Ieuan Gwyllt, Ei Fywyd, Ei Lafur (testun cyfansawdd)

Ieuan Gwyllt, Ei Fywyd, Ei Lafur (testun cyfansawdd)

gan John Eiddion Jones

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Ieuan Gwyllt, Ei Fywyd, Ei Lafur
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
John Roberts (Ieuan Gwyllt)
ar Wicipedia

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader




IEUAN GWYLLT:

EI FYWYD , EI LAFUR, EI ATHRYLITH, EI NODWEDDION,
A'I DDYLANWAD AR GYMRU.

GAN Y

PARCH. J. EIDDON JONES,

LLANRUG.




TREFFYNNON:

ARGRAFFWYD (DROS YR AWDWR) GAN P. M. EVANS AND SON.

MDCCCLXXXI.

AT Y DARLLENYDD.

GWYR y darllenydd, ond odid, fod Pwyllgor Eisteddfod Llanberis, 1879, wedi cynnyg gwobr o £20 am y "Traethawd—Bywyd ac Athrylith y Parch. J. Roberts (Ieuan Gwyllt)." Hyn fu yr achlysur i'r ysgrifenydd gymeryd y mater mewn llaw, ac anfonwyd y cyfansodd. iad hwn i'r Beirniaid, y Parchn. T. C. Edwards, M. A., Aberystwyth, a D. Saunders, Abertawe, ynghyd a'r nodiad canlynol:—Geiriad y testun ydoedd: "Traethawd—Bywyd ac Athrylith y Parch. J. Roberts (Ieuan Gwyllt).' Gellid cymeryd y geiriad hwn mewn dwy ystyr, un ydyw Traethawd ar Fywyd ac Athrylith Ieuan Gwyllt. Ond wedi gwneyd ymchwiliad, deallodd yr ysgrifenydd mai amcan y Pwyllgor oedd rhoddi cefnogaeth i gasglu ynghyd ffeithiau hanes bywyd y gwrthddrych, ynghyd a sylwadau ar ei athrylith, cyn iddi fyned yn rhy ddiweddar, fel ag i fod yn sylfaen, o leiaf, i wneyd Cofiant' iddo. Hyn sydd yn cyfrif am y ffurf sydd ar y traethawd hwn, a bod cymaint o lafur wedi cael ei roddi i olrhain yr hanes. mae yr ysgrifenydd, fodd bynag, wedi dyfod i wybod am y ffynnonellau i wybod llawer yn ychwaneg, o ba rai nis gellid gan amser wneyd defnydd yn y traethawd hwn. Cyflwynir ef felly, fel sylfaen, ac nid fel Cofiant' cyflawn. Ymdrechwyd, hyd yr oedd yn ddichonadwy, i gael pob dyddiad a phob ffaith yn gywir.—Melindwr." Nid ymddengys i'r Parch. D. Saunders ysgrifenu un feirniadaeth, ond anfonodd y Parch. Principal Edwards, M. A., y nodiadau canlynol i Bwyllgor yr Eisteddfod:

"Y mae Mr. Saunders, a minnau, yn cyttuno i roddi canmoliaeth uchel i'r ddau draethawd. Ond golyga efe fod traethawd 'Llenor' yn ogydwerth â thraethawd 'Melindwr,' o herwydd mai nid 'Cofiant' o Ieuan Gwyllt, ond traethawd beirniadol arno, a geisiai y Cyfeisteddfod. Yr oeddwn innau, ar y llaw arall, yn ystyried traethawd 'Melindwr' yn llawn mwy galluog, hyd yn nod fel beirniadaeth ar Ieuan Gwyllt, na thraethawd 'Llenor.' Ond golygwn ymhellach mai amcan y Cyfeisteddfod oedd cael, nid yn unig beirniadaeth arno, ond hanes ei fywyd hefyd, a hyny yn ddigon cyflawn i fod yn sail 'cofiant' o hono. Y mae y ddau feirniad, yr wyf yn meddwl, yn cyttuno fod 'Melindwr' wedi llwyddo yn fwy na 'Llenor' i gasglu defnyddiau 'cofiant.' Yr ydym hefyd yn cydolygu fod traethawd Llenor' yn cael ei anurddo, yn enwedig yn y rhan gyntaf o hono, gan fath o ffugfarddoniaeth. O'm rhan fy hun, rhaid i mi ychwanegu fy mod yn canfod ynddo arwyddion nid anfynych o ddiffyg chwaeth; er engraifft, yn ei sylwadau ar ferched fel ysbrydion gwasanaethgar,' ac yn y rheswm a rydd dros sylwi ar grefydd 'Ieuan Gwyllt' sef am fod dyn yn 'anifail crefyddol.' Heblaw hyn, ymddengys i mi fod traethawd 'Llenor' yn fwy anaddfed, yn fwy anghyfartal, yn llai cyfunol yn ei wahanol ranau, na thraethawd 'Melindwr.' Pe cyhoeddid y ddau, nis gallaf lai na meddwl mai traethawd 'Melindwr' fyddai y mwyaf buddiol a gwerthfawr i'r wlad. Nid wyf yn petruso dyweyd y byddai traethawd 'Melindwr' fel y mae, heb ychwanegiadau ato, yn 'gofiant' rhagorol o Ieuan Gwyllt; ac nid wyf yn meddwl y ceir neb arall, bellach, ar ol marwolaeth ei frawd, y Parch. Robert Roberts, a ysgrifena gofiant' mwy cyflawn a boddhaol ymhob ystyr.' Ond y mae fy nghyfaill, Mr. Saunders, a minnau yn foddlawn i adael y peth yn nwylaw trydydd beirniad. Os bydd ef yn cydolygu âg un o honom, ni bydd un anhawsder yn aros. Ac os bydd yn gwahaniaethu oddiwrth y ddau feirniad, ac yn ystyried traethawd 'Llenor' yn oreu, diammeu genyf yr ymfoddlona, fel finnau, i'r wobr gael ei rhanu yn gyfartal rhwng y ddau ymgeisydd. Ydwyf, anwyl Syr, yr eiddoch yn gywir, T. C. EDWARDS.

Penododd y Pwyllgor y Proffeswr John Rhys, Rhydychain, yn drydydd beirniad, a dyfarnodd y Proffeswr, fel y Parch. D. Saunders, fod i'r wobr gael ei rhanu.

Er mai yr uchod fu yr achlysur i gychwyn y gwaith, eto y mae yn rhaid i mi ddyweyd ei fod yn llafur yr oedd cariad yn ymaflyd ynddo yn galonog; ac fel yr oeddwn yn myned ymlaen yr oedd fy edmygedd o'r gwrthddrych a'm serch tuag ato yn cynnyddu fwyfwy. Ac ymdrechais roddi darlun o hono mor gyflawn ag y gellais, o herwydd nid mynych y chyfarfyddir â chymeriad mor amrywiol a chyflawn a leuan Gwyllt.

Dyledus yw arnaf gydnabod yn ddiolchgar y cynnorthwy siriol a chalonog a dderbyniais gan Mrs. Roberts, gweddw y gwrthddrych; ynghyd a Mrs. Pugh, chwaer Ieuan Gwyllt; y Parchn. Dr. Edwards, Bala; J. Williams, Llandrillo; T. Levi, a J. Williams, Aberystwyth; Mri. Eleazar Roberts, Liverpool; Absalom Prys, Penllwyn; Julian, Edwards, a Samuel, Aberystwyth, ac amryw eraill, pa rai a gydnabyddir oll yn ystod y gwaith.

Hyderaf nad ystyrir yr ymdrech yn hollol annheilwng fel teyrnged o barch i gyfaill mor bur, ac i un a wnaeth gymaint dros ei wlad a'i genedl.


  Yr eiddoch yn ffyddlawn,

   J. EIDDON JONES.

Mehefin 1880.

CYNNWYSIAD.

I. RHAGARWEINIAD

Enwogion wedi codi yn Mhenllwyn a'r gymydogaeth—desgrifiad o'r lle—rhai fu yn meithrin yr ieuainc—John Davies ac Evan Robert y "Gogrwr"—priodas Evan Robert—yn ceisio myned i bregethu—yn troi yn ddirwestwr—ei wneyd yn flaenor—ei rinweddau ei ddull gyda'r ieuenctyd—Evan Robert a Dr. Edwards—meddwl Dr. Edwards am dano—Elizabeth ei wraig—eu plant.

II. EI FYWYD

PENLLWYN—Genedigaeth y Parch. John Roberts (Ieuan Gwyllt)—ei fedydd—bron a boddi pan yn dair blwydd oed—ysgol Lewis Edwards—ysgol John Evans, Aberystwyth yn yr Ysgol Sabbothol—yn chwareu yn y coed—yn arwain côr—yn barddoni—yn cyfansoddi cerddoriaeth—tôn o'i waith yn 15 oed—Casgliad a elwid Yr Eos—yn cadw ysgol ddyddiol—diwrnod yn y gwaith plwm—yn gyflawn aelod.

ABERYSTWYTH— Fel negesydd—myned i Borough Road—cael y frech wen yno—cadw Ysgol Frytanaidd yn Aberystwyth—symud i swyddfa Mri. Hughes a Roberts, Cyfreithwyr—ei gymeriad cynnyg ei wneyd yn bartner—ei lafur gyda cherddoriaeth y pryd hwn—cyhoeddi y Blodau Cerdd yn darllen llawer yn ymgeisydd am y weinidogaeth ac yn methu—dadl â'r Parch. J. Mills—teithio yn yr holidays—anerchiad ar yr Ysgol Sabbothol yn Aberaeron—ei reservedness—teimladau tyner.

III. EI FYWYD (parhâd)

LIVERPOOL—i olygu yr Amserau—ei gysylltiad â'r newyddiadur hwnw—Cymdeithasfa'r Gogledd yn ymddiheuro — Syr F. Bulkeley yn galw sylw yr Ysgrifenydd Cartrefol ato—y Dysgedydd ar yr "Hen Amserau a'r Amserau newydd"—mewn cyfyng-gynghor ysgrifenwyr i'r Amserau yn rhoddi ei swydd i fyny—ysgol y plant—yn dechreu pregethu mewn dull afreolaidd llafurio gyda cherddoriaeth—Tŷ Arthur Llwyd—yn feirniad cerddorol—arweinydd cymanfaoedd cerddorol—casglu y Llyfr Tonau Cynnulleidfäol—darlith ar gerddoriaeth yn ei fyfyrgell—desgrifiad ganddo ef ei hun—yn ysgrifenu i'r Oenig a'r Traethodydd ei syniadau am bregethu.

ABERDAR.—Achlysur y symudiad yno—heb docyn fel pregethwr—yn derbyn caniatâd rheolaidd i bregethu—ei gysylltiad â'r Gwladgarwr—y Parch. D. Saunders ac yntau—ei briodas yn 1859—cyhoeddi y Llyfr Tonau Cynnulleidfaol—y Gymanfa ganu cynnulleidfaol gyntaf yn yr ysgol gân yn Bethania, Aberdar—Telyn y Plant.

MERTHYR TYDFIL.—yn fugail—ei ddewis i'w ordeinio yn Nghastell Newydd, 1861—yn cychwyn y Cerddor Cymreig—beirniadu llawer cyfieithu y Llyfr Tonau i'r Tonic Solffa—teithiau cerddorol—arholi am dystysgrifau yn y Tonic Solffa—galwadau o eglwysi.

LLANBERIS. ei symud yno—ar Bwyllgor Llyfr Hymnau y Methodistiaid—Undeb Cerddorol Dirwestwyr Eryri—rhoddi i fyny ofal eglwysig—symud i'r Fron—bwriadu myned i'r America— afiechyd peryglus—golygu y Goleuad —ymweliad â Moody a Sankey—Swn y Jubili—cymanfaoedd canu 1876—ysgrifau i'r Traethodydd y bregeth olaf—y society olaf—ei afiechyd a'i farwolaeth ei gladdedigaeth—anthemau coffadwriaethol—ysgoloriaeth goffadwriaethol—ei gofadail a'i dadorchuddiad.

IV. EI LAFUR

Fel Cerddor.—1. Blodau Cerdd. 2. Darlith ar Gerddoriaeth. 3. Llyfr Tonau Cynnulleidfaol. 4. Y Cerddor Cymreig a Cherddor y Tonic Solffa. 5. Swn y Jubili. 6. Pa fodd i Sylwi ar Gynghanedd ac Ymarferion Cyfosodiad. Telyn y Plant, &c. 7. Fel Arweinydd Corawl. 8. Cymanfaoedd Canu Cynnulleidfäol. 9. Fel Beirniad Cerddorol.

Fel Llenor.— 1. Yr Amserau. 2. Y Gwladgarwr. 3. Y Goleuad. 4. Amrywiol ysgrifau i'r Oenig, Telyn y Plant, a'r Traethodydd. 5. Llyfr Hymnau y Methodistiaid.

Fel Gweinidog.—Fel Bugail, fel Pregethwr, ac yn y Cyfarfodydd Ysgolion.

V. EI NODWEDDION

Desgrifiad o hono—ei feddwl—1 . Penderfyniad. 2. Chwaeth bur. 3. Boneddigeiddrwydd . 4. Ymroddiad. 5. Craffder a barn. 6. Tynerwch teimlad. 7. Duwiolfrydedd. Camgymeriadau am dano —ei nodweddion fel penteulu— fel cyfaill, ac fel dyn.

VI. EI ATHRYLITH

I ba raddau yr oedd yn wreiddiol—yn athronydd—ei faintioli—yn ddyn mawr cyflawn.

VII. EI DDYLANWAD AR GYMRU

Dylanwad y Blodau Cerdd y Llyfr Tonau a'r Cerddor—mewn cerddoriaeth yr oedd ei brif argraff—yr argraffiadau arosol a wnaed ganddo—wedi gorphen ei waith—diweddglo.

IEUAN GWYLLT.



BYWYD AC ATHRYLITH

Y DIWEDDAR BARCH. JOHN ROBERTS (IEUAN GWYLLT).


PENNOD I.

RHAGARWEINIAD.

MAE cael bod yn feithrinfa i un gŵr o athrylith, ac enwogrwydd mewn daioni, yn anrhydedd ag y gall unrhyw gymydogaeth fod yn falch o hono; ond y mae yn dygwydd weithiau fod ambell i gymydogaeth yn cael y fraint o fod yn feithrinfa i amryw wŷr o athrylith tua'r un adeg. Yn esiampl o hyn, gallwn gyfeirio at ran o Eifionydd yn Sir Gaernarfon, lle y bu yr enwogion barddonol Dewi Wyn, Robert ap Gwilym Ddu o Eifion, ac Eben Fardd yn cydoesi, ac a elwir yn fynych yn "wlad y beirdd." Dygwyddodd yn gyffelyb i Penllwyn yn Sir Aberteifi yn ystod y deugain neu yr hanner can' mlynedd diweddaf; ac nid yn fynych y ceir mewn unrhyw gymydogaeth, yn enwedig un mor wledig, fod cynifer o ddynion mor ragorol wedi codi ynddi, mewn cyfnod mor agos i'w gilydd, ag a adawsant gymaint o'u hargraff ar eu hoes, ac y mae yn dda genym ychwanegu, er daioni. Hyd yr ydym wedi cael allan, nid oes genym hanes am neb o hynodrwydd neillduol wedi codi o'r gymydogaeth hon cyn hyny. Symudodd Lewis Morris (Llewelyn Ddu o Fôn) yno trwy briodi, a phreswyliai yn Mhenbryn y barcud, Dyffryn Melindwr, am y rhan ddiweddaf o'i oes, o 1749 hyd 1765, a chladdwyd ef yn eglwys y plwyf, sef Llanbadarnfawr. Ond wedi hyny cawn enwau y Parch. L. Edwards, D.D., o'r Bala, ynghyd a'r Parch. Thomas Edwards, ei frawd, gŵr da ac o ddylanwad mawr ; y Parch. John Williams, Llandrillo, Llywydd Cymdeithasfa y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngogledd Cymru am 1879; a'r tri brawd, sef gwrthddrych ein hanes, y Parch. Robert Roberts, Llundain, a'r Parch. Isaac Roberts, gŵr ieuanc hoffus ac addawol iawn; hefyd, y Proffeswr John Rhys, Rhydychain, o Bonterwyd, a'r Parch. J. Cynddylan Jones, Caerdydd, o Gapel Dewi, a nifer eraill heb ddyfod mor amlwg. O'r rhai hyn y mae tri yn ymddyrchafu yn uwch o'u hysgwyddau i fyny yn eangder eu defnyddioldeb, a dylanwad eu hathrylith; sef, y Parch. Dr. Edwards, mewn llenyddiaeth a duwinyddiaeth; John Rhys, Ysw., mewn ieithyddiaeth; ac Ieuan Gwyllt mewn cerddoriaeth, ac yn benaf cerddoriaeth gysegredig. Yn sicr, gall Penllwyn fod yn falch o'i henwogion, ac ymffrostio ynddynt.

Saif Penllwyn oddeutu pum' milldir i'r dwyrain o dref Aberystwyth, ar y brif-ffordd o Aberystwyth i Lanidloes. O'r tu cefn iddo, tua'r dwyrain a'r gogledd-ddwyrain, y mae bryniau uchel cyfres y Plunlumon. Cychwyna yr afon Rheidol o lyn Llygad y Rheidol yn agos.i gopa uchaf y Plunlumon, ac wedi amgylchu ychydig, rhed tua'r dehau am bellder maith, hyd nes y cyferfydd â'r Mynach islaw Pont ar Fynach; yna try trwy ddyffryn cul tua'r gorllewin, ac wedi gadael y mynyddoedd o'i hol, derbynia y Melindwr, yr hon a ymarllwys iddi o ddyffryn coediog y Melindwr; ac yna ymddolena yn brydferth trwy ddyffryn agored tua'r môr. Saif Penllwyn yn agos i gyfuniad y Melindwr a'r Rheidol. Ac y mae yr olygfa yn y fan hon yn ardderchog, y bryniau uchel o'r tu cefn yn ymlethru yn drumau graddol y naill uwchlaw y llall ar bob llaw, a'r ddau ddyffryn, y Melindwr a'r Rheidol, ar ol ymwthio allan i gyfarfod eu gilydd, megys, o ganol y mynyddoedd, ac wedi ymuno yn graddol ymledu tua'r gorllewin. Yn y dyffryn oddeutu y pentref, ceir y prydferth a'r swynol; ond wrth fyned i fyny tua'r mynyddoedd ceir y mawreddog a'r rhamantus a'r aruthrol. Nid oes dim neillduolrwydd yn y pentref, os gellid ei alw ar yr enw hwnw; gelwir yr eglwys wrth yr enw Capel Bangor, ac nid ydym yn deall fod dim hynod i'w ddyweyd am dani. Y mae yma gapel prydferth a helaeth gan y Methodistiaid Calfinaidd, a adeiladwyd gyntaf yn y flwyddyn 1790, yr ail waith yn 1821, a'r drydedd waith yn 1850, a medda fynwent helaeth, yn yr hon y mae cofgolofn brydferth i'r Parch. Thomas Edwards, er fod ei gorff yn gorwedd yn mynwent Capel Bangor. Y mae yma ysgoldŷ helaeth mewn cysylltiad â'r capel, yn yr hwn y cedwid ysgol ddyddiol sydd wedi bod o oes i oes yn feithrinfa i lawer o wŷr enwog, a'r hon sydd yn awr dan ofal y Bwrdd Ysgol. Ardal amaethyddol hollol ydyw, ond yn uwch i fyny y mae mwngloddiau plwm enwog y Goginan.

Tueddwyd ni i ofyn, Beth, tybed, allai fod yn rhoddi cyfrif dros fod cynifer o wŷr grymus wedi codi mewn lle fel hyn mewn cyfnod neillduol? Nis gellir priodoli hyn yn unig i agwedd naturiol y lle, oblegyd y mae golygfeydd natur wedi bod yno yn debyg yr un fath o oes i oes; er, ar yr un pryd, y tybiwn fod golygfeydd natur yn meddu rhyw ddylanwad ar ddullwedd meddwl dyn. Diammeu fod dynion o athrylith yn cael eu creu felly gan y Brenin mawr; pan ddelo "cyflawnder yr amser" i alw am danynt, ei fod Ef yn eu darparu ac yn eu cymhwyso i wneyd eu gwaith. Ond cymhwysir hwy drwy foddion,―rhaid i athrylith gael moddion i'w meithrin a'i thynu allan, er ei chymhwyso i'w gwaith. Fel rheol gyffredin, ceir fod ôl dwylaw dynion neillduol ar ddynion enwog, wedi bod yn rhoi cychwyniad iddynt ac agor eu meddyliau. Ac nid dynion cyffredin fydd y rhai hyny ychwaith;—nid pob un sydd yn sydd yn meddu y "ddawn" i hyfforddi a chychwyn meddwl yr ieuanc yn briodol, ac nid pob un dysgedig. Y mae medru rhoi cyfeiriad grymus i'r meddwl ieuanc, a deffroi ynddo yr ymdeimlad o hono ei hunan a'i nerth, yn ddawn" ar ei phen ei hunan, nad oes llawer o'r hil ddynol yn ei meddu. Gwyn fyd y gymydogaeth sydd yn meddu y cyfryw. Dichon nad ydynt yn rhai enwog eu hunain, ond yn gweithio yn ddystaw a disylw, o wir bleser gyda'r gwaith; ond nid oes prophwyd all ragfynegu canlyniadau y fath lafur gwerthfawr. Nid oes dadl nad oes llawer talent ac athrylith wedi eu claddu, heb byth adgyfodi, o ddiffyg rhyw law gyfarwydd i roddi bywyd ynddynt. O herwydd hyn teimlasom awyddfryd cryf i gael edrych ychydig o'r tu cefn i'r enwogion a enwyd, i edrych a fu yno rywrai felly yn meithrin yn Mhenllwyn—yn "dadau naturiol yn y ffydd" i'r ieuenctyd. Yr oedd yr Ysgol Sabbothol mewn bri mawr yno, a diammeu i'r ardal hon, yn gystal ag eraill, deimlo oddiwrth y cynhyrfiad grymus a roddwyd i'r Ysgol trwy lafur y Parch. Owen Jones, Gelli, pan yn ddyn ieuanc yn Aberystwyth. Ac wrth wneyd ymholiad ynghylch yr hen bobl, caem fod yno hen weddiwr neillduol o'r enw Thomas Abel, a blaenor o'r enw Lewis Edwards yn ddyn rhagorol, ynghyd ag eraill o wŷr da ond heb fod o neillduolrwydd mawr. O'r diwedd daethom o hyd i ychydig o hanes John Davies, saer, Melin Rhiwarthen, yr hwn a fu yn cadw ysgol i ddysgu Gramadeg Cymraeg, ac a ystyrid y gramadegwr goreu yn yr holl ardaloedd, ac a fyddai yn flaenllaw mewn dosbarthiadau darllen, ac yr oedd hefyd yn ddyn o feddwl cryf anghyffredin. Mae yn ddiammeu iddo ef wneyd llawer er diwyllio meddyliau ei gymydogion. A'r un adeg yr oedd Evan Rhobert y "Gogrwr," ac y mae efe yn teilyngu helaethach sylw oddiwrthym, ar fwy nag un ystyriaeth.

"Gogrwr," hyny yw gwneuthurwr gograu, oedd wrth ei alwedigaeth, a gallem dybied mai nid rhyw lawer o elw ellid wneyd oddiwrth yr alwedigaeth hono, oblegid hysbysir ni mai mewn amgylchiadau hynod o isel yr oedd yn byw, a chyda'i wraig "Bet," ys dywedid, yn ceisio magu ei blant. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1784. Nid oes genym hanes pa bryd y daeth at grefydd, ac nid heb dipyn o helbulon a phrofedigaethau y dilynodd hi, oblegid yr oedd yn dipyn o brofedigaeth iddo ymollwng gyda'r ddiod feddwol. Ar ei briodas gwnaed gweithdŷ John Davies y saer yn dŷ iddo ef a'i wraig breswylio ynddo. Bu ar ei feddwl bregethu amryw droion, ac os byddai rhywun arall yn meddwl pregethu, byddai yntau, hefyd yn teimlo yr un ysbryd; ond dygwyddai yn rhyfedd iawn, pan ddeuai yr ysbryd hwn arno, ac iddo yntau fod ar ei brawf, syrthiai i'w demtasiwn, a rhoddai hyny ben ar y mater, ac ymddyg ai yntau yn lled dda hyd nes y deuai yr un cynhyrfiad eilwaith. O'r diwedd dewiswyd ef yn flaenor, ac ni bu son am bregethu mwy. Tua'r adeg y daeth Cymedroldeb a Dirwest i'r wlad, ymddengys y cynnelid cyfarfodydd pryd y gallai dynion arwyddo ardystiad i fod yn gymedrolwyr, a derbyn y "garden goch" (red card), neu i fod yn llwyrymwrthodwyr, a derbyn y "garden wèn." Mewn un cyfarfod felly yn Mhenllwyn, lle yr areithid yn wresog, a than wres yr areithyddiaeth daeth Evan Rhobert ymlaen a chymerodd y "garden goch" yn arwydd o gymedroldeb, a mawr oedd llawenydd ei deulu o'i weled yn dyfod hyd hyny; ond fel yr oedd y cyfarfod yn myned ymlaen, gwresogodd yntau, a daeth drachefn ymlaen a chymerodd y "garden wèn" yn arwyddo llwyrymwrthodiad; ac ar ei ddyfodiad, dywedai y Parch. Edward Jones, Aberystwyth, yr hwn oedd un o'r siaradwyr, "Yn awr am danat ti, Ianto bach, neu byth," a chadwodd ei ymrwymiad am ei oes. Mae yn debyg fod hyn wedi dygwydd cyn ei ddewisiad i fod yn flaenor. Yr Evan Rhobert hwn oedd tad Ieuan Gwyllt. Dyn lled wyllt ei dymher ydoedd, ond er hyny yr oedd yn meddu llawer o rinweddau. Byddai ganddo barch mawr i'r Sabboth, ac i dŷ Dduw,—yr oedd hyn yn ddwfn ynddo; a rhoddai ef a'i wraig addysg grefyddol drwyadl i'w plant ar yr aelwyd gartref. Yr ydoedd yn gryn dipyn o rigymwr, ac hefyd yn ganwr da, ac y mae yn lled debyg ei fod yn deall rhyw gymaint o elfenau cerddoriaeth. Bu yn ddechreuwr canu am dymmor, ac y mae yn debyg mai yn nghapel Sion y bu hyny, o leiaf nid yn Mhenllwyn. Ond heblaw hyn oll, yr oedd yn "ddoctor" yn yr athrawiaeth, ac yn awdurdod; ac yr oedd ynddo hefyd ryw attyniad naturiol at yr ieuainc, i roddi cwestiynau iddynt, ac egluro iddynt elfenau gwybodaeth, ac yr oedd ganddo lawer iawn o hanesion i'w hadrodd wrthynt. Golygfa ddyddorol, ond nid anghyffredin, fyddai gweled Evan Rhobert yn cerdded ar hyd y ffordd, a nifer o rai ieuainc yn ei ganlyn, gan ymwthio ato a gwrando arno; ac os collai un rywbeth o'i sylwadau, trwy fethu clywed neu fethu deall, gellid gweled hwnw yn troi ato ac yn gofyn yn awyddus, "Beth oeddit ti yn ei 'weyd, Evan ?" Byddai yn fynych yn dadleu yn boethlyd yn yr Ysgol Sabbothol.[1] Yr oedd yr argraff a adawai ar feddyliau dynion ieuainc yn annileadwy. "Yr oedd Mr. Richard (y Parch. Ebenezer Richard) un tro pan oeddwn yn fachgenyn bychan yn llettya yn nhŷ fy nhad a mam. A boreu drannoeth, cyn i Mr. Richard ymadael, daeth Evan Rhobert yno, yr hyn nid oedd beth anarferol, gan ei fod yn byw heb fod ymhell, ac yn hoff o ymddyddan â fy nhad, ac o adrodd i minnau rai o'r hanesion difyr oedd ganddo yn drysor dihyspydd, am yr hen bregethwyr ac am y byd yn gyffredinol. Yr Evan Rhobert hwn oedd tad Ieuan Gwyllt a Mr. Robert Roberts; ac o ran gallu naturiol yr oedd yn gymaint dyn ag un o'i feibion. O'r hyn lleiaf, yn nesaf at fy nhad a fy mam, nid oes neb yr wyf fi dan fwy o rwymau iddo am addysg grefyddol, oblegid byddai ganddo bob amser ryw gwestiynau i'w gofyn i mi, yr hyn a alwai yn posio, yr hwn air yn ol Dr. Pughe sydd Gymraeg ddiledryw. Y boreu hwnw, gofynodd i Mr. Richard fy holi, gan feddwl mae yn debyg y byddai yn anhawdd cael cwestiwn na fedrwn ei ateb. Ond os hyny oedd ei ddysgwyliad, cafodd siomedigaeth enbyd, oblegid ni ddaeth ei ddysgybl trwy yr arholiad yn ogoneddus mewn un modd."[2] Pan yn gadeirydd i ddarlith Ieuan Gwyllt ar Gerddoriaeth, "Sylwai y cadeirydd (y Parch. Dr. Edwards) ychydig ar y cysylltiad oedd rhyngddo ef a thad y darlithydd, mai iddo ef yr oedd i briodoli llawer o'r awydd a ddaeth i'w feddwl am wybodaeth; byddai bob amser yn gofyn cwestiwn pan y cyfarfyddai âg ef, ac yn ymroddgar iawn fel blaenor yn yr eglwys y perthynai y cadeirydd iddi."[3] Bu farw Evan Rhobert Mawrth 20, 1844, ychydig cyn cyrhaedd ei driugain mlwydd oed. Yr oedd yma rywbeth heblaw gwybodaeth a nerth meddwl;—gallu i gyrhaedd meddwl yr ieuanc, ac i roddi cychwyniad iddo, ac y mae cael dynion yn meddu y gallu hwn o werth anmhrisiadwy mewn cymydogaeth. Yr oedd Evan Rhobert, mae yn amlwg, yn meddu y "ddawn" i ddysgu plant yn helaeth, ac os cafodd y Dr. Edwards y fath fendith drwyddo, pa faint a gafodd y plant oeddynt yn cael eu dwyn i fyny ganddo ar yr aelwyd gartref?

Yr oedd Elizabeth (neu Bet) Rhobert yn ieuangach na’i gŵr o tuag wyth mlynedd a hanner, a ganwyd hi Awst 6, 1792. Yr oedd hi yn ferch i ŵr o'r enw Sion Llwyd, yr hwn oedd yntau yn ei ddydd yn bregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd.[4] Dynes gref ydoedd, yn gantores ragorol, ac o duedd grefyddol iawn, ac ymhob modd yn ymgeledd gymhwys i Evan Rhobert a'i deulu. Yr oedd hefyd yn meddu craffder meddyliol, ac fel gwraig rinweddol yn arfer "craffu ar ffyrdd tylwyth ei thŷ;" a chawn iddi ddywedyd gyda golwg ar ei dau fachgen John a Robert"Robyn bach fydd y pregethwr mawr, ond John fydd pregethwr yr hen wragedd." Cafodd hi fyw i weled tri o'i phlant yn dechreu pregethu, a'r hynaf o honynt wedi cyrhaedd gradd helaeth o ddylanwad ac enwogrwydd. Bu farw Rhagfyr 30, 1860, yn 67 oed.

Bu i Evan Rhobert ac Elizabeth ei wraig bump o feibion ac un ferch. Ganwyd Elizabeth eu merch Mawrth 28, 1820, ac y mae yn awr yn fyw, yn wraig weddw yn Mhenllwyn, yr unig un o'r plant sydd yn parhâu hyd heddyw, a chanddi un ferch. Am John, gwrthddrych ein hanes, cawn roi hanes mwy helaeth eto. Ganwyd ef Rhagfyr 27, 1822. William, yr ail fab, a anwyd Tachwedd 10, 1826, ac a fu farw Medi 2, 1851, yn y bummed flwydd ar hugain o'i oedran; a hwn, meddir, oedd y mwyaf addawol o'r plant oll. Yn 1828 ganwyd baban bychan prydferth iawn, yr hwn a alwyd yn Robert, ac a fu farw yn flwydd oed. Robert arall a anwyd Tachwedd 10, 1831, ac a ddaeth yn adnabyddus fel y Parch. Robert Roberts, Aberteifi, wedi hyny o Carneddi, ac yn ddiweddaf o Wilton Square, Llundain. Hyderwn yr ysgrifenir ei hanes yntau. Ond rhag ofn i un hanesyn a glywsom am dano fyned ar goll, ni a gymerwn ryddid i'w ddodi yma. Bu Robert am amser maith yn gweithio yn ngwaith mŵn y Goginan; ond un dystaw, tawedog ydoedd, ac anfynych y dywedai air wrth neb. Pan yn dechreu pregethu, yr oedd y Parch. Edward Jones, Aberystwyth, yn un o'r rhai a ddaethant dros y Cyfarfod Misol i ofyn llais yr eglwys arno ac ymddyddan âg ef. Ar ol holi cryn dipyn arno, gofynodd Mr. Jones, "A ydych chwi yn meddwl eich bod wedi bod o fendith i rywun yn y gwaith acw er pan ydych yno?" Atebai Robert yn bwyllog, "Wn i ddim, syr;" ac wedi moment o ystyriaeth chwanegai, "Ond 'rwy'n meddwl y gallaf ddyweyd cymaint a hyn, syr, 'Ni lygrasom ni neb."" Gŵr neillduol ydoedd, a hynod ddarllengar a llafurus, a'i bregethau yn arddangos meddwl cryf-bwyd rhy gryf i'r lliaws; ond byddai ganddo ambell i flash oedd mor ddysglaer, fel nas gallai neb oedd yn bresennol beidio gweled ei llewyrch. Bu farw Awst 1, 1878, yn y seithfed flwyddyn a deugain o'i oedran. Ganwyd Isaac, yr ieuangaf, Mai 27, 1836. Gŵr ieuanc a hoffid yn fawr oedd yntau, a dysgwylid llawer oddiwrtho, ac y mae genym adgof byw am dano yn fyfyriwr yn y Bala. Llafuriai dan lawer o wendid a nychdod, a bu farw Mai 30, 1864, yn wyth mlwydd ar hugain oed. Fel hyn difianasant oll, ac yn gynnar mewn cymhariaeth, yn nghanol eu dyddiau. Rhoddid argraff ar ein meddwl, wrth edrych arnynt, eu bod wedi etifeddu cyfansoddiad lled wydn a chryf wrth naturiaeth; ond o herwydd rhywbeth-dichon mai diffyg cynnaliaeth ddigonol yn moreu oes, yr oedd y cyfansoddiad hwnw heb ddigon o sylfaen a nerth i ddal y llafur, ac yn enwedig y pwys meddyliol a osodid arno, ac mewn canlyniad ei fod yn agored i nychdod maith neu ymosodiadau afiechyd. Fel yr oedd, teimlem fod eu cyfansoddiad yn dal llafur ac ymosodiadau fuasent wedi llethu llawer un â llai o wydnwch a chryfder ynddo. Dichon fod yr amgylchiadau hyn wedi bod yn foddion i flaenllymu eu meddyliau hwy, ond ar yr un pryd yn byrhâu eu hoes, ac yn eu tori i'r bedd yn nghanol eu defnyddioldeb.

Diammeu fod Evan Rhobert, trwy ei gwestiynau a'i hanesion, wedi bod yn foddion cychwyniad i lawer meddwl, ond cafodd yn ei deulu ddefnyddiau i roddi mwy o'i ddelw ei hunan arnynt nag a allai gael yn unlle arall. Yr oeddynt oll yn meddu meddyliau cryfion, ac wedi eu gwreiddio a'u seilio yn yr athrawiaeth, ac yn meddu chwaeth gref at gerddoriaeth. Ond yr hynotaf o honynt, a'r un a ennillodd iddo ei hunan safle o fwyaf o ddylanwad, ac a adawodd ei argraff ddyfnaf ar ei oes a'i genedl, oedd gwrthddrych ein hanes:—IEUAN GWYLLT.

PENNOD II.

EI FYWYD—Y PAROTOAD—PENLLWYN AC ABERYSTWYTH.

John Roberts.

"1822, Dec. 27th.[5] Born at Tanrhiwfelen[6] near Aberystwyth."
"1823, Jan. 30th, Baptized at Penllwyn Chapel by Rev. David Evans, Aberaeron."

CLYWSOM ef yn dyweyd mewn Cyfarfod Misol wrth ymdrin â'r ordinhâd o Fedydd, ei bod yn arferiad yn Sir Aberteifi, amser yn ol, i ymddyddan â'r rhieni yn y society cyn bedyddio eu plentyn, i'r dyben o'u dwyn i ddeall ystyr yr ordinhâd, ac i deimlo eu rhwymedigaeth gyda golwg ar eu plant. Arferiad ragorol oedd hon, a diammeu ei bod wedi cael ei dilyn yn yr amgylchiad hwn. Dydd Iau oedd Ionawr 30, 1823, ond nis gallwn wybod pa un ai pregeth ai ynte society oedd yn y capel ar y pryd, digon tebygol mai yr olaf.

"1823, May 13th, Parents removed to Ty'nyffordd near Penllwyn."
"1829, May 13th, Parents removed to Pistyllgwyn."

Ysgrifenodd y Parch. Robert Roberts, Llundain (ei frawd) fel y canlyn:—"Y mae yn ddrwg genyf nas gallaf ar hyn o bryd roddi i chwi nemawr o ffeithiau eglur yn hanes boreu oes fy mrawd. Yr oedd naw mlynedd o wahaniaeth oedran yn peri ei fod ef yn ddyn ieuanc tra nad oeddwn i ond plentyn. Y mae rhai o'i gyfoedion wedi addaw cofnodi ychydig o'i hanes i mi. Nodaf i chwi rai, &c.

Ganwyd ef y 27ain o Ragfyr, 1822, mewn tŷ bychan a elwid Tanrhiwfelen, ar y bryn uwch ben Pwllcenawon (hen gartref Dr. Edwards o'r Bala). Clywais fy nhad yn dyweyd mai noswaith enbyd o rewynt ac eira oedd y noson y ganwyd ef; gwnaeth ei ymddangosiad yn y byd hwn dan grio; a pharhäodd, meddai fy mam, i grïo ddydd a nos am y flwyddyn gyntaf, oddieithr yn y capel, yr hyn oedd yn dra rhyfedd, os nad yn rhagarwydd o rywbeth. Yr oedd hyn yn gymhelliad neillduol i fy mam i'w gymeryd i'r capel mor fynych ag y gallai, ond ni chlywodd neb erioed ei lais. yn y capel nes iddo ddechreu ei arfer i ganu.

"Yn y flwyddyn 1823, symudodd ein rhieni i fyw i'gŵr Dyffryn Melindwr, o'r enw Ty'nyffordd, a phan oddeutu tair blwydd oed, cymerodd amgylchiad hynod le, a wnaeth argraff ddofn ar eu meddyliau gyda golwg ar John. Ar brydnawnddydd haf syrthiodd John dros y bont bren i'r afon, a bu yno yn hir cyn i lefain ei chwaer allu dwyn ymwared iddo (nid oedd hi ond pum' mlwydd oed); a phan gyfodwyd ef allan yr oedd yn ymddangos yn hollol farw, ond ar ol pedair neu bum' awr o gymhwyso gwres at ei gorff bychan, dadebrodd a dechreuodd anadlu. Credai fy rhieni o hyny allan fod gan Ragluniaeth Ddwyfol waith mawr i John i'w gyflawni, a'i fod yn anfarwol hyd nes y byddai'r gwaith hwnw ar ben. Bu mewn enbydrwydd am ei einioes amryw weithiau ar ol hyn.

"Pan yn bur ieuanc, rhwng saith ac wyth mlwydd oed, dechreuodd fyned i'r ysgol a gedwid y pryd hwnw yn Mhenllwyn gan Mr. Lewis Edwards, cefnder i'r Dr. Edwards. Clywais yr hen athraw yn dyweyd, er iddo fod yn cadw ysgol am faith flynyddoedd, na welodd neb yn dysgu mor gyflym â John Roberts. Nid oedd gan yr hen athraw, mae'n wir, ddim llawer i'w ddysgu i'r plant; Arithmetic (yn ol Walkingham) a'r Tutor's Guide; ond er mwyn tipyn o amrywiaeth, gosodai yr hen athraw y bechgyn goreu, yn enwedig y rhai y meddyliai eu rhieni eu dwyn i fyny yn offeiriaid, i ddysgu yr Eton Latin Grammar, yn Lladin ar eu cof. Yr oedd ei ragoriaeth mewn gallu ac ymroddiad i ddysgu yn ei wneyd yn wrthddrych erlidigaeth; a mynych y maeddwyd ef yn greulawn gan fechgyn hynach nag ef, yn unig am ei fod yn dysgu ei holl wersi ac felly yn ennill cymeradwyaeth yr athraw. Ynglŷn â hyn yr oedd ynddo neillduolrwydd arall,-ni wnai ymladd ar gyfrif yn y byd. Nid wyf yn ammeu na chafodd wedi hyny gyfleusdra i bentyru marwor tanllyd ar ben rhai o'i erlidwyr. Bu wedi hyny gydag un D. Griffith am ychydig amser yn dysgu Navigation; a chyda Mr. John Jones, Capel Dewi (Ceinewydd yn awr) yn dysgu Mensuration, ac yn olaf gyda Mr. John Evans, Aberystwyth, yn ymberffeithio yn y naill beth a'r llall." [7]

Cawn ychydig o hanes yr athraw hwn gan y Parch. Dr. Edwards o'r Bala yn ei "Adgofion" yn y Goleuad:—"Anfonwyd fi i ddysgu rhifyddiaeth at Mr. John Evans, Aberystwyth. Dyma un o'r dynion a wnaeth fwyaf o'i ôl fel athraw ar Sir Aberteifi, ac i ryw raddau ar Siroedd eraill. Ganwyd ef yn ardal Blaenplwyf, oddeutu pum' milldir o Aberystwyth. Pan yn ieuanc aeth ar ei draed yr holl ffordd i Lundain, gan feddwl y byddai ganddo bob mantais i ddysgu Saesoneg, ac i fyned ymlaen yn ddiddiwedd mewn gwybodaeth, ond iddo lwyddo i gyrhaedd y Brifddinas. Trodd hyn allan yn dda iddo mewn amser; ond bu yn dywyll iawn arno ar y cyntaf, a gorfu iddo ddyoddef caledi a barodd iddo hiraethu yn fynych am fara haidd a chawl cenin Blaenplwyf. Bu yn llafurio i gadw ei hun rhag marw o newyn, trwy fyned o dŷ i dŷ i werthu llyfrau bychain: ond ychydig a ennillodd y ffordd hono, a rhoddwyd terfyn ar yr ychydig hyny trwy ei gymeryd i fyny fel troseddwr, am ei fod yn ei anwybodaeth heb gydffurfio â gofynion y gyfraith; a dyna lle yr oedd y bachgen diniwed o Blaenplwyf yn gorfod sefyll o flaen yr Ustus yn un o lysoedd Llundain i gymeryd ei brawf. Ond gwelwyd yn fuan nad oedd wedi troseddu yn wirfoddol, a gollyngwyd ef yn rhydd. Wedi hyny daeth ei amgylchiadau yn hysbys i rai o'r Cymry yn Llundain, ac y mae un o honynt yn neillduol, o'r enw Mr. Davies, musician, yn haeddu uwch coffadwriaeth nag a ellir roddi iddo trwy gyfrwng yr erthyglau hyn. Bu efe yn lle tad i'r gŵr ieuanc o Blaenplwyf, a rhoddodd ef yn yr ysgol gyda Mr. Griffith Davies, yr hwn a ddaeth mor hysbys ar ol hyny, nid i Gymru yn unig, ond i rai o'r dynion blaenaf yn Lloegr fel un o'r rhifyddwyr goreu yn ei oes. Yr oedd Mr. Griffith Davies ei hun yn gwybod beth oedd dyfod i fyny drwy anhawsderau. . . . . Yn ysgol Mr. Griffith Davies cafodd John Evans yr unig beth a ewyllysiai, a gwnaeth y defnydd goreu o'r cyfleusdra. Yna meddyliodd am ddychwelyd i Gymru, i wneuthur hyny o les a allai i'w gydwladwyr. Bu mewn mwy nag un man yn Sir Drefaldwyn-os nad wyf yn camgofio, un o honynt oedd Llanidloes yn ceisio sefydlu ysgol. Ac yn ddiweddaf oll symudodd i Aberystwyth. Yn raddol iawn y llwyddodd yno, er mai efe, os nad wyf yn camsynied yn fawr, oedd y rhifyddwr goreu yn Nghymru yn y dyddiau hyny tu hwnt i bob cymhariaeth. Y mae rhyw allu gan ffug, oblegid os bydd un yn gwneyd digon o ffugymddangosiad, y mae yn bur sicr o lwyddo—hyny ydyw, am ryw gymaint o amser. Ac o'r tu arall, y mae dyn gwir fawr o dan gryn anfantais, am nas gall ymostwng i ffugio. Felly am John Evans, nid oedd yn proffesu dim nad oedd yn ei wybod, ac yr oedd yn gwybod mwy nag oedd yn ei broffesu, ac yn ei wybod yn drwyadl. Pe buasai wedi myned i Cambridge yn ieuanc, buasai yn sicr o fod yn uchaf yn rhestr y wranglers, ac fe allai yn senior wrangler. Nid wyf yn gwybod i ba raddau, wedi i mi fod gydag ef, yr oedd yn parhâu i gynnyddu yn gyfatebol i gynnydd yr oes mewn gwybodaeth; ond mi dybiwn nad oedd dim yn yr amser hwnw yn dywyll iddo o'r hyn a ystyrid ar y pryd yn perthyn i gorff cyfan o rifyddiaeth ac anianyddiaeth. Wrth ddywedyd hyn, ni ddymunwn arwyddo fod pwys mawr yn fy marn, ond yn traethu hyny o farn sydd genyf; ac eto pan y mae dyn yn derbyn atebion goleu gan ei athraw i bob cwestiwn a ofynir ganddo mewn unrhyw gangen o wybodaeth, y mae yn anhawdd iddo beidio barnu fod yr athraw hwnw yn deall yr hyn y mae yn ei ddysgu. Yr oedd genyf fantais i holi, gan fy mod yn llettŷa gyda ef yr holl amser y bum yn ei ysgol. Yr unig beth a welaf erbyn hyn yn ddiffygiol ynddo oedd ei hoffder at iaith chwyddedig Bonnycastle, yr hyn oedd yn tarddu, mi dybygaf, o'r diffyg o addysg glasurol; oblegid yr wyf wedi sylwi am athronwyr, eu bod fel rheol yn tueddu at chwyddiaeth, ac yn ymwrthod â iaith syml, os na fyddant, fel Syr John Herschell a Whewell, wedi eu trwytho yn dda mewn addysg glasurol. Ond pa fodd bynag am yr iaith, yr oedd y mater bob amser yn eglur iddo, ac nid ymfoddlonai ar ddeall yr hyn a ddywedid gan yr awdwr, ond mynai olrhain ei ymresymiadau hyd at eu gwreiddiau. Ac heblaw ei fod ef ei hun yn hyddysg ynddynt, yr oedd ganddo ddawn neillduol i greu ysbryd chwilio, a chariad at wybodaeth, yn yr ysgoleigion. Arferir yr un gair Cymraeg am un yn dysgu eraill, ac yn dysgu ei hun: ond y mae yma ddau beth gwahanol, yn gofyn cymhwysderau gwahanol, y rhai nid ydynt bob amser yn cydgyfarfod. Ond yr oedd efe yn meddu gallu i ddysgu yn y ddau ystyr; ac yr wyf yn cofio yn dda ei fod wedi creu y fath frwdfrydedd ynof, fel yr oedd ffigyrau yn ymrithio o flaen fy meddwl pa le bynag yr awn." [8]

Ymddengys fod ysgol Mr. Evans wedi ennill cymeradwy aeth uchel gan y Dirprwywyr a wnaethant ymchwiliad i addysg Cymru yn y flwyddyn 1848, ac a fuont mor hynod yn eu llwyddiant i ganfod ei diffygion, heb gael ond ychydig o'i rhinweddau.

Yn yr ysgolion hyn cafodd John Roberts fanteision i ymgydnabyddu âg amryw ganghenau gwybodaeth, a daeth i gyffyrddiad â dynion oedd yn meddu gallu neillduol i godi awydd am wybodaeth; ac ymddengys ei fod ef ei hun yn meddu ar ysbryd ymroddedig i wneyd y defnydd goreu o'r holl fanteision a ddaeth i'w ran. Cawn ddangos, yn ol llaw, fod ei feddwl ef wedi ei lenwi âg awydd i gasglu gwybodaeth.

Chwe' blwydd a hanner oed ydoedd pan symudodd ei rieni o Dy'nyffordd i'r Pistillgwyn, ymhellach i fyny yn nyffryn y Melindwr. Cedwid Ysgol Sabbothol y pryd hwnw ar gylch ar hyd ffermydd y dyffryn hwnw, ac i hono y byddai John yn arfer myned; ac wedi iddo ddysgu darllen, ceid ef mewn dosbarth gyda rhai mewn oed. Yr oedd yn meddu serch cryf at yr Ysgol Sabbothol.

Byddai yn hoff o dreulio ei amser chwareu yn y coed a gylchynent ei gartref. Yr oedd wedi dysgu ysgrifenu yn dda pan yn bur ieuanc. Sylwyd fod ei fam yn gantores dda, a'i dad hefyd yn gryn dipyn o ganwr, a'i fod wedi bod yn ddechreuwr canu, a thipyn o ysbryd prydyddu ynddo. Dywedir fod John yn hoff o fod ar ei ben ei hunan yn fwy na chyda'r plant eraill yn chwareu. Yr oedd o ysbryd bywiog a chwareus hefyd, ac ymhyfrydai mewn bywyd 'gwyllt" ar hyd y coed, a phan y cai gareg neu ddarn o bapyr, ysgrifenai arno ryw rigwm o farddoniaeth neu dôn. Mae hanes am dano ar un adeg yn ceisio dynwared y tylwyth teg, er difyrwch iddo ei hunan, y plant eraill, a'r cymydogion a elent heibio. Ceir ei fod yn ceisio cyfansoddi pennillion yn foreu iawn, a'i fod hefyd yn deall rhyw gymaint ar egwyddorion cerddoriaeth o ddeuddeg i bymtheg oed; ac yn ol pob tebyg, y llyfr cyntaf ar hyny a gafodd i'w gyfarwyddo oedd llyfr W. Owen o Sir Fôn. Yr ydym yn cael hefyd fod amryw y dyddiau hyny yn myned oddiamgylch i ddysgu ysgolion canu. Crybwyllir am un o'r enw "Dafydd Siencyn y Borth," fel y cyntaf yn gwneyd hyny yn Penllwyn, ac wedi hyny un arall o'r enw Thomas Jenkins—dyn gwledig. Bu mewn dosbarth a addysgid gan Mr. James Mills, a chawn hefyd iddo fod yn mynychu ysgol ganu gan Mr. Richard Mills "droion, yn benaf yn nghapel Sion, ond yr oedd ef y pryd hwnw braidd yn fwy nag y mynai Mills iddo fod." [9]"Yr wyf yn ei gofio yn arwain côr cyn bod yn bymtheg oed, y dôn a'r gair o'i waith ei hun. Dyma'r gair:

"O'r bedd cyfodai 'n Harglwydd cu
Y trydydd dydd;
Gorchfygodd, maeddodd uffern ddu,
O Edom daeth yn rhydd:
Agorodd ffordd i Salem lân,
Rhodd fodd i'r mudan seinio cân
Hyd oesoedd rif y tywod mân,
Tragwyddol fawl byth iddo fydd.'

"Yr wyf yn cofio un arall ar yr Ysgol Sabbothol:—

"Mawl i'r Iesu fo 'n dragwyddol
Am yr Ysgol rad Sabbothol,
A'i manteision llawnion llon;

Ar ei bwrdd cawn hyfryd luniaeth,
Melus wleddoedd iachawdwriaeth,
Rhodd Duw Ion i ni yw hon:
Llwyddo wnelo drwy'r holl wledydd,
Miloedd eto ddelo 'n ufudd,
 Fel y seinier peraidd glodydd
I Dduw Jacob ein Gwaredydd,
Drwy bob parth o'r byd o'r bron.'

"Nid wyf yn cofio rhyw lawer o'i farddoniaeth, ond gwn iddo wneyd llawer pan nad oedd ond hogyn. Gwnaeth farwnad i Elizabeth, merch Job Silvanus.[10] Cafodd hon ei hargraffu. Cyfansoddodd gân i minnau yn erbyn yr arferiad o garu yn y nos. Nis gwn pa bryd na pha fodd y daeth i fod yn alluog i ganu tôn, ond gallaf feddwl nad oedd uwchlaw tair ar ddeg oed. Yr amgylchiad a ddaeth âg ef i'r golwg gyntaf oedd-fod ychydig o'r cyfeillion ar ddiwedd yr ysgol yn Blaen Dyffryn (Melindwr) yn ceisio canu rhyw dôn, ac yn methu gwneyd dim o honi yn lân; daeth yntau ymlaen, a chanodd hi rhag y blaen. 'Wel,' ebai John Pritchard, Ty'nypwll, 'mae John yn ddigon trech na ni i gyd,' a rhoddwyd y goreu iddo o hyny allan."[11]

Wrth gychwyn Cerddor y Tonic Solffa, ysgrifenai Ieuan Gwyllt ei hun fel hyn:-"Gwyddom yn dda beth yw yr ysfa blentynaidd am weled rhywbeth o'n heiddo mewn argraff; ac yr ydym yn cofio pa fodd y dychlamai y gwaed yn ein gwythienau pan yn agor y cylchgrawn misol a gynnwysai ein Tôn gyntaf, pryd nad oeddym ond pymtheg oed."[12] Dengys hyn ei fod wedi cyrhaedd safle a ystyrid yn uchel yn bur foreu, a'i fod wedi gwneyd defnydd mawr o'i fanteision, ac yn cyflym ymddadblygu. "Yr wyf yn


cofio am dano yn d'od adre' o'r ysgol un prydnawn, ac yn dangos Tôn newydd i mi o'r enw "Victoria," at wasanaeth


yr achos dirwestol. Gallaf feddwl nad oedd ddim dros 13 oed y pryd hwnw."[13] Ond y mae yn eglur fod yr egwyddorion ddaethant i'r golwg mor amlwg mewn amser diweddarach yn dechreu ymysgwyd yn awr, ac hwyrach yn rhyw ragarwyddo beth fyddai yn y dyfodol. Yr oedd y bachgen chwareus ar hyd y coed eisoes yn ysgrifenydd da, yn gryn dipyn o fardd, ac yn gerddor lled drwyadl, oblegid mynai ddeall pob peth yn drwyadl. Dywedir wrthym fod rhan o'r coed oedd yn ymyl ei gartref yn cael ei alw "y gwyllt," ond pa un ai oddiwrth hyny, ynte am ei fod yn hoffi crwydro ar wahan i'r plant eraill, y galwyd ef yn "Ieuan Gwyllt," nid oes sicrwydd. Ond y mae yn ddiddadl ei fod wedi mabwysiadu yr enw yn ieuanc iawn,—gan ei fod yn fardd a cherddor, yr oedd yn rhaid cael ffugenw, wrth gwrs, ac yr oedd ar y cyntaf yn fwy cyflawn—sef Ieuan Gwyllt Gelltydd Melindur. Paham y mabwysiadodd yr enw Ieuan yn lle Ioan nid ydym yn cael esboniad—yr un gwreiddyn ac ystyr sydd i'r ddau. Ond ceir arwyddion hefyd fod y talentau hyn i gael eu defnyddio i ryw bwrpas. "Bum yn meddwl lawer gwaith, gyda golwg ar ei Lyfr Tonau, ei fod wedi meddwl pan yn ifanc iawn am wneyd y fath lyfr, neu ynte iddo gael tuedd i ymbarotoi ar ei gyfer, a hyny heb yn wybod iddo ei hun; oblegid yr wyf yn cofio, a hyny flynyddau cyn iddo ymadael o Pistyllgwyn, iddo fynu cael llyfr mawr o bapyr gwỳn wedi ei rwymo, ac heb ei linellu, fel y gallai wneyd hyny fel y byddai am- gylchiadau yn galw. Yr enw oedd arno oedd Yr Eos, a chasgliad ydoedd o hen Donau Cynnulleidfaol, a'r rhai hyny wedi eu notio yn wahanol i ddull y dyddiau hyny, sef mewn Banig ac Adfanig, fel y gwnaeth yn ei lyfr. Beth oedd yn ei gymhell, nis gwn. Byddai yn dda genyf gael golwg ar yr hen Eos yn awr.

