fuan, fod yn mhlith yr enwadau oeddynt eisoes yn y wlad, wyr mor barod ymladd ag oeddynt hwythau. Bu pob enwad yn euro arnynt yn ddiarbed, am gryn dymhor, a hwythau yn ergydio yn rymus yn ol at eu gwrthwynebwyr. Ond nid rhyw lawer o gynnydd oedd wedi bod arnynt, wrth a fu wedi hyny, pan sefydlodd Mr. C. Jones yn maes ei lafur. Er hyny, yr oedd eu dyfodiad i'r wlad wedi, peri deffroad mawr yn mysg pobl feddylgar o bob enwad, i chwilio a oedd seiliau safadwy i'r pethau a "gredid yn ddiamheu yn eu plith." Rhoddodd dadleuon Sandemaniaeth, a Bedydd credinwyr trwy drochiad, a dadleuon Arminiaeth ar byngciau y ffydd, symbyliad ac ysgogiad i'r meddwl Cymreig i chwilio am y gwirionedd, ag sydd hyd heddyw heb ddarfod yn ein plith. Felly, er mor chwerw yn fynych yw dadl, daw peth lles allan o honi.

Am sefyllfa achos crefydd yn mysg yr Annibynwyr yn ngogledd Cymru, pan ymsefydlodd y Parch. Cadwaladr Jones yn Nolgellau, gellir dywedyd, mai "dydd y pethau bychain" mewn cymhariaeth oedd y dydd hwnw. Nid oedd rhifedi yr aelodau eglwysig a ymunent i roddi galwad iddo ef, er ei bod. yn alwad unfrydol, a'r cynnulleidfaoedd yn bedair mewn nifer, ond ychydig dros gant. Yr oedd cynnulleidfaoedd cryfion yn Llanbrynmair, Llanuwchllyn, Pwllheli, Caernarfon, Dinbych, Treffynnon, a Llanfyllin: ond yn y cyffredin, cynnulleidfaoedd gweiniaid a gwasgaredig iawn oedd rhai yr Annibynwyr yn y gogledd; ac wrth ystyried fod yr enwad hwn, er's ugeiniau. lawer o flynyddoedd yn y wlad, gall hyny ymddangos yn rhyfedd i ambell un.

Digon tebyg fod yma fan gynnulleidfaoedd o Annibynwyr er amser y werinlywodraeth; ac er y galwant hwy eu hunain weithiau yn Bresbyteriaid, ac y gelwid hwy felly hefyd gan eraill, etto, nid oedd yn eu plith nemawr o Bresbyteriaeth, heblaw yr enw. Nid oeddynt yn gweithredu yn ol y drefn Henaduriaethol, ac nid oedd ganddynt lysoedd i appelio atynt mewn amgylchiadau o wahaniaeth barn. Annibynwyr dan yr enw o Bresbyteriaid oedd amryw o gynnulleidfaoedd Ymneillduol Cymru yn y dyddiau gynt. Yr oedd "Henuriaid llywodraethol" ganddynt feallai; ond eu gwaith ydoedd cynnorthwyo y gweinidog a'r holl gynnulleidfa, i ddwyn yn mlaen ddysgyblaeth eglwysig yn ol rheolau y Testament Newydd; ac nid yn eu dwylaw hwy yr oedd yr awdurdod i dderbyn aelodau, ac i'w diarddel, fel y mae yn mysg amryw o enwadau Henaduriaethol.

Bu Morgan Llwyd, o Wynedd yn llafurio yn effro ac egnïol yma yn foreu. Felly hefyd y bu Walter Cradoc; Vavasor Powell; ac Ambrose Mostyn. Cafodd y Gogleddwyr gryn dipyn o lafur Henry Morice, a James Owen; a bu Hugh Owen, o Fronyclydwr, yn cerdded oddiamgylch, gan bregethu yr efengyl a gwneuthur daioni, ar hyd a lled y wlad hon am 37 o flynyddoedd, a'i fab, John Owen, am dymhor byr ar ei ol. Henry Williams, o'r Ysgafell, a fu hefyd yn llafurus a defnyddiol iawn, fel cynnorthwywr i Hugh Owen. Yr oedd gan y gwyr hyn lawer o gynnulliadau dan eu gofal yma a thraw, a'r rhan amlaf o honynt yn mhell oddiwrth eu gilydd. Yr oedd y ffyrdd yn eirwon, a'u teithio yn orchwyl llafurfawr. Yr oedd yr Eglwyswyr a'r Uchelwyr yn elynion trwyadl iddynt. Dioddefasant lawer; ond bu llaw yr Arglwydd o'u plaid, a gwelsant raddau o lwyddiant ar eu hymdrechion, a gorphenasant eu gwaith. Cyn diwedd yr ail ganrif ar bymtheg yr oedd ychydig o Annibynwyr yn cydgyfarfod yn y lleoedd canlynol: sef, Bronyelydwr, Dolgellau, Bala, Llanbrynmair, Trefeglwys, Llanllugan, y Drefnewydd, y Pantmawr, Llanfyllin, Gwrexham, cymmydogaeth Caergwrle, Newmarket, Dinbych, Pwllheli, Capel Helyg, ac ychydig fanau eraill mae yn dra thebygol. Ffrwyth ymdrechiadau y gwyr hunanymwadol y cyfeiriwyd atynt oedd y cynnulleidfaoedd hyny; ac y mae y nifer luosocaf o honynt yn aros hyd yr awr hon.

Nid ymddengys i neb o gyffelyb feddwl i Hugh Owen. gyfodi yn y parthau hyn, nes y daeth y Parch. Lewis Rees i weinidogaethu yn Llanbrynmair. Yr oedd y gwr da hwnw yn llawn o ysbryd cenhadol. Teithiodd lawer i bregethu yr efengyl yn Meirion, Arfon, Mon, Dinbych, a Fflint, a llafuriodd lawer yn Maldwyn, heblaw yn ardal Llanbrynmair. Efe a ddechreuodd yr achos crefyddol yn Llanuwchllyn; ac efe oedd dechreuydd yr achos yn Mon, mewn undeb a'r Hybarch William Prichard. Bu mewn enbydrwydd am ei cinioes yn fynych; erlidiwyd ef yn dost; ond amddiffynodd yr Arglwydd ef. Ni lwfrhaodd; a gwenodd y nefoedd ar ei lafur yn mhob man. Mr. Rees a anogodd yr enwog Howell Harries i ymweled a'r Bala am y tro cyntaf; a llawenychai yn llwyddiant pawb a geisient droi eneidiau at Iesu Grist. Ymadawodd a Llanbrynmair yn y flwyddyn 1759, ac ymsefydlodd yn y Mynyddbach, er mawr golled i ogledd Cymru.

Tua diwedd y ganrif o flaen hon, neu yn hytrach, yn y rhan ddiweddaf o honi, cyfododd yr Arglwydd lawer o ddynion a ymdrechent i eangu terfynau achos crefydd yn mysg yr Annibynwyr yn y gogledd; megys, R. Tibbot, Llanbrynmair; A. Tibbot, Llanuwchllyn; B. Evans, Llanuwchllyn; G. Lewis, Caernarfon; J. Griffiths, o'r un lle; William Hughes, Bangor; J. Evans, Amlwch; Jenkyn Lewis, Gwrexham; Dr. Williams, Croesoswallt; J. Roberts, Llanbrynmair, ac amryw eraill. Gallesid meddwl fod gan weinidogion yr Annibynwyr y pryd hwnw, fwy o fanteision dysgeidiaeth na'u brodyr o enwadau eraill. Yr oeddynt hefyd yn ddynion deallus a galluog yn lled gyffredinol. Heblaw hyny, yr oeddynt yn derbyn cryn gydymdeimlad a chynnorthwy oddiwrth eu brodyr yn Lloegr. Er y pethau yna oll, golwg go wan ac eiddil oedd ar yr enwad yn y tymhor y cyfeirir ato yma, os cymerir ei sefyllfa yn y gogledd yn gyffredinol dan ystyriaeth. Bychain a phell oddiwrth eu gilydd oedd y cynnulleidfaoedd, yn y rhan amlaf o'r siroedd. I roddi cyfrif am hyny cynygir y sylwadau canlynol yn wylaidd, i ystyriaeth Annibynwyr y dyddiau presenol.

1. Yr oedd gormod o awydd yn ein hen weinidogion am gael y bobl i gyd i'r un man yn y gwahanol ardaloedd. Pregethent hwy mewn tai ar hyd y cymmydogaethau pellenig, ond ni chodent addoldai ynddynt yn aml, gan ddisgwyl i'r bobl ddyfod i le canolog ar y Sabbothan. Yr oeddynt yn disgwyl gormod. Daeth enwadau eraill i mewn i'w llafur hwynt, a chyfodasant addoldai bychain cyfleus yn y cyfryw fanau, ac ennillasant y tir oddiar amryw o gynnulleidfaoedd Annibynol. Gallem gyfeirio at lawer o fanau fel profion diamheuol o'r hyn ydym yn ei ddywedyd.

2. Bu yr Annibynwyr yn rhy hwyrfrydig i wneyd cyfiawnder a'r Ysgol Sabbothol ar ei chychwyniad mewn llawer of ardaloedd, a bu hyny yn anffafriol iddynt.

3. Yr oeddynt yn cario y syniad a annibyniaeth eglwysig yn rhy bell; oblegid yr oedd eu syniadau ar y pen hwn yn rhwystr iddynt ymuno, fel un gwr, mewn pethau cyhoeddus a chyffredinol a berthynent i'r enwad; megys, adeiladu addoldai ac ysgoldai a thalu am danynt. Nid ydym yn credu fod yr Egwyddor Annibynol o lywodraeth eglwysig yn milwrio yn y mesur lleiaf yn erbyn y cydweithrediad perffeithiaf mewn achosion cyhoeddus a chyffredinol a berthynant i'r enwad. Ond nid yw y mater hwn wedi cael ei ddeall a'i deimlo etto fel y dylai.

4. Yr oedd amryw o'r hen gynnulleidfaoedd yn rhoddi llawn digon o bwys a gormod hefyd, ar barchusrwydd y gynnulleidfa o ran cyfoeth a safle urddasol mewn cymmydogaeth. Mae tuedd mewn teimlad felly i beri i eglwys esgeuluso y tlodion sydd o'i hamgylch. Prin y gellir dywedyd fod hwn yn bresennol, yn ddiffyg perthynol i'r Annibynwyr; ond yr oedd gynt.

5. Yr oedd rhyw fawrfrydigrwydd meddyliol yn perthyn i lawer o hen weinidogion yr enwad, fel nad oedd cael dynion. yn aelodau o'r eglwysi Annibynol ond ail neu drydydd peth yn eu golwg. Yr oeddynt hwy yn foddlon os ceid y bobl at Grist. Nid ydym yn nodi hwn fel bai ynddynt. Pell ydym. oddiwrth hyny. Teimlad ardderchog oedd hwn, a cheir gweled hyny yn niwedd y byd. Ond cymerwyd mantais arno, gan bobl mwy sectol na hwy, i chwyddo rhengau enwadau eraill. Dynion mawrfrydig felly oedd Lewis Rees; Richard. Tibbot; a Benjamin Jones, Pwllheli, ac eraill allasem enwi.

6. Prin yr ydym yn credu ddarfod i'n tadau roddi y sylw ar feithriniaeth a ddylasent i blant proffeswyr crefydd. Credent hwy, yn eithaf priodol feddyliem ni, mai proffeswyr ffydd yn Mab Duw, a'r rhai hyny yn byw yn addas i'r efengyl, sydd i fod yn aelodau eglwysig dan y Testament Newydd, ac nad oes neb wedi ei eni yn aelod yn yr eglwys, trwy rinwedd ei gysylltiad a rhieni crediniol; ond ni allwn gydweled a hwy fod plant yr aelodau, oblegid hyny, i gael eu cau allan o'r cyfeillachau crefyddol, ac i gael eu hymddifadu o'r addysgiadau a geir ynddynt, fel y gwnai llawer o'r eglwysi Annibynol gynt. Yr oedd yr ymddygiad hwn at y plant yn golled i'r rhai bychain, yn golled i'r gynnulleidfa, yr enwad, ac achos crefydd yn gyffredinol. Y mae dwyn y plant i fyny wrth droed allor Duw yn y cysegr, yn hollol gyson, feddyliem ni, a syniadau yr Annibynwyr am aelodaeth eglwysig.

7. Yr ydym yn barnu hefyd, er bod ein hen weinidogion yn ddarllenwyr diwyd, yn astudwyr trwyadl, ac yn rheolaidd a boneddigaidd yn eu holl symudiadau, eu bod ar yr un pryd, yn ddiffygiol i raddau go helaeth yn y cymwysderau oedd yn angenrheidiol i wneuthur argraff ddofn a pharhaol ar feddyliau y werin. Yr oeddynt yn athrawiaethwyr manwl; profent bob peth drosodd a throsodd drachefn, a chymwysent eu hathrawiaeth at feddyliau proffeswyr a gwrandawyr, mewn ffordd dra rhesymol; ond yr oeddynt yn ddiffygiol mewn tân, nerth drychfeddyliau, a hywadledd ymadrodd. Yr oedd ambell un yn eu plith yn eithriad i'r rheol hefyd; megys y Parch. Hugh Pugh, o'r Brithdir, a rhai eraill feallai; ond eithriaid oeddynt, ac anaml y ceid hwynt. Diau fod y Dr. Lewis; Mr. Hughes, o'r Dinas; Mr. Jones, Penstryd; Mr. Jones, Pwllheli; Mr. Jenkyn Lewis; Mr. Jones, Newmarket; Mr. Griffiths, Caernarfon, ac eraill, yn bregethwyr da a sylweddol dros ben; er hyny, mae yn eithaf cywir eu bod yn ddiffygiol mewn amryw o bethau pwysig a defnyddiol a berthynent i lawer o brif bregethwyr rhai o'r enwadau eraill. Mr. Williams, y Wern, a fedrai bob amser gymeryd gafael yn holl galon cynnulleidfa; ond nid ydym yn cofio am neb ond efe a Mr. Everett, o Ddinbych, a allai wneuthur hyny yn yr adeg yr oeddym yn fachgenyn.

Mor bell ag y gallwn ni gael allan, rhywbeth yn debyg i'r darluniad uchod oedd ansawdd a sefyllfa crefydd yn ngogledd Cymru pan ddechreuodd yr Hybarch Cadwaladr Jones ar waith pwysig y weinidogaeth yn ardaloedd Dolgellau.


PENNOD III.

MAES EI LAFUR, A'I YMRODDIAD I'R WEINIDOGAETH.

Amrywiaethau Golygfeydd—Yr Aran—Cader Idris—Dafydd Ionawr, Barwn Richards, a hynafiaid y Dr. Owen—Nodweddion yr Ardal, a'r bobl—Eangder maes ei lafur—Edward Davies, o'r Allt—Taith trwy Feirion—Angladd yn Beddgelert—Pregethu Saesonaeg yn Nolgellau— Ymweliadau a chleifion, &c.—Neillduolion ei Addysg—Y Gweithiwr ar ei "fwyd ei hun."

Appwyntiwyd Mr. Jones, drwy ddoeth-drefniad Dwyfol Ragluniaeth, i weinidogaethu mewn ardaloedd iachus, dymunol, a phrydferth dros ben. Nid oes odid le yn Nghymru a mwy o brydferthwch, mewn cysylltiad a gwylltedd a mawredd naturiol, wedi cydgyfarfod ynddo, na Dolgellau, a'r cymoedd a gylchynant y lle hwnw. Ceir yno y doldir ffrwythlawn, y palasau heirdd, y llechweddau dymunol, y coedwigoedd. teg ac amryliw, y ffynnonau, y nentydd a'r afonydd gloywon a thrystiog, y llanw yn dyfod i fyny y dyffryn, megys i wahodd yr holl ffrydiau i brysuro tua eu cartref yn y môr heli. Mae awelon bywiol y môr a'r mynydd yn ehedeg drwy yr holl gymmydogaethau hyny. Yr Aran, a Chadair Idris, yn eu holl ysgythredd mawreddog, a gydsafant o'r neilldu, ond gerllaw, fel i gadw chwarae teg i bobpeth llai na hwynt, trwy yr holl fro. Yno y bu yr enwog Dafydd Ionawr yn gwau ei gywyddau meithion undonog, a gorchestol. Yno yr oedd Sir Robert Vaughan, o Nannau, yr hwn a deimlai ac a farnai, mae yn debygol, fod ganddo ef hawl bersonol a theuluaidd i gynnrychioli Meirionydd yn y Senedd, heb ymgynghori nemawr a neb ond âg ef ei hun. Gwladwr da, mewn rhai ystyriaethau, oedd perchenog Nannau: ond seneddwr tra diwerth ydoedd, a dywedyd y lleiaf. Gyda golwg ar grefydd, Eglwyswr tyn a rhagfarnllyd oedd y Marchog, a gwrthwynebwr penderfynol i'r Ymneillduwyr, fel y cafodd Methodistiaid Calfinaidd Llanfachreth, ac enwadau eraill hefyd, ddigon o brawf. Yr oedd ei safle, ei gyfoeth, a'i ddylanwad yn y wlad, yn anfanteisiol i Ymneillduaeth, yn mlynyddoedd cyntaf gweinidogaeth Mr. Jones.

Yn ardal Dolgellau y magwyd y Barwn Richards, y Prif Farnwr enwog. Yno hefyd y preswyliai Teulu y Llwyn, o ba un yr hanodd Dr. John Owen, "Tywysog y Duwinyddion." Yno yr oedd llyfrgell gyfoethog yr Hengwrt, yn yr hon y cedwid llawer o hen ysgrifau Cymreig, o gryn werth.

Nid oedd Dolgellau yn ymddifad o ysbryd anturiaethus mewn llaw-weithyddiaeth a masnach yn nechreu y ganrif bresennol, a chyn hyny hefyd, yn enwedig mewn gweithio gwlan yn weoedd i'w hanfon i Loegr, a chrwynyddiaeth. Buasai yno hefyd haiarnwaithfa yn lled ddiweddar yn tyrfu yn mysg y preswylwyr: ond ni ddychymygasai neb, y pryd hwnw, y deuai dydd i agor aur-weithfeydd yn y gymmydogaeth. Amaethwyr a gweithwyr amaethyddol, trinwyr anifeiliaid, a bugeiliaid o'u mebyd, oedd y rhif luosocaf o drigolion yr ardaloedd o amgylch Dolgellau.

Buasai gan yr enwog Hugh Owen, o Fronyclydwr, gynnulleidfa fechan yn y "Ty Cyfarfod," yn Nolgellau yn y ganrif cyn y ddiweddaf; a phregethid yn achlysurol gan weinidogion yr Annibynwyr yn yr ardaloedd o gylch y dref, os nad yn y dref ei hun, wedi ymadawiad y gwron o Fronyclydwr: ond ni ddaeth yr anialwch i flodeuo nes y cyfododd yr Arglwydd Mr. Pugh, o'r Brithdir, i gyhoeddi y newyddion da i'w gydardalwyr.

Daeth y Cyfeillion (Crynwyr) i lafurio yn amgylchoedd Dolgellau yn lled foreu, a bu cryn lwyddiant ar eu llafur. Casglasant gynnulleidfa gerllaw y dref, adeiladasant addoldy, a mynasant ardd i gladdu eu meirw, ar bwys eu "Ty Cyfarfod." Mudodd amryw o honynt i Bensylfania yn nechreu y ganrif ddiweddaf. Erbyn hyn y maent wedi llwyr ddiflanu o'r ardal, yr olaf o honynt wedi myned i ffordd yr holl ddaear, ychydig o flynyddau yn ol, a'u capel wedi ei werthu i'r Annibynwyr er ys tro bellach.

Yn ystod gweinidogaeth fer Mr. Pugh, ac yn nechreuad. gweinidogaeth hirfaith Mr. Jones, ymddengys fod ychydig o bersonau yn Nolgellau o dueddfryd Undodaidd, ac yn tybied. eu bod wedi cyrhaedd rhyw ddoethineb uwchraddol, a bu eu hymddiddanion a'u nodiadau yn niweidiol i amryw. Yr oedd Dr. Priestley yn ŵr mawr iawn yn eu golwg: ond darfu am danynt, fel y derfydd am bob rhyw goeg-dybwyr, o flaen goleuni a nerth efengyl Crist.

Nid rhyw lawer o gyfoeth y byd hwn oedd yn meddiant y bobl y gweinyddai Mr. Jones yn eu plith. Perthyn i'r dosbarth cyffredin yr oeddynt gan mwyaf. Felly, cynnulleidfaoedd bychain o dyddynwyr, gweithwyr, man grefftwyr, a man fasnachwyr, oedd dan ei ofal; ond ymddengys fod llawer o bobl wir grefyddol, goleuedig, a bucheddol yn eu plith. Yr oedd ef, ar ddechreu ei weinidogaeth, oddeutu wyth ar hugain oed, ac yn ŵr ieuangc gwisgi, troediog, a chymhwys i fod yn efengylwr mewn ardaloedd eang a gwasgarog, fel y rhai y llafuriai ynddynt. Yr oedd ei wrandawyr yn cyrhaedd o Ddrwsynant, 8 milldir o Ddolgellau ar y ffordd i'r Bala, hyd yn agos i'r Abermaw, pellder o 18 milldir o hyd, ac of ucheldir y Brithdir i eithaf y Ganllwyd, pellder ddeuddeng milldir o led. Ni allai, wrth gwrs, fyned i bob un o'r chwech lle oedd dan ei ofal, bob Sabboth; ond ymwelai a hwynt bob. un yn ei dro, yn ol cynllun a ffurfiasai i'w ddilyn. Yr oedd. y pellder oedd ganddo ef i'w deithio i'r gwahanol fanau, rhwng myned a dychwelyd, yn 42 o filldiroedd. A phan gofiom ei fod yn arfer myned iddynt yn rheolaidd i bregethu, ac i gadw cyfeillachau crefyddol, rhaid fod gweinidog Dolgellau yn llafurio yn ddiarbed. Ac heblaw myned yn rheolaidd i'r manau hyny, pregethai yn fynych mewn tai annedd, yn y gwahanol ardaloedd, fel y byddai afiechyd, marwolaethau, a bedyddiadau, yn peri i'r bobl alw am ei wasanaeth. Llwyr ymroddodd Mr. Jones i "gyflawni ei weinidogaeth." Nid oedd na gwynt, na gwlaw, na rhew, nac eira a'i rhwystrai i lanw ei gyhoeddiadau, yn ddifwlch. Pwy bynag a esgeulusai ei gydgynnulliad, byddai y pregethwr yn bresennol yn ddios. Yr oedd mor sier o'i nod ag ydyw deddfau anian o gadw eu cylchoedd. Yr oedd anghofio, a methu, allan o'r cwestiwn. Byddai ryw ychydig o funudau yn ddiweddar, yn gyffredin, yn dyfod at ei gyhoeddiadau; ond byddai yn sicr o ddyfod. Ni fyddai yn frysiog wrth gychwyn, ac wedi cychwyn ychydig gamrau, cofiai fod ganddo rywbeth eisiau ei ddywedyd wrth rywun yn y teulu; tröai yn ol i'w ddywedyd, ac ailgychwynai, yn bwyllog. Cyfarfyddai wed'yn, ar y ffordd a rhyw gyfeillion, neu gydnabyddion, a byddai raid ysgwyd llaw a'r rhai hyny, a holi am eu teuluoedd, a'u helyntion. Wedi cyrhaedd pen y daith, byddai raid troi i ryw dŷ, am ychydig o funudau; yna, ai i'r capel, ac esgynai yn bwyllog i'r areithfa, ac ai trwy wahanol ranau y gwasanaeth yn fanwl, a rheolaidd. Pa nifer bynag fyddent wedi dyfod yn nghyd, ai llawer, neu ychydig, gwnai ef "waith Efengylwr." Wedi darfod y moddion, byddai yn ymddiddan a llawer, ond odid. Ni fyddai mewn brys i gychwyn yn ol, drachefn; ac, yn aml, byddai yn bur hwyr cyn y cyrhaeddai ei gartref. Wedi bod yn llafurio yn galed, mewn amser ac allan o amser, yn ei gylch eang, am oddeutu wyth mlynedd, annogodd ef y cyfeillion yn y Cutiau, a Llanelltyd, i roddi galwad i Mr. Edward Davies, gynt o'r Allt, ger y Dinas Mawddwy, i fod yn weinidog iddynt. Gwnaethant hwythau hyny, a chydsyniodd Mr. Davies â'u cais, a bu yn llafurio yn y lleoedd hyny am rai blynyddau.

Wedi hyny ymadawodd Mr. Davies i waelod swydd Drefaldwyn, ac ymunodd yr Eglwys oedd yn y Cutiau â'r achos newydd oedd yn yr Abermaw; ond daeth Llanelltyd eilwaith dan ofal Mr Jones, mewn undeb à Mr. Davies, Trawsfynydd. Yr oeddynt yn pregethu yno Sabboth o bob mis ill dau, trwy yr holl flynyddoedd hyd farwolaeth Mr. Jones; ac y mae Mr. Davies, mae yn debyg, yn parhau etto i wneuthur hyny, er ei fod bellach mewn gwth o oedran. Parhaodd Mr. Jones i lafurio yn ddiwyd yn Rhydymain, Brithdir, Islaw'rdref, Llanelltyd, a Dolgellau, am lawer of flynyddoedd. Golygai y Dysgedydd yr un pryd, ac a'i yn mhell ac yn agos i gyfarfodydd pregethu a chymanfaoedd, yn ei sir ei hun a siroedd eraill. Rhaid fod ganddo fwy na llonaid. ei freichiau o waith; ond ni welid ef byth mewn brys. Gallesid meddwl arno nad oedd neb yn y wlad yn fwy rhydd oddiwrth ofalon o bob math nag oedd ef.

Cafodd ysgrifenydd y llinellau hyn yr hyfrydwch o gyd-deithio âg ef, trwy ran o swydd Feirionydd, i gasglu at gapel Ffestiniog, yn y flwyddyn 1841. Cawsom daith ddedwydd iawn, a threuliasom ein horiau hamddenol mewn ymresymu ar byngciau Duwinyddol, a llawer o faterion eraill cysylltiedig a gweinidogaeth yr efengyl. Bu y daith yn fuddiol iawn i mi, ac yn ddedwydd dros ben. Yr oedd yn wir ddrwg genyf ei gweled yn terfynu.

Bum hefyd ar daith gydag ef a Mr. Davies, Trawsfynydd, i gyfarfod y Sulgwyn yn Mangor. Arosasom am rhyw ddwy awr yn Meddgelet, i fwydo ein hanifeiliaid. Yr oedd yno gladdedigaeth ar y pryd, a thyrfa fawr wedi dyfod yn nghyd. Aethom ninnau yn eu plith i'r Eglwys i glywed darllen y gwasanaeth. Canwyd yno amryw bennillion, nes oedd yr hen adeilad yn adseinio. Yr oedd yn amlwg i ni fod rhywun a "galar mawr am dano," yn myned i'w fedd y dydd hwnw. Ni wyddem ni pwy. Wedi dyfod o'r Eglwys at y bedd, aeth Mr. Davies i barotoi y meirch, fel y gallem ni ail-gychwyn i'n taith; ond arosodd Mr. Jones a minnau gyda y dorf wrth y bedd, nes gorphen o'r gweinidog ei orchwylion yno. Yr oedd yno demladau dwysion ac wylofain mawr. Ar y diwedd, gofynai y Person yn sarug iawn i'r bobl, "Pa ham yr oeddynt hwy yn dywedyd ar hyd y plwyf, nad oedd ef yn dyfod yn amserol i gyfarfod claddedigaethau?" Haerai "mai hwy oedd bob amser ar ol yr awr appwyntiedig," a gofynai "a oeddynt yn meddwl ei fod ef i ddyfod yno i aros am danynt hwy, na wyddai neb am ba hyd?" Yr oeddem ni wedi synu clywed y fath lith yn nghanol dagrau ac ocheneidiau y gynnulleidfa. Wrth fyned tua y Gwesty dywedai Mr. Jones wrthyf, "Wel, onid oedd y Person wedi gwylltio cryn dipyn, onid oedd o? Dyna iddyn nhw wers chwerw braidd. Pwy ydyw o tybed?"

Pregethodd lawer iawn gartref ac oddi cartref, yn y gogledd a'r dehau ar ei dro. Bu wrthi yn ddiwyd am faith flynyddau, ar bob hin, a than bob amgylchiadau. Ni arbedodd lafur meddyliol gyda ei bregethau: ond ni ysgrifenai ddim ond y penau, fel ei gyfaill Williams, o'r Wern. Ysgrifenodd lawer o gynlluniau ei bregethau yn Saesonaeg; a bu yn pregethu yn Nolgellau am flynyddoedd yn Saesonaeg, i ychydig o Saeson crefyddol a chwenychent gael clywed yr efengyl yn ei phurdeb a'i symledd. Dieithriaid oeddynt yn ardal Dolgellau; mawrhaent ei weinidogaeth, a chofiodd un o honynt am dano yn haelionus yn ei hewyllys ddiweddaf. Gwelodd Mr. Jones lawer o brofedigaethau ac o helbulon, ond nid oedd dim yn ei wanhau nac yn atal ei ymdrechion yn ngwaith y weinidogaeth. Ai trwy bob peth gan ffyddlawn gyflawni dyledswyddau ei alwedigaeth. Yr oedd ei fywioliaeth yn syml a gwledig; ac yr oedd efe yn hollol rydd oddiwrth gyffroadau meddyliol dieithr a disymwth. Byddai gan hyny, bob amser yn iach, a galluog i gyflawni ei swydd.

Ymweledd a channoedd o dai-galar, a chysurodd dorf of blant gofid-gweddwon ac amddifaid yn ystod tymhor maith ei weinidogaeth. Rhoddes lawer o help i gleifion, wrth ddisgyn ar hyd y grisiau duon tua glan afon angau, a hebryngodd luaws o frodyr a chwiorydd hyd byrth y bedd. Bedyddiodd nifer fawr o blant, a phlant eu plant hyd yr ail a'r drydedd genhedlaeth. Yr oedd efe ar ymweliadau parhaus a chyson, mewn rhyw gwr o faes ei weinidogaeth bron bob dydd. Yr oedd ei hoff "gaseg las" yn adnabod y ffordd, ac amser ei gyhoeddiadau fel wrth reddf. Nid oedd eisiau ond ei chychwyn na wyddai am y ffordd, a'r croes-ffyrdd, a'r tai i orphwys ynddynt; deallai pa le i droi i Rydymain, a'r Brithdir, ac Islaw'rdre, a mannau eraill, fel na buasai eisiau ffrwyn yn ei phen. Adnabyddai pa mor araf yr oedd i fyned, gan y byddai ei marchog yn aml ar dywydd teg, yn darllen y Patriot neu y Dysgedydd, ac os deuai rhywun i'w cyfarfod, gofalai bob amser i sefyll er rhoddi cyfle i'w meistr i ysgwyd llaw, &c. Yr oedd maes ei lafur mor ëang fel yr oedd yn rhaid iddo fod mewn cyfeillachau yn rhyw le neu gilydd braidd bob nos o'r wythnos.

Llafurwr diarbed oedd ein diweddar frawd. Fe deithiodd llawer o weinidogion yr Annibynwyr fwy ar Gymru yn gyffredinol i bregethu yr efengyl na gwrthddrych y cofiant hwn; fe ysgrifenodd eraill fwy i'r wasg nag ef; fe ymdrechodd amryw fwy i sefydlu achosion newyddion; fe fu eraill yn fwy cyhoeddus gydag achosion cenedlaethol; ond ni fu yr un gweinidog yn ein mysg yn fwy llafurus ac ymroddgar, yn arfer y talentau a roddes ei Dad nefol iddo, yn ngwaith y weinidogaeth yn ei gartref, na Chadwaladr Jones.

Mae efe hefyd yn engraifft nodedig o weinidog sefydlog llwyddianus; pa un bynag ai yn adeiladu yr eglwys oedd dan ei ofal, trwy eu porthi à gwybodaeth ac à deall; ai eu llywodraethu yn dda ac ysgrythyrol; neu fel offeryn yn llaw yr Ysbryd Glân i ychwanegu eu rhifedi. Cafodd hwy yn fychain, gweiniaid, a diddylanwad; ond gadawodd hwy yn gryfion, yn lluosog, ac yn llwyddianus. Llwyddodd i argraffu ei ddelw fel duwinydd, dyn, a Christion, yn ddwfn ar bobl ei ofal. Ceisiodd eu llesâd yn mhob ystyriaeth, a llwyddodd yn ei amcan. Pleidiodd bob achos da yn eu plith. Achos y Beibl, achos y Genhadaeth, achos Rhyddid Gwladol a Chrefyddol, achos Dirwest, a Llenyddiaeth-pob peth da-a gwnai y cwbl trwy ddylanwad tawel a didwrf, ond cryf ac anorchfygol.

Yn ei holl ymdriniaethau â phethau crefydd yr oedd yn agos at bawb, heb fod yn rhy agos at neb. Yr oedd ei fwynder yn annrhaethol bell oddiwrth weniaith; yr oedd yn gryf heb fod yn arglwyddaidd a rhodresgar. Y gonest, y synwyrol, a'r pur oedd efe. Gwisgodd holl arfogaeth Duw yn nydd y frwydr, a diosgodd yr arfau pan derfynodd yr ymdrech, yn ei bwyll a'i gyflawn anrhydedd, ac yn fwy na choncwerwr.

Perchir ei enw yn Meirionydd tra fo yr olaf o'r rhai a'i hadwaenent ar dir y rhai byw; a bydd ei ragoriaethau lluosog, a'i nodweddiad difwlch yn perarogli yn Nolgellau, yn nyddiau gorwyrion preswylwyr presenol y dref hono, ac yn llawer hwy na hyny.

Trueni na chawsai ei gydnabod am ei lafur caled a hirfaith, yn fwy teilwng gan bobl ei ofal. Dyn yn gweithio yn ddiseibiant ddydd a nos i bobl eraill, "ar ei fwyd ei hun," heb ond ychydig iawn o gydnabyddiaeth oedd efe. Gallai na ddysgodd yntau mo'r wers briodol ar y ddyledswydd o gyfranu, fel y dylasai, i'r eglwysi oedd dan ei ofal. Gallai ei fod yn rhy wylaidd yn nechreu ei weinidogaeth i alw eu sylw at y mater costus hwnw; a'i fod trwy golli yr adeg briodol, fyth wedi hyny yn rhy wan i'w wneuthur yn effeithiol. Y mae yn ddigon gwir ei fod ef yn llawer mwy cymhwys i drin. Arfaeth ac Etholedigaeth, Pechod gwreiddiol a gweithredol, Dylanwad Dwyfol a Pharhad mewn gras, nac i drin pwngc arianol oedd yn dal y fath berthynas âg ef ei hunan. Pa fodd bynag y bu iddo fethu dysgu i'r bobl gyfranu at ei gynhaliaeth, costiodd hyny iddo ef orfod trin y byd, fel amaethwr, ar hyd ei oes, a byw, efe a'i deulu, ar adnoddau oeddynt felly yn annibynol ar haelfrydedd yr eglwysi.


PENNOD IV.

TERFYNIAD EI OFALON GWEINIDOGAETHOL YN RHYDYMAIN A'R BRITHDIR.

Llythyr y Parch. H. James-Mr. Jones a Williams, o'r Wern, yn y Dinas-Diffyg addysgu pobl ei ofal mewn haelioni-Cyflog chwarterol- Cynghori yr eglwysi í ddewis olynydd iddo-Galwad y Parch. H. James-Ei dynerwch yn dysgyblu-Ei lymder os gwelaí angen-Yn darostwng hunanolrwydd gwr ieuangc yn y sciat yn Nolgellau-Cyng- hori ei olynydd o barthed ymholiadau ac ymofynion rhai o hen Dduwinyddion y lleoedd hyn, &c., &c.

Crybwyllwyd eisoes, ddarfod i Mr. Jones ymrhyddhau oddiwrth ei ofalon gweinidogaethol yn y Cutiau oddeutu y flwyddyn 1819; a bod gofal Llanelltyd wedi ei ranu rhyngddo ef a'i gyfaill Mr. Davies, Trawsfynydd. Bu gofal Rhydymain a'r Brithdir arno ef yn unig, mewn cysylltiad a Dolgellau ac Islaw'rdre am ugain mlynedd yn ychwaneg. Fel yr oedd yn prysur ddringo tua thriugain oed, a'i wrandawyr yn lluosogi, a'r aelodau yn yr eglwysi yn amlhau, dechreuodd farnu a theimlo y byddai yn well iddo gyfyngu cylch ei lafur i Ddolgellau, Islaw'rdre, a Llanelltyd. O ganlyniad anogodd. y gynnulleidfa yn Rhydymain a'r un yn y Brithdir, i ymuno a'u gilydd i fod yn feusydd gweinidogaeth newydd, ac i wahodd gwr ieuangc teilwng i'w mysg i lafurio. Gwrandawodd y bobl ar eu hen athraw, a gwahoddasant Mr. Hugh James, o Ddinas Mawddwy, i ddyfod i'w plith. Cymerodd y cyfnewidiad hwn le yn y flwyddyn 1839. Caiff y Parch. Hugh James ei hun egluro y symudiad hwnw yn mhellach yn y Llythyr canlynol:—

LLYTHYR Y PARCH. H. JAMES.

"Yr oeddwn yn adnabod fy hybarch hen gyfaill Mr. Jones, er pan oeddwn yn ieuangc iawn; yn gymaint ag nad oedd ond deng milldir o ffordd o'm cartref i, i'w gartref ef. Clywais ef yn pregethu lawer gwaith, yn Dinas Mawddwy a'i hamgylchoedd, er yn blentyn. Byddai yn dda genyf ei wrando bob amser, yn enwedig pan gaffai 'hwyl,' gan fod ei lais yn hynod beraidd a soniarus. Ond nid yn aml iawn y byddai efe yn cael hwyl. Lled hamddenol y byddai efe yn pregethu y rhan amlaf. Y tro cyntaf y mae genyf gôf am dano ydoedd, yn pregethu yn y Dinas ar ganol dydd gwaith, gyda'i hen gyfaill Williams, o'r Wern.' Nid wyf yn cofio ei destyn; ond yr wyf yn cofio yn dda brif bwnge ei bregeth, sef 'Dadymchwelyd esgusodion a gwrthddadleuon esgeuluswyr ac oedwyr iechydwriaeth.' Ymddangosai i mi ei fod yn hynod fedrus gyda'i waith. Gwnaeth ei sylwadau argraff ddwys ar fy meddwl. Yr oeddwn i yn tybied ei fod yn rhagori y tro hwnw, ar yr hen 'seraph' Mr. Williams. Byddai yn hawdd i mi ysgrifenu llawer o bethau am dano; ond gan fod dymuniad i mi ysgrifenu ychydig ar 'Derfyniad ei weinidogaeth yn Rhydymain a'r Brithdir;' yn gymaint ag mai myfi ydoedd ei olynydd, yn y manau hyny, am y tair blynedd cyntaf wedi iddo roddi eu gofal i fyny, rhaid i mi gyfyngu fy hunan at y mater hwnw. "Nid dim annghydfod rhyngddo a neb o'i hen gyfeillion yn Rhydymain a'r Brithdir oedd yr achos iddo ymadael à hwy; ond cylch ei weinidogaeth a'i lafur oedd wedi myned yn rhy ëang, a mawr angen am gael dyn ieuangc i'w gynnorthwyo. Dyna yr unig reswm dros ei ymadawiad â hwy. Yn Llanbrynmair, yn cadw yr ysgol ddyddiol, ac yn cynnorthwyo y Parch. Samuel Roberts, y treuliais y flwyddyn olaf cyn myned i'r Brithdir a Rhydymain. Cefais alwad i fyned yno am dri neu bedwar mis ar brawf, wedi ei harwyddo dros yr Eglwys, gan Mr. Jones a'r diaconiaid yn y ddau le. Wedi i dymhor y prawf ddyfod i fyny, cefais alwad drachefn i aros ac i weinidogaethu yn eu mysg, wedi ei hysgrifenu ganddo ef, a'i harwyddo gan yr holl aelodau. Yn yr holl bethau hyn, yr oedd yr eglwysi yn gweithredu yn ol ei gyfarwyddiadau ef. Ni wnaent ddim. heb ymgynghori ag ef. Ac ymddengys i mi iddo roddi iddynt gynghorion doeth a phriodol iawn. Byddai yn dda, yn ol fy marn i, pe byddai dynion ieuaingc etto yn y dyddiau hyn, yn derbyn galwadau gan eglwysi ar brawf am ychydig fisoedd, fel y gallent hwy gael prawf o'r eglwysi, a'r eglwysi gael prawf o honynt hwythau, cyn cael eu 'hordeinio.' Rhagflaenai hyny lawer gwaith, lawer o ofid i eglwysi a gweinidogion. Y mae llawer eglwys, a llawer gweinidog, wedi cael achos i edifarhau o herwydd gwneyd gormod o frys i gael cyfarfod 'ordeinio.' Yr oedd eglwysi Rhydymain a'r Brithdir yn parhau i ymgynghori â Mr. Jones ar bob achos o bwys, am yspaid fy arosiad i yn eu plith; ac nid oeddwn mewn un modd yn tramgwyddo wrthynt am hyny, o herwydd gwyddwn nas gallent byth ymgynghori a neb yn meddu cymaint o bwyll, doethineb, a phrofiad. Yr oeddynt yn cael cyfleusderau i hyny yn aml, trwy ei fod ef a minnau yn newid pulpudau a'n gilydd un waith yn y mis, a hyny ar gais y cyfeillion yn Nolgellau yn gystal a Rhydymain a'r Brithdir. Cefais fy hunan lawer o gynghorion gwerthfawr gan Mr. Jones, y rhai a wnaethant i mi les mawr. Yr oedd ol ei bregethau i'w gweled yn amlwg ar y cynnulleidfaoedd a arferent wrando arno yn Rhydymain a'r Brithdir. Yr oeddynt hwy yn debyg iawn iddo yntau. Yr oedd wedi argraffu ei ddelw ei hunan a delw ei bregethau arnynt yn amlwg iawn. Prif hynodrwydd ei wrandawyr a phobl ei ofal ydoedd, hoffder o bregethau ar byngciau athrawiaethol Cristionogaeth. Ni wnaent fawr o sylw o bregethau bychain ar ddyledswyddau ymarferol crefydd. Yr oeddynt yn awyddus iawn i 'fwyd cryf;' ac yr oedd amryw of honynt yn dduwinyddion cryfion a dwfn, yn hoff iawn o ymresymu ar byngciau; gofyn barn y gweinidog yn nghylch pethau dyrys duwinyddiaeth,' ac am esboniad ganddo ar adnodau tywyll a dieithr. Yr oeddynt yn nodedig am y pethau hyn, yn enwedig yn Rhydymain.

"Ar ddechreuad fy ngweinidogaeth yno, dywedodd Mr. Jones wrthyf un tro, 'Dichon y bydd y cyfeillion yn y ddau le, yn enwedig Rhydymain, yn gofyn i chwi lawer o gwestiynau lled anhawdd eu hateb, ar byngciau efallai, na feddyliasoch. fawr am danynt erioed; ac eisiau esboniad genych ar ambell adnod led dywyll a dieithr i chwi. Peidiwch a rhoddi atebiad byrbwyll ac uniongyrchol iddynt. Holwch chwi dipyn arnynt hwy yn gyntaf yn nghylch y pwngc neu yr adnod a fydd dan sylw. Peidiwch a chymeryd arnoch eich bod yn anwybodus, pe digwyddai i chwi fod felly, ond holwch y naill ar ol y llall, a mynwch wybod eu barnau hwy, ar destyn yr ymddiddan. Trwy hyny cewch chwithau amser i feddwl, a ffurfio barn ar y mater, ac yn y diwedd dywedwch ychydig o'ch barn yn gynnil ac yn anmhenderfynol ar y pwngc.' Gwnaeth y cynghor uchod i mi lawer o ddaioni. Bu ymddwyn yn ei ol, yn foddion i'm cadw rhag llawer cyfyngder.

"Nid oedd yr hen frawd parchus wedi dysgu llawer ar bobl ei ofal a'i wrandawyr mewn haelioni crefyddol. Yr oeddynt yn mhell iawn yn ol yn y 'gras hwnw.' Pan ddeuai pregethwr dieithr heibio i bregethu ar Sabboth neu noson waith, lletty cyffredin iawn a ga'i i gysgu, yn nhy hen ferch dduwiol yn ymyl capel Rhydymain. A chwech cheiniog y bregeth oedd y degwm cil dwrn' a ga'i gan, y diacon, am ei lafur, heblaw y lletty a bwyd. Un waith yn y chwarter blwyddyn y byddent yn casglu at y weinidogaeth sefydlog, ac yn talu ei gyflog i'r gweinidog. Clywais fod un o'r diaconiaid yn y Brithdir (yr hwn sydd etto yn fyw) yn cymeryd Mr. Jones o'r neilldu un tro, ar ddiwedd cyfeillach grefyddol, i dalu iddo 'arian y weinidogaeth,' am y chwarter blwyddyn, a hyny pan oedd mwy na hanner y chwarter arall wedi myned heibio, ac yn rhoddi pum' swllt yn ei law yn lled wylaidd. Wel, a ddoist ti? ebe Mr. Jones, 'bu agos i ti fy annghofio i y tro hwn. Ai hyn sydd genyt ti yn y diwedd? rhyfedd mor orchestol y daethost! Wel hi ddaw yn well tybed y tro nesaf, oni ddaw hi?' eb efe, a gwên ar ei enau. 'Gobeithio y daw hi,' ebe'r hen ddiacon, dan chwerthin. Ac ymadawodd y ddau dan wasgu ac ysgwyd dwylaw mor serchog a phe buasai newydd dderbyn papyr pum' punt ganddo.

"Hynaws, tyner, a phwyllus iawn y byddai efe yn arfer bod 'braidd' bob amser, mewn cyfeillachau crefyddol, a chyfarfodydd eraill. Ond medrai fod yn llym iawn weithiau, os byddai achos. Clywais y cyfeillion yn adrodd, ei fod gyda hwy yn Rhydymain un tro, mewn pwyllgor, pan yn rhoddi ei weinidogaeth i fyny yn eu plith, yn ymgynghori yn nghylch cael olynydd iddo. Yr oedd yno amryw ddynion ieuaingc yn y cyfarfod hwnw gyda'r hen frodyr. Ond yr oedd yr ieuengctyd oll yn bur ddistaw, ac yn gadael y siarad i'r hen gyfeillion a Mr. Jones, oddieithr un dyn ieuangc; yr oedd y cyfaill hwnw yn siarad cryn lawer, ie, 'braidd' fwy na'i ran. "Taw di machgen i,' ebe Mr. Jones, 'gad i'r hen bobl ddyweyd eu meddwl.' Tawodd y dyn ieuangc dros ychydig amser, ond dechreuodd siarad drachefn cyn hir. Taw R-b-n, bydd ddistaw,' ebe yr hen weinidog. Pan oedd y cyfeillion wedi twymno wrth ymddiddan, yr oedd yr ysbryd yn cynhyrfu y gwr ieuangc drachefn i siarad, 'Os na fedri di fod yn ddistaw R-b-n, rhaid i ti ymadael a myned allan,' ebe Mr. Jones. Bu y ddysgyblaeth lem hon yn effeithiol i roddi taw arno am y noson hono. Bu y ddau er hyny, yn gyfeillion mawr tra bu Mr. Jones byw, o leiaf, yr oeddynt felly tra y bum i yn yr ardal. Yr oedd Mr. Jones yn hynod o fedrus i ddarostwng ambell ddyn ieuangc balch a hunanol. Cof genyf fod unwaith gydag ef yn y gyfeillach grefyddol yn Nolgellau. Yr oedd yno ddyn ieuangc lled hunanol yn eistedd yn agos i'r bwrdd. Gofynodd Mr. Jones iddo, 'A oes dim ar dy feddwl di E-n a chwenychet ei ddywedyd?" Cododd y gwr ieuangc ar ei draed, a dechreuodd siarad yn ddoctoraidd iawn ar ryw bwngc o athrawiaeth, ond dim yn nghylch ei gyflwr fel pechadur. Ar ol iddo siarad yn faith ac yn dywyll. 'Ho! fel a'r fel yr wyt ti yn meddwl ai ê?' ebe Mr. Jones. Dywedodd y gwr ieuangc ychydig yn mhellach ar y pwngc; ond yr oedd yn dechreu myned i'r niwl. Holodd yr hen weinidog ef drachefn, a pharhaodd i'w holi, nes iddi fyned yn nos dywyll arno. Ni wyddai yn y byd pa beth i'w ddyweyd. Yna gadawodd ef yn nghanol y tywyllwch, gyda dyweyd wrtho, 'Yr wyt ti yn fachgen gwych; darllen a myfyria ychwaneg ar y pwngc yna; ti ddoi di yn dduwinydd da bob yn dipyn.' Yr oeddwn i ac amryw eraill yn cael difyrwch mawr wrth wrando arno yn darostwng y dyn ieuangc hunanol, mor ddidrafferth, trwy ddangos iddo ei anwybodaeth.

"Treuliais lawer darn diwrnod yn ei dy, ac yn ei gymdeithas ef a'i briod hawddgar a charedig, yn ysbaid y tair blynedd y bum yn y Brithdir a Rhydymain. Buom yn dadlu llawer o dro i dro, ar wahanol byngciau, yn enwedig pyngciau duwinyddol.

"Yr oedd efe yn ddadleuwr pwyllus a medrus iawn. Ni ddywedai fawr o'i olygiadau ei hunan ar y pwngc mewn dadl, os gallai beidio. Ond holai ei wrthwynebwr yn hynod o fanwl, gwasgai ef i gongl, a byddai yn dra sicr o fod yn rhwym ganddo mewn cadwynau yn dra buan, os na byddai a'i lygaid yn agored yn edrych ato'i hunan. Cefais ef bob amser yn gynghorwr, a chyfarwyddwr doeth a gwybodus, ac yn gyfaill cywir a charedig. Daeth gyda mi o Gefnmaelan i gapel Penarth, ger Llanfair, Maldwyn, ar adeg fy mhriodas; a bu ef a'r Parch. James Davies, y pryd hwnw o Lanfair, yn cydweinyddu ar yr achlysur. Byddai yn dda genyf weled ei wyneb siriol bob amser y cyfarfyddem a'n gilydd wedi i mi ddyfod i Lansantffraid; a mawr yr ysgwyd dwylaw a fyddai rhyngom. Ac y mae yn chwith genyf fyned i Ddolgellau heb ei gyfarfod fel arferol, i gyfarch gwell i'n gilydd. Ond nis gwelaf ef mwy ar y ddaear.

Marw mae nghyfeillion goreu,
Blaenu maent i'r ochr draw;
Draw ar diroedd rhyw wlad arall
Byddaf finau maes o law."


Marw a wnelwyf o farwolaeth yr uniawn, a bydded fy niwedd i fel yr eiddo yntau.'"

PENNOD V.

YN YMDDIOSG O'I OFALON GWEINIDOGAETHOL YN NOLGELLAU AC ISLAW'RDREF.

Ei arferiad o newid Sabboth bob mis â'i olynwyr yn Rhydymain a'r Brithdir—Henaint a'i gymdeithion—Galwad Mr. T. Davies, o Goleg Aberhonddu—Y cyfarfod urddo—Dechreuad cyfnod newydd yn Nolgellau—Llythyr yr hen weinidog at yr eglwysi, a'i ddarlleniad ganddo—Y teimladau ar y pryd—A'r rhagolygon dyfodol.

Wedi sefydliad gweinidog yn Rhydymain a'r Brithdir, yr oedd maes llafur Mr. Jones yn llawer cyfyngach nag y buasai erioed o'r blaen. Nid oedd ganddo o hyny allan ond Dolgellau, Islaw'rdref, a Llanelltyd i ofalu drostynt; ond arferai newid Sabboth yn fisol gyda Mr. James, ac a'i olynydd, Mr. Ellis; ac felly yr oedd yn cael cyfleusderau yn fynych i droi yn mysg ei hen ddysgyblion yn y manau a fuasent dan ei arolygiaeth. am wyth ar hugain o flynyddau. Yr oedd hyny yn hyfrydwch mawr iddo, ac yn ychydig o ysgafnhad ar ei lafur gweinidogaethol.

Bu yn ymroddgar a diwyd iawn yn y weinidogaeth yn Nolgellau a'r lleoedd eraill oeddynt dan ei ofal, am bedair ar bymtheg o flynyddoedd wedi iddo roddi gofal Rhydymain a'r Brithdir i fyny. Byddai yn bresenol yn mhob cyfarfod y gallai ei gyrhaeddyd, ac yr oedd ei wybodaeth, ei bwyll, a'i ddoethineb, "yn sefyll gydag ef" bob amser. Bu yn "was da a ffyddlon" i'w Arglwydd ac i'w bobl, a llanwodd ei gylch yn anrhydeddus, ac er boddlonrwydd mawr i'r cynnulleidfaoedd yn gyffredinol. Er hyn oll, yr oedd bellach yn tynu i gryn oedran, ac ni ddaw henaint heb ei gymdeithion gwywedig gydag ef; a dechreuodd ef ac eraill farnu, fod eisieu gweinidog ieuengach nag ef yn Nolgellau, a bod yr adeg gerllaw, pryd y byddai yn ddoeth iddo gilio o'r neilldu, i roddi lle i rywun a fernid yn gymwys i fod yn olynydd iddo. Ymdrechwyd cael gan un o'r dynion mwyaf galluog a berthyn i'n cenedl symud i Ddolgellau i weinidogaethu; ond dyrysodd yr amcan hwnw. Yn nechreu y flwyddyn 1858, ymwelodd Mr. Thomas Davies, o Goleg Aberhonddu, â'r gynnulleidfa yno, a chafodd alwad unfrydol i ddyfod i weinidogaethu yn eu plith. Arwyddwyd yr alwad hono gan Mr. Jones yn gyntaf oll; a phan ddaeth adeg urddiad y gweinidog newydd, sef Gorphenaf 20, 21, 22, yn y flwyddyn a nodir uchod, ymddiosgodd yr hen weinidog yn gyhoeddus, o'i ofalon gweinidogaethol yn Nolgellau ac Islaw'rdref. Ysgrifenwyd hanes yr amgylchiad tarawiadol hwnw gan un oedd yn bresennol yn y cyfarfod, ac ni allwn wneuthur yn well na rhoddi y sylwadau hyny ger bron y darllenwyr, er eu bod yn cyfeirio at amryw o bethau sydd wedi eu crybwyll eisoes. Wele hwynt:—

"Gan nad beth a feddylir am natur ac amcan y seremoni o urddo, y cyhoeddusrwydd a weddai i'r amgylchiad, a'r personau yn briodol a weinyddant ar y fath achlysuron, y mae yr amgylchiad hwn yn eglwys Annibynol Dolgellau, yn gwisgo nodwedd arbenigol, ddyddorol, ac effeithiol. Yr oedd yr olygfa darawiadol ar adeg bwysig gwasanaeth yr urddiad, yn un a hir gofir! Yr oedd cyfarfod urddo yn Nolgellau yn beth hynod a dieithr; ac yr oedd yr amgylchiadau yn gyfryw na bu eu bath yn aml yn Nghymru, a lled debyg hefyd, na bydd eilwaith ar eu hol gydgyfarfyddiad tebyg ar fyrder. Yr oedd yr hen weinidog a weinyddasai ordinhadau santaidd y cysegr yn y lle am saith a deugain o flynyddoedd, yn diosg oddi am dano ei wisgoedd offeiriadol, gan eu harwisgo am ei olynydd, yn gosod dyddordeb ar y cyfarfod hwn. Bu llawer o son am y cyfarfod urddo, ac o ddarparu ar ei gyfer cyn iddo ddyfod. "Yr oedd argraff-wasg Brynhyfryd wedi bod yn parod. ddarpar argraff-nodau mewn cysylltiad â'r alwad, cynhaliaeth y gweinidog newydd, a chyhoeddiad dydd mawr yr urddiad. Gwasgarwyd lleni mawrion argraffedig yn bell ac yn agos, yn cynnwys programme o drefn y cyfarfod, gydag enwau y gweinidogion a weinyddent am wythnos gyfan.

"Y mae perygl pechadurus lawer canwaith wedi ei brofi trwy greu pryder a disgwyliadau mawrion, a disail, oddiwrth genhadau neillduol, gan addolwyr dynion, fel ag i beri gwywdra marwol i bob dylanwad da a theimladau dymunol mewn cyfarfodydd cyhoeddus. Y mae hyn wedi bod yn chwerw ofid i lawer o genhadau ffyddlonaf Crist, ac yn atalfa gadwynol ar y rhai galluocaf yn eu plith yn nghyflawniad eu cenadwri. Siomwyd y disgwyliadau, a thorwyd y cynlluniau yn absenoldeb Mr. Jenkins, Brynmawr; a Mr. Guion, Aberhonddu; y rhai yn ol yr arfaethiad oeddynt i gymeryd rhan yn ngwasanaeth y cyfarfod. Yr oedd yn bresennol hefyd rai gweinidogion. lled ddieithr nad oedd en henwau yn ysgrifenedig yn rhòl gwasanaeth yr urddiad, ond yr oedd yn rhaid i'r arfaeth yn ol y rhagwybodaeth sefyll. Daeth yn nghyd hefyd luaws of wyr bucheddol yn mhlith brawdoliaeth y Sir, y rhai yn ufudd a 'ofynent fendith' ar y blasus-fwyd a ddarparesid iddynt.

"Pregethwyd yn y gwahanol gyfarfodydd gan y Parchn. Davies, Maesycwmwr; Jones, Machynlleth; Griffiths, Caergybi; Williams, Castellnewydd; Roberts, Llundain; Roberts, Athraw, Aberhonddu; Stevens, Sirhowy; a Rees, Liverpool. "Y mae y cynhyrfiadau pryderus a gynyrchasai y disgwyliadau am y cyfarfod erbyn hyn, yn dechreu lliniaru, a churiadau y galon weithian yn fwy rheolaidd, ond ni a obeithiwn yr erys yr effeithiau er daioni tra llecha Dolgellau yn nghesail y Gadair, ac y golchir ei dyffryn gan ddwfr murmurawl yr Wynion.

"Y mae yr urddiad yn Nolgellau yn ddechreuad cyfnod newydd yn hanes yr eglwys Annibynol yn y lle. Nid yw achos yr Annibynwyr yn y dref yn rhyw lawer dros hanner cant oed. Dechreuwyd pregethu rheolaidd yno gan y diweddar Barch. Hugh Pugh, o'r Brithdir; efe a brynodd yr hen dŷ cwrdd, gan y brodyr y Trefnyddion Calfinaidd, ar safle yr hwn y mae yr addoldy hardd presenol yn sefyll; ond cyn iddo yn brin orphen cysylltiadau y pryniad, efe a fu farw yn mlodeu ei ddyddiau ac yn nghanol ei lafur. Yr oedd achosion Rhydymain a'r Brithdir wedi eu dechreu yn gynarach.

"Bu yr eglwysi yn y Brithdir, a Rhydymain, a'r cymydog- aethau o amgylch Dolgellau, mewn cryn bryder yn nghylch dewis olynydd i'w diweddar fugail Mr. Pugh. Yr oedd y diweddar Barch. D. Morgan, Llanfyllin, y pryd hwnw, yn ddyn ieuangc a'i gymwysderau gweinidogaethol yn prysur ymagor, yn mhlith yr enwad y bu ynddo, wedi hyny yn gymaint o addurn. Yr oedd Mr. Morgan, a Mr. J., wedi bod ar brawf yn mhlith y frawdoliaeth yn nghylch gweinidogaeth y diweddar Mr. Pugh, ac fel y mae bron yn ddieithriad yn dygwydd, yr oedd rhai yn lled dyn dros Mr. Morgan, ac eraill yn ffafrio Mr. J., rhai yn canfod rhagoriaeth y naill yn y pulpud a'r llall yn y Society, un yn melusder swynol ei ddawn, a'r llall yn ei sêl danllyd. Ac wedi i'r peth ddyfod. i ddigon o addfedrwydd, penderfynwyd yr ymdrechfa trwy bleidlais reolaidd y frawdoliaeth, a chafwyd y fantol yn ffafr Mr. J. Derbyniodd alwad unfrydol a chalonog oddiwrth yr eglwysi o Rydymain a'r Brithdir, a'r Cutiau gerllaw yr Abermaw, yn cynnwys dros bedair milldir ar ddeg o'r naill le i'r llall, heblaw y canghenau o amgylch Dolgellau. Cydsyniodd a'u cais, ac ordeiniwyd ef yn Nolgellau, yn 1811.

"Wedi i Mr. Williams, Castellnewydd, bregethu ar natur eglwys y Testament Newydd, ac i'r urddedig ateb y gofyniadau arferol, a ofynid gan Mr. Griffiths, Caergybi, yr oedd Mr. J. i weddio yr urdd weddi. Dacw fe, yn ymwasgu gan bwyll, drwy ei frodyr, ac yn araf esgyn grisiau yr areithle; safai unwaith etto yn ei hen bulpud y bu lawer canwaith, yn pregethu geiriau y bywyd o hono, ac nad oes ond dydd y cyfrif yn unig a ddengys yr effeithiau, ger gwydd cymanfa fawr yr holl ddaear. Yr oedd yr olwg batriarchaidd ar yr 'hen Olygydd' a'i wallt arianaidd yn disgyn yn esmwyth dros ei arleisiau, dan amgylchiadau cyffröus y cyfarfod, yn sefyll fel am y tro diweddaf, yn ei hen bulpud, ger bron ei hen gynnulleidfa, yn cymeryd ffarwel' a'i hen eglwys, dros yr hon y gwyliasai gyda thynerwch a gofal tad dros gynifer o flynyddau, gan adrodd ei brofiad, a gweddïo am lwyddiant ei olynydd yn hen faes ei lafur, yn effeithio yn ddwys ar deimladau y dorf fawr a safai y pryd hyny o'i flaen; rhedai afonydd o ddagrau dros ruddiau y gynnulleidfa, ac esgynai myrdd o ocheneidiau o galonau cynes hen adnabyddion; ac er galluoced Mr. J. i ddal amgylchiadau cyffrous, yr oedd hon yn ormod gorchwyl iddo yntau heb i'r dagrau weithiau ymddangos ar ei ruddiau a'i orchfygu ar brydiau gan ei deimladau. Yr oedd yr olygfa mewn gwirionedd yn darawiadol; cyn gweddio, darllenodd Mr. J. y llythyr canlynol, at yr eglwys a'r gynnulleidfa, ac nid rhyfedd, ei weled yn methu dal heb wylo wrth gyffwrdd â rhai hen adgofion:—

FY ANWYL FRODYR A CHWIORYDD YN YR ARGLWYDD,

Wrth adolygu y gorchwyl pwysig a gyflawnir mewn cysylltiad a'r eglwys Annibynol yn Nolgellau heddyw, y mae fy mynwes yn cael ei chwyddo gan deimladau cymysgedig, ac y mae lluaws o hen adgofion am y dyddiau gynt, a'r blynyddoedd sydd wedi myned heibio, yn ymdywallt ar draws eu gilydd ar fy meddwl.

Saith mlynedd a deugain i Galamai diweddaf—y pryd hyny yn ddyn ieuangc tuag 28ain oed-yr ordeiniwyd fi i'r weinidogaeth santaidd yn yr addoldy hwn, (ond ei fod ar ol hyny wedi ei adgyweirio rai gweithiau a'i helaethu). Yr oedd yr eglwysi a unent yn eu galwad mi y pryd hwnw, yn cynnwys Rhydymain, Brithdir, Cutiau gerllaw yr Abermaw, a Dolgellau; ac yr oedd Dolgellau yn cynnwys Islaw'rdref, Llanelltyd, a'r Ganllwyd, y rhai a ddenent i gymundeb i'r dref dros amryw flynyddau. Nid oedd yr aelodau eglwysig yn yr holl leoedd hyn yn nghyd, ond 113 mewn rhifedi, ac yr oedd yr holl addoldai, oddieithr Rhydymain, o dan lwyth trwm o ddyled. Parhaodd yr achos yn Nolgellau yn lled isel a gwanaidd dros amryw flynyddoedd, ond nid yn hollol ddigalon, trwy ffyddlondeb a diwydrwydd, graddol gryfhaodd, dygodd yr Arglwydd dystiolaeth i air ei ras, cynnyddodd y gwrandawyr, ychwanegodd yr Ysgol Sabbothol, ac amlhaodd yr aelodau eglwysig. Yn mhen tuag wyth mlynedd wedi fy sefydliad, annogais y cyfeillion yn y Cutiau, mewn undeb â Llanelltyd, i roddi galwad i Mr. Edward Davies, gynt o'r Allt, â'r hon y cydsyniodd, a bu yn gymeradwy dros amryw flynyddau, ac wedi hyny ymadawodd. Yn mhen ugain mlynedd ar ol hyny, annogais yr eglwysi yn Rhydymain a'r Brithdir, i roddi galwad i Mr. Hugh James, a'r hon y cydsyniodd, ac a lafuriodd yn gymeradwy iawn a llwyddianus hyd ei symudiad i Lansantffraid. Felly lleihawyd fy ngofalon gweinidogaethol i raddau yn y sefydliadau hyn; Dolgellau ac Islaw'rdref oeddynt bellach dan fy ngofal uniongyrchol, gan gydweinidogaethu â Mr. Ellis, yn awr o'r Brithdir, yn nghapel y Crynwyr, a Mr. Davies, o Drawsfynydd yn Llanelltyd. Ond fe ofyna rhyw un, A phaham y rhoddwch y weinidogaeth heibio yn y lleoedd hyn? Gallwn ateb, Fy mod yn ewyllysio ar fod Dolgellau ac Islaw'rdref yn un weinidogaeth, fel y mae wedi arfer a bod. Ac wedi i mi gael ar ddeall fod rhai personau yn eglwys y dref, yn tybied y gallaidyn ieuangach na myfi, wneyd mwy o wasanaeth i'r achos yn ein plith nag a allwn i yn fy oedran presennol, dywedais yr ystyriwn hyny yn bwyllog; gwnaethym hyny, a deuais i'r penderfyniad o annog yr eglwys yn Nolgellau i edrych allan am ryw un cymhwys i'r weinidogaeth yn eu mysg, a phan y byddent hwy fel eglwys yn uno i roddi galwad iddo, y byddai i minnau hefyd arwyddo y cyfryw alwad, ac ymddiosg oddiwrth rwymau fy ngofalon gweinidogaethol, a'u cyflwyno i'm holynydd. Yn nechreu y flwyddyn hon ymwelodd Mr. Davies, yr urddedig, â Dolgellau, ar gais rhai o honom, a'r canlyniad ydyw, fel y gwelir heddyw, iddo dderbyn galwad unfrydol oddiwrthym, a chydsynio a hi.

Y mae fy meddwl yn rhedeg yn ol yn naturiol iawn heddyw at fy hen frodyr anwyl a hoff a gymerent ran yn ngwasanaeth fy urddiad, y rhai sydd oll bellach yn gorphwys oddiwrth eu llafur. Yr oedd yn bresennol y pryd hwnw, Jones, o Bwllheli; Jones, o Drawsfynydd; Hughes, o'r Dinas; Dr. Lewis, Llanuwchllyn; Roberts, Llanbrynmair; Griffiths, o Tyddewi, (y pryd hwnw o Fachynlleth); Lewis, o'r Bala; Davies, Aberhavesp; a Roberts, o Lanfyllin, &c., ond y maent hwy oll erbyn heddyw wedi syrthio trwy law angeu, a myfi fy hunan yn unig a ddiengais i fynegu i chwi. "Y tadau, pa le y maent hwy? Y prophwydi, a ydynt hwy yn fyw byth?" Yr oeddwn i y pryd hwnw yr ieuangaf yn mhlith fy anwyl frodyr, ond gwelaf heddyw fy mod yr henaf yn nghyfarfod urddiad fy olynydd yn Nolgellau. {{center block| <poem> "Gwyn eu byd fy hen gyfeillion,

Aeth o'm blaen i'r porthladd draw;

Ar eu hol hwy dros y tônau,

Moriaf finau maes o law."

{{center block| <poem> Y mae yr aelodau eglwysig hefyd, y pryd hyny a arwyddent fy ngalwad, wedi rhodio y llwybr ar hyd yr hwn ni ddychwelant, oddieithr ychydig o weddillion; pump yn unig sydd yn fyw yn Nolgellau; ac y maent hwythau fel finnau erbyn hyn yn sefyll bron ar "erchwyn y beddrod,"

"Yn disgwyl ar angeu i agor ein bedd."

Heddyw y mae fy ngofal gweinidogaethol dros yr eglwys yn Nolgellau ac Islaw'rdref yn terfynu, a'm hundeb a hwynt, fel eu bugail dros 47 mlynedd yr awr hon yn cael ei ddatod; ond y mae yr effeithiau i barhau yn dragywyddol, ac fe'u teimlir byth mewn anfarwoldeb. Gwelais lawer o gyfnewidiadau pwysig yn y 47 mlynedd y bu'm yn y weinidogaeth yn Nolgellau, ac fe welir gan ryw rai lawer etto, fe allai fwy, yn y 47 mlynedd nesaf. Hebryngais lawer o hen bererinion Seion hyd lan afon marwolaeth, ymdrechais ddal allan oleuni y llusern i'r Cristion yn nghanol niwl glyn cysgod angeu, ac mi a ddilynais eu helor hyd lan y bedd, ond ni a gydgyfarfyddwn etto yn y dydd hwnw," mi hyderaf, ar ddeheulaw y Barnwr. Mi a obeithiaf yn ol y gras a roddwyd i mi ddarfod i mi wasanaethu fy nghenedlaeth yn ol ewyllys Duw, ac na bu fy llafur oll yn ofer yn yr Arglwydd. Yr wyf yn awr yn ewyllysgar gyflwyno fy ngofal gweinidogaethol i fyny

Methai Mr. Jones adrodd y llinellau uchod gan ei deimladau.

i'm hanwyl frawd ieuangc Mr. Davies, gan ddymuno iddo bob cysur, doethineb, a gras. Boed yr Arglwydd iddo yn blaid, ac yn coroni ei lafur a llwyddiant mawr. Bellach, frodyr, byddwch wych, byddwch berffaith, dyddaner chwi, syniwch yr un peth, byddwch heddychol, a Duw yr heddwch a fyddo gyda chwi. Amen.

"Wedi darllen y llinellau uchod gweddïodd Mr. J. mewn modd difrifol am i fendith y nef orphwys ar yr undeb newydd. Y mae yn llawen genym wybod fod yr eglwys eisoes, yn ymwregysu ei lwynau, ac yn tori allan waith i'w wneuthur yn y dref a'r cylchoedd; ni hyderwn y cryf heir eu breichiau, ac yr ânt rhagddynt o nerth i nerth. O hyn allan na thralloder neb o herwydd anffyddlondeb; boed iddynt fuddugoliaeth dawel, deg, ar ofnau ac amheuon; arweinier y fyddin i'r maes yn llwyddianus, ond na foed iddynt byth annghofio tywysog llu yr Arglwydd.

"Y mae genym air neu ddau, y gellir eu crybwyll mewn cysylltiad â'r urddiad yn Nolgellau.

"1. Pwngc pwysig a bendith werthfawr, ydyw i bob dyn adnabod ei hun, a'i ddyledswydd dan wahanol amgylchiadau ei fywyd. Yr oedd gan yr 'hen weinidog' yn Nolgellau ddigon o graffder, ac o hunanadnabyddiaeth, digon o synwyr, a digon o ras, i encilio o'r maes mewn adeg resymol a phriodol. Enciliodd wedi hir lafur, a llafur llwyddianus, a hyny cyn i'w wasanaeth brofi yn un anfantais i'r eglwysi a'r achos y bu yn llafurio er ei ddyrchafu. Y mae wedi derbyn ugeiniau i gymundeb yr eglwys yn Nolgellau yn mlynyddoedd diweddaraf ei weinidogaeth, ac nid yw y flwyddyn ddiweddaf oll, wedi bod heb iddo gael yr hyfrydwch o roddi deheulaw cymdeithas i luaws o bobl ieuaingc ei gynnulleidfa. Yn rhy aml, y mae engreifftiau yn cyfodi, efallai, o angenrheidrwydd amgylchiadau, pan y meddylia yr hen bobl fod ieuengetyd tragywyddol yn eu dilyn i ganol cymydogaethau nychol eu henaint, ïe, ac y syrthiai colofnau yr adeiladaeth ysbrydol pe collid eu gwasanaeth hwy. Peth mawr ydyw i bob dyn adnabod ei hun, dan wahanol gyfnodau bywyd.

"2. Y dylai yr eglwysi ddarpar yn deilwng go gyfer ag amgylchiadau y rhai sydd wedi poeni yn y gair, ac yn yr athrawiaeth, a'u hadeiladu mewn pethau ysbrydol. Y mae yr anghysonderau erchryslonaf i'w canfod yn nglyn a'r peth hwn; yn ddiau dylid gweithredu ar ryw reol fwy sefydlog, a chyson, na mympwyon dynionach anniolchgar, hunangar, a digrefydd.

"Gwir, i lawer un gael anghyfiawnder ar law eu meistriaid tir, nes eu llethu i iselder ysbryd ac amgylchiadau. Llafuriasant yn ddiflino dros adeg gweithio, i unioni yr hen wrychoedd ceimion, i arloesi a digaregu y gelltydd, i draenio yr hen swamps, ac i wrteithio y tir; adeiladasant ysguboriau newyddion, a phlanasant winllanoedd, ond gyda eu bod ar ben a'u cynlluniau, ac i'r tir ddyfod i sefyllfa i dalu: dyma notice to quit, oddiwrth y steward. Yr oedd y tenant erbyn hyn yn hen wr, a'i wallt yn wyn, ac yn analluog i weithio fel cynt, ond, yr oedd yn rhaid iddo fyned dros y drws i wneyd lle i gyfaill i'r goruchwyliwr annghyfiawn. Dyna dro melldigedig meddai pawb, ie, meddwn ninnau. Ond y mae yr un engreifftiau yn aml i'w cael ar feusydd mwy cysegredig na'r un yna; ceir hwynt o fewn cylch eglwysi yr Hwn ni wnaeth gam ac ni chaed twyll yn ei enau. Fe gyfodir cofadeiladau, o gydnabyddiaeth anrhydeddus i lafur hen arwyr rhyfel, ond gadewir hen arwyr ffyddlonaf Seion, cenhadon y groes, pregethwyr tangnefedd, i ymdaro ag ystormydd amgylchiadau yn eu nerth eu hunain, a chleddir eu henwau yn llaid hunanolrwydd. Ein dymuniadau goreu ar ran hen weinidog Dolgellau ydynt, 'ar i weddill ei ddyddiau fod yn llawer, a diddanus, a chaffed ddisgyn mewn tangnefedd i'w fedd, a'i gasglu at ei frodyr, a chydlafurwyr boreu a chanol-dydd ei fywyd, yn gyflawn o ddyddiau, parch, ac anrhydedd.' Ac i'r gweinidog newydd y dymunem hir oes, cysur, a llwyddiant mawr. Caffed ffafr gyda Duw a dynion.

