Traethawd ar Hanes Plwyf Merthyr (Testun cyfansawdd)

Traethawd ar Hanes Plwyf Merthyr

gan William Edmunds (Gwilym Glan Taf)

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Traethawd ar Hanes Plwyf Merthyr

TRAETHAWD

AR


Hanes Plwyf Merthyr,

OR

CYFNOD BOREUAF HYD YN BRESENOL

—————————————

GAN

WILLIAM EDMUNDS,
(Gwilym Glan Taf)
GODRECOED COTTAGES, GER MYNWENT Y CRYNWYR

—————————————

ABERDAR : ARGRAFFWYD GAN JOSIAH T. JONES, COMMERCIAL-PLACE.

1864.



CYNWYSIAD

Cyflwynir y Traethawd hwn,

DRWY GANIATAD,

I'R

WIR ANRHYDEDDUS ARGLWYDDES LLANOFER,

(Gwenynen Gwent,)

GAN EI HUFUDD A'I GOSTYNGEDIG WASANAETHYDD,

YR AWDWR.

RHAGYMADRODD

Wele, anturiasom ar y gorchwyl o ysgrifenu Hanes Plwyf Merthyr Tydfil, gan obeithio yr etyb ddybenion da o drosglwyddo llawer o hen hanesion a gasglasom i'r oesau a ddel, am un o'r plwyfau mwyaf nodedig ar gyfrif ei gyfoeth mwnawl ac arianol, yn nghyd a'i Haiarn Weithfeydd mawrion, sydd yn destyn siarad yma a thu draw i'r moroedd; hanes y cyfryw yn mhen canrif neu ddau eto a ddarllenir gyda mwy o syndod a dyddordeb nac yn yr oes hon. Gresyn fod y testyd hwn wedi cael ei oedi cyhyd heb ysgrifenu arno yn yr iaith Gymraeg, oblegyd yr ydys wedi colli llawer o hanes ddyddorol efallai trwy hyny o esgeulusdod. Pe buasid wedi gwneud hyn er ys tua 40 neu 50 mlynedd yn ol, cawsem fwy o fanylrwydd o barthed i'w hanesiaeth nac a geir yn bresenol gan yr awduron Seisnig. Mae i raddau yn gywilydd i'r Cymro ei fod yn gadael i'r Sais fyned heibio iddo yn hanes y fan y dygwyd ef i fyny gadael i estron ddangos mwy o wladgarwch a pharch i randiroedd dyffrynol a mynyddig gwlad ein tadau dangos mwy o genedlgarwch a serch at hanesiaeth ein henafiaid nag a ddengys ef, er ei fod yn frodor o'r lle; wedi bod yn cael ei borthi a'i noddi rhwng breichiau ei anwyl fam ar ei haelwydydd; wedi bod yn chwareu ar ei gwyrdd-dwmpathau pan yn blentyn, ac wedi cael hamdden i sugno modd o'i chreigiau i'w gynal o'i faboed i'w ddyn oed. Ond wele bellach yr ydym wedi amcanu symud y gwarth hwn oddiarnom mewn cysylltiad a'r lle hwn, trwy yr anturiaeth o ysgrifenu ei hanes yn yr hen iaith anwyl sydd wedi sefyll bradwriaethau, ac ymosodiadau ffyrnig wyllt gelynion dros oesau rhwng bryniau yr Ynys Wen. Caresem pe buasai y wobr a'n hamgylchiadau yn caniatau i ni fyned i ragor o fanylrwydd yn ein ymdriniaeth a'r testyn; ond nid oedd genym ddim yn well i'w wneud yn wyneb yr anfanteision na dwyn cynifer ag a allasem o ffeithiau hanesyddol, a'u gosod yn y dull byraf a mwyaf manteisiol i'r darllenydd. Cawsom lawer o drafferth , a mwy felly nac oeddym wedi ei ddirnad ar y dechreu i gysoni gweithiau gwahanol awduron Seisnig oeddynt wedi ysgrifenu ar hanes y lle; oblegyd dywedai un fel hyn, a'r llall fel arall, ac yn aml ni fyddai y naill na'r llall yn gywir, yn wyneb adroddiadau personau fuont yn dystion lawer o bethau a goffeir genym yn y traethawd. Yn awr yr ydym yn ei gyflwyno i sylw y darllenwyr, gyda dyweyd ein bod wedi gadael un lle allan heb gyffwrdd dim ag ef o gwbl, yr hwn sydd er ys blynyddau bellach yn ysmotyn tywyll yn narlunlen hanesyddol Merthyr Tydfil.

Pa bryd yr ymlanheir?

TRAETHAWD AR HANES MERTHYR

MERTHYR—Y DULL Y CAFODD YR ENW—HANESIAETH HENAFOL—Y COURT HOUSE—A CHASTELL MORLAIS.

Merthyr Tydfil sydd blwyf yn gorwedd yn nghwr gogleddol swydd Forganwg, 24 milltir i'r gogledd-orllewin o Gaerdydd, a 175 o filltiroedd i'r gorllewin o Lundain, yn mesur 17,744 o erwau o dir, a 11,450 o dai, yn meddu poblogaeth o 49,814, yn ol y cyfrifiad diweddaf. Hyd y plwyf o'i gwr mwyaf gogleddol i'w gwr deheuol sydd tua 11 milltir, a thua 4 milltir a haner yn y man lletaf. Medda bump cantref, enwau y rhai sydd fel y canlyn:—Abertaf a chynon, Fforest, Howellwermod, Garth, a'r Gellideg. Rhenir ef ar du y de-orllewin oddiwrth blwyf Llanwyno gan ffin sydd rhwng Godrecoed a thyddyn Abertaf a chynon; ar du y gorllewin gan ganol twyn Taran-y-celyn, Rhiw'r-capel, yr Heol las, y Gist a'r Cefn bychan, hyd flaen Nant y ffrwd; oddiwrth blwyf Aberdar, gan Pant-y-pwll-dwr, Pen-y-ddysgwylfa, Carn gwersyll-y-meibion, Twyn-melyn, Twyn y-glog, tua deg llath i'r ochr ddwyreiniol i Garn-pant-y-lanhir, Waun-y-gwair, a thrwy yr ochr ddwyreiniol i Garn-y-frwydr, a'r ochr ddwyreiniol i Garn Gwenllian dociar, Ffynon Brynbadell, yr hon sydd a'i dwfr yn arllwys i'r ddau blwyf-Aberdar a Merthyr, eto dros Fryn-y-gwyddel, a thros fedd y Cawr i Garn y ffwlbert, a thros y Twyndu i'r Maenbrych; oddiwrth blwyf Penderyn, ar du y gogledd-orllewin gan y Maen melin a Nant-y-ffrwd; oddiwrth y Vaenor, ar du y gogledd, gan Taf-fechan i fyny hyd at Bont y sticyll, oddiyno mewn cyfeiriad unionsyth i Bwll-gwaun-Morlais, oddiyno i Gastell-y-nos, yr hwn a'i rhana ar du y gogledd oddiwrth Gelligaer a Llaneti, oddiyno trwy ganol tafarndy Twyn-y-waun i flaen Cwmbargoed. Ar ei gwr dwyreiniol oddiwrth Gelligaer gan afon Bargoed hyd Bont-yr-yswain; ar ei gwr deheu-ddwyrain oddiwrth blwyf Llanfabon gan Bargoed a Taf, hyd y cwr eithaf de-ddwyrain o dyddyn Godrecoed, sef Rhyd-y-binwg.

Derbyniodd y lle hwn ei enw oddiwrth Tydfil, unfed ferch ar ugain Brychan Brycheiniog, yr hon yn nghyd a'i thad a'i brawd Rhundremrudd a roddwyd i farwolaeth gan haid grwydrolo Saxoniaid a Gwyddelod Pictaidd oeddynt yn cario tân a chleddyf, gan anrheithio gwlad ein tadau ryw bryd yn niwedd y bedwaredd ganrif. Nid hir y bu rhai o'n cydgenedl y Cymry cyn codi yma Eglwys er coffadwriaeth am y weithred ysgeler hono. Fel merthyron y darfu i'r tri hyn syrthio, ac fel merthyr y mae Tydfil wedi cadw ei henw dros ychwaneg nâ thri chant ar ddeg o flynyddoedd, ac yn hysbys bellach agos trwy bob cwr o'r byd gwareiddiedig. Dydd ei choffadwriaeth a ddisgyna ar y 24ain o Awst. Nid oedd yn y lle hwn, yn ol ei hanesiaeth foreuol, ond rhyw nifer fechan a gwasgaredig o dai amaethwyr a bugeiliaid; ac yn y sefyllfa hon, nyni a'i dilynwn i lawr dros agos i saith cant o flynyddoedd heb allu nodi dim ag sydd yn teilyngu unrhyw sylw neillduol hyd nes y deuwn i gyffyrddiad ag hanes Dau le nodedig—Castell Morlais, a'r Court House. Mae traddodiad yn mhlith hen bobl fod eu teidau yn cofio am gyfarfodydd llewyrchus a gynaliwyd gan y diwygwyr Protestanaidd dan hen ywen ger y ty hwn. Ceisia rhai ein darbwyllo i gredu fod y lle olaf yma yn aros er ys rhagor na dwy fil o flynyddoedd, am y barnent ei fod wedi cael yr enw Cohort oddiwrth y Rhufeiniaid, lle bu nifer benodol o'u milwyr oedd yn arwyddo yr enw, yn gwersyllu.

Cohort, neu yn hytrach y Court House, fu unwaith yn gyfaneddle rhai o arglwyddi Morganwg a Senghenydd uwchaf. Gallwn farnu mai tua'r llecyn hwn yr oedd Brychan Brycheiniog, yn nghyd a'i fab a'i ferch yn cyfaneddu pan y syrthiasant yn ebyrth i gynddaredd estroniaid ysbeilgar a nwydwyllt, ac nad ydyw y lle hwn wedi bod yn ddim amgen na phreswylfan arglwyddi a boneddigion yn ystod yr holl oesau dilynol. Barna rhai fod Ifor Bach yn byw yma tua'r flwyddyn 1,110, yn yr hwn le yr oedd yn byw pan yr adeiladodd Gastell Morlais, ac y gwnaeth ei ymosodiad gyda byddin o wyr ar Gastell Caerdydd, pryd y cymerodd Robert, Iarli Caerloyw a'i foneddiges yn garcharorion, a'u cadw felly yn y caethiwed hyd nes iddynt addawi'r Cymry eu holl freintiau cynhenid yn nghyd a chyfreithiau Hywel Dda. Ac yna nid oes genym un hanes nodedig am y lle hwn hyd nes yr ydym yn ei gael yn mherchenogaeth Lewisiaid y Van, ger Caerffili,ac un Soberton, o Southampton; un o achau y Clives; ac yna yr ydym yn ei gael yn meddiant Mr. Thomas Rees, trwy bryniad, yn nghyd a'r Werfa, yn mhlwyf Aberdar, am £400, oddiwrth un Harri Edwards, o Tanygraig, yn Mrycheiniog. Y Thomas Rees hwn oedd y cyntaf o achau presenol y Court, ag a fu yn byw yma.

Pan yn ymweled a'r ty hwn mae'r bardd a'r hynafiaethydd yn cael eu llenwi a myfyrdodau, a'u cario yn ol gan eu meddyliau i ryw gyfnod boreuol pan nad oedd yma ddadwrdd na thwrf masnach yn aflonyddu ar ddystawrwydd y creigleoedd anial ac anhygyrch a'u hamgylchynai, na dim i'w glywed ond gwaedd y bugail, brefiadau y defaid a'r wyn, a'r gwartheg, yn nghyd a si furmurawl y gornant fechan wrth ymlithro i lawr rhwng ei cheulanau tua'r gwaelodion i'r afon Taf. Dynoda yr holl adeilad hwn orwychedd ac urddas henafol yn ei ystafelloedd eang a'u lloriau gleinion o dderw-ystyllod yn ei gynteddau a'i fynedfeydd addurnol, gyda'i flodeuwaith cerfluniol, ac heb gynifer ag un hoel yn cysylltu unrhyw ran o'r adeilad; yr oll yn cael ei ddal yn nghyd â phiniau coed, hyd nes yr adnewyddwyd ef yn ddiweddar gan y perchenog—y diweddar Dr. Thomas, ynad heddwch yn Merthyr.

Castel Morlais a dderbyniodd yr enw oddiwrth Nant Mawr-lais, neu Morglais. Adeiladwyd, ef meddir, gan Ifor Bach, tua dechreu y 12fed ganrif, er mwyn bod yn am ddiffyniad i'w etifeddiaethau, rhag ymosodiadau gorthrymus oddiar y tiriogaethau cyffiniol, gan arglwyddi Brycheiniog,y rhai a ruthrent ar y lle yn awr ac eilwaith yn achlysurol; ac yn nheyrnasiad Harri I. yr ydym yn ei gael yn meddiant yr un. Ni fwriadwyd erioed i'r lle hwn fod yn ddim amgen nag amddiffynfa, ac ni fu erioed yn drigfan neb o Arglwyddi Morganwg.

Saif у Castell hwn ar fryn rhwng y Nant Morlais, a'r Taf Fechan, tua 3 milltir i'r gogledd o Ferthyr Tydfil, ac y mae yr olwg ar y lle a'r wlad o'i amgylch yn wir farddonol Y Taf Fechan yn ymddolenu yn furmurawg rhwng y coedydd talfrigog yn y Cwm ar yr ochor ogledd-orllewinol iddo, a'r wlad yn ganfyddadwy dros lawer o filldiroedd agos yn mhob cyfeiriad mynyddau Brycheiniog, y rhai a wisgent ar eu penau gaenen o eira dros agos un ran o bedair o'r flwyddyn, a ddyrchafent i'r uchder o 2,863 o droedfeddi uwchlaw gwyneb y môr, yn nghyd a thyrau dadfeiliedig a gwylltedd unigol yr hen Gastell, a lenwai feddwl yr ymwelydd a phrudd ystyriaeth, ac adgofion o ryw gyfnodau difrodus a gweithrediadau trahaus tywysogion a phendefigion eiddigeddus a thrachwantus y canrifoedd a aethant heibio; ac ar y llaw arall, wrth fanwl arsyllu ar ddull gwneuthuriad yr hen Gastell, y mae y meddwl yn cael ei lenwi â syndod, am gywreinwaith celfyddyd yn amser ei adeiladiad. Bu yr hen Gastell hwn mewn agwedd hollol ddadfeiliedig hyd yn ddiweddar. Yn y flwyddyn 1819, daeth un Mr. Abraham Jones, olwynydd, o Ddowlais, o hyd i bastwn-fwyell (pole axe) hynodol wrth chwilio i'w weddillion. Yn haf 1846, yn ôl cyfarwyddeb E. J. Hutchins, Ysw., o Ddowlais, glanhawyd ynddo ystafell, sydd yn mesur oddeutu 90 o droedfeddi o dryfesur, ac yn ei chanol golofn sydd yn dal ei nenfwd yr hwn sydd wedi ei wneud i fyny o ddeuddeg o feini-fwâu. Y mae y fynedfa i'r ystafell Ar yr ochr orllewiniol iddo mae twll dwfn wedi ei gloddio yn y graig, lle a fwriadwyd yn ol pob tebyg, i gael dwfr at wasanaeth y Castell. Ond o herwydd fod dynion wedi ac yn bod yn achlysurol yn treiglo ceryg i mewn iddo, mae wedi llanw llawer o'r dull oedd ar y cyntaf; ond y mae eto uwchlaw 100 troedfedd o ddyfnder. Saif gweddillion y Castell hwn ar tua 3 erw o dir, a dywedir iddo gael ei ddinystrio y tro cyntaf yn amser ei adeiladydd, Ifor Bach, tua'r flwyddyn 1110. Dywed eraill mai tua chanol y ddwyfed ganrif ar bumtheg y dinystriwyd ef gan filwyr y senedd; ond gwell genym roddi coel i'r blaenaf, o herwydd pe buasai mor ddiweddar a'r olaf, buasai genym well hanes am dano, ac mae ei fod ar waith yn amser ei ddinystriad yn profi yn ddigon eglur mai y cyntaf sydd yn nesaf i gywirdeb. Mae yn bresenol yn meddiant Cwmpeini Gwaith Haiarn Dowlais, y rhai sydd wedi glanhau ac adgyweirio llawer arno yn y blynyddoedd diweddaf, ond y mae yn aros eto rai ystafelloedd heb eu hagor, y rhai yn ddiameu a dalent yn dda am hyny o lafur.

Yn awr awn rhagom i roddi desgrifiad sut y daeth у tiroedd sydd yn mlwyf Merthyr Tydfil, i feddiant y prif arglwyddi o'r lle.


YR ARGLWYDDI BOREUOL—TROSIAD YR ETIFEDDIAETHAU I'R ARGLWYDDI PRESENNOL—ENWAU FFERMYDD Y PLWYF—EU PERCHENOGION, A'U DEILIAD.

Gwedi i Iestyn ab Gwrgant, ArglwyddMorganwg, wneud ei addewid i un o'r tywysogion Normaniadd, o'r enw Robert Fitzamon, y byddai iddo roddi ei ferch, Nest, yn wraig iddo, ar yr amod y byddai iddo ei gynorthwyo ar y maes yn erbyn ei elyn, Rhys ab Tewdwr, cymerodd Fitzamon y cynygiad, a chyd drefnasant eu byddinoedd er mwyn cyfarfod Rhys mewn lle a elwir hyd heddyw Hirwaen Gwrgant, ger Aberdar, pryd y cymerodd ymladdfa waedlyd le, ac y trodd y fantol yn erbyn Rhys, fel y gorfu arno ffoi am ei einioes; ond daliwyd ef ar ei ffoedigaeth ger Pen Rhys, yn ymyl Cwmrhondda, lle torwyd ei ben pan yn 82 mlwydd oed. Wedi i Iestyn trwy gynorthwy y llu Normanaidd gael yr oruchafiaeth ar Rhys a'i fyddinoedd, meddyliodd fel

llawer un arall, yn ol i ystorm o gyfyngder fyned drosodd, y gallasai droi y gath yn y badell, trwy omedd bod yn unol a'i addewid i'r tywysog Normanaidd. Ond er gwaethaf y modd iddo, goddiweddwyd ef a dydd o ofwy eilwaith, yr hwn a drodd allan yn waeth na'r cyntaf, trwy i Fitzamon droi ei arfau ato, i'r dyben o'i orfodi i sefyll at ei addewid, a'r canlyniad fu iddo gymeryd meddiant o Gastell Caerdydd, ac arglwyddiaeth Morganwg oddiarno, gwersyllodd yn Ngastell Caerffili hyd nes iddo gael ei orchfygu mewn brwydr, a ymladd wyd gerllaw Gellygaer. Yn olynwyr iddo mewn gwaedoliaeth ac hawl i'r etifeddiaeth, yr oedd y De Clares (y nawfed o freninoedd Morganwg), a'r De Spencers y rhai hefyd fuont yn cyfaneddu yn y Castell hwn. Oddiwrth y De Spencers y deilliodd yr etifeddiaeth i'r Beauchamps a'r Nevils, gyda mwy na'r rhan gyffredin o ddirwyon a threuliau a achoswyd gan ymrysonau a godent yn achlysurol rhyngddynt hwy a'r rhai a honent eu hunain yn iawn berchenogion yr etifeddiaeth, nes o'r diwedd yn ol hir ymgypris, iddi fyned yn eiddo y Goron, trwy frwydr fythgofiadwy Bosworth, yn amser Harri VII. yr hwn a'i trosglwyddodd yn ol yn ffafr William Herbert, Iarll Penfro. Disgynodd rhan o'r etifeddiaeth hon trwy briodas i'r Windsors, a thrwy briodas ag un o etifeddesau yr Herberts, daeth ardalydd Bute i feddiant o'i arglwyddiaeth. Ac yn ol y Quarterly Review, disgynodd y rhan arall i'r Clives. Ond nid felly yn y plwyf hwn, perchenogion boreuol ei arglwyddiaeth hwy oeddynt Lewisiaid y Van, ger Caerffilly, oddiwrth y rhai hyny trwy bryniad ac nid trwy etifeddiaeth briodasol, y disgynodd yn eiddo iddynt, y rhai fel y dangosir yn y daflen nesaf ydytt yn meddu llawer o diroedd yn y plwyf hwn. Perchenog boreuol arglwyddiaeth "Dynevor a Richards," yn y plwyf hwn oedd y Milwriad Prichard oedd yn byw yn Llancaiach fawr, ac yn uchel sirydd yn Nghaerdydd, yn y flwyddyn 1599; yr oedd yn gwasanaethu yn myddin Cromwell; meddodd ddwy ferch, priododd un ag un o'r Dynevors a'r llall ag un o'r Richards, felly disgynodd ei ystad yn rhanol rhyngddynt.

Enwau Tyddynod. Eu Perchenogion Eu Deiliaid
Ferm y Castell G Overton Ysw
W Davies &c
Dowlais Com & co
Mae y tiroedd hyn
yn meddiant Cwmpeini

Gwaith Haiarn Dowlais
Hefyd mae ganddynt 2,846
o erwau o fynydd-dir
perthynol i ardalydd
Bute; yn ol yr amod
weithred gyntaf, nid
oeddynt yn talu ond £100
yn y flwyddyn am dano.
Meddienir hwynt yn
bresennol gan Crawshays'
Gyfarthfa trwy brydlesau
oddiwrth eu perchenogion

Blaen y Garth
Bon Maen
Rhyd y Bedd
Caę Raca
Hafod
Blaen Morlais
Gwernllwyn bach
Gwernllwyn uchaf
Pwll y hwyaid
.
Waun Fach Perchenogion yr
oll o'r tiroedd hyn
ydynt Dynev a
Richards
Brynteg
Coedcae Brynteg
Nant y Gwenith
Llwyncelyn
Wern
Rhyd y car
Glyn Dyrus
Melin Canaid
Pandy Gyrnos
Penygarn
.
Gwaelod y Garth Morgans o'r

Grawen &c

Perthynai y tiroedd
hyn i Gwmpeini
Gwaith Haiarn
Pendaren, trwy
brydlesau oddiwrth
eu perchenogion.
Godre Calan uchaf
Garn
Gellifaelog
Gwaun Taran
Ton y ffald
Penydaren
.
Pentrebach Arglwydd Plymouth,
Tomosiaid y Lechfaen,
Llanfabon ac eraill
Perthynai y tiroedd hyn yn
bresenol trwy
brydlesau oddiwrth
eu perchenogion i
gwmpeini y diweddar A Hill,
Ysw. Prynodd taid achau
presenol y Lechfaendiroedd,
Tontailwr, Dyffryn, Abercanaid,
Nant yr odyn, Balca, a'r
Tyntaldwm, gan Jenkins
o'r Marlas, Cwmnedd,
am 890 o ginis,
oddiwrth y rhai hyn y derbynia
y perhynasau presenol
£1,500 yn flynyddol,
Scubornewydd
Tre'r beddau
Glyn mil
Nant yr odyn
Tontailwr
Tyntaldwm
Dyffryn
Balca
Ty'n y Coedcae
Cilfach yr encil
Abercanaid
Garth. Morgans, Ysw, David Watkins
Pantysgallog Davies, Ysw. William Powell
Cwmwaun newydd Dynevor, a Richards, J, Jenkns
Ty'n y coedcao William Jenkins
Coed Meyrick Richard Morgan.
Tai mawr Catherine Edwarda
Tai mawr uchaf W.T. Edwards
Tai mawr canol W.T. Edwards
Nant Wm. Williams
Heol geryg Evan Williams
Penyrheol Evan Evans
Abernantygwenith D, Williams
Blaen canaid W, Williams
Hendre fawr Dinah Williams
Gethin J. Ward
Cwmbargoed E. Watkins
Penrhiwronen. R, Thomas
Brithweunydd Rees Jones
Ynys y gored E, Purchase
Hafod tanelwg uchaf D. Hopkins
Hafodtanglws isaf D. Davies
Penylan Lady Windsor J. Jones
Begwns J. Davies
Pwllglas W. Jenkins
Blaen y owm Phillip Richards
Pont y rhin E. Purchase
Pantglas D. Williams
Penddangaefawr E. Williams.
Penddaugaefach D. Williams.
Pan y deri D. Williams
Bryn rhedyn H. Powell
'Waunwyllt J. Jones
Nant y fedw Ar y ddwy fferm
hon y saif y rhan
fwyaf o Ferthyr.
Mairdy Davies Ysw
Court R Thomas
Penylan draw T Evans J. Phillips
Graig Mrs Morgans Mrs, Morgans
Grawerth. J. Vaughan.
Bryncaerau Mae rhenty tir
hwn yn myned at
gynaliaeth yr un
a fyddo yn
gwasanaethu
capel Nant ddu,
Brycheiniog"
Gregory Watkins
Cnwc C. R. Tynte E. Purchase
Nantfain C. R. Tynte E. Purchase
Perthigleision R. Griffiths L. Lewelyns
Abervan fach R. Griffiths W. R. Smith
Abervan fawr L. Jenkins L. Jenkins
Ty'r nyth Rev, D, Davies D Evans
Forest Thos Williams Thos Williams
Ynys Owen E M Wood L Jenkins
Penygraig E M Wood M Price
Tir y Cook W Richards R Davies
Cefn y Fforest T Richards D Pritchard
Trwyn gareg C. M. Wood L Jenkins
Pentanas, J Perrott E. W. Scale
Penybylchau H Williams Thos Edmunds
Mount Pleasant E Davies Ysw E Davies Ysw
Tai'r lan T Lewis T Lewis
'Ty newydd E. Lewis A Lewis
Cwmcothi Thos Jenkins J Jenkins
Ty'r ywen W Lewis W Lewis
Pont y rhun. C. R Tynte E Purchase
Troedyrhiw W Lewis D Williams
Ffawyddog Lady Windsor Thos Edwards
Pont y gwaith R. Foreman Thos Parry
Buarth glas J Jenkins L Jenkins
Cefn glas. John Jenkins John Jenkins
Godrecoed Thos Jenkins Thos Jenkins

COFRESTR O RAI O'R TEULUOEDD HENAF A PHARCHUSAF YN Y PLWYF, YN NGHYD A'U TRIGFANAU

Y Fforest. Yr hwn le sydd wedi bod yn drigfan henafol y Williamsaid, teidiau Mr. Thomas Williams, y trigianydd presenol. Olrheinia Mr. Williams ei deidau yn ol yn y lle hwn fel y canlyn:-Thomas, Dafydd, Thomas, William, Thomas, Dafydd, Thomas; felly, a chyfrif ond deugain mlynedd i bob un o'r saith fyw yn annibynol ar ei deidau, gwelir fod yr achau yma er ys pedwar ugain ar ddeg o flynyddoedd, ac nid yw yn hysbys pa gynifer o flynyddoedd cyn hyny. Mae amrai deuluoedd parchus wedi cael eu cychwyniad o'r lle hwn-teulu Pwllyhwyaid ac ereill allem eu henwi, pe caniatai ein gofod. Lewis Williams, ewythr Thomas Williams, fu yn un wrth y gorchwyl o gloddio sylfaeni ffwrnesau Penydaren. Mae y Williams presenol yn hanesydd cofus, yn Gymro gloew, yn gymydog cariadus, ac yn bleidiwr gwresog i lenyddiaeth Gymreig. Efe oedd cychwynnydd ac achosydd y traethawd hwn ar blwyf Merthyr Tydfil. Cododd Sais o'r enw Gypson awyren[1] yn Merthyr, yn Hydref y flwyddyn 1847, a disgynodd ger y ty hwn. Gwernllwyn isaf Y cyntaf ag sydd genym hanes am dano yn y lle hwn oedd Dafydd Jones, adnabyddus wrth yr enw Dafydd Shon; efe oedd yr un a gymerodd Brydles Dowlais oddiwrth achau Cefn Mably, tua chan mlynedd yn ol. Yr oedd iddo bump o ferched; priododd un o honynt ag un Walter Dafydd Evan, Blaenrhymni; eu disgynyddion hwy ydynt Dafisiaid y Cwm, ger Caerffili, ac Overton, Ysw., y cyfreithiwr a'r trengholydd yn Merthyr. Priododd un arall, ac aeth i'r Ysgwydd gwyn, yn Gelligaer; oddiyno yn rhanol y tarddodd achau presenol y Bedlinog. Priododd un arall ac aeth i fyw i Benbanc, yn Gelligaer; oddiyno yn rhanol y deilliodd achau Penygareg a'r Fforest. Priododd un ag un o Ddafisiaid y Mairdy, yn Merthyr, a bu'r llall farw yn weddw.

