Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog (testun cyfansawdd)

Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog

gan William Hobley

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader




HANES
METHODISTIAETH
ARFON

DOSBARTH CLYNNOG

(O'r dechre hyd ddiwedd y flwyddyn 1900)


W. HOBLEY



CYHOEDDEDIG GAN GYFARFOD MISOL ARFON

MCMX



CAERNARFON:

ARGRAFFWYD GAN W. GWENLYN EVANS,

POOL STREET.


RHAGAIR

FE gynwysir yn hen weithredoedd y capeli, hŷn dyweder na'r flwyddyn 1830, rai pethau o bwys i'w gwybod, a rhai pethau difyr i'w gwybod. Y mae nifer o'r hen weithredoedd hynny heb fod yng nghist y Cyfarfod Misol, ac yn ddiau ym meddiant hwn a'r llall. Mi fyddwn rwymedig am y cyfle i ddarllen un neu ragor ohonynt.

Y mae'r Cyfarfod Misol wedi dechre cyhoeddi taflen cyfrifon er y flwyddyn 1854. Daeth y rhai'n allan ar wyneb un ddalen led faintiolus yn ystod 1854-73. Y mae'r taflenni hynny o bwys neilltuol i'r hanes. Codwyd gryn swrn o'r cyfrifon yn y gyfrol hon allan ohonynt, a chyda'u cymorth hwy cywirwyd lliaws o bethau a fuasai hebddynt wedi dianc i mewn i'r hanes yn anghywir fel yr oeddynt. Methu gennyf a tharo wrth daflenni y blynyddoedd yma: 1855, 1857, 1859, 1861, 1863-5, 1867, 1872. Mi fyddwn rwymedig am hysbysrwydd ynghylch un neu ragor ohonynt.

Bu farw John Robert Jones Bangor, ysgrifennydd y Cyfarfod Misol, yn 1845. Bu cyfrol o gofnodion ysgrifenedig y Cyfarfod Misol o'i waith ef yn fenthyg gan y Dr. Owen Thomas. Yr ydoedd ef dan yr argraff ei fod wedi ei dychwelyd; ond ni dderbyniodd y teulu mohoni. Gwnaethum lawer o ymchwil am y gyfrol hon, ond yn ofer. Fe ddywedir fod y cofnodion o'i waith ef yn neilltuol o fanwl a llawn. Mi fuasai ei gwerth i'r gwaith hwn yn fawr, ac mi fuaswn yn ddiolchgar iawn am hysbysrwydd yn ei chylch.

Gyda'r eithriad o gofnodion dau Gyfarfod Misol neu dri, y mae'r cofnodion ysgrifenedig yn dechre gyda Chwefror, 1852. Hefyd y mae bwlch yn y cofnodion o Ebrill 1859 hyd Mai 1862. Nid yw'n anichon fod hen gofnodion mewn ysgrifen, heb fod yn y llyfrau cofnodion, ym meddiant rhywun neu gilydd ag y buasai'n wiw ganddynt roi eu benthyg i amcan yr hanes hwn. Yn achlysurol iawn yn unig, ac yn brin, y cyhoeddid y cofnodion yn y Drysorfa cyn 1862. Ac o hynny ymlaen hyd nes y dechreuwyd eu cyhoeddi yn y Goleuad yn 1869, nid ymddengys cofnodion mwy nag oddeutu'r hanner o'r Cyfarfodydd.

Mae'r amseriadau a roir i rai yn dechre pregethu rhwng Chwefror, 1859, a Medi, 1867, wedi eu codi o restr yn llyfr cofnodion y Cyfarfod Misol.

Fe gyfleir ar ddiwedd ambell i adran gyfeiriad at fan mewn cylchgrawn neu bapyr wythnosol, neu gofiant neu lyfr o hanes. Weithiau nid yw'r adran honno namyn crynhoad allan o'r fan a grybwyllir; weithiau y mae rhyw gyffyrddiad neu gilydd wedi ei dynnu o ffynonellau eraill; weithiau y mae'r rhan fwyat, neu agos y cwbl, wedi ei dynnu o'r ffynonellau hynny, sef yn bennaf y rhai y cyfeirir atynt ar waelod y dalennau ynglyn â phob eglwys. Dodir y cyfryw gyfeiriadau i mewn yn bennaf er mwyn y rhai a fynnai chwilio ymhellach i'r hanes a roir yn yr adrannau hynny.

Ysgrifennwyd yr hanes yn llawn cymaint er mwyn y sawl a deimla ddyddordeb yn yr hanes yn gyffredinol ag er mwyn y neb a deimla ddyddordeb yn fwyaf arbennig yn hanes rhyw eglwys neilltuol. Parodd hyn roi lle go helaeth weithiau i gymeriadau neilltuol y tybid y gallasai eu hanes fod yn gymorth i fyned i mewn i fesur i wir gyflwr pethau, neu i gipio i fyny wir ysbrydiaeth pethau. Dichon fod eraill o gymaint gwerth i'r eglwys a hwythau, neu o fwy gwerth, pryd nad atebai ymhelaethu arnynt unrhyw ddiben neill- tuol. A lle y bernid nad atebai ymhelaethu unrhyw ddiben, buwyd mor gryno ag y gwyddid sut. Er hynny, gwnawd llawer o ymdrech i gael defnyddiau ychwanegol pan y gwelid hwy yn brin. Ac y mae lliaws o grybwylliadau tair neu bedair llinell o hyd yn ffrwyth cymharu adroddiadau o dair neu bedair o wahanol ffynonellau. A gwnawd eithaf defnydd o bob ffynonnell cyson â dull cryno o gyfleu'r hanes. Ac hyd yn oed lle nad ydoedd y defnyddiau ar y cyntaf yn brin, chwiliwyd am ddefnyddiau ychwanegol yno hefyd, er mwyn y fantais o edrych ar bersonau a phethau o wahanol gyfeiriadau.

Dengys y cyfeiriadau ar waelodion y dalennau i ba raddau y llwyddwyd yn y cais am ddefnyddiau ychwanegol. Canys, gydag eithriad neu ddau, ni ddanfonwyd yn swyddogol megys, namyn un ysgrif o bob lle, a honno yn gyffredin yn ferr, ac ambell waith yn ferr iawn. Ymhen hir a hwyr y cafwyd lliaws o'r rheiny, heb fod pob un wedi dod i law eto. Ac er cael cryn gymorth gan liaws, yn seithug y troes allan y cais a ddanfonwyd at amryw eraill yma ac acw am eu hadgofion. Nodir hyn yma er dangos mai nid ychydig ydoedd y drafferth a gymerwyd i gael yr hanes yn llawn a theg. Nid oeddwn i fy hun o gwbl mor hyddysg yn hanes yr eglwysi ag y buasai'n ddymunol fy mod, ond gwnaethum fy ngoreu i gyflenwi hynny o ddiffyg yn y modd y crybwyllwyd.

Gan mai yn Nosbarth Clynnog a Dosbarth Caernarvon yn bennaf y cafwyd y defnyddiau ychwanegol y crybwyllwyd am danynt, y mae'n anhawdd credu nad oes eto ym meddiant gwahanol bobl ddefnyddiau tebyg, sef ysgrifau ar hanes yr achos, neu ar gychwyniad a chodiad yr ysgol Sul, neu ar hen gymeriadau mewn ardal, neu gofnodion o hen seiadau, neu hunan-gofiannau, neu ddydd-lyfrau yn cynnwys cyfeiriadau at yr achos crefyddol, neu restrau o bregethwyr, neu gyfrifon eglwysig. Er mwyn i'r ddau olaf fod o ddigon o ddyddordeb, hwy ddylent fyned cyn belled yn ol, dyweder, ag 1840. Os yw'r cyfryw bethau ym meddiant neb y gelwir ei sylw at hyn, fe werthfawrogid y cyfleustra o gael eu chwilio. Ni chedwid monynt nemor, am na ddanfonid am danynt nes y byddai eu heisieu. Ond goreu po gyntaf y clywid yn eu cylch.

Ffynonnell ffrwythlon i'r hanes y profodd ymddiddanion a gafwyd â gwahanol bersonau. Nid bob amser y nodir y personau hynny, ond gwnawd hynny pan y tybid fod rhywbeth yn cael ei gyrraedd wrth wneud. Mi fyddwn rhwymedig am fy nghyfeirio at gofiaduron da, yn enwedig os yn meddu ar ddawn ddisgrifiadol fel sydd gan rai, a hynny er i'w trigle presennol fod allan o Arfon.

Y mae mewn bwriad ddod a chyfrol allan yn cynnwys ychwanegiadau a chywiriadau, cystal a rhyw faterion o nodwedd gyffredinol. Croesawir unrhyw hysbysrwydd pellach am bersonau a phethau y buwyd yn rhy fyrr gyda hwy yn y gyfrol hon, er mwyn ei ddodi i mewn yno. Gyda chywiriad mewn amseriad, fe ddylai sail y cywiriad gael ei hysbysu, gan fod lliaws dirfawr o amseriadau a chyfrifon wedi eu cywiro yma eisoes, weithiau o weithredoedd capeli, neu daflenni y cyfrifon, neu gofnodion y Cyfarfod Misol, ac weithiau fel ffrwyth cymharu gwahanol ysgrifau neu adroddiadau eraill â'u gilydd. Bydd cywiriadau mewn pethau bychain cystal a phethau mawr yn werth i'w cael.

Bwriedir i'r gyfrol grybwylledig gynnwys mynegai helaeth. Disgwylir y bydd y mynegai hwnnw yn cyflenwi unrhyw ddiffyg a deimlir ynglyn â chynllun y gwaith, sef cyfleu pethau mewn trefn amseryddol, ac nid eu dosbarthu dan wahanol bennau. Hyd yn oed heb y mynegai, fe hyderir y bydd y cynllun a fabwysiadwyd yma yn gymaint mwy buddiol a difyr i'r darllennydd, ag y bu yn fwy trafferthus i'w ddilyn.

Gweddus dweyd fod adroddiadau ymwelwyr Canmlwyddiant yr Ysgol Sul (1885) yn ymddangos yma yn fynych wedi eu cwtogi neu eu crynhoi rhyw gymaint, fwy neu lai, ac ar dro wedi eu hamgeneirio fymryn, ond nid fel ag i newid dim ar yr ystyr, nag i wneud yr adroddiad yn fwy neu yn llai ffafriol. Rhwymwyd yr adroddiadau hynny ynghyd, ac y maent ynghadw yn y Llyfrfa. Trefnwyd drwy benderfyniad y Cyfarfod Misol ar fod i'r hanes ddibennu gyda'r flwyddyn 1900. Rhaid peidio edrych yma, gan hynny, am grynhoad ar hanes neb a fu farw yn ddiweddarach na hynny. Ni olrheinir hanes neb chwaith ar ol symud ohono i Gyfarfod Misol arall, er marw ohono o fewn cyfnod yr hanes hwn, gan y gellir disgwyl i'w hanes ef ymddangos yn hanes eglwysi y Cyfarfod Misol hwnnw. Rhoir ychydig grybwylliad am bregethwyr a blaenoriaid wedi ymfudo i wledydd eraill, os yn dod o fewn tymor yr hanes, ac os bydd gwybodaeth am danynt o fewn cyrraedd ar y pryd.

W. HOBLEY

Y CYNNWYS.

Y wyneblun: John Jones Talsarn
Y wynebddalen
Y Rhagair
Llun Eben Fardd
Llun dalen gyntaf y llyfr casgl eglwys a gedwid gan Eben Fardd
Llun taflen cyfrifon eglwysig gan Eben Fardd
ARDAL CLYNNOG :
Arweiniol
Capel Uchaf
Brynaerau
Seion
Ebenezer
LLANLLYFNI, LLANDWROG A LLANWNDA:
Arweiniol
Salem, Llanllyfni
Brynrodyn
Bwlan
Talsarn
Rhostryfan
Carmel
Cesarea
Nebo
Bethel (Penygroes)
Baladeulyn
Hyfrydle
Rhosgadfan
Brynrhos
Tanrallt
Saron
Glanrhyd


HANES METHODISTIAETH ARFON.

ARDAL CLYNNOG.

ARWEINIOL.[1]

FE orweddai'r holl ardal hon mewn cwsg ysbrydol trwm, pan ddechreuwyd blino ychydig arni yn y cwsg hwnnw gan rai o'r cynghorwyr Methodistaidd tua chanol y ddeunawfed ganrif. Ymhen ychydig ddegau o flynyddoedd, nid oedd llecyn yng Nghymru ag y buasai yn ddiogelach dywedyd am dano fod gweledigaeth Ysgol Jacob yn ganfyddadwy yno. Nid oes hanes i gysgadrwydd ysbrydol nid yw namyn breuddwyd aflonydd yn gwatwar bywyd, pan nad yw yn syrthni llwyr a hollol. Chwareuon, ymladdfeydd, adrodd chwedlau, gweledigaethau hygoelus: dyma y rhith of fywyd sydd i'w adrodd. Dywedai Robert Hughes Uwchlaw'r-ffynnon, gwr a breswyliodd dros ystod ei oes yn yr ardaloedd hyn, wrth y Prifathro Rhys, ei fod ef yn cynrychioli traddodiadau canrif a hanner, yn gymaint ag y clywodd adgofion hen daid iddo a fu farw yn ddeuddeg a phedwarugain oed, ac y byddai y bobl yn yr hen amser, wedi bod yn adrodd eu chwedlau wrth eu gilydd yn eu cyfarfodydd llawen, yn barod i weled unrhyw beth, ysbrydion, y tylwyth teg, a rhyfeddodau eraill (Celtic Folklore, t. 215). Y crebwyll a rydd fod i'w fyd anweledig, a rhaid iddo'i gael yn rhyw ffurf neu gilydd. Dyma'r tymor y ffynnai dewiniaid yng Nghymru. Ffynnant heddyw yn Lloegr dan enwau eraill ymhlith gwyr gwybodus ac anwybodus yr un fath. Hen wr o ardal y Capel Uchaf a arferai ddweyd am dano'i hun yn ymweled yn ei ieuenctid â dewines Coch-y-big yn ardal Brynaerau, ac fel y gwelodd y crochan llymru ar y tân yno, hyd nes y cipiwyd hi oddiyno gan law anweledig, pan y gwelai hi yn nen y tŷ yn berwi yn grychias ulw. William Thomas Brysgyni ganol oedd hen wr eithaf anhydrin; ond pan fyddai efe wrthi yn hel dormach ar rywun, ni byddai raid ond bygwth myned a'i achos at y ddewines nad elai fel oen llyweth yn y fan. Yr ydoedd unwaith wedi saethu yn ei ŷd iar a berthynai i ryw hen wreigan. Yr hen wraig yn addo iddo y collai efe y fuwch oreu oedd ganddo. Ni feiddiodd gyffwrdd â'r un o ieir yr hen wraig fyth ond hynny. Tywynnai lled-rithiau o'r anweledig ar y dychymyg. Gwelodd un ffarmwr wr ar ochr y mynydd pan y gwyddid fod y gwr hwnnw yn ei wely adref. Y goel ydoedd na byddai'r gwr a welwyd yn y dull hwnnw ddim byw yn hir; ac fel y coelid am dano, felly y digwyddodd iddo. Gwelid milgi mawr yng nghroes- lon Ty'nyberth, yn ddigon mawr i fyned ar draws y ffordd, gyda'i ben ar un clawdd a'i gynffon ar y llall. Ffarmwr Maesog, yn yr adeg honno, ydoedd un o'r rhai a'i gwelodd ef. Bu'r lledrith hwnnw yno am yn hir o amser. Yr oedd plentyn i'w glywed yn crio yn Llwyn Maethog, fel nad elai neb o'i fodd y ffordd honno yn hwyr o'r nos. Gwelodd dau o lanciau ym mhentref Clynnog gynhebrwng yn dod drwy'r ffordd ganol, a dyn adnabyddus iddynt yn eistedd ar gaead yr arch. Yr oedd y dyn hwnnw yn cael ei gladdu ymhen ychydig wythnosau yn ol hynny.

Mae John Owen yr Henbant, y gwr a gychwynnodd yr ysgol Sul yn y Capel Uchaf yn 1794, wedi gadael ar ei ol mewn llawysgrif gyfeiriad at y dull y treulid y Sul gan gorff y bobl yr amser a gofiai ef. Dywed y tyrrai'r hen bobl i dai eu gilydd ar y Sul i adrodd chwedlau a helyntion y byd, ac elai'r bobl ieuainc, rhai at y bêl, rhai i goetio, eraill i rodianna. Byddai lliaws, eb efe, yn myned i ochr carreg Brysgyni, i adrodd chwedlau am y digrifaf. Byddai rhywun yno yn cyhoeddi pa bryd y cynelid y cyfarfod y Sul dilynol. Ymladd ceiliogod oedd mewn bri hefyd yn yr ardal, ond dywed John Owen na wyddai fod hynny o chware yn cael ei arfer ar y Sul. Dywed y prynid yspardynau dur i'w rhwymo wrth draed y ceiliogod, er gwneud y frwydr yn fwy gwaedlyd, ac y byddai bob un yno yn annos ei geiliog ei hun. Cyrchid i'r llan o Fôn ac o fannau yn nau ben y Sir, Sul a gwyl, i chwareu'r bêl ar fur y clochdy, a'r rheithor yn dwyn ei ran ac yn cadw cyfrif. Yr oedd gwylmabsant yr ardal yn adeg o gynnwrf a rhialtwch ac o ymladd a meddwi, canys heblaw lledrithiau'r anweledig, rhaid cael hefyd gynnwrf cig a gwaed cyn bydd byd neb rhyw ddyn yn un llawn a boddhaol.

Mae hirhoedledd pobl yr ardal wedi bod yn achos o syndod. Dyna Hugh a Sian Jones, wr a gwraig, a fuont feirw oddeutu 1889, y naill yn 98 oed a'r llall dros 101, wedi bod yn briod am 77 mlynedd. Ac nid oeddynt hwythau ychwaith yn rhyw gymaint o eithriadau, oddigerth mewn bod yn briod â'u gilydd yn yr oedran hwnnw. Sylwa'r Parch. John Williams Caergybi, a fu yma yn ysgolfeistr am dymor, mai'r peth cyntaf i daro i'w feddwl ef fel hynodrwydd ar y bobl, yn nesaf i'w symledd, ydoedd eu hysbryd ysgafn a chwareus; a dywed fod hynny i sylwi arno ym mhawb, hen ac ieuanc, yr un fath, ac na welodd efe mo'r ysbrydiaeth hwn mor amlwg yn unlle arall. Efe a briodola'r nodwedd hwn ar y bobl i awyr adfywiol y lle. Ac fel y sylwir ganddo ef, hefyd, mae'r cysylltiad agosaf rhwng eu chwareusrwydd â'u hir-hoedledd. Mae'n sicr, yr un pryd, fod rhyw ddifrifwch arbennig, hefyd, wedi bod yn nodwedd ar y bobl, o leiaf yn ardal y Capel Uchaf. Ymhlith pobl y glannau, sef ardal y pentref ac ardal Capel Seion, y mae'r engrheifftiau o'r chwareusrwydd hwn a rydd Mr. Williams. Y cyfryw chwareusrwydd yn ddiau ydoedd waelod naturiol yr angerddoldeb crychiasol a welid yma, yn arbennig yn amser y diwygiadau cyntaf. A thrwy gyfrwng yr angerddoldeb naturiol hwn yr impiwyd i mewn i brofiad pobl y Capel Uchaf, yn yr hen amser, ddifrifwch ofnadwy y gredo efengylaidd. Yno yr oeddys mewn unigedd yn amgylchynedig â dychrynfeydd ysbrydol. Aeth rhai ugeiniau o flynyddoedd heibio cyn adeiladu capel yn y pentref, yr hyn sydd ryw argoel na feddiannwyd mo'r pentref gyn llwyred gan ysbryd Methodistiaeth a'r llethrau unig ger eu llaw. Yr oedd y llan yn ymyl hefyd i rannu'r boblogaeth, ac i roi ei heiliw ar dôn y teimlad. Ac i'r Capel Uchaf yr aeth Robert Roberts i fyw, a dilys yw ddarfod i'r ysbryd tanllyd hwnnw adael ei ddelw yn anileadwy ar y tô a'i hadwaenai, ac i fesur ar doiau eraill yn ddilynol iddynt hwythau. Ac heb son am fod y pentref ymhellach oddiwrth y dylanwad hwnnw, fe ddaeth mewn amser ddylanwad arall i effeithio ar y pentref yn arbennig, gan ostwng yr angerddoldeb a lliniaru'r difrifwch, ac eangu a choethi pob meddwl a theimlad, sef eiddo Eben Fardd. Fe sylwodd John Owen Ty'nllwyn, yn ei bregeth angladdol i Eben Fardd, mai'r tri dylanwad mawr a fu yng Nghlynnog ydoedd eiddo Richard Nanney, Robert Roberts ac Eben Fardd. O fewn terfynau cyfyng yr ardal hon, fe fu dylanwad Robert Roberts yn y naill ffordd, a dylanwad Eben Fardd mewn ffordd arall, mor ddwys a nemor ddylanwad y gwyddys am dano yn hanes Cymru. Fe freintiwyd. yr ardal yn fawr yn y cyfuniad ardderchog hwn o ddylanwadau. Ac os na chodwyd nemor ddynion amlwg i'r byd fel ffrwyth y dylanwadau hyn, dir yw y gadawyd eu hol yn fawr ar bobl yr ardal yn gyffredin, a phob un o'r ddau ddylanwad yn fwyaf yn ymyl ei gartrefle arbennig ei hun.

Fe lefeiniwyd yr ardal gan yr ysbryd llenyddol yn amser Eben Fardd yn gymaint, fe ddywedid, fel y gallai pawb braidd yn y lle wneud rhyw fath ar englyn yn ei amser ef! Eithr yr oedd i Eben Fardd, yn arbennig yn ei flynyddoedd olaf, ddylanwad arall uwch na hwnnw, sef dylanwad crefydd bersonol syml a dwys, a dylanwad cymeriad pur ac aruchel, ac erys y dylanwad yma o'i eiddo wedi i'r llall braidd beidio, ac nid yw wedi cilio hyd y dydd hwn.

Eben Fardd a gychwynnodd y Cyfarfod Llenyddol yn yr ardal, ac efe a'i hadfywiodd yn y wlad. Y mae efe wedi ysgrifennu rhyw adroddiad am y cyfarfodydd hyn yn llyfr cyfrifon yr eglwys, a gedwid ganddo. Ac megys ag y mae cyfrifon yr eglwys a hanes y cyfarfod llenyddol yn yr un llyfr, ac yn waith yr un gwr, felly yr un modd y cymhlethwyd y ddau ddylanwad, sef y crefyddol a'r llenyddol, drwy ei gyfrwng ef, yn hanes pobl Clynnog, sef pobl glannau'r môr yn fwyaf neilltuol. Fe fernir fod yn werth dodi'r adroddiadau hynny i lawr yma ar amryw gyfrifon: fe daflant oleu ar gymeriad yr ysgrifennydd, yn un peth, a thros ben hynny, hefyd, y maent yn rhoi hanes cychwyn ysgogiad a droes allan yn un go bwysig yn ei ddylanwad ar feddwl pobl y rhanbarth hwn of Gymru. Ar wahan i bob ystyriaeth arall, fe daflant oleu ar natur y dylanwadau, o un cyfeiriad, a fu'n llunio cymeriad pobl yr ardal ar un cyfnod pwysig yn eu hanes. Fe alwyd yma y cyfarfodydd hyn yn gyfarfodydd llenyddol, am mai fel y cyfryw yr adnabyddir hwy yn y wlad, ac yr arferir cyfeirio atynt. Eithr yr oeddynt o nodwedd ysgrythyrol, a "chyfarfodydd darllen " yw y penawd ar y cyntaf yn llyfr yr eglwys; ond yn ddiweddarach gelwir hwy yn gyfarfodydd addysg."

Cyfarfodydd darllen mewn cysylltiad âg Ysgol Sabothol Pentref Clynnog. 1852. Ebrill 5. Cynhaliwyd y cyntaf o'r cyfarfodydd hyn. Llywydd: Ebenezer Thomas. Beirniaid: James Williams, Evan Thomas a Robert Parry. Testyn: Y disgrifiad o'r March, Job xxxix. 19-26. Gwobrwyon: goreu, Llyfr hanes Eisteddfod y Wyddgrug, 1851, etc.; ail oreu, Yr Hyfforddwr, etc. gan Charles. Rhoddedig gan Ebenezer Thomas. Enillwyr: goreu, David Hughes Cae'rpwysan; ail oreu, William Jones Ty'nycoed."

"1852. Ebrill 24. Yr ail gyfarfod. Llywydd: yr un ag o'r blaen. Beirniaid: yr un rhai ag o'r blaen. Y prif destyn : Galarnad Saul a Jonathan. Yr ail destyn: Her Goliath i Dafydd ynghydag ateb yr olaf. Y trydydd testyn: Luc xxiv. 39. Yr enillwyr a'u gwobrwyon:—Ar y testyn cyntaf, i'r goreu, James Ebenezer Thomas, Beibl bychan; i'r ail oreu, Margaret Williams Hafod-y-wern, Testament goreuredig. Ar yr ail destyn, i'r goreu William Jones, Ty'nycoed, Palestina gan Iorwerth Glan Aled, yr hwn oedd yn wyddfodol ar y pryd; i'r ail oreu, Jane Williams Tanrallt, Llyfr ar Arddwriaeth. Ar y trydydd testyn, goreu, Jane Williams Tanrallt, i'r hon y cyflwynwyd yr Hyfforddwr yn wobr. Cyfarchwyd y cyfarfod, ar ol i'r cydymgais fyned drosodd, gan y Meistrd. Iorwerth Glan Aled, D. W. Pughe, James Williams a Robert Parry, a chanodd y cantorion yn y dechre, ar y canol, ac yn y diwedd yn rhagorol."

1852. Mai 31. Yng Nghapel y Pentref. Y trydydd cyfarfod a gynhaliwyd ar ddydd Llun y Sulgwyn, 2 o'r gloch yn y prydnawn, a 6 yn yr hwyr. Llywydd: yr un ag o'r blaen. Barnwyr: Messrs. Robt. Parry, Owen Jones, Evan Griffith, Thomas Roberts, Owen Owens a D. W. Pughe, Ysw. Yn y cyfarfod hwn ymunai pedair ysgol Sabothol, sef Brynaerau, Capel Uchaf, Seion, a Chapel y Pentref. Nifer y darllenyddion ieuainc o'r pedair ysgol ynghyd oedd 27, y rhai a rennid yn ddau ddosbarth, un dan 12 ml. oed, a'r llall uwchlaw 12 a than 18 ml. oed. Y testynau i ragbaratoi arnynt oeddynt, 'Joseph yn cyhuddo ei frodyr o fod yn ysbiwyr,' a'r Arch-Synagogydd yn ateb yn ddigllon am i Iesu iachau ar y Sabath.' Y testynau anhysbys oeddynt, 'Na wnelid. elusen er mwyn cael eu gweled gan ddynion,' 'Michal merch Saul yn gwatwar Dafydd,' 'Y llongau yn cael eu llywodraethu â llyw bychan,' a ' Gwawdiaeth Job wrth ei gyfeillion.' Hefyd Traethodau."

"1853. Dydd Iau y Dyrchafael. Cynhaliwyd Cyfarfod Addysg i'r pedair ysgol yng nghapel Brynaerau. Darllen ac ysgrifennu."

"Yn Hydref cynhaliwyd cyfarfod cyffredinol i'r holl ddos- barth, a elwir Dosbarth Clynnog, o'r ysgol Sabothol, yng nghapel Talysarn. Cydymgais mewn darllen, ysgrifennu ac arholi."


"1854. Chwefror 15. Cynhaliwyd Cyfarfod Addysg pedair ysgol Clynnog yn y Capel Uchaf. Darllen ac ysgrifennu."

"Cynhaliwyd amryw gyfarfodydd bychain, perthynol i'r ysgolion eu hunain, yn y gwahanol gapelau, yn ysbaid y cyfryngau o amser rhwng y prif gyfarfodydd uchod, a'r argraff ar feddyliau y rhai mwyaf doeth, rhinweddol a deallus, yw, eu bod wedi gwneud llawer o les, a bwriedir cynnal un cyffredinol a blynyddol i'r pedair ysgol ar ddydd Llun y Sulgwyn nesaf."

"Dydd Llun y Sulgwyn. Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol. cyffredinol y pedair ysgol yng nghapel y pentref, a phrofwyd dyddordeb mawr ynddo gan bawb. Yr oedd y cynulliad yn lliosog, y cyflawniadau ymarferol ar wahanol ganghennau o addysg yn obeithiol, a sail dda i ddisgwyl lles mawr oddiwrth y sefydliad cynorthwyol hwn i'r ysgol Sabothol."

"1855. Dydd Llun y Sulgwyn. Cynhaliwyd y cyfarfod addysg blynyddol yng nghapel y pentref. Ystyrrid y tro hwn fod ei boblogrwydd a'i ddefnyddioldeb, yn gystal a'r hyfrydwch a deimlid ynddo, yn cynyddu. Yr oedd yr ymarferiadau addysgol yn bur amrywiol, mewn traethodau, barddoniaeth gaeth a rhydd, datganu, cerddoriaeth grefyddol, gramadeg, llythyreg, etc., ynghyda darlleniaeth. Taflwyd fi a'm teulu i ddyfnder galar bore y dydd hwn, drwy farwolaeth fy anwyl, anwyl ferch Catherine, ar y dydd arbennig a osodai yn nôd drwy ei holl salwch maith a phoenus. i gael mendio erbyn y delai, a chael bod yn bresennol yn y cyfarfod. Ond yr wyf yn cryf obeithio, ar seiliau cyfreithlon, debygaf, iddi hi fyned y diwrnod hwn i Gyfarfod perffeithiach a myrdd mwy gwynfydedig, i gymanfa a chynulleidfa y rhai cyntafanedig, ac ysbrydoedd y cyfiawn y rhai a berffeithiwyd. Wrth reswm, ym- ddifadwyd fi a'm teulu oddiwrth fod yn bresennol yn y cyfarfod y flwyddyn hon."

"1856. Mai 12, dydd Llun y Sulgwyn. Cynhaliwyd y pumed cyfarfod addysg blynyddol. Yn bresennol gydag eraill, y Parchn. Wm. Roberts, Robt. Hughes, John Jones, hefyd yn yr hwyr Dr. Pughe. Ymddanghosai yn weddol lewyrchus fel arferol, ac yn bur boblogaidd. Yr enillwyr mewn ysgrifennu traethodau, etc., oeddynt Harry Griffith, Robert Parry, Emanuel Evans, Hugh Jones Bron'rerw a James Ebenezer Thomas; caniadau, James Williams Penrhiwiau, Robert Parry a Henry Griffith. Ymddanghosai tuedd ac ansawdd rhai o'r anerchiadau cyhoeddus yn oeraidd tuag at y cyfarfod, yn hynod o ddigalonnol, ac fel yn tarddu oddiar angharedigrwydd hunanol, a rhagolygiadau disail hyn ynghydag awgrymiadau drwgdybus y Sasiwn, ymddygiadau gochelgar a phell a gweithrediadau gwrthwynebus y pregethwyr a'r blaenoriaid; popeth gyda'u gilydd a dueddant i oeri fy sel i gydag ef, ac i beri i mi ymgadw o hyn allan rhag bod yn achlysur o dramgwydd i'r rhai sy'n hawlio iddynt eu hunain arweiniad y bobl. Boed rhyngddynt hwy a'u pobl am y mater: gwell gennyf fi neilltuedd."

"1857. Dydd Llun Sulgwyn. Ychydig a feddyliwyd o'r cyfarfod hwn cyn ei ddyfod. Yr oedd effeithiau digalonnol y llall yn aros yn yr ardal: ni wnaed dim casgliad o bwys ar ei gyfer ; goddefwyd ei ddyfodiad fel peth arferol; ond pan ddaeth ymddanghosodd mor rymus ag erioed, yn hynod o lewyrchus a bywiog, a diweddodd yn dra boddhaol i bawb. Ni ddylid peidio â chofrestru araeth ragorol Mr. O. Owens y Gors ar yr achlysur, a gweithrediadau swynol ac adeiladol W. Owen Prysgol, ynghyda'r cefnogaeth gwresog a ddanghoswyd iddo gan brif bennau teuluoedd. yr ardal. Yr enillwyr mewn ysgrifennu oeddynt Henry Griffith ac Evan Thomas yn bennaf."

"1858. Dydd Llun y Sulgwyn. Pasiodd y cyfarfod blynyddol hwn yn hynod o ganmoladwy. Yr oedd Messrs. W. Owen Prysgol a Richard Jones, Butcher, ynghyda dau o fechgyn ieuainc yn canu ynddo, ac yn rhoi boddhad mawr. Dygwyd popeth ymlaen yn effeithiol, buddiol ac adeiladol, a chydnabyddid yn gyffredinol mai cyfarfod da iawn ydoedd."

"1859. Dydd Llun Sulgwyn. Y diweddaf yw y goreu o hyd, a'r teimlad ar ddiwedd hwn oedd ei fod yn rhagori ar y rhai a fu o'i flaen i gyd. Yr oedd amryw ddieithriaid-Mr. W. Jones Clwtybont, Mr. O. Hughes Ysgoldy ac eraill-yn annerch y cyfarfod. Messrs. Richd. Roberts (Bardd Treflys), R. Roberts Hendre cenin a Humphrey Lloyd Penybryn, Llanystumdwy, yn feirniaid darllen; Messrs. Griffith Tŷ mawr a Mr. Hugh Davies Monachdy yn feirniaid y traethawd amaethyddol. Yr oedd anerchiadau Messrs. O. Owens Gors a Bardd Treflys yn effeithiol a derbyniol iawn. Mr. Owen Ellis oedd arweinydd y côr, a chanmolid ef yn fawr. Y prif enillwyr oedd Harry Griffith, Messrs. Wm. Jones Bryngwydion ac Evan Thomas, ynghydag amryw eraill, Miss Williams Hafod-y-wern ar destyn y merched. Yr oedd y dyrfa yn lliosog ac yn barchus iawn, ac yn ymddangos yn dra boddhaol gyda gweithrediadau y cyfarfod. Cynygiodd Capt. Owen ddiolchgarwch y cyfarfod i'r ymwelwyr dieithr a'r gweinyddwyr yng ngwasanaeth y cyfarfod, yr hyn a eiliwyd gan Mr. James Williams Penrhiwiau, a siaradodd y ddau yn gymwys ac effeithiol wrth gynnyg ac eilio. Arwyddwyd y diolchgarwch gyda chodiad llaw cyffredinol a pharod. Diweddwyd drwy weddi gan Mr. John Jones Creigiau—pregethwr, a dylaswn nodi i'r cyfarfod gael ei ddechre gan Mr. Owen Roberts, gweinidog y Bedyddwyr, Pontllyfni."

"1860. Casglwyd un bunt at gyfarfod y Sulgwyn y flwyddyn hon, yr hwn a fu ac a ddarfu yn ei amser priodol, gyda graddau dymunol o gefnogaeth a phoblogrwydd. Danghoswyd gryn dipyn o lafur a ffyddlondeb gydag addysg mewn darllen a chyfansoddi. Ymddengys i'r cyfarfod gael ei dreulio yn foddhaol ac adeiladol iawn ar y cyfan, er y dichon nad oedd mor fywiog a llewyrchus a rhai o'r cyfarfodydd a gynhaliwyd yma o'r blaen. Yr oedd y deffroad mawr a anfonodd yr Arglwydd yn ei ras ar yr ardaloedd y flwyddyn hon a'r flwyddyn flaenorol wedi hoelio sylw pawb bron ar eu mater rhyngddynt a Duw, nes gadael o'r neilltu eu mater rhyngddynt a'u gilydd; ond wedi i syndod y deffroad leihau dipyn, y mae yn natur y cyfnewidiad grasol a effeithiodd ddwyn pawb a'i profodd fesur ychydig ac ychydig i ystyried pa fodd i rodio a boddloni Duw, a phan ystyriant hynny yn ddyledus, gwelant a chredant nad oes modd rhodio a boddloni Duw heb hyfforddio plentyn ym mhen ei ffordd, heb faethu eu plant yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd, heb wneuthur daioni a chyfranu, heb wneuthur eu hunain yn bob peth i bawb, heb geisio llesad llaweroedd yn gystal â'u llesad eu hunain, heb chwanegu at ffydd wybodaeth, yn gystal a rhinweddau duwiol eraill. Cofnodwn yn ddiolchgar y personau a'n cynorthwyasant eleni, sef y Parch. Robt. Hughes, Meistri O. Owens, Richd. Roberts (Bardd Treflys), Griff. Lewis a H. Evans ac eraill, ynghyda haelionus gefnogaeth ein hysgol Sul a'r ysgolion Sul eraill, a'r gymdogaeth yn gyffredinol."


"1861. Llun y Sulgwyn. Cynhaliwyd un o'r cyfarfodydd mwyaf rhagorol a welwyd eto. Y llywydd hybarch ar y cyfarfod hwn oedd Ellis Owen, Ysw., Cefnymeusydd. Yr oedd hefyd y Parch. R. Hughes, Meistri O. Owens, Richd. Roberts (Bardd Treflys) ac eraill o fri yn bresennol. Cyfodwyd esgynlawr o flaen y pulpud, a gosodwyd cadair dderw hybarch o ran ei ffurf arno i'r Cadeirydd eistedd. Ac fel ag yr oedd yr urddas allanol yn gyflawn, felly yr oedd yr hyfrydwch a'r adeiladaeth dumewnol yn dra boddhaol a chlodfawr. Yr oedd holl ymarferiadau llenyddol y cyfarfod yn ganmoladwy, a'r cyflawniadau o ran pawb yn hynod o ddi-ddiffyg."

"1862. Llun y Sulgwyn. Troes y cyfarfod allan yn un tra boddhaol a buddiol: cynulleidfa fawr, ac athrawon cymwys, y rhai a roisant lawer o hyfforddiadau da mewn dysg a moes a chrefydd. Ymddangosai y cystadleuwyr a'r disgyblion yn siriol a pharod a hawdd eu trin. Y cŵyn oedd fod rhy ychydig wedi dod ymlaen i ysgrifennu, ac ystyried yr Undeb, yn gynwysedig o'r Capel Uchaf, Brynaerau, Seion, Llanaelhaiarn a'r Pentref. Y llywydd urddasol y flwyddyn hon eto oedd Ellis Owen, Ysw., Cefnymeusydd ; y beirniaid, Bardd Treflys, H. R. Llwyd Penybryn, Llanystumdwy, a Robt. Williams Ty'nyllan, Llanarmon,a Dewi Arfon; yr athrawon crefyddol, y Parch. Robert Hughes Uwchlaw'rffynnon, Mr. James Williams Penrhiwiau, ac eraill; cantorion o Rostryfan, Mr. Wm. Griffith o Gaernarvon, a chôr Clynnog Fawr."

Yn y fel yna y gorffen yr adroddiadau o'r cyfarfodydd bychain, bywiog hyn, a esgorodd ar dylwyth lliosog y cyfarfodydd llen- yddol. Yn yr adroddiadau hyn, a ysgrifennwyd dan gynhyrfiad y funyd gan wr o natur or-deimladol, fe dynnodd Eben Fardd hunanbortread go gyflawn ohono ef ei hun. Manylrwydd yr adroddiad a ddengys hefyd mor fyw ydoedd ei gydymdeimlad â'r bobl, a gwelir yn hynny ddirgelwch ei ddylanwad mawr arnynt.

Am sylwadau cyffredinol ar yr Ysgol Sul gweler y sylwadau Arweiniol i Lanllyfni a'r Cylch.

CAPEL UCHAF.[2]

YR eglwys wladol a gafodd yr ardal hon yn llwyr iddi ei hun, heb. ymyriad unrhyw blaid grefyddol, hyd nes yr ymddanghosodd y Methodistiaid yn y lle, a chydrhwng yr eglwys a'r Methodistiaid y meddiannir hi fyth. Dechreuwyd pregethu yn ardal Llanaelhaiarn, bedair milltir o bentref Clynnog, yn gynnar yn y bedwaredd ganrif arbymtheg.

Yn yr ardal hon ynghyda Llanllyfni y dechreuodd Methodistiaeth wreiddio'n amlwg yn gyntaf oll o holl ardaloedd Arfon. Yr oedd ymweliad cyntaf Howell Harris â Sir Gaernarfon i bob golwg yn gyfyngedig i'r pen arall i'r sir. Mae'r traddodiad a fu yn ardal Waenfawr ddarfod i Howell Harris bregethu yno ar ei ymweliad cyntaf â'r sir yn fwy credadwy ond deall Arfon am Gaernarfon. Mae dyddlyfr Howell Harris yn rhoi hanes ei ail ymweliad â'r sir yn 1747, yngholl. Ardal dra neilltuedig yr ymddengys y rhan honno o'r wlad lle codwyd y capel cyntaf yn Arfon ymhlith y Methodistiaid. Eithr y mae'r Efengyl, fel pob gwareiddiad arall, yn tramwy y prif-ffyrdd lle byddant wedi eu gwneud, cystal a'u gwneud lle na byddant. Ac y mae prif-ffordd yn myned heibio'r Capel Uchaf o bentref Clynnog i bentref Penmorfa. Yn ystod blynyddoedd a ddilynai ymweliad cyntaf Howel Harris âg ardaloedd Lleyn, fe godwyd amryw gynghorwyr, fel y gelwid hwy: John Morgan yr ysgolfeistr, Morgan Griffith, Hugh Thomas, John Griffith Ellis ac eraill, a byddai y rhai'n yn achlysurol yn anturio cyn belled ag Arfon; ac yn rhyw fodd drwy weinidogaeth rhai ohonynt hwy, y mae pob lle i gasglu, y disgynnodd hedyn crefydd efengylaidd gyntaf i'r ardal, neu o leiaf hedyn Methodistiaeth.

Eithr fe freintiwyd ardal Clynnog mewn ffordd arall. Yr oedd Richard Nanney, person y plwyf, yn wr o ysbryd efengylaidd. Daeth yno yn 1723, a bu farw yn 1768 yn 80 mlwydd oed. Nid yw'n hysbys pa bryd y meddiannwyd ef gan yr ysbryd efengylaidd, eithr fe arferid a thybio yn yr ardal mai yn ol bod yn gwrando ar y Methodistiaid, prun ai yn yr ardal hon ei hunan neu ynte yn rhywle arall nid yw'n hysbys. Fe ddywedir, pa fodd bynnag, ddarfod iddo lafurio'n hir, a hynny ar ol ei ddeffro gan yr ysbryd newydd, cyn gweled ohono nemor ddim llwyddiant ar ei weinidogaeth. Nid hwyrach mai araf y bu yntau ei hunan yn dod i'r goleu llawn. Yn ei flynyddoedd olaf, pa ddelw bynnag, y coronwyd ei lafur â bendith amlwg. Dechreuwyd llanw eglwys fawr Clynnog, a fyddai agos yn wâg cyn hynny, â chynulleidfa orfoleddus, ac aeth y sôn am y gwasanaeth drwy'r wlad oddiamgylch. Mae'r hanes hwn ar ei wyneb yn ei wneud yn debygol mai ar ol i Fethodistiaeth ddechre gwreiddio yn y wlad y digwyddodd y cyffro hwn yng ngwasanaeth yr eglwys, canys rywbryd at ddiwedd oes y person y digwyddodd y cyfnewidiad amlwg ynglyn ag ef, tra'r oedd pregethu achlysurol yn y gymdogaeth ers oddeutu ugain mlynedd cyn hynny, ac eglwys wedi cychwyn ers lliaws o flynyddoedd bellach yn yr ardal. Pa ddelw bynnag, nid oes amheuaeth na fu gweinidogaeth Richard. Nanney yn gyfnerthiad mawr i grefydd ysbrydol yn y wlad, ac i Fethodistiaeth yn neilltuol.

Ar y cyntaf ni dderbynid pregethu i dai. Ar yr heol y byddai'r gwasanaeth. Eithr e fyddai ryw ddylanwad rhyfedd a dieithrol ar adegau yn cydfyned â'r genadwri ar rai o'r gwrandawyr, y fath fel y tybid dim llai nad gwallgofi y byddent, ac elid yn eithaf digellwair i chwilio am raffau i'w rhwymo. Diau fod ein tramwyfa fel cyfundeb y pryd hwnnw,fel y digwyddodd hefyd liaws o weithiau ar ol hynny yn ein hanes, ar draws rhyw gylchwy cyfrin o ser y nefoedd. A'r un a'r unrhyw rym ysbrydol ag a ddeffroai iasau argyhoeddiad yn rhai a ddeffroai gynddaredd yn y lleill. Pan oedd Lewis Evan Llanllugan, un o'r cynghorwyr boreuaf, yn sefyll i fyny i bregethu yma, fe ddaeth boneddwr o'r ardal ato, a rhoes ddyrnod iddo a choes ei chwip, nes llifo o'i waed. Rhwystrwyd ail ddyrnod drwy i Robert Prys Felin Gaseg sefyll i fyny dros y pregethwr. Nid cynt y cyrhaeddodd y boneddwr ei gartref nad dyma arch i'w was i fyned i ymholi am helynt y pregethwr, rhyw arwydd, debygid, o aflonyddwch meddwl.

Y cyntaf i roi achles i'r arch o fewn ei dŷ oedd Hugh Griffith, neu Hugh Griffith Hughes. Teiliwr o ran ei grefft, ond yn dda arno. Preswyliai yn y Foel, rhyw ddwy filldir o'r pentref. Trowyd Hugh Griffith o'i dŷ o achos yr Arch. Ymhen ysbaid, dyma Hugh Evans Berthddu yn adeiladu tŷ ar ei dir ei hunan, ac yn ei osod i Dafydd Prisiart Dafydd, un o'r crefyddwyr. Nid Methodist oedd Hugh Evans, canys mawr ymhoffai mewn canu a dawnsio a'r cyffelyb. Ymdyrrai lliaws o'i gymdogion ato ar ddechreunos, a chwareuai yntau iddynt ar ei ffidil fel pen-campwr. Ar un noswaith pan oedd pregeth yn y Berthddu bach, cartref Dafydd Prisiart Dafydd, penderfynodd y cwmni llawen roi heibio'u difyrrwch, a myned i wrando'r bregeth, ar awgrym Hugh Evans, gyn debyced a dim. Glynodd y saethau mewn calonnau y noswaith honno, ac yng nghalon Hugh Evans ymhlith eraill. Aeth adref o'r bregeth ar ei union, a dywedodd wrth y wraig, "Mi dorraf y ffidil yn ddarnau mân." "Na, gresyn," ebe hi, peidiwch â'i dryllio, fe fydd yn dda gan Wil Ifan ei chael." Nage," ebe yntau, "ni wna ond y drwg iddo yntau." Yna fe ymaflodd yn y ffidil, ac a ddechreuodd ei churo yn erbyn hen gist ystyfflog yn ymyl, onid oedd yn chwilfriw mân ar hyd y llawr. Ymhlith y gwrandawyr yr oedd hen ymladdwr ceiliogod, a bygythiai hwnnw ar ei ffordd adref y torrai ben ei geiliog, ac megys y bygythiodd felly y gwnaeth efe.

Cynelid cyfarfodydd eglwysig yn y Berthddu bach. Aflonyddid ar heddwch y crefyddwyr yn fynych wrth fyned a dod i'r cyfarfodydd hyn. Cyn hir ar ol adeiladu'r Berthddu bach, fe agorwyd drws Ty'nlon i dderbyn pregethu, gerllaw y man y saif y Capel Uchaf yn awr.

Yn nhymor cynnal moddion yn y ddau dŷ hyn, fe dorrodd diwygiad allan, yn enwedig ymhlith y plant. Moliannai'r plant ar hyd y ffordd tua chartref fel y deuent allan o'r moddion. Yr oedd Hugh Griffith Hughes, a drowyd allan o'i dŷ am achlesu pregethu, yn byw bellach yn Nhy'nycoed. Prynodd. y Brysgyni-isaf. Gwerthodd ddernyn o dir, 434 llath wrth 234 llath, am bum swllt, i adeiladu capel arno, sef rhan o gae a elwid Pantyllechi. Dyma'r adroddiad fel y mae yn yr hen weithred. Amseriad y weithred yw 1764, y 5 o Fawrth, yn y bedwaredd flwyddyn o'r brenin Sior III. Ym Methodistiaeth Cymru y mae gwahanol amseriadau yn cael eu rhoi i'r capel cyntaf yng Nghlynnog, sef 1750, 1752 a 1760 (II. 143, 161, 165; III. 550). Ar garreg yn. y capel presennol fe nodir amseriad y gwahanol gapelau, a rhoir amseriad y cyntaf fel 1761. Nid anfynych y gwneir gweithred am dir yn ddiweddarach na'r adeilad arno, neu tra bydd yr adeiladu yn myned ymlaen. Eithr pan ddigwydd yr olaf, fe nodir hynny yn y weithred yn fynych, os nad bob amser. Yn yr amgylchiad hwn, pa fodd bynnag, fe leferir yn y weithred am yr adeilad fel peth mewn golwg yn unig: "Gan fod amrywiol bersonnau hynawsaidd yn foddlon ac yn awyddus i gyfrannu tuag at adeiladu tŷ cwrdd i Brotestaniaid ymneilltuol ym mhlwyf Clynnog, etc." Tebyg ddarfod i'r capel gael ei godi o fewn y flwyddyn y tynnwyd y weithred allan, a diau ei fod y capel cyntaf gan y Methodistiaid yn Arfon, p'run bynnag a ydoedd y cyntaf yn y sir ai peidio, megys y dywed Robert Jones Rhoslan. Mawrglod i Hugh Griffith Hughes, neu Hugh Griffiths, fel y gelwir ef yn y weithred, am gyflwyno llecyn mor helaeth o dir yn rhodd, fel y dywedir yn y Methodistiaeth, canys dyna ydoedd yn ymarferol, os nad yn hollol, er gwaethaf pum swllt y weithred. Ac nid pobl anheilwng o'u coffa yn ddiau oedd yr ymddiriedolwyr, pe baem ond wedi eu hadnabod, sef oeddynt y rhai'n: Morris Mark Brynaerau isaf, amaethwr; Griffith Roberts Pentre Clynnog, teiliwr; John Jones plwyf Llaniestyn, amaethwr; Robert Owen plwyf Llanaelhaiarn.

Yn 1744 y dywedir gan y Methodistiaeth ddarfod adeiladu'r capel cyntaf gan y Methodistiaid, a hynny oedd yn Llansawel, Sir Gaerfyrddin; ond capel y Groeswen yn Sir Forgannwg oedd. y cyntaf ebe Robert Jones, oddeutu 1738 (Gwaith, 1898, t. 104.) Ond rhy gynnar braidd ydyw Robert Jones.

"Tŷ Newydd" oedd yr enw ar gapel cyntaf Clynnog. Yn ddiweddarach, ar hen restr tanysgrifiadau mewn cysylltiad â'r rhyfel ar y cyfandir, fe ymddengys enw Robert Roberts Capel" i lawr am bum swllt. Pan godwyd capel Brynaerau, fe ddaeth y "Capel" i ddwyn yr enw "Capel Uchaf."

Y gwyr yn bennaf a aeth dan y baich o adeiladu oedd Hugh Griffith, sef y sawl a roes y tir, Morris Marc, Robert William Tanyrallt, Robert Prys Felin faesog. Cychwynnodd Robert Sion Ifan ohono'i hun i dirio am gerryg, a bu wrthi am dair wythnos mewn chwarel gerllaw ar ei ben ei hun cyn cael help gan neb. Owen Hughes a roes fenthyg ei gar-llusg a'i ferlyn i gludo'r cerryg, a geneth fach iddo, ddeg oed, a dywysai'r merlyn. Daeth yr eneth honno ar ol hynny yn wraig hynod am ei gras, a bu'n aelod am 77 mlynedd erbyn huno ohoni yn yr Arglwydd.

Yr oedd adeiladwaith y capel yn un go hynod. Gwnawd ef fel ag i gynnwys tŷ capel o fewn ei furiau, ac ar ben y tŷ, o fewn y capel, yr oedd llofft. Elai grisiau, yn ymestyn o'r naill bared i'r llall, i fyny'r i llofft, ac eisteddid ar y grisiau hynny. Yr oedd wyneb y capel at y ffordd, ac ar y wyneb yr oedd y pulpud, a'r tŷ ar y chwith i'r pregethwr. Yr oedd darn croes ar gefn y capel gydag eisteddleoedd ynddo, a dôr yn myned allan ohono. Ceid un res o eisteddleoedd ar y dde i'r pregethwr ar hyd y pared nes dod at y darn croes. O gongl y clwt glas tucefn i'r capel elai llwybr hyd at y ddôr yn y darn croes.

Wedi gorffen adeiladu, aeth dau gyda'i gilydd i gasglu at yr adeilad. Galwyd gydag Ellis Hughes Plasnewydd, gerllaw Glynllifon, amaethwr cyfrifol, ac eglwyswr tyn ei olygiadau. Byth- eiriai Ellis Hughes ei achwynion yn eu herbyn: cyhuddai hwy o fod yn dwyllwyr, o ddibrisio hen sefydliadau eu gwlad, o lwyr fwyta tai gwragedd gweddwon, ac mewn rhith yn hir weddio. Buwyd yno gydag ef o hanner dydd hyd ddechreunos, a phrofodd ei gyfarthiad yn waeth na'i frathiad, canys fe estynnodd gini iddynt cyn eu bod wedi ymadael.

Torrodd diwygiad allan rywbryd ar ol agor y capel. Fe ddywedir yn hanes Methodistiaeth nad oes dim o hanes y diwygiad hwn ond ei fod. Mae'r un llyfr, pa fodd bynnag, wrth son am y diwygiad ymhlith y plant a dorrodd allan yn nhymor y ddau dŷ, yn adrodd hanesyn i'r perwyl ddarfod i ficer y plwyf, olynydd Nanney, sef Richard Ellis ei fab ynghyfraith, wrth ddychwelyd ar gefn ei geffyl o'r gwasanaeth, gan gyfeirio tuag adref, sef plas y Gwynfryn, ddod ar draws y plant yn gorfoleddu, a dechre eu chwipio mewn nwydau cyffrous, a'u gorchymyn i dewi. Ar hynny daeth Robert Prys allan o'i dŷ, sef y gwr a amddiffynnodd Lewis Evans Llanllugan rhag y gwr bonheddig, ac a ymaflodd ym mhen y ceffyl, gan gyfarch y ficer, "Dyma'r ffordd i'r Gwynfryn, syr," ac ebe fe ymhellach, "Pe tawai y rhai hyn, fe lefarai y cerryg yn y fan!" Ac amserir y digwyddiad oddeutu'r flwyddyn 1759. Fe gofir, pa ddelw bynnag, mai yn 1768 y bu Nanney farw. Yr oedd Richard Ellis, mae'n wir, wedi ymgymeryd â'r ficeriaeth cyn hynny, sef yn 1765 (Cyff Beuno, t. 98). Fe ymddengys ynte y perthyn y digwyddiad i'r diwygiad a dorrodd allan ymhen amser ar ol myned i'r capel.

Torrodd diwygiad arall allan tua'r flwyddyn 1779. Dechreuodd hwn mewn cyfarfod gweddi a gynhaliwyd ar aelwyd y tŷ capel, pan y profwyd rhyw ddylanwad anarferol yn y lle. Y Sul dilynol yr oedd Richard Dafydd o Leyn yno yn pregethu. Gwr o gynneddf fechan oedd Richard Dafydd, eithr fe'i coronwyd y tro hwn â nerth o'r uchelder. Gwaeddai lliaws allan am eu bywyd. Daeth pymtheg ymlaen o'r newydd yn y cyfarfod eglwysig cyntaf ar ol hynny, a pharhaodd lliaws i ddod am ryw dymor. Rhowd yr enw Rowland o Glynnog mewn rhyw barthau i Richard Dafydd ar ol yr oedfa honno, mewn cyfeiriad at Daniel Rowland Llangeitho. Cyffroai'r pethau hyn feddwl Richard Ellis, y ficer, a dyma ef i mewn i'r capel ar ryw Sul gyda'i chwip yn ei law, gan waeddi allan, "Beth yw'r swn drwg sydd yma o bryd i bryd ?" Ymaflodd yn y pen meinaf i'r chwip, a gwnelai ei ffordd tuag at y pregethwr. Ond dyna William Parry y Mynachdy yn ymaflyd yn y gwr mawr, ac yn rhoi ar ddeall iddo na chyffyrddai â'r pregethwr ond ar ei berygl, yr hyn a'i llonyddodd ef.

Fe ddechreuwyd cynnal ysgol nos yn yr ardaloedd hyn flynyddoedd cyn i'r Ysgol Sul gychwyn. Nid oes nemor ddim hanes am dani bellach. Fe ddywedir mai Charles o'r Bala a roes yr ysgogiad cyntaf iddi, drwy gymell y crefyddwyr i fyned i dai y bobl i'w dysgu i ddarllen. A chymhellid yntau i roddi'r cyngor wrth glywed yr hyn a ddywedid wrtho, mewn atebiad i'w ofynion, sef na fedrai lliaws o'r bobl ddeall ei bregethau yn dda. (Canmlwyddiant Ysgolion Sabothol Clynnog ac Uwchgwyrfai, 1885, t. 16. E fu Charles mewn Cyfarfod Misol yng Nghlynnog mor fore a 1778. (Thomas Charles, gan D. Jenkins, I. 85-6). Fe fernir fod y rhai a ddeuai i'r ysgol nos y pryd hwnnw y rhan amlaf yn dra diffygiol mewn gwybodaeth ysgrythyrol a chyffredin.

Yn niwedd 1787 y dechreuodd Robert Roberts bregethu ; ac am rai blynyddoedd yn ddilynol i hynny, bu yn cadw ysgol ddyddiol Gymraeg yn ardaloedd Eifionydd. Ar gais y Cyfarfod Misol fe roes yr ysgol i fyny er mwyn ymroi yn llwyr i bregethu, ac anogwyd ef i fyned i drigiannu i dŷ capel Clynnog, yr hyn a wnaeth. Dywed y Parch. J. Jones Brynrodyn mai Capel Uchaf oedd yr eglwys fwyaf a chyfoethocaf yn Arfon ar y pryd; ac mai trefniant oedd i fod yr eglwys gyflenwi'r tŷ capel â phob angenrheidiau, a bod Robert Roberts i wasanaethu yr eglwysi cylchynol, ac mai dyma ddechreuad y fugeiliaeth eglwysig yn Arfon. (Drysorfa, 1890, t. 101). Ac yma y bu Robert Roberts byw am weddill ei oes, sef hyd y flwyddyn 1802, y rhan fwyaf o'i yrfa fel pregethwr. Rhydd John Jones enghraifft ohono fel bugail. Ar ei waith yn dod i mewn i'r tŷ un tro, ar ol bod am daith yn y Deheudir, dywedai ei w aig Elin wrtho fod Elin Marc Tan-y-garreg, gwraig grefyddol iawn, yn ymyl marw. Aeth yntau yno yn y fan, heb dynnu ei gôb uchaf oddiam dano. Wedi cyrraedd ohono, aeth ar ei liniau, a gweddiodd, gan gyfeirio at yr iachawdwriaeth fel cerbyd o goed Libanus, ei lawr o aur a'i lenni o borffor, ac wedi ei balmantu oddi- mewn â chariad i ferched Jerusalem. Dyma un o ferched Jeru- salem yn cychwyn i'w thaith. O Arglwydd! cyfod hi i mewn i'r cerbyd."

Yn 1793, mewn ysgol nos, y torrodd allan y diwygiad mwyaf nerthol a brofodd yr ardal hon erioed, er mai diwygiad lleol ydoedd. Yr oedd yr ysgol nos y pryd hynny i fesur pell ar ddelw yr ysgol Sul. Ar ddiwedd un o'r cyfarfodydd hyn, ac ar ol i rywun weddïo, fe roddwyd y pennill hwnnw allan i'w ganu, "Fel fflamau angerddol o dân." Methu gan y rhai a arferai godi mesur y tro hwn, y naill ar ol y llall, ac yna y codwyd mesur ar y pennill gan un o'r bobl ieuainc, a dechreuwyd canu gyda blas. Dyblwyd a threblwyd, a chydiai y geiriau, "Ymaflodd mewn dyn ar y llawr," ym mhob teimlad. Yn y man, dyna rywun yn torri allan i lefain, ac wele'r cyffro hwnnw yn cerdded y lle i gyd. Wrth glywed y swn, fe ddechreuodd y cymdogion ddod i mewn i'r capel, canys yno y cynhelid yr ysgol, a disgynnai yr unrhyw ysbryd arnynt hwythau. Cludwyd hanes y newydd-beth ymhellach, a dyma hen wr gyda'i ffon i mewn i'r capel at hanner nos bellach, a dechreuodd foliannu a'i holl egni, er na wybuwyd fod dim neilltuol gyda chrefydd ar ei feddwl ef o'r blaen. Cynyddu yr oedd y braw a'r cyffro yn y capel, a buwyd yno am ysbaid o amser ymhellach. Fe ddaeth pedwar ugain o'r newydd i'r eglwys gyda'r diwygiad hwn, ac arosodd yn draddodiad yn yr ardal mai ychydig o'r dychweledigion a drodd yn ol. Fe ddywedir ymhellach mai at yr holwyddori yn niwedd yr ysgol y deuai y rhan fwyaf o'r ysgolheigion i mewn cyn y diwygiad hwnnw, ond ar ei ol fe ddechreuwyd dod yn brydlon gan bawb yn gyffredinol. Yr oedd effaith y diwygiad hwn yn fwy na'r oll a wnawd yn yr ardal gyda chrefydd, yn ystod y deugain mlynedd blaenorol, o ran dylanwad amlwg o leiaf.

Yn 1793, ar ol marw Griffith Roberts a John Jones, fe benodwyd ymddiriedolwyr ychwanegol, sef Thos. Jones Ffridd, Thos. Owen Penarth, Thos. Rowlands Maesog, John Jones Edeyrn, Robt. Jones Llaniestyn, John Roberts Buarthau, Hugh Williams Drwsdeugoed.

Yn 1794 y cychwynwyd yr ysgol Sul yma. Rhoir yr amseriad hwn, sef tair blynedd a thriugain cyn 1857, mewn ysgrif sydd eto ar gael, ac yn awr gerbron, gan John Owen Henbant bach, yn cael ei gynorthwyo gan John Robert Factory Tai'nlon. Gelwir ysgol Clynnog yn yr ysgrif hon y gyntaf yn Arfon. Yn y llyfryn, Canmlwyddiant Ysgolion Clynnog ac Uwchgwyrfai (t. 12), wrth ddyfynnu cynnwys yr ysgrif hon, fe newidir y tri a thriugain i wyth a thriugain, er mwyn i'r amseriad fod yn flaenorol i'r amseriad a nodir i ysgolion Llanllyfni a Brynrodyn, dan y dybiaeth, mae'n ddiau, fod John Owen a'i gyfaill wedi camgymeryd am y flwyddyn. P'run bynnag a ydoedd John Owen yn gywir neu beidio o ran yr argraff ar ei feddwl mai dyma'r ysgol Sul gyntaf yn Arfon, nid yw'n debyg y camgymerasid y flwyddyn ganddo mewn perthynas â'r hyn a ddygai gysylltiad mor arbennig âg ef ei hun, fel ag a ddangosir yn yr hanes sy'n dilyn. Yr achlysur o godi'r ysgol ydoedd gwaith Charles, mewn oedfa yn y capel, yn pwyso ar yr angenrheidrwydd o gynnal ysgol ar y Sul, er mwyn i blant tlodion gael addysg a'u rhoi ar ben y ffordd. Yr oedd yr hen bobl wedi synnu ei fod yn meddwl cadw ysgol ar y Sul, er yn ofni dweyd dim wrtho i'r perwyl. Wedi dod o Charles i'r tŷ fe ddechreuodd holi yn daer, pwy oedd yno a wnae ddechre'r gwaith? Fe ddywedwyd wrtho am un o'r dynion ieuainc a oedd wedi cael ysgol ddyddiol, hwnnw oedd John Owen. Pwysodd Charles y mater yn daer ar John Owen, ac o'r diwedd ildiodd yntau. Dwy ar hugain mlwydd oed ydoedd efe y pryd hwnnw, a bu'n arolygwr ar yr ysgol am naw mlynedd a thriugain, sef hyd ei farw yn 1863 yn 91 mlwydd oed.

Y Llun dilynol, ebe Robert Ffoulk y gwehydd wrth Huwcyn y teiliwr, "A wyddosti beth, Huwcyn? Milyncodd Sion 'Rhenbant yr ysgol Sul drwy ei phlu a'r cwbwl. Weldi, ni fuasai gwaeth gen i fynd ar y gwehydd i weu ar y Sul na chadw ysgol." "Ac ni fuasai waeth gen innau fynd ar ben y bwrdd i bwytho un tipyn," ebe Huwcyn. Yr oedd John Robert Factory Tai'nlon yn fab i Robert Ffoulk, ac yr oedd yn gwrando ar y sgwrs yma yn hogyn o wyth i naw mlwydd oed, a glynodd y geiriau yn ei gof.

Yr oedd yn yr ardal ddyn ieuanc arall wedi cael ysgol ddyddiol, sef Griffith Owen, brawd i wraig Owen Owens Cors-y-wlad. Cafodd John Owen gan Griffith Owen ei gynorthwyo gyda'r gwaith o gychwyn yr ysgol ar y Sul nesaf i gyd, yn ol yr adduned a wnaeth efe i Charles. Nid oedd neb arall ond Griffith Owen yn foddlon i'w gynorthwyo. Fe ddaeth rhyw nifer o blant bychain atynt, ac yn eu plith yr oedd John Robert, hogyn Robert Ffoulk, a glywodd ei dad yn datgan ei farn ddirmygus o'r ysgol. Nid oedd dim i'w wneud, ebe John Owen, ond rhoi'r planhigion bychain i lawr ynghanol chwyn, heb fraenaru iddynt fraenar. Eithr fe ordyfodd y planhigion y chwyn, a gwywodd y chwyn ymaith gryn lawer. "Ar ol dechre eu plannu," ebe John Owen ymhellach, "mi 'roedd y planhigion yn cynyddu bob Saboth." Dywed ddarfod iddynt ill dau am ryw gymaint o amser geisio trin ac ymgeleddu'r planhigion, gan ddisgwyl iddynt ddwyn ffrwyth, cyn clywed o neb ar ei galon roi help llaw iddynt. O'r diwedd, wrth weled peth cynnydd, dyma William Roberts yr Hendre atynt, sef y pregethwr wedi hynny. A buont ill tri wrthi am ysbaid eto. Cynyddu yr oedd y planhigion bach. Wrth weled hynny dyma amryw atynt o'r diwedd gyda'u gilydd, ac yn eu plith Owen Prichard, gwr deallus, yn deall Saesneg yn o drwyadl a thipyn o Roeg, ac wedi dysgu'r cwbl wrtho'i hun. Robert Owen Aber, eithaf tyst, yw'r awdurdod am hyn o hanes Owen Prichard. Yr oedd y planhigion bach yn dod ymlaen yn well y pryd hynny, ebe John Owen, am eu bod yn cael nodd dirgelaidd i'w gwraidd wrth fod fel yr oeddynt allan o olwg y byd.

Ond wele Charles yma drachefn yn pregethu, ac yn ymholi ynghylch yr ysgol. Wedi deall mai go oeraidd y teimlai'r hen frodyr tuag ati, fe siaradodd ar yr ysgol o flaen y bregeth gyda grym gwywol, gan ddangos mai oddiwrth Arglwydd y Saboth yr oedd yr ysgol wedi dod. Fe chwalwyd y tarth a'r niwl ymaith, ebe John Owen, nes fod yr ysgol yn ymddangos fel pren afalau yn llawn ffrwyth, a chroeso i bawb ddod i eistedd o dan ei gysgod. A rhyfedd o'r hanes, daeth cymaint awydd ar Robert Ffoulk gael eistedd dan ei gysgod a fu arno erioed am eistedd ar ei wehydd!

Bellach dyma gyrchu i'r ysgol fel i bregeth. Gwelwyd fod yn rhaid ymddeffro er cael trefn a dosbarth ar bethau. Heblaw bod yn arolygwr, yr oedd John Owen yn ysgrifennydd hefyd dros ystod rhai blynyddoedd, a deuai a llechen gydag ef dan ei gesail i'r ysgol, ac ar honno y cedwid y cyfrifon am y diwrnod. Griffith Owen oedd yr holwyddorwr, am ysbaid ei oes efallai, a danghosai graffter gyda'r gwaith. Bu Griffith Owen farw yn gymharol ieuanc. Trefnwyd gwahanol ddosbarthiadau o'r wyddor hyd at y Beibl, a llwyddwyd mor bell a hynny. Blinid yr arolygwr bellach gan feibion a merched yn tyrru allan ar ganol y gwasanaeth, gymaint a thair neu bedair o ferched gyda'u gilydd ar dro. Byddai raid eu cyrchu i mewn; a gorfu dwyn eu hachos ar gyhoedd er dangos drygedd yr arfer y syrthiasant iddi. Rhoddwyd gorchymyn caeth nad oedd neb i fyned allan o'r ysgol mwy nag o bregeth, a rhoddwyd terfyn ar y drwg arfer. Ymlaen yr elai'r ysgol nes fod yr hen gapel yn llawn, a phawb yn ei le yn fywiog ac effro. Llanwyd y capel newydd drachefn, pan adeiladwyd hwnnw, fel cwch gwenyn, a chododd haid ar ol haid allan ohono; ond er cymaint a adawodd yr hen gwch, yr oedd yn parhau yn amser John Owen mor weithgar ag erioed.

Yr oedd yr achos wedi cynyddu cymaint yn nhymor y diwygiad, fel y gorfu helaethu'r capel, yr hyn a wnawd yn 1796. A pharhau i gynyddu yr ydoedd bellach. Yn fuan wedi helaethu'r capel dechreuwyd pregethu tua'r Hen-derfyn-deublwyf, a bu pregethu yno am flynyddau cyn codi capel Brynaerau.

Fe fu John Roberts (Llangwm) yn cadw ysgol nos yn yr hen gapel. Ar ei ol ef daeth Michael Roberts. Yr oedd efe yno oddeutu 1798. Bu Hugh Jones, gwr Sian Jones, yn un o ysgolorion Michael Roberts. Arferai'r athraw holi'r bechgyn am y modd y treuliasant y Sul. Un bore Llun, fe ofynodd i Hugh a fu efe yn rhodianna ar y Sul?

"Naddo," ebe Hugh. Yna fe ofynodd i fachgen o'r enw John. "Do," oedd ateb hwnnw. "A oedd rhywun gyda thi ?" "Oedd, Huwcyn." Wedi bod yn gweled pont yr afon Hen yr oeddynt, a adeiledid ar y pryd. Dodwyd Huwcyn i sefyll ar ben y fainc. Pwy ddaeth i mewn yn y man ond Robert Roberts. Ac wedi clywed yr achos, addawodd fyned yn feichiau dros Huwcyn ar ol iddo ef addaw na wnelai mo'r cyffelyb rhagllaw..

Tachwedd 28, 1802, y bu farw Robert Roberts, yn ddeugain mlwydd oed. Nid yw'n hysbys pa bryd y daeth efe i Glynnog, ond fe gesglir oddiwrth ei hanes iddo fod yno am rai blynyddoedd yn amser yr hen gapel. Gwelwyd fod ei breswylfod ef o fewn muriau y capel hwnnw.gwir arwyddlun ei fuchedd ysbrydol, canys yr oedd efe yn un o breswylwyr tŷ Dduw, y rhai yn wastad a'i moliannant. Yr oedd Sian Jones, a oedd oddeutu tair arddeg oed pan fu Robert Roberts farw, ac a fu farw ei hunan yn gant a dyflwydd oed agos, yn cofio clywed Robert Roberts mewn gweddi droion o fewn ei dŷ, cyn dechre'r gwasanaeth yn y capel, o'i heisteddle yn llofft y capel uwchben y tŷ. Pan ofynodd Robert Jones Rhoslan iddo ef unwaith, ymha le y cafodd efe y bregeth ofnadwy honno oedd ar y pryd yn peri'r fath effeithiau yn y wlad, gan gyfeirio at ryw bregeth neilltuol, efe a'i cymerodd ef o'r neilltu o fewn y tŷ, gan gyfeirio gyda'i fŷs i'r tufewn i un ystafell, "Yn y fan yna," ebe fe, ar fy ngliniau, y cefais i hi." Fe glywyd Richard Owen yn adrodd am dano yn nhymor ei argyhoeddiad, yn fachgen un ar bymtheg oed, yn cerdded y gwylltoedd unig, gan ollwng allan y waedd, "O !" drosodd a throsodd, fel yr aeth y sôn am "O! Robert Roberts" drwy'r wlad. Ei genadwri i'w oes a ddelweddwyd ar ei ysbryd yn ing yr argyhoeddiad hwnnw. Fe arferir cydnabod am dano, ei fod ef mewn modd arbennig yn un o'r rhai hynny ag y mae dirgelwch eu dylanwad yn rhyw fodd ynglyn wrth eu personoliaeth. Ymhlith y Methodistiaid, Howell Harris oedd yr hynotaf yn hynny o'i flaen ef, ac Evan Roberts ar ei ol. Yn wr ieuanc, cyn yr anhwyldeb a gafodd, yr oedd rhyw graffter yn ei ymddanghosiad a barai i ddieithriaid holi pwy ydoedd. Ar ol yr anhwyldeb hwnnw, fe anharddwyd ei berson, nes fod yr olwg arno fel un yn ymgrebachu ynghyd. Eithr fe arosodd dirgelwch ei bresenoldeb. Fe'i teimlid yn ei ardal ei hun yn gymaint ag yn unlle. Fe'i canfyddid ef yn dyfod i'w cyfarfod ar y ffordd unwaith gan ddau wr ieuainc ag oedd yn frodyr, ac o safle uwch na chyffredin yn yr ardal, wedi bod ohonynt yn rhyw helynt yn ddiweddar ag y teimlent radd o gywilydd o'r herwydd, er nad oedd ganddynt ddim lle i feddwl y gwyddai ef ddim am yr achos. Y fath oedd arswyd ei bresenoldeb ar eu meddwl, pa fodd bynnag, fel y diangodd y naill drwy'r gwrych, ac y gorweddodd y llall i lawr yn ei hydgyhyd ar waelod y drol, nes ei fod ef wedi myned yn llwyr heibio iddynt. Adroddid gan Mr. Thomas Gray wrth Mr. Howell Roberts, yr hyn a glywodd efe am dano gan hen wraig yn Llundain. Yr oedd Robert Roberts yn cael ei ddisgwyl ar un tro gan gynulleidfa orlawn. Wedi dod i mewn a dringo i fyny risiau'r pulpud, ac ar ol eistedd, fe daflodd gil ei olwg ar y gynulleidfa, yn rhyw ddull megys yn ddigyffro, er ar yr un pryd yn arwyddo cyffro mewnol cuddiedig. Ar darawiad, dyna waedd o orfoledd yn torri allan dros y gynulleidfa i gyd! Y dirgelwch presenoldeb hwn a ieuwyd ynddo ef â dylanwad cyffroadol anghymarol. Fei gwelwyd ef ar ganol oedfa ddilewyrch yn gostwng ei wyneb i orffwys ar y Beibl, gan aros ysbaid yn yr agwedd honno, nes bod arswyd yn ymaflyd yn enaid y gynulleidfa, ac ar ei waith yn codi ei ben i fyny, gwelid ei wyneb yn disgleirio, a chydag effaith ryfedd ar y bobl yr elai ymlaen o'r fan honno gyda'i bregeth. Fe arferai William Owen Prysgol ag adrodd am ewythr iddo ef yn ei wrando. Troes y pregethwr ei wyneb at y pared yn rhyw fan ar ei bregeth, gan erfyn ar yr Arglwydd am iddo amlygu ei hun gyda'r genadwri, a phan y troai drachefn yn ol at y gynulleidfa, yn nychymyg ewythr William Owen yr oedd megys gwreichion byw yn disgyn drwy'r awyr uwch- ben. Ymhlith siaradwyr ni bu neb lluniedydd hynotach nag ef. Edrydd Robert Owen Aberdesach, gwr deallus a goleu ei feddwl o'r gymdogaeth, yr hyn a glywodd gan ei fam, Ann Roberts, ar ol ei mam hithau, yr hon oedd yn gyfnither i Robert Roberts, ac a fu farw yn 1844 yn 88 mlwydd oed, sef ydoedd hynny, y disgrifiai Robert Roberts y drwg mor fyw fel y llechai rhai o'r gwrandawyr allan o'i wydd, ond pan elai ymlaen i ddisgrifio'r da drachefn, y deuai y cyfryw allan o'u cuddfeydd. Fe gofir y byddai efe yn pregethu mewn tai annedd ac ysguboriau, ac yn achlysurol yn yr awyr agored, cystal ag mewn capelau. Ei ddisgrifiadau oeddynt fyw ac eang a manwl. Arferai Christmas Evans a chydnabod bob. amser mai Robert Roberts a roes yr allwedd iddo ef i'w ddawn ei hun. A chyda'r weledigaeth eang efe a gyfunai y ddawn o grynoder; a byddai ganddo ddyweddiadau bachog, eofn, trydanol, y fath ag a gyffroai y meddwl ac a arosai yn ddiogel yn y cof, gan brofi eu hunain megys hoelion wedi eu sicrhau gan feistr y gynulleidfa. Yr oedd ei lais yn cyfateb i'w nodweddiad, yn groew, yn soniarus, yn uchelsain, yn rhoi mynegiad parod i holl gyffroadau disymwth a dieithrol ei feddwl. Angel oedd efe yn ehedeg ynghanol y nef a'r efengyl dragwyddol ganddo. Nid yw Eben Fardd ond yn adrodd yr argraff ar ei feddwl ei hun, oddiwrth yr hyn a glywodd am dano gan hen bobl Clynnog, pan y disgrifir ef ganddo fel "Seraff o'r Nef yn siarad." Argraffodd ei ddelw yn amlwg ar eglwys y Capel Uchaf; ac yr oedd y ddelw honno yn amlwg yma dros ystod y ganrif ddiweddaf mewn angerddoldeb ac mewn ehediadau teimlad. Ar ei wely angau, a'r seiat ar y pryd yn y capel, fe ofynnodd i'w wraig estyn ei ddillad goreu iddo. "I ba beth ?" gofynnai hithau. "Yr wyf am fyned i'r capel i ffarwelio â'r eglwys," ebe yntau, a gorfu ildio iddo fyned. Dywedodd wrth yr eglwys ei fod gyda hwy am y tro olaf, na welent ei wyneb ef mwy yno, a rhoes iddynt aml gynghor, nes y torrodd yr holl eglwys i wylo o hiraeth a dychryn. Yng ngyrfa ffydd, fe aeth o'r naill brofiad i un arall dyfnach, ac o nerth i nerth, nes ymddangos ohono gerbron Duw yn Seion. Yr oedd y dorf a ymgynullodd i neilltuaeth y Capel Uchaf i'w gynhebrwng yn llenwi'r lôn yr holl ffordd oddiyno i eglwys Clynnog, filltir o bellter, ac nid oedd y rhai olaf wedi cychwyn pan gyrhaeddodd y rhai blaenaf yr eglwys. Ac yr oedd yr alaeth yn y wlad ar ei ol yn fwy angerddol efallai nag ar ol neb pregethwr a fagodd Cymru.

Rywbryd yn ystod 1803-4 y dechreuodd William Roberts bregethu.

Yn 1811 fe chwalwyd y capel ac adeiladwyd un arall. Yn fuan ar ol hynny, oddeutu'r flwyddyn 1812, fe brofodd yr eglwys hon ymweliad arall. Fe berthynai i'r eglwys ferch ieuanc, a arferai dorri allan i foliannu yn gyhoeddus ar brydiau. Arferai hi a chyfeilles iddi adrodd penodau yn yr ysgol. Un tro wrth wrando arni, fe deimlodd ei chyfeilles yn ddwys oddiwrth y gair a adroddid, a thorrodd allan i lefain. Ar ol hyn, fe fyddent hwy ill dwyoedd yn torri allan mewn gorfoledd yn fynych yn y moddion, ond nid neb arall. Yr oedd William Roberts yn pregethu ar un tro, a Robert Dafydd Brynengan gydag ef yn y pulpud, ac i fod i bregethu ar ei ol. Testyn William Roberts oedd Luc ix. 62: "Nid oes neb a'r sydd yn rhoi ei law ar yr aradr, ac yn edrych ar y pethau sydd o'i ol, yn gymhwys i deyrnas Dduw." Yr oedd yr effaith yn anisgrifiadwy, y rhan fwyaf yn gweiddi, eraill yn wylo, eraill wedi eu dal gan syndod. Fe deimlid fod Duw yn y lle. Ni phregethodd Robert Dafydd, ac yr oedd yntau ei hunan fel un a'i fryd ar dorri allan mewn mawl. Cyn hyn nid oedd anuwioldeb cyhoeddus yr ardal wedi ei gwbl ddarostwng. Wedi i'r adfywiadau laesu, ail godai hen ddrygau eu pen; ond ar ol yr adfywiad yma fe newidiwyd gwedd yr holl ardal. Hyd yn hyn, fe arferid cynnal Gwylmabsant ar Lun y Sulgwyn, pan ddeuai llawer o gannoedd ynghyd, ac y byddai'n amser o feddwi ac ymladd. Diflannodd yr ŵyl mor llwyr y pryd hwnnw fel na welwyd byth namyn rhithyn gwelw o honi. Ychwanegwyd oddeutu 130 at "ddwy eglwys Clynnog," a bernir fod oddeutu 100 ohonynt yn perthyn i'r Capel Uchaf. (Gweler llythyr Robert Jones Rhoslan, Medi 15, 1813).

Nid ymddengys yr erys dim adgofion am ddiwygiadau 1818 ac 1832. Fe ddywedir ym Methodistiaeth Cymru fod yr achos yn ymeangu ar ol yr adfywiadau hyn, ac mai ar ol y cyntaf ohonynt y codwyd Capel Brynderwen a Chapel Seion. Eithr ni chodwyd Capel Seion hyd y flwyddyn 1826, er fod yn yr Hen Derfyn gerllaw achos cyn hynny, efallai cyn 1818. Mewn cofnod yn y Drysorfa (1832, t. 141), fe ddywedir fod yna ychwanegiad o 25 yn y Capel Uchaf fel ffrwyth yr adfywiad, a hynny erbyn diwedd mis Mawrth. Fe barhaodd yr adfywiad hwnnw yn y wlad yn hir ar ol hynny, er y dichon fod y Capel Uchaf wedi cael ei gynhaeaf i mewn yn o lwyr erbyn diwedd Mawrth. Y mae hanesyn bychan yn cael ei adrodd a ddaw i lawr o'r cyfnod hwn. Yr oedd yma hen wr a gwraig yn methu cael dim i'w roi yn y casgl mis ers amryw droion, a digalonnid hwy o'r herwydd. Penderfynnodd yr hen wraig werthu iar, er medru rhoi ohonynt eu cyfran yn y casgl mis; a hi aeth a'r iar gyda hi i farchnad Caernarvon, gan gerdded yn droednoeth gyda'i hesgidiau dan ei chesail, er mwyn eu rhoi am ei thraed wrth ddod i mewn i'r dref. Fe gafwyd chwe cheiniog am yr iar, a rhoddwyd y swm yn gyfan yn ei henw hi a'i gwr yn y casgl mis, yr hyn a barodd i'r ddeuddyn dysyml fawr sirioldeb.

Yn 1841 y dechreuodd John Jones Tai'nlon bregethu, a adwaenid fel John Jones Brynrodyn ar ol hynny.

Nid oeddid yn galw blaenoriaid yn ffurfiol yn yr amser gynt, ond elai y rhai cymhwysaf i'r swydd yng ngrym greddf, nid greddf y person unigol ond greddf yr eglwys yn gyffredinol. Diau fod ambell un y pryd hwnnw yn cymeryd y swydd hon iddo'i hun; ond y rhan amlaf fe geid fod amddiffyn dwyfol ar y swydd. Y rhai cyntaf i gyd i lanw'r swydd yn yr eglwys hon oedd y rhai yma : Morris Marc Llyn-y-gele, Hugh Griffith Hughes, Robert Prys Felin faesog, sef y gwr a ataliai gynddaredd yr erlidwyr, a Robert Roberts Tanrallt. Yn nesaf ar ol y rhai'n, fe lanwyd y swydd gan y gwyr yma : Rowland Williams Henbant mawr, William Jones Cae Mwynau, Thomas Owen Penarth, Thomas Rowland Maesog, Thomas Jones Ffridd, y tri olaf yn myned dan y cyfenwad o'r "Tri Thomas," William Prichard Llwyn-gwahanadl, William Williams Ty'n-y-berth, William Williams Henbant mawr, John Williams Ty'ntwll, William Parry Brynhafod, William Jones Ty gwyn. Nid oedd yr un o'r rhai'n yn fyw pan ddaeth Mr. Howell Roberts i Glynnog yn niwedd 1861, oddigerth John Williams Ty'ntwll a oedd wedi ymfudo i'r America; ac yr oedd tymor lliaws ohonynt ymhell iawn yn ol cyn hynny.

Heb sôn am yr un neu ddau a enwyd mewn cysylltiadau neilltuol, y mae rhai eraill o'r gwyr hyn ag y mae iddynt goffad- wriaeth parchus yn yr ardal. Y mwyaf ei ddylanwad ohonynt i gyd, debygid, a'r mwyaf felly o holl flaenoriaid y Capel Uchaf o'r dechre hyd yn awr, ydoedd William Parry. Bu ef farw Ionawr 12, 1861, yn 70 mlwydd oed. Gwr cydnerth, lled dal, gyda gwyneb llyfn, glandeg. Tawel, digynwrf, arafaidd. Un llygad yn cau ac yn agor gryn dipyn; ond pan agorid hwnnw yn llawn, fel y gwneid weithiau, yr oedd rhywbeth yn dreiddiol ofnadwy ynddo. Elai Capten Jones Dinas heibio iddo yn ei gerbyd unwaith, a gwr ydoedd ef a arferai regi'r penaugryniaid, ys dywedai yntau. "Pwy ydi'r dyn yna ?" gofynai i'r coachman. "O! un o'r penaugryniaid," ebe'r coachman. "Pengrwn neu beidio," ebe'r capten, "mae rhywbeth yn y dyn yna !" Golwg difrif iawn arno bob amser: un o'r dynion mwyaf difrif yr olwg arno a welwyd un amser braidd. Heb ysgol, fe ddysgodd ddefnyddio llyfrau Seisnig. Ni bu erioed allan o'r gymdogaeth i aros dim, ond manteisiai ar bob cyfle a gaffai i ddysgu oddiwrth eraill. Yr oedd y noswaith y daeth i'r seiat am y tro cyntaf yn un gofiadwy. Daeth i mewn braidd yn hwyr, ac aeth ymlaen at y fainc o flaen y sêt fawr, a chan fyned i lawr ar ei liniau yn y fan honno, fe ymollyngodd i wylo. A pharhau i wylo yr ydoedd: ni ddywedai ddim, ac ni ddywedid dim wrtho. A'r diwedd fu i'r holl seiat ymollwng i wylo, a myned adref wedyn. heb fod neb wedi dweyd gair. A hon oedd y seiat fwyaf byw ar feddwl y sawl oedd yno o bob seiat erioed. Fe fu ei yrfa grefyddol. yn deilwng o'r dechre hwn mewn wylo: fe hauodd mewn dagrau, a medodd mewn gorfoledd. Efallai ei fod ef cyn hyn yn athraw, canys fe fu'n cadw ysgol nos yn y capel ar ddiwedd blwyddyn, pan fyddai'n gyfleus i weision amaethwyr ddod yno, am ysbaid o amser. Yr oedd yn athraw rhagorol yn yr ysgol Sul. Collodd Sul o'i ddosbarth unwaith; a'r Sul nesaf drachefn yr oedd heb fod yno. Beth wnaeth y dosbarth yr ail Sul hwnnw, oddeutu deuddeg of honynt, ond myned gyda'u gilydd i'w gartref, sef Brynhafod. Nid oes dim hanes iddo golli cymaint a Sul o'i ddosbarth ar ol hynny, os na byddai rhywbeth anorfod wedi digwydd. Fel holwyddorwr yr oedd yn nodedig. Tynnai sylw pob llygad ar unwaith. Yn grynedig ei lais ar y dechre, a dalen y llyfr y cydiai ynddi yn crynu, nes twymno yn ei waith. Yna fe'i teimlid yn feistr y gynulleidfa, a phawb yn ei law. Yr oedd yn weddiwr hynod. "Iesu Grist a hwnnw wedi ei groeshoelio" ydoedd ei air mawr ef mewn gweddi. Mewn gweddi fe fyddai fel gwr yn ymaflyd yn nerth yr Hollalluog. Er yn wr tawel, neilltuedig, meddai ar ddawn gyhoeddus anghyffredin. Rhywbeth yn ei gyfarchiad yn adgoffa am John Jones Talsarn gyda llais soniarus, fe gychwynnai dipyn yn araf ac isel, gan godi'n raddol fel yr elai ymlaen. Fe'i cyfrifid yn wr o gynghor, ac yr oedd yn dangnefeddwr. Diwinydd craff, a chanddo feddwl treiddlym. Ceisiwyd ganddo fyned i bregethu gan rai o bobl y Cyfarfod Misol, ond ni fynnai; ac fe'i camgymerwyd ef am bregethwr yn y Cyfarfod Misol droion. Cyfyngodd ei ddylanwad i lecyn bychan, ac o fewn terfynnau y llecyn hwnnw yr oedd yn wr mawr yn Israel.

Gwr heb fod ond prin yn ail i William Parry ar ryw gyfrifon oedd William Williams Henbant mawr. Cydoesai'r ddau. Yr ydoedd yn ymresymwr, yn wr o wybodaeth gyffredinol, yn ddawnus, yn anhyblyg, ac yn naturiol yn arweinydd. Ei duedd yn hytrach ydoedd cadw eraill draw yn ormodol. Efe a ymfudodd i'r America gyda theulu lliosog yn haf y flwyddyn 1845, ac fel William R. Williams yr adnabyddid ef yn ardal Columbus, Wisconsin. Fe fu'n un o swyddogion gwerthfawrocaf yr Eglwys Gymreig yno dros weddill ei oes. Bu farw Mehefin 5, 1855, yn 66 mlwydd oed. (Gweler Hanes Eglwysi'r Trefnyddion Calfinaidd, Columbus, Wis., 1898, t. 23, gan y Parch. J. R. Jones).

John Williams Ty'ntwll a ragorai fel cerddor. Ymunodd â chrefydd yn niwygiad 1832. Gwnawd ef yn flaenor yn 1840. Aeth i Columbus, America, yn 1850. Galwyd ef yn flaenor yn eglwys Bethel ar ei fynediad yno. O dymer hynaws a dawn hyfryd, ac arosodd gwres y diwygiad ynddo hyd ddiwedd ei oes. Bu farw Awst 20, 1894, yn 92 mlwydd oed. (Gweler Hanes Eglwysi Columbus, t. 51).

Hydref 14, 1857, y bu farw y Parch. William Roberts, yn 84 mlwydd oed, wedi dechre pregethu ers o leiaf 53 mlynedd, ac wedi ei ordeinio ers 38 mlynedd. Pan o saith i wyth mlwydd oed aeth at John Roberts (Llangwm) i'r ysgol yn y capel. Yr oedd hynny yn ystod 1780-1. Bu yno am hanner blwyddyn, a bu yn yr ysgol gyda'r un gwr wedi hynny am chwarter blwyddyn yn Nhaly- garnedd, ym mhlwyf Llanllyfni. Cafodd chwarter arall gyda John Walter yn "eglwys y bedd" Clynnog, ac agos i chwarter arall gyda Richard y Felin Gerryg yn yr un man. Fel gwas fferm ac ar hyd ei oes yr oedd ynddo syched am wybodaeth. Yn 1793 yr ymaelododd yn y Capel Uchaf. Gwelwyd eisoes mai efe oedd y cyntaf a ddaeth i gynorthwyo John Owen a Griffith Owen efo'r ysgol Sul. Ar ol bod mewn gwasanaeth am ryw hyd, fe ymgymerodd a gofal yr Hendre bach, ei dyddyn genedigol, ac yno y bu hyd ddiwedd ei oes. Pan y byddai gartref, efrydu a chyfansoddi oedd ei waith pennaf yn ychwanegol at weinyddu yng nghynulliadau crefyddol yr ardal. Ymddanghosodd llyfr iddo ar Fedydd yn 1845; efrydodd y proffwydoliaethau gyda thrylwyredd; ac yr oedd yn dra hysbys yng nghynnwys y Beibl, yn gymaint felly fel y gallai adrodd rhannau helaeth ohono yn rhwydd a rhugl. Teithiodd lawer i bregethu ac i ddadleu o blaid gwahanol gymdeithasau, yn enwedig y Feibl Gymdeithas. Pan y byddai ymdrin cyffredinol ar bwnc mewn Cyfarfod Misol, arno ef y gelwid yn ddieithriad i'w agor, a hynny, mae'n ddiau, ar gyfrif ysgrythyroldeb ei ymdrin arno. Fe gyfleai y pwnc bob amser yn esmwyth a naturiol trwy gyfrwng y testynau mwyaf priodol iddo o fewn yr ysgrythyr, a hynny gyda'r fath hwylusdod a helaethrwydd a fyddai'n syndod i bawb. Ysgrifennwyd cofiant iddo gan Eben Fardd i'r Drysorja am 1858 (t. 387), ac yn y modd hyn y disgrifir ef ganddo : "Dyn o faintioli hytrach mwy na'r cyffredin, a golwg iach a chryf arno, o ymddanghosiad amaethwr parchus, oddieithr ei wisg ddu. . . . Yr oedd ynddo ryw naws ysgafn o sarugrwydd disiapri, a dueddai i gadw un mewn ychydig bellter oddiwrtho, nes dyfod yn bur gynefin âg ef. Yr oedd ei lygaid mor gryfion, fel hyd yn oed yn ei henaint y gallai ddarllen yn rhwydd heb wydrau, hyd yr amser y collodd ei olwg yn llwyr. . . . Ei lais oedd deneu a chwynfanus. Ei ymddygiad yn syml a dirodres. O ran ei berson yr oedd yn edrych yn heinyf a lluniaidd, yn ddyn caled. ac anfoethus. . . . Er nad oedd yn hoffi disgyn i dir cymdeithasol y werin ddiaddurn, eto byddai yn craffu yn ddifyrus ar chwareuaeth syml natur o fewn y cylch hwnnw, ac yn tynnu llawer o hanesynau diddan oddiwrth yr hyn a ddigwyddai ddyfod dan ei sylw... Pregethwr i'r deall a'r farn oedd efe yn hytrach nag i'r gydwybod a'r teimlad....Yr wyf yn meddwl y gellid dweyd mai amlach y gwelwyd ef yn wylo wrth weddio neu bregethu ei hun nag wrth wrando ar eraill. . . .Dyn pwyllog oedd efe, na chyfodai ond anfynych iawn uwchlaw tymheredd naturiol y nwydau, yn caru y dull ymresymiadol yn ei bregethau, gan amlygu dawn a hyfrydwch mewn agoryd seliau, mynegi dirgeledigaethau, cysoni anhawsterau, goleuo pethau tywyll; yn fyrr, esbonio, ath- rawiaethu a phroffwydo oedd llinell fwyaf naturiol ei athrylith, yn hytrach na chwareuaeth areithyddol ar dannau teimlad a nwyd. Byddai ei bregethau bob amser yn meddu trefn, eglurdeb rhesym- egol, a chysondeb meddyliol da."

Y peth amlwg cyntaf a deimlwyd o ddiwygiad 1859 oedd dan bregeth Dafydd Rolant y Bala, ar un nos Sadwrn yngaeaf y flwyddyn, pan ddihidlwyd y gwlaw graslawn uwchben etifeddiaeth yr Arglwydd. Torrodd Thomas Griffith Hengwm, wr ieuanc, i wylo dros y lle, ac ymaelododd â'r eglwys y cyfle cyntaf. Cynhaliwyd yma gyfarfod pregethu, pan wasanaethai Thomas Williams Rhydddu, John Jones Carneddi a John Jones Llanllechid. Cyfrifid hwn yn gyfarfod neilltuol ar ei hyd. Ar un nos Sul yr oedd Thomas Williams yma, ac yn derbyn dau i'r seiat, Simon Roberts a Joseph Jones. Yr oedd Thomas Williams mewn rhyw hwyl ysgafnaidd, mewn math o ddawns corff a meddwl, a thorrodd allan, Dyma Simon yn cynnyg ei hunan i gario'r Groes yn lle Iesu Grist-Go- goniant! A dyma Joseph o Arimathea! Fe fydd yn rhaid i hwn gael y llieiniau meinaf i anrhydeddu'r Gwaredwr, tae' nhw'n costio pum sofren y fodfedd; fe fydd yn rhaid i hwn gael dwyn. peraroglau mesur y can pwys-Gogoniant!" Jane Evans a dorrai allan yn y cyfarfodydd mewn penillion o orfoledd:

Na ryfeddwch mod i'n feddw, gwin a gefais gan fy Nuw,
Y mae rhinwedd y gwin hwnnw yn gwneud myrdd o feirw'n fyw:
Arglwydd, tywallt o'r costrelau fry i lawr.

Daeth awel o Galfaria i chwythu gyda gwres,
Mae'r oerfel yn mynd heibio a'r haul yn dod yn nes,
Mae'r egin yn blaendarddu, hwy ddônt yn addfed yd,
Ni chollwyd un a heuwyd draw yn yr arfaeth ddrud.

Tair teyrnas dan eu harfau aeth i Galfaria fryn;
'Doedd neb ond Iesu ei hunan wynebai'r lluoedd hyn;
'Roedd yno frwydr greulon, a gafael galed iawn,
Ond Iesu a orchfygodd cyn tri o'r gloch brynhawn.

Nid oedd popeth o'r mwyaf nawsaidd yn y diwygiad. Ar ol bod yn gwrando ar Dafydd Morgan yn y pentref, aeth amryw o'r bechgyn i ddynwared y droell yn ei lais pan orfoleddent, yr arwydd sicr fod cnewyllyn bywiol y diwygiad yn dechre myned i golli. Wrth glywed am y pethau rhyfedd yn y Capel Uchaf, fe aeth Eben Fardd yno un noswaith. Wrth ddychwelyd oddiyno, gofynai Mr. John Jones (Fferm Llanfaglan) iddo, pa beth a feddyliai o'r diwygiad? Ymhen ennyd dyma'r ateb, "Fe fydd yn rhaid i rai ohonyn' nhw ddod gryn dipyn yn fwy moesgar gyda'u Hamen cyn bo hir," gan arwyddo, debygid, fod yno fwy o swn nag o sylwedd gan rai yn y cynulliad. Tŷb Mr. Jones yw nad aeth efe yno drachefn ar yr un neges. Er hynny, nid oes amheuaeth mai gwir ysbryd y diwygiad a ddisgynnodd ar yr ardal. Ymhen ysbaid ar ol y cynnwrf, deuai nifer o hen frodyr ynghyd i gyfarfod gweddi am wyth fore Sul. Elai David Jones Bwlchgwynt, y pryd hwnnw yn fachgen ieuanc, atynt i gynorthwyo gyda'r canu. Un bore wrth ganu, "O! ddedwydd ddydd, tragwyddol orffwys," yr oedd y dwyster yn anorchfygol. Canu am ennyd, yna eistedd i lawr i wylo; canu drachefn, yna pangfa o wylo; ac felly drachefn a thrachefn am awr o amser. Dagrau melus iawn. Ac heb sôn am ddagrau, bu effeithiau arosol i'r diwygiad yn amlwg ym mucheddau lliaws hyd ddydd eu marwolaeth, ac erys yr effeithiau hyd heddyw yn nefnyddioldeb parhaus eraill.

Fe wnawd seti newydd i'r capel yn y flwyddyn 1859.

Fel y gwelwyd, yn 1863 y bu farw John Owen yr Henbant. Peth hynod yw na wnawd mohono yn flaenor. Eithr fe flaenorai ef heb fod yn flaenor. Safai ar brydiau yn ei hen ddyddiau ar risyn y pulpud, yn wr tal a main a boneddigaidd yr olwg arno. Yn ei law ef yr oedd yr ysgol i gyd. Elai o ddosbarth i ddosbarth er gweled pa fodd y deuid ymlaen. Ar un tro, methu ganddo gael. athrawon, tri neu bedwar dosbarth wedi myned heb athrawon. Rhoes orchymyn i waith yr ysgol beidio. Methu ganddo ddweyd gair am ennyd gan wylo. Wedi dod ato'i hun, "A oes yma neb gymer drugaredd ar y dosbarthiadau heb athrawon ?" Yr oedd pawb yn ei law ar unwaith, a chodai y naill ar ol y llall i ddweyd y gwnae ef ei oreu.

Ym mlynyddoedd olaf John Owen, fe gododd Owen Jones Cae Ifan i'w gynorthwyo yn y swydd o arolygwr. Bu yntau yn y swydd drachefn ar hyd ei oes. Gwr llednais, siriol, a'i dymer yn gymhwyster i'r gwaith. Dilynai yr un cynllun a John Owen. Elai o ddosbarth i ddosbarth: weithiau rhoi gair i'w sillebu, weith- iau adnod i'w darllen, weithiau gwestiwn ar gyfer y Sul nesaf, a byddai'n sicr o alw am yr ateb. Medrai fod yn daer ac yn amyneddgar.

Yn nhymor John Owen, yr athraw a arferai holi. A byddai mwy o ddarllen y pryd hwnnw, a'r athraw yn cywiro, ac yn gofyn ambell gwestiwn wrth fyned ymlaen. Gwell darllenwyr y pryd hwnnw nag yn awr. Gwell mewn pwnc hefyd. Mwy o feirniadaeth fanwl ar eiriau a'r cyffelyb erbyn hyn. Yr oedd yn y Capel Uchaf yn y rhan olaf o dymor John Owen nifer o hen bobl hollol gyfarwydd yn yr Hyfforddwr, fel nad ellid dim gofyn cymaint a chwestiwn ohono nad atebid ef i'r llythyren. Yn nheimlad lliaws ymddanghosai yr Hyfforddwr mor gysegredig a'r Beibl. Ni byddai holi ar blant y blynyddoedd cyntaf a gofir gan Mr. David Jones Bwlchgwynt. Yn lled gynnar gyda hynny yr oedd William Roberts y pregethwr ar un tro wrth y gorchwyl. "Pwy wnaeth bob peth ?" "Duw," atebai amryw. Gofynnai'r holwr eilchwyl yn bwysleisiol, "Ai Duw wnaeth bob peth ?" "Ie," oedd ateb lliaws. Gyda'r ateb hwnnw, dyma hogyn go fawr yn rhoi cam ymlaen. Nage wir!" ebe fe, "fy nhaid wnaeth feudy Cae Crin." Nid oedd y genhedlaeth ieuanc y pryd hwnnw wedi ei thrwytho yn gymaint ag ar ol hynny am ystyr creadigaeth. Deuai rhai mewn gwth o oedran i'r ysgol am y tro cyntaf i ddysgu eu llythrennau. Yr oedd Dafydd Jones, tad Griffith Jones Coed-tyno, yn ddeugain oed yn dysgu'r wyddor.

Bu'r Parch. John Williams Caergybi, y pryd hwnnw yn athraw ysgol Clynnog, yn dod yma am flynyddoedd i gynnal seiat, hyd y flwyddyn 1875. Yn ei ddilyn ef yn y gorchwyl hwnnw, ar gais y blaenoriaid yn gyntaf, ac wedi hynny ar alwad yr eglwys, y mae'r Parch. Howell Roberts.

Y mae'r argraff gafodd Mr. Williams am yr ardalwyr, yn neilltuol preswylwyr glannau'r môr, eisoes wedi ei chyfleu gerbron yn y rhagarweiniad. Edrydd Mr. Roberts yr argraff ar ei feddwl yntau, yn neilltuol am breswylwyr llethrau'r mynydd. Un peth a argraffodd ei hunan ar ei feddwl ef ydoedd, fod delw Robert Roberts yma o hyd ar y tô hynaf o grefyddwyr y pryd y daeth efe gyntaf i'r gymdogaeth. A dywed ef fod y ffurf neilltuol ar fywyd crefydd a welodd efe yma ar y cyntaf, sef "yr hen dinc a'r gwres a'r eneiniad nefol " wedi ymadael gyda'r hynafgwr olaf " sydd heddyw yn ei fedd, ag y methwyd a'i ddwyn i'r bedd ddoe o'i fwthyn mynyddig oherwydd y lluwchfeydd eira, ac yr oedwyd. dydd ei angladd am dridiau er mwyn clirio'r ffordd." Cymeriadau gwreiddiol a dyddorol y disgrifir hwy ganddo ef, heb wybod nemor am reol a threfn, ond yn cymeryd eu ffordd eu hunain heb fod neb yn meddwl am eu galw i gyfrif. Mewn cyfarfod gweddi ar ddydd diolchgarwch, dyma'r ail i gymeryd rhan yn codi i fyny ac yn rhoi allan bennill. Nid oeddys yn arfer darllen yr ysgrythyr ond ar y dechre. Arferai yr hen wr hwn eistedd o dan y ddesc yn y set fawr, a chan ei fod mor agos ati, nid el ymlaen yno, a'r tro hwn fe gymer y Beibl oddiyno, ac oddiar ei eistedd heb gael. ei weled ond gan ychydig fe chwilia am fan i'w ddarllen. Pan gododd i ddarllen yr oedd pawb braidd yn ymgrymu. Eithr gwr eithaf hamddenol ydyw efe, ac el ymlaen yn dawel gyda'r darllen, gan ddweyd yn o ddigynwrf cyn dechre, "Wel, mi ddarllenwn ni bennod o'r ysgrythyr; mae hwn, beth bynnag am ein gweddiau ni, yn werth ei wrando." Codai y naill ar ol y llall oddiar eu gliniau yn y sêt fawr, a chodai eraill eu pennau, ond nid pawb. Nid oedd pawb yn ddigon effro i wybod pa beth oedd yn myned ymlaen. Dyma'r trydydd yn codi yn arafaidd, a'i olwg yn dechre pallu. "Nid wyf yn gweled yn ddigon da i ledio pennill, am wn i; mi ddeuda i'r tipyn sydd ar fy meddwl i yn lle hynny, am wn i." Ac yna, yn lle pennill i'w ganu, dyma glamp o gyfarchiad difyr i'w wrando. Ergyd ac amcan y sylwadau oedd dangos gymaint mwy o achos oedd gennym y dyddiau hyn i fod yn ddiolchgar i'r Brenin Mawr nag yn y dyddiau gynt. Mor afiach y byddai'r dorth yn fynych, ac mor ddrud yn yr hen amser. Yr oedd wedi clywed am lwyth llong o rug yn dod i Borthmadoc, ac am bobl yn myned yno. o bobman gyda throliau rhag newynu. Yna fe gywira ei hunan, "Ond o ran hynny, nid oedd troliau yn y wlad, am wni; nid oedd yr un yn y Gors beth bynnag, mi glywais mam yn dweyd." A'r fath flawd gwyn sydd gennym yn awr, ac mor rad; nid oedd y boneddigion yn cael ei well; mae hyd yn oed y werin bobl bellach yn cael y 'double XX.' Yr oedd y cynhaeaf diweddaf wedi bod yn wlyb, ond fe gafwyd hin weddol i bawb oedd yn ddigon effro i gipio'r cnwd. Y tatws yn unig oedd ar ol, ac am y rheini, eb efe, "mi rhown i nhw rhwng cromfachau, am wn i, a pheidio sôn am danyn nhw." Hyna yn lle pennill!

Yr ail a gymerodd ran, er hynny, oedd y gwr gwir hamddenol. Gwynt teg neu groes, fe'i cymerai fel y deuai. Nid oedd dim braidd. yn menu arno. Efe oedd yr olaf i ymostwng i'r drefn newydd gyda gofaint, pan na fynnent wneud pedolau o'r hen haiarn. Parhäi i ddwyn hen bedolau i'r efail, nes o'r diwedd i'r gof ei wrthod. "O'r gore, Wil," ebe yntau. "Cymodder, tro Bute," a throes am adref. Ond pan oedd wrth bont y ffactri, rhwd neu ddwy o'r efail, dyma floedd y gof ar ei ol, wedi newid ei feddwl erbyn hynny, "William Jones, mi wna i am y tro yma eto." "O'r gore, Wil. Cymodder, tro Bute." Eithaf tawel felly neu fel arall.

Bu'r gwr yma yn dilyn bwrdd y gwarcheidwaid am flynyddoedd. Byddai hefyd yn dilyn y vestri blwyfol, ac yn gyffredin yn ymyl y vicar. Anfoddlon braidd fyddai'r vicar i ddodi cynygiad heb fod wrth ei fodd gerbron. Wrth ei weled yn petruso, fe ddywedai William Jones, "Cantiwch hi bellach, Mr.———, i ryw ochr." Yn ddiweddar ar ei oes y daeth efe yn aelod eglwysig. Gwrandawr cyson, astud, cyn hynny, a ffyddlon yn yr ysgol Sul, ond yn rhy hoff o'r tŷ cwrw." Ar ol ei dderbyn ar brawf a chyn ei dderbyn yn gyflawn aelod, fe fyddai, bob wythnos neu ddwy, wedi dod un sêt yn nes i'r sêt fawr, nes bod yn y sêt nesaf ati pan dderbyniwyd ef yn llawn. Yn fuan wedi ei dderbbn daeth i'r sêt fawr ohono'i hun, a hynny heb neb yn ei feio. Yno hefyd y bu efe hyd y diwedd, yn edrych ar ol y swyddogion, fel y dywedai. Os byddai ambell un ohonynt yn o hwyrfrydig i gymeryd rhan, fel y byddai yn digwydd weithiau, fe'i cymhellai hwy i hynny mewn dull braidd yn geryddol. A chodai i siarad weithiau ohono'i hun, gan ofalu bob amser am fod yn fyrr, a theimlid ar brydiau y siaradai i bwrpas hefyd. Un tro fe gyffelybai ddyn yn treio credu i ddyn yn treio cysgu, yn troi ac yn trosi o'r naill ochr i'r llall, ac yn methu; ond erbyn y bore, mae'r dyn yn cael ei fod wedi cysgu rywsut, na wyddai sut na pha bryd. Felly gyda dyn yn treio credu. Er methu, deil o hyd i dreio; a phan ddeffry fore'r adgyfodiad, fe gaiff yntau ei fod yn rhyw fodd wedi credu, heb wybod pa sut na pha bryd.

William Prichard Brynhafod bach a fu'n dysgu'r wyddor i'r plant am 60 mlynedd. Gwr a wyddai nerth tawelwch ydoedd yntau. Ar adeg pan ddibynnid am fywiolaeth ar y cynhauaf yd, yr oedd yn wlyb iawn un tymor. Bob Sul ers tro hi fyddai yn sychu yn ddymunol. O'r diwedd, ar ol dod o'r oedfa un nos Sul, dyma William Prichard, gyda chymydog iddo, i'r ŷd, a dechreuodd ei gario i mewn. Y seiat nesaf dyma dorri'r ddau allan. Fe sorrodd y cymydog am ysbaid o'r achos; ond y seiat nesaf i gyd dyma William Prichard i mewn, a phan awd ato dywedodd air o'i brofiad heb gymeryd arno fod dim byd neilltuol wedi digwydd.

Dafydd Prichard Bryngoleu oedd un a ddaeth yn amlwg yn niwygiad 1859. Dilyn o hirbell cyn hynny. Fe ddaeth yn weddiwr hynod ar ol hynny. Fe gymerai ran mewn gweddi cyn y diwygiad, ond mewn llais mor isel fel mai o fewn cylch bychan y clywid ef. Yn nhymor y diwygiad fe dorrodd allan mewn bloeddiadau. Byddai Francis Williams y Filltir yn mawr fwynhau y bloeddio hwnnw, fel y chwarddai rhyngddo ac ef ei hun wrth wrando arno. Wrth fyned allan o un cyfarfod gweddi, dyma Francis Williams yn rhoi pwniad i dad David Jones Bwlchgwynt, "Glywaisti yr hen gâr yn i chael hi heno?" Bu dull esgeulus Dafydd Prichard gynt yn hir flinder i Francis Williams, canys yr oedd y ddau yn byw yn ymyl eu gilydd.

Gwr cymeradwy iawn, fel y gellir yn hawdd ddyfalu, oedd Francis Williams ei hun. Y chwarddiad hwnnw y sonid am dano dan floedd Dafydd Prichard, chwarddiad gwr a adwaenid fel un o ddifrifwch mawr ydoedd. Dywed Mr. David Jones y byddai rhyw dôn ddifrif yn ei lais mewn gweddi yn peri fod y sŵn ymhen dyn ar ol hynny.

Thomas William Tanyclawdd oedd weddiwr hynod arall. Teimlodd rhywbeth neilltuol yn niwygiad 1859, ac arosodd yng ngwres y diwygiad ar ol hynny, fel na byddai yn ymddangos fyth hebddo. Bu marworyn y diwygiad ar ei allor am hanner can mlynedd, ebe Mr. David Jones. Yn y cyfarfod gweddi pen mis, siomid y cynulliad os na byddai efe yn cymeryd rhan, a'r un fath yn y cyfarfod gweddi nos Sul, os byddai efe yn bresennol.

John Owen Tyddyn du oedd weddiwr hynod arall eto. Sylwa Mr. John Williams ar ddawn gweddi y cylch hwn, ac ar yr amrywiaeth a'i nodweddai. Dywed ef y tyfai pob pren yn ei ffurf briodol ei hun. Sonia am un y dywed ei fod yn neilltuol o flaen ei feddwl: nid oedd yn ddyn gwybodus ym mhethau byd nac eglwys; nid oedd yn athraw yn yr ysgol Sul, ac nid oedd yn amlwg fel atebwr yno; ni wyddai ddim am ddiwinyddiaeth fel y cyfryw. Torri cerryg ar ochr y ffordd oedd ei alwedigaeth. Ar ei liniau yn gyhoeddus yr oedd yn gyfoethog o fater, a'i weddi yn amlygu dirnadaeth gref o drefn yr efengyl, nes peri syndod i bawb. Deffroai'r teimlad o ddirgelwch wrth wrando arno, yn enwedig yn ei ddefnydd o adnodau'r Beibl, gan mor briodol a chyfaddas i'w hamcan oeddynt, a chan y nerth oedd yn yr adroddiad ohonynt.

Siani Ellis oedd yn hynod ymhlith y chwiorydd, fel y ceir sylwi arni hi eto ynglyn â hanes Ebenezer. Mari William Tai'n lôn oedd yn fyw iawn ei theimlad. Y llygedyn lleiaf mewn gweddi, hi a deimlai oddiwrtho yn y fan. Mari William a Sian Ifan y Felin a gydient yn nwylaw eu gilydd i neidio pan fyddai'r teimlad wedi codi yn uchel. Mari William yn gyffredin a arweiniai yn y gorfoledd, a'r Wenynen Fawr y gelwid hi. A gwraig o hynodrwydd oedd Catrin, merch Robert Roberts, priod Rhys Owen, a mam John Owen Bwlan a nain Mr. John Owen Caer, gan fod dylanwad crefydd yn fodrwyog ac yn ymestyn mewn cylchoedd ar wyneb y môr o wydr. Yr oedd Rhys Owen a'i wraig yn aelodau yn y Bwlan yn rhan olaf eu hoes (Gweler Bwlan). Mari Sion Ty'ntwll oedd un hynod arall. Marged Dafydd hefyd, cyfnither John Elias, a mam y Parch. John Jones Brynrodyn, a Mr. Joseph Jones, un o flaenoriaid y Capel Uchaf, yn awr (1909) yn byw yn y Groeslon, Llanwnda. Ar ol iddi hi fyned yn analluog i gerdded i'r capel, cawsai bregeth yn y tŷ ar noson waith yn awr a phryd arall. Pregethodd Dewi Arfon iddi ar y Bod o Dduw a'i briodoliaethau. Dewi," ebe hi wrtho cyn myned ohono ymaith, "pan y bydda fi yn myned y ffordd yna i feddwl am Hollwybodaeth a Hollbres- enoldeb, mi fyddaf yn boddi, wel di, a da iawn fydd gen i droi at Iesu Grist am fy mywyd."

Pan ddeuai y bobl hyn ynghyd i'w cynulliad eglwysig, fe ddeuai gwahanol elfennau i'r golwg ynddynt. Yr oeddynt gan mwyaf yn bobl syml, unplyg, onest, yn ddiffygiol weithiau mewn coethder a'r teimlad o briodoldeb, ond nid oedd pawb felly, gan fod rhai ohonynt yn fonedd natur ac wedi eu puro drwy dân. Dywed Mr. John Williams y byddent yn troi i holi'r gweinidog mewn dull syml, ac y byddai'r holi weithiau ar fin myned yn groesholi. Efe a noda fel yr elfen o nerth ynddynt, fod yr ychydig lyfrau a ddarllennid ganddynt yn cael eu darllen yn drwyadl, ac yn arbennig y byddai rhai ohonynt yn myfyrio yng nghyfraith yr Arglwydd ddydd a nos.

Edrydd Mr. Howell Roberts am un gwr yn sefyll i fyny mewn cyfarfod brodyr, gan bwyntio gyda'i fys at hen flaenor cymeradwy, "Yr wyti, hwn a hwn," ebe fe, "yn felltith i'r achos yn y Capel Uchaf." Galwyd y cyhuddwr i gyfrif yn y cyfarfod brodyr dilynol a gwysiwyd ef gerbron y sêt fawr. Er mwyn ei helpu i wneud yr ymddiheurad gofynnol, ebe'r llywydd, "Mi glywais Robert Ellis Ysgoldy yn codi mewn Cyfarfod Misol ac yn dweyd, 'Gyda'ch cennad, Mr. Cadeirydd, mi ddigwyddodd i mi yn fy ffwdan ddweyd geiriau a roisant friw i fy anwyl frawd, Mr. Rees Jones Felinheli. Mae'n ddrwg iawn gennyf i mi eu dweyd. Hen ffwl gwirion oeddwn i.' Hwyrach y byddwch chwithau, hwn a hwn, ar ol oeri, yn barod. i gyfaddef fod yn ddrwg gennych ddweyd fod hwn a hwn yn felltith i'r achos." Eithr â golwg daiog arno y cododd y gwr drachefn, a chan estyn ei fŷs fel o'r blaen, ail-adroddodd yr un cyhuddiad. Ar hynny aeth yn ffrwgwd go wyllt cydrhyngddynt, ac aeth y brodyr allan. Pan adawyd y ddau efo'u gilydd, hwy aethant yn eithaf cyfeillion. Ar ei wely cystudd, ni thalai neb gan y cyhuddwr i ymweled âg ef ond yr hen flaenor a gyhuddid felly ganddo. Gwaith hawdd fyddai amlhau y cyfryw enghreifftiau, ond digoned a roddwyd eisoes.

Owen Jones yr Henbant, mab John Owen yr Henbant, oedd, yn nesaf at William Parry, y blaenor mwyaf ei ddylanwad a fu yn y Capel Uchaf. Hen lanc heb ddawn gwresog, ond o grefydd ddiam- heuol, a thra chyfarwydd yn yr Ysgrythyr. Dywed Mr. David Jones na chyfarfyddodd â neb mwy felly, ac na welodd mono erioed wrth wrando'r plant yn dweyd eu hadnodau, na fedrai eu cynorthwyo os byddai eisieu. Byddai ei gyfarchiadau yn seiat nos Sul yn fynych yn un gadwen o adnodau, ac wedi eu cymhlethu â'u gilydd yn ddeheuig. Yr oedd Catecism Brown yn gryno yn ei gof. Rhagorai ar ei dad mewn cryfder meddwl a nerth cymeriad a dylanwad cyffredinol. Neilltuedig yn hytrach ydoedd ; ac yr oedd neilltuolrwydd yn ei gymeriad. Ni bu yn y Capel Uchaf yr un yn fwy felly: William Parry oedd yn hynod felly o'i flaen ef a Hugh Jones ar ei ol. Yr oedd ei onestrwydd yn ddiareb; gwybyddid am dano y byddai yn well ganddo wrth werthu anifail ei golledu ei hun na cholledu y prynwr. Dywed Mr. John Williams na fuasai ganddo ef syniad am foneddwr o ysbryd, heb ddim o allanolion boneddwr, onibae iddo adnabod Owen Jones. Dywed Mr. Williams mai nid unrhyw gais i actio'r boneddwr oedd ynddo, mai prin y gellid tybio am y peth yn dod i'w feddwl o gwbl, ond ei fod yno heb unrhyw gais na meddwl o'i eiddo ef, fel ffrwyth natur ac ysbryd yr Efengyl. Yr achos yn y Capel Uchaf, ebe Mr. Williams, oedd ei safle o edrych ar bob peth: am yr achos y pryderai ac y gweddiai. Er na feddai efe mo wresogrwydd dull y rhelyw o bobl y Capel Uchaf, yr oedd ei ddylanwad er hynny yn fawr arnynt, fel un y credid ganddynt yr arferai ddal cymundeb gwastadol â Duw, fel un llwyr ymroddgar i waith yr Arglwydd, ac fel un, os braidd yn neilltuedig, oedd eto yn dryloew ei fuchedd fel y grisial. Mewn Cyfarfod Misol unwaith yn y Capel Uchaf, o'r neilltu yn y tŷ capel, yr oedd Owen Jones yn adrodd rhywbeth o'i brofiad wrth David Jones, y pryd hwnnw o Gaernarfon, a Mr. William Jones Bodaden, yn fachgen y pryd hwnnw, yno yn gwrando. Fe gyfeiriai at ryw adeg o gyfyngder yn hanes yr achos, cyfyngder gan bwysau'r ddyled efallai, neu ryw achos neu achosion eraill, pryd y llethid ef braidd o'r herwydd. Ond wrth gerdded tuag adref un noswaith, a'r pethau hyn yn pwyso ar ei feddwl, fe dywynnodd ar ei ysbryd yn ddisymwth y fath weledigaeth ar Grist a threfn y prynedigaeth, fel y teimlodd yn y fan y buasai yn foddlon i gymeryd ei ladd er ei fwyn ef, ac na buasai cymeryd ei fywyd ymaith er mwyn yr achos yn ddim mwy yn ei olwg na lladd gwybedyn. Wedi gwrando, fe adroddodd David Jones am Simeon Caergrawnt yn cael rhyw amlygiad cyffelyb i'w feddwl, yn rhyw fwlch neu gilydd, pan y profodd gair o'r Ysgrythyr yn gymhelliad ac yn gysur iddo, ac megys yn cael ei lefaru wrtho gyda chyfeiriad at ei enw ei hun, sef y gair a ddywedir am Simon o Cyrene, "Hwn a gymellasant i ddwyn ei groes ef." Ac un yn cymeryd baich yr achos arno'i hun yn gwbl oedd Owen Jones, pa un a oedd hynny mewn golwg gan David Jones ai peidio, yn y sylw a wnaeth efe. Yr oedd rhyw arfer o duchan a gruddfan gan yr hen frodyr hyn; ac yr oedd yn eithafol yn Owen Jones. Golwg sobr, difrif, fyddai arno bob amser. Dywed Mr. Howell Roberts mai ar wely angau y gwelodd efe y wên gyntaf erioed ar wyneb Owen Jones; ond fod y wên honno yn hardd, yn nefolaidd. "Ni wyddai oddiwrth wenu, nes aeth i wely angeu: 'gwenodd yno yn ei law." Ymadawodd â'r byd heb duchan. Bu ef farw yn 1878.

O holl wyr y Capel Uchaf, tebyg mai Hugh Jones Bron-yr-erw oedd y mwyaf cwbl nodweddiadol. Efe oedd cynnyrch mwyaf priodol y lle. Yr oedd rhywbeth yn William Parry yn ei wahanu oddiwrth y rhelyw, ac i fesur yr un fath yn Owen Jones. Gwerinwr gwargam, uchel ei lais, oedd Hugh Jones. Ni welsai'r hen Gapten Jones reglyd o'r Dinas gynt ond taiog delffaidd ynddo, nac ar yr olwg gyntaf arno nac ychwaith wedi ymgyfathrachu ymhellach âg ef. Er hynny, tywarchen o ddaear y Capel Uchaf oedd Hugh Jones wedi ymbriodi â Haul Cyfiawnder. Rhaid peidio cymeryd y dywarchen yn rhy lythrennol chwaith, gan mai dod yma o'r Waen— fawr a ddarfu efe ar ei briodas. I'r craff diragfarn, pa ddelw bynnag, yr oedd rhyw arwyddion o hunan—lywodraeth yn dod i'r golwg ynddo fwyfwy. Yr oedd neilltuolrwydd arno ef yn gymaint ag ar William Parry neu Owen Jones, canys neilltuolrwydd mawr ydoedd hwnnw, pan welid gwerinwr gwladaidd, agored, garw, yn troi yng nghylchoedd breninllys y nef yn gartrefol megys yn ei gynefin mynyddig. Yn ffair Caernarvon, corach crwbi, gwael yr olwg arno ydoedd efe, gyda'i lais yn rhywle i fyny yn yr awyr, yn cyfarch pawb wrth ei enw bedydd, yn yr ail berson unigol yn gyffredin,—oddigerth ambell un a berchid ganddo ar gyfrif safle ei deulu,—wedi ei wisgo yn glud mewn brethyn cartref, a gwraig dal, fochgoch, heb fod nepell oddiwrtho, a hogyn llonydd gyda hwy â'i lygaid yn sefydlog ar ba beth bynnag yr edrychai arno. I hogyn y dref nid oedd Hugh Jones ond enghraifft go dda o'r drel mynyddig. Ymhen rhai blynyddoedd dyma Gyfarfod Misol yn Ebenezer Clynnog. Y pwnc o fedydd yn cael ei agor gan wr ieuanc tal, tywyll, llygatddu, gydag arian byw yn ei gyfansoddiad, a thân aflonydd yn ei lygaid, a neilltuolrwydd yn ei bresenoldeb, a meddyliau byw ganddo ar y pwnc. Eithr nid oes dim yn tycio: nid yw tân y llygaid yn llosgi na'r meddyliau yn cyffro, ac nid oes dim llewyrch ychwaith ar y siarad a ddilyn hyd nes galwyd ar ryw Hugh Jones Bron—yr—erw, i ddiweddu'r cyfarfod, a dyma ddrel mynyddig yr hen ffeiriau gynt yn codi yn ddisymwth o ganol y llawr, a dyma saeth anisgwyliadwy yn gwanu'r awyrgylch nes deffro'r lle i gyd. gyda'r pennill a ddaeth allan o'i enau:

Mae Abraham i ni yn dad,
Nid yw ei had yn aflan;
Yr oeddynt mewn cyfamod gynt,
Ni fwriwyd monynt allan.

Ac yr oedd y weddi drachefn yn yr un cywair. Ni cheid ef fel hyn yn y Cyfarfod Misol bob amser Ar dro arall fe draethodd brofiad go isel, pan y cododd David Morris gan ei gyfarch, "Hugh Jones, tynnwch fwy o waith yn eich pen, fel y bydd raid i chwi fyned at Dduw mewn gweddi am gymorth i'w wneud, ac y mae yn sicr o oleuo arnoch." Tebyg fod amcan y sylw i alw Hugh Jones oddiwrth fyfyrdodau mewnol yn fwy at waith allanol. John Jones Talsarn a'r Capten Owen Lleuar bach oedd yn cymeryd llais yr eglwys pan ddewiswyd Hugh Jones. Pan ddywedwyd mai Hugh Jones oedd wedi ei ddewis, dyma fo yn codi o'i gongl yn ei gôt ffustian a'i ddau lygad yn perlio, "Yr ydych wedi methu gyn sicred a bod y byd yn bod." Y mae John Jones yn gwenu, gan wneud dau lygad mawr arno. Y bachgen David Jones, yn awr o Bwlchgwynt, oedd yno yn cymeryd sylw. Gwr tra diniwaid yn ei ffordd ydoedd Hugh Jones. Yn chwarel Dinorwig yr oedd yn cydweithio â dyn arall. Nid oedd Hugh Jones nemor o chwarelwr, a gwelai fod ei gydweithiwr yn chwarelwr dan gamp. Ni fu'n hir cyn myned at y goruchwyliwr, Griffith Ellis, a gofyn iddo a oedd ganddo ddim gwaith arall a allsai efe gael arno'i hun? "Beth sydd ar y gwaith?" gofynnai'r goruchwyliwr. "Mae'r hogyn acw,' ebe yntau, "yn cael cam ofnadwy efo mi: mae o cystal a dau; nid ydw'i ddim ffit efo 'nacw." Arferai Griffith Ellis ddweyd ar ol hynny na welodd efe mo neb yn y chwarel gyn onested a Hugh Jones: fe welodd lawer yn cael cam drwy weithio gydag eraill anfedrusach, ond ni welodd mo'r gwr anfedrus yn dod i gwyno dros y llall yr un tro arall. Bu'n gweithio yn galed, a byw yn galed ar ei dyddyn llwm, uchelbris, ar lecyn uchel. Byddai ef a'i deulu yn cludo pridd mewn piseri o'r gwaelodion er mwyn cyfoethogi'r tir. "Yr hen grachen acw" oedd ei enw ef ar y lle. Ond os gwr tlawd, rhaid bod yn wr gonest. "Mae gennyf ddwy neu dair o silod o ddefaid acw," ebe fe wrth Mr. John Jones Llanfaglan. Mr. Jones yn cynnyg fel ar fel am danynt. "Mae arnaf ofn y cewch eich twyllo ynddyn nhw, John: mae'r niwl yma wedi peri i chwi feddwl yn rhy dda ohonyn nhw." Pe meddyliasai ei fod yn cael cynnyg rhy isel, fe ddywedasai ei feddwl yr un mor agored, ebe Mr. Jones. Gwerthu buwch yn y ffair yng Nghlynnog. "Mae ganddi bwrs go dda," ebe'r prynwr, gan wybod, mae'n debyg, gyda phwy yr oedd yn delio. "Na," ebe yntau, "hen bwrs cigog ydi o." Mynd â'r merlyn i'r ffair gyda'r carchar am ei wddf er dangos i bawb mai anifail barus ydoedd. "Ni werthwchi mono fo gyda'r carchar am ei wddf," ebe rhywun wrtho. Eglurai yntau y gallsai wneud i ambell un fel yr ydoedd, ond nid iddo ef: yr oedd am i'r math hwnnw o brynwr ei gael na byddai'r anifail yn golled iddo. Dygai ei deulu i fyny yn ei egwyddorion ei hun, a chyfarchai y naill y llall yn y tŷ yn y person unigol; ond ni feddai awdurdod briodol tad. Galwodd gwraig o Bwlchderwyn gydag ef, a phrynnodd un o'r moch bach ganddo. Yna gofynnodd y wraig ymhellach, pa faint oedd arno eisieu am ryw fochyn bychan oedd yno, y lleiaf o'r torllwyth. "Pymtheg swllt," ebe yntau. Yr oedd un o'i ddau hogyn yno yn gwrando, nid yr un a aeth yn bregethwr, yr hwn a dynnai yn fwy at deulu ei fam, ond y llall mwy diniwaid, gwir ddelw ei dad. Torrodd hwnnw allan yn y fan, " 'Rwyti yn gofyn gormod," ebe fe, "mi fuasai chweugain yn ddigon am dano." Y tad yn ildio i bris yr hogyn. Pan tarewid arno ar y ffordd, nid arosai i gael sgwrs efo neb o'i gymdogion. Dechreuai gyfarch mewn tipyn o bellter, a pharhae yr ymddiddan ar ol myned ohono heibio. Fe roe'r argraff ar rai fod ei galon ef eisoes wedi ei llwyr roddi i nesu at Un arall. Ond ni byddai nemor sgwrs i'w gael gydag ef pan ddigwyddid ei ddal dipyn ar y ffordd, neu pan gydgerddid âg ef. Rhaid oedd ei glywed ar ei liniau, neu'n darllen rhan o'r ysgrythyr, gan osod y synwyr allan, neu ynte yn rhoi cyfarchiad. Yr oedd yn rhaid cymell a dirgymell weithiau cyn y ceid ef i siarad. Pan godai, troai at y pulpud, gan wasgu ei ddau lygad yn dynn, a dechreuai dywallt allan ei fyfyrdodau. Nid cyfarch yn briodol y byddai, ond myfyrio yn uchel, a ffrwyth ei fyfyrdod a'i brofiad yn ymdywallt allan, a phawb yn ymwneud i wrando. Bernid mai myfyrio yn llyfr y gyfraith y byddai ddydd a nos, a phan gyda'i orchwyl hefyd, ac am hynny nid ymadawodd llyfr y gyfraith hon o'i enau, canys er bod ohono yn hwyrfrydig i godi, wedi codi fe welid ei fod yn fynych fel costrel ar dorri gan win newydd. Fel y gallesid meddwl am wr o'r nodwedd yma, mewn gweddi y byddai hynotaf. Ac er fod gweddiwyr eraill hynod yn y Capel Uchaf, fe fyddai efe ar adegau yn hynotach na phawb, ac uwchlaw iddo'i hun. Yr hyn oedd hynod ynddo ydoedd, nid yr hyn oedd dan glo ei ewyllys, ond yr hyn a ddiangai oddiwrtho pan wedi anghofio'i hun. Yna fe fyddai ei feddwl fel ar ehedfa; ac ar ei adegau uchaf ni theimlid yn ormod dweyd ei fod fel angel yn ehedeg ynghanol. y nef a'r efengyl dragwyddol ganddo. Y plentyn a ddeuai i'r golwg ynddo mewn gweddi, a byddai ar adegau fel gwr yn llefaru wyneb yn wyneb â Duw. Eithr fe'i ceid ef hefyd ar yr un weddi weithiau, ar ol codi yn uchel, yn disgyn i lawr drachefn, a'r arucheledd coeth wedi ei lwyr golli Mae sôn am ryw weddi hynod iddo, pan lwyr-lyncid ef yn y pethau a lanwai ei fryd. Elai ol a blaen yn y sêt fawr ar ei liniau, ac yr oedd y lle fel wedi ei lapio mewn distawrwydd ac ofnadwyaeth. Pan fyddai yn gyndyn iawn i wneud dim, neu wedi ymollwng o ran ei brofiad, ei gyd-flaenor, Griffith Jones, a'i cyfarchai, "Cofia am yr hen weddi fawr honno!" "Paid a son wrtha'i am dani hi," ebe yntau. Prun ai siarad ynte gweddio y byddai, y ddau begwn y troai ei fyfyrdod arnynt fyddai, lladd arno'i hun a chanmol y drefn. Er mwyn yr achos gallai fod yn frwnt wrtho'i hun. Er cyrraedd erbyn un arddeg ar y gloch yng Nghyfarfod Misol Rhyd-ddu, cododd am ddau y bore, bu wrthi yn lladd gwair am bum neu chwe awr, ac yna cerddodd i Ryd-ddu. Tua diwedd ei oes, wrth daer erfyn am i'r Ysbryd gael ei ddanfon yn gymorth, fe gwynai, "Yr ydym wedi myned yn wan trwom." Ar ei wely angau, fe'i cafwyd ef gan Mr David Jones yn isel ei deimlad: nad oedd efe ddim ond wedi chware gyda chrefydd, nad oedd y cwbl ond rhagrith, a mynnai mai dyn anuwiol ydoedd. "Tybed? gofynnai Mr Jones. "O, ie," ebe yntau, "'dydw'i ddim wedi fy ail-eni." "Mae'ch enw ar lyfr yr eglwys, ac yr ydych yn swyddog yn yr eglwys." "Beth ydw'i haws? Dyn anuwiol ydw'i." "Wel, os felly, mi roi'ch achos chwi i lawr yn y seiat nesaf, er cael tynnu eich enw i ffwrdd oddiar lyfr yr eglwys." "I beth y gwnei di hynny, 'rwyti yn meddwl?" "I chwi gael ymollwng iddi, ac actio'r dyn anuwiol yn yr ardal yma." "'Dwyti ddim ffit yn y byd ! Na, dal ati wna i, fel y delo hi, bellach." Yr oedd Hugh Jones yn esampl ddiweddar o ddosbarth wedi myned i golli, ac am ei fod yn ddiweddar haws oedd cael defnyddiau y mymryn portread hwn ohono. Bu lliaws cyffelyb iddo yn y wlad, ond nid mor hawdd bellach dodi'r rhith ohonynt a erys mewn coffadwriaeth yn llun go fyw o flaen y llygaid. Enghraifft dda ydoedd efe o'r gwladwr syml, agored, na thybiasid fod nemor ddim, neu ddim neilltuol ynddo ef onibae i'r Efengyl gipio gafael ynddo, ac yna fe ganfyddid ynddo, yn neilltuol fel y gwelid ef ar adegau, adenydd agored cerubiaid, gwialen yr Archoffeiriad yn dwyn almonau, a llewyrch y Secina.

