Dringo'r Andes (testun cyfansawdd)

Dringo'r Andes (testun cyfansawdd)

gan Eluned Morgan

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Dringo'r Andes
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Eluned Morgan
ar Wicipedia





Anrheg i'm cyfaill dysgedig

Dr. A. G. Van Hamel,

gyda'r hwn, ac efe'n ysgolhaig Cymreig gwych y treuliais lawer
orig difyr, i geisio dadrys dirgelion fy anwyl famiaith.

H. Parry Williams
Rhyd Ddu
Arfon.

Awst 1af 1911.

DRINGO'R ANDES

GAN

ELUNED.

TRYDYDD ARGRAFFIAD.

GYDA RHAGAIR GAN IFANO.


Y CASNEWYDD AR-WYSG (NEWPORT, MON.)

CYHOEDDWYD GAN

JOHN E. SOUTHALL, 149 DOCK STREET

1909

RHAGAIR

I'R AIL ARGRAFFIAD

AR gais y cyhoeddwr yr ymgymerais â darllen proflenni'r ail argraffiad hwn o lyfr darllen hudol Eluned. Yr wyf wedi darllen proflenni llawer o lyfrau erioed, ond nemor i un gyda chymaint o fwyniant a chyn lleied of ymdrech: mae Eluned wedi gweld a chlywed cystal, ac wedi teimlo'n well na hyn nes yw'r llyfr bwygilydd yn hudol odiaeth. Dyna, debyg, reswm y cyhoeddwr dros gael ail argraffiad o ono, a hwnnw'n gyson âg orgraff a gramadeg a chystrawen prifon llên y genedl, fel y gallai ysgolfeistri ac ysgolorion Cymru gael llyfr darllen a llyfr at efrydu Cymraeg o dan yr un clawr.

Cofied Eluned, yn anad neb, er fy mod i'n arfer orgraff yr argraffiad, na ryfygaswn newid iod ar ddim yn ei hargraffiad cyntaf hi ond ar orchymyn y cyhoeddwr; ac arweinwyr Cymdeithas y Iaith Gymraeg a awgrymodd iddo'r gorchymyn. Ond fe wel Eluned, ond odid, imi fod yn gynnil ddigon gyda holl neilltuolion ei mynegiant hi, yn air ac atalnod, ac imi adael iddi ddweyd "gwlaw yn lle "glaw" er gwaethaf adroddiad pwyllgor yr orgraff (1905)-nid am mai "gwlaw" sy gywir, ond am yr ofnwn y diluw tân a dywalltasai hi ar ol "glaw."

IFANO

CAERDYDD,

ALBAN HEFIN, 1907.

PENODAU.

DRINGO'R ANDES.


—————————————
—————————————


PENNOD I

CYN Y DILUW

 CHYDIG dros bedair blynedd yn ol, brithid colofnau newydduro: Cymru à lo speckle hanes y llifogydd dinistriol ym Mhatagonia bell. Nid pawb sy'n gwybod, hwyrach, mor agos yw'r cysylltiad rhwng Cymru a Phatagonia; ond yn un o ddyffrynnoedd ffrwythlon y wlad eang honno mae dros dair mil o Gymry wedi sefydlu Gwladfa Gymreig ar lan yr afon Camwy; ac hyd nes y daeth y dwir diluw yr oedd y dyffryn tawel yn ddarlun gwych o'r hyn allai diwydrwydd a dyfais y Cymro ei gyflawni mewn estron fro. A rhyw ymgais carbwl yw cy hyn o bennod i geisio desgrifio y Dyffryn cyn ac wedi'r diluw.

Fel un o blant cynhenid y wlad, ac fel un a fu yn bed llygad-dyst o'r holl ddinistr a'r trueni, diau fod i mi gymwysderau arbennig, ond yn anffortunus mae eisieu cymwysderau ereill i ddesgrifio stormydd bywyd.

Cyn eich arwain drwy'r diluw, hoffwn roi i chwi gip— drem frysing o Ddyffryn y Gamwy fel yr oedd cyn y diluw —dyffryn bychan gwastad rhwng bryniau graeanog, yn rhyw dringain milltir o hyd wrth bedair o led, a'r afon Camwy yn rhedeg drwy'r canol: hen afon fawr, droellog, Maling at its lang hamddenol pan yn ei hiawn bwyll, a'r helyg wylofus yn tyfu ar ei glannau gan chwareu mig â'r pysgod rhadlon ddeuant am wib i'r wyneb i wel'd yr haul.

Gwastad iawn yw y dyffryn, a chyn ei sefydlu gan y gwladfawyr yr oedd yn hollol ddigoed, oddigerth y coed ar lannau yr afon; ond erbyn blwyddyn y diluw yr oedd yno filoedd lawer o goed ar hyd a lled y dyffryn, wedi eu plannu gan y ffermwyr Cymreig, yn ceisio gwneud eu cartrefi fel bythynnod gwynion Cymru, yn nythu mewn llwyni coed. Ac yn wir, yr oedd golwg hapus, lwyddiannus arno—y ffermdai clyd o briddfeini neu gerryg, y caeau destlus, y berllan a'r ardd gylch y tŷ,—y daoedd porthiannus yn blewynna'r melusion, y ffarmwr diwyd yn dilyn ei arad ddwbwl yn hyderus baratoi ei dir erbyn y delai'r amser i fwrw'r hâd i'r ddaear; y plant ar eu ceffylau chwim yn cyrchu tua'r ysgolion mewn hwyl ac afiaith, please yn chwareu mabol gampau ar y ffordd; y mån bentrefi hal yn llawn brwdfrydedd gyda'u cyrddau llenyddol, y corau yn dechreu ymgasglu ynghyd er paratoi ar gyfer y frwydr eisteddfodol oedd i fod yn ystod y gaeaf—rhyw fywyd ac afiaith ymhob peth, fel pe byddai ffawd yn dechreu gwenu ar yr hen Wladfa wedi llawer o helbulon a gorthrymderau. Ond—diwrnod machlud haul oedd hi er hynny. "Canys yn y dydd hwnnw y rhwygwyd holl ffynhonnau y dyfnder mawr, a ffenestri y nefoedd a agorwyd, a'r gwlaw a fu ar y ddaear ddeugain niwrnod a deugain nos."

Dechreuodd y gwlaw ym mis Mai; nid oedd neb yn synnu at y gwlaw ar y cychwyn, canys dechreu ein gaeaf ni yw Mai, a byddai'r gwlaw yn dod yn ei dymor, a phawb yn paratoi ar ei gyfer. Ond yn y flwyddyn 1899 ni chafwyd ffordd sych dramwyol o fis Mai hyd ddiwedd Tachwedd. Gwlawiai am ryw bythefnos yn ddwys-ddyfal, yna delai'r haul allan yn ei ogoniant, a'r wybren las uwchben yn edrych mor hafaidd a siriol fel y gallesid tybied. fod y cyfan drosodd am ysbaid maith. Ond ail-ddechreu wnae cyn pen ychydig ddyddiau, nes erbyn canol Mehefin yr oedd y dyffryn fel cors, a thrafnidiaeth a masnach wedi eu parlysu.

Yn araf ond sicr fe godai'r afon, a'r dwr llwyd-felyn yn corddi yn chwyrn ar ei ffordd tua'r môr. Dechreuai tun rhai o'r hen sefydlwyr ddarogan fod llif yn agosâu, canys cawsid llifogydd bychain ym mlynyddoedd cyntaf y Wladfa: ond gwenu'n anghrediniol a wnae'r mwyafrif, gan dybied mai rhyw dymor ychydig yn wlypach nag arferol ydoedd, ac y deuai haul ar fryn eto. Ond dal i wlawio yr oedd, a'r afor yn dal i godi, ac yn y mannau isaf ar y dyffryn yr oedd eisoes wedi torri dros ei cheu-l lannau; ond yr oedd y Dyffryn Uchaf, a'r mwyaf ffrwyth- lon, yn ddiogel hyd yn hyn. Yr oedd yno gannoedd o Gymry dewr yn gweithio ddydd a nos ar genlannau'r afon i gadw'r gelyn rhag dinistrio eu cartrefi clyd.

Nid oedd yr hin yn oer fel arferol, ac nid oedd chwa o wynt yn cynhyrfu mân donnau'r afon, nac yn sibrwd ym mrig y coed: y wybren lâs ddigwmwl wedi troi yn un cwmwl mawr caddugawl. Ni welwyd haul y dydd na ser y nos am yn agos i bedwar mis. Disgynnai'r gwlaw o ddydd i dydd ac o nos i nos mewn distawrwydd ofnadwy.

Yr oedd hyd yn oed yr anifeiliaid fel pe'n deall fod rhywbeth allan o le; ymgynullent yn yrroedd mawrion ar yr ucheldiroedd gan sgrwtian yn anfoddog yn y gwlybaniaeth oedd mor ddieithr iddynt. Cwynfannai'r defaid yn ddolefus ar y gwastadeddau corsiog mewn hiraeth am ddaear gadarn a chorlannau diddos. A thrwy'r dyffryn i gyd yr oedd pob calon yn curo mewn pryder ac ofn.

Ar y 15fed o Orffennaf, ar nos Sul fythgofiadwy, disgynnodd y dinistr ar y dyffryn tawel gyda rhuthr dychrynllyd, gan ysgubo ymaith mewn ychydig oriau. lafur ac aberth deg mlynedd ar hugain.

Noson ddu, ddiloer, yn nyfnder gaeaf, a'r gwlaw yn dyfal ddisgyn,—carlamai'r bechgyn glew ar eu ceffylau heinyf drwy'r cyfan o dŷ i dŷ, ac o bentref i bentref, a'r un oedd y gri ymhob man, "Ffowch am eich einioes, mae'r dwr yn dod!"

Y tadau a frysient i'r caeau i gyrchu'r ceffylau i'w dodi yn y wagen, a'r mamau dychrynedig a godent eu rhai bychain o'u cwrlid clyd, cynnes, gan frysio i'w dilladu oreu y gallent; y gwyr ieuainc a'r gwyryfon gasglent ynghyd y daoedd i'w gyrru tua'r bryniau, rhag eu colli yn y dyfroedd. Ond pwy all ddesgrifio y mudo rhyfedd hwnnw? Dim. ond chwarter awr o rybudd a geffid yn aml, a rhaid oedd ceisio gofalu am ymborth a dillad i gadw newyn ac oerni draw; ond yn aml iawn, cyn y byddai'r wagen wedi cychwyn, byddai y dwr wedi cyrraedd,—chwip ar y ceffylau ffyddlon, ac yna i ffwrdd am einioes, a'r dwfr diluw fel mynyddau o'u hôl.

Nid hanes un person nac un teulu sydd yma, ond hanes tair mil, yn wŷr, gwragedd, a phlant bychain. Ac i ba le yr oeddynt yn mynd, a sut le oedd eu lloches ? Dim ond y bryniau moelion graeanog gylchynnent y dyffryn, lle nad oedd cysgod coeden na gwrych,—a chofiwch mai nos oedd hi, a'r gwlaw yn dal i dywallt yn ddidosturi ar y ffoaduriaid dychrynedig.

Yr oedd miloedd o anifeiliaid ar y bryniau erbyn hyn hefyd, a phob un yn dweyd ei gwyn yn ei iaith ei hun. Ond uwchlaw'r cyfan clywid swn y dinistrydd; rhuai fel llew ysglyfaethus ar ei daith drwy'r goedwig. Clywid y tai yn syrthio o un i un, a phob calon yn gofyn yn ei hing, tybed ai cartref clyd ei pherchen oedd hwnna, ac yn cofio am y mil myrdd creiriau teuluaidd nas gwelid byth mwy.

Ond, drwy drugaredd, nid oedd llawer o amser na hamdden i feddwl; yr oedd yn rhaid trefnu rhyw gysgod i'r gwragedd a'r plant. Ac mewn llawer dull a modd y gwnaed hynny ar hyd a lled y dyffryn yn ystod misoedd y diluw, yn ddigon amrywiol i ysgrifennu llyfr arnynt. Credaf fod trigolion gwledydd newyddion yn fwy cyflym eu hamgyffrediad gyda phethau y bywyd beunyddiol;hes dyfeisiant bob math o bethau i ddod allan o ddyryswch neu benbleth: mae'r lanci dyfeisgar wedi profi hynny y distraction tuhwnt i amheuaeth erbyn heddyw.

Wele'r Wladfa bellach yn pabellu ar ben y bryniau, ac yn disgwyl am y wawr, ac ni fu gwylwyr mwy pryderus ar gaerau unrhyw wersyllfa erioed. Yr oeddynt yn dyheu am y wawr, ac eto yn ei hofni ag ofn mawr iawn. Fel pe mewn gwawd, fe gododd yr haul yn ei holl ogoniant arferol y bore cyntaf yma, ynte ai fel cennad hedd a gobaith y daeth? canys diau i'w belydrau siriol fod yn nerth i lawer calon ysig yn y dydd du hwnnw.

'Rwy'n digalonni wrth feddwl tynnu'r darlun, ddarllenydd tirion: mae mor amhosibl ei sylweddoli ond i'r rhai fu'n dystion mud o'r trueni. Ond nid llawer o ddim. ond dwr oedd i'w weled yn ystod dyddiau cyntaf y lli: cyrhaeddai o fryniau i fryniau, heb son am afon na chamlas, na thai na thiroedd, d'm ond brig y llwyni coed yma ac acw fel mân ynysoedd ynghanol y môr. Dadleuai'r plant a'u gilydd er ceisio penderfynu lle y dylasai eu cartrefi fod: byddai ambell dŷ cadarnach na'r cyffredin wedi sefyll hwyrach, a dim ond y tô a'r simneiau yn y golwg.

Pe daethai estron i ben y bryniau ar ddamwain, hawdd fuasai iddo ddychmygu mai bau mawr oedd y dyffryn, yn llawn o gychod pysgota, canys yr oedd yno lawer iawn o bethau yn nofio ar wyneb y dwr; ymddanghosent o bell fel cychod, ond pan elid i lawr i'r pentref agosaf, sef y Gaiman, lle nad oedd y dyffryn onid rhyw ddwy filltir o led o fryn i fryn, ceid eglurhad buan a thrist ar y cychod. Yr oedd pont fawr gref yn croesi'r afon yn y Gaiman, ac yn ystod dyddiau cyntaf y lli cedwid cwmni o ddynion ar y bont ddydd a nos, rhag fod y teisi gwenith, a'r teisi gwair, a'r dodrefn, a'r celfi amaethu, ddeuent yn llu gyda'r dwr yn ei blocio a'i hysigo. Ie, dyna oedd y cychod-holl gynnwys y cartrefi clyd yn mynd tua'r môr.

Ffoasai ugeiniau o deuluoedd i'r Gaiman gan feddwl fod pentref ar y llethr felly yn berffaith ddiogel, a dyna oedd syniad y pentrefwyr hefyd, canys nid oeddynt yn cyffro fawr i symud, ond yn gwneud eu goreu i gynorthwyo eu cyfeillion anffodus.

Ond ar hanner nos y bu gwaedd!—Wele mae'r dyfroedd yn dyfod! a bu'r dychryn a'r rhuthr mor fawr nes yr aeth yn ddyryswch difrifol, pawb yn ffoi heb geisio achub dim; ond cofiwch mor gul oedd y dyffryn fan hyn, a'r dwr wedi bod yn cronni am ddyddiau, a phan dorrodd, yr oedd fel y Bay of Biscay mewn storm. Cyn pen hanner awr nid oedd ond rhyw hanner dwsin o dai yn sefyll yn y pentref i gyd. Ysgubfa ofnadwy oedd honno, ond cawn weled ei gwaith eto wrth fyned ar i lawr.

Oni bae fod acen y Gymraeg i'w chlywed wrth deithio ar hyd y bryniau, gallesid tybio fod llwythi lawer o hen frodorion y wlad wedi dod ar ymweliad ac yn pabellu ar yr ucheldiroedd, canys dyna oedd i'w weled ar hyd y triugain milltir, pebyll o bob lliw a llun—gwagenni a cherbydau, corlarrau wedi eu gwneud o ddrain y peith, prairie lle 'roedd y merched a'r plant yn godro'r da, a'r dynion yn dal eu ceffylau ac yn corlarru'r defaid y nos. Canys nid pobl i blethu dwylaw mewn anobaith a dweyd fod y byd ar ben yw Cymry Patagonia, ond pobl wedi wynebu llawer storm, ac wedi dysgu gwreud y goreu o'r. gwaethaf.

Wedi teithio ryw 30 milltir ar i lawr o ben uchaf y dyffryn, deuir i Drelew, prif bentref masnachol y Gamwy, a therfyn ein rheilffordd fechan; a dyna'r unig fan drwy y dyffryn a achubwyd rhag y dinistr, a thrugaredd fawr oedd hynny.

Ar hyd y ffordd arferol nid oes ond rhyw naw milltir rhwng Trelew a Rawson, prif dref y Diriogaeth, ac eisteddfa'r Rhaglawiaeth: ond i fyned yno ym misoedd y lli Thaid oedd teithio dros y paith anial am ddeg milltir ar hugain, ac wedi cyrraedd yno, dyna olygfa druanaidd a geffid.

Dyma oedd Canan yr hen Wladfawyr 35 mlynedd yn ol: yma y dechreuasant sylweddoli rhai o ddyheadau a breuddwydion eu bywyd; yma yr adeiladasant eu bythynnod cyntaf o dywyrch a gwellt, a'u toi à brwyn a helyg, gan dorri'r coed a chasglu'r brwyn, a dewis eu tiroedd heb ofyn caniatad i neb pwy bynnag.

grab Yma y gwelsant yr Indiaid gyntaf: mintai fawr o honynt yn cyrraedd ryw nawn-gwaith tawel, a golwg wyllt, beryglus arnynt gyda'u gwisg groen a'u gwallt du hir, a'u meirch nwyfus wedi eu gwisgo mor orwych gyda charpedau amryliw, a ffrwyni a gwrthaflau arian yn fflachio ym mhelydrau'r haul. Bu dychryn mawr yn y gwersyll bychan gwledfaol y dydd hwnnw; anawdd gwybod syndod pwy oedd fwyaf, eiddo'r Indiaid wrth weled cymaint o bobl wynion, ynte eiddo'r Cymry wrth weled cymaint o bobl felyn. Ond dydd gwyn iawn fu yn hanes y Wladfa, er hynny,-dydd ffurfio cyfeillgarwch rhwng yr Indiad a'r Cymro bery'n bur mi obeithiaf tra bo brodor yn troedio'r peithdir.

Eithr ymhell cyn blwyddyn y lli, mudasai y Cymry o un i un i'w ffermydd ar hyd a lled y dyffryn, gan adael yr hen gartref cyntefig i fynd yn eiddo'r Hispaeniaid a'r Italiaid. Yr oedd wedi tyfu yn dref weddol lewyrchus, a channoedd o dai heirdd ynddi, a chan ei bod wedi ei hadeiladu ar lan yr afon, yr oedd perllannau a gerddi hyfryd o'i chylch ymhob man. Cyrhaeddodd y dwr i Rawson tua'r 22ain o Orffennaf; yr oedd wedi cael wythnos o amser i gasglu ei nerthoedd ynghyd, a rhuthrodd ar y dref fel bwystfil theibus ar ci ysglyfaeth. Yr oedd yn noson ystormus, ddrycinog; chwythai'r gwynt yn ei anterth, dylifai'r gwlaw yn ddi- drugaredd, rhuai'r dwr fel taranau, clywid swn y tai yn cwympo o un i un fel swn magnelau lawer, fel erbyn toriad gwawr nid oedd mur yn sefyll ar yr holl wastadedd, od dim ond temenni o falurion.

Gan fod yn y dref lawer o fásnachdai, bu'r golled yn ddinistriol iawn i lawer Eidalwr diwyd, canys un prysur iawn yw'r Italian; mae fyny fel ehedydd yn y bore, a phob amser yn canu, ac fel y Cymro, mae ei gân yn wastad yn y cywair lleddí. A pha ryfedd onide? Mor helbulus a thrist yw ei hanes, a chymaint o filoedd o honynt sy'n alltudion o'u gwlad, a'u hiraeth yn angherddol am gael dychwel eto cyn delo'r alwad olaf. Dyhead ac uchelgais pob Eidalwr yw crynhoi digon o arian i fynd yn ol i/o collect Italia i dreulio dyddiau henaint, ac fe synnech gyn lleied sydd yn ei foddloni, canys gall Eidalwr fyw yn hapus a chysurus lle y byddai Cymro neu Sais farw o newyn. Nid yw byth yn digalonni: plentyn yr haul ydyw, ac y mae gwenau'r haul yn wastad er ei wyneb.

Melus cael dweyd, yn swn y storm fel hyn, na ddigalonnodd Cymry'r Gamwy ychwaith, er mor anobeithiol yr olygfa o ben y bryniau moelion. Wedi i'r hen afon ymbwyllo, ac i'r ffurfafen lasu, ac i'r dyffryn adgyfodi o'i ddyfrllyd fedd, yr oedd y Wladfa fel cyniweirfa morgrug. pawb wrthi a'u holl egni yn cario priddfeini a choed, brwyn a helyg, i ben pob bryn, ac yno yn adeiladu bwthyn unnos i lechu hyd doriad gwawr y dyfodol gwell. Ac ni fu eu ffydd yn ofer; mae'r nef yn gwenu heddyw ar blant y tonnau, a grawn aeddfed Ionawr yn gwledda'n helaeth ar waddod y diluw.



PENNOD II.

WEDI'R DILUW

 WYRACH nad anyddorol i'r darllenwyr fyddai cael clywed sut yr ysgrifennwyd yr hyn sy'n dilyn, ac o dan ba amgylchiadau. Hanes pleserdaith i wlad y mynyddoedd ydyw, myfi yn ieuanc a hoew, ac heb wybod fawr ond am ochr euraidd bywyd, yn cychwyn fy nhaith i'r Andes mewn gwynfyd, gan freuddwydio a dychmygu am y rhyfeddodau oedd o fy mlaen; yn treulio fy noson olaf dan gronglwyd roof yr hen gartref urddasol wnaed mor gain a thlws drwy lafur cariad tad a mam,-rhu'r mor yn dod gyda'r el awel gan gasglu miwsig rhwng aflonydd ddail yr aethnen, oplar, murmur yr hen afon a'm suodd i gysgu er yn blentyn, heno eto'n dweyd yr un stori felus.

Canu'n iach fore trannoeth a "chwifio'r cadach gwyn" yn nhro ola'r ffordd. Teithio am fisoedd, crwydro miloedd o filltiroedd ol a blaen,—gweled rhai o olygfeydd godidocaf y byd, cael cip ar fywyd gwell a dyheadau uwch,—a dod 'nol i'r hen gartref i geisio sylweddoli rhai o'r breuddwydion, a hwyrach, wedi gorffwyso ac ymdawelu o flinderon y daith, ddanfon gair tros y don at fy nghydieuenctyd yng Nghymru i ddweyd wrthynt beth. welais yn yr Andes.

Eithr dyn sy'n cynllunio, ond Duw sy'n trefnu." ustafe Cyn rhoi pin ar bapur, cyn dadebru o gyfaredd swynion. yr Andes wen, cyn cydio mewn bywyd fel y darllenaswn ef yng nghysgod y mynyddoedd,—yr oedd cartref fy mebyd yn garnedd o adfeilion, a minnau yn ffoadur di-gysgod a digartref ar lethrau'r bryniau, tra dyffryn tawel y Gamwy, gyda'i ffermdai clyd a'i fân bentrefydd yn orchuddiedig â dwfr, a dim i'w weled ond brig y coed fel mân ynysoedd ynghanol y môr,—y nef fel pe wedi troi cefn ar y fangre fuasai gynt mor llewyrchus; y ffurfafen yn gwgu'n guchiog ac yn dal i dywallt y gwlaw yn ddidrugaredd; tair mil o Gymry digartref yn byw mewn pebyll ar fryniau graeanog y dyffryn, a phopeth oedd anwyl ganddynt wedi ei ysgubo ymaith tua'r môr.

Ychydig iawn o eiriau fyddai'n ddigon i ddesgrifio fy mywyd yn ystod y misoedd dilynol,—mewn cychod, mewn dwfr, mewn llaid, mewn malurion yn chwilota am weddillion; weithiau mewn dillad sychion, yn amlach mewn dillad gwlybion. Gweld y dwr yn cilio, o'r alanas he yn dod i'r golwg, murddyn ar ol murddyn yn ymgodi fel ysbrydion y dyfnder, a'r celfi fuasai gynt yn drysorau teuluaidd yn sglodion ar hyd y dyffryn; y caeau destlus lle gynt yr ymborthai'r dacedd mewn llawnder yn rhychau ac agennau hyllig, a'r brasdir du dyfasai wenith goreu'r byd yn gwreud mân fynyddoedd yng ngwaelod y Werydd, a dim ond y clai melynwyn, gyda gweddillion gwreiddiau y tyfiant rhonc fuasai gynt yn glasu'r dyffryn.

Wedi misoedd o ddisgwyl am ddaear sych a gwenau haul Gwanwyn, daeth yn amser i bawb ymysgwyd o'r tristyd a'r dychryn, a cheisio codi bwthyn unos o'r gweddillion adawyd gan y dyfroedd; minnau fel un o'r llu, aethum gyda'r gweithwyr i'w cynorthwyo yn ol fy rgellu, a chan rad cedd wiw colli amser i deithio ol a blaen bob nos tua'r bryniau, codwyd caban coed i Eluned gael llechu yno dros nos, a gweini ar y gweithwyr liw dydd. Byddant hwy yn flinedig ar fachlud haul wedi bod mor ddiwyd drwy wres y dydd, a thaena cwsg ei martell yn dyner trostynt hyd doriad gwawr drannoeth.

Llechwn i yn fy nghaban coed, a chwibianai'r gwynt ei leddf hwiangerdd drwy'r tyllau a'r rhigolau oedd yn yr estyll. Yn y gongl fwyaf cysgodol yr oedd gennyf ford gron a channwyll wêr mewn canhwyllbren welsai ddyddiau gwell. Yr oedd hen foncyff helyg yn gwneud eisteddle burion; fy unig ofid oedd fod y gwynt braidd yn hyf ar fy nhipyn cannwyll, ac yn fy ngorfodi i wastraffu matches, a rheiny'n brin ac yn anawdd eu cael.

Nid yw'r darlun yn ddeniadol iawn, a yw, i oes sydd yn glythu mewn moethau? Ond treuliais rai o oriau dedwyddaf fy mywyd yn y gell gyfyng honno-oriau euraidd wnaeth i mi anghofio'r tristyd a'r trueni, y tlodi a'r caledi oedd o fy mlaen. Diolch nad oes gell all gadw enaid,— -tra'm pabell bridd rhwng muriau coed, chedai fy enaid mewn gorfoledd ar frigau gwyn yr Andes, a drachtiai yn helaeth o ysbryd y mynyddoedd, heb gofio dim am flinder corff ra'r dyfodol tywyll oedd yn hylldremu o ganol cors arobaith fy nghartref adfeiliedig. Sugnwn nerth a gobaith wrth syllu ar Orsedd y Cwmwl; mae'r Orsedd yn ddigon gwyn i gymylau'r nef ddisgyn yn esmwyth arni i orffwys ennyd cyn tywallt eu bendithion ar ddaear sychedig. Ac fel yna, o nos i nos, yng ngoleu gwan fy nghannwyll wêr, a rhwng bregus furiau fy mwthyn coed, yn nistaw- rwydd nos y paith, y cefais fy nghip, mewn adgof, ar Gopa'r Andes.


PENNOD 111.

Y CYCHWYN

 AE llawer yn son am yr Andes fel y byddai hen emynwyr Cymru yn son am "India ac aur Peru"—trwy ddychymyg. Dychmygais innau lawer er yn blentyn am fynyddoedd mawr Deheudir America, a hiraeth lond fy nghalon am gael syllu â'm llygaid fy hun ar eu holl fawredd a'u gogoniant. Llawer mae calon dyn yn ddymuno mewn oes, onide? Ac O, mor ychydig o'r dymuniadau hynny sydd yn cael eu sylweddoli! Ond fe geir ambell un yn ei holl felusder a'i wynfyd, a theimlwn fod yr un hwnnw yn gwneud i fyny am lu o siomedigaethau. Felly finnau gyda'r daith i'r Andes: breuddwyd wedi ei sylweddoli yn ei berffeithrwydd fu y darn yma o'm hanes.

Ond pan yn meddwl am y testyn sy genryf i draethu arno, fel y dyhea fy enaid am iaith a thalent wneud cyfiawnder âg ef! Eithr hyd nes y daw rhyw freuddwydiwr i gerdded yr un llwybrau a mi ac i ddanfon ei weledigaethau fel cenhadon y wawr, rhaid i Gymry ieuainc Gwalia geisio ymfoddloni ar ddarlun carbwl a thruenus o amherffaith.