Gwernllwyn uchaf. Hen arosfan y parchus Williamsaid; perchenogion amrai diroedd yn Gelligaer. Gellifaelog. Preswylfa henafol Isaac Williams, yr hwn fu yn meddu amrai diroedd yn mhlwyf Merthyr, nid amgen y Gellifaelog, Rhyd y bedd, Gwernllwyn isaf, Cilfach yr encil, a Chefn у Fforest. Yr oedd yn daid i'r Doctor Pritchard oedd yn byw yn Nghefn y Fforest tua chan mlynedd yn ol.

Cefn y Fforest. Hen drigfan y Pritchards, gynt o'r Colena, yn Llantrisant, ac ymae yn meddiant yr achau erys rhagor nag wyth ugain mlynedd. Cyn eu dyfodiad hwy i'r lle yr oedd y foneddiges enwog Lydia Phel yn byw yno, ac yn aelod selog gyda'r Crynwyr; bu yn cyrchu i wrando i Cwmglo hyd yr ymraniad yn y flwyddyn 1650, pryd y rhoddodd 'le yn etifeddiaeth barhaol i'r Crynwyr i amgaeru mynwent, yr hon oedd hefyd i fod yn lle o addoliad, ger y pentref sydd yn awr ar yr enw, tu arall i'r afon Bargoed, yn Llanfabon. Bu y Crynwyr yn cynal cyfarfodydd yma dros lawer o flynyddoedd; cynullai torfeydd lluosog yma deirgwaith yn y flwyddyn; y mwyaf nodedig o'r cynulliadau hyn oedd yn amser Gwyl Ieuan. Gwywodd yr achos yma o herwydd, medd rhai, anwareiddiwch a gwatwariaeth iselwael ryw fath o ddynion a fynychent i'r lle. Mae ei muriau yn bresenol yn amgaddiedig gan y gwyrddlas iorwg, fel y dynodant ddirywiad ac anghyfanedd-dra yn ei pherffeithiwch. Yma y gorphwys gweddillion marwol Lydia Phel, yn nghyd ag amrai ereill o Grynwyr dan feini llorweddol,a orchuddir dan gaenen werdd las o dyweirch. Nid oes na chyfarfod na chladdu wedi bod yma yn y deugain mlynedd diweddaf.

Penygraig. Tua dau cant a haner o flynyddau yn ol yr oed ddadleuydd (counsellor) o'r enw Morgans yn byw yn y lle hwn; ynddo mae ystafell a elwir hyd heddyw Study fach, lle yr arferai fyfyrio a threfn ei gynlluniau. Ar ei ol ef daeth y Williamsaid, y rhai fuont yn aros yma yn olynol hyd yn ddiweddar. Nid oedd rhent y tir hwn pan yn meddiant y diweddaf ond un o'r teulu a enwasom ag a fu yn byw yma ond £29 yn y flwyddyn, wedi ei farwolaeth ef, Morgan Williams, am fod y Brydles yn myned allan gyda'i fywyd, cododd rent flynyddol y tir hwn i £104 y flwyddyn. Bu y Morgan Williams hwn gyda'i fulod a'i geffylau yn cario haiarn oddiwrth Waith Hirwaun dros gefn y mynydd, rhwng Merthyr ac Aberdar, a thros y llwybr a ymddangosa yn awr mor ddisathr, drwy Daren y gigfran, ac i lawr dros Bontygwaith i dynu tua'r Casnewydd, neu Lanhuddal; arferai ddadlwytho ger Ffaldgaiach, lle troai ef yn ei ol ac y cymerai arall у baich yn ei le i'w gludo i ben y daith apwyntiedig. Gwerthodd y dyn hwn bedwar o ychain yn un o ffeiriau y Waun am £100, yn nechreuad rhyfel dymor Napoleon I.

Tir y Cook. Preswylfan y clodus feddyg anifeilaidd, Richard Davies, yr hwn sydd yn wr tra chyfrifol yn ei ardal. Bu un Sais o'r enw Cook yn byw yn y lle hwn er ys tua dau cant o flynyddoedd yn ol; yr oedd yn un o gwmni Gwaith Hairn Pontygwaith. Priododd un o ferched Mordecai Ebrai Phel, yr hwn oedd yn frawd i Lydia Phel, Cefnyfforest, ac yn byw yn Nhir y Cook cyn dyfodiad y sais i'r lle. Mae traddodiad yn y gymydogaeth fod maelfa wedi bod yn yr amaethdy hwn gwedi amser Cook, ac fod ei pherchenogydd yn myned tua Chaerodor i brynu ei nwyddau, ac yn eu cludo yn ol ar ei gefn.

Tai'r Lan. Preswylfan henafol Lewisiaid y Tŷ Newydd a Thai'r Lan. Y cyntaf ag sydd genym hanes am dano o achau y Lewisiaid yn y lle hwn oedd Daniel Lewis, alias Daniel Goch, yr hwn oedd yn gyfreithiwr hyfedra galluog, a thra chyfrifol yn ei ardal; bernir ei fod yn byw yma tua dechreu y ddwyfed ganrif a'r bymtheg.

Ty Newydd. Preswylfan yr un Lewisiaid a Thai'r Lan, fel y nodasom yn barod, y rhai sydd linol-lin yn ddynion caredig, cymwynasgar, ac heddychlawn yn eu hardal. Troa perchenogydd presenol y Ty Newydd mewn cylch pwysig yn Merthyr Tydfil. Iddo ef yr ymddiriedir y gorchwyl o gasglu treth y tlodion yn y plwyf. Prynodd ei hen daid diroedd Ty Newydd, Tir y Cwm, a Ty'r Ywen, gan un o Lewisiaid y Van, yn y flwyddyn 1727, y rhai hefyd oeddynt berchenogion boreuol Tai'r Lan, Godrecoed, Cefn Glas, Abervan, yn nghyd a rhan o dir y Perthigleision, &c.

Ynys Owen. Hen drigfan y Meyricks, achau henafol ond rhanol Williamsaid, Maes-y-rhyddid, T. Edmunds, Penybylchau, &c., taid yr hwn oedd Edmund Meyrick; oddiwrth yr Edmund hwnw y tardd ei gyfenw Edmunds; yr oeddynt yn ddiarebol am fod yn alluog a dewr; y diweddaf o honynt ag a fu yn byw yn y lle tua 70 o flynyddoedd yn ol, a arferai, fel eraill o'i gymydogion, galchu o'r Twynau-gwynion. Fel yr oedd ef yn nghyd ag un o'i gymydogion yn ystod un tymor yn cyrchu calch o'r lle a nodasom, arferent gyfarfod ag ebolyn bychan o faintioli ar eu ffordd; yr oedd wedi denu eu sylw er's diwrnodau fel un o'r creaduriaid truanaf a allasent ganfod o Fon i Fynwy, ac o'r braidd nad oedd yn rhy druan i ddau edrych arno ar unwaith. Wrth ei gan fod felly, a hwythau yn gwybod am y borfa fras oedd tu arall i'r berth, penderfynasant ymafyd ynddo a'i daflu dros y berth, iddo gael ei fwynhau. O hyny allan byddai yr anifail yn eu haros yn yr un man bob boreu; ac felly gwnaethant iddo, nes iddo ddyfod yn un o'r creaduriaid barddaf a allesid weled. Bu perchen y cae mewn dyryswch mawr mewn perthynas iddo, am nas gallasai ganfod ei olion yn niweidio y cloddiau yn un man. Canodd rhywun y penill canlynol iddynt, wrth ganfod eu diwydrwydd a'u dewrder yn wahanol i'w cymydogion, yn nhymor cynhauaf:—

"Mae'r Tori wedi ffaelu,
A'r Ysw. yn gorfod gwaeddi,
Y lleill a'u gwyr sy'n colli'r dydd,
A’r Meyricks sydd yn maeddu."

Yr oedd hen brif ffordd Merthyr a Chaerdydd, cyn amser Bacon, yn arwain trwy y man y saif cyntedd y ty hwn yn bresenol; a chludwyd llawer o gyrff y plwyf olion tua'r gladdfa drwy y lle hwn.

Abervan Fawr. Arosle henafol y Jenkinsaid-dynion hawddgar, caruaidd, a heddychlawn a breswylient linol-lin yn y lle er ys llawer o ugeiniau o flynyddoedd. Yn perthyn iddynt hwy mae un gyfran o'r mynydd tal syth a elwir Cefn-y-van; oddiar hwn,ar ddiwrnod clir, gellir canfod naw o eglwysi plwyfol, heblaw am rai o addoldai. Pan yn edrych oddi yma tua'r gogledd, mae mynyddau Maesyfed a'u trumau i'w gweled yn ymestyn tua'r nen. Wrth droi ein golwg tua'r deau-ddwyrain canfyddwn Hafren, a'r llongau yn dawnsio ar ei thonau brigwyn. Tu draw iddi gwelir milltiroedd meithion o Wlad-yr-haf, a gyda chymorth yspienddrych yr ydys wedi canfod oddiyma gaeau o yd yno; felly, gwelir y gellir canfod oddi yma dros gan milltir o ffordd. Bu un hen weddw oedranus a adnabyddid yn gyffredin wrth yr enw Sarah, Daren-y-gigfran, yn byw mewn cilfach anial rhwng Taren-y-gigfran a Chefn-y-van, ar y tir hwn dros 23 o flynyddoedd; yr oedd haner milltir o leiaf rhyngddi a'r ty nesaf, sef Abervan; ei chymydogion nesaf oeddynt y ddylluan, y gigfran, y wiwer, y wenci, yr ysgyfarnog, a'r llwynog. Dyma'r fath gyflwr o neillduedd, yn ngwir ystyr y gair, yr oedd yr hen ddynes ddiniwed ag a berchid gan bawb a'i hadwaenai. Mae iddi ferch ac wyres yn byw yn Mynwent y Crynwyr yn bresenol (yn 1864). Mae maen a elwir Maen gwaeddi ger y ty hwn. Tebygwn iddo dderbyn yr enw oddiwrth fod preswylwyr yr hen anedd-dy ac ereill yn arferol o'i gymeryd yn safle i waeddi ar wahanol achosion yr alwedigaeth amaethyddol, &c.; sigla ychydig pan eir i'w ben.

Perthigleision. Hen breswylfan y Williamsaid. Buont yn berchenogion Abervan-fach, ac haner tir Perthigleision, a Lewisiaid y Van oeddynt berchenogion y rhan arall. Un o'r Williamsaid hyn a adnabyddid yn gyffredin gan yr ardalwyr wrth yr enw Hen Squire, neu y Squire Williams. Bu yn ei feddiant helgwn tra nodedig o ddefnyddiol yn y cyfnod hwnw, i erlyn llwynogod, &c. Yr oedd y boneddwr parchus hwn yn ber thynas agos i Domosiaid y Lechfaen, yn Llanvabon.

Hafod-tanglws-isaf, neu yn hytrach Hafod-Ann-dlws. Hen gartref y Dafisaid, y rhai ydynt linach barchus iawn yn eu cymydogaeth, ac y maent yn cyfaneddu yn y lle hwn er ys ugeiniau os nad canoedd o flynyddoedd.

Hafod-tanglws-uchaf. Trigle y diweddar Edward William Harri a'i achau. Nid oes cymaint a thraddod. iad wedi ei adael yn gofnodiant i ni o'u dechreuad yn y lle hwn. Yr oedd Hafod-tanglws-isaf, Hafod-tanglws uchaf, a Penlan-draw, yn ol y dyddiadau a gafwyd ynddynt, wedi eu hadeiladu rhwng y 10fed a'r unfed ganrif ar ddeg.

Troed-y-rhiw. Hen berchenogaeth a phreswylfa Morgansaid y Fodffordd. Gwerthasant y tir hwn i gwmpeini Gwaith Haiarn Dowlais; a bu Sir John Guest, A.S. yn byw dros ychydig amser yn y ty hwn. Enillodd Lewisaid, Dangddraenen y tir hwn i'w perchenogaeth trwy gyfraith a fu rhyngddynt yn ddiweddar a chwmpeini Gwaith Haiarn Dowlais.

Pentrebach. Trigfan henafol y Jonseaid, y rhai oeddynt berthynasau i achau Penrhiwyronen, Tontailwr, ac Abervan.

Taibach a'r Dyffryn. Preswylfa y Tomosaid, oddiwrth ba rai yr hanodd Tomosaid y Pudwall, yn Llanfabon.

Gethin. Hen breswylfa y Lewisaid. Gellivaelog. Trigfan henafol L. Jenkins, yr hwn fu hefyd yn byw yn Clynmil, yn berthynas i deul o y Graig. Yr oedd yn wr cyfrifol yn ei ardal, ac yn cyd oesi a Bacon.

Graig. Trigfan henafol y Morgansaid, teulu gwir barchus yn Merthyr.

Maerdy. Hen arosfan y Dafisaid, perthynasau i deulu y Graig a'r Ysgubor-newydd. Bu yma hefyd helgwn tra nodedig flynyddau maith yn ol. Mae yr hendyddyn agos oll yn orchuddiedig gan dai yn Merthyr.

Garth. Preswylfan y Dafisaid-yr un a Pantysgallog; o'r hwn le y cafwyd y rhan fwyaf o geryg adeiladu at wasanaeth Dowlais yn yr 20 mlynedd di weddaf.

Gwaelod-y-garth-fawr. Preswylfa y Morgansaid dynion adnabyddus a chyfrifol iawn yn Merthyr.

Pant-Cadifor. Hen arosle y Nicolasaid. Bu un o'r achau hyn yn llosgi calch yn odynau y Twynau-gwynion oddeutu 120 o flynyddoedd yn ol, yr hwn oedd y lle hynaf ag sydd genym hanes am dano yn y plwyf hwn i losgi calch. Un o'r perthynasau hyn a hynododd ei hun yn fawr fel un o'r meddygon anifeiliaid enwocaf ynei oes. Mae rhai o'r perthynasau hyn yn y lle hyd heddyw.

Bellach yr ydym yn terfynu y benod hon, gyda dyweyd y carasem gofnodi llawer yn rhagor o deuluoedd parchus yn ein plwyf, ond ni chaniata ein gofod i ni wneud hyny heb chwyddo ein hanesiaeth yn fwy na'i maintioli bwriadol; gan hyny, awn rhagom i draethu ein llen ar trem ar arwynebedd y plwyf.

TREM AR ARWYNEBEDD Y PLWYF

Nid oes ond tuag un ran o dair o'r tiroedd sydd yn mhlwyf Merthyr yn ddiwylliedig, a chymharu yr oll gyda'u gilydd. Gwneir ef i fyny, gan mwyaf, o goed-diroedd diffrwyth, gelltydd eang, mynyddau a ranau o fynyddoedd a gwaundiroedd. Un o'r gelltydd mwyaf nodedig ag sydd yn y plwyf yw Gallt-daf, yr hon sydd tua haner milltir o led, a thua phedair o hyd, yn gorwedd ar yr ochr ddwyreiniol i'r brif-ffordd a arweinia o Ferthyr i Gaerdydd. Y nentydd mwyaf nodedig yn y plwyf ydynt Morlais a Dowlais, y rhai a ymunant a'u gilydd ger Pont-y-gellifaelog, ac a arllwysant yn un i'r afon Taf, ger y Bont-haiarn. Ar yr ochr orllewinol i'r afon mae Nant-y-ffrwd, Nant-canaid, Nant-cwmdu, a Nant-fain. Ac ar yr ochr ddwyreiniol i'r cwm mae Nant-ddu a Nant-yr-odyn, yn ymarllwys i'r afon Taf, y flaenaf ger Mynwent y Crynwyr, a'r olaf ger y Pentrebach. Eto, tu arall i'r mynydd ar yr ochr ddwyreiniol mae Nant y-fedw, a Nant cothi yn ymarllwys i Fargoed, y flaenaf tua dwy a'r olaf tua milltir i'r gogledd o Fynwent y Crynwyr. Nid oes ond nifer fechan o dyddynod yn y plwyf yn fanteisiol iawn i amaethyddiaeth, am nad oes yma ond ychydig o wastad-dir dyffrynol, yr hwn sydd yn ymestyn oddiwrth Weithiau y diweddar A. Hill, Ysw., gyda glan yr afon hyd odreu tyddyn Ynys Owen. Amgylchynir ef ar y ddau du gan lechweddau serthion a bryniau uchel, heb ond heolydd geirwon ac anghelfydd ar hyd-ddynt yn cynyg eu gwasanaeth i'r hwsmon a'r ymwelydd.

Tra thebyg fod yr oll sydd o Gwm-taf, yn y plwyf hwn, pan yn ei sefyllfa foreuol, yn gyforiog o goedydd ac anialwch annhrigianol ond gan y llwynog, y carw, y blaidd, y gath goed, y bela, y wiwer, yr ysgyfarnog, y wenci, y wningen, &c. Oblegyd mae olion grynau o dir, lle y cynyrchwyd yd, yn ganfyddadwy hyd yn nod. ar gopäau y mynyddoedd uwchaf. Dywedir fod y cyfryw wedi bod dan lafur mor ddiweddar ag amser Iestyn ab Gwrgant, ac mai y rheswm penaf dros eu llafurio oedd, fod byddinoedd Rhys ab Tewdwr ac Iestyn ab Gwrgant wrth dramwy drwy y cymoedd, yn difrodi ac ysbeilio meddianau eu trigianwyr, fel y ffoisant i'r mynyddoedd am ddyogelwch. Modd bynag, nid yw y dybiaeth yn ymddangos yn wrthun a direswm; ond gwell genym ni y dybiaeth gyffredin o boblogiad a diwylliaeth y mynyddoedd cyni un hwsmon erioed osod swch ei aradr i dori un gwys yn un o'r cymoedd. Mae y gweddillion Derwyddol yn gystal ag amaethyddol yn ddigon o seil iaui ni sylfaenu ein cred mai penau y mynyddoedd a boblogwyd gyntaf yn y plwyf hwn, yn gystal â phlwfi ereill. Mae ar y mynydd sydd rhwng Aberdar a Merthyr, olion amrai o weithrediadau Derwyddol, megys y coffr careg ar y Cefn-bychan, un arall ar Dwyn-y-cnwc; a barna rhai, oddiwrth yr olion, fod beddau ger hwn. Hefyd, yn ymyl y fan hon, ar yr ochr ddeheuoli'r bryn, mae maen mawr, a elwir Maen-pump-bys; derbyniodd yr enw oddiwrth fod llun llaw dyn a'i fysedd yn eglur iawn ynddi. Mae traddodiad yn dyweyd i ryw gawr, o ryfedd faintiolaeth, ei thaflu i'r lle hwn, yn groes i Gwm-taf, o Benrhiw'r-geifr, ac mai ol ei fysedd ef ydynt. Yn ymyl hon hefyd mae un arall, ar fynydd Edward Thomas, un arall ar fynydd Howel ab Ifor; a bernir fod amrai ereill mewn cernydd ar hyd y mynydd yma a thraw. Mae carnedd o geryg ar y mynydd hwn sydd yn un o'r nodau ffiniol rhyngom ag Aberdar, a elwir Carn-Gwenllian Dociar. Yr oedd yn ferch i Howell Gwyn, un o achau y Toncoch, yn mhlwyf Aberdar; ac mae traddodiad yn dyweyd wrthym ei fod yn arferol o gario ei ferch ar ei fraich, pan oedd hi yn blentyn, i fyned i guddio arian yn y garn y soniwn am dani. Yn mhen rhyw dymor daeth amgylchiadau i symud y ferch hon i'r Bont-faen, lle y priododd a Sais o'r enw Dociar, ac yr adgofiodd am yr hyn a welodd ei thad yn ei wneuthur, pryd y cychwynodd yn nghyd a'i gwr tua'r fan, lle y cawsant arian, yn ol eu herfyniad. Ac o hyny hyd heddyw gelwir hi Carn-Gwenllian-Dociar.

Mae ar y mynydd hwn hefyd weddillion brwydrawl yn weladwy, megys Carn-y-frwydr, a Bedd-y-cawr, y rhai a dderbyniasant eu henwau oddiwrth ysgarmes waedlyd a ymladdwyd ger y lle rhwng byddinoedd Rhys ab Tewdwr a Iestyn ab Gwrgant, yn flaenorol i'r frwydr a ymladdasant ar Hirwaen-gwrgant, ger Aber dar. Yn ymyl yno hefyd mae lle aelwir Bedd-y-Gwyddel; ac o'r braidd na thueddir ni i gredu mai yn fuan wedi merthyrdod Brychan Brycheiniog a'i blant y cwympodd y Gwyddel y sonir am dano; oblegyd cawn hanes fod Nefydd mab Rhun Dremrudd wedi cynhyrfu preswylwyr yr ardaloedd i ymffurfio yn fyddin, fel y gallai ymddial ar yr estroniaid am farwolaeth ei daid, ei dad, a'i fodryb, yn yr hyn y bu i raddau yn llwyddianus nes eu gyru ar ffo.

Nid oes un gweddillion brwydrawl ereill yn ganfyddadwy yn un ran o'r plwyf, oddigerth Castell-morlais, hanes yr hwn a welir mewn penod arall o'r llyfr. Dywedir i frwydr gael ei hymladd ger Troedyrhiw, rhwng byddin Cromwell a byddin un o arglwyddi Morganwg, ac mai oddiwrth enciliad un o'r byddinoedd hyn y cafodd y tyddyn sydd gerllaw yr enw o Gilfach-yr-encil.

Am eirwiredd yr hanesiaeth, gadawn y darllenydd i olrhain a barnu ei chywirdeb drosto ei hun.

Bellach, awn rhagom i draethu ein llen ar

HAIARN WEITHFEYDD Y PLWYF

Dechreuwn yn gyntaf gyda Pontygwaith. Lle a gafodd yr enw oddiwrth fod yno bont goed ar yr afon ger y fan y safai y Gwaith—ychydig yn uwch i fyny ar yr afon na'r un bresenol, yr hon sydd adeilad gadarn wedi ei gwneud o geryg a lusgwyd i'r lle, yn ol pob tebyg, o Graig-daf. Mae rhai o henafgwyr y plwyf yn cofio adeiladu hon.

Gorwedd y lle hwn yn Nghwm-taf, tua chwe milltir i'r de-ddwyrain o Ferthyr; a chytuna haneswyr mai yma yr adeiladwyd y ffwrnes gyntaf yn y plwyf hwn, er ei fod yn anhawdd penderfynu i foddlonrwydd yr amser ei gwnaed, am nad ydyw hyny wedi ei drosi i ni gan ffeithiau hanesyddol argraffedig na thraddodiadol. Cymaint sydd genym ag a allwn ymddibynu arno yw fod y ffwrnes hon yn gweithio yn yr unfed ganrif ar bumtheg, yn ol dyddiad a gafwyd ar ddarn o haiarn a ddarganfyddwyd yma wrth archwilio yr hen weddillion, y rhai ydynt agos a chael eu hysgubo gan ffrwd amser i ebargofiant, fel nad oes yma ddim o'i olion heddyw yn ganfyddadwy ond gweddillion hen glawdd a gludai ddwfr at y gwaith, yn nghyd ag adfeilion muriau hen anedd-dy, a'r rhai hyny agos yn orchuddiedig gan wylltedd anialwch anghyfaneddol. Bu y darn haiarn y soniasom am dano yn meddiant yr adnabyddus David

Mutchet, ac arno y dyddiad 1555; ac nid ydys wedi dyfod o hyd i ddim arall yn y lle hwn gwerth ei gofnodi. Cludid yr haiarn oddiyma ar gefnau mulod a cheffylau i Gaerdydd a Chasnewydd. At yr hyn a nodasom yn barod, cofnodwn yr hyn a ganfyddwyd yn llyfyrgell Merthyr. Traetha fel hyn, "Yn amser y Frenines Elizabeth bu cyfraith yn Nadleudy Cyfiawnder yn Llundain, gan Edward Mutchet a John Watkins, a Bridget ei wraig, yn erbyn Elizabeth Mynifie, mewn perthynas i goed-diroedd, yn Llanwyno, a Gweithiau Haiarn, yn mhlwyf Merthyr Tydfil." Golosg-goed oedd ganddynt, meddir, yn toddi yr haiarn yn y lle hwn, a megin yn chwythu blast iddi. Mae gweddillion ffwrnes arall i'w gweled rhwng y camlas a'r afon Taf, ychydig uwchlaw Pont-y-rhun, yr hon yn ôl pob tebyg, oedd yn cael ei gweithio gan ddwfr o'r afon, yn ol yr olion sydd yno yn ganfyddadwy.

