Humphrey Jones a Diwygiad 1859 (testun cyfansawdd)

Humphrey Jones a Diwygiad 1859 (testun cyfansawdd)

gan Evan Isaac

Rhagair
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Humphrey Jones a Diwygiad 1859
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Evan Isaac
ar Wicipedia

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader




HUMPHREY JONES
A DIWYGIAD 1859.



HUMPHREY JONES

A

DIWYGIAD 1859

GAN

Y PARCH. EVAN ISAAC

(Awdur "PRIF EMYNWYR CYMRU")




Argraffwyd yng Ngwasg Y Bala
1930




I EGLWYS TRE'RDDOL.





RHAGAIR.



Ni wnaed erioed o'r blaen gais at roddi hanes Humphrey Jones yn fanwl a chyflawn; ac y mae pymtheng mlynedd ar hugain er ei farw. Ceir cylchgronau a llyfrau'n cyfeirio'n brin ato ef a'i waith, a'r cyfeiriadau fynychaf yn colli o ran cywirdeb.

Credaf nad oes fwy i'w ddywedyd am y Diwygiwr, na dim cywirach, nag a geir yn y llyfr hwn.

Y mae arnaf ddyled mawr i Mr. W. Garmon Evans, Oshkosh, Wisconsin, Unol Daleithiau, y Parch. J. J. Morgan, awdur y llyfr ar " Dafydd Morgan a Diwygiad '59," a Mr. John Edwards, M.A., Ysgol Sir, Llandeilo, am gywiro'r proflenni. Dymunaf ddiolch yn gynnes iddynt hwy a phawb eraill a'm cynorthwyodd.

Hydref, 1930.

EVAN ISAAC.

CYNNWYS.

DARLUNIAU.

Humphrey Jones yn ei ddyddiau olaf.
Hen Gapel Tre'rddol.
Humphrey Jones yn 1859.
Y Parch. Dafydd Morgan, Ysbyty Ystwyth.
Y Felin, Cartref Dafydd Morgan.


I.

TRE'RDDOL A'R GYMDOGAETH.

Pentref bach diymffrost yng ngogledd Ceredigion, a eistedd yn dawel mewn dôl deg, ar odre un o'r mynyddoedd sy'n ffurfio cadwyn Pumlumon ydyw Tre'rddol. Cuddia'r ynys sydd ar Gors Fochno Fae Ceredigion rhagddo, eithr pan fo'r Bae yn ferw gan ystorm fawr daw sŵn ei gynnwrf hyd ato ar brydiau. Yn ôl traddodiad, ar uchaf y mynydd sy'n gefn iddo, ac ar gyfyl Cae'r arglwyddes, yng ngolwg Gwar-cwm-isaf, y mae bedd Taliesin Ben Beirdd. Pan oeddwn i'n hogyn credai holl blant y fro'r traddodiad heb geisio praw o'i gywirdeb, ac wedi tyfu'n fawr parhânt i'w gredu. Nid oes un math ar reswm tros gredu i ysbryd yr hen fardd fendithio dim ar y pentref; aeth ei fendithion i gyd i bentref Talybont, filltir a hanner i'r de, lle maged Ceulanydd a Mochno a Hawen a Richard Morgan, Llanarmon-yn-Ial, ac o'r un man y cafodd "J.J." yntau eneiniad awdl" Y Lloer."

Ni wyddys pa mor hen yw Tre'rddol, ac o bu hanes i'w fore aeth i golli. Bu'n bygwth bod yn enwog ychydig tros gan mlynedd yn ôl ar gyfrif medr a masnach yr hetwyr a weithiai ynddo. Bu bri mawr ar hetiau Tre'rddol am gryn gyfnod, a dygid hwy i ffeiriau a marchnadoedd Cymru i'w gwerthu. Eithr lladdodd peiriannau'r trefydd mawr y fasnach hetiau, a suddodd y pentref i ddinodedd a digalondid. Yr unig fasnach arall a fu o fudd i'r pentref ac a'i siriolodd o dro i'w gilydd ydoedd masnach y mwyn plwm. Y mae'r mynyddoedd o'i ôl, a hyd yn oed y Gors o'i flaen, wedi eu britho â phyllau y mwyn plwm. Bu gweithio mawr ar adegau yng ngweithfeydd Bryn yr Arian, Pen Sarn, Y Romans, Y Llain Hir, Neuadd yr Ynys a Phenrhyn Gerwin. Telid eu cyflogau i'r gweithwyr ar y pedwerydd dydd Sadwrn o bob mis, a diwrnod pwysig oedd hwnnw; deffroai'r pentref i fywiogrwydd mawr wrth sŵn ymyfwyr yn yr Half Way Inn a'r Commercial, a chyfrannai'r Royal Oak a'r Frân hwythau, yn Nhaliesin, y pentref cyfagos, gryn lawer at firi'r "Dydd Sadwrn Pen Mis." Eithr ysbeidiol fu llwyddiant y gweithfeydd hyn, ac aeth yr olaf ohonynt a'i ben iddo tua deugain mlynedd yn ôl. Ond wedi cysgu'n hir, y mae'r gymdogaeth yn effro eto unwaith, ac yn effro i fywiogrwydd mwy ffasiynol na chynt. Rhed y cerbydau modur mawr trwy'r pentref rhwng Aberystwyth a Machynlleth amryw weithiau bob dydd, ac oherwydd y cyfleusderau newydd, daw i'r ardal lawer o Saeson, rhai gwâr a rhai anwar, i fyw i dai rhad, a dwyn elfennau newydd i mewn i'r bywyd.

Yr oedd swyn mawr ym mywyd dôf a diniwed yr ardal hanner can mlynedd yn ôl. Dyddiau euraidd y flwyddyn oedd y Groglith a'r Nadolig a'r Calan a Ffair Talybont. Disgwyliai'r ieuenctid am y dyddiau hyn ag awch a'u cadwai'n effro a hoenus trwy undonedd y cyfnodau dôf. Y Groglith oedd y pwysicaf o'r dyddiau pwysig. Gorymdeithiai ysgolion Sul y Wesleaid a'r Methodistiaid Calfinaidd trwy'r ddau bentref, a dychwelent i'w capeli i yfed te a bwyta bara brith, ac yn yr hwyr cynhelid cyrddau difyr i ganu ac adrodd pethau syml. Penodid yn brydlon ddwy wraig o bob capel, y naill i grasu'r bara gwyn, a'r llall y bara brith. Torthau mawr wedi'u crasu'n uchel, a'r gwahaniaeth rhwng y ddau fara ydoedd bod un yn does pur a'r llall wedi ei fritho ag ychydig o gyrens â'r mymryn lleiaf o floneg tawdd ynddo. Bore mawr i ni'r hogiau ydoedd bore'r Groglith; ceid cert mul i gario'r bara, a llusgem y gert â hwyl hyd at y capel. Byddai Tom Beechy yno eisoes, yn ymyl clwyd mynwent yr hen gapel, yn prysur weithio tân mawr i ferwi dŵr. Am ddau o'r gloch cychwynnai'r orymdaith â'r faner fawr ar y blaen, ac yna'r côr canu tan arweiniad Thomas Jones, Parc Gât, neu Evan Pierce, y Goetre. Ym mhen ychydig gydag awr dychwelid i wledd fawr o de, ac ar ôl clirio'r byrddau, am chwech o'r gloch dechreuai'r cyngerdd,—cwrdd canu ac adrodd. Cenid pethau syml a swynol fel, "Wyres Fach Ned Puw," "I Fyny Bo'r Nod," "Y Bachgen Dewr," "I Blas Gogerddan aeth y Bardd," ac adroddid caneuon Ceiriog a Mynyddog a beirdd gwlatgar eraill, hawdd i'w deall. Nid oedd y Nadolig mor bwysig â'r Groglith; yr oedd yn fwy tebyg i'r Sul. Ni cheid gorymdaith, ond ceid te yn y prynhawn, a chyngerdd yn yr hwyr, eithr gwahaniaethent oddi wrth de a chyngherdd y Groglith; ni cheid cymaint o fara brith y Nadolig, ac nid oedd mor frith, ond yn dduach ac o well defnydd, a chodid swllt o dâl am wleddoedd y dydd. Prif hynodion y Calan ydoedd gwneuthur cyfleth y nos ymlaen a chasglu calennig hyd ddeuddeg o'r gloch y bore. Casglai nifer o gyfeillion at ei gilydd ac aent i dai arbennig i dreulio'r nos i weithio cyfleth, ac i adrodd chwedlau difyr a chanu ambell gân. Cyn toriad y wawr clywid y plant yn canu:—

Mi godes yn fore,
Mi gerddes yn ffyrnig,
At dŷ Dafydd Puw
I ofyn am glennig.

Am ddeuddeg o'r gloch ceid tawelwch mawr, ac agorai'r cybyddion eu drysau a sylwi ar y plant yn cyfrif eu harian. Nid oedd hawl i galennig ar ol deuddeg, ac felly, nid oedd berygl i gybydd ei ddangos ei hun. Dydd mawr arall oedd dydd Ffair Talybont. Ffair bleser ydoedd yn fwyaf arbennig. Gwerthid a phrynnid anifeiliaid yn y bore, ond rhoddid y gweddill o'r dydd i bleser, ac anodd fuasai taro ar well ffair. Llenwid y darn mawr tir agored sy'n wynebu'r Black Lion a'r White Lion â stondiniau yn gwerthu pob math o nwyddau i hudo plant a phobl ieuainc; ceid hefyd shoeau o bob math, ac yn ben arnynt, shoe fawr Wmbells. Cai'r cryf gyfle i brofi'i nerth, a'r saethwr gyfle i brofi'i fedr. Am fisoedd cyn y ffair casglai'r plant eu ceiniogau, a chymaint oedd eu hawydd am swm teilwng ar gyfer y ffair fel na warient ddimai yn ystod y misoedd hynny. Os cai plentyn yn ei logell ddydd y ffair o wyth geiniog i swllt, teimlai nad oedd raid iddo blygu pen i neb. Wrth gwrs, nid oedd raid gwario'r swm i gyd, oblegid braint fyddai gallu ymffrostio trannoeth HUMPHREY JONES A DIWYGIAD '59 bod gan un weddill ar ôl gwario'i wala. Dychwelai'r plant adref tua chwech o'r gloch a gadael y ffair i bobl ieuainc a chanol oed a dynnai iddi o'r ffermydd a'r gweithfeydd mwyn plwm; glynai hefyd ambell hynafgwr hyd awr hwyr oherwydd aros yn ei waed flâs ffair ei ddyddiau bore.

Dyna fywyd diniwed a syml plwyf Llancynfelin yn yr oes o'r blaen. Nid oes ond ei gysgod yn aros. Y mae'r Groglith yno, eithr heb ei fara brith a'i ganu Cymraeg syml. Yn lle'r bara brith iach, ceir byns a theisennau bach crwn na ŵyr un dewin y tu allan i'r dref pa dda neu ddrwg sydd ynddynt, a cheir classical solos, na wyr yr hen pa un ai Cymraeg ai Saesneg a fyddant, yn lle "Hen Ffon Fy Nain," &c. Nid oes hwyl fel cynt ar y Nadolig. Y mae'r medr i weithio cyfleth wedi ei ladd gan siocolet, a dirywiodd Ffair Talybont yn raddol o fod yn ffair bleser yn ffair anifeiliaid.

Bywyd sionc ac anianol yw'r bywyd newydd. Ceir yno'n awr fendithion a breintiau'r trefydd mawr Seisnig, megis, Football Team a Tennis Club a Women's Institute a Whist Drives. Ni fu yn yr holl fro gert a mul er marw Jac Owen, coffa da am dano, ac ni cheir stori na chân fin nos wrth dân mawn mwyach.

Wele ddarlun o fywyd newydd yr ardal a gyhoeddwyd yn y "Welsh Gazette," am Awst 23, 1928,— "Taliesin.—Sports a Whist Drive.—Cynhaliwyd Sports llwyddiannus ym mharc Cletwr," (cae pori Dôl Cletwr yw hwnnw) "dydd Mercher diweddaf, o dan nawdd y Women's Institute a'r Clwb Cicio Pêl Droed. Barnwyr, Y Parchedigion Isaac Edwards a Joseph Jenkins, Mri. E. D. Thomas a T. J. Pugh. Cychwynnydd,—Mr. Thomson. Mwynhaodd y bobl ieuanc eu hunain yn fawr, gan ymdaflu i'r gwahanol weithred- iadau ag awch. Cefnogwyd y Side Shows yn rhagorol, ac yn arbennig, Pabell Madame Russell. Caed Whist Drive yn yr hwyr, a'r Parch. J. Williams, Talybont, yn Feistr y Seremoniau."

Sôn am uno'r enwadau! Methu a wnaeth crefydd a'u huno am dros gan mlynedd, ac wele'r Women Institute a'r Football a'r Tennis a'r Whist Drives yn rhinwedd eu daearoldeb yn llwyddo. Diddorol fyddai gwybod barn yr hen saint Thomas Jones, y Post, a Griffiths, y Gelli, am y newid,—y bywyd newydd cymysgryw wedi gwthio'r hen fywyd Cymreig gwledig o fod. Un ai er gwell ai er gwaeth, yr hen bethau a aeth heibio.

II.

EGLWYS TRE'RDDOL.

Daeth y Wesleaid i Dre'rddol yn 1804, a sefydlwyd eglwys yno, naill ai cyn diwedd y flwyddyn honno, neu'n gynnar yn 1805. Ym mis Hydref 1804, pregethai'r Parch. Edward Jones, Bathafarn, a Mr. William Parry, Llandygai, ym Machynlleth, a digwyddodd Hugh Rowlands, Tre'rddol, eu gwrando a hoffi eu hathrawiaethau, a'u cymell i ymweled â Thre'rddol a phregethu yno hefyd. Gan fod y pentref ar eu llwybr i Aberystwyth, ac oherwydd na chymhellid hwy'n aml i ardal newydd oblegid dieithrwch eu dysgeidiaeth, cytunasant yn ewyllysgar iawn â'i gais. Y noson honno bu Hugh Rowlands wrthi'n brysur yn hau'r newydd y bwriadai'r cenhadon ymweled â'r gymdogaeth drannoeth, a phan gyrhaeddasant yr oedd tyrfa gref ac awchus yn eu disgwyl, a phregethodd y ddau yn ymyl ysgubor, gerllaw'r bont tros afon Cletwr ar ganol y pentref. Ym mhen ychydig ddyddiau dilynwyd y ddau genhadwr i'r pentref gan John Morris a oedd yn bregethwr cyffrous a llwyddiannus, a chafodd yntau groeso mawr.

Y prif resymau am y derbyniad gwresog a roddwyd i'r cenhadon Wesleaidd cyntaf ydoedd prinder gwybodaeth o'r Efengyl a oedd yn y gymdogaeth, newydddeb crefydd yr Ymneilltuwyr, ac, efallai, ymdeimlad y trigolion o'u hangen ysbrydol. Buasai offeiriaid y plwyf yn fydol eu bryd ac yn ysgafala o eneidiau a buddiant moesol y wlad am genedlaethau. Ar yr offeiriaid, wrth eu swydd, y gorffwysai'r ddyletswydd o ofalu am fywyd ysbrydol holl drigolion y wlad o Fachynlleth i Aberystwyth, a chan na faliai'r offeiriaid, rhedai llawer i rysedd annuwiol, a gorweddai'r gweddill mewn syrthni mall. Dywaid y Parch. Joshua Thomas, yn ei lyfr, "Hanes y Bedyddwyr," yr ystyrid Aberystwyth, yn fuan wedi'r Diwygiad Methodistaidd, "yn lle peryglus i ddyn crefyddol i fyned trwyddo, yn gymaint felly os nad mwy nag un dref yng Nghymru," ac mai ar ymweliad Daniel Rowlands â'r lle "y dechreuodd pobl a meddwl am eu sefyllfa dragwyddol." Y mae'n debyg, onid yn sicr, mai cenhadon Wesleaidd oedd y pregethwyr Ymneilltuol cyntaf i bregethu'r Efengyl yn y plwyf. Yn ddiweddarach y daeth gweinidogion y Methodistiaid i'r ardal, ac yn 1830 yr adeiladwyd eu capel cyntaf, yn Nhaliesin. Yn 1804, nid oedd eglwys Ymneilltuol o Fachynlleth i Aberystwyth—deunaw milltir o bellter, eithr y mae tros ugain yno heddiw. Nid anodd gweled yn y ffeithiau hyn resymau tros y croeso a roddwyd i'r cenhadon Wesleaidd cyntaf.

Ar ôl pregethu yn Nhre'rddol aeth John Morris rhagddo i Dalybont, sydd bentref mawr hir-gul ryw ddwy filltir i'r de, a phregethu yno hefyd. Yn yr oedfa gyntaf honno yn Nhalybont, yr oedd Humphrey Jones, Ynys Capel, ffermdy, bellter o filltir dda o'r pentref. Ffurfiwyd eglwys fechan, a phenodwyd Humphrey Jones yn flaenor arni. Yr un adeg ffurfiwyd eglwys yn Nhre'rddol hefyd. Methu a chryfhau a wnaeth eglwys Talybont, ac ymhen ysbaid ymunodd yr ychydig aelodau â'r eglwys yn Nhre'rddol. Nid oes ar gadw gyfrif o'r rhesymau am fethiant Wesleaeth yn Nhalybont. Daethai pregethwyr yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr i'r pentref a phregethu yno yn y flwyddyn 1803, flwyddyn lawn, o leiaf, o flaen y cenhadwr Wesleaidd. Yn nechrau 1804, cofrestrwyd tŷ bychan ym Mhenrhiw, i'r Annibynwyr addoli ynddo, ac yn y tŷ hwnnw corfforodd y Doctor Thomas Phillips, Neuaddlwyd, yr eglwys. Dechreuodd y Bedyddwyr hwythau bregethu yn Nhalybont yn niwedd 1803, ychydig ar ôl yr Annibynwyr, a chyfarfu'r eglwys ieuanc mewn tŷ ardreth ym Mhenlôn. Felly, yr oedd dwy eglwys Ymneilltuol wedi eu sefydlu yn y pentref cyn ymweled o'r Wesleaid ag ef, a dichon nad oedd y gofyn ar y pryd yn ddigon i beri llwyddiant y trydydd enwad.

Adeiladwyd capel cyntaf Tre'rddol yn y flwyddyn 1809, eithr ymhen llai na chenhedlaeth daeth galw am gapel mwy. Talwyd pum punt i'r Parch. Humphrey Jones (yr ail), ewythr, brawd ei dad, i'r Diwygiwr, am











dir i adeiladu arno, ac agorwyd y capel fis Mai, 1845. Saif y capel hwn, a elwir yn awr, Yr Hen Gapel," ym mhen gogleddol y pentref, a defnyddir ef i gynnal Ysgol Sul, a chyrddau'r Groglith a'r Nadolig. Yn y capel hwn y cyneuwyd tân Diwygiad 1859. Ym mhen deheuol y pentref saif y "Capel Newydd," sydd deml fawr a hardd, a agorwyd yn 1874.

Y ddau brif offeryn yng nghychwyn yr Achos Wesleaidd yn y gymdogaeth ydoedd Hugh Rowlands, Tre'rddol, a Humphrey Jones, Ynys Capel, a hwy ydoedd dau dadcu Humphrey Jones, y Diwygiwr. Hugh, mab Humphrey Jones, Ynys Capel, oedd ei dad, a'i fam oedd Elizabeth, merch Hugh Rowlands. Gwnaeth y ddeuddyn ieuanc eu cartref yng Ngwarcwm-bach, ffermdy filltir helaeth i'r mynydd o Dre'rddol, ac yno y ganed y Diwygiwr, Hydref 11, 1832. Fferm dda ydyw Gwarcwm-bach, a'i thir yn rhagorol am gynhyrchu ŷd, a pherthyn iddi rywfaint o fynydd at fagu defaid; eithr prin yr oedd ei maint yn ddigon i ŵr o ysbryd anturiaethus Hugh Jones dreulio oes arni, ac yn Hydref, 1847, ymfudodd y teulu, yn cynnwys y rhieni a dau fab a merch, i America, gan adael Humphrey, yn fachgen pymtheg oed, ar ôl yng ngofal ei fodryb Sophia, yn Half Way Inn, Tre'rddol. Glaniodd y teulu o long hwyliau yn New York ddiwedd 1847, neu ddechrau 1848. Aethant i fyny Hudson River a thrwy'r wlad, ac ymsefydlu yn Waukesha, Wisconsin. Ond yn 1852 symudasant i Sefydliad Cymreig Oshkosh, Wisconsin, i amaethu gerllaw Rosendale, ac yno y trigiasant hyd derfyn eu hoes, yn bobl rinweddol ac yn fawr eu parch.

III.

DYDDIAU BORE'R DIWYGIWR.

Nid oes wybodaeth sicr am y cyfryngau addysg a oedd yng nghymdogaeth Tre'rddol yn nyddiau bore Humphrey Jones. Yr Ysgol gyntaf y gwn i am dani ydoedd yr Ysgol Genedlaethol, yn Nhaliesin, a oedd tan ofal offeiriad y plwyf. Eithr prin y gallasai'r ysgol honno fod wedi'i chychwyn pan oedd Humphrey'n fachgen. Dywedai'r diweddar Evan Owen, cyfoed â Humphrey Jones, iddo ef fynychu am beth amser ysgol a gedwid mewn tŷ annedd, a Dafydd Taliesin Morris, mab Maria Morris, a gadwai dafarn "Y Frân," yn Nhaliesin, yn athro. Adnabum Dafydd Taliesin yn ei hen ddyddiau. Yr oedd yn gymeriad hynod, ac yn wahanol i bawb o ran nodweddion ei feddwl a'i ymddangosiad; gwisgai'n bregethwrol a chadwai wallt trwchus a llaes, a pheri i un feddwl am yr hen Dderwyddon. Pregethai'n gynorthwyol, a darlithiai â hwyl fawr ar "Y Rhyfel Cyntaf rhwng y Cymry a'r Rhufeiniaid." Yr oedd gandddo ddychymyg aflywodraethus, ac nid oedd ei ddarlith namyn dychmygion anhygoel o'i dechrau i'w diwedd. O ran ysgolheictod nid oedd gymhwysach i fod yn athro ysgol na phlentyn deng mlwydd yn y dyddiau hyn. Y mae'n debyg y bu Humphrey Jones ar y cychwyn tan addysg personau anghymwys ac answyddogol fel Morris; eithr dywaid ei gefnder, y Parch. John Hughes Griffiths, iddo dreulio peth amser yn ysgol Talybont, a gwelais grybwyll amryw droeon iddo fod am gyfnod yn ysgol enwog Edward Jones, yn Aberystwyth. Y mae hyn yn haws i'w gredu na pheidio gan fod ei berthynasau yn awyddus i roddi iddo'r manteision gorau, ac yn abl o ran moddion i wneuthur hynny.

Bachgen iach a hoyw a direidus ydoedd, a chanddo ddawn anarferol i ddefnyddio dryll; saethai bry' yn well na neb yn yr holl fro, a chadwodd y ddawn honno drwy wres a goleuni'r Diwygiad, a phan ddisgynnodd nos drom ar ei feddwl, ni chollodd y ddawn saethu. Clywais y diweddar Evan Thomas, a oedd yn gweithio yn Nôlcletwr, yn adrodd hanes y Diwygiwr cyn ei gyrchu'n ôl i America, â'i feddwl wedi ei amharu a'r gweision yn ei wylio. Taerai ei fod cyn iached ei feddwl ag y bu erioed ac i brofi hynny, gofynnai am ddryll a pheri iddynt daflu dernyn chwe cheiniog i'r awyr, ac y saethai ef fel na welent mo hono byth mwy. Y mae'n debyg y gweithiai beth rhwng oriau'r ysgol yng Ngwarcwm-bach, fferm ei dad, ac wedyn, ar y tir a berthynai i Half Way Inn, ac wedi gorffen ei ysgol, yn Nôlcletwr; eithr dechreuodd bregethu pan oedd yn ieuanc iawn, ac yn ôl yr hanes sydd iddo, ychydig o sylw a roddodd i ddim ond pregethu byth wedyn.

Derbyniwyd ef yn aelod yn eglwys Tre'rddol pan oedd yn ddeuddeg oed, eithr ni chafodd ymdeimlad o ddrwg ei bechod onid ydoedd yn bymtheg oed. Dywaid y Parch. J. J. Morgan,yn ei lyfr gwerthfawr,[1] iddo dderbyn oddi wrth y Parch. W. D. Evans, Carroll, Nebraska, America, brif ffeithiau ei ddyddiau bore, a gafodd Mr. Evans gan Humphrey Jones ei hun:—

"Derbyniwyd fi yn aelod o'r Eglwys," ebe Humphrey Jones, "pan nad oeddwn ond deuddeg oed. Pan oeddwn yn bymtheg oed bum dan argyhoeddiad dwys, cyffrous, ac ofnadwy, a barhaodd dros ddau fis ar bymtheg. Curwyd fi megis yng ngorweddfa dreigiau. Yr adeg hon cymhellwyd fi i bregethu, ac o ufudd-dod i eraill yn hytrach nag o'm ymdeimlad fy hun dechreuais, pan oeddwn yn un ar bymtheg oed, cyn dyfod allan o'r argyhoeddiad."

Bu'n boblogaidd a llwyddiannus fel pregethwr o'r cychwyn, ac wedi gwasanaethu Cylchdaith Aberystwyth fel pregethwr cynorthwyol am chwe blynedd, cyflwynodd y Parch. William Powell, arolygwr y Gylchdaith ar y pryd, ef a Mr. Richard Evans, y crydd, a Mr. Evan Jones, y Goetre, a aeth wedi hynny yn offeiriad, fel ymgeiswyr am y weinidogaeth Wesleaidd, yng Nghyfarfod Taleithiol Nantyglo, a gynhaliwyd yn 1854; eithr gwrthodwyd y tri, naill ai oherwydd diffyg cymhwyster neu oherwydd nad oedd gofyn am bregethwyr ychwanegol y flwyddyn honno. Un o reolau'r Wesleaid ydyw derbyn ymgeiswyr yn ôl y galw a fydd. Ni ellir bod yn bendant ar y rheswm am y gwrthod, oblegid ni cheir ef yn y Cofnodion o'r cyfarfod a gedwir yn Llyfrfa'r Wesleaid yn Llundain. Anodd fyddai meddwl mai anghymwyster oedd y rheswm. Adnabum Richard Evans, y crydd, yn dda; yr oedd ef yn ddyn eithriadol o ran gallu meddwl a chymeriad. Dysg hanes Humphrey Jones yntau na dderbyniwyd erioed i'r weinidogaeth ei gymhwysach ar rai cyfrifon. Yr oedd yn ddyn ieuanc o ddoniau naturiol anarferol, wedi ei addysgu'n well na'r cyffredin yn y dyddiau hynny, ac o dan arddeliad mawr fel pregethwr. Dywaid ef ei hun, "Dan y drydedd bregeth gyhoeddus o'r eiddof ar y geiriau, "Os braidd y mae y cyfiawn yn gadwedig, &c.," argyhoeddwyd dau ar bymtheg o eneidiau. Yn Ystumtuen dychwelwyd deuddeg; wyth neu naw ar ddiwedd oedfa ym Mynyddbach. Mae gennyf le i feddwl ddarfod i'r Arglwydd o'i ras fendithio fy ngweinidogaeth yr adeg hon i fod yn achubiaeth i rai cannoedd o eneidiau tua pharthau uchaf sir Aberteifi."[2] Rhydd yr eglwys Wesleaidd hyd yn oed yn yr oes ddysgedig hon bwys mawr ar "ffrwyth" pregethu ymgeiswyr am y weinidogaeth, ac nid yw'n debyg y gwrthodai yn 1854, pan nad oedd bri mawr ar ddysg a gwybodaeth fydol, un a fuasai'n offeryn achubiaeth rhai cannoedd o eneidiau yn ystod chwe blynedd. Credaf i'r Cyfarfod Taleithiol fethu â derbyn Humphrey Jones am nad oedd gofyn am bregethwyr ychwanegol ar y pryd, ac nid oherwydd diffyg cymhwyster yr ymgeisydd.

