Goronwy Owen - Detholiad o'i Farddoniaeth (testun cyfansawdd)

Goronwy Owen - Detholiad o'i Farddoniaeth (testun cyfansawdd)

gan Goronwy Owen

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Goronwy Owen - Detholiad o'i Farddoniaeth

GORONWY OWEN


DETHOLIAD O’I FARDDONIAETH

LLYFRAU'R FORD GRON
RHIF 3

Wrecsam
Hughes a'i Fab

LLYFRAU'R FORD GRON

Golygydd: J. T. JONES

GWNAED AC ARGRAFFWYD YN WRECSAM

—————————————

RHAGAIR

DICHON mai Goronwy Owen oedd bardd gorau ei ddydd ym Mhrydain.

Yn 1723 y'i ganwyd ef, yn Llanfair Mathafarn Eithaf, Ynys Môn, ac am ran gyntaf ei oes helbulus drifftio tua Llundain y bu. Canys yno yr oedd calon y byd yn curo; yno yr oedd y cewri llenyddol—Pope, Dryden, Addison, John Dennis ac Ambrose Phllips. Yno hefyd yr oedd Richard Morris (un o Forrisiaid Môn) a Chymdeithas y Cymmrodorion. Nid prifddinas Lloegr oedd Llundain, ond prifddinas pedair gwlad.

Felly, ar ôl ei daflu o guradiaeth Llanfair Mathafarn Eithaf (oherwydd dymuno o Esgob Bangor ei rhoddi i ryw young clergyman of very great fortune), ac ar ôl iddo fod yn gurad yng Nghroesoswallt, lle y priododd; yn Uppington, ger Amwythig, lle y cyfansoddodd gywydd "Y Farn Fawr"; ac yn Walton, Lerpwl, lle y cyfansoddodd " Y Maen Gwerthfawr"; fe'i gwelwn ef tua 1755 yn gurad Northolt, gerllaw Llundain, a'i gariad at Fôn, oedd gynt mor angerddol, wedi oeri (gwell ganddo, meddai, na mynd yn ôl i Fôn fyddai byw ymysg" cythreuliaid Ceredigion, gyda Llywelyn [Morris] ").

Er bod rhyddiaith Goronwy Owen, yn ei lythyrau, ymhlith rhyddiaith orau'r Gymraeg (ac yn nhraddodiad Elis Wynne), fel bardd y mae'n enwog. Yr oedd wedi ei drwytho yn nhraddodiad llenyddol Cymru, a thra fu ef byw ym Mhrydain ni pheidiodd ag erfyn ar ei gyfeillion am lyfrau a gramadegau Cymraeg.

Yr oedd wedi ei drwytho hefyd yn y clasuron Groeg a Lladin. Gwelir ôl ei ddiwylliant clasurol yn ei ddewis o bynciau.

O wŷr ei oes, ymddengys mai Dennis a ddylanwadodd fwyaf arno. Un o osodiadau mawr Dennis oedd mai "yr un ydoedd amcan gwir grefydd a barddoniaeth." Yr oedd Goronwy yn fardd ac yn ofFeiriad, a diau y teimlai nad oedd neb cymhwysach nag ef i ddehongli i'w gydwladwyr yng Nghymru syniadau a thueddiadau'r oes. Dywed Mr. Saunders Lewis y rhedai meddwl y genhedlaeth honno at Ddydd y Farn; cyfansoddodd Goronwy, yntau, gywydd "Y Farn Fawr."

Efallai mai'r "Maen Gwerthfawr" ydyw cywydd gorau Goronwy Owen. Yr ymchwil am ddedwyddyd—ymchwil anochel dynol-ryw a gwir bwnc pob Ilenyddiaeth—ydyw ei thestun, a phrin y ceir ei hefelydd o ran yr angerdd, y gwibio o le i le, a bywyd y darlun sydd ynddi.

Y mae "Y Gwahodd" ac "Unig Ferch y Bardd" yn nodedig iawn am y mwynder a'r tynerwch sydd ynddynt, ac am berffeithrwydd eu ffurf; a'r cywydd "Hiraeth" am ei angerdd.

Bu rhaid i Oronwy ymadael â Llundain yn 1757; hwyliodd am America, i gymryd swydd mewn coleg yn Williamsburgh, Virginia. Canodd yn iach am byth i wlad ei eni, ac ymddengys iddo— feistr mawr barddoniaeth Gymraeg—ganu'n iach i'w awen hefyd, a throi ei gefn ar ei iaith. Daeth ei oes drallodus i ben yn 1769, yn New Brunswick—"alltud blin mewn anghynefin ddinas"—a chladdwyd ei weddillion ar lechwedd ymhlith y fforestydd yno.

Ond ymhell cyn ei farw ef yr oedd dawn a dull pennill a chân y werin a'r dafarn—y ddawn a'r dull a gasâi Goronwy â chas perfFaith—wedi eu troi yn gerbydau "clir anfarwol fflam" Williams Pantycelyn, a'r drws wedi ei agor ar wlad newydd barddoniaeth rydd Gymraeg.

—————————————

LLYFRAU AC ERTHYGLAU.

Llythyrau'r Morrisiaid: J. H. Davies.

Barddoniaeth a Llythyrau Goronwy Owen. (Isaac Foulkes, Lerpwl, 1895).

A School of Welsh Augustans: Saunders Lewis. (Hughes a'i Fab, 1924).

Cywyddau Goronwy Owen: W. J. Gruffydd. (Southall, 1907).

Erthygl y Parch. Dr. Hartwell Jones yn Y Ford Gron, Ebrill, 1931.

Erthyglau Mr. T. Shankland yn Y Beirniad, 1914—16.

CYNNWYS


Hiraeth am Fon

PAHAM i fardd dinam doeth,
Pergerdd, celfyddgar, purgoeth,
Ofyn cân a chynghanedd
Gan ddigrain was main nas medd?
Duw nef a ŵyr, dyn wyf fi
Dirymiant, Duw'n dŵr imi!
Dieithryn, adyn ydwyf,
Gwae fi o'r sud! alltud wyf,
Pell wyf o wlad fy nhadau,
Och sôn! ac o Fôn gu fau;
Y lle bûm yn gware gynt
Mae dynion na'm hadwaenynt;
Cyfaill neu ddau a'm cofiant,
Prin ddau, lle'r oedd gynnau gant,
Dyn didol dinod ydwyf,
Ac i dir Môn estron wyf;
Dieithr i'n hiaith hydraith hen,
Dieithr i berwawd awen.
Gofidus, gwae fi! ydwyf,
Wrth sôn, a hiraethus wyf;
Gan athrist frondrist fraendroch,
Ni chyngan hoyw gân ag och;
Mewn canu namyn cwynaw
Ni chytgais na Ilais na Ilaw.