Eto, yr oedd ffwrnes yn Cwmgwernlas tua'r un amser, neu ychydig yn ddiweddarach, yn perthyn, yn ol pob tebyg, i'r un cwmpeini; yr hon fel un Pontygwaith, oedd yn cael ei chwythu gan fegin; a'r cwbl yn cael ei gario tuag atynt, yn gystal ac oddi wrthynt, ar gefnau ceffylau a mulod.

Y lle nesaf y cyfeiriwn ein golygon tuag ato ydyw Dowlais, oddiwrth Nant-duglais, neu dau-lais. Bwrdd dir mynyddig yn gorwedd tua dwy filltir i'r gogledd o Ferthyr. Tra yr oedd y dadwrdd a'r si wedi lledaenu ar hyd a lled y deyrnas am ffwrnes Pontygwaith, Pont-y-rhun, a Chwmgwernlas, tarawodd feddyliau rhai o deulu y codau, sef gwyr yr arian, y gallasai fod yn y plwyf hwn ryw gyflawnder o fwnau a allasent gario gweithfa, neu weithfeydd ar raddeg llawer eangach na'r rhai oeddynt yn bresenol, fel y penderfynodd rhyw nifer o honynt gynal cyfarfod yn Merthyr Tydfil er ceisio cynllunio ffordd i brofi eu damcaniaeth, a chymerodd y cyfarfod hwn le tua decbreu yr unfed ganrif ar bumtheg. Ac yna yr ydym yn cael hanes am rai o achau Cefnmably yn prydlesu rhyw ddarn o dir yn Dowlais gan y Windsors, i'r dyben o godi glo i'w werthu, i fyned i Aberhonddu, a manau ereill, a mwn i fyned at wasanaeth ffwrnes Caerffili, a Llanelli; yr hyn oll a gludid ar gefnau ceffylau a mulod. Yn mhen rhyw dymor cymerodd Thomas Rees, Pwll y hwyaid, a Dafydd Shon, o'r Gwernllwyn-isaf, at y cytundeb a wnaethant a'r Windsors, a buont hwy yn cario'r fasnachaeth yn mlaen dros lawer o flynyddoedd, hyd nes i un o'r enw Walters, o Gaerodor, wneud cytundeb a'r ddau olaf, fod iddynt dalu chwech punt yr un yn y flwyddyn iddo am eu hawl; a thua'r flwyddyn 1748 adeiladodd yma ffwrnes tua maintioli odyn galch, pryd y daeth John Guest, yr hwn oedd dad i Thomas Guest, ac yn daid i'r diweddar Sir John Guest, barwn, yn founder at y ffwrnes hon; ond ryw fodd neu gilydd, aeth y gwaith bychan hwn i fethu ateb ei ddyben, yr hyn a gymhellodd Walters i'w werthu, a phenodwyd dydd yr arwerthiad i gymeryd lle yn Nghaerodor; a phan ddaeth y diwrnod penodedig, aeth John Guest, neu Shon Guest y founder, drosodd tua'r arwerthiad; ond yn anffodus, trodd allan fel y gellir dyweyd am dani un wedd ag y dywedwyd am broffwydi Baal, "Nid oedd llais, na neb yn ateb." Fel y penderfynodd ei gario yn mlaen eilwaith, agos ar yr un cynllun a'r blaenorol, hyd nes i un Tait, brodor o'r Alban, un o Lewisaid Dan y ddraenen, yn nghyd a John Guest, ei gymeryd oddi wrtho; yn mherchenogaeth y rhai hyn y cynyddodd ac yr ymeangodd lawer iawn. Yn y flwyddyn 1753 y gweithiwyd y ffwrnes gyntaf yn y plwyf hwn yno gan agerdd. Er fod y ffyrdd i gludo tuag at, ac i gario oddiwrth y gwaith hwn y pryd hwnw yn hynod wael yn mhob cyfeiriad. Clywsom un henafgwr yn dyweyd i'w dad weled rhyw ddarn o beirianwaith per thynol i'r gwaith hwn yn cael ei gludo o Gaerdydd gan ychain, drwy Fynwent-y-Crynwyr, ac i fyny dros Graigyfargoed, i fyned dros y mynydd tua Dowlais (mae un o'r darnau cyntaf a wnawd o haiarn yn y lle hwn i'w ganfod yn awr tu cefn i aelwyd Bedlinog), am nad allesid byth fyned a'r cyfryw beth trwy Gwm-taf, i fyned trwy Ferthyr o herwydd gerwindeb ac anwastad rwydd y ffordd. Ond er yr anfanteision hyn, yr oedd un fantais fawr ganddynt i'w gorbwyso, yr hyn oedd tua 2,846 o erwau o fynydd-dir, heblaw tiroedd ereill, yn llawn mwn a glo, yn eu meddiant trwy brydles, o'r flwyddyn 1748, am y swm fechan o £100 yn y fwyddyn. Priododd Tait a merch i John Guest; a phan y bu ei dad yn nghyfraith farw, disgynodd ei ran ef o'r gwaith i'w fab, Thomas Guest, tad ydiweddar Sir John Guest, er na feddai Thomas ond tua dwy ran o un ar bumtheg. A phan y bu ef farw disgynodd ei hawl i'r diweddar Sir John Guest. Eto, pan y bu Tait farw, am nad oedd plant iddo, disgynodd ei hawl yntau yn y gwaith i'r diweddar Sir John Guest, yr hwn wedi hyny a wnaeth amod a Mr. Lewis, Danyddraenen, fod iddo ef gael rhyw swm flynyddol yn ol yr hyn a gynyrchai y gwaith, ar yr amod iddo ef, Sir John Guest, gael llywyddiaeth y gwaith yn hollol iddo ei hun. Yn y flwyddyn 1806, pan yn meddiant Lewis C. Tait, cynyrchodd y gwaith hwn 5,432 o dunelli o haiarn. Yn y flwyddyn 1815, pryd hwn, gan mwyaf, yn meddiant Sir John Guest, cynyrchodd 15,600 o dunelli oddiwrth 6 o ffwrnesau, tua'r amcangyfrif o 50 tunell yn yr wythnos. Erbyn 1845 yr oedd yma 18 o ffwrnesau a gynyrchasant y flwyddyn hono 74,880 o dunelli o haiarn, tua'r am cangyfrif o 80 tunell yn yr wythnos. Treulient tua 100 tunell yn y dydd o lo, a'r cyflogau, rhwng swyddwyr a gweithwyr, yn cyrhaedd yn flynyddol tua £250,000. Dywedir fod ei gynyrchion eleni (1863) rhywbeth dros 60,000 o dunelli o haiarn. Ac anfonasant gyda'r gwahanol gledrffyrdd, mewn cyfartaledd, tua 600 tunell y dydd o lo. Adeiladwyd yn y gwaith hwn yn ddiweddar felin gledrau, gyda thraul aruthrol; dywedir mai hon yw y fwyaf yn y byd a adeiladwyd i'r dyben hwn, ond nid ydyw wedi bod eto o haner y dyben ei bwriadwyd. Rhwng llog yr arian a aeth i adeiladu hon a chyflogau rhyw 500 o arolygwyr, a hyny ond ar tua 5,000 o weithwyr, nid ydyw yn rhyfedd fod y si yn daenedig allan nad yw y gwaith hwn yn talu ei ffordd. Ond hyderwn, modd bynag, er mwyn y dyrfa fawr ydynt yn derbyn eu cynaliaeth oddiwrtho, na fydd iddo gyfnewid er gwaeth.

Un o'r swyddogion mwyaf adnabyddus ei gymeriad & fu yn arolygu y gwaith hwn oedd John Evans, yr hwn sydd wedi ymneillduo oddiwrth ei lafur i fywyd anghyoedd yn mhrydnawn ei oes. Daeth Clarke i'w le, yr hwn sydd ddyn tra pharchus a chyfrifol. Dywedir y bydd i Ifor Guest yn fuan gymeryd llywyddiaeth y gwaith yn hollol iddo ei hun. Wel, gwneled felly ynte, a bendithied Ior ei holl amcanion a'i gynlluniau i fod o fawr les iddo ei hun a'r gweithwyr.

GWAITH Y GYFARTHFA TREFNIAD Y BRIF-FFORDD A'R GAMLAS

Tua diwedd y flwyddyn 1762, neu ddechreu 1763, daeth marsiandwr cyfrifol o Lundain i'r ardal hon o'r enw Anthony Bacon, i'r hwn y mae cychwyniad a chynydd y lle hwn, gan mwyaf, yn ddyledus. Pan ddaeth i Ferthyr gyntaf yr oedd yn cael ei dynu mewn cerbyd bychan gan fulod dros heolydd disathr o arddull Rhufeinaidd, y rhai oeddynt debycach i gloddiau, neu ffosydd nag i heolydd. Yr oedd yn achos i'r meddwl difrifol mewn synfyfyrdod i ymholi beth allasai fod yn ei argymhell i gyflawni y fath anturiaeth bwysig ag oedd ganddo mewn golwg. Yr oedd Dowlais y pryd hwn yn ei fabandod, a thrysorau mwnawl y plwyf, gan mwyaf, yn guddiedig gan orchudd o wybodaeth amheus, fel yr oedd agor gweithfa mewn ardal mor fynyddig, yn ngwyneb cynifer o anfanteision, yn ymddangos braidd yn ormod o orchwyl i'w gyflawni. Ymddangosai mor anhawdd ag adeiladu castell ar siglenydd Cors fachno. Ond beth bynag am hyny nid oedd rhwystrau yn ddigonol i atal treiglad olwynion masnachaeth, ac fel y dywed y Sais, "Money makes the mare to go." Ac yn nghanol dystawrwydd man anial a gwledig, yn ymyl ac o gylch pentref bychan tylawd yr olwg arno, oedd yn cael ei wneud i fyny o un eglwys oedd yn gof-golofno dreiglad oesau lawer a aethant heibio, a rhyw nifer o hen fythynod llwydion eu muriau, oeddynt a'u penau yn addurnedig gan wellt y maes, ni a'i cawn yn rhoddi y ffrwyn i benderfyniad ac ymroad, gan anturio prydlesu darn o dir cymaint ag 8 milltir o hyd wrth 4 o led, dros 99 o flynyddoedd, am £200 yn y flwyddyn, yr hyn a gymerodd le yn y flwyddyn 1763, perthynol i'r Arglwyddi Dynevor a Richards oeddynt y tiroedd yma, y rhai a wnaent y rhifedi o 23 o dyddynod.

Nid gwylltedd anniwylliedig llethrau mynyddau ein plwyf oedd wedi denu un o ddisgynyddion Hengist i adael gorwychedd addurnol y brif ddinas i ddyfod yma i breswylio, ond a llygaid eryraidd, yr oedd wedi can fod ysglyfaeth werthfawr a orweddodd yn nghudd ychwaneg na 2,000 o flynyddoedd, o leiaf, oddiwrth sylw ein hen deidau anymchwilgar ni, er fod yma erwau lawer o'r mwnau yn ymddangos agos ar y wyneb; ac ond odid nad oedd llawer un o'n hen dylwyth wedi taro eu traed yn eu herbyn pan wrth y gwaith o fugeilio y praidd oes i oes, ond "pwy mor ddall a'r hwn na fyn weled." Ni chollodd y Sais anturiaethus Anthony Bacon ddim amser cyn iddo godi dwy ffwrnes, tua'r flwyddyn 1780; ac ar ei gais,gadawodd tua 12 o weithwyr celfyddgar dref fechan Caerwrangon, y rhai, trwy eu hanturiaeth a agorasant faesydd cynyrchiol i'w hiliogaeth, y rhai, erbyn heddyw, sydd a'u henwau megys yn freninoedd yr haiarn fasnachaeth dros y byd gwareiddiedig; ac er mwyn cyfiawnder yn gystal a chyflawnder nyni a roddwn restr o honynt fel dynion teilwngo gael eu cofnodi yn mhlith anturiaethwyr cyntaf ein plwyf.

Y tri blaenaf a ddaw dan ein sylw yw Samuel, Jeremiah, a Thomas Humphrey; tad y tri hyn oedd yn feddianol ar forthwylfa yn Stewpony, ger Storebridge, yn y swydd a enwasom; yr hyn oedd wedi rhoddi mantais dda i'w feibion i fod yn gelfyddgar mewn haiarn wneuthuriad. Yn eu plith yr oedd Joseph Hesman a'i ddau fab, John a William, yn nghyd a'i ddwy ferch, Benjamin Brown, gof wrth ei alwedigaeth, Charles a Thomas Turley, purwyr (refiners), James Leeh a'i ddau fab, John a Thomas, yn cyd-deithio a hwy yn yr un llestr, ar ddiwrnod a noswaith hynod arw a pheryglus. Yr oedd Thomas Humphrey, tra yr oedd Samuel a Jeremiah yn cyd-dramwy dros y tiri'w cyfarfod yn llongborth Penarth, ger Caerdydd. Wedi iddynt gyfarfod yn ddyogel yn y lle hwn, teithiasant tua Merthyr Tydfil, ar gefnau ceffylau a mulod; ac nid bychan oedd eu syndod pan y gwelsant mor ddistadl a dinod oeddy lle, gyda'i dai bychain a'u nenau gwelltog, y rhai oeddynt yn ddigon isel i ddyn allu cyrhaedd, gyda llaw ddyrchafedig, nyth y dryw oedd yn eu godreuon. Ond modd bynag, tarawsant ar unwaith yn nghyd a'r gorchwyl o drefnu pethau ar gyfer gweithio morthwylfa, yn ol cais a dymuniad Anthony Bacon, yr hwn a gafodd yn fuan weled ei amcanion a'i gynlluniau wedi dyfod i weithrediad. Y diwrnod y dechreuodd y forthwylfa hon weithio yr oedd gweithwyr Dowlais a'r gymydog aeth yno ar y pryd, ac un Shoni, Cwmglo, yn chwareu ei delyn undant i'r gwyddfodolion, yr hyn a gymerodd le yn y flwyddyn 1782. Bacon, wedi gwreuthur cytundeb a'r tri brawd a enwasom, sef Samuel, Jeremiah, a Thomas Humphrey, fod iddynt gael y forthwylfa at eu gwasanaeth am £200 yn y flwyddyn, ond ei fod ef i'w di diwallu a'r hyn a alwai y gweithwyr Cymreig yn haiarn foch (iron pige) am £4 10's. y dunell, a'r glo i fod at eu gwasanaeth am 4s. y dunell. Gweithiodd y forthwylfa hon yn rhagorol am tua dwy flynedd, pryd y dygwyddodd ychydig o groes ymddyddan rhyngddynt am fod yr haiarn oedd at gario yn mlaen eu gwaith yn prinhau. Samuel, yn ei nwyd, a ddywedodd y mynai ef ddigon, ac aeth yn nghyd a'r gorchwyl o ollwng allan o un o'r ffwrnesau, pryd y cymerodd ysgarmes le rhwng gweithwyr y forthwylfa a gweithwyr y ffwrnesau, yr hyn a derfynodd yn i'r Humphreys rhoddi pob hawl oedd ganddynt yn y gwaith i fyny ar yr un amodau i Mr. Tanner, yr hwn a'i rhoddodd yn fuan i fyny i un Richard Crawshay, Ysw., Cockshut, a Stephens. Un o'r gofaint cyntaf a weithiodd yn y lle hwn oedd William Jones, tad yr hanesydd Phillip Jones, Mynwent y Crynwyr, yr hwn a fu yn gweithio yma ar einion o haiarn bwrw, yr hyn sydd beth anarferol ond o dan amgylchiadau neillduol. Priodol i ni grybwyll, cyn myned yn mhellach, mai gwaith y forthwylfa hon, gan mwyaf, yn ystod y blynyddau dilynol oedd gwneud cyflegrau, yn ol y cytundeb ag oedd Mr. Bacon wedi ei wneud a'r llywodraeth, yn amser rhyfel America, yr hwn a dorodd allan yn haf y flwyddyn 1775, ac a barhaodd mor ddinystriol, ar du Prydain yn enwedig, dros 7 neu 8 o flynyddau. Cludid y rhan fwyaf o'r haiarn o'r lle hwn cyn hyny ar gefnau ceffylau, &c., weithiau i lawr: drwy Gwmnedd i fyned a'u llwythau i Gaerdydd, ac weithiau i lawr drwy Gwm-taf; a phan yn cymeryd y ffordd hon, arferent ddadlwytho ger Pontypridd, mewn lle a elwir Halfway House, lle newidient eu ceffylau, &c. er mwyn cymeryd y llwythi i Gaerdydd. Mr. Bacon, yn y cyfamser yn gweled nad allai ddwyn ei gytundeb a'r llywodraeth i weithrediad a therfyniad anrhydeddus, heb wneuthur gwell heol o Ferthyr-Tydfil i Gaerdydd, rhoddodd wahoddiad i amaethwyr cyfrifol Cwm-taf i ddyfod i giniawa ato ef er mwyn ceisio trefnu cynlluniau i gael prif ffordd dda rhwng y ddau le a nodasom. Ac wedi iddo eu llenwi â danteithion a gwirod, mewn parlwr clyd, yr hyn bethau nad oes gan y cloddiwr a'r ceibiwr daear ddim gwell na dirnad amdanynt i geisio llenwi ei fol a'i feddwl. Llwyddodd i gael gan yr hen fechgyn gwledig, yn eu gwisgoedd llwydion, i'w dda ddilyn yn ngwydd tystion, a chroes-nod ar bapyr gan bob un o honynt, am symiau lled dda i gael y bwriad i derfyniad; o herwydd llygadent ar eu mantais eu hunain o gael heol dda yn gystal a lles yr haiarn farsiandwr. Wedi cael hyn oddiamgylch, dechreuodd y gwaith o drosglwyddo cyflegrau ar olwynion tua Chaerdydd-pob un o honynt yn cael ei dynu gan un ar bumtheg o geffylau; ac yr oedd yr heol yn derbyn y fath niwed oddiwrth y fath bwysau fel y cymerai fis o leiaf i ddyn i'w hadgyweirio cyn gellid gwneud siwrnei arall. Ac mae'r lle yn Nghaerdydd oeddid yn arferol o’u llwytho i'r llongau yn cael ei alw hyd heddyw Cannon Wharf. Tua therfyniad y rhyfel Americanaidd, er mwyn galluogi ei hun, yn unol â chymelliad ei gyfeillion i sefyll ei le yn Aelod Seneddol dros Aylesbury, rhoddodd ei gytundeb a'r llywodraeth i fynu i'r Caron Company, yn yr Alban; yr oedd hefyd wedi gwneud cytundeb a R. Crawshay,Ysw. am yr oll o'i hawl yn y Gyfarthfa cyn y flwyddyn 1805; pryd yr oedd yn y lle hwn chwech o ffwrnesau, a dwy felin-dro (rolling mills). Y gwaith hwn oedd y pryd hwnw y mwya. yn Europ, os nad y mwyaf yn y byd adnabyddus Cynwysai 1,500 o weithwyr yn enill tua'r amcangyfrif o £ 1 108. yn yr wythnos gyda'u gilydd, yr hyn oedd yn gwneud i'r cyflogau chwyddo yn wythnosol i'r swm enfawr o £ 2,250. Gwnaethant yn y flwyddyn oedd yn terfynu yn 1806, tna 9,906 o dunelli o haiarn. Tuag at weithio y gwaith, yr oedd gan y perchenog, R. Crawshay, Ysw., bedair o ager beirianau, un yn 50 gallu ceffyl, a'r llall yn 40 gallu ceffyl, un arall o 12 gallu ceffyl, ac arall o saith gallu ceffyl. Erbyn y flwyddyn 1815, nid oedd yn y lle hwn ond un ffwrnes yn rhagor nag yn 1805; yr hyn oedd yn gwneud eu rhifedi y pryd hwnw yn saith, ac anfonasant gyda'r gamlas y flwyddyn hono 18,200 o dunelli o haiarn, yr hyn oedd rywle tua 50 tunell yn yr wythnos. Erbyn 1845, yr oedd y Gwaith wedi cynyddu i un ar ddeg o ffwrnesi, y rhai a wnaethant yn y flwyddyn hono 45,760 tunell o haiarn, yr hyn oedd tua 80 tunell yn wythnosol. Yn y flwyddyn 1846, agorwyd yma felin gledrau newydd, yr hon a gynwysai beiriant o 280 gallu ceffyl, 20 0 ffwrnesi pudling, a 18 o ffwrnesi bolo (balling furnaces), a'u hanebgorion cysylltiol, yn welleifiau a llifau, &c. Y cynllunydd a'r peirianydd oedd un o'r enw Williams, yr hwn, trwy ei ddyfais a'i gywreinrwydd a enillodd glod iddo ei huna bery pan fydd ei feddwl wedi ehedeg o dwrf yr olwynion i fyd yr ysbrydoedd.

Yn y flwyddyn 1847, gwnawd yn y felin newydd, mewn un wythnos, y swm aruthrol o 1,144 o dunelli o gledrau, yn nghyd ag un trosol haiarn, mwyaf a wnawd erioed, meddai rhai. Mesurai 27 troedfedd o hyd, 6½ modfedd o dryfesur, yn pwyso 2,941 pwys.

Un o'r pethau mwyaf nodedig a chelfyddgar a wnawd mewn cysyllytiad a'rgwaith hwnoedd yrhodfawrawnawd gan Gymro o'r enw Watkin George, yn cael ei gynorthwyo gan William Aubrey, yn y flwyddyn 1800. Tebygol mai yn meddwl y blaenaf ei lluniwyd, ac yna a wnawd o haiarn bwrw, yn mesur 50 troeddfedd o drawsfesur wrth chwech troedfedd o drwch; ac wedi ei dullweddu i'r dwfr fod a thri gallu arni tuag at ei throi, i fyny, yn ei chanol, a'i gwaelod; a'i chrothellau, lle yr ydoedd yn troi, a bwysent gant tunell. Meddai 5 o gallu ceffyl ac yn costio £4,000. Tynwyd hi i lawr er ys tua deugain mlynedd yn ol, a gosodwyd yn ei lle beiriant i weithio wrth ager.

Trwy ei ddiwydrwydd, ei ddyfeisiau, a'i ddefnyddioldeb yn y gwaith, daeth Watkin George i gymaint parch a ffafr gyda'i feistr, fel y dywedai rhai iddo fod yn rhanol yn yr elw oddiwrth y gwaith dros rai blynyddau. Ymneillduodd cyn ei farwolaeth oddiwrth ei lafur i fywyd o dawelwch, i fwynhau ffrwythau ei ddyfeisiau a'i ddiwydrwydd, gyda £30,000 yn ei logell.

Nid oes unrhyw gynydd na dygwyddiad wedi cymeryd lle mewn cysylltiad a'r gwaith gwerth ei gofnodi yn y blynyddau diweddaf, yn rhagor nag adnewyddiad y brydles dros 99 o flynyddau, yr hyn a gymerodd le 1860, yr hyn, er fod y cyflogau yn isel, oedd yn gysur a dyddanwch i tua 3,500 o weithwyr. Priodol yw crybwyll mai Cymro, o'r enw Thomas Llewelyn, a wnaeth y trosol haiarn cyntaf yn y gwaith hwn.

YR HEN DY GER GWAITH Y GYFARTHFA—ELW ETIFEDDION BACON, A CHYNLLUNIAD Y GAMLAS.

Cafodd y Gyfarthfa yr enw oddiwrth hen amaethdy a safai lle mae y gwaith, ger yr hwn le yr adeiladodd Bacon dy iddo ei hun, o ymddangosiad gorwych mewn cydmhariaeth i'r hyn oedd adeiladau yn gyffredin yr amser hwnw, yn enwedig yn nghyffiniau Merthyr Tydfil. Ond er i hwn fod yn drigfan addurnol un amser i Bacon a'i olynwyr, y mae bellach mewn cyflwr gresynus, wedi ei anurddo gan y mwg a'r llwch a godai gyda'r gwynt, a'i rodfeydd fuont unwaith yn heirddwych, ydynt bellach yn ffyrdd i gludo pethau tua'r gwaith ac oddiwrtho. Bu yr adeilad hwn yn drigfan y Crawshays hyd adeiladiad y castell, hanes yr hwn a welir mewn penod arall o'r llyfr.

