David Williams y Piwritan (testun cyfansawdd)

David Williams y Piwritan

gan Richard Thomas, Bontnewydd

I'w darllen pennod wrth bennod gweler David Williams y Piwritan

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader



DAVID WILLIAMS,



Y PIWRITAN.



GAN



Y PARCH. RICHARD THOMAS, B.A.,

Y BONTNEWYDD.



AIL ARGRAFFIAD.



CAERNARFON

ARGRAFFWYD YN SWYDDFA ARGRAFFU'R CYFUNDEB.

1929.

Rhagair

Ymhen ysbaid wedi marw David Williams gofynnodd y Parch. R. O. Williams, Penmaenmawr, imi edrych dros yr ysgrifau a'r Dyddiaduron a adawsid gan ei hybarch frawd, David Williams, a gweled a ellid gwneuthur rhyw ddefnydd ohonynt. Am y Dyddiaduron yr oedd eu moelni yn rhyfeddol. I bob golwg, fe ystyriai David Williams mai i'r Weinidogaeth yn unig yr oedd Dyddiadur wedi'i ordeinio. Cafwyd llawer mwy deunydd yn y pregethau, oblegid fe sgrifennai'r rheini yn dra gofalus. Syniad y Parch. R. O. Williams ydoedd yr atebai detholion o'i ddywediadau a'i ddisgrifiadau byw well diben na rhoddi i mewn nifer o bregethau cyfain, a diamau gennym ei fod yn iawn ar y pen hwn.

Byr fydd hyd yn oed y detholion mewn print o roddi syniad tebyg i gyflawn am hynodrwydd David Williams. Rhaid ydyw cael y dull ymadroddi yn gystal a'r deunydd. Gresyn o beth, a chennym ninnau wrth law ddyfeisiau'r blynyddoedd diweddaf hyn, fod cynifer o bregethwyr amlwg a'u llais wedi distewi heb fod ar gael yr un record gramoffon o'u traddodiad a'u dull o bregethu. Gallesid yn rhwydd fod wedi cael enghreifftiau o huawdledd y Doctoriaid John Williams, T. C. Williams, Puleston Jones, a'r Athro David Williams. Ond, hyd y gwyddom ni, nis cafwyd.

Yn y teitl fe gysylltir ag enw David Williams y gair sy'n cyfleu rhai o deithi amlwg ei gymeriad. Gwnaed hyn yn hytrach na'i gysylltu ag unrhyw le, oblegid fe ddug ef ei neilltuolrwydd gydag ef i bobman, o'r Bryniau yn Llŷn i'r Bryniau yn Llanwnda. Fel piwritan yr adwaenid ef. Yn ysgol y piwritaniaid y dysgodd ei wersi, hwynthwy a edmygai ac a ddarllenai, a'u delw hwy a gaed ar ei gymeriad a'i fuchedd grefyddol. Dygai ar gof gamp a gogoniant Dr. Owen, Calfin, Baxter, Howe, a Bunyan, wedi i bawb arall dewi a son am danynt.

Dyna'r cefndir; nid dyna'r peth er hynny a'i gwnaeth yn un cofiadwy i'w wrandawyr, ond y "rhywbeth arall" hwnnw a gyfodai o'i bersonoliaeth, ac a'i gosodai'n gwbl ar ei ben ei hun. Dymunaf gydnabod â chalon rwydd y cyfeillion caredig a'm cynorthwyodd, megis, y Parch. W. M. Jones, Llansantffraid; John Hughes, Edern; Morris Thomas, M.A., .Trefeglwys; Mr. W. B. Jones, Bradford; Mr. J. Griffith, Dwyran, a llawer un arall a roes imi ddameidiau llai. Derbyniais lawer o wybodaeth o gell cof y ddiweddar Mrs. Owen, Morfa Nefyn, ac yr oedd ysgrif y diweddar Barch. W. Prydderch Williams, Llundain, yn gymorth dirfawr.

Yr oedd ar gael rai ysgrifau wedi eu cyhoeddi, megis, eiddo'r diweddar Barch. O. J. Owen, M.A. (yn y Goleuad), y Parch. W. M. Jones (yn y Brython), Anthropos (yn Awel a Heulwen, a'r Llusern), a'r Parch. J. Owen, M.A. (yn y Drysorfa).

Gwneuthum ddefnydd o'r disgrifiadau gwych hyn, ond hyderaf na bu imi wrth loffa (chwedl David Williams) gymryd o'u hysgubau dywysennau braisg heb gydnabod ohonof hynny.

Cefais i bleser nid bychan wrth baratoi hyn o gyfrol, a'm dymuniad ydyw ar i bob un a'i darlleno dderbyn boddhad, budd, a bendith yn ei orchwyl yntau.

RICHARD THOMAS.

Cynnwys


Rhan I

David Williams y Piwritan

RHAN I.

I'R BRYNIAU.

Medr pawb bellach, yn Gymry a Saeson, eu ffordd yn hawdd i wlad Llŷn. Dyma'r wlad a ystyrrid gynt yn ddiarffordd ac anhygyrch. a sonnid am bwynt eithaf y Penrhyn fel ' pen draw'r byd.'

Ond fe ddaeth goruchwyliaeth newydd gyda'i ffyrdd concrit a'i phetrol-fenni buain. Y mae gwibiaid haf wedi ' darganfod '—ie, ' darganfod ' os gwelwch yn dda—y wlad y tu hwnt i'r Eifl a Phwllheli. Gwelant hwythau bellach hyfrydwch ei broydd, rhamant ei golygfeydd, a swynion ei glennydd.

Ond yr anffawd ydyw nad oes yn y llyfr cyfarwyddyd neu'r hyfforddwr sydd yn llaw'r gwibiaid gymaint a chyffyrddiad o hanes gwlad, cartrefi ei chewri, cysegrleoedd ei bywyd, a'i chyfraniad i fywyd y byd. Ni ddywed wrthym pa fath foneddigion a fu'n byw dan do yr hen blasau urddasol, na pheth ydyw crefft a chelfyddyd preswylwyr y bwthynnod tlysion, nac ychwaith beth a fu hanes y werin a fu byw, o genhedlaeth i genhedlaeth, ynghanol y golygfeydd ysblennydd hyn.

Y mae i Lŷn, yn anad yr un darn o wlad, 'hen fythol hynafiaethau mawrion' chwedl Goronwy am Fôn. Brithir ei hwyneb gan hen blastai o fri, megis: —Bodwrdda, Cefnamwlch, Nanhoron, Cefn Llanfair, Bodegroes a llawer un arall. Fe fu yn y rhain foneddigion o hil gerdd a goleddai'r iaith ac a fu'n noddwyr hael i lên a chân. Mwy na hynny, yr oeddynt eu hunain yn wŷr dysgedig, celfyddgar, a dawnus. Agorent eu drysau i fardd a cherddor, a chroesawent yn rhwydd ymwelwyr yn swn telyn a chrwth. Dyma'r brid o foneddigion a fegid tua'r eilfed ganrif ar bymtheg, a mawr yw'n dyled iddynt am feithrin mor eiddgar yr hen ddiwylliant Cymreig.

Prin ydyw'r hyn a ddywed Thomas Pennant yn hanes ei deithiau (tua 1776) am fywyd yr uchelwyr, a bywyd yr hen aneddau hyn; ond cwyna yn awgrymiadol mai mewn cyflwr anniwylliedig yr oedd y wlad er gwaethaf esiamplau canmoladwy y boneddigion. Sonia am y tai o glai a'u to gwellt. Yn ol a ddywed ef, dewisach oedd gan y dynion ddal pysgod na dal cyrn yr aradr. Er hynny i gyd, fe anfonid allan i'r byd doreth o gynhyrchion o Benrhyn Llŷn.

Er pob cyfnewid, fe gadwodd tref Pwllheli yn gyrchfan marchnad y wlad. Am dani hi y canodd Morys Dwyfach ymhell yn ôl yn yr unfed ganrif ar bymtheg:

"Per gordio pur gywirdeb
Pwllheli marsiandi sieb."

Ni pheidiodd a bod yn ystorfa, fel y dywed Pennant, "lle cedwir nwyddau at wasanaeth y rhandir yma."

Yr oedd yr hen dref yn un bur fonheddig bedwar ugain mlynedd yn ôl, ni dybiem. Cawn Eben Fardd yn canmol ei thegwch, ac yn canu ar graig yr Imbill draw:

"Holl olwg tref Pwllheli
O'i heang sail ddengys hi,
Llawn gyfyd Llŷn ac Eifion,
Dirlun hardd o dorlan hon."

Dyna'r adeg y clywid swn morthwylion y seiri llongau i lawr yn yr harbwr, a thrafod materion porthladd a helyntion môr ar y cob. Bob yn dipyn fe aeth yr hen ddiwydiant i lawr, a dyna'r hen dref bellach yn graddol ymnewid. Proffwydai'r bardd y gwelid y graig y safai arni wedi ei darnio i fod yn rhywbeth arall.

"Ynghrombil eang yr Imbill—d'wedant
Y dodir cryf ebill,
Dynn o'i pherfedd ryfedd rill
Taranol at ryw ennill.

Gwŷr y gyrdd hyd ei gwar gerddant—diwrnod
Ei darnio ddaw meddant,
A'i chloddio nes byddo'n bant,
Agennog diogoniant.

Onid trwm fydd trem y fan
Os tynnir cilbost anian?"

Erbyn hyn dyma " gilbost anian " wedi'i falurio i'w sail a'i grombil wedi mynd yn friwsion. Lledwyd terfynau yr hen dref ynghwrs blynyddoedd, ac yn gymharol ddiweddar, yn lle'r ponciau tywod i gyfeiriad y traeth, dyma resi urddasol o aneddau llety. Er mwyn bod yn hollol modern, mae'n debyg, fe ddysgwyd Cymry glân Pwllheli i alw'r naill ddarn o'r datblygiad yn West End, a'r llall yn South Beach. Ond son yr oeddym am Lŷn yn y dyddiau gynt. Bwriwn ein bod yn myned cyn belled ag Edern yn y flwyddyn 1S50. Yn niffyg yr un cerbyd (oblegid yr oedd y " cyfleustra teithio " heb ddyfod eto) cawn deithio'n rhwydd a rhad yng ngherbyd dychymyg. Awn yn hwylus ar hyd ffordd wastad hyd yr Efail Newydd, rhyw filltir o'r dref. Yma y cydia dwy o briffyrdd gwlad Llŷn. Rhed hon ar y dde ar hytraws y wlad i gyfeiriad Nefyn, ac ar hon y bwriadwn dramwy. A ni'n myned heibio i gapel yr Efail Newydd cofiasom am John Williams, Brynsiencyn, yn y Goitsh ar fore Llun yn adrodd yn ei afiaith hanes John Moses Jones. Ymddengys bod yr hen frawd yno'n pregethu, ond yn anffodus yr oedd dwy chwaer huawdl a bregethai ym Mhwllheli wedi tynnu'r rhan fwyaf o'i gynulleidfa i wrando arnynt, —"Wel. gyfeillion," meddai John Moses, "mi wela fod y rhai calla o'r bobl yma, ond y mae'r ffyliaid wedi mynd i'r dref yna i glywed dwy gowen yn treio canu fel ceiliogod."

Gwelir yn fuan ar y dde un o'r hen blastai y somwyd am danynt, sef Bodfel. Y mae'i furiau yn cwyn delw cadernid plaen a diaddurn. Y peth mwya: trawiadol ynglŷn â hwn ydyw ddarfod i Dr. Johrson fod unwaith yn lletya dan ei do.

Deuwn, ymhen rhyw filltir, at un o lanerchau dymunol gwlad Llyn. sef Boduan—preswylfod yr Wyniaid o hen drâs. Edrych y deri a'r ffawydd yn urddasol megis brenhinoedd, a phob boncyff praff megys colofn yn dal i fyny do caeadfrig. Pan elom i rhiw o dan gangau'r gwŷdd fe glywir y brain yn cadw cynhadledd drystfawr uwch ein pen, a'u clochdar byddarol yn awgrymu bod dadl frwd ym mhlith y frawdoliaeth.

Yn uwch i fyny'r allt dyma eglwys Boduan yn adeilad prydferth ar y cynllun ;Groegaidd. Codwyd hi, meddir, yn y flwyddyn 1765, ar draul Catherine ac Elizabeth Wyn. A ni yn myned ymlaen pery'r "wig enfawr " i'n cysgodi "a'i gwisg ddeilios hyd lawr." Y mae'r awel braf yn iachusol a'r rhedyn gwyrddlas sy'n gwarchod ymyl y ffordd yn hudolus a swynol.

Wedi myned ohonom dros gefnen goediog Boduan cawn y ffordd yn fuan yn troelli i gyfeiriad Nefyn a glan y môr. I lygad ymwelydd nid ymddengys Nefyn ond pentref go barchus, ond gorau po gyntaf iddo ddeall ei fod mewn tref, a thref ac iddi hanes mawr yn cerdded ymhell iawn yn ol. Gellir dwyn ar gof i'r dyn ar sgawt fod Nefyn yn "fwrdeisdref rydd " er y drydedd ganrif ar ddeg, ac eithaf peth a fyddai dywedyd ddarfod i Iorwerth y Cyntaf gynnal yn Nefyn loddest fawr ei fuddugoliaeth pryd yr ymgynhullodd pendefigion o Loegr, a hyd yn oed o wledydd tramor, i'r rhialtwch. Y mae Nefyn ar gwr y forgilfach wrth odre'r Eifi yn fangre deg a hyfryd.

A welwch chwi'r trwyn acw o dir sy'n ymestyn i'r môr tua dwy filltir i gyfeiriad y gogledd orllewin ? Dacw Borthdinllaen, ac y mae i'r llecyn yna hanes. Dyna'r lle a "fygythiodd" fwy nag unwaith yn ystod y ganrif o'r blaen ddyfod yn borthladd prysur, ac yn llwybr trafnidiaeth ag Iwerddon. Disgwylid yn awchus am weled ardaloedd tawel Llŷn yn dyfod yn gyniweirfa pobloedd.

Siomedig fu'r disgwyl a'r darogan. Fe ddeffrodd pendefigion dyfal Môn, a thrwy eu dylanwad hwy yn bennaf, i bentir Caergybi y cyfeiriodd y ffordd bôst a'r ffordd haearn. Bu peth breuddwydio a chynllunio ar ol hynny, ond aros a wnaeth Porthdinllaen mewn llonyddwch.

Awn bellach ymlaen tros wyneb gwastad y Morfa, a deuwn yn ebrwydd i ben rhiw serth, ac oddiar y tro ar ei chanol canfyddwn odditanom ddyffryn bychan. Dyna bentref Edern ar y llethr dros y bont, ac y mae'n bentref glanwedd a dymunol. Yr ydym yn awr yn ardal Porthdinllaen. Awn trwy'r pentref yn hamddenol, a dyfod at fryncyn oddeutu milltir y tu hwnt iddo. Gedwch inni oddiyma edrych yn ol i gyfeiriad y dwyrain, a rhoddi trem ar olygfa wych. Dyna fynyddoedd yr Eifl a charn Boduan megis mur rhwng cantref Arfon a gwlad Llŷn. Tros eu pennau cawn gip cynnil ar fynyddoedd Eryri. I'r de o Foduan eto dacw fynyddoedd Meirion yn y golwg o'r Moelwyn i Gader Idris. Yn ein hymyl ar y chwith y mae glasfor bae Caernarfon, a thraw ar y dde, yr ochr arall i'r penrhyn dacw fae Tremadog a glannau Meirion. Ni fu lawer harddach golygfa na hon yn enwedig pan fo awyr glir-denau ar brynhawn-gwaith i'w dangos yn ei gogoniant.[1]

"A harddaf haul rhuddfelyn
Yn bwrw o'i wawl ar y bryn."

Gwelwn ein bod mewn gwlad brydferth, lawn o amrywiaeth. Fe geir yma ambell randir wastad ac unffurf, ond, at ei gilydd, gwlad y mân fryniau a'r mân ddolydd ydyw, ac, er mantais iddi hi a'r trigolion, fe'i dyfrheir â llawer o fân ffrydiau byw.

Syml a thlodaidd, yn ol a ddeallwn, ydyw bywyd y bobl yn y cyfnod hwn, megis yn amser Pennant. Ni fedd ond ambell ffermwr cefnog gerbyd marchnad—a gig yn gyffredin a fydd honno. Gellir gweled rhai tipyn distatlach yn cyrchu i Bwllheli ar echel y drol (y trwmbal wedi'i ddatgysylltu a'i roi i gadw) a bagiad o wellt yn gwasanaethu fel cwshin. Bydd John, y gwas, yn fynych, yn ol ei gytundeb wrth gyflogi, yn sicrhau'r fraint o farchogaeth ar un o geffylau ei feistr i'r ffair.

Bara haidd—cynnyrch gwlad Llŷn—a fwyteir gan mwyaf. Pan leddir eidion ar ddechrau gaeaf rhennir yr asennau i gymdogion o gwmpas, a helltir y gweddill o'r corffyn at angen y teulu. Fe leddir yn bur fynych lo pasgedig yn y gwanwyn—dyna ffordd effeithiol ac ymarferol o groesawu'r haf i Lŷn.

Gofelir mynd a digon o wlan i'r ffatri fel y ceir rholiau o frethyn erbyn dechrau'r gaeaf. Dyna'r adeg y daw " John Ifans y teiliwr " neu rywun o'r gelfyddyd, i wneud siwtiau i bob aelod o'r teulu, a chan fod y wlad mor faethlon i dyfu corff, daw'r siars, dro ar ol tro, am "eu gwneud yn ddigon mawr." Gellir dywedyd am dani hithau Lŷn,—

"Cneifion dy dda gwynion gant
Llydain a'th hardd ddilladant."

Y mae'r wlad yn cyflenwi cyfreidiau'r trigolion syml eu bywyd. Am danynt hwy'r preswylwyr, y maent yn bobl radlon a hynaws, pobl yn cymryd hamdden i fyw, ac yn sicr ni fynnant i'r dieithrddyn a fyddo o fewn eu terfynau fod ar ei gythlwng.

Sonnir cryn lawer am gynnyrch y wlad doreithiog hon mewn anifeiliaid; ond y mae llawer gwlad, ysywaeth, na fedr hi gynhyrchu dim mwy cyfrifol. Nid felly hon. Fe all hi ymffrostio yn ei meibion o "ddoniau tramawr." Y mae iddi hanes a thraddodiadau sy'n cerdded ymhell iawn yn ol, ac y mae stôr ei hynafiaethau'n ddihysbydd. Brithwyd ei hanes, fel y sylwyd, ag enwau urddasolion a garai eu gwlad, gan goledd ei llenyddiaeth a'i chelfyddyd. Bu'n gartref i feirdd a llenorion hyglod, megis William Llŷn, Lewis Daron, Owain Llŷn, Ioan o Lŷn, Gwilym Llŷn. Daeth oddiyma hefyd Syr William Jones, y cyfreithiwr; a Thimothy Richards, y morwr, ac eraill.

Fe gynhyrchodd hon bump o esgobion, a chyda hwy fagad o uchelwyr eglwysig eraill llai eu gradd. Cerddodd ar ei ffyrdd efengylwyr ffyddlon ac aml broffwyd enwog fel Richard Dafydd, Morgan Griffith, Evan Hughes, James Hughes, John Jones (Edern), a Robert Jones (Rhoslan).

"Cerddwyd ar ei ffyrdd," meddwn, oblegid Dyddiau'r gwyr traed a'r teithio blin ar ffyrdd llychlyd oedd y rheini i gorff y bobl.

Pennod ddiddorol a fuasai hanes arloeswyr trafnidiaeth yn Llŷn, a chael tipyn o fywgraffiad y drol mul, y frêc, ac, yn bennaf oll, y goitsh fawr o felys goffadwriaeth. Dyweder a fynner, goruchwyliaeth go nobl oedd honno. A wyt ti'n cofio, ddarllenydd, fel y cyrchem am y goitsh ar Stryd Fawr y dre, am y pedwariaid o feirch dof eu golwg, a'r dreifar yn diwyd osod yn eu lle'r parseli a ymddiriedid i'w ofal ? Diddorol fyddai gweld y teithwyr, yn wladwyr graenus a rhadlon, yn dygyfor, a'r ymholi am hwn ac arall a fyddai'n methu mewn prydlondeb.

Syndod oedd gweled cynifer o gyrff llydan yn myned i gyn lleied o le, ond nid oedd gadael neb ar ol yn unol ag urddas a thraddodiadau'r goitsh—rhaid oedd " gwneud lle i bawb." Amrywiol fyddai'r llwyth, oblegid ceid yno'r faelwraig, y ffermwr, y morwr, a hwyrach efengylydd neu ddau. Amrywiol hefyd fyddai testunau'r ymddiddan, a cheid digon o amser i drafod helyntion teuluoedd, eglwysi, a llongau, a byddai pawb mewn tymer dda yn bwrw'i gyfran i'r bwrdd cyfnewid.

Yng nghwrs y datblygiad fe ddaeth cerbyd ar ol cerbyd ar y ffyrdd, ac y mae'r olaf o rywogaeth y goitsh wedi peidio a rhedeg. Diddorol oedd edrych y dydd o'r blaen ar gorpws un o'r hen foneddigesau hyn, a fu hithau'n ddefnyddiol iawn yn ei hamser,

yn prysur adfeilio yn un o ierdydd Llŷn.

II.

MAB Y BRYNIAU.

O'r man y safem i gael cip o olwg ar y wlad gwelwn ffermdy led deugae oddi wrth y ffordd bôst. Fe saif yn glyd megis mewn cwpan rhwng y mân fryniau. Dyma'r Bryniau, neu fel y gelwir ef ar dafod pobl Edern " y Byrna."

Gallesid ysgrifennu cryn lawer am deulu'r Bryniau, petai ofod i hynny, oblegid fe ddaeth yn deulu mawr, adnabyddus, ac anrhydeddus. Yn y cyfnod y soniwn am dano yr oedd yn deulu cynhyddol dros ben, a magwyd yma gynifer ag un ar ddeg o blant. O'r rheini y mae'n fyw heddiw Mrs. Williams, Tymawr, Clynnog, a'r Parch. R. O. Williams, Penmaenmawr.

Yr oedd y tad a'r fam, Owen a Mary Williams, yn bobl fucheddol a thra synhwyrol. Gwladwr oedd Owen Williams, o feddwl cryf, yn ddarllenwr mawr, ac yn gwybod ei Feibl yn dda. Fe ddywedir bod ganddo reolaeth bendant iawn ar ei deulu. Pan gychwynnai i'r oedfa fore Sul rhoddai dro drwy'r buarth, a chlywid ei Jais yn gofyn i'r llanciau a oeddynt yn barod am y capel, gan awgrymu, wrth gwrs, €u bod i ddyfod. Ni fu bywyd y cartref yma heb ei warchod, er nad oedd na'r tad na'r fam ar y pryd yn perthyn i grefydd. Ni fu Mary Williams yn hir lawn heb ddyfod; ond am Owen Williams cerddodd ef hyd at warthaf pedwar ugain mlwydd cyn ymrestru, ac fel hyn y bu: Tua'r blynyddoedd 1882 a 1883 yr oedd gweinidogaeth yr efengylydd mawr, Richard Owen, y diwygiwr, yn aredig yn ddwfn ardaloedd Llŷn. Nid oedd fawr son am ddim arall yn y dyddiau hynny, ac fe ddylifai'r bobloedd o fan i fan i wrando'r proffwyd rhyfedd hwnnw. Aeth Owen Williams yntau gyda'r lliaws i wrando arno fwy nag unwaith i gapel Edern. Fe fu i'r bregeth ar y 0 Llafurwyr yn y Winllan " lorio hyd yn oed Owen Williams—gŵr a fedrodd wrthsefyll, megis derwen gref, ruthr '59, a llawer dylanwad grymus wedi hynny. Fe ddug y llorio hwnnw ryw don ryfedd o lawenydd i galon pobl Y Dinas, oblegid yr oedd yn ŵr cyfrifol a charedig i'r achos ymhob peth a allai. Noson go ryfedd oedd honno pan ddaeth Owen Williams at y praidd yn Y Dinas. " Wel, Owen, mi ddaethoch chitha aton ni o'r diwedd," meddai John Moses Jones. "Wel, do, mi ddois," atebai Owen Williams, gan sychu'r ffrwd o ddagrau â chefn ei law, "Wel, do mi ddois, ond yr ydwy' i'n teimlo'i bod hi wedi mynd yn hwyr iawn arna 'i, John bach, —y mae hi wedi pasio'r unfed awr ar ddeg." "Ydi, ydi," meddai'r hen bregethwr, "ond diolch i Dduw dydi hi ddim wedi taro hanner nos arnat ti. Owen bach." Daeth teimlad i galon a dagrau i Iygad pawb y noson yr ymgasglodd y disgyblion yn Y Dinas, ac Owen Williams gyda hwynt.

Yn ol y cofnod a geir yn eglwys Tudweiliog, bedyddiwyd David, mab Owen a Mary Griffith, Bryniau, Rhagfyr 13, 1835. Gwelwn yma arfer, oedd yn lled gyffredin yn y dyddiau hynny, o gwtogi enwau. Yr enw'n llawn oedd Owen Griffith Williams.

Dafydd oedd yr hynaf o blant y Bryniau, ac, am ei fod yn henaidd ei ffordd, ni a gawn ei fod yn dra byw i bwysigrwydd ei enedigaethfraint. Gallasai'r craff weled bod ynddo ddeunydd clamp o Biwritan y pryd hwnnw. Ymhlith y plant yr oedd ei dueddiad yn gryf at awdurdodi yn dadol, ac ni phetrusai ddisgyblu'n ddiseremoni y rhai mwyaf anhydyn ohonynt. Y syniad cyffredin oedd ei fod o'n " lordio braidd ormod. Fodd bynnag, y mae'n amlwg ddigon nad oedd rheolaeth y brenin Dafydd ddim yn gorwedd yn esmwyth bob amser. I ysgol John Hughes yn Nhudweiliog yr âi'r plant o'r Bryniau, pellter o tua dwy filltir, ac un mater y methid yn lân a'i setlo i fodlonrwydd oedd: y rhan a ddylai hwn ac arall ohonynt gymryd mewn cario'r piser llaeth ar gyfer cinio. Ai'n streic gynhennus yn rhywle tua Phont-rhyd-trwodd, a mynych y byddai rheolaeth Dafydd yn deilchion.

Parhau i gynhyddu a wnaeth bagad bugeiliaeth Dafydd cyhyd ag y daliodd i fyned i'r ysgol. Fe ddaeth y plant i ddygymod yn rhyfedd a llywodraeth y teyrn, er iddi fod yn dipyn o niwsans lawer tro, a hynny am y rheswm da y medrai ef ei amddiffyn ei hun mewn cwff, a gwastrodi pawb a fyddai'n ymosod arnynt hwythau.

Yr oedd John Hughes, yr athro, yn ŵr hyfedr mewn dysgu, debygid, a cheir pob lle i gasglu, oddi wrth yr hyn a ddigwyddodd wedyn, fod ganddo syniad go uchel am allu'r bachgen Dafydd. Fodd bynnag o'r ysgol y daeth, a diau mai'r rheswm pennaf am y symud hwnnw ydoedd bod angen ei help ar y fferm. Faint elwach a fu'r fferm a'i hwsmoniaeth, ni wyddom; ond colled anadfer ydoedd i'r bachgen. Fe welwyd yn union ei fod yn fwy o fachgen llyfr nag o lafurwr, ac yn fwy o fyfyriwr nag o ddim arall.

Byddai teulu'r Bryniau yn wrandawyr pur gyson yng nghapel Edern.[2]

Amrywiai'r blaenoriaid yn eu maint, ac fe wisgai pob un ohonynt ei ddelw'i hun. Dyma John Hughes, Cefn Edern (tad Griffith Hughes), gwr grymus ei ddylanwad a hoyw ei gerdded; Thomas Roberts, Bryngwŷdd, yn dawel a bonheddig ei ysbryd, yn cyhoeddi "y soseiat " ac enw'r "llefarwr" y Sul nesaf; Robert Williams, yn ŵr pur ddoniol, ac, yn gyffredin yn taro tant gwahanol i Griffith Hughes,—weithiau'n siriol, dro arall yn ddifrif; William Jones, Tŷ Hen, yn dechrau porthi â "(hy)," a hwnnw'n myned yn "Amen" ddwbwl os byddai arddeliad, a dwy ffrwd loyw yn rhedeg i lawr ei ruddiau gwritgoch. Dyma eto William Hughes, efe weithian yn pregethu, ac yn gwneuthur hynny'n syml a difrifol, a'i weddiau gafaelgar yn dwyn bendith i laweroedd.

Am Griffith Hughes, yr oedd ef yn ŵr hynod ar lawer cyfrif, ac yn meddu ar bersonoliaeth a'i gwnai'n ddylanwad mawr gartref ac oddicartref. Clybuwyd ei leferydd yn llysoedd uchaf y Cyfundeb, a chafodd yn y flwyddyn 1872 eistedd yng nghadair y Gymdeithasfa. Enillodd ef radd dda fel pregethwr. Ni chyfrifid ef yn un hwyliog, ac ni fedrai ar y goslef-ganu hwnnw a geid gan rai o'i frodyr llai. Pregethai yn sylweddol, ysgrythyrol, a grymus, ac yr oedd ei feddwl cynhyrchiol yn dwyn i'r bobl ryw newydd-deb di-dor.

O ran ei fuchedd a'i gred yr oedd yn Griffith Hughes gryn lawer o'r piwritan. Meddyliai'n benderfynol a phendant, a datganai farn ddi-wyro. Ofn dyn, nis gwyddai; a derbyn wyneb neb pwy bynnag, nis goddefai. Pan ei derbyniwyd ef ac un arall i'r Cyfarfod Misol methai'i gyfaill ag ymgynnal wrth ymlwybro at y sêt fawr. Edrychai ef megis dyn ar lewygu gan ofn; ond dacw G. Hughes yn mynd rhagddo'n syth-hoyw a didaro, a rhyw hen frawd go gritig yn sisial wrth ei —gyfnesaf: "Wel, dyma un nad oes arno ofn na dyn na diawl." A gwir a ddywedodd.