Pobl anwar Pabyloniaid,
Dreiswyr blin, draws arw blaid,
O'u gwledydd tra dygludynt
Wŷr Seion yn gaethion gynt,
Taergoeg oedd eu gwatworgerdd:
"Moeswch ac nac oedwch gerdd."

"Gwae ni o'r byd dybryd hwn,"
Cwynant, "Pa fodd y canwn
Gerdd Iôn mewn tir estronol,
A'n mad anwylwlad yn ôl?
Ni bu, dref sorth tan orthrech,
Fy nhrem, am Gaersalem, sech;
Os hawdd yr anghofiais hi,
Dêl amorth yn dâl imi;
Anhwyhed fy neheulaw,
Parlys ar bob drygfys draw,
A'm tafod ffals gwamalsyth,
Fferred yn sych baeled byth."

Llyna ddiwael Israeliad!
Annwyl oedd i hwn ei wlad;
Daear Môn, dir i minnau
Yw, o chaf ffun, ei choffáu.
Mawr fy nghwynfan amdani,
Mal Seion yw Môn i mi;
O f'einioes ni chaf fwyniant
Heb Fôn, er na thôn na thant;
Nid oes trysor a ddorwn,
Na byd da'n y bywyd hwn,
Na dail llwyn, na dillynion,
Na byw hwy, oni bai hon.
Troi yma wnaf, tra myn Nêr,
O'm hedfa, oni'm hadfer;
Duw nefol a'm deoles,
Duw'n rhwydd im, a llwydd, a lles;
Crist Dwysog, Eneiniog nef,
Cedrwydd, a'm dyco adref.

Walton 1753

Y Maen Gwerthfawr.

CHWILIO y bûm, uwch elw byd,
Wedi chwilio, dychwelyd;
Chwilio am em berdrem bur,
Maen iasbis, mwy annisbur;
Hynodol em wen ydoedd
Glaerbryd, a DEDWYDDYD oedd.
Mae, er Naf (harddaf yw hi),
Y gemydd a'i dwg imi?
Troswn, o chawn y trysor,
Ro a main daear a môr;
Ffulliwn hyd ddau begwn byd,
O'r rhwyddaf i'w chyrhaeddyd;
Chwiliwn, o chawn y dawn da,
Hyd rwndir daear India,
Dwyrain a phob gwlad araul,
Cyfled ag y rhed yr haul;
Hyd gyhydlwybr yr wybren,
Lle'r â wawl holl awyr wen;
Awn yn noeth i'r cylch poethlosg,
Hynt y llym ddeheuwynt llosg,
I rynbwynt duoer enbyd
Gogledd, anghyfannedd fyd.
Cyrchwn, ni ruswn, oer ôd,
Rhyn, oerfel, rhew anorfod,
A gwlad yr ia gwastadawl,
Crisianglawdd na thawdd, na thawl
Od awn i'r daith drymfaith draw,
Ofered im lafuriaw!
Gwledydd ormod a rodiais,
Trwy bryder ac ofer gais;
Lleindost i mi'r bell ymdaith,
A phellaf, gwacaf y gwaith!

Chwilio yman amdani,
Chwilio hwnt, heb ei chael hi.
Nid oes dŵr na dwys diredd,
Na goror ym môr a'i medd.
Da gŵyr Iesu, deigr eisoes
Dros fy ngran drwstan a droes,
Pond tlawd y ddihirffawd hon,
Chwilio gem, a chael gwmon!
 
Anturiais ryw hynt arall
O newydd, yn gelfydd gall;
Cynnull (a gwael y fael fau)
Traul afraid, twr o lyfrau,
A defnyddiau dwfn addysg
Soffyddion dyfnion eu dysg;
Diau i'r rhain, o daer hawl,
Addaw maen oedd ddymunawl—
Maen a'i fudd uwchlaw rhuddaur,
Maen oedd a wnai blwm yn aur;
Rhoent obaith ar weniaith wag
O byst aur, a'u bost orwag.
Llai eu rhodd, yn lle rhuddaur,
Bost oedd, ac ni chawn byst aur.
Aur yn blwm trathrwm y try,
Y mae sôn mai haws hynny;
Ffuant yw eu hoff faen teg,
Ffôl eiriau a ffiloreg.

Deulyfr a ddaeth i'm dwylaw
Llawn ddoeth, a dau well ni ddaw:
Sywlyfr y Brenin Selef,
A Llyfr pur Benadur Nef,
Deufab y brenin Dafydd,
Dau fugail, neb ail ni bydd.

Gwiwfawr oedd un am gyfoeth,
Brenin mawr, dirfawr, a doeth;
Rhi'n honaid ar frenhinoedd,
Praff deyrn, a phen proffwyd oedd.
Ba wledd ar na bu i'w lys?
Ba wall o bai ewyllys?
Ba fwyniant heb ei finiaw?
Ba chwant heb rychwant o braw?
Ar ôl pob peth pregethu,
"Mor ynfyd y byd!" y bu.
Gair a ddwedai, gwir ddidwyll,
"Llawn yw'r byd ynfyd o dwyll,
A hafal ydyw hefyd
Oll a fedd, gwagedd i gyd."
O'i ddwys gadarn ddysgeidiaeth
Wir gall, i'm dyall y daeth,
Na chaf islaw ffurfafen
Ddedwyddyd ym myd, em wen!
Ni chair yr em hardd-drem hon
Ar gyrrau'r un aur goron,
Na chap Pab, na chwfl abad,
Na llawdr un ymherawdr mad.