IV.
Y DIWYGIWR YN AMERICA.

Cyn diwedd y flwyddyn 1854, ac ef yn ddwy ar hugain oed ar y pryd, ymfudodd Humphrey Jones i'r Unol Daleithiau. Yr oedd ei rieni a'i ddau frawd a'i chwaer yno ers saith mlynedd, a diau bod a fynnai hynny lawer â'i benderfyniad i ymweled â gwlad fawr y gorllewin; eithr tybiaf mai'r prif gymhellydd ydoedd y gobaith y cai yno well cyfle i fyned i'r weinidogaeth nag a roddid iddo yng Nghymru, oblegid dywedai tan loes y siom o'i wrthod gan Wesleaid Prydain, y mynnai bregethu er pob rhwystr. Teimlai fel Jeremiah,-"Ei air ef oedd yn fy nghalon yn llosgi fel tân wedi ei gau o fewn fy esgyrn, a mi a flinais yn ymatal, ac ni allwn beidio.'

Yn America ymunodd â'r Trefnyddion Esgobol, a chafodd ei le ar unwaith fel pregethwr cynorthwyol. Pregethodd i'r Cymry am flwyddyn, yn Nhalaith New York, yn bennaf, ac ar ben y flwyddyn ordeiniwyd ef yn ddiacon yng Nghynadledd Racine, yn 1855. Ni olygai'r ordeiniad hwn fwy na derbyn un yn weinidog ar brawf. Y mae yn Eglwys y Trefnyddion Esgobol dair urdd, sef, diacon a henadur ac esgob, yn cyfateb i weinidog ar brawf a gweinidog ordeiniedig a chadeirydd Talaith, yn yr Eglwys Wesleaidd ym Mhrydain. Tymor y prawf yn Eglwys y Trefnyddion yn America yn 1885, ydoedd dwy flynedd. Derbyniodd Humphrey Jones yr urdd gyntaf, eithr nid aeth drwy hanner ei brawf. Cefnodd ar y Trefnyddion Esgobol cyn pen y flwyddyn y gwnaed ef yn ddiacon. Dywaid Mr. N. J. Smith,- "The book History of Methodism in Wisconsin,' by P. S. Bennett, p.477, shows that H. R. Jones's relation commenced with the Wisconsin Conference in 1855, and that he was discontinued as a probationer the same year, 1855."[3] Cefais hefyd dystiolaeth Ysgrifennydd y Gynhadledd ar y mater,-"I have carefully examined the Conference Minutes beginning with 1855, and the only reference to Humphrey R.Jones that I can find is that he was admitted on trial in the Wisconsin Conference at the Racine Session, 1855. Since all later records are silent as to this brother, I take it for granted that he voluntarily withdrew before the end of the year, at least before the next session of Conference. He was, however, in 1855 stationed as pastor of the Welsh Mission at Oshkosh."[4] Dywaid Humphrey Jones yntau,-"Tua diwedd y flwyddyn 1856, torrais fy nghysylltiad â'r Gynhadledd, gan fyned i bregethu yn ôl fy nhueddiad fy hun at bob enwad pa le bynnag y cawn gyfleustra."[5] Dengys y tystiolaethau uchod nad ordeiniwyd y Diwygiwr yn weinidog gan y Trefnyddion Esgobol, a chyn belled ag y gwyddys, nid ordeiniwyd. ef gan unrhyw eglwys arall. Ni bu Humphrey Jones yn weinidog ordeiniedig erioed. Wedi ei wneuthur yn ddiacon yn Racine yn 1855,penodwyd ef gan y Gynhadledd yn genhadwr i'r Cymry yn Öshkosh, Wisconsin.

Sefydlwyd eglwys Wesleaidd o Gymry yn Oshkosh, Tachwedd 30, 1855, a Humphrey Jones oedd y prif offeryn yn ei chychwyn. Nid oes wybodaeth sicr am y tymor a dreuliodd yn Oshkosh a'r cylch; y tebyg ydyw na bu yno fwy na blwyddyn.

Bu'n ddiwygiwr nerthol yn America am yn agos i ddwy flynedd cyn dychwelyd ohono i Gymru yn 1858, ac yn America y rhoddwyd iddo'r enw "Humphrey Jones, y Diwygiwr." Yn Nhalaith Wisconsin y teimlwyd gyntaf rymuster mawr ei genadwri. Adfywiwyd holl eglwysi Cymraeg y Dalaith a dychwelwyd cannoedd o bechaduriaid. "Y lle," ebe fe," y dechreuais lafurio ynddo fel diwygiwr oedd Cambria, Wisconsin. Arhosodd un ar hugain ar ôl yn y cyfarfod cyntaf o'r gyfres, sef y cwbl yno ond un." Bu yn Cambria a'r gymdogaeth am fis. Bu wedi hynny am beth amser ym mharthau Oshkosh, ac yna aeth i Sefydliad Waukesha, ac yno, ebe ef ei hun, "y torrodd y wawr fawr a'r diwygiad nertholaf ynglŷn â'm gweinidogaeth yn America." Cafodd rai o'r oedfaon rhyfeddaf a welodd erioed ym Milwaukee, a dychwelwyd pump a deugain at grefydd. Teithiodd yn amlder ei rym trwy Ohio a Phensylfania a New York. Yn Oneida, New York, pregethai'n Gymraeg a Saesneg, a dychwelwyd tua saith gant trwy ei genhadaeth. Effeithiwyd llawer ar ysbryd Humphrey Jones gan y Diwygiad mawr a gychwynnwyd yn America trwy un o'r enw Lanphler, a oedd yn Genhadwr Trefol yn perthyn i'r Dutch. Aeth dylanwad y Diwygiad hwnnw trwy'r holl Daleithiau, a dychwelwyd 600,000 at grefydd; eithr nid cynnyrch y Diwygiad hwn oedd ef, oblegid ym Medi, 1857, y dechreuodd y Diwygiad a ddaeth trwy Lanphler, ac yr oedd Humphrey Jones yn Ddiwygiwr yn ei gyfarfod cyntaf yn Cambria, tua diwedd 1856.

Yr oedd i'r Diwygiwr a'i bregethu eu nodweddion arbennig. Yn fuan wedi marw Humphrey Jones caed yn "Y Drych," ysgrif goffa iddo gan Mr. G. H. Humphreys, cyn-olygydd y papur. Ceryddai'r ysgrif yn llym Gymry America, ac yn arbennig weinidogion Cymreig y wlad, oherwydd eu difaterwch ynglŷn â'i goffadwriaeth. Fel ffrwyth cerydd Mr. Humphreys caed yn "Y Drych," ddwy ysgrif werthfawr ar y Diwygiwr, y naill gan y Parch. H. O. Rowlands, D.D., a'r llall gan y Parch. H. P. Powell, D.D. Rhydd yr ysgrifau hyn y wybodaeth orau a feddwn am y Diwygiwr a'i waith yn yr Unol Daleithiau cyn iddo ymweled a Chymru yn 1858. Y mae'r ddwy ysgrif yn cydolygu, eithr y gyflawnaf o lawer ydyw eiddo'r Parch. H. O. Rowlands, ac oherwydd hynny, ynghyda'r ffaith i'r Parch. J. J. Morgan yn "Hanes Dafydd Morgan, Ysbyty, a Diwygiad '59," fanteisio ar dystiolaeth y Doctor Powell, defnyddiaf yn helaethach ysgrif y Doctor Rowlands nag ysgrif Powell.

Pan ddaeth Humphrey Jones yn amlwg fel Diwygiwr yr oedd yn ddyn ieuanc cryf o ran corff, ac yn hardd a diymhongar. Fel pob dyn sy'n llwyddo tuhwnt i'r cyffredin i symud ac arwain y miloedd, yr oedd ganddo bersonoliaeth anarferol gref, ac yn llawn gwefr a drydanai'r tyrfaoedd. Ceir arwyddion o hyn hyd yn oed yn ei ddarlun. Nid yw'n debyg y rhagorai ar ei gyfoedion o ran galluoedd meddyliol, eithr rhagorai ar y mwyafrif o honynt o ran diwylliant. Cafodd addysg elfennol dda, ac yn ôl tystiolaeth y Parch. John Hughes Griffiths, ei gefnder, gwyddai beth am yr ieithoedd Groeg a Lladin. Fe'i paratôdd ei hun ar gyfer y weinidogaeth yng Nghymru, a chymeradwywyd ef fel ymgeisydd cymwys gan y gweinidog poblogaidd, y Parch. W. Powell, a holl eglwysi Cylchdaith Aberystwyth. Golygai'r gymeradwyaeth honno fod ganddo wybodaeth gywir, onid eang, o wirioneddau sylfaenol ac athrawiaethau'r grefydd Gristnogol. Felly, pan safodd Humphrey Jones yn bedair ar hugain oed, i wynebu Cymry America, yr oedd yn gymwys i fod yn ddiwygiwr o ran corff a meddwl a gwybodaeth. Eithr nid yw hyn i gyd namyn deunydd i weithio arno. Y mae'n rhaid wrth gymwysterau moesol ac ysbrydol, oblegid gwyddys am gannoedd sydd ar yr un gwastad a Humphrey Jones o ran deall a diwylliant a gwybodaeth, nad ydynt yn ddiwygwyr o fath yn y byd. Tystia'r sawl a'i hadnabu ei fod yn gymeriad glân ac unplyg, a'i fryd yn llwyr ar bethau ysbrydol, ac y treuliai oriau bob dydd a phob nos mewn gweddi. Trwy ei weddiau dirgel y deuai i'w fywyd nerth, a thrwy ei weddiau cyhoeddus yr aethâi nerth i'w gynulleidfaoedd. Dysg pawb a'i hadnabu yn America a'r wlad hon mai dirgelwch ei gryfder ydoedd ei weddio. "Fel gweddiwr," ebe'r Doctor Rowlands, " yr oedd yn rymus- ach nag fel pregethwr; pan elai ar ei liniau i ymbil tros gadwediageth enaid . ymddangosai i mi fel pe'n ystormio'r nefoedd." "Ni allaf," ebe'r Parch. J. C. Jones, D.D., Chicago, "Ni allaf anghofio'i weddiau a'i amenau. Yr oedd mwy o ddylanwad ysbrydol yn ei amenau ef nag oedd yn fy mhregethau i." Nid oes ddadl nad oedd Humphrey Jones yn ddyn ysbrydol iawn, eithr nid ei ysbrydolrwydd a'i gwnaeth yn ddiwygiwr, er bod hynny yn hanfodol, oblegid bu eraill llawn mor ysbrydol ag yntau na fuont erioed yn ddiwygwyr. Duw a'i dewisodd. Yr oedd yn llestr etholedig. Paham y'i dewiswyd o blith ei gydradd ni wyddys, ond ei ddewis a wnaed, a'i eneinio i'w waith mawr. Cyn dechrau ar ei yrfa fel diwygiwr yr oedd yn gydradd â dynion ieuainc meddylgar a duwiolfrydig eraill, eithr y foment y gwnaed ef yn ddiwygiwr aeth yn fwy na phawb ac o flaen ei oes. "Yr oedd y drydedd ran o ganrif o flaen yr oes Gymreig yn ei amgyffredion o'r moddion effeithiolaf i ddeffroi eneidiau a'u hargyhoeddi o'u dyletswyddau. Petai'n ymddangos yn awr byddai i fyny ag ysbryd yr oes, ac efallai yn fath o Foody[6] arweiniol yn Seion. Y mae'n amheus gennyf a ymddangosodd erioed yn hanes crefydd y Cymry yn America un pregethwr a wnaeth argraff ddyfnach ar ei oes, na mwy o les i'w gyd-ddynion."[7]


Yr argraff gyffredin yn ardal Tre'rddol pan oeddwn i'n hogyn ydoedd mai pregethwr bach ac o nodwedd arwynebol, oedd Humphrey Jones. Addefid y rhagorai ar bawb o ran gwres ysbryd a dawn gweddi, ond pregethwr gwan ydoedd; eithr nid oedd hyn namyn dyfalu rheswm tros wrthod iddo le yn y weinidogaeth yng Nghymru. Y mae'n rhywyr dileu'r argraff gyfeiliorn hon. Yn ol tystiolaeth y sawl a'i clywodd yn America cyn ei ddychwelyd i Gymru yr oedd yn bregethwr gwych ac o fedr a grymuster mawr. Dywaid y Doctor Rowlands, "Yr oedd yn gyfansoddwr pregethau rhagorol. Clywais ganddo bregethau pan oeddwn fy hun yn weinidog oedd yn orchestol o ran cynllun ac iaith.. Yr oedd hefyd yn deimladwy a thyner, a'i ddawn llefaru yn gyfoethog... Yr oedd yn draddodwr nodedig o rymus."[7]

Ar gychwyn gyrfa'r Diwygiwr nodwedd bynciol oedd i bregethu Cymry America, a'r pynciau a'r damcaniaethau fynychaf yn astrus a diles, eithr apeliai Humphrey Jones â grym mawr at y gydwybod yn ogystal â'r deall, a pheri i'r gynulleidfa deimlo y deuai hen wirioneddau yn newydd iddynt oherwydd y sylw eithriadol a wnai o berthynas ysbrydol dyn â Duw, drygedd irad pechod a'i ganlyniadau, toster y farn ddiwethaf, cyni angerddol uffern, a'r galw mawr am edifeirwch. Byddai'i ysbryd a'i bregethu mor ddwys a difrifol, ac ar brydiau, mor gynhyrfus a brawychus, oni lethid y gwrandawyr yn llwyr. "Difrifol a dwys a llethedig oedd ei eiriau fel ei ymddangosiad. . . Yr oedd mor faterol a realistic ag Inferno Dante. Yn wir yr oedd yn echryslawn. Y pryd hwnnw dychrynwn gan ofn. Nid ar wragedd a phlant yn unig y dylanwadai, ond ar ddynion deallus a dysgedig hefyd. Toddai calonnau celyd dynion a oedd wedi clywed cewri Cymru, ac ildiodd cannoedd o honynt i ofynion Duw arnynt trwy weinidogaeth Mr. Jones."[7] Yr oedd iaith ei bregeth yn ddewisol a glân, a'i lais yn fawr a pheth swyn ynddo, a gwnai ddefnydd helaeth o gymariaethau a hanesion pwrpasol. Ymhlith testunau'i bregethau yr adeg hon yr oedd "Beth a wnewch yn nydd yr ymweliad?" "Pa hyd y cloffwch rhwng dau feddwl?" "Y drygionus a yrrir ymaith yn ei ddrygioni." Dengys y testunau hyn nodwedd ei bregethu fel diwygiwr yn America.

Pan oedd y Doctor H. O. Rowlands yn ŵr ieuancy mae'n awr yn bedwar ugain oed—treuliodd Humphrey Jones amryw wythnosau yn ei gartref yn Waukesha, Wisconsin, ac edmygai'r teulu ef y tuhwnt i bob mesur, oherwydd ei ddoniau a'i ysbrydolrwydd. Synia'r Doctor yn uchel am dano fel efengylydd,—"Yr oedd yn un o'r diwygwyr mwyaf grymus a adnabum i; nid oedd ei gyffelyb ymhlith y Cymry. Yr oedd ei bregethau wedi eu meddwl a'u gorffen yn dda; gallaf alw rhannau ohonynt i'm cof yn awr. Pregethai'n gwbl realistic cyn belled ag y mae canlyniadau pechod yn bod,—cyffyrddiad o Jonathan Edwards, ond yn odidog o gymhwysiadol at yr amseroedd a'r bobl a gyfarfyddai. Sylweddolai'r hyn a bregethai; yr oedd y bregeth yn fynegiant o'i argyhoeddiadau a'i deimladau dyfnion. Ond yr oedd ei weddiau yn hynotach ac effeithiolach na hyd yn oed ei bregethau. Meddai bersonoliaeth gref a gwefraidd iawn, ac mor drydanol oedd ei apeliadau ar brydiau nes y gorchfygai'r cynulleidfaoedd yn llwyr. . . Yr oedd yn ddyn mawr yn ei amser ef, yn ddyn duwiolfrydig, yn anrhydeddu Duw ac yn caru dynion."[8]

Y mae'r hanes a rydd y sawl a adnabu Humphrey Jones yn America yn peri credu bod chwe pheth yn cyfrif am ei ddylanwad a'i lwyddiant anarferol, sef, nerth corff a'i harddwch, praffter deall, huodledd naturiol, personoliaeth fagnetaidd ac ysbrydolrwydd meddwl, ac at y cwbl, ac yn bennaf, ei ddewisiad i'r gwaith gan Dduw. "Myfi a'th elwais mewn cyfiawnder, ymaflaf yn dy ddwylaw, cadwaf di hefyd." Nid oes dim a ysgrifennwyd yng Nghymru a rydd y pwys a ddylid ar waith Humphrey Jones fel diwygiwr yn America. O'r pedair blynedd a dreuliodd yno adnabyddid ef am ddwy ohonynt fel diwygiwr. Y mae'n amheus a oedd Cymro yn yr holl wlad na theimlodd ddylanwad ei gyfaredd ysbrydol. Teithiodd filoedd o filltiroedd, gweddiai a phregethai'n ddibaid, ac aeth ei ddylanwad fel gwynt nerthol yn rhuthro trwy'r holl Sefydliadau Cymreig. Pregethai mewn mannau i'r Saeson hwythau, â'r un effeithiau i'w bregethu a phan efengylai i'r Cymry. Trwy gydol y ddwy flynedd bu'n gweithio'n ddiatal mewn awyrgylch brwd a ferwai'n dawel gan dân anweledig; dyna nodwedd y Diwygiad,—dwyster distaw a llethol, ac nid llefain a gorfoledd; ddydd a nos am ddwy flynedd bu pob gewyn corff a phob egni ysbryd y Diwygiwr ar eu llawn gwaith,—yn dynn hyd dorri. Bydd yn ddoeth cofio'r dreth drom hon ar ei nerfau pan ddeuir i weled ei haul yn machlud.

V.
YMWELED Â CHYMRU.

Yn aml, os nad fynychaf, daw terfyn i gyfnodau hir o ddifrawder crefyddol a materolaeth galed ym mywyd cyhoeddus Cymru trwy ddiwygiadau crefyddol nerthol. Yr awr dywyllaf yw'r agosaf i'r dydd. Gwelir hyn o fyned heibio'r diwygiadau lleol, megis eiddo Llangeithio a Beddgelert ac eraill, a meddwl am y rhai a effeithiodd ar fywyd cyfan y genedl. Dilyn cyfnod maith o syrthni crefyddol a bywyd moesol cyhoeddus ysgafala a marw a wnaeth y Diwygiad Methodistaidd yn y ddeunawfed ganrif. Er bod amryw weinidogion teilwng o ran eu bywyd a'u hymdrech yn yr hen eglwysi ymneilltuol, megis Edmwnd Jones, Pontypwl, Vasavor Griffiths, ym Maesyfed, a Philip Pugh, ac yn yr Eglwys Esgobol, ambell un fel Griffith Jones, Llanddowror, ac er nad ydyw pennill Pantycelyn yn llythrennol gywir,—

Pan oedd Cymru gynt yn gorwedd
Mewn rhyw dywyll, farwol hun,
Heb na Phresbyter na Ffeiriad,
Nac un Esgob ar ddi-hun;
Yn y cyfnos tywyll, pygddu,
Fe ddaeth dyn fel mewn twym iâs,
Yn llawn gwreichion goleu tanllyd,
O Drefecca fach i mâs,

eto, dysg yr Hybarch Joshua Thomas yn "Hanes y Bedyddwyr," mai anwybodaeth ac anfoesoldeb mawr oedd ymhlith y cyffredin bobl, pan ddaeth Howel Harris, "O Drefecca fach i mâs." Dilyn cyfnod ffurfiol ac oer a wnaeth Diwygiad 1905 yntau. Ni pherthynai i'r eglwysi yng nghyntefin 1905 anwybodaeth yr eglwysi y codwyd Howel Harris i'w goleuo, o'r hyn lleiaf, nid oedd y tywyllwch cyn ddued, ond yr oeddynt hwythau yn oer a diynni a diffrwyth. Crefyddwyr cymen oedd trwy'r wlad, yn gwario'u hamser ar ddyfalu moddion i' gynnal yr Achos.' Treulient hynny o frwdfrydedd a feddent ar fasârs a chymanfaoedd. Yn hytrach na bod yn ysbryd a bywyd dirywiasai crefydd yn organyddiaeth lem a chymhleth. Ni lefai neb "dyro i mi drachefn o orfoledd dy iachawdwriaeth," a digwydd anarferol oedd achub enaid. Nid oedd achos cwyno mawr ym mywyd cyhoeddus y wlad. Yr oedd y werin. yn llawer mwy diwair a sobr a geirwir a gonest nag y bu erioed. Eithr er bod yr wyneb yn lled lân a theg, yr oedd ysbryd cymdeithas yn fydol ac yn llawn gwanc am bleser arwynebol. Galwyd Evan Roberts i ysgwyd y wlad o'i syrthni moesol mall, a gosod ei bryd ar fuddiannau arhosol bywyd.

Cyffelyb ydoedd nodweddion crefyddol a moesol Cymru yn 1859. Yr oedd yr eglwysi mor oer a llesg, ac wedi parhau felly cyhyd, oni thybiai'r Parch. Abel Green, Aberaeron, nad oedd namyn gwyrth annisgwyliadwy a fedrai roddi ynddynt fywyd a gwres. Pan hysbysodd Humphrey Jones ef yn Lerpwl, ei ddyfod i roddi Cymru ar dân, chwerthin ynddo'i hun a wnaeth Mr. Green a theimlo awydd gofyn, "Wele pe gwnai yr Arglwydd ffenestri yn y nefoedd a fyddai y pethau hyn?"[9]

"Efallai," ebe'r diweddar Barch. J. Morgan Jones, Caerdydd, "na bu cyfnod is ar grefydd yn Sir Aberteifi oddiar gychwyn Methodistiaeth, na'r blynyddoedd 1856-1858."[10] Cyflwr crefyddol isel Ceredigion. ydoedd cyflwr holl Siroedd Cymru ar y pryd, a dyma'r cyflwr y galwyd Humphrey Jones o America i'w wynebu.

Tua therfyn ei ddwy flynedd o waith fel diwygiwr yn America aeth i feddwl Humphrey Jones y dylai ymweled â Chymru a gweithio yno hefyd. Gellir meddwl am amryw bethau a allai ei gymell i hyn. Yr oedd wedi gweithio'n hir ac effeithiol yn y mwyafrif o'r Sefydliadau Cymreig yn yr Unol Daleithiau, os nad ym mhob un, a dichon y teimlai nad oedd berygl mawr i'r tân a gyneuasai ddiffodd hyd oni wnai ei waith yn llwyr gan fod y Diwygiad ar ei nerth mwyaf trwy America. Dywedir nad oedd yr iaith Saesneg yn fagl i'r Diwygiwr, ond Cymraeg oedd ei iaith ef, a phregethwr Cymreig ydoedd, a hwyrach y teimlai fod yn y Taleithiau Saeson ac eraill, fel Lanphler, a wnai gyfryngau effeithiol i Dduw weithio'r Diwygiad trwyddynt mewn poblogaeth mor fawr a chymysg. Tybiaeth yw'r eglurhad hwn, ond y mae'n ddigon syml a naturiol i fod yn gywir. Eithr y mae sicrwydd am ei brif gymhellydd. Gwyddai am lesgedd a diffrwythder crefydd yng Nghymru, a theimlodd awydd angherddol gref am fudd ysbrydol eglwysi'r hen wlad ac iechydwriaeth yr annychweledig. Argyhoeddwyd ef yn America y dylai fod yn ddiwygiwr ymhlith y Cymry yn annibynnol ar bob enwad, eithr ei fwriad ynglŷn â Chymru ydoedd cyfyngu ei wasanaeth i'r Wesleaid yn fwyaf arbennig, oherwydd tybio y byddai iddo rwystrau yng Nghymru rhagor yn America oblegid culni enwadol. Y mae'n amlwg yr ofnai'r hen gulni sydd wedi ein nodweddu ar hyd y cenedlaethau, ond dyheai ef am lwyddiant ysbrydol a chyffredinol y genedl, a dywedai, "Buasai'n orfoledd anhraethol gennyf pe buasai yr Arglwydd yn codi diwygwyr ymhlith pob enwad. Yr wyf yn credu y gwnaiff Ef, a bod cyfnod dedwydd wrth y drws pan fydd Seion yn ben moliant ar y ddaear. Yr wyf yn credu bod diwygiad mawr i ym- weled â Chymru yn fuan."[11] Cyfiawnhawyd ei ffydd trwy sylweddoli ei broffwydoliaeth. Eithr ei gyfyngu ei hun i fesur i'r enwad Wesleaidd a wnaeth ef fel y gwelir ymhellach ymlaen yn ei hanes.

Cyrhaeddodd y Diwygiwr Lerpwl yn niwedd Mehefin, 1858. Arhosodd yn y ddinas tros y Sul yn nhy'r Parch. William Jones, gweinidog y Wesleaid. Pregethodd fore Sul yn lle'r gweinidog yn hen gapel Ben's Garden, ond gwrthododd bregethu yn yr hwyr oherwydd na theimlai'n gwbl iach. Dywedai wrth y Parch. William Jones y bwriadai gynnal cyrddau adfywiadol yn Aberystwyth a'r cyffiniau.[12]

Cyrraedd Tre'rddol.-Teithiodd Humphrey Jones o Lerpwl i Dre'rddol, yng ngogledd Ceredigion, yn y Coach Mawr, a disgyn wrth ddrws yr Half Way Inn, y tŷ y'i maged ynddo am rai blynyddoedd wedi myned o'i rieni. i America. Gwesty cadarn a diymffrost a bair feddwl am gewri'r hen oesoedd yw'r Half Way Inn. Ni bu ynddo na masnach na miri gwerth sôn am danynt, ac eithrio "Dydd Sadwrn Pen y Mis," ers mwy na dwy genhedlaeth. Y tebyg yw mai'r rheswm am westy mor fawr, a'i ystablau helaeth, mewn pentref mor fach ydyw, ei fod yn un o orsafoedd y Coach Mawr. Yno y newidid ceffylau ac y cai'r teithwyr luniaeth. Y fath fraint i ni fuasai gweled y pedwar ceffyl ffres a hoenus, clywed canu'r corn a chrac y chwip, a dilyn y cerbyd yn ymddolennu am y tro yn y ffordd hwnt i dŷ Mari Pritchard, a'i golli yn y pellter draw tros y Graig Fach! Da, mi wn, oedd gan y Diwygiwr weled yr Half Way eilwaith; ac anodd meddwl nad oedd ei fodryb Sophia, Dolcletwr, yno i'w groesawu. I Ddolcletwr yr aeth Humphrey, ac yno y bu hyd derfyn ei genhadaeth yn y gymdogaeth. Cyrhaeddodd y Diwygiwr Dre'rddol Mehefin 25, 1858, a thrannoeth i'w ddyfod cleddid William James, Llannerch,[13]. hen ŵr pedwar ugain a dwy. Pentref bychan yw Llannerch ar fin y ffordd rhwng Tre'rddol a Chraig y Penrhyn; ac yno yn angladd yr hen ŵr, y gwnaeth Humphrey Jones ei waith cyhoeddus cyntaf trwy offrymu gweddi. Dywaid Mrs. John Morris Davies, Tre'rddol, a'i cofia'n dda, iddo esgyn i ben y mur a oedd o flaen y tŷ a gweddio. Gwyddai pawb a oedd yn yr angladd am y gweddiwr; clywsent ef yn gweddio a phregethu cyn ei fyned i America; eithr ni chlywsent ddim fel hyn; ni chlywsent weddio erioed fel y gweddio hwn. Yr oedd tyfiant Humphrey Jones mewn pedair blynedd yn anfesuradwy. Teimlent y cyffyrddai â'r nefoedd a pheri ei hagor oni ddisgynnai bendithion yn gawodydd ar y ddôl lonydd. Dechreuodd Diwygiad 59 mewn angladd.