Ond ofni yr oeddwn y buasai'r Andes wedi ymwareiddio llawer cyn y delai'r Gweledydd, ac yna collasid am byth hanes yr hen fynyddoedd godidog fel yr oeddynt yn y dechreuad. Y syniad yna yn unig a'm synbylodd i gychwyn ar orchwyl mor anhraethol uwchlaw'm galluoedd, y dyhead angherddol am i Gymru gael rhan, pe ond gronyn eiddil, o'r gwynfyd deimlais i wrth deithio'r anialdiroedd distaw, glân, a gwylio'r haul yn gwisgo'r peithdir â mantell o dân, a'r lloer yn ei goroni âg arian; a chael syllu ar fynyddoedd a rhaeadrau a llynnoedd a choedwigoedd na fu nemawr i lygad dynol yn gorffwys arnynt erioed.

Mi debygaf fod mannau fel hyn yn brin yn ein byd erbyn heddyw. Mae cenhedloedd y ddaear yn cyniwair ac yn dylifo i bob mangre ddistaw, gysegredig, gan k chwalu'r tlysni a'r swyn â dwylaw halog y byd; mae'r blodyn gwyllt fu'n gwasgar ei berarogl ar allor ei Luniwr, yn colli ei wenau ac yn marw o dor calon am ei lu anwyliaid sy'n sathría dan draed; mae'r ednod amryliw eu plu fu'n ymbincio yng nglesni'r dwr, ac yn hyfforddi eu rhai

bychain yn ddiofn, a'r côr asgellog fu'n llanw'r coedwigoedd â'u mawl—maent oll yn ffoi mewn dychryn pan

ddelo'r hwn a luniwyd ar ddelw'r nef i feddiannu eu hetifeddiaeth!

Nid wyf fi elyn i wareiddiad, ond O! y trueni fod yn rhaid aberthu cymaint er ei fwyn, eithr a yw y rheidiau hyn i gyd yn gyfiawn? Ymddengys i mi weithiau ein bod yn colli pethau gwell wrth geisio am yr ymwareiddiad yma. Pan oedd Cymru'n wledig, syml a thawel, y gwnaeth ei gwaith goreu; nid yw tyrru i'r dinasoedd a'r pentrefydd wedi gwella dim ar hen wlad ein tadau yn ystyr goreu'r gair. Mae'n rhaid i bob enaid cryf wrth dawelwch ac unigedd i wynebu ei fywyd a dewis ei frenin.

Mae yna gyfnod unig ymhob bywyd arwrol, nid unig- edd yr anial a'r mynydd bob amser hwyrach: gall fod yn unigedd rhwng muriau'r carchardy, neu eiddo'r alltud ymhell o'i fro, ond mae yno dawelwch i ddwysfyfyrio ac i gasglu nerth ysbrydol, ac ennill buddugoliaethau a'u galluoga i adael y byd yn well ac yn burach nag y cafwyd ef. Oni bydd hyn yn amcan a nôd pob bywyd, yn ofer ac am ddim y llafurir.

Maddeued y mwyn ddarllenydd i mi am grwydro -oddiwrth fy ngwers. 'Rwy'n addaw mynd yn syth at fy ngwaith yn awr, a chychwyn i'r Andes ar fy union ar gefn fy march gwyn, a theithio cyn dod adre'n ol ryw 2500 o filltiroedd, a gweled rhai o olygfeydd mwyaf godidog y byd.

'Rwyf wedi bod yn ceisio dweyd wrthych o'r blaen y fath le yw'r Wladfa Gymreig. Ond pe bawn yn dweyd. ar hyd fy oes, fyddech chwi fawr doethach, gan ei fod yn berffaith amhosibl i chwi ddychmygu am le mor anhebyg i ddim welsoch erioed. Ond fe gymeraf yn ganiataol eich bod yn cofio prif ffeithiau sefydliad y Wladfa ar y Gamwy, canys y mae'n rhaid i ni'n awr adael y dyffryn. hwnnw o'n hol, a theithio 400 milltir drwy anialdiroedd difrifol cyn cael cip ar gyrrau'r Andes.

Y mae man uchaf y dyffryn yn wersyllfa gyffredinol gan y rhai sydd yn cychwyn tua'r Andes; bydd yno lawer o wagenni gyda'u gilydd weithiau. Felly y bu pan oedd— ym ninnau yn cychwyn—yr oedd yno ddeg o wagenni, a chwe' cheffyl ymhob un.

Deuparth gwaith yw dechreu"—a deuparth taith yw cychwyn hefyd. Mae pob peth yn mynd yn hwyliog ar ol cychwyn iawn. Gelwir y wersyllfa gyntaf yn Ffos. Halen," a bydd yno gynhulliad mawr yn ystod misoedd yr haf; yno y mae pawb yn taclu ei wagen yn gryno, ac yn diosg ei wisg glasurol, wareiddiedig, ac yn gwisgo am. dano yn wreiddiol Batagonaidd, neu, mewn geiriau ereill, yn ei addasu ei hun i'r daith. Mae ambell i gyfnewidiad yn chwerthinllyd i'r eithaf—adgofiai fi am lawer hysbysiad Saesneg welswn mewn newydduron a misolion—" Before and after." Er fod yn y Ffos Halen lawer o wagenni, nid oedd yn ein cwmmi arbennig ni ond un wagen a phump— o bersonau,—y Bonwr Rhys Tomos yn gofalu am y wagen, Caradog yn gyrru'r ceffylau, a Mair (merch Rhys Tomos) a ninnau ar bob i geffyl.

Wrth edrych dros fy nyddlyfr gwelaf y nodiad canlynol am y Ffos Halen:"Tachwedd 25ain. Cyrraedd hyd yma tua 2 o'r gloch, y marchogwyr ar newynnu, a'r wagenni a'r bwyd mor hir yn dod, ond wedi iddynt gyrraedd, hei ati i wneud tân a hel y gêr coginio o bob cyfeiriad.—Cael cwpaned o de ardderchog a thafelli o fara ymenyn teilwng o unrhyw was ffarm, a welsoch chi erioed mor felus oeddynt."

Llawer gwigwyl (neu picnic ys dywed Dic Shon Dafydd) gynhelir yng Nghymru yn ystod misoedd yr haf, a hwyrach fod rhai o'm darllenwyr yn meddwl mai rhywbeth felly oedd y pryd bwyd hwnnw yn y Ffos Halen,—y llian claerwyn a'r llestri tsheni a phob danteithion, a'r boneddigesau yn ymgystadlu â'r blodau yn eu gwisgoedd amryliw, a'r goedwig yn moesgrymu'n wylaidd, gan daenu ei chysgod gwyrddlas dros y cyfan. Na, nid fel yna y teithir anialdiroedd Patagonia. 'Doedd dim coeden yn cysgodi rhag gwres haul canol haf, pridd llwyd y Wladfa yn cymeryd lle y llian claerwyn, a phawb a'i gwpan dun yn mwynhau ei de wedi ei wneud yn y tegell.

Yr oedd Mair a minnau wedi ein breintio â chysgod pabell i lechu'r nos, a mawr yr helynt y noson gyntaf yn gosod honno i fyny, a ninnau'n dysgu sut i droi ynddi heb ddod i wrthdarawiad. Erbyn i ni gael trefn ar bethau, a cherdded o gwmpas i ystwytho tipyn ar ein cymalau blinedig, yr oedd yr haul ar fynd i lawr, a ninnau'n barod i'n swper. Yr oedd y cawl wedi bod yn berwi'n soup ddyíal, a dyna bawb i 'mofyn ei blat tun a'i lwy haearn, ac eistedd yn gylch, a gosod y crochon cawl yn y canol, a phawb i'w helpu ei hun. "How vulgar!" meddai ambell fonhesig fursenaidd.

Ond—gwelwch draw yng nghyfeiriad y Dwyrain. Beth sydd yn gwneud i bawb dewi'n sydyn, gan syllu mewn edmygedd mud? Mae'r haul wedi ffarwelio hyd doriad gwawr yfory; ond wedi gadael ei gysgod megys yn ernes o'i ail ddyfodiad. Mae'r wlad fawr wastad yn ymagor o'n blaenau, a'r hen afon Camwy yn ymdroelli ac yn ho too ymddolennu ar ei thaith tua'r môr, ac wele'n codi megys o eigion y môr hwnnw yr hyn ymddengys fel pelen o dan ysol; mae'n symud yn raddol, raddol, ond mor ofnadwy ddistaw yw ei holl symudiadau, mae'n gwneud i'r rhai sy'n syllu ddal eu hanadl nid mewn braw, ond mewn rhyw barch a chysegredigrwydd nas esbonir mewn geiriau.

Ond wele frenhines y nos wedi esgyn i'w gorsedd, ac mae'n edrych yn ogoneddus, a holl lu'r wybren yn brysio i dalu teyrnged iddi; a ninnau, y cwmni bychan ar ganol y paith mawr unig, yn methu peidio codi ein llef mewn cân o fawl i Grewr y cyfan.

Gorffwys yn gynnar yw y rheol ar y paith, a buan yr oedd pawb wedi taclu ei orffwysfan, y dynion yn nghysgod y llwyni drain, a ninnau ein dwy yn y babell. Nid oes eisieu goleuni trydanol ar beithdiroedd Patagonia; mae yna oleudy mawr i fyny fry, ac mae'r gwyliwr ar y tŵr wedi trimio ei lamp a gloewi ei wydr mor dda fel na buasai goleu trydanol (y darganfyddiad mawr diweddaraf) ond megys cannwyll frwyn wrth ei ochr.

Distawrwydd y paith yn y nos,—pwy all fynegi am. dano na'i egluro? Peth i'w deimlo ydyw, ac nid i ysgrifennu na siarad am dano. Anawdd peidio breuddwydio aml i freuddwyd tlws wrth syllu ar y wybren serliog uwch ben, a theimlo ei bod mor ddistaw fel os gwrandawn yn astud y daw i ni ryw genadwri o arall fyd.

Llawer ddychmygais wrth syllu a gwrando felly—fath le oedd "tuhwnt i'r llen" ddisglaer yna? Beth oedd fy hen gyfeillion aethent adre o'm blaen yn wneud? Hoffwn gredu fod yr ysgol welsai Jacob gynt wedi ei gosod yn ein gwersyll bychan ninnau, ac fod yna wylwyr tyner yn esgyn ac yn disgyn ar hyd-ddi rhag digwydd i ni niwaid.

Yn swn murmur yr hen afon a chyfarthiad ambell lwynog ddaethai o'i ffau i geisio ysglyfaeth, a chwhwfan dolefus ambell golomen, buan y taena cwsg ei fantell dros y teithiwr blin; a chwsg melus, iachus, yw; mae'n rhoi ynni ac ysbrydiaeth newydd i bawb a'i mwynhao.

Ond daw terfyn, rhy fuan gan rai o honom, i'r cyntun hyfryd hwn pan fydd y cantwr llwyd yn dechreu trimio ei edyn a chymeryd ei gyweirnod, a'r hwyaid gwylltion yn cael eu trochfa foreuol, daw gwaedd o gysgod y llwyn—"All hands on deck, mae'r tegell wedi berwi a'r ceffylau yn dod i mewn." Nid gwiw oedd anufuddhau i'r waedd, canys gwyddem mai'r gosb am anufudd-dod fyddai dymchwel y babell. Deg munud fan bellaf yw'r amser ganiateir i ymwisgo, a rhaid gofalu fod y cwrlid wedi ei raffu'n gryno yn barod i'w roi yn y wagen. Gwiriem yr hen air bob bore,—"Cyfod i fyny dy wely a rhodia."

Mwynheir y boreufwyd yn wastad ar y paith; nid oes yno neb a'i lygaid yn bwl, ac yn pigo ei fwyd fel aderyn; mae mor hyfryd ar doriad gwawr hefyd, cyn gwres a lludded y dydd, pawb yn llawen ac yn prysur gynllunio taith y dydd. Os bydd pethau'n dod yn hwylus, byddys yn barod i gychwyn ar godiad haul.

Mae clywed cyfarthiad y llwyrog o bell yn burion, ac yn atodi at swn y paith yn y nos, ond os daw yn ymwelydd agos, bydd yno wagder mawr yn y gwersyll fore trannoeth. Caem gyfle ar hwyaden neu wydd wyllt weithiau yn ystod y daith, ac wedi noswylio a thorri newyn, byddem yn prysur bluo'r ysbail yng ngoleu siriol tân y gwersyll, gan ganu a dweyd straeon, a phenderfynu drwy dugel pwy gai rostio'r wydd ar doriad gwawr drannoeth; ond Ow'r siomiant chwerw am! fore! er pob dyfais i guddio'r trysor, byddai greddi y cadno wedi ein rhagflaenu, a Madyn wedi cael swper wrth fodd ei galon. Yr oedd colli brecwast flasus yn beth digon diflas, ond cofio am y dyfal bluo wnae'r golled mor chwerw.

Wel, dyma ni'n cychwyn o'r wersyllfa gyntaf, gan adael y dyffryn o'n holau, ac wynebu ar y paith anial a sych. Bydd llawer tro ar fyd cyn y delom yn ol i olwg hen ddyffryn ein mabwysiad: bydd yna bennod newydd wedi ei hysgrifennu yn llyfr ein bywyd. Rhyw deimlad o hiraeth ddaeth trosom er gwaethaf pob cywreinrwydd beth fyddai ein hanes ymlaen yna yn y diffeithdiroedd dieithr; beth fyddai hanes cartref pan ddychwelem—a fyddai pawb yno?—a gollem ni ambell i wyneb oedd yn blethedig â dyddiau ein plentyndod?

Codwn o'r dyffryndir i'r peithdir dreiniog, gan droi yn ol yn ddistaw—ddirgel i gael un gipdrem ar yr hen afon sydd yn pasio drws ein cartref. Yr oedd yr hen afon wedi bod yn ymblethedig â'm holl fywyd; yr oeddwn wedi'm suo i gysgu bob nos ym miwsig ei dyfroedd; gwelais y wawr yn troi ei dwr llwydaidd fel enfys brynhawn, a'r "lloer yn ariannu'r lli" nes gwneud drych gogoneddus i'r wybren serliog uwchben; gwelais eira'r Andes wedi rhewi ar ei bron, a gwres haul canol dydd yn datod y cwlwm rhewllyd, a'r mân fynyddoedd yn mynd fel llynges fuddugoliaethus tua'r Werydd. Wrth yr hen afon y dywedwn fy holl gwynion 'a'm cyfrinion: ar ei glan y cefais rai o freuddwydion melusaf fy mywyd, ac wrth wylio'r pysgod yn ymbrancio ar fachlud haul y dechreuais holi am ryfeddodau'r dyfrder, ac wrth wrando ar iaith natur yn y nos y deuthum i edrych ar bob deilen gain a phob blodeuyn pèr fel hen gyfeillion. Daeth tymhorau'r flwyddyn yn fil mwy dyddorol na'r un llyfr a ysgrifennwyd erioed.

Felly, nid rhyfedd ein bod yn tristâu—canys plant Gamwy oeddym i gyd—wrth fferwelio à hen gyfeillion mor gu, a diau i aml saeth—weddi esgyn tua'r orsedd wen am nodded nef dros ein Gwladfa, ac arncm ninnau tra ar ein taith i estron fro. A thithau, fwyn ddarllenydd, os teithiaist gyda ni i gwr y daith, tyred bellach i gydsyllu ar bigynnau gwynion yr Andes bell, a'r iâ oesol tan belydrau llachar yr haul fel pe'n adlewyrchu gwlad yr haul tragwyddol.



PENNOD IV.

CROESI'R "HIRDAITH"

 ADEWAIS chwi mewn lle hallt braidd yn y bennod ddiweddaf, canys cychwyn o'r Ffos Halen yr oeddym, a thipyn o hiraeth dirgelaidd yn aflonyddu arnom. Ond unwaith y collwyd golwg ar yr hen afon, yr oedd ein holl fryd a'n dyddordeb yn yr hyn oedd ymlaen.

Taith fer, ddiflas, wnaed y diwrnod cyntaf ar ol gadael yr afon, dim ond drain, drain diddiwedd, nes blino o'r llygaid ar yr unffurfiaeth. Wrth edrych dros fy nyddlyfr gwelaf y nodiad canlynol am y daith-Cyrraedd y Campamento am dri o'r gloch, ac o bob lle diffaith, diflas, gwyntog, anyddorol, dyma frenin y teithiau,—hen fryn graeanog, moel, heb gymaint a chysgod twmpath, ac islaw, yr hen afon i'w gweled yn ymdroelli'n araf dan gysgod yr helyg, a ninnau'n rhostio ac yn sychedig, ond dim modd mynd â'r wagenni i lawr, dim ond danfon y ceffylau a chario y dwfr mewn costrelau at angen y gwersyll. Cafwyd cryn hwyl yn ceisio dodi y babell i fyny ynghanol storm o wynt cethin, a cheisio ymladd am damaid o fwyd â'r cawodydd tywod oedd yn chwyrnellu o'n cwmpas. Ond mi gredaf na chafwyd erioed well blas ar fwyd mewn unrhyw blasdy moethus.

Nid oedd yn y daith drannoeth ddim neilltuol, ond ein bod ni'r marchogwyr wedi mynd gyda'r afon, gan adael y wagenni i fynd dros y paith, ac i gyd-gwrdd ar ddiwedd y dydd. Cawson ambell i le digon peryglus ar y daith hon, ond yr oedd hynny yn atodi at ei swyn.

Tua hanner y ffordd gwelcm fwthyn bugail ar ochr ddeheuol yr afon. Bachgen o Gymro a adwaenem yn dda oedd ei breswylydd. Penderfynwyd os oedd yno rywfath o gwch ein bod yn mynd i groesi. Felly bu,- rhoddwyd gwaedd, adseiniai'r creigiau cylchynnol "Cwch!" Gwelem rywun yn cyrchu tua'r afon, ond nid y Cymro ieuanc a ddisgwylid, ond swp o ddynoliaeth gyn ddued glo Cwm Rhondda. Bu peth petrusder ymha iaith y cyfarchem y gwr dieithr hwn; penderfynwyd ar yr Hispaeneg, a bu lwyddiannus. Nid oedd ein cyfaill gartref, ond yr oedd i ni groesaw i ddod trosodd a chael cwpaned o de.

Sut gwch oedd ganddo? O, wel cwch iawn, dim ond i un dywallt y dwfr allan tra byddai'r llall yn rhwyfo, ac fe elem yn gampus! Rhwng y dyn du a'r tê a'r cwch yr oedd y swyn yn angherddol, a phenderfynwyd yn unfrydol ein bod yn croesi. Erbyn i'r cwch gyrraedd atom yr oedd hanner ei lond o ddwfr, a dyna lle bucm am un ysbaid yn prysur ddihysbyddu, ac yna gosodwyd ri fel rhes o ddefaid, pob un ar ganol y cwch, gyda gorchymyn pendant i beidio symud, un dyn ym mhen ol y cwch gyda'i rwyf, ac un arall yn y pen blaen gyda'i fwced, a dyna ni'n cychwyn. Sut oeddym yn teimlo? Wel, ardderchog; pob gewyn ar ei eithaf dŷn, a phob llygad yn perlio; 'chawsom ni ddim trochfa yn y diwedd, pawb yn glanio'n ddiddos ac yn llawn hwyl a chywreinrwydd.

Ni ddifethaf y bwthyn unig drwy geisio rhoddi desgrifiad o hono. Y peth cyntaf a dynnodd fy sylw oedd helygen werdd yn tyfu y tu ol i'r tŷ, gan estyn ei breichiau wylofus hyd at y trothwy, ac yno yr oedd mainc wreiddiol wedi ei gosod o dan ei chysgod pleserus, ac fe wyddwn yn reddfol mai cornel oedd hwn i'w halogi â mŵg y bibell swynhudol. Collodd yr helygen ei holl farddoniaeth, ac euthum dros y trothwy i ferwi'r tegell, a dyna de bythgofiadwy oedd hwnnw, gyda'r bwrdd a'r llestri mwyaf gwreiddiol allai calon ddynol ddychmygu.

Wrth ganu'n iach â'n cyfaill newydd, yr oedd arnaf fi eisieu rhoddi diolch sylweddol iddo; ond dywedai un o'r cwmni wrthyf mai dyna'r sarhad mwyaf allwn roddi arno; pleser a balchter bugeiliaid y paith yw cadw tŷ agored i bawb a ddel—pennawd i'w gofio wrth basio.

Yr oedd yn nos arnom yn cyrraedd y gwersyll, ac er ein bod wedi blino, eto, yr oedd y daith wedi bod yn ddyddorol a hwyliog. Chwith iawn oedd dod yn ol i'r te drain a'r sychter ar ol bod yn mwynhau ireidd-der glannau'r afon. Yr oedd yn ddiwrnod gorffwys drwy y dydd drannoeth, gan mai teithio'r nos oedd y rhaglen nesaf felly, nid oedd angen ysgwyd o'r nyth mor bylgeiniol. Mwynhawyd y boreufwyd gan bawb; dim eisieu rhuthro ymaith i ddal y ceffylau a phacio mewn brys, ond pawb yn ei fwynhau ei hun mewn tangnefedd.

Pan oedd yr haul yn machlud yn y Gorllewin draw yr oedd pob wagen yn barod. Trwy ein bod yn teithio'r nos, penderfynodd fy nghyfeilles a minnau mai gwell fuasai swatio yn y wagen, ac felly paciwyd ni ynghanol y celfi fel dwy sach wlan, a chyn ein bod hanner y ffordd yr oeddym yn edifarhau mewn sachlian a lludw i ni erioed roddi troed yn yr hen wagen ysgytiol. Yr oedd yn noson lawn lloer, ac O! yr oedd yn hyfryd teimlo'r awel iraidd ar ol arfer teithio yng ngwres y dydd, Yr oedd y gyr ceffylau wedi mynd ymlaen, a chlywem swn y clychau yn dod gyda'r awel. Weithiau disgynrai'r marchogwyr i wneud tanllwyth o dân i ymdwymo a gorfiwys. Ond ymlaen yr elem yn ddyfal, ddyfal, ar hyd cydol y nos, môr o ddrain o'n cwmpas am filltiroedd lawer, a'r mil myrdd sêr yn gwenu'n siriol arnom. Ond heriaf unrhyw fardd dan haul na lloer i gyfansoddi llinell o farddoniaeth tra'n teithio mewn wagen ar draws "hirdaith Edwyn," er ei bod yn llawn lloer a natur yn ei holl hudoliaeth o'i hamgylch.

Pan gaem ambell ddarn gwastad o ffordd byddem yn dechreu ymgysuro y caem gyntun bach i anghofio ein holl ofidiau; ond pan fyddai hi bron dod, teimlem ein hunain yn dechreu dyrchafu yn y byd a bron mynd i hedeg, a'n cwymp a fyddai mawr.

Pam y gwneir y daith arbennig hon yn y nos? Am mai hirdaith ddiddwfr ydyw, chweneg (60) milltir o grasdir sych heb ddyferyn o ddwfr i dorri syched dyn nac anifail; ac er teithio'r nos, bydd yr anifeiliaid druain yn dioddef llawer cyn cyrraedd pen y daith. Erbyn pedwar y boreu yr oeddym wedi cyrraedd pen yr hafn oedd yn disgyn i'r afon, a chan fod honno yn faith a thrafferthus i'w theithio, penderfynwyd cael byrbryd i geisio deffro ac ymadnewyddu. Ond yn wir, yn wir, bu yn helynt difrifol ar Mair a minnau i symud o'r wagen fythgofiadwy: nid oedd cymal o'n corffyn tlawd nad oedd yn gleisiau difrifol, a phe buaswn fardd, rhyfedd os na wnaethwn duchangerdd i'r wagen arbennig honno.

Pan oedd y wawr ar dorri yr oeddym yn disgyn o'r peithdir uchel drwy hafnau mawr oedd yn arwain yn raddol tua'r afon. Gwyn fyd na allwn ddesgrifio lliw'r wawr ar y creigiau fel yr araf deithiem drwy'r hafnau. Mae ffurf y creigiau hyn yn gywrain iawn, ac y maent yn amrywio llawer yn eu lliw a'u hansawdd,—rhai fel gwyrdd y môr, ereill yn rhuddgoch fel codiad haul, rhai yn ddu fel glo'r Rhondda, ereill mor wyn a'r iâ oesol. Yn yr agennau tŷf y drain amryliw eu blodau, a'r wawr yn lledu yn dyner—ddistaw ar yr olygfa.

Eiriolais ar i'r wagen aros ac i'r gyr ceffylau ymdawelu; teimlwn fod y fangre yn gysegredig, ac O! fel yr oedd y darlun yn newid bob eiliad nes yr oedd y llygaid dynol eiddil yn dallu wrth syllu arno; yr oedd ysbryd y wawr wedi disgyn arnom oll, a safem yn fud, ac yn fwy gwylaidd nag y buasem erioed o'r blaen. Or tra mewn rhyw hanner lesmair fel hyn, wele'r haul, megys ag un naid yn entrych y nen, ac yn fflachio ei oleu dros ein byd nes newid yr olygfa yn gyfangwbl.

Wedi bod yn troelli ac yn disgyn am ysbaid dwy awr, clywem floedd ymlaen-" Yr afon gerllaw." Mae'n anawdd iawn gennyf beidio credu nad oedd yr hen geffylau blinedig yn deall y frawddeg yna i'r dim, canys nid oedd modd eu hatal ar ol hyn, ymlaen yr elent dros greigiau a thrwy ffosydd, nes o'r bron y cyrhaeddodd ein tipyn esgyrn yn gyfain; ond O! mor wynfydedig oedd cael golwg ar yr hen afon anwyl gyda'i digonedd dwfr. Golygfa i'w chofio oedd gweled y gyr ceffylau wedi carlamu ymlaen, ac wedi rhuthro i ganol yr afon, a dyna lle'r oeddynt yn gweryru ac yn prancio o wir fwyniant. Rhyfedd drefn yr hen fyd yma onide? I'r hwn a fedd leiaf o angen y rhoddir fwyaf y rhan amlaf; y gweithwyr dyfal oedd wedi tynnu'r wagenni llwythog ar hyd 60 milltir o grasdir diffaith, oedd a mwyaf o angen dwfr, a hwy oedd yn ei haeddu fwyaf hefyd, ond yr oedd y segurwyr wedi cael eu gwala a'u gweddill ymhell o'u blaenau.

Cyn pen hanner awr ar ol cyrraedd yr afon, yr oedd pawb yn chwyrnu cysgu, a miwsig y dyfroedd fel hwiangerdd i'n suo.

Tua deg o'r gloch, pawb yn treio sgrwtian codi, ond yn edrych yn ddigon llipa; ond rhaid oedd codi i geisio limp paratoi ychydig enllyn er cadw corff ac enaid ynghyd. Ond erbyn hyn yr oedd y gwynt yn anterth ei gynddaredd, a'r cawodydd tywod mor boeth-ddeifiol nes gyrru pawb ar ffo i chwilio am loches; diwrnod o ddiflasdod perffaith, pawb o'i hwyl, a dim yn dod yn iawn; disgwyl

yn hiraethus am fachludiad haul er oeri ac ireiddio o'r awel.

Gresyn na ellid danfon darlun cywir i chwi o'n pabell a'n cwrlid ar ddiwedd y dydd rhyfedd hwnnw, ond un gair a roddai bortread pur agos hefyd-TYWOD ar dywod, a thywod ar ben hynny wedyn. Ond unwaith yr aeth yr haul i'w wely, yr oedd y gwersyll fel cyrchfa ddyllhuanod, pawb yn brysur a bywiog yn gwneud rhyw fath o drefn ar yr anhrefn.

Bore drannoeth, ar doriad gwawr (cyn codi o'r gwynt), dechreuwyd croesi'r wagenni i'r ochr ddeheuol i'r afon, ac nid rhyw orchwyl rhwydd oedd hynny. Un cwch bychan digon bregus oedd yna, ac wyth o wagenni llwythog yn disgwyl am groesi. Rhaid oedd dadlwytho, ac yna datod y wagenni yn ddarnau, a'u croesi bob yn rhan. Gwaith araf, helbulus, yw hwn; ond nid oes angen ei wneud ond ar rai adegau o'r flwyddyn, pan fo'r afon yn rhy uchel i'w rhydio.


PENNOD V.

LLE'R BEDDAU

 NGHANOL dwndwr a helynt y croesi, cefais egwyl fechan i orffwys a syllu o'm cwmpas. Yr oeddym wedi croesi i'r ochr ddeheuol am na allem ddilyn yr afon ymhellach ar yr ochr ogleddol, ac wrth edrych ar y clogwyni ysgythrog a'r hafnau dyfnion, cofiais yn sydyn fod yna un o hanesion pruddaf y Wladfa yn gysylltiedig â'r fangre unig honno.

Nid oeddwn i ond ieuanc iawn pan ddigwyddodd y gyflafan yn Lle'r Beddau, ond mae'r cyfan yn boenus o fyw yn fy nghalon o hyd.

Aethai pedwar o Wladfawyr ieuainc am wib i weld y wlad. Yr oeddynt yn llawn o ysbryd anturiaethus, ac awydd angherddol am gael gwybod beth oedd yn yr eangderau mawr, distaw, a'u cylchynnent ar bob llaw. Yr oeddynt wedi clywed am yr Andes o bell, a breuddwydient fod yno aur ac arian a rhyfeddodau anhygoel. A rhyw fore o wanwyn, pan oedd natur yn gwenu ar drothwy ei bywyd newydd, wele'r pedwar llanc yn cychwyn ar eu taith ymchwiliadol. Yr oedd un yn blentyn y paith, a dyrus lwybrau'r hen frodorion yn gyfarwydd iddo: y lleill yn feibion Cymru fynyddig, wedi arfer dilyn mân lwybrau'r praidd ar hyd glâs lethrau a dolydd Gwalia.