Llyna sylwedd llên Selef,
Daw'n ail efengyl Duw nef:
Dwedai un lle nad ydoedd,
A'r ail ym mha le yr oedd.
Daw i ddyn y diddanwch
Yn nefoedd, hoff lysoedd fflwch—
Fan deg yn nef fendigaid,
Tlws ar bob gorddrws a gaid;
Pob carreg sydd liwdeg lwys,
Em wridog ym Mharadwys;

Ac yno cawn ddigonedd
Trwy rad yr lôn mad a'n medd.
Duw'n ein plith, da iawn ein plaid,
F'a'n dwg i nef fendigaid.
Drosom Iachawdwr eisoes
Rhoes ddolef, daer gref, ar groes;
Ac eiddo Ef, nef a ni,
Dduw annwyl, f'a'i rhydd inni.

Molaf fy Naf yn ufudd,
Nid cant, o'm lladdant, a'm lludd.
Dyma gysur pur, heb ball,
Goruwch a ddygai arall;
Duw, dy hedd rhyfedd er hyn,
Bodloni bydol annyn.
Boed i angor ei sorod,
I ddi-ffydd gybydd ei god;
I minnau boed amynedd,
Gras, iechyd, hawddfyd, a hedd.

1753

Y Gwahodd

(At gyfaill a weithiaíi yn y Mint),

PARRI, fy nghyfaill puraf,
Dyn wyt a garodd Duw Naf,
A gŵr wyt, y mwynwr mau,
Gwir fwyn a garaf innau.
A thi'n Llundain, ŵr cain cu,
Ond gwirion iawn dy garu?
Ond tost y didoliad hwn?
Gorau fai pe na'th garwn.

Dithau ni fynni deithiaw
O dref hyd yn Northol draw,
I gael cân (beth diddanach?)
A rhodio gardd y bardd bach;
Ond dy swydd, hyd y flwyddyn,
Yw troi o gylch y Tŵr Gwyn,
A thorri, bathu arian
Sylltau a dimeiau mân.
Dod i'th Fint, na fydd grintach,
Wyliau am fis, Wilym fach.
Dyfydd o fangre'r dufwg,
Gad, er nef, y dref a'i drwg.
Dyred, er daed arian,
Ac os gwnei, ti a gei gân,
Diod o ddŵr, doed a ddêl,
A chywydd ac iach awel,
A chroeso calon onest
Ddiddichell — pa raid gwell gwest?
Addawaf (pam na ddeui?}
Ychwaneg, ddyn teg, i ti;
Ceir profi cwrw y prifardd,
A 'mgomio wrth rodio'r ardd;
Cawn nodi, o'n cain adail,
Gwyrth Duw mewn rhagorwaith dail,
A diau pob blodeuyn
A ysbys dengys i ddyn
Ddirfawr ddyfnderoedd arfaeth
Diegwan Iôr—Duw a'i gwnaeth.
Blodau'n aurdeganau gant,
Rhai gwynion mawr ogoniant;
Hardded wyt ti, 'r lili lân,
Lliw'r eira, uwchllaw'r arian,

Cofier it guro cyfoeth
Selyf, y sidanbryf doeth.

Llyna, fy nghyfaill annwyl,
Ddifai gwers i ddof a gŵyl.
Diffrwyth fân flodau'r dyffryn,
A dawl wagorfoledd dyn;
Hafal blodeuyn hefyd
I'n hoen fer yn hyn o fyd;
Hyddestl blodeuyn heddyw,
Yfory oll yn farw wyw.
Diwedd sydd i flodeuyn,
Ac unwedd fydd diwedd dyn.
Gnawd i ardd, ped fai'r harddaf,
Edwi, 'n ôl dihoeni haf.
Tyred rhag troad y rhod,
Henu mae'r blodau hynod.
Er pasio'r ddau gynhaeaf,
Mae'r hin fal ardymyr haf,
A'r ardd yn o hardd ddi-haint,
A'r hin yn trechu'r henaint,
A'i gwyrddail yn deg irdda
Eto, ond heneiddio wna.
Mae'n gwywo, 'min y gaeaf,
Y rhos a holl falchder haf
Y rhos heneiddiodd y rhain,
A henu wnawn ni'n hunain,
Ond cyn bedd, dyna 'ngweddi,
"Amen," dywed gyda mi:
Dybid in' ddyddiau diboen
A dihaint henaint o hoen;
Mynd yn ôl, cyn marwolaeth
I Fôn, ein cysefin faeth.

Diddan a fyddo'n dyddiau
Yn unol, ddiddidol ddau;
A'r dydd, Duw ro amser da,
Y derfydd ein cydyrfa,
Crist yn nef a'n cartrefo,
Wyn fyd! a phoed hynny fo."

Northolt 1755

Y Gofuned

O CHAWN o'r nef y peth a grefwn,'
Dyma archiad im a erchwn,
Un rodd orwag ni ryddiriwn—o ged;
Uniawn ofuned, hyn a fynnwn.

Synhwyrfryd doeth, a chorff anfoethus,
Cael, o iawn iechyd, calon iachus;
A pheidio yno â ffwdanus—fyd
Direol, bawlyd, rhy helbulus.

Dychwel i'r wlad lle bu fy nhadau,
Bwrw enwog oes heb ry nac eisiau,
Ym Môn araul, a man orau—yw hon,
Llawen ei dynion, a llawn doniau.

Rhent gymhedrol, plwyf da 'i reolau,
Tŷ is goleufryn, twysg o lyfrau;
A gwartheg res, a buchesau—i'w trin
I'r hoyw wraig Elin rywiog olau.

Gardd i minnau, gorau ddymuniad,
A gwasgawdwydd o wiw gysgodiad;
Tra bwy'n darllain cain aceniad—beirddion,
Hil Derwyddon, hylaw adroddiad.


Ac uwch fy mhen, ymysg canghennau,
Bêr baradwysaidd Iwysaidd leisiau
Ednaint meinllais, adlais odlau—trydar
Mwyn adar cerddgar, lafar lefau.

Af thra bo'r adar mân yn canu,
Na ddeno gwasgawd ddyn i gysgu,
Cytgais â'r côr meinllais manllu — fy nghân
Gwiw hoyw a diddan gyhydeddu.

Minnau, a'm deulanc mwyn i'm dilyn,
Gwrandawn ar awdl, arabawdl Robin,
Gan dant Goronwy gywreinwyn,—os daw
I ware dwylaw ar y delyn.