Y Sul yn dilyn yr angladd yn Llannerch pregethodd y Diwygiwr deirgwaith yng nghapel Tre'rddol; am ddeg yn y bore ar, "Gwae y rhai esmwyth arnynt yn Seion," Amos vi. 1 ; ac am ddau ar, " Hwy a aethant yn ôl, ac nid ymlaen," Jer. vii. 24; a'r hwyr ar, "Am nad ydych nac oer na brwd," Dat. iii. 15.[14] Eithr dywaid Cofiant y Parch. Dafydd Morgan bregethu ohono brynhawn y Sul yn Eglwysfach ar yr olaf o'r tri thestun a nodwyd. Dichon nad oes fodd gwybod o'r pellter hwn pwy sydd gywir. Byddai'n ddigon naturiol iddo fyned i Eglwysfach, dair milltir i'r gogledd o Dre'rddol, a naturiol hefyd fyddai i rywrai oddi yno a oedd yn yr angladd yn Llannerch, ac a deimlodd eneiniad y weddi, geisio ganddo eu gwasanaethu y Sul dilynol. Ond nid yw'r peth o bwys mawr. Am yr wythnos a ddilynai'r Sul cyntaf hwn cynhaliwyd cyrddau gweddi, ac ar ddiwedd pob cyfarfod cymhellid pechaduriaid i ymddiried yn y Gwaredwr. Ymhen ychydig nosweithiau ildiodd amryw i'r cymhellion, ac adfywiwyd yr holl eglwys.[15] O hyn allan, am fis cyfan, pregethodd Mr. Jones deir- gwaith ar y Sul a phob nos o'r wythnos. Pregethai'n fyr a diwastraff a dirodres, heb amcanu o gwbl at yr hwyl Gymreig boblogaidd, eithr llosgai ei eiriau yn oleuni yn neall ac yn dân yng nghydwybod y gynulleidfa, a chynhyrchid ofn dwys a dieithr. Ar ôl pregethu disgynnai i'r allor a gweddio, a pheri i eraill weddio, ac yna clywid ocheneidiau'n dianc a sŵn wylo uchel. Nid oedd ym misoedd cyntaf Diwygiad '59 ddim o'r gwylltio a'r gorfoleddu nwydus a geid yn fynych yn Niwygiad 1904-5. Nodwedd amlycaf Diwygiad 1859, yn Nhre'rddol, ac mewn lleoedd eraill, yn y misoedd cyntaf, ydoedd wylo a dwyster llethol. Cynhyrchid ofn hyd fraw, oblegid cenadwri gyffrous oedd gan y Diwygiwr,-cyhoeddi gwae i'r sawl a oedd esmwyth arnynt yn Seion, cymell yr annuwiol i ffoi rhag y llid a fydd, a son am farn galed ar y gwrthnysig; cynhyrchid braw mewn miloedd, eithr nid torri allan mewn llefain cryf a wnai, ond peri iddynt blygu mewn dagrau dwys.

Yr oedd y diweddar Thomas Jones, y Post, Taliesin, yn ddyn meddylgar a phwyllus, ac yn arfer pwyso'i eiriau, ac yn un o'r cymeriadau mwyaf a adnabum i; ef hefyd oedd prif ddyn yr eglwys ar y pryd, a bu'n dyst o holl ddigwyddiadau pum wythnos gyntaf y Diwygiad, ac ni phetrusaf roddi ei dystiolaeth heb ofni bod y mesur lleiaf o ormodiaith ynddi,—"Y mae adfywiad. crefyddol grymus wedi torri allan yn y lle uchod, (Tre'r— ddol), yn bennaf trwy weinidogaeth y Parch. Humphrey R. Jones, diweddar o America. . . . Dechreuodd gynnal cyfarfodydd diwygiadol, a pharhaodd am bum wythnos felly yn ddidor, ar y Sabothau a phob nos o'r wythnos, a'r canlyniad i'r ymdrech oedd chwanegu 60 at nifer yr eglwys. Hefyd y mae'r gynulleidfa wedi lluosogi yn fawr, ac amryw yn bwrw eu coelbren i blith pobl yr Arglwydd yn barhaus. Nid peth bach oedd cael cynulleidfa ar y fath adeg brysur, ond y mae'n dda gennym ddywedyd fod y capel yn orlawn bob cyfarfod, a'r dylanwadau mor rymus nes y bydd pechaduriaid yn codi o ganol y gynulleidfa ac yn dyfod ymlaen at yr allor i ofyn i'r eglwys weddio gyda hwy am drugaredd, ac, O! y fath ddylanwadau oedd yn canlyn. Y nos Saboth olaf y bu Mr. Jones yma gofynnodd i'r dychweledigion ieuainc a oedd yn benderfynol o ddilyn yr Oen roddi eu llaw iddo ef fel arwydd o hynny, a dyna'r gynulleidfa yn ferw drwyddi, a phob un yn dyfod ymlaen at yr allor yn un foddfa o ddagrau, a'r holl gyn— ulleidfa yn wylo gyda hwy."[16]

Rhydd yr hynafgwr Capten Richard Jones, Hopewell, Borth, rai ffeithiau a brawf fawredd dylanwad y Diwygiad ar drigolion Tre'rddol a'r amgylchoedd. Tynnai'r bobl yn finteioedd o bob cyfeiriad i'r pentref, —pentrefwyr Talybont a Thaliesin o du'r De, a gwerinwyr Eglwysfach o du'r Gogledd, bugeiliaid ac amaethwyr y mynyddoedd, a thyddynwyr Mochno o Ddyfi i'r mynydd. Trwy haf 1858 cydforiai y Capten Richard Jones â Dafydd Owen, y Commercial Inn, Tre'rddol, a phan darient yn Stetten, Germany, daeth i Ddafydd lythyr o'i gartref â hanes y Diwygiad, ac yr oedd yn y llythyr hwnnw eneiniad a aeth i ysbryd y ddau forwr oni hiraethent am brofi'r dylanwadau newydd. Ymhen peth amser hwyliwyd am y wlad hon a chael y Coach Mawr o Amwythig i Aberystwyth. Wedi cyrraedd Tre'rddol yn gynnar y prynhawn caed yr anhawster mwyaf i yrru'r cerbyd heibio i'r capel gan faint y dorf. Yr oedd y capel yn orlawn a'r heol o bobtu iddo am tua hanner milltir yn dynn o bobl, hen ac ieuainc, yn addoli, rhai yn gweddio ac eraill yn moliannu, a phawb yn hunanfeddiannol a threfnus. Caed y Commercial Inn yn wag a than glo, a bu'n rhaid i Ddafydd Owen aros rai oriau i gael drws agored. Yr oedd y teulu a'r hen ddiotwyr i gyd yn y capel yn gaethion ewyllysgar i nerthoedd mawr y Diwygiad. Bedair blynedd wedyn, gwelodd y Capten Richard Jones dân y Diwygiad yn cynnau yn y West Indies, wedi ei gludo yno o Gymru gan forwyr o draethau Bae Ceredigion.[17]

Yn ystod pum wythnos ei genhadaeth yn Nhre'rddol pregethodd y Diwygiwr rai troeon mewn mannau eraill cyfagos, megis Eglwysfach a'r Borth a Phontgoch. Nid oes hanes iddo bregethu o gwbl yng nghapel y Methodistiaid Calfinaidd, yn Nhaliesin, y pentref agosaf. Clywais ddywedyd ddengwaith na fynnent, mohono yno am mai Wesle ydoedd, a bod culni enwad yn fur trwchus ac uchel rhwng dwy eglwys y ddau bentref. Y mae'n hawdd gennyf gredu hyn, oblegid yr oedd y culni annuwiol yn aros fwy na chenhedlaeth wedi'r Diwygiad, a'r bai i'w rannu rhwng y ddwy eglwys; nid oedd ddau yn yr holl blwyf a ŵgai fwy ar ei gilydd nag eglwysi Tre'rddol a Thaliesin. Dichon nad oedd hyn namyn effaith y dadlau brwd a fu ar y "Pum Pwnc" ymhell yn ôl; darfuasai sŵn magnelau'r frwydr fawr, ond arhosai'r mwg i dywyllu'r wybren. Eithr ciliodd y mwg yn raddol, ac ers blynyddoedd bellach cydaddola'r ddwy eglwys ar brydiau mewn awyr glir a chynnes.

Wythnos cyn terfynu'r genhadaeth yn Nhre'rddol cynhelid gwyl bregethu ym Mhontgoch, pentref bach disyml yng nghanol y mynyddoedd, ryw bum milltir o Dre'rddol, a galwyd ar Humphrey Jones i roddi pregeth yn oedfa'r hwyr. Gwasanaethwyd yn y bore a'r prynhawn gan y Parch. Rowland Whittington a Mr. T. Rees, Aberdyfi. Yr oedd y ddau yn bregethwyr da, ac yn arbennig Rowland Whittington. Cyraeddasai hefyd swn y Diwygiad a llanw'r mynyddoedd, a disgwylid pethau mawr yn yr ŵyl; ond er pob ymdrech a disgwyl, awyr drom a naws oer a gaed yn y ddwy oedfa. Ymgasglodd tyrfa fawr, llond y capel a'r fynwent, i oedfa'r hwyr. Yr oedd tair pregeth yn yr oedfa hon. Pregethodd Rees a Whittington ar eu gorau heb ddyfod dim newydd namyn ambell amen fawr gan Humphrey Jones. Teimlai'r gwrandawyr bod yr "awyr yn blwm." Yna aeth y Diwygiwr i'r pulpud a darllenodd i'w ganu yr hen emyn-

Bywyd y meirw, tyrd i'n plith,
A thrwy dy Ysbryd arnom chwyth;

ac ar drawiad aeth dylanwad dieithr fel trydan trwy'r gynulleidfa, a chanwyd yr emyn drosodd a throsodd. Pregethodd Mr. Jones am ugain munud ar "Deffro di yr hwn wyt yn cysgu." Yr oedd Mr. Thomas Williams, Ystumtuen, a chyfaill iddo yn yr oedfa, a dyma'i dystiolaeth ef,-"Yr oedd y capel wedi ei orlenwi, a mwy o bobol y tuallan nag oedd y tumewn; ond yr oedd y ffenestri wedi eu hagor, felly yr oedd y rhai oedd allan yn uno yn yr Amenau.' Dyma'r cyfarfod mwyaf ei ddylanwad y bum ynddo erioed; rhyw ail Bentecost oedd hi. Ar ôl gorffen y bregeth, aeth y pregethwr i weddi cyn canu. Gweddiodd yn syml iawn, ond O! y fath effaith oedd ar y gynulleidfa. Cyn iddo orffen yr oedd ugeiniau yn gweddio'n gyhoeddus, nes boddi llais y pregethwr. Gan fod gennym o bedair i bum milltir i fyned adref, gwelem fod yn hen bryd cychwyn. Cawsom gryn drafferth i fyned allan o'r capel, ac ar ôl cyrraedd y drws, trafferth fwy i gyrraedd yr heol, gan fod y lle wedi ei gramio y tuallan rhai yn canu, eraill yn gweddio, a'r lleill yn moliannu. Wedi cyrraedd pen y bryn troesom ein hwynebau'n ôl, ac yr oedd sŵn cân a moliant yn dadseinio drwy'r cwm cul. Yr oedd yn anodd peidio â throi yn ôl er ei bod yn hwyr."[18] A fedr y sawl a wâd yr ysbrydol yn niwygiadau crefyddol Cymru, ac a broffesa esbonio'r cwbl heb gyfrif ar y goruwchnaturiol egluro paham yr effeithiwyd pethau mor fawr a rhyfedd trwy ychydig eiriau syml Humphrey Jones rhagor trwy bregethau cryfion y ddau bregethwr arall?

Er i'r Diwygiwr ei gyfyngu ei hun a'i waith bron yn gwbl i Dre'rddol am y pum wythnos gyntaf, llosgodd y tân a gyneuwyd trwyddo i'r pentrefi cyfagos, sef, Eglwysfach a Thalybont, ac o'r rheini i Fachynlleth a Chorris a Llanbrynmair, ac i fyny'n uwch ac ymhell i'r Gogledd, ac o du'r De, i'r Borth ac Aberystwyth a mannau eraill. Y gwaith mawr ydoedd cynnau'r tân; llosgai ar bob llaw wedyn, oblegid yr oedd yr holl wlad yn barod, ac yn galw,—"Tyrd ymlaen, nefol dân, cymer o honom feddiant glân"; ac yn Nhre'rddol a thrwy Humphrey Jones y cyneuodd Duw ef. Teimlwyd nerthoedd mwyaf y Diwygiad mewn ugeiniau o ardaloedd nad ymwelodd na Humphrey Jones na Dafydd Morgan â hwy o gwbl. Nid oedd gwres y tân lawer llai yn Nhalybont nag yn Nhre'rddol, er na weithiodd y Diwygiwr ei hun ddim yno. Dywaid y Parch. O. Thomas, gweinidog yr Annibynwyr yn Nhalybont, "Y mae rhywbeth yn hynod yn yr adfywiad hwn. Y mae popeth yn bur ddistaw, nid oes yma ddim sŵn, dim haint na phla yn y wlad, na dim yn wasgedig yn yr amgylchiadau, dim byd oddi allan yn gwasgu, ond eto, y mae rhyw deimlad dwys, dwfn, a distaw, nes bod hen bobl yn llefain fel plant. . . . Mae cyfnewidiad mawr yn y wlad; y mae'r tafarnau yn gwacau! a'r capeli yn myned yn rhy fychain i gynnal y cynulleidfaoedd trwy'r gymdogaeth."[19] Yn ystod dau fis ychwanegwyd 170 at aelodau eglwys yr Annibynwyr yn Nhalybont.

Y mae ym mhlwyf Llancynfelyn o ddyddiau bore'r eglwys Wesleaidd ddynion ag iddynt flas mawr ar ddiwinyddiaeth. Bu dadlau brwd am fwy na chenhedlaeth rhwng y Calfiniaid a'r Arminiaid, ac ofnaf y rhoddai'r ddwyblaid bwys mwy ar gredo nag ar grefydd. Unai pawb yn y dadlau-gwyr a gwragedd, pechaduriaid a saint. Trwy y dadlau dygn hwnnw rhoed awch gloyw ar feddyliau'r trigolion, ac ystyrid gwybod diwinyddiaeth uwchlaw pob gwybod. Dywaid y Parch. David Young, a fu'n weinidog yn Nhre'rddol, fod yr Ysgol Sul yn debyg i goleg diwinyddol.[20] Ni thalai pregeth ddim oni fyddai'n braff a phynciol â naws dadlau arni. Eithr parodd nodwedd pregethu Humphrey Jones syndod ar bawb; pregethai ef Efengyl fyw yn syml a syth a dirodres. Anghofiwyd y dadlau tros dro a chafodd y gwirionedd noeth ei gyfle. Peth arall a wnaeth argraff ddofn ac arhosol ar feddwl y sylwgar ydoedd, nerth anarferol personoliaeth y Diwygiwr. Yr oedd yn ei berson allu magnetaidd a wefreiddiai'r gwrandawyr a'u dal yn gaeth. Syllai â her yn ei drem ar y gynulleidfa drwodd a thro ac eilwaith, ac yna craffu ym myw llygaid rhywun cryf oni theimlai hwnnw'n wan a dyfod fel clai yn ei ddwylo. Perthyn y gallu cyfrin a phrin hwn i bob diwygiwr mawr. Yn 1859, yr oedd ym Meddgelert amaethwr annuwiol nad ofnai Dduw ac na pharchai ddyn, a ymffrostiai yn ei allu i wladeiddio a gwneud yn ddirym bob pregethwr a esgynnai i bulpud trwy lygadrythu arno. Cyhoeddwyd y Parch. Dafydd Morgan i bregethu nos Fawrth, Hydref 1, ac ymffrostiai'r gŵr cryf yn nhafarn y pentref yr âi ef i'r oedfa a thaflu'r Diwygiwr oddi ar ei echel. Yn ôl ei arfer taflodd y Diwygiwr gipdrem â thân ynddi trwy'r gynulleidfa a daliodd lygaid yr amaethwr hyf. Craffodd arno a dal i graffu, oni syrthiodd wyneb yr heriwr, eithr ni bu fwy nag eiliad heb herio'r pregethwr eilwaith. Gwyliai'r gynulleidfa'r ornest mewn pryder. Ni thynnodd Dafydd Morgan ei lygaid oddi arno, ac yn y man aeth cryndod cryf i gorff yr heriwr a gwelwder i'w wedd, a syrthiodd ei wyneb eilwaith i astell y sedd o'i flaen, ac ni ddyrchafodd ef mwy hyd derfyn yr oedfa.[21] Cafwyd degau o enghreifftiau o effaith yr un gallu yng ngwaith Evan Roberts yntau yn Niwygiad mawr 1904-5. Rhysedd ydyw credu y dewis Duw gyfryngau bach a distadl i weithio trwyddynt i'r diben o amlygu ei fawredd ei hun. Ei arfer ef ydyw dewis personoliaeth fawr.

Yr oedd Humphrey Jones yn bregethwr da ac yn bersonoliaeth gref, ond yr oedd yn fwy mewn gweddi nag mewn dim. Sonia hen Gymry'r America a'r wlad hon hyd yn awr am ei weddiau. Am y pum wythnos y bu yn Nhre'rddol llanwai'r wlad â'i weddiau. Gweddiai yn y capel fin nos nes toddi calonnau'r gynulleidfa, a gweddiai yn y maes a'r goedwig liw dydd oni ddaliai drigolion yr holl fro yn gaeth i bethau ysbrydol. Arferai godi cyn dydd a thynnu i fyny trwy feysydd Dolcletwr i allt o goed ar lechwedd sydd ychydig bellter i'r dde o waith mwyn plwm Bryn yr Arian, ac yno tan y deri, gweddiai, â'i lais mawr yn llanw'r ddau bentref. Adroddai Mrs. Margaret Edwards, gweddw Lewis Edwards, Taliesin, y cofiai hi Wmffre Jones yn dda,-ei gofio'n gweddio. Arferai ei thad, William Jones, y gof, godi'n fore iawn, ac ar droeon âi at droed y grisiau a gweiddi, "Codwch, blant, i chwi glywed Humphrey Jones yn gweddio." Cynhyrchai'r gweddio yn y goedwig fraw a dwyster dieithr yn yr holl fro.

VI.
AR Y MYNYDDOEDD.

Tybiaf na warafun neb y sylw helaeth a roddwyd i Dre'rddol. Y mae'n haeddu mwy o sylw nag unrhyw le arall oherwydd bod yn gychwynfan y Diwygiad a effeithiodd ar Gymru i gyd. Aeth Humphrey Jones i Ystumtuen ddechrau Awst, 1858. Un o'r pentrefi lleiaf a welir yw Ystumtuen, yn cynnwys capel Wesleaidd, ac Ysgol bob dydd, a thŷ gweinidog a phedwar neu bum tŷ annedd. Y mae'r pentref ar uchaf mynydd noethlwm a thynnu caled iddo o bob cyfeiriad. Gwelir mân dyddynod yma a thraw â chryn bellter rhyngddynt. Defaid a fegir yno fwyaf, a'r rheini'n ddefaid Cymreig; y mae'n rhy noeth ac oer i fagu llawer o ddim arall yn y gymdogaeth. O fyned tros Droed-yr-henriw gall y cryf hir ei gam gyrraedd Ponterwyd mewn hanner awr fawr, a dwg pum munud o gerdded i gyfeiriad y De un i olwg Cwm Rheidiol â'r afon yn ei fynwes yn llifo'n hamddenol wedi naid arswydus tan Bont-y-Gŵr-drwg ym mlaen y Cwm. Yn uchel ar lechwedd draw y Cwm gwelir y dren fach â llwyth o ymwelwyr â'r Raeadr yn ymlusgo'n araf ar gledrffordd Mynach. Llwyd a dof yw'r pentref, eithr yn ei ymyl y mae un o'r golygfeydd mwyaf rhamantus ac ysblenydd ym Mhrydain Fawr. Yn 1859, ac am flynyddoedd wedyn, gweithiai llawer o ddynion yng ngwaith mwyn plwm Ystumtuen, a llenwid y capel mawr hyd ei ddrws, ond ers blynyddoedd bellach y mae'r gwaith yn segur a'r capel yn hanner gwag.

Ar brynhawn Sadwrn ym mis Awst, 1858,-yr ail ddydd Sadwrn o'r mis, mi a dybiaf,-marchogai Humphrey Jones ferlen Bwadrain, yn ei wisg Americanaidd, i gyfeiriad Ystumtuen. Adeg brysur cynhaeaf ydoedd, a gwair cwta'r mynyddoedd yn galw am ei ladd, ond gymaint ydoedd clod y Diwygiwr a'r disgwyl am dano fel y llanwyd y capel ymhell cyn adeg dechrau'r oedfa. Aeth i'r pulpud "a rhyw olwg nefolaidd arno," a phregethodd i geisio deffroi ysbryd yr eglwys. Drannoeth, pregethu i'r eglwys eilwaith, a chaed cyfarfod gweddi yn y prynhawn. Rheol y Diwygiwr ydoedd deffroi'r eglwys yn gyntaf peth. Ei gyngor i bregethwr ieuanc y tybiai ef y deuai'n fuan yn ddiwygiwr fel yntau ydoedd, "Os ydych am fod yn llwyddiannus, pregethwch bregethau llym i'r eglwys yn gyntaf. Ymdrechwch at ddeffroi Seion. Pa faint bynnag a bregethwch chwi i'r byd, ni fydd o fawr les heb gael Seion o'i chwsg yn gyntaf."[22] Nos Lun pregethodd yn rymus bregeth a apeliai bron yn gwbl at y gwrandawyr na phroffesai grefydd, a chaed dylanwad a ymddangosai i lawer yn anorchfygol. Ar ol ugain munud o bregeth gorchymynodd i John Jones a John Williams weddio, ac yna canwyd,-

O Arglwydd dyro awel,
A honno'n awel gref;

Ar derfyn y canu parodd wacau y Sedd Fawr a gofyn i bawb a deimlai awydd ffoi rhag y llid a fydd' ddyfod ymlaen i'r sedd honno; eithr yr oedd ffrwyth yr oedfa yn fwy na ffydd y cennad, oblegid yn ddiymdroi aeth ymlaen fwy na llond y Sedd Fawr. Caed hanner cant tan wylo a gweddio yn dymuno derbyn yr Arglwydd Iesu ac ymuno â'r â'r eglwys.[23] Pregethodd yn Ystumtuen bob Saboth a phob nos waith am fis cyfan, ac yn ystod y dydd ymwelai â phersonau na fynychai'r cyrddau Gwnaeth waith mor effeithiol trwy'r ymweliadau hyn oni lwyddodd i gael pawb i'w wrando, a chyn iddo ymadael â'r lle dychwelwyd at grefydd yr holl wrandawyr ac eithrio pump. Yn ôl tystiolaeth Humphrey Jones ei hun ni chafwyd nerthoedd llawer mwy hyd yn oed yn America ac wedi hynny yn Nhre'rddol nag a gaed yn Ystumtuen. " Y mae bys Duw i'w weled yn amlwg ya yr oedfa hon. Achubwyd y dynion caletaf a mwyaf anobeithiol eu cyflwr yn yr ardal. . . Cafwyd rhai cyfarfodydd nas anghofir gan neb oedd yn bresennol. Ni welsom ni mo'r dylanwadau yn llawer cryfach yn America y gaeaf diwethaf, ynghanol y gwres mwyaf."[24] Ysgrifennai Mr. Jones ymhen tair wythnos wedi dechrau'r genhadaeth yn Ystumtuen, ac yr oedd rhif y dychweledigion yn 76 ar y pryd.

Newidiwyd gwedd foesol yr holl gymdogaeth. Diflannodd oerni a diffrwythder eglwysi Ystumtuen a Goginan a Phonterwyd, a chollwyd o blith y mwynwyr bob syniadau materol ac arferion anfoesol. Gweddiai pawb, a llenwid y mynyddoedd â mawl. Ymunai'r gweithwyr ar eu ffordd i'r gwaith ac yn ôl i weddio'n gyhoeddus ym môn y cloddiau ac ar lwybrau defaid; sefydlwyd hefyd gyrddau gweddi tan y ddaear, a chefnogai Capten Paul, goruchwyliwr y gwaith, y cyf- arfodydd ag aidd; pwrcasodd Feibl a llyfr emynau a chist i'w cadw, a phenododd bersonau cymwys yn llywyddion.[25]

Hyd yr adeg hon, ac am beth amser wedyn, ystyrid y Diwygiad yn rhyw fath o gynhyrfiad neu symudiad Wesleaidd, ac â chilwg rhai di-ffydd yr edrychai amryw weinidogion a swyddogion blaenllaw yr enwadau arno. Diystyrent y Diwygiwr oherwydd ei ieuenctid a'i ddull anarferol o weithio, ac amheuent werth y Diwygiad oherwydd ei ddyfod trwy enwad cymharol fach a dinod yng Nghymru. Eithr y Diwygiad a orfu, a daeth pawb o'r diystyrwyr yn Ystumtuen cyn diwedd y mis i gydnabod ei fod o Dduw ac nid o ddynion.[26]

Bu Humphrey Jones yn Ystumtuen am fis. Felly, gan iddo ddechrau yr ail Sadwrn yn Awst, y tebyg ydyw iddo ymadael yr ail ddydd Sadwrn ym Medi. Er nad oedd mwy na dau fis er dechrau'r Diwygiad, ac i'r Diwygiwr ei gyfyngu ei hun i Dre'rddol ac Ystumtuen, yr oedd y tân eisoes wedi llosgi trwy Fachynlleth ar ei union i Lanbrynmair, ac ar y chwith i Ddinas Mawddwy a Dolgellau. Gwnaeth y Parch. Isaac Jones waith gwerthfawr ynglŷn â'r Diwygiad ar Gylchdaith Dolgellau, fel y dysg Glanystwyth yn ei gofiant iddo;[27] ond yn nechrau Medi yr aeth Isaac Jones i Ddolgellau, ac yr oedd y tân wedi cyrraedd yno, ac i lawer man arall o'i flaen. Y ffaith ydyw, mai'r peth pwysicaf ynglŷn â phob diwygiad crefyddol mawr ydyw ei gychwyn; ar ôl ei gychwyn ymlêd ac ymestyn lawer yn ei nerth ei hun. Ceir enghraifft drawiadol o'r nodwedd hon yn yr hanes a ddyry'r Parch. John Thomas, D.D., o Gymanfa Dair Sirol yr Annibynwyr a gynhaliwyd yng Nghendl yn haf 1859.