Yr oeddwn yn gofyn iddo, 'Pa le yr wyt yn cael yr hen donau yma, dywed?' 'O, rhai ymhob man: o glywed fy nhad yn eu canu, dyna fel yr wyf yn cael mwyaf o honynt.' Ai am Napoleon y dywedir mai mewn magnel a chleddyf yr ymhyfrydai pan yn blentyn Fel hyny y byddaf yn meddwl am dano yntau,-prif waith ei oes oedd diwygio Cerddoriaeth y cysegr a dwyn allan y Llyfr Tonau, a meddyliaf iddo weled y meddylddrych pan yn blentyn."[14]

Yr oedd, yn ddiammeu, hadau pethau mawrion yn dechreu egino ynddo yn foreu iawn. Yr oedd o dymher neillduol hynaws a charedig, yn hynod felly; ond pan dybiai fod rhywbeth heb fod yn ei le, nis gallai oddef hyny; yr oedd am gael pob peth yn gywir fel y dylai fod. Yr oedd awydd cryf ynddo at ddysgu, a mantais fawr iddo yn hyny oedd fod ganddo gof da. "Yr oedd ganddo gof cryf iawn," meddai Mr. Absalom Prys. Yr oedd hefyd yn benderfynol iawn. 'Amlygodd benderfyniad meddwl, hyny yw, penderfyniad i orchfygu pob peth. Er esiampl, yr wyf yn ei gofio yn notio Tôn i mi, ac .wrth ysgrifenu ei henw yr oedd y pin yn gommedd gweithio fodd yn y byd. 'Ysgrifeni di ddim â hwna,' meddwn wrtho. 'Mi wnaf iddo wneyd, pe b'ai e'n skewer,' meddai yntau, a gwneyd gadd e' hefyd."[14] Ni oddefai i ddim sefyll ar ei ffordd i gyrhaedd ei amcan, os byddai yn credu ei fod yn un teilwng.

Yn ieuanc iawn, tua phymtheg neu un ar bymtheg oed, feddyliem, os nad yn ieuengach na hyny, cawn ei hanes yn cadw ysgol ddyddiol yn y Goginan; ond yr oedd yn rhy ieuanc i allu cael awdurdod ar y plant, felly byddai ei dad yn ei ganlyn, ac mewn un gongl yn dilyn ei waith o wneyd neu drwsio gograu, tra byddai John yn dysgu y plant. Bu yn cadw ysgol felly hefyd, meddir, yn y Tynant a Thanrhiwfelen, a'i dad yn ei ganlyn. Ymddengys y byddai yn cadw ysgol am dymmor, ac yna yn myned am dymmor i'r ysgol ei hunan â'r arian a ennillasai. Dengys hyn ei ymroddiad llwyr i gasglu gwybodaeth. "Yr wyf yn tybied iddo fod yn cadw ysgol ddyddiol ar hyd y gymydogaeth yma am ddwy neu dair blynedd, ond nid gyda llwyddiant mawr: nid rhyw allu mawr oedd ganddo i ddysgu eraill; yr oedd yn well am ysgrifenu ei feddwl nag am ei ddyweyd y pryd hyny[14] Bu hefyd "yn cadw ysgol ganu ar hyd y cymydogaethau yma."[14] Felly nid oedd am gadw ei wybodaeth iddo ei hunan, ond am ei throi i fod yn ddefnyddiol a manteisiol i eraill. Rhaid fod rhyw awydd angerddol ynddo, pan yr ymgymerai mor ieuanc â'r cyfrifoldeb o ddysgu eraill, ar adeg yr oedd yn rhaid iddo gael cynnorthwy ei dad i gadw trefn; ac y mae coffadwriaeth yr hen ŵr yn deilwng o barch, am iddo gydsynio â'i blentyn a'i gynnorthwyo fel hyn. Y mae yn amlwg ei fod yn meddwl rhywbeth o'i fab, ac yn rhoddi pob cefnogaeth a chynnorthwy iddo yn ei awydd am wybodaeth. Pa feddyliau, tybed, allent fod yn rhedeg drwy ei feddwl tra yn cyweirio ei ograu, ac yn gwylio ymdrechion ieuangaidd ei blentyn yn cyfranu gwybodaeth? Diammeu nad allai gŵr o'i graffder ef ddim gwylio ysgogiadau meddwl ei blentyn heb edrych drwyddynt ymlaen ymhellach na'r presennol.

Yr adeg yr oedd efe gartref, yr oedd gwaith mŵn plwm y Goginan yn "myned," a meddyliodd y gallasai yntau dreio ei law, pa beth a allasai wneyd fel mwnwr, ond buan y gwelodd nas gallai ddygymmod â hyny. Un stem y gweithiodd o dan y ddaear, a dyna ddywedodd ar ol dyfod allan, "nad äi yn dragywydd yn chwaneg o dan y ddaear."* Ond ennillodd un hanner coron yn y gwaith hwnw, a dyna'r cwbl. O ran hyny, beth bynag yr ymaflai ynddo, ni byddai yn foddlawn heb ei wneyd yn iawn ac yn drwyadl, ac er myned i lawr dan y ddaear, [15] gofalodd tra y bu yno am wneyd gwerth hanner coron. Os dysgu yn yr ysgol, mynai feistroli ei wersi; os astudio cerddoriaeth, mynai ddeall ei hegwyddorion; neu "pa beth bynag yr ymaflai ei law ynddo i'w wneuthur, efe â'i gwnai a'i holl egni," ac nid yn unig hyny, ond nis rhoddai ef i fyny heb ei orchfygu yn drwyadl.

"Gyda golwg ar ei waith yn ymgymeryd â chrefydd a dyfod yn gyflawn aelod, nid wyf yn cofio am ei ddyfodiad, na pha oedran oedd pan y daeth. Yr wyf yn sicr fy mod i wedi myned i'r cymundeb o'i flaen, a hyny pan oeddwn yn ddwy ar bymtheg oed; ond yr oeddwn i agos i ddwy flynedd yn hŷn nag ef, felly gallasai efe ddyfod yn ieuangach na mi. Nid wyf yn meddwl iddo gymeryd fawr o ran mewn pethau cyhoeddus, megys gweddio ac areithio-oddieithr mewn canu-cyn iddo ymadael â'r gymydogaeth hon."[16]

Dyma'r camrau cyntaf yn y parotoad ar gyfer gwaith bywyd. Nid ydym wedi gallu cael allan pa bryd, na thrwy ba foddion y dysgodd ysgrifenu Cymraeg yn gywir. Gwelsom fod Mr. John Davies wedi bod yn cadw ysgol ramadegol, ond gallai hyny fod cyn ei ddyddiau ef, neu o leiaf cyn ei fod o oedran myned iddi; er hyny dichon iddo fod ei hunan mewn cyffyrddiad mynych â'r gŵr galluog hwnw, neu ei fod wedi derbyn addysg yn anuniongyrchol oddiwrtho drwy y rhai fu yn yr ysgol hono, yn gystal ag addysg yr Ysgol Sabbothol a chartref. Fodd bynag, yr ydym yn gweled ei fod eisoes wedi cyrhaedd "gradd dda," mewn dysgeidiaeth, ac fod awydd mawr wedi ei greu ynddo am wybodaeth, a'i fod yn gwneyd defnydd o bob mantais yn ei gyrhaedd i gael gafael arni. Hefyd yr oedd yn fardd o gryn allu, ac yn awdurdod lled uchel yn ei gymydogaeth fel cerddor. Y mae y maes yn newid bellach, eto yn parhâu i fod yn rhagbarotöawl, ond y mae yr hyn sydd eisoes wedi d'od i'r golwg yn dangos rhagarwyddion gobeithiol iawn, ac nid annhebyg y gofynid, "Beth fydd y bachgen hwn?"

"1842, Oct. Went to Messrs. Griffiths and Roberts, Druggists, Aberystwyth."

Yr oedd, yn amlwg, bellach, mai trwy ei ymenydd a'i bin y tueddai John Roberts i feddwl byw, a dymunol oedd cael lle iddo i gychwyn yn y cyfeiriad hwnw. Nid peth hawdd ydyw hyny i fachgen yn ei amgylchiadau ef. Cafodd le gyda y Meistri Griffith a Roberts, Druggists, nid fel egwyddorwas, ond fel math o ysgrifenydd a negeseuydd. Deallwn fod Mr. Griffith yn bregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ond nid oedd John Roberts yn llettŷa yn ei dŷ, eithr mewn tŷ arall yn y dref. Yn awr yr ydym yn ei gael yn ŵr ieuanc heb gyrhaedd ei ugain oed, yn troi ei gefn ar gartref, i beidio dychwelyd mwy yn arosol, ac yn wynebu y byd mawr llydan am ei fywioliaeth. Bu gyda'r Meistri Griffith a Roberts am oddeutu blwyddyn a deng mis. Yn y sefyllfa hon yr oedd yn profi ei hunan yn ffyddlawn, ac yn ddyfal yn ei ymdrechion i ddiwyllio ei hun. Tra yr ydoedd yma y bu farw ei dad, Mawrth 20, 1844. Yn 1844 yr oedd yr ysgol a gedwid yn Skinner's Street wedi myned heb athraw, gan fod Mr. Robert Thomas (yn awr y Parch. R. Thomas o Garston) yn ymadael i fyned i Athrofa Trefecca. Gwnaeth John Roberts gais am y lle, a phenodwyd ef yn athraw, yr hyn a ddengys ei fod wedi ennill cymaint a hyny o ymddiried y pwyllgor, wrth edrych arno yn ei sefylla flaenorol. Ond teimlai y pwyllgor mai doeth fuasai iddo fyned am fis i'r Ysgol Normalaidd yn Borough Road yn Llundain, fel y gallai wybod rhywbeth am gynllun yr Ysgolion Brytanaidd, a chario yr ysgol ymlaen yn Aberystwyth ar y cynllun hwnw. Felly cawn y nodiad canlynol yn y Bibl Teuluaidd:—

"1844, July. Entered the Normal College, Boro' Road, London."

Yn y cyfamser yr oedd Mr. Thomas Lloyd, yn awr o Liverpool, yn dygwydd bod yn rhydd, ac ymgymerodd efe â gofal yr ysgol hyd nes y deuai John Roberts yn ol o'r Ysgol Normalaidd. A dyma gyfleusdra iddo yntau gael agor ei lygaid ar Lundain a'i rhyfeddodau. Ond y mae ffyrdd Rhagluniaeth yn ddyeithr iawn: mis ydoedd yr amser y bwriedid iddo fod yno ar y cyntaf—ond yn ystod ei arosiad yn Llundain cafodd y frech wèn mewn ffurf enbyd iawn; bu "heb obaith bron cael byw," a gadawodd ei hol yn ddwfn arno am ei oes. Ond nid ar ei gorff allanol yn unig y cafodd argraff. Wrth ystyried y waredigaeth ryfedd hon, a chofio hefyd iddo gael ei waredu megys o safn angeu yn ei fabandod, efe a gredodd fod gan yr Arglwydd ryw waith iddo i'w wneyd drosto ar y ddaear, a bod yn rhaid iddo gyflawni hwnw. Yr oedd argraff fel hyn ar feddwl ystyriol fel yr eiddo ef, yn ddiammeu, yn peri iddo benderfynu ymaflyd yn fwy difrifol mewn crefydd nag erioed o'r blaen. Rhwng yr oediad a barodd yr afiechyd hwn, a dichon hefyd ei fod wedi gweled wedi myned i Lundain fod yn anghenrheidiol cael mwy o amser yno nag a fwriedid ar y cyntaf, ac iddo lwyddo i gael gan y pwyllgor yn Aberystwyth i gydsynio â hyny;—rhwng pob peth, nid yw yn ymddangos iddo adael yr Ysgol Normalaidd hyd ddechreu y flwyddyn ganlynol, ac felly yr ysgrifenodd yn y Bibl:—

1845, March. Opened British School at Aberystwyth."

Agorid yr ysgol yn awr fel Ysgol Frytanaidd, ond o herwydd rhyw bethau, nid hir yr arosodd yn y sefyllfa hono. Er ei fod wedi cael mantais rhyw ychydig o amser yn y Boro' Road, digon tebyg iddo weled yn fuan nad oedd wedi cael y "ddawn" i addysgu plant; a gwir ydoedd hyny. Nid llawer mwy llwyddiannus ydoedd y tro hwn nag a fu o'r blaen gyda'i dad yn ardal Penllwyn, os cymaint. Yr oedd efe ei hun yn hoff o blant ar hyd ei oes, a chanddo syniad uchel am bwysigrwydd gofalu am danynt, a gwnaeth ei ran yn helaeth gyda golwg arnynt mewn cylchoedd eraill; ac nid oes dadl nad oedd yn ymdrechu yn ffyddlawn i gyfranu iddynt bethau sylweddol; eto yr oedd rhy fychan o'r deniadol ynddo i allu llwyddo i'w haddysgu, nac i gael dylanwad cryf arnynt. Eto y mae yn ddiammeu ei fod wedi cael bendith fawr iddo ei hun trwy yr ymdrechion hyn gyda'r plant. Tua naw mis y bu yn cadw ysgol.

"1845, Dec. Went to Messrs. Hughes and Roberts, Solicitors, Aberystwyth."

Cafodd le fel ysgrifenydd yn swyddfa Meistri Hughes & Roberts. Yr oedd un o'r ddau bartner (Mr. Hughes, os nad ydym yn camgymeryd) yn preswylio yn Mhenllwyn, a dichon mai trwy ryw gydnabyddiaeth felly y cafodd fynediad i mewn i'r swyddfa. Gallem dybied ei fod, bellach, wedi dyfod yn nês i'w elfen yn y swyddfa hon, a phrofodd ei hun yn ffyddlawn ymhob peth, fel yr ydym yn ei gael cyn pen hir amser wedi dyfod yn brif ysgrifenydd yn y swyddfa, ac arno ef yr oedd gofal trefnu y cases erbyn y llysoedd cyfreithiol, a byddai felly yn mynychu y llysoedd chwarterol a'r brawdlysoedd yn Aberteifi. Dengys hyn ei fod wedi astudio y gyfraith yn dda, ac wedi cymhwyso ei hun yn y lle yr oedd ynddo, nes ennill ymddiriedaeth llawn ei feistri. Bu hefyd amryw weithiau yn gyfieithydd y brawdlys, os nad, yn wir, efe fyddai bob amser os byddai yn bresennol. Yr hyn a wnai yn awr, fel pan yn blentyn, efe a'i gwnai yn drwyadl: nid ymfoddlonai ar hanner gwaith, ond mynai gael pob peth yn y modd mwyaf perffaith oedd yn bosibl. Gallwn yn hawdd ddychymygu ei weled yn ennill iddo ei hun le fel cyfieithydd y llys. Tybiwn weled achos yno ymha un yr oedd ganddo ef fel prif ysgrifenydd y Meistri Hughes & Roberts ran, a bod y cyfieithydd, fel y byddant yn bur fynych, yn cyfieithu yn lled chwith neu yn gyfeiliornus, a dychymygwn ei glywed ef yn ymyraeth ar unwaith, gan ddywedyd, "That's not right." Nis gallai oddef i ddim fod o'i le, a naturiol iawn fyddai i ni dybied y gwaith yn cael ei daflu mewn canlyniad arno ef, a gwnai ef mor berffaith ag y byddai modd. Ennillodd ffafr ei feistriaid yn gymaint fel nad oeddynt yn foddlon mewn modd yn y byd iddo ymadael pan yn myned i Liverpool yn 1852, a chynnygient iddo ei wneyd yn bartner yn hytrach na’i golli, a thystiolaethent wrth eraill y buasai yn well ganddynt na llawer o arian beidio ei golli.

Yr oedd cyfnod ei arosiad yn Aberystwyth yn bwysig yn ei oes ef, nid yn unig am ei fod yn cynnwys tymmor o'r mwyaf pwysig yn oes dyn (o 20 hyd 30 oed), ond hefyd o herwydd y cyfleusderau a'r manteision y daeth efe i gyffyrddiad â hwynt, a'r defnydd a wnaeth efe o honynt er cymhwyso ei hun at waith mawr ei oes. Yr ydym wedi sylwi eisoes ei fod wedi cyrhaedd safle uchel fel cerddor cyn ymadael o Benllwyn. Yn Aberystwyth yr oedd lle iddo fod yn ei elfen gyda hyn, a chawn ei fod yn fuan wedi ymdaflu yn hollol i'r symudiad yno. Cedwid dosbarthiadau cerddorol yno ac yn y cymydogaethau cylchynol, ymha rai yr oedd Mr. Edward Edwards (Pencerdd Ceredigion) yn cymeryd rhan flaenllaw, ac yr oedd John Roberts yn un o'i gynnorthwywyr mwyaf aiddgar a ffyddlawn. Dywedir iddo brynu copi full score o'r Messiah (Handel) cyn ei fod prin yn alluog i dalu am dano; ac wedi ei gael, diammeu nad ymfoddloni ar ei ddarllen yn unig a wnaeth efe, ond ei astudio yn drwyadl, yn ei gynganeddion yn gystal a'i symudiadau. Argraffwyd tonau syml a da i fod at wasanaeth y cerddorion i ddiwygio y canu cynnulleidfaol, yn gyffelyb i'r dull y gwnaeth efe wedi hyny yn y Blodau Cerdd. Yr oedd yno fath o Undeb Cerddorol i ddysgu elfenau cerddoriaeth, a deuai Mr. Richard Mills i ymweled â hwy yn achlysurol. Yr adeg hon daeth canu corawl a chynnulleidfaol Aberystwyth yn destun sylw cyffredinol. Byddai y diweddar Mr. J. Ambrose Lloyd yn talu ymweliad mynych âg Aberystwyth, ac yn gwneyd amcan i fod yno ar y Sabboth, fel y gallai fwynhâu y gerddoriaeth ragorol oedd yno, a chaent hwythau hefyd fwynhâu ei gymdeithas a'i gyfarwyddiadau ef, a chai yntau glywed ei anthemau yn cael eu canu yno yn y dull goreu oedd i'w gael yn Nghymru. Pan ydoedd efe gydag Owain Alaw yn beirniadu canu corawl mewn Eisteddfod yr adeg hon, sylwai yr olaf fod y corau yn canu yn dda iawn, a bod diwygiad mawr wedi cymeryd lle yn ddiweddar. "Ond a glywsoch chwi ganu Aberystwyth?" meddai Mr. Lloyd; "yno y mae y canu goreu yn Nghymru y dyddiau hyn." Nid oedd John Roberts yn meddu llais da ar y cyntaf, ond daeth trwy ymarferiad yn fwynaidd a melodaidd. Llais bass ydoedd, ond heb fod yn neillduol o gryf. Yn y cylch hwn yn Aberystwyth yr oedd yn cael mantais ragorol i ddyfod yn gydnabyddus â cherddoriaeth mewn cylch eang, ac yr oedd ei ymroddiad yn peri iddo wneuthur y defnydd goreu o'r manteision hyn, a thrwy hyny yr oedd y chwaeth oedd mor naturiol bur ynddo ef yn cael ei meithrin a'i dysgyblu. Yr oedd ei ymroddiad gyda'r dosbarthiadau cerddorol hefyd yn rhoddi mantais iddo ddysgyblu ei "glust" gerddorol, gan mai nid canu â'r genau yn unig a wnai efe, ond gwrandaw â'i glust ar yr un pryd, nes bod ganddo "synwyr wedi ymarfer" i ddosbarthu y drwg a'r da, y cydsain a'r anghydsain, y cywir a'r anghywir. Yr oedd cerddoriaeth yn ei ysbryd ef yn ddiammeu o'r dechreuad, ac yr oedd ei dalent at hyny wedi dyfod i'r golwg yn ieuanc iawn; ond yr oedd y cylch yr oedd ynddo yn bresennol o'r fath fwyaf manteisiol i eangu ei wybodaeth gerddorol a phuro ei chwaeth. Yr oedd yn ymberffeithio yn yr ymarferiad yn gystal ag yn yr athrawiaeth. Ond nid iddo ei hun yn unig yr oedd yn llafurio; awyddai am arwain ei gydwladwyr at y ffynnonellau pur a dyrchafedig yr oedd efe ei hun yn cael cymaint o fwynhâd ynddynt. Mewn canlyniad anturiodd i'r wasg yn 1852, trwy gyhoeddi y Blodau Cerdd yn rhifynau misol ceiniog a dimai, hyd nes y symudodd i Liverpool. Cawn fantais i sylwi yn fwy manwl ar y cyhoeddiad hwn eto. Dyma, mae yn ymddangos, ei ymgais cyntaf, ond nis gallwn wybod pa mor bell y llwyddwyd i fod yn ddigolled ynddo. "Yr oedd yn bartners yn yr anturiaeth hon Ieuan Gwyllt, Mr. J. Jones (Ifon), Mr. E. Edwards, a Mr. W. Julian, y diweddaf yn drysorydd a dosbarthwr."[17]

Ond nid oedd cerddoriaeth ond un rhan o faes ei lafur. Darllenai lawer, ac ymdrechai yn ddyfal i gyfoethogi ei feddwl â gwybodaeth gyffredinol. "Yr oedd yn llafurwr mawr mewn llenyddiaeth—yn llafurwr dibaid."[18] Un tro, pan wedi dyfod i Aberaeron i'r llys, galwodd yn nhŷ ei gyfaill Mr. Absalom Prys, yr hwn oedd yn byw yno y pryd hwnw, a gofynodd iddo ddyfod gydag ef i roddi tro, gan ei fod yn teimlo braidd yn swrth a chysglyd; a dywedai "iddo gael llyfr newydd y noswaith cyn hyny, ac iddo fod ar ei draed hyd bedwar o'r gloch y boreu yn ei ddarllen. 'Beth ydych gwell?' meddwn wrtho; nid oes bosibl eich bod yn cofio fawr o hono ar ol darllen cymaint.' 'Ydwyf,' meddai; "gallwn ddyweyd i chwi yn awr bob mater, a phob peth neillduol o'i fewn;' ac yr oedd yn llyfr o faintioli pur fawr."[19] Nid peth anghyffredin iddo ef oedd colli ei gysgu i ddarllen yr adeg hon nac wedi hyny; yn hytrach yr oedd yn fwy o arferiad ganddo; a'r peth a ddarllenai, nid ei ddarllen yn unig y byddai, ond ei astudio yn drwyadl, nes ei ddeall a'i gwbl feddiannu, ac yr oedd ei gof rhagorol yn peri ei fod yn gallu cadw yn ddiogel yr hyn oll a feddiannai felly. Hwyrach y gallai fod yn gwestiwn a oedd ganddo ef, neu a oes gan rywun, gof rhagorach na'r cyffredindichon fod rhyw gymaint o wahaniaeth naturiol yn hyny; ond y mae llawn cymaint, os nad mwy, yn dibynu ar allu y dyn i gymeryd trafferth i gwbl feistroli yr hyn fydd ganddo mewn llaw. Ac yr oedd hyn yn neillduol ynddo ef: mynai feistroli yn drwyadl yr hyn yr ymgymerai âg ef; a'r peth y mae dyn wedi ei gael "â swm mawr o drafferth felly, y mae yn bur debyg o'i sicrhâu yn eiddo iddo byth wed'yn. Fodd bynag, dyma fel yr ydoedd efe; nid arbedai ei hun nes gorchfygu. Ac y mae un felly hefyd, yn y cyffredin, mewn amser yn dyhysbyddu llawer o lyfrau; yn araf, mae yn wir, ond wrthi yn barhâus, fel y camel yn y ddammeg. Gwariai lawer i brynu llyfrau, a diammeu hefyd iddo yn Aberystwyth gael cyfleusderau i helaethu cylch ei wybodaeth yn eangach nag y gallai ei boced fforddio i brynu.

Yr oedd dynion grymus yn perthyn i eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Aberystwyth yr adeg hono. Heblaw y Parch. Edward Jones, yr hwn hwyrach nad oedd ynddo ei hun mor neillduol, yr oedd Mr. John Evans yr athraw, Mr. John James, Mr. Matthews, Mr. Richard Jones a Mr. David Phillip. Cedwid yno ddosbarth Biblaidd bob boreu Sabboth ar ol yr oedfa, a byddai dadleuon, fel y gellid dysgwyl, yn fynych yn codi ynddo, pa rai a gynnyrchent ymroddiad mawr i ddarllen ac ysbryd zelog. Yr oedd rhai o honynt yn darllen llyfrau oedd yn trin yn helaeth ar ryddid ac iawnderau dyn fel y cyfryw, ac yn ystod y dadleuon hyny deuai i'r golwg fod gan John Roberts syniadau eang iawn ar y materion, yr hyn nid oedd yn gymeradwyaeth uchel iddo yn meddyliau rhai dynion oeddynt yn tybied fod pwysigrwydd mawr mewn ymostwng yn barod a dirwgnach i'r awdurdodau sydd, ac ammheuid ef nad ydoedd yn hollol iach yn y ffydd, gyda golwg yn enwedig ar ddysgyblaeth eglwysig. "Un tro yn y cyfarfod hwn, daeth y pwnc o ddysgyblaeth eglwysig o dan sylw ac yn destun dadl. Yn y ddadl daeth yn amlwg fod gan John Roberts syniadau lled eang, a braidd yn ddyeithr, ar y mater, yr hyn a greodd fesur helaeth o ddrwgdybiaeth ynghylch iachusrwydd ei olygiadau; ac i un wedi amlygu tuedd am fyned i'r weinidogaeth, a'i achos fel ymgeisydd wedi bod ger bron a'i gymeradwyo gan yr eglwys,—yr oedd hyn iddo ef yn bwysig iawn. Un o'r cyfarfodydd eglwysig cyntaf ar ol i J. R. amlygu y syniadau y cyfeiriwyd atynt, daeth y Parch. Evan Evans, Aberffrwd, yno dros y Cyfarfod Misol i'w holi gyda golwg ar iddo fyned yn bregethwr. Daeth yntau drwy yr arholiad yn hollol foddhaol ar y cwestiynau a ofynid, a meddyliwyd fod pob peth yn esmwyth iddo gael pasio. Ond cyn terfynu cododd un o'r blaenoriaid, sef Mr. John Evans, i ddyweyd y dymunai efe, cyn gofyn arwydd gan yr eglwys, glywed J. R. yn dyweyd ei olygiadau ar ddysgyblaeth eglwysig, ac amlygodd yr hyn yr oedd wedi clywed J. R. yn dadleu o'i blaid un o'r Sabbothau blaenorol yn y cyfarfod y cyfeiriwyd ato. Dywedodd yntau ei olygiadau megys yn y cyfarfod o'r blaen; a chan eu bod yn gyfryw a ystyrid ac a ystyrir eto yn gwbl wrthwynebol i reolau y Cyffes Ffydd, aeth y cais i'w ollwng i'r weinidogaeth y tro hwn yn fethiant hollol." [20]

Gweddus yw crybwyll hefyd, iddo y pryd hwn gael cynnygion teg i fyned at enwadau eraill a phregethu; ond na, yr oedd efe yn ormod o'r "true blue" i gael ei ddenu felly. Gweled Ieuan Gwyllt wedi troi yn Eglwyswr neu Annibynwr! Nid diffyg parch i'r enwadau hyny sydd yn peri i ni ddyweyd fod hyny yn anmhosibl; yr oedd yn anghydweddol â chyfansoddiad ei feddwl ef; nid troi y byddai efe, ond myned ymlaen yn benderfynol i orchfygu pob anhawsderau. Nid y plisgyn o arferiad a magwraeth oedd yn ei gysylltu ef â Methodistiaeth, ond egwyddorion a "gredid yn ddiammeu" ganddo; a gorweddai y rhai hyny yn rhy ddyfnion i'r holl gamdriniaeth a gafodd oddiar law Methodistiaid beri iddo roddi i fyny ei Fethodistiaeth.

Ymddengys ei fod, yn ystod ei arosiad yn Aberystwyth, yn graddol ddyfod i sylw fel cerddor a llenor. Ar ymddangosiad cyntaf Gramadeg Cerddoriaeth, gan y Parch. J. Mills, bu mewn dadl â'r awdwr ynghylch rhai pethau oedd yn wallus ynddo. [21] Yr ydym hyd yn hyn wedi methu dyfod o hyd i'r ddadl hono, na pha bethau oedd testun y ddadl; ond yn y trydydd rhifyn o'r Blodau Cerdd, wrth sylwi ar drefn y lleisiau—sef yr Isalaw (Bass) yn isaf, y Cyfalaw (Tenor) yn ail, yr Adalaw (Alto) yn drydydd, a'r Uchalaw (Treble) yn uchaf—dywed, "Mae yn ofidus genyf na allwn gydweled â Mr. Glan Alarch am athroniaeth y mater hwn, ond iawn i bob dyn ei farn." Yr hen arferiad ydoedd rhoddi yr Isalaw yn isaf; y prif lais, yr hwn a elwid Tenor, ac a genid gan yr holl gynnulleidfa, yn nesaf ato; yr Alto yn drydydd; a'r Treble, fel y gelwid ef, yn uchaf; ond diammeu fod Ieuan Gwyllt yn iawn yn hyn am "athroniaeth y pwnc." Yr oedd hefyd yn ennill safle fel beirniad cerddorol, ac yn gwneyd ei feirniadaeth yn llawn o addysg. "Mae yn gofus genyf iddo ysgrifenu beirniadaeth gerddorol i ni yn Mhenllwyn unwaith mewn holwyddoreg, yr hwn ddull yr oedd yn dra hoff o hono. Yr oedd ganddo feddwl mawr o holwyddori, fel y moddion mwyaf effeithiol i ddysgu eraill drwyddo."[22] Yn ystod ei holidays byddai yn teithio i ranau o Gymru, a bu ef a'i gyfaill Mr. Julian yn Nghymdeithasfa y Bala, wedi cyrhaedd yno ar eu traed. Cawn ei hanes hefyd gyda Mr. Julian yn Merthyr pan oeddid yn agor y Neuadd Ddirwestol; ac wedi deall fod yno ddau gerddor o Aberystwyth, nid oedd dim a wnai y tro ond eu galw i ganu, a chanodd y ddau un o'r darnau a ymddangosodd wedi hyny yn y Blodau Cerdd, yn ddau lais; a chanasant, meddir wrthym, yn y gallery nes swyno yr holl gynnulleidfa. Ar ol hyny yr oedd lliaws o gyfeillion cerddorol yn ymwthio at y ddau gerddor ieuainc, a buant gyda hwynt am oriau yn eu llettŷ. Un o honynt oedd y Parch. Thomas Levi. Dyma ei gyfarfyddiad cyntaf a Mr. Levi, a dechreuodd cyfeillgarwch rhyngddynt a barhaodd yn gynhes hyd y diwedd.

Wrth ymweled âg Aberaeron i fod yn bresennol yn y llys gwladol hefyd, byddent hwythau yn cael cyfleusdra i ddyfod i'w adnabod. "Yn Aberaeron y clywais ef yn rhoddi yr anerchiad cyntaf a glywais ganddo erioed, a hyny ar yr Ysgol Sabbothol. Ei fater oedd y gallu sydd gan wirioneddau y Bibl i gydio gafael yn y meddwl dynol. Cymerodd gymhariaeth o'r bach yn cydio yn y pysgodyn; gallai y pysgodyn lwyddo trwy blucio i dori y line, ond yr oedd y bach yn aros ac yn cadw ei afael er hyny, Felly am hen adnodau y Bibl: fe allai y gall dyn ieuanc lwyddo i dori y line, megys, yn ei anystyriaeth a'i anghof o honynt am amser, ond yna y mae hi er hyny, ac yna y bydd hi byth hefyd. Yr wyf yn cofio fod 'myn'd' da ar y sylwadau y tro hwnw." [23]

Ond er ei fod yn llafurio yn galed, ac yn dyfod i sylw yn raddol a sicr, eto rhaid addef fod rhyw bethau oedd yn peri cryn anfantais iddo. Yr oedd rhywbeth yn reserved ynddo, ac heb fod yn hawdd agosâu ato. Nid oedd ei ddawn siarad yn rhwydd, nid oedd yn ddeniadol yn hyny, ac yr oedd ei zel am fod pob peth yn ei le yn wastad yn rhoddi agwedd a barai i rai dybied ei fod yn gecrus. Adroddai cyfaill cywir wrthym y byddai yn ofni bron weled neb yn dyfod i'w fasnachdŷ pan y byddai efe yno, am y byddai yn sicr yr elai yn ddadl boeth rhyngddynt ar rywbeth neu gilydd cyn pen ychydig fynydau. I rai oedd yn ei adnabod yn dda mewn blynyddoedd diweddarach, dichon nad yw hyny yn hollol anghredadwy; fod y reservedness, a'r eiddigedd dros yr hyn oedd wir a phur oedd ynddo, cyn i erwinder gael ei refinio gan brofiad blynyddoedd diweddarach, yn gwisgo gwedd oedd yn taraw yn annymunol ar y rhai oedd heb fod yn ei adnabod yn drwyadl. A thybiem fod hyn yn taflu rhyw oleuni ar y gwrthwynebiad a gafodd i fyned i bregethu. Y mae ambell un mor "ddymunol " yn ei holl ymddygiadau nes yw yn ennill ffafr pawb, a phawb yn ei bleidio, pan nad oes yn y person ei hunan ddim neillduolrwydd ymhellach na'i ddymunoldeb; ond y mae ambell un arall, hwyrach yn llawn o alluoedd, wedi ei dori gan natur allan o honi ei hun, nas gall yn ei fyw gael ond ychydig i gredu y gall wneyd rhywbeth; y mae rhyw erwindeb o'i amgylch sydd yn peri i'r mwyafrif ei gamgymeryd a chilio draw. Dichon fod hyn mewn rhan yn natur y dyn ei hun, ac mewn rhan yn codi oddiar anfanteision boreu oes. I'r dosbarth hwn yr oedd Ieuan Gwyllt yn perthyn. Gwelsom fod ysbryd dadleuol yn lled gryf yn yr hen Evan Rhobert ei dad, ac o bosibl ei fod yntau wedi etifeddu peth o'r un natur, ac yr oedd wedi gweithio ymlaen drwy anfanteision o'r dechreuad. Costiodd yr hyn a ennillodd lafur caled iddo ef, ac nis gallai lwyddo i gyrhaedd un gris ond trwy orchfygu; ac nid rhyfedd os oedd yn dwyn gydag ef, yn ei wedd gymdeithasol, dipyn o ôl y frwydr. Ond heb ei adnabod yr oeddid y pryd hwnw. Pe deallasai y rhai a "dybid eu bod yn golofnau" ei lafur caled i gasglu gwybodaeth, ei fod yn cymdeithasu cymaint â'r meddyliau pur a dyrchafedig ymhob cangen, ei awydd angerddol am fod yn ddefnyddiol, a'i gymhwysderau (nad oeddynt eto ond mewn rhan yn weledig) i wneyd daioni mewn gwahanol gylchoedd, rhoddasid iddo "ddeheulaw cymdeithas," ac nid ei gadw yn ol.

Dichon na fyddem yn gwneyd cyfiawnder âg ef heb grybwyll y canlynol. "Fe chwythodd awel go gref o chwantau ieuenctyd arno ef pan o gwmpas deunaw oed, ond cafodd gymhorth i ffoi oddiwrthynt. Y rhyw deg a lygaddynodd dipyn arno, a hyny cyn myned i Aberystwyth, ac wedi myned yno bu yr un anffawd iddo, fel yr addefai wrthyf ei fod wedi cydio mor fast ynddo nes oedd yn rhwystr mawr iddo gyda'i efrydiau. Ar ol dyfod yn rhydd o afaelion y rhyw deg ymaflodd Miss arall ynddo, sef Miss Barddoniaeth. Clywais ef yn cwyno yn dost ar y Miss yma, a dywedai ei fod yn meddwl y byddai yn rhaid iddo ysgrifenu llythyr ysgar iddi, onidê ni chai hamdden i wasanaethu neb na dim ond hi, ac felly y gwnaeth i raddau helaeth. Gallaf feddwl iddo wneyd yr un penderfyniad a'r Apostol Paul, Ni'm dygir i yn gaeth gan ddim.' A gallwn feddwl mai dyma un o hanfodion ei lwyddiant, sef ei benderfyniad i orchfygu pawb a phobpeth."[24] Nid oedd dim yn bechadurus yn hyn; cadwodd ei hun yn bur ac yn anrhydeddus bob amser. Ond gallasai ambell un dybied, hwyrach, fod gŵr o'i fath ef yn amddifad o deimladau tyneraf y ddynoliaeth. Yn hollol fel arall yr oedd ef—o dan y wisg allanol yn meddu y teimladau dyfnaf a phuraf, ac yr ydym wedi cofnodi y ffaith uchod i'r dyben o ddangos hyny.

Y mae olwyn Rhagluniaeth bellach yn rhoddi tro eto, ond y mae efe wedi cael ei barotoi yn dda trwy ei arosiad yn Aberystwyth. Trwy gylch ei ddarlleniad yr oedd ei wybodaeth wedi eangu, yr oedd wedi ei berffeithio lawer fel cerddor, ac yr oedd wedi dyfod i adnabod y byd yn lled helaeth. Er bod cael ei luddias i bregethu yn brofedigaeth chwerw, eto y mae yn ddiammeu fod hyny wedi bod yn oruchwyliaeth yn llaw gras i ddyfnhâu ei brofiad crefyddol ef ei hun. Yr oedd y rhwystr oddiallan yn troi sylw un o'i dueddfryd ef yn fwy iddo ei hunan.

PENNOD III.

EI FYWYD Y GWAITH—LIVERPOOL, ABERDAR, MERTHYR, LLANBERIS, A'R FRON.

"1852, Dec. 9. Went to Liverpool to edit 'Yr Amserau.' Wrote the first Leading Article' for that Paper Dec. 10th."

YMDDANGOSASAI Hysbysiad yn yr Amserau, fod eisieu un i fod yn îs—olygydd i gynnorthwyo y Parch. W. Rees (Dr. Rees yn awr), ac apeliodd Ieuan Gwyllt am y swydd a phenodwyd ef iddi, ac ar y dyddiad uchod aeth i Liverpool i ymgymeryd â'r gwaith. Wrth wneyd hyny yr oedd yn gadael lle o ymddiried, ac y mae yn debyg yn llawer mwy ennillgar, a rhagolygon o ddyrchafiad a chyfoeth. Wedi myned yno cafodd yn fuan fod holl gyfrifoldeb yr olygiaeth yn disgyn arno, ac nid ychydig oedd ei bryder yn ngwyneb hyny. Yn ystod ei gysylltiad â'r Amserau nid oedd ei gyflog ond bychan, ond yr oedd trwy hyny yn cael gwasanaethu ei wlad a'i genedl. Mae yn debyg nad oedd y cyfnewidiad yn yr olygiaeth yn wybyddus ymhlith y derbynwyr am amser, ac yr oedd hyny yn rhyw fantais iddo; oblegid cafodd le i roddi prawf i'r byd o'i allu fel golygydd i ryw raddau cyn i hyny ddyfod yn hysbys. Nid ydym yn gwybod beth oedd trefn pethau ynglŷn â'r Amserau pan aeth efe yno, ond ymhen amser wedi hyny yr ydym yn cael ei fod ef yn ysgrifenu y prif erthyglau bob wythnos, ynghyd ag edrych dros y gohebiaethau a chynnwys cyffredinol y papyr; tra yr oedd un o'r enw Mr. Manuel yn ysgrifenu y newyddion tramor, a chyfaill Ieuan Gwyllt—Mr. Eleazar Roberts, yn ysgrifenu y newyddion Seneddol a chyffredinol a nodiadau "Meddyliwr,"[25] y rhai a ddaethant mor hynod ac oeddynt mor alluog; a than law y gwŷr galluog hyn, nid yn unig yr oedd yr Amserau yn cadw ei dir, ond yn ychwanegu cryfder. Dywedai Ieuan Gwyllt yn nechreu 1854,[26] "Y mae yn dda genyf hysbysu i chwi fod llawer rhwng y 'Mysere' a myned i ffordd yr holl ddaear. Yr wythnos y daethum yma, hyny oedd 14 mis i heddyw, y nifer a argrefid oedd 1850; yr wythnos hon y nifer yw 3200. Nicolas o Rwssia, deallwch, nid Ieuan Gwyllt, sydd yn foddion i helaethu ei gylchrediad yn y mesur hwn. Nid oes gan I. Gwyllt, modd bynag, un achos i gwyno o herwydd y derbyniad a gafodd ar ei ymddangosiad o flaen y wlad; yn wir, y mae yn llawer mwy flattering nag y meddyliais y buasai. A dyweyd gair o wirionedd i chwi, yr oeddwn unwaith ar roddi y gorchwyl i fyny, o herwydd yr ofnwn, pan unwaith y gwybyddai y wlad fod Mr. Rees wedi ei adael, y byddai yn llawn bryd i'r Amserau hwylio i roddi ei 'gerdd yn ei gôd,' neu ynte gael rhyw Olygydd mwy galluog ac adnabyddus. Pan gaffom ein machine a'n llythyrenau newyddion, ychwanegir tua chwe' cholofn ato, a hyny am yr un bris. Yr wyf yn lled sicr, bellach, mai nid o fewn y flwyddyn hon y bydd efe marw, gyda bendith Rhagluniaeth." Wedi ymgymeryd â'r gwaith, a chael rhyw arwyddion fod iddo faes i lafurio ynddo, ymdaflodd â'i holl egni iddo. Cawn sylwi eto ar ei lafur fel Golygydd; ni raid i ni yma ond dyweyd fod cynnwys yr Amserau, tra dan ei olygiaeth ef, yn wir werthfawr, ac wedi sicrhâu iddo le mawr yn meddyliau mwyafrif ei ddarllenwyr fel un o alluoedd mawrion, o wybodaeth eang, o graffder neillduol, ac o gymhwysderau hollol deilwng i fod yn arweinydd meddyliau ei gydwladwyr mewn gwybodaeth, gwleidyddiaeth, a chrefydd.

Ond nid oedd y sefyllfa hon ychwaith heb ei rhwystrau a'i gwrthwynebiadau. Wrth gadw y drws yn agored i ryddid barn a llafar, yr oedd yn anmhosibl peidio tramgwyddo rhywrai; ond pan yr ydym yn gweled cyrff pwysig fel Cymdeithasfa y Methodistiaid Calfinaidd yn cymeryd sylw o'r Amserau, y mae yn dangos fod iddo safle o bwys a dylanwad yn y wlad. Yn Rhagfyr 1854, dadganodd Cymdeithasfa y Gogledd nad oedd cysylltiad rhyngddi ag ef. Gwelwch, wrth hysbysiad yn yr Amserau nesaf, fod y 'Corff' yn y Gogledd wedi ystyried yn ddyledswydd arno hysbysu i'r byd nad oes unrhyw gysylltiad rhyngddo ef a'r Amserau (nid yw yn ei enwi, wrth gwrs), ac nad yw mewn un modd yn gyfranog o'i olygiadau. Nid wyf fi yn gwybod fod neb wedi bod mor ffol a meddwl hyny erioed; yr wyf yn gwybod yn dda na feddyliais i erioed ddim yn agos at hyny; ac yn wir, byddai yn wir ddrwg genyf gael fy hun yn y cymeriad o organ y Corff, na than ei lywyddiaeth mewn un modd mewn politics gwladol na chrefyddol."[27] Yr wythnos ganlynol drachefn, yr ydym yn cael fod Syr Richard Bulkeley, yr Aelod Seneddol dros Sir Fôn, wedi galw sylw yr Ysgrifenydd Cartrefol at ryw ymadroddion a ymddangosasent yn yr Amserau, a chawn erthygl finiog ar y mater, dan y teitl, "Yr Amserau yn y Cyfringynghor."[28] Ymddengys fod yr Amserau yn dadleu yn gryf dros heddwch, ac yn dangos afresymoldeb a gwastraff rhyfel; a'r unig beth oedd yn bechadurus yn hyny, oedd fod tuedd ynddo, os buasai dynion yn cymeryd ei arwain ganddo, i attal dynion i fyned yn filwyr! Ond ni thybiodd y Llywodraeth yn werth gwneyd sylw o'r mater. Wedi hyny ceisiodd offeiriad Pabaidd yn Neheudir Cymru roddi cyfraith ar yr Amserau am libel trwy gamgyfieithu rhyw frawddegau; ond bu unioni y cyfieithiad yn foddion ar unwaith i'w ryddhâu, eithr nid heb gryn lawer o gostau. Dengys hyn oll fod yr Amserau yn meddu cryn ddylanwad, a bod rhywrai yn teimlo oddiwrth ei bwysau; a dyddorol yw sylwi pwy oedd y rhywrai hyny, a beth oedd achos eu tramgwydd. Drachefn ymddangosodd sylwadau ar glawr y Dysgedydd yn Mawrth 1856, ar yr "Hen Amserau" a'r "Amserau Newydd," ymha un y cyhuddid yr Amserau newydd o ymddwyn yn dra gwahanol i'r hen; a'r pechod y pryd hwnw oedd fod rhyw bethau yn cael ymddangos ynddo nad oeddynt yn foddhaol i ryw ddosbarth yn ngwersyll Annibyniaeth, ac o herwydd hyn bygythid bodolaeth yr Amserau druan. Yr oedd y Golygydd a'r Cyhoeddwr yn dyfod i mewn am ran yn y cerydd hwn, ac yn y rhifyn am Mawrth 5, 1856, ceir atebiad cyflawn gan bob un o'r ddau.

Parhâu i fyned ymlaen yr oedd yr Amserau, ac nid oedd llawer iawn o berygl tra yr oedd y Golygydd a'r Cyhoeddwr yn gallu cyd—dynu. Ond tua diwedd y flwyddyn 1856 dechreuodd teimlad anghysurus gymeryd lle yno, ac fel y gallesid dysgwyl, yr oedd hyny yn peri pryder dwys a digalondid i Ieuan Gwyllt. Nid yw o un budd na dyddordeb i ni fyned i olrhain y manylion yn yr helynt anghysurus hon; digon yw dyweyd mai yr achos o honi oedd fod llythyrau at y Golygydd yn cael eu cadw oddiwrtho heb yngan gair yn eu cylch, a llythyrau wedi iddo ef eu cymeradwyo yn cael eu gwrthod i mewn heb son gair wrtho ef. Mewn canlyniad rhoddodd rybudd o'i ymddiswyddiad. Dywed, Tachwedd 1856, "Yr wyf wedi rhoddi fy swydd fel Gol. yr Amserau i fyny; bydd pob cysylltiad rhyngof a'r Amserau yn tori gyda diwedd y mis hwn; ac nid oes genyf eto ddim ar y ddaear mewn golwg yn ei le. . . . . Y mae yn bur edifar genyf na fuaswn wedi ei adael er ys amser maith cyn hyn. Pa beth sydd ar fy nghyfer yn y dyfodol, ofer yw i mi geisio dyfalu. Y mae fy athroniaeth a'm crefydd neu yn hytrach fy niffyg o honynt—wedi fy ngadael i suddo yn bur isel rai prydiau y dyddiau diweddaf, i iselder ysbryd, i'r hyn y byddaf yn lled ddarostyngedig yn disgyn arnaf ac yn fy ngwasgu weithiau bron i'r graian. Yr wyf yn ysgrifenu y llythyr hwn, chwi a welwch, ddydd Mawrth. Nid wyf yn meddwl yr af yn agos i'r office heddyw, oni anfonir am danaf; ac yr wyf y fynyd hon wedi gweithio fy hun i sefyllfa meddwl na fedraf ysgrifenu dim yn rhagor." [29] Ymddengys, fodd bynag, fod ail drefniad wedi ei wneyd cyn i'r cysylltiad gael ei dori. Yn 1857 cawn ef yn ysgrifenu fel hyn: "Yma yr ydwyf, chwi a welwch; pa un bynag ai yma ai yn rhywle arall y dylwn fod sydd bwnc arall. Fy nghysylltiad â'r Amserau ydyw hyn,—Yr ydwyf yn ysgrifenu yr erthyglau arweiniol—ni bu ond dwy wythnos, yn wir, er ys ychwaneg na phum' mlynedd bellach, heb i mi wneuthur hyny—ac yn ychwanegol at hyny, yn awr er's tua thri mis, myfi sydd yn ysgrifenu y 'Newyddion Tramor' a 'Helyntion yr India;' ac yn ychwanegol at hyny un gyfres, neu un dosbarth o'n 'Henwogion.' Y dosbarth o'r rhai hyn sydd yn fy ngofal i ydyw—Gwleidyddwyr a Gwyddonwyr a Llenorion Cyffredinol; myfi, o ganlyniad, chwi a welwch, a ysgrifenodd ar Lord John a Lord Brougham. Mae y dosbarth arall yn ngofal Mr. Thomas Charles Edwards o'r Bala, ac yn cynnwys Duwinyddion (neu wŷr eglwysig) ac Athronyddion; efe a ysgrifenodd ar John Foster, ac sydd yn awr yn parotoi ar Dr. Chalmers. Y Doctor (Edwards) sydd wedi ein hannog yn y ffordd hon, ac y mae erthyglau y mab yn dyfod trwy ei law cyn dyfod i'r wasg; ond nid wyf yn deall ei fod yn ymyraeth dim yn y cyfansoddiad ymhellach na rhoddi ei veto ar rywbeth fyddo yn ddiffygiol mewn barn neu yn anghywir mewn syniad. Nid oes genyf ddim i'w wneyd â gohebiaethau, newyddion Cymreig, na hanesion cyffredinol, na Hysbysiadau y Papyr—dim oll; y mae y pethau hyn dan ofal Mr. Lewis (y Parch. Matthew Lewis, gynt o Fachynlleth, wedi hyny o Lewisham, wedi hyny o Dreffynnon), gweinidog yr Annibynwyr y pryd hwnw, a dyn o wybodaeth gyffredinol helaeth, a gradd lled dda o dalent, fel y gwelwch yn 'Rhydderch Prydderch.'"[30] Parhaodd cysylltiad Ieuan Gwyllt â'r Amserau hyd tua chanol Hydref 1858. Yr oedd Baner Cymru wedi ei chychwyn gan Mr. Gee yn Ninbych Mawrth 4, 1857, ond yr oedd yr Amserau yn dal ei dir, ac yn ychwanegu. Parhaodd hefyd am oddeutu blwyddyn wedi darfod cysylltiad Ieuan Gwyllt âg ef, oblegid unwyd ef â'r Faner, dan y teitl Baner ac Amserau Cymru, Hydref 5, 1859.[31]

Yr oedd yn aelod eglwysig yn nghapel Rose Place, ond nid ydym yn deall fod dim mewn cysylltiad â'i aelodaeth eglwysig yn galw am sylw neillduol; yr hynodrwydd mwyaf, fe ddichon, oedd na fu dim neillduol pryd y gallesid dysgwyl hyny. Adnabyddid ef fel Golygydd yr Amserau, ond prin, gan lawer, y tybid fod hyny yn recommendation. Gwyddid hefyd ei fod yn gerddor o'r fath oreu, a dewiswyd ef unwaith i'r swydd o flaenor canu, yr hon swydd y bu ynddi am dymmor byr, ond aflwyddiannus hollol oedd y symudiad hwnw. Yr oedd ysgol i'r plant yn cael ei chynnal dan y capel, fodd bynag, a chafwyd ganddo ef ymuno â'i hen gyfaill "Meddyliwr" i lafurio gyda hono, a bu yn llafurus ac ymroddgar iawn. Crybwyllai Mr. E. Roberts wrthym am un tro neillduol pan nad oedd ond ei hunan i ddechreu yr ysgol, ond y daeth efe (Mr. Roberts) i mewn pan oedd yn dechreu gweddïo; a gweddi hynod oedd hono, gweddi a gofir yn rymus hyd heddyw gan y rhai a'i clywsant. Gwyddid hefyd, yn ddiammeu, fod awydd cryf yn ei feddwl ef am ddechreu pregethu, ond nid ymddengys iddo gael dim cefnogaeth yn hyn o beth gan y swyddogion na'r eglwys yn Rose Place. Er hyny, yn ystod yr adeg hon y dechreuodd bregethu, ond mewn dull afreolaidd. Yr oedd blaenor o'r enw Mr. Edward Morris yn ŵr o gryn ddylanwad yn Liverpool y pryd hwnw, ac efe oedd yn gofalu am y cyhoeddiadau; ac os byddai eisieu rhywrai i fyned i'r lleoedd bychain cylchynol, efe fyddai yn gofalu am hyny; mewn gair, yn ei law ef yr oedd yr holl management, a byddai efe yn anfon ambell un i leoedd felly i lenwi bylchau, ac arfer ei ddawn yn y modd goreu y gallai. Dyma'r ffordd y cafodd yntau gyfle i ddechreu, a dyma'r nodiad sydd ganddo yn y Bibl Teuluaidd,

"1856, June 15. Preached first sermon at Runcorn. Text, Ephes. ii. 12."

"Gwir iddo fod yn pregethu tipyn trwy oddefiad ac awdurdod Mr. Edward Morris, yr hwn oedd y pryd hyny yn archddiacon yn Lerpwl, a'r hwn a arferai anfon allan fechgyn ieuainc i bregethu heb ofyn caniatâd na Chyfarfod Misol na Chymanfa." [32] Gallwn ddychymygu i ryw raddau fel yr oedd ei galon ef yn llawenhâu wrth gael ymaflyd yn y gwaith y rhoddasai gymaint o'i fryd arno; ac er nad oedd yr hyn a eilw dynion yn rheolaidd, eto yr oedd yn cael "gosod ei law ar yr aradr," ac nid gŵr oedd efe i edrych o'r tu ol. Bu dros flwyddyn a chwarter ar ol hyn, ac yn pregethu yn lled fynych yn yr un modd; a dyma'r cwbl a ennillodd, tra yn Liverpool, yn y cyfeiriad yma. Da iawn genym gael cofnodi y sylw canlynol o eiddo Mr. David Evans, Caerdydd, yn y fan hon:—"Daeth i Gaerdydd ddydd Sadwrn, Gorph. 17eg, 1858, a phregethodd gyda ni yn nghapel Bethania, am 10 a 6 o'r gloch Sul y 18fed, pan y cafwyd y prawf mwyaf amlwg ei fod yn gyflawn o ddefnyddiau gweinidog cymhwys y testament newydd." [33] Ond nid oeddynt wedi gweled y prawf hwn yn Liverpool, ac yn unig trwy "oddefiad" a than gysgod Mr. E. Morris yr oedd yn cael cynnyg ar y gwaith. Yn nghanol deddfau, a gosodiadau, ac awdurdodau, y mae yn dda weithiau fod ambell un yn llywodraethu yn ol fel y myno efe ei hun; a phan y mae eglwys Dduw heb fod â'i llygaid yn ddigon agored, y mae yn debyg fod rhagluniaeth Duw yn goruwchlywodraethu hyn er cyrhaedd rhyw amcanion o'r eiddo ei hun.