PENNOD VI.

GWEDDILL EI WEINIDOGAETH YN LLANELLTYD A THABOR.

Lleihau ei ofalon fel y cynyddai ei oedran—Yn cydweinidogaethu a Mri. Davies, Trawsfynydd, ac Ellis, Brithdir Ymadawiad y Parch. T. Davies â Dolgellau—Ei gynorthwy yn absenoldeb gweinidog yn y lle—Llythyr oddiwrth Mr. Rowland Hughes.

Yr oedd Mr. Jones ychydig dros bymtheg a thriugain oed pan ymddiosgodd o'i ofalon gweinidogaethol yn Nolgellau ac Islaw'rdref. Gwelwn fod y Brenin Mawr yn dirion iawn o'i was, yn cyfyngu ei gylch yn raddol fel yr oedd ei oedran yn cynnyddu, ac yn ysgafnhau ei faich o bryd i bryd fel yr oedd gwendidau hen ddyddiau yn pwyso arno. Ni fwriodd ef ymaith "fel llestr heb hoffder ynddo," ond lleihaodd ei ofalon, a hyny yn y modd tyneraf, ac yn raddol iawn; a rhoddodd iddo amser i gael ei "anadl ato" yn niwedd ei oes. Meistr anrhydeddus yn ei ymddygiadau at ei hen weision yw yr Arglwydd. Ni ddisgwylia Efe i'w hen weision weithio a llafurio llawer wedi i'w nherth wanhau; ond disgwylia iddynt fod yn "dirfion ac iraidd yn eu henaint, i fynegu mai uniawn yw'r Arglwydd eu craig, ae nad oes anwiredd ynddo." Disgwylia i'r ieuangc, yr iach, a'r cryf wynebu pwys y dydd a'r gwres, a llafurio yn ddiarbed; ond y mae Efe yn cydymdeimlo a'i weision ffyddlon mewn henaint, ac yn darparu ar eu cyfer yn ol eu hamgylchiadau. Felly y gwnaeth Efe yn dirion gyda golwg ar y gwas ffyddlon hwn o'i eiddo.

Parhaodd Mr. Jones i lafurio yn Llanelltyd, fel cydweinidog â Mr. Davies, o Drawsfynydd, ac yn Tabor, fel cydweinidog a Mr. Ellis, o'r Brithdir, am naw mlynedd wedi sefydliad gweinidog yn ei le yn Nolgellau ac Islaw'rdref. Beth bynag a ellir ddywedyd yn erbyn cydweinidogaeth, y mae yn ffaith fod yr hybarch Cadwaladr Jones wedi bod yn gydweinidog a Mr. Davies dros ddeugain mlynedd, a thros lawer o flynyddoedd gyda Mr. Ellis, a hyny yr un pryd gyda y ddau. Ni chlywyd mo hono ef un amser yn cwyno rhagddynt hwy, na hwythau rhagddo yntau. Buont yn hollol heddychol a dedwydd gyda eu gilydd. Mae y ffaith hon yn werth ei chofnodi ac yn werth ei myfyrio yn dda. Pe byddai mwy o synwyr cyffredin, gwybodaeth, gostyngeiddrwydd, a hunan-ymwadiad yn ein plith, byddai cydweinidogaeth, dan amgylchiadau fyddont yn galw am hyny, yn fwy parchus ac yn fwy llwyddianus yn ein heglwysi nag ydyw; ac yn sicr y mae yn berffaith ysgrythyrol ac apostolaidd.

Heblaw cadw ei gylchoedd yn y ddau le a nodwyd, gyda diwydrwydd a ffyddlondeb difwlch, pregethai yr hen weinidog hybarch lawer ar y Sabbothau, ac ar ddyddiau eraill, mewn amrywiol fanau, pell ac agos, hyd derfyn ei yrfa.

Ymadawodd y Parch. T. Davies a Dolgellau, ac wedi hyny bu dda i'r gynnulleidfa yn y dref, a'r un arall yn Islaw'rdref, gael cyfranogi o ofal tadol eu hen arweinydd am rai blynyddoedd drachefn; a gwyr ysgrifenydd y llinellau hyn eu bod yn agos iawn at ei galon yn ei ddyddiau diweddaf, fel y buasent bob amser cyn hyny.

Byddai ef yn wastad at eu galwad i gadw cyfeillachau crefyddol, i ymweled a chleifion a thrallodedigion, i weinyddu mewn priodasau, bedyddiadau, a chladdedigaethau, ac i'w cynnorthwyo mewn unrhyw fater dyrus a thywyll. Yr oeddynt hwy yn gwybod am werth ei gynghor ef, ac yn awyddus am dano, ac yr oedd yntau yn barod i'w gwasanaethu hwythau ar bob achlysur.

Caiff y llythyr canlynol wneyd i fyny y gweddill o'r bennod hon. Ysgrifenwyd ef gan bregethwr parchus yn Nolgellau, am gymmeriad yr hwn yr oedd gan Mr. Jones y meddyliau uchaf. Er nad yw y llythyr i gyd ar bwngc y bennod hon, esgusoder hyny; ni feiddiwn ei dalfyru:—

At y PARCH. R. THOMAS, Bangor.

ANWYL GYFAILL,—

Cefais y fraint o adnabod Mr. Jones a bod yn ei gyfeillach, am tua phymtheng mlynedd ar hugain, yn ystod pa rai y cefais ef, bob amser, yn gyfaill cywir, ffyddlon, a gonest. Mae rhai dynion po fwyaf adnabyddus y deuir o honynt, mwyaf yr ydys yn ymbellau oddi wrthynt; ond nid dyn felly oedd Mr. Jones: na, po hwyaf y byddid yn ei gyfeillach ef, mwyaf yn y byd y byddid yn ei hoffi a'i garu; a byddai ei ymddyddanion, bob amser, yn rhydd, pwyllog, a difyrus, ac nid ydwyf yn gwybod i mi erioed ei glywed yn amcanu at absenu undyn. * * * Un o'i hynodion, fel dyn cyhoeddus, oedd ei barodrwydd i ddyfod allan i bleidio pob achos a farnai ef yn achos teilwng a da. Er fe allai y byddai yn lled bwyllog gyda hyn, fel gyda phob peth arall. Cymerai ddigon o amser i ystyried pob symudiad newydd, yn ei holl gysylltiadau, cyn rhoddi ei gefnogaeth a'i ddylanwad o'i blaid. Ond ar ol iddo gael ei argyhoeddi fod y symudiad yn un da, teilwng, ac anrhydeddus, deuai allan o'i blaid yn ddiofn, a rhoddai ei holl ddylanwad a'i gefnogaeth er ei hyrwyddo yn mlaen yn fwy llwyddianus. Er engraifft-Daeth allan yn mhlith y rhai cyntaf fel pleidiwr a chynnorthwywr i Gymdeithas y Beiblau, a pharhaodd yn ffyddlon, fel y cyfryw, hyd ei ddyddiau diweddaf, am yr yspaid maith o 50ain mlynedd, o leiaf; a chan belled ag yr wyf fi yn gwybod, ni fu yn absenol o'r un o gyfarfodydd y Gymdeithas, yn y dref hon, yn ystod yr holl flynyddoedd a nodwyd. Byddai efe yn ei le bob amser, fel y teimlid chwithdod mawr yn y cyfarfod a gynhaliwyd ddiweddaf tra y bu efe byw, i weled ei le ef yn wag. Ond yr oedd efe y pryd hwnw ar ei glaf wely, a bu farw yn mhen ychydig wythnosau wed'yn. Hefyd, pan y cytunwyd gan yr enwadau Ymneillduol i gael Ysgol Frytanaidd i'r dref, daeth yr Hen Weinidog" allan, a rhoddodd ei holl ddylanwad gyda'r symudiad, a pharhaodd yn gyfaill a chefnogwr i'r achos hwn hyd ddiwedd ei oes.

Yr oedd yn bleidiwr selog i'r achos dirwestol. Bu ef, a'r diweddar Robert Griffith, o'r dref hon, am yspaid maith yn pregethu ar yr achos dirwestol, yn ngwahanol gapelydd y dref. Yr wyf yn ei gofio yn dda un tro yn traddodi pregeth ar y mater hwn, oddi wrth y geiriau "Melldithiwch Meros;" a gwnaeth un sylw a gafodd effaith neillduol arnaf fi, sef, "fod arno ef ofn sefyll draw oddi wrth yr achos dirwestol, rhag ofn i felldith Duw syrthio arno ef, neu ar ei deulu." Dywedai fod gan Dduw filoedd o ffyrdd i lwyddo, neu i aflwyddo dynion. Nid oedd yn rhyw hoff iawn o'r "Cyfarfodydd Llenyddol," er y byddai yn aml yn rhoddi ei bresenoldeb yn y rhai hyn. Ond credwyf y byddent, yn y cyffredin, yn cael eu dwyn yn mlaen mewn dull rhy ysgafn a gwageddus ganddo ef; o'r hyn lleiaf, cefais le i gasglu hyny oddi wrth ei agwedd yn un o'r cyrddau hyny. Yr oedd y steam wedi ei godi i'r eithafoedd pawb mewn hwyl, ac yn barod i chwerthin, a bod yn llawen; ond eisteddai yr hen wr yn eu canol, a'i wynebpryd fel gwynebpryd angel, yn sobr a difrifol, a danghosai ei holl agweddiad yr annghymeradwyaeth llwyraf o'r dull ysgafn a gwageddus y cerid y cyfarfod yn mlaen. Gallaf dystiolaethu, hefyd, ei fod yn neillduol o barchus o bregethwyr cynnorthwyol ei gylch gweinidogaethol. Yr wyf yn credu na chlywyd ef erioed yn taflu un math o ddiystyrwch nac anfri ar y rhai hyny; ond rhoddai bob cefnogaeth iddynt, drwy eu galw i ddechreu yr oedfa o'i flaen ef, neu i ddywedyd gair yn y gyfeillach, ar ol yr oedfa; ac yn mhob man arall lle byddai yn gyfleus iddynt wneyd. Ystyriai efe hwynt yn frodyr, a chynnorthwywyr, a pharchai hwynt fel y cyfryw.

Yr un fath oedd ei ymddygiad tuag at y "Myfyrwyr" hefyd. Byddai yn siriol a charedig wrth y rhai hyny. Pan ddeuent heibio ar eu taith, elai efe gyda hwynt i'r manau lle y llettyent, ac ymddyddanai, yn rhydd a chyfeillgar a hwynt am hir amser. Byddai yn hoffi eu cyfeillach, yn dirion o honynt, ac yn barod i roddi pob cynghor daionus iddynt; a'u tystiolaeth hwythau, ar ol iddo fyned ymaith, fyddai bob amser, "Y mae Mr. Jones yn hen wr tirion a chyfeillgar iawn." Clywais y geiriau yna gan luaws o Fyfyrwyr ar ol iddynt fod gydag of am hir amser yn fy nhŷ, gan mai gyda myfi, yn y cyffredin, y byddai y Myfyrwyr yn llettya. Gallaf ddwyn tystiolaeth i'w barodrwydd bob amser i gynnorthwyo hefyd, gan nad pa un ai pethau tymhorol ai pethau ysbrydol fyddai eisiau. Os cynghor fyddai eisiau, yr oedd bob amser yn barod i'w roddi, ac yn sicr o roddi y cynghor gorou, yn ol ei feddwl ef; neu os gwelai dylawd mewn eisiau, ni fedrai droi ei gefn arno heb ei gynnorthwyo. Ni wnai efe un gwahaniaeth i'r rhai hyny oedd heb fod yn perthyn i'r un blaid grefyddol ag ef. A thrwy ei ymddygiad tirion fel hyn, yr oedd wedi ennill serch pawb—Eglwyswyr, yn gystal ag Ymneillduwyr—plant, yn gystal a rhai mewn oed. Byddai hyd yn oed meddwon cyhoeddus y dref, a'r dyhirod penaf yn yr ardal, yn talu parch iddo pan gyfarfyddent ag ef.

Yn mlynyddoedd diweddaf ei oes, cyfyngodd ei ofal gweinidogaethol i Llanelltyd a Thabor, ond arferai fyned yn fisol i'r Cutiau, Rhydymain, a'r Brithdir. Parhaodd yn ffyddlon yn y cylch hwn hyd o fewn ychydig wythnosau i'w farwolaeth. Yr oedd ei bryder yn fawr, a'i ofal yn fawr iawn dros lwyddiant yr achos, yn enwedig yn Llanelltyd a Thabor. Ai atynt yn ol ei "gyhoeddiad" trwy bob tywydd, i'r gyfeillach wythnosol yn gystal a'r Sabbothau. Anaml iawn y cymerai ef ei attal gan wlaw, nac eira, tywyllwch y nos, nac ystormydd geirwon y gauaf; ond gellid bob amser ymddibynu arno, os byddai wedi ei gyhoeddi i fod yn bresenol. Deuai yno bob amser, a hyny weithiau yn wyneb llawer o afiechyd a llesgedd.

Yr wyf yn cofio un Sabboth yn neillduol, pan oeddwn yn dyfod o'r Ganllwyd, digwyddais droi i Lanelltyd. Gwyddwn ei fod ef i fod yn pregethu yno y nos Sabboth hwnw, ac yr oedd wedi bod yn y Cutiau am "ddau." Cwynai nad oedd yn teimlo yn dda, ac erfyniodd arnaf bregethu yn ei le, a gwnaethum hyny. Ond yr wyf yn meddwl na phregethodd efe byth mwy yno. Hwn oedd y tro diweddaf y bu yno, ac yr oedd ychydig wythnosau cyn iddo fyned oddi wrth ei waith i dderbyn ei wobr.

Bu o wasanaeth mawr iawn i'w hen eglwys, yn Nolgellau, yn ei flynyddoedd diweddaf, drwy fod yn barod ar bob adeg y gelwid arno —i fedyddio, neu gladdu, neu briodi, neu unrhyw orchwyl arall a allai efe wneyd, yr oedd yn ewyllysgar i'w gyflawni; a byddai yn hoff iawn genym ei weled yn y gadair tu ol i'r bwrdd yn y cyrddau eglwysig. Byddai hyd yn nod ei bresenoldeb, pe dim ond hyny, yn gyfnerthiad mawr i ni fyned yn mlaen. Gwnai ei holl waith yn ei gysylltiad a'r eglwys hon, yn y blynyddoedd diweddaf, heb un olwg am elw bydol; ond ni chlywyd ef yn cwyno un amser am hyny. Ni roddai i fyny i weithio tra gallodd gael nerth i ddyfod allan; ac er ei fod wedi ei gaethiwo, am rai wythnosau, i'w wely, yr oedd ei feddwl o hyd yn parhau yn fywiog a gweithgar. Y tro diweddaf y cefais gyfleustra i ymddiddan ag ef, wrth erchwyn ei wely, yr oedd golwg siriol a hawddgar arno. Dywedai ei fod yn parotoi pregeth, gan obeithio y cai eto fyw i bregethu tipyn yn Llanelltyd a Thabor.

Ychydig Sabbothau cyn hyny yr oedd wedi traddodi ei bregeth ddiweddaf, yn Tabor, oddiar y geiriau,—"Y mae hwn yn derbyn pechaduriaid."

Yn ei flynyddoedd diweddaf yr oedd yn hoff iawn o bregethu am brydferthwch ei Waredwr, a gogoniant y nefoedd. Yr oedd y pethau hyn wedi llanw ei feddwl gymaint fel yr oedd yn son am danynt bron yn ei holl bregethau, y blynyddoedd diweddaf. O! mor ardderchog y darluniai y Jerusalem nefol—sanctaidd ddinas ei Dduw, a'i brenin yn ei degwch. Mor hoff oedd efe o son am Iesu, fel Oen yn cael ei arwain i'r lladdfa! ac mor ardderchog y darluniai yr olwg arno yn dyfod ar gymylau'r nef, i farnu y byw a'r meirw!

Bu farw yn hollol fel y bu fyw, yn dawel o ran ei feddwl, yn hollol ddigyffro—"ni frysia yr hwn a gredo." Ehedodd ei ysbryd ymaith pan oedd o ran ei feddwl gyda'r gwaith o "ranu yr ordinhad o Swper yr Arglwydd," yn llawn gwaith, ac yn ymhyfrydu ynddo. "Marw a wnelwyf o farwolaeth y cyfiawn, a bydded fy niwedd i fel ei ddiwedd yntau," ydyw dymuniad ei hen gyfaill,

ROWLAND HUGHES.

PENNOD VII.

EI FARWOLAETH A'I GLADDEDIGAETH.

Pob peth ar y ddaear yn darfod—Sabboth gyda y Methodistiaid yn Llanuwchllyn—Ei bregeth olaf yn y Brithdir a Thabor—Yn gwywo yn araf a naturiol—Teimlo ei hun yn dadfeilio—Trefn y nef yn iawn—Llythyr at y Gohebydd oddiwrth ei fab—Ei gladdedigaeth—Llwyddiant ei lafur—Catholigrwydd ei ysbryd—Parchusrwydd a chariadusrwydd ei gymmeriad—Y duwinydd cadarn a'r gweinidog da!

Diweddu y mae pob peth yn y fuchedd hon. Rhaid i ni groesi terfynau y ddaear i'r byd a ddaw, cyn y byddom yn ngafael pethau diddiwedd. Yno y mae sefydlogrwydd disigl. Daeth bywyd hir, tawel, diwyd, llafurus, a llwyddianus, hen weinidog Dolgellau i'r pen. Yma yn llafurio yn y weinidogaeth y gwelsai y rhan fwyaf o'n gweinidogion presenol yr henadur hybarch hwn; a braidd na buasem yn tybied mai yma yr oedd ef i fod yn wastadol. Cyrhaeddasai ben ei bedwaredd flwyddyn a phedwar ugain yn Mai, 1867. Ni chyrhaeddasai etto, rifedi blynyddau ei rieni, o ryw chwe' mlynedd. Ond teimlai ef ei fod yn agos i ben ei daith. Yn haf y flwyddyn a nodwyd uchod, llafuriai ar y Sabbothau fel arferol; âi i gyfarfodydd ei hen gynnulleidfa yn y dref fel cynt; bedyddiai blant y rhieni a ddymunent iddo wneuthur hyny, a chyflawnai bob dyledswydd grefyddol gyda diwydrwydd a gofal difwlch. Cafodd ysgrifenydd y llinellau hyn yr hyfrydwch o dreulio rhan o dri diwrnod gydag ef yn ei dŷ, ac ar hyd y meusydd, oddeutu deng wythnos cyn ei farwolaeth. Ymddangosai y pryd hwnw yn weddol iach; ond crybwyllodd fod yn debygol nad oedd ei ymadawiad yn mhell. Gobeithiai ei gyfaill o'r ochr arall, y cyrhaeddai efe oedran ei dad a'i fam, a dywedai, na welai ond ychydig o arwyddion adfeiliad arno; ond yr oedd Mr. Jones, yn meddwl ac yn teimlo yn wahanol. Dywedai fod rhyw lesgedd a gwendid yn ei gyfansoddiad. Foreu dydd fy ymadawiad â Chefnmaelan, daeth i'm hanfon encyd o ffordd, i gyfarfod y cerbyd oedd yn myned tua'r Bala. Eisteddasom ar fin y ffordd i'w ddisgwyl. Dywedai wrthyf, ei fod yn myned i bregethu am Sabboth i'r Methodistiaid Calfinaidd, yn Llanuwchllyn, a bod hyny yn hyfrydwch mawr ganddo. Gyda hyny daeth y cerbyd. Ysgwydasom ddwylaw am y tro diweddaf. Canasom yn iach i'n gilydd, ac ni welais ef mwyach.

Yn ol ei fwriad, aeth am Sabboth i Llanuwchllyn, a dychwelodd adref am y tro olaf o'r ardal y magesid ef ynddi. Bu wedi hyny yn pregethu ar y Sabboth yn Tabor a'r Brithdir. Traddododd ei bregeth olaf oll yn y BRITHDIR, oddiar Luc xv. 2., brydnawn y Sabboth hwnw; a chan y teimlai yn lled wael, ni arosodd yno i bregethu yn yr hwyr, ond dychwelodd adref. Dywedasai lawer am ychwaneg na thriugain mlynedd, am barodrwydd y Gwaredwr i ymgeleddu pawb a ddeuent ato; a'r Sabboth hwnw, terfynodd ei weinidogaeth gyda phregeth ar y geiriau, "Y mae hwn yn derbyn pechaduriaid, ac yn bwyta gyda hwynt." Diweddiad teilwng iawn i weinidogaeth y Patriarch o Ddolgellau. Peth difrifol hynod oedd gweled yr hen weinidog llafurus a ffyddlon yn disgyn o'r areithfa am y tro olaf am byth, ac yn dychwelyd i'w annedd i roddi ei ben i lawr i farw.

Nid oedd unrhyw afiechyd neillduol arno, ond bod ei gyfansoddiad yn ymddatod yn naturiol, fel y dderwen yn gwywo, am na all dderbyn nôdd i fod yn iraidd mwy. Felly yn union, yr oedd yntau yn syrthio i'r bedd. Yr oedd y llygaid wedi blino yn edrych; y clustiau wedi clywed llawn digon; y tafod wedi llefaru nes diffygio; y dwylaw "ceidwaid y tŷ " yn llesgâu drwy hir wasanaeth, ac yn myned i grynu yn oerni a rhyndod y bumed flwydd a phedwar ugain o'u llafurus waith; y traed yn ymlonyddu gan ludded; yr ysgyfaint yn methu tynu anadliad arall; a'r galon lesg yn gorfod sefyll o eisiau nerth i daro ergyd drachefn.

Lled gynil a fyddai efe bob amser wrth adrodd ei brofiad crefyddol; ac felly, ni ddywedodd ond ychydig am hyny yn nychdod diwedd ei oes. Treuliodd ei fab, C. R. Jones, wythnos gydag ef yn nechreuad ei lesgedd. Wrth ymadael, awgrymai yr henafgwr wrth ei fab, "y byddai gyda ei hen gyfeillion yn y pridd yn lled fuan." "Wel, na; yr wyf fi yn gobeithio y cewch chwi wella etto," meddai y mab. "Wel," ebai yntau, "rhaid boddloni i'r drefn—y mae pob peth yn cael ei wneyd yn iawn. Nid oes dim o'i le yn mhenderfyniad y Brenin mawr." Felly, yr oedd ef yn berffaith dawel a boddlon i drefn Duw, ac yn credu fod y cyfan yn y drefn hono yn iawn ac yn ei le. Dywedai hyny o hyd pan oedd yn llafurio dan raddau o ddyryswch meddyliol, i'r diwedd. "Duw yn ei le yn mhob peth," oedd un o'i hoff syniadau ef ar hyd ei oes, a dyna un o'r egwyddorion a belydrai allan o'i feddwl yn niwedd ei daith; yr hon a orphenodd yn dangnefeddus brydnawn dydd Iau, Rhagfyr 5, 1867, yn y bumed flwyddyn a phedwar ugain o'i oedran, a'r eilfed a thriugain o'i weinidogaeth.

Cymerir y dernyn canlynol o'r nodiadau a wnaeth y "Gohebydd" ar ei farwolaeth yn y "Faner."

"Yr eglurhad mwyaf cywir o ddiwedd taith ac oriau olaf ein hen batriarch ydyw—iddo farw yn union fel y bu efe byw! Fel y dywedai pregethwr o negro yn Alabama wrth bregethu pregeth angladdol i hen chwaer o'r enw Sister Lavina—Fy ngwrandawyr," meddai, Sister Lavina just died as she lived that's all.' Felly yn union y bu Cadwaladr Jones:— 'He just died as he lived—that's all.'

"Rhydd ei fab, C. R. Jones, mewn llythyr a dderbyniais oddiwrtho rai dyddiau ar ol marwolaeth ei dad, adroddiad lled fanwl o'i oriau diweddaf, a chymeraf genad yn y fan hyn i ddyfynu rhan o'i lythyr:—

"Dydd Llun, Rhagfyr 2il, y cychwynais o Lundain i ymweled â'm hanwyl dad; ac erbyn i mi gyrhaedd Cefnmaelan, gwelwn fod yr hwn bob amser a'm derbyniai gyda'r fath sirioldeb, yn rhy bell yn y glyn, a'r niwl yn rhy dew iddo fy adnabod. Yr oedd lleni angeu dros ei lygaid, a'i wedd wedi newid cryn lawer er pan y gadewais ef, ryw dair wythnos cyn hyny. Bu fyw wedi hyny hyd ddydd Iau, Rhagfyr 5ed, pan y tawel hunodd yn yr Iesu. Yr wyf yn meddwl iddo fy adnabod ryw noswaith neu ddwy cyn marw; ond nid rhyw lawer yn ei ddyddiau olaf o sylw a wnai o neb na dim. Ymddangosai fel wedi annghofio pawb a phob peth—ond ei hoff waith of bregethu a gweinyddu mewn pethau santaidd. Prydnawn ddydd Mawrth, rhyw wyth awr a deugain cyn iddo ein gadael, gofynodd yn sydyn, Pa faint oedd hi o'r gloch? A oedd y bobl wedi dyfod? Ei bod hi yn bryd dechreu! Yna dechreuai siarad fel yr arferai wrth weinyddu yr ordinhad o Swper yr Arglwydd. Ebe efe—'Gwnewch hyn er coffa am danaf!' Yr oedd ei lafar yn lled floesg, ac ni adwaenai neb o honom ni—o leiaf ni wnai un sylw o honom. Efe a aeth rhagddo, rywbeth fel y canlyn, yr hyn oedd i'n teimladau ni yn hynod effeithiol:— Yr oedd Iesu Grist yn gwneyd ei waith yn sobr a difrifol iawn! Yn ddifrifol iawn! Yr oedd ef yn gwneyd y gwaith o 'hunan—ymwadiad' llwyr ac ymroddol! Gadawodd y nef a'i gogoniant! O! mor hunanymwadol! Yr oedd Iesu Grist yn gwneyd y cwbl oddiar gariad! Cariad at ei Dad, a chariad atom ninnau! Yr oedd y cwbl o gariad! A gobeithio ein bod ninnau yn meddu ar gariad gwirioneddol ato yntau—y cawn ni y fraint o wrandaw ar ei lais, ac ufuddhau iddo yn mhob peth. Yr oedd ganddo bethau pwysig i'w traethu—pethau pwysig i ninnau eu gwrandaw, a rhoddi ufudd-dod iddynt. Gobeithio y bydd y pethau hyn yn bwysig yn ein golwg, ac y cawn ni oll y fraint o ufuddhau iddo.'

"Dyna oedd sylwedd ei anerchiad; ac yr oedd yn syn genym ei glywed mor gyson a chyfan, ac yntau wedi annghofio pawb a phob peth arall o'i amgylch. Cawsom ddigon o brofion yn ei gystudd fod yr hen wirioneddau a bregethodd am 61 mlynedd yn ei ddal yn ddiysgog—a'i fod yntau yn tawel bwyso arnynt yn ngwyneb cystudd ac angeu. Ebe efe unwaith yn sydyn, 'Y mae pob peth y mae EFE yn ei wneyd yn dda, pob peth yn iawn!' Gofynai ei fab iddo un o'i ddyddiau olaf—A oedd efe yn cael tipyn o gymdeithas yr Iesu? O!' ebe efe yn hollol dawel—'O! yr ydwyf fi wedi ei weled ef droion. O! do! Yr ydym ni i ti, yn hen ffrindiau. Mi gefais i lawer o'i gymdeithas ef yn amser dy fam er's llawer dydd (yr hon a fuasai farw 23 mlynedd yn ol).' Ni welais erioed well esboniad ar yr adnod hono—'Ni frysia yr hwn a gredo,' fel pe dywedasai—'O paid ti a phetruso, fy machgen i—yr ydym ni yn hen ffrindiau er's talm; ac nid ydyw ef ddim yn myn'di'm gadael yn awr.' Gallasem enwi lluaws o bethau a ddywedodd; ond yr oedd cysondeb ei fywyd â ffydd yr efengyl yn llefaru mwy na dim. Efe a fu farw yn gymhwys fel y bu efe byw— yr oedd ei arafwch yn hysbys i bawb—felly hefyd y bu farw, gan dawel sicr bwyso ar haeddiant Crist a'i aberth." Felly y terfynodd bywyd defnyddiol y gwas anwyl hwn i Iesu Grist, mor dawel a siriol ag y machluda yr haul ar derfyn hirddydd teg a digwmwl, yn Mehefin.

Terfynir y Bennod hon gyda sylwadau o eiddo gŵr deallus a chyfrifol, oedd yn dra chydnabyddus â Mr. Jones, dros lawer o flynyddoedd; sef, Mr. R. O. Rees, un o flaenoriaid y Trefnyddion Calfinaidd, yn Nolgellau. Y maent gymaint a hyny yn werthfawrocach ar y mater hwn, am eu bod yn dyfod oddiwrth wr galluog i farnu, ac yn perthyn i enwad arall o grefyddwyr—enwad a barchai Mr. Jones yn fawr, er y gwahaniaethai oddiwrtho mewn amrywiol bethau. Cymerwyd sylwadau Mr. Rees allan o'r "TYST CYMREIG,' am Ragfyr 21ain, 1867.

CLADDEDIGAETH Y PARCH. CADWALADR JONES, DOLGELLAU.

"At y sylw yn ein rhifyn diweddaf ar fywyd a marwolaeth yr hybarch dad o Ddolgellau, y mae genym heddywi ychwanegu ychydig o hanes yr oruchwyliaeth derfynol yn ei yrfa faith ar y ddaear—ei gladdedigaeth. Cymerodd hyn le dydd Mercher, yr 11eg cyfisol, yn mynwent y Brithdir, lle tua thair milldir o Ddolgellau, a fu am flynyddoedd dan ofal Mr. Jones, yn nghychwyniad ei yrfa weinidogaethol. Gofalodd y nefoedd am roddi i bawb yn yr ardaloedd hyn bob cyfleusdra a chefnogaeth i dalu ein teyrnged olaf o barch tuag at berson ei hen a'i ffyddlon was, trwy roddi diwrnod cymhwys iawn tuag at hyny—un teg, ac etto pruddaidd. Ni fynai y Nefoedd ddangos y sirioldeb oedd 'tu mewn i'r llen' ar ddyfodiad yr hen gadfridog adref; ac ni fynai wylo chwaith—gadawodd hyny oll i ni.

"Cychwynwyd o Gefamaelan tuag 11eg o'r gloch. Gweinyddwyd y gwasanaeth cychwynol arferol wrth y tŷ gan y Parch. E. Williams, Dinas; a J. Jones, Abermaw. Wedi dyfod i'r ffordd, ymunodd y dorf yn orymdaith drefnus, yn cael ei blaenori gan y Parchn. R. Thomas, Bangor; W. Ambrose, Portmadoc; H. Morgan, Samah; J. Jones, Abermaw; E. Evans, Llangollen; J. Jones, Machynlleth; O. Evans, Llanbrynmair; H. Ellis, Llandrillo, yn nghyda gweinidogion a phregethwyr eraill, rhy luosog i'w henwi, o bell ac agos, oll tua 30 o rifedi. Yn dilyn y rhai hyn yr oedd un o'r golygfeydd mwyaf teilwng a phrydferth o'r cwbl—23 o efrydwyr Athrofa y Bala, yn cael eu blaenori gan eu dau athraw, y Parchn. M. D. Jones, a J. Peters. Yn mysg eu brodyr Annibynol yn y rhan flaenaf o'r orymdaith gwelid gweinidogion, pregethwyr, a diaconiaid gwahanol enwadau eraill Dolgellau a'r amgylchoedd. Dilynid y rhai hyn oll gan ganoedd o aelodau eglwysig o bob enwad, ac o drigolion parchusaf y dref a'r wlad o bob gradd, yn wyr a gwragedd hefyd. Yr oedd gweinidogion Annibynol y sir yno oll ond tri. Lluddiwyd hen gyfaill a chydlafurwr henaf Mr. Jones yn y sir, y Parch. E. Davies, Trawsfynydd, gan afiechyd, a dau frawd eraill gan amgylchiadau anorfod, i fod yn y gladdedigaeth. Dilynid yr elor—gerbyd gan tua deunaw o gerbydau, a lluaws ar feirch. Cerddai y dorfluosog hon yn araf, syml, a threfnus i, a thrwy y dref, a'r cantorion yn y canol yn canu eu tonau hiraethlawn. Gallem feddwl fod yr orymdaith, pan yn cerdded drwy y dref tua mil o nifer. Yr oedd gweled holl siopau y dref ar y pryd mor gauedig a phe buasai yn ddydd Sabboth, a ffenestri y tai oll ar bob llaw a'r blinds gwynion galarus yn eu gorchuddio, yn olygfa doddedig, ac yn anrhydedd i deimlad y dref, yn gystal ag i gymmeriad y marw. Mynych y gelwir arnom i wneyd ymddangosiad fel hyn yn y dref hon, fel mewn trefydd eraill, yn ddigon rhagrithiol, fel yr ymddangosom i ddynion.' Ond y diwrnod hwnw yr oedd ein tref am unwaith yn gwisgo ei galarwisgoedd oddiar wir deimlad calon, oblegid colli un yr oedd ei farwolaeth yn golled wirioneddol ac am byth i'r holl ardaloedd—colli Cristion diamheuol, colli gweinidog ffyddlon a rhyddfrydig, colli cyfaill cywir, colli cymmydog caredig, colli cynghorwr doeth a chynnorthwywr parod i bawb yn mhob amgylchiad. Chwyddai y dorf yn barhaus ar y ffordd i'r Brithdir, ac yn y fynwent, yno yr oedd o 1500 i 1800 o bersonau yn cydalaru eu colled o'r hen dad ymadawedig. Ofer oedd son am gynnal y gwasanaeth angladdol yn yr addoldy, ac felly, gan y caniatai y tywydd, cynnaliwyd ef allan yn y fynwent eang, gyfleus, gerllaw. Yr oedd y cyfan fel hyn yn cael ei ddwyn yn mlaen yn yr awyr agored, a 'Llygad mawr' y Nef megys yn edrych i lawr arnom mewn cydymdeimlad pruddaidd—y Duw a wasanaethasai yr hen weinidog ffyddlon megys uwch ein penau, yn anrhydeddu ac yn effeithioli y cyfan â'i bresenoldeb. Safai y gweinidogion a gymerent ran yn y gwasanaeth uwchben y bedd agored, a chorff eu hen gydweinidog yn gorwedd ynddo.

"Y dydd o'r blaen symudasid arch Mrs. Catherine Jones, ail wraig Mr. Jones, o'r Hen Gapel yn y dref, lle y buasai yn gorwedd am 23 mlynedd, a chladdesid hi yn y bedd hwnw lle y dodwyd ei hybarch briod. Y hi oedd mam ei holl feibion. ond Mr. John Jones, yr hynaf—gwraig syml, garedig, barchus, anwyl nodedig gan bawb a'i hadwaenai. Yr hyn a wnai ei symudiad yn angenrheidiol oedd, y bydd yr Hen Gapel yn fuan yn cael ei roddi i fyny, a'r gynnulleidfa yn symud i'r Capel Newydd eang a hardd oedd bron a'i orphen.

"Dechreuwyd y gwasanaeth gan y Parch. D. Evans, M.A., (T.C.); yna anerchwyd y dorf gyda theimlad a phriodoldeb nodedig gan y Parchn. E. Evans, Llangollen, ('mab yn y ffydd' i'r hen weinidog); W. Ambrose, Portmadoc; J. Jones, Machynlleth; R. Thomas, Bangor (brodor, fel yntau o Lanuwchllyn), ac H. Morgan, Samah, yr hynaf o'i gydweinidogion oedd yn bresenol. Cyfeiriodd pob un yn fyr at brif nodweddau cymmeriad yr hen dad trancedig fel Dyn, fel Cristion, ac fel Gweinidog i Grist. Yr oedd yn eglur oddiwrth eu hanerchiadau byrion, ond teimladwy, y teimlent fod hyawdledd di—eiriau, ond clir, uchel, difrifol, y ffaith, yr amgylchiadau, yr olygfa yn y bedd, ac o'i amgylch, yn siarad digon—yn siarad yn gliriach, yn uwch, yn fwy effeithiol, nag oedd yn bosibl i unrhyw dafod dynol. Terfynwyd y gwasanaeth trwy weddi gan y Parch. E. Morgan, (W.), a chanu mawl. Gallwn gyfeirio at rai o'r tystiolaethau eglur a ddygai yr olygfa yn mynwent y Brithdir y diwrnod hwnw, am yr hen weinidog ymadawedig. Creadigaeth deg ei gymmeriad a'i lafur maith a llwyddianus ef ei hun oedd yr olygfa ddyddorol addysgiadol hono oll.

"1. Llwyddiant ei Lafur.—Bu yn pregethu Crist yn Geidwad i'r byd dros 61 mlynedd, ac yn ei wasanaethu fel gweinidog ordeiniedig dros 56 mlynedd. Yr oedd i'r fath lafur yn ngwasanaeth y fath Feistr fyned yn ofer yn anmhosibl. Yr oedd ei eiriau yn ddiarebol o bwyllog, ei gamrau pan y cerddai, a chamrau yr hen gaseg' pan y marchogai yn ddiarebol' o araf. Os digwyddai i rywun ei gyfarfod pan yn marchogaeth, safai yr hen gaseg' yn y fan, fel y gallai Mr. Jones ddilyn ei arferiad gwastadol o ysgwyd llaw, a dweyd rhyw air caredig wrth bawb a gyfarfyddent. Yr oedd gan Mr. Evans, Llangollen, fel 'mab yn y ffydd' iddo, ugeiniau o frodyr a chwiorydd yn ymuno âg ef yn claddu eu 'hen dad' yn mynwent y Brithdir y diwrnod hwnw, heb son am yr wyrion a'r gorwyrion ysprydol a anesid trwy y rhai hyny. Ymgasglasent yno o Ddolgellau, Rhydymain, Llanfachraeth, Tabor, Ganllwyd, Llanelltyd, Citiau, Islaw'rdre, a'r Brithdir, eglwysi rai o honynt a blanasai efe, a'r lleill oll y bu yn eu bugeilio, ac oll yn cydalaru am ei golli. Mae yn amheus genym y bydd gan ond ychydig iawn o'i frodyr yn y weinidogaeth yn Nghymru gynifer o blant ysbrydol—llawer eisoes oedd wedi ei ragflaenu adref, eraill sydd etto yn dilyn yn ddyfal ar ei ol—i fod yn 'goron gorfoledd' iddo yn nydd. Crist. Ymddangosai Mr. Jones, a'i lwyddiant nodedig fel gweinidog i ni er's blynyddau yn ffaith bwysig yn hanes y weinidogaeth Gristionogol a'r gyfundrefn Annibynol yn Nghymru. Ystyrir capel enwad arall yn y dref hon, ei fod ar y Sabbothau, ac ar achlysuron eraill yn ystod 56 mlynedd gweinidogaeth Mr. Jones yma, yn mwynhau gweinidogaeth 'hufen' pregethwrol Cymru. Dyma weinidog unigol, tawel, anymhongar capel yr Annibynwyr yma, ar y llaw arall, a'i ddoniau ei hun, na fynasai efe ei hun na neb arall eu cydmaru a doniau John Elias, John Evans, New Inn, Ebenezer Morris, John Jones, Talsarn, a chewri pregethwrol eraill, etto yn offeryn i godi eglwysi yn y dref a'r amgylchoedd sydd bron yn gyfartal yn nifer eu haelodau i eglwysi yr enwad breintiedig arall o fewn yr un cylch. Y mae hon, meddwn, yn ffaith bwysig a hynod—yn ffaith sydd yn siarad yn uchel iawn, yn anwrthwynebol, dros y rhan sefydlog, fugeiliol o leiaf, o'r gyfundrefn Annibynol.

"2. Catholigrwydd ei yspryd.—Nid oedd dim eglurach. na bod yspryd drwg 'sect' wedi ei fwrw allan o fynwent y Brithdir, am y pryd o leiaf, gan ein hadgof o yspryd ansectaidd a rhyddfrydig yr hen dad o Gefnymaelan. Yr oedd yr enwadau eraill megys yn ymgystadlu a'i enwad ef ei hun mewn ymdrech i amlygu parch eu calonau tuag ato. Gwelsom deimlad mor ddwfn mewn angladdau eraill, ond rieoed nis gwelsom deimlad mor gyffredinol. Ffaith eglur i brofi catholigrwydd yspryd, a chymmeriad yr hen weinidog Annibynol oedd fod ei gymmydog offeiriadol, y diweddar Archddiacon White ac yntau yn byw ar y telerau mwyaf cyfeillgar a'u gilydd, a llawer gweithred ryddfrydig a gyflawnodd yr Archddiacon o barch i gymmeriad uchel ei hen gymmydog parchedig o Gefnymaelan. Teimlai pawb fod colli y fath gymmeriad parchus a chatholicaidd yn golled fawr i'r Ymneillduwyr oll yn yr ardaloedd hyn.

"3. Parchusrwydd a Chariadusrwydd ei Gymmeriad.—Y mae llawer dyn da a gweinidog ffyddlon y mae ein deall a'n cydwybod yn gorfod ei barchu, ac etto ein serch yn analluog i'w garu. Y mae eraill y mae ein serch yn gallu eu caru, nad yw ein deall a'n cydwybod yn gallu edrych i fyny at eu holl gymmeriad gyda pharch. Yr oedd elfenau yn nghymmeriad ein hen batriarch o Gefnymaelan a'i cadwodd trwy holl helyntion ei yrfa faith rhag syrthio unwaith erioed i fod yn wrthddrych diystyrwch neb. Yr oedd y parchusrwydd cyffredinol hwn i'w ganfod yn eglur ar ddydd ei gladdedigaeth. Yr oedd yr olygfa ar 'stryd fawr' Dolgellau, pan oedd yr orymdaith alarus yn cerdded trwodd, ac yn mynwent y Brithdir wrth ei gladdfa, yn olygfeydd o barchedigaeth calonau diragrith y gallasai mawrion y byd yn hawdd genfigenu wrth y gŵr anymhongar oedd yn wrthddrych iddynt. Yr oedd pawb yno yn gallu ymuno i barchu y dyn, y cyfaill, a'r gwladwr; ond hefyd yr oedd yno luaws a digon o'r 'dyn ysbrydol ' ynddynt i allu caru y 'gŵr Duw' a'r Gweinidog i Grist.' Gwelsom Mr. Jones cyn y diwrnod hwnw o bob math o safleoedd a chyfeiriadau; ond nis gwelsom ef erioed o'r blaen o lan ei fedd. Hanerog ac anmherffaith ydyw yr olwg ar ddyn o bob safle arall. I gael golwg gyflawn, deg, a chlir ar ddyn, rhaid ei weled oddiar lan ei fedd. Y mae glan y bedd fel "bryniau Caersalem," "ceir gweled holl daith yr anialwch i gyd," oddiyno ar un olwg. Yr oedd Mr. Jones yn hawdd ei barchu a'i garu o bob safle yr edrychasom arno erioed; ond ni welsom ef erioed mor hawdd ei barchu a'i garu ag y gwelem ef y diwrnod hwnw oddiar fryn glan ei fedd, pan y gallem edrych yn ol draw yn mhell yn ein hadgof o hono, a chael golwg gyflawn ar yr holl ddyn, yr holl fywyd, a'r holl gymmeriad. Teimlem oll yn sicr fod yr olwg hono yn un gywir, ein bod yn ei weled megys ag yr oedd. Llwyddodd y bradwr Judas i dwyllo ei gyd—ddysgyblion, ac i ymddangos yr hyn nad ydoedd am dros dair blynedd. Ond ymddangos yn gyhoeddus i fyd ac eglwys am dros driugain mlynedd fel y Cristion cywir, fel y gwas da a ffyddlon,' fel y cyfaill caredig a'r gwladgarwr yn mhob dim, ac etto heb fod felly, dyma gamp na chyrhaeddodd rhagrith erioed, ac na chyrhaedda byth. Yr oeddem yn hollol sier fod ein cyfaill yr hyn y gwelem ef â llygaid ein cof a'n calon y diwrnod hwnw. Yr oedd rhywbeth a allai pob oed, a phob dosbarth o feddwl ei garu yn ei gymmeriad ef. Yr oedd yn mynwent y Brithdir brofion digonol o hyny. Dacw i chwi yr hen chwaer wledig acw sydd yn eistedd yn ymyl y clawdd, a'i gwyneb tuag ato, a'i chefn at y bedd. Y mae y corff heb ei roddi ynddo; y mae yr orymdaith angladdol etto heb gyrhaedd y fynwent. Ond acw y mae hi eisoes, i'w croesawu â ffrydiau didor o ddagrau gloywon; pa beth a ddywed hyawdledd dystaw yr olygfa hon am y marw? Dacw etto yn mhen ychydig wedi i'r dorf gyrhaedd y lle, a'r gwasanaeth angladdol ddechreu, amryw chwiorydd ieuaingc ar le dyrchafedig, i'w gweled yn wylo yn hidl—un o honynt o Ddolgellau ar ymdori gan alar, a'r olwg yn doddedig dros ben. Pa beth a ddywedai hon etto am dano? Gyferbyn a ni dacw frawd parchus o Fethodist o Ddolgellau, a'i handkerchief yn llawn gwaith yn parhaus sychu ymaith ei ddagrau. Dacw un arall gerllaw iddo o ardal Talyllyn yn ymgystadlu yn llwyddianus âg ef yn nghochni ei ruddiau a nifer ei ddagrau. Mewn cwr arall gwelem Fedyddiwr ffyddlon o gerllaw y dref mewn ymdrech parhaus i gadw ei deimladau dwysion, fel un yn tybied nad oedd gan Fedyddiwr hawl i wylo uwch ben bedd Annibynwr; ond, hawl neu beidio, wylo oedd raid y diwrnod hwnw uwch ben bedd yr hen Jones o Gefnmaelan.' Gwelem chwaer Wesleyaidd o'r gymmydogaeth, hollol rydd oddiwrth bob petrusder o'r fath, ac yn anrhegu coffadwriaeth ei hen gyfaill â pherlau pur o ddagrau. Pa beth a ddywedai golygfeydd fel hyn etto? Ond dacw olygfa draw acw sydd yn rhagori bron arnynt oll: meddwyn ydyw o Ddolgellau, hen feddwyn, un o ddihirod caletaf y dref, un na ddisgwyliasem iddo wylo ar ol neb na dim, ond am ei haner peint; dacw yr adyn caled, annuwiol acw am unwaith â 'llygaid cochion' gonest ganddo, yn anrhydedd, ac nid yn warth, i'w galon a'i gymmeriad. Pa beth a fuasai rhyngddo â'r hen gyfaill pechaduriaid' oeddym yn ei gladdu, i beri iddo wylo felly am dano, nis gwyddom. Dweyd y ffaith' yw y cwbl a allwn ni, a gadael i'r ffaith hono lefaru. Pa beth a ddywedai yr olygfa ddieithr hynod hon? I derfynu; torf fwy lluosog, fwy syml, fwy difrifol, fwy toddedig, yn amlygu mwy o deimlad calon tuag at y marw, nis gwelsom erioed. Nid oes neb ond gweision. Crist a all gael y fath afael dwfn a hwnw yn nghalonau dynion, yn enwedig yn Nghymru. Ni chânt hwythau chwaith y fath gladdedigaeth a hyn ond ar yr un telerau ag y cafodd yr hen weinidog yma ef—ei haeddu—trwy fywyd fel ei fywyd ef dros ei Arglwydd. Dacw yr olygfa ddyddorol acw etto o 23 o fyfyrwyr ieuaingc Athrofa y Bala yn dweyd eu rhan yn wir effeithiol am y marw fel gweinidog i Grist, fel duwinydd cadarn, ac fel noddwr ffyddlon i'r Athrofa, ac i bregethwyr ieuaingc, trwy ei oes. Ond er cryfed y demtasiwn i roi ei lleferydd i honacw etto, rhaid ymatal bellach.

Nos dydd y claddedigaeth, cynnaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn yr Hen Gapel y bu Mr. Jones am 56 mlynedd yn gweinidogaethu ynddo, pryd y traddodwyd anerchiadau effeithiol nodedig ar yr hen weinidog gan y Parchn. O. Evans, Llanbrynmair; R. Jones, Llanegryn; I. Thomas, Towyn; E. Edmunds, Dwygyfylchi; J. Jones, Machynlleth; J. Jones, Abermaw; E. Evans, Llangollen; a Mr. J. Griffith, Gohebydd y Faner, rhwng teulu yr hwn â Mr. Jones yr oedd hen gyfeillgarwch.

Nos Sabboth canlynol, traddododd y Parch. R. Thomas, Bangor, bregeth angladdol alluog ac effeithiol iawn, ar Fywyd ei hen gyfaill, oddiar Heb. xii. 7, 8.

PENNOD VIII.

Y PREGETHWR.

"Gwr pwyllog synhwyrol"—Darluniad Christmas Evans—Y pregethwr—Dyfroedd Siloa yn cerdded yn araf—Nid newyddian yn y ffydd—Ei gymhwysder i adeiladu, yn hytrach na thynu i lawr—Ei ddelw ar ei eglwysi—Rhai oedfaon hwyliog—Yn marw fel y bu byw.

Pe gofynasid i mi i roddi darlun cryno ar fyr eiriau o nodwedd gwrthddrych y cofiant hwn, ni allaswn feddwl am ymadrodd mwy priodol i'r pwrpas na'r ymadrodd hwnw of eiddo y gŵr doeth:—"Gŵr pwyllog synhwyrol." "Gŵr pwyllog a synhwyrol" oedd efe mewn gwirionedd yn mhob man, ac ar bob achlysur, yn ei deulu, yn ei gymmydogaeth, yn yr eglwys, ac yn yr areithfa. Yr oedd cymhesuredd a chyfaintiolaeth yn holl elfenau ei nodwedd, a'r cwbl o dan reolaeth wastadol synwyr a phwyll. Cof genyf fy mod unwaith yn Nghaernarfon yn nghymdeithas y diweddar Hybarch Christmas Evans, lawer o flynyddau yn ol, pryd yr adroddai cyfaill hanes prawf pwysig a ddigwyddasai yn mrawdlys Dolgellau y dydd o'r blaen. Gelwid y Parch. C. Jones fel tyst ar yr achos. Yr oedd dan yr angenrheidrwydd i droi at ryw erthygl a ymddangosasai yn y Dysgedydd wrth ro'i ei dystiolaeth. Yr oedd golwg henafgwr parchus arno y pryd hwnw. Wedi myned i'r Witness box, tynai ei wydrau allan yn araf hamddenol; dododd hwy am ei wyneb, a throai ei olwg ar y barnwr, a'r cyfreithwyr, a'r rheithwyr, fel per buasai yn cymeryd stock o'r llys; a phawb yn edrych arno yn nghanol distawrwydd dwfn. Tynodd ei spectol yn mhen enyd, a chymerai ei napeyn o'i logell i rwbio a gloywi y gwydrau. Wedi eu cael i'r cywair priodol, edrychai drwyddynt yn dawel drachefn ar y barnwr a'r llys. Ac edrychai y barnwr arno yntau ac ar eu gilydd bob yn ail. Yna tynodd y Dysgedydd allan o'i logell, ac araf dröai at yr erthygl, mor ddigyffro meddai'r adroddydd, a phe buasai yn eistedd ar ei hen gadair ddwy—fraich ar ei aelwyd gartref. Ar hyny, torai yr hen Gristmas Evans allan, gan waeddi, "Cadwaladr gyffroi! Na choelia i fawr! Pwy welodd Cadwaladr yn cyffroi erioed! Ni chyffroisai Cadwaladr ddim pe buasai fo'n gwel'd y Cynddiliwiaid yn codi o'r ddaear, ac yn llenwi'r holl wlad o Ddolgellau i'r Bermo; mi gwela fo'n rhoi'i spectol am ei drwyn, ac yn edrych arnyn nhw.—Beth ydi'r rhain tybed; medd o, yn wir, dacw'r hen Nimrod, on te hefyd! ie, y fo ydi o rwy'n siwr braidd." Byddai yr hen frawd yn mwynhau y disgrifiad uchod, a roddai yr hen ddisgrifiedydd penigamp o hono yn fawr iawn. Ond

FEL PREGETHWR,

y mae a wnelwyf fi âg ef yn awr; ac fel y cyfryw, yr oedd ganddo ei safle briodol ei hun yn mysg ei frodyr, nid oedd yn meddu ar dreiddgarwch ac angerddolder Morgan, o Fachynlleth, na grymusder meddyliol Michael Jones, o Lanuwchllyn; nac athrylith Williams, o'r Wern, &c., ond yr oedd mor siwr o'i fater ag yr un o honynt. Yr oedd ol arafwch, a gofal, a phwyll, a barn, ar gyfansoddiad ei bregethau, yn gystal ag ar y traddodiad o honynt yn yr areithfa. Ni thaniai y fellten yn ei lygad; ni chanfyddid dychrynfeydd yn ei wedd; ac ni chlywid swn y daran yn ei lais; ac ni theimlid y gwynt nerthol yn rhuthro, na'r gwlaw mawr ei nerth yn disgyn braidd un amser, yn ei bregethiad ef. Afon hyd ddol-dir gwastad, oedd ei weinidogaeth ef—"Dyfroedd Siloa yn cerdded yn araf," ydoedd. Gwelir ambell afon fel pe byddai ar frys gwyllt am gyrhaedd y môr, chwyrnu megys yn ddigofus ar y cerig a safant yn ei ffordd, tra y mae un arall fel yn caru ymdroi, ymddolenu, ac ymfwynhau ar ei thaith i adlewyrchu pob gwrthddrych yr elo heibio iddo ar wyneb ei dyfroedd. Cyffelyb oedd afon ei weinidogaeth yntau. Nid oedd mor gyfaddas i'r gwaith o dynu i lawr a chwalu cestyll a muriau o ddifrawder ac anystyriaeth, ag ydoedd i adeiladu meddyliau yn ngwirioneddau a ffydd yr efengyl. Nid ei gwaith priodol hi oedd arloesi a diwreiddio y drain a'r mieri, ond yn hytrach planu a maethu y ffinwydd a'r myrtwydd.

Yr oedd wedi myfyrio a deall duwinyddiaeth athrawiaethau yr efengyl yn dda, ac felly wedi ffurfio barn bwyllus a chref ar bob pwngc. Mesurai a theimlai y tir yn ofalus cyn ymsefydlu arno, ac nid gorchwyl hawdd fuasai ei symud wedi hyny. Un caled iawn i ymdrafod âg ef mewn dadl ydoedd, ar unrhyw bwngc o athrawiaeth.

Teimlai rhai deallus wrth ei wrando yn pregethu mai nid "newyddian yn y ffydd," oedd y pregethwr; nid un wedi brys-gipio golygiadau duwinyddol pobl ereill, a rhedeg â hwynt ymaith i'r areithfa, cyn eu chwilio, eu profi, a'u deall, ac felly yn myned i'r niwl a'r tywyllwch gyda hwynt,—ond eu bod yn eistedd dan athraw deallus, un a wyddai beth oedd efe yn ei gylch, ac un a allasai roddi rheswm da dros y pethau a gynygiai efe i sylw a derbyniad ei wrandawyr. Felly os nad oedd efe yr hyn a ystyrid yn bregethwr mawr a phoblogaidd, yr oedd yn athraw a dysgawdwr da; yn was ffyddlon a doeth, yr hwn a osododd ei Arglwydd ar ei deulu i roddi bwyd iddynt yn ei bryd. Os nad oedd yn meddu ar y nerth a allasai ysgwyd gwlad, fel oedd gan ambell i un o'i frodyr cyfoediol yn y weinidogaeth, yr oedd ganddo y dawn a'r cymhwysder i arwain, a choleddu, a phorthi praidd Duw.

Yr oedd ei ddelw ef i'w gweled ar yr eglwys dan ei ofal, yn y cynydd graddol a pharhaol a fu arni dan ei weinidogaeth ef. Yr oedd ei chynydd mewn rhifedi, gwybodaeth, profiad, a dylanwad, yn cyd-gerdded a'u gilydd. Cof genyf glywed y diweddar Michael Jones, Llanuwchllyn, pryd hyny, yn sylwi un tro, nad oedd ef yn adnabod un eglwys yn dwyn cymaint o ddelw ei gweinidog arni, a'r eglwys yn Nolgellau, ac ystyriai ef hyny yn anrhydedd i'r gweinidog a'r eglwys.

Gwastadrwydd ac arafwch tyner oedd ei nodwedd arbenigol fel pregethwr, fel y sylwyd, cyffelyb i'r ych yn tynu ei gwys yn bwyllog, hyd nes y delo gerllaw y dalar, ac yno yn rhoi plwe arni i'w chael i'r pen, rhoddai yntau ysbonc arni tua'r diwedd, er cael ei aradr allan o'r tir; ond syrthiai rhyw ysbrydiaeth wresoglawn arno yntau ambell waith; clywais ei hen gymmydog a'i gydlafurwr yn y weinidogaeth, y diweddar Barch. H. Llwyd, o Dowyn, yn son am rai oedfaon hynod a gafodd; ac yn enwedig am un mewn cyfarfod yn Towyn, os wyf yn cofio yn iawn, pan oedd y pregethwr a'r gwrandawyr wedi llwyr anghofio eu hunain, ac yn ymdroi mewn dagrau. Ni allasai neb oedd yn bresenol yn yr oedfa hono, ei anghofio byth meddai Mr. Llwyd.

Fel y bu byw, felly hefyd y bu farw, yn araf, yn bwyllog, a thawel. Yr un fath olwg oedd arno yn marw, ag oedd arno yn y llys yn rhoddi ei dystiolaeth y diwrnod hwnw, neu yn yr areithfa, cyn ac wedi pregethu, llawn hunanfeddiant. "Yr ydych yn yr afon Mr. Jones," ebai cyfaill wrtho ychydig cyn iddo ei chroesi, "Ha, ie, wel ydwyf," eb efe "Ond y mae hi'n braf iawn yma." Ië, "yn braf iawn," ond hi aeth yn brafiach o lawer iawn arno wedi iddo ei chroesi i'r ochr arall.

Bellach hen batriarch, hybarch, a hoff. Bydd wych! Gorphwysed dy ben gwyn yn dawel yn y llwch, hyd wawr dydd y dadebru a'r codi. Teimlwn chwithdod i feddwl na chawn mwyach weled dy wedd radlawn, na mwynhau dy gyfeillach fwyn ac adeiladol yr ochr hon i'r bedd. Diangaist oddiwrthym ni at frodyr anwyl a chydlafurwyr ffyddlawn yn y weinidogaeth, y rhai a ragflaenasent, lle y mwynhai gyfeillach well a phurach heb ymadael mwy.

"Diangaist i'r bedd, ni alarwn am danat,
Er mai trigfa galar a niwl ydyw'r bedd;
Ei ddorau agorwyd o'r blaen gan dy Geidwad,
A'i gariad wna'r ddunos yn ddiwrnod o hedd.

"Diangaist i'r bedd, ni welwn mwy'th wyneb,
Rhwng hyder ac ofn, os unwaith petrusaist,
Dy lygaid agorwyd ar ddydd tragwyddoldeb,
Ac angel a ganodd yr Anthem a glywaist."


PENNOD IX.

Y DUWINYDD.

Pwysigrwydd gwybodaeth Dduwinyddol—Safle gwrthddrych y cofiant hwa fel Duwinydd Ei fanteision boreuol—Dr. Williams ac eraill— y Calfmaid cymhedrol Cymreig—"Y Llyfr glas "—Cychwyniad y Dysgedydd Y cytundeb cyntaf—Ei neullduad ef i'r olygiaeth— Etholeligaeth gras Cynrychiolaeth Adda—Athrawiaeth yr Iawn— Dylanwad yr Ysbryd Glan Natur Eglwys—Bedydd—Ei neullduolion Diwinyddol.

Gwybodaeth Dduwinyddol yw y bwysicaf o bob gwybodaeth y gall dyn gael gafael arni. Deil berthynas ag ef yn y byd hwn, a deil berthynas ag ef yn y byd arall yn oes oesoedd. Ynddi y mae "geiriau bywyd tragywyddol" dyn. Er y gellir yn eithaf priodol ddosranu Duwinyddiaeth yn wahanol ganghenan, etto, un yw hi wedi y cyfan. Trwyddi hi y daw dyn yn adnabyddus â Duw, o ran ei Fodolaeth a'i Briodoleddau gogoneddus. Trwyddi hi y eyrhaedda syniadau teilwng am arfaeth a chynlluniau y Goruchaf. Hyhi a'i dysg am lywodraeth foesol yn ei natur, ei deddfau, ei chymhellion, ei gweinyddiad, ei gwobrau, a'i chospau; ac am dano ei hunan, fel deiliad y llywodraeth hono; seiliau ei gyfrifoldeb am ei holl ymddygiadau; a'i sefyllfa andwyol fel pechadur yn erbyn yr Arglwydd. Duwinyddiaeth sydd yn dangos beth yw natur pechod, gwreiddiol a gweithredol, ar un llaw, natur a rhinwedd, ar y llaw arall. Trwyddi hi y ceir esboniad ar y cyfamod a wnaeth Duw â'r Adda cyntaf, a'r cyfamad a wnaeth efe a'r Adda diweddaf, hefyd ynddi hi yr eglurir y goruchwyliacthau neu y cyfamodau a wnaeth Duw a dynion o bryd i bryd wedi y cwymp. Duwinyddiaeth sydd yn agor ger ein bronau holl drefn fawr ein Hiachawdwriaeth. Eglura i ni Berson rhyfedd y Gwaredwr, yr Iawn anfeidrol dros bechod, Galwad yr efengyl, Dylanwad yr Ysbryd Glân, Dychweliad pechaduriaid, Adenedigaeth, Ffydd a chyfawnhad, Santeiddhad a gogoneddiad y saint, a chosp dragywyddol yr annuwiolion. Clywsom rai cyn hyn yn ceisio bychanu a gwawdio ymdrechiadau rhai eraill i gyraedd syniadau cywir a chyson ar byngciau Duwinyddol; ond nid yw geiriau gwatwarus y cyfryw ddynion o nemawr bwys, ond iddynt hwy eu hunain; gwyr pawb deallus yn mha ddosbarth i'w rhestru. Nid yw yn ormod i ni ddywedyd, fod o'r pwys mwyaf i Gristionogion yn gyffredinol, ac i bregethwyr yr efengyl yn arbenigol, ymdrechu cyrhaeddyd syniadau Ysgrythyrol a theg ar bob canghen o Dduwinyddiaeth. Ynddi hi y dylai dynion ymgartrefu. I'w deall y dylent alw allan ymadferthoedd eu heneidiau. Ynfydrwydd o'r mwyaf yw ei hesgeuluso.

Gwyr y gogleddwyr, a'r deheuwyr, hefyd, yn bur dda, fod y diweddar Barchedig Cadwaladr Jones wedi astudio duwinyddiaeth yn fanwl iawn. Ceid llawer o bregethwyr mwy hyawdl a dylanwadol nag ef, a chyfarfyddid a llawer oeddynt yn well ysgolheigion nag ef; gwelid ambell un yn eangach ei wybodaeth gyffredinol, a llawer yn fwy barddonol a dyrchafedig eu syniadau na'n hen gyfaill hybarch o Gefnmaelan; ond yr ydym yn dyweyd yn ddibetrus, nad oedd heb o'i frodyr yn yr oes ddiweddaf, ac nad oes yr un o honynt yn yr oes hon ychwaith, yn rhagori arno fel duwinydd. Safai yn ddiau yn y rhes flaenaf o'n duwinyddion Cymreig. Yr oedd yn bwyllog i gael gafael ar y gwirionedd; yr oedd llygaid ei feddwl yn graff a threiddlym i wahaniaethu y gwir oddiwrth y gau; yr oedd egwyddorion sylfaenol duwinyddiaeth wedi cael eu hastudio ganddo yn fanwl a thrwyadl; a chanfyddai gyda chywirdeb mawr, pa syniadau oeddynt mewn cysondeb i'r egwyddorion gwreiddiol hyny; ac o'r ochr arall, pa syniadau oeddynt mewn gwrthdarawiad iddynt, ac yn milwrio yn eu herbyn.

Cafodd Mr. Jones gryn fantais i ddyfod yn dduwinydd cyson a manwl. Nid oedd nemawr o lyfrau ond rhai duwinyddol yn yr ardal, lle y magwyd ef. Duwinyddiaeth oedd. prif astudiaeth ei gymmydogion. Yr oedd gwr, a dwy o ferched yn y Ty Mawr, gerllaw i'r Deildref Uchaf, yn dduwinyddion campus, ac yn cydfyned âg ef i'r Hen Gapel, ac yn cyd-ddyfod adref bob Sabboth. Yr oedd gweinidog y gynulleidfa, y Dr. Lewis, yn dduwinydd cryf a manwl, yn bregethwr duwinyddol, ac yn ysgrifenydd duwinyddol galluog. Yr oedd y "Corff o Dduwinyddiaeth," a'r Esboniad ar yr Efengylau a llyfr yr Actau, yn nhai Pennantlliw-bach; a chyn iddo ef fyned i'r weinidogaeth, yr oedd Esboniad Dr. Lewis ar y Rhufeiniaid wedi dyfod o'r wasg; ac nid gormod yw dywedyd fod y llyfrau buddiol hyn yn cael eu hastudio yn fanwl yn yr ardal; ac yn mysg eraill, yr oedd yntau yn dra chydnabyddus â hwynt. Cynnwysai y llyfrau a nodwyd fêr gweinidogaeth yr Hen Gapel, yn enwedig y "Corff o Dduwinyddiaeth," a'r Esboniad ar y Rhufeiniaid. Felly, wrth ddarllen llyfrau duwinyddol, yn cael ei amgylchu gan gymmydogion duwinyddol, a than weinidogaeth dduwinyddol gref a goleuedig, nid ydym yn rhyfeddu fod Mr. Jones wedi ei dueddu yn foreu i astudio duwinyddiaeth yn fanwl a thrwyadl, heblaw pwysfawredd y mater ei hun, yn ngolwg dyn pwyllus ac ystyriol fel ydoedd efe.

Ac heblaw y pethau a nodwyd, yr oedd dadleuon mawrion yn cael eu dwyn yn mlaen rhwng y Calfiniaid â'r Arminiaid, pan oedd efe yn cyfaneddu yn Llanuwchllyn, ac yn yr ysgol yn Ngwrexham, ac yr oedd hyny yn sicr o droi nerth ei feddwl at byngciau yr athrawiaeth. Yr oedd y pregethwyr ieuaingc a'r gweinidogion y cyfeillachai efe â hwynt, pan oedd ei nodwedd feddyliol yn cael ei ffurfio, megys, Hugh Pugh, o'r Brithdir; William Williams, Cwmhyswn, wedi hyny o'r Wern; John Roberts, Llanbrynmair; D. Morgan, o Dowyn a Llanegryn, wedi hyny o Fachynlleth; D. Jones, Treffynnon; John Lewis, Bala; a James Griffiths, o Fachynlleth, y pryd hwnw, ac wedi hyny o Dy Ddewi, oll yn astudwyr duwinyddiaeth; a diau, iddynt hwy fod yn offerynau i gryfhau tuedd naturiol ei feddwl yntau i chwilio "beth a ddywed yr Ysgrythyr" ar bob peth perthynol i'r grefydd Gristionogol. Dylid cofnodi yn mhellach, fod Dr. Williams, o Rotherham, wedi cyhoeddi pregeth ar "Ragluniaethiad i Fywyd," gyda nodiadau manwl a meistrolgar ar ei diwedd, yn nechreu y ganrif hon; a deffroasai y bregeth hono lawer o bobl feddylgar yn Lloegr a Chymru, i fyfyrio yn fanylach nag o'r blaen ar byngciau crefyddol. Heblaw hyny, yn y flwyddyn 1809, cyhoeddodd yr un gwr dysgedig ei draethawd galluog ar "Gyfiawnder a Phenarglwyddiaeth;" ac yn mhen ychydig o flynyddau wedi hyny, cyhoeddodd argraffiad newydd o hono mewn ffurf wahanol. Cyhoeddodd Dr. Williams, hefyd, ychydig cyn ei farwolaeth, ei amddiffyniad cryf a rhesymol. i "Galfiniaeth Ddiweddar." Daeth amryw lythyrau o waith yr enwogion, Bellamy, ac Andrew Fuller, i ddwylaw amryw o weinidogion yr Annibynwyr yn ngogledd Cymru, yr amser hwnw, ac yn mysg eraill yr oedd Cadwaladr Jones yn astudiwr esgud ar y llyfrau a nodwyd; ac felly yr oedd cynud ychwanegol beunydd yn cael ei roddi ar y tân a gyneuasid eisoes yn ei enaid, ac ymawyddai fwyfwy am feddu syniadau cywir ar bob cangen o athrawiaeth y Beibl.

Nid Mr. Jones yn unig a symbylwyd y pryd hwnwi astudio duwinyddiaeth, ond llawer o frodyr eraill hefyd, y rhai a ddaethant yn raddol i weled yn eglur, nad oedd yr athrawiaeth a clwir yn Galfiniaeth, o'i hesbonio yn deg, yn cynnwys y pethau a roddid yn ei herbyn gan ei gwrthwynebwyr; ac nad oedd ei phleidwyr yn arfer ei hamddiffyn yn aml ar yr egwyddorion y dylasent wneuthur—hyny. Daeth y fath syniadau a'r rhai canlynol:—Bod Duw yn arfaethu goddef'i bechod ddyfod i'r byd ac aros ynddo.—Bod pechod o ran ei natur, yn rhywbeth cadarnhaol, megys rhyw wenwyn yn ngwaed dynoliaeth.—Bod etholedigaeth gras yn cynnwys gwrthodedigaeth.—Bod pwys, mesur, a therfynau i aberth y Cyfryngwr, a bod dyn heb allu o fath yn y byd i gydymffurfio âg ewyllys. ddatguddiedig yr Arglwydd; do, meddwn, daeth syniadau fel y rhai uchod i ymddangos yn ynfydrwydd perffaith yn ngolwg Mr. Jones a'r ysgol newydd hon o dduwinyddion Cymreig. Ymddengys fod y dadleuon diweddar yn erbyn yr Arminiaid wedi gwneud yr enwadau Calfinaidd yn Nghymru yn fwy of Galfiniaid nag yr arferent fod yn gyffredin; ond pan ddaeth yr ysgol Galfinaidd newydd, trwy ddarllen a myfyrio, pwyso a barnu, y gwahanol olygiadau oedd yn y wlad, yn wyneb. gair Duw, i weled a theimlo fod y tir y safent hwy eu hunain arno yn un cadarn a disigl, dechreuasant gyhoeddi eu golygiadau yn eofn a digêl. Y canlyniad fu, bloedd uchel yn eu herbyn o bob cyfeiriad. Yr oedd eu brodyr o'r hen ysgol Galfinaidd yn eu gwrthwynebu ar un llaw; a'r Arminiaid ar y llaw arall; ond defnyddiasant hwy yr areithfa a'r wasg i amddiffyn eu syniadau, a gorchfygasant y ddwy blaid. Cy- hoeddodd y Parch. J. Roberts, o Lanbrynmair, ei lythyrau "Ar ddybenion Cyffredinol a Neillduol Dyoddefaint Iesu Grist," yn y flwyddyn 1814. Daeth yr hybarch Thomas Jones, o Ddinbych, allan i wneuthur sylwadau arnynt, yn y flwyddyn 1819. Ysgrifenodd Mr. Roberts, drachefn, attebiad i sylwadau Mr. Jones, mewn ugain o bennodau, yn nghyd ac Atddodiad, yn cynwys traethodau byrion ar amrywiol bynciau y dadleuid yn eu cylch. Ysgrifenwyr y byr-draethodau oeddynt y brodyr W. Williams, Wern; D. Morgan, Mach- ynlleth; R. Everett, Dinbych; M. Jones, Llanuwchllyn; J. Breese, Liverpool; a rhoddodd C. Jones, Dolgellau Ol-ys- grifen," i ddiweddu y cwbl. Gelwid y llyfr hwn "Y Llyfr Glas," am fod ei glawr o'r lliw hwnw, mae yn debygol. Bu curo didrugaredd ar Y Llyfr Glas" o'r areithfaoedd, a thrwy y wasg: ond ni wnaeth ei ysgrifenwyr ond ychydig o sylw o'r ymosodwyr. Aethant hwy yn mlaen yn ddigynwrf, fel y mae dyfroedd dyfnion yn arfer ymsymud, tra y mae ffrydiau beision yn llawn cyffro a thwrw trwy yr holl oesoedd. Nid oedd gwaith eu gwrthwynebwyr yn eu gosod allan fel Armin- inid yn tycio dim. Daliasant hwy eu tir yn ddiysgog, a magasant oes o feddylwyr cryfion yn nghynulleidfaoedd yr Annibynwyr, yn ngogledd Cymru, y rhai oeddynt mor bell oddiwrth Arminiaeth, ar y naill law, ag oeddynt oddiwrth Uchel-Galfiniaeth, ar y llaw arall. Ysgrythyrwyr oedd ys- grifenwyr Y Llyfr Glas,' hwy a'u dysgyblion. Credent bob gair sydd yn y Beibl, a chysonent ei wahanol ranau a'u gilydd goreu ag y gallent, ac yn ol dim a ymddengys buont yn fwy llwyddianus i ddangos cysondeb y Dwyfol Wirionedd nag y buasai yr Hen Ysgol Galfinaidd, na'r Ysgol Arminaidd ychwaith. "Arminiaid" a waeddid ar eu holau hwy y pryd hwnw; ond Uchel-Galfiniaid a waeddir ar olau pobl o'r un farn a hwy yn y dyddiau diweddaf hyn. Gellir yn hawdd roddi cyfrif am y gwahaniaeth yna, pan ystyrir, mai yr Hen Ysgol Galfinaidd oedd yn eu galw hwy yn Arminiaid, ac mai yr un Arminaidd sydd yn cyhuddo eu dysgyblion o Uchel-Galfiniaeth; a diau fod y bobl sydd yn arfer amddiffyn eu golygiadau trwy lysenwi a gwarthruddo eu gwrthwynebwyr, pan na allant ateb eu rhesymau, yn byw, bob amser, mewn eithafion, ac annghysondeb. Yn y flwyddyn 1821, dan ymosodiadau a chamddarluniadau eu gwrthwynebwyr, dechreuodd yr Ysgol Galfinaidd newydd, yn Ngogledd Cymru, deimlo yn gryf fod arnynt angen am gyhoeddiad misol i egluro ac i amddiffyn eu golygiadau ar athrawiaeth yr Efengyl, ac i wasanaethu yr enwad y perthynent iddo mewn pethau eraill. Addfedodd y peth yn raddol yn eu meddyliau; ac ar y dydd cyntaf o Dachwedd, yn y flwyddyn uchod, mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn Ninbych, cydunwyd i gychwyn cyhoeddiad rhydd i'r dybenion a nodwyd, a daeth un Rhifyn allan, fel engraifft o'r hyn a fwriedid gael, yn mis Tachwedd, 1821; galwyd sylw yr eglwysi a'r cynnulleidfaoedd at y mater, a llwyddodd yr anturiaeth.

