Y Cywyddwyr Llyfrau'r Ford Gron (testun cyfansawdd)

Y Cywyddwyr Llyfrau'r Ford Gron


golygwyd gan John Tudor Jones (John Eilian)
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Y Cywyddwyr Llyfrau'r Ford Gron

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
John Tudor Jones (John Eilian)
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Y Cywyddwyr (Llyfrau'r Ford Gron)
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Beirdd yr Uchelwyr
ar Wicipedia

Y Cywyddwyr



Llywelyn Goch Amheirig Hen,

Iolo Goch, Sion Cent, Dafydd

Nanmor, Lewis Glyn Cothi,

Dafydd ab Edmwnt,

Gruffydd Hiraethog,

Wiliam Llyn



LLYFRAU'R FORD GRON

RHIF 12



WRECSAM

HUGHES A'I FAB

LLYFRAU'R FORD GRON

Golygydd: J. T. JONES

GWNAED AC ARGRAFFWYD YN WRECSAM

RHAGAIR.

AM ddau can mlynedd wedi marw Dafydd ap Gwilym, tad y mesur cywydd, fe gododd cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth o feirdd i ganu ar y mesur, ac i'w loywi a'i berffeithio.

Yn wir, fe gyrhaeddodd barddoniaeth gaeth Gymraeg ei man uchaf yn ystod y ddau can mlynedd hyn (sef, yn fras, rhwng 1400 a 1600). Y mae'n gyfnod gwir glasurol—y meddwl yn graff a grymus, y teimlad yn fynych yn dyner, a'r mynegi'n hynod o gain. Yr oedd gan y beirdd feistrolaeth wyrthiol ar eiriau, meistrolaeth na welwyd mo'i thebyg wedyn nes daeth T. Gwynn Jones.

Llywelyn Goch Amheirig Hen ydyw'r cyntaf a enwn. Yr oedd ef yn byw yn Nannau, ger Dolgellau, ac yn canu cyn 1400. Y mae ef yn nodedig am ei farwnad i Lleucu Llwyd—rhyw fath o serenade i ferch yn ei bedd. Fe ddaeth hon mor enwog nes i ganu marwnadau i ferched fynd yn ffasiwn. Mynych y gwelir yn rhai o'r marwnadau diweddarach y coegni a'r "teimlad gwneud" a'r gor-ddywedyd sy'n dangos mai o ran ffasiwn y'u canwyd.

Yr oedd Iolo Goch wedi marw cyn 1400 hefyd. "Gŵr hoff o dawelwch mynachlog a phlas, gŵr hoff o lyfrau a myfyrio arnynt," ydoedd ef. Yr oedd yn fardd i Owain Glyn Dŵr yn Sycharth, ac y mae ei gywydd sy'n darlunio llawnder Sycharth wedi ei alw yn un o'r cywyddau hapusaf yn Gymraeg." Y mae ei gywydd i'r Llafurwr hefyd yn enwog—yn dangos mai'r llafurwr mwyn ar y maes ydyw sylfaen y byd.

Mynach oedd Siôn Cent, yn byw yn Kent- church, Sir Henffordd, ac yn ei anterth tua 1400- 1430. Y mae ôl syniadau diwinyddol yn drwm ar ei ganu.

Yr oedd Dafydd Nanmor ar ei orau tua 1460. "Saif," meddai'r Athro W. J. Gruffydd, "rhwng Dafydd ap Gwilym a Dafydd ab Edmwnd, rhwng y cynhyrfiad cyntaf, na fynnai ei gaethiwo ei hunan â gormod rheolau, â'r adwaith clasurol a ddaw bob amser pan fo'r bywyd ieuanc yn tynnu at y blynyddoedd nad oes iddo gymaint diddanwch ynddynt. ... Rhed cywydd Dafydd Nanmor fel yr afon lefn rugl, heb gyffro na thrwst ac heb golli dim o’i gloywder grisialaidd."

Fe ddywedir bod Lewis Glyn Cothi, oedd ar ei orau tua 1450, yn swyddog milwrol, ac iddo, fe ddichon, ymladd yn Rhyfel y Rhosynnau. Y mae ganddo lawer cywydd yn dilyn ffawd y Tuduriaid. Fe welir oddi wrth ei gywyddau hefyd ei fod yn hen gyfarwydd â'r gororau, o amgylch Caer a Fflint. Yn y ddau gywydd yn y llyfryn hwn fe welir dwy ochr ei ddawn,—ei ddawn i wawdio a melltithio Saeson Ffint am chwennych gwrando William Bibydd yn hytrach na gwrando arno ef yn canu awdl gyda'r delyn; a'i dynerwch dwys yn ei farwnad i Siôn y Glyn, ei fab bach pum mlwydd oed. Sylwer ar gyfanwaith gorffenedig ei gywyddau.


Yr oedd Dafydd ab Edmwnt yn ffigiwr pwysîg yn ei ddydd, a chymerodd ran amlwg yn Eisteddfod Caerfyrddin yn 1451 i ddodi rheol ar y beirdd a'u barddoniaeth. Un o Hanmer, Tregeingl, Sir Fflint, ydoedd, a bu farw tua 1500. Y mae eî gywydd i Sion Eos yn brotest yn erbyn lladd am ladd.

Nai a disgybl i Ddafydd ab Edmwnt oedd Tudur Aled, y prif ddyn ymhlith beirdd ei oes, a'r awdurdod pennaf ar gelfyddyd cynghanedd. Yr oedd yn feistr ar ddywediadau byrion, disglair, cynhwysfawr. Gŵr bonheddig ydoedd, a'i ddiwylliant yn blodeuo yng nghanol hamdden. Trigai yn Llansannan, Sir Ddinbych.

Un o ardal Llansannan oedd Gruffydd Hiraethog hefyd, a chan Dudur Aled yr hyfforddwyd ef. Daeth yntau yn athro beirdd, ac yn eu plith yr oedd William Cynwal, Simwnt Fychan, Siôn Tudur a Wiliam Llŷn.

"Nid oes dim yn anwybodus i Willam Llyn," meddai Gruffydd Hiraethog. Tybir mai un o Lŷn ydoedd, ond fe aeth i Groesoswallt i fyw. Yr oedd yn ŵr o ddychymyg byw, ac yn ddigon digonfensiwn i fedru canu yn ei ddull ei hun yn lle yn ôl y patrwm. Y mae ei farwnad i Gruffydd Hiraethog, a'i farwnad i Syr Owain ap Gwilym

yn dangos dwyster gwir gyfeillgarwch a chariad.