Pan ymadawodd sylfaenydd cyntaf y gwaith hwn oddiyma, yr oedd ganddo i amodi a Mr. R. Hill, am y tiroedd perthynol i Iarll Plymouth, yn gystal ac ag R. Crawshay, Ysw., am y tiroedd perthynol i'r Gyfarthfa; ac oddiwrth y ddau le hyn y deilliodd y swm o £10,000 yn y flwyddyn dros lawer o flynyddoedd i etifeddion Bacon, yr hyn oedd yn elw oddiwrth ei gytundeb blaenaf a'r tir-feddianwyr. Nid oedd ganddo ef yr un hawl yn Ngwaith Penydaren na Dowlais. Gelwir Gweithiau y diweddar Anthony Hill, Ysw., yn Weithiau Plymouth, oddiwrth deitl perchenog y tiroedd lle y safant. Ac os ydym o dan rwymau i gydnabod Mr. Bacon fel cychwynydd ac achosydd y gweithfeydd mawrion hyn, a'r dref frys-gynyddol hon sydd wedi ei thaflu i fyny megys gan ddamwain, i Iarll Plymouth, yn nghyd a Mr. Tait, Lewis, a Mr. Guest, o Ddowlais, Richard Crawshay, Ysw., Cyfarthfa, ac Humphreys, Penydaren, yr ydym yn ddyledus am gynllunio y gamlas sydd yn awr o Waith y Gyfarthfa i Gaerdydd. Dywedir mai yn meddwl un o'r Humphreys y cafodd hwn ei gynlluniad ar y dechreu; ond beth bynag am eirwiredd y gosodiad, rhoddodd Iarll Plymouth ei enw yn flaenaf, yn cael ei ddilyn gan y boneddigion a enwasom, yn nghyd ag ereill o berchenogion tiroedd yn y plwyf, wrth ddeiseb i fyned i'r Senedd er ymgeisio at gael y cynllun i weithrediad, yr hyn a gymerodd le y 4ydd dydd o Chwefror, 1790; a llwyddasant yn eu hamcan y tro cyntaf, y 19eg o fis Ebrill dilynol. Yr ail waith, y 23ain o'r un mis, a'r waith olaf, Mai y 6fed, yn yr un flwyddyn, a dechreuwyd tua di wedd Mehefin canlynol. Gan fod llawer, os nad y rhan fwyaf o'r arian wedi eu tanysgrifio yn barod gan yr arglwyddi a'r haiarn farsiandwyr, nid oedd un anhawsder ar y ffordd, yn lluddias ei orpheniad buan, fel y daeth i derfyniad yn y flwyddyn 1798; croesir ef gan tua 40 o bontydd, ac y mae ynddo tua'r un nifer o locks, y rhai a wnant ei ddyrchafiad yn Merthyr i fod yn 568 o droedfeddi, a phum modfedd uwchlaw ei gychwyniad yn Nghaerdydd. Wrth Bont-y-rhun y mae peiriant a wnawd ar y cyntaf gan un James Watt, at godi dwfr o'r afon Taf i ddiwallu y camlas. Yr oedd gallu yr hen beiriant i godi deg tunell y fynyd, tra y mae gallu yr un peesenol i godi cymaint arall yn yr un amser. Mae yn beirianwaith yn gystal ag adeiladaeth ragorol, ac yn weddnodiad cywrain o allu meddyliol ac arianol. Wele ddesgrifiad y bardd, Ifor Cwmgwys, mewn englynion a fuont yn fuddugol mewn eisteddfod yn Troedyrhiw:—

"Mae agerdd beiriant, myghardd, bery—' n glod
I feib glew y Cymry
Wrth Bont'rhun, trwy nerth ban, try
Hen Daf fwyn red i fyny.

Ager, gan gynddeiriogi—a red
Am le rhydd trwy'r gwythi,
A'r aer ddyfr roer i'w ddofi,
Gauer o'i mewn-mae grym hi.

Unwaith egyr ei thagell—o'r llyn dw’r,
Ei llond dyn i'w phibell;
Symud bob mynud mae'n mhell
O gant hon ugain tunell.

I mewn tyn gymaint a all—o'r tew
Ddwfr Taf yn ddiball;
Yf un llif, denfyn y llall
I'w boeri'r wyneb arall.

Sugno a gwthio'n gyweithas—o'r Taf
Mae ddwfr tew ac atgas,
Yn donau brwnt, duon, a bras,
A'u hymlid tua'r camlas.

Enw ei lluniwr, er ein lloniant—welir
Ar gymalau'r peiriant,
Mae'n bur yn mesur o'i mant,
I ni gân ei ogoniant."


Costiodd y gamlas £103,600.

GWAITH PENYDAREN

A gafodd yr enw oddiwrth dyddyn Penydaren, lle saif y gwaith a gychwynwyd gan yr Humphreys, ar ôl yr ymrafael digwyddiadol fu rhyngddynt hwy a'r gweithwyr, a Bacon, yn Ngwaith y Gyfarthfa. Yr oedd gan y teulu oedd yn byw ar y tyddyn hwn brydles ar arwyneb amrai o'r tiroedd cylchynol. Ac yr oedd gan Gwmni Dowlais brydles ar y glo dan rai o'r tiroedd hyny; felly, yr oedd gan yr Humphreys i amodi â'r ddwy ochr. Ac yr oedd pedair punt yn y flwyddyn, yn ol ewyllys John Williams, i'w talu oddiar un o'r tiroedd hyn, o'r enw Tonyffald, at roddi addysg i blant aelodau gweiniaid yr Ynysgau, oedd un ran, a'r rhan arall tuag at eu dilladu. Cymerodd yr ewyllys hon le tua'r flwyddyn 1735.

Wedii'r Humphreys ddwyn y pethau hyn oddiamgylch, adeiladasant ffwrnes yn y flwyddyn 1782, un arall yn y flwyddyn 1796, ac yn nesaf, yn y flwyddyn 1811, adeiladasant yma y drydedd ffwrnes, yn nghyd a dwy felin-dro (rolling mills). Yn y flwyddyn 1806, llwyddasant i anfon ymaith 6,963 o dunelli o haiarn. Erbyn y flwyddyn 1815, yr oedd ganddynt bump o ffwrnesau, a llwyddasant i anfon 7,800 o dunelli o haiarn, yr hyn oedd tua 80 tunell yr wythnos. Erbyn 1845, yr oedd ganddynt saith o ffwrnesau, ac anfonasant yn y flwyddyn hono 15,000 o dunelli. Yr oedd y gwaith hwn y pryd hwnw yn agos yn ei ogoniant, a'i radd uwchaf o rwysg, yn cadw rhwng tair a phedair mil yn gyson o weithwyr, a'u cyflogau yn cyrhaedd tua'r amcangyfrif misol o £12,000 i £16,000.

Tua'r flwyddyn 1830, daeth yn hollol i berchenog aeth Mri. Thompson a Forman. A thua'r flwyddyn 1854, a 1855, agorasant lo-byllau Cwmbargoed, i'r dyben o gael glo at eu gwasanaeth; o herwydd cyn hyny, yr oeddynt yn arferol o'i gael oddiwrth Gwmpeini Dowlais, a'r olaf yn gorfod cael rhan o'u mwn oddiwrth Gwmpeini Penydaren. Tua phum mlynedd yn ol daethant i ryw anghydwelediad a Chwmpeini Dowlais, mewn perthynas i'w hiawnderau a'u terfynau i weithio eu glo; ac wedi manwl ymchwilio ar y ddau du, cafwyd fod Cwmpeini Penydaren mewn dyled enfawr i Gwmpeini Dowlais, fel y penderfynodd y blaenaf adael i'w Gwaith sefyll, yr hyn oedd yn ergyd dwys a chwithig i weithwyr a masnachwyr Penydaren a Merthyr yn gyffredinol; ac aeth y wasg Seisneg mor hyf a'i alw The fall of Merthyr. Hawdd y gall pob ystyriol ddirnad ar unwaith fod yn agos i bedair mil o ddynion gael eu hamddifadu o'u cynhaliaeth, braidd yn ddirybudd, yn ergyd anadferadwy braidd i fasnach y lle.

Ond bellach mae genym yr hyfrydwch o draethu fod y cwmwl du fu yn 'ongian uwchben y lle hwn bellach wedi ei wasgar gan awelon masnach a thrafnidaeth, yn cael ei ysgwyd gan y boneddigion Mri. Davies, Victoria-street, Merthyr, T. Williams, Trecynon, Aberdar, yn nghyd a boneddigion ereill. Ac mae yr olwynion trymfawr oeddynt dan gramen o rwd yn awr yn dechreu troelli, a'r mwg a'r fflamiau yn esgyn o eneuau y gwahanol ffwrnesau tua'r entrych, gan ddwyn gwawr adnewyddol a gobeithiol ar y lle.

ADEILAD Y PENYDAREN MANSION HOUSE, A GWNEUTHURIAD Y FFORDD HAIARN I'R BASIN.

Yn amser cychwyniad Gwaith Penydaren, yr oedd Samuel Humphreys yn byw yn Merthyr, yn y ty y trigianodd Mr. Dyke y meddyg wedi hyny. Tua'r blynyddoedd 1785-88, neu 1790, adeiladasant y Mansion House, ar gae Tydfil. Hwn oedd y ty mwyaf ardderchog yn y plwyf yn ei amser cyntaf; ac yma y canfyddai y teithiwr a'r negeseuwr foneddigion a boneddigesau ar foreuau a phrydnawnau teg ac hafaidd, yn ymbleseru ar hyd y rhodfeydd gwyrddlas o flaen ac o amgylch yr adeilad gorwych hwn. Yn agos ar eu cyfer, neu ychydig yn uwch i fyny, yr oedd eu Gweithfa yn ganfyddadwy; o'r hwn le yr ymddyrchafai y fflamiau tuag i fyny gyda thwrf, gan fflachio eu goleuni ar y ty drwy gydol yr hirnos; ac yn y dydd gwelid y mwg yn taro allan o eneuau y ffwrnesau, yn gymysg a'r fflamau rhuddgochion, gan ddiog esgyn tuag i fyny uwch moelydd a chymylau. Fel yr oedd Gweithiau Dowlais, Penydaren, a Phentrebach yn cynyddu ac eangu yn y blynyddoedd 1800—1—2—3, yr oedd yr anghyfleusderau a'r anfanteision i'w gweithio yn llwyddianus yn cydgynyddu a hwy. Yr oedd Gwaith y Pentrebach yn sefyll tu arall i'r afon, tua haner milltir oddiwrth y gamlas. Penydaren yn agos i filltir, a Dowlais yn agos i ddwy filltir a haner; felly, nid oedd gan y naill na'r llall dramwyfa rwydd ac uniongyrchol a'r gamlas. Felly, penderfynodd gwahanol gwmpeini y tri Gwaith a enwasom anfon deiseb i'r Senedd am gael ffyrdd haiarn (tram roads) at eu cyfleusdra. Yn hyn buont yn llwyddianus; a dywedir mai hon oedd y ddeiseb gyntaf a basiwyd i'r cyfryw ddyben yn Senedd-dy Prydain Fawr. Wedi cael hyn oddiamgylch, dechreuasant ffurfio cymundeb rhyngddynt a'r gamlas yn Pont-y-store-house, yn nghyd a gwneuthur ffordd haiarn dramwyol i beirianau, yn gystal a cheffylau, rhwng Dowlais a'r Basin, pellder tua deng milltir; a daeth y ffordd hon yn barod yn y flwyddyn 1804, pryd y gosodwyd peiriant i dramwy arni, o wneuthuriad Mri. Vivian, &c., ac i dynu deg tunell ar ei hol, yn ol pum milltir yn yr awr. Ond ni fuwyd yn ffodus i gael gan y ddyfais newydd hon ateb nemawr ddyben yn y deng mlynedd dilynol. Ac er mor gywrain yr ymddangosai y ddyfais, ac er yr edrychid arni y pryd hwnw braidd yn gampwaith yr oes, nid ydoedd heb le i wneuthur llawer o welliantau arni. Ac yn ol diwygio llawer o radd i radd o'r dull oedd ar y dechreu, parhaodd i dramwy rhwng y lleoedd a enwasom hyd nes i'w rhagorach ddyfod yn agoriad cledr ffordd Dyffryn Taf, yn y flwyddyn 1841. Pe buasai cadw rhyw echrys dwrf yn rhyw fantais, buasai yr hen beirianau yn llwyddianus i ateb y dyben i'r dim, oblegyd gallesid meddwl fod un o fynyddau yr hen wlad yn nghyswllt wrth gynffon pob un o honynt!

"Gwylltent frain gelltydd y fro."

Nid oes un o'r hen arddull i'w gweled yn bresenol yn y plwyf, er fod mwy o ddefnyddio peirianau gan Gwmpeini Dowlais ar hyd fynydd Twyn-y-waun, &c., i gludo at ac oddiwrth eu Gweithiau nag a fu erioed; a'r un modd y Pentrebach, yr hwn a gaiff ein sylw nesaf.

GWAITH PLYMOUTH

Bacon oedd y gwr a wnaeth yr amod gyntaf a'r tir feddianwr, Iarll Plymouth, i'r dyben o sefydlu Gweithiau yma; ac o hono ef yr oedd Mr. Richard Hill, tad y diweddar Anthony Hill, yn gwneud ei gytundeb cyntaf, cyn dechreu ar y gwaith o adeiladu. Ac wedi iddo orphen ei amod, cychwynodd ei waith o adeilada un ffwrnes, yr hon oedd yn myned dan yr enw ffwrnes-isaf; cymerodd hyn le tua'r flwyddyn 1783. Adeiladodd un drachefn, yn dra buan, cyffredin mewn maintioli, fel yr un flaenorol. Yn y cyfamser, adeiladodd yma dy iddo ei hun i gyfaneddu ynddo, yr hwn sydd ger y gwaith, lle y bu yn byw hyd ei farwolaeth, a'i fab, Anthony Hill, hyd ei flynyddoedd diweddaf. Gorphenodd ef ei yrfa yn y ty gorwych a adeiladodd rhwng y Pen trebach a'r hen dy ger y gwaith. Yn y flwyddyn 1796, llwyddodd i gael gan y gwaith hwn wneud 2,200 o dunelli o haiarn. O'r flwyddyn 1800 i'r flwyddyn 1804, adeiladodd forthwylfa yn Pentrebach a ffwrnesau y Dyffryn. Trwy offerynolaeth dwfr y gweithid y naill fel y llall; a cheid y mwn a'r glo ar y cyntaf at y ffwrnes gyntaf trwy geueddau bychain oeddynt a'u geneuau yn ochr y brif-ffordd, rhwng ty Mr. Hill a'r Gwaith. Dealler mai dyma fel oedd yr heol a arwein iai o Ferthyr i Gaerdydd yn myned yn yr hen amser. Peirianydd y forthfwylfa hon oedd Mr.Thomas Aubrey, brawd i Mr. William Aubrey, cynorthwydd Mr. Watkin George yn Ngwaith y Gyfarthfa, y rhai oeddynt yn Gymry ac yn frodorion o gymydogaeth Pontypool. Bu un olwyn mewn defnyddioldeb yn yGwaith hwn yn cael ei throi gan ddwfr dros ddeugain mlynedd, hyd nes gosod peiriant agerawl yn ei lle.

Un o'r tri glowyr a weithiodd gyntaf yma i Mr. Hill oedd Mr. Edmund Harmond, cymeriad adnabyddus yn Merthyr fel dyn a dreuliodd foreu yn gystal a phryd nawn ei oes yn gariadus, heddychol, digrif, a diniwed. Dywedir iddo gario echel yr olwyn fu yn gweithio y Gwaith dros ddau cant o latheni, er ei bod dros chwech cant pwys. Lled lew, onide ?

Yr oedd Gwaith Mr. Hill wedi dyfod i gywair erbyn y flwyddyn 1796, fel y llwyddasant i anfon yn y flwyddyn hono 2,200 o dunelli o haiarn. Erbyn y flwyddyn 1806, anfonasant 3,952 o dunelli o haiarn. Yr oedd tua 500 o weithwyr yn gweithio yma y pryd hwnw, a'r treuliau tuag at ei gario yn mlaen yn £4,000 yn fisol. Yn y flwyddyn 1815 yroedd yma dair ffwrnes, a gwnaethant 7,800 o dunelli o haiarn. Yn y flwyddyn 1845, yr oedd cynydd dirfawr wedi cymeryd lle yn y Gwaith, fel yr oedd yma saith o ffwrnesau erbyn hyny, a gwnaethant yn y flwyddyn hono 29,120 o dunelli o haiarn. Mae wedi cynyddu eilwaith i wyth o ffwrnesau, ac wedi anfon yn y flwyddyn ddiweddaf tua 30,000 0 dunelli. Adeiladwyd un o'r ffwrnesau hyn tua dechreu y ganrif bresenol, a pharhaodd mewn gwaith dros 45 o flynyddoedd, pryd y daeth angen ei adgyweirio erbyn hyny, o herwydd meithder yr amser yr oedd wedi bod yn gweithio. Yr oedd darn o haiarn ar ei gwaelod yn pwyso tua 100 tunell. Bu ffwrnes arall yn Ngwaith Ynysfach 30 mlynedd yn llosgi yn barhaus; a dywedir fod pob un o'r ffwrnesau tawdd yn costio £6,500 yr un, a chyfrif treuliau adeiladu, yn nghyd a gosod peirianau, morthwylfa, ffwrnesau puddling a balling, &c., cysylltiedig a hi,a phob peth angenrheidiol tuag at iddi weithio yn llwyddianus, yr hyn a gyfrifir pan y byddo yn gwneud o 80 i 120 o dunelli o haiarn yn yr wythnos. Ond y mae cyfnewidiad y tywydd, symudiad y gwynt, a newidiad yn nhymer yr awyrgylch, yn nghyd a gradd fechan o leithder yn y blast yn gwneud eithriadau i achosi ei llwyddiant a'i haflwyddiant. Golygir fod 303 o bersonau yn ofynol ar gyfer pob un o'r tawdd ffwrnesau, (sef ballers, forgemen, refiners, &c.) Mae glo Merthyr wedi ei brofi yn mhlith y goreuon tuag at doddi haiarn; gofynol i'w gael mor bur ag sydd ddichonadwy oddiwrth bob sothach diwerth cyn y gall gynyrchu haiarn da, hyd yn nod o'r gareg fwn oreu. Defnyddir 6 tunell o'r glo hwn i doddi pob tunell o haiarn; a gwneir tua 70 y cant oddiwrth bob cant pwys o lo. Ond nis gwneir o'r un faint o olosg, yn yr awyr agored ag a wneir mewn ffwrnesau, o herwydd fod gan y tywydd, y gwlaw a'r gwynt, &c, eu gwahanol effeithiau ar y llosgiad a'i gynyrch.

Cyn y rhoddwn y penawd hwn heibio, yr ydym am goff hau rhai o rinweddau y diweddar A. Hill, Ysw.; yn eu plith cofnodwn, i ddechreu, y gymwynas haelionus a charedigol o werthu calch yn Pentrebach, am bris rhad a gwir resymol; yr hyn oedd mor fanteisiol i am aethwyr ac adeiladwyr, mewn gwlad a thref mor gynyddol a Merthyr. Nid oedd arno yr un rhwymau i wneud hyn, ac nid oedd yr elw a allasai ddeillio iddo oddiwrth y fath beth, a chymeryd dan ystyriaeth y draul o godi y ceryg calch a'u cludo oddiwrth Gastell Morlais i'r Pentrebach, yn ei argymhell i wneud hyny gymwynas, nac unrhyw beth arall, feddyliwn, ond egwyddor wirfoddol dros lesoli ei gydgreaduriaid yn unig. Yr oedd A. Hill, Ysw. yn meddu ar lygạid craffus a threiddlym meddwl ystyrbwyll, gwybodaeth eang, a chalon lawn o gydymdeimlad. Dichon nad oes neb o'r haiarn feistri yn deilwng o gael eu rhesu yn ogyfuwch ag ef yn y pethau hyn. Pan y byddai gweithiwr methiantus yn ei waith, yn analluog i enill ei gynaliaeth, ni wnai ef efelychu arferion rhai o'i gyd-feistriaid tuag ato trwy ei adael o'r neilldu i drugaredd y byd a'i helbulon ar ol iddo dreulio boreu ei oes yn ei wasanaeth, ond ymddygai tuag ato fel tad neu frawd, a mwy tirionawl, feallai, nag yr ymddygasai unrhyw berthynas. Rhoddai iddo waith a allasai yn rhwydd ei gyflawni, a modd i'w gynal am ei wneuthur. Colled anadferadwy oedd colli gwr o nodweddion Mr. Hill, oblegyd tra thebygol yw na welir ei fath yn fuan ar ei ol, os byth. Pan y cwympodd y gwr mawr hwn, teimlodd holl breswylwyr yr ardaloedd, ac yn wir nid heb achos, os bu achos teilwng i drigolion Merthyr a'r cyffiniau, yn fasnachwyr a gweithwyr, i wisgo eu galar wisgoedd rywbryd, yr ydym yn sicr mai ar y dydd yr hebryngwyd ef i'w hir artref—y gwr fu yn offerynol i ddyrchafu Merthyr a Throedyrhiw, oedd yr adeg addasaf erioed yma i arddangos y fath brudd-deb, yr hyn a wnawd gan dorf alarus, na welir ond yn anaml ei chyffelyb, ar y 9fed o Awst, 1862, pan oedd yn ei 77 mlwydd oed. Heddwch i'w lwch.

Daeth ei holl eiddo yn feddiant i Mr. Fothergill Hankey, Bateman, &c, trwy bryniad oddiwrth ei etifeddion, am £250,000, yn niwedd yr haf diweddaf, 1863.

CYFOETH MWNAWL Y PLWYF

Anturiwn ddyweyd nad oes nemawr o blwyfau yn Mhrydain Fawr, os oes yn y byd, le o'i faintioli mor gyfoethog a phlwyf Merthyr Tydfil. Ymffrostia rhai yn nghyfoeth yr еuraidd wledydd pellenig megys Nova Scotia, Columbia Brydeinig, California, ac Australia. Ond anturiwn yn hyf ddyweyd na fedda y naill na'r llall o'r lleoedd a nodasom fwy o gyfoeth na phlwyf Merthyr Tydfil. Ac er cymaint y gweithio sydd wedi bod ar y mwnau hyn yn y can mlynedd diweddaf, nid ydys eto ond megys dechreu agor y cilddorau iddynt, fel y gellir dywedyd yn hyf nad oes ond prin un ran o bump eto wedi ei gweithio yn y plwyf. Ac i'r dyben i'r darllenydd gael mantais deg i ffurfio barn am fawredd y cyfoeth sydd yn guddiedig yn nghronbilau ei greigiau, ni aroddwn fraslun o honynt yn iaith yr estroniaid sydd tu draw i Glawdd Offa.

Felly, gwelwn y bydd llawer o genhedlaethau wedi cicio sodlau eu gilydd dros ddibyn amser cyn y bydd i'r darn olaf o'r gwythienau a enwasom gael ei godi i oleuni haul. Er i un hen wreigen oedd yn byw rhywle tua Phant-y-waun ryw ganrif a haner yn ol, fawr achwyn ar y drafferth oedd arni hi ac ereill y pryd hwnw i gyrchu glo o Daren-Penallta, ger Ystrad Maenarch,i Bant-y-waun, a manau ereill yn y plwyf. Ond yn mhen rhyw dymor o amser bu rhaid tynu ei hen fwthyn i lawr i'r dyben o gael gweithio glo odditano, oblegyd yr oedd o fewn chwech troedfedd i gareg ei haelwyd! Yr oedd hyn yn ffaith na fuasai yr hen ddynes yn debygol o'i chredu pe buasai rhywun yn ei hysbysu iddi.

Eto, rhoddwn enwau rhai o'r Gweithiau glo drwy'r plwyf, yn nghyd a'u perchenogion.

Enwau y Gweithiau. Perchenogion.
Cwmbargoed Cwmpeini Dowlais,
Rhôs Las Cwmpeini Dowlais
Penydaren Cwmpeini Penydaren
Lefel Meredydd William Meredydd
Gethin Crawshay, Ysw.
Graig William Rees
Castell y Wiwer Crawshay, Ysw.
Troedyrhiw Mr. Thomas
Troedyrhiw Lefel E. Brown
Danyderi Samuel Thomas.
Hafod Tanglws[2] Crawshay, Ysw
Perthigleision Benjamin Davies.

Hefyd, mae yn Nhroedyrhiw gwarelau meini o'r fath oreu. Cafwyd llawer o geryg o'r lle hwn tuag at adeiladu yn Merthyryn yr ugain mlynedd diweddaf. Perthynai cwarel Tyntal-dwm, pan oedd gweithio ynddo bumtheg mlynedd yn ol, i Llewellyn's y Begwns. A'r rhai Castell-v-wiwer, i'r ddau Gymro adnabyddus, W. Davies a John Llywellyn. Bernir fod gweithio glo i wneuthur tanwydd mewn ymarferiad yn y plwyf hwn tua'r ddegfed neu'r unfed ganrif ar ddeg. Darganfyddodd Clarke, wrth wneud ei ymchwiliadau yn ddiweddar, olosg glo mewn ryw ran o adfeilion Castell Morlais; ond nid oes unrhyw sicrwydd o ba le y cludwyd ef yno. Barnai rhai ei fod yn cael ei weithio yn Cwmyglo mor foreu ag unrhyw fan yn y plwyf. Ond nid ydyw hyny yn amgen na thraddodiad na ellir yn hawdd ymddibynu arno mai hwn oedd y lle cyntaf ei gweithiwyd yn y plwyf. Ond i'r dyben o roddi hysbys rwydd i'r oesau a ddel, ni a gofnodwn rai o'r lleoedd cyntaf y gweithiwyd glo at wasanaeth y wlad yn gyff redinol.

Cwmyglo, Cwmdu, ger Troedyrhiw, lle bu yr hen lysieu-feddyg enwog, adnabyddus wrth yr enw Abram y Doctor yn byw.

Coedcae, Tyntal-dwm, Craig-tir-y-Cook, a gwythien Shan-Wil-bach, yr hon ydyw yr isaf yn y plwyf ag y bu gweithio arni. Ysgubwyd olion y gwaith bychan hwn oedd ar gyfer godreu Ynys-pont-y-gwaith pan y gwnawd cledrffordd Dyffryn-Taf, tua'r flwyddyn 1841. Cafodd yr enw oddiwrth hen wreigen a fu yn byw, ac yn gwerthu glo o'r lle hwn, tua phedwar ugain mlynedd yn ol. Bu merch iddi o'r enw Ann yn briod a dyn o'r enw Thomas Owen, yr hwn oedd yn bysgotwr enwog, ac yn cadw tafarn yn mhentref y Nantddu, yn ngodreu y plwyf hwn, oddeutu haner can mlynedd yn ol, pan nad oedd ond un ffordd dramwyol i deithwyr rhwng Merthyr a Chaerdydd; a'r ffordd hon, yr amser hwnw, yn arwain heibio drws eu ty, fel yr oeddid yn arfer sefyll yma i gymeryd ymborth ac ychydig seibiant.

Y fath yw cynydd a mawredd masnach yn y plwyf hwn, a hyny ar gyfrif ei gyfoeth mwnawl, fel mae y tyddynod oeddynt yn cael eu rhentu am ddeg neu ddeuddeg o bunoedd er ys canrif yn ol, yn cael eu rhentu yn awr, gyda yr un rwyddineb, am £50, neu £60 yn y flwyddyn. Cafodd hen daid i'r awdwr gynyg ar dyddyn Ynys Owen am £13 yn y flwyddyn, cyhyd ag y buasai careg yn afon Taf! Ond yr oedd mor ddall a methu gweled nad oedd hyny yn llawer na allasai wneud o hono. Tir Pencraig-daf a brydleswyd tua'r amser hwnw am £29 yn y flwyddyn, a phan aeth yr amod weithred hono allan, er ys ychydig mwy amser yn ol, codwyd ei rhent flynyddol i £104. A diau fod llawer o'r cyffelyb ar hyd a lled y plwyf a allem gofnodi, ond caiff y rhai yna wasanaethu yn enghreifftiau o rai ereill ag y mae y mwnau wedi bod yn achosion i beri y cyfnewidiad hwn.