Fel cerddor hefyd yr oedd yn parhâu i lafurio yn ddyfal yn ystod ei arosiad yn Liverpool. Un rhan o'i lafur gyda'r plant yn vestry y capel oedd eu dysgu i ganu. Ac yr ydym yn cael iddo fod yn dysgu egwyddorion cerddoriaeth yn y Cropper's Hall, lle, os nad ydym yn camgymeryd, y cynnelid Ysgol Sabbothol hefyd fel cangen o Rose Place a chapel Burlington Street. Dysgai ei ddosbarth yn ol cyfundrefn Waite, yr hon yn ddiddadl oedd yn fwy athronyddol gywir na chyfundrefn Hullah. Y pryd hwnw nid oedd ganddo fawr o feddwl o gyfundrefn y Tonic Solfa, oedd yn dechreu dyfod i sylw trwy ymdrechion y Parch. John Curwen; yr oedd yn meddwl mwy o'r Hen Nodiant. Bu hefyd yn rhoddi y gwersi cyntaf i'w gyfaill Mr. Eleazar Roberts (Meddyliwr), yr hwn ar ol hyny a gafodd fwy o oleuni trwy gyfundrefn y Tonic Solfa, ac a wnaeth gymaint er ei dwyn yn ymarferol yn Nghymru. Bu yn aelod am dymmor, os nid am yr holl amser y bu yn Liverpool, o'r Philharmonic Society, a thybiwn nad oedd hyny yn ffafriol iddo yn ngolwg rhyw ddosbarth. Ymroddai yn ddyfal i ddyfod yn gydnabyddus â cherddoriaeth ac â cherddorion, a theithiai yn fynych i Lundain a phrif drefydd y deyrnas i gyngherddau mawrion; yr hyn nid yn unig a fwynhâi ef ei hun, ond a ddesgrifiai yn ardderchog i ddarllenwyr yr Amserau dan y penawd "Tŷ Arthur Llwyd." Yn y modd yma, ni chai un cerddor o fri fod na byddai efe yn sicr o fod yn gwybod ei hanes, ac wedi gwrandaw arno neu arni. Dechreuodd ddyfod yn enwog hefyd fel Beirniad Cerddorol. Cawn ef yn feirniad y cyfansoddiadau cerddorol yn Eisteddfod Ffestiniog, 1854, lle yr oedd Mr. William Davies, Cae'rblaidd, yn fuddugol ar y Dôn Gynnulleidfaol, a Gwilym Gwent, y pryd hwnw yn ngweithiau y Blaenau, Sir Fynwy, yn ail. Efe oedd un o'r beirniaid yn Eisteddfod Llundain, 1855, lle yr oedd Mr. J. Ambrose Lloyd ac Owain Alaw yn gydfuddugol ar y Magnificat. Yr un flwyddyn cawn feirniadaeth faith a manwl ar Anthem Manchester, lle y bu Mr. J. A. Lloyd yn fuddugol. A'r un modd mewn llïaws o rai cyffelyb, fel yr ydoedd yn dyfod yn awdurdod fel Beirniad Cerddorol. Bu yn arweinydd Cymanfa Gerddorol Ddirwestol Gwent a Morganwg, am y tro cyntaf, yn y bedwaredd gylchwyl, Gorphenaf 19, 1858. Ar yr un pryd, yr oedd iddo lafur arall, yr oedd ar hyd y blynyddoedd yn llafurio yn ddyfal gydag ef, sef gwneyd casgliad o Donau Cynnulleidfaol. Yr oedd y wlad wedi dyfod i ddeall ei fod gyda'r gwaith hwn, ac yr oedd dysgwyliad mawr am dano. Ond yr oedd yn costio llafur dirfawr iddo ef. Nid oedd yn foddlawn heb chwilio yn drwyadl i drysorau cerddorol pob cenedl. Yn ei fyfyrgell o ddydd i ddydd am flynyddoedd, a'r rhan fynychaf yn hwyr y nos, dyna ei brif lafur, Yn y llythyr at y Parch. T. Levi yn 1857, ysgrifena, "Mae fy mhregethu yn aros yn yr un fan, a'r fan hono yn lled anfoddhaol; fy Llyfr yn prysuro i wneyd ei ymddangosiad, a bydd Hysbysiad am y dydd yn bur fuan yn yr Amserau." Yr oedd ei holl fryd am i'r llyfr hwn gynnwys y detholiad goreu, a "detholiad" ydoedd o swm anferth o gerddoriaeth grefyddol pob gwlad. Nid arbedai na thraul na thrafferth i'w wneyd y goreu oedd bosibl, ac nid oes neb a all amgyffred y llafur yr ymgymerodd âg ef i'r amcan hwnw.

Ond teimlasai er ys blynyddoedd fod yn anghenrheidiol lefeinio meddwl y wlad i fod yn addfed i'r cyfryw ddiwygiad, ac ymdrechai wneyd hyny trwy ei feirniadaethau a'i ysgrifau yn yr Amserau. I'r un amcan hefyd parotôdd ddarlith ar Gerddoriaeth, ond yn benaf cerddoriaeth y cysegr, a bwriadai geisio cael côr i ganu yn ystod y ddarlith i'w illustratio,—i ganu yn gyntaf donau o'r hen ddull arferedig, y rhai gwaelion, ac wedi hyny donau da ac ardderchog, er mwyn dangos eu rhagoriaeth. Traddodwyd y ddarlith hon yn gyntaf yn nghapel Rose Place yn Liverpool, ond methasom gael o hyd i'r dyddiad; tebyg ei fod tua diwedd 1853 neu ddechreu 1854. Ar ei awdurdod ef ei hun cawn grybwylliad am yr ail waith (Chwefror 1854), "Yr wyf fi i draddodi fy ail ddarlith ar Gerddoriaeth yr wythnos gyntaf yn Mawrth." Un tro pan yn traddodi y ddarlith hon yn nghapel Pall Mall, y Parch. J. Hughes (Dr. Hughes yn awr) yn y gadair, a phan y cenid y dôn "Pen Calfaria" fel esiampl o'r tonau gwaelion, ar y geiriau, "Gwaed y groes sy'n codi i fyny," &c., aeth y gynnulleidfa i ddyblu a threblu gyda hwyl, nes tynu y cadeirydd hefyd gyda hwynt. Fel y gallesid dysgwyl, yr oedd hyn yn taflu dyryswch mawr ar ffordd y darlithydd. Bu tro cyffelyb hefyd yn nghapel Hermon, Dowlais, a dichon fod yno rai yn procio'r tân, nes gyru yr hen wragedd i'r hwyl, a'r darlithydd nis gallai fod mewn tymher dda dan y cyfryw amgylchiadau. Un o'r pethau fyddai yn ei anfoddhâu ef fwyaf o'r cwbl fyddai clywed tonau gwael ac anghyfaddas yn cael eu canu ar eiriau cysegredig. Un tro yr oedd efe a Meddyliwr gyda'u gilydd yn nghapel Burlington Street yn gwrando y Parch. Henry Rees yn pregethu ac yn gweinyddu ordinhâd Swper yr Arglwydd, ac ar y Sacrament rhoddodd Mr. Rees yr emyn, "O deffro'n foreu, f'enaid gwan," &c., a chanwyd arni y dôn ddiddym hono "Lingham." Ai Mr. Rees ymlaen, "Caf yma yfed cariad pur," &c.; "Yma dymunwn dreulio'm hoes," &c.; ac yr oedd y fath dôn salw ar y fath eiriau bendigedig yn disgyn fel dwfr oer ar gnawd Ieuan Gwyllt nes yr oedd bron a methu ymgynnwys yn y seat—iddo ef yr oedd yn annyoddefol. Bu yn traddodi y ddarlith mewn amrywiol fanau ar hyd Cymru, ac yn ceisio argyhoeddi meddyliau y genedl i geisio tonau gwell na'r math hwnw. Er hyny nid llwyddiannus oedd yn ei draddodiad fel darlithydd mwy nag fel pregethwr. Adroddwyd wrthym iddo ddyfod unwaith, pan yn swyddfa yr Amserau, i Bethesda, Arfon, i draddodi dwy ddarlith ar Gerddoriaeth. Y noson gyntaf yr oedd dysgwyliad mawr am dano, a'r lle yn llawn o wrandäwyr, ond yr ail noson nid oedd ond ychydig iawn yn bresennol. Diammeu fod hyn yn achos o ddigalondid mawr iddo ef ei hun, ond ymroddodd i orchfygu y rhwystrau yn hyn, a daeth yn siaradwr da a dymunol, er nad fe allai yn hyawdl. Yr oedd hyn yn un o'r llïaws esiamplau yn ei fywyd ef o'i allu anghyffredin i wynebu anhawsderau, a chael yr oruchafiaeth arnynt.

Ond gadawer i ni ofyn, O ba le y mae yr ysgrifau grymus yn yr Amserau, a'r beirniadaethau galluog mewn Eisteddfodau, a'r dylanwad hwnw oedd eisoes yn dechreu creu chwyldroad cerddorol yn y wlad, yn dyfod? A oes dim modd i ni gael cipolwg arno yn ei fywyd cartrefol? Cawn ei fod yn llettŷa yn 1854 yn 19 Netherfield Road, Everton—cymydogaeth a hoffai yn fawr, er ei bod ymhell oddiwrth y swyddfa (tua milldir a hanner); ddiwedd y flwyddyn hono yn 85 St. Anne's Street, ac yn 1856 yn 97 St. Anne's Street; ac yr oedd swyddfa yr Amserau yn 15 St. Anne's Street. Yn ei fyfyrgell y byddai efe yn ddyfal. "Arferwn alw heibio iddo ymron bob dydd wrth fyned i'r office; llawer ymgom a gaem ar bolitics, crefydd, canu, &c., ac yna ymwahanem bob un at ei waith. Ysgrifenem lawer, lawer iawn, iawn am flynyddau, yn enwedig ar adeg y rhyfel yn y Crimea. Yr oeddem ill dau yn condemnio y rhyfel hwnw, ond yr oedd efe yn fwy pwyllog a chymedrol na mi, a minnau yn or-eithafol."[34] A chawn y desgrifiad yn fwy dyddorol eto ganddo ef ei hunan,[35]—"Y mae creadur eiddil, llwyd, pengrych, gyda dau bâr o lygaid, a llen o bapyr o'i flaen, ysgrifell ddur yn ei law, ac ychydig o dân yn cogran yn yr aelwyd, yn ysgrifenu rhyw stwff â'i holl egni; ac felly y mae yn treulio ei oes, y naill ddydd ar ol y llall, heb wneyd dim ond darllen ac ysgrifenu o'r boreu hyd yr hwyr, a hyny, yn wir, nes y byddo yn hwyr iawn yn y cyffredin. Y mae yn treulio llawer o'i ddyddiau felly heb weled na dyn na dynes ond yr ychydig sydd yn y tŷ, a llifeiriant a wêl ambell waith trwy y ffenestr ar yr heol. Oddigerth fod concert neu rehearsal yn y Philharmonic Hall, rhywun hynod yn darlithio mewn rhyw gwr o'r dref, neu rywbeth yn nghapel Rose Place, ni bydd nemawr byth yn myned allan, oddigerth iddo fyned am bump neu chwe' milldir i'r wlad—y pancake country yma, chwedl Jones Kilsby—bore ddydd Mercher, neu filldir neu ddwy yn hwyr y dydd, yn y cyfnos, er rhoddi cyfleusdra i'r awel i drefnu ychydig ar ei ymenydd penblethedig. (Ond O! y fath wahaniaeth sydd rhwng y wlad hon a gwlad Cymru! Yma nid oes na bryn uchelgrib, na chraig ysgythrog, na nant risialaidd, na meddylddrych, na dim. Y cwbl yn un gwastadedd.) Y mae yn cael myned a dyfod y ffordd y gwelo yn dda, ar y pryd y gwelo yn ddymunol, heb neb yn gofalu yn ei gylch; ac heb ond prin ddwsin yn nhref Liverpool yn gwybod fod unrhyw hogyn a eilw ei hun yn Ieuan Gwyllt yn preswylio mewn un gell o'i mewn. Y mae ei fod yn Olygydd papyr newydd yn ei wneyd yn anathema yn ngolwg pob penog Methodist uniongred. Y mae yn anmhosibl, chwi wyddoch, fod un dyn duwiol yn treulio ei holl amser gyda pheth mor wael a phapyr newydd. Y mae ei fod yn Fethodist yn ei wneyd yn wrthodedig gan lenorion Annibynol y dref. Cafodd y fraint o weddio yn gyhoeddus yn y capel unwaith wedi dyfod yma. Er fod ganddo ddau neu dri o gyfeillion yn y lle, ei gyfeillion penaf ydyw y brodyr gwrol sydd yn chwerthin am ei ben drwy y dydd oddiar y silff acw, ac yn barod, ar yr amnaid leiaf, i ddadgan eu barn ar unrhyw bwnc a roddo ger eu bron. Acw y mae y duwiol Matthew Henry, Chalmers, R. Hall, John Foster, Coleridge, Isaac Taylor, McCosh, Dr. Owen, Humboldt, Dove, Neander, Lamartine, Rogers, Macaulay, Syr J. Stephen, Gilfillan's Arnold, De Quincey, Addison, Syr W. Hamilton, Browne, Stewart, Reid, Locke, Butler, Shakespeare, Milton. Pw, pw! I ba beth yr af ymlaen fel hyn Digon yw dyweyd mai yn fy nghell yr ydwyf, mai dyma fy nghwmni, ac nad oes braidd neb yn gweled ond rhyw metamorphoses o honof ar golofnau yr Amserau." Dyma fywyd dedwydd! I un o'i fath ef, oni b'ai am ychydig o "wibed meirw" oedd yn anhwyluso rhyw gymaint ar ei gwpan, braidd na thybiem mai dyma un o'r cyfnodau mwyaf dedwydd yn ei fywyd. Yn Mehefin, 1853, bu yn fuddugol ar draethawd ar "Addysg y rhyw Fenywaidd," yn nghylchwyl lenyddol Dinorwic, a chanmolid y traethawd yn fawr gan y beirniad—Eben Fardd. Yr ail oedd Mr. R. J. Derfel. Ymddangosodd erthygl o'i eiddo hefyd yn Hogg's Instructor tua'r adeg hon. Yn 1855 ysgrifenodd amryw lythyrau i'r Oenig, dan yr enw Siôn Llwyd, Pentre Sais. Ac yn y Traethodydd am 1857 ymddangosodd erthygl o'i eiddo ar Mendelssohn. Ond er mai mewn unigrwydd dystaw yr oedd yn treulio y rhan fwyaf o'i amser, yr oedd yn sylwi yn fanwl ar bob symudiadau oedd yn cymeryd lle o'i amgylch yn Liverpool, yn gystal ag yn y byd mawr, ac yr oedd yn mesur a phwyso yn ddyfal bob cerddor, llenor, bardd neu bregethwr y caffai gyfleusdra i wrando arno, ac yr oedd ei feirniadaeth arnynt yn dangos craffder mawr, a meddwl treiddgar. Nis gallwn yma ddyfynu o'i lythyrau, ond hyderwn yr argreffir cryn lawer o honynt, am y byddant, nid yn unig yn wir alluog ond hefyd yn ddyddorol ac adeiladol. Ceir engraifft deilwng yn y "Dyfyniadau o lythyr at Gyfaill" yn yr Oenig, Cyf. II., tu dal. 108. Yr oedd ganddo syniadau uchel am y weinidogaeth a'r hyn oedd yn deilwng o honi, a chondemniai yn ddiarbed bob peth israddol. Cymerer y canlynol fel esiampl,* "Nid wyf yn meddwl y gall neb fod yn teimlo yn fwy gwrthwynebol i ryw sing—song o bregethu na thraethu na myfi. Y mae dull a phregethu y corff mawr o'r Saeson yma yn peri i mi golli pob amynedd wrth eu gwrando. O ddifrif, pa ryfedd fod corff y bobl y dyddiau hyn yn Lloegr yn ymddyeithrio oddiwrth yr hyn a elwir yn grefydd, ac a bregethir fel efengyl Byddai yn rhaid wrth wyrthiau i'w hattal. Y mae llawer iawn gormod o gorachod meddyliol yn llenwi pulpudau Cymru hefyd, dynion eiddil, cysglyd, dioglyd, y rhai ni allant, ac nad oes yn eu bryd i gyflawni dim uwch na bod yn ostyngedig i'r 'galluoedd sydd'—bod mor dduwiol-ymddangosiadol ag y mae modd—a phatchio i fyny nifer o ymadroddion pregethurol ar lun pregeth—a dysgu rhyw dôn na chlywir ei chyffelyb, ïe yn wir, na oddefir ei chyffelyb mewn unrhyw gymdeithas ag y byddo common sense a chanddo ryw lywodraeth arni." Wrth feddwl am fod yn bregethwr ei hunan, dymunai fod yn bregethwr da, nid yn "common jack," chwedl yntau. "Ond ni fu erioed yn boblogaidd yn Liverpool—y select few yn unig oedd yn ei edmygu. Yn wir, cafodd laweroedd o wrthwynebiad oddiwrth rai nad oeddent deilwng i ddattod carai ei esgidiau. Er mai wedi myned oddiyma y cyrhaeddodd boblogrwydd, yma, yn yr hen ystafell dlodaidd yr olwg arni yn St. Anne Street—mewn unigedd hen—lancyddol, y gosododd y sylfaen."[36]

"1858, Oct. 21. Removed to Aberdare to edit 'Y Gwladgarwr.'"

Cawn ychydig o hanes yr achos o'r symudiad hwn gan y Parch. D. Saunders:[37]—"Tybiwyd yno (yn Aberdâr) yn dymunol i sefydlu newyddiadur o'r enw Gwladgarwr, ac amlygwyd dymuniad, os oedd hyny yn bosibl, i sicrhâu gwasanaeth eu cyfaill Mr. Roberts fel golygydd y cyfryw newyddiadur. Llwyddwyd i'w gael, a bu yn byw yn Aberdâr am dair neu bedair blynedd, yn ystod yr hwn amser y bu yn gymydog iddo ef (Mr. Saunders) trwy gyfanneddu yn nhŷ diacon a chyfaill goreu iddo, sydd erbyn hyn wedi myned ato i'r wlad hono lle cenir 'Cân Moses a chân yr Oen.' Pan ddaeth i Aberdâr, nid oedd ganddo ond tocyn aelodaeth fel aelod cyffredin o'r Cyfundeb Methodistaidd; ni thybiodd y Cyfarfod Misol ei fod yn ddim amgen nag aelod cyffredin.[38] Yn y lle olaf a enwyd (Aberdâr), cyfarfyddodd â chyfeillion caredig a hynaws—cyfeillion yn gallu cydymdeimlo âg ef; a thrwy ychydig ddylanwad â'r Cyfarfod Misol, dechreuwyd hwylio ei gamrau, nes o'r diwedd y derbyniodd ganiatâd i bregethu yn rheolaidd, a chyn hir cafodd ei ordeinio i gyflawn waith y weinidogaeth." Llettŷai dros yr holl amser y bu yn Aberdâr cyn ac wedi priodi yn nhŷ Mr. William Morgan (Y Bardd). Y mae yma ychydig gamgymeriad gyda golwg ar yr amser y bu yn byw yn Aberdâr,—llai o bythefnos na blwyddyn y bu yno, fel y cawn sylwi yn fanylach eto. Ond blwyddyn bwysig oedd hon iddo yn ei dygwyddiadau. Nid ymddengys fod ei gysylltiad â'r Gwladgarwr yn un dedwydd—nid oedd cynnwys cyffredinol y papyr yn gyfryw ag a gymeradwyai; gollyngid i mewn iddo bethau rhy isel eu chwaeth, er mwyn boddio y llïaws, yr hyn oedd yn flinder i'w ysbryd ef, fel y penderfynodd roddi yr olygiaeth i fyny, a gwnaeth felly.

Fel y sylwyd, yn Aberdâr y dechreuodd bregethu. Cyfarfyddasai â'r Parch. D. Saunders yn Liverpool pan yn swyddfa yr Amserau, a chawn grybwylliad am dano yn un o'i lythyrau, dyddiedig Tachwedd 18fed, 1856; ond nis gwyddom yn sicr ai dyma adeg y cyfarfyddiad cyntaf. A pheth rhyfedd yw cyfarfyddiad dynion â'u gilydd. Y maent yn debyg i'r darnau o gorcyn yn nofio ar wyneb y dwfr; weithiau gwelir hwy yn troi o amgylch eu gilydd am gryn amser cyn dyfod at eu gilydd, fel pe mewn "blys ac ofn," ond o'r diwedd yn ymollwng at eu gilydd; bryd arall y mae y ddau fel pe yn adnabod eu gilydd trwy reddf, ac yn llithro yn naturiol at eu gilydd ar eu hymddangosiad cyntaf. Felly meddyliau, weithiau byddant yn hir cyn adnabod eu gilydd, bryd arall bydd fel pe b'ai rhyw affinity naturiol yn eu tynu ynghyd. Gallem dybied mai felly y bu gyda Mr. Saunders ac Ieuan Gwyllt. "Y tro cyntaf y daethant i gyffyrddiad â'u gilydd ydoedd yn Lerpwl, lle yr oedd Ieuan Gwyllt, er nad oedd ond dyn ieuanc, yn olygydd ar yr Amserau. Dechreuodd rhyngddynt y pryd hwnw gyfeillach a barhâodd hyd ddydd ei farwolaeth; ac hefyd, yn bellach na hyny, yr oedd rhyngddynt gyfeillgarwch na ddarfyddai byth." [39] Wedi dyfod i Aberdâr yr oedd yn aelod o'r eglwys yr oedd Mr. Saunders yn weinidog arni. Ac yr oedd rhai eraill yn Sir Forganwg wedi canfod ynddo ddefnyddiau "gweinidog cymhwys y testament newydd" eisoes, er mai mewn ffordd "afreolaidd" yr oedd yn gweithio; ac yr oedd yn awr wedi disgyn i gylch oedd yn gallu gwerthfawrogi a chydymdeimlo; ac nid hir y bu pethau cyn gael eu gosod yn eu lle, fel y dylasent fod ymhell cyn hyny. Yr oedd yr awyrgylch yma yn bur wahanol i Liverpool; yno nid oedd ond ychydig gyfeillion—y select few, yn ei adnabod; yn awr yr oedd y cylch yn ëangach o lawer, a'u dylanwad yn gryfach. Dechreuodd felly yn rheolaidd, yn ol trefn y Methodistiaid yn Sir Forganwg y pryd hyny, a chymeradwywyd ef gan y Cyfarfod Misol. Mae Aberdâr a Sir Forganwg yn haeddu clod am hyn; nis gwelodd Aberystwyth a Sir Aberteifi y defnyddiau—nis dadguddiwyd i "ddoethion a deallus" tref Liverpool—ond cafodd Sir Forganwg y fraint o ddywedyd "Duw yn rhwydd" wrtho, ac agor y drws i "ŵr mawr yn Israel" ddyfod i'r golwg, ac i gylch mawr ei ddefnyddioldeb.

Dygwyddiad pwysig arall yr adeg hon oedd ei briodas.

"1859, Jan. 4. Married to Jane Richards at Jewin Crescent Chapel, the Rev. O. Thomas officiating."

Un o Aberystwyth oedd hi, ac yr oedd wedi dyfod i gydnabyddiaeth â hi yn ystod ei arosiad yno. Gallasai ambell un dybied ei fod wedi gwneyd camgymeriad mawr yn ei ddewisiad ei bod hi yn meddu gormod o'r un tueddiadau ag ef ei hunan. Tybir yn gyffredin i ddyn reserved, dystaw, tueddol i fod yn ymneillduedig, mai cael gwraig gymdeithasgar, nwyfus, a gwyneb-agored fuasai oren; tra o'r ochr arall, i ddyn tymherog a hedegog, y buasai gwraig dawel a hunanfeddiannol yn well. Gall fod gwirionedd yn hyn mewn llaws o amgylchiadau. Ond tybiwn fod Mr. Roberts wedi cael gwraig o'r dosbarth cyntaf. Dichon y gallasai un wahanol fod yn fwy o gymhorth mewn rhyw ychydig o bethau; ond buasai gwaith mawr ei fywyd ef wedi cael ei rwystro i raddau helaeth, os nad ei lwyr ddyrysu. Ond er fod ei serchiadau yn gryfion, eto y mae yn ddiammheu genym mai nid ar amcan y gwnaeth efe ei ddewisiad, ond ei fod wedi ystyried yn dda cyn cymeryd cam mor bwysig. Un reserved (neillduol felly), dawel, ddystaw, eto yn meddu synwyr cryf a gallu neillduol, ni a feddyliem, i gydymdeimlo âg ef yn ei amcanion a'i ymdrechion, ac ar yr un pryd yn gallu llwyr ofalu am bob peth amgylchiadol, fel ag i adael ei feddwl ef yn rhydd at ei waith ei hun. Mewn gair, yr ydym yn gallu gweled yn awr ei bod mor neillduol gymhwys iddo ef, fel nas gallwn lai na chredu nad rhagluniaeth Duw a'i darparodd i fod yn "ymgeledd gymhwys iddo," a'i fod wedi gofyn am gyfarwyddyd y Nefoedd yn y dewisiad o honi.[40]

Yr adeg hon hefyd daeth y dygwyddiad hir—ddysgwyliedig oddiamgylch, sef ymddangosiad y Llyfr Tonau Cynnulleidfäol.

"1859, April. Llyfr Tonau Cynnulleidfäol was published."

"Wedi bod yn gweithio yn galed (dros chwe' blynedd, fel y dywedodd wrthym), yn chwilio llyfrau goreu y wlad hon a gwledydd eraill am y tonau goreu a mwyaf priodol, gohebu â llawer o'r prif gerddorion, yn gofyn eu cyfarwyddyd a'u cynnorthwy, heblaw cyfansoddi a chynganeddu, trefnu a chaboli llawer ei hunan, ac fel pe buasai y Nefoedd wedi rhagdrefnu, daeth y Llyfr Tonau allan yn ei iawn bryd."[41] Yn Liverpool y cyflawnodd bron y cwbl o'r llafur hwn, ac yr oedd y llyfr yn y wasg pan y symudodd i Aberdâr. "Trwy garedigrwydd rhai cyfeillion yno,[42] llwyddodd i gael cynnorthwy i ddwyn allan yr argraffiad cyntaf o'r llyfr tonau hwn. Y mae yn debyg na ddychymygodd y buasai yn dyfod mor boblogaidd; ac eto meddai gryn lawer o ffydd ynddo, fel yr anturiodd ystrydebu yr argraffiad cyntaf hwnw, gan brophwydo y buasai y wlad rywbryd yn agor ei llygaid i weled ei ragoriaethau, ac i wneyd defnydd o hono. Cyrhaeddodd y llyfr ei ail argraffiad; ond aeth yr argraffiad cyntaf a'r ail i dalu traul yr ystrydebu, heb ddwyn dim elw i'r sawl oedd wedi llafurio i'w ddwyn allan."[43] Cawn gyfle eto i sylwi yn fwy manwl ar neillduolion y llyfr. Cyrhaeddodd yn fuan gylchrediad helaeth. Yn Medi, 1861, cawn hysbysiad am y nawfed a'r ddegfed fil; yn Chwefror, 1862, hysbysiad am yr 1leg a'r 12fed fil; ac yn Ngorphenaf, 1863, am yr 16 a'r 17eg fil! "Nid oes eisieu crybwyll bron i'r llyfr anmhrisiadwy hwn gael y derbyniad mwyaf gwresog gan bob cynnulleidfa yn ddiwahaniaeth a ganai yn Gymraeg. Mewn ystyr gerddorol, yn ddiau, dyma'r ergyd mwyaf llwyddiannus yn yr oes hon, yr hyn a brawf fod gan ein hawdwr lygad eryraidd i ganfod beth oedd eisieu, a digon o wroldeb i gario allan ei ddrychfeddwl yn yr amser ac i'r fantais oreu."[41] Yr oedd cyhoeddiad y llyfr hwn yn gyfnod pwysig yn hanes Ieuan Gwyllt. Cynnaliwyd Cymanfa o ganu cynnulleidfäol yn Aberdâr, Ionawr 10fed, 1859, dan arweiniad Mr. Roberts, ac efe ei hun oedd wedi dethol y Tonau a'r Emynau. Yr oedd y Llyfr Tonau heb ddyfod allan eto, ond yr oedd mor bell ymlaen fel y gallai Mr. Roberts gael y gerddoriaeth yn gystal a'r geiriau ar y programmes, ac yn rhoddi mantais iddo yntau roddi prawf ar gynnwys y llyfr. Gwneid y cantorion i fyny o gorau Undeb Cerddorol Dirwestol Gwent a Morganwg, a bydd genym sylw arni mewn lle arall. A dygwyddiad hapus oedd ei ddyfodiad i Aberdâr yr adeg hon; disgynodd i blith cyfeillion mynwesol, a allent gydymdeimlo âg ef, a cherddorion oeddynt yn ddigon addfed i gymeryd i fyny ei ysbryd, fel y cafodd yn nghapel Bethania gryn fantais i roddi prawf ar ei ideal ef o ganu cynnulleidfäol. "Yr ydym yn ei gofio yn dda yn arwain y canu yn yr ysgol gân yn y capel uchod, ac yn gosod i lawr yno yr hadau a dyfasant wedi hyny yn brenau ffrwythlawn trwy Gymru i gyd. Yno yr oedd y diweddar Mr. Joseph Hughes (Joseph y saer), un o'r dechreuwyr canu goreu, mwyaf gofalus, sicr a soniarus a glywsom erioed, yn pitchio y tonau. Mr. Daniel Griffiths, un o'r cerddorion mwyaf ymarferol a choethedig a fedd y wlad; a'r prif ddysgyblwr a chynghorwr, y pryd hwnw ac yw eto, yn y lle ar bynciau yn dwyn cysylltiad â cherddoriaeth y cysegr. Mr. William Morgan—(William), neu y Bardd, fel yr arferai Mr. Roberts ei alw. William fyddai, ac sydd eto yn darllen a deongli y pennillion; ac yr oedd mor gelfydd, ac eto mor naturiol gyda y gwaith hwn, fel yr ymhyfrydai Ieuan ei glywed bob amser yn gwneyd hyn, yn hytrach na'u darllen ei hunan. Tua'r amser hyn hefyd y daeth Mr. D. Rosser, un o'r lleiswyr mwyaf melfedaidd, i'r lle o Dowlais, fel y syrthiodd yr arweinyddiaeth gyhoeddus yn y man i'w ddwylaw ef. Mr. Edward Williams hefyd (Edward Defynog), un o'r darllenwyr cerddoriaeth mwyaf cyflym a chywir y pryd hwnw. Efe oedd arweinydd y tenor yno; yn sêt y tenor yr oedd Mr. Silas Evans (Cynon), yn awr o Abertawe; Mr. W. Griffith, a symudodd wedi hyny i Australia; Mr. W. Roberts (sydd yn y graian er ys blynyddoedd), ac ysgrifenydd y nodiadau hyn. Pedwar tua'r un oedran yn orhoff o ganu, ac ynddynt awydd angerddol i ddeall cerddoriaeth, a dyfod yn gerddorion. Yr oeddynt â'u llygaid a'u clustiau yn llydan agored i dderbyn gwersi ac awgrymiadau Mr. Roberts, ac yfasant eu dysgeidiaeth fel yfed dwfr. Yr oedd mor bur, mor fresh, a'i ddullwedd yn ei chyfranu mor hynaws, mor sobr ac ennillgar. I ddwylaw y personau hyn ac eraill, o bosibl, nas gallwn eu dwyn i gof y fynyd hon, y syrthiodd y gwaith boddhâus o ddarllen a chanu oddiar y proof sheets, y tonau cyntaf, mesur 10au, yn y Llyfr Tonau Cynnulleidfäol. Yr ydym yn cofio fel pe buasai ddoe, yr effaith a gafodd yr hen donau: "Clod," "Warsaw," "Coburg" ac "Erfyniad" arnom; ac fel y gwenai yntau (gwên nad oes yn bosibl ei darlunio, pan y caffai ei foddhâu) wrth arwain a chanu bass. Yr oedd yr ychydig gantorion a enwyd, ag eithrio, fe allai, y pedwar ieuengaf o honynt, yn gallu deongli a mwynhâu y gerddoriaeth buraf y pryd hwnw. Mor gyflym hefyd y cymerodd y gynnulleidfa hon (Bethania) i fyny arddull y tonau syml ond mawreddog hyn, ac eu llanwyd gan eu hysbryd. Ond, wrth gwrs, yr oedd cael presennoldeb y fath gerddor i egluro a chynghori yn fantais anghyffredin at hyny. A rhaid i ni sylwi yn y fan hon mai nid ychydig oedd y gwasanaeth a wnaeth y gynnulleidfa hon, ynghyd ag ychydig o gynnulleidfäoedd eraill o chwaeth uchel, tuag at ddwyn y gwaith i sylw, ac i gael ei werthfawrogi. A theg yw dyweyd fod canu cynnulleidfäol Bethania bob amser yn ei foddhâu; a hoffai siarad am dano hyd ei ddyddiau olaf."[44]

Yn mis Mai y flwyddyn hon (1859), ymddangosodd y rhifyn cyntaf o Delyn y Plant, cyhoeddiad misol bychan ceiniog i'r plant, o dan olygiad y Parch. Thomas Levi ac Ieuan Gwyllt, yr hwn a barhâodd i ddyfod allan hyd Rhagfyr, 1861, pryd y rhoddodd i fyny ar ymddangosiad Trysorfa y Plant, dan nawdd ac yn eiddo i Gyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd. Rhyw hanner dwsin o ysgrifau oedd y cwbl a ysgrifenodd Ieuan Gwyllt i'r cyhoeddiad bychan hwn, heblaw darparu bron yr oll o'r Tonau a ymddangosodd ynddo.

Mae ôl llaw Rhagluniaeth i'w gweled yn amlwg yn ei arweiniad i Aberdâr. Cyn gadael Liverpool, yr oedd wedi cyttuno i fyned i un o'r swyddfeydd uchaf yno; ond cymerodd ail feddwl, ac ymryddhäodd, am ei fod yn tybied na buasai yn gallu cael chwareu teg i bregethu yr efengyl. Wedi dyfod i Aberdâr, cafodd ei hun yn nghanol cyfeillion ac edmygwyr, a bellach y mae meusydd yn ymagor yn ëang o'i flaen ac ar bob llaw, ac yntau yn ymdaflu â'i holl enaid i wasanaethu ei wlad a'i genedl yn y cylchoedd a ddymunai ac y gallai fod yn ddefnyddiol ynddynt. Mewn rhyw ystyriaethau, gellid dyweyd mai dyma'r adeg y dechreuodd fyw i bwrpas. Awyddai weithio, ond nis caniateid ef, Morganwg a agorodd y drws yn ehelaeth iddo.

"1859, Oct. 7th. Removed to Merthyr Tydfil to take charge of Panttywyll Chapel."

"Yr oedd y gair da oedd i Mr. Roberts yn Aberdâr wedi creu awydd cryf arnom yn y lle tywyll hwn i'w gymhell i fyw a llafurio fel Bugail yn ein mysg. Ni chawsom siomedigaeth."[45] Dyma fel yr ysgrifenai Mr. W. Morris, un o ddiaconiaid y lle. Yr oedd bellach yn ei elfen ei hun, ac ymroddodd "o lwyrfryd calon" i gyflawni ei waith yn y gwahanol gylchoedd, ac yr oedd yn gymeradwy iawn. Yr oedd "arogl esmwyth" ar ei holl lafur gyda'r plant a'r rhai mewn oedran yn y cyfarfodydd eglwysig a'r cyfarfodydd darllen, a gwerthfawrogid Mrs. Roberts hefyd yn ei llafur yn eu plith. Dangosodd efe ei fod yn gwbl anhunanol a diariangar yn eu mysg, o herwydd pan fyddai yn gwasanaethu mewn lleoedd eraill, ni fynai dderbyn dim am yr amser hwnw gan y brodyr yn y Pant-tywyll. [46]

Yn Sir Forganwg yr oedd wedi syrthio ymhlith cyfeil!ion a brodyr oeddynt yn gallu adnabod ei werth, a rhoddi pob lle iddo. Fel y sylwasom, rhoddwyd lle rhwydd iddo i bregethu, ac yn 1861 dewiswyd ef gan y Cyfarfod Misol· i'w ordeinio i gyflawn waith y weinidogaeth. Yr oedd hyn yn groes i'r rheol—neu yn hytrach, yn ei achos ef, yn eithriad uwchlaw y rheol—oblegid y rheol ydoedd, fod i un bregethu am bum' mlynedd cyn cael ei ordeinio, ond nid oedd prin ddwy flynedd er pan gydnabyddasid ef yn rheolaidd. Cymerodd yr ordeiniad le yn Nghymdeithasfa Castellnewydd Emlyn.

"1861, Awst 7, Ordeiniwyd yn Nghymdeithasfa Castellnewydd."

Yr oedd eithriad arall hefyd yn y Gymdeithasfa hono, mewn cysylltiad â dewisiad un i'w ordeinio trwy ffordd a alwyd ar ol hyny yn y Deheudir wrth yr enw, "drws Arthur." Yn nghofnodau y Gymdeithasfa cawn fel y canlyn:—"Dydd Mercher y 7fed, yn Nghyfarfod y Pregethwyr (am hanner awr wedi 8 o'r gloch yn y bore), ymddyddanwyd â'r brodyr a benodwyd i'w neillduo at waith cyflawn y weinidogaeth. Cyfarfod yr Ordeiniad am 9 o'r gloch. Enwau y brodyr a neillduwyd yw,—William Evans, Sir Benfro; David Wales, Daniel Williams, Thomas Davies, Thomas Thomas, Philip J. Walters, a T. James, M.A., Sir Gaerfyrddin; John Roberts a Thomas John, Sir Forganwg; Thomas Davies a Thomas Edwards, Sir Fynwy; David Williams ac Elias Jenkins, Sir Frycheiniog. Dechreuwyd trwy weddi gan y Parch. H. Powell, America. Darllenwyd y rhanau arferol o'r Gair a gweddiwyd gan y Parch. O. Thomas, Llundain. Ymholwyd o barth rheoleidd—dra dewisiad y brodyr gan y Cadeirydd (y Parch. T. Edwards, Penllwyn), ac atebwyd yn gadarnhäol gan Mr. J. Havard, Meidrim. Traethwyd ar Natur Eglwys gan y Parch. D. C. Davies, M.A., Llundain. Gofynwyd y Cwestiynau gan y Parch. L. Edwards, M.A., Bala. Rhoddwyd y Cynghor gan y Parch. E. Matthews, Eweny. Dybenwyd trwy weddi gan y Parch. W. Lewis, Cassia."[47] Wedi cael ei gadw yn hir cyn dechreu, ar ol cychwyn, esgynodd Ieuan Gwyllt yn gyflym i'w safle deilwng fel Gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd.

Yr oedd y gwaith yn awr yn pentyru ar ei ddwylaw o bob cyfeiriad. Yn Mawrth, 1861, dechreuodd y Cerddor Cymreig ymddangos, yr hwn a gyhoeddai yn hollol ar ei gyfrifoldeb ei hun am y pedair blynedd cyntaf. Y flwyddyn hon hefyd, dechreuodd Undebau Canu Cynnulleidfäol godi eu penau mewn llawer o ranau o'r wlad, a gelwid arno yn fynych iddynt, ac i ddarlithio neu bregethu. Yn Mehefin 29ain, 1861, cawn ef yn tystio[48]:—"Hwyrach na chredwch fi, ond y gwirionedd plaen a dilen ydyw, cydrhwng fy nyledswyddau gweinidogaethol yma ac mewn manau eraill, yr Undeb Canu Cynnulleidfäol yma ac mewn dosbarthiadau eraill, y cyfarfodydd llenyddol a'r mân Eisteddfodau, ynghyd ag ysgrifenu yr oll o'r Cerddor—fel yr wyf wedi gorfod, er pan y cychwynodd yr wyf yn mwy na hanner lladd fy hun gan waith." Yn nechreu haf 1862, cawn ef ar daith gerddorol yn Meirionydd a Lleyn, ac ysgrifena[49]:— "Y mae y pryder a'r prysurdeb mewn cysylltiad â'n Cymdeithasfa yn Merthyr,—beirniadu dros 300 o wahanol gyfansoddiadau mewn rhyddiaeth, barddoniaeth, cerddoriaeth, &c., at Eisteddfodau y Pasg—wyth nos oddicartref ar daith trwy ran o Sir Frycheiniog—ac yn uniongyrchol ar ol hyny, yr oedd yn rhaid i mi gychwyn i'r daith hon, y mae yr holl bethau hyn, trwy ddilyn eu gilydd mor agos, wedi fy ngadael heb nemawr ddim amser i mi fy hunan." Dengys hyn i ni ei fod yn llafurio yn galed, ac yn cael llonaid ei ddwylaw o waith. Yn nechreu y flwyddyn hon hefyd yr ydym yn ei gael yn brysur gyda chyfieithu ei Lyfr Tonau i'r Tonic Sol-ffa,—cyfundrefn ag yr oedd efe bellach wedi dyfod i adnabod ei buddioldeb, ac yn ei defnyddio i ddysgu elfenau cerddoriaeth i'r plant. Yn 1863 cawn ef ar daith gerddorol drwy Sir Gaerfyrddin, ac un arall drwy Sir Fôn, ar wahoddiad cynhes y Cyfarfod Misol; ac yn niwedd y flwyddyn hon fe basiodd arholiad am y Dystysgrif Elfenol a'r Dystysgrif Intermediate yn y Tonic Sol-ffa. Yr arholydd ydoedd ei hen ddysgybl a'i gyfaill Mr. E. Roberts, Liverpool, ac ymddangosodd ei enw wedi pasio yn y Cerddor Cymreig, Ionawr 1864. Yn y flwyddyn 1864, ymddangosodd ei Lyfr Tonau yn y Tonic Sol-ffa, ac yr ydym yn cael hysbysiad am draethawd ar Gerddoriaeth dan yr enw Aberth Moliant, ond nis gwyddom a ddaeth y traethawd hwn byth allan o'r wasg. Y mae yn awr, hefyd, yn dechreu cael y gwaith o arholi efrydwyr am Dystysgrifau yn y Tonic Sol-ffa, ac ymddengys enwau y rhai a basiwyd ganddo yn y Cerddor Cymreig o fis i fis, am flynyddoedd, ac nid oedd neb yn Nghymru, mae yn debyg, wedi arholi cynifer o ddysgyblion âg ef. Fel hyn, yr oedd yn ymroddi o ddifrif i weithio, ac nid arbedai ei hunan yn y gwaith.

Teimlai ef a Mrs. Roberts nad oedd tref fyglyd Merthyr yn lle cysurus i fyw ynddi, a theimlai awydd symud, er nad oedd dim mewn un modd yn anghysurus yn y cysylltiad rhyngddo ef â'r achos yn y Pant-tywyll. Cafodd alwad o Ddowlais (1865—o eglwys Hermon, mae'n debyg), ac yr oedd efe yn hoff iawn o gyfeillion Dowlais; ond teimlai Mrs. Roberts y buasai Dowlais yn llawn mwy anghysurus i fyw ynddo na Merthyr, ac os oedd modd iddynt fyw yn Merthyr ac iddo weinidogaethu yn Nowlais, yr oedd yn foddlawn. Ond ni theimlai efe y byddai hyny yn iawn, ac nid oedd ei ogwyddiad yn gryf iawn am fyned yno. Tua'r un adeg daeth galwad arall o Lanymddyfri; ac yr oedd y lle hwnw, ymysg pethau eraill, yn nês i'w hen gartref, ac yr oeddynt ill dau wedi cyttuno i gydsynio â'r cais. Un boreu, ar frecwast, gofynai Mrs. Roberts iddo a ydoedd wedi ateb cyfeillion Llanymddyfri. "Nac wyf, yn wir," meddai; "rhaid i mi wneyd heddyw, a dylaswn fod wedi gwneyd yn gynt." Cyn hir daeth y post i mewn, a chydag ef lythyr, yr hwn, wedi ei ddarllen, y galwai sylw Mrs. Roberts ato. "Welwch chwi, Jane, dyma beth digon rhyfedd;" a darllenai y llythyr iddi, yr hwn a gynnwysai alwad oddiwrth eglwys Capel Coch, Llanberis. Yr oedd hyn yn newid y cwestiwn, a dywedai wrth Mrs. Roberts ei fod yn meddwl nad anfonai atebiad i Lanymddyfri y dydd hwnw. Pan ofynai hi pa le oedd Llanberis, dywedai, "Y lle prydferth hwnw yn Sir Gaernarfon yr oeddych chwi yn tybied y dymunech fyw ynddo." Fel gŵr doeth, gwnaeth ymholiad manwl ac ymgynghoriad ynghylch y lle; ac wedi ystyriaeth briodol, penderfynodd roddi atebiad cadarnhäol i gais yr eglwys yn y Capel Coch, a gwnaeth hyny. "Ar ei ymadawiad o Pant-tywyll i fyned i Lanberis, gwnaethpwyd tysteb iddo, nid er ei anfon ymaith, fel y dywedir fod rhai yn gwneyd, eithr oddiar wir barch iddo."[50]

"1865, August 29th. Removed to Llanberis to take charge of the church at Capel Coch."

Nid oes unrhyw reswm neillduol i'w roddi paham y meddyliodd yr eglwys hon am alw Ieuan Gwyllt yn weinidog iddynt, ond eu bod ar y pryd wedi cael ar eu meddyliau alw am un i'w bugeilio, ac wedi bod yn edrych o'u hamgylch am un cymhwys, ac fe ddichon, trwy ryw gyfrwng neu gilydd, wedi dyfod i ddeall ei fod ef yn agored i symud. Trwy rywbeth digon anesboniadwy, yr oedd yntau yn meddu tuedd gref i ddyfod i'r Gogledd; ac yr oedd hyny yn beth rhyfedd, oblegid yr oedd y nifer mwyaf o lawer o'i gyfeillion a'i gydnabod yn y Deheudir. Trwy gydgyfarfyddiad y ddau beth hyn, aeth yn briodas rhyngddo ef ac eglwys y Capel Coch, a thybiwn mai priodas ddedwydd iawn a fu am yr adeg y parhäodd, er fe ddichon nad heb ryw ofidiau, mwy na phob priodas arall. Wedi myned yno, efe a ymroddodd yn ddifrifol i gyflawni holl waith y weinidogaeth yn ffyddlawn, a gwnaeth hyny. Cawn sylwi mewn lle arall arno yn ei lafur fel Gweinidog a Bugail, ac felly nid oes eisieu i ni ymhelaethu yma, ymhellach na dyweyd y cofir am dano gydag anwyldeb mawr gan yr eglwys yn y Capel Coch, ac y teimlir parch o'r dyfnaf i'w goffadwriaeth o herwydd ei lafur dyfal yn eu plith. Yr anfantais fwyaf yr oedd yn llafurio dani i fod yn effeithiol ydoedd swm ei lafur mewn cylchoedd eraill, yr hyn ni leihäodd, eithr yn hytrach a gynnyddodd wedi ei symudiad i Lanberis.

Yn y Gymanfa Gyffredinol yn Abertawe yn 1864, etholwyd ef yn aelod o Bwyllgor Llyfr Hymnau y Methodistiaid Calfinaidd; eithr y mae yn debyg mai wedi ei ddyfod i Lanberis y daeth pwysau y gwaith mewn cysylltiad â'r Llyfr Hymnau hwnw yn helaeth iawn arno ef, fel y cawn sylwi eto. Teithiai lawer iawn, yn enwedig gyda cherddoriaeth, ac yn ngwanwyn 1866 cychwynwyd, yn benaf trwy ei lafur ef, Undeb Cerddorol Dirwestwyr Eryri—rhywbeth ar yr un cynllun ag Undeb Cerddorol Dirwestol Gwent a Morganwg; a dygwyddodd i ni fod yn bresennol mewn dau o'r rehearsals ar gyfer y Gymanfa yr haf hwnw, pryd yr elai efe i ymweled â'r corau, ac i'w parotoi ar gyfer y Gymanfa. Rhoes yr undeb hwn symbyliad pwysig i ganu corawl a chynnulleidfäol yn Arfon, ac y mae yn debyg nad oedd Arfon erioed wedi clywed cystal a chàn goethed canu ag a gafwyd trwy yr Undeb hwn. Efe fu yn arwain yn yr holl gymanfäoedd ond un, a chostiai lafur mawr iddo ef i fyned o amgylch gyda'r rehearsals. Y flwyddyn ganlynol cychwynwyd Undeb cyffelyb yn Sir Feirionydd, dan yr enw Undeb Cerddorol Dirwestwyr Ardudwy, a chynnaliwyd y gylchwyl gyntaf yn yr haf 1868, ymha un yr oedd efe yn arweinydd, yn gystal a'r un ddilynol. Yn 1869 cychwynwyd Cerddor y Tonic Sol-ffa ar ei ben ei hun, ac yr oedd ganddo bellach ddau Gerddor i ofalu am dano bob mis.

Cafodd dderbyniad cynhes yn Sir Gaernarfon gan ei frodyr ymhob cylch; yr oedd ei safle a'i ddylanwad fel eerddor yn rhoddi hawl iddo i le blaenllaw, a chafodd hyny yn ddirwystr, ac ymdaflodd yntau â'i holl galon i weithio gyda holl symudiadau ei Sir fabwysiedig, yn gerddorol, yn foesol, yn wladol ac yn grefyddol.

Yr oedd tymmor ei arosiad yn Llanberis yn dymmor o gynnydd mawr ar y lle, ac aeth y Capel Coch yn fuan yn rhy fychan, a phenderfynwyd adeiladu capel helaeth arall mewn rhan o'r lle yr oedd adeiladu yn myned ymlaen yn gyflym. Gwnaed y capel yn bur helaeth, yn dangos tipyn o ffydd, a chraffder i weled i'r dyfodol; agorwyd ef dan yr enw Gorphwysfa yn 1867, ac erbyn hyn y mae wedi myned yn rhy fychan.

Wedi bod yn cynnal "pwys y dydd a'r gwres" fel hyn am tua phedair blynedd, a theimlo fod y gwaith llenyddol a cherddorol yn ormod iddo allu gwneyd cyfiawnder â bugeiliaeth eglwysig, penderfynodd o'r diwedd roddi gofal eglwys y Capel Coch i fyny, a gwnaeth hyny yn nechreu y gwanwyn, 1869. Prynodd brydles am ugain mlynedd ar y Fron ger Caernarfon, ac yr oedd wedi bwriadu ac wedi trefnu i dalu ymweliad âg America am chwe' mis, cyn dechreu ymsefydlu yn ei gartref newydd.

"1869. Symudodd i'r Fron ger Caernarfon."

Palasdŷ bychan prydferth anghyffredin, yn llygad yr haul, ar ael bryn tua dwy filldir o Gaernarfon i'r de—orllewin, ydyw y Fron. Nid yw ymhell o gulfor y Menai, ond fod y bryn bychan sydd wrth ei gefn cydrhyngddo a hi: ond esgyn i ben hwnw, ceir golygfa ëang ar y môr, y Menai a Môn. O flaen y palasdŷ hwn, tua'r dehau, y mae mynyddoedd ardderchog yr Eryri, gyda'r Wyddfa megys brenin arnynt, yn gorwedd fel panorama; ar y dde gwelir cyrion cymydogaeth boblogaidd Talysarn; ar gyfer y mae Rhostryfan a'r Waenfawr; ac ar yr aswy y mae Llanberis a Llanddeiniolen. Y mae safle y Fron, ynghyd a'r golyg feydd prydferth a geir o hono, yn ei wneyd yn nodedig o ddymunol, mewn lle tawel a heddychol, eto yn sefyll uwch ben, neu o flaen byd poblogaidd a phrysur. Prin y gallai dyn ddymuno paradwys fwy hapus ar y ddaear. Hwyrach mai yr unig anfantais ynddo ydoedd ei fod yn bell o bob railway station; ond y mae yn anmhosibl o'r bron gael. mangre heddychol y dyddiau hyn heb fyned i bellder felly. Yma y treuliodd Ieuan Gwyllt yr wyth mlynedd olaf o'i fywyd, yn nghwmni Mrs. Roberts, ac yn mwynhâu ystranciau y "ci du," o'r hwn yr oedd yn bur hoff. Wedi bod ar daith galed yn y Deheudir, neu un o Siroedd y Gogledd, yma y dychwelai i dawelwch i orphwys; ac yma mewn llonyddwch yr ysgrifenai lawer iawn. Bron na theimlwn yn falch ei fod wedi cael treulio nawnddydd ei fywyd llafurus mewn lle mor brydferth a dedwydd.

Ond nid yw y melus i'w gael heb y chwerw, ac nid yw pethau dedwyddaf y byd i'w cael heb brofedigaethau. Wedi symud i'r Fron, a threfnu pethau yno, cyfeiriai ei feddwl tua gwlad y Gorllewin, ac yr oedd dysgwyliad mawr am dano yno. Cymerodd ei bassage o Liverpool, aeth i daith Sabbothol ar ei ffordd tuag yno, ffarweliodd â Mrs. Roberts am chwe' mis; ond, "nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi." Daeth o'i gyhoeddiad Sabbothol i dŷ Mr. W. Griffith, Stryd y Llyn, Caernarfon, nos Sabboth, i fod yn barod i gychwyn gyda'r train boreu drannoeth, ond yno teimlodd yn wael iawn; a dydd Llun, yn lle cychwyn i'r America, bu raid troi yn ol mewn cerbyd i'r Fron. Cafwyd fod yr afiechyd yn ymosodiad peryglus o'r pleurisy, ac am dymmor ofnai bron gael byw. Dadganai wrth Mrs. Roberts ei fod wedi meddwl cael byw gyda hi am ugain mlynedd yn y Fron, ond yr ymddangosai nad hyny oedd ewyllys ei Dad nefol; er hyny ymostyngai yn dawel i'w ewyllys. Ni phryderai ddim am ei gyflwr ei hunan, ond teimlai wrth feddwl gadael ei waith ar ei ganol, a'i gadael hithau yn unig; ond os oedd ei Arglwydd yn galw am dano, yr oedd yn berffaith foddlawn i ufuddhâu. Fodd bynag, yr oedd yn deall arwyddion ei afiechyd yn dda; ac erbyn un boreu yr oedd yn gallu dyweyd wrth y meddyg ei fod yn troi ar wella, a dyna fu y canlyniad. Ond wedi cael ei ddyrysu fel hyn gan Ragluniaeth i dalu ei ymweliad âg America, rhoddwyd y bwriad hwnw o'r neilldu yn hollol ac am byth.

Wedi gwella yn araf, ac ar ol maith wendid, dechreuodd ymaflyd drachefn yn ei waith. Parhaodd i olygu y Cerddor Cymreig hyd ddiwedd 1873, a Cherddor y Tonic Sol-ffa hyd ddiwedd 1874—yr adegau y rhoddwyd hwynt i fyny o ddiffyg cefnogaeth. Ar gais Pwyllgor y Goleuad, ymgymerodd â golygiaeth y papyr hwnw o Gorphenaf 1, 1871, hyd Ebrill 30, 1872, a llafuriodd yn galed, yn galed iawn. Ysgrifenai bob wythnos y nodiadau wythnosol, ac yn fynych ddwy, ac weithiau tair o ysgrifau golygyddol, heblaw golygu y gohebiaethau, ac ysgrifenu weithiau ar ryw faterion eraill iddo. Llafuriai o ddechreu 1871 hyd ei farwolaeth gyda Chyfarfodydd Ysgolion Dosbarth Caernarfon, y rhai a gynnelid bob dau fis, a chymerai drafferth fawr i barotoi ar gyfer y cyfryw. Yn 1874 yr oedd Mri. Moody a Sankey yn Ysgotland a Liverpool, ac aeth i'r manau hyny amryw weithiau i wrando arnynt a chymdeithasu â hwynt, a llanwyd ei ysbryd yn helaeth iawn o ysbryd y diwygiad hwnw; a gwelid ei ôl yn amlwg yn ei weinidogaeth a'i ymdrechion gyda'r canu cynnulleidfäol, mewn dwyseidd—dra a difrifoldeb. Gellid meddwl fod ei holl fryd ar gael dynion i brofi pethau mawr yr efengyl. Yn niwedd 1874, a 1875–76, yr oedd wrthi yn ddyfal yn cyfieithu emynau Mr. Sankey—Swn y Juwbili, a dysgwyliai i'r cynnulleidfäoedd eu mabwysiadu a'u canu gyda difrifoldeb; ac nid eu canu yn ddiystyr, yn yr hyn ni chafodd ei ddymuniad ond i raddau bychan. Llafuriai lawer gyda chymanfäoedd canu cynnulleidfäol, ac efe fyddai yn arwain ynddynt bron ymhob rhan o'r wlad. "Teimlem fod ei gymdeithas a'i gyfarfodydd yn foddion o ras i ni bob amser. Cafodd gymanfäoedd nodedig o hapus yn 1876 drwy yr holl wlad o'r bron, ac adroddai wrthym gyda blas ac hwyl nefolaidd am y dylanwad yr oedd y canu wedi ei gael arno.[51] Yr oedd yr addfedrwydd hwn yn ei ysbryd fel pe yn ei barotoi yn ei flynyddoedd diweddaf ar gyfer yr hyn oedd i ddyfod. Dywedai un tro wrth Mrs. Roberts ei fod yn meddwl, pe cawsai ddeng mlynedd yn ychwaneg o oes, y buasai wedi gorphen ei gynlluniau; "ond," meddai, "y mae llawer yn y dyddiau hyn yn cael eu tori i lawr ar ganol eu gwaith." Ac yr oedd felly fel pe buasai yn dysgwyl i'r alwad ddyfod, ac yn foddlawn os hyny oedd ewyllys Duw. Yr oedd y Fron yn gartref cysurus iawn, ond teimlai fod y lle yn fawr, ac yn rhoddi mwy nag a ddymunai o gyfrifoldeb ar ysgwyddau Mrs. Roberts i fod ynddo ei hunan; ac yr oedd yn cadw ei lygad yn agored i edrych a allai gael lle bychan cysurus i'w gosod ynddo. "A fuasech chwi yn hoffi myned i'r Deheudir eto?" meddai Mrs. Roberts wrtho un diwrnod. "Na, nid wyf yn meddwl myned o Arfon byth mwy i fyw," oedd ei atebiad. Yr oedd wedi ymgartrefu yn hollol gyda'i frodyr yn Arfon, ac yn cael fod y rhan hono o'r wlad yn fanteisiol a chyfleus iddo. Ychydig wythnosau cyn ei farwolaeth ysgrifenodd erthygl ragorol i'r Traethodydd ar "Fywyd ac Anllygredigaeth; a dywedai mewn llythyr at y Golygydd ei fod yn bwriadu dilyn ymlaen mewn ysgrif neu ddwy arall. Yr oedd ei feddwl yn ymwthio tuag angeu a'r bedd a'r pethau olaf. Yn niwedd mis Ebrill, 1877, bu ar daith drwy ranau o Sir Forganwg, a diweddai mewn cymanfa gerddorol yn nghapel y Cwm, Llansamlet, yr 2il o Fai. "Cafodd ganu bendigedig yno, yn enwedig ar yr hen anthem, 'Y cyfiawn drig yn y nef.' Collodd yr arweinydd arno ei hun, ac fe waeddodd allan, 'Braidd nad oes arnaf chwant bod yno.'"[52] Yr oedd wedi trefnu i fod gartref y Sabboth, Mai 6ed, cyn cychwyn i daith arall yn y Deheudir,; a mynwyd ganddo bregethu yn nghapel bychan Penygraig, lle yr hoffid ef yn fawr, ac y llafuriai yn ddyfal gyda hwynt, er nad oedd unrhyw gysylltiad bugeiliol rhyngddo ef a hwynt. Pregethodd ar y testun, "Y gelyn ddiweddaf a ddinystrir yw yr angeu;" ac yr oedd rhywbeth rhyfedd yn y bregeth hono. Nos drannoeth, nos Lun, yr oedd yno society, wedi ei rhoddi er mwyn ei gael ef yn bresennol, ac yn y society hono ymddyddenid am fater y bregeth; ac aed i son am hen grefyddwyr oeddynt wedi myned i'r nefoedd, a gwnaed hyny gyda chryn dipyn o flas, fel y dywedodd efe, "Yn wir, braidd nad wyf y fynyd hon yn teimlo hiraeth am gael bod gyda hwynt." Dydd Mawrth yr oedd pob peth yn barod, ac yntau wedi ymwisgo i fyned at y train i gychwyn i'w daith, ond am ei fod wedi cael anwyd trwm, perswadiwyd ef i aros hyd ddydd Mercher; ond erbyn y diwrnod hwnw yr oedd congestion of the lungs wedi ymaflyd ynddo, ac mewn cysylltiad â hyny congestion of the brain, fel yr aeth waethwaeth. Yn ei glefyd ymddyrysai, ond yn arwain y canu neu yn pregethu y ceid fod ei feddwl o hyd; a nos Lun, Mai 14, 1877, am 9 o'r gloch yn yr hwyr, ehedodd ei ysbryd at ei Waredwr, lle y cenir "Cân Moses a chân yr Oen."