CYNNWYS

Lleucu Llwyd

LLYWELYN GOCH AMHEIRIG HEN

LLYMA haf llwm i hoywfardd,
A llyma fyd llwm i fardd!
Nid oes yng Ngwynedd heddiw,
Na lloer, na llewych na lliw,
Er pan rodded, trwydded trwch,
Dan lawr dygn, dyn loer degwch.
Y ferch wen o'r dderw brennol,
Arfaeth ddig yw'r fau o’th ôl.
Cain ei llun, cannwyll Wynedd,
Cyd bych o fewn caead bedd,
F'enaid, cyfod i fyny,
Agor y ddaearddor ddu.
Gwrthod wely tywod hir,
A gwrtheb f'wyneb, feinir.
Mae yma, hoywdra hydraul,
Uwch dy fedd, hoyw annedd haul,
Wr llwm ei wyneb hebod,
Llywelyn Goch, gloch dy glod,
Yn bwhwman rhag annwyd
Ynghylch dy dy, Lleucu Llwyd.
Yn cynnal, hyd tra canwyf,
Cariad ymddifad ydd wyf,
Udfardd yn rhodio adfyd,
O Dduw gwyn! hyd hyn o hyd.
Tawedawg ddwysawg ddiserch,
Ti addawsud, y fud ferch,
Fwyn dy sud, fando sidan,
Fy aros, ddyn loywdlos lân,

Oni ddelwn, gwn y gwir,
Er dy hud o'r deheudir.
Ni chigleu, wythleu ieithlud,
Air na bai wir, feinir fud,
Iawndwf rhianedd Indeg,
Onid hyn o’th enau teg?
Trais mawr, ni’m diddawr am dy,
Torraist amod, trist ymy.
Tydi sydd—mae gywydd gau—
Ar y gwir, rywiog eiriau.
Minnau sydd, ieithrydd athrist,
Ar gelwydd tragywydd trist.
Celwyddog iawn, cul weddi,
Celwyddlais a soniais i.
Mi af o Wynedd heddiw,
Ni wn i ble, loywle liw.
Fy nyn fonheddig ddigawn,
Yn iach! petud iach nid awn.
Lloer wyneb, diareb dioer,
Pell ydwyd mewn pwll lledoer.
Ni ddorwn i, gwn gyni,
Y byd oll, oni bai di.
Ple ca, ni'm dora, dioer,
Dy weled wendw wiwloer
(Ar fynydd, sathr Ofydd serch,
Olifer yr oleuferch ?)
Llwyr y dihaeraist fy llef,
Lleucu, deg waneg wiwnef.
A'r genau hwn gwn ganmawl
A ganwyf tra fwyf o fawl.
F'enaid, hoen geirw afonydd,
Fy nghariad, dy farwnad fydd,

Liwgalch riain oleugain,
Rhy gysgadur ger mur main.
Riain fain, rhy anfynych
Y’th wela, ddyn wiwdda wych.
Cyfod i orffen cyfedd,
I edrych a fynnych fedd,
At dy fardd, ni chwardd ychwaith
Erot dalm, euraid dalaith.
Dyred, ffion ei deurudd,
I fyny o'r pridd-dy prudd.
Anaml yw ôl canoleg,
Nid rhaid twyll 'neutu'r oed teg.
A genais, lugorn Gwynedd,
O eiriau gwawd, eira'i gwedd,
Llef drioch llaw fodrwyaur,
Lleucu, moliant fu it', f'aur.
Cymhenaidd groyw loyw Leucu,
F'annwyl grair, forwyn Fair, fu.
Ei henaid, grair gwlad Feiriawn,
I Dduw Dad, addewid iawn;
A'i meingorff, eiliw mangant,
Meinir i gysegrdir sant,
Dyn bellgof o dan byllgalch,
A da byd i'r gŵr du balch;
A hiraeth, cywyddiaeth cawdd,
I minnau a gymynnawdd.
Lleddf gyfiawn ddeddf ogyfuwch,
Lleucu dlos, lliw cawod luwch.
Myfi, ddyn mwyfwy fonedd,
Echdoe a fûm uwch dy fedd,
Yn wylo deigr llatheugraff
Ar hyd fy wyneb yn rhaff.

Trychnaid llon o'r ffynhonnoedd,
O’r pen mau er poen im oedd.
Ni sych grudd, deurudd dawn,
Gwanas deigr gwynias digrawn.
Tithau, harddlun y fûn fyd,
O'r tewbwll ni'm hatebud.
Pridd a main, glain galarchwerw,
A gudd ei deurudd, a derw.
Gwae fi drymder y gweryd,
A'r pridd ar feistres y pryd,
Gwyrandir ac oer ando,
A phrudd grys a phridd a gro.
Gwae fi fod arch i'th warchae
A tho main rhof a thi mae.
Gwae fi, ferch wen o Bennal,
Breuddwyd oer briddo dy dâl.
Clo dur derw, galarchwerw gael,
A daear, deg ei dwyael.
A thromgadr ddôr a thrymgae,
A llawr maes rhof a'm lloer mae.
A chlud fur, a chlo dur du,
A chlicied,—yn iach, Leucu!

Sycharth:

Llys Owain Glyn Dwr

IOLO GOCH

ADDEWAIS hyn it ddwywaith,
Addewid teg, addaw taith.
Taled bawb, tâl hyd y bo,
Addewid a addawo.
Pererindawd ffawd ffyddlawn,
Perwyl mor annwyl, mawr iawn,
Myned, mau adduned ddain,
Lles yw, tua llys Owain.
Yno yn ddidro ydd af,
Nid drwg, ac yno trigaf,
I gymryd i'm bywyd barch
Gydag ef o gyd gyfarch.
Ef all fy naf uchaf ach,
Aur ben clêr, erbyn cleiriach.
Bid lwys, cyd boed alusen,
Diwarth hwyl, a da, wrth hen.

I'r llys ar ddyfrys ydd af,
o ddeucant oedd ddi-wacaf.
Llys barwn, lle syberwyd,
Lle daw beirdd ar lled byd.
Gwawr Bowys fawr, beues faig,
Gofyniaid gwiw ofynaig.
Llyna'i modd a'r llun y mae
Mewn eurgylch dŵr mewn argae.
Pand da'r llys, pont ar y llyn,
Ac unporth lle'r ai ganpyn?
Cyplau sydd, gwaith cwplws ynt,
Cwpledig bob cwpl ydynt.

Clochty Padrig, Ffrengig ffrwyth,
Cloystr Westmynstr, cloau ystwyth.
Cenglynrhwym bob congl unrhyw,
Cafell aur, cyfa oll yw.
Cenglynion yn y fron fry,
Dordor megis adardy.
A phob un fal llun llyn-gwlm
Sydd yn ei gilydd yn gwlm.
To Napl ar folt y nowplas,
Tŷ pren glân mewn top bryn glas.
Ar bedwar piler eres
Mae'i lofft ef, i nef yn nes.
Ar ben pob piler pren praff,
Llofft, ar dalgrofft, adeilgraff,
A'r pedair llofft o hoffter
I gyd llys clyd lliaws clêr.

Oes to teilys ty, atolwg,
Heb simnai lle magai mwg ?
Naw neuadd gyfladd gyflun,
A naw gwardrob ar bob un.
Siopau glân glwys gynnwys gain,
Siop landeg fel Siêb Lundain.

Croes eglwys gylchlwys galchliw,
Capelau a gwydrau gwiw.
Pob tir llawn, pob tu i'r llys,
Perllan a gwinllan gwenllys.
Parc cwning, maes pôr cenedl,
Erydr a meirch hydr, mawr chwedl.
Gar y llys, ar gwr y llall,
Y pawr ceirw mewn parc arall.
Dolydd glân gwyran a gwair,
Y dau mewn caeau cywair.

