Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (testun cyfansawdd)
← | Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (testun cyfansawdd) gan John Morgan Jones |
Cyf 1 Rhan 2 → |
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I |
Y TADAU
METHODISTAIDD.
GAN
Y Parch. JOHN MORGAN JONES, Caerdydd,
A
Mr. WILLIAM MORGAN, U.H., Pant, Dowlais.
CYHOEDDEDIG GAN YR AWDWYR.
———————————
CERFLUN Y PARCH. DANIEL ROWLAND, LLANGEITHO
A Wnaed gan Mr. EDWARD GRIFTITH, Caerlleon, yn y flwyddyn 1883).
———————————
Y TADAU METHODISTAIDD:
Eu Llafur a'u Llwyddiant gyda Gwaith yr Efengyl
YN NGHYMRU, TREFYDD LLOEGR, AMERICA, AC AWSTRALIA.
YNGHYD A
NIFER MAWR O DDARLUNIAU O BERSONAU A LLEOEDD NODEDIG.
GAN
Y PARCH. JOHN MORGAN JONES, CAERDYDD,
A
MR. WILLIAM MORGAN, U. H., PANT, DOWLAIS.
CYFROL I.
CYHOEDDEDIG GAN YR AWDWYRYR.
ABERTAWE:
ARGRAFFWYD GAN LEWIS EVANS, 13, CASILE STREET.
1895.
AUGUA1-FVY1) UAN LEWIS KVA>;S,
CASTLK STIìKET.RHAGYMADRODD.
YR oedd dwyn allan lyfr darluniedig ar hanes Methodistiaeth Cymru yn amcan genym er ys blynyddoedd, a buom am amser maith yn casglu defnyddiau i'r pwrpas. Yn awr, dyma y Gyfrol Gyntaf allan o'r wasg. Fel awduron yn gyffredin, yr ydym wedi medru perswadio ein hunain fod angen a galwad am lyfr o'r fath, ac yr ydym yn credu na wnaethom gamgymeriad. Teimlir yn bresenol fwy o ddyddordeb nag erioed yn hanes dechreuad a chynydd Methodistiaeth; dangosir awyddfryd cryf am adnabod cymeriad ei Sylfaenwyr, a gwybod pob peth a ellir wybod am danynt, ac am eu gwaith. Cryfhawyd y dyddordeb yma yn ddirfawr gan y modd llwyddianus y dathlwyd Trydydd Jiwbili y Cyfundeb; a chredwn fod y teimlad a gynyrchwyd yn un naturiol ac iachus, ac yn teilyngu meithriniad.
Wrth gyflwyno Y Tadau Methodistaidd i sylw y cyhoedd, nid ydym mewn un modd yn ddiystyr o'r llyfrau gwerthfawr ar hanes y Cyfundeb sydd genym yn barod, yn arbenig Methodistiaeth Cymru, gan y diweddar Barch. John Hughes, Liverpool; a Welsh Calvinistic Methodism, gan y Parch. William Williams, Abertawe. Pan yr ymgymerodd Mr. Hughes a'i waith, yr oedd ein hanes, gan mwyaf, yn aros mewn traddodiad, ac mewn perygl o fyned yn hollol ar ddifancoll. Iddo ef, yn anad neb, yr ydym yn ddyledus am gasglu y traddodiadau gwasgaredig yn nghyd, a'u dwyn i ffurf hanesyddol. Eithr oedd toraeth o ffeithiau cysylltiedig â dechreuad Methodistiaeth nas medrodd ef ddod o hyd iddynt, yn guddiedig mewn llawysgrifau gwerthfawr, a llyfrau Saesnig henafol a phrin, ond yn benaf yn gorwedd yn Nhrefecca, heb fod neb wedi eu hastudio na'u darllen. Ymroddasom gyda phob dyfalwch i gasglu y rhai hyn. Buom yn chwilio yr Amgueddfa Frytanaidd yn Llundain, a gwahanol lyfrgelloedd, cyhoedd a phreifat, er ceisio dyfod o hyd i bob ffaith o bwys. Ac yn benaf, darllenasom ddydd-lyfr Howell Harris, a ysgrifenwyd ganddo ef ei hun, trwyddo; yr hyn, mor bell ag y gallwn gasglu, na wnaed gan neb o'n blaen. Trwy hyn, credwn ein bod wedi llwyddo i daflu goleuni newydd ar ddechreuad y Cyfundeb, ac ar hanes a chymeriad y rhai, dan fendith Duw, a fuont yn offerynol i'w ddwyn i fod.
Dichon mai nodwedd fwyaf amlwg a gwahaniaethol Y Tadau Methodistaidd yw ei fod yn llyfr darluniedig. Yr ydym yn gosod ynddo bob darlun sydd ar glawr a chadw o enwogion Methodistaidd; ac yr ydym wedi llwyddo tu hwnt i'n dysgwyliad i ddarganfod darluniau nas gwyddem eu bod mewn bodolaeth. Yn mhlith eraill, daethom o hyd i ddarlun anhysbys o Daniel Rowland, copi o ba un a geir yn nechreu y gyfrol hon. Cawsom ef yn llyfrgell yr Amgueddfa Frytanaidd. Heblaw y rhai a geir yn y Gyfrol Gyntaf, y mae genym ddarluniau o'r enwogion canlynol: Nathaniel Rowland ; Griffiths, Nevern; John Roberts, Llangwm; Simon Llwyd; John Jones, Edeyrn; Evan Richardson; John Rees, Casnewydd; John Thomas, Aberteifi; Griffiths, Lantwd; Morgan Howell; Theophilus Jones; Thomas Harris; Hopkin Bevan, &c., &c. Caiffy rliai hyn, yn nghyd a darluniau o leoedd dyddorol cysylltiedig â hwynt, addurno y gwaith; a phan ei gorphenir, dysgwyliwn y byddwn wedi llwyddo i osod yn nwylaw ein darllenwyr gasgliad o ddarluniau o werth a dyddordeb anmhrisiadwy.
Yr ydym yn rhwymedig i amryw gyfeillion am lawer o gymhorth gwerthfawr yn nygiad allan y gwaith hwn. Nis gallwn gydnabod pawb ag yr ydym mewn dyled iddynt, ond rhaid i ni nodi Mr. Daniel Davies, Ton, Cwm Rhondda; yn nghyd a'r Parchn. John Davies, Pandy; E. Meyler, Hwlffordd; J. E. Davies, M.A., Llundain; Owen Jones, B.A., Llansantffraid; E. WilHams, M.A., Trefecca; W. Williams, Abertawe; J. Cynddylan Jones, D.D., Caerdydd; T. Rees, D.D., Cefn; W. Evans, M.A., Pembroke Dock; Hugh WiHiams, M.A., Bala; a Joseph Evans, Dinbych. Derbynied y rhai hyn ein diolchgarwch goreu. Dymunem hefyd gydnabod caredigrwydd Cymdeithasfa y Deheudir, yn caniatau i ni fenthyca y llawysgrifau gwerthfawr sydd yn nghadw yn llyfrgell Trefecca; oni bai am y caniatad hwn, ni buasem yn alluog i gyflwyno i'r cyhoedd y rhan fwyaf dyddorol a gwerthfawr o'r gyfrol hon.
Gobeithiwn y bydd i ni, trwy gyfrwng y llyfr hwn, fod o ryw wasanaeth i'r Cyfundeb a gerir genym mor fawr, ac y bendithir ein llafur i fod o wasanaeth i achos crefydd.
JOHN MORGAN JONES, Caerdydd.
WILLIAM MORGAN, Pant.
Gorph 15, 1895CYNWYSIAD.
1.—SEFYLLFA FOESOL CYMRU ADEG CYFODIAD METHODISTIAETH
Sefyllfa foesol Prydain yn isel adeg cyfodiad Methodistiaeth—Cyflwr Cymru o angenrheidrwydd yn gyffelyb—Hirnos gauaf mewn amaethdy—Tystiolaeth ysgrifenwyr diduedd am gyflwr y Dywysogaeth—Cyhuddiad Dr. Rees yn erbyn y Tadau Methodistaidd—Y cyhuddiad yn ddisail—Taflen Mr. John Evans, o Lundain—Y daflen yn cael ei llyrgunio i amcan Yr eglwysi Ymneillduol yn cael eu gwanhau gan ddadleuon—Yr elfenau newyddion a ddaethant i mewn gyda'r Methodistiaid.
II.—GRIFFITH JONES, LLANDDOWROR
Ei enedigaeth a'i ddygiad i fynu—Ei ordeiniad Ei glod fel pregethwr yn ymledu —Yn dechreu pregethu y tu allan i'w blwyf—Yr ysgolion elusengar—clerigwyr yn wrthwynebol—Ymdaeniad yr ysgolion trwy yr oll o Gymru—Argraffu Beiblau—Cyfansoddi llyfrau—Ei gysylltiad a'r Methodistiaid—Ei angau.
III.—Y DIWYGIAD METHODISTAIDD YN LLOEGR
Nad deilliad o Fethodistiaeth Lloegr yw Methodistiaeth Cymru—Cychwyniad y symudiad yn Rhydycbain-" y Clwb Sanctaidd "—John a Charles Wesley—John Cambold, y Cymro-Manylwch rheolau a hunanymwadiad aelodau y "Clwb Sanctaidd" Y symudiad yn un Sacramentaraidd ac Uchel-eglwysyddol—Dylanwad y Morafiaid ar John Wesley, Wesley yn ymwrthod a Chalfiniaeth—Yr ymraniad rhwng Wesley a Whitefield—Y ddau yn cael eu cymodi trwy offerynoliaeth Howell Harris.
IV.—DANIEL ROWLAND, LLANGEITHO
Ei faboed a'i ddygiad i fynu—Ei ordeiniad—Ei droedigaeth yn eglwys Llanddewi- brefi—Yn tynu lliaws i Langeitho trwy ei bregethu tanllyd—Pregethu y ddeddf—Yn dyfod yn fwy efengylaidd—Myned allan o'i blwyf—Cyfarfod am y tro cyntaf a Howell Harris—Erlid Daniel Rowland—Sefydlu seiadau—Ei droi allan o'r eglwys—Llangeitho yn dyfod yn Jerusalem Cymru—Desgrifiadau Charles o'r Bala; Jones,Llangan; Griffiths, Nevern; Christmas Evans; John Williams, Dolyddelen; a Dr. Owen Thomas, o weinidogaeth Rowland.
Ei enedigaeth a'i ddygiad i fynu—Ei argyhoeddiad yn eglwys Talgarth—Cael dyddanwch yn Nghrist—Dechreu cynal addoliad teuluaidd a chynghori—Yn myned i Rydychain—yn gadael Rhydychain—Myned o gwmpas i rybuddio yr annuwiol—Gwrthwynebiad yr offeiriaid a'r boneddwyr—Cael ei erlid—Sefydlu seiadau—Myned i lefaru i Sir Faesyfed—Argyhoeddiad Mr. Gwynn—Harris yn myned ar daith i Sir Fynwy—Yn ymweled a Sir Forganwg y tro cyntaf—Rhanau o'i ddyddlyfr—Cyfarfod a Whitefield yn Nghaerdydd—Myned i Lundain—Myned y tro cyntaf i'r Gogledd, mor bell a'r Bala—Dalenau ychwanegol o'i ddydd—lyfr—Myned i Sir Benfro—Sessiwn Trefynwy—Ail daith i'r Gogledd—Ei erlid yn y Bala—Myned i Sir Gaernarfon—Yn teithio ac yn gweithio yn ddidor.
Ei hanes dechreuol yn anhysbys—O dan addysg Griffith Jones—Yn guwrad Llysyfran—Ei benodiad i fod yn guwrad Llanddowror—Eglwys Prendergast, a chysylltiad Howell Davies a hi—Yn dyfod yn un o arweinwyr y Methodistiaid Penfro yn brif faes ei lafur—Ei briodas. Ei lafur mawr gyda'r diwygiad—Adeiladu y Tabernacl yn Hlwlffordd—Capel Woodstock, gweinyddu y sacramentau yno—Adeiladu Capelnewydd—Ei nodweddion—Ei farwolaeth a'i gladdedigaeth.
VII.–WILLIAM WILLIAMS, PANTYCELYN
Sylwadau arweiniol–Cofiant Mr. Charles iddo–Sefyllfa barchus ei rieni—Ymchwiliad i hanes ei ieuenctyd–Sefyllfa foesol a chrefyddol yr ardal y magwyd ef– Desgrifiad Ficer Pritchard o honi–Eglwysi Ymneillduol yr ardal Eu dadleuon a'u hymrysonau–Desgrifiad tebygol o'r eglwysi hyn yn "Theomemphus ". Ei fynediad i Athrofa Llwynllwyd –Ei droedigaeth ar ei ddychweliad adref, dan weinidogaeth Howell Harris–Yn ymuno a'r Eglwys Wladol, ac yn ymadael a hi yn fuan–Ei apwyntiad yn gynorthwywr i Daniel Rowland–Ei lafur fel efengylydd, a'i safle fel pregethwr–Ar gymhelliad ei frodyr yn dechreu cyfansoddi hymnau–Hymnau ei ieuenctyd–Yn cyhoeddi ei "Aleluia"–Yn ymgymeryd a lafur llenyddol o bob math–Rhagoroldeb ei brif gyfansoddiadau barddonol–Ei "Olwg ar Deyrnas Crist" a'i "Theomemphus"–Poblogrwydd anarferol ei cyfansoddiadau–Barn llenorion Cymru am ei safle fel llenor, emynydd, a bardd.
VIII.–WYTH MLYNEDD CYNTAF Y DIWYGIAD
Cynydd cyflym y diwygiad yn y Deheudir–Y Gogledd, gyda'r eithriad o Sir Drefaldwyn, yn elynol i'r symudiad–Y diwygiad Methodistaidd yn gyffelyb i ddiwygiad yr oes apostolaidd–Yr Ymneillduwyr ar y cyntaf yn cydweithredu ond gwedi hyny yn peidio–Methodistiaid yn debygol o gael eu hesgymuno o'r Eglwys–Eu safle yn anamddiffynadwy–ymgais at drefn–Y cynghorwyr cyntaf– Cyfarfodydd o'r arweinwyr a'r cynghorwyr yn dechreu cael eu cynal yn 1710– Yr angenrheidrwydd am Gymdeithasfa–Rheolau cyntaf y seiadau.
Howell Harris ar ei daith tua Watford–Y chwech cyntaf–Penderfyniadau y Gymdeithasfa–Gorphen mewn cân a moliant–Cyfarfodydd Misol Llanddeusant, Trefecea, Tyddyn, Llanwrtyd, a Glanyrafonddu–Ail Gymdeithasfa Watford–Taith Whitefield a Howell Harris trwy ranau helaeth o'r Deheudir–Argyhoeddiad Peter Williams–Cyfarfodydd Misol Gelliglyd, Watford, Dygoedydd, a Longhouse–Cymdeithasfa Chwarterol Trefeca–Y ddau arolygydd tramgwyddus–Whitefield a Howell Harris yn ysgrifenu llythyrau atynt.
X.–RHAI O'R CYNGHORWYR BOREUAF
Richard Tibbot–Lewis Evan, Llanllugan–Herbert Jenkins–James Ingram–James Beaumont–Thomas James, Cerigcadarn–David Williams, Llysyfronydd–Thomas Williams–William Edward, yr Adeiladydd–Morgan John Lewis—William Richard–Benjamin Thomas–John Harris, St. Kennox–John Harry, Treanlod–William Edward, Rhydygele–Rhai o'r Adroddiadau a anfonwyd i'r Cymdeithasfaoedd.
Gwaeledd iechyd Harris yn ei dueddu i roddi i fynu y gwaith cyhoeddus–Ymosodiad Edmund Jones ar y Methodistiaid–Dechreu codi capelau–Capelau Maesgwyn a'r Groeswen–Prawf Morgan Hughes–Dadl ag Esgob Tyddewi–Pumed ymweliad H. Harris a Llundain–Y Gymdeithasfa Saesnig–Glynu wrth yr Eglwys Sefydledig–Whitefield yn tybio y cai ei wneyd yn esgob Dadl a Richard Jenkins gyda golwg ar y Gair–Ystorm yn Nghymdeithasfa Glanyrafonddu–Cymdeithasfa Watford, 1744–Y Methodistiaid a'r gyfraith wladol–Llythyr aelodau Mynydd- islwyn Chweched ymweliad Harris a Llundain–Amryw Cymdeithasfaoedd Chwarterol a Misol.
Pregeth Williams, Pantycelyn, yn Nghymdeithasfa Watford Ymdrin a phynciau athrawiaethol dyfnion–Harris, yn Erwd, yn galw gwaed Crist yn "waed Duw." –Cymdeithasfa Abergorlech–Howell Harris mewn dyfroedd dyfnion yn Sir Benfro–Daniel Rowland yn rhybuddio Harris i fod yn fwy gofalus parthed yr athrawiaethau a bregethai–Sefyllfa gyffrous Methodistiaid Lloegr–Cymdeithasfa Bryste–Cymdeithasfa Cayo–Llythyr cynghorwyr y Groeswen–Price Davies yn caniatau y sacrament i'r Methodistiaid yn Nhalgarth–Datganiad Howell Harris yn Nghymdeithasfa Watford–Howell Harris yn Llundain eto–Pressio i'r fyddin –H. Harris ar daith yn Sir Forganwg–H. Harris yn arolygwr y Methodistiaid Saesnig–Dadl a Griffith Jones, Llanddowror–Ymweled a Llundain eto.
Taith Howell Harris yn Sir Forganwg—Gwrthwynebiad i'w athrawiaeth yn dechreu codi—Thomas Williams, y Groeswen, yn dychwelyd at y Methodistiaid—Cymdeithasfa y Glyn—Llythyr at Mr. Thomas Adams—Cymdeithasfa Glancothi—Y Cyfarfod Chwechwythnosol-Howell Harris yn Llundain-Cymdeithasfa ystormus yn Watford—Ymosodiad y Morafiaid ar Gymru—Howell Harris yn Hwlffordd—Yr anghytundeb rhwng Rowland a Harris yn cychwyn yn Nghymdeithasfa Trefecca—Rowland a Harris yn ail-heddychu— Cymdeithasfa gyffrous yn Castellnedd—Cymdeithasfa ddymunol yn Watford.
Gwaredigaeth hynod yn Llansantffraid—Amryw Gymdeithasfaoedd—Harris yn cyhuddo Williams, Pantycelyn, o bregethu yn ddeddfol—Dealltwriaeth a'r Wesleyaid—Howell Harris yn ymweled a Mon, Arfon, Dinbych, a Meirionydd—Llythyr cryf at y Parch. Edmund Jones—Taith i Orllewin Lloegr—Syr Watkin Williams Wynne yn erlid y Methodistiaid—Cymdeithasfa Llanbedr—Adroddiad am gasgliad—Cymdeithasfa Caerfyrddin—Y myfyrwyr yn rhuthro i'r Gymdeithasfa—Howell Harris yn Sir Benfro—Dadl a dau weinidog Ymneillduol.
Harris yn amddiffyn James Beaumont—Dyledswyddau y goruchwylwyr—Harris yn beio seiat y Groeswen am ordeinio brodyr i weinyddu yr ordinhadau—Ei syniad am athrofa—Taith i Sir Drefaldwyn—Ymweliad arall a Llangeitho—Ymheddychu a'r Parch. Price Davies—Taith arall trwy Benfro, Caerfyrddin, a Morganwg—Parotoi at ymraniad—Harris yn ymosod ar yr offeiriaid—Pregeth nerthol yn y Groeswen—Howell Harris a Price, o'r Watford—Ffrwgwd parthed troi y goruchwylwyr allan yn yr Aberthyn—Cymdeithasfa Llanidloes—Dim yn bosibl bellach ond ymraniad.
Syniadau athrawiaethol Howell Harris—"Ymddiddan rhwng Uniawngred a Chamsyniol”– Achosion i'r ymraniad heblaw gwahaniaeth barn parthed athrawiaeth—Harris yn petruso cyn ymranu—Plaid Rowland yn cyfarfod yn Llantrisant, ac yn ymwrthod a Harris—Yntau yn cynal pwyllgor yn Llansamlet—Cymdeithasfa gyntaf plaid Harris, yn St. Nicholas— Cymdeithasfa Llanfair-muallt—Llythyr Harris at Rowland—Harris yn Sir Benfro—Harris yn Ngogledd Cymru—Cymdeithasfa Llwynyberllan a Dyserth.
XVII. HOWELL HARRIS GWEDI YR YMRANIAD
Howell Harris yn gosod i lawr sylfaen yr adeilad newydd yn Nhrefccca–Ei afiechyd difrifol–Anerchiad pwysig yn y "Cynghor"— Anfon milwyr i'r fyddin– Harris yn gadben yn y milisia–Ei lafur yn Yarmouth a manau eraill. Gostegu y terfysgwyr yn Nghymdeithasfa Llanymddyfri–Blwyddyn ei Jiwbili–Anfon at Rowland, yn Llangeitho, i ofyn am undeb–Y ddau yn cyfarfod yn Nhrecastell– Harris yn teithio yn mysg y Methodistiaid Cymdeithasfa eto yn Nhrcfecca, gwedi tair blynedd–ar–ddeg–Cymdeithasfa Woodstock–Amryw Gymdeithasfaoedd eraill Coleg yr Iarlles Huntington yn Nhrefccca—Isaf–Ymweliadau y Methodistiaid a Threfccca–Terfyn oes Howell Harris.
Ei enedigaeth a'i ddygiad i fynu—Ei fam yn ei fwriadu i'r weinidogaeth—Colli ei rieni yn foreu—Rhagluniaeth yn gofalu am yr amddifad—Peter Williams yn myned i athrofa Thomas Einion—Yn cael ei argyhoeddi trwg bregeth Whitefield—Cael ei urddo yn guwrad eglwys Gymmun—Colli ei le oblegyd ei Fethodistiaeth—Colli dwy guwradiaeth arall am yr un rheswm—Yn ymuno a'r Methodistiaid—Ei daith gyntaf i'r Gogledd—Cacl ei erlid oblegyd yr efengyl yn y Dê a'r Gogledd—Cael lle amlwg yn fuan yn y Gymdeithasfa—Yn ymuno a phlaid Rowland adeg yr ymraniad Ysgrythyroldeb ei bregethau—Dwyn allan y Beibl mawr, gyda sylwadau ar bob penod Cyhoeddi y "Mynegair," yn nghyd a "Thrysorfa Gwybodaeth," sef y cylchgrawn Cymreig cyntaf—Anfoddlonrwydd i'w sylwadau gyda golwg ar y Drindod—Yr anfoddlonrwydd yn cynyddu oblegyd iddo newid rhai geiriau yn Meibl Caune Dadleu brwd yn y Gymdeithasfa—Peter Williams yn cael ei ddiarddel gan y Methodistiaid—Yn gwneyd amryw geisiadau am ail brawf, ond yn glynu wrth ei olygiadau—Canlyniadau ei ddiarddeliad—Diwedd ei oes—Purdeb ei amcanion, a mawredd ei ddefnyddioldeb.
Sylfaenwyr ac arweinyddion cyntaf y Methodistiaid–Jones heb fod yn un o honynt–Ei gydoeswyr a'i gyfoedion–Hanes ei enedigaeth a'i ieuenctyd Yn cyfarfod a damwain–Ei addysg a'i urddiad i Lanafan-fawr–Symud i Dydweiliog –Dyfod i gyffyrddiad a Dr. Read yn Trefethin, ac yn cael ei gyfnewid trwy ras– yn cael bywioliaeth Llangan, drwy ddylanwad Iarlles Huntington, Sefyllfa foesol a chrefyddol y plwyf–Ei gydweithwyr yn Morganwg–Desgrifiad o Sul y Cymun yn Llangan–Yn pregethu mewn lleoedd annghysegredig–Yn adeiladu Capel Salem–Marwolaeth a chladdedigaeth ei wraig–Yn gosod i lawr ddrwg arferion yr ardal–Achwyn arno with yr esgob–Ei lafur yn mysg y Saeson–Ei allu i gasglu arian at gapelau–Ei lafur yn mysg y Cymru–Yn cyfarfod ag erledigaethau ac yn eu gorchfygu–Ei boblogrwydd fel pregethwr–Annas yn dyfod o Sir Fôn i geisio cyhoeddiad ganddo–Yn efengylydd yn hytrach nag yn arweinydd–Penillion Thomas Williams, Bethesda-y-Fro–Desgrifiad Williams, Pantycelyn; Robert Jones, Rhoslan: a Christmas Evans, o hono–Ei ail briodas, a'i symudiad i Manorowen–Yn dyfod o fewn cylch mwy eglwysig–Yn heneiddio ac yn llesghau Diwedd ei oes.
XX.–WILLIAM DAVIES, CASTELLNEDD; DAFYDD MORRIS, TWRGWYN; WILLIAM LLWYD, O GAYO
William Davies yn hanu o Sir Gaerfyrddin–Ei ddyfodiad i Gastellnedd–Ei boblogrwydd Yn colli ei guwradiaeth—Adnewyddu capel y Gyfylchi iddo–Barn Howell Harris am dano–Odfa ryfedd yn Llangeitho–Y tair chwaer–Ei farwolaeth–Boreu oes Dafydd Morris–Dechreu pregethu yn ieuanc–Meddwl uchel Rowland am dano–Swyn ei lais–Yn symud i Dwrgwyn–Yn teithio Cymru Pregeth y golled fawr–Ceryddu blaenor sarrug–Amddiffyn Llewelyn John–Dafydd Morris fel emynydd–Marwolaeth ei wraig–Ei farwolaeth yntau–Haniad William Llwyd, o Gayo–Ei argyhoeddiad–Ei ymuniad a'r Methodistiaid yn dechreu pregethu–Hynodrwydd William Llwyd–Nodwedd ei weinidogaeth–Ei farwolaeth.
ATTODIAD.–Y TADAU METHODISTAIDD A'U CYHUDDWYRPENOD I
SEFYLLFA FOESOL CYMRU ADEG CYFODIAD METHODISTIAETH
Sefyllfa foesol Prydain yn isel adeg cyfodiad Methodistiaeth—Cyflwr Cymru o angenrheidrwydd yn gyffelyb—Hirnos gauaf mewn amaethdy—Tystiolaeth ysgrifenwyr diduedd am gyflwr y Dywysogaeth—Cyhuddiad Dr. Rees yn erbyn y Tadau Methodistaidd—Y cyhuddiad yn ddisail—Taflen Mr. John Evans, o Lundain—Y daflen yn cael ei llyrgunio i amcan Yr eglwysi Ymneillduol yn cael eu gwanhau gan ddadleuon—Yr elfenau newyddion a ddaethant i mewn gyda'r Methodistiaid.
Y MAE yn amheus a fu crefydd ysprydol erioed yn is yn Mhrydain, er pan y pregethwyd yr efengyl gyntaf yn yr ynys, nag adeg dechreuad Methodistiaeth. Yr oedd y Puritaniaid gyda eu bywyd a'u harferion personol a theuluaidd dysyml, eu gwrthnaws at bob rhodres, gwag—ymddangosiad, a balchder, eu difrifwch angerddol, a'u cydnabyddiaeth eang a Gair yr Arglwydd, wedi cael eu rhifo i'r bedd; ac ar eu hol cyfodasai oes arall, hollol wahanol o ran yspryd, arferion, a moes, yr hon oedd wedi ymroddi i bob math o chwareu, a phob math o lygredigaeth. Gellir olrhain y cyfnewidiad mewn rhan i wrthweithiad naturiol yn erbyn yr yspryd Puritanaidd, yr hwn o bosibl oedd yn rhy lym; mewn rhan i ddylanwad llygredig llys Siarl yr Ail, yn yr hwn y gwawdid rhinwedd a phob math o ddifrifwch, ac yr ymffrostid mewn anfoesoldeb; ond yn benaf i lygredigaeth naturiol y galon ddynol, yr hon sydd yn unig yn ddrygionus bob amser. Nid oedd prinder dynion galluog yr adeg hon. Dyma y pryd y blodeuai Handel y cerddor, Pope y bardd, Daniel Defoe y nofelydd, a Samuel Johnson y llenor. Tua'r amser hwn y cyfansoddai Butler ei Gyfatebiaeth, yr hwn lyfr nad oes yr un anffyddiwr wedi llwyddo i'w ateb hyd heddyw. Fel dynion o allu arbenig yn yr Eglwys Sefydledig, gellir cyfeirio at Sherlock, Waterland, a Secker; ac yn mysg yr Ymneillduwyr at Isaac Watts, Nathaniel Lardner, a'r duwiol Philip Doddridge. Ond fel y sylwa un, nid yw talent bob amser yn esgor ar ddaioni. Ac yr oedd yr oes yma, er yr holl ddynion galluog a dysglaer eu talent a gynwysai, yn nodedig am ei hanfoesoldeb. Meddai ysgrifenydd galluog: [1] " Ni wawriodd canrif erioed ar Loegr Gristionogol mor amddifad o enaid ac o ffydd a'r hon a gychwynodd gyda theyrnasiad y Frenhines Anne, ac a gyrhaeddodd ei chanolddydd dan Sior yr Ail. Nid oedd dim irder yn yr amser a basiodd, na dim gobaith yn y dyfodol. Athronydd yr oes oedd Bolingbroke, ei haddysgydd mewn moesoldeb oedd Addison, ei phrydydd oedd Pope, a'i phregethwr oedd Atterbury. Gwisgai y byd olwg segur anniddig tranoeth i ddydd gwyl gwallgof."
Cadarnheir y desgrifìad gan y rhai oeddynt yn byw ar y pryd. Dywed Esgob Lichfield, yn 1724, mewn pregeth o flaen y Gymdeithas er Diwygio Moesau: [2] " Dydd yr Arglwydd yn awr yw dydd marchnad y diafol. Ymroddir i fwy o anlladrwydd, i fwy o feddwdod, ac i fwy o gynhenau; cyflawnir mwy o fwrddradau a mwy o bechod ar y dydd hwn nag ar holl ddyddiau eraill yr wythnos. Y mae diodydd cryfion wedi dyfod yn haint yn y ddinas. Y mae mwy o bobl yn marw o'r gwahanol glefydau a gynyrchir gan ymarferiad cyson o frandi a gwirf, nag sydd o bob afiechyd arall, o ba natur bynag. Pechod yn gyffredinol sydd wedi ymgaledu i'r fath raddau, ac wedi tyfu mor rhonc, fel yr amddiffynnir, ie, y cyfiawnheir, anfoesoldeb oddiar egwyddor. Câ llyfrau aflan, masweddgar, ac anllad farchnad mor dda, fel ag i gefnogi y fasnach o'u cyhoeddi. Nid oes un pechod nad yw wedi ffeindio ysgrifenydd i'w ddysgu a'i amddiffyn, a llyfrwerthydd a phedlwr i'w daenu ar led." Yr adeg yma yr oedd yfed gin wedi dyfod yn orphwylledd cyffredinol. Yn Llundain yr oedd un tŷ o bob chwech yn wirottŷ. Ar eu harwydd-estyll (sign- boards) addawai y tafarnwyr y gwnaent ddyn yn feddw am geiniog, ac y ffeindient wellt iddo i orwedd arno hyd nes y byddai wedi adfeddianu ei synwyrau. Afradedd oedd trefn y dydd. Nid oedd un teulu o bob deg yn ymgais am dalu ei ffordd. Y cwestiwn mawr oedd gallu bwyta yn fwy danteithiol, yfed yn fwy helaeth, a gwisgo yn fwy gwych na'r cymydogion o gwmpas. Bob nos goleuid y gerddi cyhoeddus a llus— ernau dirif, lle yr ymgynullai, wediymwisgo mewn sidan a phorphor, a chyda niwgwd ar eu gwynebau, lladron, oferwyr, hap— chwareuwyr, a phuteiniaid, yn gymysg a chyfoethogion a phendefigion o'r saíle uchaf, a lle y carient yn mlaen ymddiddan anniwair, ac y sibrydent athrod celwyddog. Cawsai pob dosparth ei feddianu a'r haint. Yr oedd clarcod a phrentisiaid, merched gweini a chogyddion, yn ymddilladu mor orwych a'u mestr neu eu meistres. . I gyfarfod yr holl afradedd yma rhaid, bid sicr, cael arian; ac edrychid ar bob ffordd i'w cyrhaedd, bydded onest, bydded an— onest, fel yn hollol gyfreithlon. Cyfrifid lladrad yn foneddigaidd, a hapchwareu yn ddyledswydd. Byddai boneddigesau yn dal cyngwystl yn eu tai, tra y byddai eu gwyr yn ymroddi i hapchwareu oddi— cartref; a chly wid swn disiau yn trystio ar ferfa olwyn yr hwn a elai o gwmpas i werthu afalau, penogiaid, a bresych, yn gystal ag ar fyrddau y pendefigion. Rhaid oedd cael arian, ac nid oedd wahaniaeth yn y byd pa fodd. Dywed y Wcehly Miscellany am 1732, fod y bobl wedi ymgladdu mewn pleser, fod ymgais at fyw yn dduwiol yn cael edrych arno mor hynod a phe yr ai dyn i'r heol wedi ymwisgo yn nillad ei daid; a bod clybiau anffyddol wedi cael eu ffurfio, gyda'r amcan addefedig o wneyd y bobl yn genedl aflan. Nid oedd bris ar rinwedd, a dirmygid crefydd a duwioldeb. Gellir cymhwyso geiriau y prophwyd Esaiah at yr oes: "Cenhedlaeth bechadurus, pobl lwythog o anwiredd, had y rhai drygionus, meibion yn llygru; y pen oll sydd glwyfus, a'r galon yn llesg; o wadn y troed hyd y pen nid oes dim cyfan ynddo, ond archollion, a chleisiau, a gwehau crawnllyd."
O'r diwedd, dychrynodd yr awdurdodau gwladol oblegyd y llygredigaeth a'r anfoesoldeb. Apwyntiwyd pwyllgor gan Dŷ yr Arglwyddi, "i chwilio i mewn i achosion yr anfoesoldeb a'r halogedigaeth rhemp presenol." Yn ei adroddiad mynegai y pwyllgor fod nifer o ddynion llygredig eu moes wedi ymffurfio yn ddiweddar yn glwb, dan yr enw Mallwyr (Blasters), a'u bod yn defnyddio pob moddion i geisio cael ieuenctyd y deyrnas i ymuno a hwy. Fod aelodau y clwb hwn yn proffesu eu hunain yn addolwyr y diafol, eu bod yn gweddïo arno, ac yn yfed iechyd da iddo. Eu bod yn defnyddio y fath iaith gableddus yn erbyn mawrhydi ac enw sanctaidd Duw, ac yn arfer ymadroddion mor aflan ac ehud, fel nad oedd y cyffelyb wedi ei glywed yn flaenoro, a bod y pwyllgor yn pasio heibio i'r cyfryw mewn dystawrwydd am eu bod yn rhy erchyll i'w hail adrodd. Adroddai y pwyllgor yn mhellach fod crefydd a phob peth cysegredig wedi cael eu hesgeuluso yn ddifrifol yn ddiweddar; a bod mwy o esgeuluso yr addoliad dwyfol, yn gyhoeddus ac yn breifat, ac o anmharchu y Sabbath, nag y gwybuwyd am y fath yn Lloegr erioed o'r blaen. Fod segurdod, moethusrwydd, hapchwareu, ac ymarferiad a gwirodydd, wedi cynyddu yn arswydus, Cynghorai ar fod i'r esgobion yn eu hymweliadau i siarsio y clerigwyr ar iddynt rybuddio y bobl a'u cymhell i fynychu y gwasanaeth dwyfol, ac ar fod i'r ieuenctyd yn y prifysgolion gael eu haddysgu yn ofalus yn egwyddorion crefydd a moesoldeb. Yn 1744 darfu i uchelreithwyr Middlesex gyflwyno y cwyn canlynol i'r barnwr yn y Sessiwn: "Fod y bobl yn cael eu llithro i foethusrwydd, afradedd, a segurdod; trwy hyn fod teuluoedd yn cael eu dinystrio a'r deyrnas yn cael ei dianrhydeddu; ac oni fyddai i ryw awdurdod roddi terfyn ar y fath fywyd afradlon, eu bod yn ofni yr arweiniai i ddinystr y genedl." Mewn gwirionedd yr oedd anwiredd yn prysur ddatod seiliau cymdeithas; wedi taflu rhinwedd a chrefydd dros y bwrdd nid oedd gan y bobl nerth i ddim; bygythiai eu blysiau droi yn feddau iddynt; yr oedd dinystr gwladol a chymdeithasol yn llygadrythu yn eu gwynebau; ac ymddangosent fel ar suddo yn dragywyddol dan adfeilion y moesoldeb y tynasent tan ei sail, Yr un pryd dychrynai yr ychydig bobl dduwiol a weddillasid, a chyfodent eu golygon at Dduw, gan waeddi: "O Arglwydd, pa hyd! pa hyd!"
Naturiol gofyn: Beth am glerigwyr yr Eglwys Sefydledig? Ai nid oeddynt hwy yn gwylio ar y mur, yn ol y llŵ difrifol a gymerasent adeg eu hordeiniad? Ai nid oeddynt yn ceisio atal y llifeiriant fel y gweddai i'w swydd? Na, ysywaeth " 'Run fath bobl ag offeiriad " ydoedd y pryd hwnw fel bron yn mhob oes. Arweiniai llu o'r clerigwyr fywyd anfucheddol, ac yr oeddynt bron mor anwybodus a thyrchod daear yn athrawiaethau yr efengyl yr ymgymerasent a'i phregethu. Gallent herio y penaf yn yr ardal am gryfder i yfed cwrw a gwirod; medrent ymgystadlu a neb pwy bynag, yn y gadair ger y tân hirnos gauaf, am adrodd ystoriau gogleisiol ac anweddus; yr oeddynt yn awdurdod ynglyn a'r campiau, a'r amrywiol chwareuon; ond yr oeddynt yn gwbl anwybodus yn efengyl Duw, ac yn llawer mwy cydnabyddus a bywyd a gweithrediadau Alexander Fawr, a Julius Caesar, nag a hanes yr Arglwydd Iesu. Rhag i neb dybio ein bod yn lliwio pethau yn rhy ddu, difynwn yr hyn a ysgrifenwyd gan yr Esgob Burnet yn y flwyddyn 1713: "Y mae y nifer fwyaf o'r rhai a ddeuant i'w hordeinio mor anwybodus, na all neb gael syniad am dano, ond y rhai y gorfodir hwynt i'w wybod. Y wybodaeth hawddaf yw yr un y maent ddyeithraf iddi; yr wyf yn cyfeirio at y rhanau mwyaf hawdd o'r Ysgrythyr. Nis gallant roddi un math o gyfrif hyd yn nod o gynwys yr Efengylau, neu y Catecism; neu ar y goreu, cyfrif anmherffaith iawn." Darlun ofnadwy o ddu, onide? A chofier ei fod wedi cael ei dynu gan esgob. Teg yw hysbysu fod dosparth o glerigwyr ar y pryd a arweinient fywyd moesol, a bod yn eu mysg ddynion dysgedig a thalentog. Y rhai hyn oeddent yr Uchel—eglwyswyr. Ond anurddid hwythau gan ddau fai. Un oedd eu rhagfarn at Ymneullduaeth. Dalient nad oedd neb yn weinidog i Grist os na fyddai wedi derbyn urddau esgobol, fod yr holl sacramentau a weinyddid gan yr Ymneullduwyr yn ddirym, a bod yr Eglwysi Ymneillduol oll mewn stad o bechod a damnedigaeth. Yn ychwanegol, yr oeddynt yn wleidyddwyr penboeth. Yr oeddynt, lawer o honynt beth bynag, yn Jacobiaid, sef yn annheyrngar i'r Brenin Sior, ac yn awyddus am weled Siarl Steward, yr Ymhonwr fel ei gelwid, yn esgyn i'r orsedd. Deuai pechod yn rhinwedd yn eu golwg, os dangosai yr hwn a'i cyflawnai zêl anghymedrol o blaid yr Ymhonwr; deuai sancteiddrwydd yn gamwedd os dangosid unrhyw frawdgarwch at yr Ymneillduwyr. Gallai dyn fod yn feddw trwy yr' wythnos, a byw y bywyd ffìeiddiaf; ond os yfai iechyd da yr Ymhonwr, ac os unai i felldithio y brenin, ystyrid ef yn sant. Ar y Ilaw arall gallai dyn fod yn ddysgedig, yn ddiwyd, yn ddefosiynol, a defnyddiol; ond os gwrthwynebai yr Ymhonwr, y safai yn gryf yn erbyn Pabyddiaeth, ac os amheuai fod yr YmneiIIduwyr oll i gael eu damnio, edrychid arno fel un anuniongred, a deuai ar unwaith yn nod i saethau y blaid Uchel—eglwysig.
Ychydig neu ddim gwell oedd pethau yn mysg yr Ymneillduwyr. Cwynent hwythau eu bod yn colli yr ieuenctyd, fod difrawder cyffredinoI ac oerni gauafaidd wedi ymdaenu dros eu cynulleidfaodd, a bod crefydd ysprydol yn nodedig o isel. Achwynent fod Ilawer o'u gweinidogion yn esgeulus ac yn arwain bucheddau anfoesol, a'u bod yn eu pregethau, y rhai a ddarllenid ganddynt, yn dangos mwy o gydnabyddiaeth a'r awduron clasurol nag a Gair Duw. Rhaid fod pethau wedi cyrhaedd sefyllfa alaethus, a dywed Tyerman mai cyfodiad a chynydd Methodistiaeth a achubodd Brydain rhagdinystr tymhorol a chymdeithasol. Yn gyffelyb y barna Macaulay.
Yr ydym wedi manylu ac ymhelaethu ar sefyllfa crefydd a moesau yn Lloegr, am fod yr unrhyw achosion, i raddau mwy neu lai, ar waith yn Nghymru, ac o angenrheidrwydd yn cynyrchu yr unrhyw effeithiau. Braidd nad oedd dylanwad Lloegr ar y Dywysogaeth yn gryfach y pryd hwnw nag yn awr. Rhaid cofio fod llenyddiaeth gyfnodol Gymreig heb wneyd ei hymddangosiad eto; na anwyd yr Amseran, y newyddiadur wythnosol Cymreig cyntaf, am gan mlynedd gwedin, ac na chyhoeddwyd y cylchgrawn misol cyntaf yn iaith y bobl am ryw haner cant. Cymaint o lenyddiaeth yn adlewyrchu syniadau y dydd ag a ddarllenid, deuai o Loegr, ac yr oedd ei ddylanwad fel gwynt heintus yn deifio pob blodeuyn prydferth a thêg yr olwg arno. Gwir nad oedd nifer y dar— llenwyr ond ychydig, ond o herwydd eu safle gymdeithasol medrent, fel y lefain yn y ddameg, suro pob peth y deuent i gyffyrddiad ag ef. Dylid cofio yn mhellach mai ychydig o ysgolion oedd yn Nghymru, ac yr anfonid yr ieuenctyd am addysg i'r trefydd mawrion Saesnig, a bod y rhai a allent fforddio hyny yn myned i Rydychain. Fel y gellid dysgwyl, deuent yn eu holau wedi ymlygru, ac wedi llyncu syniadau anffyddol ac afiach y lleoedd y buont yn aros ynddynt. Cadarnheir hyn gan dystioliaeth unfrydol y rhai oeddynt yn byw ar y pryd. Dywedant fod gwir grefydd ymron wedi darfod o'r tir, fod anfoesoldeb yn ei ffurfiau mwyaf hyll yn llanw y wlad; ac yn ychwanegol fod yr anwybodaeth fwyaf eithafol, a'r ofergoelaeth fwyaf hygoelus yn ffynu yn mysg y werin. Ychydig oedd nifer y Beiblau, llai fyth oedd nifer y rhai a fedrent eu darllen. Treulid nosweithiau y gauaf i adrodd ystoriau gwrachïaidd am fwganod, drychiolaethau, goleu corff, a phethau o'r fath.
Er rhoddi ryw syniad i'r darllenydd am sefyllfa isel y wlad, a pha mor llawn ydoedd o ofergoehaeth, rhaid i ni geisio ganddo ddyfod gyda ni ar daith ddychymygol, i ffermdy gwell na'r cyffredin, ryw noson yn y gauaf, lle y mae cwmni dyddan wedi ymgasglu. Er oered yr hin oddiallan, nid yw yn oer yn nghegin yr amaethdy, oblegyd llosga tân braf, cymysg o fawn ac o goed, ar yr aelwyd. Nid oes yr un ganwyll yn nghyn, y mae goleu y tân yn ddigon, a theifl y fflamau eu llewyrch ar y platiau piwter sydd ar y seld nes y maent yn dysgleirio drostynt. Eistedda yr hên y tu fewn i'r simne eang hen ffasiwn; mewn pellder gweddol y tu ol yr eistedd yr ieuanc, perthynol i'r ddau ryw; a'r gwaith, yr hwn a gerir yn mlaen gyda chryn asbri, yw adrodd chwedlau, hen a diweddar. Dywed un am ryw helynt a ddigwyddasai yn y fferm agosaf ond un. Ryw foreu yr wythnos o'r blaen, daeth hen wraig, hagr ei gwedd a melyn ei chroen, at y drws; aeth gwraig y tŷ at y drws i'w chyfarfod, pryd y cymerodd yr ymddiddan canlynol le rhyngddynt. "Bendith y nefoedd a fo arnoch! A
welwch chwi yn dda roi cwpanaid o haidd yn gardod i hen wreigan? "
" Y mae yn wir ddrwg genyf; yr ydym yn hollol allan o haidd; rhaid i'r hogiau fyn'd i'r 'sgubor i ddyrnu, cyn y byddo genym ddim at wasanaeth y tŷ."
" A ydych yn gwrthod y cwpanaid haidd? "
" Rhaid i mi wrthod heddyw, nid oes dim genyf at fy Ilaw."
" Chwi a ddifarwch cyn machlud haul am fod mor llawgauad."
Aeth yr hen ddynes i ffwrdd yn guchiog ei gwedd, gan fwmian bygythion; a throdd y wraig yn ei hol i'r gegin. Yno yr oedd y forwyn yn gwneyd paratoadau at gorddi. Yn mhen ychydig dechreuodd ar ei gwaith, a chorddi y bu am oriau meithion, ond nid oedd un argoel fod yr hufen am droi yn ymenyn. Gwawriodd ar feddwl y feistres mai melldith yr hen ddynes oedd y rheswm am y ffaelu corddi. Aeth mewn brys gwyllt at ei gwr oedd yn yr ydlan, gan ddweyd: —
"Ewch ar unwaith, cymerwch y ceffyl buanaf sydd yn yr ystabl; gyrwch ar ol yr hen ddynes a fu wrth y drws; y mae wedi rheibio yr hufen; dygwch hi yn ei hol bodd neu anfodd."
Ymaith a'r gwr; goddiweddodd y ddewines; gwnaeth iddi ddychwelyd; dywedodd hithau ychydig eiriau dan ei hanadl; ac ychydig o waith corddi a fu nes bod yr ymenyn yn Ilon'd y fuddai. Gwnaed y nodiadau oedd yn gweddu ar yr hanes; datganai rhai o'r cwmni ryw gymaint o syndod; ac eto nid oedd y syndod yn fawr, gan fod digwyddiadau o'r fath yn cymeryd Ile yn rhy gyffredin.
Gwedi byr seibiant dyma yr ail yn cymeryd ei ddameg, ac yn adrodd am Dafydd Pantyddafad yn yfed yn nhafarn y pentref ryw fis cynt. Ystormus oedd y nos, a chaddugol oedd y tywyIIwch; chwibanai y gwynt fel ellyll gwawdus yn nghorn y simne, a disgynai y curwlaw i lawr yn genllif, fel yr oedd yn berygl bywyd myned allan o dŷ. Eisteddai Dafydd yntau yn dra phruddglwyfus wrth y tân, gan geisio dychymygu sut yr äi adref, gan fod Pantyddafad ddwy filltir o bellder, yr ochr arall i'r afon Teifi. Wrth ei benelin yr oedd hen wreigan, gyda sJimid goch ar ei gwar, yn cribo gwlan yn ol ffasiwn yr hen Gymry. Gwaghaodd Dafydd ei beint, galwodd am un arall, ac wedi yfed dracht dda o hono, estynai ef i'r hen wraig a'r . cribau, er mwyn iddi hithau gael yfed. Yn y man ymdora gofid ei galon allan, a dywed:—
"Y mae yn noson enbyd. Wn i yn y byd pa fodd yr af adref."
"Cymerwch galon; chwi ewch adre' yn ddyogel," meddai y wraig a'r cribau.
"A ydych chwi yn meddwl y gostwng y gwynt, ac yr aiff hi yn hindda?"
"Gostwng neu beidio, fyddwch chwi ddim gwaeth."
Yfodd yr amaethwr ragor o beintiau, gan roddi yfed o hyd i'r hon oedd yn cribo gwlan; ond nid oedd argoel fod yr ystorm yn llaesu. O'r diwedd cododd, gwisgodd ei gob fawr am dano, a dywedodd ei fod yn myned deued a delai. Tynodd y drws ar ei ol, rhoddodd un cam allan i'r tywyllwch ystormus, a'r cam nesaf yr oedd wrth ddrws ei dŷ, heb wlychu nag arall. Yr oedd yr hon a yfasai o'i beint wedi talu iddo am ei garedigrwydd, trwy ei gario mewn mynydyn o amser ddwy filltir o ffordd yn groes i'r Teifi, mewn modd nas gwybuai efe. Cynyrchodd yr ystori yma fwy o syndod; yr oedd fod dyn yn cael ei gipio trwy yr awyr mewn modd gwyrthiol gan reibwraig yn ddigwyddiad anghyffredin.
Hanes am ddyn yn cael ei ddal mewn toilu sydd gan y trydydd, a gwrandewir ar ei eiriau gydag awch. Dywedai ddarfod i gasglwr trethi y plwyf, pan ar y ffordd fawr yn dychwelyd i'w artref, a hithau yn hwyr, gael ei hun yn ddisymwth ynghanol torf o ddynion. Sathrai y rhai hyny ei draed, a chilgwthient ef, nes y cafodd ei hun ar ei ledorwedd ar ochr y clawdd. Yn fuan deallodd fod angladd yn pasio. Elai y dorf yn dewach, yn mhen enyd dacw yr arch yn d'od i'r golwg, ac adwaenai yntau y rhai oeddynt yn cario yr elor. Yn raddol teneuai y dyrfa, a phasiodd y cynhebrwng. ond yn mysg yr olafiaid gwelai y trethgasglydd amaethwr oedd yn ei ddyled o'r dreth, a thybiodd fod yno gyfle braf i'w cheisio, fel ag i hebgor iddo gerdded rhai milltiroedd boreu dranoeth. Rhedodd ar ei ol, a galwodd arno erbyn ei enw. ond ni atebai; cerddai yn ei flaen mor sobr a sant, heb edrych ar y deheu na'r aswy, ac heb gymeryd unrhyw sylw o gais gŵr y dreth. Wedi blino galw gwawriodd ar feddwl y trethgasglydd mai mewn toilu yr oedd, mai ysprydion a arferent orymdeithio mewn sefydliadau o'r cyfryw natur, ac nad oedd ysprydion un amser yn talu treth. Trodd ar ei sawdl, ac aeth adref wedi ei siomi yn fawr.
Nid oes genym hamdden i groniclo ond un arall o'r ystoriau a adroddid, ac y mae hono, fel llawer o'r chwedlau a ffynent ar y pryd, am offeiriad. Dywedid fod y Parchedig Thomas Jones, ficer un o'r plwyfi agosaf, yn ŵr tra dysgedig, ei fod yn gallu darllen Lladin, fod yn ei feddiant lyfr llawn o gythreuliaid, ac y drwgdybid yntau yn gryf o ddal cymundeb a'r gŵr drwg. Cedwid y llyfr consurio bob amser yn rhwym mewn cadwyn glöedig. Ond yr oedd y forwyn, yr hon, fel llawer o'i dosparth, a feddai swni mawr o chwil— frydedd, wedi canfod y llyfr yn haner agored gan ei meistr; a thystiai ei fod wedi ei orchuddio drosto a lluniau annaearol, ac ag ysgrifeniadau mewn inc coch. Un tro penderfynodd Mr. Jones y gwnai ddatgloi y gadwyn ac agor y llyfr. Gyda bod y llyfr led y pen, dyma haid o ddiaflaid yn rhuthro allan, ac yn gofyn am waith. Y perygl mawr wrth godi cythreuliaid allan o lyfr yw methu cael digon iddynt i' w wneyd; ac os na chant hyny, cymerant y dyn a roes eu rhyddid iddynt i fynu yn gorphorol, a dygant ef gyda hwynt i'r pwll. Yn ffodus, cofiodd Mr. Jones am Lyn Aeddwen, ei fod yn llyn mawr a dwfn, a gorchymynodd i'r ellyllon fyned yno, a thaflu y dwfr allan, nes gwneyd y llyn yn wag. . I ffwrdd a hwy ar unwaith; torodd y chwys dyferol allan drosto yntau, a theimlai ei fod wedi cael gwaredigaeth fawr. Ond meddai ar gryn wroldeb,.a mentrodd agor dalen arail; a chyda ei fod yn gwneyd dyma haid arall o ddiaflaid yn rhuthro allan, ac fel y rhai cyntaf yn hawlio gorchwyl. Nid oedd yr hen offeiriad yn amddifad o gyfrwysdra, ac anfonodd yr haid hon at yr un llyn, i daflu yn ol y dwfr a luchid allan gan y rhai blaenoroL Pa hyd y bu y ddau ddosparth yn taflu dwfr i mewn ac allan, ni eglurai yr adroddwr, na pha un oedd y trechaf yn yr ymdrech; nac ychwaith pa fodd yr aethant yn eu holau i'r llyfr, os mai yno yr aethant, gan i'r ficer ei gloi a'i osod yn ol yn ddyogel yn y cwpbwrdd ar unwaith. A chymaint oedd y dychryn a gawsai fel na chynygiodd ar ddireidi o'r fath drachefn.
Fel yr elai y nos yn mlaen cynyddai yr asbri, a deuai y chwedlau yn fwy brawychus. Yn awr ac yn y man pesid y gostrel a'r cwrw o gwmpas, yr hon ddiod oedd wedi ei darllaw gartref, a deuai tafodau yr adroddwyr yn fwy rhydd mewn canlyniad. Ni thorwyd i fynu hyd haner nos, ac erbyn hyny yr oedd y dosparth ieuangaf wedi eu meddianu gan ddychrynfeydd; cyniweiriai iasau oerion trwy eu cnawd, a safai eu gwallt i fynu yn syth. Ar y ffordd adref tybient mai drychiolaeth oedd pob llwyn o ddrain, ac mai canwyll gorff oedd llewyrch y glöyn byw yn ffos y clawdd.
Dyma yr ymborth meddyhol a roddid i ieuenctyd Cymru gant a haner o flynyddoedd yn ol; dyma y chwedlau ofergoelus a yfent megys gyda llaeth eu mamau, ac a gredid yn ddiameu yn eu phth. Ni wyddent ddim am Dduw, heblaw bod yn gydnabyddus a'i enw; ni feddent yr un syniad am ysprydolrwydd ei natur nac am y dyledswyddau a ofynai ar eu llaw. Am y pethau mawrion yma yr oeddynt agos mor anwybodus a phaganiaid India. Ac yr oedd yr anfoesoldeb yn gyfartal i'r anwybodaeth. Ymlygrasai yr holl wlad; yn hyn nid oedd wahaniaeth rhwng boneddig na gwreng, ofíeiriad na phobl. Nid oedd y pwlpud yn meddu un math o allu i atal y llifeiriant. Yn wir, anaml y clywid enw ein Gwaredwr yn cael ei yngan ynddo, ac ni chyfeirid o gwbl at bechadurusrwydd dyn, nac at waith yr Yspryd Glân.[3] Bob Sul cynhelid chwareugamp, lle y byddai ieuenctyd y wlad yn gwneyd prawf o'u nerth mewn ymgodymu, neidio, rhedeg, a chicio y bel droed, tra y byddai yr hen yn sefyll o gwmpas i edrych. Gorphenid y dydd trwy fyned yn un dorf i'r tafarn, lle y treulid y nos mewn meddwdod, ac yn aml mewn ymladdfeydd creulon. Nos Sadyrnau, yn arbenig yn yr haf, cynhelid cyfarfodydd i ganu carolau, i ganu gyda'r delyn, i ddawnsio, ac i berfformio interliwdiau, gyda y ddau ryw ynghyd; yn y chwareuon hyn ymunai boneddigion yr ardaloedd yn gystal a'r tlodion. Cafodd y pethau yma, ynghyd a'r anfoesoldeb cydfynedol, y fath ddylanwad ar yspryd Mr. Charles o'r Bala, fel yr oedd hyd derfyn ei oes yn boen iddo i aros mewn ystafell yn mha un y byddai y delyn yn cael ei chwareu.
Cyhudda y Parch. T. Rees, D.D., Abertawe, y tadau Methodistaidd o ddesgrifio sefyllfa y Dywysogaeth ar y pryd mewn Iliwiau rhy ddu, a lledawgryma ddarfod iddynt wneyd hyny yn wirfoddol, er dirmygu llafur blaenorol yr Ymneullduwyr, a mwyhau y diwygiad a gynyrchwyd trwy eu llafur hwy eu hunain. Ni ddylasai y fath gyhuddiad ehud a disail gael ei wneyd. Y tadau Methodistaidd fyddai y diweddaf i orbrisio eu gwaith. Yn wir, nid oedd ganddynt un syniad am fawredd y chwildröad y buont yn foddion i'w gynyrchu; nyni, wrth edrych yn ol arno dros agendor o gant a haner o flynyddoedd, sydd yn gallu deall pa mor bwysig a pha mor llesiol a fu eu llafur a'u gweinidogaeth. Seilia Dr. Rees ei gyhuddiad ar ryw daflenau y daeth o hyd iddynt yn Llundain, ac ar lythyr o eiddo y Parch. Edmund Jones, Pontypwl. Cawn sylwi yn nes yn mlaen ar y taflenau, ond y mae yn amlwg fod Edmund Jones, a Dr. Rees yn ogystal, wedi camddeall marwnad Williams, Pantycelyn, i Howell Harris. Pan y desgrifia Williams Gymru, yr adeg y daeth Harris i maes o Drefecca fel dyn mewn twym ias, ac y dywed eu bod
"————yn gorwedd
Mewn rhyw dywyll, farwol hun,
Heb na Phresbyter na 'Ffeirad,
Nac un Esgob ar ddihun,"
nid yw am wadu fod rhai eithriadau pwysig. Ysgrifenai fel bardd, ac ni fwriadai i'w eiriau gael eu deall yn hollol lythyrenol. " Nid yw Williams," meddai Dr. Rees, " mewn un modd yn lleddfu ei haeriad fod pawb yn Nghymru mewn trwmgwsg pan y cychwynodd Methodistiaeth."Y mae hyn yn gamgymeriad; ceir ymadroddion yn y farwnad ei hun sydd yn dangos na fwriedid y geiriau i gael eu gwasgu i'w hystyr eithaf. Tua chanol y farwnad ceir y llinellau canlynol:
" Griffìth Jones pryd hyn oedd ddeffro
Yn cyhooddi Efengyl gras,
Hyd cyrhaeddai'r swn o'r pwlpud
Neu, os rhaid, o'r fynwent las."
Cyn diwedd yr unrhyw farwnad, ceir fod rhagor na Griffìth Jones ar ddihun; yr oedd
" Rowlands, Harris, a rhyw ychydig
Yma yn Nghymru yn seinio maes,
Weithiau o Sinai, weithiau o Sion,
Hen ddirgelion dwyfol ras."
Fel desgrifiad o agwedd gyffredinol y wlad yr oedd geiriau Williams yn wirionedd; yr oedd trwmgwsg marwol wedi meddianu hyd yn nod y rhai oeddynt wedi cael eu appwyntio i wylio. Nid yw am wadu yr eithriadau, yn hytrach cyfeiria atynt, ond achwyna nad oeddynt ond "rhyw ychydig." Rhaid esbonio y gwahanol linellau yn y farwnad yn ngoleuni yr oll o honi. Dyma y rheol bendant wrth esbonio yr Ysgrythyr; a phe y gwneid fel arall, ac y cymerid ymadroddion allan o'i cysylltiadau, fel y gwna Dr. Rees ac Edmund Jones wrth feirniadu geiriau Williams, Pantycelyn, gellid gwneyd i'r Beibl ddysgu y cyfeiliornadau mwyaf dinystriol. Yn mhellach, ysgrifenai Edmund Jones ei lythyr dan ddylanwad teimladau digofus at y Methodistiaid. Hawdd deall hyny wrth ei dôn. Dywed: " Y mae William Williams, y clerigwr Methodistaidd, yn dweyd yn blaen nad oedd na 'ffeirad na phresbyter ar ddihun pan ddechreuodd Howell Harris gynghori. Dyma anwiredd cywilyddus wedi ei argraffu. . . . Myfi fy hun a ddygodd Harris gyntaf i Sir Fynwy i gynghori. Y mae yn rhyfedd fod y dyn yna yn gallu dweyd y fath beth, ac yntau wedi ei eni a'i addysgu yn mysg yr Ymneillduwyr. os na wna y Methodistiaid roddi heibio senu yn llym fel y maent, bydd i Dduw o radd i radd eu gadael." Geiriau digllawn, ac nid anhawdd rhoddi cyfrif am deimlad yr hwn a'u hysgrifenai. Yr oedd Howell Harris wedi gweini cerydd i Edmund Jones am ei zêl broselytiol, a'i waith yn ffurfio eglwysi Annibynol o ddychweledigion Harris ei hun. Yr oedd y cerydd yn nodedig o fwynaidd a thyner, yn arbenig pan yr ystyrir yr amgylchiadau; addefir hyny gan Dr. Rees; ond y mae yn ymddangos iddo chwerwi yspryd Edmund Jones, a pheri iddo deimlo yn gas at y Methodistiaid.