Y mae y cytundeb gwreiddiol rhwng cychwynwyr y Dysgedydd, yr hwn a ysgrifenwyd yn y cyfarfod crybwylledig yn Ninbych, yn awr ger bron; a diau, mai dyddorol fydd gan ddarllenwyr y cofiant hwn gael gwybod ei gynnwysiad. Ni a'i rhoddwn yma fel y mae yn yr iaith Saesoneg, ac heb ei gyfieithu. Dyma fo:-

ARTICLES OF AGREEMENT, &C

1821, Nov. 1st.

1. We, whose names are underwritten, have all and severally agreed, to publish a Monthly Magazine, to be called Dysgedydd Crefyddol, price 6d. per No.

2. That we shall forward to the Editors, some Article or other for insertion monthly, and encourage our friends in our respective neighbourhoods to do the same.

3. That in case of loss attending the undertaking, we will bear it share and share alike: but if it should produce any gain, we shall consider ourselves entitled, severally, to a portion thereof, and the rest rt our discretion to be applied towards religious purposes.

D. Jones, Holywell.
D. Morgans, Machynlleth.
Rt. Everett, Denbigh.
Cadr. Jones, Dolgelley.
W. Williams, Wern.
John Evans, Beaumaris.
Benjamin Evans, Bagillt.
D. Roberts, Bangor.
Robt. Roberts, Treban.
Edw. Davies, Rhoslann.
John Roberts, Llanbrynmair.
Wm. Hughes, Dinas.
These two were present, but left the place without signing their names to the document.

C. JONES.


Dyna gychwyniad y Dysgedydd, dros saith a deugain of flynyddoedd yn ol. Nid oes ond dau o'r gwyr a arwyddasant yr "Articles of Agreement" yn awr yn fyw; sef, y Parch. Edward Davies, Trawsfynydd; a'r Dr. Everett, o America; ac y maent hwythau bellach, agos yn barod i fyned ar ol eu brodyr i'r orphwysfa.

Yn Nolgellau y penderfynwyd argraffu y cyhoeddiad newydd; a'r Parch. Cadwaladr Jones, am ei fod yn gweinidogaethu yno, ac yn ŵr synhwyrol, araf, a phwyllog, yn ddigon naturiol a benodwyd i ymgymeryd â'r Olygiaeth. Mewn cyhoeddiad rhydd ac anmhleidiol, fel yr un oedd dan ei olygiaeth ef, cafodd o bryd i bryd gyfleusdra i amlygu ei feddwl ar rai o brif byngciau yr athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb. Cyfodai dadleuon lled frwd ambell dro, a gelwid arno yntau i wneyd sylwadau terfynol arnynt; ac yn y sylwadau a wneir genym arno, fel Duwinydd, caiff ef lefaru, hyd y gallom, drosto ei hunan. Bydd hyny yn decach nag a fyddai i ysgrifenydd y Bennod hon geisio rhoddi crynodeb o'i olygiadau ar wahanol faterion, er y gallasai wneuthur hyny yn lled gywir pe buasai angenrheidrwydd yn galw am iddo wneyd. Heblaw y sylwadau a wnaeth ef, o dro i dro, ar byngeiau crefyddol yn y Dysgedydd, y mae genym wrth law ysgrifau eraill o'i eiddo, y rhai a gant ein gwasanaethu yn y mater hwn, fel y byddo angen am danynt.

Yn y blynyddoedd 1824 ac 1825, bu dadl hirfaith yn y Dysgedydd, ar Arfaeth Duw, ac Etholedigaeth gras, rhwng y Parchedigion J. Roberts, D. S. Davies, o'r ochr Galfinaidd, a Sion y Wesley, o'r ochr Arminaidd, a gwnaeth y Golygydd sylwadau synhwyrlawn ar ei diwedd. Yn mhen ugain mlynedd wedi hyny, bu dadl faith ar yr un pyngciau, ac yn yr un misolyn, rhwng E. H., ac R. J.; ac ar derfyniad y ddadl hono, hefyd, gwnaeth y Golygydd sylwadau sydd yn dangos yn eglur beth oedd ei olygiadau ef ar Arfaeth ac Etholedigaeth. Gan fod y sylwadau diweddaf hyn o'i eiddo o gryn bwys, ac wedi cael eu hysgrifenu ganddo pan oedd ei feddwl wedi addfedu drwy hir fyfyrdod ar y ddwy ochr i'r ddadl, ni a'u rhoddwn yma ger bron ein darllenwyr. Mae eu gwerthfawredd yn esgusawd digonol dros eu meithder. Buasai yn well genym eu cael heb y ffurf ddadleuol sydd arnynt: ond barnasom nas gallasem newid y ffurf hono heb wneuthur cam a'r Awdwr; ac am hyny cant ymddangos yn y dull y daethant odditan ei law ef ei hun.

ETHOLEDIGAETH

Sylwadau ar y ddadl a fu rhwng Meistri Ellis Hughes, a Robert Jones, yn y Dysgedydd am y blynyddoedd 1845—6. Wrth ddarllen yr holl ddadl, tueddir ni i wneyd y sylwadau canlynol:—

I. PA ETHOLEDIGAETH SYDD MEWN DADL.

1. Nid Etholedigaeth i swyddau gwladol nac eglwysig, mewn amser na chyn amser, ydyw; megys y golygir yn 1 Sam. x. 24; Ioan vi. 70.

2. Nid Etholedigaeth i freintiau gwladol na chrefyddol ydyw, megys y dywedir am genedl Israel yn 1 Bren. iii. 8; Esay xli. 8, 9.

3. Nid yr anwylder a ddengys yr Arglwydd mewn amser tuag at ei bobl wedi eu dygiad i gymmod ag ef yn Nghrist ydyw. Gelwir rhai yn etholedigion o herwydd eu dygiad i sefyllfa o anwylder gan Dduw, ac nid fel etholedigion yn arfaeth dragwyddol Jehofa. "Etholedigion Duw, santaidd ac anwyl," Col. iii. 12. "Pwy a rydd ddim yn erbyn etholedigion Duw?" Rhuf. viii. 33. "Oni ddial Duw ei etholedigion, sydd yn llefain arno ddydd a nos?" Luc xviii. 7. Credwn fod y ddwy blaid yn cytuno yn hollol am bob un o'r ystyriaethau uchod, yn ddiwahaniaeth.

Y mae yr holl ddadl, gan hyny, yn nghylch Etholedigaeth bersonol a thragywyddol yn Nghrist i ras a gogoniant. Haora E. H. fod yr Etholedigaeth hon yn ysgrythyrol, a haera R. J. nad ydyw.

II. NATUR YR ETHOLEDIGAETH HON A'I CHYNNWYSIAD.

1. Nid yw y "gadael eraill i farwolaeth," a'r "penderfynu peidio cadw dim un ond y rhai a gedwir," a briodolir gan R. J. i E. H. tudal. 115, bl. 1845, yn un rhan o honi. Gweithred benarglwyddiaethol ydyw ethol ac arfaethu achub; ond nid yw y penderfynu gadael i rai fyw a marw yn eu pechodau, neu benderfynu peidio cadw, &c. ddim amgen na pheidio gweithredu, neu benderfynu neu arfaethu dim; neu fel y dywed un "Arfaethu peidio arfaethu." Nid yw y penderfynu, arfaethu, neu fwriadu tybiedig hyn, yn effeithio dim ar neb o'r gwrthddrychau cadawedig mwy nag hebddo.

2. Nid yw "penderfynu damnio y rhai a ddemnir," (neu a gosbir) y sonir am dano gan E. H. tudal. 149, bl. 1845, yn dal un berthynas â'r Etholedigaeth dan sylw. Oblegid rhaid fod y fath benderfyniad i ddamnio, neu gosbi, yn weithred berthynol i Dduw fel Llywodraethwr moesol; ond perthyn iddo fel Penarglwydd grasol yn unig y mae Etholedigaeth. 3. Nid yw gwrthodiad neb pechaduriaid yn dal un ber- thynas â'r Etholedigaeth hon. Pan sonir am yr Arglwydd yn gwrthod rhai, cymer hyn le mewn canlyniad i'w pechodau. Pan gynygiant eu gwasanaeth rhagrithiol iddo yn eu pechodau, nid yw yn eu cymeradwyo, nac yn eu derbyn hwy na'u gwas- anaeth; y maent fel "arian gwrthodedig" ganddo. Ond, craffwn, ymddygiad yw hwn etto perthynol i Dduw fel Llywodraethwr, ac nid fel Penarglwydd grasol. Pechod yn y gwrthodedig sydd yn achosi y gwrthodiad a'r annghymeradwyaeth; ond gras yn Nuw yw yr unig achos o'r Etholedigaeth mewn dadl. Taera dilynwyr J. Wesley nas gellir dal Etholedigaeth heb ar yr un pryd ddal gwrthodedigaeth; a chan nad oes gwrthodedigaeth, nad oes ychwaith yr un Etholedigaeth o'r fath ag a gredir gan Galfiniaid: ond nid yw y geiriau ethol a gwrthod yn eiriau cyferbyniol, a'r fath gysylltiad rhyngddynt fel nad yw yr un yn bodoli heb y llall. Y gair cyferbyniol i ethol yw gadael, a'r gair cyferbyniol i wrthod yw cynyg. Cyn y gellir gwrthod y mae yn rhaid fod cynyg; ond ni raid fod cynyg lle byddo dewis. Y mae dewisiad yn aml yn cymeryd lle heb un cynygiad, ac o ganlyniad heb un gwrthodiad. Y mae gwrthodiad, gan hyny, yn mhob ystyr y cymerir y gair, yn anfeidrol bell oddiwrth fod yn perthyn i Etholedigaeth rasol Duw. Ond dymunem sylwi yn mhellach,—

1. Fod amryw ymadroddion ysgrythyrol yn cynnwys a darlunio yr Etholedigaeth hon; megys "Ordeinio i fywyd," Act. xiii. 48; "Dewis," Iago ii. 5; "Rhagluniaethu i fabwysiad,', Eph. i. 5; Rhuf. viii. 29; "Arfaeth yn ol Etholedigaeth gras," Rhuf. ix. 11; "Apwyntio," 1 Thes. v. 9; "Bwriadu," Esay xiv. 27; Jer. li. 29, &c. y rhai a'n harweiniant i gredu mai y gangen hono o arfaeth Duw ydyw sydd yn sicrhau iachawdwriaeth tyrfa ddirif o bechaduriaid. Nid oes yr un o'r ymadroddion ysgrythyrol sydd yn ei darlunio yn arwyddo ychydig rifedi mwy na llawer; ond gall yr holl ymadroddion gyfeirio at lawer yn llawn cystal ag ychydig; a cham â golygiadau Calfiniaid ydyw cysylltu â hwynt mai ychydig rifedi yw y rhai a gedwir. Na, na, credwn yn hytrach na bydd Iesu wedi ei gyflawn ddiwallu heb weled y dyrfa fwyaf ar ei ddeheulaw yn y dydd mawr diweddaf,-"O lafur ei enaid y gwel, ac y diwellir," &c.

2. Y mae y geiriau ethol, dewis, &c. yn y cysylltiad hwn, yn benaf, os nad yn unig, yn dal perthynas â phersonau yn hytrach na phethau. Personau a etholwyd, a ddewiswyd, a ragluniwyd, &c.

Gwahaniaetha Etholedigaeth oddiwrth arfaeth, yn gymaint a bod yr olaf yn cynnwys pethau yn gystal a phersonau; ond oll yn bethau ag y mae llaw weithredol gan Dduw ynddynt, ac o ganlyniad yn bethau da, heb ddim drwg ynddynt. Y mae cylch Etholedigaeth ac arfaeth drachefn yn gyfyngach na chylch Hollwybodaeth. Cyrhaedd hon at y drwg yn gystal. a'r da, ac at holl greaduriaid Duw yn gystal a dynion; ond nid yw yn achosi dim—da na drwg, nac un creadur rhesymol nac afresymol mewn bodolaeth.

3. Y mae Etholedigaeth wedi achosi yn Nuw, ac nid yn neb o'r rhai a gedwir. Y mae R. J. yn priodoli yr achos o etholiad i "rinweddau dyn o hono ei hun," fudal. 49, bl. 1846. Ystyria efe Etholedigaeth yn dal perthynas â gweithredoedd, megys edifarhau, caru, credu yn Nghrist, &c. neu, mewn geiriau eraill, bod Duw wedi penderfynu er tragwyddoldeb achub y rhai a edifarhant, ac a gredant yn Nghrist "o honynt eu hun— ain." Gwir fod R. J. yn ei atebiad i'r gofyniad, "Pwy sydd yn dwyn dynion i edifarhau a chredu?" yn dywedyd yn tudal. 49, bl. 1846, mai "Duw trwy weinidogaeth yr efengyl a'r Ysbryd Glân" sydd yn eu dwyn i gredu. Ond nid yw yr Ysbryd Glân, yn ol ei farn ef, ddim amgen na moddion moesol, neu weinidogaeth moddion achub, yr hyn a iawnddefnyddir gan y rhai a gedwir, ond a gamddefnyddir gan bawb eraill yn ngwlad efengyl; herwydd haera R. J. fod yr annghredinwyr a all fod yn nghynnulleidfa Bryn Sion yn meddu yr un manteision a dylanwadau yr efengyl a'r rhai sydd yno yn credu—na wnaeth Duw ddim i'r naill yn fwy na'r llall cyn iddynt gredu, ond fod pawb of honynt yn meddianu gweinidogaeth yr efengyl a'r Ysbryd fel eu gilydd. Yn awr, onid naturiol yw gofyn, Beth yw yr achos fod rhai yn iawnddefnyddio y moddion moesol sydd ganddynt, pan y mae eraill yn eu camddefnyddio? Dichon yr ateba rhai—1. Mai goruwchlywodraeth yr Ysbryd Glân ar weinidogaeth moddion ydyw yr achos—fod ganddo ffordd ddirgelaidd i wneyd i amgylchiadau a phethau gydgyfarfod fel y maent yn sier o ateb eu dyben, sef dwyn y cyndyn yn ufudd.

2. Mai gwaith uniongyrchol yr Ysbryd Glân ar yr enaid, mewn cysylltiad â gweinidogaeth yr efengyl, yw yr achos. Credwn ninnau fod gan yr Ysbryd Glân ffordd deilwng o hono ei hun. i weithredu ar yr enaid mewn cysylltiad â moddion moesol, fel y sicrheir dychweliad tyrfa ddirif o dir damnedigaeth i afael bywyd tragwyddol.

Ond ni addefir un o'r ystyriaethau hyn gan R. J. Gŵyr yn dda os addefa un o honynt fod yn rhaid iddo ar yr un pryd addef yr Etholedigaeth mewn dadl, oblegid fod yr Ysbryd yn gwneyd mwy i'r rhai sydd yn eu hiawnddefnyddio nag i'r rhai sydd yn eu camddefnyddio; ac os ydyw yn gwneyd mwy i rai nag eraill, rhaid ei fod wedi bwriadu hyny er tragwyddoldeb, yr hyn a gynnwys Etholedigaeth yn ei chyflawn nerth. Yn hytrach nag addef hyn, golyga R. J. mai dyn o hono ei hun ydyw yr achos fod rhai yn iawnddefnyddio yr oll mae efe yn ei ystyried yn foddion achub; megys "gweinidogaeth yr efengyl, yn nghyda'i dylanwad ar y meddwl," yr hyn a eilw efe "yr Ysbryd Glân."

Y mae y dybiaeth hon yn ymddangos i ni yn taro yn hollol yn erbyn rhediad eglur y Beibl. 1. O herwydd y darluniad a wneir o ddyn wrth natur. Oni ddywedir yma fod dyn wrth natur ac o hono ei hun yn "dywyllwch," Eph. v. 8: "Yn feirw mewn camweddau a phechodau," Eph. ii. 1: "Yn elyn i Dduw," Rhuf. v. 10; Col. i. 21; "Meddylfryd ei galon yn ddrygionus bob amser," Gen. vi. 5: ac heb "ddim. da yn ei gnawd yn trigo," Rhuf. vii. 18. Oddieithr i ni fyned a'r achos o rinweddau moesol yn mhellach na'r dyn o hono ei hun, nid yw amgen na haeru fod tywyllwch o hono ei hun yn troi yn oleuni yn yr Arglwydd—y marw o hono ei hun yn dyfod yn fyw—gelyniaeth o honi ei hun yn cymmodi â Duw—perffaith ddrygioni yn troi yn rhinwedd—ac ymddi— fadrwydd o ddaioni yn dyfod yn ddaioni sylweddol? Y mae yr hwn sydd dan lywodraeth tywyllwch mor sier o barhau felly, o'i ran ei hun, ag ydyw y dall mewn ystyr naturiol of beidio gweled—y marw naturiol o beidio byw—ac un dan lywodraeth gelyniaeth at Dduw o beidio ei garu. Nid am nad oes ganddo alluoedd naturiol i weled y mae yn dywyllwch, ac heb weithredu fel dyn byw ysbrydol, a gwneuthur daioni: ond am nas myn weled, caru, credu, gwneuthur daioni, &c. Nid yw yr anallu hwn yn esgusodi neb, yn gymaint a'i fod yn berffaith bechadurus. 2. Am y priodolir hyn i Dduw yn unig. "Duw, yr hwn a orchymynodd i oleuni lewyrchu o dywyllwch, yw yr hwn a lewyrchodd yn ein calonau, i roddi goleuni gwybodaeth gogoniant Duw, yn wyneb Iesu Grist." 2 Cor. iv. 6; Eph. v. 8. "Chwithau a fywhaodd efe, pan oeddych feirw mewn camweddau a phechodau," Eph. ii. 1—5. "A phob peth sydd o Dduw, yr hwn a'n cymmododd ni âg ef ei hun trwy Iesu Grist, ac a roddodd i ni weinidogaeth y cymmod," 2 Cor. v. 18. "Canys Duw yw yr hwn sydd yn gweithio ynoch ewyllysio a gweithredu o'i ewyllys da ef," Phil. ii. 13. "Nid o'r hwn sydd yn ewyllysio y mae, nac o'r hwn sydd yn rhedeg chwaith; ond o Dduw, yr hwn sydd yn trugarhau," Rhuf. ix. 16. "Canys trwy ras yr ydych yn gadwedig, trwy ffydd; a hyny nid o honoch eich hunain; rhodd Duw ydyw," Eph. ii. 8. Pob rhoddiad daionus, a phob rhodd berffaith, oddiuchod y mae, yn disgyn oddiwrth Dad y goleuni, gyda'r hwn nid oes gyfnewidiad, na chysgod tröedigaeth," Iagoi. 17. "Myfi a blenais, Apolos a ddyfrhaodd; ond Duw a roddes y cynnydd. Felly nid yw yr hwn sydd yn planu ddim, na'r hwn sydd yn dyfrhau; ond Duw yr hwn sydd yn rhoi y cynnydd," 1 Cor. iii. 6, 7.—Y mae pob dyn yn sicr o weithredu yn ol tueddiadau llywodraethol y galon; a chan fod tuedd llywodraethol yr enaid yn unig yn ddrygionus bob amser, ni thardd o'r fath ffynnon fudr ddyfroedd gloywon, megys caru Duw, credu yn Nghrist, &c., heb i law Duw achosi y cyfryw. Y mae priodoli yr achos i ddyn o hono ei hun yn arwain i gamgymeriadau mawrion; sef bod y rhai sydd yn edifarhau, caru, a chredu yn Nghrist, neu yn defnyddio moddion achub, heb syrthio mor ddwfn ac eraill trwy y cwymp; neu mai damwain ydyw eu bod yn eu defnyddio: neu ynte fod gan ddyn y fath arglwyddiaeth ar ei ewyllys (self determining power) fel y mae yn ei thueddu at y da a'r drwg yn ddiwahaniaeth, yr hyn y mae wyneb yr ysgrythyrau yn ei erbyn, a natur pethau yn profi i'r gwrthwyneb.

4. Y mae yr Etholedigaeth hon yn hollol ddidderbyn wyneb. Y mae amryw yn tybied fod Etholedigaeth yn dderbyn wyneb, yr hyn a feiir mewn dynion, ac a wedir yn perthyn i Dduw; a diammau genym fod R. J. o'r farn hon. Gwel tudal. 363, bl. 1846. Wrth sylwi ar Act. x. 37, dywed, "Y mae yr ymadrodd hwn yn rhoi ar ddeall i ni fod Pedr yn tybied y buasai Duw yn dderbyniwr wyneb pe buasai yn ethol yr Iuddewon ac yn gadael y cenhedloedd; yna buasai Duw yn dderbyniwr wyneb yr un modd pe buasai yn ethol rhai personau a gadael personau eraill cyn seiliad y byd." Yn ol y dywediad hwn, y mae R. J. yn rhwym o briodoli i Dduw, dros dymmor yr oruchwyliaeth Iuddewig, yr hyn a ystyria efe yn annheilwg o hono, sef derbyn wyneb, trwy ethol yr Iuddewon a gadael y Cenhedloedd dros holl dymmor yr oruchwyliaeth hono; ac os oedd yn gyson â'i gymmeriad fod yn dderbyniwr wyneb fel hyn dan yr oruchwyliaeth hono, gall fod yn gyson â'i gymmeriad yn awr, ac am byth. Ond nid yw Duw dderbyniwr wyneb. "Nid oes derbyn wyneb ger bron Duw," Rhuf. ii. 11. Nid ethol un a gadael y llall yw y derbyn wyneb y sonia Pedr a Phaul am dano, ond cymeradwyo yr Iuddew yn ei ddrwg am ei fod yn Iuddew, a gwrthod y cenedlddyn rhinweddol am mai cenedlddyn ydoedd. Derbyn wyneb, gan hyny, ydyw cymeradwyo un drwg am ei fod yn perthyn i ni, neu mewn sefyllfa uchel yn y byd; a gwrthod neu annghymeradwyo un da am ei fod yn dlawd, neu heb fod yn perthyn i ni. Ond nid yw Ethol— edigaeth yn derbyn wyneb neb; cafodd hi bawb yn yr un cyflwr, heb neb yn wynebu at Dduw am eu bywyd, ond yn cwbl gefnu arno yn ddieithriad. Ni chafodd le i wrthod neb, ac ni fwriadodd achub neb o herwydd unrhyw wahaniaeth rhyngddynt o ran cyflwr, sefyllfa, na gwaedoliaeth; ac nid yw yn gosod un rhwystr ar ffordd neb i ddychwelyd at Dduw; a phe deuai rhyw un at Iesu Grist am ei fywyd o hono ei hun, ni ddywedai etholedigaeth un gair yn erbyn ei gadw. Ond yn yr olwg ar bawb yn cefnu ar ddedwyddwch, ac yn sicr o ddinystrio eu hunain am byth—o'u rhan eu hunain—y mae hi wedi penderfynu dwyn tyrfa ddirif at Iesu fel y caffont fywyd.

5. Y mae yr Etholedigaeth hon mewn cysylltiad a dyledswydd dyn. Dywed llawer un, Os ydwyf wedi fy ethol ni waeth i mi fyw yn fy mhechodau na pheidio, byddaf yn sicr o fyned i'r nef; ac os nad wyf, nid oes modd i mi fyned yno pe byddwn fyw mor dduwiol a Job! Nagê, nid yw hyn amgen nag ysgaru yr hyn a gysylltodd Duw â'u gilydd. Y mae y moddion a'r dyben wedi eu cysylltu â'u gilydd yn arfaeth Iehofah, megys yn yr amgylchiad a grybwyllir am Paul a'r rhai oedd gydag ef yn y llong, Act. xxvii. 22, 23. Dywedodd Paul wrth y canwriad a'r milwyr, "Onid erys y rhai hyn yn y llong, ni ellwch chwi fod yn gadwedig." Hysbyswyd ef gan angel yr Arglwydd yn flaenorol "na byddai colled am einioes un o honynt, ond am y llong yn unig." Pe buasai Paul yn ymddwyn fel y mae llawer yn siarad yn ein dyddiau ni am Etholedigaeth gras, buasai yn dywedyd, Y mae Duw wedi fy hysbysu na bydd colled am einioes un o honom; am hyny gellwch fod mor ddiofal ag y mynoch, a myned allan o'r llong i'r bâd os mynwch; ni bydd colled am einioes un o honoch. Ond ni ddywedodd fel hyn, ond yn hollol i'r gwrthwyneb. Rhybuddiodd hwy dan berygl bywyd i aros yn y llong-os nad arhosent nas gallent fod yn gadwedig. Felly y mae Duw wedi bwriadu achub y rhai oll a achubir, a'u dwyn i lwybr cadw-edifarhau am bechod-cilio oddiwrtho-credu yn Nghrist-byw yn dduwiol, &c., mewn trefn i fod yn gad- wedig; a chyhoedda y bygythion trymaf uwch eu penau os anufuddhant; a hyn oll er eu dwyn i, a'u cadw ar lwybr y nef a diogelu eu bywyd. "Nid yw hyn yn brawf," fel y dywed R. J. tudal 49, "fod yn bosibl i rai wedi eu hethol gan Dduw fod yn fyr o gyrhaedd iachawdwriaeth." Y mae hyn yn wir am lawer a etholwyd i freintiau yr efengyl; ond y mae allan yn hollol o'r pwnc mewn dadl.

6. Y mae yr Etholedigaeth hon yn hollol gyson â galwad cyffredinol yr efengyl, yn nghyda'r arferiad o holl foddion achub tuag at bawb. Ond dichon y beia R. J. arnom am son am "foddion achub, moddion addas, moddion digonol, &c., am nad ydynt yn ateb eu dyben "heb Etholedigaeth yn extra." Gwel tudal. 49, bl. 1846. Y mae yn wir fod Etholedigaeth yn achosi iddynt ateb eu dyben; ond nid yn achosi iddynt fod yn foddion addas a digonol. Y mae geiriad E. H. wedi rhoddi lle i amheuaeth am addasrwydd a digonolrwydd y moddion heb eu defnyddio, pan y dywed, tudal. 277, "Mae yr Iawn, yr efengyl, &c., yn drefn a moddion addas i gadw dyn ond eu defnyddio." Y mae hyn yn wir, ond nid yr holl wir yn y mater. Buasai yn well pe dywedasai eu bod yn foddion perffaith addas a digonol, pa un bynag a gaffont eu defnyddio ai peidio; a chofied R. J. nad yw eu haddasrwydd a'u digonolrwydd yn ymddibynu ar ymddygiad dyn yn eu defnyddio. Nid rhoddi gwisg am danom sydd yn ei gwneuthur yn addas a digonol, ond rhaid parhau i'w gwisgo er ateb ei dyben. Nid oes yr un annghysondeb rhwng yr Etholedigaeth hon â galwad cyffredinol, mwy nac sydd rhwng Penarglwyddiaeth a chyfiawnder yn yr hanfod ddwyfol. "Y mae Etholedigaeth," fel y dywed J. R. yn y Galwad Difrifol, "yn perthyn i Dduw fel Penarglwydd grasol; ond ei waith yn galw yn perthyn iddo fel Llywodraethwr cyfiawn; yn ganlynol, tra na fyddo annghysondeb rhwng Penarglwyddiaeth. a chyfiawnder yn yr hanfod ddwyfol, nis gall fod anghysondeb rhwng gweithrediad Penarglwyddiaeth yn ethol, a gweithrediad cyfiawnder yn galw. Yr oedd Etholedigaeth yn golygu dyn yn dderbyniwr goddefol; ond y mae galwedigaeth gyffredinol yn golygu dyn yn weithredydd rhydd, a deiliad llywodraeth foesol; a thra na byddo annghysondeb rhwng bod dyn yn dderbyniwr goddefol, ac yn weithredydd rhydd, nis gall fod annghysondeb yn ymddygiadau Duw tuag ato fel y cyfryw. Ac heblaw hyny, dyben Etholedigaeth bersonol oedd dwyn dynion i ufudd-dod i alwad yr efengyl."

Os dywedir fod gras yn yr alwad yn gystal a chyfiawnder, ni wna hyny ond cadarnhau yr hyn a amcenir ei brofi, sef nas gall fod un annghysondeb rhwng gras yn y ffynnon, a gras yn y ffrydiau sydd yn dylifo o honi. Dichon y gofynir i ni, Paham y mae Duw yn galw ar yr anetholedig, y rhai y gŵyr efe yn berffaith na fyddant gadwedig? Nid eu bod yn anetholedig yw yr achos na fyddant gadwedig, ond eu camddefnydd o drefn Duw; ac yn gymaint a bod Etholedigaeth neillduol a galwad yr efengyl yn gyson â'u gilydd, credwn y bydd llawer mwy o Dduw, mwy o ddyn, a mwy o drefn achub dyn yn dyfod i'r amlwg yn nhrefn Etholedigaeth ddiammodol, a galwad cyffredinol, nag a welsid byth pe buasai Duw yn gosod cadwedigaeth dyn i ymddibynu ar ei waith yn defnyddio moddion achub o hono ei hun. Dymunem sylwi hefyd fod y gofyniad uchod mor anhawdd ei ateb i'r Armin ag ydyw i'r Calvin; oblegid y mae y naill a'r llall fel eu gilydd yn credu galwad cyffredinol yr efengyl, a holl wybodaeth Iehofah. Gellid gofyn lluaws o ofynion cyffelyb i'r un uchod; megys "Paham y mae wedi rhoddi bodolaeth, ac yn rhoddi cynnaliaeth i'r rhai y gwyddai ef mai annghredu a wnaent, ac mai colledig fyddent?

Ond wedi y cyfan a ellir ddweyd ar y mater, y mae goruchwyliaethau y nef yn anfeidrol bell uwchlaw amgyffred holl greaduriaid rhesymol y nef a'r ddaear; a rhaid i ni ddweyd y rheswm paham y mae yn gwneyd fel hyn neu fel arall, fel y dywedodd ein Harglwydd—"Felly y rhyngodd. bodd yn dy olwg."

7. Y mae'r Etholedigaeth hon yn ysgrythyrol. Ni sylwn. yma ond yn unig ar y prif adnodau a gamesboniodd R. J., gan amcanu unioni yr hyn a gamodd efe. Nis gallwn lai na synu iddo ddychymygu fod y geiriau, "Diystyrasoch fy holl gynghor i," &c., yn golygu arfaeth Jehofah, pan y mae y cysylltiad yn dangos yn eglur i'r gwrthwyneb.

Sylwa R. J. hefyd ar 2 Pedr i. 10.—"Byddwch ddiwyd i wneuthur eich galwedigaeth a'ch etholedigaeth yn sicr." Dywed fod yr ymadrodd yn rhoddi ar ddeall fod ein Hetholedigaeth yn ansicr, a bod ar ein llaw ni ei gwneyd yn sicr," tudalen 211, bl. 1845. Nid yw yn meddwl eu gwneyd yn sicr adnabyddus i feddwl y saint; ond, yn ol ei eiriau ef ei hun mewn llythyr eglurhaol atom, "Gwneyd ein galwedigaeth a'n Hetholedigaeth yn sicr o ateb y dyben y bwriadwyd hwynt, sef iachawdwriaeth dynion." Dywed hefyd mai "dyben galwad yr efengyl ydyw cael dynion i gredu yn Nghrist, a dyben Etholedigaeth yw bywyd tragwyddol i bwy bynag a gredo." Gwelir yma yn eglur mai wrth yr alwedigaeth y meddylia, galwad yr efengyl; ac wrth yr etholedigaeth y meddylia, etholedigaeth i fywyd tragwyddol pan gredir; ac wrth eu gwneyd yn sicr, eu gwneyd yn sicr o ateb y dyben eu bwriadwyd! Meddyliem fod yr esboniad yn un gwreiddiol, ac na ddaeth erioed i feddwl neb arall. Ond gwreiddiol neu beidio, ymddengys i ni yn hollol annghytuno â'r meddwl dwyfol; ac er dangos hyny, sylwn yn-1. Mai at rai yn profesu duwioldeb yr ysgrifenai yr apostol, a'i fod yn siarad â hwy fel rhai yn ateb i'w proffes-yn wir dduwiolion. Fel y cyfryw, yr oedd galwad yr efengyl wedi ateb ei dyben (eu dwyn i gredu) tuag atynt eisoes, ac o ganlyniad eu hetholedigaeth wedi cymeryd lle (yn ol barn ein cyfaill), a bywyd tragwyddol wedi ei roddi iddynt mewn addewid sicr a didwyll, ac o ran mewn mwynhad. 2. Mai amcan yr apostol oedd eu hannog i ymestyn yn mlaen at yr hyn nad oeddynt wedi ei gyrhaedd, gan eu hannog i ddiwydrwydd i hyny; a chan eu bod wedi credu, yr oeddynt wedi eu hethol, yn ol ei farn ef, a bywyd tragwyddol yn eu gafael yn barod, ac o ganlyniad, dyben eu galwedigaeth a'u hetholedigaeth wedi ei ateb. Pa synwyr, gan hyny, a allasai fod yn y gwaith o'u hannog i arfer diwydrwydd i ymestyn at yr hyn oeddynt wedi ei gyrhaeddyd? 3. Sylwn ar y geiriau rhyfedd hyn o eiddo ein cyfaill; "Eu gwneyd yn sicr o ateb y dyben y bwriadwyd hwynt." Pwy ydyw yr hwynt yma? Galwedigaeth ac etholedigaeth yn ddiau. Gan bwy y mae ein cyfaill yn meddwl i'r alwad gael ei bwriadu i ateb y dyben a sonia, sef credu yn Nghrist? Gan Dduw yn ddiammau, ac nid gan neb arall. Wel, ynte, gellir gofyn, A fwriadodd Duw i alwad yr efengyl ateb y dyben y bwriadwyd hi tuag at bawb sydd yn ei chlywed? Os dywedwn, Do; yna fe greda pawb o honynt, a byddant oll yn gadwedig! neu ynte, y bydd bwriad Duw heb ei gyflawni. Os dywedwn, Na ddo; mai i'r rhai sydd yn credu yn unig y bwriadodd Duw iddi ateb ei dyben; yna gwelir yn eglur fod yn rhaid ar yr un pryd addef yr etholedigaeth y dadleuwn drosti. Ond lled debygol y bydd R. J. am gael ei draed yn rhydd o'r maglau hyn etto, ac y dywed mai bwriadu ymddibynol ar ymddygiad dyn yn credu y mae yn ei feddwl. Os felly rhyw fwriadu rhyfedd iawn yw hwn-bwriadu "cael dynion i gredu," a gadael i grediniaeth dyn o hono ei hun sicrhau neu ddiddymu bwriad Duw!! Nid yw hyn amgen na bwriadu a pheidio bwriadu, arfaethu a pheidio arfaethu, ethol a pheidio ethol, ar yr un pryd. Bwriadu, os credant; ac oni chredant, y bwriadu yn syrthio i ddiddymdra! Dyma fwriadu na wna un daioni i neb: bwriadu sicr o droi i ddiddymdra yn ei berthynas â phawb, oblegid na chreda neb o honynt eu hunain, fel y sylwyd eisoes. Ymddengys fod R. J. yn dal dwy etholedigaeth; un er tragwyddoldeb, gwel tudal. 211, bl. 1845; ac un arall mewn amser ar grediniaeth dyn, yn ol ei sylw ar yr adnod dan ein hystyriaeth. Ond pe byddai deng mil o etholedigaethau fel hyn yn ymddibynu ar edifeirwch a chrediniaeth dyn o hono ei hun, ni byddai neb yn well erddynt; ond arhosai pawb am amser a thragwyddoldeb dan farn condemniad heb gredu. Ni chred dyn o hono ei hun heb ddylanwad neillduol Ysbryd Duw ar ei enaid, ae ni rydd yr etholedigaethau uchod un math o gymhorth iddo i hyny. Os dywedir mai am fod dyn yn dduwiol y mae Duw yn ei ethol, pa le yr ymddengys yr angenrheidrwydd iddo gael ei ethol i santeiddrwydd, a'i greu yn Nghrist i weithredoedd da, ac yntau yn flaenorol yn santaidd, ac yn gwneyd gweithredoedd da?

Ond beth, meddwch, yw meddwl y geiriau, "Byddwch ddiwyd i wneuthur eich galwedigaeth a'ch etholedigaeth yn sier?" Mewn atebiad i hyn sylwn fod yr apostol yn ysgrifenu atynt fel duwiolion, ond etto yn y tywyllwch am eu galwedigaeth effeithiol, a'u hetholedigaeth i fywyd tragwyddol gan Dduw; ao y byddai yn angenrheidiol iddynt arfer diwydrwydd mewn bywyd duwiol a hunanymholiad er gwneyd hyn yn sicr wybodus iddynt ou hunain: ac yn annogaeth i ymgyrhaedd at hyn, sylwa ar y fantais a gaent wrth hyny—na lithrent hwy ddim byth. Cyfarwydda ni yn gyntaf at ein galwedigaeth, gwaith Duw ar ein heneidiau; ac oddiyno yn ol at y ffynnon fawr o ba un y tarddodd ein galwedigaeth, sef etholedigaeth—ei ddilyn yn ol oddiwrth ei waith at y cynllun. Ac os hyn, fel y credwn, yw meddwl yr adnod, rhaid nas gall yr alwedigaeth hon ychwaith olygu galwad yr efengyl, na'r etholedigaeth olygu etholedigaeth i fwynhau breintiau yr efengyl, oblegid nis gallasent fod yn ansicr o hyn. —nid oedd raid iddynt arfer un diwydrwydd i'w wneyd yn sicr—yr oedd yn berffaith wybodus iddynt eisoes.

Sylwa hefyd ar 2 Thes. ii. 13, "Oblegid i Dduw o'r dechreuad eich ethol chwi i iachawdwriaeth," &c. a dywed mai etholiad y cenhedloedd i freintiau, megys, Eph. iii. 1—6, a olygir. Ond y mae hyn yn hollol gamsyniad. Y mae y geiriau o'r dechreuad yn cyfeirio yn aml at dragwyddoldeb cyn bod amser, Ioan i. 1, a 1 Ioan i. 1. Wrth gymharu yr adnodau hyn, ymddengys fod y geiriau yn y dechreuad," "ac o'r dechreuad," a'r un meddwl iddynt, sef "er tragwyddoldeb." Gwel hefyd Michah v. 2. Nid yw y geiriau "o'r dechreuad" yma yn golygu dechreuad pregethiad yr efengyl, am nad ydynt yn cael eu harferyd am hyn yn neillduol yn un man arall; ac nid yw yn cydfyned à hanesiaeth yr ysgrythyr fod y Thessaloniaid yn flaenffrwyth y cenhedloedd, fel yr ymddengys yn Act. xv. 3. Yr un etholedigaeth a olygir yn y geiriau dan sylw ag yn 1 Thes. i. 4, 5. At yr un bobl y mae yr apostol yn ysgrifenu, ac y mae yn dangos yn eglur nad etholedigaeth i freintiau a olyga yno; oblegid y rheswm a ddefnyddia i brofi eu hetholedigaeth, fod yr efengyl tuag atynt, nid mewn gair yn unig, ond mewn nerth, ac yn yr Ysbryd Glân, ac mewn sicrwydd mawr, &c. Sylwa, yn mhellach, ar Rhuf. viii. 28, 29, "Y rhai a ragwybu, a ragluniodd efe hefyd," &c. Mae R. J. yn golygu mai "penderfyniad tragwyddol Duw i faddeu pechodau yr edifeiriol, a rhoi bywyd tragwyddol i bwy bynag a gredo yn Nghrist yw etholedigaeth," tudal. 49, bl. 1846. Yna ceisia gysoni ei olygiad hwn â'r adnodau uchod. Ond dywed yn ei bregeth, tudal. 363, bl. 1846, mai "etholiad y cenhedloedd i fwynhau breintiau crefyddol yn sefydliad yr oruchwyliaeth efengylaidd a feddylir yn holl epistolau Paul." Beth, ai nid epistol Paul yw yr epistol at y Rhufeiniaid? Y mae R. J. wedi anghofio ei hun. Camddarlunia olygiadau E. H. yn tudal. 49, pan y dywed fod E. H. yn golygu wrth etholedigaeth, "Penderfyniad tragwyddol Duw o rai personau i gredu, ac o bersonau eraill i beidio credu." Nis gallwn ni gredu fod E. H. yn dweyd na meddwl fod Duw wedi penderfynu i neb beidio credu. Ond rhag gwneyd un annhegwch ag R. J. yn ei esboniad ar yr adnodau dan sylw, boddlonwn iddo gymeryd yr un a fyno -ei etholedigaeth amserol, neu ei "benderfyniad tragwyddol i faddeu pechodau yr edifeiriol," &c. y mae yn golygu y ddwy "yn dal perthynas â gweithredoedd,' gwel tudal. 49, bl. 1846, "y weithred o garu Duw yn rhesymiad yr apostol;" ac of ganlyniad nid yw ei etholedigaeth o un gwerth i neb, ond yn syrthio i hollol ddiddymdra, yn gymaint a'i bod yn ymddibynu ar weithredoedd da dyn o hono ei hun. Neu ynte iddo gymeryd yr adnod dan sylw yn golygu ei drydedd etholedigaeth, sef etholiad y cenhedloedd i freintiau, yr hon a olyga yn holl epistolau Paul pan y sonia am etholedigaeth, medd ef. Ond sylwed ein darllenwyr fod y geiriau yn cynnwys pob Cristionogion pa un bynag ai Iuddewon ai Cenhedloedd fyddont. O herwydd y mae y breintiau y sonir yn y geiriau yn perthyn nid i gyfundebau fel y cyfryw, ond i bersonau neillduol; a'r holl freintiau yn effaith rhagwybodaeth, a rhagluniad y nef.

Sylwa hefyd ar 2 Tim. i. 9, "Yr hwn a'n hachubodd, ac a'n galwodd ni à galwedigaeth santaidd, nid yn ol ein gweithredoedd ni, ond yn ol ei arfaeth ei hun a'i ras." Dywed fod yr adnod hon yn golygu "trefn achub, trefnu ffordd iechydwriaeth, agor ffordd y bywyd o flaen y byd," &c. Ymddengys i ni fod y geiriau yn golygu y pethau y maent yn ddweyd, sef gweithredol achubiaeth; o herwydd-1. Mai eu troi o'u priodol ystyr ydyw eu cymhwyso at "drefn achub, agor ffordd bywyd o flaen y byd," &c. 2. Am fod cysylltiad y geiriau yn dangos hyn i raddau helaeth. Sonia Paul am dano ei hun yn adn. 12, ac am Timotheus adn. 5, ac am danynt eu dau adn. 7, fel rhai wedi eu hachub, a'u galw yn wir ufuddion i'r efengyl, "nid yn ol eu gweithredoedd, ond yn ol ei arfaeth ei hun a'i ras."

'Bellach, deuwn at destyn pregeth R. J. yn ein Rhifyn am Ragfyr 1846. "Megys yr etholodd efe ni ynddo ef cyn seiliad y byd, fel y byddem santaidd a difeius ger ei fron ef mewn cariad." Yma sylwa mai "etholedigaeth y cenhedloedd i freintiau yr oruchwyliaeth efengylaidd" a olygir, yr hyn a ymddengys i ni yn hollol annghywir—1. O herwydd fod Paul yn rhoddi ei hun yn un o honynt, megys yn y geiriau ni a byddem: nis gallasai roddi ei hun yn un o'r cenhedloedd, oblegid mai Iuddew ydoedd mewn gwirionedd. 2. O herwydd mai at y saint ar ffyddloniaid yn Nghrist Iesu yr oedd yn ysgrifenu ei epistol, y rhai oeddynt gynnwysedig nid o genhedloedd yn unig, ond hefyd o Iuddewon dychweledig; am hyny, yr oedd yn gallu ystyried ei hun yn un o honynt, ac o ganlyniad wedi ei ethol i fywyd tragwyddol, ac i santeiddrwydd fel y llwybr i fywyd, a hyny cyn seiliad y byd—nid am eu bod yn santaidd, ond "fel y byddent santaidd a difeius ger ei fron ef mewn cariad." Ond dichon yr haerir nad yw debygol fod yr holl eglwys yn wir dduwiol, ac o ganlyniad nas gallasai ddweyd eu bod wedi eu hethol cyn seiliad y byd heb un eithriad. Yma sylwn fod yr apostol yn eu hanerch yn ol y broffes of dduwioldeb oeddynt wedi ac yn ei wneyd; ac o herwydd mai hwn oedd y cymmeriad cryfaf perthynol iddynt, ystyriai yn briodol eu hanerch dan yr enwau saint a ffyddloniaid yn Nghrist Iesu, ac wedi eu hethol cyn seiliad y byd. Fel hyn y llefarai am eglwysi cyfain eraill yr un modd, gan eu cynghori hwynt yn deilwng yn ol yr enw oedd arnynt; gwel ei epistolau at y Corinthiaid, Philippiaid, Colosiaid, Thessaloniaid, &c., &e. Gan hyny, pell iawn, i'n tyb ni, ydyw esboniad R. J. o fod yn gywir.

Oddiwrth y sylwadau blaenorol dysgwn—1. Na wnaeth ac na wna yr Etholedigaeth y dadleuwn drosti ddim drwg i neb. Ni achosodd ac ni achosa anedifeirwch neb, gelyniaeth neb at Dduw, annghrediniaeth neb yn Nghrist, dygiad neb i gyflwr colledig, na thragwyddol gosbedigaeth neb—hi a ylch ei dwylaw yn lân oddiwrth waed pawb oll.

2. Ei bod wedi ac yn achosi daioni annhraethadwy. Etholedigaeth ydyw yr achos o ddygiad tyrfa ddirif o bechaduriaid i gredu yn Nghrist, i afael bywyd, ac i holl ddedwyddwch y nef.

3. Nas gwnaeth ac nas gwna yr Etholedigaeth Arminaidd ac ammodol, a wrthwynebir genym, un daioni cadwedigol i neb. Ni ddygodd ac ni ddyga hon neb i gredu yn Nghrist, i edifeirwch am bechod, i gymmod â Duw, i ymadael â'i bechod, i ffordd santeiddrwydd, i gyflwr o ddiogelwch rhag damnedigaeth, na neb at Dduw i ddedwyddwch y nef. Wedi yr estyna foddion achub i ddynion, yn ddiammod, gad rhwng pawb â hwy, ac ni estyna un llaw o gymhorth i un pechadur tlawd i gydio gafael yn nhrefn achub er dyfod i afael bywyd, os na chreda, o hono ei hun, yn gyntaf! Etto dadlenir drosti gan lawer fel pe byddai bywyd tragwyddol yr holl fyd yn troi arni!!

4. Y mae y gyfryw Etholedigaeth yn dra niweidiol a phechadurus. 1. Y mae ei chredu yn dangos anwybodaeth. Pe byddai i ddynion ddim ond darllen, gwrando, a myfyrio yn ddiduedd, gyda gweddi ddyfal at Dduw am gymhorth i iawnfarnu yn y mater, gallent weled yn eglur, feddyliem ni, fod yr Etholedigaeth hon yn anysgrythyrol. 2. Y mae y grediniaeth o honi yn tueddu i achlesu balchder dyn. Nid yn ei osod ar dir cyfrifoldeb, ond yn ei godi i fyny i dir duwioldeb a rhinwedd, o hono ei hun; a thrwy hyny yn siomi enaid gwerthfawr. 3. Y mae yn taro yn erbyn athrawiaeth gras. Os yw Etholedigaeth yn sylfaenedig ar dduwioldeb a rhinwedd dyn yn credu, edifarhau, &c., y mae gwaith mewnol Ysbryd yr Arglwydd yn hollol afreidiol. Gan fod dyn yn dechreu byw yn dduwiol o hono ei hun, diau y gall barhau felly hefyd, a bod yn ddedwydd. Y mae y gorchestgamp mwyaf wedi ei gyflawni. 4. Y mae yn taro yn erbyn caniadau y nef i raddau helaeth iawn. Molianu Duw y maent yno am ei gariad tragwyddol, am anfon ei Fab i fod yn Iawn am bechod, rhoddi breintiau yr efengyl yn eu dwylaw, a thueddu eu calonau i wneyd derbyniad o honi, heb son dim am eu rhagoroldeb eu hunain ar eraill nas derbyniasant hi.

5. Fod yr Etholedigaeth a wrthwynebwn yn rhwym o syrthio i hollol ddiddymdra. Yn ol hon byddai Duw yn dywedyd fel y canlyn:—Yr wyf yn bwriadu achub pawb a gredant o honynt eu hunain; ond os na chredant felly, nid wyf yn bwriadu eu hachub y mae bodolaeth fy mwriad yn syrthio i ddihanfodiad; a chan na chredai neb fel hyn, ni byddai ganddo un bwriad i achub neb. Y mae hyn megys pe dywedai un wrth dad naturiol, a fyddai dan lywodraeth cariad at ei blentyn. anwylaf, prif hyfrydwch ei fynwes, Os bydd i ti ladd dy blentyn erbyn y pryd hyn yfory, mi a'th godaf yn foneddwr mwyaf o fewn y deyrnas. A fyddai efe yn debygol o wneuthur, ac yntau dan lywodraeth cariad at ei blentyn? Na, gwrthodai y cynygiad gyda'r diystyrwch mwyaf. "Cariad sydd gryf fel angeu.—Dyfroedd lawer ni allant ddiffoddi cariad, ac afonydd nis boddant: pe rhoddai wr holl gyfoeth ei dŷ am gariad, gan ddirmygu y dirmygid hyny," Can. viii. 6, 7. Felly yr un modd ni wna yr hwn sydd yn byw dan lywodraeth cariad at ei bechod ei groeshoelio er pob anogaethau a roddir iddo i wneuthur.

6. Mai ffoledd mawr ydyw gwrthwynebu yr Etholedigaeth a bleidiwn, o herwydd ei bod yn gwneyd mwy er achub rhai nag eraill. Oni wnaeth Duw lawer mwy mewn Etholedigaeth i freintiau i rai nag eraill? Rhoddwyd mwy i'r Iuddewon na'r Cenhedloedd am filoedd o flynyddoedd; ac oni wna efe fwy o lawer yn awr i rai Cenhedloedd nag eraill? Y mae y rhan fwyaf o'r byd etto heb efengyl. Nid yw etholiad i freintiau a manteision achub yn gorwedd fawr os dim gwell ar y mater hwn nag Etholedigaeth i fywyd. Nid yr un faint o iechyd, cyfleusderau, a breintiau crefyddol a roddir gan Dduw i'r naill a'r llall; etto nid oes achos gan neb i feio arno am hyn: nid oes rwymau arno i roddi dim i neb, ac nid yw yn gwneyd cam â neb wrth gyfranu mwy i eraill. Paham, gan hyny, y beïr ar Etholedigaeth gras?

7. Fod yr Etholedigaeth y dadleuwn drosti yn gadael yr un faint o obaith a mantais i fod yn gadwedig i'r gweddill gadawedig ag a adewir gan Arminiaid i bawb. Nid yw yn eu hyspeilio o'u galluoedd naturiol i iawn ddefnyddio moddion achub-nid yw yn rhoddi un tuedd drygionus ynddynt-ac nid oes a fyno hi a gwneyd un anfantais i neb mwy nag hebddi. Pa fanteision bynag y mae Arminiaid yn ei roddi i bawb i fod yn gadwedig, y mae Etholedigaeth, yn yr ystyr Galfinaidd'o feddwl, yn gwneyd yr un peth i'r gweddill gadawedig, ac yn sicrhau cadwedigaeth y dyrfa fawr a achubir, pan nad yw Etholedigaeth ammodol yn sicrhau cadwedigaeth neb.

Yn awr, gadawn y Sylwadau blaenorol at ystyriaeth ein darllenwyr, heb gymeryd arnom draethu ar lawer o bethau y gallesid gwneyd ar y pwngc, gan gyfyngu ein hunain yn unig at y pethau a gymerai i fewn y prif faterion a ymddengys i ni yn gamsyniol yn y ddadl.

Cyfeiriwn ein darllenwyr, er gweled ychwaneg ar y pwngc, at y ddadl rhwng y Parchn. J. R., D. S. Davies, a Sion y Wesley, bl. 1824, tudal. 47, 76, a 106; a bl. 1825, tudal. 48, 75, 106, 114, 117, a 145; yn nghyd â Sylwadau y Golygydd, 148.

Gwyddai Mr. Jones, yn llawn cystal a neb yn Nghymru, fod y golygiadau a gofleidia dyn ar Arfaeth Duw, ac Etholedigaeth Gras, yn sicr o effeithio yn ddirfawr ar ei syniadau ar byngciau Duwinyddol eraill; megys, ymddibyniaeth dyn ar Dduw am bob daioni; cyflwr dyn fel creadur syrthiedig, a gwrthryfelwr penderfynol yn erbyn yr Arglwydd; natur moddion moesol, a'u gweinyddiad tuag at ddynion, fel deiliaid cyfrifol yn llywodraeth Duw; natur gwaith yr Ysbryd Glân, yn nychweliad a santeiddiad pechaduriaid; fod ysgogiad dyn at ddaioni, yn nhro-bwynt dechreuol ei iachawdwriaeth, yn hollol o Dduw, yn gystal a pharhad y saint mewn santeiddrwydd; cyflwyniad yr holl ogoniant i'r Arglwydd, dros byth, gan y gwaredigion; ac amryw bethau pwysig eraill. Gwelai ef yn eglur mai yn ol fel y byddo syniadau dyn ar y pethau hyn, y bydd ei grefydd yn nefol neu yn ddaearol, yn Ddwyfol neu yn ddynol; a dyna paham y rhoddai gymaint o bwys ar feddiannu golygiadau ysgrythyrol a chyson ar arfaethau y Brenin mawr, ac etholedigaeth gras.

Fel y mae golygiadau dynion ar arfaeth ac etholedigaeth yn dylanwadu yn gryf ar eu holl gyfundraeth Dduwinyddol, felly, hefyd, y mae y syniadau fyddo ganddynt ar Oruchwyliaeth Eden a Chynnrychiolaeth Adda yn sicr o effeithio yn fawr ar eu syniadau am lawer o bethau pwysig eraill; megys, doethineb, daioni, a chyfiawnder Duw yn y sefydliad a wnaeth efe yn Mharadwys, gyda golwg ar hiliogaeth y dyn cyntaf; natur sefyllfa creadur perffaith, yn ei berthynas â'r Goruchaf; natur pechod; beth yw yr anfanteision a'r colledion a ddaeth ar hil Adda mewn canlyniad i'w drosedd ef; tegwch athrawiaeth Cyfrifiad, a'r hyn a gynnwysa; cynnrychiolaeth yr Adda diweddaf, a chyfrifiad o'i gyfiawnder ef i rai euog, er eu cyfiawnhad; y rhesymoldeb i un gael ei achub drwy haeddiant un arall; marwolaeth plant bychain; yr hyn a gynnwysa eu hiachawdwriaeth drwy Iesu Grist; beth yw perthynas bresenol dynolryw a chyfammod Eden; yn mha bethau yr oedd y sefydliad a elwir, yn gyffredin, "Y Cyfammod Gweithredoedd" yn gynwysedig; a oedd ynddo ras mawr yn gystal a chyfiawnder; yn nghyd a phethau eraill y gellid eu nodi.i

Y mae genym Draethawd byr o eiddo yr Hen Olygydd, a gyhoeddwyd ganddo yn y Dysgedydd, ar ol iddo ef roddi yr olygiaeth i fyny; a chan ei fod yn dangos, i raddau, beth oedd ei farn ar y sefydliad Edenaidd, rhoddir ef yma, er mwyn darllenyddion y Cofiant hwn:

CYNNRYCHIOLAETH ADDA.

Wrth ymdrin â'r mater difrifol a phwysig hwn, dymunem sylwi ar y gosodiadau canlynol:

1. Fod Duw wedi creu Adda ar ei lun a'i ddelw ei hun, mewn gwybodaeth, cyfiawnder, a santeiddrwydd. Pa hyd y parhaodd yn y cyflwr hwn, nis gwyddom; ond y mae yn ddiamheuol ei fod yn ystyriol o'i gyfrifoldeb i'w Greawdwr, a'i rwymau i'w garu â'i holl galon, ac ufuddhau iddo yn mhob peth a ddywedai efe wrtho. Gwyddai mai Duw yn unig ydoedd Meddiannydd yr holl fyd, ac nad ydoedd ganddo ef hawl i ddim oedd ynddo ond a ganiateid iddo gan ei Greawdwr a'i Lywodraethwr.

2. Gwelodd Duw yn dḍa, yn gymaint a'i fod yn greadur cyfrifol iddo, ei osod ar brawf. Yn y sefydliad, neu y drefn hon, rhoddwyd cyfraith i Adda. "A'r Arglwydd Dduw a orchymynodd i'r dyn, gan ddywedyd, O bob pren o'r ardd gan fwyta y gelli fwyta: ond o bren gwybodaeth da a drwg, na fwyta a hono; oblegid yn y dydd y bwytei di o hono, gan farw y byddi farw." Gofynai y gyfraith hon berffaith ufudddod dros holl dymor ei brawf. Nid ydym yn gwybod hŷd amser ei brawf; ond gellid meddwl nad ydoedd ond byr. Pa fodd bynag am hyn, methodd Adda ddal ei ffordd; a chyn diwedd yr amser hwnw, efe a fwytaodd o'r ffrwyth gwaharddedig, a chollodd ei hawl yn ol y drefn hon i fywyd o ddedwyddwch, yr hwn yn ddiau a gawsai drwy gydffurfio â'r gyfraith a roddwyd iddo. Daeth dan fygythiad y cyfammod neu y drefn hon, "yn y dydd y bwytei di o hono, gan farw y byddi farw." Ymadawodd â Duw,-daeth yn agored i farwolaeth naturiol a thragwyddol. Gen. ii. 17.

3. Gosodwyd ein tad Adda i sefyll, nid yn unig drosto ei hun, ond hefyd dros ei holl hiliogaeth. Oni buasai y gosodiad hwn, ni fuasai trosedd cyntaf Adda ddim i ni mwy na'i droseddau eraill ar ol hyny, neu droseddau ein rhieni, neu ryw rai eraill a gaffai y cyffelyb fanteision i osod esiampl ddrwg ger ein bron. Ond y mae yn dra eglur yn yr ysgrythyrau, fod ei drosedd cyntaf ef wedi dwyn ei holl hiliogaeth i'r un cyflwr ag yntau-sef cyflwr o ysgariaeth oddiwrth Dduw, ac yn agored i farwolaeth naturiol a thragwyddol. Rhuf. v. 12, 14, 15, 17, 18, 19, 21. "Am hyny, megys trwy un dyn y daeth pechod i'r byd, a marwolaeth trwy bechod; ac felly yr aeth marwolaeth ar bob dyn, yn gymaint a phechu o bawb. Canys os trwy gamwedd un (neu un camwedd) y teyrnasodd

marwolaeth trwy un; mwy o lawer y caiff y rhai sydd yn derbyn lluosogrwydd o ras, ac o ddawn cyfiawnder, deyrnasu mewn bywyd trwy un, Iesu Grist. Felly gan hyny, megys trwy gamwedd un y daeth barn ar bob dyn i gondemniad; felly hefyd trwy gyfiawnder un y daeth y dawn ar bob dyn i gyfiawnhad bywyd." Gwel hefyd 1 Cor. xv. 21, 22, 49. "Canys gan fod marwolaeth trwy ddyn, trwy ddyn hefyd y mae adgyfodiad y meirw. Oblegid megys yn Adda y mae pawb yn meirw, felly hefyd yn Nghrist y bywheir pawb. Ac megys y dygasom ddelw y daearol, ni a ddygwn hefyd ddelw y nefol." Nid ydym i ddeall wrth yr ysgrythyrau uchod, ein bod ni, blant Adda, yn cael ein hystyried gan Dduw wedi bwyta o'r ffrwyth gwaharddedig yn bersonol; ond ei fod yn ein cyfrif yn ddarostyngedig i'r un canlyniadau â phe buasem wedi gweithredu yn bersonol, a hyny oblegid tegwch ac uniondeb y drefn o osod Adda yn ben i sefyll ei brawf drosom. Gan hyny, yn gymaint a bod ein tad Adda wedi ei osod i sefyll, nid yn unig drosto ei hun, ond hefyd dros ei holl hiliogaeth, yr oedd y bygythiad, a'r addewid gynnwysedig yn y cyfammod a wnaed âg ef, yn perthyn i'w hiliogaeth yn gystal ag yntau. "Yn y dydd y bwytei o hono, gan farw ti a fyddi farw," Gen. ii. 17. Dichon y dywed rhyw un, er fod yn eglur y lleferir y geiriau hyn with Adda, nad oes air o son ynddynt am ei hiliogaeth ef. Mewn atebiad i'r cyfryw, gellir dywedyd, nad oes ychwaith un gair o son am ei hâd yn y geiriau yn Gen. iii. 19, "Canys pridd wyt ti, ac i'r pridd y dychweli." Er hyny, y mae yn eglur fod y geiriau yn perthyn i'w hiliogaeth yn gystal ag yntau, fel mai trwy rym y ddedfryd sydd ynddynt y maent oll yn ddarostynedig i farwolaeth." Yn Adda y mae pawb yn meirw."

Dichon etto fod ambell un yn methu canfod uniondeb, tegwch, a daioni y fath drefn, a gosod un dyn i sefyll drosom ni oll, ac yn tybied y buasai yn llawer tecach, a mwy manteisiol i'w hiliogaeth, gael eu gosod i sefyll eu prawf drostynt eu hunain, na bod un dyn [Adda] yn sefyll dros ei holl hâd. I hyn gellir ateb, na chafodd Adda, na neb o'i hiliogaeth, un anfantais yn y drefn hon. Ond i'r gwrthwyneb, fod y drefn, nid yn unig yn llawn cystal, ond yn fwy manteisiol i bawb, na phe buasem yn cael ein gosod i sefyll bawb drosto ei hun, fel yr ydym yn dyfod i'r byd. Gwelir hyn wrth ystyried—

1. Y mae y drefn yn ymddangos yn fwy manteisiol i Adda gyda golwg arno ei hun yn bersonol, nag hebddi; o herwydd fod cadw y gorchymyn a roddwyd iddo yn rhoddi hawl mewn bywyd ysbrydol, naturiol, a thragwyddol, pryd nad ydoedd ganddo un hawl bersonol yn flaenorol i'r drefn hon. Diau fod rhwymau arno garu Duw â'i holl galon, yn ol rheswm a natur pethau, fel y daeth o law ei Greawdwr; ond pe buasai yn byw bywyd o berffaith gariad at ei Greawdwra byw felly dros fil o flynyddoedd, nis gallasai drwy hyny hawlio dim o law ei Grewr; a gallasai Duw, heb wneyd un annghyfiawnder ag ef, ei ddifodi drachefn. Ond cynnwysai y cyfammod, neu y drefn hon, ras mawr, nid yn unig parhad o'r hyn ydoedd ganddo, ond yn ol pob tebygolrwydd, llawer iawn yn ychwaneg.

2. Yr ydoedd y drefn hon mor, ac yn fwy manteisiol i'w hiliogaeth, na phe buasai pob un yn cael ei osod i sefyll ei brawf drosto ei hun; oblegid yr oedd ganddo alluoedd naturiol mor rymus ag a ddymunasai neb o honom ninnau fod genym; ac yr oedd hefyd yn berffaith santaidd, heb un tuedd i'r gwrthwyneb ynddo. Ac heblaw hyny, yr ydoedd yn meddiannu ar berffaith ddynoliaeth mewn cyflawn faintioli a nerth, gorff ac enaid; ac newydd dderbyn y gyfraith o enau Duw ei hun pan ddechreuodd ei brawf;—a diau ei fod yn meddu perffaith ystyriaeth o'i rwymedigaethau i'w Dad nefol; ac yn mhob modd gymaint, a mwy o annogaethau i gadw ei le nag a allasai fod genym ni, wrth sefyll drosom ein hunain yn unig; o herwydd fod dedwyddwch ei hiliogaeth ar un llaw, a'u hannedwyddwch ar y llaw arall, yn annogaethau ychwanegol i ufudd—dod iddo, at ei ddedwyddwch a'i annedwyddwch ei hun yn bersonol; yr hyn nas gallasent fod yn annogaethau i ni, a golygu ein bod yn sefyll ond drosom ein hunain yn unig.

Diau fod Adda yn gwybod yn dda ei fod yn sefyll dros ei hiliogaeth;—yr oedd yn degwch iddo gael gwybod hyn—ac nid ei adael yn y tywyllwch, a llen megys dros ei lygaid; a diau hefyd ei fod yn caru dedwyddwch ei holl hiliogaeth, yn gystal a'i ddedwyddwch ei hun. Yn gymaint a'i fod yn berffaith santaidd, nis gallasai lai na theimlo felly; a gallasai ddywedyd, Os bydd i mi gadw fy lle am dymmor fy mhrawf, bydd i mi, nid yn unig sicrhau dedwyddwch i mi fy hun, ond dedwyddwch hefyd i'm holl blant: ac ar y llaw arall, os bydd i mi droseddu gorchymyn fy Nghrëwr, mi a ddygaf, nid yn unig fy hun, ond fy holl blant hefyd, i gyflwr o bechod a thrueni; mewn geiriau eraill, yn ddarostyngedig i farwolaeth ysbrydol, naturiol, a thragwyddol.

Gwrthddadl.—Nis gallasai cyflwr truenus dynolryw, mewn canlyniad i drosedd cyntaf Adda, fod yn un annogaeth iddo gadw ei le, oblegid yr oedd yn credu y byddai farw yn y dydd y bwytâi o'r ffrwyth gwaharddedig; o ganlyniad, ni fuasai ganddo hiliogaeth mewn cyflwr truenus i deimlo drostynt.

Atebiad.—1. Nid yw y geiriau, "Yn y dydd y bwytei o hono, gan farw ti a fyddi farw," yn golygu y byddai iddo farw yn ddioed ac anocheladwy pan y pechai, ond y dygai ei hun yn ddarostynedig, neu yn agored i farwolaeth. Diau mai hyn ydoedd meddwl Duw wrth lefaru y geiriau; pe amgen, buasai marwolaeth naturiol yn cymeryd lle y dydd hwnw heb arbediad. Gan mai hyn ydoedd meddwl Duw wrth lefaru y geiriau, fel hyn yr oedd am i Adda eu deall; a diammau mai fel hyn y deallodd yntau hwynt, ac nid yn wahanol.

2. Yr oedd ganddo sylfaen ddigonol i gredu y byddai ganddo hiliogaeth, oblegid i Dduw ddywedyd wrtho ef a'i wraig Efa, "Ffrwythwch, ac amlhewch, a llenwch y ddaear, a darostyngwch hi, ac arglwyddiaethwch ar bysg y môr, ac ar ehediad y nefoedd, ac ar bob peth byw a ymsymudo ar y ddaear," Gen. i. 28. Dylem gymeryd y geiriau yn hytrach fel addewid na gorchymyn, megys yn adnod 22, pryd yr arferir y cyfryw ymadrodd wrth y creaduriaid direswm, y rhai nad ydynt yn ddeiliaid gorchymyn oddiwrth Dduw. Saif y geiriau hefyd yn eu perthynas â hiliogaeth Adda yn gystal ag yntau. Gan hyny, cynnwys yr ymadrodd y byddai iddo ef a'i hiliogaeth lenwi y ddaear o ddynion, y rhai a ddygid dan ddedfryd marwolaeth os byddai iddo ef fwyta o'r ffrwyth gwaharddedig.

3. Gwyddai y byddai iddo hâd oblegid y gosodiad o hono yn bencynnrychiolwr, i sefyll drostynt. Ni fuasai yn cydsefyll ag anfeidrol ddoethineb Jehofah ei osod yn ben i sefyll dros ddihanfodiaid; ond y mae y gosodiad ynddo ei hun yn rhagdybied yn anwadadwy y byddai iddo hiliogaeth.

4. Nid ar yr ammod o ufudd—dod i'r gorchymyn a gafodd Adda yr oedd bod iddo hiliogaeth yn ymddibynu; ond yr oedd Duw wedi penderfynu, a gwneyd yn ddealladwy, y byddai iddo hiliogaeth, a hyny yn hollol annibynol ar ei ufudd—dod ef, neu ar y llaw arall, ei anufudd-dod. Yr oedd gan Dduw drefn arall drwy yr hon y gallai, ac y gallodd, oedi cyflawniad y bygythiad yn yr amgylchiad o anufudd—dod. Gan hyny, gallwn gredu yn ddibetrus, fod truenusrwydd cyflwr ei hâd mewn canlyniad i'r cwymp, yn annogaeth gadarn ychwanegol iddo gadw ei le, yn gystal a'u dedwyddwch ar y llaw arall. Gan hyny, manteisiol, ac nid anfanteisiol, ydoedd y drefn i'w holl hiliogaeth.

Oddiwrth yr ystyriaethau blaenorol gwelwn—

1. Mai ynfyd ydyw pob dyn a lefaro yn erbyn trefn Duw. Yn y drefn hon, dengys Duw nid yn unig ei gyfiawnder, ond hefyd ei benarglwyddiaeth a'i ras;—ei gyfiawnder, yn gofyn dyn i roddi ufudd—dod rhesymol i'w Greawdwr a'i Gynnaliwr, ac yn cyhoeddi y ddedfryd farwol uwch ei ben am anufuddhau. Ei benarglwyddiaeth, yn ei greadigaeth a moddion ei brawf; ac yn neillduol ei waith yn myned i gyfammod âg ef, yn yr hwn y cafodd Adda a'i hiliogaeth lawer mwy o fanteision i fod yn ddedwydd na phe buasent yn sefyll bawb drostynt eu hunain yn bersonol.

2. Fod arbediad dyn wedi iddo bechu yn arwain y meddwl at y drefn gyfryngol. Oni buasai y drefn hon, nis gallasai cyfiawnder arbed ein tad Adda am un munydyn wedi iddo droseddu—yr ydoedd tywalltiad yr oll oedd yn y bygythiad i fod arno yn ddigymysg a dioed.

3. Fod dyfodiad pob dyn i'r byd drwy, a than y drefn gyfryngol, ac nid dan y drefn a wnaed âg Adda.

Gwnaed sylwadau ar yr ysgrif flaenorol gan un o ohebwyr y Dysgedydd, ac amddiffynodd yr Hen Olygydd ei olygiadau: ond nid ydym yn gweled fod yn angenrheidiol i ni, er ateb dyben y cofiant hwn, ddifynu ei nodiadau amddiffynol. Nid ydym yn ammheu, ychwaith, na allasai ef fod yn fwy gwyliadwrus wrth ffurfio rhai o frawddegau yr erthygl ar "Gynnrychiolaeth Adda;" a buasai yn ddymunol pe buasai wedi trin y pwnge yn llawer helaethach, yn ei wahanol gysylltiadau, nag y gwnaeth: ond, dengys yr hyn a roddwyd yma gyfeiriad naturiol ei syniadau.

Am athrawiaeth ogoneddus yr Iawn dros bechod, golygai Mr. Jones, fel y Calfiniaid cymhedrol yn gyffredin, Fod aberth Crist yn anfeidrol yn ei natur, ei haeddiant a'i werthfawredd, ac yn sylfaen gadarn a digonol i alwad yr efengyl ar bob dyn i gredu yn Iesu Grist, "a chan gredu y caffont fywyd yn ei enw ef." Ni welai ef fod yn deg cyfyngu ymadroddion eang y Beibl am aberth y Cyfryngwr; megys y geiriau "y byd, yr holl fyd, bawb, pob dyn," at ran o'r byd, ac un dosbarth o ddynolryw; ac ni ystyriai fod y ffaith addefedig, mai rhan o'r byd, er ei fod y rhan fwyaf a gedwir trwy Grist, mewn un modd yn annghyson â helaethrwydd yr Iawn. Caiff ef etto lefaru drosto ei hun ar y pen hwn, a sylwa fel y canlyn:Gallai fod rhyw un yn barod i ofyn, Os yw Iawn Crist wedi cael ei roddi, ac yn cael ei ystyried yn ddigon dros holl ddynolryw, Pa fodd na fyddai holl ddynolryw yn gadwedig? I hyn gellir ateb:

1. Fod y gofyniad yn codi oddiar olygu yr Iawn fel taliad arianaidd o ddyled, a'i fod wedi gwneuthur Duw yn ddyledwr i ddynion. Ond mae y golygiad ar Iawn Crist yn gwbl annghyson â'r gwirionedd;—yn gwneuthur achub yn weithred o ddyled gyfiawn ar Dduw i'w thalu, ac nid yn weithred o ras yn Nuw, mewn cysondeb â chyfiawnder, yn ol Eph. ii. 5, 7, &c.

2. Fod Duw wedi cael Iawn ar ei draul ei hun yn unig, ac nid ar draul neb o'r rhai a droseddodd yn erbyn ei lywodraeth, "Yr Arglwydd a edrych iddo ei hun am Oen y poethoffrwm." A chan fod Duw wedi codi i fyny anrhydedd ei lywodraeth ar ei draul ei hun yn mherson ei Fab, ni raid iddo ddiolch i neb o'r drwgweithredwyr; fe fuasai enw da Duw, ac anrhydedd ei lywodraeth, tan gwmwl byth o'u rhan hwy; yn ganlynol nid oedd arno rwymau i achub neb o honynt mwy na'i gilydd. Etto, pan y mae Duw wedi cael anrhydedd boddhaol i'w lywodraeth (er ar ei draul ei hun) efe a all achub heb wneuthur un cam â hwynt; a chan ei fod yn Benarglwydd llawn o ras, penderfynodd i achub y rhai a achubir, ac efe a wna.

Nid oedd yn bossibl i un person dwyfol wneuthur y llall yn ddyledwr iddo, ond trwy rasol gyfammod rhyngddynt, am fod yr un mawrhydi yn perthyn i'r naill fel y llall; a phan mae y Tad yn gwneuthur addewidion i'r Mab y gwel ei had, o lafur ei enaid, ac y caiff ei ddiwallu, &c., mae hyny yn ol cyfammod neu gyngor grasol rhwng y personau dwyfol.

3. Gorchymynir pregethu yr efengyl i bob dyn, ac yn yr efengyl y mae Duw yn gwneuthur cynygiad diragrith o gadwedigaeth i bob dyn fel eu gilydd; yr hyn na allai fod, oni bai fod yr Iawn yn cael ei ystyried gan Duw ei hun (pa fodd bynag y mae dynion yn ei ystyried) yn ddigon yn wyneb ei ddwyfol lywodraeth dros holl ddynolryw.