Pan roes John Jones, Tremadog, orchymyn, fel Llywydd y Cyfarfod Misol, nad oedd neb i alw John Jones, Clynnog, i bregethu, ,gofynnodd Griffith Hughes: "Beth mae o wedi i wneud?" " Does dim chwaneg o siarad i fod ar i achos o," oedd yr ateb, " y mae o wedi'i setlo." "Pwy sydd wedi'i setlo fo ?" gofynnai Griffith Hughes wedyn, ac ychwanegu, " dydi o ddim i gael ei setlo ar hyn, beth bynnag. Chwi, y blaenoriaid, sydd a chyhoeddiadau John Jones, Clynnog, gennych am y mis nesaf. cyhoeddwch o, ac aed yntau i'w gyhoeddiadau. Mae geni gystal hawl i ddweud fel yna ag sydd gynoch chitha i ddweud fel arall." Diwedd yr ysgarmes hi dewis nifer i chwilio i achos y cŵyn, a chael John Jones yn lân a dieuog.[3]

Fe ddaeth llymder y Piwritan yn amlwg yn Griffith Hughes, ac yn bur fynych fe fyddai'i geryddon yn finiog, a'i ergydion yn dra thrymion, ac nid oedd dim a rwystrai eu harllwys pan fyddai galw.

Ni welai na synnwyr na chrefydd mewn defnyddio pibell a baco, ac yr oedd ei wrthwynebiad i fyg yn ddi-gêl, pwy bynnag a geid yn sugno'i gysur yn y ffordd honno. Lletyai ef a'r (Dr.) John Hughes, Lerpwl, gyda'i gilydd ym Mhwllheli adeg Sasiwn. Wedi cinio, aed i'r ardd y tu cefn i'r tŷ. Yn y munud, dyma wraig y tŷ yn gosod gerbron John Hughes fwrdd taclus, ac arno'r celfi angenrheidiol a darpariaeth gyflawn at fygu. A'r mwg erbyn hyn yn torchi i fyny o gwmpas pen y Doctor daeth Griffith Hughes heibio. "Wel dyma hi," meddai, yn goeglyd braidd. "le," meddai'r llall, a'r pefriad hwnnw yn ei lygad, "wyddoch chi be' ddaeth i fy meddwl wrth ych gweld chi'n dwad?" "Wel, beth?" gofynnai Griffith Hughes yn o sych. "Y gair hwnnw: 'Ti a arlwyi ford ger fy mron yngwydd fy ngwrthwynebwyr.' "

Yr oedd Griffith Hughes yn llym yn ei sêl dros yr hyn oedd, i'w fryd ef, yn iawn. Yn hyn yr oedd ei wendid yn gystal a'i gryfder. Edward Morgan y Dyffryn a ddywedai, "Ni byddaf byth dan brofedigaeth i ddysgu smocio ond pan fydd Griffith Hughes yn areithio yn erbyn hynny."

Edrydd y Parch. John Hughes i un amgylchiad cofiadwy fynd yn drech na Griffith Hughes. Fe ddaeth Wil Parri Peter i'r capel un bore Sul. Un go od a syml oedd Wil a gai'i gynhaliaeth yn fferm Porthdinllaen am gyflawni mân gymwynasau. Eisteddai ef bob amser ar fainc rydd ar y llawr. Y tro hwn yr oedd Griffith Hughes yn pregethu, a chafodd Wil gyntyn trymach nag arfer. Wedi peth pendwmpian a nodio "moesgar," newidiodd ei dactics yn annisgwyliadwy, a syrthiodd yn wysg ei gefn. A dyna olygfa—Wil Parri ar ei gefn, a'i ddau lygad croes yn torwynnu, ei enau coch (gan sudd neilltuol) yn agored, ei ddwylo i fyny, a'i bedion yn cyfeirio at y pulpud.

Gorchfygwyd y gynulleidfa gan chwerthin dilywodraeth, ac eisteddodd Griffith Hughes i lawr mor ddilywodraeth â neb o'r saint. Pan gafodd Wil ei wadnau ar y llawr, cododd Griffith Hughes ar ei draed, a chasglu hynny a fedrai o urddas at ei gilydd, ac, eb efe, "Wel, dyma Wil Parri wedi'i gwneud hi heddiw, a choeliai ddim fod y Nefoedd yn digio wrtho ni am chwerthin tipyn—pa gnawd allsai ddal?" Ni synnem ddim nad oedd yn dda gan y saint gael praw, ar draul Wil druan, mai dyn oedd Griffith Hughes, a'i weld am dro wedi disgyn i'r un gwastad a hwythau.

III

CROESI'R RHINIOG.

Ryw fin nos, tua'r flwyddyn 1848, a Dafydd yn fachgen deuddeng mlwydd oed, anfonasid ef ar neges i bentref Edern. Digwyddai fod yn noson Seiat i'r sawl a arferai fyned yno. Ymdroes y bachgen yn hwy nag arfer ar ei neges, ac, wedi ei ddyfod at y capel, fe welai bobl yn cyrchu i'r Seiat. Yno y safodd gan syllu'n ddwys ei drem. Yn y man, dyma Griffith Hughes yn dyfod heibio. "Hylo, Dafydd," meddai, "beth wyti'n geisio yma ? Gwell iti ddwad efo mi i'r seiat." Ac i mewn yr aeth. Grym go fychan sydd ddigon i symud y garreg ar lethr y mynydd, a buasai llai nag awgrym gŵr fel Griffith Hughes yn ddigon i beri i Ddafydd dreiglo i'r tŷ y noswaith honno. Onid y ffordd hon yr oedd tueddiad ei feddwl a thyniad ei galon?

Fe gafodd y bachgen,—ysgub y blaenffrwyth o deulu'r Bryniau,—groeso dwys-lawen gan y frawdoliaeth. Gwir ddarfod i'r gweinidog roddi cerydd llym i William Jones, gwas y Bryniau, am "beidio a thwsu'r hogyn yn well i Dŷ yr Arglwydd," ond y gwir yw, mai dylanwad distaw yr hen Gristion hwnnw yn ei fywyd beunyddiol a yrrodd Dafydd i'r man y'i cafwyd gan Griffith Hughes; ac yr oedd cael bachgen deuddeg oed i ddyfod, megis ohono'i hun, at y rhiniog yn rhywbeth gwych.

Arferai David Williams, y pregethwr, ddweud flynyddoedd ar ol hyn mai cyfnod pwysig ydyw'r adeg y bydd un wedi colli diniweidrwydd plentyn, a heb gael synnwyr dyn. Llithro a wnaeth Dafydd trwy'r trawsgyweiriad heb faglu na rhoddi magl. Fe ddaeth y deffroad ysbrydol ar warthaf y deffroad hwnnw sy'n naturiol i fachgen rhwng deuddeg a phedair ar ddeg oed.

William Jones, y gwr y soniwyd am dano—ef oedd hwsmon y Bryniau—ac offeiriad hefyd. Cadwai'r gŵr disyml hwn lamp crefydd yn olau yn y teulu trwy gydol y blynyddoedd. Fe'i gwelid bob bore gwedi brecwast yn estyn y Beibl oddiar y ffenestr yn ymyl, yn ei osod ar y bwrdd mawr gwyn, ac yn myned trwy'r gwasanaeth. 'Gweddi fach syml a digon unffurf a fyddai gan yr hen frawd, o fore i fore, ond yr oedd ei gymeriad—ac yr oedd hwnnw cyn wynned â'r eira—yn ei chadw'n eithaf derbyniol.

Yn ebrwydd iawn, fe ddaeth Dafydd yn gyfrannog â William Jones mewn cadw dyletswydd, ac nid oedd yno neb yng nghegin y Bryniau yn peidio a rhyfeddu at y cyfoeth, y dwyster a'r aeddfedrwydd oedd yn eiriolaeth y bachgen. Y gwir ydyw, fe aeth yn frenin yn syniad y teulu a'r gwasanaethyddion oll. Rhoes hyn blwc i'r tad, a'i ddwyn yn nes at fyd William Jones a Dafydd. Codai o hyn allan yn brydlon at yr awr weddi.

Porthi'r gwartheg oedd ei orchwyl ar y fferm. Prin hwyrach y gellid dim yn amgen ohono na "phorthwr." Nid oedd iddo ddiddordeb' mewn gwaith amaeth, ac yr oedd yn bur anghelfydd ei law. Fe ddywedir ei fod yn dyner ryfeddol wrth anifail, ac ni fu'n fyr o estyn iddo'i borthiant. Fel y tyfai'n llanc, daeth yn fwyfwy amlwg' fel teip o gymeriad, ac nid oedd gan y saint yn Edern neb o gyffelyb feddwl.

Ar un olwg, llanc allan o'i fyd oedd Dafydd, ond y gwir yw ddarfod iddo, fel pob cymeriad grymus, greu ei fyd ei hun. Darllenodd fwy na mwy, trysorodd yn ei gof gafaelgar y Beibl, a daeth yn ysgrythyrwr diail. Nid oedd gymal o adnod yn anhysbys iddo, a medrai siarad am helyntion proffwydi a brenhinoedd Israel yn well nag am eiddo'r cymydog nesaf ato.

Yr oedd ei fyd mawr yn ei feddwl, a'i faeth yn ei fyfyrdod. Yn swn aerwyon y fuches clywai ddyfnder yn galw ar ddyfnder yn ei enaid. Âi'r weddi ddirgel adeg swperu'r gwartheg yn fynych yn weddi gyhoeddus, a chlywid hi, nid yn unig gan yr anifeiliaid gwâr, ond gan y teulu yn ogystal. Dringodd Dafydd Williams yn uchel yn syniad Griffith Hughes, ac nid rhyfedd hynny, oblegid yr oedd darnau o Ddafydd ar batrwm y gweinidog ei hun; ac am y gweddill ohono, nid oedd yn debyg i neb. Fe fu Griffith Hughes yn Holwr y Cyfarfod Ysgolion am flynyddoedd lawer. Adeg dewis cynrychiolydd dros Edern fe ddywedai'r gweinidog, O Mi gymrai Dafydd Williams efo mi i'r Cyfarfod Ysgolion "—a dyna ben arni.

Rhaid oedd cael Dafydd Williams i bob gwylnos yn y gymdogaeth. Er mwyn yr ieuanc, gwell ydyw dywedyd mai dyna oedd honno: cyfarfod gweddi a gynhelid yn nhŷ galar noson o flaen yr angladd; ac oni cheid llawer o iechyd corff yn y teios gorlawn ar achlysuron felly, fe geid braster bendith o weddiau Dafydd Williams, y Bryniau. Yn wir, yr oedd y son am dano wedi cerdded y broydd benbwygilydd.

Fe fu Mr. Rowlands, person y Plwy, yn dra phrysur fwy nag unwaith yn ceisio taflu'r rhaff am Ddafydd i'w dynnu i'r Eglwys Esgobaethol; ond, er iddo lwyddo yn ei ymgais gyda rhai o feibion ffermydd Llŷn, ni fu lwydd ar ei genhadaeth yn y Bryniau. Ateb swta Dafydd i'r gwahoddiad caredig ydoedd: " Be' stydî'r dyn, deudwch, efo'i hen nonsens." Ni fu iddo gymaint ag agor y pac, chwedl

yntau.

IV.

AR RISIAU'R PULPUD.

DAETH y flwyddyn 1859, David Williams weithian yn dair ar hugain oed, a'r Diwygiad yn bedyddio'r wlad. Cawsid teimlo peth o'r dylanwad ym mis Mawrth, a deuthai peth o ffrwyth yr ymweliad i eglwys Edern. Ond ym Medi'r flwyddyn honno yr oedd Sasiwn fawr Bangor, a'r cedyrn ar y maes: Edward Morgan; John Jones, Blaenannerch; Henry Rees; William Williams, Abertawe; Owen Thomas, Llundain; J. Harries Jones; a William Roberts, Amlwch.

Clywsai pobl yr ardal y "swn ym mrig y morwydd," a dacw fagad o ddynion ieuanc yn cytuno i gerdded i Fangor bob cam-yn eu plith John Williams, "y codwr canu," a David Williams. Yr oeddynt oll yn eirias gan dân y Diwygiad yn dyfod yn ol; ail enynnwyd y fflam yn Edern, fel erbyn mis Rhagfyr yr oedd nifer y dychweledigion yn gant.

Rhoes y deffroad hwn "sgŵd" i Ddavid Williams i gyfeiriad y pulpud. Afraid ydyw dywedyd iddo ef bryderu'n weddigar, ac ymgynghori llawer â Griffith Hughes. Fe fu cyfeillach Thomas Owen, Plas ym Mhenllech—efe'n weinidog ers tro ac wedi'i ordeinio yn Sasiwn Bangor—yn llawer o swcwr iddo yn ei gyfyng gyngor. Yn y man, fe oleuodd ar ei lwybr, a thorrwyd y ddadl.

Dyma a ddywedir yng Nghofnodion Cyfarfod Misol Pwllheli, Ionawr 2, 1860: "Dymuna Edern gael brodyr yno i edrych a barnu a oedd y gŵr ieuanc a oedd yno yn chwennych gwaith y weinidogaeth yn meddu'r grasau a'r doniau hynny sydd yn angenrheidiol i'w meddu er rhoddi hawl i'r swydd. I fyned yno er cynorthwyo'r eglwys i hyn penodwyd y Parch. Robert Hughes, Uwchlawrffynnon; Evan Williams, y Morfa, a'r Ysgrifennydd." Ac yn Ionawr 1860 y mae'n cyflwyno'i genadwri gyntaf of bulpud Edern oddiar y geiriau hynny, "Yr hwn sydd yn credu ynddo Ef ni ddemnir" (Io. iii. 18).

Trwy ryw fath o "gyfiawnhau trwy ffydd" yr â llawer bachgen ieuanc, yn ei ddeunydd anaeddfed, i'r Weinidogaeth; ond yr oedd derbyn David Williams yn rhywbeth tra gwahanol. Nid llefnyn yn dechrau siarad yn gyhoeddus mohono, ond llanc pedair ar hugain oed, a chanddo ddawn brofedig. Edrychai'n ddyn ieuanc cydnerth a golygus ddigon, a chanddo lais cyfoethog dros ben. Gwyddai'i Feibl o glawr i glawr, ac yr oedd ei enghreifftiau a'i adnodau yn hylaw at bob galw. Heblaw hyn oll, yr oedd ynddo ryw aeddfedrwydd syml a oedd wrth fodd y saint, a dygai allan o'i drysorau ei hun "bethau newydd a hen." Daeth i'r golwg yn ei anterth; prysurodd ei haul i fyny; a daeth galwadau didor am dano o bell ac agos.

Ar Chwefror 7, 1860, yr oedd Cyfarfod Misol yn y Nant. "Cafodd y cenhadon hynny a anfonwyd i'r diben o ymddiddan a'r gŵr ieuanc, David Williams, yr hwn yr oedd yr eglwys yn ei alw i bregethu, ei fod yn meddu gradd o wybodaeth ynghydag arwyddion ei fod wedi ei alw i fod yn sanct. Myn- egwyd hynny i'r Cyfarfod Misol, a chaniatawyd ganddo i David Williams gael rhyddid i bregethu o fewn cylch penodol, sef Llŷn, am ddwy flynedd, ac os enilla gymeradwyaeth yn ystod yr amser cry- bwylledig derbynnir ef i fod yn aelod o'r Cyfarfod Misol."

Yn wyneb y fath gychwyn disglair, fe ddaeth Griffith Hughes ac eraill o'i gwmpas i deimlo mai gorau po gyntaf oedd i'r llanc gymryd y cyfle i loywi'i arfau. Fel hyn yr â Cofnod Cyfarfod Misol y Nant ymlaen: "Y mae'r rhagddywededig yn dangos awyddfryd cryf am fyned i'r athrofa i'r Bala; ond nid oedd ganddynt i'w wneud ond ei gyflwyno i'r rhai sydd wedi eu hawdurdodi i brofi ymgeiswyr, ac y mae ef i sefyll neu syrthio yn ol eu barn hwy, sef cael caniatad neu wrthodiad."

Sut bynnag y bu hynny, fe fu'r awdurdodau yn bur dirion yn wyneb yr holl anfanteision a gawsai. Trefnwyd ei hynt i'r Bala; ac yno yr aeth ym Mawrth y flwyddyn honno. Gallwn yn rhwydd ddychmygu mai rhywbeth tebyg i newid byd oedd. hwn i'r pregethwr ieuanc. Yr oedd amlder meddyliau o'i fewn pan darawodd ei lygaid gyntaf ar yr hen dref, yr un y clywsai fwy na mwy am dani—Meca'r Methodistiaid. Ie, dyma'r Bala yn llannerch fonheddig a thawel, ac yn sefyll ar ddôl yn agos i gydiad afonydd Tryweryn a Dyfrdwy. Sylwa mewn edmygedd ar ei phrif heol lydan, a'r coed cysgodol yn cadw'u lle o boptu iddi. Arweinir ef gan W. Prydderch Williams i olwg y Coleg, y Green, a'r Domen. Wedyn aed trwy'r dref i olwg Llyn Tegid anwadal ei dymer, a chyrchu hen fynwent Llanycil ar fin y llyn.

Fe ddywedir iddo dynnu sylw ato'i hun ar unwaith yn y Coleg ac ar yr heol. Edrychai'n bur Llyn-iaidd, corff cadarn-lydan, heb fod yn dal; wyneb llyfn a di-flew, dau lygad byw a heulog; gwallt du, a hwnnw'n gnwd toreithiog, ac, i bob golwg, yn herio goruchwyliaeth y crib. Yr oedd glendid corff yn un o erthyglau amlwg ei ffydd, ac yn ol adroddiad ei gyd-letywyr fe âi trwy ddefod y golchiadau yn dra seremoniol.

Fe gafodd ei wisg sylw yn anad dim. Am dano yr oedd siwt o frethyn cartref na chafwyd erioed ei gwell o ran deunydd, ond barn unfrydol y bechgyn ydoedd mai cut Porthdinllaen oedd arni, ac nid y latest London. Ymhen amser newidiodd yntau ei ddull o wisgo, a dilynodd beth ar ffasiwn dynion; ond o ran ei bersonoliaeth cadwodd yn rhyfeddol o ffyddlon at y toriad cyntaf. Enillodd wybodaeth, a daeth dan ddylanwadau a oedd yn ddieithr iddo, hyd yn hyn, ond gwrthododd fynd yn debyg i neb arall. Brethyn cartref praff a durol oedd David Williams ar ddiwedd ei gwrs, megis ar ei ddechrau.

Cyd-letyai yn y Bala gan mwyaf o'r amser yn yr un tŷ ag Edward Griffith, Meifod, a David Lloyd Jones, ac ni fu hawddgarach dri gyda'i gilydd.

Y noswaith gyntaf iddo fod yn ei lety newydd. fe'i rhoed i ddarllen a gweddio ar ddyletswydd, ac nid un ar ei brentisiaeth oedd ef yn hynny o beth, fel y gwyddys. Cyn pen ychydig funudau, wedi dechrau ohono ar y gorchwyl, yr oedd y llanc o Lŷn wedi ennill ei le am byth ym marn y myfyrwyr a'r teulu. Ni chlywsent erioed ddim mwy cyfoethog, detholedig, ac ysgrythyrol. Yn wir, yr oedd y Beibl megis yn ei fwrw'i hun at alwad y gweddiwr, a'r cwbl yn llaw gwreiddioldeb profiad dwfn. Yr oedd David Lloyd Jones yn mwynhau, ac yr oedd Edward Griffith yntau yn wylo dagrau melys, a'i "Amen " heb atal dywedyd arni.

Gwelsom mai oddiar y buarth, ac nid o unrhyw ysgol y deuthai David Williams i'r Bala; a barn yr athrawon ydoedd ei dynnu o ysgol Tudweiliog hyd yn oed, yn llawer rhy gynnar-yn wir yr oedd tir lawer i'w feddiannu. Mynnai ef, meddai'r Parch. John Owen, M.A., iddo ddod yn "gownsiwr" go dda cyn gorffen ohono'i gwrs; ond fe barhaodd yr ieithoedd clasur yn gryn ddiffeithwch hyd y diwedd. Yr oedd yn efrydydd cyson iawn, ac nid oedd ball ar ei ddyfalwch, a gallodd cyn diwedd ei yrfa edrych yn syth ar restr yr arholiadau heb gywilyddio. Ar wybodaeth o'r Ysgrythur a phwnc gallai David Williams ymaflyd codwm â'r gorau ohonynt. Da ydyw'r dystiolaeth nad oedd y Doctoriaid Lewis Edwards a John Parry yn fyr o roddi pris ar yr efrydydd o Edern. Gwyddent yn eithaf da, a chlywent hynny gan gynulleidfaoedd y wlad, fod yn Navid Williams bregethwr eithriadol. Yr oedd cip am ei wasanaeth o bob cyfeiriad, a chawn ddarfod ei alw i Gymanfa'r Pasg yn Ffestiniog flwyddyn wedi ei fyned i'r Coleg. Ni fedrent lai nag edrych arno â pharch ac anwyldeb.

Fel "dyn o sens" yn gofalu am ei iechyd âi allan am dro yn y prynhawniau, a hynny yng nghwmni ei ddau gyd-letywr a W. Prydderch Williams. Tystiai'r olaf y byddai trafodaethau brwd yn y llety ac ar hyd ffyrdd a llwybrau Penllyn. Cerddent gan amlaf ar ffyrdd glannau'r Llyn, a David Lloyd Jones, fel rheol, yn ei afiaith direidus yn tynnu David Williams i ddadl boeth nes myned ohono'n gidyll, a'r trochion yn codi'n uwch nag eiddo'r llyn dan dymhestl.

Oddeutu blwyddyn wedi dyfod o Ddavid Williams i'r Bala ymadawodd ei deulu o'r Bryniau i Gefnleisiog, yn ardal y Dinas, ac fel "David Williams Cefnleisiog" yr adwaenid ef gan y wlad am gryn amser ar ol hyn. Gallwn feddwl ei fod yn serchog a chyfeillgar iawn gyda'r bechgyn; oblegid go anaml y deuai adref ar ei wyliau heb fod un ohonynt yn gwmni iddo. Ni fyddai neb yn falchach o weld y deithriaid nag Owen Williams, y tad. Eisteddai wrth ei fodd am oriau meithion i wrando rhamantau'r bechgyn; am droeon yr yrfa, yn felys a chwerw; am ddireidi hwn, a thrwstaneiddiwch y llall, am helyntion y teithiau pregethu, ac, wrth gwrs, yr

oedd castiau ceffylau Reis yn ystorfa ddi-ben-draw.

V.

Y FELINHELI

(1865-1876)

Y mae pentref y Felinheli ar y ffordd bôst, a'r unig bentref rhwng Caernarfon a Bangor, yn fangre hyfryd a thawel. Saif ar lan Menai, ac ar ychydig o gilfach. Oddiyma i Fangor fe dyr y ffordd bôst i'r tir, a gwasgu eto'n nes ym mhen eithaf dinas Bangor.

Soniai'r teithwyr gynt gryn lawer am brydferthwch golygfeydd ardal y Felinheli, ac yn wir, y mae'r olwg o ben uchaf y pentref fel yr eir i mewn o gyfeiriad Caernarfon yn un na cheir ei thebyg yn fynych. Y mae'n werth aros beth i syllu arni, yn enwedig pan fo Menai mewn tymer go dda, ei hwyneb yn llyfn a llonydd.

"Ar nef wen uwch llen y llif
A'i delw ar y dylif."

Gwelwn Fôn, yr ochr draw, yn ei dangos ei hun yn ei gorau i bobl Arfon mewn llanerchau tlws a choediog. Draw acw y mae Porthamel, lle y glaniodd Suetonius i roddi terfyn ar Dderwyddiaeth ynys Fôn. A dyna Foel-y-don yn ddestlus a thawel ar lan y lli, lle bu gornest gostus Edward I. yn 1282. A'r afon yn ymestyn ymlaen, gwelwn hi'n troelli'n raddol i gyfeiriad Porthaethwy, a chwr un o'r pontydd yn y golwg. Ar y tro, yng nghwr ynys Fôn, dacw'r Plas Newydd a'i wyneb urddasol ar Fenai, y lawnt baradwysaidd o'i flaen, a'r coed o'i gwmpas yn gwarchod. Yr ochr gyferbyn, yn nhir Arfon, y mae'r Faenol a'i phlanigfeydd tlws. Gwelwch fel y mae'r afon wrth ddelweddu ar ei hwyneb degwch y golygfeydd arddunol, yn mynd yn hudol o brydferth.

Yn 1840 yr agorasid capel cyntaf Bethania, ac yr oedd John Elias, adeg ei agor, "yn cyfeirio at y tri chapel oedd y pryd hwnnw o fewn ergyd carreg i'w gilydd, sef capel yr Annibynwyr, ac un y Wesleaid, ynghydag un y Methodistiaid, a chymharai hwy i dair ffort,' gan hyderu na byddai iddynt droi eu magnelau ar ei gilydd i ddinystrio'i gilydd, gan eu bod yn perthyn i'r un deyrnas, ac o dan yr un brenin."[4]

Nid oedd rhif yr aelodau ar y cychwyn ond 28. Daliodd yr eglwys ieuanc i ennill nerth, ac yr oedd yno wyr grymus yn gefn iddi, a Morris Hughes yn arweinydd diogel.

Yng Nghyfarfod Misol Salem, Betws Garmon,. ym mis Mawrth, 1865, bu cymeradwyo'r alwad a roddid i'r Parch. David Williams, Cefnleisiog, i ddyfod i Fethania, Y Felinheli, i'w gwasanaethu fel bugail, ac yr oedd Rees Jones a Dafydd Morris i fyned yno i gymryd llais yr eglwys ar yr achos. Atebodd yntau'r alwad yn ffafriol, ac y mae'r cofnod hwn o adroddiad Cyfarfod Misol Tudweiliog a gynhaliwyd Mai 8, 1865, yn un go drawiadol:

"Dangoswyd gafael neilltuol yn y brawd ieuanc. David Williams, Dinas, ar ei ymadawiad i fod yn fugail ar eglwys Bethania, Y Felinheli, a phender- fynwyd rhoddi llythyr o gyflwyniad iddo i Gyfarfod Misol Arfon, mewn gobaith y caiff bob cymorth i ddysgu ffordd yr Arglwydd gyda'r fath ddifrifwch ag a fydd yn effeithiol i droi llawer at yr Arglwydd." Daeth yntau yno Mai 12, 1865.

Y mae'n debyg mai un rheswm dros alw bugail oedd y golled a deimlid ar ol marw Morris Hughes. Eglwys ieuanc, bump ar hugain, oedd Bethania, a honno'n un fyw, weithgar, a'i hwyneb tua chodiad haul. Trwy rym y Diwygiad aethai'r diadell a gychwynnodd yn 28 yn eglwys o 204. Yr oedd yno gapel newydd hardd, a bu raid cael oriel newydd ar hwnnw. Cai'r gweinidog ieuanc gymorth parod a gwrogaeth ddibrin gan y blaenoriaid, Daniel Roberts, Evan Evans, Robert Evans, John Roberts, ac, yn fwy diweddar, John Hughes, ac un arall sydd heddiw'n fyw, sef Ei Anrhydedd J. Bryn Robertsgwŷr rhagorol ymhob ystyr. Cadwent hwy wybed y mân bethau rhag blino'r gweinidog, oblegid gwyddent hwy'n burion mai dawn arall oedd yr eiddo ef.

Yr oedd sefyll "yn barchus" yn arholiadau'r Bala yn gymaint ag y gellid ei ddisgwyl oddiwrth Ddavid Williams, ond, pan aeth i'r arholiad ordeinio gwelwn ef yn sefyll yn bedwerydd ar y rhestr. Yn Sasiwn Llanfaircaereinion Mehefin 4, 1866, y bu'r ordeinio arno. Henry Rees a ofynnai'r cwestiynau ac Owen Thomas a roddai'r cyngor. Priodi eglwys, a heb lawer o ymdroi, priodi gwraig-dyna drefn datblygiad y cyffredin o fugeiliaid ieuanc; ond am Ddavid Williams, nid yn unig ni phriododd wraig, ond ni fu iddo gymaint a bygwth, nac ychwaith ymwneud dim â'r moddion. Daeth unwaith ar draws un o weision Cefnleisiog, a hwnnw ar gychwyn i briodi, "Diar mi" meddai " yr ydw i'n clywad dy fod am wneud peth rhyfedd iawn heddiw—am briodi'n twyti?" "Ydw," ebr y llanc. "Pam r'wyti'n gwneud peth mor ffol, dywed"? "Wel, mi ddeuda ichi" oedd yr ateb "am fod popeth a gafodd ei achub yn arch Noa yno gyda'i gymar, ac nid oedd yno yr un hen lanc. "Twt lol," meddai D. Williams, ac i ffwrdd ag o. Fe ddywed cyfaill iddo, a oedd yntau'n ddibriod, yn ardal Y Felinheli iddo'i dynnu i drafod y mater yn lled ddifrifol unwaith. Edrychwyd ar y pwnc yn ei holl agweddau. Mesurwyd, a phwyswyd yr hyn oedd o blaid ac yn erbyn. Ni ddaeth dim o'r ymdrafod ond mwg baco, ac ni syflwyd mo'r hen lanc. "Na, wir, Mr. R—bach," meddai, "peidiwch a phriodi, da chi, neu fe fydd gwraig fel melin goffi yn ych clustiau chi ar hyd y dydd."

Yr oedd yng Nghyfarfod Misol Arfon yn y dyddiau hynny lonaid set fawr o ddynion amlwg a phrofiadol yn rheoli—a rheoli wnaent—megis, David Jones, Treborth; John Phillips; Robert Ellis; John Owen, Ty'nllwyn; Rees Jones, a Dafydd Morris— dynion eithriadol bob un ohonynt yn ei ffordd. Hwynthwy oedd yn ffarmio Methodistiaeth yn y rhan hon o'r wlad.

Ni fu i weinidog ieuanc Bethania golli ei ben am funud yn helyntion y Cyfarfod Misol, ac ni fynnai a wnelo â mân drefniadau. Nid oedd yn ddigon ffol i anwybyddu na diystyrru'r rhan hon o drefniant y Cyfundeb y perthynai iddo, ond yr oedd yn ddigon call i adnabod ei ddawn ei hun, a gwneud y gorau ohoni. Rhaid ydyw cydnabod bod pwyllgor (ond "comiti" fyddai ei air ef) yn flinder iddo, a hynny, meddai ef, am y dywedid cymaint o bethau disens ynddo.

Yr oedd gorsedd David Williams yn y pulpud ac ni ddeisyfodd yr un arall. Yng nghorff y deng mlynedd a hanner y bu yn y Felinheli parhau i ennill poblogrwydd a dylanwad a wnaeth David Williams.