Ond nid rhaid dibynu yn unig ar dystiolaeth y Methodistiaid gyda golwg ar agwedd y Dywysogaeth yr adeg hon; cadarnheir eu desgrifiad gan bersonau y tu allan iddynt. Ni ddeallai neb beth oedd sefyllfa foesol ac ysprydol Cymru yr adeg yma yn well na'r Parch. Griffith Jones, Llanddowror; ni chafodd neb well cyfleustra; yr oedd yntau yn ŵr nodedig o gymhedrol, ac yn dra gofalus am bwyso ei eiriau. Fel hyn yr ysgrifena efe:[4] "Mewn amrywiol fanau, pan yr ymgynullai rhyw driugain, neu bedwar ugain o bobl, cymysg o hen ac ieuanc, i'r ysgolion, cafwyd nad oedd dros dri neu bedwar o'r oll yn alluog i adrodd Gweddi yr Arglwydd, a'r rhai hyny yn dra anmherffaith ac annealladwy, heb wybod pwy yw eu Tad yn y nefoedd, na medru rhoddi gwell cyfrif am y gwirioneddau hawddaf a mwyaf cyffredin yn y grefydd Gristionogol, na'r paganiaid ydych yn ddysgu o'ch caredigrwydd yn yr India. Nid disail yw yr achwyniadau fod halogedigaeth, anlladrwydd, trais a lladradau, yn llanw y wlad, ac ar gynydd." Geiriau cryfion, ac nid rhyfedd fod y gŵr da yn gofyn yn brudd: "Beth a fedr ymdrechion preifat ychydig mewn cymhariaeth ei effeithio?" Meddai:[5] "Ymddengys fod cwmwl llawn o ystorm yn hofran uwch ein penau, pa le bynag y disgyna, yr hon sydd yn bygwth dinystr ar bawb sydd yn esmwyth arnynt yn Sion." Trachefn:[6] "Chwi a synech y fath syniadau ynfyd a chywilyddus, os nad cableddus, sydd gan lawer o'r tlodion am Dduw a Christ a'r sacramentau. Ni wyddant ddim am fedydd ond iddynt gael eu bedyddio, a'u gwneyd yn Gristionogion da, ychydig wedi eu geni; nac am Swper yr Arglwydd heblaw mai bara a gwin ydyw, yr hyn y bwriada rhai o honynt ei gymeryd pan fyddont yn myned i farw. Prin y maent yn dirnad mwy am briodoleddau Duw, neu swyddau ein Hiachawdwr, neu y cyfamod gras, neu amodau iachawdwriaeth, neu ynte am eu sefyllfa ysprydol eu hunain, a'u dyledswyddau at Dduw ac at ddynion, na phe byddent heb gael eu geni mewn gwlad Gristionogol. Y fath yw yr anwybodaeth sydd wedi goresgyn ein gwlad, fel mewn llawer rhan o honi, y mae gweddillion ei phaganiaeth gynt, ynghyd a gweddillion Pabyddiaeth ddiweddarach, yn aros hyd heddyw yn mysg y tlodion, mewn syniadau, geiriau, a dull o fyw. Nid rhyfedd ynte fod y fath ddiluw o anfoesoldeb a drygioni, megys cenfigen, malais, celwydd, anonestrwydd, rhegu, meddwdod, aflendid, a chabledd, ynghyd a phob math o halogedigaeth ac annhrefn wedi llifo allan o hono. Yr unig wahaniaeth a wna llawer rhwng y Dydd Sanctaidd a dyddiau eraill yw ei fod yn rhoddi mwy o hamdden iddynt i ymroddi i anlladrwydd a bryntni."
Gallem ddifynu brawddegau eraill, llawn mor gryfion, o ba rai y mae ei ysgrifeniadau yn dryfrith, ond rhaid ymatal. Byddai yn anhawdd tynu darlun duach, na mwy byw. Braidd nad ydym yn gweled y wlad wedi ei gorchuddio gan anwybodaeth caddugawl am Dduw, am Grist, ac am grefydd, heb un dirnadaeth am drefn yr efengyl i achub, ac yn llawn o syniadau ac arferion haner Pabyddol, a'r cyfoethog a'r tlawd wedi cydsuddo i'r anfoesoldeb mwyaf gwarthus. Gwyddai Griffith Jones beth oedd yn ddywedyd, oblegyd yr oedd wedi trafaelu rhanau helaeth o'r Dywysogaeth ar ei deithiau pregethwrol Cofier hefyd ei fod yn byw ynghanol y Deheudir, lle y meddylia rhai fod Ymneillduaeth yn flaenorol wedi agos cwbl grefyddoli y werin, ddarfod iddo gael ei ddwyn i fynu yn nyddiau ei faboed gyda'r Ymneullduwyr, a bod yr eglwysi a wasanaethai o fewn ychydig filldiroedd i dref Caerfyrddin, lle yr oedd Athrofa Ymneillduol wedi cael ei sefydlu. Y mae tystiolaeth y fath ŵr yn werth mil o casgliadau wedi eu tynu oddiwrth dybiaethau amheus.
Adrodda Mr. Pratt,[7] yr hwn a deithiodd y rhan fwyaf o'r Dywysogaeth ychydig wedi cychwyniad Methodistiaeth, ac a ysgrifenodd hanes ei deithiau, am yr ofergoelion a ffynai yn mysg y werin. Yn y Dê a'r Gogledd cafodd fod cred mewn drychiolaethau yn gryfach ac yn fwy cyffredinol na chred yn Nuw; ni amheuai neb y chwedlau a adroddid am ganhwyllau cyrff, a'r tylwyth têg. Yn Sir Forganwg bu yn ymddiddan ag offeiriad, yr hwn nid yn unig oedd yn gredwr yn y tylwyth têg, ond a ysgrifenasai lyfr yn desgrifio eu nodweddion, ac yn croniclo eu gwrhydri. Pan y darfu i Mr. Pratt ledamheu gwirionedd ei dybiaethau, aeth yr offeiriad i dymer ddrwg, gorchuddid ei enau ag ewin, a da gan yr ymwelydd oedd cael ymadael mor gyflym ag y medrai. Ar y ffordd i'r gwestŷ' dywedai ei letywr fod yr offeiriad yn arfer brochi ac ymgynddeiriogi pan yr amheuid dilisrwydd yr hyn a draethai; yr haerai unwaith wrth nifer o bobl oedd wedi ymweled ag ef fod tros fìl o'r tylwyth têg yn yr ystafell ar y pryd, y rhai oeddynt yn anweledig i bawb ond iddo ef ei hun; a'u bod wedi dyfod yno oblegyd ei fod yn eu parchu mor fawr. Dechreuodd rhai chwerthin; ymgynhyrfodd yntau mewn canlyniad, a bygythiodd y gwnai beri i'r tylwyth bychain direidus eu pinsio, a'u blino ddydd a nos. "Ac mor wir a'ch bod yn fyw," meddai y gwestywr wrth Mr. Pratt, "ar waith dau o'r cwmni yn clecian eu bysedd, gan ddweyd nad oeddynt yn malio dim am dano ef na'i dylwyth têg, efe a wnaeth iddynt edifarhau. Oblegyd nos a dydd cafodd y ddau ddyn eu poenydio gymaint gan y diaflaid bychain, fel y bu raid iddynt ddychwelyd at yr offeiriad, a chrefu ei faddeuant, a gofyn ganddo eu gyru ymaith oddiwrthynt." " A ydych chwithau yn credu yn y tylwyth teg? " gofynai Mr. Pratt.
"Credu! ydwyf," oedd yr ateb, "ond y maent bob amser wedi bod yn elynion i mi, ac i fy nheulu, a hyny am y peth mwyaf dibwys, na fuasai yn gyru gwibedyn allan o dymer."
" Pa beth a wnaethoch i'w gofidio? "
"Dim ond bario y ffenestr agosaf at yr ystafell, yn mha un y darfu i chwi gysgu neithiwr."
"Pa wrthwynebiad a allai fod ganddynt i hyny? "
"O, yr oeddynt yn arfer agor y ffenestr, a dyfod i mewn i'r tŷ, gan ladrata pa beth bynag y gallent osod eu dwylaw arno."
"Yn wir; a ydynt yn wreng mor anonest? Y rhempod bychain! Pwy allasai feddwl y fath beth?"
"Ydynt, Syr. Hwy yw y lladron gwaethaf yn yr holl fyd, er eu bod mor fychain."
"A ydych yn ddifrifol? Ydych chwi mewn gwirionedd yn credu y fath chwedlau?"
"Credu? Mi a hoffwn pe yr aech i gysgu am noson i'r ystafell lle y mae y ffenestr wedi ei bario?"
Eithr pan y boddlonodd Mr. Pratt gysgu yn yr ystafell, gwrthododd y gwestywr ganiatau iddo; dywedai nad. oedd am gael ei orfodi i ateb am fywyd neu aelodau un o'i letywyr; ac yn mhellach fod y llyffaint bychain, fel y galwai y tylwyth têg mewn tymer ddrwg, yn dechreu blino hofran o gwmpas, ac ond iddo gadw yr ystafell yn nghau am ryw flwyddyn yn ychwaneg, efallai yr ymadawent ac y chwient am gyrchfa arall. Hawdd deall nad oedd y tafarnwr ond yn rhoddi llais i'r gred gyffredinol a ffynai trwy y wlad, a bod yr holl gymydogaeth yn credu yn y tylwyth têg, ac yn awdurdod yr offeiriad arnynt.
Er prawf pa mor ofergoelus oedd y cyffredin bobl yr adeg yma, hyd yn nod yn y Deheudir, ac fel y ffynai syniadau ac arferion Pabyddol yn eu mysg, cymerer y difyniadau canlynol allan o lyfr a ysgrifenwyd gan Erasmus Saunders, D.D., ac a gyhoeddwyd yn Llundain yn y flwyddyn 1721, sef tua phymtheg mlynedd cyn cyfodiad Methodistiaeth. Enw y Llyfr yw "A view of the State of Religion in the Diocese of St. David's about the Beginning of the Eighteenth Century." Amcan yr awdwr yn y difyniadau hyn yw dangos fod y Cymry yn meddu tueddfryd grefyddol; wrth fyned heibio, ac yn mron o'i anfodd, y cyfeiria at eu hofergoeledd.[8] "Ymaent," meddai am y werin Gymreig, "yn croesi eu hunain, fel y gwnelai y Cristionogion cyntefìg, ar lawer o achlysuron, gyda saeth—weddi fer ar iddynt trwy groes Crist gael eu cadw. Yn y rhanau mwyaf mynyddig, lle y glynir yn benaf wrth yr arferion a'r symlrwydd henafol, yno gwelwn y bobl ar eu dyfodiad i'r eglwys, yn myned ar eu hunion at feddau eu cyfeilion, a chan benlinio yn offrymu eu gweddi i Dduw." Ni ddywed yr awdwr am ba beth y gweddient, ond y mae yn dra sicr, oddiwrth eiriau Mr. Johnes ac eraill, mai gweddio ar ran y marw a wnaent, ar iddo gael ei waredu o'r purdan; oblegyd y ffurf—weddi a arferid yn gyffredinol ydoedd, "Nefoedd iddo." Ond i ddychwelyd at ddesgrifiad Dr. Erasmus Saunders: "Yn enwedig ar wyl genedigaeth ein Harglwydd, oblegyd y pryd hwn deuant i'r eglwys gyda chaniad y ceiliog, gan ddwyn gyda hwynt ganhwyllau neu ffaglau, y rhai a osoda pob un i losgi ar fedd ei gyfaill ymadawedig; yna dechreuant ganu eu carolau, a pharhant i wneyd hyny er croesawi yr wyl agoshaol, hyd amser y weddi. Ond gyda yr hen arferion diniwed a da hyn, y maent wedi dysgu llawer o ymarferiadau coelgrefyddol Pabaidd yn yr oesoedd diweddaf, fel yr arferant yn eu saeth-weddiau alw nid yn unig ar y Duwdod, ond hefyd ar y Forwyn Sanctaidd, ynghyd a seintiau eraill; canys y mae Mair Wen, Iago, Teilaw Mawr, Celer, Celynog, ac eraill yn cael eu cofio fel hyn yn fynych, fel pe y byddent hyd yma heb anghofio yr arfer o weddio arnynt. . . . Mewn llawer rhan o Ogledd Cymru, parhant mewn ystyr i dalu am y marw-ddefodau, trwy gyflwyno offrymau i'r gweinidogion ar gladdedigaethau eu cyfeillion, fel y dysgid hwy yn flaenorol i wneyd am eu gweddio allan o'r purdan."A yr awdwr yn mlaen i ddangos fod y cymysgedd o goelgrefydd a chrefydd, cyfeilorniad a gwirionedd, a ffynai yn mysg y werin, yn ffrwyth camarweiniad yn fwy na dim arall; gan sylwi yn mhellach fod y bobl yn fwy dyledus am hyny o grefydd ag a feddent i'w gonestrwydd a'u crefyddolder naturiol, i'w carolau, ac i ganiadau Ficer Llanymddyfri, nag i unrhyw lesiant a gaent oddiwrth weinidogion yr eglwys trwy bregethu neu gateceisio. Ychwanega: "Os nad' ydym eto wedi dad-ddysgu cyfeiliornadau ein hynafiaid Pabyddol, y rheswm am hyny ydyw, nad yw athrawiaethau y Diwygiad Protestanaidd, a gafodd ei ddechreuad yn Lloegr tua dau can mlynedd yn ol, hyd yn hyn wedi ein cyrhaedd ni yn effeithiol, ac nid yw yn debygol y gwnant byth, heb i ni gael clerigwyr dysgedig a theilwng."
Gellid lluosogi toraeth o brofion ychwanegol gyda golwg ar iselder crefydd yn Nghymru, adeg cyfodiad Methodistiaeth, ynghyd a ffyniant ofer-gampau ac ammharch i'r Sabbath, yn y Deheudir yn gystal ag yn y Gogledd, ond ymfoddlonwn gyda rhoddi tystiolaeth y Parch. John Thomas, pregethwr Annibynol, gweinidog y Rhaiadr, a dwy eglwys arall yn Sir Faesyfed. Cyfansoddodd Hunangofiant yn y flwyddyn 1767, o ba un difynwn a ganlyn ar awdurdod y Parch. W. Williams, Abertawe, yn ei lyfr rhagorol, Welsh Calvinistic Methodism.[9] Ganwyd ef yn 1730, yn mhlwyf Myddfai, Sir Gaerfyrddin. O'i febyd yr oedd tan argraffiadau crefyddol cryfion; a theimlai, ac efe eto yn llanc, ei enaid yn ddolurus ynddo wrth weled annuwiaeth y bobl yn mysg pa rai yr oedd yn byw, ac hyd yn nod y pryd hwnw dechreuodd eu ceryddu. Yr oedd chwareu-gampau yn bethau cyffredin yn ei gymydogaeth, fel yn mhob cymydogaeth arall y pryd hwnw; am ryw gymaint o amser cymerai efe ran ynddynt, ond wedi iddo gael ei argyhoeddi o'u pechadurusrwydd, nid yn unig cefnodd arnynt eu hun, eithr ceisiai berswadio eraill i wneyd yr un peth. ' Yr wyf yn cofio,' meddai, myned un prydnawn Sul yn agos i eglwys fy mhlwyf genedigol, lle yr oedd nifer yn chwareu coetanau (quoits), a thyrfa fawr, fel ffair, yn edrych arnynt. Yn fy ffordd blentynaidd fy hun, dechreuais ddweyd wrthynt amgyflwr eu heneidiau; chwarddent yn uchel, ac ymddangosent fel yn credu fy mod yn wallgof; eto, pa un ai mewn canlyniad i'm geiriau i, neu iddynt gael ei bygwth gan eraill, neu ynte ddarfod iddynt gael eu cnoi gan eu cydwybodau, darfu i amryw o honynt roddi i fynu chwareu yn y fynwent. Ond aent wedin i gonglau lle nad oedd fawr tramwy; eithr mi a'i gwnaethum yn bwynt i'w canlyn, ac i lefaru wrthynt am y drwg o halogi Dydd yr Arglwydd felly. Weithiau bygythiwn alw ar wardeniaid yr eglwys, er y gwyddwn na fyddai hyny ond ofer, canys gan fod yn ddibris o'u llwon ni ddeuent hwy allan o'r tafarndai, er i mi fyned yno i'w cyrchu. O! chwychwi dyngwyr anudon, pa le y mae eich llwon!
Dechreuodd bregethu cyn bod yn ugain oed,[10] gan deithio o gwmpas, a chael ei gamdrin yn enbyd mewn amryw fanau yn Neheudir Cymru. Pan yn pregethu yn yr awyr agored yn Nhregolwyn, Bro Morganwg, lluchiwyd wyau clwc ato nes yr oedd ei ochrau yn ddolurus, a'i ddillad yn orchuddiedig gan aflendid. Methwyd taro ei ben, gan fod hen wreigan yn dal het yn amddiffyn iddo. Yn Llangattwg, swydd Frycheiniog, daeth yswain y pentref, ynghyd a'r offeiriad a'r clochydd, a gwr y tŷ tafarn, allan i'w wrthwynebu. Gafaelodd y cyntaf o'r rhai hyn yn ei goler, a rhoddodd ergyd iddo ar ei foch, ac yna dychwelasant yn eu holau i'r tafarndy. Yn Nghrug-hywel parai ysgrechfeydd y terfysgwyr i arswyd dreiddio trwy ei gnawd, a darfu iddynt ddryllio ffenestr y ty yn mha un y pregethai. 'Yr oeddwn unwaith,' meddai,[11] 'gerllaw eglwys Ystrad, yn Morganwg, tra yr elai chwareuyddiaethau yn mlaen, a sefais i bregethu wrth glawdd y fynwent. Yna darfu i'r rhai oeddynt yn chwareu pêl, ac yn dawnsio, ymatal, gan ddyfod y tu arall i'r clawdd i wrando, y ffìdleriaid a phawb. Gwedi i'r offeiriad, yr hwn oedd yno gyda hwynt, golli eu gwmni, dywedodd wrth y fîìdleriaid: Os ydych yn disgwyl cael eich talu, ewch yn mlaen a'ch gwaith; a chwithau sydd yn siarad, ewch ymaith oddiwrth y fynwent, daear gysegredig ydyw."
Profa y tystiolaethau hyn, a llawer o rai ychwanegol a ellid ddwyn yn mlaen, y rhai a gawsant eu hysgrifenu yn hollol annibynol ar eu gilydd, ac heb un amcan heblaw adrodd ffeithiau hanesyddol, fod cyflwr Cymru yn gyfangwbl fel y darfu i Williams, Pantycelyn, a Charles o'r Bala, ac eraill ei desgrifio; sef yn llawn annuwioldeb, anwybodaeth agos a bod yn baganaidd, ac ofergoeledd Pabyddol; na feddai y werin bobl fawr gwybodaeth am Dduw, na pharch i'r Sabbath, ond eu bod yn ymroddi i ofer-gampau a meddwdod, a phob math arall o lygredigaeth. Cadarnheir y cyfryw dystiolaethau, pe bai eisiau cadarnhau arnynt, gan yr erledigaethau a'r ymosodiadau creulon a wnaed ar y Methodistiaid cyntaf, pan yn myned o gwmpas i bregethu yr efengyl. Gwelir na chyfyngid yr erledigaethau o gwbl i Ogledd Cymru, er efallai mai yno y buont ffyrnicaf ac y darfu iddynt barhau hwyaf, ond eu bod yn cael eu cario yn mlaen yn y Dê yn ogystal. Yn sicr, pe bai rhanau helaeth o'r Deheudir wedi cael agos eu llwyr feddianu yn flaenorol gan yr Ymneullduwyr, fel y myn Dr. Rees, buasai y fath ymosodiadau ciaidd ar ddynion a deithient o gwmpas heb unrhyw amcan ond ceisio dwyn y byd at Grist, yn hollol amhosibl.
Cyn cael dirnadaeth glir am sefyllfa grefyddol y Dywysogaeth yr adeg y cyfeir iwn ati, rhaid i ni ddangos ansawdd crefydd yn yr Eglwys Wladol, ac yn mysg yr Ymneillduwyr. Am yr Eglwys Sefydledig, addefa ei haneswyr hi ei hun fod crefydd ynddi mewn ystâd ddirywiedig tu hwnt. Dywed Dr. Erasmus Saundersi:[12] fod amryw o eglwysydd wedi cael eu troi, naill ai yn ysguboriau neu yn ystablau; a bod eraill, enwau y rhai a roddir, heb neb yn tywyllu eu drysau, ac wedi dyfod yn aneddau y ddalluan a'r frân goeg. "Prin," meddai, "y cofia neb at ba wasanaeth eu bwriedid, os nad feallai yn Llanybri, lle y mae perchen y degwm wedi rhenti yr eglwys i'r Ymneillduwyr, y rhai oeddynt yn falch o'r cyfleustra i droi eglwys yn dŷ cwrdd. Mewn rhai lleoedd y mae genym eglwys. heb ganghell; mewn eraill nid oes genym ond darn o eglwys; hyny yw, un pen, neu un ochr yn sefyll; tra y mae rhai plwyfi heb ddim o gwbl. Mewn llawer iawn nid oes seddau, gyda'r eithriad o ychydig o ystolion a meinciau geirwon a thoredig draw ac yma. Y mae eu ffenestri bychain heb wydr, ac wedi eu tywyllu gydag estyll, matiau, neu ddellt, er cadw y gwynt a'r gwlawogydd allan. Eu muriau ydynt wyrddion, yn briwsioni i ffwrdd, ac yn ffiaidd; ac yn aml heb na golch na phlastr. Eu tô sydd yn darfod, yn crynu, ac yn gollwng defni; a'u lloriau ydynt wedi eu rhychio a beddau afiach, heb ddim palmant, ond wedi eu gorchuddio yn unig ag ychydig frwyn." Hawdd deall nad oedd neb yn gofalu am y lleoedd hyn, nac yn cyrchu iddynt i addoli. Nid oedd y persondai neu y ficerdai ychwaith ond cotiau gwael; ni allai y clerigwyr, er tloted eu byd, fyw ynddynt; felly ardrethid hwy i rywun a'u cymerai. Yn aml syrthient i ran y clochydd; yr hwn, er mwyn cynal corph ac enaid wrth eu gilydd rywlun, a gai y fraint o werthu cwrw yn ymyl y fynwent.
Nid oedd yr ofteiriaid nemawr gwell na'r eglwysydd. Llenwid yr esgobaethau Cymreig gan Saeson, nad oeddynt yn gofalu o gwbl beth a ddeuai o'r genedl; ni fwriadent ychwaith aros yn eu gwahanol esgobaethau, gan mor dloted oeddynt, ond am amser byr, ac hyd nes eu dyrchefid i esgobaeth gyfoethocach. Penodai y rhai hyn eu meibion, eu brodyr, eu neiaint, neu eu cyfeillion, i fywiolaethau Cymreig, er eu bod yn Saeson, ac yn analluog i ddarllen na phregethu yn iaith y plwyfolion.[13] Yn nechreu y ddeunawfed ganrif yr oedd y rhan fwyaf o Sir Faesyfed yn Gymreig; a chawn ohebiaeth ddyddorol rhwng plwyfolion Glascwm, yr hwn blwyf a orwedda tua chanol y Sir, ag Esgob Tyddewi, gyda golwg ar yr offeiriad oedd newydd gael ei appwyntio iddynt. Yn flaenorol darllenid y llithiau yn Gymraeg a Saesneg ar yn ail; felly hefyd gyda golwg ar y gweddïau; a phregethid yn Saesneg un Sabbath, ac yn Gymraeg y Sabbath dilynol Ond am yr offeiriad newydd, cariai ef y cyfan yn mlaen yn Saesneg. Dymunai y plwyfolion i'r Esgob ei orfodi i gario y gwasanaeth yn mlaen yn ddwyieithog, neu i gyflogi rhyw weinidog galluog a wnelai hyny drosto. Ymddengys i'r Ficer ar arch yr Esgob geisio cydsynio a'u dymuniad. Ond cyn pen ychydig fisoedd, anfonent gwyn arall at yr Esgob, sef fod yr offeiriad wedi ymgymeryd a darllen y gwasanaeth yn Gymraeg, ond nad oedd neb yn deall gair a lefarai, am nad oedd yn Gymro, nac wedi dysgu yr iaith. Cymerodd hyn le yn y flwyddyn 1743. Yr oedd yn amcan gan yr esgobion a'r clerigwyr Saesnig i allyudio y Gymraeg allan o'r tir. Meddai Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir), mewn llythyr at ei gyfaill Rhisiart Morys, dyddiedig Mehefin 23, 1766, "Am danom ni yn yr Esgobawd yma (Llanelwy), y mae'r Esgob yn cael gwneuthur a fyno yn ddiwarafun; sef y mae, megys Pab arall, wedi dyrchafu tri neu bedwar o'u neiaint i'r lleoedd goreu, lle yr oedd Cymry cynhenid gynt yn gweinyddu, ac ni chaiff" y curadiaid danynt ddarllen mo'r Gymraeg. Ac myfi a glyw ais hefyd ddywedyd yn ddiweddar fod dau Sais arall yn Sir Drefaldwyn, mewn dwy eglwys a elwir Castell ac Aber Hafesb, yn darllen Saesneg yn gyfan drwy gydol y flwyddyn, er nad oes mo haner y plwyfolion yn deall nac yn dirnad dim ag a draethir ganddynt. Myfi a glywaf fod gwyr Môn am ddeol y Sais brych a dderchafwyd i fod yn Berson Trefdraeth i'w wlad ei hun.[14] Nid rhyfedd fody Prydydd Hir yn ychwanegu—" Duw a ddelo ag amseroedd gwell, ac a atalio ar eu rhwysg, rhag iddynt andwyo eneidiau dynion dros fyth!"
Ychydig iawn o bersoniaid Eglwys Loegr a fedrai bregethu yn iaith y bobl, ie, hyd yn nod o'r Cymry. Gan mwyaf yr oeddynt yn greaduriaid diddysg[15] ac anwybodus, heb feddu unrhyw gymhwysder.ar gyfer eu swydd gysagredig parthed talent, cymeriad, na dawn ymadrodd, ond yn unig eu bod wedi medru ymwthio i ffafr rhywun a feddai ddylanwad ar berchenog y fywioliaeth. Fel yn mhob adeg o ddirywiad crefyddol, gwnelid gwehilion y bobl yn offeiriaid. Meddai Dr. Erasmus Saunders: "Nis gellir ameu fod ordeinio personau sydd eu hunain yn ddirmygus yn tueddu i daflu dirmyg ar eu swydd; ac y mae felly pan fyddo unrhyw damaid o ysgolfeistr sydd yn dysgu yr A B C, neu drulliad gŵr bonheddig, neu gwac, neu bob peth yn mron, yn cael eu derbyn mor rhad i'r offeiriadaeth ar sail cymeradwyaeth rhyw berchenog degwm, a fyddo am gael caplan yn rhad, neu ynte am gael gwared o was diwerth." Medrai y rhai hyn Gymraeg pen heol; gallent gyfeillachu ag yfwyr cwrw yn y tafarndai trwy gyfrwng yr iaith gysefin, ond ni feddent iaith pwlpud. Dywed y Parch. G. Jones,[16] y darllenent lyfrau Saesneg, pan yn ceisio parotoi ar gyfer y Sabbath; ond wedi clytio rhyw fath o bregeth, a dyfod i'r pwlpud i'w thraddodi, yr oedd y fath ffregod baldorddus, ansoniarus, a llygredig, fel na allai y gwrandawyr ddeall gair o honi. Cyhuddiad o gyffelyb natur, onide, a ddygasai John Penry, y merthyr Cymreig, yn erbyn offeiriaid ei ddyddiau ef? sef eu bod yn amddifad o eiriau crefyddol a thermau duwinyddol, ac felly yn methu gwneyd eu hunain yn ddealladwy yn y pwlpud, er y gallent gario yn mlaen ymddiddân mewn iaith weriniol ar ben y ffordd fawr, neu yn nghongl yr aelwyd.
Gwaeth na'r cyfan, yr oeddynt yn ddigymeriad, a llawer o honynt yn byw mewn annuwioldeb cyhoeddus. Nis gallent gynghori yr anfoesol, na chyhuddo y drygionus, am eu bod hwy eu hunain yn llygredig.[17] " Nis gellir cuddio," meddai Griffith Jones, "ddarfod i amryw o oferwyr halogedig gyffesu mai y gwir reswm am eu hinffideliaeth a'u rhysedd cnawdol, oedd y syniad isel a feddent am yr offeiriaid; y rhai, fel y tybient, na feddent fwy o ffydd mewn Cristionogaeth na hwythau, onide y byddent yn pregethu ac yn byw yn well.,[18] Cawn yr un gŵr parchedig, mewn llythyr o'i eiddo ar gateceisio yn ymosod yn ddiarbed ar y "perigloriaid a'r ficeriaid diog, y rhai a arweinient fywyd difater, ac a warient eu hamser mewn cadw cwmniaeth, ac mewn meddwi ar hyd y tafarndai, yn lle glynu ŵrth eu llyfrau, a chyflawni eu dyledswydd." Pan yr oedd gweinidogion y Gair eu hunain yn byw mewn rhysedd annuwiol, ac yn dangos yn amlwg yn eu bucheddau nad oeddynt yn credu nac yn parchu y gwirionedd, y tyngasent hwy o ffyddlondeb iddo ar eu hordeiniad, pa ryfedd fod y rhai y tu allan, yn wreng a boneddig, yn cymeryd yn ganiataol nad oedd Cristionogaeth ond ffug, na chrefydd ond chwedl, a'u bod yn troi eu cefnau ar foddion gras, gan arwain bywyd penrhydd?
Cyfaddefa Dr. Erasmus Saunders[19] fod llawer o eglwysydd yn y rhai na fyddai na phregethu, na chateceisio, na gweinyddiad o'r cymun bendigaid, yn cymeryd lle ond anaml, os un amser; ac mewn eglwysydd eraill nad oedd y gweddïau yn cael eu darllen ond yn rhanol, a hyny efallai unwaith y mis, neu unwaith y cwarter. Ond y mae yn taflu y bai ar fychander cyflog y cuwradiaid. Gorfodid hwy i wasanaethu tair neu bedair o eglwysydd, a'r rhai hyny yn mhell oddiwrth eu gilydd, am ryw ddeg neu ddeuddeg punt y flwyddyn; a gofyna mewn llid, pan fyddo pethau fel hyn, pa drefn neu reoleidd-dra ellir ddisgwyl? "Gorfodir hwy," meddai, " yn awr gan eu bod wedi eu hordeinio, i blygu i unrhyw delerau; rhaid iddynt naill ai newynu neu ynte foddloni i'r gyflog waelaf, gan gerdded a gweithio am dani cyhyd ag y medrant. A chan fod eu hamser mor fyr, a chanddynt hwythau gynifer o leoedd i'w gwasanaethu, mor frysiog ac fel allan o anadl y rhaid iddynt ddarllen y gweddíau, neu eu byrhau a'u talfyru! Pa amser sydd ganddynt hwy neu eu cynulleidfaoedd i ymlonyddu, tra y gorfodir hwy fel hyn i fod yn fath o ysgogiad parhaus (perpetual motion), neu deithwyr ffrystiog yn brysio o gwmpas o le i le? Nid oes unrhyw amser penodol i fyned i'r eglwys, ond iddi fod yn ddydd Sul; rhaid i'r dyn tlawd (y cuwrad) ddechreu unrhyw bryd, gyda chynifer ag a fyddo yno, yn foreuach neu yn hwyrach, fel y byddo yn gallu dod o gwmpas. Yna brasgama yn gyflym tros gynifer o weddïau ag a all mewn rhyw haner awr, a chwedin ail-gychvyna i'w daith, gyda chylla gwag (oblegyd pa mor llym bynag y byddo ei chwant bwyd, anaml y mae ganddo amser i gymeryd cinio; ac anaml y gall deiliad y fferm- ddegwm fforddio rhoddi cinio iddo hyd nes y byddo wedi gorphen ei gylch, neu ynte hyd nes y byddo blinder neu dywyllwch y nos yn peri iddo orphwys. Efallai o ddiffyg ychydig luniaeth gartref yr â i le na ddylai, ag y bydd yn debyg o gyfarfod a'r rhan fwyaf o'r gynulleidfa, y rhai pan fyddo y gwasanaeth byr drosodd, a deimlant yn rhydd i dreulio gweddill y dydd yn y tafarndŷ, neu mew'n rhyw chwareuon dymunol yn eu golwg."
Profa y tystiolaethau hyn, a gymerwyd oll allan o weithiau awdwyr eglwysig, ynghyd ag eraill a ellid ychwanegu atynt, fod yr Eglwys Wladol yn hollol amddifad o allu i wrthsefyll y llygredigaeth oedd yn dyfod i mewn fel diluw, ac i ddyrchafu moes a chrefydd. Gydag eglwysydd afiach, brwnt, a dadfeiliedig; gyda gwasanaeth crefyddol ffrystiog, difater , ar y Sul, na wyddai neb pa awr o'r dydd y cymerai le; a chyda clerygwyr anfucheddol, dirmygus yn ngolwg y cyhoedd, mwy cydnabyddus a chadair freichiau ac a chwmni dyddan y tafarndŷ nac a Gair Duw, ac mor anwybodus o'r iaith yn mha un eu ganed, fel na allent bregethu yn ddealladwy, nid oedd unrhyw ddylanwad ysprydol er da yn bosibl. Yn rhy aml yr oedd yr offeiriaid yn ffynonhellau llygredigaeth. Blaenorent yn mhob annuwioldeb a rhysedd; ymgymysgent ag oferwyr ar y Sabbath, gan gymeryd rhan flaenllaw yn y campau halogedig, ac yr oedd eu bywyd preifat yn fynych yn waradwydd. Pa ryfedd felly fod crefydd yn cael ei chablu?
Nid gorchwyl hawdd yw cael gwybodaeth gywir am rif a nerth yr Ymneillduwyr yr adeg hon, yn nghyd a'r dylanwad a feddent ar y wlad. Wrth yr " Ymneillduwyr " yr ydym . yn golygu yr Henaduriaethwyr, yr Annibynwyr, a'r Bedyddwyr, er fod. y Crynwyr yn ogystal yn gryfion mewn rhai parthau o Gymru. Nid ydym am atal dim o'r clod dyledus i'r Tadau Ymneullduol, nac am fychanu y llwyddiant ddarfu ganlyn eu hymdrechion. Dynion gwronaidd a llawn o ffydd oeddynt; llafuriasant yn galed o blaid yr efengyl tan anhawsderau dirfawr, ac ni chyfrifent eu heinioes yn werthfawr pan yn cyhoeddi gwirionedd Duw i'w cydwladwyr. Braidd na ddaliai y dyoddefiadau yr aethant drwyddynt eu cymharu a chyfres dyoddefiadau yr Apostol Paul. Gorthrymwyd hwy gan ddeddfau anghyfiawn a chan swyddogion gwladol didosturi; erlidiwyd hwy fel petris ar hyd copäu'r mynyddoedd; yr oeddynt yn gydnabyddus a charcharau, yn gystal ag a newyn ac a noethni. Bydd enwau Walter Cradoc, Vavasour Powel, Stephen Hughes, Hugh Owen, Bronyclydwr, a'u cydlafurwyr agos mor enwog a hwythau, mewn coffa parhaus yn Nghymru. Darllena eu hanes fel rhamant. Os ystyrir iselder cyflwr y genedl pan wnaethant eu hymddangosiad, a'r rhwystrau oedd ganddynt i ymdrechu yn eu herbyn, rhaid i bawb deimlo iddynt wneyd gwaith mawr. Buont yn foddion i gasglu cynulleidfaoedd, ac i ffurfio eglwysi, mewn amryw ranau o'r wlad, llawer o ba rai sydd yn aros hyd heddyw. Gwir mai bychain oedd yr eglwysi, ac mai mewn tai anedd yr ymgynullid i wrando yr efengyl yn cael ei phregethu; ond os na allent rwystro a throi yn ol y Ilifeiriant pechadurus oedd wedi goresgyn y wlad, medrent ddwyn tystiolaeth dros Dduw yn ei ganol, fel ag i wneyd cydwybodau rhai yn anesmwyth.
Dadleua y Parch. Thomas Rees, D.D., yn ei History of Protestant Nonconformity in Wales, fod y Dywysogaeth, yn arbenig Deheudir Cymru, wedi cael ei hefengyleiddio i raddau mawr cyn cychwyniad Methodistiaeth trwy lafur y gwyr enwog uchod, ynghyd a'u holynwyr; ac mai myned i mewn i'w llafur hwy a medi yr hyn a gawsai ei hau ganddynt, a wnaeth y Diwygwyr Methodistaidd. Yn hyn yr ydym yn credu ei fod yn cael ei arwain ar gyfeiliorn gan ei zêl enwadol. Un prawf a roddir ganddo yw fod cynulleidfaoedd cyntaf Howell Harris a Daniel Rowland wedi cael eu casglu yn y cymydogaethau hyny lle yr oedd eglwysi Ymneillduol yn barod. Yr awgrym yw mai dynion oeddynt yn flaenorol yn aelodau yn yr eglwysi hyny a ffurfient gynulleidfaoedd cyntaf y Methodistiaid, ac nid rhai wedi cael eu hachub trwy weinidogaeth y pregethwyr Methodistaidd. Y mae hyn yn hollol groes i dystiolaeth bendant Howell Harris. Pan yn ceryddu Edmund Jones, Pontypwl, mewn modd nodedig o dyner ac efengylaidd, am ffurfio eglwysi YmneiIIduoI yn Defynog a manau eraill heb ymgynghori ag ef, nac a Daniel Rowland, dywed: "Y mae y rhan fwyaf o'r bobl wedi cael eu galw trwy ein gweinidogaeth ni. Pe y rhoddech eich hun yn ein lle ni, gwelwch nad yw yr hyn a wnaethoch yn iawn, mwy na phe bawn i yn dyfod ac yn cymeryd eich pobl chwi i ffwrdd yn ddirgel oddiwrthych chwi." Prawf y difyniad hwn, i'r hwn ni atebodd Edmund Jones air, mai nid o eglwysi yr Ymneillduwyr oeddynt yn barod mewn bodolaeth y ffurfiwyd societies cyntaf Howell Harris a Daniel Rowland, ond o ddynion annuwiol a gawsant eu hargyhoeddu trwyddynt. Yr un fath, cydnebydd eglwys y Groeswen, yn y Ilythyr a anfonodd i'r Gymdeithasfa yn 1746, wrth ofyn am i rai o'i phregethwyr cynorthwyol gael eu hordeinio, mai plant ysprydol y gweinidogion Methodistaidd oedd yr aelodau. Yr hyn a brofir gan sefydliad societies Methodistaidd yn nghymydogaeth hen eglwysi YmneiIIduol yw, fod yr eglwysi hyny ar y pryd yn fychain o ran rhif, eu bod yn gwanhau yn gyflym ac heb fawr dylanwad ar y wlad o gwmpas.
Addefa Dr. Rees fod cyflwr ysprydol Gogledd Cymru yn cyfateb yn hollol i'r desgrifiad a rydd Mr. Charles o'r Bala, yn y Drysorfa Ysprydol, [20] o agwedd y Dywysogaeth. Yr oedd Mr. Charles y fath fel na feiddir ei gyhuddo o gam-ddarluniad. Ond honir mai Gwynedd yn unig a ddesgrifiai, a bod cyflwr y wlad yn y Deheubarth yn dra gwahanol. Anghofir, pa fodd bynag, ddarfod i Mr. Charles gael ei ddwyn i fynu yn y Dê, ac mai yno y trigodd. gyda'r eithriad o'r adeg y bu yn Rhydychain, hyd nes cyrhaedd oedran gŵr; ac felly ei fod yn gwbl gydnabyddus ag agwedd crefydd yn yr oll o Gymru. Pe buasai cyflwr y Deheubarth yn gwahaniaethu mor fawr ag y tybir gan rai oddiwrth eiddo y Gogledd, y mae yn hollol sicr y buasai gŵr o degwch Mr. Charles, un ag oedd mor gymhedrol ac mor ofalus yn ei ymadroddion, yn galw sylw at hyny pan yn darlunio agwedd y wlad. Y mae y rheswm a rydd Dr. Rees am y gwahaniaeth tybiedig rhwng y Gogledd a'r Dê yn ddychymygol ac yn blentynaidd. Dywed fod y gweinidogion yn mron oll yn Ddeheuwyr, a bod y fath wahaniaeth rhwng tafodiaith y ddwy dalaeth, fel yr oedd eu pregethau i raddau mawr yn annealladwy i drigolion Gwynedd, ac y defnyddient ymadroddion yn y pwlpud a pha rai y cysylltai y gwrandawyr y syniadau mwyaf chwerthinllyd a digrifol. Gwir y wahaniaetha ieithoedd y ddwy dalaeth i raddau; ond pan aeth pregethwyr cyntaf y Methodistiaid i Wynedd, ni cheir un awgrym fod y werin yn methu eu deall, na bod eu geiriau yn cynyrchu digrifwch. Yn hytrach, cynyrchent gyffro angerddol; parent i rhai ymgynyrfu mewn llid, ac i eraill waeddu mewn pryder oblegyd eu cyflwr. Deheuwr, o Ddyfryn Nedd, oedd Mr. Lewis Rees, a fu yn weinidog llwyddianus am agos i chwarter canrif yn Llanbrynmair; geiriau Dr. Rees am dano ydynt:[21] "Trwy fendith Duw yn cydfyned a'i ymdrechion diorphwys, ac ag eiddo y pregehwyr bywiog o'r Deheubarth a wahoddai i ymweled a siroedd esgeulusedig y Gogledd, megys Howell Harris, Jenkin Morgan, ac eraill, cymerodd adfywiad ar grefydd le, yr hyn mewn amser a effeithiodd gyfnewidiad hapus yn agwedd foesol y wlad." Buasai hyn yn amhosibl pe y byddent yn methu gwneyd eu hunain yn ddealladwy i'r werin. Anhawdd cyfrif hefyd am yr erledigaethau enbyd a'r ymosodiadau cywilyddus a wnaed ar Howell Harris a Daniel Rowland, ynghyd a chynghorwyr cyntaf y Methodistiaid, yn y Deheubarth yn gystal ac yn y Gogledd, pe y buasai y wlad wedi cael ei meddianu mor llwyr ag y tybir gan rai gan yr Ymneillduwyr.
Seilia Dr. Rees ei honiad, fod y Deheudir wedi cael ei meddianu i raddau mawr gan yr Ymneillduwyr cyn cyfodiad Methodistiaeth, yn benaf ar ddwy o daflenau. Un yw y daflen a baratowyd gan y clerigwyr, trwy orchymyn Archesgob Canterbury, yn y flwyddyn 1669, pan yr adfywiwyd y Conventical Act. Rhoddir nifer y capelau yn mhob esgobaeth yn Lloegr a Chymru, ac y mae y papyrau ar gael yn bresenol yn mhalas Lambeth. Methwyd dod o hyd i daflenau esgobaethau Bangor a Thyddewi; rhai Llandaf a Llanelwy yn unig sydd ar gael. Y daflen arall yw yr un a gasglwyd trwy ymdrechion Dr. John Evans o Lundain, yn y flwyddyn 1715, yr hon sydd ar glawr a chadw yn bresenol yn llawysgrif Dr. Evans, yn llyfrgell Dr. Daniel Wilhams, Gordon Square, Llundain. Yn hon rhoddir rhifedi a grym y cynulleidfaoedd Ymneillduol trwy Gymru a Lloegr yr adeg hono. Mewn cysylltiad a hyn ymddengys yr ystyriaethau canlynol i ni yn briodol.
Nad yw y taflenau hyn, na'r casgliadau a dynir oddiwrthynt, yn gyfryw ag y gellir ymddiried nemawr ynddynt. Cymerer yr ystadegau a anfonwyd gan y clerigwyr i Archesgob Canterbury yn 1669. Dywed Dr. Rees y gallwn fod yn sicr nad yw rhif y gwrandawyr yn cael ei osod yn fwy nag ydoedd mewn gwirionedd. Ond dibyna hyn yn gyfangwbl ar yr amcan mewn golwg. Y tebygolrwydd yw yr amcanai y clerigwyr ail ddefro yr erledigaeth yn erbyn yr Ymneillduwyr, ar y tir eu bod yn annheyrngar, ac o herwydd hyny yn beryglus i'r llywodraeth; felly pa lliosocaf y gellid gwneyd eu cynulleidfaoedd, mwyaf oll yr ymddangosai y perygl, a chryfaf y rheswm dros i'r gallu gwladol ail osod mewn grym y deddfau cosbawl yn eu herbyn. Dengys Dr. Rees ei hun[22] nas gall dim tebyg i gywirdeb berthyn i'r ystadegau yma, am fod y cyfarfodydd yn cael eu cynal mor ddirgel ag oedd bosibl, fel yr oedd yn gwbl annichonadwy i'r clerigwyr a'r wardeniaid, y rhai a gasglent y cyfrif, wybod y nifer a ymgasglai ynghyd. Dywed tafleni 1669 fod y gynulleidfa a ymgynullai yn Merthyr Tydfil, yn nhai Howell Rees Philip ac Isaac John Morgan—sef, gallwn feddwl, ar yn ail; Sabbath yn un ty a Sabbath gwedin mewn ty arall—ynghyd a'r werinos gymysg a'r Crynwyr yn nhai Jenkin Thomas, Harry Thomas, a Lewis Beck, yn rhifo tri, pedwar, pump, ac weithiau chwech cant. Ymddengys i ni fod cynulleidfa o chwech cant o bersonau
mewn ychydig dai tlodion yn Merthyr yr——————————
PHOTOGRAPH O DUDALEN O YSTADEGAU DR. JOHN EVANS.
——————————
adeg hono yn anmhosibl; ac naill ai fod dychryn yr ysgrifenydd yn peri iddo weled y rhif yn fwy nag ydoedd, neu ynte ei fod yn wirfoddol yn cam-arwain yr Archesgob. Sylwer eto ar ystadegau Dr. John Evans, a gasglwyd tua'r flwyddyn 1715. Yn ol y llawysgrif, rhoddwyd y cyfrif am Sir Fynwy gan Mr. Joseph Stennett o'r Fenni, mewn llythyr at Mr. Henry Bendish; ac am Ddê a Gogledd Cymru gan Mr. Charles Lloyd, Brycheiniog, trwy Mr. Barrington. Rhydd hon rifedi yr Ymneillduwyr yn Nghymru yr adeg yma yn ugain mil. Nid ydym yn gwybod i ba raddau y gellir ymddiried yn yr ystadegau hyn ychwaith. Diau y gwnaed a ellid i arddangos y cynulleidfaoedd Ymneullduol mor lliosog, a'r personau a berthynai iddynt mor gyfrifol a pharchus, ag oedd modd; oblegyd amcan yr ystadegau oedd dangos i'r Toriaid a geisient adfywio y cyfreithiau erlidgar, ac hefyd i'r Whigiaid yn y rhai y gobeithid, pa mor gryf oedd Ymneillduaeth trwy y deyrnas, ac na ellid ymosod arni yn ddiberygl. Gan hyny, y mae yn sicr na chyfrifwyd y gwahanol gynulleidfaoedd yn llai nag oeddynt. Caria yr ystadegau ar eu gwyneb amddifadrwydd o fanylwch. Crynhoir amryw eglwysi ynghyd; wedi enwi dwy neu dair, cawn yn fynych " &c.," yn dynodi fod cyfrif eglwysi eraill, na roddir eu henwau, yn cael ei osod i mewn; ceir un eglwys a chynulleidfa weithiau yn cael eu harddangos fel yn wasgaredig tros wlad deugain milltir o hyd wrth ugain o led; yr hyn sydd yn profi yn eglur mai cyfrif bys a bawd a roddir, ac nas gellir ymddiried nemawr ynddo. Am rai o'r ffugrau gwelir yn amlwg wrth ystyried poblogaeth y wlad yr adeg hono y rhaid eu bod yn gyfeiliornus. Er enghraifft, rhoddir cynulleidfaoedd Llanafan a Llanwrtyd, cymydogaethau anghysbell yn nghanol mynyddoedd Brycheiniog, fel yn rhifo wyth cant. Y mae yn amheus a gynwysai yr adran yma o'r wlad gynifer a hyny o drigolion yr adeg hono, hyd yn nod pe y cyfrifid y babanod ar y fron. Pa fodd bynag, proffesa yr ystadegau roddi holl nerth Ymneillduaeth, mewn rhifedi, cyfoeth, ac urddas sefyllfa. Oni wnaent hyny, ni chyrhaeddent yr amcan mewn golwg; yn wir, gellid eu defnyddio fel arfau ymosodol gan y gelynion. Heblaw rhif y gwrandawyr, rhoddir eu safle gymdeithasol, gan nodi yn fanwl rifedi y boneddwyr, ynghyd a'r rhai a berchenogent bleidlais yn eu mysg, fel y gwelir oddiwrth y fac simile (tudal. 15).
Buasai yn dda genym pe y gallasem adael yn y fan hon ystadegau Dr. John Evans, ynghyd a'r cofnodiad o honynt gan y Parch. Thomas Rees, D.D., ond ni feiddiwn; y mae ffyddlondeb i wirionedd, ynghyd a pharch i goffadwriaeth y Tadau Methodistaidd yn ein gorfodi i fyned yn mlaen, i ddynoethi y twyll dybrid sydd wedi cael ei arfer. Cofnoda Dr. Rees yr ystadegau, fel y maent yn y llawysgrif, yn ei History of Protestant Nonconformity in Wales; a phroffesa wneyd hyny yn llawn, air am air, ffugr am ffugr, a llythyren am lythyren. A darfu iddo wneyd hyny yn gywir gydag un eithriad. Ond y mae yr un eithriad hwnw mor bwysig fel y mae yn gwneyd yr oll o'r ystadegau yn gamarweiniol. Penawd y bumed golofn yn llawysgrif Dr John Evans yw "rhif y gwrandawyr " (number of hearers); ac amlwg yw, fel y darfu i ni sylwi, y cyfrifid pawb y gellid mewn unrhyw ffordd edrych arnynt fel yn perthyn i gynulleidfaoedd yr Ymneillduwyr. Ond y mae Dr. Rees yn rhyfygus, ac heb awgrymu ei fod yn gwyro oddiwrth y gwreiddiol, wedi newid y penawd i "canolrif y rhai presenol " (average attendance)[23] Gwel y cyfarwydd ar unwaith pa mor bwysig yw y newidiad hwn. Rhifai Dr. John Evans bawb a wrandawent gyda'r Ymneillduwyr, er na fyddent oll yn bresenol hyd yn nod pan fyddai y gynulleidfa fwyaf; ond ystyr "canolrif y gwrandawyr " yw nifer y rhai presenol pan na fydd y gynulleidfa nac yn fach nac yn fawr. Gwyddai Dr. Rees yn dda ei fod yn gwyrdroi y cyfrif, er gwneyd rhif yr Ymneillduwyr yn ddwbl yr hyn ydoedd, oblegyd y mae yn eglur ei fod wedi astudio y llawysgrif yn fanwl; wrth ei ddarllen daeth drachefn a thrachefn ar draws y penawd "rhif y gwrandawyr," fel yr oedd yn anmhosibl i'r gwall ddigwydd mewn camgymeriad. Yn wir, galwodd y Parch W. Williams,[24] Abertawe, sylw cyhoeddus ato; a chawn Dr. Rees yn y rhagymadrodd i'r ail argraffiad, yn ceisio ateb Mr. Williams ynglyn a rhai pethau, ond gadawa y mater pwysig hwn, sydd yn cyffwrdd a'i gymeriad fel hanesydd geirwir, heb ei gyffwrdd; yn hytrach, gesyd y daflen a lyrguniodd i mewn yn ei lyfr fel yn yr argraffìad cyntaf. Gwyddai Dr. Rees yn drwyadl pa mor bwysig a pheth oedd ystyr y cyfnewidiad a wnelai yn y penawd, oblegyd brysia i fanteisio ar y camwri a gyflawnodd, trwy ddweyd nad yw [25] canolrif y presenolion un amser yn fwy na haner rhif y gwrandawyr; felly y rhaid fod nifer yr Ymneillduwyr yn Nghymru pan wnaed y cyfrifiad yn ddwbl yr hyn a geir yn y daflen, ac nas gallent fod yn llai na haner can mil, sef tuag un rhan o wyth o'r holl drigolion. Y mae yn wir ofidus fod gweinidog yr efengyl o safle barchus, ac un a ystyrid yn gyffredin yn hanesydd gofalus, wedi ymostwng i gyflawni gweithred anonest, yr hon yn ddiddadl a fwriedid i gamarwain. Y mae ein gofid yn fwy pan y cofiwn ei fod yn seilio yn benaf ar y twyll hwn ei gyhuddiad yn erbyn y Tadau Methodistaidd, sef ddarfod iddynt yn fwriadol gamddarlunio sefyllfa Cymru ar y pryd o ddirmyg at yr Ymneullduwyr, ac er mwyn tra-ddyrchafu eu gwaith eu hunain. Dyma enghraifft fyw o ddyn a thrawst yn ei lygad yn ceisio tynu brycheuyn allan o lygad ei frawd. Profa yr ymddygiad hwn o'i eiddo nas gellir rhestru Dr. Rees mwy yn mhlith haneswyr credadwy; o leiaf mewn amgylchiadau ag a fyddo yn tueddu i ddeffro ei ragfarnau enwadol. Yn ol ystadegau Dr. John
Evans, yr oedd rhifedi yr Ymneullduwyr——————————
Coflech y Parch Griffith Jones ac Eglwys Llanddowror
——————————
yn y Dywysogaeth ddechreu y ganrif ddiweddaf yn 20,007; yr ydym yn foddlawn i Dr. Rees ychwanegu atynt yr eglwysi y dywedir eu bod wedi cael eu gadael allan, ynghyd a'r Crynwyr, fel ag i wneyd y nifer o gwmpas saith-mil-ar- hugain, sef tuag un ran o bymtheg o'r holl boblogaeth. Tueddwn i feddwl fod hyn uwchlaw'r gwirionedd; pa fodd bynag, i'n pwrpas ni nid yw ychydig filoedd mwy neu lai o nemawr pwys; eithr y mae cywirder hanesyddol, a pharch i gymeriad rhai o'r dynion goreu a sangodd ddaear Cymru, o'r pwysigrwydd mwyaf. A dibynai dylanwad yr Ymneillduwyr ar y wlad yn y cyfnod y cyfeiriwn ato, nid yn gymaint ar eu lluosogrwydd, eithr yn hytrach ar grefyddolder, ymroddiad, ac yni eu cymeriad. Yn hyn ofnwn eu bod yn fwy diffygiol nag mewn rhifedi.
Yn y cyfnod rhwng dechreuad y deunawfed ganrif a chyfodiad Methodistiaeth, yr oedd nerth Ymneillduaeth yn Nghymru wedi gwanychu yn ddirfawr, herwydd dadleuon blinion yn yr eglwysi. Yn y cynulleidfaoedd Ymneillduol cyntaf ceid Annibynwyr a Henaduriaethwyr, Trochwyr a Bedyddwyr babanod, yn aelodau o'r un eglwys. Am beth amser ni roddid cymaint o bwys ar y gwahaniaethau hyn; y pwnc mawr oedd cael pregethiad o wirioneddau hanfodol yr efengyl yn eu purdeb; a thueddai yr erledigaeth greulawn a ddioddefid i uno pob cynulleidfa, er y gwahaniaeth barn a allai fodoli rhwng gwahanol bersonau. Ond gwedi pasio Deddf Goddefiad yn y flwyddyn 1689, ac i'r erledigaeth mewn canlyniad beidio i raddau mawr, dechreuwyd rhoddi mwy o bwys ar y materion mewn dadl, a daeth anghysur dirfawr i mewn i'r eglwysi mewn canlyniad.
Un oedd y ddadl rhwng yr Henaduriaethwyr a'r Annibynwyr parthed ffurf— lywodraeth eglwysig. Diau i hon achosi cryn derfysg yn yr eglwysi, ac mewn dwy o leiaf bu yn achos ymraniad. Efallai mai yr eglwys Ymneullduol lliosocaf a mwyaf ei dylanwad yn Nghymru, tua diwedd yr ail-ganrif-ar-bymtheg, oedd eglwys Gwrecsam. Sylfaenesid hi gan Walter Cradoc; buasai yr enwog Morgan Llwyd o Wynedd yn gweinidogaethu yma am dymhor, a hyny gyda chryn llwyddiant. Ond darfu i'r ddadl rhwng Dr. Daniel Williams, yr hwn oedd yn enedigol o'r lle, a Dr. Crisp, parthed ffurf lywodraeth eglwysig, aflonyddu ar ei heddwch; a'r diwedd a fu, gwedi blynydd oedd o ymrafaelio blin, yn gynulleidfaol a thrwy y wasg, i'r Henaduriaethwyr ymadael a sefydlu achos perthynol iddynt eu hunain. Yn raddol hefyd newidiodd yr aelodau a Adawsid ar ol eu barn gyda golwg ar fedydd, ac aethant yn Fedyddwyr. Cymerodd dadl flin le ynglyn a'r un mater yn eglwys Henllan, Sir Gaerfyrddin. Tueddai y gweinidog, y Parch. David Owen, ynghyd a mwyafrif yr aelodau, at Henaduriaeth, ond yr oedd y diaconiaid yn gryf o blaid Annibyniaeth. Parhaodd y ddadl o 1707 hyd 1710; gwnaed appeliadau mynych at y cymanfaoedd ac at y gwahanol weinidogion i geisio cyfryngu rhwng y pleidiau; ond bu pob ymgais yn ofer; ac yn y flwyddyn 1710, ymadawodd y Cynulleidfaolwyr, a ffurfiasant eglwys Annibynol yn Rhydyceisiaid. Yn mhen rhywbeth gyda deng mlynedd, newidiodd yr Henaduriaethwyr yn Henllan eu barn; anfonasant y Parch. Jeremiah Owen, y gweinidog, i ffwrdd, gan ordeinio Mr. Henry Palmer, un o'r diaconiaid a fuasai yn dadleu o blaid y ffurf-lywodraeth Annibynol, yn weinidog yn ei le. Er mai yn y ddwy eglwys a nodwyd yn unig, mor bell ag y gwyddom, y darfu i'r ddadl hon gyrhaedd eithafion mor fawr nes peri ymraniad, y mae yn bur sicr ddarfod i'r un pwnc fod yn destun ymrafael a blinder mewn llawer o eglwysi eraill.
Dadl arall a gariwyd yn mlaen mewn ysbryd tra annghristionogol oedd y ddadl ar fedydd. Cychwynodd tua diwedd yr eilfed-ganrif-ar-bymtheg yn fuan gwedi pasio Deddf Goddefiad. Cawn hanes dadl gyhoeddus yn cymeryd lle ar y mater yn y flwyddyn 1692, mewn lle o'r enw Penylan, ar lechwedd y Frenni Fawr, yn Sir Benfro. Yno pregethai y Parch. John Thomas, Llwynygrawys, o blaid bedydd babanod; a'r Parch. Jenkin Jones, Rhydwilim, o blaid bedydd y crediniol. Yn hytrach na therfynu yr ymryson, gwasanaethodd hyn i fywhau y cyffro; cafodd y ddadl ei pharhau trwy y wasg mewn yspryd chwerw; daeth yr enwog Samuel Jones, Brynllywarch, allan o blaid yr Annibynwyr; tra y bu raid i'r Bedyddwyr anfon am gymorth i Loegr, Y canlyniad oedd ymraniad llwyr; ymwahanodd y ddwy blaid, gan sefydlu eglwysi o'r un golygiadau a hwy eu hunain. Ond gellir bod yn sicr na chymerodd hyn le heb gyffroadau poenus yn y gwahanol gynulleidfaoedd, yr hyn a fu yn wanychdod dirfawr iddynt, ac yn achos o ddirywiad mawr ar grefydd.
Ond o'r holl ddadleuon, yr un a barodd fwyaf o ymrafael, ac y bu ei chanlyniadau fwyaf alaethus, oedd yr hon a elwir Y Ddadl Fawr Arminaidd. Dechreuodd syniadau Arminaidd lefeinio eglwysi Ymneullduol Cymru tua dechreuad y ddeunawfed ganrif. Cafodd y syniadau hyn gefnogydd yn Mr. Perrot, athraw yr athrofa Ymneillduol yn Nghaerfyrddin; o leiaf yr oedd y nifer fwyaf o'r efrydwyr a aent ato i astudio yn dyfod allan yn Arminiaid rhonc. Yr oedd yr Arminiaeth yma o nodwedd isel a hollol anefengylaidd; y gwir enw arni fuasai Pelagiaeth; ymylai ar Ariaeth, ac ymddadblygodd yn raddol i fod yn Undodiaeth. Dyma y rheswm fod llawer o eglwysi, a fuont unwaith yn uniongred, ac yn perthyn i'r Annibynwyr neu yr Henaduriaethwyr, yn siroedd Ceredigion, Caerfyrddin, a Morganwg, yn awr yn hollol Sosinaidd. Achosodd yr heresi newydd ddadleuon brwd, a chyffro dirfawr, yn yr eglwysi Ymneillduol. Ymdrechai y pleidiau orchfygu eu gilydd yn mhob dull a modd. Os mai y blaid Galfinaidd fyddai drechaf, mynai ddewis gweinidog o'r un golygiadau yn fugail ar yr eglwys. Yn mhen ychydig, efallai yr enillai yr Arminiaid y dydd, a mynent yru y Calfin ymaith, a dewis gweinidog Arminaidd yn ei le. Weithiau byddai dau weinidog, un yn Galfiniad a'r llall yn Arminiad, yn cydweinyddu i'r un bobl; a hyny nid oblegyd eu lliosogrwydd, ond er mwyn cyfarfod a golygiadau y ddwy adran ddadleuol yn yr eglwys. Pa fodd y pregethent, nis gwyddom; ai ar yn ail Sabbath ynte ar yn ail odfa; ond gwaith penodol y naill weinidog oedd tynu i lawr a dinystrio yr hyn oedd wedi cael ei adeiladu yn mhresenoldeb yr un gynulleidfa gan ei gyd-weinidog.
