Catherine Prichard (Buddug), Cymru, Cyfrol 39, 1910

Catherine Prichard (Buddug), Cymru, Cyfrol 39, 1910

gan R Môn Williams

Buddug

(Erthygl o Cymru, Cyfrol 39, 1910 tt 221-224 Cylchgronau Cymru—Llyfrgell Genedlaethol Cymru[1])

UN о ferched "Моn Mam Cymru" ydoedd y ddiweddar Mrs. Cathrine Prichard (Buddug), Caergybi. Ganwyd hi yn Llanrhyddlad, Gorffennaf 4, 1842. O du ei thad, yr henafiaethydd clodfawr Mr. Robert ap Ioan Prys (Gweirydd ap Rhys), hanai yn syth o gyff cenedl un o bymtheg llwyth Gwynedd. Enw ei mam oedd Grace, gwraig nodedig am ei thawelwch a'i duwiolfrydedd. Yr oedd y bardd ieuanc athrylithgar Golyddan, brawd Buddug, yn meddwl yn uchel o'i fam. Yng ngholeg ei fam y derbyniodd argraffiadau dyfnaf ei oes. Dywedodd wrth ei dad unwaith,-"Yr wyf, er yn fachgen, fel y gwyddoch, fy nhad, yn gwybod yr Ysgrythyr Lan, yr hon sydd yn abl i'm gwneuthur yn ddoeth i iachawdwriaeth trwy y ffydd sydd yng Nghrist Iesu dyma y ddoethineb a ddysgodd fy mam i mi, nhad, cyn dyfod dan eich addysg chwi, na'r ysgol, na'r eglwys."

Yr oedd Buddug yr wythfed yn y teulu, ac yn ddwy flynedd ieuengach na Golyddan. Ar enedigaeth y ddau hyn o'i blant fe gyfansoddodd eu tad englynion, ac mewn hwyl yr arferai ddweyd mai dyna y rheswm y medrai y ddau farddoni. Wele yr englyn i'w fab Golyddan,—

Diolch i Dduw a dalaf—am eni
Im' hoenfab dianaf;
Ei gyflwyno'n gof lawnaf
I fy Nuw yn hyfwyn wnaf."

Ar enedigaeth Buddug, eto,—

"Ganwyd im' eneth geinawl,—ddianaf,
O ddoniau'n Tad Nefawl
Rhoed i hon gynnar rad hawl
Yn Iesu mawr grymusawl."

Gwel y cyfarwydd nad yw yr englynion yn gwbl reolaidd, ond cawn ynddynt ddatganiad o deimladau diolchgar tad serchog ar enedigaeth ei blant.

Unwyd Buddug mewn glân briodas â Mr. Owen Prichard, Caergybi, Ionawr 2, 1863, ac ni bu bywyd priodasol llawnach o gydgord a dedwyddwch. Yr oedd y ddau yn gwbl o'r un chwaeth, yr hyn a fu yn fantais iddi i ymhyfrydu mewn llenyddiaeth a gwneyd daioni. Dywedir ddarfod i Mr. Prichard ofyn am ei wraig i'w thad mewn englyn, a boddhawyd Gweirydd mor fawr fel y bu iddo yn y fan ei fedyddio yn Cybi Velyn," ac yn Eisteddfod Gadeiriol Mon, 1879, derbyniwyd ef i gylch Gorsedd y Beirdd, i'w adnabod rhaglaw wrth y ffugenw hwn. Ar un pwnc yn unig y methai Buddug a'i phriod gytuno, sef y cynganeddion. Edmygai Cybi Velyn y gynghanedd Gymreig, a meistrolodd hi yn ieuanc. Cywirai Gweirydd mewn englyn aml dro a mawr yr hwyl a fwynheid. Ychydig o afael ar galon Buddug oedd gan y cynganeddion. Hoffai darawiadau naturiol a seinber, ac addefai brydferthwch pennill cynganeddol ond gwell ganddi ydoedd rhyddid y dragwyddol heol," fel y dywed Islwyn. Dechreuodd Buddug rigymu pan tua deg oed, ac mor naturiol ydoedd y gwaith iddi fel na bu o dan angenrheidrwydd i ddysgu unrhyw reolau. Carai astudio llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg o'i phlentyndod. Pan yn bur ieuanc cymerai ddyddordeb dwfn yn yr hen arwyddeiriau Eisteddfodol a dysgodd lawer ar yr hen benillion Cymraeg yn y Cambro-Briton. Pan oddeutu deunaw oed anturiodd ysgrifennu traethawd ar Y Wenynen" ar gyfer cyfarfod cystadleuol, ac enillodd y gamp. Aeth ymlaen ac enillodd amryw wobrau mewn barddoniaeth a rhyddiaith. Tua'r adeg yma cyhoeddodd newyddiadur, a'i enw Udgorn y Bobl," nifer o erthyglau gwawdlym ar "Ffoledd Ffasiwn." Teimlodd Buddug i'r byw dros anrhydedd ei rhyw, a mentrodd allan i'w hamddiffyn; a bu y frwydr yn galed o'r ddeutu, ond cafodd Buddug y gair olaf ar y gelyn.