Mae mawr a rhyfedd ddoethineb, yn gystal ac holl wybodaeth ac hollalluawgrwydd yn cael ei amlygu yn yr adnoddau gwerthfawr hyn gymaint ag un peth is haul! Pan oedd y boblogaeth yn anaml, nid oedd yr angen gymaint, ac nid oedd wedi taraw i feddwl neb am y trysorau mawrion oedd Saerniwr mawr y greadigaeth wedi ei osod o fewn hyd cyrhaedd dyfais a gallu bod rhesymol! Ac wedi gosod yr arwres anian i daenu ei chwrlid gwyrddlas drostynt i'w haddurno! Pwy mor ffol a'r anffyddiwr?

Yn awr brysiwn yn mlaen i draethu ar y pethau canlynol.

GOLYGFA DDYCHYMYGOL AR Y LLE BEDAIR CANRIF YN OL—HANESIAETH HENAFOL, DARGANFYDDIADAU—DECHREUAD A CHYNYDD DOWLAIS—ADDYSG—BEIRDD A LLENORION, &c.

Pan y mae y meddwl yn ehedeg yn ol ar adenydd dychymyg dros bump neu chwech o oesau, disgynai ar unwaith mewn rhyw fan cyfleu's ar un o'r creigiau anhygyrch a disathr a lechweddant tua'r Afon Taf, yr hon yn araf a wel yn ymddolenu rhwng ei cheulanau tua'r gwaelodion, a'i dyfroedd grisialaidd fel yn sibrwd yn awel dyner y dydd wrth daro yn erbyn traed y bryniau a estynent eu penau'n lled-syth tua bro asur; ar y cwr gorllewinol iddo gwelir y gornant fechan Morlais, fel yn neidio i fodiant o grombil y mynydd, gan gymeryd ei chyfeiriad yn ffrothwyllt tuag i lawr o foel ac anial fynydd Dowlais, ac un arall draw ac yma yn ymlwybro yn yr un ddullwedd tua'r gwaelodion dros anialdir anniwylliedig weithiau, a phryd arall rhwng tiroedd yn dynodi diwylliaeth a diwydrwydd dwylaw dynion, y rhai oeddynt wedi ffurfio eu cartrefleoedd un yma a'r llall draw, o'r braidd yn nghlyw uchelwaedd a ddygwydd ai yn achlysurol gan y naill neu llall. Ac yn y nos. nid oedd dim i'w weled ond ambell gipdrem yma a thraw, ar oleuni llwydwanaidd gan yr amaethwr neu rai o'i deulu wrth edrych yr anifeiliaid; ac arall a " llusern yn ei law yn brasgamu yn groesi'r caeau, gan gyfeiriro ei gamrau tua thy cymydog, i adrodd rhyw helynt neu geisio rhyw neges gan rai o'i gydnabod. Yn araf deithio dros droellau yr hen brif ffordd gyda glan yr afon oddi wrth Troedyrhiw, dacw angladd rhywun o'r plwyfolion, pob un o'r olaf gymwynaswyr oeddent naili ai yn cerdded neu yn marchogaeth, am nad oedd dim cyffelyb i gerbyd mewn ymarferiad yma y cyfnod hwnw; a phell oedd yr heol o fod yn addas i'r cyfryw beth. I Bacon yr ydym yn ddyledus mewn rhan amdani yn y dullwedd presenol. Yr oedd mor igam ogam gyda'r fath oriwaered weithiau a'r fath dylau bryd arall, fel yr oedd braidd yn beryglus i'r teithiwr ei thramwy mewn unrhyw ddull. Pan yn edrych i fyny neu i waered i'r cwm, canfyddwn yn awr ac eilwaith ddeg ar ugain neu ddeugain o gyplau o ddynion ieuanc, weithiau ar draed ac weithiau ar geffylau, yn ol eu sefyllfa a'u dylanwad yn y gymydogaeth, yn cyniwair tua'r hen Eglwys, yn ddigon hapus a llawen, i'r dyben o rwymo rhyw ddau yn nghyd yn ol yr hon ddefod sydd wedi dwyn gymaint o gysur ac anghysur i dorf afrifed o deulu Adda. Arferid yma yn yr oesodd gynt gynal rhyw wledd o ddifyrwch er nwyflonianti'r pâr ieuanc ddydd eu priodas; ac yn y nos cyfarfyddai yr oll o'u cyfeillion yn y ty oeddynt wedi ei ddodrefnu i ddechreu eu gyrfa briodasol, ac yno adroddent lawer o hen helyntion a chwedleuon o bod math, er mwyn cynal eu nos yn llawen, ac yn y diwedd cyn ymadael, yr oedd pob un yn estyn ei rodd, bid fechan neu fawr, fel y derbyniai y ddau a unwyd, fe allai 40 neu 50 o bunoedd, mwy neu lai, yn ol sefyllfa y cwmpeini. Yr oedd hen ddyn yn byw ar Dwynyrodyn, yn dweyd iddo gyd gerdded unwaith gydag 50 o gyplau tua hen Eglwys Merthyr, a thra yr oedd y seremoni yn cael ei chyflawni, troai rhai eu ceffylau i'r fonwent, ac eraill i ystablau y Star, yr hwn oedd y ty bob amser ar у fath amgylchiad, a roddai fantais deg i ddyn i ffurfio barn am у ddefod hon yn yr hen oesoedd. Ac ar ol myned allan oddiyno meddai un awdwr, ymffurfiant yn gyplau a dechreuent a'r eu rhedegfeydd, a'r naill ar draws y llall, ond fynychaf y merched fyddai yn enill y gamp. Hen arferiad gan y menywod ydyw hyn. Mae yr arferiad o gynal neithiorau eto mewn rhai parthau o Gymru, ac y mae yn mysg yr Iuddewon er ys rhagor na 2,000 o flynyddau.

Anfonwyd o Jerusalem yn ddiweddar i Ferthyr, wahoddiad i Iuddewon y lle hwn fyned drosodd i ryw briodas urddasol oedd i gymeryd lle yno; ond tebygol mai nid gyda y bwriad y buasent yn myned, ond o ran ffurf o gyfarchiad yn ôl yr hen ddefod 'hon. Dywedir nad oedd un dydd yn Merthyr i'w gyffelybu i ddydd priodas, ond dydd neu ddyddiau ffair y Waun, yr hon a gynelir ar dwyn, ddwy filltir i'r gogledd-ddwyrain o'r lle hwn, man ag y mae ffeiriau yn cael eu cynal er ys rhagor nag 800 o flynyddau, ar y dyddiau canlynol o'r flwyddyn, Mawrth y 18fed, Mai y 13eg, Llun у Drindod, (a chynhelid marchnadoedd hefyd yn y lle yn yr hen amser o'r 14eg o Fai, hyd y 14eg o Hydref,) yr ail Llun yn Gorphenaf; Llun cyntaf yn Awst, Medi yr 2ail, a'r 24ain, dydd Llun ar ol Hydref y 1af, a Tach. yr 20fed. Y ffeiriau mwyaf nodedig yn y lle hwn ydynt Mai y 13eg, yr hon a elwir yn gyffredin ffair Calanmai; a'r 24ain o Fedi, yr hon a elwir yn ffair у pêr a'r afalau. Gwnawd cân i ffair y. Waun, gan Fardd difyr y Grawerth; y penill cyntaf o honi sydd rywbeth yn debyg i hyn:—

"Ar ryw brydnawn, hyfryd iawn, ymaith awn tua thref,
I'r Waun i edrych welswn neu glywswn dan y nef
Y farchnad oedd megis bloedd oll ar g'oedd yno gyd,

Mi glywn i Shon y Ffarmwr yn codi ddwndwr cuwch,
Yn mofyn saith a chweugain o fargen ar y fuwch,
A Jack o'r wlad yn cadw'i nad gwaith colli gwa'd ei gariad Gwen,
Ac arall draw'n ceg-ledu gan waeddi Rock Again.


Yn y flwyddyn 1847, cyfarfyddodd H. P. Powell, oʻr Gwernllwyn Cottage, a chwech cheiniog yn y lle hwn, o ddyddiad y Frenines Elizabeth; mae y darn hwn i'w weled yn awr yn amgueddfa Castell Nedd. Dygwyddodd i Mr. Jonathan Reynolds, (Nathan Dyfed,) gael swllt o'r un dyddiad yn agos i'r un lle. Hefyd cafodd yn y tir ddarn wyth onglog o dderw wedi ei ysgythru a'i drin, yr hwn sydd i'w weled ond galw yn nhy y darganfyddwr yn heol y Felin, Merthyr. Deuwyd o hyd hefyd i lawer o bethau yn ddiweddar o nodwedd henafol yn Nghastell Morlais, megis geingion y cerfwyr, morthwylion, hoelion, plwm, &c. Tebygol, yn ol yr arwyddion, mai ei losgi a gafodd y lle hwn idd ei ddinystrio. Gwiail oeddynt yn gwneud i fyny y tai cyntaf yn Dowlais, y rhai allwn feddwl oeddynt yn oer ac anghysurus iawn o herwydd uchder, a noethlymder y lle; ond nid hir y buwyd wedi dechreu y gwaith cyn adeiladu yma dai ceryg, y rhai a gaed o'r Twynau gwynion, ac o'r mynydd yma thraw. Y siop gyntaf o unrhyw sylw yn Dowlais, oedd un y Cwmni, a adeiladwyd ac a agorwyd yn y flwyddyn 1797, tu cefn i'r man y saif swyddfa yr Heddgeidwaid yn awr; a nodau papur £1 yr un oeddynt yn arferedig yn Ngwaith Dowlais hyd y flwyddyn 1823.

Nid oedd y gyfnewidfa hon mor ormesol a'r cyffredin o'r un enw, ond er hyny achwynai rhai o'r gweithwyr eu bod yn cael camwri.

Cyrhaeddod hyn i glustiau y Cwmpeini, fel y penderfynasant rhoddi cynygiad iddynt ar yr un a fynent yr arian nodau heb y siop, neu y siop mewn cysylltiad a'r arian nodau; ond eiliwyd yr olaf gan y mwyafrif o'r gweithwyr o herwydd barnai y rhan luosocaf eu bod yn cael eu nwyddau yn rhatach oddiyno nag o un man arall. Dywedir i'w pherchenogion fod yn golledwyr o £2,300 o bunoedd unwaith mewn cysylltiad a'r siop hon, trwy iddynt brynu ryw ystorfa fawr o nwyddau i mewn iddi yn amser drudaniaeth, gan goledd y dybiaeth y buasai pethau yn myned yn ddrutach fyth, ond yn ffodus i'r gweithwyr, er yn anffodus iddynt hwy, trodd pethau allan i'r gwrthwyneb. Yr oedd y blawd haidd y pryd hwnw yn gystal a'r blawd ceirch, yn amrywio o 7 i 10 swllt am yr 28ain pwys; a'r blawd gwenith o 10 i 12 swllt. Rhwng drudaniaeth yr ymborth ac iselder y cyflogau yr oedd canoedd os nad miloedd drwy yr ardaloedd yn goddef gradd o newyn. Gwnaeth y siop hon ei rhan yn dda tuag at ei liniaru nes i bethau gael eu adferyd i drefn eilwaith. Nis gallwn ddywedyd fod Dowlais ond yn ei fabandod cyn amser y diweddar Syr John Guest, Bart, A.S., yr hwn fu yn offeryn i godi y lle i'w sefyllfa bresenol. Ni chyflawnwyd yno un gorchwyl o bwys yn ei amser heb fod rhywbeth a fynasai ei law a'i galon ef a'i ddygiad yn mlaen a'i ddybenion. Efe a adeiladodd ac a drefnodd y Llyfrgell yn 1845, yr hon a gynwysai 900 gyfrolau o lyfrau Cymreig a Saesoneg, ac yn rhydd i bob ymwelydd i fyned yno i dreulio eu horiau hamddenol. Efe hefyd a adeiladodd yr Ariandy Cynilo ar ei draul ei hun, ac a gynorthwyodd tuag at adeiladu y Neuadd Ddirwestol. I'r enwog Lady Charlotte Guest, y priodolir cynllunio a dwyn oddiamgylch y Wyddonfa Gelfyddydol, (Benevolent Society,) yr hon gymdeithas sydd yn rhydd i dlodion i gyrhaedd amryfath o addysgiaeth fuddiol ac adeiladol yn ngwahanol elfenau gwybodaeth. Gorphwysai ei chymydogion a'r gweithwyr yn agos bob amser ar feddwl y waddoles urddasol hon; ac er fod gwaed breninol yn rhedeg trwy ei gwythienau, ni wnai ddiystyru unrhyw amser ei hisradd fwy na'i uwchradd. Mae wedi profi ei hun yn deilwng o'r enw yn ei wir ystyr. Cyfeithiodd amrai lyfrau o'rGymraeg i'r Saesnaeg, megis y Mabinogion, &c., yn nghyd a darnau bychain o ryddiaith a barddoniaeth, yn eu mysg, "Ymweliad y Bardd a'r Bala " a bydd ei thalent a'i llafur yn drysorau yn yr iaith Saesneg, pan y bydd hi yn huno yn nhawel ddystawrwydd y llwch. Ac er mwyn dangos rhai i ragoriaethau ei diweddar briod, dyfynwn ddarnau o Awdi fuddugol Dewi Wyn o Esyllt, ar ei farwolaeth

"Af yn awr ganrif yn ol,
Tua'r bryniau tra breiniol,
I weled ei hardaloedd,
Pa agwedd gynt arnynt oedd,
Drwy'r mynyddoedd nid oedd dy,
Na lle atal na llety.
Na braidd un llef o un bryn,
Ond hiraeth yr aderyn,
Na son am Dowlais hynod,
Chwaithach i'r fath fasnach fod,
Llwfr iawn edrychai'r holl fro,
Diffrwyth heb ddim yn deffro
Y dyn i syniad unawr
Y deuai'r fan yn Dref fawr,

Ond heddyw onid diddan,
Edrych yn fynych i'r fan,
A chanfod masnach enfawr,
Ei thai myg a'i gweithiau mawr.
Aur a nerth ein Syr John ni,
Erioed a wnaeth fawrhydi,
Dilys ei glod-Dowlais glau
A naddodd o'r mynyddau,
A thyfodd fel gwyrth hefyd,
Ei fawr waiih yn ben: waith byd,
Wele Merthyr o'r herwydd,
Mewn bri bron fel Sidon sydd.

Chwai y rhwygir ei chreigiau—lliosog,
Arllwysir ei bryniau,
Mae acw o hyd drwm-waghan,
Ar ei bên werthfawr haenau,

Cyrau dedwydd Caerdydi,
Syn ddedwydd o'i herwydd hi,
Sainwech hyawdl ei masnach hoew—sydd,
Yn rhoi llawenydd i'w thrai a'i llanw,

Gowylia'r arwyllt ager beirianau,
I lawr trwy y tir o le'r trysorau,
A nofia wedi'n y Camlas fadau,
Heibio'n tiroedd yn dwyn mawr bentyrau,
O lo a haiarn o'u dwfn welyau,
Y fro a lethant gan ddirfawr lwythan,
Estynir y rhain dros donau'r moroedd,
Llwydion i diroedd llydain eu dorau.

Hoenus yw gweled yr hen ysgolion,
A adeiladodd er cynt i d'lodion,
Wedi'u helaethu 'n briodol weithion,
A phlant yr ardal yn cael o faelion,
Byd o addysg a phrif wybodyddion,
Hefyd i'w tywys i'w phorfeydd tewion.

Adeiladodd yn mro y deiidau,
Fawr dai newyddion-hyfryd aneddau,
I'w weithwyr hwylus ac wrth reolau.
Ef ail ystyriodd eu cyfleusderau,
Eu iechyd anwyl-a'u parch-a'u doniau,
A daeth i osod eu cymdeithasau,
Adeiliai wedy'n eu sefydliadau.

Etholwyd ef yn Aelod Seneddol dros y gweithiau Haiarn a'r Trefi cymydogaethol yn ngogledd-barth Morganwg; a gwasanaethodd ei swydd yn anrhydeddus hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le yn y flwyddyn 1852. Mae iddo gofgolofn hardd yn Dowlais.

Efe oedd yr offeryn penaf i ddwyn Cledrffordd Dyffryn Taf i Ferthyr Tydfil; a dywedir ei fod yn rhanol yn ngynlluniad y gwefr-hysbysydd, yr hwn sydd mor ddefnyddiol i drafnidiaeth, &c., ac yn un o brif ryfeddodau yr oesau diweddar. Anrhegodd hefyd lyfrgell Merthyr a tua 180 o gyfrolau o lyfrau Cymraeg a Saesoneg. Nid oedd neb ar a wyddom yn fwy hoff a addysg nac efe: gwnaeth drefnu ysgol ddyddiol dda yn Dowlais, yr hon a gynwysai tua 200 o ysgolheigion, tri o athrawon, a'r un nifer o athrawesau, yn cael eu cynal yn rhanol gan y Cwmpeini a cheiniogau plant y gweithwyr, heb law ysgolion dyddiol ereill sydd yma ac acw drwy'r lle. Addysgir eleni, 1863, ddwy fil o blant yn yr ysgolion a elwir ysgolion y Cwmpeini, ond yn cael eu cynal gan mwyaf gan y gweithwyr.

Cymerwn hyn yma yn engreifftiau o weithrediadau daionus Syr John. Yr oedd y gwr mawr hwn wedi trefnu llawer o gynlluniau ereill fuasent o lawer o les i'r gymydogoeth pe cawsai fyw i'w dwyn i weithrediad, ond cyn i ni gael rhagor oddiar ei law nac adnewyddu y brydles ar waith Dowlais yn 1848, yr hyn barodd lawenydd mawr i tua 5,000 o weithwyr, heblaw eu teuluoedd, yr oedd brenin braw yn taflu rhyw adflas chwerw ar y pethau hyn oll, a phob peth braidd o'n cylch, trwy ei rifo yn mhlith y meirw. Ond er iddo farw y mae ei weithredoedd eto yn llafaru yon ein mysg. Dymunem heddwch i'w lwch. Er nad oedd yn Dowlais tua 60 mlynedd yn ol ond nifer fechan o dai, a'r rhai hyny gan mwyaf yn wasgaredig yma a thraw, cynyddodd gyda'r fath frys, ac i'r fath raddau, fel y mae yn agos bob peth ag sydd yn angen ar ddyn i'w gael naill ai yn y marchnadoedd, neu yn rhai o'r mael faoedd heirdd sydd yma yn addurno ystrydoedd y lle. Ond rhaid i ni addef nad oedd y rhestrau tai a adeiladwyd yma ar y cyntaf ond rhai tra gwaelion o ran cynllun, a'r heolydd rhyngddynt yn rhy gulion i fod agos mewn ffurf iachusol i'r trigolion, er fod y lle yn sefyll tua 500 o droedfeddi uchlaw Merthyr, a dros 1,000 o droedfeddi uwchlaw i arwyneb y môr. Nid oedd y trigolion heb gael goddef yn drwm oddiwrth glefydau a marwolaethau lluosog, hyd y deng mlynedd diweddaf, pryd y daeth y Bwrdd Iechyd i liniaru yr ymweliadau dirdynol a brawychus hyn, trwy ysgubo, golchi, a glanhau pob budreddi ac ysgarthion oedd yn gwenwyno awyr y lle, yn nghyd a threfnu adeiladau newyddion, yn ol y cynllun mwyaf iachus a chysurus i'r preswylwyr. Mae yma yn bresenol lawer o faelfaoedd tra llawnion o nwyddau, ac yn gwerthu mor rhad a manau ereill, trwy y plwyf. Mae yma hefyd dros 100 o dafarndai trwyddedig, &c. Cynaliwyd yma gymdeithas lenyddol er ys amryw flynyddoedd yn ol, dan yr enw Cymdeithas Lenyddol y Gwernllwyn, o dan arolygiad y Parch. B. Williams, (Annibynwr); a bu yn llwyddianus i ddadblygu llawer talent, trwy fod yn argymhelliad iddynt i arfer eu doniau mewn rhyddiaeth a barddoniaeth, ond cafodd golled i raddau ar ymadawiad ei pharchus arolygydd, yr hwn oedd yn Gymro twym-galon, talentog, a charedig—parod bob amser i wneud yr hyn a allai dros ei gydgenedl y Cymry. Gellir dyweyd am dano yma, "Yr hyn a allodd hwn, efe a'i gwnaeth." Gobeithiwn y bydd yn offeryn yn y byd i godi llawer o enwogion yn y byd barddonol, &c., cyn ei rifo i'r ty rhag derfynedig i bob dyn byw. Mae yn y lle hwn lawer o feirdd a llenorion tra enwog, ac yn eu plith gwnawn enwi F. E. Clarke, Ysw., awdwr y Guide to Merthyr, fo, Lady Charlotte, Gwilym ap Ioan, D. Bowen, G. Glan Teifi, ac ereill. Mae yn y lle hwn hefyd am ryw Fudd Gymdeithasau, Iforiaid, Odyddion, Coedwigwyr, &c. Cynelir yma hefyd Eisteddfodau llewyrchus, yn awr ac eilwaith, y rhai a brofant nad ydyw y trigolion wedi anghofio hen iaith eu teidau, er cymaint o estroniaid sydd wedi dylifo yma yn y ganrif ddiweddaf, o blant Hengist, a lluoedd llechwraidd yr Ynys Werdd, y rhai, fel y mae gwaethaf y modd, ydynt wedi, ac yn bod, yn achos i gadw y cyflogau yn isel, o herwydd y maent dan rwymau i weithio, am eu bod mor epiliog, neu ynte oddef newyn, ac os na weithiant, gwyliant yr amser, a'r meistri, ac ymddyga y rhan amlaf yn deilwng o honynt eu hunain, mewn meddwl, gair, a gweithred.

Gadawn y lle hwn yn awr, a brysiwn dros у brif. ffordd, tua Merthyr, gan groesi pont y Gellifaelog, lle cyferfydd godreu Dowlais â chwr uwchaf Penydaren. Ar у de a'r aswy, canfyddwn restrau o dai, agos yn newydd, ac yn eu mysg, ryw ychydig o'r hen aneddau a adeiladwyd, debygem, tua'r amser y cychwynwyd Gwaith haiarn y lle hwn, er mwyn cyfleusderau i'r gweithwyr, y rhai oeddynt yn Seison, ac oddiwrthynt hwy y derbyniodd yr enw o Restr y Seison, ac y mae yn aros arni hyd heddyw. Ac ar y de, gyda chodiad y tir, gwelwn restrau uwch rhestrau yn codi nes ydym yn colli ein golwg arnynt oddiar y brifffordd. Ar yr ochr hon y mae amryw fasnachdai eang a chyfleus yn denu ein sylw, megys yr Inn Fawr, &c., nes yr ydym yn dyfod i mewn i Ferthyr, dros Bont Morlais, pryd y cawn ein hunain ar unwaith yn mysg adeiladau prydferth, yn dair uwchder lloft; ac yn eu plith, gwnawn enwi Morlais Castle Inn, y Pont Morlais Inn, &c. Ond rhaid i ni adael y lleoedd yma i'r dyben o sylwi arnynt ganrif yn gynarach, pryd nad oedd, fel y crybwyllwyd, ond rhyw nifer fechan o hen dai llwydion, a'u penau gwelltog, yn sefyll tua'r fan y saif y Tlotty yn awr, a phump_neu chwech ereill, hyd ochr yr heol o'r hen eglwys i Bont Morlais. Yn ymyl hon, ar yr ochr-ddwyreiniol, mewn hen fwthyn oedd yno, y ganwyd y diweddar Thomas Pritchard, o Gefn-y-fforest, yr hwn oedd fab i'r Dr. Pritehard, ac a fu yn wr parchus yn ei gymydogaeth nes i angeu ei symud o'r byd, wedi iddo gyrhaedd yr oedran anarferol o 99 flynyddoedd a saith mis. Yr oedd tollborth wrth y bont hon, ac un arall wrth y bont haiarn yr amser hwnw. Symudwyd y rhai hyn ychydig cyn amser Rebeca, gelynes y tollbyrth. Y dollborth oedd ger Gwaith Penydaren a symudwyd yn ei hamser hi, er nad ymwelodd a'r lle hwn; a'r hon oedd ger y tan lle у saif y London Warehouse yn awr, a symudwyd cyn cof gan neb yma, oddigerth gan ambell un o'r hen drigolion. O'r fan lle y saif y London Warehouse i Bont Morlais, nid oedd ond un hen fwthyn tylawd yn sefyll yn yr amser hwn. Tua'r flwyddyn 1798. o herwydd fod mynwent yr hen eglwys agos yn llawn, prynodd Mr. Meyrick ddarn o dir dros yr Eglwyswyr, ar Dwyn-yr-odyn, at wneud mynwent, gan Samuel Rees, o'r Court, am ba swm o arian, nis gwyddom, am na fynegwyd hyny i ni mewn cysylltiad a'r dyddiad. Blynyddoedd maith yn flaenorol i hyn, adeiladwyd y tafarndy adnabyddus wrth yr enw Crown Inn, a Phen-y-fynwent, adnabyddus yn awr wrth yr enw Three Salmons, oeddynt hefyd yma y pryd hwnw, yn nghyd a'r Boot, a'r Angel Inn, yn nghyd a'r Bwthyn adnabyddus yn awr wrth yr enw Farmer's Arms, yr hwn oedd dy o'r hen arddull, a thô gwellt, a lloft isel; a chlywsom fod rhai o gymeriadau hynotaf y gymydogaeth, pan dan ddylanwad grymus Sir John Barleycorn, yn dangos eu ystranciau weithiau, trwy godi gwaith y crydd i gusanu y lloft, a brydiau ereill byddent yn myned trwy y seremoni hon pan dan ddylanwad eu nwydau anifeilaidd.