Gwelwn arwydd ar ei ddyddiaduron, er moeled ydynt, ei fod yn astudio'n ddyfal, ac yn byw ym. mhorfeydd breision y Piwritaniaid. Hoff oedd ganddo ysgrifennu nodiadau o sylwadau byw a bachog, un ai o'i feddwl ei hun, neu o waith rhywun arall. Gwel- wn hefyd argoel ei fod yn ymgodymu ag ambell bwnc.

Ni wyddys i Ddavid Williams newid dim ar ei ddull o bregethu. Fe fu trawsgyweiriad yn null llawer pregethwr o fri fel Edward Matthews, Owen Thomas, Joseph Thomas, ac eraill, ond arhoes ef yn ei ddull a'i ddawn gynhenid.

Cyfnod o ychwanegu nerth ac ymloywi a fu'r adeg a dreuliodd yn y llannerch hyfryd ar fin Menai. Mynych y gelwid ef i'r prif wyliau, ac nid oedd odid yr un Cyfarfod Misol na cheid ef ynddo i bregethu. Fel David Williams" y cyhoeddid ef fel rheol, ond fel "Dafydd Williams" y siaredid am dano gan ei wrandawyr cynefin, ac yr oedd llond yr enw olaf o barch, edmygedd, ac anwyldeb.

Erbyn y flwyddyn 1876 fe ddaeth i'r maes yn Arfon rai doniau newydd, megis, Thomas Roberts, Jerusalem; Francis Jones, J. Eiddon Jones, ac eraill; ond fe ddaliai ef ei dir, pwy bynnag arall a fyddai yn y golwg.

Synnwn braidd i eglwysi Lerpwl fod cyhyd heb ei adnabod a mynnu ei glywed. Yn y flwyddyn 1873, ymhen wyth mlynedd wedi ei fyned i Arfon, y dechreuodd y ddinas, i ddim pwrpas, ei wahodd i'w phulpudau, ond wedi'r dechrau, fe ddeuai'r galw am dano beunydd.

Pregethai yno'n amlach, amlach, a thynnai ei enw gynulliadau mawr lle bynnag yr âi. Nid oedd ond un David Williams mewn na thref na gwlad. Ai yno'n wladwr graenus, awyrgylch gwlad o'i gwmpas, ac ymadroddion gwlad yn groyw yn ei enau. Heblaw hynny, dyn o'r wlad ydoedd a chanddo rywbeth i'w ddweud, ac fe wnai hynny â di- frifwch ysbrydol, gwreiddioldeb cartrefol, a phertrwydd trawiadol.

Yn y man, fe ddaeth iddo wahoddiad cynnes i fyned i fugeilio hen eglwys barchus Pall Mall, Lerpwl. Chwithig i olwg llawer o'i gyfeillion oedd ei fyned ef, un a garai dawelwch yr encilion, i ferw aflonydd y ddinas; ond yno y penderfynodd fyned, a diamau mai'r rheswm cryfaf am hynny ydoedd ei hoffter neilltuol o gynulleidfaoedd Lerpwl, a'r derbyniad awchus a gâi ei weinidogaeth yno. Yn ei gyfarfod ymado siaradodd Rees Jones am y teimladau da a ffynnai rhyngddo a'i eglwys. Dywedodd David Jones, Treborth, y gallai fyned fel dyn wedi gwneud ei ddyletswydd. Mynnai Robert Ellis mai teyrnged i David Williams ydoedd bod yr eglwys yn meddwl am un yn ei le ac nid fel y wraig honno a ddywedodd, "Pe bai imi fyned yn weddw, phriodwn i byth eto." Gwell fuasai gan Griffith Jones, Tregarth, fod yno yn sadio'r brawd i atal yr ymadawiad. "Y mae hwn a hwn am fy lladd i," meddai rhyw ddyn wrth y brenin, "a wn i yn y byd beth wnai." "Os lladd o di, bydd i minnau ei ladd yntau drannoeth," ebr y brenin. "Os gwelwch yn dda," atebai'r dyn, "be baech yn ei ladd ddiwrnod ymlaen mi fyddwn i yn lled ddiogel." "Yr ydym wedi colli'r diwrnod i dreio'i sadio fo. Wel, y mae'n lwc mai nid i'r nefoedd y mae'n mynd, ond i Lerpwl, ac y mae'n mynd heb yr un blewyn gwyn yn ei ben, na'r un yn ei bregeth chwaith."

Aeth David Williams o'r Felinheli a'i lun mewn un llaw, codaid o arian yn y llall, a bendith yr eglwys ar ei ben.

VI.

LERPWL.
1876-1894.

Dyma David Williams, ym mis Medi, 1876, yn dechrau ar ei waith yn Lerpwl, ac, ar gais y brodyr yn y Pall Mall, fe benodwyd ei gymydog Rees Jones i'w hebrwng yno. Ai i fam eglwys a'i hanes yn cerdded yn ol am dros gan mlynedd, ac eglwys a wrandawsai ar ddoniau gorau'r Weinidogaeth trwy gydol y blynyddoedd. Rhaid bellach ydoedd cerdded yn ôl traed dynion fel Henry Rees a John Hughes, y Mount. Yr oedd wedyn yn Lerpwl ar y pryd rai y gwneid cyfrif mawr ohonynt fel cedyrn y pulpud. Dyna'r Dr. John Hughes yn Fitzclarence Street ers yn agos i ugain mlynedd. Gwelsai'r Dr. Owen Thomas un mlynedd ar ddeg yn y ddinas, a'r Dr. Hugh Jones bum mlynedd yn Netherfield Road; ac yr oedd Richard Lumley yntau yn y cylch ers tua deng mlynedd. Fe ddaeth, wedi hynny, bregethwyr amlwg eraill i'r ddinas. Cyfnod oedd hwnnw pan. roddai pobl y pwys pennaf ar neges fawr y Pulpud yn hytrach nag ar gyflawni o'r gweinidog fân negeseuon y tu allan iddo.

Nid bychan oedd pryder y gweinidog newydd pan ddaeth yno i amcanu sefyll ochr yn ochr a'r gwyr a ystyrrid yn feistraid y gynulleidfa. Ond, er cael yno ddoniau mawr a doniau amrywiol, ni fuwyd heb deimlo bod David Williams, yn ei ddawn: digymar ei hun, yn ychwanegiad teilwng atynt.[5]

Yr oedd yn arfer gan Buleston ddywedyd "mai gwerth pregeth yn y pen draw ydyw ei gwerth i'r bobl sy'n ei gwrando... nid beth a gostiodd hi i'r pregethwr, ond beth a dâl hi i'r gwrandawyr." Ni fu cynulleidfaoedd Lerpwl yn fyr o brisio arlwy David Williams. Edrychent ymlaen am ei oedfa, cai gynulleidfa lawn, a chodai'r rhai swrth, hyd yn oed, i ddyfod i wrando arno ar fore Sul.

Yn o fuan wedi dyfod o'r gweinidog i'r Pall Mall, fe ddaeth y cwestiwn o symud ei phabell i flino'r eglwys, ac, wedi peth ymdrafod, fe werthwyd yr hen gapel i gwmni'r Relwe, fel y ceffid lle i helaethu Stesion Tithebarn Street. Aeth barn yr eglwys o blaid lle canolog yng Nghrosshall Street, ac yno y symudwyd yn y flwyddyn 1880. Yr oedd enw hen gapel Pall Mall yn gu iawn gan y to hwnnw o Fethodistiaid yn Lerpwl, ac ymglymodd serch llawer calon wrth y cysegr yno. Anodd yn sicr oedd i'r hen aelodau gefnu ar fangre'r saint, a'r hen deml y clywsid ynddi, trwy gydol y blynyddoedd, leisiau'r proffwydi mwyaf, a'r adeilad y profwyd pethau bendithiol rhwng ei fagwyrydd. Ond mudo a wnaed i le nad oedd nemor o'i blaid oddieithr ei safle ganolog yn y dref. Da oedd i'r gweinidog wrth gynhorthwy rhes o flaenoriaid gwych iawn, ac fe'i cafodd: W. Jones. (y blawd), R. Roberts, W. Thomas, John Evans. Wedi hynny fe ddaeth W. Jones (Prussia St.), R. O. Roberts, Hugh Williams; ac yn ddiweddarach wedyn T. J. Williams, Robt. Thomas, David Davies. Y mae llawer o fân bethau ynglŷn â'r Achos Mawr, a man drafferthion hefyd; ond y gwir yw na fynnai ef ei boeni ganddynt o chai lonydd. Gwyddai ef yn burion fod y pethau hynny mewn dwylo diogel a gofalus, a chai yntau droi yn ei gylch priod ei hun —"pawb at y peth y bo." Mewn gair, nid yn unig fe'i cyfyngodd ei hun i'w eglwys; ond hefyd i'r gwaith mwyaf ysbrydol ynddi hithau.

Ffolineb fuasai ei wahodd i gomiti, ac, o delid ef mewn un ar ol cyfarfod arall, fe'i gwelid yn stwyrian yn aflonydd fel un a chnofeydd wedi'i ddala, a'i het yn ei law, ac yn deisyfu gweled pen ar bethau— fel y caffai fyned adref.

Ie, rhyw ddrwg anorfod oedd "comiti" ar y gorau. Daeth ar draws y gair hwnnw mewn pregeth rywdro: "Efe a orchymynnodd, a hynny a safodd." "Ia," meddai, "fel yna—ddaeth o ddim trwy gomiti welwch chi."

Yr oedd un o eglwysi'r cylch mewn cryn derfysg, a phwyllgor wedi'i benodi i ofalu am yr Achos. Pregethai yno ar lywodraeth Duw—llywodraeth eang, fanwl, sicr. "Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu, &c.," meddai, "ac nid trwy gomiti, a rhyw hen lol felly."

Yn ei Gyfarfod Sefydlu fe rybuddiasid pobl Pall Mall rhag disgwyl i'r gweinidog "drotian" o dŷ i dŷ, megis postman, ac, yn wir, ni ddaeth i Ddavid Williams y demtasiwn honno am funud. Ond ymwelai yntau'n achlysurol, ac fel y byddai gofyn. Yn yr ymweliadau hyn gelwid arno'n fynych i fyned trwy rai o'r heolydd culion, drwg eu cyflwr, a gwrth—naws eu sawr a'u moes, a chai yno olwg echrydus ar ddau elyn: pechod yn ei drueni, a Phabyddiaeth yn ei ddylanwad ar y trueiniaid. Ni fentrodd fawr eriod i'r lleoedd diffaith hynny heb un o'r blaenoriaid ffyddlon yn gwmni iddo. Yr oedd David Williams yn ŵr hardd o gorff, a hoyw o gerddediad, ac edrychai mor raenus a glandeg, gyda'i wyneb difarf, â'r un offeiriad. Fel yr âi ef a'i gydymaith ar eu hymdaith trwy un o'r lleoedd y soniwyd am danynt dyma ddau neu dri o fechgynnos, a marciau'r cwterydd arnynt, yn rhedeg at y pregethwr gan ei gyfarch yn barchus ddigon: Good afternoon, father." Ond dyma lais bâs David Williams allan fel taran (ac yntau'n taflu'i law yn ddiamynedd):

"No! No!! No!!! I'm not your father, get away with you. Be stydi'r petha ma deudwch efo'u hen lol?"

Er na ellid ei gyfrif yn ymwelwr mawr, na feddylier am funud mai un yn difateru am ei bobl ydoedd. Yr oedd mewn cyffyrddiad byw a bendithiol â hwy yn eu helyntion, ac fe ddiwallodd angen llawer tlawd trwy'i elusen. Ai'r gymwynas o'i law ef ei hun, weithiau, yn uniongyrchol; dro arall, trwy law un o'r blaenoriaid yn ddistaw bach.'

Rhywbeth y tu hwnt i ddychymyg a fuasai clywed. David Williams yn y Cyfarfod Misol yn bwrw huawdledd mewn dadl fawr ar bethau bach a dibwys; ond pan ddelai gerbron fater yn cyffwrdd bywyd ysbrydol y saint—yr ysbaid honno, y gŵyr llawer cadeirydd yn dda am dani, pan fo'r mân siarad yn troi'n fudandod poenus—dyma gyfle i glywed ei lais yntau, ac yn ddi-feth fe ddywed rywbeth byw a chofiadwy. Gofynnwyd iddo un tro ddweud gair ar y dydd diolch am y cynhaeaf. Gwedi iddo alw am i'n diolch fod yn fwrlwm parod ac ewyllysgar, ac nid rhywbeth i'w "brocio," fel y byddai pobl wrthi'n taro tân â charreg ers talwm, aeth ymlaen: "Wel ia, rydach chi'n deud ei bod hi wedi bod yn dymor glyb, a'r cynhaeaf wedi bod yn anniben—y ffarmwrs hyd y wlad yna wedi bod am ddyddiau yn sefyll yn syn, yn lle bod yn medi ar y meysydd. Hwyrach, wir, na fydd o'n ddrwg yn y byd i'r Brenin Mawr beri i ddynion sefyll dipyn. Bydd y gŵr bonheddig yn rhoi clo ar giat y ffordd 'na weithiau—rhyw unwaith yn y flwyddyn hwyrach—nid gan feddwl rhwystro i bobl ei hiwsio, ond just i ddangos mai fo piau hi."

Ceir ambell ddyn a'i deithi arbennig yn ei ddieithrio i bobl eraill ac yn mynd yn fur rhyngddo a chymdeithas, ond y gwir am dano ef ydyw bod ei holl hynodrwydd yn ei ffitio yn berffaith naturiol. Yr oedd yn syml, hynaws, a chyfeillgar ryfeddol yng nghylch ei gydnabod.

Yr oedd ar y telerau gorau â'i gyd-weinidogion yn y ddinas. Yr oedd i'r Dr. Owen Thomas a'r Dr. John Hughes gylch bywyd a gorwelion meddwl y tu hwnt i eiddo David Williams, bid sicr, ond y mae gennym lawn sicrwydd bod y naill a'r llall ohonynt yn gwneud cyfrif go fawr o weinidog Crosshall Street, ac fe ddywedodd y Dr. Thomas yn bendant. "na wyddai ef am yr un gweinidog yn y tymor hwnnw a wasanaethodd yn well gynulleidfaoedd Lerpwl nag y gwnaeth David Williams."

Nid rhyfedd yn y byd i'r Dr. Hughes ac yntau fod gymaint yng nghwmni ei gilydd. Onid oedd David Williams mor wreiddiol, diddorol, a naturiol? Ac fel y gwyddys dyna'r pethau y byddai'r Doctor afieithus yn eu mwynhau o bopeth. Daeth heibio i Ddavid Williams yn ei lety un noswaith (ac fe wnai hynny'n o fynych) ar ol cyfarfod yn Fitzclarence Street. "Yr oedd A.B. yn annerch acw heno," meddai, "Ho, felly," atebai'r llall, "sut yr oedd o wrthi?" "Wel, yn ddi-ddawn," ebr y Dr., "yn ddiddorol o ddi-ddawn, welwch chi." Ie gair hoff ganddo oedd "diddorol." Onid efe a ddywedodd am ryw frawd ei fod yn fychan, yn ddiddorol o fychan? Os gellid dweud am ddyn ei fod yn garictor byddai'i gwmni yn gryn dipyn o wledd, ac fe gai hynny, a rhagor, yng nghwmni David Williams. Aeth y ddau gyda'i gilydd i gynnal cyfarfod pregethu i rywle yn nhueddau Llannerchymedd unwaith, ac, yn ol arfer pobl yr ynys, cawsant diriondeb a charedigrwydd diball, a'r Doctor wrth ei fodd yn mwyn- hau tirionwch Môn gan ddal i ddweud yng nghlyw David Williams: "Yn tydy nhw'n garedig;" "yn toes yma le braf," etc. Aeth y cyfarfod drosodd, ond nid felly ganmoliaeth y Dr. A hwy ar eu ffordd adref, gwedi i'r tren adael stesion y Gaerwen am Lanfair: "Diar mi," meddai'r Dr., "y mae mynyddoedd Sir Gaernarfon yn edrych yn dda oddi yma, edrychwch mewn difri." "Ydyn," meddai'r llall yn bur swta, "dyna ydi'r hen Sir Fôn bach yma, welwch chi, rhyw blatform bach i weld Sir Gaernarfon, ac mae'n gwestiwn gini fasa hi yma ers talwm onibai'i bod hi wedi'i chainio ym mhont y Borth yna."

Deunaw mlynedd o weinidogaethu llwyddiannus a fu eiddo David Williams yn Lerpwl. Er taro ohono nodyn pur uchel y tro cyntaf, parhaodd i daro deuddeg hyd ddiwedd tymor ei drigias yn y ddinas fawr. Yng ngoleuni llachar meistraid y gynulleidfa nid aeth ef o'r golwg. Nid oedd neb a berchid yn fwy gan Gymry'r ddinas, a'i ddywediadau ef o bawb a arhosai ym meddyliau'r bobl.[6]

Dechreuodd Griffith Ellis, M.A. a David Williams eu gyrfa yn Lerpwl o fewn rhyw flwyddyn i'w gilydd, [oblegid am ddwy flynedd cyn 1876 ei wyliau o Rydychen yn unig a dreuliai Mr. Ellis yn yr eglwys ym Mootle.] Fel y sylwyd eisys,pregethwyr oedd hen weinidogion Lerpwl o flaen popeth arall, ac fel pregethwyr y bernid hwy. Ond y mae'n debyg mail yn Griffith Ellis y caed y syniad ehangach am waith bugeiliol. Cafodd ef y fraint o ddwyn i mewn gyfnod newydd. Ni fu ei hafal am gyffyrddiad byw â bywyd beunyddiol ei bobl. Yr oedd ei orchwylion yn ddiri, ac nid oedd fesur ar ei gymwynasau. Mynnai ei gyfeillion ddarfod i amlder trafferthion dolli gormod ar ei amser i bwrpas pregethu.

Yr oedd yn gredwr mawr mewn pregethu, ac yr oedd ei edmygedd o bregethwyr o ddoniau arbennig yn ddibrin. Gellid dywedyd bod mesur go fawr o wahaniaeth rhwng dull David Williams o weinidogaethu ag eiddo Griffith Ellis. Yr oeddynt, serch hynny, yn dra chyfeillgar fel brodyr, a deallent ei gilydd i'r dim. "Oedd, yr oedd yno ddoniau mawr i'w clywed yr adeg yr oeddwn i yn Lerpwl," meddai un hen frawd wrthym, "a rheini bob un yn wahanol i'w gilydd. Fel hyn y byddai fy mhartner a minnau yn treio disgrifio'u dull yn apelio atom. "Owen Thomas, yn daer: 'Credwch wir, neu mi wnai i chi gredu.' Hugh Jones, yn deimladwy: 'Credwch wir, neu mi dorrai'i nghalon.' John Hughes, yn urddasol: 'Credwch yr Efengyl-dyna'r genadwri i chwi,' ac am Dafydd Williams efe'n gartrefol yn dweud: 'Credwch, gyfeillion annwyl, 'does dim sens i chi wrthod credu.'"

Erbyn y flwyddyn 1894 newidiasai pethau gryn lawer yn y ddinas. Buasai farw'r Dr. Owen Thomas ers tair blynedd, ac yn wir fe fu i symudiad y Dr. John Hughes i'r wlad, rhyw ddwy flynedd cyn marw'r Dr. Thomas, beri i Ddavid Williams daflu'i lygaid dros ei ysgwydd, dro ar ol tro, yn enwedig pan gyfarfyddai â'r Dr., a hwnnw mewn hwyl yn canmol llechweddau Eryri a gwastadeddau Môn, a gorffen mewn siars, "Bendith i chi, dowch chitha i'r wlad acw i fyw."

I brofiad gweinidog Crosshall Street, bu llawer o waith datod ar y rhwymau. Clwm oedd ei ymlyniad wrth Fethodistiaid y ddinas, ac fe wyddai yn nwfn ei galon eu bod hwythau'n ymserchu ynddo yntau fel dyn a phregethwr. Daeth i gredu fwyfwy fod angen rhywun ieuengach i weithio gyda'r plant, ac felly, fel mater o ddyletswydd y torrwyd y rhaffau y buwyd am ddeunaw mlynedd yn eu ffurfio. Ym Mai, 1894, cafwyd cyfarfod i ganu'n iach i'r unig bregethwr o'i fath a oedd yn Lerpwl, a rhoddwyd teyrnged ddibrin iddo gan y Parchn. Griffith Ellis, M.A.; E. J. Evans; D. Powell; T. Gray; Owen Owens; J. Hughes, M.A.; Dr. Hugh Jones; E. O. Davies, B.Sc.; a'r Mri. David Hughes; R. W. Jones, Garston; William Jones, Bootle; ac eraill. Derbyniodd yn rhodd gan yr eglwys Gwpwrdd Derw a phlât arno, a chan eglwysi eraill y cylch, bwrs o aur.

VII.

I'R BRYNIAU'N OL.
1894—1920.

Yr oeddys yn arfer dywedyd mai dyn gwlad oedd David Williams, a rhyfedd oedd gan lawer iddo er ioed ymdaro mor wych, a llwyddo mor amlwg, yn ninas Lerpwl. Pan gyfarchai Gymry a oedd yn byw'n feunyddiol ynghanol ffrwst a ffwdan bywyd tref ni fedrent hwy lai na theimlo bod awel y mynyddoedd yn chwarae ar eu meddyliau yn null ac ymadroddion y proffwyd hwn. Ni fu i nag ysgol na dim arall glipio dim ar adenydd ei ddawn. Gwladwr ydoedd yn myned i Pall Mall, ac yr oedd yn gymaint dyn gwlad yn dyfod oddiyno.

Rhyw gymysg deimladau a geir, fel rheol, pan fo un yn mudo, a meddyliau amryw a dieithr yn ymgronni, ac ymgroesi hefyd, yn ei fynwes. Yn nwfn ei galon fe hiraethai am lonyddwch a thawelwch gwlad; ond ei brofiad ef, fel llawer un arall, ydoedd fod newid cylch y nesaf peth i newid byd.

Estynnodd ei babell mewn man hyfryd ddigon sef ym Mhenmorfa, ar gwr Dyffryn Madog, ac fel hyn y disgrifia'r Parch. Morris Thomas, M.A., yn fyw a diddorol y fro hynod honno—Bethel a Phenmorfa. Penmorfa,— pentref nid anenwog ei hanes a'i draddodiadau. Dyma'r lle cyntaf yn Sir Gaernarfon i Howel Harris roi ei droed i lawr arno ar ol croesi'r Traeth Mawr o Feirion, y dydd diweddaf o Chwefrol, 1741. Penmorfa oedd pentref enwocaf Eifionydd yn y ddeunawfed ganrif. Nid oedd y fan y saif Porthmadog a Thremadog arni'n awr namyn traethell lom a orchuddid yn fynych gan lanw'r môr. A lle bach tlawd iawn oedd Cricieth, heb ynddo ond ychydig fwthynnod to gwellt a breswylid gan bysgodwyr hanner gwar. Saif Penmorfa ar lethr bryn of bobtu'r ffordd sy'n arwain o Dremadog i Benygroes a Chaernarfon. O'r tu cefn iddo cyfyd yr Alltwen yn syth fel rampart, a rhyngddo a'r môr y mae Moel y Gest. Awn am dro i fyny'r pentref, a chyfeiriwn i gymdogaeth Bethel. Ar y dde i ni, lle saif tŷ new ydd a shop yn awr, yr oedd yna dafarn unwaith—Y Ty Mawr, ac yno y ganwyd John Jones, Tremadog, yr hen weinidog enwog, ac un a fu'n Llywydd Cyfarfod Misol Sir Gaernarfon am lawer o flynyddoedd cyn ei rannu. Ychydig yn uwch i fyny ar y chwith y mae'r tŷ y bu ei gyd-frawd-yng-nghyfraith, Michael Roberts am ysbaid tua dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn cadw ysgol, a rhai o feibion mwyaf bonheddig Eifionydd yn ddisgyblion iddo. Oddi tanom, yn agos i Blas y Wern, y mae Cwt Defaid -man genedigol Edward Samuel (1674—1748), person Llangar. Efe oedd y nesaf at Elis Wyn mewn gallu llenyddol yn y Gogledd.[7] Dyma awdur "Bucheddau'r Apostolion a'r Efengylwyr." Cyfieithodd nifer o lyfrau crefyddol o'r Saesneg, ac yr oedd hefyd yn fardd o fri.

Rhyw filltir yn uwch i fyny, wedi dringo'r holl ffordd, deuwn i gymdogaeth Bethel. Ar y chwith, rhyngom a Phentrefelin, y mae Cefnymeysydd Isa, cartref Elis Owen, hen lanc o lenor, bardd, ac athro. Gwnaeth ef fawr wasanaeth yn ei ddydd fel noddwr ac ysgrifennydd Cyfarfod Ysgolion Eifionydd. Hysbys i lawer yng Ngwynedd ydyw hanes Cymdeithas Lenyddol Cefnymeysydd, lle bu meithrin meibion ddaeth yn wyr amlwg mewn llên a chân, ac yn golofnau mewn byd ac eglwys.

Ar y dde, yn llechu yng nghysgod craig gwelwn. hen blasty, Y Gesail Gyfarch, a fu'n breswyl yn y dyddiau gynt i rai o deuluoedd mwyaf pendefigaidd Eifionydd. Merch y Gesail oedd mam y Dr. Humphrey Humphreys (1648-1712), Esgob Bangor a Henffordd, noddwr Elis Wyn, Edward Samuel, William Wynn, ac eraill. Hwyrach mai'r dyn mwyaf dylanwadol a blaenllaw yng Ngogledd Cymru yn nechrau'r ddeunawfed ganrif oedd Humphrey Humphreys. Yr oedd yn adnabyddus trwy Gymru a Lloegr, ac yr oedd yn fugail ffyddlon, yn arweinydd doeth, a Chymro trwyadl."[8]

Bu'r Esgob yn byw yn y Gesail Gyfarch am flynyddoedd, ac ym mynwent Penmorfa y claddwyd ei wraig.

Ychydig yn nes i'r Gogledd, heb inni symud cam, gallwn weled y Clenennau, ac nid oes enwocach tŷ yn Eifionydd na hwn. Dyma gartref Syr John Owen (1600-1666), arweinydd plaid y brenin Siarl I. yn Sir Gaernarfon yn amser y Gwrthryfel Mawr. Enillodd y dyn bach gwrol ac ymladdgar amryw frwydrau dros y Brenin, ond fe'i gorchfygwyd yntau gan filwyr y Senedd ar y Dalar Hir rhwng Llandegai ac Aber, a chymerwyd ef yn garcharor. Er ei ddedfrydu i golli ei ben, rhywsut cafodd faddeuant a rhyddid, ac yn y Clenennau y bu farw.

Rhwng y Gesail a'r Clenennau y mae ffordd yn troi o'r briffordd, sydd yn ein harwain i gyfeiriad Cwmystrallyn. Wedi cerdded rhyw filltir ar hyd hon, deuwn i Ynys Pandy, cartref Gruffydd Shôn, yr hen bregethwr Methodist. Ato ef y daeth John Elias, yn llanc deunaw oed, i weithio'i grefft, ond a'i olwg yn fwy ar "yr alwedigaeth nefol" nag ar waith gwehydd. Dyma'r pryd y daeth yn aelod eglwysig, ac yma y dechreuodd bregethu. Ar lan yr afon o flaen y Clenennau y mae bwthyn bach sydd erbyn hyn yn prysur adfeilio. Ei enw yw Clwt y Ffelt, a dywedir mai yma y traddododd John Elias un o'i bregethau cyntaf. Ond anghofiasom yr Eglwys a mynwent y plwy, gorweddant o'r golwg mewn pantle dwfn ac unig, dan gysgod coed uchel, ac ni ellir eu canfod nes dyfod ohonom o fewn ychydig latheni iddynt. Yr oedd yr Eglwys a Thy'nllan unwaith ar y ffordd fawr rhwng Penmorfa a Phentrefelin. Y mae amryw sy'n fyw heddiw yn cofio Ty'nllan yn dafarn a brawd i Thomas Hughes, Machynlleth, yn byw yno. Treuliodd yr hen bregethwr enwog hefyd rannau o'i oes faith o dro i dro yn Nhy'nllan, ac yng nghwr y fynwent gerllaw y mae'n huno'i hun ddiweddaf. Yma hefyd gorwedd John Jones, Tremadog, a heb fod nepell oddiwrtho yntau y mae tŷ hir gartref Syr John Owen. Nid oes ond lled yr eglwys rhwng gorweddle'r hen bregethwr Methodist ag eiddo'r hen filwr brenhinol. Rhyfedd meddwl iddo, ar ol oes gyffrous a therfysglyd, ac osgoi o hono'r bloc yn Llundain, ddod i orffwys yn nistawrwydd Llan Penmorfa.

Dyma'r fro o fawr hanes y daeth David Williams. iddi i fyw.

Y mae'n dra thebyg mai perswad Robert Rowland, Y.H., a'i tynnodd ef, David Williams, i'r ardal hon. Yr oedd y gŵr hwnnw wedi ymneilltuo o'r Banc, ac yn ddyn o gryn ddylanwad. Prynodd Mr. Rowland y Plas Isa, ac yr oedd hwnnw yn ddau dy, ac wrth sicrhau tenant i'r ail, fe gaed gweinidog i'r cylch. Ni alwyd mohono'n fugail ar unwaith, ond gofynnwyd iddo mewn cylch cyfrin weithredu fel y cyfryw am £12 y flwyddyn. Toc fe sicrhawyd ei wasanaeth ym Methel, eglwys arall y daith, ond y mae'n debyg na ofynnwyd iddo ymgymryd a "bagad gofalon bugail" yno, namyn dod i fyny unwaith yn yr wythnos i gadw Seiat.

Yr oedd y tŷ y preswyliai ynddo wrth ei fodd, ac yn wynebu codiad haul. O'i flaen y mae gardd helaeth a pherllan. Treuliai yntau gryn dipyn o amser i gerdded yn ôl a blaen ar hyd ei rhodfeydd, a gweithiai beth ynddi, ond dim llawer. Dyma seibiant a thawelwch teml anian, o gyrraedd pob mwstwr anesmwyth.

