Tro Trwy'r Wig (testun cyfansawdd)

Tro Trwy'r Wig (testun cyfansawdd)

gan Richard Morgan (1854-1939)

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Tro Trwy'r Wig
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Richard Morgan
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Llyfrau ab Owen
ar Wicipedia



YN Y WIG.
Bedw a Ffawydd.

TRO TRWY'R WIG.

ORIAU GYDAG ADAR,
COED, A BLODAU.

GAN

RICHARD MORGAN.

"Goed yr Hydref! Ple mae'r adar.
Un o fil a ganai gynt?"
—CEIRIOG.

CAERNARFON :

CWMNI'R CYHOEDDWYR CYMREIG (CYF.).

SWYDDFA CYMRU."

——————

1906.

NYTH Y DRYW.
Daew'r dryw bach, byw, syw, heew, cynffon syth."
Tud. 53.

RHAGYMADRODD.

TYBIA llawer nas gellir ysgrifennu am wyddor a chelf yn Gymraeg. Ystyrrir mai iaith athroniaeth a duwinyddiaeth, iaith y breuddwydiwr a'r bardd yn unig, ydyw hi. I lawer un, ysywaeth, iaith hen bethau yw, ac heb ddigon o adnoddau ynddi i ddarlunio peth mor newydd a bywyd y dyddiau hyn.

Y mae'r rheswm am y dyb gau hon yn eglur. Hyd yn hyn, ni chafodd y Cymraeg fawr o gynnyg ar adrodd hanes adar a blodau, rhamant masnach, na thlysni'r celfau cain. Y mae wedi bod yn iaith y duwinydd mor hir fel y tybia rhai nas gall fod yn ddim arall. Er ys canrif, iaith esboniad a phregeth fu bron yn gyfangwbl. Am ganrif cyn hynny bu'n iaith cyfieithiadau crefyddol. Cyn hynny canai yr adar ynddi. A chyn hynny, ond syllu arni, gwelir fod digon o ynni ac ystwythder bywyd ynddi i fod yn llafar i bob meddwl creadigol ac yn geidwad pob dyfais gywrain.

Y mae awdwr y llyfr hwn wedi dangos mor dlos yw i'r hwn fynno ddweyd hanes y wig,— bywyd coed a blodau, ac adar. Nid iaith crefydd yn unig yw'r Gymraeg, er mai wrth addoli Duw y mae yn ei gogoniant. Y mae hefyd yn iaith plant ac yn iaith yr ysgol; a gellir dangos drwyddi dlysni a swyn y byd hwn.

Gwna llyfrau Mr. Morgan yr ysgol yn fwy difyr i blant, a bywyd yn fwy dedwydd i ni oll. Danghosant y bywyd rhyfedd sydd o'n cwmpas, rhoddant i ni lygad i weled a chalon i deimlo.

OWEN EDWARDS.
Rhydychen, 1906.

SURAN Y COED.
Mor wylaidd yw'r blodyn. Plyg ei ben liliaidd, a rhydd ef i orffwys ar y ddalen sy wyleiddied ag yntau."
Tud. 33.


CYNHWYSIAD.

COCH Y BERLLAN.

Lle'r wyf yn byw. Cyniweirfan adar. Coch y Berllan. Afiaeth yr adar,—y Fronfraith, y Deryn Du. Llwyd y Gwrych a'r Asgell Arian. Blodau'r Gwanwyn. Clychau aur Coch y Berllan.

PRIODAS Y BLODAU.

Bore hyfryd o Fai. Cantorion yr Haf. Croeso'r Wennol. Trawsfeddiannwr. Blodau'r drain. Perlau'r gwlith. Nyth yr Asgell Arian. Suran y Gog. Ystori Priodas y Blodau

NYTH DERYN DU

Masarnen. Deryn Du. Cartref cadarn di-ddos. Pryder y ceiliog. Y cywion. bach hagr, bwyteig. Onnen, criafolen, bedwen, arglwyddes y goedwig." Persawr y blodau. Bywyd ieuanc, ysgol yr adar. Cyfoeth o flodau. Cwsg yr adar, hun y blodau. Gogoneddus fachlud haul

BORE TEG

Bore yn yr Hydref. Awel o Ddyffryn Clwyd. Dawns y cymylau. Tlysni prudd yr Hydref. Mwyar duon ac eirin perthi. Gwlith ar Fantell Fair. Bronfraith yn torri cragen. Gwisg newydd Brongoch, a'i gân. Can y Dryw. Cantorion ereill yr Hydref. Blodau Hydref. Y Goesgoch. Clychau'r Tylwyth Teg. Swynfri. Lliwiau'r Hydref. Adar Drudwy. Yr adar ar y borfa

CARWRIAETH Y COED

Haul tanbaid, wyhren glir. Dail yr helygen. Baban-flodyn yr helygen. Priodas y coed helyg. Cymwynas y gwenyn. Gwywdra'r Hydref. Crafanc y Fran. Croes ffrwythiant. Cymwynas y gwibed. Berr yw einioes prydferthwch

CRAFANC YR ARTH

Bore braf yn y gaeaf. Chwefrol oriog. Storm y gaeaf. Yr awyr glir. Awel y de dros Ferwyn. Blodau'r gwanwyn. Brongoch, Cornchwiglen, can yr Ehedydd. Blodau'r Gollen. Gogoniant cuddiedig. Cymwynas y Gwynt. Priodas y Cyll. Cratane yr Arth. Hanes ei ddail. Rhoi enwau cymalau anifeiliaid ar flodau. Y dail a'r gwlaw. Mel o'r chwerw. Y morgrug, y gwenyn, a'r mêl. Ystorm eira—ei mawredd. "Mae'r Gwanwyn yn dod"

TELOR YR HELYG

Ysbryd y Gwanwyn. Y fedwen a'r dderwen, tlysni a nerth. Yr Arllegog. Llygaid Ebrill.

Tormaen tribys. Adar Duon. Nyth y Fronfraith. Telor yr Helyg

COCH Y BERLLAN.
Dyna i chwi gyfoeth o liwiau fel ym meinwe'r enfys. Mae yn edn hardd. A ymfalchia efe, tybed, yng ngheinder ei bluf? A ymhyfryda efe yn nhlysni lliwiau ei wisg ysblenydd?"
Tud. 21.

TRO TRWY'R WIG.

COCH Y BERLLAN.

"Gwelwyd y blodau ar y ddaear, daeth yr amser i'r adar ganu, clywyd llais y durtur yn ein gwlad."

 R bwys Ty'r Ysgol, lle caf yr anrhydedd o breswylio drwy oddefiad,—y mae gwig o gyll, mieri, a drain gwynion, gydag aml i fasarnen, onnen, bedwen, a chriafolen yn codi eu pennau yma ac acw. Dyma gyniweirfan adar. Yma yr ymgymharant, y nythant, y magant eu cywion; ac yma y canant. Llawer awr ddifyr a dreulir gennyf yma i chwilio am eu nythod, i astudio eu harferion, ac i wrando ar eu cân. Ceir yma y bronfraith, yr aderyn du, llwyd y gwrych, y brongoch, y peneuryn, yr yswigw, y dryw, y llinos, ehedydd y coed, yr asgell arian, yr eurbinc, y rhawngoch, y bullfinch, ac amryw adar ereill.

Beth yw yr enw Cymraeg ar yr aderyn prydferth a elwir gan y Sais yn bullfinch? Yng ngeiriadur y Canon Silvan Evans, dan yr enw, ceir "y rhawngoch," "rhonellgoch," "llostruddyn," a "tingoch "—enwau cwbl amhriodol, canys nid coch neu rudd, ond du melfedog ydyw cynffon [rhawn, rhonell, llost] yr aderyn. Yn yr un geiriadur defnyddir yr un termau Cymraeg yn union a'r uchod am aderyn clŵs arall, sef redstart neu redtail y Sais—yn ddiau termau cymhwys ddigon ar yr aderyn yma, canys rhonell goch yw yr eiddo ef. Ond paham y cymhwysir yr un a'r unrhyw dermau at ddau aderyn o dylwythau gwahanol, a'r enwau hynny, mewn un achos, yn hollol anghyfaddas a chamarweiniol? Mae y naill, sef y bullfinch yn perthyn i dylwyth y pincod [fringillidæ], ac o wehelyth y canary melynwyn, y linos lwydfelen, a'r eurbine—yr harddaf o deulu y llwyn—a'r oll yn adar cân. Gyda llaw, gelwir yr eurbinc yn y fro yma, sef Bryniau Iâl, yn Nico.' Yng ngogledd Ceredigion a dan yr enw ysmala o "Sowldier bach y werddon."[1] Dilys mai ysplander ei bluf amliwiog a awgrymodd yr enw "sowldier;" "y werddon" sydd dreigliad o "gwerddon," a golyga yma—nid yr Iwerddon, fe allai,— ond gwaen, rhos, dôl neu weirglodd, fel yn y llinell, "Pencerdd adar y werddon." Felly y cyfuniad, o'i gyfieithu i'r Saesneg, fyddai, "The little soldier of the glade." Os wyf yn camsynied, cywirer fi. Ond beth yn y byd yw "Nico?" Ai estron air ydyw, ai beth? Pwy all ei ddehongl? Pwy fydd gennad o ladmerydd i ddangos ei ystyr? Y mae yn Ial, yn ddiameu, fel ymhob cwmwd arall, oraclau,—dyma gyfleustra iddynt ddisgleirio; dyma gyfle iddynt gwacydda."

Ond i ble y crwydraf? Perthyn yr aderyn arall, sef y redstart, i dylwyth y Telorion [sylviada] teulu y gân felus; a charennydd agos ydyw i'r brongoch, y penddu [black-cap], a'r eos, pencerddes. Beth! a ydyw y bron- goch a'r eos yn gyfneseifiaid? Ydynt. A glywsoch chwi y brongoch yn telori? Do? Onid oes yna dinc yn ei gân fer, nwyfus, sydd yn awgrymu ei fod o fonedd y gân? Na ddiystyrred neb y brongoch, gan hynny, canys edn ucheldras ydyw ef. Cân ef ym marrug, a rhew, ac eira, a chaddug y gaeaf pan fo'r eos yn ceisio "gloewach nen" mewn gororau

"Lle mae'r awel fyth yn dyner,
Lle mae'r wybren fyth yn glir."

Ond son yr oeddwn am y bullfinch, onide? Yn y geiriaduron ceir dau enw Cymraeg, heblaw yr uchod arno, sef, "coch y berllan," a "chwibanydd." Chwibanydd? Nid cymhwys yr enw, canys nid yw nodau ei gân naturiol ond cyfres o ffrillion neu yswitiadau isel, tyner, lleddf, fel tinciadau seinber eurgloch fechan mewn pellder. Ond arhoswch! Gall fod rhyw rheswm dros yr enw hefyd, canys gellir chwibanydd rhagorol o hono drwy ei hyfforddi yn ofalus. Yn yr Almaen dysgir nifer mawr o'r adar hyn, yn flynyddol, i chwibanu alawon, ac anfonir lliaws o honynt i wledydd ereill i'w gwerthu. A nodir hwynt, tybed, â'r nôd ystrydebol,—"Made in Germany?" Ond "coch y berllan." O'r holl enwau, dyma, i'm tyb i, yw y cymhwysaf. Rhuddgoch yw y lliw mwyaf amlwg arno. Yn niwedd gaeaf a dechreu gwanwyn, pan na cha hadau, mynycha berllannoedd i ymborthi—yr aderyn bychan barus—ar flagur a gwillion coed afalau, eirin, gerllyg, eirin gwlanog, a choed ereill. Dyma ynte enw sydd yn ei daro i'r dim. Ond arhoswch, arferir hwn. eto am y rhawngoch! Waeth be fo. Mae gan hwnnw, fel epil pendefig, ddigon o enwau yn barod. Na warafuner i'r bullfinch, ynte, yr enw prydferth a chyfaddas, "coch y berllan.

A adwaenoch chwi'r "coch?" Awn allan i'r wig. Mae'r adar, mewn afiaeth, yn ym gymharu ac yn nythu,—

"Mae'r adar oll yn telori cerdd
Priodas yr Asgell Fraith."

Rhywle, oddirhwng cangau diddail yr onnen gerllaw, mwynbyncia y bronfraith ei serchgan. Nis gellir, yn hawdd, ganfod yr aderyn, canys cyfliw ydyw a brigau y pren. Ond y bronfraith ydyw; mae ei gân yn ei gyhuddo. Y fath chwibanogl! Gwrandewch! Shir, shir, shir, shir-yp shir-yp, shir-yp! Yna chwibaniad clir, perorol. Wedyn cyfres o chwibaniadau byrsain, clochog, buain. A ol hynny, trill —dirgryna, cwafria y llais—mae pob nodyn fel pe yn dawnsio, yn llemain, yn ysboncio yn nwyfus. Shir, shir, shir, shir-yp, shir-yp shir-yp! Chwibaniad treiddiol eto. Tryliad drachefn a thrachefn, nes ein synnu a'n swyno. 'Run pryd ar frigyn draenen draw, pyncia'r 'deryn du ei gathl yntau. Hawdd ydyw ei ganfod ef yn ei wisg loewddu. Mae ei big, o liw'r eurafal, fel pibell aur mewn cerfwaith o eboni, ac o honi dylifa ffrwd o'r beroriaeth fwyaf hudolus. Nid yw ei chwibaniad ef mor dreiddiol, ystwyth, a nwyfus, ag eiddo ei gyfathrach, y bronfráith, mae'r ddau o dylwyth cerddgar y mwyeilch (merulidae) er hynny, mae yn felus odiaeth, fel sain dyner, lawn, loddedig mosbib yr organ. O, adar! pwy a roddes i chwi eich cerddi anghydmarol? Pwy gyweiriodd dannau eich telynau? Pwy a'ch dysgodd i'w canu? Cenwch adar! Eich tymor nwyfus chwi ydyw, tymor cyfareddol carwriaeth a chân. Ni phery eich gwynfydedd yn hir. Cenwch tra gellwch. Eiliwch garolau i wrthrychau eich serch, plethwch riangerddi deniadol iddynt. Mae'r gân a'u swyna hwy yn ein gwynfydu ninnau. Cenwch!

Symudwn ymlaen i chwilio am ein haderyn. Mae'r wig yn fyw drwyddi o adar-rhai yn diwyd gasglu eu lluniaeth; rhai, fel y bronfraith a'r aderyn du, ar frigau'r gwŷdd yn canu, canu; rhai yn gwib-hedeg, dan chwitian, chwitian o lwyn i lwyn; tra ereill ar yr aden, yn cydgam â'u gilydd, ac yn nwyfchware fel cariadon ieuenctid-a'u hyswitiadau ysgeifn, tyner, fel cyfrin sibrydion serch.

Ond pa le mae'r "coch?" Aderyn swil, cilgar ydyw, a chyfrwysed fel y rhaid wrth ochelgarwch a chyfrwystra, o'n tu ninnau, er cael onid cipolwg arno. Ond, beth yw'r aderyn bychan cochlwyd yna sydd yn hwbian ac yn hedeg mor aflonydd, o gangen i gangen, ym món y gwrych, weithiau'r ochr yma, weithiau'r ochr draw? Ust! mae yn ein gweled, mae yn tarfu, cymer ei aden, eheda yn isel, a disgynna nid nepell oddiwrthym, i fón y gwrych eto fyth, ac oddiar bincyn yno, yng ngwyll y cangau uwchben, anadla i'r awyr gyngan ferr, felus, gwynfannus, fel plentyn gorthrymder yn canu yn y cysgodion. Beth yw'r aderyn mwyn, diniwed? Beth hefyd ond llwyd y gwrych, ac er llwyted ei wisg, a gwyleiddied er foes, per- thyn hwn eto, fel y brongoch a'r eos, i deulu y gân felus. Yn y rhan yma o'r wlad a o dan yr enw "gwrachell"-enw digon hyll. Adna- byddir ef yng nghartrei fy maboed fel gwas y gog," am y tybir yno mai efe yw yr aderyn bychan hwnnw sydd yn dilyn y gog,[2] fel trotwas boneddiges, ac mai yn ei nyth ef y gesyd y gog ei hwy i'w ddeori ganddo.[3]

Oddiarno, ar frig y pren, mewn goleuni di-gysgod, fe byncia'r asgell arian[4] gân yn y cywair llon, mor sionc, mor hoenus! Ysgafned yw ei alaw ef a'r chwa sy'n chware â'i bluf; hoenused yw ei ddyri a chân gŵr yng ngwenau hinon a hawddfyd. Y fath wahaniaeth sy rhwng cathlau y ddau aderyn. Fel y mae eu tymer, felly eu cân—melusgân y gwaelodion a'r cysgod yw y naill, hyfrydlais yr entrych a'r heulwen yw y llall. Ond welsoch chwi nyth llwyd y gwrych? Chwiliwn am dani! Dyma hi—hon eto ym môn perth. Welwch chwi hi? Mae wedi ei gwau, a'i phlethu, a'i chyfroded du o fwsogl, a gwlan y ddafad; ac wedi ei hulio yn ddestlus o'r tu fewn â rhawn o ronell y march. Onid yw yn dwt ac yn glyd? A'r wyau! Edrychwch. Ddeled, sirioled ydynt ar waelod y nyth! Mor hyfryd i'r llygad yw eu lliw gwyrddlas difrychau, dihalog, fel gwyrddlesni tyner deilflagur yr yspyddaid ym mha un yr ymgysgodant! Onid yw yn rhyfedd fod aderyn mor lwydwawr yn dodwy wyau mor ysblennydd eu lliw? Pwy a'u lliwiodd? Gofynner, pwy baentiodd y lili a'r rhosyn? Pwy ond yr Hwn a liwiodd y nefoedd yn asur, y ddaear yn werdd, a'r cefnfor yn ddulas? Pwy ond yr Hwn sydd yn rhosliwio y wawr, ac yn ymylu cymylau ag aur melyn?

Ond pa le mae'r "coch," unwaith eto? Cerddwn ymlaen i chwilio am dano. Ust! dyna rugldrwst yn y prysglwyn gerllaw. Yr ydym wedi aflonyddu ar aderyn du—yr ofnusaf o'r adar—sydd yno yn casglu ei luniaeth. Gwarchod ni! rhuthra allan yn orwyllt—wedi brawychu drwyddo,—ac eheda, gyda'r ddaear, bendramwnwgl i rywle am ddiogelwch—y creadur gwirion! Mae'r wig yn darystain gan ei "whit!" "whit!" "whit!" trystiog, brysiog, cynhyrfus. Mae yn disgyn yn y fan draw, a chan dybied ei fod yn ysgyfala mae'n ymdawelu. Sythgoda ei gynffon lydan, ysgydwa hi fel gwyntyll—o lawenydd feddyliwn—a diflanna o'n golwg i'r prysgwydd—yno i ddiweddu ei arlwy. Paham y diengi, aderyn mwyn?

Pwy a'th ddychrynnodd? 'Does yma neb a wna niwed i ti, gantwr melusber. Cân i ni. Gwell gennym dy fawl-gân na'th waeddolef gyffrous. O'n blaen yn ei blodau melynwawr cynnar mae helygen grynddail wrryw. Mae'n ddiddail, ond mae'n dlos! Ymddengys pob brigyn fel yn addurnedig â boglynau o aur dilin. Ymysg y cangau mae aderyn bychan, glasliw, nwyfus yn ysgogi'n ddibaid. Sylwch! mae'n hwbian yn ysgafndroed o frigyn i frigyn; mae'n hedeg yn hoew o gangen i gangen; mae'n dringo yn heinyf ar hyd y pren; mae'n hongian wrth y briger—gerfydd ei ewinedd bachog cryfion—a'i ben i lawr, ac yn cael ei siglo yno gan yr awel; mae'n nydd-droi ac yn croes-droi ei hun i bob agwedd a llun—ystwythed ydyw â chysgod cwmwl. Mae yn esgeiddig—bitw bychan—mae yn fywyd i gyd. Gyflymed yw ei ysgogiadau â fflachiad pelydryn, ysgafned â'r goleuni. Yn sydyn cymer ei aden, ac ehed i goeden arall, dan wich-leisio yn wyllt, fel cecren mewn nwydau. Beth yw'r aderyn? Dyma'r yswigw[5] neu'r "swigw lâs fach"—un o adar bychan mwyaf ymladdgar y goedwig. Taioged ydyw ei dymer ag ydyw ei lais o arw. Ymgiprys ag adar mwy nag ef ei hun, ac ymrafaelia, heb betrusder, â'i gydryw-peth lled anghyffredin ym myd yr adar. Mae fel dyn gwrthnysig. Ymgecra hwnnw â'i fwy, ymgeintach â'i lai, a chroes-dynna â thylwyth ei dŷ ei hun. Pan welaf ŵr felly, yn fy myw nis gallaf na feddyliwyf am y swigw las fach—leiaf. Nodweddir yr aderyn bychan yma hefyd gan ddewrder. Aflonyddwch arno pan ar ei nyth. A ffy efe? Dim perygl. Ymgynhyrfa ei holl natur. Ymchwydda; cwyd ei bluf; hysia fel neidr; a neidia i'ch llaw os cyffyrddwch â'i nyth—canolbwnc ei serch a'i ddyddordeb ar y pryd. Chware teg i'r bychan; Os yw yn gecrus, mae yn ddewr. Nid yn aml y ceir y cyfuniad yma mewn dyn.