Dyma y pryd y defnyddiodd yr enw Buddug gyntaf, i ymguddio rhag y cyhoedd. Buan, fodd bynnag, yr amlygwyd y dirgelwch, a daeth ar ôl hyn i gael ei hadnabod wrth yr enw; ac urddwyd hi yn rheolaidd yn ôl braint a defawd beirdd Ynys Prydain gan Clwydfardd, yn Eisteddfod Dinbych yn 1860. Er y pryd hwnnw hyd nes y gwywodd ei llaw yn oerni angau, ni roddodd heibio ei hysgrifell. Ymddanghosodd erthyglau a chaneuon o'i heiddo bron ymhob newyddiadur a chylchgrawn misol a chwarterol Cymreig a Seisnig yng Ngogledd Cymru. Cydnabyddir yn gyffredinol fod ei hysgrifau ar "Ioan Maethlu," "Islwyn," ac Ann Griffiths yn y Geninen yn gampweithiau mewn ystyr lenyddol ac yn hawlio iddi safle anrhydeddus ymysg ysgrifenwyr galluocaf ei hoes. Ar adeg canmlwyddiant Ann Griffiths yn Llanfyllin, 1905, darllenodd bapyr am yr hwn y dywedid ei fod yn un o'r darnau goreu a draddodwyd erioed oddiar unrhyw lwyfan.

Nodweddid ei holl ysgrifau gan drefnusrwydd a gorffenrwydd mawr, iaith goeth ac urddasol, syniadaeth eglur, ac amlygiant o adnabyddiaeth a phrif weithiau llenyddol y Cymry a'r Saeson. Am ganeuon Buddug credwn y cytuna beirdd a cherddorion i'w rhestru ymysg eiddo prif-feirdd ein cenedl. Mae ynddynt gyfuniad hapus o'r tyner a'r dwys, ac ni pherthyn iddynt ddim masweddol a choeg-ddigrifol,—maent yn bur fel gwlith y bore, ac yn llawn o'r peth byw hwnnw sydd mor anhawdd i'w ddarnodi, ond yn cyffwrdd y galon ac yn gwresogi yr ysbryd. Y mae yn ffaith nodedig mai drychfeddyliau sydyn ar adegau tyner yn ei bywyd ydyw ei chaneuon rhagoraf a mwyaf poblogaidd. Wrth ysgrifennu at gyfeilles lenorol fynwesol amgauodd flodeuyn, ac yn y fan cyfansoddodd "Neges y Blodeuyn." Yng nghanol hirddydd haf, tra yn gwylio yn ofalus a phryderus wrth wely claf ei mam y cyfansoddodd O na byddai'n haf o hyd." Y mae canmawl y caneuon hyn yn rhywbeth tebyg i baentio y rhosyn, neu gannu y lili. Y maent o ran syniadau mor loew, ac o ran ieithwedd mor esmwyth a dillyn, diau y gellir eu nodi ymysg gorchestion ei hawen. Yr oedd Buddug yn deall anhebgorion 'barddoniaeth ganeuol yn drwyadl, ac nid cysylltiad ei chaneuon â cherddoriaeth sydd yn eu gwneyd yn berorol a chanadwy. Na, y maent ynddynt eu hunain felly, yn llawn swyn a mynegiant.

Cân brydferth a chelfydd iawn ydyw "Cennad y Don," a gyfansoddwyd ganddi ar gyfer cerddoriaeth gan Eos Bradwen,-

CENNAD Y DONN.