Edrydd pobl yr ardal fel y byddai'r gŵr da yn bwyta yn ddefosiynol afal neu ddau cyn brecwast bob bore, mor fanwl-ofalus y byddai cyn myned i orffwys y nos yn ymlwybro at bob drws i weled ei fod wedi ei gloi; a gweled, yn bennaf dim, fod y tân wedi ei lwyr ddiffodd; fel y byddai, hefyd, yn dechrau paratoi ar gyfer ei daith y Sul yn gynnar dydd Gwener trwy dynnu ei ddillad o'r drôr a'u taenu'n ofalus ar y gwely.

Fe fu Mr. W. T. Williams, yr Ysgolfeistr, yn gydymaith cu iddo yn ystod yr amser yr oedd ym Mhenmorfa, a chan fod yr hen frawd yn dra ofnus y nos, fe gymerid ei ofal ganddo ar nosweithiau tywyll. Nid profi'r ysbrydion a wneid ar y ffordd anghysbell, ond bod yn angel gwarcheidiol i'w cadw draw.

Yn ôl a ddywed Mr. William Parry, yr arweinydd canu, ni chanai David Williams fawr yn ystod yr oedfa, ond wedi'r bregeth ymollyngai fel llifeiriant a'i lais yn llenwi'r capel. Braidd na fyddai yn ffrwydro hyd at fynd a'r gân oddiar y codwr canu —ac, yn wir, yn amlach na pheidio, byddai'n tueddbennu at fynd allan o diwn yn yr hwyl.

Aeth, meddir, o Benmorfa i bregethu i Lerpwl, yn ol ei fynych arfer, a bu tro go ddigrif. Lletyai gyda chyfeillion caredig, ac nid oedd ond ychydig o gerdded o'r Stesion i'r tŷ. Mynnai mab y teulu mai ef oedd i fyned i gyfarfod y pregethwr i'r orsaf, a chydsyniodd y tad i hynny. Ond cyn cychwyn fe ofalodd y bachgen am chwilota am hen dop côt i'w dad, a sicrhau hen gap wedi gweld dyddiau gwell, a tharawodd hwy dan ei gesail i fyned i'r Stesion. Pan glybu swn y tren yn dod i mewn rhoes. y ddiwyg am dano. Yn y munud dyma'r pregethwr a'i ysgrepan trwy borth y Stesion, a'r dyn ieuanc yn moesymgrymu iddo yn ol arfer porter, "Carry your bag, Sir?" meddai. "No, No, thank you," atebai David Williams yn bur bendant. Ond dal i daergrefu a wnai'r "porter," gan gydgerdded â'r pregethwr, a hanner cymryd y bag o'i law, a'i sicrhau yr âi ag ef yn ddiogel i'w lety. Rhwng bodd ac anfodd, fe ollyngwyd y bag iddo, a chydgerddwyd yn ddigon del am ran o'r ffordd. Ond, a hwy yn myned heibio pen un heol go gul-dyma'r "porter yn cymryd y goes fel milgi a David Williams yn edrych yn ddifrifol arno ef a'r bag yn diflannu! Safai'n syn a hurt yr olwg arno yn ystyried y sefyllfa, ond "beth a wnai drwstan" ond myned ymlaen am y llety? Pan ddaeth i'r drws yn drwblus ei feddwl yr oedd yno wraig siriol yn ei gyfarch; ond buan y daeth allan hanes yr anffawd. "Welais i rioed y fath beth," meddai; "wn i ddim beth ddaeth drostai; mi rois fy mag i ryw lefnyn tua'r Stesion yna i'w gario, ac y mae'r creadur wedi dianc, a mynd a fo, a welai byth mono fo." "O," meddai'r wraig hynaws (weithian yn deall y tric), "peidiwch a phoeni, gewch chi weld y daw o i'r golwg." "Na ddaw wir, welwch chi, yr oedd golwg rêl lleidar arno fo," oedd yr ateb.

Yr oedd yn ŵr annwyl gan bobl Penmorfa, a phrisid ei wasanaeth yn fawr yn ystod y pedair blynedd y bu yno. Meddyliai yntau'r byd o rai o'r bobl.

Pan ddaeth ar ol hynny i angladd Edward Richard (am dano ef y dywedir iddo gael braw pan dde- allodd mai nofel oedd Rhys Lewis, a pheidio a derbyn y Drysorfa oherwydd hynny), tystiolaeth David Williams tan wylo am dano ef oedd "mi fuaswn yn byw efo fo fil o flynyddoedd heb ofni ei wg." Er ei fyned i'r wlad i fyw rhaid fyddai cael Davil Williams i lenwi pulpudau Lerpwl yn bur gyson, ac fe fyddai ei enw ymhlith pregethwyr y Sulgwyn yn un sefydlog. Y mae'n debyg mai'r tri mwyaf poblogaidd a welwyd yn y Seiat Fawr oedd Joseph Thomas, Evan Phillips, a David Williams. Bu'r ddau olaf gyda'i gilydd droeon. David Williams a osodid i siarad ar ol y siaradwr Saesneg yn gyffredin, ac fe ddechreuai à rhywbeth tebyg i hyn: "Wel, gyfeillion bach, mae'n dda gan ynghalon i'ch gweld chi unwaith eto yn y fan yma, ac rydwy'n meddwl fod yn dda gynoch chitha fy ngweld inna. Mae arnai hiraeth garw yn y wlad acw am danoch chi yn amal iawn—oes wir, gyfeillion bach." Dro arall wedi iddo fynegi ei chwithtod am ei hen gylch dywedai, "Wn i ddim wir i be'r eis i oddiyma erioed."

Dro arall dywedai, "Y mae rhyw hen adnod fach yn Llyfr y Diarhebion yn fy vexio i bron—' Gŵr yn ymdaith o'i le ei hun sydd debyg i aderyn yn cilio o'i nyth.' Bron nad wyf yn teimlo dipyn bach fel yna wedi dod yma brynhawn Gwener, ac y mae'n dda gennyf gael gweld yr hen nyth—hen nyth go lew hefyd, a phe buaswn i yn ieuengach, does dryst yn y byd na buaswn yn treio ail gyweirio fy nyth yn eich mysg. Welais i neb gwell na chi yn y wlad acw, os cystal. Wel, peidiwch chi, bobl y wlad, a dweud dim am yr os' yna. Does dim eisiau dweud dim o gyfarfod fel hwn 'rwan. Yr wyf yn sefyll ato—os cystal.'"

Cwynai unwaith oblegid ei drefnu i siarad tua diwedd y Seiat: "Yr wyf yn cael cam mawr gennych, hefyd, y naill dro ar ol y llall fel hyn, ddim yn rhoi lle imi ddweud gair nes mae fy mrodyr wedi dweud pob peth. Ond nid wyf yn un o bobl y mawr—gam, y byddai Richard Humphreys yn son am danynt. Mi geisia loffa tipyn, fel y darfu i Ruth ym meysydd Boaz. Fe gafodd gennad i loffa tipyn o'r tywysennau, a synnwn i ddim na ddarfu iddi gymryd ambell dywysen o'r ysgubau hefyd. Mi geisiaf innau loffa tipyn, a chwi faddeuwch imi am gipio ambell dywysen o'r ysgubau a gawsoch."

Llanwnda

Yr hyn a barodd iddo anesmwytho ym Mhenmorfa ydoedd anhawster a gododd mewn perthynas i'r tŷ y preswyliai ynddo.

Yr oedd yn ardal Llanwnda, rhwng "Clynnog lonydd" a thref Caernarfon, a rhwng Carmel a'r môr, gyfeillion cu iawn i David Williams, sef Mr. a Mrs. Thomas Williams, Gwylfa. Llawer gwaith y mynnodd Mr. Williams gael gweinidog Crosshall Street i le fel Penygraig am Saboth, yn gwbl ar ei draul ei hun, o hiraeth am ei glywed.

Daeth hanes tŷ cyfleus yn y fro y gellid ei sicrhau i Ddavid Williams fyw ynddo, a chan fod y fangre ddymunol hon yn bur gyfleus a chanolog iddo, yno y penderfynodd symud. Fe fu ychydig amser yn aelod ym Mryn'rodyn; ond y gwir oedd, mai ar ei ffordd i gapel newydd a adeiledid yng Nghlanrhyd yr oedd y gŵr hynaws—dyna'r arfaeth yn siwr, yn y Nef a'r ddaear hefyd.

Ynglŷn â'r capel hwn, y grym ysgogol ydoedd. sel ddiball a haelfrydedd dibrin Mr. a Mrs. Williams. Rhoed yn y bobl galon i weithio, a chafwyd adeilad hardd a chasglu eglwys o tua 80 ar drawiad, megis, —pobl gan mwyaf o gyrion cynulleidfaoedd y capelau oddiamgylch.

Pregethodd David Williams—am y tro cyntaf o bulpud Glanrhyd ar Orffennaf 6, 1899, a'r mis wedyn, fe gaed yma'n flaenoriaid, Thomas Williams, Gwylfa; William Jones, Bodaden; William Griffith, y Maen Gwyn; a Jethro Jones.

Gŵr trigain a thair oedd David Williams pan ddechreuodd eglwys Glanrhyd ei gyrfa, ac fe roddai asbri ieuenctid yr eglwys nwyf ac ynni ynddo yntau. Fe ddaeth yno i siglo crud yr Achos, a theg ydyw dweud iddo roddi ei wasanaeth gwerthfawr yn gwbl ddi—dal trwy gydol y blynyddoedd.

Ymhen rhai blynyddoedd, y mae yn newid. ei annedd a symud i dŷ newydd gerllaw. Yr enw a ddyry ar y tŷ hwnnw ydyw "Y Bryniau —enw'i hen gartref yn Edern, ac un o'r geiriau cyntaf y buasai, pan oedd blentyn, yn ceisio'u hysgrifennu â'i law ei hun. Y mae am orffen ei rawd fel David Williams Y Bryniau," ac felly y gwnaeth. Pwy, ac efe wedi cerdded i gymdogaeth y pedwar ugain mlynedd, nad oes rhyw Fryniau maboed yn dyfod yn ol i'w brofiad?

Gŵr gwan ei nerfau ac ofnus ei deimlad ydoedd. ef bob amser. Fe'i blinid gan bethau go fach, ac fe wyddai'i wrandawyr cyson hynny'n eithaf da, oblegid byddai hyd yn oed agor ffenestr, neu godi blind weithiau, yn achlysur bwrw cerydd llym ar ben y blaenoriaid a eisteddai'n ddefosiynol odditano, a hwythau yn gwneud gwar i dderbyn y cwbl.

Ar fore Sul yn Nwyran, Môn, yr oedd o'i flaen nifer o enethod yn prysur ysgrifennu'r hyn a ddywedid. "Cadwch yr hen bapurach yna, da chi," meddai, "a gwrandewch yn reit lonydd," ac yna'n troi at y blaenoriaid, "doedd dim sens ynoch chitha yn rhoi rhyw griw fel hyn o flaen dyn yn y fan yma." Y nos Sadwrn cynt, deuai yn y cerbyd oddi wrth y Stemar bach, a digwyddai fod yno borchell bach ar ei daith o farchnad Caernarfon. Ymddengys bod y porchellyn hwnnw, nid yn unig yn deithiwr afreolaidd yn syniad David Williams, ond yn bur afreolus a mawr ei swn. Dealled y darllenydd mai mochyn o Sir Gaernarfon ydoedd, ac nid un o frodorion yr ynys. Fodd bynnag, i lawr o'r cerbyd yr aeth y pregethwr cyn gynted ag y safodd. Nid oedd yn dygymod â chwmni'r mochyn. "Ddoi ddim pellach efo'r gwr yma," meddai, gan roddi pwyslais braidd yn sgornllyd ar y gŵr yma." Cyn yr addawai fyned i'r lle hwnnw wedyn rhaid oedd rhoddi sicrwydd y caffai gerbyd heb fochyn y tro nesaf.

Yr oedd yn ddeddfol o fanwl, ac ni fedrai gadw'i ofal rhag mynd ohono'n bryder poenus iddo ef ei hun, ac yn rhywbeth digrif i eraill.

Noson bwysig oedd honno pan dorrid ei wallt, noson wedi'i threfnu trwy ymgynghoriad â'r brawd William Jones. Aiff y barbwr yno i'r funud erbyn saith o'r gloch, a chyn gynted ag yr â drwy'r drws gwêl fod yno baratoi a threfnu gofalus wedi bod. Y mae'r ystafell wedi'i thrawsnewid—aeth y bwrdd o ganol y llawr i'r gongl draw am holiday, a'r cadeiriau hwythau ar wasgar yn yr encilion. Wedi cymryd eu lle ar ganol y llawr y mae cadair freichiau braff, hyhi a'r meistr sydd i fod yn y canol heno. Yn o fuan, y mae David Williams yn "ymshapio," chwedl yntau, i ddyfod dan yr oruchwyliaeth. Eistedd i lawr yn Fethodistaidd, a rhy orchymyn i Martha Williams, ei chwaer, ddal y gannwyll y naill ochr, ac i Mary'r forwyn ddal un yr ochr arall, ac, wrth gwrs, yr oeddynt i fod yn reit lonydd, a dal yn ddigon uchel. Yn llaw'r gŵr biau'r gwallt y mae drych bychan fel y gallo wylio'r operation, a rhoi'r cyfarwyddiadau angenrheidiol wrth fyned ymlaen. Y mae pobl y canhwyllau yn sefyll mor llonydd a mud â delwau, ac y mae'r barbwr o'r tu ol yn dechrau clipian ei siswrn; ond rhaid iddo fod yn bwyllog ac edrych yn ystyriol, oblegid y mae'r drych yn y fan acw. Gwedi iddo dacluso'r gwegil, daw i'r brig, ac yn awr dyma orchymyn pendant gan y perchennog:

Ia wir, torrwch o'n reit gwta yn y fan yna, William Jones, dydi o ddim yn beth da bod gormod o wres ar yr ymenydd welwch chi," a dilynir y cyfarwyddyd i fodlonrwydd hollol. Ond dyma ran bwysicaf y gwaith ar ol, sef bargodi wrth y ddwy glust, oblegid anodd iawn ydyw cael y ddwy fargod yn berffaith wastad a chymesur. Yn awr y mae'r drych yn bwysig. "Chredai ddim nad ydi hon dipyn bach yn uwch," meddai gan daro'i law ar y dde, "torrwch dipyn bach ar y llall, da chi, William Jones." Ufuddheir ar unwaith. "Yr ydwi just a meddwl fod y llall yn uwch yrwan," meddai drachefn-"tipyn ar hon eto." Ac felly yr â pethau ymlaen; ond, wedi hir dreio, ac aml dorri, fe gyrhaeddir y cymesuredd gofynnol. Y mae breichiau'r merched druain wedi cyffio ers meityn, a derbyniant yn garedig a diolchgar yr awgrym fod yr oruchwyliaeth ar ben. Nid ymhoffai mewn march, ac ni fentrai ar ei ol mewn cerbyd hyd oni chai sicrwydd ei fod yn un hywaith a llonydd.

Yr oedd ei ofal am ei chwaer yn un tyner iawn, ond y tâl am hynny ydoedd goddef cryn dipyn o "stiwardio," ac aml gerydd yn y fargen.

Flynyddoedd rai cyn iddo noswylio fe ballai'i olwg yn raddol, ac fe fu am gyfnod go fawr heb fedru darllen o gwbl. Llawer cymhelliad a roes ar i'w wrandawyr "roddi adnodau'r Beibl yn sownd yn eu cof." Dyna a wnaeth ef ei hun-daliodd i drysori ar hyd ei oes faith. Medrai adrodd yn ddifeth epistolau cyfain, ac yr oedd y Salmau ac Efengyl Ioan yn ddiogel yng nghuddfa ei feddwl, ac o chollodd ei olwg, ni chollodd ei borfa.

Daeth cysgod yr hwyrddydd yn drymach, drymach, ac fe welwyd y corff a fuasai gynt yn hoywgadarn yn graddol ymddatod. Dyfod iddo yntau a wnaeth y diwedydd y soniodd gymaint am dano wrth gynulleidfaoedd Cymru a Lerpwl. Fe'i gollyngwyd i fro Nef a thangnef ei Arglwydd ar drothwy dydd yr Atgyfodi, sef nos Sadwrn y Pasc, 1920. Aethpwyd a'i weddillion i orwedd ym mynwent. Brynrodyn gerllaw. Preifat oedd yr angladd, a gwasanaethwyd gan y Parchn. William Williams, Llanwnda; John Jones, Brynrodyn; a John Owen, M.A., Caernarfon.

Rhannodd y rhan fwyaf o'i eiddo rhwng yr eglwysi y bu iddo ryw fath o gysylltiad a hwy yn ystod ei fywyd a mudiadau eraill perthynol i'r Cyfundeb.

O bydd dyn wedi cyrraedd oedran teg ac wedi'i gornelu gan lesgedd maith caiff hwnnw ddisgyn i'r bedd heb dynnu fawr o sylw ato'i hun. Yr oedd David Williams yn fwy cyhoeddus yn ei fywyd nag yn ei angau. Am dros hanner cant o flynyddoedd bu'r proffwyd hwn yn seren amlwg iawn yn ffurfafen Gweinidogaeth ei wlad a'i enw'n air teuluaidd ar aelwydydd Cymru.[9]


Er bod dros bum mlynedd ar hugain wedi rhedeg er pan adawsai Lerpwl, glynodd y ddinas yn ei serch tuag ato, ac nid aeth yn angof ganddi flynyddoedd ei wasanaeth ynddi. Dyma benderfyniad a geir yng Nghofnodion Cyfarfod Misol Crosshall Street, Ebrill 7, 1920: "Ein bod, fel Cyfarfod Misol, yn datgan ein gofid a'n galar o glywed am farwolaeth ein hannwyl dad, y Parch. David Williams, Llanwnda, a fu am lawer o flynyddoedd yn aelod ffyddlon ac amlwg o'r Cyfarfod Misol hwn. Manteisiodd yr eglwysi lawer ar ei brofiad helaeth, ei farn aeddfed, a'i ddawn neilltuol, ac yr oedd ei weinidogaeth bob amser yn nodedig o gymeradwy a bendithiol, nid yn unig yn y cylch hwn, ond hefyd yn y wlad yn gyffredinol. Chwith yw meddwl na cheir clywed ei lais mwyach, a dymunwn roddi ar gofnodion y Cyfarfod Misol ddatganiad o'n hatgofion melys am ei

Weinidogaeth a'i gymdeithas werthfawr, a'n cydymdeimlad â'i berthynasau yn eu galar."

RHAN II.

I.

YN Y PULPUD.

ESGYN David Williams i'r pulpud mewn dull gweddus a phriodol, ac fe welir rhyw arwydd o orchwyledd dwfn ymhob symudiad o'i eiddo. Y mae'i gorff yn un cymesur a chydnerth. Cyfyd yr ysgwyddau yn llydan a sgwar, a bron nad yw ei wddf cyn fyrred ag y gallai fod. Medd ben crwn a llawn, a'r gwallt yn ddiogel arno, wyneb llawn a glân, a chafodd ef, ffodus ŵr, hebgor eillio ond y nesaf peth i ddim. Teifl ei wefus uchaf allan ychydig, ac awgryma'r genau rwyddineb ymadrodd. Gwelwn fod ei lygaid llawn yn fyw, gloyw, a mynegiadol. Medr ef roddi trem i bob cwr o'r gynulleidfa heb braidd symud ei ben, a chawn yn ei edrychiad ryw gyfuniad rhyfedd o ddiniweidrwydd, prudd-der a difrifwch, ac, ambell dro, befriad hiwmor.

Cred mewn gwisgo'n drwsiadus, ond nid oes rodres ar ei gyfyl. Y mae natur a gras wedi bwriadu iddo fod yn bregethwr, ac nid yw ef am fradychu eu gwaith.

Y mae'i lais yn un eithriadol, llais dwfn a pheraidd, heb iddo gylch mawr. Dyma fel y disgrifiwyd ef gan law fedrus Anthropos: "Anaml y clywir neb yn siarad ar nodau mor isel-mor ddwfn. Petai'n arfer canu, gellid tybied ei fod yn faswr digyffelyb. Sieryd yn bwyllog a dymunol, pob gair yn dod o ryw ddyfnder cudd, ac eto'n gwbl naturiol."

Arwain yn y gwasanaeth mewn dull syml a defosiynol. Ledia'r emyn yn dawel ac ystyriol, ac y mae'r darllen yn llawn o feddwl dwys. Gwyr ei lwybr mewn gweddi, a gall gyfrodeddu geiriau'r ysgrythur, yn enwedig y salmau, fel y myn. Anodd ydyw gwybod pa un ai'r plentyn ai'r pechadur sydd fwyaf yn y golwg, ond hawdd ydyw deall bod dyn ysbrydol iawn yn y pulpud. Onid ydyw Duw mor fawr, a ninnau mor fach; Ef mor dda, a ninnau mor ddrwg; Ef mor llawn, a ninnau mor llwm. Haws ydyw gwrando wedi clywed ohonom hwn yn gweddio-fe grewyd yr awyrgylch.

Pan gyfyd i roddi ei destun y mae pawb a'u llygaid arno; ac, oblegid nad ydyw'n glywadwy iawn, fe welir rhai yn pwyso ymlaen yn eu seddau. Ymddiddanol yw ei ddawn, ac nid oes yma yr un ymdrech braidd i estyn y llais allan. Chwi dybiech ei fod yn cyfansoddi wrth fyned ymlaen, ond nid felly y mae. Gŵyr beth yw paratoi'n ofalus, a bydd ganddo ef ryw hanner dwsin o bregethau gorffenedig yn barod i ddyfod i'r maes. Ei naturioldeb cartrefol sydd, wedi'r cwbl, y tu cefn i'r dull ymddiddanol.

Gwelwn fod ei iaith yn gyfoethog a llawn, ac ni chlywir un amser neb yn medru trin ansoddeiriau i well pwrpas. Hawdd iawn ydyw colli golwg ar y rhagoriaeth yma ynddo, gan mae'i arfer ydyw bwrw i mewn ambell frawddeg gartrefol a gair gwerinol da. Ond, o fwriad hollol y gwna hynny, a'i amcan ydyw dyfod yn nes at y bobl, a gwneud ei ddisgrifiadau yn fwy byw. Sonia am ffydd yn llygadu' i fyny;" "y dyn claf yn mynd yn ryw gripil gwan;" "y wraig yn dal i glebar o hyd;" "y carchar yn Philipi yn ysgwyd fel basged ludw," "Pedr yn bwnglera gyda'i gleddyf ac yn methui strôc"; Y wraig o Samaria yn lygio mewn rhyw gwestiynau anorffen; Gras y Nefoedd yn rhoi sgwd i bechod oddiar orsedd calon dyn; dagrau yn powlio o lygaid. yr apostol; "y diafol yn un di—sens. ac ambell ddyn yn hanner pan." Traffertha gryn dipyn i egluro cysylltiadau'r testun. "Wyddoch chi be, mhobol i," meddai rywbryd," pe tasech chi'n gwybod ych Beibl mi faswn i yn cael pregethu yn fyrrach o'r hanner." Pan ddelo at ei fater nid yw'n amcanu at na chywreinrwydd cynllun na phennau celfydd. Ni welir byth mohono'n ymrwyfo'n afreolus yn y pulpud, prin y gwelir ef yn wir yn symud o'i unfan. Y mae'r ychydig arwydd o gyffro yn nhafliad ei law, a rhyw dafliad sydyn, go ddiniwed, ydyw hwnnwrhyw ysgydwad disymwth o'r penelin i'r llaw.dyna'r cwbl. Y mae yma ryw angerdd—rhyw ysgwyd yn ei unfan—er hynny, oblegid gwelwch fel y mae'n chwysu. Ni phregethodd odid neb fwy trwy chwys ei wyneb nag a ddarfu i David Williams. Pan fo cynulleidfa lawn, fe'i gwelir yn ffrydio i lawr ac yn peri i'r goler am ei wddf golli ei lliw a'i ffurf gynhenid. Yn amlach na pheidio, fe gwyna ei bod hi'n boeth iawn, a galw am agor tipyn ar y ffenestri gan ychwanegu "Pe taswn i'n pregethu mewn potel, fe fuasai'n rhaid i rai o honoch chi gael rhoi corcyn arni."

Eir ymlaen bellach a'r llais yn clirio, gan ddyfod allan yn rhwyddach. "Nid nodwedd y gornant wyllt sydd i'w areithyddiaeth, ond ymlifiad ymlaen fel afon ddofn. Heb nac ymrwyfo nac ymfflamychu, y mae'n ymgryfhau. Onid oes rhyw ieuad cymharus rhwng natur cyfansoddiad y bregeth a'i ddull ef o'i thraddodi?[10] Teimlwn fod y gynulleidfa yn mynd yn fwyfwy i'w law. Peidiodd pob pesychu, a darfu pob siffrwd ers meityn.

Y Piwritaniaid a'r Ysgrythur ydyw ei garn ar bopeth. Ni cherddwyd meysydd eang llenyddiaeth Baxter, Gurnal, a Bunyan yn llwyrach gan fawr neb. Am Galfin, y mae ef ar ben y rhestr; ac fe ddywed beunydd y rhydd ef John Owen yn erbyn yr ysgolheigion "a'r hen Germans yna" i gyd.[11] Ond pa ddeunydd bynnag a gafodd o ddyfal ddarllen yn y meysydd toreithiog hynny, rhydd iddo anadl bywyd a gwisg newydd spon.

O'r Beibl y caiff ei gymariaethau bron yn llwyr. Beth bynnag a fo'r pwnc, bydd yn fuan yn "lygio " rhyw hen frenin neu gymeriad arall yn yr Hen Destament, gan ei ddefnyddio i'w bwrpas i'r dim.t Anodd ydyw i wrandawyr David Williams beidio a theimlo bod y Beibl yn llyfr mawr a diddorol i'r sawl a'i darlleno.

Y mae'i ddisgrifiadau byw yn cydio'n dyn ym meddwl cynulleidfa. Cymerer y pictiwr yma o Fartimeus:

Oedd, yr oedd hwn yn ddall, yn ddall-yn byw, symud, a bod, mewn rhyw fyd o dywyllwch parhaus. 'Doedd dim dydd na nos i hwn, ac ni allai ef ddywedyd "melys yn ddiau yw y goleuni, a hyfryd yw i'r llygad weled yr haul." Yr oedd hefyd yn dlawd, heb fodd i ennill ei fywoliaeth, ac heb berthynas na chyfeillion i'w helpu, a 'doedd dim overseer tlodion yn y wlad honno, na guardian, na phlwy, na relieving officer, welwch chi, i ofalu am drueiniaid fel hyn. Oedd, wir, yr oedd o'n fychan ei fyd ac yn fychan ei gysur. Yr oedd wedi mynd yn adnabyddus fel cardotyn,—pawb yn i nabod o. Ni fedrai ymlwybrodim ond rhyw gropian i ymyl y ffordd, ac nid oedd ganddo ddillad gweddus am dano. Ond yr oedd yn dlawd, yn dlawd, ac felly nid oedd ganddo ond canlyn ymlaen efo'i orchwyl dwl a diflas a digalon. "A llawer," glywch chi, "a llawer a'i ceryddasant ef i geisio ganddo dewi "—wedi llwyr flino ar ei swn yn llefain, nes oeddynt wedi byddaru arno, a rhai ohonynt yn dechrau colli eu tymer, a theimlo bod ei lefau torcalonnus yn rhyw ddiscord poenus iawn yn gymysg à sain llawenydd a gorfoledd y dyrfa ar y ffordd i'r ŵyl. Ac y maent yn ceisio ganddo dewi a'i ddrwg swn yn y fan honno, a phan yn methu a llwyddo, yn ei ddwrdio yn iawn—"a'i ceryddasant ef i dewi." 'Does dim son iddyn' nhw roi elusen iddo i beri iddo dewi, ond ei ddwrdio, rhoddi enwau cas arno, hwyrach, a bygwth ei gymryd o'r fan honno, a'i roddi dan warchodaeth am ei fod yn niwsans hollol trwy glebar fel hyn ar ol pobl. Creadur tlawd, hawdd mynd yn hyf arno oedd hwn, ac yr oedd llawer wedi taro ati i wneud hynny—" a llawer a'i ceryddasant ef," ond 'doedd dim iws treio muslo hwn y ffordd yna.

Yna disgrifia'r wawr yn torri ar gyflwr y dyn:

"Cymer galon, cyfod, y mae efe yn dy alw di." Dyma'r rhai oedd yn ei ddwrdio yn newid eu tiwn, a dyma nhw'n rhedeg i maflyd yn ei law i'w dywys, ond 'doedd dim eisiau. Yr oedd ei glust sharp o wedi fiixo yn ei feddwl y spot o'r lle y clywsai dyner lais yr Iesu. Mewn munud y mae'n neidio ar ei draed, ac yn dechrau ymbalfalu. "Ond," meddir yma, "ond efe wedi taflu ymaith ei gochl "-rhyw hen fantell sal oedd o wedi gael ar ol rhywun, reit siwr i chi, i'w gysgodi rhag y gwynt a'r glaw-fe'i taflodd hi i ffwrdd mewn rhyw gynhyrfiad o lawenydd a gobaith,-fe'i taflodd hi i ffwrdd heb ofyn i neb ei chadw na dim. Mi roes rhyw ffling iddi, ac, am a wn i, na welodd o byth mohoni mwy.

Dyma'r dyn eto wedi'i adfer:

Wedi'i adfer, y mae nid yn unig yn edrych ar yr Iesu, ond yn canlyn ar ei ol—yr oedd mor sionc a chraff a neb yn y dyrfa. Efe a'i dilynodd gan ogoneddu Duw. Yr oedd ei lais i'w glywed drwy'r dyrfa i gyd, a thraw ymhell, ac yr oedd gan hwn lais iawn, welwch chi, yr oedd newydd fod yn byddaru'r bobol i ryw ddrwg-dymer yn ymbil am drugaredd yn y cywair lleddf. Ac yn awr, wedi troi i'r cywair llon, y mae'n llefain yn uwch o lawer wrth ogoneddu Duw am ei drugaredd, a chwarae teg i'r bobol 'does neb yn ei geryddu'n awr a cheisio ganddo dewi. Fe welir bod ganddo ddychymyg byw a dawn rhyfedd i wneuthur golygfa yn fyw a rial. Teifl ffrwyth ei grebwyll i mewn rhwng cymalau'r adnodau. Ceir darlun gorffenedig, a gellir bod yn bur sicr y bydd y cyffyrddiadau yn rhai naturiol, gwreiddiol, a chymesur.