Nid ydym, hyd yn hyn, wedi gweled "y coch," na chlywed dim oddiwrtho. Pa le y mae? Cerddwn ymlaen gyda'r gwrych cauadfrig. Mae'r clawdd pridd sydd yn ei fon—yn y cysgod—wedi ei hulio â gwyrddlesni cynaraf y flwyddyn. Yma y ffynna Pidyn y Gog.[6] gyda'i ddail disgleirly fn—rhai yn wyrdd unlliw, ac ereill wedi eu manu yn hardd â chochlâs tywyll. Cydrhyngddynt y tyf Bresych y Cŵn,[7] a'u blodau gwyrdd taselog, a Chrâf y Geifr[8] drygsawr; ac yn eu cysgod y llecha y Mwsglys[9] eiddil a gŵyl, gyda'u blodau hynod. Yn pipian o'r ddaear yn y fan draw mae blaenau dail y Farddanadlen Ddu,[10] Clych y Perthi,[11] Sisli Pêr,[12] a Thegeirian Coch y Gwanwyn.[13] Dacw Lygad Ebrill[14] melyn-liw wedi agor, a'i fflurddail fel pelydr seren. Dyma hoff flodyn Wordsworth, ac i hwn y canodd,—

Pansies, lilies, kingcups, daisies,
Let them live upon their praises;
Long as there's a sun that sets,
Primroses will have their glory;
Long as there are violets,
They will have a place in story;
There's a flower that shall be mine,
'Tis the little celandine."

Wrth ei ochr mae blodyn gwyn tyner yr Anemoni[15] yn edrych ym myw llygad yr haul,—

Ust "wit!"—swit!"—"swiit!"—"swit!" O'r diwedd, dyna dinc dyner y deryn coch. Gwrandewch,—"Swit!"—"swit!" "sw-i-i-t!"—" swit!" Mae'r ffrillion fel chwibaniadau isel, leddf, neu dinciadau ysgeifn, melusber aurglochig yn cael eu cludo o bell, ar aden yr awel. Dyna "swit" yn ateb "swit." Mae yna ddau aderyn-feallai fwy. Pa le y maent? Nid nepell. Edrychwn i'r ddraenen uchel sy gyferbyn â ni. Dyna aderyn yn codi o honidyna un arall—ac yn hedfan— welwch chwi wyn eu cytiau?—ac yn disgyn mewn yspyddaid arall yn nes i ganol y wig. Dyna'r adar coch. Pâr gweddog ydynt. Dilynwn hwynt. Awn ymlaen yn ochelgar drwy y mân goed sydd rhyngom a'r adar. Ust! Ara bach. Wchw! Be sy'n bod? "Whirr-r-r-r!" "Whirr-r-r-r!" dyna ddwy betrisen yn codi o ymyl ein traed ac yn tasgu ymaith ar frys gwyllt, gan leisio yn drystfawr a dychrynedig. Neidiwn yn ol—ninnau wedi brawychu gan ddieithrwch a sydynrwydd y dadwrdd. Edrychwn i'r llwyn. "The birds have flown!"—hwythau wedi tarfu. "Y petris—!" Caiff y diffyglin sefyll am yr ebychiad. I ble 'raeth yr adar? Chwiliwn am danynt. Clustfeiniwn. Ust! Dyna'r clychau aur. "Swit!" "Swit-swit!"—"sw-i-i-t!"—" swit!" Awn i gyfeiriad y seiniau—Welwch chwi rywbeth yn symud, symud, fel cysgod, yng nghanol y ddraenen obry? Dacw nhw. Mae eu hysgogiadau yn eithriadol ddi-drwst. Nesawn atynt, gan gadw yng nghysgod y berth. Troediwn yn reit ddistaw, rwan. Swit!"" swit-swit!" "Swit!" "swit!" Ust! Dyna ni yn eu hymyl ond fod llwyn di-ddail rhyngom a hwy. Sylwch. Dacw'r ceiliog yng nghanol y ddraenen yn hwbian yn aflonydd gan droi atom, yn eu tro, wahanol rannau ei gorff. Cymerwn hamdden i syllu ar "degwch ei harddwch ef." Mae ei ben, ei gynffon, a'i edyn, chwi welwch, yn ddu disgleiriol, fel muchudd caboledig. Ei gwman a'i fol sy' wyn eiraog. Mae rhan uchaf ei gefn o liw'r onnen. Rhuddgoch disglaer ydyw ei fron, a'i wddwg, a'i ystlysau. Ar draws ei edyn rhed bar llydan cymysg o binc a gwyn. Dyna i chwi gyfoeth o liwiau fel ym meinwe'r enfys. Mae yn edn hardd. A ymfalchia efe, tybed, yng ngheinder ei bluf? A ymhyfryda efe yn nhlysni lliwiau ei wisg ysblenydd? P'le mae'r iâr? Dacw hi yn yr un llwyn a'r ceiliog, yn prysur bigo, bigo—mor-ddistaw! Sylwch, nid yw ei lliwiau hi mor danbaid ag eiddo ei chymar; nid yw y coch cyn goched, na'r du, feallai, cyn ddued. Er hynny, mae hithau yn ddillyn, ond gwylaidd ydyw ym mhresenoldeb ei harglwydd, fel y gweddai iddi fod. Yn nheulu'r adar, y gwrryw, fel rheol, yw y teleidiaf. Mae ei liwiau yn fwy llachar—yn fwy showy—nag eiddo y fenyw. Paham hynny? Feallai y cawn draethu ar hyn eto.

Ond dyna. Cawsom olwg iawn ar yr adar. Symudwn. Codant eu pennau gloewddu i fyny, ac edrychant o gwmpas. Maent yn ein gweled. "Swit!"—" Swit-swit!"—"swit!"— "swit!"—"swit!" Rhuthrant i ochr bellaf y llwyn, llamant megis i'r awyr, ac ehedant o'n golwg. A glywch chwi eu tinc yn y pellder? Gwrandewch!

GWENOLIAID.
Yn fflachio, fflachio, fel lluchedyn o wawl oddiar risial."
Tud. 27.

PRIODAS Y BLODAU.

"I know a bank where the wild thyme blows,
Where oxlips, and the nodding violet grows;
Quite over-canopied with luscious woodbine,
With sweet musk-roses, and with eglantine."
—A Midsummer Night's Dream.

"From branch to branch the smaller birds with song Solaced the woods, and spread their painted wings Till even." —Paradise Lost.

A holl goed y maes a gurant ddwylaw." —Isaiah.

PRYDNAWNGWAITH hyfryd o Fai ydyw. Mae'r hin, fu'n oer yn hir, wedi tyneru megis ar unwaith. Mae naws haf ar yr awel. Mae newydd fwrw cafod—drwy haul—o wlith-wlaw maethlon, esmwyth. Erbyn hyn—pump ar y gloch mae'r cymyl teneuwe fu'n brychu wyneb y wybren wedi ymwasgaru fuaned bron ag yr ymgasglasent, ac wedi diflannu fel "niwl boreol. 'Rwan lleufera'r Huan, heb bylni, yng ngloew lesni'r nefoedd, ac y mae iddo eto encyd o ffordd cyn cyrraedd ei "gaerau yn y gorllewin." Mae côr y wig, mewn asbri'n canu. Clywaf y gynghanedd o'm cadair yn y ty, gliried, ucheled yw cywair y gân. Os mynnwch glywed y côr asgellog ar ei oreu—yn ei afiaith min nos tawel o Fai, 'rol defnynnu o'r wybrennau wlith, yw'r adeg. A fuoch chwi 'rioed yn gwrando arno ar brydiau felly? Naddo? Wel, awn allan, unwaith eto, i'r wig gerllaw'r ty.

Dyma ni. Safwn ar y bryncyn llawn blodau yma. Mae "hardd garped y gwanwyn gwyrdd" dan ein traed. Mae ysbryd yr haf yn ymrithio'n mhobman. 'Does ryfedd fod yr adar yn canu. Cyffroir hwy gan dlysineb anian. Llenwir hwy â llonder. A chanu a wnant! Bloeddiant bron na wichiant—ysgafned, hoenused y teimlant! Clywch chwibaniad y bronfraith, chwibanogl y deryn du, teloriad y brongoch, cyngan llwyd y gwrych, tryliad y llinos, telyn yr hedyau, carol yr asgell arian, dyri yr eurbinc, cathl y dryw, "gwew!" " gwew! y gog, a "swit!" swit!" "swit!" trystiog aderyn y to! Dyna i chwi restr o artistes!

Cân rhai yn ein hymyl. Cân ereill ym mhellach, ac ereill ym mhellach wedyn-ac wedyn -ac wedyn yn y pellderau draw, draw, draw. Ymdodda y lleisiau pellaf i'w gilydd, a chynhyrchant gynghanedd swyngyfareddol—weird—sy'n disgyn ar ein clustiau fel siffrwd dieithrol neu fiwsig suol, cyfriniol o fyd arall. Eto. Gwrandewch fel y dychlama'r seiniau yn yr awyr hydwyth, ac y dawnsiant yno. Ymdonna'r beroriaeth drwy'r wybr eang, ym mhob cyfeiriad; ymleda, ymleda fel cylchdon ar lyn -gan edwino wrth fyned ymlaen, a graddol ddistewi vn y pellafoedd draw, draw. Dyna gân yr adar. Beth feddyliwch o honi? Onid yw yn odidog?

"Wennol fwyn ti ddaethost eto." Dacw hi, yn wir, o'r diwedd! Ysbiwch! Bu hir ein disgwyliad am dani Ple buodd cyd? Gwelwch gyflymed, hardded, ei hediad! Mae'n dod, fel saeth o fwa, ac yn cyfeirio at y ty. Mae'n disgyn chwap gyda "twit-twit-twit-twit!" sionc ar furiau ei hen nyth llynedd sy dan y bondo. Ymfacha ynddi, ymlyna wrthi dan drydar yn wyllt drystiog. Edrycha o gwmpas gan symud ei phen bychan claerddu hwnt, yma, ac acw, i fyny, ac i lawr, mor aflonydd a llygedyn haul ar for. Ymwrendy. Dealla fod rhywbeth o'i le. Be sy'n bod? Mae aderyn y to—yr intruder!—wedi trawsfeddiannu'r nyth ac wedi ei annhaclu â'i ddodrefn ei hun, nid amgen gwair, gwlan, pluf—and rovings of a worsted mat!—ac yno, yn nursery y fwyn wenfolen y maga ei gywion. Clywch hwynt yn cogor, cogor. Ymsaetha'r wennol yn ol i'r wybr; "nofia wyrdd fôr y nefoedd; daw i lawr eto "fel arf dur yn gwanu'r gwynt;" ymlithra, eheda'n ysgafn dros. y cae gwyrddlas; tasga i'r wybr eto; i fyny, i fyny; gwibia, troellwibia yn yr asur. Welwch chwi dduwch ei chefn?--mae fel nos! a chlaerwynder ei chwman?—mae fel dydd! Daw i lawr, lawr, yn hoew-wyllt, a gwna am y bondo yr ail waith-hoffed ydyw o'i hen gartref! Twit-twit-twit!" Ymaith a hi drachefn. Chwyrn-deithia. Mae o'n gol—na, dacw wyn ei chwt yn fflachio, yn fflachio, fel lluchedyn of wawl oddiar risial! Diflanna. Ddaw hi'n ol? Daw, hi ddaw'n ol i'w hen gynhefin i nythu. Gwna ei nyth yng ngolwg yr hen.[16]

Sylwch ar yr eirinberth[17] sy draw. Mae wedi ei thlws hulio â blodau ganned ag ewyn y don. Mae ei changau duon, pigog-sy eto heb arliw o irlesni—wedi eu gwynnu megis â chaenen o eira newydd ddisgyn. Mae gwawr farwaidd y pren ynghyd â gwedd eiryaidd ei geinciau yn dwyn inni adgof o'r gaeaf. Onid yw fel touch o Ionawr yng nghanol Mai? Ysbiwch ar y ddraenen wen sy acw. Awn ati. Gwerddliw'r emerald—ydyw ei gwisg hi, a dyferynnau o'r gawod gynneu, fel gloew emau, yn ei boglynu. Y dafnau crisialaidd, gemog! Yng ngwên haul odidoced ydynt! Dyma nhw, ar y gwyrdd-ddail—fel y perlau tryloewaf ar lainau o emerald—yn seiriannu, yn peiru, ac yn adlewyrchu-rhai yma, ereill acw-holl gain liwiau yr enfys! Erioed ni fflachiodd y diamonds puraf—of the finest water— ar addurnwisg pendefiges gyda mwy o ysblander nag y gwreichiona "mân emau'r gwlith" ar ddillyn fantell y ddraenen.

Rhaid symud ymlaen. Ond aroswch! Edrychwch i'r ddraenen. Dacw nyth-nyth yr asgell arian-ar fforch isel yn y pren. Mae'r iâr yn eistedd arni. Welwch chi hi? mor llonydd! Mae ei phen—gyda llygaid fel dwy ellygen—yn gorffwys ar erchwyn mwsoglaidd y nyth, a'i chynffon yn syth i fyny gyferbyn. Mor gomfforddus dan dô o wyrdd-ddail! Ust! Mae yn ein clywed. Cwyd ei phen i fyny, a llithra ymaith, ddistawed â llygoden, i lawr, rywle i'r cangau, ac allan i frig onnen gyfagos. "Pinc!" "pinc!" Mae'n galw ar ei chydmar. Dacw hwnnw'n dod yn ffrom a thrysfawr. Wyllted ydynt! Ehedant o'n hamgylch—bron na chyffyrddant ni â blaen eu hedyn. Gwibhedant yn aflonydd anesmwyth, o bren i lwyn, o lwyn i dwmpath, oddiyno i'r gwrych gan roddi mynegiad i'w cyffrawd mewn "twinc!" "twinc!" "twit-twit-twit!" clochog, diorffwys, pryderus. Y pethau bychain cariadus! Ofnant fod eu nyth mewn enbydrwydd. Raid iddynt ddim. Pwy dorrai nyth deryn mor dirion? Ond beth am y nyth? Craffwn arni. Gywreinied ydyw ei gwneuthuriad! Ei magwyr sy o fwsogl, a gwlan, a main-wreiddiau wedi eu cymysgu, a'u cordeddu, a'u gweithio i'w gilydd agos mor glos a durfin a brethyn llawban. Coedgen gwyn siobynog a'i haddurna o'r tu allan, tra o'r tu mewn hulir hi â blew yr eidion, pluf dofednod, ynghyda'r manblu cann sidanaidd sy'n adeinio man hadau'r ebolgarn.[18] Ar lawr esmwyth-glyd y nyth y mae pump o wyau del o borffor a gwyrdd yn frith gan yspotiau a rhesi igam-ogam o liw llwydgoch. Parha yr adar i drydar. Symudwn a gadawn y nyth iddynt. Y nhw a'i piau.

Dyma ni wrth y gwrych. O dani y tyf toraeth o'r llysieuyn bychan tyner-un o lysiau swil y cysgodion-a elwir suran y coed neu bara cann y gwcw.[19] Sylwch ar y dail. Tebyg ydynt i'r meillion, ond gwannach yw eu gwyrdd. Maent ar ffurf calon, ac wedi eu gosod, flaen wrth flaen, ar frig coesigau meinion, melfedaidd, penoblygol, sy'n tarddu o'r ddaear drwy garped o fwsogl. Yn ystod y dydd, tra haul yn gwenu, mae'r dail yn llawn agored. Maent felly 'rwan, fel y gwelwch. 'Mhen rhyw ddwyawr dechreuant edwino, llaesant eu pennau yn raddol, ac erbyn naw o'r gloch byddant wedi plygu yn llwyr, i lawr at y goes, a'u gwyneb ucha tuag allan, ac felly, yn yr ystum yma, "cysgant" "gefn yng nghefn",[20] drwy gydol nos.

Mor wylaidd, mor brydferth yw'r blodyn! Plyg ei ben liliaidd a rhydd ef i orffwys ar y ddalen sy wyleiddied ag yntau. Torrwn ef i

YR ASGELL ARIAN.
"Ysgafned yw ei alaw ef a'r chwa sy'n chware â'i bluf."
Tud. 16.

ffwrdd er craffu ar ogoniant ei degwch. Sylwch ar y pump fflurddalene[21] hardd sy'n ffurfio coronig[22] y blodyn. Mae eu gwyn pincliw wedi ei farcio â rhesi, fel gwythi, o liw'r lilac, ac â chyffyrddiad o aur yn y bôn. Tynnwn un o honynt i ffwrdd, ac edrychwch arni drwy y chwyddwydr bychan yma. Onid yw yn ddisglaerwyn, ac yn lluganu fel milfyrdd ronynnau'r barrug yn haul y boreu?

Sylwch eto. O dan y goronig-yn ei chofleidio, megis y mae pump o ddail bychain gleision,[23] wedi eu hymylu â phorffor. Gelwir y cylch yma o ddeilios yn flodamlen.[24] Bu i hon ei gwasanaeth, sef oedd hwnnw, enhuddo y fflur yn ei fabandod, a'i ddiogelu rhag oerwynt, ac efe eto onid blaguryn egwan a chyn agor o hono ei lygad, a gwenu yn haul y gwanwyn.

Ond cyn mynd ymhellach, hoffwn i chwi ddeall fod rhyw yn perthyn i lysiau. Am a wn i, carant; ond sicr yw, ymbriodant, ymgysylltant, ac epiliant.

Wel, rwan, rhannau adgynhyrchiol, neu beiriannau epiliol llysiau, ydyw blodau. Ym mha le, gan hynny, mae y tad, ym mha le mae y fam? Ac mi hoffech wybod, wnaech chwi?

Pliciwch ymaith y fflurddail. Beth welwch chwi ar ol, yng nghraidd y flodamlen? Defnyddiwch y chwyddwydr bychan yma eto, fel y canfyddoch yn well. Edrychwch. Yn union yn y canol mae colofnig wedi ei hollti yn bump, a chnap bychan plufog, tryloew, yn coroni pob cainc. Y golofnig yma ydyw ermig menywaidd y blodyn, ac a o dan yr enw paledryn.[25] Mae bôn y paledryn, ysbiwch, yn freisgach na'r rhelyw o hono, ac yn wyrdd. Y rhan chwyddog yma yw yr hadgell[26]—yn cynnwys ynddi ei hun bump ystafell—ac o'i fewn y mae rhith yr hadau, neu annelwig ddefnydd epil y llysieuyn—eto heb ei ffrwythloni. Pa beth a'i ffrwythlona? Cawn weled.

Edrychwch eto. Beth sy amgylch, ogylch y paledryn, fel rheng o sawdwyr sythion yn ei wylied? Tusw o fain linynnau, fel gwifrau arian—pump yn fyr a phump yn dâl—a boglyn[27] bychan rhigolog, wynned â'r ôd, ar ben pob un—fel talaith. Beth ydynt? Wel, dyma ermigau gwrywaidd y blodyn, a gelwir hwy'n frigerau.[28] Pan addfedo'r brigerau, ymrwyga'r boglynau sy ar eu blaen—canys cydau in miniature ydynt a dyhidlant eu cynnwys yn fân lwch, blodiog. Dyma y paill.[29] A sylwch, dyma'r elfen fywiog, wrywaidd, yr hon drwy gyffyrddiad â'r hadrithion yn yr hâdgell â'u ffrwythlona—mewn modd cyfrin. Pa fodd y dygir y cyffyrddiad y briodas—oddiamgylch? Nis gallwch lai na gwenu, mi welaf.

Cymerwn flodyn arall add fetach; mae o honynt gyflawnder dan ein traed. Dyma un. Edrychwch iddo drwy'r chwyddwydr cryfaf o'r tri yma. Chwi welwch fod cydau bychain, cannaid, brigerau hwn wedi ymdorri, a'u cynnwys —y paill—yn llanastr hyd rannau'r blodyn. Mae peth o hono, fel llwch arian, ar aur y fflurddail; a chyfran arall, sylwch—ac y mae hyn yn bwysig—wedi glynu ar gnapiau tryloew, gludiog, y paledryn. Wel, dyma yr egwyddor fywiol, wrywaidd wedi ei dwyn i gyswllt â rhannau uchaf—allanol—yr organ fenywaidd. Dyma'r cam cyntaf ym mhriodas y blodau.[30] A ydych yn dilyn?

Mae'r paill, eto, chwi welwch, y tu allan i'r hâdgell—ac ymhell oddiwrthi. Wel, 'rwan, meddwch, sut y ffrwythlonir—y bywheir y rhith, sy rhwng gwerchyrau cauedig y gell, gan sylwedd sy o'r tu allan iddynt? Rhoddwch ychydig o'r paill yma, sy fanach na "mân lwch y cloriannau," dan chwyddwydr cryfach lawer nag un o'r tri hyn. Syndod edrychwch! mae pob llychyn o hono yn gell gron, glôbaidd, ac yn llawn o hylif a mân ronynau! Yn sicr, rhyfeddach yw ffaith na chwedl.

Gwelsoch fod rhai o'r gronynau anfeidrol fechan yma wedi glynu ar gnapiau'r paledryn. Beth wedyn gymer le? Mhen ychydig tyf pibell fain-anamgyffredadwy fain—o waelod pob un o honynt. Treiddia y mein—bibau hyn drwy sylwedd masw'r golofnig hyd nes cyrraedd o honynt yr hâdgell. Beth wedyn? Wel, yn naturiol, mae cynnwys hylifaidd y paill—ronynau yn llifo drwyddynt i'r gell, ac yn cyffwrdd ac yn ymgymysgu â'r rhithion yno. Dyma berffeithio'r briodas. Mae effeithiau'r cyffyrddiad fel eiddo hudlath y swynwr, neu "Fydded" Creawdwr. Mae'r hadrithion—oedd gynt yn ddiymadferth—yn neidio i fywyd! Tyfant, dadblygant, addfedant, llanwant y gell, ac yng nghyflawnder yr amser torrant drwy ei magwyrydd, a syrthiant yn gawod i fynwes y ddaear. Dyna ystori Priodas y Blodau. A goeliwch chwi hi?



NYTH DERYN DU.

AROSASOM yn hir gyda'r blodyn. Cyn symud ymlaen edrychwn unwaith eto ar y teirdalennau heirdd sy'n hulio'r fan ac ar y blodau chweg sy fel dibyndlysau o arian cabol neu lein-emau o oleuni yn gwawladdurno mangre'r cysgodion! Dyna. Bellach awn rhagom.