Teithiasant fel hyn yn ddiddig-ddiddan o ddydd i ddydd ac o wythnos i wythnos, gan weled rhyfeddodau di-ben-draw, a gwneud llu o gestyll gwych,—sut yr oedd i fod yn y dyfodol. Weithiau dilynent yr afon dros greigiau serth, danheddog, dringent fel geifr, gan beryglu eu bywyd bob munud, ond gwynfydert yn yr ymdeimlad o fod yn ddarganfyddwyr. Bryd arall ffarwelient â'r hen afon, a thorrent allan i'r peithdir diderfyn gyda'i for o ddrain amryliw, a'r miloedd anifeiliaid gwylltion—unig ddeiliaid y deyrnas enfawr hon.

Pa ryfedd fod y pedwar llanc wedi eu llyncu i fyny yn gyfangwbl gan gyfaredd y cylchynion, nad oes eu tebyg ar y ddaear yn ol tystiolaeth rhai o deithwyr enwocaf y byd Pa ryfedd iddynt ymgolli nes anghofio yn llwyr mor unig oeddynt, ac mor bell o bob ymwared dynol, ac fod. milwyr Hispeinig wrth y cannoedd yn cyniwair drwy'r anialdiroedd hyn, nid i hela'r anifeiliaid gwylltion oedd yn anrhaith gyfreithlon iddynt: O na, hela'r Indiaid yr oeddynt hwy, etifeddion y paith er's canrifoedd cyn bod son am Hispaenwr.

Barnai seneddwyr dysgedig yr Argentine mai'r unig ffordd i ddadblygu a gwareiddio Patagonia oedd drwy ddifa'r hen frodorion yn llwyr o'r wlad; a dyna oedd yr ymgyrch fawr hon yn amser y pedwar llanc. Yr oedd yr helfa wedi bod yn ofnadwy, a thriniaeth y milwyr o'r carcharorion mor anhraethol greulon nes y taflai'r hen Indiaid eu hunain wrth y cannoedd o bennau'r mynyddoedd i'r llynnoedd a'r afonydd islaw yn hytrach na syrthio i ddwylaw gelynion mor arswydus. Yr oedd yr ychydig gannoedd lwyddasent i osgoi'r milwyr yn llochesau'r mynyddoedd wedi ymwallgofi gan ofn, a phob cynneddf yn eiddo llwyr i Satan, a dim ond un dyhead yn llanw pob calon, sef dial gwaed eu hanwyliaid. A pha Gymro all eu beio?

Ar un o'u teithiau cwrddodd y Gwladfawyr ieuainc â masnachwr Eidalaidd, yr hwn, heblaw gwerthu iddynt ychydig ddillad (milwrol) a'u perswadiodd i droi'n ol gynted y gallent, gan eu sicrhau nad oedd eu bywydau yn ddiogel funud awr: fod yr hen frodorion wedi eu herlid i wallgofrwydd, ac wedi ymdynghedu i ladd pob dyn gwyn a gyfarfyddent.

Dyrysodd y newydd yma holl gynlluniau a breuddwydion y llanciau; siomedigaeth chwerw oedd gorfod troi tuag adref ar gyrrau gwlad yr addewid fel pe tae; onde gwyddent hwy beth oedd effaith diod y dyn gwyn ar yr hen frodorion syml, ac y byddai eu meddwi ar waed yn filwaith mwy trychinebus. Felly nid gwiw oedd diystyrru rhybudd y masnachwr. Teithiasant yn ddiogel ddydd a nos, gan osgoi a thorri llwybrau fel na ellid eu dilyn. Daethant felly, yn dra blinedig, a'u harfau yn glwm ar y pynnau, hyd at y dyffryn y syllwn arno oddi tros yr afon—y diwrnod yn wyntog a llychwinog iawn; ond wele! fel corwynt, clywent waedd anaearol mintai o frodorion ar eu gwarthaf, llwch ceffylau y rhai gymylai am danynt, gwaewffyn yn ymwibio o'u deutu, rhuthriadau, codymau ac ysgrechau. Yr oedd ceffyl y llanc gwladfaol yn gryf a bywiog, a phan glywodd y waedd ac y teimlodd flaen picell, llamodd yn ei flaen hyd at ffos ddofn, lydan, yr hon a gymerodd âg un naid,—a naid ofnadwy oedd honno. Pan edrychodd y marchogwr drach ei gefn gwelai ddau frodor yn dilyn gan oernadu fel gwylliaid annwn, a thorf wedi ymgronni tua'r fan y goddiweddasai hwynt.

Nid oedd gan y ffoadur bellach ddim i'w wneud ond ceisio dilyn ymlaen i'r Wladfa am ymwared—fwy na 100 milltir o ffordd—heb fod ganddo damaid o fwyd. I mi, a glywodd yr hanes oddiar wefus y ffoadur, mae fel darn o stori o wlad hud, mor amhosibl ac ofnadwy yr ymddengys: ond diau mai'r dychryn a'i cynhaliodd ar y daith fythgofiadwy honno. Mae'r paith o Ddyffryn y Beddau i'r Wladfa y mwyaf anial a diffrwyth yn yr holl wlad, a darnau helaeth o hono yn ddiddwr. Eithr dilynwn y ffoadur unig am ennyd; ond, ys dywedai, ni theimlai'n unig: dychmygai fod holl ellyllon y fall wrth ei sawdl bob cam o'r ffordd, a chred yn ddiysgog, a chredaf finnau hefyd, fod yr hen geffyl ffyddlon achubodd ei fywyd drwy ei naid erchyll, yn teimlo yr un fath yn union.

Am oriau ni thorrwyd carlam, ond daeth natur a llenni'r nos i alw'n groch am orffwys, a phan gafwyd ychydig ddwfr llwyd-leidiog mewn pantle, bu fel dracht o fywyd newydd i ddyn ac anifail. Ond yr oedd cysgu neu orffwys yn amhosibl; yr oedd pob twmpath yn troi'n Indiad, ac yn nesu tuag ato: ysgrechiadau'r ddyllhuan a chyfarthiad cecrus y llwynog yn troi'n rhyfelwaedd frodorol. Ac yr oedd y cof am ei gymdeithion diamddiffyn yn ei symbylu a'i nerthu i wneud pethau anhygoel yn ei ddyhead am gael ymwared iddynt.

Teimlai weithiau na ddelai'r can milltir byth i ben, ac y byddai'n rhaid iddo ef a'i geffyl roi fyny'r ymdrech a gostwng pen i farw o newyn a syched ynghanol yr anialwch didrugaredd. Ni allai y ceffyl truan ond cerdded yn araf erbyn hyn, a'r teithiwr yn ei wendid a'i newyn yn gorfod glynu ar ei gefn fel ei obaith olaf am ymwared; ac fel yna, o gam i gam, a phob munud megys blwyddyn, y cyraeddasant ben uchaf Dyffryn y Gamwy, ac y medrasant, drwy boen a lludded anhraethol ry fawr i eiriau eiddil, droi eu camrau tua'r bwthyn cyntaf oedd yn llechu mor dawel ynghanol ei lwyni coed.

Ac yna, bu gwaedd ddolefus drwy ein Gwladfa fechan, —dychryn, galar, a dagrau, ar bob grudd; aeth ein dyffryn yn fro wylofain, ac ni allai glesni nef na llewyrch haul oleuo dim ar y tywyllwch dudew a'i gorchuddiai. Ond toc, daeth cri'r llanc lluddedig i adsain ymhob calon. Ymarfogwn i'r gâd! gwaredwn ein brodyr, a dialwn eu cam! A chyn pedair awr ar hugain yr oedd triugain o wyr a llanciau dewraf y Wladfa yn cychwyn yn llu arfog tua man y gyflafan. Pwy sy'n arwain? Pwy ond y ffoadur gipiwyd megys o safn angeu i gario'r newydd prudd dros gymaint paith; mae'n llesg a gwan wedi'r dioddef dwys, ond nid oes neb yn gwybod y ffordd ond efe, ac O! fel y dyhea ei enaid am adenydd y wawr i estyn i'w gyfoedion ymwared a nodded. Mae'r fyddin fechan yn cael gwaith ei ddilyn,—ymlaen, ymlaen y teithia ddydd a nos, gan warafun colli munud i gymeryd ychydig luniaeth i nerthu ei wendid.

Bu syllu hir, distaw, ar yr agen ddofn—lydan a lamesid er achub bywyd, ac onibae fod ol traed y march ffyddlon yn ir ar y ddaear yn dweyd y stori fud, buasai'r ffaith yn anghredadwy, ond erys hyd heddyw ynghalon pawb a'i gwelodd fel rhywbeth goruwchnaturiol.

Bu raid teithio amgylch ogylch er osgoi'r hafnau a'r creigiau, a phob calon yn crynnu erbyn hyn, a phob dryll yn barod, canys yr oeddynt ynghanol gwlad y gelyn, ac o fewn ychydig lathenni i faes y gwaed.

Nid oedd ond distawrwydd yn teyrnasu ymhob man—dim awel yn lleddf—ganu drwy'r glaswellt rhonc deithid mor esmwyth a distaw gan y meirch blinedig. Pwy all ddychmygu ing meddwl yr arweinydd fel y cyflymai ymlaen gan syllu i bob cilfach, a rhyw belydryn o obaith yn mynnu aros yn ei galon o hyd: ond ha! gwelwch!—dacw'r corff lluniaidd, talgryf, ddioddefasai bethau anhygoel yn rhinwedd y gronyn gobaith hwnnw, yn dechreu siglo fel corsen ysig: torrodd y llinyn euraidd fuasai iddo ef fel seren Bethlehem, ac aeth yn nos.

Yr oedd dwylaw tyner, tosturiol, gylch y bachgen dewr ar amrantiad; ei law egwan amneidiai tua'r dde, a daeth ystyr y cyfnewidiad yn chwerw-eglur i'r fagad fechan o filwyr Cymreig syllent yn y fath arswyd mud ar yr olygfa dorcalonnus oedd o'u blaenau.

Yr oedd amryw o'r fintai yn hen gewri o ganol stormydd bywyd ereill yn ieuainc a'u bywyd fel yr haul, ond i'w clod y byddo'r coffa, fod y ddaear a ruddesid â gwaed eu cyfoedion wedi ei gwlitho yn helaeth â'u dagrau hwythau.

Yr oedd y gyflafan wedi bod yn ddychrynllyd, yn ellyllaidd yn ei barbareiddiwch a'i hanifeileiddiwch. Yr hen baganiaid syml, heddychol, wedi eu troi drwy greulonderau gwareiddiad yn wylliaid rheibus! a'u syched am waed yn brif nwyd eu bywyd!

Yr oedd y tri chorffyn truan wedi eu darnio a'u baeddu yn hollol tuhwnt i adnabyddiaeth; nid oeddynt ond megys gweddillion ysglyfaeth y llew a'r blaidd. Nid oedd gan y Gwladfawyr prudd, dychrynedig, ond gwneud eu goreu i gasglu'r gweddillion (a phwy all ddychmygu y gorchwyl hwnnw), a thorri bedd mewn cilfach gysgodol, a dodi'r tri brawd yn wylaidd-gysegredig i orffwys yn eu gwely pridd mor bell o dir eu gwlad.

Ffurfiodd y fintai yn gylch am y bedd; darllenodd fy nhad y gwasanaeth claddu o'r Llyfr Gweddi Gyffredin, o dan deimladau llethol, ac yna cafodd y calonnau Cymreig ollyngdod i'w teimladau hiraethus drwy gydganu yr hen emyn gogoneddus, "Bydd myrdd o ryfeddodau" Mae'n anawdd credu i'r hen emyn gael ei ganu yn well erioed; yr oedd yr amgylchiadau a'r cylchynion wedi codi'r cartorion mor agos i'r byd anwel- edig y canent am dano; diau i ambell un sylweddoli fel na wnaethai erioed o'r bleen eiddilwch a breuder y babell bridd ar wahan i'r enaid anfarwol a drig ynddi. Canwyd ac ail-ganwyd yr hen cryn nes adseinio'r creig- iau cylchynnol, ac yna taniodd pob un ei ddryll dros y gwely pridd mewn ffarwel filwrol.

Gwnaeth pawb ei oreu i wneud yr orffwysfan yn glyd a destlus, ac i gasglu unrhyw eiddo personol adawyd gan y llofruddion fel ag i'w cyflwyno i berthnasau galarus y tri llanc llofruddiedig. Dringodd aml i fachgen hoew i ben y clogwyni cychynnol mewn gobaith y ceid cip ar rai o'r gelynion, a chyfle i ddial cam eu cydwladwyr; ond urig a distaw fel y bedd newydd islaw ydoedd; dim arwydd fod yna yr un creadur byw o fewn can' milltir iddynt.

Ymhen misoedd lawer y gwybuwyd fod yr holl gilfachau cylchynnol yn heigio o frodorion, yn barod i ladd a llarpio fel o'r blaen, ond fod y canu rhyfedd hwnnw ynghanol yr eangderau mawr distaw wedi eu dofi a'u llareiddio. Dywedir hefyd mai dyna'r pryd y deallasant mai Cymry oeddynt wedi ladd, ac nid milwyr Hispeinig, canys dillad milwrol oedd gan y llanciau druain, a brynasent gan y masnachwr, a bu galar aml i hen frodor yn ddidwyll ddigon am iddo ladd ei frodyr Cymreig mewn camgymeriad.

Beth bynnag am wiredd yr eglurhad yna, nid oes amheuaeth am effaith y canu; llithrodd y llu brodorion yn llechwraidd a distaw yn ol i'w llochesau yn y mynyddoedd heb gynnyg anelu saeth at y fintai islaw oedd yn hollol at eu trugaredd.

Digon prin y bu gan unrhyw gantorion erioed wrandawyr mor astud a synedig. Beth yw'r cyfaredd sydd mewn canu, tybed, o ddyddiau Saul hyd yn awr? Pam y dofodd yr anifail ymhob calon, ac y trodd y tân digofus fflachiai o bob llygad yn ddagrau gloewon ar y gruddiau melynddu?

Mae Cymry'r Gamwy ac Indiaid Patagonia wedi cydfyw am yn agos i ddeugain mlynedd mewn tangnefedd a heddwch perffaith; dyma'r unig frycheuyn yn eu hanes, a hawdd iawn gennyf fi, a fagwyd yn eu mysg, gredu mai camgymeriad truenus fu'r gyflafan yn Lle'r Beddau.



PENNOD VI.

Y FFRWD GYNTAF

 ID dyddorol fyddai dilyn y teithiau o ddydd i ddydd; felly, ni a wibdeithiwn nes cyrraedd o honom i'r mynyddoedd. Ar y Saboth yn unig y caffai dyn ac anifail gyfle i orffwys; canys ni theithiem ar y diwrnod hwnnw oni bae fod rhyw angen mawr. Ond nid gorffwys i gyd fyddai rhan y merched, canys dyma ein diwrnod pobi! Eithr na. chyhoeddwch hyn yn Gath. "A sut mae pobi ar y paith?" meddech. A oes rhai o foneddigesau Cymru. hoffent wybod, tybed? Rhag ofn fod, gwell rhoi rhyw led amcan, ond rhaid dod i Batagonia i ddysgu yn iawn. Gwneir twll hirgul yn y ddaear, heb fod yn ddyfn iawn, a llenwir â thanwydd,-bydded hysbys fod eisieu bod yn hael gyda'r tanwydd, yna, wedi llosgi o'r coed yn farwor, tynner ychydig o'r naill du, a doder y sospan, yn yr hon y mae'r dorth, ar y ddaear boeth, ac wedi gofalu fod y clawr yn ddiogel, rhodder y marwor arno, ac ymhen yr awr bydd gennych gystal torth ag a graswyd yn Llundain erioed.

Wedi gorffen pobi bydd y prynhawn gennym i gynnal Ysgol Sul, a chanu rhai o'n hoff emynnau, a bydd hwyl iawn ar rai o'r cyfarfodydd hyn.

Mae gennyf gof byw am y ffrwd gyntaf welsom ar y daith. Nid oedd fy nghyfeilles ieuanc erioed wedi gweled ffrwd. Un o blant y Wladfa oedd hi, a hon oedd ei thaith gyntaf oddiar aelwyd yr hen gartref, ac nid oes yn Nyffryn y Gamwy ffrydiau na tharddiadau. Teithiem ni ymlaenaf o bawb y diwrnod hwn, a mawr oedd ein disgwyl am y ffrwd addewsid i ni y bore wrth gychwyn o'r gwersyll. Wrth ddringo i fyny tuag ati y caem yr olwg olaf ar afon y Gamwy, hyd oni ddychwelem. Gormod o demtasiwn oedd peidio troi pennau'r meirch er mwyn cael un olwg arall arni,—ymdroellai ac ymddolennai yn. wir deilwng o'i henw. Dywedid wrthym hefyd mai dyma fuasai ein golwg olaf ar yr helyg wylofus, hen gyfeillion ein mebyd; coffa da fel y byddai gweled un o honynt mewn rhyw ddyffryn tawel yng Nghymru yn codi hiraeth lond fy nghalon nes y byddai raid i minnau weithiau blygu pen mor wylaidd a'r helygen. Ond dyna, yr oedd yn dda gennym ein bod ein hunain y diwrnod hwnnw, ac nad oedd raidi ni siarad llawer.

Ymlaen i ddotio at y ffrwd, ac i leddfu'n hiraeth ym miwsig ei dyfroedd. Un fechan fach oedd, ond mor loew a'r grisial. Rhaid oedd i'm cyfeilles gael disgyn ar unwaith i brofi y fath ddyfroedd peraidd yr olwg arnynt. Yr oeddym yn awyddus i weled tarddiad y ffrwd; felly, wedi gwneud ein ceffylau yn ddiogel, a rhoddi iddynt hwythau wledd o felus-win natur, cychwynasom ar i fyny. Gwelem draw dwmpath o hesg hyfryd yr olwg arno. Gan mor wyn ei ddail ac mor glaerwyn ei flodau, meddyliwn mai fan hono y gwelem ei tharddiad. Ac felly y bu. Ie, ond o ba le mae hi'n dod i'r fan hyn? meddai Mair. Ie, wir, o ba le! canys tarddai yn siriol o grombil y graig, un o'i ystordai mawr Ef. Eisteddem ar fin y dwr i ddisgwyl ein cyfeillion, gan lechu ynghysgod y twmpath gwyrddlas, a gwrando ar natur yn dweyd ei stori yn ei hiaith ei hun. Onid yw pob goslef o'i llais yn beroriaeth? Nid oes neb yn trigo o fewn cannoedd o filltiroedd i'r ffrydlif fechan hon; ord i'r teithwyr blin y mae fel pelydr o baradwys, a'i miwsig fel su edyn angylion. Yr oeddym wedi crwydro i fyd mor ddedwydd fel yr oedd yn ddrwg gennym weled y wagenni yn dod i dorri ar ddistawrwydd mor swynhudol.

Ac eithrio'r ffrydiau wrth y rhai y gwersyllem, nid oedd fawr wahaniaeth rhwng y teithiau-peithdir drein- iog anyddorol, ond mewn ambell fan byddai'r drain yn llawn blodau. Llawer feddyliais wrth edrych ar y drain bytholwyrdd hyn gyda'u dail iraidd a'u blodau pêr ynghanol y crasdir, mor ddoeth a chywrain yw trefn natur yn darparu llysiau addas i bob math o hinsoddau, a thrwy hynny yn gwasgar prydferthwch ar hyd wyneb yr holl ddaear.

Gwnaed aml ymgais yn y Wladfa i dyfu drain y paith fel perthi gylch y ffermdai, i'w gwneud yn debycach i hen gartrefi Cymru. Ond na, ni fyn y ddraenen wenu yn y dyffryn, na gwasgar ei pherarogl ar lan afonydd dyfroedd: nid gwasgar tlysni ar y dyffryn yw ei gwaith; plannwyd hi gan law Ddwyfol yr Hwn sy'n gofalu nad oes. hyd yn oed aderyn y to yn ddigysgod. Mae ar y gwastadeddau hyn filoedd o anifeiliaid, ymlusgiaid, ac ednod, yn cael noddfa glyd rhag stormydd gaeaf a chysgod rhag heulwen haf. Mae glaswellt hir yn tyfu yn lleithder gwreiddiau'r ddraenen sy'n flasus-fwyd a gâr yr anifail gwyllt: mae ei hadau fel grawn addfed i'r cyfeillion. asgellog sy'n nythu mor hapus a diofn yn y canghennau. A phan ddel y teithiwr blin am dro drwy ardd Eden y paith, mae'n estyn iddo yntau yn haelionus o'i holl drysorau heb ddisgwyl dim yn ol.

Gwyn fyd na allai miloedd o bobl ieuainc Cymru dreulio ambell wythnos mewn blwyddyn ynghanol yr eangderau hyn; caech lawer breuddwyd tlws am bethau. goreu bywyd, a byddai eich byd yn wynnach byth o'r herwydd.

Er ei bod yn fis Rhagfyr ac yn ganol haf, oer iawn fu'r hin ar hyd y ffordd. Teimlem ias yr ia oesol ar yr awel, ond awel y mynyddoedd ydoedd, yn llawn nwyf ac iechyd. Ymhyfrydem ynddi, a theimlem ein calon yn dweyd yn aml mai da oedd cael byw. Pan oeddym o fewn rhyw daith diwrnod i'r olwg gyntaf ar yr Andes, cawsom storm o wynt mor gethin ac mor oer fel mai prin y gallem gadw ar ein ceffylau, a'r eira ar yr awel mor finiog nes gwneud difrod alaethus ar y tipyn croen oedd yn weddill ar ein hwynebau a'n dwylaw.

Os deil eich amynedd i'm dilyn hyd y diwedd, cawn gyd-wynfydu ar fawredd a thlysni yr Andes pell, a

threulio dydd Nadolig ar ei gopa gwyn, yn gweled yr

haul yn codi nes gwneud un enfys ogoneddus o'r gadwen fynyddoedd.

Yr olwg gyntaf ar gopa Mynydd Edwyn,-y gwynt yn chwythu gyda holl ffyrnigrwydd ei allu aruthrol, y cymylau duon bygythiol fel pe'n ymlid yr haul i'w orffwysfa. Ond dacw'r haul yn cyrraedd y copa gwyn ac yn disgyn fel mantell o aur ; ac er ein bod yn teithio dros ucheldir ysgythrog, a gwynt yr ia oesol bron parlysu faed dyn ac anifail, eto mor ofnadwy ac mor ogoneddus oedd yr olygfa nes yr oedd pob teimlad corfforol yn diflannu, a'r enaid yn gwibio mewn rhyw ddyhead dwys at droed y mynydd mewn addoliad mud. Mor naturiol i'r hen. írodorion syml addoli'r haul onide, a hwythau yn arfer ei weled o'u mebyd fel y gwelais i ef am y tro cyntaf. Gelwir yr hen Indiaid yn baganiaid, ac eto pan ddel llewyrch y wawr ar y mynyddoedd gwyn, bydd y pen- aethiaid yn cyrchu at y ffrwd agosaf atynt ac yn codi y dwfr grisialaidd yn eu dwylaw gan ei wasgar yng nghyf- eiriad codiad haul, a gofyn i'r Ysbryd Da lwyddo eu dydd. Gwyn fyd na fyddai mwy o honom yn baganiaid yn yr ystyr yna, onide? A fyddwn ni yn gofyn am fendith ar doriad gwawr pob dydd newydd?

Yr un dydd ag y gwelais y mynyddoedd, daethom at wersyllfa o Indiaid, a'u pennaeth yn hen wr triugain oed, ond ei wallt yn ddu a'i gorff yn dalgryf a syth fel dyn yn anterth ei nerth. Pan gyraeddasom y gwersyll cyfarchwyd ni yn drystfawr gan ugeiniau o blant bach yng ngwisg natur, a chwn dirifedi o bob lliw a llun. Arweiniwyd ni i mewn gan fab y pennaeth a fuasai yn aros yn fy nghartref ychydig fisoedd cynt. Eisteddai'r hen frodor yn ei babell ar groen ceffyl, yn sipian mate. O'i gylch yr oedd amryw o'r "chinas" (y merched) yn prysur wnio crwyn a nyddu gwlan y guanaco. Cawsom ninnau le i swatio yn ymyl yr hen bernaeth, a phan ddywedais wrtho pwy oeddwn, fy mod yn ferch i Don Luis, cododd ar ei draed i ysgwyd llaw â mi gan ddweyd—Os wyt ti yn ferch i Don Luis, yna ein chwaer ni wyt ti, canys y mae efe yn frawd i ni oll." Balchach oeddwn o deyrnged yr hen frodor syml i'm tad na phe rhoisid iddo ffafrau tywysogion mwyaf y byd. Gwyn eu byd y rhai addfwyn: canys hwy a etifeddant y ddaear." Cymerodd Archentina y cledd a'r milwr i wareiddio Indiaid Patagonia; daeth dyrnaid o Gymry o gilfachau mynyddoedd Gwalia i ddysgu dull arall o wareiddio. Yr oedd yng ngeiriau'r hen Indiad "paganaidd" wers fawr ag y mae'r byd Cristionogol heb ei dysgu eto. Wrth ymgomio yn y babell, daeth y gair "Cristianos" i mewn, a gofynnais iddo pwy feddyliai wrth y "Cristianos" hyn.

"Yr Hispaeniaid," meddai.

"Eithr onid ydym ninnau hefyd yn Cristianos?" meddwn.

"O, na, amigos de los Indios (cyfeillion yr Indiaid) ydych chwi."

Rhyw deimlad rhyfedd ddaeth trosom wrth glywed ateb yr hen frodor. Mor chwith meddwl fod y gair fu gynt mor gysegredig a santaidd wedi ei gyplu yng nghalon y pagan â phob creulonderau a barbareiddiwch.

PENNOD VII.

BRODORION PATAGONIA

 EDI bod yn treulio y prynhawn yng nghwmni yr hen bennaeth brodorol, bum yn meddwl llawer beth oedd hanes Indiaid Patagonia tybed yn y gorffennol pell, cyn dyfod y dyn gwyn i aflonyddu ar eu heddwch ac i ladrata eu hetifeddiaeth.

Dengys wynebpryd, maint ac anianawd y brodorion, eu bod yn perthyn i bedair cenedl,—

(1) Pampiaid, sef trigolion gwastadeddau eang talaeth Buenos Aires.

(2) Arawcanod, a breswylient lethrau'r Andes o'r ddau tu.

(3) Tehuelches, brodorion tal a chorffol y canolbarth.

(4) Fuegiaid, sef pobl gorachaidd gwaelod eithaf dehau y cyfandir.

Pan sefydlwyd y Wladfa (1865), yr oedd y brodorion yn arglwyddi ar yr holl wlad o Cape Corrientes i lawr hyd Cape Horn, a'r holl berfeddwlad oddiyno i'r Andes. Gyda'r Arawcanod a'r Tehuelches y bu a fynno'r Wladfa yn fwyaf arbennig, yn enwedig yr olaf: hen gewri rhwth, tawel, ydynt hwy.

Yn 1520 y darganfuwyd Patagonia gan yr enwog Ferdinand Magellan, a rhoddodd ei enw ar Gulfor Magellan hyd heddyw; yna daeth Francis Drake yn 1578, ond gwibdeithio gyda'r arfordir a wnae'r teithwyr hyn, heb gael fawr cyfle i weld y brodorion na'r wlad.

Yn ystod y can mlyredd dilynol i ymweliad Drake, bu Narborough, Byron a Wallis yn gwibdeithio tua'r un cyffiniau. Ond ni chafwyd fawr iawn o hanes credadwy hyd ymweliad Darwin yn 1833, er na chafodd yntau nemawr gyfleusdra i dreiddio i'r gwastadeddau diderfyn a'i cylchynnai ar bob llaw, ond ganddo ef y cafwyd yr hanes credadwy cyntaf am Indiaid Patagonia. Mae ei nodiadau dyddorol ar ddaeareg a llysieuaeth y wlad yn hysbys ddigon i bawb bellach, fel na raid manylu. Ond i G. C. Musters y perthyn y clod o roi ar gof a chadw hanes a thraddodiadau yr Indiaid, y Tehuelches yn fwyaf arbennig. Bu efe fyw am ddeunaw mis yn eu mysg fel un o honynt, gan godi ei babell o wythnos i wythnos, a theithio cannoedd o filltiroedd drwy'r eangderau distaw, dyrus, a'i fywyd yn hollol at drugaredd y brodorion. A phan ddaeth yn ol i wareiddiad wedi hir bererindod, yn 1871, cyhoeddodd ei lyfr, "At Home with the Patagonians," a diau nad oes hyd yn oed yn y dyddiau cyfoethog hyn un llyfr mwy angherddol ddyddorol i bawb sy'n hoff o hanes y pell a'r dieithr. Bu i mi fel helyntion Robinson Crusoe i blant Cymru, a theimlaf yn sicr pe ceid cyficithiad Cymraeg o lyfr Musters y byddai yn gymaint ffefryn ag y bu stori Defoe erioed.