Ni chred mewn sych-byncio, chwedl yntau, mewn pregeth, neu geisio athronyddu allan o gyrraedd y gynulleidfa. Ond pan fo'n trin pwnc profiad fe ddaw'r darluniau byw i mewn yn rhes—ffrwyth disectio cymeriadau a digwyddiadau hanes y Beibl. Geilw broffwydi o'u beddau, a digwyddiadau o dir angof. Fe'u geilw hwy o un i un i wasanaeth y gwirionedd, a'r cwbl yn ein hargyhoeddi bod dynion ymhob oes ac amgylchiadau yn debyg i'w gilydd yn eu peryglon, eu hofnau, a'u brwydrau, a bod profiadau dyfnaf bywyd a moesoldeb yn aros yr un.

Fel y cyfeiriwyd, dawn ymddiddanol sydd ganddo-a rhaid i ŵr nad yw'n dibynnu ar yr hyn a elwir yn "hwyl," neu ruthr areithyddol, wrth ryw gyfaredd o ddeunydd arall, mewn gwreiddioldeb, dychymyg, a phertrwydd, ac y mae'r rheini yma. Ceidw bawb ar ddihun, ac nid oes neb yn blino. Gall bregethu am awr a hanner heb fod yn faith.[12]

Deil y gynulleidfa yn hollol yn ei law. Daw'r trawiad doniol yn ei dro; weithiau, mewn defnydd o air neu frawddeg a fo'n newydd a chartrefol; dro arall, mewn disgrifiad byw neu syniad pert. Yn y pethau hyn fe gafodd David Williams lawer o wenau pobl.

Er hynny i gyd, yr oedd yn bregethwr difrif, a chanddo'i ergydion i'w bwrw'n annisgwyliadwy nes sobri pawb. Ni ddyry lonydd i gydwybod gysglyd. Gwasga ar y gynulleidfa fel un am roddi sgwd" i ddynion yn nes i dir y bywyd. Pan ddeffry'r dyfnder yn ei enaid dan gynhyrfiad disymwth, dyna floedd-bloedd megis o orfod. Fel y dywed Anthropos, "fe elwir y llais o'r ogof dan-ddaearol. Y mae'n cael ei godi by force i'r uchelderau, ac nid yw'n ymddangos fel yn hoffi'r driniaeth. Y mae'r swn am eiliad fel ffrwydriad pylor, ac yna disgyn yn ôl i fysg y tan-ddaearolion bethau." Nid ydyw, meddai'r Parch. W. M. Jones, yn ben crefftwr ar roddi bloedd megis llawer o'i gydoeswyr. Y mae'r hanner cyntaf yn dda odiaeth, ond tuedd y rhan olaf yw myned allan o diwn. Ond bydd pawb yn ei mwynhau, ac, yn wir, oblegid mai rhyw gynhyrfiad ydyw y mae'n ysgwyd cynulleidfa. Clywch ef ar fore Sul tawel a hafaidd mewn capel ar finion Menai yn disgrifio Thomas, yr anghredadun, a chyrchu'r floedd nes gyrru dynion i ryw deimlad hanner llesmeiriol.

"Treialon arswydus a dychrynllyd iawn oedd helynt y croeshoeliad, yn enwedig i ddyn fel Thomas, oedd o ryw feddylfryd mor bruddglwyfus, ac un oedd mor angherddol yn ei ymlyniad wrth yr Iesu. Ni fuasai'n rhyfedd iawn pe buasai wedi colli'i synhwyrau yn y dymhestl fawr hon. Am y chwedlau a daenid y dydd cyntaf o'r wythnos am adgyfodiad yr Iesu, nid oeddynt ond fel gwegi yng ngolwg y disgyblion eraill, ac y mae'n sicr i chi nad oeddynt ond fel gwagedd o wagedd," lawer gwaith drosodd, yngolwg dyn o dueddfryd y disgybl hwn.

Gwrthododd fyned i gyfarfod o'r disgyblion y dydd cyntaf hwnnw o'r wythnos. Gwell ganddo oedd bod ar ei ben ei hun i wrando ar ei feddyliau digalon ac anghrediniol. "Eithr Thomas nid oedd gyda hwynt pan ddaeth yr Iesu." Y fath golled! Ni chymerasai'r byd, na mil o fydoedd, am fod yn absennol. pe credasai fod yr Iesu'n fyw ac y cawsai'i frodyr ei weled yn y cynhulliad.

Wedi'r seiat honno, y disgyblion eraill gan hynny a ddywedasant wrtho, "Ni a welsom yr Arglwydd." Y mae rhai ohonynt yn rhedeg ar ol y cyfarfodganol nos erbyn hynny—a chwilio am Thomas yn ei lodging, ac yn ei gael mewn rhyw unigedd digalon. yn y fan honno. "Thomas annwyl," medda nhw wrtho y gair cyntaf, "Ni a welsom yr Arglwydd! Gwir bob gair ydyw bod yr Iesu yn fyw—piti mawr na buasit ti gyda ni. Buasai pob amheuaeth wedi'i chwalu am byth o'th feddwl dithau—Ni a welsom. yr Arglwydd.'" "Pw! Pw!! Pw!!," meddai yntau, "lol i gyd, ni chredaf fi. Clebar pobol ydi'r cwbl." Y mae'n sicr iddynt ddweud a dweud wrtho bob manylion y modd y dangosodd ei ddwylaw a'i ystlys, a cheisio'i argyhoeddi nad ysbryd a welsent.

Ond, dyma a gaent ganddo o hyd-"Ni chredaf fi." Dyma'r bobl oedd i fod yn dystion o'r adgyfodiad—ond "ni chredaf fi." Nid amau geirwiredd ei frodyr yr oedd Thomas, ond teimlo yn ddiamheuol mai wedi eu twyllo yr oeddynt—iddynt mewn rhyw gyffro a dyryswch meddwl gael rhyw weledigaeth ryfedd. "Oni chaf weled yn ei ddwylaw ef öl yr hoelion." Diar annwyl! yr ydym fel yn brawychu wrth y geiriau. Clywch eto; a dodi fy mys yn ôl yr hoelion."

Yr oedd y disgyblion wedi dyfod at ei gilydd bob dydd, ond methu a chael Thomas gyda hwynt—ond, wedi wyth niwrnod drachefn, "yr oedd ei ddisgyblion ef i mewn a Thomas gyda hwynt." Gwych iawn oedd ei weld, beth a'i dygodd yno? Ni wyddom yr ingoedd meddwl yr aethai drwyddynt.

Yr oedd yn dda gan eu calon ei weld o. Dyma fo yn eistedd yn ymyl y drws, a golwg bruddaidd a digalon arno, yn methu edrych yn wyneb ei frodyr, yn rhyw benisel, ac isel ei feddwl, a llwydaidd ei wedd, heb na bwyta na chysgu yng nghadwynau anghrediniaeth greulon. Ond yr oedd o yno—"yr oedd ei ddisgyblion ef i mewn a Thomas gyda hwynt."

"Yna," glywch chi, "yna, yr Iesu a ddaeth a'r drysau yn gaead"—yn sydyn hollol, a Thomas yn y fan yna yn syllu arno, ac yn clywed ei dyner lais a adwaenai'n dda yn dweud y gair cysurlawn hwn, "Tangnefedd i chwi."

Yr Arglwydd a drôdd ac a edrychodd ar Thomas, a rhyw ryfedd dosturi a gras a chydymdeimlad yn ei edrychiad, ac yr oedd hyn yn ddigon i ddryllio cadwynau'i anghrediniaeth yn chwilfriw mân. Y mae dagrau edifeirwch yn llenwi ei lygaid ac yn prysur dreiglo i lawr. "Wel, Thomas bach, methu credu yr wyt ti? peth sobor ydi methu credu—O, mi garwn iti gredu. Wyddost ti be', Thomas. mi fuaswn i yn fodlon i'r briwiau yma gael eu hagor eto pe meddyliwn y credit—'moes yma dy fys, a gwêl fy nwylaw,' dyma'r dwylaw a hoeliwyd ar y Groes, dyma fy ystlys a drywanwyd, estyn dy law. A ydyw yn gwneud. hynny? Na! Na!! Na!!! ni chymerai fil o fydoedd am dreio gwneud. Gwell ganddo syrthio wrth ei draed a gweiddi—"Fy Arglwydd a'm Duw—Fy Arglwydd a'm Duw."

Dyma'r proffwyd a enillodd glust y bobl. Cyfrannodd air y bywyd yn ei ddull digymar ei hun. Rhoes syniad am realiti profiad ysbrydol dwfn. Dysgodd i bobl fyw yn addas i Efengyl Crist a hynny heb flew ar ei dafod. Ni cheisiodd ef fod yn

ddim ond pregethwr, ac, yn hynny o swydd, fe gyrhaeddodd y brig mewn poblogrwydd a dylanwad.

II.

YN Y SEIAT.

"Lle ydyw'r seiat i'r saint gael ei gilydd yng Nghrist a chael Crist yn ei gilydd." Dyna ddywediad cryno David Williams am gymdeithas y saint, ac y mae'n ddigon cynhwysfawr i agor llwybr Araith ar Natur Eglwys.

Y mae'n debyg y gellir meddwl am un yn meddu ar ddawn pregethu, a honno'n ddawn arbennig hefyd, heb ynddo ragoriaeth amlwg mewn cadw seiat.' Y peth hawddaf yn y byd ydyw i seiat fyned dan ein dwylo yn rhywbeth heblaw seiat. Yr oedd yn Navid Williams deithi, fel dyn a phregethwr, a'i gwnai hi'n rhwydd iawn iddo ragori yn y cylch hwn. Fel dyn, yr oedd yn naturiol a syml, yn dyner a charedig, yn gartrefol a chyfeillgar i'r pen. Meddylier, wedyn, am ei brofiad ysbrydol dwfn o bethau'r Efengyl, ei feithriniad o'i grefydd bersonol, a'i wybodaeth gyflawn a difêth o'r Beibl. Nid oedd yr un adnod yn newydd iddo ef, heblaw bod pob adnod yn newydd pan ddelo o enau sant. Yr oedd yn arfer ganddo, pan gaffai un go doreithiog, alw'i chwiorydd ati o bob rhan o'r Beibl, ac ni fyddai gorffen heb wahodd Pantycelyn, neu arall, i yrru'r hoel adref. Oedd, yr oedd David Williams yn fawr yn y seiat.[13] Prin yr oedd yn fwy yn unman.

Wedi i frawd ddechrau'r gwasanaeth, fe gyfyd y gweinidog ar ei draed yn hamddenol a gwrando ar y plant yn dweud eu hadnodau. Gwelir yn ebrwydd nad ydyw'n medru disgyn yn naturiol iawn i fyd y plentyn. Ei duedd ydyw bod yn fanwl, a phrin ydyw ei gydymdeimlad a'r ynni a'r ymsymud hwnnw sydd naturiol i blentyn iach. Yr oedd eistedd yn berffaith lonydd heb symud dim" yn un o'r rhinweddau mawr. Na feddylied neb, er hynny, nad oedd yn ffrind i'r plant, a'r plant yn hoff iawn ohono yntau. Caffai rhai ohonynt sylw arbennig a chyfeillgar, yn enwedig pan welai'r proffwyd arwyddion cynnar o sens ynddynt. Ond llawn cystal ganddynt. hwy oedd ei gyfarfod y tu allan i'r seiat.

Gwelwn ef bellach yn ymlwybro'n araf i'r llawr at ei frodyr a'i chwiorydd a ddeallai'n well. Onid oes rhyw serchogrwydd yn ei gyfarch cyntaf? Siervd megis tad yng nghanol ei blant. Tery ei law ddehau yn gynnil ar ei ên pan ddyneso atynt, a dywed,— "Dowch wir, gyfeillion bach, be sy gynnoch chi heno?" Disgyn ei lygaid yn awr ar Owen Griffith. Gwyliwr porth un o'r dociau ydyw ef, ac wedi bod yn wael am wythnosau rai. "Wel, Owen Griffith, be sy gynnoch chi i ddweud wrthon ni? Mae'n dda gin yn clonna ni'ch gweld chi," meddai David Williams. "Wel," ebr y brawd. "yn fy ngweld fy hun yr oeddwn i yn debyg iawn i'r llongau fyddai'n weld yn dod i'r graving dock acw. Y mae nhw'n dod acw i gael eu hofarholio, welwch chi, yrwan ac yn y man. Mae nhw'n edrach ydi'r boilars a'r injans yn olreit i wynebu'r môr mawr: ac yr oeddwn i'n meddwl mai rhywbeth tebyg oedd fy hanes inna—yn y graving dock—am chwech wythnos." Y mae'r gymhariaeth wrth fodd David Williams. "Sut y doth hi arnoch chi?" gofynnai. Wel, mi ddoth yn llawer gwell nag yr oeddwn i'n ofni. Mi glywais lawer o swn y morthwylion yn disgyn-llawer pryder, ofn, ac amheuaeth, ac, yn wir, ambell adnod yn disgyn fel gordd, welwch chi." "Diar mi, oedd hi felly, oedd hi?" gofynnai drachefn. Oedd, oedd, ond mi gefais fod y boilers heb grac ynddyn nhw," oedd yr ateb. Felly yr â'r ymddiddan ymlaen ac Owen Griffith yn gorffen trwy ddweud mai'r un piau'r môr a'i lestr bach yntau, a'i fod am ei fentro.

Ac," meddai, " er gwaethaf grym y tonnau
Sydd yn curo o bob tu,
Dof drwy'r gwyntoedd, dof drwy'r stormydd,
Rywbryd i'r baradwys fry."

Dyma John Hughes yn nesaf yn cyfarfod llygad y gweinidog. Gŵr a ddisgyblwyd yn ddiweddar ydyw hwn, ac y mae newydd ddechrau ymadfer o'r oruchwyliaeth. Son y mae ef am y gras o edifeirwch fel peth gwerthfawr iawn. "Ia, Ia," meddai David Williams, does dim ffordd arall yn ôl ai oes? Deudwch i mi ai edifeirwch am ryw bechod neilltuol ydach chi'n feddwl, John Hughes?" "Ia siwr," meddai'r brawd. "Ac yr ydach chi'n teimlo ych bod chi'n o berffaith felly wedi cael clirio hwnnw?"-a dyma John Hughes yn y gongl yn daclus. Gwelodd yr hen broffwyd mai parchusrwydd wedi'i glwyfo oedd yn blino'r dyn, a dim dros ben hynny. Yna dywedodd yn ddifrif-dyner am ddrwg calon bechadurus a chwerwder gwir edifeirwch. Math o operation oedd hon, ac yr oedd ei air fel cleddyf llym dau finiog.

Dyma fachgen ieuanc o'r wlad, John Williams. Dechrau son wrtho am ddarllen y Beibl ac arfer y weddi ddirgel; ond dyma un o'r blaenoriaid yn hysbysu bod John Williams wedi colli ei fam. Deffry hyn ryw deimlad dwys iawn yn y gweinidog. Dywed yn dyner am faint y golled, gan orffen gyda'r geiriau: "Do, machgen i, chwi gollsoch, wrth golli'ch mam, fwy o gariad a thynerwch yn un lwmp efo'i gilydd nag a welwch chi yn y byd eto," a'r dagrau yn powlio o'i lygaid byw a glân.

Dywed ei feddwl yn bur rhydd weithiau. Dyma chwaer ffyddlon newydd briodi. Dymuna'n dda iddi yn ei bywyd priodasol, a gofynna a ydyw'r gŵr yn aelod. "Nac ydi," medd hithau, "Sais ydi o." "Neno'r diar," meddai yntau, "i beth yr ydach. chi'n priodi'r hen Saeson yma deudwch, i ddifetha'ch crefydd."

Yn ymyl yn y fan yna y mae Laura Jones. Hen ferch ydyw hi a gynhelir gan mwyaf gan y gweinidog ac aelodau eraill yr eglwys. Gwyr pawb na ddaw'r dorth byth ar ei bwrdd hi heb y Beibl hefyd. Ychydig iawn a wyr y dref am Laura Jones, yn ei bywyd bach a'i hannedd syml, oddieithr aelodau'r eglwys. Daw hi a gair heb ei chymell. "A'r Iesu a safodd." "A'r Iesu a safodd," meddai. "Meddwl yr oeddwn i heddiw, Mr. Williams, am y gair hwnnw yn hanes y cardotyn—the poor beggar by the road side, wyddoch chi. Yr Iesu a safodd, ac a orchymynodd ei ddwyn ef ato."" "Ia, da iawn," ebr y gweinidog. "Wel, beth oeddach chi'n feddwl o ryw air fel yna, Laura Jones?" "Synnu 'roeddwn i fod O yn sefyll, a dyna oeddwn i'n feddwl pa member of Parliament fuasai'n sefyll i sbio ar un fel fi,, greadures dlawd."

"Diar mi, Diar mi, glywch chi, gyfeillion, y mae'r chwaer yma'n rhyfeddu wrth feddwl fod yma Un yn sefyll pan mae'r byd tyrfus yma yn mynd heibio, yn sefyll i alw rhai nad ydi'r dref yma ddim yn i gweld nhw. Mor briodol inni i gyd fyddai'r pennill hwnnw—

Rhyfeddu'r wyf, a mawr ryfeddod yw,
Fy ngharu erioed y gwaela' o ddynolryw;
Cael yn dy dŷ, o fewn ei furiau le,
Ac enw gwell nag enwir is y ne."

Rhoddir gan un a fagwyd yn eglwys Crosshall Street, ac a ddechreuodd bregethu dan gysgod David Williams, sef, y Parch. John Owen, M.A., ddisgrifiad ohono fel un dihafal yn y gwaith hwn: "Medrai gadw seiat mewn modd na fedr ond ychydig." A hyn cytuna'r gair o bobman.

III.

HIWMOR.

Fe sylwyd eisoes ar y cyffyrddiadau digrif a geid yn britho'i bregethau. Yr oedd ei ddull ymadrodd ac ambell air gwerinol, cwbl naturiol iddo ef, yn creu rhyw wên ar wyneb y gynulleidfa. Dros ben hynny yr oedd haen—a haen gref—o hiwmor ynddo. Cadwai'r digrifwch dan reolaeth go gaeth yn y pulpud, ond fe'i ceid yntau ar achlysuron yn rhyw syrthio i'r demtasiwn o lacio'r awenau—a dweud gair "scaprwth." Er hynny i gyd, ni adawodd iddo droi yn lleidr, ac ni thramgwyddai'r un Piwritan wrtho. Fe'i defnyddiai yn urddasol a chymesur.

"Hyn oll a roddaf iti os syrthi i lawr a'm haddoli i," meddai'r diafol wrth yr Iesu. 'Roedd o'n siarad fel rhyw landlord mawr cyfoethog, ond tasa chi'n mynd ar i bac o yng ngwlad y Gadareniaid 'doedd. gyno fo ddim cymin a mochyn ar i elw."

Wrth son am ddynion Jehu yn dwyn pennar meibion y brenin. "Yr oedd y rhain yn sgut am bennau, welwch chi."

"Arian ac aur nid oes gennyf," meddai Pedr. "Wir d'ydwi ddim yn meddwl y buasai Pedr byth yn hel arian tasa fo wedi aros efo'r hen gwch hwnnw. Un o'r rhai hynny oedd o, a rhyw dylla yn i pocedi nhw."

"'Gan fwyta eich bara eich hunain,' medd Paul. Cofiwch, da chi, nad ydyw talu am eich bwyd ddim. yn anghyson â duwioldeb. Y mae ambell ddyn. waeth ganddo yn y byd yma bara pwy a fwyty, ond iddo'i gael i'w geg rhywsut."

"Pan adeiledid y deml yr oedd yno ddeng mil a thrigain yn cario beichiau, pedwar ugail mil yn naddu cerrig, a thrichant o swyddogion ar 'gibl— iaid' (beth oedd y rhain deudwch?). Dyma i chwil fleet o stiwardiaid. Beth feddyliech chi o ryw griw fel hyn tua Llanberis yma?"

Yr oedd y bobl yn ei flino trwy besychu'n ddidor —ac yntau'n pregethu ar Jonah. "Oedd," meddai, yr oedd o yno ym mol y morfil yn reit snug, welwch chi, a chafodd o ddim annwyd a phesychodd o ddim i flino neb."

"Peidiwch cysgu, wir, gyfeillion," meddai rhyw brynhawn Sul, dydi Duw ddim yn siarad trwy freuddwydion yrwan."

" 'A'm llef y gwaeddais ar yr Arglwydd.' Yr hyn ydyw crio i blentyn bach mewn caledi — dyna ydyw gweddio i bechadur yn teimlo'i angen. 'Does dim eisiau ysgol i ddysgu i blentyn grio. Tasa ysgol i ddysgu iddo dewi buasai'n dda gan lawer."

"Ni adawodd Efe i'r cythreuliaid ddywedyd yr adwaenent Ef.' Yr oedd am gael gwell carictors na'r criw yma i ddweud am dano."

"Clywodd y wraig o Ganaan fod yr Iesu yn y gyindogaeth. Yr oedd y son yn dew. Fe aeth y bobl hynny sydd yn gwybod hanes pawb ati i ddweud."

"Am y Gamaliel yma, beth bynnag oedd ei gym— hellion y mae'n ddyn call, ac yn siarad sens; ac y mae hynny'n llawer o beth mewn byd lle mae cym— aint o ffyliaid yn siarad nonsens."

Mewn cyfarfod pregethu ym Mhenygroes soniodd y Parch. Griffith Ellis, M.A., fwy nag unwaith am gymeriadau Corris. Pan aed i dy'r Dr. Roberts dyma stori arall am un o'r Corrisiaid. "Diar mi," meddai David Williams, Mr. Ellis bach, yr oedd gynoch chi rhyw griw ofnadwy o ryw betha tua Chorris yna ddyliwn i," gan awgrymu—

Tro doniol oedd hwnnw yn Ll—— rhyw brynhawn trymaidd yn yr haf a David Williams yn pregethu. Yn union o'i flaen yr oedd dyn wedi gosod ei gefn yn erbyn congl y sèt. Dechreuodd ei lygaid. drymhau, ac yn o fuan dacw'i ben ar ei wegil. Aeth pethau o ddrwg i waeth, ac yn ebrwydd yr oedd golwg aruthr arno yn cysgu, ac yn agor ei geg tua'r ceiling yn yr ystum hwnnw. Gwelid bod llygad y pregethwr yn anelu ato ers meityn. "Welwch chi," meddai yn swta, "wnewch chi ddeud wrth y dyn yna (gan bwyntio ato), os ydi o am gysgu, iddo gysgu'n ddel, 'run fath a'r dyn acw (gan gyf— eirio at gysgadur arall). Arhosai unwaith yn Nhy Capel D—— Cwynai'r hen ŵr, ei letywr, oherwydd y crydcymalau tost a'i blinai—llefarai'n ddibaid. Yr oedd David Williams yn lled bryderus am ei bregeth, ac yn bur ddisiarad; ond yr oedd tafod yr hen ŵr yn dal i symud heb arwydd o anhwyldeb rhiwmatics. "Dowch wir, Mr. Williams," meddai ar ganol y cwyno, "helpwch ych hun efo rhai o'r cream crackers yma." Yr ateb oedd, "Na, wir, frawd bach, cymerwch chi nhw'n ddistaw. Y mae nhw'n bethau campus at y crydcymalau."

Yr oedd yng nghapel Holt Road ar nos Sul, ac, yn y Seiat fe wrandawai ar y plant yn dweud eu hadnodau. "Wel, 'rwan, deudwch chi, ngeneth i," meddai wrth y gyntaf. "Ac Abraham a genhedlodd Isaac, ac Isaac a genhedlodd Jacob," &c., meddai'r eneth. Gwedi iddi orffen rhoes air llym i'r rhieni ar iddynt ddysgu adnodau cymwys i'r plant—adnodau "a dipyn o efengyl ynddynt." "Deudwch chi. ngeneth i," meddai wrth un arall. "A'r trydydd dydd yr oedd priodas yn Cana Galilea," meddai honno. "Wel wir, 'does yna fawr o efengyl yn hona chwaith," meddai David Williams.

Aeth i bregethu i eglwys yr oedd yn dra chyfarwydd â hi, ac a hwy yn dyfod adref o'r capel fore Sul, meddai'i letywr wrtho, "Y mae John Williams wedi'i ddewis yn flaenor yma." "Da iawn wir," atebai David Williams, "welis i mono fo yn y sêt fawr, ai do?" "Na," meddai'r cyfaill, "y mae o dipyn yn shy i ddod i'r sêt fawr, welwch chi." "Nenor diar," ebr yntau, "be stydi'r dyn yn gwastraffu gostyngeiddrwydd a hwnnw'n beth mor brin."

Ymddiddanai a brodyr a dderbynnid yn flaenoriaid yn y Cyfarfod Misol. Ofnai un brawd y beirniadu a fyddai arno wedi ei fyned i swydd, a dymunodd gael cyngor gan David Williams yn wyneb hynny. "Y mae'r cwbl mewn un gair, frawd bach, meddai, "tipyn o ysbryd mud a byddar—chewch chil ddim gwell na hwnnw."

Yr oedd yr oedfa yn un o gapelau Ffestiniog ar ryw brynhawn yn drwm a dilewyrch braidd. Y mae yntau'n llygadu ar y blaenoriaid swrth oedd tano yn eistedd. "Pechod yn erbyn yr Ysbryd Glân,' beth ydi o deudwch? Wel mi ddeuda'i wrthoch beth nad ydi o: pe buasai i un ohonoch chi sydd yn y set fawr ryfygu dweud 'Amen,' fasa fo ddim yn bechod yn erbyn yr Ysbryd Glân, welwch chi."

IV.

DETHOLION.

RHAGLUNIAETH.—Y mae ymyriad Rhagluniaeth yn shy iawn—y mae hi am gadw o'r golwg o hyd.

YMYRRYD. Wrth aflonyddu ar dangnefedd eraill yr ydym yn mwrdro ein tangnefedd ein hunain.

SEIAT.—Beth ydyw? Lle ydyw'r Seiat i'r saint gael ei gilydd yng Nghrist, a chael Crist yn'i gilydd.

PAUL A SILAS.—Yr oedd rhywrai yn nyddiau Crist yn troi Ty Gweddi yn ogof lladron; ond dyma Paul a Silas yn troi ogof lladron yn Dŷ Gweddi.

PEDR AC IOAN.—Byddai Ioan bob amser yn meddwl cyn dweud, a Phedr yn meddwl ar ôl dweud.

GWEDDI. Os ydym am fod yn fawr dros Dduw, y mae'n rhaid i ni fod yn fawr gyda Duw mewn gweddi.

TRUGAREDD.—'Does dim cymaint o hoffter at bechod ar wyneb y ddaear nac yn uffern chwaith ag sydd o hoffder gan Dduw drugarhau.

BYWYD YN FAICH.—Y mae'r llafur a'r ymguro a'r trafferthion yma yn mynd yn faich inni, ac, os hebddynt, yr ydym yn myned yn faich i ni ein hunain.

PREGETH BWT—Yr oedd Pedr yn pregethu pregeth fawr, hir, ac nid rhyw bwt fer o bregeth fel y mae dynion yn crowcian am dani'r dyddiau yma.

PECHOD.—Y mae'r hunan yma sydd mewn dyn yn cadw'r galon dan lywodraeth pechod, yn ei gadw rhag syrthio i lawer o bechodau mewn bywyd. Dyma sylw Gurnal: "fod rhai pechodau yn torri marchnad pechodau eraill."

MEDDWL CRWYDRAD.—Fyddwch chwi ddim yn synnu weithiau pa mor bell y medrwch chwi fynd mewn pedair awr ar hugain?

TRUGAREDD YN CUDDIO.—Bysedd Trugaredd Duw sydd wedi gwau cyrten i guddio'r dyfodol o'n golwg.

RHYDDID BARN.—Y mae rhyddid barn heb ei ddeall eto gan laweroedd. Yr unig ryddid a ganiateir ganddynt ydyw rhyddid i farnu yr un fath a nhw. Y mae gwahaniaeth mawr rhwng cydwybod a mympwy, a rhwng cariad at wirionedd Duw a chariad at gael ein ffordd ein hunain.

YMLADD AM FYWYD.—Dywedwyd am y Rhufeiniaid, pan ryfelent â phobl eraill, eu bod yn ymladd am anrhydedd a bri; ond pan ymladdent yn erbyn y Carthaginiaid, am eu bywyd a'u bod. Felly y mae'r rhyfel yn erbyn pechod a diafol.

SIARAD DROS DDUW.—"Dywed i mi," fel pe dywedai'r gydwybod, "beth sydd genti i'w ddweud? Dywed i mi fel y rhoddwyf ateb i'r neb a'm danfonodd. Siarad â thi dros Dduw yr ydwi."

EISIAU LLE.—Y mae'r balch a'r hunanol yn methu a chael digon o le o hyd, ac yn rhyw gadw swn am ragor o le," fel pe byddai'n rhyw lefiathan anferth, ac yn gofyn lle mawr i droi ynddo.

ENNILL HEB DDEFNYDDIO.—Yr oedd Hannibal yn ymladdwr da, ond yr oedd un diffyg mawr yn perthyn iddo: nid oedd ganddo fedr i wneud y defnydd gorau o'r manteision a enillid ganddo. Ond y mae Satan fel arall. Da chwi, peidiwch a rhoi mantais iddo.

GRAS A SYNNWYR.—Gras cadwedigol yn y galon —rhaid ei gael o'r nefoedd. Am synnwyr cyffredin dydi o ddim i'w gael o unman—nefoedd na daear. Os ydym hebddo, y cyngor gorau, am wn i, ydyw. inni dreio dysgu, ym mha gyflwr bynnag y byddom, bod yn fodlon iddo. Ni fedrwch chi ddim dysgu comon sens i ddyn.

CREFYDD.—Sonia yr Apostol Iago am ryw un yn dweud wrth y brawd a ddaeth i'r gynulleidfa, Saf di yma, neu eistedd yma, islaw fy ystôl droed i." Felly y gall y byd ddweud wrth grefydd yng nghalon llawer un, "saf di yma grefydd, myfi biau'r lle blaenaf yn serchiadau'r dyn hwn."

ENLLIB.—Rhaid peidio a gwrando ar enllib. Y mae rhai yn dweud na fedran nhw ddim. Taw a dy lol—medri os leci di. Pan ddaw y dyn yna efo'i bac at y drws paid a gadael iddo'i agor oni bydd arnat eisiau rhywbeth ganddo. Cau di'r drws, fe à i'r ffordd yn union.