Yn 1898 y bu farw Griffith Jones Coedtyno, wedi bod yn y swydd o flaenor er 1853. Yr oedd efe a Hugh Jones yn amlwg ar y blaen efo'r achos o fewn yr ugain mlynedd diweddaf o'u hoes, sef ar ol marw Owen Jones. Y flwyddyn o flaen Griffith Jones y diangodd Hugh Jones ymaith. Ar ddieithrddyn yr oedd yr argraff oddiwrth Griffith Jones gryn lawer yn fwy dymunol nag oddiwrth Hugh Jones. Gwr llednais, boneddig wrth natur oedd Griffith Jones, a gras wedi ei brydferthu. Er bod ar y blaen, ni chwenychai mo'r blaen. Er cymaint a wnelai o "weddi fawr" Hugh Jones, gweddi ferr a syml ydoedd yr eiddo ef ei hun. Ei feddylfryd yntau ym mhethau y Tŷ, fel yr eiddo Hugh Jones, ond ei syniad am y Tŷ yn eangach, gan yr ymhyfrydai yng nghymdeithas y saint o'r tuallan i'r gymdeithas eglwysig ffurfiol, a chan yr ymwelai â'r claf a'r adfydus. Ni pherthynnai i'w natur gael ei sugno i mewn cyn belled a Hugh Jones i gyfeiriad y gororau glaswyn; ond rhagorai arno ef mewn mwynhad gwastad o'r efengyl a'i hordinhadau, ac yn amrywiaeth ei wasanaeth. Yr oedd cysondeb o bob math yn perthyn iddo ef. Enghraifft ydoedd efe o wr yn dod yn fwy-fwy amlwg yng ngwaith yr Arglwydd. Yr ydoedd tua deunaw oed cyn dechre dysgu darllen. Bu am flynyddoedd meithion, drachefn, ar ol ei wneuthur yn flaenor cyn y traethai brofiad uchel. Arferai gynildeb ar amser yn gyhoeddus, er fod ganddo ddawn hwylus, yn enwedig efo'r plant, a dawn i gynghori. Cynyddu yn raddol. a ddarfu efe, ac addfedu yn amlwg, gan ymroi fwy-fwy i bob gwaith da, nes ei fod wedi ennill serch yr ardal yn llwyr. Llewyrchodd fwy-fwy, ac yr oedd ei ddiwedd yn dangnefedd.

Yn 1868 y gwnawd Thomas Williams Brynhafod a Joseph Jones Ffactri Tai'nlon yn flaenoriaid. Bu Thomas Williams farw ymhen ychydig flynyddau. William Jones a ddaeth yma o'r Penrhyn, lle'r oedd yn flaenor, a chyn hynny ym Meddgelert, a bu farw yn 1888. Yn 1888 y derbyniwyd Owen Jones Henbant bach yn flaenor, nai i'r gwr arall o'r un enw. Bu ef farw yn 1891, yn wr cwbl deilwng o'i ewythr. John Jones Felin Faesog a ddaeth yma o Bwlchderwydd, ac a fu farw yn 1890, yn fuan ar ol dod yma. Derbyniwyd David Jones, Robert Williams a David Ellis Hughes yn flaenoriaid yn 1891. William Jones Brynhafod a ddaeth yma o Frynengan yn 1891, ac a aeth ymaith i Bantglas. Henry Jones Tai'nlon yn 1891 o Frynaerau. Robert Jones Brynhafod a symudodd yma o Frynaerau ac a aeth oddiyma i Bontnewydd John Edwards Tynewydd a fu'n flaenor yn Nebo ac yn Caerhun cyn hynny, a galwyd ef i'r swydd yma yn 1893. Elias Prichard Bryn- hafod oedd yn y swydd ym Mhantglas, a chyn hynny yn Cwmcoryn, a galwyd ef iddi yma.

Robert Evans a ddechreuodd bregethu yn 1889, ar ol hynny yn Llanddynan, ger Llangollen. J. R. Jones Tain'lon a ddechreuodd tua 1895. O. S. Roberts yn 1897, a symudodd yn fuan i gyffiniau Llangollen.

Robert Foulk, taid John Jones Brynrodyn, oedd y dechreuwr canu cyntaf hyd y gwyddys. Dilynwyd ef gan Dafydd Jones Bron-yr-erw, yna gan John Williams Ty'ntwll, wedi hynny John Davies Ty'nlôn, mab Dafydd Jones Bron-yr-erw, a hiliogaeth Dafydd Jones o hynny ymlaen fu arweinwyr y gân. Dilynwyd John Davies gan ei frawd William Jones, ac wedi hynny gan ei fab David Jones Bwlchgwynt.

Adeiladwyd y capel presennol yn 1870, a'r draul ydoedd £480. Yr oedd troi'r hen gapel yn dai yn gynwysedig yn y draul. Adeil- adwyd ysgoldy ynglyn â'r capel yn fuan wedyn am y draul o £150. Adnewyddwyd y capel oddifewn yn 1898 am £500.

Dyma adroddiad ymwelwyr 1885, sef blwyddyn canmlwydd- iant yr Ysgol Sul. "Golwg siriol a bywiog ar yr Ysgol. Gwelliant mawr fyddai cael gwers-lenni gyda'r plant. Gwell fyddai rhoi'r bechgyn a'r genethod bychain yn gymysg. Y dosbarth canol yn dilyn y wers-daflen yn amherffaith. Byddai yn well canu ar ddiwedd y wers-ddarllen nag ar ganol yr Ysgol. Gresyn fod yr holwyddori yn y dosbarth wedi colli, a gwybodaeth y plant a'r dosbarth canol yn llai nag a fu. Y canu yn dda a bywiog, ond eisieu mwy o lyfrau hymnau yn yr ysgol. Agosrwydd serchog yma rhwng athraw a dosbarth. W. Griffith Penygroes, E. Williams Llanllyfni, John Roberts Llanllyfni."

Rhif yr eglwys yn 1854, 78; yn 1862, 103; yn 1870, 95; yn 1900, 122.

BRYNAERAU.[3]

MAE gwreiddiau Brynaerau wedi eu cydblethu â gwreiddiau y Capel Uchaf. Deuai rhai oddiyma ac acw drwy'r ardal i'r gwas- anaeth yn y lleoedd cyntaf y cynelid ef; a chynelid y gwasanaeth nid yn hollol yn y lle mwyaf canolog i bawb, ond yn y cyfryw le a ellid gael. Yr oedd y Foel, sef y Foel-ddryll, fel y bernir gan rai, preswylfod Hugh Griffith Hughes, a'r ty a achlesodd yr achos gyntaf, ar y ffordd o Frynaerau i'r Capel Uchaf, a'r ffordd o Lanllyfni i bentref Clynnog. Rhyw dri chwarter milltir o gapel Brynaerau, a milltir o'r Capel Uchaf. Y Berthddu bach sydd rhyw hanner milltir o gapel Brynaerau i gyfeiriad Clynnog. Gellir barnu i'r achos fod am flynyddoedd yn y Berthddu bach, os nad yr holl amser hyd yr aeth Hugh Griffith Hughes i'r Bryscyni isaf. Fe gesglir fod y rhan fwyaf o'r swp bychan o grefyddwyr a ddeuai i'r Berthddu bach yn bobl o ardal y Capel Uchaf, er fod y lle yn agosach i bobl Brynaerau, canys yn y Capel Uchaf yn y man y gwreiddiodd yr achos yn amlwg. Wedi cychwyn yn y Capel Uchaf, elai rhyw nifer o Frynaerau ac o'r holl ardaloedd oddiamgylch yno.

Cynelid ysgol Sul yng nghapel y Bedyddwyr ym Mhontllyfni flynyddoedd cyn codi capel Brynaerau. Elai rhai o'r Methodistiaid i'r ysgol honno hyd nes y codwyd capel ganddynt iddynt eu hunain, yn ol un adroddiad. Fe godwyd ysgol mewn tŷ annedd ger Bont- llyfni gan y Methodistiaid, pa ddelw bynnag, er nad yw'n glir ai codi'r capel ai cynt y gwnaed hynny. Y rhai fu'n amlwg efo'r ysgol hon yn y tŷ oedd Morris Marc, Harry Dafydd Penybryn, Griffith Humphreys Garnedd, Robert Hughes Ffridd, a William Williams Caemorfa.

Yn 1805 yr adeiladwyd y capel yn ol Canmlwyddiant Ysgolion Sabothol Clynnog, &c. Amserwyd y brydles yn 1807. Adeiladwyd y capel ar y llecyn yr arferai ieuenctid ac eraill ymgasglu ynghyd at wahanol ymrysonfeydd, a dyma safle y capel presennol. Maintioli y llecyn, 50 llath wrth 15. Yr oedd y llecyn tir yn gysylltiol â thý a elwid Lôngoch ger fferm Lleuar. Y rhai amlwg ynglyn âg adeiladu'r capel oedd Sion Thomas Ffridd bach, Richard Hughes Ffridd fawr, Thomas Griffith Pentwr, Griffith Owen Garnedd, Morris Marc Llynygele, a Harry Dafydd Penybryn. Harry Dafydd oedd y saer maen, ac efe a wnaeth y muriau. Petryal agos oedd ffurf yr adeilad. Yn yr ochr ogleddol yr oedd dau ddrws, a'r pulpud cydrhyngddynt. Fe geid oriel ym mhob talcen, gyda grisiau o gerryg yn arwain i'r naill a'r llall o'r tuallan. Ymhen ysbaid fe rowd y grisiau o'r tufewn. Nid oedd nenfwd iddo, ond yr oedd y gronglwyd a'r muriau tufewn wedi eu gwyngalchu. Goleuid ef â chanwyllau, pedair wedi eu dodi yn y seren o olchiad pres a hongiai wrth gadwyn haiarn o'r gronglwyd, pedair yn y pulpud, a dwy ym mhob oriel. Eisteddleoedd cadarn, uchel, heb obaith i'r plant weled drostynt. Dyna ddisgrifiad Mr. R. R. Williams ohono, un o'r blaenoriaid presennol, yr hwn hefyd a gofia am y ffigyrau 1811 wedi eu torri ar un o'r trawstiau. Y tŷ oedd wrth dalcen gorllewinol y capel, fel yn awr.

Mewn llythyr o eiddo Robert Jones Rhoslan, dyddiedig Medi 15, 1813, fe ddywedir fod 130 wedi eu hychwanegu at ddau gapel Clynnog ers blwyddyn o amser. Bernir fod oddeutu 100 ohonynt yn perthyn i'r Capel Uchaf.

Y tri blaenor cyntaf oedd John Thomas Ffridd; Evan Roberts, a ddaeth o Foel Gwnys, osgo Nefyn, taid ynghyfraith Robert Owen Aberdesach; Richard Hughes Ffridd, hen daid o ochr ei fam i David Hughes Maes. Rhydd Robert Owen Aberdesach nodwedd y tri yn gryno fel yma: John Thomas yn ceryddu; Evan Roberts yn cyhoeddi; Richard Hughes yn rhoi olew ar y dyfroedd. Dywed ef, hefyd, y byddai eisieu rhywbeth neilltuol mewn cyhoeddwr y dyddiau hynny am y byddai cynifer o wyr dieithr yn dod drwy'r wlad i bregethu, a rhaid oedd wrth gof da i'w cyhoeddi yn ddiffael wrth eu henwau a henwau eu hardaloedd, ddau ohonynt yn aml yn yr un oedfa, a mwy nag un oedfa lawer pryd o fewn yr un wythnos, heb son am oedfa'r Sul.

Enwogodd William Williams Caemorfa ei hun efo'r ysgol, ac yntau heb fod ar ddechre ei lafur gyda hi namyn gwr ieuanc iawn. Gyda'r pared y byddai hynny o seti a geid ar lawr y capel. Safai William Williams ynghanol y llawr, o flaen y pulpud, a chyda gwialen hirfain yn ei law fe gyfeiriai at lythrennau'r wyddor, a pha beth bynnag yn ychwaneg fyddai ganddo i'w ddysgu, ac yn y dull hwn fe gadwai bawb yn effro a chawsai sylw yr oll gyda'u gilydd. Efe a ymroes i'r llafur hwn, a bu fyw i weled y llafur hwnnw wedi ei goroni â mawr lwyddiant. John Pugh o Leuar, wedi hynny o Drwyn yr hwylfa Penmaenmawr, a benodwyd gyntaf fel arolygwr, ac efe yn gyntaf a roes drefn ar gadw cyfrifon yn yr Ysgol.

Bu'r Parch. W. Lloyd, B.A., ar ol hynny o Gaernarvon, yn cadw ysgol ddyddiol yma am ran o'r blynyddoedd 1815-16; a bu Richard Jones (Wern) yma am ran o'r blynyddoedd 1817-18; ond ni chafwyd dim adgofion o'r lle am y naill na'r llall.

Ar ol adeiladu Capel Seion yn 1826, fe ddaeth Brynaerau, Seion a Chapel Uchaf yn daith. Pan adeiladwyd Ebenezer yn 1843, fe gysylltwyd Brynaerau â Bwlan. Parhaodd y cysylltiad hwn. hyd 1876. Pan fynnodd eglwys Bwlan o'r diwedd fyned arni ei hun, fe gysylltwyd Brynaerau âg Ebenezer, Ebenezer yn cael oedfa'r bore a Brynaerau y pnawn a'r hwyr. Er i'r cysylltiad hwn barhau hyd 1888, ni foddlonid Brynaerau arno, ac yna fe gysylltwyd Brynaerau â Chapel Uchaf, ac aeth Ebenezer a Seion yn daith.

Cerid yr achos ymlaen am liaws o flynyddoedd yn effeithiol gan y tri hen flaenor. John Thomas a flaenorai ar y ddau flaenor arall. Yr oedd y ddau arall, er hynny, yn wyr o ddylanwad; ac yr oedd ar anuwiolion yr ardal ofn bob un ohonynt. Yr oedd John Thomas yn gryfach a garwach, yn fwy o deyrn yn ei ffordd, ac yn halltach wrth geryddu ac argyhoeddi. Yr oedd rhyw elfen ym Methodistiaid yr amser hwnnw yn amlwg iawn ynddo ef. Ysgythru'r ceinciau ymaith oedd gorchwyl Sion Thomas; a cheinciau'r pregethwyr ieuainc fyddai'r ciw pi, cadwen ar y fron, esgidiau yn gwichian, a marchogaeth ceffyl. Nid ychydig o'i ofn oedd ar bregethwyr ieuainc y cyfnod hwnnw. Eithr yr oedd ffordd gydag yntau. Yr oedd marchogaeth yn ddull nid anghynefin o deithio gan bregethwyr y pryd hwnnw, gan bellter y capelau yn yr un daith oddiwrth eu gilydd, a chan brinder cyfleusterau teithio. Nid oedd unrhyw ystyriaeth o'r fath yma yn menu dim ar John Thomas yn ei wrthwynebiad i'r fath arfer. Deuai Robert Ellis (Ysgoldy), y pryd hwnnw yn ddyn go ieuanc, ar gefn ei geffyl ryw Sul, a phwy welai yn y ffordd o'i flaen ond Sion Thomas. Dywedai Robert Ellis wedyn, pe buasai yno groesffordd yn y fan, y cymerasai hi; ond nid oedd dim i'w wneud ond marchogaeth ymlaen. Cyn. cyrraedd yr hen flaenor, dyma ddrychfeddwl dedwydd yn fflachio i mewn i benglog y pregethwr ieuanc, a galwai ar John Thomas i farchogaeth yn ei le. Llyncodd Sion Thomas yr abwyd a'r bach o'i fewn. Gan farchog yn hoew ar geffyl Robert Ellis, ni ddiferodd gair llym dros enau John Thomas.

Tebyg fod un o leiaf o'r hen flaenoriaid wedi marw pan alwyd y Capten Lewis Owen a John Griffith Ysgubor fawr yn flaenoriaid yn 1830.

Fe nodir yn y Drysorfa am 1832 fod yna ychwanegiad o ugain at rif yr aelodau ym Mrynaerau yn niwedd mis Mawrth, sef yn nhymor y diwygiad, a rhywbryd tua'i ganol. Rhaid cofio fod rhif yr eglwys yn gymharol fychan y pryd hwnnw, cystal a bod yn anhaws myned i mewn drwy'r porth nag yn awr.

Ym mis Tachwedd 1849 y dechreuodd Thomas Ellis (Llanystumdwy) bregethu. Symudodd i Pennant ym mis Mai 1850.

Ym mis Mai 1854 y sicrhawyd y brydles ar y capel am 699 o flynyddoedd o'r dyddiad yma.

Dyma gerbron hanner dwsin o lyfrynnau bychain, yn cynnwys cyfrifon yr eglwys am y blynyddoedd 1834-55. Syniad yr hen athronyddion ydoedd fod pob dirgeledigaethau mewn rhifedi. A diau fod llawer o hanes Brynaerau yn chware oddeutu'r cyfrifon hyn. Er hynny ni wnant ond chware mig â'r dieithrddyn. Ond ni wneir monom ddim tywyllach am yr hanes oherwydd cip o olwg arnynt yn eu chware! Yn Gorffennaf 11 y dechreua'r cyfrifon, a dyma'r manyn cyntaf yng nghyfrif Awst: Talwyd am fwyd a diod y mis uchod, 8s. 8c. Un oedfa geid yn gyffredin ar y Sul. Er hynny, yr oedd bwyd a diod Awst yn ddim llai nag 11s. 3c., canys rhaid cofio ei bod yn adeg y pregethu teithiol, a bu Lewis Morris yma, ac ar dro arall Thomas Pritchard a Robert Owens gyda'u gilydd. Mae'r casgl misol yn ystod y flwyddyn yn amrywio o 18s. 6c. i £1 6s. 2c. Ymhlith y pregethwyr a fu yma fe geir Owen Thomas am oedfa Sul, 1s. 6c.; ac ar nosweithiau'r wythnos, John Hughes a'i gyfaill, 2s. 6c. ac Isaac James, 1s. 6c. Ymhlith pregethwyr 1835 y mae David Rolant a Thomas Havard a'i gyfaill. Nid oes enw lle ynglyn âg enwau'r pregethwyr. Yn Ionawr, 1836, y mae bwyd a diod yn fanynau gwahaniaethol, y cyntaf yn 14s. 8c. a'r ail yn 2s. 6c. Bwyd a diod y Rhagfyr o'r blaen oedd rhai'n, pan y bu yma gyfarfod ysgolion, a dau gyfaill ddwywaith ar eu taith. Deunaw ceiniog yw'r "casgl mis" yn ochr y taliadau, sef yr hyn a delid i'r Cyfarfod Misol. Mewn llaw yn niwedd 1836, £3 1s. 4½c. Y mae enw [Capt.] Lewis Owen wrth y cyfrif blynyddol, yn arwyddo ei fod wedi ei adolygu ganddo ef.

Golwg eto ar yr ail lyfryn. Nid yw'r taliadau yn dechre dan Mawrth, 1837. Nid yw diod yn cael ei nodi er Ionawr, 1836. Talwyd am fwyd yn ystod y tri mis, Mawrth—Mai, 22s. 11c. Talwyd am bregethu yn ystod yr un amser, Sul, gwyl a gwaith, 31s. 6c., am yr hyn y bu un ar hugain o bregethwyr yn gwasanaethu. Yn ymyl y mae'r canwyllau yn 6s. 8c.: ond ni wyddys pa hyd y pery eu goleu. Dyma draul Cyfarfod Misol ym Mrynaerau ym Mehefin, 1837. Mae hwn wedi ei ysgrifennu yn Saesneg, a chan fod Saesneg y cyfnod hwnnw yn amheuthyn, fe'i dodir i lawr. Mae'r lawysgrifen yn dda, ac fe welir fod y Saesneg yn eithaf da braidd: June, 1837. Dr. Monthly Meeting at Bryn: To Flower, £1; 7lb of Lump Sugar 9d., 5s. 6½. [felly i lawr]; 5lb of Cheese 9d., 4s. 1½d.; ¾lb Tea, 4s. 8d.; 1oz of Green Tea, 6d., 1oz Musd. 5d., 11d. Bundle hay, 2s. 6d.; 1oz Black Tea, 5d.; 541b Beef 6d., £1 7s. Od. ; 241b Veal 6d., 12s.; 11lb Bacon 6d., 5s. 9d.; ½ Ton Coals & Turnpike, 8s. 5d.; Cibin of Peas, 3s. 9d.; Preachers, 16s.; Gwen Jones assistance, 4s.; 21b Butter, 2s. 4d.; ¼lb Tea, 1s. 9d." Mae'r cyfanswm, fel y mae i lawr, yn £5 19s., yn wirioneddol yn £5 18s. 2 d. Os nad yw tâl y pregethwyr yn uchel, fe welir fod yma arlwy eithaf da, a diau fod Gwen Jones yn haeddu ei thâl.

Y trydydd llyfryn. Dyma William Prytherch a'i gyfaill, 3s. 6c. Y mae efe i lawr o'r blaen, unwaith o leiaf. Talwyd i John Jones Pandy am dybaco ac edrych ar ol y tŷ, 2s. 6c. Dyma John Elias ar Awst 30, 1840, sef y Sul, os nad 31 ydyw, 2s. Yr un faint a delir bellach i weinidogion Arfon yn gyffredin, a dyma Daniel Jones ar yr un tudalen, o dipyn o bellter, 2s. 6c. Oz. tybaco pibelli 3½c. Anfynych y digwydd y manyn olaf yma.

Nid yw'r pedwerydd llyfryn yn cynnwys nemor ddim newydd, heblaw ambell enw fel William Charles a David Howells.

Yn y pumed llyfryn, 2s. 6c. sydd wrth enwau John Jones Talsarn ac Owen Thomas yn 1844. Erbyn 1845 dyma dalu am ddwy oedfa i'r un pregethwr, canys yr ydys bellach wedi ymgysylltu fel taith â Bwlan, ac yn cael dwy oedfa bob yn ail Sul. Dyma William Prytherch yn Rhagfyr, 1845. Y mae bwlch yn y cyfrif dros y blynyddoedd 1846—50. Y mae enw William Roberts i lawr saith gwaith am 1852; ond nid ymddengys enw neb arall yn fynych yn ystod y blynyddoedd. Chwe cheiniog ddanfonid i'r Cyfarfod Ysgol. I Gyfarfod Misol Clynnog, 14s. Y mae enw Capt. Owen wedi peidio ymddangos yn y llyfryn diweddaf yma fel arolygydd y cyfrifon. Pethau eraill yn parhau yn lled debyg. Y mae llyfrau cyfrifon y cyfnod hwn wedi myned ar goll y rhan amlaf, ac y mae eraill yn ddiau ar gael nad yw yn hawdd taro wrthynt. Eithr fe wasanaetha yr ychydig y rhoir enghreifftiau allan ohonynt yma ac acw er dangos hanes cyfrifon eglwysi eraill am yr un blynyddoedd, canys nid oedd nemor wahaniaeth rhyngddynt, o fewn yr un cyfnod o amser, oddigerth rhyw gymaint yn yr eglwysi mwyaf i gyd.

Yn 1858 y dechreuodd Henry Griffith bregethu, yn ddeunaw mlwydd oed. Bu farw yn 23 mlwydd oed, pan ar fin gorffen ei efrydiaeth yn y Bala. Tymer ddwys a'i nodweddai, a threuliai lawer o amser mewn gweddi. Yr oedd difrifwch yn ei wedd, a thynerwch yn ei lais, a chawsai ei bregethau effaith neilltuol, ac yr oedd ei goffadwriaeth yn berarogl.

Dan bregeth Edward Roberts y Ceunant ar brynhawn Sul tua diwedd Medi, 1859, y teimlwyd awel y diwygiad yn Brynaerau. Ni chyfrifid Edward Roberts yn wr yr awelon; ond fe ddaeth y wir awel lawer pryd arall trwy wŷr llonydd. Ychwanegwyd 54 at rif yr eglwys. Ymhlith eraill, daeth D. W. Pughe, y meddyg, ymlaen, gwr go anhawdd ei drafod. Fe ddywedir ddarfod iddo alw am gyfarfod gweddi i'w dŷ, newydd ei adeiladu; ond ar waith ryw hen frawd yn erfyn am fendith o dan y gronglwyd honno, fe dorrodd yntau allan ar ei draws, "Beth yr wyti yn galw fy mhlas i yn gronglwyd?" Aeth John Griffith y blaenor ato. Go blaen fu yr holi. Yn ol Cofiant Dafydd Morgan, y cwestiwn cyntaf oedd, "Wel, Doctor, beth sydd gennychi i ddweyd heno? Ydychi wedi dechre gweddio, dwedwch?" "'Doeddwn i ddim wedi rhoi hynny heibio," oedd ateb y meddyg. "Ie, machgen i," ebe John Griffith, "fe gafodd y wraig honno ddwfr i olchi traed Iesu Grist o le rhyfedd iawn," gan awgrymu fod y Dr. yn rhy iach ei deimlad. Yn ol Robert Owen Aberdesach, cwestiwn arall o eiddo John Griffith ydoedd, "Wel, Dafydd, sut yr wyti o dan dy groen." Galwodd y meddyg ar ol hynny i adrodd ei gŵyn wrth Ann Roberts, mam Robert Owen, ac fel y dywedir yng Nghofiant Dafydd Morgan, nid aeth y meddyg ar gyfyl y seiat mwyach. Efallai, wedi'r cwbl, fod rhywbeth i'w ddweyd ar ei ochr yntau; a bod yr hen frodyr ar adegau yn colli yn y boneddigeiddrwydd ag sy'n un o briodoleddau y ddoethineb honno sydd oddi uchod. Gwr crâff, er hynny, oedd John Griffith, fel y ceir golwg pellach arno eto, a gwr a'i eiriau yn gafaelyd fel bachau dur. Bu John Jones Carneddi ym Mrynaerau y pryd hwn efo'i "gerbyd o goed Libanus," gan waeddi ar y bobl, "Bwciwch yn y cerbyd, bobl!" Wrth fyned adref o un oedfa, methu gan John Thomas beidio â throi i ben carn gerryg i weddio, ac wedi myned, yno y bu efe hyd y bore. Daeth John Thomas ar ol hynny yn flaenor, sef, yr ail o'r enw, ac yn weddiwr nodedig.

Gwraig hynod oedd yr Ann Roberts y cyfeiriwyd ati. Yr oedd ei mam yn gyfnither i Robert Roberts, ac nid ydoedd hi ond un o liaws o rai synwyrlawn a galluog ac ymroddedig i grefydd ymhlith y teulu nodedig yma. Yr oedd ei gwr, Dafydd Owen, yn aelod yn Ebenezer, ac aeth hithau yno ato ymhen amser. (Gwel- er Ebenezer).

Yn 1861 fe wnawd y capel a'r tŷ capel o newydd ar draul o £420. Buwyd yn addoli yn y cyfamser mewn pabell a wnawd o goed yr hen gapel. Y capel o ran ffurf yn wahanol i'r hen un, ac yn helaethach. Ni roddwyd oriel yn y newydd, ac un drws oedd iddo, sef yn y talcen gorllewinol, fel yn awr. Eisteddai y gynulleidfa gan edrych ynghyfeiriad y drws. Nid oedd dim dyled wedi bod ar yr achos ers 1853 o leiaf. Y ddyled yn 1865, £340. Erbyn 1878 tynnwyd hi i lawr i £85.

Yn 1867 galwyd William Jones, ieu., Bryngwdion, W. Pugh Owen Lleuar bach, a J. R. Edwards (yn awr o Criccieth) yn flaenoriaid. Bu'r ail ohonynt farw yn ieuanc; bu'r olaf ar ol hynny yn siroedd Fflint a Dinbych; y cyntaf a arosodd rai blynyddoedd cyn symud ohono.

Yn 1870 y dewiswyd David Hughes Mur mawr yn flaenor. Gwr o synwyr a gwybodaeth ac ysbryd crefyddol, a deheuig yng nghyflawniad gwahanol ddyledswyddau. Bu farw Mai 2, 1880, yn 45 mlwydd oed.

Mai 11, 1870, y bu farw y Capten Lewis Owen, yn 83 mlwydd oed. Pan arferai hwylio i Lundain, drwy ei gysondeb yn y moddion a'i waith yn casglu at gynnal pregethu yn y lle, fe ddaeth yn gyfeill- gar â James Hughes yr esboniwr. Wrth weithio yn y dull hwnnw gyda'r achos y daeth i'w feddwl ef nad oedd hynny arno'i hun ddim yn ddigon, ac yn y cyfwng hwn yn ei hanes y cafodd oleu ar bethau ysbrydol wrth wrando ar John Elias, a bwriodd ei goelbren gyda phobl yr Arglwydd yn 23 oed. Bu am rai blynyddoedd yn gapten ar yacht yr Arlwydd Newborough, a gorfu i'r Arlwydd ddysgu'r wers o beidio ymyryd gormod pan fyddid mewn tywydd garw. Yn y Glyn fe ymostyngasai i air yr Arlwydd, ond nid ar fwrdd llong pan oedd bywyd mewn enbydrwydd. Nid gwr i chware âg ef oedd yr Arlwydd; ond dysgodd ef a'i deulu dalu mawr barch i'r Capten. Bu yn ymdrechgar gyda chodi'r capel yn 1861. Yr oedd iddo ryw awdurdod uwchlaw pawb yn yr eglwys a'r ardal, heb fod ffynonnell ei awdurdod yn amlwg iawn. Diniwed ydoedd ar y wyneb; ond pan ddangosai awdurdod, plygai pawb iddo. Nid oedd yn wr o ddawn gyhoeddus, ond yr oedd yn wr call a boneddigaidd ac o ysbryd crefyddol, ac yr oedd yn ymroddedig i'r achos. Nith i D. W. Pughe, y meddyg, oedd gwraig y Capten, a chyfnerthid ei ymdrechion ef gyda'r achos gan yr eiddo hithau; ac nid llai ei hawdurdod hi na'i awdurdod yntau. Dywed y Capten Hughes Gellidara, a ysgrifennodd gofiant iddo yn y Drysorfa am 1873, ei fod ef at ddiwedd ei oes fel y morwr, wedi rhedeg y distance i fyny, ac yn prysur edrych allan am y tir; ac wedi methu ganddo ei weled, yn gofyn i'w fab-ynghyfraith a oedd ef yn meddwl y byddai yn hir cyn codi y tir? Llywio'r cwrs ar y ffordd yngnghyfeiriad y Ganaan nefol y bu ef am hanner can mlynedd, ebe Capten Hughes.

Gwnawd John Griffith Ysgubor Fawr yn flaenor yr un adeg a'r Capten Owen, sef yn 1830, a bu'r ddau yn brif alluoedd yn yr eglwys am ddeugain mlynedd. Goroesodd John Griffith ei gym- rawd, a bu ef farw Mai 7, 1872. Cyferbyniadau oeddynt, ac am hynny yn cydweithredu yn fwy effeithiol. Ymddanghosai y Capten yn ddylanwad mwy ar y wyneb; John Griffith, er hynny, oedd y gwir arweinydd. Ac efe, mae'n ddiau, oedd y dylanwad mwyaf a fu ym Mrynaerau. Gwr cadarn, nerthol ydoedd o ran corff, a chyffelyb o ran meddwl. Gwelid ef unwaith mewn cae gyda'r dyniewaid yn ei bwyso i'r wal. Cydiodd yntau yn nau gorn un ohonynt, a thrwy rym braich fe'i dododd ef i lawr ar y ddaear. Un o'r Waenfawr ydoedd yn ei ddechreuad, a dywedid mai llencyn gwyllt ydoedd. Ar ol dod ohono at grefydd, ceisiodd ei hen gyfeillion ei rwystro. Yn ei gyfarfod ar ganllaw pont ar fore Sul, ac yn ceisio ei atal. Yntau yn cymeryd un gerfydd ei ddillad o'r tu ol, ac yn ei fwrw dros y bont i'r dwfr. Cafodd lonydd ar ol hynny. Siaradwr rhwydd a chyflawnder o fater ganddo. Yr oedd y Beibl a Gurnall yn o lwyr yn ei gof. Ei ddull oedd agored, ei ymadroddion, ar brydiau, pan fyddai galw, yn gwta a brathog, a phob amser yn fachog. Gwelai trwy ddyn ar unwaith, braidd. Ar un adeg yr oedd gwr yn y gymdogaeth y deallid ei fod yn llawn awydd pregethu, ond nad oedd goreugwyr y cylch yn rhyw barod iawn i'w gefnogi. Wele ef ar un diwrnod yn galw gyda John Griffith. "Oni fu arnochi, John Griffith, erioed awydd pregethu ?" fe ofynnai. "Beth ?" gofynnai John Griffith, megys un heb glywed. "Oni fu arnochi erioed awydd pregethu, John Griffith ?" "Naddo," ebe John Griffith yn gwta, "ni chafodd y diafol erioed gymaint a hynny o gaff gwag arnaf." Daeth yr ymddiddan hwnnw i ben yn y fan honno. Dychwelodd gwraig i'r eglwys ar ol gwrthgiliad. Cymeryd ei hachos hi yn o ddidaro a ddarfu efe; a dywedai wrthi am beidio tramgwyddo os na chai hi gymaint o sylw ag a ddisgwyliai—nad oedd neb yn gwneud fawr o helynt o siopwr wedi torri. Byddai yn ddidderbyn wyneb: nid yn arw wrth y gwan, ac yn wenieithus i'r cryf. Wrth deulu uwch na chyffredin yn y lle, ag yr oedd rhywun neu gilydd ohonynt i mewn ac allan o'r eglwys yn o fynych ar un adeg, eb efe, "Cofiwch chwi mai nid cafn moch llafnau yw eglwys Brynaerau !" Ystyrrid ef ar gyfrif ei ddull didderbyn wyneb a'i allu i adnabod dynion yn un rhagorol i'w ddanfon i eglwysi ag y byddai pethau blinion ynddynt. Yr oedd gwr amlwg mewn un eglwys yn achos o flinder iddi, a deuai yn rhydd ac yn ddigerydd gydag ymwelwyr blaenorol drwy draethu profiadau uchel. Ni wnae hynny mo'r tro gyda John Griffith. Edrychodd efe y gwr ym myw ei lygaid, "Nid yw o ddim diben gweiddi, Haleliwia, ar dy hyd yn y baw!" Ac yna, gan ei ddwyn ef wyneb yn wyneb â'r achos o'r blinder, fe ofynnai, "Pa le y mae———?" Buchedd John Griffith ei hun oedd gyson a'i gydwybod yn ddirwystr. Yr oedd argyhoeddiad yn ei ddull a nerth cysondeb yn ei eiriau; ac yr oedd y geiriau eu hunain wedi eu bathu gan feddwl treiddgar, a'u cyfaddasu i'r amgylchiadau gan farn, a dirnadaeth o droadau dirgelaidd y galon, ac amcan diwyrni.

Dylanwad distawrwydd oedd eiddo William Jones Bryngwdion. Ceid ganddo gynghor da, ac ambell sylw mor amserol nes cael holl effaith sylw pert. Yr oedd yn flaenor ym Mrynengan cyn dod yma, a chyn diwedd ei oes aeth yn ol yno.

Mae gan Mr. Henry Hughes Tanrallt gyfres o ysgrifau difyr yng Nghymru y Plant am 1903-4, ar gymeriadau Brynaerau. Un ohonynt yw Dafydd Gruffydd neu Dafydd y Swan. Eisteddai ef wrth fraint yn sêt fawr Brynaerau. Y Swan yw enw'r pentref bychan ar ffordd Clynnog fawr lle preswyliai. Yr oedd Dafydd dros chwe troedfedd o daldra ac agos i lathen o ysgwydd i ysgwydd. Wrth ddychwelyd o'i orchwyl un noswaith fe welai ysgyfarnog yn myned i'w thwll. Gosodai wifren croglath wrth enau y ffau, a daliodd yr ysgyfarnog. Pwy oedd yn edrych arno yn ei thynnu yn rhydd ond prif geidwad helwriaeth Arlwydd Niwbwrch. Bu raid i Ddafydd druan fyned gydag ef i ŵydd yr Arlwydd. Gorchmynwyd hebrwng Dafydd i garchar Caernarvon ar ol dodi pryd o fwyd digonol o'i flaen, canys gwr anrhydeddus yn ei ffordd neilltuol ei hun oedd yr Arlwydd. Dyddiau'r cwnstabliaid oedd y rheiny, a danfonwyd am y cwnstabl, sef pwt o amaethwr. Ymaith â hwy. Wedi myned yn deg allan drwy'r porth, gorweddodd Dafydd ar y glaswellt, ac ni chyfodai er cwnstabl na ffon, er na rowd mo honno ar war Dafydd chwaith, canys gorchwyl rhy feiddgar fuasai hynny. Ymaith â'r cwnstabl i ymofyn ei gert. Eithr ni chodai Dafydd oddiar ei eistedd, a bu raid cyrchu gwŷr i'r amcan. Dyma Dafydd o'r diwedd yn y cert yn eithaf llonydd, ond gyda'i feddwl dyfeisgar yn effro. Erbyn myned ohonynt rhyw chwarter milltir o ffordd, yr oedd Dafydd yn eistedd ar draws y trwmbel, gyda'i draed o fewn ei glocsiau mawr yn pwyso ar y naill ochr a'i gefn ar y llall. Yna, fel rhyw Samson arall, efe a ymestynodd ac a ymwthiodd, nes fod ochrau'r cert yn rhoi, ac yn cloi yr olwynion fel na symudent. Diangodd Dafydd yn groeniach, ac ni fu air o sôn. Tebyg mai mewn tymor diweddarach ar ei oes yr eisteddai Dafydd Gruffydd yng nghornel y sêt fawr, wedi ennill ei hawl i'r cyfryw anrhydedd drwy orchestion amgenach na'r un a gofnodir yma. Eithr nid anheilyngach gweithred Dafydd nag un neu ddwy o eiddo Samson. Un o wŷr craffaf sir Gaernarvon oedd yr Arlwydd Niwbwrch yn ei ddydd, a diau ganfod ohono fod ei gymydog Dafydd Gruffydd yn haeddiannol o well triniaeth na'i gyfleu yng nghell carchar Caernarvon.

Un arall o gymeriadau Mr. Henry Hughes yw Robert Jones Un Fraich. Pan wrth y gorchwyl o lifo pladuriau yr anafwyd braich Robert Jones gymaint fel y gorfu ei thorri ymaith. Cyflawnodd Robert Jones fwy o orchestwaith efo'r un fraich oedd yn weddill iddo nag ambell i wr efo'i ddwy. Wedi ei anafu yn y dull hwnnw, fe enillai Robert Jones ei fywiolaeth drwy gludo ymenyn ac wyau, yn bennaf, mewn cawell ar ei gefn i dref Caernarvon, a chludo yn ol yn gyfnewid am danynt, gryn amrywiaeth o nwyddau gwasanaethgar i wraig y tŷ, burum Kitty Morris ymhlith pethau eraill, canys nid oedd o fath hwnnw. Cedwid y burum mewn potel alcan dan gorcyn. Ond wrth ymweithio fe chwythid y corcyn ymaith weithiau, a theflid y burum dros y nwyddau eraill yn y cawell, a mawr fyddai cŵyn y merched. Eithr yr oedd Robert Jones yn wr o adnoddau. Er mwyn gochel galanas y burum, dodai garrai y cawell am ei dalcen a chariai y botel yn ei unig law. Mawr ydoedd y llafur hwn, ond yr oedd yn wr heini, a gorchfygodd yr anhawsterau. Gallai Robert Jones balu ei ardd efo'i un fraich, a phlannu cloron a gwahanol rywogaethau o lysiau, y camomeil, y wermod, yr hen wr a'r lleill, a gwnelai hynny nes bod ei ardd. yn ddrych o ryfeddod i'r gwr diog yr aeth Solomon heibio i'w faes a'r gwr anghall yr aeth efe heibio i'w winllan. Daeth Robert Jones yn dda'r byd arno, a phrynodd drol a merlyn gwineugoch. Enw'r merlyn oedd Capten, ar ol y Capten Lewis Owen nid hwyrach. Mae'n wir fod Capten fymryn yn gloff yn un o'i goesau blaen. Eithr ni fyddai fyth anhap gyda merlyn Robert Jones, canys cyffelyb yrrwr cyffelyb ferlyn. Go hwyr y cyrhaeddai y gyriedydd adref, canys hwyr y cychwynnai, ac nid ar frys yn fuan yr ym- lwybrai Capten gloff. Dyma'r unig anffawd gyda'r gyriedydd: dameg o'i yrfa ysbrydol. Yr oedd Robert Jones yn Fethodist selog. Unwaith cododd i fyny i'w drol un o ferched C———, gryn dipyn dan ddylanwad burum cryfach nag eiddo Kitty Morris. Wedi ei chodi i'w drol, hi a ddechreuodd dywallt am ben y Methodistiaid bob sarhad. Ni fedrai'r gyriedydd ddioddef mo hynny, ac yntau ei hun yn Fethodist mor amlwg. Ac er fod y ferch yn rhywbeth o foneddiges o ran dygiad i fyny, fe droes y gyriedydd yn chwyrn arni, "Dos i lawr o fy nhrol i, ddynes, neu dyma'r chwip yma yn disgyn ar dy gwman di," ac i lawr y gorfu hi ddyfod, gan ysgafnhau llwyth Capten. Adnabyddid Robert Jones Un Fraich gan holl hogiau tref Caernarvon, ond ychydig ohonynt freuddwydiodd fod ynddo ef gyrhaeddiadau mor amrywiol, a bod iddo ddylanwad mor helaeth. Canys yr oedd Robert Jones yn flaenor ym. Mrynaerau heb erioed ei alw i'r swydd, ond llithrodd i mewn iddi megys yn ddiarwybod. Meddai ar ddawn ymadrodd, ac yr oedd yn ysgrythyrwr da. Meddyliodd unwaith am fod yn bregethwr, ond nid oedd addfedrwydd yn yr eglwys i hynny. Gan nad oeddys yn foddlon iddo fyned i'r pulpud, gadawyd iddo fyned i'r sêt fawr yn ddirwgnach, ac actiai yno fel blaenor yr eglwys, heb yngan gair wrth y Cyfarfod Misol. Yr oedd yn ddirwestwr aiddgar, ac elai oddiamgylch i areithio ar y pwnc. Gelwid ef weithiau yn Robert Jones y Druid, am y preswyliai mewn tŷ o'r enw hwnnw, tŷ a fwriadwyd i fod yn dafarn, ond y gwrthodwyd trwydded iddo. Arferai Robert Jones a dweyd ddarfod iddo gymeryd y Druid uwchben y diafol. Gelwid am ei wasanaeth yma a thraw i gynnal seiadau. Gwr dyfeisgar, dawnus, defnyddiol yn ei ddydd oedd Robert Jones. Eithr fe dynnai ei dymer wyllt ef i drybini, ac oherwydd rhyw ffrwgwd neu gilydd y danfonwyd William Herbert, William Hughes Talysarn, a Henry Jonathan Caernarvon i'w ddisgyblu ar y dydd olaf o Ebrill, 1874, ebe'r cofnod. Rhoes ei gyfrif i mewn ar y 13 o Ebrill, 1881. Bu aml daiog mewn swydd a wnaeth lai o les na Robert Jones Un Fraich.

Yn 1873 y dechreuodd W. Jones bregethu. Gweini y bu am bymtheng mlynedd o'i oes. Bu'n pregethu am tua phedair blynedd. Torrwyd ef i lawr o ran ei iechyd ar ol bod am dair blynedd a hanner yn y Bala. Llafuriodd am wybodaeth cyn dechre ar ei gwrs fel pregethwr. Cymeriad addfwyn, a phregethwr difrif. Sisialodd ei deimlad allan ychydig cyn huno yn y pennill, "Mi welaf yn ei fywyd y ffordd i'r nefoedd fry." Bu farw Mehefin 12, 1879, yn 32 mlwydd oed.

Yn 1876 y dewiswyd John Thomas Aber, W. Davies Hendre bach ac Owen Roberts Bryncynanbach yn flaenoriaid. Owen Roberts a fu farw, Ionawr 6, 1886 yn 61 mlwydd oed.

Diddichell, da, heddychol—oedd, a gwr
Llawn hawddgarwch nefol:
'Roedd Owen yn wir dduwiol
Ydyw iaith y byd o'i ol.—Glan Llyfnwy.

William Davies a fu farw, Medi 14, 1898, wedi dangos mesur da o gysondeb yn ei swydd.

Yn 1877 y prynnwyd darn o dir cysylltiol â'r capel yn gladdfa. Y brydles am 99 mlynedd o 1877.

Yn 1879 rhoddwyd darn yn y pen gorllewinol i'r capel. Y draul tua £550. Yr holl ddyled yn 1879 yn £752, gan gynnwys £85 o'r hen ddyled.

Yn 1883 cafwyd wythnos o bregethu gan Richard Owen. Ychwanegwyd 20 ar y pryd at yr eglwys. Bu'n ymweliad adfywiol.

Yn 1880 y dewiswyd R. Jones Hendy a William Jones Parc yn flaenoriaid. Symudodd Robert Jones i'r Capel Uchaf. Ym Mai 1885 y dewiswyd Griffith Griffiths Cim a Henry Jones Caemorfa isaf ac R. R. Williams Brynhwylfa. Henry Jones a symudodd i'r Capel Uchaf. Yn nechre 1893 dewiswyd Thomas Parry Garnfawr, John Jones Bryncroes a Samuel Williams Tynewydd. Yn niwedd yr un flwyddyn bu Thomas Parry farw. Gwr medrus a gweithgar. Yn 1897 dewiswyd R. T. Morris Llwyn impia a John Jones Lleuar fawr. Yr oedd John Jones yn y swydd yn Cwmcoryn.

Adroddiad ymwelwyr 1885 â'r ysgol: "Yr ysgol yn cael ei chario ymlaen gyda llawer iawn o fywiogrwydd ac ynni. Ychydig o'r dosbarthiadau wedi ymgymeryd â'r wers-daflen. Hanesiaeth a daearyddiaeth ysgrythyrol dipyn ar ol. Esgeulusir holwyddori'r plant yn y dosbarthiadau. Awgrymwn fod tonau plant yn cael eu canu yn achlysurol. Nid oes ymwelydd yn perthyn i'r ysgol. Llawer o ddysgu allan ar yr ysgrythyr. Oddieithr ychydig, yr athrawon a'r ysgolorion yn gryno yn eu lleoedd erbyn amser dechre."

Yn 1887 y symudodd y Parch. W. J. Davies ar ei briodas i'r gymdogaeth. Ni alwyd mono yn weinidog yr eglwys yn ffurfiol, ond efe a'i gwasanaethodd megys y cyfryw hyd ei farwolaeth, Mehefin 8, 1891. Efe, yn y flwyddyn 1888, a sefydlodd Gyfarfod Llenyddol Llun y Pasc, yr hwn bellach sydd wedi dod yn sefydliad yn y cymdogaethau cylchynnol. Bernir i'r cyfarfod feithrin ysbryd ymchwilgar. Penderfynnwyd rhoi swm bychan yn flynyddol iddo yn gydnabyddiaeth am ei lafur. Perchid ef yn fawr, er na lwyddodd yn y cynulliad eglwysig i ddifodi rhyw deimlad o bellter rhyngddo a lliaws o'r aelodau, ar gyfrif fod ei feddwl ef a'r eiddo hwythau yn gynefin â thiriogaethau gwahanol. Yng Nghaernarvon y ganwyd ef, Ionawr 25, 1848. "Hogyn bychan yn ei frat," ebe ei fam, ydoedd efe yn dod gyda'i rieni i ardal Penygroes. Er yn fachgen darllengar, bu tymor o oferedd arno. Dechreuodd bregethu yn 1877. Nodwedd arno y sylwid arni pan ydoedd yn efrydydd yn y Bala oedd y dilead llwyr o olion tymor ei oferedd. Ni feddyliasai y craffaf nad gwr tawel ei fuchedd ydoedd efe o'i fachgendod. Yr oedd o feddylfryd iselaidd a diymhongar. Meddylgar a choeth ydoedd fel pregethwr. Cyrhaeddodd radd go uchel fel bardd. O'r beirdd Cymreig, Islwyn a hoffai efe fwyaf. Fel y dywed ef ei hun am fachlud haul, felly am dano yntau:

Mud-wenu y mae dy wyneb—hoff, fel
O ffin tragwyddoldeb:
Ni roi yn wir air i neb,—
Duw a etyl dy ateb.

Megis o ffin tragwyddoldeb, bellach, y daw'r adgof am ei wên yntau. (Gweler ysgrif y Parch. R. R. Morris arno yn y Geninen am 1892).

Yn 1891 y sefydlwyd cangen-ysgol yn y Swan mewn tŷ annedd. W. J. Davies a'i sefydlodd, a chymerai ef a'i briod ofal mawr am dani. Rhoddwyd yr ysgol i fyny yn 1899, er y credid ddarfod gwneud gwaith angenrheidiol trwyddi.

Yn 1892 y dechreuodd plant yr eglwys dalu eu casgl mis.

Yn 1896 adgyweiriwyd y capel ar draul o £160. Yng nghapel y Bedyddwyr yn Bontllyfni y buwyd yn addoli yn y cyfamser, sef am oddeutu chwe mis o amser. Yn y flwyddyn hon hefyd yr adeiladwyd yr ysgoldy, ar ochr ogleddol y capel, ar draul o £525. Yr oedd gwerth y tir,—227 llathen betryal,—yn £20.

Ionawr 16, 1898, penderfynnodd yr eglwys fod llwyr ymwrthodiad oddiwrth ddiodydd meddwol i fod yn amod aelodaeth eglwysig.

Y flwyddyn hon derbyniodd yr eglwys £120 yn rhodd oddiwrth R. Davies Borth.

Yn 1899 y rhoddwyd galwad i'r Parch. J. D. Evans, B.A. Dyma'r alwad ffurfiol gyntaf. Yr ystyriaeth a arweiniodd i hynny oedd fod y plant a'r bobl ieuainc yn cael eu hesgeuluso yn ormodol. Ni bu'r gweinidog yno yn hir cyn ei fod wedi dechre ymroi i sefydlu llyfrfa ynglyn â'r achos, a droes allan yn ddilynol yn symbyliad neilltuol i feddyliau lliaws.

Cydnabyddir mesur helaeth o rwymedigaeth i bregethwyr a gweinidogion a ddeuai yma o Glynnog i gynnal seiadau a gwneud rhyw gymaint o waith bugeiliol, ac yn arbennig Dewi Arfon, y Parch. R. Thomas (Llanerchymedd), y Parch. J. Williams (Caergybi), y Parch. W. M. Griffith, M.A. (Dyffryn); ac o blith y myfyrwyr, y Mri. R. Roberts (Tydweiliog), Robert Griffith (America), Joseph Roberts (D.D., America), D. O'Brien Owen.

Thomas Jones yr Aber a fu'n arweinydd canu am lawer blwyddyn. Sicr o'i nôd heb lyfr na sainfforch. Dilynnwyd ef gan Robert Griffith, tad Henry Griffith, y pregethwr. Bu ef, yn flaenorol, am flynyddau yn arweinydd y canu yn Eglwys Clynnog. Robert Jones y Ffridd a ymroes i ddysgu cyfundrefn y Sol-ffa i'r bobl ieuainc, a daeth llewyrch neilltuol ar y canu. Yn cydweithio âg ef yn yr un cyfeiriad yr oedd R. R. Williams, wedi ei benodi gydag yntau i'r gwaith yn 1875, ac efe a ddaeth yn olynydd iddo, gan i R. Jones gael ei analluogi gan ddamwain yn Awst, 1878. Yn 1888 daeth D. T. Jones i'w gynorthwyo yntau.

Bu amryw eraill heblaw a nodwyd yn bobl yn dwyn nodweddion neilltuol ynglyn â'r achos ym Mrynaerau. William Hughes y gof a'i wraig oeddynt nodedig am eu duwioldeb. Pan ar gymeryd rhan gyhoeddus mewn gweddi, lediai William Hughes y pennill ar y ffordd i'r sêt fawr yn rhyw ddull a'i gwnelai yn hawdd i rai anghynefin feddwl mai dweyd adnod y byddai. Diniwed, syml, unplyg, yn meddwl yn dda am bawb. Yr oedd newydd-deb parhaus yn ei weddi ferr a melus. Catrin William ferr, lanwaith, a fu'n cerdded i'r Bala i'r Sasiwn rai troion, a byddai yn cymeryd rhan yn y cyfarfodydd gweddi ar y daith. Am Marc Thomas y dywedir y byddai yn gweddio bob amser, yn y tŷ, yn yr ysgubor, neu lle bynnag y byddai. Gyda dosbarth o blant y ceid ef yn yr ysgol. Gwr distaw, yn gwarchod gartref, ac heb fod yn cysgu noswaith erioed oddicartref, ond yn ei gynefin ar fryniau tragwyddoldeb. William Samuel, yn wr o ddirnadaeth, a arferai weddio, "Crea galon lân ynof," nes cofid am hynny, ac am gael ei "dywallt o lestr i lestr rhag ceulo ar ei sorod." Un o'r rhai hynotaf ymhlith gwragedd Brynaerau am ei duwioldeb oedd Catrin Ellis. Dyma feddargraff Eben Fardd iddi:

Trwy y niwl Catrin Ellis—a ganfu
Y gwynfyd uchelbris:
I hon nid oedd un nôd is
Na Duw'n Dduw—dyna ddewis!

David Williams Eithinog oedd wr o ymarweddiad hardd, a fu farw yn ieuanc, y bu ganddo ran bwysig ynglyn â gwaith yr ysgol Sul yn gynnar ym Mrynaerau, ac ar ol hynny ym Mhenygroes. Dyma ddwy bennill allan o linellau coffadwriaethol iddo gan Eben Fardd, a gafwyd ar hen gerdyn:

Gwisgo 'rydoedd lifrai'r nefoedd,
Arddel Iesu Grist yn hy'.
Fel mewn cynulleidfa gyhoedd,
Felly gartref yn ei dŷ;
Mynych gyrchai i'r pregethau,-
Cofiai'r cwbl a gai ei ddweyd ;
Traethai eilwaith swm y pethau,
Gan eu selio trwy eu gwneud.

Trwy dduwioldeb ymarferol,
Ei ddylanwad ydoedd gref;
Yn ei ardal cadwai reol,--
Yn ei dŷ fe'i perchid ef;
Trwy ei dymer bwyllog, wastad,
Hoff gan bawb o'i deulu oedd ;
Trwy ei gyson ymarweddiad,
Parch ei ardal gai ar goedd.

Rhif yr eglwys yn 1854, 59. Y flwyddyn honno nid oedd dim dyled ar yr achos. Swm y derbyniadau yn flynyddol am y seti y pryd hwnnw, £11. Cyfartaledd pris eisteddle, 6ch. y chwarter. Ni nodir swm y casgl at y weinidogaeth yn yr Ystadegau am y flwyddyn honno. Cynwysai'r capel eisteddleoedd i 162, ac yn 1858 fe osodid yr oll ohonynt. Erbyn hynny yr oedd y derbyniadau am y seti wedi codi deg swllt. Nodir mai'r defnydd a wneid o arian y seti ydoedd paentio ac adgyweirio. Nifer yr eglwys y flwyddyn hon, 61. Fe nodir yn 1860 fod yr eisteddleoedd yn 183, ac y gosodid 180 o honynt. A ychwanegwyd at eu nifer, heblaw yn yr Ystadegau, wŷs? Rhaid nad oedd pawb ddim yn talu am ei sêt y pryd hwnnw, mwy nag yn awr, canys £11 10s. yw'r derbyniadau y flwyddyn hon eto. Rhif yr eglwys wedi codi i 144. Y cynnydd er 1858 yn 83, ac yn 22 yn ystod 1860. Y casgl at y weinidogaeth wedi codi o £14 yn 1858 i £36 3s. yn 1860. Rhif yr eglwys yn 1862, 125; yn 1866, 123; yn 1900, 215. Swm y ddyled yn 1900, £460.

CAPEL SEION.[4]

FE ddywedir ym Methodistiaeth Cymru ddarfod codi capel Seion ar ol diwygiad 1818. Yn 1826 yr adeiladwyd y capel. Eithr yr oedd yn yr ardal eglwys yn flaenorol, sef yn nhŷ Griffith Williams Hen Derfyn. Tebyg mai ffrwyth diwygiad 1818 ydoedd cychwyn achos yn yr Hen Derfyn, er ei bod yn debyg y cynelid ysgol yno o'r blaen. Un o ddau dŷ yn ymyl eu gilydd oedd eiddo Griffith Williams. Preswylydd y tŷ arall oedd Griffith Thomas. Yr oedd y tai yn sefyll o fewn ychydig latheni i'r ffrwd sy'n derfyn rhwng plwyfydd Clynnog a Llanaelhaiarn, ac ar ochr Llanaelhaiarn i'r ffrwd, yn ymyl y brif-ffordd bresennol. Nid oes dim o'r ddau dŷ hyn yn aros ers llawer blwyddyn, ac ni wnaed y brif-ffordd hyd ryw amser ar ol iddynt gael eu tynnu i lawr. Nid oedd ar y pryd eglwys arall yn nes i'r Hen Derfyn na Chwmcoryn ar un llaw a Chapel Uchaf ar y llaw arall.

Mab Ynys Hwía oedd Griffith Williams, a symudodd i'r Terfyn wrth briodi gweddw oedd yn byw yno. Yr oedd i'r weddw honno un ferch, sef Catherine Evans, a phriododd hi John Williams Aber- afon, ac y mae iddynt amryw ddisgynyddion yn amlwg gyda'r achos. Priododd Griffith Williams eilwaith, y tro hwn gyda Betty Jones, merch y Penrhyn, Llanengan, a chwaer i John Jones Penrhyn, y pregethwr.

Y blaenoriaid ar gychwyn yr achos oeddynt Evan Pyrs Llwyn yr Aethnen, Ellis Evans Mur mawr, Clynnog, sef gwr i ferch Evan Pyrs, Griffith Roberts Tanygraig a Griffith Williams. O'r rhai hyn, Evan Pyrs yn ei ddydd a gymerai arno unrhyw ofal angenrheidiol ynglyn â'r pregethwyr, ac efe fyddai yn eu cydnabod am eu llafur. Ni sonir llawer am yr elfen chwareus yn Evan Richardson Caernarvon, ond rhaid ei bod ynddo ef. "Beth a wnes i iti, Evan?" fe ofynnai unwaith i wr y tâl, newydd dderbyn ohono'r gydnabyddiaeth arferol, "pan yr wyti yn rhoi'r hen chwech i mi fel hyn bob tro?" Ellis Evans a arweiniai'r gân ymhlith y cwmni bychan yn yr Hen Derfyn. Lled ddilewyrch y dywedir fod y canu, fel yn y rhan fwyaf o leoedd y pryd hwnnw o ran hynny. Gwr o awdurdod oedd John Jones Edeyrn, ac fe ymyrrai â'r canu fel â phethau eraill. "Beth yw'r ddau ganu sydd gennych yma ?" fe ofynnai unwaith yn yr Hen Derfyn. Os y "cwrr acw o'r doif sy'n cadw'r amser priodol, canlynwch hwy," oedd y gorchymyn; "ond os y dyn yma," sef Ellis Evans, "sy'n cadw'r amser, dilynwch ef." Ar un Sul, pan oedd Richard Jones y Wern,—yr hwn fu am dymor ym Mrynaerau, ac a oedd yno ar y pryd efallai,—eisoes yn y pulpud yn amser yr Hen Derfyn, dyma John Jones Edeyrn heibio gyda'i gyfaill James Hughes. Ni phregethai John Jones heb i'w gyfaill James Hughes wneud, a llwyddodd i gael gan Richard Jones ddod. o'r pulpud heb dramgwydd, a phregethodd James Hughes o'i flaen ef, ond yr oedd y trefniad yn radd o brofedigaeth i James Hughes.

Nid yn yr Hen Derfyn y cedwid yr ysgol, ond yma neu acw ar ei thro, ym Mryn yr Eryr, Pant-y-ffynnon, Gyrn, Tyddyn hen a lleoedd eraill. Tŷ tô gwellt oedd y Gyrn â'r defni yn dod trwodd. Yn y flwyddyn 1826, ynte, yr adeiladwyd y capel cyntaf, yn y man y saif yr un presennol, a rhyw hanner milltir o ffordd o'r Hen Derfyn, ac o gymaint a hynny yn nes i bentref Clynnog. Saif y capel yn ymyl y brif—ffordd, rhwng Clynnog a Llanaelhaiarn, wrth droed y Gyrn goch, ac heb fod nepell oddiwrth y môr. Trafferth nid bychan a gafwyd i gael lle i adeiladu. Methwyd a chael lle gerllaw yr Hen Derfyn. Eithr fe gafwyd dau gynnyg am le, y naill yn Tyddyn Hywel, plwyf Llanaelhaiarn, a'r llall yn Ty'n-y-pant ym mhlwyf Clynnog. Y lle olaf ddewiswyd, er fod plaid dros y lle cyntaf, ac ni cheid lle canolog cyfleus. Golygid yr adeiladau, sef y capel a'r tŷ capel, gan Ellis Evans Mur mawr, Evan Pyrs, Griffith Roberts Tan-y-graig, William Roberts Pant-y-ffrae a Thomas Roberts Bryn Eryr. Yn fuan wedi cychwyn ar y gwaith fe symudodd Evan Pyrs i Tyddyn Callod, Llanengan. Ar brydles y cafwyd y tir am 101 mlynedd o 1826, am y tâl o chwe swllt yn y flwyddyn. Ymhen rhyw ysbaid ar ol codi'r capel nid oedd yngweddill o'r hen flaenoriaid namyn Griffith Roberts yn unig, ac yn y flwyddyn 1827 fe godwyd James Williams Penrhiwiau i gydweithredu âg ef. Gwr a ddaeth yn dra adnabyddus oedd James Williams ar gyfrif ei dduwioldeb personol, ei ffraethineb, ei hir wasanaeth i'r achos, a'i gyfeillgarwch âg Eben Fardd. Rhywbryd yn ddiweddarach y dewiswyd Thomas Roberts Bryn Eryr, ac yn ddiweddarach na hynny Hugh Williams Terfyn, gwr a ddaeth yma o Fynydd Parys, Môn, ac ar yr un pryd Ebenezer Thomas (Eben Fardd). Dywed Robert Hughes Uwchlaw'rffynnon mai dan bregeth iddo ef, ag y dechreuodd efe ei phregethu oddeutu 1840, yr argyhoedd— wyd Eben Fardd, ac mai ar ol hynny yr ymaelododd yn Seion. Yn ol hynny, mae'n debyg na wnawd ef yn flaenor hyd oddeutu 1841 o leiaf. (Gweler Hunangofiant R. Hughes, 1893, t. 51.) Gwr tawel, tangnefeddus, ffyddlon y profodd Hugh Williams ei hun.

Dyma lyfryn bychan o'n blaen yn cynnwys cyfrifon yr eglwys o Fehefin 1839 hyd Chwefror 1841, wedi ei ysgrifennu agos oll â phlwm. Dodwyd aml gyfrif i lawr yn ofalus yn hwn. Efallai fod y ffigyrau yma, fel ffigyrau cerrig milltir, yn dangos rhyw dref neu bentref heb fod nepell, pe gwyddem pa fodd i'w dehongli. Y peth cyntaf amlwg yma yw, Elin Evan 5s. 6c. Cadw'r tŷ capel mae'n ddiau yr oedd Elin Evan, canys y tro nesaf fe ddywedir, "I Elin Evan am y mis, 5s. 4c." A gwelir mai oddeutu hynny yw'r tâl cyson. Rhaid cofio mai un oedfa a geid ar y Sul, canys yr oedd Seion yn daith gyda'r Capel Uchaf a Brynaerau, a bu felly hyd agoriad capel y pentref oddeutu 1843—4. Y mae gerbron lyfr cyfrifon arall am y blynyddoedd 1856—61, ac y mae Elin Evan, erbyn hynny Ellin Evans, yn dod o hyd yn ei mis, a 6s. yw'r symiau diweddaf a nodir gyferbyn a'i henw. Gresyn na cheid gwybod pa fath wraig tŷ capel oedd Elin Evan! Cymerer ei hir wasanaeth fel ei thocyn aelodaeth yng nghymdeithas yr etholedigion. Cymal yn y cyfrif yw Moses Jones, oedfa a chyfranu, 2s. 6c.; ac un arall, Griffith Hughes, 1s. 6c.; ac un arall, Thomas Williams Rhyd-ddu, 1s. Canys y mae aml beth i'w ystyried, pellter ffordd, dawn a safle y pregethwr, a dichon rhyw bethau cyfrin eraill. I Gyfarfod Misol Waenfawr ac i un Talysarn, 1s. bob un, ac i un Bangor, 2s. I John Owen Gwindy, 1s. Nid hwyrach mai gwell gan bobl Seion dôn soniarus na mater trwm. Daw pobl o bell heibio ar eu taith, ond nid yn aml; nid yw Seion ar y ffordd teithio fwyaf cynefin. Eithr dyma Samuel Jones Llandrillo, Robert Jones Dinbych a Lewis Morris a'i gyfaill, er fod rhai misoedd rhyngddynt, a swllt i bob un. Y mae yma er hynny rai enwau eraill nes adref ar y nosweithiau rhwng y Suliau, ac weithiau ddau efo'u gilydd. Dyma ddwsin o bregethwyr am fis Mehefin, 1840, ac y mae yma wyth am Gorffennaf, a saith yn Nhachwedd. Mae Moses Jones a Griffith Hughes, gwyr o ddoniau, yma yn aml.

Pan gychwynwyd achos yn y Pentref aeth Ebenezer Thomas a James Williams yno, a cholledwyd Seion yn ddirfawr, er mai ar ol hynny y cyrhaeddasant hwy eu dylanwad mwyaf. Aeth Seion yn daith gyda'r Pentref a Chapel Uchaf ar agoriad y Pentref. Fe fyddai Eben Fardd yn dod yn achlysurol i Seion gyda'r pregethwr ar nos Sul ar ol cychwyn yr achos yn y Pentref. Un tro fe ddaeth gyda'r Capten Hughes, yr hen bregethwr o Nefyn, a dechreuodd yr oedfa iddo. Yn y seiat ar ol fe lediodd Eben Fardd bennill ar bwnc pregeth y Capten, mae'n debyg:

Lle bynnag byddai ar y llawr.
Lle bynnag byddai byw;
Na fydded imi funyd awr
Er dim anghofio Duw.

Eithr ni a ddychwelwn am ennyd at gyfrifon 1856—61. Yn blaenori manylion y blynyddoedd hyn, fe geir cyfanswm derbyniadau a thaliadau blynyddol y blynyddoedd 1852—9. Cyfanswm y derbyniadau am 1852, £11 2s. Olc., a'r taliadau, £11 2s. 1c. Erbyn 1859 y mae'r derbyniadau yn £13 14s. 1c. a'r taliadau'n £14 4s. 4c. Mae'r arian seti a rhent y tŷ yn gynwysedig yn y derbyniadau, ac yn 1859 fe nodir eu swm, sef £2 11s. 9c. Cadwer mewn cof mai nifer yr aelodau yn 1856 oedd 70 ac yn 1860, 65. Y taliad cyntaf yn 1856 sydd i Hugh Jones Llanerchymedd, sef 2s. am oedfa nos Sadwrn. Evan Williams Pentreuchaf y Sul dilynol. (un oedfa cofier bob amser), 4s. William Roberts Clynnog ddwywaith ym mis Ionawr, 3s. bob tro. Chwe gwaith y ceir enw William Roberts i lawr y flwyddyn hon. Wyth oedfa gafwyd yn ystod y flwyddyn ar nosweithiau'r wythnos, ac ymhlith y pregethwyr hynny y mae Joseph Thomas Carno. Y mae Thomas Williams Rhyd-ddu â 3s. gyferbyn a'i enw erbyn hyn. Erbyn 1856, John Owen Ty'n llwyn, 3s. 6c. Dyma daliadau cyfarfod pregethu Mercher a Iau, Awst 11 a 12, 1858: William Herbert, 10s.; Morris Hughes, 10s. ; William Hughes, 10s.; John Griffith, 10s. Yr oedd William Herbert yma drachefn am oedfa'r Sul y mis dilynol. Rhagfyr 26, 1858, yr oedd yma ryw "Mr." Lloyd Llundain, 2s., sef yr un Sul a John Owen Ty'nllwyn. Yn 1859 fe ymddengys enw "Rice Jones Felin;" ac yn 1860 dyma Thomas Hughes Machynlleth yn dod trwodd ar ei daith. Y mae Evan Owen Talsarn, a ddechreuodd bregethu yma, yn cael ei alw yn o fynych. Gwr y gwerthfawrogir ei ddawn yw David Davies Seismon. Erbyn 1860, Thomas Williams Rhyd-ddu, 4s. Gorffennaf 13, dyma David Davies ac Evan Phillips ar eu taith o sir Aberteifi, wedi cyfranogi yn helaeth o ysbryd diwygiad y flwyddyn o'r blaen. Y manyn diweddaf yn rhestr y derbyniadau, oddigerth y casgl mis, ydyw 8s. 6½c. ddileu dyled capel yn Wolverhampton."

Tybed fod rhif yr eglwys yn nhaflen yr ystadegau am 1856, sef 70, yn gamgymeriad? Efallai fod rhyw achos lleol am y cyfrif uchel. Yn '54 y nifer oedd 57; yn '58, 52. Fe welir gan hynny fod yma gynnydd amlwg ar ol y diwygiad, sef 13 yn ystod y ddwy flynedd '59-'60. A dywedir yn adroddiad yr eglwys y teimlwyd y diwygiad yn rymus yma. Erbyn 1862 y mae'r rhif yn 52 yn ei ol.

Griffith Roberts Tanygraig, un o'r blaenoriaid cyntaf, a Thomas Roberts Bryn Eryr, oedd y ddau a adawodd eu hol yn fwyaf ar yr achos yn y lle. Gwr o gymeriad cryf ac awch ar ei ymadroddion oedd Griffith Roberts. Dyn mawr, cryf, esgyrnog, a dylanwad mawr ganddo ar blant ac eraill. Pan yn gweini, fe godai bedwar ar y gloch y bore drwy'r flwyddyn ar ddiwrnod y seiat, er gorffen ei waith yn brydlon a myned yno. Dywedodd James Williams hanesyn am dano yn adeg rhyw anghydfod yng nghapel y pentref, i'r amcan o ddangos y ffordd i ladd ysbryd gelyniaeth. Yr oedd rhywbeth wedi dod cydrhwng Griffith Roberts a Griffith Williams Ystumllech, y ddau flaenor, a dau brif gyfeillion cyn hynny. Cynhaeaf gwan ydoedd un y flwyddyn honno, a rhedodd i Wyl Grog. Yr oedd ŷd Ystumllech heb ei gynhaeafu, a'r bobl allan yn gweithio. Dyma Griffith Roberts i mewn i'w dŷ ei hun yn gynnar y bore gan ymholi ynghylch y cryman. "Pa beth a fynniti âg ef?" gofynnai'r wraig. "Y mae arna'i eisieu mynd i Ystumllech i dorri pen gwr Ystumllech," ebe yntau. "Ymgroesa wr," ebe hithau. Cafwyd y cryman, ac aeth Griffith Roberts gydag ef i gae Ystumllech, a chafodd y bobl yn troi yr ŷd. Rhoes yntau ei help i'w droi. Wrthi dan hanner dydd. Yna aethpwyd i'w gynnull, a gorffennwyd erbyn pump y prynhawn. Erbyn hynny yr oedd golwg ddrwg ar y tywydd; a chymellai Griffith Roberts gario'r ŷd. Aethpwyd i'w gario, a buwyd wrthi dan bedwar y bore, a chafwyd ef i mewn yn glyd. Ni fu Griffith Roberts a Griffith Williams erioed yn fwy o ffrindiau nag ar ol hynny. Gwr a rhywbeth yn arw ar y wyneb oedd Griffith Roberts ond gyda dyfnder o dynerwch odditanodd. Yr oedd min ar ei ddywediadau yn ei ddangos yn ddyn anghyffredin. Ni feddai ar ddawn hwylus yn gyhoeddus, tra yr oedd ei gydflaenor, Thomas Roberts, yn rhwydd odiaeth a braidd yn faith. "Twm," ebe Griffith Roberts wrtho ar un tro, yngwydd y cynulliad, "dos yn fyrr i weddi: paid âg amgylchu môr a mynydd; fydd o ddim ond fel llond bŷs maneg gen' ti wedyn." Yn ei sel dros ddisgyblaeth, nid mynych y byddai Ellis William heb ryw hai am ferched wedi bod yn ffraeo neu'r cyffelyb. Ebe Griffith Roberts wrtho, "Wel, wel, Ellis William, mae dy ffroen di fel ffroen bytheiad, yn sawru pob ffos sur." Yr oedd William Griffiths Pwllheli wedi troi oddiwrth y Bedyddwyr at y Methodistiaid. Yn lled fuan yn ol hynny yr oedd yn Seion, a cheid ei fod wedi cipio'r arfer o seinio di fel du, fel y brithid y weddi a'r bregeth gan y du hwn. Ar ddiwedd yr oedfa, ebe Griffith Roberts wrtho, gan daro ei law ar ei ysgwydd, "Wel, os wyti yn mynd i duo hi efo ni, rhaid iti droi dy gôt yn dy ol !" Yn Seion y dechreuodd Evan Owen, ar ol hynny o Dalsarn, bregethu, a thrafferth fawr a gawsai i fyned drwy'r Cyfarfod Misol. Cododd Griffith Roberts o'r diwedd i fyny yn ei blaid, "Waeth i chwi un mymryn beidio, mae'r Arglwydd yn anfon Evan;" ac nid oedd dim dadl i'w chynnyg yn erbyn hynny, gan mai Griffith Roberts oedd yn dweyd. Nid oedd William Roberts Clynnog, y pregethwr, yn ddirwestwr, a rhywbryd yn ei hanes fe yfodd ormod o ddiod fain gyda chinio'r rhent yn y Glyn. Aeth William Williams yr Henbant gyda Griffith Roberts i'w amddiffyn ef yn y Cyfarfod Misol, eithaf amddiffynwyr ill dau. Dadl William Williams oedd, os oeddynt am roi codwm iddo, am roi codwm ymlaen ac nid yn ol. Dadl Griffith Roberts, nad oedd William Roberts ddim wedi torri ei fogail, dadl am dynerwch wrth drin y maban! Rhaid fod yn Griffith Roberts gyfuniad o awdurdod dull a thynerwch teimlad, o gryfder carictor ac awch meddwl. Bu ef farw Mai 15, 1851, yn 79 mlwydd oed.

Gruffydd yn ei ddydd, fu'n dda—was i Dduw
Nes ei ddod hyd yma;
Bellach o'r pwys gorffwysa,
Nef wen o hedd a fwynha.

Tad William Roberts Siop y Pentref a thaid Mr. Griffith Roberts oedd Thomas Roberts Bryn-yr-Eryr, a gwelir ei nodweddion amlycaf yn ei deulu ar ei ol. Yr oedd ef a Griffith Roberts, fel y gwelwyd eisoes mewn rhan, yn gyferbyniadau amlwg; ond yr oeddynt yn cydweithio yn effeithiol gyda'r achos. Ffyddlon, caredig a haelionus dros ben a fu Thomas Roberts a'i wraig. A naws gyffelyb oedd yn ei chwaer ef o'r Cilcoed. Byddai'n gwrando ar ei sefyll yn gyffredin, gyda'i lygaid ynghau. Fe ddywedir y byddai yn cysgu rhyw gymaint; ond nid oedd neb allsai adrodd y bregeth cystal. Parod a rhwydd a swynol ei ddawn, a ffyddlon iawn i'r achos. Ei brif nodwedd ydoedd ei garedigrwydd i bregethwyr a'i haelioni tuag at yr achos. Fe roddai fenthyg ceffyl am chwech wythnos i bregethwr yn rhad, i fyned am daith i'r Deheudir. Bu cymaint a phedwar, ac hyd yn oed chwech, o geffylau pregethwyr ar eu taith yn ei stabl gyda'u gilydd. Ar ymyl y ffordd y gorweddai y domen bastai, a gwnelai yntau esgus i fyned i'w throi ar y Sadwrn, er cael cyfle i wahodd pregethwyr a elai heibio i'w dŷ. Elai a swp o wair i stabl y capel bob nos Sadwrn. Gofynnodd unwaith i'r ferch fyned ag ef, tra byddai efe ymaith yn ffair Caernarvon. Pan ddychwelodd efe o'r dref, fe gafodd ddarfod i'r ferch esgeuluso'r gorchwyl hwnnw; ac er ei fod wedi cerdded yr holl ffordd o'r dref, sef oddeutu deng milltir, aeth yn y man ei hunan gyda'r swp gwair i'r stabl. Arferai roi hanner coron ei hunan i ddynion ieuainc. o ysgol Clynnog a ddelai yma i bregethu. Rhoes ei hunan lawer gwaith arian dros ben i bregethwr, pan welai y gydnabyddiaeth yn rhy fychan. Yr ydoedd ef a John Jones Talsarn yn gryn gyfeillion, a lletyodd John Jones droion gydag ef pan ar ei daith i gyrrau Lleyn ac Eifionydd, gan roi oedfa ar ei ffordd yn Seion. Fe sonir am un oedfa neilltuol iawn a gafodd efe yma ar nos Sadwrn pan ar ei daith i Lithfaen at fore Sul, oddiar y geiriau, "Ac na fydd anghredadyn ond credadyn," pryd y pregethodd am ddwy awr, gan "fonllio gwaeddi" at y diwedd. Bu Thomas Roberts farw Tachwedd 9, 1868, yn 74 mlwydd oed. Catherine Roberts, ei briod, a fu farw Gorffennaf 30, 1888, yn 87 mlwydd oed. Ei geiriau olaf:

'Rwy'n mynd i'r glyn dan synfyfyrio;
Pwy ddaw yno gyda mi ?
Iesu'r Archoffeiriad ffyddlon
Ddaw i'm danfon dros y lli.

Gweini gyda Thomas Roberts Bryn-yr-Eryr yr oedd Evan Owen pan ddechreuodd bregethu, a merch Bryn-yr-Eryr a briododd efe. Dyma ddyfyniad o ddyddlyfr Eben Fardd a gyhoeddwyd yn Wales: "Mehefin 10, 1852, yng nghapel Seion, pryd y daeth William Roberts, Capten Owen a Mr. William Owen i ymholi ynghylch achos Evan Owen yn ei berthynas â'r eglwys. Mwyafrif pendant o'i blaid i ddechre pregethu. W. Roberts mewn ymgynghoriad â'r blaenoriaid eraill, yn mynegi fod E. Owen yn awr yn cael ei ddodi dan Reol iv. o'r ffurf apwyntiedig i rai yn dechre pregethu." Yr oedd gradd o wrthwynebiad iddo ar y pryd, fel y bu yn fwy pendant ar ol hyn, wedi symud ohono i Lanllyfni. A hynny er yr addefid ef yn wr duwiol yn gyffredinol. Ei destyn cyntaf, "Cesglwch fy saint ynghyd ataf fi, y rhai a wnaethant gyfamod â mi drwy aberth." Ar brynhawn Sadwrn elai at y cerryg duon ar lan y môr i ymarfer â phregethu. (Gweler Lanllyfni a Thalysarn).

Yn 1868 y galwyd Evan Evans a'i frawd Owen Evans yn flaenoriaid. Evan Evans yn gwir ofalu am yr achos. Bu'n arwain y canu am flynyddoedd. Yn y Mur mawr, cartref Owen Evans, y mae'r pregethwyr yn lletya er amser ei rieni.

Yn 1877 y dewiswyd Griffith Williams Ystumllech a Robert. Roberts Tanygraig. Symudodd Robert Roberts i Gosen. Galwyd Isaac Williams yn flaenor yn 1899.

Yma y dechreuodd J. Owen Williams bregethu yn 1889. Derbyniodd alwad i Rosgadfan. (Gweler Rhosgadfan). Yn 1898 y dechreuodd David Perry Jones bregethu.

Adeiladwyd y capel presennol a'r tŷ yn 1875. Yr holl draul yn tynnu at £700. Hyn yn cynnwys gwerth £60 o waith cludo, a wnawd yn rhad gan yr ardalwyr. Talwyd yr holl ddyled o fewn saith mlynedd o agoriad y capel.

Dyma adroddiad yr ymwelwyr â'r ysgol yn 1885: "Aethpwyd drwy y rhan ddechreuol yn yr amser priodol; ond dylid annog yn garedig ar i bawb ymdrechu dod i'r ysgol at amser dechre. Y plant bychain yn cael eu haddysgu yn ol yr hen drefn. Byddai yn welliant mawr dwyn y gwers-lenni i arfer yn ddioedi. Y mae yn yr ysgol amryw o athrawesau o'r dosbarth cyntaf gyda'r plant a'r dosbarth canol. Nid ydyw'r ysgol wedi dwyn y wers-daflen i arfer. Awgrymwn fod y canu ar ddiwedd y wers ddarllen yn lle ar ganol yr ysgol. Adroddir y deg gorchymyn bob Sul. Gwneir gwaith mawr, yn enwedig gyda'r ieuenctid. W. Griffith Penygroes, E. Williams Llanllyfni, John Roberts Llanllyfni."

Fe gafwyd cymorth i gadw seiat, a gwnawd gwaith bugeiliol ychwanegol gan weinidogion o Glynnog, megys y Parchn. J. Williams, W. M. Griffiths, M.A., ac yn bresenol, Howell Roberts.

Rhif yr eglwys yn 1900, 85.

EBENEZER, CLYNNOG.[5]

MAE pentref Clynnog yn hynod, ymhlith ystyriaethau eraill, ar gyfrif mai yma y cynhaliwyd cymdeithasfa gyntaf y sir. Tebyg mai pregethu oedd y prif amcan. Yr oedd hynny cyn 1769, gan y cynhaliwyd cyfarfod o'r un nodwedd yn Llanllyfni o fewn y flwyddyn honno. Eithr er cael y Sasiwn gyntaf yma, yn araf iawn y gwreiddiodd Methodistiaeth yn y pentref. Un rheswm am hynny ydoedd fod eglwys Clynnog Fawr yn y pentref, a bod y person, Richard Nanney, oddeutu'r amser hwn yn tynnu sylw y wlad. Hefyd yr oedd capel eisoes wedi ei godi filltir o ffordd oddiyma, ac yn peri fod ymdrechion pellach yn y cyfeiriad hwnnw yn ddialw am danynt am hir o amser; a thebyg fod adeilad cyfleus yn gryn help i'r achos wreiddio mewn ardal.

Mae gwreiddiau cyntaf yr achos eisoes wedi eu holrhain, hyd y gellid, ynglyn â hanes y Capel Uchaf. Yn ol Canmlwyddiant yr Ysgol Sabothol yng Nghlynnog, etc., yn 1808 y sefydlwyd yr ysgol yn y pentref. Yn ol Richard Jones, fe'i sefydlwyd nid yn ystabl y Tŷ Cerryg, ond yn yr Allt, tŷ Evan Jones. Symudwyd hi, yn ddilynol i hynny, i'r ystabl. Dichon, er hynny, iddi fod yn yr ystabl cyn hynny, neu yn rhywle arall. Mewn cofnodiad gan Eben Fardd yn llyfr taliadau yr aelodau, bu'r ysgol yn cael ei chynnal o dŷ i dŷ, weithiau yn un o dai yr Allt, weithiau yn y Tŷ Newydd, bryd arall yn y Tŷ Cerryg. Y rhai fu'n blaenori gyda chynnal yr ysgol oedd, William Dafydd Hafod-y-wern, Griffith Humphreys Garnedd, Owen Evans Ty'n-y-coed, Robert Roberts Niwbro' Arms, Ellis Thomas Tŷ Cerryg. Bu Griffith Humphreys ynglyn â'r ysgol yn gynnar yn ei hanes yn y Capel Uchaf a Brynaerau. Am Ellis Thomas, fe'i cyfrifid ef yn wr dysgedig, ac yr oedd ganddo ddosbarth Seisnig o dan ei ofal. Fe roddwyd James Williams Penrhiwiau, pan yn llencyn un arddeg oed, i ofalu am ddosbarth o hen bobl dros ddeg a thriugain oed. Yr oedd hynny yn y flwyddyn 1810. Cwynai yr hen bobl yn nosbarth James Williams am stŵr y plant; ac elai'r athraw ieuanc gyda hwy ar ol y gwasanaeth dechreuol i'r tŷ newydd (lle a dynnwyd i lawr ar ol hynny), a dychwelid yn ol at y gwasanaeth gorffennol. Gyda'r llyfr corn yn ei law yr arweiniai'r athraw ei hen ddisgyblion ymlaen ar hyd risiau gwybodaeth. Bachgen cyflym oedd James, ac ni fu'n hir cyn rhagori ar bawb yn yr ysgol mewn deall a gwybodaeth. Griffith Humphreys oedd y prif holydd ar ddiwedd yr ysgol, a William Dafydd oedd yr arolygwr cyntaf.

Ymhen amser, gan deimlo'r ystabl yn lle anghyfleus, fe benderfynnwyd gwneud cais at y person am gael cadw'r ysgol yn Eglwys y Bedd, sef y gyfran hynafol o'r Eglwys. Disgrifir y person hwnnw fel hen lanc rhadlon a braf a rhyddfrydig ei ysbryd, ac ni omeddodd y cais. Yr oeddys nid yn unig yn fwy cysurus yn Eglwys y Bedd, ond hefyd yn fwy llwyddiannus. Oddeutu'r flwyddyn 1825 yr aethpwyd yno.

Bu dau enwad arall yn gwneud cais i ymsefydlu yn y pentref. Y Wesleyaid yn gyntaf, yn ol Richard Jones. Yn ol Eben Fardd yr oedd yma bregethu achlysurol gan y naill blaid grefyddol a'r llall ers "o ddeugain i hanner can' mlynedd " cyn 1844. Tebyg ei fod ef yn cynnwys y Methodistiaid yn y pleidiau hyn. Cynelid y cyfarfodydd yn yr hen ystabl yn achlysurol, ac yn yr awyr agored, mae'n ddiau. Yr oedd y pregethu yn wresog. Cof gan Richard Jones am un gwr yn pregethu yn yr ystabl, gan sefyll ar ystôl, a rhag cwympo ohono safai hen wr penwyn o'r enw Thomas Ellis. ar ei draed o'i flaen, a dodai'r pregethwr bwysau ei law ar ei ben. Dywed Richard Jones ddarfod i'r Arglwydd fendithio tŷ Thomas Ellis, fel y bendithiodd dŷ Obededom gynt, a bod ei hiliogaeth ef yn flaenllaw gyda'r enwad hyd y dydd hwn. Gwnawd ymdrech teg i ymsefydlu yma, a bu gradd o lwyddiant am dymor ar y gwaith, ond troes allan yn fethiant rhagllaw. Yr Anibynwyr a ddaethant yn nesaf, ebe Richard Jones. Cynelid y gwasanaeth ganddynt hwythau yn yr ystabl, gyda gradd o lwyddiant ar y cychwyn, ond methu ganddynt barhau.

Drwy ddyfalwch gyda'r ysgol y dodwyd sylfaen llwyddiant i lawr. A bu'r ysgol Sul yn foddion i awchlymu'r awydd am wybodaeth gyffredin. Cynelid ysgol ddyddiol dan nawdd yr eglwys, ond un bell o fod yn effeithiol. Bu rhyddfrydigrwydd y person, pa ddelw bynnag, yn foddion i ddwyn Hugh Owen o Sir Fon yma fel ysgolfeistr, ac yntau yn ymneilltuwr. Gwr ymroddgar a chrefyddol y profodd ef ei hunan. Ymunodd â'r ysgol Sul ac ymroes i weithgarwch gyda hi. Eithr symud yn ol i Môn a ddarfu ef cyn bo hir.

Ar ei ol ef y daeth Ebenezer Thomas (Eben Fardd) yn ysgolfeistr i'r lle, sef yn y flwyddyn 1827, yn wr ieuanc pump ar-hugain oed. Cafodd yr ysgol Sul noddwr ynddo yntau drachefn, a daeth yn arolygwr iddi. Llenwid y swydd honno o'i flaen ef gan Robert Roberts Niwbro Arms. Teimlid yn galonog dan arweiniad yr ysgolfeistr newydd, ac elai'r gwaith ymlaen yn siriol. Ond dyma berson newydd i'r llan a gwr mwy cyfrwys na'i ragflaenor. Gorfodai pawb hyd a allai i ddod i wasanaeth y llan. Aeth ef a'r ysgol- feistr hefyd yn gryn gyfeillion. Elai'r ysgolfeistr bellach i wasanaeth yr eglwys am ran o'r diwrnod, a chredid mai'r diwedd fyddai iddo fyned yn offeiriad ei hunan. Methu gan y person, pa ddelw bynnag, ei ennill yn eglwyswr; a pheidiodd eu cyfeillach. Arferid cynnal yr ysgol Sul, tra yn Eglwys y Bedd, am hanner awr wedi naw. Newidiodd y person amser y gwasanaeth er mwyn cyfyngu ar amser yr ysgol. Teimlid yn ddwys oherwydd hynny, yn neilltuol gan Gruffydd Wmphra a James Williams. Daethpwyd i'r penderfyniad i gael ysgoldy. Yn y cyfwng hwn danfonwyd y Parch. William Roberts a Chapten Owen Lleuar Bach i ymgynghori â'r brodyr. "Capel fydd yma cyn bo hir," ebe'r Capten, "ac ni waeth iddyn nhw gael capel ar unwaith." Ac felly fu.

Cynelid yr ysgol ddyddiol yn Eglwys y Bedd hyd 1842; ond gan na cheid ond gwg y person, fe ddechreuodd Eben Fardd a'i chynnal bellach y rhan amlaf yn ei dŷ ei hun. Yn 1845 fe agorwyd yr ysgol yn y capel.

Fel y gwelwyd yn hanes Capel Seion, rywbryd yn ystod 1840—1 y daeth Eben Fardd yn aelod eglwysig, ac yna, ar unwaith braidd, yn flaenor. Mewn llyfr a gedwid ganddo fel llyfr cyfrifon yr ysgol, a llyfr seti'r capel, y mae efe wedi cofnodi yn llawn iawn holl helynt agoriad y capel. Cyfleir y cofnodion hynny i lawr yma am eu bod, yn un peth, yn taflu rhyw oleu ar nodweddiad un o'r gwyr mwyaf ei athrylith a phuraf ei gymeriad a lanwodd swydd yng nghyfundeb y Methodistiaid; a pheth arall, mae'r cyfryw gofnodion yn y cyfnod hwn yn dra phrin, ac nid i'w cael mor llawn a hyn, mae'n debyg, ynglyn â hanes unrhyw eglwys yn Arfon yn flaenorol i hyn, nac ychwaith am hir amser ar ol hyn; a cheir hwy hefyd yn taflu goleu ar rai anhawsterau ynglyn âg agor capeli yn y cyfnod hwnnw. Dyma fel y rhed y cofnodion:

"Capel Newydd Pentref Clynnog.

Hydref 9, 1843. Mewn cyfeillach damweiniol a gynhaliwyd ym mhentref Clynnog, lle'r oedd y personau a ganlyn yn wyddfodol, James Williams Penrhiwiau, Robert Hughes Uwchlaw'r-ffynnon, John Jones Llanberis, Ebenezer Thomas Clynnog, penderfynnwyd fod eisieu tŷ addas a chlyd i gadw'r ysgol Sabothol yn y Pentref, oherwydd fod y lle y cedwir hi yn bresennol ynddo yn adfeilio yn fawr, ac yn beryglus, o achos ei oerni a'i damp, i ymgynnull ynddo yn ystod y rhan oer o'r flwyddyn. Penderfynnwyd hefyd fod eisieu capel yn y Pentref, yn gymaint a bod yma bregethu gan amrywiol enwau ers llawer o flynyddoedd, a chyfarfodydd crefyddol eraill yn cael eu cynnal yn wythnosol, ac er yr anfantais oddiwrth anghyfleustra y lle cyfarfod, sef tai annedd bychain, eto fod y cyfarfodydd uchod yn wastad yn dwyn ynghyd gynulleidfaoedd lliosog nodedig, ac ystyried poblogaeth y lle. Penderfynnwyd gan hynny wneud cais yn ddioed am dir i adeiladu arno Gapel, ac ar fod i ewyllys da yr ardalwyr ac eraill gael ei ofyn tuag at ddwyn y gwaith ymlaen, a thanysgrifiwyd y symiau isod at drysorfa adeiladu capel newydd y Methodistiaid Calfinaidd ym mhentref Clynnog, yr hwn a fwriedir hefyd i fod yn lle cysurus i gadw ysgol Sabothol a dyddiol. Tanysgrifiadau: Yn flaenorol i'r gyfeillach. uchod y cafwyd y rhodd hon: [Yma y dilyn llythrennau cyntaf enw neilltuol, a swm y rhodd; a llythrennau cyntaf enwau eraill a'r rhodd]. Wedi y gyfeillach uchod, cafwyd yr addewid gyferbyniol: [Enw a rhodd, yn cael ei ddilyn gan amryw o'r cyfryw]. Penderfynnwyd galw cyfarfod o athrawon ysgol Sabothol Pentref Clynnog, ynghyd ag ewyllyswyr da i'r gwaith, i ystyried y priodoldeb o barhau yn yr amcan hwn, a'r ffordd oreu i fyned ymlaen i gyrraedd y diben yn brysur, yn effeithiol, a didramgwydd. Dros y cyfeillion, James Williams [yn llawysgrifen Ebenezer Thomas].

Hydref 16, 1843. Mewn cyfarfod o athrawon ysgol Sabothol Pentref Clynnog, a gynhaliwyd yn nhŷ Griffith Owen yn y pentref dywededig, cymeradwywyd yn unllais y Penderfyniadau uchod a gytunwyd arnynt Hydref 9, ac enwyd y personau canlynol yn Gommittee i fod ganddynt allu i chwanegu at eu nifer, i'r diben o ddwyn ymlaen bob goruchwylion angenrheidiol mewn cysylltiad âg adeiladu y capel newydd,—unrhyw bump ohonynt a gallu i weithredu. [Yma y dilyn ddeuddeg o enwau]. Penderfynnwyd i James Williams wneud ymholiad dioed dros y Committee am le i adeiladu ac am fod iddo ymgynghori gyda'r Parch. William Roberts ac eraill mewn perthynas i hyn. William Jones, Cadeirydd y Cyfarfod. [Yr enw yn llawysgrifen y person ei hunan bellach].

Hydref 18. Cyfarfu nifer o aelodau y Committee yn nhŷ Ebenezer Thomas a gwahoddasant y Parch. William Roberts Hendre bach a'r Capten Lewis Owen Lleuar bach i'w hystafell, pryd y penderfynnwyd tynnu erfyniad at Lord Newborough i gael ei seinio gan nifer helaeth o drigolion y Pentref a'r gymdogaeth, yn cynnwys cais taer am dir mewn lease i adeiladu capel, a rhesymau priodol a gwir dros y cyfryw gais. Addawodd Messrs. Roberts ac Owen ei gyflwyno i Lord Newborough a chefnogi yr erfyniadau a gwneud pob cynorthwy arall yn eu gallu fel swyddwyr ac ewyllyswyr da. Anfonwyd Mr. John Jones Ty'n-y-coed gyda hwynt yn gennad dros y Committee. Ebenezer Thomas. Copi o'r Petition. To the Right Honourable Lord Newborough. The humble Petition of the Inhabitants of Clynnog and the Vicinity, respectfully sheweth, That your Lordship's humble Petitioners feel a great disadvantage from the distance of their Religious Meeting Houses from the village, especially as the road up hill to the nearest chapel renders it impracticable for the old and infirm as well as children of tender age to attempt it.—That your lordship's petitioners being welldisposed towards the Church and wishing to attend the successive services in both church and chapel are precluded from this again by the distance complained of.—That a Sunday School consisting of about 80 persons is now kept in St. Beuno's Chapel, but that ancient building being out of repairs and greatly dilapidated, renders it dangerous to meet there during the winter months owing to the severe cold and damp of the place.—That the population of this village and the vicinity for half a mile around is about three hundred, as appears by the Schedule annexed to this Petition.— That your Lordship's Petitioners therefore most humbly venture to solicit your Lordship's favour to grant them in or very near to the Village, a small quantity of land in lease, to build thereon a meeting—house or chapel, and your Lordship's Petitioners would solemnly engage never to hold their meetings therein during the times of Church Service, it being a particular object with them to avail themselves of both. And your Lordship's Petitioners as in duty bound shall ever pray. Seiniwyd gan ———— [Yn dilyn enwau 35 o wyr yr ardal].

Hyrdef 30. Mewn Committee a gyfarfu yn nhŷ Ebenezer Thomas ym mhentref Clynnog, hysbyswyd gan Mr. John Jones Ty'nycoed fod Lord Newborough wedi addaw tir i adeiladu capel fel y deisyfid yn yr erfyniad blaenorol. Mewn canlyniad i hyn, Penderfynnwyd ar i Messrs. John Jones a James Williams fod yn oruchwylwyr y Committee, a gadawyd at eu deall a'u synwyr hwy i farnu pa faint o dir a fyddai angenrheidiol, a bod iddynt alw cyfarfod o'r Committee bob tro y gwelant angen am eu cynorthwy. Penderfynnwyd am faint y capel, iddo fod yn 12 llath o hyd wrth 9 llath o led oddifewn. Apwyntiwyd Ebenezer Thomas yn ysgrifennydd. Apwyntiwyd Mr. Robert Griffith Draper yn drysorydd. Enwyd amryw o'r Committee ac eraill i fyned o amgylch y Gymdogaeth i ofyn cydroddion at y draul adeiladu. Chwanegwyd William Jones Tŷ Coch at y Committee. Humphrey Roberts Cadeirydd.

Tachwedd 27. Amryw o aelodau y Committee wedi bod gyda Mr. R. Roberts, Goruchwyliwr Lord Newborough, yn cael dangos iddynt y darn o dir y caniatae ei Arglwyddiaeth i ni godi capel arno,—a gyfarfuant yn nhŷ Ebenezer Thomas, lle y penderfynnwyd gwneud ymchwiliad am gerryg at adeiladu yn ddioed, ac ymrwymodd William Jones Cefn-y-gwreichion, James Williams, Humphrey Roberts a Richard Jones fyned o amgylch bore yfory, sef 28ain, i'r diben hwnnw. Rhoddwyd ar John Thomas Camfa'r buarth wneud ymofyniad gyda Mr. Davies Plas ynghylch car i gario cerryg, a gadawyd at ei synwyr ef i'w brynu neu ei gael ar lôg. Dymunwyd hefyd ar John Thomas fyned gyda Mr. Davies ac eraill i nodi allan yr hyn fyddo angenrheidiol o gongl y cae at ben yr hen ffordd. Penderfynnwyd fod yn angenrheidiol gofyn ewyllys da y cymdogion i weithio heb oedi, ac i drefnu amser a gwaith pawb yn y fath fodd ag y byddai i'r gwaith fyned ymlaen yn fwyaf hwylus ac effeithiol. Ymrwymodd James Williams ofyn i bawb o'r Pentref i afon y Terfyn, ac i bawb a welai o gwrr arall y gymdogaeth. Evan Thomas Cadeirydd.

Rhagfyr 5, 1843. Rhoddwyd plan o'r capel gerbron y Committee, o ddyfais James Williams, a chymeradwywyd ef yn un fryd, yn unig fod hyd y capel i fod yn 11 llath yn lle 12 a'i led yn 10 llath yn lle 9, ac i'r plan gael ei ail dynnu a'i gymhwyso at y maintioli hwn. Cyflwynwyd ac ymddiriedwyd i James Williams holl ofal y plan i'w ffurfio ym mhob rhan fel y gwelai efe yn oreu. Pen- derfynnwyd gwneud ymdrech yn ddioed i godi cerryg. E. Thomas Sec.

Rhagfyr 18. Mewn cyfarfod o'r Committee rhoddwyd Humphrey Roberts a'i fab ar waith i osod polion o amgylch lle y capel, a bod i Evan Jones y Court a John Roberts Garnedd, neu ryw ddau eraill lenwi pridd yr hen glawdd pan fyddai Mr. Davies yn barod i'w gario ymaith. Penderfynnwyd prynu coed gan Mr. William Jones Pwllheli, yr hwn a addawai wrth Thomas Roberts Bryneryr eu cario i Glynnog, os rhoddid y pris o 14c. y droedfedd am danynt. Penderfynnwyd cymeryd rhyw gymaint o galch gan Mr. Thomas Edwards, yr hwn a addawai gario amryw droleidiau i Glynnog yn ddidraul. Ymrwymai Richard Jones Clynnog fyned o amgylch i gymeryd i lawr enwau rhydd-ewyllyswyr yn y gymdogaeth i weithio a'u trefnu i ddyfod i'r gwaith ar gylch. Gorchmynnwyd derbyn ugain punt o gynygiad Mr. Robert Hughes Uwchlaw'r- ffynnon ar y capel dros glwb y Rechabiaid, a rhoddi note of hand am danynt o dan ddwylo Thomas Roberts Bryneryr, John Jones Ty'nycoed ac Ebenezer Thomas Clynnog, y rhai a ymrwyment i fod yn atebol dros y capel. A chyfarwyddwyd rhoddi yn ol £4 y cant o log, ond iddynt hwy, sef Robert Hughes a'r Clwb ymfoddloni i gymeryd £3 10s., os byddid yn cael rhyw arian felly. Ymddiriedwyd i John Jones Ty'nycoed osod y gwaith cerryg ar y muriau i Robert Williams yr Allt am 9c. y llath, a bod iddo gymeryd dau ddyn medrus gydag ef i weithio. Os na chymerai y gwaith am hynny, iddo gael ei osod i rywun arall. Soniwyd am i Richard Jones Bodgefail gael y gwaith toi a phlastro os byddai yn dewis, ac yn cytuno âg amodau y gosodwr a'r Committee. Ymddiriedwyd hefyd i John Jones Ty'nycoed osod y gwaith o dyllu a saethu cerryg i John Williams Mur Sant. Gorchmynnwyd prynu hoelion i osod y polion yn y siop newydd,—tair modfedd o hyd. Penderfynnwyd gofyn i Capten Owen Lleuar bach ddyfod i gyfarfod nesaf y Committee. E. Thomas Ysgrifennydd.

Mewn Committee a gynhaliwyd nos Wener y 5ed o Ionawr, 1844, enwyd y personau canlynol i fod yn trustees y capel newydd: Parchn. W. Roberts Hendre bach, John Jones Talsarn, Capten Lewis Owen Lleuar bach, Mri. James Williams Penrhiwiau, Thomas Roberts Bryneryr, Richard Jones Pentref, Ebenezer Thomas eto. Cymeradwywyd y plan gwreiddiol o eiddo James Williams, yn unig na byddai i'r stabl fod yn ffrynt y capel fel y bwriedid unwaith.

Yn y Capel Uchaf ychydig ddyddiau ar ol y cyfarfod uchod, Parch, John Phillips a ddadleuai dros sefydlu ysgolion Brytanaidd yn y plwyf hwn fel yn holl Ogledd Cymru; ac mewn cyfrinach gyda rhai o'r ymddiriedolwyr uchod, darluniai ddull yr ysgoldai priodol ac mewn ateb i gais y trustees oedd yn bresennol dywedai y gwnae y capel newydd y tro i gadw yr ysgol hon ond i'w blan gael ei gyfnewid. Cydsyniwyd er mwyn yr ysgol i ganiatau y cyfnewidiad. Ac yn ol y cynllun cyfnewidiol hwn, er i raddau yn wahanol i'r hyn a ofynnai Mr. Phillips, penderfynnwyd adeiladu y capel. E. Thomas.

Mesur gwaith y saer maen ar y capel newydd: Corff yr adeilad, 136 troed. 7 mod. x 18 troed. 8 mod. = 2549 troed. 6 mod.; dau dal maen, 31 troed. 9 mod. x 10 troed. 6 mod. = 333 troed. 4 mod. ; 2 adenydd, 18 troed. 6 mod. x 4 troed. = 74 troed. Cyfanswm, 328 llath 4 troed. 10 mod. Talcen y ffrynt yn mesur ar ei ben ei hun, 759 troedfedd, 4 modfedd. E. Thomas. J. Williams.

Awst 29, 1844. Cyfarfu y Parch. William Roberts Hendre bach, James Williams Penrhiwiau, John Jones Ty'nycoed, Thomas Roberts Bryn-yr-eryr, Evan Thomas, Benjamin Hughes, Ebenezer Thomas yn y capel newydd am 6 o'r gloch, pryd y gwelwyd fod y setiau wedi eu gorffen yn bur agos, a'r capel mewn cyflwr o orffeniad hwylus a boddhaol iawn. Ymddiddannwyd am ardreth y setiau. amser y pregethau a chyfarfodydd eraill, ynghylch amryw swyddau o wasanaeth i'r eglwys a'r gynulleidfa, a phwy a'u gweinyddai, ynghylch ceffyl y pregethwr, a darpariaeth ar ei gyfer, etc., etc.

Medi 18ed, nos Fercher, cynhaliwyd y Gymdeithas Eglwysig gyntaf yn y capel newydd, pryd yr oedd lliaws o frodyr a chwiorydd y Pentref a'r gymdogaeth yn bresennol, a theimlwyd yn y cyfarfod hwn rywbeth nodedig fel arwydd a thystiolaeth o foddlonrwydd yr Arglwydd."

Fe ganfyddir, yn ol y cofnodion hyn, fod Eben Fardd ynghydag aelodau Methodistaidd eraill yn parhau i ryw fesur i fyned i was- anaeth yr eglwys yn y bore, wedi gorffen gwasanaeth yr ysgol. Mae'n ddiau fod cyfrifon manwl ynglyn â'r adeiladu wedi eu cadw, ond nid ydynt gerbron. Rhif yr eglwys ar ei chychwyniad oedd 43. Yr oedd 32 yn aelodau yn y Capel Uchaf, 10 yn Seion, a daeth un o le arall.

Ionawr, 1845, trefnwyd capel y pentref yn daith gyda Seion a'r Capel Uchaf.

Soniwyd am Eben Fardd fel arolygwr yr ysgol yn Eglwys y Bedd. Ac efe a barhaodd yn y swydd honno yn y capel yr un fath. Yn niwedd yr ysgol, fe fyddai yn rhaid i bob athraw yn ei gylch, cymhwyster neu beidio, holi'r plant. Bu rhyw ofyniadau ar gân mewn arfer yn yr ysgol er yn fore, yr athraw yn gofyn a'r plant yn ateb: Dyma hwy, mor bell ag y gallai Mr. William Jones, mab Mr. Richard Jones, eu dwyn i'w gof:

Beth yw dyn?
Rhyw bryf meddylgar a wnaeth Duw i draethu ei glod.
Beth yw enaid?
Gem ysbrydol goleu, pwyll ac urdd y dyn.
Beth yw Duw?
Y mawr a'r hawddgar, lluniwr pawb, anfeidrol Fod.
Beth yw nefoedd ?
Haf hyfrydaf na ddaw gauaf ar ei ol.
Beth yw angeu?
Nos anifyr ddaw ar draws gauaf-ddydd byrr.
Beth yw uffern ?
Pwll erchyllaf, diwedd taith pechadur ffôl.

Ar ol rhyw adroddiad o hyn, dyma James Williams yn torri allan, gan gyfarch yr arolygwr, "Mae hi wedi stopio yn rhyw le rhyfedd iawn, Ebenezer! 'Does dim modd gochel mynd yno?" "Mi edrychaf i i'r peth," ebe'r arolygwr, "i weld beth fedra'i wneud." Erbyn y tro nesaf yr oedd yna fymryn o ychwanegiad at yr holi a'r ateb:

A oes ffordd i ochel uffern?
Oes, drwy gredu yn Iesu Grist.
F'enaid cred, cadwedig fyddi,
Ti gei ochel uffern drist.


Rhoddid deng munyd yn y diwedd i un o'r athrawon ddweyd rhywbeth am ryw ddrwg yn codi ei ben yn yr ardal ag y dylid ei warafun. Dywedai James Williams yn o fynych yn erbyn balchder, wrth yr hyn y deallid rhyw goeg-wisgiad neu agweddiad. Ar ryw Sul neilltuol pwy ddaeth i mewn i'r ysgol gyda blodyn bob un yn ei het ond dwy ferch James Williams. Yntau yn codi i fyny, yn yr amser arferol at y gorchwyl crybwylledig, ac yn torri i grio, fod balchder wedi dod i'w dŷ ef, ac nad allai o ddim wrtho. Diau ddarfod i falchder ennill rhwysg ychwanegol yn yr ardal o hynny allan!

Casgl mis Rhagfyr, 1844, 14s. 0½c.; Ionawr, 1845, 14s. 8½c.; Chwefror eto, 13s. 1½c. Y taliad cyntaf yw, Medi 22, 1844, J. Williams Frongoch, oedfa, 1s. 6c.; a'r ail, Hydref 5 eto, Morris Jones Jersualem, 2s. Tachwedd 9, Thomas Pritchard, seiat, 1s. Tachwedd 27, John Jones Talsarn, oedfa, 2s. 6c. Mehefin 26, 1845, William Roberts Amlwch, 5s.; Henry Rees, 5s.; Am gario Mr. Rees, 2s. Mai 24 o'r un flwyddyn ceir David Jones, seiat, 1s. ; Mai 25, David Jones, oedfa, 2s. Mae Thomas Hughes Machynlleth i lawr yr un flwyddyn am 2s., ac Owen Thomas Pwllheli am 3s. Ar daith, mae'n ddiau, yr oedd y cyntaf; a'r ail yn dod ar gyfer y Sul.

Ond dyma nodiad ar y materion hyn gan Eben Fardd ei hun, yn ei ddull manwl ef: "Hydref 1, 1852. Cynaliwyd Cyfarfod Diaconiaid y Daith Sabothol yn y Capel Uchaf, i'r diben o edrych i mewn i dâl Sabothol y pregethwyr yn y tri chapel, a phenderfynnu ar unrhyw welliant os bernid fod achos am hynny. Cafwyd fod y taliadau yn amrywio yn bur unffurf yn y tri chapel, sef yn debyg ar y cyfan i'r hyn a ganlyn yn Sabothol: Y gradd-daliad isaf, C.U., 2s. 6c., C.P., 2s., C.S., 1s. 6c., 6s. y Sul, neu £15 12s. yn y flwyddyn. Y gradd-dâl canol, C.U., 3s., C.P., 2s. 6c., C.S., 2s. = 7s. 6c. y Sul, neu £19 10s. y flwyddyn. Y taliad hwn yw y mwyaf cyffredin. Y gradd-daliad mwyaf, C.U., 4s., C.P., 4s., C.S., 3s. 6c., =11s. 6c. y Sul, neu £29 18s. y flwyddyn. Traul tŷ y Capel Uchaf tuag 11s. y mis, neu 12s. at eu gilydd. Traul tŷ C.S. tua 6s. y mis at eu gilydd. Dim traul tŷ yn C.P. [am fod rhyw rai yno yn cadw'r pregethwr eu hunain]. Tâl pregethwyr teithiol yn amrywio yn debyg yn y tri lle, sef 1s. 6c., 2s. C.P. sydd yn talu uchaf yn y dosbarth yma, weithiau 2s. 6c., yn aml 2s. Anogwyd diaconiaid y C.U. yn fawr i ddangos eu cyfrifon i'r holl frodyr yn y gymdeithas er boddlonrwydd i bawb, a rhwyddhau amgylchiadau yr achos yn y capel dywededig. Casgl mis C.U., rhwng ardrethion y tai, &c., £1 6s. at eu gilydd; eto C.P., drwy gyfroddion yr aelodau yn unig, tua 17s.; eto C.S. eto, a pheth arian seti, 18s."

Ebenezer Thomas a James Williams oedd y ddau flaenor a ddaeth o Seion ar gychwyniad yr achos. Ychwanegwyd Richard Jones atynt drwy ddewisiad yr eglwys ym mis Gorffennaf, 1847.

Dyma ddau nodiad gan Eben Fardd am ymweliadau eglwysig, pa beth bynnag yn neilltuol yw ystyr yr olaf o'r ddau: "1850, Mehefin 19, ymwelwyd â'r eglwys gan y Parch. J. Jones Talsarn, Capten L. Owen, Mr. William Owen Penygroes, i chwilio cyfrifon, ac i gyfarwyddo'r eglwys yn ei hachosion ysbrydol ac amgylchiadol. 1853, Ebrill 6, ymwelwyd â'r eglwys gan y Parch. J. Jones Talsarn, a chafwyd ei llais dros geisio gweinidog, unwaith yn y mis o leiaf, i'r cyfarfod eglwysig. Danghoswyd y cyfrifon iddo. Ceryddai yn llym am fod yn hannerog gyda'r sect, a chwennych egwyddorion dieithr a thwyllodrus." A yw y frawddeg olaf hon yn cyfeirio mewn rhan at arfer Eben Fardd, ac eraill efallai, y pryd hwnnw, of fyned i wasanaeth yr eglwys ar fore Sul?

Dyma nodiad gan ysgrifennydd yr eglwys, sef Eben Fardd, ar gyfer 1853: "Yr wyth aelodau newyddion a dderbyniwyd ydynt fechgyn a genethod a ddaethant i'r eglwys ohonynt eu hunain onid dau, ac onid un wraig yr hon yn fuan a ddiarddelwyd."

Nodiad yr ysgrifennydd am 1854: "Un o nodweddion mwyaf canmoladwy yr eglwys yw ei ffyddlondeb gyda'r casgl at y weinidogaeth. Mae ei chyfraniadau ariannol at bob achos crefyddol ac elusennol arall yn weddus a chymwys o ran swm yn gyffredin. Ei phrif lafur at oleuo y gymdogaeth, a chynyddu moesau da a gwybodaeth, sydd wedi bod yn y blynyddoedd diweddaraf mewn cynnal i fyny Gyfarfodydd Addysg mewn cysylltiad â'r ysgol Sabothol, drwy ba rai y cefnogir cerddoriaeth grefyddol, darllenyddiaeth cywir, ysgrifeniaeth a chyfansoddiad, ynghyda rhinwedd a gwybodaeth yn gyffredinol. Yn gyfochrol â hyn, ac at ddibenion diwylliaeth meddwl, a dyrchafiad character, amcanwyd gan nifer perthynnol i'r eglwys, yr ysgol, a'r cyfarfod addysg, sefydlu ystafell newyddiadurol (newsroom) yn y Pentref, yr hyn a ymddengys eto yn llwyddiannus a buddiol." Ac yna ceir sylw diweddarach: Diffoddodd yr anturiaeth olaf hon yn yr haf, 1855, wedi parhau am flwyddyn a hanner." Sefydlwyd y newyddfa yn niwedd 1853. Darfu i'r aelodau anrhegu y capel â chloc gwerth £3 12s. 6c. Mae rhestr y tanysgrifwyr gan yr ysgrifennydd, yn cynnwys pob enw, gyda rhoddion yn amrywio o 5s. i 2c. Ar ddiwedd y ddalen, ceir ganddo'r geiriau, "God bless the contributors."

Dyma gofnod yn dwyn perthynas â'r ddyled: "Cafwyd gan y Parch. William Rees Liverpool ddyfod yma i ddarlithio, Mawrth 28, 1855, i lenwi i fyny y rhes o ddarlithiau misol a gytunwyd arnynt y flwyddyn hon. Rhoddwyd tocynnau allan, 500 am 6c, yr un, a 100 am 3c. yr un, a thalwyd o gynnyrch y tocynnau £12 yn glir at ddileu dyled y capel. Gorffennwyd y swm o £30 gydag arian y seti, a chasgl ar y dydd diolchgarwch am y cynhaeaf yn Hydref diweddaf, nes toddi y ddyled i £30, yr hyn yw'r swm sy'n aros ar y Capel yn bresennol (Mai, 1856)." Eto, cofnod arall : "1860, Mawrth 10, Gorffennwyd talu dyled y capel yn gyflawn, 16 mlynedd o'r amser y dechreuwyd ei adeiladu. Mawrth 11. Casglwyd yn yr ysgol Sabothol £1 4s. 1c. at gael Beibl mawr pedwarplyg a llyfr hymnau ar y pulpud."

Dyma gofnod yr ysgrifennydd o gyfarfod pregethu : "Awst 17, 1859: Cynaliwyd cyfarfod pregethu cryf a lliosog yng nghapel Pentref Clynnog. Ni chynaliwyd cyfarfod pregethu gan y Methodistiaid Calfinaidd ym mhentref Clynnog o'r blaen. . . .Y gweinidogion oedd yn myned drwy waith cyfarfod y flwyddyn hon oeddynt y Parchn. Edward Morgan Dyffryn, David Charles Môn a Robert Hughes Llanaelhaiarn. Pregethu rhagorol; gwrandawiad bywiog a dyfal; caredigrwydd a ffyddlondeb mawr. Cynorthwyid y Pentref gyda chyfraniadau gan eglwysi Brynaerau, Capel Uchaf a Seion. Cadwyd seiat gyffredinol i'r holl eglwysi am 8 o'r gloch."

Nid oedd y diwygiad wedi ei deimlo eto yn yr ardal yn amser y cyfarfod pregethu. Nos Iau, Tachwedd 10, y cyrhaeddodd Dafydd Morgan y Pentref. "Wedi pregeth finiog galwyd seiat. Yr oedd ymhlith y dychweledigion wr ieuanc o ymddanghosiad hardd, ac ar ei ben gnwd o wallt euraidd modrwyog. A yw'ch tad a'ch mam yn fyw?' gofynnai Dafydd Morgan. 'Nac ydynt.' 'A fuont hwy farw yn grefyddol ?' 'Do.' 'A oes i chwi frodyr a chwiorydd?' 'Oes, chwech.' 'A ydynt hwy yn grefyddol?' Ydynt i gyd.' Dyrchafodd y diwygiwr ei lais mewn bloedd wefreiddiol, Dyma'r olaf i'r arch, 'doed y diluw pan y delo.' Gan dynnu ei fysedd drwy fodrwyau'r gwallt, ychwanegodd, 'Fe fyddai'n biti i'r diafol gael hwn. Mae e am yr ieuanc a'r prydferth bob amser. 'Rwyt 'ithau yn dlws—'rwyti yn rhy hardd i uffern. dy gael di. Mynn fod yn dlws i Dduw, machgen i, o hyn i'r diwedd.' Llamodd y llanc ar ei draed, a thaflodd ei freichiau am wddf y diwygiwr, a chusanodd ef. Gyrrodd yr olygfa hon lewyg o orfoledd dros y seiat." (Cofiant Dafydd Morgan, t. 479.)

Gwelwyd mai rhif yr eglwys ar ei chorfforiad cyntaf yn 1844. oedd 43. Y rhif yn 1858, y flwyddyn o flaen y diwygiad, 68. Y rhif yn 1860, ar ddiwedd y diwygiad, 105. Y rhif yn 1862, tymor y gwyntyllio, 79. Y nifer a ddaeth i'r eglwys o'r newydd yn ystod 1859 oedd 24, chwech o honynt o ddosbarth y plant, neu heb fod wedi cyrraedd oed arferol y rhai a dderbynnid i gyflawn aelodaeth. Anrhydedd ar eglwys Ebenezer ydyw ddarfod i Thomas Jerman Jones ddechre pregethu yma, pan yn yr ysgol, yn y flwyddyn 1859.

Yn 1861 yr adeiladwyd y tŷ capel.

Ar lyfr yr aelodau, y mae'r ysgrifennydd wedi dodi yma ac acw ambell sylw byrr, a chan mai Eben Fardd oedd yr ysgrifennydd hwnnw, rhaid gweled pa beth a ddywed. Anfynych y ceir dim neilltuol; ond erbyn dodi'r cyfryw bethau wrth eu gilydd, fe ä heibio drwy ddychymyg dyn ryw ledrith o ffurfiau anelwig, cyfnewidiol, rhy ansicr i'w cornelu ar ddalennau hanes, ond yn awgrymu nid ychydig pan arosir yn dawel uwch eu pen. Nid yw'r sylw cyntaf yn dod dan 1848, a dechreuir gyda hwnnw: "Diarddelwyd ar awdurdod 2. Cor. vi. 14, a Rhuf. vii. 3.—Mary Thomas, marw Mawrth 1, 1850, yn 52 oed. Ei geiriau olaf, "A dyna oedd ei amcan ef, fy nwyn o'r byd i deyrnas nef."—Hugh Owen Ty'nycoed, i'r ysgol; symudodd i Awstralia.—Margaret Roberts Twnti'r- afon a fu farw Ionawr 4, 1853, ymhen ychydig funydau ar ol galw ei henw yn y llyfr hwn, noson y cyfarfod eglwysig cyntaf yn y flwyddyn.—Diarddelwyd am buteindra: bu farw—John Roberts: cafodd ei ladd yn y chwarel yn Nant Nantlle (1854).—Elizabeth Thomas: ymadawodd i'r workhouse ym Mai (1854).—Gwaharddwyd iddi fod mewn cymundeb.—Catherine Thomas: bu farw yn yr Arglwydd fel y cryf hyderaf, Mai 28, 1855.—Gwaharddwyd iddi fod mewn cymundeb.—Adferwyd wedi ei diarddel.—I'r eglwys sefydledig.—John Jones Ty'nycoed: i Holt i'r ysgol (1858).— Diarddelwyd am briodi un "digred," yn ol Cyffes Ffydd y Trefnyddion.—Diarddelwyd am fuchedd aflan.—Elin Williams Mur Sant, Margaret Hughes Caerpwsan, Hugh Jones Teiliwr, Evan Jones Penarth, Robert Pritchard Ty'nlon, Hugh Owen Penarth: derbyniwyd oll, Tach. 21 (1859), y Parch. Robert Hughes yn bresennol.—Mary Thomas: bu farw yn yr Arglwydd, Mawrth 1, 1860. Dychwelodd fel ci at ei chwydfa.—Troes i eglwys Loegr ar achlysur ei siom gyda golwg am fyned yn bregethwr gyda'r Methodistiaid. — Ymadawodd dan arwyddion o aflendid aniwair. Diarddelwyd am fyned allan gyda dyn meddw, allan o amser ar y nos, yn wirfoddol.—James Ebenezer Thomas: bu farw yn yr Arglwydd, Ionawr 27, 1861, bore Sul, 8.30, i ddechre Saboth heb ddydd Llun byth ar ei ol; [ac mewn man arall] (bu farw) yn ddeunaw mlwydd oed; ei eiriau cysur olaf oeddynt, "Iesu Grist ddoe a heddyw yr un ac yn dragywydd," "Cyfamod fy hedd ni syfl," "Cyfamod rhad, cyfamod cadarn Duw, &c."—Mynd a dŵad yn ansefydlog.—Diarddelwyd o achos aniweirdeb." Dyna ddaeth i'r golwg yn y drych. Ni feddyliwyd am y meflau a'r brychau wrth gychwyn, ond rhaid oedd iddynt ymddangos. Dyna fywyd yr eglwys fel sefydliad allanol!—dyna ydyw mewn rhan: dyna ydyw mor bell ag y daeth i feddwl Eben Fardd ei gofnodi mewn sylwadau byrion wrth fyned heibio. Rhaid oedd cofnodi y meflau a'r brychau gyda rhyw air neu gilydd. Nid oedd rhaid cofnodi y da oedd i'w ddwedyd; ac anfynych y gwnawd hynny oddigerth gyda theulu yr ysgrifennydd ei hun. Ni fwriedir, ar hyn o bryd o leiaf, fyned drwy unrhyw lyfr eglwys arall yn y dull hwn. Fe gredir yr un pryd fod yma wers i'r sawl a'i cymero. Dyma nefoedd ac uffern yn ymyl eu gilydd: dyma fywyd dyn yn ei amrywiol agweddau, yn ei dwyll a'i siom a'i gyfnewidiadau, a'i wynfyd a'i wae. Nid oedd yma ddim ond a geir yn hanes pob eglwys. Eithaf peth, ar dro, er hynny, yw edrych i mewn i'r delw-gelloedd, a gofyn am i'r olwg ein hysgythru drwy ddychryn.

Chwefror 17, 1863, y bu farw Eben Fardd, yn un a thrigain oed, wedi bod yng Nghlynnog am un arbymtheg ar hugain o flynyddoedd, yn arolygwr yr ysgol Sul yr holl amser hwnnw, ac yn flaenor am oddeutu ugain mlynedd, efallai flwyddyn neu ragor yn llai. Yn raddol, fel y gwelwyd, y daeth yn deg o dan deimlad o rwymedigaeth i wasanaeth crefydd. Gwnawd ef yn flaenor yng nghapel Seion yn lled fuan, os nad yn fuan iawn, ar ol ei dderbyn fel aelod. Rhoddwyd ynglyn â hanes Seion, hanes ei gymhelliad yntau i ddod yn aelod, yn ol adroddiad Robert Hughes Uwchlaw'r ffynnon. Y mae hanes arall, cwbl gyson â hwnnw. Yn ol Mr. Howell Roberts, yn y Geninen am 1902 (t. 61-62), yr ydoedd mewn cryn bryder ynghylch ei rwymedigaeth i grefydd yn y flwyddyn 1839. Fe deimlai ryw gymhelliad at Eglwys Loegr, a rhyw ymlyniad wrth y Methodistiaid, ag y magwyd ef gyda hwy. Meddyliodd unwaith am lunio ffurf o grefydd iddo'i hun. Yn y cyfwng hwn, ar ei waith yn cerdded allan o Eglwys y Bedd, disgynnodd y geiriau hynny ar ei ysbryd, "Ni watworir Duw; pa beth bynnag a hauo dyn hynny hefyd a fed efe." Yr ystyriaethau a godasant yn ei feddwl a'i harweiniasent ef yn raddol i ymgyflwyno i'r eglwys yn Seion. Gwnawd cais teg yn y flwyddyn 1849 gan y Canon Robert Williams i'w ennill ef drosodd i'r eglwys, drwy gynnyg y lle fel meistr yn yr ysgol eglwysig newydd iddo, ar yr amod ei fod yn cymuno yn yr eglwys bob tri mis. Soniodd y Canon am y peth wrth wraig yn dwyn gradd o gydymdeimlad â'r eglwys, er yn aelod yn Ebenezer, cyn sôn ohono wrth Eben Fardd ei hun. Oddiwrth y wraig hon y clywodd efe am y peth gyntaf, a'i ateb cwrtais ydoedd, "A oes ganddo syniad mor wael a hyna am danaf, a meddwl yr awn i gofio angeu fy Ngwaredwr er mwyn bywioliaeth?" Ar ol bod mewn ymohebiaeth âg Eben Fardd, yr oedd y Canon yn adrodd am ei fethiant yn ei amcan gyda'r ysgol wrth y bwrdd yn nhŷ Lord Niwbro ac yn rhedeg ar Eben, a Lady Niwbro yn porthi. Yn y man, ebe'r Lord, gan gyfarch y Lady yn ymddanghosiadol, "Peidiwch rhedeg i lawr ddynion gwell na chwi'ch hun." Yr hen fwtler oedd yn gwrando, ac a adroddodd y peth wrth y diweddar Jones Penbwth, Llandwrog, yn lle ei gadw iddo'i hun, fel y dylasai. Diau ei fod yn dra eangfrydig yn ei gydymdeimlad; ac ni enwogodd mono'i hun mewn dim gradd mewn gwasanaeth dros y cyfundeb fel y cyfryw, oddigerth fel meistr ar yr ysgol y penodwyd ef arni. Mae'n ddiameu, yr un pryd, fod ei ymlyniad wrth yr eglwys yr oedd yn flaenor iddi yn fawr, ac yn myned yn fwy o hyd. Nid oedd unrhyw drafferth yn ormod ganddo gymeryd er ei mwyn, megys y dengys mewn rhan ei lafur-waith manwl fel ysgrifennydd. Yn araf yr ymgymerai efe â phobl, neu â sefydliadau, neu âg egwyddorion; ond wrth ymgymeryd â hwy yn araf ymlynai wrthynt yn dynn. Tueddfryd ddwys oedd yr eiddo ef. Edrycher ar y llygaid yn y llun ohono o flaen ei weithiau: adlewyrch ser y ffurfafen sydd yn eu dyfnderoedd llonydd. Enghraifft go lwyr o'r ardymheredd felancolaidd, yn ol dosbarthiad yr hen arfferyllwyr; ac yn eu hieithwedd neilltuol hwy, gwr o naws oeraidd, sur, fel yr afal anaddfed, ac yn cynnwys ynddo'i hun elfennau i'w troi dan ddylanwadau cydnaws yn feluster odiaethol, ac ofnusrwydd i'w droi yn ymdeimlad âg eangder anherfynnol. Disgynnodd ef ei hun, o ran hynny, yn ei ddisgrifiad ohono'i hun, ar eiriau yr arfferyllydd:

Dyn sur, heb ddim dawn siarad,—wyf fi'n siwr,—
Ofnus iawn fy nheimlad;
Mewn cyfeillach swbach sad,
A'i duedd at wrandawiad.