4. Pe byddai pob dyn sydd yn clywed yr efengyl (ac nid ar Dduw y mae'r bai nad yw pob dyn sydd yn y byd wedi clywed yr efengyl) yn gwneuthur eu dyledswydd, byddai pob dyn sydd yn clywed yr efengyl yn gadwedig. Dyledswydd ddi-ymwad pob dyn sydd yn clywed yr efengyl yw ei chredu, a bydd pob dyn a gredo yr efengyl yn sicr o fod yn dragwyddol gadwedig. "Yr hwn sydd yn credu yn y Mab, y mae ganddo fywyd tragwyddol, &c., a'r hwn sydd heb gredu i'r Mab ni wel fywyd; eithr y mae digofaint Duw yn aros arno ef. Nac ofna, cred yn unig. Canys felly y carodd Duw y byd, fel y rhoddodd efe ei unig—anedig Fab, fel na choller pwy bynag a gredo ynddo ef, ond caffael o hono fywyd tragwyddol." Ni raid i neb ofni fod arfaeth yn erbyn iddo gredu, neu fod Iawn Crist yn rhy fach iddo gredu ynddo, neu fod Ysbryd Duw am ei gadw yn ol o gredu, neu yn anewyllysgar i'w gynnorthwyo yn y gwaith.

Gyda golwg ar yr hyn a ddywedir gan rai, Fod Iawn Crist yn ddigonol dros y rhai a gollir, pe buasai wedi ei drefnu iddynt a throstynt, dywed Mr. Jones fel y canlyn:—" Onid yr un peth yw hyn a dywedyd ei fod yn ddigonol pe buasai yn ddigonol? Llais a rhediad yr ysgrythyr ydyw, 'Y mae pob peth yn barod, deuwch i'r briodas.' Nid y mae pob peth yn barod, pe buasai pob peth wedi ei drefnu, &c., nage, nid fel hyn y llefara y dwyfol wirionedd; ond golyga hwn fod Crist wedi ei drefnu a'i osod i fod yn ddigonol Geidwad i'r holl fyd, ac ar y digonolrwydd hwn y mae galwad gyffredinol yr efengyl yn sylfaenedig; 'Deuwch i'r briodas,' &c. Nid ar yr hyn nid yw (ddigon pe buasai) ond ar yr hyn sydd, y mae galwadau'ı nef ar bechaduriaid i ddyfod at Grist wedi eu sylfaenu."

Dywed Mr. Jones, yn mhellach, "Gesyd y Beibl allan fod cyfammod (neu drefn) Duw yn dal perthynas â phawb. Nid fel rhai heb un berthynas rhyngddynt â'r drefn mwy na chythreuliaid yr ymddygir tuag atynt ddydd a ddaw. Nid felly yr ymddygir tuag atynt yn awr. Onid trwy y cyfammod, neu y drefn hon, y mae holl weinyddiadau daionus a grasol Duw yn cael eu gweini tuag atynt yn y fuchedd hon? Trefnwyd lawn a marwolaeth Crist i fod yn gyfrwng holl weinyddiadau daionus Duw tuag at y byd; a gwadu hyn ydyw esbonio ymaith yr angenrheidrwydd o Iawn er achubiaeth yr eglwys. Os gellir yn gyson â chyfiawnder, ac ag anrhydedd llywodraeth Iehofa, weinyddu un drugaredd tuag at fyd colledig, [heb Iawn] ar yr un sylfaen y gellir achub i fywyd tragwyddol."

Ond tra y daliai ef, yn y modd mwyaf diysgog, anfeidrol helaethrwydd yr Iawn, a bod galwad yr efengyl ar bob dyn yn seiliedig ar anfeidroledd yr Iawn, daliai, yr un mor gadarn, Fachniaeth Crist dros yr eglwys, a'i fod wedi ymrwymo i ddwyn y dorf ddirif a roddwyd iddo gan y Tad, i dderbyn y cymmod, ac i fyw bywyd santaidd ar y ddaear, ac i'w gogoneddu yn y diwedd, a'r cwbl mewn perffaith gysondeb â gogoniant ac anrhydedd gorsedd a llywodraeth y Brenin mawr. Yr oedd ei olygiadau ar Fachniaeth Crist dros yr eglwys yn gyffelyb i'r eiddo ei gyfaill, y Parch. J. Roberts, o Lanbrynmair, y rhai a geir mewn pregeth o eiddo y gwr enwog hwnw, yn y Dysgedydd am Hydref, 1827. Dywed yn ei lythyr at y Parch. John Elias, mewn amddiffyniad i'r Ymneillduwyr,— "Fod Duw er tragwyddoldeb, wedi bwriadu achub y rhai oll a achubir ganddo—Fod gan Iesu wrth farw, olwg neillduol ar rhai a gedwir (er ei fod yn Iawn anfeidrol ddigonol i achub yr holl fyd, ac yn gyfrwng gweinyddiad pob daioni y mae'r holl fyd yn ei gael gan Dduw) i gael etifeddu iechydwriaeth." Afreidiol yw i ni ymhelaethu ar y mater hwn.

Am ddylanwad yr Ysbryd Glân, yr angenrheidrwydd am dano, a'r gwirionedd pwysig mai trwy y dylanwad hwnw, mewn cysylltiad â'r efengyl a moddion moesol eraill, y dychwelir ac y santeiddir pechaduriaid, yr oedd golygiadau Mr. Jones yn oleu, ac yn hollol benderfynol. Nid rhyw rith o ddylanwad dwyfol, i dwyllo y werin, a ddaliai ef allan, ond dylanwad sicr—effeithiol ac uniongyrchol Ysbryd yr Arglwydd ar galon pechadur, yn goleuo y deall, yn ysgogoi yr ewyllys heb ddim trais, yn agor y galon i ddal ar y pethau, ac yn dwyn dynion trwodd yn deg o farwolaeth i fywyd. Mewn sylwadau golygyddol ar y mater hwn, dywed Mr. Jones fel y canlyn:—"Gwyddom am rai o'r awdwyr mwyaf dysgedig, deallus, a chyfrifol, yn gwahaniaethu yn eu barn yn nghylch y modd y mae y dduwiol anian yn cael ei phlanu yn yr enaid. Rhai a ddywedant, mai trwy y gair, fel moddion, y mae hyn yn cymeryd lle. Gwel Eiriadur y Parchedig Thomas Charles, tan y gair Adenedigaeth. Eraill a ddywedant, mai mewn modd digyfrwng y cymer hyn le; megys y rhai a enwyd uchod, &c., (Dr. Lewis, a Dr. Phillips). Sylwn yma, fod y ddwy blaid yn cyd—uno yn y pethau canlynol:—1. Nad yw y gair yn ddigonol ynddo ei hun i roddi anian santaidd i neb. 2. Mai yr Ysbryd Glân yw y Gweithydd. 3. Fod yr Ysbryd Glân yn gweithredu ar galon y pechadur. Gan hyny, yr unig beth y maent yn gwahaniaethu yn ei gylch yn y pwngc hwn ydyw, A ydyw yr Ysbryd Glân yn gwneyd defnydd o'r gair fel offeryn, trwy ba un y cyfrenir y dduwiol anian, neu nad ydyw.—Pan y dywedir ei fod, onid yw y fath ymadrodd yn rhoddi ar ddeall fod gan yr Ysbryd Glân ryw weithrediad ar y gair yn gystal ac ar y galon; oblegid os na olygir hyny, pa ddyben yw son am y gair fel offeryn neu foddion, pa un sydd ynddo ei hyn yn annigonol i ateb y dyben dan sylw? Ac os golygir rhyw weithrediad ar y gair, pan y tybir ei fod yn offerynol i aileni, dymunem yn fawr gael gwybod, pa beth y mae y gweithrediad hwn yn ei wneuthur ar y gair? Oni raid ei fod yn fath o gyfnewidiad arno, megys gordd yn cael ymaflyd ynddi i daro y graig, neu gleddyf yn cael ei finio i drywanu, neu y cyffelyb? Ond, medd yr Arglwydd, 'Ni newidiaf yr hyn a ddaeth allan o'm genau.' Onid mwy priodol, gan hyny, ydyw cyduno â'r awdwyr sydd yn dywedyd, mai yn ddigyfrwng y mae Duw yn planu y dduwiol anian yn yr enaid? Gellid meddwl fod y rhai hyn ar dir cadarn ac eglur, a bod yr ysgrythyrau canlynol, 1 Pedr i. 23; Iago i. 18; 1 Cor. iv. 15; Philemon x., a'u cyffelyb, yn cael eu deall yn fwyaf cywir ganddynt hwy. Mae yr awdwyr eraill yn golygu fod yr adnodau hyn yn gosod allan y modd y mae yr anian newydd yn cael ei phlanu yn yr enaid: ond y rhai hyn yn golygu mai cyfeirio y maent at y modd y mae yr anian newydd yn amlygu ei hun yn ngweithrediadau priodol yr enaid tuag at wahanol wrthddrychau, megys caru, credu, &c. Mae hyny yn cymeryd lle trwy fod y gair yn datguddio gwahanol wrthddrychau i'r enaid; ac oni ellir barnu fod gwaith yr anian santaidd yn ei hamlygu ei hun fel hyn, yn cael ei alw aileni, cenhedlu, ennill, &c., a bod y gwaith hwn o aileni, cenhedlu, ennill, &c. weithiau yn cael ei briodoli i Dduw, ac weithiau i ei weision, yn gymaint a bod llaw gan y naill a'r llall yn mhregethiad y gair. Priodol, debygid, ydyw ystyried fod yn rhaid i'r enaid gael ei fywhau cyn y byddo i'r gair gael un effaith gadwedigol arno. Gwel Act. xvi. 14. Nid oes neb mor ynfyd mewn pethau naturiol a meddwl mai trwy roddi had yn y ddaear y mae hi yn cael ei haddasu i ddwyn ffrwyth! Neu fod yr Arglwydd, trwy dywyniad yr haul yn trosglwyddo llygaid i ddynion! Onid yr un mor afresymol ac anysgrythyrol ydyw dywedyd, mae trwy y gair y mae y dduwiol anian yn cael ei rhoddi yn yr enaid?"

Ymddengys yn eglur y medrai ysgrifenydd y paragraph uchod "lefaru yn groyw," fel Aaron. Nid oes ynddo ddim osgoi, darnguddio, a dywedyd y pethau tebycafi foddio dynion difeddwl. Dylanwad dwyfol gwirioneddol ac uniongyrchol ar y galon sydd gan yr Hybarch C. Jones yn cael ei ddal allan, fel oedd gan Lewis, Phillips, Edwards, Williams, Fuller, Wardlaw, a Payne. Teg hefyd yw nodi, fod Charles, ac enwogion eraill a gydolygent âg ef, mai trwy y gair y mae yr Ysbryd Glân yn aileni pechaduriaid, yn dal gwir ddylanwad dwyfol; ond eu bod yn golygu mai trwy y gair y mae y gwir ddylanwad hwnw yn cyrhaedd y galon. Buasent yn dychrynu rhag y dyb, nad oes unrhyw ddylanwad yn cael ei ddefnyddio yn nychweliad a santeiddiad dynion, ond dylanwad moesol y moddion a arferir tuag atynt; ac felly nid oedd y gwahaniaeth rhyngddynt hwy a'r rhai a farnent mai dylanwad digyfrwng o eiddo yr Ysbryd Glân sydd yn cyfnewid y galon, ddim o gymaint pwys, ond yn unig fel pwnge o gysondeb, ac o gywirdeb, wrth geisio egluro Philosophyddiaeth y gwaith a wneir ar eneidiau y rhai a ddychwelir. Gallai y naill blaid fel y llall weddio yn ddihoced am ddylanwad yr Ysbryd Glân. Ond ni ellir dywedyd felly am y golygiad sydd yn gosod allan mai trwy ddylanwad moesol y moddion yn unig y cyfnewidir calonau pechaduriaid, heb ddim oddiwrth yr Arglwydd, nac yn uniongyrchol, na thrwy y moddion, yn y mater o gwbl; dim ond dynion a'r moddion wyneb yn wyneb, a'r rhai sydd yn credu yn gwneyd hyny o honynt eu hunain, heb un gwir reswm am y gwahaniaeth sydd rhyngddynt hwy ag eraill a wrthodant ddychwelyd at yr Arglwydd. Priodolai hen weinidog Dolgellau ddychweliad pob un a ddychwelir i Benarglwyddiaethol ras Duw, yn gweithredu trwy ddylanwad uniongyrchol yr Ysbryd Glân, ac yn ol bwriad ac arfaeth dragwyddol y Jehofa.

Prin y mae yn angenrheidiol dywedyd ei fod yn credu yn gryffod Arfaeth Duw a dylanwad effeithiol yr Ysbryd Glân, yn berffaith gyson â rhyddweithrediad dyn yn ei ddychweliad, ei santeiddiad, a pherffeithiad y gwaith da ar ei gyflwr. Credai Mr. Jones, mewn cysondeb â'i olygiadau ar byngciau eraill, Fod dyn mewn sefyllfa o brawf yn ngwyneb moddion gras, yn y fuchedd hon; a bod ganddo allu naturiol, fel creadur rhesymol a rhydd, i gydymffurfio âg ewyllys ei Greawdwr; ac nad oes dim yn ei rwystro i wneyd hyny ond ei anallu moesol, sef ei gariad cryf at yr hyn sydd ddrwg, a'i clyniaeth. trwyadl at yr hyn sydd dda; ac felly, bod colledigaeth pob dyn a gollir yn hollol o hono ei hunan, tra y mae cadwedigaeth y rhai a gedwir yn unig o Dduw.

Daliai ef yr athrawiaeth o Barhad y saint yn ffafr Duw, ac mewn santeiddrwydd, ac y dygir pob gwir gredadyn yn ddiogel i'r nef, yn y pen draw; a gwelai yn eglur, Fod cyfiawnder a gras yn cydymddisgleirio yn iachawdwriaeth pechaduriaid, o'r Alpha i'r Omega. Nid rhyw opiniynau oedd y pethau a nodwyd ynddo ef, ond yr oedd ei olygiadau ar byngciau crefydd yn anwylach ganddo na'i fywyd, a glynai wrthynt trwy bobpeth yn ddiwyro, ac yn hollol benderfynol.

Am y pyngeiau o Natur eglwys, a dysgyblaeth Tŷ Dduw, Annibynwr o'r Annibynwyr oedd ein brawd ymadawedig; ond coleddai ei olygiadau neillduol ei hun mewn cariad brawdol at enwadau eraill, ac ewyllys da cyffredinol i bawb a wahaniaethent oddiwrtho. Anfynych y cyfarfyddid a dyn mor rydd a diragfarn ag ef; ac ar yr un pryd nid oedd dim a barai iddo roddi i fyny yr un iot o'r hyn a gredai fel gwirionedd datguddiedig. Yr oedd yn dawel, yn fwyn, a didwrf iawn; ond er hyny, yr oedd mor ddiysgog a brenhinbren y goedwig. Credai fod plant bychain yn gyffredinol yn addas ddeiliaid Bedydd, ac mai trwy daenelliad y mae yr ordinhad hono i gael ei gweinyddu; dadleuodd gryn dipyn ar y materion hyn; ond nid oedd dim culni yn ei feddwl ef tuag at y rhai na fynant fedyddio neb ond plant proffeswyr crefydd, a chredinwyr; na thuag at y rhai a gredant na ddylid bedyddio neb ond credinwyr, a'r rhai hyny yn unig trwy drochiad.

Wedi gosod golygiadau Mr. Jones ar rai o brif byngciau crefydd ger bron y darllenwyr, a hyny, gan mwyaf, yn ei eiriau ef ei hun, terfynir y bennod hon gydag ychydig o sylwadau, nid ar ei Dduwinyddiaeth, ond arno ef ei hunan fel Duwinydd.

1. Yr oedd yn ymhyfrydu yn ddirfawr mewn Duwinyddiaeth. Yn y maes toreithog hwnw y carai lafurio. Yno yr oedd gartref. Yr oedd awydd am ddeall cysondeb y dwyfol wirionedd yn llosgi yn ei fynwes hyd ddiwedd ei oes. Gwelsom lawer henafgwr fel un wedi blino yn myfyrio, yn chwilio, ac yn ysgrifenu ei feddyliau, cyn cyraedd yn agos i bedwar ugain oed; ond nid felly yr oedd ef. Parhaodd y tân o wir awydd i gynyddu mewn gwybodaeth Dduwinyddol i gyneu yn ei enaid ef nes ydoedd yn bedair a phedwar ugain oed, a throsodd, heb oeri dim, na gwanhau o ran ei nerth. Yr oedd awyddfryd dyddiau ei ieuengetyd ynddo yn henafgwr. Yr ydoedd yn wro wybodaeth gyffredinol, yn enwedig yn y pethau oeddynt yn angenrheidiol iddo eu gwybod fel dyn, gwladwr, a gweinidog yr efengyl yn mysg ei gydaelodau eglwysig; ond, yn ddiau, mewn Duwinyddiaeth y rhagorai.

2. Cafodd hyd i ben y ffordd i astudio yr ysgrythyrau pan oedd yn ieuangc, ac nid ymadawodd a hi pan heneiddiodd. Holl ymdrech ambell bregethwr ydyw parotoi pregethau. Dyna a wna ar hyd ei oes; a bydd dyn felly mewn hen ddyddiau heb ddeall na'r ddeddf na'r efengyl, ond odid. Astudio egwyddorion, elfenau cyntaf gwir wybodaeth, yn drwyadl, a wnaeth Mr. Jones; ac wedi hyny yr oedd adeiladu arnynt yn orchwyl esmwyth iddo, mewn cydmariaeth.

3. Yr oedd ef, hefyd, yn feddianol ar y cymhwysderau naturiol a moesol sydd yn anhebgorol angenrheidiol i wneyd Duwinydd da. Yr oedd ei ddeall yn gryf a threiddlym, ei gof yn gynnwysfawr, a'i amynedd mawr yn ei alluogi i sefyll uwchben anhawsderau nes eu gorchfygu. Ac heblaw y pethau yna, yr oedd ei barch i'r gwirionedd, a'r farn uchel oedd ganddo am ei werth a'i bwysigrwydd, yn gynnorthwyol iawn iddo i gael gafael arno. Gwyddai yn dda am ei ddylanwad iachusol ar ei galon a'i fuchedd ei hun yn bersonol, a gwelodd, yn ei oes faith, ei effeithiau daionus ar eraill, a bod cyfeiliorni o ffordd y gwirionedd yn arwain dynion i bob rhyw ormod rhysedd, ac yn distrywio eu defnyddioldeb yn llwyr.

4. Yr oedd yn rhydd iawn oddiwrth bob mympwy yn ei ymchwiliadau am y gwirionedd. Yr oedd penchwibandod yn hollol ddyeithr iddo ef. Nid oedd un awydd ynddo am wneyd ei hun yn hynod, trwy osod allan ryw olygiadau synfawr ar byngciau crefydd, i dynu sylw y byd ato ef ei hun. Gwr dysyml, gostyngedig, a hunanymwadol ydoedd. Dysgybl i Grist a fu ef ar hyd ei oes. "Beth a ddywed yr ysgrythyr?" oedd y cwestiwn y ceisiai gael atebiad iddo ar bob pwnge bob amser.

5. Yr oedd yn dra annibynol ar ddynion yn ffurfiad ei olygiadau. Er cymaint oedd ei barch i'r Doctor Lewis, gwahaniaethai oddiwrtho ar amryw o bethau pwysig. Ni allai weled fod Doctor Williams yn gywir yn mhob peth. Teimlai ef ei gyfrifoldeb personol i Ben yr eglwys am ei olygiadau, yn gystal ag am ei ymarweddiad, a chwiliai a barnai drosto ei hunan, ac anogai bawb eraill i wneyd yn yr un modd. Yr oedd yn awyddus am wybod y modd y syniai gwahanol ysgrifenwyr am wirioneddau y Beibl, yn Buritaniaid ac Annghydffurfwyr, yn Arminiaid a Chalfiniaid, yn Esgobaethwyr a Phresbyteriaid, yn Brydeinwyr, Americaniaid, ac Almaenwyr; ond ni bu yn gaeth ddilynwr i neb, ac ni alwai neb ar y ddaear yn dad.

6. Peth arall tra nodedig yn Mr. Jones fel Duwinydd, oedd ei fanylrwydd. Ni ymfoddlonai, fel y gwna rhai, ar gymeryd termai Duwinyddol i mewn i'w gyfundraeth heb drafferthu yn nghylch eu hystyron. Mynai ddeall yn drwyadl beth a olygir pan arferir geiriau fel etholedigaeth, cyfammod, cynnrychiolaeth, cyfrifiad troseddiad, dylanwad dwyfol, adenedigaeth, a pharhad mewn gras. Mynai wybod beth a olyga ysgrifenwyr o wahanol farnau wrth y termau uchod, a'u cyffelyb. Profai bobpeth, a daliai yr hyn a gydwybodol farnai yn dda. Chwiliai mor fanwl Beth sydd wirionedd, fel na ddiangai unrhyw beth, pa mor fychan bynag y byddai, heb ei sylw a'i ystyriaeth. Yr oedd fel dyn yn pwyso aur, o ran manylrwydd. Adwaenai gychwynfeydd camgymeriadau. Dilynasai hwynt i'w ffynhonau, o ba rai y tarddent allan. Ni foddlonid ef fod unrhyw beth yn wirionedd, heb iddo yn gyntaf ei olrain i'w darddle yn yr ysgrythyrau, ac i'r gwirionedd tragwyddol ac anfeidrol sydd yn y Duwdod. Nid yn ei bregethau a'i gyflawniadau cyhoeddus yr ymddangosai y manylrwydd hwn egluraf, ond yn ei ysgrifeniadau, ac yn arbenigol yn ei ymresymiadau â'i gyfeillion ar y ffordd, ar y maes, ac ar yr aelwyd. "Ac am ben hyn oll, gwisgai gariad, yr hwn yw rhwymyn perffeithrwydd." Cydoddefai a'r gwan ei feddwl; dysgai yr anwybodus yn amyneddus; ymresymai tra y parhai gobaith am wneyd lleshad trwy hyny; gobeithiau y goreu am bawb; cydnabyddai ei ffaeledigrwydd ei hun; a hawl eraill i farnu drostynt eu hunain fel yntau; ac ni arferai lymder at neb o'i wrthwynebwyr, tra y cadwent yn weddol ar lwybr gweddeidd-dra, ac hyd nes y byddai eu haerllugrwydd a'u hynfydrwydd wedi myned tros ben terfynau pob goddefgarwch dynol. Er hyn oll, pan fyddai angenrheidrwydd yn galw, medrai ergydio i bwrpas, a dywedyd pethau a deimlid i'r byw am amser maith.

Yr anhawsder penaf i ddarlunio Mr. Jones fel Duwinydd, yw ei gyflawnder a'i berffeithrwydd. Yr oedd yn hynod o ddigoll ryw fodd. Fel dyn perffaith, heb un linell ddiffygiol yn ei wynebpryd, nac aelod llesg a nychlyd yn ei gyfansoddiad, felly, yntau, yr oedd yn gymesurol, yn llawn, a chryf, yn mhob rhan o'i Dduwinyddiaeth: y pethau a berthynent i Dduw a'i lywodraeth, ei arfaeth a'i ras, a'i holl waith yn iachawdwriaeth dynion; yn nghyd â sylfaen dyledswydd dyn, ei waith yn ei holl gysylltiadau, a'i gyfrifoldeb am dano yn y diwedd.

Dyna rai o ddelwau meddwl yr hybarch Cadwaladr Jones fel Duwinydd; a rhai enghreifftiau teg o'i olygiadau ar yr athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb.

Os nad oedd yn feddianol ar gyflymdra meddyliol Mr. Williams, o'r Wern, i ganfod a golwg eryraidd, megys ar unwaith, gysondeb neu annghysondeb gwahanol olygiadau a gair Duw, ac a gwir athroniaeth Cristionogaeth; os nad oedd ynddo, yn wastadol, y llawnder oedd yn ei gyfaill Mr. Morgan; os nad oedd ei rym a'i dân meddyliol yn gyfartal i'r eiddo Mr. Jones, Llanuwchllyn, neu Mr. Breese, o Liverpool; gallwn ddywedyd, yn ddibetrus, ei fod, pan gaffai hamdden i fanwl astudio unrhyw bwnge, yn llawn mor sicr o gyrhaedd cysondeb âg ef ei hun, ac â'r ysgrythyrau, ag yr un o'r enwogion uchod. Credu yr ydym mai mewn ymresymiaeth deg a manwl, gyda chyfeillion, yn ei gongl gartref; neu, pan wesgid yn drwm arno gan wrthddadleuwyr ystrywgar, mewn unrhyw amgylchiad, y deuai ef allan ynei nertha'i loewder. Magodd y cynnulleidfaoedd oeddynt dan ei ofal yn debyg iawn, o ran eu hoffder o Dduwinyddiaeth, iddo ef ei hunan; a phan fu farw, collodd yr Annibynwyr yn Nghymru un o'r Duwinyddion goreu yn eu plith.

PENNOD X.

EI NEILLDUOLION FEL GWEINIDOG A BUGAIL.

Ei Lyfrgell-Ei bregethau, a'i ddull yn eu traddodi-Yn gweinyddu wrth fwrdd Cymundeb-Yn cadw cyfeillachau eglwysig, ac yn trin dysgyblaeth-Ei ofalon am bobl ieuaingc-Ei gymmeriad fel ymresymydd-Ei ddull serchog o ymgyfarch-Ei ffyddlondeb i'w gyhoeddiadau.

Wrth ddechreu ar y gorchwyl o gyfansoddi y rhan a benodwyd i mi o Gofiant fy anwyl dad yn yr efengyl, y diweddar Barchedig Cadwaladr Jones o Ddolgellau, nis gallaf lai na mynegu fy adgof cyntaf am dano, a hyny mewn amgylchiad tra hynod a ddygwyddodd yn Llanegryn tua phymtheng mlynedd a deugain yn ol. Nid oedd gan yr Annibynwyr un capel yn y pentref y pryd hwnw, ond cedwid moddion gras yn y naill dŷ a'r llall. Ar un prydnhawn Sabboth yn yr haf, dygwyddodd fod y gwr parchus yn pregethu yno mewn llofft, i'r hon yr esgynid ar hyd grisiau oddiallan. Yr oedd yr ystafell yn orlawn, a'r hin yn hynod o frwd. Cyn i'r pregethwr fyned yn mhell yn ei wasanaeth, torodd y llofft yn ddisymwth gan fyned fel hopran melin! Disgynai y pregethwr a'i bulpud gyda'u gilydd i'r pentwr. Crochlefai amryw o'r bobl am eu bywyd, yn enwedig y rhai isaf o honynt. Yno y clywid gwyr a gwragedd, a rhieni a phlant, yn dolefain am eu gilydd; a da yr wyf yn cofio fy mod inau yn ymlithro i lawr ar fainc tua'r canol, i'r lle yr oedd pawb yn myned. Gwelid un dyn tàl, ïe, y tàlaf yn y wlad, wedi cael gafael ag un llaw mewn rhywbeth, ac yn hongian felly uwchben y gynnulleidfa. Ond trwy drugaredd yr Arglwydd, ni chollodd neb ei fywyd yno, ac ni anafwyd neb yn dost iawn. Yr hyn sydd fwyaf cofus genyf bob tro y meddyliwyf am yr amgylchiad yw disgyniad y pregethwr i'r pentwr megys un a ddisgynai oddiar geulan i lyn i nofio ynddo; a mwy na'r cwbl, ei dawelwch wedi iddo allu ymryddhau o ganol y tryblith meinciau a dynion; ïe, meddaf ei dawelwch! Ar ol iddo gael ei draed dano, efe a ddywedai yn hollol ddigyffro—"Yn enw dyn, sut y bu hyn!" Braidd na fernid ef gan rai a fuasent yn gwaeddi am eu bywyd, yn bregethwr go anystyriol, am na buasai yntau hefyd yn cyffroi drwyddo ac yn crochlefain fel hwythau. Rhyfedd at ei dawelwch! Pwy ond Cadwaladr Jones o Ddolgellau a allasai feddianu ei hun felly yn y fath amgylchiad cyffrous? Daeth un o'r hynodion penaf yn ei gymmeriad i'r amlwg y pryd hwnw, sef ei bwyll a'i hunanfeddiant. Nid rhyw ddygwyddiad am un tro hynod oedd iddo amlygu ei hun felly, ond gellid dwyn ar gof amgylchiadau ereill hefyd yn ystod ei fywyd, yn y rhai y gwelid ef yn ymddwyn yr un modd a hyn,——yn gymwys fel ef ei hun. Gadawn i'r brodyr ereill gael y cyfleusdra i fynegu hyny, gan na byddai yn weddus i ni sangu eu tiriogaeth.

Rhyw saith neu wyth mlynedd yn y rhan gyntaf o weinidogaeth Mr. Jones yn Nolgellau, ydyw y cyfnod y cyfeirir ato yn benaf yn yr erthygl hon; a'r rheswm a roddir dros hyny ydyw,—ddarfod i'r ysgrifenydd dreulio y tymmor hwnw dan ei weinidogaeth ef; ac felly, bydd yr hyn a ddywedir ganddo yn cael ei fynegu oddiar wybyddiaeth bersonol o Mr. Jones.

Yn awr, ni a ddechreuwn yn uniongyrchol i grybwyll gair o'n hadgofion am—

EI LYFRGELL.

Nid oedd nifer ei lyfrau gymaint y pryd hwnw mewn cydmariaeth â'r hyn a welid gan ambell un o'i frodyr yn y weinidogaeth, ond yr oeddynt oll yn wir dda, a chan mwyaf ar dduwinyddiaeth. Un o'i brif esbonwyr ar y Beibl yn gyfan oedd Matthew Pool. Mynych y cawsom gyfleusdra i edrych iddo am eglurhad ar yr ysgrythyr. Ei hoff awdwyr duwinyddol oeddynt Jonathan Edwards o America; Bellamy; Dwight; Andrew Fuller; ac yn benaf oll Dr. Edward Williams o Rotherham. Darllenai lawer iawn ar y rhai hyn, yn enwedig gweithiau yr olaf ar "Uniondeb y llywodraeth Ddwyfol, a Phenarglwyddiaeth Dwyfol ras:" gwelid hwn yn gyffredin ar ei fwrdd. Cyfrol drwchus ydoedd yn cynnwys rhanau ereill hefyd o waith yr un awdwr, wedi ei rwymo yn gryf gan Hughes o'r Dinas. Yr oedd gweithiau yr awdwyr uchod yn cynnwys syniadau lled newyddion ar amryw byngciau duwinyddol, y rhai a dybid gan Uchel—Galfiniaid y pryd hwnw eu bod yn gyfeiliornus, afiach, a dinystriol i'r rhai a'u coleddent. Cynyrchion yr enwogion hyn fu yn achlysur o ddadleuaeth frwd yn Nghymru am ryw dymmor, a gelwid eu cyfundrefn yn "System Newydd."

Nid wrth lyfrgell pregethwr y gellir bob amser farnu pa un ai gwych ai gwael yw efe fel y cyfryw. Dichon y gwelir detholiad campus o weithiau prif awdwyr ar dduwinyddiaeth, ac ar amryw ganghenau eraill o wybodaeth fuddiol, yn meddiant ambell un, ac eto na bydd eu perchenog ond rhyw bregethwr canolig. Gwir fod llyfrgell dda yn fantais werthfawr ragorol i'r sawl a wnelo ddefnydd priodol a honi; ond gwyddys mai nid darllen dibaid ddydd a nos a wna bregethwr enwog, ond tuedd cryf ynddo hefyd at fyfyrdod ar yr hyn a ddarlleno. Digon tebygol fod ambell un yn darllen mwy nag a wnelai Mr. Jones, er cymaint a ddarllenai yntau; ond yr ydys yn dra sicr nad oedd ond ychydig a ragorent arno mewn myfyrgarwch; yr hyn yn benaf a'i gwnaeth mor ragorol fel duwinydd. Astudiai ei bwnge yn drwyadl, er mae'n wir, mai yn araf a dyogel y gwnelai efe hyny, fel pob peth arall. Yr oedd melin ei fyfyrdod ar waith yn dra mynych.

Mawrhaed y brodyr ieuainge sydd yn awr yn y weinidogaeth efengylaidd eu breintiau mawrion i gasglu gwybodaeth, yn enwedig pob gwybodaeth a'u cymhwyso i lenwi eu swydd bwysig; ond ymdrechant gyda hyny hefyd i fod yn fyfyrwyr gwych. Mae myfyrdod i'r meddwl yr un peth mewn cymariaeth ag ydyw cnöad cîl i'r anifail, yr hyn sydd yn troi ei ymborth yn faeth iddo.

Ar ol ymdroi enyd fechan yn llyfrgell ein "cyfaill, ni a ddaliwn ar y cyfleusdra yn awr i sylwi ychydig ar—

EI BREGETHAU, A'I DDULL YN EU TRADDODI.

Yr oedd ei bregethau bob amser yn eglur, trefnus, ysgrythyrol, a buddiol, ac yn bur hawdd i'w cofio yn gyffredin. Ni cheid ynddynt, mae'n wir, ryw lawer o borthiant i gywreingarwch cnawdol, na blodau lawer i ddifyru y llygaid; ond byddai pob "newynog a sychedig am gyfiawnder" a eisteddai dan ei weinidogaeth, yn sicr o gael ei borthi â bara y bywyd, a'i ddisychedu â dyfroedd yr iachawdwriaeth. Y fath oedd cryfder ei synwyr cyffredin dan ddylanwad gras Duw, fel na ofnid un amser gan neb a'i hadwaenai, y clywid o'i enau ef ddim a fyddai iselwael ac annheilwng o'r areithfa Gristionogol. Yr oedd ei barabl yn rhwydd, ei lais yn beraidd, ei iaith yn goeth, a'i ymddangosiad bob amser yn hawddgar yn ei areithfa. Addefir na chlywid trwst gwlaw mawr, ac na welid llewyrch mellt fflamllyd yn ei bregethau, nac yn ei ddull o'u traddodi; ond defnynai ei athrawiaeth fel gwlithwlaw ar irwellt.

Gyda golwg ar ddull Mr. Jones yn cyfansoddi ei bregethau, ymddengys mai anfynych yr ysgrifenai hwynt yn gyflawn; o'r hyn lleiaf, nid oedd pob un a welsom ni ganddo ond nodiad yn unig o "benau y bregeth," yn nghyd â chyfeiriad at yr ysgrythyrau priodol iddynt. Cynnwysid y cyfryw yn gyffredin mewn un tudalen, yr hwn ni byddai nemawr mwy na chledr ei law. Dodai y cyfryw weithiau rhwng dalenau y Beibl yn y pulpud, ond byddai raid iddo wneyd hyny yn no ddirgelaidd rhag i neb o'r hen bobl dduwiol eu gweled. Bernir oddiwrth ffurf ei bregeth ysgrifenedig, na wybu Mr. Jones nemawr erioed yn brofiadol beth oedd darllen ei bregeth yn gyflawn yn ei bulpud, ïe, hyd yn nod ei bregeth Saesoneg ychwaith.

Prif faterion ei weinidogaeth oeddynt, Cyflwr truenus dyn fel pechadur—Aberth Crist—prynedigaeth trwy ei waed ef —ei Berson a'i swyddau cyfryngol—helaethrwydd darpariadau gras—parodrwydd Duw i achub yr edifeiriol—rhwymedigaeth holl ddeiliaid yr efengyl i gredu yn Nghrist—sylfeini cyfrifoldeb dyn—ffynnonellau cólledigaeth a chadwedigaeth dynion—gwaith yr Ysbryd Glân—breintiau y gwaredigion —y sefyllfa ddyfodol. Gan fod Aberth Crist yn destyn dadleuaeth gyhoeddus yn y cyfnod y cyfeiriwn ato, efe a bregethai gryn lawer ar y pwnge pwysig hwn, yn ei amrywiol ganghenau yn nghyda dyledswydd pawb yn ngwlad yr efengyl i gredu yn y Ceidwad.

Nid oedd ein hen gyfaill parchus yn gystal adroddwr o'r ysgrythyrau wrth bregethu ag ydoedd ambell un o'i frodyr, megys Hughes o'r Dinas ac ereill, y rhai oeddynt gofiaduron rhagorol, ac adroddwyr cyhoeddus cywir o'r ysgrythyrau. Tebycach oedd Mr. Jones yn y rhan hon o'i swydd i Mr. Williams o'r Wern. Gwyddai yn dda am yr adnodau priodol i'w faterion, ac yn mha le yr oeddynt, a pha beth oedd eu sylwedd a'u cysylltiadau; ond eu hadrodd yn gywir air yn ngair, nid bob amser y gwnelai efe hyny. Wrth drafod ei fater, adroddai yn gyffredin y rhan flaenaf o'r adnod berthynol iddo, ac yna mynegai sylwedd y rhan olaf o honi, gan ddweyd"Neu eiriau tebyg i hyn'a." Os dewisai efe droi at yr ysgrythyr benodol a fyddai yn ei olwg, yr oedd ganddo ddigon o amynedd i wneyd hyny heb daflu ei hun i brofedigaeth; ond feallai y temtid ambell un o'i hen gyfeillion i ddweyd yn ddystaw rhyngddo ag ef ei hun-"Brysiwch, Cadwaladr Jones, brysiwch." Pwy erioed a'i gwelodd ef wedi colli meddiant arno ei hun yn y pulpud o ddiffyg amynedd a phwyll wrth geisio dyfod hyd i'w adnod, fel y gwelwyd ambell un, ïe, go enwog hefyd yn gwneuthur felly? Côf genym i ni weled ryw dro un o'n duwinyddion penaf mewn profedigaeth felly wrth bregethu. Pan oedd y cyfryw yn nghanol tanbeidrwydd ei yspryd, efe a gyfeiriai i lyfr y proffwyd Esaiah am ysgrythyr i egluro neu i brofi ei bwngc, gan fod yn gwbl sicr yn ei feddwl o'r man lle yr oedd yr adnod i'w chael, am ei fod wedi plygu congl y ddalen; a mynegai wrth y gynnulleidfa ei bod yn adnod "neillduol-neillduol iawn." Ond! er ei ofid, methai a chael gafael ynddi am fod y ddalen rywfodd wedi ei dadblygu! Ni roddai i fynu ei cheisio, ond parhai i floeddio yn ei danbeidrwydd arferol, gan ddywedyd, "Mae gan Esaiah, yn ddigon sicr, adnod neillduol-neillduol ar hyn;" a thröai ddalenau y Beibl cyn gynted a'r gwynt, nes o'r diwedd yr aeth hyn yn brofedigaeth iddo ef ei hun ac i'r gynulleidfa. Yn hytrach na hyny, pe buasai Cadwaladr Jones mewn amgylchiad felly, efe a ddywedasai wrth y bobl gyda phwyll,—"Mi wn fod yr adnod yn rhywle yn llyfr y proffwyd Esaiah; chwilied y naill a'r llall o honoch am dani, pan gaffoch gyfleusdra."

Cymered brodyr ieuaingc yn y weinidogaeth addysg oddiwrth hyn, i drysori yr ysgrythyrau yn eu côf, yn enwedig y rhanau y cyfeiriant atynt yn eu pregethau. Pa un bynag a wnelont ai ysgrifenu eu pregethau yn gyflawn ai peidio, byddai yn werth iddynt, fodd bynag, i gymeryd y drafferth a'r hyfrydwch i gopïo eu hadnodau gyda manylwch a chywirdeb, fel y cofient hwy yn well, ac y dysgont eu hadrodd fel y maent. Dygwydd yn no gyffredin fod pregethwyr ieuaingc yn trysori llawer mwy o'r Beibl yn eu côf cyn myned i Athrofäau, nag a wnant ar ol dyfod oddiyno. Frodyr caredig yn yr Arglwydd, ni ddylai y pethau hyn fod felly.

Weithian ni a drown ein golwg am enyd yn ein hadgofion at Mr. Jones.

YN GWEINYDDU WRTH FWRDD CYMUNDEB.

Crist croeshoeliedig fyddai prif destyn ei ymadroddion yno yn wastad; a byddai ei ddull pwysig, serchog, ac efengylaidd yn llefaru am hyn yn effeithiol ar deimladau Ꭹ frawdoliaeth. Byddai yn lled dueddol yn gyffredin wrth son am Grist fel Prïodfab Seion, o goffau tystiolaeth y Briodferch am ei Berson yn Nghaniad Solomon-" Beth yw dy anwylyd rhagor anwylyd arall, y decaf o'r gwragedd? Beth yw dy anwylyd rhagor anwylyd arall pan orchymyni i ni felly? Fy anwylyd sydd wỳn a gwridog, yn rhagori ar ddeng mil;" [ac yna, ebe efe, y mae hi yn ei ddarlunio gyda manylwch.] "Melus odiaeth yw ei enau; ïe, y mae efe oll yn hawddgar. Dyma fy anwylyd, dyma fy nghyfaill, O ferched Jerusalem."

Pan y dygwyddai fod rhai o'r newydd yn cael eu derbyn yn aelodau eglwysig, gwnelid hyny yn gyhoeddus wrth y "Bwrdd Cymundeb." Yr oedd efe yn hynod yn ei anerchion i'r cyfryw ar yr achlysur hwnw. Mae un Sabboth neillduol nas annghofir genym yn dragywydd, sef y Sabboth y safai tri bachgen ieuaingc yn ymyl y bwrdd i'w hanerch gan Mr. Jones; ac yr oedd gweled tri, ïe, dim ond tri, y pryd hwnw yn gymaint syndod a phe gwelid tri ugain y blynyddoedd hyn mewn ambell gynnulleidfa. Eu henwau oeddynt, Dafydd Morris, (mab Meurig Ebrill), Owen Davies, ac Evan Evans. O mor dadol a serchog oedd ymadroddion eu Gweinidog wrthynt. Bron na theimla yr ysgrifenydd y munyd hwn wasgiad caredig ei ddeheulaw fel arwydd cyhoeddus o'u derbyniad i blith y saint i fod yn gydgyfranog o'u breintiau. Byddai ei gyfarchiad i'r ychydig a arosent ar ol fel " edrychwyr " yn bur effeithiol yn gyffredin. Nid oeddynt y pryd hwnw ond rhyw chwech neu wyth mewn rhifedi, y rhai a eisteddant yn y Gallery. Côf genym mai y fath fyddai ei appeliadau atynt fel y gorfyddai ar rai o honynt ostwng eu penau, a chuddio eu hwynebau gan euogrwydd a chywilydd am na buasent hwythau hefyd yn dderbynwyr o'r Gwaredwr, ac yn cydgofio am dano gyda'i bobl. Yr oedd dull Mr. Jones wrth eu cyfarch felly mor fwynaidd a phwysig, fel nad oedd yn bosibl i neb o honynt dramgwyddo wrtho, oddieithr fod yn eu plith rywun caled iawn.

Ar ol i ni gael ychydig seibiant, ein gorchwyl nesaf fydd mynegu ein hadgofion am Mr. Jones

YN CADW CYFEILLACHAU EGLWYSIG, AC YN TRIN DYSGYBLAETH.

Dichon fod ambell un yn tra rhagori mewn doniau a phoblogrwydd fel pregethwr, ac etto ddim yn nodedig yn y rhan hon o'i swydd. Tybir fod dau gymhwysder neillduol yn anghenrheidiol i'w chyflawni, sef doethineb a phwyll. Ni wyddom am neb rhagorach yn hyn na Mr. Jones. Heb daflu un anfri yn y mesur lleiaf ar neb o weision Crist adnabyddus i ni, mae yn eithaf gwir nad oedd ond ychydig o honynt i'w cystadlu ag ef yn y gorchwyl hwn.

Ei ddull yn gyffredin wrth gadw cyfeillachau eglwysig fyddai cyfeirio at rai o'r frawdoliaeth wrth eu henwau am fynegiad o'r hyn oedd ar eu meddwl. Os dygwyddai i rywun fynegu ei amheuon am ei gyflwr, efe a'i holai yn arafaidd a chyda manylwch am yr achosion o hyny, a gwasgai ato yn drwm ac yn garedig, am effeithiau ei amheuon arno ei hun. "I b'le, Dafydd bach, y mae dy amheuon a'th ddigalondid yn dy yru di? Wyt ti yn meddwl eu bod yn dy wasgu yn fwy difrifol at yr Arglwydd mewn gweddi? Neu ynte, dy adael di y maent yn yr un man? Beth a feddyli di am hyny?" Yna cyn troi oddiwrtho at rywun arall, cynghorai ef gyda'r serchawgrwydd a'r difrifoldeb mwyaf. Dygwyddai weithiau i rywun ofyn am esponiad ar ran o'r Ysgrythyr. "Beth sydd yn ymddangos yn ddyrus i ti, Sion, yn yr adnod yna ?" Wedi i John roddi atebiad iddo, "Wel," ebe fe, "feallai y cei di esponiad gan rai o'r cyfeillion yma. Morris Dafydd, beth yw dy farn di arni?" Dywedai Meurig Ebrill ei olygiadau dan gau ei lygaid, fel y byddai yr arferiad yn Nolgellau y pryd hwnw gan amryw o'r brodyr, yn ol esampl ein hen gyfaill Thomas Davies, coffa da am dano. "Evan James, dywed dithau dy feddwl ar hyn." Dywedai y brawd hwnw ei syniad yn lled frysiog, a chyda gradd o wreiddioldeb. Elid heibio i eraill hefyd yr un modd; ac yna wedi iddynt gael cyfleusdra i fynegu eu barn ar yr adnod dan sylw, rhoddai Mr. Jones ei olygiad yntau arni; a rhyngddynt oll byddai Sion yn no debyg o fod wedi cael hollol foddlonrwydd ar ei adnod. Gallasai y Gweinidog, mae'n wir, roddi esponiad iddo ar y cyntaf, heb holi neb arall; ond yr oedd efe bob amser am ranu pob ryw orchwyl o'r fath hyny rhwng y frawdoliaeth, ac nid ei gyfyngu iddo ei hun yn unig. Bryd arall, rhoddid rhyw fater neillduol yn mlaen llaw i'w chwilio ac i'w drafod yn y cyfarfod eglwysig dilynol.

Os dygwyddai fod angenrheidrwydd am roddi rhybudd neu ocheliad i rywun o'r frawdoliaeth a dybid ei fod mewn perygl o syrthio i ryw brofedigaeth neu gilydd, nesai Mr. Jones at y cyfryw i ymddyddan ag ef, nid yn ddisymwth, ond yn raddol, gan ymdroi ychydig yn gyntaf gydag un neu ddau a ddygwyddai fod yn eistedd yn ei ymyl, ac yna ato yntau; ac felly dygai ei amcan i ben yn effeithiol. Os dygid cyhuddiad yn mlaen yn erbyn brawd neu chwaer, ymdrinid â hyny gyda'r pwyll mwyaf. Cai y cyhuddedig eithaf chwareu teg i ateb trosto ei hun, ac ni wneid dim mewn byrbwylldra yn ei achos. Os gwadu cywirdeb y cyhuddiad a wneid, chwilid i'r mater hyd yr eithaf. Os cwympo ar ei fai yn edifeiriol a wnelai Ꭹ troseddwr, yna tywelltid olew i'w friwiau, ac adgyweirid ef mewn yspryd addfwynder. Ni welsom neb erioed mor fanwl ac amyneddgar a Mr. Jones mewn ymdriniad ag achos y sawl a fernid yn haeddu diarddeliad. Gwnelai bob ymdrech a fyddai'n bosibl i ddwyn y troseddwr i edifeirwch, fel y gwaredid ef oddiwrth ei fai, ac fel y diangai yn ngwyneb Gair Duw rhag cael ei dori ymaith o gynnulleidfa y saint. Er hyny, nid oedd tynerwch a phwyll ein hen gyfaill yn ei atal i fod yn llym pan fyddai gwir angenrheidrwydd am hyny, yn ei swydd fel Gweinidog yn yr eglwys, nac fel tad yn ei deulu. Dygwyddodd i'r ysgrifenydd fod yn ei dŷ unwaith ar achlysur o gerydd teuluaidd. Ar ei fynediad i mewn, efe a welai Mr. Jones yn sefyll ar lawr y gegin, a gwialen yn ei law, ac un o'i fechgyn yn ei ymyl, yr hwn oedd o ddeg i ddeuddeg oed feddyliem. Ni welem neb arall yno ar y pryd ond hwy ill dau. "Wel, Evans," ebe fe, gyda'i serchawgrwydd arferol, "sut yr ydych? Sut y mae'r teulu? Eisteddwch yn y gadair yna, mi ddof atoch yn union." Gyda hyny dywedai wrth ei fab, "Tyr'd di gyda mi." A dacw y ddau yn myned bob yn gam i'r ystafell bellaf yn y tŷ. Cauid y drws. Yn mhen ryw funyd neu ddau, dyma swn gwialen-nodiau ar gefn y troseddwr, a chyda hyny ambell wawch allan nes y cyd-deimlai y gwr dyeithr yn y gegin a'r bachgen, bron gymaint a phe buasai ef ei hun dan y cerydd. Aeth yr oruchwyliaeth hono trosodd yn ebrwydd. Yna daeth y ceryddwr tadol allan oddiyno gam bwyll i'r gegin; ac wrth roddi y wialen o'i law, dywedai yn lled ddigyffro, "Wel, Evans bach, dyma'r helynt a geir wrth fagu plant; ond y mae'n rhaid eu ceryddu, a hyny yn no lym hefyd ambell waith, pan byddo'r trosedd yn galw am hyny. Ydyw Mrs. Evans yn iach?"

Pan y mae y tad caredig a thyner galon erbyn hyn yn gorphwys yn ei fedd, diau genym nad yw'r amgylchiad a grybwyllasom ddim wedi myned yn annghof gan ei anwyl fab; ond ei fod yn adgofio am dano gyda chalon ddiolchgar. "Ni a gawsom dadau ein cnawd i'n ceryddu, ac a'u parchasom hwy; onid mwy o lawer y byddwn ddarostyngedig i Dad yr ysbrydoedd, a byw?"

Ond ni addychwelwn am ychydigetto iddweyd gair yn mhellach am ddull Mr. Jones yn gweinyddu dysgyblaeth eglwysig.

Os dygwyddai fod rhyw gymaint o annghydfod rhwng rhai o'r frawdoliaeth â'u gilydd (yr hyn ni chymerai le ond anfynych iawn) ni cheid ei ragorach i'w dwyn i ymheddychu. Côf genym ei glywed unwaith yn ymdrin â mater dwy chwaer ag y cymerasai rhyw ffrwgwd le rhyngddynt â'u gilydd. Dacw Mr. Jones yn cyfodi oddiwrth y bwrdd, ac yn myned bob yn gam tuag atynt ill dwy. Yna dechreuai holi ychydig arnynt yn hynod o bwyllus, a hyny gyda'r fath ddifaterwch ymddangosiadol ag a barai i bawb ystyriol ddiflasu byth ar feddwl ffraeo â neb. Fel yr elai yn mlaen, dechreuai un o honynt ymgynhyrfu yn ei thymherau, a myned yn o siaradus. "Aros di," ebe fe wrthi, "y mae'n ddigon i un o honoch siarad ar y tro; treia di fod yn ddistaw am dipyn." Yna hi a ymlonyddai ronyn bach. Ond fel Ond fel yr elid yn mlaen, gormod gorchwyl i'r ddwy fyddai ymatal rhag ymdaeru yn boethlyd. Byddai ei wên a'i dawelwch yntau yn ddigon i gyfodi gwrid yn eu hwynebau. "Wel, yn wir," ebe fe, "yr ydych ill dwy yn debycach i blant nag i ferched mewn oed. Wyt ti ddim yn meddwl hyny?" Gostyngai hono ei phen. Yn mhen enyd, ceid clywed barn Mr. Jones ar y mater, a hyny drachefn gyda'r tawelwch mwyaf! "Y mae y naill a'r llall o honoch wedi colli eich lle; ond hi wedi colli ryw ychydig yn fwy na thi. Yr wyf yn meddwl mai gwell fyddai i chwi faddeu i'ch gilydd, a bod yn ffrindiau megys cynt. Wyt ti yn foddlawn i hyny?" "Ydw i." "Wyt tithau?" "Ydw i, Mr. Jones, soniai byth am dano." "Wel, da iawn, o'r goreu, ferched bach." Ar ol cael barn y cyfeillion ar y mater, dywedai wrth y ddwy. "Ysgydwch ddwylaw â'ch gilydd, a chymerwch ofal rhag ffraëo byth ond hyny.” Yna estynai y naill ei llaw i'r llall; a dyna y ffrwgwd hwnw drosodd am byth. Yn hytrach na rhoddi defnyddiau hylosg i'r gwreichion fyned yn danllwyth, trwy drin y mater mewn tymher ffyrnig, efe a'u diffoddai trwy ei amynedd a'i ddoethineb. "Gwyn eu byd y tangnefeddwyr;" nid yn unig y rhai sydd yn dangnefeddus o ysbryd eu hunain, ond y rhai sydd hefyd yn ymdrechgar i ddwyn eraill i fod mewn tangnefedd â'u gilydd. "Blessed are they that are peacemakers.”

Ar dderbyniad aelodau newyddion, byddai yn hynod o fanwl. Ni osodai ryw nifer penodol o erthyglau cred yn ammod eu derbyniad; ond ymofynai yn bwyllus a manwl hyd y byddai bosibl am arwyddion fod y cyfryw ymgeiswyr am aelodaeth eglwysig wedi eu dwyn i weled ac i deimlo eu cyflwr fel pechaduriaid colledig, a'u bod yn ymddiried yn yr Arglwydd Iesu Grist fel yr unig a'r digonol Waredwr. Etto, ni byddai ei fanylwch y fath ag a barai i'r gweiniaid ddigaloni; ond efe a'u cynghorai yn garedig, ac a'u cyfarwyddai felly yn yr iawn ffordd. Yr unig gwestiwn y rhan fynychaf a roddai efe i'r cyfryw fyddai hwn,—“A ydych yn penderfynu yn nghymorth gras i gymeryd y Beibl yn rheol anffaeledig eich ffydd a'ch ymarweddiad?"

Anfynych iawn y byddai yn absenol o'r cyfeillachau eglwysig yn y gwahanol fanau oeddynt dan ei ofal; ac nid pethau bychain eu pwys a'i hataliai i fyned iddynt; o herwydd ei farn ef ydoedd,—mai dyma rai o'r cyfleusderau goreu i fagu̟ a meithrin pobl ei ofal mewn gwybodaeth a phrofiad crefyddol. Ar ol rhoddi rhyw fras ddarlun o Mr. Jones yn y cyfarfodydd crybwylledig, nis gallwn lai na chwanegu gair ymhellach am

EI OFAL AM BOBL IEUAINGC.

ag oeddynt yn aelodau eglwysig dan ei weinidogaeth, a'i serchawgrwydd tuag atynt. Pe byddai i bob un o honynt hwy ag sydd yn awr yn fyw i gael y cyfleusdra presenol i fynegu eu tystiolaeth ar y mater hwn i ryw ysgrifenydd buan, diameu y byddai cyfanswm eu tystiolaethau yn rhy helaeth i fod yn rhan o'r Cofiant hwn. Nid yn unig yr oedd Mr. Jones ei hun yn ofalus am danynt, ond dysgai eraill hefyd i fod o'r un yspryd ag yntau. Cyfeiria'r ysgrifenydd at y cyfnod a grybwyllwyd eisoes am engraifft neu ddwy o dynerwch yr Athraw mwyn tuag ato fel bachgen ieuangc. Nis gall byth annghofio y noson gyntaf y ceisiodd efe ddweyd ychydig, yn ol cais yr eglwys a'r Gweinidog, ar ryw ran neillduol o'r ysgrythyr fel testyn pregeth. Pan oedd efe bron yn methu myned rhagddo gan wyleidd-dra ac ofn, gwnelai Mr. Jones bob agwedd arno ei hun a fyddai fwyaf er calondid i'r llencyn gwan ofnus. Fel prawf neillduol o'i ofal ef a'i gyfeillion rhag ei ddigaloni, dywedai wrtho yn mhen ryw wyth mlynedd ar hugain wedi hyny, ar y ffordd wrth fyned adref o'r capel, "Evans, y mae arnaf chwant dweyd wrthych ryw air bach na fynegais ef erioed o'r blaen i chwi." "Beth yw hyny, Mr. Jones?" " Wel, yn wir, ni waeth i chwi gael ei wybod bellach na pheidio, gan na bydd hyny ddim yn un digalondid na phrofedigaeth i chwi, ond yn hytrach yn achos diolch i'r Arglwydd. Yr ydych yn cofio yn dda, mi wn, am yr amser y buoch ar gais y cyfeillion a minau, yn dweyd ychydig y tro cyntaf erioed yn y Society ar adnod fel testyn pregeth." "Ydwyf," ebe'r ysgrifenydd, "yn cofio yn dda, a mi a gofiaf hyny byth hefyd. Beth yw'r secret sy' genych i'w fynegu i mi Mr. Jones? Dywedwch wrthyf, os gwelwch yn dda." "Wel, a dweyd y gwir i chwi yn onest, bu gryn amheuaeth ar ein meddwl y pryd hwnw a oeddym wedi gwneyd yn iawn â chwi trwy eich cymell i feddwl am fod yn bregethwr; ond rywfodd neu gilydd, darfu i ni gyduno i beidio amlygu dim o'r amheuaeth hwnw i chwi ar y pryd, rhag tori eich calon. Yr oeddwn yn meddwl am hyny yn y capel heno." Methodd yr ysgrifenydd ag ymatal rhag colli ei ddagrau yn wyneb y fath diriondeb tuag ato, a'r fath ofal am ei deimladau. Cafodd yr un caredigrwydd hefyd oddiar law yr hen bererin Richard Jones o Lwyngwril.

Yn awr, wedi i ni ymdroi gryn amser yn y cyfeillachau eglwysig gyda Mr. Jones, a sylwi hefyd ar ei ofal am bobl ieuaingc, ni a ddaliwn ar y cyfleusdra i ddweyd gair am dano yn

EI GYMERIAD FEL YMRESYMYDD.

Ni chyfeiriwn ato fel y cyfryw ond yn unig yn ei ymddyddanion yn mhlith ei gyfeillion dan ei weinidogaeth. Yr oedd ynddo gymhwysderau nodedig i hyn, sef-ei ddirnadaeth glir-ei iaith eglur a dealladwy i osod allan ei syniadau—ei bwyll a'i hunan-feddiant hyd yn nod yn nghanol poethder dadl -ei foneddigeiddrwydd at ei wrthddadleuydd, gan roddi iddo bob chwareu teg i ateb trosto ei hun-a'i amcan bob amser fyddai cael allan y gwirionedd.

Arferai ag ymgomio â nifer o'r brodyr yn nhŷ y capel ar ol yr oedfaon y rhan fynychaf, yn enwedig yr amser y dechreuyrodd yr hyn a elwid "System Newydd" ddyfod i sylw. Ofnai yr hen gyfeillion fod rhyw ychydig o'i sawyr ar ei weinidogaeth yntau hefyd, a mawr oedd eu pryder rhag iddo wyro oddiwrth y wir athrawiaeth. Côf genym am yr adegau dedwydd hyny pan yr eisteddem yn eu plith i wrandaw ar eu hymresymiadau. Nid oedd yno neb, mae'n wir, a allai ymgystadlu â Mr. Jones fel ymresymydd; ond ni chymerai ef arno amlygu ei nerth fel y cyfryw hyd oni byddai pob un wedi cael cyflawn ryddid i fynegu ei feddwl; oblegid yr oedd yn dra gofalus bob amser rhag gormesu ar hawlfraint Ꭹ frawdoliaeth yn hyn. Eisteddai Athraw mwyn yn y gadair yn nghongl yr aelwyd, a'i lygaid yn llawn sirioldeb. "Wel, frodyr," ebe fe, "beth sy' genych ar eich meddwl erbyn hyn?" Ar ol ychydig ddystawrwydd, dywedai un o honynt yn fwynaidd, "Yr oeddwn i yn meddwl eich bod yn ormod o Armin heddyw, Cadwaladr Jones." "Felly yn wir, Huw bach. Beth oedd yn peri i ti feddwl hyny?" "Yr oeddwn inau yn meddwl yr un fath a Huw, a dweyd y gwir." "Aros di, Tomos, gad di chwareu tegi Huw ddweyd ei feddwl." "Wel, dyna p'am yr oeddwn iyn tybied felly, am eich bod yn dal cymaint ar 'allu dyn;' ni chlywais i neb erioed yn pwyso cymaint ar allu dyn nag oeddych chwi heddyw." "Ni chlywais inau ddim ychwaith o ran hyny," ebe un arall. "Felly yn wir," ebe'r Athraw, dan wenu arnynt. "Eisteddwch i lawr i gyd fel y caffom ymgomio tipyn ar y pwngc, a pheidiwch a siarad ar draws eich gilydd, ond llefared pob un yn ei dro." "Ië, ïe," ebe Meurig Ebrill. "Wel, tyr'd Huw, dywed dy feddwl y'mhellach." "Does geni fawr i'w ddweyd ar y mater; ond yr oeddwn i yn meddwl fod yr ysgrythyr yn dweyd gryn lawer am anallu dyn." "Purion, da iawn. A oes genyt ti ryw adnodau neillduol ar hyn, Huw?" "Oes, ryw ychydig." "Digon hawdd cael pymtheg o ran hyny," ebe rhywun prysur ei ateb. "Aros di, Sion, mae Huw heb orphen etto, chwareu teg iddo. Yr adnod, Huw." "Dyma hi—"Oblegid syniad y cnawd sydd elyniaeth yn erbyn Duw; canys nid yw ddarostyngedig i ddeddf Duw; oblegid nis gall ychwaith.' Dyma un etto,—Ni ddichon neb ddyfod ataf fi oddieithr i'r Tad yr hwn am hanfonodd ei dynu ef."" "Da iawn; efallai fod gan rai o honoch ychwaneg o adnodau ar hyn?" "Mae llawer i'w cael, o ran hyny," ebe rhywun; "ond cefais fy moddloni yn fawr, Mr. Jones, yn eich esboniad ar natur yr anallu yma, sef mai anallu moesol ydyw, ac nid anallu naturiol. Os wyf yn cofio yn iawn, dywedasoch mai gelyniaeth calon dyn fel pechadur at Dduw yw ei anallu i garu Duw, ac nad yw hyny yn esgusodi dyn am ei fai, ond yn ei hollol gondemnio ef." "Ie, dyna fo, Davies, dyna fo."

"Efallai fod rhai o honoch yn cofio beth a ddywedwyd am yr hyn sydd yn peri fod dyn yn greadur cyfrifol i Dduw ?" "Dyna rai pethau," ebe rhywun,—"Bod dyn wedi ei greu yn greadur rhesymol, ac nid fel yr anifail;—ei fod wedi ei gynysgaeddu â moddion gwybodaeth, sef y Datguddiad Dwyfol;—a thrachefn, ei fod yn rhyddweithredydd yn ei ddewisiad a'i wrthodiad o'r hyn a osodir o'i flaen, heb fod gan neb drais yn y mesur lleiaf ar ei feddwl." "Wel, waeth i chwi heb son am 'allu dyn,'" ebe Huw, "ni ddaw o byth i wneyd ei ddyledswydd, os na ddygir ef gan Yspryd yr Arglwydd." "Ie, Huw bach, yr wyt ti yn dweyd y gwir; ond yn wyneb hyn’a y gwelir mawredd gras Duw yn dwyn y pechadur, a hyny o’i fodd, i'w garu a'i wasanaethu." Erbyn hyn yr oedd yn llawn bryd i bawb gychwyn tuag adref.

Yn gyffelyb i hyn hefyd yr ymdrinid âg aberth Crist, yn enwedig yn mherthynas i'w natur a'i helaethrwydd. Gyda'r fath bwyll, deheurwydd, a thiriondeb y dygai Mr. Jones yn mlaen ei ymresymiadau yn y cyfryw gyfleusderau, fel yr ennillodd efe ei brif ddynion yn gwbl i'r un syniadau ag ef ei hun, heb wneyd un terfysg, ac heb ormesu dim yn y gradd lleiaf ar eu rhyddid personol i farmu trostynt eu hunain, felly y byddai efe yn y manau eraill hefyd ag oedd dan ei ofal gweinidogaethol. Mynych y treuliai oriau, yn enwedig yn Rhydymain, i ymbyncio â'i gyfeillion ar ryw faterion neu gilydd; a diau genym yr adgofiant hyny gydag hyfrydwch tra byddont byw. Bu yr arferiad hwn yn fendithiol i'w magu a'u mheithrin mewn gwybodaeth dduwinyddol.

Y peth nesaf y sylwn arno yn mherthynas i Mr. Jones ydyw

EI DDULL SERCHOG O YMGYFARCH.

Edrychir ar hyn gan lawer, ïe, bron gan bawb yn rhan bwysig iawn o swydd gweinidog yr efengyl. Mae edrychiad siriol, gydag ysgydwad llaw mewn modd serchog, yn cyrhaedd ymhell gyda llawer i wneyd y pregethwr yn boblogaidd ganddynt, yn fwy felly gyda rhyw ddosbarth na hyd yn nod ei bregethau goreu. Nid adwaenem neb ag oedd ragorach yn hyn na Mr. Jones. Nid rhyw serchawgrwydd arwynebol oedd ynddo ef er mwyn gwneuthur ei hun yn boblogaidd fel pregethwr, ond yr oedd efe yn wir serchog. Natur ydoedd wedi ei santeiddio gan grefydd. Ni adawai i neb o'i gydnabod i'w basio ar y ffordd heb droi ato i ysgwyd llaw ag ef, ac i'w holi am y teulu. Os dygwyddai ei fod wedi annghofio enwau aelodau y teulu hwnw, byddai yn ddigon sicr o ymddyogelu rhag dangos ei anngof o hyny trwy ofyn i'r cyfryw fel hyn, "Sut y mae nhw acw?" Gwyddai yn dda fod gan bawb ei "acw," pa un bynag ai gwr ai gwraig, ai gwas ai morwyn fyddai. Llawer gwaith yr achubodd efe ei ben wrth wneuthur felly; a pha niwed fyddai i ereill ddilyn ei esiampl yn hyn, pan fyddo gwir angenrheidrwydd am dano yn hytrach na thramgwyddo cymydogion a chyfeillion gweiniaid? Cof genym i ni ddygwydd unwaith fyned gydag ef o Gefnmaelan i'r dref ar ddiwrnod ffair. Ar ein mynediad i'r heol gyntaf ynddi, dyna Mr. Jones yn estyn ei law i rywun, gan holi pa fodd yr oeddynt, a pha sut yr oedd y teulu gartref;-ac wedi myned ychydig latheni yn mlaen, dyna rywrai etto yn ei gyfarch, ac felly y cyfarfyddai yn ddibaid a'i gyfeillion, ac a'i gydnabod, nes o'r diwedd y pallodd ein hamynedd yn lân, ac y gadawsom ef yn eu canol hwynt. Yr un modd y gwnelai wrth fyned i'r gwahanol leoedd ereill hefyd oedd dan ei ofal. Effeithiodd yrarferiad hwn gymaint hyd yn nod ar yr anifail a arferai ei gario, fel y safai hwnw o hono ei hun yn gyffredin wrth gyfarfod a dynion ar y ffordd. Dwg hyn ar gofi ni hanesyn a welsom am farch y dyn dyngarol nodedig hwnw y diweddar Barchedig Richard Knill, pan oedd efe yn aros yn St. Petersburg; yr hwn yn ei dosturi a ymwelai yn fynych â holl elusendai y ddinas fawr hono. Cafodd cyfaill iddo fenthyg ei geffyl ryw foreu i roddi tro drwy y ddinas er mwyn ei ddifyrwch. Tröai y ceffyl er gwaethaf ei farchog dyeithr at bob elusendy a fyddai ar ei ffordd, ïe, ni chymerai ei rwystro, o herwydd ei gynefino i hyny gan ei feistr. Yn gyffelyb i hyn yr oedd anifail Mr. Jones, o Ddolgellau, wedi cynefino cymaint a sefyll wrth gyfarfod a dynion, fel y buasai bron yn anmhosibl i wr dyeithr ei yru rhag ei flaen yn ddiymdroi; a mwy na hyny hefyd, cawsai gryn waith ymgadw rhag myned i dymer ddrwg yn gyffelyb i Balaam at ei asen. Ac os felly y dygwyddai fod, buasai gan yr anifail eithaf dadl drosto ei hun,—"Oni arferais i wneuthur fel hyn?"

Nis gallwn deimlo yn ddedwydd i roddi heibio ein hysgrifell cyn mynegu hefyd ein hadgofion am Mr. Jones yn

EI FFYDDLONDEB I'W GYHOEDDIADAU.

Rhinwedd nid bychan mewn pregethwr ydyw hyn. Y fath oedd iechyd a chryfdwr corphorol Mr. Jones fel na atelid ef gan un math o dywydd, na haf na gauaf, i fyned at ei gyhoeddiad. Ni ddaliai ef ar y gwynt, ac nid edrychai ar y cymylau i chwilio am esgusion rhag myned allan i waith y cynhauaf mawr. Edrychwn arno yn awr, pan y mae ar gychwyn o'i gartref ar foreu Sabboth gwlybyrog. Dacw fe yn dechreu ymbarotoi yn bwyllus, gan wisgo ei socasau hirion i ymddyogelu rhag cael niwed oddiwrth y ddrycin. Pan ar ganol eu bottymu, dywedir wrtho, "Meistr, y mae hi yn dywydd mawr annghyffredin; mae hi yn tywallt y gwlaw yn genlli." "Mi feddyliwn," ebe yntau yn dawel, "ei bod hi yn bwrw braidd (!). Hwyrach y daw hi yn well bob yn dipyn." Cyn hir, ymwisga yn ei gôt fawr lwydwen, yr hon a gyrhaeddai bron hyd at ei draed, a gosodai fantell drwchus ar hono drachefn. Dyma fo yn awr, ys dywed y Sais, yn Waterproof drosto. Esgyna ar ei anifail, ac ymaith ag ef tuag Islaw'rdre, wrth odre Cader Idris. Cyrhaedda yno yn lled sych a dyogel, ond ei fod ryw ychydig funudau ar ol yr amser. Nid oedd yn hyn mor fanwl â Richard Jones, o Lwyngwril, yr hwn pan ddeallai ei bod yn bryd cychwyn tua'r capel, a gyfodai yn y fan, gan ddywedyd, "Dyma fi yn cychwyn, dewch chwi pryd y mynoch." Ond yr oedd Mr. Jones cyn sicred ag yntau o ben ei siwrnai. "Araf a sicr," oedd un o hynodion ei gymeriad trwy ei oes. Un o'r pethau mwyaf rhwystrus iddo yn gyffredin i gychwyn yn brydlawn o'rnaill fan i'r llall, fyddai ei ymgomiad â'i gyfeillion ar ryw bwngc neu gilydd; ac wedi cychwyn, yr atalfëydd mwyaf i fyned rhag ei flaen yn hwylus fyddai ei gyfarchiadau ar y ffordd. Bu yr ysgrifenydd, er's llawer o flynyddoedd yn ol, yn cyd—deithio ag ef trwy ran o sir Feirionydd yn achos dyledion capeli y sir. Yr oedd Mr. Jones yn gydymaith hoffus a gwerthfawr iawn; ond, a dweyd y gwiri gyd ar hyn, byddai ei hwyrfrydigrwydd i gychwyn ac i ddyfod rhag ei flaen wedi cychwyn, yn brofedigaeth i'r sawl ni feddai haner ei amynedd ef, i led ymwylltio wrtho; ond er hyny nid gwiw fyddai ceisio ei symbylu, canys ni wnelai hyny ond yn unig peri iddo wenu. Modd bynag, yr oedd efe yn dra theilwng i'w efelychu, fel un na fynasai er dim dori ei gyhoeddiadau.

Pe tybiem mai yn mhlith y rhai olaf yn y dyrfa fawr ar eu mynediad adref gyda'r Barnwr, y gwelir ein hen gyfaill Mr. Jones o Ddolgellau, bydd ef mor sicr a'r rhai cyntaf o honynt o fyned i mewn i lawenydd ei Arglwydd. Bydded y sicrwydd hwn yn eiddo i ninau hefyd.

OL-NODIAD.

Er nad yw Mr. Evans, yn yr erthygl flaenorol, yn proffesu ei fod yn darlunio Neillduolion Gwrthddrych y Cofiant hwn, fel Gweinidog a Bugail, ond yn y blynyddau y bu ef ei hun, pan yn wr ieuangc, dan ei ofal gweinidogaethol; etto, y mae y darluniad yn berffaith gywir o ddull ac arferion ein hen gyfaill, ar hyd ei oes. Gweithiwr araf, pwyllog, gonest, cryf, a difefl oedd efe, yn nhy Dduw. Ceid ef yn Arolygwr deallus, doeth, a thyner, yn wastadol. Darostyngai falchder yr uchelfrydig; dyddanai y gwan ei feddwl; cryfhai y llesg; a byddai yn ymarhous wrth bawb: ond, er hyny, nid oedd ei fwyneidddra a'i dynerwch yn peri iddo wyro trwch blewyn oddiar dir gwirionedd, ac uniondeb. Yn hyny yr oedd yn ddiysgog, fel y graig.

Cadwai dri pheth o flaen ei lygaid bob amser wrth weinyddu ceryddon eglwysig:—1. Gogoniant enw yr Arglwydd Iesu. 2. Anrhydedd y frawdoliaeth, yn y lle. 3. Lles y cyhuddedig ei hunan. Cof genym ein bod, yn y flwyddyn 1842, mewn cyfarfod eglwysig gydag ef, ar noson waith, yn Nolgellau, o flaen Sabboth y cymundeb. Cyhuddid un o'r chwiorydd oedd yn y cyfarfod hwnw, o arfer geiriau anaddas, yn fynych. Dechreuodd yr hen weinidog ymofyn, "pwy oedd wedi ei chlywed yn arfer y fath eiriau?" Wedi cael gwybod fod amryw o dystion yn ei herbyn yn bresenol, mynai gael gwybod yn mhellach, "Pa fath eiriau oedd y rhai a arferai?" Nid oedd neb yn barod i adrodd y geiriau. Dywedai yntau “fod o bwys cael gwybod hyny; oblegid fod rhai geiriau afreidiol yn cael eu harferyd gan amryw, y rhai nad oeddynt, fe allai, yn llwon a rhegfeydd, er eu bod yn ymylu ar hyny:" ond nid oedd neb yn barod iawn i adrodd y geiriau. Yna enwodd Mr. Jones amryw o ymadroddion a ystyrir gan bawb yn llwon, ac yn iaith halogedig; a gofynai "A oedd hi yn arfer ymadroddion felly?" Atebwyd ei bod, ac yn cymeryd enw yr Arglwydd yn ofer, hefyd. Yr oedd y tystion wedi ei chlywed eu hunain, ac yr oedd y case yn gryf yn ei herbyn.