Fel hyn y gorphenodd y llafurus Ieuan Gwyllt ei yrfa, yn nghanol ei waith. Tarawodd y newydd am ei farwolaeth fel taranfollt ar Gymru oll. Trannoeth yr oedd ffair yn Nghaernarfon, ac ni welwyd ffair gyffelyb yr oedd y newydd wedi difrifoli meddyliau pawb, a thestun yr holl siarad oedd am dano ef. Ac yr oedd bylchau lawer wedi eu rhwygo yn wag yn ei farwolaeth. Dysgwylid ef i Liverpool i'r Gymanfa Gyffredinol yr wythnos hono, ond yn lle hyny y bedd a barotoid iddo. Yr oedd cymanfäoedd canu cynnulleidfäol, a Chymanfa Ysgol Sabbothol yn dysgwyl am dano mewn amrywiol barthau y wlad, ond gadawodd y cwbl ar alwad ei Arglwydd i ymuno â "chymanfa a chynnulleidfa y rhai cyntafanedig."

Claddwyd ef yn mynwent brydferth Caeathraw y dydd Sadwrn canlynol, Mai 19eg. Darllenwyd a gweddiwyd, a dywedwyd ychydig eiriau cyn cychwyn gan y Parch. D. Rowlands, M.A., Bangor. Yna ffurfiwyd yn orymdaith. Yn gyntaf, cerbyd y meddyg, Dr. M. Davies, Caernarfon; wedi hyny y pregethwyr bob yn dri, yna y diaconiaid bob yn dri, ac ar ol hyny y cantorion bob yn bedwar; yna yr elorgerbyd, y galargerbyd, yn cynnwys Mrs. Roberts, y Parch. R. Roberts, Llundain, a Mrs. Pugh, eu chwaer, a cherbydau eraill, o ba rai yr oedd lliaws mawr. Araf deithiodd yr orymdaith o'r Fron drwy Gaernarfon hyd Gaeathraw, a'r cantorion yn canu emynau oedd wedi eu hargraffu at yr achlysur. Y tônau a'r emynau a ganwyd oeddynt Gwladys, emyn 894; Moab, emyn 851; Liverpool, emyn 852; a Lausanne ar yr emyn 731. Wedi cyrhaedd Caeathraw nid oedd o un dyben meddwl myned i'r capel, gan na chynnwysai chwarter y dyrfa fawr oedd yn bresennol; felly, wedi rhoddi y corff yn y bedd, cymerwyd yr arweiniad gan y Parch. D. Morris, Bwlan. Darllenwyd a gweddiwyd gan y Parch. R. Ellis, Ysgoldŷ, yna anerchwyd y dyrfa gan y Parchn. D. Saunders, Abertawe; D. Davies, Abermaw; Rees Jones, Felinheli; G. Jones, Tre'rgarth; J. Lewis, Caerfyrddin; a James Donne, Llangefni, yr hwn hefyd a ddiweddodd trwy weddi. Nis gwelsom fwy o ddwysder a theimlad mewn un gladdedigaeth erioed, ac yr oedd llïosogrwydd y dyrfa yn dangos mai nid un cyffredin oedd yn cael ei roi yn y bedd. Yr oedd y diwrnod yn anfanteisiol iawn; er hyny yr oedd o leiaf o driugain i ddeg a thriugain o weinidogion yn bresennol, a thyrfa fawr o ddiaconiaid a cherddorion—rhai o honynt wedi dyfod o bell ffordd, megys Dr. J. Parry (Pencerdd America), Aberystwyth; W. Julian, Aberystwyth; J. Spencer Curwen, Llundain; D. Jenkins, Mus. Bac., Aberystwyth; J. Thomas, Blaenanerch; J. H. Roberts (Pencerdd Gwynedd), Caernarfon; ac O. Griffith (Eryr Eryri), Waenfawr. Cafodd gladdedigaeth tywysog, ac yr oedd yn dywysog mewn gwirionedd. Pregethodd y Parch J. Lewis, Caerfyrddin, bregeth angladdol iddo yn nghapel Engedi, Caernarfon, y dydd canlynol, sef y Sabboth, am 2 o'r gloch, ac yn nghapel Penygraig am 6 o'r gloch yn yr hwyr.

Wedi ei golli, a'i golli mor sydyn, ymddangosai Cymru oll wedi ei tharaw â syndod, ac fel pe yn awyddus i ddangos ei pharch i'w goffadwriaeth. Cyfansoddwyd Requiem goffadwriaethol iddo gan y Dr. Parry, Aberystwyth, ar eiriau o waith Mynyddog, yr hon a ddaeth yn boblogaidd iawn. Cyfansoddwyd un arall hefyd gan Mr. W. T. Rees (Alaw Ddu), a thrydedd gan Mr. J. H. Roberts (Pencerdd Gwynedd). Tybid fod teimlad y wlad yn addfed i wneyd rhyw goffadwriaeth o barch i'w enw, mewn math o ysgoloriaeth gerddorol. Cymerodd y Parch. D. Saunders y gwaith mewn llaw, ac wedi llawer iawn o drafferth, ac ysgrifenu cannoedd o lythyrau, o'r diwedd penodwyd pwyllgor cyffredinol, un i'r Gogledd ac un i'r Deheudir. O herwydd nad oedd bron neb ond Methodistiaid wedi ateb cwestiynau Mr. Saunders, gwelwyd yn oreu ei gwneyd yn enwadol i'r Methodistiaid. Ond rywfodd, wedi penodiad y pwyllgorau nid oes nemawr ddim wedi cael ei wneyd. Nid ein lle ni yma yw myned i wneyd esgusawd, ond yn hytrach cofnodi ffeithiau; er hyny ni a gredwn ei bod yn ffaith fod teimlad. dwfn yn mynwesau cannoedd a miloedd yn Nghymru o barch i goffadwriaeth Ieuan Gwyllt, eto ar yr un pryd mai ychydig sydd wedi cael ei wneyd gyda'r ysgoloriaeth hon. Mae rhyw ddrwg yn rhywle, ond rhaid cydnabod fod Mr. Saunders wedi llafurio dros fesur i'w rhoddi ar dir i gychwyn.

Yn nechreu haf y flwyddyn hon (1879) penderfynodd Mrs. Roberts, gweddw Ieuan Gwyllt, godi cofadail ar ei fedd. Gwnaed hyny yn ddystaw, a didwrw, a bu agos i'r amgylchiad fyned heibio heb i'r cyhoedd wybod am dano. Pan ddeallwyd, fodd bynag, yr hyn oedd yn cael ei wneyd, gan nad oedd cyfeillion Ieuan Gwyllt wedi cael rhan yn y feddgolofn, dymunwyd am gael cyfarfod cyhoeddus i'w dadorchuddio, ac â hyn cydsyniodd Mrs. Roberts. Cafwyd y cyfarfod hwn ddydd Gwener, Mehefin 6ed. Yr oedd emynau wedi eu hargraffu, a nifer mawr iawn o gantorion a chyfeillion o lawer o fanau wedi dyfod ynghyd, a bernid fod yno tua dwy fil o bobl yn bresennol. Llywyddwyd gan Lewis Lewis, Ysw., Quellyn, Caernarfon, ac wedi anerchiad rhagymadroddawl byr, galwodd ar Miss Keeling, Juvenal Street, Liverpool (cyfnither i Mrs. Roberts wedi dyfod yno i'w chynnrychioli), yr hon a ddaeth ymlaen. ac a ddadorchuddiodd y golofn. Yr oedd y corau dan arweiniad y Dr. Parry, Aberystwyth, a chanwyd y dôn Ardudwy (I. Gwyllt), Emyn 742; anthem, "Par i mi wybod dy ffyrdd," (D. Harries. Trefniad I. Gwyllt); Liverpool (I. Gwyllt), Emyn 852; Esther (I. Gwyllt), Emyn 902; Requiem (Dr. Parry); Moab (I. Gwyllt), Emyn 851; a'r Hen 50ain. Anerchwyd y dyrfa gan y Parchn. J. Lewis, Caerfyrddin; T. Gwynedd Roberts, Rhostryfan; D. Saunders, Abertawe; ac Evan Jones, Caernarfon+Mr. Roberts a Mr. Jones fel cynnrychiolwyr wedi eu penodi gan Gyfarfod Misol Arfon. Yr oedd y cyfarfod yn llïosog, yr anerchiadau yn rhagorol, ond y canu yn gymedrol. Y mae y golofn wedi ei gwneyd o wenithfaen coch Aberdeen, ac yn un droedfedd ar bymtheg o uchder, ac yn ymddangos yn golofn ardderchog fydd am oesoedd yn addurn i fedd Ieuan Gwyllt. Ar yr ochr nesaf at y llwybr y mae y canlynol wedi ei gerfio a'i oreuro,

ER COF AM

Y PARCH . JOHN ROBERTS

(IEUAN GWYLLT),

YR HWN A FU FARW MAI 14, 1877,

YN 54 MLWYDD OED.

"Y gelyn diweddaf a ddinystrir yw yr angeu."—1 Cor. xv. 25.

"A chanu y maent gân Moses a chân yr Oen."—Dad. xv. 5.


This monument was erected by his affectionate Widow.

PENNOD IV.

EI LAFUR, FEL CERDDOR, LLENOR, A GWEINIDOG YR EFENGYL.

WRTH edrych dros ei hanes, gwelir fod y pum' mlynedd ar hugain olaf (o 1852—77) wedi bod yn dymmor o lafurio ar ran y cyhoedd—dyma'r dydd gwaith. Ac er nad ydoedd ond dydd byr mewn cymhariaeth, eto llafuriodd yn ddyfal a diflino ar hyd yr amser hwn, ac y mae yn debyg nad oes odid i neb wedi cael dychymyg clir am fawredd swm y gwaith a gyflawnwyd ganddo, heb son am ragoroldeb ei natur. Yn y bennod hon yr ydym yn bwriadu rhoddi golwg mor gryno ag y gallwn ar y llafur hwn, ynghyd a rhyw sylwadau ar ei natur. Manteisiol i hyn fydd edrych arno yn ei lafur fel CERDDOR, fel LLENOR, ac fel GWEINIDOG YR EFENGYL.

I. FEL CERDDOR. Wrth edrych ar ei lafur yn hyn, yr ydym yn cael dechreu gyda'r

1. Blodau Cerdd; cyhoeddiad misol cerddorol, gan John Roberts (Ieuan Gwyllt). 1852.

Dyma ei gyntafanedig a "dechreuad ei gryfder." Fel y sylwyd, yr oedd ychydig o dônau wedi eu hargraffu, ar ffurf pamphlets bychain wythplyg, yn Aberystwyth yn flaenorol, ond diammeu nad oedd hyny ond galw am ychwaneg o'r un peth. Yr oedd y dosbarthiadau cerddorol oedd wedi eu codi yma a thraw yn y cymydogaethau yn dangos fod eisieu rhyw gyfrwng i'w diwallu â cherddoriaeth, ac hefyd i fod yn llawlyfr i astudiaeth yn y gelfyddyd. Felly yr oedd yn amlwg y buasai rhywbeth i'r cyfeiriad hwn yn ddymunol, ond er hyny anturiaeth led bwysig oedd cyhoeddi llyfr felly; ond nid oedd efe yn amddifad o gryn dipyn o ffydd yn ei gynllun, yr hyn sydd yn elfen bwysig mewn llwyddiant. Ni chyhoeddwyd ond saith rhifyn—y tri neu'r pedwar cyntaf wedi eu hargraffu gan D. Jenkins, Heol Fawr, Aberystwyth, a'r gweddill yn Llanidloes yn argraffwasg J. Mendus Jones. Ni a ddyfynwn y rhagymadrodd yn gyflawn i ddangos amcan y llyfr, ac hefyd i ddangos fel y mae y cerddor ieuanc yn wynebu ar y "cyhoedd," am y tro cyntaf ar ei gyfrifoldeb ei hun. "Blodau Cerdd. At ieuenctyd yr Ysgol Sabbothol. Serchus Gyfeillion,—Mae yn llawen iawn genyf gael cyfarfod â chwi ar faes hyfryd CERDDORIAETH; ac, er mai casglu 'Blodau' yw ein gwaith, hyderwn y bydd y rhai hyny y fath ag y bydd eu harddwch, eu perarogl, a'u tynerwch yn tueddu i feithrin ynom hoffder at yr hyn sydd wir brydferth, i buro ein chwaeth, fel y byddo llygredigaethau ein gwlad yn rhy ffiaidd genym eu harfer, ac yn effeithio ar ein serchiadau nes eu gwneyd yn rhy dyner i lid na chenfigen nythu o'u mewn, ac yn rhy wresog i ddim ond cariad a thangnefedd i anadlu yn eu hawyrgylch. Mae yn ddiau fod gan gerddoriaeth ryw ddirgel swyn dros y natur ddynol; a pha ryfedd? onid iaith y teimlad ydyw? a gwyddom yn dda, pan lefara y teimlad, fod effaith ryfeddol yn sicr o gael ei gynnyrchu. Mae cerddoriaeth, gannoedd o weithiau cyn hyn, wedi toddi holl serchiadau y galon ddynol, a'u bwrw yn un tryblith i'w mould ei hun, pa beth bynag a fyddai hyny. Ar brydiau, a llawer rhy aml, ysywaeth, cymerai feddiant o holl deimladau y milwr; toddai ac arllwysai hwynt yn ddylif tanllyd yn llonaid ei fynwes, nes ei hyrddio yn un eirias frwd i safn magnel ei elyn, ar faes y gwaed. O dduwies odidog! camddefnydd anfad arnat oedd hyn; a rhyfedd na buasit wedi cymeryd dy aden a chanu yn iach am byth i fro marwolion, am dy dreisio i gyflawni y fath erchylldra. Yr oeddwn y fynyd hon yn myned i wneuthur adduned i ti yn enw dynoliaeth, na chawsit byth ond hyny y fath sarhâd, hyd nes y teflais fy llygaid tua Chyfandir Ewrop; yno gwelaf, er fy ngalar, ei bod yn rhy gynnar eto. Drachefn, a welwch chwi yr adyn draw? hawdd darllen yn y fflamiau acw sydd yn ymlachio allan drwy ei lygaid, fod ei galon yn berwi gan ddigofaint yn erbyn un o'i gyd-ddynion; mae yn rhuo yn gyffelyb i grombil Vesuvius, gan fygwth ymdori yn ddylif o ymddial arno; ond dacw Gerddoriaeth yn dyfod ymlaen, a thrwy beiriannau cywrain y llais, neu dànau tyner y delyn, neu ryw offeryn arall, wele hi yn dyhidlo ei gwin neithdaraidd i'w fynwes losgedig, ac yn tywallt allan ei galon mewn ffrydiau grisialaidd o ddagrau. Lle a balla i ni fyned ymhellach ar hyd y maes hwn yn bresennol; fe allai y cawn hamdden yn ol llaw. Rhwydd hynt i chwi nes y cyfarfyddom eto ar yr 'Aelwyd.'—IEUAN GWYLLT."

Dyma keynote ardderchog i oes o lafur cerddorol, onidê? Nid yr egwyddorwas sydd yma yn "treio ei law" yn grynedig, ond y meistr yn ymaflyd yn ei waith, ac yn teimlo fod ganddo ddigon o adnoddau wrth gefn i'w gario drwyddo. Cynnwysai pob rhifyn ddwy ran—y letter—press a'r Gerddoriaeth—y letter—press, o ddau i bedwar tu dalen ymhob rhifyn, a gynnwysai "ymddyddan" ar egwyddorion cerddoriaeth, dan y teitl "Yr Aelwyd," ymha rai yr ymdrinir â'r "Erwydd, Yr Allweddau, Gwahanol Leisiau, Gorlinellau, Gwahanol Seiniau, Athroniaeth Sain, Gwersi ar Leisio, Ymarferion mewn Lleisio, Effaith gwahanol Seiniau, Cyweirnodau, ac Amser." Y mae yr ymdriniaeth ar y materion hyn yn ddyddorol, er hyny yn athronyddol ac eglur iawn. Un dernyn arall geir ynddo, sef cyfieithiad o Dr. Mainzer's Music and Education, ar ddylanwad cerddoriaeth. Yn y rhanau cerddorol ceir darnau anghyffredin o chwaethus cyfaddas i ieuenctyd yr Ysgol Sabbothol. Y mae yma rai tonau cynnulleidfäol ag yr ydym yn eu cyfarfod drachefn yn y Llyfr Tonau Cynnulleidfäol, ond gyda rhyw gymaint o gyfnewidiadau mewn rhai o honynt; megys Hungerford (Rhif 220), Jerusalem (Rhif 40), Llangeitho (Att. 9), Darwell (Beverley, 138), Pisga (Ardudwy, Y. 68; Awdwr, I. Gwyllt). Mae y rhan fwyaf wedi eu cynghaneddu neu eu cyfaddasu ganddo ef ei hun, a chawn. gynghaneddiad gwych o'r hen alaw "Codiad yr Hedydd," ar eiriau ar yr "Adgyfodiad." Y mae llawer o'r geiriau hefyd wedi eu cyfansoddi ganddo ef ei hun; megys Genedigaeth y Messiah, Marwolaeth y Messiah, Duw yn y cnawd, Y Nefoedd, cyfieithiad o Emyn Genadol Heber, Moliant Iesu. Ymhlith y darnau mwyaf swynol, gallem nodi Luconia, Franconia, y Nefoedd, a Moliant Iesu. Y mae y rhai hyn yn neillduol o hapus; ac nid rhyw bethau ephemeral ydynt, ond darnau llawn o sylwedd. Y mae y casgliad hwn yn dangos ôl llafur mawr a chwaeth uchel, a gallu cryf iawn i gyfaddasu a chynghaneddu. Ceir yma ddernyn mwy anhawdd, "Gwynfa," wedi ei gyfaddasu ar eiriau Cymreig gan I. Gwyllt, allan o'r Seasons gan Haydn; ac yn y rhifyn olaf a ymddangosodd, cawn ddernyn ar "Ddydd y Farn," o waith Mr. J. A Lloyd, a anrhegwyd i'r Blodau Cerdd gan yr awdwr. Fel hyn yr oedd y ddarpariaeth a geid ymhob rhifyn am geiniog a dimai, er nad yn fawr o ran swm, eto yn rhagorol iawn o ran ei natur, a rhoddwyd i'r llyfr dderbyniad croesawgar. Ond ar ol myned i Liverpool ysgrifenwyd y canlynol, yr hyn, ni a dybiem, a argraffwyd yn arbenig fel rhagymadrodd, gyda thitle page:—"At dderbynwyr 'Blodau Cerdd.' Garedigion Hynaws,—Yr wyf yn dra diolchgar i chwi am y gefnogaeth a roddasoch i'm Misolyn bychan. Yr oeddwn yn tybied y gallaswn fyned ymlaen ar ol symud i'r dref fawr, boblogaidd, fyglyd hon, a darparu sypyn bychan o 'flodau' i chwi bob mis; ond buan iawn y cefais, er fy siomedigaeth, fod hyny yn annichonadwy. Y mae y gorchwylion lliosog a phwysig sydd wedi disgyn ar fy ysgwyddau fel prif olygydd yr Amserau, yn gosod gorfodaeth chwerw arnaf i roddi Blodau Cerdd i fyny ar hyn o bryd. Ond os daw i mi eto ychydig seibiant oddiwrth drafferthion y swyddogaeth flin hon, gellwch benderfynu yr ymafaelaf yn y cyfleusdra cyntaf i ail gychwyn fy hoff waith gyda'r cyhoeddiad bychan hwnw. Hyd hyny yr ydym yn ysgwyd llaw ac yn canu yn iach â'n gilydd. Eich gwasanaethwr a'ch cyfaill cywir, IEUAN GWYLLT. Liverpool, Ion. 8fed, 1853." Ysgrifenwyd hyn ymhen tua mis ar ol symud i Liverpool. Ond os oedd yn brofedigaeth chwerw i'r golygydd roddi heibio ei "hoff waith," gallem dybied hefyd fod cryn hiraeth ar ol y Blodau Cerdd ymhlith ei dderbynwyr, ac y gofynid yn fynych ar ei ọl. Ac yn Awst 16, 1854, cawn fod yr Hysbysiad canlynol wedi ymddangos yn yr Amserau:—" Blodau Cerdd. Garedigion hoff,——Yn nghanol rhyw gnwd tew o ddrain a dyrysni a phob rhyw anialwch a ymblethasant o gylch gwraidd y 'Blodau' yn ystod y flwyddyn ddiweddaf, bu agos iddynt anadlu eu perarogl diweddaf, nid i awyr wag, ond i galonau eu miloedd derbynwyr. Ond er fod ein gorchwylion yn aml ac yn drymion, rhag i'n cyfeillion llïosog, y rhai sydd yn parhâu i lefain ar ein hol, ddyfod yn y diwedd a'n syfrdanu, yr ydym yn penderfynu myned rhagom, os caniateir i ni fywyd ac iechyd, i orphen y gwaith. Dechreuasom, mae yn wir, gyda y plant ar y ffon isaf oll o'r ysgol; ond yr ydym yn bwriadu dwyn allan cyn gorphen rywbeth ag a fydd yn werth ceiniog a dimai o leiaf i unrhyw gerddor Cymreig yn ei gyflawn oedran. Cyhoeddir yr 8fed Rhifyn ar y cyntaf o Hydref nesaf, pris 11c. I'w gael gan Mr. E. Edwards, Queen Street, Aberystwyth, a chan holl lyfrwerthwyr y Dywysogaeth.—Yr eiddoch yn serchus, IEUAN GWYLLT." Gallasem dybied, oddiwrth fod yr Hysbysiad yn ymddangos mor agos i'r amser y bwriedid dwyn y cyhoeddiad allan, fod pob trefniadau wedi eu cwbl orphen, a bod y rhifyn bron yn y wasg. Ond nid ymddengys iddo byth ddyfod allan, ac nis cawsom afael ar unrhyw reswm am hyny. Felly ar y seithfed rhifyn yr arosodd; ond y mae y rhai a'i derbynient y pryd hwnw yn meddwl yn uchel o hono hyd y dydd hwn, ac erys yn gofgolofn ragorol o lafur a diwydrwydd ei gasglydd, a'i awydd mawr am gyfranu addysg gerddorol bur ac uchel i'w gydwladwyr. Yn ffurf y Blodau Cerdd, ceir hedyn y syniad a ymddangosodd yn fwy addfed yn nghyhoeddiad y Cerddor Cymreig. Ond diammeu i'r cyntaf wneyd ei waith yn ganmoladwy, a chynnorthwyo i barotoi y ffordd i bethau mwy.

2. Darlith ar Gerddoriaeth.

Yr ydym yn crybwyll hon yn fwy helaeth yn y fan hon, am ei bod yn dyfod felly o ran amser, ac hefyd yr ymddengys ei bod wedi ei bwriadu i barotoi meddwl y wlad am ddiwygiad mewn cerddoriaeth, yn enwedig mewn cerddoriaeth gysegredig. Traddodwyd y ddarlith gyntaf, fel y gwelsom, tua dechreu 1854, yn nghapel Rose Place, Liverpool, a'r ail yr wythnos gyntaf yn Mawrth y flwyddyn hono. Nid ydym yn gallu cael allan a oedd wedi cyfansoddi un, dwy, neu ychwaneg o ddarlithiau ar y pwnc, ai ynte ei fod wedi meistroli y pwnc yn drwyadl, ac heb dynu allan ond rhyw sketch o lwybr iddo ei hun. Dygwyddasom, fodd bynag, daraw ar adroddiad lled gyflawn o'i chynnwys yn yr Amserau, fel y traddodwyd hi yn nghapel Hermon, Dowlais, a gwasanaetha i roddi syniad am dani; ac y mae dda genym roddi adroddiad hwn i mewn i fod "ar gof a chadw." Rhoddwn yn gyntaf yr Hysbysiad. "Dowlais. Traddodir darlith ar Gerddoriaeth yn nghapel Hermon, nos Fawrth, Awst 15fed, 1854, gan Mr. John Roberts (Ieuan Gwyllt), Golygydd yr Amserau. Cenir amryw donau eglurhäol yn ystod y ddarlith gan y Côr Dirwestol. Cymerir y gadair am hanner awr wedi saith o'r gloch, gan y Parch. D. Phillips, Maesteg. Tocynau,—Blaenseddau, swllt; Olseddau, chwe' cheiniog; i'w cael wrth y drysau. Nos Fawrth nesaf, cofier." Dyma yr adroddiad:— "Dowlais. Traddododd Mr. John Roberts (Ieuan Gwyllt) ddarlith ar Gerddoriaeth yn y lle hwn, nos Fawrth, wythnos i'r diweddaf. Y Parch. David Phillips, neu yn ol 'Cadwaladr' y 'General Phillips o'r Maesteg' yn y gadair.

'Nid llywio 'r gâd ofnadwy,
Ond hedd, heb na chledd na chlwy','

oedd ei orchwyl y noson hono. Cyflwynodd y darlithydd i'r gynnulleidfa lïosog, fel un yn meddu hyder y gwnai gyfiawnder â'r pwnc mewn llaw, ac yn hyn ni bu raid i ni oddef siomedigaeth. Gan fod yr ysgrifenydd wedi gorfod cymeryd ei genad o Ddowlais yn union wedi traddodiad y ddarlith, a'i fod yn ysgrifenu y nodiad hwn o honi yn y Palas Grisial, Sydenham Park, lle y mae pob mawredd ac ardderchogrwydd i foddhâu y llygaid, a phob melus seiniau i swyno y glust, fe allai y maddeuir iddo am roddi adroddiad byrach o honi nag a fuasai yn debyg o wneyd pe yn ei unigedd arferol gartref. Dechreuodd y darlithydd siarad am gerddoriaeth fel boneddiges deg, fel na feiddiai neb ond hurtyn neu ynte un o wŷr y gyfraith ofyn ei hoedran iddi; ond er fod ieuenctyd fel boreuddydd ar ei hael, a phob ystum yn arddangos hoywder, dywedodd fod lle cryf i gredu ei bod mewn tipyn o oedran serch hyny. Nad oedd ei hoed wedi lleihâu un gradd ar ei dylanwad, ond fod iaith y Bardd mor briodol yn awr a'r pryd hwnw,

'When Music, heavenly maid, was young,
While yet in early Greece she sung
The passions oft to hear her skill
Thronged around her magic cell.'

Y dyfyniad (deffiniad?) a roddodd o Gerddoriaeth oedd 'iaith y teimlad.' Geiriau oedd iaith y deall, ond corff ac enaid iaith y galon oedd sain. Dangosodd fod dyryswch dirfawr wedi dygwydd i iaith y pen, ond fod iaith y galon. mor effeithiol yn awr ag erioed. Wedi sylwi cryn amser fel hyn, daeth i sylwi ar Gerddoriaeth fel celfyddyd, a Cherddoriaeth fel rhan o'r addoliad Dwyfol. Annogai ieuenctyd i ymarfer â cherddoriaeth fel celfyddyd; gan y credai, er mai nid ei gwaith uniongyrchol hi oedd crefyddoli dynion, ei bod yn eu dwyn i sefyllfa fanteisiol i grefydd. Rhanodd gerddoriaeth gelfyddydol i ddau ddosbarth; hyny yw, dosbarth y mawr, a dosbarth y bychan. Sylwodd, er fod graddau i'w gweled yn fwy amlwg mewn arluniaeth nag mewn cerddoriaeth, eto eu bod mor wirioneddol yn yr olaf ag yn y flaenaf. Yn hono ceid golwg gyflawn ar y grisiau, o'r creadur dirmygedig sydd yn dwbio lliwiau i ddenu ynfydion i'r dafarn, hyd y bardd-arlunydd sydd yn sefyll yn ogoneddus ar ben y rhes. Yr oedd y cerddor medrus yn gallu dosbarthu cyfansoddiadau cerddorol fel yr oedd yr arlunydd yn medru rhestru arluniau. Brenin y gerddoriaeth gelfyddydol oedd Handel, a bai mawr cyfansoddwyr celfyddydol Cymru a Lloegr yn yr oes hon, oedd diffyg unoliaeth, yn yr hyn yr oedd Handel yn rhagori cymaint. Wedi i'r Côr Dirwestol ganu yr Hallelujah Chorus fel engraifft o gerddoriaeth gelfyddydol o'r dosbarth uchaf, aeth y darlithydd ymlaen i sylwi ar gerddoriaeth y cysegr. Ymgymerodd â'r gorchwyl o ddangos y berthynas sydd rhwng y celfau breiniol â chrefydd. Ystyriwn y rhan hon o'r ddarlith yn wir alluog. Carem pe b'ai holl ieuenctyd y Dywysogaeth yn clywed y sylwadau a wnaed ar y cysylltiad a ddylai hanfodi rhwng celfyddyd a chrefydd Mab Duw. Canwyd amryw donau syml er dangos pa fath, yn ol ei farn ef, a ddylai caniadaeth y cysegr fod. Heb ymostwng i wenieithio mewn un modd, dywedwn na chlywsom ni erioed gymaint o gyfiawnder yn cael ei wneyd â phennillion nefolaidd yr hen Williams, Pantycelyn, a'r tro hwn. Yr oedd y gerddoriaeth y tro hwn, fel y dylai fod bob amser, yn egluro syniadau y bardd, fel yr oedd un pennill yn ein suo i ryw berlewyg sanctaidd, tra yr oedd un arall yn gwefreiddio ein holl enaid, gan osod holl gylch naturiaeth yn fflam. Beïai yr arferiad o gyfyngu y ganiadaeth i ryw dwr dewisol ac etholedig. Mynai y dylai yr holl gynnulleidfa ymuno i foli Duw, ac felly y dylid arferyd tonau ag y gellid dysgwyl i'r gynnulleidfa eu dysgu. Hefyd, gwasgai y priodoldeb o arferyd tonau syml, diaddurn, a rhydd oddiwrth bob rhodres a chelfyddyd. Camp celfyddyd oedd cuddio ei hun, ac nid oedd ganddo ef un gwrthwynebiad i gelfyddyd yn ngwasanaeth y cysegr, ond nid mor bell ag i hudo y canwr i hanner addoli y gelf, yn lle bod yn channel i arllwys ei foliant i Dduw. Yr oedd y tonau a ganwyd o wahanol gyfnodau. Rhoddai barch mawr i donau y Diwygiad Protestanaidd, a dywedai mai hwy oedd y cynllun goreu ellid gael. Fel engreifftiau o'r Anthem, cyfeiriai yr efrydydd at weithiau Farrant ac eraill, a gyfansoddasant tua thri chan' mlynedd yn ol. Cafodd cyfansoddwyr diweddar y Saeson, megys Jarman, White a T. Clark driniaeth arw iawn ganddo. Mynai fod y rhai hyn wedi darostwng yn fawr yr alwedigaeth sanctaidd. Canwyd darnau o'u gwaith hwy ac eraill fel engreifftiau o gerddoriaeth wael, yr hyn a wnai y gwych i ymddangos yn ddeng gwell, a'r gwael ddeng waith gwaelach, o herwydd y cyferbyniad. Ni ddylai ieuenctyd Cymru fod yn llonydd heb gael gan Mr. Roberts gyhoeddi ei ddarlith mewn rhyw ffurf. Diau y gwna rhai llefydd sicrhâu ei wasanaeth ef yn bersonol, ond gwnai ei hymddangosiad mewn argraff gyrhaedd corff y genedl. Pe llwyddid yn hyn, y mae genym hyder y rhoddid cyfeiriad newydd i dalent y wlad, ac y chwelid anghydfod mewn llawer man.—W. M."[53] Byddai yn ei ddarlith weithiau hefyd yn trin ar y pwnc, pa fath Hymnau oedd yn briodol i'r cysegr:—

"Carai ef yn fawr gael Llyfr Emynau newydd. Nid oes genym un yn deilwng o'r enw. Fe allai y gallai pob enwad crefyddol yn Nghymru ddangos rhyw ddau neu dri o lyfrau hymnau ; ond anturiwn ddyweyd nad oedd un o honynt yn deilwng o'r enw, nid oedd gan un enwad le i daflu careg at y llall yn y mater hwn . Yr oedd pob un o'r llyfrau yma yn ormod o faint, ac yn cynnwys lluoedd o hymnau anaddas i'w canu mewn addoliad. Yn ol ei farn ef, buasai llyfr hymnau gwerth swllt yn ddigon mawr i gynnwys detholiad digon eang i'w harferyd mewn addoliad."[54] Bu yn traddodi darlith ar Gerddoriaeth fel hyn yma a thraw am flynyddau, a phan yn gwneyd teithiau cerddorol tua 1862 a 1863 mewn ambell i fan, rhoddid cyfle iddo wneyd hyny. A diammeu fod y ddarlith, neu y darlithiau hyn, wedi gwneyd eu rhan tuag at godi chwaeth y wlad, ac yn wir, agor llygaid y bobl i weled fod dau ddosbarth yn bod, a bod tonau syml a phriodol at wasanaeth cysegr Duw yn gyrhaeddadwy. Yn Chwefror, 1864, cawn hysbysiad fel y canlyn ar ddalenau y Cerddor Cymreig: " Aberth Moliant ; sef Traethawd ar Gerddoriaeth y Cysegr. Gan Ieuan Gwyllt. Bydd y gweithiau hyn yn y wasg yn ddioed. Pob Gohebiaethau, Archebion, &c., i'w hanfon fel hyn:—Rev. John Roberts (Ieuan Gwyllt), Merthyr Tydvil." Tybiwn mai cynnwys y darlithiau oedd yn gynnwysedig yn y Traethawd hwn, ond nis gwyddom a wnaeth byth ei ymddangosiad; os darfu, methasom gael gafael arno. Yr oedd y syniadau ar y pwnc hwn yn ffrwyth astudiaeth fanwl a thrwyadl am lawer o flynyddoedd, ac yn ddiammeu yn dadlenu yn gywir egwyddorion mawr a hanfodol caniadaeth grefyddol. Tybiwn hefyd ei fod yn cadw mewn golwg, nid un enwad, er ei fod ef yn adnabod y Methodistiaid yn well nag un enwad arall, ond yr oedd ei lygad ar y genedl yn gyffredinol, a'i awydd am ddyrchafu moliant y Goruchaf ymhlith pob enwad fel eu gilydd.

3. Llyfr Tonau Cynnulleidfäol. Gan Ieuan Gwyllt. Wrexham: R. Hughes and Son.

Y mae y rhagymadrodd i'r llyfr wedi ei ddyddio "Aberdâr, Ebrill 30ain, 1859." Dygwyd argraffiad allan yn y Tonic Sol-ffa, ac y mae y rhagymadrodd hwnw wedi ei ddyddio "Merthyr Tydfil, Ebrill 1863." Cyhoeddwyd hefyd Ychwanegiad, ac y mae y rhagymadrodd iddo wedi ei ddyddio "Fron, Ion. laf, 1870." Argraffwyd yr argraffiad neu ddau gyntaf yn Llundain gan Haddon & Co., ond y mae pob argraffiad ar ol hyny wedi ei ddwyn allan gan Hughes a'i Fab, Gwrecsam. Daeth allan hefyd argraffiad mewn score i'r harmonium neu yr organ, dyddiedig "Fron, Caernarfon, Ebrill 1876," yn yr hwn y mae trefn y tonau wedi eu newid; hyny yw, y Llyfr, yr Attodiad, a'r Ychwanegiad wedi eu hûno yn un llyfr. Cafodd y Llyfr Tonau hwn dderbyniad croesawgar, a chylchrediad helaethach nag un llyfr o'r fath a gyhoeddwyd erioed o'i flaen, nac un ychwaith, hyd yma, sydd wedi dyfod ar ei ol. Profa hyny, dybygem, ei fod wedi ymddangos mewn adeg yr oedd anghen am dano, a'i fod i raddau helaeth yn cyfateb i'r anghen hwnw. Y mae yn debyg mai hwn a ystyriai Mr. Roberts ei hun yn brif waith ei oes, o herwydd ystyriai berffeithio moliant cysegr Duw yn uwch amcan nag un arall. Ymddengys nad oedd nemawr o drefn ar ganiadaeth grefyddol yn Nghymru hyd ddygiad allan Psalmydd Edmund Prys tua'r flwyddyn 1620, yr hwn a gynnwysai nifer o donau syml, o ba rai y ceir esiamplau yn y Llyfr Tonau: Glasynys, Y. 26; a'r hen dôn ardderchog St. Mary, Rhif 92. Ar ol hyn nid oes genym nemawr o hanes cerddoriaeth grefyddol yn Nghymru am dros ganrif. Bu cyhoeddiad emynau Williams, Pantycelyn, yn ddechreuad cyfnod newydd hollol mewn caniadaeth yn Nghymru, yn gystal ag yn gynnorthwy i wneyd y Diwygiad Methodistaidd yn fwy grymus a pharhäol. Yr oedd Williams, yn wir, yn cyfansoddi ei emynau o bwrpas i'w canu; ac yr ydym yn gweled ei fod wrth eu hargraffu nid yn unig yn rhoddi nodwedd yr emyn, megys Galarus, Gorfoleddus, &c., ond hefyd yn nodi tôn briodol i'w chanu ar bob emyn. Yr oedd Mrs. Williams hefyd yn gantores dda, ac weithiau byddai yn myned gyda Williams ar ei daith, ac yn canu cryn lawer gydag ef yn y manau y llettŷent. Cawn fod y tonau a nodir uwch ben yr emynau wedi eu cymeryd gan mwyaf o gasgliad Rippon; ac wrth droi atynt yn y casgliad hwnw, yr ydym yn cael, mae yn debyg, y tonau ar ba rai y byddai Williams ei hun a'i wraig yn eu canu, ac y dysgid y bobl i'w canu. O hyny allan yr oedd y canu yn rhan bwysig o wasanaeth crefydd, ond nid oedd y tonau oll o nodwedd ragorol; a dygwyd ar ol hyny lifeiriant mawr o'r tonau oedd mewn bri ar y pryd ymhlith y Saeson—y tonau ysgafn, dienaid, a diathrylith a fuont yn gymaint o anmhariaeth i ganiadaeth grefyddol. Oddiar y cof a'r glust yn benaf y cenid hwy, ac nid oedd gwybodaeth o egwyddorion cerddoriaeth ond prin iawn yn y wlad; yn wir, nid yw yn ymddangos fod gan y Cymro uniaith y pryd hwnw ddim manteision i ddysgu. Y cyntaf, mae'n ymddangos, a anturiodd i'r maes hwn oedd Owen Williams o'r Tŷhir, Sir Fon, yr hwn a gyhoeddodd lyfr yn cynnwys cyfieithiad o draethawd Charles Dibdin, a Rheolau Cerddoriaeth Eglwysig; a chyhoeddodd ddau lyfr tonau—y cyntaf dan y teitl Cenaniah, y tonau wedi eu trefnu i ddau lais, yn 1816, a'r Brenhinol Ganiadau Sion yn 1817, yn cynnwys cryn lawer o donau Cymreig, yn gystal a rhai eraill. Ceir esiamplau. o'r rhai Cymreig yn yr Ychwanegiad: Capel Cynon, Y. 20; Môn, Y. 18; Llannor, 73; Llanrhaiadr, 73a; Trefdraeth, 74; ac Edeyrn, 77. Yn nesaf cawn gyhoeddiad y Seraph gan Ieuan Glan Geirionydd, a thua'r un adeg cyhoeddodd W. Owen, Drefnewydd, y Caniedydd Crefyddol; a'r flwyddyn hono y cyhoeddodd y Parch. J. Mills ei Ramadeg Cerddoriaeth. Yn 1840 ymddangosodd y Caniadau Sion gan Mr. Richard Mills, ac yr oedd yntau ei hun yn myned cryn lawer o amgylch i ddysgu cerddoriaeth a thonau cynnulleidfäol. Yr oedd hyn yn ddiwygiad mawr ar yr hyn a fu, a daeth gwybodaeth elfenol o egwyddorion cerddoriaeth yn llawer mwy cyffredin. Yn 1843 cyhoeddodd Mr. J. Ambrose Lloyd lyfr tonau, ac wedi hyny y Parch. J. Mills y Cerddor Eglwysig, yr hwn ar amryw ystyriaethau, fe ddichon, oedd yn welliant ar Ganiadau Sion, er na ddaeth i gymaint o fri nac i arferiad mor gyffredinol. Cyhoeddwyd hefyd amryw gasgliadau eraill, ond nad oedd ynddynt ddim neillduol yn dangos mynediad ymlaen.[55] Yn awr teimlai Mr. Roberts, tra yr oedd yr ymdrechion blaenorol wedi gwneyd lles er diwygio caniadaeth grefyddol, ac ymddangosiad rhai o honynt wedi nodi cyfnodau arbenig yn nghynnydd y gangen hon o wasanaeth y cysegr, fod eto bellach le i fyned ymlaen, ac eisieu casgliad rhagorach o gryn lawer nag oedd eisoes ar y maes. Yr oedd y cynnydd oedd wedi cymeryd lle mewn egwyddorion ac ymarferiad o gerddoriaeth gorawl yn gystal a chynnulleidfäol, wedi creu anghen am gyfnod newydd yn hyn; ac yr oedd llafur y rhai oedd wedi bod eisoes yn gweithio, yn gystal a'i ymdrechion ef ei hun yn y Blodau Cerdd, ei ddarlith, a'i feirniadaethau galluog, wedi parotoi y ffordd ato. Hwyrach y gellid gofyn, Beth oedd y prif ddiffygion oedd erbyn hyn yn y casgliadau blaenorol? Sylwasom o'r blaen fod dosbarth o donau gwylltion, gwaelion, a dienaid wedi cael lle mawr yn ein gwlad, ac wedi llygru caniadaeth grefyddol; ac yr ydoedd eto heb ymburo digon oddiwrth hyny. Ychydig, mewn cymhariaeth, a geid o donau gwir dda a sylweddol. Yr oedd cryn nifer o donau cyffredin mewn arferiad, heb nemawr o amrywiaeth ynddynt, na nemawr o feddwl yn eu cyfansoddiad; y cwbl a ellid ddyweyd am danynt oedd eu bod yn rhwydd i'w canu. Ac yr oedd hefyd ddosbarth yn aros o rai tlodaidd a disylwedd, nad oedd dim ynddynt ond tuedd i gynhyrfu tipyn ar y traed, a rhyw wylltineb oedd fel math o stimulant yn cynhyrfu dychymyg afiachus. Ac yr oedd cynghaneddiad y tonau rywbeth yn debyg i'r tonau eu hunain. Bid sicr, yr oedd yn well o gryn dipyn na'r pethau anfedrus a gwallus oedd wedi bod unwaith mewn arferiad, eto yr oedd ymhell o gyrhaedd safon uchel. Nid oedd yn glir oddiwrth gynnwys llawer o wallau; a bai cymaint, a hyny oedd nad oedd meddwl yn cael ond ychydig o le yn y lleisiau. Mewn gair, wedi cael alaw, y pwnc oedd cael lleisiau arno fyddent yn canu yn rhwydd, ac yn seinio yn lled beraidd—nid fod y lleisiau yn gweithio allan y meddylddrych oedd yn yr alaw, ac yn ei gryfhâu. Cawn esiampl deg o hyn yn adolygiad Ieuan Gwyllt ar y Cerddor Eglwysig.[56] Tra y rhoddir i'r llyfr ganmoliaeth uchel, eto dywedir fod brychau pwysig yn ei anurddo. Yr oedd mydryddiaeth amryw o hen donau yn wallus, megys Abernant yn cael ei rhoddi yn yr amser triphlyg yn lle yr amser cyffredin; hefyd rhoddid y merched i ganu y cyfalaw (Tenore); ac wrth sylwi ar y cynghaneddiad, y mae yn dyweyd fod yn rhaid gadael mympwy a myned at y gyfraith; a cheid yn y dôn Priscilla 5au dilynol gymaint a phedair ar ddeg o weithiau! Buasai yn anghredadwy bron yn y dyddiau hyn i dybied fod yn bosibl i gerddorion mor enwog yn eu dydd syrthio i'r fath amryfuseddau. Dengys hyn, fodd bynag, nad oedd y cerddorion hyn, er mor uchel, wedi astudio cerddoriaeth yn drwyadl. Yr oeddynt, yn ddiammeu, lawer uwchlaw eu hoes, ac felly yn gallu bod yn foddion i wneyd dirfawr les; ond nid oedd fodd i'w gwaith barhâu, o herwydd nad oedd wedi ei sylfaenu ar yr egwyddorion dyfnaf.[57] A dyma lle yr oedd cuddiad cryfder Ieuan Gwyllt,—yr oedd ynddo enaid cerddorol ac athronyddol, a thrwy lafur ac ymroddiad digymhar yr oedd wedi meistroli ei hegwyddorion yn llwyr; o ganlyniad, nis gallai lai na theimlo y diffygion oedd yn bod, a theimlo awydd cryf i'w wneyd i fyny; a ffrwyth ei lafur yw y Llyfr Tonau. Dadleuai efe fod tôn gynnulleidfäol i gynnwys rhywbeth llawer uwch na nodau wedi eu gosod gyda'u gilydd fel y gellid eu canu yn lled rwydd. Yr oedd yr alaw i fod, tra yn syml (simple, nid simpil, fel y clywsom ef yn dyweyd ar ei ddarlith), eto yn llawn o feddwl; a'r lleisiau eraill drachefn yn dwyn yr un ddelw (fel y gwahanol liwiau yn y darlun yn gwneyd i fyny un meddylddrych), fel ag i fod yn gyfrwng trosglwyddiad syniadau a theimladau uchaf ysbryd dyn mewn addoliad ger bron Duw. Ac felly yn ddiammeu y dylai fod. Y mae i ni dad yn y cnawd sydd wedi canu cryn lawer o donau crefyddol yn ei ddydd, ac er na fedrai egwyddorion cerddoriaeth, eto yr oedd ganddo ddull o'r eiddo ei hun i farnu tôn. Dywedai fod rhyw naws (gair yn tarddu, o bosibl, o'r gair Groeg νους—nous) grefyddol―rhywbeth oedd yn helpu i'r dyn addoli wrth ei chanu; tra yr oedd tôn wael yn amddifad o'r rhywbeth hwnw. Y naws hwn ydyw enaid a hanfod tôn gynnulleidfäol; a phan y byddo'r lleisiau yn cyfranogi o'r un naws, byddant yn foddion i ddyfnhâu y teimlad. Dywedai gweinidog amser yn ol nad aeth neb erioed i hwyl addoli wrth ganu bass. Lle na byddo y lleisiau ond wedi eu gosod i lawr er mwyn cynghanedd, y mae hyny yn lled anhawdd; ond pan y byddont yn cyfranogi o'r naws hwn, y mae yn bosibl addoli gyda hwynt yn gystal ag wrth ganu yr alaw. Ac mewn canlyniad teimlai Ieuan Gwyllt fod yn rhaid i'r dôn fod yn rhydd oddiwrth bob peth a dynai oddiwrth y naws hwn, megys y lleisiau yn ateb i'w gilydd, ac ailadroddiadau o'r geiriau ar ganol y meddwl. Diammeu ei fod wedi cymeryd safon uchel a chywir wrth ba un i farnu tonau, a'i fod wedi cael gafael ar yr egwyddorion oedd i lywodraethu ffurf y wisg, o'r hyn y mae y dôn yn gynnwysedig.