"Cawn engrhaifft o hyn yn eglwys Cwmyglo, ger Merthyr Tydfil,[1] lle yn ol pob tebyg, yr adeiladwyd y capel Ymneillduol cyntaf yn Nghymru. Yn nechreu y ganrif, gweinidog yr eglwys oedd y Parch. Roger Williams, gŵr o syniadau Arminaidd, ac yn pregethu ei olygiadau gyda hyfdra, er mawr foddlonrwydd i un dosparth. Ond aeth yr adran Galfinaidd yn anesmwyth; ymddengys hefyd iddi gynyddu mewn nerth; a mynodd ordeinio Mr. Jas. Davies, gŵr o ardal Llanwrtyd, fel gweinidog ychwanegol Cymerodd hyn le rywbryd rhwng 1720 a 1725. Pan fu farw Roger Williams, a neb ond James Davies yn gweinidogaethu i'r gynulleidfa, dechreuodd yr Arminiaid rwgnach; a chawn Sion
———————————
Adfeilion Capel Cwm y Glo
———————————
Llewellyn, rhigymwr a berthynai i'r eglwys, yn rhoi mynegiant i'r anfoddlonrwydd ar ffurf cân. Yn mhen dwy flynedd, sef yn y flwyddyn 1732, llwyddodd yr adran Arminaidd i ordeinio un Richard Rees, gŵr ieuanc o'u mysg eu hunain, ac wedi bod tan addysg Mr. Perrot yn Nghaerfyrddin, fel cyd-weinidog a James Davies. Mynega Sion Llewellyn ei foddlonrwydd ef a'i blaid i weinidogaeth Richard Rees mewn rhigwm, o ba un y mae a ganlyn yn ddifyniad: —
" Er cynhaliaeth mawr i'n crefydd,
Duw gododd Mr. Rees i fynydd;
Gwr llawn deall, dysg a doniau,
Llariaidd, gwresog ei rasusau.
Mi glywn y gwr yn rhoi ergydion,
Ac yn dechrea hela hoelion;
'Nol eu hiro yn olew 'r Yspryd,
Fe gerddai'r hoelion hyny'n hyfryd."
Fel hyn y parhaodd pethau yn Nghwmyglo am bymtheg mlynedd ychwanegol; y gweinidog Arminaidd yn gyru ei hoelion dewisol, ac yn ceisio eu sicrhau yn meddyliau y bobl, un odfa; a'r gweinidog Calfinaidd yr odfa ganlynol yn ceisio eu tynu allan, a gosod hoelion gwahanol yn eu lle. Nis gallai heddwch na llwyddiant ffynu fel hyn; felly nid syn darllen ddarfod i'r blaid Arminaidd yn 1747 ymadael, ac ymsefydlu yn Nghefncoedcymmer. Aeth hon yn raddol yn eglwys Undodaidd, Yn mhen pedair blynedd ymneillduodd yr aelodau perthynol i Cwmyglo a breswylient yr ochr arall i'r mynydd, gan sefydlu eglwys yn Aberdar. Aeth hon hefyd yn Sosinaidd. Yn 1750, pan yr oedd y gynulleidfa wedi symud o Cwmyglo i Ynysgau, ordeiniwyd Samuel Davies, mab y Parch. James Davies, yn gydweinidog a'i dad. Yr oedd Samuel wedi cael ei addysg yn Athrofa Caerfyrddin, ac fel yr efrydwyr oll wedi llyncu y golygiadau Arminaidd; felly yn yr Ynysgau, ceid y tad a'r mab yn pregethu yn groes i'w gilydd, ac yn arweinwyr pleidiau gwrthwynebol. Ond achwyna y Calfiniaid yn enbyd fod James Davies yn goddef yn ei fab yr hyn na oddefai ar un cyfrif yn Richard Rees, ei gyd weinidog blaenorol. Bu aml i gyfnewidiad yn mhwlpud yr Ynysgau; byddai weithiau yn Galfinaidd, ac weithiau yn Arminaidd, os nad yn wir yn Undodaidd; ond da genym mai y blaid efengylaidd a orfu o'r diwedd, a bod yr eglwys yn awr mor iach yn y ffydd ag unrhyw eglwys yn Nghymru.
Cawn engrhaifft gyffelyb yn eglwysi Gefn-arthen a Phentre-tŷ-gwyn, yn Sir Gaerfyrddin, lle yr oedd rhieni Williams, Pantycelyn, yn aelodau. Yr oedd yma dri o weinidogion yn 1731 a 1732, sef David Williams a John Williams, meibion neu berthynasau Roger Williams, Cwmyglo, yn ol pob tebyg, a D. Thomas. Yr oedd y ddau flaenaf yn Arminiaid zeIog, ond yr olaf yn Galfiniad gwresog, ac wedi cael ei ddewis gan y blaid Galfinaidd yn yr eglwys, er gwrth-weithio dylanwad y ddau arall. Aeth yn rhy anghysurus i'r pleidiau fyw ynghyd, a chawn D. Thomas, yn 1739, yn traddodi ei bregeth ymadawol, gan ymsefydlu, efe a'r Calfiniaid a lynent wrtho, yn Nhy-yn-y-pentan. Ar wahan y bu yr eglwysi hyn am lawer o flynyddoedd, ond Ilwyddodd y Parch. Morgan Jones, Tŷ- gwyn, i'w hail uno mewn amser.
Er na fu ymraniadau o herwydd y ddadl Arminaidd mewn llawer o eglwysi, eto yr oedd dadleuon brwd trwy yr holl gynulleidfaoedd, ac yspryd chwerw yn cael ei fagu, er mawr niwed i grefydd ysprydol, ac er gwanychiad dirfawr i Ymneillduaeth. Tan y cyfryw amgylchiadau yr oedd cynydd yn amhosibl. Rhaid bod yr eglwysi a oddefai ddau weinidog yn pregethu yn erbyn eu gilydd, gyda'r naill yn galw y Ilall yn gyfeiliornwr, ac un adran yn edrych yn ddigllawn pan fyddai yr adran arall yn cael eu boddio, mewn cyflwr truenus o isel. Nid rhyfedd fod yr eglwysi Ymneillduol wedi myned yn eiddil, a di-ymadferth, pan y gwnaeth y Cyfundeb Methodisaidd ei ymddangosiad.
Nodweddiad yr ymneullduwyr pan gyfododd Methodistiaeth gan ffurfioldeb, difaterwch, a: oerni poenus. Yr oedd y gweinidogion wedi colli yspryd ymosodol y Tadau; ni theithient o gwmpas i geisio efengyleiddio y wlad ac i ddwyn y werin at Grist; boddlonent ar fugeilio yr ychydig braidd a berthynai iddynt, gan yn unig geisio cadw y rhai hyny rhag myned ar ddispsrod. Yr ychydig fywyd a feddent, deuai i'r golwg yn benaf mewn dadleu yn hytrach nag mewn ymdrechion i wneyd daioni. Addefwn yn hawdd fod rhai eithriadau gwerthfawr i hyn yn eu mysg, ond yr oeddynt yn dra phrin. Yr oedd yr oerni crefyddol yma yn ddiau mewn rhan yn ganlyniad yr heresi Arminaidd, yr hon fel iâ—fynydd (ice—berg) a oerai yr awyrgylch, er na fyddid wedi dynesu yn agos iawn ati. Gyda y ffurfioldeb oer yma ceid difaterwch mawr gyda golwg ar ddisgyblaeth. Aethai hyn mor bell fel yr oedd rhai gweinidogion zelog yn lled—ddymuno ymraniad. Mewn llythyr o eiddo y Parch. Edmund Jones, gweinidog yr Annibynwyr yn Mhontypwl, at Howell Harris, Awst 7, 1741, ceir y geiriau canlynol:[26] "Byddai yn dda genyf pe bai rhai o'r gweinidogion Ymneillduol iach yn ymwahanu oddiwrth yr Ymneillduwyr cyfeiliornus a phenrydd; ond efallai y daw i hyny. Y mae y ddau weinidog yn Mhenmaen yn gwadu fod unrhyw angen am ddisgyblaeth yn eu mysg hwy; a galwant fy ymdrechion i o blaid disgyblaeth wrth yr enwau sarhaus o ddefodau newyddion gorfanwl a chaeth Gwrthoda y dynion hyn gymeryd eu diwygio, fel y mae gwaethaf." Ymddengys y pregethai Howell Harris yn enbyd o lym yn erbyn clauarineb yr Ymneillduwyr, a cheir cyfeiriad at hyny yn yr un llythyr o eiddo i Edmund Jones. "Tra yr ydych yn llefain mor groch yn erbyn clauarineb ein Hymneillduwyr ni (yr Annibynwyr), nac esgeuluswch rybuddio rhag balchder ysprydol ac yspryd annhymerus y Bedyddwyr Ymneillduol, y rhai ydynt yn waeth, er fod yn cydfyned a hyny zêl nad yw yr Ymneillduwyr clauar eraill yn feddu."
I rai o'r gweinidogion yr oedd zêl ac angerddoldeb Howell Harris a Daniel Rowland yn dramgwydd. Byddent, meddai Dr. Rees, yn dweyd llawer o bethau a ddoluriai chwaeth goeth yr Ymneillduwyr. Er prawf o hyn rhoddir geiriau un Thomas Morgan, a fu yn gwrando Daniel Rowland yn agos i Gaerfyrddin.[27] Pregethai oddiar Hosea ii. 14. Ni chadwodd fawr at ei destun, ond yr oedd yn dra difrifol, gan geisio enill y serchiadau. Yr wyf yn meddwl i mi ddarganfod rhyw gymaint o effeithiolrwydd yn cydfyned a'i waith, er fod ganddo rai ymadroddion hynod o weiniaid." Bu yr un gŵr yn gwrando ar Rowland yn agos i Gaerphili. Meddai, " Ei destun oedd Barnwyr v: 23. Yr oedd ei bregeth yn ymarferol, ond nid yn feirniadol; canys dywedodd amryw bethau na ddywedasai, yr wyf yn meddwl, pe buasai wedi astudio y mater yn dda yn mlaen llaw." Dywed Dr. Rees fod y gŵr hwn yn un o'r mwyaf diragfarn yn mysg yr Ymneillduwyr! Prawf yr ychydig ganmoliaeth a rydd yn grintachlyd i Daniel Rowland, y pregethwr goreu, yn ol pob tebyg, a welodd Cymru erioed, fod ei yspryd wedi oeri o'i fewn, a'i fod yn rhoddi mwy o bwys ar ffurf nag ar wirionedd achubol.
Dwg y Parch. John Thomas, at ba un yr ydis wedi cyfeirio yn barod, dystiolaeth i'r oerfelgarwch enbyd a ffynai yn mysg yr Ymneillduwyr yr adeg yma. Cychwynasai ei fywyd crefyddol gyda'r Methodistiaid, ond yn 1761 ymunodd a'r Annibynwyr, neu fel y geilw efe hwy, yr Ymneullduwyr. Gyda chyfeiriad at hyn, dywed: "Cynghorwyd fi gan amryw o bryd i bryd i fyned i'r coleg, fel y gallwn gael ychydig wybodaeth. . . . Yr oeddwn yn canfod fod yr Ymneillduwyr yn eu disgyblaeth (ffurf-lywodraeth eglwysig?) yn unol a Gair Duw, ac yn nes at drefn Apostolaidd y Testament Newydd na'r Methodistiaid. Ond yr oeddwn yn caru bywyd a zêl y Methodistiaid, ac yn ofni clauarineb yr Ymneillduwyr, rhag, os ymunwn a hwy, i mi fyned yn glauar fel hwythau. ond dywedai rhai o honynt, os deuwn atynt, y gallwn fod yn foddion i'w gwresogi hwy." Penderfynodd fyned i Goleg y Fenni. "A phan fynegais fy mwriad i'r Parch. Daniel Rowland, ni ddywedodd ddim yn fy erbyn. Cyrhaeddais y Fenni tua diwedd 1761; a phan ddechreuais ddysgu llyfrau Lladin, a chanfod y fath annuwioldeb yn y dref, a'r fath glauarineb yn y gynulleidfa, teimlais fy mod wedi newid hinsawdd. A chan ofni y collwn dir yn fy yspryd, ymneillduwn bob canol dydd i'r coedwigoedd gerllaw yr afon Wysg i weddío, a phrofais hyny yn felus yn aml. Yn ystod y pedair blynedd y bum yn y coleg pregethwn yn fynych yma, ac mewn lleoedd eraill; yn ystod y gwyliau awn ar daith trwy wahanol Siroedd Cymru, yn arbenig Sir Aberteifi, gan bregethu gyda'r Methodistiaid a chyda'r Annibynwyr, pan y cawn ychydig o dân Llangeitho i gadw fy enaid rhag rhewi yn nghymydogaeth y Fenni. Yr oedd Mr. Rowland yn dra charedig wrthyf, a gofynai i mi bregethu yn Llangeitho weithiau. . . . Yr oedd y rhai mwyaf difrifol a phrofiadol yn mysg yr Ymneillduwyr yn fy hoffi; ond yr oedd y rhai clauar a ffurfiol o honynt yn edrych arnaf fel yn ormod o Fethodist, yn arbenig pan y cawn gymorth o'r nefoedd wrth bregethu. Eithr pan y byddwn yn sych ac yn farwaidd, gan lefaru o'm deall fy hun, dywedent fy mod yn debyg i Ymneillduwr."[28]
Profa y tystiolaethau yma, y rhai nad oes un rheswm dros ameu eu cywirdeb, fod cyflwr yr Ymneillduwyr pan y cyfododd y Methodistiaid yn Nghymru, yn dra gresynus; fod eu gweinidogion gan mwyaf yn ddifater a diyni; fod y weinidogaeth yn eu mysg yn ffurfiol, beirniadol, ac oer, heb fawr lle yn cael ei roddi i brif athrawiaethau crefydd efengylaidd; a bod yr eglwysi yn fychain ac yn lleihau yn gyflym, a'r aelodau yn rhanedig i wahanol bleidiau, y rhai oeddynt yn llawn teimlad chwerw at eu gilydd. Yr oedd Arminiaeth, a dueddai yn gryf at Ariaeth, yn dyfod i mewn fel llanw y môr; ac yn ol pob tebyg, oni bai am y Diwygiad Methodistaidd, buasai y rhan fwyaf o Gymru heddyw yn Undodaidd. Chwech o gapelau a'r rhai hyny yn gymharol fychain, a feddent yn yr oll o Wynedd. Yr oeddynt yn gryfach yn y Deheudir, ond yma hefyd yr oeddynt yn gwywo yn gyflym. Meddai Mr. Johnes am danynt:[29] Darfu iddynt wanychu eu hunain trwy eu dadleuon gyda golwg ar fedydd; parhausant i ddirywio hyd gyfodiad Methodistiaeth." Ychwanega yr un gŵr: "A siarad yn briodol, hanes Methodistiaeth yw hanes Ymneillduaeth yn Nghymru."
Pan yr aeth son ar led am y cyffroad a gynyrchid gan bregethu nerthol Howell Harris a Daniel Rowland, llawenychodd yr Ymneillduwyr a llawenydd mawr tros ben; teimlent fod gobaith am waredigaeth megys o safn marwolaeth. Yn y flwyddyn 1736, pregethai y Parch. Lewis Rees yn y Capel Ymneillduol yn Mhwllheli; cafodd y ddeadell fechan yno yn nodedig o ddigalon; achwynent fod yr eglwys yn lleihau, yr hen bobl yn marw, a neb o'r newydd yn ceisio crefydd, ac y darfyddai am yr achos yn fuan yn ol pob tebyg. Ond cynghorodd Mr. Rees hwy i ymgalonogi, gan ddweyd fod y wawr wedi tori eisioes yn y Deheudir, fod Howell Harris yn ddyn rhyfeddol, ei fod yn myned o gwmpas i bregethu a rhybuddio, a bod effeithiau hynod yn cydfyned a'i ymdrechion. Yn fuan mynodd Mr. Lewis Rees addewid gan Howell Harris y deuai i Wynedd. Cyffelyb oedd teimlad Edmund Jones, Pontypwl; David WiIIiams, Watford; Henry Davies, Bryngwrach, ac eraill. Gwelent yn y Methodistiaid gatrawd newydd yn cyfodi i ymladd rhyfel— oedd Duw yn y tir, ac er eu bod yn flaenorol wedi llaesu dwylaw, ac ar roddi i fynu mewn digalondid, effeithiodd dyfodiad y gatrawd ddewr hon i roddi yspryd newydd ynddynt. Cryfhaodd yr eglwysi Ymneillduol o hyny allan. Gellir dweyd ddarfod i'r Methodistiaid ddwyn i mewn yr elfenau canlynol: —
(i) Yspryd ymosodol hyf, yn beiddio gwrthwynebu anwiredd a rhysedd mewn modd cyhoeddus a phenderfynol.
(2) Cyhoeddiad pendant o'r athrawiaethau efengylaidd, a hyny gyda gwresawgrwydd angerddol. Yn arbenig pwysleisid ar yr angenrheidrwydd am ail-enedigaeth, a gwaith yr Ysbryd Glân.
(3) Gweinidogaeth personau heb urddau, os meddent ar gymhwysderau pregethwrol.
(4) Gofal manwl am ddychweledigion, yn arbenig trwy gyfrwng y seiadau profiad.
Nid ydym am hawlio i'r Cyfundeb Methodistaidd yr holl glod o fod yr unig offeryn yn llaw yr Arglwydd i efengyleiddio Cymru; gwyddom yn amgen. Gwir mai ar Howell Harris a Daniel Rowland y disgynodd y tân dwyfol gyntaf yn yr adeg hon o ddirywiad; hwy aeth o gwmpas fel llwynogod Samson, gan gyneu ffagl sydd yn parhau hyd heddyw. Ond mor wir a hyny, enynodd y tân yn bur fuan yn yr enwadau Ymneillduol oedd ar y maes yn barod. Cyfranogasant hwythau o'r un dylanwadau nefol mewn helaethrwydd. Eithr yr yspryd Methodistaidd, a deimlwyd yn gyntaf yn Nhrefecca a Llangeitho, a'u bywiocaodd. A threiddia yr yspryd hwnw trwyddynt, a thrwy eu holl weithrediadau, hyd y dydd hwn. Yn wir, gellir edrych ar yr Ymneillduwyr Cymreig presenol, yn angerddoldeb eu zêl a'u hymroddiad, .yn eu beiddgarwch i wrthsefyll drygioni yn eu holl ffurfiau, yn efengyleidddra eu gweinidogaeth, ac yn y lle mawr a roddir gan eu pregethwyr i bynciau hanfodol ein crefydd, yn gystal ac yn eu gofal am y dychweledigion, fel plant Daniel Rowland a Howell Harris yn hytrach nag fel olynwyr yr Ymneillduwyr cyntefig. Ar yr un pryd, cyfaddefa pob cristion fod ymdrechion y Tadau Methodistaidd, ynghyd a llafur y pregethwyr galluog a'u dilynodd ymron yn ddidor o hyny hyd yn awr, yn ffurfio penod ddysglaer a gogoneddus yn
hanes crefydd yn Nghymru.PENOD II
GRIFFITH JONES, LLANDDOWROR
Ei enedigaeth a'i ddygiad i fynu—Ei ordeiniad Ei glod fel pregethwr yn ymledu —Yn dechreu pregethu y tu allan i'w blwyf—Yr ysgolion elusengar—clerigwyr yn wrthwynebol—Ymdaeniad yr ysgolion trwy yr oll o Gymru—Argraffu Beiblau—Cyfansoddi llyfrau—Ei gysylltiad a'r Methodistiaid—Ei angau.
Ni chafodd Cymru er pan y mae yn wlad ragorach cymwynasydd na'r Hybarch Griffith Jones. Ni sangwyd ei daear gan wladgarwr mwy pur na mwy anhunangar, ac ni anadlodd neb ei hawyr ag y mae ei enw yn fwy clodforus, a'i goffadwriaeth yn fwy bendigedig hyd y dydd hwn. Priodol iawn y gelwir ef yn Seren Foreu y Diwygiad. Yr oedd ar y maes yn mhell o flaen Rowland a Harris; ymdaflasai gyda holi yni a bywiogrwydd ei natur i'r gorchwyl mawr o oleuo ac efengyleiddio ei gyd-genedl; gyda y gorchwyl hwn ni phallodd, er y lliaws gwrthwynebiadau a'i cyfarfu, nes cau o hono ei lygaid yn yr angau; ac wrth farw gwasgai cyflwr ei wlad yn drwm ar ei feddwl, a gwnaeth ddarpariaethau yn ei ewyllys er cario yn mlaen y gwaith da oedd ef wedi gychwyn. Bydd y genedl Gymreig dan ddyled i Griffith Jones tra y byddo haul.
Ganwyd ef yn y flwyddyn 1684, fel y dengys yr argraff ar y gareg fedd a osodwyd i fynu iddo gan Madam Bevan, yn mhlwyf Cilrhedyn, yn nghydiad Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Yr oedd ei rieni yn grefyddol ill dau, ac yn aelodau gyda'r Ymneillduwyr. Tybia Dr. Rees mai i Henllan y perthynent, i'r hwn le y deuai John Thomas, Llwynygrawys; David Lewis, Cynwyl, a gweinidogion poblogaidd eraill, yn aml i bregethu, ac mai yno y derbyniodd ei argraffiadau crefyddol cyntaf, ynghyd a'i chwaeth at yr athrawiaethau Calfinaidd. Eiddil oedd ei gyfansoddiad; pan yn blentyn blinid ef yn fawr gan ddiffyg anadl, fel na allai gerdded ar draws yr ystafell heb boen ac anhawsder; ond cryfhaodd i raddau wrth dyfu i fynu, ac mewn rhan medrodd ysgwyd yr afiechyd i ffwrdd. Bu ei dad farw pan nad oedd ond ieuanc, felly disgynodd holl ofal ei ddygiad i fynu ar ei fam. Dywed Mr. Charles ei fod o duedd grefyddol o'i febyd. Dangosodd hefyd fywiogrwydd cynheddfau, ynghyd ag awyddfryd i ddysgu, yn foreu. Gan y teimlai awydd i ymgyflwyno i weinidogaeth yr efengyl, trefnodd ei fam iddo gaei pob manteision addysg dichonadwy; ac wedi iddo fyned tu hwnt i ysgolion yr ardal, cafodd ei anfon i Gaerfyrddin, naill ai i'r Athrofa Ymneillduol a gedwid yno, neu ynte i Ysgol Ramadegol. Croniclir iddo gael ei ordeinio yn ddiacon yn yr Eglwys Sefydledig, Medi, 1708, gan yr Esgob Bull, a darfod iddo dderbyn ei lawn urddau trwy yr un gŵr, Medi, 1709. Pa beth a barodd iddo fwrw ei goelbren yn yr Eglwys, ac yntau wedi cael ei ddwyn i fynu yn mhlith yr Ymneillduwyr, nis gwyddom; ond sicr yw mai nid unrhyw fanteision bydol ddarfu ddylanwadu ar ei feddwl, oblegyd profa ei holl hanes ei fod yn Eglwyswr cryf a chydwybodol. Tebygol mai cuwradiaeth eglwys Cilrhedyn, ei blwyf genedigol, a gafodd ar y cyntaf.
Yn bur fuan dechreuodd bregethu gyda nerth a difrifwch mawr. Dywed Mr. Charles nad oedd dirnadaeth Griffith Jones o athrawiaethau yr efengyl a threfn yr iachawdwriaeth ond aneglur ar y cychwyn; fod ei foreu yn dywyll, ac mai yn raddol y pelydrodd y goleuni dwyfol ar ei feddwl yn ei ddysgleirdeb a'i ogoniant. Casglai Mr. Charles hyn oddiwrth ei lythyrau at Madam Bevan. Ar yr un pryd amlygai ynddynt lawer o ddwys ystyriaeth a difrifwch sobr. Ymroddodd i astudio duwinyddiaeth, a chan ei fod yn ŵr o gynheddfau cryfion, a'i ddeall yn gyflym, a'i gof yn afaelgar, daeth yn fuan yn dra hyddysg yn ysgrifeniadau y duwinyddion mwyaf enwog, Saesneg a thramor. "Trwy gynorthwyon dwyfol," meddai Mr. Charles, "a bendith Duw ar ei ddiwydrwydd, cynhyddodd yn brysur mewn gras a gwybodaeth o Dduw, a'r Iachawdwr Iesu Grist."
Yn mhen yspaid cafodd guwradiaeth plwyf Lacharn, ac yma ymddengys iddo gynyddu yn ddirfawr mewn hyawdledd a doniau gweinidogaethol, a darfod i'w bregethau hyawdl ac efengylaidd beri cyffro dirfawr yn y plwyf, ynghyd a'r plwyfydd cylchynol. Priododd a Miss Philhps, merch Syr Erasmus Philhps, Picton Castle. Yr oedd yn ddynes nodedig am ei duwioldeb; nid annhebyg mai trwy ei weinidogaeth ef y cawsai ei hargyhoeddi; ond yr oedd yn wanllyd o iechyd, ac ymddengys na fu iddynt blant. Yn mhen rhyw ddwy flynedd gwedi derbyn ei lawn urddau, cyflwynwyd iddo berigloriaeth Llandilo, Abercowyn; ac yn y flwyddyn 171 6, cafodd ficeriaeth Llanddowror, gan ei frawd-y-nghyfraith, Syr John Phillips, noddwr y fywoliaeth. Yr oedd Syr John Phillips yn ŵr tra boneddigaidd, a dywed Mr. Charles ei fod yn casglu oddiwrth ei lythyrau mai crefydd a duwioldeb oedd wrth wraidd y boneddigeiddrwydd. Cadarnheir y dystiolaeth hon gan liaws o ffeithiau. Pan yn Llundain ymgyfathrachai Sir John a Whitefield ac a'r ddau Wesley. Ceir cyfeiriadau mynych ato yn eu dydd-lyfrau fel boneddwr yn rhagori mewn crefydd; ac fel hwythau, ar un tymor o'i oes, bu yn mynychu y Gymdeithas Forafaidd yn Fetter Lane. Heblaw gwasanaethu yn Llandilo a Llanddowror, ymwelai Grifíìth Jones yn bur aml ag eglwys Llanllwch; a than ei weinidogaeth yma yr argyhoeddwyd Miss Bridget Vaughan, merch y Derllysg, yr hon y mae ei henw yn glodfawr trwy holl Gymru fel Madam Bevan. Bu y foneddiges hon yn gyfeilles iddo tra y bu byw; cefnogai ef yn mhob modd gyda ei lafur; ac yr oedd ei phwrs yn wastad yn agored pan fyddai galw. Ymledodd clod Griffith Jones fel pregethwr tros y wlad, cyrchai y bobl yn dyrfaoedd i'w wrando. Clywyd son am ei hyawdledd a'r nerth oedd yn cyd-fyned a'i weinidogaeth hyd yn nod yn Ysgotland, a chafodd ei alw i bregethu o flaen y frenhines Anne. Ein hawdurdod ar hyn yw Williams, Pantycelyn, yr hwn, heblaw bod yn emynydd digymhar, oedd yn hanesydd gwych. Fel hyn y dywed efe yn y farwnad ragorol a gyfansoddodd iddo: —
" Fe gadd Scotland oer ei wrando,
Draw yn eitha 'r Gogledd dir,
Yn dadseinio maes yn uchel
Bynciau 'r iachawdwriaeth bur:
Cadd myrddinau deimlo geiriau
Hedd, o'i enau 'n llawer man;
Clywodd hithau rym ei ddoniau
Frenhinol ardderchocaf Anne."
Daeth dan sylw y Gymdeithas er lledaenu yr Efengyl mewn Parthau Pellenig fel un cymwys i'w anfon allan yn genhadwr i'r India; y mae llythyrau yn awr ar gael sydd yn dangos i daerineb dirfawr gael ei arfer arno; ac yn y diwedd cydsyniodd yntau. Ni wyddis pa beth a'i rhwystrodd i roddi ei fwriad mewn grym. Efallai mai cariad at ei gydwladwyr, a thosturi at iselder eu cyflwr, a'i gorchfygodd. Ond yr oedd llaw Rhagluniaeth yn y peth; yr oedd ganddi hi waith mawr i Griffith Jones yn ngwlad ei enedigaeth.
Rhydd Mr. Charles y desgrifiad canlynol o hono fel pregethwr: "Yr oedd ei destynau a'i ddull o ymadroddi yn neillduol o addas i gyflyrau ei wrandawyr; yn aml yn finiog, yn danllyd, ac yn ddeffrous; bob amser yn athrawiaethol, yn ddefnyddiol, ac yn fucheddol; yn cadw yn mhell oddiwrth benrhyddid Antinomaidd, a deddfoldeb digysur ac anffrwythlawn. Yr olwg arno yn esgyn i'r areithfa oedd neillduol sobr a phwysig. Darllenai y gweddïau gyda llawer o ddifrifoldeb, a'r llithiau yn arafaidd ac yn ddeallus. Yn ei bregethau dechreuai yn bwyllog, a dosranai y defnydd mewn llaw yn olau ac yn rheolaidd, mewn dull cyfeillgar, nid annhebyg i ymddiddan. Ond fel yr elai i mewn i'w fater, byddai ei yspryd yn tanio ac yn gwresogi, a'i ymadroddion yn fywiog ac yn awdurdodol, nes meistroli'r gwrandawyr yn gwbl. Yr oedd ei agwedd gorphorol yn barchus, ei lais yn eglur ac yn beraidd, ei resymiadau yn gedyrn, ei ddarluniadau yn ardderchog, a'i gynghorion a'i rybuddion yn llym, ac yn afaelgar yn y gydwybod. Yr oedd ei holl enaid yn y gwaith, ac yn profi yn fywiog bob teimlad addas i'r gwirionedd a draddodai.
I ddweyd y cwbl am dano mewn un gair, yr oedd wedi ei wisgo a nerth o'r uchelder, ac am hyny yr oedd yn gweini yn mhethau sanctaidd Duw, gyda harddwch a gweddeidd-dra addas, yn awdurdodol ac yn fuddiol." Y mae y darluniad hwn o hono gan Mr. Charles yn nodedig o fyw. Braidd nad yw ein dychymyg yn porteadu gŵr Duw yn esgyn yn araf ar hyd grisiau y pwlpud, gydag osgo difrifddwys, a sobrwydd tragywyddoldeb yn eistedd ar ei wedd. Wedi darllen y llithiau a'r gweddïau yn hyglyw dyna ef yn cymeryd ei destun ac yn rhanu ei fater; ymadrodda yn araf ar y dechreu, yn ol rheolau manylaf areithyddiaeth; ond yn fuan gwresoga ei galon tan ddylanwad ei fater; rhydd y gwirionedd ei holl yspryd yn fflam; y mae yn awr fel angel yn ehedeg yn nghanol y nef a'r efengyl dragywyddol ganddo; arllwysa ar y dyrfa fawr sydd wedi dyfod i'w wrando raiadrau o hyawdledd cysegredig; ac yswatia hithau yn ei bresenoldeb wedi ei llwyr orchfygu. Nid rhyfedd i'w glod fyned ar led; y tebygolrwydd yw na chlywyd y fath bregethu o fewn eglwysi Cymru er ys canrifoedd, os erioed. Daw galwadau amdano o'r plwyfi cymydogaethol; cred yntau, fel y gwnaeth Paul am yr alwad o Macedonia, eu bod yn wys oddi uchod, ac ufuddha hyd eithaf ei allu. Yn aml byddai yr eglwysi yn rhy fychain i ddal y dorf; pregethai yntau yn y fynwent, gyda chofadail un o'r meirw yn bwlpud tan ei draed, a'r nefoedd yn dô uwch ei ben. Nis gallwn wrthsefyll y brofedigaeth o ddifynu marwnad Williams eto: —
"Allan 'i aetli yn llawn o ddoniau,
I bregethu 'r 'fengyl wir,
Ac i daenu iachawdwriaeth
Olau, helaeth 'r hyd y tir;
Myrdd yn cludo idd ei wrando,
Llenwi'r llanau mawr, yn llawn,
Gwneyd eglwysydd o'r mynwentydd
Cyn ei glywed ef yn iawn."
Heblaw bychander yr eglwysi yr oedd rheswm arall paham y pregethai yn aml yn y mynwentydd, sef eiddigedd a dig lliaws o'r clerigwyr. Cynhyrfent drwyddynt oblegyd ei fod yn meiddio dyfod i'w plwyfi heb eu caniatâd; yr oeddynt ar dori ar eu traws gan genfigen ato oblegyd ei dalent a'i boblogrwydd; felly cloent yr eglwysi rhagddo, a chymerent yr agoriadau adref gyda hwynt yn eu llogellau. Ond nis gallent trwy hyn gau genau Griffith Jones. Yr oedd ef yn dyheu am bregethu, a'r bobl yn dyheu am wrando; felly, fel y dywed Williams, gwnai eglwys o'r fynwent.
Yn raddol ymestynodd ei deithiau i'r siroedd cyfagos, ac yn wir, i'r oll o'r Deheudir. Ar daith bregethwrol yr oedd pan yr argyhoeddwyd Daniel Rowland trwy ei weinidogaeth, yn eglwys Llanddewi-brefi; a phe na wnaethai ddim yn ystod ei oes ond bod yn offeryn troedigaeth Rowland, buasai wedi gwneyd gwasanaeth ardderchog i grefydd. Gan mai ar wythnosau y Pasg a'r Sulgwyn yr arferai Cymry yr oes hono gynal yn benaf eu cyfarfodydd gloddestgar, a'u campau annuwiol, trefnai ef ei deithiau ar yr adegau hyny, er mwyn pregethu y cyfryw lygredigaethau i lawr, a dywedir na fyddai nemawr bregeth yn myned heibio heb fod rhywrai yn cael eu hachub. Byddai ei gynulleidfa yn aml yn cael eu gwneyd i fynu o oferwyr a dihyrod penaf y wlad, wedi ymgasglu oblegyd cywreinrwydd; ond ni phetrusai ddynoethi eu drwg arferion. Darlunia Mr. Charles eu hagwedd pan yn gwrando. Ar y cyntaf ymddangosent yn wyllt ac anifeilaidd; ond yn raddol, fel y pregethai Mr. Jones, gwelid hwy yn sobri ac yn difrifoli; dechreuai y dagrau lifo yn nentydd dros eu gruddiau; yn y man y maent yn wylo yn uchel, ac yn gwaeddu, "Pa beth a wnawn i fod yn gadwedig." Ai yntau yn ei flaen i egluro trefn yr iachawdwriaeth iddynt, a phregethai weithiau dros dair awr o amser.
Ond er enwoced oedd Griffith Jones fel efengylwr, braidd nad yw ei glod yn fwy fel addysgydd, a thrwy yr Ysgolion Elusengar Cylchynol a sefydlwyd ganddo gwawriodd cyfnod newydd ar Gymru. Dywedir, ac ail-ddywedir ddarfod iddo gael y syniad am danynt oddiwrth ysgolion Thomas Gouge. Ond nid oedd unrhyw debygolrwydd rhyngddynt. Ysgolion Saesneg oedd eiddo Thomas Gouge; ysgolion Cymraeg oedd eiddo Griffith Jones, a ddysgu Cymraeg yn unig a wneyd ynddynt. Yr hyn, yn ol a wyddom, a ddygai fwyaf o debygolrwydd i ysgolion Griffith Jones, oedd elusen John Jones, Deon Bangor,[30] ond ei bod ar raddfa lai. Yn ei ewyllys, dyddiedig Mawrth 10, 1719, gadawodd y Deon y swm o haner can' punt i beriglor Llandegfan, Môn, ac i'w olynwyr hyd byth, at wasanaeth y tlodion; fel ag y byddai i'r llôg oddiwrth yr arian gael ei ddefnyddio "i ddysgu deg o blant tlodion y plwyf i ddarllen y Beibl a'r Llyfr Gweddi Cyffredin yn Gymraeg, mewn modd eglur; ac hefyd i'w haddysgu yn egwyddorion y grefydd Gristionogol yn ol Catecism Eglwys Loegr. "Gadawodd y Deon Jones y cyffelyb swm at yr un amcan i blwyfi Llanfair-yn-Neubwll, Llanffinau, Llanfihangel-yn-Nhywyn, Llanfihangel Ysgeifiog, Rhoscolyn, a Phentraeth, oll yn Môn. Cawn yr un gŵr yn yr unrhyw ewyllys yn gadael y swm o gan' punt i reithor Llanllechid, Arfon, fel ag y byddai i'r llôg gael ei ddefnyddio hyd byth i addysgu deuddeg o blant tlodion y plwyf "i ddarllen Cymraeg yn berffaith, ac i'w hyfforddi yn Ngatecism Eglwys Loegr yn Gymraeg, fel y gallent nid yn unig ei adrodd, ond hefyd trwy eglurhad deallus a duwiol ei ddeall; ac hefyd fel y byddont yn alluog i ddarllen y Beibl a'r Llyfr Gweddi Cyffredin yn eglur; ac os gellir, eu hyfforddi ryw gymaint mewn ysgrifenu a rhifo." Gadawodd yr un swm o gan punt i'r unrhyw bwrpas i blwyfi Cyffyn, Aber, a Bangor, oll yn Sir Gaernarfon. I blwyfì Llanddecwyn, a Llanfihangel-y-Traethau, yn Sir Feirionydd, gadawodd y Deon cymwynasgar y swm o haner can' punt yr un at yr amcan a nodwyd. Dyma yr unig ymgais gwybyddus i ni, yn flaenorol i ddyddiau Griffith Jones, i ddysgu Cymraeg yn yr ysgolion dyddiol. Ond nid yw yn ymddangos mai canlyn y Deon a wnaeth Griffìth Jones; yn wir, nid oes genym un prawf y gwyddai am ei ymgais; yn hytrach, cynllun a ddaeth yn raddol i'w feddwl ef ei hun oedd yr Ysgolion Cylchynol, er cyfarfod yr anwybodaeth dirfawr a ffynai yn y wlad ar y pryd.
Yr hanes a rydd Mr. Charles am ddechreuad yr ysgolion hyn yw a ganlyn: — "Byddai Mr.Griffith Jones, y Sadwrn o flaen gweinyddiad yr ordinhad o swper yr Arglwydd, yn cadw math o gyfarfod paratoad. Darllenai y gwasanaeth a'r Llithiau priodol; yna gofynai a oedd rhywun yn y gynulleidfa wedi dal sylw neillduol ar ryw adnod. Os enwid adnod neu adnodau, eglurai yntau hwy mewn modd deallus, cyfaddas i amgyffredion y bobl." Ond caffai fod y rhai ag yr oedd mwyaf o eisiau y cyfryw addysg arnynt yn sefyll yn ol, yn enwedig dynion wedi tyfu i fynu, ac wedi heneiddio mewn anwybodaeth. Er meddyginiaethu hyn, cyhoeddai fod bara yn cael ei gyfranu i'r tlodion ar y Sadyrnau misol yma, wedi ei brynu a'r arian a offrymid yn y cymun. Pan ddeuent yn mlaen i dderbyn y bara, gosodai hwy yn rhes, a gofynai ychydig o gwestiynau hawdd iddynt, ond mewn dull caredig, rhag eu dyrysu na'u cywilyddio. Ond er ei holl diriondeb, yr oedd llawer o gallineb y sarff yn Griffith Jones, ac fel na adewid ei ofyniadau heb atebiad gofalai am hyfforddi rhywrai yn dda yn flaenorol, fel y byddent yn foddion i dynu y lleill yn mlaen. Trwy hyn daeth yn gydnabyddus a'r anwybodaeth dirfawr am bethau yr efengyl, hyd yn nod am ei hegwyddorion elfenol, oedd yn y wlad, a deallodd nad oedd yn bosibl dyrchafu y genedl heb gael rhyw drefniant i ddysgu y bobl i ddarllen Gair Duw. Sefydlodd ysgol ddyddiol yn ei bentref ei hun i ddysgu plant a phobl mewn oed i ddarllen Cymraeg; a chynhelid yr ysgol mewn rhan ag arian y cymun, ond sicr yw y deuai rhan fawr o'r arian o'i logell ef ei hun. Llwyddodd yr ysgol, nid yn unig y tu hwnt i'w ddisgwyliad, ond yn mhell y tu hwnt i'w obeithion. Heblaw plant, deuai dynion mewn oed, a hen bobl iddi, y rhai a wylent yn uchel, mewn rhan o alar oblegyd eu hanwybodaeth, ac mewn rhan o lawenydd oblegyd mawredd y fraint oedd yn cael ei hestyn iddynt. Gwelid hyd yn nod y deillion yn cyniwair yno, er mwyn clywed Gair Duw yn cael ei ddarllen, ac er mwyn ei ddysgu ar eu cof. Arweiniodd hyn i sefydliad ysgolion eraill mewn gwahanol ranau o'r wlad. Agorwyd yr ysgol gyntaf yn mhentref Llanddowror, tua'r flwyddyn 1730, ryw chwech mlynedd cyn cychwyniad Methodistiaeth; ac yn y flwyddyn 1737, cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf o Welsh Piety, yn rhoddi crynodeb o'r amgylchiadau ddarfu arwain i blaniad yr ysgolion, rhesymau drostynt, ac atebion i wrth-ddadleuon yn eu herbyn. Yn mhen pymtheg mlynedd, cawn fod rhif yr ysgolion wedi cynyddu i 116, a bod ynddynt 5685 o ysgolheigion yn derbyn addysg. Nid oedd moddion bydol Griffith Jones, na'r cynorthwy a dderbyniai oddiwrth ei ffrynd, Madam Bevan, yn ddigonol i gynal y nifer mawr yma o ysgolion; ond cafodd gymorth effeithiol oddiwrth wyr parchus, yn benaf o Loegr, fel na bu prinder arian at y gwaith.
Cynllun Griffith Jones oedd cyflogi nifer o ysgolfeistriaid effeithiol, a'u gwasgar trwy wahanol ranau y wlad, fel y byddai y galw am danynt. Dymunol ganddo oedd fod yr alwad yn dyfod oddiwrth offeiriad y plwyf; ond oni ysgogai ef, anfonid yr ysgolfeistr ar ddymuniad yr ardalwyr. Fel rheol, yr oedd yr ysgol i barhau mewn ardal neu blwyf am chwarter blwyddyn; ystyrid y gallai plentyn neu ddyn o alluoedd cyffredin ddysgu darllen y Beibl yn weddol dda yn hyny o amser, a symudid yr ysgol i gymydogaeth arall ar gylch; ond weithiau, dan amgylchiadau neillduol, cedwid hi yn yr un lle am haner blwyddyn neu flwyddyn, Yn yr ysgolion hyn dysgid yr ysgolheigion i ddarllen y Beibl yn yr iaith Gymraeg; hyfforddid hwy yn egwyddorion Cristionogaeth yn ol Catecism Eglwys Loegr, dysgid hwy i ganu Salmau, a defnyddid pob moddion i'w diwyllio a'u crefyddoli. Nid plant yn unig a addysgid, fel yr awgrymwyd, ond dynion mewn oed a hen bobl, ac ar gyfartaledd yr oedd dwy ran o dair o'r ysgolheigion yn rhai wedi tyfu i oedran. Fel ag i roddi mantais i bawb, cynhelid yr ysgolion y nos yn gystal a'r dydd; ac os byddai rhywrai yn methu, oblegyd amgylchiadau, dyfod i'r ysgol na'r nos na'r dydd, disgwylid i'r athrawon ymweled a hwy yn eu cartrefi, a rhoddi gwersi iddynt yno. Mewn gwirionedd, ni fu erioed drefniant ystwythach a mwy hylaw nag ysgolion Griffìth Jones; cyfaddasid hwy at bob math o oedran ac at bob math o amgylchiadau; a rhaid fod pwy bynag na fedrai ddarllen yr Ysgrythyr lân yn gwbl ddiesgus. Yn mhen blynyddoedd, yr oedd yr ysgolfeistri i ddychwelyd i'r lleoedd y buasent ynddynt gyntaf, er addysgu yr ieuenctyd oeddynt wedi cyfodi yn ystod eu habsenoldeb. A ganlyn sydd grynodeb o reolau yr ysgolion, fel eu ceir yn y Welsh Piety.
1. Rhaid i'r ysgol feistriaid fod yn sobr, yn caru duwioldeb, yn aelodau o Eglwys Loegr, ac yn ffyddlawn i'r brenin ac i'r llywodraeth.
2. Rhaid iddynt, heblaw dysgu yr ysgolheigion i sbelian, ac i ddarllen y cyfryw lyfrau ag a bwyntir iddynt, eu hyfforddi hefyd ddwy waith yn y dydd yn Nghatecism Eglwys Loegr; a'u dysgu i ateb yr offeiriad yn barchus, yn fedrus, ac yn ddefosiynol yn ngwasanaeth yr Eglwys.
3. Rhaid i'r Meistri a'r ysgolheigion roddi eu presenoldeb yn foreu yn yr ysgol, a dyfod gyda chysondeb bob Sabbath i'r addoliad cyhoeddus; ac yna ar y Llun canlynol, fod yr ysgolheigion i gael eu holi yn fanwl ynghylch y penodau a ddarllenwyd, y testun, a phenau y bregeth a glywsant yn yr Eglwys y dydd blaenorol.
4. Rhaid i'r meistriaid roddi i mewn, yn mhen y chwarter, gyfrif manwl o'r ysgolheigion, eu henwau, a'u hoedran, a'r amser y bu pob un o honynt yn yr ysgol.
Er sicrwydd.fod y rheolau hyn yn cael eu cario allan, a bod y meistriaid yn cyflawni eu dyledswydd yn ffyddlawn, gosodid yr ysgol yn mhob cymydogaeth, hyd ag oedd bosibl, dan reolaeth yr offeiriad, yr hwn oedd i anfon i mewn adroddiad am ymddygiad yr ysgolfeistr, a'r llwyddiant oedd wedi bod ar ei ymdrechion yn ystod y tymor. Cawn yn y Welsh Piety nifer dirfawr o'r cyfryw adroddiadau, a dygant oll dystiolaeth uchel i ddiwydrwydd a duwioldeb y meistriaid, ynghyd a'r cyfnewidiad dirfawr a gawsai ei effeithio drwyddynt yn moesau yr ieuenctyd, a'u dull o ymddwyn yn nhŷ Dduw. Cafodd Griffith Jones gryn anhawsder i gael ysgolfeistri priodol, y rhai a gyfunent grefyddolrwydd yspryd, a bywyd diargyhoedd, gyda medr i addysgu. Dywed Dr. Rees ddarfod iddo gael ei orfodi i gymeryd y nifer fwyaf o honynt o fysg yr Ymneillduwyr, gan nad oedd nemawr yn yr Eglwys Wladol yn meddu y cymhwysderau priodol. I hyn nid oes rhith o sail. Noda rheolau yr ysgolion yn bendant y rhaid i bob ysgolfeistr fod yn aelod o Eglwys Loegr; a dywed Griffith Jones ei hun yn y Welsh Piety am 1745, sef yn mhen pymtheg mlynedd gwedi cychwyniad yr ysgolion, ddarfod i'r rheol ynglyn a hyn gael ei chadw yn ddigoll. Cyn y cai unrhyw Ymneillduwr ei gyflogi i fod yn ysgolfeistr dan Griffith Jones, rhaid iddo yn gyntaf lwyr-ymwrthod a'i Anghydffurfiaeth, a dyfod yn gymunwr yn yr Eglwys. Gorchfygodd Griffith Jones yr anhawsder gyda golwg ar athrawon drwy sefydlu math o Goleg Normalaidd yn Llanddowror, dan ei arolygiaeth ei hun, yn yr hwn y parotoid athrawon; ac hefyd yr addysgid personau ar gyfer y weinidogaeth.
Ni chafodd y gwaith da hwn fyned yn ei flaen heb wrthwynebiadau. Nid oedd yr esgobion yn cydymdeimlo o gwbl a'r ysgolion, er na feiddient eu gwarafun yn hollol. Efallai mai y prif reswm am eu gwrthwynebiad oedd fod yr ysgolion yn Gymraeg. Saeson oedd yr esgobion; ni feddent unrhyw gydymdeimlad a dim Cymreig; nid oeddynt yn deall Cymraeg eu hunain; credent mai goreu po gyntaf yr ysgubid yr iaith oddiar wyneb y ddaear, ac felly nid rhyfedd eu bod yn casau yr ysgolion a amcanent [31] ddysgu y werin bobl i' w darllen. Y mae amddiffyniad Griffìth Jones yn ngwyneb y teimlad hwn yn hyawdl ac anatebadwy. Dywed y byddai sefydlu ysgolion elusengar Saesneg i bobl nad oeddynt yn deall dim ond Cymraeg, mor ynfyd a phregethu pregeth Saesnig i gynulleidfa o Gymry nad oeddynt yn gynefin ag unrhyw iaith ond iaith eu mam. "A fyddwn ni," meddai, " yn fwy awyddus am ledaeniad yr iaith Saesneg nag am iachawdwriaeth ein pobl? " Dadleua ei fod yn amhosibl i liaws o'r tlodion, yn arbenig rhai mewn oedran, a hen bobl, ddysgu Saesneg; ond nad iawn o herwydd hyny eu gadael i syrthio i ddinystr tragywyddol. Dywed y byddai sefydlu ysgolion Saesneg iddynt yr un peth a chychwyn ysgol elusengar yn y Ffrancaeg i dlodion Lloegr. "Ffolineb," meddai, "yn ol rheswm a natur pethau yw ceisio addysgu pobl yn egwyddorion crefydd, trwy gyfrwng unrhyw iaith ond yr un a ddeallir ganddynt." Yr oedd Griffith Jones yn wir athronydd; deallai yn drwyadl mai trwy gyfrwng y gwybyddus yn unig y gellir dod o hyd i'r anwybyddus; ac yr oedd yn pleidio yr egwyddorion y dadleuir drostynt gan Gymdeithas yr iaith Gymraeg, gant a haner o flynyddoedd cyn i'r Gymdeithas gael bodolaeth. Nid ydym yn deall ei fod yn cael ei gyffroi o gwbl gan zêl at iaith, ychwaith; ond deallai 'mai trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig y gellid cael gafael ar y bobl; nad oedd un moddion arall trwy ba rai y gellid eu hyfforddi yn y pethau a berthynent i'w' heddwch.
Er mor gymhedrol ddyn oedd Griffith Jones, ac er mor ofalus oedd yn newisiad ei eiriau, cyffroid ei yspryd weithiau gan wrthwynebiadau yr esgobion, ac uchelwyr y wlad, ac ysgrifenai bethau cryfion a difrifol.[32] " Pe bai Iesu Grist ar y ddaear yn awr," meddai, " a phe y gofynai y cwestiwn ' oni ddarllenasoch? ' byddai raid i filoedd o'n pobl dlodion ateb, ' Naddo, Arglwydd; ni ddysgwyd ni i ddarllen; ni fedrai ein rhieni fforddio y draul i'n hanfon i'r ysgol; ac ni wnai ein Harweinwyr ysprydol gynorthwyo; a phan y gwnaed ymdrech i'n haddysgu yn rhad, ni wnai rhai o'n gwell, a feddai awdurdod yn y plwyf, oddef y cyfryw beth.'" Y mae hynyna yn ddigon hallt, ond nid ydym yn gwybod i ni ddarllen erioed ddim mwy llosgadwy nag a ganlyn: "Os bydd i rywun, nid yn unig esgeuluso, ond hefyd geisio rhwystro yr amcan caredig hwn (sef, dysgu y bobl i ddarllen y Beibl Cymraeg), byddai yn dda iddo ystyried ai llawenydd anrhaethol ynte poen annyoddefol iddo, yn nydd mawr y cyfrif, fydd bod y trueiniaid colledig anwybodus yn pwyntio ato, gan ddywedyd: 'Dacw y dyn, y dyn creulawn annhrugarog, gelyn Duw a bradychwr ein heneidiau ninau, yr hwn a rwystrodd ein hiachawdwriaeth, ac a'n cauodd allan o deyrnas nefoedd. Gan hyny y mae yn euog o'n gwaed; efe yw achos ein damnedigaeth, gan iddo wrthwynebu y moddion a gynygid i'n dwyn i wybodaeth o Grist yr iachawdwr.'" Teimla ei fod yn ysgrifenu yn llym, ac yn tynu darlun ofnadwy a brawychus; felly amddiffyna ei hun trwy ddweyd: " Efallai y tybia rhai fy mod yn gwarthruddo yr ynadon, y gweinidogion, a'r esgobion. Pell oddiwrthyf fi fyddo gwarthruddo neb ond y sawl y mae y gwarthrudd yn perthyn iddo." Cystal a dweyd: Peidied neb a gwisgo y cap os nad yw yn ei ffitio. Yna ychwanega: "Chwi a wyddoch i mi gael fy ngeni yn Gymro, ac nad wyf eto wedi dad-ddysgu gonestrwydd a gerwindeb (unpoliteness) iaith fy mam, nac ychwaith wedi meddíanu llyfndra olewaidd yr iaith Saesneg, yr hon yn awr sydd wedi ei reffeinio fel y mae yn aml yn ymylu ar weniaeth."
Ond er pob peth yr oedd gwrthnaws yr esgobion, ac eiddigedd y clerigwyr dioglyd a meddw, at Griffith Jones a'i ysgolion yn parhau; ac yn y flwyddyn 1752 cyhoeddwyd traethodyn bustlaidd, ond heb enw wrtho, i'w waradwyddo, ac i geisio enyn rhagfarn yn ei erbyn. Teitl y traethawd yw: Peth hanes yr Ysgolion Elusengar Cymreig, a , chyfodiad a chynydd Methodistiaeth yn Nghymru trwy eu hofferynoliaeth, dan drefniant a chyfarwyddid unigol Griffith Jones, offeiriad, Person Llanddowror, yn Sir Gaerfyrddin, mewn hanes byr fywyd y Clerigwr hwnw fel Clerigwr, Dywed Gwilym Lleyn mai awdwr y llyfryn hwn oedd y Parch. John Evans, person eglwys Gymmun, ger Llanddowror, dyn drwg ei foes, a gelyn anghymodlawn i Griffith Jones a'r diwygiad. Ond yr oedd John Evans yn hyn o orchwyl dan dal gan Esgob Tyddewi, yr hwn na phetrusai ddefnyddio yn ddirgelaidd yr offerynau gwaelaf i ddrygu dyn na feiddiai ei erlid yn gyhoeddus. Nis gellir dychymygu am ddim butrach na'r traethodyn hwn; y mae ei iaith yn isel, ac mewn manau yn rhy anweddaidd i'w gosod mewn argraff; daw gelyniaeth a malais i'r golwg yn mhob brawddeg a llinell. Wele rai o'r cyhuddiadau: —
1. Mai Catecism Matthew Henry a arferai Griffith Jones wrth gateceisio rhwng y llithiau, pan y tybid yn gyffredin ei fod yn defnyddio Catecism Eglwys Loegr; ac iddo wasgar 24,000 o'r cyfryw Gatecism, wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg, rhwng ei ysgolheigion.
2. Y maentymiai fod wyn gwerthfawr i Grist yn mhlith y gwahanol sectau.
3. Mai Ymneullduwyr oedd ei rieni, ac na fu yntau eu hun erioed yn gymodlawn ag Eglwys Loegr, gyda ei chanonau, ei homiliau, ei chlerigwyr, a'i rubric.
4. Iddo dreulio peth amser, tra yn beriglor yn Llanddowror, i astudio Hebraeg dan Mr. Perrot, Athraw y Coleg Presbyteraidd yn Nghaerfyrddin.
5. Fod naw o bob deg o'r rhai a gymunent yn ei eglwys yn Ymneillduwyr, y rhai na chroesent drothwy unrhyw eglwys, ond yr eiddo ef.
6. Ei fod yn cydymdeimlo a Methodistiaeth; mai efe a wnaeth Howell Harris yn Fethodist, a'i fod yntau ei hun yn gohebu a'r Methodistiaid.
7. Ei fod yn ei Eglurhad ar Gatecism yr Eglwys yn esbonio ymaith yr athrawiaeth werthfawr am ail-enedigaeth mewn bedydd, ac yn honi na all bedydd, nac unrhyw beth arall, heb ffydd yn Nghrist, wneyd neb yn Gristion.
8. Ddarfod iddo ef a'i ffrynd (Madam Bevan, yn ddiau), fyned i drafferth a thraul fawr i ddiddymu gŵyl-mabsantau, a chwareuyddiaethau, er mawr niwed i haelfrydedd a chariad Cristionogol a chymydogaeth dda, i'r hyn y gwasanaethai y chwareuon yn fawr, ac heb fod unrhyw niwed o bwys yn eu canlyn.
g. Mai yn dyrnor llestri coed y cafodd ei ddwyn i fynu, a'i fod yntau yn arfer y gwaith hwnw wrth ei bleser pan yn beriglor yn Llanddowror.
10. Y derbyniai dâl am bregethu ar hyd a lled y wlad, y disgwyhai gael haner coron yn nghil ei ddwrn ar derfyn pob pregeth, tra na thalai efe y neb a wasanaethai yn ei le yn Llanddowror.
11. Ei fod yn cyfnewid y Litani, ac yn gadael allan ddarnau cyfain o'r gwasanaeth, er mwyn cael amser i weddïo a phregethu ei hun.
Ceir yn y traethodyn liaws ychwanegol o'r cyffelyb gyhuddiadau. Desgrifir Griffith Jones yn yr iaith fwyaf garw ac aflan fel rhagrithiwr ffiaidd, gormeswr creulawn, a chelwyddwr diail; a dynodir ei ganlynwyr fel lladron, creaduriaid diog, puteinwyr, a phenboethiaid anwybodus. Yn synwyrol iawn, ni wnaeth Mr. Jones unrhyw sylw o'r llyfryn; aeth yn ei flaen gyda ei waith heb gymeryd arno glywed cabledd a difriaeth ei wrthwynebwyr. Nid ydym yn gwybod i neb sylwi arno, hyd nes y darfu i Ieuan Brydydd Hir gyfeirio ato yn y flwyddyn 1776, yn nghyflwyniad ei lyfr cyntaf o bregethau " I Syr Watkin Williams Wynn, o Wynnstay, Barwn." Dywed efe fod "rhai o weinidogion cydwybodol yr efengyl wedi dyoddef yn greulawn yn y blynyddoedd diweddaf dan yr esgobion arglwyddaidd a gormesol Od amheuir hyn, cyfeiriaf at ysgrifeniadau y diweddar dduwiol a gwir barchedig Mr. Griffith Jones, o Llanddowror, yr hwn a ddioddefodd holl fustleiddiwch offeiriad llwgr-wobrwyedig, a gyflogasid gan yr esgobion i'w drybaeddu, er ei fod ef, trwy neillduol ras Duw, heb na brycheuyn na chrychni arno, ond yr hyn a welai malais a gwallgofrwydd yn dda ei fwrw."
Er pob gwrthwynebiad lluosogi a wnaeth yr ysgolion, a chynyddu a wnaeth rhif yr ysgolheigion. Nid oedd ball ar ymdrechion Griffith Jones o'u plaid; dadleuai drostynt yn y Welsh Piety y naill flwyddyn ar ol y llall, gan brofi y da a effeithid trwyddynt, a chyhoeddi tystiolaethau ffafriol iddynt o bob rhan o'r wlad. O'r ochr arall, yr oedd gwanc anniwall yn y werin am ddysgu darllen. Deuai y dall, y cloff, yr anafus, a'r hen, i'r ysgol, ac wylent ddagrau o lawenydd oblegyd eu braint. Ymledodd yr ysgolion dros yr oll o'r Dywysogaeth; plenid hwy yn fynych yn y mynydd-dir anghysbell, ac yn y cymoedd mwyaf unig, fel ag i roddi i bawb gyfleustra i ddysgu darllen yr Ysgrythyr lân. Wele daflen yn dangos eu hansawdd, a gyhoeddwyd gan Mr. Jones yn 1760, sef blwyddyn cyn ei farw.
Siroedd
Brycheiniog Aberteifi Caerfyrddin Morganwg Mynwy Penfro Môn Caernarfon Meirionnydd Dinbych Trefaldwyn Oll ynghyd |
Ysgolion
4 20 54 25 2 23 25 27 15 8 12 215 |
Ysgolheigion
196 1153 2410 872 61 837 1023 981 508 307 339 8687 |
Oddiwrth y daflen uchod, gwelir mai dwy yn unig o holl siroedd Cyniru oedd heb ysgolion, sef Maesyfed a Fflint. Anhawdd dweyd paham yr oeddynt hwy yn eithriadau. Priodola rhai hyny i elyniaeth ffyrnig yr offeiriaid yn erbyn y Diwygiad; ond nid oes genym un prawf eu bod yn fwy gelynol iddo yn y ddwy sir hon nag yn y rhanau eraill o Gymru. Efallai fod gwybodaeth o'r iaith Saesneg yn fwy cyffredinol ynddynt; yr oedd Maesyfed yr adeg hon yn ym-Saesnegeiddio yn gyflym; ac felly nad doddynt yn sefyll mewn cymaint o angen am yr ysgolion Cymraeg.[33] Yn ystod deng—mlynedd-ar- hugain parhad yr Ysgolion Cylchynol, dywedir i dros gant a haner o filoedd gael eu dysgu i ddarllen Gair Duw, oedran y rhai a amrywiai o chwe' blwydd hyd dros Ddeg-a-thriugain. Nid oes ond y "dydd hwnw " a ddengys faint y daioni a gadd ei effeithio trwy y moddion hyn.
Wedi creu darllenwyr, teimlodd Griffith Jones fod angenrhaid wedi ei osod arno i'w cyflenwi a llyfrau, ac y mae ei ymdrechion yn y mater hwn yn gyfartal i'w eiddo fel pregethwr ac addysgydd. Yn neillduol yr oedd y wlad yn llwm iawn o Feiblau. Er cyfarfod yr angen yma, gwnaeth appel at ewyllyswyr da achos y Gwaredwr yn Nghymru a Lloegr; a chwedi derbyn cymorth helaeth, llwyddodd i gael gan Y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristionogol i ddwyn allan argraffiad newydd o'r Beibl Cymraeg. Dygwyd yr argraffiad hwn allan y flwyddyn 1746; cynwysai bymtheg mil o gopíau, a golygid ef gan Rhisiart Morris, brawd Llewellyn Ddu o Fôn, yr hwn oedd yn Swyddfa'r Llynges, yn Llundain, ac yn ŵr tra dysgedig. Yn ychwanegol at y Beibl, ceid ynddo y Llyfr Gweddi Cyffredin, yr Apocrypha, ynghyd a'r Salmau Can, a Mynegair. Addurnid yr argraffiad hefyd a dwy barthlen (map), "Rhodd W. Jones, Ysw., F.R.S., i'r Cymry." Yr oedd y W. Jones hwn yn dad i'r ieithydd Dwyreiniol enwog, Syr William Jones. Gwerthid y Beiblau am bris isel, fel y gallai y cyffredin eu meddianu; os byddai neb yn rhy dlawd i'w prynu, rhoddid hwy yn rhad; nid rhyfedd felly i'r pymtheg mil copïau gael eu gwasgar mewn byr amser. Yn y flwyddyn 1752, cawn Y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristionogol, ar anogaeth Griffith Jones, yn cyhoeddi argraffiad arall o'r Beibl Cymraeg, tan olygiaeth yr un Rhisiart Morris. Yr oedd hwn eto yn bymtheg mil o gopïau, ac yn debyg i'r cyntaf, ond fod yr Apocrypha wedi adael allan o hono. Heblaw lledaenu y Beibl, er mwyn goleuo ei gydwladwyr, cyfansoddodd nifer ddirfawr o lyfrau, a chyfieithodd eraill, oll o nodwedd athrawiaethol neu ddefosiynol. Dengys y daflen a ganlyn pa mor fawr a fu ei lafur yn y cyfeiriad hwn.[34]
Cyfieithiadau ac Ad-argraffiadau
- 1712— Hynodeb Eglwysyddol.