Ar ein ffordd yr ydym yn pasio masarnen[31] dalfrig, braff-geinciog, lydan-ddail.

Safwn am ennyd dani. Mae bagad o wenyn minfelus yn siffrwd,—yn suoganu,—yn y cangau tra'n casglu'r neithdar o'r blodau bagwyog. Onid yw'r miwsig yn ddieithr o swynol? Gwrandewch! Sigyngan foddlon llafurwyr diddig a diddan ydyw. Tynnwn un o'r fflur-sypiau dibynaidd. Rhoddwn ef wrth ein ffroenau-mae'n arogli fel diliau mel. Archwaethwn ef—cawn flas mel ar ein min.

Dacw dderyn du—yr iar—a chynronyn, titbit i'w chywion-yn ei chylfin. Mae'n disgyn ar y clawdd cerrig cyfagos. Mae ei nyth heb fod nepell-naill ai yn y ddraenen wen, ai ynte yn y gelynen werdd gerllaw. A hoffech chwi weled ei nyth? Ac mi wnaech? Gwyliwn yr iar, ynte. Ciliwn ychydig o'r neilldu rhag ein gweled ganddi. Mae ar y look-out. "Whit!"—"whit!"—" whit!"-araf, clochog, subdued. Hush! Mae yn ein clywed, canys dyna'r arwydd. Codwn yn reit ddistaw a llonydd rhag tarfu o honom hi. Ysbiwch Mae ar y clawdd cerrig eto. Aflonydded ydyw! Mae'n mynd i gychwyn rhydd herc i'w phen i lawr, a thòs i'w chynffon i fyny. Gwna osgo i hedegmae'n ysgwyd ei hedyn-a dacw hi ymaith! Welwch chwi hi? Mae'n soddi, fel pelen o gyflegr, i galon y gelynen. Mewn chwipyn hed allan—heb yr abwydyn. Yn y gelynen y mae ei nyth. Awn yno, ynte. Dacw hi, a'i sylfaen ar fforch gref, ddisigl, yng nghraidd y pren, a'r cangau cylchynol fel ategbyst i'w pharwydydd o fan wiail, a main wreiddiau, a mwsogl. Maeswellt sych, rhywiog, sy'n wynebu'r ystafell sy gryned â chwpan. Mor ddiddos! Pe darniem. y nyth-ac nid gorchwyl hawdd fuasai hynny—caem weled haenen o laid—galeted a chymrwd —rhwng y plethwaith allanol a'r lining tumewnol. Trwy hyn mae y nyth yn wind-proof ac yn water-proof, ac wedi ei chyfaddasu i ddiogelu yr wyau[32] a'r cywion rhag curwlaw ac oerni gwanwyn cynnar—pryd, fel rheol, y nytha ac yr epilia yr adar duon.

"Clwc!" "clwc!" "clwc!" a'u tinc fel cloch. Trown ein golygon i gyfeiriad y crinid cân. Ha! dacw'r ceiliog eurbig, disglaerddu—cydwedd yr iar-ar y lasdonnen, yn hwbian yn aflonydd rhwng yr irwellt a'r blodau. Mae yn ein drwgdybio. Onid ym yn ymyrryd â'i nyth? Mae yn anesmwyth. Cymer ei aden yn ebrwydd a hed i'r prysgwydd. Clywch ei

DERYN DU.
"Ha! Dacw'r ceiliog eurbig disgleirddu. Mae yn anesmwyth. Cymer ei aden yn ebrwydd, a hed i'r prysgwydd. Clywch ei drydar pryderus yno! Taw, taw am ennyd, aderyn mwyn cariadus. Ni niweidiwn na'th nyth na'th gywion."
Tud. 41.

drydar pryderus yno! Mae'r ddolefgloch ymhellach—mae'n nes. Mae yn y llwyn, mae ar y pren, mae ar y llawr. Taw, taw, am ennyd, aderyn mwyn, cariadus. Ni niweidiwn na'th nyth na'th gywion. Na wnawn yn wir. Yn unig gad i ni edmygu dy waith ac edrych ar dy gywion. Taw Clwc! clwc! clwc!"—Wel, wel; 'does dim a'th dawela. Awn oddiyma'n union. Wna hynny dy foddio? Am funud, 'rwan, aderyn mwyn.

Sylwch. Yn ystafell gynhes-glyd y nyth y mae un, dau, tri, pedwar, pump, o gywion newydd eu deor—newydd ddod o'r plisgyn. Yr ednogiaid bychain, eiddilaidd! Mor ddisut yr edrychant—mor legach-mor llymrig? Mae eu croen melynliw, lliprynaidd, i'w weled rhwng tuswau o flewiach hirion, anhrefnus, diaddurn, a dyfant arno. Gelwid y cudynau afler yma gennym, yng Ngheredigion, pan yn blant yn "flew witch." Dychymygid yno fod blew felly yn tyfu ar wynebau rhychog, crofenllyd, melyn-ddu rheibwragedd a gwiddanesau. Mae dychymyg Shakespeare wedi creu witches. Dywed fod ganddynt "choppy-fingers,"[33] "skinny lips;" ond ni sonia air am eu cudynau cedenog. Dichon fod crebwyll y Cardies aflonydd yn fwy hedegog nag eiddo y prif-fardd.

Ond stop! 'Rwyf yn crwydro. Dall ydyw'r cywion eto, a pharhant felly am yspaid diwrnodau. Mor ddiymadferth yr ymddangosant fel y tybiech nad oes ynddynt nerth i symud na migwrn, nac asgwrn, na chyhyr. Ond arhoswch! Cyffyrddwch â'r llwyn. Meddyliant ddyfod o'u mam a thamaid iddynt, y gwirioniaid diniwed! Mewn eiliad i fyny a'u pengliniau. Estynnant eu gyddfau, ac agorant eu pigau yn safnrwth am y golwyth ddisgwyliedig. Edrychwch yn wir! Bron nad yw blaen y naill fant yn gydwastad—on a level—a blaen y mant arall. Yr ydych yn gwenu. 'Does ryfedd. Mae'r olygfa yn ogleisiol—chwerthinus. 'Rol hir ddisgwyl yn ofer, blinant, a syrth eu pennau dan wegian yn ol i esmwythder y nyth.

Mor fwyteig, mor wancus ydynt ! Mor ddygn-ddiwyd eu porthir gan eu rhiaint gofalus, cariadus! Dygani iddynt, o'r plygain hyd y cyfnos, seigiau melusion o gynron, maceiod,[34] trychfilod, a—malwod, â la francaise!—blasusfwyd o'r fath a garant. Yng ngrym y fagwraeth foethus yma dadblygant yn ddiatreg, magant bluf, daw nerth i'w hesgyll a hoender i'w hysbryd, ac, ar fyrder, ehedant, o'r nyth i'r eangder, oni ddifethir hwy cyn hynny gan hoglanciau barus, neu amaethwr crintach, y naill o ddireidi a'r llall o ddygasedd. Gyda llaw, nis gwn paham y difroda'r amaethwr adar duon a bronfreithod. Nid yw y cyfryw adar yn bwyta grawn. Difäant, mae'n wir, y ffrwythau aeddfetaf, dewisolaf, ond y mae y gwasanaeth anhybris a wnant drwy ysu pryfetach dinistriol y berllan, a'r ardd, a'r maes, yn gwneyd i fyny, a llawer rhagor, am y golled. Pa bryd y dysg ein ffermwyr ddoethineb?

Dyna. Gadawn y nyth a'r cywion a symudwn ymlaen. Ar y naill law i ni y mae onnen feindwf, dal, luniaidd. Ei cholfennau estynedig, drooping, sy guddiedig bron gan ddeilwaith plufog o'r fath deleidiaf. Ysgafned yr ymdonna—y chwery—y pluf-ddail yn awel falmaidd yr haf! Ar y llaw arall y tyf y fedwen firain, fân-ddail. Arian-liw yw ei phaladr unionsyth. Sylwch,—mae lliw arian y cyff i'w weled yn ysmicio, fel lloergan, rhwng glesni y deilfrig. A geir hygared cyferbyniad rhwng lliwiau yn unman? Mae'r briger-gangau, deilemog, yn ymlaesu ac yn ymhongian mor ddillyn —mor graceful—a hir-gudynau sidanaidd un o'r Naiadau, neu un o iesin Dduwiesau y Gelli. Yn ddilys ddiameu, y fedwen lednais ydyw "Arglwyddes y Goedwig." O'n blaen y cyfyd criafolen. Byr yw ei boncyff hi. Mae ei cheinciau yn hirion a hyblyg. Ffurf asgell sy i'r dail; llathraidd a thyner-wyrdd ydynt; a chydrhyngddynt, fel lloer drwy asur, y gwena ac y lleuera gwullsypiau ysnodenog wynned a distrych y don. Erbyn yr Hydref bydd gwyn cannaid y ffluron wedi rhoi lle i ysgarlad ffloew'r aeron-ffrwyth.

Yr ydym yn mynd drwy rodfa (avenue) gul, yn cael ei ffinio o'r deutu gan gyll, mieri, rhedyn, drain gwynion a duon, rhoswydd gwylltion, a dyrysien bêr[35]—pob un o honynt wedi ymwisgo. mewn goliw gwahanol o wyrdd dymunol. Mae perarogl yr olaf, ar ol y gwlithwlaw, yn dylenwi awyr yr hwyr. A glywch chwi'r arogl? Aroglwch! O bereiddied! Onid yw'r persawr yn llanw eich ffroenau fel cysewyr haf neu arogl oddiar "welyau y perlysiau?" Ai dymunolach arogl "powdr yr apothecari" na sawyr yr eglantine? Ai pereiddiach y nardus, y thus, a'r myrr, na mieri Mair? Unwaith eto,—aroglwch!

O bobtu i ni, ym mon y mangoed, ymysg y ceinciau, ac ar y briger, y mae llu o adar mân yn ffrillian, ac yn trydar, ac yn cogor, yn ddidor, ddiorffwys. Mae'r llwyn yn gyforiog o fywyd newydd-ieuanc! Dyma chwareule cywion o wahanol rywogaethau 'rol gadael o honynt eu nythod, a dyma eu training-ground. Yma, yng nghysgod y tewgoed cauadfrig, ac yn neillduedd tawel y glaslwyn, y dysgir hwy, gan eu rhieni, i 'hedeg, i ddethol eu tamaid, ac, efallai, i gyweirio tannau eu telynau. Gwelwch! Maent yn hedeg, maent yn gwibio, maent yn tasgu, maent yn picio,—fywioced ag arian byw, nwyfused a'r awel, sydyned a gwreichioniad seren, o gangen i gangen, o lwyn i lwyn, ac weithiau i'r awyr, dan switian, switian mewn gorhoenusrwydd. A yw dail y llwyn, dywedwch, yn cyfranogi o ysbrydiaeth yr adar? Gwelwch, maent yn cwhwfan, cwhwfan, fel baneri o bali gwyrdd, siderog, yn yr awel dawel dirion. Drwy'r ymarferiadau chwimwth hyn o eiddo'r cywion, cryfheir eu hesgyll, a pherffeithir eu hediad. Cyn hir hedant i'r nwyfre, ymhyfrydant yn eu hedyn tra deil tes yr haf a heulwen y cynhaeaf. Ond daw'r gaeaf. Yr adar tyner! Beth a wnewch chwi y pryd hwnnw pan y bydd y gwigfeydd cysgodfawr wedi eu dihatru o'u deilwisg gan farrug a rhuthrwyntoedd yr Hydref? Ni chewch i glwydo arno onid brigyn diddail, ac ni chewch gysgod namyn llwyn moel neu bren noethlwm. Ni wel miloedd o honoch yr haf nesaf.

Yr ydym yn dod i laslannerch rhwng y glasgoed—mor siriol, mor dlysgain. Wel, eisteddwn am ychydig ar y boncyff llorweddog yma. Hardded yw'r carped emerald! Try frithir ef, gwrr bywgilydd, gan doraeth, gan orthwf—o ffluron serenog, perlog, amryliw, a dafnau'r gwlithwlaw arnynt yn fflachio fel cabolwaith o risial. Y llecyn arddunol! Mae wedi ei oreuro, a'i ariannu—fel brithwe ysblenydd—â blodau'r ymenyn,[36] y creigros,[37] y meillion melyn bychain,[38] y pumnalen,[39] melyn yr eithin,[40] llygaid y dydd emrynt arian,[41] yr aspygan fulygad,[42] a chnau'r ddaear[43] sy a'u blodau ffedonaidd fel clysdwr o ser arian! Yn y fan draw harddir ef gan duswau o flodau asur—cyn lased a'r wybren—megis y llaethlys eddïog,[44] llysiau Llywelyn, [45] a glesyn y coed;[46] ac yn y fan draw gan siobynau rhosliw-wridgoched â'r wawrnid amgen y meillion cochion,[47] ydbys y waen,[48] cribellau cochion [49] a'r tegeirian peraroglaidd talsyth![50]

Dyna. Mae'r dydd ar ddarfod. Mae cysgodau'r hwyr yn ymestyn, ymestyn. Hired yw cysgod y coed ar y fron draw! Mae'r aspygan yn cau ei emrynt arian ymyl-goch am y llygad aur. Ymorffwys tair dalen y suran ar felfed y goesig. Huna'r feillionen. Chwibiana'r bronfraith ei hwyrgan oddiarnom, ar frig yr onnen, a chlywir cân gosper y deryn du, fel sain leddf mosbib-draw, draw yn y pellder. Mae'r eurbinc, a'r asgell arian, a'r llinos, a gwas y gog, yn ymbarotoi i glwydo rhwng y gwyrdd-ddail, tra y cyweiria'r ehedydd ei wely rhwng y blodau, ar lawr y weirglodd. Cyrhaeddodd yr haul ei gaerau yn y gorllewin. Mae ar fachlud. Fflamgoched ydyw! Gwelwch! Mae yn cusanu trum y mynydd. Gwrida'r gorwel fel rhosyn ! Mae'r belen eiriasgoch yn suddo, suddo. Mae o'r golwg. Teflir mantell y cyfnos dros fryn, dyffryn, a dôl, a diflanna'r cysgodau pan y maent hwyai. Brydferthed yw'r wybren! Entrych nef sy loew-las fel fflach y saphir. Ond O, y dwyrain! Edrychwch! Mae'n goelcerth! Mae yn banffaglu! Mae'r gwrid rhosliw gynneu wedi dyfnhau i ysgarlad, ac i borphor, a carmine. Mae ymyl-weoedd eddiog y cymyl bychain, ysgeifn, sy'n nofio ar y gorwel wedi eu haddurno ag aur, ac ag arian, ac a vermilion. Ogoneddused yw'r olygfa! Ond ni phery'n hir. Mae'r lliwiau llachar yn edwino ac yn diflannu. Gwelir ambell seren wen yn gwreichioni drwy'r asur. 'Mhen ychydig bydd milfil o honynt, fel gwlith y bore, yn boglynu crymgant y Nefoedd!

"Numerous as gems of morning dew,
Or sparks from populous cities in a blaze,
And set the bosom of old Night on fire!"





Y DRYW BACH.
"Hed i'r prysgwydd, ac o'u canol-nid o'r brigyn fel robin-tery dant ewafriol, gwefrol, nes adsain o'r goedwig."
Tud. 54.

BORE TEG.

"Wele gawellaid o ffrwythydd haf."—Amos.

DYWED, ddarllennydd, a gefaist ti ddigon ar droion drwy'r wig? Naddo? Os felly ti ddeui, 'rwy'n sicr, am dro arall drwyddi? Gallaf dy sicrhau dy siomi nis cei. Pan roisom dro ddiweddaf ymylai ar hirddydd haf. Diwedd y gwanwyn, gwyrdd, gwenog ydoedd; er hynny 'roedd yn hinon naf y prydnawngwaith hwnnw. Y noson desog honno, ti gofi, suddai Phoebus mewn ysblander, yng ngherbyd fflamliwiog yr Haul, dros gaerau gwridog y gorwel nid nepell o'i heulorsaf haf[51] yn y gogledd. Odidoced oedd lliwiau teryll y cerbyd! Ei groglenni oedd o ysgarlad a phorffor, fel gwahanlen y Deml; a'u cyrf—ymylau oedd o liw'r aur melyn a fermilion. A wyt ti'n cofio'r olygfa? Misoedd a lithrasant ymaith er hynny, ebrwydded! mor ddiaros ag y llithra'r cwmwl acw dros gaeau lathrlas y Nefoedd! Erbyn hyn mae'r Huan, ar ei rawd diymaros i'r de, wedi croesi cyhydedd yr Hydref[52] hanner ffordd rhwng arwydd yr Afr[53] ac arwydd y Cranc,[54] a nos a dydd ogyhyd sydd. Dechreu yr Hydref braf symudliw ydyw.

Season of mists and mellow fruitfulness!
Close bosom-friend of the maturing sun,
Conspiring with him how to load and bless
With fruits the vines that round the thatch-eaves run."[55]

Boregwaith teg heulog ydyw. Awn allan. Onid yw yn hyfryd? Chwyth awel ffraw arnom oddiar Ddyffryn Clwyd. Cwyd cymylau ysgeifn brigwynion eu pennau dros derfyngylch y gorllewin. Cipdremiant, megis, dros drum y mynydd. Ymddyrchant. Daw eu sider-odrau modrwyog yn raddol i'r golwg, a gwelir rhimyn o'r wybr, fel môr o wydr, rhyngddynt a thrum linell banylog y mynydd. Ymledant. Daw'r awel hoew—sionc heibio iddynt. Chwery â hwy mewn direidi, ymgiprys â hwy mewn aspri, tyn hwy yn gudynau, crib hwy yn edefau, chwal hwy yn llinynau, a gyr hwy o'i flaen, gan eu dolenu, a'u fillio, eu crychu, a'u cyrlio, draws lawntiau'r asur, yn wanafau o wyn-wlan, ac yn Hochenau cannaid o fân-blu sidan. Hwythau, yn eu tro, fig-chwareuant â'r awel. Ymwasgar-ant; ymlechant yn y dyfnlas tawel. Ymrithiant drachefn drwy loewder yr asur; a'r haul, â phwyntil ei belydr, a'u lliwia cyn wynned a brig ewynnog y waneg! Dawnsiant, dawnsiant, ar lwyfan dryloewferth y wybren, a diflannant yng nghwmni yr awel dros orwel y dwyrain!

Ond awn i'r wig. Pan fuom drwyddi ddiweddaf deced ydoedd yn ei harddwisg werddlas —ysgafnwisg gwanwyn a haf! Gorwychid hi gan ysnodenau, a garlantau, a phlethdorchau of Hodau amryliw, o binc, ac o wyn, ac o goch, ac oliw'r hufen melynwyn. Enhuddid hir-gangau'r geiriosen, a'r yspyddaid, yng nghyda cheinciau ysbinog yr eirin-bren, a'r ddreinberth, gan fflurblethau lluganol,

Wynned a'r donnog luwehfa,
Neu eira un-nos ar lechweddi'r Wyddfa."

Prydferthwch y blagur a'r blodau, hawddgarwch y gwanwyn-tymor gobaith-ydoedd. Ond arall yw harddwch gwanwynol y wig ac arall ei harddwch hydrefol. Gwelwch! Erbyn heddyw mae'r coed a'r llwyni a'r prysgwydd wedi ymwisgo yn rhwysgfawr mewn "siaced fraith" o ruddgoch a llwydgoch, a melyn o eiliw'r eurafal a'r lemon Mae'r ffluron wedi rhoi lle i ffrwythau ac aeron ffloewgoch a phorffor. Mae blodau cann y fieren wedi troi yn fwyar duon. eirin duon bach,[56] ddued a'r muchudd, a'r glasbaill ar eu grudd, wedi cymeryd lle gwullion eirianwyn yr eirinberth. Wele dlysineb y ffrwythau a mireinder aeddiedrwydd yn gymysgedig a phrudd-degwch gwywedigaeth!

Nature strips her garments gay
And wears the vesture of decay."

Mae'r gwlithwlaw yn drwm ar y glaswellt. Mae dyferynau trybelid ddyhidlwyd o fynwes ddihalog y Wawr, fel gleinresi o risial ar lesni y borfa. Croga perl-ddatnau, dryloewed a

gemau Golconda, ar fein-flaen aflonydd yr irwellt. Pefriant. Ergrynant yn yr awel, fel tannau telyn Eolaidd, a flamia o honynt gynghanedd o liwiau fel seithliw eiriandeg yr Iris. Mae plygion y fantell Fair[57] sy dan ein traed, a rhidens ei chyrfymylau, yn dry frith o fân emau; a chrynna, crynna dagrau claerwyn perlog ar wrid aeron y ci-rôs, ac ar ruddgoch cyrawel y ddraenen wen oddiarnom.

Mae'r deryn du a'r bronfraith ar y donnen las yn prysur gasglu eu lluniaeth o falwod, a chynron, a thyrchfilod—dyna eu bill of fare cyffredin—er y dewisant weithiau, hefyd, saig o ryfon, a mafon, a mefus, ac o rawn aeddfed y gerddinen a'r ysgawen. "A roddech iddynt a gasglant." Pigant y pryfetach uchod o'u tyllau, a'u llochesau, a'u hymguddfeydd; tyllant a thiriant am danynt â'u pigau blaenllym, crynion, hyd wraidd y llysiau. Tynnant y malwod o'u cregin, y llindys o'u hamwisg harddfanog, a'r maceiod o'u cocoons sidan, ac ysant hwy yn gegrwth—with a relish! Gwelwch fel y chwalant dwmpathau pridd y wâdd, a thom gwartheg a cheffylau, yn wasarn, am y cyfryw arlwy amheuthyn. Mae'r bronfraith acw, wrth chwilio yn y mwsogl, wedi cael gafael ar falwoden iraidd mewn cragen. Pa fodd y tyr y gragen? dywedwch. Gadewch i ni weled. Mae yn ei chymeryd ar frys gwyllt, yn ei gylfant, ac yn disgyn yn y fan draw ar gyfyl carreg. Tery hi'n ddeheuig wrth honno, dro ar ol tro, dro ar ol tro. Gyfrwysed onide? Ysbiwch! Mae'r cogwrn o'r diwedd yn deilchion, a'r chweg dameidyn—y rare-bit—yng nghylfin y deryn! Llwnc ef yn ddihalen. Y fath flas a ga arno! A oes dwr yn rhedeg o'ch dannedd? dywedwch.

