Straeon y Pentan (Testun cyfansawdd)
← | Straeon y Pentan gan Daniel Owen |
→ |
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Straeon y Pentan |
Straeon y Pentan
Gan Daniel Owen
HUGHES A'I FAB, CYHOEDDWYR,
GWASG Y DYWYSOGAETH, WRECSAM
STRAEON Y PENTAN:
GAN
DANIEL OWEN,
Awdwr "Rhys Lewis," "Enoc Huws,” &c., &c.
WREXHAM:
CYHOEDDEDIG GAN HUGHES & SON, HOPE ST.
1895.
AT Y DARLLENYDD
Mae amryw o'r straeon hyn wedi ymddangos eisoes mewn gwahanol gylchgronau, a'r lleill yn ymddangos yn awr am y tro cyntaf. O herwydd fy mod wedi cyhoeddi amryw nofelau, hwyrach y dylwn ddweud mai straeon gwir ydyw y rhai hyn. Gosodais yr hanesion yn ngenau F'ewyrth Edward, er mwyn ysgafnhau yr arddull a'u gwneud yn fwy darllenadwy i bawb. Mi a wn yn burion fod y stori am Twm Cynah yn cael ei hadrodd am Bendigo, Tom Spring ac eraill. Am a wn i, y mae gan Twm Cynah gystal hawl iddi a neb arall. Mi gredaf y caiff y llyfr y derbyniad a haedda — beth bynag fydd hyny. Nid llawer o lyfrau cyffelyb i Straeon y Pentan sydd yn Gymraeg, o leiaf, ni wn i ond am ychydig, ac os bydd ei ymddangosiad yn gymhelliad i rywrai eraill i wneud casgliad gwell o straeon sydd yn berffaith wir, bydd un amcan da wedi ei gyrhaeddyd. wyrach y bydd ambell frawd go solet yn tynu cuchiau uwchben rhai o'r tudalenau, ac yn sibrwd—"gwirion hen," er hyny, hyderaf fod i bob un o'r straeon ei hergud, ac nad oes dim yn un o honynt i iselu tôn moesoldeb y darllenydd.
DANIEL OWEN.
WYDDGRUG
- Mai, 1895.
CYNWYSIAD
DOLI YR HAFOD LOM
NID WRTH EI BIG MAE PRYNU CYFFYLOG
Y DDAU FONNER
Y DALEB
ENOC EVANS, Y BALA
HET JAC JONES
EDWARD CWM TYDI
THOMAS OWEN, TY'R CAPEL
Y GWEINIDOG
WILLIAM Y BUGAIL
CI HUGH BURGESS
CŴN
TOMOS MATHIAS
YSBRYD Y CROWN
TUBAL CAIN ADAMS
FY ANWYL FAM FY HUNAN
HEN GYMERIAD
RHY DEBYG
Y DDAU DEULU
STRAEON Y PENTAN
——————
Doli yr Hafod Lom
"WEL," ebe F'ewyrth Edward, "yr wyt ti erbyn hyn yn ddigon hen i mi sôn wrthot ti am ryw bethau na fuaswn i ddim yn meddwl am sôn am danynt ryw dair neu bedair blynedd yn ol. Yr wyf yn dallt dy fod dithau yn dechreu cerdded y llwybr a gerddais inau, ac a gerddodd agos i bawb o'r hîl ddynol, oddieithr ambell hen lanc a anwyd yn hen lanc. Mae'n debyg (ac edrychodd F'ewyrth arnaf gyda chil ei lygad, a gwridais inau at fôn fy ngwallt) dy fod yn credu yn dy galon na fu neb erioed yn debyg i Mary Jones, y Pant, ac y bydd yn anmhosibl i ti byth fedru caru neb arall. Pwy ond Mary, meddi di, fedrai wneud i ti fethu cysgu a methu bwyta? pwy ond y hi fuasai yn peri i ti fod yn barod i aberthu pobpeth er ei mwyn? a pheri i ti ddymuno fod y peth yma a'r peth arall, ac, yn wir, wneud i ti feddwl y gallet ti farw drosti? Paid a siomi dy hun. Hwyrach yr aiff y clefyd drosodd yn y man, ac daw o atat ti eto ymhen yr rhawg yn nglŷn â rhywun arall, ac na feddyli di y pryd hwnw fwy am Mary Jones, y Pant, nag am Malen, y forwyn yma. Mi wranta dy fod yn meddwl mai dy fodryb Beti oedd yr unig gariad a fu gen i? Dim peryg! Y hi oedd yr olaf, a'r oreu, mi gredaf.
Ond am Doli, yr Hafod Lom, yr oeddwn yn mynd i sôn. Wn i ddim yn y byd mawr sut y cafodd y ffarm yr enw Hafod Lom, achos yr oedd hi yn llai llom na'r rhan fwyaf o ffermydd yn y gymdogaeth. Yr oedd y tŷ ar dipyn o godiad tir, ac yn gwynebu haul y bore, ac yr oedd gardd fawr o flaen ei ffrynt. Tu ol i'r tŷ yr oedd buarth mawr, ac ar y naill ochr iddo yr oedd y stablau, a'r tai allan. Yn un pen i'r buarth yr oedd llyn mawr dwfn, a dŵr glân gloew yn rhedeg yn feunyddiol iddo yn un pen, a fflodiart yn y pen arall lle y gellid gollwng y dŵr allan, neu ei storio fel y byddai yr angen. Amlwg ydoedd ar y clawdd cadarn oedd o'i gwmpas fod rhywun yn yr hen amser wedi cymeryd trafferth fawr i wneud y llyn, ac yr oedd yn gaffaeliad mawr i'r tŷ, achos un o'r pethau mwyaf manteisiol yn nglŷn â ffarm, lle mae llawer o benau, ydyw digonedd o ddŵr. pur. Tu ol i'r stablau yr oedd yr ydlan, a thu ol i hono yr oedd llwyn o goed. Gellid myn'd i'r tŷ ddwy ffordd, sef ar hyd y llwybr oedd yn myn'd o'r tyrpeg i'r drws, ac hefyd ar hyd llwybr oedd yn myn'd drwy y llwyn coed, ac heibio ochr bellaf y llyn a thros y fflodiart. Anaml y cerddai neb y llwybr hwn yn y nos, am nad oedd yn ddiberygl syrthio i'r llyn, ac yr oedd y dŵr yn ddwfn iawn, fel y dwedais, yr ochr hono iddo. Yr oedd y tŷ yn fawr a hen ffasiwn, a'r ystafelloedd yn helaeth, ac yn llawn mwy cysurus na'r cyffredin yn y dyddiau hyny. Wel, y mae genyt ddrychfeddwl go lew yrwan, pa fath le oedd yr Hafod Lom.
Gair neu ddau, yrwan, fel y dywed y pregethwyr, am y tenant, sef Richard Hughes, fel yr wyf fi yn ei gofio pan oeddwn yn llanc. Dyn main tal oedd Richard, bob amser yn gwisgo côt a gwasgod lwyd, a chlôs a getars o gesimïar goleu. Main oedd Richard o'r top i'r gwaelod. Yr oedd ei goesau yn fain, ac o herwydd nad oeddynt yn neillduol o sythion, a'r clôs â'r gêtars yn ffitio yn dụn, yr oedd cryn oleu rhyngddynt, ac yn gwneud i un feddwl, wrth edrych arnynt, nad gorchwyl hawdd a fuasai i'w perchenog ddal porchell neu lwdn mewn adwy. Yr oedd ei wyneb drwyddo yn fain—ei drwyn yn fain, ei ên yn hirfain, ac o herwydd ei fod wedi colli ei ddanedd, ac yn shafio ei wyneb yn lân oddigerth rhyw fodfedd wrth dop ei glustiau, yr oedd ei safn yn pantio yn o sownd, a'i ên a'i drwyn yn myn'd yn agosach cymdogion bob blwyddyn. Ond yr oedd un peth llydan yn perthyn i Richard, sef ei het, yr hon a fyddai bob amser a choryn isel a chantel mawr iddi, ac yn ymddangos yn rhy helaeth iddo o lawer, ac yn pwyso mor dost ar ei glustiau nes troi hem arnynt. Yr oedd Richard yn cael y gair ei fod yn gyfoethog iawn. Ddymunwn i ddim dweyd ei fod yn gybydd, ond yr wyf yn ddigon siwr ei fod yn hoff o arian, mor hoff fel yr oedd yn anmhosibl ei berswadio ond yn anfynych i ymadael a dim o honynt. Wedi i mi ddweyd fod Richard Hughes yn flaenor Methodus, a fod ganddo dipyn o wich yn ei lais, mi fydd genyt idea go lew eto am denant yr Hafod Lom.
Dynes landeg, siriol a charedig, oedd gwraig yr Hafod, sef Dinah Hughes, ond anfynych y byddai yn cael cyfleustra i ddangos ei charedig rwydd ond yn absenoldeb Richard. A byddai y tlodion yn gwybod hyny yn dda, ac yn gwylio yr hen ŵr yn myn'd i'r farchnad neu i'r capel, cyn meddwl am fyn'd i'r Hafod. Yr oedd gwraig yr Hafod gryn lawer ieuengach na'i gŵr. ac yn cadw ei hoed yn well. Doli oedd eu hunig epil, ac yr oedd yn un o'r genethod harddaf a challaf a fu erioed ar ledr. Yr oedd yn dal a lluniaidd, ac yr oedd ganddi wyneb fel pictiwr. Er hyny, yr oedd yn hynod ddifalch, ac yn agos iawn at bawb, fel y dwedir. Ni fyddai fawr wahaniaeth yn ei gwisg a gwisgoedd merched eraill is o lawer eu sefyllfa na hi. Ond dwedai rhai mai ei thad oedd yn gwrthod dillad crand iddi, ac hwyrach fod gwir yn hyny. Mi glywais ei mam yn dweyd un tro y byddai Doli pan yn cael dilledyn newydd yn gorfod ei gadw yn hir cyn ei wisgo; ac yna os llygadai ei thad y dilledyn pan wisgai Doli ef y tro cyntaf, a dechreu tuchan am y gwastraff, dwedai'r fam "Be haru chi, Richard? ond ydi hwn ene gan yr eneth er's gwn i pryd; lle buoch chi tan 'rwan heb ei weled?" Yna prynai Dinah Hughes ddilledyn newydd arall i Doli cyffelyb, pan y gwyddai fod Richard wedi colli ymddiried yn ei lygaid. Prun bynag, pa beth bynag a wisgai Doli'r Hafod, yr oedd hi yn moedro penau y rhan fwyaf o lanciau y gymdogaeth; ac yr oedd ambell un, mi gredaf, wedi arall eirio, ddwy linell olaf yn yr hen benill adnabyddus, ac yn eu mwmian rhwng cyrn yr arad, ac yn mohobman
Mi af oddi yma i'r Hafod Lom,
Er fod hi'n drom o siwrne;
O na chawn yno ganu cainc,
Ac eistedd ar fainc y simdde!
Y gwir ydoedd, fod amryw o honom wedi haner dyrysu am Doli, ac nid oedd y ffaith fod ei thad yn gyfoethog, ac mai Doli oedd ei unig epil, yn lleihau dim ar ein clefyd. Frank Price, yı Hendre Fawr, Dafydd Edwards, y saer, a minau oedd yr unig rai a gai fymryn o gefnogaeth gan Doli. Ystyrid teulu yr Hendre yn bobl barchus a lled gefnog, ac yr oeddynt yn Eglwyswyr selog; ac yr oedd Frank yn fachgen digon smart, ond ei fod dipyn yn wyllt a digrefydd Ond mi welais i yn fuan mai Dafydd Edwards, y saer, oedd ffafryn Doli, a mi rois fy nghardiau yn tô, ac yn fwy boddlon am mai Dafydd oedd y dyn, ac nid Frank. Yr oedd Dafydd yn aelod eglwysig, ac yn fachgen crefyddol a da, ac yn hynod olygus. Ond dyna oedd yn rhyfedd, er fod Richard Hughes yn flaenor, mab yr Hendre oedd ei ffafryn ef. Rhoddai bob croesaw i Frank pan ddeuai i'r Hafod; ond ni feiddiai Dafydd, druan, ddangos ei wyneb yno. Beiai pobl y capel yr hen Richard yn fawr am ei fod yn croesawu bachgen digrefydd i geisio am law ei ferch, a dwedent mai ei gariad at arian oedd rheswm am hyny, ac eto credai pawb, yr wyf yn meddwl, fod gwreiddyn y mater gan Richard Hughes, y blaenor. Ond ni allasai holl gyfoeth y byd dynu serch Doli oddiar Dafydd Edwards, a safai yr eneth yn uwch yn syniad y gymydogaeth o'r herwydd. Yr oedd yr ystori hyd yr ardal; ac yr oedd yn ddigon gwir, mi gredaf, fod Doli yn cael byd garw efo'i thad, am ei bod yn caru Dafydd, y saer, ac yn gwrthod gwneud dim â mab yr Hendre Fawr.
Pa fodd bynag—a dyma ydi'r stori-un noson yr oedd yr hen Richard wedi myn'd i'r capel, a Dafydd, yn gwybod hyny, wedi myn'd i gyfarfod Doli at benor y llwybr oedd yn myn'd drwy y llwyn coed y soniais am dano. Pan fyddai Doli yn myn'd i gyfarfod Dafydd, byddai bob amser yn cymeryd Twm, rhyw gi bach chwerw i'w chanlyn, yr hwn os clywai y mymryn lleiaf o drwst a ddechreuai chwyrnu, ac yna byddai Dafydd a Doli yn gallu ymwahanu cyn i neb eu gweled. Ond y noson hono yr oedd y ddau wedi ymgolli yn gymaint yn yr ymgom, neu ynte yr oedd y ci yn adnabod sŵn у troed oedd yn dyfod i lawr y ffordd, fel na ddarfu iddynt sylwi fod neb yn agosau nes oedd yr hen Richard yn eu hymyl. Yr oedd yn noswaith lled dywell, ond can gynted ag y deallodd Doli mai ei thad oedd yno, rhedodd drwy y coed, ac ebe'r hen ŵr—
Dafydd, wyt ti yma eto? Sawl gwaith yr ydw i wedi dweyd wrthot ti am beidio d'od ar ol yr eneth yma? Waeth i ti un gair na chant, chei di byth moni tra bydd fy llygaid i'n agored."
Y foment hono clywodd y ddau ysgrech dor calonus ac fe ddarfu i'r ddau adnabod y llais. Rhuthrodd Dafydd ar hyd y llwybr tua'r llyn, a'r hen ŵr yn ei ddilyn oreu y gallai. Yr oedd y noson yn dywell, fel y dywedais, ond tybiodd Dafydd, er ei fod yn gynhyrfus, ac ymron allan o'i bwyll fod rhywun wedi croesi y llwybr cyn iddo gyrhaedd y llyn. Yr oedd Dafydd yn nofiwr diail, ac fel dyn gwallgof, neidiodd i'r llyn, ac ymbalfalai yn y tywyllwch am Doli, ond i ddim pwrpas am fynud neu ddau. Yr oedd yr ysgrech wedi cyrhaedd yr ystablau lle yr oedd y llanciau yn porthi yr anifeiliaid, ac mewn ychydig funudau yr oedd y gweision oll gyda'u lanterni ar ymyl y llyn, ac fel y dwedodd un o'r llanciau wrthyf wedyn—pan daflodd y lanterni eu goleu ar y llyn, y peth cyntaf a welodd oedd Dafydd wedi cael gafael yn Doli ac yn dal ei phen uwchlaw'r dŵr, a chlywodd ei geiriau olaf—"O Dafydd bach, yr ydw i'n boddi." Dygwyd Doli i'r lan a chariwyd hi i'r tŷ. Nid oedd wedi marw, ond o herwydd anwybodaeth pobl sut i drin rhai yn y cyflwr hwnw, bu Doli druan farw ymhen ychydig fynudau. Pan oedd yn marw yr oedd yn sefyll uwch ei phen ei thad a'i mam, Dafydd, y saer, a mab yr Hendre fawr. Pa fodd y daeth Frank yno ar y fath adeg ni wybu neb byth, ac nid wyf finau yn dewis dweud fy opiniwn. Achosodd yr amgylchiad lawer o boen a siarad yn y gymydogaeth. Yr oeddwn er's tro byd yn ymwelydd mynych a'r Hafod Lom, ac yn bur ffryndiol â Doli ac â'i thad â'i mam.
Euthum yno dranoeth ar ol y ddamwain, ac ni welais yn fy mywyd y fath ofid a thorcalon. Cyn i mi ymadael ebe'r hen Wr, Richard Hughes, wrthyf—
Edward, wnei di ofyn i Dafydd, y saer, ddod i'r claddu? "
Synais ei glywed yn dweyd hyny wrth gofio am ei elyniaeth at Dafydd, a da oedd genyf gario y genadwri.
Yr oedd yr holl ardal ymron wedi dyfod i gladdu Doli, ac yn ol yr arferiad y pryd hwnw ar gladdedigaeth, yr oedd yn yr Hafod gryn fwyta ac yfed. Drwy fy mod yn dipyn o ffafryn yn yr Hafod yr oeddwn yno yn un o'r rhai cyntaf ddiwrnod y claddu. Ychydig cyn yr amser yr oedd yn rhaid "codi'r corff," a chychwyn tua'r fynwent, yr oeddwn gyda Richard a Dinah Hughes mewn ystafell ar ein penau ein hunain cheisiwn eu cysuro oreu y gallwn, ond yr oedd eu galar, fel y gallet ti feddwl, yn arteithiol. Edrychodd Richard drwy y ffenestr i'r buarth ar y dyrfa fawr oedd wedi dyfod i gladdu Doli, ac ebe fe wrthyf—
"Ai nid Dafydd ydi hwn acw sydd ar ei ben ei hun yn mhen draw y buarth?" Dwedais inau mae ïe.
"Gofyn iddo ddod yma," ebe fe.
Euthum ar unwaith a dygais ef i mewn. Nid anghofiaf yr olygfa byth. Pan ddaeth Dafydd i mewn torodd yr hen wr i lawr yn lân, ac ni fedrodd ddweyd gair am yr rhawg. Wedi i'r gafod fyn'd drosodd, ebe fe,—ac y mae ei eiriau yn swnio yn fy nghlustiau y fynud hon—
"Dafydd, O! Dafydd, mae Duw wedi fy nharo—wedi fy nharo rhag fy namio i! Y ti oedd pia Doli—ïe, y ti oedd ei phia hi, ac wrth dreio dy robio di o honi mi collais hi am byth! Dafydd,"—a gosododd yr hen wr ei ben ar ysgwydd lydan Dafydd—"y mai i i gyd oedd o, a mae Duw wedi fy nharo!" ac wylodd yn hidl. "Dafydd," ychwanegodd," gaf i bwyso ar dy fraich di ar y ffordd i'r fynwent?" Dwedodd Dafydd y cwbl drwy wasgu llaw yr hen ŵr gofidus, a synodd pawb weled Richard Hughes yn cerdded yn mraich Dafydd, y saer, tua'r fynwent.
Bu llawer o siarad ac amgrymu dan eu danedd ymhlith y cymdogion ar ol hyn. Pa un ai yn ddamweiniol ai fel arall y cyfarfyddodd Doli a'i diwedd, ni wybu neb byth. Yn fuan ar ol hyn ymunodd mab yr Hendre Fawr â'r fyddin, a lladdwyd ef yn India'r Dwyrain. Ni bu Richard Hughes byth yr un dyn. Fu o ddim byw yn hir ar ol hyn; ond tra y bu o byw, 'doedd dim arwydd arno ei fod yn caru arian, a mi ddiweddodd ei oes yn un o'r dynion mwyaf cymwynasgar a llaw agored yn y wlad. Yr oedd pobl yn dweyd fod Richard Hughes, yr Hafod Lom, wedi gadael yn ei ewyllys olaf swm go dda o arian i Dafydd, y saer, ond wn i ddim oedd hyny yn wir. Ond mi wn hyn, na ddaru Dafydd byth garu neb arall ar ol colli Doli—mi fu farw yn hen lanc ac yn dda arno," ebe Fewyrth Edward.
—————————————
Nid wrth ei Big mae Prynu Cyffylog
PAID byth a chymeryd pobl wrth eu golwg, neu yr wyt yn lled debyg o gael dy siomi weithiau. Mae yna hen air Cymraeg,–Nid wrth ei big y mae prynu cyffylog.' Yr wyf yn cofio pan oeddwn yn las-hogyn yn byw efo nhad a mam yn Cefnmeiriadog, fod Wil Williams, mab y ffarm nesaf atom, a minau yn gyfeillion mawr; ac o herwydd fod ein rhieni mewn gwell amgylchiadau na rhai o'r ffermwyr tlodion oedd o'n cwmpas, ein bod yn meddwl tipyn o honom ein hunain. Mi glywi rywrai yn dweyd nad ydyw yr oes yn gwella dim. Lol i gyd; mae hi wedi gwella llawer. Prin y gwelid y pryd hwnw fachgen i ffermwr yn darllen llyfr da, os na fyddai ei fryd ar fyn'd yn bregethwr. Ein prif ddifyrwch yr adeg hono, fel y mae gwaethaf adrodd, oedd chwareuon ffol, megys rhedeg, neidio, prison bars, ymladdfeydd, ac ymladd ceiliogod. Er nad oedd neb o honom yn darllen papyr newydd, yr oeddym yn dyfod i wybod rywfodd am yr ymladdfeydd yn Lloegr a Chymru, ac mewn hanes yr oeddym mor gydnabyddus â Bendigo Caunt, Tipton Shlasser, Tom Sping, Welsh Jim, a Tom Cynah, ag ydyw bechgyn yr oes hon âg enwau Owen Thomas. John Thomas, a phregethwyr mawr eraill. Un gwylmabsant yr oedd miri mawr i fod yn Ninbech, ac yr oedd Wil Williams a minau er's wythnosau yn cynilo ein ceiniogau i fyn'd yno. Yr wyf yn cofio ein bod ein dau wedi cael dillad newydd, côt a gwasgod felfet, a chlos rhesog, ac hefyd watch a chadwen steel a sêl a chragen wrthi, a'n bod yn meddwl ein hunain yn gryn foneddigion. Dychymygem fod dagrau yn rhedeg, nid yn unig o lygaid, ond hefyd o ddanedd ein cyfoedion llai ffortunus. Y pryd hwnw yr oedd coach fawr yn rhedeg drwy Lanelwy i Ddinbech, ac oddiyno i'r Wyddgrug, ac oddiyno i Gaer. Bore y gwylmabsant yr oedd Wil Williams a minau, yn ddigon gorchestol mi goeliaf, er's amser yn Llanelwy yn disgwyl am y goach fawr, ac yn edrych ar ein watches bob rhyw dri munud, er mwyn i bawb ddeall fod genym y fath declyn gwerthfawr. Pan ddaeth y cerbyd i mewn, er mwyn dangos pa mor foneddig oeddym, cymerasom ein heisteddle ar y bocs, wrth ochr y driver, er y gwyddem y byddai raid i ni dipio y gyrwr am y fraint. Yr oedd dyn ar y bocs o'n blaen,—gŵr oddeutu pymtheg ar hugain oed,-llwm a gostyngedig yr olwg. Gwisgai gột lwyd, a chanfyddem fod y gôt a'i pherchenog yn gydnabyddus â'u gilydd er's llawer blwyddyn. Yn ddigon hyfion, gofynasom i wr y gột lwyd newid ei eisteddle er mwyn i ni gael eistedd yn nes at y driver a symudodd yntau yn ufudd heb rwgnach gair. Hen fraddug cydnerth, corffol, oedd y driver. a'i drwyn mor goch nes y tybiem ei fod yn taflu ei wawr ar bobpeth yr elem heibio iddynt. Gwyddem fod y gyrwr yn gryn ymladdwr, a dyna pam yr oeddym mor awyddus am gael eistedd yn nesaf ato,-er mwyn i ni gael clywed am ei orchestion ef ei hun, ac eraill yn yr un line, yn yr hyn ni chawsom ein siomi. Wrth gwrs, ei orchestion ei hun a gawsom ganddo yn gyntaf, ac yr oeddym ninau a'n geneuau yn agored wrth glywed am ei fuddugoliaethau. Yn y dyddiau hyny yr oedd cryn son am Welsh Jim yn mhlith y light weights, a Thwm Cynah ymhlith yr heavy weights, y ddau o'r Wyddgrug, fel y gwyddost. Cymro glân oedd Twm, er mae Cynah oedd ei enw."
Y gwir am dano," ebe y gyrwr, " y mae gormod o lawer yn cael ei wneud o Twm Cynah. Mi faswn yn leicio ei gael i sefyll o mlaen i am ryw ddau funud, er na weles i rioed mo'r dyn. Mi faswn yn dangos iddo fod yna Gymro arall yn y byd."
Synai Wil a minau at wroldeb a gallu y gyrwr. Ni ddywedai y gŵr a'r gột lwyd air o'i ben, ond tybiais weled gwên yn llithro dros ei wynebpryd pan ganmolai y gyrwr ei hun, yr hyn a'm cythruddodd nid ychydig. Wedi i ni flino son am ymladdwyr, fel hogiau drwg a disynwyr, dechreuasom wneud gwawd o bawb yr elem heibio iddynt ar hyd y ffordd, ac ni arbedwyd gŵr y gột lwyd genym. Yn wir cymerasom hyfdra mawr arno, ond dioddefai bobpeth yn dawel a digyffro, yr hyn a barodd i Wil a minau ei flino yn fwy. O'r diwedd cyrhaeddodd y goach fawr fuarth y Crown, Dinbech, lle yr oeddynt yn newid y ceffylau a'r gyrwr hefyd. Wedi i ni ddisgyn o ben y goach, safai y gyrwr yn ein hymyl, gan ddis gwyl cael ei dipio, ac er mwyn actio'r gŵr boneddig rhoddais swllt iddo, ac felly gwnaeth Wil. Yna gwelem ŵr y gôt lwyd yn ffymblo ei logellau yn hir, ac yn y man estynodd i'r gyrwr ddwy geiniog. Gwelaf wyneb y gyrwr yn glasgochi, a dechreuodd dafodi gŵr y gôt lwyd yn enbyd.
