Tudalen:Emynau a'u Hawduriaid.djvu/22

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

na chyfriniaeth y ddwy Gatherine, neu Julian o Norwich, neu eto Angela o Foligno, ac eraill; y mae'n fwy sylweddol na'r eiddynt hwy heb arno arlliw ofergoelion. Fe'i hachubwyd gan Brotestaniaeth y Diwygiad Methodistaidd rhag gau-ddychmygion a gorffansi.

Chwennych ei phuro, a darfod "ag eilunod gwael y llawr". Myn "dreiddio i'r adnabyddiaeth o'r gwir a'r bywiol Dduw" a fyddo'n "lladdfa i ddychmygion o bob rhyw". Penderfyna gwympo wrth draed yr Iesu am faddeuant, ac am ei "golchi" a'i "channu yn y gwaed". Nid oes prinder enghreifftiau o'i hawydd am ei phuro. Dyhea am "ffydd i edrych ", ac am "weled" addasrwydd Crist iddi. Croesawa fore y caiff hi "weled " yr Iesu " fel y mae ". Sonia am "weld Duw mewn cnawd", am "syllu" ar ei Berson, ac am fyw "i weld yr Anweledig”; a dywaid ar ôl John Thomas, Rhaeadr, y try "ei ffydd yn olwg ", a'i nefoedd ydyw bod "heb golli 'ngolwg arno mwy ".

Cyrraedd undeb â Duw yng Nghrist yw ei nod: "aros yn ei gariad", "tragwyddol anwahanol undeb a chymundeb byth â Duw", yng nghymdeithas y dirgelwch ", mewn dŵr i nofio heb fynd trwyddo, dyn yn Dduw a Duw yn ddyn "—perffeithrwydd undod. Ymgyll hithau fel ei theulu cyfriniol mewn ecstasis. "Rhyfedda " lawer, a rhagwêl dawelwch di—don y nef sy'n hanfod perffeithrwydd ecstasis,

"Ynghanol môr o ryfeddodau
Heb weled terfyn byth na glan."

"Nofio'n afon bur y bywyd,
Diderfyn heddwch sanctaidd Dri,
Dan dywyniadau digymylau
Gwerthfawr angau Calfari."

Cyffelyb oedd Catherine o Siena, "nofio am byth ym môr tawelog y Duwdod".

71(2). 87. 169. 195. 207. 209. 210. 338. 384. 598. 599. 617. 641(1). 692. 693. 694.

An.—Anadnabyddus.

Ystyriai casglyddion 1927 nad oedd enwau awduriaid yr emynau, neu'r penillion, a ganlyn yn wybyddus iddynt: 17. 71(1). 173. 197(2). 208. 214. 241. 417. 623. 641(2,3). 666. 672(3). 685(2). 726. 755. 758. 770; ac na wyddent chwaith pwy a gyfieithodd yr emynau, neu'r pennillion, a ganlyn i'r Gymraeg: 118. 139. 250. 268. 303. 312. 316. 343. 431. 446. 448. 449. 455. 456. 471. 497. 500. 695(2,3).