- 1722— Holl ddyledswydd dyn, &c.
- 1743 — Crynodeb o'r Salmau Cân, &c. 164 tudal.
- 1749 — Pigion Prydyddiaeth Pen Fardd y Cymru, 212. (Y "Pen Fardd" hwn oedd Ficer Prichard, Llanymddyfri).
- 1758— Lloffion Prydyddiaeth, sef 46 o Ganiadau o waith Mr. Kees Prichard, 92 tudal.
Adroddiadau Saesneg yr Ysgolion Cylchynol, sef "Welsh Piety."
- 1737— O 1734 hyd 1737.
- 1740—1754. Pymtheg Adroddiad, oll yn 824 tudal.
- 1755 —1760. Saith neu wyth Adroddiad.
Llyfrau Saesneg eraill —
- 1741 — An Address to the Charitable and Welldisposed, 20 tudal
- 1745 — A Letter to a Clergyman, 90 tudal.
- 1747 (?) — Twenty Arguments for Infant Baptism.
- 1750— lustruction to a Young Chiistian. Eglurhad ar Gatecism yr Eglwys mewn ffordd o Holiad ac Ateb. (Y mae yn ddwyieithog, pris 4c.)
- 17 (?) — The Christian Covenant, or the Baptismal Vow, as stated in our Church Catechism, Scripturally esplained by Questions and Answers. (2nd Edition, 1762; 3rd, 1770).
- 17 (?)_The Christian Faith, or the Apostles' Creed, spiritually explained by Questions and Answers. (2nd Edition, 1702).
- 17 (?) — Platform of Christianity, being an Explanation of the 39 Articles of the Church of England (ar awdurdod Mr. Charles).
Llyfrau Defosiynol —
- 1730— Dwy Ffurf o Weddi, 48 tudal. (Ail Argraffiad, 1762).
- 1738 — Galwad at Orseddfainc y Gras, 148 tudal.
- 1750— Eto Ail Argraffiad, 148 tudal.
- 1740— Hyfforddwr at Orseddfainc y Gras, yr ail ran o'r Alwad at Orseddfainc y Gras, 140 tudal.
- 17 (?) — Anogaeth i Folianu Duw. (Dyri Mr. Charlcs hwn fel un o'i lyfrau).
Hyfforddiadau, neu Gatecismau —
- 1737 — Cyngor rhad i'r Anllythyrenog, neu lyfr bach mewn ffordd o Holiad ac Ateb.
- 1741 — Hyfforddiad i Wybodaeth iachusol o Egwyddorion a Dyledswyddau Crefydd, sef Holiadau ac Atebion Ysgrythyrol ynghylch yr Athrawiaeth a gynwysir yn Nghatecismau yr Eglwys. Angenrheidiol i'w dysgu gan Hen ac ieuainc. Y mae hwn yn bum' rhan, ac yn cynwys 642 tudal.
- 1748 — Drych Difynyddiaeth, neu Hyfforddiad i
Wybodaeth iachusol. (Yn ol pob tebyg ail—argraffiad yw hwn o'r llyfr blaenorol tan enw arall).
- 1749—Llythyr ynghylch y Ddyledswydd o Gateceisio plant a phobl anwybodus, 48 tudal.
- 1749—Hyfforddiad Gymwys i Wybodaeth iachusol, 330 tudal. (Talfyriad o Hyfforddiad 1741).
- 1752— Esboniad byr ar Gatecism yr Eglwys. Yn bum' rhan, 170 tudal. (Talfyriad o'r llyfr diweddaf). Cafodd ei argraffu hefyd yn 1762, 1766, a 1778, ac yn rhanau wrthynt eu hunain o hyny hyd yn awr, gan y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristionogol.
Yr oedd cychwyniad Griffith Jones fel Awdwr yn fychan. Dechreuodd fel cyfieithydd aeth yn mlaen i fod yn Dalfyrydd,[35] a thybir iddo gyfnewid rhyw gymaint ar "Holl Ddyledswydd Dyn," er ei wneyd yn fwy efengylaidd a Chalfinaidd. o'i holl lyfrau, ei Gatecismau sydd fwyaf hysbys, ac wedi bod o fwyaf o ddefnydd. Yr oedd yn agos i driugain mlwydd oed pan y cyhoeddodd yr "Hyfforddiad," yr hwn, fel y gwelir, sydd waith mawr o 612 tudalen. Catecism Eglwys Loegr yw ei sail, ond eglura ynddo yn bur fanwl a goleu athrawiaethau pwysicaf Cristionogaeth. Trinia y materion yn helaeth; rhydd yr Ysgrythyrau sydd yn profi yr atebion yn llawn; rhana yr ateb weithiau i ddeg neu ddeuddeg o benau, a rhai o honynt yn llanw tua dalen gyfan. Cafodd ledaeniad eang. Dywedir fod cynifer a deuddeng mil o'r rhan gyntaf wedi eu hargraffu. Mewn hysbysiad sydd yn ei ragflaenu, dywed na ddisgwyliai i neb ddysgu ar ei gof gatecism mor faith, ond iddo gael ei ddarpar i'w ddarllen yn ystyriol a mynych; un i ddarllen dau neu dri o'r cwestiynau a'r atebion ar nos Sabbath, neu o'r wythnos, i bawb o'r tylwyth, ac iddynt hwythau ateb yn eu geiriau eu hunain yn ganlynol. Ond y fath oedd yr awch am wybodaeth a lanwai feddwl ieuenctyd y wlad, fel yr hysbysa yn mhen ychydig, fod rhai pobl ieuainc obeithiol wedi ei drysori oll yn eu cof. Pa fodd bynag, gwelodd yn angenrheidiol ei fyrhau, er ei gymhwyso ar gyfer y lliaws; felly yn 1749, cyhoeddodd dalfyriad o hono, tua haner maint y llyfr blaenorol. Ond yn mhen tair blynedd, y mae yn talfyru y talfyriad, gan ei alw yn Esboniad byr ar Gatecism yr Eglwys. Y Catecism byraf hwn sydd fwyaf hysbys. Griffìth Jones a gymerwyd yn gynllun gan Mr. Charles wrth gyfansoddi ei "Hyfforddwr," er iddo mewn eglurder, trefn, a chymwysedd, dra rhagori ar ei ragflaenydd. Yn ei ragym adrodd i'r Crynodeb, y ffurf gyntaf ar yr Hyfforddwr, dywed Mr. Charles: " Cymerais yn hyf amryw Gwestiynau ac Atebion allan o Esponiad rhagorol Mr. G. Jones." Tra yn coleddu y syniadau uchaf am Griffith Jones fel duwinydd, prin yr ystyriai Mr. Charles ef yn gynllun o ysgrifenydd, am nad oedd yn ddigon syml a chryno. Fel hyn y dywed am dano[36] "Fel ysgrifenydd yr oedd ei ddoniau yn helaeth, ond yn hytrach yn gwmpasog, gorlanwog, ac amleiriog; a'i frawddegau yn faith a dyryslyd. Dengys bob amser wybodaeth helaeth am yr hyn y traetha am dano, ac amlyga ei feddwl mewn ymadroddion addas, ac iaith gan mwyaf yn bur ac ardderchawg. Mae rhai o'i draethodau diweddaf yn rhagori llawer ar ei gyhoeddiadau mwyaf boreuol, o ran destlusrwydd cyfansoddiad, dichlynrwydd ymadrodd, a phurdeb iaith. Ysgrifena bob amser yn Ysgrythyrol, yn ddifrifol, ac yn bwysig, fel un am wneuthur llesad i eneidiau dynion. Yn y cwbl, ymddengys yn dduwinydd da, o wybodaeth a doniau helaeth, a chariad gwresog at achos yr efengyl." Y gwir yw fod Mr. Charles ei hun yn rhagori yn fawr arno mewn ysgrifenu yn gryno ac yn oleu, yn gystal ag mewn tlysni arddull. Ond gwnaeth Griffìth Jones, trwy ei ysgrifeniadau, wasanaeth anrhaethol i genedl y Cymry, nid oes ond goleuni y farn a ddengys ei faint; trwyddynt gwawriodd cyfnod newydd ar y wlad, yr hon yn flaenorol oedd yn dra amddifad o lenyddiaeth grefyddol boblogaidd. Gwasgarwyd ei Gatecismau yn arbenig o'r naill gwr o'r Dywysogaeth i'r llall; ac anaml y ceid bwthyn yn nghesail y mynyddoedd hebddynt. Yn nygiad allan ei lyfrau, cafodd gymorth sylweddol gan Y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristionogol; yr hyn a'i galluogai i'w gwerthu am bris isel, ac i'w rhoddi yn rhad i'r rhai oeddynt yn rhy dlawd i'w prynu.
Bu Griffith Jones fyw am chwarter canrif wedi cychwyniad y Diwygiad Methodistaidd, ond ni ddarfu iddo fwrw ei goelbren yn gyhoeddus gyda y Diwygwyr. Nis gellir gwybod i sicrwydd pa beth a'i hataliodd. Priodola Williams, Pantycelyn, hyn i dywyllwch ei foreuddydd, a gwendid ei ffydd: —
"Ond am fod ei foreu 'n dywyll,
Ac nad oedd ei ffydd ond gwan,
Fe arswydodd fynd i'r meusydd,
Ac i'r lleoedd nad oedd llan."
Efallai fod yr hyn a ddywed Williams yn wir am ei foreu, ond nid oes arwyddion o ddiffyg gwroldeb na phall ar ffydd i'w canfod yn mywyd yr Efengylydd o Landdowror, gwedi i'w ddydd fyned yn nes yn mlaen. Tebygol fod rhai pethau ynglyn a'r Diwygiad na fedrai eu cymeradwyo yn hollol. Dywed Howell Harris mewn llythyr o'i eiddo, a gafodd ei ysgrifenu yn ol pob tebyg yn y flwyddyn 1743, ddarfod i'r Parch. Griffith Jones, yn y Welsh Piety, weini cerydd caredig i'r Methodistiaid, ond na wnaethai hyny yn ddiachos, gan fod cryn lawer o anrhefn yn eu mysg. Y mae lle i dybio hefyd nad oedd yn cymeradwyo yn gyfangwbl y cyffro a'r gwaeddu oedd yn cydfyned a gweinidogaeth nerthol Daniel Rowland, a bod rhywrai wedi cludo iddo anwireddau am ymddygiadau y y gŵr da hwnw, ac am ei syniadau tuag ato.[37] Mewn llythyr at Rowland, dywed Howell Harris ddarfod iddo ei amddiffyn wrth Grtffith Jones, a'i hysbysu nad oedd wedi ei glywed yn dweyd gair yn isel am G. Jones erioed; ond fel arall yn hollol, ei fod bob amser yn siarad yn barchus am dano, ac am ei waith. Yn mhellach, ei fod yn gwneyd defnydd mawr o'i Gatecism, ac yn anog y bobl i'w brynu.
Tebygol hefyd y barnai Griíììth Jones y gallai wneyd mwy o ddaioni ynglyn ag achos y Gwaredwr trwy beidio ymuno yn gyhoeddus a'r Methodistiaid, gan y byddai hyny yn debyg o greu rhagfarn yn erbyn ei ysgolion ac yn erbyn ei lyfrau. Nid ydym yn sicr nad oedd yn barnu yn gywir. Pa fodd bynag, amlwg yw ei fod mewn cydymdeimlad dwfn a'r Diwygiad, ac yn dymuno Duw yn rhwydd iddo. Disgybl iddo ef, a godasid i fynu wrth ei draed yn yr ysgol yn Llanddowror, oedd Howell Davies; teimlai ddyddordeb dwfn ynddo, a gwnaeth appêl cyhoeddus at y gynulleidfa am weddïo drosto Sabbath ei ordeiniad. Y mae yn bur sicr na ddarfu i Howell Davies droi allan i'r prif-ffyrdd a'r caeau yn Sir Benfro, ac uno yn gyhoeddus a Rowland a Harris, heb ymgynghori a'i hen athraw. A chawn gyfeiriadau mynych at Griffith Jones yn llythyrau Howell Harris.[38] Wele ychydig ddifyniadau: " Cefais y ffafr o ymddiddan am rai oriau a'r anwyl a'r gwerthfawr Mr. Griffith Jones. Y mae yn cynyddu yn rhyfedd. Pa fwyaf wyf yn gyfeillachu ag ef, mwyaf oll yr wyf yn gweled ei werth.[39] Cafodd Mr. Davies a minau tua phum' neu chwech awr o siarad a'r Parch. G. Jones bythefnos i ddoe. Y mae yn llawn zêl, ac yn dyfod agosach agosach wrth glywed llefau yr wyn. Y mae ganddo yn awr yn y wasg esboniad ar yr erthyglau.[40] Pythefnos i foru yr wyf yn gobeithio clywed yr hen filwr ymdrechgar, Mr. Griffith Jones, yr hwn sydd wedi cael ei arddel i chwalu cadarn-leoedd Satan am dros ddeng- mlynedd-ar-hugain, ag sydd o hyd yn dal yn mlaen, ac yn cael ei arddel yn rhyfedd yn ei weinidogaeth." Cawn ef yn adrodd ddarfod iddo tua diwedd y flywddyn 1742 ymweled a Llanddowror, ac aros yno dros Sul y cymundeb, a dywed: "Pan yn derbyn y sacrament yno, yr wyf yn credu na chefais erioed y fath ddatguddiad o fy anwyl Arglwydd, yr hwn er cymaint wyf yn demtio arno, sydd yn parhau i fod yn fwy fwy gwell i mi o ddydd i ddydd." Hawdd gweled natur teimlad Howell Harris at Griffith Jones, ac y mae yn debygol fod teimlad ei holl gydlafurwyr yn gyffelyb. Nid yw yn ymddangos ychwaith ddarfod i Griffith Jones gyfyngu ei weinidogaeth yn gyfangwbl i'r "lleoedd nad oedd llan." Pregethai yn nghapelau yr Arglwyddes Huntington yn Bath a Llundain.[41] Pan ddaeth yr "etholedig arglwyddes " ar daith trwy Gymru yn y flwyddyn 1748, cyfarfu a hi yn Bristol Howell Harris, Daniel Rowland, Howell Davies, a Grifíìth Jones, y rhai a fu yn osgordd iddi trwy holl amser ei harosiad yn y Dywysogaeth. Trafaelent yn araf; ac am fwy na phymtheg niwrnod pregethai dau o'r gweinidogion bob dydd yn y pentref neu y dref drwy yr hon y byddent yn pasio. Pan feddylier pa mor ddysglaer oedd doniau gweinidogaethol Mr. Jones, a pha mor fawr oedd ei barchedigaeth, gallwn fod yn sicr na oddefid iddo fod yn fud ar y cyfryw achlysuron. Yn Sir Aberteifi, ymwelwyd a'r cwmni gan Philip Pugh, Llwynpiod. Wedi taith faith, cyrhaeddasant Trefecca, lle y daeth yn ychwanegol Williams, Pantycelyn; Thomas Jones, Cwm Iau; Thomas Lewis, Aberhonddu; a Lewis Rees ac eraill. Tra yno pregethai y gweinidogion dair neu bedair gwaith y dydd yn yr awyr agored i'r torfeydd lliosog oedd wedi ymgasglu i wrando yr efengyl. Unwaith cafodd Griffith Jones odfa nerthol iawn ar y maes, pan yn pregethu oddiar y geiriau hyny yn Esaiah, "Beth a waeddaf?" Yr oedd y fath ddylanwadau nerthol yn cydfyned a'i genadwri fely dwys- bigwyd llawer, ac y dolefent allan yn y modd mwyaf torcalonus. Wedi i'r cyfarfod derfynu, holai yr Arglwyddes rai o'r cyfryw am yr achos o'u llefau. Atebent hwythau eu bod wedi cael eu hargyhoeddu o'u sefyllfa druenus a'u cyflwr euog gerbron Duw, fel yr ofnent na wnai byth gymeryd trugaredd arnynt. Profa yr hanes hwn y pregethai Griffith Jones mewn lleoedd anghysegredig, ac y cydweithredai weithiau a'r Diwygwyr, er nad oedd wedi ymuno a hwy. Y mae yn eglur fod gwaith Griffith Jones yn cyflenwi y wlad a Beiblau, ac a Chatecismau, a llyfrau crefyddol eraill; a'i waith trwy yr ysgolion yn dysgu y bobl i ddarllen, yr hyn a gerid yn mlaen am chwarter canrif ochr yn ochr ag ymdrechion y Tadau Methodistaidd, yn gefnogaeth o'r fath fwyaf sylweddol i'r Diwygiad. Oni bai am ei lafur ef, y mae yn amheus a fuasai llafur Harris, a hyawdledd Rowland a Howell Davies, wedi gadael effeithiau mor barhaol ar y wlad. Pe aem i olrhain dylanwad y gwahanol offerynau a ddefnyddiodd yr Arglwydd i efengyleiddio Cymru yr adeg hon, braidd na theimlem mai dylanwad yr Efengylwr a'r Addysgydd o Landdowror oedd y dwysaf a'r eangaf. Yr oedd y werin, wedi cael craff ar ddarllen, yn awyddus am ddefnyddio y gallu newydd osddynt wedi feddianu. Hirnos gauaf, yn lle adrodd chwedlau ofergoelus am fwganod a drychiolaethau, ceid y meibion a'r merched yn y ffermdai a'r bwthynod yn darllen Gair Duw goreu y medrent yn uchel; a'r hen bobl yn gwrando yn astud, a'r dagrau yn llanw eu llygaid wrth glywed newyddion mor ogoneddus. Cyfarfyddid i gyd-adrodd ei Gatecism, a llenwid y cymoedd mynyddig a'r pentrefydd gwledig gan swn y rhai oeddynt yn ymgais i'w drysori yn eu cof. O flaen dylanwad dystaw yr addysg Ysgrythyrol, diflanodd y bwganod allan o'r tir, a lle ni chafwyd iddynt mwyach. Yn hollol gywir olrheinia Mr. Johnes darddiad Methodistiaeth yn ol i Griffith Jones, er o bosibl na fwriadai ef ddim o'r fath. Gwna yr un gŵr y sylw canlynol:[42] Fod ychydig o weinidogion duwiol ac ymroddgar yn wendid yn hytrach na chryfder i sefydliad crefyddol, pan y mae y mwyafrif o'r gweinidogion yn ddiofal am eu dyledswyddau cysegredig; am fod zêl yr ychydig yn gwneyd y tywyllwch yn fwy gweledig, ac yn gwneyd y bobl yn fwy annyoddefol o gamwri."
Bu farw Griffith Jones ar yr 8fed o Ebrill, 1761, yn y 78 flwyddyn o'i oed, yn nhŷ Madam Bevan. Yr oedd ei wraig wedi marw beth amser o'i flaen. Bu farw yn ogoneddus, heb ymddiried dim yn ei ymdrechion, ond yn llawn ffydd yn ei Waredwr.[43] Wrth gyfaill a alwasai i'w weled cyffesai ei waeledd a'i ddiffrwythder. Atebodd y cyfaill na ddylasai ddywedyd felly, gan ddarfod iddo fod mor llafurus trwy ei oes, a bod yr Arglwydd wedi gwneyd defnydd mor fawr o hono. Yr oedd y claf yn grwm yn ei wely, ac yn pwyso ei ddwy benelin ar ei benliniau; ond ar hyn ymsythodd, a chan edrych yn myw llygaid y cyfaill, gofynodd, "Beth! a'i cymeryd plaid y gelyn yr ydych?" Wrth gyfaill arall a alwasai i ofyn ei helynt, dywedai, "Rhaid i mi ddwyn tystiolaeth i ddaioni Duw. Yr ydwyf, ie, yn awr, yn rhydd oddiwrth y diffyg anadl yr oeddwn yn ddarostyngedig iddo yn fy ieuenctyd. Nid wyf yn ddall, fel y bum dros dair wythnos yn fy mabandod gan y frech wen; ac nid wyf yn gardottyn dall yn hel fy nhamaid o ddrws i ddrws. Mor rhyfedd yw daioni Duw, gan nad wyf yn teimlo dim poen, ac am fy mod yn debyg o fyned i'r bedd mewn esmwythder. Mor rhyfedd yw trugaredd Duw, fy mod yn gallu canfod yn eglur yr hyn a wnaeth ac a ddyoddefodd Crist drosof fi, ac nad oes genyf yr amheuaeth leiaf am fy ffawd yn fy Achubwr Hollalluog." Yna aeth yn mlaen i folianu, "Bendigedig fyddo Duw! Y mae ei ddiddanwch yn llenwi fy enaid!" Dywed Mr. Charles fod ei gladdedigaeth yn dra galarus, a bod lluoedd o bobl dlodion, trwy eu gwynebau gwlybion a'u dagrau heilltion, yn tystiolaethu eu cariad a'u tristwch, o herwydd colli gŵr mor rhagorol
Er gwneyd pob ymchwiliad, methwyd a dod o hyd i ddarlun Griffith Jones. Hysbysir ni gan bobl ag y disgwylid eu bod yn gwybod nad oes yr un ar gael, . ac nad oes lle i feddwl ddarfod i ddarlun o hono gael ei gymeryd erioed. Nid oes darlun ar gael ychwaith o Madam Bevan. Gan i ni fethu darganfod unrhyw ddarlun o hono, a bod y persondy yn ymyl yr eglwys lle y trigai yn gyd-wastad a'r ddaear, nid oes genym ond rhoddi i'n darllenwyr ddarluniau o bentref Llanddowror, yr eglwys, a'r maen coffadwriaethol sydd uwchben ei fedd.
Yn ei ewyllys gadawodd yr oll a feddai, sef tua saith mil o bunoedd, i Madam Bevan, mewn ymddiriedaeth, i'w defnyddio at wasanaeth yr Ysgolion Cylchynol.[44] Bu hi fyw am ddeunaw mlynedd yn mhellach, sef hyd 1778, a thrwy ystod ei hoes gofalodd am ysgolion Griffith Jones. Cyn ei marw gadawodd dair mil o bunoedd ychwanegol yn ei hewyllys at yr un amcan, fal yr oedd yr holl swm yn ddeng mil Ond ceisiodd y Gymunweinyddes, yr Arglwyddes Stepney, feddianu yr arian fel—————————————
METHODISTIAID LLOEGR
(a fuont yn llafurio yn Nghymru)
1 Parch John Wesley MA
2 Parch Charles Wesley MA
3 Iarlles Huntingdon
4 Parch George Whitefield
5 Parch John Fletcher Prif Athraw Athrofa Trefecca
6 Parch Joseph Benson Ail Athraw Athrofa Trefecca
—————————————
—————————————
Llanddowror
—————————————
eiddo personol; ac mewn canlyniad cauwyd yr ysgolion, a thaflwyd yr holl achos i'r Canghell-lys. Yno yr arhosodd yr arian hyd y flwyddyn 1808, pan yr oeddynt wedi cynyddu i ddeng-mil-ar-hugain. Gwnaed trefniant y pryd hwnw i ail agor yr ysgolion, ond ar gynllun hollol wahanol i eiddo Griffith Jones a Madam Bevan; daeth yr oll yn gysylltiedig ag Eglwys Loegr, a chauid pawb allan o honynt ond y rhai oeddynt yn mynychu y llan. Felly ychydig a fu eu defnydd i genedl y Cymry. Gadawn Griffith Jones a'i hanes godidog trwy ddifynu rhanau o'i farwnad ardderchog gan Williams, Pantycelyn: —
"Dacw'r Beiblau têg a hyfryd,
Ddeg-ar-hugain filoedd llawn,
Wedi 'u trefnu i ddod allan,
Trwy ei ddwylaw'n rhyfedd iawn;
Dau argraffiad, glân ddiwygiad,
Llawn ac uchel bris i'r gwan;
Mewn cabanau fe geir Beiblau
'Nawr gan dlodion yn mhob man.
Hi, Ragluniaeth ddyrys, helaeth,
Wna bob peth yn gydsain llawn,
D'wed nad gwiw argraffu Beiblau
Heb eu darllen hwy yn iawn;
Daeth yn union ag ysgolion,
O Werddon fôr i Hafren draw;
Rhwng y defaid mae'r bugeiliaid
'Nawr a'r 'Sgrythyr yn eu llaw.
Tair o filoedd o ysgolion
Gawd yn Nghymru faith a mwy,
Chwech ugain mil o ysgolheigion
Fu, a rhagor, ynddynt hwy;
Y goleuni ga'dd ei enyn
O Rheidol wyllt i Hafren hir,
Tros Blumlumon faith yn union
T'wynodd ar y Gogledd dir.
Braidd ca'dd plwyf nac ardal ddianc
Heb gael iddo gynyg rhad,
O fanteision ddysgai'n union
Iddynt ddarllen iaith eu gwlad.
Dyma'r gwr a dorodd allan
Ronyn bach cyn tori'r wawr;
Had fe hauodd, fe eginodd,
Fe ddaeth yn gynhauaf mawr;
Daeth o'i ol fedelwyr lawer,
Braf, mor ffrwythlawn y mae'r ŷd!
'Nawr mae'r wyntyll gref a'r gogr
Yn ei nithio'r hyd y byd.
Griffìth Jones gynt oedd ei enw,
Enw newydd sy' arno'n awr,
Mewn llyth'renau na ddeallir
Ei 'sgrifenu ar y llawr;
Cân, bydd lawen, aros yna,
Os yw Duw, o entrych ne',
Yn gwel'd eisiau prints, a dysgu,
Fe fyn rywun yn dy le."
PENOD III
Y DIWYGIAD METHODISTAIDD YN LLOEGR
Nad deilliad o Fethodistiaeth Lloegr yw Methodistiaeth Cymru—Cychwyniad y symudiad yn Rhydychain—"y Clwb Sanctaidd"—John a Charles Wesley—John Cambold, y Cymro—Manylwch rheolau a hunanymwadiad aelodau y "Clwb Sanctaidd"—Y symudiad yn un Sacramentaraidd ac Ucheleglwysyddol—Dylanwad y Morafiaid ar John Wesley,—Wesley yn ymwrthod a Chalfiniaeth—Yr yymraniad rhwng Wesley a Whitefield—Y ddau yn cael eu cymodi trwy offerynoliaeth Howell Harris.
NID oedd un cysylltiad allanol a gweledig rhwng cychwyniad y Diwygiad Methodistaidd yn Nghymru a'r Diwygiad yn Lloegr. Nid gwreichion o'r tân oedd wedi dechreu cyneu yn Rhydychain a gafodd eu cario gyda'r awel i Langeitho a Threfecca, gan enyn calonau Daniel Rowland a Howell Harris, fel y darfu i rai haeru mewn anwybodaeth. Daeth tân Duw i lawr i Gymru yn uniongyrchol o'r nefoedd; ac yr oedd Rowland a Harris wedi bod yn llafurio am agos i ddwy flynedd, ac wedi cynyrchu effeithiau rhyfeddol trwy eu gweinidogaeth, cyn iddynt glywed gair am yr hyn oedd yn cymeryd lle yr ochr hwnt i'r Hafren. Ond yr ydym yn galw sylw at y Diwygwyr Saesneg, oblegyd yr undeb agos a fu rhyngddynt am gryn dymor a ni fel corff o bobl. Oddiwrthynt hwy y derbyniodd y Cyfundeb ei enw. Bu amryw o honynt droiau ar daith trwy y Dywysogaeth , yn pregethu yr efengyl, a bu gweinidogaeth y ddau Wesley, ac yn arbenig eiddo Whitefield, yn nodedig o fendithiol. Am dymhor, edrychid ar ganlynwyr Whitefield a Cennick yn Lloegr, a chanlynwyr Rowland a Harris yn Nghymru, fel yn ffurfio un cyfundeb. Whitefield a lywyddai yn y Gymdeithasfa gyntaf yn Watford, a gwnaeth lawn cymaint a Rowland a Harris i roddi ffurf i'r Diwygiad. Cawn ef mewn amryw o'r Cymdeithasfaoedd dilynol, a phan yn bresenol efe fyddai yn ddieithriad yn y gadair. Edrychid arno fel un o'r arweinwyr. Byddai Harris a Rowland, ac eraill o bregethwyr Cymru, drachefn yn myned i Loegr, ac i'r Tabernacl yn Llundain, gan aros yno weithiau am wythnosau i weinidogaethu; a byddent, hyd y medrent, yn presenoli eu hunain yn y Cymdeithasfaoedd a gynhelid yno, ac yn cymeryd rhan ynddynt. Tebygol mai anhawsder yr iaith, ac anghyfleustra teithio, a barodd i'r Diwygwyr Cymreig ymddieithrio yn raddol oddiwrth eu brodyr yr ochr arall i Glawdd Offa.
Gellir olrhain dechreuad Methodistiaeth Lloegr i waith nifer o ddynion ieuainc yn Rhydychain yn ymuno a'u gilydd i ddarllen y Testament Groeg. Cymerodd hyn le yn Nhachwedd y flwyddyn 1729. Nid hawdd dweyd pa nifer a gyfenwid yn Fethodistiaid, ac a ystyrid yn aelodau o'r " Clwb Sanctaidd," fel yr oedd yn cael ei alw, gan yr amrywiai y rhif ar wahanol amserau. Ond yr oedd yn eu mysg y rhai canlynol: John Wesley, Charles Wesley, ei frawd, Robert Kirkham, William Morgan, George Whitefield, John Clayton, J. Broughton, Benjamin Ingham, James Hervey, John Gambold, Charles Kinchin, William Smith, ac eraill. Nid arhosodd y rhai hyn oll ynghyd; bu dadleuon poethion a chwerwder yspryd nid bychan yn eu mysg; a chawn rai yn cymeryd y cyfeiriad hwn, ac eraill y cyfeiriad arall; ond yr oeddynt oll yn mron yn ddynion difrifol, ac yn llawn awyddfryd am wasanaethu y Gwaredwr. Glynodd rhai wrth yr Eglwys Sefydledig, a chymerasant fywioliaethau o'i mewn; ymunodd eraill a'r Eglwys Forafaidd, lle y cyrhaeddasant safle uchel; cawn eraill drachefn yn ffurfio cyfundebau crefyddol newyddion, ac yn dyfod yn ben arnynt. Ond, fel y sylwa Tyerman, byddai yn anhawdd i'r byd ddangos cwmni o ddynion, ag y darfu eu bywyd a'u gweinidogaeth, dan fendith y nefoedd, fod o gymaint lles i ddynolryw, ag eiddo y rhai a elwid yn Fethodistiaid Rhydychain. Fel yr afonydd
a lifai allan o Eden, er tarddu o'r un fangre,cymerasant wahanol gyfeiriadau, ond gwnaethant yr ardaloedd trwy ba rai y ífrydient yn ffrwyth- lawn ac yn iach, a hyfrydwch nid bychan i'r hanesydd crefyddol ei yspryd ydyw olrhain eu dylanwad.
Bywyd ac enaid y "Clwb Sanctaidd" yn ddiau oedd John Wesley. Yn aml fe briodolir cychwyniad y mudiad hwn iddo ef; ond nid yw hyny yn gywir. Perthyna yr anrhydedd i Charles Wesley a William Morgan, a chymerodd hyn le pan yr oedd John Wesley wedi gadael Rhydychain er mwyn gwasanaethu ei dad fel cuwrad. Pan ddychwelodd yn ol yn mhen amser, a chael fod y mudiad yn gydnaws a'i feddwl, taflodd holl frwdfrydedd ei natur iddo; ac yn y man disgynodd arweiniad y blaid newydd yn hollol naturiol i ddwylaw John Wesley. Cawsai ei ddwyn i fynu tan ddisgyblaeth lem; er fod ei dad yn ficer Epworth, ac yn ddyn tra rhagorol, yr oedd ei fam yn hynotach am ei synwyr cryf a'i duwioldeb personol; ac nid ymryddhaodd John oddiwrth ddylanwad ei fam tra y bu byw. Yr oedd yntau yn ddyn o yni a bywiogrwydd diderfyn; perchenogai ewyllys gref, anhyblyg; meddai lygad barcud i adnabod ei gyfleusterau, a chyflymder dirfawr i fanteisio arnynt. Mae yn amheus a anwyd i'r byd ragorach trefniedydd; gwnaethai gadfridog digyffelyb pe y cymerasai gyfeiriad milwraidd; gwnaethai ail Napoleon neu ail Wellington. Nid oedd yn athronydd dwfn, ac nid oedd ei ddirnadaeth o wirioneddau mawrion y Beibl yn eu cysondeb a'u gilydd mewn un modd yn eang. Bu am ran fawr o'i oes yn sigledig yn ei olygiadau duwinyddol, weithiau yn Uchel-eglwysyddol, bryd arall yn tueddu at y Morafiaid, ac yn cael ei ddylanwadu yn fawr ganddynt; ond am y rhan olaf o'i fywyd, yr oedd yn fath o Arminiad efengylaidd. Llafuriodd yn galed; teithiodd a phregethodd am oes faith yn ddidor; a chyn iddo farw, cafodd weled y Cyfundeb Wesleyaidd, a sylfaenwyd ganddo, wedi gwasgar ei gangau tros yr holl fyd adnabyddus. Charles Wesley, ei frawd, oedd emynydd y Cyfundeb Wesleyaidd, er i John gyfansoddi rhai emynau tra rhagorol, y rhai a genir ac a ystyrir yn safonol hyd heddyw, Dyn siriol a charedig oedd Charles Wesley, llai galluog na John; ac fel math o is-filwriad i'w frawd mwy penderfynol, yn ei gynorthwyo gyda ei drefniadau, ac yn cario allan ei gynlluniau, y treuliodd ei oes. Pregethwr y Diwygiad Saesneg oedd George Whitefield, Ni ymunodd ef a'r " Clwb Sanctaiddd " hyd ar ol rhai blynyddoedd gwedi ei sefydliad. Oblegyd tlodi amgylchiadau, math o Wasanaeth efrydydd (servitor) oedd yn y Brifysgol; cynhallai ei hun yno yn benaf a'r arian a dderbyniai am weini ar blant boneddigion a dynion arianog. Felly edrychai i fynu at y ddau Wesley, y rhai oeddynt feibion clerigwr. Er ei fod o dueddfryd grefyddol, ac wedi dechreu gweddio a chanu Salmau wrtho ei hun yn ddyddiol, ofnai anturio at y Methodistiaid; ond trwy ryw ddigwyddiad rhagluniaethol, daeth i gydnabyddiaeth a Charles Wesley, ac ar unwaith bwriodd ei goelbren yn eu mysg. Dyn yn berwi trosodd o natur dda oedd Whitefield; nis gallai oddef ymrafaelion a dadleuon, er iddo gael ei orfodi i gymeryd rhan mewn llawer o'r cyfryw; yr oedd yn llawer mwy heddychol a hynaws na John Wesley, ac yn gant mwy caredig a rhyddfrydig. O'r holl Ddiwygwyr Saesneg, nid oedd neb i' w gymharu ag efe am ddysgleirdeb doniau gweinidogaethol; dylanwadai yn gyffelyb ar y dysgedig a'r annysgedig; toddai y glowyr o gwmpas Bryste, a'r mob ar y Moorfields yn Llundain, ac ar yr un pryd swynai a gorchfygai a'i hyawdledd llifeiriol Hume yr anffyddiwr, nad oedd yn credu gair o'r athrawiaeth a bregethid ganddo. A phregethwr ydoedd. I bregethu yr efengyl y credai ef ei hun ei fod wedi cael ei alw. Nid oedd yn amddifad o allu trefniadol, er nad oedd i'w gystadlu yn hyn o beth a'i gyfaill John Wesley, a chawn ef fwy nag unwaith yn gadeirydd y Gymdeithasfa yn Nghymru. Ond diystyrai drefniadaeth, tybiai fod eraill yn gymhwysach nag ef at y cyfryw waith, a dywedai yn bendant mai i argyhoeddi yr annuwiol yr oedd ef wedi ei gymhwyso. Felly manteisiodd Wesleyaeth yn Lloegr yn ddirfawr ar ei lafur. Pe buasai wedi amcanu ffurfio cyfundeb, ac ymroddi i hyny, buasai ei ganlynwyr yn lluosog yn Lloegr ac America. Teithiodd yntau lawer; teimlai hoffder mawr at Gymru, a Chymraes, o ymyl y Fenni, oedd ei wraig. Bu saith o weithiau trosodd yn yr America, ac yno y cafodd fedd; a bu yn offeryn i argyhoeddi canoedd o bechaduriaid. Adnabyddir ei ddilynwyr yn Lloegr fel Cyfundeb iarlles Huntington.
Cymro oedd John Gambold, yr unig un o holl aelodau y "Clwb Sanctaidd" y mae sicrwydd ei fod yn Gymro. Nid annhebyg hefyd mai Cymro oedd William Morgan, er mai ger Dublin y ganwyd ef. Y mae ei enw yn Gymreig, a gwyddis i amryw deuluoedd o Gymru ymfudo i'r Iwerddon tuag amser y chwildroad. Ganwyd John Gambold yn Puncheston, swydd Benfro, Ebrill 10, 1711, ac yr oedd ei dad yn offeiriad yn yr Eglwys Sefydledig. Cyfyng oedd ei amgylchiadau, oblegyd gwasanaeth—efrydydd (servitor) oedd yn Rhydychain. Yr oedd o duedd fywiog a siriol; fel y rhan fwyaf o'r Cymry, ymhoffai mewn barddoniaeth, a dywedir y treuliai lawer o'i amser i efrydu gweithiau y prif feirdd Saesneg, ynghyd ac eiddo y prif chwareu—ganwyr (dramatists). Yn mhen dwy flynedd wedi iddo fyned i Rydychain, bu ei dad farw, a darfu i'r amgylchiad, ynghyd a chynghorion a rhybuddion ei dad ar ei wely angau ei ddifrifoli, a pheri iddo wneyd iachawdwriaeth ei enaid yn brif bwnc ei fywyd. Ond bu am amser dan argyhoeddiadau dwysion, ac heb gael golwg ar drefn yr efengyl. Dywed iddo fod am ddwy flynedd mewn pruddglwyfni dwfn, a darfod i'r Arglwydd, er plygu ei yspryd balch, wneyd y byd yn chwerw iddo. " Nid oedd genyf neb," meddai, "i ba un y gallwn agor fy mynwes, na neb yn gofalu am fy enaid. Yr oeddynt hwy yn esmwyth arnynt, ac nis gallent ddirnad am beth yr oeddwn i yn gofidio. "Yn rhagluniaethol, pa fodd bynag, daeth i gyffyrddiad a'r ddau Wesley, ac ymunodd a'r Methodistiaid dirmygedig. Ordeiniwyd ef gan Esgob Rhydychain, Medi 1733, ac mor fuan ag y daeth yn alluog i ddal bywioliaeth, cafodd ficeriaeth Stanton-Harcourt. Yn y pentref gwledig hwn, heb fod nepell o Rydychain, y treuliodd saith mlynedd o'i oes mewn neillduaeth, yn myfyrio ar gwestiynau athronyddol a duwinyddol dwfn, ac yn pregethu yn mhell uwchlaw amgyffredion ei wrandawyr syml. Ond fel John Wesley ei hun, daeth dan ddylanwad y Morafiaid, a chyfnewidiodd o ran ei farn gyda golwg ar rai o wirioneddau yr efengyl; taflodd ei athroniaeth i'r gwynt, a daeth yn gredadyn syml yn y Gwaredwr. Yn y flwyddyn 1742, gadawodd gymundeb Eglwys Loegr, ac ymunodd a'r Morafiaid, a chyda hwy y treuliodd weddill ei oes, ysbaid o naw-mlynedd-ar-hugain. Yn bur fuan gwnaed ef yn esgob ganddynt. Tua dwy flynedd cyn ei farw, oblegyd ei afiechyd, daeth i wasanaethu eglwys y Morafiaid yn Hwlffordd, yn y gobaith y byddai i awyr ei wlad enedigol brofi yn llesiol iddo. Ond suddo yn raddol a wnaeth. Hunodd Medi, 1771, a chladdwyd ef yn mynwent yr eglwys Forafaidd yn Hwlffordd.
Yr oedd John Gambold yn ddyn o ddiwylliant helaeth, ac yn llenor gwych. Cyfansoddodd amrai lyfrau, yn benaf er amddiffyn y cyfundeb i ba un y perthynai; a chyhoeddodd ddwy o'i bregethau. Ond rhagorai fel emynydd. Efe a olygai lyfr hymnau y Morafiaid yn Lloegr, a chredir fod nifer mawr o'r emynau a gynwysa wedi eu cyfansoddi ganddo. Yr oedd yn nodedig am ei dduwiolfrydedd, ac am hynawsedd ei yspryd. Tra y methai John Wesley gyd-ddwyn a gormes a haerllugrwydd Zinzendorf, penaeth y Morafiaid, bu Gambold yn llafurio yn y cyfundeb hwnw am y rhan olaf o'i oes mewn pob brawdgarwch. Ac yr un pryd nid oedd yn amddifad o asgwrn cefn; gallai aberthu pob peth er mwyn egwyddor. Pan y gadawodd yr Eglwys Sefydledig, i bob ymddangosiad wynebai ar dlodi; oblegyd nid oedd ond triugain a deuddeg o Forafiaid y pryd hwnw yn holl Lundain. Teimlodd yn ddwys oblegyd y cyfeiriad a gymerodd y ddau Wesley, a darfyddodd ei gyfeillgarwch a hwy yn hollol; yn wir, dywedodd wrth John fod arno gywilydd bod yn ei gymdeithas. Er hyn oll, parchai John Wesley ef yn ddirfawr, ac ychydig amser cyn ei farw, dywedai mai efe oedd un o'r dynion callaf a mwyaf pwyllog yn Lloegr. Gall Cymru ymfalchïo yn yr Esgob Gambold.
Rhaid i'n sylwadau ar y gweddill o aelodau y "Clwb Sanctaidd" fod yn fyr. Disgynai Benjamin Ingham oddiwrth un o weinidogion Eglwys Loegr a drowyd allan yn 1662 am wrthod cydffurfìo. Pan yn ddwy-ar- hugain oed, bwriodd ei goelbren gyda'r Methodistiaid yn Rhydychain. Ymunodd yntau a'r eglwys Forafaidd, ac ni adawodd ei chymundeb pan y trodd y ddau Wesley eu cefnau. Llafuriodd yn benaf yn swydd Gaerefrog (Yorkshire). Pregethai gyda nerth; dylifai y bobl wrth y miloedd i'w wrando, achubwyd llawer trwy ei weinidogaeth, a sefydlodd eglwysi Morafaidd trwy y wlad. Cyn diwedd ei oes, cefnodd ar y Morafiaid, a sefydlodd gyfundeb o'i eiddo ei hun. o herwydd ymrysonau tumewnol, yr oedd wedi dyfod i'r dim agos cyn i Ingham farw; ac yn y diwedd ymunodd yr ychydig eglwysi a'i cyfansoddent a'r Annibynwyr Ysgotaidd. Arosodd James Hervey, un arall o enwogion y "Clwb Sanctaidd," yn yr Eglwys sefydledig. Yr oedd yn ddyn o diwylliant uchel, ac yn llenor coeth, a thrwy ei ysgrifeniadau gwnaeth lawer er dyfnhau gafael crefydd efengylaidd ar y dosparthiadau uchaf. Am John Clayton, arosodd yntau hefyd yn Eglwys Loegr, ac yn Ucheleglwyswr defodol y parhaodd hyd ddiwedd ei oes.
Yr ydym wedi nodi ddarfod i Fethodistiaeth Rhydychain gychwyn yn nghynulliad nifer o ddynion ieuainc yn darllen y Testament Groeg. Ond yn bur fuan daeth yn gyfeillach grefyddol. Dechreuasant gyd-weddïo, a chyd-gynllunio pa fodd i lesoli eu cyd-ddynion. Penderfynasant ymrthod a danteithion bywyd, gan fwyta yn unig yr hyn oedd yn angenrheidiol i gynal natur. Ymwrthodent a thê, a chwrw, ac i raddau mawr a chigfwyd, fel y byddai ganddynt beth i'w gyfranu mewn elusen i'r tlodion. Nid gorchwyl hawdd oedd hyn i rai, oblegyd cawn un o honynt ychydig yn flaenorol, mewn llythyr at John Wesley, yn darlunio gydag asbri rhyfeddol fel yr oedd wedi mwynhau dysglaid o gig llô a bacwn, gyda baril o seidir newydd ei thapio. Tynasant allan reolau manwl pa fodd i ymddwyn yn ddyddiol ac yn wythnosol Yn ol y rhai hyn yr oeddynt i dreulio dwy awr bob dydd mewn gweddi, i weddïo wrth fyned i'r eglwys a dyfod o honi, ac i weddïo ar wahan am awr dri diwrnod o'r wythnos ar yr un adeg, fel y byddai cyd-gymundeb rhyngddynt. Yr oeddynt yn mhellach i godi yn foreu, i dreulio awr bob dydd mewn siarad a dynion yn uniongyrchol am bethau crefydd, i wneyd eu goreu i rwystro drwg, ac hyd ag oedd ynddynt i berswadio pawb i bresenoli eu hunain yn yr addoliad cyhoeddus. Amlwg fod y dynion ieuainc a'u heneidiau yn llosgi o'u mewn gan awydd gwneyd daioni. Yr oeddynt wedi eu llenwi a difrifwch ofnadwy. Rhybuddient eu cyd-efrydwyr annuwiol a llygredig eu moesau am fater eu henaid; ymwelent a theuluoedd isel y ddinas, gan daranu yn erbyn anwiredd; cyfranent yr oll a feddent mewn elusenau, ac ymwelent a'r tlottai a'r carchardai, gan gynghori pawb i ymdrechu am fywyd tragywyddol. Dywed John Gambold yr arferent gyfarfod bob hwyr, yn gyffredin yn ystafell John Wesley, er adolygu gweithrediadau pob un yn ystod y dydd, a gwneyd trefniadau ar gyfer y dydd dilynol. Cynwysai y trefniant ymddiddan difrifol ag efrydwyr y Brifysgol, ymweliadau a'r carcharau, addysgiant teuluoedd tlodion, ymweled a'r tlotty, a gofal am yr ysgol a osodasid i fynu ganddynt. Gyda golwg ar yr ysgol, cawsai ei sefydlu gan John Wesley; efe a dalai y feistres, a chan mwyaf a ddilladai y plant. Fel engrhaifft o'u helusengarwch gellir nodi y ffaith ganlynol Un diwrnod oer yn y gauaf, galwodd crotes dlawd ar John Wesley. Yr oedd ei gŵn yn deneu, a hithau yn mron sythu gan anwyd, Gofynodd iddi, "Ai nid oes genych gynhesach gŵn na'r un sydd am danoch? " Atebai yr eneth, "Syr, dyma yr oll sydd genyf." Rhoddodd Wesley ei law yn ei logell er ei chynorth wyo, ond yr oedd agos a bod yn wag. Ond yr oedd muriau ei ystafell yn orchuddiedig gan ddarluniau, a throdd y rhai hyn yn gyhuddwyr iddo. Gwaeddodd yn uchel, "O Gyfiawnder! O Drugaredd! Ai nid yw y rhai yma yn werth gwaed yr eneth dlawd hon? "Gwerthodd hwy oll, a dilladodd y ferch. Nid yn fynych y cair engrhaifît o'r fath gydwybodolrwydd. Yn ychwanegol, cyfranogent o'r cymun bendigaid yn wythnosol, ac aent yn orymdaith i Eglwys Crist i'r pwrpas. Pan gofiom pa mor llygredig oedd Rhydychain yr adeg hon, y modd yr oedd drwg yn cael ei ystyried yn ffasiynol, ac anffyddiaeth ronc yn cael ei phroffesu gan lawer yn gyhoeddus, hawdd deall ddarfod i Wesley a'i gwmni ar unwaith ddyfod yn wrthrychau sylw. Cyfeirid atynt yn gyhoeddus. Gwaradwyddid hwy yn mhob modd. Dihysbyddwyd ystorfeydd yr iaith Saesneg er cael enwau digon dirmygus i'w gwarthruddo. Gelwid hwy y "Clwb Sanctaidd," y " Clwb Duwiol," ac yn ddiweddaf yn "Fethodistiaid," gyda chyfeiriad at ddosparth o feddygon, nodedig o drefnus eu harferion, a fuasai yn bodoli gynt. Glynodd yr enw diweddaf wrthynt. Ond nid oedd y frawdoliaeth fechan yn gofalu am ddirmyg y Brifysgol; aethant yn mlaen yn ol argyhoeddiadau eu cydwybod; mabwysiadasant yr enw a roddasid arnynt mewn cellwair, ac yn raddol daeth yn enw o anrhydedd.
Ar yr un pryd rhaid addef fod y Methodistiaid yr adeg hon yn mron yn hollol anwybodus am rai o athrawiaethau mwyaf hanfodol crefydd efengylaidd. Ni wyddent ddim am gyfiawnhad trwy ffydd, a gwaith yr Ysbryd Glân. Y gwir yw fod y symudiad ar y cyntaf yn un hollol ddefodol a sacramentaraidd, lawn cymaint felly a'r symuidiad Tractaraidd a gychwynwyd yn yr un lle gan Pusey a Newman ryw haner can' mlynedd yn ol. Ni fu Pharisead erioed yn fwy manwl a gofalus am ei phylacterau a defodau ei grefydd, nag yr oedd Methodistiaid Rhydychain am y gwisgoedd offeiriadol, a ffurfiau a defodau Eglwys Loegr. Dalient yr athrawiaeth am bresenoldeb gwirioneddol Crist yn y sacrament, ac edrychent ar y cymun bendigaid fel aberth. Cadwent yn ofalus holl ddyddiau y saint. Sancteiddient y Sadwrn a'r Sul; y cyntaf fel y Sabboth, a'r olaf fel Dydd yr Arglwydd. Ymprydient yn fynych; trwy holl amser y Garawys ni phrofent gig oddigerth ar y Sadwrn a'r Sul; a chadwent bob dydd Mercher a dydd Gwener fel dydd o ympryd, gan ymgadw rhag archwaethu unrhyw fwyd hyd ar ol tri yn y prydnhawn. Credent mewn penydiau, ac hefyd yn y gyffesgell. Llithrasant i'r cyfeilorniad Pabyddol, y Dylid cymysgu dwfr gyda'r gwin sacramentaidd, am i ddwfr yn gystal a gwaed ddyfod allan o gorff ein Harglwydd pan drywanwyd ef a'r bicell gan y milwr; a chawn John Clayton yn ysgrifenu at Wesley mewn gradd o betrusder, gyda golwg ar y priodoldeb o gymuno pan na chymysgid dwfr gyda'r gwin. Yr oeddynt yn llawn o athrawiaeth yr olyniaeth apostolaidd. Y fath oedd gwrthnaws John Wesley at bob peth y tu allan i gylch Eglwys Loegr, a'i ddirmyg o Ymneillduaeth, fel y gwarafunodd i John Martin Bolzius, un o ddynion duwiolaf ei oes, gyfranogi o'r sacrament am nad oedd wedi cael ei fedyddio gan glerigwr perthynol i'r Eglwys Sefydledig. Nid rhyfedd ei fod yn cywilyddio oblegyd ei gulni mewn blynyddoedd diweddarach. Pan yn Savannah edrychid arno fel Pabydd; a dywed ei fywgraffydd ei fod yn Buseyad gan' mlynedd cyn i Pusey gael ei eni. Bwriadodd yn ddifrifol sefydlu cymdeithas uchel-eglwysig a sacramentaraidd, yn mha un y cedwid yn fanwl yr holl ddefodau haner Pabyddol y ceir unrhyw sail iddynt yn y rubric, ac y gofelid am sancteiddio dyddiau y saint, a'r gwyliau, ynghyd a phob peth a berthyn i ddefodaeth eithafol Ond yr oedd gan yr Arglwydd fwriadau gwahanol gyda golwg ar y Methodistiaid. Gan eu bod yn hollol ddifrifol, ac yn gweithredu yn gydwybodol yn ol y goleuni oedd ganddynt, arweiniodd Duw hwy oddi amgylch i beri iddynt ddeall, ac yn y diwedd dygwyd hwy i oleuni chr yr efengyl Cymerodd hyn le mewn cysylltiad a John Wesley ei hun trwy offerynoliaeth un Peter Bohler, gweinidog perthynol i'r Morafiaid, tua dechreu y flwyddyn 1738. Barnai ef ei hunan ei fod yn flaenorol i hyny yn ddyn annuwiol. Eglurodd Peter Bohler iddo natur ffydd yn Nghrist, ynghyd a'r effeithiau a'i dilynant. "Rhaid i chwi daflu eich athroniaeth dros y bwrdd," meddai y Morafiad wrtho; gwrandawodd yntau, a thros y bwrdd y cafodd fyned. O hyny allan yr oedd yn gredadyn, yn pwyso ar iawn y Gwaredwr am gymeradwyaeth, gan waeddu fel Paul: "Ac a'm cair ynddo ef heb fy nghyfiawnder fy hun, yr hwn sydd o'r gyfraith." Heb fod yn hir dygwyd y rhan fwyaf o'i gyfeillion gynt i ryddid yr efengyl fel yntau. Yn wir y mae yn amheus a fu Whitefield yn ddefodwr eithafol o gwbl.
Gellir edrych ar Fethodistiaeth Rhydychain fel yn parhau o 1729 hyd 1735. Yn y flwyddyn a nodwyd ddiweddaf ymwahanodd y frawdoliaeth, ac ni ail-unwyd hi yn hollol byth. Croesodd John Wesley i drefedigaeth Georgia yn yr 'America, yn y bwriad o efengyleiddio yr Indiaid, lle yr arosodd tua dwy flynedd, ac aeth ei frawd, Charles, a Benjamin Ingham allan gydag ef. Gadawsai Whitefield Rydychain yn flaenorol oblegyd fod ei iechyd wedi tori i lawr. Yr oedd John Clayton wedi ymsefydlu yn Manchester, a John Gambold yn Stanton-Harcourt. Nid oedd yr ychydig a weddillasid ond gweiniaid a dinerth. Felly dychwelodd y Brifysgol at ei hen lygredigaethau heb fod neb i aflonyddu ar ei heddwch, a phan aeth Howell Harris yno, Tachwedd, 1735, ni chlywodd sôn am y "Clwb Sanctaidd," ac ni welodd dim ond drygioni wedi cael y fath raff nes yr oedd ei yspryd yn merwino o'i fewn. Pan ddychwelai John Wesley o Georgia, yr oedd Whitefield ar yr un adeg yn myned allan i'r un drefedigaeth. Yn y flwyddyn 1740, cyhoeddodd John Wesley bregeth dan y teitl "Rhad ras," seiliedig ar Rhuf. viii. 32, yn yr hon yr ymosodai ar yr athrawiaeth Galfinaidd am etholedigaeth gras. Ynglyn a'r bregeth yr oedd emyn o gyfansoddiad ei frawd, Charles, yn dysgu prynedigaeth gyffredinol. Clywodd Whitefield am y bregeth cyn ei chyhoeddi, ac ysgrifenodd yn ddioed at ei hen gyfaill i wrthdystio, gan grefu arno am beidio ei hargraffu, onide yr arweiniai i ymraniad. "Y fath lawenydd gan elynion ein Harglwydd," meddai, "fyddai ein gweled wedi ymranu." Trachefn dywed, "Anwyl ac anrhydeddus Syr, os oes genych unrhyw ofal am heddwch yr eglwys, cadwch yn ol eich pregeth ar ragarfaethiad. Y mae fy nghalon yn toddi fel cwyr o fewn fy nghorff. Golchwn eich traed yn ewyllysgar. O gweddïwch na byddo unrhyw ymddyeithriad mewn serch rhyngoch chwi, anrhydeddus Syr, a mi, eich mab a'ch gwas annheilwng yn Nghrist."Mewn llythyr arall, awgryma i Wesley ar iddynt barhau i gynyg iachawdwriaeth trwy waed yr Arglwydd Iesu i bawb, a pheidio sôn yn gyhoeddus am y materion ynghylch pa rai yr anghytunent. Yr oedd enaid Whitefield yn gythryblus o'i fewn yn y rhagolwg ar ymraniad. Tua dechreu Mehefin yr un flwyddyn, ysgrifena at James Hutton, "Er mwyn Crist, dymunwch ar y brawd anwyl Wesley i beidio ymddadleu a mi. Yr wyf yn meddwl y byddai yn well genyf farw na gweled ymwahaniad yn ein plith; ac eto pa fodd y gallwn rodio ynghyd os byddwn yn gwrthwynebu ein gilydd? "Teimlai Howell Harris yn Nghymru yr un mor angerddol, ac ysgrifenodd yntau lythyr cryf at Wesley. Meddai, "Hysbysir fi i chwi droi dyn allan o'r seiat, gan rhybuddio pawb i wylio rhagddo, am ei fod yn credu mewn etholedigaeth. Fy anwyl frawd, peidiwch ymddwyn yn ol yr yspryd ystiff angharedig, a gondemniwch mewn eraill. Os ydych yn ei droi ef allan oddiwrth y Methodistiaid am y fath achos, rhaid i chwi hefyd droi allan y brawd Whitefield, y brawd Seward, a minau. Gobeithiaf y caf ddal hyd fy anadliad olaf a'r diferyn diweddaf o'm gwaed, mai o herwydd gras arbenig, wahaniaethol, ac anorchfygol, y cedwir y rhai a gedwir. O na wnaech adael y mater yn llonydd hyd nes y byddo Duw yn goleuo eich meddwl. Pa fwyaf wyf yn ysgrifenu mwyaf oll yr wyf yn eich caru." Gwelir fod Harris, fel Whitefield, yn ysgrifenu yn gyffrous, ond fod anwyldeb personol cryf at Wesley yn treiddio trwy bob brawddeg, ac mai gorfodaeth, oblegyd cydwybod i'r hyn a ystyrient yn wirionedd Duw, a barai iddynt lefaru fel y gwnaent. Ond ofer fu eu hymgais. Yr oedd Wesley wedi gwneyd ei feddwl i fynu, ac nid oedd dylanwad gelyn na chyfaill yn ddigon i blygu ei ewyllys. Cyhoeddodd ei bregeth, a dywedai yn ei gyfarchiad at y darllenydd mai dim ond yr argyhoeddiad cryfaf, nid yn unig fod yr hyn y dadleuai drosto yn wirionedd, ond hefyd fod angenrheidrwydd wedi ei osod arno ef i bregethu y gwirionedd hwnw, a'i cymhellai i wrthwynebu yn gyhoeddus syniadau y rhai y teimlai y fath barch iddynt oblegyd eu gwaith. Nid oes neb a amheua fod John Wesley yn gydwybodol yn ei ymddygiad. Ai nid doethineb ynddo fuasai gwrando ar lais ei frodyr, a pheidio son yn gyhoeddus am y pynciau y wahaniaethai ef a hwythau gyda golwg arnynt, sydd gwestiwn arall. Dadleua yn ei bregeth "fod etholedigaeth gras o angenrheidrwydd yn golygu ddarfod y Dduw ordeinio y nifer mwyaf o ddynolryw i golledigaeth, ac mai cellwair yw cynyg yr efengyl iddynt. Y rhai hyn y mae Duw yn gasau; a chan hyny arfaethodd cyn iddynt gael eu geni eu bod i gael eu taflu i'r llyn o dân. Arfaethodd hyny am mai hyny oedd ei ewyllys ben-arglwyddiaethol. Felly, y maent yn cael eu geni i'r pwrpas hwn, sef, fel y caent eu dinystrio enaid a chorph yn uffern." Gwelir fod Wesley yn camlliwio syniadau ei wrthwynebwyr yn enbyd; daliai hwy yn gyfrifol am gasgliadau oedd ef ei hunan yn dynu, ac a pha rai y buasent yn ymwrthod yn y modd mwyaf pendant. Yr oedd ei dduwinyddiaeth yn dra unochrog, ac fel y dywed Howell Harris wrtho yn un o'i lythyrau, yn ffrwyth addysg deuluaidd yn hytrach nag yn gynyrch astudiaeth ddyfal o Air Duw.
Ond yr oedd y coelbren wedi syrthio. Dyma y Methodistiaid wedi ymranu yn ddwy blaid. Glynodd Methodistiaid Cymru fel un corph wrth yr athrawiaethau Calfinaidd; ni pharodd yr ymraniad unrhyw rwyg, ac ni achosodd fawr dadleu, yn yr eglwysi; ac yn wir nid yw yn ymddangos i Wesley wneyd unrhyw ymgais i ledaenu ei olygiadau neillduol yn y Dywysogaeth. Digon tebyg mai y parch mawr a deimlai at ei frodyr yn Nghymru, yn arbenig Howell Harris, oedd y prif reswm am hyn. Fel y gallesid disgwyl, aeth Charles Wesley gyda ei frawd, ond glynodd Cennick wrth Whitefield. Aeth John Wesley i lawr i Kingswood, ger Bryste, ddechreu y flwyddyn 1741, a throdd John Cennick, a thros haner cant o aelodau eraill, allan o'r gymdeithas. Yn nghanol y terfysg hwn y glaniodd Whitefield o'r America. Ar unwaith cyhoeddodd atebiad i bregeth Wesley ar rad ras. Yn fuan cawn ef yn dwyn allan newyddiadur o'r enw Weekly History, y newyddiadur Methodistaidd cyntaf erioed, gydag un o'r enw John Lewis, Cymro o Lanfairmuallt, yn olygydd iddo, er gwrthweithio golygiadau y ddau Wesley. Fel y gallesid disgwyl, aeth y rhwyg yn fwy. Rhwystrwyd Whitefield i bregethu yn y capelau y bu efe ei hun yn foddion i'w hadeiladu. Ond yr oedd yni ei yspryd, a dysgleirdeb ei ddoniau yn gyfryw, fel nas gellid ei atal rhag cael cynulleidfaoedd i'w wrando; yn bur fuan codwyd capelau iddo mewn amrywiol barthau o'r wlad, ac adeiladwyd y Tabernacl ar y Moorfields yn Llundain, lle y tyrai y miloedd, ac y cafodd llawer afael ar fywyd tragywyddol. Ar yr un pryd cariai John Wesley yn mlaen ei gynlluniau yntau. Sefydlodd y cymdeithasau neillduol; rhoddodd ganiatad i leygwyr gynghori, a threfnodd iddynt i ymweled yn rheolaidd a'r aelodau yn eu cartrefleoedd; ac argraffodd docynau, y rhai a arwyddid ganddo ef ei hun, yn dangos hawl yr aelodau i agoshau at fwrdd y cymundeb. Cawn Charles Wesley hefyd am y tro cyntaf yn gweinyddu y cymun bendigaid mewn adeilad heb ei gysegru. Gellir dweyd mai yn y flwyddyn 1741 y dechreuodd Wesleyaeth yn ystyr briodol y gair.