Mae'r mwyeilch wedi crogi eu telynau ar yr helyg, ac ni chlywir hwy, weithian, ar frig pren yn pyncio cân. Mae'r gerdd arwest berorol wedi distewi am dymor. Ond nid di-gân i gyd yw'r côr asgellog. Welwch chwi, dacw frongoch yn disgyn yn ysgafndroed ar gangen y pren ysgaw cyfagos. Sionced ydyw! Gorffennodd fagu ei deulu ac y mae yn ysgyfala. Mae mewn gwisg newydd danlli. Mae newydd fwrw ei hen bluf—ei ddillad haf—ac wedi ymdrwsio 'yn ddestlus mewn gwasgod goch gynhes-glyd a chôt ddiddos werddliw—o eiliw'r olewydden. Mae yn gosod ei hun i ganu. Na; cymer ei aden a hed i frigyn uchaf draenen gerllaw. Mae yn edrych i'r ffurfafen loewlas wanafog, egyr ei big pibell ei organ-a dyhidla o honi hudolgan. uchel folianus. Ymchwydda ei fron ruddwawr, ymgrynna cyhyrau ei gorff gan mor egniol y cana. Cana, pyncia, telora ei hoewgyngan drosodd a throsodd. Yn ddisymwth hed i lwyfan uchel arall. Glywch chwi? A dros ei erddygan yr un mor ddygn yno.

"Ship!" "ship!" Be sy yna? Ha, dacw'r dryw bach, byw, syw, hoew, cynffonsyth, yn y llwyn wrth y mur yn pigo ei bryd o fân bryfaid. Wisgied yr ysgoga wrth gasglu'r pryd rhwng osglau'r pren! Mae yn chwimwth ac ysgafn esgeiddig! Nid cynt y disgyn ar un gangen nag y mae ar arall; a chyda ei fod ar honno, mae ar un arall drachefn yn pigo, pigo. Mae wrth y mur—mae ar y mur yn pigo, pigo. Ymlithra fel cysgod dros ei ymyl, ac ymfacha yn dyn yn ei ochr gan bigo, pigo. Mewn eiliad mae ar y llawr yn rhedeg yn hoewfyw fel llygoden faes ac yn pigo, pigo yno. Yr ydym yn ei darfu. Hed i'r prysgwydd, ac o'u canol— nid o'r brigyn fel robin—tery dant cwafriol, gwefrol, nes adsain o'r goedwig. Un arall, ac arall. Gliried yw'r nodau! Eofned yw'r tinc! Pwy feddyliasai y cawsid miwsig mor llawn, mor nerthol, o delyn fychaned! Clywch! Ym mon y gwrych tery gwas y gog dant ar ei delyn yntau. Mae tinc, tinc ysgafnglych yr eurbinc a'r deryn coch, a twinc, twinc sionc yr asgellarian yn disgyn ar ein clustiau o'r prysglwyn draw; a trill y llinos swil o'r wybr uwchben.

O'n blaen mae hen gloddfa gwaith plwm a adawyd ers talm. Gorchuddir y graith gan gwrlid gwyrdd o blufwsogl mwyth-ysgafn. Drwyddo yr ymwthia y llawredyn,[58] a'r gandwll,[59] a'r filddail,[60] a'r syfi teirdalen,[61] a'r goesgoch[62] aroglus arianflew. Mae ymylwe deilgangau mân, delicate, y mwswgl yn wyn-glaer gan berlog wlith. Lleda ac estyn y goesgoch ei hesgeiriau ysgafn drosto, ac o'i haml gymalau y cyfyd coesigau yn dwyn naill ai blodau rhosliw, rhesi arian, neu ynte hadgibau tlws, fel tassels, a'u meinflaen ar ffurf mynawyd neu big yr aran. Gwelwch dlysed yw'r dail o wyrdd ac o goch. Mae fel ysnodenau cyrliog ar fron y cwrlid! Llenwir y rhigolau sy rhwng y cerrig gan y

ROBIN A'I NYTH.

garanbig llachar[63] —câr agos i'r goesgoch.[64] Fel eiddo honno, mae'r coesau a'r crynddail bumllabed miniylchog, rai yn wyw-goch amliw, a'r lleill yn wyrdd-dirfion gan ireidd-der ieuenctid. Ffynna swp o glych yr eos[65]the blue bells of Scotland

"With drooping bells of clearest blue,"

ar gyfyl y dyryslwyn sy yn ymyl. Crynna, sigla, y elychau goleulas ar flaenau fflurgoesau bron feined a blewyn. Y chwa-awel dyneraf a'u gyr i ganu. Gelwir hwy yn "Glychau y Tylwyth Teg," am y tybid, mewn ffansi, fod clustiau y bodau Liliputaidd hynny yn ddigon teneu i glywed tinc-seiniau isel y clychau asur. Gwelwch, rhwng brigau'r pren y gwyl-lecha'r breninllys—[66] aelodau o dylwyth persawr y mintys.[67] O gesail y dail y tardd troelleni o fân fluron lliw'r rhosyn. Hygared y gwridant rhwng dail gwyw-liw melynwawr y coed cyll a'r mieri Dygant i'n cof ddwy linell enwog-dilys na wnawd dwy dlysach—y bardd Gray,

"Full many a flower is born to blush unseen,
And waste its sweetness on the desert air,"


yng nghyda chyfieithiad rhagorol Dafis Castell Hywel o honynt sy cystal a'r gwreiddiolGwrandewch,

"Ac mae'r blodau teca'u lliwiau,
Lle nas gwelir byth mo'u gwawr;
Ac yn taenu 'u peraroglau
Lle na sylwa neb o'u sawr."

Ple mae'r myrdd blodau arian harddai wyrdd lethrau'r fron? Gwena swynfri[68] ar fwyn lesni'r twyn gyferbyn. Welwch chwi ef? Hoffed ydyw o'r haul! Gwyra ar agwedd cariad tuag ato, a cheidw ei lygad arno tra deil hwnnw i d'wnnu. Edrychwch! Mae ei osgo a'i ystum ymestynnol yn ardeb byw o ddyhead serch am wrthrych ei ddyhewyd. Awn yn agosach ato. Dyma fe! "A little Cyclops with one eye "[69] a'r llygad hwnnw, welwch chwi, fel o aur dilin wedi ei osod yn dwtnais mewn mortais beithynog o lafnau emerald, a'r emrynt serenog yn arian claerwyn wedi ei fannu gan frychau dyfngoch y ruby. Dyna i chwi gyfuniad goludog o liwiau! Sylwch deced yw'r gwrid ar wynder yr emrynt! Mor gain yw'r cyferbyniad sy rhwng melyn y boglwm a gwyn cannaid y cwmpas! Y gwyl flodyn bychan! Nid rhyfedd ei alw gan y Rhufeiniaid wrth enw[70] a olyga "y peth del," neu "yr un tlws." Onid un od o ddel ydyw? Gelwir ef gan y Ffrancod yn marguerite[71] a chan yr Italiaid yn margarita —dau air cyfystyr â'r enw Margaret—a gŵyr pob Marged, a Phegi, a Maggie mai "perl" neu "em yw ystyr hwnnw. Ai nid parod ych i ddweyd mai priodol yw'r enw?

Craffwch arno'n fanylach. Ond, gan gofio, dyma chwyddwydr,—rhoddwch hwn arno chwi a welwch ar unwaith y gwneir y llygad argrwn—unlliw ag aur—i fyny o nifer mawr o foglymau bychain, del—neu lygadenau, os mynnwch wedi eu gosod yn eisteddog, ochr yn ochr, ar glustog bigyrnog ymylwen.[72] Onid ydynt yn daclus o glos ac yn odiaeth o glws? Tebyg ydynt i fân balmant o aur pwyedig neu facets llygad trychfilyn. 'Rwan chwi synnwch pan ddywedaf wrthych fod pob un o'r llygadenau hyn yn flodyn perffaith wedi ei gynysgaeddu â phrydferthwch lliwiau ac â chymesuredd ffurf, ac yn meddu ar bob ermig anhebgor er adgynyrchu ei ryw! Yng nghylch cyfyng y llygad llai na chwarter modfedd ar ei draws-gellir cyfrif o'r cyfryw flodionos gynifer ag o bedwar ugain i gant-weithiau ragor a phob unigolyn o honynt-pob un, cofiwch yn cynnwys blodamlen,[73] a choronig,[74] a phaledryn,[75]25 ac wyfa,[76] a rhithion,[77] a phump o gydau[78] gorfychain tyn-lawn o baill,[79] yn hongian ar bump o frigerau[80] meinion, unionsyth glaerwyned bob un a phibonwy!

Ai nid ydych yn coelio? Wel, hwdiwch; dyma chwyddwydr cryfach. Edrychwch drwy hwn. Welwch chwi, mae'r blodionos sy ar ymylgylch y llygad aur—ar ororau yr arian—yn llydan agored. Cil-agored yw y rhai sy uwch i fyny—fel pe ond hanner effro; tra y mae y rhai sy ar y trum mewn trymhun mor dlws-ddigyffro chwsg plentyn! 'Rwan, sylwch-drwy'r chwyddwydr eto—ar un o'r blodionos llawn agored. Mae'r goronig ar ffurf pibell fain, a'i genau bum-llabed yn ymledu a rhaiadu fel pelydr seren. Welwch chwi hi? Yng nghanol y goronig, ac yn uwch o'i phen na hi, y saif y golofnig dal fenywaidd, a'i brig deupen gloew yn frith gan baill; yng nghyd a phump o frigerau gwrywaidd, ysgwydd wrth ysgwydd, amgylch ogylch iddi yn ei gwylio'n eiddig, fel gwarchodlu trefnus o filwyr cefnsyth. Llecha'r wyfa a'i rhithion ynddi yng ngodre'r paledryn, ac nis gellir ei gweled oni rwygir y blodyn. Drwy'r gwydryn chwi welwch y rhannau. A goeliwch chwi 'rwan?

Rhoddwch y chwyddwydr heibio, ac edrychwch hebddo. Chwi allwch, fe allai, wrth graffu, o'r braidd weld y blodionos gyda'r llygad noeth, ond anodd ydyw eu gwahaniaethu y naill oddiwrth y llall. Ond am y cydau paill, wel, mae y rheini, gallwch feddwl, ar "riniog cudd yr anwel," gan fod pump o honynt, yng nghyd â'u brigerau, yn cael lle ehelaeth, yng nghwmni'r golofnig, yn ystafell gul, fain, y goronig. Wyddoch chwi! Os ydyw y cydau eu hunain mor fychanig—mor or—fychanig —fel y rhaid wrth fwyadur cryf i'w canfod, pa mor anirnadwy fychain, pa mor anamgyffredadwy ddiswm raid fod y gronynau —y llychynau—sy ynddynt pan y cynnwys onid un cwdyn o'r pump ugeiniau, os nad cannoedd, o'r cyfryw ronynau. Ac eto, sylwch, mae'r gronynau hyn, er mor anfeidrol fychain ydynt, eu hunain yn gelloedd neu gydau llawn o hylif a themigau manach fyth. Rhwng gwerchyrau y temigau hyn—rhywle, rywle, yng nghilfachau eu tra-gorfychander—y cloir i fyny ac y trysorir yr elfen fywydol, gyfrin, gudd, sy drwy gyfrwng rhannau ystlenol y blodyn i ffrwythloni ac i fywhau hadrithion diymadferth yr wyfa.[81] Welwch chwi y gofal a gymerir i ddiogelu y wreichionen fechan fywydol. Cauir hi i fyny, gell yng nghell, rhwng muriau triphlyg, a phedwar plyg, neu ragor, rhag myned o honi i golli cyn cyflawni ei swyddogaeth.

Y swyniri siriol! Er bychaned ef, onid yw'n gyfanwaith meindlws cymesur? Mae ei adeilwaith o'r fath deleidiaf. Edrychwch arno unwaith yn rhagor. Mewn llun mae gryned a chant y lleuad. Onid yw, mewn gosgedd, yn od o dlysgain? Pwy ddel-luniodd ei ddalennau arian? Pwy fu'n gloew-lyfnu ei fain golofnau? Pa law fu'n trwsio'r pileri crisial? Pwy gyfunodd ei or-fan rannau ac a'u pert asiodd yn eu morteisiau? Pwy, â'i bwyntil, fu'n ei deg baentio? Pwy, ond yr Hwn sy'n "peri i'r gwellt dyfu ar y mynyddoedd" ac yn dilladu'r lili a'r rhosyn, y naill mewn gwyn a'r llall mewn coch? Onid meddwl dwyfol wedi ymflodeuo ydwyt, aspygan dlos, del lygad y dydd!

A gawn ni symud ymlaen? O'r gore. Yr ydym yn dod i ganol y prysglwyn cymysgliw. Welwch chwi'r lliwiau? Mor dlws-amliwiog yw'r deilios yma? Mor firain yw'r fieren! Mae ysgarlad ac aur ar ei harwisg hi. Ochr yn ochr, ar ein cyfer y cyd-dyfa draenen wen a chollen oleulwyd. Estyn y naill ei changau, 'n gyfeillgar, rhwng brigau y llall, gan gain leoli y dail gwahanliw. Mae dail y ddraenen, oedd drwy y gwanwyn o liw'r geninen, erbyn hyn yn loewgoch clir unlliw a'r claret. Cydrhyngddynt, fel tywyniadau haul melyn, y rheiddia eurddail crynddel y gollen. Cymhletha y gwyddfid[82] eu breichiau yn hardd gan ruddemau-am yddfau y ddeubren; ymddirwyn meinwlyddyn melynddaily winwydden ddu[83] am danynt fel plethdorch gymhendlos wedi ei haddurno â gleiniau emerald ac ambr; a choronir y cyfan âg eiron cwrel cangau y ciros. Unwaith eto, welwch chwi'r lliwiau?

Beth sy'n taflu ei gysgod arnom? Edrychwn i fyny. Mae haid o adar y drudwy[84] yn pasio fel cwmwl oddiarnom a "Swish—sh—sh—shs!" eu hadenydd yn suo'n yr awyr fel chwyrnelliad dengmil o saethau. Maent yn gwneyd am y cae acw lle y pora ychydig adefaid ym mhlith haid o dda blithog. Disgynnant arno'n chwap, mor ysgafn a manblu'r ysgall, ac ymgymysgant â'r twr brain sy yno'n barod. Crawcia'r brain pwyllog; dadyrdda'r drudwenod. Nesawn atynt yn ddistaw, gan gadw'r gwrych rhyngom â hwy. Gloewddu, gydag adlewyrchiadau wyrdd copraidd neu o las, neu neu o borffor, yw lliw eu clogau, a phob plufen loewlefn yn ymyledig â gwyn a melyn. Brydferthed mentyll yr adar gwisgi! Sidan wisgoedd symudliw ydynt, a myrdd o ffloew emau yn fflamio arnynt.

Mor fyw yw'r adar! Rhedant, gwibiant, tasgant ar hyd y cae gan bigo'r pryfaid sy ar y borfa. Dacw ddau o'r adar yn ysboncio'n orwyllt i'r awyr, big ym mhig, gan ymgiprys yn drystiog am ddim ond abwydyn. Cogrant—glywch chwi hwynt?—yn ddoniol-gwerylgar. Ymlaen a'r haid adar. Ceisiant, fel glewion, flaenu eu gilydd. Cwyd twrr yma a thwrr acw ar eu hedyn yn sydyn, a disgynnant yn eofn y tu blaen i'r fintai. A dyna drystio, a dwrdio, a chlochdar, a ffraeo! Tarfir hwy gan rywbeth; codant gyda'u gilydd; a disgynnant chwaff mewn man arall. Beth wna un o'r adar ar gefn gwlanog y ddafad acw? Chwilio mae yno am dorogenod. Mae'r mathau hynny o bryfaid yn amheuthyn iddo. Paham yr ymdyrra'r drudwys o amgylch y gwartheg? Wyddoch ohwi ddim? Gwyddoch, ond odid, mai nid â'u dannedd y pora eidionau. Torrant y glaswellt trwy ei blicio â'u tafod. Fel hyn ysgytir ychydig ar y gwreiddiau, a llacia'r gweryd o'u cwmpas ac aflonyddir ar noddfeydd y mân bryfaid sy yno.

Mae'r ysgwydiadau ysgeifn hyn yn ddaiargrynfau, iddynt hwy. Rhuthrant yn gyffroedig i'r wyneb, yn drychfilod ac yn gynron, yn lledwigod ac yn rhilion, et hoc genus omne, a chipir hwy'n chwipyn gan bigau yr adar sy'n disgwyl am danynt. Lle mae lluniaeth, yno yr ymgasgl yr ednod. Mae profiad yn eu dysgu lle mae hwnnw i'w gael.

Mae'r adar ar wasgar dros ran fawr o'r maes, fel foragers byddin yn ymofyn am borthiant. Mae'r lliaws, chwi welwch, yn dal i bryfeta yn agos i'r praidd. Mae rhai yn fân dyrrau—detachments—yn chwalu ysgarthion ac yn chwilio'n y llanastr am chwilod y dom. Cant afael mewn chwilen, ysgwydant eu hedyn, llamhedant, meinleisiant mewn hoen. Rhown floedd, "Shw-w-w-w!" Yn sydyn, gyda'u gilydd, ar unwaith, codant yng nghwmni'r brain trwm-edyn, fel crinddail o flaen corwynt, a disgynnant gyda "Whish-sh-sh-sh!" gan glegar a chogor, ar y gwrychoedd a'r coed sy ogylch y cae. Cadwn yn llonydd a distaw. Yn union deg disgynnant o'r cangau, ar y cyntaf o un i un, yna yn ddau ac yn dri ac yn bedwar, neu chwaneg, fel dail yr Hydref pan chwyth yr awel, ac ymchwalant eilchwyl, rhai yma rhai acw. Ail-ddechreuant bryfeta a gwancus fwyta. Unwaith eto, "Shw-w-w-w!" Adlamant, rhuthrant i'r rheng, llithr-hedant fel cysgod cwmwl, codant dros y gwrych a diflannant o'n golwg.

CARWRIAETH Y COED.

Gwelw-felyn ydyw'r coed,
Gwelw, gwelw, fel eu hoed;
Ond er cwympo'r dail yn wyw,
Y mae'r brigau eto'n fyw;
Gwelir eto fywyd ail
Yn blaguro yn y dail.
—Glasynys.

EBRWYDDED yr a blwyddyn heibio! Gyflymed y treigla'r tymhorau! Ehedant ymaith megis breuddwyd, megis gweledigaeth nos; ciliant fel cysgod ac ni safant. Bu Hydref, a Gaeaf, a Gwanwyn er y buom drwy'r wig ddiweddaf. Mae'r Haf braf ar ddarfod, ac, unwaith eto, wele ni ar drothwy yr Hydref.

Mae'n awr anterth—ymlwybra Brenin y Dydd mewn gwybren loew. Dring mewn urddas i'w orsedd yn yr entrych, a lleinw ei odrau dem Natur. Nid oes cymaint ag ysbryd cwmwl i bylu ei ysblander. Tywallt ddyli o oleu ar ddol a mynydd. Rhydd wisg o wawl ar lesni'r borfa; gloewa rigolau'r glaswellt; a gwna fân enfysau o ddefnynnau'r gwlith. Tywynna ei ogoniant fel flam ar geinder y blodau. Gwna ffluron yr eithin yn ffloew euraidd, a glâs y grug yn ffaglau eirias. Goreura edyn y gwybed sy'n chware yn ei belydr; gleinia hadau adeiniog yr ysgall; a theifl ar fain-linynnau yr eurwawn hilyn arian.

Yr ydym ar bwys y wig. Awn iddi. Dyma ni yn ymyl helygen grynddail wrryw, friglydan, liosgainc. Gwelsom hi, os ydych yn cofio, yn gynnar yn y gwanwyn, dan goronbleth o flodau aurfelyn, pan nad oedd ei dail onid blagur tyner enhuddedig. Mae'r blagur hynny, erbyn heddyw, yn ddail rhychog—wedi heneiddio ac yn disgyn yn ddiymadferth,—un yma ac un arall acw, gan wegian a chrynnu, ar ddeilgangau y rhedyn cringoch sy'n amgylchu y lle. Ddistawed yw dan gysgod y pren! daweled! Ymleda y brigau fel cromen oddiarnom! Nid ysgog yr osglau ystwyth bwaog gan esmwythed yw'r hin—yn unig plygant i gusanu aeron cwrel y farch-fieren, a chyrawel ysgarlad yr ysbyddad sy'n tyfu ar y cyfyl.

Mae dail yr helygen, fel eiddo coed ereill, i'w cael ar y brigau dyfodd yr un tymor a'r dail eu hunain. Mannir y rhannau ôl o'r cangau gan aml i ddyfngraith—olion hen-ddail blynyddoedd fu. Ond i ni sylwi, cawn fod blagur, tebyg o ran maint, a lliw, a llun i wenithrawn ir, heb gwbl aeddfedu, wedi ymffurfio eisoes yng nghyswllt y dail hen a'r cangau ifeinc. Ymddengys y bywyd newydd hwn i mi fel pe yn gwneyd ei oreu, drwy gyfrwng yr ysgewyll bonbraff a blaenfain, i wthio yr hen dros erchwynion y cangau. Ceir bywull cyffelyb ar goed ereill y wig, ond nid mor fawr a blaenllaw eto ag eiddo'r helygen. Duon fel ebon yw impynau yr onnen, gwyrdd yw rhai y fasarnen, a llwydgoch yw eiddo y gollen a'r pren ffawydd. Felly gwelwch y cenhedlir gynared a hyn—yn nechreu yr hydref—rithion y bywyd llysieuol a ffynna yn ystod y gwanwyn sy i ddod. Cwsg y rhithflagur hyn drwy fisoedd y gaeaf, ac mor gywrain a chelfydd yr enhuddir hwynt; mor glos a diogel, a diddos yw eu hamwisg; ac mor glyd yw eu glythau, fel nas gall nac oerwynt, nac

MASARNEN.
Cangen a Ffrwyth.

eira, na barrug, na holl osgordd adwythig y gaeaf eu difa na'u difwyno.