Dyma yn union y gwr, ond rhoi iddo ddigon o amser a llonyddwch, i ymglymu o ran holl wreiddiau ei natur wrth bobl pentref bychan, gwledig, fel Clynnog fawr yn Arfon, ond i'r bobl hynny roi eu serch a'u hedmygedd arno yntau, fel y gofynnai natur eang fel yr eiddo ef. A hynny a wnaeth y bobl, er mawr elw iddynt eu hunain, canys fe erys ei lun ef arnynt fel llun y ddeilen yn y gloyn. Perchid ef gan ei ysgolheigion ac anwylid ef ganddynt hefyd. Gwyddid o'r goreu pan fyddai gwewyr cyfansoddi arno. Elai yn anymwybodol o bresenoldeb yr ysgolheigion, gan gerdded ol a blaen ar lawr yr ystafell fel mewn poen dirdynnol. Wrth ei weled yn yr agwedd honno, elai'r ysgolheigion, ofnus bryd arall, yn hyf a thyrfus, a chyda rhyw drwst mwy na'i gilydd wele yntau yn dadebru, a churo yn enbyd ar brydiau felly. Deuai i mewn i'w dŷ o'r ysgol, ac heibio'r tair geneth a giniawent yno oherwydd pellter eu cartrefi, a heibio pawb arall, ac ymaith i'w ystafell heb yngan gair, ac yno y byddai bellach heb ei fwyd, ac heb neb yn beiddio aflonyddu. Y gwr a ymgollai fel hyn yn y meddyliau eang a lanwent ei fryd oedd fanylaidd i'r eithaf gyda manylion. Yng ngwewyr esgoreddfa creadigaethau mawrion ei Adgyfodiad, fe ddeuai i'r ysgol mewn clocs wedi eu glanhau yn lân, ac heb eu baeddu ar y ffordd yno, gyda'r hosanau byrion, llwydion, cyfeuon, a'i wisgiad gwledig bob amser yn eithaf trefnus. Yn y gauaf yn unig y gwisgai efe'r clocs, er cynhesrwydd iddo, wr o naws oeraidd. Ac os oedd efe yn o wyllt weithiau, pan darfid ef yng nghynddaredd cyffroad ei grebwyll, pa beth a'i llywodraethai pan na fynnai gyffwrdd fyth yn yr hogyn cringoch acw?—y mwyaf direidus yn yr holl ysgol, unig blentyn Dafydd Owen ac Ann Roberts, perchenogion gwledig athrylith a saint. Ië, dehongler hynny! A medrai fod yn eithaf diddan. Yr oedd rhai o'r ysgolorion wedi tyfu i'w maint, ac arosai ryw nifer yn yr ysgoldy dros yr awr ginio, Elis Wyn o Wyrfai yn eu plith. Yntau yr ysgolfeistr yn dod at yr ysgoldy, ac yn cael fod clo ar y drws, ac na chymerai neb arno ei weled. Torrodd allan,

Agor Elis heb gweryla,
Mae agor y ddor yn dda.

Elis oddifewn,

Agoryd i rai gwirion,
Mi glywais i mai gwael yw sôn.

Bu cryn ymdrafod ol a blaen, a'r bachgen cringoch na fynnid mo'i guro, yno yn gwrando. Yr unig linell arall a gofid oedd yr olaf gan Eben,

Tyr'd Elis côd dy aeliau.

Yr oeddid yn cyflwyno tysteb i Morris Pentyrch yng nghyfarfod llenyddol Clynnog, a'r bachgen cringoch yno yn sylwi. Hen athraw i Eben oedd Morris, a phin ysgrifennu a gyflwynid iddo. Ebe'r bardd:

Plisg a gwisg yw'r gân,
Rwyd-dyllog o'r tuallan.
Yn y pin mae pen y gamp
Ac ergyd y ragorgamp.

Parchai'r gwr hwn bawb, a chawsai yntau ei barchu gan bawb. Nid oherwydd tlodi neb yr elai efe heibio iddo heb sylw; os na wnawd brâd, danghosai barch i bob dyn. Yn y gymdeithas eglwysig nid elai efe i'r llawr i ymddiddan â'r cyfeillion: gadawai hynny o waith i James Williams, wr ffraeth ei ymadrodd, tyner ei deimlad, craff ei olygon, dwys ei brofiad. Gwr gwledig oedd yr hen Siams, ond gwr y gwyddai Eben ei werth er hynny. A gwyliai'r bardd yr hyn elai ymlaen rhwng Siams a'r bobl, a phan godai i siarad, gair pwrpasol i gyfeiriad yr ymddiddan hwnnw fyddai ganddo. Pan weddiai yn gyhoeddus, a gweddiai weithiau yn yr oedfa o flaen y pregethwr, anaml y gweddiai yn faith, a phob amser yn syml, yn uniongyrchol. Ei eiriau fyddai anaml, ac wedi eu cymysgu â dwys ochneidiau. Anfynych y gweddiai nac yn y capel nac yn y tŷ heb ddwyn i mewn i'w erfyniau weddi'r publican, "O Dduw, bydd drugarog wrthyf bechadur." Gwelodd gladdu ei wraig, ei unig fab, a dwy ferch o'r tair oedd ganddo, ac ymddanghosai yn gollwng ei afael yn fwy o bopeth daearol wrth eu colli hwy, ac yn enwedig ar ol colli ei fab galluog ac addfwyn, yn fachgen deunaw oed. O hynny ymlaen, ac am y ddwy flynedd olaf o'i oes difrifolodd yn amlwg yn ei holl ddull. Ni chollai seiat ond o raid yn ystod yr amser hwnnw. Daeth i mewn i'w brofiad y pryd hyn ryw allu rhyfedd i sylweddoli y byd tragwyddol. "Elai'r lle yn hollol ddistaw pan fyddai yn siarad," ebe Mr. John Jones Llanfaglan am y tymor hwnnw arno, "a thynnai chwi i mewn gydag o i'r byd tragwyddol." Cyffelybai ei hun unwaith yn y seiat i'r ysglodyn yn cael ei daflu gan y don ar lan y traeth, ond er cael ei daflu ymlaen gan y don yn cael ei sugno yn ol drachefn, nes dod y seithfed don, ac yna y teflid yr ysglodyn yn deg ar y traeth. Felly yr oedd yntau wedi profi. Ton ar ol ton yn ei daflu ynghyfeiriad y byd ysbrydol, ond pethau'r byd yn dod drachefn i'w sugno yn ol. Ond o'r diwedd, gan gyfeirio at farw ei fab, fe deimlai fod y seithfed don wedi dod, ac na feddai'r byd ddim ymhellach. iddo i'w sugno i mewn yn ol iddo'i hun. Gyda'i fab hwn yr oedd yr oll a deimlai yn werthfawr yn y byd wedi ei gipio oddiarno. Fe'i clywyd yn hynod mewn gweddi yn fuan ar ol yr amgylchiad hwnnw. "Pwy sydd gennyf yn y nefoedd ond tydi? Mae gennym rai yno, ac y mae yn dda gennym am danynt, ond ni a edrychwn heibio iddynt oll atat ti! Pwy sydd gennyf yn y nefoedd ond tydi?" Trwy ffydd fe welodd weledigaeth y proffwyd:

Yn nrych y gair mi welaf
Olwynion trefn y byd
Yn dirgel droi eu gilydd
A Duw'n eu gweithio'i gyd.

Cymododd â gerwindeb yr oruchwyliaeth:

Braidd ag ofni byddaf weithiau
Mai gwr caled ydwyt til
Ond fy nghalon a'm condemnia;
Nid gwr caled
Roisai'i fywyd dros fy math.

Heb fod nepell oddiwrth y diwedd y diferodd oddiwrtho ei eiriau olaf ar ffurf barddonol:

Y nefoedd fydd
Yn oleu ddydd
O bob goleuni i'w ddisgwyl sydd.

Tremiai â'i lygaid wrth dynnu ei anadliad olaf, ac ymdaenodd gwên dros ei wyneb. Aeth lawer gwaith gynt i Lwyn y Nef gan ddisgwyl clywed yr aderyn hwnnw a swynai seiri Eglwys y Bedd nes methu ganddynt fyned ymlaen gyda'u gorchwyl hyd oni chafas Beuno sant gan yr Arglwydd ei symud, ac yna hwy aethant ymlaen. Gyda'r drem olaf honno, pan safodd pob gorchwyl daearol, clywodd Eben Fardd lais aderyn Llwyn y Nef. Eithr peidio'r daearol er mwyn dechreu'r nefol. "Yn y nefoedd y canaf i'n iawn," ebe fe wrth ei ferch nid nepell oddiwrth y diwedd.

Dodir yma gyfieithiad rhydd o rai pethau perthynasol yn nyddlyfr Saesneg Eben Fardd, a gyhoeddwyd yn Wales, 1894-6. "1827. Dechre ysgol Medi 10, 1837. 1837, Mehefin 30. Fy ngwraig yn y seiat yn y Gyrn Goch. Wedi bod am dair wythnos mewn mawr drafferth a blinder am ei chyflwr. Hyderaf mai llaw Duw ydyw hyn; ac, os felly, fe gynydda er iachawdwriaeth. Hydref, 12. Gorymdaith ddirwestol drwy Glynnog. Dwy faner fawr â'r gair Sobrwydd yn weuedig i mewn ynddynt, a dwy faner fach gyda'r gair Dirwest. Lliwiau gwyn, a bwyell ryfel ar ben baniar Capel Uchaf. Canwyd fy emyn ddirwestol i yn effeithiol wrth fyned drwy'r pentref. Trowyd i Eglwys y Bedd, lle traddodwyd anerchiadau pwrpasol. Tachwedd 8. Cyfarfod dirwestol yn Eglwys y Bedd, lle traddododd Mr. Griffith Hughes Edeyrn ddarlith ragorol a gwir alluog ar ddirwest yn ei berthynas â masnach. 1838, Mawrth 17. Y Parch. John Phillips Treffynnon yn y Capel Uchaf. Malachi iii., 16. . . . . Yr wyf yn ystyried y gwr hwn yn bregethwr da iawn . . . . Llais gwych, ystum weddaidd, eglurder a threfn yn ei araeth, a mawrygiad gostyngedig ac angerddol o'i Feistr dwyfol, a wnelai ei bregeth yn llawn tân sanctaidd a gwres nefol. 1845, Mehefin 26. Parch. Henry Rees a William Roberts Amlwch yn pregethu am 11 y bore yn y Pentref. Talwyd 5s. i bob un. Rhagfyr 27. Parch. W. Prydderch yn pregethu. Talwyd 2s.; ei gyfaill, 1s. 1847, Hydref 5. Cyfarfod Misol y Capel Uchaf. Mri. Edwards Bala a Rees Nerpwl yn pregethu, yr olaf yn dra disglair. Rhagfyr 12, y Sul. Dr. Pughe yn y cyfarfod gweddi. Rhagfyr 13. Eilfed arbymtheg ben blwydd Ellen. I Dduw y byddo'r glod a'r gogoniant am ei ryfedd drugareddau dros ystod y ddwy flwydd arbymtheg hyn. Mabwysiader hi ganddo ef, a bydded eiddo iddo dros byth. 1852, Mawrth 6. Seiat. Peth adfywiad i'm henaid. Ebrill 18. John Owen Penygroes wedi'n siomi am y bregeth. Anogwyd fi i roi gair o gyfarchiad. Eglurais ychydig hwyr a bore ar y trefniant aberthol a'r sylwedd cyfatebol dan yr Efengyl. 1854, Ionawr 1. Achos Crist ymhlith y Methodistiaid yn y Pentref yn isel iawn ar hyn o bryd. Dim ond o 50 i 60 yn yr ysgol Sul, &c. Mehefin 22, John Owen Henbant yn talu £1 i mi am ysgol plant tlodion o'r Capel Uchaf. 1856, Awst 6, nis gallaf edrych ar fy neilltuedd presennol oddiwrth lafur cyhoeddus a llenyddol ond fel nesad at yr hedd a'r mwynhad a'r gorffwystra yn Nuw yr hyderaf gyrraedd iddo ar ben fy nhaith. Y bywyd bychan a fu'n ymagor i'w flodau a'i ffrwyth llenyddol o 1824 ymlaen, sy'n ymddangos yn awr yn ymgau ac yn disgyn i lawr yn addfed a llawn i'r ddaear o'r neilltuaeth diniwed a'r syml fwynhad y tarddodd ohono, i flaguro yn nesaf oll mewn anfarwol fwynhad a llawenydd a digrifwch, ac mewn nefol gymdeithas a nefol gwmnïaeth. Medi 30. Diolchgarwch am y cynhaeaf. Wrth gymhelliad mewnol cryf rhoddais air o gyfarchiad i'r bobl ar yr achlysur, yr hyn a dderbyniwyd yn dda ganddynt, er clod a gogoniant i Dduw. 1857, Ionawr 18. Rhyw ddylanwad dwyfol neilltuol i'w deimlo yng nghyfarfod gweddi yr hwyr. Gogoniant i Dduw. 1859, Hydref 18. Y brodyr yn hiraethu am y diwygiad. Troi y seiat yn gyfarfod gweddi am ddiwygiad. Diffyg amynedd ac ysbryd priodol. Rhagfyr 26. Pregethu yn y Capel Uchaf. Yn y bregeth am ddau. Y gynulleidfa yn dra thrystiog a chyffrous. Nis gallaswn wrando er adeiladaeth."

Yr oedd Dewi Arfon (Y Parch. David Jones) yn ysgolor gydag Eben Fardd yn niwedd ei oes, a chymerodd ei le fel athraw pan waelodd efe. Daeth hefyd yn olynydd iddo yn yr ysgol, ac yn fugail i'r eglwys. Methu gan Eben Fardd yn deg a deall paham y deuai ysgolor o gyrhaeddiadau Dewi Arfon ato ef i'r ysgol, ac yr oedd braidd, yn ei ordeimladrwydd, yn amheus ohono ef. Ystyrrid yr athraw newydd yn rhagori ar yr hen o ran ei ddull effro yn yr ysgol ar bob pryd. Codwyd ysgoldy a thŷ ar ei gyfer, ond bu efe farw yn 1869, yn 36 mlwydd oed, cyn myned ohono i'r naill na'r llall. Cyfrifid ef yn feirniad cerddorol da, yn fardd da, yn arbennig fel englynwr, ac yn bregethwr coeth a sylweddol. Yr oedd yn wr ffraeth a siriol a ffyddlon i'w gyfeillion. Megys y bu efe farw cyn myned i'r ysgoldy a'r tŷ a ddarparwyd iddo, felly y bu efe farw yr un modd cyn derbyn y dysteb a fwriadwyd iddo, er fod y symudiad ynglyn â hi yn un llwyddiannus, ac felly y bu efe farw yn nheimlad y wlad cyn gwneud ohono ei farc priodol ei hun. Er hynny, fe gafwyd rhyw awgrym ddarfod iddo farw yn union yn yr adeg briodol. Rhwng pump a chwech ar y gloch fore y Nadolig, fe ofynnodd i'w chwaer estyn iddo awrlais bychan gydag alarwm ynddo. Yna gosododd fys yr alarwm i daro am naw, ac ar naw ar y gloch i'r mymryn, yn swn yr alarwm, yr ehedodd ei ysbryd ymaith.

Medi 30, 1867, y dechreuodd J. J. Roberts (Iolo Caernarvon) bregethu yma.

Yr oedd olynwyr Dewi Arfon fel athrawon yr ysgol, fel yntau, mewn cysylltiad bugeiliol â'r eglwys hefyd. Yn ystod gwaeledd Dewi, a rhyw gymaint ar ol hynny, sef oddeutu chwe mis o gwbl, bu'r Parch. R. Thomas (Llanerchymedd) yn athraw. Bu'r Parch. John Williams (Caergybi) yma hyd 1876; y Parch. John Evans, B.A. (Llanerch) hyd 1890; y Parch. W. M. Griffith, M.A. (Dyffryn) hyd 1896; ac yna y Parch. J. H. Lloyd Williams, B.A.

John Jones Ty'nycoed oedd flaenor yr eglwys a fu farw yn 1869. Gofalus a gwyliadwrus, ac o gysondeb a chywirdeb amlwg. Golwg sarrug, ond i ddibynnu arno i'r pen. Bu efe a'i briod yn gyfnerthiad i'r achos am flynyddoedd, ac yn groesawgar o weinidogion yr efengyl.

Yn 1873 daeth Mr. Howell Roberts o eglwys Llanllyfni, lle'r oedd yn flaenor. Dechreuodd bregethu yn 1875.

Rhagfyr 21, 1882, cynaliwyd gwyl yn gof am ddi-ddyledu'r adeiladau, sef yr ysgol a'r tŷ, a threuliau eraill. Dygwyd traul yr adeiladau hyn gan eglwys Clynnog ei hunan. Bernid fod yr holl adeiladau o'r dechre yn werth agos i fil o bunnau. Ar gais James Williams, oddiar ei wely angeu, y gwnawd yr ymdrech olaf i gyd er dileu'r ddyled.

Rhagfyr 24, 1882, y bu farw James Williams, yn 83 mlwydd oed, ar ryw olwg prif flaenor y lle o'r dechre. Byrr, cydnerth, gwridog, gwledig oedd James Williams, a ffraeth hefyd a phert a chraff a duwiol. Byw ei feddwl a byw ei deimlad. Daeth yn deg o dan ddylanwad Eben Fardd, ac yr oedd ganddo barch diderfyn iddo. Dan ei ddylanwad ef daeth yn bleidiwr aiddgar i'r ysgol, a thebyg mai dylanwad James Williams oedd yr achos. na symudasid mo'r ysgol o Glynnog. Bu'r cyffyrddiad â'r bardd yn symbyliad i'w feddwl, a pharhaodd yn fyw i symudiadau yr oes. Darllenai sylwadau Peter Williams ynglyn â'r bennod ar ddyledswydd deuluaidd. Yr oedd yn siaradwr rhwydd, a'i Gymraeg yn rhagorol. Yr oedd yn gampus yng nghyferbyniad ei ddawn a'i nodwedd i'r bardd. Nid oedd y cyferbyniad yn ormod gan ei fod yn meddwl yn isel ohono'i hun. Pan bwysai rhywbeth oedd ganddo i'w ddweyd yn o fawr ar ei feddwl, elai i grio, ac ar brydiau felly ysgubai bopeth o'i flaen. A'r un meddwl bywus a barai y byddai yn brofedigaeth iddo ddweyd pethau rhy ddigrifol wrth bobl weithiau. Ar ryw achlysur pan oedd sôn am gyfranu yn y cwestiwn, dyma Hugh Jones Bron-yr-Erw yn dechre tuchan, yn ol arfer pobl y Capel Uchaf y pryd hwnnw, gan gwyno'n enbyd am amgylchiadau cyfyng, nid am ei fod mor anfoddlon i roi, ond am mai dyna ffordd yr hen Fethodistiaid o'r iawn ryw. "Beth ydi'r tuchan yna sydd gen ti, byth a hefyd," ebe Siams, "'rwyti'n gruddfan fel pe tae ti'n dod â llo!" Yr oedd ganddo ddawn ddigymar i holi profiad, ond fe'i clywyd yn dweyd ei fod yn credu fod gan y diafol fwy i wneud â gwaith pobl yn dweyd profiad na dim. "Os bydd rhywbeth ar eu meddwl," ebai, "fe'i dywedan o; os na fydd, fe demtia'r diafol nhw i ddweyd celwydd." Gweddi oedd pwnc seiat y Cyfarfod Misol yn Ebenezer un tro, a Robert Ellis yn llywydd. "Rhaid i ni gael gair bach gennychi, James Williams." "'Does gen i ddim." Cododd yn y man. "'Roeddwn i'n meddwl am Beti acw. Mae acw lyn wrth y tŷ acw a chwiaid ynddo. Rhyw ddiwrnod pan oeddwn wedi dod i mewn i'r tŷ, a'r plant yn chware yn ymyl y llyn, mi glywn ysgrech. 'Dyna blentyn wedi syrthio i'r llyn l' ebwn i. 'Nag ydi,' meddai Beti. Dyna sgrech wedyn. Mae'r plentyn yn y llyn,' meddwn i. 'Nag ydi," meddai Beti yn hamddenol. Ond dyna sgrech arall. A'r tro yma dyna Beti yn rhedeg allan o'r tŷ: mi adnabyddodd y llef. A dyna ydi gweddi: llef y plentyn. Mi adnabyddodd y fam lef y plentyn. Mae llawer heb wahaniaethu rhwng gwir weddi a gau weddi; ond y mae Duw yn adnabod llef y plentyn." A'r gweddill yn y cyfeiriad yna. Wedi iddo orffen, ebe'r cadeirydd, "'Doedd lwc, bobl, nad aethom ni ddim allan â James yn 'cau dweyd!" Yr ydoedd yn llawn o'r pertrwydd yma.

Swyddog a th'wysog a thad—ini oedd.—Hywel Tudur.

Richard Hughes oedd flaenor a fu farw yn ieuanc. Arweinydd y gân, ac yn gerddor da. Hyddysg yn yr ysgrythyr, a diwinydd rhagorol.

Yn 1887 dechreuodd Edwyn W. Roberts bregethu. Derbyniodd alwad i Bodfari yn 1898.

Ebrill 17, 1888, y bu farw William Roberts, mab Thomas Roberts Bryn eryr, yr hen flaenor ffyddlon a charedig yn Seion, ac yntau yn 62 mlwydd oed. Dygai'r mab yr un nodau a'r tad. Nid oedd ball ar ei garedigrwydd yntau, nac ar ei gariad at yr achos. Danghosai ddeheurwydd mewn tynnu dynion eraill allan i weithio ac i siarad, a chuddio'i hun o'r golwg. Cyfaill Eben Fardd, a'r un a welodd ei drem sefydlog olaf ar y pethau ni ddileir.

Yn y flwyddyn hon y symudodd Mr. William Jones (Bodaden), wedi bod yn flaenor yma am oddeutu ugain mlynedd. Yr un flwyddyn y dewiswyd H.W. Hughes a G. W. Roberts yn flaenoriaid. Symudodd y blaenaf i Lanrug yn 1892.

Yn 1889 y bu farw R. H. Owen, yn wr ieuanc crefyddol a deallgar. Yn 1891 y penodwyd John Owen Cilcoed yn flaenor, yn lled ddiweddar ar ei oes. Bu farw yn 1898. Gwr myfyrgar. Pwnc neilltuol yn ei weddi bob tro. Dawn yng ngwaith yr ysgol Sul. Gwên dawel sefydlog gwr mewn heddwch â'i gydwybod ar ei wyneb. Yn 1892 y penodwyd Hugh Owen Penarth i'r swydd. Yn 1893 y daeth Hugh Jones Penrallt o Bwlchderwydd. Yn 1895 y bu farw Thomas Evans, wedi bod yn y swydd am saith mlynedd, ac yn graddol gynyddu ynddi. Yn 1900 galwyd O. Jones a ddaeth yma o Holt Road, Lerpwl.

Bu yma o bryd i bryd rai pobl go neilltuol heb fod mewn swydd. Rhai go hynod oedd Dafydd Owen Aberdesach ac Ann Roberts ei wraig. Ym marn Mr. John Jones Llanfaglan, y ddau hynotaf, yn wr a gwraig, a welodd efe. Bu Dafydd Owen farw yn 85 mlwydd oed. Achyddwr penigamp o fewn terfynnau ei blwyf ei hun. Gallai dynnu amlinelliad o'r plwyf a'r plwyfi cylchynnol â rhaw ar wyneb y maes gyda chywirdeb. Darllenwr mawr ar Eiriadur Charles. Gwr tawel, hamddenol. Ni ddaeth at grefydd nes bod yn hanner cant oed. Yn y Capel Uchaf yr oedd hynny. Pan ofynnwyd iddo a oedd rhywbeth neilltuol wedi dal ar ei feddwl, dywedai nad oedd dim felly; ond ei fod wedi ei wneud yn bwnc o fyfyrdod, a bod rhesymoldeb y peth wedi cymell ei hunan arno, ac iddo ufuddhau i'r cymhelliad a orweddai yn yr ystyriaeth o resymoldeb y broffes o grefydd. Yr oedd yn athraw Sul diguro, y goreu yn ysgol Ebenezer. Hen bobl yn ei ddosbarth, rhai go lew, rhai go sal. Hugh Jones Teiliwr yn darllen un tro, gan ddod ar draws y geiriau, "A fedri di Roeg?" "A fedri di—?" Ceisio wedyn, dro neu ddau. "A fedri di-?" Yr athraw yn gadael iddo. O'r diwedd dyma Hugh Jones a hi allan, "A fedri di rogri?" Chwerthin mawr. Ebe'r athraw yn hamddenol, "Well done, Hugh Jones, cais reit dda!" Byddai pregethwyr Clynnog yn rhyfeddu at ei weddiau sylweddol. Nid yn hwyliog, nid yn gwneud unrhyw arddanghosiad, ond yn dawel, synwyrol, sylweddol. Cymeriad cryf: yn gall iawn; ni ddatguddiai gyfrinach byth; yn wr pybyr. Llawn gyn hynoted a'i gwr oedd Ann Roberts, a hynotach mewn crefydd. Ei mam yn gyfnither i Robert Roberts, a'i hewythr o frawd ei mam yn daid i David Roberts Rhiw Ffestiniog. Bu hi farw Mawrth 1879 yn 82 mlwydd oed. Dywed Mr. John Williams Caergybi y byddai arno gryn arswyd myned ati am ei phrofiad, a dywed Mr. John Jones Llanfaglan y gwelodd efe hi yn cornelu Dewi Arfon liaws o weithiau, ac y byddai yntau yn ysgwyd gan chwerthin wrth gael ei gornelu felly. Yn gryf ei synwyr ac yn gryf ei meddwl, yr hynotaf o ferched yr ardal. Yr oedd wedi darllen gryn lawer ar lyfrau, yn gynefin â'r ysgrythyr, ac yn deall pynciau yn glir. Unwaith yr oedd yn o isel ei phrofiad yn y seiat. "Mi wn ym mhle mae'r drwg," ebe hi. Byw yr wyf ormod ynof fy hun yn lle myned allan at y gwirionedd fel y mae yn yr Iesu. Arno ef y dylwn bwyso, ac nid ar fy ffydd neu fy nheimladau." Gwr o ddirnadaeth yw ei mab, Robert Owen Aberdesach. peth dywaetha ddwedodd hi wrtha'i," ebe fe, "oedd gofyn a oedd y cyfamod yn dal? Fod y diafol yn dweyd wrthi fod y cyfamod wedi torri. Meddwn innau, 'Mae'r cyfamod yn dal.' 'Yr ydw'i yn sâff, ynte, felly, achos yr ydw'i yn rhwymyn y cyfamod ers pum mlynedd a thrigain.' Ac yna, meddai hi, 'Nid ofnaf pe symudai y ddaear.'" Cerddodd ddwywaith i'r Bala i'r Sasiwn.

Byddai hi a'i gwr yn hamddenol a difyr iawn efo'u gilydd. Evan Thomas y crydd, hawdd ei dramgwyddo, hawdd ei gymodi. Cyson a phrydlon yn y moddion. Yn ei flynyddoedd olaf, heb fod yn flaenor, efe a alwai ar rai i gymeryd rhan gyhoeddus. O ysbryd gwir grefyddol. Gwr o Eifionydd, a geid yn ymgomio âg Eben Fardd yn amlach na neb ond Robert Parry Maesglas, gwr arall o Eifionydd. Dawn ganddo i adrodd straeon am yr hen gymeriadau. Yr oedd efe yn ramadegwr yn ol ei radd, ac yn athraw ar y dosbarth athrawon. Ni ddaeth yn aelod o'r eglwys hyd ei gystudd olaf, ac edifeiriol iawn ydoedd oherwydd hir oedi. Holwyddorydd y plant go neilltuol oedd Owen Jones, a go neilltuol mewn gweddi. Robert Jones y gof oedd ddyn o synwyr cryf. Yn atyniadol iawn i blant. Ceid gweled yr ysmotiau gwynion ar ei wyneb wedi i'r plant fod yn ei gusanu. Pan fyddai eisieu gwared o'r plant, curai ei einion â'i ffedog ledr, a diangent yn y fan. Gwelid hwy drachefn ymhen rhyw awr o amser yn ysbio oddeutu'r drws, a oedd croesaw iddynt ddod i mewn ai peidio? Cafodd dro amlwg yn '59. Meddwi cyn hynny. Y chwant yn dod yn gryf drosto ar brydiau. "'Rwyf wedi penderfynnu na ddaw diferyn fyth dros fy ngwefusau," ebe fe. Bu farw ymhen saith mlynedd ar ol y diwygiad â'i goron ar ei ben.

Bu yma rai gwragedd, hefyd, go neilltuol heblaw Ann Roberts. Hen wragedd oedd rhai ohonynt wedi meistroli Gurnall, ebe Mr. John Williams. Mam Owen Evans Mur Mawr—dyna un. Eben Fardd a hoffai ei chymdeithas. "Yr hen tybed yma sy'n fy mhoeni i," ebe hi: sef ydoedd hynny, nid gwadu pendant, ond tuedd anghrediniol y meddwl. Unwaith yr oedd hi yn aros yn nhŷ capel Gosen ar adeg Cyfarfod Misol. Yr oedd William Hughes Edeyrn yn pregethu o flaen James Donne. Gwr meddylgar fel y gwyddys oedd William Hughes; a'r tro hwn fe gafodd oedfa a llewyrch arni. Wedi myned i'r tŷ, ebe'r hen wraig wrtho, "Wel, mi godaist ar flaenau dy draed rhag i'r donn yna fyned dros dy ben." Sian Jones, gwraig Hugh Jones, a fedrai nyddu straeon gyda'r rhwyddineb mwyaf. Pan geid nad oeddynt ddim yn llythrennol wir, dim ond yn ffigyrol wir, tynnai hynny beth oddiwrth ei dylanwad gyda gwŷr y llythyren. Yr oedd hi'n llawn afiaeth. Gorfoleddodd lawer gwaith law-yn-llaw â merched eraill. Pan yn ddeg a phedwar ugain oed hi ddanghosai ar dro y medrai ddawnsio cystal ag yn y dyddiau gynt. Heb sôn am eraill, megys Catrin William, gweddw Griffith Williams Bwlan, a Mary Jones, un hynod iawn yn ei ffordd oedd Siani Ellis, mam Robert Griffith, blaenor ym Moriah. Un o'r Capel Uchaf oedd hi, a llawn mwy o ddelw'r Capel Uchaf arni. Sian yn myned at Evan Thomas ar ddydd diolchgarwch i ofyn iddo pa faint a ddylai hi roi yn y casgl. "Faint sy gynochi?" gofynnai yntau. "Hanner coron." "Oes peidio bod arnochi am lo?" "Dim ond am gant, ac mi gaf dalu pan leiciai." " "Taechi yn rhoi swllt, mi roech fwy na neb." Siani Ellis yn rhoi'r hanner coron i gyd. Pan gyfarfyddodd Evan Thomas â hi drachefn, mi ofynnodd iddi sut yr oedd hi wedi gwneud. "Mi rhois o i gyd," ebe hithau. "Ac arnoch i am gant o lo ?" "Ie," ebe hithau, mi ddaw o rywle." Cyn nos yr oedd hi wedi derbyn saith swllt. Ar y dydd diolchgarwch hwnnw, fe alwodd nai iddi gyda hi na welodd mono erioed o'r blaen. A thranoeth hi dderbyniodd ychwaneg drachefn. Yr oedd yn gref o gorff. Hi elai, wedi troi ei phedwar ugain oed, gyda rhaff a chryman, a chyrchai adref ar ei chefn faich o eithin digon trwm i ddyn. Danghosid gofal mawr am dani, ac nid elai diwrnod heibio heb iddi gael digonnedd; ond elai aml fore heibio heb foreubryd; ac ar y boreuau hynny fe'i clywid hi yn moli a gorfoleddu. Ni feddai gryfder meddwl neilltuol: ei neilltuolrwydd oedd ei chrefyddolder. Ei myfyrdod a lwyr-lyncwyd ym mhethau Tŷ Dduw. Ni feddai ddeunydd ymddiddan am ddim arall, pwy bynnag a alwai gyda hi, hen neu ieuainc. Ebe Mr. John Williams am dani: "Hen wraig neilltuol oedd Sian Ellis: mawr ei ffydd a'i chariad a'i llawenydd. Mynych y byddai hon pan yn nyddu gyda'r droell, a'r Beibl agored ar y ford, yn taro ei llygad ar adnod, ac yn myfyrio arni nes yr enynnai tân ac y llamai mewn gorfoledd, heb fod neb yn y tŷ ond hi ei hunan." Ebe Mr. John Jones Llanfaglan: "'Roedd Siani Ellis yn byrlymu fel ffynnon 'roedd hi'n byw yn y pethau. Yn ei thŷ yn nyddu efo'i throell, canu a gweddïo y byddai hi; yn y capel yr oedd fel un ar dorri. Ar ryw adeg o orfoledd neilltuol, hi a apeliai at y bardd, Dowch Eben, camolwch o! 'Rydw'i yn methu a gwneud digon.' Ateb Eben oedd crio." Ar hyd y blynyddoedd meithion ni feddylid am dani ond fel un ag yr oedd ei hymddiffynfa yng nghestyll y creigiau, a bod ei bara a'i dwfr yn sicr. "Angel yr Arglwydd a gastella o amgylch y rhai a'i hofnant ef ac a'u gwared hwynt."

Adroddiad yr ymwelwyr â'r ysgol Sul yn 1885: "Dysgir y plant mewn rhan o'r llyfr bach a'r cerdyn. Egwyddorir y plant yn y Rhodd Mam a'r Rhodd Tad yn effeithiol. Ni arferir y wersdaflen eto. Bechgyn rhy ieuainc yn gofyn cwestiynau ar eu hadnod, a hynny yn amhriodol. Hanesiaeth a daearyddiaeth ysgrythyrol yn ddiffygiol. Eisieu rhyw gynllun i greu mwy o fywiogrwydd ac ynni drwy'r holl ysgol. William Griffith Penygroes, E. Williams Llanllyfni, John Roberts Llanllyfni."

Rhif yr aelodau yn 1900, 108.

LLANLLYFNI, LLANDWROG, A LLANWNDA.

ARWEINIOL.

MAE plwyf Llanllyfni yn gorwedd rhwng dau drum o fynyddoedd yng nghantref Uwchgwyrfai, saith milltir i'r de-orllewin o dref Caernarvon. Fe ddwg yr enw oddiwrth yr afon Llyfnwy, sy'n codi yn llynnoedd Nantlle, yn rhan uchaf y plwyf. Mae terfyn pen dwyreiniol y plwyf yn agorfa ramantus Drws-y-coed, a chyrraedd o bobtu'r afon i'w derfyn gorllewinol yn agos i'r brif-ffordd rhwng Clynnog a Chaernarvon. Y terfyn gogleddol rhwng Penygroes a'r Groeslon yn Ffrwd-garreg-wen; y terfyn deheuol, afon Bryn-y- gro, rhyngddo a phlwyf Clynnog. Y boblogaeth yn 1841, 1571; yn 1871 yn 4013; yn 1901 yn 5762. Y mae'r capeli yma yn y plwyf hwn: Salem (Llanllyfni), Talysarn, Nebo, Bethel (Penygroes), Hyfrydle, Tanrallt, Saron, ynghydag ysgoldy Penchwarel. Llandwrog sydd blwyf yng nghantref Uwchgwyrfai ar fin beisfor Caernarvon, ar Sarn Alun, a phum milltir i'r de-orllewin o dref Caernarvon. Rhennir ef yn ddwy ran, yr uchaf a'r isaf. Cynnwys weithfeydd copr Drws-y-coed a chwareli llechi Nantlle a'r Cilgwyn. Y rhan fwyaf o'r plwyf yn stâd Glynllifon. Y boblogaeth yn 1841, 1923; yn 1861, 2825; yn 1871, 3425; yn 1901, 4247. Cynnwys y capeli yma: Bryn'rodyn, Bwlan, Carmel, Cesarea, Baladeulyn, Brynrhos, ynghydag ysgoldai y Bryn a'r Morfa.

Llanwnda (Llan Wyndaf), plwyf yng nghantref Uwchgwyrfai, ar y ffordd fawr o Gaernarvon i Bwllheli. Y boblogaeth yn 1841, 1264; yn 1871, 1922; yn 1901, 2107. Cynnwys y capeli yma : Rhostryfan, Rhosgadfan, Glanrhyd, ynghydag ysgoldy Libanus.

Poblogaeth plwyf Llanllyfni a rhan uchaf Llandwrog yn bennaf yn chwarelwyr; Llanwnda yn gymysg chwarelwyr ac amaethwyr ; rhan isaf Llandwrog yn amaethwyr. Y plwyfi hyn cydrhyngddynt yn cynrychioli pobl Arfon yn o deg. Nid yw tôn y chwarel mor amlwg yn unlle yma ag yn Bethesda a Llanberis, a'r cylch. Yn Nebo, ar fynydd Llanllyfni, y gwelir effaith unigedd y llethrau mynyddig, a lle mae plwyf Llandwrog yn terfynu ar y môr fe welir pobl led debyg i bobl pentref Clynnog. Y chwarelwr ar y cyfan sy'n teyrnasu, sef y chwarelwr gwledig yn hytrach, a rhyw gymaint mwy, at ei gilydd, o naws natur arno, nag sydd ar chwarelwr y cylchoedd eraill a enwyd, mewn blynyddoedd diweddar.

Mae pobl ardal Nebo, fel pobl ardal y Capel Uchaf, yn prysur newid, a'r hen dylwyth cynhenid mewn gwirionedd wedi colli. Eithr fe gafwyd un enghraifft ohonynt, a ddaeth yn adnabyddus i Gymru benbwygilydd, sef Robert Jones, gweinidog y Bedyddwyr. Magwyd ef gyda'r Methodistiaid hyd nes ydoedd yn ugain mlwydd oed. Er ddarfod iddo fyned yn Fedyddiwr gorselog, eto o ran ei nodweddion arbennig fe safai ar ei ben ei hun yn hollol yn yr enwad, a pherthynai yn gwbl i grefyddwyr y rhanbarth gwledig hwn. Gwelid delw hen bobl mynydd Llanllyfni yn amlwg arno yn symlrwydd unplyg ei nodweddiad, yn llymder cyfyng ei argyhoeddiadau, yng ngonestrwydd didwyll ei amcanion a'i rybuddion, yng ngwres ei brofiad crefyddol, yn ffrydlif ei ddawn, yng ngerwinder anghoethedig ei ymadroddion a'i ddull. Hen grefyddwyr Nebo a'r Capel Uchaf, Robert Jones, heb droi yn Fedyddiwr, oeddynt, heb ddarllen cymaint ag ef, ac heb fod, gyda rhai eithriadau, o gynneddf gyn gryfed, ac am hynny efallai yn cael eu cludo yn fwy amlwg gan awelon teimlad ar hwyliau uchel.

Fe geir amrywiaeth hynod mewn hinsawdd a golygfa, yn yr olaf yn fwyaf neilltuol, o fewn cylch mor fychan. Egyr yr olygfa o Dalsarn tua'r Baladeulyn yn raddol o flaen y llygaid mewn swyn hudol a chyfaredd a chyfrinedd na welir mo'r cyffelyb ond anfynych yn ddiau; ar fynydd Llanllyfni fe geir gwlad lom a gwylltedd unig; o Lanwnda a rhannau o Landwrog mae bannau'r mynyddoedd ar un tu, ac yn ymestyn i'r pellter ar y tu arall y mae Môn a'r môr. Nid anhawdd dychmygu fod arlliw yr hin a'r olygfa yn ganfyddadwy ar nodwedd y bobl, ac ar ffurf eu cymeriad crefyddol. Y mae lliaws o olion henafol yn yr ardaloedd hyn, ac adroddir nifer o chwedlau y tylwyth teg a straeon rhamantus, rhai ohonynt ar ffurf hanesyddol. Y chwedlau hynny oedd yn gyfran helaeth o ymborth ysbrydol y bobl o'u mebyd am lawer oes. Bu yn yr ardaloedd hyn gymeriadau nodedig a rhamantus. Un o'r cyfryw oedd Angharad James, o'r Gelliffrydau, yr adroddir ei hanes yng Nghofiant John Jones. Yr oedd ei thaid a'i nain hi hefyd yn bobl go neilltuol yn eu ffordd. Yr oedd John Jones yn hanu o'r un teulu ag Angharad. Gwraig hynod oedd Martha'r Mynydd. Rhydd Robert Jones yn ei Ddrych yr Amseroedd adroddiad o'i chastiau. Fe ddeuai lliaws i'w thŷ i wrando ar ryw "anweledigion," fel y galwai Martha hwy, yn pregethu. Fe fyddai'r anweledigion yn amlygu eu hunain yn nhŷ Martha wedi eu gwisgo mewn gwisg wen laes, y naill neu'r llall ohonynt ar eu tro, Mr. Ingram y galwai hi y naill, a Miss Ingram y llall. Ni byddai Martha ei hun yn y golwg, os nad hi ei hunan oedd y naill a'r llall o'r ddau anweledigion hynny, yr hyn o'r diwedd a ddaeth yn lled amlwg. Rhyfedd y sôn, yn ol Owen Jones yn ei Gymru, fe ddaeth Martha'r Mynydd yn aelod o Salem Llanllyfni ymhen amser, a chyfaddefodd ei thwyll. Nid yw'r hanes yn profi fod y bobl mor ddiwybod ag yr honwyd, gan fod rhai tebyg i Martha'r Mynydd yn ein dyddiau ni yn hudo gwyddonwyr enwog weithiau a gwŷr o ddysg. Er hynny, fe deifl yr hanes oleu ar gyflwr y bobl.

Bu'r llwyddiant amlwg ynglyn â gweithfeydd copr Drws-y-coed a'r chwareli llechi yn y gymdogaeth oddeutu 150 o flynyddoedd yn ol yn foddion i ddwyn llawer o bobl o ardaloedd eraill i'r lle, a lliaws o'r rhai hynny yn ddynion go anwar a difoes. Y pryd hwnnw yr oedd y Telyrnia yn ei rwysg, sef tafarn a gedwid yn agos i dollffordd y Gelli, gan William ab Rhisiart a'i wraig Marged uch Ifan. Merch nodedig ydoedd Marged, yn gallu gwneud telyn a chrwth a'u chware, a'i chwsmeriaid yn dawnsio o'i hamgylch wrth ddrws y dafarn ar brynhawn hafaidd. Hon a fu yn ol hynny ym Mhenllyn Llanberis yn chware ei champau, fel yr adroddir gan Pennant a Bayley Williams.

Poenid ambell i Lot y dyddiau hynny gan ymddygiad ofer lliaws, yn enwedig ar y Suliau. Hela gyda chŵn, crynhoi ynghyd i adrodd chwedlau, ymladd,—dyna arfer llaweroedd ar y Suliau, nes i gynnydd crefydd yn y wlad a chynnydd yr Ysgol Sul eu gwarthnodi. Coffeid yr ymgesglid i Glwt-y-foty yn ardal Bryn'rodyn i chware'r bêl droed ar y Sul. Yr oedd y chware hwnnw yn gyffredinol iawn drwy'r wlad ar Sul, gŵyl, a gwaith yn nhymor cychwyniad Methodistiaeth. Chwareuid yn y fynwent yn gyffredin, ar ol gwasanaeth y bore yn y llan, os byddai'r tywydd yn caniatau.

Yr oedd ysgolion dyddiol yn dechre lliosogi yn y wlad, er yn brin, oddeutu'r adeg yr oedd eglwysi hynaf y Methodistiaid yn cychwyn. Yr oedd John Roberts wedi agor ysgol yn Llanllyfni yn lled fuan ar ol cychwyn yr eglwys yno. Yr oedd John Parry (Caer) yn myned i un o ysgolion Madam Bevan ym Mrynrodyn yn blentyn. Ganwyd ef yn 1775. Coffheir yn ei Gofiant ef (t. 16) yr agorwyd ysgol Seisnig yn Ffrwd-yr-ysgyfarnog ar Mehefin 10, 1787, mewn tŷ eang, a bod yr athraw, David Wilson, yn ysgolhaig rhagorol. Aeth John Parry yno yn fuan iawn ar ol agor yr ysgol, ac yr oedd wedi bod gyda John Roberts Llanllyfni cyn hynny. Yr oedd cyfleusterau y cyfnod hwnnw, mewn ffordd o addysg gyffredin, mewn rhai mannau, yn fwy nag a dybir weithiau.

Mewn cyfnod diweddarach, drwy ddilyn esiampl Eben Fardd, fe wnawd nid ychydig yn y cylchoedd hyn drwy gyfrwng y cyfarfodydd llenyddol. Tebyg fod eu dylanwad hwythau yn lleihau gyda chynnydd addysg gyffredin; ond fe fuont yn wasanaethgar ar un tymor yn niffyg manteision llawnach.

Mae adroddiad yr ymwelwyr â'r Ysgol Sul yn Nosbarth Clynnog am 1857 ar gadw. Dyma fe: "Yr ysgolion oll yn cael eu cario ymlaen braidd ar yr un cynllun, ac yn yr un dull, mewn rhan yn darllen rhag eu blaen, ac mewn rhan yn holi wrth ddarllen. Cyffyrddid yn ysgafn â gramadegu mewn ychydig o ddosbarthiadau; ond yr oedd y syniad yn bur gyffredinol nad gweddus fyddai ymollwng yn ormod i'r dull hwn. Yr oedd canu cyffredinol da, fel y tybiem ni, ynddynt oll braidd. Yr holi cyffredinol ar ddiwedd yr ysgol yn fedrus, yn flasus ac yn fuddiol. Danghosid trefn dda a disgyblaeth. Yr oedd agwedd y lliaws yn brydferth a gweddaidd. Oddiwrth rai samplau a dynnent ein sylw, yr oeddem yn bwriadu cynnyg yn ostyngedig ychydig o awgrymiadau o duedd i wella cyflwr yr ysgolion. (1) Fod i'r arolygwr ymdrechu dosbarthu y plant bach yn nifer mor gymwys a chyfartal i'w gilydd ag a'u gwnelai yn hylaw i athraw neu athrawes eu trin a'u dysgu yn effeithiol. (2) Fod i bob athraw ymdrechu peidio â derbyn neb i'w ddosbarth, na gollwng neb allan ohono, heb gydsyniad yr arolygwr. (3) Fod i'r holl athrawon ymgyrraedd â'u holl egni at y nôd o fedrusrwydd meistrolaidd mewn darllen yn eu dosbarthiadau. Gofidus yw addef fod nifer fawr o'r rhai sydd yn eu Testamentau a'u Beiblau, fel y dywedwn, yn ddarllenwyr hynod of fusgrell ac amherffaith wedi'r cwbl. (4) Tra yr ydym yn coleddu syniadau uchel a pharchus am yr hen athrawon sydd wrth y gorchwyl o addysgu plant bach, a'u cymeryd oll gyda'u gilydd, eto rhaid i ni ddweyd y gwelwn ychydig nifer gyda'r gorchwyl yn llwyr anghymwys iddo ar gyfrif eu henaint,—eu clyw yn drwm, &c. Cynghorem yr arolygwyr i symud y cyfryw i leoedd eraill. Eto gofaler am wneud hynny gyda doethineb a phwyll. (5) Fod i'r holl athrawon sydd yn dysgu plant amcanu at fwy o amrywiaeth. Gwna hynny yr addysg yn fwy difyrrus ac effeithiol. Yr un modd hefyd yr athrawon sydd yn dysgu rhai yn dechre yn eu Testamentau. Wedi darllen, neu wrth ddarllen y bennod, gofyner ychydig arni, fel y caffer gwybod a ydys yn deall y cynwysiad. Hefyd, holer o'r Rhodd Mam, Rhodd Tad, yr Hyfforddwr, neu Holwyddoreg Hughes Nerpwl ar yr hanesiaeth ysgrythyrol. Waith arall, cau y llyfrau, a rhoi gwers mewn sillebiaeth. Caiff yr athrawon drwy hyn fantais i wybod a ddarfu'r plant ddysgu'r llythrennau yn gywir cyn eu symud o'r Egwyddor. (6) Fod i'r athrawon alw sylw eu dosbarthiadau at berthynas y gair â hwy, ac hefyd ymdrechu eu cael i feddu dirnadaeth fwy eglur o athrawiaethau crefydd, ac i ochel pob ysgafnder a hyfdra cnawdol uwchben gair Duw. (7) Fod yr ysgol athrawon, yr hon, ni hyderwn, sydd yn cael ei chynnal ym mhob cymdogaeth, yn cael ei threulio i egluro mwy ar bynciau sylfaenol crefydd. Ni all yr athrawon ddangos y pynciau hyn yn eu harbenigrwydd a'u pwys priodol i'w dosbarthiadau, oni byddant wedi eu hyfforddi yn dda ynddynt eu hunain." Eiddo Eben Fardd yw'r llawysgrifen yn yr adroddiad uchod, debygir.

Ynglyn â'r ysgolion y mae dosbarth Clynnog ar wahan i ddos- barth Uwchgwyrfai. Rhoir yma adroddiad ymwelwyr y Can- mlwyddiant (1885) â dosbarth Clynnog: "Nifer yr ysgolion (yn cynnwys un gangen-ysgol), deg, sef Capel Uchaf, Seion, Brynaerau, Ebenezer, Saron, Bethel, Nebo, Penychwarel (cangen), Llanllyfni a Bwlan. Ymgynullodd y nifer fwyaf o'r ysgolion yn dra phrydlon, yn neilltuol felly Capel Uchaf, Ebenezer, a Phenychwarel. Gallwn nodi Ebenezer a Saron fel y ddwy ysgol y cedwir y cyfrifon manylaf ynddynt. Cedwir ganddynt restr o holl aelodau yr ysgol; cyfrif o bresenoldeb pob aelod ar wahân; cyfrif o lafur pob aelod ar wahân. Ymherthynas â dysgu allan, yn ysgolion Brynaerau a Bwlan fe nodir y maes i ddysgu allan ohono, ac el yr ysgrifennydd. neu arall drwy'r dosbarthiadau i wrando'r adroddiadau. Mae angen am fwy o unffurfiaeth yn y drefn o ddwyn yr ysgolion ymlaen, sef amser casglu llafur, amser canu, &c. Lle ceir ystafelloedd ar wahân i'r plant, sef yn Nebo, Llanllyfni, Bethel a Bwlan, daw'r plant i fedru darllen yn gynt. Y diffyg mawr ydyw diffyg cynllun gyda'r wers-ddarllen, a dyma'r achos fod yr ysgolion yn gyffredinol heb ddilyn taflen y maes llafur. Rhy fychan o sylw a delir i amgylchiadau yr ysgolion gan yr eglwysi yn gyffredinol. E. Williams. "Ymwelwyr Dosbarth Clynnog, Edmund Williams a John Roberts Llanllyfni, a William Griffith Penygroes. Amser, Medi 27 hyd Tachwedd 1, 1885. O'r deg ysgol, y liosocaf ydyw Bethel, yna Salem, yna Bwlan, wedi hynny Nebo, yna Brynaerau a Chapel Uchaf, wedi hynny Ebenezer, yna Saron, Seion a Phenychwarel. Rhagorai Capel Uchaf, Ebenezer a Phenychwarel mewn prydlondeb. Edmygem yn fawr ysgol y Capel Uchaf yn hyn mewn ardal mor wasgarog. Bendith fawr fyddai cael diwygiad mewn prydlondeb drwy'r dosbarth. Y canu yn fendigedig yn Llanllyfni ar ddiwedd yr ysgol. Cenid un o donau Sankey yn swynol ac effeithiol dros ben. Adrodd y Deg Gorchymyn a holi'r Hyfforddwr yn y Bwlan yn dda ac effeithiol. Teimlem ein hunain yn cael ein cario yn ol i gyfnod y tadau, pan oedd yr holi yn cyfuno y ddwy elfen, yr adeiladol a'r dyddorol. Arfer dda a geir yn Ebenezer, sef y brodyr ar y naill Sul a'r chwiorydd ar y llall, yn adrodd testyn pregeth y bore. Nifer o ddosbarthiadau ym mhob ysgol heb wneud dim ond darllen yn unig; eraill yn darllen ychydig ac esbonio llawer, heb esgeuluso dadleu brwd yn aml; eraill yn darllen, esbonio, a chymwyso; eraill yn darllen a chymwyso heb esbonio nemor. Nid yw tynnu gwersi ac addysgiadau a chymwyso'r gwirionedd yn cael y sylw priodol yn y rhan fwyaf o'r dosbarthiadau. Ychydig mewn cymhariaeth yn gwneud defnydd o dafleni gwersi y Cyfundeb. Ychydig o blant mewn cymhariaeth mewn rhai ysgolion. Yn eraill y chwiorydd mewn lleiafrif mawr, yn neilltuol felly yn Nebo. Ai tybed fod angenrheidrwydd am gymaint o absenoli o'r ysgol? Mewn 13 dosbarth mewn un ysgol yr oedd 61 o'r aelodau yn bresennol a 25 yn absennol. Tri dosbarth a geid yn gyflawn o'r tri arddeg. Ai tybed fod yn rhaid i'r bedwaredd ran o'r ysgol fod yn absennol? Yr oeddym yn tybio fod gan yr athrawon le i ystyried fod ar eu llaw hwy lawer i'w wneud tuag at gadw y dosbarth ynghyd. Ofnem fod diffyg llafur rhai athrawon yn difwyno'r dosbarth. Eraill yn treulio'r amser gyda phethau anymarferol, ac uwchlaw cyrhaeddiadau yr aelodau, megys holi daearyddiaeth mewn dosbarth gwragedd, neu holi am rannau ymadrodd a dadansoddi brawddegau, gan ymfoddloni ar hynny yn unig. Eraill â gormod tuedd ynddynt i holi ac ateb y cyfan eu hunain, a phregethu cryn lawer at hynny. Mewn ychydig o enghreifftiau yn unig y cawsom le i ofni fod yr athraw heb fod i fyny â'r hyn a olygir wrth gymhwyster i'w ddosbarth. Gwasanaethed yr enghraifft a ganlyn: darllenai dosbarth yn Actau ii. 17, 'A bydd yn y dyddiau diweddaf, medd Duw, y tywalltaf o'm Hysbryd ar bob cnawd.' Cwestiwn,—Pa beth o olygid wrth y dyddiau diweddaf? Gwahanol atebion: diwedd yr hen oruchwyliaeth, yr oruchwyliaeth newydd, dinystr Jerusalem, diwedd y byd. Cadarnhau yr ateb mai diwedd y byd oedd i'w ddeall! Angen mawr yr ysgol ydyw athrawon cymwys ac ymroddedig. Awgrymem y priodoldeb o gael dosbarth athrawon, neu ddosbarthiadau yn yr ysgol yn ol eu gwahanol safonau, i fyned drwy'r gwersi, fel y byddo'r oll o'r ysgol yn ymlwybro yn yr un cyfeiriad, ac fel y gallai'r holi a'r ateb yn y diwedd fod yn rhyw grynodeb o waith yr ysgol. William Griffith."

Eto, adroddiad ymwelwyr Dosbarth Uwchgwyrfai: "Y dosbarthiadau ieuengaf. Y dosbarth isaf:—Ystyriwn y dylai y dosbarth hwn gael bwrdd â'r wyddor arno wedi ei osod i fyny, fel y gallai pob un ei weled heb symud o'i le. Pe bae i'r athraw gymeryd ond rhyw chwech neu saith llythyren bob Sul, a chyfyngu sylw y plant at hynny, byddai eu cynnydd yn fwy amlwg. Yr ail ddosbarth: Credwn mai cardiau neu fwrdd ddylid ddefnyddio gyda'r dosbarth hwn hefyd. Anogem i'r wers gael ei chyfyngu i ychydig eiriau, megys Un Duw sydd. Y trydydd dosbarth:— Dylai llyfrau y dosbarth hwn fod wedi eu rhwymo lawer yn well. Dylid cadw golwg ar addysgu yn drwyadl. Sylwadau cyffredinol:— Pethau yn peri gwastraff ar amser yr ysgol: gwaith rhai athrawon yn gofyn i bob aelod o'r dosbarth, y naill ar ol y llall, gwestiwn na allai fod gwahaniaeth barn arno, ac na ellid mo'i ateb ond mewn geiriau cyffelyb. Mewn dosbarth o rai mewn oed, fe ofynnwyd i bob un a oedd adnod neilltuol wedi ei darllen yn gywir o ran sain y geiriau. Rhai athrawon yn dibynnu gormod ar eu gwybodaeth gyffredinol, heb baratoi ar gyfer y wers. Mae'n bosibl i ddosbarth wastraffu llawer o amser yn ymbalfalu gyda chwestiwn amwys. Rhai athrawon yn ymddiried y gwaith o ofyn cwestiynau i'r disgyblion yn unig, a'r rhai hynny weithiau yn anaddfed eu barn. Anogem fod trefn a lleoliad y dosbarthiadau yn cael sylw, gan amcanu eu cadw mewn pellter priodol oddiwrth eu gilydd. Dymunol fyddai i'r athrawon sefyll gan wynebu'r dosbarth. Llawenheid ni yn ddirfawr yn yr olwg addawol, lafurfawr ac ymroddgar a gaem ar yr ysgol. O. J. Roberts Cesarea, William Thomas Hyfrydle, T. Lloyd Jones Talsarn, Owen Jones Talsarn, H. R. Owen Brynrhos, John Thomas Horeb."

Y tabl yma a ddengys y modd yr ymganghenodd yr eglwysi o eglwys Llanllyfni, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, ynghyda blwyddyn eu sefydliad:

Erbyn 1899, pan sefydlwyd eglwys Glanrhyd, yr oedd y "pedwar William" wedi myned yn un arbymtheg o eglwysi, sef pedair eglwys ar gyfer pob un o'r pedwar William. Yn niwedd 1900 yr oedd rhif yr 16 eglwys hyn yn 3627. Eithr petryal teyrnas nefoedd oedd y pedwar William, sef rhif cyfrin y nef. Nid mewn lliosowgrwydd y mae'r dirgelwch, ond mewn perthynas. Yr oedd y pedwar o un galon yng ngwaith yr Arglwydd. Pedwar oeddynt ar eu cychwyniad o'r Berthddu, ond pump ar eu sefydliad yn y Buarthau, gan i ferch ymuno â hwy, gan wneud y rhif yn bump, sef y naill hanner i rif deddf ac awdurdod.

Gwelir ddarfod i bump o eglwysi ymganghennu o Frynrodyn a phedair o Dalsarn, a phedair, yn uniongyrchol, o Lanllyfni, un o Rostryfan ac un o Fethel. Fe ddywedodd William Dafydd, yn y dull digyffro a oedd yn arwyddo afiaeth ysbryd, yn y seiat nesaf wedi i'r haid gyntaf ddisgyn ar Frynrodyn, nad oedd hynny ond dechre, ac y gwelid llu yn dod allan o'r hen gwch yn y man. Ac felly y cyflawnodd yr Arglwydd. Gwirir drwy'r oesau bennill a fu'n cael ei briodoli i Morgan Llwyd, pa un ai ar sail digonol ai peidio:

'Dyw hi eto ond dechre gwawrio,
Cwyd yr haul yn uwch i'r lan;
Teyrnas Šatan aiff yn chwilfriw,
Iesu'n frenin ym mhob man.


SALEM, LLANLLYFNI.[6]

TRI lle a gysegrwyd i enw John Jones,-sef yr un John Jones yn arbennig o'r holl dylwyth lliosog a fu'n dwyn yr enw,-nid amgen Dolwyddelen, Llanllyfni a Thalsarn. Cysegrwyd eglwys plwyf Llanllyfni i Redyw Sant. Ni wyr nemor neb am hynny, ond gŵyr lliaws mawr am John Jones Dolyddelen a John Jones Llanllyfni, a lliaws mwy fyth am John Jones Talsarn, canys yno ac nid yma yr oedd efe yn aelod. Saif y pentref ar yr ochr ddeheuol i'r afon ar y ffordd fawr o Gaernarvon i Dremadoc. Fe dybir fod eglwys y plwyf wedi ei helaethu i'r ffurf bresennol yn 1032. Yn 1784 y pregethwyd yn y pentref yn gyntaf, hyd y gwyddys, gan y Bedyddwyr, a dwy flynedd yn ddiweddarach y bedyddiwyd yma am y tro cyntaf. (Hanes y Bedyddwyr, Spinther James, III. 348.) Fe ddywed Michael Roberts fod y Morafiaid yn y lle o flaen y Bedyddwyr. Yn 1870 y cychwynnodd yr Anibynwyr, yn hen gapel y Sandemaniaid, a oedd wedi myned yn ddiwasanaeth. (Hanes yr Eglwysi Anibynnol, III. 232). Fe ddywed Michael Roberts, pa fodd bynnag, y bu ganddynt bregethu yma yn 1799, a'r Wesleyaid yn 1802.

Y cyntaf erioed, o blwyf Llanllyfni, a fu'n gwrando ar y Methodistiaid, ebe Michael Roberts, ydoedd William Williams y Buarthau. Yr oedd y William Williams hwnnw yn ewythr o frawd ei fam i Michael Roberts. Ar nos Sul, yn niwedd y flwyddyn 1758, yr aeth efe i wrando pregethwr dieithr ô'r Deheudir yn y Berth-ddu bach ym mhlwyf Clynnog. Yr oedd Nanney, periglor Clynnog, ebe Michael Roberts, yno o dan y ffenestr yn gwrando ar yr un bregeth. Fe gafodd William Williams fendith o dan y bregeth, ac o hynny allan fe ymroes i wrando ar y Methodistiaid. A mynych, ebe ei nai, y cyrchodd efe i Leyn, i Glynnog, i Bryn-y-gadfa, ac i'r Waenfawr i'r amcan hwnnw. Y Yn fuan ymunodd William Dafydd, câr agos i William Williams, i fyned gydag ef i wrando i'r Berth-ddu. Ac ymhen ysbaid yr oedd yno bedwar William, neu "bedwar Wil," fel y gelwid hwy, yn myned o blwyf Llanllyfni i wrando'r Methodistiaid, sef y dywededig William Williams a William Dafydd, a chyda hwy William Sion a William Roberts. Ymhen ysbaid drachefn, ychwanegwyd atynt Ann, chwaer William Williams, priod ar ol hynny i John Roberts, a mam Michael Roberts, sef y ferch gyntaf o Lanllyfni, mae'n debyg, a fu erioed yn gwrando ar y Methodistiaid. Ymunodd y pedwar gwr â'r gymdeithas eglwysig yn y Berth-ddu.

Rywbryd yn ystod 1763-4 dyma hwy yn penderfynnu cychwyn achos yn Llanllyfni ei hunan. Yn ymyl y Buarthau y dechreuwyd pregethu. Ni chaniatae gwr y tŷ, ac yntau yn berchennog, iddynt ddod i mewn; ac ni feiddiai yr un ohonynt hwythau dderbyn pregethu i'w tai, rhag eu troi allan gan y perchenogion. Weithiau fe bregethid ar y ffordd, bryd arall mewn cwrr cae, bryd arall mewn hen dŷ gwâg yn agos i'r Buarthau. Yr awdurdod am y pethau hyn, fel am liaws o bethau yn hanes cyntaf yr achos yn Llanllyfni, yw Dafydd Llwyd yn Nhrysorfa 1831 (t. 364). Brawd Richard Llwyd Bethesda ydoedd ef, a mab Daniel Williams, ysgrifennydd yr eglwys am lawer blwyddyn, ac ŵyr William Williams.

Yn y cyflwr yma y bu pethau hyd y flwyddyn 1766, pryd yr ymbriododd William Williams â Catherine Pritchard o blwyf Clynnog, ac yr aeth y ddeuddyn i fyw i'r Buarthau. Yn y modd yma yr agorwyd drws i'r Methodistiaid yn Llanllyfni, gan fod perchennog y Buarthau erbyn hynny yn foddlon i'r pregethu. Bu pregethu yn ddilynol ar dir y Buarthau am 50 mlynedd.

Dyma'r pryd y cychwynnwyd cymdeithas eglwysig yn Llanllyfni, sef yn 1766, y mae'n debyg. Ymunodd Ann, chwaer William Williams, y noswaith gyntaf, canys nid oedd hi yn aelod o'r blaen. Yr oedd Catherine Pritchard yn aelod yn y Berth-ddu o'r blaen. Y pedwar William a'r ddwy ferch yma oedd yr aelodau cyntaf. Er fod y nifer yn fychan, yr oedd yr anwyldeb rhyngddynt yn fawr, a bu llawer o sôn rhagllaw am undeb ac anwyldeb y gymdeithas eglwysig honno.

Ac nid hir y buont chwaith heb gynnydd yn y rhif. Yn lled fuan ymunodd tad a mam John Roberts a Robert Roberts â hwy. Robert Thomas, y tad, oedd pen campwr y plwyf, a mawr y syndod pan aeth efe yn bengrwn.

Yr oedd troedigaeth Robert Thomas yn un hynod. Llun y Sulgwyn, yng Ngwylmabsant Clynnog, yr oedd ymladdfa wedi ei phennu rhwng plwyf Clynnog a phlwyf Llanllyfni. Dacw Robert Thomas yn cychwyn yn fore o'r Ffridd, "a chlamp o ffon dderwen yn ei law," a'i briod a'i blant yn llefain yn ei wyneb rhag nas gwelent ef yn ddianaf fyth ond hynny. "Tewch â gwirioni, ffyliaid," ebe yntau, "myn diawl, mi falaf un hanner dwsin ohonynt yn gocos, nes y diango'r hanner dwsin arall." Yn y modd hynny Robert y pencampwr! Eithr yr oedd bwriad gwahanol ymherthynas âg ef gan ei gryfach. Erbyn cyrraedd ohono dŷ Edward y Teiliwr, gerllaw y Capel Uchaf, fe glywai ganu, ac aeth i mewn. Yn y man gweddiwyd. Teimlai'r cawr fel wedi ei hoelio wrth lawr y tŷ fel nad allai fyned allan. Dyma wr yn cymeryd ei destyn: Canys daeth dydd mawr ei ddigter ef, a phwy a ddichon sefyll?" Argyhoeddwyd y pencampwr. James o Drefecca oedd y pregethwr. Aeth Robert Thomas ar ol yr oedfa ar ei union adref. Wrth weled ei wedd ddifrif, gofynnai'r wraig iddo, "Robert bach, a ydych yn sâl?" "O, nac ydwyf, Cadi bach, yr wyf heddyw yn dechre gwella am byth." Yna fe eglurodd y digwyddiad i'w deulu. "Cadi," eb efe wrth ei briod, "ni feddwaf ac nid ymladdaf byth mwy ond â'r cythraul a phechod." Yr oedd y wraig, a'r mab John, mewn dagrau o lawenydd. "Gobeithio mai felly y bydd, Robert bach," ebe hithau. "Na wnaf byth, Cadi, drwy gymorth gras Duw." Ar ol swper aeth drwy'r ddyledswydd deuluaidd, â'r hyn ni pheidiodd mwyach. Nid anturiodd pobl Llanllyfni ymladd heb eu cawr y Llun Sulgwyn hwnnw. Ymunodd ef a'i wraig cyn hir â'r ddeadell fechan yn y Buarthau. Fel gyda Saul gynt, yr oedd ar y saint ei led arswyd ar y dechre. Pan holid ef yn o fanwl y noswaith gyntaf gan un John Pyrs, a ddigwyddai fod yno, fe dorrodd allan, "Ai fy ameu yr ydych, John Pyrs?" nes fod hwnnw yn gwywo o'i flaen rhag ofn ei fod ar ymollwng i'w hen natur. "O, nage, Robert bach, nid ydym yn ameu dim o'ch geirwiredd; ond y mae'n rhaid i chwi wrth fwy o ras i'ch gwneud yn ddyn nag i eraill i'w gwneud yn Gristnogion." (Gweler Gofiant Michael Roberts i'w dad). Agorodd Robert Thomas ei dŷ, sef Ffriddbaladeulyn, i bregethu, a bu pregethu yno am 52 mlynedd. Fe ddwedir y torrai yn orfoledd yn y Ffridd dan ambell i bregeth, ac y torrid llestri weithiau, ond na chwynid am hynny gan Catrin Sion, gwraig Robert Thomas.

Yn 1769 fe gynhaliwyd Cymdeithasfa yn Llanllyfni ar faes gerllaw y pentref a berthynai i'r Tŷ Gwyn. Cafodd Meyrick, offeiriad y plwyf, gan Evan Thomas, gwr llawn direidi, ymgymeryd âg aflonyddu ar y gwasanaeth drwy guro padell, ar yr amod ei fod i gael bolaid llawn o fwyd a chwrw cyn dechre. Troes Evan Thomas yn ol o'r gwasanaeth, pa fodd bynnag, heb gyflawni'r gwaith, dan yr esgus fod arno ofn y pengryniaid, am mai pobl greulawn a ffyrnig oeddynt. Cafodd yr offeiriad gan wr arall gyflawni'r gorchestwaith mor effeithiol nes gorfu i'r pregethwr roi i fyny. Eithr fe gododd pregethwr arall i fyny ar ei ol ef, sef Cymro o gyfundeb yr Iarlles Huntingdon, yn dod drwy'r wlad i bregethu yma ac acw; ac wrth fod hwnnw ar wedd mwy boneddig na chyffredin fe gafodd lonydd i fyned ymlaen. Yn y dafarn y cawsai y pregethwyr ymborth, ebe Michael Roberts. Noda ef ddau o'r pregethwyr, sef William Lewis Môn a Dafydd Jones, "gynt o Adwy'r Clawdd," "gwr ymadroddus, cadarn yn yr ysgrythyrau, meddai'r hen bobl." Ychwanegwyd at yr eglwysi yn ol hyn rai o ddynion mwyaf dylanwadol y cymdogaethau.

Y mae John Owen yr Henbant yn nodi John Jones Tŷ Gwyn, Llanllyfni, fel un o bum pregethwr cyntaf Arfon. Nid ymddengys ei enw yn unman arall wrth y disgrifiad yma ohono.

Yn 1771 aethpwyd i adeiladu capel. Codwyd ef ar dir y Buarthau, ar ochr orllewinol y tŷ. Mae'r weithred wedi ei hamseru Mai 16, 1774, a dwedir ynddi fod y capel wedi ei adeiladu yn llawn yn ddiweddar. Rhydd Dafydd Llwyd ei fesur fel wyth llath wrth chwech, a dywed mai dirfawr y cablu am adeiladu capel mor fawr, ac y darogenid na cheid byth wrandawyr i hanner ei lenwi. Adroddir hyn gan eraill ar ei ol. Dengys yr hen weithred, pa fodd bynnag, fod maintioli y capel yn 17 llath wrth wyth, a rhydd hyn ryw ystyr i'r cablu a'r daroganu. Y mesurau a rydd Dafydd Llwyd, pa wedd bynnag, ydoedd mesurau tufewnol yr hen gapelau yn gyffredin, neu rywbeth yn ymyl hynny. Gallasai fod camgymeriad yn y weithred, drwy roi mesur y tir yn lle mesur y capel. Yr oedd y brydles am 99 mlynedd o 1774, a'r rhent blynyddol yn hanner coron.

Ym mis Medi, 1780, cynhaliwyd y Gymdeithasfa chwarterol yn Llanllyfni. Hon oedd yr ail Gymdeithasfa a gynhaliwyd yma, a'r olaf. Am 10 ar y gloch fe bregethwyd gan Dafydd Williams Morganwg a Dafydd Jones Llangana. Am 2, gan William Lewis Môn a Dafydd Morris. Dywed Michael Roberts am y cyntaf, ei fod yn pregethu yn rymus, ac y clywid ei lais am filltir o gylch. A dywed ddarfod i Dafydd Morris ddechre yn bwyllog, ac ymhen hanner awr fod pawb oedd yno naill ai yn wylo neu yn gweiddi. Yr oedd John Owen yr Henbant bach yno yn blentyn yn llaw ei dad, a chof ganddo am ryw gais a fu yno i aflonyddu drwy guro padelli pres. Y Gymdeithasfa gyntaf a ddywed ef, yn y llawysgrif a adawodd ar ei ol, mewn camgymeriad am yr olaf. Efe a ddywed fod y cynulliadau yn lliosog, a bod llawer yno o Leyn ac Eifionydd. Fe ymddengys y dodwyd y ceffylau yn yr un cae; ac "ni welwyd gymaint o geffylau yn yr un cae erioed "ebe John Owen. Cyfran yr eglwys am un chwarter y flwyddyn hon at y casgl dimai oedd un swllt arddeg, yr hyn a ddengys mai 22 oedd rhif yr aelodau.

Y casgl at Gymdeithas Genhadol Llundain yn 1785 yn £8 1s. 6c.

Fe ddywed Dafydd Llwyd y cafwyd amryw ddiwygiadau yn Llanllyfni, o'r cyntaf, yn lled fuan ar ol adeiladu'r capel, hyd yr un yn 1793, pryd y profwyd ymweliad grymus oddiwrth yr Arglwydd, ac yr ychwanegwyd llawer at yr eglwys, rhai ohonynt yn aros yn 1831.

Rhoir hanesyn ym Methodistiaeth Cymru am ymddygiad Owen Morris tuag at Meyrick y periglor. Ar ddydd ympryd elid i'r capel am naw y bore, ac yna i'r llan, ac yna i'r capel y prynhawn. Ar ddiwrnod ympryd neilltuol, ar ddiwedd y gwasanaeth arferol yn y bore yn y llan, mynegodd y periglor ei fwriad i fyned ymlaen gyda gwasanaeth y gosper. Deallwyd ar unwaith mai ystryw oedd hyn i ddrysu cyfarfod y prynhawn yn y capel, drwy daflu moddion y llan yn ddigon pell i'w gwneud yn anhawdd myned i'r capel. Dan y syniad hwn, wele Owen Morris yn cymeryd ei het ac yn myned allan, a dilynwyd ef yn ddioed gan yr holl gynulleidfa. Anfonwyd gwŷs i Owen Morris drannoeth i ymddangos o flaen y person. Dwedid wrtho fod ei ymddygiad yn gyfryw ag i alw am ddirwy drom, os nad ysgymundod, a bod yn rhaid gweinyddu'r gosp, oni syrthiai efe ar ei liniau i ofyn am faddeuant.

Atebodd Owen Morris yn ddigryn mai i Dduw y gofynnai efe am faddeuant ar ei liniau, ac nad oedd yn ei fryd ef wneuthur hynny i'r periglor; ac yn ychwaneg, y gwnelai'r cyffelyb eto, os digwyddai'r cyffelyb amgylchiad. Gan nad ellid mo'i ddychrynu ef, gadawyd llonydd i Owen Morris.

Yn 1789 aeth tua 15 o'r aelodau i sefydlu eglwys Brynrodyn. Dywed Cyrus ar ol Mrs. Solomon Williams Brynaerau, fod William Dafydd wedi codi ar ei draed yn y seiat ddilynol i'r ymadawiad, gan fynegi ei lawenydd mewn modd hamddenol iawn wrth weled cychwyn Brynrodyn, ac yn rhagweled cychwyn canghennau eraill. William Williams a godai ar ei draed, â'i law ym mhoced ei wasgod. Er hiraethu ar ol y cyfeillion, fe geisiai weddio am ymweliad â'r ardal, nes fod mwy yn dod i mewn nag a aeth allan, ac ond i bawb weddio felly y ceid yr ymweliad. Ymroes y ddeadell fechan i weddio am ddiwygiad, a chedwid hynny mewn golwg ganddynt yn eu gweddiau, nes cael ohonynt ddiwygiad 1793, y cyfeiriwyd eisoes ato. Fe glywodd Mrs. Williams yr ychwanegwyd y pryd hwnnw at yr eglwys ddau am bob un a ymadawodd i Frynrodyn. Yn 1796 y cychwynnwyd yr ysgol Sul, meddai D. Llwyd. Bob yn ail Sul fe nodid nifer o'r newydd i'w chynnal, a chyfrifai y rheiny hi'n faich arnynt, rhag maint eu hawydd am glywed pregethu, fe ddywedir. Yr oedd y bregeth yn y Ffridd y bore, ac yn y Buarthau y prynhawn a'r hwyr. Bychan ac isel iawn, medd D. Llwyd, oedd yr ysgol yn ei dechreuad. Bu Owen Williams yn cadw ysgol ar nosweithiau'r wythnos cyn hyn, a pharhaodd gyda'r gorchwyl. Elai i'r Garn hefyd ar noswaith arall. Bu ef yn fwy llwyddiannus gyda'r ysgol noson waith. Yn y capel yr ymddengys y byddai. Dywed yr Asiedydd y byddai ganddo ddwsinau o bobl mewn oed wedi eu trefnu yn rhengoedd ar y meinciau, ac y cerddai yntau rhwng y meinciau gan wrando arnynt yn darllen. Er mwyn i bawb gael goleuni, dodai'r athraw râff o lafrwyn ar draws y capel, wedi ei sicrhau â hoelion wrth y ddau ben, a gwthiai frigyn helyg yma ac acw rhwng y bleth yn y rhaff, ac mewn hollt ymhen y brigyn y dodid y ganwyll frwyn. Yr oedd gan yr athraw gynllun arall at oleuo. Brigyn helyg â cheinciau arno, a hollt ymhen pob cainc i ddal y canwyllau. Gwasanaethai'r seren helyg yn effeithiol i oleuo'r lle. Dysgodd yr athraw hwn ugeiniau o bobl i ddarllen. Yr oedd yn holwyddorwr effeithiol. Dywedai bachgen oedd yno ar y pryd wrth yr Asiedydd, ei fod yn holi ar ddiwedd ysgol ar brynhawn Sul unwaith pryd yr oedd yr haul yn tywynnu yn braf. "A oes tywynnu haul yn uffern?" fe ofynnai, a chreid argraff ddwys gan y dull o ofyn. Nodir gan yr Asiedydd y rhai yma fel rhai lafuriasant gyda'r ysgol ar ei chychwyn: William Williams Tŷ Capel, William Sion Pandy hen, William Dafydd, John Roberts Eithinog ganol, wedi hynny o'r Castell, Llanddeiniolen. Bu ymweliad Charles yn 1804 yn foddion i godi'r ysgol yngolwg y bobl. Byddai Catrin Thomas Penygroes yn arfer adrodd, ei bod hi a Chatrin Griffith, pan yn lodesi tua deg oed, wedi cael Testament yn wobr gan y Parch. John Roberts am ddysgu Mathew xxv., a'i hadrodd i Charles. Ar ol hyn fe awd i gynnal yr ysgol mewn tai yma ac acw, cystal ag yn y capel, er mwyn cyfleustra y bobl. Yr oedd Robert Thomas y Ffridd yn cadw math ar ysgol yn ei dŷ ei hun cyn cychwyn yr ysgol Sul yn y rhan yma o'r wlad. Holai Robert Thomas ei deulu ar nos Sul am yr hyn a ddysgwyd ganddynt o'r blaen, a byddai yn arfer a'u holi ar ddull catecism ysgrythyrol, allan o gatecism o'r fath, feallai. Yn fuan fe'i cynorthwyid ef yn hynny gan John, ei fab hynaf. Cynelid yr ysgol deuluaidd hon ar nosweithiau'r wythnos hefyd. Bernir ddarfod i Robert Thomas ddechre ar y gwaith yma yn fuan ar ei droedigaeth, ac felly oddeutu 1768. Cychwynnwyd yr ysgol Sul yn y Ffridd ymhen ysbaid ar ol ei chychwyn yn Llanllyfni. Mae'r amseriadau yn ansicr. Os mai yn 1796 y sefydlwyd hi yn Llanllyfni, fel y mae'n debyg, a chan iddi fod yn hir yn ddiffrwyth yno, mae gradd o debygrwydd na chychwynnwyd mohoni yn y Ffridd am rai blynyddoedd; ond tybir ei bod yno cyn ymweliad Charles yn 1804.

Bu William Dafydd farw, wedi hir gystudd, y Calan, 1802. "Gwr call, addfwyn, enillgar, cymeradwy," ebe Griffith Solomon am dano (Drysorfa, 1837, t. 119). Yn niwedd ei oes, fe fyddai yn rhaid ei gario i'r pulpud, ac eto wedi myned yno unwaith fe bregethai mor fywiog a blasus a phe buasai yn hollol rydd oddiwrth bob anhwyldeb (Drysorfa, 1837, t. 154). A dywed Michael Roberts ei fod yn bregethwr buddiol iawn, ac y bu'n ffyddlon iawn am flynyddoedd lawer. Eb efe: "Yr oedd yn wr ymadroddus, cadarn yn yr Ysgrythyrau, yn meddu dawn ddeallus a melus iawn, ac â gair da iddo gan bawb a'i hadwaenai."

Bu Robert Roberts farw yng Nghlynnog yr un flwyddyn. Fe bregethodd yn y Buarthau 119 o weithiau ar wahanol destynau. Gellir gweled rhestr y testynau hynny yng Ngoleuad Cymru, 1826, (t. 341), ac yn ei Gofiant.

Yn 1809 fe symudodd John Roberts i Langwm. Brawd ydoedd ef, fel y mae'n hysbys, i Robert Roberts Clynnog. Nid pobl gyffredin oedd y rhieni, ac yr oedd rhywbeth nodedig yn rhai o leiaf o'r plant, ac yn eu hiliogaeth. A'u cymeryd fel teulu, y maent yn ddiau gyda'r hynotaf a fu yn sir Gaernarvon. Cyrhaeddodd John Roberts safle uchel yn y Cyfundeb yn ei ddydd. Dodid ef i bregethu yn fynych yn y lleoedd pwysicaf yn y cymdeithasfaoedd. Ordeiniwyd ef yn yr Ordeiniad cyntaf yn 1811. Daeth yn aelod oddeutu'r un adeg a'i dad, sef yn 1768. Dechreuodd bregethu ymhen rhyw 11 mlynedd. Yr ydoedd yr hynaf o dri arddeg o blant, a chynorthwyodd ei dad i'w maethu yn yr Arglwydd. Fel y dengys y Cofiant Seisnig diweddar i Thomas Charles, fe ymroes i lafur, yn helaethach nag y gwyddid o'r blaen, feallai, gyda'r Ysgol Sul, ac mewn gwasgaru Beiblau a llyfrau buddiol. Yr oedd yn cadw ysgol ddyddiol cyn dechre pregethu, ac wedi cyrraedd gradd dda o wybodaeth ei hunan. Efe a deithiodd lawer efo'r gwaith o bregethu. Yr ydoedd yn wr o ynni a rhwyddineb ymadrodd, cystal ag o wybodaeth a deall. Diau ddarfod i'r fath un fod o werth dirfawr i'r achos bychan yn Llanllyfni yng nghyfnod cyntaf ei hanes. Bu farw yn 82 mlwydd oed.

William Williams y Buarthau a ragfynegodd fod diwygiad ar drothwy'r drws, ond na byddai efe byw i'w weled. Ac felly fu. Bu ef farw Hydref, 1812, yn 72 mlwydd oed. Dechreuodd y diwygiad ym Mawrth, 1813. Mewn llythyr dyddiedig Medi 15, 1813, fe ddywed Robert Jones (Rhoslan wedi hynny) fod 90 wedi eu hychwanegu at yr eglwys yn Llanllyfni. Dywed Cyrus fod yr eglwys wedi cynyddu o 60 i 220 yn ystod y diwygiad hwnnw.

Yr oedd capel newydd yn cael ei adeiladu y flwyddyn hon, ac yr oedd yn barod i'w agor erbyn fod y diwygiad yn ei anterth. Dechreuwyd ei adeiladu ym Mawrth, 1812, a gorffennwyd ef ym Mehefin, 1813, a chynwysai le i 300, yn ol hen lyfr seti, ebe Cyrus. Yr ydoedd ar lecyn o dir a elwid Cae'refail, sef rhan o Tŷgwyn. Y tir yn 63 troedfedd wrth 54 wrth 78. Y brydles am 99 mlynedd, am £1 y flwyddyn. Yr ymddiriedolwyr: Henry Hughes Pant-du, Evan Richardson, Michael Roberts, William Roberts Clynnog, John Huxley, Richard Jones Coed-cae-du, Llanystumdwy, Evan Roberts Rhosyrhymiau, Hugh Hughes Caerau, Clynnog. Arolygwyd y gwaith gan John Hughes Gelli bach. Cytunwyd am £900; ond dywedir i'r draul fyned yn £100 yn ychwaneg. Adeilad da, a barhaodd am 50 mlynedd heb ond ychydig draul am adgyweirio. Fe ddywedir fod twll wedi ei adael yn nhalcen deheuol y mur ar gais person y plwyf, fel y gallai efe glywed trwyddo pan fyddai John Elias yn pregethu. Yn yr agoriad, Mehefin 6, fe bregethwyd am 10 ar y gloch gan Robert Dafydd Brynengan (Deut. xxxii. 10) ac Evan Richardson (Salm lxv., 4); am 2, gan J. Huxley (Salm xlix., 14) a Richard Jones Coedcae (Iago i. 18); am 6, gan John Roberts Llangwm (erbyn hynny) (Salm iii. 10).

Y blaenoriaid a ddaeth o'r Buarthau i'r capel newydd oedd William Sion Pandyhen, Ifan Robert Rhosyrhymiau, Hugh Hughes y Caerau, ac, yn ol Cyrus, Robert Griffith Bryncoch, ond, yn ol yr Asiedydd, Robert Evans Ty'nllwyn.

Awst 12, 1813, yr oedd Michael Roberts yn pregethu yn y capel newydd, am y tro cyntaf yno, ar Deuteronomium iv. 4: "Ond chwi y rhai oeddych yn glynu wrth yr Arglwydd eich Duw, byw ydych heddyw oll." Dywed Cyrus fod yr hybarch Robert Jones, y Bedyddiwr, wedi clywed llawer am y bregeth hon gan ei rieni. Dyma sylw neu ddau a adroddid ganddo: "Ein bywyd tragwyddol yn troi, nid ar ein gwaith yn dod i'r seiat, ond ar lynu wrth yr Arglwydd." "Nid ydym ond darnau o winwydden wyllt, ac os ydym am gyfranogi o fywyd y wir winwydden, rhaid i ni lynu, neu fe ddaw y diafol i'n hysgwyd i ffwrdd. Weithiau chwi welwch y môr mawr yna yn lluchio llongau cryfion nes byddont yn ddarnau yn erbyn y creigiau, pryd y bydd y gragen fach yn gallu herio ei holl ymchwydd cynddeiriog, am ei bod hi'n glynu wrth y graig." Ar ddiwedd y bregeth, fe ofynnai a oeddynt yn bwriadu glynu wrth yr Arglwydd, pryd y gwaeddai ugeiniau, "Ydym."

Tachwedd 29, o'r un flwyddyn, am ddau ar y gloch, yr oedd John Elias yn pregethu ar 1 Ioan, iii. 20: "Oblegid os ein calon a'n condemnia, mwy yw Duw na'n calon, ac efe a ŵyr bob peth." Cyrus a ddywed fod Mrs. Williams Brynaerau yn teimlo am wythnosau megys pe bae rhyw lygaid yn tremio arni ym mhob man. Yr oedd y pregethwr â'i wyneb at y gynulleidfa o'r tuallan i'r capel, am fod y rheiny yn lliosocach.

Mai, 1814, cafwyd y Cyfarfod Misol cyntaf yn y capel newydd. John Jones Tremadoc yn pregethu ar Diarhebion ix. 4; E. Richard- son ar 2 Timotheus iii. 19; Michael Roberts ar Salm cxxxix. 23; Robert Jones Dinas ar Salm lxxxv. 8; Robert Sion Hughes ar Colosiaid iii. 3; Mr. Llwyd ar Actau x. 34.

Chwefror 6, 1814, bu farw William Sion Pandyhen, y pennaf o'r hen flaenoriaid. Ceir cofiant iddo yn y Drysorfa am 1824 (t. 87) gan Robert Evans. Dyma'r sylwedd: Chwarelwr wrth ei alwedigaeth, ac yn ei ieuenctid yn ddyn gwyllt a chellweirus. Wrth wrando mewn oedfa y trowyd ef. Wedi dechre'r eglwys yn un o bedwar, fe gafodd fyw i weled ei hunan yn un o 220. Gweithio yn ddiwyd i gynnal ei deulu, ond a chanddo beth yngweddill at wasanaeth y babell. Ei arafwch mewn disgyblaeth yn hysbys i bob dyn, a'i ymaros a'i gariad at y brodyr. Ei ymddygiad at y rhai oddiallan yn gyfuniad o'r sobr a'r siriol. Rhoddai ei bresenoldeb daw ar bob crechwen, coeg-ddigrifwch ac ymrafael yn y chwarel a mannau eraill. Nid allai y rhai anuwiolaf a chaletaf sefyll o'i flaen. Yn ei glefyd diweddaf, gofalai gymaint am ei frodyr gweiniaid, ac am oruchwyliaeth a disgyblaeth Tŷ Dduw, fel y tebygid ei fod yn gwbl anheimladwy o'i ddolur. Mynych yr adroddai'r geiriau hynny: "Oblegid yr awrhon byw ydym ni, os ydych yn sefyll yn yr Arglwydd." Dywedai yn aml wrth i'r cyfeillion ymweled âg ef, "Mwy llawenydd na hyn nid oes gennyf, sef cael clywed fod fy mhlant yn rhodio mewn gwirionedd." Gofynnwyd iddo, onid oedd gofal ei enaid yn pwyso mwy ar ei feddwl na'r achos? Ei ateb oedd, nad oedd mewn cyfyngder ynghylch ei enaid, er cael gwŷs i ymddangos yngwydd y Brenin, canys yr oedd ers blynyddoedd wedi rhoi ei achos yn ei ofal ef. Ac erbyn hyn, achos y Brenin oedd ei achos ef, a'i achos yntau yn ddiogel gan y Brenin. Gofynnwyd iddo a oedd gradd o ofn marw yn dal ar ei feddwl. Gofynnai yntau yn ol i'r neb a'i holodd, a oedd arno ef ofn ymgyfoethogi yn y byd? "Gwn nad oes," eb efe. "Felly finnau. 'Rwyf yn hiraethu am y bore y caf fwynhau yr etifeddiaeth a baratowyd i mi er cyn seiliad y byd." Ychydig ddyddiau cyn y diwedd, galwodd flaenoriaid yr eglwys ato, a chynghorodd ac anogodd hwy yn ffyddlon, gan nodi i bob un ei ragoriaethau, ac, yn gynnil, ei ddiffygion. Gwnaed hynny yn y fath fodd a adawai'r argraff ei fod dan arweiniad yr Ysbryd ar y pryd. Wynebodd y diwedd yn siriol a gwrol, a nododd y dydd Gwener fel diwrnod ei gladdedigaeth, ddiwrnodiau cyn ei farw. Gan wenu fe ofynnodd, "Ai peth fel hyn ydyw marw?"

Yn 1815 dewiswyd yn flaenoriaid, Sion William Pandy-hen, Owen Eames, a Robert Evans Ty'nllwyn neu ynte Robert Griffith Bryn coch. Bu ymrafael blin oherwydd y dewisiad, a'r eglwys yn aros heb gynnydd.

Mawrth 1816, Cyfarfod Misol. Y pregethwyr: Daniel Jones Llandegai, Robert Jones Dinas, James Hughes Lleyn, Michael. Roberts, John Jones Tremadoc, Evan Richardson, Robert Dafydd Brynengan.

Yr Ysgol Sul erbyn hyn wedi ymganghennu o'r Ffridd (1) i'r gegin eang yn hen blâs Nantlle (1812) a Phenbrynmawr (1812); (2) o'r "gegin" a Phenbrynmawr i Rhwng-y-ddwy-afon, lle preswyliai Catrin Samuel; (3) i'r Maes y neuadd; (4) i Bencraig; (5) i'r Taldrwst; (6) i Stryt y Gof Penygroes. Y gofalwyr am (2), Robert Evans Cil y llidiart (Ty'nllwyn wedi hynny), Hugh Hughes Caerau, John Prichard Penpelyn a'i ferch Gwen ym mhlas Nantlle, ac ym Mhenbrynmawr, Dafydd Jones, gwr y tŷ, Morris Prichard, Cae-efa lwyd, Richard Benjamin Minffordd, William Jones Tyddyn gwrth fychan; am (3) William Prichard Maesyneuadd, Robert Griffith Bryncoch; am (4), Sion Michael y trigiannydd a Griffith Williams Taleithin; am (5) Thomas Edwards y trigiannydd, Robert Jones Tan'rallt, William Roberts Buarth-y-foty, William Roberts Caeengan; am (6) Owen Eames Coedcae a D. Jones Penbrynmawr.

Yn 1817 y symudwyd o Maesyneuadd i Bencraig. Drws agored a phob croeso gan Sion Michael.

1818, Ebrill 8, Cyfarfod Misol. Pwnc, yr Ysgol Sul. Pregethwyd gan John Jones Edeyrn (Exodus xix., 11), E. Richardson (2 Corinthiaid x., 4); John Jones Tremadoc (Salm xlv., 2); Michael Roberts (1 Petr i., 8); Griffith Solomon (Pregethwr vii., 14). Edrydd Cyrus fod cofnodion Robert Parry, y blaenor, yn dweyd y cafwyd ymdriniaeth helaeth ar yr Ysgol Sul, ac yn adrodd fod mewn pedair o siroedd yn y Gogledd, ynghyd a dwy o drefi Lloegr, 42,000 o Gymry dan addysg ynddi, a bod dylanwad yr ysgol yn gwladeiddio'r bobl i raddau mawr. Yr oedd nifer ysgol Salem y pryd hwn yn 160. Derbyniwyd John Michael Pencraig, a oedd newydd ei ddewis i'r swyddogaeth yn Salem, yn y Cyfarfod Misol hwn.

Mae Dafydd Llwyd yn amseru dechreuad diwygiad y tymor yma yn Salem ym mis Ebrill, 1819. "Galwyd ugeiniau i'r eglwys yn y tro, ac mae llawer ohonynt yn cael modd i sefyll yn ffyddlon yn Nhŷ'r Arglwydd y nôs, ac arwyddion amlwg ar lawer ohonynt fod yr Arglwydd am eu hachub." Edrydd yr Asiedydd hanesyn ar ol Griffith Roberts, meddyg esgyrn yn Llanllyfni, am ddyn mawr cyhyrog, ymladdwr a helwriaethwr. Daeth hwn i'r eglwys yn Salem ychydig cyn y diwygiad. Pan glywodd efe am ei hen gyfeillion ym Meddgelert yn dod at grefydd, aeth i'w cyfarfod fel y deuent i'r Sasiwn yng Nghaernarvon, a chafodd hwy ar y ffordd yn dyfod gan neidio a moli Duw, ac nid hir y bu yntau heb ymuno â hwy.

Dywed Cyrus y rhoddwyd oriel yn y capel yn 1820 i gynnwys 140. Mae "J.E.," mewn nodiad yn llyfr Cyrus, yn dweyd ar ol rhyw "hanesydd" mai yn 1837 y bu hynny.

Cynhaliwyd Cyfarfod Misol ym Mai, 1820. Pwnc, Cadwraeth y Saboth. Pregethwyd gan Morris Jones Llandegai, John Jones Tremadoc, Daniel Jones Llandegai, James Hughes Lleyn, Moses Jones Brynengan, Evan Richardson.

Awst 1821 yr agorwyd capel Talsarn, ac y ffurfiwyd yr eglwys yno. Aeth ugain o aelodau Salem yno. Daeth Talsarn a Llanllyfni yn daith yn y canlyniad.

Yn ol Cyrus yr oedd rhif y pregethau a gafwyd yma yn 1818 yn 129, ac yn 1822 yn 151. Yn ystod y flwyddyn 1818, fe gafwyd y rhai yma am y tro cyntaf yn Salem: John Elias, W. Morris, Ebenezer Morris, Moses Parry Dinbych, Dafydd Cadwaladr, Morris Jones Llandegai.

Awst 31, 1822, y bu farw Catrin Prichard. Fe geir Cofiant iddi yng Ngoleuad Cymru, 1830, (t. 206). Rhoi'r y sylwedd ohono yma: Ganwyd hi yn y Gyrn Goch, Clynnog, yn 1734. Clywyd hi'n dweyd ddarfod iddi ddewis ei phobl yn 22 oed, ac na byddai arni eisieu eu newid fyth. Galwyd hi drwy wrando pregethwr o'r Deheudir yn y Berthddu ar Mathew xi. 5, "Y mae y deillion yn gweled eilwaith." Dyna'r pryd yr agorwyd llygaid Catrin Prichard. Bu am ryw ysbaid gyda Howell Harris yn Nhrefecca. Arferai fyned i'r Gymdeithasfa flynyddol yn Llangeitho. Bychan oedd ganddi gerdded ddeg neu bymtheng milltir ar fore Sul i wrando pregeth. Deuai adref o Glynnog neu'r Tŷ Mawr Bryncroes gyda "llonaid ei homer yn wastad." Pan oedd yn 32 oed ymbriododd â William Williams y Buarthau, er mawr gysur ac adeiladaeth dduwiol iddynt ill dau. Buont yn cadw'r tŷ capel am dros hanner can mlynedd. Ymgeleddgar iawn oedd hi o bregethwyr, a hynny braidd yn gwbl ar ei thraul ei hunan. Yr oedd ei ffydd yn gref. Un tro, gofynnodd ei merch ynghyfraith iddi, a fyddai arni ofn marw weithiau? Atebodd hithau y byddai'r niwl weithiau yn myned dros ei meddwl, ac yna yr ofnai ac yr arswydai; ond yn y man fe giliai'r niwl, a hi a welai'r Graig yn eglurach nag erioed. Ei hoff bennill:

Mi wn mai'r taliad hyn
Wnaed ar Galfaria fryn,
A'm canna oll yn wyn
Oddiwrth fy mai.

Codai yn foreuach ar y Sul na diwrnod arall er cael myned i foddion gras, a threuliai'r diwrnod mewn darllen, gweddio, gwrando, ac ymddiddan am bethau ysbrydol. Ei dyddiau eraill a dreuliai yn ofn yr Arglwydd, ac nid mewn gwag siaradach. Hynod ei diwydrwydd yn rhag-ddarpar dros ei theulu. Pan fyddai'r gwr oddi cartref, hi gadwai'r ddyledswydd deuluaidd ei hunan. Wynebodd angeu yn ddiarswyd. Fel yr hen Jacob gynt, hi dynnodd ei thraed ati i'r gwely, yn dawel ei henaid, gan ymorwedd ar gadernid y cyfamod. Dywedodd wrth un o'i chyfeillion am beri gweddio drosti yn y capel. "Na weddiwch am i mi gael fy nghyfiawnhau na'm haileni, na'm symud o farwolaeth i fywyd. Mae hynny wedi ei gyflawni ers talm. Ond gweddiwch am i'r wawr lewyrchu yn fwy eglur arnaf yn yr afon." Nid oedd y llewyrch mor amlwg y Sadwrn, wythnos i'r diwrnod y claddwyd hi. Eithr y noson honno hi dorrodd allan i ganu:

'Rwy'n madael â'r creaduriaid
'N ffarwelio bron yn llwyr ;
'Does ond yr Oen fu farw
A'm nertha i y'mrig yr hwyr.

Aeth yn oleuach oleuach arni yn ol hynny. Pan ddarllennodd cyfaill 1 Thesaloniaid iv. iddi, ar ei dymuniad, a phan ddaeth efe at y geiriau, "Y meirw yng Nghrist a gyfodant yn gyntaf," ebe hi, "Nyni a gawn y blaen y bore hwnnw." Ar ol gwasgfa, pan y tybid ei bod yn marw, ebe hi, "Yr oeddwn yn meddwl y cawswn fy ngollwng y tro hwn," ac yna gyda wyneb siriol, mewn llais egwan, heriodd angeu:

Tyred angeu, moes dy law,
Fe ddarfu braw dy ddyrnod.


Wrth i'w theulu roi ychydig ddiod iddi, ebe hi, "'Rwyf bron a chael torri fy syched am byth." Dywedodd unwaith, "Ofnais lawer gwaith mai myfi a roddai achos i'r gelynion gablu, ac mai fi fyddai eu cân hwynt, ond mi a gefais fy nal yn ddigwymp hyd y diwedd." Cynghorai ei hwyrion, "Da'r plant, ymofynnwch am dduwioldeb yn eich ieuenctid." Glynai ei chynghorion fel hoelion. Wrth ei mab, ebe hi, "Glŷn wrth ddarllen." Wrth ei merch ynghyfraith, "Hi a gais wlân a llin, ac a'i gweithia â'i dwylaw yn ewyllysgar. Tebyg yw hi i long marsiandwr; hi a ddwg ei hymborth o bell." Wrth yr hynaf o'i hŵyrion, "Gwna yn llawen, wr ieuanc, yn dy ieuenctid, a llawenyched dy galon yn nyddiau dy ieuenctid, a rhodia yn ffyrdd dy galon ac yngolwg dy lygiad; ond gwybydd y geilw Duw di i'r farn am hyn oll." Wrth un, "Chwi yw halen y ddaear;" wrth arall," Canys Duw a ddwg bob gweithred i farn, a phob peth dirgel, pa un bynnag fyddo ai da ai drwg;" wrth arall, "Yr hwn y mae y Mab ganddo y mae'r bywyd ganddo;" ac wrth arall, "Na cherwch y byd, na'r pethau sydd yn y byd. O châr neb y byd, nid yw cariad y Tad ynddo ef." Pan yn rhy bell arni i ymddiddan â thrigolion daear, fe'i clywyd yn sibrydu, "Deu- wch i'm nhôl; aroswch fi; ymaflwch yn fy llaw i'm helpu drosodd." Ei henw a'i choffadwriaeth ar ei hol yn perarogli fel gwin Libanus.

1822, Rhagfyr 30, ar nos Lun, John Jones Dolyddelen yn pregethu yma am y tro cyntaf ar Rhufeiniaid viii. 4. Ionawr 12 o'r flwyddyn nesaf, yn ol ei Gofiant (t.100), yr oedd yn pregethu yma y Sul ac yn dechre gweithio yn y chwarel y Llun. Noda Cyrus ddarfod iddo bregethu ar un arddeg o Suliau yn Salem yn ystod. y flwyddyn nesaf, ac mai'r Rhufeiniaid a'r Datguddiad oedd ei hoff feusydd. Er bod ohono yn aelod yn Nhalysarn, gwnelai ei oreu dros eglwys Llanllyfni, a sefydlodd gyfarfodydd canu hynod. lwyddiannus yn y ddau le, yn cael eu harwain ganddo ef ei hun. (Cofiant, t. 101.)

Y pryd hwn yr oedd dwy gangen-ysgol ym Mynydd Llanllyfni, a theimlad dros gael Ysgoldy yno. Yr Anibynwyr wedi adeiladu capel yno, ac ysgol a gedwid yn y parth hwnnw yn myned yno bellach. Nid oedd blaenoriaid Salem ddim yn cydolygu ar yr anturiaeth o godi ysgoldy. Robert Evans Ty'nllwyn, a fu byw yn y gymdogaeth, dros ysgoldy. Ac yntau'n ddyn penderfynol, llwyddodd i ennill ei bwnc. Disgynnwyd ar le a elwir Pum-croeslon. Gorffennwyd yr ysgoldy yn Nhachwedd, 1826. Parhaodd am 17 mlynedd. Rhoddwyd heibio gynnal ysgol ym Mhencraig a Rhwng- y-ddwy-afon. Aeth rhai i'r ysgoldy, eraill i Salem, a darfu i eraill ddechre cadw ysgol yn Nhaldrwst.

Rhydd yr Asiedydd rai enghreifftiau o ddisgyblaeth yn yr eglwys. Ar achosion felly byddai pregethwr yn gyffredin yn cynorthwyo. Yr oedd Evan Richardson yma un tro yn diarddel hen wraig o ochr y mynydd. Wedi'r diarddeliad, yn ol yr arfer y pryd hwnnw, awd a hi allan ar ganol y moddion. Eithr nid cynt yr oedd hi allan drwy un drws nad dyma hi i mewn drwy'r llall, gan gyfarch Evan Richardson, "Bydd drugarog wrth dy gydgreadur." Eithr allan y bu raid myned drachefn. Wrth ymddiddan â'r cyfeillion yn y seiat, ebe Evan Richardson wrth wr oedd newydd ei wneud yn oruchwyliwr yn y chwarel, "Byddai'n well iti gymeryd carreg yn dy big rhag ofn iti ehedeg yn rhy uchel." Mewn achos o ddisgyblaeth go ddryslyd, gofynnwyd i David Jones Penbrynmawr am ei feddwl ef arno. "Wel, ni wn i ddim, yn wir," ebe yntau; yr wyf yn ei weled yn union fel pen-nionyn: wedi tynnu un gôd daw un arall i'r golwg o hyd!" Tua'r flwyddyn 1826, fe ddaeth cŵyn yn erbyn un o'r blaenoriaid, ddarfod iddo fyned i Gaernarvon ar y Sul ynghylch rhyw faterion cyffredin a meddwi yno. Yr oedd efe yn wr doniol, a methu gan yr eglwys wneud dim ohono. Daeth John Jones Tremadoc a Michael Roberts yno i gynorthwyo. Ond methu ganddynt ei gael ef i syrthio ar ei fai. Ymestynodd yr helynt dros fisoedd. Casglwr y trethi oedd. ef, a dyma gŵyn yn ei erbyn ynglyn âg arian y dreth. Ar hynny fe'i diarddelwyd, ac aeth o'r ardal, ac ni wyddis eto pa beth a ddaeth ohono.

Dengys ei Gofiant fod yr hybarch Robert Jones, gweinidog y Bedyddwyr yn Llanllyfni, yn dilyn y Methodistiaid hyd oddeutu'r flwyddyn 1826, sef hyd pan ydoedd oddeutu ugain mlwydd oed. Fel hyn y dywed am dano'i hun: "Yn ysgolion y Methodistiaid y cefais i fy magu, a bum yn wrandawr cyson gyda hwy hyd nes oeddwn o gylch ugain mlwydd oed. Yn amser fy mebyd yr oedd ganddynt ysgolion Sabothol mewn tŷ annedd o fewn hanner milltir i'm cartref. Dynion o wybodaeth a doniau bychain oedd yr athrawon, ond yr oeddynt yn ddynion ffyddlawn ac ymroddgar. Yr oedd yr ysgol fechan hon yn un o'r rhai goreu a welais i yn fy nydd y mae gennyf achos i ddiolch i'r Arglwydd am dani, fel un o'r manteision goreu a gefais ym more fy oes. Nid oedd ganddynt ddim holwyddoregau plant y dyddiau hynny, ond holi pethau syml fel y deuent i'w meddwl. Ar ol holi, byddai un dyn tra chrefyddol yn rhoddi cynghorion syml i'r plant. Bum flynyddau heb feddwl am danynt, ond y maent erbyn hyn ers amser maith yn fyw ar fy meddwl."

1827, Medi 9, David Jones Dolyddelen yma am y tro cyntaf am ddau ar y gloch. Testyn, Luc xvi. 24: "O dad Abraham, trugarha wrthyf, a danfon Lazarus." Tyrfa fawr yn gwrando.

1828, Awst 14, Cymanfa Ysgolion Dosbarth Llanllyfni. Rhoir yma grynodeb o hanes y cyfarfod allan o'r adroddiad yng Ngoleuad Cymru, 1830 (t. 174). Y mater, y pechod o gydorwedd ac anlladrwydd. Llawer o ieuenctid yn byw mewn pechodau ysgeler, ac yn edrych arnynt fel pethau diddrwg a diniwed. Cynnydd mawr ar gydorwedd yn y wlad. Cydorwedd yn dra niweidiol ei effeithiau am ei fod yn temtio i buteindra. Y brif saeth sydd gan y diafol i gwympo ieuenctid â hi. Y dylai rhai yn yr ystâd briodasol ddweyd wrth ieuenctid am eu peryglon. Y dylid cynghori yn yr Ysgol Sul, am fod aelodau'r ysgol yn cydorwedd â'u gilydd ar nos Sadyrnau a nosweithiau eraill, ac am fod yn haws dweyd yn yr ysgol nag o'r pwlpud, ac am fod pennau teuluoedd yn caniatau yr arfer i'w plant a'u gwasanaethyddion, heb ei ystyried yn ddim amgen nag arfer gwlad, ac heb weled ynddo ddim niwaid. Eisieu i'r athrawon ddeffroi ac ymwroli yn erbyn y drwg. Mae hanes arall yn dweyd fod John Jones yn llefaru yn nerthol a difrifol yn y cyfarfod hwn.

Bu John Jones yn cynnal cyfarfod gyda'r plant bob blwyddyn am ddeng mlynedd yn olynol yn y cyfnod hwn.

1828, Mehefin, Cyfarfod Misol. Pregethwyd gan James Hughes Lleyn (1 Samuel i. 30); Richard Jones Wern (1 Timotheus i. 5); Hugh Parry Sir Fflint (Esay. xxxiv. 16); Daniel Jones Llandegai (Actau ii. 37); William Jones Talsarn (Ioan x. 14); John Williams Llecheiddior (1 Ioan i. 7). Cyfri'r casgl at y Gymdeithas Genhadol. yn dangos i £12 16s. 4c. gael eu cyfrannu yn nosbarth Llanllyfni. Yr oedd y casgl misol yn Salem erbyn Hydref 4 yn £1 7s. 8c.

1831, Tachwedd 12, Lewis Edwards Sir Aberteifi yn pregethu oddiar Luc xxiv. 26, "Onid oedd raid i Grist ddioddef y pethau hyn a myned i mewn i'w ogoniant."

Pla'r colera yn y wlad ddiwedd y flwyddyn hon a dechre'r un ddilynol. Cynelid cyfarfodydd gweddi drwy'r wlad. Diwygiad 1832 yn rymus yma erbyn diwedd Mawrth. Ar gyfer Mawrth 18, yn rhestr pregethwyr R. Parry, fe ddywedir fod Richard Williams Brynengan yn pregethu y prynhawn oddiar Hebreaid xi. 7, a'r hwyr oddiar Datguddiad xxii. 2. Uwchben cofnod oedfa'r hwyr y mae'r geiriau, "Dechreu'r Diwygiad." Daeth lliaws i'r seiat y pryd hwn, yn eu plith lanc ieuanc o'r enw Griffith Edwards. Un dydd Sul pan yr oedd dan argyhoeddiad meddwl, aeth gyda chyfeillion. iddo i le neilltuedig i ddarllen y Beibl a gweddïo Profwyd pethau cryf a buwyd yn moliannu am oriau. Daeth Griffith Edwards yn athraw yn yr Ysgol ac argyhoeddodd ei ddosbarth ei fod yn wir dduwiol. Bu farw yn 27 mlwydd oed.

Mae gan Dafydd Llwyd gofiant i Elinor Jones, a fu farw Mawrth 16, 1832, yn 45 mlwydd oed, yn Nhrysorfa 1832 (t. 235). Gwraig Richard Williams Maes y neuadd ydoedd hi. Bu'n aelod am yn agos i 19 mlynedd, a'i buchedd yn addurn i'r Efengyl. Pregeth yn y Buarthau, oddiar "y gwynt yn chwythu lle y mynno," a fu'n achlysur ei phroffes gyhoeddus. Gofalus gyda'i chyfraniadau a gorfoleddus yn y moddion. Y gorfoledd hwnnw yn cynyddu, ac yn torri yn hwyliau nefolaidd yn ei gwaeledd diweddaf. Y noson y bu hi farw, yr oedd pregeth yn y capel, a thywalltiad grymus ar y gynulleidfa, ac amryw yn gorfoleddu am y tro cyntaf yn eu hanes. Canwyd y pennill yma yn ei hwylnos:

Mae'n chwaer wedi gorffen ei thaith,
Ei llafur a'i gwaith yr un wedd;
A Christ wedi talu ei dyled,
Mae'n addfed i fyned i'w bedd:
Caiff gysgu hûn dawel nes dod
Rhyw ddiwrnod heb bechod yn bur,
O'r beddrod, yn hynod mewn hedd,
Heb ffaeledd na chamwedd na chur.

Yn llyfr cofnodion Robert Parry am 1833, fe hysbysir, yn ol Cyrus, mai 39 oedd yn yr ysgol yn darllen y Beibl; 37 yn ychwanegol yn y Testament Newydd; 25 yn sillebu; 28 yn yr A B. Y cyfan yn 129. Yr oedd nifer y pryd hwn wedi ymadael i ysgoldy Nebo. Dyfynna'r Asiedydd o hen lyfr cofnodion am 1828 a'r chwe' blynedd dilynol,—tebyg mai llyfr Robert Parry,—i'r perwyl fod yn y dosbarth A B, 21; yn sillebu, 29; yn dechreu darllen, 11; yn y Testament, 38; yn eu Beiblau, 88. Cyfanswm, 187 Ac yn ysgol y Mynydd (Nebo), 28.

Yn y flwyddyn hon y troes William Griffith, ar ol hynny o Bwllheli a Chaernarvon, oddiwrth y Bedyddwyr. Yn y flwyddyn 1835 yr ymadawodd efe i Bwllheli.

Yn 1835 yr oedd Morgan Howels yma yn casglu at ei gapel yng Nghasnewydd. Casgl Llanllyfni, £3 15s. 9c.

Hydref 26, 1836, dechre Cymdeithas Cymedroldeb.

Bu yma Gyfarfod Misol yn 1836. Dyma'r derbyniadau ato: Llanllyfni, £6 9s. 61c.; Caernarvon, £1 6s. 3c.; Waenfawr, 6s. ; Bryn'rodyn, 4s.; Carmel, 6s.; Bwlan, 4s. 6c.; Beddgelert, 2s. ; Rhyd-ddu, 4s. 2c.; Talsarn, 13s. 9c.; Capel Uchaf 8s.; Brynaerau, 5s Cyfanswm, £10 9s. 3c. Taliadau: Am gig, £2 11s. Oc; blawd, 16s.; diod, £1. 2s 6c.; siwgr a thê, 4s. 7½c.; bil John Jones, 8s. 5c.; bil Robert Parry, 16s. 6c.; mân bethau, 12s.; i'r llefarwyr, 14s. 6c. Gweddill, £3 3s. 9c. "Setlwyd pob peth perthynol i'r Cyfarfod gan John Williams, Owen Eames, a John Michael, gyda Daniel Williams yn dyst eu bod yn gwneuthur yn iawn." Y pregethwyr y rhanwyd y 14s. 6c. rhyngddynt oedd. Daniel Jones, James Hughes, Griffith Hughes, Griffith Solomon, Evan Williams Pentreuchaf, Owen Thomas Bangor.

Yn 1837 y daeth William Owen yma o Garmel mewn canlyniad i'w briodas. A'r flwyddyn hon daeth John Hughes, pregethwr gyda'r Anibynwyr cyn hynny, i gadw ysgol yma. Arosodd hyd 1841. Gwr deallus.

Yn 1838 gwnawd Talsarn a Llanllyfni yn daith. Yn y cyfnod hwn Daniel Williams, mab W. Williams Buarthau, oedd ysgrifennydd yr eglwys; a Sion William, mab William Sion Pandyhen, yn drysorydd. Darfu i Daniel Williams ddilyn ei dad fel ysgrifennydd, a bu yn y swydd am 40 mlynedd, sef hyd ei ymadawiad i'r America yn 1847.

Yn 1840 dewiswyd yn flaenoriaid, Robert Parry Ty'nllan, John Prichard Penpelyn, a William Hughes Tŷ-ucha-i'r-ffordd, ac yntau yn 22 mlwydd oed. Arosodd W. Hughes am dair blynedd. pryd y symudodd i Dalsarn, lle y dechreuodd bregethu.

Fe brofwyd o ddiwygiad yr amser hwn, a chwanegwyd nifer at yr eglwys.

Y mae gan John Owen (Ty'n llwyn) gofiant i Griffith Edwards yn Nhrysorfa 1840 (t.12). Ganwyd ef yn 1811. Ni amserir ei farwolaeth. Ffrwyth diwygiad 1833. Drwy ei ddiwydrwydd ei hun fe ddysgodd ysgrifennu ac ychydig rifyddiaeth. Ymgadwodd rhag gwagedd ieuenctid. Pan ddaeth i'r eglwys yn y diwygiad, dywedai dan grynu ei fod yn bechadur mawr ac arno eisieu trugaredd, a darfod iddo'r bore hwnnw deimlo'r fath ofn na chae byth ddod i Dŷ'r Arglwydd, oni ddeuai y tro hwnnw, fel yr ydoedd i'w deimlad megys pe dywedasid hynny yn eglur a hyglyw wrtho ef. Bu mewn ofn mynych ar ol hynny na chafodd wir droedigaeth, ond yr oedd ei fuchedd yn addas i'r Efengyl. Nid oedd heb brofi cysuron yr Efengyl. Ar un Sul neilltuol, a'i feddwl yn dra isel ar y pryd, aeth gyda dau gyfaill i le neilltuedig i ddarllen a gweddio. Torri allan i foliannu Duw, a pharhau yn hynny am oriau. Bu'r tro hwnnw mewn coffadwriaeth ganddo am weddill ei oes. Ar fore Sul enciliai i le dirgel i fyfyrio a gweddio cyn myned i'r gwasanaeth. Tystiai y rhai y bu gyda hwy mewn gwasanaeth na welwyd mono mewn drwg dymer Yn wr call er yn ddiniwed. Ysgrifennai i lawr bethau yr hoffai iddynt aros yn ei gof, a chyfansoddai ambell ddernyn o'i eiddo ei hun. Dywedai ei ddosbarth yn yr Ysgol ar ol ei farw fod eu hathraw yn y nefoedd. Mae paragraff olaf John Owen mor brydferth, fel y rhaid ei ddyfynnu yma: Dyn duwiol mewn sefyllfa isel yn y byd yw un o addurniadau pennaf creadigaeth Duw. Dyma y darlun cywiraf o fywyd yr Arglwydd Iesu yn y byd. Yma y mae duwioldeb i'w weled yn ei ddisgleirdeb ei hun heb ei arliwio gan wychder y byd hwn. Y mae y saint ar y ddaear, mewn sefyllfa isel, yn rhoi'r fath brawf o ymostyngiad i ewyllys Duw, ag sy'n gryfach i'n golwg ni nag ymostyngiad yr angel wrth guddio'i ben a'i draed â'i adenydd. Ac oni bai fod sefyllfa'r angylion yn ddiogel, a'r eiddo'r cythreuliaid yn anobeithiol, dywedem y buasai'r fath esiampl o ostyngeiddrwydd yn gyrru'r naill i eiddigeddu a'r lleill i gywilyddio." (Edrycher dan 1832).

1843, sefydlu eglwys yn Nebo. Newid trefn y pregethu o 2 a 6 i 10 a 6, ac am 2 yn Nebo.

1844, Hydref 8, Cyfarfod Misol. William Owen yn datgan awydd am achos ym Mhenygroes. Gohiriwyd. Yn y ddau Gyfarfod Misol dilynol, William Owen yn dadleu dros Penygroes. John Jones yn ei bleidio.

1845. Rhentio hen gapel y Wesleyaid yn Nhreddafydd, a sefydlu achos yno, y bedwaredd gangen o Lanllyfni. William Owen yn ymuno â'r achos yno.

1846. Sion William y blaenor, masnachydd mewn ŷd, yn cael ei ddisgyblu am roi dau frawd yngofal cyfraith am ddyled. Ar ol hyn, Robert Parry a John Pritchard yn unig yn gweithredu fel blaenoriaid, yn gymaint a bod Owen Evans wedi ei analluogi gan y parlys.

Mai 13, William Jones Brynbychan, yr hwn oedd flaenor yn Cwmcoryn cyn dod yma, yn dod i'r Ty'nllwyn. Y tri blaenor yn cydweithredu yn ddedwydd. Ebe Evan Owen Talsarn am danynt : "Yr oedd Robert Parry yn nodedig am ei fanyldra gyda phethau allanol crefydd. John Pritchard yn ddyn myfyrgar a hynod ysbrydol. Nid wyf yn gwybod am neb mor wastadol ysbrydol a John Pritchard William Jones yn hynod gadarn yn yr ysgrythyrau, yn ddiwinydd da, ac yn medru traethu gyda blas ar bynciau diwinyddol. Nid anghofiaf byth y seiadau a gefais yn Llanllyfni." (Dyfynedig gan Cyrus). Cymerodd William Jones ei le ar unwaith fel y pen blaenor.

Yn y flwyddyn 1849, fe brofodd lliaws radd o adfywiad i'w hysbryd. Chwefror 4, nos Iau, David Williams Talsarnau yn pregethu ar 1 Corinthiaid, iv. 15: "Myfi a'ch cenhedlais chwi yng Nghrist Iesu drwy'r Efengyl." Rhywbeth neilltuol i'w deimlo: John Prichard yn codi ei ben, Robert Parry â'i Amen yn uchel, William Jones yn gwenu. Yn y seiat ar ol, cymhellai John Prichard yr eglwys i nesu at yr Arglwydd. Mwy nag arfer yn y cyfarfod gweddi bychan am hanner awr wedi wyth fore Sul. Dechreuwyd gan John Griffith Coed-du, a gorchfygwyd ef gan ei deimlad. Cyfarfod neilltuol. David Jones Caernarvon yn pregethu ar Esay lxiv. 6: "Megys deilen y syrthiasom ni oll." Pregeth effeithiol. Yn wylnos priod Robert Prichard Pantdu, am bump ar y gloch, torrodd yn orfoledd. Testyn y nos, 1 Timotheus, ii. 5: "Canys un Duw sydd, ac un cyfryngwr hefyd rhwng Duw a dynion, y dyn Crist Iesu." Torri yn orfoledd yma eto Am ychydig wythnosau y parhaodd y cynnwrf.

Y flwyddyn hon y ffurfiwyd y Clwb Du dirwestol. Ennill lliaws o feddwon a droisant allan yn ddynion defnyddiol. Y pryd hwn y cyfansoddodd William Roberts ei anthem ddirwestol, "Gwawriodd y Dydd." Côr Llanllyfni yn enwog yng nghyfarfodydd y wlad oddiamgylch.

1853 y daeth Evan Owen i Lanllyfni. Yn pregethu ar brawf ar y pryd ar gais eglwys Seion, Clynnog. Ei achos gerbron Cyfarfod Misol Llanllyfni, Rhagfyr 4 y flwyddyn flaenorol, a chryn wrthwynebiad yno. Bu yma dan 1857, pan ymadawodd i Dalsarn.

1855 neu 6, Medi 9, dewis yn flaenoriaid: John Griffith Cae du, Robert Roberts Nant y Gwyddel, a Henry Hughes Rhos y rhymiau.

Bu Sion William Pandy hen farw yn 1856. Mab William Sion, pen blaenor y dyddiau gynt, megys ag y bu ei fab yn ddiweddarach. Dywedai William Roberts Clynnog na welodd efe mo neb callach na Sion William. Danghosodd fedr a chraffter ynglyn âg achosion o ddisgyblaeth. Yn adnabod dynion. Dafydd Jones Buarthau unwaith yn bygwth codi ei docyn aelodaeth, am fod y plant yn cael rhyddid i ddweyd eu hadnod yn y seiat, ac yna yn chware a chadw twrf wedi myned allan. Ni fynnai mo'i ddar- bwyllo gan y swyddogion eraill. Eisteddai Sion William â'i ddwy law ar ben ei ffon, a'i dalcen ar ei ddwylaw. Apelid ato ef yn y man : "Sion William, beth sydd gennychi i ddweyd?" Ar hynny cododd yn sydyn, ac ebe fe, "Nid wn i ddim beth i feddwl o Dafydd. Mi a'i clywais yn sôn am ymadael o'r blaen, dro yn ol. Dafydd, yr hyn yr wyt ar fedr ei wneuthur, gwna ar frys! Agorwch y drws iddo, bobl, gael iddo fyned!" Aros yn ei le ddarfu Dafydd Jones, a thewi â sôn. Calfin go uchel oedd Sion William. Yr oedd John Jones yn pregethu yn Llanllyfni un tro, pan yr oedd gryn sôn yn y wlad ei fod yn Arminaidd ei olygiadau. Nid oedd Sion William yn porthi dim ar y bregeth y tro hwnnw. Yn y man, y mae John Jones yn codi i hwyl go uchel, gan ddyrchafu ei lais, "Dyma i chwi Galfiniaeth, fy mhobl i!" Ebe Sion William dros y capel, "Ie'n wir, 'doedd ryfedd na ddoe hi o'r diwedd!" Gwr dwrn-gauad braidd, y cyfrifid Sion William. Rhoes ddeuswllt un tro i John Evans Llwynffortun, ar ol pregeth. Ymliwiai y blaenoriaid eraill âg ef: oni byddai'n well rhoi hanner coron i bregethwr mor fawr a phoblogaidd? "Na, na, yn wir, welwchi," ebe yntau, "y mae o'n cael chwe swllt yn y dydd a'i fwyd, ac y mae hynny yn gyflog da iawn iddo fo." Nid William Sion oedd Sion William; ond yr oedd Sion William yntau, hefyd, yn wr gwasanaethgar iawn yn ei ddydd gydag achos ei Arglwydd.

Bu Llanllyfni yn hwy na'r ardaloedd cymdogaethol cyn profi o ddylanwadau diwygiad 1859. Ar Awst 21 yr oedd John Jones Penmachno yma yn pregethu, ar ol bod ohono yn sir Aberteifi, a gwres y diwygiad i'w deimlo ynddo. Hanes am y diwygiad yn dod o Bwlan. Ar hynny dyma John Prichard yn gofyn i'r eglwys ymrwymo i weddïo am fis am dano. Codwyd dwylaw yn arwydd. Noswaith ffair gyflogi Bontnewydd, daeth llu o fechgyn y Bwlan i Lanllyfni i'r cyfarfod gweddi. Ond er eu bod hwy yn frwd, yr oedd pobl y Llan heb deimlo yn gyffelyb, a rhai yn beirniadu. Dyma fis John Prichard ar ben heb ffrwyth. Nid oedd dim i'w wneud ond adnewyddu'r cyfamod am fis arall. Fore Gwener, Tachwedd 10, dyma Dafydd Morgan yma. Dim hynod yn y bregeth; y cyfarchiad ar ol hynny yn nerthol, â rhywbeth gorchfygol ym mhob gair. Harry Morris Brontyrnor yn gwaeddi allan, "Mae hi'n talu ar law, Mr. Morgan!" Arosodd deuddeg ar ol. Cyrus ar ffrynt yr oriel, wedi bod ar encil am beth amser. Pwy ydych chwi?" gofyn— nai'r diwygiwr. "Y gwaethaf o bawb," oedd yr ateb, a'r unig ateb a geid y bore hwnnw i'r cwestiwn. Yn y man yr oedd Cyrus ar ei draed yn parhau i lefain, "Dwedwch i Petr! Dwedwch i Petr !" Y dydd cyntaf o'r flwyddyn ddilynol, fore Sul, pan yr oedd hen frawd ar weddi, ac yn gofyn yn ei weddi am galennig, torrodd allan yn orfoledd mawr. Arferai lliaws ddweyd, ymhen blynyddoedd, na wyddent pa beth a ddaethai ohonynt gyda chrefydd oni bai am y diwygiad. Fe ymroes y blaenoriaid o hynny allan i waith eu swydd gydag ynni newydd. Codwyd rhif yr eglwys o 110 i 186 mewn dwy flynedd, gan ostwng i 160 yn y ddwy ddilynol.

1860, mewn Cyfarfod Misol yn Nebo, Robert Jones, gweinidog y Bedyddwyr, yn galw sylw nad oedd dim ysgol ddyddiol yn yr ardal, ac mai'r Methodistiaid oedd i'w beio fwyaf ar gyfrif mai hwy oedd liosocaf. John Phillips Bangor yn pwyo'r hoel ymhellach. Y flwyddyn hon bu'r person, John Jones, farw. Ar hynny ei fab, John Jones, ag oedd yn gwasanaethu yn ei le ers talm, yn tyrfu am ysgol. Yn y cyfwng hwn, Thomas Jones Post Office, William Jones Coed—cae—du, a Robert Roberts Nant y Gwyddel, tri o Fethodistiaid, mewn ymgynghoriad gyda'u gilydd, yn penderfynu danfon William Jones at John Phillips Bangor, gan erfyn arno ddanfon dros yr ardal at y Cynghor Addysg, yr hyn a wnaed. Ymdrechfa yn y canlyniad rhwng y Methodistiaid a'r Eglwyswyr. Pleidleisio'r ardal, pa fath ysgol a ddewisid? Yr ymneilltuwyr yn ennill. Ar gyfryngiad John Phillips, Mrs. Jones Porthmadoc yn cyflwyno darn o dir yn ymyl y capel—"gardd y Bermo"—i achos addysg. Ebrill, 1861, dechre adeiladu'r ysgol. Yr ymgymeriad, £533; yr ardal i godi a chludo'r cerryg. Gorffen y gwaith, Gorffennaf, 1862. Yr ysgol yn cynnwys lle i 250. Cafwyd £288 18s. 7c. gan y Llywodraeth, a chasglwyd £244 gan yr ardalwyr Casglwyd £219 8s. o'r swm yma gan y Methodistiaid. Gweithredoedd yr ysgol yn darparu fod 13 o bersonau yn ffurfio pwyllgor, i gyfrannu coron yr un yn flynyddol, a deg o honynt yn Fethodistiaid. Gwnaeth y pwyllgor amryw welliantau ar yr adeiladau. Ni chynorthwyai'r Llywodraeth, a rhoddwyd £100 o'r ddyled ar y Methodistiaid, ar y dealltwriaeth fod y Bwrdd Ysgol yn talu £1 yn y flwyddyn o lôg i drysorydd yr eglwys, a bod rhyddid gan yr eglwys i ddefnyddio'r adeiladau ar y Sul pan fyddai eisieu, ac ar dair noswaith o'r wythnos. Hon oedd yr ysgol Frytanaidd gyntaf yn yr ardaloedd hyn. Nid oedd ysgol ym Mhenygroes na Nebo. Yr ysgol yn Nhalysarn mewn cysylltiad â'r capel yn unig. Agorwyd yr ysgol Mehefin 20, 1863. Robert Jones Dwyran, Môn, yr athraw hyd Medi 1864; John Roberts (Manchester House) hyd Medi 1867; Howell Roberts (Hywel Tudur) hyd 1874, pan roddwyd yr ysgol dan y Bwrdd Addysg. (Cyrus).

1861, Gorffennaf 28, William Jones Hermon, Llandegai, yn pregethu am y tro cyntaf. Daeth yma fel bugail, Rhagfyr 1862. Dim cytundeb penodol. Casgl chwarterol at y fugeiliaeth, ond ni wneid ond ychydig.

1863 neu 4, dewiswyd yn flaenoriaid: Richard Jones Penrhos, Humphrey Griffith Gwyndy, William Ellis Brynffynnon, a Griffith Hughes Buarthau. Symudodd William Ellis yn 1868. Symudodd Humphrey Griffith i Leyn yn fuan ar ol ei ddewis, a bu'n swyddog yno hyd ei farw yn 1880. Gwr duwiol, difrycheulyd.

Ionawr 2, 1864, y bu farw John Prichard Penpelyn, wedi gwasanaethu fel blaenor am 23 mlynedd. Yn hen wr penwyn, heinyf ar y cyfan, ond wrth ei ffon, y cofir ef gan yr Asiedydd. Un o'r ffyddlonaf o flaenoriaid yr eglwys. Goddefai ei gymell yn hir cyn siarad weithiau, ond pan godai fe geid rhywbeth ganddo. Pan ddechreuai gosi ochr ei ben, ebe'r un gwr, fe ellid disgwyl rhywbeth anghyffredin, a gallai dorri allan i hyawdledd nerthol. Y ddawn i gadw seiat oedd ei brif hynodrwydd. Cwynai brawd unwaith wrtho am feddyliau drwg. Ar ol gwrando'r gŵyn, ebe yntau, "'Roedd y forwyn acw yn curo'r mochyn o'r drws ddoe, ac yn lled fuan wedi hynny, gwelwn hi'n rhoi bwyd iddo yn y drws. A wyt tithau, Sion bach, yn peidio rhoi bwyd i'r meddyliau drwg yna, ac ar yr un pryd yn eu dwrdio?" Pwysleisiai'r hwn yn yr adnodau mawr yn dra effeithiol: "Hwn a osododd Duw yn iawn," "Yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth," a'r cyffelyb. Darllenwr mawr ar Gurnall, Taith y Pererin, ac yn enwedig y Beibl. Rhyddfrydig ac ystwyth, ac yn symud gydag anghenion yr amserau. Tad mewn pethau ysbrydol, a gweddiwr neilltuol. Pan ofynnwyd iddo ar ei wely angeu a oedd arno ofn marw, ei ateb oedd, "Oes, y mae arnaf ofn y loes, ond nid oes arnaf ddim ofn y canlyniadau."