Bellach rhaid i ni ddyfod at y Llyfr. Y mae y Rhaglith, mae yn debyg, yn un o'r darnau mwyaf galluog ar ganiadaeth grefyddol a ymddangosodd erioed yn yr iaith Gymraeg. Sylwa, er fod ymdrechion lawer wedi cael eu gwneyd i ddiwygio ein caniadaeth grefyddol, ei fod eto yn parhâu yn ddiffygiol iawn; ac olrheinia y diffyg hwn i'w brif ffynnonell, sef diffyg ystyriaeth ar ran yr eglwysi, ac yn enwedig gweinidogion a swyddogion tŷ Dduw, o "bwysigrwydd a lle y rhan odidog hon o wasanaeth yr Arglwydd; a dengys y lle uchel a ddylai fod i ganiadaeth y cysegr, a'r budd a ddeilliai o'i gael yn ei le priodol. Rhydd eglurhâd ar ei amcan yn y Casgliad, sef cael casgliad o'r tonau goreu a fedd y byd, a'r rhwystrau a'i cyfarfyddodd yn y gwaith; anhawsder y gwaith o gynghaneddu tonau yn briodol, a'r meusydd y bu yn lloffa ynddynt. Wedi egluro trefn y llyfr, rhydd awgrymiadau pwysig i 1. Ein Gweinidogion a'n Pregethwyr. 2. Ein Diaconiaid Eglwysig. 3. Ein Blaenoriaid Canu. 4. Corff y Gynnulleidfa. Gallem feddwl mai un o'r pethau mwyaf effeithiol i godi dynion i synied yn deilwng am fawl cysegr Duw fuasai darllen ac astudio yn ofalus y Rhaglith hon. Y mae darllen y Mynegai mesurawl yn ein taro ar unwaith ei fod yn dangos ôl llafur dirfawr yn ei barotöad, ac ymdrech egnïol i roddi i'r darllenydd wybodaeth gyflawn am darddiad ac amseriad pob tôn. Y mae wedi eu rhanu yn dri dosbarth, yn ol y corfanau; sef y corfan talgrwn neu ddyrchafedig (Iambic), y corfan Rywiog neu ddisgynedig (Trochaic), a'r corfan crych—ddisgynedig (Anapæstic); a dechreua ymhob un o'r dosbarthiadau hyn gyda'r pennillion sydd yn cynnwys y llinellau hwyaf, gan ddisgyn oddiyno hyd y byraf. Y mae y rhaniad hwn yn meddu rhyw synwyr ac athroniaeth, ac nid taflu pethau ar draws eu gilydd heb ystyr; ac ar bob mesur dechreua gyda'r tonau yn y cywair mwyaf, gan ddiweddu gyda'r rhai yn y cywair lleiaf. Yn y golofn gyntaf ceir rhif y dôn, yn yr ail ei henw, y drydedd ei chywair (mwyaf neu leiaf), yn y bedwaredd ei nodwedd—colofn a ddylai gael astudiaeth fanwl oddiar law pob dechreuwr canu yn enwedig; yna yr awdwr, mor bell ag y medrodd gael allan; ac yn olaf y cynghaneddwr, o'r rhai y mae y rhan fwyaf wedi eu haddrefnu, neu eu ffurfio o gwbl yn newydd, gan y Casglydd. Rhydd y daflen hon fantais i ni weled y ffynnonellau o ba rai y gwnaeth y casgliad. Ac wrth gymharu y bummed golofn yn yr argraffiad diweddaf (1876) â'r cyntaf (1859), yr ydym yn gweled fod cryn gyfnewidiad wedi bod arni, sydd yn dangos ymchwiliad helaeth i olrhain y tonau i'w tarddiad cyntaf; ac y mae yn debyg na wnaed un casgliad Cymreig erioed lle y ceir gwybodaeth mor drwyadl ar y mater hwn ag sydd i'w gael yma. Dengys dwy neu dair o esiamplau ei lafur yn hyn. Yn 1859 rhoddir Machynlleth a Warsaw fel alawon Seisonig, ond yn 1876 yr oedd wedi cael allan mai An. oedd yr awdwr. Yn 1859 ceir Lancaster fel alaw Seisonig, ond erbyn 1876 yr oedd wedi deall mai alaw Ellmynig ydoedd. Priodolir Matthias i Luther yn 1859, ond erbyn 1876 y mae wedi olrhain ymhellach, a chael mai hen alaw ydoedd, hynach na Luther. Yr oedd wedi cael allan erbyn 1876 awdwyr amryw o'r hen donau Cymreig; ac am yr hen dôn St. Mary, a godwyd yn 1859 o Playford (1671), erbyn 1876 yr oedd wedi cael o hyd iddi yn Psalmydd Edmund Prys (1620), yr hyn a roddai le cryf dros ddyweyd mai hen dôn Gymreig ydoedd; ac ychydig cyn ei farwolaeth ymddangosodd llythyr o'i eiddo yn y Musical Times yn dadleu mai hen dôn Gymreig ydoedd. Cynnwysa y llyfr oll 323 o donau (heb gyfrif y rhai sydd i lawr ddwywaith), ac o'r rhai hyn y mae o donau tramor (y mwyafrif yn Ellmynaidd), 142; o donau Seisonig, Ysgotaidd, ac Americanaidd, 61; o hen donau Cymreig, 76; o waith awduron Cymreig diweddar, 23 (o ba rai y mae 11 o waith Mr. J. A. Lloyd); ac o waith Ieuan Gwyllt ei hun, 21. Y mae corff mawr y tonau felly o blith y tonau a genid yn y Diwygiad Protestanaidd yn yr Almaen, yn Geneva, yn Ysgotland, a Lloegr. Yma yr oedd y casglydd yn cael y tonau oedd yn dyfod i fyny â'i syniad uchel ef fel yn cynnwys "symlrwydd, eangder, meddylddrych, urddas, a chrefyddoldeb neu ddefosiwn." Yr wrthddadl benaf, fe ddichon, yn erbyn hyn ydyw ei fod yn cynnwys gormod o'r elfen Allmaenaidd, ac nas gall hyny ymaflyd yn nghalon y Cymry, ac felly fod y canu yn myned yn sych a difywyd. Fe ddichon i'r casglydd ei hun deimlo ei fod, yn y llyfr fel yr oedd ar y cyntaf, wedi esgeuluso gormod ar yr elfen Gymreig, oblegid yn yr Ychwanegiad y mae wedi dwyn i mewn gryn lawer yn ychwaneg o honynt. Ar yr un pryd, tra yn addef yn rhwydd. fod yr hen donau Cymreig yn dḍa, ac na fynem eu colli, eto byddai cyfyngu yn gwbl i'r rhai hyn yn ffolineb o'r mwyaf. Yr un yw crefydd ymhob gwlad, ac y mae ei theimladau yn lled gyffelyb ymhob dyn o ba genedl bynag y byddo; ac y mae yr amrywiaeth sydd yn y casgliad hwn yn nodedig o fanteisiol i gyfarfod âg amrywiaeth y teimladau hyny. Ac y mae yn ddiddadl ei fod y casgliad mwyaf cyflawn o'r tonan goreu a fedd yr eglwys drwy y byd a ymddangosodd erioed yn Nghymru, ac hwyrach mewn un wlad arall. Mae y cynghaneddiad arnynt oll yn glasurol, yn gryf, a mawreddog — hwyrach i raddau yn lled stiff, ac yn gofyn tipyn o ymdrech i'w feistroli; ond er hyny y mae yn dda—yn nodedig felly. Y mae cynghaneddiad rhai o'r hen donau Cymreig yn neillduol o hapus. Mae rhai beirniaid yn gallu canfod gwallau wrth gwrs (a'r un modd y gallent yn y cyfansoddwyr goreu); ond nid gwallau o ddiofalwch ac amryfusedd ydynt, ond wedi eu defnyddio i gyrhaedd amcan neillduol, ac nis gall nemawr ddim fod yn well astudiaeth i gyfansoddwyr na chynghaneddiad y llyfr hwn, a'r defnydd a wneir o'r "troseddau." Ceir esiampl dda o'r defnydd o 5au dilynol ar y sill acenol yn y dôn St. Bride, rhif 124, a'r un peth ar y sill ddiacen yn y dôn Llantrisant, rhif 154. Gyda golwg ar yr Alawon Cymreig, cwynir gan rai ei fod wedi talfyru a thorfynyglu gormod arnynt, pan y mae wedi gadael allan ailadroddiadau a llithreni, a'i fod yn fynych wedi newid tonau. Yn y mater olaf hwn, yr oedd yn ddiddadl wedi gwneyd pob ymdrech i gael gafael arnynt yn y ffurf fwyaf gwreiddiol; am y lleill, mater o chwaeth ydoedd, yr ydoedd yn rhaid newid ychydig arnynt i ddyfod i fyny â'i safon ef, neu eu gadael allan, yr hyn ni fuasai yn ddymunol, ac nid ydym eto wedi gweled neb wedi dyrchafu gymaint yn uwch nag ef mewn chwaeth, fel ag i fod yn uwch awdurdod. Fel rheol, fel arall y mae y rhai mwyaf gwybodus, a mwyaf pur eu chwaeth, yw y rhai parotaf i edmygu yr hyn a wnaeth efe. Y mae hyn yn ddiddadl, fod y rhan fwyaf, os nad yr oll o'r Alawon Cymreig a geir yma, i'w cael mewn llawer ardderchocach diwyg, ac mewn agwedd fwy mawreddog, nag eu gwelwyd erioed o'r blaen. Am ei donau ef ei hun, y mae rhai o honynt yn hynod o dda, ac wedi cael derbyniad croesawgar, ac y mae eraill o honynt ag y mae eu gogoniant heb gael ei weled eto. Nid yw ei alawon ef ei hun, mwy na'i gynghaneddion, yn cynnwys llawer o naturioldeb; yn hyn, fe ddichon, y mae eu prif ddiffyg, ond er hyny y maent yn gryfion a mawreddog, ac yn llawn o feddwl a theimlad. Y mae Moab ar emyn doddedig Ieuan Glan Geirionydd yn engraifft o lwyddiant cyflawn a pherffaith, lle yr oedd llawer wedi methu. Nid oes odid yn yr holl lyfr un dôn fwy llawn ac ardderchog na Liverpool. Mae Aberafon yn esiampl deg a hollol lwyddiannus o'r swynol a'r prydferth. Ac fel yr oedd efe yn ofalus gyda phob manylion, yr oedd ei ddewisiad o enwau ei donau, naill ai yn dal cysylltiad â'i fywyd ef ei hun, neu âg amgylchiadau y pennillion mwyaf neillduol arnynt. Yn y rhai cyntaf cawn Penllwyn, Melindwr, Rheidiol, Aberystwyth, Liverpool, Mount St., Everton, Tydfil, Padarn, ac fe allai Aberhonddu. Yn yr ail ddosbarth cawn Ymostyngiad, Esther, Dolwar, a Moab. I'r meddylgar y mae hyn yn awgrymiadol. Yn ddiweddar, yr oedd gweinidog lled ieuanc yn cadw society yn ei eglwys, a phryd nad oedd dim llawer neillduol gan neb, dechreuodd eu holi beth oedd yr emyn a ganwyd ar ddechreu y cyfarfod—atebwyd ef mai "Anturiaf ato yn hyderus, &c." Yna dechreuodd holi, pwy gyfansoddodd yr Emyn? A. Griffiths. Pwy oedd hono? Emynyddes ardderchog yn Sir Drefaldwyn yn y ganrif o'r blaen. Pa dôn a ganwyd ar yr Emyn? Esther. Paham y galwyd y dôn yn Esther? Am fod cyfeiriad yn y geiriau at Esther yn myned at Ahasferus. A oes rhyw neillduolrwydd yn perthyn i Esther ragor tonau yn gyffredin? Oes, y mae wedi ei chyfaddasu at bennillion A. Griffiths, y rhai ydynt yn fynych sill yn ormod. A oes tôn arall yn y llyfr felly? Oes, Dolwar. Paham y galwyd hi felly? Oddiwrth enw cartref awdures yr Emyn. Ac felly ymlaen, cafwyd society nodedig o flasus, trwy ddechreu yn y ffordd yma, a myned at ystyr y pennillion, society ag y bu son am dani am wythnosau. Yr oedd y casgliad pan y daeth allan gyntaf yn cael ei gydnabod yn fuan fel y goreu, ac y mae yn aros hyd yn hyn heb gymhar iddo. Mae ynddo rai tonau, mae yn wir, lled anhawdd, ac wedi eu bwriadu i gynnulleidfäoedd lled ddiwylliedig, fel y dengys nodiad yn y rhaglith; ac y mae hyn yn ei wneyd yn fwnglawdd cyfoethog, y gall pob cynnulleidfa yn Nghymru gael digon o le i ymgyfoethogi drwyddo. Yn wir, y diffyg mawr ydyw, diffyg gwneyd defnydd priodol o hono, a threiddio i mewn i enaid ei gynnwys; y mae ein cynnulleidfaoedd yn ymfoddloni ar ryw nifer fechan fechan o honynt, a'r rhai hyny yn cael eu canu mewn dull marwaidd a difywyd nes sychu i fyny eu hysbryd. "Marwaidd" a ddywedasom, ïe, llawer mwy araf a marwaidd nag y dychymygodd y Casglydd am iddynt gael eu canu; ac yr ydym wedi sylw ar un ffaith nodedig sydd yn dangos can lleied o sylw sydd yn cael ei dalu i'r llyfr heblaw edrych yn unig ar y nodau. Y mae y Casglydd wedi cymeryd tri amser, sef y modd arafaf 2, y modd cyflymaf, a'r amser triphlyg, ac yn ddiddadl yr oedd yn bwriadu hyn i ddangos mewn modd cyffredinol gyflymder y tonau. Yn lle hyny, cenir Verona, Dusseldorf, Dismission, &c., mewn modd cyflym iawn; tonau bendigedig pe cenid hwynt yn araf a mawreddog. O'r tu arall, cenir Meirionydd, St. John, Talybont, ac yn enwedig yr hen Dorcas, yn araf a llusgedig, tra y maent wedi eu rhoddi i lawr yn y modd cyflymaf, ac felly yn ddiammeu y dylent fod. Nid ydym yn gwybod am ddim o fewn y llyfr, yn dangos mor drwyadl yr oedd y Casglydd wedi astudio ansawdd y tonau, a'r dull goreu i'w canu, na'r rhaniad hwn o ran yr amser, ac nid ydym yn gwybod am ddim sydd mor amlwg ac eto mor hollol guddiedig oddiwrth gantorion ein gwlad. Y mae y casgliad gwir ardderchog hwn, nid yn unig yn gofgolofn oesawl o lafur dirfawr y Casglydd ymroddgar, ond hefyd yn drysorfa genedlaethol, yn waith sydd, eisoes, ac am ei fod yn seiliedig ar egwyddorion uchaf cerddoriaeth, yn debyg o aros yn hir yn safon i farnu tonau cynnulleidfäol wrtho. Ceir yma donau ar bob mesur y mae dim o werth wedi ei gyfansoddi arno, ac y mae nifer y tonau yn cyfateb yn lled agos i nifer yr emynau o werth sydd arnynt yn yr iaith. Gwaith mawr oes y Casglydd oedd ei wneyd, ac nid oes o fewn ei ddalenau, nodyn nac arwydd, na gair, nad yw yn dangos ôl myfyrdod ac ymchwiliad manwl. Costiodd lawer iddo ef, ond wedi ei gael y mae wedi dyfod yn eiddo y genedl, yn llyfr y gallwn heb betrusder ymffrostio ynddo, a'i osod ochr yn ochr âg unrhyw gasgliad gan unrhyw genedl dan y nefoedd. Nid pawb sydd yn gallu anrhegu eu gwlad a'u cenedl â gwaith fel hyn, ond gallodd y llafurus Ieuan Gwyllt wneyd hyny.

4. Y Cerddor Cymreig: Cylchgrawn misol at wasanaeth Cerddoriaeth ymysg cenedl y Cymry. Cyhoeddedig dan nawdd prif Gerddorion, Corau, ac Undebau Cerddorol y genedl. Dan olygiad y Parch. John Roberts (Ieuan Gwyllt). Y gyfrol gyntaf a'r ail—o Mawrth, 1861, hyd Rhagfyr, 1864,—46 o rifynau. Merthyr Tydfil: Cyhoeddwyd gan J. Roberts. Argraffwyd gan I. Clarke, Rhuthyn. Cuf. III—XI., 18651873. Rhif 47—154, Gwrecsam: Argraffedig a Chyhoeddedig gan Hughes a'i Fab.

Cerddor y Tonic Sol-ffa: Cylchgrawn misol, at wasanaeth dosbarthiadau y Tonic Sol-ffa. Dan olygiad y Parch. J. Roberts (Ieuan Gwyllt). Cyf. I—VI., 72 o rifynau, 1869—1874. Wrexham, Argraffedig a Chyhoeddedig gan Hughes & Son.

Gwelsom fod y syniad am gyhoeddiad misol cerddorol yn Gymraeg wedi ei gychwyn yn rhagorol, ond ar raddeg fechan, yn y Blodau Cerdd, a hwnw mae yn debyg oedd yr ymdrech cyntaf erioed o'r fath a wnaed yn Nghymru. Wedi gorfod rhoddi hwnw i fyny ar ol myned i Liverpool, ac er dysgwyl am gyfle i'w ail gychwyn, ni ddaeth yr adeg gyfleus hyd fis Mawrth, 1861, pryd y cychwynwyd un ar ffurf helaethach yn y Cerddor Cymreig. Cyhoeddwyd y ddwy gyfrol gyntaf (4 blynedd), fel y gwelir, gan Ieuan Gwyllt ei hun yn Merthyr Tydfil, ac argreffid ef gan I. Clarke, Rhuthyn. Ond yr oedd hyn yn gryn anfantais. Nid yn unig y mae y drafferth i gyhoeddwr private yn anferth, ond hefyd, nis gall fod mor lwyddiannus am nad ydyw yn llinell gyffredin masnach. Oddieithr y buasai digon o waith i gyhoeddwr yn Nghymru heb wneyd dim arall, y mae yn well i'r cyhoeddwr a'r argraffydd yn y cyffredin fod yr un. Ond lled anhawdd, yn fynych, yw taraw ar argraffydd digon anturiaethus, a digon o ysbryd masnach i wthio peth fel hyn ymlaen. Ac mewn amgylchiad fel un y Cerddor, yr oedd y cylch yn fwy cyfyngedig, oblegid yr argreffid cerddoriaeth ynddo, ac nid pob un allasai wneyd hyny, yn enwedig yn ddestlus. Yr oedd y ddwy gyfrol gyntaf, fodd bynag, yn eithaf credit i wasg I. Clarke. Er hyny, ffortunus oedd y symudiad i Wrexham, oblegid yr oedd swyddfa Mri. Hughes a'i Fab yn meddu cysylltiadau ëang trwy Gymru oll, ac yn dwyn ymlaen fasnach led helaeth â bron bob cymydogaeth ynddi, fel nad oedd neb mewn cystal mantais i wneyd iddo dalu. Diammeu hefyd fod cychwyn yn y cyfeiriad cerddorol wedi bod o fantais hefyd i'r swyddfa ei hun, oblegid ymagorodd i ddyfod yn raddol yn fasnach ëang. Ond yr oedd y Cerddor Cymreig yn costio llafur dirfawr i'r Golygydd, oblegid cawn ef yn Mehefin, 1861, yn tystio ei fod yn ysgrifenu y cwbl o'r Cerddor ei hun.[58] Ac yr oedd ei gynnwys yn wirioneddol werthfawr.[59] "Os darllenir rhifynau y tair blynedd cyntaf—enwid y tair blynedd cyntaf am eu bod yn well na rhifynau y bedwaredd a'r bummed flwyddyn, nid oblegid unrhyw balldod ar ran Mr. Roberts ei hun, ond o herwydd y diffyg cefnogaeth a roddid iddo gan y genedl ynglŷn â pharotoi defnyddiau uchelryw cyffelyb i'r rhai a nodweddai y tair blynedd cyntaf—rhaid addef eu bod o ran eu teilyngdod a'u gwerthfawredd yn deilwng o gael eu cymharu âg unrhyw ysgrifau ar gerddoriaeth a gyhoeddwyd erioed yn yr iaith Saesoneg. Yn wir, nid oedd y pryd hyny yr un cyhoeddiad misol yn yr iaith hono yn cynnwys sylwadau mor werthfawr ar gerddoriaeth yn gyffredinol ag a geid yn y Cerddor Cymreig. Ni wyddai ef (Mr. Saunders) am ddim byd ond y Musical Times, ac nid oedd y cyhoeddiad hwnw yn deilwng o gael ei gymharu â rhifynau y Cerddor Cymreig am y tair blynedd cyntaf o'i fodolaeth. Cwbl gredai ef ddarfod i'r nodiadau cerddorol a ysgrifenodd y diweddar Mr. Roberts fod yn foddion i godi safon ein cerddorion yn Nghymru. Os nad oedd efe yn camsynied, yr oedd o'i amgylch y diwrnod hwnw lawer o blant ac ŵyrion i'r diweddar Ieuan Gwyllt, ac nid oedd yn eu plith yr un cerddor na chyfaddefai mai Mr. Roberts fu yn foddion i ddwyn Cymru i'w safle gerddorol bresennol. Cychwynodd y Cerddor Cymreig, a pharhaodd i'w gyhoeddi am wyth mlynedd,[60] gan wario llawer o bunnoedd am ei gyhoeddi, trwy nad oedd y cylchrediad yn ddigon i gyfarfod y draul. Ysgrifenodd agos i'r oll o'r rhifynau ei hun, ac ni chafodd y nesaf peth i ddim am y llafur mawr a gyflawnodd yn yr ystyr yma." Rhydd cipolwg ar gynnwys cyfrolau y Cerddor ryw syniad i ni am ei werth. Cawn dair erthygl i ddechreu ar hanes cerddoriaeth, ac wyth eraill ar Gerddoriaeth Hebreaidd; ond nid yw y rhai hyn ond cychwyn y pwnc, er hyny nid aethpwyd ymhellach. Ar gynghanedd y mae yma 19 o erthyglau gwir feistrolgar, yn myned i mewn at athroniaeth ac egwyddorion y pwnc. Ar gyfansoddiant 4 erthygl, y Trawsgyweiriadau 10, ar Fynegiant 5, Caniadaeth Grefyddol 5, a Chaniadaeth Gyffredinol 5; ac y mae y rhai hyn yn ffrwyth astudiaeth fanwl a thrwyadl. Y flwyddyn gyntaf, ysgrifenodd Mr. Eleazar Roberts, Liverpool, 12 o erthyglau ar y Tonic Sol-ffa, y rhai a gyhoeddwyd wedi hyny dan y teitl Llawlyfr Caniadaeth, ac nid ymddangosodd dim eglurhâd gwell ar y gyfundrefn yn yr iaith Saesoneg. Ceir 3 erthygl ar Egwyddorion Cerddoriaeth, a 15 eraill fel Llawlyfr i Gerddoriaeth yn rhagorol iawn, a 12 o rai yn ymdrin ar Y Côr a'i Ddysgyblaeth. Un o'r pethau gwerthfawrocaf a mwyaf trylwyr ynddo ydoedd y 46 erthyglau "Geiriadur y Cerddor," sydd yn cyrhaedd o'r dechreu hyd y nawfed gyfrol, ond nid yw wedi myned ymhellach ymlaen ar y wyddor na'r gair "Caneuon." Mewn Bywgraffyddiaeth ceir 66 o erthyglau, o ba rai y cawn nodiadau helaeth ar Mozart a Handel, a chrybwylliadau byrion am liaws o rai eraill. Ac heblaw hyn ceir golwg gryno a chyflawn ar holl brif symudiadau cerddorol yr adeg, yn cynnwys adolygiad ar Eisteddfodau, Cylchwyliau Cerddorol, hanes Cymanfäoedd Cerddorol Gwent a Morganwg, Eryri ac Ardudwy, Llythyrau Arthur Llwyd, hanes Teithiau Cerddorol y Golygydd, ynghyd a'i nodiadau gwerthfawr ynddynt, llythyrau o Lundain, a chronicl o ddygwyddiadau cerddorol bob mis. Ymddangosai Beirniadaethau lawer iawn ynddo, ac yr oedd ei feirniadaethau ef yn llawn o addysg. Dyddorol ac addysgiadol iawn ydyw darllen "Ystafell yr Hen Alawon," a llawer o oleuni a gafwyd ynddi ar gwestiynau o darddiad ac awduriaeth alawon. Ond hwyrach mai y prif gymhellydd i lafur oedd "Bwrdd y Golygydd," a "Chongl yr Efrydydd Ieuanc," lle y rhoddai y Golygydd atebion i gwestiynau—cyfarwyddiadau a chynghorion—tasg i'r cyfansoddwyr ieuainc, ac adolygiad ar eu cynnyrchion. Yn hon deuai i'r golwg ei allu neillduol ef i adnabod teilyngdod cyfansoddwyr ieuainc, i'w calonogi a'u cyfarwyddo, nes tyfu o honynt yn raddol i gymeryd eu lle fel cyfansoddwyr o alluoedd. Teimlai pob un ei fod yn ei gael ef yn gyfaill iddo, ac yn gyfarwyddwr, a thad, ac nid oes wybod nifer ei "blant" yn yr ystyr yma, y rhai a adnabyddai bob un yn dda, ac yr ennynai ynddynt yr awydd cryfaf am ragori. Gallem enwi heddyw, rai y gwelwyd eu henwau yn cychwyn gyda'r nodiadau "Bwrdd y Golygydd," ac yn ennill mwyfwy o gymeradwyaeth, nes y gwelid eu cynnyrchion yn dechreu cael eu cyhoeddi ar ddalenau y Cerddor, ac sydd i'w henwi erbyn hyn ymhlith prif gyfansoddwyr Cymru. Dyma, fe ddichon, ei ragoriaeth penaf ef fel Golygydd, gallu i fagu a meithrin yr ieuainc. Ceid hefyd yn yr adolygiadau ar lyfrau, feirniadaeth deg, gonest, a diduedd, a hollol chwaethus ar y llyfrau a gyhoeddid o bryd i bryd. Ac os dymunid cael crynhoad byr, ond cyflawn a rhagorol, o hanes cerddoriaeth a'r prif ddygwyddiadau yn y byd cerddorol, bob blwyddyn y bu y Cerddor fyw, ceir ef yn y Rhagymadrodd digymhar, a wneid ar ddiwedd pob blwyddyn i'w roddi ar ddechreu pob cyfrol. Fel hyn, pa ddefnyddiau rhagorach a ellid ddyfeisio? Mae yn wir fod y tair blynedd cyntaf yn rhagori, fel y dywedai Mr. Saunders, a'i fod yn y blynyddoedd diweddaf yn trin mwy ar symudiadau cerddorol y dydd; er hyny, erbyn cael yr un gyfrol ar ddeg hyn at eu gilydd (10 cyfrol ond 13 mlynedd, y mae 2 flynedd bob un yn y ddwy gyfrol gyntaf), y maent yn cynnwys crynodeb o wybodaeth gerddorol sydd yn anmhrisiadwy. Os oes diffyg i'w deimlo, dyma ydyw, fod y medi wedi dechreu mewn gormod o feusydd mor ëang, ac nad oes yr un o honynt wedi ei orphen. Ond rhydd hyn agoriad llygad i'r efrydydd ar bob un o honynt; daw i feddu rhyw syniad am ëangder diderfyn cerddoriaeth, a chyfyd awydd ynddo i wybod mwy. Ac y mae yn debyg fod y diffyg hwn yn anocheladwy mewn cylchgrawn o'r maint, ac yn dyfod allan yn fisol. Ond am ei werth, dyma dystiolaeth un o'i ohebwyr yn 1866, pan sonid am ei helaethu a chodi ei bris er cael mwy o le. "Yn wir, pe costiai 6c. y mis, gwyddom y byddai raid i lawer o gerddorion ieuainc ei gael. Y mae amryw bethau yn peri hyny. Yn un peth, y mae yn rhoddi mwy o eglurhâd ar bynciau tywyllaf cerddoriaeth nag un llyfr arall y gwyddom am dano mewn un o'r ddwy iaith. Hefyd y mae yn rhatach o lawer na dim a fedd y Saeson, ac felly yn llawer hawddach i blant gweithwyr ei gyrhaeddyd. Os cymer yr ychwanegiad le, bydd wedi hyny le i wers bob mis yn y Llawlyfr; ac felly, gallwn ddysgwyl cael eglurhâd ein hathraw ar y penau sydd eisoes wedi eu nodi, sef Melodedd, Cynghanedd, Cyfosodiant (Counterpoint), Ffurfiau Celfyddydol, Cerddoriaeth Leisiol ac Offerynol. Mae yr ieuenctyd am fyned ymlaen, ar ol unwaith gael gafael; ac nid oes achos i neb o honynt gywilyddio os hwn yw yr unig lyfr ar elfenau cerddoriaeth ag sydd yn eu meddiant; oblegid y mae yn cynnwys mwy o wybodaeth am gerddoriaeth a'i hegwyddorion nag a geir mewn un llyfr arall cyffelyb iddo. Yr ydym am dalu pob parch dyladwy i bawb; ond tua'r A B C y buasai llawer llanc o Gymro hyd y dydd hwn, oni buasai i'r Cerddor ei dywys yn ei flaen."[61] Rhoddid dernyn o gerddoriaeth hefyd ymhob rhifyn, oedd ynddo ei hun yn fwy o werth na phris y Cerddor, ac nad allesid ei gael yn un man arall am y pris hwnw. Cymerasom ychydig drafferth i gyfrif y darnau yn y Cerddor Cymreig, a chawsom yn yr Hen Nodiant 43 o ddarnau clasurol o waith rhai o'r prif gyfansoddwyr, o ba rai y mae y geiriau ar 27 wedi eu trefnu gan y Golygydd—64 o ddarnau o waith awdwyr Cymreig—14 o Anthemau Cymreig—6 o Alawon, gan mwyaf yn Gymreig, a 4 Tôn Gynnulleidfäol. Heblaw hyn, y mae yn y Tonic Sol-ffa 19 o ddarnau clasurol (12 a'r geiriau gan y Gol.)—10 o waith awduron Cymreig, a 15 o Alawon,—oll ond un wedi eu trefnu gan y Golygydd, a geiriau amryw o honynt o'i waith ef. Dyma felly 185 o ddarnau cerddorol, a thua 100 o honynt o waith awdwyr Cymreig diweddar. Ymhlith y darnau clasurol, y mae nifer mawr o esiamplau o weithiau prif gerddorion y byd. O'r awdwyr Cymreig diweddar, cawn enwau O. Alaw, J. A. Lloyd, Cyndeyrn, Gwilym Gwent, Eos Llechid, E. Stephen, Tydfylyn, Eos Rhondda, a Brinley Richards,oeddynt fwy neu lai yn adnabyddus fel cerddorion o'r blaen; a D. Jones, D. Lewis, Ylltyr Eryri, J. Thomas, Blaenanerch, Alaw Ddu, Joseph Parry, Orwig Wyllt, R. Stephen, Isalaw, D. Emlyn Evans, W. H. Owen (mab O. Alaw), R. Mills, Wrexham, a J. Henry Roberts, oll, os nad ydym yn camgymeryd, a ddygwyd i sylw Cymru drwy y Cerddor Cymreig am y tro cyntaf. Y gwirionedd yw, nid gormod, ni a dybiem, yw dyweyd fod y Cerddor wedi creu dosbarth newydd o gyfansoddwyr a beirniaid cerddorol, y rhai y gall Cymru fod yn falch o honynt. A'r un modd y gellir dyweyd am y cyfansoddiadau; yr oedd y chwaeth uchel a phur oedd yn rhedeg drwyddynt oll yn foddion i greu cyfnod newydd yn nghaniadaeth Cymru. Trwy ddwyn cyfansoddiadau o'r natur yma mor gyfleus a chyrhaeddadwy i gorau ein gwlad, yn raddol fe ymlidiwyd ymaith y sothach oedd yn cael eu harfer yn flaenorol, ac fe roddodd corau Cymru gamrau breision ymlaen mewn ychydig amser, ac fe ddyrchafwyd eu chwaeth mor drwyadl, fel pe dygwyddai i unrhyw gôr yn awr ganu darnau gwaelion a diwerth, yr elai yn destun gwawd a syndod gan yr holl wlad. Os bu y Llyfr Tonau Cynnulleidfäol yn foddion i greu cynhyrfiad mewn caniadaeth grefydd ol drwy Gymru oll, nid llai grymus fu y cynhyrfiad a roddodd ymddangosiad y Cerddor Cymreig mewn caniadaeth gyffredinol. Yr oedd hwn mewn rhyw ystyr yn ddyfnach, oblegid yr oedd yn gyffelyb i fel pe buasai cyfnewidiad yn cymeryd lle yn nghyfundrefn addysg y wlad, yr hwn fuasai yn effeithio ar holl gangenau gwybodaeth. Felly ceir Ieuan Gwyllt yma, yn ei ëangder, megys yn cyffwrdd ei law â gwahanol gangenau cerddoriaeth, a thrwy allu anorchfygol ei enaid nerthol, yn peri i holl wersyll cerddoriaeth Gymreig deimlo grym ei ddylanwad.

Nis gellir rhoddi yr un safle i Gerddor y Tonic Sol-ffa â'r Cerddor Cymreig. Wedi i'r Golygydd ddyfod i adnabod y gyfundrefn hono, efe a roddodd ei holl ddylanwad o'i phlaid, a chredai ynddi fel y moddion mwyaf effeithiol i ddysgu elfenau cerddoriaeth, yn enwedig i blant. Buan y teimlodd fod yn rhaid rhoddi lle i'r gyfundrefn hon yn y Cerddor, ond yr oedd yn anhawdd iawn, gan fod y terfynau mor gyfyng. Ceisiodd am rai blynyddoedd wneyd y goreu ellid, ond o'r diwedd anturiwyd cyhoeddi Cerddor i'r Tonic Sol-ffa ar ei ben ei hun. Ac yma eto y mae dylanwad anghyffredin y dyn a'r cerddor yn dyfod i'r golwg. Os mai Mr. E. Roberts, Liverpool, gafodd roddi y cychwyn i'r symudiad Tonic Solffa—yddol yn Nghymru, a bod y symudiad i ryw raddau yn gylymedig wrth y swyddfa yn Llundain, eto buasai wedi newynu oni buasai i Ieuan Gwyllt daenu ei aden drosto, a darparu ymborth iddo. Ymledodd y symudiad gyda chyflymdra anghyffredin tua'r blynyddoedd 1861—66, ac yr oedd yn anghenrheidiol cael cerddoriaeth i'r genedl newydd" oedd yn cael eu geni i'w chanu; ac yr oedd o bwys mawr o ba nodwedd y byddai y gerddoriaeth hono. Ceid arwyddion fod rhyw ddosbarth heb fod o'r chwaeth uchaf yn barod i ddyfod i'r maes; ond o drugaredd Rhagluniaeth, trwy gyfrwng y Cerddor Cymreig, cafodd Ieuan Gwyllt dywys y symudiad at y da, a'r pur, a'r chwaethus, fel na chafodd y dosbarth arall le i roddi troed i lawr. Fel yr oedd y symudiad yn ymledu a chryfhâu, daeth yn anghenrheidiol iddo gael cyfrwng cymundeb, a dyna yn benaf a gawn Cerddor y Tonic Sol-ffa, ond y mae yn y blynyddoedd olaf yn ymddyrchafu i ddechreu gafael yn yr egwyddorion. Mae y darnau cerddorol a ymddangosent ynddo hefyd yn fwy syml—yn gyfaddas i alluoedd y dosbarthiadau, a'r amrywiaeth oedd ynddynt. Ond yn hyn yr oedd y Golygydd mewn anhawsder, fel y clywsom ef yn tystio. Gwaherddid ef gan yr "awdurdodau" i gyhoeddi yn y Cerddor yn Gymraeg ddim oedd wedi ymddangos eisoes yn y Tonic Solfa Reporter, ac yr oedd erbyn hyny swm anferth o gerddoriaeth, a'r gerddoriaeth y buasai un yn fwyaf tueddol o droi ati, eisoes wedi ymddangos yn hwnw. Cafodd faes lled newydd, fodd bynag, mewn cerddoriaeth Americanaidd, ac yr oedd nifer o gyfansoddwyr ieuainc Cymreig yn dechreu cynnyddu i allu cyfansoddi darnau at wasanaeth y dosbarthiadau; ac o'r ddau ddosbarth yma, gan mwyaf, y mae cerddoriaeth y Cerddor wedi ei gyfansoddi. Ymysg y cyfansoddwyr ieuainc a ddygir i'r golwg, cawn enwau D. Jenkins, H. Davies, Garth, O. Owens, E. Cynffig Davies, Treforfab, Alaw Llyfnwy, Alaw Afan, a lliaws eraill, y rhai ydynt blant Cerddor y Tonic Sol-ffa. Ac yr oedd y golofn "At ein Gohebwyr," a "Chongl y Cyfansoddwyr leuainc," yn cael eu dwyn ymlaen yn fuddiol yn y Cerddor yma. Yn y darnau Americanaidd ceir rhanau syml, o waith Phillip Phillips ac eraill cyffelyb, yn fynych wedi eu cynghaneddu gan y Golygydd; a cheir pedwar dernyn bychan lled syml ond prydferth, gyda'r geiriau, ar gerddoriaeth o'i waith ef ei hun, sef "Iesu sy'n teyrnasu,' a'r "Gwynfydau," "Ar ben mae'r dydd," a "Paham ai myfi fydd y cyntaf?" Erbyn y blynyddoedd olaf o'r Cerddor hwn, yr oedd y llafur gyda'r dosbarthiadau Tonic Sol-ffa wedi myned heibio i raddau helaeth. Yn niwedd 1873 ysgrifena y Golygydd yn ei ragymadrodd, "Yn plethu dwylaw ynghyd ac yn hepian, gallem dybied, y mae Cymru wedi bod yn ystod y flwyddyn. Hyny ydyw, mewn cymhariaeth." Canlyniad naturiol hyn oedd i gylchrediad Cerddor y Tonic Sol-ffa ddarfod, ac iddo farw. Ond nid cyn ei fod wedi cael rhoddi nerth a symbyliad i symudiad a wnaeth gantorion Cymru nid yn unig yn lleiswyr ond yn ddarllenwyr, fel nad oes odid neb yn awr yn anturio cyhoeddi na chân na chanig heb ofalu am ei chael yn y Tonic Sol-ffa mewn rhyw ffurf neu gilydd; ac o'r ddau, haws yw gwneyd heb yr Hen Nodiant nag heb y Tonic Sol-ffa. Ofnwn mai ychydig o lafur gydag egwyddorion sydd yn awr, ond y plant yn dysgu darllen y naill oddiwrth y llall; a diammeu fod eisieu rhyw ysgogiad newydd i ddysgu elfenau y wybodaeth hon. Da iawn, ar yr un pryd, fu cael y Cerddor yn ei ddydd, ac yr oedd purdeb ei chwaeth yn cynnyrchu chwaeth gyffelyb yn yr ieuenctyd; ac nis gellir prisio gwerth hynyma. A daeth llafur y Golygydd mewn cyfieithu a chyfansoddi barddoniaeth ganadwy i'r golwg yn fwy nag erioed, ac ar y cyfan gallwn ddyweyd fod y darnau yn y Cerddor wedi eu trefnu a'u cyfieithu yn dda ragorol. Y mae yma faes toreithiog i'w roi yn nwylaw ein plant a'n pobl ieuainc; a gallwn deimlo yn ddedwydd wrth wneyd hyny fod pob nodyn a llinell ynddo o duedd i'w dyrchafu a'u gwellhâu.

5. Swn y Juwbili: neu Ganiadau y Diwygiad, gan y Parch. John Roberts (Ieuan Gwyllt). Wrexham: Cyhoeddedig gan Hughes and Son.

Sylwasom o'r blaen fod Mr. Roberts wedi bod yn llafurio cryn dipyn yn y maes Americanaidd yn Ngherddor y Tonic Sol—ffa, ond yr oedd y rhai hyny wedi eu darparu yn benaf i ddosbarthiadau y Tonic Sol-ffa. Bu ei ddyfodiad i gyffyrddiad â Mri. Moody a Sankey, a'r cynhyrfiad grymus oedd yn cydfyned â'u gweinidogaeth hwy, a'r cydymdeimlad oedd yn Nghymru a'r diwygiad, yn foddion i danio ei ysbryd ef ei hun, ac i godi ynddo awydd am gyfranu rhywbeth i gynnorthwyo y symudiad hwn i gael argraff ar genedl y Cymry. Gyda chaniatâd Mr. Sankey, ymgymerodd â dwyn y tonau a genid ganddo mewn gwisg Gymreig. Daeth y rhan gyntaf allan yn lled fuan, 32pp., 3 ceiniog, ond cymerodd y rhanau eraill fwy o amser; ac erbyn Rhagfyr 15, 1876, yr oedd y chwe' rhan yn barod i ddyfod allan yn gyflawn, i gael eu cyhoeddi gyda'u gilydd. Yn ei ragymadrodd dywed, "Nid oes neb a deimla yn fwy na mi oddiwrth y diffygion lawer a ganfyddir yn y tu dalenau canlynol; ac eto y mae genyf le i gredu fod Duw wedi rhoddi ei fendith ar fy llafur hwn, er mor anmherffaith ydyw. Mae yn dda genyf weled arwyddion fod lle a natur y caniadau hyn yn cael eu deall yn well nag yr oeddynt. Yn lle bod y plant—a neb ond y plant—yn eu rantio gyda chyflymder afresymol, heb ddim geiriau ond sillau y Sol-ffa, y mae llaws y cynnulleidfäoedd bellach, mewn llawer o leoedd yn eu dysgu, ac yn eu canu gydag ystyriaeth a theimlad." Dengys y rhan gyntaf yn enwedig gryn dipyn o ôl brys, ac yn herwydd hyny anystwythder yn nghyfaddasiad y geiriau at y Gerddoriaeth. Dysgwylid llawer am gael "Iesu o Nazareth,"—ond nid hapus fu y cyfieithiad; yn wir, nid ydym eto wedi gweled un llwyddiannus gan neb. Ond er fod ychydig, mewn cymhariaeth, o esiamplau o fethiant, yn y rhan fwyaf o lawer y mae wedi bod yn llwyddiannus iawn. Y mae y gyntaf yn y llyfr, "Daliwch Afael," yn nodedig o hapus; ac mewn llawer iawn o honynt y mae wedi gallu ymwthio i'r dôn a'r geiriau, nes y teimlir fod rhyw eneiniad prydferth arnynt yn y Gymraeg, yn llawn cymaint a'r Saesoneg; er esiampl, "Cofia Fi," "Y Meichiau," "Mae'r Iesu'n galw'n awr," "Fe ddarpar yr Iôr," &c.; pe nodem yr oll, elem dros ben pob terfynau. Yr oedd y cyfieithydd ei hun wedi ei lenwi yn hynod o ysbryd y diwygiad, a'i galon yn llosgi ynddo, ac y mae yr ysbryd hwnw i'w weled a'i deimlo yn y llyfr hwn. Mae yn ddiammeu fod Mr. Roberts yn gweled yn yr Emynau hyn rywbeth yn cyfarfod â gwedd ar yr efengyl, ac ar brofiadau dynion yn ei gwyneb, nad oedd i'w gael yn hollol yn yr Hymnau Cymreig, ac y teimlai fod anghen am dano. Ond ni chyrhaeddodd yr amcan. Fel y crybwylla ef ei hun, cymerwyd hwynt fel caneuon i blant i'w rantio heb ystyriaeth, ac er fod rhai cynnulleidfäoedd yma ac acw wedi ceisio ymaflyd ynddynt o ddifrif, eto i raddau bychan iawn y gwnaed hyny, ac ni chafodd corff ein cynnulleidfäoedd ddim gafael gwirioneddol ar eu hysbryd Dichon nad oedd y diwygiad wedi gafael yn ddigon dwfn yn ein gwlad, ac yr oedd eisieu hefyd ryw Sankey, neu ddynion o gyffelyb allu ac ysbryd, i arwain ein cynnulleidfäoedd i'w trysorau. Hyd yn hyn y maent yn gorwedd yn glöedig, ond dichon fod "adgyfodiad gwell" i ddyfod iddynt yn y dyfodol, ac y bydd ein cenedl yn cael llwyr feddiannu y gymunrodd olaf hon o eiddo. Ieuan Gwyllt iddynt. Neu fe ddichon y cyfyd rhywun arall, i allu gweithio ar y wythen hon mewn ffordd arall, fel ag i allu cyrhaedd calon ac ysbryd crefyddol y genedl yn fwy llwyr drwyddi. Ond yn ddiddadl y mae yma gyfoeth i'w gael—ac y mae yn gorwedd yn y llyfr hwn drysorau o'r fath werthfawrocaf, ag yr oedd efe ei hun wedi cael meddiant o'u hysbryd, ond sydd hyd yn hyn yn guddiedig oddiwrth ein cynnulleidfäoedd.

6. Pa fodd i sylwi ar Gynghanedd, gydag ymarferion mewn Dadansoddiadau. Wedi eu hysgrifenu o'r newydd gan John Curwen (Pencerdd Dyrwent). Cyfieithiwyd i'r Gymraeg gan John Roberts (Ieuan Gwyllt). London: Tonic Solfa Agency, 8 Warwick Lane, E. C. Pris 2 swllt.

Ymarferion Cyfosodiad mewn Cyfansoddiant Cerddorol Elfenol, gan John Curwen. Cyfieithiwyd gan John Roberts (Ieuan Gwyllt). London: Tonic Solfa Agency. Rhan A., pris 6ch. Rhan B., pris swllt. Hwyrach mai yr ail ydoedd y cyntaf o ran amser, oblegid cawn nodiad yn Ngherddor y Tonic Sol-ffa am Medi 1871, fod y gwaith ar gael ei orphen, tra yr oedd y cyntaf yn cael ei gyfieithu tua'r un amser ag yr ydoedd Mr. E. Roberts, Liverpool, yn cyfieithu Y Gyfres Safonol, dyddiad Rhagymadrodd pa un ydyw Ebrill 1875. Er mwyn egluro amcan yr ail, ni a ddyfynwn o'r nodiad hwnw y canlyn. "Yr enw a roddir gan Mr. Curwen ar y gwaith yn gyflawn yn Saesoneg ydyw—The Common-Places of Music. Y mae yn cynnwys amryw Ranau, y rhai a ddynodir fel hyn: A, Traethodyn ar Seinyddiaeth Gerddorol (heb ddyfod o'r wasg)—B, C, D, E, Ymarferion Cyfosodiad ac Egluriadau. O'r rhai hyn y mae Ba C wedi dyfod allan. Y llythyrenau a ddynodant y Rhanau hyn yn Gymraeg ydyw A a B. Y mae D ac E heb eu gorphen.—F, G, H, Testynlyfr i Gynghanedd a Ffurfiau Cerddorol. Mae y rhai hyn allan yn Saesoneg; ond ni fwriedir eu cyhoeddi yn Gymraeg, gan nad yw y gerddoriaeth ond yr un peth. Dealla ein darllenwyr nad oes ond yr "Ymarferion Cyfosodiad" yn unig yn Gymraeg; hyny yw, y mae y cyfarwyddiadau a'r hyfforddiadau i gyd yn Gymraeg, ond nid yw y Gerddoriaeth—yr Ymarferion a'r Engreifftiau, i'w cael ond yn Saesoneg. Mae y rhanau diweddaf hyn yn cynnwys dros 500 o du dalenau o gerddoriaeth fel engreifftiau yn egluro y cyfarwyddiadau a'r sylwadau a wneir yn yr Ymarferion.. . Gwelir ar unwaith fod hwn nid yn unig y gwaith pwysicaf a ddygwyd allan mewn cysylltiad â'r Tonic Sol-ffa, ond y mae yn un o'r gweithiau cerddorol pwysicaf a ddygwyd allan erioed ar Gynghanedd a Chyfansoddiant yn yr iaith Saesoneg. Ac y mae, nid yn un o'r rhai pwysicaf, ond y pwysicaf oll, a ddygwyd allan ar y pynciau hyn erioed. yn yr iaith Gymraeg. Bydd yn drysor anmhrisiadwy i'r efrydydd cerddorol sydd yn ewyllysio deall cynghanedd a dyfod yn gyfansoddwr; a chan fod yr engreifftiau i gyd wedi eu hargraffu yn y ddau nodiant, bydd yn gaffaeliad o'r fath fwyaf gwerthfawr i'r rhai sydd heb ymarfer â'r Nodiant Newydd. Hyderwn y bydd cannoedd o'n pobl ieuainc yn ymgymeryd âg ef, ac nid yn unig yn ei ddarllen, ond yn ei astudio yn fanwl, ac yn gweithio ei holl ymarferion gyda'r gofal mwyaf. Ymfoddlona llawer iawn, ac yn enwedig gyda cherddoriaeth, ar wybodaeth gyffredinol, fras, heb fyned drwy unrhyw beth yn fanwl ac yn drylwyr. Bydd astudio y llyfr hwn yn debyg iawn o wneyd cantorion trylwyr; a bydd hyny o fendith bwysig i gerddoriaeth yn ein gwlad." Dyma ganmoliaeth uchel, yn enwedig oddiwrtho ef, oedd mor ofalus am ddyweyd y gwir,—i lyfr Mr. Curwen. Am y llyfr arall, cyfieithiad ydyw o lyfr Mr. Curwen, How to observe Harmony, a chynnwysa arweiniad i mewn i astudiaeth cynghanedd,—felly hwn yw y cyntaf o ran trefn, a'r llall yn arwain ymhellach i mewn. Amcenid y rhai hyn i fod yn foddion i arwain cerddorion ieuainc ymlaen. Wedi cael y ddwy dystysgrif gyntaf, nid oedd gan y Cymro fantais i gynnyddu mewn gwybodaeth o egwyddorion cynghanedd a chyfansoddiad, ond yn awr cyflenwid y diffyg hwnw. Mae y cyfieithiad wrth gwrs yn gywir ac eglur, ac yn llawn cystal â'r gwreiddiol. Yr oedd Mr. E. Roberts ac yntau wedi cyttuno i'r naill edrych dros proofs y llall, a thystiai Mr. Roberts wrthym ei fod wedi ei daraw gan fanyldeb Ieuan Gwyllt, na chaffai y pethau lleiaf ddianc ei sylw. Cawn ychydig wahaniaeth barn ymhlith y ddau ŵr enwog am yr ymadroddion goreu i gyfieithu ambell i derm Seisonig, megys Forestroke, I. G., Blaenergyd, E. R., Cyndarawiad. Progression, I. G., Rhagfudiad, E. R., Symudiad. Accidentals, I. G., Dygwyddolion, E. R., Seiniau Damweiniol. Bridgetone, I. G., Pont—dôn, E. R., Trosglwyddsain. Chant, I. G., Salm-don, E. R., Treithgan. Ond y mae doctoriaid yn gwahaniaethu yn fynych. Ymdrechai y ddau drosglwyddo i'r Cymry wybodaeth gerddorol o'r radd uchaf, ac y mae y llyfrau hyn yn werthfawr, ond y mae yn llawn rhy fuan eto i allu gwybod pa mor bell y mae cerddorion Cymru wedi gwneyd defnydd o honynt.

Telyn y Plant, Mai 1859 hyd Rhagfyr 1861. Dan olygiaeth y Parch. T. Levi ac Ieuan Gwyllt. Merthyr Rees Lewis.

Efe oedd yn darparu y tônau a ymddangosasent yn y rhifynau hyn, o ba rai y mae 28 o donau yn yr Hen Nodiant. Y maent oll yn brydferth a chwaethus, wedi eu dethol o Pax, Mozart, Hullah, P. P. Bliss, &c., ac y mac geiriau naw o honynt wedi eu cyfansoddi gan Ieuan Gwyllt, ac yma, ni a dybygem, yr ymddangosodd gyntaf y geiriau dirwestol rhagorol, "Awn, awn yn wrol lu," ar yr alaw "Codiad yr Hedydd." Y mae yma hefyd anthem syml a hawdd o'i eiddo ar y geiriau "Gadewch i blant bychain," cyfansoddedig yn 1854, pan yn dysgu y plant yn Liverpool, mae yn debyg. Efe hefyd er ys amryw flynyddoedd cyn diwedd ei oes oedd yn golygu y darnau cerddorol yn Nhrysorfa y Plant.

7. Arweinydd Corawl.

Dechreuodd arwain côr yn fore iawn, fel y crybwyllasom yn ei hanes, pan tua 15 oed neu ieuengach. Fel yr oedd yn dyfod i sylw fel beirniad cerddorol, yr oedd yn naturiol iddo gael ei wneyd yn arweinydd mewn Cymanfäoedd Cerddorol. Yr hynaf o'r rhai hyn, mae yn debyg, ydoedd "Cymanfa Gerddorol Ddirwestol Gwent a Morganwg." Amcan y Gymanfa hon ydoedd 1. "Cefnogi Dirwest. 2. Dyrchafu a choethi chwaeth gerddorol. 3. Ennill ein cantorion yn fwy at y canu cynnulleidfäol." "Yn Pontypridd y cynnaliwyd y Gymanfa gyntaf, Gorphenaf 1855, yr ail yn Aberdâr, Gorphenaf 1856; y drydedd yn Nowlais, Gorphenaf 1857. Y prif arweinydd yn y tair gyntaf oedd Dr. Evan Davies, Normal College, Abertawe. Cynnaliwyd y bedwaredd gymanfa yn Rhymni, Gorphenaf 19eg, 1858. Yr oedd y Pwyllgor wedi penderfynu ar gael Ieuan Gwyllt, os oedd modd, i fod yn bresennol yn y Gymanfa, a darfu i ni lwyddo." "Yn Rhymni penodwyd ef yn arweinydd yr ol o'r darnau unol am y dydd, ac y mae'r anerchiadau cerddorol a roddodd yn ystod y dydd, wedi aros a dwyn ffrwyth ar ei ganfed yn meddyliau cannoedd o gantorion Gwent a Morganwg, a llanwodd y cylch o brif arweinydd y Gymanfa, gan roddi ei bresennoldeb ymhob un o honynt hyd yr adeg y symudodd i'r Gogledd."[62] "Nid ydym yn gwybod am un sefydliad o'i gyfryw yn Nghymru nac un wlad arall. (1861). Cynnelir cyfarfod blynyddol y Gymanfa hon yn y cyffredin yn niwedd yr haf, mewn lle a nodir yn flaenorol gan y Pwyllgor. Yno yr ymgasgla yr holl gorau (dirwestol) sydd yn cyfansoddi y Gymanfa, a chana pob côr, ar gylch, dan arweiniad ei lywydd ei hun. Gofelir hefyd am gael un o brif gerddorion y genedl yn bresennol, dan lywyddiaeth yr hwn y cenir amryw ddarnau gan yr holl gorau ynghyd. Y mae terfynau y Gymanfa yn cymeryd i fewn Aberdâr, Rhymni, Tredegar, Pontypridd, Cymer, Pentyrch a Chaerdydd; ac yn y cyffredin bydd y corau yn rhifo tua 500 o gantorion. Wrth weled y gallu hwn yn gynnulledig, a sylwi ar yr effeithiau a gynnyrchid pan y byddai y corau oll yn cydganu, penderfynodd y Pwyllgor fod y rhan gyntaf a'r drydedd o'r Messiah i gael eu dysgu y flwyddyn hon, a bod un o gyfarfodydd y Gymanfa i gael ei roddi at ei ganu—yr holl gorau gyda'u gilydd i ganu y choruses. Diau fod hwn yn gam yn yr iawn gyfeiriad, ac y gwelir ei ffrwyth mewn cerddoriaeth gorawl ardderchog yn y Gymanfa nesaf.[63] "Daeth (Mr. Roberts) o'r Gogledd i Gymanfa Merthyr, Gorphenaf 3ydd, 1866, pryd y cyflwynwyd tysteb iddo ar yr achlysur o'i ymadawiad oddiwrthym i'r Gogledd. Yr oedd y dysteb yn cynnwys anerchiad (pa un a welais wedi hyny yn hongian ar y pared yn ei dŷ yn Llanberis) a swm o arian, ond nid wyf yn cofio maint y swm, a thyna'r gwasanaeth olaf a gawsom ganddo fel ein Harweinydd yn Nghymanfa Gerddorol Gwent a Morganwg."[64] Heblaw yr anerchiadau gwerthfawr a roddai bob blwyddyn, ceid adroddiad hefyd o'r Gymanfa yn y Cerddor Cymreig a sylwadau arni, ac yr oedd ei gefnogaeth a'i gyfarwyddiadau ef yn fendith fawr i'r corau. Y mae y Gymanfa hon yn parhâu hyd heddyw, ac wedi gwneyd lles dirfawr i Gerddoriaeth o fewn ei chylch, os nad yn wir yn llawer ëangach.

Wedi ei ddyfodiad ef i Lanberis yn 1865, trwy ei ddylanwad a'i gefnogaeth ef, cychwynwyd cymanfa gyffelyb yn Arfon. Cynnaliwyd y Pwyllgor cyntaf yn Nghaernarfon, Mawrth 19eg, 1866, a'r Gymanfa gyntaf yn Nghastell Caernarfon, Awst 15fed yr un flwyddyn, pryd yr oedd 11 o gorau yn cynnwys dros 700 o gantorion yn cymeryd rhan ynddi, a chyngherdd yn yr hwyr, dan lywyddiaeth y Maer (Ll. Turner, Ysw.), ac y canodd Miss Watts ynddo. Cynnaliwyd ail gylchwyl lwyddiannus iawn yn yr un lle yn 1867, a'r drydedd yn Mhorthmadog yn 1868y bedwaredd yn Nghastell Caernarfon yn 1869. Adeg y bummed yn 1870, daeth yn wlaw, a chynnaliwyd hi yn nghapel Moriah; ac yn 1871 cynnaliwyd hi yn yr un man, ond teneu iawn oedd y cynnulliad. Symudwyd hi i Lanberis yn 1872, ac yno y bu farw. Ieuan Gwyllt oedd llywydd parhâus y Pwyllgor, a'r Arweinydd ymhob Cymanfa oddieithr 1869, pryd yr arweiniwyd gan y Parch. Robert Roberts, Carneddi. Ymdrechodd lawer gyda'r Gymanfa hon ymhob modd, ond syrthio i'r llawr a wnaeth. Mae yn debyg fod ei symud o Gastell Caernarfon wedi bod o niwed, a'r costau mawr, a diwrnodau gwlawog, fel ag iddi droi yn golled, a suddo i ddyled; ac mewn dyled y bu farw, a dygwyd rhan o'r baich hwnw gan Mr. Roberts ei hun. Ar yr un pryd, gwnaeth y Gymanfa lawer o les tra y parhâodd.

Cychwynwyd symudiad cyffelyb hefyd yn Ngorllewin Meirionydd, a chynnaliwyd y Gymanfa gyntaf yn Nghastell Harlech, Mehefin 25ain, 1868. Arweinydd y corau undebol, Ieuan Gwyllt. Y mae y Gymanfa hon yn parhâu yn fyw a blodeuog a llwyddiannus, ac wedi cynnal cylchwyl yn y castell bob blwyddyn er y dechreuad. Yn y blynyddoedd diweddaf, aed drwy y Messiah a Judas Maccabeus. Bu Ieuan Gwyllt yn arweinydd hefyd yn 1869, ac elai heibio i'r corau ymlaen llaw i roddi cyfarwyddiadau mewn rehearsals. Y mae y canu yn y Gymanfa hon wedi gwella yn ddirfawr, ac y mae yn ddiammeu ei bod wedi gwneyd dirfawr les. Y mae Cymanfäoedd y Gogledd yn ddyledus i Ieuan Gwyllt am eu bodolaeth, ac edrychid ato ef ganddynt fel noddwr, cyfaill a chyfarwyddwr.