Deued i Sais yr hyn a geisio;
Dwfr hoff redwyllt, ofer a ffrydio
Drwy nant, a chrisiant (a chroeso),—o chaf
Fôn im'; yn bennaf henwaf honno.

Ni wnaf f'arwyrain yn fawreiriog,
Gan goffâu tlysau, gwyrthiau gwerthiog,
Tud, myr, mynydd, dolydd deiliog,—trysor
Yr India dramor, oror eurog.

Pab a gâr Rufain, gywrain gaerau;
Paris i'r Ffrancon, dirion dyrau;
Llundain i Sais, lle nad oes eisiau—sôn
Am wychder dynion; Môn i minnau.

Rhoed Duw im' adwedd iawnwedd yno,
A dihaint henaint na'm dihoeno,
A phlant celfyddgar a garo—eu hiaith,
A hardd awenwaith a'u hurdduno.

1752.

Unig Ferch y Bardd

(a fu farw yn 17 mis oed yn Walton Ebrill 1755)

MAE cystudd rhy brudd i'm bron—'rhyd f'wyneb
Rhed afonydd heilltion;
Collais Elin, liw hinon,
Fy ngeneth oleubleth lon!

Anwylyd, oleubryd lân,
Angyles, gynnes ei gwên,
Oedd euriaith mabiaith o'i min,
Eneth liw sêr (ni thâl sôn):
Oedd fwyn 'llais, addfain ei llun,
Afiaethus, groesawus sŵn,
I'w thad, ys ymddifad ddyn!

Amddifad ei thad, a thwn
Archoll yn ei friwdoll fron;
Yng nghur digysur, da gwn,
Yn gaeth o'm hiraeth am hon.

Er pan gollais 'feinais fanwl,
Gnawd yw erddi ganîad awrddwl,
A meddwl am ei moddion;
Pan gofiwyf poen a gyfyd,
A dyfryd gur i'm dwyfron,
A golyth yw y galon
Erddi ac amdani'n don,
A saeth yw sôn,
Eneth union,
Am annwyl eiriau mwynion—a ddywaid,
A'i heiddil gannaid ddwylo gwynion,

Yn iach, f'enaid, hoenwych fanon,
Neli'n iach eilwaith, lân ei chalon,
Yn iach, fy merch lwysfach, lon,—f'angyles,
Gorffwys ym mynwes monwent Walton.

Nes hwnt dygynnull at saint gwynion,
Gan lef dolef dilyth genhadon;
Pan roddo'r ddaear ei gwâr gwirion,
Pan gyrcher lluoedd moroedd mawrion,
Cei, f'enaid, deg euraid goron—dithau,
A lle yng ngolau llu angylion.

Y Farn Fawr.

DOD im dy nawdd, a hawdd hynt,
Duw hael, a deau helynt;
Goddau f'armerth, o'm nerthyd,
Yw DYDD BARN a diwedd byd:
Dyddwaith, paham na'n diddawr?
Galwad i'r ymweliad mawr!

Mab Mair a gair yn gwiriaw
Y dydd, ebrwydded y daw,
A'i Saint cytûn yn unair
Dywedant, gwiriant y gair;
A gair Duw'n agoriad in,
Gair Duw, a gorau dewin;
Pand gwirair y gair a gaf,
Iach rad, a pham na chredaf?
Y dydd, diogel y daw,
Boed addas y byd iddaw;

Diwrnod anwybod i ni,
A glanaf lu goleuni:
Nid oes, f'Arglwydd, a wyddiad
Ei dymp, onid ef a'i Dad.
Mal cawr aruthr yn rhuthraw,
Mal lladron dison y daw.
Gwae'r diofal ysmala!
Gwynfyd i'r diwyd a'r da!
Daw angylion, lwysion lu,
Llyrn naws, â lluman Iesu.
Llen o'r ffurfafen a fydd,
Mal cynfas, mil a'i cenfydd,
Ac ar y llen wybrennog,
E rydd Grist arwydd ei grog.

Yno'r Glyw, Ner y gloywnef,
A ferchyg yn eurfyg nef!
Dyrcha'n uchel ei helynt,
A gwân adenydd y gwynt;
A'i angylion gwynion gant,
Miloedd yn eilio moliant.
Rhoir gawr nerthol, a dolef,
Mal clych, yn entrych y nef;
Llef mawr goruwch llif moryd,
Uwch dyfroedd aberoedd byd.

Gosteg a roir, ac Ust! draw,
Dwrf rhaeadr, darfu rhuaw;
Angel a gân, hoywlan lef,
Felyslais, nefawl oslef;
Wrth ei fant, groywber gantawr,
Gesyd ei gorn, mmgorn mawr,
Corn anfeidrol ei ddolef,
Corn ffraeth o saerníaeth nef.


Dychleim, o nerth ei gerth gân,
Byd refedd, a'i bedryfan;
Pob cnawd, o'i heng, a drenga,
Y byd yn ddybryd ydd â;
Gloes oerddu'n neutu natur,
Daear a hyllt, gorwyllt gur!
Pob creiglethr crog a ogwymp,
Pob gallt a gorallt a gwymp:
Ail i'r âr ael Eryri,
Cyfartal hoewal â hi.

Gorddyar, bâr, a berw-ias
Yn ebyr, ym myr, ym mas.
Twrdd ac anferth ryferthwy,
Dygyfor ni fu fôr fwy—
Ni fu ddyhf yn llifo
Ei elfydd yn nydd hen No.

Y nef yn goddef a gaid,
A llugyrn hon a'i llygaid,
Goddefid naws llid, nos llwyr,
Gan lewyg gwyn haul awyr;
Nid mwy dilathr ac athrist
Y poelíoes cryf pan las Crist.

Y wenlloer, yn oer ei nych,
Hardd leuad, ni rydd lewych:
Syrth nifer y sêr, arw sôn!
Drwy'r wagwybr, draw i'r eigion;
Hyll ffyrnbyrth holl uffernbwll,
Syrthiant drwy'r pant draw i'r pwll;
Bydd hadl y wal ddiadlam
Y rhawg, a chwyddawg a cham;
Cryn y gethern uffernawl,

A chryn, a dychryn y diawl;
Cydfydd y Fall a'i gallawr,
Câr lechu'n y fagddu fawr.