Gwnaed amryw ymdrechion i gymodi ac i ail-uno Whitefield a Wesley. Howell Harris yn benaf oedd wrth wraidd yr ymgais; yr oedd ef ar delerau cyfeillgar a'r ddau, ac yn eu caru yn ddwfn; canmola Wesley droiau angerddoldeb a serch ei galon fawr Gymreig. Ni fu yr ymgais yn llwyddiant mor bell ag i gynyrchu undeb gweledig, ac undeb gweithrediadau; yr oedd y ddau yn rhy bell eu golygiadau oddiwrth eu gilydd i allu gweled lygad yn llygad, ac yr oedd pob un o'r ddau yn rhy gydwybodol i aberthu yr hyn a ystyriai yn wirionedd er mwyn cyfeillgarwch; ond llwyddwyd i'w cymodi. Cyfarfyddasant a'u gilydd; credodd pob un fod y llall yn awyddus am achub eneidiau a helaethu teyrnas y Cyfryngwr; cytunasant i wahaniaethu, a chyfeillion a fuont hyd eu bedd. Dywedai Whitefield am Wesley ar ol hyn: "Yr wyf yn tybio ei fod yn gyfeiliornus mewn rhai pethau, ond credaf y bydd yn llewyrchu yn ddysglaer mewn gogoniant." Meddai drachefn mewn llythyr at Wesley ei hun: "Bydded i'r hen bethau basio heibio; gwneler pob peth yn newydd. Gallaf ddweyd ' Amen ' wrth y rhan ddiweddaf o hono. Byw byth fyd do y Brenin, a threnged dadleuaeth. Y mae wedi trengu gyda mi er ys amser." Natur serchog, gariadlawn, oedd eiddo Whitefield; ni allai oddef digasedd at hen gyfeillion; ac y mae yn dra sicr y teimlai John Wesley yn gyffelyb ato yntau. Nid yw yn perthyn i ni olrhain cynydd a gweithrediadau y ddwy gangen Fethodistaidd yn mhellach. A Whitefield a'i ganlynwyr yn unig, y rhai a elwid ar ol hyny yn Gyfundeb yr Iarlles Huntington, y bu cyfathrach a Methodistiaid Cymru, er i'r ddau Wesley fod yma droiau yn pregethu.
Daw y pethau hyny dan ein sylw eto.PENOD IV
DANIEL ROWLAND, LLANGEITHO
Ei faboed a'i ddygiad i fynu—Ei ordeiniad—Ei droedigaeth yn eglwys Llanddewi- brefi—Yn tynu lliaws i Langeitho trwy ei bregethu tanllyd—Pregethu y ddeddf—Yn dyfod yn fwy efengylaidd—Myned allan o'i blwyf—Cyfarfod am y tro cyntaf a Howell Harris—Erlid Daniel Rowland—Sefydlu seiadau—Ei droi allan o'r eglwys— Llangeitho yn dyfod yn Jerusalem Cymru—Desgrifiadau Charles o'r Bala; Jones, Llangan; Griffiths, Nevern; Christmas Evans; John Williams, Dolyddelen; a Dr. Owen Thomas, o weinidogaeth Rowland.
AR ben bryn goruwch dyffryn prydferth Aeron, tua milldir a haner
islaw Llangeitho, ar y tu gorllewinol i'r afon, y saif amaethdy cyffredin ei
olwg o'r enw Pantybeudy. Yma y ganwyd
Daniel Rowland, yn y flwyddyn 1713. Ei
rieni oeddynt Daniel a Jennet Rowland.
Offeiriad yn yr Eglwys Sefydledig oedd y
tad, yn dal bywoliaethau Llancwnlle a
Llangeitho, ac heb ddim neillduol ynddo
i'w wahaniaethu oddiwrth glerigwyr eraill
y wlad. Ail fab iddynt oedd Daniel, ond
tra rhagorai ar John, y bachgen henaf,
mewn talent, er i John hefyd gael ei ddwyn
i fynu yn offeiriad. Ychydig o hanes
maboed Daniel Rowland sydd ar gael, ond
dywed traddodiad ei fod yn fachgenyn
bywiog, llawn asbri a hoenusrwydd, gyda
llonaid ei groen o chwareu, ac yn rhagori
mewn pob math ar gamp. Yr oedd yn
dywysog yn mysg ei gyfoedion ieuainc.
Pa beth bynag a wnelid, ai pysgota brithyllod yn afon Aeron, chwareu hêl cadnaw
ar hyd llechweddau y dyffryn coediog a
thlws, neu ynte ymryson gyda y bêl droed,
byddai ef yn debyg o fod ar y blaen.
Rhagorai yn yr ysgol lawn cymaint ag fel
chwareuwr; yfai ddysg fel yr ŷf y behemoth ddwfr. Er nad oedd yn meddu unrhyw
dueddfryd grefyddol, dygid ef i fynu ar
gyfer y weinidogaeth yn yr Eglwys Sefydledig, yn ol arferiad y dyddiau hyny, a
chafodd ei anfon i Ysgol Ramadegol
Henffordd i berffeithio ei addysg. Pan yn
ddeunaw oed, cafodd ei alw adref ar farwolaeth ei dad, ac nid yw yn ymddangos iddo
ddychwelyd. Ond yr oedd yn ysgolhaig
pur dda, ac oblegyd hyny cawn yr esgob
yn ei ordeinio yn y flwyddyn 1733, pan nad
oedd ond ugain oed, ac felly heb gyrhaedd
yr oedran gofynol yn ol y gyfraith. Am
ryw reswm anwybyddus yn awr, ordeiniwyd ef yn Llundain, ond ar sail llythyrau
cymeradwyol esgob Tyddewi, a cherddodd
yntau yr holl ffordd i fynu i'r Brif-ddinas.
Profa hyn dlodi ei amgylchiadau, ac yn
ogystal, wroldeb ei feddwl. Ymddengys y
cawsai John, ei frawd hynaf, fywioliaethau
Llangeitho a Llancwnlle ar farwolaeth eu
tad; yn bur fuan rhoddwyd iddo yn
ychwanegol ficeriaeth Llanddewi-brefi; ac
yn guwrad i'w frawd di-nôd y penodwyd
Daniel Rowland. Ni chyfododd yn uwch
na chuwrad yn yr Eglwys Sefydledig, ac
ni chafodd trwy ystod yr holl amser y bu
yn gwasanaethu fwy na deg punt y flwyddyn
fel cydnabyddiaeth am ei lafur.
Dyddiau y tywyllwch oedd y rhai hyn ar Gymru. Arferai yr offeiriaid garlamu yn ddifeddwl dros y llithiau a'r gweddïau yn yr eglwys, heb y gradd lleiaf o ddifrifwch yn eu hyspryd, ac ar derfyn y gwasanaeth aent allan i ymuno ag oferwyr y plwyf, naill ai mewn yfed cwrw a meddwi yn y dafarn gerllaw, neu ynte, mewn chwareuon ac ymrysonau ar y maes. Nid oes sail o gwbl dros gredu fod Daniel Rowland fymryn gwell; yn hytrach, oddiwrth yni ei natur, gallwn gasglu ei fod y blaenaf gyda y campau ofer, a'r annuwioldeb a'r rhysedd a ffynai. Ond nid hir y cafodd ei adael yn y cyflwr hwn. Etholasid ef gan Dduw i fod yn un o'r prif offerynau yn efengyleiddiad a dyrchafiad ysprydol Cymru,
Gyda golwg ar yr amgylchiadau a arweiniasant i'w droedigaeth ceir dau draddodiad gwahanol, ond nid anhawdd eu cysoni. Yn ol un, yr oedd yn eiddigus o'r cynulleidfaoedd mawrion a ymgynullent i wrando y Parch. Phyhp Pugh, gweinidog Presbyteraidd Llwynpiod, tra y pregethai ef yn Llangeitho i furiau moelion. Wedi ymholi, cafodd fod gweinidogaeth y gwr hwnw yn tueddu i ddefroi cydwybodau dynion, trwy ddynoethi eu pechodau, a'u trueni, a'u perygl. Penderfynodd yntau gymeryd yr un cynllun. Dechreuodd daranu yn ofnadwy yn erbyn drygioni, a darlunio trueni yr annuwiol yn y byd a ddaw yn y modd mwyaf brawychus a byw. Dewisai, gan hyny, destunau priodol i'r amcan, megys, "Y drygionus a ymchwelant i uffern," "Y rhai hyn a ânt i gospedigaeth dragywyddol," "Daeth dydd mawr ei ddigter ef." Llwyddodd y cynllun yn mhell y tu hwnt i'w ddisgwyliad. Aeth yr eglwys yn rhy fach i ddal y gynulleidfa. Tyrai dynion o bob parth o'r wlad i wrando arno, dychrynid hwy yn ofnadwy gan weinidogaeth frawychus yr offeiriad ieuanc hyawdl, a dywedir fod dros gant o ddynion wedi eu dwyn tan argyhoeddiad dwys, cyn i'r pregethwr ei hun deimlo dylanwad y gwirionedd. Ond yn raddol darfu i'r gwirioneddau a draethai gyda'r fath nerth, ddwysbigo ei gydwybod yntau.
Yn ol traddodiad arall, yr hwn a adroddir gan y Parch. John Owen, Thrussington, daeth yr Hybarch Griffith Jones, Llanddowror, i bregethu i Eglwys Llanddewi-brefi, fel yr arferai weithiau, a phenderfynodd Daniel Rowland fyned i'w wrando. Gan mor lliosog oedd y gwrandawyr, nid oedd lle iddynt oll eistedd; a bu raid i Rowland, fel canoedd eraill, sefyll ar ei draed trwy ystod y gwasanaeth. Safai gyferbyn a'r pregethwr, ac yr oedd ei ymddangosiad a'i osgo yn falchaidd a choeg; eisteddai gwatwareg ar ei wedd; a hawdd gweled ei fod yn teimlo yn ddirmygus at yr hwn oedd yn y pwlpud, ac at y bobl oedd wedi ymgynull i'w glywed. Tynodd ei agwedd sylw Griffith Jones, methodd beidio cyfeirio ato yn gyhoeddus; a thorodd allan mewn gweddi ddifrifol ar ei ran. Aeth y saeth i galon Daniel Rowland; syrthiodd ei wynebpryd, llesmeiriodd ei galon, crynodd ei liniau ynghyd, a darostyngwyd y creadur uchelolwg yn bechadur digymorth ger bron Duw. Aeth adref gyda ei gymdeithion mewn dystawrwydd, a'i wyneb tua'r llawr, a golwg ddifrifol arno.
Nid yw y ddau draddodiad mewn un
—————————————
PANTYBEUDY: LLE GENEDIGAETH DANIEL ROWLAND.
—————————————
modd yn anghyson. Efallai i'w argyhoeddiad gael ei gychwyn gan y gwirioneddau a draethid ganddo ef ei hun, er mai tan weinidogaeth Griffith Jones y llwyr orchfygwyd ef. Nid yw yn anmhosibl fod ei gydwybod yn anesmwyth ynddo, pan yn sefyll yn dalgryf a balch o flaen gwyneb y pregethwr yn Eglwys Llanddewi-brefi; efallai fod yr anesmwythid hwnw, a'i ymdrech yntau i gael concwest arno, yn peri iddo ymroddi i fwy o goegni a herfeiddiad nag a wnelsai oni bai hyny; dyma ymdrech olaf natur lygredig i wrthsefyll nerth y gwirionedd, a hawdd deall ei bod yn frwydr galed ac ystyfnig. Pa fodd bynag, dychwelodd yn ei ol yn ddyn newydd. O herwydd yr olwg a gawsai ar ei gyflwr, ac ar ei waith yntau ei hun yn pregethu heb unrhyw amcan teilwng, teimlai yn athrist ar y ffordd, ac yn llawn digalondid, gan benderfynu na esgynai risiau y pwlpud mwy. Soniai y bobl oedd o'i gwmpas am y bregeth ryfedd a glywsent, gan dystio na wrandawsent ei chyffelyb erioed o'r blaen; disgynai eu hymadroddion fel plwm ar ei galon yntau, nes y llewygai ei yspryd ynddo, ac y cryfheid ei benderfyniad i beidio pregethu mwyach. Eithr yr oedd un amaethwr yn eu mysg, yr hwn a farchogai wrth ochr yr offeiriad athrist, ac wrth glywed y bobl yn mawrygu pregeth Griffìth Jones, tarawodd ei law ar ysgwydd Rowland, gan ddweyd: " Wel, wel, canmolwch chwi a fynoch ar y bregeth heddyw, ni chefais i ddim budd ynddi; y mae genyf fi achos diolch i Dduw am offeiriad bach Llangeitho." Cafodd geiriau y ffermwr effaith rymus ar feddwl llwfr yr offeiriad ieuanc. Penderfynodd na wnai roddi i fynu y weinidogaeth, gan ddweyd ynddo ei hun: "Pwy a wyr na wna yr Arglwydd ryw ddefnydd o honof finau, greadur gwael." Mor dda yw gair yn ei amser!
Mewn canlyniad i'r tro mawr a gymerodd le arno yn Eglwys Llanddewi-brefi, daeth gweinidogaeth Rowland yn fwy angerddol. Ý ddeddf a bregethid ganddo; y ddeddf yn ei hysprydolrwydd, yn manylrwydd ei gofynion, ac yn ofnadwyaeth ei melldithion. Yr oedd ei hun wedi bod yn y tywyllwch dychrynllyd lle y mae Duw; toddasai ei galon fel cwyr yn y presenoldeb dwyfol; ac yn awr, safa yntau ar gopa mynydd Sinai, gan gyhoeddi dinystr ar euog fyd. Meddai y Parch. John Hughes[45] " Yr oedd mellt a tharanau arswydus yn ei weinidogaeth. Teimlai ei wrandawyr fel pe y crynai y ddaear dan draed, gan rym y bygythion a gyhoeddai. Saethodd fellt, a gorchfygodd ei wrandawyr. Dilynid ei weinidogaeth, bellach, gan effeithiau rhyfeddol. Daethai ar y trigolion diofal fel braw disymwth; deffroid hwy megys gan ruad taranau trymion. Meddianid y canoedd a'r miloedd a ddeuent weithiau i'w wrando a braw aruthrol, a syrthiai llawer o honynt i lawr fel meirwon. Gellid canfod arswyd a dychryn wedi ei bortreadu ar wynebau y dyrfa fawr; llethid eu cydwybodau gan saethau llymion; a llifai eu dagrau yn afonydd dros eu gruddiau, fel cawodydd o wlaw ar ol taranau mawrion." Tra y pregethai fel hyn, gan fygwth yr annuwiol, dywedir nad oedd gerwinder yn ei lais, na llymder yn ei wedd; ond i'r gwrthwyneb, y tynerwch mwyaf toddedig, fel pe y buasai ei ymysgaroedd yn toddi o'i fewn, oblegyd cyflwr difrifol y gynulleidfa.
"Boanerges oedd ei enw,
Mab y daran danllyd gref,
Sydd yn siglo yn ddychrynllyd
Holl golofnau dae'r a nef;
Dewch, dihunwch, oedd yr adsain,
Y mae 'n dinas ni ar dân;
Ffowch oddiyma mewn mynydyn
Ynte ewch yn ulw mân."
Ar yr un pryd, er mor rymus y pregethai Daniel Rowland, ac er mor angerddol y dylanwadau oeddynt yn cydfyned a'i weinidogaeth, nid yw yn ymddangos fod ei olygiadau am athrawiaethau hanfodol yr efengyl mewn un modd yn glir. Yr oedd wedi llyncu rhai o syniadau cyfeiliornus William Law. Prin hefyd y deallai fod iachawdwriaeth yn gyfangwbl o ras; yn hytrach, pregethai fel pe byddai mewn rhan trwy ras, ac mewn rhan trwy weithredoedd. Oblegyd hyn, achwynai rhai perthynol i gynulleidfa Llwynpiod wrth Mr. Pugh, eu gweinidog, gan geisio ganddo fyned at Rowland i ymliw ag ef oblegyd ei gyfeiliornadau, a cheisio ei osod ar yr iawn. Ond yr oedd yr hen weinidog hybarch yn adnabod y natur ddynol yn well. " Gadewch ef yn llonydd," meddai, " offeryn yw ag y mae yr Arglwydd yn ei gyfodi i wneyd rhyw waith mawr yn y byd. Fe ddiwygia mewn amser. Plentyn ydyw eto; fe ddysg ei Dad nefol ef yn well."Ateb teilwng o apostol. Meddai Dr, Lewis Edwards, "Nid wyf yn gwybod am ddim yn holl hanes Rowland ei hun, sydd yn dangos mwy o fawredd moesol na'r dywediad hwn o eiddo gweinidog yr Ymneillduwyr yn Llwynpiod." Yr ydym am olrhain arweiniad rhagluniaeth ddwyfol yn mywyd Daniel Rowland. Ni symudodd gam, ond fel yr oedd bys Duw yn cyfeirio. Arweiniwyd ef i bregethu y tu allan i derfynau ei blwyf yn y modd canlynol. Yr oedd gwraig o gymydogaeth Ystrad-ffìn, yn Sir Gaerfyrddin, a chanddi chwaer yn preswylio yn Llangeitho. Pan ar ymweliad a'r chwaer hon, clywodd y wraig bethau ryfedd am bregethu Daniel Rowland, ac am y dylanwadau rhyfeddol oedd yn cydfyned a'i weinidogaeth, nes y gelwid ef gan y difeddwl yn y gymydogaeth yn 'ffeirad crac. Penderfynodd fyned i'w wrando. Ond aeth ymaith boreu dydd Llun heb ddweyd gair wrth ei chwaer am y pregethwr na'r bregeth. Y Sabbath canlynol, pa fodd bynag, wele hi yn nhŷ ei chwaer drachefn. Dychrynodd hono, gan dybio fod rhyw ddamwain alaethus wedi digwydd, a gofynodd yn frawychus, "Beth sydd yn bod? A oes rhywbeth wedi digwydd i'r gŵr neu i'r plant? " "Nag oes," meddai y wraig, "y mae pob peth yn y teulu o'r goreu." "Paham y daethoch yma heddyw eto, ynte? " "Nis gwn yn iawn," oedd yr atebiad; "rhywbeth a ddywedodd eich 'ffeirad crac chwi sydd wedi gafaelu yn fy meddwl, fel yr wyf wedi methu cael llonydd na dydd na nos." I wrando Rowland yr aeth, a pharhaodd i fyned yno bob Sabbath, er fod ganddi dros ugain milldir o ffordd arw, tros fynyddoedd anhygyrch, i'w teithio. Un tro mentrodd fyned ato, a dweyd, "Syr, os gwirionedd yw yr hyn ydych chwi yn bregethu, y mae llawer o ddynion yn fy nghymydogaeth i mewn cyflwr truenus iawn; er mwyn yr eneidiau gwerthfawr sydd yn cyflymu i golledigaeth mewn anwybodaeth, deuwch trosodd i bregethu iddynt."Tarawyd Rowland, a chwedi myfyrio am ychydig, atebai yn ei ddull sydyn ei hun, "Dôf, os câf ganiatâd yr offeiriad." Y caniatâd gofynol a gafwyd, aeth Rowland i gapel Ystradffin i bregethu, yr hyn a wnaed ganddo gyda chysondeb am rai blynyddoedd, a dychwelwyd llawer trwy ei weinidogaeth. Gyda chyfeiriad at hyn y canai Williams:[46]
"Daeth y sŵn dros fryniau Dewi,
Megys fflam yn llosgi llin,
Nes dadseinio creigydd Towi,
A hen gapel Ystrad-ffin."
Y mae amheuaeth a oedd Eglwys Loegr yn defnyddio capel Ystrad-ffìn yr adeg hon. Buasai yn nghau, heb fod unrhyw wasanaeth crefyddol yn cael ei gynal ynddo, am gryn amser; nid annhebyg ei fod felly ar hyn o bryd. Digwyddodd amgylchiad teilwng o'i gofnodi ynglyn a phregeth gyntaf Daniel Rowland yn Nghwm Towi. Yr oedd yn y gymydogaeth foneddwr, annuwiol ei foes, yr hwn a arferai dreulio y Sabbath mewn hela gyda ei gŵn. Clywsai yntau fod Rowland i ddyfod i'r capel i bregethu y Sul hwnw, a'i fod allan o'i bwyll, ac yn dweyd pethau rhyfedd. Aeth ef a'i gymdeithion i wrando, er mwyn difyrwch cnawdol, os nad er mwyn codi terfysg. Safai yn dalgryf ar fainc gyferbyn a'r pregethwr; yr oedd dirmyg yn ei wedd, a gwatwareg yn argraffedig ar ei wynebpryd. Amcanai ddyrysu gweinidog Duw. Deallai Rowland ei fwriad yn dda, ond yr unig effaith a gafodd arno oedd peri iddo fod yn fwy hyf dros ei Feistr. Ei destun ydoedd, " Peth ofnadwy yw syrthio yn nwylaw y Duw byw! " Dechreuodd daranu yn ofnadwy, fflamiai ei lygaid gan eiddigedd sanctaidd dros Dduw, a disgynai ei ymadrodd llon gyda y fath nerth a dylanwad nes yr oedd y gynulleidfa yn welw gan ddychryn. Yn fuan dyma ddychrynfeydd y farn yn ymaflyd yn y boneddwr annuwiol; gwelwa ei wedd a diflana ei uchel-drem; y mae ei liniau yn curo ynghyd fel eiddo Belsassar, pan y gwelodd y darn Haw yn ysgrifenu ar galchiad y pared, ac ymollyngodd yn sypyn diymadferth ar y llawr. felly yr arhosodd hyd ddiwedd y bregeth, gan grynu ac wylo. Wedi i'r gwasanaeth derfynu, aeth at Rowland gan gyfaddef ei fai, a'i ddrwg-fwriad wrth ddyfod i wrando arno; gofynai ei faddeuant yn edifeiriol, a dyraunai arno fyned adref gydag ef i giniaw ac aros tros y nos. Achubwyd y dyn, elai i Langeitho unwaith y mis ar ol hyn tra y bu byw, a dygai ei ymarweddiad da a'i ddefosiwn dystioleth ddiamheuol i wirionedd ei grefydd.
Dyna fel yr arweiniwyd Daniel Rowland i weinidogaethu allan o'i blwyf; dyddorol sylwi eto pa fodd ei cymellwyd i bregethu mewn lleoedd anghysegredig. Dylid cofio mai adeilad eglwysig oedd Capel Ystrad-ffin, a'i fod wedi cael ei gysegru yn rheolaidd gan esgob, yn yr amser gynt, i weini mewn pethau sanctaidd ynddo. Ymddengys fod nifer o ieuenctyd annuwiol yn nghymydogaeth Llangeitho wedi ymgaledu mewn drygioni i'r fath raddau fel na allai hyd yn nod enwogrwydd Rowland eu tynu i wrando yr efengyl; treulient eu Suliau ar ben bryn gyferbyn a'r pentref, lle yr ymroddent i bob math o chwareuon annuwiol, er mawr ofid i'w enaid sanctaidd Gwnaeth ei oreu i osod terfyn ar y cyfryw chwareuon, ond bu pob ymdrech o'i eiddo yn aflwyddianus. O'r diwedd penderfynodd yr ai yno i bregethu. Yno yr aeth ryw Sabbath, a'i yspryd gwrol yn llawn o hyfdra sanctaidd; methodd y cwmni drygionus ddal mîn a nerth yr athrawiaeth, ac ymwahanasant am y cyntaf. Fel hyn y chwalwyd y nyth annuwiol hono. Wedi dechreu rhybuddio dynion drwg y tu allan i furiau yr eglwys, gan ymosod arnynt megys ar eu tiriogaethau eu hunain; a chwedi canfod y fath lwyddiant a'r fath fendith yn cydfyned a'i ymdrechion, naturiol iddo oedd myned rhagddo, a phregethu pa le bynag y caffai ddrws agored, heb ofalu a oedd y ddaear wedi cael ei chysegru gan esgob ai peidio. Felly y gwnaeth, ac yn bur fuan ymwelodd a rhanau helaeth o Gymru, gan gyhoeddi yr efengyl gyda llwyddiant mawr.
Dywedir iddo gael ei arwain hefyd, yn annibynol ar yr hyn a wnaeth Howell Harris, ac yn wir heb wybod am dano, i sefydlu seiadau profiad. Fel hyn y bu. Gofynodd i un o'r aelodau perthynol i Lancwnlle am alw gyda'r rhai oedd raewn cymundeb yno, a'u gwahodd i'w gyfarfod ef ar noswaith benodol mewn tŷ o'r enw Gelli-Dywyll, gerllaw Bwlchdiwyrgara, yr hwn le sydd mewn cwm cul ac unig yn arwain allan o ddyffryn Aeron. Daeth y rhai a wahoddasid ynghyd erbyn yr amser, ond methent ddeall beth a allasai ei amcan fod wrth eu cynull. Ofnent ei fod yn myned i'w ceryddu ara ryw feiau a ganfyddai ynddynt. Eithr gwasgarwyd eu hofnau yn fuan, canys gwelsant raai ei ddyben oedd eu lioh am natur ac aracan Swper yr Arglwydd,. a'u dysgu yn fanylach gyda golwg ar y sacrament sanctaidd. Treuliasant y rhan fwyaf o'r nos gyda'r gwaith hyfryd hwn, yn cael eu hadeiladu a'u cadarnhau yn y gwirionedd. Am gryn amser cedwid y cyfarfodydd hyn yn nhy teiliwr a breswyhai yn y cwm crybwylledig, o herwydd ei neillduedd, eithr yn mhen amser symudwyd hwy i un o ysguboriau Daniei Rowland. Caent eu cadw ar y cyntaf yn achlysurol, fel y byddai cyfleustra yn caniatau; weithiau ar y Sabbath, a phryd arall ar ddydd gwaith, yn y dydd neu yn yr hwyr; ac weithiau ar ol pregeth, pan fyddai pregethwr yn dyfod ar daith. Yn raddol, fodd bynag, daethant i gael eu cynal yn wythnosol, a gelwid y frawdoliaeth fyddai yno yn " gymdeithas grefyddol," yn society, neu yn band;" ond nid un amser yn eglwys, rhag traragwyddo yr Eglwyswyr. Gwelir fod anghenion ysprydol y rhai a gawsant eu hargyhoaddi wedi arwain Daniel Rowland
—————————————
GOLYGFA TUFEWNOL AR EGLWYS LLANGEITHO
(Allan o Meyrick's History of Cardiganshire)
—————————————
a Howell Harris, ar wahan i'w gilydd, i sefydlu cymdeithasau neillduol er adeiladu y praidd a'u cadw rhag myned ar gyfeiliorn; ac erbyn hyn y mae y cymdeithasau yma yn elfen o'r pwysicaf yn mywyd ysprydol y genedl.
Amrywia haneswyr yn eu barn gyda golwg ar pa un ai Daniel Rowland ynte Howell Harris oedd y blaenaf o ran amser ynglyn a'r Diwygiad. Dywed y Parch. John Hughes, Liverpool, [47] ei fod yn ymddangos yn lled sicr ddarfod i Harris gael y blaenafìaeth o ychydig amser; ond ni rydd Mr. Hughes un rheswm dros ei dybiaeth, ac oddiwrth yr hyn a ysgrifena yn nes yn mlaen yn ei lyfr, y mae yn amlwg ei fod mewn cryn betrusder gyda golwg ar ei chywirdeb. Maentymia y Parch. Hugh J. Hughes, Cefncoedcymmer, mai Harris yn ddiamheuol bia y blaen mewn amseriad, yn gystal ag mewn cymeriad beiddgar a diofn; ond nid yw yntau ychwaith yn dwyn yn mlaen unrhyw brawf. Geiriau Howell Harris ei hun ydynt: "Am y gweinidog arall, y dyn mawr hwnw dros Dduw, Mr. Daniel Rowland, deffrowyd ef tua'r un amser a minau, mewn rhan arall o Gymru, sef yn Sir Aberteifì; ond gan mai ychydig o ohebiaeth oedd rhwng y sir hono a Brycheiniog, aeth ef yn mlaen gan gynyddu yn raddol mewn doniau heb wybod dim am danaf fì, na minau am dano yntau, nes i ni gyfarfod yn Eglwys Defynog, yn y flwyddyn 1737.[48] Tuedda Williams, Pantycelyn, yn amlwg i roddi y blaen mewn amser i Daniel Rowland, a Dylid cofio fod Williams yn gyfaill mynwesol i'r ddau, ac agos yn gyfoed a hwynt; a'i fod yn mhellach nid yn unig yn fardd ardderchog, ac yn emynydd digyffelyb, ond hefyd yn hanesydd gwych. Nid ydym yn rhoddi cymaint pwys ar ei eiriau yn y farwnad i Rowland:—
"Pan oedd tywyll nos trwy Frydain,
Heb un argoel codi gwawr,
A thrwmgwsg oddiwrth yr Arglwydd
Wedi goruwch guddio'r llawr;
Daniel chwythodd yn yr udgorn."
Y mae yn amlwg nad yw yr ymadroddion hyn i'w gwasgu i'w hystyr eithaf, a defnyddia eiriau llawn mor gryfion gyda golwg ar Howell Harris:—
"Pan oedd Cymru gynt yn gorwedd
Mewn rhyw dywyll, farwol hun,
Heb na Phresbyter na 'Ffeirad,
Nac un Esgob ar ddihun;
Yn y cyfnos tywyll, pygddu,
Fe ddaeth dyn fel mewn twym ias,
Yn llawn gwreichion goleu, tanllyd,
O Drefecca fach i maes."
Amlwg yw nad ydyw y difyniadau uchod yn penderfynu dim ar y mater; gellir gosod y naill farwnad ar gyfer y llall. Eithr y mae un llinell yn marwnad Rowland a ymddengys yn troi y glorian yn drwm o'i blaid:-
"Rowland startodd allan gyntaf,
A'i le gadwodd ef yn lân;
Ac nis cafodd, er gwisgied,
Ungwr gynyg cam o'i flaen."
I "Ond y mae perygl i ni fod yn rhy frysiog," meddai y Parch. Lewis Edwards, D.D., oblegyd nid yw yn sicr fod yma gyfeiriad at Howell Harris.[49] Er hyny, pe buasai Harris wedi 'startio' allan yn gyntaf, nid yw yn debyg y buasai Williams yn anghofio y ffaith wrth gyfansoddi ei farwnad, ac y mae yn ddiau y buasai hyny yn ei rwystro i ddefnyddio geiriau mor gryfion am Rowland."
Ymddengys yr holl amgylchiadau fel yn ffafrio y golygiad fod Rowland wedi tori allan i rybuddio pechaduriaid lawn mor fuan a Harris, os nad o'i flaen. Argyhoeddwyd Howell Harris yn y flwyddyn 1735. Hydref y flwyddyn hono aeth i Rydychain. Ond yr oedd yn flaenorol wedi dechreu cynghori ei gydwladwyr. Dychwelodd adref o gwmpas y Nadolig, ac nid aeth yn ei ol. Ail ymafla yn ei waith yn gynar yn y flwyddyn 1736. Y flwyddyn ganlynol, sef yn 1737, yr ydym yn cael Daniel Rowland yn pregethu yn Eglwys Defynog, ddeugain milldir o'i gartref fel yr hêd brân; a chawn ef yr un flwyddyn ar daith yn Sir Gaerfyrddin. Nid yw yn debyg y buasai yn myned i bregethu i siroedd eraill, heb ei fod wedi treulio cryn lawer o amser yn y cymydogaethau o gwmpas ei gartref, a chael arwyddion amlwg fod bendith ar ei ymdrechion. Meddai Joshua Thomas, ei gydoeswr, gyda golwg arno:—[50] "Yr wyf yn cofio ddarfod i mi ei glywed o gylch 1737 yn Sir Gaerfyrddin. Yr oedd yno liaws yn gwrando; ac mi glywais rai o'r Ymneillduwyr yn son am y bregeth wrth ddychwelyd adref. Yr wyf yn cofio mai rhan o'r ymadrodd oedd hyn: "Ni chlywsom erioed ei gyffelyb yn Eglwys Loegr ond Griffith Jones. Ni bu yn ein dyddiau ni y fath oleuni yn mhlith pobl yr Eglwys." Dylid cofio mai gwr ieuanc, newydd gychwyn ar ei waith oedd Daniel Rowland y pryd hwn; a bod ei ddoniau pregethwrol heb ymddadblygu eto i'w gogoniant uchaf; felly y mae y ganmoliaeth a roddir iddo, fel agos yn gyfartal a Griffith Jones, yn dra nodedig.
Efallai nas gellir profi fel ag i'w osod y tu hwnt i amheuaeth mai Rowland a bia y blaen, ac nid yw hyny o gymaint pwys. Eithr yr oedd ei gyd-gyfarfyddiad ef a Howell Harris yn Defynog, yn 1737, yn amgylchiad o'r pwys mwyaf. Eu hanes hwy iU dau yw hanes Methodistiaeth Cymru am y pymtheg mlynedd nesaf. Meddai Harris, yn y llythyr a ddifynwyd yn barod, " Pan y clywais y bregeth, ac y gwelais y doniau a rodded iddo, ynghyd a'r nerth a'r awdurdod rhyfeddol gyda pha un y llefarai, a'r effeithiau ar y bobl, yr oeddwn yn wir ddiolchgar, a llosgai fy nghalon o gariad at Dduw ac ato ef. Dyma ddechreu fy nghydnabyddiaeth ag ef, ac i dragywyddoldeb ni bydd diwedd arno." Aeth Harris gyda Rowland i Langeitho, "a phan y clywais ragor am ei athrawiaeth a'i gymeriad " meddai, " mi a gynyddais yn fwy mewn cariad tuag ato." Ni fedrai Daniel Rowland fyned oddicartref ar deithiau gweinidogaethol i'r un graddau a rhai o'i gyfeillion, oblegyd yr eglwysi oeddynt dan ei ofal, ond ymddengys iddo yntau deithio y rhan fwyaf o'r Dywysogaeth, a hyny lawer gwaith, fel y tystia Williams, Pantycelyn:—
"Nid oes un o siroedd Cymru,
Braidd un plwyf sy'n berchen crêd,
Na bu Rowland yn eu teithio
Ar eu hyd ac ar eu lled;
Dros fynyddau, drwy afonydd,
Ac aberoedd teithio' sydd,
O Dyddewi i Lanandras,
O Gaergybi i Gaerdydd."
Fel y darfu i ni sylwi, pregethu y ddeddf a wnelai ar y dechreu; [51] "ond nid y ddeddf fel crynodeb o drefniadau," meddai Dr. Lewis Edwards, "eithr y ddeddf fel y mae yn ddatguddiad o sancteiddrwydd Duw. Yr oedd Rowland wedi gweled Duw, ac yn teimlo ei fod wedi derbyn cenadwri oddiwrtho, ac am hyny yn llefaru fel un ag awdurdod ganddo. Deallodd y bobl yn fuan fod yno ffynhonell o fywyd anorchfygol wedi tarddu allan o Langeitho. Yn raddol, trwy ei lafur ef ac eraill, ymdaenodd y sŵn trwy Gymru; ac ar y rhai oedd yn credu y dystiolaeth yr oedd yn effeithio yn lled gyffelyb i'r hanes yn ein dyddiau ni am ddarganfyddiad cloddfa o aur yn Awstralia." Pa hyd y parhaodd ei weinidog aeth yn daranllyd ac ofnadwy, ni wyddis; ond yr oedd wedi teithio cryn lawer o'r Dywysogaeth cyn i'w thôn gyfnewid. Meddai Williams yn ei farwnad:—
"Pump o siroedd penaf Cymru,
Glywsant y taranau mawr,
A chwympasant gan y dychryn,
Megys celaneddau i lawr;
Clwyfau gaed, a chlwyfau dyfnion,
Ac fe fethwyd cael iachâd,
Nes cael eli o Galfaria,
Dwyfol ddwr a dwyfol waed."
Tybir mai am ryw dair blynedd y bu fel Mab y Daran yn genad dychryn; yn y flwyddyni73g,cyhoeddodduno'ibregethau, dan yr enw " Llaeth Ysprydol," oddiar I Petr, ii. 2; ac er ei fod yn y bregeth yma yn tueddu at fod yn ddeffrous a thanbaid, eto y mae yn dra efengylaidd a chysurlawn o ran tôn, a'i gymhwysiadau yn ddyddanus, yr hyn a brawf fod ei yspryd wedi tyneru i raddau mawr. Dywedir mai yr hên Mr. Pugh, gweinidog Annibynol Llwynpiod, a f u y prif foddion i effeithio y cyfnewidiad ynddo. "Mr. Rowland bach," meddai, "pregethwch yr efengyl i'r bobl; cymhwyswch y Balm o Gilead at eu clwyfau ysprydol; a dangoswch iddynt yr angenrheidrwydd am ffydd yn yr iachawdwr croeshoeliedig." Atebai yntau, "Yr wyf yn ofni nad yw y ffydd hono, yn llawn nerth ei gweithrediad, genyf fi fy hunan." Meddai Mr. Pugh yn ol, " Pregethwch hi hyd oni theimlwch ei bod genych; os ewch yn y blaen i bregethu y ddeddf yn y modd yma, byddwch yn fuan wedi lladd haner pobl y wlad! Yr ydych yn taranu melldithion y gyfraith, ac yn pregethu mor ofnadwy fel nas gall neb sefyll o'ch blaen." Nis gellir meddwl am olygfa fwy dyddorol; gweinidog Ymneillduol, heb nac eiddigedd na rhagfarn, yn cynghori gŵr ieuanc o offeiriad yn yr Eglwys Sefydledig; un oedd wedi ei ddisodli o ran poblogrwydd yn y wlad, ac wedi lladratta ei gynulleidfa i raddau mawr oddiarno. Yr oedd Rowland o'r tu arall yn ddigon gostyngedig a syml ei galon i dderbyn y cyngor caruaidd yn yr yspryd yr oedd yn cael ei roi, ac i weithredu yn ei ol. O hyn allan, daeth yn Fab Dyddanwch. Meddai Williams, Pantycelyn, eto:—
"'Nol pregethu 'r ddeddf dymhestlog,
Rai blynyddau yn y blaen,
A rhoi llawer yn friwedig,
'Nawr, cyfnewid wnaeth ei gân;
Fe gyhoeddodd iachawdwriaeth
Gyflawn, hollol, berffaith, llawn,
Trwy farwolaeth y Messiah
Ar Galfaria un prydnawn."
gwrandawyr. Yn flaenorol, llewygent gan ofn, dychrynid hwy gan arswyd y Barnwr nes y toddai eu heneidiau ynddynt fel cwyr; nid oedd yr effeithiau gwedi hyn yn llai rhyfeddol, nac yn llai nerthol, ond bellach torent allan mewn gorfoledd a chân. Dyma ddechreuad y molianu am ba un y daith Llangeitho yn enwog. Ymddengys fod Rowland ei hun ar y dechreu yn anfoddlawn i'r molianu a'r neidio; ofnai nad oedd yn hollol bur, y gallai roddi achlysur i'r cnawd, a pheri i'r gelyn gablu. Ò herwydd hyn ceisiai gan y bobl ymatal, a chadw ei teimladau danodd. Ond buasai lawn mor hawdd cadw y dwfr rhag berwi tra y llosgai y tân o dano gyda gwres. Wedi i'r gynulleidfa gael ei gwasgu i ymylon anobaith, a chanfod uffern yn agor ei safn i'w llyncu; pan y canfyddent yr Arglwydd Iesu yn ei ogoniant fel Gwaredwr holl-ddigonol ar eu cyfer, ac yn ewyllysio i'w hachub, torai y teimlad dros bob restraint, a mynent foli am y waredigaeth. Dywedir mai o'r braidd y daeth Rowland yn gymodlawn a'r peth hyd ddiwedd ei oes. Ond amddiffynai y rhai oeddynt yn molianu rhag gwawd y Saeson clauar. "Yr ydych chwi yn galw arnoni ni," meddai, ' Neidwyr, Neidwyr,' gallwn ninau alw arnoch chwithau, ' Cysgaduriaid, Cysgaduriaid. Efallai nad oedd y cyffro a'r llefain a'r bloeddiadau o fawl yn hollol rydd oddiwrth gnawd yn mhawb; fod y teimladau weithiau pan y rhedent dros y llestri heb fod yn gyfangwbl yn gynyrch Yspryd Duw; ac nid annhebyg fod rhai dynion annuwiol yn cael eu cario i ffwrdd, mewn ffordd nas gwyddent, gan y dylanwad, ac yn ymuno yn y gân. Ond wedi 'r cwbl, rhaid ystyried fod y goleuni wedi tywynu ar y bobl yn nodedig o sydyn, fod y rhyddhâd adeimlent yn rhyddhâd oddiwrth ddigofaint yr Anfeidrol oedd yn pwyso fel mynydd ar eu cydwybodau; ac mewn canoedd yr oedd y gorfoledd, er yn eithafol, ac yn cymeryd ffurfiau anarferol, mor bur ac ysprydol ag y geill unrhyw deimlad duwiolfrydig fod ar y ddaear hon. Profodd llawer o'r rhai a fu yn gorfoleddu yn Llangeitho, trwy eu bywydau duwiol, eu dyoddefiadau oblegyd eu crefydd, a'u hymroddiad i wasanaethu yr Arglwydd Iesu er gwaethaf pob gwrthwynebiad, eu bod wedi cael eu hail-eni i fywyd tragywyddol.
Yr oedd yr effeithiau a ddilynent ei weinidogaeth bellach yn nodedig iawn. Meddai Howell Harris, mewn llythyr a ysgrifenodd at Whitefield, Mawrth 1af, 1743: '[52] " Yr oeddwn y Sul diweddaf yn ngwasanaeth y cymundeb gyda y brawd Rowland, He y gwelais, y clywais, ac y teimlais y fath bethau na allaf roddi i chwi un syniad am danynt ar bapyr. Y mae y gallu sydd yn parhau gydag ef yn rhywbeth anghyffredin. Y fath waeddu allan, y fath ocheneidiau calonrwygol, a'r wylo dystaw, a'r galaru sanctaidd, a'r fath floeddiadau o lawenydd a gorfoledd ni chlywais erioed. Gwnai eu hamenau, a'u gogoniant, osod eich enaid yn fflam pe baech yno. Pan y pregetha, peth arferol yw fod ugeiniau yn cwympo i lawr tan ddylanwad y Gair, wedi eu gwanu a'u clwyfo; neu wedi cael eu gorchfygu gan gariad Duw a phrydferthwch a gogoniant yr Iesu. Llethir natur, fel pe bai, gan y mwynhâd o Dduw a deimlir ganddynt, fel na allant ddal ychwaneg. Braidd nad yw yr yspryd yn dryllio y tŷ o glai i gael hedfan i'w gartref. Cynwysa ei gynulleidfa, mi dybiaf, yn mhell dros ddwy fil, o ba rai y mae y rhan fwyaf wedi cael eu dwyn i ryddid gogoneddus, a rhodiant yn gadarn mewn goleuni clir." Trachefn a thrachefn, bron yn yr holl o'i lythyrau, cawn Howell Harris yn cyfeirio at y dylanwadau gogoneddus oedd yn cydfyned a gweinidogaeth Rowland yn y cyfnod hwn. Dywed drosodd a throsodd fod yr effeithiau yn annesgrifiadwy. Ddiwedd y flwyddyn 1742, ysgrifena o Langeitho, at ei frawd,[53] Heddyw clywais yr anwyl frawd Rowland, a'r fath olygfa ni welodd fy llygaid erioed. Nis gallaf anfon i chwi un syniad am dani. Yr oedd y fath oleuni a nerth yn y gynulleidfa fel nas gellir ei fynegu. Elai y bobl wrth y canoedd o'r naill eglwys blwyfol i'r llall, dair milldir o bellder (o Langeitho i Lancwnlle, yn ol pob tebyg) dan ganu a llawenychu yn Nuw; a chwedi cyfranogi o'r Swper Sanctaidd, dychwelasant gynifer o filldiroedd trachefn i'm gwrando i y nôs; a galluogwyd fi i lefaru, gyda nerth nad wyf yn arfer gael, ar y ffordd fawr, hyd wyth o'r gloch, i tua dwy fil. Y mae rhai o'r proffeswyr cnawdol, oeddynt wedi adeiladu ar y tywod, yn dyfod yn feunyddiol dan
argyhoeddiad. Y mae yr wyn (y dychweledigion) yn tyfu, a llawer yn rhodio—————————————
Darluniau cyntefig y Parch Daniel Rowland
Llangeitho
—————————————
mewn rhyddid gogoneddus. Y mae tân cariad Duw yn cael lle mewn llawer calon, ac y mae Duw yn wir fel fflam yn eu canol. Cynhaliant seiadau bob nos, a'r fath yw y dylanwad a deimlir ganddynt mewn gweddi yn fynych, fel y tarewir hwy a dystawrwydd ofnadwy; bryd arall, boddir llais y gweddïwr gan gri calonau drylliedig." Dyma dôn holl lythyrau Harris y pryd hwn. Nis geill ymatal rhag datgan ei syndod aruthrol o herwydd y nerthoedd oedd yn cydfyned a phregethu ei gyfaill. Pan wedi gwrando Williams, Pantycelyn, a Howell Davies, yn Sir Benfro, y clod uchaf a fedr roddi iddynt yw dweyd eu bod wedi cyfranogi yn helaeth o dAn Llangeitho. Ac nid yn ei gartref yn unig y byddai y cyfryw ddylanwadau yn cydfyned a phregethu Daniel Rowland, ond pa le bynag yr elai. Meddai ef ei hun, mewn llythyr at Howell Harris, yr hwn oedd yn Llundain, dyddiedig Hydref 20, 1742: [54] " Yr wythnos ddiweddaf bum ar daith yn Siroedd Caerfyrddin a Morganwg, ac odfaeon ardderchog oeddynt; cynulleidfaoedd cyfain yn cael eu dwyn i deimlo, a llawer yn bloeddio allan fel yr oedd fy llais yn cael ei foddi. Croesawyd fi i'w tai gan rai personau o safle, a hyny gyda pharch anarferol. O! beth wyf fi, fel y gwelai fy llygaid, ac y clywai fy nghlustiau y fath bethau! "Mewn llythyr arall, at un o'i wrandawyr oedd yn Llundain, dywed Rowland:—[55] "Y mae crefydd yn blodeuo yn y rhanau hyn o'r wlad. Dylifa miloedd i glywed y Gair. Y mae rhan fawr o honynt yn y fath ingoedd nes bod yn ddigon i wanu y galon galetaf. Gwnaeth rhai ef yn bwnc i'w ceryddu; ond y mae y rhai hyny eu hunain yn awr wedi eu gorchfygu gan allu Duw, ac yn gwaeddu allan:— 'Pa beth a wnant fel y byddont gadwedig.' Chwi a ryfeddech at yr hyn ydym ni yn weled ac yn glywed yn feunyddiol. Am danaf fy hun, gallaf dystio na welais, ac na chefais erioed y fath nerth ag wyf yn awr yn gael bol) dydd." Canlyniad y weinidogaeth nerthol yma, a'r effeithiau rhyfeddol oedd yn cydfyned a hi, oedd tynu tyrfaoedd i Langeitho o bob cwr o'r wlad. Daeth y pentref bychan gwledig, diaddurn, yn Jerusalem Cymru.
Efallai na theithiai Daniel Rowland gymaint ag a wnelai Harris, a Williams, Pantycelyn; pregethwyr teithiol oeddynt hwy; ond gwasanaethai ef yn rheolaidd yn y tair eglwys i ba rai y cawsai ei benodi yn guwrad, sef Llangeitho, Llancwnlle, a Llanddewi-brefi. Yr un pryd, y mae sicrwydd ei fod yn trafaelu llawer, a hyny trwy bob rhan o'r Dywysogaeth. Pregethai yn fisol yn Ystrad-ffin, Twrgwyn, Waunifor, Abergorlech, a Llanlluan. Yn anffodus, ychydig o hanes ei deithiau sydd genym, oblegyd fod ei bapyrau wedi cael eu cyfrgolli. Gwedi marwolaeth Rowland casglwyd yr oll a ellid gael o'i lythyrau a'i hanes, gan ei fab, Nathaniel Rowland, ac anfonwyd hwy i'r Iarlles Huntington, yr hon a fwriadai gael bywgraffiad iddo wedi ei ysgrifenu gan ryw berson cymhwys. Cyn i hyny gael ei wneyd bu farw yr Iarlles, ac aeth y wybodaeth werthfawr a anfonasid iddi i golli.[56] Adrodda y Parch. John Evans, y Bala, mewn hen ysgrif o'i eiddo, am Rowland yn ymweled a Llanuwchllyn, yn y flwyddyn 1740. Gofynodd am ganiatad yr offeiriad a'r wardeniaid i bregethu yn yr eglwys, a chafodd hyny, Ymddengys nad oedd yr offeiriad, mwy na Galio gynt, yn gofalu am ddim o'r pethau hyn. Nid gwaeth ganddo, dybygid, pwy a bregethai, na pha beth a bregethid. Aeth yn ymddiddan rhyngddo a Rowland ynghylch ail-enedigaeth, ond cyfaddefai yr hen offeiriad na wyddai efe ddim o gwbl am y pwnc hwnw. "Beth," ebai y Diwygiwr, "a wyt ti yn ddysgawdwr yn Israel, ac ni wyddost y pethau hyn?" Digwyddodd Rowland Lloyd, periglor Llangower, ger y Bala, fod yn y pentref ar y pryd, a phan glywodd fod un o'r Methodistiaid wedi cael caniatad i bregethu yn eglwys y plwyf, cyffrodd trwyddo. Ymaith ag ef ar ffrwst, ac i'r eglwys. Yr oedd y gwasanaeth wedi dechreu, ac ar unwaith dechreuodd yntau godi terfysg. Darllenai Mr. Rowland ar y pryd benod y melldithion yn Deuteronomium, sef yr xxviii. "Beth," ebai Lloyd, "a ydyw Stephen, Glanyllyn (boneddwr a drigai gerllaw), yn felldigedig? " "Ydyw," oedd atebiad Rowland, "os yw y gŵr yn ddyn annuwiol." Aeth y terfysg yn fwy gwedi'r atebiad hwn; dechreuodd rhyw hen ddynes ganu y gloch yn drystfawr; a rhwng brygawthan offeiriad Llangower, a thinc y gloch, rhwystrwyd yr odfa, ac er gofid i'r gynulleidfa bu raid i Daniel Rowland ymadael heb bregethu. Aeth Rowland i Lanuwchllyn ar ol hyn, a phregethai y tro hwnw oddiar gareg farch y Felin-dre, ffermdy yn nghydiad plwyfi Llanuwchllyn a Llangower. Ni wyddis dyddiad yr odfa. Ei destun ydoedd:— " Wele ef yn dyfod yn neidio ar y mynyddoedd, ac yn llamu ar y bryniau " (Can. ii. 8). Nid oes hanes am effeithiau y bregeth, ond fod y bobl mor anwybodus fel yr edrychent i'r bryniau o gwmpas, gan ddisgwyl gweled rhywun hynod yn gwneyd ei ymddangosiad.
Cawn ef yn ymweled a'r Gogledd hefyd yn 1742.[57] Mewn llythyr a anfonodd at Howell Harris y flwyddyn hono, dywed iddo fod yn ddiweddar ar daith yn Sir Drefaldwyn; ddarfod iddo, naill ai wrth fyned neu ddychwelyd, bregethu gyda nerth anarferol mewn amryw eglwysi a thai anedd yn Mrycheiniog, a bod rhyw Mr. Phillips, o Lanfairmuallt, wedi ei roddi yn Nghwrt yr Esgob am lefaru mewn ty tafarn yno. Ychwanega fod y brawd W. Williams — Williams, Pantycelyn, yn ddiau—wedi cael ei roddi yn yr un llys am nad oedd yn byw yn y plwyf yn mha un y gweinidogaethai. Ceisia gan Harris, yr hwn oedd yn y Brif-ddinas ar y pryd, am ymgynghori a'r brodyr yn Llundain pa fodd y dylid ymddwyn dan yr amgylchiadau. Y mae yn fwy na thebyg ddarfod i Daniel Rowland, y flwyddyn ganlynol, sef 1743, deithio trwy Sir Gaernarfon, mor bell a Sir Fôn, er na cheir hanes y daith yn ei gofiant, nac yn Methodistiaeth Cymru. Mewn llythyr o eiddo un Evan Williams, cynghorwr yn Nghymru, yr hwn a gafodd ei ysgrifenu yn y flwyddyn 1742, dy wedir:—[58]"Y mae Mr. M. H——s wedi bod yr wyth nos ddiweddaf yn Sir Fôn, a rhyfedd fel y mae y gwaith yn myned yn mlaen yno. Bwriada y brawd Rowland fyned yno yn mhen mis." Ddarfod iddo gario allan ei fwriad sydd sicr, oblegyd dywed un T——s B——n, yr hwn yntau oedd hefyd yn gynghorwr yn ol pob tebyg, mewn olysgrifilythyr a ysgrifenwyd ganddo yn 1742: " Bu y brawd Richards a'r brawd R——s yn Sir Fôn. Yn awr y mae y brawd Richards yn myned o gwmpas Deheudir Cymru." Diau mai Daniel Rowland oedd y brawd " R——s "; ysgrifenid ei enw weithiau yn Rowland, a phryd arall yn Rowlands; ac felly y gwnai ef ei hun. Y mae y gweddill o lythyr Evan Williams mor ddyddorol fel yr ydym yn rhwym o'i gofnodi:— "Bendithiwyd y brawd Beaumont yn fawr yn ein tref, yn neillduol er dystewi yr erlidwyr. Ond digwyddodd fod Cwrt yr Esgob yn fuan, a phregethodd y Canghellydd yn erbyn y Methodistiaid ac yn erbyn Mr. Whitefìeld, fel y trowyd meddwl llawer o'r bobl drachefn. Gelwir llawer i'r cwrt er rhoddi cyfrif paham y cadwant seiadau yn eu tai. Tybiodd rhai mai gwell oedd talu (y dirwyon a osodid arnynt), gan eu bod yn weiniaid, er mwyn cael myned yn rhydd. Gwedi eu holi, dywedwyd wrthynt eu bod yn bobl oedd yn bwriadu yn dda, ond y dylent geisio cadw Rowland a Harris o fewn eu terfynau. Dywedodd y Canghellydd y gwnai selio gwarant i ddal Rowland y tro nesaf." Eglura llythyr yr hen gynghorwr fel yr erlidid y Methodistiaid yr adeg hon gan swyddogion yr Eglwys Wladol. Am awdwr y llythyr, sef Evan Williams, brodor o Ystradgynlais ydoedd; cawsai ei argyhoeddi wrth ddarllen gwaith Bunyan, "Tyred, a chroeso, at Iesu Grist; ". ac yn bur fuan dechreuodd gynghori gyda'r Methodistiaid. Am beth amser bu yn un o ysgolfeistri Griffìth Jones, gan yr hwn y danfonwyd ef i Sir Gaernarfon i gadw ysgol. Yr oedd hyn yn 1742. Erlidiwyd ef yn enbyd yno, bu mewn perygl am ei einioes, a ffodd yn ei ol at Griffith Jones. Y dref y sonia am dani yn ei lythyr, yn ol pob tebyg, oedd Caerfyrddin. Diweddodd ei oes gyda'r Annibynwyr.
Cawn gyfeiriad at ymweliad o eiddo Daniel Rowland a Lleyn, yn Sir Gaernarfon, a gymerodd le cyn y flwyddyn 1745, mewn hên interliwd. Ai y daith yn 1743 ydoedd, ynte taith a gymerodd y flwyddyn ddilynol, nis gwyddom. A ganlyn yw gwyneb-ddalen yr interliwd:—
INTERLUDE MORGAN Y GOGRWR
Ar Y CARADOGS, NEU FFREWYLL Y
METHODISTIAID , yn dair Act Gan
WLLIAM ROBERTS, o Lanor yn
Llyn, Mwythig; argraffwyd
gan R Lathrop tros yr
AWDWR, 1745."
Yr oedd hon yn un o'r interliwdiau mwyaf poblogaidd yn erbyn y Methodistiaid; chwareuid hi mewn ffeiriau a lleoedd poblog, er mawr ddifyrwch i'r werin isel eu chwaeth, a chyda chymeradwyaeth boneddigion ac offeiriaid yr ardaloedd. Heblaw fod y syniadau a roddir yn ngenau y gwahanol gymeriadau Methodistaidd yn yr interliwd yn gelwyddog, y mae yr iaith yn warthus ac aflan mewn llawer man, yn gymaint felly fel na feiddiem ddifynu aml i linell. Darlunir "Chwitfíild," fel ei gelwir, yn dweyd fel y canlyn wrth Howell Harris:—
"Pa beth a dâl trâd i ddyn truan,
A rhoi 'r mawr anhunedd arno fo 'i hunan,
I yru dynion anonest i'r ne',
Dan rorio, oni cheiff ynte 'r arian?
Mi rois i sos go dda i'r Saeson,
Mae yno bob bedlem yn abl boddlon;
Ped ferdid tithe'n medru gyru 'r Cymry o'u co',
Nyni a 'sguben holl eiddo 'r Esgobion.
Ac a gaem ferdid y Brenin ar fyrder
A'r Parlament i wneyd ffwrn saith mwy ei phoeth'der,
Na ffwrnas Nebucodonosor sur,
I losgi gwyr Eglwys Loeger."
Hysbysir ni ar waelod y ddâlen fod y penill olaf hwn yn cynwys " geiriau a ddywedwyd gan Mr. Dan Rowlands, yn Lleyn, a chan Tho Jones, o Bortdinllaen."' Y mae'r interliwd trwyddi, a chynwysa dros driugain tudâlen, yn llawn o'r cyffelyb gam-ddarluniadau o amcanion y Methodistiaid, ac o'r athrawiaethau a bregethid ganddynt. Ond ein hunig amcan ni yn awr, wrth ei difynu, oedd profi ddarfod i Daniel Rowland ymweled a Lleyn, cyn y flwyddyn 1745.
Cawn hanes hefyd am dano yn teithio trwy ranau o Sir Gaernarfon a Sir Fôn, yn 1747, ac yn ffodus y mae cryn dipyn o hanes y daith ar gael. Yn Mhenmorfa, ger Porthmadog, bygythiwyd ef yn dost, gan ei sicrhau, os pregethu a wnai, y gwneid ei esgyrn yn ddigon mân i'w gosod mewn cwd. Diystyru eu bygythion a wnaeth. Aeth yn ei flaen i Leyn, lle y cyfarfyddodd a rhai cyfeillion serchog. Yn Llanmellteyrn, gwnaed cais am gael yr eglwys iddo, am ei fod yn offeiriad urddedig, ond nacawyd hi. Pregethodd yntau oddiar y gareg farch wrth borth y fynwent. Ei destun oedd, Jer. xxx. 21:—[59]]] "Canys pwy yw hwn a lwyr roddodd ei galon i nesau ataf fi? medd yr Arglwydd." Yn ei bregeth profai nad oedd neb ond Crist wedi llwyr roddi ei galon i'r perffeithrwydd ag y mae deddf Duw yn gofyn. Yna darluniai gyfiawnder yn dangos yn mlaen llaw i Iesu Grist y dyoddefiadau y byddai raid iddo fyned trwyddynt, os elai yn ei flaen i dâlu dyled pechaduriaid. " Gwybydd," meddai cyfiawnder, " er dyfod at yr eiddot dy hun, na chai ond tŷ yr anifail i letya, a phreseb yn gryd, a chadachau yn wisgoedd." Ond yn lle cilio yn ol, atebai y Gwaredwr, "Boddlawn i'r driniaeth hono er mwyn fy nyweddi." " Os wynebu i fyd sydd dan y felldith, cai fod heb le i roi dy ben i lawr; ie, byddi yn nôd i eithaf llid a malais creaduriaid sydd yn cael eu cynal genyt bob moment." " O íy nghyfraith lân, yr wyf yn foddlawn i hyny! " " Cai hefyd chwysu dafnau gwaed ar noswaith oer, a phoeri yn dy wyneb, a'th goroni a drain; a'th ddysgyblion, wedi bod cyhyd o amser yn gweled dy wyrthiau, ac yn gwrando dy nefol athrawiaethau, yn dy adael yn yr ing mwyaf; ie, un o honynt yn dy werthu, ac un arall yn dy wadu, gan dyngu a rhegu yn haerllug na adwaenai mo honot." "Er caleted hyn oll," meddai Iesu Grist, "ni throaf yn ol; cuddiwyd edifeirwch o'm golwg." Yn ganlynol, dyma gyfiawnder a'r gyfraith yn cyd-dystio:— "O dydi, Wrthrych clodforedd holl angyhon y nef, a gwir hyfrydwch y Jehofah Dad, os anturi i'r fachnïaeth ddigyffelyb yma, bydd holl allu uffern yn ymosod arnat, a digofaint dy Dad nefol yn ddigymysg ar dy enaid a'th gorff sanctaidd ar y groes; ie, os rhaid dweyd y cyfan, bydd raid i ti oddef tywallt allan y diferyn olaf o waed dy galon! " Yn awr, pwy heb syndod a all feddwl am y Meichiau bendigedig, yn ymrwymo yn ngwyneb yr holl ystormydd i gymeryd y gorchwl caled arno ei hun, ac yn ngwyneb y cwbl yn gwaeddu " Boddlawn!" Ni allodd fyned yn y blaen ymhellach mewn ffordd o bregethu, canys torodd allan yn un floedd orfoleddus o wylo a diolch, megys y blwch enaint gynt yn llenwi y lle a'i berarogl. Ni anghofiwyd y tro hwn gan lawer ddyddiau eu hoes.