8. Cymanfaoedd Canu Cynnulleidfäol.

Dywedai y Parch. D. Saunders, yn ei anerchiad yn Nghaeathraw, mai efe oedd "tad" y Cymanfäoedd Canu Cynnulleidfäol. Wedi darllen y sylwadau canlynol yn y Rhifyn I. o'r Cerddor Cymreig, 1861, buom o'r braidd yn ammheu dywediad Mr. Saunders:—" Cerddoriaeth y Cysegr.—Ymddengys fod ein gwlad wedi ei dihuno i fesur helaeth ar y pwnc dyddorol a thra phwysig hwn. Y mae ein heglwysi, perthynol i'r gwahanol enwadau, yn dechreu ystyried eu dyledswydd, ac yn ymdeimlo â'r rhwymedigaeth sydd arnynt i dalu mwy o sylw i'r mater hwn, ac i fod yn fwy gofalus a llafurus yn ei gylch. Yr ysgogiad pwysicaf ar hyn o bryd, yn y cyfeiriad hwn, yw yr Undebau a ffurfir yma a thraw, er symleiddio, coethi, a chrefyddoli ein caniadaeth gynnulleidfäol. cyntaf o'r rhai hyn, hyd y gwyddom, a ffurfiwyd yn y Bala, yn haf y fl. 1859. Cynnwysai yr Undeb hwnw holl gynnulleidfäoedd y Methodistiaid Calfinaidd yn Nosbarth Penllyn. Mewn pwyllgor cynnwysedig o gynnrychiolwyr y gwahanol gynnulleidfäoedd, dewiswyd nifer of dônau ynghyd a geiriau priodol i'w canu arnynt. Ar ol eu dysgu, cafwyd cyfarfod mawr cyhoeddus yn y Bala i'w cydganu. Yr oedd y fath flas ar y cyfarfod hwnw, fel y penderfynwyd cael un cyffelyb y flwyddyn ganlynol. Hyny a fu; ac yr oedd hwnw drachefn yn hynod o lwyddiannus. Deallwn fod cerddoriaeth gynnulleidfäol yn yr ardaloedd hyny wedi cyfnewid yn fawr iawn er gwell trwy yr ysgogiad. Ymledodd yr ysbryd i Gorwen, yn yr un Sîr; ac yr ydym yn deall fod ysgogiad cyffelyb ar droed yn Nosbarth Edeyrnion. Yn chwarelydd poblogaidd Ffestiniog drachefn, sefydlwyd undeb i'r un perwyl, a chafwyd yno un cyfarfod cyhoeddus tra effeithiol. Tua'r un amser, dechreuodd pobl Arfon ymysgwyd; ac erbyn hyn yr ydys wedi penderfynu yno ar nifer o dônau a hymnau i'w dysgu, ac y mae cyfarfod mawr cyhoeddus i gael ei gynnal yn ystod yr haf dyfodol yn Nghastell Caernarfon, i'w canu. Wrth ganfod y cyfeillion yn y Gogledd yn myned rhagddynt mor lwyddiannus yn y gwaith canmoladwy hwn, teimlodd rhai lleoedd yn y Deheubarth awydd cryf i gychwyn yn yr un cyfeiriad. Ffurfiwyd Undeb yn Nosbarth Merthyr a Dowlais. Cynnaliwyd cyfarfod cyhoeddus cyntaf yr Undeb hwn yn nghapel Pontmorlais, Merthyr, pryd yr oedd y capel eang hwnw yn llawn, a chanwyd wyth o dônau cynnulleidfäol yn dra hyfryd. Mae yr undeb hwn wedi penderfynu cynnal ei gyfarfod cyhoeddus bob saith wythnos; ac felly, bydd y nesaf ar y 5ed o'r mis hwn (Mawrth 1861). Mae yr Annibynwyr hefyd yn Merthyr a Dowlais wedi ffurfio undeb cyffelyb, ac yn bwriadu cynnal eu cyfarfod cyhoeddus cyntaf yn Zoar, Merthyr. Fel yr ydym yn ysgrifenu, dyma lythyr o Gaerdydd, yn ein hysbysu eu bod hwythau wedi ymuno—fod tônau a hymnau wedi eu dewis—ac y cynnelir y cyfarfod cyhoeddus cyntaf yn mis Ebrill. Mae yr undebau hyn yn rhwym o wneuthur daioni annesgrifiadwy; a charem weled y cyffelyb wedi ei ffurfio ymhob ardal drwy yr holl wlad." Ond y mae y dyfyniad canlynol o lythyr Mr. David Evans, Caerdydd, er hyn oll, yn benderfynol: "Dichon hefyd y dylem eich cofio i ni gael un 'Gymanfa o Ganu Cynnulleidfäol' yn y flwyddyn 1859, Ionawr 10fed, yn Aberdâr. Yr oedd hon yn hollol dan arweiniad Mr. Roberts; efe ymgymerodd â dethol y tônau a'r hymnau, &c. Dyma'r Gymanfa Gynnulleidfäol gyntaf yn ngwlad y gân, gallwn feddwl. I hon daeth corau Gwent a Morganwg fel un gynnulleidfa, ac nid fel corau. Cafwyd canu da, wrth gwrs, ond nid oedd y myn'd fel yr oedd yn y llall (Cymanfa Gwent a Morganwg): yr oedd yn amlwg ei bod ar y cynaraf, goruchwyliaeth Ioan Fedyddiwr heb orphen ei gwaith. Mae wynebddalen (Programme) y Gymanfa hon fel y canlyn:—'Y Tônau a'r Hymnau a genir yn nghyfarfod cyntaf Cymanfa Gerddorol Gynnulleidfäol Gwent a Morganwg, a gynnelir yn Aberdâr, Ionawr 10fed, 1859. Detholwyd y Tônau allan o'r Llyfr Tonau Cynnulleidfaol gan Ieuan Gwyllt.' Yr wyf yn falch fod yr hen Brogram ar gael." Yr oedd hyn cyn i'r Llyfr Tonau ddyfod allan (yn Ebrill 1859), ac felly, mae yn debyg mai cael argraffu nifer o gopïau a wnaed tra yr oedd y llyfr yn y wasg. Sylwer, yr oedd hwn yn cymeryd i mewn gylch corau Cymanfa Gerddorol Ddirwestol Gwent a Morganwg; felly mae yn debyg mai y corau hyny wedi dyfod at eu gilydd oedd yma, ac nid undeb cynnulleidfäoedd ac un gymanfa a gafwyd o'r cyfryw natur, ac yn ddiddadl, dyma'r gyntaf o'r cyfryw yn Nghymru. Ond yn y Bala, mae yn debyg, yn ol fel y dywed y Cerddor, y ffurfiwyd yr undeb cynnulleidfäol cyntaf, yn yr haf, ar ol i'r Llyfr Tonau gael ei gyhoeddi. Ni a dybiwn fod Mr. R. H. Pritchard, a'r diweddar Mr. John Jones, Llidiardau, a chyfeillion cyffelyb, yn cychwyn y symudiad hwn; ond ai ynddynt hwy y gwreiddiodd y syniad? Mae yn lled debyg nad ê, ond iddo ddyfod o Aberdâr, naill ai oddiwrth Mr. Roberts ei hun, neu o weled hanes y cyfarfod Ionawr 10fed. Wedi hyny yn 1861, tua Ionawr, y ffurfiwyd yr Undeb Canu Cynnulleidfäol cyntaf yn Merthyr a Dowlais, ac yr oedd y cylch hwn yn llawer llai nag yn 1859, a mwy ymarferol. Mae o'n blaen yn bresennol brogramme Pummed cyfarfod cyhoeddus "Undeb Cerddorol Cynnulleidfäol Merthyr a Dowlais," yr hwn oedd i'w gynnal "Nos Lun, Awst 26, 1861, am 7 o'r gloch," ymha un y nodir saith o dônau a hymnau arnynt, ac y dywedir fod y "Cyfarfod Rhagbarotoawl i'w gynnal yn nghapel Pontmorlais, Merthyr, Nos Wener, Mehefin 28, 1861. David Rosser, Ysgrifenydd." Dengys hyn yn amlwg fod ymddangosiad y Llyfr Tonau wedi creu deffröad cyffredinol drwy yr holl wlad, ac ymledodd yr undebau hyn, a daeth galwad am gasglydd y llyfr i fyned oddiamgylch gyda'r canu. Yn yr haf 1861, cymerodd daith gerddorol drwy Feirionydd, Eifionydd a Lleyn, yn cynnal, gan mwyaf, ni a dybiem, gyfarfodydd canu cynnulleidfäol, ond weithiau hefyd yn traddodi ei ddarlith; a rhoddir hanes y daith yn lled fanwl yn y Cerddor; ac yn 1862 bu trwy ranau o Sir Benfro; Sir Gaerfyrddin, Mai, 1863; drwy Sir Fôn, "ar wahoddiad y Cyfarfod Misol," Mehefin, 1863; Sir Aberteifi, Hydref yr un flwyddyn; a Mai a Mehefin, 1863, yn Siroedd Caerfyrddin a Dinbych. Yn Awst, 1866, arweiniai y canu mewn Cymanfa Ganu Gynnulleidfäol yn Mhwllheli. Yr oedd yn dda erbyn y blynyddoedd hyn ei fod yn rhydd oddiwrth bob cysylltiad â newyddiadur, fel y gallai dreulio ei amser yn fwy llwyr yn y cysylltiad yma, a pharhaodd yn ddyfal gyda hyn hyd ei farwolaeth, ac yr oedd lliaws o Gymanfäoedd yn dysgwyl am dano yn haf 1877. Hoff waith iddo oedd hyn, ac yr oedd yn fynych yn cael gafael ar yr ysbryd addoli ynddo, ac yn tywallt ei galon iddo. Ar yr un pryd, nid ydoedd ymhob ystyr yn arweinydd o'r fath oreu—o'r fath fwyaf llwyddiannus. Am ei wybodaeth gerddorol, wrth gwrs, yr oedd yn ddihafal, ac yr oedd ganddo glust ddigymhar, ac yn y pethau hyn yr oedd yn perthyn i ddosbarth cyntaf yr oes; ond prin y gallwn ddyweyd fod ysgogiadau y llaw yn ddigon amlwg a well-marked i fod yn hawdd i'w ddilyn. Nid oedd ychwaith yn meddu y dengarwch hwnw mewn dull, oedd yn tynu dynion ar ei ol. Y mae ambell un a fedr gael gan eraill wneyd gwaith, bron heb yn wybod iddynt eu hunain; y mae yn medru ennill rhyw swyn, a dylanwad arnynt, nes eu caethiwo wrtho. Y mae un arall, y mae rhyw bellder naturiol rhyngddo ef a hwy, nes y mae yn rhaid iddo ddemandio cryn lawer arnynt. Un o'r dosbarth olaf hwn oedd efe, ac yr oedd yn anfantais fawr iddo; diffyg yn ei natur ydoedd, ac nas gallai wrtho, ond yr oedd yn ei osod yn agored yn fynych i gael ei gamddeall gan ddynion, ac yn cael felly; ac ni buasai yn gallu llwyddo mor anghyffredin, er yr anfantais hon, oni b'ai fod yna ryw uchafiaeth (superiority) anghyffredin yn perthyn iddo. Ymdrechai efe yn deg hefyd yn y cwbl i fyned i mewn at ysbryd y canu, ac i gynnyrchu syniadau teilwng am dano.

Dylem grybwyll hefyd ei fod, tra yn byw yn Merthyr, ac wedi astudio y Tonic Sol-ffa, yn meddu dosbarthiadau i ddysgu y gyfundrefn hono, a llawer o ddysgyblion, a'r un modd yn Llanberis, yn 1865. Cawn fod oll tua 229 o rai dan ei addysg of a dau eraill. Ac wedi dyfod yn Arholydd ei hun, cawn iddo arholi mwy am dystysgrifau, mae yn debyg, o lawer na neb arall yn Nghymru. Am flynyddoedd, nid oedd bron fis yn myned heibio nad oedd nifer mawr o enwau rhai wedi eu harholi ganddo am yr Intermediate Certificate, yn ymddangos ar du dalenau y Cerddor. Pasiodd efe ei hun am yr Intermediate tua diwedd haf 1863,[65] drwy gael ei arholi gan ei hen gyfaill Mr. E. Roberts, Liverpool. Ni cheisiodd basio yn uwch yn y Tonic Sol-ffa. Y rheswm penaf am hyny, mae yn ddiammeu, oedd diffyg amser i ymarfer; am wybodaeth yr oedd uwchlaw pob cwestiwn. Nid bychan fu ei lafur mewn cymhell, ac arholi, a dysgu y gyfundrefn hon.

9. Beirniad Cerddorol.

Yr oedd wedi dechreu beirniadu cerddoriaeth cyn ymadael o Aberystwyth, ond wedi myned i Liverpool daeth i sylw cyffredinol yn fuan. Tra yr oedd efe yn Aberystwyth, yr ydym yn tybied, ymddangosodd llythyrau galluog yn yr Amserau dan y ffugenw "Gogrynwr," yn cynnwys adolygiad llym ar Feirniadaeth Anthem neu Gydgan mewn Eisteddfod,[66] lle yr oedd sail gref dros ddyweyd fod camwri wedi ei wneuthur. Tynodd y llythyrau hyny sylw cyffredinol, a thybiai llawer oedd yn adnabod Ieuan Gwyllt mai efe oedd eu hawdwr, am na wyddid am neb digon galluog i'w hysgrifenu ond efe, ac hefyd oddiwrth y ffaith mai "Gogrwr" oedd ei dad. Fodd bynag, y mae genym ddigon o sail dros ddyweyd yn bendant mai nid efe oedd "Gogrynwr,"[67] er y dichon ei fod ef wedi ysgrifenu rhywbeth mewn cysylltiad â'r ddadl hon dan ffugenw arall. Yr oedd yn feirniad Eisteddfod Ffestiniog 1854, a Llundain a Manchester yn 1855, ac ar ol hyny yr oedd ganddo gyflawnder o'r gwaith hwn ar ei ddwylaw yn barhâus. Clywsom ef yn dyweyd, nad oedd un Eisteddfod Genedlaethol er ys tuag 20 mlynedd nad oedd wedi cael ei ofyn i feirniadu ynddynt, a bu mewn rhai o honynt; ond safai yn gryf ac yn benderfynol yn erbyn, os deallai fod dynion o gymeriad isel i gael lle ar eu hesgynlawr; nid oedd dim yn ei boeni yn fwy na hyny. Credai fod yr Eisteddfod yn allu cryf i wneyd daioni, ond yr oedd yn rhaid ei chael yn bur oddiwrth lygredigaeth fel hyn; ac y mae yn ddiddadl fod ei brotests ar y mater hwn wedi cynnorthwyo i ddyrchafu llawer ar yr Eisteddfod. Ysgrifenai feirniadaethau manwl a galluog, pa rai a gyhoeddid yn yr Amserau, ac wedi hyny yn y Cerddor Cymreig, ac yr oedd y goleuni a wasgarodd yn y dull hwn yn un o'r moddion mwyaf effeithiol i addfedu y wlad am gael diwygiad yn cerddoriaeth. Ysgrifenai hefyd adolygiadau manwl ar lyfrau. Trwy bethau fel hyn daeth i gael ei gydnabod fel un o'r awdurdodau uchaf, os nad yr awdurdod uchaf oll. Ni byddwn yn dyweyd gormod wrth ddyweyd nad oedd neb yr oedd gan ein cerddorion oll ymddiried mwy llwyr ynddo, os cymaint, fel beirniad coethedig, galluog, a chywir, a diduedd. Ac yr oedd efe yn meddu cymhwysderau neillduol i fod yn feirniad cerddorol. Dichon fod beirniadu canu, yn enwedig canu corawl, yn un o'r pethau mwyaf anhawdd; o herwydd ei fod yn gofyn gallu i gyfuno—i concentratio—ar unwaith gynifer o wahanol sylwadaeth ar ddadganiad sydd yn symud ymlaen mor gyflym. Wedi cael y cywair i ddechreu, rhaid sylwi yn fanwl fod hwnw yn cael ei gadw; fod pob nodyn ymhob llais yn cael ei sain a'i le priodol; fod amser pob un cael ei gadw yn gywir; fod cyfartaledd priodol yn cael ei gadw trwy y lleisiau; fod y geiriau yn cael eu dadgan a'u hacenu yn briodol; fod y mynegiant yn cyfateb i ansawdd y geiriau a'r gerddoriaeth; fod y lleisiau yn cyd—doddi i'w gilydd, ac yn dadgan y seiniau yn naturiol a phriodol; ac yn y cwbl, fod enaid, ysbryd, ac amcan y cyfansoddiad yn cael ei gyrhaedd. Mae ambell un sydd yn deall cerddoriaeth yn dda yn ei hegwyddor, eto heb feddu clust ddigon teueu ac arferedig i ddarganfod mân frychau; a dichon fod ambell un all farnu cywirdeb dadganiad yn lled dda, eto heb feddu digon o graffder i sylwi ar y mynegiant ac ysbryd y cyfansoddiad. Ond yr oedd ynddo ef un o'r cyfuniadau mwyaf cyflawn o'r cymhwysderau anghenrheidiol. Meddai gydnabyddiaeth gyflawn â cherddoriaeth yn ei holl agweddau, clust anghyffredin o deneu a chyfarwydd, a chraffder neillduol i ganfod pob peth anghenrheidiol, ac uwchlaw y cwbl, ysbryd oedd yn gallu cydymdeimlo âg ysbryd y cyfansoddwr. Yn y cyfan hefyd, yr oedd ynddo y fath chwaeth bur, y fath sense o anrhydedd, cywirdeb a chydwybodolrwydd, fel nas gallai neb deimlo ammheuaeth o'r fath leiaf, y gwnelai degwch a chyfiawnder â phawb, "pe syrthiai'r nefoedd." Y mae yn debyg na lanwodd un cylch yn fwy cyflawn nag yn ei waith yn eistedd yn ei gadair feirniadol. Ac yn ei holl gysylltiadau fel y cyfryw, y mae yn ddiammeu y teimlir ei fod y beirniad mwyaf uchel, mwyaf anrhydeddus, a mwyaf craffus a fagodd Cymru erioed. Beirniadodd lawer iawn ymhob cylch, o'r Eisteddfod Genedlaethol hyd y Cyfarfodydd Llenyddol distadlaf, ond ceid ef yr un, yn fanwl a thrwyadl, a chydwybodol ymhob man; ni wnai y gwaith yn ddiofal ac ysgafala am fod y lle yn fychan, neu y cystadleuwyr yn ddisylw ac anfedrus, ond mynai gyflawni ei waith yn fanwl a pherffaith dan bob amgylchiadau.

Yn yr holl lafur mawr ac eang hwn o'i eiddo fel cerddor, nid oedd yn ymorphwys ar yr adnoddau yr oedd wedi eu casglu ynghyd yn ystod hanner cyntaf ei oes. Yr oedd yn dal ar bob cyfleusdra ac yn llafurio yn ddyfal i cangu ei wybodaeth ei hun, ac i ymgydnabyddu yn drwyadl â phob peth oedd yn cymeryd lle yn y byd cerddorol. Nid oedd un symudiad o unrhyw bwys yn cymeryd lle yn Nghymru, nac mewn un wlad arall, mewn cysylltiad â cherddoriaeth, nad oedd efe yn sylwi yn fanwl arno ac yn mynu ei ddeall. Ni byddai un cantor na cherddor farw, nac yn ymneillduo oddiar yr esgynlawr, na byddai efe yn gwybod ei hanes; ni chyfodai un cerddor newydd i sylw na byddai efe yn deall yn lled fanwl ei gyfeiriad; nid ymddangosai un gwaith cerddorol na fynai ei ddeall yn drwyadl. Yr oedd yn drysorfa o wybodaeth gerddorol ddihysbydd. Nid ydym ar hyn o bryd yn gallu gwybod a ydyw y traethodau, &c., a ddechreuwyd mor ragorol yn y Cerddor, &c., wedi eu cario ymlaen neu eu gorphen ymhlith ei lawysgrifau. Fel y maent, y maent yn wir werthfawr; ond os ydynt yn fwy cyflawn, y mae ynddynt drysorau anmhrisiadwy i genedl y Cymry, na ddylid eu gadael i fyned i golli.

II. EI LAFUR FEL LLENOR.

1. Golygiaeth yr Amserau. Rhagfyr 10fed, 1852, hyd Hydref 21ain, 1858.

Yr oedd yr Amserau y pryd hwnw yn newyddiadur o bwysigrwydd mawr, a chryn gyfrifoldeb oedd ymgymeryd â'i olygiaeth. Er mai nid efe oedd y newyddiadur cyntaf→ yn 1814—15 cyhoeddwyd y Seren Gomer gan Joseph Harris, —eto gellid gyda llawer o briodoldeb alw yr Amserau yn "dad" newyddiaduron Cymru. Cychwynwyd ef yn 1843. Cawsom yn ddiweddar weled y rhifynau cyntaf o hono, ac yr oedd teitl y cyntaf fel y canlyn,—"Yr Amserau, Dydd Mercher, Awst 23, 1843. Pris Tair Ceiniog. Liverpool: Argraffwyd a Chyhoeddwyd gan John Jones (o No. 6, Great Newton Street) yn ei swyddfa yn 21, Castle Street, lle y derbynir Hysbysiadau, ac y cyfarwyddir pob Gohebiaeth i'r Golygydd.—Dydd Mercher, Awst 23, 1843." Y Golygydd ydoedd y Parch. William Rees (Gwilym Hiraethog), a chynnorthwyid ef gan Mr. John Jones, yr Argraffydd, yn hyny— hwn ydoedd bregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Dygodd ysgrifau galluog y Golygydd, ac yn enwedig ei ysgrifau fel yr "Hen Ffarmwr," y papyr i sylw gryn lawer; er hyny, o herwydd nad oedd iddo gylchrediad digon helaeth, helynt ddigon blin fu arno o dro i dro; ond cadwodd yn fyw drwy y cwbl, ac yr oedd yn gadael argraff ar y wlad. Yn y flwyddyn 1848 daeth i ddwylaw Mr. Lloyd. Yr oedd y duty y pryd hwnw yn anfantais fawr iddo, a symudwyd yr argraffdŷ i Isle of Man, er mwyn ceisio osgoi hyny; ond buan y deallodd y Llywodraeth hyny, a daethpwyd yn ol i Liverpool. Yn adeg y symudiad bu am fis heb ei gyhoeddi. Fel Golygydd cynnorthwyol yr oedd Ieuan Gwyllt yn myned i Liverpool, ond cafodd fod yr holl waith yn disgyn ar ei ysgwyddau. Ond ymwrolodd, a phenderfynodd wneyd pob ymdrech i lanw y lle pwysig hyd eithaf ei allu, ac ymdaflodd â'i holl ysbryd i'r gwaith. Da genym ddyweyd ei fod, trwy drafferth fawr, wedi casglu ynghyd yr holl ysgrifau a ysgrifenwyd ganddo i'r Amserau tra yn Olygydd iddo, ac wedi ysgrifenu ei enw wrthynt, a'u bod yn awr yn meddiant Mrs. Roberts; ond nid ydym yn hollol sicr ei fod wedi gallu cael y cyfan, yn enwedig y rhai cyntaf oll; oblegid bu raid iddo advertisio cryn lawer, a chwilio yn ddyfal i gael gafael ar y copiau. Gwelwn ei fod ef ei hun yn dyweyd yn ei nodiad yn y Bibl Teuluaidd, iddo ysgrifenu yr erthygl arweiniol gyntaf i'r Amserau Rhagfyr 10, 1852;[68] ond y peth cyntaf y medrasom gael gafael arno ydoedd "Adolygiad ar yr Anthemau Buddugol yn Eisteddfod Bethesda, Ddydd Iau Dyrchafael 1852—Bethesda, R. Jones," gydag enw "Ieuan Gwyllt, Rhagfyr 15, 1852," wedi ei ysgrifenu dano. Yn yr Amserau Rhagfyr 22ain, cawn erthygl arweiniol ar "Budget Arglwydd Derby a'i ymddiswyddiad." Ionawr 5, 1853, "Programme Iarll Aberdeen." Ionawr 19, Madiai," ac un arall ar "Gymdeithas Ddiwygiadol Gymreig Liverpool;" ac o hyny ymlaen, cadwai ger bron ei ddarllenwyr o wythnos i wythnos ddesgrifiad bywiog a dyddorol o ysgogiadau y pleidiau gwleidyddol, a'r pynciau mewn dadl rhyngddynt. Pwysai yn fanwl bob athrawiaeth, gan chwilio y rhesymau drostynt, a'r egwyddorion oedd danynt. Safai yn gryf ar egwyddorion puraf a dyfnaf Rhyddfrydiaeth, a dadleuai yn wresog o blaid pynciau oeddynt y pryd hwnw heb ddyfod i sylw fel y maent erbyn hynDiddymiad pob treth eglwys, y Dadgysylltiad, diddymiad y crogi, diwygiad seneddol, diddymiad pleidgeisio, agoriad y Prifysgolion, Rhyddfasnach, attaliad y fasnach feddwol, cynnildeb yn y Llywodraeth, a Chymdeithas Heddwch. Y mae cryn nifer o'r pynciau y dadleuai drostynt wedi eu selio erbyn hyn ar ddeddflyfrau ein gwlad; y mae nifer mawr o rai eraill erbyn hyn yn brif bynciau y dydd; ac y mae amryw ag y mae corff ein cydwladwyr heb ddyfod eto i deimlo eu pwysigrwydd. Yr oedd yn hynod o gryf yn erbyn rhyfel, ac yn ystod rhyfel y Crimea, cadwai y darllenwyr â gwybodaeth gryno a chyflawn o safle y cwestiynau, a chondemniai y rhyfel hwnw yn gryf, ond yn bwyllog a phenderfynol. A'r un modd yn adeg gwrthryfel India, dangosai ei fod yn astudio y materion y dysgai eraill arnynt yn drwyadl. Ac ysgrifenai gryn lawer ar bynciau oedd yn dal perthynas â chwestiynau pwysig, megys desgrifiad o Twrci a Rwssia, ac o India, &c. Yr oedd yr Amserau yn wirioneddol yn arweinydd i feddyliau ei ddarllenwyr, o herwydd felly y credai efe y dylai newyddiadur fod; nid casgliad o ryw newyddion, ond papyr i arwain a dwyn allan egwyddorion a goleuo y wlad. Ac nid yn unig ysgrifenai erthyglau arweiniol galluog, ond gofalai am fwyd iachus a dyddorol yn holl gynnwys y papyr, eto na chai dim ymddangos y byddai raid i neb gywilyddio o hono. Ysgrifenai gryn lawer ei hun, yn ei feirniadaethau, ei adolygiadau ar y cyfnodolion ac ar lyfrau, "Tŷ Arthur Llwyd," a phynciau eraill; nid cerddoriaeth yn unig, ond gwybodaeth yn gyffredinol. Rhoddodd ysgrif neillduol o ddyddorol a da yn y rhifyn Rhagfyr 28, 1853, ar Fwrdd y Golygydd, ymha un y rhoddai gyfarwyddiadau rhagorol ar yr hyn a ddylai gohebiaethau fod,—1. Y meddyliau. 2. Y papyr. 3. Yr ysgrifen. 4. Y prif lythyrenau. 5. Yr attalnodau. 6. Trefniad yr ysgrif. Ond tra yr oedd yn gryf a manwl dros y gwirionedd a phurdeb, a gweddusrwydd, eto yr oedd yr un mor zelog dros ryddid barn a llafar, a gallai fwynhâu ac ni warafunai i'r darllenwyr fwynhâu digrifwch priodol. Hyn a arweiniodd i'r anghydwelediad rhyngddo ef a Mr. Lloyd y cyhoeddwr, ac y mae yn debyg mai hyn oedd yr achos i'r Dysgedydd feirniadu yr Hen Amserau a'r Amserau Newydd. Ni oddefai, wrth gwrs, ymosodiadau personol oddiar lid a malais, eto teimlai fod gan bob un hawl i ddadgan ei farn ar bersonau a sefydliadau fel y maent yn eiddo cyhoeddus. Ond yr ydym yn barod iawn i ddadleu dros ryddid barn os na byddwn ni yn cael ein cyffwrdd; ond os dywedwch rywbeth am danom ni, gwyliwch atoch. Tybiwn fod ymddiheurad Cymdeithasfa y Gogledd, o'r ochr arall, yn tarddu oddiar fod yr Amserau yn rhy ryddfrydig. Y mae gwroniaid rhyddid wedi bod dan deyrnged fel hyn ymhob oes. Y mae rhyw ddosbarth o ddynion a fynent gael eu rhestru ymhlith diwygwyr cymdeithas, eto ydynt mor synwyrol a chymedrol, fel y teimlant yn ddyledswydd arnynt hysbysu y cread nad ydynt hwy yn gyfrifol dros y bobl "eithafol." Gadawer iddynt hwy; myned ymlaen y mae y byd, a'r bobl eithafol sydd yn ei wthio yn ei flaen; ac oni b'ai am y rhai hyny, buasai er ys talm wedi sefyll, ac ymgeulo a llygru. Yr oedd Ieuan Gwyllt yn ddiwygiwr o'r iawn ryw, ac yr oedd yr Amserau felly pan dan ei olygiaeth; nid yn cymeryd rhyw hobbies i ddadleu drostynt ychwaith, ond oddiar egwyddorion cedyrn oedd yn rhaid iddynt weithio eu ffordd allan. Rhyddfrydwr trwyadl ydoedd, a gwnai ymdrechion diflino i gynhyrfu Cymru i fod felly. Ysgrifenai at Sir Aberteifi ar Restriad Etholwyr dan yr enw Cadwallon o Ben y Dinas, ac ymdrechai "nerth braich ac ysgwydd" ymhob modd i blanu egwyddorion Rhyddfrydiaeth yn ein cenedl. Nid oedd Cymru y pryd hwnw y peth ydyw heddyw, er nad yw heddyw ychwaith y peth y dylai fod; ond bu gan yr Amserau gryn lawer o law yn y gwaith o'i dwyn i'r hyn ydyw. Rhoddir lle i'r Parchedig William Rees, D.D., fel tywysog Golygwyr Cymru, ar gyfrif ei ragflaenoriaeth, a'r grym a'r dylanwad cryf a ennillodd fel golygydd cyntaf yr Amserau, a llythyrau yr "Hen Ffarmwr," ac yn hollol briodol felly; ond yn nesaf ato, ar gyfrif ei holl gymhwysderau fel sylwedydd craff ar symudiadau yr oes, ac hwyrach yn fwy cyflawn mewn arolygiaeth fanwl dros holl gynnwys cyffredinol y papyr, y gellir rhestru Ieuan Gwyllt. Ymaflai Hiraethog yn y prif wythïenau, gan eu dadlenu mewn dull grymus, a chyda nerth anwrthwynebol dychymyg bywiog, cymeradwyai neu gondemniai nes cyrhaedd meddyliau a chalonau ei ddarllenwyr. Olrheiniai Ieuan Gwyllt ddadblygiad egwyddorion gyda manylder a chraffder, a chadwai ei ddarllenwyr sylwgar yn well—versed yn oleuedig ar holl bynciau mawr y dydd, mewn gwleidyddiaeth a chrefydd.

2. Y Gwladgarwr—newyddiadur wythnosol, cyhoeddedig yn Aberdar, Hydref 21, 1858, hyd Hydref 7, 1859.

Rhoddasom o'r blaen achlysur ei symudiad i Aberdâr i gymeryd golygiaeth y newyddiadur hwn. Nid ymddengys ei fod wedi cadw na chasglu ynghyd ei ysgrifau i'r papyr hwn, ac ni fu gydag ef, fel y gwelir, mo'r blwyddyn. Tebygol ydyw nad oedd a fyno ond â'r prif erthyglau a'r prif gang enau, a bod rhywrai eraill yn gofalu am gynnwys cyffredinol y papyr. Fel y dywedasom, nid oedd yn teimlo yn ddedwydd am nas gallai gymeradwyo pob peth a roddid ynddo. Heblaw hyny, yr oedd maes arall yn graddol ymagor iddo—yr oedd yn dechreu pregethu, a'r Llyfr Tonau wedi dyfod allan, &c., fel y penderfynodd roddi yr olygiaeth i fyny. Gallwn fod yn sicr, fodd bynag, iddo wneyd y gwaith yr un mor gydwybodol a thrwyadl, a phleidio yr un egwyddorion, yn Aberdâr ag yn Liverpool.

3. Y Goleuad. Newyddiadur wythnosol at wasanaeth Crefydd, Llenyddiaeth, Gwleidyddiaeth a Moesau. O Gorphenaf 1, 1871, hyd Ebrill 30, 1872.

Argreffid ef y pryd hwnw yn Nghaernarfon, gan Mr. John Davies. Er fod teitl y papyr hwn, fel y gwelir, yn gyffredinol, eto papyr wedi ei fwriadu yn benaf fel organ neu gyfrwng cymundeb at wasanaeth y Methodistiaid Calfinaidd ydyw; ond na bu ac nad oes a fyno y Cyfundeb, fel y cyfryw, âg ef ymhellach na'i fod yn ddealledig mai ynddo ef y ceir adroddiad mwyaf awdurdodedig y Cyfarfodydd Misol, ac mai efe sydd yn rhoddi yr adroddiad cyflawnaf o'i weithrediadau. Meddiant i gwmni o bersonau sydd yn swyddogion ac aelodau Methodistaidd ydyw, a chychwynwyd ef yn Hydref 1869. Ar y cyntaf rhenid y gwaith golygyddol rhwng amryw bersonau, ac ysgrifenai amryw erthyglau iddo yn awr ac yn y man. Yr oedd Ieuan Gwyllt yn un o'r rhai a ymunasant â'r symudiad, a chawn erthygl o'i waith, Rhagfyr 17, 1870, ar "Ryfel a'r Haul;" un arall Medi 17 yr un flwyddyn ar "Mr. Matthews, Aberystwyth;" a Thachwedd 26ain ar y "Te." Ond teimlid nad oedd sefyllfa pethau yn foddhäol mor benagored a hyny, ac fod yn well cael un Golygydd cyfrifol iddo. Yr oedd Mr. Roberts y pryd hwnw wedi ymneillduo oddiwrth ofal eglwysig, ac yn byw yn y Fron, Caernarfon, ac felly yn gyfleus o herwydd ei agosrwydd i'r swyddfa; a theimlid yn awyddus iawn iddo ef ymgymeryd â'r gwaith. Yr oedd ganddo gryn lawer o waith ar ei ddwylaw, mae yn wir; ond yr oedd ei zel yn gryf dros y Goleuad, a chydsyniodd ar y telerau fod iddo gael cydnabyddiaeth am ei lafur, yr hyn oedd yn hollol deg. Ac wedi cymeryd y gwaith mewn llaw, ymaflodd ynddo o ddifrif, a theimlid yn fuan mai nid cellwair oedd y Goleuad ganddo ef. Ysgrifenai y "Nodion Wythnosol" bob wythnos, a chostiai hyny iddo lawer o ddarllen a sylwadaeth fanwl. Ysgrifenai y rhan amlaf ddwy, ac yn bur fynych dair, o erthyglau arweiniol rhagorol bob wythnos, ac yn fynych ryw bethau eraill iddo mewn adolygiad ar lyfrau, neu ysgrif ar ryw fater dyddorol. Yr oedd y "Gohebiaethau," hyny ydyw, y llythyrau gohebiaethol, dan ei ofal ef, ond cynnwys cyffredinol y papyr dan ofal Mr. J. Davies (Gwyneddon), yr argraffydd. Felly gwelir mai ychydig iawn o gynnorthwy yn y prif bethau a gafodd yn ystod yr olygiaeth hon, ond llafuriai ef yn galed—yn galed iawn; a gellir dyweyd fod cynnwys ei lafur yn ddigymhar o ran purdeb chwaeth, amrywiaeth, a meddylgarwch. Hwyrach mai y gŵyn benaf a ddygid yn erbyn y Goleuad y pryd hwnw oedd fod helyntion Ffrainc yn cael gormod o le yn barhâus, ac o herwydd hyny yn "sych." Yr oedd Ffrainc y pryd hwnw yn yr ymdrech yn ymffurfio ar ol y dinystr ofnadwy a wnaed arni yn y rhyfel â Prwssia, a dymchweliad yr ymherodr aeth. Ac iddo ef, oedd wedi sylwi yn fanwl ar ysgogiadau Ffrainc er ys dros ugain mlynedd, ac yn deall mor drwyadl yr egwyddorion pwysig oedd yn cydymdrech ynddi, a phwysigrwydd ei safle a'i dylanwad mewn cysylltiad âg Ewrop a'r byd, yr oedd ei symudiadau o ddyddordeb anghyffredin. Nid oedd eraill yn cael y fath ddyddordeb am nad oeddynt wedi astudio y mater mor drwyadl. Er hyny, dichon fod hyny yn cau allan i raddau gormodol symudiadau pwysig ein gwlad ein hunain, ac yn enwedig Cymru, a helyntion Cyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd, yr hyn oedd neges arbenig y Goleuad, er nad oedd hyny ychwaith heb gael sylw. Am yr holl lafur dirfawr hwn, am dri chwarter blwyddyn, nid oedd ei gydnabyddiaeth ond bechan—bechan iawn; ac hyd ei farwolaeth yr oedd y gydnabyddiaeth hono heb ei thalu iddo; ond erbyn hyn yr ydym yn tybied fod y mater hwnw wedi ei drefnu gyda'i weddw.

Cyn gadael y cysylltiadau gwleidyddol hyn, hwyrach y dylem grybwyll un mater arall er mwyn cyfiawnder â'i goffadwriaeth ef. Yn y flwyddyn 1868 dechreuodd egwyddorion Rhyddfrydiaeth, oedd wedi cael eu taenu mor ddyfal ganddo ef ac eraill, ymweithio yn gryf yn Nghymru, ac ennynodd zel a brwdfrydedd mawr; ac ymhlith eraill ymysgydwodd Sir Gaernarfon oddiwrth iau Toryaeth. Pa mor bell y cafodd Ieuan Gwyllt le i weithio yn gyhoeddus gyda'r ymdrech hono, nid ydym yn gwybod. Fodd bynag, taenwyd y gair fod gweinidog a cherddor enwog o enwad arall am ddiane oddiar ffordd yr etholiad; a rhywfodd neu gilydd hwyrach mai heb weled ei enw yn gyhoeddus gyda'r symudiad—dygwyd enw Ieuan Gwyllt hefyd i mewn i'r stori, ei fod yntau yn cilio. Gwnaeth y "Dyn â'r baich drain"[69] o'r Lleuad yn y Dydd ddefnydd o honi, mewn dull anghyffredin o ddoniol, gan ddarlunio y ddau gerddor yn teithio yn annibynol ar eu gilydd yn ngwres yr haf, ac yn cydgyfarfod ar ben bryn yn y Deheudir, ac yn diweddu gyda deuawd. Tynodd donioldeb y llythyr hwnw gryn lawer o sylw a thestun siarad, a chafodd Ieuan Gwyllt deimlo yn ddwys ond yn ddystaw oddiwrtho. Hyn sydd genym ni i'w ddyweyd ar hyn,—mor bell ag yr oedd a fyno y chwedl â Ieuan Gwyllt, yr oedd yn anwiredd hollol; ni fu syniad o'r fath erioed yn ei feddwl; ac nid yn unig hyny, ond tystiai wrthym iddo wneyd ymdrech i ddyfod o Gaergybi i Gaernarfon drwy rwystrau, y rhai y gallasai yn hawdd eu cymeryd yn ddigon o esgus, i gofnodi ei bleidlais dros yr ymgeisydd Rhyddfrydig. Gwyddai y rhai a'i hadnabyddent ef yn dda o'r goreu, ei fod ef yn rhy bur i'w egwyddorion i gilio yn ol; ond nid oedd pawb yn ei adnabod felly, a chafodd brofi erlidigaeth yn hollol ddiachos. Dylasai y camargraff gael ei gywiro yr un mor gyhoeddus ag y gwnaed ef, ond hyd yr ydym yn gwybod, ni wnaed hyny byth. Am dano ef ei hun, yr oedd yn rhy reserved, ac o bosibl yn rhy ddolurus ei deimlad, i amddiffyn ei hun trwy y wasg. Cyfiawnder âg ef yn awr yw dyweyd hyn drosto, oblegid dichon i rywun gael gafael ar y chwedl mewn amser dyfodol a'i hadgyfodi pan na byddo neb a all dystio i'r gwirionedd.[70]

3. Amrywiol Ysgrifau. Yn yr "Oenig"—(1855—57, dan olygiad y Parchn T. Levi e D. Phillips. Abertawe: Rosser & Williams)."

"Mae y llythyrau at Gyfaill yn tu dal. 286, 341 a 462 o'r Gyfrol I., wedi eu hysgrifenu gan I. Gwyllt o Liverpool, dan yr enw 'Sion Llwyd' (Pentre Sais). Efe a anfonodd i mi 'Fy Album fy hun' hefyd yn tu dal. 454 o'r Ail Gyfrol, ac yr wyf yn meddwl mai efe ydyw awdwr y pennillion. Mae rhyw argraff ar fy meddwl mai ar Album Miss Hughes (Mrs. Josiah Thomas yn awr), yr ysgrifenodd hwynt. [71] Efe hefyd bïau Llythyr Sion Llwyd,' yn tu dal. 19 o'r drydedd gyfrol, ac yn ol a allaf gofio y llythyr at Gyfaill yn tu dal. 108." Llythyrau at ŵr ieuanc ydyw yr eiddo Sion Llwyd, ac y mae ynddynt gryn lawer o athroniaeth amgylchiadau bywyd, a phrofiad ac ysbryd crefyddol. Y maent yn dangos meddwl difrifol, braidd, hwyrach, yn bruddglwyfus; ac y mae y sylwadau ar Salm xxxvii., ar "ymddiried yn yr Arglwydd," yn rhagorol. Dyn fel Album ydyw testun y llinellau barddonol gwir ragorol a llawn tlysineb. Y mae y Llythyr at Gyfaill yn esiampl deg o hono ef yn ei lythyrau, a sylwadau bywiog o'r eiddo ar Liverpool, y Parch. D. C. Davies, M.A., Eben Fardd yn gwrando Jenny Lind, a'r Parch. John Jones, Talsarn, ond nid oes ond blanks yn yr 'Oenig." At y Parch. T. Levi yr ysgrifenwyd y llythyr, ac efe a gyhoeddodd y dyfyniadau heb ganiatâd, ni a dybiwn.

Telyn y Plant, Mai 1859 hyd Rhagfyr 1861, dan olygiad y Parch. T. Levi ac I. Gwyllt. Merthyr Rees Lewis.

Heblaw y tônau y crybwyllasom am danynt, I. Gwyllt a ysgrifenodd yr Anerchiad yn y rhifyn cyntaf, "Philosophi i'r Plant," tu dal. 148, 181, 202, 211 a 243, a'r adolygiad ar "Hymnau a Thônau gan E. Roberts, Liverpool," tu dal. 124 o'r ail Gyfrol. Anerchiad da yw y cyntaf, ond dichon ei fod yn llawn rhy uchel i'r plant ei ddeall. Eglurhâd dyddorol mewn dull o ymddyddan ar athroniaeth pethau cyffredin, dwfr, rhew, gwlaw, &c., yw y philosophi i'r plant. Pe buasai y rhai hyn wedi myned ymlaen am flynyddoedd, buasent yn werthfawr iawn.

Y Traethodydd. Treffynnon: P. M. Evans.

Yr ysgrifau o waith Ieuan Gwyllt a ymddangosodd yn y cylchgrawn chwarterol hwn oeddynt :-1857, tu dal. 275, Mendelssohn; 1866, tu dal. 133 a 471, Isaac Taylor; tu dal. 326, Yr Offeiriadaeth; 1867, tu dal. 261, Poen; 1869, tu dal. 46, Jonah; 1873, tu dal. 204, Brodyr yr Arglwydd; 1877, tu dal. 261, Bywyd ac Anllygredigaeth. Yn ei ysgrif ar Mendelssohn y mae wedi llwyddo yn anghyffredin i fyned i mewn i ysbryd ei destun-y mae ynddo gydymdeimlad byw âg ef; ac y mae rhai darnau, yr ydym bron yn teimlo wrth eu darllen, fod ei brofiad ef ei hun yn dyfod i'r golwg ynddynt. Hanes Mendelssohn ydyw, a beirniadaeth ragorol ar ei gyfansoddiadau a'i le yn y byd cerddorol. Cyfansoddwyd yr erthygl hon pan oedd yr awdwr yn olygydd yr Amserau. Ysgrifenodd ei ddwy erthygl ar Isaac Taylor, "ei hoff awdwr," chwedl yntau, yn fuan ar ol marwolaeth y gŵr enwog hwnw. Yr oedd unwaith wedi myned o Lundain Stamford Rivers, o bwrpas i gael gweled Isaac Taylor, a threuliodd ddwy awr yn ei gymdeithas. Gallem dybied fod awydd cryf ynddo i ddyfod i gyffyrddiad personol, os oedd modd, â'r gwŷr enwog a edmygai; oblegid nid yn unig darllenai eu gwaith, ond astudiai yn fanwl eu hanes a'u cymeriad; nid o ran chwilfrydedd gwag nac ymffrost, oblegid prin y clywid ef yn son ei fod wedi llwyddo i hyny, ond er mwyn deall y dyn. Yr oedd efe wedi darllen gweithiau Isaac Taylor yn fanwl iawn, ac yn edmygydd mawr o hono. Yr oedd rhyw gyffelybrwydd yn nhuedd eu meddyliau, ac yr oedd crefyddoldeb dwfn a byw Isaac Taylor yn swynol iawn iddo. Rhydd ddarluniad ardderchog o'i hanes yn yr erthygl gyntaf, a'i weithiau yn yr ail; nid adolygiad arnynt yn gwbl, ond cymer afael ar yr egwyddorion sydd yn rhedeg drwyddynt. Mae tuedd gref yn yr erthyglau hyn i godi awydd cryf yn y darllenydd am ddarllen gweithiau rhagorol Isaac Taylor. Tybiwn mai ei Saturday Evening a ystyriai efe yn oreu. Mae yr erthygl ar "Boen" yn cynnwys ymchwiliad athronyddol a chrefyddol i'r pwnc: beth ydyw, o ba le y daeth, ac i ba amcan. Yr oedd efe, yn ddiammheu, wedi dyoddef llawer o boen ynddo ei hun yn ei oes, ac y mae myfyrdod ar y mater, fel y ceir ef yn yr erthygl hon, yn hollol gydweddol â natur ei feddwl ef. Y mae yr erthyglau ar "Yr Offeiriadaeth, Jonah, a Brodyr yr Arglwydd," yn cynnwys eglurhadaeth feirniadol, athrawiaethol ac ymarferol ar y pynciau dan sylw. Rhydd olwg gryno ar farnau gwahanol awdwyr arnynt, a dengys ei fod yn hollol gydnabyddus â'r testynau yn yr ieithoedd gwreiddiol, ac â barn pob esboniwr o bwys arnynt, a phwysa gyda barn a chraffder neillduol eu rhesymau drostynt. Ymdrechai roddi i'r darllenwyr syniad clir a thrwyadl ar y pwnc a ddygai i'w sylw. Y mae rhyw ddyddordeb pruddaidd yn perthyn i'r erthygl olaf, sef "Bywyd ac Anllygredigaeth." Ysgrifenodd hi ychydig amser cyn ei farwolaeth, a dyma un o'r pethau olaf a ysgrifenodd i'r wasg. Dywedai yn ei nodiad at y Golygydd, fod yn ei fryd ysgrifenu amryw erthyglau ar y mater: yn hon y mae yn trin ar angeu, a'r sefyllfa rhwng angeu a'r farn. Dengys ei fod yn deall yn dda beth yw syniadau gwyddonwyr ar fater ac ysbryd, a noda yn gywir iawn y terfynau priodol sydd i wyddoniaeth a dadguddiad. Eglura yn oleu y gwahanol farnau sydd ar y pwnc o fodolaeth y corff a'r enaid ar ol angeu, gan ddangos pa mor bell y mae yr Ysgrythyr yn rhoddi sail iddynt, ac ymha bethau y maent yn myned ymhellach na'r hyn a warentir gan ddadguddiad a gwyddoniaeth, a chloa i fyny trwy egluro yr hen athrawiaeth uniongred yn ei symlrwydd, pa mor bell y mae genym oleuni dadguddiad a gwyddoniaeth, ac ymha bethau y mae tywyllwch eto yn aros, ac yn y diwedd dywed ei fod yn gadael yr Adgyfodiad a'r Farn i fod dan sylw mewn erthygl ddyfodol-awgrymiad na chafodd fyw i'w roddi mewn gweithrediad. Fel y sylwai Gol. y Traethodydd ddydd ei gladdedigaeth, yr oedd yn rhyw gysur ei fod wedi cael ei arwain o ran ei feddwl i ymdrin a myfyrio ar y materion hyn, fel pe buasai yn ymgydnabyddu â hwynt wrth ddynesu atynt.

4. Llyfr Hymnau y Methodistiaid Calfinaidd. Cyhoeddedig trwy awdurdod Cymanfa Gyffredinol y Cyfundeb. Dinbych: Argraffwyd a Chyhoeddwyd gan Thomas Gee. 1869.

Yr oedd Ieuan Gwyllt er's blynyddoedd, fel y gwelsom yn ei ddarlith ar Gerddoriaeth, yn teimlo anghen am lyfr Hymnau gwell na'r rhai oedd gan y gwahanol enwadau, ond am flynyddoedd nid oedd arwyddion fod hyny yn debyg o ddyfod oddiamgylch. Ymddengys iddo ef ei hun wneyd parotoad ar gyfer hyn. Mewn llythyr dyddiedig Chwefror 11eg, 1852, dywed, "Y mae genyf just un gair i'w ddyweyd wrthych mewn ymddiried. Byddwch gystal a pheidio ei ddyweyd wrth neb ar hyn o bryd. Y mae genyf Gasgliad o Hymnau yn cael ei barotoi, ac mor gynted ag y cyhoeddir argraffiad o'm Llyfr Tonau yn y Tonic Sol-ffa, bwriadaf ddwyn allan Lyfr Tonau ac Emynau,―y ddau ynghyd-y dôn yn nodiant y Sol-ffa ar ben uchaf y tu dalen, a'r Emyn neu gymaint o'r Emynau a allaf roi ar y gweddill o'r tu dalen hwnw, a'r un dylynol cyferbyniol. Argreffir yr Emynau yn golofnau dwbl, fel na bydd raid talu am bapur waste; ac ni bydd pris y ddau ynghyd, os gallaf fodd yn y byd, ddim yn fwy na'm Llyfr Tonau ei hun yn bresennol. Mae hyn oll yn GYFRINACHOL; ond dymunwn gael unrhyw awgrymiadau oddiwrthych chwi ar y pwnc. [72] Erbyn y Gymanfa Gyffredinol gyntaf yn Abertawe, 1864, yr oedd rhyw gymaint o deimlad am gael Llyfr Hymnau newydd ymhlith y Methodistiaid; ac wedi i'r Gymanfa hono ddyfod ynghyd, ac ystyried pa waith allasai wneyd er budd i'r holl Gyfundeb, syrthiwyd, yn un o'r pethau cyntaf, ar y priodoldeb o gael un Llyfr Hymnau. Un achos o hyny ydoedd fod dau o leiaf mewn arferiad lled gyffredin—un yn y Gogledd, a'r llall yn y Deheudir; teimlai rhai brodyr yn y Deheudir mai un a fyddai oreu, ac mai un y Deheudir ddylai hwnw fod, ac y mae yn bosibl fod hwnw yn rhagori ar un oedd ar y maes y pryd hwnw. Penodwyd Pwyllgor gan y Gymanfa hono o nifer o'r dynion goreu, [73] o'r Gogledd a'r Deheudir, at y pwrpas hwnw, feddai y Cyfundeb. Cymerodd amser maith i'r Pwyllgor hwnw i ddwyn y gwaith ymlaen, oblegid penderfynid ei wneyd yn drwyadl. Ymddengys fod pwys hyrwyddo y gwaith wedi cael ei osod ar Ieuan Gwyllt. Dygwyddasom alw heibio iddo yn Llanberis yr adeg yr oedd ar droed, a gwelsom y llyfr yn y MS., a chawsom yn yr ymddyddan ychydig o hanes ei ddygiad ymlaen. Wedi i'r Pwyllgor gyttuno ar yr egwyddorion, ar rai o ba rai y bu llawer o ddadleu, ysgrifenid yr emynau gan I. Gwyllt, ar bapyr quarto, a dim mwy nag un emyn ar yr un papyr, gyda digon o le o'r ddeutu, ac anfonid sypyn o emynau felly i aelodau y Pwyllgor ar gylch o'r naill i'r naill drwy y post; a rhoddai pob un ei enw wrth bob emyn, naill ai mewn cymeradwyaeth neu gondemniad; ac ni chaffai un emyn fod yn y llyfr heb fod mwyafrif y Pwyllgor yn ei chymeradwyo. Yr oeddid wedi penderfynu argraffu yr emynau fel y cyfansoddwyd hwynt gan eu hawdwyr, ac nid dilyn neb o'r "Cyfnewidwyr Hymnau;" ac yn yr ychydig gyfnewidiadau bychain a wnaed, yr oedd yn rhaid i'r cyfnewidiadau hyny gael cymeradwyaeth y mwyafrif o'r Pwyllgor, yn y dull a nodwyd. Gwelsom y pile fawr o'r papyrau hyn a gyfansoddent y llyfr, ac y mae yn amlwg fod hyn oll wedi costio llafur dirfawr i'r un oedd erbyn hyn yn Ysgrifenydd y Pwyllgor, sef Ieuan Gwyllt. Y mae y Rhagymadrodd wedi ei ysgrifenu ganddo ef, a'r cyfarwyddiadau, y Mynegai i'r adnodau o'r Bibl, a'r Mynegai i faterion pob emyn, ac y mae gofal mawr wedi cael ei ddangos i roddi enw awdwr priodol pob emyn wrthi. Dichon y gallasai y ddau fynegai fod yn fwy cyflawn, ond gwaith yw hyn i'w wneyd eto gan rywun yn meddu digon o amser a phwyll. Wrth ystyried y llafur dirfawr oedd gan y Pwyllgor i'w gyflawni, ac hefyd fod y mynegai yn cael ei wneyd o'r MS., y mae yn llawn mor gyflawn ag y gellid dysgwyl iddo fod. Rhoddwyd hefyd, er mwyn cyfleusdra i ddechreuwyr canu, enw tôn neu ddwy uwch ben pob emyn, ac y mae priodoldeb y cyfaddasiad yn brawf o'i graffder a'i chwaeth ef. Rhoddwyd ychydig Salmau hefyd, er rhoddi prawf a ymgymerai y Cyfundeb â chanu Salm-donau (chants), ond prin y maent hyd yma wedi cael dim sylw. Tybiwn fod y Mynegai i bob emyn. hefyd wedi ei gasglu ganddo ef, ac ni ŵyr neb ond y rhai sydd wedi cael profiad, y llafur dirfawr sydd yn myned i wneyd mynegai egwyddorol. Felly, arno ef y disgynodd y llafur mwyaf gyda'r casgliad hwn. Nis gwyddom beth a ddaeth o'r casgliad oedd ganddo ef ei hun wedi dechreu ei barotoi; tybiwn ei fod wedi cael ei suddo yn hwn. Yn Nghymanfa Aberystwyth, 1866, cawn y Llywydd (Dr. Edwards) a'r Parch. Roger Edwards yn rhoddi hanes pa le yr oedd y llyfr, a phenderfynwyd ymddiried gorpheniad y gwaith i'r Parchn. D. Jones, Treborth, a John Roberts (Ieuan Gwyllt)—Mr. Roberts i fod yn convener y Cyfeisteddfod." Hefyd "Bod awdurdod yn cael ei roddi i'r Cyfeisteddfod ddwyn allan y Llyfr Hymnau mor fuan ag y byddo modd, a bod iddynt ofalu am wahanol types, a maintioli, a phris priodol i gyfarfod âg anghen y cynnulleidfäoedd." Ar ol i'r llyfr ddyfod yn barod, anfonwyd am gynnygion i'w argraffu; ac wedi ystyriaeth, gwelodd y Pwyllgor yn oreu dderbyn cynnygiad Mr. Gee o Ddinbych. Felly, yn nghofnodau Cymanfa Gyffredinol Llanelli, 1868, "Gwnaed adroddiad o weithrediadau Cyfeisteddfod y Llyfr Hymnau, gan y cynnullydd, y Parch. John Roberts, Llanberis. Hysbyswyd fod y copy oll yn barod yn llaw yr argraffydd, sef Mr. Gee, Dinbych; fod y cyttundeb rhwng y Cyfeisteddfod a'r argraffydd wedi ei orphen; mai swllt fydd pris y plyg a'r rhwymiad rhataf, a phedwar swllt y mwyaf; y llyfr lleiaf i fod yn barod yn mis Tachwedd, a'r llall yn Rhagfyr. Darllenwyd y cyttundeb rhwng y Cyfeisteddfod a'r argraffydd yn y cyfarfod. Mewn atebiad i gais oddiwrth y Cyfeisteddfod, penderfynwyd:—Fod awdurdod yn cael ei roddi iddynt i ddwyn allan argraffiad o'r Hymnau gyda Thonau priodol i'w canu arnynt." Tynwyd y cyttundeb allan gan Ieuan Gwyllt. Nid yw yn perthyn i ni yma i basio barn ar y cyttundeb hwn, ond diammheu, ag ystyried yr holl amgylchiadau, fod y Pwyllgor yn ystyried mai hwnw oedd y goreu allasent wneyd. Wedi pasio y penderfyniad uchod gyda golwg ar y Llyfr Hymnau a Thonau, cododd gwrthwynebiad gan yr argraffydd i hyny, yr hyn a barodd lawer o drafferth a gofid i Gynnullydd y Pwyllgor; ond yn y diwedd cafwyd allan fod yn berffaith deg a rheolaidd, yn ol y cyttundeb, i hyny gael ei wneyd. Er hyny, ni chariwyd yr amcan byth i weithrediad. Ar ol i'r argraffiad cyntaf ddyfod allan, cododd cwyn led gyffredinol yn y wlad o herwydd ei ddiffygion, ac yn Nghymanfa Gyffredinol Liverpool, 1869, "Wedi ymddyddan maith, penderfynwyd ein bod yn derbyn eglurhâd Mr. Gee, ar yr hyn y cwynir o'i herwydd mewn cysylltiad â'r Llyfr Hymnau, a'n bod yn ymddiried i'w air a'i anrhydedd y diwygir y gwallau, ac y symudir pob achosion o'r cwynion rhagllaw." Ar ol hyn, bu ymgais am gael argraffiad canol rhwng y brasaf a'r manaf; ond o herwydd nad oedd hyny yn y cyttundeb, ac na wnai yr argraffydd ddim dros ben hwnw, methwyd a chael hyny oddiamgylch. Erbyn hyn, y mae y cyttundeb hwnw wedi dyfod i ben. Yr ydym yn crybwyll yr amgylchiadau hyn yn unig am eu bod yn dangos y ffyddlondeb a'r ymroddiad gyda pha un y gwasanaethai Ieuan Gwyllt Gyfundeb y Methodistiaid, er fod hyny yn costio iddo ddirfawr drafferth a llafur, a chryn lawer o ofid meddwl. Pe buasai yn dilyn ei gynllun cyntaf, sef cyhoeddi Casgliad o'r eiddo ei hun, gallasai gael llai o'r pethau hyn, a mwy o elw iddo ei hun; ond yr oedd efe yn caru llwyddiant a dyrchafiad Methodistiaeth fel y cyfryw, ac nid mewn un modd yn hoffi cael marchogaeth y Corff er ei les personol.