Yna, ymofynai y cadeirydd, "A oedd yno neb yn gwybod am unrhyw rinweddau a berthynent iddi? Nodwyd amryw bethau oeddynt yn ganmoladwy ynddi; ond nid oedd y pethau a ddywedwyd yn gwanhau dim ar y dystiolaeth oedd yn ei herbyn am ei geiriau anaddas. Troai y gweinidog bellach at y chwaer gyhuddedig, a dywedai: "Wel M——— ti a glywaist y cyhuddiadau sydd yn dy erbyn. Beth sydd genyt ti dy hun i'w ddywedyd mewn hunan—amddiffyniad yn eu hwynebau?" Atebodd hithau, "Fod y cyhuddiadau yn wirionedd, a bod yn ddrwg iawn ganddi o herwydd ei geiriau; ond ei bod yn fyrbwyll ei thymher, ac yn cael ei chythruddo yn aml, ac mai yn ei gwylltineb y byddai yn dywedyd y geiriau beius; ond eu bod yn peri poen iddi yn fynych, ar ol iddi eu dywedyd." Atebai yr Hen Weinidog: "Nad oedd ei gwylltineb yn esgusawd digonol dros ei hymddygiad; y dylasai hi lywodraethu ei thymherau a'i geiriau, fel y dysgir ni i wneyd yn yr ysgrythyrau; ac nid ymollwng i ddrwg—nwydau, ac wed'yn i ddywedyd geiriau rhyfygus yn y byrbwylldra hwnw." Yna gofynai i'r frawdoliaeth, "Pa gerydd a farnent hwy oedd yn angenrheidiol i'r eglwys weinyddu arni er amddiffyn enw yr Arglwydd, anrhydedd achos crefydd, ac er gwneuthur gwir leshad i'r chwaer oedd yn euog? A olygent hwy fod y cerydd oedd hi yn gael ganddynt yn y cyfarfod hwnw, yr hwn a ddeuai oddiwrth laweroedd, yn ddigonol i ateb y dybenion a nodasid?" Barnai y gynnulleidfa nad oedd y cerydd a g'ai y pryd hwnw yn ddigonol, oblegid ei bod mewn adeg flaenorol a cherbron yr eglwys, wedi cael ei cheryddu am ei geiriau drwg, ac na ddiwygiodd ar ol y cwbl, er iddi addaw yn deg y gwnai hyny. Bu yr Hen Weinidog yn ceisio cofio am y peth, a phan na allai, dangoswyd iddo pa bryd y buasai achos y chwaer dan sylw o'r blaen; cofiodd y cyfan, a dywedodd, "fod hyny yn newid agwedd y mater yn fawr;" ac wedi ymgynghori, penderfynwyd, fod yn rhaid atal M———— o gymunMdeb; a chyda gair serchus oddiwrth Mr. Jones, yn sicrhau iddi mai ei lles hi oedd gan yr eglwys mewn golwg, ac y byddai yn hyfrydwch mawr gan bawb ganiatau iddi eistedd wrth y bwrdd drachefn, os ceid arwyddion ei bod yn diwygio, terfynwyd y cyfarfod, ac aeth pawb adref dan argraffiadau dyfnion o werth Dysgyblaeth Eglwysig dda.

Rhoddasom yr hanes uchod ar lawr yn fanwl, am ei bod yn dangos, yn eglur, y modd yr ymddygai efe "yn nhy Dduw," mewn llawer o amgylchiadau ereill cyffelyb i'r un uchod. Bugail da, gofalus, tirion, amyneddgar, a chydwybodol iawn oedd ef. Medrai ddysgu heb gynhyrfu gwrthwynebiad. Medrai lywodraethu yn dda, heb ddangos i neb ei fod yn caru bod wrth y llyw. Medrai gydymdeimlo yn berffaith, a phobl ei ofal, yn eu holl amgylchiadau, pa mor amrywiol bynag y byddent. Dygasid ef i fynu mewn ysgol dda, er ei wneyd yn weinidog da; sef, wrth draed y Doctor Lewis. Dysgodd yntau, nid yn unig wybod ei ddyledswydd, ond ei chyflawni yn ei holl ranau, yn rhagorol. Odid y gwelir ei gyffelyb yn fuan mewn cyflawniad ffyddlon o holl ddyledswyddau bugeiliaeth eglwysig.

PENNOD XI.

CYFAILL GWEINIDOGION IEUAINGC, MYFYRWYR, &c.

Codi pregethwyr—Craffder i weled y cymhwysderau angenrheidiol—Engraifft—Dilyn esampl y Gwaredwr—Letty-garwch—Dyddordeb yn eu llwyddiant—Athrofa y Bala a'r hen "Ddysgedydd"—Yn stoic mewn pwyll—Llythyr y Parch. O. Evans.

Golygaf fod y drefn sydd genym yn Nghymru o godi dynion ieuaingc i bregethu'r efengyl yn tra rhagori ar y dull sydd yn ffynu yn Lloegr. Yn yr eglwysi Seisnig y mae ymgeiswyr am y weinidogaeth yn gyffredin yn ymwthio i'r weinidogaeth gyda chydsyniad ychydig gyfeillion crefyddol. Ond yn Nghymru y mae ymgeiswyr am y weinidogaeth yn gyffredin yn cael eu hanog i bregethu, a chyn yr ymgyflwynant i'r gwaith, y maent yn cael pleidlais o anogaeth a chydsyniad yr eglwys y perthynant iddi. Y mae'n gofyn yspryd cenadol a chraffder i godi dynion addas i bregethu. Lle y mae diffyg hyn, y mae dynion ieuaingc gobeithiol heb eu gweled, ac wedi treulio eu hoes mewn dinodedd, pryd y gallasent fod yn lampau yn llosgi. Er mai arafaidd anarferol oedd Mr. Cadwaladr Jones yn ei holl ysgogiadau, yr oedd yn sylwedydd manol ar bobl ieuaingc ei eglwysi, ac yn dwyn sêl mawr yn ei ffordd bwyllus, ond penderfynol ei hun, dros godi dynion cymhwys i'r weinidogaeth. Nid hir y byddai Mr. Jones yn llygadu dyn ieuangc o dalent, ac yn Nghymru, y weinidogaeth yw bron unig faes doniau y genedl Gymreig, ar ol cael ei goresgyn gan y Saeson. Am bregethwyr, nid ydym yn meddwl fod un wlad yn rhagori ar Gymru. Mae talent y genedl i'w gael yn benaf yn nghylch y weinidogaeth. Bu Mr. Jones yn offeryn i dueddu rhai o'n gweinidogion goreu a mwyaf grymus at y gwaith o bregethu'r efengyl. Mae y restr ganlynol yn dangos hyny. O dan ei weinidogaeth ef, a thrwy ei anogaeth y cododd y personau canlynol i bregethu:—y Parchedigion Owen Owens, Rhesycae; Evan Evans, Llangollen; Edward Roberts, Cwmafon; Evan Jones, Tredegar, alias Ieuan Gwynedd; Edward Roberts, Coedpoeth; Robert Edwards, Llanymddyfri; Rowland Hughes, Dolgellau; Griffith Price, Croesgarnedd; Richard Owen, Rhydymain, &c.

Yr oedd gan Mr. Jones ofal tadol am y dynion ieuaingc, yr oedd efe a'i eglwysi wedi eu codi i'r weinidogaeth. Siaradai lawer am danynt, ac ymddedwyddai yn eu llwyddiant. Ar ol iddynt sefydlu yn fugeiliaid ar eglwysi, holai lawer ar weinidogion cymydogaethol pan y deuent ar eu taith drwy Ddolgellau yn nghylch eu llwyddiant, ac ymffrostiai yn eu rhagoriaethau. Nid holi y byddai fel ambell i chwedleuwr maleisus er mwyn gwneyd iddynt "ddrygau lawer," yn ol esiampl Alexander y gôf copr, ond fel tad yn cydlawenhau a dynion ag oedd yn cydlafurio ag ef yn yr efengyl. Mewn codi dysgyblion i bregethu'r efengyl ar ei ol dilynai Mr. Jones esiampl ein Gwaredwr. Nid gweinidog llwyddianus a fu Crist ei hunan, ond cododd ddeuddeg o ddynion hyfforddedig yn y gwirionedd i bregethu'r efengyl ar ol ei adgyfodiad. Nid ydym yn cael yn hanes yr eglwys un cyfnod yn cael ei fritho â'r fath nifer o sêr o'r maintioli mwyaf. Ryw un Abraham, ac un Dafydd, ac un Elias, ac un Eliseus a gawn ar unwaith. Ond cododd Crist ddeuddeg tywysog crefyddol i eistedd ar ddeuddeg gorsedd, i farnu deuddeg llwyth Israel, a gwnaeth y deuddeg dyn hyn eu hol ar y byd, nes teimlodd yr holl ddaear oddiwrth eu dylanwad. Yn ol yr un esiampl cododd Mr. Jonos ddysgyblion sydd wedi cario y genadwri a draethodd i gylch llawer eangach na chylch ei weinidogaeth uniongyrchol ef ei hun, a thrwyddynt, y mae efe wedi marw, yn llefaru etto.

Yr oedd y croesaw a roddai Mr. Jones i efrydwyr a phregethwyr ieuaingc ar eu teithiau, yn galonog. Nid wyf yn cofio un pregethwr yn cwyno erioed fod Mr. Jones wedi bod yn sarug at neb ar ei daith, ond canmolai pawb ei sirioldeb. Yr oedd ei dŷ bob amser yn agored i dderbyn pregethwyr, a gwariodd lawer iawn o'i olud mewn lletygarwch. Yr oedd, nid yn unig yn garedig drwy ras, ond yr oedd wedi ei wneyd yn greadigol felly. Yr oedd yn llawn hynawsedd a natur dda, fel y gwasanaethodd y wlad am ychydig, ac y cyfranodd yn ehelaeth mewn lletygarwch at gynal achos crefydd, nid yn unig yn ol ei allu, ond uwchlaw ei allu. Er hyny bu rhagluniaeth Duw yn dirion iawn o hono. Ar yr un pryd, yr oedd ganddo ei farn, a medrai feirniadu dyn ieuangc yn ddeheuig os gwelai angen am hyny. Ar rai adegau, pan y byddai ei argyhoeddiadau yn gryfion, medrai geryddu yn bur llawdrwm, ond yn bwyllus a boneddigaidd. Ni clywais erioed ei fod wedi cynhyrfu, fel ag i golli dim llywodraeth ar ei dymherau. Yr oedd ei bwyll yn ddiarebol. Pan yr oedd y diweddar Christmas Evans unwaith yn pregethu yn nghymydogaethau Dolgellau, ar ddydd y farn ddiweddaf, ar ol dyweyd am y ddaear yn crynu, a'r mynyddoedd yn neidio a phethau o'r fath, fel climax ei reítheg bloeddiai "y byddai Cadwaladr Jones wedi ei gynhyrfu y pryd hwnw!" Cynghorwr heb ei ail oedd Mr. Jones i ddyn ieuangc. Ni welais i erioed ddyn o wneuthuriad cyffelyb. Yr oedd yn ddyn o deimladau tyner iawn, caredig tu hwnt, ac ar yr un pryd yr oedd y mwyaf digynhwrf o feibion dynion; yn Stoic perffaith mewn pwyll, ac yn un o'r dynion mwyaf hynaws.

Yr oedd holl elw yr hen Ddysgedydd yn myned i ro'i ysgol i ddynion ieuainge a godid i'r weinidogaeth. Golygodd yr Hen Olygydd y misolyn hwn am flynyddau lawer am 10p. yn y flwyddyn, a'r holl gynyrch yn cael ei roddi i bregethwyr ieuainge. Tra y bu'r cyhoeddiad yn ei ddwylaw, yr oedd pob hyder ynddo fel Golygydd, ac ni fu'r hen Ddysgedydd yn fwy ei barch na phan yr oedd yn ei law. Yn nerth elw'r Dysgedydd y cychwynwyd Athrofa'r Bala, yr hon sydd wedi anfon allan ugeiniau o weinidogion. Elw'r Dysgedydd yn y dechreu oedd braidd yr unig gymorth a dderbyniai. Bob yn dipyn daeth casgliadau i gynnorthwyo cynnaliaeth a geid oddiwrth y Dysgedydd. Drwy wahanol gyfnewidiadau, pallodd cymhorth y Dysgedydd, rhoddodd Mr. Jones, yr olygiaeth i fyny, a gorfu ar Athrofa'r Gogledd ddibynu ar y casgliadau yn llwyr. Fodd bynag, oni b'ai'r elw oddiwrth y Dysgedydd, mae'n debyg na fuasai Athrofa'r Bala wedi ei chychwyn o gwbl, ac am flynyddau lawer, llafur Mr. Cadwaladr Jones gyda'r Dysgedydd oedd ei phrif gynnaliaeth. Yr oedd Mr. Cadwaladr Jones yn ffyddlon iawn yn holl bwyllgorau yr Athrofa. Efe bob amser bron a ddewisid yn gadeirydd, os byddai yn bresenol, ac anfoddlon iawn a fyddai neb i gymeryd y gadair os byddai Mr. Jones yn bresenol. Parhaodd i ddyfod i'r pwyllgorau hyd ei ddiwedd. Edrychid arno bob amser fel tad tirion a ffyddlon.

Yr oedd Mr. Jones yn gystal beirniad ar bregeth a neb y darfu i ni ei gyfarfod. Gwelsom rai yn cael eu cario gan ffrwd hyawdledd o ryw fath, a nerth llais i gymeradwyo pregethau na byddai'r farn yn eu cymeradwyo. Nid oedd hyn yn un brofedigaeth i Mr. Jones. Yr oedd bob amser yn berffaith oer, a chlir ei ben. Pan y byddai cynnulleidfaoedd yn berwi, gwelsom ef lawer gwaith yn berffaith ddigynwrf, ond byddai yn effro drwyddo, ond iddo gael pregeth wrth ei fodd. Rhoddodd lawer cynghor gwerthfawr i bregethwyr ieuaingc. Pan y byddai yn gwasgu yn lled drwm ar ambell i un lled ddilygad a hyf, a hwnw yn methu cydweled âg ef yn nghylch y diffygion ynddo a nodai Mr. Jones, cyfodai ar adegau deimladau drwg yn erbyn Mr. Jones, am mai anhawdd iawn yw i neb weled ei bechod ei hun. Beirniadodd Mr. Jones lawer ar bregethwyr ieuaingc, a dywedodd ei feirniadaeth yn garedig wrthynt, er mwyn eu harafu a'u diwygio, a gwnaeth les mawr lawer gwaith wrth wneyd hyn. Yr oedd ei ddybenion da bob amser uwchlaw amheuaeth, a'i farn gref yn ei gadw rhag gwyro.

Yr oedd Mr. Jones yn ochelgar hyd at fod yn ofnus, a dichon fod ei law ar adegau wedi bod yn rhy drom ar rai a ddysgyblai. Mae anturiaeth yn perthyn i'r ieuangc, a gochelgarwch i'r hen. Yr oedd Mr. Jones yn naturiol yn fwy o enfa i atal nag o yspardyn i symbylu. Mewn cynghorau, atal pobl wylltion oedd ei apostolaeth yn fwy na chyffroi i waith, er y medrai wneyd hyny yn eithaf, ond iddo fod yn ddigon sicr ei fod yn waith priodol i'w wneyd. Gwelsom ei ochelgarwch yn ei gario i eithafoedd. Nid oedd ynddo yr elfenau rheidiol i wneyd Luther mewn unrhyw wlad. Yr oedd yn debycach i Erasmus —yn hirben iawn, ond yn rhy ofnus ar adegau. Cariai yr ofn yma i bob peth, ei amaethyddiaeth, adeiladu capelau, &c., fel oedd yn sicr bob amser nad elai i brofedigaeth. Mewn oes o 85 mlynedd, unwaith y gwelsom ef erioed wedi myned i'r fagl. Yr oedd craffder y llwynog wedi ei roddi iddo. Nis gallasai dynion ieuaingc selog a llawn o yni beidio a theimlo gwerth cymeriad pwyllog a phwysig fel yr eiddo Mr. Jones. Ar yr un pryd, ni thalasai i bawb fod fel Mr. Jones. Mae yn dda cael un Lapland i oeri tipyn ar y byd; ond pe buasai'r byd i gyd yn Lapland, buasai yn rhy amddifad o wres. Na feddylied y darllenydd ein bod yn tybied na wnaeth Mr. Jones waith, am ein bod yn dweyd fel hyn. Yr oedd yn un o'r mwyaf blaen—llaw mewn llafur hunanymwadol i godi pregethwyr ieuaingc, ac ychydig a lwyddodd i wneyd cymaint ag a wnaeth efe.

Gan fod y llythyr a ganlyn yn egluro y mater hwn yn mhellach, rhoddwn ef yma.

AT C. R. JONES, LLANFYLLIN.

ANWYL SYR.—Mae yn dda iawn genyf ddeall fod gobaith y cawn, a hyny yn fuan, Gofiant teilwng o'ch anwyl, a'ch hybarch dad, gan fod cynifer o frodyr, mor gymhwys a galluog, wedi ymgymeryd â'r gorchwyl o barotoi cofiant iddo. Yr oedd efe yn ddiddadl yn "dywysog ac yn wr mawr yn Israel," ar lawer o ystyriaethau, er mai gwr disyml a hollol ddiymhongar ydoedd o ran yr olwg arno. Gwelaf oddiwrth yr hysbysiad, fod un bennod o'i Fywgraffiad yn cael ei chyflwyno i son am "Ei nawdd dros bregethwyr ieuaine, &c."; a bydd yn dda genyf, os caniateir i minau ddweyd gair am dano, dan y penawd hwn, oddiar fy mhrofiad fy hun. Bum yn cadw ysgol yn Rhydymain gerllaw Dolgellau, am dymhor cyn myned i'r weinidogaeth, a byddai yntau yn arfer dyfod i Rhydymain i pregethu y pryd hwnw, unwaith yn y mis; a dyna yr amser y daethum gyntaf i gydnabyddiaeth ag ef, er fy mod wedi ei weled a'i glywed, unwaith neu ddwy cyn hyny. Nid oeddwn i ond dyn ieuanc dinod, a dieithr yn y gymmydogaeth; ac felly nid oedd genyf unrhyw hawl i disgwyl iddo gymeryd nemawr sylw o honof, na theimlo fawr o ddyddordeb ynof; ond eto, cefais lawer iawn o sirioldeb a chefnogaeth, a chalondid ganddo ef, a'r Parch R. Ellis, Brithdir, tra bum yn yr ardal. Yn mhen amser, meddyliodd y cyfeilion yn Berea, Môn, am roddi galwad i mi i ddyfod yn weinidog iddynt; ond cyn gwneuthur hyny. anfonasant at Mr. Jones a Mr. Ellis, i ymgynghori â hwynt ar y mater. Ni wybum i ddim am y peth ar y pryd; ond ryw dro wedi i mi ymsefydlu yno, meddyliodd y swyddogion, na buasai o un niwed iddynt roddi i mi lythyrau a dder- byniasent oddiwrth y Parchedigion C. Jones ac R.Ellis ; ac y maent yn fy meddiant yn awr, ac yn neillduol o werthfawr yn fy ngolwg, fel amlygiad o deimladau caredig y ddau weinidog parchus. Ni byddai yn briodol cyhoeddi y llythyr hwn, o eiddo yr hen Olygydd Hybarch, am ei fod yn dal perthynas rhy agos a mi yn bresenol; ond teimlaf ei bod yn ddyledswydd arnaf, yn gystal ag yn bleser genyf, grybwyll y ffaith, fel un engraifft o'i garedigrwydd i bregethwyr ieuainc. Bydd ei goffadwriaeth byth yn anwyl ac yn barchus genyf.

Yr eiddoch yn serchog,

Llanbrynmair.

OWEN EVANS.

PENNOD XII.

Y GOLYGYDD.

Cymhwysder i'r swydd—Pen and Ink Sketch, gan Ieuan Gwynedd—Y Rhifyn cyntaf o'r Dysgedydd Synwyr cyffredin—Nid corsen yn ysgwyd gan wynt—Annibyniaeth meddwl—Symledd fel ysgrifenyddDadleuon y "System Newydd"—Y pregethwyr teithiol—Penderfyniadau cymanfaoedd, &c—Ysgrif Scorpion—Y dymestl—Y Dysgedydd yn suddo—Camhysbysiad o'r ddyled, &c—Cyflwyniad o'r olygiaeth i fyny, ac apwyntiad eraill i gymeryd ei ofal.

Un-mlynedd-ar-ddeg-ar-hugain o Olygiaeth!—Nid yn aml y disgyn i ran un dyn i eistedd wrth lyw cyhoeddiad am dymor mor faith. Rhaid fod cymhwysder neillduol yn yr "Hen Olygydd" i'r swydd, cyn y gallasai barhau ynddi cyhyd, a rhoddi, ar y cyfan, foddlonrwydd cyffredinol. Dewiswyd Mr. Jones i'r gwaith, y mae yn sicr genym, nid oblegid mai efe oedd y mwyaf cyfleus i'r swyddfa, ond oblegid mai efe, a chymeryd pob peth i ystyriaeth, oedd y cymhwysaf o holl gychwynwyr y Dysgedydd i'w osod ar hyn o orchwyl. Buasai yn llawer haws cael cystal argraffydd a Mr. Richard Jones y tuallan i Ddolgellau, nag a fuasai cael cystal golygydd ar Parch. Cadwaladr Jones. Mewn rhyw bethau, hwyrach, fod pob un o'i gyfoedion, fel y dywed y diweddar Ieuan Gwynedd mewn ysgrif alluog o'i eiddo, yn rhagori ar Mr. Jones; ond tueddir ni i feddwl wedi talu sylw lled helaeth i'w olygiaeth, fod y cydgyfarfyddiad o wahanol ragoriaethau oedd ynddo ef, yn ei wneyd y cymhwysaf o honynt oll i'r swydd o Olygydd; a hýny yn ddiau a wyddai ei frodyr yn dda, ac oblegid hyny i'w law ef yr ymddiriedasant ei ofal yn benaf; ond y mae yn hawdd deall ei fod yntau yn gweithredu mewn ymgynghoriad parhaus a'i frodyr, yn enwedig a'r Hybarch J. Roberts, o Lanbrynmair; llythrenau enw yr hwn a welir amlaf o bawb ar ddalenau y Dysgedydd am y deng mlynedd cyntaf o'i gyhoeddiad. Mae "Ieuan Gwynedd" wedi tynu darluniad naturiol iawn o'r "Hen Olygydd" mewn ysgrif o'i eiddo a ymddangosodd yn y Principality, Tach. 2il, 1847. Dysgybl i Mr. Jones oedd Ieuan, wedi ei fagu dan ei nawdd yn y Brithdir; ac yr oedd gan y dysgybl feddwl mawr o'i athraw; ac felly hefyd yr oedd gan yr athraw o'i ddysgybl. Hwyrach y dylem ddyweyd mai papur Seisnig rhyddfrydig oedd y Principality. Dyma y cynyg cyntaf a wnaed i sefydlu papur Seisnig o'r fath nodwedd yn ein gwlad; ond fel llawer anturiaeth deilwng arall methodd o ddiffyg cefnogaeth. Er mai Mr. David Evans oedd y cyhoeddwr a'r perchenog, etto yr oedd Ieuan Gwynedd mewn cysylltiad uniongyrchol ag ef, a bu am dymhor yn gweithredu fel Golygydd. Ysgrifenodd ynddo amryw erthyglau galluog ar gyhoeddiadau cyfnodol Cymru, ac un o'r gyfres oedd yr ysgrif ar y Dysgedydd ; ac yr ydym yn cofio yn dda fod yr argraff ar ein meddwl pan ddarllenasom hwy ar y pryd, mai yr un ar y Dysgedydd oedd yr oreu o'r cwbl. Mae y "Pen and Ink Sketch" a ddyru o'r Hen Olygydd yn bortread byw. Rhoddwn hi yn yr iaith yr ysgrifenwyd hi. Mae mor eglur fel nas gall yr un Cymro, os yn deall dim Saesneg lai na'i deall.

"The brethren agreed to publish their periodical at Dolgelley, and the Rev. Cadwalader Jones was appointed editor. Mr. Jones was then a minister of about 12 years standing, and had four small churches under his care. He is a native of Llanuwchllyn, and studied for some time at the Independent Academy, then at Wrexham. He was chosen by a majority over the Rev. D. Morgan, now of Llanfyllin, to be the successor of the Rev. Hugh Pugh, of Brithdir, who died in the year 1809. Mr. Jones has continued ever since the pastor of Dolgelley and Islaw'rdref churches, which has prospered under his ministry. He resigned the pastorship of Brithdir and Rhydymain in 1837, but continues still to pay a monthly visit to his old flock, where he is regarded with partriarchal honour. As a preacher he is clear and instructive, and has been a kind and affectionate pastor. He has been lately married to his third wife, and has a family of seven sons. Cad- walader Jones (as he was then called) was not a very likely person to become an editor. We are not aware that he had written anything besides a small pamphlet against the late Rev. John Elias, who had charged the Independents with being Semi—Pelagians. His produetion is a vigorous attack, conducted with much acuteness, and considerable warmth. Mr. Elias never replied, but reminded his hearers at a subsequent association held at Dolgelley, that he could pray for those who had written against him. Mr. Jones possessed not the fiery eloquence of Williams, the sound adamantive scholarship of Michael Jones, the completeness of John Roberts, the public spirit of Jones, Holywell, the learning and elegance of Everett, nor the tremendous, inexhaustible, everlasting perseverance of Morgan. His preaching attribute was strong common sense, and his stock—in—trade was an immense fund of patience of which the Printer's Devil often had occasion to complain bitterly in taking the proofs to his residence. Yet, of the thirteen brethren, probably none would have proved a formidable competitor for the centores' chair, if we except Everett, who was an elegant and prolific writer.

Probably not many of our readers have seen the editor of the Dysgedydd at work, and a peep at the good man in his office may not prove void of interest to them. Perhaps it may induce them to visit Dolgelly and its vicinities,—a land where the beauties of nature have been prodigally lavished, to prepare the very home of repose. Cader Idris, in its cloud capped majesty, the foaming Aran, the placid Wnion, the wilds of Clywedog, the delicious spots of Brithdir, the cradled valley from the Dysgedydd Office to the peak of Aran Fawddwy, the ruins of Cymmer Abbey, the waterfalls of Ganllwyd, and the stately windings of the Mawddach, will afford ample scope for delightful excursions. To find the editor at home and at work, the visitor must leave the town about nine in the morning in the early part of the month, when the materials for the forthcoming Dysgedydd are in course of selection. Cross the Lower Bridge (Bont Fawr) with its seven solid arches, turn to the right and proceed towards Llwyn, where the ancestors of the celebrated Dr. Owen lived. Then slowly ascend along Rhiw Careg Feirig for about a mile, and turn on the left to a narrow lane, and he will presently find himself at Cefnmaelan, a spacious farm house where the archdruid, as he is called sometimes, resides. Probably the first to give him welcome at the door will be a stout, shaggy, goodhumoured shepherd's dog, and that his semi—courteous and knowing bark will be the first voice to greet the ear. As the Meronians are not very strict observers of etiquette, the pilgrim may "walk in" through the wide open doors without further ceremony. He enters into a large kitchen where on his right hand he will find the fire place, the left side of which we warrant will be in the safe possession of Mr. Editor. A small round oak table, about seven feet in circumference, will be on his right, and on which will be found a small white cup with red letters thereon. In that a small penny or two penny phial is placed, which forms the editorial inkstand. Editor's pen is a plain unclarified quill, which has written all the etitorial articles for the last three or perhaps four years. On an this immense pile of the Patriot, Carnarvon Herald, and, we trust, the PRIN- CIPALITY, will attract the eye. His feet being always elevated on the corner of the grate, have become quite fireproof. About his chair three or four large piles of correspondence are placed, and there among domestics and visitors, all the weighty concerns of the Dysgedydd are calmly settled. Paper after paper is taken from the pile, and is patiently eyed from beginning to end. After being weighed if not found wanting, they are put aside for publication; otherwise, they are consigned back to the hopeless heap, as the Editor rather (braidd) thinks that they will not suit his pages.

Mr. Jones is now about 65 years of age. His appearance after all the domestic sorrows through which he has passed, is healthy and happy. The keen grey eye has scarcely lost any of its lustre, nor has the sweet smile disappeared from the countenance. The forehead is high, and partially hidden by the light flowing silvery hair, which falls like beams of light from the honoured head. The voice, though it has no peculiar charm, is engaging. His physiognomy unmistakeably indicates a man much given to deliberation, and who does not lack "information in the brain."

Daeth y rhifyn cyntaf o'r Dysgedydd allan yn mis Tachwedd, 1821. Math o specimen copy ydoedd, yn cynnwys anerchiad byr gan y Golygydd, cofiant y Parch. R. Tibbot, Llanbrynmair, gan J. R.; Anerchiad at ieuengctyd Cymru, gan S. R.; Cellwair a Phechod, gan Iau; Gwahaniaeth y ddwy oruchwyliaeth, heb enw; Gwybodaeth ysbrydion, gan B. Evans; Llawysgrifen y Parch. S. Phillips, gan B. E; y Gymdeithas Genhadol, gan R. E.; Llythyr Radama, brenin Madagascar; Pigion o lythyr Mrs. Mault, heb enw; Gofyniadau buddiol y Parch. Joseph Alleine, gan Egryn; Hanesion gwladwriaethol, heb enw; Barddoniaeth—Anerch y Dysgedydd, gan Meurig Ebrill, Gwilym Cawrdaf, a W. H.; a Pheroriaeth, Tôn, Mahalaleel. Dyna yr oll o gynnwysiad y rhifyn cyntaf. Rhoddasom ef yma yn llawn er mantais y rhai na chawsant, ac na chant o bosibl, byth weled y rhifyn. Darllenasom yn lled fanwl, y rhan fwyaf o'r Dysgedydd am y blynyddoedd y bu dan ofal yr Hen Olygydd; a thalasom sylw neillduol i bob peth a ysgrifenwyd ganddo ef ei hun. Drwg genym nad yw y cloriau o fewn ein cyrhaedd ar y rhai y mae yn gwneyd ei sylwadau at ei Ohebwyr. Mae y rhai hyny yn aml yn llawn cystal a dim arall a ellir gael, er deall teithi neillduol cymeriad Golygydd. Nid i ni yma y perthyn manylu ar gymhwysderau personol Mr. Jones, yn ddim pellach nag y maent yn amlygu eu hunain yn y Golygydd; ac y maent yn dyfod i'r golwg yn aml iawn.

Yr oedd yn meddu ar synwyr cyffredin cryf. Nid ydym yn tybied y gellir cael dim yn ei ysgrifeniadau sydd mewn un modd yn awgrymu diffyg callineb. Yr oedd bod yn ddistaw pan y dylasai lefaru yn llawer mwy o brofedigaeth iddo, na llefaru pan y dylasai fod yn ddistaw. Ceid ei holl sylwadau pan y gwnai hwy yn "eiriau doethineb;" a phan y traethai ef ei farn, nid oedd ond oferineb ymgyndynu, am y gwnai hyny gyda'r fath briodoldeb, fel y barnai agos pawb, pa un bynag a gytunent a'i olygiadau ef ai peidio, mai cystal oedd ei gadael yn y fan hono.

Gwyddai pawb a'i hadwaenai y meddai ystôr ddihysbydd yn mron o amynedd. Yr oedd ei "arafwch yn hysbys i bob dyn." Medrai deimlo, a digio, a dyweyd geiriau miniog a chyrhaeddgar os mynai; ac ar yr un pryd nid yn aml y bu yr un dyn yn ei swydd ef, a gadwodd lywodraeth mor berffaith ar ei holl deimladau; ac er hyny nid un llwfr, a meddal, a hawdd ei arwain ydoedd ychwaith; ond yr oedd yn annibynol iawn ei feddwl, ac yn bur benderfynol ei ysbryd. Nid hawdd oedd ei droi yn ol o'r cyfeiriad a gymerai. Yn araf a phwyllog iawn y gwnai ei feddwl i fyny, ond wedi ei wneyd, nid “ corsen yn ysgwyd gan wynt" ydoedd.

Yr oedd yn ysgrifenydd eglur a dealladwy iawn. Nid oedd dim yn aruchel a barddonol yn ei arddull, a buasai yn fwy llwyddianus fel golygydd pe gallasai daflu mwy o dân a bywyd i bawb o'i gylch. Yn hyny hwyrach na bu yr un golygydd yn Nghymru erioed mor alluog a "Gomer." Gallai ef ag ysbrydiaeth ei ysgrifell daflu tân i'w ddarllenwyr, a pheri iddynt deimlo yn angerddol drosto ef, a thros y Seren a olygid ganddo ef. Cadfridog ydoedd yn medru casglu ei luoedd o'i gylch a'u gwefreiddio a'i ysbryd nes peri iddynt ddibrisio pob peth er ei fwyn. Nid oedd hyny yn nodwedd arbenig yn Mr. Jones, ond yr oedd yntau yn llwyddianus iawn i gadw pawb yn gyfeillion iddo. Mae yn debyg na wnaeth neb erioed lai o elynion iddo ei hun, ac ystyried ei fod mewn sefyllfa yr oedd dan yr angenrheidrwydd beunydd o anfoddloni rhyw rai. Dywedai beth bynag a fyddai ganddo i'w ddyweyd yn eglur a syml, heb amcanu ond ychydig at dlysni a phrydferthwch. A phe gofynid i ni grynhoi elfenau ei gymeriad fel golygydd, fel y gellir eu casglu oddiar dudalenau y Dysgedydd yn ystod tymor maith ei olygiaeth dywedem, mai synwyr cyffredin cryfarafwch, pwyll, ac ysbryd barn-anmhleidgarwch ac annibyniaeth meddwl-ac eglurdeb a symledd fel ysgrifenydd oeddynt ei brif nodweddion.

Mae "Hanesion gwladwriaethol "y Dysgedydd yn eglurhad nodedig ar ei symledd fel ysgrifenydd. Nid oes dim yn swynol a hudoliaethus ynddynt mewn un modd, ac etto y mae yn cofnodi helyntion a digwyddiadau yr amserau hyny fel un yn eu deall yn drwyadl, ac oddiar eu deall yn ceisio eu hysgrifenu fel y gallai eraill hefyd eu deall. Yn aml iawn ysgrifenir hanesion gwladol mewn newyddiaduron a misolion yn y fath fodd, fel y mae yn hawdd gweled nad yw yr ysgrifenwyr eu hunain wedi deall yr amgylchiadau yn drwyadl. Nyddir erthyglau hirion i fyny gyda rhes o eiriau amwys ac anmhenodol; ac er y gall y dwl a'r anwybodus dybied eu bod yn ysgrifau galluog a doniol, gwel y craff a'r sylwgar nad ydynt yn ddim ond "chwyddedig eiriau gorwagedd," ac nad oedd yr ysgrifenydd ei hun yn deall yr amgylchiadau, ond yn rhanol ac anmherffaith iawn; ac o angenrheidrwydd gan hyny, yn anmherffaith iawn y gallasai eu cyflwyno i'w ddarllenwyr, ac er celu ei anwybodaeth ymwisgai mewn niwl a thywyllwch. Ond nid un felly oedd Mr. Jones, "gwell oedd ganddo ef lefaru pum' gair trwy ei ddeall na mil o eiriau" heb feddwl ac ystyr iddynt. Gofynai dysgybl i'w athraw unwaith pa fodd y gallasai lefaru yn effeithiol? "Mae tri pheth yn eisiau," ebe yr athraw, σε yn gyntaf, rhaid fod genych ryw beth pendant i'w ddweyd. Yn ail, rhaid i chwi ddweyd y peth pendant hwnw yn y geiriau symlaf a ellwch gael. Ac yn drydydd, rhaid i chwi ddweyd y peth pendant hwnw mewn geiriau syml fel un yn ei gredu eich hun." Eithaf da. Mae yr hyn sydd wir am siarad yn effeithiol yr un mor wir am ysgrifenu yn effeithiol. Gwyddai Golygydd y Dysgedydd yn dda yr amgylchiadau a gofnodai. Nid o'r papurau newyddion a ddarllenai y cyfieithai i'w bapur yn gaeth; ond cymerai y cwbl o'r newyddiaduron i'w feddwl ei hun yn gyntaf, ac wedi eu troi yno yn hir, trosglwyddai hwy o'i feddwl i'w eiriau ei hun ar bapur i fyned i'r Dysgedydd, a gallasai eu dweyd yn hawdd wrth gyfaill ar y ffordd i'r dref bron yn yr un geiriau ag yr oedd wedi eu hysgrifenu. Dywedir fod rhywun yn gofyn i Dr. Lewis unwaith beth oedd ei feddwl ar ryw adnod. "Beth ydwi'n ddweyd yn fy esboniad ?" oedd yr ateb. Os gwir hyny, yn y llyfr yr oedd esboniad y Doctor, ac nid yn ei feddwl; ond y mae dull syml Golygydd y Dysgedydd o ysgrifenu y newyddion cyffredinol yn dangos eu bod yn ei feddwl cyn eu trosglwyddo i'r papur, ac wedi dyfod yn rhan mor naturiol o'i feddwl fel y gallem yn naturiol gasglu nad oeddynt wedi eu colli oddiyno er eu trosglwyddo i'r llyfr. Buasai yn dda genym ddwyn engrheifftiau, ond y mae y terfynau a ganiatawyd i ni yn ein rhwymo i ymatal.

Bu y Dysgedydd yn faes dadleuaeth frwd am flynyddau. Nid oes odid athrawiaeth dduwinyddol na chwestiwn cymdeithasol na bu y Dysgedydd yn ymdrin âg ef, a dadleuon poethion ar lawer o honynt; ac amlygwyd yn nglyn â'r dadleuon hyny lawn cymaint o gymhwysderau y Golygydd, ag mewn dim arall. Y "system newydd" fel ei gelwid oedd yn peri cyffro mawr yn mlynyddoedd cyntaf ei olygiaeth. Un o'r rhai blaenaf yn mysg dadleuwyr y dyddiau hyny oedd yr Hybarch J. Roberts, Llanbrynmair, a hen ddadleuwr teg a boneddigaidd iawn ydoedd. Tŷn a phenderfynol dros ei bwnge mae yn wir, ond yr oedd yn hawdd gweled mai ymofynydd gonest am y gwirionedd ydoedd. Ei ddadl ef a D. S. Davies, Llundain, ac eraill, yn erbyn Sion y Wesley yw un o'r rhai cyntaf yn y Dysgedydd. Rhoddodd y Golygydd bob tegweh iddynt. Nid oedd byth ddim brys arno i gau y dadleuon i fyny, a gallesid bod yn bur sicr os soniai y Golygydd am dynu pen ar unrhyw ddadl fod corff y darllenwyr wedi llwyr flino arni. Yn rhifyn Mai, 1825, y mae yn cloi y ddadl hono i fyny, ac y mae yn gwneyd hyny gyda'r pwyll a'r craffder oedd mor briodol iddo. Dywed yn bur ddigynwrf "Nid ydym yn deall fod y ddadl wedi parhau cyhyd oblegid cyfatebolrwydd ymddangosiadol yn synwyr, dysg, a rhesymiadau y dadleuwyr, ond oblegid gorhoffedd Sion yn, a'i sêl dros y gwaith o wrthwynebu ei wrthwynebwyr goreu ag y medrai, pan na fyddai ganddo ond ychydig iawn o feddyliau newyddion." Mor ddidwrw onide, y mae yn ei droi o'r neilldu. Yna yn myned yn mlaen i sylwi ar bwyntiau y ddadl. Bu yr un ddadl ger bron mewn gwahanol ffurfiau lawer gwaith ar ol hyny; ac ymddengys i ni bob amser fod terfyniad "Dadl Etholedigaeth" yn Nysgedydd Ebrill, 1847, yn un o'r ysgrifau galluocaf a gyhoeddwyd erioed ar y pwngc yn ein hiaith.

Dyna oedd ein barn am dani y pryd hwnw, darllenasom hi fwy nag unwaith wedi hyny, ac nid ydym wedi gweled achos. i newid na chymedroli ein barn. Gwyddom yn dda na bu yn foddion i argyhoeddi y rhai a wrthwynebant y golygiadau a gofleidiai efe. Nid ydym yn meddwl fod neb yn disgwyl y gwnai hyny, ond gwyddom iddi gadarnhau llawer o'r rhai oeddynt amheus; a pheri i'r rhai a gredent yr athrawiaeth o'r blaen deimlo yn gryfach a gwrolach ynddi. Anhawdd genym feddwl fod unrhyw ddyn teg a diduedd (os yw yn bosibl cael y fath) beth bynag fyddo ei farn bersonol ar yr athrawiaeth, na chydnebydd y craffder, y medrusrwydd, a'r annibyniaeth meddwl gyda pha un y mae yr "Hen Olygydd" fel barnwr yn symio y cwbl i fyny.

Profodd Mr. Jones fwy nag unwaith yn ystod ei Olygiaeth ei fod yn annibynol iawn ei feddwl; ac er mor awyddus ydoedd am foddloni ei frodyr, ni phetrusai os barnai fod doethineb yn galw arno, i wneyd pethau y gwyddai y byddai iddo drwy hyny dynu anfoddlonrwydd cyfundebau cyfain. Y rheol yn nglyn a chyhoeddiadau enwadol ydyw cyhoeddi pa bethau bynag y penderfynir arnynt mewn cyfarfodydd sirol neu gymanfaoedd, pa un bynag a fydd y golygydd yn cydweled â hwy ai peidio, a gadael i'r rhai sydd yn eu gwneyd fod yn gyfrifol am danynt; ac ymddengys i ni ei bod, ar y cyfan, yn rheol ddoeth a diogel. Ond nid ydym yn amheu nad all fod eithriadau. Mae yn bosibl i gynnadledd neu gymanfa, dan gynhyrfiad ar y pryd, neu dan ddylanwad dau neu dri o weinidogion blaenllaw a phoblogaidd, basio penderfyniad y buasai yn dda gan naw o bob deg o'r rhai oedd yn bresenol, yn eu horiau mwyaf pwyllog ac ystyriol, pe na buasai erioed wedi pasio; a gall golygydd sydd yn hollol y tuallan i'r dylanwadau hyny, wrth eistedd yn bwyllog wrth ei fwrdd, farnu y byddai yn llawer gwell peidio ei gyhoeddi. Ond pwy a faidd gymeryd y cyfrifoldeb o dynu gwg ac anfoddlonrwydd cynifer o ddynion dylanwadol, y rhai os na wneir yn ol eu gair hwy, a fygythient dynu eu nawdd oddiwrth y cyhoeddiad, a chychwyn un arall dan olygiaeth un o honynt eu hunain. Bu yr Hen Olygydd yn y brofedigaeth yna lawer gwaith. Nis gwyddom pa sawl gwaith y cyhoeddodd benderfyniadau am eu bod yn dyfod oddiwrth gynnadleddau o weinidogion, y rhai, yn ol ei farn bwyllog ef ei hun, y buasai yn well peidio eu cyhoeddi; ond gwyddom iddo mewn dwy engrhaifft yn neillduol ddangos digon o wroldeb ac annibyniaeth, i adael allan benderfyniadau yr oedd siroedd cyfain yn eu cynnadleddau wedi cytuno arnynt. Ac nid siroedd bychain a chyffredin oeddynt ychwaith, ond siroedd lle yr oedd rhai o weinidogion mwyaf poblogaidd yr enwad ar y pryd yn gweinidogaethu, ac yn cymeryd rhan yn y penderfyniadau. Mae yn gadael y cyntaf o'r neilldu yn bur esmwyth, gydag olnodiad-"Digon tebyg y beuir ni am adael allan y pumed penderfyniad, gan y rhai a gydunent ynddo; ond hyderwn yr ymdawelant hyd nes y caffom hysbysu iddynt yn gyfrinachol ein rheswm dros hyny." Yn yr amgylchiad arall, torodd y cwbl yn bur swta gyda sylw bỳr ar y clawr; a phan yr ysgrifenwyd yn bersonol ato am eglurhad, ei ateb oedd "Mai dau frawd pur uchelfrydig o'r dechreuad, oedd y rhai yr oedd y sir yn ymranu rhyngddynt; ac nad oedd o werth i frodyr heddychol a ffyddlon fyned yn blaid i foddio balchder y naill na'r llall." Yr ydym yn crybwyll y pethau hyn, nid i roddi ein barn a'r hyn o bryd, pa un a wnaeth Mr. Jones yn iawn ai peidio yn yr amgylchiadau yna; ond, pa un bynag, yr ydym yn edmygu y gwroldeb a'r annibyniaeth a amlygai. Ac y mae yn ddigon tebyg erbyn hyn fod y rhan fwyaf o'r rhai oedd a llaw yn y cynnadleddau hyny, yn barnu y buasai yn llawn cystal heb basio y penderfyniadau y barnodd yr Hen Olygydd yn ddoethach eu gadael allan. Yr ydym yn bur sicr mai dyna deimlad y rhan fwyaf o lawer o'r rhai oedd a fynent a'r amgylchiad diweddaf a nodwyd.

Dangosodd Mr. Jones raddau helaeth hefyd o ysbryd annibynol yn nglyn â'r dadleuon a fu o bryd i bryd yn y Dysgedydd yn nghylch pregethwyr cynnorthwyol. Bu amledd teithwyr yn faich mawr ar yr eglwysi flynyddau yn ol, a gwnaed llawer cynyg i reoli y teithio diddiwedd. Pasiwyd penderfyniadau yn lled gyffredinol, nad oedd yr un pregethwr cynnorthwyol i fyned i daith heb gymeradwyaeth cyfarfod chwarterol neu gymanfa. Ni bu Mr. Jones erioed yn ffafriol i'r rheol hono, ac amlygodd hyny fwy nag unwaith yn y Dysgedydd. "Y mae hyn " meddai "yn ymddangos i mi bob amser yn gorwedd yn anesmwyth ar ein hegwyddorion fel Annibynwyr, ac ar yr ysgrythyrau." Ystyriai ef fod cymeradwyaeth y gweinidog a'r eglwys lle y byddo y pregethwr cynnorthwyol yn aelod yn uwch awdurdod na dim a allasai unrhyw gyfarfod sirol ei roddi iddo. Mae ganddo un syniad yn nglyn â chyfarfodydd sirol yr esgusodir ni am ei ddwyn i mewn yma; yr ydym yn gwneyd hyny, am fod yn dda genym weled hen wron profedig yn datgan ei farn mor groyw ar fater yr ydym wedi gwneyd ein meddwl i fyny yn bur benderfynol arno er's blynyddoedd. Dyma ei eiriau, “Ni ddeallais etto erioed mai fel cynrychiolwyr yr eglwysi, a thrwy awdurdod yr eglwysi y mae gweinidogion yr Annibynwyr i ymdrin â'n hachosion; a bod ganddynt hawl i lunio i sefydlu deddfau fel y barnont hwy eu hunain yn oreu." Nis gallasom ninau erioed ddeall yr egwyddor o gynrychiolaeth yn nglyn âg Annibyniaeth; ac nid ydym yn credu fod gweinidogion na diaconiaid yn cyfarfod mewn cynnadleddau fel cynrychiolwyr yr eglwysi, nac yn awdurdod yr eglwysi, ond yn hollol fel personau unigol, a pha bethau bynag y penderfynant arnynt i gael eu derbyn neu eu gwrthod gan yr eglwysi fel y barnont yn oreu. Mae penderfyniadau cynhadleddau yn ddarostyngedig i farn yr eglwysi, ac nid yr eglwysi yn ddarostyngedig i benderfyniadau cynnadleddau. Dadleuodd yr "Hen Olygydd” hyny yn gryf iawn, a hyny ar adeg yr oedd rhai gweinidogion a chyfundebau yn hawlio mwy o awdurdod i gynnadleddau nag a all Annibyniaeth ganiatau.

Unwaith o gwbl y gwelsom yr "Hen Olygydd" mewnpen bleth—wedi gollwng y llyw o'i law, neu o leiaf yn ymafael ynddo yn ofnus iawn. Bu ddrwg genym ganwaith drosto, a gwnaethom ein goreu ar y pryd i gynal ei freichiau. Cododd ysgrif Scorpion, yn Nysgedydd Tach. 1848, ystorm na chodwyd ei chyffelyb y mae yn sicr genym gan un ysgrif yn yr oes yma. Nid dyma y lle i roddi barn ar yr ysgrif; ond rhaid i bawb addef fod athrylith ynddi; a'i bod yn ddarluniad rhy gywir o lawer, sydd eglur oddiwrth yr effeithiau a gynyrchodd. Nis gallasai dim ond ei gwirionedd beri i gynifer deimlo oddiwrthi. Cynhyrfodd diaconiaid trahaus yn ei herbyn, a chefnogid hwy gan weinidogion ofnus, y rhai yn ddirgel a ddywedent bethau tra gwahanol—pasiwyd penderfyniadau i beidio derbyn y Dysgedydd i dŷ, ac i anfon at y Golygydd i'w gondemnio am adael iddi ymddangos—gwelid y rhifynau dyfodol o'r Dysgedydd yn bentyrau—ac ofer oedd i'r dosbarthwyr ei gynyg i'r derbynwyr digofus. Brawychodd yr Hen Olygydd er ei holl bwyll a'i hunanfeddiant, a bu am yspaid fel un heb wybod pa beth i'w wneyd. Dylifai llythyrau ato gyda phob Post yn ei fflangellu yn arw; a dylifant hefyd i'r swyddfa, yn gwahardd anfon ychwaneg o'r Dysgedydd i'r lleoedd lle yr ydoedd oherwydd yr ysgrif dan felldith ysgymundod. Ceisiodd lonyddu y cythrwfl gyda nodiad golygyddol yn y rhifyn dyfodol; ac ymddengys y nodiad hwnw i ni yn berffaith resymol. Dyma fe

'Drwg genym fod amryw o'n cyfeillion wedi cynhyrfu cymaint ag a wnaethant, wrth weled a darllen ysgrif Scorpion yn ein rhifyn diweddaf. Meddianwch eich amynedd am dipyn bach, nes y gweloch y diwedd. Os gwir y mae Scorpion yn ei ddyweyd, nis gallwn lai na disgwyl yr ergydion trymaf i ddisgyn arnom; ond os anwir nid rhaid i ni ofni na dychrynu rhagddo ef—hawsaf o lawer ydyw dangos iddo ef a phawb eraill eu camgymeriad. Ni raid i'r dieuog ofni sefyll ei brawf. I'r euog y perthyn ofni; y gwir sydd yn lladd. Dywedwyd llawer o bethau am Annibynwyr ac Annibyniaeth yn Haul Llanymddyfri; a chwynir ac achwynir yn awr gan ein gohebydd doniol Scorpion; a chan ei fod yn siarad mor gyffredinol, chwenychem i'r mater gael ei chwilio i'r eithaf, fel y byddo i'r ddedfryd o ddieuogiaeth gael ei chyhoeddi uwch ben yr eglwysi Annibynol, ac iddynt ddyfod allan fel aur wedi ei buro trwy dân.

Da iawn—dyna ddigon byth o ymddiheurad, a drwg iawn genym i'r Hen Olygydd parchus—ar ol gwylio cyhoeddiad yr enwad yn ofalus, fel tad yn gwylio ei blentyn, am yn agos i ddeng mlynedd ar hugain—ymostwng i wneyd rhagor. Beth bynag am gywirdeb y darluniad a roddir gan Scorpion o'i gymhwyso yn gyffredinol, yr ydym yn sicr o un peth, mai y dynion a ddarlunid ganddo, a gododd y dymhestl yn erbyn yr ysgrif, a'r Dysgedydd, a'i Olygydd. Ni welsom yn un diacon da wedi teimlo dim oddiwrthi, oddigerth ambell un oedd dan ddylanwad y dosparth a ddisgrifir mor gywir yn yr erthygl.

Nid yw yr ymddiheurad yn rhifyn Rhagfyr wedi ateb y dyben i dawelu y cythrwfl; a dyma un gostyngeiddiach yn rhifyn Ionawr:—"Dwys ofidiwn oblegid i ysgrif Scorpion friwio teimladau diaconiaid ffyddlawn a da. Pe gwybuasem y parasai haner y blinder ysbryd a wnaeth iddynt hwy, ni chawsai ymddangos. Yr ydym yn hollol annghymeradwyo cyffredinedd a style ysgrif Scorpion. Ymdrechwn na chaffo ysgrif o stamp hon ymddangos mwyach. Ysgrifenodd lluaws o frodyr atom yn ardystio yn ei herbyn, a cheryddwyd ni yn llym gan rai o'i phlegid; ond dangosid ysbryd addfwyn, cariadlawn, a theimladwy, yn y rhan fwyaf o honynt. Yr ydym yn ddiolchgar iawn iddynt am eu cydymdeimlad a ni o barth yr 'amryfusedd' hwn. Ni raid i neb betruso yn nghylch ein hymlyniad wrth egwyddorion Annibyniaeth na'n parch i ddiaconiaid. Yr ydym yn pleidio yr egwyddorion hyn er's tua haner canrif, a gallwn dystio yn awr ar fin y bedd ein bod yn eu gwerthfawrogi fwy fwy beunydd—'Cured y cyfiawn fi yn garedig, a cherydded fi; na thored eu holew penaf hwynt fy mhen; canys fy ngweddi fydd etto yn eu drygau hwynt." Yn wir y mae yn rhy ddrwg fod hen wyliedydd ffyddlon yn gorfod ysgrifenu fel yna, am ddim ond gollwng ysgrif alluog i'r Dysgedydd nad oedd neb yn gyfrifol am ei syniadau ond yr awdwr ei hun. Daeth amryw i'r maes i wrthwynebu Scorpion; ac yn rhifyn Mawrth y mae ysgrif ddoniol a thalentog, ond pur ysgythrog, gan Ieuan Gwynedd yn amddiffyn Scorpion a'r Golygydd; ac yn rhifyn Mehefin y mae y Golygydd ei hun yn symio y cwbl i fyny, ac yn cloi y ddadl. Yn ei adolygiad y mae yr Hen Olygydd wedi adfeddianu ei bwyll a'i hunanfeddiant arferol, ac yn terfynu y cwbl gyd a'r eglurdeb a'r anmhleidgarwch hwnw oedd mor briodol iddo. Dichon y tybia rhai na ddylesid cyfeirio at bethau fel hyn; nid oes achos i ni ddyweyd ein bod yn barnu yn wahanol, oblegid y mae y ffaith ein bod yn cyfeirio atynt yn profi hyny. Pethau cyhoeddus ydynt, a byddant yn amlwg yn y Dysgedydd i'r oesau a ddel. Maent yn mysg prif ddigwyddiadau bywyd golygyddol ein gwrthddrych; ac y mae y dull yr â dynion drwy amgylchiadau mwyaf tymhestlog eu hoes, yr eglurhad goreu ar deithi meddyliol a moesol eu natur. Ysgydwodd yr amgylchiadau yna gryn lawer ar yr Hen Olygydd, ac addfedodd ef i ymddeol o gyfrifoldeb y swydd. Yr oedd yr argraff ar ei feddwl ef nad ymddygwyd yn gwbl foneddigaidd ac anrhydeddus gan bawb tuag ato—fod cefnogaeth rhai o'n llenorion galluocaf wedi ei atal oddiwrth y Dysgedydd yn mlynyddoedd olaf ei olygiaeth ef er mwyn prysuro ei gael o'i law, ac na chafodd y gyfran oedd yn ddyledus iddo am ei lafur y blynyddoedd diweddaf, na chyfrif o'r ol—ddyledion a ddaethant i law. Cyhoeddodd ef ei adroddiad ei hun o'r amgylchiadau yn yr Herald Cymraeg am Mehefin 22, 1861. Ni byddai ond ofer i ni drosglwyddo yr ysgrif hono yn llawn yma. Yr unig beth yr ymddangosai yr Hen Olygydd yn anfoddlawn iawn iddo, ydoedd y gair a ledaenwyd gan ryw rai fod ei olynwyr ef yn ngolygiaeth y Dysgedydd wedi ei gymeryd dan 200p. o ddyled, a bod rhyw frawd wedi dyweyd hyny yn Nghaernarfon rywbryd wrth fyned oddiamgylch yn achos y Dysgedydd. Ar y mater hwnw dywed, "Pa fodd bynag y bu i'r brawd hwnw gyhoeddi y fath beth o'r pulpudau, y mae yn hollol anwireddus. Mae yn wir fod y Dysgedydd tra y parhaodd yr hen olygiaeth am 31 o flynyddoedd yn eiddo yr enwad Annibynol yn gyflawn, a than lywodraeth dirprwy yr enwad yn hollol; ond ar derfyniad yr olygiaeth aeth trwy gydsyniad y dirprwy yn feddiant i'r Golygwyr presenol a'r argraffydd. Hollol annghywir yw dyweyd fod 200p. o ddyled arno ar y pryd. Tystiolaeth y gwyr a edrychasant dros ei gyfrifon wrth gyfeisteddfod llawn, Awst 25, 1852, ydoedd fod tua 50p, o ddyled arno, hyny yw, fod yr arian a ddaeth i law yn fyr i ateb yr hyn a aethai allan yn ei achos o gymaint a 50p. neu yn agos i hyny. Ond sylwer yma fod digon o ol—ddyledion ar lyfr yr argraffydd, a mwy na digon i ateb i'r gofynion dyledus iddo ef a'r Hen Olygydd (hwy yn unig oedd y gofynwyr). Casglodd yr argraffydd gymaint ag a fedrodd o'r ol—ddyledion hyn, ac un gwych dros ben am hyny ydyw 'ef; nid wyf yn gwybod y swm a gafodd— dywed ef mai ychydig oeddynt ond ni ddywedodd pa faint ydyw yr ychydig hyny wrth ei gydofynwr, na neb arall yr wyf yn tybied. Pa fodd bynag am hyn, ni ddaeth yr un hatling i logell yr Hen Olygydd!—aethant oll i logell yr argraffydd! Pe buasai pawb yn talu buasai wedi cael digon i ateb ei ofynion ei hun a'r Hen Olygydd hefyd; oblegid dywedodd wrthyf, "Pe buasai pawb yn talu, ni buasai dim dyled ar y Dysgedydd." O ganlyniad gellid meddwl fod gan yr Hen Olygydd fwy o achos i gwyno na neb arall.”

Ni bu yr olygiaeth fel y gwelir gan hyny ond o ychydig elw arianol iddo; ond yr oedd yr hyfrydwch a deimlai yn ei waith yn llawn ddigon o dâl ganddo ef am bob trafferth. Ond yn sicr dylasai un a wnaeth y fath wasanaeth gwerthfawr i lenyddiaeth gyfnodol ei enwad gael cydnabyddiaeth llawer helaethach nag a dderbyniodd; a digon tebyg genym nad oes neb wedi gwneyd cymaint o waith, a bod o gymaint gwasanaeth i'w cenedl a'u gwlad a'r gweinidogion hyny sydd wedi rhoddi yr oll o'r amser a allent hebgor oddiwrth ddyledswyddau eu swydd, at addysgu a chyfranu gwybodaeth i'w cydgenedl drwy y wasg. Dydd y farn yn unig a ddengys swm mawr eu gwasanaeth. Barnodd Mr. Jones fod ei oedran yn galw arno i ymneillduo o gyfrifoldeb yr olygiaeth; ac y gallasai rhyw rai ieuengach wneyd y gwaith yn fwy effeithiol i gyfarfod ag ysbryd cynyddol yr oes; ac oblegid hyny cyflwynodd yr oruchwyliaeth i fynu mewn cyfarfod rheolaidd a gynhaliwyd yn Nolgellau Awst 25, 1852, ac ymddiriedwyd ei ofal am y dyfodol i nifer o frodyr talentog a phoblogaidd; ac yn y rhagymadrodd ar ddiwedd y flwyddyn hono, yn ei anerchiad ymadawol, gwelir ei fod yn gollwng yr awenau o'i law yn siriol a llawen gyda'r dymuniadau goreu i'w olynwyr yn yr olygiaeth.

PENNOD XIII

Yn Ymneillduwr

Yn Ymneillduwr egwyddorol—Nid wedi ei wneyd gan amgylchiadauAnffaeledigrwydd cynnadleddau—Traethawd y Parch. H. Pugh, ar y Degwm—Anfanteision a gwrthwynebiadau y dyddiau hyny—Dim camp bod yn Ymneillduwr pan y mae y lluaws felly—Brodyr yn rhodio mewn cyfrwystra—Yn dal pwys a gwres y dydd.

Yr oedd Mr. Jones yn Ymneillduwr o egwyddor; ac nid wedi ei wneuthur gan amgylchiadau. Sonir llawer, yn y dyddiau hyn, na fuasai dim Ymneillduaeth yn bod yn Nghymru, oni buasai annuwioldeb offeiriaid yr oes o'r blaen; fod yr Eglwyswyr, yn gyffredin, yn Esgobion, Perigloriaid, a Churadiaid, heb ddeall yr iaith; eu bod yn gwneuthur eu hegni i'w chael oddiar wyneb y ddaear; ac fod y Cymry wedi digio yn arswydus o herwydd yr holl bethau hyn gyda'u gilydd, a gadael yr Eglwys; ond y mae hyny yn gamsyniad mawr, canys yr oedd Ymneillduwyr yn Nghymru cyn dyddiau Howel Harris, er na chyd nabyddir hyny bob amser; ac yr oedd Mr. Jones yn perthyn i'r dosbarth hwnw o Ymneillduwyr, na wnaethai dim dan enw Eglwys Wladol y tro ganddynt, pe buasai eu gweinidogion yn angylion. Yr oedd ef yn barnu nad oes dim a wnelo awdurdodau gwladol, fel y cyfryw, â chrefydd Mab Duw; fod y Senedd a'r cysegr yn ddau beth mor wahanol i'w gilydd, ag yw goleuni a thywyllwch, nad ellir byth eu cymodi. Mai goreu pa gyntaf ytyn awdurdodau gwladol eu dwylaw halogedig oddiwrth yr arch; canys nid oes iddynt na rhan na chyfran yn y gorchwyl hwn.

Yr oedd Mr. Jones nid yn unig yn Ymneillduwr egwyddorol, ond yr oedd efe yn gweithio allan ei egwyddorion yn ddiofn; megys y dengys ei olygiadau yn y Dysgedydd o flwyddyn i flwyddyn. Aeth ef yn erbyn y llif yn hollol, yn un o'r trefydd mwyaf rhagfarnllyd ac Eglwysig yn Nghymru, canys yr oedd hi i fesur mawr dan grafanc y llew o Nanau, a hwnw yn uchel Eglwyswr o'r iawn ryw; ond nid ydoedd Mr. Jones yn prisio yn ngwg neb gyda golwg ar egwyddorion; nid ydoedd efe yn un i gael ei syflyd gan groeswyntoedd amgylchiadau; ac nid ydoedd yn dewis prynu ffafr gwyr mawr drwy wneyd aberth o egwyddor. Yr oedd efe yn ffaelu gweled Eglwys a gwladwriaeth wedi eu cysylltu yn y Testament Newydd; ac yr oedd efe yn ffaelu canfod ond dwy swydd yn perthyn i'r eglwys Gristionogol, sef, Henadur a Diacon. Yr oedd creu erthyglau a chyffesiadau is-law ei sylw ef yn hollol; edrychai ar y naill ddyn marwol a ffaeledig, yn llunio credo a chyffes i ddyn marwol a ffaeledig arall, yn rhyfyg, ac yn sawyro yn gryf o Rufain. Nid ydoedd efe ychwaith dros gasglu yr awdurdod i'r un man (centre) mewn dim; nac yn credu mewn anffaeledigrwydd cynnadleddau, lle y dynwaredir seneddau, neu yn hytrach y chwareuir seneddau bach, ac y byddo rhyw chwech neu saith o bersonau fyddont wedi gallu ymwthio i fwy o sylw nag ereill, yn cadw yr holl awdurdod, yr ymddyddan, a'r trefniadau yn eu plith eu hunain, gan farnu nad oes gan rai dosbeirth yn y weinidogaeth Gristionogol ddim i'w wneuthur ond ufuddhau; heb ganddynt ddim hawl i droi eu faith, ac ar bob math o dywydd, oni buasai ei fod yn feddianol ar gyfansoddiad tafodau yn eu penau i ymofyn am reswm; ond yr oedd ef yn ystyried fod pob un yn gyfartal o ran ei hawl a'i gymhwysder i farnu drosto ei hun mewn pethau crefyddol.

Ni phetrusai efe ddim gyda golwg ar roddi cyhoeddusrwydd i'w egwyddorion, pan wnelid ymosodiad arnynt gan rywrai o feddyliau gwahanol iddo ef, megys y gwelir yn y gefnogaeth a roddes efe pan ysgrifenwyd atebion i lythyr ffol y diweddar Barch. John Elias yn mhapur yr offeiriaid yn Lloegr, sef y Record. Ymddangosodd amryw lythyrau yn y Dysgedydd ar y mater. A phan gyhoeddodd Mr. Puw ei draethawd galluog ar y degwm, dywedai ef, yn ei adolygiad arno:-"Yn mhlith y gosodiadau eraill sydd yn galw am sylw ein gwlad, nid oes yr un yn fwy teilwng na threfniant y degwm. Y mae y trefniant hwn yn drais ar gydwybod, yn orthrwm ar y wlad, ac (yn ngeiriau yr awdwr) 'mor groes i rwymau cyfiawnder ag ydyw i egwyddorion gair Duw.' Da genym gyflwyno i sylw ein darllenwyr, y traethawd hyawdl, difyrus, ac addysgiadol hwn ar y testyn. Y mae wedi ei ysgrifenu yn fyr, yn oleu, ac yn gynnwysfawr. Gobeithio yr ydym y bydd i daeniad y llyfr hwn fod yn foddion i agor llygaid llawer etto i ganfod y dirfawr wahaniaeth sy' rhwng sefydliad a Christionogaeth-rhwng crefydd y gyfraith wladol a chrefydd y Beibl."

O herwydd iddo draethu y pethau miniog hyn yn erbyn ýr Eglwys Wladol, tynodd wg yr offeiriaid yn arswydus am ei ben; a chostiodd iddo ddyfod allan mewn hunanamddiffyniad yn y geiriau canlynol:-"Clywsom bellach fwy nag unwaith fod amrai o Barchedigion yr Eglwys, yn gystal a rhai o enwad arall, yn ein dynodi ni fel terfysgwyr diegwyddor, ac fel anffyddloniaid i'n Brenin, am feiddiaw o honom symud bys yn arafaidd yn erbyn sefydliad gormesol y degwm. Am ein ffyddlondeb i'n Brenin, a'n hufudd-dod i'r llywodraeth, a'n hewyllysgarwch i farw-os bydd raid-dros iawnderau ein gwlad, nid yw ofynol i ni yngan gair. Pe cydbwysid ein hymddygiadau fel gwladwyr â'r eiddo y dosbarth ffyddlonaf o freiniol enwogion yr Eglwys Waddoledig, nid ofnem fantoliad clorianau manylaf cyfiawnder. Ond am yr egwyddor annghristaidd o orfodi Ymneillduwyr i dalu yn anfoddawg at gynaliaeth a lledaeniad sefydliadau ac egwyddorion crefyddol a annghymeradwyant, adgyhoeddwn, gyda hyfder dibetrus, ei bod yn hollol groes i bob tegwch a chyfiawnder, ei bod yn ofnadwy niweidiol i achos y gwirionedd, ei bod yn llwyr ddinystriol i iawnderau anwylaf cydwybodau anfarwolion, ei bod yn ddianrhydedd gorwarthus ar awdurdodau uchelaf y deyrnas, a bod gwladgarwch a chrefydd yn cyd-alw yn uchel ac yn ddibaid am ei difodiad uniongyrchol a thragywyddol. Od oes awydd ac ysbryd yn neb o amddiffynwyr gorfodaeth y degwm i'w ystyried gyda manylrwydd a thegwch, mawr hoffem iddynt (yn lle gwylltwibio mewn cynddaredd o bentref i bentref, gan ogan rigymu a hustyng yn athrodgar wrth fach a mawr ein bod yn anffyddlawn i'r llywodraeth) i ddyfod yn mlaen yn foneddigaidd, fel dynion, i faes y Dysgedydd, fel i gydchwilio yn bwyllog a diragfarn pa beth sydd 'wir,' a pha beth sydd 'onest,' a pha beth sydd 'gyfiawn,' a pha beth sydd 'bur,' a pha beth sydd 'hawddgar,' a pha beth sydd 'ganmoladwy,' a pha beth sydd 'rinweddol,' canys gallwn dystio yn gydwybodol, ein bod yn gwbl ewyllysgar i sefyll neu syrthio yn ol egwyddorion cyfiawnder a rheolau yr efengyl." (Gwel Dysgedydd am 1833, t.d. 218, 311).

Ni chlywsom yr Hen Olygydd yn fwy doniol a ffraeth erioed o'r blaen. Daeth allan yn lled dda, pan yr ysgrifenai sylwadau yn nghylch Morganiaeth, a haner Morganiaeth, ar ol cyhoeddiad pregethau Hurrion; ond y mae yn fwy hyawdl wrth ddangos ei Ymneillduaeth nag y bu ar un achlysur.

Yr oedd y cenllif yn gryf ddychrynllyd pan ysgrifenai efe o blaid ei ymneillduaeth; canys nid oedd neb ar y maes fel enwadau dros hyny, ond yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr drwy drochiad. Yr oedd offeiriaid, drwy dwyll a dichell, yn gallu lliniaru ysbryd yr enwadau eraill, a'u cael yn hytrach yn fwy o'u plaid nag yn eu herbyn-ffugient ddangos parch iddynt, ar ol gweled na thalai yr erlidigaeth a godid yn erbyn Ymneillduaeth yn Mon ac Arfon, a manau ereill, yn amser Thos. Edwards, o'r Nant, pryd y cynhyrfwyd y Bardd talentog hwnw i amddiffyn y Methodistiaid; ac y daeth Mri. Charles a Jones allan yn y "Vindication," i'r "Welsh Methodists." Daeth rhyw lonyddwch dros ysbryd cyhoeddus erlidgar offeiriaid y pryd hwnw, nes enill rhai o'r Methodistiaid, a fuasent hyd y nod dan erlidigaeth, i alw yr hen Eglwys yn "fam," yn "dŵr," ac yn "amddiffynfa"; ac yr oedd cael enwad cryf a dylanwadol, yn enwedig, yn Ngogledd Cymru, i ddweyd gair o'i phlaid, yn gwneuthur yr anhawsder yn fwy i Mr. Jones ac ereill a berthynent i'r pleidiau gwanaf y pryd hwnw ; sef, yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr, i amddiffyn eu hegwyddorion. Yr oedd Mr. Jones, pa fodd bynag, yn Ymneillduwr cydwybodol, ymdrechgar, a selog y pryd hwnw; yn wyneb yr anfanteision mwyaf; a daliodd at hyny hyd y diwedd; a chafodd fyw i weled yr egwyddorion a bleidiai yn ffynu i raddau na ddisgwyliodd.

Nid oes dim camp mewn dyfod yn Ymneillduwr pan y mae pawb yn dyfod yn Ymneillduwyr. Gwyr yr odyn galch yw lluaws mawr sydd yn uchel eu cloch yn y dyddiau hyn o blaid Ymneillduaeth; nid oes genym fawr o ymddiriedaeth ynddynt; gwell genym ni yr hen rai a oddefasant bwys a gwres y dydd fel Mr. Cadwaladr Jones, Dolgellau. Adwaenem frodyr, yn perthyn i'n henwad ni ein hunain, a "rodiasant mewn cyfrwysdra" gyda golwg ar y mater hwn; ac a feient y rhai a safent eu tir, gan ddywedyd, eu bod yn gwneuthur mwy o ddrwg i achos crefydd nag o ddaioni. Aeth rhai o honynt i'r byd arall heb erioed ddangos eu hegwyddorion; ac y mae ereill yn fyw heddyw, na thynasant erioed faneg oddiar eu llaw, ac nad aethant chwarter milldir o ffordd i amddiffyn eu hegwyddorion, yn barod i ddyfod allan yn bresenol, wedi i'r ysgraff groesi i'r lan draw. Dywedid llawer na lwyddid byth; ond nid oedd hyny yn cael ei ddweyd ond fel y caffai y rhai meddalion, cyfrwys, fyned drwy y byd heb eu herlid. Ni chymerasant hwy erioed y môr mawr, ond llechent yn mhlith yr hesg, yn nghilfachau y creigiau, tra yr oedd eu brodyr o'r un argraff a Mr. Jones, Dolgellau, yn dyoddef pwys a gwres y dydd. Gofynwn yn y fan yma, enwau pwy sydd yn perarogli fwyaf —enwau y rhai na weithiasant allan eu hegwyddorion, ynte enwau y lleill? Rhaid i bob gwaith da gael ei gychwyn gan ryw un, neu ryw rai; a phe yr arosasai Mr. Cadwaladr Jones, a'i frodyr, heb ddechreu, ni fuasai y gwaith byth wedi ei gychwyn yn Nghymru. Ni chychwynwyd unrhyw waith, fyddai yn erbyn tyb y lluaws, heb i erlidigaeth gael ei chodi; ond y mae yn anhawdd peidio sylwi gyda'r fath sang froid, chwedl y Sais, y daw y lluaws i fwynhau peth y bu eraill yn ymdrechu ei gyrhaedd er gwaethaf eu holl ystranciau a'u dichellion hwy i geisio ei atal. Y maent yn mwynhau y rhagorfreintiau a gyrhaeddwyd drwy ymdrech rhai ereill mor dawel a chysurus a phe buasent hwy wedi meddu y llaw uchaf yn mhob symudiad heb gymeryd arnynt weled neb enwad arall ar y maes—"Eraill a lafuriasant a chwithau a aethoch i mewn i'w llafur hwynt." Gellid enwi dilead y Test & Corporation Acts, rhyddid i briodi mewn capeli Ymneillduol, a lluaws o bethau yr ymdrechodd gwir Ymneillduwyr Cymru a Lloegr o'r iawn argraff am eu cyrhaedd.

PENNOD XIV.

Y DYN, Y CYFAILL, A'R CRISTION.

Ei agweddiad corfforol—Cyfansoddiad iach—Delweddau ei feddwl—Callineb—Diddichell a digenfigen—Elfenau gwir gyfeillgarwch—Llythyr oddiwrth Williams, o'r Wern—Brawd yn mysg brodyr—Cristion cywir—Hunany mwadol—Manwl—Siriol, &c.