Nid oedd у lle hwn, er mor wledig oedd er ys 100 mlynedd yn ol, heb gael ei aflonyddu, a'i hynodi ar droiau gan ambell ymryson ac ysgarmes; na chwaith yn rhydd oddiwrth ymosodiadau gan glefydau, er fod ei hawyrgylch heb ei anmhuro gan fwg a nwyon afiachus oddiwrth y Gweithiau; oblegyd clywsom fod galwad am feddygon yr amser hwnw, neu tua'r flwyddyn 1756, yr hwn a gawd yn mherson y Dr. Pritchard, gynt o Gefn-y-fforest, yn y plwyf hwn. Bu yn feddyg ar y môr dros ysbaid 17 mlynedd, cyn dyfod i gadw ei swydd i'r ty a enwasom yn barod, ger llaw Pont Morlais, oddiyno y priododd ag etifeddes y Candon, ac y bu yn byw dros flwyddyn wedi hyny, cyn symud i'r ffermdy y soniasom am dano, yn nghwr isaf y plwyf.

Y fferyllydd cyntaf a fu yn y lle hwn oedd un o'r enw Bitles—Crynwr o ran barn a phroffes, ac yn meddu cymeriad da iawn yn yr ardaloedd; oblegyd nid oedd neb yn cadw y fath fasnach y pryd hwnw ond ei hun, efullai, yn y 10 milltir cylchynol. Ar ddiwrnod, dygwyddodd i gorgi rhyw ymwelydd droi i mewn i'w siop, ac ysglyfaethu darn o gaws oddiarno, darfu iddo fod mor ffodus a'i weled yn cyflawni y weithred a dywedodd wrtho, "Wel, nid af i wneuthur un niwed i ti, y ci, ond rhoddaf air drwg i ti." Ac ar ol iddo fyned allan, aeth i'r drws, a gwaeddodd "Bad dog," &c. Dygwyddodd fod rhyw rai yn sefyll gerllaw, a meddyl iasant mai mad dog oedd ei leferydd, a ffwrdd a hwy ar ei ol, a'r canlyniad fu i'r lleidr gael goddef marwolaeth ddisyfyd am y weithred.

Ger y Boot yr oedd efail gof, ac un o'r gofiaid cyntaf a weithiodd ynddi oedd un a adnabyddid wrth yr enw Shon y gôf. Pedolai geffylau y wlad o gylch, yn nghyd a cheffylau Mr. Hill. Mae maelfa nwyddau yn awr yn y fan у safai gynt.

Arferid cynal y marchnadoedd yma yn yr amseroedd gynt ar hyd ochr yr heol, ac yn fwyaf neillduol o gylch y Boot, lle y byddai pob un o'r gwerthwyr a'i sefyllfan ei hun, oddigerth, fod rhyw un yn awr ac eilwaith yn gwerthu ei nwyddau, o gewyll, ar gefn ei geffyl. Nid oedd y farchnad yr amser hwnw ond bychan a dinod iawn, mewn cymhariaeth i'r hyn ydyw yn bresenol; a thra thebyg mai ar Dwyn-y-waun yr oeddid yn cynal marchnadoedd cyn dechreu eu cynal yn y lle hwn. Adeiladwyd y marchnad-dy presenol yn y flwyddyn 1838, ac nid cyn fod gwir angen am dano, oblegyd agoriad a chynydd y gweithiau—dylifiad dyeithriaid i'r lle, yn nghyd a chynydd cyflym y boblogaeth. Saif ar tua dwy erw o dir, ac y mae ynddo tua 112 o leoedd penodedig i gigyddion, a'r gweddill o hono, mewn cyfartaledd, yn gyfatebol i'r gwahanol fasnachau ereill. Mae ynddo bob peth i'w gael at gynaliaeth dyn, a hyny agos mor rhad ag unrhyw fan yn Nghymru. Goleuir ef y nos gan uwchlaw 90 o nwy[3] oleuadau, heblaw nifer mawr o ganwyllau sydd i'w canfod yn goleuo yr adeilad yma a thraw gan y gwerthwyr. Mae un rhan o hono, er ys blynyddau, yn cael ei rentu allan gan y perchenogion i fod yn ddangosfa chwareuyddol (theatre), a'r un modd y gwneir o'r tir sydd o'i flaen a elwir square ty'r farchnad. Rhoddir hwn ar delerau, yn ol eu rhif a'u maintioli, i berchenogion dangosiadau (showmen), ac yn fynych yn nhymor haf, gwelir mwy na haner y lle hwn yn llawn gan gerbydau y ffug-chwareuwyr hudolus yma—un a'i bibell, a'r llall a'i dabwrdd—ar eu goreu yn ceisio denu y dorf fyddai yn sefyll o'u blaen, yn sylwi ar eu symudiadau, a chlust-ymwrando ar y twrf fyddai yn cael eu hateb gan furiau yr adeiladau cylchynol! Show rhad; a dau neu dri arall, a'u cegau ar led, ar eu goreu yn ceisio gwerthu mân nwyddau—yn nghyd a thri neu bedwar o faledwyr, a mwy na’u haner yn ddall, wrthi yn ddiwyd, yn canu baledau Dic Dywyll, neu rywun arall, fel y gall yr anghyfarwydd gredu braidd ei fod wedi disgyn i ryw le annaearol, a braidd na theimlai ei fod, i raddau, yn ddyeithr iddo ei hun!

Tua'r flwyddyn 1793, adeiladwyd y bont sydd ger Gwaith y Gyfarthfa, a elwir Jackson's bridge, a'r bont haiarn gan Watkin George, tua'r flwyddyn 1800, o herwydd fod y bont geryg oedd yno wedi syrthio ar lifogydd mawr, ar ol pedair wythnos ar ddeg o rew caled; dystrywiodd lawer o bontydd coed, ac ysgubai bob peth agos ffwrdd o'i flaen.

Yr oeddy fath gynydd anarferol wedi cymeryd lle yma, gyda chynydd y Gweithiau, fel yr oedd ynddo, erbyn y flwyddyn 1801, y rhifedio 1,404 o dai, 4,273 o wrywod, a 3,432 o fenywod, yn gwneud cyfanswm o 7,705. Tua'r amser hwn, neu ychydig yn gynarach, yr oedd Mr. Maber, vicar yr eglwys, wedi llwyddo i gael gan y Senedd basio gweithred i'w alluogi i roddi allan y tir oedd yn perthyn i'r eglwys, i adeiladu arno, trwy brydlesau; y rhan amlaf o honynt oeddynt dros ysbaid tri bywyd, ac weithiau dros dymor penodedig. Adnabyddir y tir hwn yn gyffredin wrth yr enw Glebeland,[4] lle y saif rhai o'r maelfaoedd harddaf yn Mer thyr yn awr, ac agos yr oll o'r adeiladau sydd rhwng y brif ffordd a'r afon, ac o gwr isaf mynwent yr eglwys hyd bont Morlais, yn nghyd a'r tir lle saif Eglwys St. David, a'r ysgoldai perthynol iddi, &c. Ac ar ol iddo fod yn derbyn llawer oarian oddiwrth berchenog ion adeiladau newyddion oeddynt yn sefyll ar y tir hwn, yn nghyd a £300 o gyflog flynyddol, dygwyddodd iddynt fod yn rhy fychan un flwyddyn i dalu y treth oedd, &c. a ddisgynai arno, o herwydd y fath nifer lluosog o dylodion addylifent i'r lle, yn nghyd a phrinder a drudaniaeth ymborth. Yn y flwyddyn 1800,yr oedd y blawd gwenith yn cyrhaedd y pris uchel o 15s yr 28ain pwys, yr halen yn 7½ y pwys, a phob peth arall mewn cyfartaledd. Dyma'r pryd y torodd y terfysg cyntaf allan yn Merthyr, yr hwn, yn nghyd a'r terfysg yn 1816, a'r un yn 1831, a roddwn i lawr yn y benod nesaf.

TERFYSG 1800.

Yn y flwyddyn 1800, dyoddefodd Merthyr yn ddirfawr oddiwrth brinder ymborth a drudaniaeth, yr hyn, yn nghyd ag iselder y cyflogau, fu yn achos i'r terfysg hwnw dori allan; trwy i niferi o derfysgwyr dori i mewn i dai, gan gymeryd yr hyn a fynent trwy drais oddiar y perchenogion, anfonwyd ar unwaith am filwyr i'r dyben o geisio rhoddi atalfa ar ffordd y canlyniadau niweidiol a allasent ddilyn. Ond parhau i ysbeilio, difrodi, a chwythu bygythion wnelent hyd yn nod pan oedd y milwyr ar y stryd gyda hwy, yn hwyfrydig i daro. Rhoddwyd rhybudd o awr i'r terfysgwyr i ymwasgaru os mynent, yr hyn yn ffodus a gafodd yr effaith briodol arnynt, fel y daeth yn ddiangenrhaid i roddi gorchymyn i'r milwyr wneud ymosodiad. Dyfod iad meirchlu Eniskillen, a meirchlu Caerdydd, ynnghyd a'r osgordd rhif yr 2il o'r meirchlu i'r lle, fuont hefyd yn gynorthwy i luddias ychwaneg o derfysg. Y tafarndy adnabyddus y pryd hwnw wrth arwydd y King's Head, yn yr heol-fawr, oedd yn cael ei gadw gan Mr. Thomas Miles; a'r Cae draw[5] sydd yn awr yn llawn tai, oedd y pryd hwnw yn gae noeth. Hen wr ger y Castle Inn a gyfarchwyd gan un o gwmpeini y meirchlu ysgafn. "Ewch adref, hen dad," ar yr un amser gyda chyflymder diwyro yn taro darn o ymyl ei benwisg a'i gleddyf. Ni chollodd yr hen ddyn amser cyn gweled pa niwed a dderbyniodd ei het; a phan y gwelodd fod ei hymyl wedi ei dori dechreuodd deimlo am ei glust, pryd y deallodd nad oedd wedi derbyn yr un niwed. Cymerodd yr awgrym, a ffwrdd ag ef, gan ystyried fod un pâr o draed yn well na dau bar o ddwy law. Daliwyd a dihenddiwyd dau o flaenoriaid y terfysg hwn.

Cymerodd terfysg dibwys le yn Merthyr, yn y flwyddyn 1816, o herwydd gostyngiad yn nghyflogau y gweithwyr; ond adferwyd pethau i drefn y tro hwn cyn i un canlyniad gofidus gymeryd lle.

TERFYSG 1831

Hwn oedd y terfysg mwyaf pwysig o derfysgoedd Merthyr, a'r pwysicaf a gymerodd le erioed mewn cysylltiad a'r gweithfeydd yn neheudir Cymru. Ond gan fod cymaintwedi ei siarad a'i ysgrifenu, yn Gymraeg a Saesneg ar y terfysg hwn, ystyriem mai afreidiol myned i ragor o fanylion, na chofnodi ond y prif ddygwyddiadau yn unig. Dechreuodd y terfysg hwn tua chanol yr ail wythnos yn Mehefin, 1831, yr hwn a drodd allan yn atalfa llwyr ar fasnach, ac yn angeu i tua 16 o'r terfysgwyr, heblaw llawer o glwyfedigion ar y ddwy ochr, er na pharhaodd yr ymrysonfa ond tuag wythnos o amser. Anhawdd yw penderfynu i foddlonrwydd pa beth oedd gwir achos y terfysg peryglus hwn. Dywed rhai oddiwrth yr hyn allesid gasglu oddiwrth eu hareithiau, mai diddymu Llys Cyfiawnder, (Court of Requests,) oedd ganddynt mewn golwg Ereill a farnant mai eu hamcan oedd gorfodi meistriaid yr Haiarn Weithfeydd i godi cyflogau y gweithwyr, cyfiawn neu anghyfiawn. Barnai eraill mai y rhybudd oedd Mr. Crawshay wedi ei roddi i ostwng i rai o'i weithwyr yn y mwyn oedd wedi eu cynhyrfu; ac i'r dyben o geisio rhyddhau ei hun o fod yn achosydd y cythrwil hwn, ysgrifenodd Mr. Crawshay lythyr maith i'r Observer, newyddiadur Seisnigaidd, perthynol yn fwyaf neillduol'i feistradoedd y gweithfeydd, yn yr hwn y dywed nad oedd yn alluadwy iddo ef na'i gyd-feistriaid roddi un codiad yn nghyflogau y gweithwyr, o herwydd sefyllfa farwaidd ac isel masnach yr amser hwnw. A chymeryd hyn o dan ystyriaeth, yn nghyd a'r elyniaeth ddygasol oeddynt yn ei daflu rhwng eu meistri a hwythau, heblaw y canlyniadau peryglus, rhaid addef fod y terfysgwyr wedi cymeryd cynllun hollol annoeth a chwithig. Yn ol yr hyn allwn farnu, yr oedd y terfysg wedi ei gyn-fwriadu gan y dosparth anfoddog o weithwyr yn Mrycheinog, Mynwy, a Morganwg; ac yr oedd eu gwaith yn myned i dy Mr. Fothergill, i Aberdar, idd ei orfodi i arwyddo papur a dystiolaethai nad oedd efe wedi dweyd nad oedd mwnwyr Gyfarthfa yn enill pum swllt yr wythnos yn fwy na'i fwnwyr ef, yn nghyd a rhoi iddynt, dan berygl o golli ei fywyd, yr hyn oedd ganddo o fwyd a diod yn ei dy; a'u mynediad tua'r siop i Aberdar, i orfodi ysiopwr i roddi yr hyn a ofynent allan o'r siop; eu dyfodiad yn ol i Ferthyr i ddinystrio dodrefn oedd yn rhai y ceisbwliaid perthynoli Lys Cyfiawnder, yn nghyd a dodrefn a holl lyfrau Mr. Coffin, ysgrifenydd y Llys; a'u gwaith yn gorfodi y gweithwyr yn y gwahanol weithfeydd, yn weithredoedd plentynaidd, hollol annheilwng o resymolion mewn gwlad Gristionogol. Erbyn dranoeth yr oedd yr Adran 93 o'r Highlanders wedi dyfod i'r lle; a gyda hwy ymunodd Mri. Crawshay, Bruce, a Hill, ac ymsefydlasant ger y Castle Hotel; i'r lle hwn y dilynwyd hwynt gan dyrfa luosog o'r terfysgwyr, gyda phastynau, llaw-ddrylliau, drylliau, &c.; ac er taer geisiadau gan Mri. Hill, Guest, a Crawshay, ar iddynt ymwasgaru a myned yn ol at eu goruchwylion, gyda'r addewid y byddai iddynt hwy dalu pob sylw ag y byddai yn ddichonadwy idd eu cwynion cyn pen 14 dydd, ond y cwbl yn hollol ofer, ni chafodd deisyfiad na chais yr un o honynt ei wrando ond gyda diystyrwch sarhaus; ac wrth ganfod hyn aeth yr uchel sirydd i ben cadair i ddarllen iddynt y Riot Act, pryd y rhuthrwyd ar y milwyr gan gymeryd eu harfau trwy orthrech oddiarnynt; yn yr ysgarmes clwyfwyd tua 16 o honynt fel ygorfodwyd iddynt ymwthio imewn i'r Castle Hotel, lle y saethasant trwy y ffenestri at y terfysgwyr, pryd y lladdwyd tuag 16 o honynt er na pharhaodd yr ymrysonfa ond tua chwarter awr. Parhaodd y terfysgwyr i saethu at y ty dros yspaid o amser ar ol hyn, ac aeth un belen i fewn i'r fynedfa-gefn heibio yr uchel sirydd a Mr. Crawshay. Teimlai y boneddwyr eu hunain yn y ty mewn sefyllfa wir beryglus, a thua'r hwyr symudasant tua Phendaren House, dan gysgod y milwyr oeddynt heb eu clwyfo o'r Highlanders, yn nghyd a 50 o'r Glamorganshire Militia, dan Cadben Powell,' a Major Richards, gyda Llantrisant Cuvalry, oeddynt newydd gyrhaeddyd i'r lle, gan gludo gyda hwy y milwyr clwyfedig o'r Highlanders.. Parhaodd y terfysgwyr mewn agwedd gyffrous o hyny tan y boreu, a bytheirient fygythion y byddai iddynt dynu ty Mr. Crawshay i lawr; y bygythiad hwn, yn nghyd a dysgwyliad am ail ymosodiad,a barodd i'r milwyr a'r boneddigion fod mewn dyfal wyliadwriaeth trwy y nos a'r dydd dranoeth. Y cam nesaf eto a gymerodd y terfysgwyr oedd, myned i ffordd Aberhonddu, i rwystro adgyfnerthion na chyflenwad ddyfod y ffordd hono i'r milwyr oeddynt yn barod yn Merthyr; a thua'r mynegfys ar fynydd Aberdar, i luddias milwyr dysgwyliedig o Abertawy, y rhai a gyfarfyddasant ac a gymerasant eu harfau oddiarnynt, gan wneuthur i'r rhan amlaf o honynt, os nad yr oll ddychwelyd yn eu holau; hyn yn nghyd a'r cyfarfod mawreddog a gynaliasant ar y Waun y dydd Llun canlynol, lle y barnwyd y gallasai fod yn wyddfodol tua 20,000 o ddynion o weithfeydd Brycheiniog, Mynwy, a Morganwg; ac i'r dyben o geisio eu hymlid a'u gwasgaru, er ymgais gosod y terfysg i lawr, aeth y milwyr, yn cael eu gwneyd i fyny o 110 o'r Highlanders, a 50 o'r Glamorganshire Militia, & 300, Yeoman Cavalry, o dan lywyddiaeth Cadben Morgan, yn cael eu dilyn gan yr ynadon; ac erbyn eu bod yn Dowlais yr oedd yr heolydd wedi eu llenwi gan y terfysgwyr. Cyrhaeddasant y lle, ac anerchodd Mr. Guest y dorf yn alluog, ond i ddim dyben, yna darllenwyd y Riot Act; hyd hyn nid oedd un arwydd o ymwasgariad; dangosai pob un benderfyniad diysgog, fel y gorchymynwyd o'r diwedd i'r Highlanders anelu eu drylliau yn barod, yr hyn a wnawd gyda'r goddefgarwch a'r hwyrfrydedd mwyaf. Rhoddwyd amser i'r terfysgwyr wneyd eu meddyliau i fyny; ac fel y dygwyddodd yn fwyaf ffodus, dechreuasant ymwasgaru fel y daeth yn ddianghenraid i roddi y gorchymyn, "Taniwch!" o herwydd pe y dygwyddasai felly, diau y cymerasai ymdrechfa waedlyd le, ac aberth mawr ar fywydau, lle yr oedd nifer o derfysgwyr mor feiddgar. Parhaodd rhai o honynt eilwaith i ymddangos mewn agwedd fygythiol ar heol Aberhonddu; yr oeddynt wedi casglu cynifer a allasent o arfau i'r dyben o arddangos eu hunain mor frawychus ag y byddai yn dichonadwy, yn nghyd a banerau duon a chochion wedi eu trochi mewn gwaed lloi, gan eu cwhwfanu yn y ffordd hono, a ffordd Abertawy. Yn y prydnawn gorchymynodd Mr. Crawshay i'r milwyr glirio y terfysgwyr yn llwyr o Ferthyr, eu hamgylchu, ac ymosod arnynt yn ddidrugaredd os caffent gyfleusdra; ond yn ffodus ni chymerodd un weithred o bwys le rhwng nos Lun a boreu dydd Mawrth, yn amgen llwyddo yn ol cynllun Mr. Guest, i ddal 14 o'r rhai a ystyrid yn brif flaenoriaid y terfysgwyr; ac yn eu mysg yr hwn a gyfrifid fel y penaf o honynt,yr hwn a goll-farnwyd idd ei grogi am ei feiddgarwch, ei fygythion, a'i weithredoedd ysgeler, yn arwain fel y penaf y lluoedd i'r fath ymrysonfa waedlyd. Darfu i'r oll o'r gweithwyr dydd Mawrth blygu i fyned at eu gorchwylion mewn dystawrwydd ac ufudd-dod, fel yn arddangos yr edifeirwch dwysaf o herwydd yr hyn a gyflawnasent. Claddasant hefyd eu meirw gyda thawelwch a phrudd der, yn deilwng o'r un edifeirwch. Erbyn hyn yr oedd yn agosyr oll o'r arfau wedi eu rhoddi i fyny rhag iddynt fod yn achosion i'r gyfraith gael gafael arnynt. Felly terfynodd yr ymrysonfa bwysig hon, a gobeithid yn gyffredinol na welid y fath derfysg yma byth mwy.

HANESIAETH GYFFREDINOL

Wedi i'r ystorm aflwyddianus hon fyned heibio, a'r cleddyf gael ei roddi yn y wain, duwies rhyddid a heddwch gwhwfanu eu banerau yn awelon tyner y dydd uwchben y gweithiau a chartrefleoedd y meistri, aeth pethau yn mlaen yn llwyddianus fel cynt; ond heb enill yr un fantais i'r naill na'r llall o'r pleidiau ymrysonawl. Ac os enillwyd rhywbeth, oerfelgarwch a gelyniaeth ddiymwared oeddynt y cyfryngau a ddangosir gan y nail! a'r llall tuag at eu gilydd. Ond rhaid i ni adael hyn yn bresenol, a throi ein hwynebau yn ol i'r flwyddyn 1815, er mwyn rhoddi cyfle teg i'r darllenydd ffurfio dirnadaeth gywir o gynydd y lle. Nid oedd yma y pryd hwnw ond 23 o dafarndai yn y cwbl, 1 darllawdy, 12 o faelfaoedd, 5 cigydd, I swyddfa argraffu, 2 oriorydd, a 2 ariandy. Erbyn 1863, yr oedd yma 305 o dafarndai, a 99 o'r rhai hyny a thrwyddedau i werthu gwirodydd poethion, 8 darllawdy, 161 0 fuelfaoedd, 2 ariandy, 5 swyddfa argraffu, a 54 o gigyddion.

Yn y flwyddyn 1802, cafodd Merthyr yr anrhydedd o roesawi Arglwydd Nelson, yn nghwmpeini yr Arglwyddles Hamilton, ciniawodd yn y Star, a rhoddodd gini rhwng y gwyddfodolion iddynt gael yfed iechyd da iddo yn yr iaith Gymreig: yn y cyfamser pan oedd yn edrych drwy y ffenestr, adnabyddodd ddyn o'r enw William Ellis, yr hwn a'i gwasanaethodd ar y mor, galwodd arno wrth ei enw, a rhoddodd gini iddo yntau, iddo gael yfed iechyd da idd ei hen feistr. Teimlid cryn ddyddordeb gan drigolion y lle yn ymweliad y mor-ryfelwr enwog hwn, ac i'r dyben o ddangos hynny pan oedd Nelson yn myned heibio, taniasant gyflegr ger yr odynau calch, yr hyn yn anffodus a ddygwyddodd fod yn achos marwolaeth i fachgenyn bychan oedd llaw; o'r herwydd hyn teimlodd yr Arglwyddes yn wir ofidus, fel y rhoddodd £8 i'w berthynasau tuag at dreuliau ei gladdu yn anrhydeddus. Ymadawodd Nelson oddiyma yn orfoleddus, ond i beidio dychwelyd mwy, oblegyd yn mhen tair blynedd syrthiodd yr arwr rhyfedd hwn yn mrwydr fythgofiadwy Trafalgar.

Yn amser ein rhyfeloedd a'r gormeswr Bonaparte y 1af, yr oedd byddin o wirfoddolion ar Gefn Coed-y-Cymer, i'r dyben o fod yn barod pan fyddai galw arnynt fyned i'r maes yn erbyn y Ffrancod. Ac fel y mae plant yn dueddol i efelychu y pethau fyddont yn denu mwyaf ar eu sylw, arferai plant yr ysgolion ag ereill ymffurfio yn fyddin i ddynwared y fyddin wirfoddol y soniasom am dani. Wedi Mr. R. Crawshay glywed am, neu weled y fyddin ieuanc hon, rhoddodd wahoddiad iddynt ddyfod o flaen ei dy ef i ddangos en hunain gyda'u harfau coed, a gyfrifant hwy yn delweddu arfau angenol y milwr. Ac yn ol i'r dydd penodedig ddyfod, gorchymynodd iddynt wneyd eu ffug-ymladdfa, yn yr hyn y cafodd gryn ddyfyrwch a dyddordeb fel y rhoddodd iddynt yn helaetho fwyd a diod, yn nghyd a gini o arian idd eu rhanu rhyngddynt am eu gwrhydri.

Castell Crawshay a adeiladwyd yn y flwyddyn 1825, yn y man y safai yr hen amaethdy hwnw oedd yn myned dan yr enw Bryn-cae-Owen. Mae iddo 365 o ffenestri, un ar gyfer pob dydd o'r flwyddyn, am hyny, difuddiwyd ei berchenog o hono yn ffafr y Goron, hyd nes iddo wneud rhyw gydnabyddiaeth a'r llywodraeth am yr hyn a ystyrient yn drosedd. Costiodd ei adeiladu £30,000 ac y mae yn anrhydedd i'r ardal a'r wlad ei arddel; oblegyd y mae wedi ac yn bod yn artref achlysurol i ddynion a godasant o ddinodedd i fod yn mhlith y dynion cyfoethocaf a fedd y deyrnas, a'r cyfoeth hwnw, gan mwyaf, wedi ei gloddio allan o berfeddion y creigiau a gylchynant Merthyr Tydfil. Ar yr 21ain o Fai, 1846, dydd priodas Robert Thompson Crawshay, Ysw., yr oedd y castell wedi ei wisgo yn ei ogoniant, gyda gwyrdd-ddail a phob blodeuwaith addurnol a allasai y meddwl dynol, mewn byr amser ei gynllunio. Gwaith y Gyfarthfa wedi sefyll—maelfaoedd cymydogaethol oll yn nghau, a miloedd o ddynion, o Ferthyr i Droedyrhiw yn aros i'w weled ef a'i gymhares, fel y gallent gael hamdden i'w croesawi à banllefau, nes oedd glenydd yr hen Daf yn diaspedain.

Tua phedair blynedd yn ol, cymerodd mawr orfoledd le eilwaith mewn cysylltiad a'r lle hwn, pan adnewyddwyd prydles y Gwaith. Try-oleuwyd y dref a'r gymydogaeth gan ganwyllau a nwy, a rhoddwyd amryw areithiau grymus, a bloeddiadau gorfoleddus i'r perchenog William Crawshay, Ysw, Caversham Park, Llundain, yr hwn sydd yn awr mewn gwth o oedran, a phan gwnaeth ei ewyllys yn ddiweddar, dywedir ei fod yn werth myrddiwn a haner o bunau.