Ar noson serog dawel
Gan syllu tua'r gorwel,
Y rhodiai geneth heinyf lon,
Mor ysgafn fron a'r awel ;
Ym merw eu difyrion,
Gadawodd ei chymdeithion,
Er mwyn cael bod ynghwmni iach,
Y cregin bach a'r eigion.

Y lloer oedd yn disgleirio,
A'i chalon hithau'n dawnsio,
I fiwsig per y graian glân,
A'r tonnau mân yn tiwnio;
Ehedai ei myfyrion,
Dros nwyfus donnau Neifion,
Ac aent yn union megis saeth,
Ac un a aeth a'i chalon.

Mae cusan felus, felus,
Ei morwr ar ei gwefus,
Gafaela megis angor serch,
Ym mron y ferch hyderus;
Dywedodd wrth ffarwelio
Y deuai ati eto,
Sibrydai hithau y'nghlust y donn,
Am fod yn dirion wrtho.

Ond Ha! y donn anhydyn,
Beth ddygi ar dy frigyn?
Mae angeu yn dy fynwes ddofn,
A braw, ac ofn a dychryn;
Ar ddannedd certh y creigiau,
Ac aberth i'r rhyferthwy frad
Ei hanwyl gariad hithau!

* * * *

Y llanc ysgrifennodd ei dynged ei hun,
A chostrel a'i dygodd i ddwylaw ei fun!
Llewygodd yr eneth, a'r saeth yn ei bron,
Trywanwyd ei henaid gan gennad y donn.

Mawr ydyw dirgelwch ofnadwy y môr;
Ond mwy ydyw gallu Anfeidrol yr Ior;
Efe sydd yn gwylio curiadau pob bron,
Efe ydyw awdwr tynghed fen pob tonn.

Efe a droes estyll marwolaeth oer erch,
Yn gerbyd i ddychwel cariad-lanc y ferch,
Y bachgen ddaeth yno i'w gwasgu i'w fron,
Rhoes Arglwydd y storom y gennad i'r donn.

Yr oedd ym mwriad Buddug gyhoeddi llyfr, ac am fisoedd cyn ei chystudd olaf bu yn casglu ei gwaith ynghyd, ac yn dethol y pryddestau a'r caneuon a ystyriai yn rhagori. Y mae y casgliad ger ein bron yn barod i'r wasg. Cawn ynddo gyfansoddiadau ar amrywiol destynau, ac y mae tinc yr awen wir" ymhob llinell ym mron. Yn ychwanegol at y caneuon a enwyd yn barod, dichon yr ystyrir yn nosbarth ei chaneuon mwyaf effeithiol a llwyddiannus, y rhai canlynol,—Blodau ac Adar," "Bwthynod Gwynion Gwalia," "Nodyn cynta'r tymor," "Tyred i Gymru," a "Bore Oes." Anfynych y daeth Buddug allan i'r maes cystadleuol. Yr oedd gormod o natur yn ei hawen i ganu am wobr mewn Eisteddfod ond cawn ymysg ei gweithiau rai darnau arobryn, megis penillion Y Bachgen Iesu ymysg y Doctoriaid," "Y Deigryn," "Joseph yn hysbysu ei hun i'w frodyr," Y Weddw" (cyd-oreu yn Eisteddfod Caerdydd), a phryddest,—Glyn Cysgod Angau (Eisteddfod Amlwch, 1877). Ar farwolaeth y Dywysoges Alice anfonodd ddernyn o farddoniaeth Seisnig i'r Frenhines, a derbyniodd oddiwrthi gydnabyddiaeth o ddiolchgarwch. Yr oedd Buddug yn un o'r beirniaid yn yr adran farddonol yn Eisteddfod Caergybi 1907, ac yn cymeryd rhan amlwg yng Ngwyl Cyhoeddiad Eisteddfod Amlwch, 1908 a dynna ei hymddangosiad cyhoeddus olaf ynglŷn â'r Eisteddfod. Yr oedd wedi marw ychydig wythnosau cyn dyddiad yr wyl yn 1909. Teimlid chwithdod a hiraeth ymysg beirdd, llenorion, ac Eisteddfodwyr y sir oherwydd ei hymadawiad. Talwyd teyrnged o barch i'w choffadwriaeth yn yr Orsedd, pryd y traddodwyd oddiar y Maen Llog y sylwadau canlynol gan ysgrifennydd y nodiadau hyn,—