O ran agwedd ei gorff, dyn o daldra canolig, ac yn ymddangos braidd yn eiddil ei gyfansoddiad oedd Mr. Jones, yn enwedig yn yr ugain mlynedd olaf o'i oes. Ymddangosai yn fwy cydnerth ryw haner can' mlynedd yn ol; ond ni fu erioed, debygid, yn ŵr corffol, a grymus yr olwg arno. Er hyny, yr oedd o wneuthuriad cyfaddas i fyned trwy lawer o lafur, mewn corff a meddwl, heb i'r cyfryw effeithio ond ychydig arno. Ni allasai byth lanw y cylch gweinidogaethol y troai ynddo mor gyflawn a digoll ag y gwnai efe am dymor mor gyflawn a digoll ag y gwnai efe am dymor mor faith, ac ar bob math o dywydd, oni buasai ei fod yn feddianol ar gyfansoddiad rhagorol. A phan ystyriom yn mhellach ei fod yn teithio yn aml i leoedd pellenig, yn gorfod bwyta ei ymborth yn afreolaidd, ac yn myned i orphwys yn yr hwyrau yr un modd, a'i fod er y cyfan, hyd ddiwedd ei oes yn heinyf fel llange, ac yn ystwyth fel mêrhelygen, rhaid i ni gasglu ei fod o gyfansoddiad heb nemawr o fanau gweiniaid yn perthyn iddo. Nid oes neb o'i gyfeillion yn cofio ei glywed un amser braidd yn cwyno oblegid gwaeledd, nes y cyrhaeddodd bron i ben ei yrfa. Pwy bynag a fethai trwy afiechyd, byddai Cadwaladr Jones yn gymhwys i fyned trwy ei waith yn gysurus bob amser. Nid oedd na'r gymalwst, na'r graianwst, na phla yn y byd yn ei flino ef na haf na gauaf. Yr oedd ei safiad yn syth, ac ychydig o blygiad yn ei wddf tua'r ddaear pan oedd yn anterth ei ddydd, a'i holl symudiadau yn bwyllog a rheolaidd.

Yr oedd ei dalcen yn uchel a chyflawn, a mwyneidd-dra yn gysylltiedig â phenderfyniad didroi yn ol yn argraffedig ar ei wedd. Nid oedd nemawr o dân athrylith yn ei lygaid; ond yr oedd yn dwyn yn ei wynepryd nodau dyn o farn benderfynol a manwl. Yr oedd ganddo gyflawnder o eiriau at ei alwad bob amser; ac yr oedd ei lais yn beraidd a swynol yn y dyddiau gynt ac hyd ddiwedd ei fywyd yn wir, ond ei fod dipyn yn undonog, oddieithr ar brydiau.

Am ddelweddau ei feddwl, yr oedd cyfartaledd a chymhwysder pob gallu i gydweithio y naill efo'r llall yn nodedig ynddo. Nid oedd unrhyw allu hynod o fawr ac ardderchog wrth ochr un arall bychan a chrebychlyd ynddo ef. Yr oedd ei feddwl fel ei gorff yn meddu cydbwysedd, cyflawnder, a pherffeithrwydd. Yr oedd ei ddeall yn loyw a threiddiol; ond nid yn gyflym fel y fellten yn ei symudiadau. Ymafaelai yn enaid unrhyw fater wedi ei chwilio yn dda gyda grym anorchfygol; ond yr oedd yn rhaid iddo gael amser i sicrhau ei afaelion. Yr oedd yn fanwl a gofalus fel yr arddansoddwr cywreiniaf, a'i glorian yn wastad yn ei law yn pwyso pob peth cyn rhoddi ei gymeradwyaeth iddo.

Yr oedd ei galon yn eang, ei serchiadau yn wresog a chryfion, ac yn ymlynu wrth yr hyn a farnai yn dda, cywir, a theilwng, yn rymus a pharhaol. Egwyddorion iachus a phur, a'r rhai hyny yn cael eu maethu a'u nerthu yn wastadol gan ddylanwad o'r nef â'r gwirionedd datguddiedig, oedd yn teyrnasu ar orsedd ei galon. Parai hyny fod gallu a diysgogrwydd yn mhenderfyniadau ei ewyllys. Nid rhyw lawer o dwrf a gadwai ef gyda ei benderfyniadau; ond yr oedd grym un o ddeddfau cryfion natur yn perthyn iddynt. Nid oedd ei gôf yn gallu cymeryd i mewn bethau yn eu holl fanylion, gan eu cadw felly am flynyddoedd, fel y gwnai côf ambell un; ond daliai swm a sylwedd y pethau a ddarllenai neu a wrandawai, yn gyflawn a digoll. Ysbryd y pethau, ac nid eu ffurf fyddai ganddo ef. Ysbryd adnodau y Beibl, ysbryd y pregethau a glywai, ac ysbryd y traethawd a ddarllenai a fyddai ganddo yn ei gof: ond yr oedd tyrfa fawr o'r ysbrydion hyny yn wastadol ganddo wrth law. Gallai alw ar unrhyw un o honynt i wasanaethu ei amcan, a deuent oll yn ufudd wrth ei archiad. Ychydig iawn a soniai efe byth am ei gydwybod, ond yr oedd yn wastadol ar y fainge yn barnu yn ol ewyllys datguddiedig Duw. Cydwybod wedi ei phuro, a'i goleuo, ei hunioni, a'i thawelu yn gyfreithlon trwy waed Crist oedd yr eiddo ef.

Fel dyn, yr oedd Mr. Jones yn llawn o gallineb, ac yn cael ei ystyried felly gan bawb a'i hadwaenai; ond "nid oedd dichell yn ei ysbryd." Yr oedd yn ddiniwed, ac ni feddyliai ddrwg am ei gyd-ddynion, ond nid yr ehud, a goeliai bob gair oedd efe chwaith. Ewyllysiai a gwnai ddaioni i bawb mor bell ag y gallai; ond gwyddai gystal ag undyn byw beth yw teilyngdod, a pha le y byddai. Yr oedd yn frawd i Job ei hunan mewn amynedd, os nad oedd yn rhagori arno; ond medrai lefaru yn llym ac awdurdodol pan fyddai angen am hyny, a byddai ei eiriau a'r achlysuron felly yn gryfion a thrymion ac yn dreiddiol ac ysol fel olew berwedig. Os daeth Cymro erioed i fyny â geiriau yr Arglwydd Iesu, "Yn eich amynedd meddianwch eich eneidiau," Hen Weinidog Dolgellau oedd y dyn. Gwelwyd ef gyda chyfaill yn teithio dros fynydd uchel ar wlaw trwm, ac ar y lle uchaf oll yn gorfod disgyn oddiar ei anifail am fod strap un o'r gwrthaflau wedi tori. "Beth a wneir iddo fo?" meddai yn bwyllus. Aeth i'w logell i chwlio am ei bin-gyllell, a chafodd hi. Yna chwiliodd o logell i logell am gortyn, a bu mor ffodus a chael hwnw hefyd. Wedi hyny, dechreuodd dori tyllau drwy y lledr â blaen y gyllell, a rhwymodd y darnau yn nghyd gyda'r llinyn. Codai ei olwg tua'r cymylau i edrych a oedd dim gobaith i'r gwlaw ysgafnhau. Yna aeth i'w logellau i edrych a oedd wedi cadw y gyllell a gweddill y cortyn. Yr oedd y cyfrwy erbyn hyn yn wlyb iawn, gan hyny aeth yn bwyllog i logell arall, tynodd ei chwysgadach allan, a sychodd ef, rhoddodd hwnw yn ei ol yn ei le, ac aeth ar gefn ei anifail, a dywedodd wrth ei gyfaill, "Onid oedd o yn ddiflas i'w ryfeddu pan dorai yn y fan yna? Wel ni awn bellach yn weddol gysurus. Mae yn bwrw tipyn onid ydi hi?" Ond beth yw hynyna? Aeth ef drwy ganol holl brofedigaethau bywyd personol, teuluaidd, cymydogaethol, a chyhoeddus yn berffaith dawel a digyffro, heb ofni dim na neb, ond y Brenin mawr. Yr oedd ei galon yn ddisigl, yn ymddiried yn yr Arglwydd. Ni fu erioed yn uchel geisiol fel gweinidog, pregethwr, nac ysgrifenydd; ni chenfigenai wrth neb; llawenhai yn llwyddiant ei frodyr; ymddiriedid ynddo, a phwysid ar ei air gan ei holl gydnabyddion; ac nid yn ofer y gwnaent hyny. Dyn cyflawn yn mhob peth, heb nemawr os unrhyw wendid yn perthyn iddo oedd yr Hen Batriarch o Gefnmaelan. Gwr doeth, uniawn, gostyngedig, a thirion dros ben oedd efe.

Fel cyfaill, un caredig, cywir, a siriol iawn ydoedd. Hoffai fod gyda ei gyfeillion, a gwnai aberth yn aml er cael mwynhau eu cyfeillach. Byddai y derbyniad gwresog a chalonog a roddai i'w gyfeillion yn ei dŷ, ar ei faes, ar y ffordd, neu yn yr addoldy yn eu gwneyd ar un waith yn ddedwydd ac yn berffaith gartrefol gydag ef. Medrai ysgwyd llaw â chyfaill yn well na neb. Yr oedd ei holl galon yn y gorchwyl cyffredin hwnw, ond yr oedd yn anghyffredin fel ei cyflawnid ganddo ef. Ni ddywedai air bychan byth yn nghefnau ei gyfeillion, ac amddiffynai hwynt, os ymosodid arnynt gan eraill. Yr oedd yn ffyddlon iddynt, ac yn barod i'w gwasanaethu yn mhob dull y gallai wneyd hyny. Yr oedd cyfeillion ei ddyddiau boreuol a chanol ei oes yn hoff ganddo yn ei henaint. oeddynt gan mwyaf wedi ei flaenu ef i'r byd arall; ond yr oedd eu henwau, a phob rhinwedd a berthynai iddynt yn anwyl ganddo, ac yn werthfawr yn ei olwg tra fu ganddo anadl i'w thynu. Yr oedd fel un yn byw yn eu canol hyd derfyn ei oes. Ac nid yn unig hoffai ei hen gyfeillion, ond yr oedd yn gwneyd rhai newyddion yn barhaus. Yr oedd ganddo lonaid gwlad o honynt. Yr oedd yn gyfaill i bob dyn da, a phob dyn da yn gyfaill iddo yntau.

Yr oedd Mr. Jones yn ffyddlon i rybuddio ei gyfeillion yn y pethau a welai yn feius ynddynt. Dywedai yn bwyllog a doeth wrth ei gyfaill os byddai yn ei weled yn gwyro oddiar ganol y ffordd tua'r ymylon, ar y naill law neu y llall. Dengys y llythyr canlynol a anfonodd Mr. Williams, o'r Wern, ato, wirionedd y sylw uchod. Ysgrifenodd Mr. Jones lythyr at Mr. Williams, yn beirniadu ar ryw ymadroddion ac ymddygiadau o'i eiddo, a chafodd yr atebiad a ganlyn:

Fy Anwyl Frawd,

WERN, Medi 26, 1829.

Yr wyf yn rhwymedig i chwi am y cynghor iachusol a gynnwysai eich llythyr diweddaf. Awgrymasoch fy mod i yn dueddol i fyned i eithafion am bersonau a phethau, a rhoddasoch i mi gynghor difrifol i gymeryd gofal am fod yn gymhedrol, ac i beidio meddwl, a llefaru yn rhy fyrbwyll am bersonau neu bethau. Amen, ac Amen.

Yr engrhaifft a roddasoch oedd yr hyn a ddywedais yn Llanbrynmair; a thybiwn eich bod wedi rhoddi y gryfaf a allasech gofio i'm hargyhoeddi o'm bai. Ond yr wyf fi yn y tywyllwch, ac heb wybod pa le y mae yr eithafion yn yr ymadrodd hwnw. Ni honais unrhyw anffaeledigrwydd ar y pwnge. Ni roddais fy marn yn gyfraith i neb. Ni chondemniais neb. Dim ond amlygu fy nheimladau fy hun ar y mater. Prin yr wyf yn meddwl y buasai offeiriad Pabaidd yn ei deimlo.

Yn eich llythyr nesaf, nid wyf yn amheu na byddwch mor deg a dangos mai rheol y Testament Newydd a'r Hen hefyd, ydyw, Fod i ni dderbyn plant i'r eglwys yn ddirgel, a bod holl ddybenion Bedydd yn cael eu cyrhaeddyd yn y ffordd hono; a dangos yn mhellach pa mor bell y gwyrais i oddiwrth y rheol hono tuag eithafion. Yr ydych chwi yn fy anog i fynu cael barn Mrs. Williams ar y pwngc; ond yr wyf yn ofni nad yw hi yn ddigon diduedd i roddi barn deg ar y mater:

Yr ydych yn fy anog i fod yn ochelgar a chymhedrol yn fy nodiadau ar bersonau. Er hyny, dywedasoch chwi am A. Jones; "yr wyf yn credu yn gryf ei fod wedi gwneyd yr hyn sydd o'i le yn ddiamheu." Arferwn ni feddwl ein bod i farnu am bersonau wrth eu hymddygiadau, ac os gwnaethant yn ddiamheu bethau sydd yn feius ac o'u lle, y dylem ymdrechu eu hargyhoeddi o hyny, ac os na lwyddwn, nad ydym i ddal cysylltiad â hwynt; ond dywedwch chwi nad wyf fi i wneyd felly." Cymerwch ofal, byddwch gymhedrol," hyny yw, os na chredaf fi fod amcanion pobl sydd a'u gweithredoedd yn hollol ddrwg yn amcanion da.

Yr wyf fi yn myned i eithafion. Dymunwn wybod trwy eich llythyr nesaf, pa un ai wrth eu hymddygiadau, neu ynte wrth eu hamcanion yr ydym i farnu personau. Mi a feddyliwn wrth eich llythyr mai eu hamcanion yw eich rheol chwi i farnu am danynt, ac y dylwn inau briodoli amcanion da iddynt, er fod eu hymddygiadau yn hollol ddrwg yn ddiamheuol; ac os na wnaf hyny, yr wyf yn euog o fyned i eithafion, ac o lefaru yn rhy fyrbwyll am bersonau. Disgwyliaf i chwi roddi i mi well eglurhad ar bethau na rhywbeth fel yna.

Ein cofion caredicaf at Mrs. Jones, a derbyniwch yr unrhyw eich hunan. Ydwyf, yn parhau yn gymaint cyfaill i chwi ag erioed,

W. WILLIAMS.

O. Y.—"Nid ydych yn dywedyd gair am eich bwriad i ddyfod i'n cymanfaoedd. Ymdrechwch ddyfod, a threfnwch eich taith fel y galloch fod am un noswaith yn ein tŷ ni."

Dyma engrhaifft deg o wir gyfeillgarwch, a hwnw yn seiliedig ar onestrwydd perffaith, o bobtu; ac nid oes dim arall yn werth ei alw yn gyfeillgarwch. Yr oedd holl anhebgorion y gwir gyfaill yn eu nerth, yn Mr. Jones. Fel cristion, yr oedd ein hen gyfaill, yn mhob ystyr, yn un o ragorolion y ddaear. "Gwr perffaith ac uniawn, yn ofni Duw, ac yn cilio oddiwrth ddrygioni," oedd efe. Gellid dywedyd gyda golwg arno, "Wele, Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oes dwyll!" Daeth i'r winllan yn foreu, gweithiodd yn ddiwyd ac egniol am ddiwrnod hir, daliodd ati hyd yr hwyr, ac yna, aeth i dderbyn ei wobr. Cynyddodd "mewn gras, a gwybodaeth ein Harglwydd Iesu Grist," a bu yn ddefnyddiol iawn hyd ddiwedd ei dymor maith. Yn y dirgel, yn ei deulu, ac yn y gynnulleidfa, cristion cywir ydoedd ef. Triniai y byd hwn ar egwyddorion cristionogaeth. Cristion oedd yn y farchnad, yn y ffair, ac yn y llys gwladol, yn gystal ag wrth fwrdd y cymundeb.

Yr oedd, er fod ei wybodaeth yn eang, a'i brofiad yn ddwfn ac amrywiol, yn ostyngedig a dihunangais. Brawd yn mysg brodyr a chwiorydd oedd ef, bob amser, yn mysg y saint. Ni ddyrchafai ei hun. Nid oedd yn tra—arglwyddiaethu ar eraill. Byddai yn wastadol yn gydostyngedig â'r rhai isel radd.

Dysgodd hunan—ymwadu gydag achos crefydd. Rhoddai bob peth heibio, os byddent yn rhwystr i lwyddiant crefydd a moesoldeb yn ei deulu, yn yr eglwysi, neu yn y wladwriaeth. Ar y tir hwn y rhoddodd y diodydd gwirfol o'r neilldu. Gwelwyd dynion yn sefyll yn gyndyn dros eu hawliau i yfed y peth a fynont, a'r byd yn suddo i gorsydd dyfnion meddwdod o'u hamgylch, ac ar yr un pryd, mynent fod yn "arweinwyr yr oes mewn moesau a rhinwedd. Nid ydym yn petruso dywedyd, fod y cyfryw ddynion yn rhy hunan—geisiol, ac nad ydynt yn deall na deddf nac efengyl, na philosophi crefydd Crist yn gywir, o gwbl. Ond nid un felly oedd gwrthddrych y cofiant hwn. Dysgodd ef hunanymwadu. Llafuriodd yn galed a doeth, heb geisio ei leshad ei hun, ond lleshad llaweroedd, fel y byddent hwy gadwedig.

Cristion manwl iawn ydoedd, gyda holl ddyledswyddau crefydd. Darllenwr manwl, myfyriwr manwl, un manwl gyda chrefydd deuluaidd, a gweinidogaeth yr efengyl, yn ei holl ranau, a fu ef ar hyd ei oes. Ond wrth ddyweyd ei fod yn un manwl, nid oes dim yn mhellach oddiwrth ein meddwl nac awgrymu ei fod yn ffurfiol a Phariseaidd. Yr oedd yn anrhaethol bell oddiwrth bob rhodres a choegedd. Nid oedd yn ei wyneb, ei lais, na'i ddim ag a barai i'r mwyaf drwgdybus amheu ei fod yn ceisio ymddangos yn ddim ond y peth ydoedd mewn gwirionedd. Yr oedd yn rhy eang ei feddwl i ymrwystro gyda phethau bychain—'hidlo gwybedyn, a llyncu camel' —ac etto yr oedd yn fanwl a chydwybodol i esgeuluso pethau a ystyriai yn bwysig mewn crefydd pa mor fychain bynag yr ymddangosent.

Ceid ef yn Gristion rhydd, a diragfarn at enwadau eraill o Gristionogion bob amser. Meddyliai yn uchel am dalentau, a duwioldeb, a defnyddioldeb llawer o ddynion a wahaniaethent yn fawr, o ran eu golygiadau ar byngciau crefydd, oddiwrtho ef: ond ni rwystrai hyny iddo eu caru fel brodyr, a chydweithredu gyda hwy yn mhethau cyhoeddus a chyffredinol crefydd, a byw mewn heddwch diragrith a hwy oll. Ni welwyd odid neb yn dal ei olygiadau ei hun ar wirioneddau yr efengyl yn dynach, a mwy penderfynol, nag ef: ond, ar yr un pryd, ystyriai ei fod yn ffaeledig, a bod gan eraill yr un hawl i farnu drostynt eu hunain ag oedd ganddo yntau.

Cristion siriol fyddai ein hen gyfaill, bob amser. Ni thorai galonau ei frodyr a'i chwiorydd drwy gwyno, ac ocheneidio : ond ymddangosai yn wastadol yn galonog a diofn. Er hyny, yr oedd ei sirioldeb yn gysylltiedig a sobrwydd a dwysder. Pan fyddai yn cyflawni rhyw wasanaeth crefyddol ei hunan, nid oedd dim cell wair yn agos ato ef. Pan yn gwrandaw ar eraill yn pregethu, gwrandawr sobr, ac astud hollol a fyddai. Rhoddai esiampl o sobrwydd mewn cysylltiad a sirioldeb i bawb o'i gydaddolwyr.

Yr oedd yn Gristion gwastad a difylchau yn ei ymarweddiad, drwy ei holl fywyd. Nid oedd tymhorau diffrwyth a gauafaidd ar ei grefydd ef. Yr oedd "llwybr y cyfiawn hwn fel y goleuni, yr hwn a lewyrcha fwyfwy hyd ganol dydd." Yr oedd iddo "air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun.” Diau fod colliadau a gwaeleddau ynddo yntau, fel yn ngoreuon plant Adda: ond nid llawer oedd eu nifer, ac ni wyddai neb nemawr am danynt ond ef ei hun, a'r Brenin Mawr. Yr oedd ei fuchedd yn hynod o lân—mor lân ag y gellir disgwyl i bechadur fod ar y cyfan, yn y fuchedd hon.

PENNOD XV.

Y PENTEULU, Y CYMYDOG, Y GWLADWR.

Cysylltiadau Teuluaidd—Yr Allor—Y Gweinyddiad—Y Plant a'r Gweision—Adrodd Pregethau—Ateb i'r Curate—Dysgyblaeth yn y TeuluLlythyr yr Hybarch H. Morgan, Samah—Llywodraethu ei achosion wrth farn—Ei Anedd yn llety fforddolion—Amgylchiadau yn newid— Cyfranu at gynal yr Achos. CYMYDOG—Yn rhoddi benthyg—Cylch eang, Bedyddio, Priodi, Claddu—Ymweled a'r Cleifion—Cynghorwr— Cyfreithiwr, a threfnwr amgylchiadau. GWLADWR—RhyddfrydwrCydredeg a Gwelliantau yr Oes—Dim cywilydd arddel ei Egwyddorion—Robert Vaughan—Capt. Williams—Hawlio ei iawnderau fel Gwladwr.

Yr ydym eisoes wedi cael mantais i edrych ar wrthddrych y Cofiant hwn, yn ei gymeriad fel gŵr ieuangc hynaws a phrydweddol.

Yr oedd natur a gras, wedi hyfryd gydgyfarfod, a chymwys gydnawseiddio holl deithi ei feddwl a theimladau ei galon, fel ag i'w gymwyso i addurno holl gysylltiadau y bywyd teuluaidd a cymdeithasol. Y mae yr elfenau hyny a'i hynodent mor amlwg yn ei garitor sengl, fel gŵr ieuangc, yn gosod neillduolrwydd hefyd ar ei gymmeriad fel penteulu, cymydog, a gwladwr.

Pan yr ymsefydlodd efe gyntaf fel bugail yr eglwysi Annibynol yn Nolgellau a'r cylchoedd, y mae yn gwneyd ei gartref yn y Perth-llwydion, Brithdir, gerllaw Dolgellau, gyda thad a mam ei ragflaenydd, y Parch. Hugh Pugh. Ond nid oedd efe yma, ond megys un yn lletya dros noswaith. Y mae yn edrych yn mlaen am gartref mwy sefydlog a chydnaws a theimlad ei galon.

Yn y flwyddyn 1813, Mai 11eg, ymbriododd a Margaret Jones, merch i Rees Griffith, ac Ellen Jones, (fel eu gelwid,) o'r Farchynysfawr, gerllaw yr Abermaw, y rhai oeddynt amaethwyr cyfrifol; ac yr oedd Margaret Jones yn ferch ieuangc grefyddol a pharchus. Yr oedd ganddi un brawd a dwy chwaer. Y naill ydoedd tad Mr. John Griffith, "Y Gohebydd,” ac un o'r chwiorydd ydoedd mam y Parch. Rees Jones, o'r Felinheli, gweinidog parchus gyda y Trefnyddion Calfinaidd, a'r llall ydoedd wraig i amaethwr parchus, yn Uwchlaw'rcoed, Dyffryn. Yr oedd hen deulu y Farchynys yn nodedig am eu crefyddolder, ac yn gysurus y tu hwnt i'r cyffredin, o ran eu hamgylchiadau.

Bu Mr. a Mrs. Jones yn byw am rai misoedd ar ol priodi, yn y Farchynys, ac yna symudasant i'w tŷ eu hunain, yn nhref Dolgellau. Bu iddynt dri o blant—dau a fuont feirw, yn eu mabandod, a'r llall, (sef John) sydd yn aros hyd yr awr hon. "A hyn hefyd sydd am fod yr amser yn fyr, fod i'r rhai sydd a gwragedd iddynt megys pe byddent hebddynt." Ni pharhaodd eu hundeb priodasol ond prin chwe' blynedd. Amddifadwyd ef o briod ei ieuengetyd ar y 3ydd o Ebrill, 1819, yn dra disymwth. Claddwyd hi yn hen fynwent eglwys y plwyf, yn Nolgellau, a dywedir fod y claddedigaeth yn un o'r rhai lluosocaf a welwyd yn y wlad—yr oedd yr offrwm yn yr eglwys ar y pryd dros 12p. Swm lled dda i'r person am gladdu gwraig i weinidog Ymneillduol y diwrnod hwnw, onid te?

Yn mhen rhyw saith neu wyth mlynedd, symudodd Mr. Jones o'r dref i fyw; cymerodd fferm o'r enw Trefeiliau, rhyw filldir neu ychydig yn ychwaneg i'r De-ddwyrain o Ddolgellau. Paham y mae efe yn ychwanegu goruchwylion amaethyddol at eiddo y weinidogaeth—ei ofal dros yr holl eglwysi—(oblegid yr oedd ganddo ryw chwech neu saith o'r cyfryw o dan ei fugeiliaeth)—sydd ofyniad nad yw yn dyfod o fewn cylch yr ysgrif hon i'w ateb; digon yw dyweyd, gyda llaw, fod yr esboniad i'w gael yn amgylchiadau yr eglwysi yn y dyddiau hyny. Ac Ac er nad yw galwedigaeth yr amaethwr y fwyaf enillfawr o alwedigaethau y bywyd hwn, efallai ei bod wedi gwasanaethu yn llawn mwy anrhydeddus, er cynorthwyo nid ychydig o weinidogion yr efengyl yn y Dywysogaeth, i ddarparu ar gyfer eu hamgylchiadau teuluaidd, ag unrhyw alwedigaeth arall.

Yn y flwyddyn 1823, yr ydym yn ei gael yn priodi drachefn, â Catherine, merch o deulu lluosog a ddalient dyddyn bychan o dir, a elwid y "Ceinewydd," yn mhlwyf Llanaber, yn agos i'r Abermaw. Yr oedd hon etto yn ferch ieuangc brydweddol, a nodedig am grefyddolder ei hysbryd, a pharchusrwydd ei chymmeriad; a meddai ar gymwysderau naturiol i droi yn y cylch pwysig fel "gwraig gweinidog" mewn modd cymeradwy a derbyniol. Yr oedd ei "henw da fel yr enaint gwerthfawr, ac yn well na chyfoeth lawer;" bu yn "goron i'w gŵr" trwy ystod ei gyrfa briodasol. Bu iddynt chwech o blant, ac oll yn feibion! Eu cyntaf—anedig a fu farw yn faban, ac un arall (sef David) yn 37 oed, ac a gladdwyd o fewn y chwe' mis i'r un dyddiau, ac yn ymyl ei hybarch dad yn nghladdfa y Brithdir.

Tua'r flwyddyn 1833, symudasant o'r Trefeiliau i fferm helaethach tua'r un pellder o dref Dolgellau, ond o'r tu arall i'r afon, a elwid Cefnmaelan, lle y buont yn cartrefu hyd derfyn eu gyrfa. Yr oedd y symudiad presenol yn ychwanegu cryn lawer at eu gofalon, ac yr oedd eu teulu erbyn hyn yn lluosog.

Tua diwedd y flwyddyn 1844, cymerwyd Mrs. Jones yn glaf, a bu yn gwanychu hyd Chwef. 14eg, 1845, pan y gorphenodd ei gyrfa ddaearol, yn 50 mlwydd o'i hoedran. "Yr hon a blantodd saith a lesgäodd, ei haul a fachludodd a hi etto yn ddydd." Claddwyd hi yn hen addoldy yr Annibynwyr yn Nolgellau, o dan fwrdd y cymundeb: ond foreu dydd angladd ei phriod, symudwyd hi, (ar gais ei meibion) o "fan fechan ei bedd" yn y dref, i'r un bedd ag yntau yn mynwent y Brithdir; ac fel y sylwai y Parch. E. Evans, Llangollen, ar lan y bedd agored, "Symudwyd hi heb ei deffro" i gydorphwys a'u gilydd hyd y boreu y deffroir hwynt wrth udgorn, Duw.

"Holl gwynion y gweinion wrandawai,
 A thorf angenoctyd gai'i nawdd."

Dyma ein gwrthddrych etto wrtho ei hun—wedi ei amddifadu o gynorthwy yr hon a fu iddo yn "ymgeledd gymwys" am yr yspaid o ddwy flynedd ar hugain. Ac y mae efe yn nghanol helbulon a gofalon amaethyddol a theuluaidd heb son dim am ei ymrwymiadau gweinidogaethol—a'r plant etto ar haner eu magu. Ai Dr. Johnson ai pwy sydd yn dywedyd, mai yr anrhydedd mwyaf a allai y gwr roddi ar ei wraig gyntaf, ydoedd iddo briodi yr ail; oblegid pe na phriodasai eilwaith gallesid casglu fod y gyntaf wedi chwerwi ei deimlad, a pheri iddo gael digon byth ar y bywyd priodasol! Nis gwyddom pa un, a ydoedd ein gwrthddrych am anrhydeddu coffadwriaeth y naill o'i wragedd trwy briodi y llall yn olynol, ai nad oedd. Beth bynag, yr ydym yn ei gael yn ffurfio cylch priodasol drachefn, a'r olaf weithian. Yn y flwyddyn 1847, y mae yn priodi â Mrs. Ellin Williams, diweddar o'r Maesgwyn, Llanuwchllyn. Yr oedd hithau hefyd yn wraig rinweddol a gofalus, o phrofodd yn "ymgeledd gymwys" i'w gŵr am yspaid 16 mlynedd. Ond hithau hefyd a fu farw, Mehefin 14eg, 1863, gan adael ei phriod yn unig ac mewn henaint. Claddwyd hi yn mynwent y Brithdir. Dyma faes Machpelah y teulu. Wedi claddu yr olaf o'i wragedd, y mae yn awr yn unig mewn henaint teg, fel gwyliwr ar y mûr

"Yn disgwyl ar angau,
 I agor ei fedd.

Goroesodd yr olaf o'i wragedd o bedair blynedd; ac yntau wedi hyny a dynodd ei draed i'r gwely ac a fu farw, a chasglwyd ef at ei bobl. Y trallodion trymaf, yn ddiau, a'i cyfarfu yn y cylch teuluaidd ydoedd claddu ei wragedd. Efe a alarodd ar eu hol a galar mawr, ond nid annghymedrol meddianai ei enaid mewn amynedd. Claddodd hwynt mewn gwir ddyogel obaith, o adgyfodiad gwell. A bydd melus eu cymdeithas, mewn gwlad lle "nad ydynt yn gwreica nac yn gwra, canys byddant fel angylion Duw!" Ac er mor chwerw i deimlad ydoedd yr ymadawiad ar lan yr afon, etto nid ymollyngai efe. Yr oedd ganddo ffydd ddiysgog yn holl weinyddiadau rhagluniaeth ei Dduw, gan gwbl ymddiried ei fod ef yn rhy ddoeth i gyfeiliorni, ac yn rhy dda i wneyd cam a neb o'i eiddo. Yr oedd ei ffydd yn ddigon cref i dreiddio trwy niwl a thywyllwch yr amgylchiadau presenol, i foreuddydd goleu clir, y dyfodol, pan y caffai esboniad boddhaol ar holl droion yr yrfa. "Y pethau yr wyf fi yn eu gwneuthur, ni wyddost ti yr awrhon, eithr ti a gei wybod ar ol hyn."

"O fryniau Caersalem ceir gweled
  Holl daith yr anialwch i gyd."

Magodd Mr. Jones deulu lluosog mewn blynyddoedd o iselder a chaledi; pan nad oedd yr eglwysi o dan ei ofal ond bychain a gweiniaid. Bu yn briod serchog, ac yn dad tirion a gofalus. Yr oedd lles a chysur ei deulu yn gorphwys yn agos at ei galon. Darparodd fanteision addysg i'w blant fel ag i'w cymwyso gogyfer a'r galwedigaethau a fwriedid iddynt. Dygodd bedwar o'i feibion i fynu yn fasnachwyr, a dau yn amaethwyr. Ni arbedodd draul na llafur er rhoddi cychwyniad teg iddynt yn eu galwedigaethau, a chafodd fyw i fwynhau y pleser o'u gweled oll wedi ymsefydlu drostynt eu hunain.

Wedi iddo ymsefydlu fel penteulu, a chael pabell iddo ei hun i drigo ynddi, nid yw efe yn anghofio codi allor yno, i Arglwydd Dduw Israel. Credai ef fod cysylltiad agos cydrhwng gwasanaeth yr "allor deuluaidd" â chysur a llwyddiant amgylchiadol y teulu. Byddai hen Feibl Peter Williams, yr arferai ein gwrthddrych ei ddefnyddio, ar yr awr benodedig, yn cael ei osod ar y bwrdd, ac yn y weddi-byddai

"Y nefoedd a'r ddaear
Yn nghyd wedi cwrdd."

Ar ol ciniaw, ganol dydd, yr arferid cadw y "ddyledswydd deuluaidd " yn Nghefnmaelan. Mewn ffermdy, felly yn y wlad, yr oedd yn anhawdd cael y gweision a'r morwynion yn nghyd ar un adeg arall, o leiaf, dyma yr awr fwyaf cyfleus i bawb ymgynull o amgylch yr allor deuluaidd yn Nghefnmaelац. Arferid "cadw dyledswydd" yno hefyd yn yr hwyr, cyn ymneillduo i orphwys, fel y byddai yr amgylchiadau yn caniatau. A phan na byddai neb o'r dynion a arferent weddio yn bresenol, a'r penteulu heb ddychwelyd o'r society o'r Brithdir, Rhydymain, neu Ddolgellau, byddai Mrs. Cathrine Jones yn arfer ag arwain y gwasanaeth ei hunan. Yr oedd ei gweddiau yn dangos dwysder teimlad, a phrofiad helaeth of wirioneddau crefydd. Ac fe hir gofia rhai o'i phlant am ei thaerineb yn anerch gorsedd gras ar ran ei theulu ar yr aelwyd eu magwyd.

Ond ganol dydd ydoedd prif adeg yr addoliad teuluaidd; dyma brif oedfa y teulu. Ac yr oedd yn rhaid i bob peth roddi ffordd i hon. Nid oedd presenoldeb dieithriaid na phrysurdeb ffair na marchnad; nac adeg cynhauaf y gwair na'r ŷd, nac unrhyw amgylchiad arall i gael sefyll yn ffordd yr oedfa ganol dydd yn y tŷ hwn.

Ië, nid oedd arwyddion gwlaw, pan y byddai y cae gwair yn daenedig, neu yr ŷd yn barod i'w gludo i'r ysgubor yn ddigon pwysig i atal ychwaith, na gohirio y "ddyledswydd" ganol dydd. Byddai rhai o'r gweision, wrth weled y cymylau yn ymgasglu, a'r awyrgylch yn trymhau, a'r gwair a'r ŷd ar chwâl, bron colli eu hamynedd, eisiau cael gohirio y "ddyledswydd" hyd ryw adeg arall. Ond nid oedd dim allasai gynhyrfu y penteulu i esgeuluso yr allor deuluaidd yn ei phryd. Yr oedd efe braidd bob amser yn meddwl mai gwell oedd "cadw dyledswydd" doed a ddelo!

Y mae yn gofus i'r ysgrifenydd unwaith eu bod ar ddyledswydd yn Nghefnmaelan, pan yr oedd y penteulu ar ganol gweddio, dechreuodd a gwlawio-gwlaw taranau yn drwm, ac yr oedd y gwair ar daen, gydag iddo orphen, dyma bawb, allan, yn llawn brys gwyllt, daeth yntau i'r drws, yn berffaith dawel a digyffro, a bloeddiai rhyw un ei bod yn myned i wlawio yn drwm. "Wel "ebe yntau, " y mae hi braidd yn debyg i wlaw, onid ydi hi." Yr oedd efe bob amser yn gallu meddianu ei hun mewn amynedd, gan nad beth fyddai yr amgylchiadau.

Dull gweinyddiad y ddyledswydd deuluaidd yn Nghefnmaelan ydoedd i bawb ddarllen ar gylch; yr oedd pawb trwy y tŷ a'u Beiblau neu eu Testamentau yn eu llaw, yn y fan y gorphenid ciniawa; ac yr oedd y penteulu yn gwasanaethu fel athraw-a phob aelod o'r teulu yn darllen adnod yn ei dro, a byddai yr athraw yn ofalus am sicrhau cywirdeb yn y darlleniad; ac weithiau gofynid am esboniad ar ryw ymadrodd a ymddangosai yn dywyll, a cheisid ei esbonio er budd cyffredinol. Fel hyn yr oedd y gair yn cael ei ddefnyddio ar y "ddyledswydd deuluaidd " yn Nghefnmaelan; ac aed trwy yr holl Feibl yn rheolaidd, cyson, a threfnus. Yna wedi gorphen darlleniad o'r gair, yr oedd y weddi hefyd ar gylch; byddai pob un o'r planta'r gweision a dderbyniasid yn gyflawn aelodau, yn ol rheol y teulu yn gorfod arfer eu dawn i weddio yn eu tro. Fel hyn yr oedd y plant o'u hieuengetyd yn gystal a'r gweision cyflog yn cael mantais i ymarfer eu hunain i anerch gorsedd gras yn gyhoeddus.

Yn adeg y cynhauaf byddai rhai cymmeriadau lled ddigrifol yn dyfod o'r dref i gynorthwyo. Byddai rhai yn rhoi diwrnod neu ddau o gynhauaf, ac eraill yn derbyn cyflog. Pan fyddai yr hin yn fwll a thrymaidd, a'r cynhauaf yn lled brysur, edrychai rhai o'r cymmeriadau hyn, yn mlaen at adeg y ddyledswydd ganol dydd fel cyfle manteisiol i gael "nepyn"! Yr oedd Ned—yn digwydd bod yno unwaith, ac yr oedd efe yn cael ei flino yn dost gan glwyf y diogyn. Cyn cyrhaedd i'r ty adeg ciniaw, ebe efe, wrth yr hwn a gydgerddai ag ef, "Pwy sydd i weddio heddyw, Wil?" "Wni ddim," oedd yr ateb. Wedi gorphen ciniawa, daeth y Biblau fel arfer i'r bwrdd, ac wedi gorphen a darllen, gofynai y penteulu, tro pwy oedd i weddio? Atebid, mai un o'r plant M—— Yr oedd y llanc yn bur ieuangc, ac am hyny, ni bu ond lled fyr y tro hwn. Nid cynt yr oedd Ned—trwy y drws, nad oedd efe yn dechreu adolygu y gwasanaeth y tro hwnw. Yr oedd yn hawdd deall ei fod wedi cyfarfod a thipyn o siomedigaeth. Ebe fe, "Wel, dyn a helpo M—— hefo ei weddi fèr, ches i ond prin roi 'nglin i lawr nad oedd o wedi darfod. Yr hen ddyn ydw i yn ei likio. Mi fydda i yn cael ambell i nepyn bach pan fydd o wrthi, yn lle bod fel hwna druan a'i bwt gweddi, ys gweddi oedd hi." Dyna brofiad Ned y diwrnod hwnw. Ond y mae yn bosibl i weddi fer y plentyn gwylaidd fod mor dderbyniol yn y nef ag eiddo yr henafgwr.

Byddai Mr. Jones yn ofalus am sicrhau gweision a mor wynion crefyddol i'r teulu, hyd y byddai yn bosibl; yn neillduol pan fyddai y plant yn ieuangc; ac yn hyn yr oedd Mrs. Catherine Jones yr un mor bryderus. Ofnent rhag cael neb i wasanaethu i'r teulu a fuasai yn debyg o roddi siampl ddrwg i'r plant mewn gair neu weithred. Yr oedd ein gwrthddrych yn ymwybodol y byddai i ymddiddanion drwg lygru moesau da―ac y gallasai gwas neu forwyn annuwiol a llygredig andwyo cymmeriad y plant, a dinystrio cysur y teulu, a pheri archoll i'w teimladau, a gymerasai oes i'w wella. O'r cyfryw a ddeuent yno i wasanaethu heb arddel crefydd trwy broffes, nid ychydig a enillwyd i gofleidio y Gwaredwr, a'i broffesu yn gyhoeddus cyn iddynt ymadael oddiyno. Yr oedd darlleniad cyson o'r Gair, y weddi deuluaidd, yn nghyd a chynghorion pwyllog ac amserol y penteulu yn gosod argraph crefydd ar feddwl pawb trwy y ty, ac nid oes ond y "dydd hwnw" a ddengys effeithiau daionus gweinyddiad cyson o'r "ddyledswydd deuluaidd" a chyflawniad dysyml ac anymhongar o wahanol ymarferiadau crefyddol a'r aelwyd Cefnmaelan. Yr oedd ein gwrthddrych yn arferol, ar nos Sabbothau, wedi cyrhaedd adref o'i "daith Sabboth," a holi y pregethau -y rhaniadau, i'r plant a'r gwasanaethyddion; os yn Llanelltyd y digwyddai ei dro ef i fod y nos Sabboth hwnw, disgwyliai bob amser gael adroddiad cyson o holl raniadau y bregeth a draddodasid yn y dref. Holid yn fanwl y bregeth am 2 a 6, gan nad pa un a'i efe a'i rhyw un arall a fuasai y pregethwr. Ac yr oedd y cynllun hwn yn un tra rhagorol, er addysgu ac agor deall y plant a'r gwasanaethwyr, yn gystal ac i ailargraphu y gwirionedd ar eu meddyliau. Cafwyd llawer seiat werthfawr, addysgiadol ar aelwyd Cefnmaelan wrth adrodd pregethau ac esbonio y gwirionedd. Dyma y cynllun a fabwysiadai efe hefyd yn y gyfeillach nos Sabbothol yn yr eglwys-sef holi penau y pregethau am y dydd, a chariai yr un cynllun drachefn yn y teulu, wedi cyrhaedd o amgylch y tân-yr eglwys yn y ty? Byddai Mr. Jones yn esbonio llawer a'r byngciau athrawiaethol crefydd yn y teulu, ac yr oedd y drefn eglwysig Annibynol a'i rhagoriaethau yn dyfod ger bron weithiau. Adroddai unwaith iddo gyfarfod a Mr. A., y Curate yn Nolgellau, ar foreu Sabboth gwlawog, a lled dymestlog, fel yr oedd efe yn cyrchu i'w gyhoeddiad i Islaw'rdre, ebe Mr. A., ar ol cyfarch gwell iddo, "Y mae yr hin yn hyllig iawn, Mr. Jones." "Wel ydi braidd," oedd yr ateb. Ebe y curate drachefn, "Y mae hi yn gwmws fel Annibyniaeth onid yw hi?" "Wel," ebe yntau, "Y mae Annibyniaeth yn gwmws fel rhagluniaeth felly, Mr. A!" Aeth y gwr eglwysig ymaith gan ysgwyd ei ben, ni feddyliodd yn ddiau y buasai yr hen weinidog Ymneillduol yn ei ateb mor effeithiol.

Yr oedd ein gwrthddrych yn fanwl a gofalus i osod argraph o barch ar feddyliau y plant i weinidogion a phregethwyr yr efengyl. Byddai y rhieni bob amser yn dysgu y plant i edrych i fyny, ac anrhydeddu pregethwyr er mwyn eu gwaith a'u swydd-gan "wneyd cyfrif mawr o honynt mewn cariad." Ni oddefid i'r teulu glywed dim a dueddai i ddiraddio y weinidogaeth-cedwid holl ddiffygion a gwendidau pregethwyr yr efengyl allan o glywedigaeth y plant. Ac os digwyddai ryw amgylchiad anhapus o eiddo rhyw bregethwr ddyfod i'r amlwg, byddai y rhieni bob amser yn barod i wisgo y cwbl â'r wedd oreu, fel na lenwid meddyliau y plant a'r teulu o ragfarn yn erbyn y weinidogaeth.

Yr oedd un o'r gweision ryw nos Sadwrn, ar aelwyd Cefnmaelan, wedi dyfod o hyd i ryw dipyn o anffawd o eiddo gweinidog lled adnabyddus yn y teulu, a dechreuai ei gondemnio yn lled ddiseremoni, ac yr oedd un o'r bechgyn hefyd yn cyduno yn y condemniadau a wnaed. Yr oedd Mr. Jones yn eistedd wrth ei ford, yn prysur ysgrifenu, a pharotoi ei bregethau erbyn y Sabboth-ond yr oedd efe yn clywed y cwbl a siaredid ar yr aelwyd, ond ni ddywedodd ond ychydig y noson hono. Boreu dranoeth, cyn cychwyn i'w daith Sabboth -y mae yn galw y bachgen a gydunai a'r gwas, nos Sadwrn, ato i'r parlwr, ac yn cau y drws-y mae yn ymaflyd yn llaw y bachgen, ac mewn modd pwyllus a difrifol (ac o gymaint a hyny, yn fwy ofnadwy i'r cyhuddedig), y mae yn dyweyd wrtho, ei fod wedi ei flino nes methu a chysgu am gryn amser y noson hono, o herwydd y siarad diystyrllyd, y cydunai ef ynddo â'r gwas y nos o'r blaen—ei fod ef yn ei rybuddio ar bob cyfrif i ochelyd, rhag coleddu syniadau mor isel a sarhaus am weinidogion yr efengyl, na chydsynio a'r cyfryw a'u sarhaent. "Oblegid," ebe fe, "os dechreui di goleddu syniad isel am weinidogion a phregethwyr, y mae yn anhawdd gwybod pa le y diweddi di." Ac ychwanegai, "os meddwl yn isel am weinidogion a wnei, beth yn amgen a feddyli am eu gweinidogaeth ?" Yr oedd yn hawdd deall arno, ei fod wedi ei ddolurio yn y siarad nos Sadwrn, ac yr oedd arno bryder i ragflaenu y drwg a allasai arwain i ganlyniadau peryglus. Ofnai rhag i'w blentyn fyn'd o'r drwg hwn i waeth, nes o'r diwedd efallai sangu tir andwyol yr anffyddiwr. Yr oedd ei ddull pwyllus, a thyner o geryddu yn ofnadwy i'r bachgen, yr hwn a dorodd allan i wylo; ac ond odid na bu efe yn ofalus o hyny allan, rhag dyfod yn agored i gerydd arall. "O mor dda yw gair yn ei amser,' ," "Gair a ddywedir mewn amser sydd fel afalau aur mewn gwaith arian cerfiedig."

Gelwid ar ein gwrthddrych yn aml i weinyddu dysgyblaeth yn ei deulu, oblegid nid yw plant gweinidogion yn rhagori ar blant rhyw rai eraill, ac nid oedd ei blant yntau ond fel rhyw blant eraill. Yr oedd y "wialen fedw" bob amser yn ei lle, wrth law, a gelwid arno weithiau i'w harfer; ond pan y gweinyddai efe y cerydd trymaf, byddai yn gwneyd hyny yn bwyllog, ac ystyriol, gan adael argraff ar feddwl y plant, fod y cwbl o angenrheidrwydd ac nid o ddewisiad—er lleshad iddynt.

Cyfeiriodd yr hybarch H. Morgan, Sammah, y llythyr canlynol at Mr. C. R. Jones, Llanfyllin—a dodwn ef yn y fan hon, am ei fod yn dal perthynas neillduol a'r pen hwn.

ANWYL GYFAILL,

Da genyf eich bod yn bwriadu cyhoeddi cofiant eich diweddar anwyl dad; yr hwn yr oeddwn yn adnabyddus ac yn dra hoff o hono er's yn agos i 50 o flynyddoedd. Yr oeddwn yn ei ystyried bob amser yn gyfaill pur a didwyll, yn ddoeth yn ei ymddygiadau, adeiladol yn ei gynghorion, a'i bwyll, a'i amynedd yn hysbys i bob dyn. Cefais lawer o gyfleusderau i fod yn ei gyfeillach mewn cyfarfodydd, yn Meirion, a Maldwyn, a manau eraill am 40 o flynyddoedd. Byddai y gweinidogion cymydogaethol yn cael mantais i gymdeithasu a'u gilydd y pryd hwnw. Nid oedd y drefn o anfon am 2 neu 3 o weinidogion o bellderau mewn arferiad y pryd hwnw—ac yr wyf fi yn barnu fod yr hen ddull yn well na'r newydd ar lawer ystyriaeth, yn neillduol er meithrin undeb a chariad rhwng gweinidogion a'u gilydd. Byddwn yn cael cyfle i gyfeillachu ag ef am ddiwrnod bob blwyddyn, dros lawer o flynyddau, pan oedd efe yn Olygydd y Dysgedydd, a minau yn myned trwy y De, neu Meirion, a Maldwyn yn ei achos am flynyddoedd. Golygydd rhagorol ydoedd. Yr oedd yn feddianol a'r bwyll, doethineb, a gwybodaeth, fel yr oedd yn rhagori yn hyny yn mhell ar y cyffredin o'i frodyr. Y mae yn gofus genyf pan yn cyd-deithio ag ef â Mr. Roberts, Llanbrynmair, ac eraill, o ryw gyfarfod yn Ffestiniog, byddent hwy yn ymresymu ar hyd y ffordd, ar ryw bwngc crefyddol. Aethom gyda Mr. Jones i'r Trefeiliau, (yno yr oedd yn byw y pryd hwnw) wedi gorphwys ychydig yno, a chael lluniaeth i ni a'n hanifeiliaid, aeth Mr. Roberts a minau ymaith, ac ar y ffordd dywedai Mr. Roberts wrthyf fod arno fwy o ofn Jones, Dolgellau, mewn dadl bersonol na neb a welodd erioed. Gofynwn iddo, paham? "Y mae" ebe yntau, "mor bwyllus yn gofyn ambell gwestiwn, gan wenu, fel y gellid meddwl ei fod yn cydweled a chwi yn mhob peth. Mae o yn sicr o gael dyn i'r fagl byddaf yn treio tendio fy ngoreu. Mae o yn ddyn craff anghyffredin." Yr oedd yn graff a phwyllus y tu hwnt i'r cyffredin.

Ni welais un dyn erioed yn gweini dysgyblaeth deuluaidd mor bwyllus. Yr oeddwn yn y Trefeiliau er's oddeutu 38 mlynedd yn ol, yn rhoddi cyfrif o'm taith yn achos y Dysgedydd, ac yr oeddym wrthi yn hynod ddiwyd. Yr oedd un o'r plant gerllaw yn hynod afreolus, ac yn cadw cryn dwrw—ceisiai gan y gwr bach dewi, a bod yn llonydd, ond yn aflwyddianus; dywedai drachefn a thrachefn wrtho, ond swnio a chrio yr oedd y bachgen nes ein drysu yn lân. Dywedai y tad wrtho—"Taw di, da machgen i, a cherdd ymaith, onid te rhaid i mi gymeryd y wialen fedw!" Gwelwn ef yn codi yn bwyllus, a digyffro, yn cyrhaedd y wialen, ac yn myned ato, yn dyweyd cyn taro, "da machgen i, cwyd yn lle i mi dy daro di." Taro fu raid, a tharo yn drymach drachefn, dywedai wed'yn, yn bwyllus a thyner, "Taw a chwyd i fyny machgen i, onid te rhaid i mi dy frifo di." Meddwn inau ynof fy hun, a rydd efe i fyny, gwelwn y bachgen yn codi, ac yn rhoi i fyny, yn tawelu, ac yn myn'd allan yn ddistaw, a didwrw! Ni welais yn fy oes neb yn ceryddu ei fab mor dadol, ac ysgrythyrol. Mae yr hanes yna yn werth i rieni plant ei efelychu yn ei ddull ac yn ei ysbryd. Bum yn meddwl am, ac yn adrodd yr hanes lawer gwaith. Dangosai gasineb at y trosedd, ac anwyldeb at ei fab. Bu bywyd Mr. Jones yn addurn i'r efengyl a bregethai dros gynifer o flynyddau; a phethau yr efengyl oedd ei bethau pan yn myn'd i lawr i'r glyn. Nis gallwn lai na dywedyd, wrth edrych ar drigolion Dolgellau, a'r cymydogaethau ddydd ei angladd "Wele fel yr oeddynt yn ei garu ef." "Ystyr y cyfiawn, ac edrych ar yr uniawn, canys diwedd y gwr hwnw fydd tangnefedd."

Ebrill 9fed, 1868.

H. MORGAN, Sammah.

"Wrth farn y llywodraethai efe ei achosion." Ac yr oedd efe yn llywodraethu ei dŷ ei hun yn dda. Nid nwyd ddall na mympwy ffol fyddai ei reol o weithredu, ond byddai yr oll a wnai yn ffrwyth ystyriaeth bwyllog a barn addfed. Yr oedd awdurdod yn ei eiriau ag a fyddai yn sicrhau ufudd—dod parod ac ewyllysgar trwy holl gylchoedd y teulu. Ac yr oedd y cwbl yn ufudd—dod parch a chariad. Nid yr ufudd—dod hwnw a godai oddiar ofn slafaidd, nac ychwaith oddiar lygad wasanaeth; ond yr oedd gan bawb o'r teulu y fath barch iddo, a chariad tuag ato, ag ydoedd yn gwneyd ufudd—dod iddo yn waith o bleser a hyfrydwch. Yr oedd efe yn frenin yn ei dŷ, yn ol llais pob cydwybod a theimlad pob calon. Meddai ar allu naturiol i lywodraethu, a hyny heb fod neb o ddeiliaid ei lywodraeth yn teimlo ei fod yn gormesu dim ar eu hiawnderau, nac yn cyfyngu dim ar eu rhyddid. Yr oedd ei lywodraeth yn ennill parch ac yn sicrhau anwyldeb pawb o fewn ei dy. Nid oedd raid i neb groesi ei ewyllys i roddi ufudd—dod i'w air. Byddai pob camwri yn cael ei unioni, a phob dyryswch ei gywiro trwy ei ddoethineb a'i bwyll. Os cyfodai awel groes o ryw gyfeiriad nes peri i donau cymdeithas y teulu ymchwyddo ac ymderfysgu, yr oedd efe yn meddu ar allu nodedig i daflu olew ar y dwfr cynhyrfiedig a gostegu ei donau, nes y byddai tawelwch mawr!

Nid yn aml y ceid neb a fedrai mor hylaw liniaru loesau y teimlad gofidus, ac esmwythau trallodion yr ysbryd briw. Pan y llefarai efe, byddai y pleidiau gwrthwynebol yn barod i fabwysiadu ei gynghor, a derbyn ei gyfarwyddyd; a phan y ceryddai efe, yr oedd pawb yn ufudd ymostwng, a chydnabod y wialen a ordeiniai efe ar eu cyfer.

Yr oedd efe yn mhell o fod yn meddu ar ysbryd stoicaidd o fewn ei dŷ. Ond byddai bob amser yn serchog a llawn cydymdeimlad. Medrai fyn'd i mewn i amgylchiadau personol y naill a'r llall o'i deulu, a chyfranogi o'u teimlad. Byddai ei ymddyddanion yn rhydd ac agored gyda ei deulu. Dangosai fod ganddo ddyddordeb yn eu hamgylchiadau neillduol. Ac yr oedd ei ddull cymdeithasgar yn ei dŷ, yn gyfryw fel y teimlai pawb yn rhydd a diofn i draethu eu teimlad wrtho, ac yn ei bresenoldeb. Byddai y mwyaf gwylaidd o'r plant, neu y gwasanaethyddion yn teimlo rhyddid i nesu ato, a datgan eu teimlad wrtho; ac etto, nid oedd neb a fuasai yn meiddio cymeryd gormod hyfdra arno.

Gwelsom ambell i benteulu yma a thraw—ambell i dad a mam yn cadw y fath bellder (distance) oddiwrth eu teulu, fel y byddai ar y plant ofn eu presenoldeb, a'r gwasanaethyddion yn ffoi o'u gwydd. Ond yr oedd ein gwrthddrych yn wahanol iawn i hyn. Byddai pawb yn gallu nesu ato heb betruso, pa fath wrandawiad a roddai efe iddynt; gwyddai pawb o fewn y tŷ, y caent ei gydymdeimlad a'i gynghor o dan bob amgylchiad. Yr oedd ei lywodraeth yn llywodraeth cariad. Ac yr oedd heddwch a chariad yn ffynu trwy holl gysylltiadau y teulu.

Ac nid yn aml y ceid achos gan neb i ddweyd "gresyn iddo gamgymeryd" yn y naill beth neu y llall. Yr oedd ei gymmeriad crefyddol yn loyw bob amser yn ei dỳ. Nid oedd neb o'r cyfryw a fu yn ei wasanaeth, na neb o'i blant a welsant erioed unrhyw dro trwsgl, nac unrhyw ymddygiad annheilwng yn ei fywyd gartref, ag y gallesid dyweyd am dano gresyn iddo wneyd fel ar fel," neu iddo wneyd fel hyn neu fel arall y pryd a'r pryd. Na! nid oedd gan neb ddim y gallesid estyn bys ar ei ol. Yr oedd ei gymmeriad yn un cyfanwaith teg, gwastad, a difwlch, a'i fywyd yn gyson a diargyhoedd yn mhob man. Rhodiai yn mherffeithrwydd ei galon o fewn ei dŷ; ac yr oedd ei ymarweddiad difrycheulyd yn mhob dim yn esiampl i'w deulu.

Ac yr oedd elfenau cymwynasgarwch ei natur yn cael eu dadblygu o fewn i'w dŷ. Tŷ y gweinidog yn y dyddiau gynt, ac yn mlynyddau yr hen oruchwyliaeth, ydoedd lletty fforddolion y weinidogaeth. Yma y cyrchent o bob cyfeiriad yn eu hymweliadau âg ardal Dolgellau, pan ar eu hynt bregethwrol, yn ol arferiad y dyddiau hyny. Byddai ein gwrthddrych yn cael ei ran o ymweliadau dieithriaid. Ac nid oedd raid i'r dyeithr betruso na dderbynid ef yn llawen ar aelwyd Cefnmäelan. Yn wir, buasai yn rhaid i'n gwrthddrych newid pob deddf o eiddo ei natur, cyn y gallasai beidio a dangos caredigrwydd a chymwynasgarwch.

Pan y deuai y gweinidog dieithr o'r De, neu o'r Gogledd heibio, neu ynte rai o'r brodyr cymydogaethol, gwyddent y caent roesaw

"A lle i eistedd wrth y tân
Ar aelwyd lån gysurus."

"Ei annedd oedd letty fforddolion
I hoff weinidogion yr Iôn."

Fe gyfranodd yr hen weinidogion gryn lawer tuag at gynaliaeth yr achos yn y ffordd hon yn ngwahanol gylchoedd eu gweinidogaeth. Yn wir, hwynt hwy oedd yn cynal yr achos yn yr ystyr yma, yn mlynyddau yr hen oesau, ac o dan yr hen oruchwyliaeth. Yr oedd cyfraniadau anuniongyrchol hen dadau y weinidogaeth yn yr oes o'r blaen, yn llawer mwy at gynaliaeth yr achos nag yr ydys wedi tybio erioed. Nid oedd haelioni a charedigrwydd personol aelodau a theuluoedd ein heglwysi wedi cael mantais i ymddadblygu, na'r eglwysi ychwaith wedi eu deffro, i weled yr angenrheidrwydd o'r priodoldeb i ddarpar ar gyfer "derbyn pregethwyr" na thalu eu treuliau. Yr oedd lletya y pregethwr dieithr, braidd bob amser, yn cael ei adael i ofal gweinidog y lle. Efe oedd yn ddealledig i dderbyn "dieithriaid y weinidogaeth;" ac nid oedd neb erioed wedi cymaint a breuddwydio am iddo dderbyn unrhyw gydnabyddiaeth am hyn o wasanaeth i'r achos. Y mae llawer heddyw yn fyw, ond o bosibl fod mwy wedi meirw, y bu yn felus eu cymdeithas a'n gwrthddrych pan y lletyent o dan ei gronglwyd; ac nid oedd neb yno yn ei hystyried yn faich i weini ar weision yr Arglwydd. Byddai hyn o angenrheidrwydd, ac fel matter of course, yn perthyn i amgylchiadau y teulu. Yr oedd yno gadair i'r pregethwr i eistedd, a gwely iddo orwedd, a thamaid o fara iddo fwyta, a gwair i'w anifail, ac hwyrach ambell feed o geirch, os byddai y pregethwr yn dipyn o favorite gan y frawdoliaeth tua'r ysgubor. Ond nid oedd ein gwrthddrych, mwy na lluaws o'i gydlafurwyr, yn disgwyl am daledigaeth na gwobr i lafur eu cariad, tra ar y ddaear; ac aethant o'r byd hwn heb eu cydnabod ganddo. Ond fe ofalodd y meistr a wasanaethent, am eu hamgylchiadau, fel na bu arnynt eisiau dim daioni. Nid oedd y blawd yn y celwrn yn myned fawr yn llai, na'r olew yn yr ysten yn darfod "Canys nid yw Duw yn annghyfiawn, fel yr annghofia efe eu gwaith, a'u llafurus gariad, yr hwn a ddangosasant tuag at ei enw ef, y rhai weiniasant i'r saint."

Ac yr oedd yn rhaid wrth ddynion fel hyn i gyfarfod âg amgylchiadau y dyddiau hyny; dynion cymhwys i arloesi y tir, a digaregu y ffordd, i ddyfodiad dyddiau gwell. Y mae llanw haelioni crefyddol a chymwynasgarwch, wedi codi yn uwch erbyn heddyw, fel nad yw yr hyn a ddisgynai i ran y tadau, yn angenrheidiol yn ein dyddiau ni; y mae trefn pethau hefyd yn newid. Nid oes cymaint o gyniweirio erbyn hyn yn y byd pregethwrol. Ond pan y deuai ar "dro damwain," yn mlynyddau diweddaf oes ein gwrthddrych, ryw frawd yn y weinidogaeth heibio-ceid gweled ar unwaith, nad oedd ei gymwynasgarwch ef wedi pallu, na'i garedigrwydd ef wedi cilio; yr oedd y wên, a'r sirioldeb a belydrai yn ei wynebpryd, a'i ddull serchog yn "ysgwyd llaw," yn ddangoseg (index) o'r hyn oedd yn ei galon. Ond er chwilio am dano yn y "tŷ, ac yn yr ardd"-yr hen gadair freichiau, lle yr arferai eistedd, ei le nid edwyn ef mwy! Ni cheir profi o'i garedigrwydd a'i groesaw mwy o fewneidŷ. Ond "ni chyll efe ei wobr," "Canys pwy bynag a roddo i chwi i'w yfed gwpanaid o ddwfr yn fy enwi, am eich bod yn perthyn i Grist. Yn wir meddaf i chwi, ni chyll efe ei wobr."

Ond nid yw yr haelfrydigrwydd a'r cymwynasgarwch hwnw a ddangosid ganddo yn ei dŷ, ond engraifft o'r hyn a ddadblygid yn ei gymmeriad fel

CYMYDOG.

Yr oedd efe yn un a fawr hoffid fel cymydog. Y mae ambell ddyn i'w gael mewn cymydogaeth, mor gyfyng a chrintachaidd ei ysbryd fel y mae yn ddiareb yn mhlith ei gymydogion. Efe a gymer y cwbl, ac a ddeisyf bob caredigrwydd, ond os ceisir ganddo estyn rhyw gymwynas i arall, ac os rhag cywilydd y tueddir ef i'w chaniatau, bydd ei rwgnachrwydd a'i gwynfanau yn gyfryw a'i gwnai yn boenus i dderbyn dim oddiar ei law. Y mae un arall mor ddiystyr o hawliau ei gymydog, fel y mae ei bresenoldeb mewn cymydogaeth yn flinder a gofid cyffredinol trwy yr ardal. Nid un felly ydoedd ein gwrthddrych-byddai efe mor barod bob amser i roddi ag a fyddai i dderbyn; "gwr da sydd gymwynasgar ac yn rhoddi benthyg." Os byddai ar rai o'i gymydogion angen benthyca rhyw beth a fyddai yn ei feddiant, gwyddent y caent ef a chroesaw. Ac yr oedd ei barodrwydd ef i roddi benthyg, yn sicrhau iddo yntau yr unrhyw gymwynas oddiar law ei gymydogion. Yr oedd gan ei gymydogion barch iddo, fel yr oeddynt oll yn barod i ddangos cymwynasgarwch iddo. Ni welid annghydfod cydrhyngddo ef â'i gymydogion. Os byddai i anifeiliaid y naill dori y clawdd terfyn, ac yspeilio y llall o'i borfa,-meddyliau efe braidd mai gwell fuasai treio cau yr adwyau, a chodi y bylchau fel ag i atal ailymweliadau gormesol o'r fath. Yn ystod tymor hir ei arosiad yn Nghefnmaelan, fe ddywedir wrthym, na ddisgynai yr un ymadrodd chwerw dros ei wefusau, ac na wybuwyd am unrhyw deimlad annymunol cydrhyngddo ef a'i gymydogion.

Un o'i gymydogion agosaf ef, ydoedd y Parch. H.W.White, periglor Dolgellau, ac Archddiacon Meirionydd. Yr oedd tir y naill yn terfynu ar eiddo y llall; byddent yn aml yn dyfod i gyffyrddiad a'u gilydd wrth rodio ar hyd eu meusydd, a chaent weithiau ymgom lled hir a dyddorol. Yr oedd gan ein gwrthddrych feddwl lled uchel, a gair go dda i'r Archddiacon, ac yr oedd gan y Periglor feddwl lled barchus, a gair lled dda i'r hen weinidog Ymneillduol. Yr oeddynt eill dau ar y telerau goreu â'u gilydd; ni byddai i'r Archddiacon un amser basio yr "Archdderwydd" ar y ffordd neu ar yr heol, heb gyfarch gwell iddo. Yr oeddynt yn gymydogion da, parchus, a charedig, y naill i'r llall.

Yr oedd cymmeriad cyhoeddus ein gwrthddrych fel gweinidog a phregethwr, yn chwyddo terfynau ei gymydogaeth, ac yn lluosogi rhifedi ei gymydogion ef yn ddirfawr. Yr oedd ei gymydogaeth mor eang, a dweyd y lleiaf, a'i gymydogion mor aml a chylch ei weinidogaeth. Ond sir Feirionydd, y rhan ddeheuol o honi, ydoedd ei blwyf neillduol ef. Cyfeirid tua Chefnmaelan o bob cwr, ar ryw achos neu gilydd, yn achlysurol. Yr oedd yr holl wlad yn ei adnabod, a chanddynt ymddiried diwyrni ynddo. Efe, oedd wedi bedyddio, a phriodi, a chladdu llawer iawn o'r trigolion presenol, yn ol ei gofrestr ef ei hun-"Llyfr y bedyddiadau," yr ydym yn gweled ei fod yn dechreu gweini yr ordinhad o fedydd yn mhen yr wythnos wedi ei urddiad. Y cyntaf a ddygwyd ato i'w fedyddio, ydoedd Mrs. Gwen Evans, o'r Garthblwyddyn, ac un o'i gymydogion agosaf, Mai 10fed, 1811. Yr oedd y Parch. G. Hughes, o'r Groeswen, yn pregethu yn y Brithdir yn yr hwyr y dydd hwnw. A phan y dygwyd y plentyn i'r capel i'w fedyddio, ceisiodd y gweinidog ieuangc gan yr hen weinidog weinyddu yr ordinhad-ac felly y bu. Y cyntaf a fedyddiwyd ganddo ef ei hun, ydoedd David Davies, o'r Pantycefn, yr hwn hefyd a ddaeth yn gymydog agos iddo, Mai 27ain, 1811. A'r olaf a gofrestrwyd ganddo ef yn "Llyfr y bedyddiadau," ydoedd Cathrine, merch i Robert Lloyd, ac Elizabeth ei wraig, Bontfawr, Dolgellau, Awst 11eg, 1867. Yr ydym yn meddwl iddo fedyddio rhai ar ol hyn, ond nid yw efe wedi eu cofrestru.

Cydrhwng y ddau ddyddiad yna, efe a gymerth rai canoedd o blant bychain Meirionydd yn ei freichiau, ac a'u cyflwynodd i'r Arglwydd yn yr ordinhad o fedydd. Gwelodd luaws o'r cyfrywa fedyddiasai wedi tyfu i fyny i oedran gwyr a gwragedd. Efe a fu yn gweini, drachefn, ar achlysur eu hundeb priodasol, gan eu tynghedu i ffyddlondeb wrth "Allor Hymen" hyd oni wahanai angau hwynt. Efe a fedyddiodd eu plant, a

phlant eu plant, hyd yr ail a'r drydedd genhedlaeth.

Yr ydym braidd yn meddwl, chwedl yntau, iddo gymeryd llawn mwy o drafferth arno ei hun, nag oedd yn angenrheidiol, trwy fyned ar gais rhieni, yn ormodol i'r tai. Nid gwaith y gweinidog ydyw cyrchu o dŷ i dŷ, i fedyddio plant ei gymydogion, ond eu dyledswydd hwy, ydyw dwyn eu plant i fan cyfleus a phriodel i'w bedyddio.

Pa ryw nifer o'r plant a gyflwynwyd ganddo i'r Arglwydd yn yr ordinhad o fedydd, a fyddant yn "goron ei orfoledd” ef, y "dydd hwnw" yn unig a ddengys. Efe a roddodd ddeheulaw cymdeithas i luaws o honynt drachefn, wrth eu derbyn yn aelodau o eglwys Dduw; ond yr ydym yn ofni, nad all efe ddyweyd, am yr oll o'r rhai a fedyddiwyd ac a dderbyniwyd yn gyflawn aelodau ganddo, yn y dydd mawr ac ofnadwy hwnw, "Wele fi a'r plant a roddes Duw i mi."

Ac heblaw y pethau hyn, yr oedd efe yn ffyddlon i ymweled â'i gymydogion yn eu cystudd a'u hadfyd. Ceisiai weinyddu o gysuron y gair i'r cyfryw a rodient y glyn; a phwy bynag o honynt a syrthiai trwy law angau, nid oedd neb a welid yn fwy sicr yn cydhebrwng eu gweddillion tua'r fynwent nag efe. Ac nid oedd ei Ymneillduaeth ef, yn rhy gul a chyfyng fel ag i'w atal i mewn trwy y porth i'r fynwent, ac i eglwys y plwyf, os yno y cleddid y marw, a gwrando yn syml y gwasanaeth olaf, uwchben eu gweddillion cyn eu gadael yn "man fechan eu bedd." Yn ychwanegol at y pethau hyn, yr oedd efe yn gwasanaethu ei gymydogion mewn dulliau eraill. Ystyrid ef gan gylch eang o'i adnabyddion yn Meirion fel un o'r rhai mwyaf cyfaddas i'w cyfarwyddo, a'u cynghori yn ngwyneb gwahanol helyntion ac amgylchiadau tymhorol, yn gystal ag yn y pethau a berthynent i'w hiachawdwriaeth dragywyddol. Meddai a'r fwy o gymhwysder na'r cyffredin i gynghori a chyfarwyddo yn ngwyneb amgylchiadau dyrus a neillduol. Yr oedd ei synwyr cyffredin, a'i bwyll, a'i brofiad, a'i wybodaeth, yn gydgyfarfyddiad lled anghyffredin yn yr un person. Anaml y ceid neb heb fod yn gyfreithiwr proffesedig, yn meddu ar gymaint o wybodaeth a chyfarwydd-deb yn nghyfreithiau cyffredin ei wlad, ac yn agweddiad y gyfraith ar wahanol amgylchiadau bywyd. Yr oedd deall ei feddwl ef, gan hyny, yn bwysig, a'i gynghor bob amser yn werthfawr. Ymofynid âg ef, fel âg oracl, ar faterion ag y byddai unrhyw betrusder yn eu cylch. Bu yn dda i lawer, wrando o honynt ar ei gynghor, a chydymffurfio o honynt a'i gyfarwyddyd. Ataliwyd felly lawer o ymrysonau ac ymgyfreithio diachos. Mewn amgylchiadau o gamddealldwriaeth, a diffyg cydwelediad cydrhwng cymydogion, yr oedd ei wasanaeth yn anmhrisiadwy werthfawr. "Yr oedd efe yn genad o ladmerydd, un o fil, i ddangos i'r bobl uniondeb"—yn fath o gyfryngwr rhwng y pleidiau. Safai bob amser dros yr hyn a ystyriai efe yn uniawn; ac nid oedd yn bosibl effeithio arno i wyro barn. Rhodiai yn rhywle tua chanol llwybr barn, heb wyro y naill ochr mwy na'r llall. Ac anaml iawn y methai efe a dwyn y pleidiau i hollol ddeall eu gilydd, ac i heddychu pob teimlad gelynol. Ac felly y gwaredodd efe ei gymydogion allan o fil o brofedigaethau.

Gwasanaethodd ein gwrthddrych gryn lawer fel cyfreithiwr i'r bobl, yn enwedig ei gymydogion. Ryw fodd, y mae yn lled anhawdd gan bobl Meirionydd, a llawer man arall yn Nghymru, wneyd yn rhy hyf ar swyddfa y cyfreithiwr. Gwell ganddynt braidd am bob swyddfa na swyddfa y gyfraith; ac nid rhyfedd ychwaith—cafodd llawer un "losgi ei fysedd " yn bur ddrud yno ganwaith. Ryw sut, y mae yn llawn cystal gan y Cymry am bawb yn hytrach na chyfreithiwr a pherson. Oddiwrth y cyfryw rai y maent yn barod i weddio—"Gwared ni Arglwydd daionus." Yr oedd cymmeriad gweinidogaethol Mr. Jones, serch hyny, yn ddigon o wystl i'r bobl ymddiried ynddo, yn eu pethau amgylchiadol. Nid oedd ar neb ofn na phryder myned i swyddfa yr hen gyfreithiwr anmhroffesedig yn Nghefnmaelan. Y prif wahaniaeth cydrhyngddo ef, a gwyr y quills, ydoedd yn y costau! Gwyddai y bobl o amgylch ogylch Dolgellau, os aent at y cyfreithiwr, yn rhywle, i ysgrifenu eu cytundebau, eu Bills of Exchange, a'u hysgrifrwymau, y buasai raid iddynt dalu iddo am ei amser, ei bapur ei inc, a'i gyfarwyddyd. Ond os aent i Gefnmaelan, gwyddent y gallent gael y cyfan wedi ei wneyd yno, mor ddyogel a sicr, a phe buasai y cyfreithiwr gonestaf yn y wlad wedi ei wneyd, ond yn goron ar ben y cwbl, caent ei wneyd yno yn rhad ac am ddim. Ac yr oedd hyn yn gosod mwy o werth ar ei swyddfa ef na dim! Buasai yn well gan ambell un gerdded ugain milldir, a "phys yn ei esgidiau," a threulio deuddydd o'i amser, er mwyn cael ei ysgrifrwym wedi ei gwneyd yn rhad ac am ddim, na thalu pum' swllt am ei gwneyd gan y cyfreithiwr goreu, yn nrws ei dŷ. Wel! dyma gyfreithiwr o'r iawn ryw! Yn sicr, nid oedd raid i hwn arfer unrhyw ddichell er sicrhau digon o waith yn ei swyddfa. Ond druan o hono! nid oedd ei brofession yn dwyn nemawr elw i'w goffrau! oblegid rhad ac am ddim ydoedd y telerau yn ei swyddfa ef. Ystyriai efe ei hun yn "well paid" os derbyniai—"diolch yn fawr i chwi," gan ei "glients." Ond gan nad beth am y telerau—fe ysgrifenodd efe lawer iawn o gytundebau ac ysgrifrwymau, ac yn neillduol ewyllysiau. Pe na chawsai ond 6s, 8c. am bob ewyllys a wnaeth efe erioed, gallasem feddwl y buasai y swm yn fawr, a mawr iawn! Ni chlywsom erioed i ewyllys na chytundeb a wnaed ganddo ef, fyned yn ddirym! Byddai y cwbl mor safadwy a dyogel, a phe gwneid ef gan y cyfreithiwr goreu, a mwyaf manwl. Ni byddai efe byth yn tywyllu ei gynghor, ei ewyllys, na'i gytundeb âg ymadroddion heb wybodaeth. Ond byddai y cwbl yn oleu, eglur, a dealladwy, a phob amser yn hynod fyr. Ni byddai efe ychwaith yn ymyraeth ag unrhyw achos oddieithr ei fod yn ei ddeall, ac yr oedd hyn yn rheswm dros fod y cwbl a wnelai, yn ddyogel a safadwy.