Cafodd y lle hwn hefyd yr anrhydedd yn ddiweddar o roesawi yPrince of Orange,pan ar ei daith drwyGymru.

Eto, at y cyfarfodydd mawreddog sydd wedi cael eu cynal yn Merthyr, ar wahanol adegau ac achosion, gwnawn goffa yr un mawreddus a gynaliwyd yn nhy'r farchnad,tua thair blynedd yn ol, pryd y pregethodd y Parch. C. H. Spurgeon i dorf o amryw filoedd o wrandawyr astud ac ystyriol; a diau у siaredir am y cyfarfod hwn yn mhen canrif eto, fel peth neillduol hanesiaeth yn y lle.

Yr oeddem yn awr wedi dilyn, nes oeddem o flaen ein hanes; oblegyd yn y flwyddyn 1849, ymwelwyd a'r lle hwn gan y geri marwol, ac ysgubodd oddiyma i'r byd mawr tragywyddol y nifer syn o 1,432 ' Nid oedd nemawr dy yn dianc heb brofi pwys y fflangell geryddol hon! Yn fynych byddai dau neu dri yn cael eu cymeryd yn glaf yn yr un teulu, a hyny ar yr un pryd, heb ond yn anaml un yn gwellhau. Cludid rhai ar gerti, tua'r gladdfa, o ganol gruddfanau ac ocheneidiau torcalonus y gweddwon a'r amddifaid, tra byddai ereill i'w clywed yn ymdrechu yn y bangfa olaf, dan ddirdyniadau arteithiol brenin braw! Diblantwyd torf o Racheliaid, a chymerwyd llawer gwr o fynwes ei wraig, a gwraig o fynwes ei gwr, a'r ddau yn aml oddiwrth eu rhai bychain, yn analluog i wneud drostynt eu hunain! Dyma'r amser y gwnawd mynwent ar Bant-coed-Ifor; o herwydd nad oedd caniatad, na lle i'w claddu yn un o fynwentydd y dref. Hyn fu yn llawer o'r achos i ddwyn y Bwrdd Iechyd i Ferthyr Tydfil, yr hyn a gymerodd le yn 1851; ac er fod perchenogion tai yn cael talu yn ddrud tuag ato, mae wedi gwneud gwelliantau rhyfeddol yn y 10 mlynedd diweddaf, yn nghynlluniad tai, a glanhad heolydd, fel y mae mewn gwell sefyllfa, er lles iechyd y preswylwyr, nag y bu er ys ugeiniau o flynyddoedd. Un o'i brif hynodion, yn y tair blynedd diweddaf, ydyw gosod ffordd i gludo dwfr o Daf fechan i Ferthyr, &c.; mae ar waith yn awr i gario dwfr i Abercanaid a Throedyrhiw, a diwalla yn bresenol y rhifedi o 1,500 o dai, rhwng Dowlais, Penydaren, a Merthyr. Cynwysa y cronbwll, a wnawd yn Cwmtaf-fechan, tuag at ddiwallu y lleoedd a enwasom, yr ystorfa o 60,000,000 o droedfeddi cyfuddol o ddwfr. Costia y Gweithiau Dwfr yma, erbyn eu gorphen, y swm 0 £80,000, ac mae treuliau blynyddol y Bwrdd Iechyd yn Merthyr tua £2,000, a'r symiau hyn yn cael eu casglu trwy drethoedd oddiar berchenogion tai, &c., yn mhob man trwy'r plwył. Cariwyd y Gweithiau Dwfr yn mlaen o dau arolygiaeth Mr. John Lewis, Cymro serchog a charedig.

Nid ydyw Merthyr Tydfil wedi ei chorffori yn dref hyd yn hyn, ond pe buasai y diweddar Syr John yn cael byw i ddwyn ei gynlluniau a'i amcanion i derfyniad, diau y buasai wedi llwyddo i wneuthur hyny cyn yn awr. Ond nid ydyw yn ol yn ei manteision i nemawr dref yn Nghymru. Medda ei maelfaoedd harddwych a rhadlawn—ei masnachdai prydferth a chyfleus—ei ariandai—a'i llythyrfa, o'r hon y rhenir llythyrau ddwy waith yn y dydd, ac y derbynir rhai i mewn ac y trosglwyddir rhai allan i bob parth o'r byd adnabyddus; y derbynir ac y trosir arian, &c.Medda hefyd ar Lys y man-ddyledion, yn nghyd a Llys yr Ynadon. Enwau y rhai fuont yn gwasanaethu yma sydd fel y canlyn:—Richard Crawshay, Ysw., Vicar Maber, Bruce Price, Ysw., Syr J. J. Guest, Jones, Ysw., Hill, Ysw, Thomas, Ysw., Henry Awstin Bruce, Ysw., Fowler, Ysw., a'r rhai hyn, gan mwyaf, yn ddynion tra chymeradwy ac addas i'w swyddau pwysig a chyfrifol. Medda hefyd ar fwrdd Undeb,[6] i'r hwn y dewisir dau aelod yn flynyddol, o'r plwyfau undebol, i wasanaethu, yn nghyd a tua haner dwsin, neu ychwaneg, o'r plwyf hwn.

Gorphenwyd y Tyloty perthynol i'r undeb yn Merthyr, yn y flwyddyn 1853, a chymerwyd tylodion i mewn iddo ar yr ail wythnos o fis Awst, yn yr un flwyddyn. Eu rhifedi, yn ol y cyfrifiad diweddaf, 1863, yn nghyd a'r rhai yn derbyn tâl tu allan, oeddynt 1786, a 51 o grwydriaid (tramps). Treuliau blynyddol y Tyloty, yn mhob cysysylltiad sydd yn cyrhaedd y swm o £28,000, y rhai a wneir i fyny trwy drethoedd, yn amrywio o swllt i un geiniog ar bumtheg y bunt ar berchenogion eiddo yn mhlwyf Merthyr; a'r symiau blynyddol a godir yn y plwyfau ydynt yn yr undeb sydd fel y canlyn Merthyr, £4,188, Aberdar, £2,513, Gelligaer, £787, Vaenor, £173, Penydaren, £172, Rhigos, £80. Yr oedd yr hen gyfaill Richard Williams, alias, Dic Dywyll, wedi dyweyd mewn gan broffwydoliaeth o'i eiddo am adeiladu Tyloty yn Merthyr, fel y canlyn :

"Bydd hwch y Crown yn dyrnu haidd,
A Beni'r gwaudd yn geffyl,
Cyn delo Workhouse byth i ben,
O fewn i Ferthyr Tydfil."

Llefarodd y geiriau uchod oddiar fod llais y wlad yn ei herbyn; ac yn wir, nid ydyw yn hollol ddystaw eto, am y dygir aml achwyniad yn erbyn camymddygiadau yr arolygwyr at y tylodion.

Gresyn i neb o'r uwchradd edrych yn isel a sarhaus ar ddyn neu ddynes, hen neu ieuanc, o herwydd ei dylodi! Dyn yw dyn er hyn oll.

Mae Merthyr wedi bod yn fagwrfa i amryw gerfwyr ac arlunwyr tra enwog. Yo mblith y cerfwyr cofnodwn Mr. Joseph Edwards; ymadawodd o'r lle hwn i drigianu yn Llundain. Mr. Joseph Williams, lluniwr ac arluniwr tiroedd, &c. ; yr oedd yn fud a byddar; bu farw yn mis Mawrth, 1844, yn 52 mlwydd oed. Mr. Penry Williams, lluniwr ac arluniwr tiroedd, &c; ymadawodd o'r lle hwn am Rufain, lle mae wedi treulio degau o fynyddoedd. Hefyd, Mr. J. Harrison Mr. Shaw, llunwyr ac arlunwyr, &c., a Mr. William Jones, cerfiwr.

Mae yn Merthyr hefyd amryw gyfreithwyr tra enwog: yn eu plith nodwn C. H. ac F. James, Simons, Morgans, Smith, Plews, &c., yn nghyd ag amryw ereill ag sydd yn troi mewn cylchoedd gwahanol, megys Harris, Lewis, &c. Hefyd, mae yma amryw feddygon medrus, megys Davies, Dyke, James, Erie, Pritchard, &c. Mae yma bellach heolydd da, yn nghyd ag amryw restrau o adeiladau gwych a adeiladwyd yn ol cynllun y Bwrdd Iechyd, y rhai ydynt i'w canfod yn Thomas Town, &c. Hefyd, nid ydyw yn ol yn ei chyfleusderau i deithwyr gyda cherbydau, yn cael eu tynu gan geffylau i bob parth o'r wlad lle nad oes cledrffordd yn arwain yno yn unionsyth. Rhoddir cyfleusdra bob boreu dydd Llun gan gerbyd yn rhedeg oddiyma heibio Trecastell, Llanymddyfri, Aberystwyth, ac Aberaeron, gan ddychwelyd yn ei ol bob dydd Gwener i Ferthyr. A chynygir cyfleusderau bob dydd i deithwyr rhwng Merthyr, Sirhowy, Nantyglo, Tredegar, Abergaveny, &c., heblaw y rhai sydd bob amser yn gweini ar y cledrffyrdd, y Taff Vale, y Vale of Neath, yn nghyd a'r Merthyr and Brecon Railway, a thua chwech o gledresau teithwyr allan bob dydd o orsaf y Taff Vale Railway i'w gwahanol gyfeiriadau; a daw yr un nifer i mewn. Cynygir hefyd dri chyfleusdra yn ddyddiol i fyned a dyfod gyda'r Vale of Neath Railway, yr hon a agorwyd i Ferthyr ar y 27ain o Chwefror, 1853. Ac ychwanegir manteision y lle hwn eto pan orphener y Merthyr and Brecon Railway, yn nghyd a'r Merthyr and Abergaveny Railway.

Eto, at y manteision a enwyd, mae yma bob math o gymdeithasau ag sydd fuddiol a llesiol i ddyn; yn eu plith gwnawn enwi yr Iforiaid, Odyddion, Coedwigwyr, Dyngarwyr, yr Urdd Frytaniaid, a Budd Gymdeithasau.

Gall dyn fyned oddiyma am un o'r gloch yn y prydnawn, a chyrhaedd Llynlleifiad erbyn amser swper yn yr hwyr. Mae trefi mawrion Cymru a Lloegr megys yn gymydogion i'r lle hwn oddiar pan unwyd cledrffordd y West Midland Railway a'r Taff Vale, yn Mynwent y Crynwyr, yr hyn a gymerodd le ar y 25ain o Ionawr, 1858; ac agorwyd y gledrffordd i Fynwent y Crynwyr o'r Mountain Ash, i drafnidaeth yn unig, ar y 14eg o Dachwedd, 1863.

Ar brydnawn, yn y flwyddyn hon, 1863, talasom ymweliad á mynwent hen Eglwys St. Tydfil i'r dyben o gael rhai o'r dyddiadau hynaf o'i mewn; a llwyddasom i ddyfod o hyd i un goffadwriaeth tu fewn i furiau yr eglwys, a'r dyddiad o 1758, ac un arall, tu allan, yn ymyl y mur, ar yr ochr orllewinol i'r fynwent; ar gareg lwydaidd wedi ei darnio yn ddau, yr oedd y dyddiad o 1740. Parodd hyny i mi gofio am benillion "Bedd y dyn tlawd," gan Ioan Emlyn, pan yn dyweyd

Mae'r garreg arw a'r ddwy lythyren
Dorodd rhyw anghelfydd law,
Gyd-chwareuai ag e'n fachgen,
Wedi hollti'n ddwy gerllaw ;
A phan ddelo Sul y blodau,
Nid oes yma gâr na brawd
Yn rhoi gwyrdd-ddail a phwysiau
Ar lwm fedd y dyn tylawd

Anhawdd i ymwelydd osod troed i lawr yn y fynwent hon heb sangu uwch llwch rhyw fod dynol a fu unwaith mor iach ac hoenus a ninau, a'r rhan amlaf o'r rhai hyny oeddynt frodorion o'r plwyf hwn. Wrih sylwi uwch y gladdfa hon gellir ffurfio rhyw ddirnadaeth wanaidd o'r trychineb a'r galanas mae'r gelyn olaf wedi ei wneud ar y teulu dynol, fel ag y mae yn anhawidd ymgadw rhag tori allan i wylo uwchben y dorf ddystaw sydd yma yn gorwedd er ys canoedd lawer o flynyddoedd yn tawel huno. Gellid meddwl wrth olwg rhai o'r beddau fod angeu wedi ysgubo i'r byd tragywyddol yr oll o berthynasau amryw o feirwon y fynwent hon, neu mae meithder amser wedi rhoddi caniatad i ddwyn angof i mewn i law ddirgelaidd anian i wneud y beddau yn gydwastad a'r llawr, a phlanu arnynt wyrdd-lysiau i roesawu gwlith y nen, i addurno'r fan y gorweddant. Wrth gerdded yn ol ac yn mlaen yn eu plith, yr oedd penill, o gyfieithad yr enwog Davies, Castell Howel, o'r "Grey's Elegy," yn taro ar ein meddwl

"Yma gorwedd yn y graian
Efallai lawer fuasai'n llawn
O wir rywiog flamiau'r awen
A phrydyddol ddenol ddawn,
Dwylaw allasent lywio teyrnas
A theyrnwialen ar ryw thrôn,
Dawn a dwylaw diwniai'r delyn
I lesmeiriol dyner dôn."

Gadawn y lle hwn yn awr, a chymerwn ein cyfeiriad i lawr tua Throedyrhiw, Wrth fyned allan o'r pentref, yr ydym yn croesi'r clawdd a wnawd yn yr amser y cychwynodd Mr. Richard Hill ei Weithiau tuag at eu diwallu a dwfr. Uwch ein pen mae pont y gledrffordd ogwyddol sydd o Ddowlais i'r Taff Vale, dros yr hon y buwyd yn cario teithwyr am rai blynyddoedd hyd nes i ddamwain ofidus gymeryd lle trwy i'r rhaff dori, a gollwng rhyw nifer o gerbydau i fyned yn deilchion, yn nghyd a thri neu bedwar o deithwyr gyfarfod a'u hangeu disymwth. Dros hon yn bresenol y trosir trafnidaeth Dowlais a'r Taff Vale. Ychydig yn is i lawr, ar yr aswy i'r brif- ffordd, mae hen dy Mr. Hill, yr hwn oedd yn dafarndy er ys 50 neu 60 mlynedd yn ol. Yn is i lawr eilwaith, yr oedd tafarn tua'r un amser yn y ty lle y bu D. Joseph, Ysw., arolygwr Gweithiau Pentrebach. Ar yr ochr orllewinol i'r afon mae i'w weled Cwmcanaid. Cafodd yr enw oddiwrth felin-ganu fu yn y lle. Cyn yr amser hwnw arferid ei alw yn Cwmyglo, am mai yno, yn ol pob tebyg, oeddid yn arferol o gael glo yn yr hen amser. Abercanaid, neu Abercaned, sydd bentref bychan, wedi derbyn ei enw oddiwrth aber, lle ymuna yr afon Caned a'r afon Taf. Mae y lle hwn yn ddarnodiad o ddiwydrwydd yr 20ain mlynedd diweddaf. Yn ei ymyl mae glo bwll y graig, perthynol i Mr. William Rees, ac y mae yma amryw o lo byllau ereill, megys y Waunwyllt, perthynoj i Jenkins, Gethin, a Chastell-y-wiwer, &c., i'r Crawshays. Cymerodd tanchwa echryslawn le yn nglo bwll y Gethin ar y 19eg o Fawrth, 1862, pryd y collodd 49 o ddynion eu bywydau, ac y gwnawd lluaws yn weddwon ac amddifaid. Tuag at gynorthwyo y cyfryw yn nydd trallod ac helbul, casglwyd swm dda o arian trwy haelioni a charedigrwydd boneddigion a boneddigesau yr ardaloedd cylchynol. Perthynai yr oll o'r Gweithiau glo hyn, sydd ar diroedd Arglwydd Dynevor a Richards, 'i'r Crawshays, Gyfarthfa, a chludid y glo oddiwrthynt tua'r Gwaith dros gledrffordd a wnawd yn ystod y 10 mlynedd diweddaf. Troedyrhiw, fel Abercanaid, sydd bentref tra chyfleus a phrydferth, wedi neidio i fodiant yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf, trwy fod y Gweithiau glo a enwyd, yn nghyd a glo bwll a agorwyd ar y Dyffryn gan y diweddar Mr. Hill, yn gyfleus iddo . Nid oedd yma cyn y cynydd diweddar oni nifer fechan o hen dai, sef tai Castell-y-wiwer, Pen-y-cwar, a Phont-y-rhun, yr hon a dderbyniodd yr enw, yn ol yr hyn a allwn farnu, oddiwrth Rhun Dremrudd, brawd Tydfil, a mab Brychan Brycheiniog. Un o'r tafarndai cyntaf ger y lle hwn oedd yr hen Harp, ond y mae amryw o honynt уп у lle yn awr, yn nghyd ag amryw faelfaoedd prydferth; ac ar у lle ysaif un o honynt yn awr, sef maelfa Mr. Sharp, yr oedd melin at falu yd ffermwyr y gymydogaeth, &c.; ac yn y ty perthynol i'r felin hon, yr arferai yr ymneillduwyr yn yr ardal ymgynull i addoli yn yr hen amseroedd; ond y mae gwawr rhagluniaeth wedi ymagor bellach uwch ei ben, fel y mae ynddo yn bresenol gystal ac mor gyfleus lleoedd i addoli ag sydd gan neb pentrefwyr yn Nghymru. Medda amryw dai ag sydd yn addurn i olwg y lle, sef eiddo E. W. Scale, Ysw., W. R. Smith, Ysw., L. Lewis, Ysw., ac ereill. Medda boblogaeth o 3,500.

GOLYGFA FOREUOL AC HWYROL AR FERTHYR A'I GYFFINIAU ODDIAR UN O'R BRYNIAU CYFAGOS.

Gyda bod arwr y dydd yn estyn o eithafoedd y dwyrain i dori ar ddystawrwydd y cyfnos, gwasgarai y nifwl a'r tarth i roddi ail gyfle i ddyn ganfod anian yn ei gwisgoedd amryliw a gogoneddus, yn nghyd a duwies celf yn marchogaeth ar adenydd ager allan o safleoedd y gwahanol gledrffyrdd, a'r llall yn dyfod i mewn yn ei nerth a'i rhwysgfawredd fel pe am herio nerth yr oll o breswylwyr y dydd; a'r afon Taf yn ddysglaer ymddolenu rhwng ei cheulanau tua'r gwaelodion, dros wastadedd paradwysaidd y Dyffryn, tra mae mwg peirianau a ffwrnesau, yn nghyd a mwg miloedd o dai yn esgyn i fyny yn unionsyth tua bro asur. Gwelid dynion wrth yr ugeiniau, yn wyr traed, marchogion, a cherbydwyr, yn brysio yn mhob cyfeiriad; a chlywed cloch yr Eglwys yn rhoddi cnul oernadol i arwyddo marwolaeth rhywun, tra byddai'r awrlais su rhifo'r oriau, a thwrf syfrdanol olwynion masnach yn taro'n ddiorphwys ar y glust. Yn y nos, wedi i emrynt y dydd gauad ar ein gwlad, a mentyll y ddunos ei hamdoi i ddwyn dystawrwydd pruddaidd dres goedwigoedd, glynau, a mynyddoedd, gwelid mil a mwy o fân oleuadau yn gwingo yn mhob cyfeiriaifiachiadau rhuddgochion a brochus yn dyrchafu o eneuau yr amrywiol ffwrnesau—dynion i'w gweled yn ol ac yn mlaen rhyngom a goleuni y tanau a'r fflamiau—swn morthwylion ac olwynion, yn nghyd ag ambell screch oernadol gan y llifau, a thwrf dwfnddwys y peirianau yn clecian yn ddiarbed ar y glust, fel y gellid meddwl fod Vulcan-gof-duw dychymgol y Groegiaid wedi cynull ei alluoedd i'r un man er mwyn dychyrynu teithwyr ac ymwelwyr. Gwelir goleuni y Gweithiau hyn yn taro ar yr wybren ddeg neu bumtheg milltir o'r lle, am hyny, nid rhyfedd i'r golygfeydd mawreddog hyn gynhyrfu plant yr awen ydynt wedi cael eu tynu drwy bair Ceridwen, i ganu yn y dull a ganlyn—

"O'i thywyll weithfeydd eang,
O ddyn byw! Clyw, clyw y clang;
Goleuni'r ffwrnesau drwy'n hoff fro isel,
Hed yn llif rhuddaur dros gaerau'r gorwel;
Mynwes y nefoedd o'i mewn sy'n dân ufel;
Gloewodd y tywyll wagleoedd tawel;
Hwynt yn awr ynt un oriel--lewyrchus,
O'r bryniau iachus i'r wybren uchel."

Edrych ar y drych eirian—rhyw ddunos
Arddun yw'r olygfan;
Ail ydyw'r fflamwawr lydan
I urddas dinas ar dan, —Dewi Wyn o Esyllt.


"Y llifiad irad yrodd—yn wyllt
Hen alltud ddychrynodd;
Ac yn ei fraw, draw fe drodd;
O'r adwyth blin y rhedodd.

Rhedodd oddiwrth y rhodau—echrys
Mewn dychryn yn fuan,
A gwedd hyll; gwaeddai allan,
O wyr, dewch ! Mae'r byd ar dân."—R. Williams


YR EGLWYS WLADOL

Gwahaniaethir mewn barn mewn perthynas i'r eglwys a gyflwynwyd i fod yn goffadwriaeth am St. Tydfil. Myn rhai, ac yn eu plith Taliesin Williams (ab Iolo), i ni gredu nad oes gan hen eglwys Merthyr hawl i'r enw, am mai i St. Mary, meddent, y cyflwynwyd hi yn y dechreu, a bod yr eglwys a gyflwynwyd i St. Tydfil, yn sefyll ar gae Tydfil, yn y man y saif y Penydaren Mansion House; a thuag at brofi'r gosodiad neu'r dybiaeth hon, mae gweddillion hen furiau yr eglwys—y palmant—y mur oedd o gylch y fynwent, yn nghyd ag esgyrn bodau dynol a ddarganfyddwyd yno wrth gloddio sylfaen y ty a enwasom, Bu rhai o'r gweddillion hyny yn cael eu cadw, a'u harddangos dros lawer o flynyddoedd, yn Ngwaelod-y-garth, Merthyr. Dywed awdwr arall i Tydfil gael ei lladd ar fynydd Gelligaer, gerllaw Capel y Brithdir, lle mae maen a cherfiad arno. Yn y flwyddyn 1817, gosododd y Parch. J. Jenkins, D.D., diweddar weinidog y Bedyddwyr yn Hengoed, y llythyrenau ar ei ddyddlyfr, fel yr oeddynt ar y maen. [Gan mai yn hen lythyrenau Coelbren y Beirdd yr oedd y cerfiad, nid oes genym y fath yn y swyddfa.] Ar y 12fed o Ionawr, 1822, talodd Mr. William Owen, o Fon, ymweliad a'r Parch. J. Jenkins, D.D., pryd y cyfieithodd y geiriau i'r Gymraeg, yr hyn sydd fel y canlyn,

T F S E R M A
C N S R I L I
A S F D А N J
H I C S I А C І T


Y geiriau yn gyflawn sydd fel hyn,-

Tydfil Senta Regina Martyr
Censorius Kilemax
Acendera Fidelis Aniama
Hic Somaticus Jacit


yr ystyr Gymraeg, —

Tydfil, santes, tywysoges, a merthyr, a ddanfoniwyd at yr hwn oedd mewn awdurdod o drefnu pethau, ac a ddyfethwyd, ac yn ebrwydd ei henaid ffyddlon a ddyrchafodd i fyny i'r nefoedd, ac yma mae ei chorff yn gorwedd.

Gadawn i'r darllenydd farnu drosto ei hun mewn perthynas i'w gywirdeb.

Mae yn ngodreu plwyf Merthyr weddillion dau Gapelau Eglwysig nad oes braidd gymaint a thraddodiad wedi ei drosglwyddo i lawr i'r oes hon am danynt Capel y Van a adeiladwyd ar Gefn y Van, yr hwn sydd fryn uchel, yn perthyn i Mr. Jenkins, Abervan-fawr, yn y plwyf hwn. Dewiswyd y fan hon i adeiladu arno, am ei fod yn gyfleus i breswylwyr Cwm-cynon, yn gystal a Chwm-Taf,[7] ac am ei fod yn fan noeth, rhwng cymoedd a gelltydd disathr ac anhygyrch. Yn arwain tuag ato, ar yr ochr orllewinol, mae rhiw ag sydd yn cael ei galw hyd heddyw Rhiw'r-Capel, yr hon oedd yn y cyfnod hwnw ar gwr uwchaf gallt fawreddog—olion o'r lleoedd oedd ei choedydd yn cael eu gwneud yn olosggoed sydd yn ganfyddadwy yno hyd heddyw. Capel y Fforest-gweddillion yr hwn, yn nghyd a thy anedd, a mynwent sydd yn gorwedd mewn ychydig bant ar y mynydd, rhwng Taf a Bargoed, tua dwy filltir i'r dwy. rain o Droedyrhiw. Tebygol i hwn gael ei adeiladu gyfnod yn ddiweddarach na Chapel y Van; o herwydd mae traddodiad yn dyweyd wrthym fod pregethu wedi bod ynddo er ys tua 200 o flynyddoedd yn ol, a bod dwy hen ferch weddw yn byw yn y ty perthynol i'r capel, y rhai a symudasant oddiyno i ryw le tua deheubarth y swydd hon, pan y rhoddwyd i fyny bregethu yn y lle, rywbryd yn amser Cromwell. Mae swm o arian wedi eu gadael yn y drysorfa eglwysig tuag at ei ailadeiladu, ac y mae siarad wedi bod yn ddiweddar, yn mhlith yr eglwyswyr, am ymaflyd yn y gorchwyl, ond y mae yn aros hyd yn hyn yn ddigyfnewid. Eglwys Verthyr, sef St. Tydfil, a adeiladwyd yn y flwyddyn A.D. 1807, a'r clochdy yn 1829, yr hwn a gynwysa awrlais oleuedig er rhoddi mantais i'r trefwyr ganfod yr awr a'r fynyd o'r nos yn gystal a'r dydd. Ac wrth dynu i lawr yr hen eglwys, yr hon oedd yn sefyll ar yr un sefyllfan a'r un bresenol, deuwyd ar draws arch gareg, yr hon a ffurfiai ran o'i sylfaen, ac ynddi ysgerbwd rhyw fod dynol o hyd anghyffredin. Bernir mai gweddillion un o'r tri brawd cawraidd oedd, a adeiladasant y mur mawr, heb un goed-daflod (scaffold), yr hwn sydd o 12 i 13 troedfedd o uwchder, ger Caerdydd, hyd heddyw, ac yn cael ei galw Mur y tri Brawd. Gosodwyd hi tu allan i furiau yr eglwys, ac mae'r Llythyrenau sydd yn gerfiedig arni wedi bod o bryd i bryd yn destyn sylw llawer o hynafiaethwyr.