Awst 12, 1864, penderfynu adeiladu capel newydd. Sicrhawyd hanner erw o dir, ynghyda meddiant o'r hen brydles, am £200. Tynnwyd y cynllun gan Richard Davies Llanfairfechan. Ebrill 5, 1865, gosod y gwaith yn dair rhan: y gwaith maen i Evan Jones Maen coch, y gwaith coed i Henry Morris Brontyrnor, plastro a phaentio i Edward Hughes Caernarvon. Gosod y gwaith o gau mynwent allan i Humphrey Griffith Llanllyfni a R. Williams Penmynydd. Traul y cyfan, £2,600, gan gynnwys y tŷ, yr ystafell ysgol, a'r £100 dyled ar yr ysgoldy yr ymgymerwyd â'i ddwyn. Maint y capel, 22 llath wrth 17. Eisteddleoedd i 600. Bu rhyw anealltwriaeth rhwng y trysorydd ag ymgymerydd un gyfran o'r gwaith yn achos na thalwyd dim o'r ddyled hon am flynyddoedd. Ceisiwyd gyda'r naill gynllun ar ol y llall ddileu y ddyled, heb fod dim yn tycio nemor. O'r diwedd, pan rowd y peth yr ail dro o flaen yr Ysgol fe lwyddwyd. Trowyd casgl y dydd diolchgarwch at yr un amcan, a sefydlwyd cymdeithas ddilôg. Yr oedd £1,500 mewn llaw yn y flwyddyn 1877. Buwyd yn talu £200 y flwyddyn o'r ddyled am rai blynyddoedd, pan oedd masnach mewn cyflwr da. Erbyn diwedd 1885, yr oedd y ddyled wedi ei thynnu i lawr i £191. Yr oedd y diffyg dealltwriaeth y crybwyllwyd am dano wedi effeithio yn ddrwg ar bob casgl hyd 1870.

Yn 1865 yr aeth Henry Hughes i Dalsarn. Efe, yn 1862, a ddechreuodd roi swm rhoddion yr aelodau i lawr yn y casgl misol. Croes roddid cyn hynny, fel yr oedd yr arfer gynt. arfer gynt. Chwe cheiniog y pryd hwnnw oedd rhodd y brodyr; dwy geiniog y chwiorydd. Gair yn fyrr ac i'r pwrpas fyddai gan Henry Hughes. Yn adeg y diwygiad yn hynod iawn rai prydiau. Rhyw floedd ynghanol ei weddi weithiau pan dorrai'r argae ac yna ffrydlif anorchfygol. Am y rhelyw, gwr distaw, caredig, duwiol.

Y flwyddyn hon y bu farw John Griffith Caedu, yn flaenor ers deng mlynedd. Gwyllt o dymer. Fel arolygwr ysgol, wrth fethu ganddo a chael ufudd-dod, torrodd allan unwaith gyda gwaedd -"Distawrwydd," nes yswilio'r drwg-weithredwyr. Anghofiai ei hun weithiau ar weddi gyhoeddus fel na wyddai mai gweddio yn gyhoeddus yr ydoedd, ac elai ar brydiau yn faith iawn. Teimlid ef yn ymaflyd yn nerth yr Hollalluog ar adegau. Dywediad o'i eiddo am y weddi deuluaidd ydoedd mai clem a roddai ef fynychaf ar ddiwrnod gwaith gan faint ei frys i fyned i'r chwarel, ond ar fore Sul y byddai yn rhoi gwadn. Bu farw ynghanol oed gwr.

Ionawr 7, o'r un flwyddyn, y bu farw Robert Parry Ty'n y llan, yn 80 oed, ac yn swyddog ers chwarter canrif. Yn ddiargyhoedd ei fuchedd, fe oedodd yn hir broffesu. Meddyliodd mai yn Sasiwn y Bala y cawsai'r peth mawr y disgwyliai am dano; ond dychwelodd oddiyno y seithfed tro heb ei lanhau. Y Sul dilynol yr oedd efe yn gwrando ar William Roberts Clynnog ar y geiriau, "Myfi a âf, arglwydd, ac nid aeth efe," pryd y gwelodd ei ddyledswydd, a'r cyfle cyntaf daeth i'r eglwys. Y Sul ar ol sasiwn Mehefin, 1813, ydoedd hwnnw, debygir, gan y dywedir mai yn Llanllyfni y clywyd y bregeth, pan ydoedd Robert Parry o 28 i 30 oed, ac nid yw'r testyn hwnnw yn rhestr testynau Robert Parry, y cyfeirir ati eto, yn unlle yn ystod y blynyddau cyntaf. Eithr yr oedd bwlch yn y rhestr o rai wythnosau yn yr adeg grybwylledig. Defnyddiol gyda'r ysgol fel athraw, arolygwr ac ysgrifennydd. Dengys ei restr o bregethwyr a'u testynau yn Llanllyfni am dros 50 mlynedd, y gwneir defnydd ohoni yma ar ddiwedd hanes yr eglwys, ei fod yn wr tra gofalus a manwl a chyson o ran anian ei feddwl. Gyda phethau allanol yr eglwys y rhagorodd. Fe aeth i'w fedd heb i neb ddwyn ei goron. Brawd i Ann Parry. (Drysorfa, 1866, t. 362).

Tachwedd 13, o'r un flwyddyn, yn 80 mlwydd oed, y bu farw Ann Parry. Bu Catrin Prichard ac Ann Parry yn cadw'r tŷ capel cydrhyngddynt yn o gyfartal am ganrif gyfan, mewn gwir olyniad ddiaconesol. Gwisgai hi yr het silc henafol gydag urddas. Diacones yn yr eglwys a mam yn yr ardal oedd Ann Parry. Yr oedd natur wedi gweithio yn groes-ymgroes yn y teulu, gan roi'r benywaidd yn fwy i Robert a'r gwrrywaidd yn fwy i Ann. Ystyrrid hi yn un o'r goreuon am gadw tŷ capel, ac yr oedd ei chlod hyd eithaf y Deheudir. Ymgynghorai'r blaenoriaid â hi, megys un ohonynt hwy eu hunain, neu'n hytrach, megys pe bae hi yn ben-blaenor. Pan fyddai pregethwr gwerth ei gael yn nacau cyhoeddiad i'r blaenoriaid a hithau wrth law yn clywed, fel y byddai hi yn o debyg o fod, elai hi ato ei hun, a byddai'r cyhoeddiad wedi ei addaw yn y man. Mae cyfoeth rhestr pregethwyr Robert yn ddyledus i fesur nid bychan i Ann. Heb blant ei hun, tra hoff ydoedd o blant yr ardal. Y tŷ capel oedd ei chastell, eithr hi a'i newidiodd yn y man am y tŷ nid o waith llaw, tragwyddol yn y nefoedd.

Yn 1866 dewiswyd yn flaenoriaid, Thomas Jones Post Office a Griffith Hughes Buarthau.

Rhagfyr, 1868, aeth y Parch. William Jones, y bugail, i Draws- fynydd, gan dderbyn galwad yr eglwys yno.

Yn 1869 y dechreuodd Morris Jones bregethu yma.

Yn 1870 derbyniodd Mr. Robert Thomas, Hirael y pryd hynny, alwad yr eglwys hon a Nebo, y naill yn cyfrannu iddo £30 y flwyddyn a'r llall £10. Yr oedd hyn yn gam amlwg ymlaen, fe ymddengys, ar y trefniant gyda'r bugail blaenorol. Ar ddiwedd y flwyddyn. yr oedd rhif yr eglwys yn 200, yn ol taflen y Cyfarfod Misol. Y casgl at y weinidogaeth yn £69 12s. 2c. Y ddyled yn £1,520. Y flwyddyn hon, am y tro cyntaf, fe godwyd dau archwiliwr, ond nid heb wrthwynebiad. Fe fernir i'r symudiad fod o les. Ar ol y flwyddyn hon y codwyd ysgoldy Penchwarel, a chymerwyd y gofal gan Thomas Jones y Post.

Mae'r Asiedydd yn coffa marw dwy chwaer yn 1871, sef Anne Parry Pentre isaf, Chwefror 13, yn 57 oed, ac Ellen Roberts Siop uchaf, Hydref 7, yn 51 oed. Yr oedd y gyntaf o'r ddwy yn wraig gyfoethog yn y byd hwn, ac heb fod yn uchel feddwl, yn hawdd ganddi roddi a chyfrannu, yn trysori iddi ei hunan sail dda erbyn yr amser sydd ar ddyfod. Y chwaer arall oedd wedi ei hegwyddori yn dda yn yr athrawiaeth, a'i hyder yn ei diwedd oedd, y byddai i'r hwn a ddechreuodd ynddi y gwaith da ei orffen hyd ddydd Crist.

Yn ystod 1870-1 y daeth Owen Rogers yma o Hyfrydle. Ymadawodd yn ol yn 1877.

Mae gohebydd yn y Goleuad am Mai 17, 1873, yn dweyd fod Temlyddiaeth Dda yn ei rhwysg yma y pryd hwnnw, a Theml yma gan y plant.

Medi 13 y bu farw Robert Griffith Cae'rengan, yn 57 mlwydd oed. Edrydd yr Asiedydd ar ei ol, ddarfod iddo pan yn was bach mewn fferm yn Eifionydd, ddechre gyda'r ddyledswydd deuluaidd. pan oedd eraill hŷn nag ef yn gwrthod, ac ni roes y gwaith i fyny ar ol hynny. Ufudd i bob galwad arno yn yr eglwys. Cyson ym mhob moddion hyd y caniatae ei iechyd, prydlon i'r funyd. Athraw llwyddiannus gyda dosbarth o ferched.

Mawrth 5, cynhaliwyd cyfarfod ymadawol i Mr. Howell Roberts (Hywel Tudur), wedi bod ohono yn yr ardal am oddeutu wyth mlynedd fel athraw yn yr Ysgol Frytanaidd, ac yn gwasanaethu fel blaenor yn yr eglwys. Mewn anerchiad barddonol eiddunai Alafon

"Lawer o hufen i deulu'r Hafod."

Medi 18, 1874, yn 87 mlwydd oed, y bu farw Jane Hughes Ty'nypant. Hen wreigan blaen, ysmala, ddigrif, dduwiol, ebe'r Asiedydd. Arferai adrodd am dani ei hun yn yr amser gynt yn prysuro gyda'i gorchwyl er myned i'r bregeth yr hwyr, bum milltir o ffordd, a'i dwy esgid dan ei chesail, a'r fath flas a gawsai hi yn y moddion. Byddid yn wylo a chwerthin bob yn ail wrth wrando arni yn dweyd ei phrofiad. "Ddaethochi?" ebe hi wrth yr Asiedydd, pan ddeuai efe at ei drws i gasglu at y Feibl Gymdeithas neu'r Gymdeithas Genhadol, "yr oeddwn yn eich disgwyl." Yna hi elai i hen siwg ar astell uchaf y dresel, a chyrchai swllt oddiyno. "'Roeddwn wedi i giadw i chi ers dyddia." A hi a roddai fwyaf yn y dosbarth hwnnw o'r ardal. Drosti ei hun a'r teulu a Chymru a'r America, lle'r oedd ganddi deulu, yr arferai hi a gweddio, nes y deallodd wrth Thomas Jones y Post, mewn ymddiddan âg ef rywbryd, ei fod ef yn gweddïo dros y byd. Y tro nesaf iddi ei weled, hi a'i hysbysodd ef ei bod hithau bellach yn gweddïo dros yr holl fyd, gan ei bod yn gweled Iawn y Groes yn ddigonnol i'r byd mawr cyfan.

Yn 1878 y dewiswyd W. Williams Felin gerryg, John Owen Gelli bach, W. W. Jones a Henry Williams Tŷ capel yn flaenoriaid. Ymadawodd W. Williams a J. Owen y flwyddyn ddilynol.

Y flwyddyn hon neu'r flaenorol y bu farw Griffith Hughes y Buarthau. Yn weithiwr yn y chwarel, fe gasglodd wybodaeth go helaeth yn ei oriau hamddenol, a daeth i fedru mwynhau llyfrau Saesneg. Ystyrrid ef yn ddyn o gynneddf gref; ac yr oedd iddo, megys i Demetrius, air da gan bawb a chan y gwirionedd ei hun. (R. Thomas). Yn 1878 y bu farw W. Jones Ty'nllwyn.

Y Parch. D. Jones yn ymadael i Lanfairtalhaiarn, ar alwad oddiwrth yr eglwys yno, wedi dod yma yn bregethwr yn 1873. Nodir gan Cyrus, dan y flwyddyn 1879, fod yna 195 o deuluoedd yn yr ardal, yn cynnwys 882 o bobl; ac o'r rhai'n fod 571 dros 13 oed, 230 rhwng 3 a 13, ac 81 dan dair oed. A bod y Methodistiaid yn hawlio 569 ohonynt.

Ymwelodd Richard Owen â'r lle, nos Fawrth, Gorffennaf 3, 1883. Y noswaith hon y rhoes efe bregeth gyntaf ei genhadaeth yn Nyffryn Nantlle. Er y sôn am dano ym mhen arall y sir ni ddisgwylid rhyw lawer oddiwrtho ef yma. Yr Arglwydd yn gofyn i Adda, Pa le yr wyt i? oedd y testyn. Gwesgid y gynulleidfa i aethau o gyfyngdra. Y gynulleidfa yn fawr iawn y noswaith nesaf. Pregethodd mewn dau gapel nos Sul. Elias ar ben Carmel oedd ei bwnc yn Salem, ac yr oedd yno orfoledd mawr, na chlybuwyd y cyffelyb er diwygiad 1859. Yr oedd y cynulleidfaoedd yn fawr anferth. Yr oedd y dydd Gwener yn ddiwrnod ffair, a meddyliai llawer mai ofer fyddai iddo bregethu y diwrnod hwnnw. Eithr yr oedd y fath nerth gydag ef y nosweithiau blaenorol, fel y credwyd ei gyhoeddi y prynhawn a'r hwyr. Dyryswyd y ffair, a chafwyd oedfaon anghyffredin. (Cofiant R. Owen, t. 153).

Awst 24 bu farw Thomas Jones y Post yn 60 mlwydd oed, wedi bod yn swyddog er 1866. Efe oedd trysorydd yr eglwys, ac efe, ebe'r Asiedydd, oedd asgwrn cefn yr achos mewn blynyddoedd. diweddar. Gwyliai yn ddyfal beunydd wrth y drysau, gan warchod wrth byst y pyrth. Gwrandawr serchog, cyfaill dihoced, gweithiwr difefl. Nid anghofiodd letygarwch. Ei ddawn oedd ymroddiad diarbed i'r achos. Noda Mr. R. Thomas ei fod yn foddlon i wneud y pethau bychain. Bu'n cerdded i ysgol Penychwarel ar bob tywydd am ddeuddeng mlynedd. Yr oedd efe yn nai i Fanny Jones Talsarn.

Nid oedd ynddo un uchelgais
Fel y Diotrephes gynt;
Nid y blaen ond man i weithio
Oedd ei bleser ar ei hynt.

Yr un flwyddyn dewiswyd yn flaenoriaid: John Roberts Manchester House, Edmund Williams, Ysgol y Bwrdd, William Griffith Dôl Ifan. Yn 1885 pwrcaswyd 280 llathen betryal o dir am £17; ac adeiladwyd arno ysgoldy Penychwarel yn ystod 1886—7. Yn ystod yr un amser gwariwyd £776 1s. 7c. ar adnewyddu y capel a'r adeiladau perthynol.

Ebrill 1889, ymadawodd y Parch. R. Thomas y bugail, gan dderbyn galwad o Lanerchymedd, ar ol arosiad yma am yn agos i 20 mlynedd. Diwedd y flwyddyn hon yr oedd rhif yr eglwys yn 266. Y ddyled wedi ei thynnu i lawr yn 1884 i £43. Y ddyled yn niwedd y flwyddyn hon yn £1050.

Yn 1890 derbyniodd y Parch. G. Ceidiog Roberts alwad yr eglwys, gan ddod yma o Faentwrog.

Yn 1896 bu farw Richard Jones, yn 81 oed, wedi gweithredu fel blaenor ers deuddeng mlynedd arhugain. Trymaidd, arafaidd, gochelgar, yn edrych tua'r llawr. Lled esgyrniog a garw ei wedd, lled dawedog, go anibynnol, siriol gyda'i gyfeillion. Felly y dywed Mr. Llewelyn Owain, a chrynodeb byrr o'i ysgrif ef geir yma. Arferai ddarllen y Faner i'r gweithwyr yn y gloddfa ar yr awr ginio yn wr ieuanc. Dysgodd yr Hyfforddwr yn drwyadl, a gallai ei alw i fyny at ei wasanaeth unrhyw bryd. Dewiswyd ef yn athraw cyn bod ohono yn aelod. Un o blant diwygiad '59, y pryd hwnnw yn 44 oed. Tynnai ei law ol a blaen ar ei fynwes wrth siarad yn gyhoeddus. Ni ddanghosai awydd siarad, ond byddai bob amser yn synwyrol, ac yn fynych yn gyrhaeddgar ac ysgrythyrol. Byrr ac i bwrpas. Gwr darbodus a chynil. Cyfiawn yn hytrach na thrugarog. Go Galfinaidd ei olygiadau. Athraw effeithiol, yn rhoi pwys ar y darlleniad, ac yn dwyn allan yr ystyr. Craff fel arolygwr ysgol. Taer mewn gweddi gyhoeddus. Cadwai'r ddyledswydd deuluaidd yn ddifwlch. Mynych yr adroddai wrtho'i hun y pennill hwnw:

Rhyw fôr o gariad yw
Dy heddwch di fy Nuw,
A nef y nef yw gweld dy wedd.


Llym yn erbyn dichell a thwyll. Prin ei eiriau wrth ddisgyblu : yn ochelgar a gofalus rhag brifo'r teimlad. Ei brif lyfrau, esboniadau Scott, Thomas Jones Caerfyrddin a Mathew Henry, Geiriadur Charles a Gurnall.

Chwefror 10, 1899, yn 77 oed, y bu farw Robert Roberts, yn flaenor ers 43 mlynedd. Crynhoir yma eto allan o Mr. Ll. Owain. Cymeriad Cymreig. Henwr bychan, pert, gwisgi. Parod ar alwad, gyda chyffyrddiad o'r gorchestol yn ei ddull. Mymryn o ysmaldod. Cyn priodi yngwasanaeth amaethwyr; wedi hynny yn y chwarel. Collodd yr arfer o'i fraich drwy waew, ac aeth i'r ysgol at Eben Fardd. Bu yno am flwyddyn yn dysgu cadw cyfrifon, ac yna adeiladodd fasnachdy yn Llanllyfni. Ar ol hyn bu drwy Gymru yn gwerthu gweithiau Eben Fardd a D. Jones Treborth. Gorfanwl mewn disgyblaeth deuluaidd, feallai. Ni phallai'r ddyledswydd deuluaidd. Dirwestwr pybyr. Athraw defnyddiol, yn hoff o'r termau diwinyddol, yr hyn a ddug iddo'r teitl "doctor" gan gylch neilltuol. Anrhegwyd ef â Beibl a spectol aur gan ei ddosbarth a'i gyn-ddisgyblion, ynghydag "anerchiad." Fymryn yn ffwdanllyd, fwy na mymryn o garedig, hoff o blant, ac wrth ei fodd yn eu cyfarfodydd. Dawn siarad amlwg. Gweddïai lawer pan arno'i hun, ond nid heb i'r plant ddod o hyd iddo weithiau. Cyfundebwr cryf. Efe yn un o'r tri a roes y cam cyntaf at gael ysgol. Frytanaidd i'r lle. Traddododd y cynghor i 15 o flaenoriaid yng Nghyfarfod Misol Dinorwig, Mehefin, 1898. Yn ystod ei oriau olaf, gofynnodd ei ferch iddo, "Nhad, beth sydd gennych i'w ddweyd heddyw? yr ydych wedi bod yn ffyddlon iawn iddo." Ebe yntau, "Yr un geiriau sydd ganddo i'w ddweyd wrthyf ag a ddywedodd wrthyf pan oeddwn ar fy ngliniau o flaen yr hen gadair yna ers talm, Ni'th adawaf."

Henry Williams Glanaber, a fu farw Mai 14, 1900, yn 57 oed, ac yn flaenor ers dwy flynedd arhugain. Ysgol Henry Williams oedd aelwyd ei dad. Y tad a'r plant yn hoff o ddadleu pynciau. Y Parch. W. Williams Rhostryfan ydyw un o'r plant hynny. Iolo Caernarvon ymhlith ei gyfoedion ieuainc. Ei brif nodwedd ydoedd ireidd-dra crefyddol. Pwnc mawr ganddo oedd prydlondeb yn y moddion. Ar farwolaeth Thomas Jones y Post, ymgymerodd â gofal ysgol Penchwarel. Dilynodd fyned yno am ddwy flynedd arbymtheg. At y diwedd byddai'n ymlusgo myned, ac yn troi i dy ar y ffordd i orffwys. Pob cynghor o'i eiddo yn argyhoeddiad iddo. Yn ddifrif heb fod yn anaddfwyn. Gwrandawr aiddgar ar bob pregeth. Amen brwd. Heb adnoddau dyn cyhoeddus, gweithiai yn ddistaw o'r golwg. Gwr bucheddol, yn meddu ar "grefydd gron" yr hen bobl. "Canllaw Duw," ebe Mr. Owain, "i gadw dynion rhag gwyro oddiar y llwybr cul, a charreg filltir ar y ffordd i Wynfa." Ysgrythyrwr campus. Ei hoff lyfrau, y Geiriadur, Esboniad James Hughes, a Thaith y Pererin. Ymwelwr â'r claf. Cedwid urddas crefydd ar yr aelwyd. Athraw ymroddedig. Cofiodd ar hyd ei oes y cynghor a gafodd wrth ei dderbyn yn swyddog i'r Cyfarfod Misol, sef mai gwinllan oedd yr eglwys, ac yntau i fod yn weithiwr ynddi. Ganwyd ef yr un dydd o'r mis ag y bu farw, a bu farw ei fam yr un dydd o'r mis. Canodd Einion ei frawd:

Y fam a wenai, nis gallai lai . . .
'Roedd yn y bwthyn lawenydd didrai
Ar fore'r Pedwerydd arddeg o Fai.

. . . .


Y mab wrth y gwely yn gwylio'n syn,
A'i fam mewn tawelwch yn croesi'r glyn.
Wylo mae'r bachgen a'i ddagrau heb drai
Ar fore'r Pedwerydd arddeg o Fai.

. . . .


Mai eto'n gwenu a'i flodau cann,
A'r mab ar ei wely yn llesg a gwann
A thrwy afon angeu o'n golwg yr âi
Ar fore'r Pedwerydd arddeg o Fai.

Yn 1900 dewiswyd yn flaenoriaid: D. D. Thomas, J. B. Davies, H. Williams, W. R. Williams.

Dywed yr Asiedydd ddarfod iddo weled llyfr cyfrifon yr Ysgol Sul am 1828 ymlaen. Dyfynna ychydig. Yn nosbarth yr AB, 21; silladu, 29; dechre darllen, 11; Testament, 38; Beibl, 88. Ysgol y Mynydd, 28. Yr holl ysgol, 215. Casglwyd at lyfrau yn ystod y flwyddyn 1828, 14s. 7g. At dalu dyled y capel yn 1832 (sef gan yr ysgol, debygir), £2 12s. 8½g. Enwau yr holwyr yn ystod y flwyddyn (1832, debygir): Owen Eames, John Michael, Griffith Roberts a Robert Evans. Sonir hefyd am lyfr arall yn cynnwys llafur a rhif yr ysgol o 1838 hyd 1882. Cymherir 1838 ag 1882 fel yma: 1838. Athrawon, 29; athrawesau, 0; ysgolheigion, 176; yr oll, 205; penodau, 2474; adnodau, 2025; Hyfforddwr, 822 (penodau); Rhodd Mam, 253; hymnau, 0; Deg Gorchymyn, 36. 1882. Athrawon, 47; athrawesau, 12; yr oll, 346; penodau, 0; adnodau, 51,400; Hyfforddwr, 50; Rhodd Mam, 596; hymnau, 2,763; Deg Gorchymyn, 0. Yng nghyfrif 1882, fe gynwysir y canghennau, sef yr ysgoldy a Phenychwarel. Rhoi'r enwau arolygwyr y "deugain mlynedd diweddaf," sef 1842-82, debygir. Dyma nhwy: William Owen Penbrynmawr, Robert Parry Siop, William Jones Ty'nllwyn, John Griffith Cae du, Henry Hughes Rhos y rhyman, Robert Roberts Nant y Gwyddyl, Owen Jones. Tir bach, Griffith Jones Cefnas llyn, Richard Jones Penrhos, Howel Roberts Ysgolfeistr, Griffith Hughes Buarthau, John Roberts Manchester House, W. W. Jones Llyfrwerthydd, Owen Rogers Felin gerryg, William Williams Felin gerryg, William Jones Pandy hen, William Griffith Dol Ifan, Edmund Williams Ysgol y Bwrdd, Richard Jones Livingstone House. Bu lliaws ohonynt yn y swydd am fwy nag un flwyddyn, fe ddywedir yma.

Mae Cyrus yn cyfleu gerbron, allan o gofnodion W. Owen Penbrynmawr, daflen cyfrif Ysgol Sul Llanllyfni am Mai 5, 1838, hyd Hydref 23, 1842. Mai 5, 1838, rhif yr ysgol, 220. Penodau'r athrawon, 427; penodau o'r Hyfforddwr, 146; penodau o'r Rhodd Mam, 43; adnodau, 417. Am Gorffennaf 29 rhoi'r rhif yr athrawon yn 32. Nid oedd athrawes yn yr ysgol y pryd hwn hyd Chwefror 24, 1839; a'r adeg honno nid oedd ond un, ac ni bu mwy nag un hyd Ebrill 26, 1840, pryd yr oedd tair; erbyn Mai 31, pedair; tair wedyn, ac hyd yn oed dwy, nes y cafwyd pedair, Hydref 23, 1842. Erbyn hynny yr athrawon yn 38, ysgolheigion yn 240, cyfanswm, 282. Ni ddysgid penodau cyfan o'r Beibl ond gan athrawon yn unig hyd Chwefror 24, 1839, pan y rhoir 400 o benodau ar gyfer yr ysgolheigion, a 493 o adnodau. Hydref 23, 1842, penodau'r athrawon, 96; penodau'r ysgolheigion, 462; o'r Hyfforddwr, 46, ac o'r Rhodd Mam, 46; adnodau, 405; adroddiadau o'r Deg Gorchymyn, 15.

Yn y flwyddyn 1864 fe ddechreuwyd cynnal ysgol i'r plant yn yr ysgol ddyddiol, ac yr oedd yr ysgol yma ynghydag ysgol y capel a'r un yn Penchwarel yn arfer bod dros 400 o rif am flynyddoedd. Robert Jones athraw yr ysgol ddyddiol, a Thomas Jones y Post, fu'r athrawon cyntaf yn adeilad yr ysgol ddyddiol. Tuag 1870 y dechreuwyd ysgoldy Penychwarel gan Thomas Jones y Post a'i ferch hynaf ynghyd a John Roberts Salem Terrace. Rhoddwyd tŷ i gynnal yr ysgol heb ardreth, hyd nes codwyd yr ysgoldy, gan Hugh Jones, meddyg anifeiliaid yn Llanllyfni.

Dyma'r adroddiad gan ymwelwyr 1885: "Tri dosbarth o'r pedwar yr ymwelwyd â hwy yn y dosbarth canol yn dilyn y wers-daflen, ac yn arfer y cynllun o holi ar y paragraffau yn lle ar yr adnodau. Llai o ddysgu ar yr Hyfforddwr nag a welwyd. Cedwir ysgol y plant yn Ysgoldy'r Bwrdd. Yr hen ddull o ddysgu'r plant lleiaf. Yn rheol yma nad oes neb i gael ei godi i'r ysgol fawr heb fedru'r Deg Gorchymyn yn berffaith. Ysgol Pen-y-chwarel. Y lle yn anghyfleus o fychan. Cymerir llawer o drafferth gyda'r plant, a holir hwy yn gyson yn y Rhodd Tad a'r Rhodd Mam. Y rhan fwyaf yn medru'r Deg Gorchymyn. W. Griffith Penygroes, E. Williams Ysgol y Bwrdd, J. Roberts Manchester House."

John Roberts, y pregethwr wedi hynny, fyddai'n codi'r canu, pan ddechreuwyd gyda hynny, yng nghapel y Buarthau. Wedi dechre pregethu, fe ddysgai'r tonau newydd a glywid ganddo yma ac acw i'r gynulleidfa yn y Buarthau. Cenid y tonau hyn am oriau ynghyd, fe ddywedir, nes y byddai'r cantorion yn chwys dyferol. Ar ol John Roberts, Robert Griffith Bryn coch oedd y codwr canu, a hynny hyd nes symud ohono i Dalsarn yn 1821. Bu'n ffyddlon gyda'i orchwyl, a cherddodd lawer i dai lle cynelid pregethau a chyfarfodydd gweddi, draw ac yma, i'r amcan o wneud y canu yn effeithiol. Dewiswyd yn ei le Harry Parry, brawd Ann Parry, a bu'n ffyddlawn gyda'i orchwyl, yntau hefyd, nes symud ohono i Benygroes yn 1844. William Roberts y crydd oedd y pencantor nesaf, a bu llewyrch ar y canu yn ei amser ef. Eithr cyn hir fe ymfudodd i'r America, a disgynnodd y coelbren yn nesaf ar John Roberts, ac wedi hynny ar Harry Thomas, a ddaeth yma o ardal Pwllheli. Canwr rhagorol a llais gwych ganddo. "Harry y Canwr" oedd ei enw adnabyddus gan lawer. John Roberts, ei ragflaenydd, a'i cymhellodd i ddod i'r ardal, gan addaw gwell gwaith iddo a manteision eraill, ond mewn gwirionedd, fe debygir, gyda llygad arno fel olynydd iddo'i hun, yr hyn a ddigwyddodd yn union wedi iddo ddod. Gwyn eu byd y rhai addfwyn ymhlith y cantorion, canys er rhoddi ohonynt eu swydd i fyny, hwy a etifeddant y ddaear yn ei lle. Ond rhaid cofio mai chwaer i John Roberts oedd gwraig gyntaf Harry Thomas. Bu Harry Thomas nid yn unig yn ffyddlon gyda'r canu, eithr fe'i cyfrifid yn weddiwr hynod. Fe ddywedir iddo fod ym mhen Garn Pentyrch drwy'r nos rai gweithiau yn gweddio Duw, ac y byddai ei wyneb yn disgleirio pan ddychwelai efe oddiyno. Fe symudodd i Dalsarn yn 1860, ac ni fu byw ond rhyw flwyddyn yn ychwaneg. John Jones Penalltgoch a fu ei olynydd am ysbaid, a Robert Jones ei frawd. Yna William Ellis Bryn ffynon, y blaenor. Cantor deallus a llwyddiannus. O hynny ymlaen bu'r arweiniad gan Mr. John Roberts Manchester House. Codwyd i'w gynorthwyo ef, Mri. W. D. Jones, Michael Williams, John E. Jones, H. R. Owen, a J. W. Jones. (Asiedydd).

Bu'n aros yma, am ysbaid, amryw bregethwyr heblaw y rhai a nodwyd, nid amgen: Michael Jones Llanberis, John Jones, mab Ellen, gwraig William Jones y gwehydd, Richard Williams Rhedyw House, David Jones Hyfrydle.

Mae'r Asiedydd yn nodi amryw ffyddloniaid, heb roi amseriadau fynychaf. Rolant Hughes Dolwenith a gyrhaeddodd wth o oedran, ac yn ei amser olaf ar ei ddwyffon. Fel athraw, yn gallu cymhwyso'r gwirionedd at y gydwybod. "Dyma Rolant Hughes yn dyfod, lads," ebe'r oferwyr, " rhaid ini fyned o'r ffordd nes yr ä heibio." Gweddiwr hynod. Ei ddull mewn gweddi bob amser fel un yn ymddiddan wyneb yn wyneb. Y dywediad ar ei ol, "Pwy bynnag sydd yn y nefoedd, y mae Rolant Hughes yno." "Perthyn i'r hen siort yr oedd Dafydd Jones Tu-draw-i'r-afon. Garw, afrywiog, heb allu ymserchu ond yn yr hen siort o bethau. Aeth allan wedi ei gythryblu unwaith wrth i'r pumed godi i weddïo, yn lle'r pedwar arferol. Yn cyfarth y blaenoriaid beunydd. Ond yn ymnewid trwyddo ar ei liniau; yno yn ostyngedig yn y llwch, a'r pryd hwnnw maddeuid iddo gan bawb. Cafodd aros ar y ddaear yn ddigon hen i addfedu cyn myned oddiyma, sef pan dros 80 mlwydd oed. Bu Elin Hughes ei briod fyw fel yntau i fyned dros ei 80 mlwydd. Eu priodas hwy yr hynaf yn y plwyf. Perthynai i'r dosbarth o wragedd-feddygon. Bu o wasanaeth mawr mewn cyfnod nad oedd meddyg i'w gael yn nes na Chaernarvon. "Hen wraig y gyddfau " oedd yr enw arni gan rai am ei bod yn ddiail am wella'r dolur gwddf. Byddai astell isaf ei bwrdd tê yn arfer bod yn llawn o lyfrau, Y Beibl, Gurnall, pregethau John Elias, Christmas Evans, Morgan Howels, ynghyda llyfrau eraill. Yn amheuthyn i'w chlywed yn dweyd ei phrofiad. Gwen Jones Penrhos a fu farw yn gymharol ieuanc. Deallgar a darllengar, a thrwyadl gydnabyddus â phynciau ysgrythyrol. David Thomas Ty'n-y-pant-bach, ffrwyth diwygiad 1859. Tra ffyddlon gyda'r Ysgol Fach i blant tlodion o'i chychwyniad. Gaenor Jones y fydwraig oedd hynod ddawnus a siriol. Ei llais yn perori yn y gwasanaeth cyhoeddus. Cadwai'r ddyledswydd deuluaidd yn ddifwlch ei hunan. Nid oedd ei phriod yn perthyn i grefydd. Wynebodd angau yn ddifraw, Mawrth 17, 1866, pan ydoedd hi'n 68 mlwydd oed. Mary Griffith Ty'nllwyn, priod William Jones, oedd gyfnither i Nicander a mam i J. W. Jones, golygydd y Drych Americanaidd, a W. W. Jones (Cyrus). Daeth at grefydd yn amser diwygiad mawr Brynengan, ac arosodd ysbryd y diwygiad yn ei hesgyrn i'w diwedd. Tra chydnabyddus âg emynau Williams, a gallai adrodd unrhyw gyfran o'r Hyfforddwr oddiar ei chof, ac yr oedd ganddi wybodaeth eang yn yr Ysgrythyr. Gwrandawai bregeth yn astud a chofiai hi'n fanwl. Cadwai'r ddyledswydd deuluaidd ei hun, os byddai ei phriod yn absennol. Byddai gwrando arni yn traethu ei phrofiad yn addysgiadol. Meddai lywodraeth hollol ar ei thymerau. Bu farw oddeutu 1869. Sonia'r Asiedydd am " Amen gynes " Marged Dafydd, Ann Dafydd, Elin Wmphre, Mari William a Mary Jones Ty'nllwyn.

Mae gan y Parch. R. Thomas nodiadau ar amrywiol bersonau. "Paham y grwgnach dyn byw, gwr am gosbedigaeth ei bechod," fyddai adnod Mrs. Griffith Cae'rengan, pan ymwelai efe â hi yn ystod ei chystudd maith. "Nid oes gennyf finnau hawl i rwgnach er fy holl gystuddiau." Y gair garw ymlaen fyddai gan John Griffith Tŷ-gwyn-uchaf. Hen gymeriad hynod. Dweyd ei feddwl yn ddibetrus, digied a ddigio. Ond gan ei fod ef yn ddiwenwyn, ni ddigiai neb. Cyfarchai'r Brenin Mawr un tro: "Dyma ni wedi dod ger dy fron: rhyw flewiach o bethau ydym; ynom ein hunain yn dda i ddim ond ein llosgi. Ond credwn, er hynny, y gelli di ein hachub drwy ras." Perl heb bolish. Mam yn Israel oedd Mrs. Griffith Dôl Ifan. Cafwyd aml i wledd gyda hi yn ei chystudd blin, ac un cyfarfod gweddi hynod. Yr oedd ystafell ei gwely yn ogoneddus y noswaith honno; ac nid hir y bu hi ei hunan ar ol hynny cyn cael ei chymeryd i ogoniant. Yn preswylio gyda hi yr oedd Betty William, dall erioed, debygir. Bob amser yn siriol, a llawer o'r amser yn canu yn felodaidd. Manwl iawn gyda'r Saboth: ni byddai prin yn foddlon i York, y ci, gyfarth ar ddydd Sul. Michael Williams, y cerddor selog, a fu o wasanaeth mawr gyda phlant lleiaf yr Ysgol. Tra gafaelgar mewn gweddi oedd John Williams y teiliwr. Disgwylid iddo'n wastad gymeryd rhan yng nghyfarfod yr hwyr yn y Cyfarfod Diolchgarwch. Meistr ar yr hen ddawn Gymreig soniarus a hyfryd. Eithr yr oedd ganddo fwy na chelfyddyd; moriai mewn hedd yn ei agosrwydd at Dduw. Cipid ef megys allan o'r corff ar brydiau. Fel Jacob, byddai yntau weithiau fel yn methu gollwng ei afael mewn taer weddi. Pa le y mae'r hen weddiwyr? Profiad llawer, wrth gofio am danynt, sydd gyffelyb i eiddo Mica'r proffwyd, "Fy enaid a flysiodd yr addfed ffrwyth cyntaf."

Rhif yr eglwys yn 1900, 311.

Mae tri o lyfrau gerbron, yn cynwys enwau'r pregethwyr a fu yn Llanllyfni, ynghyda'u testynau, o'r dechre hyd Ionawr 1, 1865, wedi eu cofnodi gan Robert Parry Ty'nyllan. Ni ddaeth y rhestr hon i law dan ar ol gorffen ysgrifennu yr uchod. Cafwyd amryw ddyfyniadau ohoni eisoes, drwy gyfrwng eraill. Yn yr hyn a welir yma ymhellach fe geir rhai ail-adroddiadau. Ar ol nodi pregethwyr yr agoriad ar Fehefin 6, 1813, y nesaf yw, Mehefin 27, am 6, John Roberts Llangwm, Salm iii. 10. Mae Robert Parry yn gofnodydd manylaidd, a thebyg mai yn y Buarthau yr oedd y pregethau yn y cyfamser, am, fe ddichon, nad oedd y capel wedi ei gwbl orffen ar yr agoriad. Rhoir yma y tri mis dilynol: Gorffennaf 4 (2), John Humphrey Caernarvon, Actau x. 25; 11 (10), Henry Roberts Bangor, Numeri xxiii. 23; 18 (2), Wm. Roberts Clynnog, Jeremia vi. 16; 25 (2), Mr. Richardson, Hebreaid xii. 1. Awst 1 (10), Richard Lloyd Anglesey, 1 Cor. ii. 14; 8 (10), John Humphreys Caernarvon, Dat. vii. 13; 10 (2), Rhees Davies, 1 Tim. i. 15; 12 (6), Michael Roberts, Deut. iv. 4; 15, Richard Jones Coetgia, 2 Petr i. 4; 22 (2), Mr. Richardson, Heb. iii. 12, 13; 24, Robert Davies Brynengan, Ioan xvi. 22; 27 (2), Rhees Jones, Smith, Esay. lv. 1; 28 (2), Owen Jones Plas gwyn, Mat. vii. 21. Medi v. 10, John Huxley, Hosea, xiii. 14; 12 (10), Henry Roberts Bangor, Luc xxi. 22; 13 (6), John Jones Tremadoc, Gen. xii. 1, 2; 14 (6), Evan Lloyd, Ioan v. 25; 15, Richard Williams, Marc v. 19, 20; 23 (6), John Hughes shire Drefaldwyn, Eph. ii. 4; 24, David Bowen, Col. i. 13; 25, David Rhees Llanfynydd, Actau xi. 23; 25 (2), Humphrey Gwalchmai, 1 Tim. i. 10; 26 (2), Mr. Richardson, Heb. iii. 19; 29 (2), John Elias, 1 Ioan, iii. 20, 21. Sylwer yn y rhestr hon fod y pregethwyr cartrefol yn dod yn fynych. Felly y ceir hwy am yn hir. Hefyd, fod dieithriaid yn dod yn fynych ar eu teithiau, Sul a gwaith, brynhawn a hwyr, a bore hefyd, fel y gwelir mewn mannau eraill. Ac hefyd, nad oedd John Elias ddim yn Mr. Elias dan ar ol 1813.

Yn 1814, fe roes Owen Jones Plasgwyn 9 pregeth yma; Mr. Richardson, 8; John Humphreys, 8; Robert Sion Hughes, 5; William Roberts Clynnog, 4. Y rhan amlaf un bregeth yma ar y tro. Deuai y brodyr cartrefol hyn yma weithiau ar ddiwrnod gwaith. Gan y dilynid hwy ar y Sul gan liaws o'r naill fan i'r llall, tebyg fod nifer pregethau rhai ohonynt yn y daith yn fawr yn ystod blwyddyn. Tebyg fod eraill yn gweled mai gwell i bawb roi ohonynt hwy yr un bregeth fwy nag unwaith.

Yr oedd nifer y pregethau yma mewn blwyddyn, yn ystod 1814-32, yn amrywio rhwng 116 yn 1815 a 159 yn 1823. Cyfartaledd blynyddol 1814-32, 137. Nifer y pregethau mewn blwyddyn, yn ystod 1833-44, yn amrywio rhwng 122 yn 1843 a 147 yn 1840. Cyfartaledd blynyddol 1833—44, 133. Pa ddelw bynag, ceid dwy bregeth ar y Sul fynychach fynychach, ac yr oedd y pregethu teithiol yn myned yn anamlach anamlach. Cafwyd 66 pregeth ar ddiwrnod gwaith yn ystod 1815; 68 yn 1823; 54 yn 1840; 34 yn 1843.

Y mae yma rai nodion a manion o ddyddordeb. Dyma "Mr." Elis Caergwrle ar ei daith, Gorffennaf 18, 1814, gwr o beth safle fydol. Gŵyr Robert Parry pwy ydyw pwy. Awst 30, dyma William Morris Deheudir am y tro cyntaf, hyd y dengys y rhestr hon. 1815, Mai 14, yn oedfa 10 y Sul, dyma "Mr." Howels a'i gyfaill Jencin Harris o'r Deheudir. Pwy ydoedd? Howel Howels, nid hwyrach, un o'r offeiriaid a lynodd wrth y Corff ar ol ordeiniad 1811. Yr oedd William Howels, Longacre wedi hynny, eisoes yn Llundain. Eithr ychydig a deithiai Howel Howels, fe ddywedir, a dichon mai gwr boneddig o ffarmwr a fu yma. Mehefin 6 (6), "Mr." Williams Lledrod, offeiriad arall gynt; a'r 25 (6), Thomas Richards Deheudir a'i gyfaill, enwocach gwr na'r un "Mr." ar ol dyddiau "Mr." Charles, ac ymhen deuddydd, William Havard a'i gyfaill. Gorffennaf 25, Theophilus Jones sir Aberteifi a'i gyfaill, sef y gwr a fu wedi hynny yn gynorthwyydd i Rowland Hill. Hydref 1, dyma Ebenezer Morris a'i gyfaill, y mwyaf o bregethwyr Cymru, ebe Henry Rees unwaith wrth Richard Lumley. Ond ni wiw ymhelaethu yn y dull hwn, er fod yma eithaf cyfle. Yn fyrrach ynte, yn 1816 dyma Thomas Jones Llanpumsaint, yr esboniwr, ac Ebenezer Richards; yn 1817, Robert Davies sir Drefaldwyn, John Davies Nantglyn, David Bowen, David Griffith sir Benfro, gwr mwy poblogaidd yn ei sir ei hun na Thomas Richards neu William Morris, ac nid i'w gael yn fynych ar daith, a dyma William Morris hefyd yn y man. Pa ryfedd fod yna fath ar gynddaredd yn y wlad am glywed pregethau yn y dyddiau hynny? Yn fyrrach eto. Yn 1818, un bore ym Medi, John Jones Edeyrn, a'r bore dilynol, William Havard. 1819, fore gwaith, William Roberts Amlwch; a'r hwyr ddiwrnod arall, Dafydd Rolant y Bala; ar yr un bore Sul, John Roberts Llangwm a John Elias; yn Nhachwedd, cyfarfod plant un Sul, Evan Harris Morganwg ar y llall, John Elias ar y llall. 1821, Sul olaf Medi, Thomas Jones Caerfyrddin a'i gyfaill y bore, sef yr un ag ef o Lanpumsaint, ac Ebenezer Morris yr hwyr. Digoned hyna fel enghreifftiau allan o'r blynyddoedd cyntaf yma. Anfynych, debygir, y torrid cyhoeddiad y pryd hwnnw, canys dyma bin drwy gorff Abraham Rowland druan, ar gyfer Rhagfyr 26, 1824, —"dorrodd gyhoeddiad."

Y peth pwysicaf yn y rhestr, pa ddelw bynnag, ydyw testynau. John Jones, o'i Sul cyntaf yma, sef nos Lun, Rhagfyr 30, 1822, hyd y tro olaf, sef nos Wener, Chwefror 8, 1856. Sef yw hynny, nid llawer oddiwrth holl hyd tymor ei weinidogaeth. Dichon na bu efe yn unlle arall yn amlach, os gyn amled. Mae Mr. Richard Owen wedi dosbarthu ei destynau ef allan o'r rhestr hon yn ol llyfrau'r Beibl. Dichon mai yn y drefn honno y byddai oreu eu cyfleu yma. Dyma nhwy: Genesis ii. 7; xxxii. 26; xxii. 1, 2. Exodus xx. 8. Lefiticus xvii. 11 (ddwywaith). Deuteronomium xxxii. 29; xxxiii. 16; xxix. 18—20. 1 Brenhinoedd xviii. 21. 2 Cronicl vi. 18 (ddwywaith); v. 13. Nehemiah ix. 17. Job xiii. 9; xvii. 9; xxiii. 23—25; i. 21. Salmau lviii. 11; xlvi. 4; xciii. 1; cxvii. 2; cxix. 7; c. 2; cvii. 8 (ddwywaith); cii. 16; cxix. 140; i. 5. 6; lxxxvii. 2; x. 13; xxxvi. 7; xciii; cxix. 24; xlviii. 9; cxiii. 5; li. 3. Diarhebion xxii. 3; xxii. 6; iii. 15; i. 24; vi. 6—10; xxiii. 31; iii. 36; xxvii. 1. Pregethwr ii. 7, 8. Caniadau iv. 8; i. 8. Esay. lv. i; xlv. 5; v. 4 (ddwywaith); liii. 5; 1. 10; i. 13; xxviii. 18; liii. 11; lix. 2; xxviii. 16; lvii. 14; lx. 1—7; i. 18. Jeremiah viii. 22; ix. 1, 2; xxix. 13. Eseciel xxxiii. 32; xxxvii. 4; iii. 18; ix. 4. Daniel vi. 22. Hosea viii. 12. Habucuc iii. 9 (ddwywaith). Haggai ii. 6, 7. Zechariah ix. 12; i. 8; iv. 2, 3; iii. 9; ii. 1—5. Malachi iii. 16. Mathew xii. 33; xx. 6; v. 14; viii. 18—22; x. 32; xvi. 24 (ddwywaith); xvi. 26; vii. 26—7; vii. 13—4; xxv. 14—20; xxv. 10; x. 6—9. Luc xxiv. 26; ix. 56; xiv. 16, 17; ii. 8—11; xvi. 2; iii. 7; xiv. 18; xiv. 17. Ioan i. 29; iv. 24; vi. 27; xvi. 7; iii. 3; vi. 57; v. 39; xv. 8; xv. 14; ix. 4 (ddwywaith). Actau xvi. 31; xxvi. 28. Rhufeiniaid viii. 4; viii. 2; viii. 5; viii. 6; viii. 9; viii. 9, rhan olaf; viii. 1; viii. 14; i. 16 (ddwywaith); viii. 34; xiv. 21; ii. 15; x. 17. 2 Corinthiaid v. 23; v. 5; v. 1; ii. 16; xiii. 5; i. 12. Galatiaid ii. 16; ii. 19, 20. Ephesiaid v. 18; ii. 16; iv. 15; iv. 30 (ddwywaith); iii. 18, 19. Philipiaid ii. 13; ii. 12, 13. 1 Thesaloniaid v. 24; v. 19. 1 Timotheus iii. 16; ii. 5; i. 12. 2 Timotheus iii. 16 (ddwywaith). Titus ii. 11, 12 (deirgwaith). Hebreaid x. 21 (ddwywaith); ix. 12; xii. 22, 23; ix. 27; xi. 1; iv. 1; iv. 16; xii. 1. Iago i. 13; i. 22; v. 16. 1 Petr v. 4 (ddwywaith); i, 3; i. 16; v. 5; iii. 7; iv. 7; 2 Petr iii. 10, 11; iii. 15; iii. 9. 1 Ioan v. 8; i. 3. Judas 14, 15. Datguddiad iii. 2 (ddwywaith); iii. 3; xxii. 1; v. 6; iii. 20; xii. 7-9; iii. 15, 16. Cyfanrif y pregethau, 187, sef 80 o'r Hen Destament a 107 o'r Testament Newydd. Nid yw'r rhestr hon yn ddangoseg agos i gyflawn o bregethau John Jones. Yn y ddwy gyfrol o'i bregethau cyhoeddedig, allan o 75 o bregethau y mae 40 ohonynt heb fod yn y rhestr yma. A dywed golygydd yr ail gyfrol fod defnyddiau neu ynte amlinelliad o dros 300 o bregethau mewn ysgrifen. Y mae amryw o'r pregethau mwyaf eu dylanwad heb gyfeiriad atynt yn y rhestr, nid hwyrach am y buasai lliaws o'r gwrandawyr wedi eu clywed yn y capelau cyfagos. A gadael allan Zechariah, ni chynnwys y rhestr namyn pum testyn allan o'r Proffwydi Lleiaf; ni chynnwys gymaint ag un testyn allan o Efengyl Marc; dim ond dau o'r Actau; dim un allan o'r Cyntaf at y Corinthiaid. Y Salmau ac Esay yn yr Hen Destament a ddengys yr atyniad mwyaf iddo, ac, allan o benodau unigol y Beibl, yr wythfed at y Rhufeiniaid. Pan nodir ddarfod iddo bregethu ddwywaith ar yr un testyn, y rhan amlaf fe roes y ddwy bregeth ar yr un Sul.

Mymryn eto ar 40 mlynedd olaf y rhestr. Bu John Jones, fel y sylwyd o'r blaen, yn dod yma am flynyddoedd i gateceisio'r plant unwaith yn y flwyddyn, ac yn ddiweddarach John Prydderch Môn. Hydref 3, 1824, y rhoes Robert Jones Tŷ Bwlcyn (Rhoslan) ei bregeth olaf yma (Hosea vi. 3). Ar nos Fawrth (6), Medi 22, 1829, dyma Mr. John Evans Llwynffortun heibio (Heb. vii. 25). Ar nos Iau, Awst 9, 1832, rhoes Dafydd Rowlant Pwllheli (Ioan xi. 15) a Christmas Evans (Eph. i. 13), y Bedyddwyr, oedfa yma. A'r un flwyddyn, Rhagfyr 4, gyda Benjamin William fel cyfaill, am y tro cyntaf, Morgan Howels y Deheudir (Rhuf. viii. 1). Medi 17, 1835, am 2, dyma Morgan Howels sir Fynwy (Galat. vi. 14) gyda'i gyfaill, Evan Evans Nantyglo. Chwefror 3 (10), 1836, William Prytherch ar ei hynt gyntaf heibio yma (Dat. ii. 10), gyda'i gyfaill John Jones Llangyndeurn. "Mr." John Elias am y tro olaf-anfynych y bu ers blynyddoedd bellach-ar nos Wener, Mai 1, 1840 (Jer. xxxii. 39, 40). Dyma James Williams, cenhadwr o Lydaw, Mai 29 (10), 1842 (Heb. x. 31). William Charles "dorrodd gyhoeddiad " y Sul, Mehefin 12 dilynol. 1845, bore Gwener (11), Gorffennaf 18, Joseph Thomas Birmingham, y gwr o Garno wedi hynny; a'r hwyr y diwrnod dilynol (7), James Williams Llydaw yn rhoi hanes y Genhadaeth. 1849, Medi 2 (6), Thomas John (Jerem. xiii. 23), a'r un flwyddyn, Thomas John Williams, cofiannydd John Evans Llwynffortun. Erbyn 1854, rhif y pregethau am y flwyddyn wedi disgyn i 106, ac o'r rhai hyn nid oes namyn 17 ar ddiwrnod gwaith. Erbyn nos Wener, Awst 29, 1856, y mae Joseph Thomas sir Dre— faldwyn yma (Heb. iv. 16). 1857, Medi 30 (6), ar nos Fercher, dyma Thomas Rhys Davies, y Bedyddiwr (Mat. xvii. 5). 1858, Medi 8 (2), David Saunders (Heb. vi. 19, 20), a'i gyfaill John Jones (Diar. x. 7). 1861, Ionawr 20, fore Sul, "Mr." Morgan Dyffryn (Seph. iii. 17), a'i gyfaill Griffith Williams (Luc xiv. 16). Rhif pregethau 1864, 121, a 10 o honynt ar ddiwrnod gwaith, a pheidio cyfrif pregethau y Cyfarfod Misol a phregeth wylnos.

Golwg eto ar draws y 40 mlynedd yna, a chan adael allan megys o'r blaen bregethwyr y sir, dyna Richard Humphreys Dyffryn, Sul ar ol Sul, am flynyddoedd. Ac ar eu hynt yn awr ac eilwaith hen bererinion cofiadwy, yn eu plith Richard Jones y Wern, John Jones Blaenannerch, Robert Roberts Rhosllanerchrugog, Roger Edwards, Lewis Jones y Bala, Evan Morgans Caerdydd, Richard Jones Mallwyd, William Jones Rhuddlan, Robert Davies Croesoswallt, Daniel Davies sir Aberteifi, John Jones Llanedi, ac eraill nid llai nodedig. Daw ambell un ar dro, nid i ddychwelyd, fel comedau'r llinellau cyfochrog, megys John Mills, y pryd hwnnw o Ruthyn, Thomas Levi (Rhuf. viii. 9), fel cyfaill i David Roberts Abertawe, William Howels, fel cyfaill i Thomas Evans Risca (1859). Ai y prifathro wedi hynny, a wŷs? Pwy bynnag ydoedd, efe ydoedd yr unig un mewn hanner can mlynedd ag y dywedir am dano na phregethodd efe ddim. John Hughes Nerpwl (Luc viii. 18), hefyd, sef y cyntaf o'r enw, John Ogwen Jones (Ioan viii. 12), i ddychwelyd am Sul un waith neu ddwy, a Hugh Jones Llanerchymedd (Dat. xiv. 13). Eithr ni ddylid llwyr esgeuluso proffwydi llai na'r rhai'n, os llai hefyd,—llai heb fod yn llai,—ond o wahanol rywogaethau, rhai ohonynt yn rhyw adar brith ymhlith yr adar, rhai yn rhyw ddrywod bychain, byw, a rhai yn rhyw adar clwydo cartrefol, megys Enoc Evans, Edward Coslet, Dafydd Cadwaladr, Cadwaladr Williams, Ishmael Jones, Richard Bumford, John Davies Nerquis, Ebenezer Davies Llanerchymedd, Joseph Williams Nerpwl, John Jones Nerpwl, Thomas Owen y Wyddgrug, Robert Jones Llanefydd, Dafydd Elias Môn, William Jones sir Aberteify (ai y patriarch o Aberystwyth?), Edward Price Birmingham, Ffoulk Evans Machynlleth, John Roberts Buckley. Thomas Hughes Machynlleth, yn wahanol i'r oll, a ddeuai ar ei ysgawt yn anisgwyl- iadwy fel seren wib, a William Prytherch yn ei gylchwy sefydlog fel seren gynffon. Codir hiraeth am adnabod Benjamin Sadrach sir Benfro a John Bywater sir Drefaldwyn a Watkin Williams y Deheudir a. Ond waeth hyna na chwaneg! Onid mawr braint cydoeswyr Robert Parry yn Llanllyfni, yn cael y fath ar- ddangosiad amrywiol o ddoniau, weithiau ar eu heithaf, yn y tra- ddodiad o'r Genadwri Fawr?

Llaw arall a fu'n cofnodi dros Robert Parry o Tachwedd 27, 1864, hyd Ionawr 1, 1865, neu efe ei hun bob sill cyn hynny; a'r Sadwrn wedi hynny efe a hedodd ymaith i'r wlad lle mae'r pethau yn cofnodi eu hunain yn gywir ddifeth ar daflenni o adamant, na ddileir mo'r argraff fyth bythoedd. Hyd hynny, diolch iti, Robert

Parry, am dy gymwynas hon!

BRYNRODYN.[7]

FE orwedd Brynrodyn tua hanner y ffordd rhwng Caernarvon a Chlynnog, ar y ffordd uchaf, yn rhan uchaf plwyf Llandwrog. Saif rhwng dau bentref bychan, sef Dolydd byrion a'r Groeslon. Fel yr arwydda'r enw, y mae'r capel ar godiad tir, nid nepell oddiwrth odyn y Felin Forgan. Fe saif ynghanol golygfa arddunol, rhwng môr a mynydd. Mynyddoedd yr Eryri tu cefn, y môr o'r blaen, gyda'r Eifl ar y chwith yn benrhyn pell, a gwastadedd Môn ar y dde i'w ganfod mewn rhan.

Saith ugain mlynedd yn ol nid oedd y boblogaeth ond prin, a chyflwr y bobl ydoedd eiddo gwerin gwlad yn gyffredin. Gwasanaethu ar amaethwyr yr oedd y rhan fwyaf, a rhai yn gweithio yn y chwareli. Yr oedd y Golomen yn hofran oddeutu yma heb le i roi ei throed i lawr. Nid ydys yn sicr bellach am yr union amser y cynhaliwyd Cyfarfod Misol yn y Dolydd byrion. Cytunwyd â gwraig y dafarn am le cyfleus a lluniaeth. Erbyn dod yno, pa fodd bynnag, yr oedd y bobl a ymgasglodd ynghyd mewn eithaf cywair i lesteirio'r moddion. Nid oedd fymryn o seibiant i'w gael, a churid tabyrddau yn fyddarol. Gwneid y cyfan dan rith amddiffyn yr eglwys wladol. Cyhoeddwyd y moddion yn Rhostryfan. Fel yr eid tuag yno, dyma swn y tabwrdd bygythiol i'w glywed yn y pellter drachefn. Ond yn y fan, tawodd yn ddisymwth. Aeth y tab- yrddwr i grynu, fe ymddengys, rhag ofn disymwth a'i daliodd, fel na fedrai fyned ymlaen. Awd â'r gwr i dŷ, lle porthwyd ef â diod er ei galedu ar gyfer ei orchwyl; ond pan ddaeth efe i'r un man ag o'r blaen, dyma ef eto yngafael y grynfa dost. Rhoi heibio'r amcan, a dychwelyd i'r dafarn. Cafwyd llonyddwch bellach gyda gwaith y cyfarfod. Mae Robert Jones, wrth adrodd yr hanes, yn rhoi ar ddeall ei fod ef yno, a dywed pan oeddynt hwy yn dychwelyd o'r moddion ddarfod i'r terfysgwyr ollwng rhai ergydion uwch eu pennau, a bod un wraig feichiog gerllaw wedi cael y fath fraw ag a fu'n angeu iddi.

Eithr fe gludodd y Golomen yr olewydden werdd yn ei gylfin. Yr ydoedd Ifan Sion Tyddyn mawr wedi ymuno â'r eglwys yn Llanllyfni oddeutu 1768, a chedwid ambell oedfa achlysurol yn ei dý ef. Nid oedd yma bregethu cyson, pa fodd bynnag, hyd y flwyddyn 1773, sef yr amser y daeth Sion Griffith a'i wraig Elsbeth i fyw i ffermdy Brynrodyn; ac yma y disgynnodd yr Arch, ar ol bod am amser maith ar wyneb y dyfroedd. Y dynion amlwg gyda'r gwaith yn ei gychwyniad hwn, heblaw Sion Griffith, oedd Ifan Sion a Robert Hughes Cae Llywarch. Robert Hughes a fu farw cyn bo hir.

Mab oedd Sion Griffith i Owen Griffith Dynogfelen fawr. Nid oedd ei rieni yn grefyddol, a thyfu i fyny yn fachgen gwyllt anystywallt a ddarfu yntau. Aeth i wasanaeth i'r Graianog yng Nghlynnog. Llanc cryf o gorff, gydag iaith fras gymhleth â llwon a rhegfeydd. Un diwrnod yr oedd yn cydgau clawdd terfyn â Rowland Williams Henbant mawr. At yr hwyr, ebe Rowland Williams, "Sion, pe caeti ddafad am bob llw a roddaist ti heddyw, byddit gyfoethog iawn !" Suddodd y gair i feddwl Sion, arwydd sicr o'i reddf grefyddol, canys ni chafodd efe nemor neb i'w rybuddio hyd hynny. Ond er brathiad cydwybod, suddo i'r un hen arfer ddarfu Sion am ysbaid. Yn y cyfamser fe ymbriododd âg Elsbeth, merch y Penbryn bach, Llanllyfni, ac aeth yno i fyw. Pan syrthiai, yn ol hyn, i'r arfer o dyngu, fe ychwanegai yn y fan, fel un wedi ei ddal yn ddiarwybod iddo'i hun, "Duw fo'n maddeu i mi!" Ebe ei frawd-ynghyfraith wrtho ar un tro felly, "Sion, rhaid iti naill ai tyngu yn dy hen ddull, neu beidio â thyngu o gwbl; ac onide, mi a'th laddaf â'r gyllell wair yma!" Ar y ffordd i geisio gwair yr oeddynt ar y pryd. Wedi dychwelyd gyda'r baich gwair, wele Sion yn myned i'r ysgubor i weddïo. A dyma, fel yr adroddir, faich y weddi: "O, Iesu Grist, os medri di wared pobl rhag pechu, gwared fi rhag tyngu." A gwrandawyd gweddi Sion. Ar hynny, yn y man, fe ymunodd â'r eglwys yn Llanllyfni. Yr oedd argraffiadau crefyddol ers tro ar feddwl Elsbeth ei wraig hefyd, ond yr oedd ei rhieni yn wrthwynebol iddi ymuno â chrefydd ar gyfrif y draul arianol. Dywedai hi yn ei hen ddyddiau ddarfod i grefydd ddechre ymwneud â'i meddwl hi o flaen ei gwr, ond mai efe a ym- unodd â'r eglwys gyntaf. "Dos di i'r seiat," ebe hi wrth ei gwr, i edrych a ydynt yn hel arian." Wedi cael boddlonrwydd ar y pen hwnnw, hithau hefyd a ymunodd. Eithr gorfu arnynt ymadael â Phenbryn bach, o achos eu cysylltiadau crefyddol, a dyna'r fel y daethant i Frynrodyn. Gosododd Sion Griffith ffenestr yn nhalcen ei dŷ newydd, er cael goleu i'r gwasanaeth crefyddol a fwriadai gael yno, a dododd bulpud hefyd o'i fewn. Rhoddes fwyd a llety ar ei draul ei hun i'r pregethwr a ddeuai yno ar ei dro am ysbaid 15 mlynedd. Llwyddwyd ymhen amser i gael Brynrodyn yn daith gyda Chlynnog a Llanllyfni.

Parhae yr aelodau eglwysig i fyned i Lanllyfni am faith flynyddoedd. Diau mai ofn cael eu colledu yn ormodol yr oedd y ddeadell fechan yno. Ymhlith y rhai a elai yno oddiyma yr oedd Ifan Sion Tyddyn mawr a'i wraig, Sadrach ac Elinor Griffith Cae cipris, Owain a Jane Parry Groeslon, William ac Elinor Griffith Gegin fawr.

Ymhen 16 mlynedd ar ol i Sion Griffith ddod i Frynrodyn y cafwyd tir i adeiladu capel arno, sef yn y flwyddyn 1789. Y mae gweithred penodi ymddiriedolwyr newydd yn 1829 yn cyfeirio at hen brydles 1789, a wnawd rhwng John Williams Penllwyn, ar y naill law, ac, ar y llaw arall, Thomas Charles Bala, Evan Richard Caernarvon, John Roberts Buarthau, John Griffith Brynrodyn, ac Evan Jones Tyddyn mawr, am "30 perches," neu 14,23 rhwd o dir o fferm Brynrodyn, sef y darn a elwid Cae bryn. Fe eglurir yn y weithred fod pedair coeden onnen yn tyfu ar ochr ddeheuol y cae. Hefyd fod rhyddid i gludo cerryg at adeiladu o Gae'rbeudy. Y brydles am 99 mlynedd o 1789, ar yr amod o godi adeilad da, sylweddol, i'r amcan o weddïo, darllen a deongli'r sgrythyr, pregethu'r Efengyl, a moli'r Hollalluog. Y rhent yn ddeg swllt y flwyddyn, a'r capel i'w godi o fewn tair blynedd. Gwr eglwysig oedd John Williams.

Naw llath wrth wyth oedd maint y capel, â llofft ar un talcen. iddo, ebe Mr. Owen Hughes. Dywed ef yr arferai Meyrick Griffith a'i alw yn gapel y chwe phecaid o galch, am mai hynny o galch aeth i'w wneuthuriad.

Tybir ddarfod i'r capel gael ei godi yn 1789, ac i'r eglwys gael ei sefydlu yma yn ystod yr un flwyddyn. A bernir ddarfod i 15, neu oddeutu hynny, o aelodau dorri eu cysylltiad âg eglwys Llanllyfni i'r perwyl hwnnw. Yr oedd Sion Griffith ac Ifan Sion eisoes yn gweithredu fel blaenoriaid yma o Lanllyfni. Dyma'r pryd y daeth Elinor Griffith, gwraig Sion Griffith, a Sadrach Griffith, gwraig Ifan Sion, Owen a Jane Parry Groeslon, William ac Elinor Griffith Geginfawr. Bellach y mae y ddau flaenor yn ymroi gydag ynni adnewyddol i waith eu swydd yn eu cartref eu hunain. Buont nifer o weithiau yn Llangeitho, lle deuai pregethwyr ynghyd, ar gais am genhadon ar deithiau drwy'r Gogledd.

Methodistiaeth Cymru yw'r awdurdod am y rhan fwyaf o lawer o hanes Brynrodyn yn ei gyfnod cyntaf. Sonir yno am ryw ddydd Sadwrn, pryd y pryderai Elsbeth Griffith yn fawr am nad oedd ganddi luniaeth priodol ar gyfer y pregethwr dieithr a ddisgwylid y Sul. Diau fod hwnnw yn rhywun. Aeth Elsbeth at gyfeilles iddi yn y Foryd, bellter ffordd, i fenthyca swllt. Wedi cerdded yr holl ffordd yno ac yn ol gyda thraed noethion, ow! un goeg oedd y gneuen! Swllt drwg a dywynnai yn ddwl ar gledr llaw Elsbeth druan! Ni ddigalonodd Elsbeth serch hynny, canys yr oedd hi o ddeunydd gwydn. Crynhodd ynghyd y blawd ceirch yngwaelod y gist, ac ymaith â hi gydag ef i Gaernarvon, tua phedair milltir o ffordd. Rhaid fod y gwr dieithr yn rhywun, canys nid diffyg ymborth oedd yn nhy Elsbeth, ond diffyg ymborth cyfaddas i'r fath wr ag ef. Canys, ar ol bod yn Llangeitho yn chwilio am bregethwr, rhaid rhoi rhywbeth o'i flaen ef amgen na thorth geirch.

Ni ddarfu Ifan Sion groesawu pregethu i'w dy pan gafodd ef gyfle, yn y dull y gwnaeth Sion Griffith, pa beth bynnag oedd y rhwystr. Er, fel y gwelwyd, fod yno bregethu achlysurol cyn dyfod o Sion Griffith i'r ardal. Ifan Sion, er hynny, ar ystyriaethau eraill, oedd y dyn mwyaf nodedig. Heb sôn am fod yn fwy pwyllog, yr oedd hefyd yn fwy gwybodus, ac yn meddu ar fwy o ysbryd barn. Ac efe a gafodd argyhoeddiad nodedig. Yr oedd ar y pryd yn gweithio yn un o gloddfeydd y Cilgwyn, a elwid Cloddfa'r-clytiau. Yn gydweithwyr iddo yr oedd William Sion Pandyhen, y blaenor nodedig o Lanllyfni, ac Ifan Sion Caehaidd, ac eraill. Yr oedd pregeth i fod yn Ffridd-bala-deulyn am hanner dydd. Mawr oedd awydd William Sion am fyned yno, ac eto ofn sôn arno wrth ei gydweithwyr, rhag dangos ohonynt anfoddogrwydd. Sôn a wnaeth efe o'r diwedd. "Taw â dy swn," ebe fe o'r Caehaidd. "Taw â dy swn efo dy bregeth, Wil, a dos ymlaen efo'th waith." Distaw, heb ddweyd dim, oedd gwr y Tyddyn mawr, ac efe a ofnid fwyaf. Dyma'r amser i fyny, pa fodd bynnag, ac heb ganiatad ei gydweithwyr, ymaith â William Sion i'r bregeth. Erbyn cyrraedd y lle, pwy a'i dilynai ef, encyd o ffordd oddiwrtho, ond ei ddau gydweithwyr. Hon oedd y bregeth gyntaf a glywodd Ifan Sion Tyddyn mawr gan Ymneilltuwr. Yn y canlyniad, efe a ymunodd â'r eglwys yn Llanllyfni, yr hyn a ddigwyddodd tua'r flwyddyn 1768. Cynhyrfodd ei wraig yn dost. Hi a gytunodd yn y man, pa fodd bynnag, i fyned gyda'i gwr yn y bore ond iddo yntau ddod gyda hi i'r eglwys wladol yn yr hwyr. Argyhoeddwyd hi'r bore cyntaf, a chyda'i gwr yr aeth yr hwyr hefyd, ac ymunodd â'r eglwys gyda'i gwr y cyfle cyntaf. Dywedai William ei mab am dani na welodd ef ddim tywydd a rwystrai ei fam i'r seiat yn Llanllyfni. Cyfrifid Ifan Sion yn wr egwyddorol, ac yr oedd iddo'r enw o fod yn hallt yn erbyn pechod. Wrth ymliw ohono â rhyw frawd am yr hyn a gyfrifid ganddo ef yn anweddeidd-dra, troes hwnnw ato gyda'r cwestiwn, "Ifan, a ydych yn fy ngweled wedi colli fy lle?" Yr ateb oedd, "Pa haws i mi dy weled di, Wil, onibae iti dy weled dy hun!"

Deuai rhai i'r capel o ardaloedd Rhostryfan, Carmel a Llandwrog. Deuai John Roberts yma o Lanllyfni gyn amled ag a allai, ac Evan Richardson a Robert Roberts hefyd ar eu hynt. Llwyddodd John Roberts i gael Beiblau i'w gwasgaru yn yr ardal. Yr oedd efe yn fawr ei fri yma.

Nodir amryw bersonau gan Mr. Owen Hughes a ddaeth i'r eglwys ar ei sefydliad neu ynte cyn bo hir iawn ar ol hynny. Dyma ei restr ef: Owen David a Jane Hughes Traian, William a Jane Hughes Tŷ tân, Thomas Jones ac Ann Roberts Bryngoleu, William Edward ac Ann Williams Cae'rymryson, Ellen Williams Bodangharad, Griffith Pritchard ac Elizabeth Williams Penlan, John Roberts a Catherine Evans Grugan ganol, Owen Dafydd a Catherine Williams Beudy isaf, Griffith Morris Dolydd, Robert a Martha Thomas Gerlan bach, Ellen Williams, William Bevan, Solomon Parry.

Ni chafodd Bryn'rodyn yn ei gyfnod cyntaf mo'r lliaws ymweliadau nerthol a brofwyd yn Llanllyfni, ac yn enwedig yn y Capel Uchaf. Parai hynny radd o sylw ac ymofyniad mewn dieithriaid yn enwedig. Ar ei rawd y ffordd honno, gofynnai Charles i Sion Griffith, "Pa fodd yr ydych yn gallu dal ati fel hyn. drwy'r blynyddoedd, Sion Griffith ?" "Wel, Mr. Charles," ebe yntau, "cael ambell gylch y byddaf, onide ni ddaliwn i ddim yn hir. Mae gan Dduw gylch a ddeil o'u hamgylch hwy." Edrychai John Jones Edeyrn ar y pwnc yn ei ffordd ei hun. Efe a ddywedai fod pobl Brynrodyn yn cael braint fawr iawn, sef cael dod at grefydd mewn gwaed oer. Ni bu'r eglwys hon, er hynny, ddim heb ymweliad. Fe brofwyd un go neilltuol tua'r flwyddyn 1793, pryd y chwanegwyd lliaws at yr eglwys.

Honir weithiau mai yma y cyfodwyd yr ysgol Sul gyntaf yn Arfon, a bod hynny yn 1790. Mae'r honiad mai hon oedd y gyntaf yn bendant yn erbyn tystiolaeth John Owen Henbant bach, yr hwn yr oedd ei ddyddordeb yn fawr iawn yn yr achos. P'run bynnag, dichon nad oedd nemor wahaniaeth rhwng amser sefydlu'r ysgol yma ac yn y Capel Uchaf. Cynelid ysgol er addysg grefyddol ar un noswaith o'r wythnos yn ystod y gauaf cyn hynny. Sion Griffith, Ifan Sion ac Owen Parry, tad John Parry Caer, oedd yr athrawon yn hon fynychaf. John Parry a gynorthwyai ei dad weithiau, ac felly William Ifan mab Ifan Sion. Gofynnai'r bechgyn ieuainc hyn, onid ellid cael yr ysgol ar y Sul, ac onid gwaith da fyddai hynny? Caniatawyd iddynt gynnyg ar y gorchwyl. Yr oedd yr hynaf o'r ddau, William Ifan, yn 17 oed. Calonogid hwy gan John Roberts. Ymadawodd John Parry cyn hir. Daliodd William Ifan at y gwaith arno'i hun, ac enillodd ddylanwad mawr ar feddyliau y bobl ieuainc.

Bu'r ysgol Sul yn foddion i ddarostwng llawer ar gynulliadau eraill a gynelid ar Sul a gŵyl. Rhybuddid yn erbyn myned i'r cyfryw gyfarfodydd, a bygythid y neb a elai y cawsai ei droi allan o'r ysgol. Aeth oddeutu dwsin o'r ysgolorion un Llun y Pasc i'r cyfarfod gwaharddedig. Y Sul nesaf, safodd yr athraw ar ganol llawr y capel, a hysbysodd am y trosedd. Galwyd y troseddwyr ymlaen. Ufuddhasant, gan gyfaddef eu trosedd. Yr athraw, ar ol cynghori yn garedig a roes y bygythiad mewn grym, a gorch- mynnodd iddynt fyned allan. A hwythau, er yn fechgyn wedi tyfu i fyny, gan mwyaf, a aethant yn ddof allan o'r ysgol. Y Sul nesaf, dychwelodd yr oll ohonynt ond un, ac ar eu hedifeirwch fe'u derbyniwyd. Ymhen rhai wythnosau daeth yr un hwnnw hefyd yn ol ar yr un amod a'r lleill. Effeithiodd hyn er darostwng y cyfarfodydd ofer braidd yn llwyr, ac am rai blynyddau ni ddenid aelod o'r ysgol yn y cyfryw fodd a hynny. Ymhen ysbaid fe ddaeth William Jones Plâs du, wedi hynny o Abercaseg, Carneddi, gan gerdded bum milltir o ffordd dros y mynydd, i gynorthwyo gyda'r ysgol.

Fe gadwyd yr ysgol nos ymlaen am 27 neu 28 mlynedd. Un o'r bechgyn a fagwyd yn ysgol Sul ac ysgol nos Brynrodyn oedd Griffith Davies Beudy isaf, a adnabyddid wedi hynny fel y cyfrifydd o Lundain. Daeth ef ymhen talm o amser i gynorthwyo gyda dwyn yr ysgol ymlaen. Cydnabyddai efe ei rwymedigaeth i William Ifan "am ddysgu iddo'r AB," drwy ddanfon iddo o Lundain bâr o ddillad eilwaith a thrachefn. Dewiswyd William Ifan yn flaenor yn 1799, pan yn 26 oed. Ymhen blynyddoedd fe symudodd i Rostryfan, wedi hynny i Landdeiniolen. Gwr o barch ac awdurdod, ac Israeliad yn wir. Yr un pryd y dewiswyd Robert Hughes Llwyn-y-gwalch. Aeth ef i'r Bwlan yn 1815, ar agoriad y capel yno. Yn lled fuan ar ol eu dewisiad hwy y daeth Henry Thomas yma i gadw Tyrnpeg Dolydd. Yr oedd ef yn flaenor cyn dod yma, ac ar ol, ond ni bu ei arosiad yn faith.

Rhoir enghraifft ym Methodistiaeth Cymru o Sion Griffith yn disgyblu. Yr achos oedd Ifan William Sion a Morgan y gwehydd wedi ffraeo a chwffio. Yr oedd Ifan William Sion eisoes wedi ei ddiarddel dair arddeg o weithiau am y cyffelyb drosedd. Efe a ddychwelai yn ol ar ol pob diarddeliad yn ostyngedig ac edifeiriol. Penderfynodd Sion Griffith o'r diwedd, er maint ei ddidwylledd, nad oedd yr ystranciau hyn ddim i'w goddef yn hwy. Wele Ifan yn y seiat, yn ol y diarddeliad diweddaf, yn edifeiriol fel arfer. Methu gan Sion Griffith a dal yn hwy: fe neidiodd ar ei draed: "Welwchi y drefn sydd ar y dyn!" ebe fe. "Mae'n ffiaidd. gen i dy glywed di, Ifan! mi deimlwn ar y nghalon boeri am dy ben di, Ifan!" Allan, gan hynny, y bu raid i Ifan, druan, fyned. Adroddir hefyd am dano yn gofyn barn yr aelodau ar ryw bwnc. Yr oedd hynny cyn y ddisgyblaeth olaf yna. Wrth fyned o'r naill at y llall, eb efe, "Mi basia i Ifan William Sion,—un go anianol ydi o." Sion Griffith yn unig o'r blaenoriaid oedd â'r dull garw hwn yn perthyn iddo. Blinid enaid Sion Griffith yn fawr gan dafarn yn yr ardal ag oedd yn lloches i lawer drygfoes, a chyhoeddodd felltith uwch ei phen. Arferai William Ifan ddweyd, yn ol hynny, fod ffydd wyrthiol yn eiddo Sion Griffith, am iddo felltithio tafarn yr Hen efail, ac iddi yn y canlyniad syrthio i wywdra a diflaniad.

Eithr pa faint bynnag o hynodrwydd a berthynai i Sion Griffith, hynotach nag yntau oedd ei wraig, fel y cafwyd golwg arni mewn. rhan eisoes. Cyfrifid hi yn fwy ei phwyll, yn fwy ei gwybodaeth, yn fwy ei gras na'i gwr. Yn raddol yr addfedai Sion, ar ol ei argyhoeddiad, mewn crefydd ysbrydol, a bu Elsbeth mewn petruster am flynyddoedd rai, a oedd ei grefydd ef o'r iawn ryw ai peidio. Hi a benderfynodd roi prawf arno. Yr oedd eisieu gwair i geffyl y pregethwr. Yn y ddâs yr oedd dwy fainc ar doriad. Yn y fainc nesaf i ben ucha'r ddâs yr oedd gwair llwyd a drwg; yn y llall, yn nes i ganol y ddâs, yr oedd y gwair yn beraidd a da. "Os oes twyll yn Sion," ebe Elsbeth wrthi ei hun, "fe rydd o'r gwair drwg i geffyl y pregethwr." Heb wybod fod neb yn llygadu arno, rhoes Sion o'r gwair goreu i geffyl y pregethwr, a thorrodd y ddadl ym meddwl Elsbeth o barth i'w grefydd. Cedwid cyfarfodydd holwyddori plant yn ei thŷ hi bob wythnos, a hi ei hunan yn fynych fyddai'r holwyddorydd. Y hi bob amser ddechreuai y canu, a dywedir fod pereidd-dra anarferol yn ei llais. Pan y torrai hi allan yn y gynulleidfa gyda'i, "O diolch," fe gerddai iâs o deimlad drwy'r lle. Mewn amgylchiadau isel a chylch cyfyng fe wnaeth Elsbeth Griffith yn odidog ragorol.

Dywed Cyrus yn ei ysgrif ar Lanllyfni y bu cynnydd o wyth ugain ym Mrynrodyn yn ystod diwygiad 1813, a darfod ei sicrhau am hynny gan wr cyfarwydd.

Yn 1815 y codwyd capel yn y Bwlan ac y ffurfiwyd eglwys yno yn y canlyniad, sef cangen-eglwys gyntaf Brynrodyn. Yr ail gangen o Frynrodyn ydoedd Rhostryfan. Adeiladwyd capel yno yn 1820, a sefydlwyd yr eglwys y flwyddyn ddilynol. Y drydedd gangen ydoedd Carmel, a chychwynwyd yr eglwys yno yn 1826.

Erbyn 1829, John Roberts oedd yr unig ymddiriedolwr yn fyw. Y flwyddyn honno chwanegwyd ato ef, Michael Roberts, John Jones Tremadoc, John Jones Talsarn, John Roberts Pwllheli, John Eames Cae'r cynstabl, David Owen Traian, Richard Williams Penybont, Griffith Roberts Brynrodyn, Meyrick Griffith Dolydd.

Yn 1829 y dechreuwyd adeiladu capel newydd, ac agorwyd ef yn 1830. Bwriadwyd iddo gynnwys 295; ond nid eisteddai hynny ynddo ar y cyntaf. Y draul yn rhywbeth llai na £300. Cludid yr holl ddefnyddiau gan yr amaethwyr. Gweithiwyd ar y muriau gan Meyrick Griffith; gwnawd y gwaith coed gan Griffith Roberts. Yr oedd llofft ar y ddau dalcen. Yn ddiweddarach rhoddwyd llofft i'r cantorion ar gefn y capel, a defnyddiwyd hi ganddynt hwy ar y cyntaf. Yr oedd awrlais ar wyneb y llofft honno, ebe Mr. Owen Hughes, ac yn argraffedig arno, " Rhodd yr Ysgol Sabbothol yn 1838." Ymhen blynyddoedd gwnaed rhyw gyfnewidiad yn llawr y capel, y sêt fawr a'r pulpud, er hwylustod y cantorion. Derbyniwyd rhoddion drwy lythyr cymun o bryd i bryd tuag at glirio'r ddyled, ac yn eu plith £20 gan Griffith Davies y cyfrifydd, a £30 gan Griffith Jones Foryd. Swm y ddyled yn 1850 oedd £30.

Daeth Griffith Roberts y saer coed i fyw i'r tŷ capel. Yr oedd ef yn swyddog cyn dod yma, ac ar ol dod; ond bu farw ymhen. rhyw gymaint gyda chwe blynedd. Dilynwyd ef yn y tŷ capel am ysbaid gan Griffith Williams, yr hwn a wnawd yn flaenor yma yn 1839. Symudodd i Cesarea yn 1842. Dilynwyd yntau gan Meyrick Griffith. Swyddogion y cyfnod hwn oedd John Eames Rhandir; Richard Williams Penybont, ac Evan Parry Gerlan, Tryfan, a ddewiswyd ill dau yn 1828. Ymadawodd yr olaf i Rostryfan, ond gwrthododd y swydd yno. John Hughes Grafog a Meyrick Griffith a ddewiswyd yn 1838.

Yn 1838 trefnwyd Carmel, Bwlan a Brynrodyn yn daith. Yn Awst, 1857, trefnwyd Brynrodyn i fod yn daith gyda Phenygroes. Yr oedd yr ysgol Sul yn ei llewyrch mwyaf yn y cyfnod hwn. Mae Mr. Owen Hughes yn manylu ar hyn. Rywbryd yn y cyfnod hwn fe benodwyd ysgrifennydd, ac ynglyn âg ef "stiwart." William Roberts Tyddyn mawr oedd y stiwart cyntaf. Nid yr arolygwr ydoedd ef, ond swyddog dano. Yr oedd dylanwad y swydd- ogion yn ymddangos "agos a bod yn anherfynol " i Owen Hughes. ieuanc. Darllennid rheolau'r ysgol ar y diwedd unwaith yn y mis gan yr arolygwr. Manylid peth ar eu hystyr weithiau. Y rheolau hynny yn argraffedig ar y llyfrau elfennol. Ceid hwy yn argraffedig hefyd yn y ffurf o fân lyfrynnau. Un reol oedd yn erbyn i aelod niweidio cloddiau a thorri o'r llwybrau, gan orchymyn cau llidiardau. Aeth un o'r bechgyn ar fore Llun, wrth fyned ar neges, drwy lidiart neilltuol. Troes, wedi myned encyd o ffordd, a gwelodd y llidiart yn agored. Dychwelodd yn ei ol a chauodd hi. Eb efe wrth Owen Hughes, yr hwn oedd gydag ef, "Y mae John Eames wedi darllen y rheol ddoe." Galwai yr ysgrifennydd enwau yr athrawon allan, gan ofyn am rif y dosbarth ac am y llafur. Yr oedd Owen Owen Tyddyn mawr yn frawd i Syr Hugh Owen. Gofalai ef am drefn yn yr ysgol; edrychai ar ol y llyfrau, gan eu nodi yn ol rhif y dosbarthiadau, a gofalu am eu rhoi allan yn y dechre a'u cadw ar y diwedd. Gwasanaeth pwysig, am fod y llyfrau y pryd hwnnw yn ddrud a'r arian yn brin. Hawdd gweled yr un gynneddf yn Owen Owen ag yn ei frawd Syr Hugh. Hen swyddog cyllidol oedd Henry Pritchard Hafod Ifan, a dreuliodd fore a chanol oes mewn gwledydd tramor yng ngwasanaeth y Llywodraeth, ac wedi ymneilltuo ar ei flwydd-dâl. Dylanwad neilltuol ganddo ar ddosbarth o fechgyn, a medr neilltuol ar linellau hanesiol a daearyddol. Griffith Griffiths oedd wr o Eifionydd, a ddaeth i fyw i Felin Forgan. Gramadegwr oedd ef, a lwyr dreuliodd Ramadeg Parry Caer. Deuai â'r Gramadeg i'r ysgol, achos o gŵyn dost gan yr hen frodyr, wedi dod ohonynt i ddeall am y peth. Ni bu ei arosiad yn y gymdogaeth yn faith, ond yn ystod yr arosiad hwnnw fe agorodd lygaid lliaws o ddynion ieuainc ar fyd newydd, ag yr aeth rhai ohonynt i mewn ymhellach iddo. William Parry hefyd a arweiniodd rai i'r un cyfeiriad a'r Gramadegwr o Eifionydd.

Athraw nid anhynod oedd Meyrick Griffith. Y Wyddor oedd ei bwnc ef y pryd hynny. "Beth ydyw hon?" "B." "Da iawn." "Beth ydyw hon?" "A." "Iä." "Beth ydyw hon ?" "R." "Da, ngwas i." "Beth ydyw hon?" "N." "Iä siwr." "Beth ydyw B-A-R-N-?" "Barn." "Iä, iä." "A fydd Dydd Barn, mhlant i?" "Bydd." Yna elai'r cwestiynau ymlaen o un i un: Pa bryd y bydd Dydd Barn? Pwy fydd y Barnwr ? A gawn ni ein barnu? Wrth ba beth y bernir ni? Holid gyda difrifwch arbennig. Troid y cwestiynau at bersonau: A gei di dy farnu, machgen i? A thithau?

Dosbarth y sillebu a darllen mân frawddegau oedd eiddo Morris Pritchard. Telid sylw manwl i ynganiad. Deng munyd i sillebu ar dafod leferydd ar ddiwedd y dosbarth. Efe a ddechreuai gyda geiriau unsill ac elai ymlaen hyd at eiriau nawsill. Lluniai derfyniadau i ambell air at ei wasanaeth. Un o'r cyfryw oedd, Morgymlawddeiriogrwydd. Rhoddai Morris Pritchard y gair allan bob yn sill, gan daro ei fys blaen ar gledr ei law aswy gyda phob sill, er mawr hwylusdod i'r ysgolheigion. Aeth yn ddiareb yn y gymdogaeth am sillebwr nodedig, "Mae hwn a hwn wedi bod yng ngholeg Morris Pritchard."Gosod allan y synwyr a chwilio'r mater y byddai Ifan Griffith Solomon yn ei ddosbarth ef. Mab ydoedd efe i Griffith Solomon, darllenwr mwyaf ei oes yn y pulpud, fel y cyfrifid ef gan y werin. Yr oedd Ifan Griffith yn deilwng fab i'w dad. Ar ddull cynllunwers y dyddiau hyn y dygai ef ei ddosbarth ymlaen, gan gerdded cam o flaen ei oes.

Yr arolygwr yn gyffredin fyddai'r holwr ar ddiwedd yr ysgol, a dewisid y pwnc ganddo ef ei hun. Holai Meyrick Griffith unwaith ar Falchder, ac arwyddion balchder. Ar ganol yr holi, "Daniel O'Brien," eb efe, "a welwchi yn dda gau y ffenestr yna. Y mae gen i wenyn yn yr ardd yna, ac y mae arna'i ofn rhag iddyn nhw ddod i mewn a disgyn ar hetiau y merched yna!" Yr oedd gan O'Brien ddosbarth o ferched ieuainc wrth y ffenestr oedd ar yr ardd. Fe ddywedir fod llai o flodau ar yr hetiau y Sul nesaf.

Gweithid yr ysgol gyda threfnusrwydd effeithiol; cyfartelid y dosbarthiadau yn ofalus; cynhelid cyfarfodydd athrawon; yn ddiweddarach penodid holwyr ysgol a materion; adroddid y Deg Gorchymyn, y naill Sul gan yr ysgol yn gyffredinol, y Sul arall gan y dosbarthiadau arnynt eu hunain.

Heblaw William Ifan, y soniwyd am dano o'r blaen, yr oedd John Eames yn perthyn i'r cyfnod hwn fel swyddog. Gwr o sir Fon, a sefydlodd yma drwy briodas â merch Daniel Griffiths Bryn eithin. Byrr fu ei dymor. Gofalus a threfnus. Bu farw yn 1850.

Richard Williams Penybont yn flaenor er 1828. Ysgrifennydd gofalus i'r eglwys, a mwy o ysgolhaig na chyffredin. Un o'r blaenoriaid pwysicaf a fu yn y lle. Bu ef farw yn 1875.

John Hughes Grafog oedd flaenor er 1838. Perchid ef ar gyfrif ei grefyddolder. Braidd yn llym yn y cyfarfodydd eglwysig. Ffyddlon fel casglydd i'r Feibl Gymdeithas drwy'r holl blwyf. Byrr ei ddawn; hir ei amynedd. Dylanwad ar bob dosbarth o fewn ei gylch ef. Yntau hefyd yn un o flaenoriaid pwysicaf y lle. Bu farw yn 1875, ef a Richard Williams yr un flwyddyn. Mab iddo ef ydyw Mr. Owen Hughes.

Meyrick Griffith oedd y blaenor arall perthynol i'r cyfnod dan sylw. Oferwr yn ei ieuenctid. Y pryd hwnnw yn gwasanaethu gydag amaethwyr. Wedi ei ddychwelyd at grefydd, fe ddysgodd ddarllen, ac hefyd grefft saer maen. Daeth yn enwog yn y grefft honno, fel y dywedid am dano na wnelai mo'r adeiladau a godid ganddo ef, na thŷ na chapel, ddim gollwng dwr i mewn. Peth amheuthyn mewn tŷ a chapel. Adeiladau cryfion, diaddurn a godid ganddo. Yr oedd capel y Bontnewydd cyn ei newid yn ddiweddar yn enghraifft o'i lafurwaith ef, ac nid yn fynych y gwelid y fath gadernid diaddurn. Crynhodd ynghyd beth gwybodaeth gwasanaethgar iddo fel athraw. Dywed Mr. Evan Jones Dolydd ei fod mor gyfarwydd yn naearyddiaeth gwlad Canaan ag yn naearyddiaeth plwyf Llandwrog. Y diwinydd ymhlith y blaenoriaid; ac yr oedd Cyfiawnhad John Elias yn llyfr mawr ganddo. Holwr ysgol gwych, yn hwylio ymlaen yn ddiofal wrth ei ewyllys, ac yn tynnu ysbrydoliaeth oddiwrth amgylchiadau y foment. Yn neilltuol o ddedwydd fel holwr plant. Dirwestwr aiddgar. Cafodd gladdedigaeth anarferol o fawr ar y 29 o Ragfyr 1873. Yr ydoedd wedi tyfu fel cedrwydden yn ei le, a theimlid colled fawr wedi ei ddiwreiddio o'r lle hwnnw.

Yn 1851 y daeth John Jones yma o Ryd—ddu. Daeth i gadw siop i'r Groeslon. Yn 1855 y gwnawd Griffith T. Edwards a John Hughes Cefnen yn flaenoriaid. Bu John Hughes farw yn 1857. Yn 1857 y dechreuodd David Roberts bregethu. Symudodd i'r Penmaenmawr yn 1866.

Yng ngweinidogaeth Thomas Williams Rhyd—ddu y teimlwyd rhywbeth o rym diwygiad 1859 am y tro cyntaf. Yr oedd hynny mewn Cyfarfod Misol a gynhaliwyd yma, pan y pregethodd efe ar y "ffordd i'r bywyd." Yr oedd rhyw ddylanwad gyda'r holl bregethau, a chynaliai y bobl ieuainc gyfarfodydd gweddi rhwng y moddion. Y noswaith olaf y pregethai Thomas Williams, a phan ar ganol ei bregeth y torrodd yr argae. Yr oedd y pregethwr yn disgrifio'r saint yn teithio tuag adref ar feirch ac ar gerbydau ac ar elorfeirch ac ar fulod ac ar anifeiliaid buain, yn ol geiriau'r proffwyd ; ac yn ol yr emynydd Cymreig :

Mae rhai ar feirch yn dyfod yn hardd i Seion fryn,
Ac eraill mewn cerbydau yn harddach na'r rhai hyn;
Mae'n dda i rai fod mulod ac elorfeirch yn bod
I gario'r claf a'r clwyfus ————

Ar hynny, wele wr ieuanc, Richard Hughes Tyddyn bach, yn neidio ar ei draed gan waeddi allan, "O Arglwydd, gâd imi gael dod i'r nefoedd ar gefn mul neu rywbeth—fe fyddai cael dod i'r nefoedd rywsut yn fraint heb ei bath?" Ffrwydrodd teimlad y gynulleidfa, ond tawelwyd hynny gan y pregethwr, wrth fod ganddo ef bellach beth ag yr oedd arno eisieu ei ddweyd. Yr oedd yr Iachawdwriaeth fel trên wedi cychwyn yn nhragwyddoldeb, ac wedi galw yn stesion Bethlehem, a Gethsemane a Chalfaria, a mynèd rhagddi drwy dynel tywyll angeu a'r bedd. Ar hynny fe ddistawodd y pregethwr am ysbeidyn, tra daliai'r gynulleidfa ei hanadl. Ac yna fe dorrodd allan mewn bloedd fuddugoliaethus uchel, gan roi llam yn y pulpud, "Dyma fo'n dod allan o dynel y bedd ar fore'r trydydd dydd—Gogoniant! Ac y mae o'n aros bellach i godi teithwyr ym mhob stesion—Gogoniant!" Dacw ddyn ieuanc yn ymyl yr oriel yn rhoi naid ar ei draed, gan waeddi, "'Rwan am ddal y tren, bobl!" Yna curai ei ddwylaw ynghyd dan waeddi â'i holl nerth, "O diolch! bendigedig! diolch byth am beidio fy namnio hyd heno!" Rhedodd hynny fel tân gwyllt drwy'r lle, a dyna lle'r oedd y bobl yn gwaeddi a moliannu. Eithr fe ddaliai'r pregethwr ati gan waeddi gyda'r uchaf. "Prif-ffordd yw ffordd iachawdwriaeth, bobl! Ffordd wedi ei digarregu i'r teithwyr. Gogoniant! Ffordd dyrnpeg bob llathen—Go—goniant !" Ydi, y mae hi!" gwaeddai Thomas Hughes y Rugan, "ac y mae y tyrnpeg yn rhydd, a'r Arglwydd Iesu wedi clirio'r giatiau i gyd ar Galfaria." "Mae'r Llywodraeth," ebe'r pregethwr, "wedi rhoi parlamentri trên i bobl gyffredin; ond dyma i chwi barlament trên—ffordd iachawdwriaeth Ffordd o fewn cyrraedd pawb—Gogoniant! Mynwch dicedi yn y parlament trên, bobl!" Darfu i wŷr ieuainc Brynrodyn. anrhegu Thomas Williams, ymhen ysbaid ar ol yr oedfa hon, â merlen, ffrwyn a chyfrwy, a fu o fawr wasanaeth iddo yn ei hen ddyddiau. Yr oedd 80 wedi ymuno â'r eglwys o fewn mis o amser. Rhif yr eglwys yn niwedd 1858, 140; yn niwedd 1860, 216; yn niwedd 1862, 195; yn niwedd 1866, 197.

Bu Robert Lewis o Gaernarvon, y pregethwr, yma am ysbaid yn nhymor y diwygiad.

Yn 1866 dewiswyd yn flaenoriaid: Daniel Eames Felin Forgan, Evan Jones Dolydd, a Richard Eames Tŷ capel.

Ceir cofiant am Daniel O'Brien yn Nhrysorfa 1868 (t. 107), wedi ei ysgrifennu gan fab iddo. Wyr iddo ydyw'r Parch. D. O'Brien Owen. Ganwyd Daniel O'Brien yn Ballylegane, plwyf Ballynoe, swydd Cork. Pabyddion oedd ei rieni, ac felly yntau yng nghychwyniad ei yrfa. Yn ddeunaw oed fe deimlodd ysfa am dramp, yr hyn a edrychid arno yn ddiweddarach ganddo fel cymhelliad dwyfol ar ei feddwl. Glaniodd ym Mristo, cerddodd i Lundain, ac oddiyno i Landegai, Arfon, canys yr oedd wedi clywed yn y brifddinas fod gwaith i'w gael yno. Cafodd yntau'r gwaith hwnnw yng nghloddfa Cae-braich-y-cafn. Yr oedd y pryd hwn yn babydd selog. Ryw nos Sadwrn fe ddaeth Evan Richardson yno i bregethu, ac wrth fod cyrchu mawr i'r oedfa, fe aeth Daniel i mewn gyda hwy. Nid oedd efe yn deall y Gymraeg eto. Soniai y pregethwr y tro hwnnw lawer iawn am dragwyddoldeb, ac yr oedd y defnydd o'r gair yn creu braw yn y gynulleidfa. Galwai hynny sylw Daniel yn fwy at y gair. Gwyddai o'r goreu mai Gwyddel y gelwid ef ei hun gan y bobl. Ac yntau yn ddieithr, ac yn o ddibrofiad, a chan wybod am ragfarn at ei genedl a'i grefydd, fel ag oedd yn y wlad y pryd hwnnw, fe gredodd yn ei galon, yn wyneb yr olwg ddifrif ar y bobl, mai eu hannog hwy i ladd y Gwyddel a ddaeth i'w plith hwy yr oedd y pregethwr. A phan y torrodd y gynulleidfa yn y man i orfoledd ni feddyliodd yn amgen nad wedi gwneud eu meddwl i fyny i hynny yr oeddynt, gan annos eu gilydd i'r gorchwyl creulon. Gwaeddodd Daniel druan allan, "Mur-r-ther!" a chan waeddi "Mur-r-ther" y cludwyd ef allan yn hanner gwallgof gan ddychryn. Aeth y pregethwr ato; ac wedi deall achos ei fraw, argyhoeddodd ef o'i gamsyniad, a gwahoddodd ef yn garedig i alw gydag ef yng Nghaernarvon. Pan alwodd Daniel gydag ef, rhoes y pregethwr iddo Destament Gwyddelig, ac o hynny allan cymerai'r pregethwr sylw neilltuol ohono. Yn ddiras y treuliodd y Gwyddel yr un mlynedd arbymtheg nesaf. Ei briodas yn 1825 fu'n achlysur ei droedigaeth, gan yr elai bellach. ar brydiau i'r moddion. Dywed ei fab mai ymhen pum mlynedd ar ol priodi, ac felly yn 1830, yr argyhoeddwyd ef, a phriodola hynny i bregeth Ebenezer Morris yn Sasiwn Caernarvon ar "Y gwaed hwn." Eithr y mae yma gamgymeriad, drwy gymeryd yr oedfa honno am un arall ddiweddarach, canys yn y flwyddyn 1818, pan nad oedd Daniel ond 22 oed, y traddodwyd y bregeth honno, tra, yn ol yr amseriadau a roir, yr ydoedd yn 34 oed pan argyhoeddwyd ef. Erbyn 1830 yr oedd ef yn gweithio yn Llanberis, a'r teulu yn byw yn Llandwrog. Bu dair gwaith yn nesu at gapel Brynrodyn heb fedru anturio i mewn, ond o'r diwedd efe a wnaeth hynny. Ymgydnabu â'r Gyffes Ffydd. Daeth yn Galfin selog. Ei hoff linell oedd, "Mae gan Dduw gylch a ddeil o'u hamgylch hwy." Bu'n ddiwyd yn addysgu ei blant yn yr Ysgrythyr. Cadwai'r ddyledswydd deuluaidd yn ddifwlch hwyr a bore. Yn ei gystudd diweddaf, eb efe wrth ei fab, "Yn y colchfa yr ydw i, i tynnu y brechau, i gael gwisgo y gwisgoedd gwynion yn y nefoedd." Bu farw Mawrth 22, 1866, yn 70 oed.

Yn 1866 pwrcaswyd hanner acr o dir ynghyda defnyddiau yr hen gapel am £50 gan berchennog fferm Brynrodyn, sef Mr. Williams Rhiw, Ffestiniog, ac yn 1867 fe agorwyd y capel presennol yn ymyl y fan lle safai'r hen gapel. Yr ymgymeriad ydoedd tua £1600. Ar ol agor y newydd y tynnwyd yr hen gapel i lawr, ac aeth ei ddefnyddiau i wneud tŷ capel. Yr holl draul am y tir, y capel a'r tŷ, wedi eu llwyr orffen, £2424. Yn niwedd 1866 yr oedd yr achos yn ddiddyled; yn niwedd 1868 yr oedd y ddyled yn £1900; yn 1869 yn £20 ychwaneg; yn 1870 yn £1845; yn 1871, £1,745.

Yn 1868 y codwyd John Davies Traian, brawd y Parch. D. Roberts Rhiw, yn bregethwr.

Yn 1869 y daeth Thomas Williams Ty'nrhos yma o Garmel, lle'r oedd yn flaenor. Dewiswyd ef yma. Dewiswyd ef yma. Ymadawodd i Frynrhos yn 1880.

Fe welir byrr-gofiant i Margaret Hobley, gwraig Simon Hobley, yn Nhrysorfa 1873 (t. 431). Bu hi farw Chwefror 25, 1870. Merch y Red Lion Inn Caernarvon ydoedd hi, ac wedi hanu o Angharad James y Gelli Ffrydau. Nodir ynddi sirioldeb gwên, prydferthwch ei thro chwim, synwyr cyffredin a gonestrwydd masnachol.

Agorwyd ysgoldy Graianfryn yn 1872. Yr oedd gryn bellter ffordd o Dan-y-cefn i Frynrodyn, a'r ffordd i unioni yn anhygyrch i blant dros ystod rhan fawr o'r flwyddyn, oblegid y gwlybaniaeth. Esgeuluswyd plant y rhan yma yn hir. Oddeutu 1867 fe ddaeth Simon Hobley i fyw i'r ardal yma o Gaernarvon, a symudodd Meyrick Griffith yma yn adeg tynnu i lawr y tŷ capel, a gedwid ganddo ef. Cydsyniai'r ddau am yr angenrheidrwydd o gael Ysgol Sul i'r lle, a chychwynnwyd hi ymhen ysbaid yng ngweithdy John William Thomas y crydd, a Wesleyad o ran enwad. Erbyn haf 1871 profodd y tŷ yn rhy fychan, fel yr oedd yn rhaid cynnal dosbarth neu ddau oddiallan. Yn yr amgylchiad yma addawai Simon Hobley dir i'r amcan o godi ysgol, ac awgrymai y gwnelai ychwaneg na hynny. Cynygiai Meyrick Griffith weithio yn rhad ar yr adeilad. Dechre adeiladu. Mr. Evan Jones Dolydd a Mr. Robert Evans Cae'r bongam a ddanfonasant ddynion ar ysbeidiau i gynorthwyo gyda'r gwaith, a rhoes rhai ffermwyr help gyda chario, a gwnawd y gweddill gan Simon Hobley. Mawrth 9, cynhaliwyd cyfarfod pregethu yno, pryd y gwasanaeth- wyd gan Thomas Hughes a John Jones Caernarvon a John Jones. Brynrodyn. Clywodd John Jones ar ei galon ganu ar yr agoriad:

Dyled nid oes yn dilyn—heb ail sôn,
Hobley saif bob gofyn ;
Môr o hwyl fydd mwy ar hyn,
Unfryd, yn mro Graianfryn.
—(Goleuad, 1872, Ebrill 20, t. 7.)


Hydref 9, 1872, y bu farw Richard Eames Tŷ capel, swyddog er 1866. Ac yntau yn oruchwyliwr y Chwarel Fawr, ffrwydrodd powdwr a drinid ganddo gan achosi ei farwolaeth. Tân y dynamit, ebe'r Parch. J. Jones ar y pryd, fu cerbyd Iôr i gario'i sant i'r nefoedd.

Ebrill 15, 1878, y bu farw Henry Hughes Llwyngwalch, yn 62 mlwydd oed. Aeth o Lanllyfni i Dalsarn yn 1865, a gwnawd ef yn flaenor yno. Daeth yma yn 1874, a chodwyd ef i'r swydd. Ar rai prydiau yn hynod mewn gweddi. Ymddanghosai ei feddwl y prydiau hynny fel yn ymagor ar oleuni y byd tragwyddol, a chodai ei lef yn uwch, mewn ymadroddion cymeradwy a phwyllog, ac ar yr un pryd gyda rhyw ddylanwad disymwth ac anisgwyliadwy, "mal gwth gwynt agwrdd." Nid oedd arwydd o neilltuolrwydd meddwl arno. Gwr syml, diddichell. Selog efo phethau bychain. Ffrwd fechan yn tincian, ac ar dywyniad haul yn disgleirio yn odiaeth. (Goleuad, Mai 11, 1878, t. 13).

Yn 1878 y codwyd William Davies yn bregethwr, ac yn 1879 John Hugh Jones. Ymadawodd yr olaf i Frynrhos yn 1880. Bu farw yn 1883. Yr un flwyddyn y codwyd William Evans yn bregethwr. Aeth ef i'r ysgol i Groesoswallt. Bu am ysbaid yn aelod ym Moriah. Derbyniodd alwad i Millom.

Awst 4, 1879, bu farw Simon Hobley, o fewn ychydig i 88 mlwydd oed. Brodor ydoedd ef o Monk's Kirby, swydd Warwick. Yr ydoedd ei fam, Ann Halford, yn hanu o'r un teulu a Syr John Halford, meddyg enwog yn ei ddydd. Yr ydoedd ei nain, ar ochr ei dad, yn perthyn i'r Bedyddwyr ar un cyfnod yn ei hanes. Y pryd hwnnw y hi ydoedd yr unig un o'r ymneilltuwyr yn y plwyf lle trigiannai, a cherddai o'i phlwyf ei hun i blwyf cyfagos i'r gwasanaeth. Yn rhan olaf ei hoes yr ydoedd yn aelod gyda Chyfundeb yr Iarlles Huntingdon, ac yn ei gwaeledd ymwelai yr Iarlles gyda hi, megys yr oedd ei harfer gyda chleifion y Cyfundeb o fewn rhyw bellter i'w phalas. Hi a wrandawai ar Elizabeth Hobley yn adrodd pennod oddiar ei chof, a dywedai yn ei dull gostyngedig ei hun fod Elizabeth Hobley yn medru adrodd pennod o'r Ysgrythyr oddiar ei chof yn fwy cywir nag y medrai hi ei darllen. Arferai Simon Hobley ddweyd am ei nain, ei bod hi yn hollol hyddysg yn holl gynnwys yr Ysgrythyr, ac, yn wir, fel y dywedai ef, yn medru ei adrodd allan ym mhob rhan ohono ar dafod leferydd. Yr ydoedd ei dad, er hynny, yn ddyn meddw, ac esgeuluswyd ei addysg grefyddol yntau. Eithr fe gafodd gyfle rai gweithiau i glywed Robert Hall, pan oedd efe'n weinidog yn Leicester, ac arferai ddweyd na chlywodd efe mo neb yn pregethu gyda'r fath ddwyster teimlad. Andrew Fuller ydoedd un arall y gwrandawodd efe arno ar dro neu ddau. Fe arferai ddweyd, pa fodd bynnag, ei fod yn gwbl ddieithr i wirioneddau ysbrydol pan ddaeth efe i dref Caernarvon yn ddyn go ieuanc. Daeth yno fel bwtler i'r persondy. Ymhen peth amser fe symudodd i'r Dinas, ger Bontnewydd, fel hwsmon. Pan yno elai i wrando yn bennaf ar y Methodistiaid, a rhyw gymaint ar yr Anibynwyr. Rhoes John Griffith, gweinidog Pendref, Caernarvon, bregeth Seisnig iddo ar un tro, a theimlai yntau yn rhwymedig tra bu byw i'r gwr parchedig hwnnw. Arferai John Roberts y melinydd ag adrodd am dano, mai efe oedd y cyntaf i ofyn pa fodd y cyfarfyddid y draul ynglyn â llosgi'r canwyllau yn y moddion, ac iddo roi swllt i lawr tuag at yr amcan. Yn 36 oed, fe roes ei swydd fel hwsmon i fyny, ac ymroes i'r fasnach mewn blawd, masnach a gychwynnwyd eisoes gan ei wraig. Daeth yn un o brif fasnachwyr y dref. Yr ydoedd yn wr o argyhoeddiadau dwys, a chyson mewn ymarferiadau crefyddol. Cadwai'r ddyledswydd deuluaidd hwyr a bore yn ddifeth. Pan gychwynnai ar daith i Nerpwl bump ar y gloch y bore, rhaid oedd i'r lliaws plant godi mewn pryd i'r gwasanaeth. Darllennid y bennod yn gyfan ynghyda sylwadau Peter Williams arni. Elai yn gyson i'r cyfarfod gweddi am chwech fore Sul ym Moriah. Yn ystod arosiad Christmas Evans yn y dref, elai, ar ol pregeth y bore ym Moriah, am weddill ei bregeth ef. Y gair a arferai i gyfleu ei nodwedd arbennig ef ydoedd meluster. John Elias a John Jones, feallai, a ddylanwadodd yn fwyaf arno. Y cyntaf y diwinydd mwyaf, a'r olaf y mwyaf ei ddawn o bawb yn ei feddwl ef. Clywodd Richard Jones, brawd John Jones, yn gweddïo yn gyhoeddus unwaith, ac arferai ddweyd am dano fod ganddo ddawn angel. John Huxley a gyfrifai efe yn rhagori am gadw seiat. Yr oedd o egwyddor gref. Cynygiodd Frost, y melinydd o Gaer, beidio â gwerthu i neb arall o fewn cylch o ugain milltir ar yr amod na phrynai yntau gan neb arall. Gwrthododd y cynnyg am na fynnai dlodi eraill yn eu masnach, pryd y gwyddai nad allasai derbyn y fath gynnyg lai na dyblu ei fasnach ei hun. Nid oedd unrhyw ystyriaeth o fudd bersonol a safai funyd o'i flaen, os yn anghyson â'r hyn a farnai ef yn uniawn, fel y danghosodd nifer o weithiau mewn achosion lled bwysig. Dygodd sel gydag ysgoldy Graianfryn. Addfedodd mewn profiad yn ei flynyddoedd olaf. Tymer nwydwyllt oedd ganddo, ond cafodd oruchafiaeth lled lwyr arni yn rhan olaf ei oes. Ym mlynyddoedd ei ymneilltuaeth oddiwrth fasnach, fe elai am o awr i ddwy bob prynhawn i'w ystafell ddirgel. Ac, yn wir, yr oedd ei fyfyrdod yng nghyfraith yr Arglwydd drwy gydol y dydd. Dywedodd wrth y Parch. Evan Roberts, Engedi y pryd hwnnw, ddarfod iddo gymeryd Llyfr y Diarhebion yn gynllun iddo'i hun yn gynnar ar ei oes. grefyddol. Yr oedd yn lled gydnabyddus â holl gynnwys y Beibl, a llawer ohono air yng air yn ei gof yn y Gymraeg a'r Saesneg. Er yn wr cryf o gorff a chryf o garictor, yn Sais trylwyr yn ei gymeriad cyffredinol, eto yr oedd yn ei brofiad crefyddol wedi cymeryd y ffurf Fethodistaidd Gymreig yn gyfangwbl. Yn ofnus ac anhyderus am ei gyflwr ei hun, fe barhaodd hyd y diwedd i rybuddio a chynghori ei liaws plant ac ŵyrion yn y modd mwyaf difrifol ynghylch eu cyflwr gerbron Duw. Bu farw mewn hyder tawel. Rhoddwyd mwy o le i'w hanes ef yma oblegid prinder defnyddiau yn egluro dylanwad Methodistiaeth ar rai o genedl arall.

Yn 1880 y sefydlwyd eglwys ym Mrynrhos, yr hyn a wanhaodd. yr eglwys a'r gynulleidfa yma yn fawr. Yn niwedd 1879 yr eglwys yn 330; yn niwedd 1880, 233. Erbyn diwedd 1881 yn 256. Yn 1881 dewiswyd yn swyddogion: Thomas Hughes Grugan Wen, Thomas Jones Glangors, William Eames Tŷ capel. Aeth William Eames i Crewe yn y flwyddyn 1882.

Ymfudodd William Davies i'r America yn 1889, gan dderbyn galwad o Dakota.

Hydref 15, 1890, yn 74 mlwydd oed, y bu farw Daniel Eames, yn flaenor er 1866. Masnachwr llwyddianus a deallus. Bu'n arolygwr yr Ysgol am 15 mlynedd. Cyfrifid ef yma yn arolygwr dan gamp.

Yn 1893 y dewiswyd Owen W. Jones ac Evan T. Hughes yn flaenoriaid. Bu Owen W. Jones farw Ebrill, 1900. Yn wr gonest a ffyddlon, o dduwioldeb diamheuol, ac yn flaenor cymeradwy.

Yn 1894 y daeth Mr. John Jones yma o'r Bwlan.

Yn 1895 y bu farw Griffith T. Edwards, wedi gwasanaethu'r swydd o flaenor am 40 mlynedd. Gwr da, ac yn gwir ofalu am yr achos. Darllennodd lawer: derbyniodd y Traethodydd o'i gychwyn yn 1845 hyd y flwyddyn olaf y bu efe byw.

Yn y Cyfarfod Misol a gynhaliwyd yma, Tachwedd 1, 1897, cyfeiriai'r Parch. John Jones at yr adeg y talai Mr. Charles ymweliad â'r lle, pryd y lletyai yn yr hen dŷ capel gyda Sion Griffith, pan, yn ol John Jones, y saethai y rhewynt drwy'r haciau yn y mur. Yn ei ol ef, hefyd, yr oedd gogoniant yr Ysgol Sul yn aros yn ddigyfnewid er amser Mr. Charles, a llawr y capel mor llawn fel y gallai cath gerdded dros bennau'r bobl, a phawb yn cydweithio—yn cyd-dynnu fel y meirch yng ngherbydau Solomon. Cyfeiriwyd at wasanaeth gwerthfawr Mr. John Davies Traian. Cyfeiriwyd at y symudiad i gychwyn capel yn Glanrhyd. (Goleuad, Tachwedd 10, 1897, t. 5.)

Yn 1898 y daeth y Parch. David Williams yma. Ymadawodd i Glanrhyd ar sefydliad yr eglwys yno.

Yn 1899 y sefydlwyd eglwys yn Glanrhyd, gan gynnwys rhai aelodau o Frynrodyn, megys o leoedd eraill rai.

Bu'r Parch. John Jones farw Tachwedd 16, 1900, yn 86 mlwydd oed. Un o wŷr y Capel Uchaf ydoedd ef, a dug ryw gymaint o naws y lle yn ei ysbryd ei hun, yn enwedig yn nhymor ei ieuenctid fel pregethwr. Syniad y wlad ydoedd ddarfod iddo golli ysbryd a dawn y weinidogaeth i fesur nid bychan drwy ymroi i fasnach. Yr oedd o ddawn rwydd, gyda chyffyrddiad o ddonioldeb, a chydag angerddolrwydd yn ei deimlad naturiol. Yr oedd yn wr ffraeth mewn ymgom, ac yn barod ar alwad y funyd yn gyhoeddus mewn amgylchiadau cyffredin. Bu'n holwr ysgol am flynyddoedd yn Nosbarth Clynnog. Holwr bywiog, egniol, cyffrous. Rhagorai yn bennaf dim mewn cynhebryngau. Yr oedd ei gyfarchiadau ar yr achlysuron hyn yn deffro cywreinrwydd cyffredinol. Yr oedd ganddo ffordd ddeheuig o nodweddu mewn ychydig ymadroddion y rhai ymadawedig, ond eto bob amser ar yr ochr oreu i'w cymeriad. A phwy bynnag a gleddid, ni welwyd mono erioed na fyddai ganddo ryw rinwedd i'w ddatgan ymherthynas â hwynt. Sylwai David Roberts Rhiw am dano na byddai byth yn dod i'r gwasanaeth bedydd yn y capel ond yn ei ddillad goreu. Ail'i'w ddawn mewn cynhebrwng oedd ei ddawn yn y seiat. Yr oedd ynddo gyfuniad o dynerwch a chyfrwystra. O'r ychydig a ddywedid wrtho weithiau, fe wnelai lawer: deuai mymryn o brofiad go lwytaidd weithiau, yn yr ail-adroddiad ohono ganddo ef, yn berl go loew. Medrai ymgomio yn hamddenol gyda'r aelodau, gan dynnu allan rai anhueddol i siarad a rhai heb ganddynt nemor i'w ddweyd pe bae tuedd, a medrai wneud sylw byrr, bachog, o'i eiddo'i hun wrth fyned heibio. Edrydd Mr. John Davies sylw felly, sef yr awn i'r bedd fesur un ac un, ond y deuwn i oddiyno gyda'n gilydd. Edmygydd mawr ydoedd o John Elias, a John Jones, o Dewi Wyn, ac Eben Fardd, ac ymrithiai eu delweddau hwy ac eraill yn barhaus o flaen ei feddwl.

Bendithiwyd John Jones â gwraig a fu yn ymgeledd gymwys iddo: yr ydoedd hi yn wraig gall, ddarbodus, letygar, yn ofni'r Arglwydd. Gwerthfawrocach ydoedd hi i'w gwr na'r carbwncl, medd ei gofiannydd ef. Ac am dani y canodd y Parch. E. Davies Trefriw,

A'i gofal swewr i'w gwr rhagorol,
A chordial einioes fu'r chwaer adlonol.

(Cofiant John Jones Brynrodyn, gan John Jones Pwllheli, 1903.)

Yn 1900 y dewiswyd yn flaenoriaid: Henry Hughes, Owen Jones, Rowland J. Thomas a William Hughes.

Yn adroddiad ymwelwyr Canmlwyddiant yr Ysgol Sul, fe ddywedir fod yma sel gyda'r Ysgol, a rhai dosbarthiadau â'u cynnydd yn amlwg.

Go amherffaith a fu Caniadaeth yma am faith flynyddoedd, a barnu wrth safon celfyddyd. Yn fynych ni byddai neb neilltuol yn arwain, ond fel y disgynnai yr ysbryd ar y pryd yr arweinid. Nid yn anfynych y profwyd y gwasanaeth yn effeithiol yn y dull hwnnw. Yn y man, fe gododd rhai yn meddu mwy o fedr gyda'r canu, er nad oedd eu gwybodaeth gerddorol hwythau ond bychan. Un o'r cyfryw oedd Thomas Jones Dolydd. Yr oedd ef yn gydnabyddus â hen alawon y dyddiau hynny, fel mai anfynych y rhoddai neb emyn allan na byddai ganddo ef dôn ar ei chyfer. Llais swynol. Cadwodd ei swydd a'i ragoriaeth i'r diwedd. Bu John Jones o ddirfawr gymorth gyda chaniadaeth ar ei ddyfodiad i'r lle, ac hyd nes y cododd rhai yn meddu cymhwysterau i gymeryd y gofal. Dechreuodd canu corawl gael sylw. Dyma restr cantorion mor bell yn ol ag y gallai Mr. Owen Hughes eu holrhain, i'r hwn hefyd y mae'r sylwadau blaenorol ar ganiadaeth yn ddyledus: Thomas Jones Dolydd, David Owen Traian, Robert Griffiths Gerlan Bach, Robert Evans Cae'rbongam (cynorthwywr), William Hughes Llwyngwalch, William T. Parry Frondeg, Griffith Hughes Gruganwen, Richard Eames Tŷ capel, Henry Jones Groeslon, Rowland J. Thomas Groeslon, Robert Lewis Jones Groeslon. Coffawyd eisoes y bu Robert Lewis yma yn ystod tymor y diwygiad, neu ran ohono, a diau ddarfod iddo ef fod o fawr gymorth am y pryd gyda chaniadaeth y cysegr, canys yr oedd efe yn gerddor gwych, ac yn dwyn mawr sel gyda'r rhan hon o'r gwasanaeth.

Buwyd am yn agos i hanner canrif yn cynnal cyfarfodydd gweddi mewn tai ar gylch yn yr ardal. Cynelid hwy yn rheolaidd am wyth ar y gloch fore Sul, ac yn achlysurol ar nosweithiau'r wythnos, pan atelid rhai gan lesgedd rhag dilyn y moddion cyhoedd Rhennid y gymdogaeth yn ddwy ran i'r pwrpas yma, o boptu'r capel, y naill ran ydoedd "Dosbarth y Dolydd," a'r llall, "Dosbarth y Groeslon a Rhosnenan." Cyhoeddid y moddion yn y capel, a nodid brodyr i'w cynnal. Heblaw hyn, fe gynelid cyfarfod gweddi yn y capel ei hunan unwaith o leiaf bob Sul. Yn ystod y blynyddoedd 1841—5, byddai hynafwragedd yr eglwys yn cynnal cyfarfod gweddi ar awr gyntaf y prynhawn ar ddiwrnod y gymdeithas eglwysig. Fe fernir fod llawer o lwydd yr achos yn ddyledus i'r cyfarfodydd gweddi lliosog hyn.

Cafodd yr achos dirwestol ei le yma, yn ffurf Cymdeithas Cymedroldeb i gychwyn, a llwyrymataliad wedi hynny. Cynelid y cyfarfod bob bythefnos, a chymerai'r plant eu rhan ynddynt. Edrydd Mr. Owen Hughes am henwr yn codi i fyny dan gynhyrfiad yr awen, bondigrybwyll:

Mae Dirwest fel Cei Porthdinllaen,
Ni welwyd yn Ffrainc nac yn Spaen
'Rioed waith gyn netied a Chei Porthdinllaen.

Elai'r hen frawd ymlaen gan draethu ei lên i'r perwyl na welodd. yntau ddim erioed gyn netied a Dirwest, ei bod yn gwneud i feddwon. gynt gerdded yn sad, gan eu hwylio adref cyn nôs, a'u cadw ar aelwyd gynnes y teulu. Bu'r Clwb Du a Themlyddiaeth Dda yn uchel eu bri yma.

Yn 1855 fe ddechreuwyd ar gyfres o gyfarfodydd, dan wahanol enwau, ag y mae lle i gredu i'w dylanwad fod yn llesol. Cyfarfod Moes ydoedd un o'r rhai cyntaf. Darllennid Moeslyfr John Roberts. Llanllechid, a gwneid sylwadau arno gan un a benodid i'r amcan. Gwersi ar foes cyffredin, gan roi esiampl o'r wers ar y pryd. Ceid anerchiadau mewn ffordd o amrywiaeth ar bynciau ar wahanol. fath, megys Meyrick Griffith ar Ddaearyddiaeth Gwlad Canaan, ei bwnc mawr ef. Y Cyfarfod egwyddori fyddai er paratoi rhai ar gyfer eu derbyn i'r Sacrament. Y Cyfarfod darllen a gynhaliwyd yn gyntaf brynhawn Sul, ac yna am naw fore Sul, a phery felly. Heblaw egluro'r Beibl, buwyd uwchben Diwinyddiaeth Paley, Cyfatebiaeth Butler, ac Athrawiaeth yr Iawn Dr. Edwards yn y cyfarfodydd hynny. Cymerid y gofal gan William Parry, Griffith T. Edwards, Evan Jones, a phan y byddent adref, gan John Jones a John Davies. Yr oedd y Cyfarfod Llenyddol yn un undebol, rhwng ysgolion Sul dosbarthiadau Clynnog ac Uwchgwyrfai, fel y gelwir hwy yn awr, ond y pryd hwnnw un dosbarth oeddynt. Cyfarfod blynyddol yn y gwahanol leoedd ydoedd. Ar y cychwyn cynelid ef ym Mrynrodyn ym mis Medi, yr wythnos olaf o'r mis; ond ar ol hynny ar y Nadolig. Ymunwyd â Rhostryfan ar hynny, am rai tymorau, ond yna y ddau le ar wahan ar y Nadolig, a'r lleoedd eraill ar brydiau eraill. Mae'r amrywiaeth hyn o gyfarfodydd, ar Sul, gŵyl a gwaith, wedi bod yn nodwedd ar y lle.

Ym Mrynrodyn, yn 1779, dan bregeth David Jones Llangan, ar y geiriau, "Trowch i'r ymddiffynfa" yr argyhoeddwyd Robert Roberts, yn llencyn un arbymtheg oed. Yng nghapel Brynrodyn y cafodd Robert Roberts y tro hynod hwnnw, pan ddisgrifiai berygl pechaduriaid oddiwrth y gymhariaeth o'r llanw yn cau am bobl yn chware ar lecyn ar y tywod, pryd y ffodd nifer mawr allan mewn dychryn, gan dybied ar y funyd mai hwy oedd y chwareuwyr a ddisgrifid. Mewn Cyfarfod Misol ym Mrynrodyn yn 1794 y derbyniwyd John Elias yn aelod o'r Cyfarfod, ac y newidiwyd ei enw gan John Jones Edeyrn, o fod yn John Jones i fod yn John Elias, oddiwrth enw y tad, sef Elias Jones. Gwŷr a fagwyd ar fronnau'r Ysgol Sul yma, fel y gwelwyd, ac a fuont wasanaethgar eu hunain ynddi, oedd Griffith Davies y cyfrifydd a John Parry Caer. Yn yr ardal hon y ganwyd Griffith Solomon. A chafodd yr eglwys i'w bugeilio, yng ngwir ystyr y gair, yn ei blynyddoedd bore, neb amgen, fel y gwelwyd, na John Roberts, wedi hynny o Langwm. Nid y lleiaf o nodau arbennig yr eglwys hon ydyw, mai yma y magwyd David O'Brien Owen, goruchwyliwr cyntaf Llyfrfa'r Cyfundeb.

Fe gyfeirir gan Mr. Daniel Thomas at William Griffith Dolydd, yr hwn y dywed y byddai gyda'i ddeigryn gloew a'i Amen cynnes, a'i "O diolch !" yn gwresogi'r moddion, ac yn codi rhyw iâs hyfryd, ac yn adnewyddu pob teimlad yn y lle. Enwir ganddo, hefyd, W. Williams Appifforum, Thomas Jones Dolydd, a Griffith Morris, hen bererinion a groesodd rydiau'r Afon, ac sy'n rhodio heddyw yng Ngwlad y Goleuni, heb eu hebargofi chwaith yn Nyffryn Galar. Tywynnu y maent hwy fel ser, a cherbron Gorseddfainc Duw y safant.

Rhif yr eglwys ar ddiwedd 1900, 274; rhif yr Ysgol, 267. Y

casgl at y weinidogaeth, £107 19s. 3c. Swm y ddyled, £60.

BWLAN.[8]

ENW ar ffermdy, nid nepell oddiwrth bentref Llandwrog, yw Bwlan. Tybir fod yr enw wedi ei gymeryd oddiwrth fryncyn o ffurf y fasged gron a wneid gynt i ddal ŷd, er fod y gair yn enw hefyd ar yr ysgrepan ledr y cludir llythyrau ynddi. Oddiwrth y ffermdy fe rowd yr enw ar y capel a adeiladwyd ar y tir. Ar wahan i'r pentref, y boblogaeth yn o wasgarog. Ceid pregethu yn yr ardal er yn fore yn hanes Methodistiaeth. Y mae sôn am dorf o drigolion ardal Llandwrog, wedi ymgynnull ynghyd ar brynhawngwaith têg, ar gwrr maes i wrando pregethwr poblogaidd gyda'r Methodistiaid. Ynghanol y dorf yr oedd gwraig ieuanc brydweddol â'i maban bychan ar ei braich. Wedi i'r pregethwr ddechre ar ei bwnc, a phan yn codi ei wrandawyr i ias hyfryd o deimlad, dyma garreg, wedi ei hanelu fe ddichon at y pregethwr, yn tarro'r bychan a oedd ar fraich ei fam. Y bychan hwnnw nid oedd neb amgen na'r hwn a adweinid ar ol hynny fel "y pura' gwr, Parry o Gaer." Gan iddo ef gael ei eni ym mis Mai, 1775, y mae amseriad yr oedfa honno yn lled agos i'w benderfynu. (Cofiant J. Parry, t. 10). Byddai ambell bregeth yn y Bodryn ac weithiau yn y Morfa. Mewn oedfa yn y Morfa unwaith, yn ol Methodistiaeth Cymru, fe ddaeth y clochydd i mewn â gwialen fawr yn ei law. Ymwthiai i ganol y gynulleidfa gyda rhuthr, gan wneud am y pregethwr. Ymaflodd rhywun ynddo, pa fodd bynnag, gan roi ar ddeall iddo os eisieu ei ysgwyd oedd arno, y gwnae ef hynny iddo. Ciliodd y gwalch o glochydd yn ol ar hyn, gan ystyried mai goreu dewrder ydoedd cadw'n groeniach. Eithr wedi methu ganddo yn ei amcan gyda'r gwŷr, fel gwir lechgi fe gyfeiriodd tua'r buarth, a throes geffylau y gwrandawyr o bell allan ar eu hynt.

Yr oedd Henry Griffith Bodryn a'i wraig yn aelodau er yn fore ym Mrynrodyn. Pryd na ellid cael pregeth, neu pryd na thybid yn ddoeth ei chael, fe gynelid cyfarfod gweddi yn y tŷ. Yr oedd amryw o aelodau Brynrodyn yn trigiannu yn y fro. Fe ddywedir mai'r Henry Griffith hwn oedd y cyntaf gyda'r Methodistiaid i ddwyn pregethu i'r ardal, ac y dug bregethwyr rai gweithiau i ardal y Dinas dinlle i bregethu. (Canmlwyddiant Ysgolion Clynnog ac Uwchgwyrfai, t. 20. Cymharwyd y llawysgrif y tynnwyd y rhan fwyaf o'r llyfryn hwn ohoni, sef yr eiddo Mr. Griffith Lewis Penygroes).

Arferai David Davies (Tremlyn) ag adrodd am oedfa wrth y tair croesffordd yn ymyl Dunogfelen ar fore Sul, pan oedd John Roberts Llanllyfni (Llangwm wedi hynny) yn pregethu. Yr oedd hynny, debygir, cyn 1809, gan mai yn y flwyddyn honno y symudodd efe i Langwm. Safai y pregethwr mewn trol wrth y tair croesffordd. Yr oedd y nos Sadwrn blaenorol yn noswaith lawen yn un o dai allan Garnons Mt. Hazel, sef hafoty y gwr ag yr oedd ei hendref yng Nghaernarvon, ag y mae ei enw yn hysbys fel arall ynglyn âg erledigaeth. Ymhlith campau eraill y noswaith lawen, yr oedd ymdrech am y goreu i ddwyn agwedd wirionffol gyda choler ceffyl am y gwddf. Gan i'r gamp honno fod yn llwyddiannus i ennyn mwy o ddigrifwch nag arfer fe benderfynwyd ar fod i'r ymdrechwyr ymddangos ar y gyfryw agwedd yn yr oedfa dranoeth ger Dunogfelen. Ar y ffordd i'r oedfa yr oedd y pregethwr mewn myfyr dwys, a ffrwyth ei fyfyrdod y bore hwnnw oedd y pennill adnabyddus, "Gwych sain Fydd eto am y goron ddrain." Pan y cododd efe i fyny yn y drol yr oedd campwyr y noswaith lawen yno gyda'r goler ceffyl am y gwddf, ac yn gwneyd ystumiau arnynt eu hunain. Rhoes yntau allan i'w ganu y pennill a enynnodd yn dân yn ei feddwl tra yr ydoedd yn myfyrio ar y ffordd. Cipiodd y crefyddwyr yno y fflam, ac yr oedd canu anarferol ar y pennill y tro cyntaf hwnnw y rhowd ef allan, a dylanwad y fath fel y tynnodd yr oferwyr y coleri oddiam eu gyddfau mewn cywilydd, gan eu dodi yn dawel o'r neilltu. Yr oedd dylanwad yr oedfa y fath, fel na chlybuwyd ond hynny am na noswaith lawen nac ymladd ceiliogod, pethau ag oedd mewn bri o'r blaen ymhlith rhyw ddosbarth o'r ardalwyr.