Ar ol dyfodiad yr Hispaeniaid i Dde America (1560) y gwybu'r brodorion ddim am geffylau. Crwydro ar draed y byddent cyn hynny, ac y mae eu hen wersylloedd a'u celli yn efrydiaeth ddyddorol i'r hynafieithydd. Mae'n debyg mai eu cyrchfarnau pennaf oedd y rhanbarthau tyfiannus gyda godrau'r Andes; ond gan fod yr hinsawdd yno a'r gweryd yn lleithach, nid hawdd yn awr taro ar eu holion. Yr Arawcanod yn bernaf breswylient y rhannau mynyddig, gan erlid yr hen Tehuelches rhwth tua'r de a'r dwyrain, y man y mae tiriogaeth y Gamwy heddyw. Oddiwrth y gweddillion geir yno, a'r traddodiadau yn eu mysg pan seiliwyd y Wladfa, gellid casglu mai arfau cerryg a challestr a arferent; mai pysg a chregyn oedd eu cynhaliaeth pan yn y cyrraedd; fod cyfnod wedi bod arnynt. pan y claddent eu meirw, a chyfnod arall pan y llosgent hwynt, ac mewn mannau cerrygog mai dodi carneddi arnynt wneid. Lle y mae hen gladdfeydd heb fod yn dra henafol, y mae hyd yn awr bentyrrau o sglodion callestr, pennau saethau, pernau tryferi, a gweddillion llestri pridd amrwd, ond addurnol; ceir hefyd fwyeill cerryg, a morteri a phestlau.

Mae ar y ffarm yn fy hen gartref un o'r claddfeydd dyddorol hyn, a threulid oriau dedwydd gennym ni, blant yr ardal, ar ein ffordd i'r ysgol, yn chwilota am greiriau yn yr hen drysorfa frodorol. Blin iawn gennyf erbyn. heddyw na fuaswn wedi bod yn llawer mwy dyfal gyda'r gwaith, yn lle gadael i naturiaethwyr gwledydd ereill ysbeilio yr hyn a berthynnai yn gyfreithlon i amgueddfa y Wladfa Gymreig. Pan ddeffroais i werth hanesyddol yr hyn oedd megys ar drothwy fy nghartref, yr oedd y pethau gwerthfawrocaf wedi eu cludo ymaith i amgueddía Buenos Aires.

Beth oedd diben yr holl bridd-lestri tybed? Ai llestri lludw y meirw oeddynt, ynte llestri offrymau i'r meirw, yn ol defodau dwy neu dair canrif yn ol ? Claddent eu meirw yn eu heistedd, gan ddodi yn y bedd gyda hwy, eu celfi mwyaf prisiadwy, a pheth bwyd a diod; yna lladdent geffylau a chŵn y marw; gwleddent ar gig y ceffylau a'r cesyg; llosgent ddillad ac addurniadau y marw; torrai y menywod eu hwynebau nes gwaedu a bacddu, ac oernadent alar mawr.

Pam y dodir y bwyd a'r celfi yn y bedd? "Bydd ein brawd yn teithio'n bell, drwy wlad dywell ac unig, a bydd arno newyn a syched cyn cyrraedd glan yr afon fawr,— ac wedi croesi, bydd angen yr holl gelfi i ail-ddechren byw mewn gwlad o lawnder dihysbydd." Amlwg yw fod ganddynt ryw ddrychfeddwl am arall fyd, a rhyw obaith cael ail-gwrdd maes o law. Prif syniad yr hen Indiad am nefoedd yw, gwlad lle nad yw'r game byth yn brin. Mae wedi crwydro'r anialdiroedd mawr ar hyd ei fywyd i chwilio am gigfwyd (ei unig ymborth), ac wedi gorfod mynd yn newynnog ganwaith o herwydd prinder.

Cof gennyf pan yn blentyn fod yna frodor yn marw mewn pabell gerllaw fy nghartref. Yr oeddym ni wedi gwneud yr hyn a allem drosto yn ol ein gwybodaeth, a hwythau'r hen Indiaid wedi gwneud a allent i yrru'r ysbryd drwg o hono, drwy eu gwahanol seremoniau, ond gwywo 'roedd yr hen gyfaill, a'm tad yn ceisio egluro iddo, mor dyner a syml ag y gallai, nad ocdd eisieu iddo ofni marw, mai dim ond taith fêr oedd tros yr afon: a dau gwestiwn olaf yr hen frodor oedd,—A fuasai yno Gymry, ac a fuasai yno gyflawnder o game. Nefoedd ffrwythlon, Gymreig,—dyna nefoedd Indiaid Patagonia heddyw.

Ni cheisiodd Cymry'r Gamwy broselytio na gwareiddio yr Indiaid, ond estynasant iddynt law brawdgarwch, a buont yn eiriol trostynt dro ar ol tro o flaen senedd y brifddinas, pan oedd trais a brad Hispeinig yn eu llethu, ac yn bygwth eu difodi'n gyfangwbl. Deallodd etifeddion y paith nad oedd y newydd—ddyfodwyr wedi dod i'w gwlad i'w hysbeilio na'u gorthrymu, ond i gyd-fyw mewn tangnefedd. Dysgodd yr Indiaid y Cymro i hela'n fedrus, a thrwy hynny achub y Wladfa rhag newyn lawer tro; bu'n ddyfal yn ei ddysgu i wneud pob math o gêr ceffylau o grwyn yr anifeiliaid gwylltion, fu mor werthfawr i'r sefydliad ieuanc ar ddechreu ei yrfa amaethyddol mewn. estron fro, mor bell o gyrraedd pob cyfleusderau.

Bu'r ddwy genedl yn marchnata'n ddiwyd am flynyddoedd plu, crwyn, a charpedau cynnes yr Indiaid yn. gyfnewid am fara maethlon y Cymry, etc. A buan y daeth yr hen frodorion i hoffi cwpaned o de a bara menyn Cymreig gystal â'r un Cymro yn y wlad. Ni fyddai'n beth diethr o gwbl gweled rhes o wynebau melynddu, astud, mewn capel ar y Sul, neu gwrdd llenyddol, neu 'steddfod; a phan fyddai cwrdd te a chlebran, byddai yr un croeso wrth y ford i'r hen frodorion a phawb arall. Byddai ambell bennaeth yn gadael rhai o'r plant ar ol yng ngofal teulu Cymreig er mwyn iddynt fynd i'r ysgol, a buan y deuai'r crots i siarad Cymraeg rhugl; mewn llaw ysgrif nid oedd neb a'u curai: yr oedd eu dwylaw mor ystwyth, a'u hamynedd fel y môr.

Bu un o honynt—y Pennaeth Kengel erbyn heddyw—a minnau yn cydefrydu wrth yr un ddesg am flwyddyn, a buom yn helpu'r naill y llall lawer gwaith. Nid yw wedi anghofio ei Gymraeg hyd heddyw, a phan ddel ar ymweliad â'r Wladfa o dro i dro, o'i gartref pell, mynyddig, bydd croeso cynnes, siriol, iddo ymhob cartref gwladfaol.

Byddai tymhorau neilltuol gan y brodorion i ddod i lawr i'r sefydliad i farchnata; deuent yn llu banerog, gant neu ddau gyda'u gilydd; cannoedd o geffylau, cannoedd o gŵn, ugeiniau o blant bach wedi eu pacio mewn cewyll gwiail, un bob ochr i'r fam, ar y ceffylau rhadlon, y pebyll, a'r pyst, a'r nwyddau gwerthadwy yn bynnau mawrion ar y ceffylau gedwid yn arbennig at y gwaith hwnnw; a'r helwyr ar eu meirch chwim, bywiog; prif uchelgais llanciau Indiaidd yw cael gyr da o geffylau hela, a'r gêr wedi eu plethu'n gelfydd—gywrain, a'u haddurno â modrwyau arian.

Wedi cyrraedd, byddent yn dewis y mannau addasaf i wersyllu, ac yna deuai negesydd oddiwrth y pennaeth at y ffermwr yn awgrymu y buasent yn hoffi cael gosod eu pebyll ar ei ffarm, ac ni fyddai byth unrhyw wrthwynebiad.

Gwaith y chinas, neu'r merched, fyddai dadlwytho a

gosod y pebyll i fyny, cynneu tân a gwneud bwyd; a'r llu

plant bach yng ngwisg natur yn chwareu ac yn prancio gan ystwytho eu cymalau wedi'r daith hirfaith, a ninnau'r plant Cymreig yn cyd—chwareu mewn hwyl, heb freuddwydio am eiliad fod unrhyw wahaniaeth rhyngom ni a'n cymdeithion bychain melynddu. Ymhen blynyddoedd wed'yn, wedi croesi'r Werydd, a darllen syndod ac anghrediniaeth ar ambell wyneb Prydeinig wrth i mi ddweyd fy stori seml, y deallais gyntaf nad yr un oedd y du a'r gwyn! A'r hyn a barai fwyaf o ofid i'm meddwl ieuanc anwaraidd i oedd,—pwy oedd wedi creu y dyn du? Nid oeddwn wedi clywed son ond am un Crewr ac un dyn, ac er i mi ddod i Gymru oleuedig, yn y tywyllwch yr wyf o hyd. Onid yw'r bychan melynddu, dyfodd fel blodyn gwyllt yng nghoedwigoedd yr Andes, ac a gusanwyd filwaith gan belydrau llachar haul y nef, onid yw yntau hefyd yn y byd y bu cymaint dioddef er ei fwyn? Nid yw dyrus bynciau'r greadigaeth yn aflonyddu rhyw lawer arnaf, ond mae fy hyder yn gryf y caf weled miloedd o hen Indiaid Patagonia wedi croesi'r afon fawr yn ddiogel, i wlad lle nad oes na du na gwyn, dim ond praidd y nef ac un Bugail.

Mae personoliaeth yr Indiad yn ddyddorol iawn; mae yna ryw dawelwch a gorffwysdra yn ei wynebpryd, a'i lygaid ddyfnddwys fel pe'n adlewyrchu'r eangderau distaw; mae pob osgo o'r corff lluniaidd mor naturiol a diymdrech a'r glaswellt dyf wrth ei draed, ac y mae nerth a mawredd y mynyddoedd yn y corff talgryf, allt cydnerth, fel engraifft o ddynoliaeth iach, ddilyfethair; diau nad oes ei debyg ar gael heddyw.

Maent yn lanwaith eu harferion mor bell ag y caniata eu bywyd crwydrol: ymdrochant yn ddyddiol, a chan fod eu holl wisgoedd yn gynwysedig mewn mantell groen seml, nid oes angen golchi na thrwsio; y fath wynfyd fuasai hynny i aml deulues drafferthus yn y dyddiau hyn.

Mae'r brodorion yn foesgar a gwylaidd ymysg estroniaid. Mae eu tân a'u bwyd yn rhydd i bawb a ddel, eithr gwae'r teithiwr hwnnw ddigwyddo amharchu'r croesaw.

Nid oes unrhyw awydd yn y brodorion i efelychu gwareiddiad; os byddant yn synnu neu ryfeddu at unrhyw beth, nid ydynt byth yn dangos hynny; mae wyneb Indiad yn hollol anarllenadwy.

Mae yna ryw ddieithrwch, rhyw gyfaredd, yn y wlad a'i phobl, pan eler i ddwys fyfyrio eu hanes. Ymhob gwlad arall, hyd yn ced mewn coedwigoedd tewfrig, ceir olion ac adfeilion hen ddinasoedd, lle y bu rhyw genhedloedd o'r hen oesoedd yn byw ac yn ffynnu, ond ym Mhatagonia, gyda'i harwynebedd o 300,000 o filltiroedd ysgwar, ni cheir maen ar faen. Ond er fcd gwledydd ereill yn hen, mae Patagonia yn hŷn. Mae'r llwythi crwydrol wedi bod yn cyniwair drwy'r pampa tawel er ys canrifoedd, a'r glaswellt yn tyfu dros olion tân eu gwersylloedd, ond byth yn newid nac yn nodi unrhyw ran o'u hen wlad; na, er fod Patagonia ar un ystyr yr hynaf o'r gwledydd—canys yma deuwn wyneb-yn-wyneb â'r amser cyn-hanesiol, ysgerbydau y bwystfiled mwyaf, ac eirf callestr y dyn cyntefig, heb ddim ond y blynyddoedd cydrhyngddynt, cenhedlaeth ar ol cenhedlaeth wedi tyfu ar fynwes natur, heb ddim i nodi eu haml bererindodau ord y mân lwybrau fel gwe'r copyn dros fynydd a dôl,—mor gul ac areglur ydynt, fel na all ond brodor eu dilyn.

Synfyfyria'r teithiwr ar lan afonydd dyfroedd ac yng nghesail y llynnoedd llonydd, gan freuddwydio am y cenedlaethau fu'n gwersyllu ar eu glannau, a'r miloedd anifeiliaid fu'n drachtio'r dyfroedd. Ord nid oes dim yn aros ond y mynyddoedd yn eu glâs a'u gwyn, a'r pampa diderfyn gyda'i laswellt fel tonnau'r môr, a'r gwynt Patagonaidd nad yw byth yn cysgu. Cymoedd ar ol cymoedd, peithdir ar ol peithdir, y Werydd yn y Dwyrain a'r Andes yn y Gorllewin, a rhyngddynt, drwy'r holl eangderau, nid oes un arwydd dynol ond y llwybrau cul sy'n prysur ddiflannu am byth, fel y mae gwareiddiad yn difa'r brodor.

Trist yw meddwl fod hen genhedloedd mor dawel, mor addfwyn, o gynheddfau cryfion, iach, gorff a meddwl, mor hen eu haniad, mor swynol eu hanes,—mor anhraethol drist yw meddwl fod y dyn gwyn gyda'i Gristionogaeth a'i ddiod ddamniol yn ysu ac yn difa fel tân pa le bynnag yr elo. A raid i'r pethau hyn fod? Dyna gwestiwn sydd wedi dwys—lithro drwy'm calon ganwaith wrth synfyfyrio ar hanes brodorion crwydrol pob gwlad; Indiaid Cochion Gogledd America, Maories swynhudol Awstralia, a hen gyfeillion fy mebyd innau yn Ne America. Nid yw'r Hispaenwr un gronyn gwaeth na'r Ianci a'r Sais yn hyn o beth; difa brodorion a chenhedloedd bychain yw pechod parod pob un o honynt, ond sut mae cysoni eu gweithrediadau â dysgeidiaeth y Testament Newydd sy bwnc rhy ddyrus i mi ei gyffwrdd. Ond mae'r trueni a'r tristyd wedi suddo i eigion fy nghalon filwaith wrth deithio'r peithdir glân, distaw, yn nhawelwch nos ac yng ngoleu gwyn y lloer.

Pan ddechreuodd y Llywodraeth Ariannin erlid yr hen frodorion yn 1880, bu'r Wladfa yn eiriol trostynt dro ar ol tro, eithr hollol ofer fu pob ymgais i lareiddio dedfryd haearnaidd y llywodraethwyr; lladdwyd cannoedd yn y rhyfel anghyfiawr, anghyfartal; awd a channoedd ereill yn garcharorion i brifddinas Buenos Aires,a rhannwyd hwy rhwng mawrion y wlad fel caethion! A phed ysgrifennid hanes y teithio tros y môr garw mewn llongau bychain caethiwus, a'r creulonderau gyflawnwyd, a'r golygfeydd ar ddec y llongau ym mhorthladd y ddinas pan wahenid y plentyn sugno oddiwrth fron ei fam, i fod yn degan mewn rhyw balas gwych lle'r oedd pechod a moethau wedi lladd yr enaid, ac y cipid y bychan llygatddu, gydiai mor dyn yn llaw ei dad, gan ryw goegyn i'w roi ar flaen ei gerbyd o fewn cyrraedd hwylus ei chwip,—gwenai'r ddinas mewn dirmyg wrth ben y syniad fod gwr a gwraig frodorol yn caru ei gilydd, ac fod yn well ganddynt ddyfrllyd fedd dros ganllaw'r llong na chael eu gwahanu, —ped ysgrifennid ond y ganfed ran o'r pethau hyn, byddai yna "Gaban F'ewyrth Twm" yn Ne America hefyd; eithr ysywaeth nid oes eto un i'w ysgrifennu.

Yn y cyfwng hwn yn hanes yr Indiaid, ysgrifennai aml i hen bennaeth adfydus at fy nhad, fel yr un eiriolasai trostynt fwyaf o bawb, i ddweyd ei gwyn a gofyn am gyngor; ac fel engraifft o'r ysbryd mawrfrydig heddychol feddiannai'r hen Indiaid yn wyneb helyntion mor alaethus, dodwn yma gopi o lythyr y Pennaeth Saihueque, hen gawr tywysogaidd yr olwg arno, ac er yn agos i 70 mlwydd oed, sydd a'i wallt fel y nos, a'i ddannedd fel yr ifori, a'i gorff fel derwen y mynydd:—

"Daeth i'm llaw eich nodyn gwerthfawr. Yr wyf yn trysori gyda hyfrydwch y cynghorion a'r hanesion a roddwch i'm llwyth i fod yn heddychol gyda'r Llywodraeth a chyda chwithan. Gyfaill, dywedaf wrthych yn onest na thorrais i yr heddwch a'r ewyllys da sydd rhyngof a'r Llywodraeth yn awr er's rhagor nag ugain mlynedd, ac ddarfod i mi gyfiawni fy holl ymrwymiadau wnaethwn yn Patagones yn ffyddlon. Eithr ni allwch chwi byth, fy nghyfaill, amgyffred y dioddefaint dychrynllyd gefais i a fy mhobl oddiar law yr erlidwyr. * * Daethant yn lladradaidd ac arfog i'm pebyll trigiannu, fel pe buaswn i elyn a lleiddiad. Mae gennyf fi ymrwymion difrifol gyda'r Llywodraeth er ys hir amser, ac felly ni allaswn ymladd nac ymryson gyda'r byddinoedd, a chan hynny ciliais o'r neilltu gyda'm llwyth a'm pebyll, gan geisio felly osgoi aberthau a thrueni, yn yr hyn y llwyddais am beth amser o leiaf. Nid wyf fi anwrol, fy nghyfaill, ond yn parchu fy ymrwymiadau gyda'r Llywodraeth, ac ar yr un pryd feithrin yn ffyddlon y ddysgeidiaeth a'r gofalon roddodd fy nhad enwog—sef y prif bennaeth Chocari—i beidio byth a gwneud niweidiau nac amharu y gweiniaid, eithr eu caru a'u parchu yn ddynol. Er hyn oll, yr wyf yn fy nghael fy hun yn awr wedi fy nifetha a fy aberthu,—fy nhiroedd, a adawsai fy nhadau a Duw i mi, wedi eu dwyn oddiarnaf, yn gystal a'm holl anifeiliaid, hyd i hanner can' mil o bennau. Oblegyd hyn, gyfaill, yr wyf yn gofyn i chwi roddi gerbron y Llywodraeth fy nghwynion yn llawn, a'r trallodion wyf wedi ddioddef. Nid wyf fi droseddwr o ddim, eithr uchelwr brodorol, ac o raid yn berchennog y pethau hyn. Nid dieithryn o wlad arall, ond wedi fy magu ar y tir. Oblegyd hynny ni allaf ddirnad y trueni sydd wedi disgyn arnaf drwy ewyllys Duw, ond gobeithiaf y gwel Efe yn dda fy neall o'i uchelderau, a fy amddiffyn. Ni wneuthum i erioed ruthr—gyrchoedd, fy nghyfaill, na lladd neb, na chymeryd carcharorion, a chan hynny erfyniaf arnoch gyfryngu droswyf gyda'r awdurdodau, i ddiogelu heddwch a thangnefedd ein pobl.

"Gobeithiaf ryw ddiwrnod gael ymgom gyda chwi, a gwneud rhyw drefniad cyfeillgar rhwng eich pobl chwi a'm pobl i. Hyn trwy orchymyn y Llywodraeth Frodorol,

"VALENTIN SAIHUEQUE."

Dyna i chwi bortread byw o'r hyn oedd hen frodorion Patagonia cyn i wareiddiad eu dirywio!

'Rwy'n teimlo mai dim ord cipolwg frysiog wyf wedi allu roi i chwi o'r hen frodorion; maent yn haeddu llyfr iddynt eu hunain, a gellid ei wneud yn angherddol o ddyddorol ond cael hamdden a heddwch i deithio eu gwlad a chasglu eu traddodiadau. Mae hyn yn un o- freuddwydion fy mywyd.

Ymhen ugain mlynedd eto, digon prin y bydd brodor yn troedio'r peithdir, a'r llwybrau cul fu gynt yn gyniweirfa pobloedd lawer wedi diflannu fel hwythau o dan las dywarchen yr hen ddaear. Fel y dyhea y meddwl dwys. am gael gwybod yr hanes fu; ond nid oes dim ddistawed â pheithdir Patagonia, na neb mor dawedog â'r hen frodorion.



PENNOD VIII.

CYRRAEDD TECA

 HAGFYR 12fed.—Cyrraedd Teca, o fewn deuddydd i ben ein taith. Dyffryn cul porfaog, a'r afon Teca mewn gwely of racan mân yn prysur rhedeg tua'i harllwysiad gyda'i dwfr o risial yr ia oesol. Yma y cawsom ni olwg agos ar fawredd y mynyddoedd gyda'u llethrau coediog bytholwyrdd. Er ei bod yn ganol haf, yr oedd y mynyddoedd yn wyn a'r gwynt yn oer gethin; yr oeddym wedi teithio drwy'r dydd yn ei ddannedd, ac yn cyrraedd Teca tua machlud haul yn oer a blinedig. Yr oedd yno fasnachdy bychan gan Eidalwr, a chafodd Mair a minnau addewid o loches dan y counter dros nos, a lloches glyd oedd hefyd: yr oedd yno ddigonedd o grwyn pob anifail gwyllt o fewn y mynyddoedd, a tho diddos i gadw allan fin y gwynt. Cawson noson ardderchog, ac 01 yr oedd haul y bore ar y mynyddoedd gwyn yn gwneud y byd i gyd yn wyn,—teimlo'n ddedwydd, diboen, a dibryder,—a phêr awelon y pinwydd fel bywyd o wlad well.

Bore drarnoeth yr oeddym yn ymwahanu; y menni a yn mynd gylch y mynyddoedd daith tridiau, a ninnau'n mynd trostynt daith diwrnod a hanner, dringo fry, fry oedd ein hares am oriau meithion y dydd cyntaf. Tua chanol dydd daethom at lyn hyfryd, glas ei ddwfr, yn llechu yng nghilfach y mynyddoedd, a'r fflamingos gyda'u gwisg o liw'r haul yn dotio at dlysni ac urddas eu hymgyrch o amgylch—ogylch y llyn mawr llydan. Gyda'r dringo parhaus yr oedd dyn ac anifail yn lluddedig, a melus oedd disychedu ar fin y dwfr, ac i'r ceffylau gael mwynhau'r glaswellt ir, ac i ninnau gael llechu yng nghysgod y llwyn bedw a pharatoi byrbryd. Pan oeddym fel hyn yn ein mwynhau ein hunain ynghanol. mawredd ac unigedd ein cylchynion, clywem swn carlamiad march yn agoshau: a daeth atom ddau frodor a bachgen bychan, yn dod yn ol o'r helfa guanacod. Dyna yw eu cynhaeaf hwy, yr amser y bydd y guanacod yn barod i'w lladd, a bydd y merched yn brysur yn gwneud pob math o rugs o'r crwyn, yn barod i'w gwerthu. Teimlwn fod ein byrbryd yn berffaith wedi cael yr hen Indiaid yno gylch y tân i gydfwynhau; 'anghofiaf fi byth fel yr oedd y crot bach yn mwynhau'r siwgr; nid oes gennyf ond gobeithio na fu raid iddo dalu treth drom am ei wledd o felusfwyd.

Wedi caru ffarwel â phlant natur, bu raid cychwyn eilwaith, canys yr oedd gennym daith flin cyn cyrraedd noddfa'r nos. Dal i ddringo yr oeddym o hyd nes oedd ym yn teimlo ein bod bron cyrraedd byd y cymylau. O'r diwedd daethom at ddibyn fel mur ty, ac islaw, ar y dyffryn bychan gwyrdd oedd draw mewn cilfach gysgodol, gwelem fwthyn clyd a mŵg y simdde yn ymgodi tua'r copâu gwyn.

"Dyna ben y daith heno," meddai'r arweinydd.

"Ond sut mae mynd yno?" meddem, yn syn ar fin y dibyn erchyll.

"Yn syth i lawr ffordd hyn."

Cefais gynnyg cerdded i lawr ac arwain fy ngheffyl, ond ni welwn ryw lawer o ddewis rhwng i mi fynd i lawr gyda'm ceffyl nag i'r ceffyl ddod i lawr ar fy nghefn, a barnwn os oedd fy nghydwladfawr gyd-drotiasai i'r ysgol gyda mi yn mentro ar ei ben i'r dibyn, fod cystal cyfle i minnau gyrraedd y gwaelod yr un pryd a'm hysgrublyn. hest Beth pe caffech snap shot o honom yn gwneud y daith fythgofiadwy honno! Wedi mynd ychydig lathenni, byddai y cyfrwy a ninnau rhwng dwy glust y ceffyl, a phan fyddem yn mynd drosodd, rhoddai'r hen geffyl deallus hwb yn ol i ni â'i ben nes y byddem yn teimlo'n weddol ddiogel, ac fel yna, o lathen i lathen, gan droi a throelli igam-ogam nes cyrraedd y gwaelod. Ac yna, rhoed ochenaid ddofn, ddofn, o waelodion calonnau diolchgar; a phan aethpwyd i edrych yn ol, bu raid peidio, yr oedd yr hen fyd yma yn troi yn gyflymach nag arfer rywsut,—hwyrach ei fod o'n mynd yn gynt yn yr Andes.

Cawsom groesaw Cymreig, cynnes, gan deulu'r bwthyn. Yr oedd yno blant bach pert a gwrid y mynyddoedd ar eu gruddiau, a nwyf yr awel yn eu camrau chwim. Rhyfedd oedd cysgu mewn ty; yr oeddwn yn chwilio am y ser bob tro y deffrown, ac nid oedd fy nghyfeilles a minnau yn cysgu hanner cystal, nac yn deffro yn y bore fel ehedydd yn barod i ganu o wir lawenydd calon. Ond yr oeddym ar frys i gychwyn y bore arbennig hwn, canys onid dyma ddiwrnod olaf y daith? Byddem wedi cyrraedd Bro Hydref cyn machludo o'r haul, y sefydliad bychan Cymreig sy megys yn nythu o dan gysgod yr Andes wen.

Ond os oedd mur i fynd i lawr ddoe, yr oedd yna fur i fynd i fyny heddyw; dringo fel ceirw chwim yr Andes, a diau mai eu llwybrau hwy fu'n foddion i ddangos y ffordd i'r teithwyr cyntaf. Yr oedd perygl bod rhwng dwy glust y ceffyl ddoe, ond dyna'r unig fan diogel heddyw. Ond yr oedd pob mynydd a phant yn ein dwyn yn nes i ben y daith, ac felly yr oedd pob blinder a pherygl yn diflannu yn y dyhead am weled wynebau hen gyfeillion mebyd, a'r bythynnod coed a'r to gwellt y clywsem gymaint o son am danynt.

Er fod y mynyddoedd yn wyn, eto, wedi cyrraedd y gwastadedd, yr oedd yr hin yn hafaidd, a ninnau yn ei fwynhau yn fwy oherwydd yr adgof am wynt rhewllyd y Teca. Fel yr ymdeithiem ymlaen yn araf deuai rhai o'r bythynnod i'r golwg, ond ymhell oddiwrth eu gilydd, ryw dair llech cydrhyngddynt. Dechreuai ein harweinydd eu nodi allan. "Dacw'r Garreg Lwyd a'r Mynydd Llwyd y naill ochr iddo, a'r coed pinwydd yn harddu ei fron, doldir hyfryd o flaen y bwthyn, gyda nant loew, loew,— draw gwelwch y Parc Unig yn llechu yn ei fedwlwyn; mae'r pistyll sy'n disychedu trigolion y bwthyn acw yn un o'r rhai hyfrytaf yn y fro." Ond ymhell cyn dod i olwg

Capel y Llwyn

Capel y Llwyn, y Ty Coch, Afon Llwchwr, a Throed yr Orsedd, yr oeddwn wedi mynd yn fud; nid yr olygfa yn unig oedd yr achos o hynny—nid mewn munud awr y sylweddolir tlysni a mawredd yr olygfa—ond fy meddwl oedd wedi glynu wrth yr enwau Cymraeg swynol a phersain. Yr oeddwn dros naw mil o filltiroedd o Wyllt Walia, ac eto, mewn cilfach o'r Andes fawr, yn eithaf Patagonia, wele'r capel Cymreig syml a'r hen enwau cysegredig mewn adgof a hiraeth am Eryri wen a'r "bwthyn lle cefais fy magu."