Melin deg ar ddifreg ddŵr,
A'i glomendy gloyw, maendwr ;
Pysgodlyn, cyryglyn cau,
A fo rhaid i fwrw rhwydau,
Amlaf lle caid heb ymliw,
Penhwyaid a gwyniaid gwiw;
A’i dri bath ar adar byw
Peunod, cryhyrod hoywryw.
A’i gaith a wna bob gwaith gwiw,
Cyfreidiawl; cyfryw ydiw
Dwyn blaenffrwyth cwrw Amwythig,
Gwirodau, bragodau brig
Pob llyn, bara gwyn a gwin ;
A’i gôg, a'i dân, a'i gegin.
Pebyll beirdd, aed pawb lle bo,
Pe beunydd, caiff pawb yno.
A gwraig orau o'r gwragedd,
Gwyn 'y myd o'i gwin a'i medd!
Merch eglur, llin marchoglyw,
Urddol hael o reiol ryw.
A'i blant a ddeuant bob ddau,
Nythaid teg o benaethau.
Anawdd yn fy nydd yno
Weled na chlicied na chlo,
Na phorthoriaeth, nid aeth neb,
O bai eisiau, heb woseb,—
Na gwall, na newyn, na gwarth,
Na syched fyth yn Sycharth.
Gorau Cymro, tro traglew
Piau'r llyn, pwer y llew ;
Gŵr meingryf, gorau mangre,
A phiau'r llys, hoff yw'r lle!

Y Llafurwr

IOLO GOCH

PAN ddangoso, rhyw dro rhydd,
Pobl y byd, pawb o lu bedydd,
Gar bron Duw, cun eiddun oedd,
Gwiw iaith ddrud, eu gweithredoedd,
Ar ben mynydd, lle bydd barn,
I gyd, Olifer gadarn,
Llawen fydd chwedl diledlaes
Llafurwr, tramwywr maes.

O rhoddes, hael yw'r hoywdduw,
Offrwm a'i ddegwm i Dduw,
Enaid da yna uniawn
A dâl i Dduw, dyly ddawn.
Hawdd i lafurwr hoywddol
Hyder ar Dduw Nêr yn ôl.
O gardod drwy gywirdeb,
O lety, ni necy neb.
Ni rydd farn eithr ar arnawdd,
Ni châr yn ei gyfar gawdd.
Ni ddeil rhyfel, ni ddilyn,
Ni threisia am ei dda ddyn.
Ni bydd ry gadarn arnam,
Ni yrr hawl gymedrawl gam ;
Nid addas, ond ei oddef,
Nid bywyd, nid byd heb ef.

Gwn mai digrifach ganwaith
Gantho, modd digyffro maith,
Gaffael, ni'm dawr heb fawr fai,
Yr aradr crwm, a'i irai,
Na phed fai, pan dorrai dŵr,
Yn rhith Arthur anrheithiwr.
Ni cheffir eithr o'i weithred
Aberth Crist i borthi cred.
Bywyd ni chaiff, ni beiwn,
Pab nac ymherodr heb hwn,
Na brenin haelwin hoywlyw,
Dien ei bwyll, na dyn byw.

Lusudarus hwylus hen
A ddywod fal yn ddien:
"Gwyn ei fyd, trwy febyd draw,
A ddeil aradr â'i ddwylaw."
Crud rhwyg fanadl gwastadlaes,
Cryw mwyn a ŵyr creiaw maes.
Cerir ei glod, y crair glŵys,
Crehyr a'i hegyr hoywgŵys.
Cawell tir gŵydd rhwydd y rhawg,
Calltrefn urddedig cylltrawg.
Ceiliagwydd erwi gwyddiawn,
Cywir o'i grefft y ceir grawn.
Cnwd a gyrch mewn cnodig âr,
Cnyw diwael yn cnoi daear.
(Ef fynn ei gyllell a'i fwyd
A'i fwrdd dan fôn ei forddwyd.
Gŵr â'i anfodd ar grynfaen,
Gwas a fling a'i groes o'i flaen.)
Ystig fydd beunydd ei ben,
Ystryd iach is traed ychen.

Aml y canai ei emyn,
Ymlid y fondid a
fondid a fyn,
Un dryllwraidd dyffrynnaidd ffrwyth,
Yn estyn gwddw anystwyth.
Gwas pwrffil aneiddil nen,
Gwasgarbridd gwiw esgeirbren.
Hu Gadarn feistr hoyw giwdawd,
Brenin a roes gwîn er gwawd ;
Amherawdr dir a moroedd,
Cwnstabl aur Constinobl oedd.
Daliodd ef wedi diliw
Aradr gwaisg arnoddgadr gwiw
Ni cheisiodd, naf iachusoed,
Fwriwr aer, fara erioed,
Eithr, da oedd ei athro,
O’i lafur braisg, awdur bro,
Er dangos eryr dawngoeth
I ddyn balch a difalch doeth
Bod yn orau, nid gau gair,
Ungrefft gan y Tad iawngrair.
Arwydd mai hyn a oryw,
Aredig dysgedig yw.
Ffordd y mae cred a bedydd,
A phawb yn cynnal y ffydd,
Llaw Dduw cun, gorau un gør,
Llaw Fair dros bob llafurwr.

Claddu Ithel ap Robert

IOLO GOCH

Y DDAEAR ddu'n dyrru dwst,
Yn crynu faint fu'r crynwst;
Mam pob cnwd brwd brigowgffrwyth
Mantell oer rhag maint ei llwyth,
Pan gychwynnwyd, breuddwyd brau,
I'r eglwys lân aroglau
O Goed y Mynydd ag ef,
A'i dylwyth oll yn dolef.
Gwae ddwyfil gwedi'i ddyfod
O fewn yr eglwys glwys glod.
Och glywed—tristed fu'r trwst—
Clyr a chrwydr clêr a chrydwst.
A goleuo, gwae, lawer,
Tri mwy na serlwy o sêr,
Torsau hoyw ffloyw o famgwyr
Fal llugyrn tân lluchgyrn llwyr.
Rhai'n gwasgu bysedd gwedd gwael,
Mawr ofid fel marw afael.
Rhianedd cymyrredd cu,
Rhai'n llwygo, rhai'n llewygu;
Rhai'n tynnu top o boparth
Gwallt y pen megis gwellt parth.
Siglo a wnai'r groes eglwys
Gan y godwrdd a'r dwrdd dwys.
Fal llong eang wrth angor
Crin, fydd yn crynu ar fôr.

Byd a Bywyd

SIÔN CENT

PAND angall na ddyallwn
Y byd hir a'r bywyd hwn?

Anair i ddyn na rôi'i dda,
A byrred fydd ei bara.

Pam na welir o hirynt,
Mae'r gwŷr a fu rai mawr gynt?
Mae Salmon nid oedd annoeth
Abl o ddysg, mae Sibli ddoeth?
Mae tâl a gwallt Absalon,
Gorau bryd, dwg ef ger bron;
Mae Samson, galon y gwŷr
Nerthol ? Mae Cai neu Arthur ?
Mae Gwalchmai, ni ddaliai ddig,
Gwrol, mae Gei o Warwig ?
Mae Siarlas o'r maes euriawr ?
Mae ef Alecsander Mawr ?
Mae Edwart—ai plwm ydych ? —
Y gŵr a wnai gaer yn wych?
Y mae'i ddelw, pe meddylien,
Wych, yn y porth uwch ein pen,
Yntau'n fud hwnt yn ei fedd
Dan garreg dew yn gorwedd!

Mae Fyrsul ddiful o ddysg,
A fu urddol o fawrddysg —

A feddodd saith gelfyddyd,
A fu ben awen y byd, —
A'i fwriad wrth fyfyrio,
Atebai lais Tubal o,
Cerdd dafod o geudod gwŷr,
Pibau musig, pob mesur?
Mae Hywel y Pedolau,
A'r llall a'r gron Fwyall grau ?
Cwympason, ddewrion, bob ddau,
Yn brudd oll, yn briddellau;
Oes a edwyn—syw ydych —
Pridd y rhain rhag pridd o'r rhych ?
Afraid i lawen hyfryd
Ei ryfyg er benthyg byd;
Ni wn amod, awn ymaith,
Ar fyw'n hir, ofer yw ’nhaith, —
Er aros oerder, eira
Ni erys haul neu wres ha!