"Pa fusness oedd gan ryw garp fel chi ddod ar y bocs,' ebe fe; ' lle i foneddigion ydi'r bocs, ac oni bai y bydde'n ffiaidd gen i daro swp o esgyrn fel chi, mi rown i chi gurfa y cofiech am dani. "
"Mi naech?" ebe'r gŵr llonydd; ac erbyn hyn yr oedd amryw wedi hel o'n cwmpas. "Mi naech?" ebe fe; "be bydae chi'n treio?" a thaflodd y gôt lwyd oddiam dano.
Yr oedd y gyrwr yn anterth ei ddedwyddwch am gael cyfleusdra i roi curfa i ŵr y ddwy geiniog. Ond druan o hono! Tarawodd y gŵr llonydd ef nes oedd yn chwyrnellu, ac na wyddid pa ben iddo oedd uchaf. Ond daeth ymlaen drachefn, i fyn'd drwy yr un oruchwyliaeth yn gymwys, ac erbyn hyn nid oedd y gyrwr yn awyddus i godi oddiar lawr. Ac ebe gŵr y gôt lwyd,— Os bydd ar y brolgi yna eisiau gwybod rhywbeth yn mhellach am danaf, fy enw yw Twm Cynah; yr wyf yn byw yn Maesydref, Wyddgrug," a cherddodd yn hamddenol i'r Crown.
Yr oedd Wil a minau erbyn hyn wedi dychrynu yn fawr, ond gwnaethom, yr wyf yn meddwl, y peth goreu allasem ei wneud dan yr amgylchiadau,—euthom ar ei ol i'r tŷ i erfyn ei bardwn, ac i gynyg talu am hyny a ddymunai o ddiod. Ond ebe Twm Cynah, a dyma ydyw y wers —,
"Dydw i ddim yn yfed, diolch i chi, fechgyn, a chymerwch air o gyngor gen i. Pan ewch oddicartre y tro nesaf, gofalwch am gymeryd rhywun i edrych ar eich holau. Yr wyf yn maddeu i chwi eich camymddygiad, am fy mod yn gwybod mai diffyg synwyr oedd yr achos o hono. Cymerwch ofal na byddant yn eich cau i fyny yn y tŷ mawr yna sydd yn ymyl. Ond hwyrach fod gynoch chi ddigon o synwyr i gofio hyn,—peidiwch byth a chymeryd pobol wrth eu golwg, a pheidiwch byth a gwawdio pobol hyd y ffordd, yn enwedig merched a hen bobol ddiniwed. Pan oeddych yn gwawdio yr hen wr hwnw cyn cyraedd y dre, fum i rioed dan у fath demtasiwn ag i'ch taflu chi'ch dau a'r driver hefyd dros y gwrych, yr hyn a fedraswn yn hawdd. Peth arall, pan glywch chi rywun yn canmol ei hun yr un fath a'r driver yna, penderfynwch mae lob ydyw." Anghofiais i byth gyngor Twm Cynah, a mi fu yn wers i mi am fy oes, ebe F'ewyrth Edward.
—————————————
Y Ddau Fonner
Bonner haner tunell o blwm Maeshafn (a gŵyr pawb fod plwm Maeshafn yn drymach na phlymiau eraill), mewn sach ar ei gefn, a barnwyd y ddau Samson yn Eisteddfod Genedlaethol Gwernymynydd, yn gyfartal, a rhanwyd у wobr. Yr oedd William Bonner, fel ei frawd Richard, yn bregethwr hynod o dderbyniol gyda'r brodyr y Wesleyaid, ac yn wir gyda phawb eraill. Mi wyddost o'r goreu mai ychydig iawn a dderbyniai pregethwyr cynorthwyol y pryd hwnw am eu gwasanaeth, ac y mae arnaf ofn na dderbyniant gymaint ag a haeddant yn ein dyddiau ni. Ond tybiai rhywrai yr adeg hono fel y mae llawer yn meddwl yn awr, fod pregethu yn talu yn gampus, a fod pobl y cadach gwŷn yn gwneud eu ffortun.
"Faint wyt ti'n gael am y pregethu 'ma Wil?" ebe Shon, Pant Glas, wrth William Bonner un tro, ac ebe William,—"Wel, yr ydw i'n disgwyl y goron, wyddost, Shon."
"Diar anwyl!" ebe Shon, "coron y bore, coron y prydnawn, a choron y nos, dene bymtheg swllt? Pwy na fyddai'n bregethwr!"
Ni ddarfu i William fyn'd i'r drafferth i egluro i Shon mae y goron ysbrydol a olygai. Yr oedd William Bonner yn un o'r rhai cyntaf i gymeryd yr ardystiad dirwestol tua'r flwyddyn 1834 neu '35, a mawr oedd ei sel fel ei frawd Richard. Un tro yr oedd i draddodi darlith ar ddirwest yn Ngwernymynydd, a Thomas Owen, Tŷ'r Capel, y Wyddgrug, i fod yn gadeirydd iddo. Dyn od ryfeddol oedd y Thomas Owen yma, a mi fydd gen i stori i'w dweyd i ti am dano ryw noswaith pan gofia i. Pregethwr methadus oedd o, a mab i Richard Owen, y Bala. Ond yr oedd Thomas Owen er ei fod yn bregethwr ac yn ddyn duwiol iawn, fel pobl yn gyffredin y dyddiau hyny, braidd yn hoff o'i haner peint, cyn i'r symudiad dirwestol gymeryd lle, ac er fod Thomos yn mhlith y rhai cyntaf i ardystio, credai rhywrai ei fod yn cymeryd dropyn ar y slei. Clywsai William Bonner y sibrwd am ei gyfaill, ac wrth ddechreu ei ddarlith ar ddirwest, wedi i'r cadeirydd, sef Thomas Owen, gyflwyno y darlithydd i'r cyfarfod, ebe fe,—
"Gyfeillion, mae rhywrai yn taenu y stori yn y gymdogaeth yma fod ein cadeirydd parchus, Thomos Owen, a'i wraig Marged, yn yfed cwrw o bîg y tebot, ond celwydd mae'n nhw'n ddeyd yn chwilgorn-gafel-eu-gwddw, ynte, Thomos?" "Ie, neno dyn," ebe Thomos, "yfais i rioed ddyferyn o gwrw o big y tebot, na Marged chwaith," ac ni chwanegwyd y slander ar Thomos a'i wraig
Ond am Richard Bonner yr oeddwn yn meddwl son wrthot ti heno, 'blaw mod i yn ramblo. Clywais ef yn pregethu fwy nag unwaith, ond yr oeddwn yn rhy ieuanc i dderbyn unrhyw argraff, ond yn unig ei fod yn ddyn ysmala. Clywais hefyd yn ddilynol ddegau o ystraeon digrif yn ei gylch, ond ar hyn o bryd nid oes ond dwy yn aros yn fy nghof. Y mae i'r Wesleyaid gapel a elwir Tafarn y Celyn, neu fel y seinir ef ar dafod gwlad Tafarn gelyn, mangre ar y ffordd o'r Wyddgrug i Lanarmon. Ar un adeg yr oedd hen wreigan ffyddlon a duwiol iawn o'r enw Begws yn aelod dichllynaidd yn nghapel Tafarn -gelyn. Tlawd oedd ei hamgylchiadau, a derbyniai yr hen wreigan ychydig elusen plwy. Ar hyd y blynyddau cadwai Begws fochyn, a phan ddeuai yn hyn a hyn o faint gwerthai ef i dalu rhent ei bwthyn. Ond un tro darfu i ryw ysgerbwd o ddyn ladrata mochyn Begws, yr hyn a fu yn brofedigaeth fawr iddi. Teimlai yr eglwys yn Tafarn -gelyn yn dost dros yr hen wreigan yn ngwyneb ei cholled, a phenderfynasant, yn gristionogol ddigon, wneud casgliad iddi yn yr oedfa nos Sabboth. Richard Bonner oedd i bregethu noswaith y casgliad, a gofynodd y blaenoriaid iddo ddweyd gair ar yr amgylchiad, oblegid yr oeddynt yn awyddus i ddigolledu yr hen Begws druan, ac ebe Bonner cyn i'r casglyddion fyn'd o gwmpas,—
Wel, gyfeillion, yr ydan ni i gyd yn nabod Begws—does ganddi ddim yn spâr ag iddi gael llonydd gan chiwladron, a mi wn y rhoiff pob un gymaint ag a fedr o yn y casgliad hwn ond y dyn a ddygodd fochyn y greadures dlawd. Mi ellwch fod yn siwr na roiff y dyn a ddygodd y mochyn ddim dimai ar y plât!" Cyfranodd pob enaid rhag iddo gael ei dybied yn euog o ladrata mochyn Begws, ą, chafodd yr hen wraig fwy nag a gollasai.
Yr oedd Richard Bonner yn wr cryf a chadarn, a mi wyddost pan fo gweinidog Wesleyaidd wedi teithio am nifer penodol o flynyddau yn y weinidogaeth fod ganddo hawl i osod ei hun ar restr yr uwchrif, sef yw hyny, ymryddhau oddiwrth ofalon cylchdaith. Yr oedd yr hen Fonner wedi gwasanaethu yn ffyddlon am y cyfnod angenrheidiol, ac mewn cyfarfod taleithiol fe wnaeth gais am gael ei ystyried yn uwchrif. Nid oedd y frawdoliaeth yn gweled ei ffordd yn glir i ganiatau hyn am y rheswm nad oedd ganddynt neb ar y pryd mewn golwg i gymeryd ei le, neu rywbeth arall, ac ebai llywydd y dalaeth fel rhagymadrodd i berswadio Mr. Bonner i alw ei gais yn ol,
"Wel, Mr. Bonner bach, mi wyddom oll fod genych hawl i ofyn am gael eich gwneud yn supernumerary; ond yr ydych, hyd yn hyn, yn gryf, nid ydych yn pesychu, ac yr ydych yn pregethu yn dda—
"Ni chafodd y llywydd fyn'd ddim pellach cyn i'r hen ŵr pert godi ar ei draed, ac ebai fe, "O diar, os eisieu pesychu sydd, mi fedra i besychu cystal a run o honoch chi, ond os ydach chi am aros nes i mi bregethu yn sal mi fyddaf am byth heb gael yngwneud yn supernumerary." Nid wyf yn cofio sut y terfynodd gyda golwg ar gais Mr. Bonner, ond dyna ddigon i ti i ddangos pertrwydd y dyn a'i wit barod. Os nad oes bywgraffiad wedi ei wneud i Richard Bonner, y mae yna waith difyr a buddiol yn aros rhywun.
—————————————
Y Daleb
DYMA un o'r ystorïau yr ymhyfrydai fy Ewyrth Edward ei hadrodd, am ei bod yn wir bob gair, fel y dywedai:—
Mi wyddost fod yr achos Methodistaidd yn y dref yn hen achos—un o'r rhai hynaf yn y Sir. Nid oedd pobl er's talwm yn cyfranu haner cymaint a chrefyddwyr y dyddiau hyn, ac nid oedd cymaint o anghen. Er bod gweinidog a dau bregethwr yn perthyn i'r achos yn y dref, ac mewn rhan yn gwneud gwaith bugail, ni byddai neb yn meddwl rhoi dimai iddynt am eu llafur. Caent ychydig am bregethu a dyna'r cwbl. Ond er cyn lleied a gyfrenid, yr oedd y cyfeillion wedi talu am y capel er's rhai blynyddoedd, ac yr oedd ganddynt arian yn llaw y trysorydd. Go ddisut y byddai yr hen bobl yn trin y materion arianol—yr oedd y cwbl yn cael ei adael i ddau o'r blaenoriaid, a phawb yn ymddiried ynddynt fel dynion gonest, ac ni byddai neb o honynt yn gofyn am gael gweled eu cyf rifon, a phe gwnaethai rhywun hyny buasent yn ei ystyried yn insult. Yn wir, ni wyddai eu cyd-flaenoriaid eu cyfrinach—yn unig derbynient eu hadroddiad ddiwedd blwyddyn yn eithaf tawel. Yn y dyddiau hyny byddai llawer yn dyfod o bell o ffordd i gapel y dref, yn enwedig o Wernhefin, ac yn eu plith ddau frawd—dau ffermwr cyfrifol. Yn mhen amser gwnaeth y ddau frawd apêl am gael dechreu achos yn Ngwernhefin, am fod cerdded deirgwaith i'r dref ddwy filldir o ffordd yn feichus. Caniatawyd y cais gan bobl y dref, ac yn fuan codwyd capel bychan yno i gadw Ysgol Sul y bore, ac i gynal oedfa y prydnawn gan y pregethwr a ddigwyddai fod yn y dref. Fel hyny y bu am rai blynyddoedd nes sefydlu canghen eglwys yno, pryd y gwnaed Edward a Thomas Williams—y ddau frawd—yn flaenoriaid yn Ngwernhefin. Yn mhen rhai blynyddoedd yr oeddynt wedi talu cost adeiladu y capel bach o fewn deugain punt, ac o herwydd y gwyddid fod gan gyfeillion y dref arian mewn llaw, gofynwyd am fenthyg deugain punt yn ddilôg, ac y telid yr arian yn ol pan fyddai galw, yr hyn a ganiatawyd. Wedi cael benthyg yr arian, aeth cyfeillion Gwernhefin yn ddifater am dalu eu dyled. Perthynai i eglwys y dref wr o'r enw John Evans, gŵr blaenllaw iawn gyda'r achos, a'i brif hynodrwydd oedd meithder ei weddïau. Byddai ein gliniau wedi cyffio bob tro y gelwid ar John Evans i weddïo. Er i ddewis blaenoriaid gymeryd lle amryw weithiau yn y dref yn ystod arosiad John Evans yno, gadawyd ef bob tro heb ei ddewis. Ond gwnai John Evans y diffyg i fyny drwy weddïo gyhyd a thri bob tro y cai gyfleusdra. Yn mhen yr hwyr a'r rhawg daeth angen am arian ar bobl y dref, a galwyd ar gyfeillion Gwernhefin i dalu y deugain punt yn ol. Wedi cael llawer cyngherdd, darlith a thê parti, casglwyd yr arian. Aeth blynyddoedd heibio, ac erbyn hyn yr oedd financiers eglwys dref wedi meirw, a John Evans wedi symud i Wernhefin, ac wedi ei ddewis yn flaenor yno. Fel y gwelsent yn y dref, felly y gwnaethant yn Ngwernhefin—cadwai y ddau frawd bob cyfrinach arianol iddynt eu hunain, ond yr oeddynt yn ddynion o gymeriad tryloew, ac o dduwioldeb diamheuol. Oddeutu blwyddyn wedi dewisiad John Evans yn flaenor, bu farw un o'r ddau frawd, sef Edward, a syrthiodd yr holl gyfrinach i fynwes Thomas yn unig. Yn fuan, am ryw reswm neu gilydd, ystyfnigodd John Evans, a gwrthodai gymeryd unrhyw ran gyhoeddus yn y capel. Deuai i'r moddion yn gyson i edrych dan ei guwch. Un nos Sul, yn y seiat, ar ol ei gymhell yn daer i ddyweyd gair ac iddo yntau wrthod, ebe Thomas Williams—
"John Evans, beth sydd arnoch chi? Yr ydach chi er's tro yn gwrthod gwneyd dim ' pwy sydd wedi'ch tramgwyddo? gadewch i ni glywed."
Cododd John Evans ar ei draed, ac ebe fe "Thomas Williams, newch chi ateb y cwestiwn yma—ddaru chi dalu y deugain punt hyny ddaru eglwys Gwernhefin fenthyca gan eglwys у dref?" ac eisteddodd i lawr, ac yr oedd pawb wedi eu syfrdanu, a neb yn fwy na Thomas Williams ei hun.
"Eu talu? " ebe Thomas Williams, " do debyg, ac y mae'r receipt genyf yn tŷ. Yr wyf yn ofalus iawn i gadw pob receipt"
"Purion," ebe John Evans, "dowch â hi yma, os medrwch chi."
Credai pob enaid yn y cyfarfod, oddigerth John Evans, y gallai Thomas Williams dd'od â'r receipt yn mlaen, ac wedi myned allan o'r cyfarfod ymosododd amryw o'r brodyr ar John Evans am ei haerllugrwydd. Ond yr unig beth a ddy wedai ef oedd—"Aroswch dipyn bach i edrach a feder o gael y receipt" Yr oedd i Thomas Williams deulu mawr a pharchus, ac aeth pob un o honynt ati dranoeth i chwilio am y receipt.
Yr oedd yn y tŷ ganoedd lawer—rhai o honynt yn haner cant oed, ond methwyd yn glir a dyfod o hyd i'r receipt angenrheidiol, ac yr oedd trueni Thomas Williams a'r teulu yn fawr arnynt. Trowyd pob peth i fyny yn tŷ, а chwiliwyd yn fanwl bob cilfach a chornel, ond i ddim pwrpas. Methai yr hen wr gysgu na bwyta, ac erbyn y seiat ganlynol yr oedd ei gnawd wedi curio.
Ar ol y gwasanaeth dechreuol yn y seiat cododd John Evans ar ei draed, ac ebe fe:—
"Thomas Williams, ddaethoch chi â'r receipt am y deugain punt gyda chi heno?"
"Naddo," ebe'r hen flaenor. "Yr wyf fi a'r plant wedi chwilio ein goreu amdani, ond hyd yn hyn wedi methu d'od o hyd iddi. Ond yr wyf yn sicr fy mod wedi talu'r arian, ac yr wyf yn meddwl fod yr eglwys yma yn credu fy ngair. Mi âf i'r dref y fory at ferch Owen Jones, ac y mae yn ddiamau fod yna ddangosiad yn hen lyfrau ei thad fy mod wedi talu yr arian. Mae Owen Jones a fy mrawd yn eu beddau, onidê gallasent hwy dystio i wirionedd yr hyn yr wyf yn ei ddyweyd."
"Yr wyf wedi bod yn y dref o'ch blaen," ebe John Evans, "ac nid oes yn mhapurau Owen Jones ddim dangosiad eich bod wedi talu, ac nid oes neb yn eglwys y dref yn cofio i chi dalu dimai o'r arian."
"Duw yw fy marnwr," ebe Thomas Williams "mi delais yr arian yn onest, ac yr wyf yn teimlo'n sicr y gallaf eto ddangos fy mod yn dyweyd y gwir."
Gwnaeth Thomas Williams ymofyniadau manwl ymhlith cyfeillion y dref, ac ymhlith eraill, ond nid oedd neb yn cofio iddo dalu yr arian. Erbyn hyn yr oedd y peth wedi myn'd yn siarad y wlad, ac amryw o aelodau Gwernhefin wedi myn'd i gredu fel John Evans. Ond daliai y mwyafrif yn dŷn yn y grediniaeth fod Thomas Williams yn ddyn gonest, canys yr oedd yn ŵr mewn amgylchiadau da ac arian heb fod yn brofedigaeth iddo. Thomas Williams a'r teulu oedd wedi bod yn brif gefn i'r achos am haner oes, ac nid oedd un tŷ wedi bod yn agored i dderbyn pregethwyr yn yr ardal ond Trosygareg, sef eu tŷ hwy. Aeth pethau o ddrwg i waeth, a gellir yn hawddach ddychmygu teimladau Thomas Williams a'r teulu na'u darlunio. Dygwyd yr achos i'r Cyfarfod Misol, a phenodwyd dau weinidog a blaenor i fyn'd i Wernhefin "ar achos neillduol," a chredid gan lawer y torid Thomas Williams nid yn unig o fod yn flaenor ond o fod yn aelod hefyd.
Noswaith y prawf a ddaeth, ac fel y dygwydda ar achlysuron cyffelyb nid oedd ewin yn ol yn y seiat hono. Edrychai Thomas Williams yn guchiog a phenderfynol, ac edrychai ei fechgyn yn benuchel, a dywedai rhywrai mai gweddusach fuasai iddynt aros gartref neu ynte gadw eu penau i lawr. Wedi i'r gweinidog ieuengaf ddarllen a gweddïo, gan gyfeirio ar y weddi fwy nag unwaith at yr achlysur anghyfforddus, ac wedi i'r plant adrodd eu hadnodau a chael eu hanfon adref, gosododd y gweinidog hynaf yr achos y daethent yno o'i blegid yn glir a phwysig o flaen yr eglwys, ac nid heb arddangos llawer o ofid calon, canys yr oedd efe a'r cyhuddedig wedi bod yn gyfeillion mawr. Yna yn bur dyner gofynodd i'r hen flaenor beth oedd ganddo i'w ddyweyd drosto ei hun? Cododd Thomas Williams ar ei draed yn nghanol distawrwydd fel y bedd, a dywedodd, mor agos ag y gallaf gofio fel hyn:—
Benthyciwyd y deugain punt bymtheng mlynedd ar hugain yn ol, a mi telais inau nhw bum ' mlynedd ar hugain i ddydd Mercher diweddaf. Er pan ddaeth John Evans â'r cyhuddiad yn fy erbyn, gellwch yn hawdd ddych'mygu fy nheimladau. Nid wyf ar hyd yr amser wedi cysgu na bwyta ond ychydig. Yr wyf fi a'r plant o'r diwrnod hwnw hyd heddyw wedi chwilio am y receipt yn mhob cornel o'r tŷ, ond yn hollol ofer; ac yr oedd meddwl am eich dyfodiad yma heno, a'r achlysur o hono, fel pe buasai rhywun yn rhoi cyllell yn fy nghalon. Am y canfed tro fe ddarfu i'r plant a minau chwilio'r tŷ o'r top i'r gwaelod am y receipt heddyw, ond i ddim pwrpas. Pan oeddym yn ceisio cymeryd cwpaned o dê, mi a ddywedais wrthynt:—'Wel blant, fe gaiff eich tad ei ddiarddel heno, ond y mae fy nghydwybod yn lân o'r bai a roir yn fy erbyn,'" ac yn y fan hon torodd yr hen flaenor i lawr, a bu raid i ni aros mynyd iddo adfeddianu ei hun pryd yr ychwanegodd:—"Ar ol tê mi glöis fy hun yn y parlwr i aros amser y seiat, ac os gweddïais erioed mi weddïais heno. Yr oeddwn yn teimlo fod Duw yn delio yn o galed efo hen was. Rhaid i mi gyfadde fy ngwendid fy mod wedi edliw tipyn iddo. Mi ddeudes wrtho y mod i wedi treio ei wasanaethu er yn hogyn, fy mod wedi cyfranu at ei achos yn ol fel yr oedd o wedi fy llwyddo yn y byd, y mod i wedi agor fy nhŷ i groesawu ei weision ar hyd y blynyddau, a mi ofynais iddo a oedd o'n myn'd i'm mwrw ymaith yn amser henaint a phenllwydni, a wn i ddim ddaru mi beidio awgrymu wrtho nad oedd hyny ddim yn honourable. P'run bynag mi deimlais yn well wedi deyd fel yna wrtho; a mi adawais y cwbl iddo, ond cystal a deyd wrtho hefyd y byddai i mi ei watchio sut y gwnai o â fi. Yr oedd eto dipyn o amser tan adeg y seiat, a mi feddyliais y treiwn i ddarllen tipyn i aros yr amser. Mi estynais oddiar y shilff hen gyfrol o'r DRYSORFA, a mae Duw yn gwybod fy mod yn deyd y gwir, yn y lle yr agorodd y llyfr yr oedd y receipt! Mi waeddais dros bob man—receipt! receipt! receipt! a dyna'r plant at y drws gan feddwl fy mod wedi dyrysu yn fy synwyrau, a fuasai hyny ddim yn rhyfedd, a doeddwn i ddim yn cofio y mod i wedi cloi y drws, ac yr oeddwn yn dal waeddi receipt! Wedi i mi dawelu ac agor y drws mi aethon ar ein gliniau.—Dyma'r receipt Mr. E—, ac yr ydach chi yn eitha cyfarwydd â llaw Owen Jones," ac eisteddodd Thomas Williams i lawr, a rhaid i mi ddyweyd nad oedd prin wyneb sych yn y lle.
"W—w—wel, Mr. Williams," ebe Mr. E—" mae llawer o bethau da wedi bod yn y DRYSORFA, er mai fi, y Golygydd, sydd yn dyweyd hyny, ond dyna'r peth goreu gawsoch chi ynddi erioed."
Fedra i ddim darlunio i ti, ebe fy Ewyrth Edward, ein teimladau y noson hono. Yr oedd pawb yn wylo o lawenydd oddigerth John Evans Edrychai ef fel pe buasai wedi ei saethu. Ond credai rhai fod John Evans yn eithaf gonest yn ei dybiaeth er iddo gam gymeryd. Ni fu fyw fawr wedi hyn, ac ymddangosai fel dyn wedi tori ei galon.