Mae'r Wladfa fechan ar y goror rhwng Chili ac Archentina, dwy wlad fawr Babyddol, lle mae gwareiddiad ganrifoedd ar ol Cymru wen. Beth wna'r fagad fechan Brotestanaidd hon megys yn ffau'r llewod rheibus? Bu Daniel fan honno hefyd, ond yr un yw Gwyliwr y llew o hyd. "Yr Arglwydd yw fy ngoleuni a'm hiachawdwr— iaeth rhag pwy yr ofnaf? Yr Arglwydd yw nerth fy mywyd, rhag pwy y dychrynnaf." Dyna'r geiriau cyntaf glywais yng nghapel bach y Llwyn fore dydd Nadolig, 1899.

Llawer o helynt a phryder parhaus sydd parthed y ffin rhwng Chili ac Archentina, ond y mae yna ffin Geltaidd yn tyfu'n ddistaw—ddwys, a Brenin Tangnefedd ar orsedd y cwmwl gwyn yn teyrnasu. Bu raid ymysgwyd o'r myfyrdodau hya, canys yr oeddym wedi cyrraedd y Ty Coch, a hen gyfeillion anwyl yn estyn deheulaw mewn croesaw a llawenydd, o'r henafgwr pedwar ugain oed hyd at y bychan penfelyn na welsai'r Gamwy droellog erioed.

Mefus addfed a blodau amryliw,—dyna'r pethau cyntaf dynnodd ein sylw ar ford y Ty Coch—croesaw natur i'r teithwyr ar ddiwedd y daith. Beth melusach, a pheth mor swynol? Blinedig iawn oeddym yn cyrraedd, ond yr oedd y croesaw mor gynnes, a'r gip gyntaf ar swynion yr Andes wedi gwneud i flinder ffoi.

Nid oedd danteithion y deulues groesawus yn abl i'm cadw o fewn muriau'r tŷ. Allan y mynnwn fyned i syllu'n ddiflin ar y coed hyfryd oedd gylch y tŷ, a'r oll yn plygu'n wylaidd o dan bwys eu blodau persawrus, a'r afon Llwchwr yn murmur ei neges wrth basio ar ei thaith. Carped o fwswgl sydd yng nghoedwigoedd Cymru, ond dyma wlad a'i charped o fefus ffrwythlon melus. Teithiais ugeiniau o filltiroedd ymhob cyfeiriad tra'n aros yn y fro, ond ni chollais fy nghyfeillion pêr yn unman: gwlad yn llifeirio o laeth a mefus yng ngwir ystyr y gair.

Yn Nhroed yr Orsedd yr oeddym wedi trefnu i wneud ein cartref tra yng ngwlad y mynyddoedd. Felly, yr oedd gennym i groesi'r afon Llwchwr eto cyn cyrraedd pen y daith. Rhydio'r afon a wneir, ac i'r rhai cyfarwydd mae'n waith digon hawdd. Yr oeddwn wedi arfer rhydio'r Gamwy, ond nid yw hi yn brysio ar ei thaith fel afonydd yr Andes.

Pan gychwynnodd ein harweinydd drwy'r Llwchwr, yr oeddwn i yn syllu ac yn dotio at y graean mân a gloewder y dwfr, a phan godais fy ngolygon, gwelwn fy nghyfeillion ar ganol yr afon yn mynd gyda rhyw gyflymder ofnadwy. Gwaeddais arnynt i anelu am y lan, ond chwerthin yn iachus wnaent, gan ddweyd mai am y lan yr oeddynt yn mynd, a phan euthum innau i ganol yr afon, mynd oeddwn innau hefyd fel nad aethwn erioed o'r blaen. Ynte'r dwfr oedd yn mynd? Barned y darllenydd.

Yr oedd ein ffordd yn mynd drwy'r coed yn awr, coed pinwydd, coed bedw, banadl, drain gwynion, a llu o rai dieithr nad oes ond enwau Hispeinig arnynt. Yr oedd y cwmni yn llawen, ond gwell fuasai gennyf deithio mewn -distawrwydd: yr oedd arswyd y mynyddoedd mawr arnaf, O mor druenus fychan oeddym, a dyma natur fel y daeth o law y Crewr cyn ei "gwella " gan ddynoliaeth eiddil, afiach. Buaswn yn hoffi rhoddi pwys fy mhen ar y ddaear werddlas gan sisial, "Pechais, nid wyf fi deilwng." Clywais lawer pregeth ar ostyngeiddrwydd a gwyleidd-dra, ond dyma bregeth! O na fuasai gennyf ysgrifbin o aur wedi ei wlychu yng ngwlith y wawr i ysgrifennu cenadwri natur at ei phlant. Mae ei llais mor ddistaw-dyner, mae ei dagrau ar bob deilen werdd, a'i miwsig lleddf, swynol, ymhob ffrydlif risialog.

Mawr y son am emynwyr Cymru: dowch gyda mi i'r Andes, dyma emynwyr y nef, fyrddiynnau ar fyrddiyn- nau o honynt,-beth maent yn ddweyd? Ah! dyna eu cyfrinach-"Gadewch i blant bychain ddyfod ataf fi." Y pur o galon a welant Dduw." "Yr addfwyn a eti- feddant y ddaear." Dyma'r gynulleidfa sy'n gwrando ar y Côr Mawr yn mynd trwy'r prif ddarn.

Torri Syched

PENNOD IX.

TROED YR ORSEDD

 ND wele Droed yr Orsedd. Un ystyr sydd gan drigolion y Fro i'r enw, ond y mae gennyf fi ddau. Gorsedd y Cwmwl-dyna enw'r mynydd sydd y tu cefn i'r bwthyn. Fe welir wrth hyn mai purion enw roddwyd ar y cartref. Ond ni ddywedaf ail ystyr yr enw nes cyflwyno y teulu mwyn. Dacw'r hen gyfaill Dalar wedi ein gweled, ac yn prysuro i'n croesawi. Yr oedd cymaint o amser er pan welswn ef a'i deulu mân fel yr oedd yn rhaid i mi gael eu henwau oll yn gyntaf dim, a iechyd i bob Cymro fyddai gwrando arnynt, -Irfonwy, Brychan, Morgan, Sian, Ioan, Briallen, Madryn, Eurgain,-a breintiwyd y plant nwyfus hyn â mam dyner, ddwys, o'r enw Esther. Or.id yw pob calon Gymreig yn dotio at dlysni y rhestr, a chyn mynd i orffwys y noson gyntaf yn y Fro, yr oeddwn wedi dotio mwy ar y plant hyd yn oed na'r enwau.

Tua naw o'r gloch gwelwyd yr hen Feibl mawr yn cael ei ddodi ar y ford, a'r plant bach yn crynhoi gylch yr aelwyd. Mor syml a dirodres y gwneid hyn fel nad oedd dor ar yr ymddiddan, ond wedi gorffen y sgwrs, dyma gör yr aelwyd yn dechreu canu. Nid oedd yno neb ond y fechan hunai ym mynwes ei mam nad oedd. yn canu, y lleisiau bychain pur yn codi yn un anthem o orfoledd. Byddaf yn credu bob amser fod ar Satan fwy o ofn plant bach yn canu hanes Iesu na dim. Gwelais ymwelwyr yn gorfod mynd allan o'r bwthyn wrth droed yr Orsedd pan fyddai ei genhadon bychain ef yn canu eu "Nos Da." Wedi'r canu, caem y darllen, a sylwais mor fanwl fyddai y dewisiad, rhywbeth i nerthu a chalonogi bob amser. Ac yna, caem oll gyd-addoli, cyd-ddiolch am nodded y dydd, a chyd-erfyn am nodded y nos. Yr oeddwn wedi clywed son am aelwydydd fel hyn yng Nghymru lân, ond ni ddaeth i'm ffawd weled yr un, hyd nes teithio i eithafoedd y ddaear at Droed yr Orsedd, a bydd yn yr enw ystyr cysegredig i mi hyd ddiwedd oes.

Yr oedd fy nghyfeillion yn awyddus am i mi orffwys ychydig cyn dechreu teithio i weld y wlad oddiamgylch. Ond yr oedd y cylchynion hyfryd a'r awel iachus wedi'm llanw a'r fath nwyf ac yni fel na allwn fod yn llonydd pe mynnwn. Y peth cyntaf welwn drwy ffenestr fy ystafell bob bore oedd y Mynydd Llwyd, a'i gopa gwyn ym myd y cymylau. Yr oedd yn demtasiwn ac yn swyn anorchfygol i mi, a rhaid oedd ffurfio cwmni i ddringo i'w ben. Nid oedd 'ond un person wedi bod fan honno erioed, a bygythid pethau mawr arnom am ein rhyfyg. Cychwyn wnaethom ar ddiwrnod tawel, hafaidd, ar geffylau, fel pob Patagonwr; yr oedd gennym daith bell cyn dod at lethr y mynydd, a chodi bwganod oedd gwaith y cwmni ar hyd y ffordd. Ond wedi dechreu dringo, yr oedd gan bawb ddigon o waith, edrych ar ei ol ei hun a'i ysgrublyn truan Bu dadl fawr wrth droed y mynydd. Yr oedd ar rai eisieu gadael y ceffylau fan honno, a'i throedio i fyny.

"Wfft i shwd ddwli," ebai bechgyn glew y paith, beth mae'r ceffylau dda?"

Ond yn wir, yn wir, rhyngoch chwi a minnau buasai'n well gennyf ei throedio o lawer; yr oedd gweled yr hen geffylau yn ymladd am eu hanadl ac yn syrthio bendramwnwgl ar draws y cerryg yn boenus i'r eithaf. Ond fry, fry, yr aem o hyd, a min yr awel i'w deimlo yn fwy o hyd. O'r diwedd, daethom i le na allai yr un ceffyl ei basio, ac felly cefais yr hyfrydwch o'u gweled yn gorffwys, tra ninnau yn pelo'n mlaen yn nannedd y gwynt oedd eisoes yn chwythu bygythion.

Wrth son am fynydd, mae dyn yn meddwl am graig gadarn o dan draed o hyd, ond dyma fynydd na saif yn llonydd yr un funud-mynydd anferth o gerryg mân, a dywed Darwin yn ei nodiadau ar Batagonia mai effaith yr ia oesol ar y graig yw hyn, a rhyfedd meddwl fod yr eira distaw yn gallu gwneud y fath waith aruthrol.

Wrth fod y mynydd yn rhoi ffordd o dan ein traed, yr oedd teithio yn waith anawdd ac araf iawn, ac yr oedd y gwynt erbyn hyn yn anterth ei gynddaredd, a hwnnw mor rhewllyd nes yr oedd perygl i ni gael ein parlysu gan yr oerfel, a'r awyr mor fain yn yr uchder ofnadwy nes mai trwy boen dirfawr y gellid anadlu. Ond yr oedd copa'r mynydd yn ymyl, ac O, yr oedd arnom eisieu sefyll ar ei ben-hwb fach ymlaen eto, ond "i lawr a chwi," meddai'r gwynt. Ac fel yna, o gam i gam, yn destyn gwawd i'r gwynt, y cyraeddasom y copa gwyn, ac y sangodd ein traed ar y fath balmant o ia nes mae arswyd lond fy nghalon y funud yma wrth son am dano.

Ceisiasom sefyll ar ein traed er mwyn cael cip ar yr olygfa ogoneddus o'n hamgylch; ond bu raid i bawb wneud hynny yn ei dro, a'r gweddill o honom i ddal fel bachau heiyrn yn yr edrychydd rhag cymeryd o hono adenydd a hedeg fry, fry, uwch y cymylau, lle y gwelem y Condor anferth, brenin yr awyr, fel llong dan lawn. hwyliau, yn hofran yn yr uchelderau aruthr, yn gwylio'r dyffryn am filltiroedd, mewn gobaith am ysglyfaeth, byw neu farw.

Mae'r Condor yn un o ryfeddodau'r byd ymysg yr ednod; prin y mae'n werth i mi ddweyd fod ei dryfesur yn un droedfedd ar bymtheg pan ar ei aden, oblegyd 'chred neb mo honof: mae'n swnio mor anhygoel. Ond i rywun sydd wedi ei weled yn ei gartref mynyddig, mae'n olygfa fythgofiadwy. Mae ei blu mor ddu â chysgod y mynydd yn y nos, a choler o fân-blu gylch ei wddf cyn wynned ag eira'r mynydd ar lawn lloer; mae ei lygaid fel ser y bore'n machlud, a gwrid y wawr o dan bob ael; ei big yn bedair modfedd o hyd, ac fel ellyn dau finiog.

Ei elyn mwyaf yw ei lythineb. Pan gaffo ysglyfaeth wrth ei fodd, fe wledda arno i'r fath raddau fel na all ei ddwy aden, er cryfed ydynt, godi'r corff glwth oddiar y ddaear, a dyna bron unig gyfle'r heliwr; unwaith yr esgynno'r Condor i'w gartref ar binaclau uchaf yr Andes, nid yw saethwyr a gynnau ond megys gwybed iddo—ni all unrhyw allu oddilawr ei ddiorseddu: gall dinistr ddod oddifyny pe digwyddai i Geidwad y Porth erchi

i filwyr y mellt anelu eu saethau tua'r cartref creigiog. Er fod y Condor yn greadur mor ysglyfaethus, anawdd peidio ei edmygu: mae golwg ardderchog arno: mae'n frenin ar fyd mor fawr ac mor wyn.

Ond bu raid ymysgwyd o'r holl fwyniannau hyn, canys gwelem er ein dychryn fod yr haul bron machludo, ac y buasai yn amhosibl i ni gyrraedd diogelwch cyn y nos, ac i ni fyned yn ol yr un ffordd ag y daethem. Ond nid oedd neb wedi myned i lawr ar yr ochr ogleddol erioed! Wel, yr oedd yn rhaid i ni fyned, neu rewi ar y mynydd, ac yr oeddym bron yn y cyflwr hwnnw eisoes.

Erbyn dod i olwg y disgyniad ar yr ochr ogleddol, safem yn fud mewn arswyd ac ofn, ond yn fy myw ni allwn beidio teimlo mor fendigedig ydoedd yr olygfa.

Edrychwch, dyma flodau ynghanol yr eira a'r oerni: maent yn edrych mor siriol â phe mewn nyth o fwswgl, ac mor bersawrus a'r briallu yn y coetir, a rhyfedd mor debyg i'r friallen ydynt o ran en ffurf, ond fod y lliw fel glas y nen. Yr oedd awydd arnaf dynnu tusw, ond edrychent mor bur ac mor ddedwydd fel na allwn eu cyffwrdd, dim ond sisial," Ffarwel, flodeuyn bach, eiriol drosof fi."

Gwelwyd nad oedd ddiben i ni ein hymddified ein hunain ar y ceffylau mwyach: yr oedd y disgyniad yn rhy serth. Felly, gollyngwyd hwy i ymdaro oreu gallent, gan obeithio y deuem o hyd iddynt rywle tua godre'r mynydd. Ni allem ninnau gerdded i lawr, dim ond llithro a'n llywio'n hunain â'n dwylaw ac â'n traed oreu gallem. Wedi i ni ddechreu cynefmo â'r gwaith, cawsom hwyl yn iawn. Llawer chwerthiniad iachus glywyd yn adsain rhwng y creigiau cylchynnol, a phan ddeuem i ddarn go wastad, torrem allan i ganu ambell i hoff emyn. Cyraeddasom y gwaelod yn ddiogel, wedi anghofio ein holl ofidiau, a chan feddwl am y gwynfyd a'r mwyniant gawsem.

Gwyddem fod tŷ y cyfaill Jacob Morgan heb fod nepell, ac y caem lety clyd a chroesaw cynnes gan y deulues hawddgar. Beth pe dywedwn hanes y tê arbennig hwnnw wrthych ar ol bod o godiad haul hyd ei fachludiad yn teithio yn awel y mynydd, heb dorri newyn unwaith? 'Rwy'n sicr fod gan Mrs. Morgan gof byw am y pryd bwyd hwnnw, ond nid wyf fi yn mynd i ddweyd yr hanes heb ganiatad y cwmni.

Yr oedd yna ryw obaith distaw ymysg y cwmni y buasai Eluned wedi blino gormod i gychwyn taith arall drannoeth. Ond cefais y fath noson o gysgu ardderchog, fel yr oeddwn yn teimlo fel ewig fore trannoeth; a phan aethpwyd i sôn am y Dyffryn Oer a'r llyn hyfryd oedd yno, a thaith drwy goedwigoedd a chorsydd i fynd yno, parod fi ar y funud. Ond aeth y cwmni ar y streic. Mynnai pedwar fynd adref. Arhosodd un gyda mi, ac unodd Mrs. Morgan, fel yr oeddym yn dri yn cychwyn i'r Dyffryn Oer,-trineg milltir o ffordd, a buom yn teithio o naw y bore hyd naw y nos drwy erddi o fefus addfed hyfryd, drwy goedwigoedd tewfrig, drwy gorsydd lleidiog, i fyny ac i lawr y cymoedd.

Nid oedd ond un bwthyn bugail unig yn yr holl ddyffryn, ond pe buasai yn balas y Tylwyth Teg, ni fuasem falchach o'i weled. Byddaf yn credu'n ddistaw fod y bugail wedi ein cymeryd ni fel rhai o drigolion Gwlad Hud y noson honno, gan mor anisgwyliadwy ein hymweliad ar awr mor hwyr o'r nos. Ond bydd gennyf gof melus am groesaw'r bugail a lloches ei fwthyn unig, a murmur y nant a'm suodd i gysgu, a swn tonnau tryloewon y llyn a'm deffrodd yn y bore, a'r bugail caredig ei galon farchogodd dair milltir yn oriau mân y bore er mwyn i'r teithwyr gael llaeth iachus i'w boreufwyd.

PENNOD X.

DILYN YR AFON.

 REDAF fod trigolion Troed yr Orsedd braidd yn synnu fy ngweled yn cyrraedd adref a'm hesgyrn yn gyfain, a bu y ffaith i mi gyrraedd yn fyw yn help i mi ffurfio cwmni arall i wneud taith i lawr yr afor Caranlewfw (afon las). Hon yw'r afon fwyaf yn y cylchynion, ac yr oeddwn wedi clywed llawer am ramantedd a mawredd ei golygfeydd gan yr unig un fuasai yn troedio ei llwybrau dyrus-Percy Wharton, un o sefydlwyr cyntaf y Fro, a'r mwyaf egniol a gweithgar, yn Gymro pur er gwaethaf ei enw, ac yn delynor gwych,-rhyfedd oedd gweled yr hen delyn swynol yn y caban coed wrth odreu'r Andes.

Ar y daith hon yr oeddym yn chwech mewn nifer, pedair o wyryfon, yr arweinydd Percy, a Brychan. Cychwynnem gyda thoriad gwawr, gan gymeryd gyda ni ddigon o luniaeth am un byrbryd. Ni allasom fyned food ymhell ar ein ceffylau o herwydd y coedwigoedd anferth a'n cylchynnai ymhob cyfeiriad, ac yr oedd arnom ninnau eisieu dilyn yr afon er mwyn gweled y rapids. Mewn rhyw gwmwd bychan porfaog gwnaethom ein ceffylau yn iddiogel, a chychwynasom ar y daith oedd i fod yn fythgofiadwy inni mwy. Gwaith anawdd ac araf iawn oedd teithio o herwydd y drysni; gallesid meddwl yn aml mai rhai o bedwar carnolior y ddaear oeddym, gan fel y teithiem ar draed a dwylaw dros lawer llecyn dyrus. I chwanegu at ein llafur, yr oedd yn ddiwrnod hafaidd iawn: yr oedd y coed yn cysgodi'r haul mae'n wir, ond yr oeddynt yn cysgodi'r gwynt hefyd, fel na chaem yr un awel i'n hadfywio.

Wedi teithio am rai oriau fel hyn, clywem lais Percy ymlaen yn traethu newyddion da," Mae'r rapids gerllaw." Ust, gadewch i ni wrando: rhyw swn rhyfedd yw hwn, fel storm o wynt cryf yn dyfod drwy'r goedwig, a tharanau'r nef yn chwyddo'r twrf; ond dyma'r afon, a fry gwelwch,—ie, beth welwn, wir? Mae arnaf eisieu taflu'm harfau i lawr fan hyn a—ffoi? Nage, byddwn foddlon cerdded mil o filltiroedd i gwrdd y fath allu â hwn. Ond pa fodd y mae dweyd yr hanes, ddarllenydd mwyn? Pe buasai gennyf ysgrifbin a chyfoeth geiriau y naturiaethwr hyglod o Lanarmon yn Ial, buasai gobaith i chwi gael desgrifiad cywir o'r olygfa ogoneddus y safem yn fud o'i blaen. Pe buasai gennym eiriau i'w dweyd, amhoisbl fuasai clywed dim. Yr oedd natur ym mawredd ei brenhiniaeth yn teyrnasu, ac nid oedd i ni, bethau bychain, eiddil, ond plygu pen yn wylaidd mewn arswyd. ac edmygedd mud.

Yr oedd yno balmant o graig anferth bron wrth ben y rapids, a phenderfynwyd dringo i'r fan honno i orffwys a mwynhau. Disgynnai'r dwfr o uchder aruthrol. Yr oedd yr haul yn tywynnu arno hefyd, a pha arlunydd yn y byd allasai ddweyd beth oedd lliw'r dwfr hwnnw? Yr oeddwn i yn meddwl am enfys wedi troi'n ddwfr, ac yn disgyn ar cin daear yn ei liwiau o wawl y nef. Ond nid oedd natur yn foddlon ar y dwr yn unig yn ei darlun, plannodd ddwy goeden fuschia un bob ochr i'r rapids. Gwnaeth iddynt dyfu fel coed derw Gwyllt Walia. Yr oedd greddf y pren yn ei dynnu tua'r dyfroedd, yn plygu, plygu, nes cusanu'r ewyn gwyn llachar. Daeth y blodau ar lun clychau'r nef, neu ynte a fu yma lu o seraffiaid yn hofran uwch ben, â'u calon mor llawn wrth weled tlysni ei greadigaeth Ef nes disgyn o'u dagrau fel perlau rhwng gwyrdd-ddail y pren. Ond rhaid tewi. 'Rwy'n gweled natur yn gwgu mewn dirmyg wrth ben fy ngeiriau gwael. Maddeu, frenhines dirion, a thywys fi yn ol dy droed.

Er mor anawdd oedd ymysgwyd o'r pêrlewyg yma, rhaid oedd cychwyn eto os am weled ychwaneg o ryfeddodau'r afon fawr hon. Yr oedd y golygfeydd o'n cwmpas yn cynyddu yn eu rhamantedd, mynyddoedd gwynion yn ymgodi ris ar ol gris nes ymgolli o honynt yn y cymylau.

Wrth deithio drwy'r dyrus lwybr, daethom at enau ogof helaeth. Gan fod y gwres mor arteithiol, meddyliem mai melus fyddai lloches yr ogof am ennyd. Erbyn cyrraedd i'r gwaelod, yr oeddym yn dechreu crynnu gan yr oerfel. Yr oedd llawr yr ogof yn orchuddiedig â rhedyn hyfryd, mân, mân ei ddail: muriau'r ogof fel pe wedi eu gorchuddio à gemau gan fel y disgleiriai clychau'r ia (icicles) ymhob cyfeiriad; ond bu raid ffoi am einioes: hanner awr mewn awyrgylch mor eithafol oer fuasai'n ddigon i dawelu calonnau ieuainc, nwyfus, fel yr eiddom ni.

Ymlaen eto. Yr oedd rhai o'r cwmni yn dechreu teimlo yn lluddedig iawn, ac yn barod i droi'n ol, ond yr oedd addewid y caem olwg ar ddau lyn yn ymagor o'r afon, a bod ardderchowgrwydd yr olygfa yn werth aberthu llawer er ei fwyn. Yn araf iawn y teithiem yn awr o herwydd y gwres a'r blinder. Ymrannodd y cwmni yn ddau unwaith, y naill ran am fynd at lan y llyn, a'r llall am aros i ddisgwyl ei dyfodiad yn ol. Ond pan gyrhaeddodd y cwmni cyntaf at y llyn, gwelem y llall yn dyfod yn araf, araf. Nid oeddynt am eu trechu ychwaith, a chwareu teg iddynt hefyd; bu gennyf fwy o feddwl o honynt byth wed'yn.

Yr oedd y gwres yn llethol, ond yr oedd bywyd a nerth yn nwfr y llyn godidog. Yr oeddym yn methu peidio yfed. Ymolchem a chwareuem yn y llyn hyfryd, fel pe'n benderfynol o dderbyn iachusrwydd a phurdeb ei ddyfroedd. Nid oedd enw arno ar fap y byd, canys ni wyddai neb am ei fodolaeth, oddieithr y rhai eisteddent ar ei lan, a'r mynyddoedd mawr fel pe'n edrych yn syn ar y weledigaeth ryfedd. Deuai'r adar o'n cwmpas mewn cywreinrwydd, gan ddweyd cyfrinachau lawer wrthym. Y fath resyn na fuasem ddigon pur ein calon i'w deall, onide? "Llyn y Gwyryfon"—dyna oedd ei enw bedydd. Ni wn a gedwir yr enw pan ddel mawredd yr Andes yn enwog ymysg gwledydd y ddaear. Ond ni fydd yn ddienw byth mwy.

Troi'n ol i wynebu y drysni a'r rhwystrau i gyd eto,— dyna oedd yn tynnu'r melusder a'r swyn o'r daith. Ond yr oedd yn rhaid mynd drwyddynt, ac yr oedd ein harweinydd yn dechreu pryderu pa un a allem gyrraedd ein ceffylau cyn y nos. A chywir oedd ei ofn. Mor flinedig oeddym fel y penderfynwyd lawer gwaith orwedd i lawr man yr oeddym hyd y bore. Ond yr oeddym yn rhy newynnog i gysgu, gan ein bod wedi gwneud camgymeriad difrifol yn hyd y daith wrth ddarpar y lluniaeth. Yr oeddym wedi cychwyn er toriad dydd, yr oedd yn awr yn hwyr o'r nos, a ninnau yn dal i deithio yng ngoleu'r ser drwy anawsderau fil. A theithio y buom hyd doriad gwawr drannoeth. Yr oedd fy nghyfeillesau 'ieuainc yn anghynefin â cherdded,—plant y Wladfa oeddynt, heb arfer dringo a theithio hen gymoedd a mynyddoedd Gwyllt Walia. O'm rhan fy hunan, buaswn yn hoffi rhoi pwys fy mhen ar ryw hen foncyff orffwysai yn ei wely mwswgl, a disgwyl am heulwen y bore. Cefais dreulio noson felly wedi hyn pan gollasom y ffordd ar y mynydd, ac y bu raid i mi, ar ol crwydro oriau, wneud tanllwyth o dân, a gorffwys ym mreichiau natur. Ni fu mam mor dyner erioed i suo ei phlant i gysgu—mae y ddaear mor werdd ac mor esmwyth, mae perarogl y cwrlid y fath nad oes apothecari yn y byd all ei efelychu, na thywysogion ei bwrcasu er maint eu cyfoeth.

Tra'm henaid yn gwibio fel hyn, yr oedd y babell frau yn poenus deithio tua Throed yr Orsedd. Weithiau'n cerdded, weithiau'n cropian, weithiau'n dringo fel geifr gwylltion, ond cyn prin ddadebru o'r wawr, drannoeth y cychwyniad, wele ben y daith—gorffwys a lluniaeth. Yr oedd y caban coed yn dawel a thywyll, ond buan y caed goleuni, ac yna, torrodd allan y fath fonllef of chwerthiniad iachus nes deffro pawb drwy'r tŷ. Y tywyll- wch a guddiasai lu o arwyddion y daith, ond dyma ni yn cael cip ar ein gilydd yn awr,-cwmni o Christy Minstrels wedi bod ar y spri wyllt, wynebau a dwylaw yn rhychau duon addurniadol, a dillad yn gyrbibion mân, pob un ynts ddrych byw o fwgan brain,-anghofiaf fi byth mo'r bar olygfa na'r hwyl. Diflannodd pob blinder yn y fonllef hout gyntaf, ac erbyn i ni ddechreu sobri a dofi, yr oedd Morgan yn canu grwndi'n siriol, a thinc y llestri yn llawenhau'r galon.



PENNOD XI.

DYDD NADOLIG

 MHEN deuddydd wedi hyn yr oedd yr. ddydd Nadolig, a mawr y paratoi erbyn y tê a'r cwrdd adloniadol oedd i fod creative yn ddathliad yng nghapel y Llwyn: córebration Dalar yn cwrdd yn aml, côr yr aelwyd yn prysur baratoi, minnau'n helpu gwneud danteithion, ac yn mynd am ambell wib i'r coed i roi tro ar ambell unawd, a chór y wig yn cyfeilio, er fod Dalar yn wed bygwth gwartheg gwylltion arnaf, ac y ceid hyd i mi ryw fore fel epa ym mrig y coed. Cafwyd diwrnod hyfryd a ha faidd, er fod y mynyddoedd yn dal yn wyn; cyrchodd pawb i dy'r wledd yn eu gwisgoedd glan a destlus, a golwg ddedwydd, iachus ar bawb. Yma y cefais weled fy holl hen gyfeillion am y tro cyntaf. Yr oeddwn wedi bod yn rhy brysur yn ceisio torri'm gwddf, ys dywedai Dalar, i fynd fawr o gwmpas tai.