Oddeutu 1807, yn ol y Canmlwyddiant, y sefydlwyd yr ysgol Sul, mewn tŷ annedd o'r enw Fronoleu, ac yna yn yr elusendy yn y gymdogaeth. Y gwr a gymerodd y rhan fwyaf blaenllaw gyda sefydlu'r ysgol ydoedd Henry Griffith. Yr oedd person y plwyf, o'r enw Griffith, a drigiannai yng Nghae'r Doctor, yn gynorthwyol. gyda sefydlu'r ysgol, er ei glod. Ystyrrid ef yn wr rhyddfrydig a duwiol. Ei gefnogaeth ef yn ddiau a rydd gyfrif am gadw'r ysgol. ar un ysbaid yn elusendy Glynllifon. Gwŷr eraill a fu'n gynorthwyol gyda sefydlu'r ysgol, neu ei dwyn ymlaen mewn blynyddoedd diweddarach, ydoedd Robert Hughes Caelywarch, Solomon Parry Collfryn, Robert Roberts a Hugh Jones a Robert Jones Penybwth, Robert Jones Rhiw, William Morris Glanrafon, Rhys Owen Llandwrog, Dafydd Thomas Lodge, William Prichard Penyboncan a Morris Jones Bwlan. Bu'r rhai hyn oll yn arolygwyr yn eu tro ac yn dra ffyddlon a selog gyda'r ysgol. Eglwyswr ydoedd Hugh Jones Penybwth hyd o fewn ychydig i ddiwedd ei oes. Yr oedd ef yn gerddor medrus, a bu o fawr wasanaeth gyda'r ysgol ar y cyfrif hwnnw. Olynydd Griffith, y person, oedd mor elyn— iaethol i'r ysgol ag ydoedd ef o gefnogol iddi. Efe a ddeuai heibio'r ysgol, gan orchymyn y plant i'r llan. Elent hwythau gydag ef rhag ei ofn; ond pan gaent gyfle diangent oddiarno, gan ddringo dros y cloddiau neu ymguddio o'r tu ol i'r perthi. Fel yr oedd un ohonynt ar dro yn dianc oddiarno dros y clawdd, ebe Methodistiaeth Cymru, dyma gic effeithiol iddo o'r tu ol oddiwrth y person. Llwyddodd y person lle methodd un o'r tylwyth teg, yn ei gais i gyflawni'r cyffelyb wrhydri—ond gyda'i ddwrn yn lle ei droed—gydag Edward Williams, Rotherham wedi hynny, ond y pryd hwnnw yn hogyn ysgol ger Dinbych. Wedi ysbio yr oedd Edward ar gylch y tylwyth teg ar eu dawns, pryd y torrodd un o honynt allan o'r cylch, gan ymlid yn ffyrnig ar ei ol ef. Fel y diangai'r hogyn drwy'r gwrych, ebe'r coblyn, gan anelu yn deg am dano, 'Dyna glap y wrach iti! Methu gan y coblyn yn ei amcan, pa ddelw bynnag, a diangodd yr hogyn i ysgrifennu ei Equity of the Divine Government! Ni ddywed y Methodistiaeth pa beth a ddaeth o hogyn y Bwlan, prun a droes efe allan yn felltith ei fam ai peidio!

Yr oedd Morris Jones, taid y Mr. Morris Jones Bwlan presennol, yn berchennog fferm y Bwlan. Ar ol dod ohono yn aelod eglwysig, ym Mrynrodyn debygir, fe roes dir ar ei fferm i adeiladu capel arno. Bernir fod hynny tua'r flwyddyn 1815. Nid oes le i ameu nad ar agoriad y capel y sefydlwyd yr eglwys. Yn yr ysgrif o Frynrodyn fe ddywedir mai ar agoriad capel Bwlan yr aeth Robert Hughes Llwynygwalch yno o Frynrodyn.

Yr oedd gan rywun ryw led—gof fod traul y capel cyntaf hwn yn £400, swm a ymddengys braidd yn fawr, gan nad oedd y gynulleidfa, debygir, ond bechan. Ryw gymaint yn ddiweddarach na'r capel y codwyd y tŷ capel, ac y rhoddwyd dwy lofft ar y capel ei hun. Credid fod y draul ychwanegol hon yn £200.

Hanes cyfnod y capel cyntaf sydd dra phrin. Enwau yn unig braidd, sy'n aros. Isaac Williams Caehalen mawr, oedd gyda'r swyddog cyntaf, neu'r cyntaf, ac feallai'r pwysicaf. Mae enw iddo'n aros fel gwr da, ac un o gryn ddylanwad. Efe hefyd oedd y cyhoeddwr. Swyddogion eraill y cyfnod hwn: Salmon Parry Collfryn, arweinydd y gân, a chyhoeddwr ar ol Isaac Williams, William Williams Henrhyd, Robert Hughes Caelywarch, Robert Roberts Penybythod, Evan Michael Tŷ capel, William Morris Glanrafon, Richard Roberts Penrhos.

Fe ddywedir ym Methodistiaeth Cymru mai nid llawer o gynnydd a fu ar yr achos yma o'i gychwyniad hyd y flwyddyn 1840, ond erbyn hynny, sef adeg y diwygiad, y cafwyd adfywiad a chwanegiad mawr. Ac nid ymddengys hynny o gwbl yn anghyson â'r nodwedd a fuasid yn ei briodoli i bobl yr ardal. Ardal lonydd ydyw. Gallasai fod yn Llanllonydd Isaac Ffoulkes. Pan ddisgyn yr angel i'r llyn llonydd, pa ddelw bynnag, y mae'r ymferwad am y pryd yn rhyfeddol, ac yn iachaol hefyd i ryw rai parod i achub eu cyfle.

Yr amser hwn yr oedd Carmel, Bwlan a Brynrodyn yn daith. Gyda llanw'r diwygiad fe deimlwyd angen am gapel newydd. Capel cryf, eang. Y draul, £550. Cryn gwrs yn ddiweddarach y codwyd llofft eang arno ar un talcen a'r ddwy ochr. Y draul, £350, fe ddywedir. Mae prydles yr ail gapel wedi ei hamseru yn 1841, am 71 mlynedd, am bedwar swllt arddeg y flwyddyn.

Yn ystod yr amser yr adeiladid y capel, cynelid yr ysgol yn ysgubor Bwlan ac yn y Tai Gwynion.

Yng nghyfnod agoriad yr ail gapel hwn, Evan Hughes Ty'nlon bach oedd y blaenor mwyaf amlwg. Gwr yntau o gryn ddylanwad, a chanddo air da gan bawb. Efe, meddir, oedd yr arolygwr ysgol goreu a fu gan y Bwlan. Symudodd i Abererch. Nodir Griffith Parry, a aeth drosodd i'r America yn 1846, fel gwr caredig i'r achos.

Chwefror 27, 1844, y bu farw Griffith Williams, y pregethwr. Efe oedd y pregethwr cyntaf a fu yn yr eglwys hon. Yn nhŷ'r capel yn y Capel Uchaf y trigiannai pan ddechreuodd efe bregethu. Dug nodwedd y Capel Uchaf yn amlwg arno. Nid ymddengys ei fod yn wr o unrhyw alluoedd meddyliol neilltuol, nac o unrhyw gyrhaeddiadau neilltuol. Ei arbenigrwydd oedd ynni, ymroddiad. a thanbeidrwydd ysbryd. Hen wr o'r Bwlan a'i hadwaenai yn dda a ddywedai mai lladd ei hun wrth bregethu a ddarfu. Prun bynnag am hynny, nid oedd dim ymdrech anaturiol yn ei ddull, fe ymddengys. Teimlid eneiniad ar ei bregeth. Cymherir ef gan Robert Ellis, o ran ei ddawn enillgar, nawsaidd, i Cadwaladr Owen. Perchid ef yn y wlad ar gyfrif ei ymroddiad i'w waith, a chyfrifid ef yn wr da a duwiol. Bu farw ynghanol oed gwr, ac yr oedd yn wr priod pan ddechreuodd bregethu. Bu ei dymor yn gymharol fyrr-rhyw saith neu wyth mlynedd-a thymor yr adfywiadau ydoedd. Bu ei bregethu ef yn Niwbwrch yn gychwyn adfywiad lleol, a adwaenid yno am amser fel "diwygiad Griffith Williams Bwlan." Dyma ddisgrifiad William Jones Tŷ mawr ohono: Dyn byrr, trwchus; gwyneb llydan, a'i wallt o liw goleu; ei lygaid yn lled lawn ac o liw melynddu. Golwg wladaidd. Arferai siarad yn bwyllog, a cherddai yn wastad yn araf a synfyfyriol." Y disgrifiad yn cyfateb yn hollol i'r syniad am dano yn y wlad. Gwr ydoedd hwn ag adnoddau nwyd guddiedig yn gorwedd o'i fewn. Er hynny, nid oedd William Jones, na neb arall yn yr ardal at ddiwedd y ganrif, yn cofio cymaint a gair o'i eiddo allan o bregeth neu ar achlysur arall. Efe a fu farw yn orfoleddus.

Yn Awst 1859 fe ddechreuodd John Owen bregethu. Yr oedd efe yn flaenor er 1853. John Davies y cyllidydd oedd yn ei holi, ebe Betsan Owen. Gofynnai'r holydd, "Beth oedd yn peri i chwi feddwl am bregethu ?" Atebai'r ymgeisydd, "Caru gweithio dros y Gwaredwr yn well nag ydwyf." Un o destynau John Owen oedd, "Saith o wragedd a ymaflent mewn un gwr." A dywedai fod llawer ym mhob eglwys yr un fath, yn hidio dim am grefydd ymhellach na bod yr enw arnynt. Fel yr ymwelwyr yn galw yn y seiat unwaith yn y flwyddyn, ond ddim ar un noswaith arall heblaw honno. Yr oedd John Owen, pa ddelw bynnag, o dymer ry frwd i fedru dal ati gyda'r pregethu heb niweidio'i iechyd, a gorfu arno roi goreu iddi ymhen rhyw dair blynedd. Dyma'i destynau ynghapel Llanllyfni: Sechariah ix. 12, Trowch i'r amddiffynfa; Rhufeiniaid i. 16, 17, Canys nid oes arnaf gywilydd o Efengyl Crist; Ephesiaid ii. 12, Eich bod chwi y pryd hwnnw heb Grist; Luc xv. 20, Ac efe a gododd ac a aeth at ei dad; Ioan xx. 31, Eithr y pethau hyn a ysgrifennwyd fel y credoch chwi; 1 Corinthiaid iii. 11, Canys sylfaen arall nis gall neb ei osod; 2 Corinthiaid vi. 2, Canys y mae efe yn dywedyd, Mewn amser cymeradwy y'th wrandewais; 2 Petr iii. 9, 10, Nid ydyw'r Arglwydd yn oedi ei addewid.

Yr oedd y naill a'r llall yn dod i'r eglwys yma yn nechreu a chanol y flwyddyn 1859, fel rhyw flaen-ddiferion o'r gawod. Yr oedd Robert Williams Tŷ bach mewn cyfarfod gweddi yn Bethel, Penygroes, pan y dechreuid teimlo oddiwrth y diwygiad yn y wlad hon. Yr oedd yno le hynod. Yn y seiat yn y Bwlan dranoeth, fe roes hanes yr hyn a welodd. Wrth fyned ar ei liniau i weddio ar y diwedd, methu ganddo ag yngan gair. Cludwyd ef allan yn ddiymadferth, ond nid heb fod y cynulliad wedi teimlo oddiwrth bresenoldeb yr un a'r unrhyw ysbryd a'i llethai ef. Ar nos Sul, Medi 25, torrodd yn orfoledd yng nghyfarfod gweddi y bobl ieuainc. Gorweddai rhai llanciau fel celaneddau dan y dylanwad. Y nos Sul nesaf yr oedd lliaws yn gwaeddi dan y bregeth, ac arosodd deg ar ol. Y nos Sul nesaf wedi hynny, yr oedd Thomas Williams Rhyd-ddu yma. Aeth llawer allan dan wylo, ond yn danfon cais yn ol am weddi yn eu rhan. Cynhaliwyd tair seiat y noswaith. honno, wrth fod y rhai a aeth allan yn parhau i ddychwelyd yn ol. Rhifai'r dychweledigion ddeugain namyn un. Wrth fyned allan o'r capel, clywodd un henwr y gair hwnnw megys yn cael ei ddweyd wrtho, "Y rhai oeddynt barod a aethant i mewn, a chauwyd y drws." Trodd yn ei ol, ac eb efe, "Os byth yr egyr y drws yna, mi af fi i mewn." Yn y man cafodd ei hun i mewn. Ar ben yr allt ar ei ffordd adref, clybu Morris Jones lais yn dweyd wrtho, "Os nad ei di'n ol yn awr, ni chei di ddim cynnyg byth mwy." Dychwelodd yntau yn ol gan ofn. Richard Jones Ty'nrallt yn syrthio yn ŵysg ei gefn wrth geisio myned allan heb aros i'r seiat. Wrth godi ar ei draed, adroddai'r geiriau, "Y mae gennyf agoriadau uffern a marwolaeth." Yr oedd o 15 i 18 yn dod i'r eglwys o newydd braidd bob hwyr yr wythnos ryfedd honno, fel yr ychwanegwyd fwy at yr eglwys yn ystod y diwygiad nag oedd yno o aelodau cyn hynny. Yn wir, fe ddaeth yr ardal yn lled lwyr i broffesu crefydd yr ysbaid hwnnw. Ymherthynas â Thomas Williams a'r diwygiad, fe ddywed Betsan Owen y byddai ef "yn gorfoleddu gyda phob awel." Edrydd hi am dano ar un tro yn dod ar draws y pennill, "Pe meddwn aur Peru." Dywedai: "Pe meddwn aur Peru, mi fedrwn waeddi Gogoniant am ddoniau tymorol. Mi fedrwn waeddi Gogoniant am aur Peru, am berlau'r India, am arian Califfornia, am lo y Deheudir. Ond y mae gronyn bach o ras fy Nuw yn drysor canmil gwell-Gogoniant!" Cof gan Betsan Owen am y cyhoeddwr yn dywedyd wrtho, "Ewchi i'r gongl acw i grefu gan y bechgyn acw dewi tra byddafi yn cyhoeddi." "Fedra'i ddim," ebe Thomas Williams, mae un yn dyrchafu'r Gwaredwr, a'r llall yn rhedeg ar y diafol. Fedra'i ddim !" Bu Thomas Williams yn gwaeddi efo'r bechgyn dan dri ar y gloch y bore. Cafodd John Thomas, gweinidog yr Anibynwyr, oedfa hynod yn y Bwlan yn amser y diwygiad. Caffai afael anarferol gyda'r ymadrodd, "A'r bywyd hwn sydd yn ei Fab ef." John Owen Ty'n llwyn, hefyd, a gafodd oedfa hynod arall. "Y galar mawr yn Jerusalem, pob teulu wrtho'i hun," oedd y mater. Aeth yno ias o gryndod dros ddynion anuwiol. Torrodd allan hefyd yn waeddi cyffredinol. Tachwedd 10, am ddau yn y prynhawn, y pregethodd Dafydd Morgan. Aeth un o lanciau'r Bwlan i wasanaeth yn Rhosmeilan ym mis Mai, 1860. Nid oeddid yno wedi profi dim o ddylanwad y diwygiad. Yr oedd yno ymrafael ers misoedd rhwng y blaenoriaid â'u gilydd. Y noson yr aeth y llanc i'r seiat fe gyrhaeddodd y gynnen i'w huchaf-fan. Ni allai'r llanc oddef yn hwy, a chododd i fyny, gan weiddi allan, "O flaenoriaid melltigedig!" Syrthiodd gradd o ofn arnynt. Halltwyd hwy â halen. A chyn pen nemor ddyddiau, yr oedd y diwygiad i'w deimlo yno hefyd. Yr oedd sôn drwy'r ardaloedd am rym y diwygiad yn y Bwlan. Yr oedd y dychweledigion yn cyfrannu at yr achos, fel y derbyniwyd dros £15 ganddynt cyn eu derbyn yn gyflawn aelodau. Cof gan Mr. John Jones am y blaenoriaid yn dweyd yn yr adeg honno wrth y chwiorydd ieuainc mewn gwasanaeth am roi llai yn y casgl mis. Cyn y diwygiad, ebe'r un gwr, nid oedd gofal neilltuol gan rieni yn proffesu am ddwyn eu plant i fyny yn yr eglwys. Llwyr newidiwyd hynny ar ol y diwygiad. Efe a ddywed hefyd ddarfod iddo glywed John Thomas y Bwlan, ar heol y capel, yn cwyno wrth eraill o blant y diwygiad, "Wel, ymadael â'n cariad cyntaf yr ydym!" Ac ebe Robert Williams Tŷ bach yn y seiat, wrth adrodd ei brofiad, "Ni feddyliais i erioed yr aethai hi gyn llwyted arna'i." Er hynny, gwyr sanctaidd ym marn pawb oedd y rhai hyn. A phlant y diwygiad oeddynt, wedi ymaelodi yn yr eglwys ychydig cyn y diwygiad, ond gyda'r rhai amlycaf ynglyn âg ef.

Rhif yr aelodau yn niwedd 1858, 139; yn niwedd 1860, 282; yn niwedd 1862, 274; yn niwedd 1866, 219. Y casgl at y weinidogaeth yn niwedd 1858, £23 12s. 7g.; yn niwedd 1860, £45 14s. At ei gilydd yr oedd y dosbarth a ychwanegwyd at yr eglwys yn israddol iawn o ran eu hamgylchiadau allanol i'r dosbarth oedd o'r blaen yn yr eglwys. Eto fe ymddengys oddiwrth y cofnod hwn, fod cyfraniadau y naill yn gyfartal i eiddo'r llall. Hawdd y gallasai'r hen flaenoriaid alw am i'r merched ieuainc mewn gwasanaeth arafu yn eu rhoddion!

Blaenoriaid y cyfnod hwn oedd William Pritchard, Dafydd Thomas, Griffith Lewis, Robert Jones Bodfan, William Owen, John Owen. Bu W. P. Williams Caernarvon yn trigiannu yn yr Hazel am ysbaid ac yn flaenor yma. Bu William Morris, a berthynai i'r hen dô, farw yn 1865. Heb fod yn dda arno, yr oedd yn garedig wrth y tlawd. Yr oedd iddo ef air da gan bawb, a chan y gwir- ionedd ei hun. Fe ddywedir y meddyliai y bechgyn digrefydd yn ei wasanaeth yn uchel ohono. O dymer wyllt, ebe Betsan Owen. Ar ol gwylltio fe'i clywid ef yn dweyd, "'Does dim imi wneud ar ol yr amryfusedd hwn ond myned at yr Arglwydd." "Dos i'th ystafell," eb efe dan fyned. William Pritchard Penyboncan, Henrhyd gynt, a fu farw yn 1878, yn 78 oed (82 yn ol adroddiad yn y Goleuad), wedi gwasanaethu ei swydd am 38 mlynedd. Yr oedd ef yn daid i'r Parch. W. T. Jones Llanbedrog, ac yn dad i Mr. Methusalem Pritchard. Gwr o beth gallu, gwybodaeth a dawn, ac un a wnaeth lawer o gymwynasau bychain, distaw i'r achos. "Os byddai rhyw achos disgyblaeth cas, William Pritchard roid ar ei gefn o," ebe Betsan Owen, sef er mwyn ei drin yn eofn a deheuig. Dafydd Thomas a fu farw yn 1879, yn 88 oed, wedi gwasanaethu ei swydd am 39 mlynedd. Gwr syml ei nodweddiad a'i rodiad. "Cecian wrth siarad," ebe Betsan Owen. Mynych yr adroddai ddywediad Salmon Parry, yr hen flaenor, ebe hi, sef am "beidio rhoi bwyd i bechod, ac y byddai'n rhwym o lwgu." Evan Owen Llieiniau, Rhos, oedd flaenor yma hyd 1859. Gwr gwybodus. Y Capten Henry Williams yr Hazel a ddaeth yma o Gaernarvon tuag 1858, ac a fu'n flaenor ffyddlon yma am oddeutu wyth mlynedd. Tuag 1857-8 y daeth Griffith Lewis yma. Yn flaenor yn y Four Crosses cyn hynny. Bu'n cadw cyfarfodydd i'r plant am beth amser ar ol y diwygiad. Griffith Lewis a William Pritchard, ill dau, a ddywedent yn hallt yn erbyn rhodianna ar y Sul, a myned i weled y races cychod yng Nghaernarvon. Yr oedd Griffith Lewis yn ddarllenwr cywrain. Cymerai fawr drafferth gyda'r atalnod, yr ynganiad, y pwyslais. Ambell waith, fe dreuliai amser yr ysgol ar ei hyd, ebe Mr. Edward Owen, er mwyn cael darlleniad o un adnod yn gywir. Yn wr dawnus. "Crefyddol gartref," ebe Betsan Owen. Bu farw yn 1888, wedi ei analluogi gan afiechyd ers blynyddau. Yn 1886, yn 72 oed, y bu farw Robert Jones Bodfan, yn flaenor er 1853. Amaethwr mwyaf y gymdogaeth, a'r blaenor mwyaf ei ddylanwad yn yr eglwys. "Byddai ar ei lawn hwyliau ar y cefnfor yn wastad," ebe Betsan Owen. Heb neilltuolrwydd dawn a chymeriad John Owen, efe oedd y grymusaf yn ei ddylanwad cyffredinol. Arferai ddweyd nad oedd dim neilltuol iawn wedi ei gymell ef at grefydd yn y cychwyn. Cymed- rolai ef beth ar halltni ceryddon Griffith Lewis a William Pritchard.

Oddeutu 1868 y dechreuodd Edward Owen bregethu. Yn y Deheudir y derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol. Tuag 1870-1 y dewiswyd William Owen Caehalen mawr yn flaenor. Daeth yma ychydig yn gynt o'r Porthmadoc. Bu'n ffyddlon hyd ei farw yn 1890. Yn 1874 y dewiswyd Morris Jones Bwlan a William Jones Tŷ mawr. Bu W. Jones farw yn 1898, wedi dangos llawer o ffyddlondeb. Efe a ddiogelodd yn ei gof gryn lawer o'r hanes a gadwyd am eglwys Bwlan. Dewiswyd Methusalem Pritchard yn 1886, ac Isaac Jones Bryn glas yn 1890. Bu Isaac Jones farw yn 1894.

Tebyg mai yn 1868 y daeth Thomas Williams, Rhyd-ddu gynt, i drigiannu i'r ardal hon o Benygroes, lle bu yn preswylio yn ystod 1867—8. Erbyn hyn yn hynafgwr. Yn wr dymunol, dysyml, diniwed, diargyhoedd. Nid nerth meddwl oedd ei briodoledd, ond bywiogrwydd. Hopian yn ysgafn wnelai, megys aderyn, o frigyn i frigyn. Efe o bawb o bregethwyr y dosbarth hwn oedd yr amlycaf ynglyn â diwygiad 1859, yn arbennig ynglyn â'i gychwyniad. Gydag ef, yn wir, y teimlwyd yr awel gyntaf mewn amryw leoedd yn y sir. Awel fwyn Islwyn, rhy dyner i gyffroi y llwyn a orffwys yn yr hwyr gysgodau, a'i holl freuddwydion am y blodau,— enaid Thomas Williams oedd agored i'r awel fwyn honno, ac a gyffroid ganddi, megys ag y cyffroasid honno gan adsain rhyw nefolaidd gerdd neu fwynaf anadl angel. Cipid ef gan yr awel leiaf a chwyrliid ef ganddi fel deilen ar bren bywyd. Gwelir ei nodwedd yn amlwg yn yr amrywiol gyfeiriadau ato yn ystod hanes yr eglwysi. Medrai ddioddef sen yn ddistaw. Ar ryw achlysur, pan oedd Dafydd Morris yn y Bwlan yn ystod trigias Thomas Williams yma, ar waith Thomas Williams yn torri allan gyda'i "Ogoniant arferol, ebe Dafydd Morris, "Taw, Thomas, nid oes eisieu gwaeddi Gogoniant o hyd !" Ni ddigiai Thomas Williams ddim. Eithr er ei dynerwch a'i addfwynder, medrai fod yn hallt ar dro pan fyddai eisieu. Gofynnai i wraig ar y ffordd unwaith, ag yr achwynwyd wrtho am dani, "Sut flas wyti'n gael efo chrefydd? A oes dim yn bosib dy godi o'r llaid budr yna ?" Ac y mae lle i feddwl ddarfod i'r saeth lynu. Gwelwyd rhai o wŷr y gorfoledd yn fud ar wely angeu; ond gorfoleddus oedd Thomas Williams yno hefyd. Yn y flwyddyn 1871, efe a aeth i'r "Gogoniant " y gwaeddodd allan yn yr olwg arno o bell gynifer o weithiau.

Yn 1875 y derbyniwyd John Jones yn aelod o'r Cyfarfod Misol fel pregethwr.

Yn niwedd 1878 treuliwyd £45 ar lanhau a phaentio'r capel. Yn 1883 adeiladwyd ysgoldy ac ystabl ar draul o £178.

Hydref 9, 1896, y bu farw Dafydd Morris, yn 73 oed, wedi trigiannu yma yn ystod y 10 mlynedd olaf o'i oes. Daeth yma o Gaeathraw. Dilynai ei alwedigaeth fel amaethwr yma, ond caffai hamdden i wneud llawer o wasanaeth i'r eglwys; ac yn absenoldeb bugail rheolaidd yr oedd y gwasanaeth hwnnw o werth mawr. Llawer o droadau oedd i'w lwybr, ond ni fu heb arweiniad y Golofn. Yn flaenor yn y Carneddi yn 24 oed, fe ddechreuodd bregethu yn 28 oed. Treiglodd o le i le: trigiannodd yn Dublin (am chwe mis), Caernarvon, Trefriw, Bontnewydd, Caeathraw, ac yn olaf yn y Bwlan. Bu'n berchen ffoundri yng Nghaernarvon, ond amaethwr ydoedd yn y lleoedd eraill, ac wrth reddf. Nid oedd yn ymlyngar wrth le, ac feallai ei fod yn lled anibynnol ar bersonau. Yr oedd yr un pryd yn gartrefol a siriol. Bu Betsan Owen gydag ef mewn gwasanaeth. Canai Betsan i'r maban, "Gog, gog, meddai'r gog." "Be wyti'n ddeud wrth y plentyn, dywed?" "Bwytewch chi'ch browes,— dyna fo'n barod ichi ar y pentan," ebe Betsan. Yntau yn galw ar Mrs. Morris, "Rhaid i chi edrych ar ol yr eneth yma: y mae hi'n canu, 'Gog, gog, meddai'r gôg' i'r plentyn." Ebe Mrs. Morris, "Wel, y mae yntau'n darllen y papyr newydd yn lle darllen ei Feibl, onid ydi o? Mi fasai ganddo well lle i achwyn pe'n darllen ei Feibl." A diangodd Betsan y tro hwnnw. Dro arall, gofynnai Dafydd Morris i Betsan, "Ymhle y sonir am gapel yn y Beibl?" Yn yr un bennod yn Amos," ebe Betsan, ag y sonir am adladd wedi lladd gwair y brenin." "Dyna fi wedi fy maglu," ebe yntau. "Ai dyna y tro cyntaf i chwi gael eich baglu?" gofynnai hithau. "Nage," ebe yntau, "fe'm maglwyd lawer tro, druan ohonof." Yr oedd yn naturiol yn hoff o ymwneud â'r byd Yr oedd ei feddwl ef yn gyfryw, megys yr eiddo John Owen Ty'nllwyn, fel y gallai ymroi i negeseuau bydol, a myfyrio yn y gair hefyd, a'r naill a'r llall yr un pryd. Yr oedd efe yn llai dwys na John Owen, er yn fwy egniol fel siaradwr. Eithr yr oedd ei fryd yn fwyaf yn yr ysbrydol. "Crefydd," eb efe, "Crefydd,—byw i'r Bod Mawr,—oedd fy mhwnc i bob amser; ond fyddwn i'n gwneud fawr o stŵr efo hi." Bu ei wasanaeth o werth yn yr eglwysi lle cartrefai, a gelwid ef weithiau i gynnal seiat yn yr eglwysi cymdogaethol. Feallai mai mewn cadw seiat yr oedd ei ragoriaeth pennaf. Yma yr oedd ei hunanfeddiant tawel, ei graffter mewn adnabod dynion, ei deimlad cuddiedig, a chysondeb ei feddylfryd yn y Gair, oll yn wasanaethgar iddo. Daeth gwr i'r seiat i'r Bwlan o garictor go hynod. Aeth Dafydd Morris ato i ymddiddan. Wrth ei weled ef yn sefyll, archodd y gwr iddo eistedd i lawr. Aeth y gweinidog ymlaen, pa fodd bynnag, yn ddigyffro, megys heb glywed yr arch, gan ymgomio yn dawel gyda'r gwr. Yr oedd rhyw gyffyrddiad o'r llugoer yn ei ddull yn achlysurol. Elai at un hen chwaer, a chwynai honno fod yn ddrwg ganddi nas gallai hi ddilyn y moddion yn well, heb ddim anhwyldeb neilltuol arni chwaith, heblaw diffyg gwynt. Sylwai yntau na wyddai efe am un diffyg mwy na hwnnw. "O ba beth y mae pobl yn marw," gofynnai, "ond o ddiffyg anadl?" Byddai'n gartrefol bob amser. Ar un tro, pan ddigwyddodd y seiat fod ar y diwrnod cyntaf o'r flwyddyn, fe ddymunai flwyddyn newydd dda i bawb efo'i gilydd yn y lle. Daeth henwr i'r seiat yn 80 mlwydd oed, Griffith Morris wrth ei enw. "Fedrwch i'ch pader?" gofynnai'r gweinidog. "Na fedraf wir, syr." Dreiwchi ddeud o ar fy oli?" Dywedodd y pader bedair gwaith yn olynol, yr hen wr yn ei adrodd ar ei ol bob tro. Ar ol dod i'r seiat y dysgodd yr hen wr hwnnw sillebu. Ar ei wely angeu, ymhen pedair blynedd, fe ddiolchai i Dafydd Morris yn bersonol am mai efe a ddysgodd iddo'i bader. Gallai ddangos tynerwch, pan farnai efe fod eisieu. Gofynnai i henwr syml, ond cywir, "Wel, Robert Thomas, beth sy ganddoch i?" "Dim neilltuol." "Dim heb fod yn neilltuol, onite ?" Edrychiad yr hen wr yn dangos na ddeallai. "Da, was da a ffyddlon, ydi canmoliaeth y Barnwr i'w bobl," ebe'r gweinidog. "Yr wyf yn gweld eich bod chwithau'n ffyddlon." Cododd ysbryd yr hen wr syml gyda'i eiriau. Fe fyddai ganddo ambell i sylw cryno, megys pan gyffelybai fyned i mewn i adnod i dorri tynel mewn gwaith mŵn—bod eisieu dechre yn y pen iawn. Yn ddedwydd yn yr ordinhad o fedydd, ebe Betsan Owen. Ni siaradai lawer. Rhoe'r pennill, "Bugail Israel" allan yn gyffredin, a daliai y plentyn yn ei freichiau wrth weddio. Bedyddio plentyn am ddau prynhawn Sul un tro. Nid oedd y tad yn aelod, ond galwyd ef ymlaen i'r sêt fawr gan y gweinidog. Wedi cael y bychan i'w freichiau, ebe fe, "Fy mheth bach clws i, 'rwyti'n llawer callach na'th dad, 'rwyti wedi dod i'r seiat o'i flaen o!" Pwy oedd yn y seiat nesaf ond y tad hwnnw! Yr oedd y dyn yn tywynnu allan yn y pregethwr. Unigrywiaeth oedd ei nodwedd fel dyn ac fel pregethwr. Nid elai'r unigrywiaeth yn hynodrwydd. Siaradai yn naturiol. Dywedai geneth o forwyn, ar ol ei wrando unwaith, mai siarad oedd y pregethwr hwnnw ac nid pregethu. Dywedai'r Parch. Thomas Roberts yn ei gynhebrwng mai'r rhan gyntaf o'i bregeth oedd yr oreu, er fod y rhan olaf ohoni yn dda, wedi ei threiddio gan nwyd sanctaidd; ond y gwelid ei feddwl yn gweithio yn y rhan gyntaf, yn symud y rhwystrau ac yn palmantu ei ffordd at y nôd. Eithr nid oedd hynny ychwaith wir bob amser. Yn ei flynyddoedd olaf, o leiaf, fe fyddai yn aml yn y rhan gyntaf yn ymbalfalu heb gael gafael. A'r un modd yn ei gyfarchiadau ar adegau, yn y Cyfarfod Misol a lleoedd eraill. Ond odid na tharawai efe'r hoel ar ei phen cyn dibennu, pa ddelw bynnag. Fe godai ar dro yn rhannau olaf ei bregeth i ryw rymusder ysgubol. Rhyw hwyl hunanfeddiannol ydoedd yr eiddo ef. "Y mae arna'i awydd rhoi bloedd yn y fan yma!" Ac yna bloedd o'i rhywogaeth ei hun, bloedd yn deffro cywreinrwydd ac awch disgwylgar, ond nid yn cymeryd meddiant ar bob cynneddf ar unwaith, fel eiddo'r Dafydd Morris arall hwnnw o'r Deheudir gynt. Fe fyddai ganddo ambell i sylw a lynai yn y cof, megys yr un a edrydd Mr. J. J. Evans, a glywodd efe ganddo pan yn llencyn. Pregethu yr ydoedd ar y geiriau, "Gweithiwch allan eich iachawdwriaeth eich hunain." Eglurai mai ystyr "gweithio allan " gweithio allan " yma ydoedd gwaith y mwnwr yn tyllu drwy'r graig: rhyw ddiwrnod fe dyrr drwyodd i oleuni dydd. Gweithio allan iachawdwriaeth ydyw ei gweithio allan i amlygrwydd yngwydd y byd. Fe ddeuai pregeth Dafydd Morris fel wê pryf cop allan o'i fol ei hun. Gweuai ei we yn eithaf main ac yn eithaf hamddenol, gan sicrhau bob pen â glud ar ystlysau y gornel ym mhlasdy'r brenin. Yr oedd efe, hefyd, yn wr o gynghor yn y Cyfarfod Misol. (Goleuad, Hydref 16, 1886, t. 12; 23, t. 8, 10; 30, t. 7.)

Daeth Thomas Williams y Wylfa yma o'r Fron, Llanfaglan. Yr oedd efe yn swyddog ym Mhenygraig, a galwyd ef yma. Oddiyma efe a aeth i Glanrhyd yn 1899.

Yn 1892 y daeth John Rogers yma fel bugail. Yr oedd tŷ y gweinidog wedi ei adeiladu erbyn 1894. Y tir, sef yr wythfed ran o erw, yn rhodd Mr. Henry Hughes Caernarvon, a'r tŷ, gwerth £600, yn rhodd Thomas Williams, oddigerth cludo'r defnyddiau gan amaethwyr y gymdogaeth.

Dechreuodd William Jones Caedoctor bach bregethu yn 1891. Derbyniodd alwad yn fugail i Fôn.

Yn 1894 dewiswyd Robert Thomas a John Hughes yn flaenoriaid.

Adeiladodd Thomas Williams ysgoldy y Morfa ar ei draul ei hun, gan ei gyflwyno i'r Cyfundeb. Agorwyd ef yn 1895.

Yn 1898 dewiswyd Richard Jones a Robert Evans yn flaenoriaid.

Edrydd Betsan Owen am rai cymeriadau a fu yma heb fod mewn swydd. Rhys Owen, tad John Owen. Ddim yn flaenor, ond yn cymeryd gwaith blaenor. Ei Salm, "O'r dyfnder y llefais arnat, O Arglwydd," ac yn arbennig y geiriau, "Os creffi ar anwireddau, Arglwydd, O Arglwydd pwy a saif?" "Rhys sy'n dweyd ar ol y Salmydd," eb efe wrth ddarllen. Ar ei weddi, "Symud yr anwireddau cyn i ni ddod i sefyll o'th flaen. 'Dallwn i ddim sefyll heb symud yr anwireddau." William Thomas a arferai sôn am bethau rhagluniaeth fel yr elor yn dod i ymofyn y corff. Darllenwr mawr ar ei Feibl, a gweddiwr mawr. Gair Hugh Roberts yn derfyn ar bob ymryson. Yr oedd Hugh Roberts yn berchen buwch ragorol, ond yr affaith iddi, hi fwriai ei llestr wrth ddod a llo. Awd i werthu'r fuwch. Prynwr yn dod ymlaen. Hugh Roberts yn adrodd am helynt y fuwch. Ei wraig yn ymyrryd. "Faswn i ddim yn ei gwerthu, onibae am hynny," ebe yntau. "Gwell gen i iddi farw gen i na chanddo fo, heb iddo wybod ei hanes. "Mi prynaf i hi," ebe'r prynwr. Hanes y fuwch honno ydoedd, er iddi fwrw ei llestr chwech neu saith o weithiau o'r blaen, na ddigwyddodd mo'r peth ond hynny. Rhaid bod Hugh Roberts yn ddyn neilltuol, canys fe ddywed Betsan Owen fod ei edrychiad ef yn fwy effeithiol na gair rhywun arall. Ni chanmola Betsan Owen mo bawb, canys hi a ddywed am un gwr yn ei weinyddiadau cyhoeddus, ei fod gyn syched a hen leiaden.

Dywedir hefyd am Elin Jones Cae'rloda yr arferai hi ddyled- swydd deuluaidd ei hun, gan nad oedd ei gwr yn aelod. Catrin Michael, gwraig William Ifan, a ddeuai o Abermenai, bedair milltir a hanner o ffordd at wasanaeth y Sul. Arosai yn yr ardal at oedfa'r hwyr, er mwyn cael yr hufen i gyd. Deuai ei gwr, yr hwn na ddilynai y moddion ei hun, i'w chyfarfod ar y ffordd yr hwyr. Os y byddai'r tywydd yn ddrycinog, hi arosai dros y nos. Gwnaeth hynny'n gyson am ddeugain mlynedd. Gan Marged Evans Cae Lywarch fe geid profiad ym mhob seiat. Ebe hi unwaith, " 'Does dim yn bosib cael dim gwell na gair Duw yn y cof. Mor ryfedd yw'r ymadrodd hwnnw, 'Bachgen a aned i ni, Mab a roddwyd i ni.' Bachgen'—mor agos atom!" Pethau o'r fath i'w cael ganddi nid yn anaml. Ar ol i Rhys Owen gadw'r ddyledswydd a myned at ei waith, fe fyddai Catrin ei wraig, sef merch Robert Roberts Clynnog, yn gweddïo arni ei hunan am ysbaid hanner awr. Bu yn arferiad gan ryw rai fyned tuag yno mewn modd dirgelaidd i'w gwrando. Hi a'i gwr wedi dod yma o ardal y Capel Uchaf at ddiwedd eu hoes. Marged Davies Penycae ac Ann Roberts Ty'nlonddwfr oedd ferched neilltuol o ran crefyddolder eu hysbryd. John Elias yn ewythr i Ann Roberts, o gefnder ei thad. Hi oedd y ddiweddaf yn yr ardal i wisgo'r hen het silc fawr. Mrs. Williams, gwraig y Capten Henry Williams, oedd nodedig yn ei chrefyddolder. Tra lletygar i bregethwyr Hi a'i gwr o gymorth mawr i'r achos. William Thomas Caehalen bach, gwr cymhariaeth yr elor, mae'n debyg, oedd gofiadur hynod. Adroddai am chwarter awr bregethau a glywodd er's degau o flynyddoedd. Dafydd Morris yn cael mêl ar ei fysedd wrth wrando arno, ac yn myned i'r hwyl ei hunan ar ei ol. I John Williams Ysgubor fawr, y lle nesaf i'r nefoedd yn y byd i gyd oedd capel Bwlan. Dyma adroddiad yr ymwelydd, adeg Canmlwyddiant yr Ysgol: "Dechre yn brydlon. Prin neb yn dilyn y wers—daflen. Cedwir ysgol y plant mewn ystafell gyfleus. Defnyddir y gwers-lenni yno, ond nid yn ddigon cyffredinol. Canu yn cael ei ran deg o'r amser yma. Yr arolygwr yn deall ei waith. Athrawon cymwys. Holi gwell na'r cyffredin ar y diwedd.—John Roberts."

Dywed Mr. Edward Owen na welodd efe erioed mo'r gras o brydlondeb a chysondeb gyda'r moddion yn fwy amlwg yn un man nag yn y Bwlan yn yr amser a gofir ganddo ef.

Rhif yr eglwys ar ddiwedd 1892, 232; ar ddiwedd 1900, 237.

TALSARN.[9]

EGLWYS Talsarn ydoedd yr ail gangen o Lanllyfni, sef y nesaf ar ol Brynrodyn. Yn rhyw ystyr y mae gwreiddiau eglwys Talsarn yn yr ysgolion a ymganghennent o ysgol Llanllyfni. Aelodau yn Llanllyfni oedd y proffeswyr, ac yn yr ystyr hwnnw fe hanodd Talsarn o Lanllyfni. Y mae math ar goed y tŷf eu canghennau at i lawr, gan wreiddio yn y ddaear, a thyfu drachefn i wreiddio o'u canghennau eto, ac felly am ymhell o ffordd, nes ymestyn yn fath ar bontydd coediog, hardd, dros dir lawer. Ac yn y dull hwnnw yr ymganghenodd, yr ymwreiddiodd, ac y tyfodd drachefn Achos yr Arglwydd ymhlith y Methodistiaid yn y fro hon.

Saif pentref Talsarn yn Nant Nantlle. Y pentref a rydd ei enw i'r capel. Y mae'r pentref a'r capel yn gysegredig, nid mewn enw, ond yn nheimlad Cymru oll, i goffadwriaeth John Jones, y blaenaf o'r holl wyr a ddug yr enw hwnnw. Mae'r glyn yn ychwaneg na phum milltir o hyd, ac yn cynnwys rhannau o bedwar o blwyfi, sef Beddgelert, Llanllyfni, Llandwrog a Chlynnog. Y pen agosaf i Beddgelert sydd is esgeiriau gorllewinol y Wyddfa. Pentref Talsarn sydd oddeutu saith milltir o Gaernarvon. Fe gynwysai yn 1861 oddeutu 250 o dai, a phoblogaeth o 1160. Pan symudodd John Jones yma fe ddaeth o ganol clogwyni i ganol clogwyni, a'i fangre bellach ydoedd "brenines dyffrynoedd gwlad Cymru."

Cyn sefydlu eglwys yma byddid yn cael pregeth ar nos Sadwrn yn y Gelli ffrydau, ac yn y Ffridd fore Sul, yn fwy neu lai cyson. Arweinid y pregethwr fore Sul o Lanllyfni gan Robert Griffith Bryn Coch. Daeth yr awydd yn gryf am gapel i'r ardal hon. Nid hawdd oedd cael tir i'r perwyl hwnnw. Catrin Roberts Coedmadoc, nain Griffith Williams, y goruchwyliwr ar chwarel Talsarn, gymhellodd ei mab i eiriol am dir, a chafwyd ef ar brydles o 99 mlynedd am gini y flwyddyn. Adeiladwyd y capel ar lanerch ddymunol yngolwg y naill ben a'r llall o'r Nant. Erbyn hyn mae'r lle y safai'r capel a'r tŷ capel arno, ynghyd â siop John Jones, wedi ei gladdu dan y domen rwbel.

Deuddeg llath wrth naw oedd mesur y capel. Cafwyd y llechi toi gan Griffith Jones. Adeg farwaidd ydoedd ar y fasnach lechi, y cyflogau yn fychain, a'r trethi yn drymion, ar ol tymor y rhyfel- oedd. Erbyn 1826 yr oedd y ddyled yn £300 eto, ar ol pob ymdrech i'w dileu.

Awst, 1821, yr agorwyd y capel, ac y ffurfiwyd yr eglwys. Pregethwyd ar yr agoriad gan John Roberts Llangwm, James Hughes Lleyn, Thomas Pritchard Nant, Robert Dafydd Brynengan, a Richard Williams Brynengan. Yr oedd y bregeth gyntaf yn y capel eisoes wedi ei thraddodi gan Emanuel Evans Môn. Dyma restr y rhai a aethant o Lanllyfni i Dalsarn: Richard a Mary Davies Gelli, Mary Griffith Nantlle, Jane Griffith Ffridd, Gwen Griffith Tŷ coch, Elinor Owen Gwernor, Robert ac Ann Jones Tanrallt, William Roberts Cae engan, Owen a Jane Rowland Brynmadoc, Catrin Roberts Coedmadoc, Elin Jones Hafodlas, Thomas Owen Coedgerddan, Robert a Catrin Owen Tan y graig (Ty'nyfawnog), Mary Roberts Cilgwyn, Catrin Roberts Penycae, John a Lowri Morris Penrhiw, yn saith o feibion a thair arddeg o ferched. Fe ymunodd hefyd rai ag oedd eisoes wedi ymuno â'r Anibynwyr ar gyfrif pellter Llanllyfni oddiwrthynt.

Yn 1822 daeth Robert Griffith Bryn coch i fyw i'r tŷ capel. Bu'n arweinydd am gyfnod maith yn y Ffridd. Yr oedd efe yn un o flaenoriaid Llanllyfni, ac ar ei ddyfodiad yma efe yn unig a lanwai'r swydd.

Yn 1823 y daeth John Jones yma o Ddolyddelen. Symudodd er mwyn cael mwy o ryddid i fyned a dod gyda phregethu, a bod yn nes i'w gyhoeddiadau. Am hanner dydd, Rhagfyr 30, 1822, fe bregethodd yn Nhalsarn am y tro cyntaf oddiar Rhufeiniaid viii. 4. Yn niwedd yr wythnos ganlynol yr ymsefydlodd yma. Y Sul wedyn, sef Ionawr 12, yr oedd yn pregethu yn Nhalsarn y bore oddiar Rhufeiniaid viii. 2. (Cofiant, t. 100). Efe a ymroes i lafur crefyddol yma. Sefydlodd gyfarfodydd canu yma, fel yn Llanllyfni, a gyffrodd holl ieuenctid yr ardal gyda'r gangen hon o'r gwasanaeth. Yn y cyfarfodydd hyn y daeth efe dan ddylanwad cyfareddol Fanny Edwards, "Fanny" ei bregethau yn y man.

Yn 1825 y cychwynnwyd ysgol Sul yn y Gelli ffrydau, yr hon a barhaodd am ddeng mlynedd. Robert Dafydd y Fron oedd y prif offeryn yn y symudiad hwnnw.

Yn 1826 fe roddwyd llofft ar y capel. Fe ymddengys fod cyfnod o lwyddiant ar yr achos yn union o flaen hyn, a dywedir ddarfod ychwanegu 24 at yr eglwys mewn byrr amser. Yr un flwyddyn y daeth William Jones yma o Ddolyddelen, sef brawd John Jones. Y flwyddyn hon hefyd fe gychwynnwyd cynnal cyf- arfodydd gweddi fore Sul yn y tai ar gylch, yr hyn a barhaodd yn ol hynny yn ddifwlch am chwarter canrif. Yn nhymor prinder capelau, pan yr oedd rhai teuluoedd yn anghyfleus o bell oddiwrth bob capel, yr oedd yr angen am hynny yn fwy. Wedi i'r arfer honno gael ei rhoi i fyny, yr oedd cyfarfod gweddi fore Sul i'r bobl ieuainc yn cael ei gynnal yn y capel ar hyd y blynyddoedd.

Yn 1829 y symudodd William Jones oddiyma i Ryd-ddu.

Robert Dafydd oedd y cyntaf i'w osod yn y swydd o flaenor gan yr eglwys ei hun, a hynny ddigwyddodd yn 1830, wedi bod o Robert Griffith yn y swydd arno'i hun am wyth mlynedd. Elai ef i'r swydd yn naturiol yn rhinwedd ei swyddogaeth flaenorol cystal ag yn rhinwedd hir wasanaeth.

Yn amser y cyffro cyntaf gyda dirwest yr oedd awydd cyff- redinol yn yr ardal am gyfarfod cyhoeddus, sef un o gyfarfodydd mawr y dyddiau hynny, pan fyddai'r gwahanol enwadau yn ymuno i'r amcan. Fe gafwyd y cyfarfod ar Tachwedd 1, 1836. Yr oedd pleidwyr grymus i'r achos yn y gymdogaeth, sef John Jones, Owen Thomas (ar ol hynny o Brynmawr) a Robert Jones Llanllyfni. Byddai John Jones yn cymell yr egwyddor ddirwestol mewn pregethau gyda grym argyhoeddiadol a hyawdledd ysgubol. Yr oedd rhif aelodau y Gymdeithas yn Nhalsarn erbyn Ionawr 13, 1837, yn 354.

Cychwynnwyd cangen-ysgol Cesarea yn ystod 1837-8.

Yn 1838 fe ddaeth Talsarn a Nebo yn daith.

Torrodd diwygiad y flwyddyn 1840 allan yma yng nghyfarfod gweddi y merched a gynhelid ddydd gwaith. Yr oedd rhai o'r merched hynny yn meddu ar radd o hynodrwydd mewn dawn a chymeriad, sef, ymhlith eraill, Mary Watkyn, Marged Williams, priod John Hughes, y ddau o'r Waenfawr, Marged Roberts, gwraig Robert Griffith Tŷ'r Capel, Ann Morris Tanrallt a Catrin Michael.

Yn 1841 y sefydlwyd y Gymdeithas Rechabaidd yn y lle. Mae mymryn o hanes cyfarfod trimisol Talsarn am Hydref 3 a 4, 1842, sef y Cyfarfod Misol arbennig a gynhelid bob chwarter, wedi ei ddanfon i Drysorfa Tachwedd o'r flwyddyn honno. Ym mhrinder cofnodion cyffelyb yn y cyfnod hwnnw, fe deifl yr adroddiad fyrr-lygedyn ar bethau. Nid yw ond am ddiwrnod y pregethu. Am 10, dechreuwyd gan Evan Williams Pentre ucha, a phregethwyd gan G. Hughes Edeyrn (Iago i. 2-4) a John Jones Tremadoc (Hebreaid xii. 28-9). Am 2, dechreuwyd gan W. Roberts Clynnog, a phregethwyd gan O. Thomas Bangor (Luc xxi. 32) a James Hughes Lleyn (Salm xlvi. 5). Am 6, pregethodd Robert Hughes Uwchlaw'r ffynnon (Datguddiad xx. 12) a D. Jones Llanllechid (Eseciel ix. 4). Dywed John Hughes Penygroes, y gwr a ddanfonodd yr adroddiad, fod yr hin yn gysurus y diwrnod hwnnw, y torfeydd yn lliosog, a'r nef yn gwenu.

Oddeutu 1842 y sefydlwyd cangen-eglwys Cesarea, ac yr ymadawodd tua deuddeg o'r aelodau oddiyma yno.

Hen gono, fel y dywedai Daniel Owen a phobl sir Fflint, oedd tad Robert Owen Tŷ draw, yntau y tad o'r un enw a'r mab. Yr oedd yn well gan Frances, geneth John Jones (yn fyw o hyd o dan yr enw Mrs. Jones Machynlleth), fyned drwy'r drws isel i Dan y fawnog, lle preswyliai ef, nag i unlle arall braidd. Un peth roe awch ar fwynhad Frances oedd, fod ar bobl ieuainc eraill ofn yr hen grasbil tawedog, aflonydd, chwimwth ei symudiadau. Ni feiddiai ungwr gellwair yn ei ŵydd. Eithr fe ollyngai heb yn wybod iddo ddywediadau cramp a wnelai i bobl eraill chwerthin heb yn waethaf iddynt. Meistr corn yn ei dŷ, a rhaid fyddai i bawb fyned i'r capel bob tywydd, er myned. yno ar hyd ffordd beryglus yn y nos. "Dowch hogia," eb efe, a dyna'r bechgyn yn ei ddilyn i'r ysgol Sul fel rhes o ddefaid ar hyd y llwybr caregog. Yn ei ddosbarth, dyna glewtan yn diaspedain dros y capel i ryw hogyn direidus. Ebwch ar ol ebwch oedd ei ganu, â'i law dan ochr ei ben. Amen grasboeth, ebe Frances, pan fyddai hwyl yn y seiat, a'i ddagrau yn tywallt i lawr ei ruddiau. Gwnelai bopeth ofynnid iddo. Dyma fo'n gadeirydd cyfarfod dirwest. Ei hogiau ef ei hun wedi dod i mewn yn hwyr, ar ol troi i mewn i'r siop. Golwg guchiog arno pan welodd hwy yn dod i Codi ei aeliau yn fwäau mawrion, ac yn galw ar Owen ei fab i siarad. "'Does gin i ddim byd neilltuol i'w ddweyd heno," ebe Owen. "Wel a hai," ebe'r tad, "nag oes mi wn, wedi bod tua'r siop yna yn plevio. Gwael iawn, gwael iawn, Owan." "Wel, Robin," wrth y mab arall, "treia di hi, i weld a oes gin ti rwbeth i ddeyd." Robert yn o isel. "Be' wyt i yn i ddeud, dwad? Pwy all dy glywad di? Dywed yn uwch, wnei di." Robert yn codi ei lais, ac yn dweyd ychydig. "Tipyn gwell nag Owan," ebe'r tad, "ond wfft i chi ill dau." Codi'n sydyn ar ei draed, awgrymu troi y cyfarfod yn gyfarfod gweddi, gan nad oedd gan yr hogiau ddim i'w ddweyd. Galw ar Hugh Roberts y Ffridd, brawd ieuengaf Robert Roberts Clynnog, i weddio: "Yr hen frawd, dos ar dy liniau." Hugh Roberts yn myned, ond dim gair i'w glywed. Galw allan ar yr hen frawd, "Dywad rwbeth, dywad rwbeth." "Wel, gyfeillion," ebe Hugh Roberts, oddiar ei liniau, "mae'n dda gin i fod yma, ac yr ydw i yn hoff o ddirwest." Hugh Roberts yn cael pwniad, "Gweddïa, gweddïa." Hugh Roberts ar hynny yn gweddio yn syml a gostyngedig a gafaelgar. Pan gododd ar ei draed, Robert Owen yn gofyn iddo, "Beth oedd arnat i, yr hen lob, yn areithio ar dy liniau ?" "Wel," ebe'r diniwed, " be wyddwn i nad rhyw ddull newydd o gadw cyfarfod dirwest oedd ganddochi? Waeth sut i ddweyd!" "Gwaeth," ebe Robert Owen, "Gwaeth, yr hen greadur rhyfedd!" Brysiodd Owen a Robert adref, ac yr oeddynt yn eu gwelyau cyn fod cadeirydd y cyfarfod wedi cyrraedd y tŷ. Wedi i John Jones fod yn hir yn traethu wrtho, o bryd i bryd, am ragoriaethau yr America, aeth Robert Owen yno o'r diwedd, a dau o'i feibion gydag ef, sef yn y flwyddyn 1843. (Cofiant Robert Owen, t. 4-14).

Yn 1843 y dewiswyd Robert Jones Tanrallt yn flaenor, ac y daeth William Hughes yma o Lanllyfni, lle bu'n flaenor am bedair blynedd. Galwyd ef i'r swydd yma, a'r flwyddyn nesaf dechreuodd bregethu.

Yn 1846 dewiswyd yn flaenoriaid, Robert Owen, Tŷ draw wedyn, ac Edward William.

Yn 1849 sefydlwyd cangen-ysgol ar fynydd Cilgwyn mewn tŷ. Y rhai fu'n ymdrechgar yn y gorchwyl oedd, Robert Griffith Bala, John Morris Penrhiwiau, Hugh Roberts Talynant, Hugh Davies yr efail, John Jones Bryntirion, ynghyda bechgyn Ty newydd ac eraill. Codwyd dadl yma ymherthynas â hawl enwadol i'r lle, a gollyngwyd gafael o'r ysgol, ac erbyn hyn fe geir yno eglwys Anibynnol.

Oddeutu 1850 fe sefydlwyd y Clwb Du yn yr ardal yma, fel yn ardaloedd y chwareli yn gyffredin. Cymdeithas ar gyfer medd— won diwygiedig.

Ar y 23 o Fehefin, 1852, yr agorwyd yr ail gapel. Adeiladwyd ar safle y capel presennol ar Gloddfa'r coed, lle a fernid allan o berygl cael ei gladdu o'r golwg dan y tomenau rwbel. Trigolion Talymignedd yn dadleu yn erbyn symud y capel ymhellach oddiwrthynt, ond dadl John Jones a Hugh Jones Coedmadoc a orfu, o blaid lle diogel. I'r ddau hyn hefyd yr ymddiriedwyd cynllun ac adeiladwaith y capel. Maintioli, 14 llath wrth 14. Eisteddleoedd i 350. Y draul, £700. Drwy offerynoliaeth Fanny Jones, fe sicrhawyd yr arian am lôg y banc gan amrywiol bersonau. Pregethwyd ar yr agoriad gan Edward Morgan a Richard Humphreys Dyffryn, John Phillips, William Morris Tŷ Ddewi, David Charles Môn, David Jones Caernarvon. John Jones a draddododd y bregeth gyntaf ynddo ar Mehefin 20, oddiar 1 Brenhinoedd viii. 23. Yr oedd y bregeth olaf yn yr hên gapel wedi ei rhoi gan D. Davies Trecastell, oddiar Barnwyr v. 23. Rhoddwyd y capel newydd yn destyn englyn mewn cyfarfod llenyddol yn yr ardal, un o'r rhai cyntaf, os nad y cyntaf, a gynhaliwyd yma, gydag Eben Fardd yn arweinydd. Lliaws o gystadleuwyr; neb yn deilwng. Dyma'r rhai a gyfrifid yn oreu:

Wele ein capel newydd—hylaw,
Helaeth a chelfydd.
Tŷ mawl i'r Oen, Teml rydd
Dwyfol feddyg Tŷ Dafydd.

Yr eglwys fo'n perarogli—o'i fewn
Gwna'r fach yn aneiri.
Yn hwn, Dad, dihuna di
Elynion i'w hail—eni.
William Hughes Ty'nyweirglodd.

Ystafell hwylus a helaeth—a ennyn
A chynnal ddysgeidiaeth,
A lle'r addoli daeth,
Digon i'r holl gymdogaeth.
William Owen Hafodlas.

Lluniwyd cael goruwch-ystafell yn y capel, a chodwyd ysgol. ddyddiol yno am flwyddyn cyn bod rheolaeth bwrdd na chynorthwy treth.

Yr un flwyddyn y daeth John Robinson yma o Garmel, a Thomas Morris o'r Tŷ mawr, y naill a'r llall yn flaenoriaid eisoes cyn eu hail-ddewis yma.

Oddeutu'r flwyddyn hon y dechreuodd Robert Owen bregethu, ac yntau yn flaenor eisoes er 1846.

Yn 1853 y bu farw Robert Griffith, sef y blaenor cyntaf, a ddaeth yma i'r tŷ capel o Fryn coch, ac a arweiniai yma wedi bod yn flaenor yn Llanllyfni er 1813. Aeth i drigiannu o'r tŷ capel i Ben yr yrfa, a byddai'n cerdded filltiroedd i'r moddion ar y Sul ar ol myned i wth o oedran. Yn wr cywir, ffyddlawn, selog, ac yn ofn i weithredwyr drwg. Pan yn byw yn y tŷ capel, yr hwn, ebe Mrs. Jones Machynlleth oedd o dan yr untô a'r capel, byddai Fanny Jones, Mrs. Jones Coedmadoc, a hithau Frances a rhai o'r plant eraill yn troi i mewn ar ol oedfa, ynghyda'r blaenoriaid. Llawer ymgom ddifyr a glywodd Frances yno o bryd i bryd, weithiau gyda William Morris Cilgeran a'i gyfaill, weithiau gyda John Jones Blaenanerch a'i gyfaill, neu gawr arall a'i gor, yr hyn a bâr i Mrs. Jones Machynlleth dorri allan yn yr adgof am danynt, "O, hen ystafell gysegredig !" Robert Griffith fyddai'n gofalu am y ceffylau, a Lowri ei ferch yn paratoi bwyd, a Marged Thomas yn gweini wrth y bwrdd. Gwr tawedog oedd gwr y tŷ capel, ac fel yr hen Angell Jones y Wyddgrug, yn Galfin i'r gwraidd, neu'n is na hynny braidd, ys dywed Glan Alun am dano. Yr oedd Frances yn gwrando ar ei thad yn pregethu yn y capel ar un tro, ac a aeth gydag ef yn ei law i barlwr y tŷ capel. Dyma Robert Griffith ar eu hôl, ac ebe fe, "John Jones, cadwed fy Nhad nefol fi rhag credu yr athrawiaeth a bregethasoch heno." Wel," ebe John Jones, gan drin ei bibell yn hamddenol, "beth ddeudais i, Robert Griffith ?" "Wel, ni ddarfu i chwi ddim crybwyll yr un gair am waith yr Ysbryd." "Wel, feallai naddo, ond nid dyna fater fy mhregeth i heno. Ni ddarfu i mi ei wadu, ai do, Robert Griffith ?" "O, naddo siwr." Gorffennai'r cwbl gyda gwên ysgafn yn chware dros wyneb John Jones. (Cofiant Robert Owen, 17-8).

Symudodd Robert Owen i Gader Elwa yn Eifionydd yn 1856. Ei dad ydoedd ef, wedi ei ddiwyllio, a chyda mwy o gallineb y sarff na feddai'r hen wr, ond nid heb rywbeth o'i ddull agored yntau. Wyneb sir Gaernarvon, fel y gwelir yn ei lun yn y Cofiant, ynghydag aeliau bwaog ei dad. Pwyslais yr hen wr, sef pwyslais sir Gaer- narvon, ys dywedai Daniel Owen am dano ef, a phendantrwydd yr hen wr, ynghyda rhywbeth o'i ddisgyblaeth yn y tŷ. Yr ydoedd efe yn enghraifft o ddyn a ddaeth yn deg o dan ddylanwad John Jones, heb nemor fanteision addysg. Efe a arferai ddweyd fod pob dyn ieuanc yn ardal Talsarn a feddyliai am ddod yn rhywbeth mwy na'i gilydd, yn unrhyw ffordd, yn ffurfio'i hunan hyd y gallai ar gynllun John Jones. A dyma'r achos, eb efe, pam nad ymroes efe ei hun i ddysgu Saesneg. Ni wnaeth John Jones mo hynny, ac nid oedd eisieu iddo yntau wneud ynte. Yr oedd yr un ysbryd o ymddiried mewn cynneddf naturiol, heb ofalu cymaint am ddysg reolaidd, yn John Lloyd Jones. Eithr fe newidiodd Robert Owen ei syniad yn hynny, er parhau ohono i roddi'r pwys yn bennaf ar rym cynhenid dyn. Yr oedd esampl John Jones, pa ddelw bynnag, ymhlaid ymboeni yn y gair a'r athrawiaeth, a sylw ar y byd, ac i hynny yr ymroes Robert Owen hefyd ar hyd ei oes, ynghanol gofalon bydol. Yr oedd dylanwad John Jones yn amlwg arno, yn peri iddo ymryddhau oddiwrth hualau cyfundrefn, ac mewn gadael ei feddwl yn agored i oleuni newydd, tra, ar yr un pryd, yn gryf a phendant ei olygiad ar yr athrawiaeth sylfaenol. Fe gariodd y meddwl gydag ef ar hyd ei oes am John Jones, mai efe oedd y mwyaf ei ddawn naturiol i bregethu a glywodd efe erioed, a'i fod yn un o'r dynion cryfaf ei garictor a adwaenodd efe. Dodai ef o ran grym cymeriad yn gyfochrog â'r Dr. Lewis Edwards. At ddiwedd ei oes fe'i clywyd yn dweyd nad oedd John Jones ddim wedi gwneud nemor erddo ef yn bersonol, a llai na ddylasai wneud. Ond os na wnaeth efe lawer iddo yn fwriadol, fe wnaeth lawer yn anfwriadol.

Bu'r Parch. D. D. Jones Bangor yma am oddeutu deng mis yn ystod 1856-7, yn cadw'r ysgol yn llofft y capel. Llywodraethid yr ysgol gan bwyllgor apwyntiedig gan yr eglwys. Aeth y cais am gynorthwy y llywodraeth yn fethiant ar gyfrif anghyfleustra'r lle. Y Parch. William Hughes ydoedd y prif ysgogydd gydag addysg yn y Dyffryn. Elias Jones y siop ydoedd trysorydd yr ysgol. Plant yr ardal y pryd hwnnw braidd yn ol mewn dysg. Cynaliai Mr. Jones ysgol nos i rai mewn oedran. Elis Walter Jones, pregethwr a aeth yn ol hynny i'r America, a fu gydag ef yn y naill ysgol a'r llall, a brawd iddo a fu yn flaenor ym Mhenygroes yn yr ysgol nos. Ymhlith y rhai a fu yn yr ysgol ddyddiol gydag ef, enwir gan Mr. Jones, Mr. Evan Roberts Beatrice, Tanrallt, a'i frawd; Thomas Jones y siop, sef mab Elias Jones; plant Hugh Jones Coedmadoc; Mrs. Thomas Levi a brawd iddi a fu yn feddyg ym Mhorthmadoc. Byrr-olwg oedd gan yr athraw, a chwynai rhywun am hynny. Yr oedd y bachgen a aeth yn feddyg yn gwrando'r gwyn, ac eb efe, "Os ydi i olwg o yn fyrr, y mae o yn gweld tucefn cystled ag o'i flaen!" Elai Mr. Jones i'r un dosbarth yn yr ysgol Sul a John Lloyd Jones, mab hynaf John Jones, a dywed ddarfod iddo y pryd hwnnw dderbyn argraff oddiwrtho ei fod yn ddyn galluog. Am un seiat yn unig y mae gan Mr. Jones ddim cof neilltuol. Yr oedd John Jones yno yn myned dros yr hyn oedd wedi ei adrodd iddo yn flaenorol, yn ei deulu, debygir, o bregethau y Sul. Adroddai yn helaeth iawn, fel y synnai Mr. Jones at ei gof. Traethai hefyd yn helaeth ei hun i'r un cyfeiriad gyda grym a newydd-deb ac effeithiolrwydd, y cyfryw fel y synnai Mr. Jones drachefn yn fwy at ei allu meddwl a'i ddawn nag at ei gof. Efe a gafodd gyfle hefyd i ymddiddan â John Jones rai gweithiau. Cof ganddo am un ymddiddan. Adroddai John Jones am dano'i hun yn dychwelyd o Gapel Curig ar un nos Sul, a'i fod ar gopa y ffordd sy'n troi ar y chwith i Lanberis, lle mae tŷ tafarn, pryd y disgynnodd i lawr oddiar gefn ei geffyl, ac ar y wàl yn y fan honno fe ysgrifennodd un o'i donau, ag oedd yn ystod y munydau blaenorol wedi rhedeg drwy ei feddwl. Ysgrifennu y prif lais yn unig a wnae efe, a gadael i rywun arall cyfarwydd yn ol hynny ddodi i mewn y lleisiau eraill. Yn yr un ymddiddan, fe feiai John Jones y Parch. David Hughes Tredegar am fod â llaw ganddo yng nghyfieithiad Addysg Chambers i'r Bobl, am y cyfrifai efe fod tuedd atheistaidd yn y gwaith hwnnw. Wrth ei weled ef yn cael ei ddyrnodio yn o drwm, dywedodd Mr. Jones rhywbeth ymhlaid David Hughes, gan ychwanegu mai Arthur Jones Bangor oedd wedi ei gymell ef i bregethu. Ebe John Jones, "Mi wnae Arthur Jones y diafol yn bregethwr, pe buasai côt ddu am dano !" Cŵyn Mr. Jones ydyw nad oedd llawer o ysbryd ymchwil i bethau cyffredin yn yr ardal y pryd hwnnw. Methu ganddo er ceisio a sefydlu cymdeithas lenyddol yn y lle. Cyhoeddwyd Mr. Jones i roi darlith ar ddaeareg ar un achlysur. Pump neu chwech yn unig a ddaeth ynghyd. Nid oedd dim cefnogaeth i'w gael gan neb i amcanion o'r fath, oddigerth yn unig gan William Hughes. Bu yn yr ardal eisteddfod yn amser Mr. Jones, pryd y gweithredai ef fel cadeirydd yn y bore. Tanymarian oedd y llywydd. Yn Nhalsarn y cafodd Mr. Jones y syniad cyntaf erioed i'w feddwl am fyned yn bregethwr. Yr oedd ganddo ef y pryd hwnnw ddosbarth dan ei ofal, a llanc yn y dosbarth a awgrymodd hynny iddo, heb fod y fath feddwl erioed o'r blaen wedi gwibio ar draws ei ddychymyg.

Yn ystod 1857 y sefydlwyd cangen-ysgol Baladeulyn, gyda John Lloyd Jones yn brif offeryn.

Fe ddaeth Evan Owen yma yn 1857. Bu am dymor maith, yn ol hynny, yn y Baladeulyn, ond fe ddychwelodd yn ol yma i aros am weddill ei oes.

Edward Davies, yn ddiweddarach o'r Porthmadoc, a alwyd yn flaenor ac ar ol hynny yn bregethwr yn eglwys Pennant. Bu yma am ysbaid cyn ymadael ohono i'r Porthmadoc yn 1857, lle bu farw, Mawrth 11, 1895. Gwr hynaws a'i bregethu yn gymeradwy.

Bu John Jones farw Awst 16, 1857, yn 60 mlwydd oed, wedi dechre pregethu er 1821, wedi ei ordeinio yn 1829, ac wedi bod yn aelod o'r eglwys hon er 1823. Am Awst 16, sef y Sul, y mae Robert Ellis Ysgoldy wedi ysgrifennu yn ei ddyddiadur, "John Jones Talsarn yn marw." Yna ar y Llun canlynol, "Ow! Ow! gwr mawr wedi cwympo. Syrthiodd y goron oddiar ein pen. Chwith i Gymru fydd bod heb John Jones." Ar hyd ymyl y ddalen am Awst 16—23, y mae'n ysgrifenedig ganddo, "Wythnos dywell: John Jones yn gorff!" Yr oedd Robert Ellis y Sul dilynol yn pregethu yn Nhalsarn yr hwyr, wedi bod ym Mhenygroes y bore a Cesarea y prynhawn. Ei destyn yn Nhalsarn, Actau xiii. 36, "Canys Dafydd, wedi iddo wasanaethu ei genhedlaeth ei hun drwy ewyllys Duw, a hunodd, ac a ddodwyd at ei dadau." Y mae enw John Jones yn yr ardaloedd hyn yn anwahanol gysylltiedig âg enw Fanny Jones ei wraig. Yn Fanny Jones fe gafodd un cwbl gymwys i gymeryd gofal eu masnach arni ei hun, ac i'w ryddhau yntau yn o lwyr i waith ysbrydol. Defnyddiodd yntau ei gyfleustra. Cerddai ol a blaen ar yr allt goediog gerllaw y tŷ â'i ddwylaw ar ei gefn mewn myfyr fel mewn hun. Rhoir enghreifftiau yn ei Gofiant o'i allu i anghofio'i hun mewn dwys-fyfyrdod. Arferai Robert Owen Tŷ draw ag adrodd am dano yn sefyll â'i gefn ar dalcen y tŷ, a rhywun yn ei gyfarch, ac yntau am ennyd fel heb ddihuno o'i ddwys fyfyr, ac yna yn torri allan,—"Hy !" fel un heb sylweddoli yn iawn beth oedd yn bod. Yr oedd ei feddwl cryf wedi ei ieuo â chorff cryf; ond ar ei oreu y byddai'r corff cryf hwnnw yn gwasanaethu ar ruthr-gyrchoedd ei grebwyll i diriogaethau'r anweledig. Teithiodd lawer er gwasanaethu ei genedl, ymroes i fyfyrdod, pregethodd bregethau meithion, llafurfawr, yn fynych deirgwaith y dydd, gydag ynni ac ymroddiad a difrifwch diball, diesgeulus. Cysegrodd ei ddawn ddihafal i wasanaeth yr Efengyl. O ran dawn ac o ran ynni yr oedd ymhlith y rhai hynotaf. Yr oedd, ym marn y rhai cymhwysaf i farnu, yn ddieithriad, yn un o wŷr mwyaf athrylithgar y bedwaredd ganrif arbymtheg yng Nghymru, cystal ag yn un o'r areithwyr pennaf, ac yn y cyfuniad o'r ddau allu heb ei gyffelyb braidd. Yr oedd, hefyd, yn wr o feddylfryd dyrchafedig, yn ymgymeryd yn naturiol â'r wedd ysbrydol i bethau. Y mae ei lun yn arwyddo nid yn unig fod celloedd hyawdledd tucefn i'w lygaid, ond fod y llygaid hynny yn cyfeirio yn naturiol fel eiddo'r eryr at ffynonnell goleuni y bywyd. Mewn pymtheng mlynedd arhugain o bregethu didor, Sul, gŵyl a gwaith, i gynulleidfaoedd llawnion, gyda phobl fwyaf deallgar yr ardaloedd yn gyffredin yn gwrando arno, fe adawodd ei argraff yn ddofn ar Gymru. Erys yr argraff honno eto ymhen dros hanner canrif ar ol ei farw, a hi erys yn hir yn ol hyn. Nid mwy amlwg delw Cesar a'i argraff ef ar y geiniog y rhoes yr Iesu her i'w wrthwynebwyr i'w dangos, na delw John Jones a'i bregeth ar Arfon Fethodistaidd am gyfnod go faith pan ydoedd efe fyw, ac ar ol ei farw. Efe o bawb ydoedd Ioan Aurenau Arfon. Creodd gyfnod newydd hefyd ym mhregethu ei enwad ei hun. Dygodd drefn iachawdwriaeth, yn y cyhoeddiad ohoni yn ei weinidogaeth ei hun, a thrwy ei ddy- lanwad ar eraill, yn eu gweinidogaeth hwythau, yn ei eiriau ef ei hun, "o Jupiter neu rywle i weithredu ymhlith dynion ar y ddaear." Rhoes gychwyniad ym meddyliau lliaws mawr yng nghyfeiriad y byd ysbrydol, a hynny ym meddyliau lliaws mawr o bobl feddylgar. Gan iddo droi llawer at gyfiawnder, fel y mae lle i gredu ddarfod iddo wneud, fe ddisgleiria yntau fel y ser fyth ac yn dragywydd. Y gwr hwn, a safodd allan gyhyd yngolwg Cymru fel un o'r dis- gleiriaf o'i meibion, oedd dra hoffus yn ei deulu ei hun, ac yn ei gylchoedd mwy cyfyngedig eraill. Ei ddylanwad, hefyd, oedd ddymunol a daionus ym mhob cylch. Craffer ar adroddiadau y gwŷr a fu'n cyd-deithio âg ef i bregethu, fel y ceir hwy yn ei Gofiant. Penderfynodd ar y cychwyn fod yn gyson gydag addoliad teuluaidd. Dywedai ei briod ar ei ol na fethodd ganddo gymaint ag unwaith gadw'r ddyledswydd deuluaidd, er y gorfyddai arno gychwyn oddicartref weithiau yn blygeiniol iawn. Ni oddefid y plant fyth i fyned i orffwys y nos heb y weddi deuluaidd. Deuai rhai o'i gymdogion ar brydiau i'r gwasanaeth hwnnw. Disgwylid i bob un o'r plant, wedi tyfu ohonynt i fyny, fod a'i adnod newydd ganddo yn yr addoliad teuluaidd. Gwelodd y cyffelyb ar aelwyd ei dad ei hun. Coginid y bwyd ar y Sadwrn ar gyfer y Sul. Ceuid y siop yn adeg seiat. Ymdrechodd yn deg gyda chymorth ei briod i feithrin ei blant yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Amcanodd at welliant cymdeithasol. Ymroes i lafur ynglyn â'r cyfarfodydd ysgolion. Gweithiodd gyda dirwest, pregethodd ar burdeb, tarannodd yn erbyn drygau cymdeithas. Edrydd Mr. Evan Jones Caernarvon mai'r peth mwyaf ofnadwy a glywodd efe erioed mewn pregeth oedd disgrifiad John Jones o edliwiad merch i'r sawl a'i darostyngodd wrth gyfarfod ohoni âg ef mewn byd arall. Pregethodd lawer ar berthynas yr Efengyl â buchedd dyn, â'i arferion personol, teuluol a chymdeithasol. Heblaw fod swyn mawr yn ei ddawn, yr oedd naws iachus yn ei faterion. Nid difyrru oedd mewn golwg ganddo, ond argyhoeddi. Yn ei afael gref ar yr ymarferol, fe gadwai olwg ar gynysgaeth fydol iddo'i hun a'i deulu. E fu'n darllen a meddwl a siarad o bryd i bryd am flynyddoedd am ymfudo i'r America, oblegid manteision y wlad honno mewn casglu ynghyd gynysgaeth fydol, yr hyn oedd mewn golwg ganddo ar gyfer ei liaws plant. Wrth siarad â gwraig y lletyai gyda hi unwaith ynghylch cael fferm yn yr America, ebe hi, "Cymru ydyw eich fferm chwi, John Jones." Er ysbrydolrwydd ei feddwl, yr oedd ei afael yn o gref ar glawr daear. Rhoes ddwy flynedd o'i oes yn anterth ei boblogrwydd a'i ddylanwad fel pregethwr i arolygu chwarel y disgwyliasid iddi droi yn enillfawr. Siomi y disgwyliad hwnnw a wnawd ar y pryd, a chyfyngai yntau braidd yn fawr ar gyflogau y gweithwyr. Yn y cyfnod hwn fe ddirywiodd ei bregethu lawer. Y mae ei gofiannydd yn hytrach yn amddiffyn ei bregethu yn y cyfnod hwnnw yn wyneb barn gwlad am dano. Yr oedd y wlad, pa ddelw bynnag, yn unfarn ei llais am y dirywiad amlwg. Am bum mlynedd yr estynwyd ei weinidogaeth yn ol hynny. Barn bendant Robert Owen Tŷ draw, un o'i edmygwyr pennaf, am dano, ar ol cyfnod arolygiaeth y chwarel, ydoedd, na fu efe fyth wedyn. "yr un un." A thraethai ei farn ei hun mai dyna'r achos o'r tywyllwch ar ei feddwl ef yn ystod ei waeledd diweddaf. Rhaid peidio cymeryd y dystiolaeth hon mewn gwedd rhy eithafol. Nid hwyrach y cytunasai ei gofiannydd ef, hefyd, i raddau, gan y geilw efe'r cyfnod o flaen cyfnod arolygiaeth y chwarel yn "flynyddoedd cyflawnder ei nerth." Yng nghymeriad John Jones yr oedd haen ar haen, a dodai'r haen o wenithfaen caled oedd ynddo rym ym mhob cynneddf. Yn ei orbryder i sicrhau magwraeth deilwng i'w deulu lliosog, fe daflwyd y wenithfaen i fyny i'r wyneb, pan mai gwell fuasai fod ohoni yn aros yn ddwfn-guddiedig yng nghrombil daear, yn sylfaen yn unig i'w amrywiol ragoriaethau a'i ddoniau godidog. Eithr yn ei natur ef fe welwyd ryw gyfuniad ardderchog. Fe orweddai'r natur gref a throm honno fel rhyw deml fawr ar glawr daear, â ffurf betryal iddi, yn dangos wyneb llawn a chy- mesur i bedwar cwrr byd, ac oddiar y gwaelod hwnnw yn ymgodi yn fawreddus, gyda'r llinellau yn araf dynhau tuag at eu gilydd, nes ymgyfarfod ohonynt mewn pinacl yn ymddyrchafu oddiarnodd, ac yn cyfeirio yn unionsyth i entrych awyr, gan ddal tywyniadau cyntaf glasiad dydd, a'u hadlewyrchu yn chwareuaeth o oleuni yn yr ystafell ddirgel oddifewn, sef y lle sanctaidd, ag y mae y Secina yn ol ei wahanlen. Ac yn y natur gref, amryfath, eneiniedig honno, megys mewn teml, fel gwas yr Arglwydd e fu'n gweini am oes gyfan mewn pethau sanctaidd, megys yr archoffeiriad gynt ar ddydd y cymod; ac megys yntau, nid heb waed yn y cawg, a chyda'r clychau ar ymylon ei wisgoedd yn tincian bywyd ynghlyw holl. lwythau Israel. (Am restr testynau John Jones, edrycher Llanllyfni, at y diwedd).

Ychydig o flaen y diwygiad, fe gafodd Gwen, merch i John Jones, Mrs. Davies Nerpwl yn awr, freuddwyd, pryd y gwelai hi ei hun yn sefyll yn nrws y tŷ, gyda'r capel ar y dde. Gwelai yr awyr yn ddugoch, a thonnau porfforaidd yn ymdaflu drosto. Teimlai arswyd yn ei meddiannu, megys wrth ddyfodiad y farn. Ar hynny, dyna ganu yn yr awyr, ac yn y man floedd soniarus yn ateb allan o'r capel. Ac felly am ennyd, cân a bloedd gorfoledd yn cydateb ei gilydd. A hi yn crynu dan ddylanwad yr amlygiadau rhyfedd, wele'r Arglwydd Iesu yn sefyll ar y mur isel o flaen y drws. Angylion a chwim ehedent o'i amgylch. Methu ganddi godi ei llygaid i edrych ar ei wynepryd. Hi a welai y gwefusau, ond atelid golwg ei lygaid oddiwrthi. Ar hynny, wele lew cryf yn sefyll wrth ei ymyl ef. Codai ei ddwy bawen, megys am larpio y Gwr. Yntau heb gymeryd arno'i weled, a barodd i'w rith ef ddiflannu âg amnaid ei law. Ar amrantiad, dyna gôr y wybr a chôr y capel yn cyd-daro mewn bloedd gorfoledd,-" Had y Wraig a ddrylliodd ben y sarff." Wele fam Gwen yn nrws y tŷ cyn i'r cwmwl goleu dderbyn yr Iesu, ac fel yr esgynai ef, gwelai Gwen ei wyneb yn llawn, a chyfryw olwg arno nas gellid ei thraethu. Ac meddai ei mam yr un pryd, "Dacw y Duw y gobeithiais ynddo." Pan oedd Henry Prichard, tad David Prichard, goruchwyliwr ym Methesda, yn dechreu'r cyfarfod am wyth y bore ar ddydd diolchgarwch yn Hydref, fe ddisgynnodd rhyw ddylanwad dieithr arno ar y weddi. Gwr syml, diniwed, ond duwiolfrydig y cyfrifid ef. Dan y dylanwad anarferol, fe gododd oddiar ei liniau fel ar naid, gan gyfarch y Nefoedd, a thywallt allan eiriau mawl a gweddi. Yr oedd megys olwyn o dân yn godd- eithio'r lle. Dywedir ddarfod iddo barhau yn yr agwedd honno am awr o amser hyd onid oedd wedi llwyr lesgau o ran ei gorff. Teimlai rhai megys ped agorid y ffenestri, a bod awelon yn chwythu drwy'r lle. Gwelid tri o bersonau mewn un sêt megys yn gwneud gwarr yn erbyn y gwynt a chwythai â'r fath nerth, ac felly y profodd yn eu hanes dilynol, gan iddynt wrthod ymostwng i'r diwedd. Ni weddiodd neb arall yn y cyfarfod y bore. Am weddill ei oes, heb fod yn dymor maith, fe godwyd Henry Prichard i dir uchel o brofiad. Yr oedd mab iddo yn gwasanaethu yn siop John Jones, a dywedai ef fod ei dad wedi treulio y noswaith flaenorol ar ei hyd yn y beudy, mewn gweddi debygid. Erbyn nos Wener, Tachwedd 11, yr oedd Dafydd Morgan yma. Yr oedd hen wraig dros 80 oed ymhlith y dychweledigion. Dywedai y teimlai hi'n ddigalon i feddwl troi at Dduw yn yr oedran hwnnw. Atebai'r diwygiwr drwy ddweyd y gallai ef ei gwisgo hi eto âg ieuenctid tragwyddol. "Fe fyddwch yn chware yn blentyn canmlwydd ar heolydd y Jerusalem newydd mor ieuanc a Gabriel." (Cofiant Dafydd Morgan, t. 453).

Rhif yr eglwys yn 1854 ydoedd 168; yn 1858, 195; yn 1860, 284; yn 1862, 244; yn 1866, 206; yn 1868, 220. Ymadawodd 60 o'r aelodau oddiyma yn 1866 i ffurfio eglwys Hyfrydle, onite fe welsid cynnydd o 22 yn ystod 1863-6.

Medi 1859, John Griffith, mab y Parch. William Griffith, yn dechre pregethu.

Rhagfyr, 1860, D. Lloyd Jones yn dechre pregethu. Derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol yn 1863.

Ffurfio cangen-eglwys Baladeulyn yn 1862.

Yn 1862 y gwnawd T. Lloyd Jones yn flaenor.

Yn 1863 y cychwynnwyd cangen-ysgol Tanrallt. Robert Jones Tanrallt yn brif offeryn.

Yn 1863 yr ymadawodd William Griffith oddiyma i Engedi, wedi bod yn y lle er 1859, pryd y daeth yma o Bwllheli. Efe a wnaeth iddo'i hun le cynnes yn nheimlad y frawdoliaeth.

Yn 1865 y daeth Henry Hughes Ty'nyweirglodd yma o Lanllyfni, lle yr oedd eisoes yn flaenor, a dewiswyd ef yma. Yr un modd am Owen Jones a ddaeth yma o Bwllheli.

Yn 1866 y sefydlwyd cangen-eglwys Hyfrydle, pryd yr ym- adawodd 60 o'r aelodau oddiyma. Rhoes y fam-eglwys £300 i eglwys Hyfrydle ar yr achlysur. Ymadawodd y Parch. William Hughes i Hyfrydle y pryd yma. Daeth ef yma ar achlysur ei briodas â Catherine Hughes, merch William Hughes Ty'nyweirglodd, ar Mawrth 4, 1843, a'r flwyddyn nesaf, ac yntau eisoes yn flaenor, y cymhellwyd ef i bregethu. Bu o wasanaeth yma mewn amgylchiadau dyrus, a danghosai fedr yn y cyfarfodydd eglwysig.

Fe geisir crynhoi yma gofiant y Parch. John Jones Brynrodyn i John Robinson yn y Drysorfa (1869, t. 356, 391). Mab hynaf teulu Glanrafon, Llandwrog uchaf, ydoedd ef. Pan o ddeunaw i ugain oed o fuchedd wyllt, ac yn ben ymladdwr yn yr ardal. Cyn cyrraedd 21 oed fe newidiodd ei fuchedd, ond heb benderfynu eto arddel crefydd. Yn 1828, pan yn 24 oed, yr oedd yn athraw yn yr ysgol Sul. Ym mis Ionawr, 1828, y dechreuodd efe weddio, meddai ef ei hun mewn cyfarfod athrawon yng Ngharmel. Yr oedd William Ifan Rhostryfan, Brynrodyn gynt, yn cynnal cyfarfod athrawon un nos Sul yng Ngharmel, ac yn adrodd y materion dan sylw yng Nghymdeithasfa Llanrwst, sef y dylai athrawon yr ysgol neilltuo cyfran o bob dydd i weddio dros eu dosbarthiadau. Wrth fyned adref oddiyno, aeth John Robinson drwy bangfa o argyhoeddiad, oddiar yr ystyriaeth nad oedd efe ddim yn gweddïo drosto'i hun chwaithach ei ddosbarth. Dyna'r pryd y dechreuodd efe weddio. Mewn Sasiwn yng Nghaernarvon, dan bregeth John Elias ar y geiriau, "Dyro gyfrif o'th oruchwyliaeth," yr argyhoeddwyd ef, er bod ohono wedi teimlo yn ddwys yn flaenorol. Aeth i'r seiat nesaf yng Ngharmel dan deimlad. Yr oedd John Jones Talsarn yno y noswaith honno, y tro cyntaf i'r ddau ddod i gyfarfyddiad â'u gilydd. Efe a adroddodd wrth John Jones yr adnod honno, "Heddyw, ar ol cymaint o amser, os gwrandewch ar ei leferydd ef." Ymhen pedair blynedd yr oedd efe yn flaenor yno. Wedi ei wneud yn oruchwyliwr chwarel Dorothea, efe oedd wrth wraidd yr ysgogiad am gapel i Baladeulyn, ac arosodd yno ysbaid. Yn wr hyddysg yn yr Ysgrythyr. O ddawn hylithr ac ysbryd gwresog, ac er yn wresog, yn dangnefeddwr. Yr oedd ganddo ffordd o ddangos anwyldeb at y neb a ddeuai dan gerydd yn yr eglwys, fel ag i beri teimlad o gywilydd ac edifeirwch yn y cyfryw. Gweddiwr cyhoedd- us anghyffredin. Gweddi o'i eiddo y noswaith ar ol marw ei frawd, a'i weddi gyntaf ar ol dod i Fodhyfryd, yn bethau hynod yn nheimlad pawb a'i clywodd. Ar ol cystudd, unwaith, fe fynegodd ei brofiad ddarfod iddo gael golygiadau newyddion ar ogoniant yr Arglwydd Iesu, ac y byddai'n well ganddo na dim a welodd ar y ddaear pe cawsai fod yn offeryn i droi un pechadur o gyfeiliorni ei ffordd. Pan gollai gweithiwr yn y chwarel ei amser o achos meddwdod, elai ef ato i ymliw âg ef, gan geisio yn y man dynnu ei feddwl at y Gwaredwr. A'i iechyd yn gwanychu yn amlwg, fe draethodd ei brofiad yn y seiat i'r perwyl fod arno awydd mawr am y nefoedd, ac oni bae am Margaret ei wraig (merch y Parch. Owen Jones Plasgwyn) a'i ddau fachgen bach y dymunasai fod yno cyn y bore. Ymliwiodd ei wraig âg ef, wedi dod ohonynt adref. Ebe yntau wrthi, "Margaret bach, fe fydd gofal yr Arglwydd am danoch wedi i chwi fy ngholli i, yn llenwi pob bwlch." Ni bu yn hir ar y ddaear yn ol hynny. Bu farw yn y flwyddyn 1867.

Tuag 1870 y cychwynnwyd Temlyddiaeth Dda yn yr ardal. Wedi hynny, dan nawdd y gwahanol enwadau, Cymdeithas Ddirwestol Lenyddol. Ymhen blynyddoedd wedyn ail-gychwynnwyd gyda Themlyddiaeth Dda, yr hon sy'n parhau o hyd. Gweithir hefyd gyda'r Gobeithlu.

Yn 1870 y dechreuodd William Williams Cae'rengan bregethu. Efe a aeth oddiyma yn fugail i Riwlas a Chefncanol, sir Drefaldwyn.

Yn 1871 dewiswyd yn flaenoriaid, Elias Jones, David Prichard Tŷ mawr, Owen Thomas Owen. Symudodd David Prichard Bethesda.

Yn 1873 fe agorwyd ystafell yng Nghefncoed, Gloddfa'r Coed, i gadw ysgol Sul i blant bychain tlodion, lle cyferfydd 30 neu ragor. Symudwyd gyda hyn gan Owen Jones Mount-pleasant.

Yn 1874 y symudodd Henry Hughes Ty'nyweirglodd i Frynrodyn, wedi bod yn flaenor yma er 1865. Gofalai am drefn. Siarad yn fyrr ar ryw adnod, fel sail i'w ymadroddion. Fel mewn mannau eraill, fe'i cyfrifid ef yn weddiwr hynod yma hefyd, a mawr hoffid ef fel dyn.

Mae T. Lloyd Jones yn cymharu yr ysgol y pryd hwn â'r hyn ydoedd, dyweder 30 mlynedd cyn hynny. Gwell trefn yn awr, ac ychwaneg o ryw wybodaeth. Yn ol rhai, llai o wybodaeth bynciol. Llai o ddysgu ar yr Hyfforddwr. Mwy o ryw falchder yn peri i rai wrthod cymeryd eu dysgu. Llai o ddifrifwch, llai o hunanymwadiad. Mwy o holi er mwyn cywreinrwydd yn awr, llai o gymhwyso ar y gwirionedd. Diffyg yn awr o ddosbarth i baratoi athrawon.

Yn 1875 y derbyniodd y Parch. John Pryce Davies alwad yma. Ymadawodd i Gaerlleon ymhen ychydig gyda blwyddyn. Rhoes symbyliad gyda chychwyn addoldy newydd. David Prichard Tŷ mawr yn symud oddiyma i Jerusalem, Bethesda, wedi gwasanaethu ei swydd fel blaenor er 1871. William Herbert Jones a wnawd yn flaenor y flwyddyn hon. Symudodd i'r Bala- deulyn, ac oddiyno i Bethel.

Awst 13, 1877, y bu farw Fanny Jones, gweddw John Jones, yn 72 oed. Y mae hanes y modd y syrthiodd hi a'i gwr mewn cariad â'i gilydd wedi ei adrodd yn helaethach nag y gwnaed yn hanes neb pregethwr a fu yng Nghymru, debygir, yng nghofiant ei gwr, a thrachefn yn ei chofiant hithau. Fe ymddengys hefyd ddarfod i'r serch hwnnw fod yn un parhaol. Bu hi yn ymgeledd gymwys i'w gwr ar lawer ystyr. Soniodd yntau lawer am ei "Fanny" yn ei bregethau. Ymddiriedodd ei gwr yn fawr ynddi hi; edmygodd hithau ei gwr yn fawr. Fe ddengys ei llun yn ei chofiant mai nid dynes gyffredin ydoedd hithau. Mae'r llygaid lledlonydd, go fawrion, yn cymeryd llawer o bethau i mewn, pethau y byd hwn cystal a phethau y byd hwnnw. Mae gwaelod y pen, o dan y llygaid, yn llydan iawn, fel gwaelod pyramid, ac yn arwyddo dawn arbennig i drin y byd. Nid yw y llygaid yn cyfeirio tuag i fyny fel eiddo'r gwr, ac nid oes yma dywyniad ysbrydolrwydd uchel o'r fath a welir yn ei wyneb ef. Yr oedd ynddi hi gyfuniad o deimlad crefyddol a chyfrwystra bydol, y naill a'r llall i'r graddau eithaf, cyfuniad y dywedir ei fod yn perthyn i lawer o'r hen Buritaniaid. Yr ydoedd yn hollol gyfaddas i ofalon masnachol, ac yn feistres o fewn ei thŷ, ac yn cymeryd y dyddordeb mwyaf yn holl helynt yr eglwys. Yr oedd ei Hamen gyhoeddus yn fynych ac yn uchel, ac weithiau hi a dorrai allan mewn gorfoledd, megys pan y cododd ei llaw, gan ddangos y fodrwy, dan bregeth Thomas John ar y Cyfamod, ac y gwaeddodd allan fod y cyfamod hwnnw wedi ei dorri, gan ei bod hi y pryd hynny yn weddw, ond fod Cyfamod Gras yn dal o hyd. Y mae gan ei mab, T. Lloyd Jones, gofiant iddi yn y Drysorfa am 1878 (t. 470). Rhoir rhai o'r prif bethau yma. Yr oedd gan ei thad, Thomas Edwards, law yn adeiladiad y capel cyntaf. Ei mam oedd wraig o synwyr cryf a pharod, ac yn meddu ar lais swynol. Yr oedd Fanny Jones yn hynod am ei pharch i'r Saboth er yn blentyn. Clywodd ei mab hi yn dweyd lawer gwaith nad oedd yn cofio'r adeg pryd nad oedd ganddi gariad at Iesu Grist. Byddai Ann Parry, yr un a gadwai dŷ capel Llanllyfni, yn cymeryd sylw mawr o Fanny fach, ac yn ei hyfforddi a'i dysgu. Erbyn blwyddyn o amser ar ol priodi, yr ydoedd yn gallu rhyddhau ei gwr yn hollol oddiwrth ofal masnach, yr hyn fu'n achos o lawenydd iddi bob amser. Pan fyddai ei gwr oddicartref, hi a ofalai am y ddyledswydd deuluaidd ei hunan, a dygai ei bechgyn i fyny i gymeryd rhan ynddi. Ymdrechodd ddysgu lliaws o bobl dlodion pa sut i fyw i gyfarfod eu gofynion. Rhoes lawer i deuluoedd tlodion mewn amseroedd celyd heb obaith tâl. Mathew Henry oedd ei phrif lyfr yn nesaf at y Beibl. Rhoes oreu i'w masnach dair blynedd arddeg cyn y diwedd, a threuliai ei hamser lawer mwy mewn darllen ac ymweled â'r cleifion. Yn Llandinam gyda'i mab yr ydoedd pan fu hi farw.

Yn 1877 yr adeiladwyd y capel newydd ar sylfaeni yr hen gapel, ac ar ran o'i furiau. Chwarter canrif y safodd yr hen gapel. Y capel newydd hwn ydoedd y trydydd. Gwnaed ef yn gapel hardd a chyfleus. Eisteddleoedd i 700. Y draul, £3,046. Talwyd o'r ddyled ar flwyddyn yr agoriad, £1,134. Agorwyd ef yn ffurfiol drwy'r Cyfarfod Misol a gynhaliwyd yma, Chwefror 11 a 12, 1878. Dywedwyd yn y Cyfarfod Misol fod swm y casgliadau y flwyddyn cynt dros £1,000. Mater seiat bore ddydd Mawrth, "Y perygl of fod yn rhagrithiol gyda chrefydd." Pregethwyd gan y Parchn. Evan Jones a John Griffith Caernarvon, Dr. Hughes a Dr. Thomas Nerpwl.

Mehefin 4, 1880, y bu farw Edward William, yn 81 oed i'r mis, ac yn flaenor er 1846. Brodor o Rostryfan. Pan yn hogyn mewn gwasanaeth ym Mhontnewydd, gwnaeth pregeth Michael Roberts. ym Moriah argraff ddwys arno am y pryd. Dywedai y clywai ei lais hirllaes ef yn ei glustiau ar y ffordd adref bob cam a gerddai, a bod ofn diwedd byd yn llanw ei galon. Gwrandawodd bregeth fawr Ebenezer Morris yng Nghaernarvon yn 1818, a dywedai nad oedd gof ganddo am unrhyw bregeth a chymaint effaith yn ei dilyn. Ymollyngodd yn ol hynny am ryw dair blynedd o amser i rodio yn oferedd ei feddwl. Yn 1826 y daeth efe i ardal Talsarn. Deffrowyd ei feddwl yn fawr gan bregeth Owen Williams Tywyn Meirionydd yng nghapel Llanllyfni, ar y geiriau, "Nid sanctaidd neb fel yr Arglwydd." Ymaelododd yn Nhalsarn ymhen ysbaid, sef ym Mawrth, 1827. Cyson ym mhob moddion yn y capel, yn tai, ac yn ei dŷ ei hun. Yn ddechreuwr canu dros ystod yr ugain mlynedd cyntaf ar ol ymaelodi â'r eglwys. Wedi ei ddewis yn flaenor, mynnai mai'r amcan oedd ei gael i ofalu "am y pedwar carnolion." Cywirdeb a gonestrwydd diffuant oedd ei brif nodwedd. Yr oedd gradd o hynodrwydd arno yn hynny ymhlith dynion cywir eraill. Yr oedd yn ddigon cywir i fod yn ddidderbynwyneb. Go led graff i adnabod dynion. Sylw byrr yn unig yn y seiat. Heb ddawn neilltuol, ond yn ddwys mewn gweddi. Dywed Mrs. Jones Machynlle'h yng Nghofiant Robert Owen mai gwylio'r ddisgybl- aeth ydoedd swydd Edward William. Byddai'n crafu yn o dôst weithiau. "Llai o ryw liwiau o'ch cwmpas, enethod bach." "Y gwragedd yma sydd yn myned i edrych am eich gilydd, peidiwch a thrafod achosion eich cymdogion: heb dderbyn enllib yn erbyn dy gymydog." "A chwithau sy'n masnachu, bydded eich cloriannau yn gywir. Y mae llygaid yr Arglwydd yn gweled, ac yn ffieiddio'r rhai sy'n cymeryd gwobr yn erbyn y gwirion. Peidiwch â chanmol eich nwyddau yn ormodol." Fe fyddai ei thad yn cael difyrrwch wrth wrando, ebe Mrs. Jones, am nad oedd ond un siop a berchenogid gan aelod o'r eglwys, a honno oedd siop ei wraig. 'Wel, Fanny Jones," eb efe, "chwi gawsoch gynghorion da heno.' Do," ebe hithau yn swta, "ond 'doedd dim o'u heisieu arnaf fi, oblegid y mae y tyst yn byw yn fy mynwes fy hun bob amser." (Cofiant R. Owen, t. 21). Fe fyddai Robert Owen Tŷ draw, pa fodd bynnag, yn adrodd, yn anaml hwyrach, am un dywediad o eiddo Edward William mewn seiat unwaith, nad oedd mor gwbl ddifyr gan John Jones ei glywed ychwaith. (Cofiant Edward Williams gan W. Williams [Glyndyfrdwy], 1882).

Yn 1881 fe ddewiswyd yn flaenoriaid, Owen Williams Talarfor, Owen Thomas Owen, David Davies, Owen Hughes Brynafon. Yr oedd Owen Williams yn flaenor yn Efailnewydd cyn dod yma.

Yn 1882 fe ymadawodd 43 o'r aelodau i ymffurfio yn gangen-eglwys yn Nhanrallt. Am dymor bu Tanrallt yn daith â Thalsarn. Rhif yr eglwys yma yn 1881, 318; yn 1883, 284.

Yn 1882 y dechreuodd Owen Morton Jones bregethu.

Hydref 31, 1882, y bu farw Thomas Morris Bodhyfryd. Daeth i'r gymdogaeth yn 1852 o'r Sarn, wedi gwasanaethu fel blaenor yn y Tŷ mawr, a galwyd ef i'r un swydd yma. Bu dan addysg Ieuan Lleyn yn ieuanc; ar ol hynny yn ysgol Botwnog; ac wedi hynny gyda John Hughes yn Wrexham. Yn gydysgolheigion âg ef yn Wrexham yr oedd Roger Edwards, Thomas Gee a Dafydd Rolant. Bu'r graddau o ysgolheigtod a gyrhaeddodd yn help i'w wneud yn wr o ddylanwad yn ei ddydd a'i gymdogaeth. Yr oedd ei ym- ddanghosiad allanol hefyd yn fanteisiol iddo. Yn dalach braidd na'r cyffredin, yr ydoedd hefyd o gorff trwchus, gyda wyneb llawn, talcen go lydan a llygaid gloewon. Ei ddull yn hynaws a boneddig- aidd. Hynodid ef gan synwyr ymarferol cryf. Yn wr dichlynaidd, ni ymunodd â chrefydd hyd y flwyddyn 1841. Yn union wedyn fe'i gwnawd ef yn flaenor. Nodweddid ef fel blaenor gan farm bwyllog a thynerwch. Cydweithiai â'i gydswyddogion. Yn athrawiaethwr cryf, ac yn wr o wybodaeth gyffredinol, ac yn meddu hefyd ar fuchedd ddilychwin, fe enillodd radd dda yn ei swydd. Cyfrifid ef y cerddor goreu yn ardal Bryncroes yn ei amser. Darllennai y bennod yn gyhoeddus yn gelfyddgar. Adroddir am dano yn darllen y bedwaredd arbymtheg o Ioan gyda'r fath arddeliad nes fod lliaws yn torri allan i wylo.

Rhaid yw dweyd na roed i dwrr
Daear Ĺlan well darllenwr. (Berw)

John Jones Talsarn, pan yn oruchwyliwr yn y Dorothea, a'i cyrchodd ef yno. Wedi bod yno am dymor yn weithiwr, fe'i dyrchafwyd ef i swydd. Gan gadw ei lygaid ar fuddiannau y meistr, fe enillodd yr un pryd serch y dynion. Llafuriodd gyda dynion ieuainc ardal Talsarn. Cododd yma ddosbarth Beiblaidd. Pan ddechreuwyd cynnal cyfarfodydd llenyddol yn Arfon, bu cryn alw am ei wasanaeth ef fel beirniad. Yn yr adeg hon y datblygwyd ei ddoniau llenyddol yn bennaf. Yng nghwmni Eben Fardd fe wnaeth lawer i alw sylw ieuenctid Arfon at ragoriaeth yr iaith Gymraeg. Yr oedd yr elfen lenyddol a nodweddai chwarelwyr Arfon ar un cyfnod yn ddyledus i ryw fesur i'w symbyliad ef. Mab iddo ef ydoedd M. T. Morris Caernarvon. (Cymru, 1905, Mai).

Bu Richard Owen yma o'r nos Lun hyd y Sul, Gorffennaf 23- 29, 1883. Hon oedd y drydedd wythnos iddo yn yr ardaloedd hyn, ar ol bod ohono yn Llanllyfni a Phenygroes yr wythnosau blaenorol. Yr oedd y llanw yn codi gydag ef o'r naill wythnos i'r llall. Yr oedd y gwahanol enwadau yn dod fwyfwy o dan y dylanwad. Oedfa nos Sul, fe ymddengys, oedd yr hynotaf iddo yma. Rhoed yr odfeuon i fyny mewn amryw o'r capelau cylchynol, a chyrchai pawb, yn bregethwyr a gwrandawyr, i Dalsarn. Nid oedd y tywydd yn caniatau cynnal y moddion allan yn yr awyr agored, fel y bwriedid. Y dylanwad yn nerthol ac anorchfygol. Yr effeithiau ar y pregethwyr yn enwedig yn anghyffredin. Ymunodd 20 â'r eglwys yma fel ffrwyth yr ymweliad. Yn ol tystiolaeth Mr. W. Williams, yr oedd nifer o'r rhai hyn yn hen wrandawyr, a buont yn aelodau ffyddlawn, a dywed ddarfod deffro'r eglwys y pryd hwnnw. (Cofiant Richard Owen, t. 155).

Bu Elias Jones farw yn 1883, yn flaenor er 1871. Ffyddlon i'r moddion ganol wythnos, er yn fasnachwr wrth ei alwedigaeth. Nid oedd dim yn rhy fawr nac yn rhy fychan ganddo'i wneud er mwyn yr achos. Ffyddlon a medrus ynglyn â'r ysgol. Arferai ddweyd fod disgyblaeth gref yr oes y magwyd ef ynddi wedi gadael argraff ddofn ar ei gymeriad. Medr neilltuol i ddweyd ar gasgl.

Yr un flwyddyn y bu farw Robert Jones Tanrallt, blaenor er 1843. Galwyd ef yn flaenor yn Nhanrallt, ar agoriad yr eglwys yno yn 1882. (Gweler Tanrallt). Ffyddlon yn y gwaith, ac o gymeriad diwymi. Dywed Mrs. Jones Machynlleth mai cyhoeddi oedd ei waith priodolaf, a'i fod yn mawrhau ei swydd. Gwnawd cais am iddo roi y swydd i fyny. Dywedodd Robert Ellis Ysgoldy wrtho am wneud hynny ar unwaith. "Yr ydych yn achosi ysgafnder," eb efe. "Yr oeddych yn cyhoeddi heddyw, a minnau yn rhoi pennill allan yr un pryd. Y mae eich clyw yn eich gwneud yn anghymwys i gyhoeddi." Dal ei afael yn ei swydd wnae Robert Jones er pob dweyd. Aeth Mrs. Jones i'w weled ef a'i wraig, Ann Morris, yn eu hên ddyddiau. Ar ganol y scwrs, ebe fe, "Fe ddechreuodd Dafydd bregethu yr un fath yn union a'ch tad: yr oedd y dinc nefol honno yn ei lais; ond fe aeth i'r hen ysgolion yna, a'r colegau mawr yna, ac y mae gormod o ddysg wedi ei andwyo fo." Aeth ymlaen yn y man: "Mi fum i yn y nefoedd er pan fuoch i yma o'r blaen. Mi fum yno mor wirioneddol ag y bu Paul yr Apostol yno. Do, fe aethum yno, welwchi, ac O! y lle gogoneddus a welais i!-a'r canu; ac fel yr oeddwn yn myned ymlaen ym- hellach, yr oeddwn yn edrych i gael golwg arno Fo ei hunan, welwchi, a dyma rhyw angel gwyn yn dod ataf, ac yn dweyd wrthyf, 'Ni chewchi ddim aros yma yn awr, rhaid i chwi ddychwelyd i wlad y ddaear am ychydig amser, Robert Jones; ac O! fel y teimlais wrth droi yn ol !" Elai yr hen frawd ymlaen i adrodd ddarfod iddo weled Robert Jones Rhoslan yno, hên gydnabod ill dau, a chyf— archai Robert Jones Rhoslan ef yn hamddenol, heb y gradd lleiaf o synedigaeth na chyffro yn ei ddull, fel yr arferai Robert Owen Tŷ draw adrodd,—"Wel, Robert Jones!" Efe a welodd Edward William hefyd yn ymyl, sef ei hen gydflaenor. "O!'r siomedigaeth pan ddeffroais yr ochr yma i'r afon!" (Cofiant Robert Owen, t. 18—21).

Yn 1885 y dechreuodd H. E. Griffith bregethu, athraw ar ol hynny yn ysgol baratoawl y Bala, ac wedi hynny, bugail yng Nghroesoswallt.

Yn 1888 y daeth y Parch. W. Williams yma fel bugail o Corris.

Rhagfyr 29, 1888, bu farw T. Lloyd Jones, yn 51 oed, yn flaenor er 1862. Efe oedd trydydd mab ac wythfed plentyn John Jones, allan o ddeuddeg o blant a anwyd iddo ef a Fanny Jones. Gadawodd addysg yr aelwyd ei hôl arno ef. Bu'n gyd-oruchwyliwr chwarel Dorothea â John Robinson yn ystod y blynyddoedd 1858— 67. Yn dyner at y gweithwyr, ni ddanghosodd allu neilltuol yn y ffordd o ddatblygu adnoddau y gwaith. Yna fe ymgymerodd â changen o fasnach rhwng Nerpwl ac Affrica, ond aflwyddiannus y troes yr anturiaeth allan. Ynglyn â'r fasnach hon y dechreuodd deithio mewn amryw wledydd. Ysgrifennodd a darlithiodd ar ei deithiau, yn ddifyrrus yn niffyg gwybodaeth yn y wlad y pryd hwnnw am y lleoedd y sonid am danynt. Danghosai ddeheurwydd fel blaenor ac fel cadeirydd y Cyfarfod Misol. Cymerodd ddyddordeb neilltuol yn hanes Methodistiaeth yn yr ardal, a chyhoeddodd lyfryn ar yr hanes hwnnw. Dug allan ail gyfrol o bregethau ei dad, cyfrol na wnaeth unrhyw farc ar feddwl yr oes. Dywedai Robert Owen Tŷ draw ei fod, yn yr ymdrech i adgynyrchu pregethau ei dad allan o'i gof, fel ag i lenwi allan yr hyn oedd ysgrifenedig ohonynt, wedi ei lithio i ysgrifennu cynnyrch ei feddwl ei hun yn hytrach nag eiddo'i dad mewn lliaws o fannau. Dywedai Robert Owen yn bendant y buasai yn medru nodi allan. y mannau yn y gyfrol nad oeddynt yn eiddo'r tad o gwbl. Teg yw dweyd, pa wedd bynnag, fod y golygydd ei hun yn tystio yn bendant i'r gwrthwyneb yn y rhagymadrodd i'r gyfrol. Fe adewir tystiolaeth Robert Owen i sefyll, am ei bod yn dangos yr argraff wahanol ar feddwl craff a diragfarn wrth ddarllen y pregethau ragor wrth wrando arnynt. Bu'n wr defnyddiol yng ngwahanol gylchoedd yr eglwys, ac ynglyn â'r ysgol Sul, ac agorodd feddyliau lliaws am y byd yn gyffredinol drwy hanes ei deithiau oddiar y llwyfan a thrwy'r wasg. Yn wr dymunol, nawsaidd a chrefyddol. Cyflwynwyd iddo'r radd o F.R.G.S. (Cofiant, gan y Parch. W. Williams, 1895.)

Yn 1890 y dechreuodd W. Griffith Jones bregethu. Derbyniodd alwad o Bonterwyd sir Aberteifi.

Bu Evan Owen farw Gorffennaf 5, 1891, yn 68 oed, wedi dechre pregethu oddeutu 1853, pryd yr adwaenid ef fel Evan Owen Seion, Clynnog. Brodor o Garn Fadryn, Lleyn. Yn Nhalsarn a Baladeulyn er 1857. Bu yn yr ysgol am dymor gydag Eben Fardd. Edmygydd mawr o'r bardd. Yn gymeradwy gan liaws fel pregethwr. Yn wr o ysbryd crefyddol, a naws y diwygiadau a brofodd yn aros ynddo. Yn rhagori yn enwedig yn ei weddiau cyhoeddus, pryd y teimlid ef yn wr o rym ysbrydol. Cadwodd ei le yn y chwarel fel pwyswr, ebe Mr. W. Williams, a'i law ar aradr y weini- dogaeth yr un pryd. A dywed ef ymhellach ddarfod iddo brofi ei hun yn ffyddlon fel cydweithiwr â'r gwr a alwyd yn fugail ar yr eglwys ym mlynyddoedd olaf ei oes ef. Gryn drafferth a gafodd efe i gychwyn pregethu, ond fe brofodd ei hunan yn wr anfonedig yng nghydwybodau llawer. Yn yr ystyr hwnnw y mae cymhwyster yng ngeiriau Hywel Cefni am dano,

Ac fe lŷn eco ei floedd
Yn arosawl i'r oesoedd.

Yn blentyn rhwng saith a dengmlwydd oed fe ddringodd lethrau y Garn Fadryn, ac mewn llecyn anghysbell ym Mwlch y ddwygarn, yng nghongl hen gorlan, fe dywalltodd ei galon gerbron Duw. Wedi myned yn ddyn, fe ddywedai ddarfod iddo droi allan o'i ffordd lawer gwaith, a myned i mewn i'r hen gorlan, ac na bu efe yno erioed heb golli dagrau. Yng nghystudd diweddaf Margaret Williams Glan- beuno, Bontnewydd, un o'r rhai cryfaf ei chynneddf o ferched John Jones, a hithau wedi gadael y cyfundeb y dygwyd hi i fyny ynddo, a myned o honi i eglwys Loegr, ni fynnai o'i bodd mo neb i weini arni mewn pethau ysbrydol namyn Evan Owen. (Goleuad, 1891, Gorff. 16, t. 7; 23, t. 5. Drysorfa, 1891, t. 308.)

Yn 1893 dewiswyd yn flaenoriaid, Owen O. Jones Frondirion a Hugh E. Jones Cefni. Daeth Owen O. Jones yma o Garmel yn 1889, lle yr oedd yn yr un swydd. Efe oedd arweinydd y gân yma cyn cael ei alw i'r flaenoriaeth.

Hydref 29, 1893, y bu farw Owen Thomas Owen, yn 49 oed, yn flaenor er 1871. Yn un o'r rhai mwyaf poblogaidd o'r blaenoriaid yn ei amser ef yn yr eglwys. Yn gyflym ei symudiadau, yn fywiog ei feddwl, ac yn wir weithgar. Yn adnabod dynion, ac yn meddu ar allu naturiol i arwain. Ar y blaen gyda symudiadau cyhoeddus, ac yn allu yn y gwahanol gylchoedd.

Yn 1894 y dechreuodd Morgan W. Griffith bregethu. Derbyniodd alwad gan eglwysi Seisnig y Bermo ac Arthog.

Yn 1895 y dechreuodd Owen J. Griffith bregethu, brawd i H. E. Griffith a M. W. Griffith.

Ebrill 19, 1896, y bu farw Owen Morton Jones, wedi dechre pregethu yn 1882, ac yn 36 oed. Cymeriad pur. Gwnaeth ddefnydd da o fanteision dysg. Pregethwr sylweddol. Gadawodd waith y chwarel i bregethu pan oedd yr enillion yn fawr. (Goleuad, 1895, Mai 8, t. 4.)

Yn 1898 y dechreuodd Morris Thomas bregethu, ac yn 1899, O. J. Griffith.

Yn 1899 yr adeiladwyd tŷ y gweinidog. Rhoir traul y tŷ ynghyda gwerth yr organ a rowd yn y capel yn 1901, fel yn £1,244.

Fe geisir crynhoi yma rai o'r pethau a ddywedir am Griffith Ellis Jones gan Mr. O. Ll. Owain. Yr oedd efe yn ŵyr i Sian Ellis Clynnog, a'i dad ef, sef Ellis Jones, ydoedd y maban y darfu i Siani unwaith pan ar ganol gorfoleddu ei ollwng o'i breichiau yn ddiarwybod iddi ei hun. Troes Ellis allan yn grefyddwr teilwng o'r bedydd tân hwnnw. Fe ymddengys fod crefydd yn y teulu hwn, megys yn etifeddol, gan fod tad Sian Ellis, Ellis Jones yntau hefyd, yn grefyddwr profiadol a thanbaid. Yn wr ieuanc, fe ymroes Griffith Ellis Jones gyda nifer o rai eraill i efrydu gramadeg a cherddoriaeth. Nid esgeulusodd lyfrau ychwaith. Gwr diniwed, diwyd a da. Athraw ysgol deheuig er yn ddeunaw oed. Gan faint ei awydd i'w gweled yn rhagori mewn gwybodaeth a daioni, fe wahoddai ei ddisgyblion ar brydiau i'w dŷ ar nosweithiau yr wythnos, er mwyn y cyfle o'u hyfforddi ymhellach. Bu am amser yn gofalu am ysgol i blant tlodion mewn tŷ ar ochr y Cilgwyn. Gyda'i ddosbarth Solffa y daeth efe yn fwyaf enwog, a bu pob copa walltog braidd ymhlith plant Talsarn ar un adeg dan ei addysg. Dilynydd ydoedd ef yn hyn i Joseph Owen, ysgolfeistr llofft y capel. Elai Griffith Ellis Jones gyda rhyw ddwsin o'r plant yma ac acw drwy'r Dyffryn i hyfforddi'r ardal yn y wyddor newydd. Ymhen ysbaid, sef yn y flwyddyn 1868, daeth Ieuan Gwyllt yno i'w harholi, ac enillwyd tystysgrifau y Solffa yma y pryd hwnnw am y tro cyntaf. Rhoddai'r athraw wobrwyon ei hunan hefyd. Penodwyd ef gan Goleg y Solffa yn arholydd am y dystysgrif elfennol, a glynodd wrth y gwaith am weddill ei oes. Danghosodd ddeheurwydd fel addysgwr plant, ac ymroes i lafur yn y ffordd hon yn wyneb anfanteision. Gwnaeth y gwaith hwn nid yn unig heb elw arianol iddo'i hun, ond ar gryn draul. Yr oedd ei hunan yn ddiffygiol mewn llais, er iddo fod am gyfnod yn cynorthwyo gyda'r arweiniad yn y canu cynulleidfaol. Dethol y dôn fyddai ei brif orchwyl y pryd hwnnw. Yn ddirwestwr selog, fe lafuriodd gyda'r Gobeithlu, y Clwb du a Themlyddiaeth dda. Bu'n ffyddlon dros ben mewn ŵylnosau a chyfarfodydd gweddi fore Sul yn y tai. Bu achos Iesu Grist yn yr ardal yn fawr ofal calon arno. Ganwyd ef ar y Nadolig, 1833, a bu farw ar y Nadolig, 1899.

Dyma restr y dechreuwyr canu, yn ol Mr. Williams: Robert Griffith Tŷ Capel, Edward William yr Offis, Thomas Jones y crydd, Hugh Owen Bryncoed, William Hughes Ty'nyweirglodd, William Owen Jones Gwernor, Edward Owen Brynteg, Griffith Ellis Jones Brynhyfryd, Edward Jones Brynteg, John H. Jones Plasmadoc, John William Jones Bro dawel, Hugh Owen Jones Tan y dderwen, John Jones Owen Bryncoed.

Dyma adroddiad ymwelwyr Canmlwyddiant yr Ysgol Sul (1885): "Ysgol gyfoethog o adnoddau, a'r rhai hynny yn cael eu dwyn i weithrediad cyfatebol effeithiol. Ystafell ragorol i'r plant ieuengaf, ac ystafell arall i blant tlodion, gyda lliaws o'r cyfryw yn derbyn addysg gan athrawon da a hunan-ymwadol. Arolygwr y flwyddyn cynt yn ysgol Talsarn yn parhau y flwyddyn ddilynol fel ymwelwr â'r dosbarthiadau, gyda'r amcan, yn un peth, o gadw i fyny gyfartaledd y presenoldeb. Credwn fod ei le i'r fath swyddog mewn ysgolion lliosog fel hon. Caem arwyddion o fedr, ymdrech a haelioni yma, yn derbyn eu gwobr haeddiannol yn y llu mawr o ddosbarthiadau o ieuenctid ag y rhyfeddem at eu gwybodaeth ysgrythyrol. Sylwem ar rai athrawon, er hynny, yn gollwng o'u gafael eu hunain y gwaith o holi rhai rhy ieuainc i wneud hynny drostynt eu hunain; a dyna'r dosbarthiadau a ystyriem fwyaf ar ol."

Rhif yr eglwys yn 1887, 306; yn 1900, 365.

RHOSTRYFAN (HOREB).[10]

CYN cyrraedd gorsaf y Dinas, ar y ffordd o Gaernarvon i Lanwnda, y troi'r i fyny at Rostryfan. Troir oddiar yr un ffordd at Frynrodyn ychydig ymhellach ymlaen, ac wedi myned beth ymhellach na Brynrodyn y troir i fyny ymhentref y Groeslon at Carmel a Cesarea. Yr oedd y ffyrdd hyn i'r mynydd yn lled anghynefin ychydig cyn cyfnod y capelau. Cododd y capelau hynaf ar y prif-ffyrdd.

Yr oedd er hynny bregethu achlysurol yn yr ardal er yn fore, fel y gwelwyd eisoes ynglyn â hanes Brynrodyn. Edrydd Robert Jones Rhoslan am dorf wedi dod ynghyd ar brynhawn Sul i wrando pregeth yn yr ardal hon. Yr oedd gan amaethwr gerllaw darw a arferai ruthro yn erchyll, fel yr ofnid myned yn agos ato. Trodd y gwr yr anifail hwn ar y gynulleidfa, a deuai ymlaen dan ruo tuag at y dorf. Ynghanol cynnwrf y bobl, pa fodd bynnag, wele'r tarw yn canfod buwch ennyd oddiwrtho, ac yn rhedeg ar ol honno. Gwel Robert Jones yn yr amgylchiad hwn gyflawniad o addewid yr Arglwydd i'w bobl, pan addawa wneuthur amod drostynt âg anifeiliaid y maes. Ac edrydd hefyd ddarfod i'r tarw hwnnw ymhen tro o amser ruthro ar ei berchen, gan ei gornio yn ddychrynllyd, fel mai o'r braidd y diangodd efe am ei einioes. Mynegid i awdwr Methodistiaeth Cymru gan y gwr ei hun, ddarfod iddo ef yn fachgen gael ei ddanfon gan ei dad i gyfarfod Robert Jones Rhoslan ar ryw Sul, i'w arwain ef i'r capel, y tro cyntaf y bu efe ynddo, a'r tro olaf hefyd, fel y tybid. Wrth fyned heibio ryw fan neilltuol, ebe'r hen wr: "Yn y fan yma yn rhywle y mae'r garreg y byddem ni yn sefyll arni i bregethu er's llawer dydd. Yr oeddwn i yma ar ryw dro, pryd yr oedd yma ryw ddyn a arferai wneud. gograu, o'r enw Erasmws, wedi myned i ben y garreg i'm rhwystro i; ond fe ddaeth rhyw ddyn arall o'r enw William Pugh Penisa'r rhos, ac a ddygodd het Erasmws oddiar ei ben, ac a'i taflodd ymaith dros ben y gynulleidfa. Bu raid i'r gogrwr fyned i ymofyn ei het, a chefais innau fyned i ben y garreg." Adroddir ymhellach ddarfod i Griffith Llwyd ddwyn baich o wair i'r stabl ar nos Sadwrn ar gyfer ceffyl Robert Jones. Hysbyswyd Robert Jones gan dad y llanc a'i hebryngai, mai mab oedd y Griffith Llwyd hwn i'r gwr a ollyngodd ei darw corniog ar y gynulleidfa gynt. Nid hwn oedd yr unig dro y darfu i fab erlidiwr droi yn achleswr crefydd, megys y mae hanes Josiah mab Amon ac eraill yn ol hynny yn dangos.

Yr oedd y garreg grybwylledig ar derfyn tiroedd Ty'nffrwd a Bryntirion, gerllaw y ffordd sydd yn awr yn arwain i gapel Rhostryfan oddiwrth gapel y Wesleyaid, yng nghwrr isaf gorllewin yr ardal. Clywodd Mr. Gwynedd Roberts y Parch. W. Williams Glyndyfrdwy yn dweyd fod y garreg wedi ei hen falurio, a'r darnau yng nghloddiau meusydd Ty'nffrwd.

Nid oedd unrhyw le addoliad y pryd hwn yn yr ardal. Yn y plwyf i gyd nid oedd namyn eglwys Llanwnda ac eglwys Anibynnol Saron, yr olaf ym mhen isaf y plwyf. Fe ddywedir fod oddeutu ugain o'r ardal hon yn aelodau yn eglwys Brynrodyn at ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Cyn sefydlu eglwys Brynrodyn yr oedd Sadrach Griffith Cae cipris ac Elinor ei wraig, a William Griffith Geginfain ac Elinor Morris ei wraig yn aelodau yn Llanllyfni (Meth. Cymru, II. 218, nodiad). Elai y rhai'n ynghydag eraill yn fwy neu lai cyson i wasanaeth y bore yn eglwys Llanwnda.

Yr oedd William Griffith ac Elinor Morris yn byw yng Nghefn y paderau yn 1804-5, lle sydd gerllaw y man y saif y capel arno yn awr. Erbyn hynny, mae'n ddiau eu bod yn aelodau ym Mrynrodyn. Buont ar un adeg yn teithio i Glynnog i wrando pregethu, pellter o wyth milltir neu ragor. Symudasant o Gefn y paderau i Lwyn y gwalch, yn agos i Frynrodyn. Goroesodd William Griffith ei wraig rai blynyddoedd. Yn niwedd ei oes fe drigai yn y Pwrws, rhes o dai bychain a adeiladwyd gan y plwyfolion yng nghwrr isaf gorllewin Rhostryfan. Y Beibl a Gurnall oedd llyfrau y naill a'r llall o'r ddeuddyn hyn.

Mr. Gwynedd Roberts sy'n nodi allan y cymeriadau boreuol hyn. Sonia ef am Elinor Roberts Bodgarad, a gyfrifid yn flaenffrwyth yr Efengyl yn y fro. Teithiodd i Frynrodyn am 30 mlynedd, bum milltir o ffordd rhwng myned a dod, a hynny hyd lwybr garw a llaith, a rhan fawr ohono yn unig iawn. Yr oedd yn wraig dra chrefyddol. Cedwid y ddyledswydd deuluaidd ganddi gyda chysondeb. Elizabeth Evans Hafoty tŷ newydd, hefyd, a wnelai hynny, ac amryw eraill o'r un cyfnod. Ann Williams a ddaeth drwy briodas o'r Trillban, Clynnog, i'r Wernlas ddu. Ei henw a fu yn berarogl am flynyddoedd lawer. Henry Roberts Caehen a hithau oeddynt gyfeillion mynwesol. Ar eu ffordd adref o'r seiat ym Mrynrodyn, elai'r ymddiddan am "y pethau," ac er meithder ac afrwyddineb y ffordd, cyrhaeddent adref i'w teimlad eu hunain. yn ddiatreg. Bu Ann Williams farw yn lled gynnar yn y ganrif ddiweddaf. Ym more'r ganrif gostyngodd Elizabeth Lewis Caerodyn ei gwddf i'r iau yn gynar ar ei hoes, ac a fu yn hynod amlwg mewn duwioldeb. Mary Parry, ail wraig William Roberts Tan y gelynen, yn fuan wedi ei hail briodas a ddechreuodd gael blas ar wrando'r Efengyl, ac a fu ffyddlon hyd angeu. Evan Llwyd, mab Tanybryn, a'i wraig Jane, a fu'n preswylio am ysbaid yn Hafoty penybryn. Pan oedd y rhieni allan un diwrnod, aeth y plant â chanwyll dan y gwely i chwilio am ryw degan chware. Cymerodd y gwely dân, a llosgodd y tŷý a chwbl o'r dodrefn. Diangodd y plant gyda'u bywyd. Wedi hyn, adeiladodd Evan Llwyd dŷ ar y comin a'i ddwylaw ei hun, a gwnaeth ddodrefn iddo â'i ddwylaw ei hun yr un modd. Enw'r tŷ yw Glanygors. Y mae'r tŷ hwn tua hanner milltir i'r dwyrain o gapel Rhosgadfan. Agorwyd llygaid Evan Llwyd wrth wrando ar John Huxley yng Nghaehen ar y noswaith o flaen y Nadolig, 1814. Yr oedd ganddo tua thair milltir i'r seiat ym Mrynrodyn, a theithiodd y ffordd yn lled gyson, yn ol arfer crefyddwyr y dyddiau hynny, am y chwe blynedd oedd yn weddill o'i oes, a bu ei gynydd mewn crefydd yn eglur iawn.

Dywed y Parch. W. Williams Glyndyfrdwy yng Nghofiant Edward Williams, mai William Edward oedd un o'r rhai cyntaf i gau allan y comin. Efe a gododd Cae'mryson yn y dull hwnnw, yn lled agos i ddiwedd y ddeunawfed ganrif, canys yno yn lled fuan ar ol ei adeiladu y ganwyd ei ail fab Edward ym mis Mehefin, 1799. Ann Williams, gwraig William Edwards, a ddaeth i broffesu crefydd yn gyntaf o'r ddau. Yn 1800 y bu hynny, ar ol pregeth gan Lewis Morris sir Feirionnydd ym Mrynrodyn, ar y geiriau, "Ti a bwyswyd yn y cloriannau ac a'th gaed yn brin." Toc ar ol y wraig y daeth y gwr. Elai'r ddeuddyn yn gyson i'r moddion i Frynrodyn Sul a gwaith.

Dywedir yng Nghofiant Edward Williams nad oedd unrhyw fath ar ysgol ddyddiol yn ardal Rhostryfan pan oedd efe yn blentyn, sef ym mlynyddoedd cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac ma drwy'r ymneillduwyr y dygwyd ysgol felly gyntaf yma. Yr oedd math ar ysgol, pa fodd bynnag, yn cael ei chynnal yn eglwys y llan, bellter ffordd oddiyma. Ffynnai yr hen arferion cynFethodistaidd yn yr ardal ar ddechreu'r ganrif. Ar ol y gwasanaeth fore Sul yn y llan, elai'r ieuenctid a gyrchai yno i ofera. Un o'u cyrchfannau, ebe Mr. Gwynedd Roberts, oedd Tanygaerwen, sef ychydig i'r dwyrain o'r man y saif y capel. Deuid yno o wahanol fannau, ac yn eu plith byddai rhai amgen nag ieuanc. Adroddid chwedlau'r tylwyth teg ac ystorïau masw, a cheid yno'r ddawns a gwahanol fath ar chware. Cyrchfan arall oedd wrth Gamfa'r ystol.

Oddeutu 1804 y codwyd ysgol Sul gyntaf yn yr ardal, mewn hen dŷ diaddurn, a elwid y Muriau, ar gyfer y Felin Frâg, ar dir y Wernlas wen. Nid oes ond prin olion o'r tŷ yn aros. Mari'r Muriau, fel y dengys ei henw, oedd y trigiannydd, a chyda hi ei hen fam oedrannus. Griffith Jones Cae hen oedd yr arolygwr, a chynorthwyid ef gan William Williams Bodaden a William Edward Cae'mryson. Cynelid rhai dosbarthiadau yn y Felin Frâg a'r Tŷ uchaf, dau fwthyn bychan o fewn ergyd carreg i'r Muriau, ond mewn cyfeiriadau gwahanol. Deuai'r dosbarthiadau ynghyd i'w holi ac i adrodd y Deg Gorchymyn. Aeth mam Mari Jones y Muriau yn rhy wael o'r diwedd i allu goddef swn yr ysgol, a gorfu ei rhoi i fyny ymhen dwy flynedd o amser. Edward William ydoedd un o'r rhai a ddysgodd ddarllen yn ystod yr amser hwnnw. Wele ei ddisgrifiad ef o'r arolygwr: "Cofiwn am ei agwedd ddifrifol yn holwyddori yn niwedd yr ysgol, gan son am yr anuwiol yn y farn, fel y bydd ei wyneb yn casglu parddu, a'i liniau yn curo ynghyd. Safai ar ganol y llawr pridd, a thua deg ar hugain o blant o'i amgylch, yn gwrando arno ac yn ei ateb yn ol eu gallu, heb demtasiwn i gellwair ar neb. Yr hyn oedd bwysig ar ei feddwl oedd cael y colledig at y Ceidwad. Mynych y rhoddai'r geiriau hynny allan i'w canu, Dyma Geidwad i'r colledig.' Wedi rhoi'r ysgol i fyny, elai'r plant i chware megys cynt ar y Suliau."