Fel ysgrifenydd, yr oedd ei iaith yn ddillyn a choethedig, a'i feddyliau yn athronyddol ac ëang, a'r eglurhâd o honynt mor dryloëw a'r dwfr glân. Darllena ei holl ysgrifeniadau yn berffaith esmwyth a naturiol, mewn Cymraeg pur, heb ddwyn dim bastarddaidd na Saesoneg, oni byddai yn anmhosibl trosglwyddo y syniad heb hyny. Yr oedd yn Gymro trwyadl a phur, a'i frawddegau bob amser yn Gymreig o ran eu harddull. Yr ydym yn cofio un amgylchiad mewn llettŷ yn Llandrindod, lle yr oedd yno hen glerigwr o'r Deheudir (ond genedigol o'r Gogledd), yr hwn a achwynai yn fawr ar iaith y Deheudir, a dywedai fod iaith y Gogledd yn fwy pur, gan nodi esiamplau. Wedi gwrando arno yn bwyllog, dangosodd Ieuan Gwyllt iddo fod y geiriau yr achwynai arnynt yn drwyad a gwreiddiol Gymreig, gan egluro eu hystyr, nes y bu gorfod i'r gŵr ddystewi. Yr oedd wedi darllen llawer, a meddwl wrth ddarllen; a pha beth bynag am wreiddiolder, yr oedd ei feddyliau bob amser yn eiddo iddo ei hun. Tueddai yn fynych, wedi taraw ar ryw syniad, i ddilyn ychydig ar ol hwnw, ac yna dychwelyd at ei bwnc. Hwyrach fod y dyfyniad canlynol o un o'i lythyrau yn rhoddi i ni gipolwg ar ei ddull o feddwl. [74] "Rhaid i chwi gofio mai nid esgusawd dros fy anffyddlondeb fel gohebydd ydyw rhyw lith fel yna, ond darn o feddwl a wibiodd trwy fy mynwes wrth fwrw rhyw hanner mynyd o olwg dros fy ymddygiadau. Fe allai, wrth i chwi halio ar ryw ddernyn fel yna, y daw i chwi y meddylddrych yn gyfan, ac y cewch y pleser o fyned i fewn a chwilio celloedd ei galon. Meddylddrych yn gyfan!' a ddywedais i? Hawyr anwyl, beth sydd yn gyfan yn ein byd ni! O ran' y mae pob peth yma. Rhyw ranau o bob peth a geir yma—y byd nesaf yw byd y cyfan. Hynod, onidê? mor blentynaidd ydym; edrychwch ar y dyn mwyaf ei gyrhaeddiadau a fu yn y byd erioed. Am ryw foment y mae yn siarad synwyr, y foment nesaf y mae yn baldorddi nonsens; yn awr y mae ganddo ddernyn o wirionedd, y foment nesaf y mae yn ymbalfalu mewn tywyllwch; yn debyg iawn. i blant bychain-y foment hon. mae syniad y plentyn, mor bell ag y mae yn cyrhaedd, yn gywir, er ei fod yn gyfyng, ond y fynyd nesaf y mae wedi colli'r ffordd yn gwbl. Beth pe dadlenid o flaen ein meddwl am fynydyn hen freinlen fawr Gwirionedd, yn ei hŷd a'i lled? O mor fychan fyddai swm gwybodaeth y mwyaf gwybodus o blant Adda yn ei hymyl; ac mor gyfeiliornus fyddai corff mawr syniadau plant dynion o'u cymharu â hi. Plant, ïe, a llai na phlant. Plant! nage, darnau o blant. 'Mewn rhan' y mae hyd yn nod y galluoedd sydd genym yn cael eu gosed mewn gweithrediad yn y byd yma. Welais i eto yr un dyn, na dynes ychwaith, yn gosod ei serch mewn cyflawn weithrediad ar unrhyw wrthddrych. Naddo fi, erioed. Byddai y fath ddyn neu ddynes yn beth hynod yn y byd hwn. Welais i eto neb yn ymarfer galluoedd ei feddwl hyd yr eithaf, ar bob pryd, ac ar bob achos. Rhyw ddarnau o fywyd felly ydyw ein bywyd ni. 'Does yma neb yn byw bywyd cyfan. Ond, fy anwyl gyfaill, dyma fi'n myn'd. Mynych y bum yn meddwl beth pe gollyngai dyn ei feddwl yn rhydd am ddiwrnod cyfan yn y modd hwn, a chofnodi pob awgrym, pob trem feddyliol, pob meddylddrych neu ddarn o feddylddrych, a wibiai drwy'r awyrgylch ysbrydol hon, beth fyddai y cynnyrch? Tybed fod y byd wedi cael rhyw erthygl felly erioed? Prin y gallaf fi goelio; onidê, y mae fy meddwl i yn wahanol iawn i feddyliau yn gyffredin."

Rhwng ei erthyglau, ysgrifau, llythyrau, &c., ysgrifenodd lawer iawn iawn; ond tarewir ni wrth eu darllen, mor gymhwys y mae pob brawddeg wedi ei ffurfio, pob gair yn ei le, heb eisieu rhoddi ato na thynu oddiwrtho, a'r cwbl wedi myned felly yn naturiol. Yr oedd barn yn bresennol mor gryf, mor gyflawn, ac mor fanwl yn ei feddwl wrth ysgrifenu, fel na byddai berygl ei gael yn "baldorddi nonsens fel ambell un.

III. EI LAFUR FEL PREGETHWR A GWEINIDOG. 1859-1877.

Hysbysir ni nad oes un o'i bregethau ar gael. Nid ymddengys y byddai yn ysgrifenu ei bregethau, ac na byddai ganddo byth mewn ysgrifen ond papyryn bychan, yr hwn a gadwai yn gyffredin yn mhoced ei wasgod isaf. Nid ydym yn gwybod a fu yn ysgrifenu yn nechreuad ei bregethu, ai ynte a fabwysiadodd y dull hwn o'r cyntaf. Yr oedd ganddo gof rhagorol. A thybiwn ei fod yn pregethu yn lled debyg fel y byddai yn ysgrifenu, meddwl yn dda ar y mater, ac yna, wedi ffurfio ei gynllun cyffredinol, ysgrifenai ymlaen fel y byddai meddyliau yn dyfod iddo. "Yr wyf yn cofio," meddai, "i mi gael cerydd llym iawn er ys amser yn ol gan un hen frawd, ag sydd yn awr yn y gogoniant, am roddi fel esgus dros feithder rhywbeth a ysgrifenaswn, nad oeddwn yn amcanu ei wneyd mor faith pan yn dechreu, nac yn meddwl ei fod felly hyd nes yr edrychais drosto ar ol ei orphen. Gosodai efe i lawr fel 'deddf y Mediaid a'r Persiaid,' y dylaswn feddwl fy holl erthygl cyn rhoddi pin ar bapyr i ddechreu ei hysgrifenu. Ond er fod y wers yn llem, a'r rheol yn gaeth, mae yn ddrwg genyf orfod addef fy mod hyd yn hyn heb ei dysgu." [75] Darllenai yr Emynau yn yr addoliad yn glir a phwysleisiol a phwyllog, sylwai yn fanwl ar y gynnulleidfa yn canu, ac os byddent yn ddiffygiol iawn attaliai hwynt, a dywedai nad oeddynt yn canu fel y dylent, a gofynai iddynt ail ganu. Byddai hyn, weithiau, yn peri i'r dechreuwr canu' fyned yn gynhyrfus, ac amryw yn y gynnulleidfa ofni, nes y pallent ganu gystal ag y medrent. Yr oeddym unwaith yn nghwmni boneddiges ddeallus iawn, ychydig ddyddiau ar ol iddo fod yn y capel y perthynai hi iddo, ac yn attal y gynnulleidfa felly. "Mr. ——" meddai, "yw ein dechreuwr canu ni, ac ato ef yr oeddym ni yn edrych am arweiniad. Os oedd gan Mr. Roberts ryw sylwadau i'w gwneyd, wrtho ef y dylasai eu gwneyd yn y tŷ capel ar ol darfod, ac iddo yntau ein dysgu ninnau wedi hyny, ac nid taflu y gynnulleidfa i ddyryswch ar y pryd, a tharfu ysbryd addoli." Tra yr ydym yn mawrygu zel Mr. Roberts, ac yn gwybod ei fod ef yn gwneyd hyny oddiar wir awydd cael y canu yn fwy teilwng, buom yn meddwl ganwaith fod synwyr a chrefydd yn sylwadau y foneddiges. Darllenai y bennod yn bwyllog a phwysleisiol, eto mewn ysbryd syml, dirodres, a defosiynol; deuai parch i'r gwirionedd yn amlwg yn ei ddull. Gweddïai hefyd yn syml a gostyngedig, yn feddylgar a difrifol, fel un yn ceisio rhoddi ei hun a'i wrandäwyr yn llaw ei Dduw. Yr oedd yn nodedig iawn fel gweddiwr. Wedi darllen ei destun yn eglur, esboniai ef yn feirniadol, gan ddwyn i'r golwg ffrwyth astudiaeth fanwl o hono, ac os byddai anghen rhoddai eglurhâd ar ystyr y gwreiddiol, eto heb ddim ymhoniad, nac un argraff ar feddwl ei wrandawyr o'i ysgoleigdod. Arweiniai yn feddylgar at ei destun, a thynai o hono y meddyliau y mynai alw sylw ei wrandäwyr atynt, mewn dull naturiol. Yna elai ymlaen. i egluro y meddyliau hyny, a dygai i'r golwg lawer o syniadau tarawiadol a thlysion-eto nid fel un yn casglu blodau, ond yn dilyn ei fater, ac yn taraw arnynt ar ei ffordd. Siaradai yn feddylgar a difrifol, eto gyda rhyw gymaint o awdurdod yn ei ddull a'i oslef, fel un yn teimlo fod y gwirionedd oedd ganddo yn hawlio sylw ei wrandäwyr ac y dylent hwythau roddi ystyriaeth iddo. Yr oedd ei lais yn naturiol ac yn cael ei lywodraethu yn dda, eto heb ddim tonyddiaeth na hwyl, er y gallai ennyniad teimlad ei galon beri i'w lais gryfhâu, ac i'r awdurdod yn ei lais a'i ddull ddyfod yn fwy amlwg. Dywed un wrthym, fod ei ragymadrodd bob amser yn rhagorol, y canol heb fod mor flasus, ond deuai ond odid afael cyn y diwedd. Yr oedd yn gwbl rydd oddiwrth bob rhodres, ac ni cheisiai arwain y gwrandäwyr â "geiriau · denu," nac â dim mewn arddull, ond y gwirionedd ei hun yn syml. Eto nis gallai oddef i ddim fod ar ffordd ei wrandawyr i roddi sylw i'r gwirionedd yr oedd yn ei hawlio; byddai unrhyw ystumiau neu ymddygiad, neu swn, neu ysgogiadau a thwrf babanod, yn peri rhwystr mawr iddo. Y nodwedd mwyaf amlwg oedd hawlio astudrwydd ac ufudd-dod, am fod pwysigrwydd a difrifoldeb y gwirionedd yn galw am hyny. Felly nis gellir ei restru yn bregethwr poblogaidd, er fod y gwrandäwyr meddylgar a difrifol yn derbyn adeiladaeth drwyddo. Nis gellir dyweyd, ychwaith, ei fod yn siaradwr rhwydd na hyawdl, er nad oedd, o leiaf wedi y blynyddoedd cyntaf, ddim yn flinderus ynddo; ond teimlai ei wrandäwyr mai y gwirionedd a deimlai ac a draethai oedd yn hawlio sylw, ac nid dim neillduol yn ei allu ef i'w roddi allan. Fel y sylwasom, daeth i gyffyrddiad â Mri. Moody a Sankey yn 1874, a llanwyd ei ysbryd gan ysbryd eu hymdrech hwy. Ymollyngodd i gymhell y gwrandäwyr-yn wir, gadawai gyfansoddiad ei bregethau, er mwyn siarad yn syml â'r gwrandäwyr. Weithiau cymerai, fel Mr. Moody, "y gwaed" yn fater, ac olrheiniai ef, neu ryw fater cyffelyb, a gwelid yn amlwg ei fod ef ei hun yn llawn o ysbryd y diwygiad. Cafodd lawer o oedfäon grymus a llwyddiannus yr adeg hon, ac yn enwedig felly yn Penygraig, y capel bychan yn ymyl y Fron, lle yr hoffid ac y perchid ef mor fawr, ymunodd cryn nifer â chrefydd yno. Nis gallai neb a'i gwrandawai, gyda dim ystyriaeth, ammeu am foment nad oedd efe yn hoff gan Dduw, ac yn byw yn agos ato, ac yn meddu yr "eneiniad oddiwrth y Sanctaidd hwnw." Yr oedd yn bregethwr mawr mewn difrifoldeb, meddylgarwch, a defnyddioldeb, ond nid yn fawr yn yr ystyr a arferir yn gyffredin gan y llïaws.

Fel bugail, yr oedd yn gwir ofalu am yr achos yn ei holl ranau, ac yn hoffus iawn gan bawb oeddynt yn gallu nesu ato, ac yn neillduol barchus gan bawb oll o'i ddeiliaid; eto prin, hwyrach, y gellir dyweyd fod ei fugeiliaeth yn llwyddiannus gyda golwg ar y lliaws. Clywsom ef yn dyweyd, wrth anerch gweinidog ar ei sefydliad mewn eglwys, fod eisieu i'r bugail fod yn adnabod ei braidd ; nid yn gwybod eu henwau, a lle eu preswylfod, eu galwedigaeth a'u gwynebpryd, ond yn eu hadnabod yn adnabod eu cymeriad, tuedd eu hysbryd, a'u safle fel crefyddwyr. Yr oedd efe ei hun yn neillduol o fanwl a chraffus yn ei sylw ar bersonau ei ofal, er nad bob amser, hwyrach, yn agos atynt, eto gellid dyweyd, o'r bron, fod bob un wedi bod yn destun study ganddo. Yr oedd yn gydwybodol yn ei ddyledswydd gyda'r plant, y gwŷr ieuainc, a'r rhai mewn oed. Yn y society, fodd bynag, ni fynai fyned i holi profiadau, ond gadael iddynt ddyfod allan fel ffrwyth addfed, os deuent. Ceid un o'r blaenoriaid i agor y society mewn rhyw gyfeiriaid, ac ymdriniaeth naturiol felly arno; neu ynte os deuent ar draws rhywbeth a'u harweiniai, i ryw gyfeiriad arall. Yr oedd hyn yn ddiddadl yn ddull rhagorol i roddi blas a phleser ac adeiladaeth i'r rhai yr oedd eu tueddfryd at bethau pur ac ysbrydol; ond y mae dosbarth i'w cael mewn eglwysi heb erioed gael y chwaeth hwnw, ac nid oes mewn dull fel hyn nemawr i dynu y dosbarth hwnw. Byddai ganddo sylw a gofal dros yr achos yn ei bethau allanol, er nad ymwthiai mewn un modd i ymyraeth â gwaith y diaconiaid. Yn y Bibl Teuluaidd cawn fel hyn, "1867, Gorphwysfa Chapel, Llanberis, was built," yn cael ei nodi fel dyddiad yn ei fywyd ef. Diammeu mai y rheswm am hyn ydyw ei fod ef ei hun wedi cymeryd llawer o'r drafferth gysylltiedig â dwyn y mater hwn i ben.

Fel Pregethwr, yr oedd yn aelod o'r Cyfarfod Misol, ac yn y cysylltiad hwnw yr oedd yn weithgar ac anwyl ymhlith ei frodyr. Yr oedd yn teimlo dyddordeb yn symudiadau y Cyfundeb; ac ymha le bynag y byddai, pa un ai yn y Cyfarfod Misol ai yn y Gymdeithasfa, yr oedd yn gryn lawer o'r man of business, a byddai ei sylwadau bob amser yn dangos synwyr a barn, er na byddai efe yn ymwthio yn y cysylltiad hwn ychwaith. Fel cadeirydd y Cyfarfod Misol, llywiai yn ddeheuig. Mae ambell un yn cael llawer o le ar eu dyfodiad cyntaf i gylch newydd, ond mewn amser yn darfod, a'i ddylanwad megys yn colli; ond nid un felly ydoedd efe, yr oedd ei nerth yn parhâu, ai ddyddordeb yn y gweithrediadau a'i weithgarwch yn parhâu. Efe oedd un o gynnrychiolwyr Cyfarfod Misol Arfon i'r Gymanfa Gyffredinol am 1876 ac 1877, ond yr oedd wedi marw ychydig ddyddiau cyn yr olaf. Efe hefyd oedd un o'r cynnrychiolwyr ar Bwyllgor y Genadaeth Dramor, ac un o'r pethau olaf a wnaeth dros y Cyfarfod Misol oedd ysgrifenu anerchiad at yr eglwysi gydag ystadegau y flwyddyn 1876, ac y mae yr anerchiad hwn wedi ei ddyddio "Fron, Ebrill 1877." Ystyrid ef yn rhestr flaenaf gwŷr y Cyfarfod Misol, ac yn un o'r rhai a dybid eu bod yn golofnau. Yn y blynyddoedd diweddaf, yr oedd y Cyfarfod Misol wedi pasio drwy gyfnod o crisis; yr oedd ymdrechion yn cael eu gwneyd i ddwyn diwygiadau i mewn, ond fel bob amser, anhawdd oedd dwyn hyny ymlaen heb wrthdarawiadau. Yr oedd efe yn galonog o blaid diwygiad, ac yr oedd ei bwyll a'i ddylanwad ef o werth mawr, fel y dygwyd y cwbl ymlaen, ar y cyfan, yn esmwyth a thangnefeddus, ac y cadwyd oddiwrth bob ysbryd anfrawdol, a chafodd y pleser o weled y Cyfarfod Misol wedi diwygio llawer iawn, ac yn edrych ymlaen i gyfeiriad dyfodol llwyddiannus.

Yn nechreu 1871, yn unol â chais y Dosbarth, ymgymerodd â gofal Cyfarfodydd Ysgolion Dosbarth Caernarfon, yn yr hyn y parhaodd hyd ei farwolaeth. Clywsom ef y flwyddyn gyntaf; ac er fod y gwaith yn cael ei ddwyn ymlaen yn dda, nis gellid dyweyd fod ynddo neillduolrwydd fel holwyddorwr. Y mae holi ysgol yn gelfyddyd ar ei phen ei hun, ac nid i bob un y rhoddwyd y ddawn hono; ac y mae yn bosibl, o herwydd diffyg ymroddiad ac ymarferiad, fod llai o sylw yn cael ei dalu i'r gangen bwysig hon nag a ddylai fod. Tuedd rhy gyffredin ydyw gwneyd yr holi yn arholiad, i brofi gwybodaeth yr ysgoleigion; ond y mae hyny ynddo ei hun yn dangos mai ofer ydyw, oblegid os profi gwybodaeth, nis gellir profi lliaws gyda'u gilydd, rhaid eu cael yn fwy arbenigol i hyny. Ymroddodd efe ati o ddifrif i herffeithio ei hun yn hynyma, a'r cyfryw ydoedd ei allu i ymgymhwyso fel y daeth cyn hir yn un o'r holwyddorwyr goreu a glywsom erioed. Yn yr holi, arweiniai y plant, neu y rhai mewn oed, yn raddol i mewn i ganol y pwnc, gan daflu goleuni arno, a pheri i bawb gael blas neillduol yn yr ymddyddan. Cafwyd llawer o gyfarfodydd y cofir am danynt yn hir yn y Dosbarth hwn, ac yr oedd y llafur yma wedi cylymu serchiadau y wlad am dano. Yr oedd, yn ddiammheu, wedi costio iddo ef lafur caled, ond bendithiwyd ef yn helaeth ynddo.

Yr ydym, yn awr, wedi cymeryd golwg ar lafur pum' mlynedd ar hugain fel Cerddor, fel Llenor, ac fel Gweinidog. Ac wrth edrych drosto, nid ydym yn petruso ei alw yn llafur anferth! Oes fer, mewn cymhariaeth, ydoedd oes ei lafur cyhoeddus, ond oes a dreuliwyd trwy ddiwydrwydd anghymharol. Ni threuliai fynyd yn segur, ond gweithiai yn ddyfal, yn barhâus ac yn galed. Er na chafodd oes faith, treuliodd oes fawr, a chyflawnodd waith anghyffredin o fawr mawr yn ei swm, mawr yn ei amrywiaeth, mawr yn ei werth a phurdeb ei natur. Mae ambell un yn codi rhyw un gofgolofn iddo ei hun, wrth yr hon y cysylltir ei enw, ond cododd efe amryw. Yr oedd y meddwl cryf, iraidd a bywiog oedd ganddo, fel yn ymwthio i mewn i bob cyfeiriad, ac yn cyfoethogi y byd â'i lafur ar bob llaw. Fel yr afon Rheidol yn nghymydogaeth Penllwyn, yn ymlwybro tua'r môr, weithiau yn ireiddio'r coedydd, bryd arall yn dyfrhâu y ddôl a'i chynnwys, a thrachefn yn disychedu'r trigolion, felly yr oedd yntau; fel cerddor, fel llenor a bardd, ac fel pregethwr, yr oedd yn ceisio barhâus at fod o ryw ddefnydd a llesâd. Ni ddychymygasom fod ffrwyth ei lafur mor anferth, hyd nes i ni wneyd ymchwiliad iddo, ac y mae yn ddiammheu mai ychydig sydd wedi synied am eangder a rhagoroldeb llafur Ieuan Gwyllt.

PENNOD V.

EI NODWEDDION.

DYN o daldra canolig, ei wallt wedi bod yn ddu a chrych, ond yn dechreu britho 'drwyddo, yn enwedig yn y front,—ei dalcen yn llydan a llawn, ond nid yn uchel,—yn gwisgo "dau bâr o lygaid," ond o dan y gwydrau y mae dau o lygaid bychain duon a threiddiol, o dan aeliau duon hollol—gwynebpryd llwydaidd, a thipyn o ôl y frech wen arno—genau lled gauedig, yn arwyddo penderfyniad, ond wedi ei hamgylchu a'i gorchuddio â barf fuasai yn ddu, ond yn awr yn frithedig, lled fer, a stiff, wiry—dwylaw bychain gwynion, yn gymhwys at ysgrifenu llawer―llais bassawl, nid cryf, ond yn amlygu diwylliant a thynerwch— o duedd wylaidd a diymhongar—un na fuasai yn tynu llawer o sylw ymhlith y lliaws,—rhywbeth fel yna fuasai y desgrifiad o babell ddaearol Ieuan Gwyllt ychydig flynyddoedd cyn diwedd ei oes; a'r blynyddoedd, o bosibl, yr adnabyddid ef yn fwyaf cyffredinol trwy Gymru. "Ai hwnyna yw Ieuan Gwyllt?" fuasai yn dueddol i ddyn dyeithr ofyn pe dangosid ef iddo; nerth ei feddwl a'i gymeriad oedd wedi ennill iddo ddylanwad, ac nid yn gymaint ei ymddangosiad allanol.

O ran ei feddwl, yr oedd o duedd athronyddol ac ymresymiadol. Hoffai olrhain effeithiau yn ol at eu hachosion, ac ymchwilio i'r egwyddorion a'r deddfau oedd yn llywodraethu y cwbl. Cymerai olwg eang a theg ar bob mater a gymerai mewn llaw, rhoddai bob chwareu teg i bob gwrthddadl a allai godi, a chydnabyddai yn deg, os byddai dylanwad gan yr ystyriaeth o honi, ar y pwnc dan sylw. Ar yr un pryd, gafaelai ei feddwl yn dỳn a di—ildio mewn egwyddorion mawr, a mynai gael eu lle priodol iddynt. Medrai gredu yn gryf, ac wedi credu yr oedd y grediniaeth yn egwyddor sefydlog ynddo, yn dylanwadu ar ei holl ymddygiadau. Gallem dybied hefyd ei fod ef ei hun yn destun astudiaeth drwyadl ganddo, a'i fod yn meddu adnabyddiaeth llwyr o hono ei hun. Yr oedd hyny yn naturiol iddo ef, a barnai y byd oddiallan i ryw raddau yn ol fel yr oedd yn adnabod y byd oddimewn. Yr oedd hyny yn peri fod ynddo ryw gymaint o reservedness, y teimlai dyn ryw gymaint o wyleidd—dra wrth agosâu ato, ac a barai iddo yntau hefyd gadw rhyw bellder rhyngddo ag eraill ar y cyntaf. Ond yr oedd yn rhaid dyfod yn nês ato cyn y gellid ei adnabod ef yn iawn, a dyfod ato hefyd mewn ffordd a gymeradwyai ei ysbryd. Os gwelai efe ddim byd tebyg i hyfder, neu erwinder, neu rywbeth anmhriodol mewn dyn, ciliai yn ol iddo ei hun, a byddai yn sefyll fel ar ei amddiffynfa. Yr oedd hyn yn peri nad oedd y llïaws yn ei adnabod yn drwyadl, ond yn unig yn ol y syniadau a ffurfient am dano yn y pellder, ac yn ei osod yn agored iawn i'w gamgymeryd. Yr oedd felly yn byw i lawer o raddau mewn unigrwydd hyny yw, ynddo ei hun; ond yn yr unigrwydd hwnw sylwai yn fanwl ar eraill, a meddai lawer iawn o graffder i adnabod cymeriadau dynion y deuai i gyffyrddiad â hwynt. Yr oedd fel pe yn trigo mewn tŵr amddiffynol, o'r hwn ni ddeuai oni byddai yn teimlo yn lled ddiogel fod pob peth yn dda, ond yn yr hwn yr oedd pob darpariaeth ar gyfer sylwadaeth fanwl, i wybod pa beth ac o ba fath natur a agosâi ato. Ond gadewch i ni geisio nesâu ato a chael rhyw syniad am y neillduolion a berthynent i'w gymeriad.

1. Penderfyniad.

Yr ydym wedi sylwi fod hyn wedi dyfod i'r golwg ynddo yn lled ieuanc, i'r rhai oedd yn gwybod oreu am dano. Ac erbyn i ni edrych arno drwy holl helyntion ei fywyd, yr ydym yn cael fod hyn i'w weled yn un o'r pethau amlycaf. Mynai gael yr hyn a feddyliai am dano, neu fe drengai yn yr ymdrech; ond nid ffolineb mympwyol dyn asynaidd oedd hyn ynddo ef, ond am y credai fod yr hyn a geisiai yn iawn ac yn deilwng. Eto yr oedd yn deall y natur ddynol yn ddigon da, i wybod mai nid ymhob ffordd y gellir ei chael i'r iawn, ac fod yn rhaid cymeryd i mewn i'r ystyriaeth y rhwystrau, yr anhawsderau, a thueddiadau dynion. Yn hyn, addefwn i ni gael ein siomi ynddo. Buom unwaith yn tybied, os byddai wedi credu fod rhywbeth yn iawn, y mynai ei gael, a'i gael yn y ffordd a dybiai efe yn briodol, pa un bynag ai dyma y ffordd ddoethaf. Ond wedi dyfod i adnabyddiaeth fwy trwyadl o hono, gwelsom ein bod wedi camgymeryd, ac fod ei benderfyniad ef yn cael ei lywodraethu yn hollol gan farn a doethineb a phwyll, a'i fod yn barod i "gymeryd a rhoi,"—i fabwysiadu unrhyw lwybr cyfreithlawn i gyrhaedd yr amcan; ond yr oedd yn benderfyniad er hyny, yr hwn ni roddai i fyny ar frys. Yr ysbryd penderfynol hwn a'i galluogodd i.gyrhaedd y pulpad, er gorfod gorthrechu blynyddoedd o wrthwynebiadau. Ac o herwydd yr un peth yr ydym yn cael amcanion oedd wedi dyfod i'r golwg yn gynnarach, ond o herwydd rhyw amgylchiadau yn cael eu cuddio o'r golwg dros dymmor, ac ar ol hyny, yn yr adeg briodol, yn cael eu rhoddi mewn gweithrediad; fel ambell i afon, ar ol cychwyn am enyd, yn gorfod rhedeg am dymmor dan y ddaear, ond wedi hyny yn dyfod i'r golwg ac yn rhedeg ei gyrfa. Gorchfygodd y penderfyniad hwn ynddo ef lu anferth o rwystrau o bob math ac o bob cyfeiriad, fuasent wedi tori calon un o ysbryd mwy llwfr. Dyma'r mettle fuasai yn gwneyd y tro i gadfridog milwrol; yn wir, cadfridog milwrol ydoedd, ond yn ngwasanaeth rhinwedd a gwirionedd, ac nid ar faes y gwaed. Ac y mae yr ysbrydiaeth hyn i'w deimlo drwy y rhan fwyaf o'i gyfansoddiadau, yn gerddorol, rhyddieithol, a barddonol,—yn stamina sydd yn rhoddi nerth a chryfder i'r cwbl.

2. Chwaeth bur.

Nid ydym yn gwybod i ni ddyfod i gyffyrddiad â neb erioed ag yr oedd hyn i'w brofi yn fwy trwyadl ynddo yn ei holl gysylltiadau. Lle bynag y cyfarfyddid ef, ai yn ei ymddyddanion, ei anerchiadau, ei ysgrifeniadau, ei lafur cerddorol, ai pa peth bynag a wnelai, teimlid fod yno chwaeth bur ynddo yn y cwbl. Yr oedd fel pe buasai ei gylla heb anadlu dim erioed ond awyr bur mynyddoedd Cymru, ac felly yn fyw i bob anmhuredd; ei glust heb arfer â dim ond seiniau tyner cydgord, ac felly yn rhy dyner i allu dyoddef anghydgordiad. Gwelwch ef yn eistedd yn y gyngherdd, yn nghanol y gerddoriaeth brydferth,—os daw dros wefusau y cerddor air neu syniad isel chwaeth, chwi a ganfyddwch ei aeliau yn gwgu, ac yntau yn eistedd yn anesmwyth, fel pe b'ai ei nerves wedi cael shock. Heb son am ddim byd llygredig a phechadurus, yr oedd ei deimlad ef yn fyw hollol i bob gair garw, a phob ymddygiad anfoneddigaidd, a phob teimlad anghysurus. Nid yn unig yr oedd yn fyw, yr oedd yn sensitive neillduol yn hyn o beth. Cyfaddefwn i ni deimlo chwilfrydedd mawr, wrth fyned i chwilio am ei hanes, i gael gwybod o ba le y cafodd y chwaeth bur yma oedd ynddo, ac wedi gwreiddio mor ddwfn yn ei natur; ond yr ydym yn methu a chael dim cyfrif digonol am dano, ac yn gorfod syrthio yn ol ar y dybiaeth mai rhywbeth a roddwyd ynddo gan y Creawdwr mawr ei hun ydoedd. Bid sicr yr ydym yn ei gael yn dyfod i gyffyrddiad â dynion da o dro i dro, ac yn darllen y llyfrau goreu, &c. ; ond y mae llawer heblaw efe wedi cael cystal, a mwy o fanteision, ond yr ydym yn cael fel pe buasai rhyw duedd reddfol ynddo yn ei dynu i ddewis cymdeithasu â'r goreu o bob peth ac i gilio oddiwrth y gwael a'r di-chwaeth. A dyma, ni a dybiem, ei brif ragoriaeth ei gryfder mawr. Y chwaeth ardderchog sydd ynddo sydd yn gwneyd ei Lyfr Tonau gymaint yn rhagorach nag un arall y gwyddom am dano, ac sydd hefyd yn nodweddu ei holl ddetholiadau cerddorol. Hwyrach mai y nesaf ato yn hyn o beth oedd Mr. J. Ambrose Lloyd. Yn Mr. Lloyd yr ydym yn cael chwaeth ardderchog yn gysylltiedig â thynerwch; yn Ieuan Gwyllt yr ydym yn cael chwaeth bur, yn gyfunedig â stamina penderfyniad, yr hyn a wnaeth. iddo ennill mwy o ddylanwad ar ei oes. Yn ei chwaeth yr oedd yn uwch o'i ysgwyddau i fyny na neb o'i gydoeswyr, o leiaf, a lafurient yn yr un meusydd ag ef; ac nid ydym yn meddwl y gellir pigo allan air na sill o'i holl lïaws ysgrifeniadau yn bradychu gerwinder na diffyg chwaeth. Ac yn hyn hefyd, ni a dybiem, y gwnaeth argraff ddyfnaf ar ei oes. Gwasgarodd lawer o oleuni gwybodaeth yn wleidyddol, yn foesol, ac yn gerddorol, a bu yn foddion i gynnyrchu llawer o ysbryd llafur, yn enwedig ymhlith cerddorion; ond mwy o lawer na'r cwbl yw y cyfnewidiad a gynnyrchodd yn chwaeth, ac yn benaf, yn chwaeth gerddorol Cymru. Drwy nerth a dylanwad ei chwaeth bur ef, claddwyd, nes myned yn hollol i dir anghof, lawer o ysgerbydau oedd yn llygru meddyliau dynion; ac y mae yr un chwaeth wedi adgenedlu ei rhyw yn mynwesau cymaint o'n cydwladwyr erbyn heddyw, fel na faidd ysbrydion y tywyllwch adgyfodi yr ysgerbydau hyny am lawer o amser, a chredwn bron hyd byth.

3. Boneddigeiddrwydd.

Y mae hyn yn tarddu yn naturiol oddiwrth y diweddaf. Nid ydym yn cyfeirio at y boneddigeiddrwydd allanol hwnw sydd yn gynnwysedig mewn rhyw ffurfiau â seremonïau, y gesyd rhywrai bwys arno, ond gwir foneddigeiddrwydd ysbryd. Yr oedd efe yn oleuedig, wedi gwneyd y defnydd goreu o'r manteision a gafodd, ac wedi llafurio yn galed i ddiwyllio ei feddwl; yr oedd hefyd yn gywir— yn gywir i'w egwyddorion, nid oedd twyll na hoced yn perthyn iddo, ac nis gallai ei oddef; ac yr oedd yn meddu teimladau o'r fath fwyaf tyner a charuaidd ;—a'r pethau hyn, mewn undeb â'u gilydd, a wnaent ynddo ddynoliaeth gyflawn a gogyhyd. Mewn canlyniad, yr oedd yn onest, yn berffaith onest, yn ei ymddygiadau, a'i broffes, a'i ymddangosiad. Yr oedd hefyd yn anrhydeddus—ni wnai dro bychan â neb pwy bynag; a pha faint bynag o gam a dderbyniodd efe ei hun oddiar law eraill, yr oedd efe yn rhy anrhydeddus i feddwl talu y pwyth yn ol; gwell ganddo ddyoddef cam ddengwaith na gwneyd cam unwaith. Clywsom ddynion rai troion yn priodoli iddo gymeryd mantais ar ryw amgylchiadau er ei les ei hunan, neu ei ddyrchafiad. Ond tybiem mai dynion heb ei adnabod ef yn ddigon trwyadl oedd dynion felly; po mwyaf yr adnabyddem ni ef, dyfnaf fyddai ein hargyhoeddiad na wnaethai efe er dim yr hyn y teimlai y petrusder lleiaf nad ydoedd yn hollol anrhydeddus. A gofalai am ymddwyn at eraill gyda thynerwch a pharch; os byddai byth lymder ynddo ef, llymder at yr hyn ydoedd ddrwg ydoedd, a'i awydd angerddol i gael dynion yn rhydd oddiwrtho. Rhoddai efe bob amser barch i'r hwn y mae parch yn ddyledus, ac ufudd—dod i'r hwn y mae ufudd-dod, ac nid oedd neb y gellid ymddiried yn fwy llwyr i'w foneddigeiddrwydd, a'i anrhydedd, a'i gydwybodolrwydd.

4. Ymroddiad.

Dyma elfen arall oedd i'w gweled yn neillduol ynddo. Nid penderfyniad i gyrhaedd rhyw nod, fel pe buasai yn rhaid i eraill roddi lle iddo, a chan ddibynu ar ei alluoedd i'w lenwi pan ddelai yr adeg. Ac nid rhyw ymwybyddiaeth o ryw ragoriaeth ynddo heb lafur ydoedd. Adnabyddai ei allu yn dda, a theimlai nad priodol iddo feddwl am wneyd lles, heb lafurio yn galed i gymhwyso ei hunan i fod yn ddefnyddiol. Pa faint bynag o ddaioni a gyflawnodd, ac o ddylanwad a ennillodd, gallai ddyweyd yn ddibetrus, 'A swm mawr (o lafur) y cefais y rhagorfraint hon.' Nid arbedai ei hun; yn wir, y mae lle cryf i dybied. pe buasai wedi llafurio yn llai 'caled y gallasai fyw yn hwy. A mynai gael pob peth yn drwyadl. Nid ymfoddlonai ar ddim byd hannerog, ac yr oedd cael hyny yn costio llafur caled iddo. Gwelsom ambell un yn meddu galluoedd mor ddysglaer, yn yr ysgol neu yr athrofa, fel na byddai raid iddo ond wrth ychydig o amser i fyned drwy ei wersi. Y mae un felly dan lawer o demtasiwn i ddiogi hanner ei amser, ac i ddibynu llawer ar ei gyflymder a'i allu yn ystod yr hanner arall. Ond, fel rheol, nid ydyw un felly yn drwyadl, ond i raddau mwy neu lai yn arwynebol. Ond y mae yr un sydd wedi ymladd am bob modfedd o dir, â'i gleddyf ac â'i fwa, yn fwy sicr o hono, ac wedi ei feddiannu yn fwy llwyr. Nis gall dyn fod yn drwyadl ond i'r graddau y bydd ynddo ymroddiad. Nid yw y galluoedd uchaf heb hyn ond arwynebol; ond y mae dyn o alluoedd lled gyffredin, gydag ymroddiad mawr, yn gallu gwneyd llawer. galluoedd naturiol sydd mewn dyn ydyw y pwysau, a'r ymroddiad sydd ynddo yw y nerth—y rhai gyda'u gilydd sydd yn gwneyd y momentum—yr argraff y mae dyn yn ei wneyd ar ei oes. Yr oedd yn Ieuan Gwyllt alluoedd cryfion, fel y cawn sylwi eto, ond yr oedd ynddo hefyd ymroddiad anghyffredin i wneyd y defnydd goreu o'r galluoedd a roddwyd iddo. Y mae y gwaith dirfawr a gyflawnodd, a'r dylanwad a ennillodd, gymaint yn ddyledus i'w ymroddiad a'i alluoedd. Gwyddai pa fodd i wneyd defnydd o'r mynydau, ac felly gwnaeth oes fer yn oes fawr. Y "gwas da a ffyddlawn" ydoedd efe yn dyblu ei dalent trwy farchnata yn ddyfal â hi. Yr oedd yr ymroddiad hwn yn ddeublyg: ar un llaw, ymroddai hyd y diwedd i ddarllen a myfyrio llawer i gymhwyso ei hun; ac ar y llaw arall ymroddai o ddifrif yn yr holl waith a gyflwynid iddo i'w wneyd. Yr oedd y llafur cyntaf wedi rhedeg o ddechreu ei oes hyd y diwedd; yr oedd y llall yn ymagor o'i flaen yn raddol. Ond pa le bynag y byddai, pa un bynag ai yn swyddfa'r cyfreithiwr, ai yn nghadair · y golygydd, ai ynte mewn llafur cerddorol neu bregethwrol, byddai bob amser yn hollol ymroddedig. Ac hwyrach y dylem grybwyll un neu ddwy o ffeithiau eraill mewn cysylltiad â hyn, sydd yn dangos ei ymroddiad i wneyd pobpeth yn iawn. Ni a'i gwelsom mewn llawer o gysylltiadau ag y dysgwylid wrtho, ond nis gwelsom ef erioed yn ymaflyd mewn unrhyw waith gydag esgusawd drosto ei hun nad oedd wedi cael amser i barotoi; byddai efe bob amser yn barod. Clywsom ef yn esgusodi eraill, y cantorion heb gael amser i ymarfer, neu yr ysgoleigion yn y Cyfarfod Ysgol heb gael amser i barotoi, ond ni chlywsom ef erioed yn rhoddi esgusawd drosto ei hun. A pheth arall, ni chai neb ddysgwyl wrtho ef. Credwn ei bod yn ffaith na chafodd un newyddiadur y bu yn ei olygu fod un diwrnod yn rhy ddiweddar yn dyfod allan o herwydd ei esgeulusdra ef. Gwers amlwg yn ei hanes ydoedd, "Gan brynu yr amser."

5. Craffder a Barn.

Yr ydym wedi cyfeirio at hyn yn flaenorol, a'r unig reswm ein bod yn ail grybwyll ydyw, fod y pethau hyn. i'w gweled yn bur amlwg ac arbenig ynddo. Ac y mae hyn yn beth lled anghyffredin mewn un oedd yn meddu cymaint o alluoedd cerddorol; oblegid os ceir un gallu cryf iawn, fel rheol gyffredin, ni bydd y galluoedd eraill yn arbenig felly. Y mae cerddoriaeth yn iaith y teimlad; y mae hi a'i chwaer barddoniaeth yn ymwneyd mwy â'r galon a'r dychymyg, na'r galluoedd eraill. Rhaid i ni fod yn ofalus yn y fan hon, onidê ni a allwn gael ein camgymeryd yn hawdd, a syrthio i ddwylaw lled drymion; ond byddai hyny ynddo ei hun yn brawf cryf o'n pwnc. Nid dyweyd yr ydym fod cerddorion yn ddiffygiol mewn craffder a barn, ond nad oes yn y cyffredin arbenigrwydd mawr ar y pethau hyn ynddynt. Ond y mae hanes bywyd Ieuan Gwyllt yn lled ryfedd—y cerddor galluog yn cael ei roddi dan addysg Mr. J. Evans, y mathematician, wedi hyny yn swyddfa'r cyfreithiwr, ac yn olaf yn olygydd newyddiadur i arfer ysgrifenu i'r wasg. Diammheu fod y training hwn a gafodd, er mor wahanol i'r hyn y buasem yn ei ddysgwyl tuag at ddwyn allan y cerddor,—eto ei fod wedi dylanwadu rhyw gymaint arno fel cerddor, ac wedi bod o gymhorth mawr i'w wneyd yr hyn ydoedd. Dyma a'i gwnaeth yn feirniad cerddorol mor ragorol, ac a'i gwnaeth yn ŵr o farn a chynghor mewn llawer cysylltiad, ac yn gymhwys i fod yn "dad" meddyliol i lawer, y teimlent y gallent ymddiried yn ei farn a'i gynghor. Yr oedd wedi arfer "gweled drwy" achosion a chymeriadau, a dysgu siftio evidence; ond prin y buasai neb yn tybied fod hyny yn ei gymhwyso i lanw cylch hollol wahanol, ac yn ymarfer ynddo y galluoedd oedd i osod sefydlogrwydd a nerth iddo yn y cylch hwnw. gyfunedig â hyn, ond yn hollol wahanol, yr oedd

6. Tynerwch teimlad.

Buasem yn dysgwyl hyn, wrth gwrs, yn y cerddor; er hyny, nid oedd i'w gael ar y wyneb ynddo ef, yr oedd yn rhaid myned i mewn cyn dyfod o hyd iddo. Yn y cyffredin y mae cerddorion o deimlad tyner, ond gwelsom gerddorion yn tywallt allan eu calonau mewn dagrau, lle y buasai Ieuan Gwyllt fel colofn o farmor, os nad yn rhywbeth pellach na hyny oddiwrth dynerwch teimlad. Eto, yr oedd y tynerwch ynddo, ond yn ddwfn a phur. Er nad oedd, o bosibl, yn meddu ond ychydig o allu i ddenu a llywodraethu plant, eto yr oedd yn eu caru â'i holl galon, ac yn meddu syniad clir am eu pwysigrwydd; efe, ni a dybiwn, ddewisodd yr enw prydferth "Egin yr Oes" arnynt. Tra na fedrai cerddoriaeth wag ddylanwadu dim arno, nid oedd neb yn meddu y gallu i deimlo yn gynt nac yn ddyfnach y "rhywbeth" hwnw sydd i'w brofi mewn gwir hwyl addoliadol. Yr oedd ynddo serchiadau a theimladau cryfion a dwfn, ond yr oeddynt hefyd dan lywodraeth barn a rheswm.

7. Duwiolfrydedd.

Yr ydym yn dywedyd duwiolfrydedd ac nid crefyddolder, oblegid y mae y cyntaf yn cynnwys mwy na'r olaf. Mae llawer un yn wir a chydwybodol grefyddol, ond heb roddi ei fryd ar dduwioldeb. Ond yr oedd efe felly; nid dyn duwiol cyffredin ydoedd, ond un wedi ymroddi i hyny yn uchaf ac yn benaf peth. Ac yr oedd yr holl nodweddion a nodasom yn cydgrynhoi yn y peth hwn. Yr oedd ei ysbryd penderfynol yn ei gadw yn gryf ar lwybr duwioldeb, ei chwaeth bur yn peri iddo ddewis y pethau uchaf a goreu allai crefydd roddi iddo, ei foneddigeiddrwydd yn foneddigeiddrwydd Cristionogol hollol, ei graffder a'i farn yn gwbl dan lywodraeth crefydd Iesu Grist, a'i deimlad yn fyw i argyhoeddiadau yr Ysbryd Glân. Yr oedd y cwbl yn gysegredig ac yn ddarostyngedig i grefydd, ac yr oedd hono wedi ei chydwau â holl alluoedd ei feddwl a'i galon. Mewn canlyniad dyma oedd ei egwyddor fawr lywodraethol, yn gwneyd ei gymeriad yn bur ac yn ddifrycheulyd, ac yn hyn yr oedd yn esiampl ardderchog í holl gerddorion Cymru. Mae Cymru wedi bod yn anffodus fod llawer wedi bod o'i beirdd a'i cherddorion mwyaf talentog yn ddynion o gymeriadau isel a llygredig, ac y mae hyny wedi bod yn rhwystr mawr i lwyddiant barddoniaeth a cherddoriaeth, yn gystal ag i ddyrchafiad moésol y genedl. Ond ynddo ef, yr oedd ei gymeriad yn ei godi i safle uchel o ddefnyddioldeb a dylanwad, ac nid oedd ynddo ddim diffyg moesol i beri i neb warafun iddo ei le priodol. A bu nerth a phurdeb ei gymeriad ef yn gynnorthwy mawr i buro awyrgylch Cymru, ac i beri i'r genedl ddyfod i deimlo fod yn rhaid iddi ddangos anghefnogaeth i gymeriadau diffygiol, pa beth bynag fyddai dysgleirdeb eu talentau. Ond yr oedd yma fwy na hyn eto ynddo ef, cysegru ei dalentau i wasanaethu crefydd yn uchaf ac yn benaf oedd nod mawr ei fywyd. Yr oedd yn caru crefydd Iesu Grist uwchlaw pob peth, ac i wasanaeth Duw yr ymgyflwynai yn hollol a llwyr. Yr oedd yn rhaid fod un fel hyn yn weddiwr mawr, ac yn fyfyriwr dyfal yn ngair Duw, er nad oedd yn gwneuthur un arddangosiad o hyny. Yr oedd ei holl lafur ymhob cyfeiriad yn ddarostyngedig i hynyma, dyrchafu crefydd Mab Duw, a chael ei lle priodol iddi yn meddyliau dynion. Dengys hyny ei fod ef ei hun wedi sugno yn ddwfn o ysbryd crefydd. Ac felly yr ydoedd, nis gallech fod yn ei gwmni am ychydig amser heb deimlo fod naws crefydd yn gorphwys ar bobpeth a wnelai. Yr oedd yn gymeriad ardderchog, gwir ardderchog, ac i'r rhai oedd yn meddu chwaeth at y pur a'r sanctaidd, yr oedd efe yn hoffus iawn; a pho fwyaf agos yr elid ato, a mwyaf cydnabyddus âg ef, mwyaf oll fyddai eu hedmygedd o hrono, a'u syndod ato, fod yn bosibl i ddyn ymgysegru mor llwyr i wasanaethu crefydd, ac yfed mor llwyr o'i hysbryd. Ond nid oedd ynddo ddim deddfoldeb; nid wedi gosod rheolau manwl iddo ei hun yr ydoedd, ond ysbryd crefydd wedi treiddio i'w natur, fel yr oedd byw iddo ef, o anghenrheidrwydd natur, yn fyw crefyddol.

Yr ydym wedi sylwi ei fod yn dueddol i gael ei gamddeall, ac fe'i camddeallwyd ef gan laweroedd; o bosibl, nad oedd neb yn ei oes y camgymerwyd cymaint am dano. Y mae un wedi sylwi, fod dynion mawr bob amser yn cael eu camgymeryd am ryw adeg o'u hoes; ond yr oedd efe yn agored i hyn ar hyd ei oes, a chan y rhan fwyaf o'r rhai nad oeddynt yn ei adnabod yn ddigon da. Argraff ar feddwl llawer oedd mai dyn peevish a chas ydoedd efe. Yr ydoedd hyn yn gamgymeriad hollol. Achlysurid y dybiaeth hon gan ei lymder yn erbyn pob annhrefn, yn enwedig gyda phethau cysegr Duw. Yr oedd fod dyn enwog o'r enw Ieuan Gwyllt yn dyfod i arwain y canu cynnulleidfäol yn beth mor ddyeithr a rhyfedd, fel y byddai lliaws yn dyfod yno i weled a llygadrythu, a chan y byddai, o bosibl, yn rhaid iddo roddi y canu drwy dipyn o ddysgyblaeth er mwyn ei wella, blinai y dosbarth hwn, ac elent allan ar ganol y canu. Yn wir, yr oedd yn anhawdd iawn iddo ef ddal amynedd mewn amgylchiadau o'r fath. Ni byddai gan y bobl feddwl am addoli mewn cyfarfod canu. Ac hyd yn nod yn ein cyfarfodydd addoli, yr oedd wedi bod, ac y mae eto lawer o annhrefn a thrwst sydd yn dangos diffyg parch i dŷ Dduw. I ddyn o'i fath ef, oedd â'i chwaeth mor uchel, a'i deimladau crefyddol mor dyner, yr oedd ymddygiad o'r fath yn ddolurus i'r eithaf; ac nis gallai lai na cheryddu yn llym, a chael ei ddyrysu. Am hyny dywedid, "fel y mae ei enw, felly y mae yntau." Ond y mae yn ammheus genyma welwyd ef erioed wedi colli ei dymher mewn amgylchiadau fel hyn. Addefwn y gwelwyd ef yn ddoluredig a dyrysedig nes methu myned ymlaen, ond pwnc arall ydyw i ddyn golli y llywodraeth arno ei hun, ac nis gallwn ni gofio am un amgylchiad y gallwn ddyweyd ei fod felly. Teimlai i'r byw yn ngwyneb annhrefn a drwg, a thaniai ei zel yn ei erbyn, ac yn y teimlad hwn llefarai nes y byddai i'r rhai a gondemnid deimlo yn ddigofus; ond y mae yn ammheus genym a oedd efe ei hun yn cyflawni pechod. Nid ydym yn teimlo un awydd i guddio bai, pe credem ei fod felly; ond y mae dyweyd ei fod wedi colli ei dymher ar lawer achlysur mewn lleoedd cyhoeddus ger bron tyrfaoedd o bobl, yn gyhuddiad lled bwysig. Hyd yn nod pe buasai felly, gwyddom y gallasai ddyweyd wrth ei gondemnwyr mwyaf, "Mi a aethum yn ffol, chwychwi a'm gyrasoch." Ond o'r tu arall, yr ydym yn cael fod y rhai oedd yn ei adnabod oreu, a'i gyfeillion penaf, yn cyd-dystio ei fod er yn blentyn yn hynod o garedig a llariaidd ei dymher, ac na byddai un amser yn colli llywodraeth arno ei hun. A dyma'r argraff a gaffai pob un a ddelai i gydnabyddiaeth agos âg ef ar hyd ei oes. Dywedai boneddwr wrthym y dydd o'r blaen, yn nhŷ yr hwn y buasai yn aros am lawer o wythnosau o dro i dro, nad oedd un dyn ar wyneb y ddaear y teimlent yn fwy dedwydd o'i weled yn dyfod i edrych am danynt. Ac y mae ystyriaeth o nodweddion arbenig ei gymeriad yn cadarnhâu yr un syniad. Felly, yr ydym yn cael ein harwain i gredu yn bur gryf mai cael ei ddolurio y byddai yn gymaint nes methu myned ymlaen. Yr oedd yn nodedig o dyner ei deimlad a sensitive, ac y mae hyn yn hawdd i'w gredu am dano.

Argraff arall a goleddid am dano oedd ei fod yn bell ac anhawdd cymdeithasu âg ef. Fel y sylwasom o'r blaen, yr oedd rhyw argraff felly i'w gael ar y cyntaf, ond wedi tori trwy hyn a dyfod i'w gyfeillach, teimlid nad oedd eisieu neb mwy rhydd. A phan y bu farw, y teimlad mwyaf cyffredinol yn mynwes pawb oedd yn ei adwaen oedd hiraeth dwys ar ol yr "anwyl Ieuan Gwyllt." Nid llawer o rai fu erioed yn cael ei anwylo yn fwy; yr oedd awyrgylch ei ymddyddanion yn llawn sirioldeb a chyfeillgarwch tyner.

Tybid weithiau hefyd ei fod yn un llym, awdurdodol, a thra-arglwyddaidd. Yr oedd yn gryf a llym yn erbyn yr hyn a ystyriai allan o'i le, codai ei burdeb a'i gydwybodolrwydd yn erbyn hyny. Ond os tybid ei fod yn hoff o awdurdodi, ac yn anhawdd cydweithio âg ef, nid oedd bosibl fod camgymeriad mwy. Fel arall yn hollol, nid yn unig cai pawb fyddent yn ceisio cydweithio i wneyd daioni bob chwareu teg, ond caent ynddo ef un a roddai bob cefnogaeth, a chymhelliad, a chynnorthwy i weithio, ac ymdrechai hyd yr oedd ynddo i wneyd lle i'r cyfryw. Nid oedd dim yn ei foddhâu yn fwy na gweled pob dyn yn ymdrechu yn ol ei allu i wneyd daioni. Yr ydym yn dyweyd hyn oddiar brofiad personol; a pha mor fyr bynag fyddai gallu dyn, ac afler ei ymdrech, byddai ganddo ef lygad craff i weled yr amcan, ac y mae llaweroedd yn Nghymru heddyw a deimlant barch i'w goffadwriaeth, am ei nawdd a'i ymgeledd iddynt yn eu hanelwig ymdrechion cyntaf.

Dichon fod ambell un yn tybied ei fod yn bur ofalus am ei les personol. Clywsom, os na welsom, mewn argraff, sylw felly mewn cysylltiad â dodi enwau y tônau yn y Llyfr Hymnau uwch ben yr Emynau, fod hyny yn advertisement i'w lyfr ef. Ond dyeithrwch iddo ef, a drwgdybiaeth ddiachos, a barai i neb dybied felly am dano. Y gwir ydyw, mai ychydig sydd, os oes neb yn fyw yn awr, a aberthodd gymaint er mwyn Methodistiaeth a'i wlad a'i genedl. Aberthodd fywioliaeth gysurus er mwyn cael gwasanaethu ei genedl yn y cylchoedd y bu ynddynt; a pha fantais arianol bynag a dderbyniodd, nid oedd ond annheilwng gyflog iddo am lafur ei oes. Rhaid cofio hefyd ei fod lawer gwaith wedi colledu ei hun yn ddwfn yn ei ymdrechion, a phe dadguddid y cyfan, credwn y synai llaweroedd at yr hyn a aberthodd wrth lesâu eraill.

Y mae yn bosibl ei fod ef ei hun yn ymwybodol, i ryw raddau, o'r modd y camgymerid ef, ac y drwgdybid ei amcanion, a chafodd lawer gwaith brofi ymddygiadau oeddynt yn dangos mai diffyg adnabyddiaeth o'i gywirdeb oedd wrth eu gwraidd. Ond cadwai ei holl ofidiau iddo ei hun; teimlai yn ddwys oddiwrthynt, ond troai ei deimladau briwedig i'w galon ei hun, ac ni chai eraill flino o'i herwydd. Ac ni feddyliai byth am lochesu dig na dial; os deuai y cyfleusdra iddo, talai y pwyth yn ol mewn caredigrwydd. Gallai cof am y chwerwder, hwyrach, beri iddo fod yn ochelgar gyda'r cyfryw ar ol hyny, ond credwn fod maddeugarwch yn ras amlwg iawn i'w weled ynddo.

Fel penteulu, yr oedd yn dyner a gofalus a thra charedig. Yr oedd yr undeb rhyngddo ef a'i briod yn gwlwm dedwyddwch a chariad. Mae ambell ŵr priod o ddyn da, eto yn meddu rhyw ymdeimlad o'i uchafiaeth ar ei wraig, fel mai ufuddhâu a chario allan ei ewyllys ef yw amcan ei bodolaeth hi, ac ni chaiff wybod o'i hanes a'i gyfrinach ond yr hyn a welo ei "harglwydd" yn dda o'i ras ei ddadguddio iddi, fel briwsion yn syrthio oddiar fwrdd y meistr. Ond nid felly yr ydoedd efe: os cadwai ddim oddiwrth ei briod, ni chadwai ond yr hyn a'i gofidiai, a rhag peri tristwch iddi; ond am bob peth arall, ymddiriedai ynddi fel un y gallai dywallt ei holl galon iddi. Y noson y daeth adref o'r daith ddiweddaf o Ddeheudir Cymru, arosodd ar ei draed yn hwyr gyda hi i adrodd iddi yr hyn oll a welodd ac a glywodd, yr holl fanylion, ac ar y diwedd dywedai, Wel, am a wn i, fy mod wedi dyweyd y cwbl wrthych bellach." Yn ol ein syniad ni, nis gall fod perffaith ddedwyddwch heb ymddiriedaeth llwyr o du'r naill a'r llall fel hyn. Yn ei gartref yr oedd yn ŵr penaf, ond llywodraethai mewn tangnefedd a heddwch, ac nid oedd na thra—awdurdod na chynhwrf yn aflonyddu'r lle.