—————————————
Enoc Evans, y Bala
OES, y mae genyf gof gweddol am Enoc Evans, y Bala, ebai F'ewyrth Edward. Ddaru Enoc a finau ddim ei hitio hi yn dda iawn,—yr oedd ef wedi dod i'r byd dipyn yn rhy fuan, a minau dipyn yn rhy hwyr, ac felly ni ffurfiwyd fawr o gwentans rhyngom. Ond mi glywais lawer o son am Enoc fel un oedd yn ddarllenwr diail, ac yn hoff iawn o adar. Nid oedd neb yn ei bwyll yn dyfod yn hwyr i'r oedfa pan fyddai Enoc i bregethu, oblegid ei glywed yn darllen y bennod oedd y trêt. Nid oedd, fel y clywais ddynion o farn yn dweyd, yn rhyw helynt o bregethwr. Yn y dyddiau hyn, Castle Street, yn yr Wyddgrug, ydyw yr ystryd iselaf a butraf yn y dref. Nid wyf yn meddwl fod ac na fu i un tŷ ddrws cefn gydag un eithriad, ac y mae y nifer mwyaf o'r tai erbyn hyn wedi eu datgan yn anghymwys i neb drigo ynddynt. Ond у mae i'r hen ystryd hanes cysegredig iawn. Pe gallasai Castle Street adrodd ei hanes ei hun, fe fuasai ganddi lawer iawn i'w ddweyd, a hwnw o ddyddordeb neillduol. Yn y tŷ cyntaf ar y llaw dde y trigai yr hen Angel Jones, y blaenor enwog y canodd Glan Alun farwnad gampus iddo. Yn y caban hwn y magodd Angel deulu mawr, ac y gwnaeth fusnes anferth fel teiliwr. Nid oes i'r tŷ ond dwy 'ystafell wely, ac un fechan fach arall ar ben y grisiau, ac eto, mor ryfedd ydyw meddwl, hwn oedd prif gartref rhai o brif enwogion y pwlpud Cymreig am lawer o flynyddoedd yn eu hymweliadau â'r dref. Yn y tŷ bychan distadl hwn y cysgodd Eben. a Thomas Richards, William Havard, Roberts, Amlwch, John Elias, y ddau Jones o Lanllyfni, Henry Rees, a llu eraill, pan ddeuent i'r Wyddgrug i bregethu, ac yn eu plith Enoc Evans, y Bala.
Yn nhop Castle Street trigai cymeriad rhyfedd—yr wyt yn ei gofio yn dda—o'r enw William Jones, teiliwr fyth. Wrth yr enw Cwil yr adnabyddid ef yn gyffredin. Dyn byr, gorsyth ydoedd, bob amser yn gwisgo dress coat a top hat. Nid oedd Cwil na Chymro na Sais, ond yr oedd ganddo grap ar y ddwy iaith. Egwan iawn oedd ei alluoedd meddyliol, a bu am dri mis ar ol tyfu i fyny yn ceisio dysgu y pader, ac yn y diwedd bu raid iddo roi yr ymdrech heibio fel bad job. Dau beth a hoffai Cwil yn fwy na dim arall, sef cwrw ac adar. Byddai yn cael term hir weithiau, a chlywais ef yn dweyd ei fod wedi colli tri diwrnod o'i oes na wyddai ddim am danynt. Yr oedd Cwil wedi cael wythnos o spri, a chysgodd o nos Sadwrn hyd fore Mercher heb ddeffro. Yr oedd Cwil bob nos Sadwrn o'r flwyddyn ar ol cael ei gyflog, ac ymolchi a shafio, yn myn'd at ei ddiod i'r Talbot, ac yn yfed mor drwm fel na wyddai ddim wrth adael y dafarn ond mae "troi ar y dde" oedd y ffordd gartref. Ond un Sadwrn perswadiwyd ef gan gyfaill i fynd i'r "Eagle and Child," yr ochr arall i'r heol. Wrth gychwyn gartref y noson hono cofiodd Cwil am y rheol ddieithriad o "droi ar y dde," a chafodd ei hun fore Sul wrth Bentre Hobin, ar ffordd Wrexham, yn gorwedd yn môn y clawdd, ac yn methu drinad pa fodd a fu iddo fethu yn ei land-marks. Ond fel y dwedais, yr oedd Cwil yn hoff iawn o adar—yn fwy felly na chwrw. Un tro pan oedd Enoc Evans yn pregethu yn yr Wyddgrug, digwyddodd yr ben Angel son wrtho am adar Cwil Jones. Aeth Enoc yno ar ei union, a bu Cwil ac yntau yn siarad am adar hyd haner y nos, a buasent wedi parhau hyd y bore oni buasai i Angel fyn'd i nol ei lodger.
Ar ol hyn gofynai Cwil yn feunyddiol i Angel,—"Hengel, pryd mae y bird merchant yn dwad yma i pygethu eto?" A phan ddeuai Enoc Evans ar draws gwlad i'r Wyddgrug, y peth cyntaf a wnai, cyn cael tamaid o fwyd, oedd ymweled a Cwil, ac ymgomio am yr adar, a llawer tro buasai Enoc wedi anghofio ei ymborth a'r oedfa a'r cwbl yn nghwmni Cwil, oni bai fod Angel yn ymyl. Un tro yr oedd Enoc Evans wedi cymeryd ffansi anghyffredin at canary oedd yn meddiant Cwil,—yr oedd yn dotio ato fel cantwr, ac eisteddodd yr hen begor i wrando arno am oriau. Y waith gyntaf y daeth Enoc i'r Wyddgrug wed'yn—ar ol rhoi ei geffyl i fynu yn y "Black Boy," aeth yn syth i edrych am Cwil Jones, ac wedi llygadu o gwmpas y tŷ, ebai fe, "Lle mae'r canary campus hwnw wedi myn'd, William Jones? "
"Mae'r cath wedi lladd o, Mistar Hifans," ebe wil.
Eich cath chi oedd y syrffet, William? " gofynai Enoc.
"Dim peryg," ebe Cwil, " mi lladdwn pob cath yn y byd dawn i'n medryd." "Mi nawn ninau'ch helpio chi, William," ebe'r hen bregethwr.
"Mae'n da gen i'ch clywed chi'n deyd, Mistar Hifans," ebe Cwil, ac ychwanegodd gydag ochen aid, "Do, mi ddaru cath John Bowen i ladd o, a faswn i dim yn cymyd y mhwyse o aur am y deryn hwnw, Mistar Hifans. A mi deuda i chi be neis i a fo, syr,—y cath gwyddoch,-mi dalies o ar dydd Sadwrn pan odd o'n dwad i'r tŷ i edrych am deryn arall, a mi rhos o mewn bocs a clo arno, a bore Sul mi lodies fy pibell a mi cymes stôl i'r gardd, a mi noles y cath a mi croges o yn y pren fale, a mi steddes ar y stôl i cymyd mygyn i edrach arno fo'n marw, a mi ces fy revenge."
"A syrfio'r slwt yn reit," ebe Enoc yn selog, ac ychwanegodd,—"Mi welaf, William, fod gynoch chi adar bach yma?"
"Hoes, Mistar Hifans," ebe Cwil, "ond gwelsoch chi rioed ffasiwn trafferth ces i i cael nhw. Mi treies un giar efo celiog ene am wsnose, a nae'r dau dim byd a'u gilydd; ond mi rois giar arall efo'r celiog, a mi ces adar bach toc, a ma hyny yn digon o profedigeth ma nid ar y celiog rodd y bai."
"Diar anwyl galon!" ebe Enoc.
"Enoc Evans, mae hi'n amser myn'd i'r capel," ebe Angel yn y drws; a thorwyd ar seiat y ddau hen gono.
Nid cynt yr oedd yr oedfa drosodd nag y brasgamodd Enoc o flaen Angel i'r Castle Street. Pan ddaeth Angel i'r tŷ cafodd fod Nancy wedi gwneud y super yn barod, ond nid oedd dim son am Enoc Evans. Dyfalodd Angel yn mha le yr oedd yr hen bregethwr, ac ymaith ag ef i dy Cwil Jones, a chafodd y ddau drachefn mewn dîp disgwrs am yr adar. "William Jones," meddai Enoc, "beth ydi'r achos nad ydach chi ddim yn cadw dim ond y canaries a'r nicos yma? Ydach chi ddim yn hoff o adar eraill?"
"Hydw, Mistar Hifans," ebe Cwil, "yr hydw i'n hoff o pob sort o hadar. Ond mi gwelwch bod y tŷ dipyn yn bwchan, a mae deryn pranweth a deryn du isio cage mawr, a mae nhw tipyn yn budron. Ond faswn i dim yn hidio am hyny dase gen i lle iddyn nhw, Mistar Hifans. A mi deuda i chi peth arall, ma Hangel yn gwbod cystal a mine, roddwn i'n ffond sobor o lark, a rodd gen i un unweth na weles i rioed i sort o. Fi daru fagu o, a rodd o'n cantwr na chlywes i rioed i bath o. A rodd o mor dof fel roddwn i yn i cymyd o weithie i'r siop weithio, ma Hangel yn gwbod. Wel un tro mi cymes o i'r siop weithio, a rodd yno dyn, i enw fo odd George Roberts, rodd o'n canu yn reglws—y cantwr bâs gore clywsoch chi rioed,—ond dodd gynfo dim parch i deryn da. Wel, mi cymeres y deryn i'r siop ydw i'n deud wrthoch chi, Mistar Hifans, a rol i mi fynd ar y bwrdd, mi dalies y lark ar cledyr fy llaw— rodd o mor dof â mi deudes, dene ti, George, deryn na welest di rioed i sort o. A be daru George neud, heb i mi meddwl, mi cymodd labwt a mi tarodd fi tan fy penelin, a mi ês i llysmer. Pan dois i ata fy hun mi ofynes, lle ma lark fi, George? a mi gweles fy lark wedi marw ar y bwrdd, ar ol hyny mi cymes syrffet at cadw lark."
"Wel, y dyn annuwiol a dideimlad," ebe Enoc. "Beth ddaru chi—?"
"Enoc Evans, mae'n bryd i chi ddod i'r tŷ ers meityn," ebe Angel.
Mi fum yn aros am dipyn yn y Bala, ebe F'ewyrth Edward, ac yn ystod yr amser hwnw mi adwaenes ddau fab i Enoc Evans. Saer maen oedd un, a Dafydd oedd ei enw, os wyf yn cofio yn dda. Y pryd hwnw yr oedd yn adeg isel ar grefydd, a'r gwaith yn slac. Er mwyn cael ychwaneg o waith gadawodd Dafydd grefydd ac aeth i'r Eglwys. Ond yn y man ymwelodd diwygiad crefyddol â thref y Bala, ac yr oedd yn amser hyfryd ar y cyfeillion yn yr hen gapel.
Un noson seiat, pan oedd y diwygiad yn ei wres, daeth Dafydd yn ol i'w hen gartref, ac aeth Doctor Lewis Edwards i ymddyddan ag ef. Yr oedd yr ymgom mor agos ag y gallaf gofio fel hyn,—
"Wel, Dafydd Evans, beth wnaeth i chwi droi yn ol?" gofynai y Doctor.
"Ffilio bod yn gyfforddus adeg y diwygiad yma yn yr hen Eglwys ene," ebe Dafydd. "Y mae yna bobl dda iawn yn yr Eglwys," ebe y Doctor.
"Oes," ebe Dafydd, "rhai da iawn am edrach ar ol y corffyn, yn eich curo chi yma yn arw am hyny. Yr oeddwn i'n cael mwy o waith o lawer yn yr Eglwys na phan oeddwn i'n arfer dod yma. Ond rhai go sâl ydyn nhw am edrach ar ol yr ened."
" Wel," ebe'r Doctor, " yr oeddwn yn clywed fod pobl yr Eglwys hefyd yn edrych ar ol yr enaid. Yn y diwygiad yma yr oedd genych yn yr Eglwys gyfarfodydd gweddio fel ninau yn y capel, ond oedd?"
"Oedd, Mr. Edwards," ebe Dafydd, ond wyddoch chi'r gair ddoth i'm meddwl i wrth eu gweled nhw wrthi?"
"Na wn i'n siwr," ebe'r Doctor.
"A'r swynwyr a wnaethant yr un pethau," ebe Dafydd, a chwarddodd y Doctor nes oedd ei ochrau yn mynafyd.
—————————————
Het Jac Jones
Mi glywaist lawer gwaith fod gan y meddwl gryn lawer i'w wneud âg iechyd neu afiechyd y corff, a mae hyny yn ddigon gwir Dyma hanes i ti sy'n cyn wired a'r pader.
Wedi i mi dyfu i fyny'n llanc, yr oeddwn wedi glân laru ar weithio ar y ffarm,—yr oedd yn fywyd rhy lonydd i mi. Yr oeddwn wedi clywed fod cyflog da i lanciau yn ffactri gotwm yr Wyddgrug, a ffwrdd a fi yno i edrych am waith. Cyflogais yn union fel rhyw fath o was i'r spinners, ac yr oeddwn yn bur ddedwydd fy lle. Yr oedd yno lanc arall tua'r un oed a mi yn yr un swydd,—bachgen wedi colli un llygad, ond yn gweled gyda'i un fwy nag a welai bechgyn yn gyffredin gyda'u dau lygad. William James oedd ei enw, a bachgen direidus dros ben ydoedd, a daeth ef a minau yn ffrindiau mawr yn fuan. Byddai William a minau yn gyfranog mewn rhyw driciau ar y spinners yn feunyddiol Ond yr oedd yn ddealledig rhwng Wil a minau ein bod i gymeryd y bai bob yn ail. Os y fi a gyhuddid o wneud y cast, cymerai Wil James y bai, ac felly y gwnawn inau pan gyhuddid yntau. Felly byddem yn arbed un cerydd, a rhai garw am geryddu oedd y spinners. Giaffer y spinning-room oedd Thomas Burgess, un o'r dynion bryntaf a mwyaf amhoblogaidd gyda'r gweithwyr a welais erioed. Ond yr oedd Burgess yn hynod o hoff o gellwair a gwneud mân driciau gyda'r dynion oedd dan ei ofal, ac felly nid oedd Wil James a minau yn isel iawn yn ei ffafr.
Yr oeddwn wedi darllen yn rhywle fod yn bosibl perswadio dyn iach i fod yn sal, a dyn sal i fod yn iach, os na fyddai ei salwch yn un tost iawn. Un awr ginio soniais am hyn wrth Thomas Burgess, ac ebe fe,—
"Mae'n reit hawdd treio y peth bydae ti a Wil James yn rhoi eich penau yn nghyd sut i experimentio ar un o'r chaps yma. Os na fedr Wil ddyfeisio rhywbeth yn y ffordd yna, lle sal i ti a finnau dreio, achos cwtrin o fachgen ydi Wil." Syniai Wil yn gyffelyb am Burgess, mai cwtrin oedd yntau.
Wyst di be," ebe Wil wrthyf un diwrnod, "mi leiciwn farw yr un funud a'r hen Burgess yma."
"Pam hyny?" ebe fi. " Am fod ganddo gymin i'w aped am dano," ebe Wil, "a thra y bydden nhw yn trin ei gês o mi fedrwn snecio i'r nefoedd heb i neb sylwi."
Pa fodd bynag, soniais wrth Wil am awgrymiad Thomas Burgess, a chyn nos yr oedd cynllun Wil yn barod. Yr oedd un o'r spinners, Jac Jones wrth ei enw, bob amser yn gwisgo top hat, ac yn ei gosod ar hoel tuallan i'r spinning-room. Cynllun Wil oedd rhwymo llinyn du main o gwmpas gwaelod yr het, wrth y cantel, a'i thynu i mewn chwarter modfedd, a mae chwarter modfedd, ti wyddost, yn ddau size mewn het, ac wed'yn perswadio Jac Jones fod ei ben wedi chwyddo. Yr oedd y cynllun wrth fodd yr hen Burgess. Bore dranoeth, cyn gynted ag yr aeth Jac Jones at ei waith, rhwymodd Wil y llinyn am yr het yn reit nêt, ac, yn ol y cynllun, eisinau i'r spinning-room, a dywedais wrth Jac, "John Jones, ydach chi ddim yn iach heddyw?"
Ydw, machgen i, pam roeddat ti'n gofyn?"
"O dim," ebe ti, "ond y mod i'n meddwl fod gynoch chi dipyn o chwydd yn eich arleisiau."
Nag oes, neno dyn, yr ydw i'n cael iechyd campus, diolch am dano," ebe Jac.
Oddeutu saith o'r gloch aeth Wil ato, a dywedodd,—
"John Jones, dydach chi ddim yn edrach run fath ag arfer bore heddyw; oes gynoch chi boen yn y'ch pen?"
"Nag oes, neno diar; ond oedd Ned yn gofyn yr un peth gyne; be naeth i ti feddwl?"
"Wn i ddim," ebe Wil," ond y mae rhywbeth yn edrach yn od yn ych pen chi, fel bydae chi wedi cael dyrnod un ochr. Gadewch i mi weld yr ochr arall. Na, mae'r ddwy ochr run fath; y fi ddaru ffansio, ddyliwn," a ffwrdd a Wil at ei waith.
Rhyw bum munud cyn amser brecwest, aeth yr hen Burgess ato, a dywedodd,—
"Dyma ti, Jac, fuost di mewn rhyw sgarmes neithiwr? Rwyt wedi bod yn slotian efo'r hen ddiod eto, achos y mae dy ben di fel meipen gron; neu wyt ti wedi cael clefyd y penau sydd o gwmpas rwan? "
"Phrofes i ddyferyn ers wythnos, a mae mhen i gystal a phen yr un o honoch chi," ebe Jac, yn gwta.
"Gobeithio dy fod yn dweyd y gwir," ebe Burgess, ac ymaith ag ef.
Pan oedd Jac yn myn'd i'w frecwest, ac yn ceisio rhoi ei het am ei ben, ni fedrai yn ei fyw. Edrychodd ai nid oedd wedi cymeryd het rhyw un arall, ond cofiodd nad oedd neb yn gwisgo top hat ond efe, ac yr oedd ei enw, yr hwn yr oedd wedi ei ysgrifenu â'i law ei hun tu mewn iddi. Cafodd fenthyg cap i fyn'd i'w frecwest, a chariai yr het yn ei law. Ni ddaeth Jac Jones at ei waith ar ol brecwest. Ganol dydd galwodd Burgess i edrych am dano, a chafodd ef yn ei wely, yn dioddef gan boenau mawr yn ei ben. Dywedodd Burgess wrth Jac mai y clefyd yn ddiau ydoedd, ond fod meddyginiaeth wedi ei ddarganfod i'w wella ar unwaith, ac y deuai a'r cyffyr iddo y prydnawn hwnw, wedi i'r felin stopio. Aeth Burgess a minau i edrych am Jac y noson hono, a chymerasom dipyn o sweet oil mewn potel gyda ni. Tra yr oedd Burgess a gwraig Jac yn y llofft, yn cymhwyso y sweet oil at ei ben, yr oeddwn inau yn y gegin yn tynu y llinyn oddiar yr het; ac er mwyn dangos mor effeithiol oedd y feddyginiaeth, anfonodd Burgess y wraig i nol yr het a gallodd Jac ei rhoi am ei ben yn hwylus. Yn wir, gan gymaint o'r sweet oil oedd ar ei ben, llithrai yr het braidd yn rhy esmwyth, a da oedd fod gan Jac glustiau go fawr i'w hatal rhag iddi fyn'd dros ei wyneb. Ond rhyfedd, ni ddarfyddodd y poenau yn union deg, er i'r chwydd gilio ar unwaith, a bu Jac Jones ar y clwb am wythnos cyn ail ddechren gweithio. Ni chafodd wybod am y cast am dair wythnos, ac ni faddeuodd byth i ni.
Dyma stori arall i ti, ddigon tebyg, ebe fy Ewyrth Edward, ond caf adrodd hono eto hwyrach.
—————————————
Edward Cwm Tydi
FEL partner i stori Jac Jones a'i het, dyma i ti stori arall sydd yn dangos mor hawdd ydyw gwella ambell ddyn o afiechyd trwm, a mae'r hanes yn wir bob gair,-yr oeddwn yn ad nabod y bobol, ac y mae eraill yn fyw yrwan oedd yn eu hadwaen. Yr hyn a wnaeth i mi gofio yr hanes oedd clywed am y Seqwa yna sydd yn mynd o gwmpas y wlad i wella pobol o'r gymalwst (rheumatism) mewn ychydig funudau drwy eu rhwbio. Oddeutu trigain mlynedd yn ol, yr oedd yn byw mewn tyddyn o'r enw Cwm Tydi, yn agos i Llangollen, frawd a chwaer, sef hen lanc ifanc a hen ferch ifanc, o'r enw Edward ac Ann. Yn y dyddiau hyny byddai pobol yn cael eu hadnabod wrth y lle y byddent yn byw ynddo, neu wrth y gelfyddyd a fyddent yn ei dilyn. Er fy mod yn adwaen y brawd a'r chwaer yn dda, ni wyddwn mo'u henw ond fel Edward ac Ann Cwm Tydi. Yr oedd yr hen lanc a'r hen ferch mewn tipyn o oed. Dyn mawr, cryf, iach, oedd Edward, ond lled wanaidd oedd ei chwaer Ann.
Ryw dro cymerwyd Edward yn sâl iawn gan y gymalwst, fel na fedrai prin symud yn ei wely, wa goddef i neb gyffwrdd âg ef, ac yr oedd mewn poenau dirfawr, a gyrwyd ar ffrwst i Langollen am Doctor Morris. Dyn byr, cryno, oedd y Doctor, ac wedi clywed am afiechyd Edward, daeth i Gwm Tydi yn ddiymdroi, a dywedodd y gwnai anfon potelaid o ffisig i'r claf. Yr oedd i'r Doctor Morris was o'r enw Wil, bachgen o Landysilio, yr hwn a ofalai am ei geffylau, ac a fyddai weithiau yn helpio y Doctor i wneud y ffisig i fyny. Ni chlywais enw erioed ar y bach gen hwn ond Wil, gwas y Doctor. Cymro glân a smala oedd Wil, ac yr wyf yn ei gofio yn dda. Wedi i'r Doctor wneud y botel i fyny, dywedodd wrth Wil am ysgrifenu arni y byddai raid ei hysgwyd yn dda cyn rhoi y ffisig i'r claf. Ysgrifenodd Wil, "He must be well shaken before taken", gan roddi he yn lle it. Pa un ai o ddireidi ai o anwybodaeth y gwnaeth efe hyn, nis gwn.
Pan gyrhaeddodd y botel i Gwm Tydi ni fedrai nac Ann nac Edward ddeall gair ysgrifen, oblegid ni chawsent awr o ysgol eu bywyd. Yr oedd yn Nghwm Tydi was o'r enw Abram, yr hwn a gawsai ychydig o ddysg, a galwyd ef i ystafell y claf "i ddarllen y botel," er mwyn gwybod sut yr oedd y ffisig i'w gymeryd. Dywedodd Abram wrth Ann, "Rhaid i ni ei ysgwyd yn dda cyn rhoi'r ffisig iddo."
"Ei ysgwyd?" ebe Ann.
Ië,"ebe Abram, "dyma fo'n deyd ar y botel,—"He must be well shaken before taken."
"Fedra i mo'i ysgwyd o, rydw i yn rhy wan," ebe Ann.
"Mae'n rhaid gwneud hyny. achos mae'r botel yn deyd," ebe Abram, ac ocheneidiai Edward yn ei wely.
"Wel," ebe Ann, "gan fod y Doctor yn deyd fod yn rhaid, 'does dim ond gwneud hyny."
Taflwyd y dillad oddiar Edward, ac aeth Abram un ochr i'r gwely ac Ann yr ochr arall, ac ysgwyd Edward a wnaethant yn dda, nes oeddynt yn chwys dyferol, ac Edward yn gwaeddi uchw mawr a mwrdwr. Collodd Edward ei lais wrth waeddi mor galed, a thybiodd Ann ac Abram ei fod ar fin marw. Eisteddodd y ddau i lawr, yn fyr eu gwynt, i aros a ddeuai Edward ato ei hun. Yn y man ebe Edward,—
"Abram, bob byrfaint y mae y botel yn deyd y rhaid fy ysgwyd i?" Dair gwaith yn dydd," ebe Abram.
"Ho," ebe Edward, "dim chwaneg o'r drefn yna i mi," a chododd yn araf deg a gwisgodd am dano, a theimlai yn lled dda.
Dranoeth daeth Doctor Morris i Gwm Tydi, a chyfarfyddwyd ef ar ben y buarth gan Ann.
"Sut mae Edward heddyw, Ann?" ebe'r Doctor
Wel," ebe Ann, "dydw i ddim yn meddwl y gnaeth y ffisig fawr o les iddo, ond mi ddaru'r ysgwyd neud daioni mawr iddo. Mi ysgydwodd Abram a fine fo ein gore glâs cyn rhoi'r ffisig iddo, fel yr oedd y botel yn deyd, a toc mi gododd a mi wisgodd am dano heb help, ac erbyn heddyw mae o reit sionc." Gwelodd Doctor Morris y camgymeriad, ac ebe fe,—
"Yr achos i mi roi gorchymyn ei ysgwyd yn dda oedd er mwyn i'r ffisig sefyll efo fo," ac aeth ymaith dan wasgu ei ochrau.
Bu Abram, wedi hyn, yn was efo nhad, a mi gwelais e'n bwyta llon'd gogor o winwyn oerion, ond stori arall ydi hono, ebe fy Ewyrth Edward.