Ail agorwyd yr ysgol ymhen ysbaid yn Nhy'n y weirglodd, tŷ ymhen uchaf tir Bodaden, a breswylid gan Griffith Jones a'i wraig Elin Prys. Yn lled fuan, fel y dywedir, symudwyd oddiyno i Caerodyn, lle yn uwch i fyny, ac a breswylid gan John a Hannah Jones. Symudwyd o Gaerodyn i Benlan uchaf, ynghwrr isaf yr ardal, sef tŷ Griffith Prichard, a ddaeth yma o dŷ capel Brynrodyn ychydig cyn hynny. Aroswyd yma hyd 1816, sef ystod tair blynedd. Yma yr oedd yr ysgol pan fu farw Charles, a chofiai Edward Williams am y canu mawr yn yr ysgol ar farwnad Dafydd Cadwaladr i Charles. Yn 1816 aeth y Tŷ uchaf yn wag, a chymerwyd ef ar ardreth i amcan yr ysgol. Rhowd pulpud bychan ynddo, a chodwyd y ffenestr yn uwch i fyny. Ceid pregeth yma yn achlysurol. Fe gynelid seiat yma ar dro, ynglyn â'r pregethau y mae'n debyg. Dywed Mr. Gwynedd Roberts y cynelid yr ysgol yn y tŷ uchaf yr un adeg ag y cynelid hi ym Mrynrodyn, ac y cynelid cyfarfod gweddi pan fyddai un ym Mrynrodyn, a thybia mai dyma'r adeg y ceid ambell seiat. Fe gynelid seiat, pa ddelw bynnag, ar brydiau, ar ol pregeth, mewn mannau nad oedd eglwys reolaidd wedi ei sefydlu eto. (Cymharer Cofiant Edward Williams, t. 17-20.) Fe gynelid ysgol hefyd, a dybir ei bod yn un o'r rhai hynaf yn y wlad, yn Bwlch-y-llyn bach, yn ardal Cesarea. Symudodd honno drachefn i'r Dafarn Dyweirch. Ymhen amser ymwahanodd honno drachefn yn ddwy, y naill gyfran yn myned i Caehaidd mawr, a'r gyfran arall i Gae'rodyn bach. Ymunodd y gangen olaf yn y man â'r Tŷ uchaf. Chwalwyd ysgol Caehaidd ymhen blynyddoedd, ac aeth yr aelodau i'r Brynrodyn a Carmel a Rhostryfan. (Canml. Ysgolion Clynnog ac Uwchgwyrfai, t. 19.)

Y wirf a ddodwyd yn y trwyth, ac a barodd iddo risialu ydoedd Griffith Jones Caehen, a ddaeth yma yn 1809. Yr oedd rhyw gyffyrddiad o'r tywysog arno ef. Dafydd Jones, gwas yng Nghaehen, ac aelod eglwysig yn y Waenfawr, oedd wedi dechre o'i flaen ef. Edrydd Mr. Gwynedd Roberts ddarfod iddo weled ysgrif of eiddo Robert Jones Bryn y gro yn 1868, ac yn ol honno mai Dafydd Jones wrth weled anuwioldeb ieuenctid yr ardal a gyffrowyd yn ei ysbryd i gychwyn, gyda chynorthwy eraill, yr ysgol yn y Muriau. Tybir ddarfod iddo adael yr ardal oddeutu yr adeg y daeth Griffith Jones Caehen yma. Adwaenid ef yn ddiweddarach fel Dafydd Jones Beddgelert, y pregethwr. Yng Nghae'rodyn fe flaenorid gan William Dafydd Cae'rodyn mawr, sef tad David Williams Tanyrallt, a thaid William David Williams, yn awr yn flaenor yn Rhostryfan; Owen Eames Caehaidd mawr; William Edward Cae'rmryson. Bu Owen Roberts Bodgarad yn aelod o'r ysgol hon. Tad ydoedd ef i Mr. Robert Owen Roberts, yn awr yn flaenor yn Rhostryfan, ac i Mr. William Roberts, yn awr yn flaenor yn Engedi, Caernarfon. Pan gynelid yr ysgol yn Penlan uchaf yr oedd Griffith Prichard, gwr y tŷ, yn un o'r rhai blaenaf ynglyn â hi. Tybir mai achos arosiad byrr yr ysgol yn Nhy'n y weirglodd ydoedd symudiad Griffith Jones, gwr y tŷ, i Lanberis. Cofnodir y bu'r Parch. William Hughes Bryn beddau, ar ol hynny o Saron, Llanwnda, gweinidog gyda'r Anibynwyr, o fawr wasanaeth i'r ardal yng nghyfnod yr ysgolion hyn.

Yr oedd tair milltir o ffordd o ganol yr ardal i Frynrodyn, ar y naill du, ac i Waenfawr, ar y llall. Gyda chynnydd graddol yr ysgol, fe godai'r awydd yn nheimlad pawb am gapel iddynt eu hunain. Yr oedd, er hynny, wahaniaeth barn am y lle. Dadleuai rhai dros y fan y safai'r maen arno, lle traddodid pregethau gynt. Yr oedd rhai eisieu'r pulpud yn union yn y fan honno. Dadleuai rhai o blaid ei gael ar dir Bryntirion, lle gollyngodd John Llwyd ei darw rhuthrog gynt at y gynulleidfa. Dadleuai rhai eraill dros fangre y capel presennol. Gyda'r rhai olaf yma y dadleuai gwraig Bodgarad, am y buasai raid iddi fyned drwy'r afon deirgwaith ar y Sul i dir Bryntirion, am nad oedd pontydd dros yr afon yno y pryd hwnnw. Dadl Bodgarad a'r lleill o'r un ochr a orfu. Dadl arall oedd am faintioli'r capel. Dadleuai rhai dros 30 troedfedd wrth 26, neu 26 wrth 20 o'r tu fewn i'r muriau. Gwelai eraill hynny'n ormod. Yn y Cyfarfod Misol, cynygiodd William Roberts Clynnog dynnu llathen oddiwrth y lled a'r hyd crybwylledig, a hynny a orfu.

Yn 1821 y codwyd y capel. Yr oedd llofft fechan ar un talcen, a grisiau o'r tuallan yn arwain iddi. Rhyw gymaint yn ddiweddarach y rhoddwyd hwy. Wyneb y capel at yr afon Fenai. Dau ddrws a dwy ffenestr yn y wyneb, a dwy ffenestr yn y cefn. Yr oedd tŷ bychan yn y pen gogledd-ddwyreiniol. Yr oedd un sêt o amgylch ar y llawr, a choed yn waelod iddi. Meinciau ar y gweddill o'r llawr, a'r llawr hwnnw yn bridd. Goleuid canwyllau pan fyddai angen, ac yr oedd dyn wrth ei swydd yn gofalu am hynny, cystal ag am dorri pen y pabwyryn yn awr a phryd arall yn ystod y gwasanaeth, pryd y byddai'r difeddwl yn ei ddilyn â'u llygaid o babwyryn i babwyryn, er blinder i ambell bregethwr go fyw ei deimlad. Cludid y defnyddiau at adeiladu yn rhad gan yr amaethwyr, a thrinid y cerryg toi yn rhad gan y chwarelwyr. Cydweithiodd yr ardalwyr yn gyffredinol, hyd yn oed y rhai pellaf oddiwrth grefydd, gyda chodi'r capel newydd. Enw'r capel ydoedd Horeb.

Yn ol Edward William, fe ddechreuwyd pregethu yn y capel, a chynnal moddion eraill o ras yn niwedd 1821 (t. 27). Dywed ef y bwriai hi wlithlaw tyner y Sul yr agorwyd y capel. Daeth i fewn iddo gynulleidfa dda cyn yr amser, sef deg y bore. Robert Owen y Rhyl oedd i wasanaethu. Sicrhae Robert Owen fod Michael Roberts yng nghyfarfod yr agoriad. Yn ol Mr. Gwynedd Roberts, nid oedd cofion ond am oedfa'r bore, a gwasanaeth Robert Owen. Tra yr oeddid yn disgwyl am y pregethwr, rhoes Griffith Ellis, mab y Cyrnant, bennill allan i'w ganu, y mawl cyhoeddus cyntaf a fu o fewn y muriau, a thebyg fod Robert Owen yn myned drwy'r daith y Sul hwnnw.

Yr oedd diwygiad Beddgelert drosodd erbyn hynny. Ar ol sefydlu'r eglwys, pa fodd bynnag, fe ymunodd amryw â hi ag oedd wedi dod dan ei ddylanwad. Fe ddywedir mai 12 oedd rhif y brodyr yn unig ar sefydliad yr eglwys. Yr oedd 32 mlynedd wedi myned heibio er adeiladu capel Brynrodyn, ac yr oedd Sadrach a William Griffith, a'r ddwy Elinor eu gwragedd, yn aelodau yn Llanllyfni, fel y gwelwyd, cyn hynny. Gyda phellter ffordd oddiwrth eglwys, nid oedd namyn y rhai mwyaf selog yn ymaelodi.

Mae'r traddodiad yn aros na chafwyd y 12 crybwylledig yn hollol deg. Dodwyd enw John Hughes mab John Hughes Cae hen, a thad Mr. Richard Jones Hughes, i lawr, sef maban y pryd hwnnw. ym mreichiau ei fam, er mwyn cael y rhif cyfrin deuddeg ar sefydliad yr eglwys. Dichon mai mymryn o ddifyrrwch oedd hynny, yn tarddu o asbri yr ysgrifennydd, pwy bynnag ydoedd, a'r lleill yn gwenu ar ei ffansi. Heblaw y deuddeg brawd yr oedd amryw chwiorydd. Mae Mr. John Williams yn rhoi rhestr yr aelodau fel yr ydoedd yn lled fuan ar ol sefydliad yr eglwys. Dyma'r rhestr: Griffith Jones Cae hên, William Ifan Tŷ'r capel, William Dafydd Cae'rodyn, William Edward Cae'mryson ac Ann Williams ei wraig, Griffith Prichard Penlan ac Elsbeth Williams ei wraig, William Jones Terfyn, William Williams Bodaden, William Hughes Tyddyn y berth, Ellis Jones Tryfan bach a Mali Wiliam ei wraig, Thomas Williams Ty'nygadfan, John Hughes Cae hên, John Hughes y maban, Jane Williams, gwraig William Ifan, Mary Roberts Cae hen, Elsbeth Thomas Hafoty, Elinor Roberts Bodgarad, Marged Thomas Gaerwen, Elsbeth Evans Hafod Tŷ newydd, Marged Roberts Coed y brain, oll yn ddibriod, Mary Williams Coed y brain, Elinor Roberts siop Coed y brain, mam William Hughes y siop, Elinor Williams Terfyn, Jane Jones Minffordd, modryb chwaer ei fam i William Edward, Ann Jones Cae'rsais, mam y Dr. Hughes Tan y groeslon, Jane Williams, morwyn yn Bodgarad, Marged Jones (Williams), morwyn yn Tryfan bach, Elinor Jones Caehaidd. Y cyfan yn 30, heb adael allan y maban.

Yr oedd Griffith Jones a William Ifan eisoes yn flaenoriaid ym Mrynrodyn. William Edward oedd y dechreuwr canu cyntaf, yn ol rhai, cyn i Daniel Hughes ymgymeryd â'r swydd. Ellis Jones, y pregethwr cyntaf yma. Y pedwar brawd a enwir yn olaf, gan gynnwys y maban, ni ddaethant yn aelodau, yn ol rhai, am ryw bryd ar ol yr agoriad. Nid yw'n anichon mai deuddeg oedd rhif llawn yr eglwys ar ei chychwyniad, sef wyth brawd a phedair o chwiorydd, os nad oedd y maban yn un o'r nifer yno, nid hwyrach ar fronnau ei fam. Nid yw chwedl y maban, mwy na chwedlau cyntefig eraill, yn meddu ar ddilysrwydd pendant ym marn pawb yn ddieithriad. Dywed John Williams na fynnai W. Williams Glyndyfrdwy dderbyn mo chwedl y maban; ond dywed Mr. Gwynedd Roberts na chlywodd efe erioed mo'r amheuaeth lleiaf yn cael ei daflu ar ei dilysrwydd.

Yr oedd Ellis Jones y pregethwr yn frawd i Owen Jones Plasgwyn Eifionydd. Trwy ymbriodi â Mali Wiliam Tryfan bach, gwraig weddw, y daeth Ellis Jones o'r Plasgwyn i'r gymdogaeth yma yn 1822, neu oddeutu hynny. Pregethwr o ddawn melus odiaeth. Bu farw Rhagfyr 20, 1823, a chladdwyd yn Llandwrog, y Nadolig dilynol, yn 29 mlwydd oed.

Ymadawodd William Ifan i'r Ysgoldy, Llanddeiniolen, yn 1828, gan fyned i weithio i chwarel Dinorwig. Ar gais yr eglwys yr oedd wedi myned i fyw i'r tŷ capel ar agoriad y capel. Bu ei arosiad yma yn gaffaeliad i'r eglwys fechan. Yn ol Robert Jones Brynygro, ebe Mr. Gwynedd Roberts, ar ymadawiad Willami Ifan y dewiswyd Griffith Prichard yn flaenor yn ei le.

Profodd Rhostryfan yn gynnar o ddiwygiad 1830-2. Cyn y diwygiad araf oedd y cynnydd, rhyw un aelod yn y flwyddyn ar gyfartaledd yn ystod y saith mlynedd cyntaf, fe ddywedir. Tua'r flwyddyn 1829, yn ol Edward William, y dechreuwyd profi dylanwad y diwygiad. Nid oedd llawer o gyffro ynglyn âg ef. Ni chlywodd Edward William y fath ganu na chynt na chwedyn. Hugh Williams, y pryd hwn, oedd y prif arweinydd gyda'r canu. Yr adeg yma y daeth Thomas Williams Rhosgadfan a'i wraig Mary Jones yn aelodau; John Hugh, mab Mary Roberts Caehen o'i gwr cyntaf; Ann Owen, gwraig Griffith Wmffre; a Catrin Jones, gwraig Thomas Sion Abel; William Williams Tŷnewydd, bryd hynny, yr hwn a symudodd i'r tŷ capel yn 1828, sef tad John Williams Talybont. Cyfodwyd rhai gwŷr defnyddiol y pryd hwn. Yr hynotaf ond odid oedd Robert Williams, mab William Roberts Tanygelynen, o'i ail wraig, Mary Parry. Cynyddodd yn gyflym mewn gwybodaeth ddiwinyddol ymhell tuhwnt i'w gyfoedion. Ymhen amser ymfudodd i'r America, a daeth yno yn weinidog cymwys y Testament newydd. Ychwanegwyd y pryd hwnnw oddeutu 80 at yr eglwys, ac fe ddywedir na ddychwelodd mwy na rhyw un neu ddau ohonynt yn eu hol i'r byd. Daeth y tri chyntaf yr un noswaith yn 1829, sef O. Jones Brynmelyn bach a J. a H. Williams Cae'mryson. Deuai John Jones Talsarn yma y pryd hwn yn fynych i'r seiadau, ar un adeg bob wythnos braidd, i ymgeleddu'r dychweledigion. Dywedid mai un o'r pethau a fu'n foddion i ddeffro'r eglwys gyntaf oedd Cyfarfod Ysgolion a gynhaliwyd yn Llanllyfni, pryd y llefarodd John Jones yn erbyn arferion amhur gyda nerth oedd yn arswyd i'w wrandawyr. Yr oedd J. a H. Williams Cae'mryson yno fel cynrychiolwyr,er heb fod eto yn aelodau. eglwysig. Traddodwyd sylwadau John Jones ganddynt i'r ysgol. gyda'r fath ddwyster a difrifwch a fu'n ddeffroad i'r ysgol a'r ardal.

Yr oedd cyfarfod pregethu y Pasc wedi ei ddechre cyn y diwygiad. Cafwyd cyfarfod nodedig yn 1833, pryd y gwasanaethwyd gan Griffith Jones Tregarth, Cadwaladr Owen a John Jones Talsarn.

Sefydlwyd Cymdeithas Gymedroldeb a'r Gymdeithas Ddirwestol yr un noswaith. Daniel Jones Llandegai, fel y tybir, yma yn eu sefydlu. Ymunodd 15 â'r Gymdeithas Ddirwestol. Gwreiddiodd dirwest mor ddwfn yma yn y man fel nad anturiodd neb agor tafarn yn yr ardal yn unlle o'r pryd hwnnw hyd yn awr.

Fe ddywedir fod yr ysgol yn cynyddu yn y capel, ac y danghosid sel ynglyn â hi. Aeth William Hughes yr holl ffordd o Dyddyn y berth i chwarel Pen yr orsedd gyda chais at John Owen o'r Dafarn dyweirch, am iddo ddod yn athraw ar ddosbarth y meibion. Sonir am William Hughes yn myned i gyrchu disgyblion i'r ysgol o blith y chwareuwyr ar y llain wrth gamfa'r ystol, y pryd hwnnw'n gomin, yn awr yn rhan o ffridd Hafoty Tŷ newydd. Nid oedd neb i gael myned allan o'r ysgol hon heb diced gan yr arolygwr. Y ticed oedd ddernyn o bren tua thair modfedd o hyd a hanner modfedd o led, a niciau ar yr ymylon, yn dangos pa mor aml yr eid allan. Ticed ar gyfer pob un, gan hynny, debygir.

Oddeutu 1836-7, daeth Griffith Evans i Hafoty Wernlas. Yr oedd yn flaenor ym Moriah, Caernarvon, cyn hynny, a galwyd ef i'r swydd yma.

Rhy fychan ydoedd y capel cyntaf, hyd yn oed gyda'r ychwanegiad o lofft, o leiaf ar ol y diwygiad. Amserir yr ail gapel yn 1837-8. Yn ol y weithred, prynwyd darn o'r comin am £7 yn 1838, p'run a oedd y capel wedi dechre cael ei godi cyn hynny a'i peidio. Gwnawd yr hen gapel yn dŷ capel. Codwyd mur o'i fewn, a gwasanaethai un gyfran ohono fel cegin, ystabl a llofft ystabl. Gwnaed lle i gadw y cerbydau. Mesur y capel oddifewn oedd 16 llath, neu ynte 14 llath, wrth 12. Yn wynebu'r gogledd-ddwyrain, a dau ddrws yn y wyneb, gyda'r pulpud yn y canol rhyngddynt. Edrychid arno yn gapel mawr. Eisteddai 300 ynddo. Ebe Griffith Jones, Cae hen, "Ni geisiwn i John Elias yma i'w agor, gad i ni weld i lond o am unwaith." Gorffennwyd y capel; daeth John Elias i'r agoriad; a chafwyd ei lond o bobl. Ar ganol cyfarchiad, ebe John Elias, "Nac esgyned neb byth i'r areithfa hon ond gwir anfonedigion Duw!

Y Rhos a'r Bontnewydd yn daith flwyddyn agoriad y capel, sef 1838.

Yn 1839 y daeth Robert Owen yma o Nefyn. Yr ydoedd wedi bod yn gweithio yn ffactri y Tryfan pan oddeutu 20 oed. Yr ydoedd yn awr yn 40 oed.

Ychwanegwyd at yr eglwys yn ystod diwygiad 1839-40 rai dynion goleubwyll, ag y bu eu gwasanaeth o werth i'r eglwys. Oddeutu'r adeg yma, wrth ddarllen yn yr Actau am rifedi'r dis- gyblion fel ugain a chant, ebe Griffith Evans, "Tua'r un nifer ag ydym ni fel eglwys yn bresennol."

Cofrestru'r capel i weinyddu priodasau yn 1846, neu ddechre 1847. John ac Elizabeth Roberts Glanrafon oedd y ddeuddyn a briodwyd gyntaf. Robert Owen yn gweinyddu. Oddeutu'r un adeg y gwnawd tir y capel yn fynwent.

Yn 1846 ymfudodd William Williams Pantcoch i'r America. Yr oedd wedi symud oddiyma i Ffestiniog ers ychydig flynyddoedd cyn hynny. Gwnawd ef a John Williams Cae'mryson, Fachgoch ar ol hynny, yn flaenoriaid, fel y tybir, yn 1835, neu cyn hynny. Efe oedd y cyhoeddwr tra y bu yma. Ymsefydlodd yn y Blue Mounds, Talaeth Wisconsin, lle bu fyw hyd 1874. Bu farw Ionawr 11, 1883, yn 85 oed, yn y Bristol Grove, Talaeth Minnessotta. Gwr call, di-uchelgais. Aeth William Jones Muriau i Ffestiniog yr un adeg a William Williams. Gwr defnyddiol gyda'r ysgol Sul a'r canu.

Hydref 17, 1846, y bu farw Griffith Jones, wedi gwasanaethu yn y swydd am 52 mlynedd, yn hwy na neb arall yn Arfon ar y pryd. Yr ydoedd yn y swydd er yn 18 oed. Efe oedd y gwr blaenaf gyda'r achos yma yn ei gychwyniad, a pharhaodd y mwyaf ei ddylanwad yn ol hynny, ac yr oedd yn fwy ei ddylanwad yn yr eglwys na neb a fu ar ei ol. Efe oedd y cyhoeddwr ar ol William Williams. Yr oedd hefyd yn ysgrifennydd yr eglwys, ac nid ydys yn sicr nad efe oedd y trysorydd hefyd. Arweiniai ym mhob seiat. Yr oedd yn wr o ddylanwad yn y Cyfarfod Misol. Nodweddid ef gan dynerwch. Wedi glanhau y briw, fe dywalltai i mewn win ac olew. Geilw Robert Ellis ef yn hen flaenor ac apostol Rhostryfan. A dywed fod popeth blaenor llwyddiannus wedi cydgyfarfod ynddo, yn wr doeth, pwyllog, enillgar, yn fedrus i arwain yr eglwys ac i drin dynion. A dywed ddarfod iddo fagu cenedlaethau o bobl ieuainc. yn Rhostryfan nad oedd eu rhagorach, os eu cystal, yn sir GaernarYr oedd yn y capel Coch Llanberis ddau Griffith Jones yn wŷr hynod yr un cyfnod: aeth y naill i Hebron, a daeth y llall i Rostryfan, y naill a'r llall y gwŷr hynotaf yn eu gwahanol eglwysi o'r cychwyn. Pregethwyd yn ei noswyl gan Robert Owen ar Hebreaid xiii. 7, "Meddyliwch am eich blaenoriaid " (Job v. 17 ddywedir yn y Drysorfa), a'r noswaith ddilynol gan John Jones oddiar Hebreaid xi. 13, "Mewn ffydd y bu farw y rhai hyn oll." (Drysorfa, 1847, t. 159.)

1847-8, John R. Owen, mab Robert Owen yn dechre pregethu.

Ceir byrr-gofiant yn y Drysorfa (1847, t. 190) i Ann Williams, gwraig William Edwards Cae'mryson. Bu hi farw Ionawr 19, 1847, yn 75 oed, wedi bod yn aelod am 47 mlynedd. Ei hoff bleser oedd darllen y Beibl hyd nes aeth yn rhy wan i graffu arno. Dywediad o'i heiddo: "Nid wyf yn leicio fod trwch y peth lleiaf mewn bod rhwng fy enaid tlawd a'r maen sydd wedi ei osod yn Seion." Ei chladdedigaeth hi y cyntaf ym mynwent newydd Rhostryfan.

Yn 1847 y dewiswyd Ellis Jones Glanrafon a John Williams Ty'nyrhosgadfan yn flaenoriaid.

Dyma'r taliadau am Ionawr 1847: Traul y tŷ, 11s.; casgl misol, 1s.; talwyd i Hugh Jones am lo, 13s.; Morris Roberts, 4s. ; Cadwaladr Owen, 2s.; John Owen, 4s.; Moses Jones (heb ddim. gyferbyn-heb ddod i'w gyhoeddiad mae'n debyg). Cyfanswm, £1 15s. Derbyniadau, £2 0s. 8c. Rhodd at Gyfarfod Misol Hydref, 5s.

Adgyweiriwyd y capel yn 1848. Yn ei ffurf wreiddiol, ebe Mr. John Williams, nid oedd nenfwd ynddo. Dodwyd nenfwd i mewn yn ddiweddarach. Dodwyd awrlais, hefyd, ar y pared. Dywed yr un awdurdod am yr awrlais hwnnw, nad oedd modd ei gael i gadw'r amser, er ei ddanfon i Humphrey Williams o'r Waenfawr i'r perwyl hwnnw. Dodwyd rhai pwysau yn ychwaneg of haiarn yn ei rombil yn ofer ac am ddim. Eithaf tebyg fod y fath beth a chythraul yr awrleisiau yn bod, er na soniodd Williams o'r Wern ddim am dano.

Yr oedd ysgol ddyddiol wedi bod yn cael ei chynnal yn llofft y tŷ capel gan Ellis Thomas. Mae Mr. Williams yn tybio ddarfod iddo glywed fod Ellis Thomas yn derbyn rhyw gymaint o drysorfa'r capel, yn ychwanegol at arian y plant. Gwr diniwed. Difyrrwch gan y plant fyddai ei ddwyn ef ar eu hysgwyddau yn ystod yr awr ginio o amgylch y capel dro ar ol tro. Ymadawodd ef oddeutu 1845-6. Elai rhai o'r plant yn ol hynny i ysgol eglwys y Bontnewydd, eraill i ysgol William Jones Felinforgan, ger Brynrodyn. Yn 1849 penderfynwyd mewn pwyllgor wedi ei ddewis gan y gynulleidfa gael ysgol fwy effeithiol na dim a welwyd o'r blaen. Trwy gyfryngiad John Phillips Bangor, fe ddaeth Benjamin Rogers yma fel ysgolfeistr o Abergele. Cynhaliwyd yr ysgol yn y capel. Yr oedd yn angenrheidiol wrth ddodrefn ysgol ar ei chyfer, a cheisiwyd hwy. Cynhaliwyd yr ysgol yn y dull hwn am tua phum mlynedd. Yn nechre 1855, adeiladwyd ysgoldy lle saif Bron einion yn awr, digon eang i gynnal gryn gant o blant. Ni chafwyd cynorthwy y llywodraeth, am nad oedd yr ysgol wedi ei hadeiladu yn unol â chynlluniau yr awdurdodau.

Dyddiau Griffith Prichard a nesasent i farw. Tuedd go gref at y dibris a'r cellweirus. Diarddelwyd o'r eglwys ar un amgylchiad. Bu'n aelod ffyddlon yn ol hynny hyd y diwedd yn 1849. Gwr o lais ystwyth a soniarus, ac yn ddawnus ei ymadrodd, ac yn gallu deffro awch disgwylgar yn y gwrandawyr yn ei dymor cyntaf.

Symudodd Robert Owen i Lanrhuddlad Môn oddeutu 1850, wedi bod yma ers 1839. Ar Galanmai 1849 y symudodd efe ei drigias o Is-Horeb i Fryn Horeb, ebe John Williams. Yn ystod yr 11 mlynedd, neu oddeutu hynny, y bu efe yma, yr oedd ei wasanaeth i'r achos o lawer o werth. Yr oedd gwasanaeth ei wraig, Jennet Owen, hefyd, yn werthfawr i'r lle. Bu yma gyfarfod gweddi ganol dydd ar un diwrnod o'r wythnos am rai blynyddoedd gan y merched, a Jennet Owen a arweiniai yn hynny. Gwnaeth Robert Owen waith neilltuol gyda'r plant yma. Elai gyda'r plant drwy hanesion hynotaf yr Hen Destament a'r Newydd yng nghorff y blynyddoedd yn ei ddull deheuig ei hun. Fe deimlai'r plant awydd aniwall am y cyfarfodydd. Ymhlith y tô o blant a godwyd ganddo yr oedd Griffith Davies, ar ol hynny y cyfrifydd o Lundain; John Thomas, a ddaeth yn flaenor yma; a neb amgen na Glasynys, fel yr adweinid ef wedi hynny; a William Williams Glyndyfrdwy. Ni pharhaodd i gynnal y cyfarfodydd hynny ond am rai blynyddoedd. Holai'r plant pan fyddai adref am y Sul. Elai i'r fath gyfeiriad a phum synwyr dyn, ac yn ei ddull ef o drin y pwnc arosai y wers yn anileadwy ar gof pawb o'r bron. Dywed Mr. Gwynedd Roberts fod y rhai ddysgwyd yn blant gan Robert Owen, a oedd yn aros yno yn ei amser ef, yn meddu ar gydnabyddiaeth eithriadol fanwl â hanesiaeth ysgrythyrol. Efe a wnaeth lawer dros ddirwest, gan gynnal cyfarfodydd dirwestol drwy'r ardaloedd cylchynol mor bell a Chlynnog. Elai a chôr ieuainc i'w ganlyn, a gwnelai i un neu gilydd ohonynt draddodi araeth. Perchid ef gan hen ac ieuanc yn y lle. (Cofiant Robert Owen, Apostol y Plant, gan Owen Hughes, 1898.)

Yn 1854 y gwnawd David Williams Tanrallt yn flaenor. Mawrth 29, 1855, bu farw John Williams Fach goch, yn 53 oed. Efe a William Williams oedd y rhai cyntaf a ddewiswyd yn flaenor- iaid gan yr eglwys ei hun. Yr oedd hynny, fel y bernir, yn 1835 neu gynt. Mab i William Edward Cae'mryson oedd ef. Ei dad yn un o sefydlwyr yr ysgol yma, a'i fam yn un o'r merched mwyaf rhinweddol a duwiol. Yr oedd eu plant, yn bump o feibion a dwy o ferched, yn golofnau yn yr eglwys, ac wedi hynny mewn mannau eraill. Y ferch Catherine ydoedd fam William Williams Glyndyfrdwy. Cadwai hi ddyledswydd yn rheolaidd nos a bore. Y ferch arall, Ellen, oedd un o'r cantoresau blaenaf yn yr ardaloedd. Yn 27 oed yr ymunodd John Williams â'r eglwys. Bu ynddo ef ryw duedd at wylltineb, ond cafodd dro amlwg yn 1829. Yr ydoedd yn chwarelwr medrus. Meddai ar gof eithriadol dda, ac yr oedd ganddo ddawn siarad naturiol. Yn wr o ddylanwad ar eraill. Ofnid a pherchid ef yn y chwarel. Yn wr o ffyddlondeb diball yn yr eglwys. Pan ddywedid wrtho ei fod yn rhy wael i fyned i'r capel, bellter o ffordd, atebai yn ol, "Na, fe ddaw yn anhaws eto." Dim yn ormod ganddo i'w wneud er mwyn yr achos. Go lym mewn disgyblaeth. Neilltuol mewn gweddi. Parod fel siaradwr ar amrywiaeth o bynciau, megys cerddoriaeth a dirwest. Yn niwedd ei afiechyd, yr adnod honno yn fynegiad o'i brofiad, "Ti a gedwi mewn tangnefedd heddychol yr hwn sydd a'i feddylfryd arnat ti." (Drysorfa, 1856, t. 27.)

Yng nghofnodion y Cyfarfod Misol ym Meddgelert, Mehefin 13, 1853, fe geir a ganlyn: "Cyfeillion Rhostryfan yn gofyn cennad i helaethu eu capel. Dymunwyd ar y Parch. J. Jones Talsarn a Mr. Meyrick Griffith Brynrodyn fyned yno i gynllunio'r adeilad, ac edrych faint fydd y draul, ac ymdrechu cael gwybod faint wneiff y gynulleidfa gasglu yn yr ardal tuag at yr amcan. Bod rhyddid iddynt ddefnyddio'r £50 mewn llaw at y ddyled newydd, gan adael gweddill yr hen ddyled hyd amser ar ol hyn."

Yn 1855-6 fe adgyweiriwyd y capel. Chwalu un ochr, a chodi talcen newydd, nes bod yr hyd blaenorol yn lled iddo bellach. Codwyd yr ochr bum llath er gwneud y talcen newydd. Yn cynnwys 150 yn ychwaneg. Golwg dipyn yn chwithig oedd arno yn awr, fel mai prin y gallai dieithriaid wneud allan beth ydoedd. Ei fesur oddifewn, 19 llath wrth 12. Un drws mawr ar y wyneb yn lle'r ddau blaenorol.

Daeth John Roberts y pregethwr yma o Lanllechid i gadw ysgol yn 1856. Symudodd i Ddinbych y flwyddyn ddilynol, fel golygydd neu is-olygydd y Faner.

Awst 8, 1856, bu farw Griffith Evans, yn 72 oed. Pan oddeutu 25 oed fe'i hargyhoeddwyd dan bregeth Michael Roberts yn Llanrug ar Deuteronomium xxxiii. 27, "Dy noddfa yw Duw tragwyddol." Credwyd pan welwyd ef yn y seiat mai dod yno i derfysgu a wnaeth. Ymroes i gasglu gwybodaeth. Ymhen tair blynedd yn flaenor ym Moriah, Caernarvon. Bu yn y swydd yno am 25 mlynedd. Pan ddaeth i Hafoty Rhostryfan tuag 1837, galwyd ef i'r swydd yma hefyd. Gwrol a didderbyn wyneb. Sefyll yn gryf dros ddisgyblaeth. Yn ei sylwadau ar Gyfarfod Misol Arfon yn yr oes o'r blaen, geilw Robert Ellis ef yn wr llym, o eiriau miniog, yn fedrusach i archolli nag i wella. Gwr cywir, cydwybodol oedd ef, yn mynnu ei hawliau ei hun, ac yn caniatau eu hawliau i eraill. Daeth gwr i'r seiat unwaith yn rhy fuan ar ol ei ddiarddel. Gorchmynnodd Griffith Evans ef allan gydag awdurdod. Efe a aeth dan ruddfan. Daeth drachefn ymhen ysbaid, a bu'n aelod ffyddlon weddill ei ddyddiau. Ffyddlon gyda'r ysgol ar hyd ei yrfa, mewn tai annedd yn Llanrug ac ar ol hynny. Pan ofynnwyd iddo am ei gyflwr ar ei derfyn, ei ateb oedd, "Os oedd yr oruchwyliaeth yn dda yn y dechre, y mae hi yn dda yn awr.' Ac yna fe ychwanegai, "Y mae hi yn dda hefyd." Mynych y crybwyllai y geiriau am Grist wedi ei wneud i ni gan Dduw yn ddoethineb, yn gyfiawnder, yn sancteiddrwydd ac yn brynedigaeth, a dywedai nad oedd eisieu iddo ef ofyn, "Pa beth da a wnaf." Ei eiriau olaf, "Ac y'm ceir ynddo ef." Ei air mawr ar weddi, "Lle yr amlhaodd pechod y rhagor amlhaodd gras."

Chwefror, 1857, daeth Griffith Jones yma o Feifod, sir Drefaldwyn, fel ysgolfeistr. Rhoddid iddo ef, fel ag i John Roberts o'i flaen, £20 yn y flwyddyn o arian yr eisteddleoedd. Yn y flwyddyn 1861 fe symudodd i Moriah. Y pregethwr o'r enw hwnnw ydoedd ef.

Mai 1857, daeth Griffith Jones Cae haidd, y blaenor, yma. Hydref 14, 1857, y bu farw Ellis Jones Glanrafon, yn 57 oed, wedi gwasanaethu fel blaenor er 1847 (nid 1848 fel yn y Drysorfa). Nai iddo ef ydoedd Elis Wyn o Wyrfai, ac yr oedd dawn a synwyr mewn lliaws o'r teulu. Daeth i fyw i'r ardal hon oddeutu 1830, ac yn ol hynny yr ymunodd â chrefydd, er yn dilyn bywyd gwastad o'r blaen. Bu amryw weithiau wrth ddrws y capel, heb allu casglu nerth i fyned i mewn i'r seiat, hyd nes yr anogwyd ef gan hen chwaer i'w dilyn hi. Yr oedd yn meddu ar lawysgrif dlos, ac wedi cael mwy o ddysg nag arfer. Efe oedd ysgrifennydd olaf Cymdeithas Caredigion Rhostryfan, pan ddirwynwyd hi i fyny yn 1842; ac efe ydoedd ysgrifennydd y Gymdeithas Gynorthwyol a sefydlwyd yn ei lle yn 1843. Garddwr yn ei flynyddoedd cyntaf, chwarelwr wedi hynny, a chwarelwr medrus. Gwnawd ef yn ysgrifennydd yr eglwys ar ei union, debygid, y cyntaf un i gadw'r cyfrifon yn ol trefn reolaidd. Yn aiddgar dros ddirwest a llenor— iaeth. Yn ddarllenwr dyfal mewn gwahanol ganghennau. Ni ragorai mewn dawn siarad. Syml a llawn teimlad mewn gweddi. Darllennai y Beibl beunydd, ac ymhoffai yn y Geiriadur, Gurnall, a'r Dr. Owen ar Berson Crist. Rhy barod i gymeryd tramgwydd ydoedd. Tarawyd ef yn y gloddfa gan ddarn o graig fel y bu farw.

Lle Ellis wr dewisol—mae'n wagle
Mewn eglwys ac ysgol;
Ond mae 'i le yn y Ne' 'n ol,
Lle gwna 'i nyth am byth bythol.—Eben Fardd.

Bu'n addurn beunyddiol—i'w enw
Fel blaenor defnyddiol.
Llariaidd iawn a llwyr ddenol,
Dewr yn ei waith, diwyro'n ol.—Elis Wyn o Wyrfai.

Awst, 1857, y daeth y Rhos yn daith gyda Charmel. Ebrill 1859 y gwnawd W. Williams yn flaenor, yn ol hynny y Parch. W. Williams Glyndyfrdwy.

Ofnid braidd yr elai cawod 1859 heibio heb i Rostryfan dderbyn cymaint a chwrr ohoni. Mynych y rhoid allan y pennill, O tyred, Arglwydd mawr, Dyhidla o'r Nef i lawr Gawodydd pur." Cynhaliwyd cyfarfod gweddi y nos Sadwrn olaf yn Awst mewn hen furddyn gan chwech o wŷr ieuainc, a theimlwyd dylanwadau grymus. Yn y cyfarfod gweddi y Sul fe dorrodd yn orfoledd. Ar ddydd diolchgarwch 1860, ebe John Williams, y profwyd peth hynod. Rhoddi allan yr oeddys y pennill hwnnw, a briodolwyd gan rai i Morgan Llwyd,

'Dyw hi eto ond dechre gwawrio,
Cwyd yr haul yn uwch i'r lan.
Teyrnas Satan aiff yn chwilfriw,
Iesu'n Frenin yn mhob man.

Dyblid a threblid gan enyniad y tân, nes y torrwyd allan yn waedd lesmeiriol. Cyffelybid y dylanwad gan rai i "swn o'r nef."

Gellir yma gymharu rhif yr eglwys ar wahanol gyfnodau. Yn 1821—2, 38; yn 1841, 131; yn 1854, 162; yn 1858, 182; yn 1860, 263; yn 1862, 252; yn 1865, 250.

Yn 1860 dewiswyd yn flaenoriaid: W. Hughes Siop, Sampson Roberts Bodaden, William E. Thomas Blaenywaen, Owen Griffith ysgolfeistr.

Tachwedd, 1860, y codwyd William Williams i bregethu. Awst 1860 y dechreuwyd yr ysgol yn Rhosgadfan. Cychwynnwyd ysgol a chyfarfod gweddi yng Nghaegors oddeutu ugain. mlynedd yn gynt, ond ni pharhaodd hynny. Yn 1861 yr adeil- adwyd yr ysgoldy yno. Yn union ar ol hynny torrwyd y cysylltiad â Charmel fel taith, a threfnwyd oedfa am ddau yn Rhosgadfan.

Mai 3, 1861, y bu farw John Williams Ty'nrhosgadfan, yn 59 oed, wedi bod yn flaenor am 14 mlynedd. Gwr tawel, gwylaidd, yn cymeryd gryn ddyddordeb yn y plant.

Yn 1863 fe ymadawodd Owen Griffith i'r Coleg Normalaidd ym Mangor, wedi gwasanaethu fel blaenor yn y lle am yn agos i ddwy flynedd.

Yn 1865 fe dderbyniodd William Williams alwad i Corwen.

Yn 1866 yr adeiladwyd y capel newydd, sef y trydydd yn y lle. Y cynllunydd a'r adeiladydd, John Thomas Penyceunant. Yr ymgymeriad, £1600. Ychwanegwyd £50 ar gyfrif cyfnewidiadau. Defnyddiau'r pulpud ydoedd hwylbren llong ddrylliedig, fel y dywedid. Y mesur tufewn i'r muriau, yn ol Mr. Jones Hughes, 21 llath wrth 18 llath. Dywedir ei fod y seithfed o ran maint yn Arfon. Dechreuwyd adeiladu Ebrill 1. Cynhaliwyd y cyfarfod agoriadol braidd yn ddiweddar, sef yn Hydref 1867, pryd y gwasan- aethwyd gan Owen Thomas, Hugh Jones, David Jones Treborth, Robert Ellis Ysgoldy, David Morris a Thomas Williams Penygroes, Rhyd-ddu gynt.

Ceir byrr-gofiant i Thomas Williams Ty'nygadfan yn y Drysorfa (1868, t. 35). Bu farw Rhagfyr 4, 1866, yn 74 oed. Un o'r ychydig cyntaf ynglyn â'r achos ar ei sefydliad, fe ddywedir. Y degfed o'r brodyr ydyw ar restr Mr. John Williams. Efe, p'run bynnag, oedd y diweddaf o'r addfed ffrwyth cyntaf. Ystyrrid ef yn un o'r athrawon pennaf yn yr ysgol, ac yn hynod yn ei fanylrwydd gyda llythreniad a phwyslais. Anfynych y gwelid ef yn y tŷ heb ei lyfr. "Mewn blys mynd trwy ac ofn " oedd profiad ei ddyddiau diweddaf.

Ionawr 20, 1869, ymsefydlodd y Parch. T. Gwynedd Roberts yn yr ardal fel bugail yr eglwys, y cyntaf i'w alw yn ffurfiol i'r gwaith. Ymgymerodd â'r swydd o ysgolfeistr yr un pryd. Pan adeiladwyd ysgoldy newydd yn niwedd 1870, efe a ymroes yn llwyr i'r fugeiliaeth.

Yn 1870 y dechreuodd W. Elias Williams bregethu.

Tachwedd 26, 1872, y bu farw Sampson Roberts Bodaden, yn 76 oed, yn flaenor er 1860. Un o deulu y Castell, Llanddeiniolen, ydoedd ef, un o'r amrywiol frodyr hynny a oedd i gyd yn flaenoriaid eglwysig. Nid oedd efe yn aelod pan ddaeth yma oddeutu 1837, er y cymerai ddyddordeb yn yr achos y pryd hwnnw. Oddeutu 1850 y dywedir ddarfod iddo ddod i'r eglwys; a dywedir mai ffrwyth ymddiddan personol rhwng Richard Humphreys Dyffryn âg ef ydoedd hynny. Gwr o ddeall ymarferol cryf. Nid oedd efe yn meddu ar ddawn gyhoeddus, ond fe geid ei gyfarchiadau yn fyrr, synwyrol a phwrpasol, a'i weddiau cyhoeddus yn syml hefyd, fel y byddai yn dda gan lawer ei glywed. Wrth gynghori yn yr eglwys, arferai ddweyd mai o bob peth sâl, crefydd sâl oedd y salaf. Gwr siriol, difyr ei gymdeithas, a diragrith. Cymhellai y gweinidogion, os yn proffesu, i arwain gyda'r ddyledswydd deuluaidd, ac yn y dull hwnnw, llwyddodd i gychwyn aml un o bryd i bryd gyda hynny o orchwyl. Byddai'n awyddus am weled dyled y capel yn cael ei thalu ymaith. Er yn un o drethdalwyr trymaf y plwyf, gweithiodd yn egniol tuagat sefydlu Bwrdd Ysgol yn 1871. Gwelid ynddo ireidd-dra ieuenctid a rhyddfrydigrwydd ysbryd. Ei gyfaill Dafydd Morris Bwlan a draddododd ei bregeth goffadwriaethol, oddiar Colosiaid i. 12, "Gan ddiolch i'r Tad, yr hwn a'n gwnaeth ni'n gymwys i gael rhan o etifeddiaeth y saint yn y goleuni." (Goleuad, Rhagfyr 7, 1872, t. 12.)

Yn 1872 y gwnawd Evan Evans Hafoty yn flaenor.

Tachwedd 1873 fe symudodd David Williams Tanrallt i Faes y Porth, Môn. Yr ydoedd yn flaenor yma er 1854. Gwnawd ef yn flaenor yn y Dwyran ar ei fynediad yno. Gwr da, yn ymdeimlo â phwys y gwaith ac wedi gwneuthur y defnydd goreu o'i dalent.

Yn 1874 dewiswyd yn flaenoriaid: Robert Jones Brynygro, brawd i Glasynys; Richard Thomas Bryn Llwyd a Morris Parry Frongoch.

Mawrth 21, 1875, bu farw Evan Evans Hafoty yn 59 oed, wedi gwasanaethu fel blaenor am dair blynedd. Mab Griffith Evans yr hen flaenor. Ystyrrid ef yn ysgolaig go dda. Gwr tawel, parotach i wrando na siarad, o farn anibynnol, wedi goddef peth oherwydd ei olygiadau yn 1868, ac yn meddu ar gryn wybodaeth. Trysorydd yr eglwys yn ystod tymor ei swyddogaeth.

Gelwid John Owen Brynbugeiliaid yn John Owen y Dafarn gan lawer, am ddarfod iddo dreulio'r rhan fwyaf o'i fywyd priodasol yn y Dafarn dyweirch, sef amaethdy ac nid tafarn, er, debygir, wedi bod yn dafarn unwaith yn yr hen amser. Yr oedd John Owen yn henwr, yn 88 oed ar ei ymadawiad â'r fuchedd hon, ac wedi bod yn briod am dros 60 mlynedd, gan adael ei wraig ar ei ol. Bu yn athraw yn ddifwlch yn yr ysgol Sul am 72 mlynedd. Yr oedd wedi dechre fel athraw yn hen ysgol y Buarthau, Talygarnedd, ger Llanllyfni, ac yr oedd ei dad, Owen Morris, yn flaenor yno. Rhoes y tad hwnnw well addysg na chyffredin y pryd hwnnw i'w blant. Pan ddaeth John Owen i Frynbugeiliaid, bu'n foddion gydag eraill i godi'r ysgol Sul gyntaf yn yr ardal honno. Bu'n dra ffyddlon i'r holl foddion hyd nes y pallodd ei nerth o dair i bedair blynedd cyn y diwedd. Deuai feithder ffordd dros fynydd-dir, ar hyd ffyrdd caregog, ac ar nosweithiau tywyll, yn brydlon i'r moddion bron bob amser. Gwrandawr astud, siriol, a chwithdod ar ei ol gan bregethwyr. Wedi cychwyn ysgoldy Rhosgadfan, elai yno i'r ysgol ac am un bregeth. Yr ydoedd efe erbyn hynny wedi symud o'r Dafarn. Yn ei gystudd diweddaf cwynai am foddion gras, rhag ofn sychu ohono i fyny, chwedl yntau. Dywedai, os credodd efe yn rhywun, ddarfod iddo gredu yn Iesu Grist; os carodd efe rhywun, ddarfod iddo garu Iesu Grist. Dywedai y byddai'n cael ffordd ffres o bobman i'r Cyfamod, ac os oedd ganddo ef rywbeth o gwbl yn eiddo iddo, mai ynghanol y Cyfamod yr oedd hwnnw. Y noswaith o flaen y cynhebrwng, pregethodd Mr. Gwynedd Roberts oddiar y geiriau, "Da, was da a ffyddlon." Un o heddychol ffyddloniaid Israel. (Goleuad, Mai 8, 1875, t. 15.)

Edrydd Mr. Gwynedd Roberts yr hanesyn dyddorol yma am John Owen: "Ymysg eraill y llwyddodd John Owen i'w cael i'r ysgol Sul a moddion gras, yr oedd William Edward, bachgen i gardotes a oedd yn byw yng Nghaerodyn bach rywbryd o 1848 ymlaen. Pan ganfu John Owen ef gyntaf, prin yr oedd ganddo wisg am dano o gwbl, a chyda'r anhawster mwyaf y gallwyd myned hyd ato, gan mor ddioruchwyliaeth ydoedd. Dilladwyd ef, ac wedi dechre dilyn yr ysgol dysgodd lawer, a hynny yn nodedig o gyflym. Oherwydd caredigrwydd amaethwr a oedd yn flaenor gyda'r Anibynwyr, ond mewn rhan oherwydd symud ohono o Gaerodyn bach, aeth William drosodd at yr enwad hwnnw. Yn y man dechreuodd bregethu yn Gosen, ger y Groeslon, os nad ŷm yn camgymeryd. Aeth dan addysg Eben Fardd. Yr oedd yn yr ysgol yr un pryd a Dewi Arfon. Wedi hynny aeth i'r Bala. Yr oedd yno rywbryd yn ystod 1864-5. Yn anffodus rhoes wisgoedd llaith am dano, cymerodd anwyd ddibenodd mewn angeu, cyn bod ohono yn y Bala ond prin ddeufis. Yr oedd llawer o hynodrwydd ynddo. Cae gymhariaethau tarawiadol oddiwrth gardota, am yr hyn y gwyddai yn dda. Byrr fu ei dymor, ond rhoes argoelion clir o gymhwysterau i bregethu, ac argraffiadau dyfnion ar ambell i gynulleidfa. Un o blant y Rhos oedd William Edward, ddychwelwyd drwy offerynoliaeth John Owen y Dafarn."

Yn 1876 y codwyd capel Rhosgadfan. Yr un pryd y codwyd tŷ gweinidog, ac ystafell fechan i'r capel, yn Rhostryfan. Rhanwyd yr holl draul rhwng y ddau le, yn ol cyfartaledd rhif yr aelodau. Rhan Rhostryfan yn £1100. Sefydlwyd eglwys yn Rhosgadfan yn 1877, dan ofal Mr. Gwynedd Roberts. Parhaodd y ddau le yn daith. Aeth Robert Jones Brynygro gyda'r gyfran o'r ddeadell a aeth i Rosgadfan.

Ymadawodd Mr. W. Elias Williams i'r Pentir, fel bugail, yn 1877. Rhagfyr 21, 1877, y bu farw William Hughes y Siop, yn 63 oed, ac yn flaenor er 1860. Ganwyd ef flwyddyn brwydr Waterloo, ys dywedai yntau. Bu am bedwar mis yn yr ysgol gydag Eben Fardd. Chwarelwr dan gamp. Efe roes y wers gyntaf mewn cerddoriaeth i Tanymarian, pan ydoedd yn gweithio yn Ffestiniog, a pharhaodd yn gyfaill iddo weddill ei oes. Ymunodd â'r gymdeithas ddirwestol ar ei chychwyniad yma. Dilynodd Ellis Jones fel ysgrifennydd y Gymdeithas Gynorthwyol. Arweinydd y côr cyn i John Thomas ymgymeryd â'r arweiniaeth. Efrydodd reolau barddoniaeth. Un gaeaf traddododd gyfres o ddarlithiau ar gerddoriaeth i Gymdeithas y Bobl Ieuainc, aeaf arall traddododd gyfres ar ramadeg Cymraeg, a gaeaf arall ar seryddiaeth. Meddai ar ddawn ddynwaredol, ac ymollyngai braidd yn ormodol gyda hi. Yr oedd yn feddiannol ar synwyr da, barn go addfed, a phender- fyniad didroi yn ol. Darllennai ei Feibl yn fynych yng nghaban pwyso chwarel Cors y bryniau. Un diwrnod teimlai ei fod yn cael sicrwydd i'w feddwl na ddemnid mono, yn y llewyrch a gaffai ar ryw adnod. Adroddai ei brofiad yn y seiat gydag effaith anarferol. Mab iddo ef yw'r Parch. R. W. Hughes Bangor.

Yn 1877 y dechreuodd John Thomas bregethu, a'r flwyddyn ddilynol R. W. Hughes. Ymhen rhai blynyddoedd aeth John Thomas allan fel cenhadwr i Khassia, ond o ddiffyg iechyd, ni fu ei dymor yno ond byrr. Yna aeth yn weinidog i'r Aberffraw, Môn. Yn 1877 y gwnawd John Elias Williams Bodawen yn flaenor, a'r flwyddyn ddilynol Griffith Williams Terfyn. Yn 1879 symudodd J. Elias Williams i Nerpwl.

Yn 1879 dewiswyd yn flaenoriaid: William Thomas Ty'nygadfan, Robert O. Roberts Llys Elen, J. Thomas Penyceunant. R. O. Roberts yn ysgrifennydd er 1880.

Owen Jones (Alon) ydoedd un y disgwyliai yr ardal rhywbeth oddiwrtho. Ymroes i ddarllen pan tua phymtheg oed. Medrai gynghaneddu yn o rydd, fe ddywedir, yn y pedwar mesur arhugain. Nid oedd yn hyddysg yn y Saesneg pan aeth i'r ysgol yn Dublin yn ugain oed. Mewn chwe mis fe ddysgodd yr iaith fel ag i fedru gwneud defnydd o'r awduron goreu. O hynny ymlaen gweithiodd gyda dirwest a chymdeithas Blodeu'r Oes. Ar ol blwyddyn yn y gwaith aeth i'r ysgol i Holt. Torrodd i lawr yn ei iechyd, a dysgwyd ef gan ei Dad nefol drwy gystudd, ys dywedai yntau. Wedi meddwl am bregethu yr ydoedd efe, a myned yn genhadwr. Mehefin 18, 1879, yn 27 oed, bu farw. (Goleuad, Gorffennaf 5, 1879, t. 14).

Yn 1880 y dechreuodd Richard Elias Evans Ty'nyweirglodd â phregethu. Gwr ieuanc gwylaidd, o gymeriad prydferth, a'i awydd i bregethu yn gryf Bu farw Mawrth 10, 1887, yn 33 oed.

Yn 1880 yr aeth Owen Parry Owen i Glynnog i'r ysgol, wedi dechre pregethu oddeutu'r amser hwnnw. Wedi gorffen yn y Bala fe ymsefydlodd yn y Bermo, ac ymgymerodd â gofal yr eglwys. Seisnig yno. Brawd ydoedd ef i Robert Owen (Gloddaeth), ag y mae cyfrol goffa iddo yn Nghyfres y Fil, dan olygiaeth Mr. O. M. Edwards. Perchen dawn ac ysbryd gweithio.

Chwefror 12, 1884, bu farw W. E. Thomas Blaen y waen, yn 64 oed, ac yn flaenor er 1860. Bu yn gwasanaethu fel gyrrwr caethion yn yr America yn o ieuanc. Wrth wrando ar y caethion hynny, heb yn wybod iddynt hwy, yn siarad am bethau crefydd, ac wrth eu holi yn ol hynny, yr argyhoeddwyd ef. Colynwyd ef yn ei deimlad wrth ganfod y bobl hynny, gyda'u hanfanteision hwy, yn gwybod gymaint mwy am y Beibl a chrefydd ysbrydol na wyddai ef a oedd wedi cael cymaint mantais mewn addysg grefyddol o'i febyd. Trwythwyd ef gan wres y diwygiad yn yr America, cyn dychwelyd ohono at ei rieni, a oedd erbyn hynny wedi symud o Gaermoel, ger Llanwnda, ac yn byw yn Blaen y waen. Hen lanc golygus, o osodiad boneddigaidd ydoedd efe. Eisteddai yn y sêt fawr yn ymyl Sampson Roberts, dau wr boneddig o ran ymddanghosiad ac ysbryd. Er i'r caethion ei addysgu, ni ymroes efe drosto'i hun mewn ymgais am wybodaeth ddiwinyddol yn ol hynny. Tebyg ei fod o anian go hamddenol, er yr arferai gwyno mai rhai dioglyd oedd y caethion, prun ai crefyddol ynte anghrefyddol fyddent. Er hynny yr oedd efe yn meddu ar naws grefyddol. Galwyd ef yn flaenor yn un peth er mwyn cael un i ofalu am fechgyn y diwygiad o'r Rhos, yng nghloddfa Dinorwig, lle y gweithiai cryn nifer o'r Rhos ar un adeg, a lle cynelid cyfarfodydd gweddi ar ol y diwygiad. Yr oedd ei ddawn ef ei hun mewn gweddi yn nodedig, a pharhaodd tinc y diwygiad ynddo i'r diwedd. Gelwir ef amlaf yn William Evans, ond yn llawn, William Evans Thomas.

Yn 1886 ymadawodd R. W. Hughes am Bontrobert, sir Drefaldwyn.

Yn Hydref, 1888, y daeth Mr. William Jones yma o Glynnog, gan ymgartrefu ym Modaden. Yr oedd efe yn flaenor yno er 1868. Ymadawodd yn 1899 i Glanrhyd, ar sefydliad yr eglwys yno.

Ionawr 20, 1889, y bu farw Griffith Jones Tyddyn heilyn, Caehaidd, yn 79 oed. Un o frodorion Aberdaron. Daeth oddiyno yma pan yn 47 oed. Go wyllt ac anystyriol ym more ei oes. Unwaith o leiaf yr aeth i seler tafarn yn y cyfnod hwnnw, gan dorri twll â wimbled mewn baril o gwrw, a sugno'r cwrw drwy welltyn allan o'r twll. Dyma fel y dywed Mr. Gwynedd Roberts am dano: Adeg ei argyhoeddiad bu dan Sinai am wythnosau, a'r ystorm yn ofnadwy. Yr adeg honno gwrandawodd bregethau gan William Jones Rhyd-ddu, John Jones Talsarn a Chadwaladr Owen. Pan oedd William Jones drosodd o'r America, ac yng Nghyfarfod Misol Llanllechid, yn derbyn yno groesawiad Arfon, ymysg y rhai gododd i lefaru yr oedd Griffith Jones, yr unig dro y clywais i ef yn dweyd gair mewn Cyfarfod Misol. 'Pwy bynnag o honochi sy'n falch o weld Mr. Jones heddyw,' meddai, 'does neb ohonochi yn fwy diolchgar na mi. Y fo ydi tad y mywyd newydd i.' Ac yna aeth dros ei hanes yn gwrando ar William Jones yng nghapel Uwchymynydd, yr effaith roes y bregeth ar ei gydwybod, a'r hyn ddilynodd. Troes William Jones ei lygaid tuag ato gyda gloewder. Tynnodd sylw astud pawb yn y lle. Daeth deigryn dros erchwyn llygad ambell aelod o'r Cyfarfod Misol, na welswn i argoel deigryn yno erioed o'r blaen. Munyd effeithiol iawn oedd hwnnw. Oedfa i Gadwaladr Owen, pa fodd bynnag, ddanghosodd i Griffith Jones y ffordd i'r hafan, ac i fwynhau tangnefedd gras ym mlâs maddeuant." Yr ydoedd yn flaenor erbyn bod yn 29 oed. Ystôr o wybodaeth yn ei gof am Fethodistiaeth Lleyn. Pan gymerai gyhoeddiad gan bregethwr, dodai lythrennau ei enw ef ar ddull argraff ar ei lyfr, am nad allai ysgrifennu yn amgenach, a byddai weithiau ymhen rhyw encyd o amser mewn gryn benbleth ynghylch pwy a olygid wrth y llythrennau hynny. Meddai ddawn siarad naturiol a llithrig, a byddai yn gweu ei faterion ynghyd mor esmwyth a gwennol gwehydd. Iaith werinol ydoedd yr eiddo ef. Dylifai ymadroddion ysgrythyrol oddiwrtho yn ddibaid, ac yn glo hefyd ar bob pen. Cyn tymor y fugeiliaeth elai o amgylch y seiat at yr aelodau. Gofynnai i hen ac ieuainc, "A fyddwchi yn darllen y Beibl?" "A fyddwchi yn gweddio?" "A fyddwchi yn gwneud ymdrech i ddod i foddion gras?" Pwysai hefyd. ar fyfyrio yn y gair. Dywedodd yn y seiat unwaith am adnod fuasai'n dygyfor yn ei feddwl pan gyda'r gert ar ei ffordd adref o Gaernarvon, "Mi gês i gystal nefoedd ar ben y drol y diwrnod. hwnnw ag y dymunwn i gael byth." Difwlch gyda'r ddyledswydd deuluaidd ydoedd efe.

Gorffennaf 1892 y bu farw William Thomas yn 68 oed, ac yn flaenor er 1879. Yn 1860 y daeth efe at grefydd, wedi esgeuluso ers blynyddoedd. Ynglyn â chaniadaeth y rhagorodd efe fwyaf yn ei wasanaeth i'r eglwys, heb fod yn gantor ei hun. Hen lanc gofalus am ei ymddanghosiad, ac yn ymddangos mor dwt a phin mewn pincws. Derbyniodd y Traethodydd o'r cychwyn, ac yr oedd yn ei ddarllen yn gyson. Ymlyngar wrth y Cyfundeb. Pob gair a ddywedai Ieuan Gwyllt yn ddeddf iddo. Y noswaith y bu farw, holai Mr. Gwynedd Roberts yn floesg, "Glywsochi oddiwrth y Doctor a ydi o yn dod ?" ar ol yr ymohebu ar yr awr olaf am bregethwr i Gyfarfod Rhosgadfan dranoeth.

Yn 1893 dewiswyd William David Williams Tanrallt yn flaenor.

Ionawr 1, 1894, rhoes y Parch. T. Gwynedd Roberts ei ofalaeth i fyny, a symudodd i Gaernarvon, gan ymaelodi ym Moriah, wedi bugeilio'r eglwys am gyfnod o chwarter canrif. Cyflwynwyd iddo dysteb o dros £100 ar yr amgylchiad. Rhif yr eglwys yn 1868, 264. Y rhif yn 1876, cyn sefydlu Rhosgadfan, 316. Y rhif yn 1877, yn ol hynny, 264; rhif Rhosgadfan, 78. Rhif Rhostryfan yn 1893, 264; rhif Rhosgadfan, 103.

Rhagfyr 15, 1896, bu farw John Thomas Penyceunant, yn 70 oed, ac yn flaenor er 1879. Elfen gerddorol ynddo er yn blentyn. Un o ddisgyblion Robert Owen. Efe a Griffith Davies, y cyfrifydd ar ol hynny, oedd y ddau blaenaf ymhlith y plant yng nghyfarfodydd Robert Owen, ebe William Williams Glyndyfrdwy yng Nghofiant Robert Owen. Ymroes i gerddoriaeth, i lenyddiaeth, i achos. addysg, ac i achos dirwest. Yr ydoedd, ebe Mr. Gwynedd Roberts, yn "ysbryd, llygad a llaw" i bwyllgor addysg a phwyllgor y cylchwyl llenyddol, cystal a phwyllgorau eraill. Hyd 1870, eglwys Horeb a ofalai yn llwyr am addysg gyffredin yr holl fro. Bu'n athraw am 50 mlynedd, yn arweinydd canu am 40 mlynedd, yn arweinydd y côr am 30 mlynedd. Tyb rhai ydoedd y rhagorai fwyaf fel athraw. Ystyrrid ef yn un o'r athrawon goreu o fewn cylch y cyfarfod ysgolion. Yn fedrus fel dechreuwr canu, ac yn ymroddgar i ganiadaeth. Ebe Mr. Gwynedd Roberts am dano: "Prin y ceid neb ddeallai bennill yn gynt, o ran ei ysbryd a'i feddwl, na neb ddetholai yn gynt y dôn fwyaf cyfaddas i bennill. Ni pharai glywed ei lais yn yr uchelder, ac nid amcanai ddangos athrylith drwy ysgogiadau, ac eto bu yn un o'r arweinyddion canu mwyaf llwyddiannus yn y wlad." Rhagorodd yn fwy, feallai, yn y cylchoedd nodwyd nag fel blaenor yn neilltuol.

Yn 1896 rhoddwyd galwad i'r Parch. William Williams, a ddaeth yma o Ddinas Mawddwy.

Chwefror 11, 1897, y bu farw Griffith Williams y Terfyn, yn 70 oed, ac yn flaenor er 1877. Ei fam Elin Griffith yn nodedig am ei chrefyddolder, a'i phrofiadau uchel, hwyliog. Torrai hi allan mewn gorfoledd yn fynych cyn amser diwygiad 1859, ac adroddai ei phrofiad gyda theimlad, gydag acen argyhoeddiad, a chydag oslef nefolaidd. Yn ei hieuenctid buasai yn forwyn gyda Sion Griffith Brynrodyn, ac yr oedd ol hen aelwyd Sion arni o hyd. Tyfodd ei mab, Griffith Williams, i fyny yn grefyddol o'i febyd. Yn ol syniad Mr. John Williams am dano, meddai ar enaid morwynol, ac ymddanghosai fel heb fod yn agored i demtasiynau dynion yn gyffredin. Heb ddawn gyhoeddus, yr oedd yn meddu ar wybodaeth ysgrythyrol a diwinyddol. Cyson yn y moddion, a ffyddlon fel athraw.

Rhieni cyfiawn, gadd iawn gychwyniad;
A'i oes hyd angeu mewn ymostyngiad
Yn loew cadwodd i'w anwyl Geidwad.
Ol hwn yn ei ddylanwad-mewn purdeb
Yn eglwys Horeb sy'n hyglyw siarad.

Yn 1898 dewiswyd yn flaenoriaid, Richard Jones Hughes ac Owen Morgan Jones.

Yn yr hen seiadau, ebe John Williams, deuai'r aelodau a fwriadent draethu profiad ymlaen at y fainc o flaen y blaenoriaid, a chwiorydd yn bennaf a welid yno. Prin y cawsai'r cwbl amser i hynny. Byddai'r hen chwiorydd hynny yn myfyrio ymlaen llaw â'u golwg ar y seiat. Fe gyfeiriwyd o'r blaen at gyfarfod gweddi'r merched yn amser Robert Owen, a dywedwyd mai Jennet Owen a arweiniai. Elin Roberts y siop ac Elin Griffith y Terfyn yw y rhai a nodir gan John Williams fel yn blaenori y pryd hwnnw, a Lowri Thomas Is-Horeb ynglyn â chyfarfodydd gweddi'r merched yn 1860-1. Edrydd weddi chwaer ieuanc, a gofir ganddo, o'r tymor diweddaf hwnnw: "Arglwydd, os rhaid i mi gario corff afiach, caniata i mi gael enaid iach mewn corff afiach." Bu hi farw yn 34 oed.

Dyma restr yr ysgolfeistriaid, yn ol John Williams: Ellis Thomas (1840-5). W. Prichard o Fodwrdda, Lleyn. Benjamin Rogers (1850). John Roberts (1856). Griffith Jones o Feifod (1857). Owen Griffith o sir Fon (1860). Thomas Jones o'r Celyn uchaf, Llanddeiniolen. John Hughes (Idanfryn). John J. Roberts. T. Gwynedd Roberts (1869). Sefydlwyd yr ysgol Frytanaidd yn niwedd 1870.

Daniel Hughes, y dechreuwr canu cyntaf oedd frodor o'r ardal. Nis gallai ef ddarllen y dôn symlaf. Clywodd John Williams y gallai ganu oddeutu 200 o hên alawon a mesurau Cymreig. Anaml y rhoddid pennill allan na byddai ganddo ef fesur arno. Safai ar risiau'r pulpud i arwain y gân. Ei lais wedi llwyr ddarfod pan roes efe ei swydd i fyny i John Thomas Pen y ceunant. Bu farw yn 75 oed, rywbryd cyn diwygiad 1859, neu'n fuan wedyn. Yr oedd John Thomas yn ddarllenwr cerddoriaeth diail yn y cylch yma, ac yn meddu llais melodaidd. Derbyniai ef lawer o gynorthwy yn ei flynyddoedd olaf gan Owen Morgan Jones, yr hwn hefyd a'i dilynodd yn y swydd.

Feallai mai ar ol diwygiad 1830-2 y ffurfiwyd côr dan arweiniad Hugh Williams Cae'mryson. Parhaodd ef gyda'r arweiniad hyd nes symud ohono i'r Porthmadoc. Yn arweinydd deheuig. Aeth sôn am ganu Rhostryfanr dwy'r ardaloedd. Dywedai John Jones Talsarn, ebe Mr. Jones Hughes, mai canu cynulleidfaol Rhostryfan a'r Capel Coch oedd y goreu yn Arfon yn y cyfnod hwnnw. Olynydd H. Williams oedd William Jones Cefnpaderau, yr hwn a lwyr ym- roddodd i'r gwaith am ysbaid, nes symud ohono i Ffestiniog. Ei wraig yn un o gantoresau goreu'r cylch. William Hughes y siop yr arweinydd nesaf. Cymhwysterau uchel fel cerddor, ond nid yn llwyddiant fel arweinydd côr. Dilynwyd ef gan John Thomas, Owen Morgan Jones, Edward H. Edwards, John J. Griffith, a Robert R. Thomas. Cynelid cyfarfod wythnosol y côr yn gyson bob nos Sadwrn o'r dechre am gyfnod maith iawn. Gofalai aelodau ieuainc y côr, er myned ohonynt i Gaernarvon ar y Sadwrn, am fyned yn brydlon erbyn saith i'r cyfarfod. Byddai un neu ddau o'r blaenoriaid ym mhob cyfarfod. Cysegrid pob cyfarfod â gair Duw a gweddi ar ei ddechre, a gweddi ar ei derfyn. Pan ddigwyddai i aelod o'r côr ballu mewn buchedd, ac anfynych y digwyddai, gweinyddid disgyblaeth ar y cyfryw gan y côr, yn anibynnol ar y ddisgyblaeth eglwysig.

Dyma adroddiad ymwelwyr Canmlwyddiant yr Ysgol (1885): "Mae yma ystafell i'r plant, ond nid yw yn cael ei defnyddio. Fodd bynnag, denid ein sylw a'n hedmygedd gan rai o'r dosbarthiadau ieuengaf a chanol, yn y rhai y ceid ymdrech a medr amlwg, a hynny o du yr athrawon a'r ysgolheigion. Amlygwyd bywiogrwydd a dyddordeb yng ngwaith yr ysgol yn Horeb. Yr hyn a awgrymem fel gwelliant ydyw, bod lleoliad y dosbarthiadau yn cael ychydig sylw. Yr oedd dosbarthiadau y meibion yn anghyfleus o agos at eu gilydd, tra yr oedd yr ochr arall i'r capel ymhell o fod felly."

Rhif yr eglwys yn niwedd 1900, 345.

CARMEL.[11]

CYN cychwyn ysgol Sul yma, elai amryw i'r ysgolion ym Mryn- rodyn, yn Rhostryfan, ac yn Nhalsarn. Nid oedd corff y boblogaeth y pryd hwnnw yn myned i unrhyw le o addoliad; ac yr oedd. gwahanol fabol-gampau mewn bri yn y gymdogaeth, ac yn cael ymroi iddynt yn enwedig ar y Suliau. Ymgynghorodd pedwar of wyr â'u gilydd, nid amgen, Robert Jones Bryn llety, Eleazer Owen Tŷ hwnt-i'r-bwlch, Thomas Roberts teiliwr, John Griffith Ty'ny- weirglodd, ynghylch y priodoldeb o gael ysgol i'r lle. Awd â'r peth i gyfarfod athrawon ym Mrynrodyn. Penderfynwyd cychwyn ysgol ar y mynydd, os ceid lle i'w chynnal. Ni buwyd yn hir heb le, sef ydoedd hwnnw, ysgubor y Caehaidd mawr. Yr oedd hynny oddeutu 1812.

Rhaid mai ychydig oedd nifer y teuluoedd a arferai fyned i ysgolion mewn lleoedd eraill, gan fod yn angenrheidiol myned allan i chwilio am ddeiliaid i'r ysgol newydd. A thrwy fod yn daer a di-ildio fe lwyddwyd. Nid ychydig drafferth chwaith a gafwyd i gadw'r plant yn yr ysgol, ar ol unwaith eu hennill, gan y duedd oedd ynddynt i ymollwng drachefn gyda'u chwareuon. Rhaid oedd defnyddio'r wialen er mwyn cael trefn. Elid yn yr haf ar boncan gerllaw y tŷ. Fe ddywedir yn y Canmlwyddiant mai rhyw saith oedd y nifer ar y cychwyn, os nad hynny oedd y nifer ar adeg cychwyn yn rhywle arall, ar symudiad yr ysgol o'r naill le i'r llall. Bu gradd o lwyddiant ar yr ysgol yma am dymor, ond fe ddilynwyd hynny drachefn gan wywdra, a rhoddwyd hi i fyny.

Ni wyddis pa hyd y buwyd heb ysgol. Eithr fe ail-gychwynnwyd yn y Brynllety. Buwyd yn llwyddiannus yma gyda dysgu darllen. Cynghorai a rhybuddiai Robert Jones ar ddiwedd yr ysgol. I lawr yr aeth yr ysgol hon drachefn. Yr oedd Rowland. Owen yn gydnabyddus â'r hanes, gan ei fod wedi ei drosglwyddo i lawr iddo gan ei dad, a'r naill a'r llall ohonynt wedi bod yn cadw cofnodion o'r hanes; a thystiolaethir ganddo ef ddarfod i amryw a droes allan yn ddynion da ddilyn yr ysgol yn Caehaidd ac yma.

Bu yma gyfnod drachefn heb ysgol. Cychwynnwyd hi yn nesaf yn nhŷ Robert Thomas Williams Bryntirion. Yn y symudiad hwn fe aeth yr ysgol i gwrr arall o'r ardal. Bu gradd o lwyddiant yma eto; ond ni bu parhad yma chwaith.

Aeth ysbaid go faith heibio, yn ol hynny, heb godi'r ysgol drachefn. Dychwelodd yr ychydig ffyddloniaid i'r hen ysgolion. Elai tri ohonynt i Frynrodyn, sef Robert Jones, Eleazer Owen a Thomas Roberts. Ar ddychwelyd adref yr oeddynt ar un Sul, pan, a hwythau ar Ffridd braich y trigwr (a gofiwyd y lle oherwydd cyd-darawiad yr enw â'u nifer hwy ?), y gofynnodd Eleazer Owen i Robert Jones, a oeddynt yn gwneuthur yn iawn fyned i Frynrodyn i ddysgu plant dieithriaid, a gadael eu plant eu hunain adref i chware? Atebodd Robert Jones fod yn dda ganddo glywed y peth yn cael ei ofyn. Penderfynwyd cyflwyno'r peth i sylw David Griffith, gweinidog yr Anibynwyr yn Nhalsarn. Arferai ef ddod yn lled aml i bregethu i dŷ Eleazer Owen. Rhoes yntau ystyriaeth i'r pwnc, ac yn yr oedfa nesaf nid hwyrach, rhoes gymhelliad ar y diwedd i godi ysgol, gan ofyn pwy roddai ei dŷ i'r amcan? Atebodd gwraig weddw y rhoddai hi ei thŷ. Pum llath bob ffordd oedd mesur y tŷ hwnnw, ac yr oedd ynddo ychydig ddodrefn. Bwlch-y-llyn bach oedd yr enw y pryd hwnnw, ond Tyddyn canol yn awr. Yma y rhoes yr ysgol ei throed i lawr, i aros bellach yn y gymdogaeth. Fel colomen Noah, bu'r ysgol yn y gymdogaeth hon am ysbeidiau heb orffwysfa i wadn ei throed; wedi hynny gwelwyd hi'n dwyn y ddeilen olewydden yn ei gylfin, wedi ei thynny oddiar y pren; ond yn y man, wele hi'n gwneud ei nyth ar y pren olewydden!

Aethpwyd ymlaen bellach, mae'n wir, ond eto yn wyneb anhawsterau. Ymgesglid i chware ar Bonc y buarth, sef gyferbyn â thŷ'r wraig weddw. Llwyddwyd i ennill y chwareuwyr i'r ysgol, nes bod y tŷ yn rhy fychan i'w cynnal. Symudwyd i Tŷ hwnt-i'r-bwlch, sef cartref Eleazer Owen. Yno y buwyd hyd nes llenwi tŷ a beudý. Mwy o sel yma na welwyd o'r blaen. Robert Jones oedd yr arolygwr yma fel o'r blaen. Efe a ddechreuai'r ysgol, ac efe fyddai'n holi ar y diwedd, ac yn gorffen y gwasanaeth drwy weddi. Dywed Rowland Owen mai efe yn unig oedd yn proffesu crefydd yn yr ardal. Pan ddeuai David Griffith yno i bregethu, fe fyddai yn annog canlyn ymlaen efo'r gwaith. Trwy lwyddiant yr ysgol y graddol ddiflannodd y chwareuon ar y Sul. Fel yr elai tŷ Dafydd yn gryfach gryfach, elai tŷ Saul yn wanach wanach.

Yn nesaf, buwyd am ysbaid byrr mewn tŷ gwag o eiddo John Owen, a gymerwyd ar ardreth, sef y Dafarn. Awd a chais am ysgoldy o flaen cyfarfod athrawon Brynrodyn, gan erfyn am gymhorth. Ar y cyntaf yr oedd golwg am hynny. Ond wele Sion Griffith ar ei draed, ac yn cymeryd ei ddameg. "Yr wyfi," eb efe, "yn byw yn y Brynrodyn a'm brawd William yng Nghefn y werthyd; ac yr ydym yn byw yn eithaf cytun. Ond pe buasem ar yr un aelwyd, mae'n ddiameu na buasem ni mor gytun ag ydym." Ergyd lawchwith Sion, mewn cyfeiriad at fod Anibynwyr cystal a Methodistiaid yn ymgynnull ynghyd yn yr ysgol. Pan glywodd David Griffith, y gweinidog, am eiriau Sion Griffith, bu'n ddig iawn ganddo, a chymerodd le i adeiladu ysgoldy, a chodwyd ysgoldy Pisgah yn 1820. Ar hynny, fe symudwyd yr ysgol o'r Dafarn i Pisgah. Erbyn hyn yr oedd ysgol yn cael ei chynnal yn y Fron hefyd; ond ni symudwyd mo honno. Fel mai niwed, ac nid lles, i'r Methodistiaid yn y teulu a wnaeth dameg Sion Griffith.

Ar symudiad yr ysgol o'r Dafarn i Pisgah, yr ydoedd yn symud o fod dan aden Brynrodyn i fod yn ysgol Anibynnol. Robert Jones yn unig a beidiodd â myned i Pisgah: aeth ef yn ol i ysgol Brynrodyn. Fel yna y dywed Rowland Owen, ond y mae Methodistiaeth Cymru (II. 225) yn dweyd ddarfod i eraill fyned i Frynrodyn cystal a Robert Jones. Feallai i Rowland Owen gamgymeryd yr ystyr yn y Methodistiaeth, lle darllennir, "ymysg y rhai olaf yr oedd Robert Jones ei hun." Hyd yn oed wedi symud yr ysgol i Pisgah, nid oedd yno yr un crefyddwr i gymeryd rhan mewn gweddi gyhoeddus; a gwneid hynny o wasanaeth gan William Hughes y Buarth. Yr oedd colled fawr ar ol Robert Jones, yn enwedig efo'r holi cyhoeddus. Awd ato gan erfyn arno ddod i Pisgah. Wedi cael caniatad y brodyr ym Mrynrodyn efe a addawodd ddod, ar yr amod na chynelid yr ysgol pryd y byddai oedía ym Mrynrodyn; ac â hynny y cytunwyd. Robert Jones oedd yr arolygwr yma eto, ac efe a ddechreuai ac a ddiweddai drwy weddi.

Fe ddechreuodd ysgol Pisgah wisgo gwedd lewyrchus, a chyn hir yr oedd yno o 60 i 80 o aelodau. Dywed Rowland Owen mai yn yr ysgol hon y dechreuwyd ymholi am ystyr yr hyn a ddarllennid, pryd na wneid mo hynny o'r blaen, namyn darllen yn unig.

Eithr fe gododd awydd ar y Methodistiaid yn yr ysgol am gael ysgoldy iddynt eu hunain. Pan oedd Eleazer Owen ar un diwmod gwlybyrog yn efail Cloddfa'r lôn, gofynnodd Richard Thomas y gof iddo, pa fodd yr oeddynt yn leicio yn yr ysgol yn Pisgah? "Symol," ebe Eleazer Owen,—"rhyw symol yr ydym yn leicio." Yr oedd arnynt hwy,—elai Eleazer ymlaen, gan ddirwyn allan ei ddameg yn eithaf arafaidd,—gryn awydd am ysgoldy iddynt eu hunain fel Methodistiaid. "Paham na chyfodwch un ynte?" gofynnai Richard Thomas, gyda phwyslais gofaint. Atebodd Eleazer Owen eu bod hwy, y Methodistiaid, wrth eu cymeryd arnynt eu hunain, yn rhy weiniaid i hynny. "Wel," ebe Richard Thomas, "mi rof i sofran at ei chodi, os leiciwch i," a gwnaeth ysgwydd eithaf ddihidio, gyda Richard Thomas yn llygadrythu arno. Yna fe droes y gof at bob un oedd yn ei efail,—ac wrth mai diwrnod gwlybyrog ydoedd, yr oedd yno gryn nifer,—a gofynodd i bob un ohonynt am ei rodd, a chasglwyd saith bunt o addewidion at yr ysgoldy newydd y dwthwn hwnnw, yn efail y gof.

Daeth y peth hwn i glustiau John Jones Talsarn, ac wedi cael caniatad y Cyfarfod Misol, efe a gytunodd â'r brodyr hyn i ddyfod i fyny ar ryw brynhawn Sadwrn i ymorol am le i godi ysgoldy. Daeth John Jones i fyny, a Robert Griffith Tŷ capel Talsarn gydag ef. Yr oedd Richard Thomas y gof yn eu cyfarfod, a phawb arall a deimlai sel yn yr achos. Gofynnai John Jones, ymha le yr oedd y capel i fod, pryd yr atebodd Eleazer Owen mai efe oedd i ddweyd hynny. "Wel, os felly," ebe yntau, "yn y fan hon y bydd y capel," dan daro ei ffon yn y llawr. Ac yn y fan y tarawyd y ffon, yno y cyfodwyd y capel. Ac yn y flwyddyn 1826 y bu hynny.

Y man y tarawodd John Jones ei ffon i lawr, gyda'r mynegiad mai yno y byddai'r capel, sydd yn ymyl y fan y saif Bryngorwel arno yn awr. Y mae Mr. Ephraim Jones wedi gweled y tufewn i'r hen gapel drwy lygaid rhywun neu gilydd. Adeilad bychan, gyda dau o ddrysau culion yn arwain i mewn, a'r wyneb tua'r gogledd. Dwy ffenestr ar y wyneb, dwy bob ochr, a dwy ar y talcen pellaf, ac ar wydr un o'r rheiny y byddai'r plant weithiau yn gwastatu eu trwynau, ac yn edrych i mewn. Y pulpud rhwng y ddau ddrws, fel arferol, a dwy o seti dyfnion o bobtu iddo, a grisiau yn arwain i fyny iddynt. Ar y chwith eisteddai Eliseus a Mary Roberts Brynllety a'r teulu; ar y dde, John Williams a Catherine Griffith Tŷ capel. Trwy sêt y Tŷ capel y byddai'r pregethwr yn esgyn i'r pulpud. Y sêt fawr yn betryal, ac yn helaeth, gyda rhai yn eistedd ynddi heblaw y blaenoriaid, canys nid oedd yr hen bobl mor doriaidd ag ydym ni yn hynny o beth. Seti ar hyd y ddwy ochr, a llawr coed iddynt. Ar y pared, ar dalcen pellaf y capel, yr oedd bachau wedi eu gosod, ac ar y rhai'n y dodid yr hetiau, y rhan fwyaf yn hetiau silc perthynol i'r ddau ryw. Gwasanaethai'r cyffelyb ar Dafydd Rolant mewn rhai capeli wrth sôn am bomb shells y gwr drwg, pryd y dywedai eu bod yn dod "fel yr hetiau yna." Dwy seren yn grogedig o'r nenfwd, dwy ar y pulpud, ac un yn y sêt fawr, a'r canwyllau gwêr ynddynt. Llawr pridd oedd ar ganol y capel, oddeutu pedair llath o led. Carmel ydyw ei enw, wedi ei roddi iddo, yn ddiau, gan John Jones.

Chwefror 24, 1827, yr agorwyd y capel yn ffurfiol. Nos. Sadwrn fe bregethodd David Jones Môn ar Actau xvi. 14, "A rhyw wraig â'i henw Lydia." Bore Sul fe ddechreuodd William Jones Talsarn y gwasanaeth, a phregethwyd gan John Huxley oddiar Actau x. 34, "Yr wyf yn deall mewn gwirionedd nad ydyw Duw dderbyniwr wyneb"; a David Jones ar Salm xxi. 4, 'Gofynnodd oes gennyt, a rhoddaist iddo, ie hir oes, byth ac yn dragywydd." Yn y prynhawn John Jones oddiar II Cronicl ii. 4, "Wele fi yn adeiladu tŷ i enw yr Arglwydd fy Nuw;" a David Jones ar Salm xc. 17, "A bydded prydferthwch yr Arglwydd ein Duw arnom ni." Nid oes hysbysrwydd am foddion yr hwyr. Y dorf a ddaeth ynghyd yn fwy na gynwysai'r capel.

Y ddau William Owen oedd y ddau flaenor, y naill o'r Brynbugeiliaid a'r llall o'r Tŷ newydd, Cim, ac a adnabyddid wedi hynny fel o Benbrynmawr, Penygroes. Yr oedd yma yn y blynyddoedd cyntaf hynny rai a dybid eu bod yn golofnau, a safai ef o'r Brynbugeiliaid allan yn amlwg o ran ei ddylanwad yn eu plith. Fe gadwai ddisgyblaeth lem yn yr ysgol, fel na feiddiai neb ddod i mewn tra fyddid yn darllen y bennod ar y dechre, neu os deuai yr anystyriol i mewn fe'i ceryddid ef ar goedd, a hynny yn y cyfryw fodd fel mai nid mynych y byddai raid chwanegu'r ymadrodd wrtho. Rhaid oedd goddef symud o un dosbarth i'r llall, hefyd, yn gwbl wrth ei benodiad ef, ac os grwgnechid, fe gae'r grwgnachwr eithaf trinfa. Telid sylw manwl i bob dosbarth arno'i hun hefyd. A William Owen oedd yr arolygwr sefydlog yn y lle, yn ol defod ac arfer y dyddiau hynny.

Llwyddodd yr ysgol yn y capel, fel y daeth yn y man i rifo oddeutu cant. Telid sylw yn arbennig i hanesiaeth ysgrythyrol, a byddai'r pynciau hanesiol hynny yn ennyn bywiogrwydd drwy'r holl ysgol. Holid yn yr Hyfforddwr a rhoddid cynghorion buddiol.

Fe a ddigwyddodd, ebe Rowland Owen, i Eleazer Owen a William Owen, ef o'r Brynbugeiliaid, debygir, fyned ar ryw scawt i weithio i Lanberis. Ac yno yr oedd y ddau yn cyd-letya mewn teulu lle cedwid y gwasanaeth teuluaidd ar ddull newydd. Darllennid ar y pryd yn ryw ran hanesiol o'r ysgrythyr, bob un ei araith yn ei dro, a byddai pob un yn dweyd pwy oedd awdwr yr araith honno. Yr oedd rhyw ddull felly braidd yn dyrysu y lletywyr. Eithr hwy wnaent ati i geisio deall. O'r diwedd daethpwyd yn hyddysg yn null yr areithiau. Ac ni wiw gan Eleazer fod pobl Carmel heb yr addysg newydd hon o'r areithiau. Dosbarth of ferched oedd ganddo ef, ac eglurodd iddynt y drefn newydd o ddarllen. Hwythau am beth amser ni fynnent mo gynnyg arni. Daliodd yr athraw at ei bwnc, ac o'r diwedd hwy ddaethant oll yn hyddysg yn yr areithiau. Ysgogodd yr holl ysgol i'r unrhyw gyfeiriad, a bu hynny yn foddion i ddeffro llawer o lafur dros ysbaid led faith o amser.

Yr oedd tri o wyr wedi dod yma o Pisgah, sef Robert Jones Brynllety, Eleazer Owen a William Hughes y Buarth. Yr oedd y William Hughes yma yn wr nodedig o dduwiol, a gwnelai ei oreu i hyrwyddo'r achos. Deisyfiad yn ei weddi ydoedd, am i'r Arglwydd listio rhai o'r newydd dan Faner y Groes. Yr oedd ef yn dad i Jane Griffith Tyddyn perthi.

Ganwyd Eleazer Owen yn 1777, ac yr oedd yn fab i Owen Morris Cil-llidiart, Llanllyfni. Elai a Beibl bychan gydag ef at ei waith, a darllennai ef pan gaffai hamdden. Elai er yn fachgen i'r oedfa ar Sul y bore i Lanllyfni, y prynhawn i Glynnog, a'r hwyr i Frynrodyn. Wedi priodi Elin Rowlands Llanberis yn 27 oed y symudodd efe o Lanllyfni i Garmel. Dechreuodd weithio yn y chwarel yn naw oed, a bu'n gweithio am o fewn ychydig i 80 mlynedd. Bu farw Tachwedd 6, 1865, yn 88 oed. Er heb broffesu, fe chwareuodd gryn ran yn nechre yr achos, ac yr oedd yn wr bucheddol. Nid Nicodemus a ddeuai i ymofyn â'r achos liw nos ydoedd, ond Joseph o Arimathea, a ddeuai i ymorol yn ei gylch liw dydd.

Griffith Williams Cae Goronwy oedd y dechreuwr canu cyntaf. Yn ei le yn y sêt fawr, fe fyddai yn canu, ebe Mr. Ephraim Jones, gyda'i law o dan ei ben, a'i droed de ar y sêt, heb lyfr. A dywed ef, hefyd, y byddai pawb y pryd hwnnw yn canu i blesio ei hun. Dechre y byddai Griffith Williams, ac nid arwain; a phyncio'n hamddenol, gan gadw'r amser gyda'i droed de; a rhoi ei feddwl ar y pwnc yr un pryd, gan roi ei ben i ogwyddo ar ei law, er mwyn gwneud hynny yn effeithiol.

Yn 1836 y gwnawd John Robinson yn flaenor, wedi dod at grefydd bedair blynedd cyn hynny.

Yn 1837 y symudodd William Owen Tŷ newydd i Lanllyfni, ar ei briodas â Jane Jones, merch Penbrynmawr. Wedi ei alw yn flaenor cyn cyrraedd ei 24 oed. Y noswaith gyntaf iddo fel swyddog, ar ol galw llyfr y seiat, fe welai nad oedd ei gyd-swyddog yno, a theimlai faich llethol arno. Methu ganddo ddweyd dim. Ar hynny dyma un hen chwaer yn adrodd ei phrofiad. Distawrwydd wedyn. Yna, yn y man, fe gafodd y blaenor ieuanc nerth i draethu yn bwyllog am gariad Crist. Arferai ddweyd wedi hynny mai dirgelwch cadw seiat oedd dwyn yr eglwys yn ddigon agos at gariad Crist. Gwr tra chyflawn.

Yn 1838 yr oedd Carmel yn daith gyda'r Bwlan a Brynrodyn.

Bu Cymdeithas Diweirdeb yn cael ei chynnal yma yn ystod y blynyddoedd 1840-3, fel mewn lliaws o fannau eraill oddeutu'r un blynyddau. Dyma'r ymrwymiad: "Yr ydym ni bennau teuluoedd yn addaw na oddefwn neb i gyfeillachu yn eu rhag-fynediad i'r stad briodasol yn ein tai ar ol deg ar y gloch y nos, ac y caniatawn ryw amser arall at hynny i bawb sydd dan ein gofal. Yr ydym ni, yn feibion a merched, yn addaw ymgadw rhag myned at dai, ac na dderbyniom i dai, neb at gyfeillachu â hwynt ar ol deg ar y gloch y nos; ac yr ydym yn addaw gochelyd pob achlysuron i aniweirdeb, ac y gochelwn gyfeillach nos Sadwrn a'r Saboth a nos Saboth." Arwyddwyd yr ymrwymiad hwn yng Ngharmel gan 27 o feibion a 23 o ferched.

Yn 1840 fe dorrwyd y cysylltiad â Brynrodyn fel taith.

Yn 1844 fe adgyweiriwyd y ty capel yn o lwyr ar draul o thuag £20.

Galwyd Trevor Roberts Bwlchglas yn flaenor yn 1846. Yn 1852 (yn 1854 yn ol cyfrif arall) y symudodd John Robinson i eglwys Talsarn wedi gwasanaethu yma fel blaenor er 1836. Gweithiodd yn rhagorol yma ynglyn â'r ysgol ac ym mhob cylch. Pan symudodd yr eglwys ymlaen gydag ail-adeiladu'r capel fe hyrwyddodd yntau hynny o waith. Gwr dawnus anarferol a llwyr ymroddedig y ceid ef yma fel ar ol hyn yn Nhalsarn.

Ymhlith cofnodion Cyfarfod Misol Beddgelert, Mehefin 13, 1853, fe geir y cofnod yma: "Mae Carmel yn gofyn caniatad i helaethu'r capel; ac y mae ganddynt eisoes addewidion am £52 a £10 mewn llaw. Ac y maent yn barnu mai oddeutu £100 fydd y draul. A rhoddwyd cennad iddynt ar yr ystyriaeth y bydd iddynt ei orffen yn ddiddyled."

Helaethwyd y capel yn ystod Gorffennaf, 1853-Medi, 1854. Tynnwyd talcen ac ochr i lawr fel ag i'w helaethu yn ei hyd a'i led. Ymgymerodd y chwarelwyr â gofalu am gerryg. Elid gydag ebillion i'r mynydd i saethu cerryg yn yr hwyr. Erioed ni chlywyd cymaint swn morthwylion ar ochr y mynydd hwnnw, ebe Mr. Ephraim Jones. Y draul, £204 4s. 101c. Erbyn yr agoriad, £52 8s. 6c. mewn llaw.

Yn 1854 fe ddewiswyd yn flaenoriaid, Robert Griffith Bryn- ffynon, Evan Roberts Dolifan, Henry Roberts Bwlchglas.

Yn 1857 y bu farw William Owen Brynbugeiliaid. Ganwyd ef yn y Beudy isaf, Ebrill 1785. Owen Dafydd oedd ei dad. Dyn o daldra canolig ebe Mr. Ephraim Jones, gydag ysgwyddau llydain, llygaid llym, ac yn wr llawn tân gyda'r achos. Bu'n arolygwr ar yr ysgol am 15 mlynedd, pan y dilynwyd ef gan John Robinson. Fel arolygwr fe ddygai gydag ef bren bychan gyda nodwydd ddur ar ei flaen i bigo yr afreolus âg ef. Bu William Roberts a Robert Williams Bryn naidhir yn gwneud prennau cymwys at ei wasanaeth, prun a fyddent yn cael blas ar y gorchwyl ai peidio, oblegid ni ddywedir mo hynny. Byddai Frederic Fawr yntau, emprwr Prwsia, pan ddeuai ar ei hynt ar eu traws yn anisgwyliadwy, yn taro segurwyr pen yr heol ar eu pennau gyda'i gansen, mewn modd chwimwth ac âg effaith syfrdan. Prun oruchwyliaeth oedd yr anhawddaf ei dwyn, wys, ai eiddo William Owen Brynbugeiliaid, ai eiddo Frederic Fawr emprwr? Crynai'r plant, druain, fel y gellir yn hawdd credu, yngwydd William Owen, yn llawn mwy yn ddiau nag y crynai segurwyr pen yr heol yngwydd y brenin. Yr oedd William Owen yn frawd i Griffith Davies y cyfrifydd. Manylder llym, nid hwyrach, oedd priodoledd y ddau.

Yn 1857-8 yr ymadawodd Henry Roberts, neu Henry Trevor Roberts, brawd Trevor Roberts, i Ffestiniog, wedi bod yn swyddog am o dair i bedair blynedd. Dewiswyd ef yn 21 oed. Bu'n ysgrifennydd yr eglwys am dymor. Gwylaidd, gochelgar, gweithgar, duwiolfrydig. Miss Roberts y genhades sy'n ferch iddo.

Yn 1858 ymgysylltwyd yn daith â Rhostryfan.

Fe gynhaliwyd Cyfarfod Misol yng Ngharmel, Mehefin 7, 8, 1858. Mewn cofnod ysgrifenedig, Ellis James yn ysgrifennydd, fe ddywedir ddarfod ymddiddan â'r diaconiaid yn y lle yn ol y drefn arferol, ac y cafwyd popeth yn ddymunol-profiadau da ynghydag undeb a brawdgarwch. Dim anymunol yn eu plith. Er nad oedd llawer yn ymuno o'r newydd â'r eglwys, eto yr oedd yno lawer o arwyddion amlwg fod nifer o'r gwrandawyr yn teimlo yn ddwys dan weinidogaeth yr Efengyl.

Mae Mr. W. Griffith Roberts yn rhoi peth o hanes diwygiad 1859. Dywed ef fod arwyddion yma cyn y flwyddyn hon fod rhywbeth pwysig ar ddigwydd, ac y cafwyd rhai cyfarfodydd y pryd hynny na anghofiwyd mohonynt. Torrodd y diwygiad allan mewn cyfarfod gweddi a gynhaliwyd ar brynhawn Sadwrn ar gae Tyddyn mawr, ger Penfforddelen yn awr. Yr oedd hwn yn un o'r cyfarfodydd gweddi cyffredinol a gynelid ar y pryd, a phenodwyd un o bob eglwys yn y plwyf i gymeryd rhan ynddo. Yng Nghar- mel be benodwyd Thomas Williams Penfforddelen. Daeth miloedd ynghyd. Pan oedd cennad Bwlan yn gweddio, dyma dorri allan yn orfoledd mawr, fel y tybid fod pawb braidd yn gweiddi. Wedi dod adref, fe gynhaliwyd cyfarfod gweddi gan bobl ieuainc Carmel, a thorrodd yn orfoledd yno. Gwr caled oedd Sion Ifan Pen Carmel, â'i fesur ar grefyddwyr yn wastad. Yr oedd yn galed ei farn am y diwygiad. Dywedir ei fod yn anafu ei gorff ei hun wrth geisio dal heb blygu dan y dylanwadau. Un noswaith elai o'r cyfarfod gweddi, a phan ar y cae wrth ei dŷ, dyma ef yn troi yn ei ol, a thrwy ddrws y capel âg ef fel gwallgofddyn, ac i'r set fawr ar ei union, gan weiddi, "A oes yma le i un fel fi ?-un wedi gwneud popeth yn eich herbyn." A dyna hi'n waeddi mawr drwy'r lle. Mewn un cyfarfod, fe ddaeth llu mawr i ymofyn am le yn yr eglwys. Yr oedd yno orfoledd mawr, Griffith Roberts Penbryn- hafoty yn gorfoleddu â'i freichiau i fyny. Yr achlysur o'r gorfoledd y tro hwnnw ydoedd gwaith gwr o'r enw Robert Jones yn dod i mewn gan waeddi, "A gaf fi le yma ?" Yna fe ganwyd, "Beth yw'r udgorn glywai'n seinio? Brenin Seion sydd yn gwadd." A chanu hir fu arno.

Rhif yr eglwys yn 1833, yn fuan ar ol y diwygiad, 61; yn 1838, 50; yn 1840, blwyddyn y diwygiad, 72; yn 1844, 53; yn 1848, 48; yn 1854, 59; yn 1858, 65; yn 1859, 106; yn 1860, 124; yn 1866, 97.

Yn 1861 y dewiswyd Thomas Williams Penfforddelen, Tŷ rhos wedi hynny, yn flaenor. Y flwyddyn hon, hefyd, yr aeth Carmel yn daith gyda Cesarea.

Cynhaliwyd yma Gyfarfod Misol yn Gorffennaf 11 a 12, 1864. Mae cofnod yn rhoi ar ddeall fod achos crefydd yn siriol iawn ar Fynydd Carmel, a bod yma oddeutu cant o aelodau gweithgar, ac fel âg un ysgwydd yn dwyn y gwaith ymlaen. Mai £45 oedd y ddyled ar y capel, a hwnnw yn rhydd-ddaliadol. Danghoswyd serch mawr at y Cyfarfod Misol gan yr ardal yn gyffredinol.

Yn 1864 y gwnawd Evan Jones Ty newydd a William Roberts Bryn naidhir yn flaenoriaid.

Tachwedd 23 y bu farw Evan Roberts, brawd Trefor Roberts, yn flaenor er 1854. Ganwyd ef yn Clawdd rhos uchaf yn 1808. Ar ol ymadawiad Griffith Williams Cae Goronwy, fe benodwyd Evan Roberts yn arweinydd y gân. Nid oedd ganddo lais canu. Nid oedd y Sol-ffa na thonau Ieuan Gwyllt mewn arferiad yma y pryd hwnnw. Ymroes i ddysgu canu i'r plant. Gwr ffyddlon. Dywedai un am dano, yr elai Evan Roberts i'r seiat ar gefn cynhaeaf gwair.

Ar farwolaeth Evan Roberts y codwyd Hugh Menander Jones yn arweinydd y gân. Yr oedd y canu ar y pryd yn isel yma. Pan aeth Menander a llyfr tonau Ieuan Gwyllt gydag ef i'r cyfarfod canu fe'i cymerid ef yn ysgafn. Yn fuan wedyn daeth y Sol- ffa i arferiad yma. Dechreuwyd cynnal dosbarthiadau gyda llyfrau Ieuan Gwyllt ac Eleazar Roberts. Aeth pump oddiyma yn llwydd- iannus drwy'r arholiad gan Ieuan Gwyllt am y tystysgrif cyntaf. Griffith Roberts Penybryn, heb fedru dechreu'r gân ei hun, a fyddai wrth ochr Menander yn ei gynorthwyo, yr hyn a allai ei wneud yn effeithiol. Nid oedd William Roberts, brawd Griffith Roberts, yn proffesu, ond efe a ddechreuai pan na byddai'r un o'r ddau eraill yno, yn yr hyn orchwyl y rhagorai efe hyd yn oed ar ei frawd. Bu Menander yn y swydd am 18 mlynedd.

Sefydlwyd y Gobeithlu yma yn 1865, gan John G. Jones Tyddyn isaf, David Owen Brynbugeiliaid, a Daniel Thomas Hafod boeth. Bu Griffith Parry Blaen fferam yn llywydd arno yn gynnar ar ei oes.

Yn 1867 y diogelwyd yr eiddo, sef y capel a'r tŷ a'r tir ynglyn â hwy, trwy bryniad gan y llywodraeth, am y swm o £11 11s. Y tir, gan gynnwys safle'r capel a'r tŷ, yn ddwy erw a chwe rhan o ddeugain o erw; a'r tir ynglyn a'r tŷ yn 242 llathen betryal yn ychwaneg.

Dewiswyd John Griffith Jones Tyddyn isaf, Glynafon wedi hynny, yn flaenor.

Yng Nghyfarfod Misol Llanfairfechan, Chwefror 3, 1868, fe geir cofnod i'r perwyl ddarfod annog y brodyr yng Ngharmel i adgyweirio eu capel, ar eu cyflwyniad hwy o'r mater i ystyriaeth, mae'n ddiau. Fe wnawd yr adgyweiriad yr un flwyddyn. Meinciau hyd yn hyn oedd ynghanol y llawr. Dodwyd seti yn eu lle. Disgwylid ar y pryd y byddai hynny o gyfnewidiad yn ddigon i'r gynulleidfa. Yn wahanol i hynny y profwyd. Cyflwynwyd yr anhawster i sylw y Cyfarfod Misol, a ffrwyth eu hystyriaeth hwy ydoedd mai gwell fyddai cael capel newydd.

Mehefin 2, 1868, y bu farw Trefor Roberts, yn 66 oed, ac wedi bod yn flaenor er 1846. Canolig o ran maint, ebe Mr. Ephraim Jones, gydag un ysgwydd yn uwch na'r llall. Gwr defosiynol a duwiol. Un o'r rhai duwiolaf, ebe'r un gwr am dano, a'i dduwioldeb yn ddylanwad byw o'i gwmpas. Heb ddawn siarad neilltuol, yn fawr ei barch gan yr eglwys i gyd, am yr ystyrrid ef yn wr Duw. Bu'n arolygwr yr ysgol ar ol John Robinson am rai blynyddoedd. Arferai wasanaethu mewn angladdau yn niffyg gweinidog. Dyma'r pennill roddai efe allan fynychaf

Beth dâl gobeithio'r gore o hyd,
A byw'n anuwiol yn y byd.
Yn Nydd y Farn bydd chwith i ni,
Pan ddywed Duw, Nid adwaen chwi.

Gwr diymhongar, pwyllog, gofalus am yr achos, cyson yn y modd- ion. Gonest, didwyll, a'i wyneb wedi ei osod tua'r nefoedd. Er wedi marw yn llefaru eto, a'i goffadwriaeth fel eiddo'r cyfiawn yn fendigedig. Cafodd gynhebrwng tywysogaidd yn eglwys Thomas Sant.

Symudodd Thomas Williams Ty'n rhos i Frynrodyn yn 1869. Yr oedd ef wedi symud o'r Waenfawr yma, gan ymsefydlu ar y cyntaf ym Mhenfforddelen. Yn flaenor er 1861. Ni enwir ef yn rhestr yr arolygwyr, ond fe ddywed Rowland Owen ddarfod iddo lwyddo i roi gwedd newydd ar yr ysgol, yn enwedig yn ei hefrydiaeth o ddiwinyddiaeth. A dywed ddarfod iddo lafurio mor lwyddiannus gyda dosbarth o ddynion ieuainc nes eu cael hwy eu hunain yn athrawon effeithiol yn yr ysgol. Medrai ofyn cwestiynau da a chymhwyso'r gwirionedd adref hefyd. Cynllun o flaenor o'r hen ysgol. Newidiwyd y seiat o nos Fercher i nos Wener yn bennaf er mwyn iddo ef fod yn bresennol, am ei fod yn gweithio yn Llanberis.

Fe ddechreuwyd adeiladu'r capel presennol yn Rhagfyr, 1870, a gorffennwyd ef at ddiwedd 1871. Y draul yn £1520, ynghyda rhyw symiau ychwanegol. Ystyrrid ef yn un o'r capelau harddaf yn y cylch ar y pryd. Evan Owen a bregethodd yn gyntaf ynddo, ac yr oedd hynny ar y Sul, Rhagfyr 3, 1871. Agorwyd ef yn ffurfiol ar y 13 a'r 14, pryd y gwasanaethwyd gan Dafydd Morris, Peter Jones Llanllechid, Joseph Jones Borth, John Pritchard Amlwch. Rhif yr eglwys yn 1870, 99; yn 1871, 101. Yna bu cynnydd amlwg, canys yr oedd y rhif yn 1874 yn 152. Y ddyled yn 1870, £230; yn 1871, 1810.

Yn 1874 galwyd Owen Owen Jones ac O. G. Owen (Alafon) yn flaenoriaid. Yn 1876 fe ddechreuodd Alafon bregethu.

Yn 1876 fe gynhaliwyd Cyfarfod Misol yma, a pharatowyd y ymborth mewn pabell. Yno hefyd yr eisteddid i fwyta. Ond nid mor hamddenol y teimlai y dieithriaid ar y llecyn uchel hwn o fewn eu pabell, gan ruthr y cawodydd o wynt. Penderfynwyd ar yr achlysur hwnnw cael ysgoldy cyfleus o hynny allan. Adeiladwyd hi oddeutu 1878. Erbyn Cyfarfod Misol 1880 yr oedd y dieithriaid mewn porfa lonydd gerllaw y man y buont yn aredig.

Yn 1878 y sefydlwyd y Gymdeithas Lenyddol a Diwinyddol.

Yn 1880 y peidiodd Carmel â bod yn daith â Cesarea, gan fyned bellach arni ei hun. Mai 2, 1880, oedd y Sul cyntaf i Garmel fod arno'i hunan yn yr ystyr hwnnw.

Yn 1880 y dewiswyd yn flaenoriaid, H. Menander Jones a Richard Griffith Jones Tyddyn isaf, Tŷ fry wedi hynny.

Mehefin 29, 1881, y dechreuodd Griffith S. Parry bregethu.

Tachwedd 25 y bu farw Evan Jones Tŷ newydd, yn 60 oed, ac yn flaenor er 1864. Ganwyd ef yn Brynifan, rhwng Carmel a'r Groeslon, yn 1821. Fe symudodd y teulu yma ar waith y tad, John Evans, yn adeiladu Pen Carmel. Codwyd ef yn ysgrifennydd. yr eglwys tuag 1859. Athraw llafurus. Ymdrechodd i geisio diwyllio'i feddwl fel llenor, ac enillodd liaws o wobrau mewn cyfarfodydd llenyddol. Yn ddyn cysegredig. Bu farw drwy gyfarfod â damwain yn y chwarel, ac yn wyneb hynny y mae rhai pethau yn ei hanes braidd yn nodedig. Gair a glywid ganddo yn wastad ar weddi ydoedd, "Bydd barod, Israel, i gyfarfod â'th Dduw." Ychydig ddiwrnodau cyn y diwedd, fe adroddodd yr adnod honno mewn cyfeiriad ato'i hun, "Mi a ymdrechais ymdrech deg, mi a orffenais fy ngyrfa, mi a gedwais y ffydd." Yr oeddid yn cynnal cyfarfod gweddi yn y chwarel y diwrnod o flaen yr olaf iddo ef, ac efe ei hun yn arwain, a'i bennill diweddaf ydoedd, "Cofia, f'enaid, cyn it' dreulio, D'oriau gwerthfawr yn y byd."

Dirybudd, diarwybod—y'i galwyd
I'r dirgelaf wyddfod :
A oedd o'n sicr—oedd o'n barod?
Ei gywir fyw sy'n gwirio'i fod.—(Alafon).

Gorffennaf 5, 1882, y bu farw Robert Griffith, yn 81 oed, ac wedi bod yn flaenor er 1854. Pan alwyd ef i'r swydd yn un o dri, John Jones Talsarn oedd yma yn cymeryd llais yr eglwys. Wedi ei ddewis, fe aeth Robert Griffith at John Jones yn bersonol, a dywedodd wrtho na byddai iddo ef ymgymeryd â'r swydd, gan nas gallai ei chyflawni. "Tewch, tewch," ebe yntau, "pe na baech ond yn gosod carreg ar dô y capel, ar ol i'r gwynt ei chwythu ymaith, chwi fyddech yn gwneud gwasanaeth i'r Ar- glwydd." Ni chyfrifid ei fod yn meddu ar nemor o allu, ac yr oedd rhyw ddiofalwch yn perthyn iddo. Er hynny yn wr ffyddlon a gwir grefyddol.

Yn 1883 y derbyniodd Alafon alwad i eglwys yr Ysgoldy.

Yn 1889 y symudodd Owen O. Jones i Dalsarn. Gwnawd ef yn flaenor yno yn 1893. Bu'n arwain y canu yma am flynyddoedd gyda Mr. Menander Jones. Bu'n ysgrifennydd yr eglwys am flynyddoedd. Efe a aeth i Awstralia yn 1857, lle y bu yn wasanaethgar efo'r ysgol Sul.

Yn 1889 yr ymadawodd Griffith S. Parry, gan dderbyn galwad o'r Borth, Porthmadoc.

Yn 1892 y daeth Mr. Richard Williams Brynteg yma o Cesarea, lle y gwasanaethai fel blaenor er 1881. Galwyd ef i'r swydd yma. Y flwyddyn hon y dechreuwyd cael adroddiad ar- graffedig o gyfrifon yr eglwys.

Yn 1893 y dewiswyd yn flaenoriaid Eleazar William Owen Bryn Carmel a John Elias Jones. Yr un flwyddyn yr ymadawodd Mr. Menander Jones i Hyfrydle, lle y galwyd ef yn flaenor.

Mai 12, 1894, y bu Richard Williams Brynteg farw, yn 46 oed, ac yn flaenor yma ers dwy flynedd. Ganwyd ef yn Llanfairmathafarneithaf, Môn. Yn ddifrif mewn gweddi, yn hyfforddus i'r llesg, yn arweinydd i'r ieuainc. Arweiniai gyfarfod gweddi'r bobl ieuainc yma ac yn Cesarea. Ei arafwch yn amlwg i bob dyn, a chanddo air da gan bawb. Gofal mawr am y ddyledswydd deuluaidd. Cadwai Destament bychan yn ei logell, a darllennai ef pan gaffai hamdden yn y gwaith. Darllenai gryn lawer adref, ac arllwysai ffrwyth ei ddarllen yn y seiadau. Damwain yn y chwarel fu'n achos ei farw.

Medi 4, 1894, y sefydlwyd y Parch. W. Davies Jerusalem, Môn, fel bugail yma. Rhif yr eglwys y flwyddyn hon yn 234.

Yn 1895 y codwyd Hugh R. Edwards ac Ephraim R. Jones yn arweinwyr y gân.

Yn 1896 y dewiswyd Robert Griffith Roberts Penllwyn a David Jones Carmel Terrace yn flaenoriaid.

Mehefin, 1897, y bu farw R. G. Roberts, yn 31 oed, ac wedi bod yn y swydd o flaenor am un flwyddyn. Ganwyd ef yn y Fronoleu, Cilgwyn. Bu'n ffyddlon gyda chyfarfod gweddi y bobl. ieuainc, a gwnaeth ymdrech arbennig i ennill esgeuluswyr. Arferai siarad yn neilltuol o dda ar y mater a benodid ar gyfer cyfarfod gweddi'r bobl ieuainc unwaith yn y mis, a danghosai ei sylwadau ol darllen. Bu'n cynnal dosbarth cerddorol. O farn gref a chymeriad gloew. Daeth yma o ardal Talsarn, ac ni fu'n hir cyn ei alw yn flaenor.

Cryf, addien fel crefyddwr—oedd efe,
Ac yn ddifost weithiwr.
Mewn agwedd ddwys 'roedd eglwys Ior,
Ag angen pwyll ei gynghor. (Geraint).

Yn 1899 y sicrhawyd offeryn ynglyn â chaniadaeth. Casglwyd drwy'r ardal y swm o £54 9s. 6c. at yr amcan. Talwyd am yr offeryn, £46 10s.

Yn 1899, hefyd, yr adeiladwyd tŷ'r gweinidog ar y tir y bu'r hen gapel arno. Ei gynllunydd, Mr. R. Lloyd Jones Caernarvon, a'i adeiladydd, Mr. W. J. Griffith Carmel. Y draul tua £600. Yr un flwyddyn yr ymadawodd Mr. J. Elias Jones i Saron, Penygroes.

Yn 1900 y galwyd T. W. Elias Jones Gwyndre yn flaenor. Efe hefyd yw ysgrifennydd yr eglwys.

Y mae ysgol Sul Carmel wedi bod yn un nodedig o lewyrchus, ar brydiau o leiaf yn un o'r rhai mwyaf felly yn Arfon. Un hynod fel holwr plant oedd David Owen Brynbugeiliaid. Yr oedd ganddo ef hefyd ddosbarth mawr o fechgyn yn dechre darllen, ac yr oedd yn dra phoblogaidd gyda hwy. Bu ef farw Mehefin 3, 1876, yn 61 oed. "Uwch angof saif ei gofiant, A'i fri'n gerf ar fronnau gant." (Alafon). Evan Jones Clawddrhos oedd un arall a ragorai fel holwr plant. Daniel Thomas Hafod boeth fu'n athraw llafurus. ar un o'r prif ddosbarthiadau am tuag ugain mlynedd, ac un y teimla amryw yn rhwymedig iddo hyd heddyw. Efe oedd arweinydd y Gobeithlu pan ydoedd yn ei flodau. Yn un o'r prif rai a fu'n ymdrechu i gael y capel presennol. Efe a ymadawodd i Brynrhos ar sefydliad yr achos yno. Y mae gan Mr. W. G. Roberts restr o'r arolygwyr ynghyda'r ysgrifenyddion, gyda rhai bylchau. Dyma rai fu'n arolygwyr am flynyddau yn olynol: William Owen Brynbugeiliaid, John Robinson, Trevor Roberts, Daniel Thomas Hafod boeth, Owen Morris Braich trigwr uchaf, Hugh Jones Tyddyn difyr, John G. Jones Tyddyn isaf. Yna yn flynyddol. Yr ail enw yw yr ysgrifennydd. 1877, O. O. Jones Penbryn hafoty, G. G. Owen (Geraint). 1878, R. G. Jones Tyddyn isaf, G. G. Parry Blaen fferam. 1879, John John Owen Tan y buarth, R. W. Williams. 1886, John G. Jones Tyddyn isaf, R. Ll. Jones Llys Llewelyn. 1887, T. G. Jones Llysmeirion, R. G. Roberts Penllwyn. 1888, E. O. Morris Brongadair, H. J. Jones Tyddyn difyr. 1889, John J. Owen Tanybuarth, T. W. Jones. 1890, John Elias Jones, J. W. Jones. Yr ail enw bellach yw arolygwr ysgol y plant. 1892, R. G. Roberts Penllwyn, T. W. Jones, T. T. Parry Gwyndy. 1893, H. M. Jones, W. J. Jones Tyddyn difyr (ysgrifennydd). 1894, J. G. Jones, J. W. Jones, R. E. Parry Gwyndy. 1895, J. J. Jones Tyddyn difyr, T. T. Parry, R. E. Hughes. 1896, G. Griffiths Bryngwyn, Ephraim R. Jones, H. G. Roberts. 1897, D. W. Humphreys, R. E. Hughes, E. J. Jones Tyddyn difyr. 1898, W. W. Roberts, W. E. Hughes (Ysgr.). 1899, Elias Jones, O. O. Morris, G. T. Parry. 1900, E. W. Owen, H. G. Roberts, H. J. Roberts.

Dyma restr Mr. W. G. Roberts o'r dechreuwyr canu: Griffith Williams Cae Goronwy, Evan Roberts Dolifan, H. M. Jones Tyddyn difyr. Bu ef am ddwy flynedd o Carmel, pan arweiniwyd gan W. Roberts Hafoty wen. Yna, H. M. Jones drachefn. O.O. Jones Penbryn hafoty. Yn ei ddyddiau ef daeth llewyrch newydd ar y canu. Owen Powell a R. W. Roberts. R. G. Roberts Penllwyn. Bu ef am ysbaid yn cyd-ddechre â'r rhai blaenorol, ac am ysbaid gyda'r sawl a'i dilynodd, sef Ephraim R. Jones a H. R. Edwards.

Mr. W. G. Roberts sy'n manylu ar bobl y tŷ capel. John Williams a Catrin Griffith fu'n cadw'r tŷ capel cyntaf. Byddai Catrin Griffith yn gwneud ychydig fasnach yn y tŷ capel, ac adnabyddid hi weithiau fel Catrin Griffith Siop bach. Yr oedd Catrin Griffith yn blaenori yn fwy na'r blaenoriaid, ac ni wiw fyddai iddynt feddwl am symud ysmic heb ei bod hi yno yn cael cydymgynghori â hi. Chwyrn iawn ei ffordd oedd Catrin Griffith, fel un a wyddai pa fodd i gadw tŷ capel. Ar ol Catrin Griffith y daeth Hannah Williams. Yr oedd hon yn wir Hannah, a gelwid ei mab yn John Tŷ capel, yr hwn, fel Samuel gynt, a edrychid arno yn wynfydedig am ei fod yn breswylydd y tŷ. Y mae ef yn awr yn Nerpwl. Bu Hannah dduwiol yn gofalu am y tŷ capel flynyddau lawer. Robert a Jane Williams yn nesaf. Buont hwy yn yr hen dý am ysbaid, ac yna yn y newydd. Adeiladwyd y newydd tuag 1876, a bu Jane Williams yno ysbaid o 11 mlynedd. Ar hyn o bryd yn byw yn un o ardaloedd Lleyn. Dilynwyd hi gan John G. a Margaret Griffith Tanybwlch. Ac wedi 4 blynedd, dilynwyd hwythau gan Thomas ac Emma Williams, y rhai sydd yma ers 20 mlynedd (1909).

Rhif yr eglwys yn 1900, 259. Y ddyled, £55 19s. 6c.

CESAREA.[12]

Y FRON ydoedd enw cynhenid yr ardal. Yr oedd y Fron yn enw ar dŷ yma, ac yna ar chwarel, pa un bynnag a ydoedd yn enw ar yr ardal cyn hynny ai peidio. Fe gymerodd yr ardal yr enw Cesarea yn raddol oddiwrth y capel. Mae'r ardal yn rhanbarth uchaf plwyf Llandwrog. Deuir yma o'r Groeslon, ag sy'n lled agos i ganol. y plwyf wrth ei gymeryd yn ei hyd, drwy Carmel, hyd i ben Mynwent Twrog; neu o Benygroes drwy y Clogwyn melyn, dros y Cilgwyn, mynydd cyfagos i Fynwent Twrog. Rhyw dair milltir sydd o'r Groeslon, a llawn pedair o Benygroes. Wedi cyrraedd, dyna'r olygfa yn ymagor ar bob llaw. Yng nghyfeiriad y dwyrain y mae'r Mynyddfawr. Y mae'r ardal yn ymestyn o Fynwent Twrog hyd at esgair y Mynyddfawr. Eir ar y dde am o ddwy i dair milltir ar oriwaered i'r Nantlle. I'r gogledd-ddwyrain y mae Moel Tryfan. Chwarelwyr yw corff y boblogaeth, yn byw mewn mân dyddynod hyd yn ddiweddar, pan y dechreuwyd codi tai, naill ai yn rhesi bychain neu arnynt eu hunain.# Cyn agor y chwarelau nid oedd ond ychydig iawn o anedd-dai yn yr ardal i gyd. Tua'r flwyddyn 1835, nid oedd ond rhyw ddau neu dri o dai, heb ddim caeau, rhwng pen y Cilgwyn a Llyn y Ffynonnau. Wedi agor dwy neu dair o chwarelau ac i'r boblogaeth liosogi y dechreuwyd teimlo angen am yr ysgol Sul. Oddeutu'r amser yma y daeth John Jones, wedi hynny o'r Ffridd lwyd, i'r ardal o Feddgelert. Byddai ef a Robert Dafydd yn myned ar y Sul y bore i gyfarfod gweddi Ochr y Cilgwyn, ac yna i'r bregeth i Dalsarn, y prynhawn i'r ysgol yn y Gelli ffrydau, a'r hwyr i Dalsarn.

Rhowd ysgol y Gelli i fyny pan gychwynnwyd yr ysgol yn yr Henfron yn ystod 1837—8. Y rhai fu'n fwyaf amlwg ynglyn â'i chychwyniad ydoedd Robert Dafydd y Fron, John Jones Ffridd lwyd a John Roberts Tanychwarel. Tŷ bychan gerllaw y Fron ydoedd yr Henfron. John Roberts a ofalai am y plant. Ar ddiwedd yr ysgol deuai y rhai fyddai yn y siamber at y rhai yn y gegin i gael eu holi. Y plant ar ganol y llawr, a'r rhai hŷn o'u deutu. Adroddai'r oll y Deg Gorchymyn, ac wedi hynny holid y plant. Yr holwr yn gyffredin fyddai John Jones Ffridd lwyd. Safai ef wrth holi bob amser gyda'i gefn ar yr hen dresel. Robert Dafydd oedd yr arolygwr tra buwyd yma. Nodir William Parry Bryn'rhedydd, Tŷ eiddew ar ol hynny, a brawd i John Parry Caer, fel un o ysgrifenyddion cyntaf yr ysgol, ac ysgrifennydd yn yr Henfron, debygir. Dywedir fod rhif yr ysgol cyn y diwedd oddeutu 35. Gan mai tŷ bychan oedd yr Henfron, a chyda'r boblogaeth yn cynyddu, daeth galw am gapel.

Fe ddywedodd John Jones Ffridd lwyd wrth Mr. O. J. Roberts, ei fod ef yn un gydag eraill a godai gerryg ar gyfer y capel newydd, ddiwrnod coroniad y Frenines Victoria, sef Mehefin 28, 1838. Dywedai hefyd fod rhialtwch mawr ar ben Moel Tryfan ar y diwrnod hwnnw. Y mae blwyddyn yr agoriad yn ansicr. Y mae Mr. O. J. Roberts, oddiwrth bopeth a glywodd am ysgol y Fron, o dan yr argraff ddarfod iddi barhau am o ddwy i dair blynedd, ac na ddarfu iddi ddim cychwyn dan 1837, y fan bellaf yn ol. Yr oedd John Roberts, ei dad ef, yn dilyn yr ysgol yn y Gelli, ac yn un o'r rhai a gychwynnodd yn yr Henfron, ac yr ydoedd yn fyw ar y pryd yr oedd ei fab yn ysgrifennu ei nodiadau. Y mae Mr. O. J. Roberts yn tueddu i roi agoriad y capel mor bell ymlaen ag 1840. Y mae gryn anwastadrwydd ynglyn âg amseriadau yn dwyn perthynas âg agoriad y capel a sefydlu'r eglwys, fel y maent i'w cael mewn adroddiadau argraffedig ac ysgrifenedig. Eithr y mae ei adroddiad ef yn ymddangos yn meddu ar radd o sicrwydd ynglyn âg ef. Tebyg ddarfod i'r capel gael ei agor yn ystod 1839—40, ac i'r eglwys gael ei sefydlu yn ddiweddarach.

Yr oedd John Jones Talsarn yn cymeryd dyddordeb yng nghychwyniad yr achos. Efe ynghyda Robert Dafydd oedd wedi gosod y mater gerbron eglwys Talsarn. John Jones hefyd a nododd y fan yr oedd y capel i fod arno, efe a'i cynlluniodd, ac efe a roes ei enw iddo. Gelwid ef weithiau ar y cyntaf yn gapel y Fron, ond Cesarea a orfu yn y man, ac a ddaeth, fel y nodwyd, yn enw ar yr ardal ei hun. Yr ydoedd y capel ar y ffordd a arwain drwy ganol yr ardal, a thrwy chwarel y Fron i gyfeiriad Rhwng-y-ddwy-afon. Dodwyd tŷ capel ar ei dalcen dwyreiniol, ac o dan yr untô, ac yr oedd drws o'r tŷ i'r capel. O'r tu ol i'r tŷ yr oedd yr ystabl. Ar yr ochr agosaf i'r ffordd yr oedd drws i'r capel. Y pulpud ar ganol y talcen, sef y canolfur rhwng y capel a'r tŷ. Fel arfer, y pulpud yn lled uchel. Pum ffenestr, dwy ar bob ochr, ac un ar y talcen gyferbyn a'r pulpud. Sêt yn rhedeg gyda'r mur ar bob ochr i'r pulpud, gyda'r llawr beth yn uwch na llawr y capel. Ar ganol y sêt ar y dde yr oedd drws yr eid drwyddo o barlwr y tŷ capel, drwy ddrws yn y sêt ei hunan, i'r sêt fawr a'r pulpud. Yn y sêt fawr gyda'r blaenoriaid eisteddai rhai hynafgwyr eraill. Yma, ar gyfer y pregethwr, y mae'r arweinydd canu. William Griffith Cae Goronwy ydyw ef, gwr y llais udgorn arian. Meinciau ar lawr pridd, rhydd i bawb, sydd ar ganol y capel. Chwe chanwyll, un bob ochr i'r pulpud, a'r pedair eraill yn y seren uwch canol y llawr. Yr oedd 25 o seti bychain yn y capel ar y cyntaf, digon i gynnal y gynulleidfa i gyd y pryd hwnnw. Ymhen ysbaid o rai blynyddoedd, dodwyd seti ynghanol y llawr. Eisteddleoedd erbyn hynny i 133.

Fe bregethwyd am y tro cyntaf yn y capel cyn ei orffen, oddiar fainc y saer, gan Cadwaladr Owen. Yr oedd hynny ar noson waith, a daeth llawer o'r chwarelwyr ynghyd i wrando. Ceid pregeth ar brynhawn Sul o Dalsarn, yn achlysurol i ddechre, wedi hynny yn gyson.

H. W. Hughes, mab William Hughes Pen yr orsedd oedd gwr y tŷ capel. Bu ef o wasanaeth gyda'r canu y pryd hwn.

Nid yw'n ymddangos pa bryd yn union y sefydlwyd yr eglwys. Feallai mai ymhen rhyw ddwy neu dair blynedd ar ol agoriad y capel. Yr oedd Robert Dafydd yn flaenor yn Nhalsarn, ond yn preswylio yma. Daeth Griffith Williams yma o Frynrodyn yn 1842. Yr oedd efe yn flaenor yno. John Jones Ffridd lwyd oedd y blaenor cyntaf a ddewiswyd gan yr eglwys yma. Nid oes sicrwydd am flwyddyn ei ddewisiad. Tybir mai yn ystod 1842-3, a bod yr eglwys wedi ei sefydlu ryw gymaint yn flaenorol. Yr oedd y tri gwŷr hyn yn gweithredu fel blaenoriaid o'r dechre, neu yn agos o'r dechre.

Robert Owen Rhostryfan a gymerai lais yr eglwys yn newisiad John Jones. Wedi cymeryd y bleidlais, ac i John Jones gael ei enwi fel y dewisedig, ebe Robert Owen ymhellach: "Y mae'r oll o'r eglwys wedi pleidleisio drosto ond un; ac y mae'n debyg iawn y gŵyr yr un honno fwy am dano na neb arall o honochi. Gwyliwch chwi mai y hi sy'n iawn!" Mary Jones, priod John Jones, oedd yr un honno.

Allan o restr T. Lloyd Jones o aelodau eglwysig Talsarn yn 1838, y mae Mr. O. J. Roberts yn nodi allan ddeuddeg ag y tybia mai hwy ydyw'r deuddeg y dywedir gan T. Lloyd Jones iddynt ymaelodi yn Cesarea ar gychwyniad yr eglwys. Dyma nhwy: Morris Griffith Penygarth, Robert Dafydd y Fron, Cadwaladr Jones Penygarth, Hugh Williams a Richard Williams Pen yr orsedd, John Jones yr Henfron, Ffridd lwyd wedi hynny, John Roberts Gelli, Tanychwarel wedi hynny, William Parry Bryn'rhedydd, Elizabeth Jones, sef priod Robert Dafydd, Mary Hughes, sef priod Cadwaladr Jones, Catherine Griffith Pen yr orsedd, Mary Jones, sef priod John Jones. Fe ddichon na ddarfu iddynt oll ymaelodi yma y noswaith gyntaf. Daeth eraill i'r eglwys tuag adeg ei chychwyniad,—John Hughes Tynymaes, wedi hynny o'r Cefnen, Brynrodyn, lle y gwasanaethodd fel blaenor, Margaret Williams, sef priod Griffith Williams, Mary Roberts Tanychwarel ac eraill.

Cynhaliwyd y Cyfarfod Ysgolion cyntaf yma ar Ebrill 25, 1841, sef yn y Fron, fel y dywedir yn llyfr cofnodion yr ysgrifennydd, gan alw'r capel ar yr enw hwnnw am y pryd, debygir. Yr oedd yma y pryd hwnnw 14 o athrawon, 3 o athrawesau, 1 arolygwr, 83 o ysgolheigion.

Dylid coffau y byddai John Jones Talsarn yn talu ymweliadau mynych â'r lle yma, yn pregethu yma yn fynych ar ganol wythnos, gan wrthod derbyn unrhyw gydnabyddiaeth am hynny, ac na wneid dim o bwys ynglŷn â'r achos ond mewn ymgynghoriad âg ef.

Yn 1846 y daeth William Hughes yma o Dalsarn, y pregethwr cyntaf yn y lle. Daeth i fyw i Blas Collin. Bu o wasanaeth neilltuol yma. Ymadawodd i Dalsarn yn ei ol yn 1852.

Yng Nghyfarfod Misol Rhydfawr, Tachwedd 10, 1852, yn ol cofnod ysgrifenedig, fe benderfynwyd cynorthwyo Cesarea i dalu eu dyled drwy annog pawb "i ddyfod a rhyw gymaint o arian, yn ol fel yr ewyllysient hwy eu hunain." Y ddyled yn 1853, £60; yn 1854, £45. Yr oedd eisteddleoedd i gant o bobl yn cael eu gosod yn 1854. Cyfartaledd pris eisteddle pob un yn y chwarter, 7c. Swm y derbyniadau am y seti yn 1853, £11. Gwneid casgl o £5 y flwyddyn at ei gilydd y pryd hwnnw at leihau y ddyled. Y casgl at y weinidogaeth, £7. Rhif yr eglwys, 48. Traul o £8 ar y capel yn ystod 1853.

Yn ystod 1853-4 y cafwyd y Cyfarfod Misol cyntaf i'r lle. Trwy lawer o ymdrech y llwyddwyd i'w gael, ac ar ol gwneud cais ar ol cais am dano. Dywedodd William Roberts Clynnog neu John Jones Tremadoc nad oedd "dim ond grug i'w gael yn y fan honno." Fe orfu John Jones Ffridd lwyd, cennad yr eglwys, heb yn waethaf i'r grug a'r cwbl. Yn y Cyfarfod Misol hwn y pregethodd Griffith Parry, Caernarvon y pryd hwnnw, ei bregeth gyntaf mewn Cyfarfod Misol.

Yn 1853-5 y daeth John Phillips i Dynymaes o le a elwid Coicia gwyn yn Eifionydd. Yn flaenor yn dod yma. Yn briod â mam gwraig John Jones Ffridd lwyd. Gwr gweithgar a chrefyddol.