MEISTR A GWAS.—"A gwas rhyw ganwriad yr hwn oedd annwyl ganddo." Onid ydi'r gair hwn yn un tlws iawn? O, na cheid tipyn o'r teimlad da hwn rhwng meistraid a gweision. Byddai llawer llai o ryw hen growcian gwirion nag sydd o bob tu yn y cysylltiad hwn—a son am hawliau yn ddiddiwedd.

PECHOD YN HURTIO.—Y mae dyn wedi ei hurtio'n rhyfedd trwy bechod ynghanol ein prysurdeb ffwd— anus yn y byd yma, ac nid ydym yn rhoddi ystyriaeth briodol i'n marwoldeb na'n hanfarwoldeb.

DIOLCHGARWCH.—Y mae'r hen Ddoctor Owen yn gwneud sylw fel hyn: "Am y rhannau o'r ddaear lle nad oes tarth yn esgyn i fyny nid oes dim cawodydd yn disgyn i lawr." Rhaid i arogldarth diolchgarwch esgyn i gael y glaw graslawn i lawr.

SAETH WEDDI.—Nid ydi'n dda gan y diafol mo'r saeth weddiau yma, y mae nhw'n rhy chwim iddo. Y mae'r weddi yma yn hedeg fel mellten heibio i dywysog llywodraeth yr awyr, ac fe fydd wedi cyrraedd y drydedd Nef, welwch chi, ac wedi gwneud ei busnes cyn iddo gael amser i droi.

MÔR DUW.—"Y mor sydd eiddo"—y môr mawr llydan. 'Does neb o'r dynion mwyaf trachwantus wedi dwyn ystadiau o hwn, welwch chi, na gosod terfynau iddo. 'Does dim rhent na degwm ar hwn yr Anfeidrol pia fo yn i grynswth mawr.

MEIBION Y DARAN.—Y maent yn dod at yr Iesu yn gyffrous ac yn dymuno cael galw am "dân o'r nefoedd a'u difa hwynt." "Eu difa"—nid "eu dychrynu," ydach chi'n gweld, eu difa. Yr oedd meibion y daran yma am fod yn feibion y fellten. hefyd, a gwneud y lle ar unwaith fel Sodom a Gomora.

BUSNES A PHLESER. "Busnes yn gyntaf, a phleser wedyn." Y mae pawb yn teimlo eu bod yn siarad yn gall wrth ddweud fel yna——Busnes yn gyntaf a phleser wedyn, ac oni bydd i ddyn actio yn ol y rheol hon, wna'i fusnes na'i bleser ddim para'n hir.

CREFYDD Y BRIWSION.—Yr oedd Lazarus, y cardotyn hwnnw, yn gorfod treio byw ar y briwsion a syrthiai oddiar fwrdd y gŵr goludog. Felly y mae crefydd gan lawer o bobl yn gorfod gwneud ar ryw friwsion sydd yn syrthio oddiar fwrdd y byd—briwsion o amser, a briwsion o feddwl a myfyrdod.

NID GELYN OND GELYNIAETH.—"Y mae pechod yn elyniaeth yn erbyn Duw." Yn elyniaeth, glywch chi? Yr unig beth ellir ei wneud â gelyniaeth yw ei lladd, a dyna sy'n cael ei wneud yn nhrefn achub pechodau trwy Groes Crist. Nid lladd y gelyn ond lladd yr elyniaeth.

Dro arall: Y mae modd cymodi gelyn, ond nid felly elyniaeth. Gellir newid natur pechadur, ond ni all anfeidrol ras y Nef newid natur pechod.

SYMUD DAEAR.—"Nid ofnwn pe symudai'r ddaear." Yr hen ddaear yma, wrth ryw chwyrnellu troi yn yr ehangder, fel yn rhyw golli ei balans, ac yn rhuthro'n ddilywodraeth ar draws un o'r byd— oedd eraill yna, nes trwy'r jerc a'r ysgydwad y byddo'i phreswylwyr yn dropio oddiar'i hwyneb i'r gwagle mawr,—ofnwn i ddim—ddim byd, "pe symudai'r ddaear."

CYNNAL YR ACHOS.—Buasai'n hawdd iawn i Fab Duw gael digon o ddarpariaeth tuag at gadw'i fam. Buasai deddfau natur yn barod ar ei amrantiad, fel y gigfran yn porthi Elias. Buasai angylion y nef— oedd yn falch iawn o gael bod yn waiters i'w fam o; ond Ioan a gafodd wneud, welwch chi. Felly am achos yr Iesu eto, hawdd fuasai i'r Gwaredwr fynd a'i achos ymlaen hebo ni.

GWASANAETHU'R PLANT.—Fel y mae holl ddaioni planhigion ac anifeiliaid er daioni dyn, felly y mae holl ddoniau'r dyn anianol er daioni yr eglwys. Y mae gwasanaethyddion plant gwŷr mawr yn cael llawer gwell lle na'r gwasanaethyddion eraill. Nid oddiar barch iddyn nhw, ond er lles y plant.

BODLONRWYDD.—Arwydd dda ydyw ein bod yn medru teimlo'n ddiolchgar i'r Arglwydd am yr hyn yr ydym yn ei gael, a hynny pan na cheir popeth a ddymunem. Nid bod fel rhyw blentyn moethus, oni chaiff y peth—y tegan y mae o'n ei cheisio — yn strancio'n enbyd, a dydi o ddim iws cynnyg dim byd arall i'r crwt. Mi teif o o'i law mewn tempar ddrwg. Fedar o ddim diolch am bob peth os croesir ei ewyllys mewn un peth.

GRAS A GWEITHREDOEDD.—"Cariad at Dduw"— y mae o am ryw dreio ymshapio yn ufudd-dod i Dduw. Gras yn achub heb weithredoedd ydyw'r cymhellydd cryfaf mewn bod i weithredoedd. "Maddeuant rhad trwy ras" sydd yn dweud yn fwyaf effeithiol wrth yr enaid; "Dos, ac na phecha mwyach."

YR OES OLAU HON.—Mawr ydyw'r swn, a diflas iawn hefyd ydi'r lol, a glywir weithiau am yr oes yr ydym yn byw ynddi fel "yr oes olau hon " . . . ei bod yn rhyw oes na bu ei bath; ac wrth sylwi, ac ymwrando, a darllen, cawn fod yr un hen swn gwirion i'w glywed ymhob oes yn yr amser a aeth heibio.

TEULU DUW.—" Hyd oni ymgyfarfyddom oll." Cymanfa ogoneddus fydd hon—y teulu i gyd yn iach a'r plant yn siriol. Y mae teulu Duw yn wahanol i deuluoedd y byd yma yn hyn. Dechrau gyda'i gilydd y mae teuluoedd y ddaear yma, ac yn gwasgaru yn fuan. . . ond am deulu Duw, dechrau yn wasgaredig y mae nhw, a dod at ei gilydd yn y diwedd.

TREFNU CYHOEDDIADAU.—"Gyr am Simon," meddai'r angel a ddaeth at Cornelius y Canwriad pan oedd eisiau pregethu Crist i hwnnw ac i'w geraint a'i gyfeillion. Nid yw'r angel yn pregethu ei hun. "Ond," meddai, "anfon wyr i Joppa, a gyr am Simon." Fel yna y mae'r angylion, yn ol y Llyfr hwn, yn rhyw drefnu cyhoeddiadau i bregethwyr.

TRUGAREDD BEUNYDD.—"Trugarha wrthyf Arglwydd, canys arnat y llefaf beunydd." Y mae'r Salmydd yn gofyn yn rhyfedd iawn yn tydi o? Gofyn am drugaredd am ei fod yn gofyn beunydd." Pan ddaw dyn atoch chi i ofyn am gardod y mae o'n deud, "Fuo mi ddim ar ych gofyn chi o'r blaen, a ddoi byth eto." "Ond," meddai'r Salmydd yma "am fy mod yn llefain beunydd—llefain heb stop —bûm ar dy ofyn ddoe, ac mi ddof eto yfory."

GOSTYNGEIDDRWYDD.—Wyddoch chi beth, gyfeillion annwyl, pe byddem yn llawer mwy gostyngedig, ni fyddai fawr o ofyn ar ein gostyngeiddrwydd gan y byddai pawb yn ffeind wrthym. Y neb y mae'i ostyngeiddrwydd yn brin, y mae gofyn mawr ar yr ychydig stoc sy' gan hwnnw—pobl yn ei gornio ac yn gas wrtho. Y mae dynion, hyd yn oed, yn gwrthwynebu'r beilchion. Yn wir, y mae'r beilchion eu hunain yn gwrthwynebu'r beilchion.

GWAG BLESERAU.—Y mae'r dyn ysbrydol yn mynd mor ddifater am wag bleserau'r byd ag oedd Saul, mab Cis, am asynod ei dad pan glywodd gan Samiwel am y frenhiniaeth. Yr oedd yn llawn o feddyliau am yr orsedd ac ef a "ollyngodd heibio chwedl yr asynod,"—do yn bur ddidrafferth, r'wyn siwr. 'Doedd trotian ar ol asynod trwy fynydd Effraim yn dda i ddim wedyn.

CYFOD A RHODIA.—Y mae'n dechrau ymysgwyd drwyddo—bob gewyn ar waith i geisio codi, ac i fyny y mae'n dod, dim ond i Pedr just ymaflyd yn ei law ddehau. Fasa fo ddim i Pedr wneud rhyw gowlaid o hono fo, a'i godi i fyny tase eisiau. Yr oedd Pedr yn ddyn esgyrnog—breichiau a gewynnau cryfion ganddo, wedi iwsio gweithio'n galed hefo'i hen gwch pysgota, a lygio yn y rhwydi. "Ymaflodd yn ei law," nid i'w helpu i godi, ond i'w helpu i gredu y medrai godi.

MODDION GRAS.—Daeth y dyn i'r synagog er bod ei law wedi gwywo. Dyma wers i rai beidio ag aros gartra oherwydd bod eu llaw neu rywbeth arall wedi gwywo, mewn amser o glwy neu dlodi. Da chwi, ewch a'ch meddyliau i fyny. Penderfynwch ddyfod i'r synagog ar y Sul, a pheidiwch a mynd yn sal fore Sul mwy na rhyw fore arall. Nid oes afiechyd yn dod yn rheolaidd bob saith niwrnod —nonsens yw hynny i gyd.

GWENIAITH.—"Na hyderwel: ar dywysogion," glywch chi? Rhyfedd yr helynt sydd ar bobl trwy'r oesau yn ceisio ymwthio i ffafr tywysogion—ymgrymu, gwenieithio, rhyw fflatro tywyllodrus, bowio a hanner addoli dynion, a gwneud eu hunain yn bopeth, neu yn ddim, os gallant mewn rhyw fodd eu gwthio eu hunain i ffafr mawrion y byd. Fel y dywed Macaulay am Boswell, bywgraffydd Johnson, y byddai'n wastad fel yn rhyw orweddian o gwmpas traed rhyw ŵr mawr gan geisio gan hwnnw fod mor garedig a phoeri am ei ben o.

PYNCIO YN LLE GWNEUTHUR.—"Pwy a bechodd, a'i hwn ai ei rieni, &c." Yn 'toedd rhyw bellter mawr iawn rhwng ein Hiachawdwr â'r rhai oedd o'i gwmpas o hyd. Y peth cyntaf y mae nhw'n wneud ydi rhyw ddechrau sych-byncio ynghylch y creadur tlawd—yn lle gofyn i'r Athraw gymryd trugaredd arno.

EANGFRYDEDD.—O, yr oedd rhyw ehangder goruchel yn ysbryd yr Iesu, rhyw hyd a lled a dyfnder yn ei gydymdeimlad. Yr oedd culni meddwl ac anoddefgarwch o eraill yn annioddefol iddo. "Martha, Martha, gofalus a thrafferthus wyt ti." Nid anghofiodd Martha ddim tra bu byw dôn ei lais pan oedd yn ei cheryddu oblegid ei bod hi mewn tipyn o dempar yn achwyn ar ei chwaer. A cherydd. bach tebyg gawsai Mair tase hi yn beio ar Martha am drotian ar hyd y fan honno, a chadw twrw efo'i thrafferth, yn lle eistedd wrth draed yr Athraw.

HELYNT EDAD.—"Y mae Edad," meddai rhywun wrth Moses, tan redeg fel pe buasai'r byd ar ben, "y mae Edad a Medad yn proffwydo yn y gwersyll. "Moses, gwas yr Arglwydd, gwahardd iddynt—stopia nhw—pa fusnes sydd ganddynt hwy?" "Tewch a'ch swn," meddai Moses lariaidd, "Mi a fynnwn pe bai holl bobl yr Arglwydd yn broffwydi—does dim eisio gwneud y fath helynt efo peth fel yna."

CYMWYNAS RAGRITH.—"Y mae'r dynion hyn yn llwyr gythryblio ein dinas ni—'does yma drefn ar ddim er pan mae nhw yma—y lles cyhoeddus sydd yn ein cynhyrfu ni—amgylchiadau'r ddinas." Rhagrith i gyd—celwydd bob gair!—colli gobaith eu helw hwy eu hunain oedd y cwbl. Y mae peth fel hyn i'w weld o hyd—rhai yn cymryd arnynt mail lles y bobl sydd yn eu cynhyrfu i rywbeth, pryd na bydd dim ond eu bod yn cael eu corddi gan ryw nwydau drwg a dibenion hunanol.

GWEDDIO YN DDIBAID.—Fedrwch chi ddim gweddio ar y dydd cyntaf o'r mis am stôr o fendithion i bara hyd ddiwedd y mis; y mae'n rhaid i chi "weddio'n ddibaid." Dogn dydd yn ei ddydd o fanna a gai'r Israeliaid—nid stôr am fis. Fasech chi, fuilders Lerpwl, fyth wedi gwneud eich ffortiwn wrth adeiladu warehouses yn y fan honno.

JOB.—"Oni chaeaist ti o'i amgylch ef." Gair neis iawn y mae Satan yn ei ddweud. Siarad y mae o mewn tipyn o natur ddrwg, a chael ei gynhyrfu gan ddiben drwg, fel bob amser; ond yr oedd o'n deall Rhagluniaeth y Nef yn bur dda. Dywed wrth yr Arglwydd am Job: "Oni chaeaist ti o'i amgylch ef," &c. Yr ydwi wedi bod yn roundio o'i gwmpas i edrych am ryw gyfle arno, ond yr wyt ti wedi cau arno mor glos, 'does dim modd cyffwrdd. ag ef.

DIFETHA JEHORAM.—'Doedd dim byw efo Jehoram heb iddo gael rhan o frenhiniaeth ei dad, ac y mae'n addo, os cai hynny, roddi heibio bob drygau. Y mae'i dad, y creadur dwl hwnnw, yn ildio iddo. Y mae'n ceisio'i ddiwygio trwy'i hiwmro a'i wobrwyo am addo peidio a gwneud drwg. Wyddoch chi be', y mae llawer crwtyn, ar ôl hyn, wedi'i ddi— fetha gan rieni duwiol, ond dwl, trwy gael gormod o'i ffordd ei hun—gormod o awdurdod, a gormod o arian yn ei boced, cyn bod digon o synnwyr yn ei ben i wybod beth i'w wneud efo nhw.

YSBRYD CRIST.—"Bod heb ysbryd Crist." Gwell bod heb bopeth—heb feddiannau, heb iechyd, heb barch gymdeithas, heb ryddid. Y mae llawer duwiol yn gorfod rhyw ymdaro yn y byd yma heb lawer o bethau. Gall llawer un ohonynt ddweud, Arian ac aur nid oes gennyf, tiroedd nid oes gennyf, tad a mam nid oes gennyf, amgylchiadau clyd nid oes gennyf." Y mae llawer ohonynt yn gorfod treio gwneud heb wybodaeth, na dysg, na doniau, a rhai heb gymaint o synnwyr cyffredin cryf yn y bydond 'does dim cymaint ag un heb Ysbryd Crist ganddo.

CYDWYBOD.—Y mae cydwybod yn dweud wrth y dyn fel y dywedodd Ruth wrth Naomi, "lle bynnag yr elych di, yr af finnau." Pan mae'r gydwybod yn medru dweud "da iawn ydoedd" y mae hi'n rhoi rhyw seithfed dydd gorffwystra.

YR YSBRYD ODDIMEWN.—Ni all y gwyntoedd a'r ystormydd mwyaf tymhestlog sydd o amgylch y ddaear mo'i hysgwyd. Gallant chwalu, a pheri galanastra; ond nid ei hysgwyd. Cyffro oddimewn iddi sy'n gwneud hynny. Gall ystormydd o'r tu allan ddrysu llawer ar ein cysuron, a chwalu ein cynlluniau, ond terfysg cydwybod sy'n peri daeargryn yn yr holl enaid.

Y GAIR YN SEFYLL.—"Gair ein Duw ni a saif byth." Pan bydd yr ymosodwyr wedi syrthio i fythol ebargofiant, pan fyddant hwy a phopeth a ddywedir ganddynt wedi gwywo mor llwyr â'r glaswellt oedd ar y ddaear, cyn dyfod y dilyw, a'r damcaniaethau oddi wrth ddatblygiad wedi datblygu eu hunain i dragwyddol ddiddymdra, fe fydd y llyfr yn aros. Bydd fyw i rodio dros feddau ei holl elynion ac i weld diwrnod angladd yr holl fyd pan fydd nef a daear fel yn cael eu claddu yn eu hadfeilion eu hunain.

"A hwn yw y gair," meddir, "a bregethir i chwi," y gair a bregethwyd gan yr apostolion, ac nid y rhywbeth a bregethir gan rai yn y dyddiau hyn gan y Saeson a chan ambell ffwl o Gymro.

JOB.—"Estyn dy law a chyffwrdd â'r hyn oll sydd eiddo ac fe a'th felldithia di o flaen dy wyneb." Peth fel yna yr oedd Satan wedi ei weld wrth dramwy'r ddaear ac ymrodio ynddi. Ond bwnglerwch yr un drwg oedd camgymryd ei ddyn, a meddwl bod Job yn debyg i ddynion yn gyffredin.

DYHEADAU.—Rhaid dymuno nefoedd cyn ei chael. Nid oes neb yn cael ei wthio megis yn wysg i gefn i'r nefoedd ac yntau yn parhau i edrych ar y pethau a welir. "Efe a ymlidir allan o'r byd," ond nid oes neb yn cael ei ymlid i'r nef yn groes i'w ewyllys. "Y lle poenus hwn" fyddai nefoedd felly.

Y TRI CHEDYRN.—Y tri chedyrn a fedrodd ruthro trwy wersyll y Philistiaid i gael dwfr o ffynnon Bethlehem i'r brenin Dafydd. Felly am ffydd, gobaith, a chariad, y tri hyn. Wel, pan fônt yn dri chedyrn y maent yn medru rhuthro trwy bob rhwystrau a gelynion a llenwi calon dyn à bendithion.

CREFYDD BENDRIST.—" Rhodio yn alarus ger bron Arglwydd y Lluoedd,"—y dyn yn byw yn dduwiol, a rhoi i fyny bob meddwl am fwynhad bywyd." Celwydd bob gair. Fasa neb ond tad y celwydd ei hunan yn medru dyfeisio'r fath glamp o gelwydd â hwn, ac y mae'n cael ei ledaenu'n barhaus gan ei oruchwylwyr yma yn y byd. Y mae'n biti bod llawer yn helpu rhyw ynfydrwydd fel hyn am ein bod yn fynych, oherwydd ein diffyg mewn crefydd, yn rhodio mewn tywyllwch. Y mae rhai a chanddynt just ddigon o grefydd i'w gwneud yn anghyffyrddus. methu mwynhau y bywyd hwn, a heb ddigon i fwynhau gwir ddedwyddwch a phleser.

CADWEDIGAETH.—Y mae cadw yn waith oes. "Chwe blynedd a deugain y buwyd yn adeiladu'r deml hon," meddai'r rheini gynt. O. gyfeillion annwyl, chwe blynedd a deugain, a mwy na hynny y bu llawer wrthi gyda'r gwaith yma,—wrthi yn ddiwyd o oedfa i oedfa, wrthi ar ddyddiau'r wythnos ac ar y Saboth, yn trotian i'r Seiat a'r cyfarfod gweddi trwy anawsterau, wrthi mewn gweddiau dirgel, a myfyrdod, a gwyliadwriaeth, mewn ymdrech am flynyddoedd lawer dan bwys y dydd a'r gwres, ac o'r braidd yn gadwedig wedyn—just mynd i mewn i'r bywyd, a dim yn spâr. A wyt ti'n meddwl. gwneud y cwbl mewn tridiau?

DIAFOL.—"Na roddwch le i ddiafol." Y mae llawer ysbeiliwr yn fegar gostyngedig o'r tu allan i'r drws, ond, ar ol dyfod i mewn,—mynd yn hyf y mae,—y cryf arfog ydyw yn cadw ei neuadd.

Y MORGRUGYN.—"Cerdda at y morgrugyn, tydi ddiogyn," yn lle cwyno a grwgnach, a chadw swn a chenfigennu wrth eraill. Edrych ar ei ffordd ef, a. bydd ddoeth." Treia bilffro tipyn o synnwyr o'i ben ef i'th ben gwirion dy hun. "Edrych ar ei ffyrdd a bydd ddoeth." Nid oes ganddo fo neb i'w arwain a'i lywodraethu. 'Does gan y morgrugyn bach neb i'w ddwrdio am gysgu yn rhy hwyr yn y bore ac esgeuluso'i waith. "Er hynny," glywch chi, "y mae'n paratoi'i fwyd yr haf, ac yn casglu ei luniaeth y cynhaeaf,"—a hynny yn ddigon di—dwrw.

PEDR.—Anwadalwch. Cyn y buasai Thomas wedi ei roddi ei hun mewn shiap penderfynu ar rywbeth, fe fusai Pedr wedi hen orffen gwneud ei feddwl i fyny, ac wedi gwneud llawer heblaw meddwl. Yr oedd meddwl yr un peth a gwneud iddo fo. Bydd— ai'n esgyn i'r nefoedd, ac yn disgyn dan draed llwfrdra yn sydyn iawn. Y mae'n rhuthro fel arth i'r soldiwr hwnnw yng Ngethsemane efo'i gleddyf, a rhoi slap i'w glust wrth geisio torri'i ben o, ond ymhen awr yn crynu fel brwynen yn wyneb y forwynig honno. Treio torri'i ben o (gwas yr archoffeiriad) yr oedd Pedr 'does dim doubt. Y mae Mathew Henry yn synnu, wedi i Bedr ymaflyd yn ei gleddyf, na buasai wedi gwneud am ben Judas. Profodd Pedr mai bwngler oedd o efo'i gleddyf y tro cyntaf iddo dreio—methu'r strôc fel hyn.

GOGONIANT DYN A'I WAGEDD.—"Gogoniant dyn!" Rhai a ymddiriedant yn eu golud, eraill a ymffrostiant yn eu gwaedoliaeth uchel a'u teitlau urddasol, eraill a orfoleddant yn eu gwybodaeth a'u dysg, a'r rhai mwyaf penffol, yn eu prydferthwch personol. "Gogoniant dyn," beth ydyw? Wel, gwagedd wedi'i droi yn eilun—dduw. "Gogoniant dyn!" rhywbeth sy'n peri i ddyn fyw, symud, a bod mewn rhyw bomp chwyddedig. Braint eraill yw cael meddwl a siarad am dano ef, ac y mae'r dyn na wna hynny i dosturio wrtho oherwydd ei ddylni. "Holl ogoniant dyn," beth am yr eilun yma? "Gwywodd y glaswelltyn a'i flodeuyn a syrthiodd." Diar annwyl, ai dyna'r cwbl? "Pa le y gadewch eich gogoniant? medd rhyw air. Ond fydd dim eisiau iti drafferthu i wneud dy ewyllys ar hwn—fydd o ddim ar gael.

DOETHINEB YSBRYDOL.—Y mae rheswm yn cywiro'r synhwyrau. Y mae'r haul yn llai na'r ddaear. meddai'r synhwyrau; ond y mae rheswm yn correctio'n union, ac yn dweud bod pethau pell yn ymddangos yn fychain iawn. Y mae'r ddaear yn llonydd yn ei hunfan, medd y synhwyrau yma; ond y mae ymchwiliad rheswm yn deud ei bod yn mynd bob munud â rhyw gyflymdra ofnadwy, nes yr ydym yn synnu bod neb ohonom yn sefyll ar ei hwyneb heb syrthio ar draws ein gilydd ac yn powlio i rywle oddiar ei hymyl. Wel, fel y mae pethau rheswm uwchlaw eu gwybod trwy weithrediad yr holl synhwyrau, felly y mae pethau yr ysbryd uwchlaw eu deall trwy'r holl alluoedd naturiol yma. Rhyfedd gyda'r fath hunan—hyder dwl y mae dysgedigion annuwiol y byd yma wedi bod yn trin y pethau sydd o Ysbryd Duw yn ysgrifennu llyfrau, a scriblio erthyglau i'r papur, yn erbyn gwirionedd Duw. Y mae'r Apostol Paul ar unwaith yn eu rhodd 'out of court,' ac yn mynd i'r 'witness—box' i dystio am bethau na wyddant hwy ddim yn eu cylch. Y maent yn rhesymolwyr afresymol, oblegid y mae rheswm yn galw am i ddyn beidio a siarad yn erbyn pethau na ŵyr ddim am danynt.

UFUDD-DOD PAROD.—Synnwyr mewn dyn, fel y dywed ein Hiachawdwr, cyn dechrau adeiladu tŵr ydi eistedd i lawr a bwrw'r draul a oes ganddo a'i gorffenno, ond gyda dyledswyddau ysbrydol, mewn mater o ufudd—dod i Dduw, 'does dim eistedd i lawr cyn dechrau i fod—dim bwrw'r draul. Y mae'r draul i fod o du'r Gŵr sy'n gorchymyn, ac yn dod step ar ôl step yn y gwaith.

YSGWYD Y CARCHAR.—Gallasai Duw eu gwaredu heb ysgwyd dim ar yr hen garchar, ond yr oedd eu gweddiau wedi ysgwyd y Nef, ac y mae'r Nefoedd yn ysgwyd y ddaear am dro. Bu daeargryn hyd oni ysgydwyd seiliau'r carchar, ac yr oedd yr hen jêl yn clecian fel basged ludw.

"GWYN EU BYD Y MEIRW."—Y mae'n hawdd gwybod ar unwaith mai rhyw syniad o fyd arall ydi hwn. Dydi o ddim yn nhafodiaith y ddaear yma. "Gwyn eu byd y byw," fel yna y byddwn ni yn teimlo ac yn siarad. "Y byw, y byw, efe a'th fawl di,—gwyn eu byd y byw" medd y ddaear, a marwolaeth yn drysu'r cwbl.

CARIAD YN RHEDEG.—"Beth a fynni di i mi ei wneuthur?" medd cariad. "Atolwg gâd i mi redeg" meddai'r Ahimas hwnnw, am gael mynd a chenadwri at y brenin Dafydd, a 'doedd dim iws dweud wrtho nad oedd dim eisio iddo redeg am fod Cusi wedi myned ar yr un neges. 'Doedd dim i gael ganddo ond hynny, "beth bynnag fyddo, gâd i minnau redeg ar ôl Cusi." Peth fel yna ydi cariad angherddol at Grist a'i waith—"atolwg gåd imi redeg," a phe byddai cant o Gusiaid yn barod i wnend y peth ni wnai hynny wahaniaeth yn y byd.

RHODDI TAW AR Y GWIRIONEDD.—Clywch chi y rhain yn y fan yma pan oedd achos Iesu Grist yn startio allan gyntaf. "Mi rown ni stop ar y cwbl rhag blaen yrwan. Dim ond i ni just ysgwyd ein pennau ar y ddau siaradwr hyn—y Pedr a'r Ioan yma, fe fydd terfyn ar bob swn ynghylch enw yr Iesu yna sydd ganddyn nhw—Fel nas taener ymhlith y bobl,' &c." Pw! Pw!! Diar annwyl. Erbyn hyn, y mae'r hanes rhyfedd am Iesu Grist a'i Groes, a'r achub, a'r haeddiant, y mae wedi taenu yn bellach, bellach, o hynny hyd yn awr, o ardal i ardal, o wlad i wlad, o gyfandir i gyfandir, ac o ynysoedd i ynysoedd, ers dros ddeunaw canrif o flynyddoedd. Dymuniad calon pawb ohonoch yw, "am Iesu Grist a'i farwol glwy, boed miloedd mwy o son," ac wrth edrych dros "y bryniau tywyll niwlog," wrth edrych draw mewn ffydd yn addewidion ein Duw, ni a welwn y bydd saint ac angylion yn dyfod allan a chytganu a dywedyd, "Aeth teyrnasoedd y byd yn eiddo i'n Harglwydd ni a'i Grist Ef."

CYRRAEDD Y LAN.—"Ac yn ebrwydd yr oedd y llong wrth y tir yr oeddynt yn myned iddo" (Ioan vi. 21). "Yn ebrwydd "—ia'n ebrwydd, tra'r oeddynt mewn ryw ffit o syndod a diolchgarwch, ac yn rhyfeddu uwchben y waredigaeth. Yr oedd y llong yn mynd yn brysurach drwy'r dŵr nag oeddan nhw'n feddwl, a dyna nhw yn y porthladd ar unwaith. Fel yna y bydd hi ar y Cristion wedi iddo gyfarfod â storm fwyaf enaid. Caiff ryw olwg ar yr Iesu nes y bydd yn ei theimlo hi'n tawelu'n rhyfedd, a just pan fydd o mewn ffit o ddiolchgarwch i'w Geidwad am hynny, dyma fo yn y lan heb feddwl. Ac nid glanio yn rhywle. O nage. Ni a fyddwn i gyd yn glanio yn rhywle—o byddwn. Yr ydym i gyd yn nesâu i ryw wlad. Ond yr oedd y llong wrth y tir "lle'r oeddynt yn myned," y tir oedd mewn golwg ganddynt wrth godi'r angor, y tir oedd mewn golwg gynnyn nhw wrth rwyfo am oria lawer. Ac fe fuo'n yn ofni lawer tro na welent mo'r llong, ond i'r lan y deuthon' nhw, beth bynnag—i'r tir yr oeddynt yn mynd iddo."