—————————————
Thomas Owen, Ty'r Capel
WRTH son wrthot ti y noson o'r blaen am William a Richard Bonner, mi wneis ryw gyfeiriad at Thomas Owen Tŷ'r Capel, yr Wyddgrug. Un o'r cymeriadau rhyfeddaf a welais erioed oedd Thomas. Crydd oedd o wrth ei grefft; ond yr oedd o hefyd yn bregethwr efo'r Methodistiaid. Anaml y gwelaist di ddyn teneuach na fo, ond yr oedd yn hynod o ewynog ag yn gerddedwr dan gamp. Yr oedd ei drwyn yn union yr un ffurf a thrwyn y Duke of Wellington, fel knocker drws. Wrth i mi son am ei drwyn yr wyf yn cofio digwyddiad lled ysmala' iddo. Yr oedd gan Thomas arferiad wrth bregethu o estyn ei fys blaen allan fel pe buasai yn pwyntio at rywun yn y gynulleidfa, ac yna gymeryd gafael yn ei drwyn gyda'i fys a'i fawd, a deuai y bys blaen allan wed'yn. Un tro fe ddarfu i bobl Nerquis roi gwahoddiad i Thomas Owen i ddyfod yno i gadw plygain am bump o'r gloch yn y bore yn y capel, ac ufuddhaodd yntau yn barod ddigon. Yr oedd y capel yn dan sang. Nid oedd lampau na gas wedi dod i arferiad y pryd hwnw. Canwyllau gwêr a fyddai yn mhobman, a gofalid am snuffers ar bob pwlpud er mwyn i'r pregethwr allu topio y canwyllau pan ddechreuent ddylu. Gweddïodd Thomas yn afaelgar iawn y bore hwnw, a dyna yr adeg yr oedd efe yn erfyn ar ran brenines Madagascar. "Achub hi, Arglwydd, neu symud yr hen Jaden front," meddai Thomas. Pa fodd bynag, gyda iddo ddechreu pregethu sylwodd fod y canwyllau yn düo, ac edrychodd o'i gwmpas am y snuffers, ond nid oedd un yno. Gwlychodd Thomas ei fys a'i fawd ar ei wefus a thorodd ben y canwyllau. Yna cydiodd yn ei drwyn gan adael parddu mawr arno. Dechreuodd y bobl chwerthin. Cynhyrfodd Thomas yn fawr pan welodd y gynulleidfa mor gellweirus, a cheryddodd hwynt yn llym, a chydiodd yn ei drwyn eilwaith nes ydoedd can ddued a'i esgid, a'r bobl yn mynd i chwerthin yn waeth waeth, yn enwedig yr hogiau drwg. O'r diwedd ebe Thomas, "Beth sydd arnoch chi, bobl annuwiol; Mae'r fath ymddygiad yn nhŷ Dduw yn warth i grefydd! Os dyma'r fath beth ydi plygain, ddo'i byth i'r un eto tra bydda'i byw," a rhodd ben ar y bregeth mewn natur ddrwg. Ond wedi deall yr achos o'r chwerthin a gweld ei wyneb yn y drych, chwarddodd yntau hefyd
Brodor o'r Bala oedd Thomas Owen ac yr oedd yn fab i Richard Owen, y gŵr a weddïodd am bymtheng mlynedd o estyniad oes i Mr. Charles ac a gafodd ei wrando, ac yn y cyfnod hwnw y cyfansoddodd Mr. Charles y Geiriadur a fu o fendith anmhrisiadwy i Gymru. Yr oedd neillduolrwydd mawr yn Thomas hefyd fel gweddïwr, ac atebwyd rhai o'i erfyniadau cyhoeddus yn bur amlwg. Un tro yr oedd Thomas Owen yn pregethu yn Adwy'r Clawdd ar adeg o dlodi a chyfyngder mawr. Yr oedd yno ganoedd o bobl allan o waith ac yn dioddef gan eisiau bara. Gweddïodd Thomas yn daer a gafaelgar am i'r Arglwydd ddatguddio ryw wythïen werthfawr yn y gymydogaeth a roddai waith i'w greaduriaid anghenus, a dywedai wrth y Brenin Mawr,—" Mai gen ti, Arglwydd, ddigon o gyfoeth yn yr hen ddaear yma bydae ti ddim ond yn cyfeirio llygaid rhwfun at y man lle mae o."Yn mhen deuddydd neu dri darganfyddwyd gwythïen o blwm a roddodd waith i'r holl ardal am flynyddoedd.
Yr oedd newyddion yn hir yn cario y dyddiau hyny, ac yr oedd Michael Roberts, Pwllheli, y pregethwr enwog, wedi bod yn asylum Caer er's tipyn cyn i Thomas Owen glywed am hyny, a phan glywodd teimlodd i'r byw. Y nos Lun gan lynol, yn y cyfarfod gweddïo, erfyniai Thoinas, yn ei ddull ei hûn, yn daer a gwresog am adferiad i'r gŵr mawr. Gwaeddai yn uchel a thanbaid, Arglwydd, cofia am Meic bach anwyl! cofia dy was Meic," &c. Cyn diwedd yr wythnos yr oedd Michael Roberts yn nhŷ Angel Jones yr Wyddgrug, yn aros am y goach fawr i Ruthyn, ac wedi ei adfer yn lled dda. Soniodd Angel wrtho am weddi Thomas Owen, ac erbyn deall, ar yr awr a'r pryd yr oedd Thomas yn gweddïo y cafodd Michael Roberts y gwellhad.
Bu Thomas Owen am yspaid yn cadw giat dyrpeg yn Ngwernymynydd, ac yr oedd efe ar y pryd yn bur dlawd, ond yr oedd yn ddiail am ei ffyddlondeb yn y moddion gras. Sylwodd rhai o'r brodyr fod ei ymddangosiad yn dlodaidd, a'i gotwm yn llwm anwedd ac ordor, a phenderfynodd rhai o honynt yn eu plith eu hunain ei anrhegu â siwt newydd, a chyfarwyddwyd Angel Jones i'w gwneud. Nos Sadwrn aeth Thomas adref yn bur falch â'i siwt dan ei gesail, a bore Sul gwisgodd hi, a throdd o gwmpas er mwyn i Marged ei simio. "Neiff hi'r tro, Marged?" ebe fe. "'Rwyt ti'n edrach fel gŵr boneddig," ebe Marged. Teimlai Thomas yn falch iawn o'r sylw, a chychwynedd tua'r capel. Wedi myn'd rhyw ugain llath safodd yn sydyn i edrych arno 'i hun, a throdd yn ei ol. Be di'r mater?" gofynai Marged. "Wel, i ti, dai ddim i'r capel yn y dillad newydd yma," ebe Thonnas. " Pam?" ebe Marged. " Mi ddeuda i ti pam," ebe Thomas, "pan weliff pobol y dillad newydd yma mi ddeudiff pawb y mod i'n dwyn arian y giat." "Paid a gwirioni," ebai Marged, "on'd ŵyr pobol y capel mai rhôdd ydi'r siwt?" "Gwyddan," ebe Thomas, "ond ŵyr pobol y byd mo hyny, wyddost, a mi ddeudan, 'Drychwch arno fo, yr hen grydd, mae'r giat yn talu'n iawn!' Na Marged, wisga i mno'r dillad newydd yma." Dihatrodd Thomas y siwt newydd a neidiodd i'w hen ddillad crestiog, ac aeth ar drot i'r Wyddgrug yn ddengwaith mwy hapus. Efe oedd i bregethu yn yr Wyddgrug y bore hwnw, a siomwyd y cyfeillion caredig pan welsant ef yn ei hen ddillad, ond esboniodd Thomas iddynt y rheswmi ' am hyny, ac ni allodd neb ei berswadio i wisgo y siwt nes iddo adael y giat a dyfod i fyw i dŷ'r Capel yr Wyddgrug.
Pan oedd Thomas yn cadw giat Gwernymynydd, yr oedd Edward Roberts, un o'r blaenoriaid galluocaf, mae'n debyg, fu erioed yn yr Wyddgrug, yn byw dipyn uwch i fynu nag ef yn yr un ardal. Mae genyf gof gwan am Edward Roberts, dyn o ran corff a gosgedd tebyg iawn i Doctor Edwards, y Bala, ond ei fod yn fyrach. Ystyrid Edward Roberts a Jones, Cefn y Gader, tad Glan Alun, fel y ddwy golofn gadarnaf yn eglwys yr Wyddgrug. Gŵr araf, pwyllog, ac athrawus oedd Edward Roberts, Gwernymynydd, a'i farn yn mhlith y brodyr yn derfynol ar bob pwnc. Gŵr eiddil, byrbwyll, a sionc fel aderyn tô oedd Thomas Owen. Ni fu dau mwy annhebyg yn gwisgo clôs, ac eto yr oeddynt yn gyfeillion mawr. Nid elai Edward byth i oedfa na chyfarfod heb alw yn y giat am Thomas Owen. Un noson seiat bu pwnc o athrawiaeth dan sylw, a gwahaniaethai Thomas ac Edward yn eu barn yn ddirfawr. Cariwyd y ddadl yn mlaen rhwng y ddau ar hyd y ffordd i Wernymynydd, ac yr oedd Thomas wedi poethi ac Edward wedi cidwmu cymaint fel na ddarfu iddynt ddweud nos dawch wrth eu gilydd. Digiai Thomas mewn munyd a chymodai mewn munyd. Nid yn aml y digiai Edward Roberts, ond pan ddigiai digio a wnai. Bore Sabboth canlynol, ebe Thomas wrth Marged,—"Gad i ni wel'd neiff yr hen Ned alw yma heddyw. Yr oedd o wedi myn'd i'w gŵd yn enbyd nos Iau, ond gad i ni weld ydi o wedi dod ato'i hun. Os passiff o, gad iddo bassio—paid a myn'd ar yr hector. Dacw fo'n dwad yn ddigon syth, a'i lon'd o'r hen Adda, mi gymra fy llw! Paid a myn'd i'r golwg, Marged, gad i ni weld be neiff o."Yr oedd tŷ'r giat yn nghanol twr o dai, ac aeth Edward yn ei flaen drwy y giat heb alw am Thomas. Ond nid oedd efe wedi myn'd ddeg llath cyn i Thomas redeg i'r drws a gosod ei ddwylaw ar ei gêg a gwneyd trympet o honynt, a gwaeddodd nerth esgyrn ei ben,—"Hoi! hoi!! hoi!!! dacw hen flaenor yn myn'd i'r capel heb ddweyd ei bader!" Cododd yr holl gymydogaeth a throdd Edward Roberts yn ei ol wedi yswilio hyd ei esgidiau, a bu Thomas ac yntau yn fwy o gyfeillion nag erioed.
Cefais y stori ganlynol am Thomas Owen gan Dr. Roger Hughes, Bala. Ers talwm, gwahoddid ambell bregethwr i roi taith drwy ran o sir er mwyn ei gynorthwyo i dalu y rhent, ac ambell un arall am fod chwant ar y wlad ei glywed. Hwyrach fod pobl Meirion yn cael eu cymhell gan fwy nag un rheswm pan roisant wahoddiad i Thomas Owen ddyfod ar daith bregethwrol trwy ran o'r sir. Gŵyr pawb sydd wedi astudio geography fod Sir Feirionydd yn cael ei rhanu gan y Methodistiaid i ddwy ran, sef "y pen yma," a'r "pen acw." Ond er i mi fod yn y ddeuben fwy nag unwaith, ni fedrais erioed wybod pa un oedd "y pen yma," na'r "pen acw," oblegid pan fyddwn yn Harlech siaradai y trigolion am Gorwen fel y " pen acw," a phan fyddwn yn Nghorwen siaradai y bobl am Harlech a'r gymydogaeth fel y "pen acw." Felly ni fedraf benderfynu yn mha ben y bu taith Thomas Owen. Ond y mae'n eithaf hysbys iddo fod yn nghapel Cwmtirmynach, a chafodd yno oedfa hynod o galed, ac nid oedd dim a flinai fwy ar Thomas nag oedfa galed, a lwc iddo nad ydyw yn fyw yn y dyddiau hyn. Yn mhen deng mlynedd cafodd Thomas Owen wahoddiad drachefn i fyn'd ar daith i'w sir enedigol. Yr oedd yr oedfa gyntaf i fod yn y Bala am ddeg yn y bore, a hysbyswyd ef y cai wybod wedi cyrhaedd yno am drefn ei gy hoeddiad. Cafodd fenthyg ceffyl Jones, Cefn-y-gader, i fynd ar y daith, a gobeithiai Thomas ar hyd y ffordd nad oedd Cwmtirmynach ar y list. Wedi pregethu yn y Bala, estynodd un o'r blaenoriaid drefn ei gyhoeddiad iddo, ac er ei ddychryn, yn Nghwmtirmynach yr oedd i bregethu am ddau o'r gloch. Ni ddywedodd Thomas air, ond penderfynodd ynddo'i hun y gyrai fel Jehu heibio capel Cwmtirmynach, gan nylu am y lle yr oedd i bregethu y nos. Pan o fewn rhyw haner milltir i'r capel rhoddodd Thomas wynt i'w geffyl er mwyn iddo allu tithio yn gyflymach heibio'r capel. Ond dyna rhyw hen wreigan wrth ei dwyffon yn dod allano ryw gaban ar fin y ffordd, ac ebe hi, " Wel, Thomas Owen anwyl, a rydach wedi dwad! Bendith ar y'ch pen chi! Mae deng mlynedd er pan fuoch chi yma o'r blaen." "Ah," ebe Thomas ynddo'i hun, "rwyt tithau yn cofio am yr hen oedfa galed hono!" "Os ces i fy argyhoeddi erioed," ychwanegai yr hen wraig, dan y bregeth hono y cês i hyny. Yr ydw i'n cofio'ch text chi o'r gore,—'Yr hwn nid arbedodd ei briod-fab, ond a'i traddododd ef trosom ni,' &c. Anghofia i byth mo'r oedfa ryfedd hono, Thomas Owen bach." "Be? be?" ebe Thomas, ac wedi cael ychwaneg o ymgom efo'r hen wraig cafodd ei argyhoeddi ei bod yn dweyd y gwir. Nid aeth efe heibio Cwmtirmynach, ond cafodd yno yr oedfa fwyaf llewyrchus yn ei daith. Y fath gysur i bregethwyr yr oedfeuon caled! ebe F'ewyrth Edward.
—————————————
Y Gweinidog
Yn adnabod James Lewis? oeddwn debyg, ebai Flewyrth Edward. A fydda 'i byth yn meddwl am dano heb i ryw dòn o dristwch dd'od dros fy ysbryd. Dyn anghyffredin oedd James. Methodistiaid oedd ei rieni, a James oedd eu hunig blentyn. Cadw siop fwyd yr oedd Dafydd Lewis. Nid oedd y siop ond bechan, ac er fod Dafydd yn ddiwyd a pharchus yn mhlith ei gymydogion, mewn trafferth y byddai beunydd i gael y ddeuben ynghyd. Er yn hogyn yr oeddym yn arfer edrych ar James Lewis fel un oedd yn meddu mwy o dalent na holl fechgyn yr ardal, a'n rhoi ni gyd gyda'n gilydd. Yr oedd o mor bright, pan yn fachgen, fel y prophwydai llawer y byddai yn siwr o ddylu wedi tyfu i fyny. Pan yn bedair oed adroddai adnodau a phenillion nes synu pawb. Yn ddigon naturiol yr oedd ei dad a'i fam yn meddwl y byd o hono. Clod i galon ei dad, fe r'odd yr ysgol oreu fedrai i James, o'r fath ag oedd ysgolion y pryd hwnw. Clywais fy nhad yn dweyd lawer gwaith ei fod yn sicr fod Dafydd yn gwasgu arno ei hun er mwyn rhoi ysgol i Jim bach, fel y galwai ef. A rhyfedd, o drugaredd, fel y mae pethau wedi newid. Welaist di 'rioed fel y byddai pobl, a phobl go dda hefyd, yn beio Dafydd Lewis. Dwedai rhai mai ei falchder oedd y cwbl, dwedai eraill mai arwain ei fachgen i'r crogbren yr oedd wrth roi cymaint o ysgol iddo, a dwedai eraill yn ddigon speitlyd fod yn rhaid fod cadw siop yn talu yn dda. Bychan y gwyddent y bu raid i Dafydd fenthyca arian lawer gwaith gan fy nhad i dalu'r rhent er mwyn cyfarfod â chost ysgol James Ond dyna oedd y ffaith; a chymaint oedd cenfigen a ffolineb rhai fel nad aent byth i siop Dafydd Lewis i wario ceiniog os gallent beidio. Er cymaint o brophwydo a fu y byddai i James y siop ddylu, parhau i gynyddu a dysgleirio yr oedd yr hogyn. Yr oedd yn ddysgwr diail; ond ei awyddfryd mawr oedd gallu siarad Saesoneg yn dda, ac yr oedd hyny yn 'sgleigdod mawr yr adeg hono. Yn wir, wrth glywed James pan oedd yn ddeg oed yn siarad Saesoneg yn llyfn a rhwydd, yr oeddym ni yr hogiau, yn edrych arno fel rhyw ail Ddic Aberdaron. Yr oedd llyfrau yn brinion yn yr ardal, a phan elai James i dai rhai o'r cymydogion a gweled yno lyfr nad oedd wedi ei ddarllen, ni chai ei fenthyg er gofyn—mor genfigenllyd oedd pobl. Parodd hyn i'r bachgen gymeryd benthyg y llyfrau heb ofyn, a chafodd y gair o fod yn lleidr llyfrau. Ond i ddiwallu ei enaid y trodd yn lleidr. Wedi i James orphen ei ysgol, aeth i helpio ei dad yn y siop, ond byddai yn darllen mwy nag a fyddai yn helpio, ac ni fyddai yn gwrthod neb o drust, ac felly llanwodd lawer ar lyfr y siop, fe ddwedid. Fel bechgyn talentog yn gyffredin yr oedd yn llawn o ysmaldod a direidi diniwed. Parodd hyn i'r hen flaenoriaid ei wylio yn fanwl a chilwgu arno. Cynhelid y pryd hwnw yr hyn a elwid yn seiat plant, ac wrth edrych yn ol ar y cyfarfodydd hyny rhaid i mi ddweyd mai prif amcan Pitar Bellis, y gŵr oedd yn gofalu am y seiat, oedd cadw James Lewis i lawr, drwy ei rwystro i adrodd gormod o adnodau neu ranau o'r pregethau—gwasgu James i lawr i lefel y plant eraill, ac nid eu codi nhw i lefel James. Wrth feddwl am eiriau câs Pitar Bellis, mae'n syn gen i feddwl sut yr oedd yr hogyn yn dod yno o gwbl. " Paid a bod mor dafodog, y ngwas i bydd yn fwy cymedrol wrth adrodd y bregeth, nei di, paid a bod mor barod efo dy ateb, aros nes i mi ofyn i ti," a geiriau cyffelyb oedd yr ymadroddion mwynaf a gai James, druan. Bu yn hir iawn heb gael ei dderbyn yn gyflawn aelod, tra yr oedd eraill ieuengach a chyn ddyled a phost llidiart, wedi eu derbyn er's tro, a'r gwyn fwyaf oedd ganddynt yn erbyn James oedd ei fod yn troi ei wallt oddiar ei dalcen ac yn rhoi oel ynddo. Yr oedd hyny, ar y pryd, yn fwy trosedd na bod heb fedru'r Hyfforddur. Gallai James adrodd yr Hyfforddwr ar ei hyd, ac yr oedd yn fachgen honourable a charedig, ond ni thalai gan yr hen frodyr—yr oedd ganddo Q.P., ac yn rhy dafodog, fel y dywedai Pitar Bellis. Ac megis o. gywilydd, wrth ei weld yn hogyn mor dàl, y cafodd ei dderbyn o'r diwedd. Cychwynodd James gyfarfod i'r bechgyn ifinc, ac er nad oedd dim gwaeth yn myn'd yn mlaen ynddo nag areithio, darllen, ac adrodd am y goreu, buan y rhoddodd yr hen flaenoriaid stop arno. Ond, yn ddirgel, cawsom lawer cyfarfod yn warehouse Dafydd Lewis, lle cafwyd, nid yn unig ddarllen ac areithio, ond ambell bregeth gan James, weithiau yn Gymraeg, bryd arall yn Saesneg. Yr oeddym yn meddwl yn uwch o'r bregeth Saesneg am nad oeddym yn ei deall. Heb i mi gwmpasu, aeth y stori allan y medrai James bregethu yn ods o dda, ac felly y gallai hefyd. Yr oedd ychydig o aelodau yr eglwys yn credu fod James wedi ei eni i fod yn bregethwr —yr oedd yn ddoniol, yn wybodus ac yn olygus o ran corff, ac yr oedd ei gymeriad yn ddilychwin, a phan oedd oddeutu deunaw oed ceisiodd rhai gael ei achos yn mlaen, ac yr oedd yntau yn bur awyddus i hyny. Ond nid oedd siawns cael gan yr hen dadau yn y sêt fawr gydweled—yr oedd eisieu mwy o bwyll. Ac felly y bu James Lewis am oddeutu dwy flynedd—yn cael edrych arno fel un wedi ei fwriadu i bregethu, ond yn methu cael license. Yr adeg hono yr oedd gyda'r Annibynwyr Cymreig weinidog ieuanc—gŵr cymeradwy ac wedi cael gwell addysg na'r cyffredin o bregethwyr. Aeth James ac yntau yn gyfeillion, a chyn pen hir gofynodd James am ei docyn i fynd at yr Annibynwyr. Agorodd pawb eu llygaid—gwelsant eu camgymeriad, ond yr oedd yn rhy hwyr. Yr wyf yn cofio yn dda fod rhai o honom ni, ei gymdeithion penaf, wedi ein gorchfygu yn lân gan ein teimladau wrth feddwl fod ein hen gyfaill doniol a charedig yn ein gadael, ac ni fuom yn brin o ymosod yn ein plith ein hunain ar yr hen frodyr. Yn mhen ychydig wythnosau yr oedd James yn pregethu ei hochr hi efo'r Annibynwyr, yn Gymraeg a Saesneg, nid oedd gwahaniaeth ganddo p'run, ac yr oedd sôn am dano hyd y wlad fel un o'r dynion ifanc mwyaf addawol a feddai yr enwad. Aeth hyn yn mlaen yr rhawg pryd y daeth teulu Saesnig o Lundain, oeddynt yn Annibynwyr, i'r gymydogaeth am fis er mwyn eu hiechyd. Clywsant James yn pregethu, ac yr oeddynt wedi dotio ato. Yn mhen rhai misoedd wedi i'r teulu ddychwelyd, gwahoddwyd James i Lundain i sypleio, fel y dwedir. Aeth yntau ac arhosodd yno. Toc ar ol hyn, clywsom ei fod wedi ei sefydlu yn weinidog ar eglwys flodeuog, ac fod y penodiad yn hapus, ac yntau yn dyfod yn ei flaen yn rhagorol. Aeth deuddeng mlynedd heibio, ac yn y cyfamser byddem yn clywed yn achlysurol am lwyddiant a phoblogrwydd James. Ond un diwrnod, pwy a welem yn yr hen gymdogaeth, ond James. Yr oedd golwg barchus arno, ond yr oedd rhywbeth tra gwahanol ynddo i'r hyn a fyddai arfer. Yr oedd yn brudd a distaw, ac yr oedd yn amlwg fod rhywbeth anghysurus wedi digwydd iddo, ac o herwydd hyny nid oedd neb yn ei holi. Fe ddaru niddeall yn union nad oedd yn bwriadu dychwelyd i Lundain. Yr oedd ei rïeni erbyn hyn wedi meirw er's peth amser, ond, fel y digwyddodd, yr oedd y siop a fuasent yn ei dal yn wag, a mawr oedd ein syndod pan aeth y gair allan fod James Lewis wedi cymeryd hen siop ei dad, yr hon a agorodd ar unwaith. Elai James i gapel yr Annibynwyr ar y Sabboth, ond yr oeddym yn deall na fyddai yn aros yn y gyfeillach, neu, fel y byddwn ni yn dweyd, y seiat. Ymddangosai ef a'r gweinidog, yr hwn a'i cododd i bregethu, yn bur gyfeillgar, a chredai llawer na wyddai neb ond Mr. Price am yr achos i James roi y weinidogaeth i fyny, ac ail-ddechreu busnes, ond dyfalai pobl lawer o bethau. Bychan oedd y busnes yn y siop, ond tybid fod James uwchlaw anghen. Aeth pethau yn mlaen fel hyn am hir amser, ac yr oeddwn inau yn bur gyfeillgar efo James ac yn myn'd i'w siop yrwan ac yn y man, ond nid oeddwn erioed wedi gofyn iddo am eglurhad ar ei ymadawiad â Llundain, oblegyd gwyddwn ei fod wedi gwrthod egluro i amryw. Yr oeddwn yn ei siop un noson pan oedd yr hogyn yn rhoi y shutters i fyny, ac, am y tro cyntaf er pan ddaeth yn ol, gwahoddodd fi i'r tŷ. Yr oeddym yn hen ffrindiau, a " ti " " tithau " y byddem yn galw ein gilydd. Wedi ymgoinio tipyn am yr hen amser, mentrais ofyn iddo beth barodd iddo roi y weinidogaeth i fyny. Edrychodd arnaf fel pe buaswn wedi ei saethu, yna gosododd ei ben rhwng ei ddwylaw ar y bwrdd ac wylodd yn hidl. Gwelais fy mod wedi ei friwio, ac edifarheais ofyn y cwestiwn. Wedi iddo adfeddianu ei hun, atebodd fel hyn, hyd y gallaf gofio,"—
Edward, yr wyt ti a minau yn hen gyfeillion, a mi wn, ond i mi ofyn i ti, na wnei di ddim ail-adrodd yr hyn 'rwyf yn mynd i'w ddweyd, tra byddaf fi byw, gwna fel y mynot wed'yn. Rhag i ti feddwl ei fod yn rhywbeth gwaeth, dyma yr hanes i ti yn fyr. Gwyddost i mi gael fy sefydlu ar eglwys led gref yn Llundain. Ar y dechreu yr oeddwn yn bur bryderus a oedd gen i ddigon o adnoddau ar gyfer y gwaith. Gweithiais yn galed a diflino yn hwyr ac yn fore, ac yn y man teimlais fod Duw yn fy mendithio ac yn arddel fy llafur. Cynyddodd yr eglwys a'r gwrandawyr yn fawr. Yr oedd yno chwech o ddiaconiaid—dynion da a grasol, hawdd byw gyda hwy, ac yr oeddym yn gallu cyd-weithio yn rhagorol. Aeth pethau yn mlaen fel hyn am flynyddoedd heb un hitch. Yn perthyn i'm heglwys yr oedd hen ferch—pe buasai yn hen hefyd, nid oedd fawr hŷn na minau–gyfoethog a dylanwadol. Yr oedd y ferch hon yn bobpeth ond prydferth. Ystyrid hi yr un fwyaf crefyddol o bawb o honom—ni byddai byth yn colli moddion y Sabboth na chanol yr wythnos. Ymwelai yn gyson â'r tlodion, ac yr oedd yn haner cadw rhai o honynt. Hi oedd ein Dorcas. Cyfranai at y weinidogaeth ac at achosion eraill gymaint a dwsin o'r rhai mwyaf haelionus, ac nid oedd terfyn ar ei charedigrwydd i mi, y gweinidog. Heblaw hyny, yr oedd wedi cael addysg dda, ac yn un hynod ddeallgar. Hawdd i ti gredu fod ei dylanwad yn yr eglwys yn fawr. Yn wir, ni byddem yn dychmygu am gychwyn unrhyw symudiad heb yn gyntaf ymgynghori â Miss Perks—dyna oedd ei henw—oblegid gwyddem y byddai raid i ni gyfrif ar ei phwrs, ac ni byddai hithau byth yn grwgnach, am ei bod yn sant, fel y credwn, yn gystal a bod yn gyfoethog. Disgwylid i mi, fel gweinidog, ymweled â phob aelod o'r eglwys yn eu tro, ond yn bur naturiol, fel y gellit feddwl, syrthiais i'r arferiad o ymweled â Miss Perks yn llawer amlach nag â neb arall, am y gallwn dreulio awr neu ddwy yn ei chwmni er mantais i mi fy hun. Yn aml iawn byddai ganddi lyfr newydd, ac os byddai wedi ei ddarllen cawn ef yn anrheg ganddi. Yr oeddwn yn ei mawrhau tu hwnt i bawb. Aeth hyn yn mlaen am un mlynedd ar ddeg, a gwyddai pawb fy mod yn ymweled â hi yn aml, yn amlach nag y dylaswn, hwyrach. Yn y ddeuddegfed flwyddyn o fy ngweinidogaeth dechreuodd Miss Perks fy ffoli am na fuaswn yn priodi; atebais inau nad oedd genyf amser i feddwl am hyny. Parhaodd i fy ffoli bob tro yr awn yno, nes yr oeddwn wedi diflasu ar ei stori, a dechreuais fynd yno yn anamlach. Un diwrnod gwahoddodd fi yno i dê, ac aethum inau, oblegyd nid gwiw oedd anufuddhau i Miss Perks. Ar ol tê, dwedodd wrthyf, dan gryn deimlad, ei bod wedi meddwl am danaf yn wr, ac nad oedd am gymeryd ei gwrthod. Dychrynais, oblegyd, er fy mod yn synied yn uchel am dani, y peth olaf yn fy meddwl a fuasai meddwl am ei phriodi. Dwedais wrthi fy mod yn bur ddiolchgar iddi am ei chynygiad caredig, ond nad oeddwn wedi meddwl am briodi; ac atebodd hithau fod yn hen bryd i mi feddwl, ac felly y terfynodd y siarad. Y tro nesaf yr euthum yno daeth a'r peth yn mlaen drachefn, a chyfrifodd i mi ei heiddo, a dwedodd y gwnai y cwbl i mi os priodwn hi; ond troais y stori at rywbeth arall gan geisio chwerthin y peth i ffwrdd, er nad oedd chwerthin ar fy nghalon, ac euthum ymaith yn fuan. Daeth yr un pwnc yn mlaen pan euthum yno wed'yn, a dwedais wrthi os soniai am y peth drachefn y byddai raid i mi roi heibio ymweled â hi, ac atebodd hithau y daliai i son nes i mi wrando arni. Nid euthum yno mwy. Erbyn hyn yr oeddwn yn druenus, a gwyddwn fod yr helynt yn effeithio ar fy mhregethu—yr oeddwn yn anesmwyth drwof, ac ni fedrwn gael fy myfyrdodau at eu gilydd i barotoi ar gyfer y Sabboth—yr oedd Miss Perks yn ei sêt yn y capel o flaen fy meddwl yn barhaus. Ni wyddwn beth i'w wneud. Dymunwn yn fy nghalon gael galwad i ryw eglwys arall, yr hyn a gawswd fwy nag unwaith pan nad oeddwn yn barod i'w derbyn. Un noswaith synais weled y chwe' diacon yn y cyfarfod eglwysig—yr oedd hyny yn beth amaethyn, oblegid yr oeddynt yn ddynion prysur, llawn eu trafferth gyda'r byd. Ar ol y cyfarfod, yn y vestry-room, canfyddais ar eu hwynebau fod rhywbeth yn bod, ac heb i mi fanylu: ti, dwedasant fod ganddynt gwyn ddifrifol yn fy erbyn—fod Miss Perks wedi eu hysbysu fy mod ar fwy nag un achlysur wedi ymddwyn yn anweddus ati, a chwbl anheilwng o weinidog yr Efengyl, ac wrth gwrs nad allent amheu gair Miss Perks. Yr oeddwn wedi fy syfrdanu, a daeth rhywbeth i fy ngwddf fel nad allwn ddweyd gair am amser, a chrynwn fel deilen. Yr oeddwn yn ddig enbyd wrthyf fy hun, oblegid gwyddwn eu bod yn edrych ar yr arwyddion hyn fel prawf o fy euogrwydd. Pan ddeuthum ataf fy hun adroddais yr hyn yr wyf wedi ei adrodd i ti yn barod. Ond gwyddwn nad oeddynt yn fy nghredu, a dwedasant fod yr hyn a adroddwn yn anhebyg i Miss Perks—eu bod yn ei hadwaen er ys deng mlynedd ar hugain. Dwedodd y diacon hynaf—y callaf a'r goreu o honynt—eu bod wedi bod yn cydymgynghori, ac mai'r peth goreu i mi, i'r achos mawr, ac i'r eglwys, oedd i mi reseinio ar un waith; a'u bod wedi d'od i'r penderfyniad hwn gyda gofid mawr, ond fod yn rhaid iddynt ystyried teimladau Miss Perks. Wedi llawer o siarad, ac i mi wneud llwon mawr, ysgydwais ddwylaw â phob un o honynt, ac nid oedd wyneb un o honom yn sych. Prysurais i fy llety fel dyn gwallgof, a deuthum yma yn fy mlaen dranoeth. Gelli ddyfalu cyflwr fy meddwl byth er hyny. Ond yr wyf yn gweddïo ddydd a nos ar Dduw glirio fy ngharitor, a mi gredaf y gwnaiff ryw dro, hwyrach pan fyddaf fi wedi myn'd o'r golwg. Nid oes neb yma yn gwybod yr hanes ond Mr. Price, gweinidog yr Annibynwyr, ac y mae ef wedi bod yn crefu arnaf lawer gwaith am gael chwilio i'r achos, ond yr wyf wedi ei atal. Cadw y cwbl i ti dy hun ar hyn o bryd."