Wedi cael eu gwala o'r danteithion, cyrchai pawb tua chysgod y bedwlwyn i eistedd a mwynhau ymgom. Yma hefyd yr oedd y ceffylau ffyddlon sydd yn rhan mor bwysig o'n bywyd Patagonaidd.

Dechreuid y cwrdd yn gynnar er mwyn i bawb gael cyrraedd adref cyn y nos oherwydd pellter y cartrefi. Cwrdd chwaethus, nwyfus, yn llawn o'r hen dân Cymreig, fel pe buasid mewn cwrdd llenyddol yn rhannau gwledig Sir Gaerfyrddin neu Sir Feirionnydd: ac eto, nid oes yn ein cylchynion na'n dyledswyddau beunyddiol ddim cyfatebol i'r bywyd Cymreig yng Ngwalia Wen. Rhyfedd fel y glŷn cariad y Celt yn ei lên a'i gân ymhob rhan o'r ddaear,-pethau anwyl, pethau cysegredig y Cymro: maent yr un mor anwyl iddo wrth odreu'r Andes â phe wrth odreu'r Wyddfa. Bu Lloegr â phob gallu a dyfais yn ceisio newid serch a thueddion y Cymro, ond yn ofer ac am ddim y llafuriodd. Mae Archentina, hithau, yn ceisio mynd drwy'r un oruchwyliaeth â'r fagad fechan Gymreig a sefydlodd o fewn ei thiriogaeth; ord mae traddodiadau'r tadau yn fur rhy drwchus i unrhyw allu Lladinaidd dreiddio drwyddo.

Yr oedd y cwrdd Nadolig wrth droed yr Andes wedi fy nghodi i'r fath hwyliau fel na allwn fod yn llonydd ar ol cyrraedd adref wedi'r cwrdd. Yr oedd yno liaws of gyfeillion wedi d'od yn ol gyda ni; yr oedd yn noson lawn lloer. Ar lethr Gorsedd y Cwmwl, yrghanol y goedwig, yr oedd un o'r rhaeadrau hyfrytaf yn y Fro. Yr oeddwn wedi bod yn ei weled a'i fwynhau yng ngoleu llachar yr haul, a meddyliwn mor swynol fuasai cael un gip arall arno ar nos Nadolig yng ngoleu gŵyl y lloer.

Yr oedd Dalar bron credu, os byddwn yn y Fro yn hir, yr awn yn wyllt, ac mai yn y coed y byddwn byw; ond yn rhadlonrwydd ei galon daeth gyda ni, y cwmni llawen yn dathlu gwyl Nadolig. Teithiem yn heinyf dan ganu carolau a'n haddurno ein hunain â blodau banadl a melus-y-pia; yr oedd y lloer yn gwenu'n siriol amom fel pe'n cydfwynhau. Wedi rhyw hanner awr o gerdded, daethom at y llwybr cul oedd yn arwain i lawr y ceunant at fin y dwfr. Gyferbyn â'r rhaeadr ymgodai hen graig anferth fel llu arfog i warchae'r darlun tlws. Wedi cryn lafur, dringwyd i ben y graig, a safem ar y palmant cadarn yn wynebu'r dyfroedd gwyn, llachar. Cwympent ar ddwywaith, gan wasgar lluwchion eu hewyn ar y coed a'r blodau a ymhyfrydent yn y gwlith perliog hwn. Nid oedd y lloer eto yn taflu ei goleuni yn llawn ar y rhaeadr. Er disgwyl am yr olygfa honno, gwnaethom goelcerth ar ben y graig, a thra yr oeddym ni yn prysur fwydo'r tân, daeth y lloer yn ddistaw, ddistaw, gan belydru megys drwy'r dyfroedd. Erbyn hyn yr oedd y goelcerth yn ei gogoniant, fel pe mewn ysbryd cystadlu â'r lloer a belydrai yn y modd mwyaf effeithiol ar yr ewyn gwyn. Ond cynorthwyo'u gilydd yr oeddent i wneud un darlun gogoneddus, a'r amrywiaeth lliwiau yn dallu'r llygaid wrth edrych arnynt. Yr oedd yr olygfa o ben y rhaeadr yn sicr o fod yn darawiadol hefyd yr oedd canghennau'r coed yn taflu cysgodion cywrain yng ngoleu'r fflamau, a ninnau yn ein coronati o flodau yn gwibio o gwmpas y fflamau. Hawdd iawn fuasai ein camgymeryd am y Tylwyth Teg wedi d'od allan i ddawnsio ar noson lawn lloer. Nid oedd neb wedi edifarhau dyfod erbyn hyn; yr oedd rhyw swyngyfaredd wedi ein meddiannu. Ni ddywedai neb fawr o ddim, dim ond yfed yn helaeth o ardderchowgrwydd gwaith ei ddwylaw Ef. Ond methodd y calonnau Cymreig â dal y distawrwydd yn hirtorrodd yr edmygedd a'r mwyniant allan yn un anthem o fawl—

"Dduw Mawr y rhyfeddodau maith,
Rhyfeddol yw pob rhan o'th waith."

Yr oedd y cwmni oll yn hoff o ganu, a chredaf na fu y fath ganu ar yr hen emyn erioed; bron nad oeddym yn gweled drws y nef, ac na chlywem yr anthem fel corws yr engyl gwyn—dyblem a threblem y llinellau nes yr oedd y goedwig gylchynnol fel pe wedi uno â'r mawl. Un o oriau euraidd bywyd oedd honno: dringem y llwybr bychan mewn distawrwydd perffaith yr oedd yna gysegredigrwydd yn y fangre i bob o honom byth mwy.

Yr oeddwn i yn olaf yn cyrraedd o'r ceunant, ac yr oedd y cwmni wedi mynd ychydig ymlaen. Cofiwn y byddai raid i mi ymhen ychydig ddyddiau deithio'n ol dros y diffeithdir sych i wlad ddi-goed, ddi-flodau. O yr oedd fy hiraeth yn fawr iawn. Yr oedd fy mywyd yn ystod y mis diweddaf wedi bod mor llawn o ddedwyddwch pur, fel yr oedd rhyw ofn yn llanw fy nghalon wrth feddwl am y dyfodol. Fel yr hiraethwn am gael byw bywyd pur, dilychwin! Mor hawdd fuasai gwneud hynny ynghanol cylchynion fel hyn. Rhedais i lawr y ceunant yn fy ol. Sefais yn ymyl y cwymp, nes derbyn yn helaeth o fedydd y gwynias ddwfr. Yr oeddwn yn gwneud cyfamod yn fy medydd; llithraf a chwympaf aml waith ar ddyrus lwybrau bywyd, ond ni fyddaf byth yn unig mwy. Cwmni dedwydd iawn oedd yn cyrraedd Troed yr Orsedd nos Nadolig, a minnau y dedwyddaf o bawb, ac un o freuddwydion fy mebyd wedi ei sylweddoli yn ei holl felusder. A chwithau, ddarllenwyr mwyn, gobeithiaf fod i bob un o honoch ryw freuddwyd melus, ac y daw i chwithau sylweddoliad a mwyniant anhraethol.



PENNOD XII.

NOSON YN Y GOEDWIG

 R oeddwn i gael un daith fythgofiadwy arall cyn canu'n iach à Bro Hydref, ond 'rwy'n digalonni wrth feddwl am geisio dweyd yr hanes. Mynd i weled cewri'r goedwig oedd yn tyfu ar lethrau Gorsedd y Cwmwl: coed pin, coed bedw, etc., anferthol o faint, fel pe'n ceisio efelychu'r cawr gwyn oedd fry yn y cymylau uwch eu pennau. Dywedai Daler bethau anhygoel am danynt, a minnau yn orlawn o gywreinrwydd, ac er ei bod yn amser prysur yn y Fro, a ninnau, y cwmni gwladfaol yn prysur bacio, bu raid gadael pob peth a chychwyn.

Nid oedd y ffordd ymhell, meddai'r arweinydd; dim ond i ni gychwyn ganol dydd, a mynd å byrbryd gyda ni i'w fwynhau yng nghysgod y cewri, a dod yn ol fin yr hwyr wrth ein hamdden. Onid yw'r rhaglen yn darllen yn rhwydd a syml? Eithr na thwyller chwi, ddarllenwyr tirion; trwy orthrymderau fil y cawsom ni ail olwg ar fythynnod coed y Fro. Cychwynnem yn gwmni llawen, a'n hwynebau tua'r goedwig a'r mynydd; yn fuan daeth yn gryn gamp inni weithio ein ffordd ymlaen rhwrig aml ganghennau'r coed, a'r creepers afrifed fel gwê'r copyn yn taenu eu rhwydau blodeuog rhwng pob cangen werdd. Fel llwybrau'r Indiaid ar y peithdir, felly mae llwybrau yr anifeiliaid yng nghoedwigoedd yr Andes; dyna eu llochesau pan fo'r eira yn gordoi'r dolydd. Deuthum i deimlo yn fuan mai fy nghynllun goreu oedd gadael yr arweinyddiaeth yng ngofal yr hen geffyl ffyddlon, deallus, a threio gwylio'r canghennau rhag fy nghrogi. Gwaeddem ar ein gilydd er cael rhyw amcan i ba gyfeiriad yr oeddym yn mynd, canys gwlad y gwyll a'r cysgodion yw coedwigoedd yr Andes, gydag ambell i fflach o belydrau'r haul drwy y ffurfafen ddeiliog.

Yr oedd yno ffrydiau mân, grisialog, yn dyfal gario bywyd a nerth i ddirif lu'r Orsedd, ac yn murmur a dawnsio ar eu gwelyau mwswgl. Er nad oeddym yn gweled dim ond y coed., etc, teimlem mai graddol godi yr oeddym, a Dalar yn dal i arwain a ninnau yn dal i ddilyn mewn llawn hyder ffydd. Sylwem fod y coed yn dechreu praffu, a'r mân goed yn lleihau, fel pe byddai'r cewri am eu mygu o fodolacth. Yr oedd amaf eisieu sefyll i ddechreu mesur y coed, ond "Mae gwell ymlaen" oedd y gri o hyd: a minnau yn synnu ac yn rhyfeddu, a neb yn dweyd dim, pawb yn mynd yn ei ddau ddwbl, ac yn gwylio pob cangen fel barcud, ac yn troi ac yn trosi fel seirff. Yn fy myw ni allwn beidio meddwl am fintai o yspiwyr yn mynd drwy wlad y gelyn-ofn clywed yr un brigyn yn torri dan garnau'r meirch; ceisio treiddio- i'r gwyll am lygad estron, os torrai cangen yn sydyn, gwingem fel pe rhag saeth elynol.

Yr oedd y coed mor enfawr erbyn hyn nes y collem ein gilydd yn eu cysgod; ac fel y distaw nesai'r nos, ymddyrchafent fel hen filwyr dan lawn arfau. Dal i ddringo yr oeddym, a gallasem ddringo am oriau meith- ion heb fod fawr nes i Orsedd y Cwmwl. Ond wedi dod. at hen frenhines dalgref a estynnai ei breichiau cawraidd fel pe am lapio'r brenin gwyn acw yn ei chôl, cawsom ganiatad i ddisgyn a gorffwys, a syllu ac edmygu wrth fodd ein calon.

Gresyn na ellid crynhoi holl eiddilod hunanol y byd, a'u halltudio i un o goedwigoedd yr Andes am flwyddyn: fe syrthiai eu hunanoldeb fel mantell oddi am danynt, a deuent eilwaith yn blant bychain gyda chalonnau gwylaidd llawn o barchedig ofn. Nid oes modd dweyd mewn geiriau am fawredd aruthrol y coed yma; ac o'r lle y saíem caem gip ar y pigynnau gwynion draw yn yr uchelderau; ac O! gwelwch, mae'r haul yn machlud! Ni allem ni weld yr haul wrth reswm, ond dacw'r bysedd dwyfol yn tynnu llun yr haul ar yr ia oesol, a ninnau yn cael edrych arno! Gwyn fyd na chaffai pawb syllu ar olygfa debyg unwaith mewn oes: byddai fel ffrwd fywiol yn y galon, ac yn ystorfa ddihysbydd o felusder a nerth yn oriau tywyll, chwerw bywyd. I mit y mae'r darlun yn felusach heddyw nag y bu erioed, pan ymhell o dir fy ngwlad, a haul a hindda wedi ffoi; ond mae'r haul ar yr Orsedd o hyd.

Buom yn hir iawn cyn gallu sylweddoli dim ar ein cylchynion methid tynnu'r llygaid oddiar yr Orsedd, er ei bod hi erbyn hyn wedi mynd yn Orsedd y Cwmwl yn llythrennol, ond yr oedd y darlun mewn du a gwyn lawn mor swynhudol, er nad mor ogoneddus. Ond bu raid i'r arweinydd ein deffro; gwyddai efe yn well nâ ni anawsderau'r dychwelyd drwy nos gaddug y goedwig. Cawsom fwynhau ein byrbryd ar fin nant, un o genhadon yr Orsedd, a sisialai gyfrinion y llys gwyn fry; ond ysywaeth nid oeddym ni yn ddigon pur ein calon i'w deall, er fod yr ymdeimlad o anheilyngdod yn wers fawr i'w chofio. Tipyn o beth oedd cael torri newyn mewn cwmni mor urddasol, a moesymgrymai breninesau'r dalaeth fawr hon mewn croesaw pêr i'r teithwyr pell.

Erbyn hyn yr oedd y nos yn gordoi'r wlad, ac nid ces gwyllnos yn Neheudir America, a bu raid i ninnau feddwl am droi pennau'r meirch tuag adref, neu anelu oreu gallem tua'r cyfeiriad hwnnw. Ond buan y daethom i'r penderfyniad fod gennym orchwyl difrifol o'n blaenau; yr oedd dilyn y llwybrau cul liw dydd yn gryn gamp, ond yr oedd yn wrhydri liw nos. Ymlaen yr aem yn ddistaw bryderus, mewn perygl bywyd bob munud. Wedi teithio am oriau fel hyn, cau yn dynnach am danom yr oedd y goedwig, a phob llwybr wedi ei hen golli. Meddwi am ben draw y drysni yr oeddym, ond a'n helpo! gallasem deithio cannoedd o filltiroedd heb wel'd y ffurfafen. Yr oeddwn wedi bod ar fin cael codwm amryw weithiau, drwy fod fy ngheffyl yn gallu mynd o dan y canghennau a minnau yn methu eu gweled i ostwng danynt; ond o'r diwedd, yr hyn a ofnais a ddaeth i'm rhan, ac i lawr â mi ar wastad fy nghefn, a'm pen rhwng dau droed ol y ceffyl. Buasai ambell geffyl wedi rhoi terfyn ar fy cinioes mewn ychydig eiliadau, ond yr oeddym ni ein dau yn gyfeillion mawr, ac adwaenai fy llais o bell. Yr oeddym wedi cael aml scwrs yn ystod ein teithiau, ac ni fyddwn byth yn disgyn oddiar ei gefn heb ddiolch iddo yn dyner mewn iaith ag y mae pob anifail mud yn ei deall yn drwyadl. Gwyddai efe wrth fy ngwaedd ddy chrynedig fod rhywbeth allan o le, a safodd mewn amrantiad, gan edrych drach ei gefn mewn cydymdeimlad a chywreinrwydd a phan godais o'm gwely mwswgl yr oedd ei lawenydd yn fawr, a rhwbiai ei ben yn fy ngwisg fel pe i wneud yn sicr fod fy esgyrn oll yn gyfain; bu'r un anifail dewr yn gyfaill imi drwy'r diluw wedi hyn, ac achubodd fy mywyd amryw droion.

Gwelodd pawb erbyn hyn fod yn rhaid disgyn, nad gwiw rhyfygu ychwaneg, ac arwain ein hanifeiliaid yn ofalus rhwng y coed. Addefai ein harweinydd na wyddai efe ar glawr daear pa le yr oeddym, ond y byddem yn sicr o ddod allan i'r gwastadedd ond i ni ddal i deithio i'r un cyfeiriad. Yr oeddym yn flinedig a newynnog erbyn hyn, canys yr oedd ymhell ar y nos, a ninnau wedi bod yn teithio yn ddiorffwys er canol dydd. Dringem ambell i lechwedd dyrus, mwsoglyd, gan arwain yr anifeiliaid blinedig, yna aem bendramwr.wgl i lawr ceunant serth, a chyn y gallem sefyll yr oeddym ynghanol ffrwd, yn canu'n iach yn ei gwely graean, ac yn synnu at ymwelwyr mor ddi-barch o lendid ei dyfroedd. Mwynhâi yr hen geffylau y ddiod iachus, a buasem ninnau'n mwyn- hau'r ddiod yn burion, ond nid oedd bath rhewllyd ganol nos mor dderbyniol.

Wedi teithio fel hyn drwy ddrysni a dŵr, dros bant a bryn, am oriau meithion, blinion, daethpwyd i'r penderfyniad unfrydol mai gwell oedd llechu man yr oeddym hyd doriad gwawr. Yr oedd y newydd bron cystal â phe wedi cyrraedd pen y daith. Dadgeriodd pawb ei geffyl, gan ei gylymu'n ddiogel man y cae efe flewyn melus i dorri ei newyn. Yna crynhowyd tanwydd a gwnaed coelcerth, canys yr oeddem yn oer a gwlyb, heblaw yn flinedig. Tân ardderchog oedd hwnnw, canys nid oedd eisieu cynhilo y defnyddiau; taflem foncyff ar ol boncyff i ganol y flamau nes goleuo a sirioli'r holl gylchynion, a phe buasai gennym grystyn i gnoi cil arno er torri newyn buasai ein mwyniant yn berffaith. Teimlem braidd yn ciddigeddus wrth yr hen geffylau yn pori'r glaswellt iraidd wrth fodd eu calon, ac yn gweryru o wir fwyniant gan ddweyd hanes y wledd y naill wrth y llall, tra ninnau yn gorwedd gylch y tân a'r naill ochr yn rhewi tra'r llall yn rhostio, ac yn meddwl mewn hiraeth am y caban coed adawsem y bore, a'r ford lawn danteithion. Ond fel y tymherai'r tân yr awyrgylch, ac y sychai ein dillad, ac y dadflinai ein cymalau, graddol lithrodd swyn a dieithrwch yr olygía i'n calonnau, gan wneud i ni anghofio pob anghysur.

Dyma ni mewn coedwig gannoedd o filltiroedd o hyd, a chyn dyfodiad y Cymry i'r Fro yn 1886 nid oedd yr un dyn gwyn wedi ei gweld erioed, na nemawr neb o'r hen frodorion wedi treiddio i ganol ei drysni, canys drwg- dybient wyll y coedwigoedd, gan gredu mai dyma gartref a chyrchfan holl ysbrydion drwg y byd, ac hyd heddyw mae'r ofergoeledd yma'n gryf ymhob calon frodorol. Ond i mi yr oedd fel cip ar ardd Eden yr henfyd: hoffaswn dreulio blynyddoedd i astudio pob pren deiliog, a gweled bys y Lluniwr yn nodi'r boncyff ar ddechren pob blwyddyn newydd, ac i geisio deall rhai o'r miloedd ymlusgiaid sy'n llechu mor ddiddos dan ddail a daear, pob un yn ol ei reddf, a phob un yn gwneud ei waith yn ol archiad dwyfol. Dyma le i ddysgu iaith yr adar; faint yw rhif y côr tybed, a phryd y cynhaliant eu cymanía ganu? Mae'n sicr mai dyma'r deyrnas brysuraf yn ein byd; mae'r deiliaid fel dirif dywod y môr, a phob un, o'r gwybedyn a'r genwair distadlaf hyd at y condor a'r carw gwyllt ar y pigynnau gwynion, yn gampwaith y Lluniwr, ac yn anesboniadwy i wyddonwyr mwyaf y byd; maent yn gallu esbonio popeth ond bywyd, ac ysgatfydd bywyd yw'r goedwig i gyd; ord bu raid i mi deithio i'r Andes i sylweddoli aruthredd y gwirionedd hwn.

Yr oeddwn wedi arfer rhoi'm clust ar y ddaear i wrando am swn ceffyl yn dod o bell, ond ni thybiais ei bod yn bosibl clywed y gweithwyr diwyd sydd yng nghrombil yr hen ddaear; ond bum yn gwrando ar gannoedd o honynt wrth ddisgwyl am y wawr yng nghoedwig yr Andes, dyma gyfaredd! mi gredaf yn y Tylwyth Teg tra byddaf byw bellach; yr oedd yma filoedd o'm cwmpas drwy'r nos, yn cyniwair ac yn gwau, ac yn tyrchu ac yn chwareu, ac yn siarad wrth fodd eu calon, a minnau yn synnu ac yn rhyfeddu, ac yn gwneud darganfyddiadau newydd bob munud; ac fel pe na fuasai'r ddrama danddaearol yma yn ddigon i swynhudo dyn, dechreuodd un arall yn y mwswgl a'r dail sy'n gorchuddio y wlad ryfedd

ac ofnadwy hon. Ar y cyntaf brawychwyd fi'n ddifrifol;

Gwersyll yn yr Andes

meddyliais yn sicr fod holl ddeiliach a mwswgl y goedwig yn dechreu symud, a chodais ar fy eistedd gan rwbio'm llygaid er bod yn siwr nad breuddwydio yr oeddwn, ond na, gwelwch! mae yna lu afrifed o honynt yn dod tua'r tân! Yr oedd ofn gwirioneddol arnaf erbyn hyn; nid. oedd yn ddigon goleu i mi weled yn eglur, ac yr oedd fy nghyd—deithwyr yn cysgu'n braf. Ond o'r diwedd daeth. rhai o'r ymwelwyr dieithr yn ddigon agos i'r tân i mi eu gweled yn well,—dyma ddeilen grin debygwn, ond rhyfedd y son, mae wedi magu coesau anferth, ac yn brasgamue ddeheuig i gyfeiriad y gwersyll gan gymeryd stoc o'r olygfa ryfedd; yr oedd ganddi ddau lygad hefyd yn perlio ac yn gwibio rhwng gwyll a gwawr, a dyna lle y buom am rai eiliadau yn dyfal wylio y naill y llall, ac mi gredaf y cofiwn ein gilydd y rhawg. Ond erbyn hyn yr oedd yna amryw ymwelwyr ereill, pob un wedi dod i weled y dieithriaid,—darnau o risgl wedi magu pennau a choesau a llygaid, etc., llawer o fangoed, ambell i ddarn o fwswgl tlws odiaeth, blodau wedi gwywo, ambell i ddeilen werdd newydd gwympo; ac yn eu mysg gwelwn amryw hen gyfeillion, megys y chwilen ddu a'r chwilen werdd, symudliw, y pryf copyn, a'r genengoeg, ac wrth weled y rhai'n gwawriodd arnaf beth oedd y lleill. Yr oeddwn wedi darllen am bryfaid ac yinlusgiaid yn cymeryd lliw a ffurf eu cylchynion fel diogelwch, ond ni sylweddolais am foment wir ystyr yr hyn ddarllenaswn, ond byth er y noson honno mae pob llyfr naturiaethwr (os bydd yn caru natur) fel stori y Tylwyth Teg i blentyn, yn orlawn o ddyddordeb i mi. Gweld gyntaf, a darllen wedyn, yw'r ysgol oreu debygaf fi: onid oes gormod o ddarllen llyfrau a rhy fach o ddarllen natur? Buasai'n well gennyf golli pob llyfr ar fy elw na cholli'r adgof am fy noson yng nghoedwig yr Andes.

Ond er mor gywrain a dyddorol yr olygfa, yr oedd blinder a newyn yn dechreu cael y llaw drechaf arnaf, a gorweddwn eilwaith er ceisio anghofio'm gofidiau mewn cwsg, ond er cau'm llygaid yn dyn, a phenderfynu peidio eu hagor, chwarddai'r lloer a'r ser am fy mhen, gan wybod mai hwy oedd y meistri hyd doriad gwawr; amhosibl ydoedd cau amrant a'r fath ddarlun i syllu arno. Nid gweld y ffurfafen yn un darn mawr serennog yr oeddwn, ond cannoedd o fân bictiyrau mor berffaith a phur ag y gallasai llaw'r Arlunydd Mawr eu gwneud, a phob un wedi ei fframio â mân-ddail ariannaidd. Ond wrth syllu fel hyn rhwng cwsg ac effro ar oriel gelf y nef, yn ddistaw-gyfrin, bron yn ddiarwybod, diflannodd y naill ddarlun ar ol y llall, disgynnodd y tywyllwch a'r distaw- rwydd llethol hwnnw sy'n dod dros ein byd cyn torri o'r wawr yn y Dwyrain pell, pan fo natur i gyd fel pe'n gorffwys a huno ennyd. Ond O! mor ogoneddus y deffro, onide? Ni allaf beidio meddwl mai fel hyn y dylem ninnau ddeffro bob bore pe wedi byw yn deilwng.

Nid wyf yn mynd i geisio dweyd wrth neb sut y torrodd y wawr drwy'r ddeiliog wê wrth fy mhen, ac y trowyd y goedwig yn un enfys fendigedig, nes yr oedd pob llygad yn dallu, a phob pen yn gostwng mewn addoliad mud, a phob calon yn teimlo mai da oedd cael bod yno, ac yn gwneud cyfamod newydd yng nghysegredigrwydd y foment. Ond nid oedd y cyfeillion asgellog yn plygu pen: plant y wawr ydynt hwy; ni wasanaethasant ond un Brenin erioed, a hwnnw'n ddidwyll a glân, o'u mebyd. Rhoiswn y byd pe yn ddigon pur fy nghalon i ddeall yr holl gyfrinion a sisialent wrth eu gilydd wrth ymgyfarch ar ddechreu diwrnod newydd.

'Welsoch chwi'r adar yn ymolch erioed? Dyna'r wers rymusaf mewn glendid a deimlais erioed; ac mor ddedwydd y maent yn ymbincio ac yn ymdrwsio, gan focsymgrymu'n gogaidd, a gwneud pob ymdumiau dichonadwy. Ac wedi iddynt yn siwr nad oes lychyn ar flaen aden, ac fod pob pluen yn ei lle yn bert a syber, cymer pob un ei le yn y côr, a phrin y caiff yr arweinydd amser i gyrraedd llwyfan gwyn acw, ac eistedd ar yr orsedd o dân ysol, na fydd y gân yn dechreu, ac yn esgyn yn un anthem. orfoleddus, yn aberth hedd a llawenydd; ac yna mewn amrantiad â pawb at ei orchwyl. Ymlanhau, diolch, a gweithio-dyna raglen yr adar. Gresyn meddwl mor wahanol yr eiddom ni yn aml, onide? Ymlygru mewn drygioni, grwgnach yn anfoddog, a diogi ac ymblesera, y byddwn ni yn fynych.

Ym Mexico, hyd yn ddiweddar iawn, ffynnai her arferiad. tlws a defosiynol ddaethai gyda'r Hispaeniaid yn amser y goncwest: cyferchid yr haul ar ei ddyfodiad bob bore âg anthem o fawl a diolch. Cenid cloch ychydig funudau cyn ymddanghosiad yr haul, ac agorai pawb ei ffenestr a arweiniai i'r veranda gylchynna bob ty Hispeinig, a safai'r holl deulu, o'r hynaf i'r ieuengaf, y meistr fel y caethwas, i gyfarch brenin y dydd. Mor debyg i'r adar, onide? Sicr yw y byddai miloedd o'r ednod cerddgar yn uno yn y foreuol gân ynghanol perllannau a gerddi dihafal Mexico gyfoethog.

Aflonyddodd adar yr Andes ar y cysgadwyr o'm cwm— pas, a rhwbient lygaid o un i un, gan wincio'n gysglyd ym mhelydrau'r haul oedd eisoes yn dechreu treiddio drwy'r deilios. Yr oedd y tân yn farwor llonydd erbyn hyn, a min awel y bore yn dechreu gwneud inni sgrwtian, a da oedd cael symud i ystwytho'r cymalau a chyflymu'r gwaed. Yn reddfol cyrchai pawb at ei geffyl gan ddechreu breuddwydio am ben y daith a thamaid i dorri newyn. Ond—dyma fonllef orfoleddus oddiwrth un o'r pererinion; pawb yn mynd ar râs wyllt i glywed y newydd, a dyna lle'r oedd un o'r cwmni ar ei bedwar yng nghanol gwely o fefus addfed! a ninnau wedi bod yn newynnu drwy'r nos! 'Doedd ryfedd fod yr hen geffylau yn gweryru, ond chwareu teg iddynt, gwnaethant eu goreu i'n hysbysu o'r newyddion da. Ni allaf byth feddwl am y boreufwyd hwnnw heb gael ffit o chwerthin iachus: 'rwy'n siwr y rhoisai Punch lawer am ddarlun o'r olygfa,—pawb yn gorwedd ar ei hyd cyhyd, bron o'r golwg yn y dail, ac wrthi à holl egni ei fysedd yn tynnu mefus, ac yn en bwyta lawn mor egniol, a phawb cyn ddistawed â llygod mewn cae gwenith. Brecwast ardderchog oedd honno; mae'n siwr gen i mai rhywbeth tebyg a fyddai Efa yn gael yng Ngardd Eden er's llawer dydd.