Ond âg egin yr helygen y mae a wnelom yn bresennol. Tynnwn un o honynt o gesail y ddalen ac archwiliwn ef. I'r diben yma daliwn ef rhwng bys a bawd ac, âg ewin y bawd arall, agorwn, gyda gofal, odrau y gyfanwisg wydn allanol. Gwasgwn ychydig ar ei thop, ac, wele, llithra o honi, yn gnepyn llathrwyn, y peth tlysaf a delaf a welsoch erioed. Dyma fe ar gledr fy llaw. Edrychwch arno. Onid yw fel perlyn gorlyfn neu ddafn aflonydd o arian byw? Beth ydyw? meddwch. Wel, dyma un o flodau'r helygen yn ei fabandod, newydd ei dynnu o'i gryd, a'i ddillad magu—ei infant robes—yn rhwym am dano. Craffwch arno a chewch ei fod wedi ei orchuddio drosto â thrwch o arianflew deced a'r eurwawn ac esmwythed a'r pali. Drwy y mwyadur ymddengys y gorchudd hwn fel gwynwallt henwr neu gnu cân y ddafad. Eto, tynnwch eich bys yn ysgafn dros y blodyn, o'r blaen i'r bôn, a chwyd amryw o ddail bychain cafnog i fyny o flaen eich bys, a neidiant yn ol yn hydwyth pan dynnwch eich bys i ffwrdd. Tardd y mân ddail hyn o waelod y cnepyn a chauant am dano fel hulingau gwyn-wlanog i'w ddiddosi. Dyma i chwi ofal am faban-flodyn helygen!

Mae ugeiniau o egin ar bob cangen. Gan eu bod i oroesi gerwinder y gaeaf, amgauir hwy —a'u blew—glogau ym mhlyg am danynt rhwng gwerchyrau awyrdyn eu celloedd, a chysgant yno, fel y crybwyllasom eisoes, tra pery yr oerfel. Pan anadla ysbryd y gwanwyn arnynt, ni fydd hualau a'u dalia yno. Ergrynant gan guriadau bywyd, cilia eu syrthni, ac ymwingant yn eu gwelyau. Yn union deg dechreuant dyfu, cynhyddant, ymchwyddant, torrant drwy barwydydd eu carchar, a chan ymwthio drwy haenau a phlygion eu gwenwisg, ymagorant, fflachiant yn flodau,-ar y cyntaf fel cnapiau o arian, yna o aur, a bydd amlycach na'r dderwen sythfalch yr wyl helygen grymedig!

Helygen wrryw? A ydyw hyn yn golygu fod helyg benywaidd? Ydyw. Gadewch i ni egluro. Fel hyn. Mae planhigion yn byw, yn bwyta, yn yfed, ac yn tyfu. Carant, priodant, rhoddant i briodas, a chodant deulu. Eu plant yw yr hadau, cynnyrch tad a mam. Chwi gofiwch, canys dywedais wrthych o'r blaen, mai blodau yw organau adgynhyrchiol planhigion. Unig swyddogaeth y blodau yw cynhyrchu had. Mae eu ffurf, a'u harogl, a'u lliwiau ysplenydd, a'u cwbl, yn gynorthwy iddynt gyflawni eu gwaith pwysig yn llwyddiannus.

Yn y dosbarth lliosocaf o blanhigion, mae y gwrywaid a'r benywaid—y tadau a'r mamau yn byw yng nghwmni eu gilydd—dan yr enwau briger a phelydr—yn yr un blodyn, fel teulu cymysg o wŷr a gwragedd yn preswylio dan yr un to. Caru? Gwnant. Fuoch chwi 'rioed yn sylwi yn y blodyn deuryw, fel y gwylia y briger eu cydwedd fenywaidd, ac y moesymgrymant, ar droion o'i hamgylch, i dalu iddi warogaeth o serch? Welsoch chwi hithau yn codi neu ostwng ei phen, yn ol fel bo'i thaldra, i dderbyn o gusanau ysgeifn y briger?

Mewn dosbarth llai, ni chymysgir y rhywiau, ond triga y gwrywaid gyda'u gilydd—fel clwb o hen lanciau—heb fenyw yn eu plith, mewn un blodyn; a'r benywaid gyda'u gilyddfel clwb o hen ferched—heb wryw yn eu mysg, mewn blodyn arall. Gelwir y ffluron nad oes iddynt ond briger yn unig yn flodau gwrywaidd; a'r rhai nid oes iddynt ond pelydr yn unig yn flodau benywaidd, i'w dynodi oddiwrth y blodau deuryw y gwullion gwryw—fenywaidd (hermaphrodite)—welir yn y mwyafrif mawr o lysiau y maes.

Yn aml ceir y blodau gwrywaidd a'r rhai benywaidd yn preswylio ar wahan ond ar gangau yr un pren, fel mân gymdeithasau o wŷr a chymdeithasau o wragedd yn byw, fel y cyfryw, yn yr un pentref ond nid yn yr un tai. Esiamplau o hyn yw y gollen, y fedwen, a phidyn y gog. Pryd arall ceir y blodau gwrywaidd a'r blodau benywaidd ar brenau gwahanol fel clybiau o ddynion yn byw mewn pentref yma, a chlybiau o ferched yn byw mewn pentref arall ac heb gysylltiad yn y byd rhwng y pentrefi a'u gilydd. 'Rwan, sylwch. I'r math olaf yma y perthyn yr helyg. Gwrywaidd yw yr helygen yma sy'n taflu ei changau drosom. Benywaidd yw honacw welwch chwi draw. Ganfyddwch chwi ryw ragor rhwng y ddwy yrwan? Dim. Maent yr un fath yn union yn eu hagwedd, a'u dail, a'u hosgo. Ond pan agoro'r blodau yn nechreu Ebrill bydd y gwahaniaeth yn amlwg i bawb. Bydd pob blodyn ar hon yn dwryn o friger, neu ermigau gwrywaidd-felyned a'r aur; a phob blodyn ar honacw yn grugyn o belydr neu organau benywaidd—loewed a'r arian. Nid dillynach yw brieill a mill Ebrill a Mai na'r helygen gadeiriog dan goron o flodau.

A ydych chwi'n cofio ystori Priodas y Blodau? Dywedais wrthych yn y stori honno, pan yn son am ddail suran y gog, fod yn rhaid i baill yr ermigau gwrywaidd gael ei ddwyn, drwy ryw foddion neu gilydd, i gysylltiad—i gyfyrddiad â rhannau arbennig o'r organau benywaidd er ffrwythloni'r olaf a chynhyrchu o honynt had. 'Rwan, pa fodd y trosglwyddir paill yr helygen wrryw yma, dyweder, i belydr yr helygen fenyw acw, sy encyd o ffordd—led cae-oddiwrthi? Pa fodd y gweinyddir y briodas? Hoffech chwi wybod? Gwrandewch ynte. Ar ddyddiau heulog yn nechreu gwanwyn, pan fo'r briallu, a'r anemoni, a'r milfyw allan, a'r helyg hyblyg yn eu llawn flodau, gedy y gwenyn gwâr eu cychod, a'r gwylltion eu tyllau, lle llechent y gaeaf. i geisio lluniaeth 'rol hir ympryd. Gwyddant fod ym mlodau'r helyg fara a mêl iddynt; ac, a hwy yn newynog, aroglant yr arlwy o bell. Hedant yma, hedant acw; a daw lluoedd o honynt dan ganu i'r goeden hon. Gwibiant rhwng y cangau; suo-ganant; disgynnant ar y blodau, a chasglant o'r paill—canys dyna eu bara hwynt—ond cymaint sy o hwnnw ym mân gydau'r briger, fel y syrthia, megis aurdywod, ar sidanflew eu brithwisg, a glyna yno. Yna, a'r llwch yn drwch ar eu gwisg, ehedant, ond odid, i'r goeden fenyw i hel mel o'i blodau. Tra yno'n ymdroi, yn naturiol, syrth peth o'r paill sy'n britho eu blew ar rannau gludiog, sensitive, y pelydr benywaidd, ac wele, dyna y cyffyrddiad wedi cymeryd lle, dyna y briodas wedi ei gweinyddu drwy gyfrwng y gwenyn prysur min felus.

Tariasom yn hir yma. Bellach symudwn ymlaen gydag ymyl y gwrych. Ganol haf eurfrithid y carped lle cerddwn gan flodau claerlyfn crafanc y fran. Amled oeddynt a llygaid y dydd. Erbyn heddyw, o'r teulu mawr a lliosog hwn, nid oes yn weddill namyn ychydig o aelodau unig ac amddifaid. Dyma un o honynt ar y gair, yn ffynnu ar ochr y clawdd, dan gysgod y gwrych. Welwch chwi ef? Er colli o hono ei geraint, eto nid yw wedi ei lwyr adael, canys y mae iddo yn gymdeithion o'i gylch, flodau hygar o lwythau ereill, nid amgen y goesgoch, a'r greulys, a chlychau'r eos, ac amryw ereill o flodau'r hydref.

Ond gadewch i ni gymharu blodyn y llysieuyn yma â blodau yr helyg. Gwneir coronig hwn i fyny, fel y gwelwch, o bump o fflurddail llathrfelyn. Ym môn pob fflurddalen mae melgell (nectary), a llabed bitw fechan—gellir ei gweled drwy y chwyddwydr ond plicio y ddalen ymaith yn cau yn dynn am dani er diogelu y Sylwch ym môn y fflurddail, fel rheol, y lleolir melgelloedd blodau crafanc y fran. Ceir eiddo yr helyg wrth waelod yr hadlestri (ovaries). Edrychwch eto. Yn union yng nghanol y blodyn mae llygad bychan lased a'r asur uwchben. Dyna yr organ fenywaidd. syllwn arni drwy y gwydryn yma canfyddwn ei bod yn gyfansoddedig o nifer o gnepynau gorfychain neu fân gelloedd eisteddog wedi eu pacio yn dyn i'w gilydd. Mae pob un o'r celloedd hyn yn amgau egwyddor hedyn, a hwnnw drachefn yn cynnwys rhith eginyn a ddadblyga dan amgylchiadau cyfaddas yn llysieuyn crafanc y fran. Welwch chwi, dyma flodyn ar gangen arall yn y fan yma yn ymffurfio yn ffrwyth. Mae y flodamlen, a'i goronig, 'rol darfod eu gwaith, wedi syrthio ymaith; mae y briger wedi hen wywo; ac nid oes yn aros ond swp o ffrwythelau (carpels) blaenfeinion, bachog bwaog, ar gopa y fflurgoes. Deuwn yn ol eto at y blodyn cyntaf. Ogylch y paladr, yn rhengau, fel pe yn ei hamddiffyn, mae bagad o friger a'u paill-gydau hirion yn dechreu arllwys eu cynnwys yn gawodydd aur ar rannau ereill y blodyn. Yma, gan hynny, ac yn wahanol i'r helyg, mae y gwrywaid a'r benywaid yn byw gyda'u gilydd yn deulu cryno, comfforddus, cariadus megis o dan yr un gronglwyd glyd a diddos. "Felly," meddwch, "medr y blodyn yma ffrwythloni ei hun, am y gall y paill syrthio o'r briger ar gnepynau y paladr sy'n trigo gerllaw iddynt; ac nid oes angen cyfryngau i gario yr elfen fywiol o'r naill flodyn i'r llall." Na, nid fel yna yn hollol. Dywedodd un naturiaethwr enwog[85] nad yw Natur yn dewis i flodyn perffaith gael ei ffrwythloni gan baill o'i friger ei hun. Mae briger a phelydr yr un blodyn yn. gyfneseifiaid yn frodyr a chwiorydd; felly mae'r berthynas yn rhy agos i'w hundeb allu cynhyrchu hadau bywiog a ffynadwy. Fel rheol ond. y mae eithriadau—ffrwythlonir pelydr blodyn deuryw gan baill o friger blodyn arall, o'r un rhywogaeth, wrth gwrs. Gelwir hyn yn groes-ffrwythiant. Fel y mae ym myd yr anifeiliaid, ac yn nheulu dyn—mae cymysgu gwaed yn fuddiol yno—felly hefyd yn y deyrnas lysieuol. Tuedda croes-ffrwythiant i gynhyrchu hadau, a blagur, ac epil, a ddaliant eu tir yn yr ymdrech fawr am fodolaeth-yr ymdrechia ryfedd, gyfrin, ddidrugaredd honno sy'n araf a dygn ymweithio, sy'n troedio'n uchel falch, os mynnwch, drwy fywyd y cyfanfyd.

Wel," meddwch unwaith eto, os nad yw Natur yn dewis i'r blodyn yma ffrwythloni ei hun, ac efe yn flodyn deuryw, beth sy yma i rwystro hynny, a pha fodd y dygir y croesffrwythiant y soniwch am dano oddiamgylch?" Mae yma ddarpariaeth gywrain i'r perwyl, a dyma hi.

Ym mlodyn crafanc y fran—canys â hwn y mae a fynnom yn bresennol—nid yw y gwrywaid a'r benywaid yn aeddfedu gyda'u gilydd, hynny yw, nid ydynt yn cyrraedd oedran priodas yr un adeg. Daw y briger i'w hoed yn gyntaf, ac yna y pelydr encyd ar eu holau. Yn ieuenctid y blodyn, pan egyr ei aur-lygaid gyntaf, y gwrywaid yn unig sy'n aeddfed. 'Rol gwywo o honynt hwy, a'r blodyn yn gyflawn o ddyddiau, yna daw y benywaid hwythau i gyflwr o aeddfedrwydd. Wel, 'rwan, lle bynnag y gwelir toraeth o'r ffluron hyn bydd y naill hanner o honynt yn y sefyllfa wrywaidd, a'r hanner arall yn y sefyllfa fenywaidd. Dyna hwy felly, i bob diben ymarferol yng nglyn â'u priodas, yn yr un cyflwr yn union a blodau yr helyg, hynny yw, mae eu rhannau ystlenol ar ffluron gwahanol, bellter mwy neu lai oddiwrth eu gilydd. Felly mae'n rhaid wrth gyfryngau allanol yma eto er trosglwyddo'r paill o friger aeddfed blodyn ifanc i belydr aeddfed blodyn hynach. Beth yw y cyfryngau yn yr achos yma? Ai y gwenyn? ai y cacwn? ai ieir bach yr haf? Prin. Dewisant hwy, pan fo amlder blodau ar y ddaear, ymweled â'r gwullion gleision a chochion, a phorffor. Gadawant y gwaith. o ffrwythloni blodau melynion i'r gwibed, a'r cylion, a'r cler, a'r chwilod. Disgyn y rhai hyn ar flodau crafanc y frân i chwilio am y melusfwyd, cludant y paill ar eu traed, a'u blew a'u pennau o'r naill flodyn i'r llall,—fel y gwna'r gwenyn ym mlodau yr helyg, a chânt ddyferyn o fêl o fonau'r fflurddail yn dâl am eu poen. A dyna y modd y croesffrwythlonir tylwyth helaeth yr egyllt. A ydych wedi dilyn y stori?

Mae tranc y dail plufog-coronbleth brydferth y pren-yn ymyl. Yn wir, mae wedi dechreu eisoes, fel y gwelsom. Gwelir dail gwyw o liw'r aur dilin a'r ambr gloew yn amliwio ymylon y deilwaith. Edrych y goeden sy draw, gan amlder ei melynddail, yr un ffunud a phe byddai ysblander melynwawr y tes yng nghlwm am dlysni yr emerald. Ond berr yw einioes prydferthwch. Yn raddol llacia'r gwywddail eu gafael o'r gainc a'u dygodd. Cyn hir cwblheir yr ysgariad, a sigl-syrthiant gyda rhugldrwst i'w beddau rhwng y manwydd wrth fôn y pren. Ymhongia ac ymlaesa eu cyfoedion a'u goroesant yn drist a chrebach ar y cangau, a llithra'r gwlith oddiarnynt, fel dagrau hiraeth yn hid i'r llawr. Daw eu tro hwythau yn fuan, liaws mawr o honynt eto yn irleision ar y pren. Barrug unnos â'i oerfin a'u deifia, ac, erbyn y bore, ni bydd pren, namyn y bytholwyrdd, a'r nis dihatrer, a bydd ardderchawgrwydd y goedwig yn llanastr dan draed. yr awelon i oer wylo am rai a fu gu ganddynt; a bydd swn hiraeth yng nghwynfan y gwynt. Crwydrant yn athrist rhwng y cangau, lle bu'r dail, fel pe yn chwilio'n bryderus am danynt, ond lle y dail nid edwyn ddim o honynt hwy mwy, ac nid erys yno onid creithiau'r ysgariad yn unig.


CRAFANC YR ARTH.

The north-east spends his rage; he now shut up
Within his iron cave, the effusive south
Warms the wide air . . . . . . .
Not such as wintry storms on mortal shed,
Oppressing life; but lovely, gentle, kind,
And full of every hope and every joy
The wish of Nature.—Thomson.

"TRI pheth," medd y wireb, "anhawdd eu nabod,—dyn, derwen, a diwrnod." Dywed hen air arall,—"Nid y bore y mae canmol diwrnod teg." Digon gwir, os digwydd i hwnnw fod yn un o foreuau Chwefrol afrywiog. "Praise a fair day at night," ebe'r Sais yn eithaf priodol. Ond boed hynny fel y bo, mae'n fore braf heddyw. Mae'n fwynder haf yn nyfnder gaeaf.

Mis troiog, trystiog, rollicking, fel rheol yw Chwefrol. Yrwan, a'r flwyddyn yn ieuanc, nwyfus a gwantan yw Natur fel hogen benchwiban. Fynychaf hi chwery mewn afiaeth â'r Gaeaf er garwed ei drem a thaioged ei dymer. O hir gyweithas â hwnnw, yn sydyn rhydd hoewlam o'i afael, a phletha ei breichiau yn glwm am fwnwgl y Gwanwyn, a thros ei ysgwydd teif winciad ddireidus ar swynion yr Haf ymrithia encyd oddiwrthi yng nghaddug y pellder.

Ie, mis gwamal ac oriog yw Chwefrol. Rai dyddiau yn ol rhuthrai'r storm bygliw yn orddig o ororau eiryog y gogledd dros frig y Foel Famau. Lledodd ei hedyn lliw'r ebon, fannid gan blu gwyngan yr eira, dros lesni yr awyr. Taranai'r mynyddoedd, ac udai cilfachau y glyn. Yng ngosgordd y storm terfysgai y gwyntoedd. Ysgubent mewn rhwysg dros brysgwydd y wigfa; mwngialent yn flwng rhwng mein-gangau y bedw; hysient fel seirff ym mhreiff-osglau y masarn; dyruent yn groch rhwng colfennau y deri. Aruthr oedd stwr rhuthr y storm!

Ymostegodd y dymhestl honno. Drannoeth rhuai oerwynt y dwyrain. Pwy na rynnai gan fin ei erwinder? Er sefyll o honof yn llygad yr haul, a'i wres fel tes Mehefin, 'rwyn crynnu yrwan, 'rwy'n teimlo'r erwinrew wrth feddwl am dano. Ydych chwi'n cofio? Och fi! Taenai ei lwydrew fel mân ludw, ledled yr awyr. Bwriai ei ia yn dameidiau. Brigau y gwydd a wisgai â barrug. Ei ffun oer a fferrai wlithwlaw'r ffurfafen.

Ond heddyw, welwch chwi mor braf ydyw? Treiglwyd ymaith dros gaerau'r terfyngylch lenni huddygl-liw y cymyl, a gloewed yw'r entrych yrwan a gwawl y saphir. Ymrithia cymyl bychain ysgafnwyn, fel blaenau edyn angylion, drwy'r ysplander, ar y naill du i'r haul, pasiant yn rheng heibio ei wyneb, gwisgir hwy ganddo ag arian, a chiliant, o'r tu arall iddo, yn ol i ogoniant dwfn y nefoedd. Rhyngom a'r wybr, a'r haul ar ein cyfer, saif prennau'r wig yn eu prydferthwch gaeafol noethlwm. Delweddir hwy—in relief—yn belydr, cangau, brigau, a blagur ar lesni digymar y nefoedd. Fuoch chwi erioed yn sylwi ar gysgod pren ar wyn yr eira ar noson loergan? Nid harddach y cysgodlun—y silhouette—rhwydweog hwnnw na delw'r coed ar len yr awyr ar fore heulog fel heddyw.

ADAR EIRA.