Awstin a ddywed ystyr
Pa beth yw hyd y byd byrr;
Ein llygaid a'n enaid ni
Y sy yman i'n siomi, —
Nid oes, o deiroes, i'r dall
Deirawr, wrth y byd arall;
Ni phery'r byd hoff orwych
Mwy no drem ym min y drych.

Rhodiwn, ceisiwn anrhydedd,
Rhodiwn bawb, rhedwn i'n bedd;

Rhodiwn dir nid hir ein tw,
Rhodiwn fôr, rhaid in farw!
Yno, ni cheisi unawr
D’eiddo ymysg dy dda mawr;

A fynno nef i'w enaid,
O’i feiau byth ef a baid;
Rhaid yw gochel tri gelyn,
Sŵn tost, sy i enaid dyn —
Y cythrel dirgel ei dôn,
A'r cnawd, a'r cwyn anudon.

Tri meddig safedig sydd,
Ar ran dyn, o'r un deunydd, —
Cardod, a ddwg cywirdeb,
Ympryd, anenbyd i neb;
A chariad gwych, a weryd,
Perffaith, ein gobaith i gyd.

Awn i studio'n wastadol
O bwys a nerth, be sy'n ôl;
Mae corn, i frawd, o'm carn, fry,
A’m geilw, pan fwyf i'm gwely;
Y mae'r farn mor gadarngref,
Y cri'n oer, fel y cryn nef;
Yno pan dduo ddaear,
Gwellt a gwŷdd, pob gwyllt a gwar,
Llu eiddo Duw, llaw dde dôn,
Llu du eilwaith lle delon;
Iesu, hyn a ddewiswn,
Awr dda'i hap ar ddeau hwn,
A’n ledio oll hyd liw dydd
O'r llaw yno i'r llawenydd!

Gwagedd y Byd

SIÔN CENT

PRUDDLAWN ydyw'r corff priddlyd,
Pregeth, oer o beth, yw'r byd.
Hoywddyn aur heddiw'n arwain
Caeau, modrwyau a main.
Ymofyn am dyddyn da
Ei ddau ardreth, oedd ddirdra,
Gan ostwng gwan i'w eiste
Dan ei law, a dwyn ei le;
A dwyn tyddyn y dyn dall,
A dwyn erw y dyn arall.
Dwyn yr ŷd o dan yr on,
A dwyn gwair y dyn gwirion.
Cynnull anrhaith dau cannyn,
Cyrchu'r da, carcharu'r dyn.
Heddiw mewn pridd yn ddiddim
O'i dda nid oes iddo ddim.
Poen a leinw, pan el yno,
Mewn gorchfan graean a gro.
Rhy isel fydd ei wely,
A'i dâl wrth nenbren ei dŷ;
A'i rwymdost bais o'r amdo,
A'i brudd grud o bridd a gro.
A'i borthor uwch ei gorun,
O bridd du fal breuddwyd ŷn;
A'i ddewrgorff yn y dderwgist,
A'i drwyn yn rhy laswyn drist;
A’i gorsed yn ddaered ddu,
A'i rhidens wedi rhydu;

A'i bais o goed, hoed hydyn,
A'i grys heb lewys heb lun;
A'i ddir hynt i'r ddaear hon,
A'i ddeufraich ar ei ddwyfron;
A llwybrau gwag, lle bu'r gwin,
A'i gôg yn gado'i gegin.
A’i gŵn, yn y neuadd gau,
A’i emys, yn ei amau;
A'i wraig, o'r winllad adail,
Gywir iawn, yn gwra'r ail.
A'i neuadd fawrfalch galchbryd
Yn arch bach yn eiriach byd.
A da'r wlad yn ei adaw
I lawr heb ddim yn ei law.

Pan el mewn arch hybarchlan
Ar frys o'r llys tua'r llan,
Nis calyn merch anherchwedd,
Na gŵr iach bellach y bedd.
Ni rydd gordderch o ferch fain
Ei llaw dan yr un lliain.
Ni ddeil alar yn ddilis,
Ni orwedd ar ei fedd fis.
Wedi bo yno unawr,
Y dyn a'r gwallt melyn mawr,
Llyffant hyll, tywyll yw'r tŷ,
Os gwŷl, fydd ei was gwely.
Hytrach dan warr y garreg
Y breuog tew na'r brig teg.
Amlach yng ngorchudd pruddlawr
Yn ei gylch eirch na meirch mawr.
Yno ni bydd i'r enaid
Na phlas, nag urddas, na phlaid,

Na gwiw addurn, na geudduw,
Na dim, ond a wnaeth er Duw.


Mae'r tyrau teg? Mae'r tref tad?
Mae'r llysoedd aml ? Mae'r lleisiad ?
Mae'r tai cornogion ? Mae'r tir?
Mae'r swyddau mawr, os haeddir ?
Mae'r sew? Mae'r seigiau newydd ?
Mae'r cig rhost ? Mae'r côg a'u rhydd ?
Mae'r gwin ? Mae'r adar ? Mae'r gwŷdd,
A gludwyd oll drwy'r gwledydd ?
Mae'r feddgell deg? Mae'r gegin
Islaw'r allt ? Mae'r seler win ?
Mae'r siwrnai i Loegr ? Mae'r seirnial ?
Mae'r beirdd teg? Mae'r byrddau tal ?
Mae'r cŵn addfwyn cynyddfawr ?
Mae'r cadw eleirch ? Mae'r meirch mawr?
Mae'r trwsiad aml ? Mae'r trysor ?
Mae'r da mawr ar dir a môr,
A’r neuadd goed newydd gau,
A'r plasoedd, a'r palisau ?
Diddim ydyw o dyddyn
Ond saith droedfedd, diwedd dyn.
Y corff a fu'n y porffor,
Mae mewn cist ym mîn y côr.
A'r enaid ni ŵyr yna,
Pŵl yw o ddysg, ple ydd â.
Am y trosedd a wneddyw
A'r cam gredu, tra fu fyw,
Rhywyr fydd yn y dydd du,
Od wyf ŵr, edifaru.

I Wallt Llio

DAFYDD NANMOR

LLIO eurwallt, lliw arian,
Llewychu mae fal lluwch mân.
Mae ar ei phen, seren serch,
Lliw rhuddaur, Llio Rhydderch.
Ni bu ar wŷdd, yn bêr iach,
Afal Anna felynach.
Mewn moled main a melyn
Mae'n un lliw â'r maen yn Llŷn.
Ar iad Llio rhoed llyweth,
A noblau aur yn ei bleth.
Gwnaed o'r bleth ganpleth i'w gwau,
Tair brwynen tua'r bronnau.
Ac na fynned Gwen fanwallt
Gribau gwŷdd i gribo'i gwallt;
Dycer i Wen er deg grod
Gribau esgyrn geirw bysgod.
Mae ar ei phen,— mor hoff yw !—
Mawr fanwallt Mair o Fynyw.
Mae'r un wallt, mal am war Non,
Near fronnau'r môr-forynion.
Mihangel sy wallt felyn,
Ac un wallt ag yw 'y nyn;
On’d un lliw y fantell hon
A chowgae y marchogion ?
Mal efydd, mil a ofyn,
"Ai mellt nef?" am wallt 'y nyn.
Ai plisg y gneuen wisgi,
Ai dellt aur yw dy wallt di?