Periglor presenol yr eglwys hon yw y Parch. John Griffith, a'r fywoliaeth sydd guradaeth barhaus yn Urdd-ddiaconiaeth ac esgobaeth Llandaf. Ei gwerth blynyddol sydd tua £1,700, ond y mae rhan helaeth o'r swm yma yn cael ei gwneud i fyny trwy dir-dal y Glebeland. Cyfarfodydd Cymreig am 11 yn y boreu, a 6 yn yr hwyr, ac yn Seisnig, am 3 yn y prydnawn.

Eglwys y Gyfarthfa a adeiladwyd gan Richard Crawshay, Ysw. tua dechreu y ganrif bresenol. Gwasanaethir hi gan y Parch. John Howell. Cyfarfodydd am 11 a 6 yn yr hwyr.

Eglwys Dowlais a adeiladwyd yn y flwyddyn 1827. Gwasanaethir hi yn bresenol gan y Parch. John Jones. Cyfarfodydd Cymreig am 9 a 3 yn y prydnawn, a Seisonig am 11 a 6 yn yr hwyr.

Eglwys St. David, Heol fawr, Merthyr, a adeiladwyd yn y flwyddyn 1846, ac a agorwyd Medi yr 8fed, 1847. Gwasanaethir hi gan y Parch. John Griffith, periglor. Cyfarfodydd yn Seisnig am 11 a 6.

Eglwys George's Town a adeiladwyd tua'r flwyddyn 1859. Gwasanaethir hi gan y Parch. J. Howell.

Eglwys Pentrebach a adeiladwyd gan A. Hill, Ysw. Gwasanaethir hi gan y Parch. John Green.

Eglwys Troedyrhiw a adeiladwyd ar draul yr un boneddwr. Curad, y Parch. T. Thomas.

BRASLUN O DDECHREUAD, A CHYNYDD YMNEILLDUAETH YN Y PLWYF HWN.

Yr ydym yn wir falch o'r cyfleusdra o gael hamdden i gofnodi plwyf Merthyr Tydfil, fel wedi bod yn gryd ymneillduaeth, pan oedd megys plentyn egwan, newydd adael tywyll fyd ofergoelus a thraws arglwydd aeth uchel eglwysig a phabyddol, i fyd bradwrus ac erledigaethus, yr hyn bethau oeddynt fel tonau cynddeiriog yn ymdaflu ar draws ei chyfansoddiad o bob cyfeiriad; ond er ei bod yn wannaidd ei golwg, yr oedd yn cael ei chynnal a'i meithrin gan yr hwn a fyn " weled o lafur ei enaid a chael ei ddiwallu." Cwm-y-glo, yn mhlwyf Merthyr Tydfil, y torrodd gwawr diwygiad Protestanaidd gyntaf yn Nghymru, yn ôl y tystiolaethau mwyaf cyffredin; Ie, yn y gilfach anial a mynyddig yma y blagurodd Ymneillduaeth, yr hon sydd a'i changau erbyn heddyw wedi ymledu dros rannau o bedwar ban y byd. Er fod gennym hanes fod cyfarfodydd yn cael eu cynnal ar hyd y tai yn Blaengwrach, ac mewn lleoedd anghyfannedd, mewn tri man cyn adeiladu capel Cwm-y-glo; sef yn Blaengwrach, Aberdar, a Merthyr. Y pregethwr a'r gweinidog trwyddedig cyntaf ag sydd genym hanes am dano ag oedd yn gweinidogaethu yn y lleoedd hynny oedd y Parch. Thomas Llewelyn, Glyn Eithinog, Rhigos, yr hwn oedd yn Fardd da, ac yn ysgolaig rhagorol. Yn y flwyddyn 1540, gwnaeth droi cyfieithiad Saesoneg Tyndal o'r Bibl i'r Gymraeg. Derbyniodd ei drwydded i bregethu gan yr Archesgob Grindall, ac erlidiwyd ef gan Laud am weddïo heb lyfr, a phregethu mewn lleoedd anghysegredig. Tua'r flwyddyn 1620, yr amser ymunwyd yn Cwm-y-glo, yr oedd un hen ŵr yr hwn oedd yn aelod gyda'r Bedyddwyr, a elwid yn gyffredin "Hen Saphin," yn dyfod o ardal Penybont-ar-ogwy nos Sadwrn, gan dramwy agos drwy y nos er cyrhaedd i fod mewn cyfarfod ar Hengoed boreu y Sabboth, ac oddiyno i gyfarfod prydnawn yn Cwm-y-glo.

Yn y flwyddyn 1669 gwysiwyd y duwiolfrydig Vavasor Powell, dan gyhuddiad a ddygodd George Jones, offeiriad y lle yn ei erbyn; yr hyn oedd dwyn byddin arfog i fynwent Eglwys Merthyr, pan nad oedd ganddo mewn gwirionedd, yn ôl y tystiolaethau cywiraf a fedd yr Ymneillduwyr, ond torf o tua mil o wrandawyr astud a sychedig am eiriau y bywyd tragywyddol, i'r rhai hyn y pregethodd ei bregeth olaf ar y ddaiar hon, oddiwrth Jer. xvii. 7, 8; i sefyll ei brawf yn y Bontfaen; oddiyno gwysiwyd ef i Gastell Caerdydd, yn garcharor; oddiyno cymerwyd ef i garchar yn Llundain, dan y cyhuddiad o fod yn ysgrifennu a phregethu yn anffafriol i Charles II, ac yn bleidiol i Cromwell. Bu yn garcharor yno dros 11 mlynedd, pryd a'r lle y bu farw yn orfoleddus wedi ei dynnu trwy 13eg o garcharau, a chladdwyd ef yn Bunhill Fields, lle gorphwys ei weddillion hyd y boreu mawr.

Yr oedd pump o wahanol gredoau yn ymgynnull yn Cwm-y-glo, sef Bedyddwyr, Annibynwyr, Crynwyr, Presbyteriaid, ac Undodiaid, a buont fel hyn yn cydgyfarfod hyd y flwyddyn 1650, pryd aeth y Bedyddwyr i Hengoed, y Crynwyr i Fynwent-y-Crynwyr, yr Undodiaid i Gefn Coed-y-Cymer, ac arosodd y gweddill yn Cwm-y-glo, hyd adeiladiad yr Ynysgau yn y flwyddyn 1 749. Enwau y rhai fuont yn gweinidogaethu yn Cwm-y-glo a'r Ynysgau hyd yn bresennol, sydd fel y canlyn : y Parch Thomas Llewelyn, Cadben Harri Williams, yr hwn a weinidogaethodd o'r flwyddyn 1640 hyd 1673, Henry Maurice, o 1673 hyd 1683, Roger Williams, o 1683 hyd 1715, James Davies, o 1715 i 1720. Urddwyd Richard Rice yn gyd-weinidog ag ef tua'r flwyddyn 1717. Yr oedd у blaenaf yn Galvin a'r olaf yn Armin.

Yn 1747, ymrannwyd, ac aeth rhai i'r Cefn, ar gweddill i'r Ynysgau, Yna y daeth mab James Davies yn gyd-weinidog a'i dad, ac ar ei ôl ef daeth Davies, Cefn, yn y flwyddyn 1785, ac yna Evans, ar ei ôl J. Morris, sydd yn awr wedi troi at yr Eglwys Wladol, wedi hynny Jones, ac ar ei ol yntau Price Howell, yr hwn yw eu gweinidog presennol yn y flwyddyn 1863. Adgyweiriwyd y capel yn y flwyddyn 1821. Cyfarfodydd am 11, a 6.

Capel Annibynol Soar a adeiladwyd yn y flwyddyn 1803. Helaethwyd ef yn y flwyddyn 1825 ac 1841. Cyfarfodydd am 11, a 6. Gwag.

Adulam a adeiladwyd yn y flwyddyn 1831. Cyfarfodydd am 11, a 6. Gweinidog, A. Mathews.

Bethesda a adeiladwyd yn y flwyddyn 1811, ac ail-adeiladwyd tua'r flwyddyn 1822. Cyfarfodydd am 11, a 6. Gweinidog, R. G. Jones.

Y mae Capel bychan yn gangen o'r Eglwys hon, a elwir Gellideg. Cyfarfodydd am 11, a 6.

Penyrheol-gerig a adeiladwyd yn y flwyddyn 1849. Gweinidog S. Jones. Cyfarfodydd am 11, a 6.

Capel Saesoneg a adeiladwyd yn y flwyddyn 1840. Cyfarfodydd am 11, a 6. Gweinidog, y Parch. J. T. Davies.

Bethania, Dowlais, a adeiladwyd yn y flwyddyn 1824, ac ail-adeiladwyd yn y flwyddyn 1827. Helaethwyd yn y flwyddyn 1839. Cyfarfodydd am 11, & 6. Gweinidog, Parch. J. Hughes.

Bryn Seion a adeiladwyd yn y flwyddyn 1832, ac ail-adeiladwyd yn 1844. Cyfarfodydd am 11, a 6. Gweinidog, y Parch. D. Roberts.

Gwernllwyn a adeiladwyd yn y flwyddyn 1860. Cyfarfodydd am 10, a 6. Gweinidog, y Parch. J. H. Hughes.

Penywern, cyfarfodydd am 11, a 9. Gweinidog, y Parch. J. M. Bowen.

Abercanaid a adeiladwyd yn y flwyddyn 1861. Cyfarfodydd am 11, a 6. Gweinidog, y Parch. D. Thomas.

Troedyrhiw a adeiladwyd yn y flwyddyn 1835. Cy. farfodydd am 11, a 6. Gweinidog, y Parch. W. Morgans.

Penydaren, Horeb, a adeiladwyd yn y flwyddyn 1839. Cyfarfodydd am 11, a 6. Gweinidog, y Parch. J. M. Bowen.

Salem a adeiladwyd yn 1858. Gweinidog, Parch. T. Jenkins. Cyfarfodydd am 11 a 6.

BEDYDDWYR.

Capel Seion a adeiladwyd gan gangen o Hengoed, yn y flwyddyn 1791, ac ail-adeiladwyd yn y flwyddyn 1807; a thrydydd adeiladwyd yn y flwyddyn 1841.

Y gweinidog cyntaf ag sydd genym hanes sicr am dano yn yr eglwys hon oedd, y Parch. D. Jones, o Drefdraeth, Penfro. Rhys Jones, eto, o'r flwyddyn 1802 hyd 1814. D. Saunders, John Jones a Chornelius Griffiths. Cyfarfodydd am 11, a 6.

Ebenezer a adeiladwyd gan gangen o Seion, yn y flwyddyn 1794, ac ail-adeiladwyd yn y flwyddyn 1829. Gweinidog presenol, y Parch. J. Lloyd. Cyfarfodydd am 11, a 6.

Bethel a adeiladwyd yn 1809, ac ail-adeiladwyd yn y flwyddyn 1826. Gwasanaeth am 11, a 6. Gweinidog, y Parch. B. Lewis.

Tabernacl a adeiladwyd yn 1842. Cyfarfodydd am 11, a 6. Y mae Ysgol yn gysylltiedig a'r eglwys hon ar arddull Normanaidd.

Elim a adeiladwyd yn y flwyddyn 1842. Cyfarfodydd am 11, a 6.

Hebron a adeiladwyd yn y flwyddyn 1841. Cyfarfodydd am 11, a 6. Gweinidog, y Parch. T. Roberts.

Caersalem a adeiladwyd yn 1830 Gweinidog, y Parch. E. Evans. Cyfarfodydd am 11, a 6.

Y diweddar J. Jenkins, D.D. Hengoed, a fu yn offerynol i gychwyn yr achos yn Dowlais.

Abercanaid a adeiladwyd yn y flwyddyn 1841. Gweinidog, y Parch. J. Evans. Cyfarfodydd am 11, a 6.

Y Deml a adeiladwyd yn y flwyddyn 1861. Gweini. dog, y Parch. J. Evans.

Ainon a adeiladwyd yn y flwyddyn 1859. Gweini. dog, y Parch. J. G. Phillips.

Carmel, Troedyrhiw. Gweinidog, y Parch. W. Jenkins.

Y METHODISTIAID

Capel Pontmorlais. Cyfarfodydd am 11 a 6.

Pensylvania a adeiladwyd tua'r flwyddyn 1800, ac ail adeiladwyd efyn y flwyddyn 1834 Gwasanaeth am 10 a 6.

Capel Cae Pant-tywyll a adeiladwyd yn y flwyddyn 1841. Cyfarfodydd am 10 a 6. Hermon a adeiladwyd yn y flwyddyn 1827, ac ail adeiladwyd ef yn y flwyddyn 1841. Cyfarfodydd am 2 a 6.

Capel y Graig a adeiladwyd yn y flwyddyn 1847. Cyfarfodydd am 10 a 6.

Libanus, Dowlais. Cyfarfodydd am 10 a 6.

Y WESLEYAID

Capel Pontmorlais a adeiladwyd yn y flwyddyn 1797. Gweinidog, y Parch. Mr. Lewis. Cyfarfodydd am 10. a6. Siloh a adeiladwyd yn y flwyddyn 1830. Cyfarfod ydd am 10 a 6. Siloh, eto, a adeiladwyd yn y flwyddyn 1845. Cyf. arfodydd am 10: a 6.

Capel y Wesleyaid Seisnig a adeiladwyd yn y flwyddyn 1830. Cyfarfodydd am 10½ a 6.

Capel Troedyrhiw. Cyfarfodydd am 10 a 6.

YR UNDODIAID

Capel Twynyrodyn a adeiladwyd yn y flwyddyn 1821. Gweinidog, y Parch. Mr. Williams. Cyfarfodydd yn yr haf am 11 a 6.

Y PRIMITIVE METHODISTS

Capel Burnell's Field a adeiladwyd yn y flwyddyn 1847. Cyfarfodydd am 10½ a 6.

Capel eto, a adeiladwyd,yn y flwyddyn 1846. Cyfarfodydd am 2½ a 6.

Cynalia yr Iuddewon gyfarfodydd yn nhy Mr. Barnett, Heolfawr, bob prydnawn dydd Gwener a dydd Sadwrn, am 8 yn y boreu, a 2 yn y prydnawn.

Capel y Pabyddion, Gellifaelog, a adeiladwyd yn y flwyddyn 1846. Offeren am 9½ , a phregethu am 10.

Cyfrifir y cynwysa yr oll o'r capelau a enwasom tua 11,346 o aelodau yn 1863, a 11,000 o ysgolheigion yn yr ysgolion Sabbathol. Ac i'r dyben o roddi cyfle teg i'r darllenydd ffurfio dirnadaeth gywir a gynydd a mawredd y lle yn ei fanteision crefyddol, rhoddwn y daflen ganlynol i lawr,—

Ac er fod annuwioldeb yn uchel yn Merthyr, a mor uchel feallai ag unrhyw barth o Gymru! a dwyn dan ystyriaeth y manteision mawreddog mae rhagluniaeth y nef wedi estyn i'w breswylwyr, gyda gradd o hyfrydwch, ymffrostiwn yn ei grefyddolder, yr hon sydd goronbleth odidog ar ei ben, fel y gellir dyweyd am dano, "Lle yr amlhaodd pechod y rhagor amlhaodd gras." Mae yn Merthyr hefyd rai o'r cantorion enwocaf yn eu hoes, ac yn eu plith gwnawn enwi Ieuan Gwyllt, Rosser Beynon, (Asaph Glantaf), Cerddor Tydfil, a Tydfilyn, fel y gallwn farnu fod cerddoriaeth mewn cymaint bri ac anrhydedd yma ag unrhyw dref rhwng bryniau cribog Cymru.

BYRDRAETH AR SEFYLLFA ADDYSG A LLENYDDIAETH YN Y PLWYF.

Yn ngodreu y plwyf, er ys tua thriugain a deg o flynyddoedd yn ôl, nid oedd yma yr un ysgol ddyddiol na Sabbathol, ac anfonid yr ychydig blant oedd yma y pryd hwnnw i ysgol a gynhelid yn Nghraig y Fargoed; ac felly, yr oedd gan yr ysgolheigion i gerdded tua thair milltir foreu a hwyr. Yr ysgolion cyntaf yn Merthyr, o unrhyw sylw oeddynt yr Ysgol Rydd, ger y Tanerdy, a gedwid ar draul y plwyf -Ysgol yr Ynysgau, Ysgol George Williams, ac Ysgol David Hughes, ger Capel Seion. Yn y flwyddyn 1815, nid oedd yn y plwyf ond pedair o ysgolion dyddiol, yn cynnwys tua 250 o ysgolheigion. Yn 1845, yr oedd 32 o ysgolion, heblaw rhai Dowlais. Cynwysent rhwng 6,000 a 7,000 o ysgolheigion. Un o'r rhai goreu a ystyrir yn y lle hwn ydyw Ysgol Tydfil, gan Mr. E. Williams. Ond y mae yma amryw ereill o ysgolion gwir dda yn anibynnol ar y gwahanol ysgolion a gynhelir yn rhannol gan gwmni y gweithfeydd a'r gweithwyr; y rhai hyn oll ydynt ar gynllun cenedlaethol, yn cael eu llywodraethu yn bennaf gan gynrychiolwyr yr Eglwys Wladol. Trefnodd y diweddar A. Hill, Ysw amryw o ysgolion buddiol a daionus yn ei ddydd ac yn eu plith Ysgol y Pentrebach a Throedyrhiw; ar gyfer yr olaf, dechreuodd ar y gwaith o adeiladu ysgoldy eang a chyfleus, ond cyn iddo gael ei orphen, symudwyd ef gan angeu i'r tŷ rhagderfynedig i bob dyn byw; gan hynny, disgynnodd y draul, a'r gofal o'i orphen ar y cwmpeini newydd, Hankey, Bateman, &c. Y peth pennaf sydd gennym i rwgnach o'i herwydd mewn cysylltiad ag addysgiaeth yw, nad oes yma yr un Ysgol Frytanaidd o fewn y plwyf, yr hon a allai fod o fawr wasanaeth mewn ardal mor boblogaidd ac Ymneillduol a Merthyr. Hyderwn y cymer rhyw rại hyn dan eu hystyriaeth, fel y ceir un dda, er mwyn ychwanegu eto at fanteision y do ieuanc sydd yn codi.

Y Neuadd Ddirwestol sydd adeilad hardd, adeiladwyd yn y flwyddyn 1852, ac y mae wedi bod yn faen-tynfa y bardd a'r llenor, &c., bellach er ys llawer o flynyddoedd.

Y Llyfyrgell sydd yn Thomas Town, lle derbynnir i fewn newyddiaduron dyddiol ac wythnosol yn nghyd a chylchgrawnau misol Cymraeg a Seisnig, ac y cedwir tua 2,934 o gyfrolau yn cynwys llyfrau yn y ddwy iaith a enwasom. Sefydlwyd hon trwy danysgrifiadau gan tua 308 n aelodau, a llywyddir ei hachosion gan bwyllgor a etholir yn flynyddol o'r tanysgrifwyr. Ei blynyddol dderbyniadau ydynt tua £130. Mewn cysylltiad a'r llyfrgell hon mae Cymdeithasau Llenyddol, megys Young Men's Christian Association, a Mechanics' Institution; ei hysgrifenydd yw Mr. Thomas Stephens, (Casnodyn.) Y Gymdeithas Gymreigyddol gyntaf o werth sylw a gychwynnwyd yn y Patriot, ag a symudwyd oddiyno dan dywysiad Ab Iolo, Rhydderch Gwynedd, Gwilym Tew o lan Taf, a Lewis Morgan, Feddyg; a chynhelid canghennau o honni ar hyd tafarnau ereill, megys y Bell Inn, y Swan, The George, Dyffryn Arms, Bush Hotel, a'r White Horse Inn, ar Dwynyrodyn. Tua'r blynyddau 1840, 1841, 1842, 1843, a 1844, cynhaliodd y pwyllgor a enwasom amrai Eisteddfodau rhwysgfawr a mawreddus yn Merthyr, pryd meddir, y rhoddwyd y testyn ffug-hanesol a bugeilgerddol gyntaf yn Nghymru. A dywedai rhai mae yma y rhoddwyd y mesur arwrol gyntaf i gyfansoddi arno yn yr iaith Gymraeg. Ond ymddengys nad ydyw y dybiaeth olaf yn gywir, oblegyd mae gennym hanes i Daniel Ddu o Geredigion, a William Saunders, pryd hwnnw o Llanymddyfri, fod yn gyd-fuddugwyr ar gerdd-arwrol ar y Gauaf mewn Eisteddfod, yn Nghaerfyrddin, yn y flwyddyn 1828. Ond beth bynnag am Eisteddfodau Merthyr, mae yn wirionedd profadwy iddynt fod yn achosion i ddadblygu llawer o dalentau, a chodi amrai enwogion i barch a sylw y genedl, megys T. Stepheus (Casnodyn,) awdwr " The literature of the Cymru," &c., Rees Lewis, Nathan Dyfed, Bardd y Grawerth, T. Powell, T. Davies, ac amryw ereill. Nid ydyw dylifiad estroniaid, na nerth llifeiriol y Saesonaeg, wedi llwyddo i ddiffodd y tan cenedlaethol a ferwa yn gwythenau y Cymro dros ei iaith, oblegyd cynhelir yma Eisteddfodau yn flynyddol mewn amryw fannau, megys yn Dowlais, yn Tabernacl, Merthyr, ac yr oedd y 10fed Eisteddfod yn cael ei chynnal yn y Neuadd Ddirwestol, Nadolig diweddaf, 1863. O gychwyniad yr Eisteddfodau hyn hyd yn awr maent wedi dwyn i'r goleu amryw sêr newyddion yn ffurfafen llenyddiaeth a barddoniaeth, megys Tydflyn, R. G. Jones, awdwr y "Darlithiau ar Lyfr y Dadguddiad," &c., J. Rees, Penydaren, awdwr "Rees's History of Merthyr," &c., Gwilym Gellydeg, Dafydd Morganwg, Ab Rhun, Howell Morganwg, ag ereill rhy faith eu henwi. Tua'r flwyddyn 1859, cynhaliwyd Eisteddfod rwysgfawr yn Nhy'r Farchnad, pryd oedd yn wyddfodol rai o brif feirdd, llenorion, a cherddorion Deheudir Cymru, yn cymeryd rhan yn eu gwasanaeth. Enillwyd gwobrwyon o tua £20 gan rai o'r gwahanol fuddugwyr, yn eu mysg yr oedd Llew Llwyfo ar Gwenhwyfar. Nid oes ond dau Newyddiadur yn cael eu hargraffu yn Merthyr, sef y Merthyr Telegraph a'r Merthyr Star. Yn awr yr ydym yn terfynu ein hanesiaeth, gyda dweyd ein bod wedi gochel pob peth a allasai daflu anfri ar y lle i'r oes a'r oesau a ddel, heb eu dwrn i fewn o gwbl, oblegyd ystyriem na fuasai hynny o nemawr ddyddordeb i wedi cofnodi thai ystadegau, &c., yn anghywir, gwnaeth unrhyw ddarllenydd ystyrbwyll a difrifol. Ac os ydym am hynny mewn amryfused ", trwy gael ein camarwain gan rai a styrient eu hunain yn gywir yn hynny o hwne. Gan hynny, dymunem ar i ti ddarllenydd ymddwyn atom yn ôl fel y dymuni i Farnwr byw a meirw ymddwyn atat tithau ddydd y frawdlys olaf,

CYNWYSIAD
Rhagymadrodd
Y dull y cafodd Merthyr yr enw
Hanesiaeth y Court House a Chastell Morlais
Yr arglwyddi boreuol o'r plwyf a trosiad eu hetifeddiaethau i'r arglwyddi presennol
Enwau y tyddynod-eu perchenogion a'u deiliaid
Cofrestr rai o'r teuluoedd hynaf a pharchusaf yn y plwyf
Trem ar arwynebedd y plwyf
Haiern weithfeydd y plwyf
Gwaith y Gyfarthfa-trefniad y brif ffordd a'r gamlas
Yr hen dy ger gwaith y Gyfarthfa, elw etifeddion Bacon, &c
Gwaith Penydaren House a Adeiladiad y Penydaren Mansion House a gwneuthuriad y ffordd haiarn i'r Basin
Gwaith Plymouth
Cyfoeth mwpol y plwyf
Golygfa ddychymygol ar y lle bedair canrif yn ôl
Terfysg 1800
Eto 1831.
Hanesiaeth gyffredinol
Yr Eglwy, Wladol Dechreuad a chynnydd Ymneillduaeth
Addysg a llenyddiaeth

ARGRAFFWYD GAN J, T. JONES, ABERDAR.

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.

 
  1. Cyn dyfeisio'r awyren adenydd ar ddechrau'r 20G, defnyddid y term awyren i gyfeirio at falŵn awyr poeth
  2. Gall mai oddiwrth sant a gydoesodd a Tydfil, yn yr ardal hon, y derbyniodd yr enw.
  3. Gorphenwyd y Nwy Weithiau yn y flwyddyn 1836.
  4. Yma bu farw lolo Morganwg.
  5. Perchenog boreuol y ddau Gae draw oedd Edwards Rheola, ac yna A. Hill, Ysw., ac yn olaf ei Ymddiriedolwyr a'i etifeddion
  6. Bu Plwyf Llanwono yn yr undeb, ond tynodd yn ol yn ddiweddar
  7. Meddylia rhai iddo gael ei adeiladu er mwyn cyfleusderau i weithwyr Haiern Gweithfa Pontygwaith.