Dy fyn a enfyn Dofydd,
Bloedd erchyll rhingyll a'i rhydd:
Dowch, y pydron ddynionach,
Ynghyd, feirw y byd, fawr a bach
Dowch i'r farn a roir arnoch,
A dedwydd beunydd y boch."

Cyfyd fal ŷd o fol âr,
Gnwd tew eginhad daear;
A'r môr a yrr o'r meirwon
Fil myrdd uwch dyfnffyrdd y don.
Try allan ddynion tri-llu —
Y sydd, y fydd, ac a fu,
Heb goll yn ddidwn hollol,
Heb un onaddun yn ôl.
Y dorf ar gyrch, dirfawr gad!
A'n union gar bron Ynad.
Mab Mair ar gadair a gaid,
Iawn Naf gwyn o nef gannaid,
A'i osgordd, welygordd lân,
Deuddeg ebystyl diddan.
Cyflym y cyrchir coflyfr,
A daw i'w ddwy law ddau lyfr—
Llyfr bywyd, gwynfyd y gwaith,
Llyfr angau, llefair ingwaith.
Egorir a lleir llith
O'r ddeulyfr, amryw ddwylith,
Un llith o fendith i fad,
I'r diles air deoliad.


Duw gwyn i le da y gyr
Ei ddeiliaid a'i addolwyr.
I'r euog bradog eu bron,
Braw tostaf; ba raid tystion?
Da na hedd Duw ni haeddant,
Dilon yrr, delwi a wnant.

Y cyflon a dry Iôn draw,
Dda hil, ar ei ddeheulaw;
Troir y dyhir, hyrddir hwy
I le is ei law aswy:
Ysgwyd y nef tra llefair
Iesu fad, a saif ei air:
"Hwt, gwydlawn felltigeidlu
I ufFern ddofn a'i fFwrn ddu,
Lle ddiawL a llu o'i ddeiliaid,
Lle dihoen, a phoen na phaid;
Ni chewch ddiben o'ch penyd,
Diffaith a fu'ch gwaith i gyd;
Ewch (ni chynnwys y lwysnef
Ddim drwg), o lân olwg nef,
At wyllon y tywyllwg,
I oddef fyth i ddu fwg."

O'i weision, dynion dinam,
Ni bydd a adnebydd nam;
Da'n ehelaeth a wnaethant,
Dieuog wŷr, da a gânt.
Llefair yn wâr y câr cu,
(Gwâr naws, y gwir Oen Iesu)—
"Dowch i hedd, a da'ch haddef,
Ddilysiant anwylblant Nef,

Lle mae nefol orfoledd,
Na ddirnad ond mad a'i medd:
Man hyfryd yw mewn hoywfraint,
Ac amlder y sêr o saint,
Llu dien yn llawenu,
Hefelydd ni fydd, ni fu:
O'm traserch, darfûm trosoch
Ddwyn clwyf fel lle bwyf y boch,
Mewn ffawd didor, a gorhoen,
Mewn byd heb na phyd na phoen."


Gan y diafl ydd â'r aflan,
A dieifl a'u teifl yn y tân.

Try'r Ynad draw i'r wiwnef,
A'i gad gain â gydag ef,
I ganu mawl didawl da,
(Oes hoenus), a Hosanna.
Boed im gyfran o'r gân gu,
A melysed mawl Iesu!
Crist fyg a fo'r Meddyg mau,
Amen! — a nef i minnau.

Uppington (1752?)

Hiraeth

DARLLENAIS awdl dra llawn serch,
Wych enwog fardd, o'ch annerch,
A didawl eich mawl im oedd—
Didawl a gormod ydoedd.

Ond gnawd mawl bythol lle bo,
Rhyddaf i'r gŵr a'i haeddo;
Odidog mi nid ydwyf,
Rhyw sâl un, rhy isel wyf.


Duw a'm gwnaeth, da im y gwnêl,
Glân Iesu, galon isel,
Ac ufudd fron, dirion Dad,
Ni oludd fy nwy alwad.
O farddwaith od wyf urddawl,
Poed i wau emynau mawl—
Emynau'n dâl am einioes,
Ac awen i'r Rhên a'i rhoes.
Gwae ddiles gywyddoliaeth,
Gwae fydd o'i awenydd waeth;
Deg lôn, os gweinidog wyf,
Digwl y gweinidogwyf;
Os mawredd yw coledd cail,
Bagad gofalon bugail,
Ateb a fydd, rhyw ddydd rhaid.
I'r lôn am lawer enaid.
I atebol nid diboen,
Od oes Barch dwys yw y boen;
Erglyw, a chymorth, Arglwydd,
Fy mharchus arswydus swydd;
Cofier, ar ôl pob cyfarch,
Nad i ddyn y perthyn parch:
Nid yw neb ddim ond o nawdd,
Un dinam lôn a'i doniawdd;
Tra'n parcher trwy ein Perchen,
O cheir parch, diolch i'r Pen;
Ein perchen iawn y parcher,
Pa glod sy'n ormod i Nêr?
Parched pob byw ei orchwyl,
Heb gellwair, a'i air a wyl,
A dynion ei dŷ annedd,
A'i allawr, lôr mawr a'i medd.

Dyna'r parch oll a archaf,
Duw lôn a'i gŵyr, dyna gaf.
Deled i'n Iôr barch dilyth,
Ond na boed i undyn byth
Nag eiddun mwy na goddef,
Tra pharcher ein Nêr o nef;
Gwae rodres gwŷr rhy hydron,
Gwae leidr a eirch glod yr Iôn;
Gocheler, lle clywer clod,
Llaw'n taro lleu-haint Herod.