Fel cyfaill, yr oedd yn gywir a phur i'r eithaf. Gellid ymddiried ynddo, ac ymddiriedai yntau yn y rhai y credai eu bod yn wir gyfeillion. Nid un a fyddai yn gyfaill ambell dro, ac ar adeg arall a wnai dro bychan â dyn ydoedd efe. "Cadwai gariad " yn ol cynghor y gŵr doeth, ac yr oedd ei "gariad" ef yn gyfryw na "feddyliai ddrwg," ac na "chwympai ymaith," oddieithr i ddrwg moesol gyfryngu. Gallai gydymdeimlo a chysuro mewn trallod, ac amddiffyn mewn ymosodiad. Nid oedd yn anhawdd gwneyd cyfaill o hono, oni byddai rhywbeth annheilwng yn yr hwn a geisiai hyny; ond wedi dechreu cyfeillgarwch, cai ei gadw, o'i ran ef, yn ffyddlawn a chywir hyd byth.

Fel dyn, yr oedd ynddo holl elfenau dynoliaeth gyflawn, a phob rhinwedd gwladol a moesol a gai ei gefnogaeth galonog. Dylasem fod wedi crybwyll, hwyrach, ei fod yn ddirwestwr trwyadl a ffyddlawn o'i febyd. Bu yn perthyn i'r Rechabiaid tra y parhasant; ond o ddiffyg cyfleusdra, nid o ddiffyg zel ac awydd, ni bu yn Demlydd Da. Pleidiai ddirwest yn wresog, ac ymdrechodd lawer iawn i blanu ei hegwyddorion yn meddyliau eraill; yn wir, ceir ei bod fel rhai egwyddorion eraill yn rhedeg yn elfen drwy ei holl lafur. A'r un modd ymhob cysylltiad, fel cymydog, fel gwladwr, ac fel aelod o gymdeithas, yr oedd yn ddyn cyflawn a christion ffyddlawn yn y cwbl.

Y cyfryw ydoedd Ieuan Gwyllt—o gymeriad nodedig o brydferth a phur, a pho fwyaf y myfyriwn arno, helaethaf, a phrydferthaf, a rhagoraf y mae ei rinweddau yn dyfod i'r golwg. Llewyrchai heb frychau i anurddo ei ddysgleirdeb, ac heb "ond" i dynu oddiwrth y rhagorol a'r prydferth ynddo.

PENNOD VI.

EI ATHRYLITH.

WRTH son am athrylith, y mae yn anhawdd iawn penderfynu beth feddylir wrth y gair. Os cymerwn ddarnodiad Carlyle, mai "gallu annherfynol i gymeryd trafferth" ydyw, yna yn ddiddadl yr oedd Ieuan Gwyllt yn un o'r dynion mwyaf ei athrylith a fagodd Cymru erioed. Yr oedd ei holl fywyd ef o'r dechreu i'r diwedd yn un llinell ddidor o drafferth a llafur caled i wneyd pob peth yr ymgymerai âg ef yn drwyadl a pherffaith; nid ymfoddlonai ar anfon dim o'i law, hyd y gallai efe, yn hannerog. Prin, fodd bynag, y tybiwn mai dyma yr hyn a feddylir yn gyffredin wrth athrylith. Hwyrach y cawn. ddarnodiad lled agos ganddo ef ei hun mewn beirniadaeth ar un o brif bregethwyr Cymru: "Yr oeddwn yn mawr hoffi ei ddull yn cymeryd un prif feddylddrych, a dim ond un, i'w ddwyn allan. Ar y cyfan, yr wyf yn ystyried ei fod yn un o'r ychydig hyny sydd yn dwyn capital o'u heiddo eu hunain i'r farchnadfa feddyliol—those few by whom the world's stock-in-trade of ideas is really augmented." [76] Dyma, mae yn debyg, yr hyn a feddylir wrth wreiddiolder; nid ailadrodd meddyliau wedi eu cael oddiwrth eraill, ond dwyn i'r golwg feddyliau newyddion, na ddaethant i feddwl neb arall yn flaenorol. Ac eto wrth gymeryd ystyr fel yma, ychydig ellir ddibynu arno fel safon. Mewn rhyw olwg, ychydig iawn sydd yn wreiddiol, yn ddynion o athrylith yn llawn ystyr y gair. Y mae rhyw ychydig yn tori tir newydd, yn darganfod veins newyddion i weithio arnynt, sydd yn dwyn cynnyrch cyfoethog, ond ychydig iawn yw nifer gwirioneddol y cyfryw. Y maent fel un yn darganfod planed newydd yn y gyfundrefn heulawg, neu elfen newydd mewn natur i'w dwyn at wasanaeth dyn, megys troi y steam yn allu i wneyd gwaith, gwneyd i'r gwefr (electricity) gario cenadwri, neu ei ddwyn yn lamp i oleuo. Darganfyddiadau newyddion ydynt sydd yn cyfoethogi'r byd. O'r tu arall, prin y mae yn debyg fod un dyn meddylgar yn darllen ac yn myfyrio drosto ei hun nad yw yn dyfod ar draws ambell i ddrychfeddwl bychan o'r newydd, na feddyliwyd am dano o'r blaen. Y mae y rhai hyn fel y personau sydd yn awr ac yn y man wedi perffeithio y steam engine, neu y telegraph, neu yr electric light—darganfyddiadau bychain nad ydynt yn creu chwyldroad mawr yn y byd, eto ydynt yn eu lle o wasanaeth mawr iddo, ac yn cyfoethogi llawer arno. Yn yr ystyr hon gellir dyweyd fod odid bob dyn meddylgar yn ddyn o athrylith—yn wreiddiol. Bid sicr, nid yw y cwbl ond darganfod gwirioneddau sydd yn bod eisoes. Nid oes neb yn creu,—dim .ond un Creawdwr—ond fod meddyliau dynion yn ymchwilio ac yn dyfod o hyd i ddrychfeddyliau oedd heb gael eu dwyn i'r golwg o'r blaen. Ac felly, nid yw y gwahaniaeth rhwng dynion o athrylith nemawr fwy na gwahaniaeth graddau a thuedd, yn dibynu ar gryfder eu galluoedd meddyliol, a thueddfryd i fyned i gyfeiriad anhygyrch. Mae ambell i ddyn nad yw yn gallu ymfoddloni ar lwybrau cyffredin masnach a thrafnidiaeth; mae rhyw awydd ynddo i fyned o'r ffordd gyffredin i chwilio am lwybrau anhwygyrch. Gwell ganddo fyned i chwilio dirgelion canolbarth Affrica, lle na bu dyn gwareiddiedig o'i flaen. A da fod y cyfryw; felly y mae adnoddau y ddaear yn cael ei hagor i ddynolryw. Felly y mae hefyd yn myd y meddwl: y mae ambell un yn ymwthio dros derfynau myfyrdodau cyffredin, ac yn gallu weithiau agor y drws i diriogaethau newyddion, ac felly yr eangir terfynau ymchwiliadau y meddwl dynol, tra y mae eraill yn ymfoddloni ar ddiwyllio a thynu allan adnoddau y meusydd sydd eisoes wedi eu darganfod. Un o'r dosbarth olaf hwn ydoedd Ieuan Gwyllt. Nid oedd ynddo feddwl "gwyllt," ac anfoddlawn yn ymwthio i gyfeiriadau newydd nes dwyn drychfeddyliau i'r golwg a wnaethant chwyldroad yn y byd cerddorol yn gyffredinol; ond llafuriodd yn galed i chwilio i feusydd cerddorol yr oedd prif gerddorion yr oesoedd wedi bod yn gweithio arnynt, a dygodd i olwg cenedl y Cymry drysorau annhraethol werthfawr yr oedd. hyd yma wedi bod, i raddau helaeth, yn ddyeithr iddynt. Yr oedd ynddo feddwl oedd yn anfoddlawn i'r terfynau cyfyng yr oedd cerddorion Cymreig o'i flaen wedi llafurio ynddynt, ac ymeangodd i chwilio i lafur y cerddorion. mwyaf ymhob gwlad; ond nid aeth ymhellach na hyny. Y mae dychymyg ambell un mor anhawdd ei gadwyno, fel y myn grwydro mor gyflym, nes tori yn rhydd oddiwrth reolaeth barn a rheswm. Y mae meddwl felly, tra yn cael o hyd i berlau weithiau, yn agored iawn i redeg ar ol syniadau cyfeiliornus. Ond yr oedd ei ddychymyg ef, tra yn ddigon cryf i roi bywyd ac yni ynddo, yn gwbl ddarostyngedig i lywodraeth y sober sense, ac felly yn chwilio yn fwy araf, eto yn fanwl a thrwyadl, y maes y llafuriai ynddo. Dyma, ni a feddyliem, oedd nodwedd athrylith Ieuan Gwyllt:—meddwl llym, bywiog (dychymyg, os mynwch), yn cael ei lywodraethu gan farn bwyllog a rheswm cryf, ac yn gysylltiedig â theimlad dwfn ac ymroddiad diflino, yr hyn a'i gwnaeth yn feistr perffaith ar yr holl gangenau y troai ei feddwl atynt.

Nodwedd ei feddwl a ddywedasom oedd hyn, ac yn ei feddwl yr oedd ei fawredd. Meddwl yn ymwneyd â meddyliau oedd ganddo; elai drwy y phenomena, yr allanol, at y meddyliau; nid oedd y cwbl iddo ef ond gwisg i'r meddyliau; a'r cwestiwn a godai yn fynych oedd, a oedd y wisg yn gymhwys i ddadguddio'r meddyliau, fel ag i beidio gwneyd cam â hwynt? A meddwl wedi ei lefeinio o'r dechreuad âg egwyddorion pur yr efengyl oedd ei feddwl ef, ac felly yn rhyfela â'r llygredig a'r dichwaeth pan y deuai i gyfarfyddiad âg ef; ac nid yn unig hyny, yr oedd ei feddwl yn ymaflyd mor lwyr, ac yn caru mor fawr y drychfeddyliau pur a da, fel yr ymdrechai ymdrech oes i gael gwisgoedd gweddus iddynt, mewn cerddoriaeth, barddoniaeth, gwleidyddiaeth a moesoldeb. Deddfau, egwyddorion, a meddylddrychau, gyda'r rhai hyn yr oedd ei feddwl ef yn cartrefu. Nid nifer o seiniau hyfryd oedd cerddoriaeth iddo ef, ond iaith meddyliau a theimladau; yr oedd pynciau gwleidyddol nid yn fympwyon plaid, ond yn egwyddorion yr oedd yn rhaid iddynt gael lle; ac yr oedd yr efengyl yn ddadguddiad o egwyddorion mawr y nefoedd. Felly yr oedd yn athronydd yn ngwir ystyr y gair, ac yr oedd ei athroniaeth ef yn sylfaenedig ar egwyddorion tragywyddol. Mewn gair, dyma athroniaeth llafur ei oes; nid cymhwyso y gyfundrefn at amgylchiadau, ond dwyn i'r golwg egwyddorion mawr a sefydlog, a hawlio eu lle priodol iddynt. Nid beth a wnai y tro, ac a fyddai yn debyg o fyned yn boblogaidd, oedd safon ei weithrediadau, ond beth oedd yn iawn, beth oedd yn sylfaenedig ar yr egwyddorion cedyrn a dyfnaf. Yr oedd yn rhaid i'r byd ddyfod i'w le yn ol yr egwyddorion hyny. Ac y mae dyn, wrth ddilyn egwyddorion fel hyn, yn dyfod i wrthdarawiad â llawer o bethau cyferbyniol sydd yn bod, ae yn myned ar draws teimladau lawer sydd yn cymeryd eu rheoli i raddau gan yr hyn fydd gymeradwy; felly y ceir fod ei fywyd yntau hefyd. Nid ydym yn ddigon pell oddiwrtho eto o ran amser, i allu ffurfio syniad cyflawn am ei "faintioli," fel y dywedir. Yn un peth, y mae cymaint o bethau amgylchiadol eto yn aros yn meddyliau pawb o honom mewn cysylltiad âg ef, fel nad ydym yn gallu eu dattod yn ddigon llwyr i sylwi arno ef ei hun. Heblaw hyny, y mae cymaint o'i gyfoedion eto yn fyw, ac yn rhy agos atom i ni allu eu barnu hwy, ac mewn canlyniad ni allwn farnu yn hollol ei alluoedd ef o'i gymharu â hwynt. A chymeryd i mewn bob ystyriaeth, yr ydym yn tybied y gellir dyweyd mai efe oedd y cerddor mwyaf a welodd Cymru o'r dechreuad hyd ei amser ef. Am y rheswm a nodir uchod, nid ydym yn cymeryd y rhai sydd yn fyw yn bresennol i'r cyfrif. Nid ydoedd, yn ddiammeu, yn gymaint cyfansoddwr a Mr. J. Ambrose Lloyd, yr hwn, y mae yn debyg, oedd y goreu yn ei ddydd ac o'i flaen. Tybiem fod mwy nag un o'r hen gerddorion yn meddu athrylith i gyfansoddi llawn cryfach nag Ieuan Gwyllt. Ond y mae yn rhaid i ni edrych yn eangach na hyn. Er nad oedd yn neillduol fel cyfansoddwr cerddorol, yr oedd yn meddu barn, a chwaeth, a chlust gerddorol o'r radd uchaf, ac yn adnabyddus hollol o holl deithi cerddoriaeth, fel erbyn i ni ddyfod â'r cwbl at eu gilydd, yr ydym yn cael ei fod y mwyaf fel cerddor a fagodd Cymru, o gryn lawer. Nid mewn uchder yr oedd yn fwy, ond mewn dyfnder ac eangder. Fel llenor drachefn, gwelir yr un nodwedd; nid rhyw dŵr uchel yn codi hyd y nefoedd, ond un eang, yn dwyn ei drysorau o bob man i'w wasanaethu. Ac yn ei gylchoedd gwahanol fel pregethwr, er na chodid ef i blith gwŷr mawr y pulpud, eto, a chymeryd ei holl ddefnyddioldeb i'r cyfrif, ceir fod seren o'r dosbarth cyntaf wedi machludo yn ei farwolaeth ef, a'i fod yn "dywysog a gŵr mawr yn Israel." Cyfuniad oedd ynddo ef o allu meddyliol cryf, barn addfed, chwaeth bur, a nerth ewyllys anghyffredin o gryf, yr hyn a'i gwnaeth yn ddyn mawr cyflawn, nid un mawr mewn rhyw un peth neillduol.

PENNOD VII.

OL EI DDYLANWAD AR GYMRU.

Y MAE yn llawn ddigon buan eto, hefyd, i ni allu barnu yn gyflawn pa faint o argraff Ieuan Gwyllt ar ei oes sydd yn debyg o fod yn arosol, ac i ba raddau yr estyn dylanwad ei lafur i'r oesoedd dyfodol. Eto, yr ydym yn teimlo tuedd gref i geisio olrhain mor bell ag y gallwn, yn y bennod olaf hon, yr arwyddion sydd i'w cael nad yw y llafur mawr a gyflawnwyd ganddo ef ddim yn debyg o ddiflanu yn ei effeithiau. Ac i'n meddwl ni, y mae y mater hwn yn meddu llawn mwy o ddyddordeb na dim o'n hymchwiliad mewn cysylltiad âg ef; oblegid er fod ein hedmygedd yn ddirfawr o hono cyn i ni ddechreu ymaflyd yn y gwaith o olrhain hanes ei fywyd a sylwi ar ei nodweddion, y mae yr edmygedd hwnw wedi cynnyddu yn anghyffredin, po fwyaf y daethom i wybod am dano, ac y myfyriasom arno; ac yn awr yr hyn sydd yn llenwi ein mynwes â boddhâd, ydyw yr ystyriaeth fod y fath lafur gwerthfawr yn debyg o ddwyn ffrwyth lawer, ïe, llawer mwy yn y dyfodol nag a welwyd eto. Cyfodwyd cofgolofn brydferth ar ei fedd, a theimlem na bu neb erioed yn fwy teilwng o honi; ac y mae genym seiliau cryfion dros gredu, er nad yw yr ysgoloriaeth wedi cael ei chymeryd i fyny fel y buasid yn dysgwyl, fod ei goffadwriaeth yn anwyl gan filoedd lawer o'n cydwladwyr; eto, mwy na'r cwbl genym ni, yw fod y Llyfr Tonau Cynnulleidfaol a'r ddau Gerddor, y Llyfr Hymnau, a Swn y Jubili, yn aros yn gofgolofnau llawer rhagorach, na phe gallesid cael y marmor prydferthaf, wedi ei oreuro âg aur pur, i'w roddi ar ei fedd; a mwy na'r cwbl drachefn, ydyw fod ei gymeriad pur, a'i lafur ymroddedig dros rinwedd a chrefydd, wedi gadael argraff annileadwy ar feddwl a chymeriad cenedl y Cymry.

Ar ymddangosiad y Blodau Cerdd, daeth i'r golwg fod rhyw allu newydd yn y byd cerddorol Cymreig wedi dechreu gweithredu, ond trwy gyfrwng Yr Amserau, a'r ddarlith ar Gerddoriaeth, daeth Cymru oll i wybod fod y gallu hwnw yn gyfryw nas gellid ei ddiystyru, ac y byddai raid iddi deimlo oddiwrtho. Ond cyhoeddiad y Llyfr Tonau Cynnulleidfaol a ddangosodd fod ganddo neges arbenig at Gymru, ac a barodd iddi deimlo drwy ei holl gyrion ei fod yn llefaru wrthi "fel un âg awdurdod ganddo ; nid awdurdod meistr ar ei waith yn unig, ond awdurdod un wedi ei anfon oddiwrth Frenin teyrnas nefoedd, gyda chenadwri mewn perthynas i foliant ei Gysegr Ef. Sylwasom yn flaenorol fod y wlad wedi addfedu i raddau i'r diwygiad yn y canu cynnulleidfäol, ac fod y llyfr, pan ymddangosodd, yn cyfateb i'r anghen am dano. Ond y mae ffaith bwysig arall i'w dyweyd, sydd yn dangos neillduolrwydd y Llyfr Tônau hwn. Cyhoeddodd eraill lyfrau tônau tua'r un adeg, neu ychydig yn flaenorol. Sylwasom fod Mr. J. A. Lloyd wedi cyhoeddi llyfr tônau yn 1843, a'r Parch. J. Mills y Cerddor Eglwysig ar ol hyny. Mewn blynyddoedd diweddarach, ymddangosodd amryw gasgliadau, un gan Mr. J. D. Jones, Ruthin, y Swn Addoli gan Mr. D. Richards, Cerddor y Cysegr gan y Parch. E. Stephen, ac amryw eraill; ond ni ddaeth un o'r cyfryw i nemawr sylw na bri. Ond pan ymddangosodd y Llyfr Tonau Cynnulleidfaol, ymledodd fel tân, nid yn unig drwy wersyll y Methodistiaid Calfinaidd, ond hefyd ymhlith yr holl enwadau drwy Gymru, fel am ychydig amser nad oedd ond efe, o'r bron, yn cael unrhyw sylw. Ar ol hyny ymddangosodd Casgliadau gan y gwahanol enwadau, megys y Llyfr Tonau ac Emynau, gan Stephen a Jones; Aberth Moliant, gan J. A. Lloyd; Llwybrau Moliant (Bedyddwyr), gan y Parch. L. Jones, Treherbert, D. Lewis a Gwilym Gwent; Llyfr Tônau i'r Wesleyaid, dan olygiaeth J. D. Jones, ac amryw gasgliadau yn yr Eglwys Sefydledig. Wrth gymharu y rhai hyn â'r rhai blaenorol hyd yn nod gan yr un awdwyr, yr ydym yn canfod argraff y cyfnewidiad a ddygwyd i mewn gan Ieuan Gwyllt yn annileadwy arnynt. Pa un bynag a dybir fod y casgliadau diweddarach yn rhagorach nag un Ieuan Gwyllt ai peidio, fe erys y cyfnewidiad amlwg yn nodwedd y llyfrau tônau yn ffaith hanesyddol anwadadwy, a phrofa fod ymddangosiad y Llyfr Tonau Cynnulleidfaol wedi nodi allan ddechreuad cyfnod newydd yn hanes y canu cynnulleidfaol gyda phob enwad yn Nghymru. Ceisiodd eraill gyfarfod â'r anghen, ond methasant; daeth Ieuan Gwyllt â'i lyfr allan, a chydnabyddwyd ef yn fuan fel safon gan holl Gymru i gyd. Diflanodd llawer o'r hen dônau a genid yn flaenorol; ond bid sicr, nis gellid dysgwyl i gyfnewidiad mor drwyadl gymeryd lle mor fuan, heb fod rhywrai yn teimlo hiraeth ar ol yr hen gyfnod, ac nid yw Ieuan Gwyllt wedi bod yn ei fedd ddwy flynedd cyn i nifer o'r hen dônau ddyfod allan eto i oleuni dydd, fel pe buasent wedi teimlo nas gallasent anturio tra yr ydoedd efe yn fyw, ond gydag iddo fyned o'r golwg, teimlent awydd i wybod pa dderbyniad a gaent. Ond nid rhaid bod yn brophwyd i wybod y canlyniad: bu farw Ieuan Gwyllt, mae yn wir, ond nid cyn i lewyrch y deunaw mlynedd diweddaf o'i oes ei gwneyd yn ormod o ddydd i ddylluanod fel Lingham, a'r cyffelyb, allu byw yn hir ynddo; ac os rhoddir prawf arnynt mewn ambell i fan, yma ac acw, ni bydd hyny ond moddion mwy effeithiol i'w claddu yn ddyfnach nag erioed. Y mae cynnulleidfaoedd Cymru byth er 1859 wedi ymddyrchafu ac ymburo gyda golwg ar foliant Cysegr Duw. Y mae y rhan bwysig hon o'r gwasanaeth wedi ei godi yn nês i'w le priodol, ac wedi cael llawer mwy o sylw, a'i ddwyn ymlaen yn fwy gweddus o flwyddyn i flwyddyn, fel nad oes berygl mwy iddo syrthio yn ol i'r un cyflwr ag yr oedd ynddo o'r blaen. Pwnc mawr ydyw symud gwlad gyfan, ond wedi ei symud, yn enwedig os bydd yn symud ar egwyddorion gwirioneddol a phur, nid mewn un dydd nac un nos y gellir ei thynu yn ol. Addefwn yn rhwydd nad yw mawl y cysegr eto yn agos yr hyn y dylai fod, a'i fod yn myned ymhell i'r ochr gyferbyniol yn awr, wrth yr hyn a fu, sef marweidd—dra a diffyg ysbryd; ond y mae diwygiad mawr wedi cymeryd lle, a diwygiad pwysig, yr hwn nis gellir ei alw yn ol, ac y mae pob arwyddion y caiff ei ddwyn ymlaen hefyd, gyda bendith y Nefoedd, hyd at fwy o berffeithrwydd.

Yn gyffelyb yr ydoedd gyda golwg ar y Cerddor Cymreig a Cherddor y Tonic Solfa. Daethant yn eu hadeg, ac yn gymhwys i lenwi yr anghen. Agorwyd maes newydd, uwch a gwell, o flaen cerddorion Cymru, a rhoddwyd cymhelliad cryf i ymddyrchafiad; "i fyny" ddaeth yn arwyddair yn y byd cerddorol, ac yr oedd y dylanwad grymus a gafodd y cynhyrfiad hwn uwchlaw desgrifiad. Cododd tô o gyfansoddwyr oeddynt yn ymroddi i waith mwy perffaith, ac uwch eu chwaeth nag a gafwyd yn flaenorol. A siarad yn gyffredinol, daeth yr efrydwyr i feddu syniadau uwch am feusydd ardderchog cerddoriaeth, a daeth y côrau i ymarfer â bwyd cryf a rhagorol; ac yn awr, wrth i ni edrych yn ol, yr ydym yn gweled fod yr ugain mlynedd diweddaf wedi bod yn gyfnod o fynediad ymlaen ymhlith cerddorion Cymru na welwyd ei gyffelyb. Mae ambell i ddyn ar ol ei oes, ac fel plwm wrth ei godreu; mor bell ag y mae ei ddylanwad ef yn cyrhaedd, y mae yn ei chadw yn yr un fan; mae ambell un arall yn gweithio ar gyfer y dyfodol, ac o flaen ei oes, ac yn marw cyn gweled ei lafur wedi dyfod i gael ei werthfawrogi; ond nid un o'r ddau ddosbarth yma oedd Ieuan Gwyllt, ond dyn yn ei oes, ac iddi, yn cario yr oes gydag ef ymlaen; ac er iddo farw yn nghanol ei lafur a'i weithgarwch, yr oedd wedi cael Cymru gerddorol i dir llawer uwch nag y cafodd hi ynddo, ac yn edrych ymlaen yn awyddus tuag i fyny.

Y mae yn debyg nas gellir dyweyd am ei lafur fel llenor a phregethwr iddo osod argraff neillduol o'r eiddo ei hun, fydd yn barhaol, hyny yw, yn barhaol fel yn nodweddiadol o hono ef. Diammeu iddo, fel Golygydd yr Amserau yn enwedig, lywio'r llong gyda medrusrwydd a gallu, ac iddo egluro egwyddorion gwleidyddiaeth a moesoldeb gyda'r fath rym nes bod o gynnorthwy mawr iddynt gael eu lle ymhlith y genedl, ac nad anghofir ei lafur tra y byddo darllenwyr yr Amserau yn fyw. Ond yn y cysylltiad hwn, un yn llafurio ymhlith llïaws ydoedd, ac er iddo lafurio yn llawn mor helaeth a grymus a neb, eto wedi i'r genedlaeth hon fyned heibio, prin y tybiwn y bydd cof am dano fel Golygydd yr Amserau. Erys ei argraff, a'r egwyddorion a bleidiodd, yn ddiddadl, ond nid yn arbenigol mewn cysylltiad âg ef. A'r un modd am ei lafur fel pregethwr, un ymhlith lliaws oedd yma; ac er mai dyma, o bosibl, ei uchelgais penaf, eto y cwbl a erys mewn cysylltiad â'i enw ef yn arbenig fydd, ei fod yn weinidog yr efengyl. Nid hawdd yw rhagweled y dyfodol, a gallwn fethu yn hynyma; ond mor bell ag y gallwn farnu, pan gyfarfyddir âg enw Ieuan Gwyllt ymhen rhai oesoedd eto, darlunir ef felCerddor o enwogrwydd mawr, oedd yn weinidog yr efengyl, ac yn llenor o radd uchel. Mewn cerddoriaeth yr erys ei argraff ddyfnaf, ac yn nodweddiadol o hono ei hun. Mewn cerddoriaeth Gymreig yr oedd yn ddyn cyfnod,' ac erys y cyfnod hwnw, mae'n debyg, mewn cysylltiad â'i enw ef tra pery Cymry, Cymro a Chymraeg—tra y byddo mawl Duw yn dyrchafu yn ein gwlad. Wrth gwrs, nis gellir priodoli yr holl ysgogiad i un dyn; yr oedd eraill wedi llafurio, ac yr oedd eu llafur wedi bod yn fendithiol i barotoi y ffordd, ac nid yw yn briodol anghofio hyny; ond pan y daeth "cyflawnder yr amser," ynddo ef y caed "yr awr a'r dyn" yn cydgyfarfod, a bydd enwau Ieuan Gwyllt a'r flwyddyn 1859 wedi eu marcio mewn llythyrenau cochion yn hanes cerddoriaeth Cymru.

Mae gwahaniaeth rhwng enwogion ac enwogion yn yr argraff a adawant ar eu hol. Mae ambell i ddyn enwog yn gwneyd llawer o ddaioni yn ei ddydd, ond wedi iddo farw y mae ei ddylanwad yn darfod. Mae un arall, nid yn unig yn gwneyd daioni yn ei oes, ond yn rhoddi cychwyniad i ddylanwad fydd yn ymledu ac yn cynnyddu wrth fyned ymlaen, ac y teimlir oddiwrtho am oesoedd. Mae y cyntaf fel cawod o wlaw yn ireiddio y ddaear am dymmor, ond y mae tywyniad yr haul ar ei hol yn peri i'w hargraff fyned o'r golwg; a'r diweddaf fel y ffynnon risialaidd sydd yn taflu allan ddwfr pur fydd yn ymwasgaru ar hyd y dyffryn, ac yn gwasgaru bendith ar bob llaw. Un o'r dosbarth diweddaf oedd Ieuan Gwyllt, ac nid oes debyg y bydd i ddylanwad ei ymdrechion ddarfod, ond ymledu a chynnyddu, a chynnyrchu yr un ysbryd yn meddyliau llawer eraill, nes treiglo ymlaen felly am oesoedd, fel y gellir dyweyd fod yr ysbryd oedd ynddo ef eto yn aros, yn aros yn fyw yn Nghymru, ac yn debyg o fyned yn gryfach gryfach.

Hwyrach y gallwn nodi rhyw ychydig o argraffiadau y mae wedi eu gadael yn ddwfn ar Gerddoriaeth Cymru, ac sydd hefyd yn debyg o barhâu. Un ydyw y dylai pob cyfansoddiad cerddorol fod yn gelfyddydol berffaith. Credai y dylai pob cyfansoddwr cerddorol fod yn deall yr egwyddorion yn drylwyr, ac ni allai oddef brychau a meflau. Rhaid cael y cyfansoddiad yn gywir, onidê nis gellid peidio ei gondemnio ganddo ef, ac erbyn hyn tybiwn y rhaid i gerddorion Cymru yn lled gyffredinol gael yr un peth. Bellach, nid gwiw i bob un fydd yn gallu ysgrifenu ychydig o nodau cerddorol dybied ei hun yn gyfansoddwr; rhaid iddo allu profi yn ei waith ei fod yn dilyn y "deddfau a'r barnedigaethau," ac yn llwybro ymlaen yn drefnus a chywir, onidê fe syrth ei waith i'r llawr. A thra y sonir am adgyfodi hen dônau a chyfansoddiadau, nid yw yn bosibl i'r rhai hyny gael derbyniad yn awr yn y wisg garpiog ac annhrefnus yr ymddangosent gynt y mae yn rhaid eu had—drefnu a'u codi i fyny â'r safon, onidê nid ystyrir hwynt yn werth sylw. Ieuan Gwyllt a ddygodd hyn i mewn i gerddoriaeth Cymru, ac y mae y dylanwad yn dyfnhâu o hyd.

Argraff arall ydyw, mai trosglwyddo drychfeddyliau yw amcan cyfansoddiad cerddorol, ac mai yn ol y drychfeddyliau hyny y mae i'w farnu. Nid digon fod un llais yn lled dda, y mae yn rhaid i'r holl leisiau fod yn cydweithio i argraffu yr un drychfeddwl. Ni thalai ehediadau dibwynt a dienaid iddo ef, a dysgodd gerddorion Cymru i wybod mai iaith ydyw cerddoriaeth, ac mai baldordd ydyw iaith heb feddwl a synwyr iddi. Gall peth felly wneyd y tro i ddifyru babanod, ond y mae mwyafrif cantorion Cymru erbyn hyn wedi dyfod yn ormod o wŷr i gael eu hud—ddenu gan drydar o'r fath hwnw. Rhaid cael synwyr, rhaid cael meddwl, rhaid cael ystyr bellach, ac i Ieuan Gwyllt, yn benaf, y gallwn olrhain yr addysg sydd wedi cynnyrchu y ffrwyth yma.

Trydydd argraff ydyw, mai amcan cerddoriaeth yw gwasanaethu i burdeb a rhinwedd, ac mai cam â hi a darostyngiad arni yw ei dwyn yn gaeth dan unrhyw iau arall. Hwyrach nad yw ein gwlad wedi dyfod i deimlo hyn mor ddwfn a thrwyadl eto ag y byddai yn ddymunol, ond y mae gwahaniaeth dirfawr i'w weled rhwng yr hyn sydd yn awr a'r hyn ydoedd ugain a deng mlynedd ar hugain yn ol. Ymdrechodd Ieuan Gwyllt dros hyn yn ddyfal a diflino a sefydlog ar hyd ei oes. Gwelwyd eraill yn meddu rhyw gymaint o'r pur a'r chwaethus, ond cymysgid ef â chymaint o'r isel a'r di—chwaeth, fel y teimlid nas gellid ymddiried yn eu sefydlogrwydd. Ond glynodd ef yn gywir a difwlch wrth y da a'r rhinweddol; ni wyrodd ar dde nac aswy, ac y mae ôl ei lafur i'w weled yn amlwg, ac fe fydd felly am oesau eto.

Yn olaf, mai y gwasanaeth uchaf ac ardderchocaf y gall cerddoriaeth fod ynddo, yw bod yn gyfrwng addoliad i'r Duw Goruchaf, mewn ffurf syml a choethedig. Y mae y dylanwad a gafodd Ieuan Gwyllt er dyrchafu caniadaeth y cysegr i'r safon uchel hon yn annirnadwy bron. O'r blaen, i raddau gormodol, boddlonid os ceid yr addolwyr i dipyn o "hwyl," fel pe mai amcan penaf canu mawl oedd tyneru yr addolwyr. Syniad newydd, ond syniad a ddaeth gyda grym anwrthwynebol dros Gymru, oedd mai addoli Duw ydyw yr amcan penaf, ac mai cyfrwng i drosglwyddo hwnw yn y dull rhagoraf yw canu mawl. Y mae y syniad hwn wedi gafael yn Nghymru, ac yn ymledu yn barhâus yn ei ddylanwad. Gweithio allan yr egwyddorion hyn i fod yn sefydlog yn ysbryd cerddorion Cymru ydoedd amcan mawr oes Ieuan Gwyllt, a chafodd fyw i'w gweled wedi eu planu ac yn dechreu dwyn ffrwyth. "Y mae y cantorion," meddai (yn 1876), "mewn amryw o leoedd wedi codi bellach i'r ideal o beth ddylai canu cynnulleidfaol fod! Yr oedd ei ddull o lefaru y geiriau uchod yn brawf o'i foddlonrwydd. Y tâl goreu y gall unrhyw ddiwygiwr ei gael yw teimlo a sylweddoli fod ei ymdrechion yn cael eu gwerthfawrogi." [77] Am ei fod yn gorfforiad mor ardderchog o'r egwyddorion hyn, y mae y Llyfr Tonau Cynnulleidfaol yn sefyll mor uchel, ac yn debyg o barhâu felly. Yn hyn y gadawodd ymhell ar ol y casgliadau blaenorol, ac o'r diffyg y buont hwy feirw; a pha faint bynag o gyfnewidiad a ddichon ddyfod yn anghenrheidiol yn y dyfodol, fe erys y cyfangorff o hono, yn gorphwys ar sylfeini ansigledig. Fel hyn cafodd Ieuan Gwyllt roddi cychwyniad i gyfnod newydd sylweddol yn hanes cerddoriaeth Cymru, cyfnod o fyned ymlaen, a chyfnod y pery ei ôl yn annileadwy. "Darfu i'r hen Ficer Pritchard o Lanymddyfri, gychwyn cyfnod newydd yn Nghymru, pan y cyhoeddodd ei lyfr Canwyll y Cymry; ac felly hefyd y gwnaeth Williams, Pantycelyn, gyda'i Emynyddiaeth; a chan Charles o'r Bala gyda'i Eiriadur a'i Hyfforddwr; Peter Williams gyda'i Esboniad, a Charles hefyd trwy sefydlu Ysgolion Sabbothol. Gellid gyda phriodoldeb restru Ieuan Gwyllt gyda'r enwogion hyny, fel un a ddechreuodd gyfnod newydd mewn cysylltiad â Cherddoriaeth yn Nghymru. Bydd ei enw yn gysylltiedig â'r cyfnod hwnw tra bydd Cymru mewn bod." [78] Hollol wir. "Cewri oedd ar y ddaear yn y dyddiau hyny," ac yr oedd Ieuan Gwyllt o'r un hiliogaeth —o feibion Anac. Y mae ei fywyd a'i lafur bellach, nid yn gwneyd i fyny hanes personol yn unig, ond yn ffurfio rhan o hanes cenedl y Cymry, ac mewn ystyr gerddorol wedi ei gwneyd yr hyn ydyw, ac mor bell ag y mae'r presennol yn sylfaen y dyfodol,—yr hyn a fydd.

Clywsom son amryw weithiau wedi ei farwolaeth, am ethol un i lenwi ei le yn y cylch yr oedd ynddo! Nid myned i esgidiau neb arall a ddarfu Ieuan Gwyllt, ond cerfio lle iddo ei hun, ac yr oedd yn rhy fawr yn y lle hwnw i neb allu ei lenwi ar ei ol. Un Ieuan Gwyllt a gafodd Cymru, ac a gaiff. Pan bu farw Williams, Pantycelyn, ni etholwyd neb i gyfansoddi emynau ar ei ol; a phan fu farw Charles o'r Bala, nis gwelwyd yn dda ethol neb i "gymeryd ei esgobaeth ef;" a'r un modd nis gellir gyda Ieuan Gwyllt. Cèrir y gwaith a ddechreuwyd ganddo ymlaen gan wahanol ddoniau, ac mewn gwahanol ddulliau, a chredwn yr ä ymlaen gan gynnyddu fwyfwy. Gadawodd fwlch, nad allasai ei lenwi ond ef ei hun. Er hyny, gorphenodd ei waith. Tra yr ymddengys i ni fod cymaint wedi ei adael ar ei hanner, ac y tueddir ni i ofyn, Pa beth fuasai y rhai hyn oll wedi eu gorphen? Eto, aeth efe hyd at y pen, cyflawnodd ei oruchwyliaeth, ac y mae yr hyn sydd yn weddill i'w wneyd er dyrchafu cenedl y Cymry, i'w wneyd gan arall neu eraill. Rhodd yr Arglwydd i Gymru ydoedd efe yn ddiddadl, yn cael ei rhoddi yn ei hadeg, ac i gyflawni yr amcan mewn golwg. Ac y mae gan Gymru achos mawr i ddiolch a moliannu Duw am dani. Pe gellid tybied y posiblrwydd o gyfuniad y fath dalentau a dylanwad ag oedd ynddo ef, yn gysylltiedig â chymeriad sigledig neu chwaeth lygredig, y fath alanasdra moesol dychrynllyd fuasai hyny. Ond o drugaredd, rhodd nefol ydoedd, mewn cnawd, mae yn wir, ac felly yn ddarostyngedig i wendidau y ddynoliaeth, ond mor bur a rhinweddol, fel y mae ei ddylanwad yn perarogli yn iachus trwy bob congl o Gymru heddyw. Cafodd Cymru ei bendithio ynddo yn ei oes, ac erys enw Ieuan Gwyllt yn fendith ac yn berarogl o'r hyn sydd bur, a rhinweddol, a sanctaidd, tra pery Cymru yn "Wlad y Gân."

Gorphwys bellach, anwyl Ieuan, mewn tangnefedd heddychol yn mynwent dawel a phrydferth Caeathraw. Treuliaist ddiwrnod o lafur caled, caled iawn, a gwnaethost waith mawr, a theilwng ydyw i ti gael gorphwys yn dawel. Ond nid anghofiwn di, gadewaist dy argraff yn rhy ddofn ar ein calonau, ein meddyliau a'n cymeriadau, iddi byth gael ei dileu. Tra y gorphwysa dy ran farwol yna, a'th ysbryd yn ngwlad y mawl tragywyddol, aiff dy waith. ymlaen, ymlaen o hyd i wneyd daioni. Y mae dy lafur wedi ei gydwau âg egwyddorion dyfnaf teyrnas yr Arglwydd Iesu Grist, ac y mae sicrwydd llwyddiant hono yn sicrhâu nad aiff dy "lafur yn ofer yn yr Arglwydd." Mawr, mawr, MAWR ddiolch i ti, am yr hyn oll a wnaethost, a mawr ddiolch i'n Duw ni am dy gyfodi yn ein plith. Ac yn awr, dros enyd fechan, rhaid i ni ddyweyd ffarwel! O na, ni'th anghofiwn di, y mae ein hysbryd of hyd yn ymaflyd ynot, ac yn cymdeithasu â thydi, a'n calon, yn wir, yn hiraethu am danat. Ffarwel ar hyn o bryd, ond "ni gawn gwrdd tu draw i'r afon," ac ymbleseru gyda'r egwyddorion mawrion y llafuriaist drostynt yma. Ond tra y parhao crefydd Cymru, erys yn annileadwy argraff ac enw "Ieuan Gwyllt, Gelltydd Melindur."

Y DIWEDD.





P. M. EVANS AND SON, ARGRAFFWYR, TREFFYNNON.


Nodiadau golygu

  1. Adroddodd y Dr. Edwards wrthym fod Ysgol Sabbothol yn cael ei chynnal yn Rhiwarthen. Ar y pryd yr oedd ysgolfeistr yn Mhenllwyn, yr hwn a fuasai ar ryw dro yn Llundain. Un Sabboth aeth yn ddadl rhwng Evan Rhobert a hwnw yn y dosbarth ynghylch ystyr rhyw adnod, yr hon ddadl a barhaodd hyd ddiwedd yr Ysgol, ac arosodd y ddau ar ol i'w gorphen. Oddiwrth ddadlu am ystyr yr adnod, aethant i daeru pa un oedd yn gwybod mwyaf, a'r modd y profid hyny oedd pwy oedd wedi gweled mwyaf o lyfrau. "Bum i yn y Gogledd," meddai Evan Rhobert, a gwelais lyfrgell hwn a hwn, a hwn a hwn," &c. "Pw! beth yw hyny?" meddai y llall; "bum i yn Llundain, lle y mae tai mawrion yn llawn o lyfrau !" Nid oedd y Dr. Edwards ond plentyn bychan gyda'i dad ar y pryd, ond gadawodd y sylw argraff ddofn ar ei gof.
  2. Adgofion gan y Parch. Dr. Edwards, Bala. Goleuad, Medi 4, 1875
  3. Bala, Mawrth 2, 1857. O'r adroddiad yn yr Amserau.
  4. Yr ydym yn rhoddi hyn ar awdurdod Mrs. Pugh, chwaer Ieuan Gwyllt. Yn y Drysorfa am 1836, tu dal. 252, y mae rhestr o bregethwyr a gweinidogion Sir Aberteifi, y rhai oeddynt wedi meirw a'r rhai oeddent yn fyw, ond nid yw Sion Llwyd yn cael ei en wi. Dichon, er hyny, fod y dystiolaeth hon o eiddo Mrs. Pugh yn wir, oblegid oddiar y cof, y mae yn debyg, y gwnaed y rhestr hono. Deallwn hefyd fod awydd mawr i bregethu wedi bod ar Isaac, mab Sion Llwyd, yr hwn a breswyliai am dymmor yn nhŷ capel Penllwyn, ond ni chyrhaeddodd y nod. Yr oedd pregethu yn y gwaed
  5. Y mae y dates hyn wedi eu cymeryd o Fibl teuluaidd yn meddiant ei weddw Mrs. Roberts, ac yn llawysgrif Ieuan Gwyllt ei hun. Gwell genym eu rhoddi yn Saesoneg, fel yr ysgrifenodd efe hwynt.
  6. Yn Hydref, 1879, cawsom weled y lle. Saif Tanrhiwfelen ar y ffordd sydd yn arwain o Aberystwyth at Bont y Gŵr Drwg, oddeutu hanner milldir yn nês i'r diweddaf na chapel Sion. Y mae y tŷ bychan sydd yn dwyn yr enw Tanrhiwfelen yn awr yn fwy newydd, ac nid oes yn aros o'r hen dŷ y ganwyd Ieuan Gwyllt ynddo ond adfeilion o'r muriau pridd. Os hysbyswyd ni yn iawn, hen weithdy i John Davies y saer ydoedd wedi ei droi yn dŷ i Evan Rhobert a Bet, ar ol eu priodas.
  7. O lawysgrif y Parch. Robert Roberts, Llundain, wedi dechreu, mewn black lead, ysgrifenu Cofiant i'w frawd, ond bu farw cyn gallu gwneyd ychwaneg na hyn.
  8. O "Fy Adgofion," gan y Parch. Dr. Edwards, Bala, yn y Goleuad, Medi 11, 1875.
  9. Llythyr oddiwrth Mr. Absalom Prys, Penllwyn, at y Parch. R. Roberts, Llundain.
  10. Cynnwysai, heblaw pennillion, un englyn os nad ychwaneg, ac yr oedd mewn englyn y llinell "Defod yw myn'd i'r dufedd," yr hon a gondemnid gan barson y plwyf mewn ymddyddan, am y tybiai efe mai anghenrheidrwydd, ac nid defod, oedd yn peri i'r bobl fyned i'r bedd.O enau y Parch. J. Williams, Llandrillo.
  11. Llythyr Mr. Absalom Prys at y Parch. R. Roberts.
  12. Cerddor Tonic Solffa, rhif. I. tu dal. 3. Trwy ddiwydrwydd Mr. Absalom Prys y mae y dôn hon wedi ei chael, yr hon a ymddangosodd yn yr Athraw am fis Tachwedd, 1839-cyhoeddiad misol a gyhoeddid yn Llanidloes, dan olygiaeth y Parch. Humphrey Gwalchmai, ac y mae yn dda genym ei rhoddi i mewn yma. Dywedir fod Mr. J. Ambrose Lloyd wedi cyfansoddi y dôn "Wyddgrug," M. 8 7 3, yn 13 oed. Y mae y dôn hon, "Hafilah," o waith I. Gwyllt, yn dri llais a'r prif lais yn y canol, yn ol y dull arferol y pryd hwnw
  13. Llythyr Mr. Absalom Prys. Mae Mr. Prys, yn ddiddadl, yn camgymeryd gyda'r oedran. Galwyd y dôn ar yr enw "Victoria," yn ol pob tebyg, oddiwrth enw ein grasusaf Frenines, yr hon a esgynodd i'r orsedd Mehefin 21, 1837, pan oedd Ieuan Gwyllt yn 14 oed. Nid oedd Dirwest ychwaith wedi dyfod yn gyffredinol hyd yr un flwyddyn, a chawn hanes y Parch. D. Charles, B. A., ar daith ddirwestol trwy y Deheubarth gyda'r Parch. Henry Rees. Cychwynasant o Gymdeithasfa Aberystwyth, ac yr oeddynt yn Penllwyn Ebrill 7, 1837, pryd yr arwyddodd 13 yr ardystiad. Gwel y Drysorfa am 1837, tu dal. 189. Felly yr oedd Ieuan Gwyllt dros 14 oed.
  14. 14.0 14.1 14.2 14.3 Llythyr Mr Absalom Prys
  15. Llythyr Mr. Absalom Prys at yr Ysgrifenydd.
  16. Llythyr Mr. A. Prys at y Parch, R. Roberts.
  17. Tystiolaeth y cyfeillion hyn.
  18. Tystiolaeth Mr. Julian, Aberystwyth.
  19. Llythyr Mr. Absalom Prys at y Parch. R. Roberts.
  20. Cawsom gryn anhawsder i gael gwybod yr hanes hwn yn fanwl, ac anfonasom y Cofiant i gael ei gywiro gan gyfeillion Aberystwyth drwy law y Parch. J. Williams, ac y mae y dernyn uchod wedi ei ysgrifenu ganddynt hwy.
  21. Wedi ysgrifenu yr uchod, cawsom o hyd i'r argraffiad cyntaf o'r Gramadeg Cerddoriaeth, 1838. Os ar ei ymddangosiad y bu'r ddadl, yr oedd hyny cyn iddo ądael Penllwyn.
  22. Llythyr Mr. Absalom Prys at y Parch. R. Roberts.
  23. Llythyr Mr. Absalom Prys at y Parch. R. Roberts.
  24. Llythyr Mr. Absalom Prys at y Parch. R. Roberts.
  25. Llythyr oddiwrth Mr. E. Roberts.
  26. Mewn llythyr cyfrinachol at y Parch. T. Levi
  27. Llythyr at y Parch. T. Levi.
  28. Ionawr 3, 1855.
  29. Llythyr at y Parch. T. Levi.
  30. Llythyr at y Parch. T. Levi.
  31. Mae y dyddiad mewn cysylltiad â'r Faner ar awdurdod Mr. Gee.
  32. Anerchiad y Parch. D. Saunders yn nghyfarfod dadorchuddiad y Feddgolofn yn Nghaeathraw, Mehefin 6, 1879.
  33. Mewn llythyr at yr Ysgrifenydd.
  34. Llythyr Mr. E. Roberts.
  35. Mewn llythyr at y Parch. T. Levi; nis gallwn gael y dyddiad, tebygol mai tua 1855.
  36. Llythyr Mr. E. Roberts.
  37. Anerchiad yn Caeathraw, o'r adroddiad yn y Genedl Gymreig. Y mae yr ymadroddion sydd wedi eu gadael allan wedi eu cofnodi o'r blaen.
  38. Cawsom y cofnod canlynol o Gyfarfod Misol Liverpool oddiwrth Mr. J. Griffiths, Egremont. "Fraser Street, Hydref 6, 1858:—Crybwyllwyd fod Mr. J. Roberts (diweddar Olygydd yr Amserau) yn myned i fyw i Aberdâr, a'i fod ef yn dymuno cael papyr oddiyma yn hysbysu y tir y mae yn sefyll arno—Penderfynwyd, Fod Mri. Rees a Hughes i ysgrifenu at y cyfeillion yn Aberdâr yn ol cais Mr. Roberts."
  39. Anerchiad y Parch. D. Saunders yn Nghaeathraw.
  40. Yn haf y flwyddyn hon yr oedd yn beirniadu mewn cystadleuaeth yn Ysgoldy, Sir Gaernarfon, a daeth Mrs. Roberts gydag ef, a llettŷent yn nhŷ Mr. W. Jones, Clwtybont. Aent oddiyno i gyfeiriad Llanberis, ac o ochr Dinorwig gwelent y dyffryn prydferth, a Llanberis yn gorwedd o'u blaen. "Dacw le prydferth!" meddai efe; "yn y fan acw y buaswn yn dymuno byw oni fuasech chwi?" meddai wrth Mrs. Roberts. "Buaswn, 'rwy'n meddwl," oedd ei hatebiad hi. Ni feddylient y pryd hwnw fod y dymuniad hwn i gael ei gwblhâu chwe' blynedd yn ddiweddarach.
  41. 41.0 41.1 Alaw Ddu mewn erthygl ar Ieuan Gwyllt, Ionawr 1878.
  42. A rhai brodyr o Aberystwyth
  43. Anerchiad y Parch. D. Saunders
  44. Alaw Ddu yn y Cylchgrawn, Ionawr, 1878.
  45. Mewn llythyr at yr Ysgrifenydd
  46. Rhagfyr 30ain, 1861, bu farw mam Ieuan Gwyllt yn Mhenllwyn, yn 67 oed.
  47. O'r Drysorfa, Hydref, 1861.
  48. Mewn llythyr at Mr. E. Roberts, Liverpool.
  49. Mewn llythyr at Mr. E. Roberts, Liverpool.
  50. Llythyr Mr. W. Morris.
  51. Alaw Ddu mewn ysgrif yn y Cylchgrawn, Ionawr 1878.
  52. Alaw Ddu yn y Cylchgrawn, Ionawr, 1878.
  53. O'r Amserau, Awst 30, 1854.
  54. O'r Amserau; Darlith ar Gerddoriaeth yn Llanelli, Chwefror 9, 1856, y Parch. T. Levi yn y gadair.
  55. Nid ydym wedi enwi yr holl gasgliadau, ond yn unig y prif rai, mor bell ag y mae yn ymddangos iddynt roddi rhyw ysgogiad i feddyliau dynion. Cyhoeddodd J. Roberts, Henllan, Caniadau y Cysegr yn 1839.
  56. Yr Amserau, Mawrth 9, 1853.
  57. Y mae hyn wedi bod ac yn bod eto ar ffordd llwyddiant cerddoriaeth—dynion yn tybied eu bod yn gwybod y cwbl, pryd nad ydynt, mewn gwirionedd, wedi myned yn ddyfuach na'r cnewyllyn.
  58. Mewn llythyr at Mr. E. Roberts, Liverpool.
  59. Adroddiad o anerchiad y Parch. D. Saunders yn Nghaeathraw.
  60. Gwelir iddo gael ei gyhoeddi am dair blynedd ar ddeg. Prin y gellir bod yn sicr, hwyrach, o'r cwbl a ddywed Mr. Saunders yma. Bu y symudiad i Wrexham yn ddiau yn ysgafnhâd mawr i'r Golygydd, ac ymdrechwyd i godi ei gylchrediad i bum' mil y pryd hwnw. Tybiwn mai eiddo Hughes a'i Fab ydoedd bellach, a'i fod yn talu, nid ar unwaith, ond trwy gadw stereotype y gerddoriaeth. Felly y dywedir fod y Musical Times; ni thalai ond fel y mae y gerddoriaeth mewn amser yn talu.
  61. Cerddor Cymreig, Mai, 1866, tu dal. 39.
  62. Llythyr Mr. D. Evans, Caerdydd.
  63. Cerddor Cymreig, Rhif I., tu dal 6.
  64. Llythyr Mr. D. Evans.
  65. Yr ydym yn ei gael ei hunan yn cyfieithu y Llyfr Tonau i'r Tonic Solff, ac yn tybied ei fod o fewn pythefnos i'w orphen Chwefror 12, 1862, (llythyr at Mr. E. Roberts); er hyny, ni ddaeth y llyfr allan hyd fis Mehefin, 1863.
  66. Yr ydym wedi methu yn deg a chael o hyd i'r ddadl hon i allu rhoddi mwy o fanylion am dani.
  67. Y diweddar Mr. T. Jones, Meddyg, Corwen. Gwel y Methodist, Hydref, 1855.
  68. "1852, Dec. 9. Went to Liverpool to edit Yr Amserau. Wrote the first Leading Article for that paper Dec. 10th."
  69. Mynyddog.
  70. Cafodd Mynyddog fyw ar ol Ieuan Gwyllt i gyfansoddi y geiriau canlynol i Requiem y Dr. Joseph Parry:

    Wylwn! wylwn! cwympa 'r cedyrn,
    Cwympa cedyrn Sion wiw;
    Wylwn! wylwn! dianc adref
    Y mae cewri mynydd Duw:
    Cydalarwn dan y stormydd,
    Crogwn ein telynau 'n syn,
    Crogwn hefyd bob llawenydd
    Ar hen helyg prudd y glyn:

    Y cadarn a syrthiodd, mae bwlch ar y mur,
    A Sion ar suddo mewn tristwch a chur.
    Ond udgorn Duw a rwyga feddau 'r llawr,
    A syrth y ser yn deilchion ar un awr;
    Dydd dial, dial Duw! dydd gwae i fyrddiwn fydd,
    Ond dydd gollyngdod teulu 'r nef yn rhydd;

    Clywaf lais o'r ne 'n llefaru,
    Treiddia drwy hen niwl y glyn,
    Rhai sy'n meirw yn yr Iesu,
    Gwyn eu byd y meirw hyn.

    Moliannwn! gorfoleddwn!
    Cawn gwrdd i gydganu, cydfoli, cydfyw,
    Mae allwedd marwolaeth wrth wregys ein Duw.

  71. Llythyr y Parch. T. Levi. Mae Mr. Levi yn gywir yn y cwbl o hyn.
  72. Cyfieithad o lythyr at Mr. E. Roberts, Liverpool.
  73. Dyma'r penderfyniad, "Bod y cyfarfod hwn yn barnu y byddai yn dra dymunol cael un Llyfr Hymnau i'r holl Gyfundeb, y cyfryw lyfr i fod yn feddiant i'r Gymanfa Gyffredinol, ac yn dewis y Parchedigion Henry Rees, Liverpool; Lewis Edwards, M. A., Bala; David Jones, Treborth; Roger Edwards, Wyddgrug; Thomas Phillips, Henffordd; John Roberts, Merthyr; David Charles, Caerfyrddin, a William Thomas, Pontllanfraith, i fod yn Gyfeisteddfod i gymeryd mesurau tuag at gyrhaedd yr amcan hwn, a dwyn casgliad o Hymnau i mewn i'r Gymanfa nesaf. Y Parch. Roger Edwards i fod yn Ysgrifenydd y Cyfeisteddfod."
  74. At y Parch. T. Levi.
  75. Yr Oenig. Cyf. I. tu dal. 341. Llythyrau at Gyfaill.
  76. Mewn llythyr at y Parch. T. Levi.
  77. Ysgrif gan Alaw Ddu yn y Cylchgrawn, Ionawr 1878, tu dal. 8.
  78. Y Parch. D. Saunders yn ei anerchiad yn Nghaeathraw.
 

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.