Pleser prudd i mi ydyw sefyll i fyny, i goffhau enw anwyl Buddug, canys mawr ydyw ein hiraeth ar ei hol. Ddeuddeg mis yn ôl yr oedd yma yn cymeryd rhan amlwg yng nghyhoeddiad yr Eisteddfod hon. Erbyn heddyw ei 'lle nid edwyn hi mwy.' Treuliais yr wyth mlynedd ar hugain diweddaf yn yr un dref a hi. Cefais fwynhau llawer o'i chymdeithas. Cefais gyfleusderau i'w hadnabod, i ffurfio barn bersonol, ac i wybod barn y dref a'r wlad amdani. Gallaf dystio yn ddi-ofn oddiar y maen hwn heddyw mai un o ragorolion y ddaear ydoedd ein chwaer ymadawedig. Gwraig oedd yn addurn i'w rhyw, yn anrhydedd i'w gwlad, ac yn ogoniant i'w chenedl. Yr oedd ei hathrylith yn ddiamheuol, ei chymeriad yn lân, ei chwaeth yn bur, a'i hamcanion yn ddyrchafedig. Yr oedd wedi etifeddu yn helaeth o chwaeth farddonol a llenyddol ei henafiaid. Ni ddywedwn fod ei dychymyg mor gyfoethog, dieithr, a rhwysgfawr a'i brawd Golyddan. Ni chynhyrchodd ddim tebyg i Iesu.' Nid oedd awenyddiaeth y ddau yn perthyn i'r un dosbarth. Ond dywedwn, er hynny, fod caneuon Buddug yn llaith gan fywyd ac anfarwoldeb. Loes drom i galon Buddug oedd claddu Mr. William Davies y cerddor, y gŵr a wisgodd ei thelynegion byw ag alawon pêr, pa rai a genir rhwng mynyddau ein gwlad tra y bo cân ar wefus ein cenedl. Mae y ddau, mi gredaf, erbyn hyn wedi ymuno yng nghân dragwyddol y nef. Ffarwel, Buddug hoff Huned ei marwol ran yn dawel yn naear ei gwlad enedigol. Gwarchoded engyl Duw ei gorweddle hyd y bore mawr y bydd:

Dorau beddau y byd
Ar un gair yn agoryd.'

Fel hyn yr ysgrifenna y Parch. Thos. Williams, Armenia, Caergybi, gweinidog parchus a phoblogaidd yr eglwys y perthynai Buddug iddi,- Yr oedd ein hanwyl chwaer yn un o'r cymeriadau puraf, tryloewaf a adwaenais erioed Yr oedd yn gymeriad cyfan, diargyhoedd, a difrycheulyd. Ni chlywais hi erioed yn arfer gair isel, di-chwaeth, ac ni feiddiai neb arall wneyd yn ei phresenoldeb yr oedd mewn cwmni neu mewn cyfarfod yn fynych yn rhoddi ton uchel i'r ymddiddan. Yr oedd delw ei chymeriad glân ar ei holl weithiau barddonol a rhyddieithol. Gwyr Cymru ei bod yn athrylith ddisglair, yn deilwng ferch i'w thad enwog, ac i'w brawd anfarwol Yr oedd talent ac athrylith yn ei gwaed, gwnaeth hithau bob defnydd o'i chysylltiadau a'i thraddodiadau, a chysegrodd yr oll ar allor gwasanaeth ei Harglwydd."