Ond am Fôn hardd, dirion deg,
Gain dudwedd, fam Gwyndodeg,
Achos nid oes i ochi,
Wlad hael, o 'madael â mi;
Cerais fy ngwlad, geinwlad gu—
Cerais, ond ofer caru!
Dilys, Duw yw'n didolydd:
Mawl iddo, a fynno fydd.
Dyweded Ef, na'm didol,
Gair o'r nef a'm gyr yn ôl;
Disgwyl, a da y'm dysger,
Yn araf a wnaf, fy Nêr.
Da ddyfydd Duw i ddofion,
Disgwylied, na 'moded Môn;
Ac odid na chaiff gwedi,
Gan Iôn, Lewys Môn a mi,
Neu ddeuwr awen ddiell,
I ganu gwawd ugain gwell.
Lewys Môn a Goronwy,
Ni bu waeth gynt hebddynt hwy;
A dilys na raid alaeth
I Fôn, am ei meibion maeth;

Nac achos poen, nac ochi,
Na chŵyn, tra parhaoch chwi.
Brodir gnawd ynddi brydydd
Heb ganu ni bu, ni bydd.
Syllwch feirdd o Gaswallon
Law Hir, hyd ym Meilir Môn;
Mae Gwalchmai erfai eurfawr?
P'le mae Einion o Fôn fawr?
Mae Hywel ap Gwyddeles—
Pen prydydd, lluydd a lles?
Pen milwr,—pwy un moliant?
Enwog ŵr, ac un o gant,
Iawn genaw Owen Gwynedd,
Gwae'n gwlad a fu gweinio'i gledd.
Bwy unfraint â'r hen Benfras?
Gwae fe fyw, ei lyw a las.
Mae'r Mab Cryg oedd fyg pan fu
Ab Gwilym yn bygylu?
Dau gytgwys gymwys gymar,
Un wedd ag ychen yn âr.
Cafed ym Môn dduon ddau,
Un Robin edlin odlau,
A Gronwy gerddgar union,
Brydydd o Benmynydd Môn.
Mae Alaw? Mae Caw? Mae cant?
Mae miloedd mwy eu moliant?
Pwy a rif dywod Llifon?
Pwy rydd i lawr wŷr mawr Môn?
Awenyddol iawn oeddynt,
Yn gynnar, medd Ceisar, gynt!
Adroddwch, mae'r Derwyddon,
Urdd mawr a fu'n harddu Môn?

I'r bedd yr aethant o'r byd,
Och alar, heb ddychwelyd.
Hapus yw Môn o'i hepil,
Ag o'r iawn had, gywrain hil.
Clywaf arial i'm calon
A'm gwythi, grym ynni Môn,
Craffrym, fel cefnllif cref-ffrwd
Uwch eigion, a'r fron yn frwd.
Gorthaw, don, dig wrthyd wyf,
Llifiaint, distewch tra llefwyf:
Clyw, Fôn, na bo goelion gau,
Nag anwir fyth o'm genau,
Gwiried lôn a egorwyf,
Dan Nêr, canys Dewin wyf: —
Henffych well, Fôn, dirion dir,
Hyfrydwch pob rhyw frodir;
Goludog ac ail Eden
Dy sut, neu Baradwys hen:
Gwiwddestl y'th gynysgaeddwyd,
Hoffder Duw Nêr a dyn wyd;
Mirain wyt ymysg moroedd,
A'r dŵr yn gan tŵr it oedd.
Eistedd ar orsedd eursail
Yr wyd, ac ni welir ail,
Ac euraid wyt bob goror,
Arglwyddes a meistres môr.
Gwyrth y rhod trwod y traidd,
Ynysig unbenesaidd.
Nid oes hefyd, byd a'i barn,
Gydwedd it, ynys gadarn,
Am wychder, llawnder a lles,
Mwnai 'mhob cwr o'th mynwes,

Dyffrynnoedd, glynnoedd, glannau,
Pob peth yn y toreth tau;
Bara a chaws, bir a chig,
Pysg, adar, pob pasgedig:
Dy feichiog, ddeiliog ddolydd
Ffrwythlon, megis Saron sydd;
A phrennau dy ddyffrynnoedd,
Crwm lwyth, megis Carmel oedd.
"O! mor dirion, y Fôn fau,
Dillad dy ddiadellau!
Cneifion dy dda gwynion gant,
Llydain, a'th hardd ddilladant.
Dawnus wyt, dien ei sail,
Prydferth heb neb rhyw adfail;
A thudwedd bendith ydwyt,
Mawl dy Nêr, aml ei dawn wyt.
Os ti a fawl nefawl Nêr,
Dilys y'th felys foler;
Dawnol fydd pawb o'th dynion,
A gwynfyd 'y myd ym Môn!
Dy eglwyswyr, deg loywsaint,
A'th leygion yn sywion saint,
Cryfion yn ffrwythau crefydd
Fyddant, a diffuant ffydd.
Yn lle malais, trais, traha,
Byddi'n llawn o bob dawn da,
Purffydd, a chariad perffaith, —
Ffydd, yn lle cant mallchwant maith;
Yn lle aflwydd, tramgwydd trwch,
Digon o bob rhyw degwch,
Undeb, a phob rhyw iawnder,
Caru gogoneddu Nêr;

Dy enw fydd, da iawn fod,
Nef fechan y Naf uchod;
Rhifir di'n glodfawr hefyd
Ar gyhoedd, gan bobloedd byd;
Ac o ran maint, braint, a bri,
Rhyfeddod hir a fyddi.

"Bellach, f'ysbryd a ballawdd,
Mi'th archaf i Naf a'i nawdd.
Gwylia rhag ofergoelion
Rhagrith, er fy mendith, Môn.
Poed it hedd pan orweddwyf
Ym mron llawr estron lle'r wyf.
Gwae fi na chawn enwi nod,
Ardd wen, i orwedd ynod;
Pan ganer trwmp lôn gwiwnef,
Pan gasgler holl nifer nef,
Pan fo Môn a'i thirionwch
O wres fflam yn eirias fflwch,
A'i thorrog wythi arian,
A'i phlwm a'i dur yn fflam dân,
Pa les cael lloches o'r llaid?
Duw ranno dŷ i'r enaid,
Gwiw gannaid dŷ gogoniant,
Yng nghaer y sêr, yng nghôr y Sant
Ac yno'n llafar ganu,
Eirian eu cerdd i'r lôn cu,
Poed Gwŷr Môn, a Goronwy,
Heb allael ymadael mwy;
Cyduned a llefed llu
Monwyson, "Amen, Iesu! "

1756.

Salm CVII

TRWY droeau'r byd, ei wên a'i wg,
Bid da, bid drwg, y tybier;
Llaw Duw sy'n troi'r cwmpasgylch glân,
Yn wiwlan, er na weler.

O'i dadol ofal Ef a rydd
Yr hyn y sydd gymhedrol,
O hawddfyd, adfyd, iechyd, cur,
Ond da'i gymesur fantol?