Y mae yma aml un wedi codi angor, ac wedi cychwyn tua'r wlad well y maent yn ei chwennych. Yr ydych wedi codi angor i fynd yno, ac wedi rhwyfo llawer eisoes. Y mae'r tide a'r gwynt yn erbyn yn amal, ond y mae meddwl am y tir yn rhoi nerth adnewyddol—"y tir dymunol" sydd mewn golwg o hyd. "Tybed y gwelai o?" Gweli, gweli, ychydig o donnau go gryfion eto a mi fyddi wedi dy'sgydio ymlaen, ac fe fydd yr hen long wrth y tir—y tir oedd. mewn golwg wrth gychwyn—y tir oedd mewn golwg wrth rwyfo, y tir oedd mewn golwg wrth ymladd â'r gwynt a'r tonnau. Y tir lle'r oeddit yn myned. Y mae yna ambell un ar ganol y cefnfor garw yn dyheu am y tir—Tyrd y tir dymunol, hyfryd.'

V.

Y CYNGOR AR ORDEINIAD

A draddodwyd yng Nghymdeithasfa Dinbych,

Mehefin 10, 1909.

ANNWYL FRODYR IEUANC,-

Profedigaeth fawr i mi oedd clywed imi gael fy ngosod i geisio gwneud y gwaith pwysig hwn, a phrofedigaeth annisgwyliadwy hefyd. Ni fedraf ddweud fel y Patriarch Job, "yr hyn a fawr ofnais. a ddaeth arnaf." Nid oeddwn wedi na disgwyl nac ofni y fath beth. Gallaf ddweud wrth feddwl am eich annerch fel y pentrulliad hwnnw, "yr wyf yn cofio fy meiau heddiw"-yn cofio fy niffygion heddiw, a'm diffrwythdra mawr mewn cysylltiad â gwaith y Weinidogaeth.

Fel rhyw fath o sail i ychydig sylwadau bûm yn meddwl am air yn ail epistol Paul at y Corinthiaid. (iii. 6).

"Yr hwn hefyd a'n gwnaeth ni yn weinidogion cymwys y Testament Newydd."

Dyna fydd gennym: Y CYMWYSTERAU ANGENRHEIDIOL I WAITH MAWR GWEINIDOGAETH YR EFENGYL.

Nid wyf yn myned i son am y cymwysterau hynny sy'n angenrheidiol i fyned i'r Weinidogaeth, megis cymeriad moesol disglair, duwioldeb diamheuol, a phethau felly.

A ydyw'r cymwysterau ar gyfer gwaith mawr ein swydd, wedi ein gosod ynddi, gennym? Y mae'n rhaid inni

I. Sylweddoli yn fyw a dwfn bwysigrwydd yr amcanion sydd i Weinidogaeth yr Efengyl. Dyna'r unig ffordd effeithiol i'n cadw rhag gau amcanion.

Y mae'r amcanion mawrion iawn sydd i'r Weiniidogaeth mor anhraethol bwysig, a'u pwysigrwydd. yn ymestyn ymlaen i'r tragwyddoldeb diddiwedd, fel y byddai eu sylweddoli yn nyfnder ein calonnau yn ddigon i sobri ein meddyliau, nes ymlid ymaith o'n meddyliau am byth bob gau amcanion, megis rhyngu bodd dynion a cheisio moliant gan ddynion, neu geisio eu harian fel cydnabyddiaeth am ein gwaith. Byddai i hyn ein cadw rhag pob ysgafnder a gwamalrwydd ar ein teithiau, yn y tai, ac yn y pulpud.

Beth yw yr amcanion hyn sydd i Weinidogaeth yr Efengyl? Y maent o ddau fath.

(a) Amcanion mawr gyda golwg ar y saint, yn un peth-"perffeithio y saint," eu cryfhau, a'u sefydlu. Deffro, cyffroi y rhai marwaidd a difater; dychwelyd y rhai gwrthgiliedig ohonynt, rhybuddio y rhai afreolus, diddanu y gwan eu meddwl, cynnal y gweiniaid, eu cyfarwyddo yn yr ymdrech â gelynion ysbrydol ar "lwybrau culion dyrys anawdd sydd i'w cerdded yn y byd." Y mae yna amcanion mawr gyda golwg ar y saint.

(b) Heblaw hynny y mae i Weinidogaeth yr Efengyl amcanion mawrion ac anrhaethol bwysig gyda golwg ar y lliaws annuwiolion o'r tu allan (ac o'r tu mewn, hwyrach) i'n heglwysi.

Dichon ein bod yn y blynyddoedd hyn yn cyfyngu'n gweinidogaeth yn ormodol i'r saint, gan esgeuluso annuwiolion ein cynulleidfaoedd, fel, yn wir, y byddai'n briodol i'r rhai hyn ofyn i aml un ohonom, fel pregethwyr, "ai difater gennyt ein colli ni?"

"Efe a roddodd i ni Weinidogaeth y cymod." Ai heddychlawn dy ddyfodiad?" meddai henuriaid dinas Bethlehem wrth Samiwel, wedi iddo ddyfod yno yn sydyn heb ei ddisgwyl. Gofynnent yn gyffrous, "Ai heddychlawn dy ddyfodiad?" Gâd wybod hynny cyn dim byd. "Ie, heddychlawn," meddai yntau, reit heddychlawn.

"Gwae fydd i mi oni phregethaf yr Efengyl." Rhaid mynd ar ambell gomiti hwyrach, ac i gyfarfod llenyddol weithiau. Eithaf peth fydd darlithio, a barddoni, ond i chi fod yn reit siwr eich bod yn medru, ond " gwae fydd i mi," &c. Fel pregethwr y byddai'n gorfod sefyll yn nydd y farn.

II. Rhaid defnyddio'n gydwybodol iawn y moddion mwyaf effeithiol i gyrraedd yr amcan pwysig.

(1) Sut i bregethu? Yn un peth, ei gwneud yn arferiad i fyned oddi wrth Dduw at y bobl—o'r weddi ddirgel i'r pulpud. "Paham," meddai rhyw wyr o Effraim wrth Gideon, pan oedd Gideon wedi bod mewn brwydr galed iawn â'r Midianiaid, ac wedi eu gorchfygu, paham," medda nhw wrtho mewn tempar go uchel," Paham y gwnaethost fel hyn â ni, heb alw arnom ni pan aethost i fyny yn erbyn y Midianiaid?" Gofalwch, fy mrodyr, am beidio a rhoddi achos i'n Duw da ofyn i'r un ohonom un amser, "Paham y gwnaethost fel hyn â mi heb alw arnaf fi pan aethost i geisio preswadio dynion i ddychwelyd ata i am drugaredd a maddeuant." Wedi myned i'r pulpud, eto, cyfeirio saeth weddi daer at Dduw am faddeuant. O, y mae maddeuant newydd yn rhywbeth blasus. Meddai Williams,-

"Aed fy ngweddi trwy'r cymylau,
A'm hochneidiau trwm diri,
Nes im gael maddeuant newydd,
A chael gweld dy wyneb di."

Yna meddwl am y modd mwyaf effeithiol i siarad â dynion yn y bregeth. "Felly yr ydym yn llefaru,' medd yr Apostol. Pa fodd i lefaru yn fwyaf effeithiol at gyrraedd amcan pwysig y Weinidogaeth?

(a) Llefaru yn hollol naturiol, heb geisio bod yn debyg i arall ond i ni ein hunain yn syml, a phell iawn fyddoch oddiwrth fod yn wagogoneddgar a rhodresgar.

(b) Llefaru yn hyglyw a dealladwy, fel y byddo pobl nid yn unig yn clywed, ond yn deall, rhag bod neb o'n gwrandawyr yn dweud wrth neb ohonom, "Nis gwyddom ni beth yr wyt yn ei ddywedyd."

Peidiwch a gadael i gwmwl, a hwnnw heb fod yn gwmwl golau iawn, ein cymryd allan o olwg y bobl, a ninnau yn siarad o'r cwmwl rywbeth na ŵyr neb beth fyddwn yn ei ddweud.

(c) Llefaru yn hyf-hyfder sanctaidd, gostyngedig, ac addfwyn. "Yn hyf yn ein Duw," fel y dywedir yn un o'r Epistolau. "Ni a fuom hyf yn ein Duw i lefaru wrthych chwi, efengyl Duw." "Gair oddiwrth Dduw," meddai un o'r Barnwyr wrth Eglon, brenin Moab, "Gair oddiwrth Dduw" sydd gennyf fi atat ti. Peth gwerthfawr yw teimlo fel yna wrth bregethu i bechaduriaid.

(d) Llefaru llawer iawn â'r geiriau a ddysgir gan yr Ysbryd Glân; rhyw gydwau'r Ysgrythur Sanctaidd â'n pregethau. Cwynir bod llawer llai o hyn nag a fyddai. Na fydded chwilota'r Beibl, troi dalennau, ac ymbalfalu am yr adnodau i'w dweud. Rhoddwn yr adnodau a ddefnyddir gennym yn snug yn y cof fel y medran eu dweud (nid eu darllen yn eu clyw) wrth y bobl a'u hail ddweud os bydd eisio..

(2) Beth sydd i'w bregethu fel moddion effeithiol?

Fy mrodyr ieuanc annwyl, ar ddechrau eich gyrfa penderfynwch lynu'n ddiysgog wrth air gwirionedd yr Efengyl. Mae hi'n amseroedd enbyd iawn. pan mae dynion yn codi i lefaru pethau gwyrdraws. Daliwch i bregethu Efengyl Crist yn ei symlrwydd. —yr hen athrawiaethau sylfaenol a chryfion a bregethwyd gan y tadau—y dynion grymus a fu'n ysgwyd trigolion ein gwlad o ben bwy gilydd. O'n cymharu â hwy, yr ydym yn ein teimlo ein hunain fel ceiliogod rhedyn. Clywir bod rhai yn dywedyd na fuasai gweinidogaeth yr hen bregethwyr enwog yn ffitio ein dyddiau ni. Wel, beth sydd i'w ddywedyd am hyn? Dywedai'r Apostol Paul wrth y Corinthiaid, "Yr ydych yn goddef ffyliaid yn llawen, gan fod eich hunain yn synhwyrol." Ond yn wirionedd i, y mae'n anodd bod yn ddigon synhwyrol i oddef y fath ffyliaid â hyn, os ydynt yn bod.

Ond fe ddywed rhywun, hwyrach, fod chwaeth yr oes wedi newid—yr oes olau hon," ac na fu yr un oes o fath hon. Dydi o wahaniaeth yn y byd fod rhai ym mhob oes wedi bod yn son am eu hoes hwy fel yr oes olau." Camgymeryd yr oeddynt. hwy; ond am yr oes hon, dyma un ar ei phen ei hun—y mae'n rhaid ceisio dyfeisio efengyl arall a diwinyddiaeth newydd. Rhaid newid popeth at chwaeth yr oes olau hon." hyd yn oed ordinhadau a gweinidogaeth yr Efengyl. Tybed, tybed? Na, y peth sydd eisiau ydyw'r nerthoedd grymus i newid tipyn ar chwaeth yr oes hon. Sonia Iago am "chwant yr Ysbryd a gartrefa mewn pobl." Onid at bleser, difyrrwch, chwarae, y mae chwant yr Ysbryd sydd mewn dynion? Ffordd yna y mae chwaeth yr oes yn mynd. O, am nerthoedd y Tragwyddol Ysbryd i newid chwaeth yr oes.

Mi wn i, a gwyddoch chwithau gystal a minnau, am un pregethwr mawr, y mwyaf er amser esgyniad Crist i'r Nef, nad oedd am shapio dim ar ei Weinidogaeth at chwaeth yr oes. "Nyni," meddai, 'ydym yn pregethu Crist wedi ei groeshoelio." Wel, tydi peth fel yna ddim at chwaeth yr oes, Paul. Wna fo mo'r tro o gwbl. "Y mae i'r Iddewon yn dramgwydd, ac i'r Groegwyr yn ffolineb.' 'Does neb yn lecio dy athrawiaeth di. "Lecio neu beidio, dyna ga nhw gen i," medda'r Apostol—"Nyni ydym yn pregethu Crist wedi ei groeshoelio." A dacw un arall anhraethol fwy na'r Apostol Paul—yr Arglwydd o'r .Nef, Crist Iesu yr Arglwydd. Wel, dacw filoedd o'i wrandawyr yn troi cefn arno gyda'i gilydd gan ddywedyd, "Caled yw yr ymadrodd, pwy a ddichon wrando arno?" a ffwrdd â nhw yn llu mawr. "O hyn allan," meddir, "llawer o'i ddisgyblion ef a aethant yn eu hôl, ac ni rodiasant mwyach gydag Ef." Ac nid yw yntau yn ceisio ganddynt aros gydag ef, gan addo newid tipyn ar ei ymadrodd i gyfarfod a'u chwaeth hwy, ond yn gofyn i'r deuddeg apostol, "a fynnwch chwithau hefyd fyned ymaith?"

Efengyl dragwyddol ein hiachawdwriaeth yw'r Efengyl. Faint bynnag ydyw'r goleuni sydd wedi cyfodi yn yr oes hon ar bethau naturiol, y deddfau a'r galluoedd a berthyn i natur, a pha ddarganfyddiadau bynnag a wnaed trwy'r goleuni mawr hwn—ac y mae rhywbeth tebyg i wyrthiau yn cael eu gwneud; ond does dim byd a wnelo hyn i gyd ag Efengyl Gogoniant y Bendigedig Dduw, am yr hon yr ymddiriedwyd i ni. Yr un yw anghenion mawrion plant dynion fel pechaduriaid colledig ymhob oes. Yr un ydyw llygredd pechod, yr un yw'r byd presennol yn ei hudoliaethau, ei demtasiynau, a'i brofedigaethau.

Fe ddywedir am ein bendigedig Waredwr Iesu Grist: "ddoe a heddiw, yr un, ac yn dragywydd." Felly y gellir dweud am ei Efengyl, yn ei holl gyflawnder mawr. Efengyl "ddoe a heddiw yr un, ac yn dragywydd;" ac nid rhywbeth yn newid, newid, newid, i gyfarfod mympwyon a chwaeth yr oes of hyd, o hyd.

"Pregetha y gair," ydyw un o eiriau diweddaf yr Apostol Paul wrth Timotheus ieuanc—ei siars olaf oddiar drothwy byd arall, "megis yr ydwyf fi, gan hynny, yn gorchymyn gerbron Duw a'r Arglwydd Iesu Grist. Pregetha y Gair, bydd daer mewn amser, ac allan o amser," &c. "Mi wn i," fel pe dywedasai, "na fydd hynny ddim at chwaeth yr oes." "Canys daw amser," meddai, "pryd na ddioddefont athrawiaeth iachus. Eithr yn ol eu chwantau eu hunain y pentyrrant iddynt eu hunain athrawon gan fod eu clustiau yn merwino." Mi fydd rhyw ysfa ryfedd yng nghlustiau y bobl am rywbeth newydd, ac "oddi wrth y gwirionedd y troant ymaith eu clustiau, ac at chwedlau y troant."

Wel, beth sydd i'w wneud? Beth sydd i'w wneud? 'Does dim ond un peth i'w wneud, "pregetha y Gair." A fuasai ddim yn well newid ychydig, neu gymysgu a'r gair a'r athrawiaeth iachus rywbeth fydd yn fwy at chwaeth yr oes, i geisio dal gafael yn y bobol? Na, dim o hynny, medda'r Apostol, dim o hynny, ond "pregetha y Gair." Fel yna yr oedd yr Apostol wedi gwneud ar hyd ei oes weinidogaethol lafurus.

Meddai wrth y Corinthiaid: "A myfi pan ddeuthum atoch, frodyr, a ddeuthum nid yn ol godidow.grwydd ymadrodd. Canys ni fernais i mi wybod dim yn eich plith, ond Iesu Grist, a hwnnw wedi ei groeshoelio." Dim,—dim,—ond Iesu Grist. Wel, oni ddygwyd di i fyny wrth draed yr athraw enwog yn y Brifathrofa yn Jeriwsalem? Pa iws oedd rhoi ysgol dda iti? Oni chlywaist ti lawer o bethau yno? "Chlywais i ddim wrth ei draed ef, nac wrth draed neb arall, sydd yn werth geni i'w bregethu i bechaduriaid sydd a'u hwyneb ar dragwyddoldeb—dim, dim yn y byd, ond 'Iesu Grist, a hwnnw wedi ei groeshoelio.'"

"Yr Iesu yr wyf yn ei adnabod," medda'r ysbryd aflan, ystyfnig, hwnnw yn Effesus, fel y mae'r hanes yn Llyfr yr Actau pan oedd saith o feibion Scefa yn ceisio'i reoli. Buasai yn well o lawer iddynt fod yn llonydd iddo—fe drôdd yr ysbryd arnynt fel teigar. "Yr Iesu," medda fo, "yr Iesu yr wyf yn i adnabod, a Phaul a adwaen. Ond pwy ydych. chwi ——— y?" "Pwy ydych chwi?" Fe ruthrodd arnynt, ac fe fu yn drwm yn eu herbyn, a bu agos iawn iddo eu lladd, saith ohonyn nhw (a fuasai o fater yn y byd pe buasai wedi gorffen am wn i—dyn— ion gwael oedd y meibion Scefa yma). O, fel y mae cydwybod derfysglyd yn barod i ddweud wrth bob pregethwr. "Yr Iesu yr wyf yn ei adnabod, a Gwaed y Groes a adwaen—ond pwy, a beth, ydych chwi?"

Godidowgrwydd ymadrodd, neu ddoethineb, ac athroniaeth a gwyddoniaeth, ac uwchfeirniadaeth, a diwinyddiaeth newydd, pwy, a beth, ydych chwi? Ond y mae cydwybod lawn o dân cyfiawnder glân a'r gyfraith yn adnabod yr Iesu.

"Mae munud o edrych ar aberth y Groes.
Yn tawel ddistewi môr tonnog fy oes."

Frodyr ieuanc annwyl, gadewch i mi ddywedyd wrthych â phob difrifwch wrth derfynu, Daliwch i bregethu Efengyl dragwyddol i bechaduriaid anghenus, ac nid y rhywbeth, rhywbeth, a bregethir gan rai o'r Saeson yna, a chan ambell i grwt o Gymro, hwyrach, er mwyn ceisio dangos ei wybodaeth, a llwyddo i ddangos ei ffolineb, a gwneud ei ynfydrwydd yn amlwg i bawb; ac yn fwy amlwg na dim arall o bosibl. "Na'ch arweinier oddiamgylch ag athrawiaethau amryw a dieithr. Canys da yw bod y galon wedi ei chryfhau à gras," a da i ambell un, er gochel hyn, fyddai fod ei ben wedi ei gryfhau â synnwyr cyffredin. Dyna angen mawr amal un, fe ddichon, "Fel na byddom mwyach yn blantos, medd yr Apostol, "yn blantos gwirion yn rhedeg ar ol pob peth newydd, ac yn bwhwman "—yn rhyw geiliogod gwynt yn troi a throsi i ganlyn yr awel o hyd.

Peidiwch a mynd i ganlyn pob pwff o awel dysg— eidiaeth ac athrawiaethau amryw a dieithr, ac yn enwedig peidiwch a rhyw lygio ynddynt i ddadlau yn eu herbyn yn y pulpud. Nid yw hynny yn fuddiol i ddim ond dymchwelyd y gwrandawyr; yn lle hynny, pregethwch y gwirioneddau gwrthgyferbyniol iddynt—"y gwirionedd megis y mae yn yr Iesu," nes cynhesu calonnau y gwrandawyr. Siarad â chalonnau pobl ydyw'r gorau, a gadael i'w calonnau siarad â'u pennau. Trwy y galon y mae gwirioneddau ysbrydol yn mynd i'r pen. Rhaid eu teimlo at eu deall. "Ag allwedd nefol brofiad," meddai Williams Pantycelyn, yn ei farwnad ar ôl hen chwaer dduwiol iawn yn Sir Fynwy.

Mae hi yn cofio ysgrythyrau
Sydd am Iesu a'i farwol glwy,
Ac âg allwedd nefol brofiad
Yn eu hyfryd ddatgloi hwy.

Glynwch, frodyr ieuanc, wrth gyngor buddiol yr Apostol Paul tuag at gyrraedd amcanion, pwysig eich gweinidogaeth. A hyn rydd dawelwch meddwl i chwi oll, megis i'r Apostol ei hun, wedi dod i'r terfyn. Yr wyf yn tystio i chwi y dydd heddiw," meddai'r Apostol wrth ffarwelio â henuriaid Effesus. "Mi wn o'r gorau na welwch mo fy wyneb i eto— oherwydd paham, yr ydwyf yn tystio i chwi y dydd heddiw fy mod i yn lân oddiwrth waed pawb oll. Canys nid ymateliais rhag mynegi i chwi holl gyngor Duw." O, rhywbeth anhraethol werthfawr a fyddai i ninnau gael teimlo fel yna y dydd y byddwn yn rhoddi i fynny ein cyfrif. Daw yr amser pryd na bydd mynd i gapel mwy, nac i bulpud mwy, nac i blith y bobl y buom yn pregethu Teyrnas Dduw iddynt. Peth nobl fyddai teimlo y gallem wahodd atom ein holl wrandawyr, a dweud wrthynt gyda chydwybod dawel, "Yr wyf yn tystio i chwi y dydd heddiw—a diwrnod mawr i mi ydyw heddiw—yr wyf yn tystio i chwi heddiw fy mod i yn lân oddiwrth waed pawb oll, canys nid ymateliais rhag mynegi i chwi holl gyngor Duw." "Mi a ymdrechais ymdrech deg, mi a orffennais fy ngyrfa." Fy mrodyr ieuanc, dyma fi yn ffarwelio â chwi, ac wrth bob un ohonoch y dymunwn ddweud gyda phob sobrwydd, "Bydd ddyfal i'th osod dy hun yn brofedig gan Dduw" (2 Tim.).

VI.

Y SEIAT FAWR YN LERPWL.—Y GAIR OLAF.

1914.

Mr. Llywydd a hen gyfeillion annwyl a hoff,—

Mae yn dda iawn gennyf eich gweled unwaith eto, ac yr wyf yn siwr fod yn dda gennych chwithau fy ngweled innau (chwerthin a chymeradwyaeth). Fe fuasai'n dda gennyf gael eich gweled heb i mi ddweud dim. 'Does dim angen am ddweud dim; y mae popeth da wedi ei ddweud; a phan nad oes amser i'w ddweud, na dim eisiau ei ddweud, wel, y peth synhwyrol ydyw tewi, a dweud dim (chwerthin). Ni wnaf ond crybwyll un ymadrodd, geiriau yr Arglwydd Iesu Grist, "Chwychwi yw y rhai a arosasoch gyda mi yn fy mhrofedigaethau." Aros gydag ef yn ei brofedigaethau. Oes, y mae i'r Iesu ei brofedigaethau y dyddiau hyn trwy'r deyrnas yma; yr achos yn isel iawn mewn llawer man, y mae hen bobl yn dweud na welsant hwy mo achos crefydd mor isel. Pwy a adawodd Grist gan garu y byd presennol? Bron na ddywedwn i wrth gymryd golwg gyffredinol ar y deyrnas yma, "Pawb a adawsant Grist, gan garu y byd presennol." Miloedd pobl ieuanc y deyrnas yma yn gyrru yn ynfyd ar ol pleserau, a chwareuon, a difyrrwch, a phobl ganol oed, a hen bobl hefyd (chwerthin), yn gyrru mor ynfyd ar ol golud, yn gadael Crist gan garu y byd presennol. A miloedd lawer yn yr eglwysi wedi syrthio i ryw ddifaterwch, i ryw farweidd-dra. Yr wyf yn credu eich bod chwi yn well yn y dref yma nag ydym ni yn y wlad acw. Yr oeddych yn well pan oeddwn i yn byw yma, beth bynnag, ond nid am fy mod i yma (chwethin). Mae rhyw farweidd-dra a difaterwch—cannoedd lawer o bobl nad oes dim modd eu cael i'r Seiat unwaith mewn blwyddyn, a 'does dim posib' cael ganddynt ddod i'r cyfarfod gweddi o gwbl. Wel, dyma brofedigaeth yr Iesu, gyfeillion. Ond eto, y mae cannoedd yn y gynulleidfa fawr hon y gall yr Iesu bendigedig ddweud wrthynt, "Chwychwi yw y rhai a arosasoch gyda mi yn fy mhrofedigaethau." Fe allwn i gyd wneud hynny, gyfeillion, aros gydag ef, y mwyaf anneallus ohonom, y mwyaf anllythrennog ac annysgedig. Tydi, y dyn a chanddo allu mawr i fod yn anwybodus, a'r dyn fedr fod yn ddwl, "Wel, d'wyf fi dda i ddim." Wyt, yn dda i lawer, ti elli aros hefo Iesu Grist yn ei brofedigaethau. Y mae un gŵr meddylgar yn dweud ar yr adnod yma,— "'Dyw aros yn cynnwys dim, ond peidio a mynd i ffwrdd." Da chwi, bobl ieuanc annwyl, gannoedd ohonoch, peidiwch a myn'd i ffwrdd. Mae yr achos. yn isel, peidiwch a mynd i ffwrdd; arhoswch—stwffiwch ato pan mae yn ei brofedigaethau. "Minnau a'i haddefaf yntau." Beth? "Teyrnas." Pensiwn. da? Pensiwn wir—"teyrnas;" a hynny am ddim byd ond peidio a mynd i ffwrdd. Peidio a mynd i ffwrdd. Mae pawb o'r deiliaid yn y deyrnas hon yn frenhinoedd, welwch chi. Clywch hwy yn dweud, "Iddo ef, yr hwn a'n carodd, ac a'n golchodd oddi wrth ein pechodau yn ei waed ei hun, ac a'n gwnaeth ni yn frenhinoedd." Mae'n rhywyr i rai ohonoch ddechrau tocio eich hunain. "Brenhinoedd".— mae eisiau tipyn o fanners nefol i fod yn frenhinoedd. "A'n gwnaeth ni yn frenhinoedd ac yn offeiriaid."

Wel un gair eto. Yr wyf yn gwybod ei bod hi yn hen bryd i mi derfynu, ond gadewch i mi gael rhyw bum munud—neu chwech—neu saith. "Minnau a'i haddefaf yntau." "Rhoddaf iddo eistedd gyda mi ar fy ngorseddfainc." Dyna i chwi gyffesu nid rhyw orseddfainc fach yn ymyl fy ngorseddfainc fawr. Pa le? "Gyda mi." Fel pe buasai yn dweud, "mi fyddaf yn fwy cyffyrddus ar fy ngorsedd ond cael y rhain yno." "Yn y deyrngadair yn unig y byddaf yn fwy na thydi," meddai Pharaoh wrth Joseff. "Chei di ddim rhan o'm gorsedd i chwaith, Joseff." Ond glywch chwi eich Brenin yn dweud am bob un sydd wedi bod yn ei ddilyn, "eistedd gyda mi ar fy ngorseddfainc." "Wrth bwy o'r angylion y dywedodd ef un amser, Eistedd ar fy neheulaw?" Wrth yr un erioed, fuasa fo ddim yn beth cyffyrddus i'r nefoedd weled angel ar yr orsedd. Fe fuasai yn beth poenus i'r nef, ac fe fuasai'n fwy poenus i'r angel ei hun nag i neb arall. Wn i ddim pe buasai archangel yn mynd ar yr orsedd na buasai penys— gafnder yn dod drosto. Hen bechadur wedi ei achub —" rhoddaf iddo ef eistedd gyda mi ar fy ngorseddfainc." Yno y mae ein hen gyfeillion ni, ond mae yn chwith i ni am danynt. Ymha le y maent hwy? Rhaid i chwi ddringo i ddeheulaw gorseddfainc y mawredd, neu welwch chwi byth monyn nhw. Yno y mae ein hen gyfeillion, yn reit snug 'rwan. Hwy fuont yn ffyddlawn i gyffesu yr Iesu. Yr wyf yn eu cofio. Mi gwelais hwy yn troedio'r strydoedd yma, wythnos ar ol wythnos, yn ddigon prysur yng nghanol twr o Saeson; i ba le yr oeddynt yn myn'd? O, i'r cyfarfod gweddi, neu i'r Seiat. Pa le y maent. yn awr? Yng ngeiriau Ieuan Glan Geirionydd:

Wedi dianc uwch gelynion,
Croesau, a gofidiau fyrdd,
Maent hwy'n awr yn gwisgo'r goron,
Ac yn cario'r palmwydd gwyrdd.

Byddaf yn dych'mygu weithiau
Fry eu gweld yn Salem lân,
Ac y clywaf ar rai prydiau
Adsain odlau per eu cân.

Ond mae'r amser bron a dyfod
Y caf uno gyda hwy.
Yn un peraidd gör ddiddarfod,
Uwchlaw ofn ymadael mwy.

Chymerent hwy ddim mil o fydoedd am ddod am chwarter awr i'r ddaear yma, a cholli y nefoedd am chwarter awr,-

"Os rhaid goddef ar fy nhaith
Dywydd garw,
Cadw f'ysbryd yn dy waith,
Hyd fy marw."

Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyda chwi oll. Amen.

PREGETH.



"CADW DY GALON YN DRA DIESGEULUS."

Diarhebion iv. 23.

Y MAE'R bywyd naturiol yma a'i holl weithrediadau yn dibynnu ar y galon. O'r galon y mae'r gwaed yn derbyn ei ysgogiad yn barhaus yn ei gylch rediad trwy'r holl gorff. Daw yn ôl i'r galon i dderbyn cynhyrfiad newydd drachefn a thrachefn. Felly y mae'r bywyd moesol yma, a holl weithrediadau'r bywyd hwnnw, yn dibynnu ar y galon mewn ystyr foesol. Y galon, y rhywbeth rhyfedd hwnnw o'n mewn sydd yn ffynhonnell ein holl serchiadau, ein teimladau, ein dymuniadau, a'n hamcanion. Rhyw fath o babell cyfarfod ydyw i feddyliau, myfyrdodau, a dychmygion; ac oddiyno y mae meddyliau fel yn cael eu hanfon allan yn weithrediadau o bob math, ac yn dychwelyd megis i'r galon yn feddyliau i gael cynhyrfiad newydd i fynd allan yn weithrediadau drachefn.

Wel, "cadw dy galon yn dra diesgeulus."