Yr oedd colli gwasanaeth un a wnelai gymaint i'w gymydogion yn y gwahanol ffyrdd hyn, yn golled gyffredinol.

Y mae llawer o'i hen gymydogion, yn cofio aml gymwynas a wnaeth efe drostynt, ar wahanol adegau, yn hanes eu bywyd. Y mae rhai efallai yn cofio ei gymwynasgarwch iddynt ar adeg eu cychwyniad cyntaf dan bwysau helbulon y byd, a chyfrifoldeb masnachol. Efe a roddai ei air drostynt, ac mewn rhai amgylchiadau ei law hefyd os byddai raid, gan "feichnio dros ei gymydog." Y mae Solomon yn awgrymu mai "dyn heb bwyll a dery ei law, ac a feichnia o flaen ei gyfaill." A diau genym fod y "gwr doeth" yn sylwedydd rhy fanwl ar ansefydlogrwydd pethau yn ei oes, i gyfeiliorni yn y peth hwn fel rheol yn oesau dyfodol y byd. Ond efallai fod rhai amgylchiadau os nid yn cyfreithloni hyn yma, y maent yn ei wneyd yn oddefol yn sefyllfa bresenol cymdeithas, ac agweddiad a ffurf nodweddiadol masnachaeth yn ein plith. Gallem ni feddwl i'n gwrthddrych fyned o dan ymrwymiad machniol yn lled bwyllog weithiau; a chydag eithriad neu ddwy, ni chafodd achos i deimlo iddo osod ei hyder ar gam. Ond yr ydym braidd yn meddwl mai prin y dylai neb ymrwymo dros ei gymydog fel rheol, oddieithr fod ganddo fodd i golli swm yr ymrwymiad, heb niweidio ei hun, os byddai raid. Y mae geiriau y doethaf o ddynion ar y mater hwn, yn deilwng o'u mabwysiadu fel rheol gan bob enaid dyn. "Os meichniaist dros dy gymydog, ac os tarewaist dy law, yn llaw y dyeithr," nid oes amser i'w golli cyn ceisio "gwared dy hun fel yr iwrch o law yr heliwr, ac fel aderyn o law yr adarwr." Os dianga un a "ddaliwyd a geiriau ei enau" y mae deg yn syrthio i'r fagl. Ond gan nad beth am hyn, gwr da a chymwynasgar oedd efe.

Nis gallasai nacau estyn cynnorthwy i'w gymydog pan y byddai yn sefyll mewn angen am hyny. Rhaid i ni bellach gymeryd cipolwg arno fel

GWLADWR.

O dan y penawd hwn ni chawn ond crybwyll ychydig eiriau yn unig, am fod ei neillduolion gwladwriaethol ef yn cael eu hegluro o dan bennodau eraill. Gwelir ei olygiadau politicaidd ef ar byngciau eglwysig, o dan benawd "Yr Ymneillduwr," &c.

Yr oedd ein gwrthddrych yn caru ei wlad, ac yn llawenhau yn ei llwyddiant. Pleidiai yn wresog bob symudiad a fyddai ar droed er lles y wlad, a dyrchafiad ei genedl. O ran ei olygiadau politicaidd yr oedd efe yn Rhyddfrydwr trwyadl ac egwyddorol; ond nid eithafol. Credai mewn addysg a gwybodaeth (intelligence) fel safon i ddefnyddio yn briodol ac ymarferol bob rhagorfraint wladol a pholiticaidd. Yr oedd efe yn sylwedydd craffus ar gynydd gwelliantol yr oes, gartref ac oddi cartref, ac yn llawenhau yn ngherddediad cyflym celfyddyd a gwyddoriaeth rhagddynt, yn meusydd newyddion eu darganfyddiadau.

Yr oedd ei galon yn sirioli wrth weled sefydliadau addysgiant, a manteision gwybodaeth yn amlhau trwy y wlad. Symudai rhagddo yn naturiol a rheolaidd gyda holl ddiwygiadau yr oes. Gwelsom ambell ddyn weithiau, yn neillduol wrth heneiddio, mor araf yn ei symudiadau fel nas medrai ddilyn ei oes—yr oedd efe ar ei hol—yn methu a chanlyn ryw fodd. Ond nid oedd ein gwrthddrych felly. Yr oedd efe yn meddu ar ysbryd i gyd—rhedeg a holl symudiadau gwelliantol yr oes, ac nid oedd dim newydd yn peri syndod iddo.

Pan yr ymwelodd Civil Engineers y Great Western Railway ag ardal Dolgellau, yr oedd efe braidd yn rhyfeddu hefyd, os gwelid rheilffordd dros y Garneddwen, ac os clywid y "ceffyl tân" yn gweryru cydrhwng yr Aran a'r Arenig; ond pan y gwelai efe y Navvies yn rhwygo y tir, ac yn hollti y creigiau, yn darostwng y bryniau, ac yn codi y pantau—yn newid cwrs yr afonydd, ac yn gosod y rails i lawr, yr oedd ei feddwl yn dechreu cymodi â'r ffaith; a datganai ei farn y byddai i luaws o welliantau eraill ddilyn fel canlyniad naturiol agoriad y wlad i'r rheilffordd; tynid allan adnoddau ei hen gymydogaethau—ceid gwell trin ar y tir, a gwell adeiladu ar y tai—byddai golwg ragorach ar y wlad, a'i thrigolion yn helaethach eu cysuron, ac y byddai i welliantau mawrion a phwysig gymeryd lle yn nghorff yr ugain mlynedd dyfodol, er na byddai efe yn fyw i'w gweled ei hun. Ond etto, yr oedd ei enaid yn lloni wrth ddarllen arwyddion yr amserau, a chanfod rhyfeddodau celfyddyd yn gweithio yn mhob cyfeiriad.

Fel gwladwr, yr oedd ganddo ddigon o wroldeb moesol i ddatgan ei farn a dangos ei ochr, yn ddigel, ar wahanol adegau o gynhyrfiadau politicaidd a gwladol. Ni phetrusai efe arddel ei egwyddorion, a sefyll yn ddiysgog dros yr hyn a gredai. Safai bob amser yn selog dros ei ochr, a phleidiai yn ddifloesgni egwyddorion "barn a chyfiawnder mewn gwlad." Croesawai bob diwygiad politicaidd, a phob cynyg at wellhau a pherffeithio deddfau y wladwriaeth; a gellid ymddibynu arno bob amser, fel mater wrth gwrs, pa ochr a gymerai, ac i ba blaid y perthynai. Ac etto, er ei fod yn selog dros lwyddiant ei egwyddorion, ni enynai llid a digter ei wrthwynebwyr mwyaf penderfynol ddim tuag ato.

Yr oedd efe bob amser yn ymwybodol o'i hawliau fel deiliad o lywodraeth ei wlad. Nid ymostyngai efe yn wasaidd i oddef gormes a thrais ar ei iawnderau. Mynai ei hun, ac yr oedd efe am i bawb eraill fynu eu hawliau gwladol yn mhob dim. Y mae dynion o uwch sefyllfa yn aml, yn cymeryd mantais ar eu sefyllfa, fel ag i osod beichiau ar gefn eraill o is—sefyllfa, na byddai raid iddynt yn gyfreithlawn eu dwyn. Yr ydym yn cofio clywed ein gwrthddrych yn adrodd amgylchiad neu ddau ag sydd yn profi nad oedd efe yn un a gymerai dreisio o neb ar ei iawnderau. Yr oedd y ffordd fawr, ffordd Treddegwm o Ddolgellau i Lanfachreth yn terfynu ar dir Cefnmaelan; yr oedd hi yn ffordd i Nannau hefyd, palas yr hen Syr Robert Williams Vaughan gynt; yr oedd yr hen foneddwr hwnw yn fawr ei sel am gael y ffordd mewn trefn dda, hwyrach fod tipyn o hunanles ganddo wrth wraidd ei sel. Wedi gauaf lled rewog, ac i'r haul ddadmer y rhew a'i feirioli yn y gwanwyn, fe syrthiodd darn lled fawr o'r ffordd a'r clawdd yn garnedd i geunant oedd o dan Ꭹ ffordd yn nghae Cefnmaelan, yr hyn pan welodd Syr Robert, a fu yn ddigllawn iawn am na buasai i Mr. Jones godi yr adwy, a chau y bwlch i fyny. Anfonodd yr hen foneddwr o Nannau genadwri lled awdurdodol i Gefnmaelan i godi yr adwy yn y ffordd—ond ei adael ar lawr yr oedd efe er y cwbl. O'r diwedd, fe gyfarfu Syr Robert âg ef ei hun, a dechreuodd fygwth yn holl urddas ei ddigllonedd am na chodasaai efe y ffordd a'r clawdd. "Wel" ebe yntau, "yr wyf fi braidd yn meddwl Syr Robert, mai yr Overseer a berthyn i'r ffordd sydd i'w gwella, y mae yn ddigon i mi dalu treth tuag at ei gwella." Ond parhau i ruo a chwrnu yn greulawn yr oedd y "llew" o Nannau, ac yntau yn synu braidd at anwybodaeth a dwlni yr hen Justice, ac yn gallu hebgor ambell chwerthiniad lled uchel am ben cynddeiriawgrwydd Marchog mawr Meirion, am y gwyddai mai Overseer y ffordd oedd i gyfanu y bwlch a chodi y clawdd.

Ond ni arosodd y Barwnig ar hyn, anfonodd am ei gyfreithiwr, a gorchymynodd hwnw i orfodi Mr. Jones i godi y ffordd a syrthiasai. Aeth hwnw at Mr. Jones, a dywedodd wrtho fod yn rhaid iddo godi y ffordd, ond dangosodd Mr. Jones iddo mai nid efe oedd i'w chodi, ond yr Overseer. Gwelodd y cyfreithiwr, mai efe oedd yn iawn, ac anfonodd at yr hen Syr Robert i ddyweyd, mai Mr. Jones oedd yn iawn, nas gallesid ei orfodi ef i'w chodi, ac felly gorfu ar yr hen Justice anffaeledig (?) roddi i fyny y game i Mr. Jones; ac anfon at yr Overseer i'w gwella. Ond er cymaint Syr, oedd yr hen Syr Robert, yr oedd arno braidd gywilydd cyfarfod Mr. Jones wedi hyny, shy iawn yr ymddangosai at ei hen gymydog ar ol hyn. Nid oedd Mr. Jones yn wr a gymerai ei ddychrynu gan bob gwrach. Fel yr oedd efe yn dychwelyd adref o gyfarfod pregethu a gynelid yn yr Abermaw, er's blynyddau lawer yn ol, yr oedd efe yn marchogaeth ei "gaseg las," ac un o'i blant wrth ei ysgil, yn fachgen tuag wyth neu ddeg oed, clywai o'i ol swn rhyw Jehu yn gyru mewn modd cyffrous a dychrynadwy yn nghylch haner y ffordd i Ddolgellau, a phasiwyd ef gan y gyrwr o'i ol, yr hwn oedd mewn cerbyd, arhosodd wedi hyny ar y ffordd, gan siarad baldordd ffol, ynfyd-ddyn meddw; a gadawodd i'r marchogwr ei basio am gryn ffordd; deallodd ac adnabyddodd y ddau eu gilydd. Yr oedd y cerbydwr yn wr lled fawr-Cadben tad yr hwn oedd yn gyfaill mawr i Mr. Jones, ac a roddodd er ei fwyn ef swm o arian tuag at un o'r achosion o dan ei ofal ef. Ac yr oedd y mab yn teimlo fod ei dad wedi bod, efallai, yn rhy haelionus, ac am ddial haelioni ei dad ar yr hen weinidog, clywai Mr. Jones y Jehu hwn yn dyfod gan fflangellu o'i ol drachefn, ac wrth ei basio tarawodd olwyn ei gerbyd y "gaseg las " nes y syrthiodd ar ei hochr ar y ffordd fawr, ac ar goes Mr. Jones, ond diangodd y bachgen yn wyrthiol ryw ffordd heb friwo. Codasant drachefn, a theithiasant tuag adref. Arhosodd y Cadben iddynt godi, a gollyngai allan regfeydd! "Wel" ebe Mr. Jones, "hwyrach y cawn ni siarad etto am hyn," ac felly, gyrodd y Cadben, a chyrhaeddodd y naill a'r llall gartref yn ddyogel.

Yr oedd ein gwrthddrych yn ystyried fod ganddo ddyledswydd i'w chyflawni, nid o barthed iddo ei hun yn unig, ond y cyhoedd hefyd. Yr oedd dyn fel hwn yn beryglus'i fywyd ar ffordd gyhoeddus; penderfynodd y mynai wneyd siampl o'i ymddygiad, yn gystal a gosod terfyn ar ei ynfydrwydd. Archodd ef o flaen yr ynadon mewn llys agored yn Nolgellau. Yr oedd y llys yn llawn o bobl. Profodd ei gwyn yn erbyn y Cadben, yr hwn a wysiwyd ei hun i'r llys, yr oedd efe yn agored i ddirwy drom, ond erfyniodd y cyhuddwr ar iddynt beidio a'i ddirwyo, os cyfaddefai efe ei fai, ac os gwnai public apology o'u blaen hwy iddo ef, a'r hyn y cydsyniodd y llys. Cyfaddefodd y cyhuddedig ei drosedd, a gwnaeth ymddeheurawd llawn i Mr. Jones yn y llys. Dywedodd yntau, ei fod ef yn maddeu yn llwyr iddo, mae ei unig amcan ef yn dyfod a'i gwyn i lys cyhoeddus yr ynadon ydoedd, er ei atal ef rhag mynychu yr un trosedd etto, ac atal y cyfryw drosedd mewn eraill. Felly y terfynodd y llys y tro hwnw. Bu y Cadben yn bur ofalus o hyny allan rhag gwneyd dim yn erbyn yr hen weinidog. Yr oedd yn teimlo y diraddiad a ddygodd arno ei hun, trwy orfod gwneyd ymddeheurawd cyhoeddus mewn llys agored; ond etto teimlai ei fod wedi colli ei le, tuag at Mr. Jones, ac nis gallai lai na'i barchu am faddeu o hono iddo. Gwnaeth hyn les dirfawr i'r Cadben. Ni fynychodd efe y fath weithred beryglus drachefn!

Yr oedd ein gwrthddrych bob amser yn hawlio ei iawnderau fel gwladwr. Nid oedd efe yn gosod ei hun allan fel arweinydd cyhoeddus mewn pethau gwladol, ond meddai ar galon i gydymdeimlo a phob symudiad a dueddai er lleshad ei wlad a'i genedl.

Yr oedd efe yn dderbyniwr cyson o'r Patriot, hen newyddiadur wythnosol o dan olygiaeth yr hen Josiah Conder, ac yr oedd ei olygiadau gwladyddol yn cael eu mouldio i raddau pell i ffurf wleidyddol y newyddiadur hwnw.

Bydd ei enw a'i goffadwriaeth yn barchus fel penteulu, cymydog, a gwladwr dros genedlaethau yn Meirionydd.

Yn nghynnwysiad y bennod hon yn nhudalen 161, darllener "Syr Robert Vaughan," yn lle "Ty Robert Vaughan."

PENNOD XVI.

CYFNEWIDIADAU MAWRION YN YSTOD EI OES!

Cymanfa Bangor 1825-Cydgyfarfyddiad amryw ragoriaethau-Synwyr cyffredin-Dywediad y Chief Justice Jervis-Efrydwyr Wrexham yn rhoi tôn i weinidogaeth y dyddiau hyny-Cyhuddo o gyfeiliornadau peryglus y Dysgedydd Gwleidyddiaeth-" Ysbryd nerth, a chariad, a phwyll"-Syniadau y wlad yn cyfnewid Yn pregethu yn Porthmadog-Hen feddyg profiadol yn adnabod doluriau y galon a'r feddyginiaeth ar ei chyfer.

Y mae fy adgof pellaf am y Parch. Cadwaladr Jones yn cyrhaedd hyd gymanfa Bangor, yr hon a gynaliwyd yn y flwyddyn 1825. Yr oedd amryw amgylchiadau yn cydgyfarfod yn y gymanfa hono i'w gwneyd yn hynod yn mysg cymanfaoedd. Yr oedd y pregethwyr ar fath o stage, ar dalcen yr hen Market Hall, tua phymtheg troedfedd uwchlaw y gynnulleidfa, neu yn hytrach y tir ar ba un y disgwylid i'r bobl ymgynnull. Yr oedd yn gwlawio yn ddwys a'r bobl o dan y shambles ar bob tu. Tair pregeth bob oedfa, ac un o honynt yn Saesneg. Nid oes llawer o'r manylion yn aros ar fy meddwl, ond yr wyf yn cofio yn dda mai yr unig bregethwr a gafodd hwyl oedd y Parch. T. Lewis, Pwllheli, wedi hyny o Lanfairmuallt. Nid wyf yn meddwl fod hanes y gymanfa hono wedi ei gyhoeddi, ond y mae yr ychydig sydd yn ei chofio, yn sicr o fod o'r un farn a minnau am dani. Yr oedd Mr. Jones, Dolgellau, yn pregethu am ddau o'r gloch. Ymddangosai i mi yn ŵr hawddgar, boneddigaidd, a'i wallt yn tueddu at fod yn felyn, ac yn llaes. Yr oedd yn bell oddiwrth yr hyn a gyfrifid genyf fi y pryd hwnw yn bregethwr da. Yr oeddwn yn dychwelyd o'r oedfa'r prydnawn yn nghwmni J. Humphreys, Hirael; Richard Jones, Tycrwn, a'm tad. Yr oeddwn i y pryd hwnw yn cyfrif cael gwrando hen bobl yn ymddyddan am y bregeth yn un o'r rhagorfreintiau mwyaf. "Doeddwn i yn cael dim yn yr ola yna," ebe J. Humphreys. "O" ebe nhad, "dyn call iawn ydi hwna John, efe sy'n ysgrifenu y Dysgedydd." "Beth ydi hwnw?" "O y llyfr misol sydd gan gorff y Senters." "Pregeth dda iawn" ebe Richard Jones, "sylweddol a diwaste. Pethau da." Goddefa y darllenydd i mi ymdroi munyd i ddyweyd fod pwysigrwydd neillduol, ac effeithioldeb anrhaethadwy yn yr hyn a ddywedir yn nghlyw plant wrth ddychwelyd o oedfaon. Holed pob darllenydd hanes ei feddwl ei hun, ac astudied yr effaith a gynyrchwyd gan y fath ymddyddanion yn ffurfiad ei gymmeriad.

Yn mhen tua phymtheg mlynedd ar ol hyny, y daethum i gydnabyddiaeth bersonol o Mr. Jones. Er fy mod yn ystod y blynyddau hyny yn gydnabyddus a'i enw, ac yn cyflwyno i'w ofal fel golygydd, ambell ddarn o ryddiaeth neu rigymwaith. Gwnaeth y caredigrwydd a mi o gyhoeddi rhai o honynt, a gwnaeth garedigrwydd mwy wrth beidio cyhoeddi eraill, (er fy mod i yn mhell oddiwrth gredu hyny ar y pryd).

Ar ol hir gydnabyddiaeth ag ef am yr hanner diweddaf o'i oes, yr wyf yn teimlo hyfrydwch i dystiolaethu na chefais ef mewn dim islaw y ganmoliaeth a roddid iddo. Gwnaeth argraff ar fy meddwl i, na ddilewyd gan un amgylchiad. Mi a wn drwy brofiad pa beth oedd methu cydweled ag ef ar ambell beth, ond nis gwn am gyfnewidiad yn fy mharch iddo na'm hedmygedd o hono.

Ni raid i mi ddyweyd fod Mr. Jones yn ddyn o bwysigrwydd yn cael ei gyfrif yn fawr yn mysg ei frodyr. Ond pe gwesgid ataf y gofyniad—pa beth neillduol ynddo oedd yn fawr, ni fyddai yn hawdd cael gafael mewn atebiad priodol. Yr oedd yn bregethwr da, sylweddol yn efengylaidd yn nhôn ei weinidogaeth, ond yr oedd amryw yn mysg ei gyfoedion yn rhagori arno fel pregethwr. Yr oedd yn ysgrifenydd destlus a dealladwy, ond yn amddifad o rym, ac ystwythder rhai o'i frodyr. Yr oedd yn dduweinydd goleuedig yn graff i ragweled gwrthddadleuon, ac o ganlyniad yn un peryglus i fyned i ddadl ag ef. Ond yr oedd yn mysg ei frodyr rai yn deall trefn iechydwriaeth llawn cystal ag yntau. Yr oedd ynddo ef gydgyfarfyddiad hapus o amryw ragoriaethau, ond addefir mai y peth a'i hynododd yn mysg ei frodyr oedd nerth ei synwyr cyffredin, a'i bwyll anorchfygol. Nis gall gweinidog lwyddo heb synwyr cyffredin, ac nis gall beidio llwyddo os bydd hwnw ganddo. Yr oedd yn Mr. Jones "tu hwnt i'w gyfeillion;" ac yr oedd ei "arafwch yn hysbys i bob dyn" a'i hadwaenai. Yr wyf yn cofio clywed y diweddar Mr. Lewis Lloyd, o Danybwlch, yn adrodd fwy nag unwaith yr hyn a ddywedai y bargyfreithiwr enwog, Mr. Jervis, (wedi hyny y Lord Chief Justice) am dano. Haerai y gwr hwnw na welodd erioed ei gyffelyb mewn Witness Box. Y mae rhai heddyw yn fyw, oeddynt yn bresenol yn llys Dolgellau ar adeg prawf hirgofiedig, pan y safai Mr. Jones i ddwyn tystiolaeth o blaid y cyhuddiedig. Cofir am dano yn tynu y spectol o'i logell, yn glanhau y gwydrau ac yn eu dal rhyngddo a'r goleu yn bwyllog, tra yr oedd y llys yn orlawn o bobl, ac o deimlad angerddol. Yr oedd Mr. Jervis yn arwain yr erlyniad, a gwnaethai bob ymdrech ac ystryw i gyffroi tymer yr Hen Olygydd, ond yn ofer y chwareuodd ei holl gastiau. Cyfaddefodd lawer gwaith ar ol hyny, mai yr unig dyst a'i llwyr orchfygodd oedd, "that old Cadwaladr Jones, of Dolgelley." Aeth Mr. Jones drwy yr holl orchwyl "braidd" mor ddigyffro a phe buasai yn darllen pennod yn yr addoliad teuluol, neu yn dyweyd gair yn y gyfeillach eglwysig. Nid oedd un dyn y buasai genyf fwy o ymddiriedaeth yn ei gyngor nag ef. Gwnaeth lawer o'i gymydogion yn Meirionydd yn ddyledus iddo am gynghorion a fuont fel drain o amgylch genau llawer pwll, i'w hatal rhag syrthio iddo.

Cyn cychwyniad y Dysgedydd, teimlai gweinidogion a lleygwyr penaf yr enwad cynnulleidfaol, fod yr amser wedi dyfod iddynt hwy gael cyhoeddiad misol at eu gwasanaeth fel plaid. Yr oeddynt dan anfantais i amddiffyn eu hunain yn ngwyneb camddarluniadau, a phleidgarwch cyhoeddiadau eraill. Yr oedd efrydwyr Wrexham yn rhoddi tôn neillduol i weinidogaeth y cyfnod, a chyhuddid hwynt o ledaenu gyfeiliornadau. Am bregethu yr hyn a arddelent fel Calfiniaeth gymedrol, neu syniadau Dr. Williams, o Rotherham, a Fuller, ac eraill, collfernid hwy fel "Haner Morganiaid." Haerid nad oedd eu hathrawiaeth yn iach, a'u bod yn gosod eneidiau y bobl mewn perygl. Yr oeddynt hefyd yn cael eu cyhuddo o goleddu syniadau gwleidiadol peryglus. Condemnid hwy gan Seren Gomer, am eu golygiadau ar ryddfreiniad y Pabyddion. Prin y mae y darllenydd yn barod i gredu fod yr enwog Joseph Harries, yn wrthwynebydd egniol i'r mesur hwnw. Yr oedd y Trefnyddion Calfinaidd yn gogwyddo at yr ochr geidwadol yn eu proffes wledychol, gyda'r un eithriad o ryddhad y caethion, ac ymddengys nad oeddynt yn barod i symud fel plaid yn y cyfeiriad hwnw, fel y dengys un o gofnodion y gymdeithasfa a gynaliwyd yn Aberystwyth yn y flwyddyn 1824.

"Soniwyd am achos y caethion yn yr India Orllewinol, ac ymofynwyd a oedd angenrheidrwydd i ni fel corff gymeryd sylw ar yr achos, yn mhellach na chydweithredu a'n cydwladwyr yn yr amryw drefydd a siroedd? Barnwyd nad oedd."

Yr oedd trefn yr Annibynwyr o roddi addysg athrofaol i wyr ieuaingc yn wynebu ar y weinidogaeth yn cael ei warthruddo yn ddiarbed. Yr oedd eu gweinidogaeth sefydlog yn nod i sylwadau anngharedig, a dyweyd y lleiaf am danynt. Pa ryfedd gan hyny fod ein tadau wedi ymroddi i sefydlu cyhoeddiad i egluro, ac amddiffyn eu golygiadau?

Anrhydedd nid bychan i Mr. Jones, oedd ei ddewisiad yn Olygydd i'r cyhoeddiad newydd. Yr oedd gan ei frodyr ymddiried calonog yn ei ben a'i galon, wrth ei ethol i'w swydd bwysig. Parhaodd yn y gadair lywyddol am lawer o flynyddau. Gwelodd ambell dymestl yn cyfodi, i roddi prawf ar ei ddoethineb a'i gydwybod, ond safodd fel llywydd gwrol wrth y llyw, yn nghanol creigiau bygythiol, a thraethellau enbyd. Ni welwyd "Ysbryd nerth, a chariad, a phwyll” yn cael eu corffoli yn well mewn dyn erioed.

Wedi llenwi y swydd o Olygydd yn anrhydeddus am lawer o flynyddau, gwelodd fod cylchdaeniad y Dysgedydd yn lleihau o flwyddyn i flwyddyn, ac nad oedd gobaith ei ddal i fyny heb ryw gyfnewidiad. Gollyngodd y llyw i ddwylaw eraill a gyfrifid yn debyg o adnewyddu nerth y cyhoeddiad. Daliodd yr Hen Olygydd heb golli ei foneddigeiddrwydd. Yr oedd yn ddiau yn teimlo wrth gael ei wasgu gan amgylchiadau i gymeryd y cam pwysig hwnw. Yr oedd ei gyfeillion yn teimlo drosto, ond nid oedd un o honynt yn teimlo yn ddwysach na'r brodyr a ddewiswyd i lenwi ei le.

Gwelodd Mr. Jones gyfnewidiad dirfawr yn syniadau y wlad ar y pynciau a goleddid ganddo ef mor eiddigus. Llawenhai wrth glywed tôn y weinidogaeth yn Nghymru yn nesau at yr hyn a gyfrifid ganddo ef yn wirionedd. Gwelodd y byd crefyddol yn syrthio mewn cariad ag un o'i hoff byngciau, set "Hawl a chymhwysder pob dyn i farnu drosto ei hun ar byngciau crefyddol." Bu fyw i weled y Test and Corporation Acts yn cael eu dileu, a'r capelau yn cael eu trwyddedu i weinyddu priodasau. Gwelodd addysg athrofaol yn dyfod i fri cyffredinol. Adlonwyd ei ysbryd wrth ganfod Ymneillduwyr o bob enwad yn dyfod i deimlo eu hawliau fel dinasyddion, ac yn ymateb cydwybod wrth ddefnyddio eu pleidleisiau. Ni lefarodd neb yn fwy eglur ar bwnge y Dreth Eglwys na Mr. Jones, ac nid bychan oedd ei lawenydd pan welodd ei dilead. Cyn i angau gau ei lygaid, gwelodd ddechreuad y diwedd, sef Dadwaddoliad yr Eglwys yn yr Iwerddon yn dyfod ger bron senedd y deyrnas, dan nawdd un o'r Eglwyswyr mwyaf galluog a chydwybodol a fagodd Brydain erioed. Pell oddiwrthyf a fyddo haeru, nac yn wir awgrymu mai y Dysgedydd a'i Olygydd a achosasant y chwildroadau hyn yn marn ac ymddygiadau y genedl, ond nis gallwn beidio cyfeirio y darllenydd at y mwynhad a deimlai, ac a amlygai yr hen wron o Gefnmaelan, wrth adgofio y rhan a gymerodd yn nygiad oddiamgylch y trawsffurfiadau pwysig hyn. Buasai oes o fethiant yn croesi ei obeithion, er na fuasai yn terfysgu ei gydwybod. Ond nid methiant a fu. Nid iddo ef y mae yr anrhydedd o symud y byd, ond iddo ef yr oedd y mwynhad o deimlo ei fod yn ddarn, nid amhwysig, o'r peiriant mawr a wnaeth y fath waith yn Nghymru.

Yr oedd Mr. Jones, er ei arafwch diarebol, mewn llawer o bethau o flaen ei oes. Ac ni bu llygad dyn erioed yn darllen arwyddion yr amserau gyda mwy o ddyddordeb nag a deimlai ef. Yr oedd treulio prydnawn yn ei gwmni fel yn ein dwyn wyneb yn wyneb a'r llanw ddangosydd, tide mark a osodwyd i ddynodi cyfodiad y dwfr. Nid oedd nemawr orchwyl, yn ymddangos yn fwy boddhaol iddo, na darlunio yr egwyddorion a gyfrifai ef yn ysgrythyrol, yn myned rhagddynt yn gorchfygu, ac i orchfygu. Ni bu hen filwr erioed yn adrodd hanes y brwydrau y daeth trwyddynt gyda mwy o flas nag a brofai efe, wrth adrodd helyntion y dyddiau gynt.

Yr oedd natur wedi gwneyd Cadwaladr Jones yn wr bonheddig. Ni allasai beidio a bod felly. Nid oedd raid iddo ef astudio deddflyfr moes, ffurfiau, nac arddefodau cymdeithasol. Buasai ychydig o ras yn cyrhaedd yn mhell ar y fath gyfansoddiad. Yr oedd effaith ei foneddigeiddrwydd, a'i dynerwch, i'w ganfod ar eraill o'i amgylch, a thrwy y dylanwad hwnw "y mae efe wedi marw yn llefaru etto."

Bum yn gwrando yr Hen Olygydd yn pregethu lawer gwaith yn ystod y deng mlynedd ar hugain diweddaf o'i oes. Yr oedd rhywbeth dymunol iawn yn ei bregethau yn wastad. Ni etholwyd ef, mwy na minau, i bregethu i dyrfa fawr yn yr awyr agored. Mewn capel heb fod yn fawr, nac yn rhy lawn, yr ymddangosai i fwyaf o fantais. Ni welais arwydd arno erioed yn, nac allan o'r pulpud, ei fod yn meddwl yn uwch o'r naill na'r llall o'i bregethau. Yr oedd yn berffaith lân oddiwrth bob peth tebyg i arddangosiad. Pan gyfodai i gymeryd ei destyn, ni ofynai y gwrandawr iddo ei hun nac i neb arall, "beth a wna efe o honi hi?" ond yn hytrach, "pa beth sydd gan yr Arglwydd i'w ddyweyd wrthym heddyw drwy yr hen wr?" Bu yn pregethu yn ein capel ni, tua chwe' blynedd yn ol, ar noson waith, ac yr oeddwn yn meddwl y gallai y tro hwnw fod yn gyfleustra diweddaf i mi ei glywed. Testyn ei bregeth oedd y Prynedigaeth yn Nghrist Iesu, &c. Creffais ar bob brawddeg, dilynais holl symudiadau ei feddwl, gyda hyny o graffder a allwn i ddefnyddio, a daethum i'r penderfyniad na chlywais nemawr bregeth well yn fy oes, i ateb holiadau difrifol mynwes pechadur argyhoeddedig. Dim yn dwyn delw crachfeddyg yn puffio ei goeg—gyfaredd, ond hen feddyg boneddigaidd, tyner, profiadol, a diymffrost, yn adnabod doluriau y galon a'r unig feddyginiaeth iddi. Heb "odidowgrwydd ymadrodd" yr oedd yn dwyn yr Iechydwriaeth a'r pechadur wyneb yn wyneb a'u gilydd.

Yr wyf yn teimlo tipyn o anfantais wrth ysgrifenu gair byr, ar gais teulu ein hen dad ymadawedig. Y mae arnaf ofn ail adrodd yr hyn a ddywedwyd gan eraill, a thrwy hyny gymeryd lle yr argraffydd, ac amser y darllenydd yn ofer. Y mae yn dda genyf gael cyfleustra i drosglwyddo i'r wasg yr ychydig adgofion hyn. Yr wyf yn teimlo hyder cryf y cawn gofiant da o'r Hen Olygydd, ac yr ydwyf yn ddiolchgar i'n brawd Mr. Thomas, am ymaflyd ar unwaith heb oedi yn y gwaith a osodwyd iddo.

PENNOD XVII

OLNODION

License i bregethu yn y Bala 1807—Yn gadael Wrexham—Testynau ei bregethau yn Llanuwchllyn—John Jones, Ramoth—Mab tangnefeddterfysgoedd Llanuwchllyn—Y Dr. Jones, o Fangor, &c.—Astudio gwleidyddiaeth—O dan y gerydd—Ymwylltio a chynhyrfu—Awdurdod cymanfa neu gwrdd chwarterol—Ymweliad brawd—Ei gael yn gosod trap i ddal twrch daear—Yn pregethu—Ei nodiant ar y diweddar Barch. John Elias—Cariad brawdol yn Nolgellau, &c., &c.—Pregeth ar swydd Diaconiaid,

Crybwyllwyd fod Mr. Jones wedi cael ei drwyddedu i bregethu yn y Bala mewn llys agored yn y flwyddyn 1807: ond ni roddasom y Dyst—ysgrif hono yn yr hanes. Wedi hyny, wrth ymddyddan a chyfeillion, barnasom y byddai yn foddhaol gan rai gael ei gweled. Dyma hi

Merioneth to wit} This is to certify that Cadwaladr Jones, of Deildre, in the Parish of Llanuwchllyn, in the said County, Did on the day of the Date hereof in open court before Richard Watkin, Price, Esquire, Rice Anwyl, John Lloyd, and Thomas Davies, Clerks, four of his Majesty's Justices of the Peace for the said County, take and subscribe the oaths and declarations required in an Act passed in the nineteenth year of the Reign of his present Majesty for the further Relief of Protestant Dissenting Ministers and Schoolmasters. As Witness my hand at Bala, in the said County, the seventeenth day of July, in the year of our Lord one thousand eight hundred and seven (1807). Trinity Qua. Sess. 1807. ANWYL, CLERK OF THE PEACE.

G. Griffith, D: C: Peace.

Ysgrifenwyd Tyst-ysgrif urddiad Mr. Jones ar gefn un y llys yn y Bala; ac felly yr oedd y ddwy ar yr un croen.

Wrth chwilio yn mysg papurau ein hybarch frawd, cawsom hyd i'r nodiad canlynol:—"Gwrecsam, Hydref 27, 1810. Os byddaf yn pregethu yn Llanuwchllyn y Sabboth cyntaf wedi i mi ymadael ag yma, yr wyf yn bwriadu pregethu ar y testynau canlynol:—1. Ezec. xxxiii. 11, 'Canys, tŷ Israel, paham y byddwch feirw?' 2. 2 Tim. iv. 8, 'O hyn allan rhoddwyd coron cyfiawnder i'w chadw i mi," &c., &c. 3. Heb. x. 38, 'Eithr o thyn neb yn ol, nid yw fy enaid yn ymfoddloni ynddo.' Y mae genyf ddwy bregeth ar 2 Tim. iv. 8." Ni allasom gael allan ai yn Llanuwchllyn y pregethodd y Sabboth cyntaf wedi gadael Gwrecsam, ond y mae hyny yn dra thebygol; ac os felly, dyna y testynau am y Sul hwnw.

Crybwyllwyd o'r blaen, debygem, fod y diwygiwr Sandemanaidd, John Richard Jones, o Ramoth, yr hwn a ymneillduodd oddiwrth y Bedyddwyr yn Nghymru, ac a ymunodd mewn enw, o leiaf, a'r Bedyddwyr yn Scotland, yn berthynas agos i Mr. Jones: ond gan fod Mr. J. R. Jones yn hynach, o yn agos i ddeunaw mlynedd na'i gâr o Ddolgellau, ac wedi ymsefydlu yn Ramoth, pan nad oedd gwrthddrych y cofiant hwn ond oddeutu chwe' mlwydd oed, a bod eu cartrefi yn mhell oddiwrth eu gilydd, nid oedd ond ychydig o gydnabyddiaeth, a llai o gyfeillgarwch rhwng y naill a'r llall. Pan oedd Mr. Jones yn byw yn ymyl y capel yn Nolgellau, daeth Mr. J. R. Jones ato, drwy wahoddiad, i gael boreufwyd un diwrnod. Yr oedd y gwahoddwr wedi meddwl cael hamdden i ymddyddan a'r diwygiwr o Ramoth ar rai o byngciau ei gyfundraeth Dduwinyddol: ond nis cafodd. Yr oedd Mr. J. R. Jones yn berffaith siriol, a gofynodd fendith ar yr ymborth yn hollol ddirodres; ond wedi darfod ymborthi ymadawodd ar frys cyn yr addoliad teuluaidd; ac felly ni chafwyd cyfle i ymdrin â "ffydd noeth yn y gwirionedd noeth," na dim o neillduolion golygiadau y Pendiwygiwr, ac ni chafodd Mr. Jones gyfleusdra felly yn y dyfodol chwaith.

"Mab tangnefedd" oedd ein hen gyfaill bob amser. Pan y deuai ar ei dro i ymweled a'i rieni i ardal Llanuwchllyn yn adeg y terfysgoedd eglwysig a fuont yno, ymdrechai yn galed, trwy lawer o resymau, ddarbwyllo ei hen gymydogion, a rhwystro iddynt ruthro i'r eithafion yr aethant iddynt y pryd hwnw; ac er iddo fethu yn ei amcan, nid oedd ei ymdrechion yn llai canmoladwy.

Clywsom ef yn ymresymu yn ddifrifol a'r diweddar Dr. Arthur Jones, o Fangor, gyda golwg ar ryw amgylchiadau annedwydd a therfysglyd oedd yn mysg rhai o'r gweinidogion â rhai o'r eglwysi Annibynol yn sir Gaernarfon amser maith yn ol, ac annogai ef yn y modd mwyaf cyfeillgar a brawdol, i wneuthur yr oll a allai yn mhob modd, i adsefydlu heddwch yn mhlith y terfysgwyr rhyfelgar. Gwyddom ei fod wedi gwneyd ymdrechion cyffelyb yn ardal Talybont, swydd Aberteifi.

Ni rusai chwaith ymladd brwydr pan fyddai galwad am hyny. Bu ffrwgwd ddifrifol rhyngddo a Iorthryn Gwynedd, ac un arall rhyngddo a'r diweddar Robert Fairclough; ond ni fyddai yn rhyw ryfyg mawr i neb ddywedyd ei fod ef yn llawer nes i'w le nag yr un o'r ddau. Crybwyllwyd mewn pennod flaenorol, y mynai y diweddar Syr Robert Vaughan, o Nannau, ei orfodi i gyfodi clawdd ffordd oedd yn myned drwy ran o dir Cefnmaelan. Perthynai y ffordd i'r gymydogaeth. Mae ger ein bron lythyr a ysgrifenodd at y Marchog ar yr amgylchiad hwnw; dywed ynddo: "My objection arisest from a principle of Justice. I consider it very hard and unjust that I should be compelled to do a thing which should certainly be done by the Township." Gwelsom o'r blaen mai Mr. Jones orchfygodd yn y pen draw.

Yr oedd Mr. Jones wedi astudio gwleidyddiaeth yn rhagorol, ac yn hysbys iawn o symudiadau ein pleidiau gwladyddol, ac yn Rhyddfrydwr trwyadl. Anaml y gwelwyd un o'i sefyllfa ef yn deall cyfreithiau y wlad yn well, a byddai yn oedfaon llysoedd barn Dolgellau mor reolaidd ag y byddai yn oedfaon ei gyfarfod blynyddol ei hunan. Yr oedd am gael gweled peiriant y gyfraith wladol yn gweithio, a mynai ddeall ei holl symudiadau.

Prin y gallai dyn fel efe, oedd yn trin amgylchiadau bydol ar hyd ei oes, ac yn ymwneyd â phethau arianol achos crefydd i raddau, ddiangc heb i rywrai gael lle, yn ol eu tybiau hwy, i fod yn anfoddlon i rai pethau a wneid ganddo, ac yn ddrwg dybus o'i amcanion ambell dro, yn enwedig mewn oes mor hir a'r eiddo ef. Er hyny, nid hir y byddai y cymylau heb chwalu, a'i uniondeb yn cael ei amlygu, a'i farn yn dyfod allan i oleuni, a phawb o'r cyfryw yn gweled mai gwr cyfiawn a gonest oedd Cadwaladr Jones. Profodd ei hun felly yn ei amgylchiadau teuluaidd, ac yn ei gysylltiad a'r arian a adawsid iddo ef a'i gydweinidog yn Llanelltyd, a phethau eraill yr un modd.

Yn ei gysylltiad a rhyw bethau a gyhoeddodd yn y Dysgedydd, a phethau eraill a wrthododd gyhoeddi o bryd i bryd, dygir ef weithiau o dan gerydd, a churid arno yn ddiarbed. Gwelsom draethodyn yn ei gyhuddo hyd yn oed'o "ymwylltio a chynhyrfu," y pethau annheby caf iddo ef byth gael ei faglu ganddynt: ond yr oedd yr Hen Olygydd wedi ei ddarllen drosto yn FANWL, a gwneyd ei nodiadau ar ymylon y dalenau, ac wedi ysgrifenu ar y ddalen gyntaf ar ol y title, yn ei gyflawn bwyll, "With 28 lies, known to me. C. J."

Ni chydnabyddai mewn un modd fod gan gyfarfod chwarterol neu gymanfa yn mysg yr Annibynwyr hawl deg i lunio cyfreithiau i reoli symudiadau pregethwyr teithiol, a phethau cyffelyb. Credai ef mai fel personau unigol, ac nid fel cynrychiolwyr o gwbl y mae gweinidogion a diaconiaid yn cyfarfod a'u gilydd yn y fath gynulliadau; ac nad yw eu penderfyniadau yn meddu unrhyw awdurdod, ond mor bell ag y cadarnheir hwy gan yr eglwysi. Da genym weled fod amryw yn dyfod i'r un golygiad, ac yn condemnio penderfyniadau cymanfaol fel deddfau awdurdodol: ond y buasem yn derbyn eu syniadau presenol gyda mwy o hyfrydwch pe buasent yn dywedyd wrthym pa fodd y cymerodd cyfnewidiad mor bwysig le yn eu golygiadau.

Wedi cael ei ddwyn i fyny o'i febyd yn amaethwr, nid rhyfedd fod gan Mr. Jones gryn hyfrydwch ar hyd ei oes yn y ddaear a'i chynyrchion; ac wrth dir llafur yr oedd ef a'i deulu yn byw. Rhoddai dro ar hyd ei feusydd yn fynych i gael gweled agwedd y tir a'i gnydau. Un boreu teg yn ngwanwyn 1841, daeth brawd i'w dŷ, ac wedi clywed gan Mrs. Jones ei fod wedi myned i roi tro i'r caeau, aeth o gae i gae i chwilio am dano. O'r diwedd, cafodd hyd iddo ar ei lin yn gosod magl i ddal twrch daear, a Geiriadur Mr. Jones, Pen-y-bont-arogwy, ar lawr yn ei ymyl. Wedi llongyfarch y brawd dyeithr, aeth yn mlaen a'i orchwyl; ond dyrysodd y gwaith i gyd pan yr oedd ef bron a'i orphen, a bu raid iddo ei ail wneyd oll drachefn, ac ni phallodd ei amynedd yn y mesur lleiaf nes ei gael i ben, ac wrth ei gyflawni, ymresymai yn fanwl am bwnge Duwinyddol, ar yr hwn y mae erthygl yn y Geiriadur, â'r hon yr oedd yn annghytuno mewn un peth neu ddau. Wedi gosod y fagl yn gywrain hefyd, traethodd y brawd dyeithr ei neges, a chafodd yn rhwydd yr hyn a geisiai.

Nododd un o'r brodyr yn y cofiant hwn ei fod ambell dro yn cael oedfaon llewyrchus iawn. Cafodd lawer o honynt o dro i dro. Cofir yn hir am oedfa felly a gafodd yn Mangor yn nghyfarfod y Sulgwyn 1860. Y testyn oedd Marc x. 49. Yr oedd mewn hwyl nefolaidd anghyffredinol, a'r gynnulleidfa yn yr agwedd fwyaf dymunol yn gwrandaw arno. Yr oeddym yn synu na buasem wedi gweled y testyn yn yr un goleuni ag ef o'r blaen: ond nid oedd wiw cynyg pregethu arno mwyach. Yr oedd Mr. Jones wedi ei andwyo i neb arall am lawer o flynyddoedd o leiaf. Clywsom bregeth ganddo ar Phil. ii. 13. Yr hon a osoda allan gysondeb gras a dyledswydd gystal a dim a glywsom erioed. Clywsom lawer yn pregethu ar yr adnod o dro i dro. Clywsom T—— ond nid oedd yn ei bregeth ef ddim gras. Clywsom H—— ond nid oedd ganddo ef ddim dyledswydd. Clywsom Dr. Vaughan, a'r Dr. arall sydd etto yn fyw, ac yn wr o ddysg a gallu mawr: ond o bob un o honynt nid oedd un yn d'od i fyny ar hen Batriarch o Gefnmaelan am eglurdeb a chysondeb hefyd.

Sylwyd yn y cofiant hwn mai penau ei bregethau yn unig a ysgrifenai Mr. Jones: ond er hyny, nid oedd yn fyr o feddyliau na geiriau chwaith, i wneyd ei holl faterion yn eglur a tharawiadol i'w wrandawyr. Nid ydym yn meddwl y byddai yn fuddiol rhoddi cynlluniau felly o'i bregethau ef o flaen ein darllenwyr. Nid ydynt ond esgyrn heb ddim cnawd yn eu cylchynu. Yr unig bregeth a gawsom yn mysg ei ysgrifau a rhyw ychydig o gnawd am ei hesgyrn, yw yr un sydd yn ganlynol i'r nodiadau hyn. Pregeth ar swydd y Diaconiaid ydyw; a chan ei bod yr engraifft oreu a allwn ni gael yn awr o hono ef fel pregethwr, rhoddwn hi i ddilyn y sylwadau hyn.

Yr ydym yn cofio llawer yn beio Mr. Jones, oblegid y nodiadau a wnaeth ar lythyr y Parch. John Elias, yn cymeradwyo pregethau Mr. Hurrion, ar Brynedigaeth: ond Heroworshippers oedd y beiwyr. Ysgrifenodd Mr. Jones ei sylwadau yn 1821, yn mhoethder dadleuon ar byngciau y ffydd. Yr ydym newydd eu darllen drosodd yn fanwl, ac yr ydym yn gorfod tystio eu bod yn dra chymhedrol ar y cyfan—yn llawer mwy felly na llythyr y prif areithiwr o Fon, yr hwn a achosodd eu hysgrifeniad.

Ymddengys fod Mr. Jones fel eraill wedi bod mewn helbulon mawrion gyda dyledion yr addoldai yn maes ei weinidogaeth. Cafwyd yn mysg ei bapurau y nodiad a ganlyn: "Pan ddaethum gyntaf i Ddolgellau, yr oedd y ddyled ar yr addoldai, (heblaw yr anedd—dai yn y Brithdir a'r dref), o 450p. i 500p. Wedi hyny, dilewyd 160p. oedd yn aros ar y Cutiau, 20p. ar Lanelltyd, a thua 230p. ar gapel y dref, a'r oll a arhosai ar addoldy y Brithdir, yn nghyd a rhan o ddyled yr anedd-dy. Gwnaed hyn trwy gasgliadau yn yr amrywiol gymydogaethau cartrefol, yn nghyd a'm mynediad innau trwy Ogledd a Deheubarth Cymru, sir yr Amwythig, Llynlleifiad, a Llundain. Cefais yn Llundain 131p. 4s. 2c. at y Cutiau a'r dref: ond cyn gorphen rhyddhau addoldy y dref, barnwyd yn angenrheidiol ei adnewyddu a'i helaethu, yr hyn a gostiodd tua 448p., pryd y gwnaed tanysgrifiadau anrhydeddus gan yr eglwys ac amryw wrandawyr, ac y casglwyd yn egniol drwy y cymydogaethau at leihau y ddyled hon. Bu pedwar cyfnewidiad wedi i mi ddyfod yma. Costiodd y cyntaf tua 30p. Costiodd yr ail tua 44p. Costiodd y trydydd, pryd yr eangwyd ei led, 448p. Costiodd y pedwerydd, pryd y codwyd ei lawr, 90p." Felly cafodd yr Hen Weinidog ei ran yn helbulon dyledion a chasgliadau fel ei frodyr yn gyffredinol.

Ar yr Ysgol Sabbothol, cawsom y sylw a ganlyn yn mhapurau ein hen gyfaill: "Buwyd yn llesg neillduol gyda'r Ysgol Sabbothol yn y dref am flynyddau meithion; ond trwy lafur diflino dau neu dri, yn neillduol ein hen gyfaill Mr. Thomas Davies, yr hwn er ei fod dros rai blynyddau yn cael ei ddiystyru fel addysgwr ynddi, bob yn ychydig, daeth y rhai mwyaf deallus i weled fod synwyr yn yr hyn a osodai dan sylw yr Ysgol, ac i ymgais at osod ei gynlluniau mewn arferiad, nes yr ennillwyd yr ysgol yn gyffredin i hoffi y gwaith sydd ynddi, yn nghyd a threfn ei dygiad yn mlaen. O ganlyniad, y mae wedi bod yn foddion i ddwyn sylw cyffredinol at bethau y Beibl, a dwyn rhai i feddu gwybodaeth eang, a medrusrwydd mawr i egwyddor eraill."

Cydnabydda Mr. Jones mewn ysgrif o'i eiddo sydd ger ein bron, wasanaeth gwerthfawr y pregethwyr cynnorthwyol oeddynt yn nghylch ei weinidogaeth ef, yn mysg pa rai yr enwa Robert Roberts, o'r Henblas, Brithdir, a Richard Roberts, o'r Felin, Ganllwyd, heblaw eraill sydd yn fwy adnabyddus, ac ychwanega, "Eu bod yn gynnorthwywyr sefydlog am lawer blwyddyn, a hyny, heb un gydnabyddiaeth deilwng am eu llafur yn neb o'r lleoedd y gweinyddent ynddynt."

Cofnodir hefyd yn mhellach gan wrthddrych ein cofiant: "Fod cariad brawdol yn addurno y gynulleidfa yn Nolgellau dros lawer o flynyddoedd wedi ei ddyfodiad ef i'w plith, yn gymaint felly, nes oeddynt yn galonog a chryfion i ddwyn y gwaith yn mlaen, yn weinidog ac eglwys; ac felly, llwyddasant yn raddol, a chawsant rai tymhorau o lwyddiant mawr. Dywedai un hen wr, yr hwn nad oedd yn proffesu crefydd gydag unrhyw blaid, am danynt unwaith: "Yr wyf yn gweled yn eglur, er nad ydych ond ychydig o nifer, fod cariad brawdol yn uchel ei ben yn eich plith, yr hyn sydd asgwrn cefn, a mawr brydferthwch i chwi fel Ymneillduwyr."

Nid yn rhwydd y ceid Mr. Jones i feirniadu ar bregethwyr a phregethau, ysgrifau a llyfrau, ond byddai yn wastadol yn bwyllus, arafaidd, ac ystyriol beth a fyddai yn ei ddywedyd. Byddai raid galw ei sylw, yn gyffredin, at bethau felly cyn y dywedai nemawr: ond yr oedd ei glust yn deneu, a'i feddwl o duedd fanylgraff a beirniadol, er mai hwyrfrydig oedd i ddywedyd ei farn. Etto cynhyrfid ef weithiau i wneyd sylwadau beirniadol heb i neb ei gymhell i hyny. Cof yw genym fod gweinidog ffyddlon ond lled ddichwaeth, wedi gwneyd sylw mewn araeth ar ddiwedd y cyfarfod blynyddol yn nghapel Mr. Jones, yn y flwyddyn 1841. Dymunai y brawd hwnw bob llwyddiant i'r eglwys yn y lle, a galwai hi yn "eglwys Duw Dolgellau." Sylwai Mr. Jones wrth ddau gyfaill ar ol y cyfarfod, fod rhyw beth go hynod yn y fath sylw. "Yr oedd ef," meddai, "fel pe buasai am i'r bobl feddwl fod gan Ddolgellau yma ryw Dduw neillduol iddi ei hunan, a gwahanol i leoedd eraill."

Yn mhen blynyddau lawer wedi hyny, pregethodd gwr dyeithr yn Nolgellau ar bwnge y dadleuwyd cryn lawer arno o bryd i bryd. Tybiai y gwr dyeithr fod ganddo ryw bethau gwerth eu traethu ar y mater, ac yr oedd ei olygiadau yn hollol groes i'r eiddo yr hen weinidog; ond barnai y Duwinydd o Gefnmaelan fod y pregethwr yn amddifad o gynheddfau digon galluog, o wybodaeth gymhwys, o resymeg, ac o degwch i drin y materogwbl; ac wrth adolygu y bregeth wrth ei hamdden, dywedai, "Na roisai ddarn o goes y bibell oedd yn ei law ar y pryd am dani-nad oedd yn werth dim ond i wenwyno meddyliau gweiniaid, ac i ddiffodd a lladd ysbryd crefydd." Gallai fod y sylw yna yn un o'r rhai llymaf a ddiferodd dros ei wefusau ef wrth feirniadu.

Barnai ef y gellid gochelyd y rhan fwyaf o ymrafaelion ac ymraniadau eglwysig drwy bwyll, amynedd, a mwyneidd-dra. Cof genym ei glywed yn dywedyd y buasai ychydig yn ychwaneg o'r pethau hyny yn cadw hen eglwys Annibynol Llanuwchllyn heb ymranu, yn yr annghydwelediad a fu yno ryw haner can' mlynedd yn ol. Clywsom ef yn gwneuthur y sylw yna lawer gwaith, ac nid oes unrhyw amheuaeth ar ein meddwl yn nghylch ei gywirdeb. Nid oedd ynddo y cydymdeimlad lleiaf a gerwindeb penglogaidd dan yr enw " sêl dros y gwirionedd."

Gallai ein hen frawd syrthio i mewn a threfniadau cyfarfodydd pregethu yn hynod o dawel a dirwgnach. Nid oedd o nemawr o bwys ganddo pa bryd na pha le y dodid ef i bregethu. Yr oedd y diweddar Michael Jones, Llanuwchllyn, yn debyg iddo yn hyny. Nid oedd yr un o honynt yn pryderu nac yn gofalu dim am bethau felly. Gwelsom rai yn dra anhawdd eu trin, os na ymddygid tuag atynt yn ol eu tyb oruchel hwy eu hunain am eu teilyngdod. Ond gwenai Mr. Jones, o Ddolgellau, yn dawel wrth weled peth felly.

Cyfarfyddai oerfelgarwch heb gymeryd arno ei fod yn deall dim yn ei gylch, tra y cadwai y neb a'i coleddai o fewn terfynau gweddeidd-dra yn eu hymddygiadau; ond dangosodd ar amryw o amgylchiadau, fod ganddo wroldeb digryn, a medrusrwydd digoll i amddiffyn ei hun rhag camwri, pan y golygai fod hyny yn hollol angenrheidiol. Synai wrth weled dynion a gyfrifid yn fawr a thalentog mor bryderus yn nghylch eu gogoniant eu hunain. Nid ydym yn gwybod am neb a wynebodd holl amgylchiadau bywyd hir a chyhoeddus, mor dawel, dirodres, a gwir foneddigaidd ag y gwnaeth ef.

SWYDD DIACONIAID.

1 TIM. III. 13. "CANYS Y RHAI A WASANAETHANT SWYDD DIACONIAID YN DDA, YDYNT YN ENNILL IDDYNT EU HUNAIN RADD DDA, A HYFDER MAWR YN Y FFYDD SYDD YN NGHRIST IESU."

Sylwn, I. AR EU CYMHWYSDERAU. 1. Yn dda eu gair. 2. Yn llawn o'r Ysbryd Glan a doethineb. 3. Yn onest. 4. Nid yn ddaueiriog. 5. Nid yn ymroi i win lawer. 6. Nid yn budr-elwa. 7. Yn dala dirgelwch y ffydd a chydwybod bur. 8. Yn ddynion profedig. 9. Yn ddiargyhoedd. 10. Rhaid i'w gwragedd hefyd fod yn onest-nid yn enllibaidd, ond yn ffyddlon yn mhob peth. 11. Yn wyr un wraig, ac yn llywodraethu eu plant a'u tai eu hunain yn dda.

II. EU SWYDD A'U GWAITH. Sylwn yn gyntaf yn nacâol.

1. Nis gelwir hwy i dra-arglwyddiaethu ar etifeddiaeth Duw. Nid ydynt i osod a llunio cyfreithiau a deddfau, a cheisio rhwymo eraill i'w cyflawni heb gydsyniad yr eglwysi yn gyffredinol, dylai yr awdurdod fod yn yr eglwys fel y trefnwyd gan Grist ei hun; ac unwaith y cymerir hi oddiyma, ac ychydig bersonau fyned yn arglwyddi, nis gellir disgwyl ond ychydig ddedwyddwch na llwyddiant yn yr eglwys hono.

OS

2. Nid yw eu swydd yn eu codi uwchlaw dysgyblaeth eglwysig. Maent yn sefyll yn yr olwg hon yn gymhwys ar yr un tir ac eraill— yn ddarostyngedig i gynghor, rhybudd, neu gerydd yn ol yr ysgryth

yrau.

3. Nid y gosodiad o honynt yn y swydd sydd yn eu gwneuthur yn gymhwys i'w chyflawni. Dylent feddianu y cymhwysderau angenrheidiol yn flaenorol i'w dewisiad.

Ond yn gadarnhaol gellir darlunio eu gwaith mewn ychydig eiriau, mai gwasanaethu byrddau ydyw.

1. Bwrdd y tlodion. I hyn yn benaf dim y dewiswyd hwy ar y cyntaf. Dylai hyn etto gael sylw manylaidd ganddynt, pwy fydd mewn tlodi ac afiechyd, ac felly yn sefyll mewn angen cydymdeimlad eglwysig, &c.

2. Bwrdd yr Arglwydd. Sef gofalu am yr elfenau perthynol i gymundeb yr eglwys, eu darparu yn drefnus, yn nghyd a'u rhanu yn mhlith yr aelodau ar amser eu cymundeb.

3. Bwrdd yr henuriaid neu y gweinidogion fyddo yn llafurio yn eu plith. I'r diaconiaid y mae y gofal hwn yn cael ei ymddiried. Gan hyny, dylent,

1. Ofalu am i gasgliad y weinidogaeth gael ei wneyd yn brydlawn. Dichon y bydd ar y gweinidog angen am danynt yn gywir erbyn rhyw amser penodol, ei fod dan rwymau i'w talu i ryw rai ar y pryd, ac o ddiffyg hyn, y bydd ei addewid yn cael ei thori, a thrwy hyny, ei gymmeriad yn cael ei iselu.

2. Yr ydych i gydanog yr eglwys i gyflawni ei haddunedau at gynal y weinidogaeth, nid yr un bob amser.

3. Yn yr amgylchiad o fod rhai yn ddiffygiol ac heb gyflawni yn ngwyneb anogaethau cyffredinol, eich dyledswydd ydyw ymddyddan yn bersonol a'r cyfryw yn yr achos. Ac yn

4. Os na lwydda hyny; yr wyf yn ostyngedig o'r farn mai eich dyledswydd ydyw dwyn yr achos dan sylw yr eglwys yn gyffredinol, a sefyll at ei barn hi yn nghylch y mater.

5. Er rhoddi anogaeth deilwng i'r eglwys gyfranu yn ffyddlon at y weinidogaeth neu unrhyw achos arall a geisiwch ganddi, dylech fod yn esiampl iddi trwy gyfranu eich hunain yn deilwng o'ch sefyllfa a'ch amgylchiadau. Os ceisiwch gan eraill wneyd yr hyn nad ydych yn ei wneyd eich hunain, teflir y cyfan o'ch anogaethau yn ol atoch chwi yn aflwyddianus; a dywedir wrthych, gwnewch eich hunain yr hyn a geisiwch genym ni, paham y ceisiwch genym ni yr hyn na chyffyrddwch ag ef eich hun? Rhoddwch esiampl deilwng o'n blaen yn gyntaf, a ni a ufuddhawn.

Sylwer yn mhellach mai i chwi yr ymddiriedir cydnabod pregethwyr cynnorthwyol, a gweinidogion dyeithr a fyddo yn ymweled a'r eglwysi yn achlysurol. Dylech gydnabod y rhai hyn, ond

1. Nid yn ol eich tymer a'ch teimlad eich hunain wrth eu gwrando.

2. Nid yn ol rhyw gydnabyddiaeth neu gyfeillgarwch personol rhyngoch chwi a hwythau yr ydych i'w cydnabod. Arian yr eglwys ydych yn roddi, ac nid eich eiddo personol eich hunain; credaf fod cyfraniadau dynion eraill yn cael eu defnyddio er cynal a meithrin cyfeillgarwch personol yn anheg ac annghyfiawn.

3. Nid ydych ychwaith i'w cydnabod o herwydd rhyw gymwynasau personol, a ddichon eich bod wedi ei gael oddiar eu dwylaw. Y mae hyn etto yn annheg ac annghyfiawn. Nid oes hawl gan neb i ddefnyddio dim o arian rhai eraill yn gydnabyddiaeth am un math o gymwynasau personol.

Dichon eich bod yn barod i ofyn, pa fodd ynte y dylech gydnabod y cyfryw? Yma sylwn,

1. Dylai synwyr a doethineb mawr gael ei arferyd yn yr achos. Gocheler haelioni afreidiol ar un llaw, a chybydd-dra ar y llaw arall. 2. Dylai gael ei wneuthur gyda gwasdadrwydd yn ol amgylchiad a theilyngdod pawb.

Gwyddom am luaws o amgylchiadau a ddengys anwasdadrwydd annheilwng o synwyr cyffredin.

Gwyddom am rai eglwysi ag sydd yn ddiarhebol yn eu haelioni tuag at weinidogion pellenig a dyeithr; ie, mor haelionus fel y mae rhyfeddu a synu at eu haelioni yn mherfeddion Deheubarth Cymru. Swyddogion y cyfryw eglwysi sydd wedi achosi hyn trwy fod mor llawroddiog a rhoddi iddynt y dau cymaint ag a gawsent mewn un eglwys arall o eglwysi mwyaf lluosog yr Annibynwyr yn holl Gymru. Gwyddom hefyd am yr eglwysi haelionus hyn i ddyeithriaid, nad oes ond tal bychan iawn ganddynt i'r cyfryw sydd yn eu gwasanaethu yn wastad a chyson dros faith flynyddau. Bydd swllt neu ddau ar yu goreu yn ddigon ganddynt roddi i'r rhai hyny.

Anwyl frodyr, nid yw ymddygiadau fel hyn ond anwastadrwydd ynfyd, a'i ganlyniadau yn dra niweidiol yn y diwedd.

Gwyddom am un eglwys luosog yn Ngogledd Cymru ac y mae ei diaconiaid yn dwyn sel mawr iawn dros gasgliad y Gymdeithas Gen hadol, ac yn arfer casglu yn flynyddol o 12p. i 16p., &c., ond wedi yr holl ddangosiad o dros yr achos da hwn, prin yr oedd eu, eu gweinidog yn cael digon i gael bwyd a dillad ganddynt, er ei fod yn un o'r gweinidogion parchusaf a mwyaf teilwng!

Yn mhellach. Dymunaf eich galw i gof y dylech fod yn ofalus iawn am gadw cyfrif teg a manylaidd o'r holl arian a ddelo i'ch dwylaw.

1. Mae y diffyg o hyn wedi achosi terfysg ac ymraniadau anocheladwy, a'u heffeithiau yn annisgrifiadwy.

2. Cofiwch hefyd am iawn ddefnyddio y cyfan a ddelo i'ch dwylaw er ateb eu dyben priodol; a gochelwch er dim ddefnyddio arian y cysegr yn eich achos eich hunain. Gwn i am amryw sydd wedi gwneuthur hyny, a byth heb eu talu yn ol i'w manau priodol.

3. Cofiwch eich bod yn gyfrifol i'r eglwys yr ydych yn gwasanaethu ynddi, ac yn y pen draw yn gyfrifol i Dduw.

Gwelwn—1. Fraint diaconiaid da. 2. Mai melldith mewn eglwys ydyw diaconiaid drwg. 3. Mai bendith fawr iawn i eglwys yw diaconiaid da.

4. Gofynir i chwi daflu golwg ar eich cydaelodau, ac ymgynghori yn nghyd a'ch gweinidog am y triniaethau angenrheidiol perthynol i'r eglwys yn gyffredinol.

PENNOD XVIII.

ADGOFION—LLYTHYRAU ODDIWRTH HEN GYFEILLION.

LLYTHYR I.

Wrth grybwyll enw yr Hen Olygydd rhed amryw deimladau a chyfyd amryw adgofion yn fy mynwes. Un mlynedd a deugain yn ol cefais y fraint o'm neillduo i waith y weinidogaeth, pryd yr oedd rhagor na deuddeg o weinidogion yn bresenol ar yr achlysur. Nid oes yn bresenol ond tri o honynt yn fyw: cymerwyd y lleill i'w gorphwysfa; a'r diweddaf o honynt oedd yr Hen Olygydd.

Deugain mlynedd yn ol, yr oedd yn swydd Feirion, bedwar o weinidogion, nad oedd o fewn cylch y Dywysogaeth neb yn rhagori arnynt, ychydig iawn yn gyfartal iddynt, ac yn arbenig mewn synwyr cyffredin i drafod achosion ac i reoli amgylchiadau. Y pedwar hyn oeddynt Hugh Lloyd, Towyn; Edward Davies, Trawsfynydd; Michael Jones, Llanuwchllyn; a Chadwaladr Jones, Dolgellau. Perthynai iddynt ill pedwar ddysg, a gwybodaeth, a dawn, a duwioldeb priodol i'w swydd, a chyda'r cwbl hynodid hwynt gan yr hyn y crybwyllwyd eisoes am dano—synwyr cyffredin. Yr oeddynt yn ei berchen i raddau anghyffredin. Nid yw synwyr yn ddigon heb ras i'w reoli, oblegid gall weithredu mewn dichell; ac nid yw gras yn ddigon heb synwyr i'w reoli, oblegid gall weithredu mewn ffoledd. Y naill gyda y llall a gyfansoddant gymmeriad perffaith. O'r enwogion crybwylledig nid oes yn bresenol yn fyw ond Edward Davies, Trawsfynydd; ac y mae yntau allan o'r tresi er's amrai flynyddau o herwydd gwendid a musgrellni henaint.

Mewn llawer iawn o ystyron y mae gan weinidogion ieuaingc yr oes bresenol achos mawr i fod yn ddyolchus. Y mae yr eglwysi yn gyffredin wedi cynyddu mewn haelioni tuag at y rhai sydd yn hau iddynt bethau ysprydol, y mae y rheilffyrdd yn gyfleus i dramwy yma a thraw, ac y mae llawer o'r hanos a'r cyfarth ar ein hol wedi darfod. Ychydig iawn o gydnabyddiaeth arianol a roddid ddeugain mlynedd yn ol i weinidogion am eu llafur a'u gwasanaeth; byddai raid iddynt wynebu ar fynyddoedd a phantiau, bryniau a chymoedd, gwyntoedd a gwlawogydd, i roddi eu gwasanaeth mewn cyfarfodydd pregethu, a byddai yn gywilydd mynegi bychandra y tâl a dderbynient. Nid oedd yr eglwysi y pryd hwnw wedi dysgu haelfrydedd.

Yr oedd hefyd yn y dyddiau hyny gŵn a chorgŵn yn crwydro ar hyd ac ar draws y wlad gan gyfarth a'u holl egni. Tynid sylw y cyffredin y dyddiau hyny at y Rhyddfreiniad Pabaidd, y Cofrestriad Cyffredinol, y Deddfau Prawf a Bwrdeisiol, a Phriodi mewn capeli. Yr oedd y materion hyn yn tynu sylw, ac yn peri cyffro. Camddarlunid ac erlidid pob un oedd bleidiol i'r mesurau crybwylledig. Dywedid gyda defosiwn gor-grefyddol, "y mae genym ni ddigon o ryddid; nid oes arnom eisiau, ac nid ydym yn ceisio rhagor. Pe byddai arnom eisiau rhagor, byddem yn ffyliaid; pe y ceisiem ragor, byddem yn rebels." Ond llwyddwyd i gael y mesurau hyny oll, a dystawodd y cyfarthiad cysylltiedig a hwynt.

Yr oedd hefyd yn y dyddiau hyny gryn ferw yn nghylch Athrawiaethau Gras. Credid genym mewn Arfaeth Dragywyddol ac Etholedigaeth Gras, yn annibynol ar na haeddiant na gweithred o eiddo dyn, ac ystyrid hyny yn uniongred: ond credid genym hefyd Gyffredinolrwydd Iawn Crist, a gwrthwynebem yn egniol yr olwg fasnachol ar Brynedigaeth. Gwahaniaethid genym rhwng gallu naturiol a gallu moesol dyn fel creadur. Gwrthwynebid genym y syniad fod y Pechod Gwreiddiol yn disgyn fel brêch o dad i fab, ac o fam i ferch. Yr oeddem fel enwad yn cydolygu a'r diweddar Dr. Edward Williams o Rotherham, mai diffyg moesol, ac nid sylwedd moesol ydyw pechod. Diffyg naturiol ydyw oerni: diffyg gwres. Diffyg naturiol ydyw tywyllwch: diffyg goleuni. Felly hefyd golygem mai diffyg moesol ydyw pechod: diffyg rhinwedd. Diffyg cariad ydyw casineb; diffyg ffydd ydyw annghrediniaeth. "Annghyfraith ydyw pechod," h.y. diffyg cydffurfiad a'r gyfraith. Yr oedd llawer yn camddeall ac yn camddarlunio. Dywedid ein bod yn dal allan "allu dyn," a thraethid yr ynfydrwydd mwyaf wrth geisio esbonio ei anallu. Haerid nad oedd gan ddyn na gallu nac ewyllys mewn un ystyr yn y byd. Darlunid ni fel rhai yn dysgu mai dim ydoedd pechod, ond y caem "ei deimlo yn pwyso yn drymach na dim ar ein hysgwyddau yn y farn." Crochfloeddid yma a thraw, "Heresi! Morganiaeth! Haner-Morganiaeth!" Yr oedd y "Cadams" hefyd yn destyn cyfarthiad. Nid oedd "bechgyn y dwylaw gwynion" ond pryfedach i'w dyfetha; ac yr oedd "manufactro pregethwyr" yn beth hynod ryfygus. Bellach y mae y rhôd wedi troi, ac ni feiddir mwy arfer cyffelyb ystrywiau. Pethau i'w maddeu ydyw y pethau hyn, ond nid i'w hanghofio. Byddai eu hanghofio yn anghyfiawnder a ffeithiau.

Crybwyllwyd am y pethau uchod er mwyn dangos fod yr Hen Olygydd yn byw mewn dyddiau blinion: ond yn nghanol holl ryferthwy y tymhestloedd, meddianai ei enaid mewn amynedd. Yr oedd ei arafwch yn hysbys i bob dyn. Pwyll a hunan-feddiant oeddynt hynodion ei gymmeriad. Yr oedd bob amser mewn llawn waith, ond byth mewn llawn brys. Dichon i ddyn fod bob amser yn ffwdanus o brysur, ac etto heb ond ychydig iawn o waith yn cael ei gyflawni ganddo. Heblaw ei orchwylion llenorol, yr oedd ganddo bedair neu bump o eglwysi i dramwy atynt, ac i fwrw golwg arnynt. Ond yn nghanol y cwbl cyflawnai ei waith yn ddiwyd ac yn hollol ddidrwst a digyffro.

Byddai bob amser yn barod i gefnogi ac i estyn llaw o gymhorth i ddynion ieuaingc yn dechreu pregethu. Yr wyf yn dywedyd hyn oddiar wybod, ac nid oddiar glywed. Pan o gylch pump a deugain o flynyddau yn ol yr oeddwn yn pres+ wylio o fewn pellder taith esmwyth i Ddolgellau, arferwn dalu ymweliad iddo yn awr ac eilwaith, a chefais ef bob amser yn siriol a chroesawus. Rhoddodd i mi lawer cynghor a chefnogaeth, ac ar gyfrif hyny y mae ei goffadwriaeth yn barchus genyfly dydd heddyw. Yr oedd y diweddar Michael Jones o'r Bala yn gwbl o'r un yspryd, fel y gall lluaws o wyr ieuaingc dystio. Ychydig gefnogaeth geir gan ambell un. Os gall gwr ieuangc ddringo i fynu heb ei gefnogaeth, pobpeth o'r goreu, caiff ei barchu ganddo, ond byth ni estyna law o gymhorth iddo, a byth ni lefara air o galondid wrtho.