"Yr oedd Mr. Rees yn bryderus iawn ynghylch y Gymanfa, ac ofnai iddi fyned heibio heb i effeithiau grymus ei dilyn. Yr oedd ynghyd nifer o frodyr o Aberdâr a mannau eraill lle yr oedd y diwygiad yn ei lawn rym; ac yr oedd yn awyddus am i'r gynhadledd gael ei chyflwyno mor llwyr ag yr oedd yn bosibl i wrando adroddiad y brodyr hynny am waith Duw yn eu plith. Ofnai yn fawr rhag i bethau amgylchiadol fyned â gormod o amser, ac erfyniai'n daer na byddai hynny. Cafwyd awr o'r ymddiddan mwyaf cynnes a gwresog a glywsom mewn cynhadledd erioed. Yr oedd gan y brodyr, Meistri Williams, Hirwaun, ac Edwards, Aberdar, a Davies, Aberaman, a Griffiths, Llanharan, ac Ellis, Mynyddislwyn, bethau rhyfedd i'w mynegi. Yr oedd yr olaf newydd ddychwelyd o'i ymweliad â sir Abertefi, lle yr oedd y diwygiad ar y pryd yn ei lawn rwysg. Cododd y gynhadledd ddisgwyliadau uchel yn y rhan fwyaf, fel y credent nad ai'r Gymanfa heibio heb adael effeithiau grymus ar ei hôl. Nid oedd dim yn neillduol yn yr odfaon y prynhawn na'r hwyr cyntaf, na'r oedfa saith bore trannoeth, er bod pob peth yn bur ddymunol. . . Ond yr oedd yn hawdd deall bod yr awyr yn llawn gwefr, a'r ffurfafen yn ddu gan gymylau. Buasai yn hawdd i ni ddarlunio yr oedfa ddeg y bore hwnnw yn helaeth a manwl, ond ni byddai hyny yn weddus. Dechreuwyd yr oedfa gan yr Hybarch. Isaac Harris, o'r Morfa, ac os aeth gweddi erioed i'r nefoedd aeth gweddi yr hen frawd o'r Morfa y bore hwnnw. Siaradai â Duw fel gŵr â'i gyfaill. Clywsom ef fwy nag unwaith, ond ni chlywsom ef erioed mor nodedig a'r bore hwnnw; ac er na thorrodd y cwmwl yr oedd y taranau i'w clywed o bell; yr oedd y bregeth gyntaf beth bynnag arall a ddywedir am dani, yn amserol iawn, "Ti a gyfodi ac a drugarhei wrth Seion; canys yr amser i drugarhau wrthi, ie, yr amser nodedig a ddaeth; oblegid y mae dy weision yn hoffi ei meini, ac yn tosturio wrth ei llwch hi." Yr oedd trwst llawer o law yn ymyl i'w glywed cyn y diwedd. Wedi i Mr. Stephens a Mr. Griffiths bregethu, cododd Mr. Hughes, Dowlais, i fyny i roddi anerchiad byr. Ni ddywedodd ond ychydig eiriau, ond yr oedd min ar y rhai hynny, ac yntau yn dweud mewn teimlad cyffrous; torrodd y cwmwl fel glaw taranau. Yr oedd yno ugeiniau yn gweiddi ar unwaith; daliodd Mr. Hughes i weiddi nes methu. Galwyd Mr. Jenkins, Bryn mawr, i derfynu trwy weddi, ond ni wnaeth hyny ond taflu olew ar y tân. Buont yno ar y maes am awr yn moliannu a gorfoleddu. Yr oedd Mr. Rees, er ei holl arafwch, wedi llwyr anghofio cyhoeddi yr oedfa ddilynol, a phob trefniadau gyda golwg ar y ciniaw i'r dieithriaid. Oedfa i'w chofio oedd honno gan bawb oedd yno."[28]

Nid yw hanes y Diwygiad yng Nghendl namyn engraifft o ugeiniau o ddigwyddiadau cyffelyb mewn mannau nad ymwelodd arweinwyr y Diwygiad â hwy o gwbl. Felly, o gysylltu Diwygiad '59 â dyn, a galw'r dyn hwnnw yn Ddiwygiwr, ei gysylltu a ddylid â Humphrey Jones fel cyfrwng ei gychwyn, ac nid ag Isaac Jones na Dafydd Morgan, Ysbyty.

Y tebyg ydyw mai erbyn yr ail Sul ym Medi yr aeth Humphrey Jones i Fynydd Bach, gerllaw Pont-ar-Fynach. Eithr aethai'r Diwygiad yno o'i flaen, wedi'i gludo gan bersonau a fuasai yng nghyrddau Ystumtuen. Bu'r Diwygiwr ym Mynydd Bach hyd ddiwedd y mis, a theimlwyd yr un dylanwadau nerthol ag a brof- wyd yn Nhre'rddol ac Ystumtuen. Yr oedd y tân a gludwyd ar draws Cwm Rheidiol wedi llosgi allan bob rhagfarn enwadol yng nghymdogaeth Pont-ar-Fynach, ac ymunodd Methodistiaid Trisant a Wesleaid Mynydd Bach yn ddiymdroi a chalonnog. Parhaodd y Diwygiwr y cynllun o weithio a ddewisasai ar gychwyn ei genhadaeth. Pregethai'n llym a chynhyrfus am bymtheg neu ugain munud, ac yna galw ar ddau neu dri i weddio, a pheri i bob un, trwy orchymyn pendant, weddio'n fyr a syml fel y gwnai ef ei hun. Deffrowyd yr eglwysi yn llwyr a chymhwyswyd hwy i goledd rhai newydd eu geni, a chyn diwedd y genhadaeth dychwelwyd at grefydd bob gwrandawr dibroffes a berthynai i'r ddau gapel.

VII.
YM MHONTRHYDYGROES.

Ac eithrio Tre'rddol, lle dechreuodd y Diwygiad, ym Mhontrhydygroes y gwnaed y gwaith mwyaf a phwysicaf o bob man yng Nghymru, oblegid yno y gafaelodd nerth y Diwygiad ym mhersonoliaeth gref y Parch. Dafydd Morgan, Ysbyty.

I synio'n weddol gywir am bentref Pontrhydygroes a'i amgylchoedd, tybier ein bod yn cerdded i'r de o Bont-ar-Fynach ar y ffordd a deithiai'r myneich i Ystrad Fflur, fe ddeuem drwy Rhos-y-Gell, ac ar ben tair milltir oddi yno safem ar Fanc Ros-y-Rhiw, ac o ddisgyn yn raddol ryw dri chan troedfedd deuem at bont sy'n croesi afon Ystwyth. Hon yw Pont-rhyd-y-groes. Trwy y rhyd y cerddai'r pererinion cyntaf, ond adeiladwyd pont, ac yn ôl tyb rhai, yr oedd ar yr un cynllun a chyn hyned ag un gyntaf Pont-ar-Fynach. Un bwa uchel a chul ydoedd yr hen bont-rhy gul i lawer o ddim namyn dyn ac anifail fyned drosti; gwych o beth fyddai ei chael heddiw i adrodd wrthym am fedr a dycnwch yr hen oesoedd, ond er anfri i'r sawl a drefnodd y bont bresennol sy'n gyd-wastad â'r ffordd, dinistriwyd yr hen yn 1898 i wneuthur lle i'r newydd. Ni cheir gwell golwg ar yr ardal o unman nag o Fanc Rhos-y-Rhiw. Draw yn y dwfn odditanom y mae dyffryn Ystwyth yn rhedeg i'r de, ac yna'n troi i'r gorllewin gan frysio cyrraedd Pont Llanafan. Led cae mynydd ar y chwith i'r afon gwelir ffordd yn arwain at glwstwr tai a garia'r enw Pontrhydygroes, ac ar fryncyn dri chwarter milltir uwchlaw'r pentref y mae eglwys Esgobol Ysbyty Ystwyth. O amgylch ogylch ac ymhell, brithir y mynyddoedd gan dyddynnod hen. Nid yw pentref Ysbyty Ystwyth nepell o'r eglwys Esgobol. Lluniwyd ardal Pontrhydygroes o fryniau a phantiau a chymoedd a nentydd, ac awgrymir nodwedd ei harwynebedd gan enwau'r lleoedd, megis, Tan'rallt, Tangelli, Tanlefel, Tan-y-Graig; Pant'rhedyn, Pant-y-Ddafad, Pant-y-Ffynnon, Pant-y-craf; Gwarffordd, Gwarddôl; Pen-y-cwm, Pen-y-glog, Pen-y-graig; Banc- y-rhos, Banc Maen Arthur; Troed-y-rhiw, Glannant, Bwlch-y-blaen. Y mae pob enw yn sôn am rediad y tir. Gan gymaint bryniau â choed a phrysglwyni yn dringo o'u godre cyhyd ag y ceir daear i'w gwreiddiau, a chymoedd a nentydd gloyw yn llifo iddynt a thrwyddynt, y mae'r ardal yn brydferth anarferol yn yr haf; eithr yn y gaeaf, â'r rhew yn galed a'r eira yn drwch mawr, y mae—wel, ni waeth tewi; nid oes a'i disgrifia. Heb fod nepell o'r pentref y mae Hafod Uchtryd, plas nad oes yng Nghymru lenor o ddim pwys na ŵyr am dano,a thynn i'w weled bob haf gannoedd o ymwelwyr â thref Aberystwyth a mannau eraill. Yr oedd y plas unwaith, efallai ar y dechrau, yn eiddo'r Herbertiaid a ddaethai i'r gymdogaeth yn ystod teyrnasiad Elizabeth ynglŷn â gweithfeydd mwyn plwm yr ardal. Bu farw un William Herbert yn 1704, a phriododd Thomas Johnes, Llanfair Clydogau, ei ferch, a meddiannu'r lle. Symudodd Johnes o Lanfair Clydogau i Hafod Uchtryd yn 1783,ac yn dddiymdroi tynnodd i lawr yr hen dŷ ac adeiladu plas newydd a rhoddi ynddo ddarluniau gwych a llyfrgell fawr a gwerthfawr. Eithr ar y trydydd dydd ar ddeg o Fawrth, 1807, llosgwyd y plas yn lludw. Credir golli trwy'r tân gannoedd o hen lawysgrifau Cymreig gwerthfawr o gasgliad Syr John Seabright ac eraill; ac yr oedd y golled yn anffawd ddrwg i lenyddiaeth. Aeth Johnes ati ar unwaith i adeiladu eilwaith blas rhagorach, a rhoddi ynddo argraffwasg gyffelyb i'r argraffwasg sydd yn y Gregynnog yn awr, gan gyhoeddi argraffiadau o Froissant a Monstrelet ac eraill. Y mae'n debyg mai un o'r enw Chambers a breswyliai yn Hafod Uchtryd pan ymwelodd Humphrey Jones â'r ardal yn 1858.

Brithir holl fynyddoedd ardal Pontrhydygroes â phyllau a lefelydd y mwyn plwm, a chyn hyned ydyw rhai ohonynt fel na wyr neb eu hoedran. Cred amryw fod rhai o'r lefelydd o waith y Rhufeiniaid; adnabyddir y rhain gan guled ydynt a chan ôl y cynion a ddefnyddid i dorri'r graig. Y mae'n debyg mai'r gweithfeydd a dynnai weithwyr i blwyf Ysbyty Ystwyth yn 1858 a 1859 ydoedd Y Frongoch, Y Lefel Fawr, Grogwynion a gwaith Cwm Ystwyth, a hwyrach ddechrau o Benyglog Fawr a Phenyglog Fach cyn y Diwygiad. Ni wyddys rif tai a phoblogaeth y plwyf yn 1858, eithr yr oedd ynddo 195 o dai a phoblogaeth o 941 yn 1875, ddwy flynedd ar bymtheg wedi ymweliad Humphrey Jones; y tebyg ydyw fod y boblogaeth gymaint os nad yn fwy yn 1858, oblegid yr oedd y gweithfeydd ar eu llawn gwaith y pryd hwnnw.

Y mae hen gapel y Wesleaid lle dechreuodd y Diwygiad wedi ei droi yn beudy, a saif y newydd a adeiladwyd yn 1874, yn ei ymyl. Er nad yw Pontrhydygroes ond pentref bach ynghanol y mynyddoedd, y mae o fewn cyrraedd lleoedd ag y mae iddynt hanes nodedig yng nghrefydd Cymru,-prin filltir sydd i bentref Ysbyty Ystwyth, pum milltir i Bont-ar-Fynach, pedair a hanner i Ystrad Meurig, pump a hanner i Ystrad Fflur, a phedair ar ddeg i Aberystwyth. Aeth Humphrey Jones o Fynydd Bach i Bontrhydygroes ddydd Iau, Medi 30, 1858, a phregethu yng nghapel y Wesleaid y noson honno, ar "Paham yr ydych chwi olaf i ddwyn y brenin yn ol i'w dy?" Cafwyd amryw o nodweddion cyffredin y Diwygiad yn yr oedfa gyntaf,a hynny oherwydd, yn ychwanegol at waith effeithiol y Diwygiwr, y buasai amryw o'r gwrandawyr yng nghyfarfodydd Mynydd Bach a dwyn yn ôl eneiniad y cyrddau hynny. Chwythu'n fflam y tân a'i rhagflaenasai a wnaeth y Diwygiwr yma eto. Nos Wener pregethodd â nerth mawr ar, Mi a adwaen dy weithredoedd di, nad ydwyt nac oer na brwd; mi a fynnwn pe bait oer neu frwd. Felly, am dy fod yn glaiar, ac nid yn oer nac yn frwd, mi a'th chwydaf di allan o'm genau. Pregethodd yn fyr, ac yna disgyn i'r Sedd Fawr, a dywedyd, " 'Rwy'n deall fod Mr. David Morgan, gweinidog y Methodistiaid, yma; a ddaw Mr. Morgan ymlaen i gyfarch y bobl?" Ufuddhaodd Mr. Morgan yn ddiymdroi. Dyma weithred gyntaf y Parch. Dafydd Morgan, Ysbyty, ynglŷn â'r Diwygiad; o hynny allan am tua dwy flynedd teithiodd yn amlder ei rym trwy Gymru a gweithiodd fel cawr ysbrydol." Y mae hanes Mr. David Morgan yn dyfod i mewn i'r Diwygiad mor bwysig fel na fyddai'n ddoeth gwneuthur llawer mwy nag aralleirio'r hanes a ddyry ei fab, y Parch. J. J. Morgan, yr Wyddgrug.

Yn 1858 yr oedd un Mr. Elis Roberts, gŵr o Ogledd. Cymru, yn ysgolfeistr ym Mhontrhydygroes, ac yn ei dŷ ef, ar gyfyl capel y Wesleaid, y lletyai Humphrey Jones. Parodd pregeth nos Wener flinder meddwl mawr i Ddafydd Morgan, teimlai nad oedd ef ei hun mwy na'r eglwysi nac oer na brwd. Ni allai orffwys y noson honno gan faint y deffro oedd yn ei gydwybod. Wedi hir ymboeni yn ei gartref, y Felin, a'r nos yn cerdded ymhell—ymhell yn y wlad,—am ddeg o'r gloch, teimlodd orfod arno ddychwelyd at y Diwygiwr ac ymgynghori ag ef. Llawenhai calon Humphrey Jones o'i ddyfod, oherwydd buasai'n gweddio a disgwyl o ddechrau'i genhadaeth yng Nghymru am gydweithiwr. Baich yr ymddiddan a fu rhyngddynt ydoedd cenadwri'r bregeth a draddodwyd yn y capel ychydig oriau'n gynt. Cyn ymadael, ebe Dafydd Morgan, "Fyddai hi yn niwed yn y byd i ni geisio deffroi eglwysi'r cylch yma, a chynnal cyfarfodydd gweddiau; 'rwy'n fodlon gwneud fy ngorau; wnawn ni ddim niwed drwy hynny, pe na bai ond dyn yn y cwbl yn y diwedd." Nid oedd Dafydd Morgan hyd yma wedi ei argyhoeddi fod "y peth hwn o Dduw."

"Gwnewch chi hyny," ebe Humphrey Jones, "a mi a'ch sicrhaf chi y bydd Duw gyda chi yn fuan iawn." Codai sicrwydd y Diwygiwr o'i ffydd, a'i brofiad mawr yn America, ac yng Nghymru wedi hynny. Aeth Dafydd Morgan i'w gartref, nid i orffwys a huno fel arfer, eithr i ofidio a gweddio. Dychwelodd drachefn a thrachefn ddydd Sadwrn i ymgynghori â Humphrey Jones, a chymaint oedd gwayw ei enaid fel na allai feddwl am bregethu fore Sul yn ôl y trefniant a oedd iddo. Pregethodd Mr. Jones ar ddymuniad y Methodistiaid, yng nghapel Ysbyty, fore Sul, Hydref 3, ar "Gwae y rhai esmwyth arnynt yn Seion."

Yr oedd Dafydd Morgan yn yr oedfa. Ar derfyn y bregeth, yn y gyfeillach, cwynai Mr. Jones fod yr awyr yn oer a throm, ac na roddasai neb iddo gymorth gymaint ag hyd yn oed Amen. Yna cododd John Jones, Penllyn, ar ei draed a dywedyd nad peth hawdd oedd i neb weiddi Amen a'r weinidogaeth yn ei gondemnio gymaint; wedyn methu a wnaeth, ymdagu a thorri i wylo a syrthio i'w sedd fel gŵr dinerth. O weled gŵr Penllyn, a oedd yn ddyn Duw a'i gadernid moesol yn wybyddus i bawb, yn plygu fel hynny, plygodd y gynulleidfa hithau ac wylo. Plygodd Dafydd Morgan, ac wylodd yntau. Llanwyd y lle â nerthoedd y Diwygiad. Dyma'r bore, Hydref y trydydd, yr eneiniwyd y Parch. Dafydd Morgan, Ysbyty, yn Ddafydd Morgan y Diwyg- iwr. Eithr ni theimlodd ei lanw â'r Ysbryd Glân am ddeuddydd arall. Aeth i orffwys nos Fawrth, Hydref y pumed, a chysgodd hyd bedwar o'r gloch a deffroi i deimlo ei fyned yn ei gwsg drwy ryw gyfnewidiad mawr a dieithr. "Deffroais," ebe fe, "yn cofio pob peth crefyddol a glywais ac a ddysgais erioed. Popeth a ddywedid wrthyf, mi a'i cofiwn." Dywedai Plennydd, "Aeth Dafydd Morgan i'w wely fel dyn arall a chododd yn y bore yn ddiwygiwr." Nid oes faes â llawer mwy o ddiddordeb ynddo i feddylegwr na hanes y dyn rhyfedd hwn.

Pa fath ar ddyn oedd Dafydd Morgan? Ateb parod y difeddwl a'r diwybod ydyw mai dyn cyffredin a phregethwr bach ydoedd. Rhy anodd yw cyfrif am gred gyndyn y Cymry mai arfer Duw hyd yn oed yng Nghymru ydyw defnyddio cyfryngau bach a dinod i wneuthur ei waith, ac yn arbennig, o bydd y gwaith yn un mawr. Y mae'n amheus a fedr Duw wneuthur unrhyw waith moesol mawr drwy eiddilwr; gwyddys na wnaeth felly yn y gorffennol ac na wna hynny yn awr. Eithr cred miloedd yng Nghymru fod yn rhaid iddo greu diwygiadau trwy bersonau dibwys a gwan i'r diben o ddangos ei fawredd ei hun. Dysgir weithiau mai dyna hanes diwygwyr Cymru i gyd; rhai bach bob un ydoedd Howel Harris, Humphrey Jones, Dafydd Morgan, Richard Owen ac Evan Roberts! Pa eglurhâd a roddir ar y cyfeiliornad dybryd hwn a ddysg y gweithia Duw yn anghyson â natur ac yn anheilwng o hono'i hun? Dewis Duw yn ddieithriad y cymhwysaf i greu diwyg- iadau trwyddo, a'r cymhwysaf bob amser yw'r mwyaf. Dysg y sawl a adnabu Dafydd Morgan mai dyn o gorff cydnerth ag wyneb llewaidd ydoedd, ac fel y llew ar ei hamdden, yn dawel a bodlon; dyn na faliai ddim. pa mor gyflym y culiai oriau'r dydd na pha mor fuan y deuai nos. Un araf a hafaidd ac esmwyth arno yn Seion a phobman arall ydoedd Dafydd Morgan, eithr yn nyfnder ei bersonoliaeth yr oedd deunydd gwres ac ynni anarferol: O ran dealltwriaeth a diwylliant a gwybodaeth, ni ragorai Mr. Morgan ar bregethwyr cyffredin ei oes; yr oedd yn rhy amddifad o uchelgais heb sôn am allu, i fod yn bregethwr mawr; ond yr oedd yn bregethwr cymeradwy. O ran ei natur foesol rhagorai ar fwyafrif pregethwyr yr oes. Yr oedd yn y natur honno ddyfnder a golud arbennig, a phan ddisgynnodd iddi dân Duw gwnaed y dyn yn anorchfygol. "Y mae'r moesol yn llywodraeth Duw," ebe'r Doctor Cynddylan Jones, yn uwch na'r deallol; yn Nheyrnas Nefoedd y mae rhinwedd yn rhagori ar wybodaeth. Dilys mai dyma oedd cuddiad cryfder y Diwygiwr ; -meddu ar natur foesol nad oedd ei rhagorach, os ei chystal, yn neb o'i gydoeswyr. Tawel a digyffro ydoedd o flaen y Diwygiad; ond pan ddisgynnodd y tân o'r nef arno, cafodd ynddo gyflawnder o danwydd, a pharhaodd yntau i losgi a fflamio am dair blynedd, nes codi tymheredd ysbrydol Cymru o Gaergybi i Gaerdydd."[29] Yr oedd Dafydd Morgan yn ddyn mawr, ac yn ddigon mawr i wisgo ag urddas fantell Humphrey Jones. Daeth y ddau ddiwygiwr yn gyfeillion tynn; cydgerddent fraich ym mraich i'r moddion ac yn ôl, a threulient eu dyddiau naill ai yng nghwmni ei gilydd neu yn eu hystafelloedd yn gweddio. Dylifai'r bobl o bob cyfeiriad i gyrddau Pontrhydygroes ac Ysbyty Ystwyth, a gorlenwi'r capeli. Pregethai'r cenhadon, ac oni fyddai hwyl ar y pregethu, gweddient a pheri i eraill weddio. Fel yn Niwygiad 1904, casglai Humphrey Jones y dychweledigion newydd at ei gilydd a pheri iddynt weddio y naill ar ol y llall, a throai yntau yn eu plith gan orfoleddu trwy ei amenau mawr a gwefreiddiol, ac ar brydiau codai'r llanw gymaint oni thorrid ar draws pob trefn, a gweddio o bawb gyda'i gilydd. Gwelwyd hefyd yn Niwygiad 1904 ambell un yn gosod y dychweledigion ar eu gliniau yn rhesi o'i flaen ac yntau yn eu harwain mewn gweddi neu ganu gan ysgogi'i gorff i'r dde a'r aswy a phawb o'r dychweledigion yn ysgogi fel yntau. Myn rhai nad oedd namyn dylanwad magnetaidd y dyn yn hyn oll; yr un dylanwad ag a oedd yn ysgydwad bys John Elias. Yn ddiamau, yr oedd peth gwir yn hyn, ac y mae'r peth yn gwbl gyfreithlon, oblegid ceir gorau dyn, pob rhan ohono, yn gystal a gorau Duw, ym mhob Diwygiad mawr. Cynyddu a wnai'r dylanwad yn gyflym a chyson. Llenwid y mynyddoedd â gweddio a mawl. Gadawai'r llafurwr ei orchwyl beunyddiol a chilio i gilfach i orfoleddu; torrai rhywun neu'i gilydd i weddio'n uchel ganol dydd neu'n hwyr y nos ar lechwedd agored a noeth; ymgasglai'r plant a weithiai ar wyneb y gwaith mwyn plwm i addoli mewn gorfoledd, a sefydlai'r mwynwyr gyfarfodydd gweddio tan y ddaear yn y Lefel Fawr a'r Frongoch, a gweithfeydd eraill.

Peth anarferol a gwerthfawr ydyw hanes y ddau Ddiwygiwr yn y tafarndy; praw hwn eu hyfder ysbrydol a nerth y Diwygiad. A'r ddau yn dychwelyd fraich ym mraich o gyfarfod gweddi yn Ysbyty Ystwyth y nos Sadwrn cyntaf yn Nhachwedd, 1858, a rhan o'r gynulleidfa yn eu dilyn, daeth gŵr i'w cyfarfod a dywedyd bod yn y Tymbl le annisgrifiadol ddifrifol, bod y tŷ yn llawn o feddwon yn rhegi ac yn ymladd yn arswydus. Nos Sadwrn y tâl ydoedd, a'r mwynwyr yn ôl eu harfer y pryd hwnnw, wedi gollwng i rysedd nwydwyllt. "Awn i lawr i'r dafarn," ebe Humphrey Jones wrth Ddafydd Morgan. Yr oedd y tŷ yn llawn i'r drws. Ymwthiwyd i mewn i ganol y cynnwrf a'r ymladd. O'u gweled safodd y tafarnwr, fel un wedi ei barlysu, ar ben grisiau'r seler â chwart o gwrw yn ei law. Gofynnodd Humphrey Jones yn foesgar am ganiatâd i weddio yn y tŷ. Cewch, cewch," ebe'r tafarnwr â braw yn ei wedd. Gweddiodd Humphrey â dylanwad anorchfygol ar ran y rhegwyr a'r meddwon, a gweddiodd Dafydd Morgan yntau â'r un dylanwad. Pan godasant o'u gweddio yr oedd y tŷ yn wag, ac eithrio un a oedd yn ddiymadferth gan ei feddwi, a'r tafarnwr yn sefyll o hyd ar ben grisiau'r seler â'r chwart cwrw fyth yn ei law. Oddi yno aed i'r Mason's Arms a chael bod eu harswyd wedi cyrraedd o'u blaen a gwacau'r tŷ. Yn nesaf aed i dafarn Nantyberws a chael yno'r tapiau'n sych a'r yfwyr wedi dianc. Pan alwyd wrth y Star, tafarn Ysbyty Ystwyth, caed y drws tan glo a'r teulu'n huno'n gynnar mewn tawelwch dieithr.