Chwyth awel y de, fel anadl haf, dros drumau y Berwyn. Dan ei chyffyrddiad hudolus ymsiriola cangau llwydwawr y wig, ac anesmwytha rhithion y blagur yn niddosrwydd eu cenwisg. Ymwthia dail pidyn y gog, a'r danadl, a bresych y cwn, a blodyn y gwynt, a'r briallu, a'r mwsglys, a'r fioled, drwy'r mwswgl yng nghysgod y llwyni i ddathlu ymweliad cyntaf yr Awel feddal felfedaidd. Ymbincia yr adar beilchion, a thrwsiant eu plu er ymgyplysu. Mae dwy frongoch yn y llwyn o'm blaen yn ymgytwaith, ac yn ymgiprys yn serchog fel rhai fai'n dechreu caru. Gwelant ni a hedant yn yswil i unigedd suol y wig i,—wel, i chware mewn afiaeth yn ol hen arfer cariadon. "Twit! Twit!" Dyna'r deryn coch yn galw ar ei gydmar. Twit!" "Tw-i-i-t!" Glywch chwi'r llall yn ei ateb? Daw'r cornchwiglod siobynog yn ol o wastadlawr y Dyffryn i'r bryniau awelog i nythu. Mae dau o adar yr eira yn sefyll, y naill ar simdde, a'r llall ar glochdy yr ysgol, yng ngolwg y twll yn nhalcen y ty, lle nythent llynedd. Hed un o honynt iddo. Dacw fe allan drachefn ac yn uno â'i gydwedd sy erbyn hyn yn switan, ac yn chwiban, ac yn ymwingo'n aflonydd ar gangau yr onnen gyfagos. Glywch chwi serchgogor cleberog y ddau?--rhyw gymysgedd rhyfedd ydyw o drydar, a ffrillio, a chlwcian, a gwichio, yn cael eu dilyn gan swn fel clec-clec-clec cyfres wyllt o gusanau, neu drwst dwr yn bwr-bwr-bwrlwm yng ngwddw costrel. 'Rwan am chware! Hedant, gwibiant, llamant, piciant, o gangen i gangen, crychleisiant, pigant eu gilydd, gogleisiant y naill y llall, tra y cryna ac yr ysgryda pob plufen lefn ar eu corff gan nwyd-bleser cyforiog.

Tyn y côr asgellog eu telynau oddiar gangau yr helyg wylofus, a dechreuant gyweirio eu tannau i blethu odlau gobaith a chariad. Telora'r uchedydd wrth ddorau'r Nefoedd. Cân brongoch yma, cân brongoch acw. Una'r ji-binc, a'r deryn coch, a'r llinos, a'r eurbinc, a'r dryw, a'r deryn du yn y gydgan. Twit-twit-twitia aderyn y to, ysgrecha'r biogen, meinleisia'r peneuryn, a gwichia yr yswigw las fach. Clywir llais uwch na'r oll-hyfrydlais clir, perorol, proffwydol y fronfraith yn llafarganu—yn bloeddio—Shir yp! Shir-yp!!" "Mae'r Gwanwyn yn dod!" Mae'r Gwanwyn yn dod!!" a chrawcia'r brain yn yr asur oddiarnynt,"Clywch-clywch!" "Clywch-clywch!!"'

Mor siriol yw blodau hirion y GOLLEN! Maent fel gwenau ar flwng ruddiau y Gaeaf. Estyn y pren ei frigau yn uchel i ddangos i'r drain a'r mieri cylchynol degwch euraidd ei gangau; a gwthia ei geinciau drwyddynt i rannu'n garuaidd â hwy o doraeth a chyfoeth ei dlysni. Talant yn ol iddo yn fuan in kindmewn tresi gwynion o flodau Mai a thorchau gwridgoch o rosynau Mehefin.

Ym mlodau y cyll ni chymysgir y rhywiau mwy nag yn eiddo yr helyg. Cartrefa y gwrywiaid ar bennau eu hunain mewn rhai blodau, a'r benywiaid ar bennau eu hunain mewn blodau ereill. Yn wahanol i'r helygen, fiynna y naill a'r llall o'r clybiau hyn ar frigau yr un pren-megis am yr heol â'u gilydd. Tyrrau o flodau gwrywaidd yw y ffluron hirgrwn—y cynffonau[86] llywethog—y catkins melynwawr yma sy'n hongian fel cadwynau goludog ar gangau goleulwyd y cyll. Edrychwn ar un o honynt. Mae arno ugeiniau o gen neu o ddail bychain wedi eu gosod wrth eu gilydd, a thros eu gilydd yn rhannol, ar ddull peithynau neu lechau ar bennau tai. 'Mhen diwrnod neu ddau, os deil y tes, cwyd y cen eu pennau—fel y gwelwch yn y fflur henach yma-gan ddangos bagad o friger—teulu o ryw wyth gwrryw yn eistedd yn daclus a thalog ymhob un o honynt, ac ymylon y dail bychain yn plygu oddiarnynt fel bargod neu benty i'w cysgodi a'u hamddiffyn. Ysbiwch ar y cen drwy y mwyadur bychan yma. Welwch chwi, mae eu tu mewn—lle nytha y briger—wedi ei wynebu yn ddel â gwynwlan cynnes; a'u tu allan yn flewog, a durfin, a diddos fel defnydd llawban dyfrdyn. Ar hin wleb syrth y gwlaw oddiarnynt fel defni oddiar fondo, a felly diogelir y paill, egwyddor fywydol y briger, rhag cael ei olchi ymaith cyn cyflawni ei waith. Y cen yma, yng nghyd â'u briger, sy'n cyfansoddi blodau gwrywaidd y cyll. Gwahanol ydynt i flodau yn gyffredin. Nid oes iddynt na blodamlen gaead gysgodol-gwna y cen wasanaeth honno; na choronig loewdlos, aml-liw i lygaddynnu y gwenyn, a'r clêr, a'r gwybed, canys nid oes mêl ym mlodau y cyll.

Braidd y mae neb nad yw, rywbryd neu gilydd, wedi sylwi ar wullion gwrywaidd y cyll; ond anaml, mewn cymhariaeth, yw y rhai a welodd y blodau benywaidd. Gadewch i ni edrych am danynt ar un o'r cangau ifeinc yma Cawn hwy heb fod nepell oddiwrth y ffluron gwrywaidd gyferbyn a hwy'n aml ar yr un gainc. Welwch chwi yr oddfyn bychan cennog yma, tebyg i ddeil-flaguryn, a thusw o fain linynnau rhuddgoch yn tarddu allan o hono gan ledu ei frig ar gylch? Wel, dyma un o'r catkins benywaidd. Gwahaniaetha oddiwrth ei gymheiriaid gwrywaidd mewn maint—mae'n llai; ac mewn lliw—mae'n goch. Gweigion yw cen allanol yr oddfyn; ond amgaua nifer o'r cen mewnol, bob un, ddau flodyn benywaidd perffaith. Brigau gludiog a garw y pelydr yw y blewiach cochion yma, ac arnynt hwy y rhaid i'r paill syrthio er ffrwythloni rhithion y cnau sy yn yr hadgelloedd wrth fôn y pelydr. Tynnwn y sypyn ymaith a rhown ef dan y chwyddwydr mawr yma. Welwch chwi, mae'r paill yn ei foglynu'n barod, yn dryfrith drosto. Gwreichiona ac efflana'r manflawd fel eurlwch a pherlau ar borffor ysblenydd y ffluron. Gymaint o ogoniant cyfrin sy o'n hamgylch yn ein hymyl—ac mor ychydig a'i gwel! Datguddir ef yn unig i'r sawl a'i cais fel arian, ac a chwilia am dano fel am drysorau cuddiedig. Sylwch, brithir[87] y pren gan y blodau benywaidd yma. Gwridant fel gwyryfon yng ngolwg y tyrrau gwrywaidd sy'n pipian ac yn ysmicio arnynt dros ymylau y cangau.

Mae swm anferth o baill yn y cenawon gwrywaidd yma. Raid i mi ond ysgwyd y cangau'n ysgafn—dyma fi'n gwneyd felly—na ddyhidla y blodau addfed eu man-flawd—welwch chwi e'n disgyn?—yn gafod euraidd ar fy mhen —ysbiwch? 'Rwan, beth weinydda'r briodas rhwng y rhain â'r ffluron benywaidd? Beth garia y paill o'r naill i'r llall? Nid y clêr, nid y gwenyn, nid un ednogyn-fel ym mlodau yr helyg a'r egyllt-canys nid oes fêl yma, fel y crybwyllais, i ddenu y cyfryw drychfilod. Beth, ynte, yw'r cyfrwng? Y gwynt! 'Rwan ac yn y man, rhuthra gwyntoedd cryfion Chwefrol drwy'r wig, gan ysgwrlwgach, a rhugldrystio, a chwiban rhwng cangau hyblyg y prysgyll. Ysgytiant y brigau; neidia y paill, fel yn fyw, o'r fluron, chwelir a chwyrliir ef i bob cyfeiriad a syrth peth o'r llwch o angenrheidrwydd-gan y cyflawnder sy o hono-ar ermigau byw rhuddgoch y blodau benywaidd. Dyma i chwi stori carwriaeth a phriodas y cyll.[88]

Symudwn ymlaen. Rhwng y drain, a'r mieri, a'r dyrysni yn y fan yma, mae llysieuyn tirf a golygus yn ei lawn flodau, a hi eto yn aeaf. Nis gallwn nas gwelwn ef gan mor amlwg yw ei irlesni siriol ymysg cangau llwydion a diaddurn y coed a'i hanwesa. Lleinw ein genau â chwerthin, a'n tafod â chanu. Edrychwcharno. Mae fel y cip cyntaf ar yr awyr lâs pan fo'r cymylau yn ymwanafu ac yn ymwasgaru, a'r cysgodau yn cilio ar ol hir ddryc-hin. Dan gyffyrddiad yr awel onid yw ei flodau fel clychau'n canu? Onid yw ei ddail fel tafodau'n siarad? Onid ydynt yn sisial, sisial, fod y Gwanwyn yn nesu?

Wel, beth yw'r planhigyn cydnerth a gwrol a brigog yma, sy'n ffynnu fel y lawryf gwyrdd, ac yn blodeuo fel palmwydden yn nhawch, a mwrllwch, ac oerni v gaeaf? Mi ddywedaf wrthych. Adnabyddir ef wrth

yr enwau crafanc," neu "droed," neu "balf,' neu "bawen yr arth."[89] Weithiau hefyd gelwir ef yn "llewyg y llyngyr," a phrydiau ereill yn yn "llun troed yr arth."

Cliriwn ymaith y crinwydd a'r sychwellt o'i amgylch er cael gwell golwg arno. O'i droi a'i drosi cyfyd sawyr cryf ac anhyfryd oddiwrtho. Mae ei fonyn anystwyth yn dwyn ar ei risgl glasliw nodau a chreithiau dail mwy nag un tymor. Welwch chwi, mae'r dail wywodd ddiweddaf ynglŷn wrtho eto, ac er hen farw o honynt, a chrebachu, a chrino, a chori, eto, nid o'u bodd ac nid heb graith yr ymadawant hwythau, mwy na'u rhagflaenoriaid, â'r cyff epilgar a'u dygodd. Ni wywa y planhigyn hwn at y ddaear yn flynyddol fel y danadl, a'r tafol, a'r ysgall, a bysedd y cwn, a charn yr ebol, a'r ddeilen ddu dda, a siaced y melinydd, a chacamwci a chwewll y mynach, a llawer ereill allaswn enwi. Derfydd y dail yn eu tro, fel to ar ol to o ddynion, ond nid cyn ymagor ac ymddablygu o ereill i gymeryd eu lle ar y boncy ff. Felly erys y llysieuyn, yn ei fonyn a'i frig, fel pren wedi ei blannu ar lan afonydd dyfroedd, bob amser yn laswyrdd, bob amser yn siriol.

TROED YR ARTH.
Mae'r dail yn od. Tebyg i bawenau nen balfau, ac yn ymsymud yn yr awel unwedd ag ewinedd byw afonydd bwystal rhaib."

Tud. 89. 'Rwan edrychwn ar y tusw dail dyfnwyrdd sy'n tasgu allan o'r gwlyddyn, yn agos i'w frig. Hoffech chwi wybod eu hanes? Mae bywgraffiad y dail yn ddyddorol. Ganwyd hwy y gaeaf y llynedd, a meithrinwyd hwy yng nghysgod eu ceraint fuont feirw, ac yn swn lullaby lleddf yr oerwynt a siglai eu cryd wrth fyned heibio. Gwelsant enhuddo eu gwely â chwrlid purlan o eira perlog, a'i addurno â brodwaith o arian weithiwyd gan fysedd oerwynion y barrug Gwelsant law wen y Gwanwyn yn gwisgo y prysgwydd o'u hamgylch â harddwch; gwelsant yr Haf, hael ei law, yn hulio y glaslawr á blodau; gwelsant hefyd ddiosg y goedwig o'i cheinwisg gan law arw anfwyn yr Hydref. Bu stormydd dau aeaf yn curo arnynt. Erbyn hyn maent yn heneiddio. O hyn allan, fel bydd y dydd yn ymestyn, dihoenant hwy, a thua dechreu yr haf, pan fo irlas pob coeden a llwyn, a gogoniant y wig yn ei anterth, syrthiant ymaith yn swn lleddfol yr Awel, gan roddi eu lle, yn ol deddf olyniaeth, i'r dail bychain. iraidd sy'n ymwthio allan oddiarnynt gydag ynni a bywiogrwydd diflino ieuenctyd.

Mae'r dail yn od, meddwch. Ydynt. Nid yn aml a welir eu cyffelyb. Tynnant ein sylw ar unwaith oherwydd dieithrwch a hynodrwydd eu ffurf. Tebyg ydynt o ran llun ac ystum i bawenau neu balfau, a'u crafangau rhintach yn llydan agored, ac yn ymestyn allan, ac yn ymsymud dan yr awel unwedd ag ewinedd byw aflonydd bwystfil rhaib pan ar grychneidio'n chwimwth ar ei ysglyfaeth. Welwch chwi mor darawiadol yw'r tebygrwydd? Pa fardd a'i gwelodd gyntaf? Dyma paham, yn ddilys, y galwyd y llysieuyn yn balf neu yn bawen; ac yn grafanc yr arth am fod rhannau neu yspagau y dail yn hirion, ac yn ymledu yn wasgarog fel crafangan diwain y mil hwnnw pan yn symud yn araf-drwm dan bwysau ei gorff mawr afrosgo. Yn wir, mynych y gelwir llysiau ar enwau cymalau neu ermigau anifeiliaid oherwydd tebygrwydd ffansiol eu dail, neu eu ffrwyth, neu eu hadgibau, neu eu rhywbeth i'r cyfryw rannau. Glywsoch chwi son am fysedd y cwn, a barf yr afr, a chlust yr arth, a chain yr ebol, a chynffon y llygoden, a chorn y carw, a dant y llew, ac eirin y ci, a llygad yr ych, a phig y gog, a thafod yr hydd, a throed y dryw, a thrwyn y llo? Dyna i chwi dwrr o enwau diofal ar dyfolion!

Unwaith eto. Sylwch ar goesau hirion y dail. Ar eu hochr ucha maent wedi eu cafnu'n ddwin ar eu hyd, o ben i ben. I beth? Dangosaf i chwi. Gwreiddyn main, hir, yn tyfu'n unionsyth i'r ddaear, fel eiddo y moron, a'r pannas, a'r tafol sy i'r llysieuyn hwn. Un o brif swyddogaethau'r gwraidd, fel y gwyddoch, yw sugno dŵr er budd y llysieuyn. 'Rwan, er dwyn y gwlaw o fewn cyrraedd y mein wraidd hwn rhaid iddo ddafnu'n gywir uwch ei ben, hynny yw, ar y gweryd yn union wrth fôn y gwlyddyn. Ai ni lesteirir hyn gan y deilwaith clos, trwchus, a llydan yma? Na wneir. Welwch chwi, mae'r dail wedi eu panelu, a'u deilgoesau wedi eu cafnu, a'r oll wedi eu trefnu a'u cyfleu yn y fath fodd fel ag i gario ac i arwain y gwlaw i ddisgyn ar y llysieuyn, nid tuag allan, ond tuag i mewn, i gyfeiriad y gwreiddyn hirfain. Pan fo hi'n bwrw, wedi hir sychder, syrth y dyferion gan dincian, a neidio, a thasgu fel llwch gemau ar y deilwaith. Llifa'r gwlaw ar hyd y rhigolau,—dyma eu diben,—yn ffrydiau gloewon; ac i lawr y cyff yn drochion, gan ddisgyn ar y gweryd wrth ei fôn, yn y man a'r lle y gall sugnedyddion y gwreiddyn, yn fwyaf cyfleus, ei gymeryd i fyny er disychedu y llysieuyn.[90]

Hynoted yw y blodau a'r dail. Dyma nhw'n fagwy ar y brig, yn tyfu ar fflurgoes hir amlgainc, a blodyn crwn pendrwm hanner agored, neu gaead, yn coroni pob blodyn. Nid cyfuwch pob blodyn; edrychant fel pe'n sefyll, y naill ar ysgwydd y llall. Safwn ychydig oddiwrth y planhigyn. Dyna. Edrychwch 'rwan. Mor brydferth—mor striking, yw'r cyferbyniad sy rhwng gwyrdd goleu, ysgafn, gwelw y blodyn,—lliw anghyffredin ar ffluron,—-a gwyrdd dwin tywyll y dail. Mae fel gwawl ffagl yn gorffwys ar gysgod. Fel rheol, mwy ac amlycach yw'r goronig na'r flodamlen. Yn y rhan fwyaf o lysiau hi yw y rhan fwyaf showy o'r blodyn; hi sy'n pennu ei ffurf, a'i fflurddail hi harddir â lliwiau. Ei gwyn eirian hi welir yng nghloch yr eiriawl;[91] a'i choch hi wrida foch y rhosvn. Ond y mae blodyn crafanc yr arth yn eithriad i'r rheol hon. Yma y flodamlen sy amlycaf. Gwneir hi i fyny o bump o gibrannau goleuwyrdd ymylgoch, pob un, o'r tu mewn, yn wrthgrwn ac wedi ei genglu â phorffor. Ymlapiant, y naill am y llall, ac ymblygant dros eu gilydd, ac ymgrothant tua'r canol fel ag i roddi ffurf globaidd i'r blodyn pendrwm. Lle'r egyr y blodyn gil gwelwgoch ei lygad gwelir ffasgell o friger penfelyn, a'r paledryn yn y canol,yn llanw cyfwng yr ystafell gyfrgron.

Ond ple mae'r goronig? Ple mae'r fflurddail? Torrwn ymaith un o'r blodau a thrown y flodamlen i lawr am y goesig. Yn union wrth fôn yr amlen, rhyngddi a'r briger, ac yn ffurfio cylch am odre yr olaf, ac yn camu am dani, tardd cyfres o ddail bychain pibellog-dyma nhw, welwch chwi-a'u genau'n siderog, ac yn ymledu allan fel cyrn diamdlawd.[92] Dyma y fflurddail sy'n ffurfio coronig y blodyn hwn. Beth sy'n llanw y pibau ac yn disgleirio o'r tu mewn iddynt fel gloew—fel mewn diliau? Gwasgwn un o honynt yn ofalus rhwng ewinedd y ddau fawd, a llifa allan o hono ddyferyn gloew. Rhown ef ar flaen ein tafod. Mel ydyw!—O flodyn mor chwerw ei flas! Yn ddiau, o'r cryf yn aml y daw allan feluster.

Mae'r mêl, fel y crybwyllwyd o'r blaen, yn tybio—yn awgrymu—croesfirwythiant. Dywedir yr aeddfeda pelydr crafanc yr arth o flaen y briger gwrywaidd. Os felly, diben y mel yma, fel ym mlodau crafanc y frân a'r helygen, yw denu trychfilod, yn gler, ac yn rhilion, ac yn frogrug ac yn wenyn, i fod yn lateion—yn genhadon serch—rhwng gwyryfon un blodyn, a gwŷr ifeinc blodyn arall. Garech chwi weld y negeswyr hyn? Tynnwn flodyn agored arall, a lledwn ychydig ar ei flodamlen er gweled i mewn iddo. Cymerwch y chwyddwydryn yna. Ganfyddwch chwi nifer o bryfaid bychain, wedi eu britho â phaill—ysbiwch, dyna forgrugyn yn eu plith—yn crwydro'n ffwdanus ar wely o fanlwch hyd waelod y blodyn? Dyna'r llateion. Aroglasant y mêl a daethant yma i ymborthi arno. 'Rol ysu'r melusfwyd yna, symudant fel gwibiaid, a'r paill ynglŷn with rannau eu corff, i flodyn arall i geisio lloches a lluniaeth yno. Fel hyn trosglwyddant y paill o flodyn i flodyn; dyna'r llateiaeth ar ben, a thelir y pwyth iddynt mewn cyfluniaeth o fêl.

Beth yw'r si-gyngan yma? "B-z-z-z-z!" Beth yw'r siffrwd, beth yw'r twrw sy o'n hamgylch? Mae'r miri hwn fel murmur ha.

B-z-z-z!" Holo! wele wenynen—wele un arall —wele ragor yn dod ar ei hawd o'r cwch, gan fwngial canu, i geisio o fêl cyntaf y tymor. Disgyn un o honynt ar flodyn o'n blaen. Ceisia ymwthio—ymwinga—at y diliau, ond metha gan fod y fynedfa rhwng ymylon y flodamlen a'r briger mor gul. Gwna gynnyg eto.

"Dim posibl!" eb hi, a ffwrdd a hi ymaith. Newidia ei meddwl—daw'n ol. "Treiaf eto," medd hi. Ymwthia, ymysgwydda, ymsidrwya—well done!—dacw hi i mewn! Cyrhaeddodd ei nod drwy ddyfalbarhad. Erys dipyn yn hir i leibio y mel. Mae ar ben. Ymysgritia i ddod allan. "B-z-z-z!" Dacw hi i ffwrdd. Welwch chwi hi'n mynd?