Credaf mai ei phrif nodweddion fel barddones oedd purdeb, naturioldeb, swyn, a gobaith. Amcan ei bywyd a chenadwri ei chaneuon oedd dyrchafu dyn a gogoneddu Duw. Er mai byd y meddwl oedd ei byd hi, yr oedd yn un o'r gwragedd mwyaf ymroddgar i waith ymarferol crefydd. Gwyddai pawb am ei sêl gyda dirwest a sobrwydd. Teithiodd lawer i bwyllgorau a chyfarfodydd dirwestol, a siaradodd yn fynych gyda grymusder mawr, ond yn hynod lednais a gwylaidd. Yn ei chylch cartrefol yr oedd yn nodedig o wasanaethgar; cai y Gobeithlu a'r cyfarfodydd dirwestol ei chefnogaeth lwyraf. Yr oedd yr Ysgol Sul yn agos iawn at ei chalon. Bu yn athrawes fedrus ar ddosbarth o enethod ieuainc am lawer o flynyddoedd. Meddai allu rhyfedd i fyned i mewn i serch ei disgyblion. Byddai bob amser yn y cyfarfod gweddi a'r gyfeillach grefyddol. Ymborthai ar wirioneddau mawr hanfodol yr efengyl. Anaml y ceid profiad uchel ganddi yn y seiat; yr oedd yn rhy wylaidd i honni pethau mawr. Byw crefydd a gwneyd gwaith crefydd yn ddistaw, heb waeddi ac heb ddyrchafu," dyna'i hanes ar hyd ei hoes.

Prin y mae eisiau dweyd ei bod wedi llanw lIe gwraig hyd yr ymylon. Er ei holl lafur llenyddol, ac ynglŷn a chyfarfodydd cyhoeddus, gwarchodai gartref yn dda." Yr oedd yn wraig rinweddol," ac yn briod ofalus a thyner. Ni bu deuddyn erioed hapusach na Chybi Velyn a Buddug,-y ddau o gyffelyb chwaeth a thueddiadau naturiol a chrefyddol. Buont yn cyd-deithio yn yr anial dyrys maith am chwe mlynedd a deugain. Anhawdd iawn oedd iddynt ffarwelio, ond cawsant nerth gan Dduw i wneyd hynny.

Bu Buddug farw nos Lun, Mawrth 29, 1909, yn dawel, fel pe heb brofi marwolaeth. Cafodd gystudd am rai misoedd, ac o'r diwedd gollyngwyd hi i orffwysfa Duw. Hiraethai am gael marw. Yr oedd ymweled â hi yn ei chystudd olaf yn un o freintiau mawr fy mywyd. Yr oedd yn dawel a siriol iawn, ac yn gwbl hunanfeddiannol. Gwnaeth bob trefniadau ar gyfer ei hangladd. Am farw a thragwyddoldeb yr hoffai son. Fel y gallesid disgwyl, syml iawn oedd ei hangladd,—dim ond ychydig berthnasu a chyfeillion. Ond dangoswyd arwyddion cyffredinol o barch gan yr holl dref. Claddwyd Buddug ym mynwent Maes-hyfryd, Caergybi, yn ymyl ei thad a'i mham. Nodi'r mangre ei gorweddfa gan golofn hardd o farmor gwyn.

Dyma ei hemyn olaf. Canodd hwn tra yn gwersyllu yn Rhosydd Moab, a'i gwyneb ar wawr y Ganan dragwyddol. Dengys y llinellau pa mor obeithlawn y cauodd ei llygaid ar y byd, gan wireddu yr ymadrodd,—Y cyfiawn a obeithia pan fyddo marw."

Os yw fy ngwaith ar ben,
A'r nos yn taenu'i llen,
Tydi, fy Nuw, a wyr.
Diolch am hyd y daith
A'r cynnal dyfal maith
Mewn mwyniant yn dy waith,
O fore hyd yr hwyr!

Noswylio 'rwyf yn awr
I godi gyda'r wawr,
Mewn gloewach, hoewach fyd.
Mae'n dda yr ochr hyn,
Daw aml lygedyn gwyn,
Beth wedi croesi'r glyn,
Lle bydd yn haf o hyd!

Y blinder oll ar ol,
A diogelwch col
Fy Iesu am danai'n dynn.
Ni raid ffarwelio'n hir,
A'r Ganan deg mor glir,
Cawn gwrddyd yno'n wir
Fy hoff anwylyd gwyn.

O hyfryd, hyfryd fydd
Yng ngwlad tragwyddol ddydd,
Heb ofni'r machlud mwy.
Y teulu yn gytun,
Heb fod yn ol yr un,
A'r Iesu yno'i hun,
I'w diogelu hwy.


R. MON WILLIAMS.

.

Nodiadau golygu

  1. Catherine Prichard (Buddug), Cymru, Cyfrol 39, 1910 tt 221-224
 
 

Cyhoeddwyd y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1929, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.