Bu farw Griffith Williams Penybraich ar Chwefror 26, 1856, yn flaenor er 1842. Daeth i'r ardal yma y pryd hwnnw o Frynrodyn, lle'r ydoedd yn flaenor er 1839. Yr oedd ei ddyfodiad ef a'i briod i'r ardal y pryd hwnnw o werth neilltuol i'r achos. Ystyrrid ef yn wr duwiol iawn, ac yr oedd yn dra ffyddlon gyda'r gwaith. Gadawodd dystiolaeth ar ei ol ddarfod iddo ryngu bodd Duw; a dywedid am dano, Yr hyn a allodd hwn efe a'i gwnaeth.

Fe drigiannai John Williams,-tad y Parch. William Williams Rhostryfan, Robert Williams a fu'n flaenor yn Nhanrallt, ar ol hynny o Bantglas, Henry Williams Glanaber, Llanllyfni, a blaenor yno, yn Rhwng-y-ddwy-afon yn ystod 1850-7. Bu ef byw ym Meillionnydd yn flaenorol i hyn. Symudodd oddiyno i'r Bontnewydd, ac oddiyno drachefn i Rhwng-y-ddwy-afon. Gwr pwyllog a gwasanaethgar i'r achos. Llafurus gyda'r ysgol. Amddiffynnodd rai rhag diarddeliad droion am na farnai eu trosedd yn galw am hynny. Ymadawodd i Gae einion, Tanyrallt, a therfynnodd ei oes yno.

Yn ystod 1856-7 y dewiswyd yn flaenoriaid, John Roberts Tanychwarel a Thomas Roberts Tanycastell.

Tuag 1857 y daeth William Griffith i gadw'r tŷ capel. Hugh W. Hughes wedi ymadael oherwydd afiechyd. Gwnaeth William Griffith ei ran gyda'r achos tra y bu yn yr ardal. Yr ydoedd ef yn dad i William Griffith Creigiau mawr (Hyfrydle).

Bu farw John Phillips yn 1859, wedi gwasanaethu yma fel blaenor er 1855 neu gynarach, gan adael perarogl o'i ol. Fe ddywed Mr. David Hughes fod y blynyddoedd 1854—9 yn flynyddoedd o weithgarwch gyda'r achos, a bod yn yr eglwys ddynion cymwys i ymwneud â phob rhan o'r gwaith, a rhai hynod mewn gweddi, ac y ceid profiadau melus yn y seiadau, yn enwedig gan yr hen chwiorydd. Byddai Robert Jones y Penrhyn, Thomas Hughes Pen y cae, John Hughes Blaen fferam yn cymeryd rhan yn arweiniad y gân, heb fod yn sicr iawn ohoni, yr un ohonynt. Ni byddai Robert Dafydd ychwaith yn foddlon iawn i John Hughes ymyrraeth, am nad oedd yn aelod eglwysig, er mai efe oedd y sicraf wedi myned ohoni yn lân i'r pen. Gwellhaodd y ganiadaeth yn fawr ar ol amser y diwygiad. Y pryd hwnnw fe ddeuai rhai of gryn bellter i'r gwasanaeth. Dyna Sion Pitar, hwsmon y Gelli ffrydau, dyn cryf, wynebgoch, gwarrog. Hen lanc ydoedd Sion, a dau neu dri o gŵn defaid yn ei ddilyn, ac yn gorwedd yn dawel wrth ei draed yn y sêt fawr, gan godi eu llygaid at eu meistr yn bur debyg yn yr un dull ag y codai yntau hwy at y pregethwr. Gwelid Sion Pitar mewn blynyddoedd diweddarach yn Nazareth ger Caernarvon, ond heb y cŵn erbyn hynny.

Ar nos Sul mewn cyfarfod gweddi, wrth i Thomas Roberts roi allan y pennill, "Y Gwr a fu gynt o dan hoelion," ar ddiwedd y gwasanaeth, y torrodd y diwygiad allan yma. Torrodd John Jones Penygan allan i ddiolch a gweiddi nes i deimlad dieithr feddiannu'r lle. Adroddai drosodd a throsodd y pennill hwnnw:

Tu draw i'r llen wrth chwilo'r llyfrau
Pwy wyr na cheir f'enw innau?
Tan ddwyfron hardd yr Archoffeiriad
A gollfarnwyd draw gan Pilad.

Wedi i bethau lonyddu, fe alwyd seiat, ac arosodd tri ar ol, sef John Jones Penygan, Morris Williams (Meiric Wyn) Penygan, a Hugh W. Hughes Gwyndy. Wedi i un cyfarfod gweddi fyned drosodd, dyma Hugh Thomas y Castell yn dychwelyd yn ei ol i'r seiat, gan waeddi fel yr elai i mewn, "Bobl anwyl, fedra'i fyned. ddim cam pellach!" Gyda bod y geiriau dros ei wefusau fe dorrodd allan yn orfoledd. Yna fe ddechreuwyd canu, "Beth yw'r udgorn glywai'n seinio?" A chanu yn orfoleddus y buwyd am encyd o amser. Amryw o'r cyffelyb bethau a brofwyd gyda'r ymweliad hwn. Ychwanegwyd nifer a fu o fawr wasanaeth yn ol hynny. Yr oedd William Humphreys wedi dod i'r eglwys rai blynyddoedd cyn hynny, ond ar ol y diwygiad y dechreuodd efe weithio gyda chrefydd. Yr ydoedd argyhoeddiad William Humphreys yn un hynod braidd. Gweithio'r nos yr ydoedd yn Dorothea. Daeth yn wlaw trwm, a bu raid llechu yng nghwt y boiler, lle'r aeth y rhan fwyaf i gysgu. O ddireidi, fe agorodd rhywun un o'r pibellau agerdd, nes bod yr agerdd yn chwythu allan gyda thwrf dychrynllyd. Deffrodd y cysgaduriaid, gan ruthro ar draws eu gilydd ynghanol yr agerdd a'r lluwchfa o ludw. Meddyliodd William Humphreys ar y funyd mai yn uffern yr ydoedd. Y teimlad yma a'i harweiniodd i'r eglwys. Eithr y diwygiad a wnaeth grefyddwr gweithgar ohono. Un o blant y diwygiad oedd William Griffith Cae Goronwy. Yr oedd ef yn gerddor, a bu o wasanaeth mawr i'r ganiadaeth. Dewiswyd ef yn arweinydd cyn bod ohono yn aelod eglwysig, ac ymroes yntau gyda llwyredd i'r gwaith. Y mae'r hanes hwn am y diwygiad wedi ei ddiogelu gan Mr. David Hughes. Rhif yr eglwys yn 1858, 45; yn 1860, 80; yn 1862, 85; yn 1866, 85.

Yn amser y diwygiad y sefydlwyd y cyfarfod gweddi bach. Penodwyd John Jones Penygan a William Humphreys i ofalu am dano.

Yn 1861 fe newidiwyd y daith. Pregethwr Talsarn i fyned i'r Baladeulyn, a Cesarea i fyned yn daith gyda Charmel.

Yn ol adroddiad Ysgolion y Dosbarth am 1862, yr oedd rhif yr athrawon yn 18, athrawesau 1, ysgolheigion 111, ynghyd â'r arolygwr a'r ysgrifennydd yn gwneud 132.

Yn 1864 y gorffenwyd y capel newydd yn gyfagos i'r fan lle'r oedd yr hen gapel, yn is i lawr, ac ar dir Bronyfoel. Tra'r oedd y capel heb ei orffen, fel y clywodd Mr. O. J. Roberts, daeth Edward Griffith Meifod heibio yng nghwmni David Lloyd Jones, a phregethodd ynddo i gynifer a ellid eu cael ynghyd, a digwyddodd i'r ail gapel megys ag i'r cyntaf, sef ddarfod iddo gael ei gysegru â phregeth cyn ei lwyr orffen. David Jones Plas Collin a edrychai ar ol yr adeiladwaith dros yr elgwys. Evan Owen Talsarn oedd y cyntaf i bregethu ynddo yn ol trefn ac yn rheolaidd. Hugh Thomas y Castell a ddechreuodd yr ysgol ynddo gyntaf. Yr arolygwr ysgol a ddaeth o'r hen gapel i'r newydd ydoedd Thomas Roberts Tanycastell, ysgrifennydd yr ysgol a'r eglwys, Morris Williams Penygan. Agorwyd y capel yn ffurfiol gyda Chyfarfod Misol, Dafydd Jones Caernarvon a Dafydd Morris ymhlith y pregethwyr. Eisteddleoedd yn y capel i 256. Gosodid 180 yn 1865. Swm y ddyled yn 1860 ydoedd £15; yn 1865, £500; yn 1866, £550. Gwerthwyd yr hen gapel yn 1865 am £20.

Yn 1866 y sefydlwyd y Gobeithlu. Y ddau blaenllaw yn hynny, John Jones Ffridd lwyd a Thomas Roberts Tŷ Capel, Tanycastell gynt.

Yn ol cofnod ysgrifenedig, yr oedd brodyr o Cesarea yng Nghyfarfod Misol Talsarn ar Ionawr 14, 1867, yn cwyno fod y gwynt mawr diweddar wedi chwythu ymaith ben eu capel. Anogwyd gwneud casgl ym mhob capel i'w cynorthwyo. Fe ymddengys ddarfod i'r gwynt mawr hwnnw godi nen y capel yn goed a thô, a chario'r cyfan dros y ffordd a elai heibio'r capel i gae gerllaw. Fe ddigwyddodd hynny ar y Sadwrn cyntaf o Ionawr, sef y pumed. Y mae gan Robert Ellis nodiad yn ei ddyddiadur ar gyfer y Sadwrn hwnnw : Myned drwy dywydd mawr iawn i Gaergybi." A thrachefn ar gyfer yr wythnos nesaf, "Eira mawr, mawr;" a'r wythnos wedi honno, "Eira mawr-oer iawn;" a'r wythnos wedyn, "Lluwch eira dychrynllyd." Traul ail doi, £132. Y ddyled yn 1868, £525. Nid hir y buwyd cyn fod rhaid ail-doi talcen ac ochr, am eu bod yn gollwng dwfr, ac ar ol hynny rhoi nenfwd newydd. Y ddyled yn 1870, £475; yn 1871, £570.

Yn ystod 1868-9 neu ddiweddarach y daeth Evan Parry i'r ardal o Rostryfan, yr hwn ynghyda William Griffith, a fu o hynny ymlaen yn arwain gyda'r canu.

Yn niwedd 1868 y daeth Edward Lloyd yma o Cefnywaen fel cyfrifydd yn chwarel y Braich. Llafuriodd gyda phob rhan o'r gwaith, a gadawodd ei ol ar y tô ieuanc.

Bu farw Thomas Roberts Tŷ capel ar Mai 6, 1871, wedi gwasanaethu'r swydd o flaenor am oddeutu deuddeng mlynedd. Gwr tal, llawn ddwylath, a chymesur, gyda wynebpryd meddylgar, ac o dueddfryd siriol a chymdeithasgar neilltuol, ynghyd â gradd helaeth o awdurdod o phenderfyniad, ebe Mr. O. J. Roberts. Gweinyddodd ei swydd gydag ymroddiad a doethineb. Safai yn gryf dros argyhoeddiad ei feddwl, ar ol manwl ystyriaeth, gan ymgais am ddidueddrwydd mewn barn. Yn wr darllengar gyda dyheadau y gwleidyddwr. Ymlonai yng ngwawr y deffroad Cymreig. Efe oedd yr athraw yn nosbarth pwysicaf yr ysgol. Heb ddawn arbennig, yr oedd eto yn siaradwr cryf, goleubwyll. Bu'n llywydd. y Cyfarfod Ysgolion. A'i gymeryd ym mhob golwg arno yn wr ardderchog.

Yn ystod 1871—2 y dewiswyd yn flaenoriaid, John Williams, mab Griffith Williams Penybraich a William Hughes, mab Cefneithin. Symudodd John Williams yn 1879, debygir, i Hyfrydle, canys yn Nhachwedd y flwyddyn honno y galwyd ef i'r swyddogaeth yno.

Yn 1872 fe awd i ryw gytundeb âg Edward Lloyd, ar iddo wasanaethu fel bugail ar yr eglwys, a'i gyflog i fod yn £10. Nid yn rhwydd y daeth hynny o gyflog i law, ac efe a ymadawodd i Nerpwl ym mis Mai, 1873.

Yn 1873 y dewiswyd yn flaenoriaid, Thomas Jones Tanyfron a Griffith G. Williams Broneryri. Y flwyddyn hon y codwyd tŷ capel newydd ar draul o £250. Prynwyd tir ynglyn âg ef am £20 7s. 6ch.

Yn 1873 y derbyniodd Mr. J. J. Roberts alwad i Drefriw. Yr oedd ef wedi dechre pregethu yn Ebenezer, Clynnog, Medi 30, 1867. Yn niwedd 1873 yr aeth William Hughes i Nerpwl i'r ysgol, wedi bod yn flaenor yma am o un i ddwy flynedd. Cymerwyd ef yn glaf, a bu farw cyn nemor o amser. Gwr ieuanc caredig, crefyddol. Hydref 8, 1875, y sefydlwyd y Parch. W. R. Jones yma fel bugail yr eglwys. Daeth yma o Fethesda. Efe a aeth i fyw i'r tŷ capel newydd.

Bu farw Robert Dafydd ym Medi 26, 1878, yn 78 oed, wedi gwasanaethu fel blaenor yma o'r dechre, a chyn hynny yn Nhalsarn. Yn y Fron y preswyliai, ac yr oedd yr Henfron hefyd yn ei ddaliadaeth. Trwy ei offerynoliaeth ef yr agorwyd yr Henfron i'r ysgol ar y cyntaf. Yr oedd efe yn briod âg Elizabeth, chwaer John Jones Ffridd lwyd, gwraig nodedig o grefyddol. Bu'n oruchwyliwr ar chwarel y Fron am ysbaid o flynyddoedd. Dioddefodd waeledd a nychdod am yn agos i'r 20 mlynedd diweddaf o'i oes. Oblegid hyn fe'i cyfyngwyd i'w dŷ am yr ystod hwnnw o amser, oddigerth ar dywydd hyfryd. Defnyddiodd ei amser adref i ddarllen, yn enwedig ei Feibl, fel yr ystyrrid ef yn dra chyfarwydd ynddo. Fe ddywedir y byddai John Jones yn hoff o'i gymdeithas, a darfod iddo adrodd sylwedd rhai o'i bregethau iddo o bryd i bryd cyn eu traddodi. Bu'n weithgar efo'r ysgol Sul, a bu'n offeryn gyda'i chychwyn yn y Gelli ac yma. Gosododd yr Henfron i hen bobl heb fawr o ddodrefn ganddynt am ardreth isel er mwyn ei gael yn lle cyfleus i gadw'r ysgol. Yr oedd yr hen wr, pa fodd bynnag, yn gâr iddo, ac fel yntau yn rhywbeth o gymeriad yn ei ffordd. Ni faliai nemor am bethau newyddion. Ni fynnai fyned i weled y trên pan ddaeth o fewn dwy filltir i'w breswylfod, er cael cynnyg ei gario droion mewn cerbyd i'r perwyl hwnnw. Gwaharddodd ddwyn elorgerbyd i'w gynhebrwng. Myned gyda llythyren rheol. Priododd merch un o'r byd yn amser yr hen gapel. Collodd ei haelodaeth. Ymhen hir a hwyr hi ddaeth i'r eglwys yn ei hol, wedi bod o'r gymdogaeth am ysbaid. Am na fynnai hi ddweyd ei bod yn edifarhau am yr hyn a wnaeth, ni fynnai Robert Dafydd mo'i derbyn hithau yn ol, ac at enwad arall yr aeth hi. (Goleuad, 1878, Hydref 26, t. 9.)

Oddeutu 1880 y symudodd William Humphreys i Garmel, lle bu farw yn 1883. Fel athraw, heb fedru darllen yn gywir ei hun, yr oedd ganddo ffordd ddeheuig o gael yr ysgolheigion i gywiro eu gilydd. Bu cyfarfod gweddi'r bobl ieuainc dan ei ofal ef o amser y diwygiad hyd ei ymadawiad o'r ardal. Disgybl anwyl ydoedd.

Yn 1881 y derbyniwyd Richard Williams i'r Cyfarfod Misol fel blaenor.

Dydd Sadwrn, Awst 28, 1880, y gosodwyd i lawr y garreg sylfaen i'r capel newydd, sef y trydydd, gan Watkyn Williams, yr aelod seneddol dros y sir. Yr oedd hynny tua chwarter milltir ymhellach na'r hen gapel, ac yn nes i Fynwent Twrog. Rhoes y Dr. Owen Thomas anerchiad ar yr achlysur. Gwnaed y cynlluniau gan y Parch. Griffith Parry Llanberis, a chymerwyd y gwaith gan Mr. Evan Jones Plas Dolydd. (Goleuad, 1880, Medi 4, t. 14.)

Ymgynullodd y gynulleidfa ynghyd i'r capel am y tro cyntaf ar y Sul, Awst 28, 1881. Cyn codi'r capel newydd yr oedd y ddyled yn £425. Prynwyd y tir am £112 10s. Yr holl draul, gan gynnwys y ddyled flaenorol, £2,436 3s. 10c. Prin yr oeddid wedi gorffen adeiladu na phrofwyd iselder masnachol yn y wlad. Yn 1883 fe ddarfu'r dymestl dorri y tô. Erbyn yr agoriad yr oeddis wedi talu dros £200 o'r ddyled, a lleiheid ryw ychydig arni, er gwaethaf llogau trymion, bob blwyddyn oddigerth y flwyddyn 1883. Sefydlwyd cymdeithas ddilog cyn agoriad y capel. Er hynny fe dalwyd 473 18s. mewn llog yn 1886.

Yng ngwanwyn 1882 y bu farw Evan Parry. Dewiswyd ef fel cyd-arweinydd y gân â William Griffith. Disgynnodd y cyfrifoldeb yn lled lwyr arno ef. Yr oedd yn gerddor da. Cyflawnodd y gwaith yn deilwng. Dewiswyd ei fab, Mr. Henry R. Parry, i'r un swydd ar ei ol.

Ebrill, 1882, fe roes y Parch. W. R. Jones ei swydd fel bugail i fyny, ac ymadawodd i Lanfairfechan.

Bu farw John Jones Ffridd lwyd, Mawrth 14, 1885, wedi bod yn flaenor ers oddeutu 1842. Gwr cryf, gewynog, llawn dwylath o daldra, o brydwedd tywyll, go hunanfeddiannol, ac âg edrychiad go led dreiddlym ganddo. Un o wŷr Beddgelert, ac wedi teimlo pethau grymus yno. Y blaenor cyntaf yma o ddewisiad yr eglwys ei hun. Bu'n arolygwr yr ysgol yn y capel cyntaf am rai blynyddoedd. Yn wr penderfynol yn ei swydd, ac yn hytrach yn geidwadol ei ysbryd. Cofiadur da, a chanddo gyfoeth o bethau wedi eu darllen a'u clywed, ag y gallai eu dwyn allan ar achlysur yn ei gyfarchiadau cyhoeddus. Braidd yn afrwydd fel siaradwr nes poethi gyda'i bwnc. Yn weddiwr cyhoeddus taer, llawn teimlad, gyda gwên ar brydiau yn ymdaenu dros ei wynepryd, pan gyda'r gorchwyl. Danghosodd fesur da o ymroddiad dros ystod ei dymor maith fel blaenor, ac yr ydoedd yn un yr hoffid gwrando ar ei gyfarchiadau.

Yn 1885 y dewiswyd yn flaenoriaid, O. J. Roberts a William Ellis Williams. Y blaenaf yw ysgrifennydd yr eglwys er 1874. Aeth yr olaf i Awstralia, gan geisio adferiad iechyd, a bu farw yno Hydref 6, 1903. Yn niwygiad 1859 y daeth efe at grefydd. Bu yn Awstralia yn ddyn ieuanc. Yn 1874, penodwyd ef ar ol ei dad yn oruchwyliwr chwarel y Cilgwyn.

Bu farw John Roberts, Chwefror 12, 1888, yn 84 oed, ac yn flaenor er rywbryd yn 1856-7. Ganwyd ef ym Mryncyll ger Amlwch, Môn. Ystyriai John Roberts fod ganddo hawl gyfreithiol drwy ei fam i etifeddiaeth neilltuol o gryn werth. Pan oedd rhan o'r etifeddiaeth honno yn myned ar werth, meddyliodd am ymyrraeth y pryd hwnnw, ac aeth i Fôn i'r amcan; ond pallodd ei wroldeb, a daeth oddiyno heb yngan gair. Pan tuag 20 oed daeth i Simdde'r Ddallhuan, Drwsycoed, i weithio. Lletyai yn y Gelli ffrydau. Yno yr ymunodd â chrefydd. Yn ystod ei arosiad ef yno y sefydlwyd ysgol Sul yn y Gelli, a bu yntau yn athraw a holwyddorydd yno am gryn ysbaid. O'r Gelli y symudodd yma, ac a adeiladodd Danychwarel, ei gartref yn ol hynny. Bu yn ardal Pisgah am ddwy flynedd a hanner, ac yna dychwelodd i aros yn Nhanychwarel, oddigerth am yr ysbaid yn niwedd ei oes pan letyai gyda'i fab, Mr. O. J. Roberts. Mab arall iddo ydyw Iolo Caernarvon. Yr oedd ef yn wr nodedig. Yr ydoedd yn gâr i William Roberts Amlwch, ac ystyrrid fod gradd o debygrwydd i'w ganfod ynddynt yn eu gwynebau. Nid oedd mor gryf a llym ac awdurdodol yn ei wynepryd a William Roberts o lawer; ond yr oedd llawer o'r un meddylgarwch a chraffter i'w ganfod ynddo, a chymaint feallai o gallineb a chyfrwystra, a mwy o ddawn ymadrodd yn y llygaid, a chwareuent yn fwy ar wyneb y croen nag eiddo William Roberts. Fel meddyliwr, yr oedd yn gyffelyb i William Roberts o ran ei brif nodweddion, nid amgen, anibyniaeth, treiddgarwch a gwreiddioldeb. Ni chafodd fanteision addysg, mwy na William Roberts: darfu i argyhoeddiad crefyddol ddeffro meddylgarwch yn y naill a'r llall, a meithrin ynddynt chwaeth lem. Arwydd o ragoriaeth cynhenid ei feddwl oedd ei sylw ar natur a'i hoffter o blant. Fe dynnai wersi oddiwrth amrywiol ymddanghosiadau natur. Rhedai y plant i'w gyfarfod, fel y deuai oddiwrth ei waith, er mwyn cael ysgwyd llaw âg ef. A byddai yntau wrth ei fodd yn eu canol hwythau. Yr oedd yn rhwyddach a llyfnach ei ddawn na William Roberts, ac yn llai ysgythrog ac ofnadwy, ond fel yntau yn meddu ar ryw rin cuddiedig a daflai newydd-deb a dieithrwch a swyn cyfrin ar ei feddyliau. Yr oedd William Roberts a Morgan Howels wedi cyrraedd gradd o arglwyddiaeth ar ei feddwl ef, yn ddiau mewn rhan oherwydd gradd o gydymdeimlad dirgeledig rhyngddo â hwy yn ei ysbryd. Fe briodolir ei argyhoeddiad i'r naill neu'r llall ohonynt, heb fod yn sicr p'run; nid hwyrach ei fod yn ddyledus i'r naill a'r llall fel offerynau yn hynny. Bu'n athraw llwyddiannus am driugain mlynedd. Yn holwr plant gyda'r mwyaf medrus. Siaradwr mynych ac effeithiol yn y Cyfarfod Ysgolion. Areithiwr dirwestol selog. Yr oedd mewn cydymdeimlad â'r hen a'r newydd: adroddai sylwadau yr hen bregethwyr a'r rhai ieuainc diweddar: symudai gyda symudiadau ei oes. Medr mewn ymgeleddu a chyfarwyddo a hyfforddi. Yn wr gostyngedig a thyner a doeth. Ac yn y cyfuniad o'i ragoriaethau yn flaenor tra effeithiol yn yr eglwys. Efe fyddai yn cychwyn y cynhebryngau braidd i gyd cyn amser y fugeiliaeth. O'r tu ol i'w ragoriaethau eraill yr oedd duwioldeb diamheuol. Yr oedd ei dduwioldeb yn gyfryw ag oedd yn cydweddu â naturioldeb. Yn wr ynghanol gwŷr, yr oedd yn blentyn gyda phlant. Defnyddiai ymddanghosiadau natur ac arferion gwahanol greaduriaid er egluro pethau ysbrydol. Yr oedd yn fawr mewn gweddi yn y dirgel ac ar goedd. Codai ei erfyniadau o ddyfnder calon. Fe ddywedir fod rhai o'i weddiau yng nghyfarfodydd Richard Owen yn hynod iawn. Fel rhyw enghraifft ohono, fe ellir cyfeirio at yr hyn a adroddir ar ei ol pan gododd i siarad mewn Cyfarfod Misol yn Llanllyfni ar yr Ysgol Sul. Dywedai fod arno ofn fod y dosbarthiadau yn fynych yn trin yr adnodau yn lle bod yr adnodau yn eu trin hwy. Yr adnod fel bombshell, yn cael ei throi a'i throsi a'i holi, Pa le y caed yr haiarn i dy wneud di? ymhle y toddwyd di? pwy a'th ddug di yma?' a'r cyfryw gwestiynau. A'r darn haiarn yn ddigon digyffro yn dioddef ei holi. Ond rhyw ddiwrnod dyma ddodi'r bwlet yn y cannon, a dyna'r powdwr a'r tân mewn cyffyrddiad âg o, ac, ar darawiad, dyma fo allan o'r cannon gyda grym a chyflymdra arswydol,—a dyna fraich un wedi ei thorri, clun un arall, a phen un arall. Galanastra mawr! Ac yn gyffelyb y mae'r adnod wedi profi lawer gwaith. Hawdd holi,—Pwy a'th lefarodd di?' 'Beth yw ystyr y gair yma a'r gair acw ynoti?' a'r cyffelyb. Gellir troi a throsi'r adnod yn y dull hwnnw fel peth eithaf diniwed. Ond rhyw ddiwrnod, dyma'r adnod yn nwylaw'r Ysbryd yn ordinhadau'r Efengyl, ac wele hi'n cael ei bwrw gyda nerth i galonnau pechaduriaid, ac, megys y dywedir am Gleddyf yr Ysbryd, hi dyrr drwy bopeth,—hi a wahana rhwng yr enaid a'r ysbryd, y cymalau a'r mer, a dwg farn i mewn i'r gydwybod. Yr adnod a oddefai ei thrin a'i thrafod mewn dull mor dawel,—nid oes dim bellach a saif o'i blaen, ac y mae hi ar unwaith yn lladd ac yn bywhau. Mewn Cyfarfod Misol yn y Bontnewydd, ar ryw ymdrin ar yr ysgol Sul eto, fe ddywedai ei fod y dydd o'r blaen yn edrych ar y robin goch yn lledu ei draed ac yn canu yn soniarus ar ymadawiad ei gywion â'r nyth. Yr aderyn bach fel yn dweyd, 'Welwchi, fel y maent yn ehedeg! y fi magodd nhw, y fi fu yn yr helbul blin o hel bwyd iddyn nhw! Ond y mae eu gweld wedi magu y fath blu, ac yn hedeg mor hoew, yn ddigon o dâl imi am y cwbl.' Yna fe droes at y pregethwyr oedd yn bresennol. "Deiliaid yr ysgol Sul ydych chwithau, frodyr anwyl! Y mae rhai ohonoch yn hedeg yn uchel iawn. Ond chwi faddeuwch i ambell hen athraw yn yr ysgol Sul am ddweyd yn yr olwg arnoch yn ehedeg ynghanol y nef, a'r efengyl dragwyddol ganddoch,—Welwchi fel y mae nhw yn ehedeg! Y fi magodd nhw, y fi fu'n hel bwyd iddyn nhw, yn fy nyth i y magasant eu plu, ac y casglwyd nerth ganddynt i ehedeg mor uchel!" Y gair a ddywedodd wrth rai o'i gydswyddogion, a oedd wedi galw i'w weled pan oedd efe ar ei derfyn,—"Awn a meddiannwn y wlad!" (Drysorfa, 1891, t. 447).

Yn 1892 y dewiswyd Richard Roberts Ffridd lwyd a John W. Evans Bryn awel yn flaenoriaid. Hefyd, Richard Williams yn ymadael i Garmel, yn flaenor yma er 1881. Yr oedd ef wedi dod i fyw i'r ardal ers rhai blynyddoedd cyn hynny. Ymwelwr â'r claf a'r rheidus.

Ionawr 27, 1893, y bu farw William Griffiths Cae Goronwy, arweinydd y gân am faith flynyddau. Ymunodd ef â chrefydd. oddeutu amser y diwygiad. Bu'n dra ffyddlon i ddilyn yr wylnosau, er mwyn y canu. Llafuriodd lawer gyda'r canu ar gyfer gwahanol gyfarfodydd dirwestol. Yn fanwl iawn mewn dysgu darllen i'r bechgyn yn ei dosbarth.

Medi 27, 1898, y daeth Mr. R. Dewi Williams, B.A., yma fel bugail.

Yn 1898 yr ymadawodd Richard Roberts i Rostryfan, yn flaenor yma er 1892. Yn athraw da, yn wr neilltuol mewn gweddi, ac o gymeriad rhagorol.

Gwerthwyd y capel blaenorol am £60 10s. yn 1898. Gwerth— wyd y tŷ capel cyfagos iddo am £141 yn 1899. Yn 1898 adeiladwyd tŷ capel ynglyn â'r capel newydd. Y draul, £305, a £15 15s. am ddodrefnu ystafelloedd i'r gweinidog. Yn 1900 fe adgyweiriwyd wyneb y capel ar draul o £182 10s.

Yn 1900 y dewiswyd Hugh William Roberts yn flaenor.

Y mae gan Mr. O. J. Roberts rai adgofion ychwanegol. Yn yr ail gapel y dywed ddarfod dechre cynnal y cyfarfod llenyddol Bu llewyrch yma ar yr achos dirwestol, ac ar y ffurf arni a adwaenid fel Temlyddiaeth Dda. Yn yr ail gapel yr oedd y tê parti mewn bri. Cynelid un yno ar Tachwedd 17, 1866, y cyntaf, debygir, o'i rywogaeth. Cynelid cyfarfod y Gobeithlu yn yr hwyr, pryd yr oedd Ieuan Gwyllt yn bresennol. John Roberts Tanychwarel yn holi'r plant yn hanes Jonah. Nid ymddengys y cyfododd yma yr un pregethwr yn holl hanes yr eglwys. Daeth i gysylltiad â'r ail gapel ddau deulu o leoedd eraill sydd wedi parhau yn amlwg yma, sef teulu William Roberts Tynymaes, wedi hynny Bryn'rhydd, a ddaeth yma o Frynrodyn, a theulu William Evans o Froneryri. Cymerai William Roberts ddyddordeb mewn llenyddiaeth a chân, a magodd yr un ysbryd yn ei blant. Griffith Williamson Jones a fu'n ymdrechgar gydag ysgol Sul y plant hynny na ellid mo'u cael i'r capel newydd presennol.

Nis gwywa'i goffa gwyn
Uwch diffrwyth lwch y dyffryn. (Cyndeyrn).

Bu ef farw Gorffennaf 25, 1898. Alice Roberts a fu'n gofalu yn hir am y tŷ capel, a gair da iddi gan bawb a fu dan ei chronglwyd. Yn nodedig o grefyddol a chyfarwydd yn ei Beibl. David Roberts Gorlan wen, mab Robert Dafydd, yn nechre'r achos, ac am lawer o flynyddoedd, a ofalai am lyfr y seti a llyfr y casgl mis. William Jones Tŷ eiddew yn ddiweddarach a fu'n ffyddlon gyda'r llyfrau cyfrifon hyn. Yn dilyn Richard Williams, y blaenor, y daeth ei rieni a brawd a chwiorydd i'r ardal, yn deulu crefyddol oll. Ei fam, Hannah Williams, a fu farw yn yr ardal hon.

Hannah Williams, hon hwyliai—hyd ei hoes,
I wlad well cyfeiriai;
Ac i'r hedd y cyrhaeddai
Yn llaw'r Ior,—lle arall 'rai? (Cyndeyrn).

Symudodd y teulu i Garmel yn 1892. Bu Richard Williams ei hun farw yn ddisyfyd drwy ddamwain yn y chwarel ar y 12 o Fai, 1894.

Nid oedd angen cystuddio,—parod oedd,
Pryd y galwyd arno,
I fawl, i fraint, y nefol fro—o'r byd,—
Ni oedodd ennyd, ehedodd yno. (Cyndeyrn).

Mae ef a'i rieni wedi eu claddu yn yr un bedd ym mynwent Brynrodyn.

Dri anwyl! daw yr ennyd—dihunant
Gan dywyniad bywyd,
A'u gwawr—heb ol y gweryd
I uno 'nghân Nef ynghyd. (Cyndeyrn).

Dyma adroddiad ymwelwyr Canmlwyddiant yr ysgol: "Ystafell helaeth a chyfleus i'r plant, a'r athrawon yn ymddangos yn deall eu gwaith, ac mewn llawn gydymdeimlad âg ef. Y dosbarthiadau yn rhy agos i'w gilydd yn y capel. Llafur ac ymroddiad amlwg yn y dosbarthiadau canol ac uchaf. Cwestiynau'r athrawon yn dda a phriodol. Y merched yn rhoi eu presenoldeb yn yr ysgol yn gyffredinol."

Fe aeth Cesarea drwy fwy na mwy o dreialon ynglyn â'i hadeiladau, yn enwedig efo thô'r capel, pan y codid ac y torrid ef gan gymlawdd y gwyntoedd, a phan wthiai'r gwlaw ei ffordd i mewn drachefn newydd ei ail-doi; a blin a thraulfawr fu'r gwaith o'i adnewyddu. Eithr wedi'r cyfan, nid yw'r ddyled ar ddiwedd 1900 yn ddim rhagor na £72 18s. 11c. A phrofwyd yma "nawdd rhag blawdd y cymlawdd blin."

Rhif yr eglwys, 235.

NEBO.[13]

DEUAI rhai o aelodau hen gapel y Buarthau o ardal Nebo. Cychwynnwyd ysgol Sul yma yn Nhynyfron yn 1809—10. Adeiladwyd Nazareth, capel yr Anibynwyr, yn 1821, gerllaw y tŷ hwn. William Williams, tad Thomas a William Williams,—y ddau saer maen,— oedd y trigiannydd, ac efe oedd y prif ysgogydd yn y gwaith o ddwyn yr ysgol yno. Efe a ddygai y cymeriad o ddyn duwiol.

Ymhen pum mlynedd o 1810, yn ol yr ysgrif o'r lle; ymhen pedair o 1809, yn ol y Canmlwyddiant, symudwyd yr ysgol i dŷ Catrin Samol, er gwell cyfleustra i'r ysgol. Yr oedd murddyn y tŷ hwn yn sefyll yn 1898, wrth ymyl Rhwng-y-ddwy-afon. Cynyddodd yr ysgol yn amlwg yma. Dywed yr Asiedydd y daethpwyd i gynnal yr ysgol mewn tri thŷ yma, ac y deuid ynghyd i'r cateceisio. (Drysorfa, 1885, t. 334). Yr ysgol yma yn enwog am ddysgu'r Beibl ar dafod leferydd. Fe ddywedir y bu rhywun yma yn dysgu pymtheg Salm bob wythnos, o'r naill wythnos i'r llall, gan eu hadrodd ar y Sul. Fe ddaeth yma dri o bersonau, dau fab ac un ferch, oddeutu triugain oed bob un ohonynt, i ddysgu'r wyddor, a daeth y tri ymhen amser i fedru darllen y Beibl. Delai y rhan fwyaf o'r plant yma yr haf yn droednoeth. Y rhai oedd yn gofalu am yr ysgol yma,—Robert Evans Cil-llidiart (Ty'n llwyn wedyn), Hugh Hughes y Caerau, a John Pritchard Tirion pelyn. Bu'r tri hyn yn flaenoriaid yn Llanllyfni.

Pan adeiladwyd capel Nazareth yn 1821 gan yr Anibynwyr, fe symudwyd yr ysgol yno. Elai rhai o'r Methodistiaid i ysgol Llan— llyfni. Cynelid ysgol hefyd ym Maes y neuadd. Nid yw'n ymddangos prun ai cyn agor Nazareth, ai ynte yn ol hynny, y cychwynnwyd ysgol Maes y neuadd. Symudwyd oddiyma i Bencraig, lle trigiannai John Michael. Gofelid am yr ysgol ganddo ef a Griffith Williams Taleithin. Hen lanc gweithgar a duwiol oedd Griffith Williams, ac un a brofwyd yn ddychryn i anuwioldeb. Symudwyd drachefn o Bencraig i Daldrwst, trigle Thomas Edwards. Gofelid am yr ysgol hon ganddo ef a William Roberts Buarth y Fety a William Roberts Cae engan.

Prynwyd llecyn o dir yn 1825 ar gyfer adeiladu ysgoldy gan Hugh Robert Ismael, neu Hugh Roberts yn ol y weithred, am bum gini. Mesur y tir, mewn gwahanol fannau, mewn troedfeddi : 179, 220, 53, 122.

Yn 1826 yr agorwyd yr ysgoldy. William Williams Ty'n y fron oedd yr adeiladydd. Gofelid am y gwaith gan Owen Evans Coed caedu ac Evan Roberts Dolwenith. Llawr pridd a meinciau oddifewn. Yna, wedi gorffen adeiladu, daeth y rhai oedd ar wasgar yn gytun i'r un lle, sef o'r Taldrwst, o Nazareth ac o Lanllyfni. Yr arolygwr cyntaf yn yr ysgoldy oedd Daniel Williams Bryntirion, ac wedi hynny, Richard Griffith Pen yr yría. Dywed yr Asiedydd mai Ellis Roberts Pant yr arian oedd yr arolygwr cyntaf. Yr holwyr cyntaf, John William Pandy hen a Hugh William Penisa'r lôn. Yr arweinwyr canu cyntaf oedd Richard William Maes y neuadd a William Evans Talymaes.

Mae gan Cyrus yn ei ysgrif ar Lanllyfni nodiad ar gyfer Ionawr, 1827, fel yma: "Yn y mis hwn, bu John Williams Llecheiddior yn Llanllyfni y bore [ar un o'r Suliau], ac yn ysgol newydd y Mynydd am ddau. Mae'n debyg mai dyma y bregeth gyntaf yn Nebo." Ymhen ysbaid ar ol cael pregeth ar y Sul, fe geid cyfarfod eglwysig yn awr ac eilwaith o dan arweiniad un neu ddau o flaenoriaid Llanllyfni.

Wedi dod i'r ysgoldy enillai'r ysgol nerth. Cynyddai'r gynull- eidfa hefyd ar brynhawn Sul. Yn ol hen gofnodlyfr a welodd yr Asiedydd am y blynyddoedd 1828-34, rhif yr ysgol ydoedd 28 Erbyn 1838 trefnwyd Mynydd Llanllyfni yn daith gyda Thalsarn. Cododd awydd am sefydlu eglwys yn y lle, yr hyn fu'n gryn dramgwydd i eglwys Llanllyfni. Ar gyfer 1842 y mae gan Cyrus nodiad i'r perwyl yma: "Teimlad am gael sefydlu eglwys yn ysgoldy Nebo. Gwrthwynebiad yn Salem ar gyfrif fod dyled of £700 ar y capel yma." Ac ar gyfer 1843: "Sefydlu eglwys yn Nebo. Gosodwyd y ddyled o £60 oedd yn aros ar yr ysgoldy i'w thalu gan yr eglwys yno." Rhif yr eglwys ar ei sefydliad, 36. Eithr er sefydlu'r eglwys yma yn 1843, yn Salem yr oedd yr aelodau yn talu eu casgl mis hyd 1846. Trefniant er mwyn cyfleustra ynglyn â chydnabod y weinidogaeth.

Dyma restr o'r rhai mwyaf blaenllaw yn yr ysgol ar adeg sefydliad yr eglwys, yn cynnwys enwau brodyr yn unig: Robert Williams Tŷ capel, Ty'nyrardd, Penygroes wedyn—y cyntaf a ddaeth i fyw i'r tŷ capel, Hugh Jones Blaen y foel, John Prichard Penpelyn, John Williams Pant y pistyll, Ellis Roberts Pant yr arian, William Prichard Tŷ cerryg, Hugh Robert Ismael Glan y gors, William Williams Ty'n y fron—gwr a'i ffyddlondeb yn ddiarebol, Thomas Jones Glan y gors, Robert William Penmynydd, Robert Griffith Bryn person, Morgan Jones Talymaes, Owen Morris, Owen Ellis Nazareth. Yna y mae dau enw arall ar wahan, sef David Griffith Tŷ capel—efe a laddwyd yn y chwarel,—William Roberts Nant noddfa "gwr da:" ymfudodd ef i'r America. Nodir am Ellis Roberts Pant yr arian, ddarfod iddo gael ei ladd yng Nghloddfa'r lôn yn 1839. Mae'r sylw yma am Hugh Robert Ismael hefyd: "Nis gallai ddarllen, ond cae'r fath bleser yn ei henaint wrth weled a chlywed eraill yn gwneud, fel y byddai bob amser yn bresennol." Nodir fod yr ysgol yn 64 o leiaf.

Wele yma restr o'r rhai a ymadawodd o Lanllyfni i ffurfio eglwys yn Nebo, sef 47 o enwau. Rhif yr eglwys ar ei sefydliad ydoedd 36, yn ol yr ysgrif o'r lle. Rhaid, gan hynny, debygir, fod rhestr Cyrus a William Roberts yn cynnwys enwau rhai a ymadawodd o Lanllyfni ryw gymaint yn ddiweddarach na sefydliad cyntaf yr eglwys, neu ynte a oedd heb fod yn bresennol yn y cynulliad cyntaf i gyd. Dyma'r restr: Meibion—Richard Griffith Penmynydd, Richard Roberts Bodychain, William Williams Ty'n y fron, Isaac Ffoulkes Jones, William Roberts Nant noddef, David Griffith Tŷ capel, Hugh Jones Blaen y foel, Robert Williams Tan y ffynnon, Henry Parry Frondeg, Thomas Parry eto, Morgan Jones Talymaes, Richard Roberts Bronyfoel, William Hughes Hendre wen, Griffith Jones eto, Richard Jones Bronyfoel, Owen Roberts Bryneithin, Hugh Roberts Glanygors, Thomas Jones eto, John Michael, Robert Griffith, Robert Jones, William Prichard Tŷ cerryg. Rhif, 22. Merched—Elinor Griffith Coed y fron, Jane Roberts Bodychain, Margaret Dafydd Bwlchgwyn, Jane Griffith Bryngwyn, Mary Williams Pant y frân, Mary Griffith Clwt y ffolt, Esther Jones Blaen y foel, Ann Williams Cil lidiart, Margaret Thomas Ysgoldy, Catherine Morris Cae'r ffridd, Laura Roberts Tŷ cerryg, Elizabeth Dafydd, Gwen Roberts Bronyfoel, Elinor Thomas eto, Margaret Williams Hendre wen, Elinor Jones Frondeg, Mary Humphreys, Jane Hughes Taleithin, Phoebe Hughes Maen y gaseg, Jane Roberts Twlc, Elinor Morris, Jane Hughes Glanygors, Catherine Jones Bryn y gôg, Janet Jones Pandy hen. Rhif, 25.

Dewiswyd Richard Roberts Bodychain a Richard Griffith Pen yr yrfa yn flaenoriaid yn niwedd 1844.

Moses Jones Lleyn bregethodd gyntaf yma ar ol sefydlu'r eglwys, a derbyniodd y swm o ddau swllt am ei lafur. Cyn bo hir yr oedd Moses Jones yn pregethu yma drachefn, a derbyniodd bum swllt. Yn 1845 ymfudodd William Roberts Nant noddef (neu noddfa) i'r America. Gwr ffyddlon, dichlynaidd, cadarn yn yr ysgrythyrau, ac yn weddiwr cyhoeddus synwyrlawn a theimladol, ac ar brydiau âg awch neilltuol ar ei erfyniau. Arferai Richard Griffith ddweyd na bu arno ef gymaint ofn neb a William Roberts, pan yn myned ato am ei brofiad, gan mor hyfedr y triniai Gleddyf yr Ysbryd, yr hwn yw gair Duw.

Jane Griffith Bryngwyn a fu farw yn 1846, yn hen wraig ffyddlon gyda chrefydd. Hynodid hi gan ei chysondeb yn y moddion, a hynny yn wyneb ffordd anhawdd i'w theithio. Heblaw bod yn gyson yr oedd hefyd yn bur. Wrth adrodd ei phrofiad unwaith soniai am y ddwy fuwch flith yn dwyn yr arch yn ei blaen ar hyd y brif—ffordd, heb aros i wrando ar frefiad eu lloiau; a chyffelybai hwy i'r anian newydd y dywedai y dymunai hi fod yn feddiannol arni, er mwyn peidio troi ohoni allan o'r ffordd tua'r llaw ddehau na thua'r aswy.

Dafydd Griffith Ysgoldy, hefyd, a fu farw yn 1846. Yr oedd ef yn dad i Dafydd Griffith Brynllyfnwy, a phriod cyntaf Marged Griffith Brynperson. Genedigol o Garreg y llam, Lleyn. Hoff o'i ddosbarth yn yr ysgol. Yn ddychryn i anuwioldeb. Gweddiwr hynod. Mewn cyfarfod gweddi yn y Wig ar nos Sul, fe'i teimlid yn myned megys allan ohono'i hun wrth nesu i'r byd ysbrydol. Dywedai hen wr a'i clywodd wrth fyned heibio i'w dŷ, ei fod yn gyffelyb ar ddyledswydd deuluaidd y bore Llun drachefn. Y diwrnod hwnnw, ar ganol ymddiddan am gyfarfod gweddi'r Wig, y cyfarfyddodd â'i ddiwedd yn y gloddfa.

Codi Robert Williams yn flaenor yn 1850.

William Hughes Pennant, mab ynghyfraith W. Williams Tynyfron, a fu farw yn 1854. Gwr da, gwr o farn, a chloriannydd pethau dadleuol disgyblaeth.

Codwyd William Jones Nazareth yn flaenor tuag 1856—7. Oddeutu 1859—60, os nad cyn hynny, y dewiswyd William Griffith Brynbugeiliaid yn flaenor.

Fe glywodd amryw o breswylwyr y Wig donnau o gân yn dod dros y Foelgron yn hwyr un noswaith yn adeg diwygiad 1859. Bore dranoeth, ohonynt eu hunain, daeth llond y capel o addolwyr, a thorrodd yn orfoledd yn eu plith. Arosodd Sian Lewis yn y seiat gyda phregeth Morris Jones Bethesda. Wedi bod yn erlidgar tuag at ei gwr oherwydd crefydd. "Ymhle mae hi?" gofynnai'r pregethwr. "Dacw hi." "Yr hen beth acw?" Ie, dyna hi." Yr hen beth acw eisio dod i'r seiat ! Faint ydi 'doed di dwad?" "Pedwar ugain." "Wel, yr hen greadur digwilydd! Wedi bod yn gadach llawr i'r diafol am 80 mlynedd, ac yn awr yn rhoi dy hun i Iesu Grist. Rhag cwilydd i ti! Chymer o mohoni." A oedd y ddawn i adnabod ysbrydion gan Morris Jones? Ar darawiad dyna ef yn newid ei ddull. Y wyneb cuchiog yn ymsirioli, a dyna floedd, "Gwneiff, fe'i derbynith hi! Y mae hwn yn derbyn pechaduriaid.' Fuasai neb yng nghreadigaeth Duw ond Hwn yn derbyn hon." (Cofiant Dafydd Morgan, t. 446). Yr oedd rhif yr eglwys yn 1854 yn 43; yn 1858, 50; yn 1860, 90; yn 1862, 111; yn 1866, 104.

Yn 1860 rhoddwyd caniatad i adeiladu capel, ar ol cryn ddadl yn y Cyfarfod Misol. Capel destlus yn mesur 13 llath wrth 9. Dyled o tua £50 eisoes. Swm y ddyled erbyn codi'r capel, £340. Talwyd £40 erbyn y flwyddyn nesaf. Yr agoriad ar Mehefin 25, 1861. Y pregethwyr, D. Davies Corwen, W. Prydderch a'i gyfaill, W. O. Williams Pwllheli.

William Evans Talymaes a fu yn arwain y canu er agoriad yr ysgoldy, efallai, hyd 1860, pryd y dilynwyd ef gan Thomas Griffith. Ffyddlon, egwyddorol. Symudodd i'r Baladeulyn, lle bu farw.

Ionawr 7, 1863, yn 22 oed, y bu farw John Jones Bryn troellwynt (? Bryntrallwm). Ei rieni, Griffith ac Elizabeth Jones. Un o ffrwythau y diwygiad, a gwr ieuanc addawol. Braidd yn henaidd ei ddull. Yn gosod argraff ddwys ar ei ddosbarth. Clywid ef weithiau mewn ymdrech â Duw mewn lleoedd neilltuedig. Ymwelydd â'r claf. Cofiadur pregethau. Dechreuodd bregethu, a bu yn yr ysgol gydag Eben Fardd am dros flwyddyn, ond torrodd i lawr o ran ei iechyd. Torrodd allan yn orfoledd wrth iddo holi'r ysgol y Sul olaf y bu efe byw. Ei hoff bennill, "Syfled iechyd, syfled bywyd." Ei eiriau olaf, "A'r diwedd yn fywyd tragwyddol."

Yn niwedd 1862, William Jones yn cael ei alw yn fugail, yr un pryd ag y daeth i Lanllyfni. Marged Dafydd Bwlchgwynt a fu yn aelod yn y Buarthau, a bu yn dilyn y moddion yno am flynyddoedd, er fod ei gwr, Owen Rodrig, yn erledigaethus tuag at grefydd. Cadwodd hi ei lamp yn oleu er gwaethaf pob rhwystr. Yr ydoedd o feddwl bywiog a theimlad uchel, gorfoleddus. Elai W. Jones ati yn y seiat un tro. Adroddodd hithau wrtho y geiriau hynny, "Ac efe a gododd ei lygaid i'r nef." "Wel," ebe yntau, "pa beth ydych yn ei gael yn y geiriau yna?" "O!" ebe hithau, "mi welais fywyd tragwyddol ynghodiad ei lygaid." "Pa sut y mae hi rhyngochi âg Iesu Grist. rwan, Marged Dafydd?" gofynnai'r gweinidog ar dro arall. "Mi gwelais o heddyw," ebe hithau, "ym mlodyn llygad y dydd wrth y drws acw!" Edrydd William Roberts beth o hanes ei Beibl. Argraffiad Peter Williams o'r plyg mawr, a ddaeth allan yn 1822. Yr oedd yn rhaid wrth linin i'w ddal wrth ei gilydd, gan faint y draul a fu arno. Nid oedd ynddo ond ychydig fannau heb farc croes ar eu cyfer, wedi ei wneud ganddi â'i hewin. Y mae hi wedi marcio yn enwedig hanes y cyfamod âg Abraham, a hanes sefydlu'r pasc, a hanes Moses wrth y berth, a'r genedl o flaen Sinai, a phob man braidd yn sylwadau Peter Williams ei hun, lle cymhwysir yr amgylchiadau at Grist. Llyfr y Salmau sy'n llawn o'i marciau, ac o ôl ei dagrau, a'r proffwyd Esai, yn enwedig y rhannau hynny ohono y mae eu cyfeiriad at Grist. Am y pedair Efengyl, ebe William Roberts, y maent braidd wedi eu marcio bob adnod; a dywed ef mai gwerth fuasai i aml un weled y rhannau hynny yn yr hen Feibl lle rhoir hanes marwolaeth ac adgyfodiad ac esgyniad yr Iesu. Yr Epistolau sy'n llawn o farciau, hyd yn oed yr adnodau athrawiaethol dyfnaf. Tua diwedd ei hoes, meddyliodd yr eglwys mai gwerth fuasai tynnu ei llun, a gwelir ef yn grogedig ar y mur yn y tŷ capel. Bu hi farw Gorffennaf 1, 1865, yn gant oed.

Hen wreigan arall a fu farw ychydig ar ol Marged Dafydd, ac a orfoleddodd lawer gyda hi, oedd Mary Griffith Clwt y ffolt. Pan oedd y ddwy yn gorfoleddu mewn hwyliau uchel unwaith, torrodd Marged Dafydd allan, "Gwaedda Mari, y mae o yn werth gweiddi erddo !" Byddai gan Mary Griffith brofiadau gwerth eu hadrodd, a chwythai awelon dwyfol yn fynych ar ei hysbryd.

William Jones Bryngwyn, Nazareth, oedd yn flaenor yng nghapel yr Anibynwyr, ac a ddaeth yma yn adeg rhyw anghydfod yn yr eglwys Anibynnol. Arferai'r swydd o flaenor yma ar gym- helliad y blaenoriaid, ond heb ei alw gan yr eglwys. Gwr darllengar, a diwinydd da, ac Anibynnwr i'r carn hyd y diwedd. Bu yn aelod yma am rai blynyddoedd, ac hyd ei farw yn niwedd Gorffennaf, 1867.

Codi Griffith Owen yn bregethwr yn 1869.

Chwefror 17, 1870, y dechreuodd y Parch. Robert Thomas ar ei lafur yma fel bugail. Yr un flwyddyn y dechreuodd W. LI. Griffith (Llanbedr) bregethu. Tuag 1870-1 y dewiswyd Griffith Jones (Talmignedd) yn flaenor. Aeth oddiyma i Ynys goch.

Rhagfyr 29, 1871, y bu farw Hugh Jones Blaen y ffolt, wedi gwasanaethu'r swydd o ysgrifennydd yr eglwys am ugain mlynedd yn ffyddlon a manwl a gofalus. Gadawodd £20 yn gymun-rodd tuagat ddyled y capel. Yn absenoldeb y blaenoriaid fe weithredai fel blaenor.

Un o blant y diwygiad oedd Griffith Roberts Glanrhyd, ac wyr hefyd i Robert Dafydd Brynengan. Yn enedigol o Fwlchderwydd. Arosodd taerni ysbryd y diwygiad ym mer ei esgyrn hyd y diwedd. Dawn athraw yr ysgol Sul yn eiddo iddo. Bu farw yn Hydref, 1871.

Yn 1873 y dechreuodd John Morgan Jones bregethu. Y flwyddyn hon yr helaethwyd y capel. Yr oedd y ddyled eisoes yn £207, ac erbyn diwedd 1874 yn £980.

Rhagfyr 23, 1873, y bu farw Griffith Owen yn 27 mlwydd oed. Efe a ddechreuodd bregethu yma pan oddeutu dwy arhugain oed. Torrodd i lawr o ran ei iechyd yn ystod ei dymor yn y Bala. Mab Thomas Griffith, arweinydd y canu. Meddylgar yn hytrach na dawnus. Dwys ei dymer. Meddylid yn uchel ohono gan ei gyd- efrydwyr yn y Bala.

Dewiswyd yn flaenoriaid y flwyddyn hon, David Griffith Bryn llyfnwy, Hugh Williams Bwlchgwyn, yn ddiweddarach Glanygors, a William Roberts Maes y neuadd, yn ddiweddarach Tyddyn hên. Hugh Williams yn cymeryd gofal dosbarthiadau mewn cerddoriaeth, ac wedi bod yn arweinydd y canu am flynyddoedd.

Hen wr mewn gwisg o ddeunydd cartref yn llusgo at y capel ar ei ddwyffon, ei wallt yn wyn fel gwlan, ac yn llaes iawn ac yn pwyso ar ei ysgwyddau—William Williams Ty'nyfron wrth ei enw. Un o hen grefyddwyr y Buarthau ydyw yntau. Y noswaith y daeth adref o'r seiat gyntaf iddo, gofynnodd Jane Lewis ei wraig, gyda'i maban ar ei glin, ai wedi myned i'r seiat yr oedd? gan y mawr ofnai hi hynny. Aflonydd y teimlai Wil ei gwr, a chosai lechwedd ei ben. Ond allan â'r addefiad—ïe, wedi myned i'r seiat yr oedd. I fyny a Jane ar ei thraed, gyda'r plentyn yn ei breichiau, a rhwymyn ei ddillad ef yn llusgo o'r tu ol, fel y cerddai y fam ymaith, gan feddwl ohoni ar y funyd am adael ei gwr am byth. Ond meddyliau eraill a orfu yn y man! Eithr fe ddioddefodd Wil fwy na mymryn yn yr achos yma. Edrychai yn hen odiaeth, ond nid oedd yn fwy na 74 mlwydd pan fu farw. Damegwr wrth'anian ydoedd ef. Gwrandewch arno yn y seiat: "Mi fydda i yn gweld yr hen ddyn a'r dyn newydd yn debyg iawn i wr a gwraig ifanc. wedi dod i fyw at hen bobol. Mae y gwr ifanc, welwchi, eisio i'r hen wr glirio'i ddodrefn gael iddo ef gael lle i osod i ddodrefn newydd. i lawr. Ond y mae'r hen wr, welwchi, yn teimlo yn anfoddlon i glirio i ddodrefn, a rhoi'r llywodraeth i fyny i'r gwr ifanc. Y mae'r hen wr yn anesmwyth iawn, ac mi gwelwch o yn i anesmwythyd yn rhoi proc yn y tân. Mynd ymlaen a wna'r gwr ifanc, beth bynnag, a symuda'r hen bethau o ddodrefnyn i ddodrefnyn. Ac y mae'r hen wr yn gwingo yn ofnadwy, welwchi, wrth weld i bethau yn mynd, ac yntau yn colli'r llywodraeth yn i dŷ i hun. Fel yna yn union y bydda inna yn meddwl am yr hen ddyn a'r dyn newydd. Mae'r hen ddyn yn gwingo yn ofnadwy pan ddaw y dyn newydd i mewn i'r galon, a dechre lluchio dodrefn yr hen ddyn allan, a dechre llywodraethu yno. Unwaith y delo'r anian newydd i mewn, welwchi, ffrae fydd hi o hyd yn y tŷ rhwng yr hen anian a'r newydd, achos y mae'r hen anian yn gweld i llywodraeth hi'n mynd yn llai lai, a llywodraeth yr anian newydd yn fwy fwy. Ac felly y byddafi yn meddwl am danaf fy hun, mai ffrae fydd hi o hyd yma bellach. tra byddafi byw." Gwyddai'r hen Walltgwyn yn eithaf da beth oedd ffrae yn y tŷ, o'r hen amser gynt. Proffwydai am ambell un wedi gadael yr eglwys, ei fod fel bachgen drwg wedi gadael cartref, ond y deuai efe yn ol dan gicio'r drws! Brydiau eraill yn y cyfryw amgylchiad, fe gymerai ei ddameg oddiwrth yr oen a'r ddafad, er pellhau ohonynt oddiwrth eu gilydd am ysbaid, na byddent yn hir iawn heb ddod i chwilio am eu gilydd drachefn. Edrydd Mr. Morgan Jones am William Jones, y gweinidog, yn holi profiad yr hen Walltgwyn yn y seiat. Dywedai wrth y gweinidog y byddai hi'n dywyll iawn arno weithiau, weithiau ychydig yn oleuach. "Pa fodd," gofynnai'r gweinidog, "y byddwchi yn teimlo pan fydd hi'n goleuo arnochi ?" "Yn llawn ffaeleddau," atebai yntau. Ac yna fe aeth ymlaen: "Roeddwn i'n sylwi pwy ddiwrnod yn y tŷ acw ar yr haul yn tywynnu drwy dwll y clo, ac yr oedd yno ryw rimin main o oleuni, welwchi, a hwnnw'n disgleirio yn anarferol iawn. Ond po fwyaf y disgleiriai'r goleuni, welwchi, llawnaf yn y byd y gwelwn i fod o o frychau. Ac fel yna yn union, welwchi, y byddai'n gweld fy hun." Fe ddywedir y meddai William Williams ar gryn wybodaeth am hanes foreuol eglwys Crist. Bu farw Ebrill 27, 1874.

Yn 1875 y dechreuodd Robert Williams bregethu.

Elinor Griffith ydoedd wraig yr hen flaenor Richard Griffith. Dynes dawel, feddylgar. Fel ei gwr, gwnaeth hithau fawr ymdrech i ddilyn y moddion. Clywid tinc nefol yn ei phrofiad. Adnod fawr ganddi yn ei chystudd olaf oedd honno, "Ac i chwithau y rhai a gystuddir, esmwythdra gyda ni, yn ymddanghosiad yr Arglwydd Iesu o'r nef, gyda'i angylion nerthol." Bu hi farw Chwefror 14, 1876.

Mawrth 29, 1876, y bu farw Robert William Garreglwyd, wedi gwasanaethu fel blaenor ers 1850. Go fawr o gorff, braidd yn afrosgo ei gerddediad, go gartrefol ei ffordd, heb ddawn siarad, ac yn edrych i fyny i'r nenfwd pryd y byddai wrthi,—dyna ddisgrifiad Mr. Morgan Jones ohono. A dywed ef, hefyd, ddarfod i Robert William ddigio'n enbyd unwaith am beidio disgyblu chwaer a briododd o'r byd, yn ol goddefiad y Gymdeithasfa. Dyfynnai Gurnall yn ddedwydd weithiau. Nid yn ddarllennydd mawr ond ar y Beibl. Hallt wrth ddisgyblu: ni chredai mewn gadael i'r drwg groeni. Ceryddai yn bersonol weithiau. Cynghorai rai wedi tramgwyddo ar fod ohonynt fel y sach gwlan heb ddangos ol y gnoc. Caffai afael nodedig ar brydiau mewn gweddi gyhoeddus. Yr oedd iddo air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun. Claddwyd ef ym mynwent Taiduon, a rhoddwyd carreg ar ei fedd gan aelodau yr ysgol Sul.

Yr oedd nodwedd ymarferol ddymunol i grefydd Robert Griffith Brynperson, brawd Richard Griffith a thad y Parch. W. Lloyd Griffith. Daeth efe at grefydd yn llanc ieuanc ym Mrynmelyn y Gêst, Eifionydd. Gwasanaethai y pryd hwnnw yn Nhyddyneithyn. Cynelid y seiadau yno yn y prynhawn. Nid oedd y teulu yn grefyddol, ac atelid o'i gyflog yntau ar ben tymor gyfran gyfartal i'r amser a gollai oddiwrth ei waith. Penderfynodd yntau ddioddef yn ddirwgnach. Pan fyddai cydweithiwr heb broffesu, fe ymddiddanai âg ef ynghylch hynny mewn dull difrif. Codai gyfarfodydd gweddi ar gyfer ieuenctid. Pan fyddai rhai yn nacau eu dilyn, fe geisiai eu hennill mewn modd addfwyn. Os methu wnelai yn hynny, fe newidiai ei ddull, a cheryddai yn llym. Ac yr oedd ganddo ddylanwad neilltuol ar ieuenctid.Yr oedd yn ddirwestwr aiddgar, a gweithiodd yn egniol gyda dirwest. Dilynai'r cyfarfodydd llenyddol oddiar ofal calon am y bobl ieuainc. Llanwodd wahanol swyddau yr ysgol Sul. Yn athraw llwyddiannus. Ymwelai â'r gwragedd gweddwon a'r amddifaid yn eu cystudd. Bu yn drysorydd yr eglwys am flynyddoedd. Fe ddeallid yr arferai weddio yn ddirgel dros bersonau neilltuol. Yn wr o ymddiried. Yn gwahaniaethu oddiwrth ei frawd Richard fel y gwahaniaethai Iago oddiwrth Ioan. Yn hyderus am ei gyflwr wrth farw, yr hyn a ddigwyddodd Mawrth 17, 1876, ac yntau yn 58 oed.

Yn 1878 fe adgyweiriwyd y capel. Ymhen ychydig amser ar ol yr helaethiad a fu arno yn 1873-4, fe gafwyd fod gwendid yn yr adeiladwaith. Plygodd y tô a gwthiodd y muriau allan, nes o'r diwedd yr oedd yn berygl myned i mewn iddo. Yn adroddiad y Cyfarfod Misol a gynhaliwyd yn Nebo, Mai 29, 1879, fe ddywedir y teimlai y cyfeillion yn y lle yn bryderus braidd ynghylch amgylchiadau'r achos, ac y cawsont brofedigaeth dost drwy orfod ailadeiladu'r capel, oblegid fod yr adeiladwaith yn salw ac egwan, a'u bod wedi eu rhoi dan faich o ddyled ar adeg o gyfyngdra masnachol. Y ddyled yn 1877, £669; yn 1879, £1,539. Rhif yr eglwys yn 1878, 165.

Tuag 1882 yr ymadawodd William Grffiith Brynbugeiliaid i Abererch. Yn flaenor yma ers tuag 1860 neu cynt. Gwr ffyddlawn. Ef a'i deulu yn cyfrannu at yr achos yn well na neb.

Mai 24, 1882, y bu farw Richard Roberts, yn 81 mlwydd oed, yn gyd-flaenor â Richard Griffith o'r cychwyn. Ni fynnai weithredu fel blaenor, pa fodd bynnag, yn rhan olaf ei oes. Gwr cofus, wedi trysori ei gof yn dda. Yn selog gyda'r ysgol, ac wedi bod yn arolygwr am flynyddoedd. Un o'i eiriau olaf, "Nef a daear a ânt heibio, ond fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim."

Yn ei sel ca'dd noswylio—parod oedd,
Pa raid i'n ofidio?
Mynd at Grist, nid trist y tro,
Ennill oedd mae'n well iddo.

Yn 1883, dewiswyd i'r swyddogaeth, Griffith W. Jones a D. Roberts Brynafon, wedi hynny Maes y neuadd. Yn 1888 y bu farw William Jones Nazareth, wedi ei ddewis yn flaenor oddeutu 1856—7. Blaenor o ragoriaeth amlwg. Gwr grymus, egwyddorol, gweithgar. Collodd ei iechyd, fel nad allai wneud yr hyn a ddymunai.

Yn 1889 y dewiswyd John Edwards i'r swyddogaeth. Myned oddiyma i'r Capel Uchaf yn 1892, a chael ei alw i'r swydd yno. Yn 1893, rhowd galwad i'r Parch. John Morgan Jones, erbyn hynny wedi dychwelyd adref o Middlesbro, ar ol rhoi ei ofalaeth i fyny yno. Ymadawodd, gan dderbyn galwad o Gerryg y drudion.

Yn 1897 y bu farw Richard Griffith yn 88 oed, ac yn flaenor yma o'r dechre yn 1843, a'r gwr amlycaf a hynotaf yn y flaenoriaeth yma o'r cychwyn. Gweithiwr cyffredin o ran ei amgylchiadau. Bu'n ffyddlon dan anfanteision. Ffordd bell oddiwrth ei waith; ffordd bell drachefn i'r capel. Cerddodd lawer iawn i Gyfarfodydd Misol yn ei amser, a hynny pan oedd y sir heb ei rhannu yn ddau Gyfarfod Misol. Disgrifir ef gan Mr. John Morgan Jones fel henwr byrr o gorff, ac yn cwyno am y cryd—cymalau. Melancolaidd, ac o duedd i edrych ar yr ochr dywyll. Byddai'n dueddol o sôn am dano'i hun yn cerdded i Gyfarfodydd Misol, gan wlychu a maeddu ei hun. Anhawdd ei gael i godi i siarad; ond pan godai, gwrandawai pawb yn ddyfal, a byddid yn sicr o gael rhywbeth o werth ganddo. Ysgrythyrwr campus. Pynciau mawr yr Efengyl a geid ganddo bob amser. Hynod mewn gweddi: yn y byd ysbrydol yn uniongyrchol. Cafodd lawer o brofedigaethau, ond yn y brofedigaeth chwerfaf y cwynai efe leiaf. Pe digwyddasai iddo gael codwm go gâs oddiar gamfa, ei ebwch fyddai fel eiddo gwr ar ddarfod am dano; ond mewn gwir brofedigaeth ei ymddygiad fyddai eiddo'r Salmydd, "Aethum yn fud, ac nid agorais fy ngenau, canys ti a wnaethost hyn." Yr oedd Mr. Morgan Jones wedi bod yn ysgol Clynnog flwyddyn cyn dechre pregethu. Ryw noson seiat dyma Richard Griffith yn galw arno i aros ar ol. Dywedai wrtho yngwydd y blaenoriaid eraill, eu bod wedi ofni nad oedd am fyned ymlaen gyda phregethu. Yna fe adroddodd am dano'i hun, fel y darfu iddo yntau feddwl am fyned yn bregethwr, ond iddo ladd y meddwl am hynny, ac fel y bu bron a drysu o'r herwydd. Hawdd deall ei fod yn agored i dderbyn argraffiadau, ac yn hawdd ei ddychryn a'i gyffroi. Byddai rhywbeth neu gilydd o hyd yn gwneud iddo feddwl ddarfod iddo weled ysbryd. Eithr ynddo ef, nid arwydd o wendid ydoedd hyn, ond arwydd o nerth. Y gordeimladrwydd hwn yn wyneb pethau bychain oedd sail ei hunan-feddiant yn wyneb pethau mawr. Y mae Mr. Robert Thomas, hefyd, ar ol enwi Robert Williams Penymynydd, William Griffith Brynbugeiliaid, Robert Griffith, brawd Richard Griffith, John Morgan Tŷ cerryg, fel rhai hynod mewn crefydd, yn cyfyngu ei sylwadau i Richard Griffith. Henwr ydoedd pan adnabu Mr. Thomas ef gyntaf. Byrr, cryno. Nodwedd ei feddwl, fel y dywed yntau hefyd, oedd prudd-der. Nid yw Mr. Thomas yn meddwl ddarfod iddo'i gyfarfod ef erioed na byddai yn cwyno am ryw adwyth yn rhyw ran o'i gorff neu gilydd. A phan ymwelai efe â'r claf, ebe Mr. Thomas, fe fyddai yn sicr o gwyno mwy na'r cystuddiedig, ac yn hynny yn wahanol iawn i'w frawd o Frynperson. Nid oedd neb, er hynny, yn ameu ei grefydd ef, ond fod ei chyweirnod yn fwy yn y lleddf nag yn y llon. Fel y dywed Jacob Behmen am dano'i hun, ddarfod iddo breswylio dros ystod ei ddyddiau yn llety prudd-der, felly hefyd y profodd Richard Griffith. Cafodd argyhoeddiad llym. yn adeg un o'r diwygiadau mawr ym Mrynengan. Bu yn Sinai ynghanol y mellt a'r tarannau a'r ddaeargryn. Clywodd Mr. Thomas ef yn dweyd ddarfod iddo yr adeg honno ddringo i fynydd cribog y Graig goch, gan gymeryd yr Hyfforddwr gydag ef. Bu yno am amser lled faith, rai diwrnodiau, debygir, heb fod neb yn gwybod ei helynt. Teimlai wrth ddychwelyd oddiyno ei fod yn deall trefn gras yn well. Cyn hyn methu ganddo ers hir amser, na bwyta na chysgu nemor gan gyfyngdra enaid. Dyna'r cyfrif a rydd ei hen weinidog ohono.

Gan fod ei hanes a'i brofiad yn ei lawysgrifen ef ei hun, gerbron, ym mhrinder defnyddiau o'r fath am ddynion o'i nodwedd ef o'r un cyfnod, fe ddyfynnir ohono yma. "1887. Dyma fi, Richard. Griffith, wedi darllen y Salmau dair gwaith, a'r Testament Newydd ddwy waith, ac hyd at yr ugeinfed bennod o Lefiticus, mewn blwyddyn, wrth gadw'r ddyledswydd deirgwaith yn y dydd, os byddwn gartref, y Saboth yr un fath a diwrnod arall, a phob nos wedi dyfod o bob moddion,—er ei bod yn ddigon caled lawer tro, dro arall yn talu yn dda. Yr oedd yn talu ei ffordd yn well na dim arall. 1888. Dyma fi, Richard Griffith, wedi darllen y Salmau dair gwaith, y Testament Newydd ddwy waith, a'r Rhufeiniaid unwaith wrth gadw dyledswydd, etc. Yr ydwyf yn ei gweled hi yn fraint fawr ac yn ddyledswydd arna'i wasanaethu'r Arglwydd, a bod yn y llwch yn gweiddi am drugaredd, ragor fy mod yn uffern a drws trugaredd wedi ei gau. Er fy mod yn teimlo yn galed iawn lawer pryd, eto mae'r Arglwydd yn cyd—ddwyn â mi bryd arall. Bydd yr hen galon fel llyn dwfr wrth feddwl am Iesu Grist wedi myned i'r ddrycin fawr yn fy lle i. Mi fuaswn i yn y ddrycin am byth ond fel yr aeth Iesu Grist, o gariad, i fy lle. Diolch iddo byth am sylwi erioed ar un mor wael â mi. Mi fyddai'n synnu sut y bydd neb yn myned i'w wely heb gadw dyledswydd efo'i deulu. Mi fydd yn dda gen i gael y cyfle i dreio gwneud. 1889. Dyma fi, Richard Griffith, wedi cael byw i gadw dyledswydd deirgwaith yn y dydd, ac wedi darllen [ar y ddyledswydd ac fel arall] yr Hen Destament ddwy waith, y Testament Newydd bedair gwaith, y Salmau bedair gwaith, Boston unwaith, Bunyan unwaith, a llawer o bethau eraill, y flwyddyn hon hyd ddiwedd mis Awst. Gorffennaf 20, 1890. Dyma fy mhrofiad heddyw, Caniad Solomon v. 1, 'Yfwch, ie, yfwch yn helaeth, fy rhai anwyl.' Y mae'r gair yn fwy ei werth na'r byd." Yn 1890 fe aeth dros y Testament Newydd chwe gwaith, y Salmau deirgwaith, a hynny mewn saith mis o amser. Yn 1891 fe aeth drwy'r Beibl bedair gwaith. El ymlaen. "Dyma fi yn 82 oed yn taflu fy meddwl yn ol ar fy nhaith drwy'r anialwch, ac yn gweled fy nghwys yn hir iawn, a llawer iawn o falciau ynddi, ond y mae'n dda gennyf feddwl y medr rhad ras eu codi nhw i gyd, a gwneuthur y gŵys yn uniawn yn uniondeb un arall, sef Iesu Grist. Yr wyf yn teimlo ac yn gweled fod eisieu gwaed ar holl lestri fy ngwasanaeth." Aeth drwy'r Beibl, drachefn, bedair gwaith yn 1892. Yna y mae ganddo dipyn o'i hanes. Ganwyd fi yn sir Feirionydd yn 1809. Yr oedd fy mam yn chwaer i John Prichard, hen flaenor Llanllyfni. Yr oedd fy nhaid yn un o hen deulu y Buarthau. Yr oedd fy nain yn chwaer i fam Owen Williams Waenfawr. Am yr ysgol Sul y dylwn i ddiolch am hynny o addysg a gefais. Gwnewch yn fawr o'r ysgol Sul. Mi eis i'r seiat yn y flwyddyn 1830, yna i gapel Brynengan. Mi a ddarfum briodi yn y flwyddyn 1837. Mi gefais wraig dduwiol. Rhodd yr Arglwydd yw gwraig dduwiol. Yr ydwyf fi wedi diolch lawer gwaith am dani hi. Wyres oedd hi i Rolant Dafydd Brynengan, yr hen bregethwr. Mi aethum i fyw i dŷ capel Brynmelyn am chwe blynedd, a daethum wedyn i ardal Nebo yn 1843. Yna mi'm codwyd i yn flaenor gwael yn Nebo. Bum yn myned i Gyfarfodydd Misol efo phump o frodyr anwyl o Lanllyfni, ond y mae nhw wedi marw, a phedwar o Nebo wedi marw. Y mae y naw yn y nefoedd. Cerddais drwy wynt a gwlaw ac eira i'r Cyfarfodydd Misol i'r ddau ben i'r sir. Tywydd go fawr a fu arna'i cyn myned i'r seiat. Pharisead oeddwn i. Yr oeddwn i'n meddwl fod gennyf grefydd reit dda. Ni wariais hanner coron erioed am gwrw. Mi ges fy meddwi unwaith mewn siomedigaeth, ac mi ddarfum regi unwaith. Ond, diolch i Dduw! mi welais na thalai fy nghrefydd i ddim, a bod yn rhaid chwilio am un well. Y mae eisieu mwy o ras o lawer i argyhoeddi Pharisead na dyn hollol anuwiol. Y mae yn anodd iawn cael y Pharisead o'i grogan. O mor anodd ydyw ein dadwreiddio oddiar foncyff yr hên Gyfamod! Yr oeddwn i'n cael cymhelliadau er yn ifanc i fynd at grefydd. Mi fyddai'r hen bennill hwnnw wrth fy meddwl yn aml,

Dewch a gadd galon newydd,
Dewch chwithau na chadd yr un,
I olchi eich ffiaidd feiau
Yn haeddiant Mab y Dyn.

A'r adnod honno yn Hosea xiii. 13, ' Gofid un yn esgor a ddaw arno: mab anghall yw efe; canys ni ddylasai efe sefyll yn hir yn esgoreddfa y plant." Yr oedd gorfoleddu mawr yn niwygiad Brynengan, ac mi ddaeth yno saith ugain i'r seiat o'r newydd. A theimlo fy hun yn galed yr oeddwn i. Yr oeddwn i yn fy ngwely yn y Bwlchgwyn. Mi welais beth rhyfedd: nid wn i ddim p'run ai breuddwyd ai gweledigaeth oedd o. Gweled Dydd y Farn, a thân yn rowlio o nghwmpas i, a minnau ar fy ngliniau ynghanol y ddrycin. A'r peth cyntaf a ddarfu imi oedd gweiddi, "Bywyd wedi ei guddio gyda Christ yn Nuw," nes deffrôdd pawb yn y tŷ ganol nôs. Mi godais innau o fy ngwely ganol nôs, a mi a eis i ben Mynydd y Cenin i grwydro fel dyn wedi drysu. Mi gefais fy argyhoeddi nad oeddwn i erioed wedi meddwl fod y fath for o lygredigaeth yn fy nghalon, a'r fath elyniaeth yn erbyn Duw a'i waith, nes oeddwn i'n meddwl nad oedd neb dyn mor lygredig a mi ar y ddaear nac yn uffern. Bum fel dyn wedi drysu yn hir. Ofn dweyd fy mhrofiad i neb. Yr oeddwn i wedi meddwl nad oedd neb yr un fath a mi. A'r ysbryd drwg yn fy nhemtio i fynd yn ddeist i wadu popeth. Yr oeddwn i'n mynd adref ryw noson o gyfarfod gweddi efo hen flaenor Brynengan, a dyma fo yn gofyn i mi fy mhrofiad wedi i mi fynd at grefydd, a minnau ddim yn leicio dweyd dim, rhag ofn iddo fy nhorri o'r seiat, nes iddo fo ddywedyd ei brofiad ei hun yn gyntaf. Ac yna dyma fi'n dechre gwaeddi, 'Griffith anwyl, nid oeddwn i ddim yn meddwl fod neb ar y ddaear yr un fath a mi o'r blaen.' Mi wn am yr hen weirglodd lle'r oedd o'n dweyd wrtha i. Dyma yr amser cyntaf imi obeithio am drugaredd. Ac wedi i ni ymadael â'n gilydd, mi eis adref i'r Bwlchgwyn dan weiddi hynny a fedrwn i. Mi ddaeth yr adnod honno i fy meddwl i, 'A rhoddodd yn fy ngenau ganiad newydd o foliant i'n Duw ni: llawer a welant hyn ac a ofnant, ac a ymddiriedant yn yr Arglwydd.' Mi fynnai Satan i mi fynd i ardal arall i wrthgilio. Ond drwy ras y nefoedd, dyma fi wedi cael cymorth i ddal efo chrefydd dros driugain mlynedd, er gweled aml a blin gystuddiau. Ond y mae crefydd yn talu ei ffordd yn dda yn yr anialwch."

Yn 1898 ymwahanwyd oddiwrth Saron fel taith Sabothol, pob lle yn myned arno'i hun.

Yn 1900 fe ddewiswyd yn flaenoriaid, T. H. Griffiths, J. Hughes, Evan Jones.

Rhif yr aelodau ar ddiwedd 1900, 187. Swm y ddyled, £91. Yn 1879 yr oedd y ddyled yn £1539.

Gan fod adgofion Mr. Robert Williams mor helaeth, ac o nodwedd mor bersonol, fe'u cadwyd at y diwedd i'w cyflwyno gerbron gyda'u gilydd. Fe'i ceir yn ddrych, ag y gwelir ynddo gyflwr pethau, yn ardal Nebo yn enwedig, yn y cyfnod y sonir am dano. Oblegid helaethrwydd y sylwadau, rhaid oedd crynhoi a chwtogi mewn mannau. Gadawyd i mewn rai pethau nad ydynt ar ryw wedd nemor fwy nag ail-adroddiad ar bethau a gafwyd o'r blaen, a hynny er mwyn y fantais o edrych arnynt o fwy nag un cyfeiriad.

"Yr oedd yr hen gapel yn edrych oddiallan yn lled debyg i'r un presennol, ond ei fod gryn lawer yn llai. Yr oedd gwyneb hwnnw, fel hwn, tua'r gogledd. Y tŷ wrth ei ochr, yr ochr nesaf at Gors y llyn, a ffrynt y ddau yn gydwastad.

"Yr wyf yn gweled fy hun yn hogyn bach dieithr penfelyn yn llaw fy mam, yn nesu at y capel. Yr wyf newydd fyned i'm Testa- ment, ac yn ymhyfrydu mewn darllen pob peth a welaf. Dacw enw'r capel,- Nebo,' yn argraffedig ar ei dalcen. Deallais ar ol hynny mai John Jones Talsarn a roes yr enw iddo. 'Ysgoldy'r Mynydd' oedd yr hen enw. Ond Capel y Mynydd' fu'r enw arno am amser maith. Bu ychydig ysgarmes yn y Cyfarfod Misol o achos y peth. Y ffordd arferol o hel y casgl mis oedd galw enw'r lle, ac i bob un fyned ymlaen i dalu. Galwai T. Palestina Lewis y llyfr, ac ail alwai Ellis James Ty'n llwyn yr enw, mewn goslef ddynwaredol o'r lle, yn y dull a arferid ganddo ef. Pan oeddid un tro yn galw y llyfr, dyna Ellis James yn gwaeddi mewn llais main, ' Cap-êl y Mynydd.' Ond er fod y blaenor yn ymyl, nid oedd yn syflyd o'i le, ac ni chymerai arno glywed. Dywedid wrtho fod enw ei gapel wedi ei alw ddwywaith neu dair. Atebai yntau mai nid dyna enw eu capel hwy; a bu raid i'r awdurdodau ystwytho, a'i alw wrth ei enw 'Nebo' o hynny allan. Erbyn hyn y mae'r enw wedi myned ar y gymdogaeth cystal a'r capel.

"O ïe, wedi cychwyn i'r hen gapel yr oeddym. Ond gwelwn. fod yma amryw yr un fath. Mae cowrt y capel yn llawn o ddynion yn siarad â'u gilydd, ac ambell un heblaw y merched yn myned i mewn drwyddynt i'r capel. Nos Sadwrn ydyw, a disgwylir i Joseph Thomas roi pregeth wrth fyned heibio. Y mae amryw o'r gymdogaeth yn perthyn yn agos iddo. Nid yw efe eto wedi cyrraedd. Mae yma un dyn bychan yn myned oddiwrth y naill at y llall, ac yn ysgwyd llaw yn serchog â phawb ac yn gwenu, ac yn dweyd rhyw air siriol wrth bob un. Dacw fo wedi gweled fy mam a minnau yn dod, ac yr ydym yn ddieithr, newydd ddod i'r gymdogaeth. Daw ar ei union atom, ac nid yw'n gwybod dim am formality introduction. Ysgydwa law yn gynnes â'm mam, a dywed fod yn dda ganddo ein gweled yn dod i'r capel, ac yna ysgydwa law â minnau, a rhydd groesaw mawr i mi, a gwahoddiad i'r ysgol Sul dranoeth. Owen Roberts Tŷ capel ydyw. Gwr duwiol diamheuol. Os mai wrth faint eu calonnau, ac nid wrth faint eu pennau, y byddant yn cymeryd eu safleoedd yn y nef, yna fe fydd Owen Roberts ymhlith y pendefigion yno. Gwnaeth lawer i gynorthwyo rhai i deimlo yn gartrefol yn y lle. Ac er nad oedd yn flaenor, yr oedd fod gwr y tŷ capel yn wr siriol, ac yn medru sirioli pawb oedd yn dod i'r capel, yn fantais fawr i'r achos. Ymddiddanai am grefydd ar y ffordd. Ac os byddai pobl ieuainc wedi eu derbyn, neu rai mewn oed newydd ddod i'r seiat, byddai Owen Roberts, wrth fyned i'r chwarel neu wrth ddod adref, yn ei ddull serchog ei hun, yn eu cymell pan ar eu pennau eu hunain i ddechre cadw dyledswydd, ac i gymeryd rhan mewn gweddi gyhoeddus. A phan deimlai ei fod wedi braenaru digon ar y tir, gofalai am roi gair i'r blaenoriaid, ar iddynt alw hwn a hwn ymlaen i ddiweddu'r seiat. Yr oedd hefyd yn help arbennig i bregethwr. Eistedd yn y sêt fawr, ac ŷf y cwbl i mewn, gan borthi yn barhaus, gyda'i 'ïe, ie,' a'i 'Amen,' ac ambell ddeigryn yn ei lygaid. Plant yn yr AB oedd ei ddosbarth yn yr ysgol, ac ni byddai arno fyth eisieu newid. Heblaw dysgu'r wyddor i'r plant, dysgai hwy hefyd i garu Iesu Grist. Adnabu ei le, cafodd ef, a llanwodd ef i'r ymylon.

"Eisteddaf mewn sêt gron, y nesaf at y drws. A chan fod y pulpud rhwng y ddau ddrws, yr wyf mewn lle manteisiol i weled pawb yn y capel. Gan ei bod yn amser dechre, y mae'r blaenoriaid yn eu lle. Dyna Richard Griffith mewn sedd wrth ochr y pulpud, ac yn wynebu'r gynulleidfa. Dyn bychan, pengoch. Er mewn oed, parha i edrych yn ieuanc. Deil ei wallt heb wynnu, ac nid yw chwaith yn ei golli. Cafodd fyw lawer ar ol hyn. Bu ef am beth amser yn gwisgo'r anrhydedd o fod y swyddog hynaf yn Arfon. Clywais iddo unwaith wneud araeth synnodd bawb, o blaid Evan Owen Talsarn, pan oedd efe yn gofyn caniatad i ddechre pregethu, a llwyddodd, er pob gwrthwynebiad, i'w wthio ef drwy'r drws. Yn y Cyfarfod Misol diweddaf iddo ef yn Nebo, fe synnodd bawb wrth roi hanes yr achos. Ond ni synnodd neb oedd yn ei adnabod : y syndod oedd fod y fath ddawn a gwres yn gallu bod yn guddiedig. Ni chlywais neb fedrai ddweyd gair ar ol pregeth neu mewn seiat yn well na Richard Griffith. A byddai ei air fel ffrwydr-belen yn goleuo, ac yn dinystrio os byddai eisieu, bopeth o'i amgylch. Yr oedd wedi teimlo'n ddwys yn niwygiadau Brynengan. A chwyno arno'i hun yn enbyd y byddai bob amser, yn enwedig ar ei galon ddrwg. Teimlai awydd ymryson â Phaul am fod y pechadur mwyaf. Ac yr oedd y ddau wedi byw bywyd dichlynaidd o'r dechre. Ond daeth y goleuni mawr, a chafodd y ddau eu lladd. Yr oedd Richard Griffith wedi darllen gweithiau Bunyan yn fanwl, yn enwedig y Rhyfel Ysbrydol, a'r Helaethrwydd o Ras. Gwelai Daith y Pererin bob cam yn ei galon ei hun. Dyma'r llinellau fuasai'n rhoi'r disgrifiad goreu o'i brofiad cyson:

I Galfaria trof fy wyneb—
Ar Galfaria gwyn fy myd;
Y mae gras ac anfarwoldeb
Yn diferu drosto i gyd;
Pen Calfaria
Yno, f'enaid, gwna dy nyth.

Os cae olwg ar Galfaria wrth weddio, teimlai yn y nef, a byddai'r nef y pryd hwnnw fel yn gostwng i'w gyfarfod yntau. Wrth fyned at rywun wedi aros yn y seiat, byddai Richard Griffith yn lled debyg o adrodd ei dywydd ei hun pan yn dod i'r seiat ym Mrynengan. A theimlai'r mwyaf ofnus yn gartrefol ar unwaith dan ei ddwylaw. Ac i drin clwyfau pechadur ar ddarfod am dano, yr oedd yn anhawdd cael neb ond y Meddyg mawr ei hun â dwylaw tynerach na Richard Griffith. Cafodd bob math o ystormydd yn nechre ei oes. Teulu mawr, llawer o waeledd yn y teulu, a chyflog bach. Awr o gerdded at ei waith, hanner awr o waith dringo i fyned adref o'r capel, eto ni chollai efe fyth seiat na chyfarfod gweddi. Mi a'i clywais yn adrodd sylw John Roberts, tad Iolo, wrtho ef, 'Wel, Dic bach, paid â digalonni, welais i moni yn gwlawio ar hyd y dydd ond anaml: os bydd wedi dechre gwlawio y bore, daw ond odid yn hindda y prynhawn. Hwyrach y cei dithau brynhawn braf.' Ac fellu fu. Ni fu neb yn treulio rhan ddiweddaf ei oes yn fwy dedwydd: yn ei dý ardrethol ei hun, yn cael pob ymgeledd gan ei ferch hynaf, Mrs. Jones Pandy hên. Yr unig wasanaeth yr edrychai yn ol arno gyda gradd o foddhad oedd ei waith yn dysgu'r Rhodd Mam i'r plant yn yr ysgol. Oddiwrth Owen Roberts, eid at Richard Griffith, yn yr ysgol Sul, i dderbyn argraff anileadwy.

"Cydflaenor â Richard Griffith oedd Robert William Garreg lwyd. Bu yntau yn hynod ffyddlon hyd y gallodd. Saer maen wrth ei alwedigaeth, ond ni wnae pellter ffordd at ei waith fyth ei rwystro o'r seiat. Nid oedd ganddo ef allu na dawn Richard Griffith, ond byddai yn hollol foddlon i gymeryd yr ail le. Yr oedd y ddau yn gyfeillion mawr.

Gyda Richard Griffith a Robert William, gwasanaethai William Griffith. Pan oedd William Griffith yn y dosbarth gyda Robert William y cigydd, athraw dan gamp, troai Robert William arno yn fynych, pan fyddai efe yn ateb yn lled gwmpasog, 'Wel, rwan Wil, torr di dy stori yn o ferr.' Ond dipyn yn hir fyddai William Griffith yn y cyffredin. Cyfranwr hael yn ol ei allu, ac uwchlaw ei allu.

"Dau beth oedd yn ymddangos fel cymhwysterau yn William Roberts Tyddyn hên i'w swydd: cymeriad da a dawn gweddi. Yn gynnil wrth natur, ond yn hael at yr achos. Bu farw yn orfoleddus â'r pennill hwnnw ar ei wefusau, Mi lyna'n dawel wrth dy draed.'

"Yr oedd i David Roberts Tal y maes ei nodweddion, oedd yn ei osod ar ei ben ei hun. Cyn ei droedigaeth yn bysgotwr mawr, fel y disgyblion. Ond gan nad yw afonydd Brydain mor rydd a Môr Galilea, ni physgotodd fawr ar ol ei droedigaeth. Yr oedd wedi bod yn amlwg gyda chrefydd pan yn ieuanc, a thybiai rhai y gallai wneud pregethwr, os na fu efe yn meddwl am hynny ei hun. Ac yr oedd ar hyd ei oes yn ymddangos i raddau fel dyn wedi colli ei nôd. Aeth i gellwair â'r ddiod, ac am gyfnod bu ymhell ar gyfeiliorn. Dan bregeth John Ogwen Jones yn sasiwn Caernarvon, Ei lleoedd lleidiog a'i chorsydd ni iacheir; i halen y rhoddir hwynt,' y daliwyd ef megys gan wys oddiuchod. A bu'n ddyn newydd ac yn sant gloew ar ol hynny. Dawn arbennig i siarad. Yn gofyn amser i ddod at ei bwnc, ond wedi cael gafael arno, dygai allan ohono bethau newydd a hên.

"Yn nhŷ'r capel y mae Joseph Thomas tra'r ydym yn ymgomio fel hyn, a'r gynulleidfa yn dechre anesmwytho eisieu ei weled yn dod i mewn. Pwy sydd yma i ddechre canu? Dyna'r codwr canu hynaf, William Evans Talymaes, yn y sêt fawr. Oherwydd henaint lluddiwyd iddo barhau. Clywais ef unwaith yn ceisio mewn cyfarfod gweddi ym Mlaen y foel. Gallwn dybio fod ganddo ryw un dôn, a honno yn cael ei chyfaddasu â slyrs i bwrpas y gwahanol hydau. Yr oedd ganddo yn ei henaint lais fel merch. A chyda llais mwyn, toredig, tremolo naturiol, ac nid tremolo gwneud, canai, 'Ethol meichiau cyn bod dyled, Trefnu meddyg cyn bod clwy,' gan roi pwyslais ar y gair mwyaf pwysig â slyr hir. A'r rhai oedd yn bresennol yn ceisio dod i mewn ar ambell i nodyn fel cyfeiliant iddo. Mae William Evans wedi gadael y gymdogaeth. Mae golwg batriarchaidd iawn arno gyda'i wallt gwyn, llaes, yn disgyn ar ei ysgwyddau.

"Ond ni wiw disgwyl wrth William Evans i godi'r canu heno, oblegid dacw Thomas Griffith yn y sêt ganu ynghanol y capel. Ar ol William Evans y daeth ef i'r swydd. Mae ganddo ef ei lyfr emynau bob amser. Ac nid oes ond rhyw ddau neu dri eraill yn yr holl gapel yn dod â'r llyfr emynau i'r gwasanaeth. Oblegid ledio pennill o'i gof y byddai pawb y pryd hwnnw ond y pregethwr. Myned drosto unwaith. Ail-adrodd y ddwy linell gyntaf a'u canu, yna'r ddwy nesaf; ac os byddai wyth llinell, ail-adrodd y pedair olaf. Ac ni byddai neb y pryd hwnnw yn meddwl am ganu dim ond un pennill ar y tro. Yr oedd i'r dull hwnnw ei fanteision: gwneid ymdrech neilltuol i ddysgu'r penillion, er mwyn gallu cymeryd rhan yn y canu. Ac yr oedd pawb yn medru y penillion mwyaf arferol o'u cof. Ond yr oedd Thomas Griffith bob amser gyda'i lyfr, a throsedd fawr oedd i neb ledio pennill nad oedd yn y llyfr. Prin yr ystyriai efe unrhyw bennill felly yn ganonaidd. Yr oedd mwy o wybodaeth am gerddoriaeth yn rhai o'i deulu nag ynddo ef, ac yn rhai o'i blant. Ond yr oedd ganddo ef lais da, ac yr oedd yn cofio amryw donau ar ei gof. Ond nid oedd yn hollol gyfarwydd â'r hydau, fel y byddai yn gwneud camgymeriadau digrifol ambell waith. Ac nid oedd yn meddu dawn William Evans i gyfaddasu'r dôn i unrhyw hyd. Yr oedd Thomas Griffith yn wr crefyddol ei ysbryd, ond fel cerddorion yn gyffredin yn hawdd ei dramgwyddo. Yr oedd yn hynod ffraeth ei dafod. Cof gennyf ei glywed yn dweyd am un meddyg, 'Fe ŵyr hwna i'r munyd pa bryd y bydd dyn farw, ond am roi rhywbeth iddo rhag iddo farw, fedr o ddim. Nid meddyg felly yw y Meddyg mawr, ond meddyg a all yn gwbl iachau.' Un o'i hoff donau oedd Bangor, ymdeithgan milwyr Cromwell. Os byddai yn methu cael tôn ar ryw eiriau,' Gadewch i ni dreio Bangor,' eb efe. Ond er y dywedir y byddai milwyr Cromwell yn gallu canu yr ail arbymtheg Salm arni, tipyn yn anystig a fyddai weithiau i fyned ymlaen yn ol ieuad Thomas Griffith arni.

"Ond nid Thomas Griffith, wedi'r cwbl, fydd yn codi'r canu yn yr oedfa heno, oblegid dacw fy nhaid, Robert William Pantyfron, yn dod i mewn. Ac y mae ef yn deall yr hên nodiant yn dda. Mae ef wedi myned radd ymhellach na Thomas Griffith: y mae llyfr Ieuan Gwyllt ganddo ef. Cymer ei le yn naturiol fel codwr canu, am ei fod o'i ysgwyddau i fyny yn uwch fel cerddor na neb arall yn y lle. Er ei fod yng nghymdogaeth y triugain oed, y mae ganddo lais soprano cyn fwyned a'r un ferch. Gwyddai sut i roi meddwl pennill allan wrth ei ganu. Ni chlywais neb yn gallu canu pennill ar dôn gynulleidfaol gyda'r fath raen ac eneiniad. Canai â'r deall ac â'r ysbryd hefyd.

"Dacw Joseph Thomas o'r diwedd yn dod i mewn. Rhoddir allan i ganu, 'Gwaed y groes sy'n codi i fyny.' Tery Robert William Alma arni. Ond ychydig o'r gynulleidfa sy'n gallu canu arni. Yr oedd y dasg o ddwyn tonau Ieuan Gwyllt i ymarferiad yn ddiflas o anhawdd. Cenir hi drwyodd gan gwafrio y slyrs. Bu un o ŵyrion Robert William, sef Richard Roberts Brynllys, yn arwain y canu yn Nebo am dymor byrr cyn myned ohono i wlad y canu tragwyddol..

Dyma ni wedi rhoi tro drwy'r hen flaenoriaid a'r hen godwyr canu. Gadewch i ni weled eto pwy sy'n gwrando yma. Dacw Marged Dafydd, dros gant oed. Mae newydd gael tynnu ei llun ar ben ei chanfed flwydd. A chedwir ef yn barchus ym mharlwr y tŷ capel. Yr oedd hi yn un o hen wrandawyr Robert Roberts Clynnog. Yr oedd yn un o'r rhai brofodd ddiwygiad mawr Beddgelert a diwygiadau Brynengan, ac wrth gwrs ddiwygiad '59, oedd â'i donnau ar y pryd heb lwyr gilio ymaith. Prin yr enwir Iesu Grist a Chalfaria nad yw'r hen wraig yn yr hwyl ar unwaith. Ar y ffordd o'r oedfa sieryd yn uchel am y bregeth, ac yn aml y mae yn gorfoleddu. Mae hi a Mari Wmffra gyda'u hetiau silc yn y ddwy sêt nesaf i'w gilydd o flaen y pulpud, ac mewn hwyl fawr heno yn gwrando'r pregethwr dieithr.

"Codwyd Richard Roberts Penpelyn yn flaenor gyda Richard Griffith; ond nid oedd yn gweithredu fel blaenor, er yn eistedd yn y sêt fawr, ac yn un o'r rhai mwyaf blaenllaw gyda'r achos. "Hugh Jones Blaenyfoel yw trysorydd yr eglwys. Heb fod yn flaenor, y mae ef yn y sêt fawr bob amser, ac ni wneir dim heb ymgynghori âg ef.

"Dacw William Griffith Bryneithin, taid y Parch. H. E. Griffith Croesoswallt, yn un o'r seti o flaen y pulpud. Gelwid ef bob amser i ddechreu'r cyfarfod gweddi, pan gymerai ran, am ei fod yn medru rhoi'r synwyr wrth ddarllen. Yn ei ymyl y mae Griffith Roberts Corsyllyn, un o'm hathrawon cyntaf. Nid oedd neb y byddai yn well gennyf ei glywed yn gweddio. Ond awn yn rhy faith wrth sylwi ar eraill bob yn un ac un.

"Yr oedd, pa fodd bynnag, amryw gymeriadau hynod iawn yn perthyn i gynulleidfa Nebo y pryd hwnnw, heb fod yn aelodau, rai ohonynt yn athrawon, rai heb ddod i'r pregethau ond yn achlysurol. Dacw Harry Prisiart, y dyn a lleiaf o deimlad crefyddol ynddo a gyfarfyddais erioed,—o'r ddaear yn ddaearol. Daw i'r bregeth yn achlysurol, ac y mae yma heno. Ymhen rhai blynyddoedd ar ol hyn yr oeddwn yn myned i Benygroes ar hyd llwybr drwy gae iddo ef. Pwy oedd wrth y gamfa yn fy nisgwyl, wedi fy ngweled yn dod, ond Harry Prisiart. Dechreuodd siarad ar unwaith am Richard Owen, oedd newydd fod yn pregethu am wythnos yn Llanllyfni. Gwelwn ar unwaith fod y graig wedi ei tharo â gwialen Duw, a dwfr yn dechre dod allan. A'i ddagrau ar ei ruddiau. dywedai, Dyma'r dyn rhyfeddaf a welais erioed. Nid ei bethau ef sy'n effeithio arnaf; ond y mae yn dwyn i'm cof bregethau Morgan Howells a wrandewais ddeugain mlynedd yn ol.' Ni welais erioed well enghraifft o sylw Joseph Thomas am yr harpŵn welwyd mewn hen forfil. Ac un o'r troion diweddaf y bum yn Nebo, un o'r saint mwyaf amlwg yn y sêt fawr oedd yr hen garreg dân wedi myned yn llyn dwfr!

"Dacw wrandawr arall, William Owen Nant y noddfa. Oni bae ei fod yn dod i'r capel ambell dro, prin y buasai neb yn gwybod fod ganddo enaid. Mae ef dipyn yn hoff o'r hen ddioden. Pan yn llanc yr oedd yn un o gwmni a gyfarfyddai mewn tafarn i wawdio crefydd a chrefyddwyr. Cerdd allan o'r oedfa heno ar frys, fel mewn digofaint llidiog. Pan yn bedwar ugain mlwydd oed, fe ddaeth i'r seiat. Os gallai rhywun drwy ffyddlondeb wneud iawn am esgeulustra, gwnaeth William Owen hynny. Pwy bynnag arall fyddai ar ol o'r seiat, fe fyddai ef yno, er bod ohono yn gloff, a chanddo dipyn o ffordd hefyd. Ac yr oedd ei brofiad yn addfed, wedi ei eni yn ei gyflawn faintioli. Clywais ef yn dweyd, pan ddechreuid gwawdio'r Iesu yn y cwmni yr elai iddo yn ieuanc, er yn hoff o'r cwmni, yr aethai allan.

"Pan eid i'r chwarel am chwech y bore, ac awr o waith cerdded tuag yno, cynelid y ddyledswydd deuluaidd gan amryw fore a hwyr. Clywais John Morgan Tŷ cerryg, tad y Parch. John Morgan Jones, yn dweyd nad aeth efe erioed i'r chwarel heb gadw'r ddyledswydd deuluaidd. A chyffelyb iddo ydoedd Robert Griffith Brynperson, tad y Parch. W. Lloyd Griffith Llanbedr. Yr oedd efe yn frawd i Richard Griffith, ac yn daid hefyd i Mr. Evan Lloyd Jones, y pregethwr. Robert Jones Fawnog grîn oedd dra gofalus am yr addoliad teuluaidd, a thra hoff o wrando pregethau. Byddai yn cychwyn ddau ar y gloch y bore o'r Pennant i Bwllheli neu Gaernarvon, er mwyn bod mewn pryd yn y seiat am wyth. Ac wedi cerdded yr holl ffordd, a sefyll drwy'r dydd, cerddai yn ol drachefn fel un wedi cael ysglyfaeth lawer. Yn hen wr dros bedwar ugain, wedi cloffi yn fawr, cerddai i'r odfeuon, er iddo fod awr a hanner yn myned ar ei ddwyffon, ac awr a hanner yn dychwelyd yn ol. Ac ni chwynai fod y drafferth yn ofer.

"William Williams Ty'nyfron oedd hynod am ei dduwioldeb a'i ddawn i gynghori pobl ieuainc. Griffith Jones Bryn draenllwyn a weddiai yn hynod weithiau. Bu ganddo fab yn dechre pregethu yn niwygiad '59, y dywedir ei fod yn un gobeithiol anghyffredin. Noswyliodd yn gynnar yng ngwres y diwygiad.

"Nid wyf yn cofio testyn, na dim o bregeth Joseph Thomas bellach. Cof gennyf sylw Robert Jones Llanllyfni wrth Joseph Thomas ei hun ar ddiwedd y gwasanaeth. Dywedai wrtho fod ganddo ddigon o straeon a chymhariaethau da i wasanaethu arno ef am weddill ei oes.'

Dyma adroddiad ymwelwr y Canmlwyddiant: "Hydref 18, 10 ar y gloch. Dechreuwyd yr ysgol yn weddol brydlon, ond daeth llawer i mewn yn ystod y gwasanaeth dechreuol. Dylid annog yn fynych at brydlondeb. Llawer o athrawon medrus yn y dosbarth canol, ond nid oedd un a ymwelwyd â hwynt wedi ymgymeryd â'r wers-daflen. Yr oll o'r bechgyn yn y dosbarth yn medru y Deg Gorchymyn yn dda. Canu da ac effeithiol. Nifer o ferched ieuainc yn absennol rhag ofn yr ymwelwyr. Ysgol y plant yn ysgoldy y Bwrdd. Nid oes llenni yn cael eu harfer, ac y mae'r diffyg o hynny yn wastraff mawr ar amser. Ysgol drefnus, yn cael ei chario ymlaen yn ol cynllun yr ysgol ddyddiol. John Roberts."

Heblaw y rhai a nodwyd,-oddigerth un neu ddau gan Mr. Robert Williams,-yr oedd yma liaws o gymeriadau lled arbennig, megys Catrin Edward, cares i John Jones Talsarn, y credir iddi gael tro gwirioneddol ym mlwyddyn olaf ei hoes, a hithau agos yn 80 oed (marw 1860); William Pritchard Tŷ cerryg, taid y Parch, John Morgan Jones, a fu'n ffyddlon yn nydd pethau bychain yr achos, ac y dywedir y byddai yn o hynod ar ei liniau bob amser y gelwid arno yn union ar ol rhyw storm o fellt a tharannau (m. 1860); Laura Roberts, hefyd, priod William Pritchard, ffyddlon hithau yn nhymor bore yr achos, a'r hyn a allodd hi a'i gwnaeth (m. 1861); Robert Pritchard Cerryg ystympia, mab Richard Roberts Maes y neuadd, un o blant diwygiad 1859, darllenwr ar Esboniad James Hughes, a dyn drwyddo (m. Hydref 8, 1865); a Richard Roberts y tad, pert a llawen, parchus gan bawb, un o sefydlwyr yr achos, a adnewyddwyd yn niwygiad 1859 (m. Hydref 11, 1866, yn 59 oed); Owen Roberts, mab Owen Roberts Tŷ capel, a welai bethau bychain eisieu eu gwneud ac a'i gwnelai, ac a adroddai sylw ar ol Owen Thomas, fod bod yn ddefnyddiol ar y ddaear yn nesaf dim at fod yn ogoneddedig yn y nef (m. Gorff. 7, 1866. Gweler y Drysorfa, 1868, t. 109); Henry Parry Frondeg, ddiniwed, dduwiol. "Tal, main, syth, a gwallt gwyn, llaes ganddo," ebe Mr. Morgan Jones. A dywed nad a'n angof ganddo ei ddull yn dechreu'r ysgol un bore Sul, pryd y rhoes allan y pennill, "Y Saboth, hyfryd ŵyl yw hon, Na flined gofal byd mo'm bron" (m. Ebrill 23, 1869). Hugh Williams Pant y frân, a orfoleddai dros y tŷ ar ganol nos, ac a welai Iesu Grist "yn dod i'w nôl" yn ei funydau olaf (m. Hydref 26, 1873, yn 22 oed); William Griffith Bryneithin, fawr, esgyrnog, ffrwyth 1859, yn gryn ddarllenwr ar lyfrau ac ar y Beibl, un o ddarllenwyr cyhoeddus y pwyslais a'r oslef (m. Rhagfyr, 1873); Jane Jones Pennant, dawel, faddeugar, ffyddlon yn y moddion er gwaethaf y ffordd, ac un a roes argraff o dduwioldeb nodedig ar rai pobl (m. Mai, 1877); John Jones Bryncoch bach, brodor of Aberdaron, heb nemor ysgol a gyrhaeddodd fesur o wybodaeth fuddiol mewn amryw ganghenau, ac a'i gwnaeth hi'n wasanaethgar i'r amcan uchaf (m. Ionawr 19, 1880). Ond yr amser a ballai i'w henwi i gyd, er fod William Roberts yn traethu am amryw eraill, ac yn enwi nifer wedyn ag y dywed am danynt y gallesid dweyd llawer am eu nodweddion. Heddwch i'w llwch!

PENYGROES (BETHEL).[14]

TUA 13 milltir i'r gorllewin o Dalsarn, a 6 milltir i'r deheu o Gaernarvon yw yr ardal hon. Tua diwedd y ddeunawfed ganrif nid oedd yma namyn un tŷ tô gwellt, a gelwid ef Pen y groes, am ei fod wedi ei adeiladu gerllaw croesffordd. (Cymru Owen Jones, d.g. Nantlle). Erbyn dechreu'r bedwaredd ganrif arbymtheg yr oedd yma dri o dai yn y fan a elwid wedi hynny yn Heol yr Efail, ac un tŷ go helaeth, a berchenogid ac a breswylid gan John Edwards, gwr crefyddol. Yn y tŷ hwn y cychwynnodd yr ysgol Sul ym Mhenygroes, yn 1827 yn ol rhai, yn 1830 yn ol Canmlwyddiant Ysgolion Sul Clynnog, etc. (t. 23). Ysgol gymysg o Fethodistiaid ac Anibynwyr ydoedd am ysbaid, nes codi capel i'r Anibynwyr gan y Parch. Isaac Harries (Soar) yn 1834, ar ei gyfrifoldeb ei hun. Gwan fu'r achos yma am dymor lled hir. (Hanes Eglwysi Anib. III. 232). Er yn ysgol gymysg ar y cyntaf, cangen-ysgol ydoedd o Lanllyfni. Enwir fel rhai a fu yn llafurio gyda hi: Dafydd Jones Penbrynmawr, Dafydd Williams Eithinog, Harry Parry Penygroes, Owen Eames Coedcau, Solomon Pritchard Clogwyn lodge. Hyd dymor adeiladu capel yr Anibynwyr y bu yr olaf yn llafurio gyda'r ysgol hon, canys fe berthynai i'r enwad hwnnw.

Ar ddalen wen cofnodlyfr Robert Parry Llanllyfni, y mae'r cofnod yma: 1837. Mai 15. Cyfarfod Dirwestol Penygroes. Bore (10), gweddiodd Griffith Solomon. Areithiodd Seth Roberts Amlwch, Moses Jones, Mr. Davies Llanerchymedd. Diweddwyd gan William Roberts Caergybi. Am 2, gweddiodd Mr. Davies Llanerchymedd. Areithiodd Griffith Solomon, William Davies Ceidio, William Roberts Caergybi. Diweddwyd y cyfarfod gan. Moses Jones.

Yn y Cyfarfod Misol, Hydref 8, 1844, yn ol Cyrus, yn ei ysgrif ar Lanllyfni, y mae William Owen Penbrynmawr yn dadleu am gael achos ym Mhenygroes, pryd y gohiriwyd y mater. Yn y ddau Gyfarfod Misol dilynol, yr oedd William Owen yn dadleu yr achos drachefn, a John Jones Talsarn yn ei gefnogi. Cariwyd y maen i'r wal. Yr oedd capel bychan gan y Wesleyaid yn Nhreddafydd, wedi ei adeiladu ers 1830. Yr oeddynt erbyn hyn wedi rhoi yr achos i fyny yno. Cymerodd William Owen y capel ar ei gyfrifoldeb ei hun yn 1845, ar ardreth o £5 yn y flwyddyn. Parhaodd y cytundeb hwnnw hyd nes adeiladwyd capel Bethel. Yr un flwyddyn ag y cymerwyd y capel y sefydlwyd yr eglwys yno, sef y bedwaredd gangen-eglwys o Lanllyfni. Eithr, er sefydlu yr eglwys yn 1845, byddai'r aelodau yn talu eu casgl mis yn Llanllyfni am ystod un flwyddyn arall.

Y mae Cyrus yn nodi'r personau yma fel y rhai a aeth o Lanllyfni i ffurfio'r eglwys ym Mhenygroes: Dafydd Jones Penbrynmawr, William a Mary Owen eto, Dafydd Williams Eithinog, John a Jane Roberts Treddafydd, Wm. Prichard Bethel Terrace, Ann Thomas Powell Terrace, Laura Morris Minffordd, Morris a Mary Prichard Cae efa lwyd, Owen Evans Coedgia, B(?) Prichard Llwyndu Terrace, Owen a Catherine Humphreys Treddafydd, Hugh a Jennet Jones Hendy, Mary Griffith, Mary Williams Caesion, Henry Parry, Ann Parry, Catrin Elis. Rhif, 22. A dywed Mr. Griffith Lewis, hefyd, nad oedd y rhif ar y sefydliad namyn rhyw 25, rhwng brodyr a chwiorydd.

William Owen ydoedd y prif arweinydd gyda'r ysgol yn ei blynyddoedd cyntaf yn y capel, a chynorthwyid ef gan Hugh Jones Hendy, John Roberts Treddafydd, Benjamin Pritchard Minffordd, Owen Humphreys Treddafydd.

Y Dafydd Williams Eithinog, a enwir fel un o brif noddwyr yr ysgol yn y cyfnod cyn ei symud i'r capel, ac a enwir hefyd fel un o'r aelodau cyntaf a ddaeth yma o Lanllyfni, a fu farw yn fuan ar ol hynny. Dygodd sel gyda'r ysgol ym Mrynaerau hefyd. Cyfan- soddodd Eben Fardd farwnad iddo, a gafwyd ym meddiant Mr. Griffith Lewis. Dyma ddau bennill ohoni:

Gwisgo 'rydoedd lifrai'r nefoedd,
Arddel Iesu Grist yn hy',
Fel mewn cynulleidfa gyhoedd,
Felly gartref yn ei dŷ;
Mynych gyrchai i'r pregethau,-
Cofiai'r cwbl a gae ei ddweyd:
Traethai eilwaith swm y pethau,
Gan eu selio trwy eu gwneud.

Trwy dduwioldeb ymarferol,
Ei ddylanwad ydoedd gref;
Yn ei ardal cadwai reol,-
Yn ei dŷ fe'i perchid ef;
Trwy ei dymer bwyllog, wastad,
Hoff gan bawb o'i deulu oedd;
Trwy ei gyson ymarweddiad,
Parch ei ardal gae ar goedd.


Tybia Mr. Griffith Lewis y buasid wedi galw Dafydd Williams yn flaenor yn ddibetrus onibae ddarfod i angau flaenori ar yr eglwys. Gan fod y casgl mis yn cael ei dalu yn Llanllyfni, a bod William Owen eisoes yn flaenor, dichon na bu galw blaenoriaid dan 1846, pryd y dewiswyd John Roberts Treddafydd a Hugh Jones Hendy.

Trefnwyd pregeth yma bob yn ail Sul o Frynrodyn, Talsarn. a Llanllyfni yn eu tro. Nid hir y bu y lleoedd hyn, pa ddelw bynnag, heb gwyno ar y trefniant. Bu'r eglwys yma mewn peth penbleth. o'r herwydd, a braidd na phenderfynid myned yn ol i Lanllyfni. Cymhellid hwy i hynny gan y Cyfarfod Misol. Penderfyniad William Owen a orfu, ac ymrowd i weddi gyhoeddus am arweiniad, a theimlid na bu hynny yn ol o gael ei roi. Dechreuwyd adeiladu tai yn y gymdogaeth, a chynyddodd nifer yr eglwys.

Yr ydoedd William Owen yn gyfaill mawr i John Jones Talsarn. Troes hynny yn fantais i'r eglwys, gan y rhoddai efe bregeth yma ar noson waith amryw weithiau mewn blwyddyn, unwaith bob mis ar rai ysbeidiau.

Yn ddilynol i'r cyfnod cyntaf i gyd yr oedd yma gynnydd araf ond cyson yn rhif yr eglwys, fel erbyn 1854 yr oedd yma 65 o aelodau. Yr oedd pob eisteddle yn y capel yn cael ei gosod, sef 116 o ran rhif, ac yr oedd cyfartaledd pris pob eisteddle 6ch. yn y chwarter. Nodir £11 12s. fel swm y derbyniadau blynyddol am y seti, yr hyn a ddengys fod pob eisteddle heb eithriad yn cael talu am dani yr adeg honno. Y casgl at y weinidogaeth, £11 3s.

Mawrth, 1857, ymfudodd Hugh Jones Hendy i'r America, wedi bod o gryn wasanaeth i'r eglwys, yn enwedig ynglyn â chan- iadaeth.

Awst, 1857, Penygroes yn daith gyda Brynrodyn. Penygroes yn cael un bregeth bob Sul, a dwy ar y pedwerydd Sul o'r mis.

Prynhawn Gwener. Tachwedd 11, 1859, daeth Dafydd Morgan yma. "Am i ti ymadael â'th gariad cyntaf" oedd y testyn. Mewn un cyfarfod gweddi yn ystod tymor y diwygiad, fe dorrodd un hen frawd allan mewn gweddi, "Diolch iti, Arglwydd, am beidio'n lladd ni, pan oeddwn i ac Owen Ffordd haearn yng nghoed y Glyn yn hel cnau ddydd Sul." Dyma bennill a genid yma ar y pryd:

Nad i mi grino yn dy Dŷ,
Rho aml gawod oddifry;
Par imi ffrwytho yn dy ardd,
A'm dail yn ir a'm blodau'n hardd.

Rhif yr eglwys yn 1858, 73; yn 1860, 127; yn 1862, 126; yn 1866, 146. Erbyn 1856, nodir fod lle yn y capel i 124, ac erbyn 1858, lle i 132. Llei 116, fe gofir oedd yno yn 1854. Ai ychwanegu meinciau a wneid, ai tebyg ydoedd i balas y tylwyth têg, yn myned yn fwy gyda'r angen? Bid a fyno am hynny, yr oedd arian yr eisteddleoedd yn cael eu talu yn 1856 ac yn 1858 yn gyflawn, of fewn pedwar swllt, y naill dro a'r llall. Yr un pedwar swllt, mae'n debyg, yn fyrr bob tro.

Adeiladwyd y capel cyntaf a fu yn eiddo'r eglwys ei hun yn 1860. Nid oedd dim dyled yn flaenorol. Swm y ddyled ar ddiwedd y flwyddyn, £590, a'r un fath y flwyddyn nesaf. Erbyn 1862, £570. Eisteddleoedd i 300, a gosodid 234 y flwyddyn gyntaf. Pris eisteddle wedi codi 11g. y chwarter ragor yn hen gapel y Wesleyaid, sef erbyn hyn 71g. Erbyn 1862 gosodid 239 o eisteddleoedd, yr ardreth yn £27 1s. Erbyn 1866, yr ardreth yn £32 18s. Y ddyled yn 1866, £440.

Yn ystod 1859-60 dewiswyd y Dr. Evan Roberts yn flaenor, ac hefyd yn ysgrifennydd yr eglwys. Wedi hynny bu yn drysorydd yr eglwys am flynyddoedd. Cyn ei amser ef, rhoid croes gyferbyn ag enw aelod i ddangos ei fod wedi cyfrannu, a chafodd drafferth gael gan y blaenoriaid eraill foddloni i nodi swm y cyfraniad. Efe yn gyntaf a roes wybodaeth i'r eglwys o'r modd y treulid yr arian mewn llaw.

Yn 1862 daeth Richard Griffith yma o Birkenhead, lle'r oedd cisioes yn y swydd o flaenor, a galwyd ef iddi yma. Mai 11, 1863, penderfynu gofyn drwy'r Cyfarfod Misol, i Frynrodyn am un bregeth yn rhagor bob mis, fel ag i roi dwy bregeth yma ar ddau Sul o bob mis. Tebyg y cydsyniwyd. Ebrill, 1865, darfu i R. Jones (Llystyn) a Griffith Williams ddechre pregethu.

Yn 1866 dewiswyd Griffith Lewis yn flaenor.

Nos Wener, Medi 10, 1866, mewn cyfarfod cyhoeddus, cyflwyno ei lun i William Owen Penbrynmawr, y llun wedi ei dynnu gan y Parch. Evan Williams Caernarvon. (Drysorfa, 1867, t. 21).

Yr un flwyddyn y daeth Thomas Williams Rhyd—ddu yma. Bu yma am rai blynyddoedd, a bu'n dra ffyddlon fel ymwelwr â'r cleifion, a bu ei wasanaeth yn werthfawr mewn cyfarfodydd eglwysig. Aeth oddiyma i'r Bwlan. Ar nos Iau, Mai 28, 1868, cyflwynwyd tysteb mewn cyfarfod cyhoeddus iddo. Codwyd teimlad ymhlaid hynny ar gyfrif ei ffyddlondeb ef yn ystod y flwyddyn cynt yn ymweled â chleifion y gymdogaeth, pryd yr oedd rhyw glefyd trwm wedi goddiwes lliaws mawr o deuluoedd. (Drysorfa, 1868, t. 260). Tebyg, hefyd, ei fod y pryd hwnnw ar ymadael i'r Bwlan. Yn 1870 ail—adeiladwyd y capel. Y ddyled yn 1869, £300; yn 1871, £880. Rhif yr eglwys yn 1869, 168; yn 1871, 184. Cynwysai y capel newydd 500 o eisteddleoedd; a gosodid yn 1871, 380. Pris eisteddle yn y capel newydd am y chwarter wedi codi dimai y pen ragor yn yr hen gapel, sef bellach 8g. y pen.

Y gwr a fu'n gyfrifol yn bennaf am sefydlu'r achos yma, ac a fu'n brif arweinydd iddo am flynyddoedd lawer, sef ydoedd hwnnw, William Owen, a fu farw Medi 27, 1870, yn 67 mlwydd oed, ac wedi gwasanaethu'r swydd o flaenor er sefydliad eglwys Carmel yn 1826, ac yn Llanllyfni yn ystod 1837—45. Ar ei ddyfodiad i Benbrynmawr yn 1837, drwy briodas â Jane, merch Dafydd Jones Penbrynmawr, fe ddaeth i sefyllfa amaethwr cyfrifol. Bu'n warcheidwad tlodion dros y plwyf am flynyddoedd. Dywed y Parch. John Jones Brynrodyn, yn ei gofiant iddo yn y Drysorfa (1880, t. 193, 233), fod agwedd hynafol ar yr achos yn Llanllyfni ar ei fynediad ef yno, a'i fod yn peryglu myned i ddirywiad—y blaenoriaid wedi myned yn hen eu hunain, ac yn rhai nad oedd dim ond oedd hen yn foddhaol ganddynt. Am fod ysbryd diwygiwr ynddo ef, fe edrychid arno y pryd hwnnw gan rai fel dyn peryglus, gan ei fod am ymyrryd â'r hen ddull o gadw cyfrifon yr eglwys a'r cyffelyb. Pa ddelw bynnag, fe brofodd ei ymyriad yn llesol i'r achos. Digwyddodd i'w ran ef lafurio ym mhwys a gwres y dydd yn y tair eglwys y bu mewn cysylltiad â hwy; ac yr ydoedd yntau o ran adnoddau naturiol a grasol yn wr cymwys i'r alwad arno. Nid ychydig fu ei ymdrech, fe ymddengys, i sicrhau pregethu rheolaidd i Benygroes, oblegid anhueddrwydd yr eglwysi cylchynol i ganiatau oedfa yma. Rhaid cofio nad oedd y lleoedd hynny eu hunain yn cael dwy oedfa yn gyson ar y Sul fel yn awr. Ac wrth fod eglwys Penygroes y pryd hwnnw yn fechan a gwan, bu yn gyfyng ar William Owen o'r ddeutu am flynyddoedd o amser. Rhydd John Jones ar ddeall ddarfod iddo yn ystod y cyfwng maith hwnnw ddangos ymroddiad a doethineb ac ymaros na ellir gwybod. mo'u maint bellach ond gyda manylrwydd ymchwil dydd brawd. Efe hefyd, fe ymddengys, fu'n cymell eglwys Talsarn i godi William Hughes yn bregethwr, ac yr oedd y ddau yn gyfeillion agos. Rhagorfraint fawr bywyd William Owen, pa ddelw bynnag, ydoedd bod yn gyfaill mynwesol i John Jones Talsarn. Ymddiddanai John Jones yn rhydd âg ef ynghylch ei bregethau, a chymhellai ef i'w beirniadu. Un tro, ar ol dadl faith yng Nghymdeithasfa'r Bala ar y wedd newydd a roid gan rai y pryd hwnnw i'r athrawiaeth, treuliodd John Jones yr amser yr holl ffordd adref mewn traethu ei olygiadau ei hun wrth William Owen ar y pethau neilltuol a oedd mewn dadl, ac mewn ymgynghori âg ef pa fodd i ddwyn y wlad i deimlo oddiwrth ei dyledswydd yn wyneb galwad yr Efengyl. Yr oedd ei olygiadau ef ei hun yn hollol gyfateb i'r eiddo John Jones. Tebyg ei fod yntau fel lliaws eraill yn cymeryd John Jones yn gynllun yn ei ddull o osod gwirionedd yr Efengyl allan. Danghosai fedr neilltuol mewn athrawiaethu, bob cyfle a gaffai, yn y seiadau, fel holwyddorydd yn yr ysgol, ac wrth gyfarch y gynulleidfa. Ym mhrinder pregethau ar y Sul ym Mhenygroes am flynyddoedd, yr oedd ei wasanaeth ef o fawr werth. Dengys rhestr pregethwyr Robert Parry y byddai efe yn pregethu yn achlysurol yn Llanllyfni, ac felly, mae'n debyg, mewn lleoedd eraill yr un modd. Gwnawd ef, ebe John Jones, yr hyn y dywed yr Arglwydd wrth y proffwyd y byddai iddo ei wneud ef, sef yn "gyweiriwr llwybrau i gyfaneddu ynddynt." Edrydd John Jones, ar ol Mr. Griffith Lewis, am dano yn gwneud y sylw yma yn y seiat dan wylo: ydych yn cymdeithasu rhy ychydig â Mab Duw. Dyma yr achos fod gennych gyn lleied i ddweyd am dano yn y seiat. Pe deuech i fwy o gymundeb âg ef, amlygai yntau ei hun i chwithau. Ac yna chwi a gaech weled mwy o'i hawddgarwch gogoneddus." Yr oedd yn meddu ar hynodrwydd mewn gweddi. Efelychiad o John Jones. Talsarn yn ei weddi ym mhob peth oddigerth mewn dawn. Pwysleisiai ar fyned at Dduw mewn gweddi ym mhob rhyw amgylchiad. Yr oedd yn gryn ddarllenwr, a chanddo gof rhagorol. Darllenai y Gwyddionadur, y Traethodydd o'i ddechre, Geiriadur Charles, Gurnall, rhai o draethodau y Dr. Owen, Jonathan Edwards ar y Prynedigaeth ac ar y Serchiadau, ac Athrawiaeth yr Iawn Lewis Edwards. Galwodd gyda John Jones Brynrodyn rai wythnosau cyn y diwedd gan ei gymell i ddod i'w gynhebrwng. Dywedai y gwyddai na byddai byw yn hir, ond ei fod yn hollol foddlon i ewyllys ei Arglwydd. (Gweler gyfeiriad pellach ato ynglyn â hanes Brynrodyn a Charmel).

Yn 1870, daeth John Roberts Buarthau yma o Dalsarn a William Griffith o Hyfrydle, yr olaf eisoes yn swyddog. Galwyd hwy i'r swyddogaeth yma yn y man.

Oddeutu 1872, Temlyddiaeth Dda yn ei blodau. Bu'n foddion i ddwyn i sylw amryw gymeriadau gwych, ac un yn arbennig felly, sef William John Davies (Glan Llyfnwy). Ymunodd â'r eglwys yn y man. Canfyddwyd ar unwaith ei fod o feddwl galluog, ac anogwyd ef cyn bo hir i ddechre pregethu, yr hyn a wnaeth yn 1876. Ar ei ddychweliad o'r Bala, yn enwedig, yr oedd o fawr wasanaeth yma, a hynny hyd y derbyniodd alwad i Danrallt yn 1883.

Yn 1875 derbyniodd y Parch. Peter W. Jones alwad yr eglwys, gan ddod yma' o 'Lanfairfechan. Rhif yr eglwys y flwyddyn hon, 149 (?). Camgymeriad yn yr ystadegau am 249, feallai. Y rhif yn 1876, 276.

Chwefror 22, 1879, y bu farw John Roberts Treddafydd, yn 62 oed, ac yn un o'r ddau flaenor cyntaf o ddewisiad yr eglwys. Efe oedd yr olaf o'r rhai fu'n cychwyn yr achos. O'r ffrwyth cynnar hwnnw, efe syrthiodd olaf oddiar y pren, wedi aros yno yn hir i felysu. "Yr hen Gristion" oedd enw'r bobl arno, enw wedi ei fwriadu feallai i ddynodi nad oedd efe yn fawr mewn dim ond mewn gras, ond yn hynny yn fawr. Nid edrychai efe ar ddim yn rhy fychan ganddo i'w wneud, ac ni chyfrifai ddim yn ormod. ganddo ychwaith. Ei gymeriad ef fel petryal byddin Lloegr: pa mor fychan bynnag, nid yn hawdd y tyrr y gelyn y rhengoedd. Petryal teyrnas nefoedd oedd John Roberts, yn sefyll yn ddigryn yn wyneb ymosodiad o ba gyfeiriad bynnag. Llinellau cyferbyniol ei nodweddiad, yn cydgyfarfod mewn conglau o gadernid, oedd ei ffyddlondeb, ei bwyll, ei amynedd a'i dduwioldeb. Ffrwydrodd y powdwr mewn carreg unwaith yn union o dano, pryd y tybid fod y tân wedi myned allan. Llithrodd yntau rhwng pedwar darn y garreg i lawr oriwaered. Llammodd cydweithiwr iddo ar ei ol, gan ei dynnu allan oddirhwng y darnau hynny, heb fod ohono fymryn gwaeth, yr hyn a ymddanghosai yn wyrth. Gwr ofer ei fuchedd oedd ei gydweithiwr. Pan ofynnwyd iddo, pam y mentrodd efe ei fywyd yn y dull hwnnw, ei ateb oedd y teimlai rhywbeth o'i fewn yn ei gymell i hynny.

Nis gall ond pwyntel Ysbryd Duw
Ddarlunio

'Roedd diniweidrwydd yn ei wedd
A'i drem fel gwên y nefol hedd

Bob hwyr a bore byddai ef
Yn ffyddlawn offeiriadu

Pan gyda'i waith, ynghanol gwŷr
Anuwiol eu harferion,
'Roedd awyr ei gymdeithas bur
Yn lladd rhegfeydd a llwon

Ei yrfa Gristionogol fu
Yn fodrwy o ffyddlondeb;
Ei bresenoldeb yn y Tŷ
Oedd ddeddf o ran cysondeb.
Ei gadair dan y pulpud oedd
Oddiarni, heb na llef na bloedd,
Y llywiai mewn dylanwad

Ei wallt â'i law a esmwythâ,
Ac, wedi rhoi pesychiad,
Yn araf, bwyllog, codi wna
I adrodd gair o'i brofiad;
Ei eiriau cynes, syml, dirith,
Ei wedd a'i dôn ddifrif-ddwys,
Ddisgynnant fel adfywiol wlith
Ar holl rasusau'r eglwys.

'Roedd achos Bethel iddo ef
Fel tyner ganwyll llygad

Mae'n mynd! ond beth yw'r wên o wawl
Ymdaena dros ei wyneb?

O! Bethel, Bethel, cwymp i lawr
I'r llwch, a thrwy dy ddagrau,
Gweddia ar dy Flaenor Mawr
Am iddo lanw'th fylchau.—(Glan Llyfnwy).

O ddechreu'r flwyddyn 1881, Bethel yn ymwahanu oddiwrth Hyfrydle fel taith, gan fyned arni ei hun. Rhif yr eglwys yn 1880, 324.

Yn 1883 y dechreuwyd cyhoeddi Adroddiad blynyddol o weithrediadau yr eglwys. Mae Miss Williams yn ei hysgrif hi yn crynhoi ynghyd y prif bethau allan o'r Adroddiad hwn, a dilynir hi yma yn hynny. Y flwyddyn hon y ffurfiwyd cangen-eglwys Saron. Ymadawodd 47 o aelodau Bethel yno. Rhif yr eglwys ym Methel ar ddechreu'r flwyddyn, 352; ar ei diwedd, 307. Fe ymddengys fod ysgol Sul yn cael ei chynnal yn y neuadd drefol er 1872 dan nawdd eglwys Bethel. Erbyn 1881 yr oedd y brodyr elai yno wedi codi ysgoldy ar eu cyfrifoldeb eu hunain. Yn groes i deimlad yr eglwys y rhoes y Cyfarfod Misol ganiatad i sefydlu eglwys ynglyn â'r ysgoldy. Yr un flwyddyn dewiswyd yn swyddog yn Bethel, T. W. Williams. Galwyd W. Herbert Jones i'r swydd, hefyd, ar ei ddyfodiad yma o'r Baladeulyn. Etholwyd T. W. Williams yn ysgrifennydd yr eglwys, swydd a lanwyd ganddo hyd yn bresennol, ac eithrio'r blynyddoedd, 1891-3.