Beth, a gyfnewidiodd yr hin fuaned a hyn? Mae'n oer, ac y mae min ar yr awel yma. Na nid y bore y mae canmol tywydd teg. Ciliodd chwaon esmwyth y De mor chwimwth ag y daethant; ac yrwan chwyth awel lem-ddeifiol o ororau dulwyd yr eira. Pruddhaodd wyneb y nefoedd; ac, weithian, nis gwelir, gan gymyl hylithr, na gwen haul na gwybren lathr. Graddol ymgasgl y nifwl gan bylu goleu y dydd. Mae'r wig fel pe'n synnu at y cyfnewidiad sydyn ac yn ymbarotoi i wrthsefyll rhuthr y dymestl sy ar dorri. Crynhoa'r egin blethau eu gwisg wen-wlanog yn dynnach am danynt, ac ymlonyddant rhwng gwerchyrau cysurus eu celloedd. Ymwasga dail y briallu, a'r fioled, a bresych y cwn, a'r mwsglys yn ol i gynhesrwydd y mwswgl; ymhongia ffluron y cyll yn syfrdan a phendrist ar gangau gwelwon; a phwysa blodau crafanc yr arth eu pennau'n drwm ar balfau eu dail. Mae'r coed fel pe'n breuddwydio, a'r mwrllwch oer, fel llenni'r nos, yn drwch o'u hamgylch. Rhodd yr adar eu cerdd i gadw. Gwibhedant o lwyn i wrych, ac o wrych i lwyn i chwilio am loches, canys dysg eu greddf iddynt ddeddf y storm. Clwydant ar gangau cysgodol, a chwrcydant yno, a'u pen yn eu pluf, i ddisgwyl am dani. Mae'n dod. Dyma blufen eira—y gyntafanedig yn llithro allan o fol y cwmwl; lluchedena drwy'r tawch a disgyn ar y glaswellt wrth ein traed, ddistawed a heulwen. Rhedwn i'r ty, mae'r storm ar ein gwarthaf. Ar gurhynt fel hyn mynwes yr aelwyd yw'r man siriola." Glywch chwi? Cryfha'r gwyntoedd. Beichiant drwy'r gwyll fel ysbrydion cyfrgoll; dyrnant y drysau—clecia rheiny; ysgytiant y ffenestr—honcia honno; a tharanruant yng nghorn y simdde. Dyinha'r tywyllwch. Edrychwn allan. O oer-groth y cwmwl pygddu bwrir yr eira yn drwch i'r awyr; syrthia drwy'r caddug yn fflochenau llydain, nes pylu'n fwyfwy oleu y dydd. Cipir yr ysgafnblu gan y gwyntoedd, chwyrnellir a chwyfir hwy'n blith drafflith drwy eu gilydd. Rhedant hyd y llawr, ehedant drwy'r awyr i gysgod rhych, ac agen, a chongl.

Welwch chwi'r luchfa yma sy dan ein ffenestr? Plethir, a nyddir, a llathrir hi i'r lluniau a'r ffurfiau rhyfeddaf-mwyaf fantasticgan ddwylaw hyfedr, a bysedd hyblyg y gwynt. Mae pob cyrf, a dolen, a phleth; mae pob tro, a sider, a fill yn anarluniadwy brydferth. Saif yr ysgol ar ein cyfer. Ymylir hiniogau ei drws, a physt ei ffenestri, a rhigolau ei tho, â ffunenau gwynnach na chlôg y carlwm. Mae'r mur sy o'n blaen fel marmor Carrara; a thal fonau y coed fel colofnau grisial. Ffinir y cloddiau a'r gwrychoedd gan luchfeydd hirion, cyfochrog. Un ffunud ynt a gwenyg y môr fai'n codi'n frigwyn ac yn torri'n ewyn ar fin y feisdon.

Mae'n ysgafnu ac yn goleuo; cwyd y niwl a phaid a bwrw. Rhuthra'r haul drwy'r cwmwl, a dawnsia gwreichion ar frig pob lluchfa. Glywch chwi'r adar? Hed bronfraith-y prima donna-i frig yr onnen a llafar-gana unwaith eto Shir-yp!" "Shir-yp!!" "Mae'r gwanwyn yn dod!" "Mae'r gwanwyn yn dod!! ac ymdorra gwên dros wyneb Natur.

Y WENNOL.
"Daeth y Wennol yn ol i'w chynhefin i chwilio am le nyth o dan y bondo."
Tud. 97.

TELOR YR HELYG.

"And this our life, exempt from public haunt,
Finds tongues in trees, books in the running brooks,
Sermons in stones, and good in everything."
—Shakespere.


"The meanest flower of the vale,
The simplest note that swells the gale,
The common sun, the air, the skies,
To me are opening paradise."—Gray.

AETH y blwng Aeaf, a'i rew, a'i oerni, a'i bluf eira heibio. Camasom dros riniog y Gwanwyn, a safwn yn awr yn ei gyntedd. Gwelir blodau yn dryfrith ar y ddaear; daeth y wennol yn ol i'w chynhefin i chwilio am le nyth o dan y bondo; ac yma ac acw, ond anaml eto, clywir hyfrydlais y gwew lwydlas yn ein gwlad.

Dydd Sadwrn ydyw,—boregwaith teg rhywiog o Ebrill,—mis y mill a'r briallu, mis gwyn y ddraenen ddu, a mis difyr yr adar. Bob bore, ar lasiad y dydd, pan egyr y Wawr â bysedd rhosliw eurddorau y dwyrain, telora deryn du ei fawlgan blygeiniol oddiar irigyn pren gerllaw'r ty. Bore-goda yr ehedydd o'i iwth o flodau ar lawr y weirglodd, ymdorra i oroian, esgyn ar esgyll gwlith-emog i lasfro yr entrych, a chana ei ddyri yno fel cyngan angel, pan ddwyrea yr Haul,—llygorn y dydd, mewn urddas dros drum y mynyddoedd. Eilir y carolau hyn gan odlau hyawdl y ceiliog bronfraith. Tincia ei nodau perorol fel cyngan ariangloch Q yn awyr y cynddydd. Mewn eiliad ymdyr y mân adar i orfoleddu. Dan swyn a chyfaredd cydgord y plygain, ymgynhyrfa'r blodau, ymysgydwant o'u cwsg, lluchiant y mân-wlith fel perlau oddiar eu hemrynt, ac ar goesigau o felfed ymsythant i wrando ar fawlgerdd yr ednod. Agora yr aspygan, a'r anemoni, a melyn y gwanwyn, a dant y llew, a bara cann y gwcw eu llygaid mewn mewn syndod, ac ymestynnant ar flaenau eu traed i roesawu pelydrau cyntaf y wawrddydd.

Mae'n braf heddyw. Mae Natur yn ei hwyliau gore, a'i threm fu'n hir yn sarrug yn awr yn siriol. Ddowch chwi i'r wig eto am dro? Dyma hi o danom, a dim namyn y gwrych rhyngom â hi. Ymleda fel darlun o'n blaen. Welwch chwi, mae'n fyw ferw drwyddi. Mae pob coeden sy ynddi yn curo dwylaw. Maent yn estyn eu breichiau hirion, cyhyrog, allan, ac yn eu cwhwfan, cwhwfan, fel pe'n llawen gyfarch eu gilydd ar ddychweliad y Gwanwyn. Cyfarch yr onnen sy fan yma, y lwyfanen sy fan draw, a honno y fasarnen sy acw, a chwardda'r blodau yn y cysgod danynt. Cludir peroriaeth yr adar o'r pellter, ar edyn yr awel, i'n clustiau. Onid yw'r felodi'n swynol, a'r fawl-odl yn ein synnu? Gwrandewch,—

Glywch chwi dwrw'r telori, glywch chwi daro'r telynau?
Glywch chwi ar gangau yr irgoed swn yr organau?

Dyma ni yn y wig, yn sefyll ar y boncyn y safasom arno llynedd. Mae carped o fwswgl faswed a gwlan cribedig wedi ei ledu dros y llecyn.

Y FRONFRAITH.
"Eilir y carolau hyn gan odlau byawdl y ceiliog bronfraith. Tincia ei nodau perorol fel cyngan arian-gloch yn awyr y cynddydd."
Tud. 98.

Gwresog yw'r haul ar gnufau'r mwswgl. Teifl bedwen arian garedig gysgod ei changau deildlysog drosom. Wynned yw pelydr yr haul ar y paladr arian! Croga y briger meindwf dros fwnwgl y pren fel llywethau ffluwchog dros wddwf llaethwyn,—chwifiant fel cnufau o hirwallt dros ysgwyddau o ifori. Unwaith eto,maddeuwch i mi,—mae'r fedwen yn hardd. Saif yn dalsyth, fel rhian delaid, ym mysg prennau garwach a thalgryfach y wig. Wele yma fasarnen wasgarog; wele acw onnen braffgeinciog; ac wele draw lwyfanen frigog,-i gyd yn ffyrfach na'r fedwen feindlos. Yn ei hymyl, mewn clog o eiddew clymog, fel pe'n ei gwylio'n eiddig, saif pren derw rhwysgfawr, garw ei risgl, a diysgog ei osgedd, yn ardeb byw o Gadernid yn serch-noddi Prydferthwch.

Mae ysbryd y peth byw—ysbryd y Gwanwyn—fel dylanwad cyfrin yn cyniwair drwy'r lle. Ymrithia ym mhobman. Anadla ar y wig; neidia honno i fywyd fel o dan gyffyrddiad hudlath y rhiniwr. Ymchwydda, a dychlama 'r briddell dan ein traed; llydna y tyweirch cyfebron; ac esgorant ar brydferthwch ar bob llaw. Gwreichiona blodau yn fil ac yn fyrdd o groth epiliog y ddaear, cil-agorant eu hemrynt, a gwrid-wenant yn serchoglawn ar arffed aroglber eu mam. Ymsaetha'r irwellt rhigolog drwy'r gweryd, mewn gwisg dlos o las gloew, ac ymsythant gan falchder tra y rhydd pelydr melyn yr haul arliw o aur ar geinder eu hemerald. Blaendardda y coed o flaen ein llygaid. Ymwinga y blagur—y dail-fabanod—yn eu dillad magu, ymystwyriant yn eu cewylllythau crynedig, ysmiciant drwy eu cwcyllau, ymddiosgant o blygion eu gaeafwisg, a gwylwthiant eu pigau allan i dderbyn o gusanau yr heulwen loew sy'n cydgam â hwy ar sigl-lawr y cangau. Daw'r awelon ysgeifn, hoewfyw, ystwyth heibio dan suo-suo-ganu, cyffyrddant hwythau â min yr egin, gogleisiant hwy, ymlapiant am danynt, ac esgud-lithrant i lawr yr osglau gyda si-si a rhugldrwst i chware â glas glychau'r hyacinths sy'n hongian ar fain-goesigau wrth fôn y prysglwyn.

Pwy fu'n lluchio aur ac yn gwasgar arian dan y gwasgodlwyn? Serena milfil o fluron gwyn a melyn goludog dan gangau moelion y tewgoed—siriolant aneddau 'r Cysgodion. Edwyn y blodau, fel yr adar, eu tymhorau. Oer yw'r plygeiniau yr adeg yma, ac anwydog yw'r nosweithiau, felly ymdyra'r blodau dan ynn a deri, ac ymgasglant at eu gilydd yn llu mawr cyfeillgar i ddiddosrwydd llwyn a thwyn a pherth, ac ychydig welir ar y llecynau agored. Wrth fon y berth yn y fan yma cartrefa'r arllegog hirdwf eofnsyth. Gelwir hi gan y Saeson, oddiwrth ei blas a'i harogl, yn garlic-mustard. Ar lafar gwlad a dan yr enw Jack-by-the-hedge a sauce-alone. Dan y mieri, ar y naill ochr i ni, ffynna marddanadlen wen ac eiddew'r ddaear; ac yng nghysgod y llwyn, yr ochr arall tyf mefusen goeg,[93] a'r moschatel, a phidyn y gog. Llathra brieill gwynfelyn lethrau glaswelltog y clawdd dan gysgod y gwrych sy o'n blaen, a disgleiria'r mill fel amethysts yng ngwyll y drain a'r prysgyll gerllaw. Ymfwa'r fieren, a phlyg ei phen i ymgomio a'r blodau sy'n gwenu ogylch ei thraed. Edrych y ddraenen, sy eto'n ddiaddurn, i lawr fel delw o syndod ar dlysni y blodau. Ond aroswch, bydd hithau 'n deg ddihefelydd toc, dan haul melyn Mai, pan y bydd ei llyfnddail fel liainau emerald, a phob cangen lathrwen fel pleth o eira.

Ar bwys y mur sydd rhyngom â'r ysgol saif rhes o yspyddaid preiffion, a'u cangau'n ymdaflu allan droedfeddi i bob cyfeiriad. Ymsigla'r cangau hyn yn ysgafn, tra y cân yr awel hwiangerddi suo eu blagur tyner i gyntun. Yn eu cysgod, wrth draed a than odreu y coed, ymlecha llu mawr o lysiau bychain disglaer, deuliw eu dail. Tyfant finfin â'r llawr fel rosettes, ac ymwasgant mor glos ac mor dyn at eu gilydd fel nas gwelir difyn o'r ddaear rhyngddynt. Tew-frithir y carped lathr yma gan flodau melynion yn pelydru fel ser aur, ac yn gwreichioni fel lliw efydd gloew. Pipiant, fel cariadon oddi dan gwrr y llwyni; ymddangosant drwy y dellt, ac edrychant drwy'r ffenestri allan ar ogoniant teryll y dydd. Safant ar eu traed, ymogwyddant oll yr un ffordd fel pe am gychwyn am dro o'r gwyll i wawl yr heulwen. Bron na welwn hwy'n symud, ac yn cerdded yn rhengau trefnus tuag allan. A ydynt yn cychwyn, dywedwch? A ydynt yn symud? Dyma rai, welwch chwi, wedi cyrraedd y trothwy, ac ereill wedi camu drosto i'r lawnt sy o flaen eu cartref, ac yno, yng nghwmni daint y llew, a llygaid y dydd, ymheulant yn braf rhwng llafnau'r glaswellt.

Beth, ynte, yw y blodau eurlliw dysgleinio! yma? Buttercups, meddwch, dyna eu gelwir y ffordd yma.' Wel, ar yr olwg gyntaf, maent yn ddigon tebyg, ond gadewch i ni weled. Plygwn yn nes atynt. Welwch chwi, mae i'r blodau yma wyth—weithiau ragor—o fflurddail lathraidd—braidd na welwn ein llun ynddynt—tra nad oes i'r buttercups, fel y dangosais i chwi yn ystod un o'r troion o'r blaen, ond pump. Sylwch eto, mae y fflurddail yma'n hirgul, ac ni chyffwrdd un y llall—mae gwagle rhyngddynt, pan yn llydan agored. Pelydrant. Felly ffurfiant flodyn un ffunud a seren. Crynion, fel y cofiwch, yw fflurddail y buttercups, yn ymlapio'n ddel draws eu gilydd, ac gwneyd coronig ar lun cwpan heb fod yn ddwin. Eto, tynnwn un o'r blodau. Edrychwch dan y goronig. Welwch chwi, nid oes ond tair dalen yn gwneyd i fyny y flodamlen yma, tra y cyfansoddir blodamlen y buttercup, os ydych yn cofio, o bump o gibrannau—un am bob fflurddalen. Welwch chwi ddail y llysieuyn? Mae pob dalen yn gyfan—ar lun calon—yn dew, ac yn wyneblefn fel enamel. O'r ochr arall, blewog a geirwon yw dail y buttercups yn gynwysedig o ryw dair labed, a phob un wedi ei rhicio'n ddwfn, a'i daneddu, a'i minfylchu yn y ffurf fwyaf prydferth a chymesur. Unwaith eto. Sylwasoch, mae'n debyg—canys nis gallesech beidio—fod y blodau yma'n ymddangos, dan lwyn a gwrych, yn gynnar yn y flwyddyn. Parhant i oleuo gwyll eu lloches, ac i addurno eu cyniweirfan o ddechreu Mawrth i ddiwedd Mai. Ond am y buttercups, dadblygant hwy eu prydferthwch a lledant eu fflurddail i'r haul yn ddiweddarach, 'rol edwino a darfod o'r blodau yma, a phan fo barrug gloewlwyd y nos wedi hir gilio, a gwres a thes yr haf braf yn ei anterth. Carant hwy arogl y corfeillion,[94] a chwmni y swynfri[95] aur-lygad ar y llanerchau heulog agored. Cyn pen hir melynant wyneb y meusydd; gwelir cwpan aur wrth bob irwelltyn; a bydd gwawr golud ar y gweirgloddiau.

"Buttercups," meddwch, ond dywedais ddigon wrthych i brofi nad buttercups mo honynt. Unwaith eto, beth ydynt ynte? Wel, dyma lygaid Ebrill, neu'r milfyw, neu felyn y Gwanwyn, neu wenith y ddaear, neu wenith y gog, neu lygad dyniawed. Mae iddynt enw gwerinol arall. Tynnwn un o'r llysiau, yn wraidd a chwbl, o'r ddaear. Mae i'r gwreiddyn, fel y canfyddwch, nifer mawr o fân gnapiau hirgrynion, rhywbeth tebyg i gloron bychain yn dechreu ymffurfio. Tybiai'r hen bobl-a mawr oedd eu darfelydd-fod y cnapiau yma'n debyg ran ymddangosiad i glwyf y marchogion (hæmorrhoids neu'r piles) a chredent, o ganlyniad, fod trwyth neu isgell neu eli o'r llysiau yn feddyginiaeth rhag y cyfryw ddolur,[96] felly galwyd hwy ganddynt-a gelwir hwy eto ar lafar gwlad yng Ngheredigion, mi wn, a mannau ereill, fe allai-yn "ddail piles." Coleddid yr un syniad—cyfeiliornus mae'n ddiau—yn Lloegr, ac un o enwau cyffredin y Saeson, hwythau, arno yw "pilewort." Y milfyw melynliw yma yw y "little celandine," a gerid gan Wordsworth, ac y torrwyd darlun o hono, fel y crybwyllais dro yn ol, ar garreg fynor ei fedd. Camenwid ef yn buttercup yn ei oes yntau, a dygai hwnnw—flodyn yr haul—y clod ddylasai ef—flodyn y gwyll—gael, fel yr awgrymir gan y bardd yn ei folawd iddo,

Ill befall the yellow flowers,
Children of the flaring hours!
Buttercups that will be seen
Whether we will see or no;
Others, too, of lofty mien ;
They have done as worldlings do,
Taken praise that should be thine,
Little, humble, celandine!

Ydynt, y maent yn ddigon tebyg i'r buttercups. Nid rhyfedd hynny, canys perthyn y naill a'r llall o honynt i'r un tylwyth. Er nad ydynt frodyr, eto maent yn geraint agos, efallai yn gefnderwyr. Cydneseifiad iddynt yw crafanc yr eryr,[97] a'r poethfflam,[98]. a gold y gors[99] a'r arianllys.[100] Mae'r oll, fel hwythau, â blodau melyn. Y mae iddynt berthynasau o liwiau ereill. Gwyrdd ydyw blodau crafanc yr arth,[101] a thafod y llygoden.[102] Ysgarlad fel iris yr edn yw llygad y goediar.[103] Porphor yw blodyn y Pasc[104] a'r columbine. Glas fel yr awyr yw yspardun y marchog,[105] a chwewll y mynach.[106] Gwynion yw blodau yr anemoni, a barf hir y gŵr hen,[107] ac egyllt y dwr,[108] a chrafanc y frân eiddew-ddail,[109] a llysiau Christopher.

Ceir y peony o amryw liwiau—coch, porphor, pinc, melyn, a gwyn. Aelodau ydyw yr oll o'r blodau gwahanliw yma o lwyth mawr a changhennog, yr egyllt neu grafanc y fran, a dygant oll ddelw y tylwyth. Hoffech chwi eu hadnabod?

Os cawn hwyl a hamdden, fe allai y cawn eu dangos a'u desgrifio i chwi, bob un yn ei dro.

Gawn ni symud ymlaen? Cerddwn gydag ochr yr hen fagwyr yma. Mae Natur garedig wedi gwisgo ei cherrig geirwon didreigl â thrwch O fwswgl gwyrddfelyn. Cuddia y mwswgl yma rigolau dyfnion y cerrig, rhed yn fân gangau plufog, fel traceries rhew ar wydr, ar hyd eu llyfnedd, ac ymdeitl dros eu hymylon yn eddi modrwyog. Oddirhwng cysylltiadau'r cerrig, a thrwy y cwrlid tyner tyf llysiau Robert, a phig yr aran, a lledant eu hesgeiriau rhuddgoch, cymalog, drosto mewn ystum o hawddfyd ac esmwythyd. Welwch chwi'r llyseuyn bitw bychan canghennog yma sy'n codi ei ben o'r mwswgl yn y fan hyn? Tri darn yw ei ddail, fel tri bys. Mae o wawr goch, ac yn flewog a gludiog i gyd drosto. Cyffyrddwch ef a glŷn wrth eich bysedd. Coronir pob cangen gan flodeuyn gloew bychan gyda phump o flurddail gwynion. Dyma y tormaen tribys (rue-leaved saxifrage). Tyf y planhigyn yma, fel rheol, yn agenau y cerrig. Tybid yr holltai ei wreiddyn galedwch y graig er gwneyd lle iddo ei hun, ac am hynny y galwyd ef yn "tormaen." Yr un ystyr sydd i'r gair Saesneg saxifrage.