Llwyn ne' ddau i'r llan a ddoeth,
Llwyn banadl, Llio'n bennoeth!
Llen gêl a fo ei llwyn gwallt
Am ein gwarrau mewn gorallt.
Dwy did, lle'i dodid owdwl,
Dau dasel hyd ei dwysowdwl.
Ac mae'r ddwydid o sidan
Am Lio'n glog melyn glân.
Ac mae'n debyg mewn deubeth
I faen fflam felen ei phleth.
Llwyn pen lle ceid llinyn parch,
Padreuau y padrïarch.
Ar iad bun erioed y bu
Wisg i allel asgellu.
Crwybr aur, ban y'i cribai,
Pwn mawr o esgyll paun Mai,
Yn ail cyrs, ne' wiail caets,
Fal aur, ne afal oraets.
Mawr y twf, mae ar iad hon
Mil o winwydd melynion.
Un lliw ei gwallt, yn lle gwir,
A chŵyr aberth, o chribir.
Mae'r gwallt mwya ar a gaid
Am ei gwar fal mwy euraid.
Nid ad Duw gwyn, mewn tw' gwallt,
Farw Llio frialleuwallt.

Marwnad Merch

DAFYDD NANMOR

BLIN yw hyder o weryd,
Hudol byr yw hoedl y byd.
Caru dyn ifanc irwen
A marw a wnaeth morwyn wen.
Dan weryd mae dyn wirion,
Anhap oedd roi wyneb hon.
O daearwyd ei deurudd
Mae'n llai'r gwrid mewn llawer grudd.
Och imi, pe marw chwemwy,
O bydd ei math mewn bedd mwy.
Och Dduw Tad, o chuddiwyd hi,
Nad oeddwn amdo iddi!
Och finnau, o chaf einioes,
I'w rhoi yn fud, arhown f'oes.
Gweddw am hon yn y bronnydd
Ydyw'r gog a'r bedw a'r gwŷdd,
A cherdd bronfraith orchuddiwyd
Is y lan, ac eos lwyd.

Os marw yw hon îs Conwy,
Ni ddyly Mai ddeilio mwy;
Gwae finnau, nid gwiw f'annerch,
Os mewn bedd mae annedd merch.
Gwywon yw'r bedw a'r gwïail
Ac weithian ni ddygan ddail.
Os marw fis Mai y forwyn,
Och Fair, gan farw y ferch fwyn!

Och 'y nun, na chaem ninnau
Yr un dydd farw ein dau!
Ni fynnwn yn hwy f'einioes,
Gan na chaid amgenach oes.
Och, yn awr na chawn orwedd
Gyda bun dan gaead bedd.
Adyn ar ei hôl ydwyf,
Uwch ben Gwen ych bannog wyf.

Marw a wnaeth yn fy marn i
Yr haul wen a'r haelioni.
Anwych wyf oni chyfyd
O farw bun yn fyw i'r byd.
Ni welir dan bryd dirwy
Ar heol merch mor hael mwy.
Nid ydoedd, pan oedd yn iach
Dan aelwineu dyn lanach.
Lasar a godes Iesu
Yn fyw o'r bedd, yn farw bu.
Gwnaed Duw, am ddyn gannaid hir,
A minnau, godi meinir.
Dulas ydwyf fal deilen
O frig yw am farw Gwen.
Hon fo'r wythfed ddiledryw
Bun fain a wnel Beuno'n fyw.

Siôn y Glyn

LEWIS GLYN COTHI

UN mab oedd degan i mi,
Dwynwen! gwae 'i dad o'i eni!
Gwae a edid o gudab
I boeni mwy heb un mab;
Fy nwy ais, farw fy nisyn,
Y sy'n glaf am Siôn y Glyn;
Udo fyth yr ydwyf i
Am benâig Mabinogi.

Afal pêr ac ederyn
A garai 'r gwas, a gro gwyn;
Bwa o flaen y ddraenen,
Cleddau digon brau o bren;
Ofni'r bib, ofni'r bwbach,
Ymbil â'i fam am bêl fach;
Canu i bawb acen o'i ben,
Canu io-o er cneuen;
Gwneuthur moethau gwenieitho,
Sorri wrthyf i wnai fo,
A chymod er ysglodyn
Ac er dis a garai'r dyn.

Och! nad Siôn, fab gwirion gwâr,
Sy'n ail oesi, Sain Lasar!

Beuno a droes iddo saith
Nefolion yn fyw eilwaith;
Gwae eilwaith fy ngwir galon
Nad oes wyth, rhwng enaid Siôn.

O, Fair, gwae fi o'i orwedd,
A gwae fy ais gau ei fedd;
Yngo y saif angau Siôn
Yn ddeufrath yn y ddwyfron;
Fy mab, fy muarth baban,
Fy mron, fy nghalon, fy nghân;
Fy mryd cyn fy marw ydoedd,
Fy mardd doeth, fy moeth im' oedd;
Fy nhegan oedd, fy nghannwyll,
Fy enaid teg, fy un twyll;
Fy nghyw, yn dysgu fy nghân,
Fy nghae Esyllt, fy nghusan;
Fy nyth, gwae fi yn ei ôl,
Fy ehedydd, fy hudol;
Fy Siôn, fy mwa, fy saeth,
F’ymbiliwr, fy mabolaeth.

Siôn y sy'n danfon i'w dad
Awch o hiraeth a chariad;
Yn iach wên ar fy ngenau,
Yn iach chwerthin o'r min mau;
Yn iach mwy ddiddanwch mwyn,
Ac yn iach i gnau echwyn;
Ac yn iach bellach i'r bêl,
Ac yn iach ganu uchel;
Ac yn iach, fy nghâr arab,
Iso'n fy myw, Siôn fy mab!

Saeson Fflint

LEWIS GLYN COTHI

DEUTHUM ddywsul diwethaf
—Dyn wyf a luniodd Duw Naf —
I gaer ddwbl groengwbl gringam,
Y Fflint, a welwyf yn fflam!
Lle'r oedd neithiawr heb fawr fedd,
Sais yn eglur, Seisnigwledd.
Ar addaw cael yr oeddwn,
Oherwydd crefft, hoywrodd crwn.

Dechreuais, ffrystiais yn ffraeth,
Ganu awdl i'r genhedlaeth.
Gwatwaru, llysu fy llais,
Gofid yno a gefais.
Hawdd gan borthmyn haidd ac ŷd,
Faeddu fy holl gelfyddyd,
Ac am fy ngherdd y chwerddyn,
Parod gân fawl, prid gennyf hyn.
Sôn am bys wnai Siôn Beisir,
Sôn o'r ail am dail i'w dir.
Galw i'r ford, gwaelwr a fydd,
O bawb am Wiliam Bibydd!
Dyfod o hwn, defawd hawl,
Ger bron nid fal gŵr breiniawl,
A chod leddf, foel berfeddfaich,
Ymhen ffon rhwng bron a braich.