I. NI A GAWN AIR YN BRESENNOL AR BWYSIGRWYDD Y GADWRAETH YMA.

Ni allwn lai na theimlo yn awr ar funud o ystyriaeth fod y cadw hwn yn rhyw gadw o bwys mawr iawn. Fe ellid dweud llawer ar gadw'r galon rhag ei therfysgu gan drallodion y byd—"na thralloder eich calon;" ond cadw'r galon rhag ei halogi gan yr hyn sydd ddrwg sydd gennym yn awr.

(a) Y mae'r cadw hwn yn bwysig am y bydd pob cadw arall yn allanol yn aflwyddiannus heb gadw'r galon o fewn. Y mae'r gadwraeth allanol yma i fod hefyd—gwneud llwybrau uniawn i'n traed, a chadw ein ffyrdd rhag pechu. "Gan fod a'ch ymarweddiad yn onest ymysg y cenhedloedd." "Ymddygwch yn addas i efengyl Crist." "Na ddeued un ymadrodd llygredig allan o'ch genau chwi." Y mae'r cadw allanol yma i fod—y geiriau, y gweithredoeau, a'r ymddygiadau. Ond nid yn y fan yma y mae'r wyliadwriaeth flaenaf i fod. Beth i'w feddwl a beth i beidio ei feddwl sydd yn bwysig. Nid trafferthu'n bennaf i geisio cau ar y drygioni sydd i mewn yn y galon rhag torri allan yn ddrygioni yn y fuchedd. Ni ddown ni ddim i ben â hi fel hyn. Fe fydd y drafferth yn aflwyddiannus pan mae'r galon fel yn llawn hyd yr ymyl o lygredigaeth mewn meddyliau a myfyrdodau. Y mae'n colli drosodd yn union trwy ryw ysgydwad lleiaf, megis, gan demtasiynau oddi allan. Clywch chi eiriau ein Gwaredwr, "O helaethrwydd y galon y llefara y genau. Y dyn da o drysor da ei galon a ddwg allan bethau da." Gofalu am fod yn dda, ac fe ofala y bod am y gwneud. Gofalu y bydd yr hyn sydd yn y galon yn drysor da, ac nid bod o hyd yn treio cadw'r hyn sydd i mewn rhag dod allan. Ond allan y daw mewn rhyw ffurf neu'i gilydd. Clywch eto: "Y dyn drwg, o drysor drwg ei galon, a ddwg allan bethau drwg." Nid yr un pethau drwg a ddygir allan gan bawb o'r un trysor drwg. O Jeriwsalem golch dy galon oddiwrth ddrygioni fel y byddech gadwedig." Dyma'r gorchymyn cyntaf, a'r gorchymyn mawr. "Pa hyd y lletyi o'th fewn goeg amcanion"—neu ofer feddyliau. Pa hyd? Dyma i chwi eiriau yr Arglwydd Iesu eto ar hyn: "O'r galon y mae meddyliau drwg yn dyfod allan"—a dyfod allan a fynnant. Ofer fydd yr ymdrech i gadw meddyliau drwg i mewn oni wneir ymdrech hefyd i'w mar— weiddio oddi mewn. Fe sonnir yn y Llyfr hwn am "ffynnon wedi ei chymysgu â gofer budr," a meddai'r Gwaredwr: "yr holl ddrwg bethau hyn" wedi iddo enwi rhyw restr ddu iawn o bechodau, "yr holl ddrwg bethau hyn sydd yn dyfod oddi mewn allan o'r galon."

"Efe a aeth i ffynhonnell y dyfroedd," meddai'r hanes am Eliseus, wedi iddo ddod i Jericho rywbryd, a gwyr y ddinas yn cwyno wrtho ynghylch y dwfr. "Wele atolwg," medda nhw, "ansawdd y ddinas, da ydyw fel y mae fy arglwydd yn gweled. Y mae yma bob peth yn ddigon dymunol yn y dref yma, ond 'does dim posib yfed y dwfr sydd gennym, dim posib, wir. Ond y dyfroedd sydd ddrwg," medda nhw. "Dygwch i mi phiol newydd," meddai'r proffwyd, "Dowch a phiol newydd i mi, a dodwch ynddi halen," ac y maent hwythau yn gwneud hynny. "Ac efe a aeth at ffynhonnell y dyfroedd," glywch chi," efe a aeth at ffynhonnell y dyfroedd." Nid trotian o seston i seston, a thrin y pipes, a threio rhyw ffiltro dipyn ar y dwfr yn y ffrydiau. Na, na, na, ddeuthai o byth i ben â hi felly. "Efe a aeth i ffynhonnell y dyfroedd, ac a fwriodd yr halen yno, ac felly," glywch chi, "ac felly yr iachawyd y dyfroedd." Yr ydych yn gweld yr addysg: "cadw dy galon yn dra diesgeulus." Y ffordd lwyddiannus i iachau'r dyfroedd yn y ffrydia, sef y fuchedd a'r ymarweddiad ydyw bwrw yr halen i ffynhonnell y dyfroedd. Y mae'n bosibl, heb hyn, newid cwrs y ffrwd o'r naill sianel i'r llall, ei stopio i redeg y ffordd yma, atal rhyw bechodau gwarthus; ond fe fyn redeg ryw ffordd arall, a hwyrach cyn hir dorri dros yr argae i redeg yn yr un ffordd eilwaith. Heb inni gadw'r galon fe fydd pob cadw arall yn aflwyddiannus.

(b) Y mae'n bwysig hefyd oblegid mai anghymeradwy gyda Duw ydyw pob cadw arall. Meddyliwch am funud, y mae meddylfryd mwyaf cuddiedig y galon yn hysbys iddo Ef. Duw, adnabyddwr calonnau pawb, ydyw Ef. "Mi a wn," meddai'r Arglwydd wrth dŷ Israel (Esec. xi. 5), "mi a wn y pethau sydd yn dyfod i'ch meddwl chi bob un o honynt," Diar annwyl, y Duw anfeidrol sanctaidd yn gwybod y pethau sy'n dyfod i dy feddwl. Beth? wel, "oni chwilia Duw hyn allan, canys efe a ŵyr ddirgeloedd y galon. Ger ei fron Ef gallwn ddywed- yd "gosodaist ein hanwiredd ger dy fron, a'n dirgel bechodau yng ngoleuni dy wyneb." "Canys," medda rhyw air yn y Beibl yma, "canys yr Arglwydd sydd yn chwilio'r holl galonnau, ac yn deall pob dych. ymyg meddyliau" (1 Cron. xxviii. 9).

Heblaw hynny, y mae'r meddyliau llygredig yn bechodau mor wrthun yn ei olwg Ef a'r gweithredoedd mwyaf cyhoeddus. Ni bydd gweithredoedd allanol, sydd yn dda ynddynt eu hunain, yn gymeradwy ger ei fron oni bydd y galon yn uniawn. "Nid fel yr edrych dyn," meddai'r Arglwydd wrth Samiwel, pan anfonwyd o i Fethlehem i ddewis' un o feibion Jesse i'w eneinio i fod yn frenin ar Israel, "Nac edrych ar ei wynepryd ef," pan oedd Samiwel yn edrych ar Eliab, un o feibion mwyaf golygus Jesse, ac yn meddwl mai hwnnw oedd y brenin i fod. "Na, nid hwna," medda Duw, "nac edrych ar ei wynepryd ef, nac ar uchter ei gorffolaeth, canys gwrthodais ef, oherwydd nid edrych Duw fel yr edrych dyn." Y mae golygiad da o ran buchedd a chymeriad yn wrthodedig ganddo os bydd y galon o'i lle, ac i'r graddau y bo dyn yn cael ei sancteiddio—yn cael ei wneud yn debyg i Dduw—y mae'n dyfod i edrych fel yr edrych Duw arno'i hun,—edrych ar ei galon ei hun yn gyntaf peth.

Am y gwir gredadun, er bod ganddo ofal am ymddwyn yn addas i Efengyl Crist, ac am i'w oleuni lewyrchu gerbron dynion, y mae'i ofal a'i drafferth bennaf gyda'i galon o'r tu fewn. Y mae'n hiraethu a dyheu, "O na byddai'r galon lygredig yma sydd gini yn fwy sanctaidd, O na byddai'r galon galed yma yn fwy tyner, y galon falch yma yn fwy gostyngedig, fy nghalon ddaearol yma yn fwy nefolaidd ac ysbrydol ei meddylfryd a'i myfyrdodau." Ei ddymuniad blaenaf gerbron Duw—

"Boed fy nghalon iti'n demel
Boed fy ysbryd iti'n nyth,"

a'i drafferth grefyddol bennaf ef pan fo yn ei le ydyw ceisio trefnu ei galon annhrefnus i fod yn rhyw gysegr bychan i Arglwydd nef a daear breswylio ynddi. O, dyma ymdrech y bywyd duwiol yma: cadw'r galon heb ei halogi gan feddyliau annheilwng a fyddo'n ei hamghymwyso i ddal cymundeb â Duw. "Yr ydw i yn ei gwneud yn fater cydwybod," meddai'r Thomas Fuller, pan ofynnwyd iddo ac efe'n ddyn ieuanc ar adeg ei ordeiniad, a oedd efe wedi derbyn yr Ysbryd Glân. "Alla i ddim ateb y cwestiwn yna," meddai, "a ydw i mewn gwirionedd wedi derbyn yr Ysbryd Glân. Ond gallaf ateb fy mod i'n arfer gwneud mater cydwybod o'm meddyliau dirgelaidd." Yr oedd hynyna yn ddigon, a 'doedd dim eisio rhagor o helynt efo fo. Gyfeillion, a ydyw yn "fater cydwybod" gennym, nid yn unig beth i'w siarad a beth i'w wneud, ond beth i'w feddwl. (c) Y mae'r cadw hwn ar y galon yn bwysig, eto, oherwydd y prysurdeb diorffwys sydd yng nghalon dyn-lluosogrwydd meddyliau sydd yma yn amlder fy meddyliau o'm mewn." Fe gyflawnir yma lawer iawn o dda neu ddrwg. Heblaw bod drwg feddyliau ac ofer feddyliau yn bechodau, fe fyddant yn llawer iawn o bechodau-" mor fawr fydd eu swm hwynt." Y fath dorf ddirif sydd yn myned i mewn ac allan mewn un wythnos, ie, amlach ydynt nag y gellir eu rhifo mewn un diwrnod yn fynych. Wel, os gadewir i holl feddyliau a dychmygion y galon yn ddiwahardd a diddisgyblaeth i weithredu anwiredd y fath swm dirfawr a weithredir ganddynt mewn pedair awr ar hugain. "Os bydd y goleuni sydd ynot yn dywyllwch, pa faint fydd y tywyllwch."

(d) "Cadw dy galon yn dra diesgeulus," y mae hyn yn bwysig, oblegid ei fod yn waith mawr a fydd heb ei wneud oni wneir o gennym ni ein hunain. 'Does dim help daearol i'w gael o'r tu allan at y cadw hwn. Nid ydi'r hyn fydd ynddo'i hun yn bwysig i'w wneud ddim mor hynod o bwysig i ni feddwl amdano os gellir disgwyl i eraill ei wneud drosom ni, neu ei wneud mewn rhan drosom ni. Nid peth fel yna ydyw cadw'r galon. Y mae'n waith mawr tragwyddol ei ganlyniadau, ond yn waith sydd yn sicr o fod heb ei wneud oni wneir o gennyt ti dy hunan. Fe all dyn gael shopkeeper i gadw'i shop, a housekeeper i gadw'i dŷ, a book—keeper i gadw'i lyfrau, ond all neb gael yr un heartkeeper ar y ddaear i gadw'i galon.

A 'does dim cymorth o'r tu allan i ni ein hunain i'w gael at y cadw yma—cymorth dynol ydwi'n feddwl, 'does dim help dynol, daearol, o'r tu allan. Y mae rhyw fath o gadwraeth o'r tu allan ar fuchedd dyn a'i ymarweddiad allanol gan amgylchiadau, a chan ddynion eraill y cylch cymdeithas y mae dyn yn troi ynddo, a rhyw ddylanwad a math o orfodaeth arno i ymddwyn fel hyn neu wneud fel arall. Y mae ofn dyn, a pharch cymdeithas yn dylanwadu ar hunangariad dyn. Y mae ofn dyn yn dwyn magl," medda rhyw air. Wel, fel y mae ofn dyn yn dwyn magl ar lwybrau rhinwedd a chrefydd, felly hefyd, yn fynych iawn, y mae ofn dyn yn maglu a rhwystro llawer ar bobl ar lwybrau pechod yn gyhoeddus. "Ond yn guddiedig," medda'r hanes am Joseff o Arimathea. Yr oedd yntau yn ddisgybl i'r Iesu, ond "yn guddiedig rhag ofn yr Iddewon." Felly, ar y llaw arall, y mae llawer dyn yn ddisgybl ffyddlon i'r diafol, ym meddiant Satan, yn was i bechod, ond yn guddiedig, er hynny, rhag ofn ryw Iddewon, sef y gymdeithas y mae'n troi ynddi ac am gael ei barchu ganddi. Y mae ofn y bobl a cheisio gogoniant dynion. yn gosod rhyw fath o gadwraeth ar ddyn o ran ei fuchedd allanol. Y mae o'n cael ei orfodi rhywsut i actio yn well nag o'i hun mewn gwirionedd. Ond y mae fel arall gyda golwg ar feddylfryd y galon. Dyma eiddo'r dyn ei hunan yn cael eu cuddio o olwg pawb dan rhyw gyfar trwchus na all yr ymyrrwr mwyaf busnesgar na'r enllibiwr mwyaf maleisus yn y wlad ddim gweld trwyddo. Y mae rhyw wahanlen dywyll yn cysgodi'r galon fel na eill neb, ia'r dyn sydd yn siwr o wybod gyntaf bob drwg am bawb, na eill hwnnw ddim cymaint à symud cwr y wahan— len hon unwaith mewn blwyddyn i wybod beth sydd yn mynd ymlaen yn y galon.

II. Y MODD I GARIO ALLAN Y GADWRAETH.

Y mae o'n gadw pwysig iawn, ond O, y mae o'n anodd. Pa fodd y mae cadw'r galon, yn dra diesgeulus?

(a) Wel, yn un peth ei gwneud yn arferiad cyson i droi i mewn, megis, yn fynych i edrych beth sydd yn mynd ymlaen yn y galon. Gweled beth y mae'r galon yn ei wneud ar y pryd. Y mae llawer dyn yn gwybod yn well sut y mae pethau yn mynd ymlaen yn yr Aifft, ac Affganistan, a gwledydd pell, nag am yr hyn sydd yn mynd ymlaen yn ei galon ei hun. Y mae'n rhaid troi llygad yr enaid i mewn yn fynych. Mor annrhefnus y mae hi'n mynd yn yr ysgol, lle mae lliaws o blant direidus, pan fo'r meistr wedi troi'i gefn am beth amser. Y fath swn a rhedeg a gweiddi, dim cymaint ag un yn ei le a chyda'i wers. Ond y funud y mae'r meistr i mewn yn ôl, y fath osteg rhyfeddol o sydyn a distawrwydd—pawb i'w le am y cynta' ac at ei wers.

Wel, fel yna y mae meddyliau'r galon yma yn mynd yn afreolus a dilywodraeth pan na fyddo'r enaid yn rhyw warchod gartref. Pan mae'r gydwybod yn bresennol, megis, yn effro ac yn gwylio mor wahanol ydyw popeth yma!

(b) Peth arall gwrthod ofer feddyliau yn gystal a drwg feddyliau. Dyma un o benderfyniadau da yr hen Esgob Beveridge: "Yr ydwi'n penderfynu, trwy gymorth gras Duw, bod mor ofalus rhag lletya o'm mewn ofer feddyliau ag y bydda i o ofalus i gadw draw ddrwg feddyliau." A glywch chi un arall o'r saint: Meddyliau ofer a gasheais." Parod ydyw y rhain i ryw growdio yn lluoedd i mewn i'r galon, yn enwedig ar oriau hamdden, fel mai'r amser y bydd dyn heb ddim i'w wneud yn bur fynych ydyw'r amser y bydd yn fwyaf prysur. Y mae'r galon yn brysur, ond O, brysurdeb diles ydyw,—galluoedd yr enaid yn cael eu treulio ar ofer a gwag feddyliau, a meddyliau sydd mor ffol y buasai ar ddyn gywilydd eu dweud hyd yn oed wrtho'i hun. Dydd freuddwydion nad ydynt dda i ddim ar gyfer y byd hwn na'r byd a ddaw. Y mae ofer feddyliau, heblaw eu bod yn anghymwyso dynion i bob da, yn arwain i ddrwg feddyliau.

(c) Dyma gyfarwyddyd arall: Rhaid gochel yr achlysuron i ofer a drwg feddyliau—y pethau o'r tu allan sydd yn achlysuro meddyliau anghymeradwy a'u dwyn i galon dyn. Rhaid gwylio y ffyrdd, y passages, rhywsut, y mae meddyliau nad ydynt dda yn ymlwybro ar hyd—ddynt, megis, yr amgylchiadau y byddwn ynddynt, y gymdeithas y byddwn yn troi. ynddi, y llyfrau a ddarllenwn, synhwyrau'r corff, ac yn enwedig y clyw a'r golwg. Os ydyw ymadroddion drwg yn llygru moesau da y maent yn sicrach. fyth o lygru meddyliau da. "Edrychwch beth a wrandawoch," medd un gair, ac un arall, "troi ymaith y llygaid rhag edrych ar wagedd." Y mae un o'r hen Biwritaniaid yn dweud fod synhwyrau'r corff yn fath o ffenestri, a bod meddyliau yn cripio i mewn trwyddynt i'r galon. Rhaid ydyw cadw gwyliadwriaeth fanwl ar y ffenestri hyn. O mor brysur ydyw'r galon yma. Y mae'r ofer feddwl yn mynd yn feddwl llygredig, ac y mae hwnnw'n awgrymu rhyw feddwl drwg arall. Y mae'r meddwl drwg yn casglu ato gyfeillion. Y mae un o athronwyr yr oes yn dweud mai un gwahaniaeth rhwng y dyn da a'r dyn drwg ydyw hyn, nid nad oes yn y dyn da lawer o'r hyn sydd ddrwg o ran nwydau a chwantau a thymherau, ond ei fod yn gofalu am droi attention y meddwl. oddiwrth y pethau sy' ddrwg at y da a'r pur.

Rhaid gochel yr achlysuron allanol i ddrwg feddyliau. Fe fyddai'n eithaf peth inni deimlo rhyw fath o anymddiried ynom ein hunain trwy adnabyddiaeth o dwyll y galon. Glywch chi air yr Ysgrythur Lân yma: "Y neb a ymddiriedo yn ei galon ei hun sydd ffol." Yn wir yr ydwi'n meddwl y cewch chi fod hyn yn wir, y mwyaf gwan i wrthsefyll temtasiwn ydyw'r parotaf i'w ddodi ei hun mewn temtasiwn.

(d) Rhaid gwrthwynebu'n benderfynol ac â'n holl nerth y cynygion cyntaf oll a wneir gan ddrwg feddyliau am le yn y galon. Cynhyrfu holl ymadferthoedd yr enaid yn eu herbyn pan fônt yn ymrithio gyntaf gerbron y galon. "Pan ddisgynai yr adar ar y celaneddau." Abraham yn aberthu, a rhyw adar ysglyfaethus yn mynd i ddisgyn ar yr ebyrth. Ond "pan ddisgynnai yr adar ar y celaneddau, yna Abraham a'u tarfai hwynt" yn y munud, nid wedi iddyn nhw ddisgyn, ond pan y bydde nhw yn disgyn. Fe fyddai Abraham yno yn y munud yn eu tarfu nhw. O, gyfeillion, pan mae'r adar ysglyfaethus hyn, llygredig a drwg feddyliau o bob math, pan mae nhw yn rhyw ddisgyn ar y galon, dyna'r amser i'w tarfu nhw, i'w "showio" nhw i ffwrdd, ac nid wedi iddynt ddisgyn. Casglwn ynghyd holl nerth ein natur mewn ymdrech deg yn erbyn y cynygion cyntaf. Y maent yn cael eu danfon gan y diafol fel rhagredegwyr i baratoi'r ffordd i bethau eraill gwaeth na hwy eu hunain. Edrychwch pan ddêl y gennad hwnnw i mewn," medda Eliseus wrth yr henuriaid rheini, pan oedd brenin Israel yn cynllunio i'w ddifetha. "A welwch chwi," medda gŵr Duw, "a welwch chwi fel yr anfonodd mab y llofrudd hwn i gymeryd ymaith fy mhen i—mae o am dorri mhen i, 'does dim dowt, ac y mae ganddo ryw gennad, digon diniwed yr olwg arno, yn dyfod o'i flaen ef. Edrychwch gan hynny," meddai, "edrychwch pan ddêl y gennad i mewn. Ceuwch y drws, a deliwch ef wrth y drws, onid ydyw trwst traed ei Arglwydd ar ei ol ef." Pan mae'r gwrthwynebwr diafol, y lleiddiad dyn hwn, a'i fryd ar ddifetha enaid trwy feddyliau llygredig, y mae ganddo ryw gennad o feddwl ofer i'w anfon o flaen y drwg feddwl i baratoi'r ffordd. Edrychwn, gan hynny, pan ddel y gennad i mewn ceuwn y drws, a daliwn ef wrth y drws. Os daw hwn i mewn anodd iawn fydd cadw'r llall allan—y nesaf peth i amhosibl. Tendiwn y gennad, gyfeillion, ceuwn y drws. "Onid ydyw trwst traed ei arglwydd ar ei ol ef?"

Da ydyw ymladd â drwg feddyliau pan fyddont wedi dod i mewn ac yn terfysgu'r enaid. "O ble y doist ti dywed," medda'r morwyr rheini wrth Jona ynghanol y dymhest1 fawr honno. "A Jona a aethai i waered i ystlysau y llong." A dyma rai o'r morwyr i lawr ato fo ac yn ei lusgo fo i fyny i'r dec, yn bur ddiseremoni hefyd, ac yn dechrau i gwestiyno fo am yr achos o'r ystorm ofnadwy, gan led awgrymu mai efo oedd yr achos. "Beth yw dy gelfyddyd di?" medda nhw. "Beth ydi dy grefft di, dywed, ac o ba le y deuthost ti?" Glywch chwi gymaint o gwestiynau y mae nhw yn eu pentyrru arno fo druan cyn iddo fo gael treio ateb yr un ohonyn' nhw. "Beth yw dy gelfyddyd di?" "O ba le y deuthost?" "Pa le yw dy wlad, ac o ba bobl wyt ti?" Yr oedd o dros y bwrdd yn ddigon clir â'r llong ymhen ychydig iawn o funudau. Y mae yn dda gwneud fel yna pan mae tymestl nid bychan yn curo ar yr enaid a chydwybod euog yn terfysgu. Beth? Wel, edrych beth yw yr achos. A oes peidio a bod rhyw anwiredd cuddiedig i waered yn ystlysau'r llong. Rhaid llusgo rhyw chwant pechadurus i'r dec, megis, a'i gwestiyno, Beth ydi dy gelfyddyd di? Beth yw dy grefft ti? O ba le y deuthost ti dywed? Pa le yw dy wlad, ac o ba bobl wyt ti? Pwy yw dy dylwyth di? a ffling iddo, a thros y bwrdd ag o, ar unwaith. Y mae hynyna yn dda; ond gwell o lawer, a haws ei wneud, ydyw cadw'r drws. Os daw y drwg feddyliau i mewn unwaith fydd hi ddim mor hawdd eu taflu allan ag oedd i'r morwyr fwrw Jona allan o'r llong.

Wrth wylio'r galon a'i chadw yn dra diesgeulus chwi gewch fwy o lonydd bob yn dipyn, gewch chi weld. "O'r pryd hwnnw," medda'r hanes yn llyfr Nehemia am ryw farchnadwyr oedd yn dyfod i Jeriwsalem i werthu pethau ar y Sabath. Yr oeddynt yn poeni calon Nehemia ac yr oedd yn methu'n lân a'u stopio nhw. Y mae yn i dwrdio nhw, a mi fedra Nehemia ddwrdio gystal â neb. "Pa beth drygionus. ydyw hwn yr ydych yn ei wneuthur, gan halogi y dydd Sabath;" ond 'doedd dim iws, yr oeddynt yno y Sabath wedyn. Beth wnaeth o i gael gwared o honyn nhw? Cau y dorau, "a phan dywyllasai pyrth Jeriwsalem cyn y Sabath yr erchais gau y dorau, ac a orchymynais nad agorid hwy hyd wedi y Sabath, a mi a osodais rai o'm gweision wrth y pyrth." Wel, a ddaeth yr hen farchnadwyr yno wedyn ai do? Do, mi ddeuthon yno; ond y maent yn methu a dyfod i mewn cael y dorau wedi'u cau i fyny yn reit sownd. Ac wedi methu a dyfod i mewn fel yna y mae nhw'n blino dyfod yno i dreio toc iawn. Unwaith neu ddwy y deuthon' nhw, medd yr hanes. "Felly," glywch chi, "felly y marchnadwyr a gwerthwyr pob peth gwerthadwy a letyasant o'r tu allan i Jeriwsalem" unwaith neu ddwy wedi gweld nad oedd modd dyfod i mewn. Y mae nhw'n blino dyfod yno i dreio. "O'r pryd hwnnw," medda'r hanes, "o'r pryd hwnnw ni ddeuthant ar y Sabath mwyach."

Gwnawn ninnau fel yna efo'r drwg feddyliau a'r ofer a'r gwag feddyliau yma o bob math, y marchnadwyr hyn sydd am wneud y galon-a ddylai fod yn deml i'r Ysbryd Glân-yn dy marchnad i Satan a phechod. Ceuwn y dorau, gyfeillion, oblegid ofer fydd dwrdio'r hen feddyliau drwg yma. "Pa beth drygionus yw hyn yr ydych yn ei wneuthur" aflonyddu a therfysgu fy nghalon?" Medr yr hen feddyliau aflywodraethus yma oddef cael eu dwrdio, ac mi ddôn wedyn, a wedyn, tra caffont ddrws agored. Archwn gau y drws yn eu herbyn hwy. Rhaid gwrthwynebu'n gryf a phenderfynol eu cynygion cyntaf.

(e) Un peth arall tuagat gadw'r galon rhag yr hyn sy' ddrwg ydyw gwneud ymdrech i'w llanw yn wastad â'r hyn sydd dda. 'Does dim modd gwylio'r pyrth yn ddigon gofalus, na chau y drws yn ddigon clos na ddaw y rhain i mewn os bydd lle iddynt. Meddyliau! Meddyliau!! Diar annwyl, fe ymwthiant i mewn yn rhyfedda 'rioed na wyddoch chi pa sut os bydd y galon yn wag. Er eu hymlid allan dônt yn ôl drachefn. "Y mae yn ei gael yn wag," medda rhyw air am y dyn yr aethai'r ysbryd aflan allan ohono, ond mor fuan y mae o'n dyfod yn ol. "Mi a ddychwelaf i'm tŷ o'r hwn y deuthum allan, ac y mae yn ei gael yn wag wedi ei ysgubo a'i drwsio, ond yn wag, yn wag, ac ar unwaith dyma'r ysbryd aflan yn ôl, a saith eraill gwaeth nag ef ei hun gydag ef.

O gyfeillion, ofer fydd pob ymdrwsio a threfnu os bydd y galon yn wag. Os cedwir hwy allan, dyna fydd yn rhaid fod yn rheswm: "Am nad oedd iddynt le yn y llety "-holl ystafelloedd y galon yn llawn o feddyliau daionus. Y mae yna ddigon o le i'n meddyliau dramwy dros hyd a lled, uchter a dyfnder cariad Crist.

Ymnerthwn yn yr Arglwydd ac yng nghadernid ei allu Ef. "A minnau," meddai Dafydd, rywbryd, "a minnau ydwyf eiddil heddyw, a'r gwyr hyn, meibion, Serfiah, sydd ry galed i mi." O dyna brofiad aml un sydd yma yn wyneb y gwaith mawr hwn, sef cadw'r galon, "a minnau ydwyf eiddil heddyw," a'r meddyliau ofer a llygredig hyn sy' ry galed i mi. Beth wnawn ni? Gwyliwn, gweddiwn, ac ymnerthwn yn yr Hwn a fedr wneud ein calon yn amddiffynfa; a than ddylanwad daionus ei Ysbryd Ef fe ddaw "y pethau sydd wir, y pethau sydd onest, y pethau sydd gyfiawn, y pethau sydd bur, y pethau sydd hawddgar, y pethau sydd ganmoladwy," i growdio allan y drwg bethau.





ARGRAFFWYD YN SWYDDFA ARGRAFFU'R CYFUNDEB, CAERNARFON.

Nodiadau golygu

  1. Y Parch. J. Hughes.
  2. Y mae hanes Methodistiaeth yn Edern yn un diddorol dros ben. Ymwelodd Howel Harris â'r ardal pan ddaeth gyntaf i Lŷn yn 1741. Cafodd lety gan wraig Porthdinllaen, a bu hynny'n achlysur erledigaeth erch ar y pengryniaid. Daeth Hugh Griffith y Ty Mawr (hen daid Griffith Hughes) a Thomas Humphreys, Penybryn, yn swcwr i grefydd gan ddiogelu drysau agored i bregethu. Bu i'r ddau godi adeilad heb yngan ar y pryd mai capel oedd hwnnw i fod.
    Dywedir mai'r Thomas Humphreys hwn a gyfieithodd gyntaf waith Gurnal i'r Gymraeg. Gadawodd ei dŷ a'i dyddyn i'r hen ferch, y forwyn, ac yr oedd y lle i fod yn gartref i bregethwyr, ac arysgrif uwchben y drws " Deuwch i mewn i'm ty, ac aroswch yno." Daeth yr etifeddes hon yn briod i'r gŵr hynod hwnnw, John Jones, Edern. (Gwel Methodistiaeth Cymru, ii. 142)
  3. Y Parch. J. Hughes
  4. .Hanes Methodistiaeth Arfon gan y Parch. W. Hobley. Cyf. 6.
  5. Y Parch. W. M. Jones.
  6. Y Parch. W. M. Jones.
  7. Griffith Jones, Llanddowror, gan D. Ambrose Jones, td. 31.
  8. Griffith Jones, Llanddowror, td. 26, 27.
  9. Y Parch, W. M. Jones.
  10. Y Parch. W. M. Jones.
  11. Y Parch. John Owen, M.A.
  12. Y Parch. W. M. Jones.
  13. Y Parch. John Owen, M.A.
 

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.