Pe rhoem ar geraint, oed, neu nerth,
Neu gyfoeth prydferth, oglud;
Os Duw a'i myn, Fe'n teifl i lawr,
A'n rhodres mawr, mewn munud.

Os yfaist gwpan lawn o'i lid,
A'th doi â gwrid a gw'radwydd;
Od wyt gyfF cler a bustl i'r byd,
Fe'th gyfyd i fodlonrwydd.

Fe weryd wirion yn y frawd,
Rhag ynllib tafawd atgas:
Fe rydd orffwysfa i alltud blin
Mewn anghynefin ddinas.

Ei gysur Ef sydd yn bywhau
Y pennau gogwyddedig;
Fe sych â'i law y llif sy'n gwau
Hyd ruddiau'r weddw unig.


Oes dim nac yn, na than, y nef
Nad Ef sydd yn ei beri?
Ac Ef a rydd (gwnaed dyn ei ran)
Y cyfan er daioni.

Pa raid ychwaneg? gwnelwyf hyn;
Gosteged gwŷn a balchder:
Arnat Ti, Dduw, fy Ngheidwad glwys,
Bid fy holl bwys a'm hyder.

GEIRFA

A.

  • ABAD : pennaeth mynachaidd ac eglwysig.
  • ADWEDD : adferiad.
  • ANHWYLio : diffrwytho.
  • AMORTH : aflwydd, anffawd, gwarth.
  • ANNISBUR : pur, diledryw.
  • ANNYN : truan.
  • ARABAWDL : awdl neu gân ffraeth, hoenus.
  • ARDYMYR : tymheredd, hin.
  • ARiIAL : bywyd, egni.
  • ARMERTH : tasg, meuter.
  • ARWYRAIN : cân fawl.
  • ATEBOL : cyfrifol.
  • AWRDDWL (AFRDDWL) : trist, trymllyd, gofidus.

B.

  • BÂR : dicter, llid.
  • BERWIAS : berw—ias.
  • BRAENDROCH : dwfn ei phydredd.
  • BRAWD : barn, llys.
  • BYGWL : bygythiad.

C.

  • CAIL : corlan.
  • CALLAWR : pair.
  • CÂR : anwylyd, perthynas.
  • CÊD : rhodd.
  • CEDRWYDD : ced—rwydd, hael ei anrhegion.
  • CENAW : ysbrigyn, disgynnydd.
  • CERTH : rhyfeddol.
  • CETHERN : " y gethern uffernawl"—teulu'r diafliaid.
  • COLEDD : cymryd gofal;. meithrin.
  • CRAFFRYM : aruthr ei gamp.
  • CROG : Y Grog — Y Groes.
  • CWFL : penwisg mynach.
  • CYDFYDD : bydd ynghyd.
  • CYHYDEDDU : mydryddu, canu barddoniaeth.
  • CYTGAIS : cyd-gais, cyd-weithio.
  • CYTGWYS : cyd + gwys rhodio'r un llwybr.
  • CYWREINWYN : cywrain a gwyn.
  • CYWYDDOLIAETH : prydyddiaeth.
  • D.
  • DEAU : iawn, rhwydd, ffyniannus.
  • DEOL : gwahanu, alltudio.
  • DIADLAM : anhyffordd, anhramwyadwy, na ellir ei chroesi'n ôl.
  • DIDOLYDD : gwahanydd; didoli—gwahanu.
  • DIDWN : di dor.
  • DIDDAWR : a'm diddawr — a'm diddora.
  • DIDDIDOL : di-wahân.
  • DIEN : di-hen, bob amser yn ifanc.
  • DIGWL : di fai.
  • DIGRAIN : crwydrad.
  • DIHIRFFAWD : ffawd ddrwg.
  • DILATHR : cymylog, trymllyd.
  • DiILYSIANT : diamheuol, sicr.
  • DILYTH : diflin, dyfal.
  • DILLYN : hardd, hyfryd.
  • DIR : rhaid.
  • DIRYMIANT : di-nerth, di-rym.
  • DIWAEL : rhagorol.
  • DOFION : rhai addfwyn.
  • DOFYDD : Arglwydd.
  • DORI : diddori.
  • DYBID : deued.
  • DYBRYD : y gwrthwyneb i hyfryd.
  • DYCHLAMU : llamu, neidio (3ydd person pres. dychleim neu dychlaim).
  • DYFYDD : bydd.
  • DYFYN : gwŷs, galwad.
  • DYGLUDO : dwyn ymaith.
  • DYGYFOR : ymdaflu, ymferwi.
  • DYGYNNULL : cynnull.
  • DYLIF : diluw.

E.

  • EBYR : aberoedd.
  • EDLIN : brenhinol.
  • EDN(-AINT} : aderyn.
  • EIDDUN : adduned. eirian : teg.
  • ELFYDD : cyffelyb.
  • ERFAI : di-fai.
  • ERGLYW : gwrando.
  • EURFYG : euraid ogoniant.

FF.

  • FFILOREG : lol.
  • FFLWCH : disglair.
  • FFUANT : twyll.
  • FFUN : anadl.
  • FFULLIO : prysuro.

G.

  • GALLAEL : gallu.
  • GAWR : llef.
  • GLOES : poen, gwayw.
  • GLWYS : teg, tlws.
  • GLYW : llywydd.
  • GNAWD : arferol, naturiol.
  • GODDAU : diben, pwrpas.
  • GOGLUD : gafael.
  • GOLUDDIO : rhwystro, lluddias.
  • GOLYTH : egwan, ysig.
  • GOSGORDD : gwarchodlu, dilynwyr.
  • GORDDYAR : tcrfysg, cynnwrf.
  • GORTHAW : o "gorthewi" — tewi.
  • GRAN : grudd.
  • GRWN : trum.
  • GRWNDIR : tir bryniog.
  • GWÂR : mwyn.
  • GWASGAWD : cysgod.
  • GWASGAWDWYDD : cysgod deihog, tŷ haf.
  • GWAWD : cân.
  • GWELYGORDD : cwmni, tylwyth.
  • GWEST : gwledd.
  • GWIRION : pur, diniwed.
  • GWYLL : drychiolaeth.
  • GWŶN : drygnwyd.
  • GWYNDODEG : iaith Gwynedd.
  • GWYTHi : gwythiennau.

H.