Bu James Lewis a minau yn fwy o gyfeillion nag erioed ar ol hyn. Yn mhen tair blynedd gelwais un diwrnod yn ei siop, a dwedodd ei was fod Mr. Lewis wedi mynd oddi cartref am rai dyddiau. Cyn diwedd yr wythnos hono cefais air ganddo i ddod yno. Yr oedd yn llawen, ond yn hynod gynhyrfus. Estynnodd ysgrif i mi yn adrodd cyfaddefiad gwely angau Miss Perks mai anwiredd noeth a ddwedasai am ei "gweinidog anwyl." Pan aeth y genawes i farw teimlodd wrês y tân tragwyddol yn rhy boeth, a chrefodd ar y diaconiaid i anfon am James Lewis Gwnaeth y cyfaddefiad o flaen James a phedwar o'r diaconiaid; ac â'i hanadl olaf megys, ceisiodd ganddo gymeryd iawn mewn arian am y camwri, ond gwrthododd James hyny gyda dirmyg. Ond dwedodd James wrthyf ei fod wedi maddeu iddi, a gweddïo wrth erchwyn ei gwely am faddeuant Duw iddi. Bu farw Miss Perks dranoeth, a daeth James yn ei ol gyda charitor a chydwybod lân. Ond effeithiodd yr helynt mor dost arno fel y bu yntau farw toc.
A dyna stori James Lewis i ti, un o'r bechgyn mwyaf talentog a welais erioed, ac mae'r stori cyn wired a'r pader, ebai F'ewyrth Edward.
—————————————
William y Bugail
Yn cofio hanes William y Bugail? Ydw debyg, fel bydase wedi digwydd ddoe, ebe F'ewyrth Edward. A hanes rhyfedd ydi o hefyd. Un o'r dynion harddaf a welaist erioed oedd William; yr oedd dros ddwy lath o daldra, ac o gyfansoddiad cryf a chadarn. Yr oedd o hefyd yn cael ei gyfrif yn mhlith ei gymndogion yn un o'r dynion mwyaf dewr a diofn a' ellid ei gyfarfod mewn blwyddyn. A da i William oedd hyny, achos yr oedd ei alwedigaeth yn gofyn iddo weithiau fod hyd y mynyddoedd bob adeg o'r nos, ac ar bob math o dywydd. Bugail mewn gwirionedd oedd William, ac os byddai rhyw anghaffael ar y defaid, ni wnai gerwindeb y tywydd beri iddo esgeuluso dim arnynt. Peryglodd ei fywyd ddegau o weithiau er mwyn hen ddafad neu oenyn diwerth ynddynt eu hunain. A mi fyddaf yn meddwl fod Duw yn cymeryd yn garedig ar ddyn am bethau felly—mae yna rywbeth dwyfol mewn mentro bywyd er mwyn cadw bywyd. Wel, yr oedd William yn caru merch yr Henblas, ac ar fin myn'd i'w briodi. A geneth landeg anwêdd oedd Susan yr Henblas, yr wyf yn ei chofio yn dda, ac wedi i William roi ei fryd arni, nid gwiw oedd i neb arall feddwl am dani o ofn William, achos, fel y dwedais, yr oedd William yn ddyn nerthol ryfeddol, er ei fod, am ddim a glywais, yn hollol ddiniwed, ac ni chlywais erioed ei fod yn meddwi nac yn arfer geiriau drwg. Yr oedd o'r pentre, lle yr oedd William yn byw, i'r Henblas dair milltir neu ychwaneg, ac yr oedd y ffordd dros y mynydd. Ond elai William i edrach am Susan ddwywaith neu dair yn yr wythnos, waeth be fyddai y tywydd.
Un noswaith yr oedd oedfa i fod yn y capel ganol yr wythnos, ac agos bob amser pan fyddai rhywbeth yn y capel ar noson waith, fe fyddai yn arferiad gynon ni, meibion a gweision ffarmwrs, i fyn'd at y capel ryw chwarter awr cyn amser y moddion, er mwyn cael ymgom a chlywed y newydd. Yr oedd cryn feio ar yr arferiad, ond yr oedd rhywbeth i'w ddweyd drosto—anaml ond ar adegau felly y byddem yn cael cyfleustra i weled ein gilydd, am ein bod yn byw ar gryn wasgar. Wel, fel y dywedais, yr oedd oedfa i fod yn y capel ar nos Fercher, ac yr oedd amryw o honom fel glaslanciau wedi hel at y capel dipyn cyn yr amser. Yr oedd yn nogwaith rewllyd a lled oleu, ac wedi i ni fod yn ymgomio tipyn, pwy a welem yn dyfod tuag atom o gyfeiriad y mynydd, ond William y bugail. Pan ddaeth atom fe ddaru i ni gyd sylwi ei fod yn edrach braidd yn gynhyrfus, a mi ofynais iddo a oedd rhywbeth wedi digwydd i'r defaid, ac ebe fynte, a dyma ei eiriau i ti bob gair,—
"Nag oes, ddim, Edward, ond wyddoch chi be, mi weles beth rhyfedd ofnadwy wrth ddod dros y gefnen ene. Mi wyddoch nad ydw i ddim yn ofnus, ond pan oeddwn i'n dod i lawr yr ochr ene, mi ddois mewn moment i dwllwch fel y fagddu,—fedrwn i ddim gweld fy llaw. Ddaru mi ddim dychrynu, a mi eis ymlaen trwy y twllwch a mi ddois i'r goleuni wedyn, a mi sefes i edrach yn ol, a mi welwn gwmwl du, hir, ac isel, ac yn wastad ar ei dop fel top gwal neu wrych wedi ei dorri yn lefel. Wrth ddal i edrach arno mi welwn, yn y man, dyrfa o bobl fel gorymdaith tu draw i'r cwmwl. 'Doedd dim ond eu pennau a'u sgwyddau yn y golwg i mi, ac er eu bod yn ymddangos yn fy ymyl bron, 'doeddwn i ddim yn nabod un o honyn nhw. Yr oeddwn yn gweld y bobl yn symud ymlaen a'r cwmwl hefyd, a thoc mi sylwais fod pedwar o ddynion yn mhen blaen y cwmwl yn cario arch ar elor, ac yr oedd un dyn tu ol i'r elor ar gefn ceffyl, a mi adwaenes o ar unwaith—John Roberts y Foty oedd ar gefn ei geffyl du. Mi safes yn edrach nes aeth y cwmwl a'r bobl dros yr afon ar hyd y ffordd i'r Llan, nes i mi golli golwg arnynt."
Yr oedd stori William yn rhyfedd iawn i ni i gyd, ac i neb yn fwy nag iddo ef ei hun, ac yr oeddym yn credu pob gair o'r stori, oblegid dyn perffaith eirwir oedd William y bugail. Wrth ei weled wedi cynhyrfu cymaint, mi ddwedais wrtho yn ysgafn mai rhagarwydd o'i briodas oedd y weledigaeth, ac aethom i'r capel a William gyda ni. Ond y mae y peth rhyfedd yn ol Yn mhen yr wythnos i'r nos Fercher hono yr oedd wedi bod yn bwrw eira yn lled drwm, ond yn ffyddlon i'w gyhoeddiad aeth William y bugail dros y mynydd i'r Henblas i edrach am Susan. Ni arosodd yn hir efo'i gariad, oblegid cofiai am y siwrnai oedd ganddo ar y fath noswaith. Toc wedi iddo adael yr Henblas, dechreuodd fwrw eira yn enbyd, a throdd yntau i dafarn i aros i'r gawod fyn'd drosodd. Ni chafodd ond un gwydriad,—ni byddai byth yn cymeryd mwy nag un,—oblegid dyn cymedrol a sobr iawn oedd William. Wrth ei gweld yn dal i fwrw, penderfynodd gychwyn gartref,—yr oedd yn berffaith gyfarwydd â'r mynydd, ac wedi bod arno ddegau o weithiau ar dywydd gwaeth, meddai. Ond ni chyrhaeddodd William byth ei gartref yn fyw. Cafwyd ef drannoeth wedi marw yn yr eira. Erbyn hyn cofiai yr hogiau stori William wrth giat y capel, a rhyfedden wrth feddwl am y peth. Yn mhen ychydig ddyddiau, yr oeddwn i ac amryw o'r hogiau oedd yn gwrando stori William, yn ei gladdedigaeth, a phrin y medrem anadlu pan welsom nad oedd neb yno ar gefn ei geffyl ond John Roberts y Foty. Torodd Susan yr Henblas ei chalon toc ar ol hyn, a bu farw o'r dicâu. Sut y sboni di beth fel stori William y bugail, nid wn i ddim, ond y mae mor wir a mod i yn eistedd yn y gader yma, ac y mae amryw yn fyw heddyw sydd yn cofio y peth cystal a minau, ebai Fewyrth Edward.
—————————————
Ci Hugh Burgess
EBE F'ewyrth Edward,—
Yr wyf wedi son wrthyt o'r blaen am Thomas Burgess, giaffer ffactri gotwm yr Wyddgrug. Yr oedd ei wraig blwc yn iengach nag ef, ac yr oedd ganddynt un plentyn, bachgen oddeutu naw oed. Er mai dyn lled frwnt, fel y dywedais, oedd Burgess, yr oedd yn hoff iawn o'i fachgen, ac yn ei syrffedu 'mron â moethau, ac felly y gwnai Mrs. Burgess. Yn wir, credai llawer nad oedd gan yr hen Burgess a'i wraig amcan arall mewn bywyd ond dedwyddwch a phleser eu bachgen Hugh. Hoffter mawr Hugh oedd creaduriaid mudion, a thrwy garedigrwydd ei rieni yr oedd ganddo yn tŷ amryw fathau o adar, ac yn y buarth golomend, gwningod, mul bach, a wn i faint o bethau ereill, a chenfigenai bechgyn yr ardal at liosogrwydd ei dda byw. Elai Hugh i'r British School, yr hon oedd oddeutu milltir o'i gartref, a rhag iddo orfod cerdded ol a blaen, cymerai ei ginio mewn basged fach ddel gydag ef i'r ysgol.
Gyferbyn â'r British School, yn un o'r tai bychain hyny, wyddost, yr oedd dyn o'r enw Martin yn byw, yr hwn a enillai ei fywiolaeth,—yn ddigon gonest am wn i,—wrth werthu cnau, oranges, india rock, a phethau felly, a byddai yn ymweled yn gyson â marchnad Rhuthyn, Dinbech, a Gwrecsam. Gwyddel oedd Martin, a byddai ganddo fen fach ysgafn ar bedair olwyn, a'i thop yn fflat fel bwrdd, ar yr hon y cariai ei nwyddau i'r marchnadoedd, a'r hon a wasanaethai iddo fel stondin. Dau gi mawr a fyddai yn tynu y fen fach, ac wrth fyn'd i lawr y gelltydd neidiai Martin ar dop y fen, a byddai y cwn yn myn'd fel mellten. Ond byddai raid i Martin eu helpio i fyny y gelltydd.
Bum yn synu ganoedd o weithiau at gryfder a gwasanaethgarwch cwn mawr Martin. Yr oedd ganddo dri o honynt, ac enw yr hynaf oedd Sam.
Yr oedd Sam wedi gweithio yn ddiwyd ar hyd y ffyrdd celyd am flynyddau lawer, ac wedi myn'd yn hen, a mi wyddost mai dengmlwydr yw canrnlwydd ci. Ond yr oedd Sam yn ddeuddeng mlwydd oed, ac un diwrnod cloffodd yn dost, ac ni fedrai mwyach dynu'r fen. Bu Sam yn invalid yn nghut Martin am wythnosau, ac elai Hugh Burgess efo rhan o'i ginio iddo bob dydd y byddai yn yr ysgol, ac yr oedd y ddau wedi myn'd yn ffrindiau mawr. Ni choleddai Martin obaith y byddai i Sam wella fel ag i fod yn alluog i ail afael yn ei orchwyl o dynu'r fen, ac o herwydd hyny ni roddai iddo haner ddigon o fwyd, ac oni bai am Hugh Burgess credai Sam y buasai wedi llwgu er's talwm. Un canol dydd pan oedd Hugh yn cymeryd rhan o'i ginio i Sam, gwelai Martin yn myn'd o'i flaen i'r buarth, a gwn dan ei gesail. Rheddld Hugh a gofynodd i Martin beth oedd yn myn'd i'w wneyd.
"Saethu Sam," ebe Martin, "achos fydd o byth da i ddim."
Torodd Hugh i grio yn enbyd, a chrefodd am gael Sam gydag ef gartref, yr hyn a ganiatawyd ar unwaith, oblegid yr oedd yn dda gan Martin gael yr hen gi oddiar ei ddwylaw. Yr oedd Sam yn ymddangos fel pe buasai yn deall yr ymgom rhwng Hugh a Martin, oblegid pan drodd ei hen feistr ei gefn, gan gymeryd y gwn gydag ef i'r tŷ, ysgydwodd Sam ei gynffon, fel pe buasai pwysau mawr wedi myn'd oddiar ei feddwl. Gwelsai Sam ambell gydymaith iddo yn cael ei saethu wedi iddo gloffi a methu tynu'r fen. Y noson hono cymerodd Hugh Sam gydag ef gartref, a mawr oedd ymdrech yr hen gi ar ei drithroed yn ei ddilyn.
Er mor dyner oedd rhïeni Hugh, cafodd y bachgen gerydd llym am ddod a'r fath greadur mawr, palfog, blewog, a newynog yn agos i'r tŷ, a mynai yr hen Burgess saethu y ci ar unwaith. Ond gwyddai Hugh am wendid ei dad, a dechreuodd wylo yn chwerw dost. Caniatawyd i Hugh droi y mul bach allan, a rhoi ei gut i Sam, ac erbyn hyn, wrth weled y ci yn cerdded ar ei drithroed, ebe'r hen Burgess yn chwareus,
"Mae'n hawdd gwybod fod y creadur druan wedi bod yn byw yn ymyl yr ysgol."
"Sut felly?" ebe Mrs. Burgess.
"Am ei fod wedi dysgu simple addition,—three down carry one," ebe Burgess.
Trwy lawer o ofal, caredigrwydd, a digon o ymborth, cryfhaodd Sam yn rhyfeddol, ond ni wellhaodd ei droed byth. Bob nos wedi i Hugh ddod adre o'r ysgol, gwelid Sam yn ei ddilyn yn fusgrell hyd y ffyrdd. Y pryd hwnw yr oedd ar lyn mawr y ffaatri gwch bach hynod o ddel, ond'ni chai neb ei gyffwrdd oddigerth perchenog a giaffer y ffactri a'u teuluoedd. Yr oedd Hugh wedi dysgu rhwyfo y cwch yn fedrus dros ben. Un min nos hwyrddydd haf aeth Burgess a'i wraig a Hugh am dro at y llyn, a Sam yn hoblan wrth eu sodlau. Mynai Hugh ddangos i'w dad a'i fam mor fedrus y gallai drin y cwch. Yr oedd ei fam yn erbyn, am ei bod yn dechreu twllu.
"Gadewch iddo," ebe Burgess, a gwthiodd Hugh y cwch yn hwylus o'r lan.
Pan oedd yn nghanol y llyn, edrychai yr hen Burgess arno gyda llygaid edmygol, ac ebe fe,—
"Bachgen garw fydd hwn os caiff o fyw."
Prin yr oedd y geiriau dros ei wefusau pryd y collodd Hugh ei afael o'r rhwyf, ac y syrthiodd dros ymyl y cwch i'r dwfr dwfn. Gwaeddodd y tad a'r fam mewn gwallgofrwydd, ond nid oedd neb o fewn clyw i roi cynorthwy iddynt. Yr un foment neidiodd yr hen gi i'r dwfr, ond yr oedd ei droed anafus yn ei rwystro i notio ond yn anhwylus iawn. Daeth pen Hugh i'r golwg, ac aeth o'r golwg drachefn, ac felly ddwywaith neu dair, tra yr oedd Sam druan yn ymdrechu ei oreu i fyn'd ato. Collasant olwg ar y ci a'r bachgen, a dechreuodd Mrs. Burgess rwygo ei dillad, heb wybod beth oedd yn wneyd. Ond yn y funud gwelent ben Sam uwchlaw wyneb y dwfr, ac yr oedd yn cyfeirio at y lan, ac fel pe buasai yn llusgo rhywbeth ar ei ol, ac yn ymddangos yn union yr un fath â phan fyddai er's talwm yn llusgo'r fen—ei ben i fyny, ac yn ysgwyd ei glustiau i ymlid y pryfaid ymaith. Daeth yn fuan yn ddigon agos at Burgess iddo weled fod ganddo rywbeth rhwng ei ddannedd,—siaced Hugh ydoedd, ïe, ac yr oedd Hugh yn cael ei lusgo i'r lan gan Sam. Wedi cael y bachgen ar dir sych bu yn hir iawn yn dod ato ei hun; ac yr oedd Sam, pe buasai rhywun yn sylwi arno, wedi ysgwyd y dwfr lawer gwaith oddiar ei flew hirion, yn gwylio adferiad Hugh lawn mor bryderus a neb. Ond druan o Sam yn ei henaint, yr oedd wedi gwneyd mwy na'i allu y noson hono. Ni fedrai gerdded gartref. Cyrchwyd handcart o'r ffactri i'w gludo, ond bu Sam farw cyn y bore, Bu agos i Hugh dori ei galon am y ci, a dywedai y cymydogion na wyddent pa un ai ei lawenydd am arbediad ei fachgen, ai ei ofid am farwolaeth Sam, oedd amlycaf yn yr hen Burgess. Gwnaeth yr amgylchiad hwnw les mawr i'r giaffer,—bu yn fwy tyner byth wrth bawb. Gwnaeth arch o dderw i Sam, a chladdodd ef yn yr ardd, a gosododd gareg ar ei fedd. Wn i ddim ydyw'r gareg yno eto, ebe F'ewyrth Edward.