Dalar oedd y cyntaf i wacddi "Digon!" a chychwyn am ei geffyl, a bu raid i ninnau ddilyn heb ond prin dorri awch ein newyn. Ond yr oedd yr amgylchiad difyrrus, hapus, wedi codi ein hysbrydoedd i'r uchelfannau, a geriem ein ceffylau dan ganu a dyfalu lle'r oeddym, ac

"Wele ni bawb ar gefn ei geffyl,
A dyma ni'n mynd dow dow, dow dow,
Ar garlam, a thuth, a phranc, Hwre!
Heb ofal nac ofn am rent na threth !
Ond meddwl am dy, a thân; a thê."

Buom yn hir yn cael cip ar gyrrau'r wlad, ac erbyn inni ddod allan o'r drysni, cawsom ein bod filltiroedd lawer yn is i lawr na'r cychwynfan, ac fod gennym daith hirfaith cyn cyrraedd cartref. Ond wedi i'r meirch gael eu carnau ar y gwastatir, a dod i ardaloedd cynefin, yr oeddynt yn mynd fel ewigod, a ninnau yn mwynhau'n ride i berffeithrwydd. Awel y bore fel dyfroedd bywiol yn disgyn oddiar y copâu gwynion, a phêr awel y pinwydd a'r myrdd blodau mân yn llanw'r awyrgylch â'u perarogl. O! yr oedd yr hen ddaear yn dlos y bore hwnnw, a bywyd yn felus iawn; gwyn fyd na chaffai pawb oriau euraidd fel hyn unwaith mewn oes: byddai stormydd bywyd yn haws eu goddef wedyn, ac ni chaffai'r temtiwr loches mewn calon a deimlodd agosed ddrws paradwys.

Fel y nesâem at y Fro, deuai aml i fwthyn coed i'r golwg, yn nythu mor dangnefeddus yng nghysgod y gwylwyr gwynion, a mwg eu simddeiau yn dyrchu tua'r nen yn aberth peraidd o'u tân coed glanwaith: brefiadau'r praidd ar y llethrau porfaog, y gwartheg yn cyrchu yn yrroedd mawrion tua'r corlannau erbyn amser godro, a'r cŵn yn dyfal gyfarth er ceisio didol yr hesb oddiwrth y laethes, a'r llanciau ar eu ceffylau bywiog yn gwibio yma a thraw, pawb ynghylch ei orchwyl; a ninnau—adar y nos—yn anelu am ddiddosrwydd, ond yn teimlo braidd yn yswil, fel plant drwg wedi bod ar eu spri. Ond cawsai perthynasau a chyfeillion noson mor bryderus yn ein cylch, fel yr oedd y croeso yn gynnes a siriol, a phawb yn falch o'n gweld, ac yn holi a dyfalu am y cyntaf.

Hyd nes inni ein cael ein hunain rhwng muriau'r bwthyn clyd, nid oeddym ymwybyddol mor flinedig oeddym; yr oedd yr awelon iachus, a symudiadau chwim y ceffylau, wedi ein cadw yn effro, ond gynted y dacthpwyd i awyrgylch gynnes yr aelwyd, a chael y tê y canem am dano, cysgu a gorffwys oedd ein dyhead mwyaf, a chwsg i'w gofio oedd hwnnw: dywedir inni gysgu gylch y cloc yn grwn, tra'r plantos bach yn chwareu a chanu, ymwelwyr yn mynd a dod, ceffylau a gwartheg yn tristfawr gyniwair gylch y ty, a'r haul yn machlud a'r lleuad yn codi, a ninnau'n cysgu'n ogoneddus, a thelynau'r Tylwyth Teg yn suo-ganu. Ond wedi inni ddeffro, yr oeddym fel adar yn trydar, ac yn barod i adrodd ein holl anturiaethau. Eithr ni fynegir byth mo'r filfed ran o gyfrinion y goedwig ddistaw, lân; nid pethau i'w mynegi ydynt, ond pethau i'w teimlo i eigion calon, ac i'w trysori yn nyfnderoedd enaid.

Ryw ddydd, mae'n debyg, clywir swn bwyelli yn y coedwigoedd tawel, a chroch nadau'r agerbeiriant yn adsain drwy'r cymoedd llonydd, gan ddygyfor ei fwg du ar y dyfroedd grisialog, a throi'r perliog wlith sy'n nythu ar fron pob blod'yn gwiw yn ddefnynnau marwol i ysu a difa'r tlysni. Diolch ynte am gael troedio'r ardd cyn cyrraedd o'r sarff.

PENNOD XIII

TUAG ADRE.

 EDI dadflino a sobri o helyntion y daith ddiweddaf, bu raid dechreu pacio o ddifrif, canys yr oeddym yn gorfod troi'n ol ymhen ychydig ddyddiau, er ein mawr ofid. Y syniad cyffredin am bacio yw, llawer iawn o focsus yn llawn o ddilladau o bob lliw a llun, y rhan fwyaf yn hollol ddifudd ac anaddes, a chymaint o helynts wrth eu trefnu a'u hail-drefnu a phe byddai bywyd dyn yn dibynnu ar ei ddillad. Mae aml i hen wladfawr wedi cael oriau o ddifyrrwch diniwed wrth wylio newyddddyfodwr, neu gringo, ys dywed yr Hispaenwr, yn cychwyn ar ei daith gyntaf i'r Andes. Mor gryno a thwt yw pob peth, a phob bocs fel pe newydd ddod o'r masnachdy, yn edrych yn boenus o loew, ac yntau'r teithiwr mor ddestlus a glân ei drwsiad, a'r cyfrwy Prydeinig newydd. spon, prif destyn sport a dirmyg llanciau'r paith, a golwg mor anhywaith arno nes gwneud i bob asgwrn a chymal frifo wrth edrych arno heb son am ei farchogaeth am ryw bedwar can milltir. Doniol yw gweled ambell i hen geffyl brodorol, callach na'r cyffredin, yn troi ei ben i edrych yn syn ar y weledigaeth ryfedd; anodd peidio credu, gan mor ddeallus yr edrych, nad yw'n ffurfio barn ddistaw am allu teithiol y perchennog. Nid oes ond profiad chwerw a ddarbwylla'r gringo o'i fiolnieb a'i ystyfnigrwydd. Bydd yn ddigon gwylaidd cyn cyrraedd pen y daith, ac ychydig bach yn debycach i'w gylchynion, er na ddaw efe byth yn rhan o'r darlun fel yr hen frodor- ion; mae'r brodor a'i geffyl a'i gêr a'i ddillad yn un, mewn perffaith gydgordiad, ac yn un o'r golygfeydd mwyaf hudolus a swynol ar yr holl wastadeddau. Onid ydych wedi sylwi gymaint mwy dyddorol yw gwisg y Colonials Prydeinig? Maent wedi addasu eu gwisgoedd i'w cylchynion, ac felly yn edrych yn berffaith naturiol a dilyfethair. Dilyn natur yn lle celf-dilyn y gwladfawyr ieuainc yn lle Paris, a fyddai eithaf adnod yng nghredo Prydain heddyw.

Ond, i ba le yr aethom, wys! Nid gringos oeddym ni, ond hen deithwyr profiadol, wedi bod drwy bob helyntion allasai'r paith mawr ei ddarpar ar ein cyfer; ac yr oeddym yn pacio ein wagen yn yr adgof am y pethau hyn, ac yn ceisio rhagddarparu ar gyfer pob anap. Tra'r dynion yn brysur yn trwsio a chryfhau'r gêr, a gofalu am ddigon o olew ar gymalau'r wagen, gan gofio am y gwres a'r llwch oedd o'n blaenau, cedwid ni'r merched fel gwenyn. nid yn casglu mêl ychwaith, ond mefus, a'u berwi mewn crochannau enfawr, a dihysbyddu'r tai o bob tun gwag drwy'r holl fro, i gario y melusion gwerthfawr i wlad nad. oedd yn llifeirio o laeth a mefus.

Dyddiau hapus oedd y rheiny, tymor dedwydd plentyndod wedi dod yn ol am ennyd,—allan gyda'r wawrddydd, pawb a'i fasged ar ei fraich yn canu a dawnsio o wir lawenydd calon. Ond weithiau deuai cysgod y 'madael ar heulwen fy nedwyddwch, a chiliwn at lan Llwchwr i geisio lleddfu fy hiraeth, a gwrando yn astud a dwys ar neges a chenadwri y mynyddoedd mawr a syllent arnaf o'r uchelderau pell. Un o blant y gwastadeddau oeddwn i, ond yn hannu o'r Eryri, a dyna mae'n debyg sydd i gyfrif mai ar y mynyddoedd y mae fy nghalon bob amser. Mewn tristyd mud yr edrychwn ar y gadwyn wen a gylchynnai'r dyffryn tawel, a'm henaid yn dyheu am gael llechu yng nghysgod eu glendid, ymhell o swn y byd a'i stormydd. Yr oedd y tawelwch a'r unigedd, a natur yn ei harddwch cyntefig, wedi suddo i eigion fy modolaeth, ac wedi defiro pob peth oedd oreu ynof; llawer delfryd a meddylddrych tlws a ddaeth yn eiddo imi tra'n byw fel glöyn ar felus fwyd natur. Ac yn ofnus a chrynedig y wynebwn y gwastadeddau a'r bywyd gwladfaol helbulus, a'r mân ofidiau beunyddiol; ofnwn golli'r delweddau newydd, a syrthio'n ol i'r hen rigolau. Hoffaswn gael mwy o amser i fagu nerth meddyliol wrth draed fy Ngamaliel, a naddu sylfaen o graig yr Andes. Weithiau meddyliwn fy mod yn cael fy ngolwg olaf ar gewri y byd newydd, a dyblai hynny fy mhruddglwyf, ond yng nghilfachau cysegredicaf fy nghalon, blagura gobaith am ail olwg, ac er imi deithio ddeg mil o filltiroedd oddiwrthynt, mae'r gobaith yn dal i dyfu yn gryf ac iach. Ond ysywaeth, y mae'r pyst a'r gwifrau yn dringo'r llethrau erbyn heddyw, a thrydan yn cydio'r hen a'r newydd wrth ei gilydd. Ond cymer ganrif dda i wareiddiad ddifwyno'r Andes; felly ni raid brysio.

Ofnaf na chynorthwyais lawer i gasglu mefus na phacio'r wagen, ac fel y nesai diwrnod y cychwyn collid. Eluned o'r cwmni yn aml, ond diau mai buddiol imi oedd y prysurdeb a'r darpar, canys yr oedd fy hiraeth yn llethol, a neb yn deall na neb yn cydymdeimlo ond yr hen fynyddoedd.

Fe ddaeth y noson olaf, a natur wedi bod yn gwgu drwy'r dydd cymylau duon brochus yn ymwibio draws y ffurfafen las, ac yn tywyllu pelydrau llachar yr haul; ond er cymylu o'r haul, yr oedd y gwres yn llethol, a hawdd oedd teimlo'r ystorm yn dod o bell. Gwyddai'r adar hefyd fod y ddrycin ar eu gwarthaf: distawodd eu cân, safodd eu gwaith, ac ni welid hwy yn picio of frigyn i frigyn gan drydar ar ei gilydd a dyfal gasglu ymborth i'r rhai bychain a ddisgwylient wrthynt. Na, safent yn swrth a'u pennau yn eu plu ar y canghennan mwyaf cysgodol, fel pe'n ymbaratoi i wneud eu goreu o'r gwaethaf. Gellid gweled y ceffylau yn carlamu'n orwyllt tua'r coedwigoedd, tra'r taranau yn clecian o graig i graig; dolefai'r praidd yn ofnus gan dyrru at ei gilydd fel pe'n teimlo fod diogelwch mewn rhif. Anelu am y corlannau a wnae'r daoedd yn lluoedd tristfawr, canys yr oedd yn fachlud haul ac yn amser godro; udai'r cŵn yn aflafar, ac ni cheid taw arnynt nes eu gollwng i'r ty. Eithr yr hyn a dynnai fy sylw fwyaf oedd cwhwfan yr ysguthanod a lechent yn y llwyn bedw gylch y ty; yr oedd eu cŵ-cw fel rhyw gyfeiliant lleddf-dyner wedi pob taran. ac fel pe'n ceisio cysuro ei gilydd. Ond dal i dduo yr oedd y wybren, a'r mellt fforchog, fflamgoch, yn gwibio ac yn gwau fel seirff tanllyd, a'r taranau yn rhuo fel magnelau, gan siglo'r creigiau cylchynnol. Ond yn y bwthyn coed yr oedd cân a thelyn, ac aclwyd lawen: plantos bach yn canu, â'u lleisiau fel y wawrddydd, hen ac icuainc a'u pennill yn eu tro, a thinc y tannau tynion yn llanw'r bwlch yn hapus pan fyddai'r awen yn gorffwys ar ei rhwyfau. Eithr a ni'n ceisio boddi'r storm a'r hiraeth mewn noson lawen, daeth taran a fuasai'n casglu nerth ar yr uchelderau, debygaf, i daro ar y bwthyn bychan nes yr oedd yn siglo fel corsen ysig, a thannau'r delyn yn torri o un i un dan fysedd celfydd y telynor; a bu dychryn a braw yn y cwmni diddan. Ond unwaith y cawsom ni fynd allan i'r ystorm, a bod yn dystion o'i mawredd a'i gogoniant, trodd yr ofn yn edmygedd, a'r dychryn yn fwyniant bythgofiadwy. Yr oedd yn gaddugawl dywyll ond pan fflachiai ambell i fellten eirias drwy'r tywyllwch dudew, gan roi i ni gipolwg ar fyd newydd spon. Nid yr un oedd y Fro dan wenau haul a than wg yr elfennau, a rhyw deimlad rhyfedd oedd bod mewn nos a dydd bob yn ail eiliad o hyd, canys gwibiai'r mellt gyda chyflymdra dychrynllyd, gan roi rhyw gylchdro o amgylch y cwm. Weithiau dringai lethrau'r Mynydd Llwyd o lam i lam, fel hydd yn ffoi rhag yr heliwr, ac wedi cyrraedd y copa gwyn, gwasgarai'n fil o wreichion gan droi'r ia oesol yn dân ysol. Cymerai un arall ei thaith drwy'r coed, gan ddawnsio ar y brigau uchaf neu gyniwair drwy'r drysni a throi'r glesni a'r blodau fel gwawl y nef. Daeth un i ymyl y cartref lle y safai hen fedwen dalgref a welsai lawer storm cyn hyn. Plethodd ei breichiau tanllyd o amgylch ogylch y pren gan ei gofleidio i farwolaeth; mewn fflach y bu'r mall, ac mewn amrantiad y collodd ei nerth a'i degwch; syrthiodd yn ol ar fynwes yr hen fam a'i meithrinasai mor dyner.

Tra'r mellt ar eu hymgyrch fel hyn, ni phallai udgorn câd y taraneu, ac ni fu udgymn yn adsain yn ogoneddusach erioed,—atebent ei gilydd o gopa pob mynydd ac o grombil pob ceunant, nes diasbedain drwy'r wlad am filltiroedd. A ninnau'r cwmni mud yn cael edrych ar filwyr y nef yn gwneud eu gwaith. Gymaint o amser, a dyfais, a chyfoeth sy'n mynd i ddysgu rhyfela, onide? a brenhinoedd a theyrnasoedd yn cyfrif eu milwyr wrth y miloedd, a dim ond i Frenin y brenhinoedd anfon un o'i filwyr i'r gâd, gall chwalu byddinoedd y byd megys tywod o flaen corwynt.

Ond a ni'n edrych ar yr ystorm ac yn ei theimlo i eigion ein calonnau, graddol beidiai'r mellt, a chlywid rhu y daran yn dod o bell, fel pe'n chwyrnu'n anfoddog mewn llynclyn ar lethr Gorsedd y Cwmwl; teyrnasai tywyllwch —bron na ellid ei deimlo gan mor llethol ydoedd, a'r distawrwydd ofnadwy wedi'r fath gynnwrf yn gwneud i'r galon guro'n boenus, dan bwys teimladau dilafar. Ond wele'r ffurfafen ddu yn agor ei hystordai yn llu, gan dywallt ei mil ddefnynnau mân i ddisychedu'r hen ddaear grasboeth, ac i ireiddio gwellt y meusydd. Du yw pob storm i'r llygad di—ffydd, ond rhyfedd fel y blodeua ambell gymeriad dan groesau a gorthrymderau bywyd, onide? Mae'n gweled drwy'r düwch i gyd, ac wrth ddal i syllu fry yn derbyn yn helaeth o'r defnynnau bywiol sy'n disgyn o ganol yr ystorm. Bron nad oeddym yn gweled natur yn agor ei breichiau led y pen pan ddechreuodd y gwlaw maethlon ddisgyn ar ei mynwes. Teimlem yn llawen a diolchgar fod y fendith wedi dod wedi cymaint paratoi a disgwyl, canys yr oedd pob deilen a glaswelltyn yn eiriol yn daer er's wythnosau am ymgeledd.

Faint o honom sydd wedi sylwi tybed mor anhraethol swynol y mae natur yn diolch am ei bendithion? Tra cenhadon yr awyr yn cyhoeddi y newyddion da mewn dull dipyn yn rhwysgfawr a thristfawr i galonnau bychain y llawr, llechai pob cyfaill asgellog yn fud a syn, ffoi i'r gwenyn gwyllt oedd gynau'n suo ganu wrth ddiwyd sugno'r mêl, i'w llochesau celfydd yng nghalon hen foncyff draw; swatiai'r blodau yng nghesail ei gilydd, a gwnae'r deilios gwyrdd eu goreu i'w noddi a'u calonogi; mae ffynhonnau eu perarogl wedi eu cau yn dŷn, rhag gwastraffu adnoddau mor werthfawr mewn cylchoedd mor anghydnaws. Ond pan ddychwelo'r cenhadon i'w cartref fry, ac y teymaso tangnefedd a distawrwydd, ac y disgynno y tyner wlaw fel olew ar ddyfroedd aflonydd, mor dlws a phêr y croesaw: mae pob deilen yn ymloewi, a phob deryn drwy'r wig yn prysur ymbincio ac yn lledu ei esgyll mewn gwynfyd wedi'r hir gaethiwed, ac yn torri allan i ganu fel yr eos yn y nos. Ni all y coed a'r blodau ganu, ond llanwant yr holl wlad â'u perarogl; dyna eu dull hwy o ddiolch i'r Crewr tirion am ei ryfedd ddaioni: a pha falm mewn byd pereiddiach nag arogl y blod'yn gwiw? Mae natur yn ei holl gysylltiadau yn rhoi ei goreu a'i phuraf ar allor ei diolch. Gwyn fyd na chaem ni lygaid i'w gweled, a'i deall, a'i hefelychu yn well, onide?

Aeth rhyw ochenaid o ddiolch drwy'r cwmni distaw pan ddechreuodd y gwlaw dywallt, a theimlem fel pe wedi dadebru o ganol rhyw freuddwyd cymysglyd. Yr oedd sirioldeb yr aelwyd yn dderbyniol iawn wedi'r fath gynhyrfiadau. Y mwyaf didaro ynghanol yr elfennau oedd yr hen gi hela orweddai ar ei hyd cyhyd o flaen y tân, yn chwyrnu'n braf, wedi cael y gwres a'r noddfa glyd i gyd. iddo ei hun am ysbaid awr, ac yr oedd arno flys dangos ei ddannedd pan drespaswyd ar ei etifeddiaeth; ond hawdd fu ei ddenu â chunog o laeth.

Er ei bod yn hwyr o'r nos, a phawb yn flinedig, nid oedd gorffwys i fod heb dalu diolch a gofyn nodded. Yr oedd naws a pherarogledd y blodau ar y ddyledswydd deuluaidd y noson honno: yr oeddym wedi bod ar drothwy yr anweledig, a miwsig y Llys wedi ein gwefreiddio a'n hysbrydoli.

Mae gan bawb o honom ryw nôd mewn oes, a rhyw gysegrfan i fynd iddo mewn adgof pan gaffer egwyl ynghanol corwynt bywyd. Ni allai neb o honom ddweyd dim am y ddyledswydd y noson honno,-dim ond teimlo, a chofio, a thrysori.

Agorem y ffenestri a'r drysau led y pen i oeri ac ireiddio wedi cymaint gwres: a buan y daeth cwsg i daenu ei fantell yn dirion dros y rhan fwyaf o honom. 'Doedd ryfedd fod gwrid y rhos ar ruddiau'r plant tra'n cael anadlu awyr iachus y mynydd drwy'r nos, canys nid oes eisieu clo na chlicied ar ddrysau a ffenestri bythynnod yr Andes. Ca'r sêr ddod i hofran a gwylio wrth ben pob cwrlid, ac â'r lloer ar daith ymchwiliadol drwy'r ystafelloedd er cael gorffwys ar wyneb ei hanwylyn, a chwery'r awel falmaidd drwy bob congl, gan buro a pher- ciddio erbyn toriad gwawr y dydd newydd. Clywir y daeodd yn cnoi cil yn hapus ar felusion y dydd. Mae'r gwenith addfed sydd o flaen y ty yn codi ei ben yn dalog wrth deimlo'r lleithder bywiol yn ymgeleddu ei wreiddiau, ac mae'r gwynt yn chwareu ar y tannau euraidd nes llanw'r awyrgylch â'i hwiangerdd.

Ond dacw'r ddyllhuan wedi dod allan i chwilio am swper, ac mae ei gwdi-hw yn merwino'r glust, ac yn achos i aml un gael hunllef; ond 'rwyf fi yn dipyn o ffrynd i'r gwdi-hw hefyd: mae golwg hynod freuddwydiol arni, a phe buasai'n gallu barddoni 'rwy'n siwr y gwnae bryddest benigamp ar ryfeddodau'r nos.

Rhyw noson rhwng cwsg ac effro fu'r noson olaf yn yr Andes: anodd oedd ymdawelu wedi'r fath olygfeydd; ac y mae yna ddistawrwydd rhy lethol i gysgu ynddo, a rhyw dawelwch felly ddaethai dros y Fro wedi peidio o'r gwlaw-natur i gyd yn gorffwys gan ddisgwyl cm y wawr. Minnau hefyd a orffwysais, ond nid heb gofio mai dyma fy noson olaf yng rgwlad y mynyddoedd, ac nid heb ddiolch am y gwynfyd a gawswn.



PENNOD XIV.

"ADIOS "

 ID wyf yn credu pe cawswn fyw i oed Methuselah y gwelswn fore mwy gogoneddus nâ'r bore olaf hwnnw ynghanol yr Andes: rhyw ffarwel dywysogaidd roddodd yr hen fynyddoedd i ni. Nid oedd y mellt. wedi llychwino plufyn o'r eira gwyn, na'r taranau wedi dymchwel yr un teyrn oddiar ei orsedd. Canu a dawnsio a chwerthin wnae natur drwy'r bore, a'r haul yn gweru'n foddhaus wrth weled y plant mor ddedwydd. Credaf fod nwyfiant yr awyrgylch wedi mynd i draed yr hen geffylau hefyd-'doedd dim dichon dal yr un o honynt, er carlamu a dwrdio a chwysu. 'Welsoch chwi geffyl castiog yn gwneud sport o'i feistr erioed? Byddai yn anodd gennych ei alw yn greadur direswm ar ol edrych arno am ryw bum' munud yn mynd drwy ei Gremares mares ymdumiau a'i branciau, ac yn drysu pob cynllun o'ch fullof danchis ciddo gyda medr dewin. Mae yn ei fwynhau ei hun yn ardderchog hefyd, ac yn ymhyfrydu yn ei nerth; a phan fyddo wedi cael digon ar y spri, fe saif yn dawel, hamddenol, gan edrych mor ddiriwed ag oen llywaeth. Creulondeb, anheilwrg o ddynoliaeth, yw cosbi ceffyl am gael orig o hwyl pan fo'n teimlo ar ei galon: mae fel rhwystro plentyn iach i chwareu pan fo'r haul yn tywynnu.

Yr oedd yn ddrwg gan fy nghalon weld y ceffylau yn cael eu dal a'u rhoi yn y tresi; mor wahanol a fyddai eu byd ymhen ychydig ddyddiau—mor flinedig y coesau chwim a brancient mor wisgi gynau.

Yr oedd prysurdeb anarferol gylch Troed yr Orsedd y bore arbennig yma. Cyrchai cyfeillion o bell ac agos i ffarwelio a dymuno Duw'n rhwydd. Yr oedd amryw o'r cyfoedion ieuainc yn paratoi i ddcd i'n hebrwng daith diwrnod dros y mynydd, a threulio noson gylch tân y gwersyll i gydfreuddwydio am ddyfodol y Wladfa fechan. yng nghilfachau'r Andes. Mor dalgryf a lluniadd yw. plant y mynyddoedd yma: mae ystwythder yr helygen ymhob cymal, a grym y mynydd yn yr ysgwyddau llydain, cydrerth; gwrid yr haul sydd ar eu gruddiau, a glas y nen yn eu llygaid, a chalonnau cynnes, tyner, a deimlir yng nghydiad llaw; mae'r dwylaw'n arw hwyrach, ac ol y gaib a'r laso ar lawer o honynt, ond dwylaw Cymreig glân oeddynt er hynny, yn dra diesgeulus a difrycheulyd oddiwrth y byd. Gwyn fyd y dyn gaffo fod yn arweinydd iddynt drwy borfeydd gwelltog gwybodaeth; rhyfedd na fuasai maes mor doreithicg wedi denu rhyw ddyngarwr cyn hyn. Mae llawer o son am genedlgarwyr a gwladgarwyr, ac mae angen mawr am danynt, ond byddaf yn rhyw ddistaw gredu mai dyngarwyr yw angen mwyaf ein byd.

Gardd fechen yw'r Fro Hydref, wedi ei phlannu yn eithafoedd Deheudir Amercia, ac ynddi gannoedd o blanhigion ieuainc yn distaw dyfu. Mae eisieu gwrteithio a dyfrhau, a thyfu cysgod rhag stormydd gaeaf a gwres yr haf; mae eisieu tocio'r brigau sy'n bygwth difa nerth ambell i bren; mae yno chwilod a heintiau yn cynllwyn am fywyd pob planhigyn, ac mae yno ladron ac ysbeilwyr yn cyniwair gylch yr ardd, ac yn sathru ambell flod'yn tlws, nad oedd ond dechreu agor ei lygad yn wylaidd a syn ar ryfeddodau'r byd. Mawr y gwaith sydd yn yr ardd, onide? A pha le mae'r garddwr a'i gynorthwywyr? Etyb yr eco, Pa le?

Y fath gyfle ardderchog sydd yma i arddwr medrus dyfu coed derw, a britho pob cwm drwy'r Andes, â chedyrn gewri'r ddaear; fe dyfent yn ogoneddus mewn daear mor doreithiog: a phan ddelai ambell storm i brofi eu nerth, ni wnai ond cwympo'r mês addfed, i'w gwasgar a'u gwreiddio o'r newydd.

Dyna ddylai plant yr Ardes fod ond iddynt gael meithriniad priodol. Pa le mae'r dyngarwyr ynte, a'r cenedlgarwyr hefyd, canys nid oes well Cymry na thlysach Cymraeg yn y byd någ yng nghymoedd yr Andes, a byddai'n werth i blant Cymru fynd yno i astudio'r iaith.

Melus oedd cael cwmni llanciau a gwyryfon mor

hawddgar i'n cychwyn ar ein taith tuag adre: yr oedd

yn pylu tipyn ar fin ein hiraeth, ac yn taflu pelydryn o sirioldeb ar brudd—der y ffarwel; canys ffarwelio fu raid, or pob esgus i aros eto ennyd; yr oedd gennym daith hir o'n blaenau, ac wedi gwneud amryw gynlluniau sut i rannu'r dydd, fel y gallem wibio heibio ambell fwthyn unig, ac hefyd dreio ein llaw ar olchi aur yn nant Rhyfon! 'Does neb a wyr faint o gestyll adeiladwyd ar gorn yr aur hwnnw,—ieuainc oeddym i gyd, cofier, a'r byd yn wyn a'r aur yn felyn, ac os oedd ein cestyll yn gain, a'n milwyr yn ddynol a dewr, nid ofer i gyd y breuddwydio, er casglu graean yn lle aur.

Gorymdeithiem drwy'r Fro gan "chwifio'r cadach gwyn" a sychu deigryn ar-yn-ail. Dringem y llethr yn ddigon distaw, ac wedi cyrraedd pen y bryn, man y caffem yr olwg olaf ar Fro Hydref, gwelem gyfeillion ymhob cyfeiriad, ar bennau'r tai, yn dal i chwifio baner hedd a thangnefedd.

Adios, yr hen fynyddoedd gogoneddus: gwyliwch y plant sy'n nythu wrth eich traed.



GEIRFA.

NOTE.-All Nouns of which the gender is not designated may be takenas masculine.