1884. Lleihad o 11 yn nifer yr aelodau. Bu farw William D. O'Brien. Aelod gweithgar, yn arbennig fel athraw yn yr ysgol. Ymadawodd â'r gymdogaeth i ddychwelyd yn ol yn fuan. Anrheg- wyd ef ar ei ymadawiad â thysteb. Ebrill 22, yn 43 oed, bu farw R. T. Roberts, wedi gwasanaethu amryw swyddau pwysig yn dwyn perthynas â'r achos gyda ffyddlondeb. Aelod gwerthfawr.

1885. Bu farw un o chwiorydd hynaf yr eglwys, sef Margaret Hughes Garthdorwen. Nodedig am ei charedigrwydd i'r tlawd. Mam yn Israel.

Rhoes y gweinidog ofal yr eglwys i fyny oherwydd gwaeledd iechyd. (Gweler ar gyfer 1888).

1886. Mai 10, bu farw Richard Griffith, neu'n llawnach, Richard Griffith Owen, yn 84 oed, yn flaenor er 1862. Ganwyd ef ym Mrynbeddau, Rhoslan. Dechreuodd weithio yn ieuanc iawn. ar dir ei dad. Yna bu yn forwr am ychydig. Yna dysgu gwaith gof, a dilyn ei alwedigaeth yn ardaloedd Arfon, wedi hynny yn Nerpwl, lle y llwyddodd yn ei orchwyl. Dygodd llwyddiant ef i ystyried nad diogel cyflwr gwr ag y mae ei ffyniant yn y byd hwn yn unig. Dechreuodd ddilyn moddion gras, fel y dywedai ef hun, er mwyn cael ei feddwl o'r efail. Clywodd bregeth gan Richard Williams, awdwr y Pregethwr a'r Gwrandawr, ar y geiriau, "Os gelli di gredu, pob peth a all fod i'r neb a gredo," pan y sylwodd y pregethwr, mai truenus a thlawd a fyddai hwnnw a'r ni chredai. "Ar ol hynny," ebe Richard Griffith, "mi ddechreuais weddïo fel y gallwn." Yn fuan ymunodd âg eglwys Pall Mall. Dewiswyd ef ymhen amser yn flaenor yn Rose Place, ac wedi hynny yn Birkenhead. Ymroes, yn ei iaith ef ei hun, i fod yn dad a mam i enethod. ieuainc mewn gwasanaeth, a dywedai ei fod yn dâl i'w fynwes wrth ffarwelio âg eglwys Birkenhead i weled rhai o'r cyfryw yn wylo ar ei ymadawiad. Mewn seiat fawr yn Nerpwl yn fuan wedi hynny, pan yr oedd "Dyledswydd yr eglwys tuag at yr ieuenctid" yn bwnc, cyfeiriodd John Ogwen Jones at Richard Griffith fel un a ofalai am bethau a esgeulusasid gan eraill, am y lodesi yn fwy nag am y ladies. Ceid blas arno yn y seiadau yn Bethel yn adrodd dywediadau hen bregethwyr Lerpwl. Adnod a adroddai yn feunyddiol oedd honno, "Ceisiwch yr Arglwydd tra y galler ei gael ef," a gair mawr ganddo oedd hwnnw, mai adeg wael i geisio crefydd oedd henaint a methiantwch. Gwasanaethodd y swydd o flaenor mewn gwahanol fannau am 40 mlynedd. Ni frysiodd yn ei ddiwedd, am y credai ei fod wedi rhoi ei achos i'r Arglwydd Iesu ers blynyddoedd, ac am yr hyderai fod ei etifeddiaeth yr ochr draw. (Goleuad, 1886, Mai 29, t. 7).

Y flwyddyn hon, hefyd, yn 79 oed, y bu farw Robert Dafydd. Hynod fel gweddiwr, yn enwedig ar ran y Genhadaeth Dramor. Ei hoff bennill, "O Arglwydd, cofia am hiliogaeth Abraham."

1888. Ionawr 20, bu farw y Parch. Peter W. Jones, yn 47 oed. Yr oedd efe wedi rhoi gofal yr eglwys i fyny ers pum mlynedd. Llafuriodd yma yn y swydd o fugail eglwys am 10 mlynedd, er fod ei iechyd wedi gwanhau yn fawr cyn diwedd yr amser hwnnw. Yn y Drefnewydd yn bennaf y bu efe yn trigiannu yn y cyfamser. Yr ydoedd wedi dychwelyd i Benygroes rai wythnosau cyn y diwedd. Yr oedd efe yn fab i'r Parch. John Jones Newmarket, ac yr oedd y Parch. Peter Roberts Llansannan yn daid iddo ar ochr ei fam. Wedi bod am ddwy flynedd yn y Bala, bu'n weinidog yn Barrow, Tregynon a Llanfairfechan. Nid oedd ei iechyd yn gryf yn dod yma, a chaniateid iddo chwech wythnos o seibiant yn yr haf. Yn lle gorffwys, elai ef bob blwyddyn i'r coleg Tonic Sol-ffa yn Llundain. Enillodd ei radd yno. Gwnaeth yr eglwys, gyda chymorth eglwysi'r Cyfarfod Misol, dysteb o £100 iddo yn 1887. Yr oedd yn wr anwyl, yn un a fawr hoffid gan ei frodyr. Yn efrydydd ymroddgar. Darllennodd gryn lawer ar y Dr. Owen a Howe, ac eraill o'r Puritaniaid. Yr oedd yn bregethwr cymeradwy a phoblogaidd. Yn wr dymunol yr olwg arno, o bryd tywyll a hardd, a lled darawiadol yr olwg. Ei draddodiad yn rhwydd ac ystwyth, gyda pharabliad croew, a llais lled ddwfn a chlir. Enillai nerth wrth fyned ymlaen, a llefarai gyda grym ac effeithiolrwydd. Y mater wedi ei gyfleu yn glir, ac yn efengylaidd ei nodwedd, ac yn cael ei gyfeirio adref at y teimlad a'r gydwybod. Ei ymdrin â'i fater yn dangos craffter sylw gwr darllengar. Wedi ei ddanfon gan Gyfarfod Misol neu Sasiwn, daeth ar ei dro ar fore Sul i Engedi, Caernarvon, gan ddadleu hawl eglwysi Seisnig y Cyfundeb i dderbyn cynorthwy yr eglwysi Cymreig. Yr ydoedd Robert Roberts, Carneddi y pryd hwnnw, i bregethu ar ol y cyfarchiad. Cydnabyddai'r dadleuydd dros yr eglwysi Seisnig nad oedd yr iaith honno i'w chystadlu â'r Gymraeg, ac fel enghraifft o'r gwahaniaeth, cymharodd hwy mewn un man, lle sonir am y sycamorwydden ffydd. Yno y mae " Ymddadwreiddia" y Gymraeg, yn y Saesneg yn "Be thou plucked up from the root," sef un gair yn ateb i saith. Fe ddaeth yr enghraifft hon mor gwbl anisgwyliadwy, fel y bu'r pregethwr o'r tu ol yn ysgwyd dan chwerthin, heb fedru peidio, am gryn ennyd. Dioddefodd ei gystudd yn dawel amyneddgar, er yn teimlo'r groes yn drom am na chaniateid iddo bregethu. Ar ddyledswydd deuluaidd yn ystod blynyddoedd ei gystudd, fe weddiai rai prydiau, "O Arglwydd! iacha dy was," a phrydiau eraill, "O Arglwydd! gollwng dy was." Ei eiriau olaf, "Clôd, clôd, clôd i'w enw mawr!" Hoffid ef gan liaws, cerid ef yn ei deulu, mawrygid ef yn eglwys Bethel. (Drysorfa, 1888, t. 148. Goleuad, 1888, Mawrth 1, t. 8).

Y flwyddyn hon derbyniodd y Parch. W. Elias Williams alwad yma o eglwys Pentir.

1893. Galw i'r swyddogaeth y Dr. Hugh Jones-Roberts a Griffith G. Owen (Geraint). Daeth y cyntaf i le ei dad, y Dr. Evan Roberts, fel trysorydd yr eglwys.

1894. Mewn pwyllgor ymweliadol a gynhaliwyd yn Ebrill, pryd yr hysbyswyd fod lliaws o blant yng nghymdogaeth Ty'nyweirglodd yn treulio'r Sul i chware a rhodianna, penderfynwyd ymholi i'r mater. Ar ol cadarnhau y dystiolaeth, cymerwyd tŷ gwag yn Llwyn y fuches, a chynhaliwyd ysgol a chyfarfodydd eraill yno dan arolygiaeth Mr. T. W. Williams a G. G. Owen. Parhawyd y gwaith am 4 blynedd. Mae amryw o'r plant bellach yn aelodau yn eglwysi'r gymdogaeth.

Tachwedd 15 y bu farw John Roberts (Buarthau), yn 82 oed, ac wedi gwasanaethu yma fel blaenor er 1870. Gwr tal, cryf, a gwrid ar y croen yn ei flynyddoedd olaf. Llefarwr parod, yn cydio yn y pwnc yn ei wedd ymarferol, ac yn tewi cyn myned yn faith. Dyn hyweth, siriol, dymunol, ac yn rhoi'r argraff fod yn feddiant iddo ryw beth cuddiedig, nad oedd eisieu mo'i wthio i'r golwg. Byddai'r cynulliad yn sirioli pan godai efe i gymeryd rhan mewn gweddi. Rhoddai'r pennill allan o'i gof bob amser. Mewn gweddi yr oedd cuddiad ei gryfder. Yma y teimlid ei rym. Deuai dawn i'r golwg yma na wyddid ei fod yn berchen arno o'r blaen, ac ar adegau byddai rhyw nerth anorchfygol gydag ef. Yr oedd yn athraw cymeradwy, ac adroddai ei ddosbarth fwy o'r ysgrythyr allan oddiar y cof na'r un dosbarth yn yr ysgol. Yr oedd efe ei hun wedi trysori i'w gof nid yn unig ysgrythyr, ond cryn swrn o farddoniaeth grefyddol. Y diwrnod olaf y bu efe byw, fe ddarfu Mr. Griffith Lewis ysgrifennu i lawr, fel y dywedai ef hwynt, nifer o benillion anadnabyddus, a genid yn y moddion cyhoeddus gynt, a chyhoeddodd hwy yn daflen fechan 4 tudalen. Nid hwyrach mai nôd yr un meddwl a welir ar y rhan fwyaf ohonynt. Pe dodid hwy i lawr yma ni chymerent gymaint a hynny o le, ac fe wneid hynny nid oblegid eu barddoniaeth, ond eu teimlad crefyddol. Y maent yn ddiau yn bethau a aeth drwy feddwl John Roberts ei hun lawer canwaith, gan liosogi adsain yn yr ystafelloedd dirgel. Fe ddanghosant beth oedd maeth ysbrydol dynion cyffelyb i John Roberts, ag y bu cryn liaws ohonynt gynt ymhlith Methodistiaid Arfon. Llinell ohonynt hwy oedd y gair olaf clywadwy a ddaeth dros ei enau,— O mor gyfyng—rhaid mynd trwy! Wele nhwy ynte:

Fe ddaw diwrnod sobr, effro,
Diwrnod nithio gan fy Nuw;
Fe ddaw dydd a ddwg i'r amlwg
Holl feddyliau dynolryw;
Fe ddaw Crist â'i wyntyll ddifri,
Ar lawr dyrnu Seion lân;
Ceidw'r gwenith, pur, sylweddol,
Llysg yr us â bythol dân.

O'r Aifft yr wyf yn teithio,
Mi flinais ar y wlad;
I Ganaan 'rwyf yn myned,
Af yno i weld fy Nhad;
I Ganaan ni ddaw clefyd,
I Ganaan ni ddaw haint;
Yng Nghanaan, O! mor ddedwydd,
Brenhinoedd fydd y saint.

Er i ni oll yn Eden,
Fel deilen fynd i lawr;
Caed dail i'n codi' fyny,
Sef Crist yr Aberth mawr ;
A'n gosod ar gadarnach,
Ar lawer sicrach sail;
Sef bywyd a marwolaeth,
Eiriolaeth Adda'r Ail.


Nid oes drwy nef na daear
Ryfeddod fwy i'w chael,
Na gweled llaw Trugaredd
Yn ymgeleddu'r gwael;
Mae uchder Cariad Dwyfol
A dyfnder f'angen i,
Yn hyfryd ymgyfarfod
Ar fynydd Calfari.

Paham y meiddiaf yn fy oes,
Dristau a grwgnach dan y groes,
A minnau'n gwybod am y fraint
Sydd yn y Nef i bawb o'r saint.
O dan y groes ymlaen yr awn,
Y groes a ddwedodd ef a gawn.
O! cymer gysur f'enaid gwan,
Try'r groes yn goron yn y man.

Crist sy'n galw!—clust ogwyddwch,
O! gwrandewch, mae yn eich gwadd,
Deuwch ato,—ymresymwch,
Gwrendy arnoch heb eich lladd ;
Dwedwch am eich dirfawr feiau,
Dywed yntau am ei waed;
Deuwch, llechwch yn ei glwyfau,
Fel na'ch mathrer dan ei draed.

Ar yr Ysgol welodd Jacob,
Minnau wyf am roddi 'nhroed;
Er ei maint ac er ei huchder,
Chwympodd neb oddiarni erioed.
Grym i 'maflyd mewn addewid,
Ac i sengyd ar ei Ffynn,
Ac i ddringo ar hyd—ddi i fyny,
Ac i waeddi, "Arglwydd, tynn!"

Fy enaid, paid a gildio,
Er fod yr oriau'n faith;
Mae Mab y Brenin Alpha,
Ers dyddiau ar ei daith.
Er maint mae Pharaoh'n yrru,
Mae'r Iesu'n cario'r blaen;
A minnau'n fyw hyd heddyw,
Rhwng niwl a cholofn dân.

Hen lestr Iachawdwriaeth,
A ddaeth i'n daear ni;
Mordwyodd foroedd Cariad,
Hyd Borthladd Calfari;
Dadlwythodd ei thrysorau,
Mewn teirawr ar y Groes;
Rhoes fodd i dorf nas rhifir,
I fyw tragwyddol oes.

Dyma bennill o waith merch i Michael Roberts:

'Rwy'n nesu at yr awr i'm gael fy nhorri i lawr,
A'm rhoddi i orwedd yn y bedd;
Lle i orffwys yno sydd hyd oni ddelo'r dydd,
Daw'r Iesu ar gymylau'r Nef.
Tra safo'n siwr eu Pen—amodwr mawr,
Ei blant nid ânt—ni lithrant byth i lawr:
Er mynd i'r bedd, a'ch gwedd yn ddigon gwael,
Dwêd wrth eich llwch, "Dewch, codwch,—rhaid eich cael!"


308 Ychydig oriau cyn cyfarfod ohono â'i ddamwain angeuol yn y chwarel yr adroddodd John Jones Tyddyn difyr y pennill yma. wrth John Roberts:

Ar bellterau tragwyddoldeb,
Mae fy wyneb yn y blaen;
Ni chaf aros, ni chaf orffwys,
Nes fy myned yno'n lân;
Porth Marwolaeth!
O mor gyfyng-rhaid mynd trwy!

Ar ol y fath amgylchiad, pa sawl gwaith y tramwyodd y llinell olaf yna drwy feddwl John Roberts, a wys? Y lle yr oedd hi wedi ei wneud yn ei feddwl barodd iddi ddod allan gyda'i ebychiad gwanaidd olaf!

1896. Prynwyd tai Llwyn y fuches. Cyfranodd yr eglwys £88 tuag at Ysgol Ganolradd Penygroes.

Marw William Griffith y blaenor, fel ei gelwid, yn 60 oed. Yn y swydd yma er 1870, a chyn hynny yn Hyfrydle. Dyma fel y dywedir am dano yng nghofnod Cyfarfod Misol Mawrth: "Yr oedd yn ddiwinydd da, yn llenor ac yn fardd. Meddai farn gref ac ysbryd anibynnol, a thymer naturiol yn gogwyddo at y llym; ond drwy ddisgyblaeth amgylchiadau gwasgedig a chystudd, a thriniaethau Ysbryd Duw drwy'r Gair, fe ddaeth yn addfwyn a thyner a hawdd nesau ato." Bu am flynyddoedd yn athraw ar ddosbarth a efrydai "Athrawiaeth yr Iawn" Lewis Edwards a llyfrau eraill. Ei ffyddlondeb i'r moddion a'i brydlondeb yn esiampl i'r eglwys. Yn wr o gynghor. Teimlid chwithdod mawr ar symudiad John Roberts ac yntau o fewn ychydig fwy na blwyddyn i'w gilydd. Meddiannid ef ei hun gan hyder tawel ar y symudiad hwnnw.

Bu William Griffith yn cadw dyddlyfr am ystod ychydig flynyddoedd. Ar gyfer 1886, Chwefror 28 (Sul), y mae efe wedi ysgrifennu fel hyn: "John Prichard Amlwch yn pregethu (Hosea xiv. 1—7; Salm lxxxi. 11, 12). Y bregeth heno yn gafael ychydig ynof, 'Ond ni wrandawai fy mhobl ar fy llef, ac Israel ni'm mynnai. Yna y gollyngais hwy yng nghyndynrwydd eu calon: aethant wrth eu cynghor eu hunain.' Wel, rhaid imi addef, ac y mae'n addefiad poenus, na bum erioed yn fwy agored i hyn. Yr oedd yn dyfod i'm meddwl am adeg neilltuol yn fy hanes pan y daeth addewid werthfawr yn eiddo imi, fel y tybiwn y pryd hwnnw, sef yw honno, 'Ni'th roddaf di i fyny, ac ni'th lwyr-adawaf chwaith' (Heb. xiii. 5). Buasai'n well gennyf na'r holl greadigaeth, pe buaswn yn y meddiant o'r cyfryw brofiad a theimlad y dyddiau. hyn. Pan oeddwn yn yr ysgol yng Nghlynnog gydag Eben Fardd agos i 30 mlynedd yn ol, sef Mai, 1856, penderfynais na chae fy nghrefydd ddim bod ar ei cholled o'r symudiad; ond yn hytrach fel arall, y cymerwn fantais ar y symudiad bychan, dibwys hwnnw, i ymroddi fwy nag erioed i fywyd crefyddol. Cefais fy magu yn grefyddol, a theimlais lawer oddiwrth bethau crefydd. Arferwn gadw dyledswydd deuluaidd er yn ieuanc. Cymerwn ran yn y gwasanaeth cyhoeddus ar brydiau, a gweddiwn fwy na'r oll yn y dirgel. Ni omeddais gymeryd rhan gyhoeddus yng Nghlynnog, er y byddai yn gryn faich arnaf gan ofn, yn enwedig ofn Eben Fardd. Gwnawn gadw dyledswydd gyda fy nain dduwfol, Sian Ellis, y ddyledswydd yn cael ei throi yn fynych yn seiat gan fy nain. Mwy na'r oll, neilltuwn adeg i weddio yn y dirgel: awn gyda glan y môr bob nos i feithrin myfyrdod crefyddol, ac i weddïo. Ni byddwn foddlawn i fyned i'm gwely heb fyned i lan y môr i weddïo. Un noswaith, pa fodd bynnag, ar ol cadw'r ddyledswydd gyda'm nain, daeth y demtasiwn i mi beidio â myned allan y noson honno, gan ei bod yn gwlawio,-y gallaswn weddio yn y tŷ yn fy ngwely, ac y gwrandewid arnaf yr un fath. Ond ni theimlwn yn dawel i hynny, ac er mwyn tawelwch i'm cydwybod, am a wn i, aethum allan i'm rhodfa arferol, a'm gwlawlen uwch fy mhen. Teimlwn foddhad a phleser mawr y waith hon, fel arfer. Ond pan ar droi i ddychwelyd i'r tŷ, dechreuais bryderu, a oedd fy ngweddiau yn cael eu gwrando? a oeddynt yn esgyn yn uwch na'r lle y safwn arno? Ofnais eu bod yn disgyn i'r ddaear, ac nad oedd fy holl grefydd ond ofer. A beth pe bawn yn myned ymlaen mewn ansicrwydd fel hyn, a chael fy hunan yn y diwedd yn golledig? Daethum i'r penderfyniad fod y dull hwn o grefydda yn un rhy hawdd ac esmwyth,-mai rhagrith oedd y cyfan i gyd. Daeth fy sefyllfa yn un ofnadwy. Yr oedd pawb a phopeth yn ddedwyddach yn fy ngolwg na myfi. Eiddigeddwn wrth yr adar ar lan y môr, ac wrth y môr ei hunan-nid oedd gyfrifoldeb arnynt hwy. Daeth fy nghyfrifoldeb i bwyso yn arswydus arnaf yn awr. Yr ydwyf yn greadur cyfrifol,-yn ddyn! Ac, Ni allaf mwy er ceisio Byth beidio bod yn ddyn. Yr oedd yn demtasiwn i mi ymdaflu i'r môr, ond dywedai hynny o reswm oedd ynof na wnae hynny ond perffeithio yr uffern yr oeddwn yn deimlo ynof fy hun yn bresennol 'O! na buasai modd i'r ddaear agor i'm llyncu i ddiddymdra,' oedd fy nymuniad. Rhodiwn ol a blaen mewn pangfeydd o anobaith. Pa beth a wnaf? Nis medraf weddio yn well. A dyma'r cyfan yn ofer! canys nid oes gennyf brawf i'r gwrthwyneb.' Ond tra yn synfyfyrio ar fy nhrueni fel hyn, heb fod ynof y duedd leiaf i edrych am wawr gobaith, clywais lais o'r tu ol imi yn dywedyd yn glir a chroew, Ni'th roddaf di i fyny, ac ni'th lwyr adawaf chwaith.' Bellach, gwaeddais Diolch! nerth fy mhen. Y fath gyfnewidiad! Y mwyaf truenus o bawb y funyd o'r blaen, ond yn awr yn methu ymgynnal gan lawenydd a dedwyddwch. Yna, yn y fan a'r lle, gwnaethum gyfamod â'r Arglwydd, a adnabyddaf mwyach fel Cyfamod Glan y Môr. Addunedais, ond i'r Arglwydd fy amddiffyn a'm cadw a'm harwain drwy'r byd hwn yn ddiogel i'r gwynfyd yn y nesaf, yr ymgysegrwn i'w waith a'i wasanaeth. Wedi agos i 30 mlynedd, naturiol ydyw ymholi, pa beth sydd wedi dod o'r Cyfamod? Rhaid imi addef mai anffyddlawn fum i; ond y mae'r Arglwydd wedi para yn ffyddlawn, ie, yn ffyddlawn er fy anffyddlondeb i. Er cywilydd i mi fy hun, rhaid imi addef fy mod, nid yn unig wedi peidio â chadw i fyny delerau y cytundeb, ond wedi bod yn euog o gynllunio gweithredoedd fuasai yn drosedd o'r cyfamod, ac a fuasai yn arwain i bechodau, er nad oeddwn yn bwriadu hynny. Ond, ie, ond !-codai rhyw rwystrau anweledig, ac anhysbys i mi, fel na chyflawnwyd y gweithredoedd arfaethedig; a dyma fi hyd yma wedi fy nghynnal a'm cadw rhag pechodau rhyfygus. Ac nid oes gennyf reswm dros hyn ond fod yr Arglwydd yn ffyddlawn i'w gyfamod. Ac wrth ystyried hynny, byddaf yn barod i ddweyd fel y bardd:

Rhaid oedd bod Rhagluniaeth ddistaw,
Rhaid oedd bod rhyw Arfacth gref,
Yn fy nghadw heb i'm wybod
Wrth golofnau pur y Nef.

Fy nymuniad yn awr ydyw ar i'r Arglwydd faddeu fy nghrwydriadau, fy nychwelyd a'm diwygio."

Dewiswyd yn flaenoriaid: Thomas Powell, William Griffith, John Owen Williams, a William Jones Penbrynmawr, ŵyr William Owen. Thomas Powell yn arweinydd y canu ers dros 30 mlynedd cyn hyn. Codwyd i'w gynorthwyo ef, W. Parry, athraw Ysgol y Bwrdd. G. G. Owen yn ymadael i Garmel, yn flaenor yma er 1893. "Gwr hynaws a charuaidd a ffyddlon. Hir gofir ei gynghorion i'r plant, ar iddynt fod yn garedig wrth adar ac anifeiliaid. Dywedai yn fynych, 'Ceidw Duw eich cymeriadau, cedwch chwi gydwybod dda.'" (Ysgrif Miss Williams).

1897. Cynyddodd yr eglwys 27 mewn rhif. Derbyniwyd 23 o had yr eglwys.

1898. Tri o wŷr ieuainc yn ymgynnyg am y weinidogaeth, sef W. Richard Jones, John Owen Jones a Griffith Owen. Bu'r cyntaf farw cyn myned drwy ei brawf, yn 21 oed. Bernid y gwnelsai bregethwr cymeradwy. John Owen Jones ar ol hynny yn myned yn weinidog i Henllan, a Griffith Owen i Bontcysyllte.

Mr. William Jones Penbrynmawr yn ymadael i Fôn.

1899. Dechre adeiladu ysgoldy, ac, yn ddiweddarach, adgyweirio'r capel. Yr oll oddifewn i'r capel yn cael ei wneud o newydd. Yr adeiladwyr,—Mri. Jones a Roberts Pwllheli. Yr ymgymeriad yn £3,784. Yr holl dreuliau yn £5,000. Ni agorwyd mo'r capel am gryn ysbaid (Mehefin, 1902).

Adroddiad yr ymwelydd ar Ganmlwyddiant yr Ysgol Sul: "Dosbarth A. Ddim yn dilyn y wers-daflen. Ddim yn arfer egwyddori â holwyddoregau yn y dosbarth. Neb o'r disgyblion yn medru adrodd allan y Deg Gorchymyn. Dosbarth B. Presennol, 6; absennol, 2. Buasai yn dda amcanu at well disgyblaeth a threfn yn y dosbarth hwn. Darllennid yn Efengyl Ioan. Neb yn medru adrodd allan y Deg Gorchymyn. Dosbarth C. Y dosbarth hwn yn dilyn y wers-daflen. Darllen da. Ddim yn arfer egwyddori yn y dosbarth. Neb yn medru allan y Deg Gorchymyn. Dim cynllun neilltuol i ddysgu'r Beibl allan. Dosbarthiadau Ch—E. Neb ohonynt yn dilyn y wers-daflen. Y rhan fwyaf o'r disgyblion heb fedru'r Deg Gorchymyn. Dosbarthiadau merched. Y rhan fwyaf heb ddilyn y wers-daflen. Ychydig yn arfer egwyddori yn y dosbarth. Y rhan fwyaf heb fedru'r Deg Gorchymyn. Ysgol y Plant a'r Babanod. Cedwir hon mewn ystafell ar wahân. Yr ysgol plant oreu yn y dosbarth. Y gwers-lenni yn cael eu harfer yma. Dau ddosbarth o'r plant ieuengaf, yn cynwys o 20 i 30 bob un, yn cael eu haddysgu yn effeithiol. Yr arolygwr wedi ymdaflu i'w waith. Trefn a disgyblaeth yma. John Roberts."

Rhif yr eglwys yn 1900, 328.

BALADEULYN.[15]

WRTH nesu at Baladeulyn o ardal Talsarn, fe deimla'r pregethwr ar ei daith ar brynhawngwaith teg o haf fod rhyw ramant o swyn yn cael ei dadlenu o flaen ei galon. Ymegyr golygfa'r mynyddoedd o flaen ei lygaid, gyda'u bannau goleu, a'u hafnau go led dywyll, ac ambell glwt siriolwych o fwsog a rhedyn yma a thraw, a'r mynyddoedd hwythau yn nesu at eu gilydd gyda throadau'r ffordd, neu ynte'n pellhau, ac yna yn cau o'i flaen yn y pellter tesog, gydag ochr hafn-gron y Wyddfa, fel anferth gwpan swyn, wedi ei dodi gan yr arch-swynwr ar led-ogwydd am y pryd yn erbyn mur y nen. Ac os yw hi'n brynhawngwaith teg ar ysbryd y pregethwr, cystal ag yn natur oddiallan, ond odid na chenfydd efe yma ysgol Jacob, ac yn y man wrth ddadebru ohono o'i syfrdandod, odid na chlyw efe ar ei galon ddywedyd gyda'r patriarch, "Mor ofnadwy yw y lle hwn! Nid oes yma onid tŷ i Dduw."

Ond odid mai o brif-ffordd Beddgelert y daw'r ymdeithydd arferol yma, gan droi i mewn drwy Ddrws y Coed i'r Nant Nantlle, gydag Owen Jones yn ei Gymru, a chefnu ar y Wyddfa, "tywysoges mynyddoedd Eryri," a chael gwarchod ar ei ddeheulaw gan y Mynyddfawr a'r Cilgwyn a'r Clogwyn melyn, ac ar ei aswy gan Garn Farchog, Talmynyddau a Chwm Silin. Ymled y dyffryn yn araf, a chyda'r ymdeithydd ac Owen Jones y cyd-deithia afonig fechan a dardd o Lyn y dywarchen, ychydig uwch ei law na Drws y Coed. Dengys hon hefyd ddylanwad y swyn llesmeiriol, canys, yn y man, hi wahodd ati ffrydiau eraill, gan groni yn llyn; a phan gynnyg ymdaith eto, yn ebrwydd hi grona yn llyn arall drachefn, oherwydd cyffwrdd â hi gan hudlath y swynwr. Ac fel hyn, yn ddiarwybod iddi ei hun, dŷd ddwy em ar fynwes "brenhines dyffrynoedd." Owen Jones a ddengys leiaf o bawb of ddylanwad y swyn hudol, canys y mae efe wedi ebargofi'r olygfa yn union, a'i holl helynt bellach yw egluro y modd y bu Iorwerth I. yn ddigon grasol i dreulio rhai dyddiau yn y Baladeulyn ym misoedd yr haf, gan gynnal tournament yma, neu rith-ymgyrch," fel y dywed Owen Jones y gellir ei gyfieithu, pan ar ei hynt i ddaros- twng y Cymry druain. Y mae Owen Jones yn y man dros ei ben mewn dyryswch ynghylch prun o ryw ddau dŷ y bu Iorwerth yn lletya ynddo y pryd hwnnw.

Fe bregethid yn achlysurol gan yr Anibynwyr yn Nrws y coed, gan David Griffith, ac eraill feallai. Yn 1836, pan oedd Isaac Harries yn weinidog yn Nhalsarn, yr adeiladwyd capel ganddynt yma. Yr oedd gweithiau mwn yn cael eu hagor yn y lle ar y pryd, a disgwylid poblogaeth fawr yma. Siomwyd y disgwyliad; ond bu'r gweithiau hynny yn fwy llwyddiannus yn ddiweddarach. (Hanes Eglwysi Anibynnol III. 231).

Boed y ddadl fel y bo ynghylch y tŷ lle'r aneddai y brenin yn ystod ei drigias o rai dyddiau yn y fro, tra'n difyrru ei hun gyda'i orchestgampau, y mae dyddordeb yn nheimlad y brodorion mewn rhai tai eraill yn y gymdogaeth heblaw hwnnw. Mwy cysegredig i deimlad lliaws ohonynt hwy na mangre trigias y Brenin Iorwerth I. yw aelwyd gynes i'r achos crefyddol, a man cyfarfod ysgol Sul neu seiat, neu fangre trigias plant rhai o Frenin Nef. Yn y Gulan y bu'n preswylio tad i Joseph Thomas Carno, a thaid iddo cyn hynny. Yn Ffridd Baladeulyn, bellach wedi ei dynnu i lawr, y preswyliodd teulu hynod, un ohonynt wedi ei arddelwi yn seraff ar lafar gwlad, peth anfynych yn hanes cenedl. Ym Mlaen y garth y ganwyd John Roberts, yr hynaf o'r plant hynny. Bu cyn-dadau teulu Talsarn, sef rhieni Angharad James, yn cyfaneddu yn y Gelli ffrydau, a bu ysgol Sul yn cael ei chynnal yno, ac yno y pregethodd William, brawd John Jones, ei bregeth gyntaf. Yng nghegin" y tŷ lle'r aneddodd y brenin, ym marn y brodorion, sef adeilad cysylltiol â'r tŷ, ag sydd bellach wedi ei dynnu i lawr, bu ysgol Sul hefyd yn cael ei chynnal, gan roi iddi urddas ar fath arall.

Yr oedd yr ardal braidd ymhell oddiwrth le o addoliad, a chryn esgeuluso o'r herwydd. Dechreuwyd cynnal cyfarfodydd gweddi yn y tai yn y bore, dymor haf, am 7 neu 8 ar y gloch, a phenodid rhai i fyned i'w cynnal gan yr eglwysi cyfagos. Fe ddywedir y bu'r cyfarfodydd gweddi boreuol hyn yn fendithiol i'r gymdogaeth. Pan sefydlwyd lle canolog i gynnal ysgol ar y Sul, fe beidiwyd â chynnal y cyfarfodydd gweddi yn y bore, a chynhaliwyd yn ei le gyfarfod gweddi achlysurol rhwng y moddion, neu'n achlysurol, ar noson waith, mewn tai lle byddai gwaeledd neu lle byddai'r ffordd ymhell iawn i'r capel.

Yn ystod 1857 y cychwynnwyd yr ysgol yn y cyfnod hwn. Yr oedd John Lloyd Jones wedi dod i drigiannu i'r ardal, ac efe oedd y prif offeryn yn hynny o waith. Cynorthwyid ef gan John Robinson, un o flaenoriaid Talsarn, a dechreuid y canu gan D. Davies. Yn Hendy'r Felin y cynhaliwyd yr ysgol gyntaf, a 19 oedd yn bresennol. Erbyn yr ail Sul yr oeddys wedi symud i'r Hendy mawr, lle a oedd mewn rhan yn anrhigiannol ar y pryd, ac aroswyd yno tua dwy flynedd, a chynyddodd yr ysgol yno i 80 neu 100 o nifer. Y mae Mr. Owen Hughes o dan yr argraff ddarfod. i'r ysgol aros yn Hendy'r Felin dros encyd o amser.

Yn 1859, fe benderfynwyd adgyweirio'r Hen Ysgubor,—man perthynol i'r Hendy mawr, ag y dywedid ar draddodiad ddarfod iddo wasanaethu fel ystabl i feirch Iorwerth I., ac a erys eto,—gan ei wneud yn gymwys i gynnal yr ysgol ynddo, cystal a chyfarfodydd eraill. Ei fesur, 19 llath wrth 5. Awd i draul o yn agos i £72. Casglwyd yr arian yn y gymdogaeth, ac agorwyd yr Hen Ysgubor fel lle addoliad yn ddiddyled. Cafwyd cyfarfod pregethu ar Lun y Pasc dilynol, pryd y gwasanaethwyd gan R. Hughes Uwchlaw'r ffynnon, J. Jones Brynrodyn, ac Edward Jones, gweinidog gyda'r Anibynwyr yn Nhalsarn. Yr oedd prydles ar yr adeilad gan J. Lloyd Jones, a chyflwynodd ef i'r Cyfundeb tra fyddai y brydles mewn grym.

Y pryd hwn nid oedd ond rhyw ugain o dai yng nghymdogaeth y capel, a theuluoedd ieuainc yn dechre sefydlu yn y byd oedd lliaws ohonynt. Yr oedd arweiniad yr achos yn llaw J. Robinson, fel swyddog yn eglwys Talsarn. Efe a feddai'r profiad ysbrydol, ac yr oedd John Lloyd Jones yn gwbl ufudd iddo. John Lloyd Jones oedd yr arweinydd naturiol, er hynny, ac efe hefyd oedd yr ysgrifennydd. D. Davies yn parhau i arwain y canu. O. J. Hughes yn arolygwr. Enwir eraill a fu'n ffyddlawn gyda'r achos, megys Morris Griffiths (Tŷ'r capel), Ellis Edwards a G. Williams Ffridd. Yr olaf, er hynny, heb broffesu.

Yr oedd 134 o eisteddleoedd yn yr Hen Ysgubor, a gosodid hwy i gyd, a chwecheiniog y chwarter oedd pris eisteddle. A derbyniwyd yn 1862, £13 7s. am yr eisteddleoedd, fel nad oedd ond swllt yn brin o fod pawb wedi talu ei ddyled yn llawn. Rhif yr eglwys yn 1862, 50. Y casgl at y weinidogaeth, £12 13s.

Hwyrfrydig a fu'r Cyfarfod Misol i sefydlu achos yn y lle, a gwrthodwyd y cais am bregethu cyson yma. Pregeth achlysurol yn unig a geid yn ystod rhyw ddwy flynedd o amser. Bu'r Parch. Robert Jones Llanllyfni yma droion, ac eraill o'r enwadau eraill. Gallesid tybio oddiwrth swm y casgl at y weinidogaeth y rhaid fod yr eglwys wedi ei sefydlu yn lled gynnar yn y flwyddyn 1862, os nad cynt. Yng Nghyfarfod Misol Nebo, Tachwedd 3, 1862, pa ddelw bynnag, y penodwyd y rhai yma i ddod i "gynorthwyo i ddewis diaconiaid," nid amgen y Parchn. John Jones [Brynrodyn], W. Hughes [Talysarn], D. Morris a Mr. W. Owen [Penygroes]. Gelwid blaenoriaid yn gyffredin ar sefydliad yr eglwys. Yr oedd yr achos yma i fesur yn un eithriadol, ac yr oeddys wedi cynefino â'i ddwyn ymlaen gyda chynorthwy John Robinson. Nodir 1861 gan rai fel adeg sefydlu'r eglwys. Buwyd yn cynnal ysgol, cyfar- fodydd gweddi, pregethu achlysurol, am oddeutu pedair blynedd cyn hynny. Y blaenoriaid a ddewiswyd: J. Lloyd Jones, W. Davies, Thomas Roberts. Galwyd yr olaf yr un pryd i arwain y gân. Trefnwyd oedfa yma bob Sul o Dalsarn.

Anrhegwyd John Robinson â'i lun, o waith y Parch. Evan Williams, fel cydnabyddiaeth o werth ei lafur yn ystod y blynyddoedd cyn sefydlu'r eglwys.

Yn 1864 y daeth John Reade yma o Ryd-ddu, Swyddog yno, a galwyd ef yma ar ei ddyfodiad.

Yr Hen Ysgubor, neu'r ysgoldy bach, fel y gelwid y lle wedi ei wneud yn lle addoliad, bellach wedi myned yn anhwylus o fychan. Penderfynu cael capel. Dewiswyd y llecyn i'w adeiladu gyferbyn a'r llaindir rhwng y ddau lyn. Tynnwyd y brydles allan yn 1866 am 60 mlynedd, gyda £1 y flwyddyn o rent i'w thalu i stât Hughes Kinmel. Yn 1895, fe gyflwynwyd y tir, 1540 llathen ysgwar, ynghyda'r adeiladau, i'r Cyfundeb.

Richard Davies Caernarvon ydoedd yr adeiladydd. Maint y capel, 18 llath wrth 121. Deunydd y muriau ydoedd gweddillion plociau cerryg y chwarel. Y tô o dri math ar lechau, fel y gweddai mewn ardal chwarelau, sef o liw glas a gwyrdd a choch, wedi eu trefnu â llaw gelfydd, ac yn rhyw gyfateb yn y lliwiau, er yn an- fwriadol feallai, i las a phorffor ac ysgarlad y Tabernacl gynt. Y seti o ffawydd coch, heb ddorau, wedi eu hystaenio. Y pulpud o binwydd pŷg cyrliog. Llawr o deils amryliw. Y nenfwd hanner crwn o goed wedi eu hystaenio. Tair arddeg o ffenestri yn pwyntio at y nen, gydag un o'r nifer yn ffenestr fawr amryliw ar wyneb y capel. Pedair o lampau pres mawrion, a thair cainc i bob un. Cyflawnder o oleu y dydd drwy'r ffenestri, a'r nos drwy'r lampau pres, ebe S. Jones; ac eidduna ef oleu o ffynonnell uwch ar gynulliad y saint. Efe a ddywed, hefyd, fod y capel yn un cynnes, am fod dau borth ymlaen iddo, un ar bob ystlys, a'r dorau yn y rhai hynny, a'r dorau i fyned ohonynt i'r capel yn gweithio ar dwythelli. Y dorau, fel y ffenestri, yn pwyntio tuag i fyny. Cyfrifid yr holl draul yn £1,235. Cludwyd yr holl ddefnyddiau yn rhad gan J. Lloyd Jones, a gwnaeth eraill o'r teulu eu rhan yn y gwaith. Rhoddwyd math ar agoriad i'r capel ar nos Lun, Chwefror 27, 1865, pryd y traddodwyd darlith ynddo gan David Saunders ar lywodraeth y Pab. Yr elw oddiwrth y ddarlith, £20. Y noswaith ddilynol, dechreuwyd y gwasanaeth gan Owen Jones Plasgwyn, a phregethwyd gan John Griffith Bethesda a D. Saunders. A'r diwrnod dilynol, am 10, dechreuwyd gan John Jones Brynrodyn, a phregethwyd gan D. Saunders a John Phillips. Am 2 a 6, de- chreuwyd gan W. Hughes Talsarn, a phregethwyd gan W. O.Williams Pwllheli a D. Jones Treborth.

Bu traul pellach o £30 i ddiddosi muriau'r capel oddiallan. Codwyd hefyd dŷ capel. Rhif yr eglwys yn 1865, 75, sef cynnydd. o 25 er agoriad yr Ysgoldy bach. Plant yr eglwys, 30. Athrawon yr ysgol, 22; ysgolheigion, 146. Cyfanrif 168. Y gwrandawyr, 224. Ardreth eisteddleoedd, £28 6s. Casgl y weinidogaeth, £28. Y swm a ddefnyddiwyd o arian yr eisteddleoedd at y weinidogaeth, £11 3s. Casgl at yr achos cenhadol, £7 19s. I'r tlodion, £25. Swm y ddyled ar ddiwedd y flwyddyn, £500, ac felly ar ddiwedd 1864, yr hyn a ddengys fod £725 wedi eu talu erbyn gorffen yr adeiladwaith. Gosodid 220 o'r eisteddleoedd, allan o'r 320 a gynwysai'r capel. Cyfartaledd pris eisteddle am chwarter, 7½g. Yn 1867 dewiswyd William Thomas a J. Michel Owen i'r swyddogaeth.

Yn 1872, rhoddwyd galwad i Evan Owen i fugeilio'r eglwys. Yr ydoedd yn trigiannu yma ers tro. Nid ymddengys fod yr alwad yn golygu dim cyflog ychwaith, namyn cymeradwyaeth o'i gymeriad a'i lafur. Arosodd yma fel bugail yr eglwys am 14 blynedd, ac yr oedd ei lafur yma yn llafur cariad ym mhob ystyr i'r ymadrodd. Anrhegwyd ef â thysteb ar ei ymadawiad. (Am sylwadau pellach arno, gweler Seion a Thalsarn).

Bu cynhebrwng William Thomas ar Fehefin 14, 1873. Yn flaenor yma er 1867. Nid mewn doniau y rhagorodd yn gymaint ag yn y defnydd a wnaeth ohonynt. Amcanai lanw y swydd a ymddiriedid iddo, prun bynnag ai athraw ai arolygwr yn yr ysgol, a'i blaenor yn yr eglwys. Grym cymeriad a roes iddo ei ddylanwad. Perchid ef gan bawb. Gwladeiddiai'r anystyriol yn ei ŵydd. Cadwyd gŵyl ar ddiwrnod ei gynhebrwng yn y gloddfa o barch iddo, ac yn y cynhebrwng yr oedd pob dosbarth yn yr ardal. (Goleuad, 1873, Gorff. 5, t. 11).

Yn 1874, neu oddeutu hynny, yr ymadawodd John Lloyd Jones i'r Bontnewydd. Efe, ymhlith ei frodyr, ydoedd y tebycaf i'w dad, John Jones Talsarn. Ac yr oedd y tebygrwydd hwnnw yn un amlwg iawn, yn gyfryw ag oedd yn peri fod John Jones ei hun megys yn ymrithio o flaen y llygaid ynddo ef. Yr oedd hynny yn wir hyd yn oed i'r sawl oedd heb adnabod John Jones yn y corff, os yn adnabyddus ohono yn ei lun, a thrwy adroddiadau eraill. Yr oedd John Lloyd y mab yn ddyn lled dal, cymesur, go led gnodiog, gydag osgo lled urddasol, ac â wyneb lliwgar, prydweddol anarferol. Tra thebyg ydoedd i'r llun a welir o'i dad ynglyn â'r Cofiant, tra thebyg o ran prydwedd, ond eto yn colli o ran y mynegiant, neu'r peth uchaf i gyd ym mynegiant wyneb ei dad, sef yr edrychiad hwnnw tuag i fyny, a chynghanedd ysbrydol y wynepryd. Daeth y mynegiant cynghaneddol hwnnw, yn y man, i wynepryd y brawd arall o weinidog, sef David Lloyd Jones. Gyda chyffyrddiad amlwg o debygrwydd rhyngddo yntau a'i dad, y golomen yn hytrach a dywynnai allan yn ei brydwedd ef, tra mai'r eryr a welid yn John Lloyd, megys yn ei dad. Nid tebygrwydd o ran prydwedd yn unig ydoedd y tebygrwydd y sonir am dano, ond hefyd o ran cynneddf feddyliol a dawn ac anianawd. Mae lle i gredu y meddyliai ei dad yn uchel ohono. Arferai Robert Owen Tŷ draw a dweyd y bu y tad â'i feddwl mewn gwewyr ynghylch y mab hwn, ac y bu yn gadael ei dŷ am un arddeg ar y gloch yn y nos, a myned i'w gymell ef i bregethu. Yr oedd John Lloyd y pryd hwnnw yn dechre ymgyfoethogi yn y byd, ac yn dangos medr anarferol fel masnachwr. Ni ragorai mewn dawn i weithio'r chwarel, ond nid oedd ei hafal am werthu chwarel i'r fantais oreu. Yr oedd ynddo ryw gyfuniad eangfawr o adnoddau. Yr oedd ei fam ynddo cystal a'i dad, yn tynnu'n dorch am y llywodraeth yn ysbryd y meddwl. Y corff ydoedd eiddo'r tad, a'r enaid, a'r anian hefyd, o ran yr amlygiadau arwynebol ohoni; ond yn rhyw wreiddyn cuddiedig mewnol fe lechai ei fam hefyd, ac a ymledai allan oddiyno drwy ei holl natur ef. Yr oedd ei gynysgaeth yn un fawr, ac eiddigeddodd ei dad drosto mewn awydd am ei ymgysegriad llwyr i waith teyrnas nefoedd. Elai ei fasnach âg ef lawer oddicartref; ond byddai'n ffyddlon yn y moddion pan fyddai gartref. Ymhyf- rydai gyda'i ddosbarth o bobl mewn oed. Yr ydoedd yn dueddol wrth gymeryd rhan yn y cyfarfod gweddi i esbonio'r rhannau a ddarllennid. Gwnelid hynny mewn dull rhydd a rhwydd, heb arwyddo dwys-fyfyrdod uwch eu pen, ac heb gipio'r meddwl i fyny yn deg bob amser. Ar y ffurf o deimlad yr ymagorodd ei grefyddolder ef. Gyda dawn ei dad: llais baritôn melodaidd, a hyawdledd naturiol a swynol, ac ar brydiau hyrddiau anisgwyliadwy o deimlad; eto ni nodweddid ef, megys ei dad, gan ffrwyth myfyrdod dwfn yn y gair. Nid myfyrdod yn cynneu a welid ynddo ef, ond teimlad yn ysgubo ymlaen. Cymerai rhyw ran yn arweiniad y gân, ond nid amaethodd ganiadaeth fel celfyddyd. Canu gyda'i lygaid ynghauad, ebe Mr. O. J. Hughes, gan ogwyddo'r pen at yr ysgwydd dde, a chodi peth ar flaenau ei draed. Nid amaethodd mo'i feddwl ar unrhyw linellau neilltuol, ymhellach na thrwy ymroi i'w fasnach. Danghosai graffter sylw ym mhob trafodaeth fasnachol, a phroffesai grêd, nid mewn dysg, ond mewn athrylith naturiol, p'run bynnag ai gyda masnach ynte crefydd y byddid yn ymwneud. Rhedodd grym ei feddwl a'i ynni a'i ymadferthoedd i'w fasnach yn bennaf. Ni rwystrodd mo hynny fawr fwyniant iddo yng ngwasanaeth cyhoeddus crefydd, na mawr fwyniant i lawer eraill yn y rhan a gymerai ef ei hun yn y gwasanaeth hwnnw. Eithr yma yn y Baladeulyn, ac yn Nhalsarn cyn hynny, y gwelwyd y llewyrch mwyaf arno yn ei gysylltiadau crefyddol. Yn ystod maith gystudd ei flynyddoedd olaf, fe'i blinid ef yn fawr ar brydiau gan y meddwl ddarfod iddo droi ymaith oddiwrth alwad amlwg i'r weinidogaeth.

Elias Parry a darawyd yn wael wrth fyned ar ei liniau yn gyhoeddus, fel na ynganodd air. E fu dan gystudd trwm am dridiau, a bu farw Ebrill 26, 1875. Mab i Elias Parry y gof, Caer- narvon, a nai i John Parry Caer. Un o blant 1859, gyda'r dinc ynddo hyd y diwedd. Y pennill a roddwyd allan ganddo yn y cyfarfod gweddi olaf hwnnw ydoedd, "Mae dydd y farn yn dod ar frys." Cymydog cymwynasgar, cyfaill didwyll, blaenor gweithgar.

Huna'n dawel, frawd Elias,
Ym mhriddellau'r ddaear las,
Nes daw galwad oddiuchod;
Yn ddibechod deui i maes
I fwynhau tragwyddol deyrnas,
Baratowyd gan y Tad,
I garedigion y Priodfab
Gael gwledda ar ei gariad rhad. (0.J.H.)

Yn 1876 y dewiswyd E. Davies yn flaenor, ac ymddiriedwyd iddo hefyd y swydd o drysorydd yr eglwys.

Yn 1879 y bu farw John Reade, yn flaenor yma er 1864, a chyn hynny yn Rhyd-ddu er 1848. Sais o genedl, a ddaeth yn 17 oed. i wasanaeth Vodry Plas Vodry yn Nantgwynant. Tra mewn gwasanaeth yno y daeth at grefydd gyntaf, a hynny gyda'r Methodistiaid, rywbryd cyn fod gwres diwygiad Beddgelert wedi oeri, fel y tybia Mr. O. J. Hughes. Dodwyd delw ac argraff yr hen Fethodistiaid yn llwyr ar John Reade. Heb fod o syniadau eang, yr ydoedd yn ffyddlon gyda'r achos ac yn fanwl ei rodiad. Efe a arweiniai yn y cyfarfodydd eglwysig. Cymhellwyd yr arweiniad arno o barch i'w oedran, a chymerai yntau'r awenau i'w ddwylaw yn ddibetrusder. Rhydd Mr. O. J. Hughes ddwy engraifft fechan o'i ddull diniwed. Methu ganddo weithiau a tharo'r hoel ar ei phen, ac yn lle hynny taro o'i deutu drachefn a thrachefn. Rhoes ar ddeall un tro mewn seiat fod un o'r blaenoriaid wedi bod yn y Cyfarfod Misol, ac am hynny na wnae ef ond tewi y tro hwnnw, a rhoi lle i'r adroddiad o'r Cyfarfod Misol. Yn lle gwneud fel yr oedd yn dweyd, pa ddelw bynnag, myned ymlaen yr oedd John Reade i siarad, ac eto'n tra mynychu ei benderfyniad i dewi. Fe breswyliai yn yr ardal ar y pryd hen bererin gonest, dirodres, duwiol, sef William Ifan, o ardal Nebo. Methu gan yr hen bererin hwnnw a dal yn hwy, a thorrodd allan, "Wel, taw dithau ynte, tewi ydi'r gore iti!" A thawodd John Reade heb yngan gair yn ychwaneg. Dro arall, wrth godi ohono i arwain, fel arfer, fe ddisgynnodd ei lygaid ar fachgen ieuanc o Sais, ond yn medru Cymraeg, ac wedi dod i'r seiat y noswaith honno am y tro cyntaf. Gloewodd llygaid yr hen John Reade. "Yr ydw i'n gweld," ebe fe, "fod William Darby wedi dod ato ni heno. Be sy gin ti i ddeud, William ?" Cododd William ar ei draed ynghanol y capel. "Mi meddwl," ebe fe, "mai dyma y lle gore yn y byd i mi ddod." "O, wyti hynny, William!" ebe John Reade. A chyd-darawiad y ddwy acen Seisnig a asiodd bawb ynghyd mewn eithaf llonder. Difeddwl-ddrwg oedd John Reade, diddichell, diabsen, diniwed, diargyhoedd ei fuchedd, a difrycheulyd yn ddiau ydyw efe heddyw.

Hen gymeriad dyddorol oedd y William Ifan y crybwyllwyd am dano. Addysgwyd ef yn ysgol moeseg Nebo, ac yr oedd yn ysgolor teilwng. Ei dri chasbeth: barf, y tonic sol-ffa a Sais. Nid hoff ganddo John Reade, oblegid ei fod yn Sais. Gwylltiai yn enbyd os eid yn y gwddf i'w ragfarnau; ond chwiliai am gyfle i gymodi cyn machlud haul. Gyda'i syniadau cyfyng a'i dymer wyllt, ar ei liniau byddai yn union deg yn y nefoedd, a mynych y gwelid dwy ffrwd loew yn treiglo dros ei ruddiau wrth wrando'r Efengyl. Pigog ei ysbryd drwy'r cwbl. Dywedai John Robinson mai hen ddyn go gâs oedd ganddo, ond ei fod yn gristion gloew. Selog i'r eithaf gyda'r achos. Byrr fu ei arosiad yma.

Yn 1884 dewiswyd i'r swyddogaeth, Thomas Roberts Cae Goronwy; ac yn 1887, John Jones y Geulan, Thomas Evans a Richard M. Griffiths. Yn 1887 yr ymadawodd Thomas Roberts, un o bedwar swyddog cyntaf yr eglwys, i Saron, a galwyd ef i'r swydd yno. (Gweler Saron).

Yn 1893, rhoddwyd galwad i'r Parch. Morris Williams o eglwys Llangwm.

Erbyn 1900, dyma gapel newydd eto wedi ei orffen. Mewn llai na 36 mlynedd dyma'r hen gapel, gyda'i furiau o flociau cerryg, ei gerryg toi trilliw, ei ffenestri a'i ddorau yn pwyntio i'r nen, ynghyda'i ffawydd coch, ei binwydd cyrliog, ei lampau pres a'i deils amryliw, i gyd yn gydwastad â'r llawr, a chapel newydd mwy eto, yn adeilad cryf a chadarn a chyfaddas a hardd wedi ei godi yn ei le. Y pensaer celfydd, Mr. R. Loyd Jones Caernarvon; yr adeiladydd, Mr. Richard Jones Llanwnda. Yr ymgymeriad, £2,700. Y draul i gyd dros £3,000. Yr oedd dyled y capel blaenorol wedi ei dileu erbyn 1884, ac nid oedd dyled y capel newydd erbyn diwedd 1900 namyn £1,946.

Dywed Mr. O. J. Hughes, mewn cyfeiriad at y traddodiad mai'r Hen Ysgubor ydoedd ystabl y brenin ar y pryd, fod yr achos yma, fel y Meistr ei hun yn hynny, wedi cychwyn ei yrfa yn llety'r anifail. Eithr os felly yr ydoedd, y mae erbyn hyn mewn palas, nid o arian, y mae'n wir, ond o eithaf deunydd serch hynny; ac wedi ei addurno, hefyd, yn ddymunol dros ben, nid mewn dull mor amryliwiog a'r hen gapel, megys ag yr oedd hwnnw yn ei ddis- gleirni cyntefig, ond mewn dull chwaethus a chyfaddas a chlws. Ac os ffyddlon yr eglwys yn yr Hen Ysgubor, nid llai ffyddlon ydyw ym mangre ei phreswylfod presennol. Syniad Mr. O. J. Hughes am y swyddogaeth ydyw, ei bod yn ogyhyd ei hesgeiriau, ac am yr eglwys, ei bod yn cadw undeb yr Ysbryd ynghwlwm tangnefedd. Rhagora'r gynulleidfa mewn cysondeb yn yr holl foddion.

Fel hyn y dywedai ymwelwyr Canmlwyddiant yr Ysgol Sul (1885): "Yma, ac mewn rhai ysgolion eraill, llafurir dan beth anfantais, am nad oes yma ystafell ar wahân i'r plant, a theimlir y diffyg o hynny yn y dosbarthiadau ieuengaf. Ysgol weithgar er hynny, yw hon, a selog bob amser a pharod, i hyrwyddo pob symudiad yn dwyn perthynas â'r ysgolion Sul. Ystyriem y dosbarthiadau canol yn bur hyddysg mewn gwybodaeth ysgrythyrol, a chaem rai o'r athrawon ac o'r athrawesau yn ymdrechgar i gymhwyso gwirioneddau'r Beibl adref ar ystyriaeth y disgyblion."

Rhif yr eglwys yn 1900, 195; y plant, 142.

HYFRYDLE.[16]

HYFRYDLE oedd y drydedd gangen o eglwys Talsarn. Yr oedd capel Talsarn wedi myned yn fychan i'r gynulleidfa, ac yr oedd golwg am gynnydd yng nghymdogaeth y Creigiau mawr, a thai yn cael eu hadeiladu yno. Barnai eglwys Talsarn ei hunan mai adeiladu capel yma oedd y goreu.

Tachwedd 4, 1866, y sefydlwyd eglwys yma. Y Parch. William Hughes a flaenorai gyda'r gwaith, megys mai efe oedd y prif ysgogydd gyda mudiadau crefyddol ac addysgol yn yr ardal yn gyffredinol. Cynorthwyid ef yn hynny gan Owen Rogers, Thomas Jones y crydd (Tŷ capel), a William Griffith Penycae (Coetmor). Ymadawodd 60 o aelodau o Dalsarn ar sefydliad yr eglwys yma. Rhoes y fam-eglwys £300 i'r eglwys hon ar yr achlysur. Agorwyd y capel yn ffurfiol ar y Nadolig, pryd y gwasanaethwyd gan David Jones Treborth, John Pritchard Amlwch, William Morris Rhuddlan.

Sicrhawyd y brydles ar y tir am 60 mlynedd o 1866, am £3 12s. Buwyd yn adeiladu yn ystod 1865-6. Yr holl draul, gan gynnwys y tŷ capel, £1520. Nid oedd llofft ar y capel ar y cyntaf, a chwynid am adsain ynddo. Joseph Thomas, mewn cyfarfod pregethu yma, a gwynai nad allai gael y gair olaf ganddo! Rhif yr eglwys ar ddiwedd 1866, 81. Nifer y plant, 51. Athrawon yr ysgol Sul, 21; ysgolheigion, 120. Cyfrifid y gwrandawyr yn 250. Y ddyled ar ddiwedd y flwyddyn, £1100. Gosodid 200 o eisteddleoedd, a chyfrifid fod y capel yn dal 410. Naw ceiniog oedd cyfartaledd pris pob eisteddle. Fe welir fod yr eglwys erbyn diwedd y flwyddyn 1866, ei hunan wedi talu £120, yn ychwanegol at y £300 a dderbyniwyd yn rhodd gan y fam-eglwys.

Symudodd y Parch. W. Hughes yma o eglwys Talsarn, ond ni ddaeth yr un o flaenoriaid y fam-eglwys yma ar y cychwyn. Yn niwedd 1866, fe ddewiswyd yn flaenoriaid, Owen Rogers, Thomas. Jones Tŷ capel, William Griffith Coetmor. Y cyntaf yn flaenor yr allanolion, yr ail yn flaenor y gân, yr olaf yn flaenor y mewnolion.

Trefnwyd Hyfrydle yn daith â Bethel yn 1867.

Cynnydd graddol ar y cyntaf. Yn niwedd 1868, rhif yr eglwys, 96; casgl at y weinidogaeth, £37 7s.; swm y ddyled, £988. Yn 1873, sef ymhen pum mlynedd,-y rhif, 114: casgl at y weinidogaeth, £42 5s.; swm y ddyled, £893.

Yn 1870 ymadawodd William Griffith Coetmor i Benygroes, a galwyd ef i'r swyddogaeth yno. Cyn bo hir, sef rywbryd yn 1871, debygir, symudodd Owen Rogers, hefyd, i Lanllyfni, a bu yn flaenor yno am oddeutu 6 blynedd, sef hyd 1877, pryd y dychwelodd yn ol i ardal Talsarn ac eglwys Hyfrydle.

Ionawr 25, 1871, dewiswyd William Thomas Bron eryri yn flaenor. Tachwedd 16, 1871, dewiswyd William Griffith Bronmadoc a John Owen (Railway Terrace). Symudodd John Owen i Borthmadoc. Nodweddid ef gan ffyddlondeb i bob moddion. Bu William Griffith ar ol hyn yn ysgrifennydd yr eglwys am chwarter canrif.

Oddeutu'r pryd hwn, fe fu yma ddigwyddiad go hynod. John Owen Jones Capel Coch oedd wedi pregethu ar fygythion yr Arglwydd yn erbyn yr anuwiol, a gofynnwyd yn y seiat ar ol, a oedd rhywun wedi aros o'r newydd. Cododd Robert Benjamin Williams ar ei draed, a gwaeddodd allan, "Oes, y fi," gan godi ei law i fyny. Eisteddodd i lawr, ac yn y fan bu farw.

Mai 3, 1874, dewiswyd yn flaenor, Robert O. Roberts Bryncelyn. Mawrth 22, 1876, galwyd y Parch. William Hughes yn ffurfiol yn fugail ar yr eglwys. Erbyn y flwyddyn hon yr oedd rhif yr eglwys yn 144, cynnydd o 30 ers 3 blynedd. Y ddyled yn £750.

Bu Thomas Jones, un o'r tri blaenor cyntaf, farw, Mawrth 22, 1877. Dywed Owen Rogers am dano ei fod yn hynod weithgar a chydwybodol gyda'r achos yn ei holl rannau." Efe hefyd oedd arweinydd y canu. Canwr gwych yn ei ddydd. Rhoid yr enw o bencantor" arno cyn dyfod ohono i Hyfrydle. Ceidwad yr athrawiaeth. Athraw rhagorol. Llafuriodd yn ffyddlon gyda'r plant.

Yn 1879 yr ail wnawd llawr y capel, ac y rhoddwyd llofft arno. Y draul oddeutu £1,000. Swm y ddyled y flwyddyn hon, £1,383. Rhif yr eglwys, 167. Tachwedd 19, o'r un flwyddyn, y dewiswyd John Williams Frondirion a William Williams Frondeg yn flaenor- iaid. Wedi symud yma yr oedd y blaenaf o Cesarea, lle yr ydoedd yn y swydd ers 1871—2. Medi 29, 1879, y bu farw y Parch. W. Hughes. Yr oedd ef yn wyr i William Dafydd, y pregethwr cyntaf a godwyd gan y Methodistiaid yn Llanllyfni. Cafodd y fraint o'i fedyddio gan Mr. Lloyd Caernarvon. Hoffter neilltuol at ddarllen yn blentyn. Cyn bod ohono yn ugain oed yr oedd wedi myned drwy'r Beibl liaws o weithiau, ac yr oedd llawer ohono o'r pryd hwnnw ymlaen yn ei gof. Wedi cyrraedd deunaw oed, ar ol bod am flwyddyn mewn ysgol yng Nghaer, fe gafodd le fel cyfrifydd yng Nghloddfa'r Lôn. E fu yn y swydd honno am 41 mlynedd. Wedi ei eni yn 1818, fe'i gwnawd yn flaenor yn Llanllyfni yn 1842, ac yn 1844 fe ddechreuodd bregethu yn Nhalsarn. E fu am ysbaid yn Cesarea. Bu'n arholydd y Cyfarfod Ysgolion yn ystod 1852-70. Ymunodd â Hyfrydle am y tybiai fod mwy o angen ei wasanaeth yma. Gwr chwe troedfedd o daldra, teneu ac esgyrniog, â golwg difrif arno. Llygaid go fawrion, llym eu hedrychiad. Arafaidd, pwyllog, penderfynol ei ffordd. Cerdded â'i ben yn isel, a chamu ymlaen fel gwr yn mesur tir, pob cam yn llawn llathen. Gofalu am le sych i ddisgyn arno ar y ffordd. Tuedd at absenoldeb meddwl gyda'i orchwyl yn y chwarel. Mynnu popeth yn iawn er hynny. Synwyr da a barn ei brif nodweddion fel meddyliwr. Llefarwr diwastraff. Chwilio dipyn yn hamddenol am eiriau cymeradwy. Fel bugail eglwys, araf yn dod i adnabod ei braidd; ond yng ngrym callineb a phwyll yn arweinydd llwyddiannus. Argyhoeddai bawb o'i degwch. Porthai braidd Duw â gwybodaeth ac â deall. Ar y blaen gydag achos addysg. Y prif ysgogydd gyda'r ysgol ddyddiol a gynelid yn y capel, ac wedi hynny. Casglodd lawer tuag ati. Gweithredai hefyd fel ysgrifennydd. Etholwyd ef drachefn ar y Bwrdd Ysgol, a dewiswyd ef yn ysgrifennydd. Iddo ef yn bennaf o bawb y mae'r ardal yn ddyledus am ofalu am addysg y trigolion yn yr amser a fu.

'Roedd ôl cymundeb â'r ysbrydol fyd
Yn amlwg ar ei feddwl

Tua llinell y priodol
Safai ef mewn gair a moes
Gwylio byddem ar ein tafod
Yn ei bresenoldeb ef:
Mwy effeithiol na'n cydwybod
Ydoedd ei esiampl gref.

Dyma egwyl ymddifyrru
Gyda'i deulu wedi dod.


Try'r difrifol wr i wenu
Medr chware ar holl dannau
Calon bur y plentyn bach
Ond ynghanol y llawenydd
Ceidw'i le fel tad a sant.

Hen gynefin ei feddyliau
Ydyw llwybrau'r ysgrythyrau.

Iawn gyfranna air y bywyd
Wedi mynd trwy'r rhan ddechreuol
Yn ddirodres, syml, difrifol,
Edrydd i ni'r adnod fydd
Dan ystyriaeth, a naturiol
Yw y pwyslais arni rydd.
Adnod seml, hanesyddol,
Ydyw—tywys yntau ni
Drwy'r amgylchiad—(mor ddyddorol !)
Gynt a'i hachlysurodd hi.
Yna seilia arni fater—
Mater haedda sylw'r oes,
Mater cymwys iawn ar gyfer
Ei harferion, ysbryd, moes.
Nid yw'n siarad yn daranol,
Nid yw'n edrych yn fygythiol,
Nid yw'n yngan dim eithafol,
Er ei fod yn magu gwres.
Digon prin yw'r geiriau dynol,—
Gwell yw'r hen adnodau dwyfol :
Diau fod eu swn effeithiol
I'r caleta'n gwneuthur lles.
Nid oes yma ehediadau,
Na chynhyrfiol feddylddrychau,
Nac areithiol ysgogiadau,
Na hyawdledd meddwl dyn.
Dim ond syml egwyddorion,
Doeth geryddon a chynghorion
Wedi eu trwytho â detholion
Geiriau'r Beibl pur ei hun
Dyn sydd yma
yn teimlo'i fod yngwyddfod,
Ac yn llaw'r Cymodwr mawr. (Alafon).

(Cofiant W. Hughes, gan H. Menander Jones. Goleuad, 1879, Hydref 11, t.13)

Yn nechre 1881 trefnwyd Hyfrydle yn daith gyda Baladeulyn. Gynt gyda Bethel, Penygroes.

Yn 1883, R. O. Roberts yn symud i Lanllyfni. Yn 1885 y daeth y Parch. David Jones, gynt o Lanllyfni, yn ol o sir Ddinbych, ac a ymaelododd yma, gan aros yma hyd 1889.

Bu Owen Rogers farw Mawrth 3, 1890, yn 68 oed, ac wedi bod yn flaenor yma o'r cychwyn. Yr ydoedd ef yn frawd i'r Parch. Robert Owen Tŷ draw, ac yn dwyn tebygrwydd gwanaidd iddo. Nid hwyrach mai yn yr arwyddion o ddiystyrrwch y gwelid y tebygrwydd hwnnw fwyaf, sef yn y wên ysgafn, y chwerthiniad isel yn y gwddf, y troi ymaith yn ffrwt. Gwelid y tebygrwydd, hefyd, yn sydynrwydd eu hysgogiadau. Nid oedd gryfed cymeriad a'i frawd, ac, yn enwedig, yr oedd cylch ei feddwl yn llai. Fel ei frawd, yn wr call, ymarferol, ymroddedig iw orchwyl, o argyhoeddiadau crefyddol, ac yn wasanaethgar drwy gydol ei oes gyda'r achos. Bu ef yn oruchwyliwr am flynyddau ar chwarelau Coedmadoc a Chloddfa'r coed, ac enillodd ymddiried meistriaid a gweithwyr. Fel blaenor yn Hyfrydle, bu'n ffyddlon dros ystod ei dymor: ni fu neb mwy felly yma. Mewn pethau yn dwyn perthynas â gwedd allanol yr achos y rhagorai. Yr ymarferol oedd ei gylch; ac ni honnai yntau bethau rhy uchel iddo. Dyma eiriau Mr. W. Williams am dano yn y wedd honno arno: "Dyn y pethau bychain ydoedd yn hytrach na'r pethau mawr. Ac anaml y gwelwyd neb yn adnabod ei le a'i waith yn well nag ef. Nid oedd neb yn fwy parod i gyflawni unrhyw wasanaeth a fyddai ei eisieu gyda'r achos; ac nid ymaflai yn unrhyw orchwyl na fedrai arno. A pha beth bynnag yr ymaflai ei law ynddo, fe'i gwnae a'i holl egni-yn brydlawn a thrwyadl. Bu am flynyddau yn arolygu chwareli, ac ystyrrid ef yn un o'r goruchwylwyr mwyaf medrus yn y Dyffryn. Nid oedd ei ofalon fel goruchwyliwr, chwaith, yn gormesu i raddau gormodol ar ei gysondeb a'i ffyddlondeb gyda'r achos crefyddol. Er mai efe oedd yr aelod a'r swyddog hynaf yn yr eglwys, a bod ei amgylchiadau a'i safle yn y byd dipyn uwch na'r cyffredin, nid oedd oherwydd hynny am gael mwy o sylw a gwrandawiad na'r lleiaf o'r swyddogion. Yr oedd yr elfen anhunanol hon yn ei ymwneud â'r swyddogion yn werthfawr iawn ynddo."

Symudodd H. Menander Jones yma o Garmel yn 1893, a galwyd ef i'r swyddogaeth yma, megys ag yr ydoedd o'r blaen yng Ngharmel. Efe yr olaf yn Arfon a alwyd i'r swydd heb bleidlais ddirgel.

Ar ei ymddiswyddiad fel gweinidog Tanrallt yn niwedd 1893, ymaelododd Mr. Owen Hughes yma.

Arweinwyr y gân ar ol Thomas Jones y crydd: Henry Hughes (Tanrallt), Trevor Owen Lewis, Owen Roberts, William Owen Jones, J. O. Jones.

Dyma adroddiad ymwelwyr Canmlwyddiant yr Ysgol: "Ysgol fywiog, wedi ei threfnu yn dda, ac yn meddu ystafell gyfleus i'r plant. Gwneir mwy o ddefnydd o gardiau yma, gyda'r dosbarthiadau ieuengaf, nag yn yr un ysgol arall yn y dosbarth. Nodir meusydd i'r ysgol i'w dysgu allan, a phrofir y gwaith yn hyn gan swyddog penodedig. Ystyriem hyn yn gam yn y blaen. Arferir cyfnewid athrawon y dosbarthiadau oll yn flynyddol. Dichon fod i hyn ei fantais a'i anfantais."

Gellir cael rhyw syniad pellach am raddau cynnydd a gweithgarwch yr eglwys drwy'r ffigyrau yma: Rhif yr eglwys yn 1885, 207; dyled, £983. Yn 1890, rhif, 155; dyled £965. Yn 1895,

rhif, 158; dyled, £815. Yn 1900, rhif, 199; dyled, £526.

RHOSGADFAN.[17]

CYCHWYNNWYD yr ysgol Sul yma oddeutu 1840 yng Nghae'r gris, tŷ annedd yn ymyl yr addoldy presennol. Cangen ydoedd o ysgol Rhostryfan, a gofelid am dani gan John Williams Fachgoch a John Williams Ty'nrhosgadfan, dau o flaenoriaid Rhostryfan. Ymhen rhai blynyddoedd, oblegid amgylchiadau teuluaidd, gorfu ei rhoi i fyny.

Adeiladwyd ysgoldy yma yn 1861, yn cynnwys lle i gant of bobl. Pris y tir, £19. Ysgol yn unig a geid yma ar y cychwyn. Yn fuan, pa fodd bynnag, ceid pregeth hefyd yn y prynhawn o Rostryfan, trefniant a barhaodd hyd 1877. Nodir y rhai hyn fel y rhai fu'n gofalu yn fwyaf neilltuol am yr ysgol: John Owen. Brynbugeiliaid, Robert Jones Bryngro, O. Roberts Brynffynnon, William Jones Llwyncelyn, Owen Griffith Brongadfan. Bu John Owen farw, Ebrill 1875, wedi profi ei hunan yn was da a ffyddlon. (Gweler crybwylliadau am dano ef ynglyn â hanes eglwys Rhostryfan).

Yn yr haf, 1876, yr adeiladwyd y capel presennol, ar draul o £850. Ebrill 8, 1877, y traddodwyd y bregeth gyntaf ynddo, gan y Parch T. Gwynedd Roberts. Agorwyd ef yn ffurfiol, Mehefin 12, 1877, pryd y pregethwyd gan y Parchn. John Pritchard Amlwch, G. Roberts Carneddi, a W. Jones Felinheli.

Sefydlwyd yr eglwys nos Iau, Medi 13, 1877. Ymunodd â'r eglwys y noswaith honno 66 o hen aelodau Horeb, ac yn eu mysg un o'r blaenoriaid, sef Robert Jones Bryngro. Ymgymerodd Mr. Gwynedd Roberts â'r fugeiliaeth o'r cychwyn. Dewiswyd hefyd. yn flaenoriaid ar sefydliad yr eglwys: O. Roberts Brynffynnon, William Jones Llwyncelyn, Owen Prichard Gaerddu, yn ychwanegol at Robert Jones.

Fe ddywedir ddarfod i Fethodistiaeth golli lliaws o bobl yn y cyfnod cyn sefydlu yr eglwys, gan yr elai y teuluoedd a ddeuai i'r ardal o'r newydd yn fynych at yr Anibynwyr i Hermon, Moeltryfan, oherwydd pellter y ffordd i Horeb. Rhif yr eglwys ar ddiwedd 1877, 78; rhif y plant, 54; rhif yr athrawon, 18, athrawesau, 3, ysgolheigion, 117, cyfanrif yr ysgol, 138; gosodid 160 o eisteddleoedd allan o'r 250 y cyfrifid a ddaliai'r capel; gwrandawyr, 177; cyfartaledd prin eisteddle yn y chwarter, 6c.; y ddyled, £404; y casgl at y weinidogaeth, £10 12s. 7g. (am y gyfran o'r flwyddyn er y sefydliad).

Byrr fel yma yw adroddiad ymwelwyr Canmlwyddiant yr Ysgol Sul (1885): "Nid oes yma ystafell i'r plant, ac felly llafurir gyda hwy dan anfantais. Ceid y dosbarthiadau wedi eu trefnu yn ganmoladwy. Carasem weled mwy o awydd ac ymdrech i ddeall yr hyn a ddarllennir."

Mai 29, 1890, dewiswyd yn flaenoriaid, R. Williams Fachgoch, W. Williams Gorffwysfa, E. Lloyd Griffith Brongadfan. Yn Hydref y dechreuodd R. W. Jones Llys Ifor bregethu.

Ionawr 31, 1893, y bu farw Owen Griffith Brongadfan. Gwr parod i gyflawni'r gorchwyl distadlaf gyda wyneb siriol. Efe a ofalai am agor y capel a'i oleuo o'r cychwyn hyd ddiwedd ei oes. Yr oedd hynny yn ffynonnell cysur iddo ar wely angeu. Dywedai yno yr hoffai fyw er mwyn cael cyflawni'r un goruchwylion eto. Holwr plant swynol. Gwlith ar ei weddi gyhoeddus. Ei annedd yn gartref pregethwyr. Ymhoffai mewn dangos caredigrwydd iddynt ac mewn ymddiddan â hwy. Fis cyn marw cafodd weledigaeth ar y gogoniant nefol, y fath na cheisiai mo'i hadrodd, ond a adawai ei hol arno yn nieithrwch ei wedd dranoeth. Ar brynhawn Sul y cipiwyd ef ymaith yn swn y mawl yn y capel cyfagos ar derfyn y gwasanaeth. (Goleuad, 1894, t. 153).

Ionawr 1, 1894, rhoes y Parch. T. Gwynedd Roberts ofal yr eglwys hon a Rhostryfan i fyny. Yr un mis y dechreuodd John W. Jones Hafod y rhos bregethu. Y flwyddyn hon sicrhawyd darn o'r comin am £5 10s.

Parhaodd swyddogaeth yr eglwys heb yr un bwlch am ddeunaw mlynedd, heb gyfrif ymadawiad y bugail ychydig dros flwyddyn a hanner yn gynt. Y cyntaf a alwyd ymaith oedd William Jones Llwyncelyn, tad y Parch. R. W. Jones Dinas Mawddwy, yr hwn fu farw Awst 14, 1895, yn 71 oed, ac yn un o'r blaenoriaid cyntaf yma. Brodor o Leyn ydoedd ef. Buasai yng ngwasanaeth Hugh Hughes Gellidara a John Owen Ty'n llwyn pan yn ieuanc, a chyfeiriai weithiau at y fantais a gawsai yn y gwasanaeth hwnnw. Athraw ffyddlon am lawer blwyddyn. Cydnabyddiaeth nodedig â'r Hen Destament yn ei gymhwyso yn fawr i'r cylch hwn. Ni phallai yn ei ddyddordeb yn yr eglwys yn ystod misoedd o lesgedd tua diwedd ei oes, ac ni phallai ychwaith mewn gweddi drosti y pryd hwnnw.

Ebrill, 1896, rhoddwyd galwad i'r Parch. J. O. Williams. Dechreuodd ar ei lafur yn nechre 1897.

Mawrth 4, 1897, bu farw Robert Jones, yn 76 oed, ac yn flaenor yma o'r cychwyn, a chyn hynny yn Horeb er 1874. Brodor o'r fro hon, ac yma y treuliodd bron yr oll o'i oes. Hynodrwydd. ynddo yn llanc, fel yn ei frodyr. Glasynys ydoedd un ohonynt. Y Parch. Robert Owen a roes gyfeiriad iddo. Cymerai ef gydag ef i gynnal cyfarfodydd dirwestol yn yr ardaloedd oddiamgylch. Daeth yn amlwg fel siaradwr y pryd hwnnw. Dyma fel y dywed Mr. Gwynedd Roberts am dano: "Yr oedd yntau, fel ei frodyr, yn fardd lled dda. Cyfansoddodd gryn lawer o ddarnau, yn enwedig ar Ddirwest. Yn amser y Washington Club, neu y Clwb Du, fel ei gelwid weithiau, cyhoeddwyd casgliad o ganiadau dan yr enw Y Tlws Dirwestol, y rhai genid gydag afiaeth brwd drwy'r wlad. Yn y casgliad hwnnw yr oedd rhai caniadau o eiddo R. Jones,— 'Robyn Ddu o Arfon,' fel ei gelwid; ac yr wyf yn tybied fod cymaint rhagoriaeth yn rhai R. Jones ag unrhyw rai yn y llyfr. Parhaodd yn ddirwestwr aiddgar drwy ei oes, ac yn areithiwr dirwestol gwerthfawr. Yr oedd ei gydnabyddiaeth â'r Ysgrythyrau yn bur eithriadol. Dyma un esiampl. Mewn seiat yn Rhostryfan, cyn sefydlu eglwys yn Rhosgadfan, ymddiddan yr oeddid y noswaith honno â chwiorydd ieuainc, a rhai yn lled afrwydd i ddweyd dim. Gofynnid i un ohonynt o'r diwedd, ymha ran o'r Beibl y darllennai hi yn yr ysgol y Sul cynt? Atebodd hithau mai yn Efengyl Ioan, a'i bod yn tybied mai yn y bedwaredd bennod arddeg. Gofynnwyd ar ol hynny am beth y mae'r bennod honno yn sôn? Nid oedd hi yn cofio dim am hynny. Gwedi dwyn yr ymddiddan ar y llawr i ben, gofynnwyd i un neu ddau o'r blaenoriaid ddweyd gair. Dywedodd R. Jones fod yn syn ganddo glywed y chwaer ieuanc yn dweyd nad oedd hi'n cofio dim o'r bedwaredd arddeg o Ioan, yn enwedig gan ei bod yn darllen y bennod mor ddiweddar a'r Sul. 'Er na fum i,' meddai, 'yn darllen mo'r bennod yn ddiweddar, mi fedrwn ddweyd beth sydd ynddi. 'Rydwi'n meddwl y medrwn. i ddweyd, o ran hynny, be' sy ym mhob un o benodau Ioan, er na fuom i yn darllen dim yn benodol o Ioan ers tro.' Yna rhoes grynodeb byrr, clir a chywir o benodau Ioan hyd y bedwaredd arddeg, nes y synai pawb yn y lle, ac yr oedd yn ddigon eglur i ni y gallasai fyned ymlaen oni buasai ei bod yn amser dibennu y cyfarfod. Mawrhae yr ysgol Sul. Yr oedd ei holl galon a'i holl gydwybod yn ei gwaith. Nid oedd athraw ffyddlonach na gwell yn yr ardaloedd. Am flynyddoedd lawer, dosbarth o chwiorydd oedd dan ei ofal, ac amryw ohonynt yn eang eu gwybodaeth ysgrythyrol, ac yn addfed iawn eu profiad ysbrydol. Am rai blynyddoedd bu cynifer a phedair arddeg o chwiorydd yn aelodau o'i ddosbarth, a'r oll ohonynt yn gwisgo bob ei spectol,—golygfa go led nodedig. Ac ni fynnai yr un ohonynt golli yr ysgol er dim, am fod y dosbarth a'i waith mor gymeradwy ganddynt. Yr oedd efe yn adnabyddus drwy'r cylch fel un o'r "colofnau." Bu yn llywydd Cyfarfod Ysgol Dosbarth Uwchgwyrfai. Nid oedd neb a elwid i lefaru mewn Cyfarfod Ysgol yn fwy cymeradwy a phoblogaidd na Robert Jones. Edrychid ymlaen gydag awch am gyfarchiad ganddo ef. Yr oedd yn berchen llawer o fedr i roi cynghor priodol mewn cyfarfod eglwysig, ac i'w roi mewn ffurf hawdd i'w gofio, ac i'w roi yn afaelgar. Gwasanaethed un esiampl. Daeth yn orfod disgyblaeth eglwysig ar un o'r cyfeillion ieuanc rywbryd oherwydd diffyg gwyliadwriaeth. Yn y seiat ag yr oedd achos y gwr ieuanc gerbron, meddai Robert Jones wrtho, 'Gwylia di, o hyn allan; gwylia o hyd, a phaid eto a mynd yn agos i'r lle syrthiesti rwan. Mi dorais i 'nghoes flynyddoedd yn ol, fel y gwyddochi. Mi gefais godwm ar garreg lithrig sydd yn y llwybr acw. Y mae ol y codwm arna'i eto. 'Rydw'i dipyn yn gloff hyd heno. Ydechi'n meddwl 'mod i wedi rhoi 'nhroed ar y garreg honno wedyn? Naddo, byth! Naddo,—mi fydda'i'n mynd rownd y garreg lithrig fyth ar ol y codwm. Gwylia dithe'r garreg lithrig, 'machgen i. Gwyliwch, a gweddiwch fel nad eloch i brofedigaeth.' Ar un adeg yn arbennig yr wyf yn cofio am dano yn gosod arbenigrwydd ar "wirionedd oddifewn,"—crefydd yn egwyddor oddifewn, ac nid yn dibynnu ar amgylchiadau oddiallan. Yna rhoes ddisgrifiad o'r stêmer a'r llong hwyliau. Adgofiai y stêmer gyntaf welodd pobl Rhosgadfan yn croesi Bau Caernarvon, a disgrifiai fel yr oeddynt yn ceisio dyfalu beth ydoedd,—ai llong ar dân oedd hi? Sut bynnag, ymlaen yr elai y llestr, gan fwrw allan golofn o fwg. Adgofiai am y rhai ymfudent i'r America yn nyddieu'r llongau hwyliau. Yr holl baratoi lluniaeth, a phethau eraill, ar gyfer y fordaith; a neb yn meddwl cychwyn ar y fath daith heb wneud ei ewyllys cyn cychwyn. Byddai'r fordaith yn parhau am wythnosau o leiaf, ac weithiau, â'r gwynt yn erbyn, parhae am fisoedd,—a'r rowlio fyddai yn y Bau o Bisci, a phrofiadau eraill! 'Ond nid fel yna y mae hi yn ein dyddiau ni. Mae'r stemars mawr yma yn croesi mewn wythnos, a llai. Pan fydd y teid yn erbyn, a'r gwynt yn groes, mae'r stêmer yn mynd yn i blaen er y cwbl yngrym y gallu oddifewn. A synnwn i ddim, bob yn dipyn, na ddaw'r llestri yma sydd â'r fath allu oddifewn ganddyn nhw, i groesi'r Atlantig yma yn gynt eto,—yn ddigon cyflym fel y gall pregethwr o Rosgadfan fynd am gyhoeddiad Saboth i New York, dychwelyd ar ol y Saboth, a hwylio tuag yno erbyn y Sul drachefn, ac wedi cael digon o amser gartre i wneud. pregeth newydd! Gallu cryf ydyw'r gallu oddifewn. Yr unig grefydd ddeil ei thir ydyw crefydd sydd mewn egwyddor yn y galon. Daw ryw wynt a theid croes i rwystro pob crefydd arall. Yr oedd Robert Jones yn nodedig o gyflawn ac yn nodedig o barod." Dyna ddisgrifiad ei hen weinidog ohono. Yr oedd ei ymddanghosiad a'i oslef yn fanteisiol iddo, a'i ddull yn ddawnus, yn gyfryw fel yr oedd y pethau a draethid ganddo yn cael eu gosod allan yn y dull mwyaf effeithiol. Yr oedd yn gryn fyfyriwr o'r Beibl. Gallai osod allan bynciau athrawiaethol mewn gwedd ymarferol. Danghosai yn fynych barodrwydd i lefaru heb baratoad uniongyrchol. Medr i ddwyn ymlaen y cyfarfodydd eglwysig mewn modd buddiol ac adeiladol. Pethau sychion gan eraill yn ymddangos ganddo ef yn iraidd gan wlith ffansi, ac yn rhoi allan arogledd y boreuddydd. Yr oedd llewyrch dawn Glasynys arno yntau; ac heblaw dawn, difrifwch hefyd. Traddododd y cynghor i'r blaenoriaid yng Nghyfarfod Misol Horeb, Llanfairfechan, gydag afiaeth a gwir ddylanwad. Arweinydd a thad ydoedd ef.

Awst 5, 1898, bu farw y gweinidog. Ganwyd ef yn ardal Capel Uchaf, Clynnog, Mawrth 1, 1868. Ymroes i lafur fel efrydydd yn wyneb llesgedd corff. Dioddefodd lawer o gystudd yn ddirwgnach. Dywedai ei feddyg am dano, "Dyna fachgen nad oedd neb yn ameu dim ar ei grefydd." Ysgrifennu yn ei ddyddlyfr, "Edrych i'r bedd cyn edrych i wyneb temtasiynau." Cafwyd y pennill hwn. ymhlith ei bapyrau:

Ffarwel, bellach, bob cystuddiau,
A'r holl boenau yn y byd ;
Yn y bedd y caf orffwyso,
Gwedi eu gado oll i gyd;
Daw fy Mhrynwr ar ryw foreu
Eto i agor barrau'r bedd,
Mae Cyfamod heb ei dorri,
Caf gyfodi ar ei wedd.

(Drysorfa, 1901, t. 88; Blwyddiadur, 1900, t. 186).

Ar ddiwedd ei nodiadau fe wna Mr. Gwynedd Roberts sylw fel yma: "Dyddiau hyfryd iawn oedd dyddiau blynyddoedd cyntaf eglwys Rhosgadfan. Mewn eglwys o'i nifer, ni welais gynifer o golofnau seiat brofiad erioed. Yr oedd cael profiad yn beth hawdd iawn yno. Ni welais ychwaith yr oedfa fore Sul yn cael ei phresenoli yn well, os cystal, drwy'r blynyddoedd ag yn Rhosgadfan."

Rhif yr eglwys yn 1900, 126.

BRYNRHOS.[18]

YN niwedd 1877, mewn cyfarfod athrawon yn ysgol Brynrodyn yr awgrymwyd y priodoldeb o gychwyn ysgol Sul yn y rhan uchaf o'r gymdogaeth. O'r rhan honno o'r gymdogaeth yr oedd tua milltir o ffordd i'r capel, a chwynid mai anhawdd ydoedd i wragedd a phlant a hen bobl fyned deirgwaith ar y Sul i'r pellter hwnnw, a bod lliaws yn esgeuluso'r ysgol o'r achos. Ar yr 21 o Fawrth, 1879, y cychwynnwyd yr ysgol yn Ysgol y Bwrdd Penfforddelen. Thomas Williams Ty'nrhos, blaenor ym Mrynrodyn, oedd yn fwyaf blaenllaw fel ysgogydd yn hyn, a chyda'r achos, drachefn, wedi ei sefydlu. Ymunodd 140 â'r ysgol, lliaws ohonynt heb fod yn yr ysgol ers 10 neu 15 mlynedd. Hugh R. Owen yr ysgolfeistr yn hynod ddefnyddiol gyda'r ysgol yn ystod ei thymor yn Ysgol y Bwrdd.

Pa ddelw bynnag, nid oedd dim llai mewn golwg o'r cyntaf na chapel. Yr oedd gwrthwynebiad cryf yn erbyn hynny ym Mrynrodyn. Eglurai'r Parch. John Jones yn y Cyfarfod Misol pa fodd y codwyd capel Brynrodyn, yn adeilad mawr, cryf a hardd, mewn man canolog, ar gyfer yr holl ardal; a'r fantais o gael y fath adeilad yn gyrchfan i'r fath gynulleidfa fawr, urddasol. Yn wyneb y cwynion nad oedd y capel ddim mewn lle cyfleus i lawer o'r bobl, fe ddywedai yntau fod y capel yn union yn y man y mynnai Rhagluniaeth iddo fod, heb fod angen am yr un arall i rannu'r gynulleidfa. Eithr pobl benderfynol oedd pobl y Groeslon. Ac wedi aml frwydr boethlyd, eu dadl hwy a orfu o'r diwedd yng Nghyfarfod Misol Caeathraw.

Prynwyd rhan o dir Lleiniau, ger Penbryn rhos, yn rhan uchaf plwyf Llandwrog, ar y ffordd o'r Groeslon i Garmel. Mesur y tir, 550 llathen ysgwar, a'r pris, £68. Oddiwrth Penbryn rhos y rhowd yr enw ar y capel. Gosodwyd y gwaith i Owen Owens Rhostryfan ac Owen O. Morris Tyddyn maensier am £900 1s. Y gwaith yn orffenedig, ynghyda phris y tir, £1,010.

Buwyd yn adeiladu yn ystod 1879-80, gyda'r ysgol yn y cyfamser yn cael ei chynnal yn Ysgol y Bwrdd. Y cyfarfod agoriadol ar y Groglith, Mawrth 26, 1880, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. D. Lloyd Jones, Francis Jones a Thomas Gray. Sefydlwyd eglwys yma ar nos Iau, Ebrill 1, 1880. Y cenhadon o'r Cyfarfod Misol, y Parch. Dafydd Morris Bwlan, a'r Mri. Griffith Lewis Penygroes ac Owen O. Jones Carmel. Yn ol M. W. Jones, y Parch. Gwynedd Roberts a John Owen Bwlan oedd gyda Dafydd Morris. Dichon fod y naill wedi eu henwi, a'r lleill wedi dod. De- wiswyd yn flaenoriaid y noswaith honno: Thomas Williams Ty'n-rhos, drwy bleidlais agored, yn gymaint a'i fod yn flaenor eisoes yn y fam-eglwys, ac hefyd, Hugh R. Owen Ysgol y Bwrdd, a Hugh Jones Rhandir.

Pregethwyd y Sul cyntaf gan y Parch. John Owen, M.A., Criccieth. Unwyd Brynrhos yn daith â Cesarea.

Rhif yr eglwys ar ddiwedd 1880, 97; rhif y plant, 70; rhif athrawon yr ysgol Sul, 19, athrawesau, 3, y cyfanrif, 145, cyfartaledd presenoldeb, 108; gwrandawyr, 193, y capel yn dal 250, gyda 175 o eisteddleoedd yn cael eu gosod; y ddyled, £300.

Tachwedd 2, 1882, dewiswyd Daniel Thomas Hafod boeth yn flaenor.

Ymunodd John H. Jones Rhandir â'r eglwys ar ei sefydliad, wedi ei godi yn bregethwr eisoes ym Mrynrodyn. Derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol yn 1881. Bu farw Ebrill 22, 1883, yn 26 oed. Fel Timotheus, yr ydoedd er yn fachgen yn gwybod yr ysgrythyr lân, ac fel yntau fe'i gwnaethpwyd ef yn ddoeth i iachawdwriaeth drwyddi. Yn ymostyngar i'r drefn yn ei gystudd olaf.

Owen Williams Tal y llyn, aelod gweithgar, â'i deimlad crefyddol yn ffres, ac yn wr gafaelgar mewn gweddi, a fu farw Mai 20, 1885.

Yn 1888, symudodd H. R. Owen i Ffestiniog, wedi bod yn flaenor ffyddlon a gweithgar am wyth mlynedd.

Hydref 23, 1889, dewiswyd Evan Owen Bryngwenallt a William Jones Bryn Menai i'r swyddogaeth.

William Parry Frondeg oedd wr ffyddlon, selog, parod ar yr alwad at waith, parod ar alwad ei Feistr, pan gyfarfyddodd âg ef mewn damwain yn chwarel Dorothea, Ionawr 1, 1892.

Gwr defnyddiol oedd Owen Morris Tyddyn Meinsier. Eang ei wybodaeth yn yr ysgrythyr, a'r adgof am ei weddiau yn hiraethlawn.

Ebrill 30, 1896, dewiswyd i'r swyddogaeth, John R. Jones Glanrafon a Robert Williams Bryngwenallt.

Y gwr a saif allan amlycaf yn hanes Brynrhos, yn ystod cyfnod. yr hanes hwn, mae'n debyg, ydyw Thomas Williams, a fu farw Mai 15, 1898. Dyma sylw Mr. Isaac Davies arno: "Yr oedd Thomas Williams yn ddyn a blaenor nodedig ar lawer cyfrif. Yn ddewr neilltuol ymhob amgylchiad, yn ffyddlawn i'w gredo a'i argyhoeddiadau, gyda sel fawrfrydig, fel y rhoddai ei holl ynni naill ai o blaid peth neu ynte yn erbyn. Yr oedd wedi ei gynysgaeddu â deall cryf a goleu, ac hefyd, ac yn ben ar y cyfan, wedi ei fendithio â gras. Ei hyfrydwch pennaf fyddai cael ymgom â rhyw ddiwinydd galluog, er mwyn troi a thrafod cwestiynau diwinyddol, yn arbennig ym maes toreithiog athrawiaeth y Cyfiawnhad. Bu'n swyddog yng Ngharmel, ym Mrynrodyn, ac yn ddiweddaf ym Mrynrhos, a gwnaeth lawer iawn o ddaioni yn ein mysg. Brodor o'r Waenfawr ydoedd efe. Symudodd yma drwy briodi Elizabeth Jones, merch Evan Jones Penyrallt. Ganwyd iddynt ddeg o blant. Galaru yr oeddym ar ol colli Thomas Williams, gan ddymuno am i'w blant lanw ei le gwâg, yr hyn a wnant i raddau da." Yn Fethod- ist selog, yn bynciwr diwinyddol, yr oedd hefyd yn wr o brofiad. Bu farw gan anadlu allan, "Gwneler dy ewyllys." Teimlir colled a hiraeth ar ei ol.

Yr oedd brwdfrydedd yn nodweddu yr achos yma ar ei gych- wyn, a phery hynny yma hyd y dydd hwn. Am lawer blwyddyn, o leiaf, glanheid y capel yn ddidraul, ac yn ddidraul i'r achos y lletyid y pregethwyr.

Fel hyn y rhed adroddiad Canmlwyddiant yr Ysgol: "Ysgol ieuanc yn paratoi yn ymdrechgar ac yn obeithiol at waith mawr. Er mai yn y bore yr oeddym yma, caem yr ochr i'r capel yr eisteddai y merched ynddi wedi ei llenwi yn dda, ac yn eu mysg hwy, yn gystal ag ar ochr y meibion, ceid rhai dosbarthiadau rhagorol. Nid oes yma ystafell i'r plant, ac ystyriem fod iddynt hwythau ym Mrynrhos beth lle i wella gyda'r dosbarthiadau ieuengaf."

Yn 1900, prynwyd tair rhan o wyth o acr o dir am £15 15s., mewn bwriad i adeiladu arno dŷ ac ysgoldy.

Rhif yr eglwys yn 1900, 164; swm y ddyled, £146 0s. 5c.

TANRALLT.[19]

Y MAE'R lle hwn yr ochr arall i'r dyffryn gyferbyn ag ardal Talsarn. Olrheinir cychwyniad cyntaf yr achos yma i'r ysgol Sul a fu'n cael ei chynnal ym Mhencraig, pan oedd John Michael yn preswylio yno. Yr oedd hynny tua'r flwyddyn 1825. Yr oedd dilynwyr y Methodistiaid yn ardaloedd Tanrallt a Nebo yn ymrannu tua Phen- craig, fel yr oedd rhyw gysylltiad rhwng yr ysgol honno â'r achos yn y naill le a'r llall. Cynorthwyid John Michael ynglyn â'r ysgol hon gan Griffith Williams Taleithin, William Roberts Maesneuadd a William Evans Talymaes. (Canmlwyddiant, t. 22). Ar ymadawiad John Michael, collodd yr ysgol ei nodded ym Mhencraig.

Ar ol bod am ysbaid yn ddigartref, agorwyd drws i'r ysgol gan Thomas Edwards yn ei dŷ ei hun yn Nhaldrwst, ac arosodd yno tua phedair blynedd. Ymadawodd yntau â'r gymdogaeth, a bu'r ardal heb ysgol am ddeng mlynedd.

Tuag 1850, adeiladodd cwmni chwarel Tanrallt farrics i'r gweithwyr, a chaniatawyd cadw'r ysgol yno am flynyddoedd. Wedi hynny rhoes Turell, goruchwyliwr y cwmni, ganiatad i gadw'r ysgol mewn tŷ gwâg, ar ardreth o ddau swllt yn y flwyddyn. Rhowd caniatad, drachefn, ym mhen encyd o amser i newid y tŷ hwnnw am dŷ helaethach. Yno, yn ystod y 12 mlynedd cyn adeiladu'r capel, buwyd yn cynnal pregethu achlysurol.

Tua dechre 1881 fe ddechreuwyd anesmwytho am gapel. Nid oeddid wedi bod heb awydd am gapel ers mwy nag 20 mlynedd. Yr anhawster i symud yn yr achos ydoedd fod y tiroedd o amgylch dan brydles gan gwmniau y chwarelydd cylchynol. Y pryd hwn. fe sicrhawyd tir gan H. J. Ellis Nanney ar brydles o 80 mlynedd o 1882 am bum swllt yn y flwyddyn. Ar ol cael yr addewid am y tir y rhoddwyd caniatad i adeiladu'r capel, sef yng Nghyfarfod Misol Seion, Mai 16, 1881.

Adeiladwyd y capel a'r tŷ ar draul o £930. Y cynllunydd, John Thomas Rhostryfan. Yr adeiladydd, Robert Jones Bontnewydd. Agorwyd ar Awst 28, 1882, pryd y gwasanaethwyd gan D. Lloyd Jones Llandinam, Francis Jones Abergele a D. Charles Davies. Yr oedd £260 o'r ddyled wedi eu talu erbyn yr agoriad.

Rhif yr eglwys yn 1882, 72; rhif y plant, 44. Rhif yr ath- rawon, 13, athrawesau, 4, cyfanrif yr ysgol, 129, cyfartaledd presen- oldeb, 79. Cynwysai'r capel, 234, gosodid o eisteddleoedd, 167. Y ddyled, £670. Rhif yr aelodau a ymadawodd o Dalsarn i ffurfio'r eglwys yma, 43.

Er fod eisieu lle helaethach i gynnal ysgol, eto yr oedd y fath ymlyniad wrth y cyfarfodydd gweddi a gynelid yn y tai, fel mai hwyrfrydig y teimlid i ymadael â hwy a myned i'r capel. Y mae'r adgof am rai o'r cyfarfodydd gweddi yn y tai yn aros o hyd, a'r tai eu hunain o'r herwydd yn gysegredig yn yr adgof hwnnw. Elai'r aelodau cyn agor y capel i'r seiat yn Nhalsarn. Y swyddog- ion cyntaf ar yr agoriad: Robert Jones Tanrallt, Robert J. Roberts Brynllidiart, J. M. Williams Caemawr ac Evan Roberts Beatrice.

Ymhen tua blwyddyn ar ol adeiladu'r capel y bu farw Robert Jones, yn flaenor yn Nhalsarn er 1843. (Gweler Talsarn). Cydoesodd Robert Jones â John Jones am 14 blynedd yn eglwys Talsarn, ac fel swyddog yno; a gadawodd John Jones yr argraff ar ei feddwl am yr angenrheidrwydd o fod o ddifrif gyda chrefydd. Edrych ar yr ochr oleu y ceid Robert Jones; ac ar yr un pryd yn gredwr mawr mewn gweddi. Ebe fe unwaith wrth un a ddaeth at grefydd mewn peth oedran, "Nei di ddim byd ohoni hi efo'r grefydd yma, weldi, heb weddio mwy na mwy. Cer' i Gwm Silin dipyn o'r neilltu i weddïo,"-a chyfeiriodd at fan yno lle bu ef ei hun yn cyrchu. Wedi myned ohono i wth o oedran, anghofiai Robert Jones yn fynych gau ei ddrws pan fyddai efe'n gweddio, a thyrrai rhai ambell waith i wrando arno. Yr oedd yn wr dyfal mewn gweddi, a chyda'i olwg y tu arall i'r dwr y treuliodd ei ddyddiau i ben. Yr ydoedd wedi rhoi ei nôd ar gael capel yn Nhanrallt. Bu yn y naill Gyfarfod Misol ar ol y llall yn crefu am hynny. Evan Owen oedd ei ddadleuydd. Pan siaradai rhai yn erbyn, holai'r hen frawd, ac yntau wedi myned yn hwyrdrwm ei glyw, "Be' mae o'n ddweyd, Evan, dwad?" ac yna ymaflai ymhraich ei ddad- leuydd, "Côd, Evan, ar dy draed." Arferai ddweyd y byddai efe'n foddlon i farw ond gweled capel yn Nhanrallt. Nid cynt, pa ddelw bynnag, y gwelodd efe hynny nad oedd ganddo nôd arall o flaen ei lygaid, sef cael holl wrandawyr yr ardal i'r eglwys, canys yr oedd preswylwyr yr ardal eisoes yn wrandawyr. Arferai weddïo dros y gwrandawyr hynny wrth eu henwau, pan wrtho'i hun. Yn hyn hefyd, mewn cryn fesur, ni omeddwyd ei ddeisyfiad.

Un o heddychol ffyddloniaid Israel oedd "Nansi" Robert Jones, sef Ann Morris ei briod. O ran ei hysbryd yn llariaidd, ac â naws grefyddol arni, ac yn ei dydd yn un o brif athrawesau'r ysgol. Wedi'r oedfa am 2, yn y tŷ lle cynelid yr ysgol, pan geid pregeth yno ar dro, elai'r pregethwr i Danrallt i dê, sef i gartref Robert Jones. Wedi gorffen, neu cyn gorffen, ceid math o seiat fechan yno. Heb orchest yn fynych, gan naws grefyddol y lle, y troai'r wledd gorfforol yn wledd ysbrydol. Y gwir draws-sylweddiad a sylweddolid yn y gwir bresenoldeb. Ebe Robert wrth y pregethwr unwaith, os na ddywedodd hynny fwy nag unwaith, "Mae Nansi wedi dilyn crefydd ar hyd ei hoes heb gael cerydd unwaith." "Tewch, tewch, Robat," ebe Nansi, "os na chês i gerydd gin y bobol o, mi gefais gerydd lawer gwaith gan y Gwr i hun." Melynodd Nansi i'r nef fel tywysen lawn: mewn oedran teg, fel ysgafn o ŷd yn ei amser, y cludwyd hi i'r ysgubor gan Wr y Tŷ.

Yr oedd galwad yr eglwys i'r Parch. W. J. Davies yn cael ei gadarnhau yng Nghyfarfod Misol Gorffennaf 2, 1883.

Derbynid R. H. Hughes i'r Cyfarfod Misol fel pregethwr, Awst 9, 1886. Dechreuoddef bregethu yma. Ymfudodd i'r America, gan dderbyn galwad gan eglwys Bresbyteraidd.

Ymadawodd W. J. Davies i Frynaerau ar ei briodas, a rhowd galwad i'r Parch. Owen Hughes Gatehouse yn 1887. Cadarnhau yr alwad yng Nghyfarfod Misol Mehefin 13.

Dewiswyd Robert Williams Cae engan i'r swyddogaeth yn 1892. Ei dderbyn yng Nghyfarfod Misol Mehefin 20.

R. (Silyn) Roberts yn cael ei dderbyn yng Nghyfarfod Misol Awst 14, 1893, wedi dechre pregethu yma.

Ymddiswyddiad y Parch. Owen Hughes fel gweinidog yma yn cael ei dderbyn yng Nghyfarfod Misol Rhagfyr 11, 1893. Ymaelododd efe yn ol hynny yn Hyfrydle.

Yn 1897 y dewiswyd yn flaenoriaid Robert Pritchard Taldrwst a Henry Hughes Tŷ capel.

Ebrill 15, 1898, y bu farw Robert Jones Roberts, wedi ei alw i'r swyddogaeth ar sefydliad yr eglwys, 1882. Chwarelwr yn byw mewn tyddyn—Brynllidiart—braidd anghysbell, a chyda'r llwybr i'r capel braidd yn anhygyrch. Ffyddlondeb ei brif nodwedd. Cyson efo'r ddyledswydd deuluaidd, heb ymfoddloni ar un cyfrif fyned i'r chwarel heb y gwasanaeth. Darllen y Beibl drwyddo yn rheolaidd yn y gwasanaeth teuluaidd; ac wedi tyfu o'r plant i fyny, darllen bob yn ail wers gyda hwy, ac yn fynych canu pennill. Aeth drwy'r Beibl amryw weithiau yn y dull hwnnw yn ei deulu. Yn dwyn mawr sel dros gysegredigrwydd y Saboth, gan argyhoeddi'r halogwr ohono yn llym. Hoff bennill iddo ar hyd ei oes, "'Rwy'n edrych dros y bryniau pell am danat Iesu mawr." Mab iddo ef yw'r Parch. R. Silyn Roberts, M.A.

Adroddiad ymwelwyr Canmlwyddiant yr Ysgol: "Teimlem fod dosbarthiadau'r plant yn lled ddiffygiol eu trefniant. Caem rai yn dysgu sillebu mewn dosbarth, tra'r oedd eraill ynddo wedi myned gryn bellter heibio hynny. Caem yma rai dosbarthiadau tra rhagorol. Llawenhaem wrth weled maes y Cyfarfod Misol yn cael sylw mor gyffredinol yn yr ysgol hon."

Ym mhreswylfod Robert Jones, sef Tanrallt, y dechreuodd Robert Owen Tý draw bregethu. Bu David Lloyd Jones yn fachgen go ieuanc yn cymeryd rhan yn y cyfarfodydd gweddi yn y tai, os nad yma y dechreuodd efe gymeryd rhan gyhoeddus. Ymhlith ffyddloniaid yr achos cyn adeiladu capel a ffurfio eglwys, enwir, Robert Jones Tanrallt, John Williams Brynllidiart, John Williams Cae engan, Humphrey Williams Taldrwst, ynghyda theulu Ty'ny- weirglodd, sef William Hughes, Pierce Hughes a John Hughes.

Y mae Mr. Evan Roberts wedi ysgrifennu cofiannau i rai o garedigion yr achos yn ychwanegol at y rhai a roddwyd eisoes. Bu'r rhai a nodir o hyn ymlaen i gyd yn arolygwyr ar yr ysgol yn y dyddiau cyn agoriad y capel. John Williams Cae engan a edrychid arno fel y prif athraw yn yr ysgol Sul yma yn ei amser. Hyddysg yn yr ysgrythyrau ac yn ddiwinydd rhagorol, fe edrychid arno braidd fel math ar geidwad y ffydd. Yn rhagori, hefyd, fel ym- ddiddanwr ar bynciau crefydd ymhlith ei gydweithwyr yn y chwarel, lle y ceid y cyfryw bynciau y pryd hwnnw yn fynych yn bynciau ymddiddan. Hyfforddodd ei blant mewn dysgeidiaeth Feiblaidd, sef y Parch. W. Williams Rhostryfan, Henry Williams, blaenor yn Llanllyfni a Robert Williams, un o flaenoriaid Tanrallt, ac wedi hynny, Bwlchderwydd. Bu ef farw yn 1884.

Ellis Williams Taleithin oedd un o'r gweddiwyr mwyaf ysgrythyrol, a byddai ei ysbryd yn fynych dan eneiniad yn y cyflawniad cyhoeddus. Adnodau o'r proffwydi am ogoniant Crist a llwyddiant ei deyrnas fyddai mwy na hanner ei weddi. Nid ymaelododd ef yn Nhanrallt, ond parhaodd yn aelod yn Llanllyfni.

Profiadau melus ydoedd yr eiddo Morris Williams Bodawen, a melus hefyd ydoedd ei glywed wrth orsedd gras. Ei hoff bennill, Dyma Geidwad i'r colledig." Ar ei wely angeu, fe ofynnodd un o'i blant iddo am ei hoff bennill, pryd yr atebodd yntau ei fod erbyn hynny wedi cael pennill newydd, sef, "Gwyn a gwridog, hawddgar iawn, yw f'anwylyd." Ac ar hynny y seiliodd Glan Llyfnwy ei feddargraff:

Gwr ydoedd clir ei gredo—galluog,
A llewyrch nef ynddo;
Cân Salem cyn noswylio
Anwyd yn ei enaid o.

Efe a fu farw mewn gorfoledd ysbryd yn 1889. Mab iddo ef ydyw Mr. J. M. Williams, un o flaenoriaid Tanrallt.

Humphrey Williams Taldrwst oedd amaethwr wrth ei alwedigaeth, a gwr o farn addfed. Efe a alwyd i'r swydd o drysorydd ar gychwyniad yr eglwys. Yn ymroddedig gyda'r achos.

Pierce Hughes a hanai o hen deulu lliosog a pharchus Ty'nyweirglodd. Edrychid ar y teulu hwnnw tua chanol y ganrif ddiweddaf fel un o brif golofnau'r achos yn Nyffryn Nantlle. Er yn teimlo dyddordeb mawr yn llwyddiant yr achos, yn dilyn y moddion. cyhoeddus yn gyson, ac yn ddichlynaidd ei fuchedd, ni chymerodd arno broffes o grefydd nes dechre hwyrhau o'r dydd. Yn athraw am amser maith cyn dod ohono i broffesu. Darllenwr ar esboniad James Hughes. Edmygydd mawr o John Jones fel pregethwr. Dyna i chwi ddyn hardd,—fel capten milwyr yn mynd drwy ei waith talcen llydan, ceg o glust bwygilydd. Dydi'r Bod mawr ddim yn donio pregethwyr yr oes yma â chyrff fel yr hen bregethwyr." Rhyddfrydwr egwyddorol. Ei gartref ym mherchenogaeth offeiriad yn eglwys Loegr, a drud y costiodd iddo'i ddatganiad penderfynol o'i syniadau gwleidyddol. Nid sel heb wybodaeth oedd yr eiddo ef: gwyddai'n dda am hanes gormes mewn byd ac eglwys. Cariodd braidd yr oll o'r defnyddiau at y capel gyda'i 'ebol glas,' march cryf a phrydferth o faintioli eliffantaidd. Methodist selog ydoedd efe. Pan oedd y capel yn cael ei adeiladu gwaredai rhag codi "rhyw grigwd o gapel anheilwng o'r Corff." Ymhen dwy flynedd ar ol adeiladu'r capel fe fu farw mewn tangnefedd.

Rhif yr eglwys yn 1900, 124. Y ddyled, £288.

SARON, PENYGROES.[20]

YN 1872, mewn cyfarfod athrawon yn Bethel, y penodwyd amryw frodyr i gymeryd gofal ysgol i blant tlodion yn y rhan isaf o'r pentref. Sicrhawyd y neuadd gyhoeddus i'r amcan. Dros ystod rhai blynyddoedd ar y cychwyn plant yn unig a ddeuai i'r ysgol at yr athrawon. Eithr wrth chwilio am blant a esgeulusent yr ysgol, fe ddeuid o hyd yn awr ac eilwaith i eraill hŷn nad elent nac i'r ysgol na phrin ychwaith i unrhyw foddion eraill. Penderfynwyd o'r diwedd ffurfio dosbarth i'r esgeuluswyr hyn o'r ddau ryw, a bu'r cais i'w cael ynghyd yn llwyddiannus. Cynelid yr ysgol dan arolygiaeth Mathew Hughes Beehive ar y cyntaf, a chynorthwyid ef gan Thomas Powel Bryncir Terrace, William Griffith Tŷ capel, Morris Parry, Ebenezer Owen, Henry Jones Ceiri House, Elizabeth Owen Llwyndu House, Catherine Owen Melsar House ac Ann Jones Ceiri House. (Canmlwyddiant yr Ysgolion Sul, t. 27).

Daeth rhyw anghydwelediad i mewn rhwng y fam-ysgol a'r gangen. Meddyliwyd yn Bethel am roi terfyn ar y gwaith yn y neuadd. Ar hynny, fe benderfynodd y rhai oedd yn gofalu am ysgol y neuadd godi ysgoldy ar eu cyfrifoldeb eu hunain. Sicrhawyd y dernyn tir ar brydles o 99 mlynedd o 1882, am £1 17s. 6c. fel rhent blynyddol. Dyma'r rhai a aeth yn gyfrifol am yr ysgoldy: R. Benjamin Prichard, W. Price Griffith, John Jones Bryncir Terrace a Griffith Roberts. Gwnawd cytundeb â'r brodyr eraill a berthynai i'r ysgol, i'r perwyl fod pawb o ddeiliaid yr ysgol yn dod dan yr un cyfrifoldeb a'r pedwar a arwyddodd y weithred, ac nad oedd yr ysgoldy i'w defnyddio ond yn unig ynglyn â gwasan- aeth yn dwyn perthynas â'r Methodistiaid, neu dan nawdd Methodistiaid. Cwblhawyd yr adeilad yn 1881. Y draul yn £200. Ymhlith y rhai a fu'n arolygwyr ar yr ysgol hon o'r cychwyn hyd adeg codi'r capel, yr oedd Mathew Hughes, Griffith Lewis, Henry Jones Ceiri House, Cadwaladr Evans, R. Benjamin Prichard a Griffith Roberts.

Yn 1883, yn groes i'r teimlad yn Bethel, y rhoes y Cyfarfod Misol ganiatad i sefydlu eglwys ynglyn â'r ysgoldy. Ymadawodd 47 o aelodau Bethel i'r amcan hwnnw. Rhif yr eglwys yn niwedd 1883, 68. Yn ol yr Ystadegau, fe dderbyniwyd 22 o'r byd a 70 o had yr eglwys, i blith y nifer yma. Plant yr eglwys, 51. Rhif yr ysgol, 127, 13 ohonynt yn athrawon a 3 yn athrawesau. Cyfartaledd y presenoldeb, 75. Y gynulleidfa, 154. Eisteddleoedd, 165; yn cael eu gosod, 110. Y ddyled, £123. Y blaenoriaid ddewiswyd ar sefydliad yr eglwys: R. Benjamin Pritchard, W. Price Griffith, Griffith Roberts a Hugh Jones. Enwir y brodyr yma fel rhai ddarfu weithio yn egniol ynglyn â chychwyniad yr achos: Henry Jones, John Parry, William Jones Gistfaen, John Jones Victoria Cottage, Robert Prichard a John Jones Maldwynog.

Yn Awst, 1883, fe dderbyniwyd amryw i'r eglwys fel ffrwyth pregethu Richard Owen. Dyna'r eglurhad ynte ar y nifer eithriad- ol a nodir ar ddiwedd y flwyddyn fel wedi eu derbyn o'r byd. Trefnwyd Saron yn daith â Nebo. Aeth y lleoedd hyn arnynt eu hunain yn 1888.

Ymadawodd Hugh Jones ym Medi, 1886. Efe oedd arweinydd y gân yma. Yr oedd, hefyd, yn flaenllaw gyda chyfarfodydd y plant, a meddai ar fedr nid bychan yn y gwaith o'u dwyn ymlaen.

Adeiladwyd y capel yn 1887. Y draul, £800. Rhif yr eglwys, 85; plant yr eglwys, 50. Yr hen ddyled wedi ei thalu. Dyled y capel yng nghyfrif y flwyddyn ddilynol, a nodir ef fel £760. Yn Ebrill, 1887, y dewiswyd Thomas Roberts, gynt o'r Baladeulyn, yn flaenor, wedi gwasanaethu yn y swydd yno er cychwyniad yr eglwys.

Dechreuodd Hugh Arthur Jones bregethu yn 1894, a derbyniwyd ef i'r Cyfarfod Misol yn 1896.

Daeth Griffith Hughes y cenhadwr yma,Ionawr, 1895.

Yn ystod 1894-5 fe ymunodd amryw o bobl mewn oed â'r eglwys. Ac yn nechre 1895 fe gymerodd gradd o ddeffroad le ymhlith y bobl ieuainc fel ffrwyth cyfarfodydd gweddi wythnos gyntaf y flwyddyn. Rhif yr eglwys yn 1894, 115; yn 1895, 120. Y ddyled erbyn 1895, £530.

Yn Nhachwedd 22, 1897, y bu farw Thomas Roberts, yn 66 oed. Ymhen ychydig fisoedd ar ol ymadawiad Hugh Jones y daeth efe yma, a galwyd ef i'r swydd o arweinydd y gân yn ei le ef. Bu gyda'r gorchwyl hwnnw hyd ei afiechyd diweddaf. Yr ydoedd wedi ei eni yn y Tynewydd ar ochr y Cilgwyn, a chafodd feithriniad hyfforddiol John Jones yn eglwys Talsarn yn nyddiau ei ieuenctid. Yr ydoedd efe yn un o bedwar blaenor cyntaf eglwys Baladeulyn. Yr oedd ei ddyfodiad i Saron yn ymddangos yn rhagluniaethol ynglyn âg arweiniad y gân. Llanwodd y ddwy swydd, blaenor ac arweinydd y gân am 15 mlynedd. Ei nodweddion arbennig ef, yn ol Griffith Hughes y cenhadwr, oedd ffyddlondeb, gweithgarwch ac ysbryd tangnefeddus. Ni fyddai fyth yn absennol o'r moddion ond o raid. Pa waith bynnag yr ymaflai ynddo fe'i gwnelai â'i holl egni. Gweithiodd lawer gyda dirwest, ynglyn â'r Gobeithlu ac à Themlyddiaeth Dda. Efe oedd llywydd y gymdeithas lenyddol yn Saron y tymor olaf cyn ei farw ef. Bu amryw weithiau yn arolygwr yr ysgol. Ymdaflai o lwyrfryd calon i waith gyda'r plant. Gwr haelionus, ac yn neilltuol hoff o blant. Tyner ei galon, go- beithiol ei dymer, yn fab tangnefedd, yn weithiwr difefl gyda phob rhan o'r gwaith, hyd y cyrhaeddai ei allu, fe dynnodd serch yr eglwys, hen ac ieuainc, ato'i hun. Cynhebrwng mawr, fel eiddo gwr a gerid gan y bobl. (Goleuad, 1897, Rhagfyr 8, t. 6).

Yn 1897 fe helaethwyd y capel ar draul o £750. Rhif yr eglwys, 166; y plant, 84. Cyfartaledd yr ysgol, 133. Y ddyled, cyn yr helaethiad, £480; erbyn diwedd y flwyddyn, £1137.

Ym mis Chwefror, 1898, dewiswyd yn flaenoriaid, John Jones Eldon House a G. Rowland Williams.

Coffawyd am farwolaeth Griffith Roberts yn y Cyfarfod Misol, Ebrill 23, 1900. Efe a'i dad a'i daid yn wŷr yn dwyn mawr sel dros waith yr Arglwydd. Griffith Roberts Tanygraig (Capel Seion, Clynnog) oedd y taid, a Robert Roberts, ei fab ef, a blaenor yn yr un capel, oedd y tad. Y ffydd ddiffuant ag oedd yn ei daid a'i dad, diameu ei bod ynddo yntau hefyd. A'r un wedd y swydd o flaenor. Efe oedd un o bedwar blaenor cyntaf Saron. Efe, hefyd, oedd ysgrifennydd yr eglwys. Difefl fel gweithiwr yn fwy na dawnus fel siaradwr. Danghosodd yr ysbryd hwnnw yn wyneb anhawsterau cychwyniad y gwaith yma. Yr oedd ei aelwyd ef yn Saron. Pan glywai am neb o'r bobl ieuainc yn dechre cyfeiliorni oddiar y ffordd, fe ae i ymddiddan yn garedig â hwy. Bu am dymor maith yn arwain cyfarfod gweddi y bobl ieuainc, ac yn paratoi y plant ar gyfer yr arholiadau. Fel athraw, fel arolygwr, fel cennad i'r cyfarfod ysgolion ac fel llywydd yno, yn gystal ag yn rhannau eraill gwaith yr Arglwydd, fe'i profodd ei hun yn sicr a diymod a helaethion yng ngwaith yr Arglwydd yn wastadol. Yn lled ddisyfyd y galwyd ef ymaith. Ymagorodd fel rhosyn, ac edwinodd fel rhosyn ym meusydd Saron, ond nid cyn dangos ei liw a rhoi allan ei arogl. (Goleuad, 1900, Mehefin 6, t. 3).

Dyma adroddiad ymwelydd y Canmlwyddiant: "Amryw yn amrhydlon. Hwyrfrydigrwydd i ddefnyddio'r gwers-lenni. Egwyddori da yn y dosbarthiadau. Amryw athrawon yn gwneud eu gwaith yn effeithiol. Gwelliant fyddai canu ar ddiwedd y wersddarllen, a chanu mwy o donau y plant. Egwyddori y plant ar ddiwedd yr ysgol yn dda iawn. John Roberts."

Rhif yr eglwys yn 1900, 196.

GLANRHYD[21]


FFRWYTH ymgynghoriad Meyrick Griffith a Simon Hobley oedd cychwyn ysgol Sul ynghymdogaeth pentref Llanwnda. Cychwynnwyd yng ngweithdy John William Thomas, Wesleyad o ran enwad, yn 1869. (Am fanylion pellach, edrycher Brynrodyn). Wedi cael ysgoldy yn 1872, a phrofi o'r gwaith yn llwyddiannus, fe gafwyd oedfa ar brynhawn Sul ymhen rhai blynyddoedd.

Dechreuwyd cynhyrfu am gapel i'r gymdogaeth yn 1897. Cyflwynwyd llecyn o dir i'r amcan gan Thomas Williams Gwylfa. Cydsyniai eglwys Brynrodyn âg adeiladu capel yma, ac anogwyd i symud ymlaen gan y Cyfarfod Misol. Asgellhaid Brynrodyn ydyw Glanrhyd.

Agorwyd y capel ar Gorffennaf 6, 1899, yn adeilad hardd gydag ysgoldy fechan. Yr holl draul yn £2,800. Cymhellwyd y gwaith ymlaen gan rodd Thomas Williams, sef £1,000. Cynwysai'r capel 300 o eisteddleoedd.

Nos Iau ydoedd noswaith yr agoriad, pryd y traddodwyd pregeth gan Mr. David Williams, oddiar Luc vi. 6-10. Y nos Wener ddilynol daeth y Parchn. Evan Jones a T. J. Wheldon a Mr. J. E. Roberts Bangor ar ran y Cyfarfod Misol i sefydlu'r eglwys. Ymunodd 60 y noswaith gyntaf, aelodau o Frynrodyn yn bennaf, ond yn cynnwys rhai, hefyd, o'r Bwlan a'r Bontnewydd a Rhostryfan, a rhai eraill yn dod o'r newydd. Daeth y Parch. David Williams yma o Frynrodyn ar sefydliad yr eglwys.

Gwasanaethwyd y Sul cyntaf gan Mr. Richard Humphreys Bontnewydd, a'r ail Sul gan Mr. John Davies Brynrodyn. Rhif yr ysgol y Sul cyntaf, 80; yr ail Sul, 93. Y casgl cyntaf a wnaed ar nos Sul, Awst 6, sef £1 11s. 7c. Y casgl cyntaf at y weinidogaeth a wnawd ar nos Fercher, Awst 9, sef £4 16s. 6c. Gweinyddwyd y Sacrament ar nos Sul, Awst 27, gan Mr. David Williams.

Awst 30, dewiswyd i'r swyddogaeth: Thomas Williams Gwylfa, William Jones Bodaden, William Griffith Maen Gwyn a Jethro Jones. Y cyntaf yn flaenor yn y Bwlan cyn hyn, a'r ail yn Rhostryfan. Yr oedd yr olaf a enwyd o wasanaeth arbennig gyda'r ganiadaeth.

Mai 26, 1900, cyflwyno anerchiad i Thomas Williams a Mrs. Williams Gwylfa, fel gwerthfawrogiad o wasanaeth y naill a'r llall. (Goleuad, 1900, Mehefin 6, t. 6.)

Rhif yr eglwys yn 1900, 82; y plant, 39. Rhif yr ysgol : athrawon, 12, athrawesau, 4, cyfanrif, 113, cyfartaledd presenoldeb, 78. Y ddyled, £500.




DIWEDD Y GYFROL I.

Nodiadau golygu

  1. Llawysgrifau Eben Fardd. Ymddiddan 4 Mr. David Jones Bwlchgwynt
  2. Ysgrif y Parch. Howell Roberts; dwy ysgrif John Owen yr Henbant, y naill yn adrodd am rai pethau hynod a gofid ganddo ynglyn á chrefydd, a'r llall yn rhoi hanes cychwyn yr ysgol Sul; Adgofion y Parch. John Williams, Caergybi; ymddiddanion âg amryw.
  3. Ysgrifau gan Mr. R. R. Williams ac "Aelfryn"; detholion o gofnodion yr eglwys gan Miss Williams Brynhwylfa; ymddiddanion ag amryw.
  4. Ysgrif y Parch. Howell Roberts (Hywel Tudur), ac ymddiddanion â'r brodorion.
  5. Ysgrif y Parch. J. H. Lloyd Williams, B.A.; Adgofion Mr. Richard Jones, hen flaenor y lle, a anwyd ar ddydd buddugoliaeth Waterloo ; Adgofion y Parch. John Williams, Caergybi; llawysgrifau Eben Fardd; ymddiddanion âg amryw.
  6. Ysgrif W. W. Jones (Cyrus), yn dwyn yr hanes i lawr i 1879. Erthyglau gan Mr. R. Jones (Asiedydd), yn y Drysorfa, 1885. Ysgrif ar yr Ysgol Sul gan Asiedydd, yn dwyn yr hanes i lawr i 1882. Byrr-gofiant o Ffyddloniaid eglwys Salem (1856-76), gan Asiedydd, 1877. Ysgrif y Parch. W. Williams ar eglwys Talsarn, yn olrhain hanes y canghennau-ysgol. Cofiannau Richard Jones, Robert Roberts, Henry Williams (llawysgrif), gan Mr. O. LI. Owain. Cofiant Michael Roberts, gan John Jones, yn cynnwys Cofiant John Roberts, Llangwm, gan Michael Roberts, 1883. Ysgrif D. Llwyd yn y Drysorfa, 1831 (t. 364). Nodiadau y Parchn. R. Thomas, Talsarnau, a G. Ceidiog Roberts.
  7. Ysgrif o'r lle. Ysgrifau gan Mr. Owen Hughes Baladeulyn, a Mr. Daniel Thomas, Groeslon. Nodiadau gan y Parch. John Jones, y gweinidog.
  8. Ysgrif o'r lle. Nodiadau gan Mr. John Jones Tŷ mawr, a'r Parchn. J. J. Evans ac Edward Owen Gilfachgoch, Morganwg. Ymddiddanion âg amryw.
  9. Ysgrif y Parch. W. Williams. Ysgrif T. Lloyd Jones, yn dwyn yr hanes i lawr hyd 1883. Cofiannau John Jones, 1874 Fanny Jones, gan O. Ll. Owain, 1907; T. Lloyd Jones, gan W. Williams, 1895; D. Lloyd Jones, 1909; Edward Williams, gan W. Williams (Glyndyfrdwy), 1882; R. Owen, Ty Draw, 1907; Griffith Ellis Jones (llawysgrif), gan O. Ll. Owain. Ym- ddiddan a'r Parch. D. D. Jones, Bangor.
  10. Ysgrif John Williams Talybont. Ysgrif Mr. Richard Jones Hughes, yn dwyn yr hanes i lawr hyd 1891. Nodiadau y Parch. T. Gwynedd Roberts. Cofant Edward Williams, gan W. Williams Birmingham (Glyndyfrdwy), 1882
  11. Ysgrif ar yr Ysgol Sul, yn dwyn yr hanes i lawr i 1881, gan Rowland Owen Brynllifon. Ysgrifau gan Mri. H. Menander Jones (yn dwyn yr hanes i lawr i 1885), W. G. Roberts, Ephraim R. Jones. Cyfrif yr ail-adeiladu yn 1854, gan Henry Roberts. Nodiadau gan y Parch. H. M. Pugh.
  12. Ysgrif Mr. O. J: Roberts (Cyndeyrn). Ysgrif Mr. David Hughes y Buarth uchaf, yn dwyn yr hanes i lawr hyd 1880.
  13. Ysgrif o'r lle. Ysgrif William Roberts Bryn Llys, yn dwyn yr hanes i lawr hyd 1880. Nodiadau ar gychwyniad yr Ysgol Sul gan Richard Griffith. Ychydig o'i hanes ei hun gan Richard Griffith, drwy law y Parch. J. Morgan Jones Cerryg y drudion. Adgofion y Parchn. Robert Thomas Talsarnau ; R. Williams, M.A.. Glan Conwy; a J. Morgan Jones. Nodiadau gan Mr. T: H. Griffiths
  14. Ysgrifau Mr. Griffith Lewis a Miss Williams Gwynfa. Dyddlyfr William Griffith, 1886-92, drwy ddwylaw ei ferched, y Misses Griffith Alun House.
  15. Ysgrif o'r lle. Ysgrif Mr. Owen J. Hughes. Ysgrif yn y Drysorfa, 1865, t. 179, gan S. Jones.
  16. Ysgrif Owen Rogers, yn dwyn yr hanes i lawr i 1883. Cofiant William Hughes, gan Hugh Menander Jones, 1881. Nodiad ar Owen Rogers gan Mr. William Williams. Nodiadau gan Mr. G. H. Roberts Tŷ capel.
  17. Ysgrif o'r lle. Nodiadau y Parch. T. Gwynedd Roberts.
  18. Ysgrif o'r lle. Ysgrif Morris William Jones. Nodiad y Parch. Isaac Davies ar Thomas Williams.
  19. Ysgrif Mr. Evan Roberts (Beatrice). Ysgrif Mr. Evan Roberts ar flaenoriaid ymadawedig a hen arolygwyr ysgol Tanrallt.
  20. Ysgrif Griffith Roberts.
  21. Ysgrif Mr. William Jones Bodaden.
 

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1954, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.