—————————————
Cwn
NOSON o'r flaen yr oeddwn yn sôn wrthot am gi Hugh Burgess. Creaduriaid rhyfedd ydyw cwn, a ci o ddyn ydyw hwnw nad ydyw yn ffond o gi. Marcia di beth ydwyf yn ddweyd wrthot yrwan—os gweli di ddyn a chas ganddo at gwn, mi ffeindi nad ydyw'r dyn hwnw ddim o'r sort oreu, a dweyd y lleiaf. P'run bynag am hyny, dyma i ti stori sydd cyn wired a'r pader. Flynyddau lawer yn ol, yr oedd yn byw yn Nyffryn Clwyd, yn agos i Landyrnog, wr a gwraig o'r enw, os ydwyf yn cofio yn dda, Pitar a Marged Jones. Yr oeddynt dal ffarm fechan daclus, ac yn gwneud yn burion. Yr oedd ganddynt un mab heb duedd yn y byd ynddo at ffarmio, a gosodwyd ef am dymor mewn siop yn Rhuthyn. Awyddai y bachgen yn barhaus am fynd i Loegr, ac o'r diwedd, cafodd le yn un o siopau y boneddwr haelionus, Mr. Tait, Lerpwl, y sugar refiner. Yr oedd ewyrth, brawd i dad i'r bachgen hwn yn gapten llong, ac yn tradio rhwng Lerpwl a'r gwledydd tramor, a phan fyddai yn dychwelyd o'i siwrneion byddai ganddo yn gyffredin ryw anrheg i'r hogyn. Un tro with ddychwelyd o'r gwledydd pell, daeth y capten a chwb o New foundland dog i'w nai. Nid oedd y ci y pryd hwnw fawr fwy nag ysgafarnog. Yr oedd yr hogyn yn byw allan, fel y dywedir, hyny ydyw, mewn lodging, ac yn meddwl y byd o'r ci bach, ac yn ei fwydo ac yn ei barchu oreu y gallai er mwyn ei ewyrth, y capten. Ysgrifenodd, wrth gwrs, at ei rïeni i Ddyffryn Clwyd am y rhodd werthfawr a gawsai gan ei ewyrth. Ychydig oedd cyflog y bachgen, ac yr oedd y ci yn bwyta pob peth o'i flaen, a thyfodd yn greadur hardd, mawr, yn mron yn gymaint a llew. Wedi talu am ei fwyd a'i letty, yr oedd pob dimai oedd gan y bachgen wed'yn yn myn'd am fwyd i'r Newfoundland, ac nid oedd ganddo geiniog i'w rhoi yn y casgliad yn y capel. Yr oedd y ci yn ei fwyta yn fyw, ac eto ni fynasai am y byd ymadael âg ef, am mai rhodd ei ewyrth ydoedd. Ni wyddai pa beth i'w wneud. Ond yn y man, penderfynodd pan gyntaf yr elai gartref, y cymerai у ci gydag ef, ac y gadawai ef yno am na fyddai i'w rïeni wybod am ei gadw. Ac felly y gwnaeth. Cafodd yr hogyn ganiatad i fyn'd adref ar ddydd Gwener, gyda gorchymyn iddo ddychwelyd ddydd Llun, a chymerodd Lion, gydag ef—dyna oedd enw y ci. Dotiai pawb at y ci, ac yr oedd ei balfau fel palfau llew yn union, a dydd Sadwrn a'r Sul yr oedd cryn edrych ar Lion. Dydd Llun a ddaeth, pryd yr wedd yn rhaid i'r bachgen ddychwelyd gyda'r tren cyntaf, a chlymodd Lion i fynu yn un o'r ystablau. Cyn cychwyn am Lerpwl y bore hwnw, newidiodd yr hogyn ei drywsers, a gadawodd ei hen drywsers wedi ei lapio yn daclus ar gadair yn yr ystafell y bu yn cysgu ynddi. Rywbryd yn y prydnawn gollyngwyd Lion yn rhydd. Chwiliodd yma ac acw am y bachgen, ond, wrth gwrs, yr oedd ef erbyn hyn yn Lerpwl. Wedi chwilio pob twll a chornel aeth Lion i'r llofft lle y buasai y bachgen yn cysgu, a chymerodd y trywsers a adawyd ar y gader yn ei geg, ac ymaith ag ef er gwaethaf pawb. Cyn y nos, yr oedd Lion wedi cyrhaedd y siop lle y gwasanaethai y bachgen, sef yn nhop James Street, Lerpwl, a'r trywsers yn ei geg. Ac yr oedd у ci a'r trywsers yn berffaith sych. Tybid fod Lion wedi gwylio yr adeg yr oedd y pacet yn Birkenhead yn myn'd drosodd, a'i fod, yn ddigon digywilydd, wedi croesi yr afon heb yr un tocyn. Pan glywodd Mr. Tait hanes y ci, prynodd ef gan yr hogyn, a bu yn ei feddiant am lawer o flynyddoedd.
Dyma iti stori arall. Yr wyf yn meddwl fy mod wedi dweyd wrthot ti o'r blaen fy mod yn gydnabyddus â theulu Mr. Roberts, Queen's Road, Lerpwl. Bu Mr. Roberts farw yn gydmarol ieuanc, gan adael gweddw ac amryw blant ar ei ol, ond mewn sefyllfa led gysurus Yr oedd gan y teulu hwn eto ryw berthynas yn tradio efo'r gwledydd pell, a dygodd yntau gi Newfoundland i un o'r plant. Sultan, os wył yn cofio, oedd ei enw, ac yr oedd rhywbeth mor fawr a brenhinol yn ngolwg y ci, fel yr oedd yr enw yn eithaf priodol arno. Nid oedd neb wedi gweled dim tuedd at fryntni ynddo, ac os byddai cwn bach yn cyfarth arno, edrychai gyda diystyrwch boneddigaidd arnynt. Meddyliai y teulu gymaint o hono fel y byddai yn cael gorwedd ar y mat o flaen y tân yn y parlwr gan nad pwy a fyddai yn bresenol. Edrychid ar Sultan gyda pharch gan lawer o bregethwyr arferent fyn'd i dy Mrs. Roberts, ac yr oedd yntau yn adnabod holl weinidogion y Methodistiaid yn Lerpwl, ac yn hynod o gyfeillgar efo Mr. Henry Rees. Pan elai Sultan efo un o'r teulu i lawr y dref, os digwyddent gyfarfod Mr. Rees, rhoddai Sultan ei drwyn oer yn ei law, a dwedai gŵr Duw, "Wel, Sultan, bach, sut yr wyt tithau heddyw? Os bu ennid erioed gan gi yn nghylch abred, yr ydw i'n meddwl yn siwr mae gynot ti bu o;" ac edrychai Sultan gyda'i lygaid mawr yn llygaid disglaer y gweinidug, cystal a dweyd, "Thank you, Mr. Rees."
Ond un o gyfeillion penaf y teulu caredig yn Queen's Road, oedd Mr. E. P—, un o flaenoriaid y capel yr oeddynt yn aelodau ynddo. Byddai Mr. P— yn ymweled â hwy ddwy waith neu dair bob wythnos, ac yr oedd Sultan ac yntau yn eithaf ffryndiau. Un noswaith, aeth Mr. P— yno, ac yr oedd Sultan yn gorwedd yn llabwst mawr ar y mat fel arfer, ac yn haner cau ei lygaid, ac yr oedd yr holl deulu gartref. Ond yr oedd gan Mr. P— y noson hono ffon yn ei law, peth na welwyd ganddo erioed o'r blaen gan y teulu a phan oedd, cyn eistedd, yn ysgwyd llaw efo Mrs. Roberts a'r plant, dechreuodd un o'r genethod y'smalio âg ef, gan ddweyd ei fod yn mynd yn hen, ac yn gorfod cael ffon. O fregedd, cododd Mr. P— y ffon uwch ei phen fel pe buasai am ei tharo, pryd y neidiodd' Sultan i fynu, ac y rhuthrodd i'w wddf gan ei daflu ar ei gefn ar lawr, ac oni bai i'r holl deulu ymaflyd yn y ci, 'does dim amheuaeth na fuasai wedi ei dynu yn llardiau. Yr oedd Sultan wedi meddwl fod Mr. P— am daro y ferch, a neidiodd y foment hono i'w hamddiffyn. Cafwyd trafferth fawr i gael y ci i'r buarth cefn, ac yr oedd Mr. P a'r teulu wedi dychrynu yn enbyd. O hyny allan, rhwymwyd Sultan wrth gadwen yn y buarth cefn, å dyna oedd yn rhyfedd, pryd bynag y deuai Mr. Pugh i'r tŷ, er ei fod yn dyfod trwy ddrws y ffrynt, gwyddai y ci y foment hono ei fod yno, ac yr oedd yn mynd yn gynddeiriog am gael d'od yn rhydd. Parodd hyn i Mr. P— gadw, oddiyno, yn wir, yr oedd ganddo arswyd myn'd i'r heol. Yn hytrach na cholli cwmni Mr. P—, saethwyd Sultan, er mor anhawdd oedd gwneud hyny wrth feddwl am ei ffyddlondeb.
Dyma i ti stori arall ryfeddach, ond yn ddigon gwir, achos mi glywais y bobl eu hunain yn adrodd yr hanes, ac yn Lerpwl y bu hyn hefyd. Yr oeddyt yn adnabod Foulkes bach, y teiliwr? Wel i ti, yr oedd chwaer i Foulkes wedi priodi gweithiwr cyffredin yn Lerpwl, ac yr oeddynt yn byw mewn stryt lle yr oedd llawer o dai gweithwyr, a thipyn o ffordd oddiwrth y dociau. Jones oedd enw y dyn. Buont yn byw yn lled gysurus am rai blynyddau, ond heb gynilo dim. Yn y man aeth busnes yn isel, a thaflwyd Jones allan o waith. Bu yn segur am wythnosau, ac yr oedd ef a'r wraig yn mron llwgu. Elai Jones allan bob dydd i chwilio am rywbeth i'w wneud, a dychwelai o hyd gyda chylla a phoced wâg, oddigerth ambell dro y byddai wedi digwydd taro ar hen gyfaill a chael ychydig geiniogau ganddo. Yr oedd wedi gwneud hyn am gymaint o amser fel yr oedd wedi glan laru ar fywyd, a dwedodd wrth y wraig un diwrnod, pan nad oedd ganddynt geiniog yn ty, na gwlithyn i'w fwyta, — " Dai ddim allan eto, mi fyddaf farw wrth y pentan." Crefodd y wraig arno arno i wneud un cais arall, gan ddweud wrtho fel cymhelliad, y gallai daro ar gyfaill, os na chai waith. Wedi llawer o grefu, aeth Jones allan wed'yn, am y tro olaf, fel y credai. Aeth drwy un stryt a thrwy yr ail, a phan oedd yn myn'd'ar hyd y drydedd, sylwodd fod clamp o gi ardderchog yr olwg yn ei ddilyn. Ceisiodd gan y ci fynn'd yn ol, ond ni wnai—dilynai ef i bob man lle yr elai Toc, cyfarfyddodd rhyw Gymro ef. tebyg i ddyn y môr, yr hwn a edrychodd yn fanwl ar y ci, ac ebe fe,—"Hwdiwch, ffrynd, ydi'r ci yna ar werth? a beth ydi'r pris?" Ni wyddai Jones sut i ateb, rhag ofn mai y gŵr oedd ei pia. Ond wedi ystyried moment, ebe fe, "Wel, y mae'n o anodd 'madel a'r ci, ond yr ydw i'n bur dlawd heddyw." " Mi rof i chi ddwy bunt amdano heb chwaneg o siarad," ebe'r gŵr. " O'r gore," ebe Jones. "Fy enw ydyw Capten Thomas, a dowch a fo i'r llong Margaret Ann yn mhen yr awr," ebe'r Capten. Ac felly yr aeth Jones rhwng ofn a gobaith, a thalwyd y ddwy bunt iddo. "Beth ydyw ei enw?" gofynai y Capten pan oedd Jones yn cychwyn ymaith. "God-sent," ebe Jones. Enw rhyfedd arw ar gi," ebe gŵr y môr. "Eithaf priodol, serch hyny," ebe Jones. Aeth Jones adref yn llawen, a chyn i'r ddwy bunt ddarfod, yr oedd wedi cael gwaith cyson. darn rhyfeddaf o'r stori,—Yn mhen oddeutu deng mis, yr oedd Jones, rhwng saith ac wyth o'r gloch y nos, yn cymeryd ei dê ar olOnd dyma y darn rhyfeddaf o'r stori,—Yn mhen oddeutu deng mis, yr oedd Jones, rhwng saith ac wyth o'r gloch y nos, yn cymeryd ei dê ar ol d'od o'i waith, pryd y clywai ef a'r wraig rywun
neu rywbeth yn crafu y drws. Agorodd y wraig y drws, a dyna God-sent i mewn, ac yr oedd ei falchder yn ddibendraw. Wrth gwrs, cafodd groesaw mawr gan Jones a digon o fwyd, ond hwn oedd y tro cyntaf i'r wraig weled y ci. Deallodd Jones fod Margaret Ann wedi dyfod i'r porthladd, ac wedi gorphen ei bryd ac ymdwtio, aeth i ymorol am Capten Thomas. Wedy dod o hyd i'r Capten, dwedodd Jones yr holl hanes wrtho, ac yr oedd wedi synu yn fawr, ac yn falch iawn o gael y ci yn ol, a rhoddold sofren drachefn i Jones, a dwedodd,—" Nid rhyfedd i chwi alw y ci yn God-sent, ffrynd." Mae y stori yn berffaith wir i ti, er nad wn i ddim sut i'w sbonio. Hwyrach i'r ci gamgymeryd Jones am ei berchenog. Ond nid ydyw hyny yn debyg. A pha fodd y daeth i'r stryt ac at y tŷ yr oedd Jones yn byw ynddo yr ail dro? Y peth tehycaf gen i ydyw i Dduw roi tro yn menydd y ci er mwyn i Jones a'i wraig gael tamaid a'u cadw rhag llwgu.
—————————————
Tomos Mathias
ERBYN hyn, ebe F'ewyrth Edward,mae yr hen Waterloo veterans wedi myn'd i gyd, mi debygaf. Yr wyf yn cofio amryw o honyn nhw'n dda, ac yn eu plith Tomos Mathias. Yr oedd Tomos yn byw mewn ty bychan tu ol i'r Blue Bell, Maesydre, Wyddgrug. Un o'r tai lleiaf a welais yn y mywyd oedd tŷ Tomos, ac fe ddwedid mai rhyw brydnawn ar ol noswylio y gwnaeth Jac, y saer, sef y perchenog, y tŷ, ac fod Tomos yn derbyn llythyr ynddo bore drannoeth. Prun bynag am hyny, dyna'r tŷ lleiaf a welais erioed. Mi faset yn medrud estyn pob peth oedd yn y gegin heb godi oddiar dy eistedd, a 'doedd y siambar ddim ond just ffit o le i wely. Yr oedd pobol yn deud, pan fu Tomos yn sal ryw dro, mai drwy y ffenest y dangosodd ö ei dafod i'r doctor, yr hwn oedd isio gwybod stâd ei stymog. Ond wn i ddim oedd hyny'n wir ai peidio. Yn y caban bach yma y bu Tomos a Beti ei wraig yn byw lawer o flynyddoedd. Yr oedd Tomos wedi bod mewn rhai brwydrau, ac yn un o honynt—wn i ddim ai yn Waterloo y bu hyny—cipiwyd darn o asgwrn ei ben i ffwrdd, tipyn tu ucha'r coryn. Ond fe ddaru doctoriaid y fyddin neud job net ryfeddol ar ben yr hen greadur, drwy roi plât arian dros y twll rhag i'w fenydd o fod yn y golwg. Mi welais y plât arian â'm llygaid fy hun ddegau o weithiau. Dwedai Tomos y byddai yn amal heb yr un geiniog, ond na fyddai byth heb arian. Derbyniai chwe' cheiniog y dydd o bension am ymladd dros ei wlad; ond bob chwarter blwyddyn y cai yr arian gan Sergeant-Major Evans. Hen begor rhyfedd oedd y major, ond stori arall ydi hono.
Yn gyffredin, yr oedd Tomos cyn llawened a'r gog, a phob amser mor ddiniwed a'r golomen. Ond yr oedd ynddo un bai pwysig—yr oedd yn ffond ryfeddol o gwrw, ac nid oedd Beti yn ddirwestreg. Er mor ddiniwed oedd y ddau hen ben, yr oeddynt yn baganiaid enbyd, a 'doedd ganddynt ymron ddim syniad am grefydd. Elai Tomos i'r eglwys unwaith bob tri mis—sef y Sabboth o flaen y pension, er mwyn i'r Sergeant Major Evans gofio ei fod yn fyw. Rhoddid trust i Tomos hyd i swm neillduol gan Mali Dafis, y siop fach, a chan un neu ddwy o dafarnau, i aros diwrnod y pension. Wedi myn'd at farc y trust, byddai Tomos a Beti yn dlawd iawn. Ond y peth cyntaf a wnai yr hen sowldiwr wedi derbyn ei arian,—ac yn hyn yr oedd yn siampl i lawer yn y dyddiau hyn,—oedd myn'd o gwmpas i dalu ei ddyled, ac yna, fel yr oedd gwaetha'r modd, gwariai ef a Beti y gweddill am gwrw. Ond, fel y dwedais, byddai yn brinder mawr arnynt am wythnosau cyn diwrnod y pension, a llawer sgil a wnai Tomos i gael diferyn. Ar adeg felly, un tro aeth Tomos at ŵr diarth oedd newydd agor tafarn yn y gymydogaeth, a gofynodd,—
"Ddyn glân, gai beint o gwrw gynoch chi?"
"Cewch, os oes gynoch chi arian," ebe'r tafarnwr.
"Fydda i byth heb arian," ebe Tomos, ac estynodd y dyn y ddiod iddo. With ei weld heb neud osgo i dalu, ebe'r tafarnwr,—
"Lle mae'r pres, ddyn?"
"Does gen i ddim prês, ond y mae gen i arian," ebe Tomos, a thynodd ei het a dangosodd iddo y plåt arian ar dop ei ben. Synodd y tafarnwr yn fawr, ac ni rwgnachodd am iddo gael ei neud am dro.
Un noson oer yn y gaeaf, yr oedd Tomos a Beti yn sgrythu o flaen mymryn o dân oedd yn y grât, ac yr oedd yn glem wyllt arnynt, oblegid nid oedd ond wythnos hyd ddiwrnod y pension, Ochneidiodd Beti yn llwytlog, ac ebe hi,—
Wyst di be, Tomos, mi leiciwn bydawn i yn y nefoedd."
"Be ddeudest di?" ebe Tomos.
"Y leiciwn i yn y nghalon bydawn i yn y nefoedd," ebe Beti.
"Ho, felly'n wir," ebe Tomos," mi leiciwn inne bydawn i yn y dafarn a pheint o gwrw o mlaen."
"Yr hen sgrwb," ebe Beti, "yr wyt ti 'n wastad am y lle gore." Mi fedrwn adrodd i ti amryw o bethau cyffelyb am Tomos a Beti Mathias, ebe F'ewyrth Edward, ond dyna ddigon i ddangos i ti mor anwybodus a diniwed oedd yr hen bobol er's talwm, ac mor ddiolchgar y dylech chi, bechgyn yr oes hon, fod am eich manteision addysg a'r Ysgol Sul a'i breintiau.
—————————————
Ysbryd y Crown
cefais ei fod yn dod o ffenest tŷ bach tlawd yr olwg. Curais y drws, a daeth gŵr y tŷ, yr hwn oedd ar fin myn'd i'w wely i'w agor, a chyfarwyddodd fi i'r ffordd dyrpeg. Wedi cyraedd y typeg dechreuais gofio y ffordd, er fod yr eira yn rhoi golwg ddieithr ar bobman. Cofiais fod tafarndy yn ymyl o'r enw y Crown. Penderfynais nad awn gam pellach na'r dafarn, oblegid yr oedd genyf eto dair milltir o ffordd i'r Llwybr Main, a minau wedi blino cymaint fel mai prin y gallwn roi y naill droed heibio'r llall, ac yr oedd yn dal i fwrw eira. Ofnwn fod pobol y Crown wedi myn'd i'r gwely, a choelia fi, da gan fy nghalon oedd gweled goleu yn ffenest y gegin. Yr oeddwn ymron yn rhy finedig i guro y drws, pryd y daeth gŵr ieuanc i agor, gan fy ngwadd i fewn. Dywedais wrtho am fy sefyllfa, ac y byddai raid i mi gael gwely yno. Aeth i nol ei fam, ac wedi i mi fyn'd dros yr un stori wrthi hithau, ac i'r ddau siarad yn gyfrinachol, ebe'r fam,—
"Mae'n ddrwg gen i, syr, na fedrwn ni roi llety i chi, er mor dost ydi'r nosweth. 'Does gynon ni ond un ystafell heb fod ar iws, a deud y gwir i chwi, y mae rhwbeth yn trwblo yn hono, fel na fydde fo ddiben yn y byd i chi geisio cysgu ynddi." "Mi gymeraf fy siawns am hyny," ebe fi.
"Purion," ebe'r wraig, "ond dyna fi wedi deud yn onest wrthoch chi," a ffwrdd a hi i barotoi tamed o swper i mi, ac i ddweud wrth y ferch am wneud y gwely yn barod. Pan oeddwn yn cymeryd swper, holais y wraig am yr ysbryd, pryd y cefais y stori yn llawn ganddi. Yn fyr, yr oedd yn rhywbeth tebyg i hyn. Eu heiddo hwy eu hunain oedd y dafarn, ac yr oeddynt wedi cadw stori'r ysbryd oddiwrth bawb, rhag gwneud niwed i'r tŷ, ond yr oeddynt ar frys am gael ei werthu. Nid oedd neb wedi clywed yr ysbryd ond y fam a'r mab, ac nid oeddynt wedi sôn gair wrth y ferch, yr hon oedd yn bur wael ei hiechyd, rhag ei dychrynu, a rhoisant siars arnaf finau i beidio sôn wrthi, ac ebe'r fam,—
"Mae y bachgen yma a finau yn ei glywed bob nos ymron, ac weithiau fwy nag unwaith yr un noswaith, ond diolch i'r Tad, dydw i ddim yn meddwl fod y ferch wedi clywed dim oddiwrtho, ond y mae hi yn cysgu yn y garret gefn."
"Beth fyddwch yn ei glywed?" gofynais inau.
"Wel," ebe hi yn ddistaw, gan edrych tua'r drws rhag ofn i'r ferch glywed, "mi fyddwn yn clywed rhwfun yn agor y drws—'does ene'r un clo arno—ac yn union deg yn ei gau o wed'yn. Yn yr ystafell ene bu farw fy ngŵr ryw flwyddyn yn ol, a mi dendiodd yr eneth yma gymaint arno nes y collodd ei hiechyd, a mae gen i ofn drwy nghalon iddi glywed y peth sy'n trwblo, achos mi fydde'n ddigon am ei bywyd hi, a waeth gen i bydawn i odd'ma yforu, cawn i rwbeth tebyg i bris am y tŷ."
Yn y funud daeth yr eneth i mewn, a gosododd ganwyll ar y bwrdd i mi, a dywedodd fod fy ngwely yn barod, a chanodd nos dawch. Yr oedd golwg wywedig a syn arni, a hawdd oedd genyf gredu nad oedd yn iach. Euthom i gyd i'n gwelyau. Yr oedd y tair ystafell lle y cysgwn i, y mab, a'r fam ar yr un landing, a, chysgai y ferch yn rhywle yn nhop y tŷ. O herwydd fy mlinder a stori'r ysbryd, ni fedrwn yn fy myw gysgu. Yr oeddwn wedi rhoi fy rifol far ar fwrdd bychan yn fy ymyl. Yn mhen rhai oriau, tybiais glywed rhyw swn oddiallan i'r ystafell. Goleuais y ganwyll y foment hono, a chydiais yn y rifolfar, oblegid yr oeddwn yn benderfynol os cawn allan mai rhyw ddihiryn oedd yn aflonyddu ar y bobol ddiniwed hyn, y gwnawn ychydig dyllau ynddo. Ond pan, y funyd nesaf, yr agorodd y drws, euthum i grynu fel deilen, ac yn fwy felly pan welwn ferch ifanc yn ei dillad nos yn dod yn syth at fy ngwely. Gan edrych yn dyner yn fy llygaid, ebe hi yn ddistaw,—
"Ydach chi'n well, nhad bach?" yna trodd ar ei sawdl, cauodd y drws ar ei hol, ac ni welais mo honi wed'yn tan y bore. Merch y tŷ ydoedd druan, yn codi drwy ei hun. Yr oedd ei phryder a'i gofal am ei thad yn ystod ei afiechyd wedi etfeithio ar ei nerves, ac er y dydd y claddwyd ef, yr oedd wedi bod yn codi drwy ei hun. am flwyddyn gron heb yn wybod iddi ei hun nag i'w mam a'i brawd. Felly, mi fum yn foddion i roi ysbryd y Crown i lawr, ac yr oedd diolchgarwch y fam a'r brawd i mi yn ddiderfyn. Buom yn gyfeillion byth, ac ar fy nhrafel byddwn yn myn'd i'r Crown fel bydawn yn myn'd gartre, ebe F'ewyrth Edward.
—————————————
Tubal Cain Adams
O BOB math o greulondeb, mi fyddaf yn meddwl, ebai F'ewyrth Edward, mai creulondeb at greaduriaid mudion ydyw y gwaethaf; am y rheswm na fedr y creaduriaid hyny, druain, ddwyn tystiolaeth yn erbyn eu poenydwyr, ac am eu bod yn fwy analluog i am ddiffyn ac i ymgeleddu eu hunain. Pan oeddwn yn hogyn, mi welais lawer o fechgyn creulon, ond neb tebyg i Tubal Cain Adams. Mae o a phawb o'i deulu erbyn hyn wedi meirw, onide fuaswn i ddim yn dweyd y stori hon wrthyt. Ac wedi i ti ei chlywed, hwyrach y dwedi di ei bod yn debyg iawn i stori hen wrach, ac yn sawru yn gryf o ofergoeledd yr oes o'r blaen. Ond y mae yn ddigon gwir, a chei ddweyd beth a fynost am dani.