  • A.
  • aberth m, sacrifice.
  • acen f, accent; also, sound.
  • achub to save
  • adeiladu to build.
  • adgyfodi to rise again.
  • adlewyrchu to reflect (light).
  • adloniadol recreative
  • adsain f, echo.
  • addasu to fit.
  • aeddfed ripe.
  • aethnen i, poplar-tree.
  • afiach ill, unwell; also, noxious.
  • afiaith f, enjoyment.
  • aflonydd unquiet, uneasy. restless.
  • agendau clifts.
  • ageroeiriant steam-engine.
  • agor to open.
  • agoshau to approach.
  • angen need.
  • angherddol intense.
  • anghradiniol unbelieving.
  • anghyfartal unequal.
  • alltud m, exile.
  • amaethu to cultivate, to farm.
  • amgueddfa f, museum.
  • amgyffrediad m, comprehension.
  • amgylchiadau circumstances.
  • amgylch-ogylch roundabout.
  • amlach oftener.
  • amryliw many-coloured.
  • amrwd raw.
  • amser time.
  • anarllenadwy unreadable
  • anadl f and m, breath.
  • anferth monstrous.
  • anfoddog morose, unwilling.
  • anffodus unfortunate.
  • anffortunus unfortunate.
  • anawdd difficult.
  • anelu to aim.
  • anhygoel incredible.
  • anial wilderness.
  • anifeiliaid animals, beasts.
  • annwn the abyss, hell.
  • anyddorol uninteresting.
  • anobaith m, despair.
  • anobeithiol hopeless.
  • anhraethol unspeakable.
  • ansawdd m, substance.
  • anterth meridian.
  • aradr f, plough.
  • araf slow.
  • arbennig peculiar, special.
  • archiad command.
  • arferol usual, customary.
  • arian silver, money; also, coin.
  • ariannu to give a silver sheen.
  • arlunydd painter.
  • arswydo to awe; to fear.
  • arswydus fearful.
  • aruthr amazing.
  • asgellog winged.
  • astud studious.
  • awch keenness, edge.
  • awel f, breeze.
  • bach, hook.
  • baeddu, to maul.
  • bagad, s.f., many, a good number, a lot.
  • balch, proud, glad.
  • banadl, wild broom, genista.
  • bau, bay.
  • bedwlwyn, birchgrove.
  • bendramwnwgl, from pendramwnwgl, head over heels, in confusion.
  • ber, fem. adj., from byr, short.
  • blaen, front.
  • blaguro, to bud.
  • blinder, trouble; also, toil.
  • blewyn, a hair; also, a blade of grass.
  • blewynnu, to lightly graze.
  • blynedd, f a year.
  • bodd, wrth ei fodd, content, to his taste.
  • boddloni, to satisfy.
  • boncyff, slump.
  • bonllef, f, shout.
  • bonwr, rancher, Mr.
  • brain, crows.
  • braf, fine.
  • braint, f, privilege.
  • brasdir, fertile land.
  • brasgamu, to take long strides.
  • bregus, frail, tottering.
  • breuder, brittleness, frailty.
  • briallu, primroses.
  • brifo, v. trans., to hurt, to
  • bruise, brifo, v. intrans.,to ache.
  • brig, branch.
  • britho, to variegate, to peck'e.
  • bro, country.
  • brochus, chafing, blushing.
  • brodorol, native.
  • brwdfrydedd, enthusiasm.
  • brwyn, rushes.
  • brysiog, hasty.
  • budd, profit.
  • bwgan, bogey.
  • bwrw, to throw; also, to
  • bwthyn, cottage.
  • bwystill, beast.
  • bythgofladwy, ever memorable.
  • byrbryd, breakfast.
  • C.
  • cadach, kerchief.
  • cadw, to keep.
  • cadno, fox.
  • caddugawl, gloomy..
  • cae, field.
  • caerau, fortresses, defences.
  • cain, fine, elegant.
  • cafwyd, passive past from cael.
  • calon, f, heart.
  • camgymeriad, mistake.
  • camlas, f, canal.
  • campau, games.
  • campwaith, masterpiece.
  • Camwy, f, The Crooked Water, the river of the Colony.
  • canllaw, f. rail.
  • cannoedd, hundreds.
  • canol, centre, middle.
  • canu'n iach, to sing farewell; i.e., to bid Good-bye."
  • carbwl, clumsy.
  • cariad, love.
  • carlam, gallop.
  • carnedd, f, cairn.
  • castiog, tricky.
  • cawl, soup.
  • cecrus, quarrelsome, snappish.
  • ceisio, to attempt; also, to seek.
  • celfi, pl. of celf, s.m., implements, instruments; also, furniture.
  • cerryg, pl. of carreg, s.f., stones.
  • cesail, s.m., armpit.
  • cethin, fierce.
  • ceulan, f, bank.
  • ceunant, ravine.
  • cewyll, from cawell, baskets, panniers.
  • cil, f, retreat; also, cud
  • cnoi eil, to chew the cud.
  • cilfach, f, a nook, recess.
  • cilio, to fly, to retreat.
  • cip, cipdrem, f, glance.
  • cipio, to snatch.
  • clais, bruise.
  • clecian, to click.
  • clwm, tie, knot.
  • clyd, cosy, comfortable.
  • clywed, to hear.
  • cnol, to gnaw, to chew.
  • codi, to rise.
  • codwm, fall.
  • coedwig, forest.
  • coelcerth, bonfire.
  • coetir, woodland.
  • coegaidd, vain.
  • coegyn, a dandy.
  • cofio, to remember.
  • colli, to lose.
  • collasid am byth hanes, the history would have been lost for ever.
  • copa, crest, top.
  • corachaidd, pigmy.
  • corddi, to churn.
  • corlan, f, sheepfold.
  • cors, f, bog.
  • crasu, to bake.
  • cregyn, from cragen, f, shells.
  • croch, harsh.
  • crochan, cauldron.
  • creiriau, relics.
  • crombil, interior; also, crop or craw of bird.
  • cronglwyd, f, roof.
  • cronni, to cumulate, dam up.
  • cropian, to crawl.
  • crots (from crotyn), boys, urchins.
  • crwydro, to wander.
  • cryn, considerable.
  • crynhoi, to gather together.
  • cuchiog, scowling.
  • cul, narrow.
  • cunnog o laeth f, pail of milk.
  • curo, to beat.
  • cyfaredd, charm.
  • cwhwfan, to coo.
  • cwr, border, corner.
  • cwrlid, coverlet.
  • cwympo, to fall.
  • cwynfan, to complain.
  • cychod, boats, from cwch.
  • cychwyn, to set off, to start.
  • cychwynfan, starting-place.
  • cyd, i gyd, together.
  • cydieuenctyd, young companions.
  • cydio, to unite, to join.
  • cyfeillgarwch, friendship.
  • cyfangwbl, entire.
  • cyfarthiad, s.m., a barking.
  • cyfan, all, whole; (fod y c. drosodd, that all was over).
  • cyfarwydd, capable, experienced; i'r rhai c., to those used to
  • cyfeiliant, accompaniment.
  • cyfer; ar ei gyfer, against it.
  • cyflawni, to accomplish, to fulfil.
  • cyflwyno, to introduce, to present.
  • cyflym, quick.
  • cyfrin, adj., secret, mystic.
  • cyfrinach, f, secret.
  • cyffro, v., to stir.
  • cyffro, s.m., tumult.
  • cylch, circle.
  • cylchynnu, to surround.
  • cylchynion, environment.
  • cylymu, to tie, to fasten.
  • cymal, joint, limb.
  • cymhwysder, qualification.
  • cymylu, v., to cloud; i.e., to obscure.
  • cynefino, to get used to.
  • cynhennid, native.
  • cyniwair, to move about.
  • cyniweirfa, resort, rendezvous.
  • cynllun, plot.
  • cynllunio, to scheme.
  • cynnes, warm.
  • cynorthwyo, to help.
  • cyn lleied, how little.
  • cynddaredd, fury.
  • cyntun, nap.
  • cyrchu, to fetch; also, to resort.
  • cyrchfa, s.f., resort.
  • cyrddau, pl., from cwrdd, meetings.
  • cyrraedd, to reach.
  • cysgod, shadow.
  • cysoni, to reconcile.
  • cysylltiad, connection.
  • cywair, key (musical).
  • cywreinrwydd, curiosity.
  • Ch.
  • chwa, f, breeze.
  • chwaethus, tasteful.
  • chwareu, to play.
  • chwerthinllyd, laughable.
  • chwibanu, to whistle.
  • chwifio, to wave.
  • chwilen, f, beetle.
  • chwilota, to search, (as for beetles).
  • chwim, fleet, quick.
  • chwip, f, whip.
  • chwith, unpleasant.
  • chwyrn, rapid.
  • chwyrnellu, to whirl.
  • chwysu, to perspire, to sweat.
  • chwythu, to blow.
  • D.
  • da, daoedd, s.m., cattle.
  • dadebru, to awake.
  • dadgeri, to unharness.
  • dadleu, debate.
  • dal, to keep on, to hold.
  • dal i wlawio yr oedd, it kept on raining.
  • damwain, f, chance, accident.
  • darganfyddiad, discovery.
  • darlun, picture.
  • darllenwr, reader.
  • darogan, to prophesy.
  • darparu, to provide.
  • dathliad, celebration.
  • dattod, to loosen.
  • dechreu, to begin.
  • delai, 3rd pers., sing., fr. dyfod, to come.
  • delfryd, ideal.
  • delwedd, f, image.
  • denu, to entice.
  • desgrifio, to describe.
  • destlus, lasteful, neat.
  • dewis, to choose.
  • dewin, wizard, magician.
  • diaspedain, to re-echo.
  • diau, indeed.
  • dibendraw, endless.
  • didosturi, pitiless.
  • didrugaredd, merciless.
  • didwyll, sincere.
  • diddig-diddan, happily pleasant.
  • diddos, dry, rainproof.
  • dieithr, strange.
  • diflas, tasteless, uninteresting.
  • diflasdod, unpleasantness.
  • difrifol, serious.
  • difrycheulyd, spotless.
  • digalonni, to dishearten.
  • digartref, homeless.
  • digofus, angered, wrathful.
  • digwyddo, to happen.
  • dihafal, unrivalled.
  • dihysbyddu, to exhaust.
  • diloer, moonless.
  • diluw, deluge, flood.
  • dilyn, to follow.
  • dilychwin, undefiled.
  • dilyfethair, unshackled.
  • dinistriol, disastrous.
  • diogi, laziness.
  • diogel, safe.
  • diosg, to unclothe.
  • disgyn, to descend.
  • distawrwydd, silence.
  • disychedu, to slake thirst.
  • diwyd, diligent, industrious.
  • diwydrwydd, diligence, industry
  • dodi, to put, to place.
  • dodrefn, furniture.
  • dofn-lydan, adj., deep and wide
  • doldir, meadow-land.
  • dolef, s.f., shout.
  • dolefu, to shout.
  • dotio, to dote on, enjoy.
  • dracht, s.f., draught.
  • droellog, from troellog, winding.
  • drwgdybus, suspicious.
  • drycinog, foul-weathered.
  • drychfeddwl, idea.
  • dryll, s.m., gun.
  • dull, s.m., form, manner.
  • dwrdio, to chide.
  • dwys, grave.
  • dwys-ddyfal, grave and earnest. seriously consider.
  • dwys-fyfyrio,
  • dwys-lithro, slide heavily.
  • dychrynllyd, fearful.
  • dyffryn, valley.
  • dychwel, to return.
  • dychmygu, to imagine.
  • dyfal, sedulous, earnest.
  • dyfnder, depth.
  • dyfrllyd, watery.
  • dygyfor, v., to surge.
  • dyheu, to yearn.
  • dyhead, yearning.
  • deheuig, dexterous, adroit.
  • dylluan, f., owl.
  • dymchwel, to upset.
  • dyrchu, to arise, to ascend.
  • dyrus, intricate.
  • dyryswch, enlargement.
  • dywallt, from tywallt, to pour.
  • E.
  • eang, wide, extensive.
  • edmygedd, admiration.
  • ednod, birds.
  • edyn, pl. of aden, wings.
  • egni, energy.
  • egwyl, f, a short rest.
  • eiddil, weak.
  • eiliad, f, second.
  • einioes, f, life.
  • eisieu, need.
  • eithaf, extreme, uttermost.
  • eirioli, to plead jor, intercede.
  • eisteddfa, seat.
  • elid, v., past imp., pass., fr. —. myned, to go.
  • elw, gain.
  • ellyll, imp.
  • ellyn, razor.
  • enfawr, vast, immense.
  • enfys, rainbow.
  • enllyn, viand.
  • entrych, vault of the heaven.
  • er, although.
  • er's (er ys) llawer dydd, long ago.
  • erchi, to command, to order.
  • erchyll, terrible.
  • erddi, fr. gerddi, gardens.
  • erioed, ever.
  • estron, stranger.
  • euraidd, golden.
  • ewig, f, doe.
  • ewyn, foam.
  • FF.
  • ffau, f, den.
  • ffawd, s.f., fate, lot.
  • ffenestr, s.f., window.
  • ffin, f, boundary.
  • fflachio, to flash.
  • fflamingo, a species of bird, flamingo.
  • ffoadur, fugitive.
  • ffoi, to flee.
  • ffordd, f, way, road.
  • ffos, f, ditch.
  • ffrwyn, f, bridle.
  • ffrwythlon, fruitful.
  • ffurfafen, f, firmament, sky.
  • ffynnon, s.f., fountain, well.
  • G
  • gaeaf, winter.
  • galanas, f. massacre.
  • galwad, f, call.
  • gardd, f, garden.
  • geneu-goeg, lizard.
  • genwair, f, fishing-rod.
  • gewyn, sinew.
  • glan, bank shore.
  • glas, blue.
  • glesni, blueness.
  • glew, brave.
  • gloyn, butterfly.
  • glwm, from ewlwm, knot.
  • glythineb, gluttony.
  • godidog, excellent.
  • godro, to milk.
  • godre, bottom; also, foot (of mountain or hill).
  • goddiweddu, to overtake.
  • gogoniant, glory.
  • goleudy, lighthouse.
  • golwg, s.f., appearance.
  • golygfa, s.f., spectacle, sight.
  • gorchuddiedig, covered.
  • gorffwyso, to rest.
  • gorsedd, f, throne.
  • gorthrymder, oppression.
  • gorymdaith, f, procession.
  • goslef, f, tone (of voice).
  • gostyngeiddrwydd, humility.
  • graean, gravel.
  • graeanog, gravelly.
  • grawn, grapes.
  • greddf, s.f., instinct.
  • gresyn, s.m., a pity.
  • grwgnach, grumble.
  • guanaco, a species of animal or quadruped.
  • gwaddol, endowment.
  • gwaedd, f, shout.
  • gwaelod, bottom.
  • gwagenni, pl. of gwagen, f, wagons.
  • gwagder, void, emptiness.
  • gwair, hay.
  • gwala, satiety.
  • gwarafun, to forbid.
  • gwartheg, horned cattle.
  • gwastadedd, level plain.
  • gwastad, adj., flat. yn wastad, continually.
  • gwastraffu, to waste.
  • gwarthaf ar eu gwarthaf, upon them.
  • gwawd, mockery.
  • gwawr, f, dawn.
  • gweddillion, remains.
  • gweddol, middling, fair.
  • gweini, to wait on, to serve.
  • gweledydd, seer.
  • gwellt, straw.
  • gwenith, wheat.
  • gwenu, to smile.
  • gwêr, tallow
  • gweryd, cultivated land.
  • gweryru, to neigh.
  • gwersyllfa, encampment.
  • gwgu, to frown.
  • gwiail, twigs, wicker.
  • gwib, f, a stroll.
  • gwigwyl, f, picnic.
  • gwir, true; also, truth. yn wir, really.
  • gwirio, to verify.
  • gwladfa, s.f., colony.
  • gwlaw, rain.
  • gwledda, to feas!.
  • gwlybaniaeth, moisture.
  • gwlypach, comp. of gwlyb,
  • gwraidd, root.
  • gwrhydri, m, heroism.
  • gwres, heat.
  • gwrid, blush.
  • gyrru, to drive.
  • gwych, elegant.
  • gwydd, f, goose.
  • gwylaidd, modest.
  • gwyliwr, watcher.
  • gwylofus, weeping.
  • gwyn, white.
  • gwynfyd, bliss, happiness.
  • gwynias, white heat.
  • H.
  • gwryf, m., press.
  • gwrthafl, stirrup.
  • gwrych, a hedge.
  • gwyryf, virgin.
  • hinsawdd, climate.
  • gyrroedd, pl. of gyr, f, droves.
  • had, seed.
  • haeddu, to merit.
  • hafaidd, summer-like.
  • hafn, f, creek, haven.
  • halog, adj., unclean.
  • hamdden, leisure.
  • hamddenol, adj., leisurely.
  • hapus, happy, pleasant.
  • hardd (pl., heirdd.) beautiful,
  • haul, sun.
  • heigio, v., to bring forth, to shoal.
  • heinif, brisk, agile.
  • heintiau, plagues.
  • hawdd, easy.
  • hebrwng, to send, to accompany a friend home.
  • hel, to hunt, look for.
  • helbul, trouble.
  • helyg, willows, pl. of
  • helygen, s.f.
  • helynt, event.
  • herio, to challenge.
  • hesb, dry.
  • hesg, rushes, sedge.
  • hin, weather.
  • hiraeth, longing.
  • hirgul, long and narrow.
  • hoew, smart, sprightly.
  • hudoliaeth, f, enchantment.
  • hunanol, egotistical.
  • hwiangerdd, f, lullaby.
  • hwyad, (pl., hwyaid), f., duck.
  • hwyl, f., mood.
  • hwyrach, perhaps.
  • hyd, up to: hyd yn oed, even; ar hyd a lled, along the length and breadth.
  • hyderus, confident.
  • hylldremu, to stare wildly.
  • hyllig, terrible.
  • hysbysiad, advertisement.
  • I.
  • ias, s.f., chill, shiver.
  • igam-ogam, zig-zag.
  • ing, anguish.
  • ir, fresh, or green (of grass).
  • ireidd-dra, freshness, greenness,
  • LL.
  • llachar, bright.
  • llaethes, f, milch cow.
  • llaid, mud.
  • llaith, damp.
  • llarpio, to devour.
  • llaso, lasso, a kind of noose f
  • llathen, f, a yard.
  • llech, f, flagstone.
  • llechu, to shelter.
  • llechwraidd, slily, secretly.
  • lled, width.
  • lleddf, minor, soft.
  • lleddfu, to lessen pain, to assuage.
  • lleidiog, muddy.
  • lleiddiad, murderer.
  • llen, f, veil.
  • Ilên, f, literature.
  • llenyddol, literary.
  • llesg, languid.
  • llesmair, trance.
  • llethu, to crush.
  • llethol, crushing.
  • llew, lion.
  • llewyrchus, light, hopeful.
  • llif (pl.,llifogydd), flood.
  • llipa, limp.
  • lliw, colour.
  • lloches, s.f., a hiding-place.
  • llu, host.
  • lludw, ashes.
  • lluddedig, tired.
  • llun, shape.
  • Lluniwr, Creator.
  • lluniaeth, food, nourishment.
  • lluniaidd, shapely.
  • llwy, s.f., spoon.
  • llwyd-felyn, dark yellow.
  • llwyd-le diog, muddy brown.
  • llwyn, grove.
  • llwynog, jox.
  • llwyth, tribe; also, load.
  • llychyn, speck of dust.
  • llychwinog, dusly.
  • llynges, s.f., fleet.
  • llywaeth, pet (oen llywaeth, pet lamb).
  • M.
  • machludo, to set (of the sun).
  • maethlon, nourishing.
  • magnelau, cannons, (m. lawer),
  • great guns (of a wind).
  • maith, long, good.
  • malurion, fragments.
  • mall, bad, evil, (Y Fall, f., The Evil one).
  • mân, small.
  • mangre, f, spot.
  • march, horse, stallion.
  • marwor, embers.
  • masnach, s.f., business.
  • masnachdy, shop.
  • mate, a beverage like tea, used in S. America.
  • math, kind, sort.
  • meddwl, v., to think.
  • meddwl, s.m., mind, thought.
  • meddylddrych, idea.
  • mefus, strawberries.
  • melusion, sweets.
  • melus-y-pia, honeysuckle.or catching horses.
  • menni, pl. of mên, f, waggons.
  • mig-chwareu mig, playing bo-peep.
  • min, edge.
  • min yr awel, keenness of the breeze.
  • mintai, f, group, company.
  • mis, month.
  • moel, bare.
  • moethus luxurious.
  • morgrug, ants.
  • mud, dumb.
  • mudo, to move.
  • mur, wall.
  • murddyn, a ruin.
  • mursenaidd, affected.
  • mwyafrif, majority.
  • mwyniannau, enjoyments.
  • mwswgl, moss.
  • mynegi, to express.
  • N.
  • nadau, cries.
  • naid, f, jump.
  • nef, f, heaven, sky.
  • nemawr, scarcely.
  • nerth, strength, power.
  • newyn, hunger, famine.
  • niwa'd, harm.
  • nofio, to swim.
  • nol yn ol, backwards.
  • nos, noson, s.f., night.
  • nwyd, f, passion.
  • nwyfus, lively.
  • nwylant, liveliness, vivacity.
  • nythu, to nestle.
  • O.
  • ochor, f, side.
  • oernadu, to scream dolefully.
  • ofer, vain.
  • ofn, s.m., fear.
  • e ofnadwy, awful.
  • criel, f, gathering.
  • osgo, obliquity.
  • osgoi, to avoid.
  • P.
  • pabellu, to live in tents, to camp.
  • paith, prairie.
  • pantle, hollow place.
  • paratoi, to prepare.
  • parlysu, to paralyze.
  • pebyll (plural of pabell, f.). tents.
  • peithdir, prairie land.
  • pelo, struggling,
  • penbleth, f, perplexity.
  • pendant, strict.
  • penderfynu, to conclude, determine.
  • penfelyn, auburn-haired.
  • pennaeth, chief.
  • pennawd, heading, chapter.
  • pentref, village.
  • perfeddwlad, f, middle country, interior.
  • perllan, f, orchard.
  • persawrus, sweet-smelling.
  • petrusder, hesitancy.
  • pistyll, rill spouts.
  • plasdy, palace, mansion.
  • plethu, to twine.
  • plu, feathers.
  • pluo, to pluck feathers.
  • plygu 'n wylaidd, to bend reverentially.
  • porfaog, grassy.
  • praidd, flock.
  • praffu, to thicken.
  • preswylydd, inhabitant.
  • priddfeini, bricks.
  • pryder, anxiety.
  • prysur, busy.
  • purion (interjection), good, very well;
  • purion enw, a right good name;
  • yn burion, very well.
  • pwyll, mind, sense.
  • pylgeiniol, at cock-crow, very early.
  • pysgod, (pl.) fish.
  • pythefnos, fortnight.
  • Rh.
  • GEIRFA.
  • rhadlon, genial.
  • rhaglaw, deputy governor,
  • viceroy.
  • rhaglawiaeth, f, governorship, prefecture.
  • rhaglen, f. programme.
  • rhus, hesitation.
  • rhawg, a long time.
  • rhedeg, to run.
  • rhedyn, fern.
  • rheibus, devouring.
  • rhes, f, row.
  • rhewllyd, frosty.
  • rhigol, f, rut.
  • rhisgl, bark (of tree).
  • rhone, adj., rank.
  • rhoi, for rhoddi, to give.
  • rhugl, fluent, free.
  • rhuo, to roar.
  • rhuthr, s.m., rush.
  • rhuthrgyrch, f, raid.
  • rhwygo, to rend.
  • rhwth, flabby.
  • rhych, f, furious.
  • rhydio, to ford.
  • rhyfeddod, s.m., wonder.
  • rhyfyg, presumption.
  • rhywsut, somehow.
  • S.
  • saeth, f, arrow.
  • sarhad, affront.
  • sathrfa dan draed, f, a trampled place.
  • sawdl, heel.
  • sefydlu, to colonize, settle.
  • sefyll, to stand.
  • serliog, starry.
  • sglodion (from ysglodion), chips.
  • sgrwtian (from ysgrytian), to shiver.
  • sgwrs' (from ysgwrs), f, chat, conversation.
  • sibrwd, s.m., whisper.
  • sibrwd, v., to whisper.
  • sicr, sure.
  • siomedigaeth, f, disappointment.
  • siriol, cheerful.
  • son, s.m., talk, rumour.
  • son, v., to talk.
  • spon, brand-new.
  • su, f, rustle.
  • suo, to rustle.
  • sut le, what kind of place.
  • swyn, charm.
  • swatio, to squat.
  • sych, dry.
  • sydyn, sudden.
  • syllu, to gaze.
  • sylweddoli, to realize.
  • symbylu, to urge.
  • symud, to move.
  • symudliw, iridescent.
  • syndod, wonder.
  • syniad, idea, thought.
  • synnu, to surprise, to wonder.
  • syrthio, to fall.
  • syth, straight.
  • T.
  • taclu, to arrange.
  • tae, petae, as it were.
  • tafell, s.f., slice.
  • taenu, to spread.
  • talaeth, f, province.
  • tanllwyth, bonfire.
  • tanwydd, firewood.
  • taran, f, thunder.
  • tarddiad, spring, origin.
  • tawedog, taciturn.
  • tawel, quiet.
  • tegell, teapol.
  • teisi (pl. of tâs, f.), hayricks.
  • teithio, to travel, to journey.
  • terfyn, end, terminus.
  • teulu, family.
  • tewfrig, thick-branched.
  • tewi, to become silent.
  • teyrnged, f, tribute.
  • tirion, kind, gentle.
  • tlws, pretty.
  • toe, suddenly.
  • toi, to cover
  • tomen, f, refuse heap.
  • toriad, a breaking.
  • trafnidiaeth, f, commerce.
  • tramwyol, passable.
  • trannoeth, the next day.
  • trechu, overcome.
  • trefnu, to arrange.
  • treulio, to spend.
  • triniaeth, f, treatment.
  • trist, sad.
  • tristyd, sadness.
  • tro, turn.
  • trochfa, f, a bathing, or a dipping.
  • troedio, to tread.
  • troellog, winding.
  • trothwy, threshold.
  • trueni, suffering, misery.
  • truenus, miserable.
  • truanaidd, miserable.
  • trugaredd, mercy.
  • trwchus, thick.
  • trychinebus, calamitous.
  • trydanol, electric.
  • trydar, to chirp.
  • tryfer, spear.
  • trystfawr, noisy.
  • tugel, ballot.
  • tuhwnt, beyond.
  • tuth, trot.
  • tusw, bunch, tuft.
  • twll, hole, pit.
  • twmpath, tump, hillock.
  • twt, neat.
  • tybed, whether, I wonder !
  • tybied, to suppose.
  • tyfu, to grow.
  • tyfiannus, growing.
  • tylwyth teg, fairy tribe.
  • tymor, season.
  • tyrru, to crowd, pile up.
  • tyrchu, to dig, bore.
  • tywell, f. of tywyll, dark, gloomy.
  • tywyrch (pl. of tywarchen, f.), a sod.
  • tyst, witness.
  • U.
  • ucheldir, highland.
  • uchelgais, ambition.
  • unfrydol, unanimous.
  • unigedd, solitude.
  • unnos, adj., one-night.
  • urddasol, dignified.
  • uwchben, overhead.
  • W.
  • we (from gwê,) f, woof.
  • y Werydd, the Atlantic.
  • wift, interj., away with!
  • '"wfft shwd ddwli!" "Away with such nonsense!"
  • wybren, f, sky.
  • wyneb, face.
  • Y.
  • ychwaith, either.
  • ymaith, away.
  • ymborthi, to feed.
  • ymbrancio, to prance, sport.
  • ymbwyllo, to becalm one's self.
  • ymbyneio, to bedeck one's self.
  • ymdawelu, to becalm one's self.
  • ymdroellu, to course around.
  • ymdumiau, grimaces.
  • ymdwymo, to warm one's self.
  • ymddangos, to appear.
  • ymddolennu, to meander.
  • ymgais, f, attemp.
  • ymgeledd, succour.
  • ymgynnull, to gather together.
  • ymgyrch, f, campaign.
  • ymlusgo, to creep, crawl.
  • ymwallgofi, to go mad, beside one's self.
  • ymwareiddio, to become civilized.
  • ymwibio, to stroll, or, to wander about.
  • ymysgwyd, to shake off.
  • ynni, energy.
  • ynte, or; also, then.
  • ysgatfydd, perhaps.
  • ysgerbwd, carcase.
  • ysglyfaeth, f, prey.
  • ysglyfaethus preying.
  • ysgrech f, scream.
  • ysgrublyn beast of burden.
  • ysgrwtian to shiver.
  • ysgubo to sweep.
  • ysguthanod (pl. of ysguthan, 'f), wood-pigeons, wild pigeons.
  • ysgythrog rugged.
  • ysgytiol shaky.
  • ysig bruised.
  • ysigo to bruise.
  • ysol consuming.
  • ysbaid space (of time).
  • ystum f, posture.
  • ystwythder suppleness.
  • ystwytho to make supple.
  • ystyr meaning; ar un ystyr, 'in one sense.
  • yswil, shy.

Nodiadau

golygu
 

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.