Newidiasai'r Diwygiad o ran un o'i nodweddion ers peth amser. Yn Nhre'rddol, ac wedyn, am yr wythnosau cyntaf, yn Ystumtuen, dwys a distaw ydoedd. "Nid oes yma sŵn. . . y mae yma ryw deimlad dwys a dwfn a distaw nes bod hen bobl yn llefain fel plant,"[30] ebe'r Parch. O. Thomas, pan ysgrifennai hanes y Diwygiad yn Nhalybont, pentref ddwy filltir o Dre'rddol. Dwg y Parch. Josiah Jones yntau dystiolaeth gyffelyb am nodweddion y Diwygiad ym Machynlleth[31] Eithr ym Mhontrhydygroes, ac am beth amser cyn hynny, yn Ystumtuen a Mynydd Bach, daethai'r gorfoleddu gwresog ac uchel a oedd mor amlwg yn Niwygiad Evan Roberts yn 1904, yn amlwg yn Niwygiad Humphrey Jones yntau. Yn dilyn tystiolaeth y Parch. Josiah Jones am nodwedd ddwys a distaw y Diwygiad ym Machynlleth, ceir eiddo Mr. Griffith Thomas, Aberystwyth, am y Diwygiad yno, yn yr un rhifyn o "Y Diwygiwr, Y mae'r Diwygiad wedi newid yn ddiweddar i nodwedd hwyliog a gwresog a thanllyd, torri allan i ddiolch a chanu hwyliog." Dyblid a threblid y canu, ac ar brydiau gweddiai ugeiniau gyda'i gilydd; llefai rhai yn uchel am drugaredd, a gorfoleddai eraill ar

uchaf eu llais am y drugaredd a gawsant. Cynhelid cyfarfodydd ymhell i'r nos, a threuliai cannoedd oriau ar eu ffordd i'w cartrefi, a phawb yn gorfoleddu'n uchel. Peidiasai'r meddwi a'r rhegi a phob rhysedd arall yn ystod pythefnos gyntaf y genhadaeth, ac ni chlywid mwy namyn gweddio a moli ar aelwyd a mynydd. Ym mhentrefi bach Pontrhydygroes ac Ysbyty Ystwyth rhifai'r dychweledigion cyn diwedd Rhagfyr, 1858, tros ddau cant.

Daeth cenhadaeth y ddau Ddiwygiwr ym Mhontrhydygores i'w therfyn yr ail wythnos yn Nhachwedd, ac am y bythefnos nesaf cyd—weithiodd y ddau ym mhentrefi canolbarth Ceredigion. Yr oedd y maes a weithiai'r Diwygwyr yn hen gynefin â dylanwadau mawr ysbrydol, brithir ef hyd yn oed yn awr â llwybrau'r pererinion gynt o bob rhan o'r wlad i Fynachlog Ystrad Fflur. Meddylier am yr enwau hyn,—Pontrhydygroes, Ysbyty Ystwyth, Ysbyty Cynfin, Rhydpererinion a Phontrhydfendigaid. Y mae gwraidd bywyd Ceredigion yn ddwfn yn naear traddodiadau crefyddol. Ymwelodd y Diwygwyr yn gyntaf â Phontrhydfendigaid, ddydd Mercher, Tachwedd 17, a chyneuwyd yno dân y Diwygiad. Dechreuwyd yn Nhregaron nos Lun, Tachwedd 22, yng nghapel y Wesleaid, ac wedyn ynghapel y Methodistiaid Calfinaidd. Cychwynnwyd pethau mawr a rhyfedd yn yr hen dref hon, ac yn ddiweddarach llanwyd hi â gorfoledd dychweledigion. Caed oedfa ryfedd ym Mlaenpennal fore'r dydd Iau dilynol, —"Wylai Humphrey Jones oni fethai a pharhau i bregethu; wylai Dafydd Morgan yntau; wylai pawb ymron. Safai Dafydd Morgan yn y pulpud i geisio pregethu; ond pwy a allai bregethu i gawodydd o ddagrau? Yntau yn edrych ar nerthoedd y tragwyddol Ysbryd a weddnewidiwyd yngwydd y gynulleidfa, ac a floeddiodd fel un yn gweled y nef yn agored, "O, y Sheceina dwyfol." Cafwyd naw o ddychweledigion"[32] Cwsg â delw marwolaeth arno a gaed yng nghymdogaeth Swyddffynnon, Nos Iau, Tachwedd 25, 1858. Arweiniodd Humphrey Jones y cyfarfod, a pheri i'r blaenoriaid weddio, y naill ar ôl y llall, ac yna pregethu oddiar Amos vi. 1; eithr ymhen ychydig funudau methodd arno gan ddiffyg eneiniad, a pharodd i'r un blaenoriaid weddio eilwaith. Nid oedd yno neb ond y blaenoriaid a fedrai ddim ar weddio'n gyhoeddus. Gafaelodd Humphrey Jones yn ei bregeth drachefn, ac yn y fan daeth i'r oedfa ddwyster a nerthoedd y Diwygiad. Pregethodd Mr. Morgan yntau un o'i bregethau mwyaf effeithiol oddiar Hosea vi. 9. Wedi hyn deffrodd Swyddffynnon yn llwyr a gwisgo gwisgoedd ei nerth a'i gogoniant. Oedfa galed a gafodd y Diwygwyr yn Llanafan; methwyd â gwneuthur dim, a throwyd adref yn ddigalon; eithr gwelodd Dafydd Morgan bethau annisgrifiol yno hefyd yn ddiweddarach.

Dyna ddiwedd ar gydweithio'r ddau Ddiwygiwr; ymwahanasant, ac ni wyddys y rheswm paham. Efallai, fel yr awgryma'r Parch. J. J. Morgan yn gynnil, y gwelai Humphrey Jones a weddiodd gymaint am gydweithiwr, fod nerth Dafydd Morgan yn cynyddu a'i nerth yntau'n lleihau, ac i hynny droi'n groes ry drom i'w chario. Eithr tebycach ydyw mai'r prif reswm ydoedd amhariad gieuol a effeithiwyd gan y dreth drom a roddwyd arno am yn agos i dair blynedd. Rhydd ei hanes ymhellach ymlaen esboniad ar lawer o bethau chwithig a wnaeth yn y tymor hwn. Yn ôl at ei enwad ei hun yr aeth Humphrey Jones, yn gyson â'i fwriad gwreiddiol. Treuliodd rai wythnosau yng Nghnwch Coch, a phregethu yng nghapel y Wesleaid a chapel Cynon (M.C.), bob yn ail noson. Bu ei genhadaeth yng Ngnwch Coch mor rymus ac effeithiol ag y bu yn unman o'r cychwyn. Nid oedd adeilad a ddaliai'r cynulleidfaoedd gan eu maint. Er hynny, tynnid y bobl wrth y cannoedd o ddyffryn a mynydd i weled a chlywed y Diwygiwr enwog; ac er bod yn y tywydd iâs gaeaf ar fynyddoedd uchel, ymdroai'r addolwyr ganol nos i gydweddio a chanu ar lwybrau'r defaid i'w cartrefi diarffordd.

VIII.
YR HAUL YN MACHLUD.

Ni bu unwaith gwmwl yn ffurfafen y Diwygiwr, ac ni chaed cloffni yn ei gerdded, am y cyfnod o tua thair blynedd. Cafodd ddydd llawn diwygiwr crefyddol Cymreig a theithiodd yn amlder ei rym. Eithr yn awr ymgasgl y cymylau a chollir y golau am ysbeidiau; daw naws gaeaf i'r hin, ac yn dawel ac esmwyth a diarwybod i'r wlad, tywyllir yr wybren a disgyn y cymylau yn isel, a chollir y Diwygiwr mewn nos hir.

Buasai galw mawr ers tro ar Humphrey Jones i Aberystwyth, a rhoddasai yntau ei fryd ar fyned yno gan ddisgwyl pethau mwy yn y dref nag a gawsai yn unman. Hyd yma llafuriasai mewn mân bentrefi ac ar y mynyddoedd; ond yn y dref yr oedd rhai miloedd o drigolion a chapeli mawrion; eithr prif sail ei ddisgwyl am y pethau mwy ydoedd y ffaith fod y Diwygiad eisoes i fesur da wedi effeithio ar yr eglwysi a channoedd o bechaduriaid wedi eu dychwelyd at grefydd. Ni lwyddodd hyd yn oed tân y Diwygiad i losgi ffiniau enwad, anaml y gwna hynny, a phan gyrhaeddodd Humphrey Jones Aberystwyth erbyn y Sul olaf ond un yn Rhagfyr, 1858, i gapel y Wesleaid, yn Queen Street, yr aeth i wasanaethu. Gweinidogion y Gylchdaith ar y pryd oedd y Parchedigion William Rowlands (Gwilym Llŷn) a Henry Parry. Yr oedd enwogrwydd y Diwygiwr mor fawr oherwydd y pethau annisgrifiol a wnaethpwyd trwyddo, a ffydd pawb ynddo gymaint, fel yr ymddiriedodd Gwilym Llyn drefnu'r gwaith i Humphrey Jones. Newidiodd yntau'i gynllun arferol a threfnodd gynnal cyrddau gweddio yn unig; ym mhob man arall, o gychwyn y Diwygiad, pregethai'n fyr a galw ar flaenoriaid i weddio, eithr yn y dref ni phregethai o gwbl. Ei reol o'r cychwyn ydoedd "pregethu pregethau llym i'r eglwys yn gyntaf; ymdrechu at ddeffroi Seion,. . . . ni bydd fawr lles heb gael Seion o'i chwsg."[33] Dyma'r arwydd amlwg cyntaf o anghysondeb yn y Diwygiwr. Dysgai fod Eglwys Queen Street mewn trymgwsg ac yn anaddas i dderbyn a magu dychweledigion, ac nad oedd fodd i'w deffroi namyn gweddio am dywalltiad mwy o'r Ysbryd Glân; ni thalai pregethu iddi bregethau llym fel y gwnaethai mewn lleoedd eraill. Yr adeg hon, ar fore Sul, cyfarfu ei gefnder, y Parch. John Hughes Griffiths, ag ef ar ben Rhiw Glais, ac ebe ef mewn llais â'i lond o siom, "Wn i ddim beth ddaw o honof yn y dre'. Y maent yn galed iawn."[34] Eithr tystiolaeth y Parch. Henry Parry a oedd ar Gylchdaith Aberystwyth ar y pryd ydoedd," Yr oedd yr eglwys honno cystal ag unrhyw un trwy'r wlad, a llenwid y capel bob nos."[33] Llafuriodd y Diwygiwr yn Aberystwyth am rai misoedd, -chwe mis, ebe ef ei hun; eithr nid oes hanes iddo bregethu unwaith; cynhelid cyrddau gweddio ar y Saboth a phob nos o'r wythnos, a chodai'r gwres ysbrydol yn uchel am yr wythnosau cyntaf. Tystia rhai hynafgwyr a gofia'r Diwygiad ac a deimlodd ei rym mewn mannau eraill na chaed nerthoedd mwy yn unman nag a gafwyd yng nghyrddau gweddi capel Queen Street yn ystod yr wythnosau cyntaf. Crefai ugeiniau'n daer am eu derbyn yn aelodau, eithr gwrthodai'r Diwygiwr hwy am y daliai'n dynn nad oedd yr eglwys yn addas i'w coledd. Bob yn ychydig lleihaodd gwres y cyfarfodydd oni pheidiodd yn llwyr. Derbynnid aelodau newydd wrth y cannoedd yn eglwysi eraill y dref, ond methodd gan hen grefyddwyr eglwys y Wesleaid weddio, a pheidiodd y canu. Dywaid Humphrey Jones ei hun, "Yn Aberystwyth arhosais chwe mis yn cynnal cyfarfodydd diwygiadol, cyfarfodydd gweddi yn fwyaf neilltuol. Dychwelwyd yno yr amser hwnnw at y Methodistiaid Calfinaidd o bump i chwe chant; at y Bedyddwyr tua chant ac ugain; at y Wesleaid, bach a

mawr, Cymraeg a Saesneg, cant ond tri; at yr Annibynwyr, hanner cant; ac at Eglwys Loegr, yn ôl fel yr ysgrifennodd y Ficer Hughes ataf, gant a phymtheg ar hugain."[35] Fe'i cyfyngai ef ei hun i'w lety a'r cyfarfodydd; nid ymwelai, yn ôl ei arfer mewn mannau eraill, â chartrefi'r annychweledig i ymbil â hwy, ac ni phregethai yn yr eglwys. Tystiolaeth unol hen grefyddwyr yn Aberystwyth sy'n cofio'r Diwygiad ydyw, i'r cynllun newydd a dieithr beri niwed mawr i Wesleaeth yn y dref, ac yn enwedig i eglwys Queen Street.

Ysgrifennodd y Parch. William Rowlands (Gwilym Llŷn), Ebrill 7, 1859,[36] fod rhif aelodau Cylchdaith Aberystwyth yn 1308, yn cynnwys cynnydd o 655 trwy genhadaeth Humphrey Jones. Dyma gynnydd un enwad, mewn cylch bach, yn ystod wyth mis. Dyn manwl a chrintachlyd, cynnil a chas ei eiriau, oedd Gwilym Llŷn, ac nid oedd berygl iddo roddi ar ddim bris uwch na'i werth. Eithr credai fod Humphrey Jones a'r Diwygiad o Dduw. Wrth sôn am nodweddion anarferol y cyfarfodydd dywaid, "Y mae gweled pethau felly yn well na'r marweidd—dra disymud a oedd yn teyrnasu dros ein gwersylloedd y blynyddoedd diweddaf Beth a feddyliwch am bethau fel yma,—onid ydynt yn nodweddion boddhaol?"[37]

Y mae'n amlwg oddi wrth lythyr calonnog Gwilym Llŷn nad oedd yn nechrau Ebrill braw eglur o drai yn nylanwad y Diwygiwr; priodolid y diffyg llwyddiant yn eglwys Queen Street i'r cynllun o weithio yn bennaf. Eithr yn gynnar ym Mehefin, 1859, cafodd y sawl a gymdeithasai fwyaf â Humphrey Jones resymau tros amau cydbwysedd ei feddwl; nid oedd fel cynt. Llethid ef gan bryder ac ofnau ar brydiau, ac yn raddol aeth i'w ysbryd brudd-der trwm; ond ar adegau eraill ymwrolai ac ymlonnai, a chyhoeddai fod y wawr ar dorri, ac y ceid yn fuan ddydd yng Nghymru na welwyd erioed ei gyffelyb. Honnai y derbyniai'n gyson ddatguddiadau oddi wrth Dduw, nid yn unig ynglŷn â bywyd Cymru, ond ynglŷn â bywyd Prydain a gwledydd y Cyfandir hefyd. Yn raddol aeth i gredu ei fod yn broffwyd, a chyhoeddai bethau a ymddengys i ni o'r pellter yn anhygoel; eithr credai miloedd yn ei allu proffwydol oherwydd y gweithredoedd nerthol a wnaethai Duw trwyddo yn ystod y tair blynedd blaenorol yn America a Chymru. Rywbryd ym Mehefin cyhoeddodd fod nos foesol y ddaear yn dyfod i'w therfyn ac y gwelid yr Ysbryd Glân yn disgyn am un ar ddeg o'r gloch ar fore dydd arbennig a enwai, ac ar yr awr honno y dechreuai'r Mil Blynyddoedd. Credai pawb o'r werin ei dystiolaeth, a thynnodd cannoedd o bobl y wlad yn fore i'r dref. Gwibient drwy'r heolydd ac ar draws ei gilydd â braw, fel braw byd a ddaw, yn eu hysbryd a'u gwedd. Llanwyd capel Queen Street â thyrfa fawr a oedd tan ofn a'u llethai yn disgwyl y weledigaeth wyrthiol. Yr oedd Humphrey Jones â'i ffydd yn ei broffwydoliaeth yn ddisigi, ar ei liniau yn y sedd fawr yn disgwyl yr awr anfeidrol ei golud," ac ar drawiad un ar ddeg llefodd a'i ddwylo i fyny, "Mae E'n dyfod! Mae E'n dyfod!" Daeth yr awr, eithr ni ddaeth y wyrth. Torrodd y Diwygiwr ei galon ac wylodd yn chwerw ac uchel. Ciliodd i'w lety a'r nos, ac ni welwyd ef yn hir, hir, wedyn. Ni ddaeth iddo ddydd llawn byth mwy. A'i ffydd yn gref yn Humphrey Jones fel gŵr Duw wedi ei anfon i wneuthur gorchestion ysbrydol, ni fynnai Gwilym Llŷn gredu bod dydd y Diwygiwr ar ben, ac ni fynnai'r Diwygiwr yntau hynny. Eithr nid oedd fodd i'w gael o'i neilltuaeth i'r cyhoedd oherwydd y credai fod yn rhaid iddo aros hyd amser neilltuol Duw.

IX.
LLYTHYRAU'R DIWYGIWR.[38]

Defnyddiwyd pob rheswm a dyfais gyfreithlon i gael y Diwygiwr at ei waith eilwaith, ond nid i ddim pwrpas. Ysgrifennodd Gwilym Llŷn at y diweddar Mr. D. Delta Davies, Aberdâr, ar y pryd, a oedd yn gyfaill mawr i Humphrey Jones i geisio ganddo ddarbwyllo'r Diwygiwr i adael ei lety ac ymafael yn ei waith drachefn. Oherwydd prinder amser methodd gan Mr. Davies ymweled ag Aberystwyth, ond bu'r ddau'n gohebu â'i gilydd yn hir, a dengys rhai o lythyrau'r Diwygiwr gyflwr ei feddwl yn nhir neilltuaeth.

Ysgrifennwyd y cyntaf o'r llythyrau ym Mehefin, 1859, a'r olaf ym Mehefin, 1860. Rhoddir hwynt yn y bennod hon yn gyflawn, air am air, fel yr aethant o law Humphrey Jones.

Aberystwyth.
Mehefin 29, '59.

Anwyl Frawd,

Derbyniais lythyr oddiwrthych ers rhai misoedd yn ôl, ac yr oeddwn yn meddwl ei ateb yn uniongyrchol; ond digwyddodd i mi ei golli yn yr adeg hono, felly ni wyddwn mo'ch cyfeiriad; ond ddoe fel yr oeddwn yn ymddiddan ag un o'r cyfeillion am danoch, dywedodd wrthyf fel secrat, fod eich Direction gyda Miss Jane Rowlands, a thrwy hyny mi a'i cefais.

Derbyniais lythyr oddiwrthych ers rhai misoedd yn ôl, ac yr oeddwn yn meddwl ei ateb yn uniongyrchol; ond digwyddodd i mi ei golli yn yr adeg hono, felly ni wyddwn mo'ch cyfeiriad; ond ddoe fel yr oeddwn yn ymddiddan ag un o'r cyfeillion am danoch, dywedodd wrthyf fel secrat, fod eich Direction gyda Miss Jane Rowlands, a thrwy hyny mi a'i cefais.

Ond i ddychwelyd at y pwnc. Y mae fy mhrofiad i yn berffaith yr un fath a'ch profiad chwithau. Y mae treio gosod allan fy mhrofiad yn amhosibl. Nid oes iaith mewn bod a fedr osod allan fy nhrallodion am chwe mis. Bum bron a marw ugeiniau o weithiau, a buasai yn dda gennyf gael marw yn yr adegau hyn. Yr oedd meddwl am bob peth yn rhwygo fy nghalon; yr oedd y pethau melusaf yn chwerwach nag angau. Yr oedd adgofio am fy llwyddiant blaenorol yn fy llethu yn lân; ond rhwng yr adegau chwerw yna byddwn yn teimlo yn galonog a dedwydd, ond eto yn analluog i wneud dim byd. Ceisio gweddio, ond yn methu gwneud dim byd o honi. Ceisio cyngori, ond yn gorfod eistedd i lawr. Ond er Sabboth tair wythnos i'r diweddaf y mae cyfnewidiad aruthrol wedi cymeryd lle yn mhawb o honom. Cyn hyny yr oedd ein cyrff yn darfod bron i'r dim gan drallod ein meddwl. Yr oeddym wedi myned mor nervous fel yr oedd y swn lleiaf yn ein dychrynu. Yr oeddwn i wedi mynd yn neilltuol o wan; yr oeddwn wedi colli fy stomach bron yn hollol. Ond er y pryd hwnw y mae fy nghorff yn cryfhau, ac yr wyf yn mynd yn fwy stout yn barhaus. Nid wyf yn fwy galluog i wneud dim yn awr nag oeddwn o'r blaen. Y mae fy nhafod yr un mor gloedig, y mae fy nghof llawn mor ddrwg: y mae holl alluoedd fy meddwl yr un mor bŵl a thywyll. Yr wyf fel ac yr wyf yn bresennol yn berffaith annefnyddiol a diles i bawb.

Ond bendigedig fyddo yr Arglwydd, y mae genyf sicrwydd yn fy mynwes y deuaf allan cyn bo hir. Yr wyf yn gwybod pan y deuaf y byddaf gan mil o raddau yn fwy defnyddiol nac erioed. Ni fuodd yr un gradd o amheuaeth yn fy meddwl o'r fynyd gyntaf y methais bregethu hyd y fynyd bresenol na ofale yr Arglwydd i'm cael i allan yn ogoneddus yn y pen draw. Dyna yr unig beth oedd yn fy nal i fyny rhag myned i anobaith. Y mae yr eglwys hon bron i gyd wedi myned yr un fath a mi, ond fy mod i wedi myned yn ddyfnach. Y mae Jane Rowlands wedi myned iddi ym mhell iawn, yn mhellach nag y mae hi yn feddwl. Y mae argraff ar fy meddwl er amser maith y byddwch chwi yn cael eich gollwng yn rhydd yr un pryd ar eglwys hon a minau. Byddwch gystal ag anfon atebiad i'r llythyr hwn, a charwn gael gwybod state eich meddwl y dyddiau hyn, ac yn fy llythyr nesaf mi anfonaf esboniad ar y cyfan. Y mae yr Arglwydd yn ddiweddar wedi egluro y cyfan i mi, fel yr wyf yn deall natur yr oruchwyliaeth ryfedd a doeth hon.

Hyn yn fyr oddiwrth eich cywir frawd,

Humphrey Jones.

Aberystwyth,
Gorff. 19, '59.

Anwyl Frawd,

Derbyniais eich llythyr ac yr oedd yn llawenydd neillduol genyf glywed oddiwrthych a gweled yn eich llythyr hwn eto fod eich profiad yn cyd-daro yn hollol a'm profiad i a'r cyfeillion. Darllenais eich llythyr i rai o'r brodyr, ac yr oeddynt yn credu fod rhywun wedi anfon ein hanes ni i chwi neu eich bod chwi yna yn yr un oruchwyliaeth ryfedd a ninau. Gyda golwg ar y dideimladrwydd, syrthni, a'r cysgadrwydd sydd wedi eich dal, felly y mae wedi ein dal ninau, fel y mae amryw o'r cyfeillion yn credu eu bod wedi myned yn waeth yn lle myned yn well. Y mae holl ddyledswyddau dirgelaidd a chyhoeddus crefydd wedi myned yn ddiflas ac yn faich. Beth a all fod yr achos o hyn sydd yn dywyll i lawer. Y mae rhai yn credu fel y chwithau ein bod ni wedi disgwyl gormod wrth yr Arglwydd a thrwy hyny dristau y dylanwadau a cholli "amser ein hymweliad." Ond y mae eraill y rhai sydd yn deall natur y Diwygiad yn gwybod yn amgenach. Y mae rhai yn meddwl fod y Diwygiad ar ben ac nad oes dim i ddisgwyl yn y tymor hwn, ac y mae eraill yn credu nad yw y Diwygiad ddim ond dechrau, fod y pethau goraf a mwyaf gogoneddus yn ol. Gyda golwg ar ddisgwyl gormod wrth yr Arglwydd, 'dall hyny ddim bod, oblegid fe weithiodd pawb o honom nes darfu i ni fethu yn hollol. Nid oes yma un blaenor a gweddiwr cyhoeddus na ddarfu iddynt fethu "lawer gwaith, ond ers ychydig fisoedd yn ol fe gyfnewidiodd yr Oruchwyliaeth, fel y maent yn gallu symud yn mlaen yn weddol, a gweddol yw hi hefyd, oblegid nid oes dim dylanwad mewn dim. Yr oedd llawer mwy o ddylanwad pan yn methu ar haner eu gweddiau, nac sydd yn awr. Wel, meddwch chwi, y mae y Diwygiad ar ben. Nag ydyw, nag ydyw, y mae y Diwygiad neu yr Oruchwyliaeth yn myned yn mlaen ac yn dyfnhau o hyd, nid yw hi ddim byd ond ei bod hi wedi cyfnewid fel y mae hi wedi myned yn fwy sych, digysur a dryslyd. Y mae yr Arglwydd wedi atal y dylanwadau cysurol ac effeithiol fel y mae yr Oruchwyliaeth yn awr yn myned ymlaen drwy chwerwdod, sychder a siomedigaethau. Ond ni a adawn y cyfan gan y cewch chwi esboniad ar bob peth yn fuan. Gyda golwg ar y sobrwydd mawr, neu yr arswyd, sydd yn eich dal, felly y mae ef yn ein dal ninau, yn neillduol y nos o ddeg o'r gloch hyd ddau o'r gloch y boreu. Y mae pob peth yn dweud ein bod ni yn yr un Oruchwyliaeth. Yr oeddych hefyd yn crybwyll eich bod chwi yn ofni na chewch chwi ddim bod o wasanaeth i'r Arglwydd ddim rhagor, felly y bum inau yn ofni ar lawer adeg, ac yn gweled fy hun yn hollol anfuddiol; ond yn awr yr wyf yn gwybod y byddaf fi ddeg mil mwy o wasanaeth i'r Arglwydd nac y bum erioed, yr wyf yn sicr y dychwelir cant am bob un a ddychwelwyd o'r blaen, a chan wired ac y caf fi fod fe gewch chwithau fod, oblegid yr ydym yn yr un tywydd a threualon. Nid yw eich bod chwi yn credu na chewch chwi ddim bod o wasanaeth i'r Arglwydd yn rhagor ddim ond gwaith y gelyn i gyd; mi dybiwch eich bod chwi wedi tristau ei Ysbryd sanctaidd a mygu ei ddylanwadau. A ydych chwi yn meddwl fod eich Tad nefol am eich taflu megys peth ysgymunedig am weddill eich oes, oblegid anufudd-dod ychydig fisoedd ? A ydych chwi yn meddwl na wnai yr Arglwydd faddeu i chwi ar eich edifeirwch? Na, y mae y peth yn hollol afresymol ac anysgrythyrol. Onid yw yr Arglwydd yn mhob oes o'r byd wedi gwneud y Rakes penaf yn y byd yn ddefnyddiol drosto, ai tybed na faddeu ef i'w blant os byddant wedi colli eu lle gan ei fod yn codi gelynion i'r fath anrhydedd? Nid yw yr Arglwydd ddim yn edrych ar ymddygiad blaenorol neb, ond yn cymeradwyo neu yn anghymeradwyo pawb wrth fel y maent yn bresenol. Yr achos fod y gelyn yn eich perswadio i gredu hyn yw eich bod yn cael y fath olwg gyffrous ar eich gwendid a'ch anheilyngdod mawr. Gwn i am bedwar o bregethwyr heblaw y chwi a finau wedi myned i'r un oruchwyliaeth a ni, ac y mae y rhai hyny ar lawer adeg yn credu na fyddant o ddim defnydd i eraill yn y dyfodol.