Fel Golygydd perthynai iddo lawer iawn o ragoriaethau. Dechreuodd yn gynar agor dalenau y Dysgedydd i drin materion ac i ledaenu syniadau ag oeddynt y pryd hwnw yn dra anmhoblogaidd. Nid oedd un cyhoeddiad arall yn Nghymru ond Seren Gomer yn ddigon gwrol i wynebu ar gabl a gwawd y rhagfarnllyd a'r anwybodus. Teilynga y Dysgedydd barch a derbyniad fel rhag-gloddiwr i'r egwyddorion gwladol ac eglwysig sydd yn awr mor ffynadwy. Y pryd hwnw cyfarfyddent a gwawd ac a chabledd, ond safai yr Hen Olygydd yn ddiysgog wrth y llyw. Ni syflid ef gan drwst tafodau na chan awchlymder gwrthwynebiadau o un math. Y mae y byd yn awr wedi newid. Rhyfedd ydyw nerth dylanwad y wasg; a llawer rhyfeddach ydyw nerth dylanwad Rhagluniaeth mewn amser a thrwy amgylchiadau. Teilwng o grybwylliad ydyw un rhagoriaeth fawr a berthynai iddo fel Golygydd, h.y. byth ni wthiai ei hun i'r golwg heb fod galwad am dano. Gallasai lenwi haner rhifynau y Dysgedydd a'i gynnyrchion ei hun; ond anfynych iawn yr ymddangosai dim o'r eiddo. Diffyg mawr mewn Golygydd, o leiaf dyna fel yr wyf fi yn tybio, ydyw gwthio ei hun i'r golwg ar bob achlysur, dodi ei fys ar bob mater, a llefaru ar bob testyn. Ni pherthynai ysfa felly i'r Hen Olygydd: ond pan y deuai allan, ymddangosai yn ei lawn nerth. Pan yn terfynu dadl trwy ei hadolygu, byddai ei adolygiad o werth y cwbl a ddywedid y naill ochr a'r llall. Dangosai ei wybodaeth, ei synwyr, a'i graffder. Dichon mai anfuddiol i bawb, ac annerbyniol gan lawer, fyddai i mi nodi allan yr adolygiadau hyny, gan y gall y sawl sydd yn ewyllysio eu gweled gael boddio eu hewyllys trwy chwilio cyfrolau y Dysgedydd.

Gwn am dano ei fod yn hynod ddi-hunangais. Ni bu erioed yn pysgotta am boblogrwydd: yr oedd ganddo enaid uwchlaw hyny. Gwir ei fod yn boblogaidd, yn enwedig yn yr ardaloedd lle yr adwaenid ef oreu. Nid oedd ynddo ysfa i ymwthio i sylw; gwyddai ei safle ac ymfoddlonai arno. Gwyddai ei fod yn sefyll yn uchel fel gweinidog ac fel Duwinydd, ac nid oedd angen arno, nac awydd ynddo i arfer unrhyw gynlluniau i ddringo. Nid ceisio poblogrwydd a ddarfu, ond ei enill.

HUGH PUGH.

Mostyn.

LLYTHYR II.

Mae yn dda genyf ddeall y bwriedir gwneyd cofiant am fy hen gyfaill ymadawedig, y Parch. Cadwaladr Jones o Ddolgellau. Gwelaf fod cais wedi ei hysbysu y dymunir ar amrai o hen gydnabyddion a chyfeillion Mr. Jones, ysgrifenu ychydig o'i hanes; ac fel un o'r cyfryw wele fi yn amcanu adgofio rhai pethau mewn perthynas iddo ef. Nid oeddwn ychydig o amser yn ol, yn meddwl mai fel hyn y buasai pethau yn bod. Nis gwyddom pa bethau sydd o'n blaenau, ac y mae yn dda hyny, ar lawer o ystyriaethau. Byddai fy hen frawd C. Jones, yn mwynhau iechyd da braidd bob amser, ar hyd ei oes hirfaith. Nid wyf yn cofio i mi ei glywed yn cwyno erioed ei fod yn glaf, hyd o fewn ychydig amser i ddydd ei ymddatodiad. Cefais i gryn lawer o afiechyd, a buaswn yn hyderu mwy ar ei einioes ef nag ar yr eiddof fy hun; ond fel hyn y mynai fy Nhad nefol iddi fod, i ryw ddybenion teilwng yn ei olwg ef. Bu fy hen frawd Jones yn ffyddlawn, ac ymdrechgar iawn gyda gwaith yr Arglwydd ar hyd ei oes, a'm dymuniad a'm gweddi innau ydyw, bod yn ffyddlon, a chael marw yn y tresi. Yr amser cyntaf y gwelais y brawd Jones oedd yn Llanymowddwy, yn pregethu yn nhŷ hen wraig, o'r enw Mary Sion Huw, lle y byddai amryw o wahanol enwadau yn pregethu y pryd hyny. Ei destyn y tro hwnw ydoedd, Diar. xvii. 17, "Cydymaith a gâr bob amser, a brawd a anwyd erbyn caledi. Un mater yn y bregeth oedd cariad Duw. Yr oedd yn sylwi fod cariad Duw i'w ystyried mewn dau olygiad, sef cariad o ewyllys da, a chariad o hyfrydwch; a dywedai fod Duw yn caru dynion o ewyllys da, pan y byddent yn pechu, yr un modd a phan na fyddent felly; ond nas gallai eu caru a chariad o hyfrydwch, ond pan fyddent yn byw yn dduwiol. Yr oedd rhai yn teimlo yn anfoddlon iawn, am ei fod yn dywedyd fod Duw yn caru dynion pan fyddent yn pechu; a theimlais innau awydd i'w amddiffyn, a dywedais fod ei destyn yn dyweyd felly, a'i fod yntau yn dilyn ei destyn. Digwyddodd i mi fyned i'r Bala, Sadwrn Ynyd, yn y flwyddyn 1808, a daethym y noson hono i dy fy ewythr, Robert Oliver,[1] o'r Ty Coch, Llanuwchllyn, a threuliais y Sabboth yno; aeth i'r Hen Gapel am 10 o'r gloch y Sabboth, a C. Jones oedd yno yn pregethu y tro hyny. Ei destyn ydoedd, Caniadau Solomon, i. 9-"I'r meirch yn ngherbydau Pharaoh y'th gyffelybais fy anwylyd." Yr oedd yn ddiwrnod oer iawn, ac yntau yn pregethu yn bwyllog a digynwrf anghyffredin, fel pe buasai yn gofalu na chyffyrddai a theimladau neb; ond yn rhywle tua chanol y bregeth (mi feddyliwn) dyma ddynes yn syrthio yn ddisymwth mewn llewyg, ac am gryn amser yn methu cael ei hanadl, fel y dychrynais i yn fawr, gan ofn ei bod yn marw; ond cyn pen ychydig, wele eraill yn syrthio yr un modd; ond pan ddaethant i allu cael eu hanadl, nid oedd eisiau dim yn rhagor o'r bregeth; ond yr oeddynt hwy yn pregethu, ac yn gorfoleddu a'u holl egni, erbyn hyn yr oedd. yn amlwg yr achos, fod y pregethwr yn cymeryd cymaint o bwyll ac arafwch; yr oedd yn rhaid i bawb wneyd felly, yn nghymydogaeth Llanuwchllyn y pryd hwn, er hyny prin y cai neb fyned trwy haner ei bregeth; a pharhaodd yn ddiwygiad grymus iawn am hir amser, a chwanegwyd llawer at rifedi yr eglwys yn yr Hen Gapel. Nid oedd genyf y pryd hyny unrhyw gydnabyddiaeth bersonol a'r brawd Jones, nag am amryw flynyddoedd wedi hyny, hyd nes ydoedd wedi ymsefydlu yn y weinidogaeth, a phriodi y tro cyntaf; ac ni bu fawr o gydnabyddiaeth a chyfeillgarwch rhyngom, hyd nes y darfu i minau briodi, ac ymsefydlu yn Nhrawsfynydd, yn y flwyddyn 1822. Pan y daethym i ymsefydlu yn Nhrawsfynydd, yr oedd Richard Roberts, o'r Ganllwyd, yn dyfod unwaith yn y mis i Ben-y-stryd a Maentwrog; felly yr oedd genyf finau un Sabboth o bob mis i fyned lle y mynwn, a dymunodd y cyfeillion yn y Ganllwyd a Llanelltyd arnaf roddi y Sabboth hwnw iddynt hwy; a chydsyniais innau a'u cais. Yr oedd y brawd Jones hefyd, yn rhoddi Sabboth yn y mis yn y Cutiau a Llanelltyd; ac felly y buom ein dau yn cydweinidogaethu yn Llanelltyd bob yn ail pythefnos, am yn agos i 46 o flynyddoedd, yn ddigoll; a gallaf ddywedyd, na bu rhyngom un gair croes, nag annghydfod erioed yn y mesur lleiaf. Yroeddym yn gyfeillion, nid mewn enw yn unig, ond mewn gweithred a gwirionedd. Gwelais rai a fyddent yn ymddangos (o'r hyn lleiaf) yn gyfeillion mawr, pan na fyddai neb arall i'w cael; ond os digwyddai iddynt gael cyfle i ymgydnabyddu a rhyw rai a dybient yn rhagori mewn enwogrwydd, buan iawn y ceid gweled eu cefnau, ac y dangosent ddiystyrwch o'u hen gyfeillion. Ond nid un o'r dosparth twyllodrus a diymddiried, a gweniethgar hyn ydoedd fy hen frawd Jones; ond byddai ef bob amser yr un, pa un bynag a'i gartref ai oddicartref y byddai. Yr oedd yn ofalus iawn rhag clwyfo teimladau cyf eillion heb achos, o'r hyn lleiaf, felly yr ymddygodd tuag ataf fi bob amser. Teithiasom lawer gyda ein gilydd i Gymanfaoedd a Chyfarfodydd eraill, trwy wahanol siroedd Gogledd Cymru, a hyny gan mwyaf ar ein cost ein hunain; talasom lawer am gael pregethu, ac ni theimlasom ofid o herwydd hyny. Nid oedd, tua 50 mlynedd yn ol, ond ychydig o weinidogion yn mhlith yr Annibynwyr yn Ngogledd Cymru, felly yr oedd yn rhaid i'r rhan fwyaf o honom fyned yn aml oddicartref; ac oni buasai hyny, nid yr olwg sydd ar yr achos yn awr a welsid. Yr amser hyny, yr oedd yn angenrheidiol am gryn lawer o hunanymwadiad, ac yspryd aberthu, oblegid nad oedd dim cydnabyddiaeth i'w gael am fyned i gyfarfod na chymanfa, a byddem yn pregethu cryn lawer wrth fyned' a dyfod, a dim am y boen, a thuag at draul teithio, ond diolch yn fawr i chwi, a brysiwch yma etto; ond erbyn hyn y mae pethau wedi dyfod yn well. Yr wyf yn cofio am un tro y buom ein dau yn cadw cyfarfodydd yn sir Fon, ac ar ol croesi afon Menai, yn Moel-y-don, i ddyfod tuag adref, safodd y brawd Jones, a dywedai, "Aroswch chwi, a oes genym ddigon i gyrhaedd adref tybed?" Yna dechreuasom gyfrif ein llogellau, a'r tollbyrth, &c., oedd genym i'w talu, a medrasom gyrhaedd adref y tro hwnw heb ofyn benthyg i neb. Ein hoff waith wrth gyd-deithio fyddai cyfansoddi pregethau; ac yr oedd hyn yn angenrheidiol hefyd, fel y byddai genym bregeth newydd erbyn y Sabboth, wedi bod oddicartref yn fynych ar hyd yr wythnos; a medrem ddefnyddio golygiadau ein gilydd yn lled ddidrafferth. Mae yn gofus genyf, ein bod yn myned gyda ein gilydd i Ddinasmawddwy, i gladdu ein hen frawd caredig a ffyddlon, y Parch. Willam Hughes; yr hyn a gymerodd le Ionawr 3ydd, 1827, ein bod yn gwneyd pawb o bregeth ar hyd y ffordd; a phregethasom hwynt ar yr achlysur. Testyn C. Jones ydoedd, 2 Tim. iv. 7. Digwyddodd i'r brawd Jones a minau, fyned unwaith, mor bell ag Aberaeron i gyfarfod Chwarterol, ar ddymuniad rhai o'r cyfeillion yn Nhalybont, yn achos rhyw annghydfod oedd wedi cymeryd lle yn eu plith; a bod y Dr. Phillips, o'r Neuaddlwyd, yn gofyn i rai o'r brodyr: "A ydyw y ddau frawd yna o'r Gogledd yn ddirwestwyr, tybed?" "Ydynt, ac yn ffyddlon i'w hardystiad," oedd yr attebiad. "Ho," meddai yntau, "dichon y cyrhaeddant adref felly." Mae hyn yn dangos nad oedd pethau fawr well yn y Deheudir mwy na'r Gogledd, er fod yr eglwysi yn llawer mwy lluosog. Nid oedd fy mrawd Jones yn arfer a gwaeddi llawer wrth bregethu, ac felly gallai rhai feddwl, a dywedyd hefyd, nad ydoedd yn bregethwr mawr, fel y dywedir; ond gellir dywedyd heb gyfeiliorni, ei fod wedi gadael llawer o rai gwaelach nag ef ei hun ar ei ol; a hyny fe ddichon yn mhlith y dosbarth a dybient eu hunain yn addas i feirniadu arno ef a'i bregethau.

Clywais y Dr. Phillips, o'r Neuaddlwyd, yn dywedyd yn urddiad y brawd, Mr. M. Jones, yn Llanuwchllyn, ei fod ef pan yn ieuangc wedi meddwl myned yn bregethwr mawr; a'r ffordd yr oedd ef yn meddwl ei chymeryd er cyrhaedd yr amcan hwnw, oedd dewis y testynau mwyaf tywyll ac annghyffredin, a dywedyd oddiwrthynt bethau na byddai braidd neb yn gallu eu deall. Ond dywedodd ei fod wedi gweled ei gamsynied, a newid ei feddwl er's llawer dydd; ac y buasai ef yn ystyried ei hunan yn llawer mwy pregethwr, pe gallasai bregethu yn y fath fodd na buasai neb yn methu ei ddeall; felly ni chlywais neb erioed yn cwyno eu bod yn methu deall y brawd Jones. Nid oedd gwrthddrych y cofiant hwn yn ymddibynu llawer ar hwyl, fel y dywedir, wrth bregethu, er y teimlai beth felly weithiau. Byddai ganddo ef faterion sylweddol bob amser yn ei bregethau, ac felly gallai fyned yn mlaen yn rhwydd a chysurus iddo ei hunan a'i wrandawyr, yn enwedig i'r rhai hyny a hoffent wybodaeth ac adeiladaeth, pa un bynag ai hwyl ai peidio. Clywais ef yn pregethu ugeiniau o weithiau, a gallaf dystio na chlywais bregeth wael ganddo erioed; er y byddai ambell i dro yn rhagori, fel pawb.

Clywais Mr. Williams o'r Wern, yn adrodd ei fod ef a gwrthddrych y Cofiant hwn ar daith gyda eu gilydd yn y Deheudir; ac meddai, "yr oedd Jones yn pregethu yn dda o hyd y daith, a minau yn pregethu yn dda iawn weithiau." Clywais eraill yn adrodd am yr un daith, ac yn dywedyd y byddai Williams, ar lawer tro, yn cael llawn ddigon o waith dyfod i'r golwg. Yn y flwyddyn 1821, penderfynodd rhyw nifer o weinidogion yr Annibynwyr roddi cyhoeddiad misol allan, dan yr enw Dysgedydd, ac ymrwymasant os byddai colled ar yr anturiaeth, fod pob un i gydsefyll odditani; ond os byddai rhyw elw yn deilliaw, i gyflwyno hyny mewn rhan at achosion daionus. Ni chafwyd dim colled-ond trodd yr anturiaeth allan yn llwyddianus; a chyfranwyd ugeiniau, os nid canoedd o bunau (sef yr holl weddill ar ol talu y costau angenrheidiol) gan mwyaf i ddynion ieuaingc a fyddai yn bwriadu myned i'r weinidogaeth, er mwyn iddynt allu cyrhaedd ychydig o ddysgeidiaeth. Mae hen sylfaenwyr y Dysgedydd erbyn hyn wedi meirw oll, oddieithr dau, mae un yn Nghymru a'r llall yn America. Rhoddodd hen gychwynwyr y Dysgedydd eu llafur i gyd am ddim; ni dderbyniodd yr un o honynt erioed gymaint ag a fuasai yn talu am gludo un llythyr, yr hyn oedd y pryd hwnw yn ddrud iawn. Dewiswyd y brawd Jones yn Olygydd y Dysgedydd, a pharhaodd yn ffyddlon a llwyddianus tra y bu yn yr ymddiriedaeth, er nad oedd ei dâl ond ychydig wrth yr hyn y dylasai fod. Yr oedd Ꭹ brawd Jones yn ddyn pwyllog, amyneddgar a thawel iawn ei feddwl. Nid wyf yn cofio ei weled ef erioed wedi colli ei dymer mewn unrhyw amgylchiad, nag yn dywedyd na gwneyd dim yn annghyson a'i sefyllfa bwysig fel gweinidog i Iesu Grist. Yr oedd yn ddyn yn meddu mwy o bwyll na'r cyffredin; yr oedd braidd yn ormod felly ar rai amgylchiadau. Cyfarfu ef a minau a llawer o dywydd tymestlog a gwlawog iawn, lawer tro ar ein teithiau; ond ni welais mo hono yn prysuro dim mwy ar amserau felly nag amserau eraill; ni chlywais mo hono yn cwyno rhag y tywydd. Clywais ef yn dywedyd yn dawel iawn weithiau, "Mae hi yn gwlychu braidd onid ydyw," pan y byddai yn ein gwlychu hyd y croen. Byddai yn anniben iawn yn dyfod yn mlaen o Bontfawr Dolgellau i ganol y dref, yn enwedig ar amser ffair, ni phasiai braidd neb a adwaenai heb ysgwyd llaw a hwynt a gofyn, "Pa fodd yr ydych acw" yn aml heb enwi neb, oblegid gwyddai fod rhyw acw gan bawb. Yr oedd y brawd Jones yn wladwr da a chymwynasgar; gwnaeth lawer o wasanaeth i'w gymydogion, yn mhell ac yn agos, heb ddim tâl, ond diolch yn fawr i chwi, ac weithiau prin hyny, pan y gorfuasai iddynt dalu yn ddrud i eraill am y cyfryw gymwynasau.

Bu farw y brawd Jones yn debyg iawn fel y darfu iddo fyw, yn hynod dawel a digynwrf[2]Teimlir colled fawr ar ei ol, a bydd yn lled anhawdd cael olynydd iddo. Teimlir hiraeth gan amryw am dano heblaw ei berthynasau, yn enwedig gan ysgrifenydd y llinellau hyn. Yr wyf yn awr yn gweled ac yn teimlo gradd o hiraeth a galar ar ol llawer o gyfeillion fy ieuengetyd a'm cydlafurwyr yn y weinidogaeth, maent bron i gyd wedi myned i ffordd yr holl ddaear, a'm gadael innau megys dolen gydiol rhwng yr oes a aeth heibio a'r hon sydd yn prysur dynu ar ei hol. A bydd y ddolen hon wedi ei thori yn fuan: canys,

Wyth deg yn rhwydd—deg mewn rhi—a gefais
Yn gyfan o flwyddi,
Yr un modd rho'i Ion i mi
Yn gydwedd ddwy flwydd gwedi:

Trawsfynydd.

EDWARD DAVIES.


LLYTHYR III.

Y mae yn llawenydd mawr genyf fod cofiant yn cael ei barotoi, ac yn debyg o gael ei ddwyn o flaen y cyhoedd am y Parch. C. Jones, o herwydd y credwyf fod ei fywyd yn cynwys ffeithiau a gwersi a fydd o wasanaeth ac addysg i'r oesau a ddaw yn ogymaint ag i'r oes hon. Byddai yn werthfawr genyf gael rhoddi llinell yn ei fywgraffiad, nid am fy mod yn tybio fod diffyg defnyddiau genych i wneyd cyfrol lawn o yni ac addysg; ond o herwydd fy mharch diffuant iddo, ac oblegid fy mod wedi derbyn llawer o garedigrwydd ac addysg oddiwrtho. Byddaf yn ceisio darllen dynion yn gystal a darllen llyfrau. Ac y mae darllen dynion wedi rhoddi i mi fwy o addysg ymarferol na darllen llyfrau. Darllenais lawer ar y Parch. C. Jones, a bu ei ddarllen yn llawer o hyfforddiad i mi yn fy nhaith grefyddol, ac yn enwedig yn fy ngyrfa weinidogaethol. Ac yr wyf yn addaw i mi fy hun, os caf fyw i ddarllen y cofiant, lawer o addysg a budd ysbrydol. I'm tyb i, er lleshau a duwioli y meddwl, y nesaf at ddarllen y Gyfrol Santaidd yw darllen hanes bywyd a marwolaeth dynion da. Yr wyf yn mawr obeithio fod cyfnod etto i ddyfod, pan fydd mwy o chwaeth gan yr eglwysi i ddarllen bywgraffiadau eu blaenoriaid. Yn y dyddiau hyn y mae rhy fach o "feddwl am y blaenoriaid," a rhy fach o sylwi "ar ôl traed y praidd." Yr wyf yn credu mewn olyniaeth, ond ni ellir dal yr olyniaeth yn gyfan heb gyfranogi o egwyddorion ac ysbryd y blaenoriaid. A pha fodd y gellir deall eu hegwyddorion, a theimlo eu hysbryd, ond trwy ddarllen eu hanes? Ond er i ddynion edrych ar yr un person, a darllen yr un bywyd, gallant fod yn wahanol iawn eu golygiadau am nodwedd y cyfryw, o herwydd y mae pob dyn yn gweled a'i lygad ei hun, ac yn ol ei lygad ei hun. Y mae pob gwrthddrych yn ymddangos i ddyn yn ol stad a thymer foesol ei feddwl. Fel y mae tymherau meddwl dynion yn amrywio, felly y gwahaniaetha eu golygiadau am yr un pethau. Nid am bethau yn unig y mae dynion yn gwahaniaethu yn eu barn, ond hefyd am bersonau. Byddai mor hawdd cael dynion i gydweled am bob adnod yn y Beibl, a'u cael i gydolygu am bob dyn yn yr eglwys. Nid yr hyn a fawrha y naill a werthfawroga y llall, o herwydd y mae pob un yn mawrhau a gwerthfawrogi yn ol ei allu ei hun. Y mae gwaith un yn dyweyd ei farn am arall yn fynych yn fwy o ddangosiad o hono ei hun, nag o'r hwn a geisia ei ddangos; fel y mae llawer cofiant yn fwy o ddangosiad o'r cofiantwr nag o'r cofiantedig. Pe caem lawer o gofiantau i'r un person, wedi eu hysgrifenu gan wahanol bersonau, diau y byddai eu darluniad o'r un gwrthddrych yn dra gwahanol. Ond etto gallai y naill fod mor gywir a'r llall, ac heb annghyd—darawiad rhwng y naill a'r llall; ond fod pob un yn traethu yn ol tymer ei ysbryd, ar yr hyn ydoedd fwyaf dyddorol i'w feddwl. Ymddengys fod hyn yn gwbl naturiol, fod delw yr hanesydd ar yr hanes. Am yr un person a'r un ffeithiau y traethai y pedwar Efengylwr; ond etto, y mae pob un yn traethu yn ol ei arddull priodol ei hun, a'r pedwar mewn perffaith gydgordiad yn gwneyd i fyny un dystiolaeth fawr achubol am Waredwr pechaduriaid. Yr oedd y Parch. C. Jones yn un o'r ychydig hyny, ag y dywed pawb yn dda am danynt; ond etto, nid yr un da sydd yn ymddangos benaf yn ngolwg pawb. Ac os oes dim yn cyfreithloni rhoddi llythyrau oddiwrth wahanol bersonau mewn cofiant, hyn sydd, fod y cofiantiedig trwy hyny yn cael ei ddangos yn fwy cyflawn ac amrywiog i ateb i feddwl y cyhoedd. Yr hyn a gyfrifa un yn fawredd, a ystyria y llall yn fychander, a'r hyn a edrych y naill arno yn rhagoriaeth, a gyfrifa y naill yn ddiffyg neu yn waeledd. Ac felly, pan y byddwn yn cael barn y naill am y llall, yr ydym yn derbyn y farn hono yn ol y syniad a fydd genym am yr hwn a'i rhydd. Gwn fod teimladau dynion tuag at eu gilydd yn cario dylanwad mawr ar farn y naill am y llall, o herwydd y cariad a guddia luaws o bechodau, a all hefyd ddangos llawer o rinweddau, y rhai ni wel yr hwn sydd yn amddifad o gariad. Cyfaddefaf yn rhwydd fod genyf deimlad cynes ac anwyl at goffadwriaeth yr Hybarch C. Jones. Yr oedd enw Jones, Dolgellau, yn un o bethau cysegredig y teulu, yn yr hwn y cefais fy magu. Yr oeddwn er yn fachgen wedi bod yn ddarllenwr o'r Dysgedydd, a thynwyd fy sylw lawer gwaith at ôl—ysgrif, ac estyniad bys y Golygydd. Tybiwn fod sylw byr y Gol. yn penderfynu tynged llawer ysgrif hir, ac estyniad ei fys ar yr amlen fel cleddyf ysgwydedig i gadw ffordd y Dysgedydd rhag y cecrus a'r enllibus. Yr oedd yr ol—sylw a'r bysgyfeiriad wedi rhoddi ynof syniad tra gwahanol am y Gol. i'r hyn oedd genyf wedi i mi gael adnabyddiaeth bersonol o hono. Nid yw yn fy mryd i roddi darluniad o hono yn ei berson, ei ddoniau, a'i waith yn ngwinllan Iesu, ond dichon y goddefir i mi nodi ychydig o bethau ynddo a dynodd fy sylw. Yn gyntaf, nodaf ei diriondeb a'i garedigrwydd i ddynion ieuaingc. Yr wyf yn nodi hyn yn flaenaf o herwydd hyn dynodd fy sylw gyntaf fel peth neillduol ynddo, ac ystyried ei safle a'i oed. Pan ar daith bregethwrol (coffa da am yr oruchwyliaeth hono) aethum ar fy hynt i Ddolgellau pan yn llengcyn difarf, a di— lawer o bethau pwysicach na barf, a mawr oedd fy ofn wrth feddwl ymddangos ger bron, a phregethu yn nghlyw Golygydd y Dysgedydd; ond wedi dyfod i'r dref a chyfarfod a Mr. Jones, symudwyd fy holl ofnau, ac ni'm daliwyd byth mwy gan ofn y Golygydd. Na ryfedded neb fy mod yn ofni ei gyfarfod, oblegid nid yr hyn y cefais ef, y cefais bawb; ond cyfarfyddais ag ambell i hen frawd a deimlai yn ddyledswydd arno fy mesur, a'm pwyso, fy mhobi, a'm crasu. Dichon fod goruchwyliaeth felly yn angenrheidiol; ond nid oedd mor ddymunol â gweinidogaeth dyner a thadol yr hen dad o Ddolgellau. Yr wyf wedi annghofio llawer derbyniad oer a gefais, a llawer gwasgfa galed a deimlais, ac yn wir, nis gallaf ddyweyd eu bod i mi yn "odidog ragorol," ond nis gallaf annghofio caredigrwydd, sirioldeb, a thynerwch Mr. Jones tuag ataf pan yn llengeyn dyeithr ac ofnus. A bu ei diriondeb yn fwy o addysg a lles i mi, na holl wersi a cheryddon, y rhai oeddynt "feistriaid lawer." Yr wyf wedi llwyr annghofio helyntion fy ymweliad cyntaf â Dolgellau, pa beth, a pha fodd y pregethais nis gwn, yn mha le y bum yn lletya, nid wyf yn cofio; pa un a'i croesaw gwresog, ynte cyfleustra oeraidd i orphwys a gefais, nis gallaf ddyweyd. Ond er fod helyntion maith flynyddoedd wedi ysgubo y pethau hyny o'm cof a'm teimlad, etto erys adgof byw o wen siriol, geiriau caredig, a derbyniad croesawgar Mr. Jones yn fy meddwl hyd y dydd hwn. Ac edrychwyf ar hyn fel ernest o ail gyfarfod etto mewn stad uwch a chyflwr gwell.

Yr oeddwn yn edrych ar Mr. Jones yn un neillduol am ei allu i weithio allan ei egwyddorion a'i olygiadau mewn modd didramgwydd i rai o syniadau gwahanol. A'r modd mwyaf didramgwydd yw y mwyaf argyhoeddiadol. Yr oedd yn Annibynwr penderfynol, ac ymdrechai daenu ei eg wyddorion fel y cyfryw yn holl gylchoedd ei lafur, a chafodd y fraint o weled ffrwyth mawr i'w lafur, a gwnai hyny yn y modd mwyaf didramgwydd i enwadau eraill. Nid hawdd oedd cael neb gymaint eu sectyddiaeth, "fel na dderbynient ef i dŷ." Yr oedd ei ddull ef o ymresymu mor dderbyniol, fel na waherddid iddo ef fwrw allan ysbrydion a gyfrifai yn aflan.

Yrydoedd hefyd yn Ymneillduwrcadarn mewn barna bywyd; ond yr oedd yn byw ymneillduaeth yn y cyfryw fodd, fel na allai y cydymffurfiwr mwyaf lai na'i hoffi. Er casau ei olygiadau, cerid ei ysbryd addfwyn, a'i gyfeillach ennillgar. Bu yn brofedigaeth lawer gwaith i fy meddwl i ei gyferbynu a'i gydlafurwr Morgans, o Fachynlleth, o herwydd yr annghyddarawiad oedd rhyngddynt. Yr oedd y ddau yn cydgyfarfod mewn egwyddorion, barn, a sel; ond yn dra gwahanol yn eu dull o weithio allan eu hegwyddorion. Yr oedd y gwr mawr o Fachynlleth yn nhanbeidrwydd ei dymer yn lladd ac yn llosgi ffordd y cerddai, ac yn digio llawer mwy nag oedd yn eu hargyhoeddi. Ond y gwr syml o Ddolgellau yn argyhoeddi mwy nag oedd yn ddigio. Yr oedd y naill yn dangos yn eglur ei fod yn ymosod o ddifrif ar ei wrthwynebwr, a bod yn ei fryd i chwalu ei holl amddiffynfeydd; ond y llall yn ymddangos heb na chleddyf na gwaewffon, ond gyda geiriau hamddenol a dull esmwyth, yn argyhoeddi ac yn ennill ei wrthwynebydd megys heb wybod iddo. Nid oedd ymosodiadau mwyaf effeithiol Mr. Jones ddim amgen na gofyniad caredig ar sail yr hyn a addefid gan ei wrthwynebwyr, ac felly ni theimlid, ond anfynych, ei fod ef yn wrthwynebwr. Yr oedd teimlad uwchafol y Parson, y Rector, a'r Deon yn pallu yn ei bresenoldeb ef, a derbynid ef fel brawd gan wyr yr urddau.

Yr oedd Mr. Jones yn Rhyddfrydwr goleuedig; ond nid hyny oedd yn tynu fy sylw, oblegid yr oedd llawer mor Rhyddfrydol ag yntau. Ond i mi yr ymddangosai yn neillduol yn ei fedr i ddystaw dynu o dan sylfaen caethiwed gwladol a chrefyddol, a hau had rhyddid yn y cyfryw fodd fel na allai yr arch orthrymydd gael achos i achwyn arno. Pe buasai ei dull ef yn cael ei arfer yn fwy, diau y byddai mwy o dda yn cael ei wneyd, a llai o brofedigaethau yn cael eu dwyn.

Yr oeddwn bob amser yn edrych arno fel un ag yr oedd y frawdoliaeth weinidogaethol yn gysegredig iawn ganddo. Yr oedd yn anwylu yr holl frawdoliaeth, ac yn cael ei anwylu gan ei holl frodyr, heb un yn gallu edrych yn isel arno, na neb a'i hadwaenai yn ei gyfrif yn rhy uchel i nesu ato gyda hyder. Diau ei fod yn canfod rhagor rhwng brawd a brawd, ond nid rhagoriaethau swyddol, ond y swydd oedd sail ei frawdgarwch. Yr oedd ei lygad mor siriol, a'i law mor barod i'r naill frawd ag i'r llall. Digon tebyg ei fod yn credu etholedigaeth yn y pwnge hwn hefyd, ond nid oedd ei etholedigaeth ef yn cynwys gwrthodedigaeth. Nid wyf yn rhyfeddu ei fod yn credu nad oedd etholedigaeth Duw pob gras, yn golygu gwrthodedigaeth, o herwydd ni wyddai am deimlad felly yn ei fynwes ei hun. Yr oedd Mr. Jones yn nodedig yn ei frawdgarwch yn mhob man, gartref ac oddi cartref. Y mae yn hawddach bod yn frawdol a siriol wrth ymweled, nag wrth dderbyn ymwelwyr; ond cafodd pawb a gafodd gyfleusdra i ymweled a Chefnmaelan, ei gartref, brawf ei fod yn helaeth yn y gras o letygarwch. Nid pob amser ag y ceir llety y ceir ef gyda chariad. Ond yr oedd cartref Mr. Jones yn cael ei ddedwyddu a chariad, fel y teimlai y lletywr ei fod gartref.

Ni welais neb erioed yn fwy cyflawn yn llanw y cymmeriad o fod yn gydostyngedig a'r rhai iselradd. Yr oedd yn rhy fawr i beidio bod yn ostyngedig, ac yn rhy uchel i ddewis y lle uchaf. Nid gostyngeiddrwydd celfyddydol oedd yr eiddo ef, ond yr oedd mor naturiol a gostyngeiddrwydd plentyn. Yr oedd mor bell o fod yn wasaidd fel na theimlai yn wahanol mhresenoldeb pendefig, nag yn nghyfeillach y mwyaf cyffredin, pa un ai natur ai gras oedd fwyaf amlwg yn ei ostyngeiddrwydd, nid wyf am benderfynu, ond yr wyf yn sicr fod y naill yn mawrhau y llall, ac etto y naill megys yn ymgolli yn y llall.


Yn y cylch mwyaf adnabyddus o hono, yr oedd Mr. Jones yn cael ei barchu fwyaf. Nid poblogrwydd "gwr dyeithr" ydoedd yr eiddo ef, ond poblogrwydd gwr adnabyddus: a'r rhai mwyaf adnabyddus o hono a'i hoffai fwyaf. Yr oedd ei gyfeillach a'i weinidogaeth fel bara beunyddiol, yr hwn ni flinid arno, oddieithr fod ychydig wedi ei golli. Pe dywedid i mi fod rhyw rai heb fod yn hoffi Mr. Jones, dywedwn innau, nad oeddent iach, neu eu bod heb ei adnabod. Y mae llawer yn myned yn llai wrth gydnabyddu â hwynt, ond efe a fwyhai. Gallu mawr yw gallu dal ymgydnabyddiad.

Cefais gyfleusdra fwy nag unwaith, i sylwi ar fedr Mr. Jones i gyfryngu rhwng pleidiau ymrysongar. Cof genyf am un a gynghorai i beidio cyfryngu rhwng rhai a fyddai yn gyfeillion i ni, rhag eu gwneyd yn elynion; ond os cyfryngem, am i ni gyfryngu rhwng ein gelynion, o herwydd y byddem yn debyg o wneyd un blaid yn gyfeillion. Ond am Mr. Jones, nid oedd fawr o berygl iddo ef wneyd gelynion iddo ei hun; ac nid aml y byddai yn methu gwneyd eraill yn gyfeillion i'w gilydd. Er ei fod wedi gweled dyddiau cynhyrfus, ac iddo gael ei alw lawer gwaith i geisio gostegu terfysgoedd, etto ni chollodd ei nodwedd fel mab tangnefedd; ond hyd yn nod pan yn methu heddychu rhwng brodyr, gadawai argraff ar eu meddwl ei fod yn gwir ddymuno eu lles, ac mai dyn gwirionedd a heddwch ydoedd, ac nid dyn plaid. Y mae y ffaith fod heddwch wedi teyrnasu trwy gylch eang ei weinidogaeth ar amseroedd enbyd, pan oedd terfysgoedd yn ei chylchynu oddeutu, yn llefaru mwy nag y gall neb ysgrifenu, am ei allu i gadw heddwch a thangnefedd rhwng brodyr.

Ofnwyf fod fy llythyr wedi myned yn rhy faith eisoes; ond nis gallaswn ddywedyd llai, a dywedyd dim o gwbl. Nid wyf chwaith wedi nodi y pethau uchod, am fy mod yn meddwl mai yn y pethau hyn yr oedd ei brif ragoriaethau; ond o herwydd mai y pethau a nodais oedd wedi cael fy sylw i yn benaf.

Ydwyf &c

S Edwards

Machynlleth

PENNOD XIX.

BARDDONIAETH.

Clywsom y byddai ein hybarch gyfaill, Cadwaladr Jones, yn cyfansoddi ambell Emyn yn achlysurol. Cawsom olwg ar rai o honynt: ond nid ydym yn meddwl fod ganddo dalent i ragori fel cyfansoddwr, yn y llwybr hwnw. Ac yn wir, gorchwyl anhawdd iawn ei wneyd yn dda ydyw cyfansoddi caniadau at wasanaeth y cyssegr. Mae llawer wedi bod yn cynyg arno; ond ychydig a'i cyflawnodd yn deilwng. Y pennill canlynol yw y peth goreu a welsom ni o waith Mr. Jones,—

"Gwawria dydd y Jubili,—
Derfydd pechu,
Gwelir eiddil fel myfi,—
Eto'n canu:
Gyda chyfaill gwell na brawd,—
Mewn caledi;
Llawenha fy enaid tlawd,—
Yn ei gwmni."

Wele yn canlyn ychydig o ddarnau barddonol, er cof am gyfansoddwr y penill uchod. Nid ydynt ond ychydigo ran nifer; ond y maent yn emau yn eu ffordd. Cyfansoddwyd hwy gan wyr oedd yn dra chydnabyddus a'r Hen Olygydd, ac a'i gwir barchent.

Dyna Gristion daionus—wedi dal
Hyd y dydd yn drefnus;
Pregethwr oedd, pur goethus,
Glan ei rawd,[3] gelyn yr us.

Geiriau iachus heb eu gwrychu—a geid
Gydag ef i'n dysgu;
Nid oedd ef i'w nodweddu
Yn wr cul farn—oracl fu.

Am un mwy ei amynedd,—a'i synwyr,
Nid oes son drwy'r Gogledd;
Ni ddaeth cyffro i siglo sedd
Ei ddeall hyd ei ddiwedd.


Dysgawdwr drwy'r Dysgedydd—a fu ef,
Fel ei brif Olygydd;
Terfynai ddadl—dadl y dydd,
Heb wyrni'n deg fel barnydd.

Gweinidog i'w hynodi—am lewyrch,
Am lawer o deithi;
Ei ddawn ef roddai i ni,
Olynol, ryw oleuni.

Ni fyddai wrth roi'i feddwl—am esgyn,
Am wisgo rhyw gwmwl,
Drwy'i daith, gadawai i'r dwl
I nofio'n mro y nifwl.

Dilewyrch, ffol chwedleuon—ni fynai;
Neu fân ystorïon
Na blodau gwyneb lwydion
I "wneud hwyl"—na chanu tôn.

Carai hwyl, os cai 'i rheoli—yn ddoeth,
Gan ddawn heb ddim ffwlbri;
Nid yr hwyl, os hwyl yw hi,
Yr annoeth i wirioni.

Heb ing wynebai angau:—ei gred oedd
Yn gry' dan law Meichiau;
Yr oedd e'n cael ei ryddhau
Yn ara' 'n ei synwyrau.

Newid gwedd, nid newid gwaith—fu iddo;
O'i fodd ai i'w ymdaith;
Newid lle, er deall iaith,
Y wlad sydd yn ddilediaith.

Yn gwywo heb un gwewyr—i'w wel'd oedd,
Fel y dail yn Rhagfyr ;
I'w enaid fyn'd i awyr
Heb ddiwedd byd, heb ddydd byr.
——CALEDFRYN.

——0——

ETTO.

A!'r hen wron coronog—ti aethost
Tithau at ardderchog
Le dewisol Dywysog,—y mawr lu—
Y cywir deulu a'r côr dihalog!


Gyda'r arch, gwedi hir orchwyl—yr oes
Barhai mewn serch anwyl;
I'th alw ato 'i gadw gŵyl,
Doi 'n Iesu ar bryd noswyl.

O fewn ei lys i fwynhau y wledd—bur
Bery mewn digonedd;
O galon hael, gloe'wi'n hedd,
Rhagorol ford trugaredd.

Hiraethaist amryw weithiau—am weled
Miloedd y telynau;
A'r Prynwr, pur ei enau,
Sef yr Hwn sy' i'w fawrhau.

Ar y geulan er gwylio—yr adeg,
Roed i groesi yno;
Nid rhyfedd iti rifo,
Gan fraint, enwogion y fro.

Jones a Williams, bob amser—a Roberts,
Rhai wybu dy bryder;
A Morgan, un anian,—er
Na henwn mo eu hanner.

Efallai i'r hen gyfeillion—ddyfod
Hyd ddwfr glyn cysgodion,
Gan ddisgwyl codi 'r hwyl hon,
Neu rwyfo drwy yr afon.

Yn galonawg 'nol glanio—bu ysgwyd,
A bu wasgu dwylo;
A chan swyn clych yn seinio,
Difyr iawn oedd gwel'd y fro.

Synu, rhyfeddu, fu'n faith—yn ngolwg
Angylaidd orymdaith;
Melus ymgomio eilwaith,
Erbyn d'od ar ben y daith.

I'th arwain, doi 'r rhain, drwy hedd—er sengyd
Gorsingau yr orsedd;
Am olwg ar amlwg wedd
Yr Oen a'i ddwyfol rinwedd!

Wele golled i Ddolgellau,—na adfer
Un odfa'n ein dyddiau;

Ba gawr, o debyg eiriau,
Yn abl a eill ei chwblhau?

Diau argyfyd rhyw gofion—bellach,
O'i bwyllus gynghorion;
Urddir teml Brithdir o'r bron,
A'i lwch aur fel ei choron!

——GWALCHMAI.



ETTO.

Hen weinidog i'r Ion ydoedd—gŵr Duw
Gŵr doeth ei weithredoedd ;
Dyn cyflawn a gawn ar g'oedd,
Pwy ablach i drin pobloedd?

Iraidd fu ei holl gynghorion—a threfn
Wrth raid fu yn Seion;
Ni bu'i ail mewn helbulon,
Cymmodai, distawai'r don.

Cadarn yn ei farn a fu—a llewyrch
Galluog yn Nghymru;
Pregethodd, galwodd yn gu,
Toau isel at Iesu.

Tra Cader Idris, tra sisial—Wnion
Ar fynwes yr ardal;
Arhosa fel claer risial,
Ei enw yn deg—byth yn dàl.

——IDRIS FYCHAN.



ETTO.

Am Cadwaladr y mae cydwylo—mawr,
Meirion sy'n gofidio;
Mae'n yngan nad man ango'
Fydd oer dir ei feddrod o.

Cenad Ner, gwir ladmerydd—fu y gŵr,
Ni fu gwell arweinydd ;
Un o'i fath mwyach ni fydd
Yn mro enwog Meirionydd.

Hyd ei arch ca'dd ei barchu—trwy fodd,
Torf fawr ddaeth i'w gladdu,
A dydd i'w anrhydeddu
Ydoedd hwn, y dwthwn du.

Llansilin—— R. DAVIES.

PRYDDEST.

Ar edyn mellt êhed newyddion trwm
O Walia gu wna'm calon fel y plwm,
Ar ol llifeiriawg li a dirfawr wlaw,
Cymylau du a thymestl eto ddaw,
Ow Gymru hoff lle mae fy serch a mryd,
Hen ser dy wlad syrthiasant bron i gyd;
Prin cafodd Phillips gu hawddgaraf wedd,
Gael adeg fer i oeri yn ei fedd,
Cyn cael y newydd trist fod Aubrey fawr
Mewn tawel fedd ar waelod daear lawr.
Mae angau fel tan lw rwy'n credu'n awr
Y myn ef dori'r cedrwydd oll i lawr.

Ac yn eu mysg, a'r mwyaf oll i mi,
(Fy nhad, fy nhad, mae'm llygaid fel y lli,)
Yr hybarch Jones, Dolgellau, wedi 'i waith,
A aeth o'r byd i dir y mwynfyd maith,
Ni bu hawddgarach dyn mewn unrhyw wlad
Fel cyfaill hoff, a phriod, brawd, a thad;
Dyn pwyllog oedd, arafaidd, llawn o swyn,
Diddichell a diweniaeth er yn fwyn;
Dyn cryf ei farn, diragfarn cywir fu,
Fel athraw coeth a brenin doeth i'w dy;
Bu yn offeiriad hefyd trwy ei oes,
I'w deulu mawr, defnyddiodd waed y groes.

Rwy'n cofio'n dda ei iaith a'i dirion wedd,
A gwnaf a'r ganiad hon eneinio'i fedd;
Mi welais rai rhodresgar balch ac iach,
Rhu uchel ben i wel'd pregethwr bach,
Nid felly ef er iddo fod yn fwy,
Ac uwch ei ben na'r un o honynt hwy,
Ond cydymdeimlai ef a'r gwan tylawd
Heb g'wilydd ganddo'i alw ef yn frawd.

Yn annedd y Deildre, ger Castell Carn Dochan,
Y ganwyd y bachgen gynhyddodd yn ddyn,
Bu'n dringo llechweddau Llanuwchllyn yn fychan
Heb nemawr gymdeithion ond anian ei hun,
Awelon y bryniau wnai buro'r awyrgylch,
Hen drigfan hirhoedledd oedd cartref ei dad,
'Doedd yno ddim cynwrf na therfysg oddiamgylch,
Ond perffaith lonyddwch, tawelwch trwy'r wlad.


Ni chlywodd swn ond adlais creigiau crog
Yn gwatwar llais ac atteb cân y gog,
A ffurfiwyd delw'r ardal dawel hon,
Yn ail i natur, dan ei dawel fron,
A bu yn byw dros einioes faith heb wad
Y blaenaf yn ei bwyll o bawb trwy'r wlad.

Yn moreu'i ddydd cyn cyrhaedd ugain oed,
Heb ar ei wisg frycheuyn budr erioed,
Ymuno wnaeth ar g'oedd âg eglwys Dduw,
Ac ynddi bu heb fwlch tra bu ef byw;
A bu'n pregethu Crist a'i Ddwyfol glwy,
Dros drugain mlynedd faith a pheth yn hwy.

Nid rhuadrau croch dros greigiau
Trystfawr oedd ei ddoniau ef,
Ond rhyw afon ddofn ddidonnau
Lawn o ddylanwadau'r nef,
Medrus ydoedd yn wastadol
Am oleuo deall dyn,
Tyner, addfwyn, a deniadol,
Oedd ei eiriau bob yr un.

Fe fu'n ffyddlawn fel 'Golygydd,'
I'r Dysgedydd flwyddau hir,
Pleidio rhyddid, codi crefydd,
Wnaeth yn dawel trwy'r holl dir,
Er na chafodd o'r dechreuad
Gydweithrediad tyrfa fawr,
Mae holl Gymru a phob enwad,
Yn ei efelychu'n awr.

Y prif gynghorwr fu i'w frodyr gwiw
Mewn amser blin terfysgoedd eglwys Dduw;
Ni ddeuai dros ei wefus eiriau ffol,
Ni roddai neb 'r un addysg ar ei ol,
A chafodd hefyd weled cyn ei fedd,
Ei enedigol fro mewn perffaith hedd.

Ond daeth y dydd cyrhaeddodd ben ei daith,
Mwynhau y mae ei wobr am ei waith,
Digonwyd ef a dyddiau yn y byd,
Aeth at ei frodyr hoff i'w gartref clud.

Mae angau'n lladd y baban ar y fron,
Ni arbed ef y lanwaith wyryf lon,

Y canol oed gydgwympant tan ei gledd,
A'r henaint llesg-mae'n bwrw hwn i'r bedd.

Mae gan y dail prydferthion teg eu gwawr,
Eu hadeg pan y syrthiant oll i'r llawr,
A'r blodau cain gan rym y gogledd wynt
Cydwywo maent 'r un tymor megis cynt.
Yr haul a'r ser, wrth reol aent bob un.
Ond angau fyn bob tymor iddo'i hun,
Ei ymerodraeth ef sydd dros y byd,
Pentyru mae bob gradd i'r bedd i gyd,
Ond gwelaf ddydd, O ryfedd ddedwydd awr,
Pan lwyr ddiddymir ei lywodraeth fawr,
Difodir ef, a'i gaethion oll ddaw'n rhydd,
Sain Haleluwia lòn dros byth & fydd.

Dodwyd corff ein Hathraw tirion,
Gan ei feibion yn ei fedd,
Hawdd oedd gwel'd teimladau 'u calon,
Wrth eu gwyw grynedig wedd;
Chwech o frodyr oll mewn oedran
Wedi dewis Duw eu tad,
Dyma dystion o'i gymmeriad,
A'i ddylanwad yn y wlad.
DAVID PRICE.
Newark, Ohio.

——0——

HIR A THODDAID.

Yr 'Hen Weinidog' enwog i Wynedd
A'i uniawn rodiad oedd yn anrhydedd ;
Er heb fawr rym ehedlym hyawdledd
I wahodd sylw, ceid ganddo sylwedd:
Agorai i enaid y gwirionedd,
Mewn arfaeth a rhagoriaeth trugaredd;
Angeu wnai ofid am fab tangnefedd,
A phur ŵr anwyl—coffeir ei rinwedd;
Mwy'n ei barch ca mewn bedd-'esmwyth huno,'
Nes ei ail uno o'i isel annedd.
Ar ddydd ei angladd.
IEUAN IONAWR


PENNOD XI.

DYFYNIADAU ALLAN O BREGETH A DRADDODWYD YN NGHAPEL PENDREF, LLANFYLLIN, RHAGFYR 22, 1867, AR ACHLYSUR O FARWOLAETH Y PARCH. C. JONES,

GAN Y DIWEDDAR BARCH. D. M. DAVIES.

"Ni frysia yr hwn a gredo."

Yn y cyfnod rhwng marwolaeth yr Hybarch Jenkin Lewis, yn 1805, ac urddiad y Parch. Mr. Roberts (wedi hyny o Ddinbych) yma yn y flwyddyn 1810, arferai Mr. Jones, pan yn wr ieuangc newydd ddechreu pregethu yn Llanuwchllyn, ddyfod i Lanfyllin yn fynych i gynnorthwyo yr eglwys Annibynol. Os da yr ydym yn cofio, dywedodd wrthym, ei fod yn pregethu yn fisol yma am rai blynyddau. Efe hefyd ydoedd y diweddaf a wrthwynebwyd yn gyhoeddus gan erlidwyr crefydd yn y gymydogaeth hon, a fuasai yn enwog am erlidwyr oddiar amser James Owen, William Jervis, John Griffiths, a Jenkin Lewis. Mae yn gofus gan rai o honoch am yr Hybarch C. Jones ar y maes cyfagos yn pregethu yn y cyfarfod blynyddol, pan ddaeth gwr o'r wlad heibio, ac a geisiodd aflonyddu ar y cwrdd, atal Mr. Jones i bregethu, a dirmygu a gwawdio'r gynnulleidfa am adael dyledswyddau a gorchwylion bywyd, i ddyfod i wrando ar y fath ffiloreg. Ni wnaeth y pregethwr na'r gwrandawyr un sylw o hono; ond ni chafodd ddiange yn ddigosp, canys o'r braidd y cyrhaeddodd adref, cyn iddo syrthio yn farw! Dyna y trydydd o erlidwyr Llanfyllin a fu farw yn sydyn, ac o dan amgylchiadau gresynus. Heblaw a nodwyd, yr oedd yr Hybarch Jones o Ddolgellau, yn y blynyddau diweddaf, yn ymweled a ni yn fynych. Yr oedd yn dda genym oll ei weled a'i glywed, ac y mae coffadwriaeth y cyfiawn hwn yn fendigedig yn ein plith.

Yn ol yr hyn a wyddom yn bersonol am dano, a'r hyn a glywsom ac a ddarllenasom yn ei gylch, credwn fod geiriau Esaiah, yn y gwahanol gyffeithiadau ac ystyron a roddir iddynt, yn bur gymhwysiadol i'w gymmeriad crefyddol a gweinidogaethol.

Mae cyfieithiad y Deg a Thriugain, "Ni CHYWILYDDIA yr hwn a gredo," yn dra chymhwysiadol ato. "Ni chywilyddiodd" ymuno a chrefydd a'i harddel o dan amgylchiadau anffafriol. Yr oedd ei rieni yn ffermwyr cyfoethog, ac yn bobl barchus yn y gymydogaeth, yn ol tystiolaeth hen chwaer sydd yma yn bresenol, a anwyd yn yr un flwyddyn a'r Hybarch C. Jones yn Llanuwchllyn, ac a ddaeth at grefydd oddeutu yr un amser ag yntau yn yr un lle. Eithr dywed Margaret Jones (canys dyna enw y chwaer) nad oeddynt yn proffesu crefydd, er eu bod weithiau yn dyfod i "Hen Gapel" Llanuwchllyn. Yr oedd ei dad yn neillduol, nid yn unig yn ddibroffes o grefydd, ond dipyn yn ddibris o'r sobrwydd a'r difrifoldeb y mae'n ofyn gan ddynion. Yr oedd hela yn ddifyrwch mawr ar y pryd i amryw yn nghymydogaeth Llanuwchllyn, ac yr oedd yntau yn cymeryd rhan weithgar iawn yn y cyfryw ddifyrwch, gan ei ystyried, efallai, yn adfywiad i gorff ac yn adloniad i feddwl. Siaradai, gan hyny, i raddau yn gellweirus am ymddygiad ei fab ieuangc yn gogwyddo at fod yn ddifrifol, ac yn ymboeni yn nghylch crefydd y capel; (canys y mae crefydd y capelwyr, rywsut, yn mhob oes, yn fwy annghydweddol a hela, pysgota, dawnsio, a chwareuon o bob math, na chrefydd y Llanwyr), ac o'r braidd na ddywedai, y byddai yn well ganddo weled y bachgen yn troi allan i hela, nag edrych arno yn myned i gyfeillach y crefyddwyr yn yr "Hen Gapel." Yr oedd y ffaith fod y rhieni yn ddibroffes, yn peri i'r mab gwylaidd deimlo yn swil i broffesu crefydd; ac yr oedd ymadroddion digrifol ei dad, hyd yn nod pan yn ymddyddan am bethau cysegredig, yn brofedigaeth iddo oedi i'w harddel. Ymddengys, fodd bynag, na fu уц hir cyn tori y ddadl a gorchfygu ei swildod. Cafodd gymhorth i ymwasgu a'r dysgyblion gan awel o adfywiad crefyddol oedd yn chwythu trwy yr ardal, yn ngrym yr hon y darfu iddo ef ac amryw eraill o'i gyfoedion, amlygu yn gyhoeddus nad oeddynt yn "cywilyddio" arddel Mab Duw ac ufuddhau i'w orchymynion.

Nid oes amheuaeth genym fod rhieni annghrefyddol yn rhoddi achlysur i'w plant "gywilyddio " gwneyd proffes gyhoeddus o grefydd ger eu bron; ac y mae gan y cyfryw gyfrifoldeb arswydus i'w roddi am eu hymddygiad: oblegid y maent mewn rhyw ystyr yn tebygu i'r rhwystrwyr y cyfeirir atynt yn y geiriau, "A phwy bynag a rwystro un o'r rhai bychain hyn, a gredant ynof fi, da fyddai iddo pe crogid maen melin am ei wddf, a'i foddi yn eigion y môr." Os yw y darllenydd mor anffortunus a bod yn blentyn i rieni diweddi, neu yn byw mewn teulu annghrefyddol, na fydded iddo o herwydd hyny fod yn rhy swil i "arfer duwioldeb gartref;" eithr yn hytrach, efelyched Abiah bach yn nhy Jeroboam, Cadwaladr Jones, a channoedd o bobl ieuainge cyffelyb iddynt, gan gofio geiriau'r Iesu, "Pwy bynag a fyddo gywilydd ganddo fi a'm geiriau yn yr odinebus a'r bechadurus genhedlaeth hon, bydd cywilydd gan Fab y dyn yntau hefyd, pan ddel yn ngogoniant ei Dad, gyda'r angylion santaidd."

"Ni chywilyddiai" ymgymeryd a phregethu yr efengyl, ac ymgyflwyno i'r weinidogaeth Ymneillduol. Efe oedd yr unig fab, ac yr oedd ei rieni yn awyddus iawn am iddo aros gartref gyda hwy, a'i ddwyn i fyny yn amaethydd parchus a chyfoethog. Am hyny, yr oeddynt yn benderfynol yn ei erbyn i ymwneyd dim a phregethu, a gwrth-annogent ef yn fawr i ymroddi i'r weinidogaeth. Nis gwyddom pa un ai anfoddlonrwydd i'w golli oddicartref, ai yr ystyriaeth nas gallasai ymgyfoethogi a "chymeryd byd da yn helaethwych beunydd" yn y weinidogaeth Ymneillduol, oedd yn cymhell yr hen bobl i ymddwyn felly; efallai fod y naill a'r llall o'r ystyriaethu hyn yn dylanwadu ar eu meddyliau. Diau fod y mab hefyd wedi eistedd i lawr, bwrw y draul, a chanfod mai nid maes gobeithiol iawn i ymgyfoethogi yn y byd ydoedd y weinidogaeth; ac yn ddiamheu y gwyddai fod dynion o ysbryd bydol a syniadau daearol yn arferol, oddiar dyddiau yr apostolion, o gyfrif gweinidogion ffyddlon yr efengyl "fel ysgubion y byd a sorod pob dim." Ond yn ngwyneb y cwbl, teimlai y gwr ieuangc rywbeth yn debyg i Paul pan ddywedodd, "Nid wyf fi yn gwneuthur cyfrif o ddim, ac nid gwerthfawr genyf fy einioes fy hun, os gallaf orphen fy ngyrfa trwy lawenydd, a'r weinidogaeth a dderbyniais gan yr Arglwydd Iesu, i dystiolaethu efengyl gras Duw." Credai mai nid tymhorol, ond ysbrydol a nefol, oedd gwobrwyon y weinidogaeth Gristionogol; a barnai fod "angenrhaid wedi ei osod arno, ac mai gwae fyddai iddo oni phregethai yr efengyl." Ymwrolai, gan hyny, ac elai o gwmpas y wlad yn ysbryd yr apostol, a dywedai wrth y werin, yn ei ymddygiad, megys yntau, “Hyd y mae ynof fi, parod ydwyf i bregethu yr efengyl i chwithau hefyd y rhai ydych yn Nghymru. Canys nid oes arnaf gywilydd o efengyl Crist, oblegid gallu Duw yw hi er iachawdwriaeth i bob un a'r sydd yn credu."

Gallwn ddeall paham y mae amaethwyr cyfrifol a masnachwyr cyfoethog, nad ydynt yn gwneyd proffes o grefydd nac yn cymeryd un drafferth yn ei chylch, yn wrthwynebol i'w meibion ymgymeryd a'r weinidogaeth yn mysg yr Ymneillduwyr. (Mae llawer o honynt yn ymdrechu eu goreu i'w dwyn i fyny i weinidogaeth yr Eglwys Sefydledig, o herwydd rhesymau eglur). Eithr mae yn anesboniadwy bron paham y gwelir can lleied o feibion yr un dosbarth mewn cymdeithas, ag sydd yn ymddangosiadol yn grefyddwyr gweithgar, bywiog, a llafurus, yn ymgysegru i'r weinidogaeth. Ychydig, mewn cyfartaledd, a ganfyddir o'r cyfryw yn ymgyflwyno i'r weinidogaeth yn ein mysg. Mae yn agos yr oll o'n gweinidogion a'n myfyrwyr yn dyfod oddiwrth y dosbarth gweithiol ac o blith y tlodion, tra y gwelir yn fynych dri, neu bedwar, neu bump o feibion yn cael eu dwyn i fyny yn mhob parth o'r wlad, gan rieni o'r dosbarthiadau cyfoethog yn ein heglwysi, heb gynifer ag un o honynt yn ymgyflwyno i'r weinidogaeth Gristionogol. Dygir hwynt oll i fyny yn ffermwyr, neu yn fasnachwyr, neu i ryw alwedigaeth arall a dybir yn ennillfawr. Dywedir fod amryw o honynt yn cael eu digaloni i ymaflyd yn y weinidogaeth gan y syniad cyfeiliornus, nad yw gweinidogion ddim yn annibynol yn eu hamgylchiadau. Y gwir yw, nid oes un dosbarth yn fwy annibynol yn y wlad na gweinidogion yr Ymneillduwyr. Tra mae y ffermwyr yn cael eu gyru yn groes i argyhoeddiad eu cydwybodau, ar ddydd yr etholiad, o flaen eu tirfeddianwyr; a'r masnachwyr yn ofni pleidleisio dros y naill na'r llall o'r ymgeiswyr, rhag digio eu cwsmeriaid, gwelir y gweinidogion yn gweithredu yn rhydd ac annibynol, ac yn gosod urddas ar ddynoliaeth yn nghanol yr ymdrechfa. Ac nid oes un yn fwy parchus, ac yn sicrach o faes llafur a chynnaliaeth iddo ei hun a'i deulu, na gweinidog da i Iesu Grist." Mae hyn mor amlwg ac anwadadwy, fel nad oes eisiau ond eu crybwyll yn unig. A phe na fyddai felly, a yw ein teuluoedd cyfoethog a chyfrifol mor amddifad o ysbryd hunanymwadu er mwyn yr efengyl, ac mor brin o ffydd yn Rhagluniaeth Duw, fel y dianogant eu meibion, ac yr annghynghorant eu merched a'u chwiorydd, i ymgysegru i'r cylch gweinidogaethol? Os ydynt, dymunwn eu cyfeirio at gân Hannah, (1 Sam. ii. 1-11), yr hon a roddodd, nid mab o dri, neu bedwar, neu bump o feibion, ond ei hunig fab, "i'r Arglwydd holl ddyddiau ei einioes," gyda pherffaith gydsyniad ei dad: canys "Elcanah a aeth i Ramah i'w dy; a'r bachgen a fu weinidog i'r Arglwydd ger bron Eli yr offeiriad." Gallai Mr. Jones hefyd ddywedyd fel Paul, "nid oes arnaf gywilydd o efengyl Crist."

"Ni chywilyddiai" arddel a chefnogi ei egwyddorion fel Ymneillduwr. Yr oedd bob amser gyda'r blaenaf yn cefnogi mesurau o duedd i sicrhau eu hawliau gwladol, eu hiawnderau bwrdeisiol, a'u breintiau crefyddol, i'r Ymneillduwyr, fel y gwelir yn y Dysgedydd yn ystod yr amser y bu dan ei olygiaeth. Cymerodd ran weithgar o blaid diddymiad Deddfau Prawf a Bwrdeisiaeth, ddeugain mlynedd yn ol. Cefnogodd yn fywiog Ryddfreiniad y Pabyddion; daeth allan a'i holl egni dros Fesurau Cofrestriad o Enedigaethau, Priodasau, a Marwolaethau; a Gweinyddiad o Briodasau gan yr Ymneillduwyr, yn 1836. A bu yn gefnogwr ffyddlon a chyson i egwyddorion ac amcanion Cymdeithas Rhyddhad Crefydd, o'i ffurfiad, yn 1844, hyd derfyn ei oes. Cawsom brawf o'i sel dros y Gymdeithas dan sylw droion, nid yn unig mewn gair, ond hefyd mewn gweithred. Oddeutu saith mlynedd a haner yn ol, ymwelsom ni a'r Parch. W. F. Galloway, Birmingham, â threfydd Maldwyn a Meirion, dros y Gymdeithas'; a phan gyrhaeddasom Ddolgellau, nid oedd y parotoadau disgwyliedig, fel yn y lleoedd eraill, wedi eu gwneyd. Pan welodd yr Hybarch Cadwaladr Jones hyny, ymddangosai yn ofidus iawn; ac er ei fod wedi rhoddi i fyny ei ofal gweinidogaethol yn y dref i'w olynydd, y Parch. Thomas Davies, dywedodd wrthym na chawsem ymadael heb gael cyfleusdra i anerch y bobl ar amcanion ein hymweliad. Sicrhaodd fenthyg capel yr Annibynwyr i ni, anfonodd allan y town crier, a thrwy ei ymdrech ef a'r Parch. Henry Morgan, a chydweithrediad amryw gyfeillion eraill i'r Gymdeithas, cafwyd un o'r cyfarfodydd mwyaf bywiog, os nid mor luosog, a gawsom ar y daith hono. Y tro diweddaf yr ymwelsom a Dolgellau, ar ran y Gymdeithas, oedd y waith olaf i ni weled yr hybarch batriarch. Yr oedd ar ei glaf wely, a'r "clefyd i farwolaeth" wedi ymaflyd ynddo. Dywedai fod yr achos oeddwn yn ei gylch yn bwysig, ac yn sicr o lwyddo, ac amlygai ei ofid am nad allai ddyfod gyda ni i'r cyfarfod; eithr fe wnaeth yr hyn a allodd ar y pryd i'r Gymdeithas, sef ceisio gan ei fab i fyned i'w logell a rhoddi y swm a arferai danysgrifio at y Gymdeithas. Edrychai arni, nid fel rhywbeth Seisnig, ond fel sefydliad a ddylai gael cydymdeimlad y Cymry yn anad neb, y rhai ydynt oll bron yn proffesu ei hegwyddorion. Ystyriai gefnogi ei hamcanion, yn rhan o ddyledswyddau gweinidogaeth yr efengyl. Tra na ddywedai ddim yn erbyn i'w frodyr yn y weinidogaeth i dreulio rhan o'u hamser i gystadlu am y Gadair, &c., yn yr Eisteddfod Genhedlaethol, barnai y gallent dreulio rhan hefyd o'u hamser, yr un mor wasanaethgar i'w cenedl ac i achos y Gwaredwr, gydag egluro egwyddorion, dadleu dros amcanion, ac argymhell hawliau Cymdeithas Rhyddhad Crefydd Iesu Grist oddiwrth nawdd a rheolaeth y llywodraeth wladol. Gwyddai fod gan y Gymdeithas waith mawr i'w gyflawni, ac y gofynai gryn amser i'w orphen, oddiar y ffaith fod yr ymdrech am oddefaint crefyddol wedi parhau gan' mlynedd, a'r ymdrech am ryddid crefyddol gan' mlynedd yn ychwanegol; a bod yr Ymneillduwyr wedi ymdrechu gant a deugain o flynyddau cyn iddynt lwyddo i gael gan y Senedd i ddiddymu Deddfau gormesol Prawf a Bwrdeisiaeth. Yr oedd o'r farn, gan hyny, na ddylai un Ymneillduwr oedi datgan ei hun yn ffafriol i'r Gymdeithas, na chywilyddio arddel ei hegwyddorion, a chefnogi ei hamcanion. Tybiai y byddai y fath oedi a chywilyddio, nid yn unig yn annghyson a'i broffes, ac yn ddiystyrwch ar y goddefiant a'r rhyddid crefyddol a sicrhawyd i ni trwy ymdrechion dibaid ein teidiau a'n tadau, ond hefyd o duedd i daflu rhwystrau ar ffordd gorpheniad y gwaith a ddechreuwyd mor wrol, ac a ddygwyd yn mlaen mor benderfynol ganddynt hwy, sef diddymu pob cyfraith a ymwthiodd i ddeddf-lyfr ein gwlad, ag sydd yn dyrchafu y naill ddosbarth ac yn darostwng y llall o ddeiliaid y deyrnas, ar gyfrif eu syniadau crefyddol! Credai y patriarch o Ddolgellau fod egwyddorion yr Ymneillduwyr yn wirioneddol ac ysgrythyrol; ac felly, "Ni chywilyddiai" eu harddel ar bob adeg ac achlysur y gofynid iddo gan ei ddoethineb. Gan hyny, nid ydym yn rhyfeddu wrth ddarllen yn ysgrif "R. O. R.," yn y Tyst Cymreig, am y teimladau drylliog a amlygid gan bob plaid grefyddol ar ddydd ei angladd; ac am y parch a ddangosid iddo gan Eglwyswyr, ac hyd yn nod gan yr offeiriaid, o'r archddiacon i lawr; canys nis gall y natur ddynol, rywsut, er ei holl ddiffygion, lai na pharchu ac edmygu y gonest i'w, a'r cyson a'i broffes, tra mae yr anffyddlon i'w egwyddorion proffesedig yn gwneyd ei hun yn ddirmygedig yn ei golwg.

Mae yn iawn i ni obeithio am ddisgyniad deuparth o ysbryd Ymneillduol y patriarch ymadawedig ar weinidogion, swyddogion, ac aelodau eglwysi Annghydffurfiol Dolgellau, Meirion, a holl Ogledd Cymru; oblegid mae dydd y frwydr benderfynol, sydd i'w hymladd rhwng cefnogwyr crefyddau sefydledig a phleidwyr crefydd y Testament Newydd, wedi gwawrio eisoes. Mae y blaenaf, ar ol gweled aneffeithioldeb merthyru, poenydio, dirwyo, a charcharu yr Ymneillduwyr, i atal lluosogiad eglwysi rhyddion yn ein gwlad, yn dechreu defnyddio moddion teg i hudo encilwyr o fysg yr olaf; ac y mae yn bosibl i'r gwan, yr ansefydlog, a'r gwamal gael eu twyllo (megys y twyllwyd Efa gan y sarff, ac y twyllir llawer etto gan Satan yn rhith angel y goleuni), gan weniaith y curad, gwenau y vicar, ysgydwad llaw y periglor, a gwlaneni Nadolig yr yswain. Nid dyma y tro cyntaf iddynt ymddwyn yn wenieithgar at yr Ymneillduwyr, er cael eu cymhorth i gyrhaedd eu hamcanion personol. Wedi methu difetha yr Annghydffurfwyr yn nheyrnasiad Charles II., â Deddfau Unffurfiaeth, Ty Cwrdd, a Phum' Milldir, &c., troisant atynt yn wenieithiol i ddymuno eu cynnorthwy yn erbyn Iago II., pan dybient ei fod am Babeiddio y genedl, ac felly peryglu "gobaith eu helw." Eithr nid cynt y llwyddasant i gael cydweithrediad yr Annghydffurfwyr i ddadymchwelyd Iago II., ac y dyogelwyd iddynt eu manteision eglwysig, nag yr ymosodasant mor ffyrnig ag erioed yn erbyn iawnderau dinasol a breintiau crefyddol yr Ymneillduwyr, fel y gwelir yn ystod teyrnasiad y frenhines Ann, &c. Cofier y ffeithiau hyn, a chymerer addysg oddiwrthynt, yn ngwyneb y cynyg presenol i ddenu yr Ymneillduwyr a'u darbwyllo i ymuno yn erbyn cynydd Pabyddiaeth ac Anffyddiaeth yn yr Eglwys Sefydledig, yn hytrach nag yn erbyn y cysylltiad anachaidd ag sydd rhwng yr Eglwys hono a'r llywodraeth. Ond nid oes dyogelwch i'r Eglwys, tra mewn undeb a'r gallu gwladol; na sicrwydd y caiff yr Ymneillduwyr barhau yn y mwynhad o'u rhyddid presenol, tra y byddo y gallu offeiriadol mewn grym. Dyma brif elyn rhyddid drwy yr oesau. Yr oedd y gallu gwladol am ollwng y Gwaredwr yn rhydd; eithr mynai y gallu offeiriadol ei groeshoelio a'i ladd. Llawer o weithiau, ar ol hyny, y bu y blaenaf yn ffafriol i ryddhau ei ganlynwyr ffyddlon, pan gymerai yr olaf, yn ddieithriad bron, yr ochr wrthwynebol i'r ddadl. Mae yn ffaith hanesyddol fod yr offeiriaid, fel dosbarth, wedi bod yn wrthwynebol i ryddid y bobl, a bod y rhyddid yr ydym yn ei fwynhau yn awr wedi ei gael ar eu gwaethaf, trwy i'r Ymneillduwyr barhau i gynhyrfu y wlad yn ddibaid am o gwmpas tri chan' mlynedd. O ganlyniad, mae braidd yn ormod i'n natur dda ddyoddef clywed ambell i Ymneillduwr, mewn enw, fodd bynag, sydd yn mwynhau rhyddid i addoli yr Arglwydd, a gostiodd yn agos i dri chan' mlynedd o gynhyrfu ac aflonyddu y wladwriaeth, yn dyweyd, ei fod yn groes i'r wlad gael ei haflonyddu a'i chynhyrfu gan y cyfryw ydynt o ddifrif yn anog eu cydddeiliaid i gydymdrechu i dori y cysylltiad sydd rhwng y gallu offeiriadol a'r gallu gwladol, fel na byddo y blaenaf yn medru defnyddio yr olaf mwyach i gyfyngu ar ein hawliau dinasol a'n hiawnderau crefyddol. Tystiolaethodd ein Ceidwad bendigedig i'r gwirionedd ger bron Pilat, ac fe'i seliodd a'i waed. Gwnaeth y merthyron yr un modd, pe amgen, pa y buasai ein rhyddid gwladol a chrefyddol ni heddyw. Os rhoddasant eu bywyd i brynu i ni y bendithion hyn, ni ddylem rwgnach aberthu tipyn o esmwythder ac ychydig gysylltiadau cyfeillgarol, er mwyn eu hamddiffyn, eu heangu, a'u trosglwyddo i lawr i'n holafiaid. Cofier y wae a gyhoeddwyd ar y rhai sydd "esmwyth arnynt yn Seion," ac ystyrier y "felldith chwerw a daranwyd uwchben Meroz, am beidio dyfod allan i gynnorthwyo'r Arglwydd yn erbyn y cedyrn.

"Ein tadau," y rhai a ymdrechasant yn ddigywilydd a diflino o blaid iawnderau yr Ymneillduwyr yn ystod blynyddau boreuol y canrif hwn, "pa le y maent hwy?" Maent o un i un, oll bron, bellach, wedi eu claddu; ond na wawried byth y dydd ar ein hoffus wlad, pan fyddo eu sel santaidd dros eu hegwyddorion, a'u brwdfrydedd duwiol, yn eu hamddiffyn a'u lledaenu, yn cael eu claddu gyda hwy.




ARGRAFFWYD YN SWYDDFA'R TYST CYMREIG," LIVERPOOL.


Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.

 
  1. Taid Golygydd y Cofiant hwn.
  2. Nis gellais fyned i dalu y gymwynas olaf i fy hen frawd (er chwenychu hyny) o herwydd anhwyldeb corphorol, gan hyny, gadawaf i eraill oedd yn llygaid dystion o'i gladdedigaeth draethu hyny, yn nghyd a'i oedran, hyd weieinidogaeth, ac amryw bethau eraill.
  3. rhodiad