Torwr ceffylau oedd tad Tubal Cain Adams, ac nid oedd yntau yn un o'r rhai mwyaf tirion. Mi welais ambell geffyl yn crynu drwyddo wrth glywed ei lais, ac yn edrych ar ei chwip gyda llygaid a'u llon'd o arswyd. Nid oeddym ni, yr hogiau, un amser yn hoffi i Tubal dd'od i gyd chware â ni, am y rheswm y byddai agos yn wastad yn gofalu brifo rhai o honom. Wedi iddo fynafyd un o honom, dwedai bob amser mai damwain oedd y cwbl; ond gwyddem yn burion ei fod yn ymhyfrydu rhoi poen i rywun. Felly nid oedd Tubal yn cael ei hoffi gan neb, a byddai gan ein rhïeni, yn enwedig ein mamau, ryw gŵyn feunyddiol yn ei erbyn. Tubal a'm dysgodd sut i hela adar. Mae yn dda gan y nghalon i fod y chware drwg hwnw wedi ei roi i lawr. Y ffordd y byddem yn gwneud oedd cymeryd bawb ei ffon, a myn'd un o bobtu'r gwrych, a dechreu ei guro nes y codem aderyn, ac yna hela y creadur bach o'r naill ben i'r gwrych i'r llall, os na 'heclai ar draws y cae, ac os felly, byddem wedi colli yr aderyn hwnw. Byddai y dryw bach yn fynych yn ein concro yn lân, âi o'r golwg fel pe buasai y ddaear wedi ei lyngcu, ac hwyrach, wedi i ni fyn'd bellder oddiwrtho, clywem ef yn twitian yn ddigon talog Anfynych y gadawai y robin goch y gwrych, ond 'hedai o'r naill gangen i'r llall, yn ol a blaen, nes ein blino, neu i ni ei flino ef. Mi gofiaf byth am y tro olaf y bum yn hela adar efo Tubal Cain Adams. Ar fore Nadolig rhewllyd yr oedd hyny. Yr oeddym wedi codi robin goch, ac wedi ei redeg yn ol a blaen yn hir, pryd y safodd robin ar gangen wedi llwyr flino. A mi ddychmygaf y munyd yma weled ei frest goch fach brydferth yn codi ac yn gostwng yn gyflym, gan fel yr oedd ei galon yn curo. Cymerodd Tubal afael ynddo, a'r foment hono torodd blood vessel i'r creadur gwirion, a ffrydiai y gwaed drwy ei bîg bach, yna cauodd ei lygaid disglaer, plygodd ei ben, a bu farw ar gledr llaw Tubal. Daeth y fath bangfa o euog rwydd drosof nes y methais beidio crïo. Wrth fy nyweled yn crïo, rhoddodd Tubal glewten i mi yn fy nghlust, lluchiodd robin i'r awyr, a tharawodd ef gyda'i ffon pan oedd yn disgyn, nes oedd ei blu yn gawod dros y lle. Effeithiodd yr amgylchiad yn fawr arnaf, a phan ddwedais y stori wrth fy inam, gwnaeth i mi fyn'd ar fy ngliniau i ofyn maddeuant Duw am y creulon deb, i'r hyn yr oeddwn yn ddigon parod. Ond giynodd y teimlad o euogrwydd ynof amser inaith, ac nid ydwyf y funyd hon, yn fy hen aint, yn hollol rydd oddiwrtho. Mi fedrwn adrodd llawer o greulonderau Tubal Cain Adams i ti, ond un eto yn unig, at yr hyn a ddwedais, y soniaf am dano.
Yn mhen blynyddau ar ol stori y robin goch, crebychai fy nghroen pan glywais, a hyny gan ficar y plwy, fod Tubal wedi tynu nyth aderyn bronfraith a thri o rai bach ynddo. Cymerodd y nyth a'r adar bach adref, ac aeth yn syth at Robert Lewis, y teiliwr, a dwedodd fod ei fam yn gofyn ain fenthyg siswrn bach, siswrn tori tyllau botymau. Wedi cael y siswrn, a phan oedd yr adar bach yn agor eu pigau am fwyd, torodd Tubal dafodau y tri. Daeth y creulondeb dychrynllyd i glustiau y ficar, yr hwn a aeth ato ac a roddodd y wers oreu iddo a gafodd yn ei fywyd, a dwedodd wrtho y byddai Duw yn sicr o dalu iddo am y fath weithred ysgeler. Dychrynodd Tubal gryn dipyn, a bu yn well bachgen byth. Hyny fu. Pan oedd Tubal oddeutu deunaw mlwydd oed, ar fore Nadolig, clywais ei fod yn sâl iawn. Eis i edrych am dano, a chefais ef bron yn rhy lesg i allu siarad. Yr oedd wedi tori blood vessel, ac wedi colli llawer o waed. Ebai fe,—"Edward, wyt ti'n cofio am y robin goch er's talwm?" "Ydwyf yn burion," ebe finau. "Dyma dâl i mi, yntê?" ebai fe, a thorodd i grïo. Ond gwellhaodd Tubal o'r afiechyd yn mhen llawer o fisoedd, ond ni bu byth yn gryf. Pan oedd Tubal yn chwech ar hugain oed, priododd. Yr oedd o yr adeg hono yn gweithio fel gwas ffarmwr. Yn mhen oddeutu blwyddyn ganwyd iddo ferch, a chyn pen pum' mlynedd yr oedd ganddo dair o ferched. Ond hyn oedd yn rhyfedd—a dyma ydyw pwynt y stori—yr oedd y tair hogen yn fudion, ni ddwedodd un o honynt air erioed. A'r hyn oedd ryfeddach fyth, yr oedd y tair yn clywed yn burion, achos y mae byddardod yn mron yn ddieithriad yn blaenori mudandod. Bu y fam farw ar enedigaeth yr olaf o'r genethod, ac effeithiodd cyflwr gresynus ei blant gymaint ar Tubal Cain Adams, fel y gwywodd yntau yn fuan. Cymerwyd yr hogenod i'r tloty, ac yno o un i un buont hwythau feirw. Dyna'r stori i ti, a gwna fel y mynot a hi, ebai F'ewyrth Edward.
—————————————
Fy anwyl fam fy hunan
YR oeddwn un tro wedi anufuddhau i fy mam, a daeth hyn i glustiau F'ewyrth Edward. Ni chymerodd arno ei fod wedi clywed dim am danaf, ond pan euthum i'w dy i wrando arno yn adrodd ei straeon, ebe fe, Yr ydw i erbyn hyn yn hen, ac er y mod i'n gwybod na fydda i ddim yma yn hir, ac y bydd y cyfnewidiad mawr wedi cymeryd lle yn bur fuan, 'dydw i ddim yn sicr y mod i'n wir debyg i Iesu Grist mewn dim ond yn fy mharch i fy mam. Un o'r touches mwya ffein yn hanes y Gwaredwr ydyw ei ofal am ei fam, a hyny pan oedd baich byd o bechodau yn pwyso arno. Bydaswn i'n gwybod dim am dano ond y ffaith yna yn unig, mi fuasai gen i feddwl mawr o hono byth. Bydasai raid i mi farnu cymeriad bachgen drwy ofyn dim ond un cwestiwn iddo, y cwestiwn hwnw fuasai—beth wyt ti'n feddwl o dy fam? 'Doedd Bob, y tymblwr, er's talwm, ddim yn cael ei ystyried yn haner call, ond heb law codi pin oddiar lawr gydag emrynt ei lygad, a champau ereill, fe ddwedai Bob ambell air pur gall. Meddai Bob un diwrnod,—"Os colli dy dad mi gei golled fawr, ond os colli di dy fam mi golli'r cwbwl." Hyd yn nod pan fydd bachgen wedi dirywio yn dost o ran ei gymeriad, os ca'i allan fod o'n meddwl yn uchel am ei fam, mae gen i obaith am dano. A fedri di gân Dafydd Ddu Eryri,—"Fy anwyl fam fy hunan?". Na fedri? Wel, mae gen i ofn fod llawer o fech gen yr oes hon heb wybod am y pethau goreu yn iaith eu mam. Mi genais lawer ar y gân hono er's talwm, a dydw i 'rioed yn cofio ei chanu na lanwai fy llygaid â dagrau, a mi faswn yn ei chanu i ti 'rwan daswn i heb golli fy llais. Mae ambell hen gân dda, mi goelia, fel adnodau'r Beibl, wedi cadw llawer bachgen rhag drwg. Wn i ddim lle buaswn i 'rwan oni bai am gân Dafydd Ddu Eryri.
Pan oeddwn yn ieuanc, gwnaeth Wil Williams lawer o niwed i mi, a minau iddo yntau yn ddiau. Yr oedd genym ran ymhob drwg a direidi, er ein bod ein dau wedi ein dysgu bethau amgenach. Gosododd Wil ei fryd ar fyn'd yn sowldiwr, a cheisiai ei oreu i fy mherswadio inau i listio, ac yr oeddwn braidd yn tueddu at hyny. Yr oedd fy nhad dipyn yn sydyn a chrabed ei ddull, a minau, hwyrach, heb fod yn un o'r rhai mwyaf diwyd efo ngwaith, a dwedodd un diwrnod, mewn tipyn o dymer, nad oeddwn yn werth fy halen. Brifodd y gair fi yn fawr, ac atebais,—"Hwyrach hyny, ond yr wyf am listio." "Eitha gwaith i ti, mi wnei yn burion i dy saethu," ebe nhad, a brifodd fwy arnaf. Mi eis at Wil y noson hono, a mi ddeudes wrtho yr awn gydag ef i Gaer i listio. Yr oedd Wil yn falch iawn clywed hyny, a phenderfynasom gychwyn bore dranoeth. Wedi i fy nhad fyn'd i'w wely, dwedais wrth fy mam am fy mwriad. Ni chredai fi nes i mi gymryd fy llw mai dyna oedd fy mwriad. Crefodd arnaf ei goreu glas i roi y meddwl heibio. Ond yr oeddwn yn benderfynol o fyn'd yn sowldiwr. Codais yn fore dranoeth, ond yr oedd fy mam ar ei thraed o mlaen i, a chrefodd arnaf drachefn a thrachefn dan wylo yn hidl am i mi beidio myn'd i ffwrdd. Yr oeddwn wedi c'ledu, ac yn meddwl fy mod wedi colli pob parch i fy rhïeni, ac ni chafodd dagrau fy mam ddim dylanwad arnaf. Mi gwelaf hi y funyd yma yn edrych ar fy ol pan oeddwn yn cychwyn i gyfarfod Wil Williams. Wyddwn i fawr am y boen yr oeddwn yn ei achosi iddi. Wedi myn'd bron o olwg y tŷ, mi edrychais yn ol. Yr oedd fy mam o hyd yn y drws, ac yn sychu ei llygaid a'i ffedog. Mi ddechreuais feddwl beth oeddwn yn myn'd i'w wneud, a fy mod, hwyrach, yn cymeryd yr olwg olaf am byth ar fy hen gartref, a daeth rhyw beth i fy ngwddf, ond yn fy mlaen yr eis. Yr oedd yn fore hynod o hyfryd. Yr wyf yn cofio mai y bore hwnw oedd y tro cyntaf i mi sylwi mor hardd oedd yr hen gymydogaeth, a synwn am i mi fod am gynifer o flynyddoedd heb weled prydferthwch natur. Yr ydw i'n meddwl mai у bore hwnw y cefais fy ail-eni gan natur. Mae y fath beth a hyny'n bod, wyddost, pan y mae bachgen yn canfod am y tro cyntaf mor hardd ydi'r byd yma. Canai yr adar yn braf yn y goedwig gerllaw, a meddyliwn fod y gwartheg, y defaid, a'r ceffylau i gyd yn edrych arnaf am y tro olaf. Nid oeddwn, cyn hyny, wedi sylwi mor brydferth oedd y creaduriaid diniwed. Yr oedd yr aber fain a redai efo gwaelod y werglodd hir yn edrych yn fwy gloew nag erioed, a phan welais lygoden ffrengig yn rhedeg o fy ffordd wrth i mi fyn'd heibio, nid oedd genyf y mymryn lleiaf o awydd i'w lladd. Pan eis drwy lidiart y cae pellaf, gadawais hi yn agored, achos daeth rhywbeth i fy meddwl os ceuwn hi, na ddeuwn byth yn ol, a dechreuais feddwl am wledydd pell ac am ymladd efo'r Blacs, am galedi, oerni, a newyn. Ond yr oedd fy nhad wedi dweyd nad oeddwn yn werth fy halen, ac ymlaen yr euthum yn benderfynol. Yr oedd yn rhaid i mi fyn'd heibio'r Hafod Lom, a meddyl iais am Doli'r Hafod. Yr oeddwn yn hoff iawn o Doli hyd yn oed y pryd hwnw, ond yr wyf wedi dweud y stori hono i ti o'r blaen. Cyn cyraedd yr Hafod yr oedd ffordd gul, isel, a dyfrllyd, a gwrych uchel o bob ochr iddi, a phan oeddwn yn myn'd ar hyd y ffordd hon mi glywn rywun yn canu. Doli oedd yn canu wrth odro. Wedi d'od i'w hymyl, mi eisteddais ar y clawdd i wrando arni. Bydasai hi'n gwybod y mod i tu arall i'r gwrych yn gwrando, fasai hi ddim yn canu, mi wn. Yr oedd gan Doli lais swynol dros ben, yn ol y marn i, a chlywais i erioed mo hono mor swynol a'r bore hwnw. Eisteddais i wrando arni am y tro olaf yn fy mywyd, fel yr oeddwn yn meddwl, a'r pumed penill yn y gân,—"Fy anwyl fam fy hunan,"—oedd y geiriau cyntaf a glywais. Deffrodd rhywbeth yn ngwaelod fy nghalon, a dychwelais adref, a rydw i'n meddwl fod fy mharch i fy mam, o'r diwrnod hwnw allan, wedi myn'd yn fwy-fwy tra bu hi byw. Digiodd Wil Williams yn dost am nad aethwn i'w gyfarfod, a galwai fi yn ļlwfrgi digalon, ac aeth ei hun yn syth i Gaer a listiodd. Wedi hyny, anfonwyd ef i'r India, ac ni chlywodd neb byth siw na miw am dano. Hwyrach y. leiciet ti glywed geiriau y gần "Fy anwyl fam fy hunan?".
"Pwy a'm hymddygodd yn ddi-lys
O dan ei gwregys mwynlan?
Pwy roes i'm' faeth a lluniaeth llon
O laeth ei bron bêr anian?
A phwy a'm cadwodd rhag pob cam?
Fy anwyl fam fy hunan.
Pwy i'm' a suai uwch fy nghryd
Pan oeddwn wanllyd faban?
A phwy fu'n effro lawer gwaith
Drwy'r hirnos faith aniddan?
Pwy a'm gwarchodai rhag pob cam?
Fy anwyl fam fy hunan.
Pwy a'm dilladai er fy llwydd
Bryd diniweidrwydd oedran?
Rhag imi fawr beryglu f'oes
Ysigo einioes egwan?
A phwy a'm noddai rhag drwg nam?
Fy anwyl fam fy hunan.
Pwy ond fy mam, dirionaf merch,
O eithaf traserch gwiwlan
A wylai drosof—waelaf ddrych
Pan oeddwn wrthrych truan?
A pheth ond llaw rhagluniaeth lon
A ddaliai hon ei hunan?
"Pwy a'm cynghorai bob rhyw bryd
Rhag arwain bywyd aflan?
Ond parchu enw Duw trwy ffydd,
A chadw ei ddydd sancteiddlan;
Heb wneuthur unrhyw dwyll na cham
Fy anwyl fam fy hunan.
"Er mwyn i'm hawddgar fam, heb groes,
Ddiweddu oes yn ddiddan,
Wrth iddi blygu bob yn bwyth
Dan ddirfawr lwyth o oedran.
Rhag suddo i'r bedd dan ofal bwn
Cymeraf hwn fy hunan.
Oblegid credu 'rwyf fod Duw
A wêl, a glyw, y cyfan;
Ei lid o entrych wybren fawr
Felltenai i lawr drwy f'anian,
Pe meiddiwn oddef cynyg cam
I'm hanwyl fam fy hunan."
—————————————
Hen Gymeriad
А MAE Ned Sibion wedi marw, ydi o? ebai F'ewyrth Edward. Un o'r creaduriaid rhyfeddaf a welais yn fy mywyd oedd Ned, ac un o'r pethau mwyaf anhawdd dan haul a fyddai desgrifio ei gymeriad yn gywir. Yr oedd yn rhaid gweled, clywed, ac adnabod Ned cyn y gellid ffurfio syniad am ddigrifwch ei gymeriad, ac y mae'r byd yn dlotach o'i golli. Wn i ddim beth ydyw'r achos, ond y mae hen garitors rhyfedd yn myn'd yn brinach bob dydd. Mae addysg neu rywbeth, fel y d'wedodd Wil Bryan er's llawer dydd, yn ein gwneud ni i gyd yn gyffelyb i postage stamps. Llys-enw oedd Ned Sibion; Edward Williams oedd enw y dyn, ac yr wyf yn meddwl mai o blwy Ysgeifiog yr oedd o'n hànu. Yr oedd tipyn o natur llys—enw yn y teulu, a'r "Hen Grothe " y byddent yn galw ei dad—yr wyf yn ei gofio'n burion. Nid oedd Ned druan, yn ben llathen, ac o herwydd hyny, mae'n debyg, ni chlywais erioed fod gan neb gas—galon iddo. Bu Ned yn briod dair gwaith, ac yr oedd y tair gwraig yn debyg iawn i'w gilydd, ac iddo yntau. Mae bran i fran. Ac fe fu raid i'r tair ymostwng i'r un rheol—sef byw efo fo am fis o dreial cyn iddo eu priodi, er mwyn iddo brofi eu tymer. Un o'r dynion mwyaf diddiogi a welais erioed oedd Ned, a 'roedd o bob amser, p'run bynag ai hel carpiau y byddai ai rhywbeth arall, fel bydasai yn lladd nadrodd, ac mor brysur a Robin y Busnes. Er ei fod yn hynod o onest, ni byddai byth yn edrych yn ngwyneb neb, ac os safai i siarad a rhwfun, byddai ei lygaid yn ysgwta o gwmpas ei draed. Yr oedd Ned fel pe buasai wedi ei fwriadu gan Ragluniaeth i ffeindio pethau, ac yn wir, yr oedd pobl yn dweyd ei fod wedi ffeindio llawer yn ystod ei oes. Codai Ned efo'r wawr dranoeth ar ol pob ffair a marchnad, a byddai ei lygaid yn cyniwair yn mhob stryd am rywbeth a allai ei ffeindio. Drwy fisoedd yr haf byddai Ned bob bore Sul wedi llygadu pob twll a chornel yn mhob heol cyn i bobl eraill godi o'u gwelyau, ac, i dawelu ei gydwybod, mae'n debyg, byddai yn canu hymnau ar fore Sabboth. Mi clywais o ddegau o weithiau o'ngwely. Beth bynag a fyddai y geiriau, yr un dôn oedd ganddo yn wastad, a hono, mi gredaf, o'i gyfansoddiad ef ei hun rhyw fath o chant yn y cywair lleddf—hynod o Gymreig o ran ei sŵn. Ni buasai Ned yn dal at y gwaith o chwilotą fel hyn am oes gyfan, oni bai ei fod yn ffeindio pethau weithiau. Yr wyf yn cofio un tro fod dyn wedi meddwi mor dost ar nos Sadwrn nes y collodd ei watch, ac ni wyddai yn y byd mawr yn mha le. Ond cafodd y watch gan Ned prydnawn Sul, ac ni roddodd geiniog o wobr i'r creadur gonest. Bu hyn, yr wyf yn meddwl, yn wers i Ned i gadw pobpeth a ffeindiai o hyny allan.
Nid rhyw lawer o syniad oedd gan Ned am bellder. Ar adeg cynhauaf un tro yr oedd y Proffeswr Edwards yn cerdded i lawr Forgate Street, Caer, a phwy a welai ar yr heol, a sicl dan ei gesail, ond Ned. Aeth ato, ac ebai fe wrthọ,—
"Wel, Edward, bedach chi'n neud yma?"
"Myn'd i lawr i Lunden 'rydw i,Mr. Edwards, i'r cynhaua—mae'n nhw'n deud mae lle clyfar anwedd ydi Llunden adeg cynhaua," ebai Ned.
Hyny fu. Yn mhen yr wythnos yr oedd y Proffeswr yn dod i lawr stryt yr Wyddgrug, a phwy a welai ond Ned, ac ebai fe,—
"Helo, Edward, 'roeddwn yn meddwl eich bod yn myn'd i Lunden i'r cynhaua?"
"Wel na, Mr. Edwards," ebai Ned, "deis i ddim cosach i Lunden na Phargiật (Pargate yn Sir Gaer), welwch chi."
Mi wranta fod dau gant o latheni rhwng ty Ned a'r ffynon lle y byddai yn cael dŵr; a mi gwelais o un diwrnod yn myn'd i'r ffynon a dau biser mawr ganddo. Wedi eu llenwi â dŵr, cariai un o honynt encyd o ffordd a gosodai ef i lawr, yna âi i nol y llall a gosodai ef i lawr yn ymyl y cyntaf. Ac felly cariai hwynt nes dod a'r ddau i'r tŷ. Gofynais iddo pa'm yr oedd yn gwneud felly. "Safio amser, welwch chi," ebai Ned.
Nid rhyw lawer o syniad oedd ganddo ychwaith am werth arian. Un tro aeth Ned, wedi bo nos, at Thomas Roberts, Tŷ Draw i brynu iar, ac wedi i Mr. Roberts ddal yr 'ar dan yr hofel, aed yn fargeinio rhwng y ddau am y pris. "Faint ydach chi isio am dani, Mr. Roberts," ebai Ned.
"Wel," ebai Mr. Roberts, "mi cei di hi am bymtheg."
"Wel, nana wir, mi ro i chi ddeunaw, os leiciwch chi," ebai Ned.
"Ond dydw i'n deud y cei di hi am bymtheg," ebai Mr. Roberts.
"Mi ro i chi ddeunaw, a'r un ffyrling chwaneg," ebai Ned.
"Purion," ebai Mr. Roberts, a throdd dair ceiniog yn ol iddo.
Un adeg yr oedd Ned yn labro i Mr. Joseph Eaton am ddau a grôt yn y dydd; ond collwyd ef ddydd Llun a dydd Mawrth. Pan ddaeth at ei waith fore Mercher, ebai Mr. Eaton wrtho,
" Wel, Edward, lle buoch chi ddoe ac echdoe?" « Mi eis i lawr i'r Fflint i hel cocos, Mr. Ea ton," ebai Ned.
"Ddaru chi neud yn o dda?" gofynai ei feistr.
"Do," ebai Ned, "yn dda anwêdd ac ordar Mi heliais beth digydwybod o honyn nhw, a mi eis efo nhw i Ruthyn ddoe, a mi ges bumrôt am danyn nhw, welwch chi."
"Wel, heblaw cerdded deng milldir ar hugain, dyma chi wedi colli tri swllt mewn cyflog," ebai Mr. Eaton.
"Waeth i chi befo, mi 'nes yn siampal o dda, Mr. Eaton," ebai Ned.
Byddai Ned yn newid ei feddwl yn sydyn iawn weithiau. Yr wyf yn cofio fy mod un tro eisieu cael symud y domen, ac mi wyddwn y byddai Ned yn gwneud rhyw jobs felly, a phan welais ef, gofynais iddo ddod i wneud y gwaith. "Mi ddof acw i'w gweld hi," ebai Ned; a'r prydnawn hwnw mi gwelwn ef yn simio y domen. Er fod dy fodryb yn adnabod Ned yn dda, nid oedd erioed wedi ei glywed yn siarad, a d'wedodd y deuai gyda mi i'r buarth i wrando arno ef a minau yn gwneud y fargen. Rhoddais siars arni i beidio chwerthin, neu y byddai yn sicr o andwyo y fargen, achos ni fedrai Ned oddef i neb chwerthin am ei ben. Addawodd hithau y byddai reit sad, ac i'r buarth yr euthom. Wedi i Ned simio gryn lawer ar y domen, deuthom i'r fargen fod i mi roddi iddo haner coron am ei symud, ac yr oedd dy fodryb yn mron marw o eisieu chwerthin wrth glywed Ned yn siarad mor fabanaidd.
"Ond cofiwch chi, Edward," ebe fi, "y rhaid i chwi ei symud yn fore ddydd Llun."
"Wel," ebai Ned, "Os bydd hi'n braf ('hwb;' ebai dy fodryb)—ddo i ddim," a ffwrdd a fo, ac ni ddaeth i symud y domen. Yr oedd dy fodryb drwy chwerthin wedi andwyo'r cwbl, a gwneud i Ned newid ei feddwl ar ganol y frawddeg.
Am amser, bu Ned yn byw yn un o'r cabanod sydd dan yr entri yn nhop Henffordd, ac ar y pryd ei fusnes penaf oedd hel carpiau. Ar ryw ddamwain yr oedd wedi cael dau bâr o olwynion bychain ar echeli, ac aeth ati i wneud gwagen fechan i ddal y carpiau. Bu rai diwrnodiau yn gwneud y wagen, ac wedi ei gorphen cychwynodd gyda hi i hel carpiau, ond yr oedd y wagen yn lletach lawer na'r entri, ac ni fedrai ei chael drwodd, ac wrth ei weled yn y drafferth, ebai ei gymydog Drury wrtho,—
"Wel, Edward, mae eich gwagen yn rhy lydan."