Trown ar y dde, a cherddwn ychydig ymlaen. Dyma ni yng nghanol y wig. Mae'r adar duon celgar yn clwcian, clwc, clwc, clwc, wrth ymgaru yng nghysgod y llwyni sy o'n hamgylch. Tarfir hwy gennym wrth basio, a hedant ymaith yn drystiog, fel arfer, gan whit-whit-whitio'n wyllt a chlochaidd yr adar gwirion! glywch chwi hwy?—nes disgyn o honynt yn y fan draw, bellter diogel, fel y tybiant, oddi wrthym. Edrychwch, mae nyth bronfraith yn y llwyn drain ar ein cyfer, a'r deryn yn eistedd arni. Nis gwelwn namyn ei big yr ochr yma a'i gynffon yr ochr draw. Mae ei gorff o'r golwg, yn llenwi cwpan y nyth. Mae yn deori. Clyw ni; neidia'n ddistaw oddiar ei nyth; a saif ar ei hymyl fel delw, gan edrych arnom yn synofnus, heb symud na chyhyr, na migwrn, na phlufen. Yr ydym yn symud ac yn cyffwrdd â'r llwyn. Tarfa yntau, edrych oddiamgylch, a llithra ymaith fel saeth ddistawed ag y gall, gyda "twit" isel, a "sw-i-i-sh" ysgafn—mor wahanol i'r deryn du, onide?—i un o'r llwyni. cylchynol i'n gwylio. Sylwn ar y nyth. Gwneir ei muriau allanol i fyny o fwswgl, a meuswellt, a main-wreiddiau, a dail, a mân frigau wedi eu cydwau a'u plethu i'w gilydd fel gwaith basged. O'r tu mewn dwbiwyd hi â haen o laid a thom gwartheg. Wynebwyd yr haen yma, drachefn â chaenen deneuach o bren pwdr weithiasid gan yr edn yn gymrwd drwy gymorth ei bawr gludiog. Defnyddiodd ei big i'w roi yn ei le, a'i fron, frech, gron, i'w lyinhau. Erbyn hyn mae wedi sychu a chaledumae fel cwpan Delfft,-ac nis gall na dwr nac awyr ei dreiddio. Angenrhaid yw'r ddarpariaeth yma, gan y nytha y bronfraith, fel y deryn du, ar ddechreu'r Gwanwyn, pan yw'r hin, fel rheol, yn oer ac afrywiog. Onid yw'r wyau,—bump o honynt,—yn ddel ar waelod llyfn y nyth? Glas yw eu lliw, ac wedi eu brychu, yn eu pen praffaf, ag yspotiau dyfnlwyd, bron yn ddu. Dywedwch i mi, pa un ai hwy ai yr awyr lâs-fannog uwchben sy dlysaf?

Ust! glywch chwi'r siffrwd rhwng cangau'r pren cyfagos? Y deryn yswil, pryderus, sy yna -dacw fe, welwch chwi-yn dychwelyd yn araf a gochelgar i ysbio sefyllfa y gelyn. Cadwn yn reit ddistaw a llonydd. Daw yn nes, nes, nes, o fesur cangen a changen. Disgyn ar frigyn yn ein hymyl, ac edrych oddeutu. Mae ei gynffon-o liw'r orange—tuag atom; a'i gefn gwineulwyd llyfn yn crimpio. Yn sydyn try ei ben y ffordd yma. Welwch chwi ei fron wenfelen fannog? a'i cenfydd ni; ymwylltia; rhydd here y ffordd hyn, a herc y ffordd acw. "Swith!" "Sw-i-i-sh!" dacw fe i ffwrdd eilwaith. Daw'n ol toc.

Pyncia aderyn bychan, llai na'r cyffredin, ar un o'r cangau oddiarnom. Tebyg yw ei gathl i roundelay yr asgell arian—y ji-binc—ond ei bod yn fwy tyner a merchedaidd. Mae'n fwy yn y cywair lleddf na honno. Dechreua mewn nodyn a chywair uchel, rhed i lawr y raddfa, a chan dyneru'n raddol wrth fynd ymlaen, ymdodda 'r seiniau olaf fel murmuron i'r awyr. Gwisg seml, lwydwerdd, fel gwawr yr olewydd, sy ganddo, heb liw llachar ynddi oddigerth ychydig aur, fel hanner cylch, uwchlaw pob llygad. Dyma DELOR YR HELYG[110]—"bi-fach neudryw'r ddaear" plant Talybont Ceredigion. Mae yn un o'r adar crwydr—birds of passage. Daeth yma yn niwedd Mawrth neu ddechreu Ebrill, o'r de heulog, a dychwel yno yn niwedd Medi neu ddechreu Hydref. Mae ei delyneg fel acen gobaith neu lais y gwanwyn—clywir hi cyn "cwcw" cog, na "thwit" gwennol. Aderyn bychan sioce! dygi di, a dwg dy ysgogiadau buain, adgofion fyrdd i'm meddwl. Mae dy gân yn union yr un fath a chân dy geraint ddeugain haf yn ol, yng Nghoed Pryse, a Choed Dafis, a Banc Seiri—hen wigfaoedd ardderchog fy nghartref. Caraf hwy hyd y dydd hwn.

"How dear to this heart are the scenes of my childhood
When fond recollection recalls them to view,
The orchard, the meadow, the deep-tangled wildwood,
And every lov'd spot which my infancy knew."
—Wordsworth.

Mae ei gorffyn bychan del fel pe wedi ei wneyd o arian byw, neu wedi ei wau o belydrau'r goleuni gan mor nwyfus a sione y symuda. Neidia, picia, llamsacha o gangen i gangen i chwilio am drychfilod, a chynron, a mân bryfed ereill, canys dyna ei ymborth. Piga hwynt oddiar y brigau, a thynn hwy o'r blagur. Rhwng y tameidiau ar ol pob golwyth-cana. 'Rwan mae ar frig y pren; mewn eiliad mae'n is i lawr; mae yma; mae acw; ac ymhen winciad mae yng nghanol y llwyn yn pigo, ac yn canu bob yn ail.

Glywch chwi ef? Edrychwch, wele ef rwan ar flaen cangen, yn ysbio allan dros ei hymyl, ac yn pyncio, pyncio. Gwel wybedyn yn ei basio dan ganu, fe allai. "Dyma damaid da," meddai, a llama'n bing i'r awyr; hed ar ei ol, igamogam, i fyny, i lawr, yn ol, ym mlaen, deil ef—llwnc ef—brysia'n ol i'r gangen, a chana eto. Ar amrantiad disgyn i'r llawr i hel arlwy rhwng yr irwellt. Chwilia am damaid yng nghwpanau'r milfyw, a phiga'r lindysyn o aur lygad y dydd. Ymsaetha i lwyn bychan sy o'i flaen—cana. Oddiyno adlama, crychneidia fel pêl, i fyny, i lawr, ar ol gwybedyn anffodus arall, ysglyfia hwnnwwith gusto-a disgyn yn ol, chwap, i'r llwyn, a phyncia drachefn. Gwarchod ni! mae yn chwimwth. Nid buanach, nid sydynach, yw crwydriadau astrus gwenfellten fforchog nag ehediadau gwibiog, trofaog yr edn bychan hwn. Mae wrthi eto. Rhed yn ysgafndroed ar hyd y cangau; estyn ei big i fyny; estyn ei big i lawr; teif hi'n ol dros ei ysgwydd a chipia. bryfyn bob tro. Dacw ef 'rwan ar y brig yn canu.

Wele delor arall, nwyfused ag yntau, yn dod heibio iddo,—ymgiprysant, tarawant fin wrth fin, ymsuddant i'r llwyn gerllaw. Ymnwyfusant yno, ffrilliant, cogrant, tasgant allan, ymwahanant, ac ehedant, y naill i'r goeden yma a'r llall i'r goeden acw.

Cyd ganant gathl wedi ei chymhlethu â chariad. Glywch chwi hwy?



CAERNARFON:CWMNI Y CYHOEDDWYR CYMREIG (CYF.), SWYDDFA "CYMRU."

Nodiadau

golygu
  1. Gelwir ef weithiau yn "Teiliwr Llunden."
  2. Barn rhai naturiaethwyr ydyw mai y corhedydd (meadow pipit) ydyw trotwas y gog.
  3. Gwyddys nad yw y gog yn gwneyd nyth iddi ei hun. Dodwya ar y llawr,-fel y tybir,—caria ei hwyau yn ei phig, a gesyd hwynt yn nythod adar ereill—un yn y nyth yma, ac un mewn arall—i'w deor gan yr adar rheini. Dyma ei gweision, ac y maent yn llu mawr iawn—fel gosgordd hen farwn—llwyd y gwrych, y frongoch, yr aderyn du, y dryw, y rhawngoch, y gwddf gwyn, telor yr helyg, telor yr hesg, sigl ei gwt, y penfelyn, y llinos, y llinos werdd, yr ehedydd, ac yn enwedig y corhedydd grybwyllir uchod.
  4. Enw prydferth ar y gwinc neu y winc (chaffinch). Gelwid ef gennym pan yn blant yn "ji-binc!" oddiwrth ei nodau "ji-binc!" "ji-binc!" "ji-binc!" Un o'r adar mwyaf byw a nwyfus ydyw, am hynny dywed y Ffrancwr,"Gai comme Pinson," mor llawen a'r winc. Mor llawen a'r gog ddywedwn ni, onide? Clywais ddywedyd hefyd, am rywun sionc iawn, Mae fel y ji- binc."
  5. Mae llawer math o yswigiaid:—
    (1) Yr yswigw neu y penloyn mwyaf (Parus Major).
    (2) Yr yswigw copog (Parus cristatus).
    (3) Yswigw neu penloyn y gors (Parus Palustris).
    (4) Yr yswigw cynffon hir (Parus Caudatus).
    (5) Yr yswigw las fach neu y lleian (Parus Coeruleus).
    Yr olaf a ddesgrifir uchod.
  6. Arum Maculatum, neu Wake-robin, Lords and Ladies, Cuckoo-pint.
  7. Mercurialis Perennis, Dog's Mercury.
  8. Allium Arsinum, Ramson, Broad-leaved Garlic.
  9. Adora Moschatellina, Common Moschatel.
  10. Ballota Nigra, Black Horehound.
  11. Campanula trachelium, Canterbury Bells, Nettle-leaved Bell-flower.
  12. Myrrhis odorata, Sweet Cicely.
  13. Orchis Mascula, Early purple Orchid.
  14. Ranunculus Ficaria, Lesser Celandine, Pilewort. Mae y blodyn hwn wedi ei gerfio ar feddfaen fynor y bardd.
  15. Anemone Nemorosa, Wood anemone, Wind-flower.
  16. Yn nhylwyth y Gwenoliaid [Hirundinidae] ceir amryw aelodau,—
    (1) Hirundo Rustica,—Swallow. Gwennol.
    (2) Hirundo Urbica,—House Martin. Gwennol y Tai. Gwna ei nyth o dan y bargod, a hi a ddesgrifir uchod.
    (3) Hirundo Riparia,—Sand Martin. Gwennol y Glennydd.
    (4) Cypselus Apus,—Common Swift. Gwennol Ddu. O'r tylwyth buan hwn, dyma y fuanaf a'r fwyaf diflino. Mae ar ei haden o'r plygain hyd y cyflychwyr, bron yn ddiorffwys.
  17. Prunus Communis,—Sloe, blackthorn; y ddraenen ddu.
  18. Coronir hadau blodau cyfansawdd (compositae). megis carn yr ebol (coltsfoot), dant y llew (dandelion), yr ysgallen (thistle), barf yr afr felen (yellow goat's beard neu John-go-to-bed-at-noon) &c., â mân flew plufog, ysgafn (pappus). Trwy hyn cludir hwy'n mhell o'u cartref, ar aden yr awel i wladychu. Defnyddir y pappus yma gan dylwythi y pincod i wynebu eu nythod.
  19. Oxalis Acetosella,—Common wood sorrel. Suran y gog, suran teirdalen, triagl teirdalen. Gelwir ef hefyd "Aleliwia" am ei fod yn ymddangos tua'r Pasc, pan genir "aleliwia." Bernir, gan rai, mai hwn ac nid y feillionen yw y Shamrock of Ireland, ac mai drwy hwn, yn ddamegol, yr eglurodd Padrig Sant athrawiaeth y Drindod i'r Gwyddel.
  20. Mae dull y meillion o gysgu yn wahanol. Gyda'r nos codant hwy eu pennau yn raddol, gan droi cu hochr isaf allan; felly cysgant hwy wyneb yn wyneb a'u pennau i fyny.
  21. Petal.
  22. Corolla.
  23. Petals.
  24. Calyx, cwpan.
  25. Pistil.
  26. Ovary, yr wyfa
  27. Anther.
  28. Pollen.
  29. Manflawd blodau neu "fara gwenyn."
  30. Yn aml yn amlach nag y tybir—ffrwythlonir hadrithion un blodyn gan baill o flodyn arall, drwy gyfrwng gwynt, cylion, gwenyn, &c. Er esiampl, hed y wenynen o flodyn i flodyn, cluda ymaith ychydig baill ar ei phen, ei choesau, neu ei chefn. Glyn peth o hwn ar gnapiau gludiog paledryn y blodyn nesaf yr ymwel âg ef, gan ei ffrwythloni, fel y desgrifir yn yr ysgrif, a cha ddyferyn o fêl fel tâl. Mae y wenynen bob amser ar un daith, yn cadw at yr un rhywogaeth o flodau, felly atelir cenedliad planhigion cymysgryw (hybrids). Gelwir ffrwythloniad un blodyn gan y llall yn groes-ffrwythiant, a thuedda hyn i gynhyrchu hadan a llysiau cryfach, mwy ffynadwy, a golygus. Fel y mae ym myd yr anifail a dyn,—mae "cymysgu gwaed " yn fuddiol yno-felly hefyd ym myd y blodyn,
  31. Acer pseudo-platanus: Greater Maple neu Sycamore. Mae ym mlodau y goeden hon gyflawnder o fêl. Ymdyrra'r gwenyn iddi yn fil ac yn fyrdd i hel y melusfwyd dan ganu.
  32. Llwydwyrdd yw'r wyau, wedi eu mannu a'u brychu a chochlwyd goleu.
  33. "You seem to understand me By each at once her choppy finger laying Upon her skinny lips."—Shakespeare.
  34. Caterpillars: Llindys, pryf y dail, pryf melfedog. Galwai hen wr o'r wlad yma hwynt yn "capten pillars." Tybiai'r hen law ei hun yn oracl gwlad anffaeledig, er yn anllythyrennog. Mae llawer cyffelyb iddo eto. Gwyddant fwy am y gyfraith na chyfreithiwr; mwy am feddyginiaeth na doctor; a llawer rhagor nag ysgolfeistr am y Côd Addysg. A gwae a'u gwrthddywedo.
  35. Rosa rubiginosa,—Sweet Brier, Eglantine; rhoslwyn pêr, mieren Mair, eglantein.
  36. Ranunculus bulbosus,—Bulbous buttercup. Chwys Mair, egyllt.
  37. Helianthemum Vulgare, Rock-rose. Cor-rosyn, Rhosyn y Graig, heulrôs.
  38. Trifolium Filiforme,—-Lesser yellow trefoil. Gwefelen.
  39. Potentilla Anserina, Pumbys, Pumdalen, Tinllwyd, Gwyn y Merched. Cinquefoil, Silver-weed.
  40. Tormentilla officinalis,—Common tormentil, Tresgl y Moch, Tresgl Melyn, Melyn Twynau.
  41. Bellis Perennis,—Daisy. Swynfri.
  42. Chrysanthemum Leucanthemum—White Ox-eye. Esgob gwyn.
  43. Bunium Flexuosum,—Common Pig-nut. Daeargneuen, Bywien.
  44. Polygala Vulgaris,—Common milkwort. Amlaethai, Llysiau Crist.
  45. Veronica Chamaedrys,—Germander Speedwell. Rhwyddlwyn.
  46. Ajuga reptans,—Bugle. Golchenid, Llysiau Mair.
  47. Trifolium Pratense,—Purple clover.
  48. Lotus Corniculatus,—Bird's foot trefoil.
  49. Pedicularis Sylvatica,—Dwarf red-rattle.
  50. Gymnadenia Conopsea,—Sweet-scented orchis. Arian cor
  51. Summer solstice: alban hefn.
  52. Alban elfed.
  53. Alban arthan (Rhagfyr 21ain), lle mae'r haul ar ei rawd ar y dydd crybwylledig.
  54. Alban hefin, lle mae'r huan Mehefin 21ain.
  55. Keats
  56. Eirin perthi, eirin tagu, eirin surion (sloes).
  57. Alchemilla Vulgaris: Common lady's mantlemantell Fair gyffredin, palf y llew, troed y llew.
  58. Polypodium: polypody—llawredyn y fagwyr.
  59. Hypericum perforatum: perforated St. John's Wort —candoll, eurinllys trydwll.
  60. Achilla Millefolium: common yarrow, milfoil—gwilffrai, llysiau y gwaedlif.
  61. Fragaria Vesca: wood strawberry—mefus y goedwig.
  62. Geranium Robertianum: Herb Robert—troed-rudd, llysinu Robert.
  63. Geranium lucidum: shining crane's bill-pig yr aran disglaer.
  64. Mae'r ddau yn aelodau o deulu pig yr aran" [Germaniceae] neu mynawyd y bugail." Gelwir y llwyth yma felly am fod eu hadgibau yn dwyn delw pig yr aran neu fynawyd.
  65. Campanula rotundifolia: harebell—glas y llwyn, croesaw haf: clychlys.
  66. Calamintha Clinopodium: Wild basil—brenin-llys. gwyllt.
  67. Calamintha.
  68. Llygad y dydd.
  69. Llinell o folawd Wordsworth iLygad y Dydd."
  70. Bellis neu bellus yw'r gair Lladin arno. Ei ystyr yw "del," pert," "tlws" (pretty).
  71. Gelwir y gold gwynion (ox-eyed daisy) gan y Sacson yn marguerites.
  72. Perthyn y swynfri neu lygad y dydd i dylwyth pwysig a lliosog y blodau cyfansawdd (compositae). Cymharer ef â charn yr ebol, yr curwialen (golden rod), greulys (groundsel), gold (chrysanthemum), dant y llew, a'r ysgall—yr oll o'r un tylwyth—a gwelir ar unwaith y tebygolrwydd sy rhyngddynt. Dygant, un ac oll, nodau amlwg y teulu.
  73. Calyx.
  74. Corolla.
  75. Pistil: yr ermig benywaidd.
  76. Ovary.
  77. Embryo
  78. Anthers.
  79. Pollen, yr elfen fywiol sydd i ffrwythloni'r rhithion yn yr wyfa.
  80. Stamens, yr ermigau gwrywaidd. Cyfeiriais at yr holl rannau yma o'r blaen yng nghyswllt a dail suran y gog.
  81. Dangosais, mewn ysgrif flaenorol, pan yn son am ddail suran y gog, sut y dygir y weithred o ffrwythloni'r rhithion oddiamgylch.
  82. Lonicera Periclymenum; Honeysuckle, woodbine.— Melog, sugn y geifr, tethau y gaseg. Coch fel rubies yw eu grawn addfed.
  83. Tamus Communis: Black bryony.—Coedgwlwm, paderau y gath, rhwymyn y coed, afal Adda. Yn nechreu Hydref gwyrdd a melyn yw lliwiau'r aeron, ond tua'i ddiwedd gwridant i ysgarlad disgleiriol, ac er teced eu golwg maent yn wenwyn nerthol.
  84. Starlings. Gelwir hwy yng ngogledd Ceredigion yn "adar yr eira." Paham?
  85. Sprengel.
  86. Gelwir y llinynau hirion yma, ar lafar gwlad, gan y Saeson yn lambs' tails. Enwau Cymraeg arnynt ydyw, cynffon y gath, cenawon coed, cenawen cyll. Pertach yw'r enw Saesneg catkins.
  87. Nid wyf yn tybio i mi erioed weled y fath helaethrwydd o genawon cyll-o'r ddau ryw-nag eleni. Welsoch chwi?
  88. Ffrwythlonir y rhan fwyaf o goed uchel y wig drwy gyfrwng y gwynt. Blodeua y cyfryw goed pan yn ddiddail a'r gwyntoedd yn uchel. Buasai dail yn rhwystro'r paill gyrraedd y blodau gwryw.
  89. Helleborus foetidus, stinking hellebore; setterwort. Perthyn y llysieuyn yma i lwyth crafanc y frân (ranunculaceae). Aelodau o'r llwyth yma yw blodyn y gwynt, a'r gyllt, a llygaid Ebrill, a barf y gŵr hen, a gold y gors, &c.
  90. Mewn rhai llysiau teif y daily dŵr tuag allan. Mae gwraidd y llysiau hynny'n lledu, nes bod eu blaenau gyferbyn â'r lle y defnynna y dŵr. Pe tynnech y pridd oddiwrthynt yn ofalus caech fod y gwreiddiau'n ymdyrru i'r lle y dafna y dŵr fwyaf.
  91. Cloch maban (snowdrop).
    Plentyn cyntaf Gwanwyn yw,
    Yn yr awel cer mae'n byw:
    Gwynder odliw'r bheiliw bach
    Gwynder odliw'r breiliw bach
  92. Cornucopia: corn llawndid, corn amlder.
  93. Potentilla Fragariastrum: Strawberry—leaved cinquefoil—un o flodau bychain cynaraf y Gwanwyn. Camgymerir hwy yn aml gan lysieuwyr ieuaince am y mefus gwylltion. Gorweddant ar y ddaear tra y tyf y mefus yn sythion i fyny.
  94. Lotus Corniculatus: Common Bird's-foot trefoil Blodeuant ym Mehefin. Gelwir hwy weithiau yn "traed-yr-oen," a chan y Saeson yn "shoes-and-stockings.
  95. Llygaid y dydd neu'r aspygan.
  96. Rhoddwyd "llysiau'r ysgyfaint" (lungwort) yn enw ar blanhigyn adnabyddus arall am fod ei ddail yn ysmotiog fel yr ermyg hwnnw. Credid oherwydd hynny eu bod yn rhinweddol at ddoluriau yr ysgyfaint. Oherwydd eu tebygolrwyd i'r afu (iau) galwyd llysiau cyffredin ereill yn "llysiau yr afu" (liverwort). Tybid, wrth gwrs, fod y rheiny yn llesol at glefydon yr organ honno.
  97. Celery-leaved crowfoot.
  98. Spearwort
  99. Marsh marigold.
  100. Meadow-rue.
  101. Hellebore.
  102. Mouse-tail.
  103. Pheasant's eye.
  104. Pasque-flower.
  105. Larkspur.
  106. Monk's hood.
  107. Traveller's joy.
  108. Water crowfoot.
  109. Ivy-leaved crowfoot.
  110. Willow-warbler.
 

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.