Ymwelodd lawer gwaith a'r Gogledd wedi hyn. Dywedir y rhoddai dro trwy y rhan fwyaf o Gymru unwaith yn y flwyddyn am ysbaid lled faith o'i oes. Bu yn gwasanaethu yn aml yn Llundain; a phregethai nid yn anfynych yn nghapelau yr Iarlles Huntington yn Bristol, Bath, a manau eraill.
Fel y rhan fwyaf o'r Diwygwyr, cafodd yntau ei erlid a'i faeddu yn fynych. Nid anaml byddai offeiriad y plwyf, neu foneddwr a breswyliai yn yr ardâl, yn cyflogi nifer o ddihirwyr i ymosod arno, pan y byddai yn ceisio llefaru. Mewn llythyr at Whitefield, dyddiedig Chwefror 14, 1743, dywed Howell Harris,[60] "Yr wyf wedi gweled y brawd Wm. Williams, ar ei ddychweliad oddiwrth y brawd Rowland, ac fe'm hysbyswyd ganddo ddarfod i'r gelyn gael ei ollwng yn rhydd arnynt ill dau, pan yn pregethu ar lan y môr mewn rhan o Sir Aberteifi. Daeth cwmni o ddhirwyr, wedi eu harfogi a phastynau ac a drylliau, gan ymosod arnynt a'u curo yn ddidrugaredd. Trwy ofal y Pen Bugail, dihangasant heb dderbyn niwed mawr, ond cafodd y brawd Rowland un clwyf ar ei ben. Cawsent eu cyflogi i hyn gan foneddwr o'r gymydogaeth. ond nid rhyfedd fod y gelyn yn myned yn gynddeiriog wrth weled y fath ymosodiad yn cael ei wneyd ar ei deyrnas."[61] Nid anfynych y bu mewn perygl am ei fywyd. Dyrysid yr addoliad weithiau, a byddai raid iddo ef a'i wrandawyr ffoi rhag ffyrnigrwydd eu herlidwyr, dan gawodydd o laid a cherig, nes dianc allan o'u cyrhaedd i ryw gilfach ddirgel; ac yno mewn tawelwch mwynhaent y fath gysur a thangnefedd ag a dalai yn dda am y dirmyg a'r gorthrymderau. Ymosodwyd yn enbyd arno unwaith yn Aberystwyth, gan ryw greadur haner meddw, yr hwn a dyngai y byddai iddo ei saethu. Anelodd y dryll ato, a thynodd y gliced, ond ni thaniai. Wedi methu yn hyn, curodd ef yn greulawn a'r pen arall i'r dryll.[62] Darllenwn am ymgais dieflig mewn man penodol i'w ddinystrio ef a'r bobl a wrandawent arno.
Deallid ei fod i bregethu yn yr awyr agored, a pheth wnaeth rhyw greadur mileinig ond cuddio swm mawr o bylor o dan y fan yr oedd ef a'r bobl i sefyll, gan wneyd llinyn main o bylor oddiyno hyd ryw bellder, yr hwn linyn a derfynai mewn ychydig wellt. Y bwriad oedd gosod tân yn y gwellt, a chwythu y pregethwr a'i gynulleidfa i fynu i'r awyr. Ond yn rhagluniaethol, daeth rhywun yno cyn i'r odfa ddechreu, a darganfyddodd y brâd. Yn mhob man braidd, byddai mewn perygl o gael ei faeddu, ond ni phali ai. "Ymosodwyd ar y brawd Rowland ryw bythefnos yn ol gan nifer o feddwon," meddai Howell Harris, mewn llythyr at Whitefield, dyddiedig Mawrth i, 1743, "ond llanwodd Duw Ei enaid yn odiaeth." Buy Diwygwyr droiau mewn cydymgynghoriad gyda golwg ar y priodoldeb o ddwyn y rhai a'u baeddent i'r llys gwladol; ond peidio a wnaethant; yn hytrach gwnaent eu herlidwyr yn wrthrychau arbenig eu gweddïau. Pa 'fodd bynag, nid oedd Rowland yn ei weled yn anmhriodol defnyddio ychydig ystryw weithiau er dianc rhag eu erlidwyr. Un tro, pan yn myned i bregethu mewn tref yn y Gogledd, daeth i'w glistiau fod haid o oferwyr wedi penderfynu na chai fyned i mewn o gwbl i'r lle. Daethant allan yn llu i'w gyfarfod. Pan wybu wrth y swn eu bod yn agos, gosododd ei het ar ei goryn yn y dull mwyaf ffasiynol, gan yru y ceffyl ar garlam. "Dyma fo'n dod," meddai rhai, " Na, nid y fo ydyw," meddai'r lleill; "nid yw y Methodistiaid byth yn gyru fel yna." Pan ddaeth i'w cyfer, dywedodd, "Blant y diawl, beth ddaeth a chwi allan mor foreu?" Penderfynodd hyn y cwestiwn; " y mae wedi dweyd enw'r diawl," meddent, a chafodd basio yn ddirwystr.
Yn ngwyneb gwrthwynebiad mwyaf pendant yr awdurdodau eglwysig y cariai Daniel Rowland ei waith yn mlaen. Nid yn unig meddai yr esgobion Saesneg, a'r nifer amlaf o'r clerigwyr, wrthwynebiad cryf at yr hyn a ystyrient yn annhrefn yn ei ymddygiad; ond yr oedd yr athrawiaethau Calfinaidd a bregethid ganddo yn gâs ganddynt. Yr oedd Eglwys Loegr, a'i holl offeiriaid yn mron, wedi cael eu llygru gan yr heresi Arminaidd. iachawdwriaeth yn gyfangwbl o râs, a bregethai yntau, a holl gyfiawnderau dyn ond megys bratiau budron. Dyrchafai Grist fel yr unig Waredwr, a ffydd ynddo fel unig foddion cyfiawnhad gerbron Duw. Oblegyd hyn nid oedd ond erledigaeth a phob ammharch yn ei aros yn yr Eglwys. I gychwyn, rhwystrwyd ef i pregethu yn nghapel Ystrad-ffin. Mewn llythyr at Mrs. James o'r Fenni, yr hon, wedi hyny, a ddaeth yn wraig i Mr. Whitefield, dyddiedig 1742, dywed:—[63] "Ni oddefir fi i bregethu yn Ystrad-ffin yn hwy. Pregethais fy mhregeth ymadawol yno, oddiwrth Actau XX. 32. Cyrhaeddodd eu calonau. Nid wyf yn credu i'r fath wylo uchel gael ei glywed mewn unrhyw angladd yn nghôf dynion. Clywed yr Arglwydd eu llef, ac anfoned iddynt weinidog galliog, yr hwn a gyfrana iddynt air y gwirionedd, fel y mae yn yr Iesu. Yn awr yr wyf i ymsefydlu yn Llanddewi-Brefi, yr hon sydd eglwys helaeth, yn abl cynwys amryw filoedd o bobl Daw amryw o'm cymunwyr yn Ystrad-ffin ac Abergwesyn yno ddiwedd y mis nesaf." Y mae y gair "ymsefydlu" wedi ei osod mewn llythyrenau Italaidd, er dangos ddarfod i Rowland gael awgrym cryf na oddefid iddo grwydro o gwmpas fel yr arferai, Er mor boblogaidd ydoedd, ac er mor ddysglaer ei ddoniau, ni chynygiwyd iddo unrhyw ddyrchafiad gan yr Esgob. Yn guwrad, gyda deg punt y flwyddyn o gyflog, am wasanaethu tair eglwys, y cafodd fod trwy'r blynyddoedd. Yn y flwyddyn 1760, bu ei frawd, John Rowland, yr hwn a ddaliai y fywioliaeth, farw; boddodd wrth ymdrochi yn y môr gerllaw Aberystwyth. Ni chynygiwyd y fywoliaeth i Daniel Rowland; yr oedd ei fod yn Fethodist yn rhwystr anorfod ar ei ffordd i'w chael; ond rhoddwyd hi i'w fab hynaf, yr hwn a'i daliodd tra y bu byw; a gwasanaethai yntau fel cuwrad i'w fab ei hun. Achwynid arno yn barhaus gerbron yr Esgob, ac nid anfynych gwysid ef i ymddangos ger ei fron. Weithiau rhybuddid ef yn arw, a gollyngid ef ymaith gyda bygythion. Bryd arall ceisid ei ddarbwyllo gyda geiriau têg. Am un o'r troion hyn, ysgrifena un William John, cynghorwr, at Howell Harris, tua diwedd 1743:[64] " Gwrthododd yr Esgob ordeinio Mr. Wilhams (Williams, Pantycelyn). Bu y Parch. Mr. Rowland gyda'r Esgob dydd Llun, yr hwn a ymddygodd yn garedig ato, a chyda hawer o barch." O'r diwedd, rhoddwyd ar ddeall iddo fod yn rhaid iddo beidio gweinidogaethu allan o'i blwyf, a phregethu mewn lleoedd anghysegredig, onide nas gellid ei oddef yn hwy. Atebodd yntau yn dawel, fod amgylchiadau y wlad ar y pryd yn ei farn ef yn galw am weinidogaeth deithiol, ai fod yn credu fod ei waith wedi derbyn cymeradwyaeth y nefoedd, ac nas gallai ymatal, beth bynag
—————————————
Llangeitho
—————————————
fyddai y canlyniadau. Mewn canlyniad, prysurwyd i'w ddihatru o'i swydd. Ceir dosparth o'r clerigwyr yn bresenol yn tueddu i wadu ddarfod i Rowland gael ei atal, a seiliant ei dadl ar y ffaith nad oes unrhyw gyfeiriad at hyn yn nghofnodau llys yr Esgob yn Nhyddewi. Ond y maent yn anghofio nad rhaid wrth erlyniad cyfreithiol i droi Rowland allan; nid oedd ond cuwrad; gallai yr Esgob gymeryd ei drwydded oddiarno wrth ei ewyllys, a hyny nid yn unig heb brawf yn ei lys, ond heb osod cofnod o'r weithred ar y Llyfrau. Ac felly y gwnaeth yr Esgob Squire.
Yn y flwyddyn 1763 y trowyd Daniel Rowland allan. Ceir dau draddodiad gwahanol gyda golwg ar yr amgylchiad. Dywed y Parch. John Owen, yn ei fywgraffiad, i hyn gael ei wneyd yn gyhoeddus ar y Sul yn Llanddewi-brefi. Cawsai efe yr hanes oddi wrth hen ŵr duwiol a breswyliai yn y lle, ac a gofiai yr amgylchiad yn dda. Daeth dau offeiriad i'r eglwys pan yr oedd Rowland yn esgyn grisiau y pwlpud. Un o'r ddau oedd y Parch, Mr. Davies, brawd Cadben Davies, Llanfechan; ni wyddis enw y llall. Estynyyd llythyr i Rowland yn y pwlpud. Gwedi ei ddarllen, trodd at y gynulleidfa anferth oedd wedi ymgynull, gan ddweyd na oddefid iddo bregethu. Daeth i lawr o'r pwlpud, ac aeth allan o'r eglwys, yn cael ei ganlyn gan y bobl, y rhai a wylent yn hidl. Yr adroddiad hwn a ddilynir gan y Parch. E. Morgan, Ficer Syston, yn y bywgraffiad a gyfansoddodd yntau; ond ychwanega ddarfod i'r gynulleidfa, gwedi myned allan, daer gymhell Rowland i bregethu, yr hyn a wnaeth yntau oddiar glawdd y fynwent.
Eithr cafodd y Parch. John Hughes, Liverpool, adroddiad gwahanol gan David Jones, Dolau-bach, yr hwn oedd yn flaenor yn Llangeitho, ac yn ŵr tra chraffus. Fel hyn y dywed efe: " Yn Nadolig, 1763, y trowyd ef allan gan swyddogion yr Esgob. Tybiaf fod camgymeriad yn hanes ei fywyd gan y Parch. J. Owen, pan y dywed mai o Landdewibrefi y trowyd ef allan. Canys y mae yr hanesion a gefais i yn sicrhau mai yn Llangeitho a Llancwnlle yr oedd ef yn gweinidogaethu ar y pryd. Bum yn ymddiddan a hen ŵr o'r enw John Jenkins, yr hwn, pan yn hogyn tua phymtheg mlwydd oed, a aethai gyda'i rieni i Llancwnlle i wrando Rowland ryw Sabbath; ac i ddau swyddog oddiwrth yr Esgob ddyfod yno i droi Rowland allan, a bod Rowland wedi dechreu yr addoliad cyn eu dyfod. Ataliodd y bobl y gwŷr wrth y drws, nes iddo orphen pregethu; yna aeth rhywun ato i'w hysbysu am eu dyfodiad a'u dyben. Ar hyn, disgynodd yntau yn ddioed o'r pwlpud, a daeth atynt i'r drws, gan ofyn eu neges. Hwythau a fynegasant iddo. ' O,' ebai Rowland, 'gallasai ei arglwyddiaeth gymeryd llai o boen arno na'ch danfon chwi yma; o'm rhan i, nid âf byth o fewn ei muriau mwy; os mynwch chwi, hi gaiff fod yn llety dylluanod. Mae y bobl yn barod i ddod gyda fi.' Tystia yr hen ŵr ei fod ef yn bresenol ar y pryd, yn gweled ac yn clywed hyn oll, ac mai yn y modd a ddarluniwyd y bu yr amgylchiad. Ac fe wyr pawb sydd mewn oedran i gofio hefyd mai yn gwbl anghyfanedd yn mron y bu y rhan fwyaf o'r llanau, yn y cymydogaethau hyn, am amser maith ar ol troad Rowland allan." Nid yw y ddau adroddiad o angenrheidrwydd yn anghyson. Nid yw yn anmhosibl i Daniel Rowland gael ei atal yn y boreu rhag gweinyddu yn Llanddewi-brefi, ac iddo farchogaeth rhyw chwech milldir i Lancwnlle erbyn y gwasanaeth prydnhawnol, yn yr hwn le y digwyddodd yr amgylchiad a gofnodir gan yr hen flaenor duwiol o'r Dolau-bach. Ond iddo gael ei droi allan sydd sicr. Ni amheuwyd hyn gan nac Eglwyswr nac Ymneillduwr am fwy na chan' mlynedd gwedi i'r peth ddigwydd. Hysbysai y Parch. Howell Davies[65] ar gyhoedd yn Nghapel Llangeitho, ddarfod i'r weithred brofi yn flin i'r Esgob mewn canlyniad; ei fod mewn ing enaid oblegyd hyn ar ei wely angau, ac iddo ddolefain: " Ymdrechais yr ymdrech (ai yr ymdrech yn erbyn Methodistiaeth a olygai?), gorphenais fy nghyrfa, ond collais fy enaid, ac yr wyf bellach yn andwyol!" A bu farw dan gnofeydd cydwybod ofnadwy. Byddai hyn, yn annibynol ar bob prawf arall, yn ddigon o sicrwydd ddarfod i ddrysau yr Eglwys gael eu cau yn erbyn Daniel Rowland; oblegyd yr oedd Howell Davies ac yntau yn gyfeillion o'r fath fwyaf mynwesol tra y buont ill dau byw; ac yn ychwanegol, yr oeddynt mewn cyfathrach berthynasol, gan i Nathaniel, ail fab Rowland, briodi merch Howell Davies. Rhaid felly fod amgylchiadau troad Rowland allan yn gwbl hysbys i Mr. Davies. Yr oedd Rowland yn gweled yr ystorm yn dyfod, ac yn parotoi i ymadael a'r Eglwys Sefydledig.[66] "Difyr yw darllen," meddai Dr. Lewis Edwards, "am y dull y llwyddodd yr hen ddiacon craffus o'r Dolau-bach i gael allan brofion fod Rowland yn Ymneillduwr ewyllysgar. Nid oes un ymresymiad cadarnach yn Euclid. Ond er bod Rowland yn parotoi i ymadael, tynodd yr Eglwys Sefydledig arni ei hun yr anfri o'i droi allan. Os oedd y pechod o sism yn gysylltiedig o gwbl a'r amgylchiad hwn, y mae yn rhaid mai yr Esgob a'i trodd ef allan oedd yn euog; ac nid ydym yn gwybod nad yw yr euogrwydd hwnw yn gorwedd hyd heddyw ar yr Eglwys o'r hon y cafodd ei ddiarddel."
Dyma Daniel Rowland bellach yn ddyn rhydd. Nis gall yr Esgob bellach ymyraeth ag ef, na chlerigwyr cenfigenllyd gwahanol blwyfau Cymru ei niweidio a'u hachwynion; y mae at ei ryddid i bregethu yr efengyl dragywyddol yn y lle a'r modd a ddewisa, heb fod gan neb rith o hawl i'w alw i gyfrif. Gwnaethid paratoadau yn flaenorol i adeiladu capel helaeth iddo yr ochr arall i afon Aeron, ac ar gongl pentref Gwynfil, yr hwn yn aml a gamenwir yn bentref Llangeitho; yn awr gwnaed pob brys i fyned yn mlaen a'r adeilad. Gwedi ei orphen, gelwid ef " Yr Eglwys Newydd." Yr oedd tua 45 troedfedd o hyd, yr un faint o lêd, ac heb un oriel; yr oedd y pwlpud gyferbyn a'r drws yn mhen pellaf y capel, a mynedfa iddo o'r cefn, fel na fyddai raid i'r pregethwr ymwthio trwy y gynulleidfa. Dyma lle y bu yn gweinidogaethu mwy hyd ddydd ei farwolaeth. Yr oeddid wedi troi yr ysgubor cedd ar dir Rowland, yn mha un yr arferid cadw seiadau, yn fath o gapel yn mhell cyn hyny, yn yr hwn yr arferai y cynghorwyr di-urddau bregethu. Adeilad gwael a diaddurn oedd yr hen ysgubor, ei muriau o bridd a chlai, a'i thô yn gymysg o wellt a brwyn; ac nid oedd ei mesuriad ond rhyw ddeg llath o hyd wrth chwech o led. Aeth yr ysgubor yn rhy fach, trowyd hi yn dŷ anedd, a chyfodwyd capel bychan tua'r flwyddyn 1760, ryw dair blynedd cyn diarddeliad Rowland. Muriau pridd a thô gwellt oedd i hwn eto, ac yr oedd yn dra diaddurn. " Ty Seiat " y gelwid y naill a'r llall o'r rhai hyn. Byddai Rowland yn y cyfarfodydd a gynhelid ynddynt yn fynych, naill yn y gyfeillach grefyddol, neu yn gwrando'r cynghorwyr; ond elai iddynt yn ddirgel, rhag i'w elynion gael achlysur i achwyn arno wrth yr Esgob. Dywed Edward Morgan, Ficer Syston, ei fod mewn amgylchiadau cyfyng wedi ei droi allan; nad oedd ganddo ddim at gynal ei wraig a'i blant; ac nad oedd gan y Methodistiaid yr adeg yma unrhyw gynllun tuag at gynal eu pregethwyr. Er prawf o hyn, adrodda ddarfod i Rowland, yn fuan gwedi hyny, gerdded ar ei draed yr holl ffcrdd i Landdowror, i ymgynghori a'r Hybarch Griffìth Jones, ac nad oedd ganddo i gynal natur ond teisen yn ei logell, yr hon a fwytai efe ar y ffordd, gan yfed dwfr o'r ffynon i dori ei syched. Nis geill yr ystori hon fod yn wir. Yn 1763, mor bell ag y gwyddis, y diarddelwyd Rowland; ond yr oedd Griffìth Jones wedi marw yn ngwanwyn y flwyddyn 1761, sef ddwy flynedd cyn hyny. Yr oedd Daniel Rowland wedi priodi i un o'r teuluoedd goreu yn yr amgylchoedd, ac yr oedd Mrs. Rowland yn cael ei chyfrif yn ddynes "lew iawn," fel y dywedir yn Sir Aberteifi. "Teg ydyw dweyd," meddai y Parch. John Hughes, "fod lle i feddwl fod Rowland yn derbyn llawer mwy oddiwrth ei Fethodistiaeth nag y dywedir ei fod oddiwrth ei guwradiaeth. Dywedir y cymunai rhai miloedd yn Llangeitho bob mis, cyn, ac ar ol ei droad allan; ac arferol ydoedd i'r cymunwyr gyfranu rhyw gymaint o'u heiddo ar ddiwedd y cymundeb. Yr oedd llawer o honynt yn dlodion yn ddiau; ond yr oedd cryn nifer yn eu niysg yn alluog, ac yn ewyllysgar i gyfranu yn helaeth. Pa faint a allasai y cyfanswm fod, sydd anmhosibl dweyd, ac afreidiol ymofyn. Teilwng iawn i'r gweithiwr hwn ei gyflog, pa faint bynag ydoedd. Yr oedd arian y cymun, mewn amrywiol leoedd yr oedd cyfranu ynddynt, heblaw Llangeitho, yn cyrhaedd cryn swm." Ar yr un pryd, nid oes sail i dybio iddo ar unrhyw gyfnod o'i oes fod yn gyfoethog, na bod casglu arian yn amcan ganddo o gwbl.
Daeth y capel newydd bellach yn gyrchfan y miloedd; deuent yno o bob parth o'r Dywysogaeth, a pharhaodd felly dros ystod oes Rowland, ac am flynyddau lawer wedi iddo farw. Elai yr holl wlad yno o fewn cylch o rhyw bymtheg milldir, a deuai tyrfaoedd yn rheolaidd bob Sul cymundeb o eithafoedd y Gogledd, ac o gyrau pellaf y Dê. Am rai milldiroedd o gwmpas, byddai yr holl dai yn llawn o ddyeithriaid. Yn fynych, byddai dros bum' mil o bobl yn bresenol. Gofalai yntau am fod gartref ar Sul y cymundeb; pregethai fath o bregeth paratoad y Sadwrn blaenorol am un-ar-ddeg yn y boreu, a chan amlaf byddai rhai o'r gweinidogion dyeithr, neu o'r cynghorwyr, yn pregethu am dri yn y prydnhawn. Yn gyffredin, cynorthwyid ef yn y gwaith o gyfranu gan ddau neu dri o weinidogion, ac weithiau gan saith neu wyth. Dywedir fod y cynulliad yn Llangeitho yr adeg yma yn gyffelyb i ffair fawr; yr heolydd a'r ffyrdd yn dew o bobl, ond heb ddim o derfysg a dadwrdd ffair; yn hytrach,yr oedd difrifwch tragywyddoldeb yn eistedd ar wedd y dyrfa. Ni chanfyddid yno nac ysmaldod nac ysgafnder; byddai yr ieuanc a'r difeddwl, y rhai a ddaethent i'r cyfarfodydd gyda'r dyrfa, neu i foddhau chwilfrydedd, yn teimlo rhyw ddifrifwch yn ymaflyd ynddynt. Y caeau oeddynt lawnion o geffylau y dyeithriaid, a gwelid canoedd o anifeiliaid wedi eu cylymu yn rhesi wrth y cloddiau. Symbyliad i'r gwaith mawr a fu troad Rowland allan; rhyddhawyd ef o'i gadwynau; daeth ei weinidogaeth yn fwy nerthol, a lliosogodd y tyrfaoedd a ddeuent i wrando arno.
Yr ydym wedi galw sylw at y nerthoedd a arferent gyd-fyned a'i weinidogaeth; anaml y pregethai heb enill goruchafiaeth ar ei wrandawyr; trwy holl ystod ei oes gwisgid ef a nerth o'r uchelder, ac arddelid ef gan ei Arglwydd; ond weithiau torai allan yr hyn a elwid yn "ddiwygiad." Y "diwygiad" oedd y tân dwyfol yn disgyn gydag angerddolrwydd mwy na chyffredin, nes gwneyd yr holl gynulleidfa yn fflam, gan beri i'r drygionus grynu fel dail yr aethnen, a llenwi geneuau y duwolion a sain cân a moliant. Nid oes ynom un amheuaeth fod y diwygiadau hyn o Dduw; profir hyny yn ddiymwad gan eu ffrwyth. Ofer eu beirniadu mewn yspryd cnawdol; nid oes gan gnawd hawl i eistedd mewn barn ar waith Yspryd Duw. Cawn hanes nifer mawr o'r diwygiadau hyn yn cychwyn yn Llangeitho. Dechreuodd un cyn i Rowland gael ei dori allan o'r Eglwys, wrth ei fod yn darllen y Litani. Pan yn myned tros y geiriau, "Trwy dy ddirfawr ing a'th chwys gwaedlyd, trwy dy grôg a'th ddyoddefaint, trwy dy werthfawr angau a'th gladdedigaeth, &c., Gwared ni, Arglwydd daionus," disgynodd rhyw ddylanwad rhyfedd ar ei yspryd; yr oedd ei dôn o'r fath fwyaf toddedig, a'i lais yn crynu gan deimlad; enynodd y teimlad yn y gynulleidfa, cawsant hwythau olwg ar yr Hwn a wanasant, a galarasant am dano fel un yn galaru am ei gyntafanedig; ond yn bur fuan trodd y galar yn orfoledd annhraethol. Ymdaenodd y diwygiad hwn trwy ranau mawr o'r wlad. Torodd diwygiad arall allan yn Llangeitho yn y flwyddyn 1762, pan y daethai casgliad o hymnau Williams, Pantycelyn, a elwid "Môr o wydr" allan o'r wasg. Wrth ganu yr hymnau ardderchog hyn, y rhai ydynt mor llawn o syniadau dyrchafedig ac efengylaidd, llanwyd eneidiau y bobl a moliant, ac ymdaenodd y gorfoledd trwy y cymydogaethau o gwmpas. Ond yn fuan wedi troad Rowland allan, y cafwyd y diwygiad mwyaf grymus, fel pe buasai yr Arglwydd am ddatgan ei foddlonrwydd mewn modd amlwg i wroldeb a hunanymwadiad ei wâs. Gelwir ef y "Diwygiad mawr,"oblegyd ymledodd trwy y rhan fwyaf o'r Deheudir, a rhanau helaeth o'r Gogledd, a bu yn foddion dwyn miloedd at draed y Gwaredwr. Cofiai Nathaniel Rowland am dano yn cychwyn, pan yr oedd ei dad yn pregethu, ac fel hyn yr adrodda yr hanes: "Yr oedd y tŷ fel pe buasai wedi ei lenwi a rhyw elfen oruwchnaturiol, a'r holl dorf wedi cael ei meddianu a rhyw deimladau rhyfedd; llifai y dagrau dros wynebau canoedd, rhai o honynt yn ddiau gan orlawnder tristwch, a rhai gan orlawnder gorfoledd; yr oedd rhai wedi eu dryllio gan edifeirwch, ac eraill yn gorfoleddu dan obaith gogoniant." Dywed Nathaniel Rowland yn mhellach i'r goleu yn yr odfa ddechreu tywynu trwy adnod o'r Beibl:— "I ti yr wyf yn diolch, o Dad, Arglwydd nef a daear, am i ti guddio y pethau hyn rhag y doethion a'r rhai deallus, a'u datguddio o honot i rai bychain; 'íe, o Dad, canys felly y rhyngodd bodd i ti. "Disgynodd rhyw daranfollt allan o'r geiriau i fysg y gynulleidfa; dallwyd canoedd gan lewyrch y dysgleirdeb; yr oedd yr effaith mor uniongyrchol, pwerus, a gorchfygol, fel mai ofer fyddai ceisio ei ddesgrifio. Dywedir i'r diwygiad hwn fod yn foddion i iachau llawer o'r teimladau dolurus a ganlynodd yr ymraniad gofidus a gymerasai le rhwng Rowland a Harris. Yr oedd yr effeithiau oeddynt yn cydfyned a'r diwygiadau hyn yn anhygoel; syrthiai rhai mewn llewygfeydd; torai eraill allan mewn ocheneidiau a llefain, gan ddychrynfeydd ac ing meddwl, fel pe y buasai y Barnwr wrth y drws; tra y clywid eraill drachefn yn tori allan mewn mawl a gorfoledd, am eu gwaredu megys o safn marwolaeth. Yr adegau yma, byddai y bobl yn fynych yn _ dychwelyd adref o Langeitho, rhai ar draed ac eraill ar geffylau, yn wŷr a gwragedd, meibion a merched, dan ganu a gorfoleddu, fel yr oedd eu sŵn yn cael ei gario yn mhell gyda'r awelon. Fel hyn eu desgrifir gan Williams:—
"Mae'r torfeydd yn dychwel adref,
Mewn rhyw yspryd llawen fryd,
Wedi taflu lawr eu beichiau,
Oedd yn drymion iawn o hyd;
Y ffyrdd mawr yn frith o werin,
Swn caniadau'r nefol Oen,
Nes mae'r creigiau oer a'r cymoedd
Yn adseinio'r hyfryd dôn."
Er gwaethaf Esgob Tyddewi a'r clerigwyr rhagfarnllyd ni adawyd Daniel Rowland heb anrhydedd daearol. Tuag amser ei droad allan gwnaed ef yn "Gaplan i'r Dug o Leinster, un o anrhydeddusaf Gyfrin Gynghor ei Fawrhydi yn nheyrnas yr Iwerddon." Ni wyddis pa wasanaeth a ddisgwylid oddiwrtho yn y swyddogaeth hon, ond tybir y dygai iddo ryw gymorth sylweddol tuag at ei gynhaliaeth ef a'i deulu. Cynygiwyd iddo fywoliaeth Trefdraeth, yn Sir Benfro, gan y dyngarwr, John Thornton. Daethai Mr. Thornton i wybod am dano trwy wraig o ardal Llangeitho, yr hon, yn ol arfer llawer o ferched Sir Aberteifi yr adeg hono, a arferai fyned i Lundain yn ystod misoedd yr hâf i chwynu gerddi. Cawsai waith yn ngerddi y dyngarwr. Tra yno, elai bob Sabbath i glywed Mr. Romaine, a chaffai hyfrydwch dirfawr wrth ei wrando. Dymunai hefyd gael ei glywed yn yr wythnos, ac aeth at Mr. Thornton i ofyn caniatad i adael ei gwaith ychydig yn gynarach i'r pwrpas hwnw, gan addaw codi yn foreuach dranoeth. i wneyd iawn am y golled. Gofynai yntau: "A ydych yn hoffi pregethau Mr. Romaine?" "Ydwyf," meddai hithau, "y mae yn gwneyd i mi gofio am Gymru, oblegyd y mae gyda ni yno bregethwr heb ei fath." Arweiniodd hyn y boneddwr i holi hanes Rowland, ac yn raddol daeth yn un o'i gyfeillion mwyaf mynwesol Canlyniad y cyfeillgarwch oedd cynyg iddo fywoliaeth Trefdraeth; ond pan glywodd y bobl yn Llangeitho, llanwyd hwy a thristwch; cynullent yn lluoedd i'w dŷ, gan daer erfyn arno am beidio eu gadael; dadleuent mai efe oedd eu tad, ac na fyddai neb ganddynt i dori bara'r bywyd iddynt pe y cefnai efe. A'u llefau a orfu, penderfynodd Rowland aros lle yr ydoedd, ac ymddibynu ar Raghliniaeth. Pan yr anfonodd ei benderfyniad, a'i resymau drosto, trwy law ei fab i Mr. Thornton, atebai yntau: "Yr oedd genyf feddwl mawr am eich tad o'r blaen, ond y mae genyf fwy meddwl o hono yn awr, er ei fod yn gwrthod y rhodd a gynygiais. Y mae ei resymau dros hyny yn anrhydedd iddo. Nid wyf yn arfer gadael i eraill wthio eu dwylaw i'm llogell, ond dywedwch wrth eich tad fod croesaw iddo roddi ei law ynddi bryd bynag y myno." Dywedir ddarfod iddo cyn hyny wrthod bywioliaeth yn Ngogledd Cymru yn hollol oblegyd yr un rhesymau.
Cawn gyfeirio yn nes yn mlaen at yr ymraniad anhapus a gymerodd le rhwng Rowland a Harris, a'r rhwyg a achoswyd yn y Cyfundeb mewn canlyniad. Gwedi yr ymraniad, Rowland a ystyrid fel arweinydd; arno ef y disgynai yr holl ofal; wrtho ef, mewn undeb a'i gyfaill hoff, Williams, Pantycelyn, y disgwylid am gadw i fynu burdeb mewn athrawiaeth a disgyblaeth. Nid ysgôdd yntau y cyfrifoldeb a orphwysai arno; cymerai faich yr holl eglwysi ar ei ysgwyddau, ac nid bychan a fu ei drafferthion. Nid yw yn ymddangos i'r heresi Arminaidd beri fawr traffeth iddo; yr oedd gweinidogaeth y Diwygwyr Cymreig, o'r dechreuad, yn drwyadl Galfinaidd. Ond yn raddol aeth rhai o'r cynghorwyr i'r eithafion cyferbyniol. Llyncodd un o honynt y cyfeiliornad Sandemanaidd, sef nad yw y ffydd sydd yn cyfiawnhau ond cydsyniad noeth a gwirionedd yr efengyl. Gwnaethai y cyfeiliornad yma ddifrod dirfawr ar yr eglwysi yn Lloegr. [67] Yn awr, yr oedd un Mr. Popkins, pregethwr tra phoblogaidd, yn myned o gwmpas, gan gyhoeddi yr un syniadau yn mysg y Methodistiaid. Gwnaeth y gŵr hwn lawer o ofid i Rowland. O'r diwedd, dygwyd ef i brawf mewn cymdeithasfa, cauwyd ei enau yn hollol, ac ni flinwyd y Cyfundeb ganddo mwyach. Trafaelodd o gwmpas, gwedi ei fwrw allan, mor bell a Sir Gaernarfon, er ceisio lledaenu ei egwyddorion, ond aflwyddianus hollol a fu ei ymgais i enill canlynwyr. Ni fuasai Sandemaniaeth wedi cael lle i osod ei throed i lawr yn Nghymru, oni bai i Jones, o Ramoth, un o brif weinidogion y Bedyddwyr, gael ei hudo ganddi; parodd hyn niwed dirfawr i gyfundeb y Bedyddwyr yn y Gogledd. Eithr denwyd amryw gan yr heresi Antinomaidd, y rhai a arweinient fywyd penrhydd, ac a wnaent ras Duw yn achlysur i'r cnawd. Yn mysg y rhai hyn yr oedd im o'r enw David Jones, pregethwr o ddoniau mawr, ac yn dra phoblogaidd trwy Ddê a Gogledd, yr hwn hefyd oedd yn nai i Rowland ei hun. Aeth y gŵr hwn yn falch ac yn annyoddefol, o hunanol. Ni phetrusai wrthwynebu Rowland a Williams yn gyhoeddus mewn cymdeithasfa; pan y pwysleisient hwy ar yr angenrheidrwydd am edifeirwch, a sancteiddrwydd buchedd, dywedai yntau:—"Mor ddall a deddfol ydych; nid ydych fel pe baech yn deall yr efengyl." Yr oedd llu yn tueddu i'w ganlyn, ac ofnid i'r holl wlad fyned ar ei ol. O'r diwedd, penderfynodd Rowland ei fod naill ai i roddi heibio ei olygiadau Antinomaidd, neu i gael ei ddiarddel o'r Cyfundeb; yr oedd yntau yn rhy warsyth i blygu, a'i ddiarddel a gafodd. Tybiodd, yn ei ffolineb, y gallai ddyfod yn sylfaenydd plaid grefyddol; ond "pan aeth o gwmpas, gwedi ei ddiarddeliad, gan geisio casglu canlynwyr, ni chafodd nemawr i lynu wrtho, ac ni arhosodd y rhai hyny gydag ef ond am ychydig. Yn y diwedd, gadawyd ef gan bawb, fel halen wedi colli ei halltrwydd. Bu gwroldeb Rowland yn gweinyddu disgyblaeth ar Popkins a D. Jones yn llesiol i'r lleill, a dueddent i'r unrhyw gyfeilornad; dychwelasant at symledd yr efengyl, gan ofyn maddeuant am y blinder oeddynt wedi beri. Yr oedd yntau o yspryd nodedig o faddeugar. Ond adroddir i un pregethwr tra phoblogaidd, oedd wedi teithio cryn lawer yn Ngogledd Cymru, gan bregethu syniadau Antinomaidd, gael ei osod tan ddisgyblaeth boenus iddo. Parwyd iddo ddychwelyd trwy yr holl eglwysi, a pha rai yr ymwelasai yn flaenorol, gan dynu yn ol ei gyfeiliornadau, ac addef ei fai a'i gamgymeriad; yr hyn a wnaeth yntau gyda pharodrwydd. At hyn y cyfeirir yn ei farwnad:—
" Ac fe wibiodd amryw ddynion,
Rhai ar aswy, rhai ar ddê;
Ond fe gadwodd arfaeth nefol
Rowland onest yn ei le;
A phwy bynag gyfeiliornai
O wiw lwybrau dwyfol ras,
Fe ddatguddiai 'u cyfeiliornad,
Hyd nes gwelai pawb hwy'n gas."
Cawsom gyfleusdra i ymddiddan ag amryw hen bobl yn nghymydogaeth Llangeitho oedd yn cofio Rowland yn dda, yn arbenig a David Jones, yr hen flaenor duwiol o'r Dolau-bach. Darlunient ef fel dyn cymharol fychan o gorffolaeth, cyflym ar ei droed, a chwimwth ei ysgogiadau. Dywed Dr. Owen Thomas fod y darlun o hono, a dynwyd ychydig cyn ei farwolaeth, ac a gyhoeddwyd yn mhen mis wedi ei gladdedigaeth, gan R. Bowyer—gyda'r talcen llydan, uchel, llawn, yr aeliau bwaog, y llygaid treiddgar, y trwyn Rhufeinig, y genau llydan, y gwefusau teneuon, a'r ymddangosiad penderfynol - yn un tra chywir. Darfu iddo ef adnabod merch iddo yn Llandilo Fawr, pan ar daith ddirwestol yn y Deheubarth yn y flwyddyn 1837, wrth y darlun hwn, er na wyddai ar y pryd fod un ferch wedi bod gan Rowland erioed, a llai fyth fod merch iddo yn fyw y pryd hyny. Trwy gryn anhawsder y cafwyd cymeryd ei hm. " Nid wyf fi ond telpyn o glai fy hun.in," meddai. A thra yr oedd yr arlunydd wrth ei orchwyl, dywedai drosodd a throsodd: "Ow! Ow! tynu llun hen bechadur tlawd!" Fel y rhan fwyaf o'r prif areithwyr, yr oedd yn dra nervous; pan y gwelai y bobl yn ymdaith wrth y canoedd tros y bryniau cyfagos, ac yn ymdywallt i ddyffryn cul Aeron, er mwyn gwrando arno, byddai ef yn crynu trwyddo gan ofn yn aml, ac yn arswydo eu gwynebu yn y capel Dywedai wrtho ei hun yn uchel: "Yr Arglwydd a drugarhao wrthyf, bryfyn distadl, llwch a lludw pechadurus." Treuliai lawer wythnos mewn pryder poenus gyda golwg ar ei bregeth y Sul dilynol; pan y deuai boreu y Sabbath, dywedai wrth ei hen was ei fod yn ofni na fedrai bregethu; ond meddai hwnw: "Wedi ei gael i'r pwlpud ni a wyddem fod pob peth yn iawn; enillai nerth yn raddol, byddai ei eiriau fel fflachiad mellten yn cyniwair trwy y gynulleidfa oddi allan ac oddi mewn; oblegyd yn gyffredin byddai mwy y tu allan nag yn y capel, a byddai yr effeithiau arnynt yn rhyfedd." Weithiau teimlai adgyfnerthiad i'w yspryd wrth weled y tyrfaoedd, a chlywed swn eu caniadau. Yr oedd ffynon tua dwy filldir yn uwch i fynu na Llangeitho; yno yr ymgasglai yr ymdeithwyr wrth y canoedd i fwyta eu tamaid bara a chaws, ac i ddrachtio y dwfr; wedi i natur gael ei hadfywio, canent emyn, a than ganu y disgynent yn fynych ar hyd llechweddau y dyffryn. Yn y cyfamser cerddai yntau yn gyflym ar hyd lan yr afon a'i feddwl mewn pryder; ond wrth glywed y swn codai ei ben i fynu yn sydyn, a dywedai, gyda gwen: "Dyma nhw'n dod, gan ddwyn y nefoedd gyda hwy."
Yr oedd holl elfenau y gwir bregethwr wedi cyfarfod yn Daniel Rowland. Meddai lais o'r fath oreu; hais treiddgar, chr, yn medru cyniwair yn hawdd hyd gyrau pellaf cynulleidfa o ugain mil Dywed rhai na fyddai yn bloeddio, er y siaradai yn gyffredin gydag yni mawr. Ond tystiai hen bobl Llangeitho fel arall, a dywedai ei hen forwyn y gorfyddai iddo newid ei grys ar ol yr odfa, gan fel y byddai wedi chwysu. Medrai ei lais arddangos pob math o deimlad, a phan yn traethu gwirioneddau tyner yr efengyl, byddai melusdra ei acenion yn orchfygol. Yr oedd ei gynefindra rhyfedd a'r Beibl yn peri fod ganddo gawell saethau o'r fath oreu wrth ei benelin yn wastad; ni fyddai ei gôf byth yn pallu pan y dymunai ddifynu adran o'r Ysgrythyr; byddai yr adnod wrth law ganddo yn ddieithriad, a hono yr adnod gymhwysaf i'r mater. Meddai ddychymyg beiddgar a chryf, yr hwn a barai i'r amgylchiadau a fyddai yn ddarlunio ymrithio yn ddelweddau byw o flaen ei lygaid. Pan yn pregethu unwaith yn Llancwnlle ar ddyoddefiadau y Gwaredwr, teimlodd fel pe bai Iesu Grist dan ei glwyfau a'i gleisiau yn bersonol ger ei fron, a gwaeddodd allan, "O wyneb glaswyn! O wthienau gweigion! O gefn drylliedig," nes yr oedd y dylanwad arno ef ei hun, ac ar y gynulleidfa yn mron yn llethol. Yr oedd ei deimladau yn danbaid ac yn gryfion. Dywedai un a'i hadweinai fod ganddo ddigon o deimladaeth (animal spirits) i haner dwsin o ddynion. Felly, heblaw fod ei ddeall yn nodedig o gyflym a chlir, a'i grebwyll yn fírwythlawn mewn meddylddrychau, yr oedd grym ei deimladaeth yn rhoddi adenydd i'w eiriau, ac yn peri eu bcd yn llawn tân. A thynai ysprydoliaeth o bresenoldeb cynulleidfa; byddai dod wyneb yn wyneb a thorf yn ei gyffroi drwyddo; a byddai y cyfryw gyffro nid yn ei ddyrysu, ond yn grymysu pob cyneddf a feddai, fel yr oedd ei ddeall yn fwy bywiog, a'i grebwyll yn fwy cynyrchiol, a gwresogrwydd ei yspryd yn gryfach nag ar unrhyw adeg arall. Efallai mai yn y pwlpud, yn nylanwad yr ysprydoliaeth a sugnai oddiwrth ei wrandawyr, y deuai o hyd i'r perlau dysgleiriaf a ddisgynai dros ei wefusau. Ac yn goron ar y cyfan, arddelid ef gan Yspryd Duw mewn modd neillduol yn mron trwy holl gydol ei oes, Pan y disgynai y dylanwadau nefol arno byddai fel llosg-fynydd mawr, yn arllwys allan o'i ymysgaroedd ffrydiau o hylif tanllyd, fel nad oedd yn ddichon i gnawd sefyll o'i flaen. Byrion oedd ei bregethau fel rheol, rhyw haner awr neu ddeugain mynyd o bellaf, ond ar rai achlysuron, anghofiai ei hunan yn gyfangwbl, a phregethai am dair neu bedair awr. Adroddir am un tro arbenig, pan yr cedd ef a'i wrandawyr wedi ymgolli mewn mwynhâd, fel na wyddent ddim am amser, mai wrth weled yr haul yn pelydru i mewn trwy y pen gorllewinol i'r eglwys, yn arwydd fod y dydd yn tynu at ei derfyn, y deallasant feithder yr adeg yr oedd yr odfa wedi para. Yr oedd ei deimladaeth ysprydol yn nodedig o fyw. Mewn cymdeithasfa unwaith, yr oedd yr odfaeon wedi bod yn bur galed; yr oedd offeiriad wedi pregrethu yn dra marwaidd am ddeg o'r gloch y prif ddiwrnod, a Rowland i sefyll o flaen y dorf ar ei ol. Teimlodd nas gallai lefaru heb fedru cynhesu yr hinsawdd rywsut yn gyntaf. Galwodd ar hen gynghorwr duwiol, enwog am fyrdra a nerth ei weddïau, Dafydd Hugh, Pwllymarch, i fyned am fynyd i weddi, "dim ond mynyd," meddai. Gyda'r gair, yr oedd yr hen gynghorwr yn anerch yr orsedd: "Arglwydd Iesu, er mwyn dy waed a'th ing, gwrando fi. Y mae dy weision wedi bod yma yn ceisio nithio y prydnhawn ddoe, a'r boreu heddyw; ond yn ofer,, Arglwydd; nid oes yr un chwa o wynt wedi chwythu arnom o'r dechreu. Y gwynt, Arglwydd! Y gwynt, Arglwydd grasol. Oblegyd yn dy ddwrn di y mae y gwynt yn awr ac erioed, Amen." Daeth ton o deimlad dros y gynulleidfa; chwythodd yr awel falmaidd nes sirioli ac adfywio pawb, a phregethodd gŵr Duw gyda nerth a dylanwad anorchfygol.
Siaredir weithiau fel pe byddai nerth Daniel Rowland yn gynwysedig yn gyfangwbl yn ei areithyddiaeth, ac nad oedd ei bregethau, ar wahan oddi wrtho ef, ond cyfansoddiadau digon cyffredin. Y mae hyn yn gamgymeriad hollol. Y mae ei bregethau a gyhoeddwyd yn awr ger ein bron, ac y maent mewn gwirionedd yn ardderchog, yn llawn mater, ac wedi eu cordeddu a difyniadau allan o'r Beibl. Puritanaidd ydynt o ran nodwedd, a nodedig o Ysgrythyrol; ac y maent yn dryfrith o'r cymhariaethau mwyaf cyffrous a swynol. Bid sicr, yr oedd hyawdledd a chyffro enaid y pregethwr yn ychwanegu at eu heffeithiolrwydd; ond ar eu penau eu hunain byddai yn anhawdd cael dim mewn unrhyw iaith yn rhagori arnynt. Cymerer y difyniad canlynol o " Newydd Da i'r Cenhedloedd." Cyfeiria at y doethion wedi myned i Jerusalem i chwilio am y Mab bychan yn lle i Bethlehem: " Nid trwy dywysogaeth y seren y daethant yno, ond trwy dywysiad eu rhesymau eu hunain. Tybiasant, gan mai Caersalem oedd prif ddinas y deyrnas, ac eisteddfod brenhinoedd, y byddent yn sicr o glywed yno am enedigaeth Crist. Dilynasant, meddaf, ddynol resymau, am hyny, nis cawsant yr Iesu. Nis gellir ei gael ef ond wrth ei oleuni a'i gyfarwyddiadau ei hun. Rheswm yn wir sydd roddiad daionus, ac o'r gwaed brenhinol; eto, fel Mephiboseth, mae yn gloff o'r ddwy droed. Ni ddaethai hwnw byth at Dafydd nes cael ei gario ryw ffordd neu gilydd; am hyny, da y gwnaeth Dafydd ddyfod ato ef. Felly, rheswm sydd yn dymuno marwolaeth yr uniawn, ac yn canfod daioni ac yn ei ganmol, ond byth nid yw yn ei ddilyn, ac nis gwna hyd oni lusgir ef:— Ni ddichon neb ddyfod ataf fi, oddieithr i'r Tad, yr hwn a'm hanfonodd, ei dynu ef. Cyhyd ag y dilynasant y seren y gwnaethant yn dda; pan adawsant y seren, ac y dilynasant eu rheswm eu hunain, y gwnaethant yn ddrwg. Dilyned y dyn dâll ei arweinydd, serch gorfod myned trwy ddrain a mieri, trwy ddyffrynoedd a thros fynyddoedd; ymddirieded i olygon eraill, gan nad all weled ei hun. Yr ydym bawb yn ddeillion wrth natur, ac o dosturi atom y danfonodd Crist y Diddanydd i'n harwain." Cymerer eto ddifyniad o'r un bregeth, yr hon sydd yn llawm o'r cyffelyb berlau: " Trueni yw meddwl leied gwerth a wel rhai yn yr Arglwydd Iesu; ni ddeuant o'r tai nesaf i ymofyn am ei wyneb. Pa mor bell yr A rhai i farchnad pan fyddo angenrheidiau y corph yn pallu? Mae eneidiau llawer wedi hir ddyoddef heb eu diwallu. Mae arnaf chwant dadleu dros eich eneidiau, a llefain am gael tamaid o fara iddynt, o'r fan lleiaf unwaith yn yr wythnos. Pe y caent ond hyny, mi a ddisgwyliwn iddynt gryfhau, ac ymorol am lawer yn ychwaneg. Deuai y doethion ychwaneg o filldiroedd nag y deuwch chwi o gamrau. Gwrthddadl; pe y gallech ei ddangos i ni, byddem foddlawn iawn i ddyfod. Chwi a ellwch gael ei weled ef, ac yn fwy gogoneddus nag y gwelodd y doethion eí. Yr ydym yn dangos Crist i chwi yn ngwyneb yr efengyl, nid i lygaid y corph, ond i'r enaid; nid yn gorwedd yn y preseb, nac yn gweddïo ar y mynydd, nac yn gwaedu yn yr ardd, nac yn marw ar y groes, ond yn eistedd ar ei orsedd yn ogoneddus yn y nef. Pe deuai un i ystafell olygus, a bod ynddi lawer o luniau prydweddol, os bydd lleni neu gorteni (curtains) drostynt, ni all neb weled yr un o honynt; ond pe y tynai un y lleni ymaith, byddai yn hawdd iawn eu canfod. Felly y mae ymddangosiad Crist yn ngwyneb yr efengyl; ond y mae llen rhwng rhai a hwynt; gorchudd ar eu llygaid, fel na welant. O! gweddïwch am rwygo'r llen, a thynu ymaith y gorchudd; yna y gwelwch ardderchawgrwydd yr Arglwydd Iesu yn ei gynulleidfaoedd." Gallasem ychwanegu sylwadau pert o'r fath yma, yn dynodi crebwyll o'r radd uchaf, yn ddiderfyn braidd, ond rhaid i ni ymfoddloni ar un difyniad ychwanegol. Y mae allan o'r bregeth, " Crist oll yn oll." Mater y pregethwr y w dangos cymh wysder yr Arglwydd Iesu, fel eneiniedig y Tad, i fod yn iachawdwr. " Nid gwan ydoedd, eithr galluog i waith y prynedigaeth. Yn Esaiah iii. 7, y dywedir, ' Na osodwch fi yn dywysog; ni byddaf iachäwr; canys yn fy nhŷ nid oes fwyd na dillad.' Cymhwysfod tywysogion yn gyfoethog; ni wna begeriaid ond gwancu meddianau eu deiliaid. Ni allasai Crist ddywedyd felly (fel y gŵr yn Esaiah), o herwydd efe a addaswyd a phob gras a dawn angenrheidiol i'r gorchwyl yr appwyntiwyd ef iddo; Salm lxxxix. 19. Yna, gwelwn nad ar wanŵr y rhoed y cymhorth, un ag a lewygai dan ei faich; nage, nage, ond un galluog, ië, hollalluog, i fyned trwy ei orchwyl. Megys y cyfododd Samson haner nos, ac y cariodd byrth Gaza i ben bryn uchel rai milltiroedd o'r dref; felly Iesu, y Cadarn, a gododd o angau, ac a gariodd byrth uffern a marwolaeth, ac a esgynodd i'r nef. O ba herwydd y dywedir, ' Efe a ddichon yn gwbl iachau y rhai trwyddo ef sydd yn dyfod at Dduw, gan ei fod yn byw bob amser i eiriol drostynt hwy.' Nid ydym yn dyfod at un egwan, fel at yr archoffeiriad gynt; eithr at im cadarn, un etholedig o'r bobl. Wele fawr gysuri bob credadyn gwan, fod ei Arglwydd yn alluog i orphen y gwaith a ddechreuodd. Cysur y gwahanglwyfus oedd, ' Os myni, ti a elli fy nglanhau i.' Enaid, y mae genyt Dduw ag y tâl ymddiried ynddo, y mae mor llawn o ewyllys ag yw efe o allu i'th iachau. Gan ei fod yn hollalluog, gorphwyswn ar, ac ymddiriedwn yn ei allu ef. Rheded dynion fel y mynont, yma ac acw i mofyn cymorth, nid oes neb a ddichon eu cynorthwyo ond efe. Yn mha galedi bynag y byddom, pwyswn arno ef; efe a all gadw Noah mewn arch o goed; yr un ffunud y ceidw efe Moses mewn arch o frwyn. Gwel Esaiah xviii. 2: ' Efe a hebrwng genhadau hyd y môr mewn llestri brwyn.' Efe a wared trwy foddion, heb foddion, yn wrthwyneb i foddion, a goruwch moddion." Anmhosibl darllen y difyniadau uchod heb deimlo ardderchawgrwydd y mater. Ar yr un pryd, rhaid addef fod nerth teimlad, a gwresawgrwydd yspryd y pregethwr, yn ychwanegu yn fawr at eu grym.
Y mae llawer o ddywediadau pert Rowland, yn gyhoeddus ac yn breifat, wedi cael eu cadw yn nghôf hen bobl. Dywedai unwaith wrth athrodwr: " Yr wyt ti, ddyn, yn dweyd fod yn rhaid datguddio a hêl pechodau; am eu bod yn rhy aml yn yr eglwys, na ddylid eu cuddio. Pwylla, ddyn. Pwy wyt ti? Yr wyf yn meddwl fy mod yn adnabod dy deulu, a'th frawd hynaf, sef Cam, mab Noah. Ei ddau frawd a ddymunent guddio noethni eu tad; ond nid oedd efe dros hyny. Pa wobr a gawsant hwy am eu gwaith o guddio? Bendith Duw a'u tad. Beth a gafodd dy frawd di? Melldith gan Dduw a'i dad. Diameu genyf na fydd dy wobr dithau ddim gwell." I ragflaenu disgyblaeth ry lem, dywedodd unwaith fel hyn: "Mae disgyblaeth yr efengyl yn debyg i gribyn aur, yn tynu ac yn cynull y cwbl ati, er achles ac amddiffyniad, ac nid fel fforch, sydd yn taflu ymaith ac yn gwasgaru."
Y mae yn amheus a gyfododd Duw, oddiar ddyddiau yr apostolion, y fath pregethwr a Daniel Rowland, ac yn meddu y fath gymhwysderau ar gyfer y pwlpud. Barn ddiamwys bron bawb a'i clywsant, ac yn eu mysg cawn dystiolaeth personau o ddysgeidiaeth uchel, na wrandawsant ar neb wedi ei ddonio i'r un graddau. Yr oedd fel Saul yn eu golwg, yn uwch o'i ysgwyddau na phawb. Meddai Howell Harris, mewn llythyr ag y difynwyd rhan o hono yn barod: "Y mae yr Arglwydd gydag ef (Daniel Rowland) yn y fath fodd, fel yr wyf yn credu bod y ddraig yn crynu y ffordd y cerddo. Er fy mod yn awr wedi cael y fraint o glywed a darllen gwaith llawer o enwogion Duw, nid wyf yn gwybod, mor bell ag y gallaf farnu, i mi adnabod neb wedi ei fendithio yn y fath fodd a doniau a nerth; y fath oleuni treiddgar i yspryd yr Ysgrythyrau, i osod allan ddirgelwch duwioldeb a gogoniant Crist. Ac er iddo yn fynych gael ei gyhuddo o gyfeiliornadau, eto mae yr Yspryd tragywyddol wedi ei dywys yn y fath fodd i'r holl wirionedd, a'i gadw felly rhag syrthio i unrhyw gyfeiliornad,
—————————————
Capel Llangeitho a'r gofgolofn
—————————————
Cyffelyb y barnai ac y dywedai Mr. Charles o'r Bala, a gwyddis pa mor bwyllog a chymedrol ei ymadroddion oedd efe. Yn y Drysorfa[68] ysgrifena fel y canlyn: "Yr oedd ucheledd a phob rhagoriaethau yn noniau Mr. D. Rowland, dyfnder defnyddiau, grym a phereidd-dra llais, ac eglurdeb a bywiogrwydd yn traddodi dyfnion bethau Duw, er syndod a'r effeithioldeb mwyaf ar ei wrandawyr." Eto, yn yr ymddiddan rhwng Scrutator a Senex, dywed Senex:— [69] "Yr oedd gweinidogaeth y gŵr hwn, fel y gwyddoch, yn ardderchawg dros ben, ac yn rhagori yn ei mawredd a'i hawdurdod ar neb a glywais erioed." Eto,[70] "Yr oedd doniau ac arddeliad Mr. Rowland y fath nas dichon gwrandawyr yr oes bresenol gynwys dim amgyffred am danynt. Cyffelybais ef yn aml yn fy meddwl i'r Tachmoniad hwnw yn mhlith cedyrn Dafydd; efe oedd benaf o'r tri; ac er godidoced oedd y lleill, eto, ni chyrhaeddasant y tri chyntaf. O rhyfedd y fath awdurdod a dysgleirdeb oedd gyda ei weinidogaeth, a'r modd rhyfedd yr effeithiai ar y gwrandawyr! Gwedi gwrando pregeth neu ddwy ganddo, ai y werin i'w hamrywiol deithiau meithion, yn llon eu meddwl, ac yn ddiolchgar i'r Arglwydd am ei ddawn annrhaethol." Meddai Mr. Charles am dano unwaith, wrth geisio ei ddarlunio i gyfaill o Sais: "Pregethai Rowland edifeirwch, nes y byddai dynion yn edifarhau; pregethai ffydd nes y byddai dynion yn credu. Darluniai bechod mor wrthun nes psri casineb ato; a Christ mor ogoneddus nes peri dewisiad o hono." Mewn llythyr a ysgrifenodd yn y flwyddyn 1780, at yr hon a ddaeth wedi hyny yn wraig iddo, dywed: " Yr wyf yn credu fel chwithau, nid yn unig fod y Bala bach, ond hefyd Cymru, yn dra breintiedig. Y mae y cenad oedranus hwnw i Frenin y Gogoniant, Daniel Rowland, yn anrhydedd bythol iddi, ac efe a fydd felly. Anaml y gallaf grybwyll am dano mewn ymadroddion cymhedrol. Yr wyf yn ei garu yn fawr, fel fy nhad yn Nghrist; ac nid heb reswm, oblegyd iddo ef, tan fendith Duw, yr wyf yn ddyledus am gymaint o oleuni a phrofìad a feddaf o'r iachawdwriaeth ogoneddus trwy Grist." Byddai yn anhawdd defnyddio ymadroddion cryfach, a phan y cofir eu bod yn dyfod oddiwrth Mr. Charles, amlwg y rhaid eu cymeryd yn eu llawn ystyr.
Yn gyffelyb y tystiolaetha Mr. Jones, Llangan. Mewn llythyr o'i eiddo at yr Iarlles Huntington, dyddiedig, Penybont, Mai 14, 1773, efe a ddywed: [71] "Buasai yn wir dda genym eich gweled yn ein cymdeithasfa. Yr ydoedd mewn gwirionedd yn ddiwrnod tra arbenig. Cyflawnodd yr Arglwydd Iesu ei addewid werthfawr i'w weision, 'Wele, yr wyf fi gyda chwi.' Yr oedd gallu mawr oddi uchod yn cydfyned a'r gair a bregethid. Aeth llawer adref i'w cartref yn llawen; a phwy na lawenhai wrth weled Tywysog ein Hiachawdwriaeth ei hunan yn ymddangos ar faes y frwydr, ac yn sicrhau i galonau ei bobl druain, y byddai iddo ef fuddugoliaethu ynddynt a throstynt? Yr wyf yn hyderu fod rhai diofal wedi eu dwysbigo yn eu calon. Pregethodd Mr. Rowland yr ail bregeth yn y boreu, oddiar Actau ix. 4: ' Ac efe a syrthiodd ar y ddaear, ac a glybu lais yn dywedyd wrtho, Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erlid i? Pregethodd Mr. William Williams o'i flaen ef. Ni a gawsom ddwy bregeth hefyd yn y prydnhawn. Y gyntaf gan Mr. William Llwyd (o Gaio), pregethwr diurddau, a'r ail gan Mr. Peter Williams. Gwnaeth rhai o'r bobl i'n tref fechan adsain Gogoniant i Fab Dafydd,' ' Hosana trwy'r nefoedd,' 'Hosana hefyd trwy'r ddaear,' Amen, Amen. Y mae digon yn eich cyrhaedd i gyfieithu y geiriau Cymraeg i chwi. Pregethodd Mr.Rowland, y dydd canlynol, mewn tref fechan, ryw ddeuddeg milltir i'r gorllewin i ni; lle y cafodd odfa felus mewn gwirionedd. Llefarodd yn rhyfeddol am Abraham yn dyrchafu ei lygaid ac yn edrych, Genesis xxii. 13. Ni chlywais y fath bregeth erioed o'r blaen. Yn sicr, efe yw y pregethwr mwyaf yn Ewrob. Bydded i'r Arglwydd ei arddel fwy-fwy. Yr oedd y dref fechan hono hefyd yn adseinio ' Gogoniant.' Parha, fendigedig Iesu, i farchog yn llwyddianus trwy ein gwlad. Llanw eni calonau oerion a'th gariad, ac yna ni a'th folianwn di o fôr i fôr."