Hyllu, syn dranu sŵn drwg,
Rhwth gaul, a rhythu golwg,
A throi ei gorff yma 'thraw,
A chwyddo'r ddwyfoch eiddaw;
Chwerw foes, chware â'i fysedd.
A chroen gloch, chwerwon eu gwledd.
Ymysgrawtian 'mysg rhawter,
Tynnu ei glog fal tin y glêr.
Ffroeniaw bu, ffrwynaw ei ben
Ydd ydoedd at ei ddiden.
Ail sut i farcut yw fo
Abl ei awydd i bluo.
Chwythu o'r cranc, chwith yw'r cri,
Chwyddo'r god a chroch weiddi.
Canodd â llais cacynen
Cod ddiawl, a phawl yn ei phen;
Gwaedd hunlle'n lladd gŵydd henllom,
Gwaedd gast drist greg dan gist grom.
Gerwingest i grio ungerdd,
Gwythi ceg yn gwthiaw cerdd;
Llais garan yn llaes gery,
Gŵydd o frath yn gweiddi fry;
Maé lleisiau yn y gau god
Mal gwythi mil o gathod.
Gafr yw un llais, gyfran llog,
Glwyfus afiachus feichiog.

Gwedi darfod, gwawd oerferch,
Gwichlais hon, gochelai serch,
Cael ffîs o Wil y cawl ffa,
Lerdies nid o law wrda,
Ceiniogau, lle cynygian,
Ac weithiau'r dimeuau mân,

A’m gollwng yn drablwng draw
O'r goegwledd yn ŵr gwaglaw!


O ddifrif rhof ddiofryd,
I Fflint gaeth a'i phlant i gyd.
Ei ffwrn faith fal uffern fydd,
A’i phobl Seisnig a'i phibydd.
Fy holl weddi fo'u lladdiant,
Fy melltith i'w plith a'u plant.
Diau i'm hoes, od af mwy,
Iddi eilwaith na ddelwy.


Merch

DAFYDD AB EDMWNT

DYN wyf yn cerdded y nos,
Dedwyddach oedd dy diddos,—
Dyn hurt am gerdded yn hwyr,
Dros hyn Duw a ro synnwyr.
Du arnaf ydyw oernos,
Duw dy nawdd, dued y nos!
Dyn ni fu, a Duw'n fach,
Dan bared wyneb oerach;
Deffro, fun, differ f'enaid,
Dyn Duw blin sy dan dy blaid.
Dyro, ti a gei deirhan,
Dy wisg, dy gardod i wan,

Dy lety, dy law ataf,
Dy gorff, a dywed a gaf.
Dy fath, dy gellwair, dy fodd,
Dy feinael a'm difwynodd.
Dy fwyn eiriau, dy fonedd,
Dy fin fal diod o fedd;
Dy laeswallt dros dy lusael,
Dy drem, fal dued yr ael!
Dy bryd fel diUad brodyr,
Du a gwyn i hudo gwŷr;
Dy wyneb fal od unnos,
Dy rudd fel cawod o ros.
Dy wyneb, fy mun, dienwir,
Dwy ael o liw du o lir.
Dig wyf yn arwain dy gerdd,
Dan fargod, dyn ofergerdd.
Dy garu, di a gerais,
Dy gas im nis dygai Sais.
Drwy ffenestr dyro ffunen
Dy fam hael i doi fy mhen.
Dulaw a wnaeth dialedd,
Defni 'ngwallt, difwyna 'ngwedd.
Dy gerdd ym mhob gwlad a gaf,
Dy bwyth nis diobeithiaf.
Digon cariad yn d' ogylch,
Dyn deg wyd, naw' Duw'n dy gylch
Dig wyf yn arwain dy gân,
Dugum gas, dwg im gusan.
Dy gyngor rhag dig angen,
Da fydd ei gael dy fodd, Gwen.

I Sion Eos

(a grogwyd yn y Waun)

DAFYDD AB EDMWNT

DRWG i neb a drigo'n ôl
Dau am un cas damweiniol;
A'r drwg lleiaf o'r drygwaith
Yn orau oll yn yr iaith.
O wŷr, pam na bai orau,
O lleddid un na lladd dau ?

Dwyn un gelynwaed a wnaeth,
Dial ein dwy elyniaeth.
Er briwio'r gŵr heb air gwad,
O bu farw, ni bu fwriad.
Oedd oer ladd y ddeuwr lân,
Heb achos ond un bychan.
Yr oedd y diffyg ar rai
Am adladd mewn siawns medlai.
Ymryson am yr oesau,
Rhyw yngu ddaeth rhwng y ddau;
Oddyna lladd y naill ŵr,
A'i ddial, lladd y ddeuwr;
Y corff dros y, corff pes caid,
Yr iawn oedd well i'r enaid.
Oedd, wedi, addewidion —
Ei bwys o aur er byw Siôn.
Sorrais wrth gyfraith sarrug
Swydd y Waun, Eos a ddug, —

Y swydd pan na roid dan sêl
I'th Eos gyfraith Hywel?
A'r hwn pan gafas y rhain
Wrth lawnder cyfraith Lundain,
Ni mynnyn am ei einioes
Noethi crair na thorri croes.
Y gŵr oedd dad i'r gerdd dant
Yn oeswr nis barnasant;
Deuddeg yn un nid oeddyn,
Duw da, am fywyd y dyn.
Aeth y gerdd a'i thai gwyrddion
A'i da'n siêd wedi dwyn Siôn;
Aeth llef o nef yn ei ôl,
A'i ddisgybl yn ddiysgol;
Llyna ddysg i'r llan a ddaeth,
Lle ni chair llun o'ch hiraeth.
Wedi Siôn nid oes synnwyr
Yn y gerdd, na dyn a'i gwyr.
Torres braich tŵr Eos brig,
Torred mesur troed musig,
Torred dysg fal torri tant,
Torred ysgol tŷ'r desgant.
Oes mwy rhwng Euas a Môn
O'i ddysg abl i'w ddisgyblion ?
Rheinallt nis gŵyr ei hunan,
Rhan gŵr er hynny a gân.
Ef aeth ei gymar yn fud,
Yn dortwll, delyn deirtud,
Ac atgas yn y gytgerdd
Eisiau gwawd eos y gerdd.
Ti sydd yn tewi â sôn,
Telyn aur telynorion.

Bu'n dwyn dan bob ewin dant,
A bysedd llais a basant:
Myfyrdawd rhwng bawd a bys,
Mên a threbl mwyn â thribys.
Oes dyn wedi'r Eos teg
Yn gystal a gân gosteg,
A phrofiad neu ganiad gŵr,
A chwlm ger bron uchelwr ?
Pwy'r awron mewn puroriaeth,
Onibai a wnai, a wnaeth ?
Nid oes nad angel na dyn
Nad ŵyl pan glywo'i delyn.
Och heno rhag ei chanu
Wedi'r farn ar awdwr fu!
Eu barn ym mhorth nef ni bydd,
Wŷr y Waun, ar awenydd.
A farno ef a fernir
O'r byd hwn i'r bywyd hir,
Ar un farn arno efô
A rydd Duw farnwr iddo
Efô a gaiff ei fywyd,
Ond o’u barn newidio byd
Oes fy nyn y sy yn nos,
Oes fy Nuw i Siôn Eos.

I ofyn March

TUDUR ALED

HYYDER Lewis Amhadawg—
Erchi, a rhoi, march y rhawg,
A'i ddewis, erbyn mis Mai,
Merch deg, a march a'i dygai.