Gyda golwg ar fy nyfodiad yna i roddi tro, ni chym- erwn i lawer am adael yr eglwys hon yn yr agwedd y mae hi yn bresenol. Y mae y cyfarfodydd diwygiadol yn parhau yma o hyd, ac yr ydym yn benderfynol o ddal ati nes y daw y Diwygiad. Er mai caled a sychlyd yw y moddion, eto yr ydym am ddal ati goreu y gallwn gan gredu y gwrendy yr Arglwydd ein holl weddiau. Yr wyf yn dal i gryfhau o hyd ac mewn disgwyliad cryf fod fy ngollyngdod yn ymyl. Nid yw galluoedd fy meddwl yn ddim gwell, ac nid wyf yn disgwyl iddynt fod hyd nes tywalltith yr Arglwydd ei Ysbryd arnom. Yr wyf yn gwybod mai ar unwaith y goleuir fy meddwl, a phawb ohonom. Y mae fy meddwl ar ambell i fynyd pan fydd y dylanwad yn disgyn arnaf fel lamp yn oleuni i gyd, ond tywyllwch a gwendid sydd yn canlyn wedyn. Yr wyf weithiau yn hynod o galonog ond yn amlach yn ddigalon a llesg.

Megys yr wyf wedi addaw rhoddi esboniad i chwi ar yr Oruchwyliaeth ryfedd, doeth a dyrus hon, felly mi wnaf y goreu gallaf. Cofiwch nad wyf fi ddim am roddi rhesymau dros y naill beth na'r llall, ond eich hysbysu fel brawd o'r hyn y mae yr Arglwydd wedi hysbysu i mi ugeiniau o weithiau. Yr wyf yn deall natur yr Oruchwyliaeth gystal ag yr wyf yn deall mai dau lygad sydd yn fy meddiant. Nid yw yr Oruchwyliaeth ddim mwy na dim llai na chyflawniad llythrenol o'r geiriau hyny yn Rhufeiniaid 9, 28. Neu mewn geiriau eraill yr Ysbryd barn a llosgfa" hwnw sydd i ddisgyn ar y byd fel rhagbaratoad at ddyfodiad y Milflwyddiant.

Yr wyf yn gwybod gystal ag y gwn i mai dyn wyf fi fod gwawr y Milflwyddiant i dori ar y byd mor fuan ac y tyr y Diwygiad sydd yn yr eglwys hon allan; yr Wyf yn gwybod hefyd yr achubir pob enaid yn Nghymru a Lloegr,a chan mwyaf o'r America ac Awstralia, mewn haner blwyddyn wedi i'r wawr dori yma. Yr wyf yn gwybod fod y geiriau hyny i gael eu cyflawni i berffeithrwydd, yn nghorff y flwyddyn hon, h.y. cyn Gorffennaf blwyddyn i nawr,-"A bydd yn y dyddiau diweddaf y tywalltaf fy Ysbryd ar bob cnawd."

Pe bawn i ddim ond nodi y profion dirgelaidd y mae yr Arglwydd wedi roi i mi y mis hwn yn neillduol fe gredech chwithau yn y fan, ond gadawaf bob peth yn bresenol fel y maent. Y mae yn debig eich bod chwi wedi clywed fod yna ychydig ddryswch wedi bod yn yr eglwys, ond y mae pob peth wedi ei gladdu a phawb yn disgwyl am Ddiwygiad.

Ysgrifenwch mor fuan ac y cewch ddim cyfle. Hyn. yn fyr ac aniben oddiwrth eich anwyl frawd,

Humphrey Jones.

Praw y llythyr uchod mai dirywio'n raddol a wnai Mr. Jones o ran cyflwr ei feddwl, a dengys hefyd mor anodd ydyw esbonio dyn yn ei gyflwr presennol ef. Yn ei eglurhad ar anawsterau Mr. Delta Davies, amlyga wybodaeth ysgrythurol helaeth a chywir, a rhydd iddo gyfarwyddiadau rhesymol ac addas. Eithr daw amhwylledd yn amlwg yn hysbysiadau pendant a phroffwydoliaethau ei esboniad ar yr "Oruchwyliaeth ryfedd, doeth a dyrus."

49, Terrace, Aberystwyth.
Medi 16, '59.

Anwyl Frawd,

Yr oeddwn i wedi rhoddi i fyny ddisgwyl am atebiad oddiwrthych os cryn amser, ond er fy syndod a'm gorfoledd dyma lythyr yn dyfod yn ddisymwth oddi wrthych. Nis gallwn wybod beth allai fod yn achos na ysgrifenech; ond pan ddarllenais eich llythyr cefais fy llwyr fodloni ar unwaith.

Yr ydych yn son yn eich llythyr eich bod chwi ar droiau yn neillduol o nervous a thrwy hyny a phethau eraill yn hynod o ofidus a thruenus. Anwyl Frawd, y mae yn hawdd genyf eich credu, oblegid yr wyf fi ac ugeiniau o'r cyfeillion yn gwybod am hyny drwy brofiad. O! mor aml y byddaf yn barod i ofyn, A oes y fath ofid a'm gofid i yr hwn a wnaethpwyd i mi"; ond eto byddaf ar ryw adegau yn teimlo yn bur foddlawn a dedwydd, ac yn gallu diolch am y chwerw fel y melus. Gyda golwg ar y weledigaeth echryslawn y buoch ynddi, y mae hyny yn beth cyffredin iawn yn ein plith ni yma. Y mae rhai o'r brodyr duwiolaf sydd yma wedi bod mewn gweledigaethau dychrynllyd iawn nes y byddai eu natur bron ac ymollwng oddiwrth ei gilydd nes neidio o'u gwelai fel gwallgofiaid, a gwaeddi fel pe baent ar drancedigaeth; pryd arall mewn gweledigaethau nefolaidd iawn nes y byddent yn llesmeirio yn lân. Darllenais yn y papyr yr wythnos hon eu bod nhw felly yn yr Iwerddon yn gyffredin iawn y wythnosau hyn. Pan glywais i gyntaf am y Diwygiad rhyfedd hwnw darfu i mi wybod ar unwaith ei fod ef o'r un Natur a'r Diwygiad hwn.

Yr ydych yn son eich bod chwi yn ofni ac yn crynu bron i eithafion wrth feddwl gweddio yn gyhoeddus, felly y maent yma, gwelais i amryw o'r brodyr yma yn ymyl llewygu lawer gwaith,ac weithiau yn llewygu hefyd. Yr wyf yn crybwyll y pethau yma er mwyn i chwi weled fod eraill yr un fath a chwi, oblegid does dim yn gweini mwy o gysur i'r meddwl trallodus na gweled eraill yn yr un tywydd. Anwyl Frawd, gallwch fod yn sicr fod yma ugeiniau yn barod i gydymdeimlo â chwi i'r byw, ac yn barod i roddi pob braich o gymorth pe bai modd; ond y mae eich profiad chwerw y fath nad oes neb a fedr weini ail i ddim o gysur i chwi. Rhyw gwpan tebyg i eiddo y Gwaredwr yw ef nad all neb arall yfed dim ohono; ac nad oes dim i ni ein hunain ei ebgor ef. O! am nerth i ddweud fel y dywedodd yntau, Y cwpan a roddes y Tad i mi, onid yfaf ef." Buaswn yn caru yn fawr cael eich gweled, ond yr wyf wedi gwneud fy meddwl i fyny nad af fi ddim o'r dref yma nes daw y Diwygiad; os byddwch chwi eisiau cael eglurhad ar rywbeth anfonwch faint y fynoch chwi o gwestiynau, mi dreiaf ateb pob peth a wn i. Y mae pethau yn dal yn hynod o fflat yma o hyd, ac felly y byddant hyd nes daw ein Gwaredigaeth fawr.

Yr wyf yn dal i gryfhau o hyd, ond y mae galluoedd fy meddwl yn para bron yr un fath, ac felly y byddant hyd nes y daw y cyfnod disgwyliedig. Hyn yn fyr oddiwrth eich anwyl Frawd Humpy. Jones.

O.N.-Y mae Mr. Rowlands[39] yn bwriadu, yr wyf yn deall, dyfod i lawr i Merthyr. Y mae yn debig na fedr- wch chwi ddim arllwys eich meddwl iddo ef, oblegid nid yw ef ddim yn deall Natur y Diwygiad hwn er ei fod ef wedi myned iddo i raddau pell. Yr wyf fi yn meddwl. mwy ohono yn bresenol na'r un gweinidog o fewn y sir.

49, Terrace,
Aberystwyth.
Hyd. 25, 1859.

Anwyl Frawd,

Derbyniais eich dau lythyr yn brydlawn, ac wele fi yn ateb y diweddaf yn ebrwydd. Bum yn meddwl. ateb y cyntaf dechreu wythnos diweddaf, ond rhywfodd mi oedais hyd yn hyn. Gyda golwg ar y cyngorion a'r addysgiadau a roddais i chwi, ni raid i chwi grybwyll am danynt, buaswn yn gwneuthur deng mil mwy na hyny i chwi pe bai achos. Gyda golwg ar fy nyfodiad yna y mae y peth yn amhosibl yn bresenol, pe bai y cyfeillion yma yn foddlawn i mi ddod, ni chymerwn i lawer a chychwyn, oblegid yr wyf yn rhi nervous ac ofnus i fyned i un man fel ag yr wyf yn bresenol. Rhaid i mi ddyfod o'r caethiwed hwn cyn y byddaf o ddim defnydd i neb, pe buaswn yn alluog i wneuthur rhywbeth gallaswn wneuthur yma yn rhwyddach nag un man arall, oblegid y mae yr eglwys hon bron yn ddieithriad yn yr un cyflwr a minau.

Yr wyf yn teimlo yn ddiolchgar i chwi am eich gwahoddiad taer; ond trwy fy mod i yn adnabod fy ngwendid fy hun yn well na neb arall, felly rhaid i mi fod yn dawel ac amyneddgar am ychydig amser eto.

Y mae yn hawdd gennyf gredu eich bod chwi yn teimlo yn hynod o ofnus a chrynedig wrth feddwl preg- ethu y Sabboth diweddaf, ond y mae genyf un newydd da, ie da iawn o lawenydd mawr, i chwi a minau, sef y cawn ni hollol waredigaeth oddiwrth y cryndod a'r caethiwed poenus yma pan waredir ni o'r sefyllfa hon. Ni fydd gwynebau dynion yn effeithio dim mwy arnom ni nag ar y graig gallestr; oblegid yr wyf yn sicr os misoedd bellach mai yn perthyn i'r Oruchwyliaeth chwerw a doeth hon y mae y cryndod a'r gwendid hwn ; a phan ddown ni allan ohoni y gwnaiff yr Arglwydd ni (er mai prif Jacob ydym yn bresenol) yn fen-ddyrnu newydd ddaneddog; ac y dywed ef wrthym er mor anheilwng a gwan ydym, "Y mynyddoedd a ddyrni ac a feli, gosodi hefyd y brynian fel mwlwg."

Yn awr terfynaf gan ddweud gair neu ddau yn gyfrinachol, a byddwch cystal a chadw y cyfan hyd nes y cymer y peth le. (1). Y mae adeg amser ein gwaredigaeth bron a gwawrio. Nid oes ond ychydig o wythnosau eto. Y mae llygaid ugeiniau o honom ar yr un adeg. (2.) Y mae yr arwyddion sydd i flaenori toriad y wawr, wedi ymaflyd yn y rhan fwyaf o honom er y wythnos diweddaf. Cewch wybodaeth fanylach yn y llythyr nesaf.

Dywedwch wrth Mr. Jenkins fod y Darlun yn fy meddiant, ond ei fod ef gartref yn fy mox o dan glo ac ni fum yno er pan anfonasoch ataf yn ei gylch.

Carwn i chwi ofyn mwy o gwestiynau, oblegid yr wyf yn sicr nag ydych chwi ddim yn fwy isel a digalon nag wyf finau ar droion. Yr oedd gweled hanes ffoedigaeth y Pab yn llawenydd genyf, ond fe fydd deng myrdd mwy o gyffro na fuodd ym mhen ychydig wythnosau neu fisoedd.

Hyn yn fyr oddiwrth eich cywir frawd,

Humphy. R. Jones.[40].

X.
LLYTHYRAU'R DIWYGIWR.

49, Terrace.
Tachwedd 29, 1859.

Anwyl Frawd.

Yr wyf yn deall oddiwrth eich llythyrau eich bod chwi a minau wedi eich gweithio i iselder a digalondid neillduol, ond nid oes dim i wneud, dyna fel y mae pawb sydd wedi mynd i'r Oruchwyliaeth hon. Y maent yn meddwl pawb arall yn well na nhw eu hunain. Yr ydych chwi yn ei hystyried hi yn fraint i gael gohebu a mi, felly yr wyf finau à chwithau. Yr achos fy mod i yn ysgrifenu atoch mor fuan y waith hon yw eich bod chwi wedi addaw rhoddi help ariannol i mi. Nid wyf wedi dweud wrth neb fy mod i mewn taro. Y mae fy arian wedi dal hyd yn hyn, ond yr wythnos hon yr oeddwn yn dechreu gofidio beth a wnawn i. Y mae gen i arian allan yn fenthyg, ond yr wyf yn gwybod eu bod nhw mewn mwy o angen o honynt na fi eto, ac os caf fi fenthyg rhyw swm gyda chwi ni wnaf ymyraeth dim yn eu cylch yn bresenol. Carwn yn neillduol gael menthyg £15, mwy neu lai, fel y maent wrth law. Anfonwch nhw mor fuan ac y bydd yn gyfleus.

Gyda golwg ar y ddau ofyniad ydych wedi ofyn i mi, y mae braidd yn anhawdd i mi ateb y cyntaf yn bresenol, ond am yr ail, y mae yn ddigon hawdd. Y modd ydwyf fi yn treulio fy amser y misoedd hyn ydyw, mewn darllen a gweddio, a hyny er mwyn lles personol yn unig, fy hiraeth parhaus yw am i'r Arglwydd fy nghymwyso erbyn y cyfnod dedwydd sydd yn ymyl; y llyfrau ydwyf fi yn ddarllen ydyw hanes bywydau yr enwogion sydd wedi bod yn y byd, sef, Wesley, Fletcher, Bramwell, Carvosso, Lady Huntington, Lady Mascwell a Mrs. Rogers, a'r Bibl yn neillduol.

Byddaf yn cael gwaith mawr a mwy na gwaith yn aml i ddarllen na gweddio gan y pryder a'r trallod mawr fydd arnaf. Y mae sychder a chaledwch neillduol yn nglŷn â fi ar droion, ac y mae hyny yn peri gofid neill- duol i mi.

Y mae pawb o honom y dyddiau hyn yn meddwl fod ein gwaredigaeth yn ymyl, nid oeddwn i ddim yn dis- gwyl dim byd neilltuol os pedwar mis yn awr, ond yn bresenol y mae sylw pawb o honom at y cyfnod sydd yn ymyl. Yr ydym fel yn disgwyl bob Sabboth yn awr. Byddaf yn gwneud fy ngoraf i ysgwyd pob disgwyl- iad i ffwrdd, ond y mae ef yn dyfod o fy ngwaethaf. Y mae yn rhaid i'n gwaredigaeth ddod yn fuan oblegid y mae rhan fwyaf o'r brodyr wedi myned bron yn rhi nervous a gwan i fyned yn mlaen gyda'u goruchwylion. Y mae y fath shyness a chaethiwed yn eu meddianu wrth gymdeithasu â dynion fel y maent bron a methu myned. yn mlaen gyda'u galwedigaethau.

Rhaid i mi derfynu.
Hyn yn fyr oddiwrth eich cywir frawd,
Hump. R. Jones.
49, Marine Terrace,
Aberystwyth.
Rhag. 7, '59.

Anwyl Frawd.

Derbyniais eich llythyr a rhag ofn eich bod mewn gofid yn nghylch y cais a anfonais atoch, wele fi yn ei ateb yn ebrwydd.

Yr ydwyf yn teimlo yn hynod o ddiolchgar i chwi am eich cynyg têg, ond diolch, nid oes arnaf eisieu dim am ryw yspaid o amser eto.

Digwyddodd i gyfaill ddyfod i roddi tro am danaf ddoe, ac wrth feddwl fy mod i os cymaint o amser heb gael dim o un man rhoddodd ychydig bynnoedd i mi. Y mae yn debyg mai yr Arglwydd a roddodd yn ei galon; bendigedig fyddo ei enw.

Nid wyf fi ddim yn meddwl y bydd eisieu dim arnaf rhagor cyn y daw y Deffroad mawr. Yr amser yr ydym ni yn ddisgwyl i'r wawr dori ydyw mis Ionawr nesaf. At y mis hwnw y mae llygaid pawb o honom.

Yr oeddych yn son yn eich llythyr y byddai yn well i mi dreio pregethu. Rhaid i mi eich hysbysu frawd, na fedraf fi ddim cymmaint a darllen adnod a gweddio dwsin o eiriau yn gyhoeddus. Y mae caethiwed ac atalfa yn myned arnaf ar unwaith. Yr wyf yn myned yn waeth o hyd, er fod fy nghorff yn cryfhau y mae fy meddwl a'm lleferydd yn myned yn gaethach yn barhaus. Oni bai fy mod i yn deall y dirgelwch a'r dryswch hwn, byddwn wedi myned i an- obaith a digalondid gormodol; ond trwy fod yr Ar- glwydd yn cadw fy meddwl yn oleu berffaith ar y pwynt yma yr wyf yn teimlo yn hynod o galonog wrth edrych yn mlaen.

Nid oes genyf ddim byd neillduol i'ch hysbysu.

Yr eiddoch ar frys,

Hump. R. Jones.

O.Y.-Y mae yn orfoledd genyf eich hysbysu fy mod i yn teimlo yn hynod o ddedwydd a chalonog y dyddiau hyn. Yr wyf wedi dyfod i wybod am amryw bregeth- wyr yn ddiweddar y rhai sydd yr un fath a mi, wedi methu ; ond pe na byddai neb drwy yr holl fyd ond y fi yn unig yn y cyflwr hwn, yr wyf mor sicr fy mod i ar ganol y ffordd â bod Duw yn Bod.

49, Terrace,
Aberystwyth.
Ebrill 4, '60.

Anwylaf Frawd,

Daeth eich llythyr i law yn brydlawn, ac wele fi yn ei ateb yn ol eich dymuniad gyda brys. Yr oeddwn wedi hir ddisgwyl am lythyr oddiwrthych; ac yr oeddwn yn barnu yn y modd mwyaf brawdol yn nghylch y gohiriad, a phan ddaeth eich llythyr i law gwelais fod fy marn yn gywir. Gyda golwg ar eich anhwylder corfforol y mae ef yn beth cyffredin iawn yn y dref hon. Yr achos o'r poen dirfawr yna yn eich pen ydyw gwendid eich nerves. Gwn i am laweroedd sydd wedi bod yn ddiweddar bron a drysu gan gur dirfawr yn eu penau. Nid oes yma odid neb yn y dref nad ydynt yn cael eu blino a hyny yn aml gan yr anhwyldeb yna. Siaradwch chwi â phwy a fynoch yr un yw eu cwyn. Y mae yn hawdd genyf eich credu fod ysgrifenu ataf fi neu ryw un arall yn faich trwm ar eich meddwl. Y mae pethau bach cyffelyb i hynyna yn feichiau trymion. iawn ar fy meddwl inau.

Gyda golwg eich bod yn teimlo yn sych, galed, a diafael, wrth weddio, yr wyf finau felly, a phob un a siaradwyf ag ef. Yr wyf os misoedd yn awr yn methu a gweddio i ddim pwrpas. Y mae pob gair yn sych fel pe bawn yn curo yr awyr. Nid yn unig y mae rhai yn cwyno hynyna, ond dyna gwyn pawb a wnelwyf ac y siaradwyf â nhw. Y maent yn methu a dirnad beth yw y mater. Y mae gweddio yn ddirgelaidd neu gyhoeddus yn faich trwm, ic, trwm iawn arnynt. Y rhai sydd wedi bod yn fwyaf nodedig gyda'r Diwygiad yw y rhai sydd yn cwyno fwyaf. Y mae hyna yn eu gofidio nhw ar droion nes y maent bron a myned i anobaith a digalondid perffaith. Beth all y digalondid yr anesmwythder a'r gofid mawr, ie, anrhaethol fawr hwn, fod? Nid yw ef ddim byd ond Rhagredegydd a Rhagbaratoad chwerw i'r Cyfnod Gogoneddus sydd wrth y drws, ac y mae ef yn cael ei nodi gan Daniel ac Ioan mor oleu a'r haul." Yna y bydd amser blinder y cyfryw ni bu er pan yw cenedl hyd yr amser hwnw." Dan. i. 2. "Ac yr oedd lleisiau, a tharanau a mellt; ac yr oedd daear- gryn mawr, y fath ni bu ar pan yw dynion ar y ddaear." Dat. 16. 17-21.

Frawd anwyl, ni welsoch chwi erioed mor ofidus mai pob dyn a dynes sydd yn yr amgylchoedd hyn. Y mae trallod eu meddwl a phoenau eu corff yn ormod i iaith ei osod allan. Mi wn i am ugeiniau y buasai yn dda ganddynt yn aml gael marw gan faint eu trallod. Yr oeddwn yn siarad ag un o'r Methodistiaid Calfinaidd os tua awr yn ol; O! O! mor isel a digalon oedd ef. Yr wyf fi yn credu nad oes neb ar y ddaear mor ofidus ag ef. Nid wyf fi yn gwybod fy mod i yn euog o'r un pechod," meddai ef, "ac eto yr wyf mor ofidus ac anesmwyth a phe byddwn yn euog o bob pechod."

Yr oeddwn i yn cael llythyr oddiwrth Offeiriad Eglwys Loegr y bythefnos ddiweddaf; ac O! mor isel oedd ei deimlad ef. Y mae ef wedi myned yn rhi wan a nervous i allu pregethu, ac nis gwyr ef yn y byd beth a all fod arno. Yr wyf yn cael llythyrau o bob cyfeiriad a'r un gwyn sydd gan bawb.

Y mae y brawd David Morgans, Ysbytty, wedi myned yn wan a nervous iawn. Y mae y dylanwad mawr oedd yn cydfyned a'i weinidgoaeth wedi cilio yn hollol. Bu yn ymweled a mi wythnos diweddaf. Y mae ef wedi cyfnewid yn ei wedd yn neillduol. Y mae ef yn edrych yn synllyd, sobr, dieithr a digalon iawn. Yr oedd ef yn dweud,"Ni wyddwn i ddim beth oedd. arnoch y gaeaf diweddaf, ond y gaeaf hwn gallaf gydymdeimlo â chwi i'r byw. Y mae y pethau bach lleiaf yn ymddangos fel mynyddoedd o fy mlaen," meddai ef, "fel yr wyf yn crynu wrth feddwl am danynt." Gallwn nodi llawer o bethau cyffelyb ond waeth hynyna.

Yn awr terfynaf gan eich hysbysu fod miloedd ar filoedd yn gyffelyb i chwi a minau, ie, mwy o lawer nag ydym yn feddwl nac yn ddychmygu.

Hyn yn fyr oddiwrth eich cywir frawd,

H. R. Jones.

O.Y.-Nid wyf i ddim wedi dechreu pregethu eto. Yr wyf yn dal yn yr un caethiwed o hyd ac yn debyg o fod nes y daw y Tywalltiad mawr cyffredinol.

Ysgrifenwch heb fod yn faith. Y mae hi yn neillduol o fflat yn y dref hon, ac yn ei hamgylchoedd, ac felly y bydd hyd nes y daw y llanw mawr.

Yr oeddwn i yn dweud yn y llythyr o'r blaen ein bod ni yn disgwyl rhyw beth mawr yn mis Ionawr. Ni gawsom rai cyfarfodydd rhyfedd, daeth tua deugain i'r Society, ond dim byd fel yr oeddym yn disgwyl. "Y mae y mawr a'r rhagorol" yn ôl.

49, Terrace,
Aberystwyth.
Mehefin 8, '60.

Anwyl Frawd Davies.

Y mae wythnosau bellach wedi myned heibio er pan dderbyniais eich llythyr, buaswn wedi ei ateb yn mhell cyn hyn pe buasai genyf rhywbeth o ddyddordeb a phwysigrwydd i'ch hysbysu.

Y mae yn debyg eich bod chwi fel y finau yn dal yn neillduol o ddigalon, gwanllyd, anesmwyth, gofidus, nervous a phryderus. Rhyw ddyddiau rhyfedd ydyw y dyddiau hyn. Y mae pawb a siaradwyf â nhw fel pe byddent wedi blino ar eu heinioes. Bumi yn meddwl yn yr amser a aeth heibio mai aelodau ein capel ni oedd yn isel, digalon a gwanllyd, ond yn ddiweddar yr wyf wedi dyfod i wybod yn amgenach. Nid oes yma ddim. un dyn yn y dref a'r amgylchoedd hyn nad ydynt yn llwythog o ofid a thrueni. Gellir dweud gyda'r priodoldeb mwyaf am bawb yn gyffredinol "Fod trueni dyn yn fawr arno." Y mae y dynion mwyaf cyfoethog, anystyriol a dideimlad, wedi myned i edrych yn isel, synllyd, gwael a dierth. Y maent yn cyfaddef yn ddieithriad os siaradwch chwi a nhw mai yn amser y Diwygiad yr aethant i'r sefyllfa ofidus ac anesmwyth hon. Yr oeddwn i yn cael llythyr oddiwrth offeiriad Eglwys Loegr a phregethwr Methodistaidd y dyddiau diweddaf yma. Y mae y ddau wedi eu dwyn i ryw sefyllfa neillduol o isel a nervous. Y maent yn methu dirnad beth a allasai achosi y fath ofid a digalondid. Gwn am dros ddeg ar hugain o offeiriaid a phregethwyr yn yr un sefyllfa, ond o flaenoriaid ac aelodau cyffredin, gwn am gannoedd lawer.

Byddaf ar ambell i adeg yn meddwl nad oes gofid neb fel fy ngofid i, ond pan ddeallaf yn nghylch eraill ac ymddiddan â hwn a'r llall yr wyf yn gweled yn eglur mai yr un fath i'w teimlad pawb.

Wel, beth sydd i wneud yn wyneb y cyfan? Dim ond ymfoddloni i'r drefn ddoeth ond chwerw. O, am nerth i ddweud o hyd, Gwneler dy ewyllys.' Ysgrifenwch heb fod yn faith.

Hyn yn fyr iawn oddiwrth yr hwn a garai ysgrifenu yn amlach.

H. R. Jones.

XI.
DYDDIAU TYWYLL Y DIWYGIWR.

Ni wyddys a barhaodd yr ohebiaeth rhwng y Diwygiwr a Mr. D. Delta Davies ar ol Mehefin, 1860. Ysgrifennodd Mr, Davies wrth anfon y llythyrau i mi iddo dderbyn oddi wrth Mr. Jones lawer mwy na'r wyth sydd ar gadw, ond iddo'u colli oherwydd diofalwch. Pa un bynnag ai llythyrau a dderbyniwyd cyn Mehefin, 1859, neu ar ôl Mehefin, 1860, oedd y rhai a gollwyd, prin y gallent fod yn gyfwerth â'r rhai sydd ar gael, oblegid ceir yn y rhai hynny ddarlun manwl a chywir of gyflwr y Diwygiwr yn ystod un o flynyddoedd pwysicaf ei fywyd.