Yr oedd gan yr Hybarch Grifíìths, Nevern, y syniadau uchaf am Rowland fel píegethwr. [72] "Yr oedd y pregethwr mawr hwn," meddai, "yn ei weinidogaeth gyhoeddus, yn gyffelyb i ymchwydd ac ymdoriad tònau y môr, pan fyddo y gwynt yn cynhyrfu mynwes yr eigion. Deuai nerth oll-orchfygol dylanwad yr Yspryd yn mlaen yn raddol, fel tòn y môr, gan gynyddu fwy-fwy. Dechreuai ei bregeth yn dawel, ond fel yr elai yn mlaen, cynyddai ei fater a'i arddull mewn dyddordeb. Byddai ei gynulleidfa, yx hon oedd yn wastad yn anferth o fawr, yn dwys syllu arno, gyda llygaid yn dysgleirio fel sêr, gan sylwi arno gyda phleser wrth ei fod yn myned rhagddo mewn modd mor ardderchog. Dygid eu meddyliau a'u teimladau yn mlaen gydag ef yn y modd mwyaf nerthol a melus, gan fod wedi eu cyffroi i radd uchel o gynhyrfiad crefyddol, nes yn mhen enyd y cyrhaeddai ei hyawdledd ei uchaf-bwynt; ac yna ymdorai ei hyawdledd, dan y dylanwadau dwyfol, mewn ardderchawgrwydd, fel ymchwydd y dòn, gan lwyr orchfygu y dyrfa fawr yn y modd mwyaf rhyfedd. Y pryd hwn, byddai angerddolrwydd eu teimladau yn cael gradd o ryddhad mewn bloeddiadau o 'Haleliwia,' a 'Bendigedig fyddo Duw.' Arafa y pregethwr; rhydd seibiant i'r gynulleidfa i fwynhau y wledd; yn wir, ni chlywsid ei lais pe yr elai yn ei flaen. Yr oedd yn angenrheidiol hefyd i'w brwdaniaeth gael pasio, er eu cymhwyso i wrando ar y gweddill o'r bregeth gyda budd. Felly ceisiant gadw eu teimladau danodd, ac ymdawelu, gan eu bod yn awyddus am fwynhau y danteithion a arlwyid ger eu bron gan genhadwr rhyfedd y nefoedd, yr hwn oedd wedi cael ei ddonio mor arbenig. Dechreua yntau adran arall o'i bregeth yn bwyllog a thawel, gan ymddyrchafu yn raddol, fel tòn arall o'r môr, i uchder gogoneddus mewn syniadau a theimladau, y rhai ydynt wir a naturiol effeithiau syniadau efengylaidd, a dylanwad yr Yspryd. Tan addysgiant Yspryd Duw, cynyrcha y rhai hyn eu cyffelyb yn y gwrandawyr. Y maent yn crogi wrth ei wefusau; gwyliant bob ysgogiad o'i eiddo, gan eu bod yn gwybod oddiwrth ei fater a'i ddullwedd fod ymdoriad gerllaw. Ei lais yntau, a gwedd ei wyneb, sydd yn cyfnewid, cynydda ei ymresymiad mewn nerth, ac yna dyna ei hyawdledd efengylaidd yn ymdori fel ymchwydd y dòn drachefn. Ar hyn y mae y gynulleidfa yn cael ei gorchfygu gan ei theimladau unwaith eto, ac yn tori allan mewn llefau uchel, 'Hosanai FabDafydd.' Yr oedd arddull, llais, ac osgo y dyn mawr hwn, ar adegau o'r fath, yn anarluniadwy o ardderchog ac effeithiol. Yr oedd holl gyhyrau ei wyneb yn siarad, a'i wedd yn pelydru mewn dysgleirdeb, fel yr haul yn ei nerth."
Er prawf pa mor rymus oedd dylanwad Rowland, a'r modd yr oedd teithwyr o gyrau pellaf y Dywysogaeth yn anghofio eu holl ludded tan swyn ei weinidogaeth, adrodda Dr. Owen Thomas yr hanes canlynol, wedi ei gael ganddo oddiwrth yr hen bregethwr hybarch, Mr. John Williams, Dolyddelen, "yr hwn," meddai, "nid oedd mewn un modd yn un gwanaidd, difeddwl, a pharod i ymollwng gyda phob awel a chwythai ar ei dymherau.[73] Dywedai ei fod ef (John Williams), un tro, wedi myned i Langeitho, gan gerdded yr holl ffordd o Ddolyddelen. 'Yr oeddwn,' meddai, 'wedi blino cymaint fel yr oeddwn yn llawer fftiach i fyned i fy ngwely nag i fyned i'r capel. Ond fe aeth Rowland i bregethu. Y testun oedd: ' Ac Arglwydd y lluoedd a wna i'r bobloedd yn y mynydd hwn wledd o basgedigion, gwledd o loyw-win; o basgedigion breision, a gloyw-win puredig.' Ac ni chlywsoch chwi erioed y fath beth. Fe aeth ati i dapio barilau y cyfamod gras, ac i ollwng allan y gwin puredig, ac i ddiodi y bobl ag o. Yn wir, yr oedd o yn llifo trwy y capel. Mi yfais inau o hono, nes yr oeddwn i wedi meddwi fel ffŵl; a dyna lle y bum i, ac ugeiniau gyda mi, heb feddwl dim am flinder, yn gwaeddu, a rhai o honom yn neidio, am oriau.' "
Byddai yn gamwri gadael allan ddesgrifiad Christmas Evans o hono. Yr oedd Christmas, fel yntau, wedi ei eni a'i ddwyn i fynu yn Sir Aberteifi, ac yn 24 mlwydd oed pan y bu farw; a diau felly iddo gael cyfleustra i wrando arno lawer gwaith. Fel hyn y dywed yr hen Fedyddiwr hyawdl:[74] " Calfinaidd yn mhob ystyr o'r gair oedd athrawiaeth Daniel Rowland. Byr-eiriog oedd ei ddull o lefaru, a byddai ei ymadroddion yn gryno, sylweddol, a synwyrlawn. Pregethai yn ei arddull briodol ei hun, ac nis gellid ei ddynwared. Yr wyf megys pe gwelwn ef yn a wr, yn ei ŵn du, yn myned i mewn trwy y drws bychan oddi allan i'r pwlpud, ac yn ymddangos felly yn ddisymwth i'r gynulleidfa fawr. Yr oedd ei wedd, yn mhob ystyr, wedi ei haddurno a mawredd, ac yn arddangos synwyr cryf, hyawdledd, ac awdurdod. Yr oedd ei dalcen yn uchel a llawn; ei lygaid yn llym, yn fywiog, a threiddiol; ei drwyn yn eryraidd, neu Rufeinig; ei wefusau yn weddus, ac yn arwyddo penderfyniad; ei ên yn taflu allan ac yn codi ychydig; a'i lais yn soniarus, peraidd, cryf, a dylanwadol iawn. Yr arfer gyffredin fyddai i ryw weinidog ddarllen a gweddïo, cyn y cyfodai Rowland yn y pwlpud; yna rhoddai yntau allan, gyda llais eglur a hyglyw, air o Salm i'w ganu, megys xxvii. 4:
Un arch a eichais ar Dduw Nâf,
A hyny a archaf eto;
Cael dyfod i dy yr Arglwydd Glân,
A bod a'm trigfan yno.'
Un penill a genid o flaen pregeth yn y dyddiau hyny, oedd mor rhyfedd am ddylanwadau nerthol. Ymunai'r holl gynulleidfa i ganu gyda gwresogrwydd mawr; eto heb ddyblu ond ychydig o flaen pregeth, rhagi'r olew nefol redeg dros y llestri yn rhy fuan. Yna cyfodai Rowland, a darllenai ei destun yn eglur i glyw pawb. Byddai yr holl gynulleidfa megys yn glustiau i gyd, yn astud iawn, fel pe buasent ar wrando rhyw oracl efengylaidd a nefol. Byddai llygaid yr holl bobl ar yr un pryd yn craffu arno yn ddyfal. Yn nechreu ei bregeth, byddai ganddo ryw syniad tarawiadol, cyffrous, megys blwch bychan o enaint i'w agor o flaen blwch mawr ei bregeth, yr hwn, pan ei hagorid, a wasgarai berarogl yr enaint trwy yr holl gynulleidfa, ac a baratoai ddisgwyliadau y bobl am agoriad y blychau dilynol, o un i un, trwy'r bregeth, nes llenwi yr holl dy a'i arogl nefol, megys perarogl blwch enaint Mair yn Bethania gynt. Wedi cyffroi y gynulleidfa, fel hyn, a rhyw feddwl anghyffredin, efe a ranai ei destun, ac a ai yn mlaen gyda'r rhaniad cyntaf, gan blygu ei ben ychydig, fel ag i daflu cipolwg ar ei nodiadau a fyddent ar ddernyn o bapyr o'i flaen. Gwelais ei nodiadau ar y testun, 'Edifarhewch,' &c., y rhai oedd yn bur fyrion, fel hyn: ' (1) Edifeirwch, o ran ystyr, yw cyfnewidiad meddwl, am Dduw ac am ddyn, am y ddeddf a'r efengyl, am bechod a sancteiddrwydd, am ddrygioni'r galon a'r fuchedd, am haeddiant dyn a haeddiant Crist, ac am allu dyn, a nef a daear, ac uffern obry. (2) Y mae Duw yn galw ar ddyn i edifarhau. Clyw weinidogaeth Ioan Fedyddiwr, a Christ, a Phetr ar ddydd y Pentecost, a Phaul yn Pisidia. (3) Y mae Duw, o'i ras, yn rhoddi edifeirwch trwy Iesu Grist. Efe yw'r bibell euraidd, trwy yr hon y rhed holl ffrydiau gras a gogoniant. Cofia ymadrodd Petr, bod Duw yn rhoddi edifeirwch a maddeuant pechodau, drwy fendith yn dyfod o groth fawr arfaeth y nef, ac y maent fel efeilliaid yn canlyn eu gilydd yn ddiwahan; neu fel dwy râff yn tynu llong iachawdwriaeth dros y bâsleoedd peryglus, trwy effaith eiriolaeth Crist yn tynu pechaduriaid ato ei hun.'
Yr ydym yn awr yn dyfod at y rhan anhawddaf o'r desgrifiad, gan nas gallwn beri i ddelw fud lefaru, na dyn marw i fod yn fyw. Wedi cymeryd cipolwg ar ei nodiadau, o ran arfer yn fwy na dim arall, dechreuai ymadroddi yn bwyllog, gan lefaru yn rhwydd a hyglyw. Cyffelybaf ef i'r gôf yn rhoddi yr haiarn yn y tân, ac yn dywedyd wrth y chwythwr am chwythu mwy neu lai, gan gadw ei lygad o hyd ar yr haiarn yn y tân, ac ar yr un pryd yn gallu siarad am bedoli, a durio'r sẃch a'r cwlltwr. Y mae'r tân yn fflamio fwy-fwy, a gwreichion y twym-iâ s yn esgyn i fynu. Yna cipia yr haiarn, wedi ei ddwyni dymer doddedig ac ystwyth, i'r engan, a'r ordd fawr a'r morthwyl yn curo arno, nes i'r gwreichion ehedeg trwy yr holl efail. Yn gyffelyb y byddai Rowland, yn poethi ac yn brydio yn raddol, fel y byddai yn graddol deimlo ei fater; ac o'r diwedd dyrchafai ei lais yn awdurdodol, nes y byddai yn dadseinio trwy'r holl gapel. Bydda i yr effeithiau ar y bobl yn rhyfeddol; nis gwelid dim ond gwenau a dagrau yn treiglo dros eu gwynebau; a byddent ar yr un pryd yn bloeddio mewn gorfoledd. Cyfodai hyn oll o fflam ei oslef, a godidowgrwydd ei fater; a'i fywiogrwydd yntau o'r fflam a fyddai yn y meddyliau dyrchafedig a draddodid ganddo, yn nerthoedd yr Yspryd Glân. Yr oedd y gwahaniaeth yma rhyngddo ef a Whitefield; pan fyddai Whitefield fwyaf angerddol yn nhônau peraidd ei lais, byddai braidd yn gwanhau yn ei fater; ond ei fater a fyddai yn dyrchafu hyawdledd Rowland, a byddai ei lais yn dyrchafu gyda'i faterion. Gwedi i'r iâs hon lonyddu, dan y pen cyntaf, ac iddo frysio edrych ar ei bapyrun nodiadau, dechreuai yr ail waith doddi ac ystwytho meddyliau ei wrandawyr, nes eu dwyn drachefn i'r unrhyw dymer nefol. Gwnai felly weithiau chwech neu saith waith yn yr un bregeth, a byddai y twym-iâs nefol, a serch y gynulleidfa yn y sefyllfa fwyaf angerddol. Pur ychydig a fyddai ganddo yn niwedd y bregeth mewn ffordd o gasgliadau, neu gymhwysiad, gan y byddai yn cymhwyso ac yn cymell gwirioneddau gogoneddus yr efengyl trwyddi oll. Terfynai gydag ychydig sylwadau tarawiadol a grymus; yna gweddïai yn fyr ac yn felus, a datganai y fendith. Yna, yn llawn chwys, brysiai allan o'r pwlpud trwy'r drws-bychan, a hyny mor sydyn ag y daethai i mewn. Os na byddai cymundeb ar ol, gadewid y gynulleidfa fawr mewn hwyl nefol, yn mwynhau llewyrch wyneb eu Harglwydd, a hyn oll yn y modd nas gellir ei ddesgrifio ar bapyr. . . . Yr oedd y fath wresogrwydd tanbaid, anorchfygol, yn ei bregethiad, fel ag i ymlid ymaith yn effeithiol yspryd diofal, bydol, a marwaidd; a byddai'r bobl, wedi ei deffro felly, yn nesau megys yn y cwmwl goleu, at Grist, a Moses, ac Elias, a thragywyddoldeb a'i sylweddau aruthrol yn goresgyn eu meddyliau! Seren o'r maintioli mwyaf oedd efe, a thebyg na bu yn Nghymru ei gyffelyb er dyddiau yr apostolion. Y darlun uchod a dynais o'r pregethwr tywysogaidd hwn o barch i'w goffadwriaeth."
Gallasem ddifynu llu o dystiolaethau eraill i brofi fod Daniel Rowland yn bregethwr digyffelyb, ond rhaid i ni ymfoddloni bellach ar y darluniad canlynol o eiddo y Parch. Dr. Owen Thomas: [75] " Siaradai, ar y cyntaf, yn hytrach yn isel, ond yn dra chyflym; yn gymaint felly fel mai anhawdd braidd oedd ei ddilyn. Yr oedd yn ymddangos am amryw fynudau fel pe y buasai yn ofnus, ac heb ymddiried hollol ynddo ei hun. Ond, yn raddol, fe ddiflanai hyny, ac fe enillai hunan-feddiant perffaith. Siaradai yn awr yn fwy araf, ond yn uwch ac yn rymusach, gan ymwresogi fel yr elai rhagddo, a'r holl gynulleidfa yn cynhesu gydag ef, nes y byddai iâs o deimlad tyner yn treiddio trwyddi. Y mae wedi darfod yn awr a'r sylw cyntaf; yn gostwng ei lais; yn rhoddi ysgydwad naill-ochrog arno ei hunan; ac yn dechreu ar yr ail sylw. Y mae yn cychwyn eto yn lled araf a phwyllog, ond yn cyflymu yn fuan iawn, ac yn llefaru gyda nerth a rhwyddineb anghyffredin; y mae ei lygaid yn treiddio trwy'r capel; ei lais yn ymddyrchafu; ei deimladau yn tanio; y mae y gwres yn awr yn cydio yn y bobl; y mae y dagrau yn treiglo dros eu gruddiau; yr Amenau cynnes yn dyfod dros eu gwefusau; a'r pregethwr a hwythau mewn meddiant hapus o'u gilydd. Y mae yn darfod a'r ail sylw. Y mae yn disgyn yn raddol, drachefn, i'r tawelwch a'r pwyll a deimlid yn angenrheidiol ganddo gyda phob adgychwyniad.
Ac ni a glywsom y sylw gan fwy nag un o'i hen wrandawyr, na byddai efe byth yn ymddangos yn well fel siaradwr, na phan yn disgyn o'r arucheledd teimlad, y byddai efe ei hunan a'r gynulleidfa wedi eu codi iddo, i'r arafwch a roddai iddo y fantais oreu i ail ddisgyn. Ni welwyd mo hono erioed yn syrthio i lawr, ond yn disgyn yn dawel ac yn esmwyth, a'i holl nerth ganddo i ail godi. A dyna fo yn esgyn eto, ac yn cyfodi ei gynulleidfa gydag ef, i deimladau uwch, a dwysach, a phoethach. Y mae'r Ameniau ' yn amlach a chryfach; bloeddiadau, Diolch, Bendigedig, Gogoniant, i'w clywed o bob cwr i'r capel; a'r holl gynulleidfa, mewn hwyl hyfryd, yn mwynhau gorfoledd yr iachawdwriaeth. Ond y mae y pregethwr yn arafu; yn disgyn drachefn, braidd yn esmwythach ac yn brydferthach nag o'r blaen; ar. yn rhoddi ychydig eiliadau o seibiant i'r bobl i ddisgyn gydag ef. Eithr y mae heb ddarfod eto. Y mae yn cychwyn drachefn, ac i fynu, yn uwch, uwch, UWCH. Y mae golwg ryfedd erbyn hyn arno. Y mae ei lygaid yn fflamio; ei lais yn ymdori; ei wyneb yn dysgleirio; ei holl gorph yn ymddangos fel pe byddai wedi ei ysprydoli; yr enaid mawr yn gollwng allan, yn ffrydlif o hyawdledd byw, y meddyliau mwyaf tanllyd; a'r rhai hyny yn tanio yr holl gynulleidfa, ac yn ei chyfodi i hwyliau rhyfedd o orfoledd a mawl. Y mae llais y pregethwr wedi ei golli yn awr yn mloeddiadau a chaniadau y dyrfa; y mae yntau yn terfynu, nad oes neb yn gwybod pa fodd ond efe ei hun; ac yn gadael y gynulleidfa i orfoleddu am oriau. Ý mae yn cymeryd ychydig luniaeth, yn myned am ddwy awr i'w wely i orwedd; ac yn ei gwsg yn adenill rhyw gymaint o'r yni gwefrol a gollwyd ganddo, mewn awr o amser, yn y capel." Tra mai fel pregethwr y rhagorai Daniel Rowland, y mae yn dra sicr ei fod yn drefniedydd nodedig o fedrus, ac yn arweinydd doeth a dyogel. Gwedi yr ymraniad, efe a fyddai yn llywyddu yn y cymdeithasfaoedd, os yn bresenol. Ychydig a lefarai efe ei hun fel rheol; gwrandawai ar eraill am enyd, gan rodio yn ol ac yn mlaen ar hyd yr ystafell; yna torai y ddadl a fyddai yn cael ei chario yn mlaen i fynu, trwy ddweyd:
"Dyna ddigon wedi ei siarad," ac yna gosodai ei olygiadau eu hun ar y mater gerbron, yn gryno ac yn oleu, a bron yn ddieithriad dilynid ei gyfarwyddid. Fel arweinydd, unai benderfyniad meddwl, a hynawsedd yspryd nodedig. Y mae yn dra sicr ei fod yn anghydweled a golygiadau Peter Williams; nis gallasai lai yn ngwyneb y saflai a gymerasai mewn cysylltiad a daliadau Harris; ond yr oedd yn mhell o gydweled a'r ymosodiadau a wneyd ar yr hen esboniwr. Gwyddai Peter Williams hyn yn dda, a chyfeiria at ei dynerwch yn y farwnad a gyfansoddodd iddo:
"O, mrawd Rowland, ni 'th anghofiaf,
Ti roddaist i mi lawer sen;
Ymhob tywydd, ymhob dirmyg,
Pwy ond ti orchuddiai 'mhen?"
Meddai gydymdeimlad mawr a dynion ieuainc, a llygad crâff i'w hadnabod. Ni theimlai ddim tebyg i eiddigedd pan fyddai pregethwr ieuanc poblogaidd yn codi. Yr oedd Griffiths, Nevern, o ddoniau dysglaer; wedi gwrando arno yn pregethu y tro cyntaf, aeth Rowland ato, a'i lygaid yn tywynu gan lawenydd, gan ddweyd: " Fy mab anwyl! Yr wyt wedi taro ar yr wthien; gwthien euraidd y weinidogaeth; gofala gadw arni, a rhoddi yr holl glod i Dduw." Dywedir ei fod yn petruso ar y dechreu gyda golwg ar ganiatau rhyddid y pwlpud i Roberts, Clynog. Anhawdd gwybod yn bresenol y rheswm am hyny. Ond pan ddaeth Roberts y tro cyntaf i Langeitho, aeth Rowland yn llechwraidd i'r capel, gan gadw ei hun yn nghudd allan o olwg. Boddhawyd ef yn fawr yn noniau dysglaer y seraph tanllyd o'r Gogledd. Ar y diwedd, aeth ato yn llawn sirioldeb, gan ei longyfarch ar yr odfa lewyrchus oedd wedi gael; ac wedi peth ymddiddan, dywedai: "A wnewch chwi dderbyn gair o gyngor oddiwrth henŵr penwyn? " "Gwnaf, gyda y parodrwydd mwyaf," oedd yr ateb. Meddai yntau, "Gwyddoch fod gan y siopwyr dyllau bychain yn eu counters yn y rhai rhoddant yr oll y maent yn dderbyn; beth bynag a gânt, bydded aur, arian, neu brês, gosodant yr oll yn y tyllau hyn. Anwyl frawd, gwnewch chwithau yr un fath; beth bynag a dderbyniwch, rhoddwch ef yn y drysorfa. Peidiwch pocedu cymaint a ffyrling o arian y Meistr." Yr oedd ei allu i adnabod dynion ieuainc, ac i gydymdeimlo a hwy yn eu huchelgais, yn gymhwysder dirfawr iddo at fod yn arweinydd. Er ei holl boblogrwydd a'r parch a delid iddo, cadwodd Duw ef rhag ymchwyddo; yn nghanol yr oll yr oedd ei galon yn wir ostyngedig. Adroddir amryw hanesion fel prawf o hyn. Trafaelai ar ei draed yn bur fynych; a phan wedi ei gyhoeddi i bregethu mewn cymydogaeth, anfonodd gwraig dda, a breswyliai mewn ffermdy o'r enw Bryn-y-brain, ei gwas gyda cheffyl i'w gyfarfod. Rywsut camgymerodd y gwas y ffordd, neu daeth y pregethwr o gyfeiriad nad oeddid yn ei ddisgwyl, a chyrhaeddodd Rowland y He ar ei draed, ac yn flin. Gofidiai y wraig yn dddirfawr, a mynegai ei siomiant drosodd a throsodd. Atebai yntau: " Nel fach, ni feddyliais fy hun yn deilwng i neb ddod i'm cyfarfod, naddo gymaint a chan llath, erioed." Adroddir ddarfod i wraig weddw, o'r enw Mrs. Griffiths, Glanyrafonddu, oblegyd ei serch ato, a'r mawr lles a dderbyniasai trwy ei weinidogaeth, adael cerbyd iddo yn ei hewyllys. Yn hwn y teithiau yntau y rhan olaf o'i oes. Mewn pentref neillduol, He yr arferai bregethu, ni wnai neb ei dderbyn i dy ond hen wreigan dlawd. Pan welodd hon y pregethwr yn dyfod yn ei gerbyd i'r pentref am y tro cyntaf, dechreuodd ymofidio, a theimlo nad oedd ei thŷ na'i gwely gwael hi yn deilwng o'r fath ŵr. Dywedai hynny yn ei glyw. Ond ei ateb ef ydoedd: "Taw sôn, da thi; yr wyf yn gweled dy fod di mewn mwy perygl o gael niwed oddiwrth fy ngherbyd i, nag wyf fi o gael fy niweidio gan dy dŷ a'th wely di." Byddai yn anesgusodol ynom i basio heibio yn ddisylw y llyfrau a briodolir i Daniel Rowland, naill a'i fel Awdwr neu Gyfieithydd. Yn 1739, cyhoeddodd ei bregeth gyntaf, a elwir " Llaeth Ysprydol: o casgliad Eglwyswr." Y mae yn sylfaenedig ar i Petr ii. 2. Yn fuan wedi sefydlu y seiadau profiad, sef yn y flwyddyn 1742, cyhoeddodd, mewn undeb ag eraill, lyfr yn dwyn y teitl a ganlyn: "Sail, Dibenion, a Rheolau y Cymdeithasau, neu y Cyfarfodydd Neillduol, a ddechreuasant ymgynull yn ddiweddar yn Nghymru. At y rhai y chwanegwyd rhai hymnau i'w canu yn y cyfarfodydd. Gan wŷr o Eglwys Loegr." Nid oes enw neb ar y wyneb ddâlen, ond ceir enw Howell Harris wrth yr hymn gyntaf, enw Morgan Jones wrth yr ail, eiddo Daniel Rowland wrth y drydedd, ac eiddo Herbert Jenkins wrth y bedwaredd. Tybir mai Rowland oedd a'r llaw bwysicaf yn nghyfansoddiad y llyfr. Y flwyddyn ganlynol, 1743, cyhoeddodd gyfieithad o draethawd Ralph Erskine, ar " Farw i'r Ddeddf, a byw i Dduw, at ba un y chwanegwyd chwech o Hymnau buddiol ar Amryw ystyriaethau. O waith y Parchedig Daniel Rowland." Cawn ef y flwyddyn nesaf, 1744, yn cyhoeddi " Hymnau Duwiol, i'w canu mewn Cymdeithasau crefyddol. A gyfansoddwyd gan mwyaf gan y Parchedig Daniel Rowland, .Gweinidog o Eglwys Loegr." Y mae y wyneb ddalen yn gyfeiliornus; allan o 72 tudalen nid oes ond 25 yn perthyn iddo ef. Y mae yn ddyddorol sylwi mai yr un flwyddyn y cyhoeddodd Williams, Pantycelyn, y rhan gyntaf o'i "Aleluwia." Yr achlysur nesaf iddo ddyfod allan trwy y wasg, oedd er gwneyd yn hysbys ei olygiadau ar y pwnc mewn dadl rhyngddo ef a Harris. Gelwir y llyfr:— "Ymddiddan rhwng Methodist Uniawn-gred ac un Camsyniol. Yr ail argrafíìad, 1750." Ni wyddis pa bryd y bu yr argraffiad cyntaf. Dygwyd allan drydydd argraffiad o Gaerfyrddin, 1792. Yn 1759, cyfieithodd "Aceldama, neu Faes y Gwaed." Traethawd yw hwn yn dangos echryslonrwydd rhyfel. Hysbysir ei fod ar werth gan Peter Williams. Pregeth a gyhoeddodd nesaf, sef:— "Llais y Durtur. Gwahoddiad grasol Crist ar bechaduriaid. Neu bregeth a bregethwyd yn Llanddewi, Tach. i, 1761. Ar Datguddiad iii. 20. ' Wele, yr wyf yn sefyll wrth y drws, ac yn curo,' &c. Gan y Parchedig Mr. Daniel Rowland,Gweinidog yr Efengyl yn Llangeitho, 1762." Yn ol Mr. Morris Davies, cyhoeddwr a golygydd yr argraffiadau cyntaf o bregethau Rowland, oedd un Thomas Davies, gerllaw Hwlffordd, Sir Benfro. Tybia fod Mr. Davies yn un o'r cynghorwyr a lafurient gyda'r Methodistiaid, a'i fod, fel cyhoeddwr llyfrau, yn ŵr ymdrechgar, bywiog,a gofalus. Ymddengys nad oedd yr awdwr yn derbyn dim elw oddiwrth werthiant ei bregethau; rhoddasai y copïau o honynt i'r cyhoeddwr, ac y mae yntau ar ddiwedd y rhestr o dderbynwyr yn diolch yn gyhoeddus iddo am danynt. Dywed fod y brys i'w dwyn allan gymaint, fel na chafodd yr awdwr, yn nghanol ei lafurwaith, amser i'w darllen wedi eu hysgrifenu, cyn rhoddi'r copíau o'i law i'w hargraffu. Blwyddyn nodedig yn ei hanes oedd y nesaf, 1763; dyma y pryd y trowyd ef allan o'r Eglwys Sefydledig; a chawn ef yn cyhoeddi " Pymtheg Araeth, ar Amryw Destunau." O flaen y rhai hyn y mae rhagymadrodd gan Peter Williams. Tybir mai efe a gyfieithodd " Camni yn y Coelbren," o waith Thomas Boston, a ddaeth allan yn 1769. Yn y flwyddyn 1772, cyhoeddwyd tair pregeth o'i eiddo; ac o fewn corff yr un flwyddyn, bum' pregeth arall, at ba rai y chwanegwyd amryw hymnau. Yr ydym yn ei gael yn 1774, yn cyhoeddi cyfieithad o " Ryfel Ysprydol " John Bunyan, gyda rhagymadrodd byr, eithr nodedig o ddyddorol, ganddo ef ei hun. Yn y flwyddyn hon hefyd, cyhoeddodd Thomas Davies " Wyth Bregeth " Saesneg o'i waith, a dywedir ar y wyneb ddâlen eu bod wedi cael eu pregethu ar bynciau ymarferol yn yr " Eglwys Newydd, yn Llangeitho." Wrth yr " Eglwys Newydd " y golygir y capel a adeiladesid i Rowland wedi iddo gael ei droi allan. Cyfieithwyd y rhai hyn gan y Parch. John Davies, Rheithor Sharnecote, swydd Wilts. Cafodd tair pregeth Saesneg arall, o gyfieithad yr un gŵr, eu dwyn allan y flwyddyn ganlynol. Yn 1776, cyhoeddwyd "Ychydig Hymnau yn ychwaneg, gan y Parchedig D. Rowland." Y cyfansoddiad olaf o'i eiddo a ddaeth allan trwy y wasg oedd:— "Llwyddiant wrth Orsedd Gras:— Pregeth ar Judas, 20, a bregethwyd yn Nghapel Llangeitho, 1782." Pan feddylir amledd ei deithiau, a maint ei lafur gyda gweinidogaeth yr efengyl, y mae yn syn iddo allu ysgrifenu cymaint. Ar y cyfan, y mae ei Gymraeg yn bur a chref, a'i holl ddullwedd yn eglur a chryno.
Er ardderchoced pregethwr oedd Daniel Rowland, ac er godidoced y gwaith a gyflawnwyd trwyddo, ni chafodd ddianc, hyd yn nod gwedi ei farw, heb gael ei gyhuddo o feiau a cholliadau. Dywed Dr. Rees, yn ei History of Nonconformity in Wales,[76] ei fod yn mhell o fod yn ddifai fel pregethwr, ac awgryma, ar dystiolaeth gweinidog Annibynol cymharol ddinôd, ei fod yn wan o ran mater, ac yn crwydro yn fynych oddiwrth ei destun; ond fod rhyw gymaint o effeithiolrwydd yn perthyn iddo. Byddai yn anhawdd cael gwell enghraifft o'r hyn a eilw y Saeson, "damning with faint praise." Meddai Dr. Rees: "Dywedai Harris a'r clerigwyr " - a diau y cynwysa y "clerigwyr " Daniel Rowland—"lawer o bethau yn eu pregethau difyfyr, a dramgwyddent chwaeth ddiwylliedig yr Ymneillduwyr, ac a roddai i'r digrefydd o bob dosparth destunau i gellwair halogedig," Sicr yw y defnyddiai Rowland, pan yr oedd ei holl natur yn berwi gan gyffro, a'r gynulleidfa wedi cael ei chodi i hwyl, ymadroddion cryfion; ac yr oedd yn hollol gyfreithlon iddo wneyd hyny; cyfiawnhäi yr amgylchiad y cyfryw eiriau; ond yr oedd gwaith rhai Ymneillduwyr—os bu y cyfryw—yn tramgwyddo wrth ymadroddion o'r fath yn brawf, nid o ddiffyg chwaeth yn Rowland, ond o gulni eu hysprydoedd a mursendod eu clustiau hwy eu hunain. Syniad unfrydol y rhai a glywsant yr Efengylydd o Langeitho, ac a feddent gymhwysder i farnu, oedd ei fod yn ardderchog mewn mater ac ardull. Meddai Christmas Evans: "Byddai wynebpryd, agweddiad, a llais Rowland yn cyfnewid yn fawr yn y pwlpud, yn ol fel y byddai ei deimladau; ond nid oedd dim yn isel ac yn annymunol ynddo; eithr oll yn weddaidd ac urddasol odiaeth."Dyna dystiolaeth Ymneillduwr, ac un o gedyrn y pwlpud Cymreig. Cymerer eto dystiolaeth Charles o'r Bala, gŵr o'r chwaeth buraf. "Yr oedd," meddai, " urddas ac ardderchawgrwydd, yn gystal a phob rhagoriaeth arall, yn noniau gweinidogaethol Rowland; meddyliau dyfnion a gogoneddus, llais nerthol a melus, ac eglurder a bywiogrwydd wrth arddangos dyfnion bethau Duw, er syndod, deffroad, a budd ei wrandawyr lliosog."[77] I bob dyn diragfarn y mae y tystiolaethau hyn yn ddigonol brofion o burdeb chwaeth ac ardderchawgrwydd mater Daniel Rowland.
Cafodd ei gyhuddo hefyd o gulni yspryd at yr Ymneillduwyr, ac o ymlyniad dâll wrth yr Eglwys Sefydledig. Profa ei holl hanes yn amgen. Ni anghofiodd drwy ei oes ei ddyled i Mr. Pugh, gweinidog Ymneillduol Lwynynpiod. Y mae yn bur sicr fod ymlyniad Howell Harris wrth yr Eglwys yn llawer cryfach nag eiddo Rowland. Ar anogaeth bendant Rowland, fel y cawn ddangos eto, y darfu i amryw eglwysi yn Morganwg a Mynwy, oeddynt yn perthyn i'r Methodistiaid, ordeinio gweinidogion iddynt eu hunain, yn ol trefn yr Ymneillduwyr. Awyddai ThomasGray, olynydd Mr. Pugh yn Llwynpiod, am ymuno a'r Methodistiaid, yn benaf, o herwydd ei fawr serch at Rowland. "Gwell i chwi," meddai yntau wrtho, "barhau i weithio yr ochr yna i'r mynydd, âf finau yn mlaen yr ochr yma; efallai y cyfarfyddwn mewn amser, pan yn cloddio dan deyrnas Satan." Yr oedd, fel y mae yn amlwg, yn rhyddfrydig ei galon at Ymneillduwyr ac Eglwyswyr, ac yn hollol amddifad o yspryd proselytio.
Ond y cyhuddiad mwyaf enllibaidd yn erbyn Daniel Rowland, oedd yr un a ymddangosodd yn y Quarterly Review, Medi, 1849, agos i driugain mlynedd gwedi ei farw. Yn yr ysgrif hono, a gyfansoddwyd gan Ficer Meifod, haerid ei fod yn euog o yfed i ormodedd, y teimlid anhawsder weithiau i gelli yr effeithiau, pan y byddai ar fedr pregethu; ac mai yn ngrym cynhyrfiad diodydd cryfion y byddai yn traddodi ei bregethau gyda'r fath nerth ac awdurdod. Seilid y cyhuddiad gwaradwyddus hwn ar dystiolaeth cuwrad meddw a digymeriad, o'r enw W. Williams, yr hwn oedd yn fab i Siôn y Sgubor, hen wâs Rowland; ac yr oedd y cuwrad yma yn gyfryw fel na dderbyniasid ei dystiolaeth fel prawf o unrhyw beth, heblaw achwyniad ar Anghydffurfiwr. Yn ffodus, gwnaed yr ymosodiad ar ei gymeriad yn ddigon cynar i'w droi yn ol yn effeithiol, ac i beri i'r gwarth syrthio ar y rhai a'i gwnaeth. Cymerodd y Parch. John Griffiths, Rheithor Aberdâr ar y pryd, Rheithor Merthyr gwedi hyny, ran flaenllaw mewn chlirio y mater i fynu. Trwy gymorth Mr. David Jones, yr hen flaenor duwiol o Dolau-bach, casglodd dystiolaeth yr hen bobl oeddynt yn cofio Rowland yn dda, yn mysg pa rai yr oedd un 84 mlwydd oed, ac wedi bod am saith mlynedd yn ei wasanaeth; datganent un ac oll nad oedd rhith o sail i'r cyhuddiad, ond ei fod yn enllibo'r fath fwyaf maleisus. Dywedai y Parch. T. Edwardes, Rheithor Llangeitho, a'r hwn a adwaenem yn dda, ei fod dros driugain mlwydd oed, na fu erioed yn byw allan o'r plwyf, fod cymunwyr amryw wedi bod ganddo a fuasai yn cymuno gyda Daniel Rowland; fod yn eu mysg un hen ŵr a fuasai farw yn bedwar ugain ac wyth mlwydd oed, a'u bod oll yn tystio, nid yn unig nad oedd y Diwygiwr yn yfed i ormodedd, ond ei fod yn un tra chymedrol. Casglodd y Rheithor Griffiths hefyd dystiolaethau gwyr eglwysig o gryn enwogrwydd, oeddynt wedi cael ei dwyn i fynu yn nghymydogaeth Llangeitho, yn datgan na chlywsent air am y cyhuddiadau yn erbyn Rowland, nes iddynt ymddangos yn y Quarterly Rcview. Yn mysg y rhai hyn, ceir Canon Jones, Tredegar; Canon Jenkins, Dowlais; a'r Parch. D. Parry, Llywel. Teimlwn ein bod tan ddyled ddifesur i'r diweddar Reithor Griffìths am y boen a gymerodd i glirio cymeriad gŵr Duw. Nid yn unig nid oedd Rowland yn euog o anghymedroldeb ei hun, ond medrai gondemnio yn ddifloesgni y cyfryw ffaeledd mewn eraill. Yr oedd offeiriad yn nghymydogaeth Llangeitho unwaith yn awyddus am gael ei anfon fel cenhadwr i le penodol, ond nid oedd Rowland yn credu yn mhurdeb ei fuchedd. Trôdd ato, a dywedodd: "Yr wyf yn cofio amser, Syr, pan nad oedd i ni ond derbyniad a bywoliaeth go wael, wrth deithio dros fryniau a mynyddoedd ar ein merlod, heb ddim ond bara a chaws yn ein pocedau, na dim i'w yfed ond dwfr o'r ffynhonau; ac os caem lymaid o laeth enwyn yn rhai o'r bythynod, cyfrifem hyny yn beth mawr. Ond yn awr, Syr, y mae ganddynt eu tê, a'u brandi, ac os nad wyf yn camsynied, yr ydych chwi wedi cael gormod o'r brandi hwn." Rhaid fod yr hwn a fedrai lefaru mor gryf a difloesgni ar bwnc o'r fath o fuchedd ddiargyhoedd ei hunan.
Ond dyddiau Rowland a nesasant i farw. Gwanychasai ei iechyd yn ddirfawr yn ystod y flwyddyn olaf o'i fywyd, eithr yr oedd yn parhau i bregethu yn Llangeitho. Dydd Gwener, Hydref 15, 1790, cymerwyd ef yn glâf, a thranoeth gorphwysodd mewn tangnefedd, ac efe yn 77 mlwydd oed. Cyrchasai miloedd y Sadwrn hwnw i Langeitho ar gyfer y cyfarfod paratoad; disgwylid Rowland yno i'w cynghori fel arfer; eithr ar ganol y gwasanaeth, cyrhaeddodd y newydd ei fod ef wedi marw, a chyffrodd hyny y fath deimhidau o alar fel y methwyd myned yn mlaen a'r cyfarfod. Claddwyd ef yn mynwent Llangeitho, wrth ffenestr ddwyreiniol yr eglwys. Ac yn ddiweddar cyfodwyd cofadail ardderchog iddo, ger capel Gwynfil, y fan a wnaed yn gysegredig ganddo i galon pawb a garant yr Arglwydd Iesu. Nis gallwn wrthsefyll y brofedigaeth o ddifynu rhanau o'r farwnad ardderchog a ganwyd iddo gan ei hen gyfaill, Williams, Pantycelyn:
"Nid rhaid canu dim am dano,
Nid rhaid marble ar ei fedd;
Ofer tynu dim o'i bictiwr
Ar bapyr yn sâl ei wedd;
Gwnaeth ei farwnad yn ei fywyd,
Rhodd e'i farble yn ei le,
'Fe 'sgrifenodd arno 'i enw
A llyth'renau pur y ne'.
Boanerges oedd ei enw,
Mab y daran danllyd, gref,
Sydd yn siglo yn ddychrynllyd
Holl golofnau dae'r a nef;
' De'wch, dihunwch, oedd yr adsain,
Y mae 'n dinas ni ar dân;
Ffowch oddi yma mewn mynydyn,
Ynte ewch yn ulw mân.'
Yn Llangeitho fe ddechreuodd
Waeddi dystryw 'r anwir fyd,
Miloedd ffôdd o'r Dê a'r Gogledd,
Yn un dyrfa yno ynghyd;
Arswyd, syndod, dychryn ddaliodd
Yr holl werin, fawr a mân,
Nid oedd gwedd wynebpryd un-gwr,
Fel y gwelwyd ef o'r blaen.
Gliniau 'n crynu gan y daran,
Fel pe buasai angeu 'i hun,
Wedi cym'ryd llawn berch'nogaeth
Ar y dyrfa bob yr un;
'Beth a wnawn am safìo 'n henaid? '
Oedd yr unrhyw gydsain lêf;
Chwi sy' am wybod hanes Daniel,
Dyma fel dechreuodd ef.
Pump o siroedd penaf Cymru
Glywodd y taranau mawr,
A chwympasant gan y dychryn,
Megys celaneddau i lawr;
Clwyfau gaed, a chlwyfau dyfnion,
Ac fe fethwyd cael iachad,
Nes cael eli o Galfaria,
Dwyfol ddwr a dwyfol waed.
Deuwch drosodd i Langeitho,
Gwelwch yno ôl ei law,
Miloedd meithion yno 'n disgwyl,
Llu oddi yma, llu o draw;
A'r holl dorf yn 'mofyn ymborth,
Amryw 'n d'weyd, ' Pa fodd y cawn? '
Pawb yn ffrostio wrth fyn'd adref,
Iddo gael ei wneyd yn llawn.
Gwelwch Daniel yn pregethu
Yn y tarth, y mwg, a'r tân,
Mil ar unwaith yn molianu,
Haleluwia yw y gân;
Nes bai torf o rai annuwiol
Mewn rhyw syndod dwfn, a mud,
Ac yn methu rhoi eu meddwl
Ar un peth, ond diwedd byd.
Bywiol oedd ei athrawiaethau,
Melus fel yr hyfryd win,
Pawb a'u clywai a chwenychai
Brofi peth o'u nefol rin;
Pur ddyferion bythol fywyd,
Ag a roddai iawn iachâd,
I rai glwyfodd cyfraith Sinai,
Ac a ddrylliodd dan ei thraed.
Crist ei hunan ar Galfaria
Yn clirio holl hen lyfrau 'r nef,
Ac yn talu 'n llwyr bob hatling
O'r holl ddyled ganddo ef;
Mae 'r gwrandawyr oll yn llawen,
Oll yn hyfryd, oll yn llawn,
Wedi bwyta 'r bara nefol,
O lâs foreu hyd prydnhawn."
Hanes y Darluniau.—Cymerwyd dau ddarlun
o'r Parch. Daniel Rowland ar wahanol amserau
ar ei fywyd. Ymddangosodd y cyntaf mewn
cyhoeddiad misol o'r enw, The Gospel Magazine,
am fis Gorphenaf, 1778. Yr un pryd, nid yw yn
debyg mai ar gyfer y misolyn hwnw y gwnaed ef,
oblegyd dengys Rowland yn nghanol ei ddyddiau,
neu yn gynarach na hyny, ac nid yn hen ŵr, 66
mlwydd oed, fel yr oedd yn 1778. Yn mhen mis
ar ol marwolaeth y Diwygiwr enwog y cyhoeddwyd
y llall. Gwnaed ef gan " Mr. B. Bowyer,Miniature
Painter to His Majesty" Berners Street, Cornhill,
Llundain. Darlun i'w fframio ydoedd hwn, ac
nid un i'w osod mewri llyfr. Mewn ysgrif argraffedig o dan y darlun hwn, cyflwyna yr awdwr ef i'r
Anrhydeddusaf Iarlles Huntington. Yr oeddid
wedi colli golwg yn llwyr ar y darlun cyntaf, nes i
Mr. Daniel Davies, Ton, Rhondda, ei ddarganfod
yn Llyfrgell yr Amgueddfa Frutanaidd (British
Museum), Llundain.
Adeladwyd cofgolofn iddo yn yml Capel Llangeitho yn y flwyddyn 1883. Costiodd hon lawn £700. Cafwyd yr arian drwy i'r Parch. Thomas Levi, Aberystwyth, anturio gwneyd apêl at blant y "Drysorfa" am arian i'w chodi. Mewn atebiad i'r apêl hwn, dylifodd arian i mewn o fis i fis, am ysbaid chwech neu saith mlynedd, pa rai a gydnabyddid ar glawr "Trysorfa y Plant," ac a osodid yn y banc. Yr arian hyn, gyda'r llôg, a dalodd am dani. Y cerfiwr oedd Mr. Edward Griífith, Caerlleon, Cymro o waed, ac o yspryd; a chyflawnodd ei waith yn ardderchog. Tybia llawer ei fod y cerflun goreu o'i fath yn Nghymru. Da genym ein bod yn alluog i roddi copi o'r cerflun ar raddfa eang yn nwylaw ein darllenwyr. Gwnaed ef oddiar ddarlun sydd yn meddiant y Parch. T. Levi.
Adeiladwyd y gofgolofn yn y flwyddyn 1883, ac ar y 6ed a'r 7fed o Fedi, yn y flwyddyn hono, cynhaliwyd cyfarfod i'w dadorchuddio hi. Dyma drefn y cyfarfodydd. Ar nos lau, y 6ed, pregethodd y Parchn. Joseph Thomas, Carno, a Dr. Lewis Edwards, Bala. Boreu Gwener, pregethwyd yn y capel gan y Parch. Joseph Thomas, ac yna yn yr ysgwâr wrth ochr y capel, gan y Parch. Dr. Owen Thomas. Am un o'r gloch yr oedd y dadorchuddiad, pan yr oedd dwy neu dair mil o bobl, o leiaf, wedi dyfod ynghyd, a llawer o honynt wedi dyfod yno o bellder ffordd. Dechreuodd y Parch. J. A. Morris (Bedyddiwr), Aberystwyth, trwy weddi. Llywyddwyd gan y Parch. T. Levi, fel Cadeirydd y Gymanfa Gyffredinol Dr. Lewis Edwards, gwedi araeth alluog, a ddadorochuddiodd y golofn yn nghanol cymeradwyaeth yr holl gynulleidfa. Areithiwyd yn ganlynol gan y Parchn. Dr. Owen Thomas, Joseph Thomas, a T. Charles Edwards, o Goleg Aberystwyth, sef Prifathraw presenol Athrofa y Bala. Diolcbwyd yn wresog i'r Parch. T. Levi am ei ymdrech lwyddianus tuag at gael y gofgolofn, ac am ei wasanaeth fel llywydd, a therfynwyd trwy weddi gan y Parch. Griffith Parry.
Gyda'r eithriad o'r darlun o'r tufewn i hen
Eglwys Llangeitho, a geir ar tudalen 45, y mae yr
oll o'r darluniau sydd yn addurno y benod hon yn
dangos pethau fel y maent yn bresenol. Y mae
amaethdy Pantybeudy, yr Eglwys, a'r Capel, wedi
myned drwy gyfnewidiadau a gwelliantau mawrion.
Hyd y gwyddis, nid oes darluniau o'r hen adeiladau
ar gael.
PENOD V.
HOWELL HARRIS
Ei enedigaeth a'i ddygiad i fynu—Ei argyhoeddiad yn eglwys Talgarth—Cael dyddanwch yn Nghrist—Dechreu cynal addoliad teuluaidd a chynghori—Yn myned i Rydychain—yn gadael Rhydychain—Myned o gwmpas i rybuddio yr annuwiol—Gwrthwynebiad yr offeiriaid a'r boneddwyr—Cael ei erlid—Sefydlu seiadau—Myned i lefaru i Sir Faesyfed—Argyhoeddiad Mr. Gwynn—Harris yn myned ar daith i Sir Fynwy—Yn ymweled a Sir Forganwg y tro cyntaf—Rhanau o'i ddyddlyfr—Cyfarfod a Whitefield yn Nghaerdydd—Myned i Lundain—Myned y tro cyntaf i'r Gogledd, mor bell a'r Bala—Dalenau ychwanegol o'i ddydd—lyfr—Myned i Sir Benfro—Sessiwn Trefynwy—Ail daith i'r Gogledd—Ei erlid yn y Bala—Myned i Sir Gaernarfon—Yn teithio ac yn gweithio yn ddidor.
NID oes unrhyw dywyllwch yn gorchuddio hanes Howell Harris, oblegyd, yn wahanol i'r oll o'r Tadau Methodistaidd eraill, gadawodd Hunan-gofiant ar ei ol; yr hwn gofiant a gynwysa, nid yn unig ffeithiau ei fywyd, ond ei deimladau a'i brofiad yn ogystal. Cafodd yr Hunangofiant ei olygu, a'i gyhoeddi, gydag ychwanegiad, gwedi ei farw, gan "y rhai oeddynt o'r dechreuad yn gweled."Y rhai hyn oedd "teulu" Trefecca, y bu yn myned i mewn ac allan yn eu mysg, ac yn llywodraethu arnynt am yr yspaid o dair blynedd ar hugain. Yn ychwanegol, cadwai ddydd-lyfr, yn mha un y croniclai yn fanwl bob nos, holl helynt y diwrnod blaenorol, yn arbenig ystâd ei feddwl, a'r temtasiynau tumewnol a pha rai y buasai yn brwydro. Yr oedd hefyd yn ysgrifenydd llythyrau lawer, o ba rai y mae swm dirfawr ar gael hyd y dydd hwn. Rhwng ysgrifeniadau Harris ei hun, a thystiolaeth y "teulu" a gasglodd o'i gwmpas, y rhai oeddynt yn gydnabyddus a'i holl symudiadau, ac yn gwybod ei amcanion, y mae y goleuni dysgleiriaf sydd yn bosibl wedi cael ei daflu ar ei gymeriad ac ar ei waith. Nis geill neb wadu ei fod yn ddyn arbenig. Ymddengys fel Elias y prophwyd, yn wrol ei wedd, a gair Duw yn llosgi fel tân yn ei yspryd, ac yn taranu gyda holl angerddoldeb ei natur yn erbyn drygioni y genhedlaeth drofaus y cawsai ei anfon yn genad ati. Yr oedd teulu Howell Harris yn hanu o Sir Gaerfyrddin, o gymydogaeth Llandilo Fawr, nid yn nepell o'r fangre lle y preswyliai henafiaid y Parch. Henry a William Rees; a symudasant i Frycheiniog tua'r flwyddyn 1700. Perchenogai ei rieni, Howell a Susanna Harris, y tyddyn y darfu iddynt symud iddo, sef Trefecca Fach; ar yr hwn y saif Coleg y Methodistiaid, perthynol i'r Deheudir, yn bresenol. Ond nid oeddynt mewn un modd yn gyfoethog. Ni fedrai y tad roddi i'w blant well addysg na'r hyn a dderbyniai plant ffermwyr yn gyffredin. Cafodd Howell Harris ei eni yn y flwyddyn 1714, ac felly yr oedd flwydd yn ieuangach nai gyfaill a'i gyd-ddiwygiwr Daniel Rowland, a thair blwydd yn hŷn na'i fab yn yr efengyl, sef Williams, Pantycelyn. Efe oedd yr ieuangaf o dri brawd, ac y mae yn anhawdd meddwl am frodyr a mwy o wahaniaeth rhyngddynt, a phob un er hyny wedi ymddyrchafu i enwogrwydd yn yr alwedigaeth a phaun yr ymgymerodd. Trwy ymdrech a dyfal bara, ymddyrchafodd Joseph, y brawd hynaf, o fod yn ôf y pentref i sefyllfa o gyfrifoldeb mawr yn y bathdy brenhinol. Arno ef y gorphwysai y cyfrifoldeb o weled fod yr argraff ar yr arian yn ddinam, a bod pob darn yn gyflawn o bwysau. Trwy ei gyrhaeddiadau gwyddonol, daeth yn adnabyddus i rai o brif ddysgedigion ei oes. Cyfansoddodd amryw draethodau seryddol a meintonol; ond wrth un yn unig y gosododd ei enw, sef traethawd ar dremofyddiaeth (optics), yr hwn a gyhoeddwyd ryw ddeng mlynedd gwedi ei farw. Llwyddasai i gasglu cryn gyfoeth, a chawn ef yn priodi merch i Thomas Jones, Tredwstan, hen gymydog i'w dad. Bu farw yn y Tŵr yn Llundain, ryw naw mlynedd o flaen ei frawd Howell. Darfu i Thomas, yr ail frawd, ymsefydlu fel dilledydd yn Llundain, a thrwy ddylanwad rhywrai mewn safle uchel, cafodd ei benodi i gyflenwi y milwyr yn y fyddyn a dillad milwrol. Llwyddodd i gasglu cyfoeth dirfawr, a chwedi ymneillduo oddiwrth ei fasnach, prynodd etifeddiaeth Tregwnter, yn gyfagos i Drefecca. Ymddengys iddo wasanaethu fel Uchel Sirydd Brycheiniog yn y flwyddyn 1768. Bu farw yn y flwyddyn 1782. Ychydig o gydymdeimlad oedd rhwng Joseph a Thomas a Methodistiaeth eu brawd. Ceir amryw o lythyrau o eiddo Howell at eu frodyr, pan oeddynt yn Llundain, yn y rhai y rhybuddia hwy yn ddwys rhag cael ei llyncu i fynu yn ormodol gan awydd am gyfoeth a phleserau y bywyd hwn. Y mae un llythyr o leiaf yn Nhrefecca, yn llawysgrif Joseph Harris, wedi ei anfon at Howell ei frawd, yn yr hwn y cwyna arno ei fod mor ffol ag ymgladdu mewn dinodedd yn mysg y Methodistiaid, tra y gallasai, ond cymeryd cyfeiriad gwahanol, gyrhaedd enwogrwydd, anrhydedd, a chyfoeth, a'i gwnelai yn gyd-stâd ag uchelwyr penaf ei wlad. Mor ddall oedd y brodyr? Y mae enw Howell Harris yn dysgleirio heddyw, fel seren yn ffurfafen hanesiaeth; tra y buasai eu henwau hwy wedi myned ar ddifancoll, oni bai am eu cysylltiad perthynasol ag ef.
Ychydig o hanes bachgendod Howell sydd ar gael, ond ymddengys iddo gael ysgol dda, ac yr amcenid ei ddwyn i fynu ar gyfer y weinidogaeth yn yr Eglwys Sefydledig. Yr oedd cario allan y bwriad hwn yn dreth drom ar amgylchiadau y teulu. Cawn Joseph yn ysgrifenu, pan yr oedd ei frawd ieuangaf tua phymtheg mlwydd oed, yn dymuno cael ei esgusodi rhag estyn cynorthwy at hyn ar y tir fod ei arian yn brin, oblegyd ei fod newydd gyhoeddi Llyfr, ond yn addaw gwneyd yr hyn a fedrai pan ddechreu y llyfr dalu. Dywed Howell yn ei Hunan-gofiant: "Cefais fy nghadw mewn ysgol gan fy rhieni hyd y ddeunawfed flwyddyn o'm hoed; erbyn hyn yr oeddwn wedi dyfod yn mlaen lawer mewn dysg—yna bu farw fy nhad." Rhaid fod yma ryw gymaint o gamsynied, oblegyd yn ol y dyddiad ar ei gareg fedd yn mynwent Talgarth, bu ei dad farw Mawrth 9, 1730, pan nad oedd Howell ond ychydig dros un mlwydd-arbymtheg. Yr oedd yr amgylchiad yn ergyd enbyd iddo; nid oedd ganddo unrhyw obaith bellach am ddringo i'r offeiriadaeth, a bu raid iddo fyned i gadw ysgol er cael defnydd cynhaliaeth. Awgryma fod ystyriaethau pwysig yn cael peth lle yn ei feddwl yn flaenorol i hyn; ond bellach nid oedd ganddo unrhyw gyfaill difrifol a'r hwn y gallai ymgynghori; aeth yr ymdeimlad a'i ryddid yn gymhelliad i lygredigaeth; a chariwyd ef i ffwrdd gyda ffrwd o wagedd y byd, balchder, a chwantau ieuenctyd. Gellir darllen gwagedd ei feddwl yn y rhes ganlynol o dreuliau, a gofnodir ganddo yn nechreu y flwyddyn 1732. Dywed ddarfod iddo wario arian am ddawnsio, ac am berwig, ellyn, menyg, chwip hela, ac amryw bethau di-lês o'r fath. Ynghanol ei ymroddiad i bleser, ni chaffai lonydd er hyny; yr oedd "rhyw reddf o argyhoeddiad" yn ymweled ag ef yn fynych; a chofnodai ei ffaeleddau ar bapyr, fel y byddent yn dystiolaeth yn ei erbyn. Dechreuodd ar y cyffesiadau hyn pan oedd tua dwy flwydd-ar-bymtheg oed, ac y maent ar glawr eto yn mysg ei ysgrifeniadau yn Nhrefecca. Dangosant nid yn unig fod ei gydwybod heb hollol galedu, ond hefyd ei Ei fod yn ysgolhaig pur wych, gan fod y llawysgrif yn rheolaidd, yr iaith yn ramadegol, gyda nifer mawr o dâlfyriadau yn yr iaith Ladin.
Wedi bod yn cadw ysgol am tua dwy flynedd, dechreuodd y cymylau glirio oddiar ei amgylchiadau; daethai i gydnabyddiaeth a dynion o ddylanwad, y rhai a addawent ei gynorthwyo i ymbarotoi am urddau; ac yr oedd Joseph, ei frawd, erbyn hyn wedi dyfod yn alluog i wneyd rhywbeth erddo. "Tra yr oeddwn fel hyn," meddai, "ac amryw ragluniaethau yn cyd-weithio o'm tu i'r dyben o gael dyrchafiad yn y bywyd hwn, am holl lygredigaethau cnawdol inau yn cael maeth oddiar hyny, i gynyddu gryfach gryfach ynof yn feunyddiol, gwelodd yr Arglwydd yn dda ogoneddu ei ras ynof." Daeth amgylchiad i'w gyfarfod, a newidiodd holl gyfeiriad ei fywyd.
Y mae hanes troedigaeth Howell Harris yn haeddu cael ei adrodd yn fanwl. Y Sul o flaen y Pasg, sef Mawrth 30, 1735, ac efe yn un-ar-hugain mlwydd oed, aeth yn ol ei arfer i eglwys Talgarth. Cyhoeddai yr offeiriad, y Parch. Price Davies, y gweinyddid y cymun bendigaid yno y Sabbath dilynol, gan ddarllen y rhybudd sydd yn y Llyfr Gweddi Cyffredin pan fyddo y bobl yn esgeulis am ddyfod i'r ordinhad. Nid ymfoddlonai ar ddarllen yr hyn oedd ysgrifenedig; aeth yn ei flaen i brofi ei fod yn ddyledswydd ar bawb i ddyfod at fwrdd y cymun, ac i ateb gwrthddadleuon cyffredin y rhai a esgeulusant y ddyledswydd. "Os nad ydych yn gymhwys," meddai, " i ddyfod at fwrdd yr Arglwydd, nid ydych gymhwys ychwaith i ddyfod i'r eglwys; nid ydych yn gymhwys i fyw, nac yn gymhwys i farw." Effeithiodd y gadwen hon o ymresymiad ar feddwl y llanc ieuanc o Drefecca Fach; penderfynodd cyn codi oddiar ei eisteddle roddi heibio ei ddifyrwch cnawdol a'i bechodau cyhoedd, ac ymddangos yn mysg y cymunwyr y Sul dilynol. Fel parotoad i hyn, galwodd ar ei ffordd adref heibio i gymydog, a'r hwn yr oedd mewn ymrafael, gan gyffesu ei fai, a dymuno maddeuant, ac estyn maddeuant iddo yntau. ond yr oedd yn enbyd o anwybodus am grefydd ysprydol; "yr oeddwn," meddai, " heb wybod dim am y wisg briodas, ac yn gwbl ddyeithr i grefydd dufewnol, a'm truenus gyflwr wrth natur." Penderfynodd, pa fodd bynag, geisio dilyn buchedd newydd; " er nas gwyddwn," meddai, "pa fodd y dechreuwn, na pha beth i'w wneyd." Y Sul canlynol y mae Harris yn yr eglwys mewn pryd, ac ar derfyn y gwasanaeth â yn ei flaen gyda'r lleill a fwriadent gymuno, gan syrthio ar ei ddeulin gerbron yr allor. Ond wrth gydadrodd a'r gweinidog y gyffes gyffredin: "Yr ym ni yn cydnabod ac yn ymofidio dros ein hamryw bechodau a'n hanwiredd, y rhai, o ddydd i ddydd, yn orthrymaf a wnaethom, ar feddwl, gair, a gweithred, yn erbyn dy Ddwyfol Fawredd, gan anog yn gyfiawnaf dy ddigofaint a'th lid i'n herbyn. Yr ydym yn ddifrifol yn edifaru, ac yn ddrwg gan ein calonau dros ein cam-weithredoedd hyn. Eu coffa sydd drwm genym; eu baich sydd anoddefadwy," saethodd i'w feddwl nad oedd y geiriau yn wir yn eu perthynas ag ef; nad oedd y gradd lleiaf o alar yn ei galon oblegyd ei bechodau, nad oeddynt mewn un modd yn faich ar ei gydwybod, a'i fod yn myned at Fwrdd yr Arglwydd a chelwydd yn ei enau. "Y teimlad hwn," meddai, " ynghyd a golwg ar fawredd y wledd sanctaidd, a darawodd fy nghalon, fel y bum agos a chodi oddiar fy ngliniau, a sefyll yn ol, heb dderbyn y sacrament." Ond ceisiodd dawelu ei gydwybod, gan benderfynu dilyn buchedd newydd rhagllaw. Am ryw gymaint o amser gwedi hyny, ymdrecha fod yn ffyddlon i'w benderfyniad; ymrodda i weddi, a cheisia sefydlu ei fyfyrdodau ar Dduw. Ond yn mhen y pythefnos y mae yn cael ei fod wedi colli agos ei holl argyhoeddiadau, Eithr Ebrill 20, daeth llyfr i'w law a ail-adnewyddodd y teimlad o euogrwydd o'i fewn. Yr un diwrnod daeth o hyd i lyfr arall, a gawsai ei ysgrifenu gan Bryan Duppa ar y gorchymynion. " Wrth ddarllen hwn," cofnoda, " cafodd fy argyhoeddiadau argraff ddyfnach arnaf; pa fwyaf a ddarllenwn, mwyaf oll o oleuni ysprydol oedd yn llewyrchu o'm mewn, i weled mawr feithder a manylrwydd cyfraith Duw, yn fy ngalw i gyfrif nid yn unig am bechodau gwaradwyddus oddi allan, eithr hefyd am ein rhodiad, amcanion, a dybenion, yn yr hyn oll a feddyliom, a ddywedom, neu a weithredom. Yna y gwelais yn eglur, os wrth y gyfraith hono y'm bernid, y darfyddai am danaf yn dragywydd." Am ragor na mis bu yn ystorm enbyd arno, ei gydwybod yn rhuo fel arthes o'i fewn, ac yntau yn ceisio ei thawelu trwy ympryd, a gweddi, a chosbi ei gorff. Teimlai ei fod wedi ei werthu dan bechod, ei fod yn gnawdol, ac nas gallai gredu, na galaru yn briodol am ei ddrygioni mwy nag y gallai ddringo i'r wybr. Yr oedd uffern wedi lledu ei safn i'w dderbyn, ac yntau heb adnabod llais yr iachawdwr. Eithr ar weddi, teimlodd gymhelliad un diwrnod i roddi ei hun fel yr ydoedd i'r Arglwydd Iesu, gan adael y canlyniadau yn gyfangwbl iddo ef. Yn erbyn hyn, pa fodd bynag, gwingai yr yspryd deddfol oedd ynddo; teimlai, os rhoddai ei hun i'r Arglwydd, y collai ei ryddid, ac na fyddai yn eiddo iddo ei hun. Ond gwedi ymdrech galed, gwnaed ef yn ewyllysgar i roddi ffarwel i bob peth tymhorol, ac i ddewis Crist yn rhan dragywyddol. " Yr wyf yn credu," meddai, " ddarfod i mi gael fy ngalw
—————————————
Eglwys Talgarth fel yr ydoedd yn amser Howell Harris
—————————————
y pryd hwnw yn effeithiol i fod yn ddilynwr i'r Oen." Nid oedd eto wedi cael cyflawn ryddhad. Aeth i'r cymundeb ar y Sulgwyn yn flinderog a thrwmlwythog dan euogrwydd ei bechodau. Eithr darllenasai mewn llyfr, " os byddai i ni fyned i'r sacrament, gan gredu yn syml yn yr Arglwydd Iesu Grist, y byddem yn sicr o dderbyn maddeuant o'n holl bechodau. Ac yn wir felly y bu i mi; cefais brawf eglur trwy yr Yspryd Glân, fod Crist wedi marw drosof fi, a bod fy mhechodau i gyd wedi eu rhoddi arno ef; a'm bod yn awr yn rhydd oddiwrth frawdle cyfìawnder, ac yn fy nghydwybod." Pan yn y wasgfa cawsai ei flino gan syniadau Atheistaidd, y rhai a wnaent ei fywyd yn faich iddo; " ond wrth weled fy Nuw ar y groes," meddai, " cefais ryddhad oddiwrth y profedigaethau hyny. Weithian yr oedd y byd hwn, a phob meddyliau am ddyrchafiad, a chlod dynol, wedi cwbl ddiflanu o'm golwg, a'r byd ysprydol a thragywyddoldeb yn dechreu ymddangos."