Trem hydd, am gywydd, a gais,
Trwynbant, yn troi i'w unbais;
Ffriw yn dal ffrwyn, o daliwn,
Ffroen y sy gau, fal Ffrawns gwn;
Ffroen arth, a chyffro'n ei ên,
Ffrwyn a ddeil ei ffriw'n ddolen.

Llygaid fal dwy ellygen
Llymion byw'n llamu'n ei ben;
Dwy glust feinion aflonydd,
Dail saeds, uwch ei dâl y sydd;
Trwsio, fal goleuo glain,
Y bu wydrwr, ei bedrain;
Ei flew fal sidan newydd,
A’i rawn o liw gwawn y gwŷdd;
Sidan ym mhais ehedydd,
Siamled yn hûs am lwdn hydd.

Ail y carw, olwg gorwyllt,
A'i draed yn gweu drwy dân gwyllt;
Dylifo, heb ddwylo, ’dd oedd,
Neu weu sidan, nes ydoedd!

Ysturio cwrs y daran,
A thuthio pan fynno'n fân.

Bwrw'i naid i'r wybr a wnâi,
Ar hyder yr ehedai,
Cnyw praff yw yn cnoi priffordd,
Cloch y ffair, ciliwch o'i ffordd!
Sêr neu fellt o'r sarn a fydd
Ar godiad yr egwydydd;
Drythyll ar bedair wyth-hoel,
Gwreichionen yw pen pob hoel;
Dirynnwr dry draw'n y fron,
Deil i'r haul dalau'r hoelion;
Gwreichion a gaid ohonun,
Gwnïwyd wyth bwyth ym mhob un;
I arial a ddyfalwn
I elain coch ym mlaen cŵn;
Yn ei fryd, nofio'r ydoedd,
Nwyfawl iawn anifail oedd;
O gyrrir draw i'r gweirwellt,
Ni thyrr â'i garn wyth o'r gwellt!

Neidiwr dros afon ydoedd,
Naid yr iwrch rhag y neidr oedd;
Wynebai a fynnai fo,
Pe'r trawst, ef a'i praw trosto;
Nid rhaid, er peri neidio,
Dur fyth wrth ei dorr efô,
Dan farchog bywiog, di bŵl,
Ef a wyddiad ei feddwl;
Draw, os gyrrir dros gaered,
Gorwydd yr arglwydd a red;

Llamwr drud, lle mwya'r drain,
Llawn ergyd, yn Llan Eurgain;
Gorau 'rioed, gyrru i redeg,
March da am arwain merch deg —
Mae'n f'aros yma'n forwyn
Merch deg, pe ceid march i'w dwyn!

Oes dâl am y sud elain
Amgen no mawl am gnyw main?

Marwnad Merch

TUDUR ALED

GWAE fi-cedwais gof cadarn-
Nad heddiw faut, oed dydd farn!
Dyn wyf a'r iâ dan 'i fron,
Ag a'i weli'n ei galon.

Am forwyn y mae f'araith,
Am hon, ni chae 'mhen ychwaith;
Mae olwyn f’oes mal yn fud,
Mae'n nos im, oni symud;
E ddamweiniodd im annawn,
Oni thry, i wneuthur iawn!

Y mae f’anap am feinir
Fal nad tew f’ôl yn y tir;

Olaf oed, o le, ydyw
A wnaf a merch yn fy myw,—
Mae Gwen, a fu yma, gynt?
Mae'r adar? ai meirw ydynt?
Ni mynnwn, am y wennol,
F’oes yn hwy, fis, yn ei hôl;
Ni'm dawr mwy od af i'r man—
Y bedw aeth o'r byd weithian;
Os marw bûn, oes mwy o'r byd?—
Mae'r haf wedi marw hefyd!

Hawdd im, wrth roi hawddamawr,
Gael gwlith o'r golwg i lawr;
Dwy afon am hon, o'm hais,
Dau alwyn doe, a wylais.

Ni byddwn awr hebddi'n iach,
Ni bu briddyn byw bruddach;
Gan na wn fyw Gwen yn faith,
Ni fynaswn fyw noswaith;
I'm pruddhau, fo’m parodd hyn
Heb rym y mab o'i rwymyn;
Ban euthum i'r boen eithaf
Heb wythen iach, beth a wnaf?—
Dyn a'i friw dan fwâu'r ais,
Dan y ddwyglwyd yn dduglais;
Mal y pren onn yw'r fron frau,
A'i chnwd o ucheneidiau;
Ias am hoeres, o'm hiraeth,
Mawr gryn, hyd fy mrig yr aeth;
Y mae anadl o'm mynwes,
Ai drwy'r pridd a'r derw a'r pres,

Ebwch hiraeth, beb chwarau,
A dorrai faen, ydyw'r fau ;
Ymrafaeliodd marfolaeth
Mor syn â phe 'marw a saeth.

Ymroi i'm cwymp o'i marw y’m caid,
Ymwahanu â'm henaid;
Mae eisiau merch a mis Mai,
Mae'n ei harch a'm anherchai ;
Eres im, oer ei symud,
Hi ddoe'n fyw, a heddyw'n fud!

Och finnau, o chaf einioes,
Na bai'n fyw yn niben f'oes;
Amodau, rhwymau oedd rhôm,
Eithr angau a aeth rhyngom!

Rhwymau'r awr, wedi rhoi 'mryd,
Nis cawn, nis cai o ennyd;
Ni chaf a fynnaf i fan,
Na chaf fyth, nychaf weithian;
A chan farw'r ferch yn forwyn,
I farw mi af er 'i mwyn!

Mwyaf gofal i'm calon
Y cawn fyw rhawg, gan farw hon;
Na roi Dduw im un o'r ddau-
Ai'n fyw'r fûn ai'n farw finnau,
Hi yn fyw o'i hiawn fywyd,
Neu na bawn innau'n y byd!

Troell y Gwir

TUDUR ALED
MAE llun rhod i'm llaw yn rhôl,
A drych wyneb drwy’i chanol;
Gwyliwch y droell amgylch draw,
Gwir pedwar gair, heb beidiaw:

Heddwch, bybyrwch y byd,
Cyfoeth yw a fag hefyd;
Cyfoeth balch, cof waith y bêl,
A fo cryf, a fag rhyfel;
Rhyfel a fag rhyw afar,
Tlodi byth, atelid a bâr;
Tlodi, at drueni trwch,
A fo coedd, a fag heddwch.

Mae'r geiriau hyn ym mrig rhod,
Be caid neb i'w cydnabod;
Codiad dyn, nis ceidw tani,
A chwymp sydd o'i chwmpas hi;
O throi unwaith ar anap,
Duw! na throid unwaith ar hap!

Ceiliog Bronfraith

GRUFFYDD HIRAETHOG

CERDDOR llawengainc hirddydd,
Canu er difyrru'r dydd,
Croyw gywydd yn nydd a nos,
Croywach na phynciau'r eos,
Yn bur iawn, heb awr anwych,
Y gwnai bêr wawd, mewn gown brych;
Abad o gaets, bowyd gwiw,—
Ond, ei gwfl nid yw gyfliw;
Pa lifrai amgylch plufron?
Pais fraith o gwmpas ’i fron,
Ac o liw'r fron, goler fraith,
Fo roed henw, o Frytaniaith.

Gyrru i Dduw gerdd a ŵyr,
Groywiaith, a'i big i'r awyr,
Athro adar, iaith rydeg,
Ysgol gân dysg loywgain, deg.