Y mae'n amlwg oddiwrth ei lythyr cyntaf, a ysgrifennodd ym Mehefin, 1859, nad oedd Mr. Jones ar ddechrau'i genhadaeth yn Aberystwyth yn gwbl fel y bu; sonia am ei " drallodion am chwech mis," ac nid oedd fwy na chwe mis er pan aethai i Aberystwyth. Daethai iddo brudd-der mor drwm fel y bu bron a marw ugeiniau o weithiau." Aethai'n rhy nerfus a gwan i allu gweddio'n gyhoeddus na bugeilio'r praidd. Cloesid ei dafod a daethai llesgedd blin i'w feddwl,-" Y mae holl alluoedd fy meddwl yr un mor bŵl a thywyll." Dyma rai o arwyddion amhariad a ganfu'r sawl a gymdeithasai ag ef. Dengys yr wyth lythyr fod prudd-der trwm bron a llethu'r Diwygiwr, ac yn ei ddrygu gorff a meddwl, eithr ni cheir ynddynt braw o gynnydd y dirywiad; ni ddengys yr wythfed llythyr fod ei gyflwr yn waeth nag ydoedd pan ysgrifennodd y cyntaf, flwyddyn ynghynt. Gorchest ry anodd, efallai, hyd yn oed i feddylegwyr, ydyw esbonio'r dyn a ddatguddir yn y llythyrau. Ceir pruddglwyf du a gobaith golau yn cyd-drigo. Y mae'n "ddigalon, gwanllyd, anesmwyth, gofidus, nervous a phryderus," a hefyd "yn gwybod gystal ag y gwn i mai dyn wyf fi fod gwawr y Milfiwyddiant i dori ar y byd mor fuan ac y tyr y Diwygiad sydd yn yr eglwys hon allan." Yn ei eglurhad ar anawsterau Mr. D. Delta Davies amlyga wybodaeth ysgrythurol. helaeth a chywir, a dyry iddo gyfarwyddiadau rhesymol ac addas, a'r un pryd daw i'r golwg amhwylledd yn ei hysbysiadau proffwydol a'i esboniad pendant ar yr "Oruchwyliaeth ryfedd, doeth a dyrus."

Oeri'n gyflym a wnaeth gwres y Diwygiad, ac erbyn diwedd 1860, ni cheid mwy na fflamau ysbeidiol yma a thraw. Gwnaeth y Parch. Dafydd Morgan, Ysbyty, waith mawr ac annisgrifiol, ac, yn ôl y Dr. Thomas Rees, yn ei "History of Protestant Nonconformity in Wales," dychwelwyd yng Nghymru tua chan mil at grefydd; eithr yn gynnar yn y flwyddyn 1860, pallodd ei nerth yntau. Cyn dechrau Ebrill yr oedd y dylanwad mawr a fuasai'n "cydfyned a'i weinidogaeth wedi cilio yn hollol, ac edrychai'n synllyd, sobr, dieithr a digalon."

Nid oes ar gadw ond ychydig o hanes Humphrey Jones am y naw mlynedd nesaf. Lletyai am rai blynyddoedd yn 49, Marine Terrace, Aberystwyth, cartref Mrs. Richards a Miss Morgan, hen deulu Wesleaidd adnabyddus. Tybir yr ymwelai'n awr ac eilwaith â Dolcletwr, cartref ei fodryb, Sophia, ac y treuliai lawer o'i amser yno. Yn ôl ei dystiolaeth ef ei hun methodd a phregethu am bedair blynedd, ond yn ystod y gweddill o'r blynyddoedd pregethai'n achlysurol yn eglwysi Cylchdaith Aberystwyth. Eithr ni chiliodd ei bruddder a'i ofid; gwaethygu a wnaeth o ran corff a meddwl. Trodd i broffwydo, a phroffwydodd lawer, nid yn unig ynglŷn â chrefydd, ond ynglŷn hefyd â theyrnasoedd Iwrop a'u llywiawdwyr, ac ysgrifennai â gallu nodedig ei broffwydoliaethau rhyfedd i'r Times a phapurau eraill. Erbyn dechrau'r flwyddyn 1869, aethai cyflwr ei feddwl cynddrwg oni orfu ar ei gyfeillion ei roddi yng ngwallgofdy Caerfyrddin. Derbyniwyd ef i'r Sefydliad hwnnw Chwefror 24, 1869. Ymddengys oddi wrth dystiolaeth y meddygon nad oedd fodd osgoi'r weithred hon. Dygasai amhariad nerfau'r Diwygiwr ei feddwl i gyflwr mor ddrwg onid aeth yn beryglus i'r sawl a ofalai am dano. Gwelir, oddi wrth y manylion am ei gyflwr a geir yng nghoflyfrau'r Sefydliad, i ddeng mlynedd o bryder ac ofn a phrudd-der, a disgwyl yn ofer, ei ddarostwng i wendid mawr o ran meddwl a chorff. Yr oedd yn 34 mlwydd oed pan aeth i Gaerfyrddin. Dioddefai oddi wrth y pruddglwyf, a byddai fynychaf yn synllyd a'i ymadroddion yn ddigyswllt ac angall. Coleddai amryw dybiaethau gwyllt ac anhygoel, megis, meddwl i Arglwydd Palmerston, a pherthynas iddo a fuasai farw flwyddyn ynghynt, ymweled ag ef yn ddiweddar,ac i'r Ymerawdwr Napoleon alw i'w weld yn ei lety yn Aberystwyth. O ran ei gorff yr oedd yn afiach ac eiddil, a'r darfodedigaeth wedi amharu llawer ar ran uchaf ei ysgyfaint chwith. Gwrthodai yn bendant bob ymborth. Yn ôl coflyfrau'r Sefydliad, achos ei anhwylderau ydoedd "Crefydd." Gadawodd Gaerfyrddin Rhagfyr 7, 1870, ac anhwylder ei feddwl wedi ei leddfu (relieved).[41] Gwelir na fu'r driniaeth feddygol am ychydig dros ddeng mis yn foddion i'w wella yn llwyr,-dim ond lleddfu'r amhwylledd, ac y mae'n ddiamau mai dymuniad ei berthynasau yn America a barodd ei ollwng yn rhydd cyn cwbl adfer ei iechyd meddyliol.

Tros amser byr y pery Diwygiadau crefyddol o nodwedd y rhai a gafwyd yng Nghymru er y flwyddyn 1859. Collant eu grym a'u gwres yn raddol oni ddel bywyd yr eglwys eilwaith i'w gynefin. Y mae hyn o raid ac nid o ddiffyg yn yr arweinwyr. Niweidiai gwres mawr a brwdfrydedd Diwygiad fel elfennau sefydlog gymaint ar yr eglwys ag a wnai gwres Gorffennaf ac Awst, yn ddigyfnewid drwy'r flwyddyn, ar y ddaear. Gwres a goleuni Duw i gyfarfod ag oerni gwlad yn ei hawr dywyllaf ydyw Diwygiad. Peth tros dro o angenrheidrwydd ydyw. Yn 1858, yr oedd yr Eglwys mewn trymgwsg, ac yn ddiynni, a'r byd annychweledig yn effro a hy. Rhoddwyd y Diwygiad i ddeffroi'r Eglwys a pheri iddi wisgo gwisgoedd ei nerth a'i gogoniant i'r diben o achub cymdeithas rhag ei rhysedd a'i pherygl. Nid yw Diwygiad yn y ffurf arferol arno yng Nghymru namyn Duw yn ateb galw'r wlad o ddyfnder ei chyflwr moesol. Anaml y sylweddola arweinwyr diwygiadau yng Nghymru mai pethau eithriadol ar gyfer cyflyrau arbennig ydynt, ac nid pethau arhosol. Methodd Humphrey Jones, a Dafydd Morgan yntau, â sylweddoli'r ffaith hon, a'r methiant hwnnw a gyfrif yn bennaf am y prudd-der a'r gofid a'u daliodd pan beidiodd y dylanwadau nerthol. Y tebyg ydyw i egnion anarferol y Diwygiwr amharu ar ei nerth gieuol rai wythnosau cyn ei fyned i Aberystwyth, ac i hynny effeithio i ryw fesur ar ei ysbryd. Dywedai'r Parch. David Morgan yn Ebrill, 1860, ac yntau'i hun erbyn hyn yn "wan a nervous," y methai ef â dyfalu pa beth a flinai Humphrey Jones yng ngaeaf 1859, eithr y gwyddai bellach trwy brofiad. Awgryma'r cyfeiriadau mynych a wna Humphrey Jones yn ei lythyrau at ei gyflwr nerfus a digalon fod holl nerfau'i gorff wedi'u llacio a'u gwanhau yn ddirfawr. Nid oes yn hyn ddim a bair syndod pan gofier nodwedd a thymor ei waith. Gwyr pob pregethwr a gafodd oedfa fawr â'i brwdfrydedd ysbrydol yn anarferol o uchel am yr effeithiau llethol a adawodd yr oedfa honno ar ei natur. Clywais ddywedyd y byddai'r Parch. John Elias yn llesg a phrudd am wythnos gyfan ar ôl pregethu yn y Sasiwn. Dyma nodwedd gwaith y Diwygiwr ddydd a nos, am o leiaf, ddwy flynedd yn America, a chwe mis yng Nghymru. Bu'r dirdynnu mor gyson a grymus oni lethwyd ei holl natur; a hyd y gwelaf i yr oedd y cwbl yn naturiol; methaf â gweled y gallasai pethau fod yn wahanol. Aeth gweddill oes y dyn ieuanc-tros ddeng mlynedd ar hugain o honi, yn aberth ar allor ei wasanaeth i'r Diwygiad mawr, a gwelais y sylw bod hyn yn un o'r trychinebau mwyaf; eithr nid trychineb mohono, ond braint. O bu trychineb o gwbl, hwnnw ydoedd, i'r Diwygiwr fethu â sylweddoli bod ei waith ar ben; petai'n deall y gwir-bod ei waith ar ben, a bod Duw wedi cyrraedd ei amcan trwyddo, efallai y lleddfai hynny y prudd-der a'r gofid a ddaeth arno. Nid oes fywyd yn drychineb namyn hwnnw sy'n farw i fudd ei gyd-ddyn a hawliau'i wlad arno. Cafodd Humphrey Jones farw tros ei genedl, ac anfarwolwyd ef trwy hynny.

XII.
YN AMERICA EILWAITH.

Ar y seithfed o Ragfyr, 1870 aeth y Diwygiwr o Gaerfyrddin i Ddolcletwr, ffermdŷ hen gerllaw Tre'r- ddol, yng ngogledd sir Abertefii. Derbyniwyd ef yno'n llawen gan ei ewythr, Mr. Owen Owen, a'i fodryb Sophia, chwaer ei fam. Dyn tawel a dwys a charedig oedd Owen Owen, a hanner addolai Humphrey Jones. Gwraig fawr o ran corff a meddwl oedd Mrs. Sophia Owen, ac ystyrid hi y gywiraf ei barn a'r fwyaf ei doethineb yn yr holl blwyf, ac edrychai'r plant arni fel yr edrych un ar frenhines urddasol. Un o hen gartrefi cefnog a thangnefeddus Cymru ydoedd Dolcletwr gynt. Ni allesid dwyn y Diwygiwr yn ei ddyddiau blin i well man na'r ddôl deg hon ar fin llif esmwyth Cletwr, ac yng ngolwg y goedwig y gweddiai ynddi ar ddechrau'r Diwygiad oni ddeffroai'r holl gymdogaeth. Eithr ni bu tegwch y fro a chysur cartref ac atgofion am lwyddiant dyddiau bore'r Diwygiad yn foddion i adfer nerth ei feddwl. Dywedai Evan Thomas, a weithiai yn Nôlcletwr pan ddaeth Humphrey Jones adref o Gaerfyrddin, nad "oedd fawr o niwed arno," a'i fod yn dawel a di-ddrwg, ac y soniai'n aml am y gwn a fu yn ei ddwylo ganwaith pan oedd fachgen. Nid oedd," ebe'r hen ŵr, "fawr o le arno, ond nid oedd yn gwbl fel dyn arall."

Yn y flwyddyn 1871, yn gynnar, mi a dybiaf, daeth ei frawd John o America i ymweled ag ef a'i berthynasau eraill yng Nghymru, a phan ddychwelodd dug Humphrey gydag ef i Wisconsin. Ymddengys y pregethai'n achlysurol yn Oshkosh a Sefydliadau Cymreig eraill cyfagos; eithr prin y dylid caniatau iddo wneuthur hynny a chyflwr ei feddwl cynddrwg. Dywaid y Doctor H. O. Rowlands iddo glywed y Diwygiwr, yn fuan wedi ei ddychweliad o Gymru, yn pregethu ar nos Sul yng nghapel y Trefnyddion Calfinaidd ym Milwaukee, ac iddo deimlo ar unwaith nad yr Humphrey Jones a adnabu gynt ydoedd mwyach. Aeth gofid i'w galon o'i weled yn y pulpud, a dywaid, "Trafodai'n wasgarog ddamcanion awyrol yr ail-ddyfodiad, ac âi i eithafion direol. Gofidiai pawb o'i herwydd. Cofiai liaws o honom am ei bregethau cyfeiriol a dylanwadol, a'u hunig bwrpas i argyhoeddi pechaduriaid. Wele ei gorff, ac ambell nodyn o'i lais, a dyna rai o'r hen aceniadau swynol, ond nid yw y dyn yno mwyach. Cododd hiraeth dwfn yn fy nghalon."

Gwaethygu'n raddol a wnaeth iechyd meddwl y Diwygiwr, ac yn 1873, bu rhaid ar ei frodyr ei roddi yng ngwallgofdy Winnebago, Wis. a bu yno am bum mlynedd a thri mis. Ymddengys oddi wrth adroddiad Arolygwr yr Ysbyty fod ei gyflwr yn un drwg iawn:—

He was admitted June 6, 1873. Age 41. Cause given: Overwork. Diagnosis: Chronic Mania. Mental condition at time of admission: Noisy, talkative, egotistical, untidy in habits, and disposed to be violent toward others, especially those in authority. . . . The last note concerning him, November, 13, 1878, is as follows:—

"Has been quiet since last note, plays cards on the ward and reads books and papers, writes upon every scrap of paper he can beg or find; has gained flesh; was to-day removed on order of Judge Paulson to make room for a more hopeful case."

October 28, 1880, he visited the institution and stated that he was preaching in a church near Nekimi.... that he had preached regularly since last April

The notation was made that "he looks well and when talking upon religious topics shows some enthusiasm, says he writes all his sermons and does not become at all excited but controls himself by his will."[42]

Yn ddiymdroi wedi ei ryddhau o'r Sefydliad ymroddodd eilwaith i bregethu. Bu'n gwasanaethu am beth amser yn Oshkosh a Waukesha, Wisconcsin, ac yn gofalu am eglwys Gymraeg yn Remner. Tybiaf mai'r adeg hon, yn 1880, y priododd, yn Oshkosh, wraig weddw, merch i'r diweddar Mr. John Owen, Corris, Meirionnydd, a chwaer i'r Parch. John Morris Owen, gweinidog Wesleaidd. Bu gofal a thynerwch ei briod yn fendith amhrisiadwy iddo; diflannodd ei bryder ac adnewyddodd ei ysbryd, a disgwyliai'i gyfeillion ei weled yn fuan yn rhodio yn amlder ei rym fel yn y dyddiau a fu; ond er siom i bawb a cholled annisgrifiol iddo yntau, bu farw'i briod ddechrau Ebrill, 1882.

Am y deuddeg mlynedd olaf o'i oes bu'r Diwygiwr yn teithio trwy'r Taleithiau i bregethu i'r Cymry. Arhosai weithiau mewn lle am fisoedd neu flwyddyn, yn ôl y gofyn, i ofalu am eglwys wan, neu eglwys gref nad oedd iddi weinidog sefydlog. Bu yn San Francisco am lawer o fisoedd a phregethai yno oni ddaliwyd ef gan gystudd trwm a'i dug yn agos i angau. Treuliodd dymor gweddol hir ymhlith Cymry Oakland, California, yn pregethu iddynt, ac yn mwynhau eu caredigrwydd dibrin.

Dengys tystiolaeth ei gefnder, y Parch. John Hughes Griffiths, syniadau ei gyfeillion am dano a'u teimladau tuag ato yn y cyfnod hwn : "Yn y Cambrian Hall, San Fransisco, ar fore Saboth yn niwedd 1888, y gwelais fy hen gefnder annwyl gyntaf ar ol iddo adael Cymru gyda'i frawd. Yr oeddwn yn falch iawn i gyfarfod ag ef. Yr oedd yn ddigon gwael ei iechyd y pryd hwnnw. Yr oedd pawb yn ei hoffi. Byddai weithiau yn dyfod i'r moddion ar y Saboth, ac yn dechrau'r oedfa'n fynych iawn. Ystyriai cyfeillion San Fransisco mai braint oedd ei glywed yn gweddio. Nid oedd yn bosibl iddo ddechrau'r oedfaon yn rhy fynych."

Ym mlynyddoedd olaf ei fywyd symudai'r Diwygiwr ar yr un gwastad â phregethwyr cyffredin America, ac ni thynnai fwy o sylw na hwythau, na chymaint â rhai ohonynt. Ýmhell yn ôl ataliwyd y goleuni a'r gwres, a disgynnodd y cymylau yn isel ar ei fywyd, ac aeth yntau fel gŵr dinerth. Oherwydd hyn anghofiodd. y lliaws ef, ac ni ofalwyd am gofnodi manylion ei hanes yn fuan wedi ei farw. Byr yw cof gwlad o'i dyled i'w chymwynaswyr. Gwna'r esgeulusdra hwn ddilyn ei lwybrau yn anodd. Dywaid Miss Anna E. Jones, merch i gefnder iddo, a deimla ddiddordeb mawr yn ei hanes ef a'i pherthynasau eraill a fu farw yn America, i'r Diwygiwr yn ddiymdroi ar ôl ei ryddhau o'r gwallgofdy yn Oshkosh ymroddi am ysbaid i wasnaethu'r Cymry yn y Sefydliad Cymreig yn Wisconsin, ac yna teithio trwy Oregon, a thario am gyfnod yn y Sefydliad Cym- reig a oedd gerllaw dinas Oregon. Symudodd oddiyno yn araf i lawr y Pacific Coast gan ymdroi ymhlith y Cymry yma a thraw a phregethu iddynt oni ddaeth i San Francisco ac Oakland, California.[43]

Pan ddychwelodd y Diwygiwr o'r daith hon dewis- wyd ef yn weinidog eglwysi Annibynnol Cambria a South Bend, Minnesota, a gwasanaethodd hwy am ychydig dros bedair blynedd, o haf 1889 hyd Ionawr 1, 1894.[44] Rhydd y Parch. John C. Jones, D.D., Chicago, mewn llythyr, beth o hanes y Diwygiwr yn ystod tymor ei weinidogaeth yn Cambria a South Bend.:

"O Chwefror, 1884, hyd Chwefror, 1894, ac eithrio'r flwyddyn 1888, a dreuliais ym Minnesapolis, Minnesota, yr oeddwn yn weinidog ar eglwysi Mankato, Seion a Charmel, Swydd Blue Earth, Minnesota, lle'r oedd Sefydliad Cymreig cryf gydag wyth o eglwysi Methodistaidd, a dwy eglwys Annibynnol. Yn ystod y deng mlynedd uchod daeth y Parch. Humphrey Jones i'r Sefydliad a chartrefu gyda'i berthynasau, sef teulu Mr. David Lewis, mewn ffermdy ar y ffordd rhwng Mankato a Seion. Yr oedd capel Annibynnol yn South Bend o fewn dwy filltir neu lai i'w arhosfan, ac yno pregethai Mr. Jones bob prynhawn Sul i nifer bychan o Gymry, yn cynnwys dau deulu lluosog, a oedd yn berthynasau iddo, sef teuluoedd David ac Evan Lewis. Os cofiaf yn iawn, daethai Mr. Jones yno o Clay County, Iowa, lle buasai'n gwasanaethu Sefydliad newydd o Gymry. Yr oedd o ymddangosiad hardd, gyda llais cyfoethog. Clywais ef yn pregethu unwaith neu ddwy. Darllennai bob gair o'i bregeth, ac ni feiddiai godi ei lygaid oddiar y papur heb ddrysu. Ond pan gaeai ei lygaid i weddio yr oedd ei barabl yn groyw, ei ddawn yn llithrig, ei lais yn beraidd, a'i oslef yn swynol a thra chynhyrfiol. Llifai adnod ar ôl adnod, addewid ar ôl addewid, o drysorfa'i gof i'w wefusau, a phlethai hwynt yn eu erfyniadau, a hofrent ar adenydd ei lais organaidd nes creu teimlad o lawenydd a hyfrydwch addolgar yn y cyfarfod.

Gadawodd ef Sefydliad Blue Earth Co. o'm blaen i, ond ar ôl symud i Chicago, yn nechrau 1894, gwelais ef drachefn yng nghapel bach Bethania, Swydd Waukesha, lle y cynhelid cyfarfod chwarter Dosbarth Waukesha. Arhosai yn yr ardal gyda'i berthynasau, sef teulu Mr. John Evans, Cruglas. Galwyd arnaf i bregethu brynhawn y dydd olaf, ac eisteddai yntau dan y pulpud, a bu ei amenau perseiniol yn foddion i galonogi'r pregethwr gwan, ac i ddyblu nerth a gwerth y bregeth i'r gwrandawyr. Testun y bregeth oedd Terah yn cychwyn i Ganan, ac yn aros ar hanner y ffordd, a marw cyn cyrraedd Canan. Credaf mai dyna'r olaf a gafodd ar y ddaear, oblegid deellais iddo gyrraedd pen y daith yn fuan wedyn. I mi y mae ei goffadwriaeth yn felys a hyfryd. Ni allaf anghofio ei weddiau a'i amenau. Yr oedd mwy o ddylanwad ysbrydol yn ei amenau ef nag yn fy mhregethau i."[45]

Yn y flwyddyn 1893, tua'i diwedd, rhoddodd heibio ofalu am eglwysi Cambria a South Bend ac aeth i Crugglas, Wales, Wisconsin, cartref Mr. John a Mrs. Ann Evans, rhieni Mr. W. Jarmon Evans, sydd yn awr yn Oshkosh, Wisconsin. Yr oedd Mrs. Ann Evans yn gyfnither i'r Diwygiwr. Er nad oedd Humphrey Jones ond ychydig dros drugain oed, teimlai'n hen a llesg; daethai oerni mawr gaeafu America, a chyfrifoldeb y gofal am y ddwy eglwys fach yn ormod iddo, ac ymneilltuodd i orffwys a marw. Bu yng Nghrug-glas am chwe mis, o Ionawr hyd Mehefin, 1894, ac yn ystod yr amser hwnnw trawyd ef ag ergyd o'r parlys. Gofalodd Mr. a Mrs. Evans am dano â thynerwch mawr, a charent ef fel petai'n fab annwyl iddynt. Ym Mehefin, 1894, symudwyd ef i gartref ei frawd John, yn Chilton, Wisconsin, ac wedi dihoeni am ychydig tros flwyddyn, bu farw dydd Mercher, Mai 8, 1895, a'i oedran yn ddwy flwydd a thrigain, chwe mis, a saith niwrnod ar hugain. Y dydd Gwener dilynol, Mai 10, claddwyd ef heb na rhwysg na rhodres, yn Brant, Wisconsin.[46] Ddiwrnod ei farw, draw, y tuhwnt i'r llen, yn nhŷ ei Dad, bu gorfoleddu a moli mawr.

XIII.
ATGOFION AM Y DIWYGIWR.

Y mae deng mlynedd a thrigain er Diwygiad '59, ac o'r rhai sy'n fyw yn awr a welodd ac a glywodd y Diwygiwr ychydig sydd a fu'n ddigon sylwgar ar y pryd i allu tystiolaethu dim yn bendant am dano heddiw. Ysgrifennais at bedwar o brif weinidogion Cymru sy'n tynnu'n agos at y pedwar ugain a deg, sef, y Parchedigion D. Avan Richards (A.), Hugh Hughes (W.), J. Cynddylan Jones a T. Jones Humphreys (W.). Nid oes gan y ddau gyntaf ddim i'w ddywedyd am na'r Diwygiwr na chychwyn y Diwygiad, ac y mae'r ddau hynafgwr arall yn gynnil eu sylwadau a phrin eu geiriau. Praw hyn bod galw cryf, a galw buan, os galw o gwbl, am gasglu ar unwaith bopeth a ellir ei gasglu am Humphrey Jones. Dywaid y Doctor Cynddylan Jones:

Byddai yn dda gennyf allu eich cynorthwyo yn eich hymgais i ysgrifennu cofiant i'r diweddar Humphrey Jones. Yr ydych yn crybwyll y cwbl yr wyf fi yn ei gofio. Daeth o'r America â thân y Diwygiad yn llosgi ynddo; bu am ychydig ddyddiau tua Thaliesin. Aeth oddiyno i Bontrhydygroes, cynhaliodd gyfarfodydd diwygiadol yn ardal Ysbytty, catchodd y tân diwygiadol yn Dafydd Morgan, ac aethant eu dau i gynnal cyfarfod yn Nhregaron. Collais olwg ar Humphrey Jones o hynny allan. Awyddais yn fawr ei weled a'i glywed, ond ni chefais y fraint. Bu yn lletya yn Aberystwyth, ond ni chefais gyfle erioed i'w weled. Un peth sydd sicr—efe gychwynodd y tân yng Nghymru. Paham yr ymneilltuodd mor gynnar sydd ddirgelwch i mi."[47]

Ysgrifennodd yr Hybarch T. Jones Humphreys yntau y gair hwn:

"Ychydig yw fy adgofion am y Parch. Humphrey Jones. Clywais ef yn pregethu un waith, a hynny yn hen gapel Wesleaidd Ty Cerrig, Cylchdaith Machynlleth. Yr oedd hynny cyn iddo ymfudo i'r America. Gŵr ieuanc ydoedd y pryd hwnnw, tywyll ei bryd, a hardd ei ymddangosiad. Nid wyf yn cofio ei destun, nac ychwaith ddim o'i bregeth. Ond cofiaf yn dda ei fod yn traddodi ei genadwri gyd â gwres a brwdfrydedd neilltuol, a hynny nes peri cryn gyffro ym mhlith yr hen flaenoriaid a eisteddai dano yn y set fawr, ac yr oedd y dylanwad ar y gynulleidfa yn ddwys, a rhedai y dagrau i lawr dros aml rudd. Mawr oedd y ganmoliaeth iddo fel pregethwr gan y gwrandawyr wedi i'r oedfa fyned heibio.

"Tro arall, pan oeddwn ar ymweliad â'm perthynasau yn Aberystwyth yn y flwyddyn 1859, cefais amryw gyfleusterau i'w weled a'i glywed. Tynnodd fy sylw mewn modd neilltuol pan gerddai i fyny North Parade ar ei ffordd i hen gapel Queen Street. Cerddai ar ganol yr heol wrtho'i hun, a hynny yn ben isel, a golwg synfyfyriol arno. Yn ystod fy arhosiad yn y dref, mynychais y cyfarfodydd yn gyson; ond ychydig iawn o ran a gymerai ef ynddynt oddieithr fel arweinydd. Ni phregethai o gwbl, ac ni chaniatai i'r gynulleidfa ganu. Yn lle rhoddi emyn i'w ganu cyn gweddio yr arfer oedd darllen ychydig adnodau, a dyna drefn y moddion y naill noson ar ol y llall. Nodweddid y cyfarfodydd â gwir ddefosiwn a chryn fesur o ddwyster. Ni chlywais ddim o orfoledd y Diwygiad yn y cyfarfodydd hynny yn Aberystwyth, fel yn y cyfarfodydd a gynhelid yn ddiweddarach gan y Parch. David Morgan, Ysbyty. Aiff enw y Parch. Humphrey Jones i lawr yn hanes yr Eglwys yng Nghymru fel yr un a fu yn foddion yn llaw Ysbryd Duw i gychwyn Diwygiad Mawr 1859."[48].