"Nag ydi," ebai Ned, "yr entri sy rhy gil," ac aeth i'r tŷ mewn tymer ddrwg, a chyrchodd forthwyl a thorodd y wagen, yr olwynion a'r cwbl yn ulw mân. Wn i ddim sut y mae hi ar Ned erbyn hyn; ond y mae yn o anodd gen i feddwl y bydd y Brenin Mawr yn galed wrtho—yr oedd o mor ddiniwed. Nid oedd y duedd grefyddol yn gref yn Ned; ac eto ni fedrai adael llonydd i grefydd. Anaml yr elai i foddion gras ar y Sabboth, ond mwy anaml y byddai yn absenol o bob moddion ar gyfarfod pregethu, gan nad gyda pha enwad y cynelid y cyfarfod. Ar Sasiwn, Cymanfa neu gyfarfod pregethu, bydd ai Ned yn amlwg iawn. Ond bu'm yn ofni mai dyfod i'r cyfarfodydd y byddai er mwyn dangos ei fotymau, oblegid ar y cyfryw achlysuron byddai y botymau mawr a gloew a fyddai ar ei gôt a'i wasgod yn tynu sylw pawb. Ac eto nid fy lle i ydyw barnu amcanion Ned. Hwyrach y tybiai Ned mai trwy ei fotymau y gallai ef oreu ogoneddu Duw. A phwy a wyr.
Er na wyddai Ned mwy na phost llidiart, y gwahaniaeth rhwng Rhyddfrydwr a Thori, ymorchestai ei fod yn Liberal at y carn, a phan basiwyd y ddeddf i roi fôt i bob ty-ddaliwr, ac iddo ddeall fod ganddo bleidlais, nid oedd trin arno. Yr wyf yn cofio fel bydasai ddoe y lecsiwn gyntaf wedi i'r ddeddf ddod i weithrediad. Yr oedd Ned yn ei lân drwsiad cyn saith o'r gloch y bore, a'i fotymau yn disglaerio. D'wedai wrth bawb a gyfarfyddai, nad oedd am fotio i'r naill ochr na'r llall. Wedi deall hyny, ymlidiwyd ef gan y toris mwyaf dylanwadol am oriau bwygilydd, a rhedai Ned fel ysgyfarnog o'u ffordd, hyd y ffyrdd a'r caeau, nes iddo flino pawb. Ond oddeutu chwarter awr cyn adeg cau y pôl, daeth Ned o hono ei hun i ymyl y lle, a gosododd ei gefn ar y wal i herio pawb. Crefwyd arno gan rai o bobl mwyaf blaenllaw y ddwyblaid i fotio; ond atebai Ned,—"Bydae'r Apostol Paul ei hun yn gofyn i mi fotio, na i ddim." Yn y funyd daeth y Liberal Agent heibio—yr hwn oedd yn ŵr callach na'r cyffredin ac wrth weled y dyrfa o gwmpas Ned yn ceisio ei berswadio i fotio, ebai fe—
"Be haru chi, bobol? ydach chi'n meddwl na wyr Edward ddim sut ac i bwy i fotio, heb i chi ei ddysgu? Gadewch lonydd i'r dyn. Fe wyr Edward nad oes dim ond pum' munyd nes bydd y pôl yn cau," ac aeth ymaith. Aeth Ned yn syth i'r pôl a fotiodd dros y Rhyddfrydwr Wedi iddo dd'od allan, gwisgwyd Ned â rubanau melynion, a chariwyd ef ar ysgwyddau y Liberals i fynu ac i lawr y dref am oriau, ac ni welais yn fy mywyd y fath firi a llawenydd diniwed mewn lecsiwn, ac yr oedd Ned Sibion yn ymorfoleddu yn yr anrhydedd a roddid arno. Wel, wel, a mae Ned druan wedi marw! Wyddost di be, mi fydd yn chwith arw gen i amdano, ebai F'ewyrth Edward.
—————————————
Rhy Debyg
FUOST di 'roed yn synu, ebe F'ewyrth Edward, er cymaint o bobol sydd yn y byd, a bod gwynebau pawb o honom ar yr un ffurf a chynllun, mor anaml y cei di ddau wyneb mor debyg i'w gilydd na fedri di ganfod yn union, wrth graffu arnynt, fod digon o wahaniaeth ynddynt? Bendith fawr ydyw hyn; a mi fyddaf yn gweled cymaint o ddoethineb y Creawdwr mawr ynddo ag mewn dim. Ac un o'r pethau casaf genyf ar wyneb daear ydyw gweled rhai hynod debyg i'w gilydd, megis efeilliaid, a mae gen i reswm da am hyny. Dyma iti stori smala yn fy hanes i fy hun bron yn rhy smala i'w chredu, ond gelli ei chredu neu beidio.
Pan oeddwn i oddeutu wyth ar hugain oed, yr oedd gen i fusnes i fyn'd i Groesoswallt. Mi gymere ormod o amser i mi ddeud wrthot ti beth oedd y busnes, ond, yn fyr, yr oedd gen i eisio gweld dyn ar fater pwysig,ac yr oedd yntau wedi addaw nghyfarfod i yn Nghroesoswallt yn y ffair ceffylau. Oherwydd pellter y ffordd, a rhag i mi ei golli, yr oeddwn wedi gofalu cyraedd y dre y noson o flaen y ffair. Mi ges lety digon cyfforddus mewn tŷ preifat. Mi wyddwn yn burion er's blynyddau fod rhai o deulu mam yn byw yn agos i Groesoswallt, ond o herwydd rhyw ffrae nid oedd dim cyfathrach wedi bod rhyngom ni â hwy; ac, hyd yr oeddwn yn cofio, nid oeddwn wedi gweld un o honynt erioed, a nid oeddwn yn bwriadu ymweled â hwynt, nac ymholi dim yn eu cylch. "Paid a myreth dim a nhw; os medran nhw neud hebon ni, mi fedrwn ninau neud hebddyn nhwythe," ebe mam, pan oeddwn yn cychwyn, ac ni feddyliais mwy am danynt. 'Doeddwn 'rioed wedi bod yn Nghroesoswallt o'r blaen, a thranoeth y bore mi grwydr es gryn dipyn i weled y dre', achos 'doedd ffair y ceffylau ddim yn dechreu tan ganol dydd. Wrth droi am gornel stryt mi ddois i wyneb clamp o blismon, a mi rythodd arna i fel bydase gen i gyrn ar y mhen. Yr oeddwn yn methu dallt pam yr oedd y dyn yn rhythu arna i felly, achos 'doedd dim neilltuol yn y ngwisg i, oblegid yr oedd agos i bob ffarmwr y pryd hwnw yn gwisgo brethyn cartre. Yr oeddwn yn meddwl nad oedd dim neilltuol yno'i i dynu sylw ond y ngwallt,—yr hwn, pan oeddwn yn ifanc oedd cyn ddued â'r fran, ac yn grych fel gwlan oen bach. I mi gyfadde fy ngwendid i ti, yr oeddwn yn meddwl cryn dipyn o ngwallt, achos 'doeddwn i 'rioed wedi gweld ei debyg. Hyny fu, ac ni feddyliais mwy am y plismon. Mi grwydres awr arall hyd y dre nes oeddwn wedi blino, a mi drois i dy tafarn i orffwys tipyn. 'Doedd neb yn meddwl dim at hyny yr adeg hono. Mi wranta y mod i wedi bod yn y dafarn chwarter awr mewn ystafell ar fy mhen fy hun yn bwrw'r amser heibio, pryd y daeth i fewn ddyn tua'r un oed a fi, ac mor debyg i mi nes y dychrynais wrth edrych arno. Yr oedd ei wallt yn ddu a chrych fel fy un inau, a'i wyneb yr un ffunud a fy wyneb inau, ac nid oedd fawr o wahaniaeth yn lliw ei ddillad. Oni bai fy mod yn gwybod fod hyny yn amhosibl, mi faswn yn tyngu mai fi fy hun oedd y dyn. Gwelwn ei fod yntau wedi ei daro gan y tebygrwydd, ond ni dd'wedodd air. Cerddodd yn ol a blaen hyd yr ystafell am funyd, yna safodd ac edrychodd drwy y ffenest i'r heol; ac heb alw am ddim i'w yfed llithrodd allan yn ddistaw drwy ddrws oedd yn ymddangos i mi fel y drws cefn i'r tŷ. Yn mhen dau funyd dyma y plismon a welswn o'r blaen i'r ystafell, ac ebe fe,— "Wel, John Jones, yr ydach chi wedi troi gartref o'r diwedd?" "Fy enw i ydi Edward Jones, a mae'n debyg eich bod yn fy nghamgymeryd am y gŵr sydd newydd fyn'd allan," ebe fi.
"Thâl stori fel ene ddim i mi, John, yr wyf yn eich 'nabod yn rhy dda o lawer, a gwell i chi ddod efo fi ar unwaith," ebe'r plismon, Heb fod lawer oddicartre yr oeddwn yn bur ddiniwed, ac yr oeddwn wedi dychrynu yn enbyd. Protestiais nad y fi oedd John Jones, pwy bynag oedd hwnw; a dwedais, yn fyr fy ngwynt, dipyn o fy hanes, a chymerais fy llw nad oeddwn wedi bod yn Nghroesoswallt o'r blaen yn fy mywyd. Ond ni chafodd dim a ddwedais wrth y plismon fwy o argraff arno na pheri iddo wenu yn wawdlyd, ac ebe fe,—
"John, waeth i chi roi stop arni yn y fan ene; neiff cyboli celwydd les yn y byd i chi. Dowch efo fi yn ddistaw ac yn llonydd."
"Beth ydi'r cyhuddiad yn fy erbyn?" gofynais inau.
"Does dim isio dweud pader i berson," ebe fynte.
Mi elwais ar wraig y dafarn, gan ddisgwyl rhyw gynorthwy ganddi hi, ond wnaeth hono ddim ond gwneud fy helynt yn fwy. Tyngodd ar ei pheth mawr na fu un dyn yn y tŷ tra y bum i yno, a galwodd y forwyn a thyngodd hono yr un peth.
"Ydach chi'n gweld, John, na neiff palu celwydd les yn y byd i chi?" ebe'r plismon.
"Hoswch chi," ebe'r. wraig, "ai nid John Jones, Tan'rallt, ydio? Wel, ond 'doeddwn i'n smala na faswn i'n 'nabod y dyn?"
"Yn smala, oeddach debyg," ebe'r plismon.
"Yr ydach chi'n gneud camgymeriad yn siwr," ebe fi, ac yr oeddwn just a chrïo.
"Mi weles Mary ddoe, a ' roedd hi'n sôn am danoch chi, John," ebe'r forwyn wrthyf yn ddis taw, a mi faswn yn medrud ei tharo.
"Dyma chi, John," ebe'r plismon, "os na ddowch chi efo fi yn ddistaw ac yn llonydd, mi fydd raid i mi'ch handcyffio, ond 'does gen i ddim isio'ch sposio chi."
"Ië, ewch y machen i heb neud row," ebe'r dafarnwraig A myn'd a neis i—yn wir, 'doedd gen i ddim dewis—yr oedd yn rhaid i mi fyn'd, ond yr oeddwn yn disgwyl y caent ryw oleu ar eu camgymeriad. Yr oedd yn ddiwrnod ffair, fel y dwedais, ac yr oedd canoedd o lygaid yn edrach arna i wrth i mi fyn'd yn ochr y plismon drwy'r dre, a buasai twr o blant wedi'n canlyn oni bai i'r plismon eu bygwth. Teimlwn y ngwyneb yn llosgi fel tân, a chlywn hwn a'r llall yn dweud,—
"Be mae hwn ene wedi neud os gwn i?"
"Dim da yn siwr i chi."
"Piti hefyd, mae golwg barchus arno."
"Dyna y rhai gwaetha yn aml."
Cawn y credyd gan ambell un yr awn heibio iddo fod yn amlwg fy mod yn teimlo fy sefyllfa, ac felly yr oeddwn yn siwr ddigon. Edrychwn dan y nguwch a welwn i neb yn y ffair oedd yn fy nabod, ond yn ofer, a diau mai hyny barodd i un, tebyg i fugail, ddweyd wrth i mi ei basio,
"Ci lladd defaid ydi o'n siwr i chi."
Wel, cymerwyd fi i'r rowndws, a 'doedd o ddiben yn y byd i mi brotestio, dweud fy hanes, gofyn am eglurhad, na dim arall; yr unig ateb a gawn oedd y cawn ddweud y cwbl wrth y magistrate bore dranoeth. Prydnawn tost oedd hwnw; mi cofiaf o byth, a chysges i ' run winc ar y ngwely pren y noson hono, a meddyliwn weithiau mai breuddwyd oedd y cwbl. Heb i mi gwmpasu, dygwyd fi o flaen fy ngwell —yr unig dro yn y mywyd. Nid oedd ond un magistrate ar y fainc, gan dybio mae case o remand a fuasai yn ddiameu, a thybiwn ar ei ol wg y cawn chware teg ganddo, ac hwyrach iawn am fy ngharcharu ar gam. Ebai fe,–
"Wel, John Jones, beth wnaeth i chi adael eich gwraig a'ch plant?"
"Nid John Jones ydi fy enw, syr, a fu gen i 'rioed wraig, heb sôn am blant," ebe fi, a dechreuais ddweud pwy oeddwn ac o b'le yr oeddwn yn dyfod, ond stopiwyd fi ar unwaith gan y magistrate. Ac ebai fe,—
John, John, yr ydach chi wedi c'ledu mewn drygioni,—yr ydym yn eich 'nabod yn rhy dda," a galwodd ar Mary Jones, a daeth gwraig dlawd yr olwg arni yn mlaen, ac ebai'r magistrate, —
Mary Jones, ai y dyn yna ydi'ch gŵr chi?" " Ië, syr," ebai'r wraig, "ond y mae o wedi altro yn arw, a mae'n dda iawn gen i weld o. Fu o 'rioed yn gâs wrtho i, a wn i ddim beti naeth iddo ngadel i a'r plant 'rwan er's pedair blynedd."Gybeithio, Mr. Preis, na fyddwch chi ddim yn frwnt wrtho, achos yr ydw i'n siwr y daw o adre at ei deulu 'rwan, on ddowch chi, John bach?" A thorodd y wraig i grïo.
Erbyn hyn yr oeddwn yn credu yn sicr fy mod wedi fy witchio neu fy rhoi yn ffynon Elian. Ebai'r magistrate,—
"Wel, John, mi ddylwn eich rhoi yn jail am dri mis,—dyna ddylech chi gael am adael eich teulu. Ond y mae y plwy wedi cadw digon arnynt, ac os ydach chi'n addaw myn'd adre', ac edrach ar ol eich gwraig a'ch plant, mi gewch fyn'd yn rhydd am y tro hwn. Os na wnewch addaw gneud hyny, rhaid i mi roi tri mis i chi. Beth ydach chi'n ddeud, John? "
Meddyliais y munyd hwnw y gallwn ddianc wedi cael fy nhraed yn rhyddion, ac ebe fi,—
"Wel, mi wnaf fy ngoreu i wneud fel yr yd ach chi'n gofyn, syr."
"Very good," ebai'r magistrate, "ond gofalwch na ddowch chi ddim mlaen i eto, neu nid fel hyn y bydd hi arnoch chi. Mae'n biti garw fod crefftwr da fel chi, John,—un sydd yn dad i blant, ac yn d'od o deulu parchus,—wedi gwneud sôn am danoch fel hyn. Bydded hyn yn wers am byth i chwi, John. Mi ellwch fyn'd 'rwan."
Yr oeddwn wedi fy syfrdanu. Daeth y wraig ataf i ysgwyd llaw, ac estynais inau fy llaw iddi yn llipa ddigon. Yr oedd hi wedi crïo,—o lawenydd, mae'n debyg,—nes oedd yn haner dall. Tra yr oeddwn yn cerdded wrth ei hochr, heb wybod i b'le yr oeddwn yn myn'd na pheth i neud, edrychai y wraig arnaf bob chwarter munyd, fel pe buasai yn ameu ei llygaid, a siaradai am gant o bethau na wyddwn ddim am danynt. Dwedodd fwy nag unwaith fy mod wedi altro yn arw, ond fod yn dda ganddi fy ngweld mor drefnus. Soniai am y plant, a d'wedai nad arni hi yr oedd yr holl fai pan euthum i ffwrdd, a chraffai i fy wyneb drachefn a thrachefn. Ni dd'wedais air wrthi mwy na mudan, ac yr oeddwn yn ofni dyrysu yn fy synwyrau. Arweiniodd fi i ryw fuarth lle yr oedd amryw dai, ac yr oedd y cymdogion oll yn sefyll yn y drysau, ac yn gwenu arnaf ac yn fy llongyfarch. Amlwg ydoedd fod i mi groeso i ddod yn ol. Ar hyd y ffordd torai y wraig i grïo bob yn ail munyd, ac yn wir yr oedd yn arw iawn gen i drosti. Chwareuai y ddau fachgen gyda phlant eraill yn y buarth, a phan oeddym yn myn'd i'r tŷ, galwodd Mary Jones arnynt i ddod i weld eu tad. Daeth y plant i mewn, ond ni chymerais sylw o honynt,—yr oedd yn gâs gen i gweld nhw, druain. Parodd hyn i Mary grïo drachefn, a d'wedodd,—
"Pa'm na ddeudwch chi rwbeth wrth y plant, John, os ydach chi yn cau siarad a fi." Ni ddoi y plant yn agos ataf, drwy drugar edd. Sylwais fod y ty, er yn dlawd, yn hynod o lân, ac wedi gorffen crio, ebai Mary,—
"Mi ellwch feddwl, John, y mod i'n dlawd; oes gynoch chi bres i mi nol rhywbeth yn damed i chi?"
Rhoddais iddi ychydig sylltau, ac wedi iddi roi y tegell ar y tân aeth allan, ac yn y funyd dychwelodd â llon'd ei ffedog o bethau o'r siop. Wrth ei chwt daeth y dyn a welswn yn y dafarn i mewn. Cofleidiodd a chusanodd y plant, a'r un modd y wraig. Edrychodd Mary fel bydase wedi drysu. Fedra i ddim desgrifio i ti yr olygfa na fy llawenydd. Yr oedd y dyn wedi dod yn ol at ei deulu, ond pan welodd y plismon yn dod ar ei ol i'r dafarn diangodd. Ar ol deall fy mod i wedi fy nghymeryd yn ei le, a bod y Fainc wedi maddeu i mi ar yr amod i mi edrych ar ol fy nheulu, daeth John yn syth gartre. Yr oedd yn edifar iawn ganddo ei fod wedi gadael ei wraig a'i blant. Cawsom dê yn ddigon cyfforddus efo'n gilydd, ac wedi tipyn o siarad, deallais mai Jac y nghefnder ydoedd. Mi ddois adre yn gynt na chynta gallwn i, ac ar hyd y ffordd yr oeddwn yn edrych ar bawb rhag ofn i mi weld rhwfun arall tebyg i mi. Pan ddeudes y stori wrth fy mam, ebe hi,—"
Ië, siwr, dyna nhw, does dim lwc i'w canlyn nhw."
—————————————
Y Ddau Deulu
Y MAE arnaf ofn, ebai F'ewyrth Edward, fod tuedd mewn rhai pobol yn y dyddiau hyn i feddwl nad oes a wnelo Duw ddim ag amgylchiadau tymorol dyn. Yn wir mi glywais yn ddigon hyf mai hap a damwain a phawb drosto ei hun ydi hi yn y fuchedd hon. Ac mewn ystyr dydio ddim yn rhyfedd fod rai yn dweud yn mynd i gredu felly, achos yr ydym yn gweled mor fynych y mae y dyn drwg anonest yn llwyddo, a'r dyn da a chywir yn aflwyddo. Ond yn mhlith y bobol oedd yn cael eu cyfrif yn bobol dda a ddarfu aflwyddo ag y dois i i gysylltiad â hwynt yn ystod fy oes, yr oeddwn, ymron yn ddieithriad yn gallu rhoi fy mys ar y rheswm o'u haflwyddiant. Yr oedd rhyw gancr, nad oedd yn ngolwg pawb, bob amser oedd yn achos o'r cwbwl. Os cei di fyw ddigon o hyd, ac os cymeri di sylw manwl o deuluoedd a phethau, mi gei allan yn y man fod Rhagluniaeth yn dod a phethau i drefn, ac fel pe byddai yn cywiro ei hun yn y diwedd yn gwobrwyo daioni ac yn cospi drygioni. Dyma i ti stori am ddau deulu yr oeddwn yn eu hadwaen yn dda, ac y mae mor wir a dim a ddwedwyd erioed. Ond aros am funyd. Yr wyf wedi clywed dy fod yn printio rhai o'r straeon yr wyf yn eu hadrodd wrthyt, ac o herwydd fod amryw o'r ddau deulu yn fyw heddyw mi rof enwau eraill arnynt.
Yn Nyffryn Maelor, flynyddau lawer yn ol, yr oedd amaethwr ieuanc newydd briodi ac yn dal un o'r ffermydd goreu yn y wlad. Mi galwaf o yn Mr. Jones, y Wern. Dydw i ddim yn gwybod yrwan, os bum yn gwybod erioed, sut y gallodd o gymeryd ffarm mor dda; ond mi wn ei fod yn hollol ddi-ddysg. Yr oedd yn wr diwyd a medrus, a'r wraig can fedrused ag yntau, ac yr oedd y byd yn myn'd efo nhw a'u llwyddiant yn eglur i bawb. Tra na adawai Mr. a Mrs. Jones i neb fyn'd tu hwnt iddynt yn y ffair a'r farchnad ac am drin y ffarm a magu anifeiliaid, nid oeddynt yn ol i neb am eu ffyddlondeb a'u haelioni yn y capel. Gwyddai y cymydogion yn burion fod teulu y Wern, heblaw cynyddu eu stoc yn feunyddiol, yn casglu arian hefyd, ac yr oeddynt yn sefyll yn uchel yn syniad eu meistr tir. Aeth blynyddau heibio a ganwyd iddynt amryw blant. Yr oedd Mr. Jones wedi gorfod teimlo lawer gwaith yr anfantais o fod yn ddi-ddysg, a gofalodd roddi yr addysg oreu oedd i'w chael yn y gymydogaeth i'w blant, ac wedi iddynt dyfu i'r oedran cyfaddas, prentisiodd rai o'r bechgyn yn siopwyr. Yr oedd erbyn hyn wedi dyfod yn lled gefnog, pryd, ryw ddiwrnod, y daeth gŵr ifanc golygus ac wedi cael ysgol dda, i'r gymydogaeth fel llifiwr coed. Mi galwaf o yn Mr. Bellis. Nid oedd Bellis ond crefftwr cyffredin yn gweitho am ddeunaw swllt yr wythnos, ond yr oedd yn ddyn medrus a chraffty. Drwy ei fod yn aelod yn yr un capel a Mr. Jones, daeth Bellis a theulu y Wern yn gryn gyfeillion yn fuan. Yn mhen yr hir a'r rhawg, perswadiodd Bellis Mr. Jones i ddechreu ar y busnes coed fod y wybodaeth ganddo ef, Bellis, a'r arian gan Mr. Jones, a thynodd ddarlun dymunol o'r broffit fawr a ellid wneud yn y busnes. Aeth y ddau yn bartneriaid - un gyda gwybodaeth a'r llall gydag arian. Aeth hyn yn mlaen am flynyddau, heb i mi fanylu, y canlyniad fu fod Jones yn myn'd dlotach dlotach bob dydd, a Bellis yn gyfoethocach. Yn y bartneriaeth yr oedd pen praffaf y ffon yn llaw y wybodaeth, sef Bellis. Y diwedd fu i'r bartneriaeth gael ei thori ac i Mr. Jones gael ei hun yn salach allan o rai canoedd o bunau na'r amser pryd nad oedd ganddo ond y wraig yn unig yn bartnar. Bu raid i'r bechgyn droi i'r byd i enill eu bywioliaeth, a gallwn adrodd wrthyt am yr ymdrech galed a fu arnynt; ond yr oedd Duw gyda'r bechgyn. Erbyn hyn yr oedd Bellis yntau wedi priodi, a'r peth cyntaf a wnaeth wedi tori ei gysylltiad a Mr. Jones oedd prynu melin fawr, a daeth yn fuan yn fasnachwr enwog, ac nid yn unig hyny, ond yn ŵr enwog yn yr enwad y perthynai iddo. Casglodd hylldod o arian a magodd blant gan eu gosod mewn sefyllfaoedd parchus. Ond bu Jones a Bellis farw, ac yr oedd arogl esmwyth ar ddydd claddedigaeth un o honynt, a thipyn o arddangosiad ar ddydd claddedigaeth y llall. Ond pa le y mae eu hepil erbyn hyn? Er fod epil Bellis ar un adeg yn berwi mewn arian, y maent hwy a'u cyfoeth wedi darfod o'r tir, a rhai o honynt yn gorwedd yn medd y meddwyn. Ond am linach teulu y Wern — hil hepil, yr oedd Rhagluniaeth yn diferu brasder ar eu llwybrau a phobpeth a wnelent yn llwyddo. Y mae y rhai sydd o honynt yn gorphwys oddiwrth eu llafur a'u henwau yn anwyl gan eu cydnabod, ac y mae amryw o honynt yn fyw, yn ddefn yddiol, ac un neu ddau o honynt yn llenwi y swyddau uchaf ac yn derbyn yr anrhydedd mwyaf y gall y wlad ei roddi arnynt. Wrth fyned yn mlaen mewn bywyd, sylwa fel mae Rhagluniaeth yn gwastadau pethau, ebe Fewyrth Edward.
DIWEDD
—————————————
WREXHAM: ARGRAFFWYD GAN HUGHES & son. 56, HOPE STREET
Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.