  • HADL : wedi pydru, wedi ei dinistrio.
  • HADDEF (ADDEF) : cartref.
  • HAWG : yr hawg, am byth.
  • HEFELYDD : cyffelyb.
  • HENG : bwgwth.
  • HONAID : enwog.
  • HOEWAL : dyfroedd.
  • HYDRAITH : llawu mynegiant.
  • HYDRON : hyderus, dewr.
  • HYDDESTL : hardd. I.
  • IASBIS : maen gwerthfawr.

LL.

  • LLAS : lladdwyd.
  • LLAWDR (LLODRAU) : trywsus.
  • LLEIR (DARLLEIR) : darllenir.
  • LLIFIAINT : llifeiriaint.
  • LLUGORN : llusern.
  • LLUYDD : milwr, cadfridog.
  • LLYW : llywydd.

M.

  • MAEL : elw, stôr, masnach.
  • MINIAW (MINIO) : profi.
  • MORYD : glan môr.
  • MWNAI : arian, cyfoeth.
  • MYG : gogoniant.
  • MŶR : moroedd.

N.

  • NERTHYD : o'm nerthyd — os nerthi fi.
  • NO : Noah.


O.

  • ONADDUN : ohonynt.

P.

  • PAELED : plastr, cacen.
  • PAND : pa onid, onid.
  • PARCH : anrhydedd.
  • PEDRYFAN : pedwar ban.
  • PYD : perygl (en-byd).

RH.

  • RHEFEDD : trwchus, tew.
  • RHÊN : arglwydd, brenin.
  • RHYCHWANT : mesur.
  • RHYDDIRIO : deisyf.
  • RHYNBWYNT : pwynt rhynnu, rhewi.

S

  • SELEF (SELYF) : Solomon.
  • SOFFYDD : ffilosoffydd, athronydd.
  • SUD : cyflwr.
  • SYWLYFR : llyfr doeth.

T.

  • TAU : " y toreth tau " — dydoreth.
  • TAERGOEG : gwawdlyd, llawn dirmyg.
  • TOLI : lliniaru, meddalu.
  • TORETH : digonedd, llawnder.
  • TUDWEDD : gwlad.
  • TWN (ton) : toredig.
  • TWRDD : twrf.
  • TYMP : amser.

U.

  • UNBENESAIDD : breninesaidd.
  • URDDUNO : urddasoli, anrhydeddu.

Y.

  • YMODI : symud (" na 'moded Môn ").

Dau Lyfr Safonol

LLENYDDIAETH CYMRU, 1540 hyd 1660. Gan yr Athro W. J. Gruffydd, M.A. Crown 8vo, 200 td. Byrddau, 6s.

Cynnwys:

I, Cyn Cyfieithiad y Beibl; Rhagarweiniad.
II, Y Llyfrau Cyntaf.
III, William Salesbury a'i Destament.
IV, Y Testament Newydd, 1567.
V, Beibl 1588.
VI, Ar ôl Cyfieithiad y Beibl.
VII, Llên y Diwygiad.
VIII, Llên y Gwrth-Ddiwygiad.
IX, Llên y Dadeni.
X, Llên y Piwritaniaid.
Mynegai.

"Bydd hwn /n un o lyfrau gwerthfawr ein
cyfnod." — Yr Athro T. Gwynn Jones.

Y CYNGANEDDION CYMREIG. Gan Dayid Thomas, M.A. Crown 8vo, Lliain, 6s.

Saif y llyfr hwn ar ei ben ei hun. Bydd yn
anghenraid pob myfyriwr y gynghanedd.

— Dyfnallt.

I'w cael trwy'r Llyfrwerthwyr ym mhobman.

HUGHES A'I FAB, CYHOEDDWYR, WRECSAM.

PEDAIR NOFEL GYMRAEG.

E. Tegla Davies: GWR PEN Y BRYN

Gyda Deg o Ddarluniau. 230 td. Lliain, 35. 6d.
" Stori fyw, wreiddiol, gyffrous a hollol ar ei phen ei hun." — Y Tyst.
"This is a novel to read and to keep."
South Wales News.

W. D. Owen: MADAM WEN

Rhamant dlos a chynhyrfus. Ail argraffiad.
188 td. Lliain, 35. 6d.
Y mae pob pennod o Madam Wen yn gymhleth o antur, rhyfyg, gwrhydri a dirgelwch." — Y Llenor.
" Saif Madam Wen yn arwres o'r dechrau i'r diwedd, a rhyw gyfaredd rhyfedd yn dilyn ei holl rawd. . . Dyma stori fyw o'r dechrau i'r diwedd, swynir ni gan symudiadau lledrith Madam Wen, a denir ni ymlaen gan awydd am agoriad i ddirgelwch hudol yr hanes. Dyma lyfr a ddarllenir gydag afiaith." — Mr. E. Morgan Humphreys yn Y Genedl Gymreig.

T. Gwynn Jones: LONA

Lliain, 2S. 6d.
"Lona is almost unique in Welsh. It is a love story, a romance, a perfectly constructed best seller which ought to create a furore in Wales and go through a dozen editions." — Mr. Saunders Lewis.
"Darllenir Lona gydag awch o'r dechrau i'r diwedd. Gwneuthum hynny fy hun. Stori rwydd, yn llawn o ddigwyddiadau cyffrous a helyntion i'ch cadw'n efro." — Mr. E. Morgan Humphreys.

Kate Roberts: DEIAN A LOLI

Gyda Darluniau. Lliain Ystwyth, 2s. 6d'
Byrddau, 3s.
"Un o'r llyfrau plant gorau a gafwyd ers blynyddoedd yw Deian a Loli. Tri swllt yw ei bris, ac y mae hwnnw'n bris isel iawn am lyfr mor wych." — y Faner.
"Hanes swynol dau efell sydd yma. Y mae'r awdures yn deall plant i'r dim, ac y mae'r stori yn naturiol ac yn debyg i fywyd." — Y Llenor.

I'w cael trwy'r Llyfrwerthwyr ym mhohman.

HUGHES A'I FAB, WRECSAM.

Oven, G, p^

2297 Detholiad o'i farddoniaeth .08 ror:TiFicAL instituteí OF MEDIA'- 'L STUDIES 5 9 gUt^N'S PARK

ToRONTo 5l Canada