Er imi eisoes wneuthur peth defnydd o ysgrifau'r Parchedigion H. P. Powell, D.D., a H. O. Rowlands, D.D., a ymddangosodd yn "Y Drych," America, wedi marw Humphrey Jones, tybiaf mai doeth fydd eu gosod ym mhennod yr Atgofion, oherwydd ceir ynddynt rai ffeithiau ynglŷn â bywyd y Diwygiwr yn America cyn ei ddyfod i Gymru, ac wedyn, nas ceir yn unman arall. Fel hyr y traetha'r Doctor H. P. Powell:

"Da y cofiaf am Humphrey Jones, y Diwygiwr, yn nydd ei nerth, pan oedd deheulaw y Goruchaf yn ei gynnal fel seren oleu a disglair yn y pulpud efengylaidd. Y pryd hwnnw yr oeddwn naill ai'n rhy ifanc neu'n rhy ddiallu, neu bob un o'r ddau, i'w bwyso a'i fesur o ran natur a graddau ei alluoedd. Yr oedd sôn mawr am y gwaith da a gyflawnai yn ardaloedd y Welsh Prairie a Praireville, Wisconsin, a chofiaf yn dda am y disgwyl mawr oedd am dano tua'r "Glannau." Mewn amser cyfaddas, wele y gwr hir-ddisgwyliedig i'n plith ninau, a mawr oedd y brwdfrydedd a'r tynnu i'w wrando gan bob enwad. Y pryd hwnnw yr oedd y Wesleaid Cymraeg yn lled flodeuog yn Cambria, Oshkosh, a Racine, Wisconsin, ond nid dyn ei enwad oedd ef, ond dyn ei genedl. Pregethai fel ei Athro mawr lle bynnag y cai ddrws agored a phechaduriaid i'w wrando. Yr oedd fel cannwyll yn llosgi ac yn goleuo. Tybiaf mai yn haf 1857 yr ymwelodd ag ardaloedd Racine, pan oedd yn graddol weithio'i ffordd i Gymru, gan fwriadu, yn llaw Ysbryd Duw, ddeffroi'r holl wlad o'i chysgadrwydd ysbrydol; a diau i Ddiwygaid grymus 1859 a '60, gael ei gychwyn ganddo ef fel offeryn. Y pryd hwnw daeth am rai wythnosau i gymdogaeth Pike Grove lle y mae capel Annibynnol ers blynyddoedd maith . . . .

"Yr oedd Humphrey Jones yn ddyn ieuanc glan ei bryd, tywysogaidd ei ymddangosiad, a phrydferth iawn ei holl ymddygiadau. Mewn llais clir a soniarus, a'i ysbryd yn wresog, gwnai apeliadau taer a difrifol oedd yn hynod effeithiol. Cariai ei wedd serchus, oedd ar yr un pryd yn ddifrifol, ddylanwad mawr ar y gwrandawyr gan nad oedd na rhodres nac uchelgais yn ei ymddangosiad. Ac am ei amenau uchel, llawn a chynnes, buont am flynyddoedd yn swnio yn fy nghlustiau. Ni flinai yr ardal sôn am ei dduwioldeb amlwg, ac am yr oriau maith a dreuliai ddydd a nos mewn ymbiliau gyda'i Dduw. Yn wir, tybiwn i fod ei wynepryd yn disgleirio fel eiddo Moses gynt.

"Ychydig o gôf sydd genyf am bregethau Humphrey Jones, heblaw eu bod yn agos ac eglur a llawn o gymariaethau a hanesion tlws a thrawiadol. Tri pheth yn arbennig a lynodd yn fy meddwl byth am dano-ei olwg brydferth a nefol, ei weddiau difrifol a thaer tros ei wrandawyr, a'i amenau a'i ddiolchiadau cynes a gorfoleddus. Yn ddiau, yr oedd Humphrey Jones yn fawr mewn ysbryd, yn gorchfygu anawsterau, yn plygu amgylchiadau at ei wasanaeth, yn llwyr ennill ei wrthwynebwyr, ac yn cael eneidiau i feddwl yn fwy am Grist a'i grefydd. Nid dyn diallu mo hono. Syniad cyffredin am "ddiwygiwr" ydyw, nad yw'n alluog o feddwl. Paham hyn, ni wn i, os nad tybio a wneir fod bod yn ymarferol yn anghydweddol â gallu mawr. Ond pa werth sydd mewn gallu oni fydd yn ymarferol?

"Pan welais ef ymhen ugain mlynedd neu ragor, rhyfedd y cyfnewidiad a aethai trosto er pan glywswn ef yn pregethu yng nghymdogaeth Racine, Wisconsin. Trwy orlafur a dirwasgiad ysbryd a losgai'n angerddol am flynyddoedd gildiodd ei gyfansoddiad cryf a hardd, ac ymdaenodd cwmwl prudd tros ei feddwl. Adferwyd ei iechyd i raddau ac enillodd gydbwysedd ei feddwl hefyd, ond ni ddaeth byth fel y bu yn y dyddiau gynt. Collodd ei hunanfeddiant a'i hyder ac ni fentrai i'r pulpud heb ei bapur, yr hwn a ddarllenai yn fanwl. Hawdd ydoedd gweled hyd yn oed y pryd hwn fod ganddo allu uwch na'r cyffredin. Fflachiai ei feddyliau ac yr oedd newydd-deb a nerth ynddynt. Am ei ysbryd yr oedd hwnnw yn dal heb golli dim o'i neilltuolrwydd. Byddai ei weddiau yn nodedig o wresog ac efengylaidd a huawdl hyd y diwedd. Nid dyn cyffredin oedd Humphrey Jones o ran dysg a gwybodaeth. Yr oedd yn ysgolhaig da, ac yn feistr ar yr iaith Saesneg, yn yr hon y pregethai yn huawdl. Bydd gan filoedd o Gymru ac America barch calon i Humphrey Jones ar gyfrif yr hyn fu ac a wnaeth. Tragwyddoldeb yn unig a ddengys ffrwyth ei lafur.

"Y mae rhyw ddynion wedi eu cymhwyso a'u bwriadu i wneuthur gwaith mawr mewn amser byr. Gwasgodd ein Gwaredwr waith oes fawr i ryw dair blynedd a hanner. Bu David Morgan yn gweithio'n galed am oes, ond gwnaeth waith ei oes mewn tymor byr iawn—dwy neu dair blynedd. Gwisgodd Duw ef ar gyfer yr adeg honno, ac wedi iddo gyflawni ei waith diosgodd ef o'i ogoniant, a daeth fel cynt. Wedi i Richard Owen, y Diwygiwr, orffen ei waith cipiodd Duw ef adref yng nghanol ei ddyddiau. Ond gwelodd Rhagluniaeth yn dda gadw Humphrey Jones ar y ddaear am flynyddoedd lawer, a'i waith wedi ei orffen pan oedd yn ieuanc. Huned ei hun yn dawel."

Nid oes yn fyw yn awr neb a gafodd well cyfleusterau na'r Parch. H. O. Rowlands, D.D., i adnabod Humphrey Jones. Adnabu ef yn ei ddyddiau bore fel Diwygiwr, ac wedyn, â'i haul tan gwmwl, hyd ddiwedd ei oes. Ceir yn ei ysgrif fer ddarlun da,—y gorau a welais, o'r Diwygiwr.

"Fe wnaeth y Parch. Humphrey Jones lawer iawn o ddaioni yn ei ddydd byr, a Llyfr y Bywyd yn unig a gynnwys gyfrif cyfan o hono. Yr oedd yn un o'r diwygwyr mwyaf grymus a gafodd y Cymry yn y ganrif ddiweddaf. Adwaenwn ef yn dda o'm plentyndod. Bu'n aros am wythnosau yn fy nghartref yn Waukesha, Wisconsin, pan oeddwn yn hogyn. Cyfarfum ag ef yng Nghymru, yn Aberystwyth, yn 1886, ac ar ol ei ddychwelyd o Gymru bum yn ei gyfeillach amryw weithiau yn fy nhŷ fy hunan. Yn Wisconsin y dechreuodd lewyrchu fel diwygiwr, ac yn nerth yr enwogrwydd a enillodd yn y Dalaith hono yr aeth trwy yrfa boblogaidd iawn yn Nhaleithiau Ohio, Pensylfania a New York.

"Cyfansoddai bregethau rhagorol, a chlywais rai ganddo oedd yn orchestol o ran cynllun ac iaith. Rhagorai o ran medr mewn homiletics, a thraddodai'n nodedig o rymus mewn ysbryd dwys a thyner. Yn ychwanegol at y pethau hyn yr oedd ganddo bersonoliaeth gref a gwefrol. Swniai'i bregethau yn llai fel cyfansoddiadau diwinyddol ac uniongredol nag fel apeliadau angerddol at bechaduriaid. Ond er yn rymus anghyffredin fel pregethwr, yr oedd yn rymusach fel gweddiwr. Treuliai'i amser mewn cymundeb cyson â Duw, ac i weddio yn y dirgel. Nid amheuai neb onestrwydd ei gymhellion, ac ni feiddiai ei gritics mwyaf miniog gyffwrdd â'i gymeriad fel dyn Duw. Yr oedd ei genadwri yn syml ac eglur, yn ddiaddurn a chyfan, ac fel Moody, byddai ganddo wmbredd o hanesion tarawgar a phwrpasol, ond nid oedd ganddo ddim chwareus ac ysgafn. Ni chlywais ef erioed yn awgrymu bôst oherwydd ei lwyddiant i droi pechaduriaid, fel y clywir yn rhy aml gan efengylwyr Americanaidd. Byddai'n ofalus i ddidwyllo dynion am eu sefyllfa o flaen Duw, ac ymdrechai i'w hargyhoeddi a'u dwyn i edifeirwch. Yr oeddwn ar y pryd yn rhy ieuanc i werthfawrogi'r pethau hyn, ond ni chlywais gan ei feirniaid a'i wrthwynebwyr—ac yr oedd ganddo lawer—awgrym gwahanol i'r gosodiadau uchod. Y mae'n debyg nad oedd bob amser yn ddoeth; dyn ieuanc ydoedd, rhwng 25 a 30 mewn oedran, a diamau iddo wneud camgymeriadau fel y gwnaeth Elias ac eraill; ond ni chlywais si o amheuaeth parthed ei gymeriad pur a'i fywyd duwiol.

"Pan y'i gwelais yn Aberystwyth yn 1866, yr oedd yn isel ei ysbryd, a dywedodd wrthyf lawer o'i brofiadau a'i siomedigaethau, ond ni welais un arwydd ar y pryd fod ei feddwl yn ffaelu. Pan ddychwelodd i'r Taleithiau yr oedd ei iechyd corfforol wedi ei adfer, ond y meddwl wedi gwanhau yn ddirfawr. Clywais ei bregeth gyntaf yn addoldy y T.C., ym Milwaukee; ... Ai i eithafion direol a didrefn. Nid oedd Wmffre Jones yn bresennol mwy.

"Ni wn am un Gennad i'r Goruchaf yr wyf yn fwy dyledus iddo am gynhyrfiadau crefyddol ac argyhoeddiadau am Dduw ac anfarwoldeb na'r Parch. Humphrey Jones, ac y mae canoedd fel mi fy hunan ar hyd a lled y Taleithiau yr un mor ddyledus iddo. Y mae'r ddaear yn well o'i fywyd arni, a'r nefoedd yn anwylach o'i fynediad iddi."

Cefais heddiw, Awst 9, 1929, yng ngeiriau'r Parch. G. Bedford Roberts, atgofion Mr. Thomas Jones, sy'n byw yn awr yng Ngharno, Sir Drefaldwyn, am oedfa a gafodd Humphrey Jones, yn Columbus, Ohio— "Yn Hydref, 1884, a'r Parch. Humphrey Jones yn gwella'n araf o'i gystudd maith a phoenus, cefais y fraint o'i wrando'n pregethu. Cynhelid yr oedfa yng nghapel yr Annibynwyr Cymreig, yn Columbus, Ohio. Pregethai'r Diwygiwr ar y geiriau, "Canys felly y carodd Duw y byd." Gorchymynasai'r meddyg iddo ei gyfyngu ei hun i'w bapur, ac ymdrechai yntau wneuthur hynny. Eithr caed arddeliad mawr a rhyfedd ar y gwasanaeth o'r cychwyn; gwresogai ysbryd y pregethwr ac anesmwythai'r gynulleidfa, ac yn fuan diflannodd y papur fel dail ar flaen corwynt, ac wedyn, llefarai'r Diwygiwr fel yn nyddiau'i nerth. Nid oedd na gwres nac ynni yng nghrefydd y wlad ar y pryd, ond yn yr oedfa fythgofiadwy honno bloeddiai'r gynulleidfa ei hamen a'i diolch nes peri yn fy enaid iasau fel tân.

"Ar derfyn y bregeth ceisiodd y Parch. Mr. Griffith, gweinidog y Methodistiaid Calfinaidd yn Columbus, siarad. Yr oedd yntau tan deimladau rhyfedd, a methodd â llefaru. Yna, gweddiodd oni chodwyd pawb i awyrgylch Diwygiad '59, ar ei orau. I goroni'r oedfa soniodd Mr. Breeze, brodor o Lanidloes, am a glywodd gan Humphrey Jones yng Nghymru yn 1859. Bu hyn yn danwydd newydd, a fflamiodd y tân. Terfynodd yr oedfa mewn gorfoledd mawr."

Yn Awst, 1929, daeth imi lythyr oddi wrth Mr. Humphrey Richards, Des Moines, Iowa, gŵr pedwar ugain oed, a pherthynas i Humphrey Jones, yn dywedyd bod ganddo atgofion lawer ac annwyl am y Diwygiwr. Cofia ef yn dyfod trosodd i Gymru yn 1858, ac yn rhoddi gwlad oer ar dân; cofia ef hefyd ym mhen blynyddoedd, ar ôl ei ollwng o wallgofdy Winnebago, Wisconsin, yn treulio wythnos yn ei gartref yn Iowa, â'i gof wedi pallu a gogoniant y dyddiau gynt wedi ymadael Eithr er pob cyfnewidiad pery Mr. Richards i gredu na fu erioed

ddiwygiwr yn rhagori arno o ran ymgysegriad ac awdurdod a dylanwad.

XIV.
EI GOFIO.

Y mae yn America a Chymru eto'n awr rai o "blant y Diwygiad," ac erys degau a gofia'r Diwygiwr ac a fendithia Dduw am dano. Eithr anodd yw taro ar neb a fedr fanylu llawer ar neilltuolion y Diwygiwr. Ceir yng Nghofiant y Parch. Dafydd Morgan a gyhoeddwyd dair blynedd ar hugain yn ôl hanes manwl cannoedd o oedfaon rhyfedd y Diwygiad yma a thraw trwy Gymru, ac nid oes ofyn am ychwanegu atynt, oblegid yr un nodweddion a berthynai iddynt oll—nerth a gwres a gorfoledd a deimlid ym mhob oedfa. Aeth yr awdur i drafferth hefyd i osod Humphrey Jones yn ei le priodol yn ei berthynas â'r Diwygiad, a sonia am dano â pharch ac edmygedd mawr; eithr ei destun ydoedd Dafydd Morgan a'r Diwygiad, a phrin oedd ei ddeunydd at draethu ar Humphrey Jones.

Efallai nad oes fodd gwell i weled mawredd Humphrey Jones a'n rhwymedigaeth ninnau i'w gofio na theithio hyd ato drwy'r Diwygiad. Dywaid llenor Seisnig mai'r dyn mawr yw'r sawl a wna beth am y tro cyntaf. Boed a fynno am hynny, y mae'n sicr y perthyn neilltuolrwydd gwerthfawr i gychwynnydd symudiad mawr fel Diwygiad 59,—digon o neilltuolrwydd i'w gofio'n hir onid am byth.

Yn ystod misoedd cyntaf y Diwygiad ysgrifennodd y Parch. John Thomas, D.D., Lerpwl,—"Y Parch. H. R. Jones, pregethwr gyda'r Wesleaid, a fu y prif offeryn i gychwyn y Diwygiad presennol. Nid yw ond dyn ieuanc 25ain ml. oed; genedigol o Dre'rddol, Sir Aberteifi. Dychwelodd o America yn ystod y flwyddyn ddiweddaf, yn llawn tân diwygiad, gydag amcan i fod yn foddion i gyffroi ei genedl yn ei hen wlad.

Ymleda y tân dwyfol gydag angerddoldeb. Mae pob enwad a phob eglwys uniongred trwy y Sir oll wedi eu bedyddio â'r Ysbryd Glân. Mae yr awelon balmaidd. yn chwythu yn adfywiol ar yr eglwysi gyda glannau Teifi, ac o gylch Llanbedr-pont-Stephan, lle yr oedd anadl wenwynig Sociniaeth wedi gwywo pob gwyrddlesni crefyddol; y maent yn awr yn blodeuo fel gardd yr Arglwydd, yr oerni gaeafol wedi myned heibio, a gwanwyn a hâf ar grefydd wedi dyfod. Mae y Diwygiad mewn rhai manau yn gwisgo gwedd wahanol yn awr rhagor yr hyn oedd. Gwres a thanbeidrwydd yr hen ddiwygiadau gynt wedi dychwelyd-afradloniaid wedi dychwelyd, ac wedi eu gwledda, a'r teulu yn awr yn dechrau bod yn llawen. Mae Duw yma wedi gwneud pethau anhygoel. O Dre'rddol, y Borth a Thalybont, trwy Aberystwyth, gyda glan y môr hyd Aberteifi, ac yn groes trwy ganol y wlad heibio Y Glyn, Hawen, Castell Newydd, Horeb, hyd Lanbedr, trwy Langeitho a Thregaron hyd Bontrhydfendigaid-crefydd ydyw y testun cyffredinol, ac achub sydd ar feddwl pawb. Nid oes genym gyfrif cywir o nifer y dychweledigion drwy y sir oll; ond oddiwrth yr hysbysrwydd sicr a gawsom o nifer fawr o leoedd, a'r awgrymiadau am lawer yn ychwaneg, tybiwn ein bod islaw yn hytrach nag uwch y nifer pan ddywedwn fod pymtheng mil o eneidiau wedi eu hychwanegu at yr eglwysi yn Sir Aberteifi yn unig o fewn corff y flwyddyn hon; a gobeithio eu bod o nifer y rhai "a fyddant gadwedig." Mae pethau rhyfeddol yn cymryd lle yn sir Benfro-sir na bu erioed yn nodedig am ei gwres crefyddol. Mae y Dyfedwyr yn bwyllog a digynnwrf yn gyffredin,heb olygu fod arddangosiad o deimlad dwys yn hanfodol i grefydd; ond y mae y fflam wedi ymafael ynddi, ac yn llosgi o'i blaen. Mae y rhan fwyaf o'r eglwysi gyda phob enwad wedi profi pethau grymus. Una y gwahanol enwadau fel un gŵr i weddio; ac y mae rhai o eglwysi y Bedyddwyr yn y sir hon wedi cael adnewyddiad anghyffredin. Tua gwaelodion sir Gaerfyrddin, ac ymlaen hyd dref Caerfyrddin, y mae yr eglwysi yn blodeuo fel rhosyn. Rhifir y dychweledigion wrth yr ugeiniau a'r canoedd yn ardaloedd Blaencoed, Bwlchnewydd, Cana a Llanybri. . .

Mae awelon grymus iawn yn chwythu ar Pyle, Cefncribwr, Cwmafon, Rock, Abertawe, Glandwr, a'r wlad oddiamgylch. Nid oes hamdden gan y bobl i ddim ond gweddio. Mae cannoedd o'r cymeriadau mwyaf llygredig yn "ymwasgu â'r disgyblion."

Yn y Gogledd hefyd y mae effeithiau grymus iawn i'w canfod. Daeth rhagddo o sir Aberteifi i sir Drefaldwyn. Mae ychwanegiadau rhyfeddol tuag Aberdyfi, Towyn, Penal, Machynlleth, Aberhosan, a'r holl leoedd cylchynol. . . . . . Mae yr awelon yn chwythu tua Dolgellau, Abermaw a'r Bala. Mae diferynau breision yn disgyn mewn mannau yn sir Gaerynarfon, yn rhagddangos fod "glaw mawr ei nerth ef" ar ddyfod. . . .[49]

Nid yw'r hyn a ysgrifennwyd gan y Doctor John Thomas namyn y filfed ran o hanes y Diwygiad. Llosgodd y tân trwy Gymru gyfan—pob sir ynddi, ac i'r pentrefi mwyaf mynyddig a diarffordd. Ychwanegwyd ugeiniau o filoedd at yr eglwysi a newidiwyd llawer ar wedd foesol yr holl genedl; ac i'r Diwygiad yn fwy nag i ddim arall yr ydym yn ddyledus am lawer o gewri'r pulpud, megis, T. C. Edwards a John Evans, Eglwysbach.

Tybed na rydd symudiad mor anarferol fawr arbenigrwydd ar y gŵr a ddefnyddiodd Duw i'w gychwyn? Y mae'n ddiamau y gwna; eithr nid oes yng Nghymru na maen na llyfryn i'w gofio.

Yn 1914, trefnodd y Parch. R. H. Pritchard (W.), godi Colofn Goffa i'r Diwygiwr, o flaen capel Tre'rddol. Cymeradwywyd ei gynllun gan Gyfarfodydd Taleithiol a Chymanfa y Wesleaid yng Nghymru, a gwasgarwyd llyfrau casglu trwy'r wlad. Yr oedd arwyddion sicr y cefnogid yr ymgymeriad gan grefyddwyr Cymru'n gyffredinol; eithr daeth y Rhyfel Mawr a drysu bywyd yr holl deyrnas, ac ni chodwyd y Golofn byth. A ydyw yn anodd gwneuthur hynny eto yn awr? Aberthodd Humphrey Jones ef ei hun pan gychwynnodd y Diwygiad a fu yn foddion achub tros gan mil o bechaduriaid i fywyd tragwyddol, ac nid oes ddim i'w gofio; petai wedi cychwyn symudiad a fai'n foddion dinistr can mil o wrthwynebwyr Prydain mewn rhyfel codesid yn ddiymdroi golofn ddrudfawr i'w ogoneddu.

Nodiadau golygu

  1. "Hanes Dafydd Morgan, Ysbyty, a Diwygiad '59." Gan y Parch. J. J. Morgan.
  2. Hanes Dafydd Morgan, Ysbyty, a Diwygiad '59," tud. 19.
  3. Llythyr oddi wrth Mr. N. J. Smith, Llyfrgellydd Cynorthwyol y Drew Theological Seminary, Madison, New Jersey, dyddiedig Ebrill 5, 1928.
  4. Llythyr oddi wrth y Parch. C. H. Wiese, Ysgrifenyndd Cynadledd Wisconsin, dyddiedig Ebrill 27, 1929.
  5. "Hanes Dafydd Morgan, Ysbyty, a Diwygiad '59," tud. 20.
  6. Dwight L. Moody
  7. 7.0 7.1 7.2 Erthygl y Doctor H. O. Rowlands yn "Y Drych."
  8. Llythyr y Doctor H. O. Rowlands, dyddiedig Rhagfyr, 1927.
  9. Cofiant Dafydd Morgan, tud. 21.
  10. Cofiant Dafydd Morgan, tud. 82.
  11. Cofiant y Parch. Dafydd Morgan, tud. 26.
  12. "Y Fwyell," Mai, 1894. tud. 61.
  13. Gelwid ef hefyd yn William Jones, eithr yn ôl Coflyfr Claddu Eglwys Llancynfelyn, ei enw bedyddiedig oedd William James
  14. Ysgrif y Parch. J. Hughes Griffiths, M.A., yn "Y Fwyell," Tach., 1894
  15. Ysgrif Humphrey Jones yn "Yr Herald Cymraeg," Awst, 15 1858.
  16. "Yr Eurgrawn Wesleaidd," Hydref, 1858. tud. 356.
  17. Llythyr dyddiedig Awst, 1926.
  18. "Y Fwyell," Medi, 1894. tud. 182.
  19. "Y Diwygiwr," Ebrill, 1859.
  20. "The Origin and History of Methodism in Wales" tud. 339.
  21. "Dafydd Morgan a Diwygiad '59," tud. 459.
  22. "Yr Herald Cymraeg," Medi 11, 1858.
  23. "Y Fwyell, Medi 1894, tud. 138.
  24. "Yr Herald Cymraeg," Medi 11, 1858.
  25. "Y Fwyell," Medi, 1894. tud. 186.
  26. "Y Fwyell," Medi, 1894. tud. 185.
  27. "Bywyd y Parch. Isaac Jones," tud. 93.
  28. "Cofiant y Parch. Thomas Rees, D.D., Abertawe," gan y Parch. J. Thomas. tud. 203, 204.
  29. Dafydd Morgan, a Diwygiad '59," tud. 597.
  30. "Y Diwygiwr," Ebrill, 1895.
  31. "Y Diwygiwr," Mai, 1859
  32. "Dafydd Morgan, a Diwygiad '59," tud. 66. Yr wyf yn ddyledus i'r Parch. J. J. Morgan am ddyddiadau a ffeithiau'r cyfarfodydd hyn.
  33. 33.0 33.1 "Y Fwyell," Tachwedd, 1894. tud. 222.
  34. Cofiant Dafydd Morgan a Diwygiad '59," tud.22
  35. "Cofiant Dafydd Morgan a Diwygiad '59." tud. 22.
  36. "Yr Eurgrawn Wesleaidd," 1859. tud. 210.
  37. Yr oedd eglwysi presennol Cylchdaith Ystumtuen yng Nghylchdaith Aberystwyth hyd 1861.
  38. Y mae yn fy meddiant wyth o lythyrau'r Parch. Humphrey Jones a gyflwynwyd i mi gan Mr. David Delta Davies ychydig cyn ei farw.
  39. Y Parch. William Rowlands (Gwilym Llŷn).
  40. Ychwanegodd yr 'R' at ei enw yn America
  41. Ymae'r hyn a ddywedir yma yn dystiolaeth feddygol swyddogol.
  42. Llythyr dyddiedig Medi 18, 1929, oddi wrth Adin Sherman, M.D., Superintendent of the Northern Hospital for the Insane, Winnebago, Wis.
  43. Llythyr Miss Anna E. Jones, Mankato, Minn., dyddiedig Medi 30, 1927.
  44. "History of the Welsh," pub. at Mankato, Minn., 1895
  45. Llythyr y Parch. J. C. Jones, D.D., Chicago, Rhagfyr 2, 1927.
  46. "The Chilton Wisconsin Times," May 11, 1895.
  47. Llythyr, Gorffennaf 16, 1928.
  48. Llythyr, dyddiedig Awst 2, 1928
  49. "Diwygiad Crefyddol: Yn cynnwys hanes y Diwygiad presenol yn Nghymru." Gan y Parch. J. Thomas, Liverpool. Llanelli, 1859.
 

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1954, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.