Canu'n wych acen a wnêl
Cynhwyso, pyncio'n isel;
Ba osle well mewn bas lais?
Brawd oslef baradwyslais!
Pregethwas o deyrnas dail,
Poet gwiw mewn pulput gwiail!

Marwnad Gruffydd Grug

WILIAM LLŶN

Y BARDD:

Y bardd bach uwch beirdd y byd,
Och, nad ydych yn dwedyd!
Gruffydd braff, graffaidd broffwyd,
Gweddw yw'r iaith,—ai ’mguddio'r wyd?
Ba dir hwnt, o baud yr hawg,
Bwrdd yr iaith, bardd Hiraethawg?
Dewi'r beirdd, nid o air bost,
Dyblwr iaith, Duw, ble'r aethost?
Os i ryw daith, drudfaith dro,
Ond hir yr wyt yn tario?
O Duw deg, od ydwyd iach
Ddi-ball, pam na ddoi bellach?
Os claf wyd, proffwyd y pryd,
Claf yw addysg celfyddyd.
Od aethost i le dethol,
Y gwawd a'r dysg, aed ar dôl.
Hiraethog ddoeth, o doeth does,
Hiraethog fydd rhai wythoes.
Ni welais gam o'th dramwy,
Er ys mis nac er ys mwy:
Gelwais arnad, gloes oerni,
Och Fair, pam na 'tebwch fi?


Y MARW:

Ni ad to bedd ateb ym,
Am ran iaith,-marw a wnaethym.
Ti a'm gwelaist i'm golud,
Ddoe yn falch, a heddiw'n fud;
A'r pwyll a'r synnwyr a'r pen
A’r cellwair sy ’ng nghôr Collen.
A gro'r llawr is goror llan,
Osodwyd lle bu'r sidan.

Y BARDD:

Dyrd yma, neu dor d'amod,
Drwy dor y clai, daradr clod.
Ymrwymaist, fardd breuhardd bris,
I'r ŵyl a'r Doctor Elis.
Od ydoedd i'th fryd adael
Y gŵr hwn a ddug air hael,
Ond oedd dost diwedd y daith
Na chenit yn iach unwaith?

Y Marw:

Nid oedd modd; yn y dydd mau
Y dringodd rhyw daer angau;
Mae'n gwarchae'r man a gyrcho,
Mewn ffydd nid oes man i ffo.
Eryr gwyllt ar war gelltydd,
Nid ymgêl pan ddel ei ddydd,
A'r pysg sydd ymysg y môr
A ddwg angau'n ddigyngor

Y byd oll, be deallwn,
Ar y sydd a erys hwn.
Aristotlus fedrus fu,
Ar ddysg oll, urddas gallu;
Tydain, ail tad awen oedd,
Taliesin teulu oesoedd;—
Pob un oedd, aeth pawb yn wâr
Ar ei ddiwedd i'r ddaear.

Y BARDD:

Fathro Gruffydd, o’th guddiwyd
Mewn arch oer, di 'mannerch wyd.
Gorwedd yr wyd mewn gweryd,
Gryf wraidd, ben digrifrwydd byd.
Ond irad mynd i orwedd
Awen y byd yn un bedd ?
Gwiail a gad, tyfiad da,
Yn wŷdd o enau Adda;
Doeth fardd, felly daw o’th fedd,
Ganghennau'r groes gynghanedd.
Yn iach! yn ôl ni chawn ni
Ystyried chwedl na stori.
Ni cheir marw, ni châr morwyn,
Ni thyf fyth gwmpniaeth fwyn.
Och, gloi' 'i fedd, iach gelfyddyd,
Och, roi barn ar achau'r byd.
Beth a dyf byth o dafawd ?
—Blino ffrith gwŷdd blaenffrwyth gwawd;
Bwrw gwingoed brig awengerdd,
Braenu un cyff brenin cerdd,

A thy dadl fyth od ydyw,
Odid farn am nad wyd fyw.
Ba fyd ar gerdd seinwerdd sydd ?
Byd traffol hebod, Ruffydd.
Daearwyd gwawd eurdeg wedd,
Nis daearwyd nes d'orwedd.
Duw a'th ddug, ych bôn gwych gwâr,
Is y cwm eisiau cymar.
Gwn na bu er Gwion bach
Gau ar synnwyr gresynach,
Lle cefaist,—lleddaist ni'n llwyr,-
Oes a henaint a synnwyr.
Crist roes it einioes ennyd,
Crist a'th ddug, hardd ben bardd byd.
Crist enw rhawg, gras Duw i'n rhaid,
Ceidwad dyn, cadwed d' enaid.

GEIRFA

A

ANDO : amdo.

B

BASANT : bâs.

BRAISG : nerthol.

BREUOG : llyngyryn

C

CADR : grymus, nerthol.

CAFELL : cysegr.

CANPYN : can pwn.

CED : rhodd', gwobr.

CENGL : rhwymyn, hank.

CEW : cawl.

CIGLEU : clywais.

CIGWAIN : bach cig, fforch.

CLEIRIACH : hen ŵr.

CLYR : clêr.

CNODIG : bras.

CNYW : cyw.

CRAIR : anwylyd.

CRAU : gwaed.

CREIAW : math o aredig.

CRWYBR : dil mêl.

CRYDWST : cryndod.

CRYW : cwlltwr.

CUDAB : hoffter, anwyldeb.

CWLM : canig.

CWPLWS : cyplau.

CYMYRREDD : anrhydedd, urddas.

CYNYDD : heliwr.

CYD BYCH : er dy fod.

CYFEDD : gwledd.

CYRS : corsenni.


D.

DAIN : gwych, pur.

DESGANT : alaw.

DIENWIR : di-fefl.

DIFFER : amddiíîyn.

DIGRAWN : toreithiog.

DIHAERU : gwrthbrofi.

DIFUL : balch.

DILEDLAES : cryno.

DIOER : yn wir.

DORi : diddori, malio.

DYLY : haedda.

E.

EMYS : meirch.

EUAS : lle yn Sir Henffordd.



FF.

FFION : rhos, neu fysedd cochion.

G.

GALAN : gelyn.

GAWR : cri.

GOFYNAIG : awydd, gobaith.

GORSED : corset.

GORWYDD : march.

GWAISG : byw.

GWANAS : prop.

GWINLLAD : diod.

GWOSEB : anrheg.

GWRTHEB : ateb.

GWYDDIAWN : gwyllt iawn.

H.

HOEN : lliw.

HŴS : gorchudd.

I.

IEITHLYD : gwrthwyneb i ieithrydd.

INDEG : un o dair prif weinyddesau Arthur.

IRAI : ffon wartheg.

L.

LASAR : Lazarus.

LERDIES : largesse. anrheg, rhodd,

LL.

LLATHEUGRAFF : hidl.

LLUSAEL : ael lliw'r llus.

LLWYGO : syrthio.

M.

MACH : mechni.

MAIG : a fago.

MANGANT : blawd mân.

MOLED : ffunen, crafat.

N.

NAPL : Naples.

NOBL : coin aur (6/8).

NOWPLAS : naw plas.

P.

PEUES : gwlad.

PLAID : pared.

PRENNOL : bocs.

PWRFFIL : gwas pwrffil — train-bearer.

S.

SIED : fforffed, escheat.

SIAMLED : camlet.

TORDOR : wyneb-ar-wyneb

W.

WYTHLEU : wyth-liw.

Y.

YNGU : ymgecru, cweryla.

YSTIG : diwyd.