Dyma Harris yn ddyn newydd ac yn ddyn rhydd. Drylliwyd ei gadwynau yn chwilfriw, dihangodd yntau am byth gyda 'i Farnwr. Mewn canlyniad i hyn, IHfodd tangnefedd fel yr afon i mewn i'w gydwybod; prin y cyffyrddai ei draed a'r ddaear wrth fyned adref; gallai ddawnsio a neidio, fel y cloffyn mhorth y deml gwedi ei iachau. Wrth fyned o'r eglwys, dywedai wrth ei gymdeithion, gyda thôn orfoleddus: "Y mae fy mhechodau wedi eu maddeu!" Edrychai y rhai hyny yn hurt, heb ddeall ystyr ei eiriau, am nad oeddynt wedi bod yn y wasgfa; âi yntau yn mlaen at y fyntai nesaf, gan ddweyd yr un peth: " Y mae fy mhechodau wedieu maddeu!" Yr oedd hyny yn gymaint peth yn ei olwg a phe y buasai wedi cael nefoedd. Ni chlywsai neb yn gwneyd cyffes o'r fath o'r blaen, ond yr oedd llawenydd ei fynwes yn gyfryw fel y mynai fwrlymu i'r golwg; a mawr chwenychai i'w gymydogion lawenychu gydag ef oblegyd y ddihangfa. O hyn allan, cawn ef yn cyson ddâl cymdeithas a Duw, ac yn cael amlygiadau mynych o wedd ei wyneb. " Mehefin i8, 1735, pan oeddwn mewn gweddi ddirgel," ysgrifena,[78] " yn ddisymwth teimlais fy nghalon yn toddi ynof fel cwyr o flaen tân o gariad at Dduw fy iachawdwr; teimlais hefyd nid yn unig gariad a heddwch, ond hefyd hiraeth am ymddatod a bod gyda Christ. Yr oedd llef yn nyfnder fy enaid, na wyddwn am dani o'r blaen, 'Abba Dad, Abba Dad.' Nis gallwn beidio a galw Duw, fy Nhad! Yr oeddwn yn gwybod mai ei blentyn ef oeddwn, a'i fod yn fy ngharu ac yn fy ngwrando. Cafodd fy enaid ei lenwi, a'i lwyr ddiwallu, nes y gwaeddwn, 'Digon! Digon!' Dyro i mi nerth, ac mi a'th ddilynaf trwy ddwr a thân! "
Y mae yn brofedigaeth i ni fyned yn y blaen i ddifynu, ond rhaid ymatal. Nid oedd allan o'r maglau eto, er hyny; bu mewn aml brofedigaeth gyda'r gelyn ar ol hyn. Cadwai yr ysgol yn y blaen, gan ddisgwyl galwad oddiwrth berthynas agos iddo i fyned i Rydychain; a ry w ddiwrnod collodd ei dymher o herwydd cam-ymddygiad un o'r plant. Ar hyn, dyma y gelyn yn rhuthro arno, gan haeru ei fod wedi syrthio oddiwrth ras, ac wedi fforffetio ei hawl yn Nghrist. Ond wedi bod mewn ing enaid am dymor, danfonodd Duw gysur iddo trwy Mal. iii. 6: " Myfi yr Arglwydd ni'm newidir." Gwelodd nad ar ei ffyddlondeb ef y dibynai ei iachawdwriaeth, ond ar ffyddlondeb Crist, ei Waredwr. O hyn allan, byw i'r Iesu yw ei amcan. Ymneilldua oddiwrth ei hen gyfeillion difeddwl; penderfyna ymwrthod a phob dyrchafiad bydol; a gwertha yr oll oedd ganddo, gan eu rhoddi i'f tlodion. Yn mysg pethau eraill, teimla fod y dillad a wisgai yn flaenorol yn rhy wych i Gristion, ac yn cydymffurfio yn ormodol a ffasiwn y byd, ac felly ymâd a hwythau, gan gyfranu yr hyn a gawsai am danynt mewn elusen. Nid yw yn pryderu gyda golwg ar ei ddyfodol o gwbl; mentra ar addewid Duw.
Yn awr, y mae cyflwr ysprydol ei gyd-ddynion yn dechreu gwasgu yn ddwys ar ei feddwl. Gwel eu bod yn teithio y ffordd lydan, ac nad oedd neb o ddifrif yn eu rhybuddio am eu perygl. Methai ymatal rhag siarad a hwy am bethau ysprydol; ond y canlyniad oedd fod rhai yn ei ddirmygu, ac eraill yn tosturio wrtho; ceisiai un dosparth ei ddychrynu, tra yr oedd dosparth arall yn ei gynghori. Edrychent arno fel penboethyn. " Nid oeddwn gymaint a meddwl y pryd hwnw," meddai, " y byddai i'r Arglwydd fy nefnyddio i er bendith i neb; canys nid oeddwn yn gweled y tebygolrwydd lleiaf o hyny, ond yn hytrach i'r gwrthwyneb." Ond yr oedd gair yr Arglwydd yn llosgi fel tân o'i fewn, ac aeth yn ei flaen i gynghori pawb y deuai i gyffyrddiad a hwy. Am angeu, a'r farn, a thragywyddoldeb, y llefarai yn benaf, ynghyd a'r angenrheidrwydd am weddïo a derbyn y sacrament. Tywyll oedd ei syniadau; nid oedd ei ddirnadaeth o athrawiaethau yr efengyl ond cyfyng, ond ni chuddiai yr ychydig oleuni a feddai dan lestr. Cawn ef yn dechreu cynal addoliad teuluaidd yn nhy ei fam; a'r boreuau Suliau, cyn pryd eglwys, arferai amryw o'r cymydogion ddyfod i'w wrando yn darllen y llithoedd a'r Salmau. Meddai: "Nis gallwn orphwys na dydd na nos, heb wneuthur rhywbeth dros fy Nuw, a'm Hiachawdwr; ac nis gallwn, gyda boddlonrwydd, roddi hun i'm hamrantau os na byddwn wedi gwneyd rhyw wasanaeth er gogoniant iddo ef ar hyd y dydd. Yr oedd amser mor werthfawr yn fy ngolwg, fel nas gwyddwn pa fodd i'w dreulio yn hollol i ogoniant Duw, ac er daioni i eraill." Ymroddai i ddarllen a gweddïo pan ar ei ben ei hun, ac ai yn ei flaen i gynghori y bobl a ddeuent i'w wrando bob prydnhawn Sabbath. Erbyn hyn, yn ol ei gyfaddefiad ef ei hun, yr oedd wedi myned yn ddiareb gwlad. Dirmygid ef gan rai; bygythiai eraill wneyd niwed personol iddo; " ond," meddai, "yr oeddwn yn cael fy nghario fel ar adenydd trwy bob math o dreialon."
Nis gwyddai ei frawd Joseph, oedd yn awr yn Llundain, beth i'w wneyd o hono, nac o'i lythyrau; a lled awgryma fod y pruddglwyf wedi ei orchfygu. Er cael ymwared oddiwrth hyn, deil o'i flaen uchelgais gais bydol, a chymhella ef i frysio i Rydychain. Meddai Howell yn ol: "Nid wyf yn bruddglwyfus, fel yr ydych yn tybio. Yr wyf yn mwynhau trysor na fedraf roddi syniad i chwi am dano. Y mae galar bron a bod yn estron i mi." Nid yw yn cael ei ddallu ychwaith gan y rhag-olygon dysglaer a ddelir o'i flaen. "Bydded i'r rhai sydd yn caru gweled, a chael eu gweled," medd, "afaelu yn hudoliaethau Madam Ffawd. Goddefer i mi gymaint a hyny o ddifrifwch fel ag i ddelio yn onest a fy enaid." Nid yw yn gweled ei lwybr gyda golwg ar y dyfodol yn glir; ond dywed nad oes arno ofn na bydd iddo enill bywioliaeth, ei fod yn gobeithio ei fod wedi cael ei fwriadu i fod o ryw lês, ac na chyfrifa unrhyw drafferth na phoen yn ormod er eì gymhwyso ar gyfer hyny. Nifwriadaidderbynurddau bellach. "Peidiwch a'm cymhell i fod yn ddyn cyhoeddus, meddai wrth ei frawd, "oblegyd os goddefir i mi farnu gyda golwg arnaf fy hun, ni feddaf unrhyw gymhwysder at hyny." Gwelir nad oedd yn adnabod ei hun, na'i gymhwysderau, ac nad oedd ganddo syniad am y gwaith y galwyd ef i'w gyflawni. Dechreu Tachwedd, 1735, aeth i Rydychain, gan ymrestru fel efrydydd yn Neuadd Sant Mair, tan addysg Mr. Hart. Gobeithiai ei gyfeillion a'i frodyr y cai ei ddiwygio yn y brifysgol oddiwrth yr hyn a alwent hwy yn benboethni. Ac os bu unrhyw le neu sefydliad yn meddu dylanwad er angrefyddoli dynion ieuainc, a pheri iddynt golli pob difrifwch ysprydol, yr oedd Rhydychain felly y pryd hwn. Dywed John Wesley[79] fod y lle yn llawn o ieuenctyd anfoesol, mwy niweidiol na phe buasent yn arwain bywyd drwg cyhoeddus, y rhai a wisgent glogyn o weddeidd-dra allanol, ond a dreulient eu holl amser mewn oferedd, ac a arhosent mewn ymyfed a chyfeddach hyd haner nos. Ni feddent rith duwioldeb, chwaethach ei grym. I ganol y rhai hyn y taflwyd Harris druan, a theimlai bron fel pe bai wedi ei daflu i uffern. Yr oedd anfoesoldeb y lle yn ei ddychrynu, a threuliai y rhan fwyaf o'i amser mewn gweddi ddirgel ac yn yr addoliad cyhoeddus. Dylid nodi fod Methodistiaid. Rhydychain y pryd hwn wedi cael eu gwasgar; yr oedd John a Charles Wesley, ynghyd a Benjamin Ingham, ar Fôr y Werydd, yn croesi i Georgia, gyda'r amcan o efengyleiddio yr Indiaid; torasai iechyd Whiteheld i lawr, ac aethai adrefi Gaerloyw; ymsefydlasai John Clayton yn Manchester, a John Gambold, y Cymro o Sir Benfro, yn ficeriaeth Stanton-Harcourt. Felly, nid oedd braidd neb o fewn y Brifysgol yn ceisio atal y llifeiriant o lygredigaeth oedd yn cario pob peth o'i flaen. Dibynai Harris am gynhaliaeth tra yn Rhydychain ar ei gyfeillion, ac yn arbenig ar ei frawd Joseph. Y mae llythyr ar gael a anfonwyd ato yr adeg hon gan Joseph Harris yn profi hyny. "Chwi a gewch yn y gist hon," meddai y llythyr, "hen bâr o ddillad i mi wedi ei gyfnewid ar eich cyfer gan fy mrawd, gyda dau bâr o glôs (breches) perthynol iddo, hefyd fy hen glôs lledr i, y rhai a fyddant yn wasanaethgar i chwi yn y wlad neu yn Rhydychain." Ymddengys fod ei ragolygon bydol yn awr yn dra dysglaer, ond iddo fyned yn ei flaen i gymeryd urddau. Addewid lle iddo fel athraw ar ysgol fawr, ac yr oedd rhyw foneddwr yn cynyg bywioliaeth eglwysig iddo, gwerth saith ugain punt y flwyddyn. Ond meddai: "Yr oedd yr Arglwydd Iesu yn awr wedi meddianu fy nghalon, fel nad oedd yr holl addewidion teg a osodent o'm blaen yn cael fawr effaith arnaf." Gwelodd nas gallai dreulio allan y tymor priodol yn Rhydychain; taflodd ymaith yr holl ragolygon am ddyrchafiad; a phenderfynodd ddychwelyd adref, gan dreiglo ei ffordd ar yr Arglwydd.
Gadawodd Howell Harris y Brifysgol ddiwedd y flwyddyn 1735, ac ni ddychwelodd yno mwyach. Mor fuan ag y daeth yn ei ol dechreuodd fyned o gwmpas i gynghori, a gwnai hyn gyda zel angerddol. Ai o dŷ i dŷ yn ei blwyf ei hun, a'r plwyfydd cyfagos, i rybuddio y trigianwyr i ffoi rhag y llid a fydd; cyfarchai y bobl a gyfarfyddai ar y ffordd fawr; pan y gwelai was ffermwr yn aredig ar y maes ymwthiai trwy y berth ato, a cherddai gydag ef o'r naill dalar i'r llall, er argraffu ar ei feddwl y pwys o ddianc rhag uffern. Buan y cynyrchodd ei ymddygiad gyffro trwy yr holl wlad. Aeth y tai anedd yn mha rai y cynghorai yn rhy fychain i'r bobl a ddeuent i'w wrando. Dywed yn ei Hunan-gofiant: "Yr oedd y fath awdurdod yn cydfyned a'r Gair, fel y byddai amryw yn y fan yn gwaeddu allan ar Dduw am faddeuant o'u pechodau, a'r cyfryw ag oedd yn byw mewn llid a chenfigen yn cyffesu eu beiau y naill i'r llall, ac yn ymheddychu a'u gilydd, gan ymddangos fel rhai yn ddifrifol ynghylch eu cyflwr tragywyddol. Addoliad teuluaidd a osodwyd i fynu mewn llawer o dai; ymgasglai tyrfaoedd mwy i'r eglwysydd, ac hefyd at Fwrdd yr Arglwydd." Yr oedd y lefain yn y blawd, a'r ymweithiad yn dechreu cymeryd lle.
Nid ymgynghorodd Harris a chig a gwaed er gwybod a oedd yr hyn a wnelai yn rheolaidd; nid oedd yn tybio ei fod yn pregethu, ac ni amcanai at fod yn bregethwr; ni feddai unrhyw gynllun ychwaith, ond gwelai ei gydwladwyr yn cyflymu i ddystryw, mewn anwybodaeth o'u perygl, a theimlai mai gwae ef oni rybuddiai hwynt. Efe yn ddiau yw tad y weinidogaeth leygol, yr hon a fu mor fendithiol i Gymru; ond ni amcanai ef ddwyn unrhyw newydd-beth i mewn. Awydd achub eneidiau anfarwol a losgai fel tân yn ei yspryd. "Erbyn hyn," medd, "yr oedd yn bryd i'r gelyn ymosod arnaf," ac amlwg yw iddo wneyd hyny mewn gwahanol ddulliau. Dechreuodd y werinos, yn cael eu cyffroi yn ddiau gan rai mewn sefyllfa uwch, ei wawdio ai erlid; bygythiai yr ynadon ef a'r bobl a'i derbynient i'w tai a charchar neu ddirwy; a chynhyrfai preladiaid yr Eglwys Wladol o herwydd ei fod yn ymyraeth a'r hyn a berthynai, fel y tybient, iddynt hwy yn unig. Chwefror, 1736, derbyniodd lythyr ceryddol oddiwrth Mr. Price Davies, ficer Talgarth. Yn y llythyr hwn dywed Mr. Davies ei bod yn llawn bryd ei hysbysu o'r pechod a'r gosb oedd yn dynu arno ei hun; ond iddo ddarllen ei Feibl, y gwelai nad oedd y gwaith a pha un yr ymgymerasai yn perthyn i leygwyr o gwbl, yn mhellach na darllen a gweddïo yn eu teuluoedd; fod ganddo un camwedd trymach i'w osod yn ei erbyn, sef ddarfod iddo derfynu un anerchiad gyda gweddi faith, allan o'i frest; a dymuna arno ystyried pa mor gryf y sawra ei ymddygiad o ffanaticiaeth a rhagrith. Diwedda Mr. Davies trwy fygwth. Bygythia ysgrifenu at ei frawd Joseph, a rhoddi gwybod i'r esgob, yr hyn a'i rhwystrai i gael ei urddo, oni wnai ymatal; a gobeithia na wna roddi achos cyfiawn iddo ef ac eraill i dybio fod ei synwyrau wedi eu amharu. Nid gelyniaeth at grefydd efengylaidd oedd yn cyffroi y Parch. Price Davies, na difaterwch hollol oblegyd cyflwr ysprydol y wlad; y mae yn amlwg ei fod yn meddu cryn lawer o ddifrifwch; ond ysgrifenai yn ol y goleuni oedd ganddo. Iddo ef a'i gyffelyb rheoleidd-dra oedd y pwnc mawr; purion peth oedd achub eneidiau, ond i hyny gael ei wneyd yn rheolaidd, a thrwy gyfrwng gweinidog wedi derbyn urddau esgobol; ond ystyriai fod gwaith lleygwr yn ymyraeth yn drosedd anfaddeuol. Nid oedd yn canfod fod achubiaeth y byd yn bwysicach na swyddogaeth. Efallai yr ofnai hefyd os cai personau di-urddau fyned o gwmpas i gynghori y darfyddai am yr offeiriadaeth.
Ni effeithiodd llythyr y ficer ar Harris fel ag i beri iddo newid ei gyfeiriad. Dychrynwyd rhai o'r personau a arferent ddyfod i wrando arno gan wrthwynebiad y personiaid, ac erledigaeth y werin bobl; ond cyfarfyddent yn ddirgel, pan na feiddient wneyd yn gyhoeddus. Yn raddol chwythodd yr ystorm heibio, a'r gwanwyn dilynol ail- gychwynodd ei ymweliadau o dŷ i dŷ. Erbyn hyn daethai i gydnabyddiaeth ag amryw o'r Ymneillduwyr; yr oedd eglwys Ymneillduol yn Nhredwstan, yr ochr arall i'r cwm iddo, yn yr hon, er ei bod yn fychan ac yn eiddil, yr oedd rhyw gymaint o wir grefydd yn aros, fel llin yn mygu; a chaffai gan y rhai hyn dderbyniad calonog i'w tai. Er mwyn bywioliaeth, sefydla ysgol ddyddiol yn Nhrefecca, yr hon yn fuan a symudwyd i eglwys Talgarth. Er ddarfod iddo fod ar ymweliad a'r Hybarch Griffith Jones, yn Llanddowror, yn mynegu ei fwriad ac yn gofyn cyfarwyddid, nid yw yn ymddangos fod ei ysgol yn un o rai Griffith Jones; yn hytrach, anturiaeth bersonol ydoedd. Ond yr oedd mewn gohebiaeth gyson ag offeiriad duwiol Llanddowror; mynegai ei lwyddiant iddo gydag asbri; a derbyniai oddiwrtho roddion o lyfrau a phob cefnogaeth. Bu yr ysgol yn gymorth nid bychan i'r Diwygiad." Llawer o ddynion ieuainc," meddai, "a gofleidias y cyfleustra, ac a ddaethant ataf i gael eu hyfforddi yn mhellach yn ffordd iachawdwriaeth."
Cafodd gyfleustra arall i rybuddio ei gyd-wladwyr gyda golwg ar fater eu henaid. Elai dyn o'r gymydogaeth o gwmpas i ddysgu pobl ieuainc i ganu Salmau." Nid oedd gwrthwynebiad i hyny," meddai Harris, "mwy na phe y buasent yn ymgynull ynghyd i ddawnsio, neu i ymladd ceiliogod." Felly yr ysgrifena, gyda phob difrifwch; nid yw fel yn ymwybodol y fath ddatguddiad a rydd ei eiriau o gyflwr y wlad. Wedi i'r athraw cerddorol derfynu ei addysgiant mewn canu, cyfodai y Diwygiwr i roddi iddynt air o gyngor, a thrwy y moddion yma dygwyd llawer dan argyhoeddiad. Arweiniodd hyni sefydliad societies. Meddai, "Myfi a ddechreuais sefydlu y societies hyn yn ol y drefn y mae Dr. Woodward yn rhoddi hanes am dani, mewn traethawd a ysgrifenodd efe ar y pen hwnw. Nid oedd hyd yn hyn ddim societies o'r fath yn Nghymru na Lloegr. Yr oedd y Methodistiaid Saesneg heb son am danynt eto, er fod yr Arglwydd y pryd hyny, fel y cefais wedin, yn gweithio ar rai o honynt yn Rhydychain a manau eraill." Perthyn i'r Eglwys Sefydledig yr oedd y Dr. Woodward y cyfeirir ato; sefydlasai ei seiadau ar gynllun, ac yn unol a rheolau a dynasid allan gan Archesgob Caergaint; yr amcan oedd casglu ynghyd y rhai a geisient arwain bywyd sanctaidd, ac a foddlonent i fyw yn unol a rheolau manwl, yn un gymdeithas, i'r hon y byddent oll yn gyfrifol. Mewn rhai pethau nid oeddent yn annhebyg i'r guilds presenol yn Eglwys Loegr. Yn Llundain yn unig y cawsent eu sefydlu gan Dr. Woodward, ac er iddynt unwaith fod yn bur gryfion, suddasent erbyn hyn i gyflwr isel a difywyd. Yn wir, ychydig o gyffelybrwydd oedd rhwng y seiadau a sefydlwyd gan Howell Harris i eiddo Dr. Woodward. Amcan seiadau Woodward oedd disgyblaeth; yspryd deddfol a lywodraethai ynddynt; ufudd-dod i reolau ac ordinhadau allanol yn benaf a ofynent. Amcan seiadau Harris oedd cyd-hyfforddiant ar y ffordd i'r nefoedd; cyfleusterau oeddynt i'r rhai a gawsent eu hargyhoeddi i adrodd eu profiadau, ac i arllwys eu calonau y naill i'r llall, fel y gallent gysuro a chynorthwyo eu gilydd. Yr oeddynt yn drwyadl efengylaidd o ran tôn, ac yn talu sylw yn benaf i'r ysprydol a'r mewnol. O ran ei hanfod yr oedd cynllun Harris yn wreiddiol iddo ef ei hun. Diau ei fod yn gywir wrth ddweyd nad oedd seiadau o'r fath ar y pryd yn Nghymru na Lloegr. Yn mhen tair blynedd gwedi hyn y sefydlodd John Wesley y gyntaf o'i seiadau ef. Cawn Parch. James Hervey, un o Fethodistiaid Rhydychain, yn y flwyddyn 1739, yn ffurfio cymdeithas grefyddol gyffelyb yn Bideford, "nid," meddai, "mewn gwrthwynebiad i'r Eglwys Sefydledig, ond mewn cydffurfiad. dyledus a hi." Dywed fod y manteision canlynol i'w cael mewn cym- deithasau o'r fath. "(1) Yr ydym ni yn anwybodus, ac yn fynych yn methu canfod y pethau sydd a rhagoriaeth ynddynt; eithr gwel Duw yn dda ddatguddio i rai yr hyn a guddir oddiwrth eraill; felly, yn amlder cynghorwyr y mae doethineb yn gystal a dyogelwch. (2) Yr ydym yn tueddu i garu ein hunain, ac felly yn analluog i ganfod ein colliadau; o ganlyniad, yr ydym yn anhebyg o ddiwygio. Ond gwna ein cyfeillion, mewn yspryd llariaidd a diduedd, ddangos i ni ein bai. (3) Yr ydym yn wan ac anmhenderfynol; rhwystrir ni yn hawdd pan yn ymgais am yr hyn sydd ardderchog; ond y mae cymdeithas cyfeillion, yn ymdrechu am yr un rhagoriaethau, yn ein llenwi a gwroldeb a sefydlogrwydd. (4) Yr ydym yn ddiog ac yn glauar yn nghyflawniad ein dyledswyddau crefyddol; eithr gwna cydgymundeb sanctaidd gyffroi a chadw yn fyw zêl dduwiol. Mor fynych yr aethum i gyfeillach fy mrodyr yn oer a diyspryd; ond dychwelwn y ddyn newydd, yn llawn awyddfryd a zêl"[80] Pa fodd bynag, methodd Hervey a chadw y gymdeithas yn Bideford ar y llinellau hyn. Nid oedd y rhai a ymgynullent yn teimlo y medrent gynal ymddiddan crefyddol yn mlaen mewn modd a gynyrchai adeiladaeth; nid oeddynt yn ddigon ysprydol ychwaith i gwestiyno y naill y llall gyda golwg ar fater eu heneidiau; felly, yn lle adrodd profiad, darllenid rhyw lyfr defosiynol da. Ond yr hyn y methodd Mr. Hervey ei sefydlu a ddaeth yn Nghymru yn gyfarfod o'r pwysigrwydd mwyaf, ac yn rhan o fywyd crefyddol y genedl. Yn y seiadau, a sefydlwyd gan Howell Harris a Daniel Rowland, mewn anwybodaeth am waith eu gilydd, yr addysgid yr anwybodus yn fanylach yn egwyddorion yr efengyl, y dangosid i'r anghyfarwydd y modd y dylai droedio er gochel maglau y gelyn, y rhybuddid y rhai a dueddent i oeri mewn zêl, y dyddenid y rhai oeddynt yn cael eu poeni gan ofnau, ac y caffai saint Duw gymdeithas a'u gilydd yn Nghrist Iesu. Ni wnaeth dim fwy er dwyshau y teimlad crefyddol yn y wlad na'r seiat brofiad.
Hyd yn hyn, Talgarth a'r cymydogaethau o gwmpas oedd cylch gweinidogaeth Howell Harris. Ond yn haf 1737, anfonodd boneddwr o Sir Faesyfed am dano i lefaru yn ei dy. Cwbl gredodd yntau fod yr alwad o'r nefoedd, ac heb ymgynghori a chig a gwaed yno yr aeth. Daeth nifer o bobl barchus ynghyd i wrando, wedi eu cyffroi yn benaf gan gywreinrwydd. Ond cawsant y fath foddlonrwydd yn yr hyn a draethai, ac yn yr atebion i'r gwahanol gwestiynau a ofynent iddo, fel y symudwyd eu rhagfarn yn hollol, a chafodd amryw eu hargyhoeddi o druenusrwydd eu cyflwr. Darfu i fendith Duw ar yr odfa gyntaf a gynhaliwyd ganddo yn mhell o cartref, ei argyhoeddi y bwriedid iddo eangu cylch ei lafur. Hyn a wnaeth yn ddiymaros. Ai i ffeiriau, a gwyliau, ac i bob man o fewn ei gyrhaedd, lle yr ymgynullai y lliaws, i rybuddio dynion o'u perygl. Ond yr oedd yr ysgol ar ei ffordd, fel na fedrai fyned yn mhell. Eithr symudwyd y rhwystr hwn trwy frâd y diafol ei hun; oblegyd tua diwedd y flwyddyn cafodd ei droi allan o'r ysgol oblegyd ei afreolaeth. Bellach, yr oedd at ei ryddid i fyned pa le bynag y gelwid am dano, ac ni phetrusai yntau dderbyn pob gwahoddiad. Pregethai dair neu bedair gwaith y dydd, weithiau bump neu chwech, a hyny i gynulleidfaoedd anferth. Cyffrowyd Siroedd Brycheiniog a Measyfed trwy ei weinidogaeth o gwr i gwr. Deffrodd hyn elyniaeth danllyd yn ei erbyn. Meddai: "Weithiau yr oeddwn yn cael fy llwytho a phob math o gamachwyniadau; y swyddogion gwladol yn bygwth fy nghospi, yr offeiriaid yn yr eglwysydd yn pregethu yn fy erbyn, gan fy nodi allan fel y Gaubrophwyd, a'r Twyllwr, a'r mob yn mhob lle, yn amcanu fy niweidio." Ond nid oedd gŵr Duw yn gofalu am y pethau hyn; llenwid ei enaid ynddo gan ddyddanwch pur.
Anhawdd i ni yn yr oes hon ffurfio barn am wresogrwydd a nerth gweinidogaeth Howell Harris. Nid oedd ei bregethau parthed arddull cyfansoddiad, ynghyd a dyfnder ac arucheledd meddylddrychau, i'w cymharu ag eiddo Griffith Jones, ac yn arbenig eiddo Daniel Rowland. Ni wnaeth ymgais am rai blynyddoedd i draddodi pregethau ar destynau; rhoddai anerchiadau difyfyr, heb unrhyw drefn neillduol, gan daranu yn erbyn pechod. Meddai: "Mewn perthynas i swm fy ymadrodd, yr ydoedd oll yn cael ei roddi i mi mewn modd anarferol, heb y rhagfyfyriad lleiaf; nid cynyrch fy nghof ydoedd ychwaith, canys ni fu genyf gof da erioed; nerthol gynhyrfiad a deimlwn yn fy enaid ydoedd, fel nas gallwn fod yn llonydd, gan yr angenrhaid a osodwyd arnaf i ddeffroi eneidiau pechaduriaid." Cawsai ei gyfaddasu yn arbenig gan natur, a chan ddyfnder ei argyhoeddiad, ar gyfer rhybuddio yr annuwiol. Yr oedd ei olwg yn fawreddog, ac yn tynu sylw ar unwaith; yr oedd ei lais yn gryf ac yn glir; fflamiai ei lygaid; eisteddai difrifwch o dragywyddoldeb ar ei wynebpryd; ac yr oedd nerth anorchfygol yn ei draddodiad. Elai allan i'r rhedegfeydd, ac i ffeiriau, gwylmabsantau, a chyfarfodydd llygredig y wlad, gan rybuddio y bobl i ffoi i'r cysgod. 'Disgynai ei ymadroddion fel pelenau o dân ar y tyrfaoedd anystyriol. Wedi cael cynulleidfa oi flaen, y mae y pregethwr yn sefyll i fynu, a chyda ei fod yn agor ei enau, dyma ystorm ddychrynllyd o fellt a tharanau yn disgyn ar ben y gwrandawyr; y maent yn cael eu hysgwyd uwchben uffern, nes y mae rhai yn gwelwi a rhai yn gw aeddu. Nid anaml gwelid cynulleidfa o ddwy fil yn aros am ddwy awr yn y gwlaw i wrando arno yn llefaru. Byddai rhai yn cael eu hargyhoeddi, ac eraill yn ceisio dystewi llais cydwybod trwy erlid y pregethwr. Ofer ceisio cyfrif ar dir rheswm cnawdol am y dylanwad a fyddai yn cydfyned a'i eiriau; yr oedd ganddo genadwri oddiwrth Dduw i ddynion, a thraddodai hi gydag angerddolrwydd yspryd a gariai y cwbl o'i flaen. Cymwys desgrifiad Williams, Pantycelyn, o hono :—
"Yn y cyfnes tywyll pygddu,
Fe ddaeth dyn fel mewn twym ias,
Yn llawn gwreichion goleu, tanllyd,
O Drefecca Fach i ma's.
Yn y daran 'r oedd e'n aros,
Yn y cwmwl'r oedd ei le,
(Yspryd briw, drylliedig, gwresog,
Sy'n cael cwnsel Brenin Ne);
Ac yn saethu oddiyno allan
Fellt ofnadwy iawn eu rhyw,
At y dorf aneirif, dywyll,
Yn eu pechod oedd yn byw.
Gosfu gwrando ei eiriau geirwon,
Cadarn yw awdurdod nen;
Os gwrthw'nebu wna pechadur,
Trymach cwymp hi ar ei ben;
Dilyn ergyd a wnaeth ergyd,
Nes gwneyd torf yn foddlon dod
At yr Iesu mewn cadwynau,
Fyth i ddilyn ôl ei droed.
Gwerin fawr o blant pleserau
Y pryd hwnw gafodd flas,
Ag nad â tra fyddo anadl
'O'u hysprydoedd ddim i maes.
"Roedd ei eiriau dwys, sylweddol,
Heb eu studio 'mlaen llaw'r un,
Wedi ei ffitio gan yr Yspryd
I gyflyrau pob rhyw ddyn."
Digwyddodd dau amgylchiad ynglyn a Howell Harris, yn haf 1737, o bwysigrwydd mawr iddo ef ei hun ac i'r diwygiad. Un oedd cyfarfod am y tro cyntaf a Daniel Rowland yn Defynog. Er fod y ddau er ys peth amser wedi tori allan o'r llwybr cyffredin i rybuddio yr annuwiol, ni wyddent ddim am eu gilydd; a gwna hyn eu hymddygiad yn fwy beiddgar a gwronaidd. Ai Harris allan yn enw Crist i'r pentrefydd, ac i gymoedd mynyddig Brycheiniog a Maesyfed, gan dybio, fel Elias gynt, mai efe oedd yr unig dyst dros y Gwaredwr. Ond cafodd Rowland ei wahodd i Eglwys Defynog, gan ficer y plwyf; daeth Harris, trwy wahoddiad y ficer, yn ol pob tebyg, yno i'w gyfarfod; ac wrth weled y doniau seraphaidd a pha rai yr oedd wedi ei gynysgaeddu, a'r nerth gyda pha un y traddodai wirioneddau gogoneddus yr efengyl, ymglymodd ei enaid am yr apostol o Langeitho, ac aeth gydag ef i Sir Aberteifi cyn dychwelyd. Os edrychir ar Fethodistiaeth fel yn tarddu, a dywedyd yn ol dull dynol, o ddwy ffrwd wahanol ac annibynol, yn Defynog y pryd hwnw gwelir y ddwy ffrwd yn ymuno a'u gilydd, ac yn ymffurfio yn afon.
Yr amgylchiad arall oedd argyhoeddiad Mr. Marmaduke Gwynn, un o brif foneddwyr Brycheiniog, yr hwn a breswyliai yn y Garth, yn rhan uchaf y sir. Disgwylid Harris i bregethu yn y gymydogaeth. Clywsai Mr. Gwynn lawer math o ddrygair am y pregethwr, ei fod yn wrthryfelwr yn erbyn y brenin, ac yn terfysgu y bobl, gan eu hanog i godi yn erbyn yr awdurdod wladol. Teimlai mai ei ddyledswydd, fel ustus heddwch, oedd traddodi y terfysgwr i'r carchar. Ond yr oedd yn ŵr cyfiawn, ac meddai wrth ei wraig: "Mi a'i gwrandawaf cyn ei draddodi." I'r cyfarfod yr aeth, a Deddf Terfysg (the Riot Act), yn ei logell, er tori y cyfarfod i fynu, a gwasgar y gwrandawyr, pan welai duedd at wrthryfel. Ond ni soniai Harris am bethau tymhorol; bygythion Duw yn erbyn yr annuwiol a fynegai; anog y gynulleidfa i ddianc rhag y llid a fydd yr oedd, a'u ceryddu am eu pechodau gwaradwyddus, a'u bucheddau anfoesol. Ymddangosai i Mr. Gwynn fel angel Duw, fel cenad o fyd arall. Yn lle dal y pregethwr, cafodd efe ei hun ei ddal, ai ddwyn yn gaeth i Grist. Ar derfyn y cyfarfod, aeth at y pregethwr, gan gyfaddef ei ddrwg-fwriad, a gofyn ei bardwn, a'i gymhell i letya i'w dŷ. Bu aruthr gan Mrs. Gwynn, yr hon oedd yn foneddiges yn hanu o deulu uchel, weled ei phriod yn dychwelyd yn nghwmni y pregethwr terfysglyd, ac yn talu cymaint o barch iddo a phe byddai yn esgob. Braidd na chredai fod ei gŵr wedi colli ei synwyr. Eithr trodd y ferch, Miss Sarah Gwynn, gyda ei thad. Bu Mrs. Gwynn am beth amser yn elynol i'r diwygiad, ond cafodd hithau ei hargyhoeddi i fywyd, a daeth yr holl deulu yn Fethodistiaid. Priododd Miss Gwynn a Charles Wesley ar ol hyn. Taflodd Mr. Gwynn ei holl ddylanwad o blaid Harris; amddiffynodd ef yn mhob modd, a sicr yw ddarfod i'w ymddygiad effeithio yn fawr er lleihau yr erledigaeth, ac i ddwyn opiniwn y cyhoedd yn bleidiol i Fethodistiaeth.
Erbyn diwedd 1737, a gwanwyn 1738, er pob gwrthwynebiad oddiwrth yr offeiriaid a'r boneddwyr, ac er terfysg y werinos, yr oedd seiadau wedi cael eu ffurfio bron yn mhob cymydogaeth yn Sir Frycheiniog, mewn nifer mawr o leoedd yn Sir Faesyfed, ac mewn rhai manau yn Sir Henffordd. Nid oedd ardal na chwmwd perthynol iddynt nad oedd wedi ymweled a hwy droiau. Pregethai weithiau yn addoldai yr Ymneillluwyr, ond gan amlaf yn yr awyr agored. Heblaw hyn, ymwelai yn fynych a Llangeitho, nid yn unig er mwynhau gweinidogaeth seraphaidd Daniel Rlowland, ond hefyd yn ddiau er cael cydymgynghori ag ef gyda golwg ar gario y gwaith mawr yn mlaen. Bu ddwywaith o leiaf yn Llanddowror yn 1737, fel y prawf ei ddydd-lyfr, ar ymweliad a'r Parch. Griffith Jones, yr hwn a berchid ganddo megys tad. Y mae yn bur sicr ei fod yn pregethu rhyw gymaint wrth fyned a dychwelyd yn siroedd Caerfyrddin ac Aberteifi. Canlyniad hyn, ynghyd a llafur Daniel Rowland, oedd fod arwyddion o ddiwygiad i'w canfod mewn amryw siroedd; ymdyrai y bobl i leoedd o addoliad; elai y cyfarfodydd llygredig heb fod nemawr yn cyrchu iddynt, ac yr oedd anfoesoldeb yn dechreu plygu ei ben mewn cywilydd: Clywyd son am ei weinidogaeth, a'r arddeliad rhyfedd oedd yn cydfyned a hi, yn Mynwy a Morganwg; tybiodd rhai o'r gweinidogion Ymneillduol yn y siroedd hyn fod gwawr gobaith yn ymagor ynddo ar Gymru, a phenderfynasant ei wahodd i ddyfod ar daith trwy eu gwlad, gan hyderu y byddai i'w ymweliad fod yn foddion adfywiad i'r achosion gweiniaid oedd yn wywllid eu gwedd, ac yn barod i farw.
Y cyntaf i roddi gwahoddiad i Howell Harris oedd y Parch. Edmund Jones, Pontypŵl. Yr oedd Mr. Jones yn fab i rieni
—————————————
DARLUN O ATHROFA TREFECCA,
A
CHAPEL COFFADWRIAETHOL HOWELL HARRIS.
tlodion oeddynt yn aelodau yn eglwys Annibynol Penmain. Ni chawsai nemawr fanteision addysgol; nid ymddengys ychwaith ei fod o ddoniau mawr, ond yr oedd yn llawn o zêl a_ gweithgarwch. Llwyddasai i gasglu cynulleidfa ac eglwys fechan yn nghymydogaeth Pontypŵl; eithr gwanaidd a dilewyrch iawn oedd yr achos; nid oedd ganddynt addoldy o gwbl; ond ymgynullent mewn gwahanol dai anedd ar gylch. Yr oedd yr holl gwm, ynghyd a'r cwm nesaf, o Flaenau Gwent i lawr, yn ddigrefydd ac annuwiol. Penderfynodd Mr. Jones y gwnai ymgais i gael Howell Harris yno i bregethu; ddechreu gwanwyn 1738, aeth yn un swydd ar ei draed i Dre- fecca i'w gyrchu; ac ni ddychwelodd heb ddwyn Mr. Harris gydag ef.. Cynyrchodd ymweliad y Diwygiwr gyffro dirfawr yn yspryd offeiriad Mynyddislwyn a Bedwellty, ac yn ei lid, anfonodd ato y llythyr canlynol :—
"MR. HARRIS.— Yr wyf. yn synu at eich hyfdra yn dyfod i fy mhlwyfydd i, sef Mynyddislwyn a Bedwellty. Rhaid i chwi gilio yn ol; onide bydd i chwi, a'r person neu y personau a'ch gwahoddodd ac a anfonodd am danoch, dderbyn y dialedd cyfiawn sydd yn ddyledus am y fath ymddygiadau anghyfreithlon.— Yr eiddoch, DAVID PERROT.
Y mae y llythyr hwn wedi ei ddyddio Mawrth 17,1738. Ni thalodd Howell Harris un sylw i fygythion Mr. Perrot; aeth yn ei flaen gan daranu yn erbyn drwg arferion y trigolion gyda nerth, nes y syrthiodd braw a dychryn arnynt. Nid oes genym restr o'r lleoedd a pha rai yr ymwelodd, ond ymddengys fod dylanwadau rhyfedd yn cydfyned a'i weinidogaeth, a bod y fath awdurdod yn ei leferydd fel y dychrynid y mwyaf rhyfygus, ac y siglid teyrnas y tywyllwch hyd ei sail. 'Cynyrchodd chwildroad hollol yn sefyllfa foesol y wlad. Cymerer yr hyn a gymerodd le yn nghymydogaeth Mynyddislwyn fel enghraifft. Ger eglwys y plwyf yr oedd twmpath uchel a elwid "Towyn Tudur," a thaenid hen chwedl yn yr ardal yr elai yn ystorm o fellt a tharanau pe y ceisiai neb ei symud. Ar y twmpath hwn y safai Harris, ynghanol y canoedd campwyr oedd wedi ymgynull i wrando. Ychydig, meddir, oeddynt yn ddirnad am faterion y bregeth, ond deallent fod y llefarwr yn cyhoeddi melldithion ofnadwy yn erbyn eu drygfoes, a'i fod yn bygwth y llyn o dân ar y rhai a fynychent y gwylmabsantau a'r campau. Effeithiai ei ddull yn ofnadwy ar y gwrandawyr. Tybient fod y ddaear yn crynu dan eu traed, a bod uffern yn myned i agor ei safn i'w llyncu yn fyw. Nid annhebyg fod a fynai yr hen chwedl ofergoelus a mwyhau eu dychryn. Darfu i'r un bregeth hon fwrw diflasdod ar hen arferion bryntion yr ardal, a gwneyd y chwareuon yn anmhoblogaidd. Dywedai hen ŵr wrth y diweddar Barch. Thomas Evans, Risca: "Ni chefais flas byth mwy gyda'r bêl droed, er fy mod yn flaenorol yn un o benaethiaid y gamp. Pan aem i chwareu, dychymygwn, yn arbenig os byddai wedi machlud haul, fod y diafol yn bersonol yn ein mysg." Y dyb gyffredin gan drigolion y fro oedd fod y gŵr a fu yn pregethu ar Dowyn Tudur wedi rheibio y chwareu. Cyffelyb a fu yr effeithiau mewn ardaloedd eraill, er nad oes genym hanes mor fanwl am danynt. Dywed Edmund Jones [81] ddarfod i lawer gael eu hachub y pryd hwn yn Mlaenau Gwent, ac Ebbwy Fawr; ymunodd rhai o honynt ag Eglwys Loegr, eraill a'r Bedyddwyr, ac eraill a'r Annibynwyr. Dylid cofio mai ardaloedd amaethyddol oedd y rhai hyn y pryd hwnw, mai ffermwyr a'u llafurwyr a drigianai yma, a bod y wlad o ganlyniad yn anaml ei thrigolion. Meddai E. Jones: " Adeg ddedwydd oedd hon yn Ebbwy Fawr, y fath na welwyd, yr wyf yn credu, na chynt na chwedi hyn. Gallai un feddwl fod yr holl ddyffryn yn troi at Dduw. O ddau-ar-bymtheg-ar- hugain o dai, nid oedd ond saith, os oedd cynifer, i ba rai nad oedd Gair yr Arglwydd wedi treiddio. Yr oedd y bobl a dueddent at grefydd yn llawer amlach na'r lleill."
Bendithiwyd gweinidogaeth Harris y tro hwn er argyhoeddiad i amryw a ddaethant yn ganlynol yn bregethwyr, megys Phylip Dafydd, yr hwn a fu yn weinidog gyda'r Annibynwyr yn Mhenmain am agos i haner can' mlynedd; Thomas Lewis, yr hwn a gafodd ei benodi yn arolygwr yr achosion Methodistaidd yn y rhan agosaf i Loegr o Fynwy; John Powel, yr hwn oedd frodor o Frycheiniog, ac a ddygasid i fynu mewn tafarndy; ynghyd a Morgan John Lewis, gweinidog cyntaf eglwys y New Inn, am yr hwn y cawn son eto. Yn bur fuan, cawn seiadau wedi cael ei sefydlu yn y Goetre, Glascoed, Mynyddislwyn, Llangattwg, Trefethin, Llansantffraid, Llangattwg-ger-Caerlleon-ar- Wysg, Llanfihangel, a Llanheiddel. Pa un ai ar y daith hon, ynte taith arall a gymerwyd ganddo trwy Fynwy yn Hydref yr un flwyddyn, y cawsant eu sefydlu, nis gwyddom. Derbyniwyd Howell Harris fel cenad o'r nefoedd gan y gweinidogion Ymneillduol a bregethent athrawiaethau Calfinaidd; a bu ei ddyfodiad fel bywyd o farw i'r achosion gweiniaid oedd dan eu gofal Yn bur fuan yr ydym yn cael Edmund Jones yn adeiladu addoldy yn Mhontypŵl, a lliosogodd yr eglwysi Ymneillduol yn yr holl gwmpasoedd yn ddirfawr. Ond am y gweinidogion a dueddent at Arminiaeth, gwnaent hwy yr oll a fedrent i rwystro y diwygiad, ac i wrthwynebu Harris, a braidd nad y dosparth yma oedd yn y mwyafrif ar y pryd. Eu cri yn ei erbyn oedd na chawsai ei ordeinio, ac felly nad oedd hawl ganddo i bregethu. Rhoddai yr Ymneillduwyr ffurfiol hyn gymaint o bwys ar ordeiniad ag a wnelai offeiriaid Eglwys Loegr. "Ni fedraf lai na sylwi," meddai Edmund Jones, mewn llythyr at Howell Harris, "mai ein dynion goreu sydd yn ffafriol i chwi, ac mai y rhai sychion, amddifad o brofiad, neu Arminiaid, sydd yn eich erbyn; o leiaf, hwy sydd yn chwerw." Dywed yn mhellach fod y gweinidogion efengylaidd yn edrych arno fel un wedi cael ei alw i'r weinidogaeth, er nad yn y ffordd arferol. Harris wedi ei alw? Y mae mor sicr ei fod a darfod i'r apostolion gael eu galw gan y Gwaredwr; profid hyny yn ddiymwad gan yr arddeliad oedd yn cydfyned a'i bregethu, a chan y canoedd a gawsent eu dychwelyd trwyddo. Os gallai Paul droi ar y Corinthiaid crediniol, gan ddweyd: "Sêl fy apostoliaeth i ydych chwi yn yr Arglwydd," gallai Harris yntau gyfeirio at ganoedd ar hyd a lled y wlad a gawsant eu hachub trwy ei offerynoliaeth, ac a oeddynt yn dystion byw o'i ddwyfol anfoniad. Yr oedd rhesymau personol gan y gweinidogion Arminaidd dros wrthwynebu y Diwygiwr. Yn un peth, yr athrawiaethau Calfinaidd a bregethid ganddo, a hyny yn y modd mwyaf difloesgni; dyn yn golledigaeth ynddo ei hunan, y galon yn ddrwg diobaith, holl ymdrechion dyn i ddod i fynu a gofynion deddf gyfiawn y nefoedd yn gwbl ofer, ufudd-dod ac iawn yr Arglwydd Iesu yn unig sail cadwedigaeth, a'r clod yn gyfangwbl yn perthyn i ras penarglwyddiaethol Duw, dyma y gwirioneddau a gyhoeddai. Gellid symio ei gredo mewn cymal a geir yn un o'i weddïau: "Uffern wyf fi; ond nefoedd wyt ti."
Yn erbyn yr athrawiaeth hon gwingai yr Arminiaid anefengylaidd yn enbyd. Heblaw hyn, taranai yn ofnadwy yn erbyn yr oerni, y cysgadrwydd, a'r bydolrwydd, oedd wedi gorddiwes yr eglwysi Ymneillduol, ynghyd a dull clauar a deddfol y gweinidogion o bregethu. Fflangellai hwynt yn y modd mwyaf diarbed, a galwai arnynt yn enw yr Arglwydd i ddihuno, onide y syrthient dan y farn. Tybiai Edmund Jones ei fod yn tueddu i fod yn rhy lym. "Da genyf," meddai, " ddarfod i Mr. Whitefield ddwyn tystiolaeth onest a hyf yn erbyn clauarineb a bydolrwydd yr YmneiIIduwyr, ynghyd ag ysgafnder a bywyd penrhydd amryw o'u gweinidogion. Yr oedd yr angen mwyaf am wneyd hyn; ond gwna Mr. Whitefield ef mewn modd cymhedrol, eithr gonest; a phe y gwnaech chwithau hyn, anwyl frawd, gyda llai o nwyd a chyffröad yspryd, gan barchu eu personau, gallasech effeithio llawer o dda. Ond fel y mae, ofnaf na wnaed fawr da. Ar yr un pryd, gwelaf mai i ni y perthyn y bai mwyaf." Nid awn i geisio penderfynu a ydoedd Edmund Jones yn, barnu yn gywir; sicr yw fod Harris yn wresog ei yspryd, ac yn dra llym yn ei ddynoethiad o ddrygau, yn arbenig drygau cysylltiedig a'r cysegr; ond gwelir yn eglur ddarfod i'w hyfdra gynyrchu gwrthwynebiad iddo yn mysg y gweinidogion Ymneillduol o syniadau anefengylaidd. Pa fodd bynag, yr oedd llaw yr Arglwydd gydag ef, ac nid ofnai yntau beth a wnelai dyn iddo.
Pregethwr Ymneillduol arall a wahoddodd Mr. Harris i'w ardal oedd y Parch. David Williams, gweinidog yr eglwysi Presbyteraidd yn Watford a Chaerdydd. Dywed yn ei Iythyr at Harris ei fod wedi ei gyhoeddi i fod yn mlwyf Eglwysilan am ddau ddiwrnod, sef dydd Mercher gwedi y Sulgwyn yn Bwlchycwm, a'r dydd lau dilynol yn Maesdiofal, ac y disgwylid torf fawr i wrando. Aeth yntau yn ffyddlawn i'w gyhoeddiad. Ymddengys iddo fyned trwy Fynwy, oblegyd addawa Mr. Williams ei gyfarfod y nos Fawrth flaenorol yn Bedwellty, a'i ddwyn i'w dŷ ei hun i letya. Nid ydym yn gwybod a ddarfu iddo bregethu mewn lleoedd eraill yn Morganwg y tro hwn; y tebygolrwydd yw iddo wneyd; prin y gallwn feddwl iddo deithio yr holl ftordd yma o Dalgarth er mwyn gwaith dau ddiwrnod. Yr oedd yr un dylanwad yn cydfyned a'i weinidogaeth ag yn Mynwy. Ac nid rhywbeth amserol, yn cilio fel cysgod, oedd yr effaith; yn hytrach, tebygai i'r surdoes yn y blawd, yn cyfnewid ansawdd yr holl does. Mewn llythyr a anfonodd y Parch. D. Williams i Drefecca ychydig ar ol hyn dywedir: "Bu gwasanaeth y ddau ddiwrnod gyda ni yn rhyfeddol o lwyddianus. Y mae yr eglwysydd a'r cyfarfodydd yn orlawn: y mae tori y Sabbath yn myned lawr, edrychir arno fel peth atgas; a gwrthdystir yn erbyn tyngu ac ymladd ceiliogod. Ond nid ydych yn dychymygu fod y diafol yn fud ac yn llonydd. Na, y mae yn llefaru ac yn gweithredu; ond tybiaf fod mwy yn ei erbyn nac sydd o'i blaid yn y rhan hon o'r wlad. Y mae eich cyfeillion yn lliosocach na'ch gwrthwynebwyr. Pregethir yn eich erbyn mewn rhai manau; ond try er gwaradwydd i'r rhai sydd yn ceisio ei wneyd." Yn nes yn mlaen, dymuna yr ysgrifenydd iddo adferiad buan i iechyd, yr hyn a ddengys fod ei lafur dirfawr mewn pregethu a theithio diorphwys yn dechreu effeithio ar ei gyfansoddiad, er cadarned ydoedd; dymuna yn daer arno ymweled a'r rhan hono o'r wlad mor ddioedi ag sydd bosibl; "ni wna unrhyw wahaniaeth," meddai, "pe bai yn amser cynhauaf, gan mor awyddus yw y bobl i wrando arnoch;" a dywed yn mhellach fod ganddo nifer o leoedd yn crefu am ei wasanaeth. Dyddiad y llythyr hwn yw Mehefin, 1738. Cawn Mr. Williams yn ysgrifenu yn mhen dau ddiwrnod drachefn i wasgu arno am ail gyhoeddiad, gan ddweyd y byddai yr wythnos olaf yn y mis hwnw, neu yr wythnos gyntaf yn Gorphenaf, yn gyfleus iawn. "Y lleoedd mewn golwg genyf," meddai, "heblaw y rhai a gawsant eu siomi, ydynt Llanedeyrn (myned yno o St. Nicholas), yna Machen neu Maesaleg, ac wedi hyny i'n plwyf ni (Eglwysilan), yn y lle y tybir ei fod fwyaf cyfleus. . . . Dylaswn ddweyd y disgwylir chwi o'n plwyf ni i Gelligaer. Y mae y cuwrad, yr hwn a alwodd yn ein tŷ ni y nos o'r blaen, yn gwneyd ei oreu drosoch, er efallai mai y tu ol i'r llen, gan ei fod ar gael ei urddo yn offeiriad." Diweddir y llythyr gyda dweyd nad rhaid iddo fod mor anmharod i gyfeillachu ag Ymneillduwyr yn y rhanau hyny o'r wlad ag mewn manau eraill, gan fod rhagfarn yn diflanu yn gyflym. Y lleoedd y cyfeirir atynt fel wedi cael ei siomi yn eu disgwyliad am Howell Harris oeddynt Aberdâr, Llanwono, Llantrisant, a St. Nicholas, yn Mro Morganwg. Yn y manau hyn ymgynullasai torfeydd ynghyd, ac yr oedd eu siomiant yn ddirfawr pan y deallasant fod selni wedi rhwystro'r pregethwr.
Tua'r un amser ag yr ymwelodd Mr. Harris gyntaf a chymydogaeth Caerphili, bu yn pregethu yn y rhan orllewinol o Forganwg; ac y mae yn sicr mai gwahoddiad taer oddiwrth y Parch. Henry Davies, Bryngwrach, a'i cymhellasai. Yr oedd Henry Davies yn weinidog ar gynulleidfa o Ymneillduwyr yn Nyffryn Nedd; bu ar delerau cyfeillgar a'r Methodistiaid trwy ei oes; cawn ef yn bresenol yn y Gymdeithasfa. gyntaf, yn Watford, ac mewn amryw Gymdeithasfaoedd eraill, a diau ei fod yn ŵr oedd yn ofni Duw. Gwedi ei farw aeth ei gynulleidfa. yn Undodiaid. Ymddengys ddarfod i selni Howell Harris ei rwystro i fyned i'r parthau hyny yn mis Mehefin, fel yr arfaethasai, ac i filoedd gael ei siomi mewn canlyniad. Mewn llythyr, dyddiedig Gorph. 28, 1738, dywed y Parch. Henry Davies: "Y mae y gŵr difrifol, zelog, a duwiol hwnw, Mr. William Thomas, offeiriad Llanilltyd-ger-Nedd, yn dra awyddus am eich gweled, a chael eich cymdeithas. Aethai yn un swydd ir Fonachlog i'ch gwrando, ond cafodd ei siomi, a miloedd heblaw efe. Ceryddwyd ef gan offeiriad chwerw sydd yn byw yn Nghastellnedd. Y mae yr offeiriaid yn rhanedig y naill yn erbyn y llall yn y cymydogaethau hyn. Y mae cadben ymrysonfeydd ceiliogod, yr hwn a'ch clywodd yn y Bettws, yn addaw peidio dilyn y chwareu annuwiol hwnw mwy; a darfu i un arall, yn agos i lan y môr, yr hwn oedd yn arweinydd yn mhob annuwioldeb, dori ymaith benau ei holl geiliogod ar ol bod yn gwrando arnoch. Gwelais ef y Sul diweddaf, ac ymddangosai fel gwrandawr difrifol. Gwahoddodd fi i'w Duw yn unig bia'r clod. credu ddarfod i'r diafol golli rhai milwyr medrus, y rhai ddarfu ymrestru i fod yn filwyr ffyddlawn dan y Cadben mawr, ein Harglwydd Iesu. O gweddïwch am ragor o fagnelau i ddryllio teyrnas Satan." Tua yr amser hwn hefyd derbyniodd Mr. Harris gyffelyb wahoddiadau oddiwrth y Parch. John Davies, gweinidog Cwmyglo, ger Merthyr Tydfil, ac oddiwrth y Parch. Vavasour Griffiths, o Sir Faesyfed.
Methasom ddod o hyd i ddydd-lyfr y Diwygiwr am y rhan olaf o'r flwyddyn 1738, ond y mae lle cryf i gasglu ddarfod iddo, yn unol a gwahodd y gweinidogion Ymneillduol yr ydym wedi cyfeirio atynt, fyned ar daith trwy ranau helaeth o Forganwg a Mynwy Awst neu Medi, 1738, ac i'w weinidogaeth brofi yn nodedig o fendithiol. Ysgrifena y Parch. David Williams ato, Hydref 17, 1738, fel y canlyn: "Bu y dygiedydd yn bur wyllt, ond y mae wedi diwygio yn fawr. Oddiar pan y gwrandawodd chwi ddiweddaf yn ein plwyf ni, â i bob cyfarfod sydd o gwmpas, nosweithiau gwaith yn gystal a'r Sul. Y cyfarfodydd yma ydynt yn orlawn. Y mae un-ar-bymtheg wedi anfon cais am ddyfod i'r cymundeb nesaf yn Nghaerdydd. Y mae genym ysgol Gymraeg yma yn myned ar gynydd." Yn mhen y mis ysgrifena drachefn: "Y mae genym ysgol Gymraeg fawr, yn yr hon y mae gweddïo wedi dyfod yn ffasiynol, a theimlwn awydd sefydlu un arall. Sefydlir cyfarfodydd gweddi yn mhob man. Derbyniwyd dau-ar-bymtheg i gymundeb y Sul diweddaf, ac y mae rhagor wedi cael eu cynyg. Gwelir gwedd gysurus ar bethau yma yn bresenol." Diwedda Mr. Williams trwy ddymuno am ymweliad arall o gwmpas y Nadolig, er na ellid disgwyl iddo bregethu yn yr awyr agored yr adeg hono o'r flwyddyn. Yr ydym yn difynu y ddau lythyr diweddaf, nid yn unig oblegyd eu dyddordeb, ond hefyd fel prawf ddarfod i Howell Harris ymweled a rhanau helaeth o Fynwy a Morganwg, Awst neu Medi, 1738, ac i'w daith fod yn dra bendithfawr. Pe na fuasai Mr. Harris wedi medru cydsynio a'r gwahoddiadau taer blaenorol, y mae yn mron yn sicr mai tôn siomedig fuasai yn rhedeg trwy y llythyrau hyn. Yn lle hyny, mawl oblegyd llwyddiant sydd yn eu llenwi. Fel ffrwyth ei lafur sefydlwyd amryw eglwysi yn Morganwg cyn diwedd 1738, yn mysg pa rai yr oedd Caerdydd, St. Ffagan, Eglwysnewydd, Pentyrch, Aberthyn, Llantrisant, Tonyrefail, a. Llanwono. Enillwyd amryw deuluoedd hefyd at Fethodistiaeth a_ ystyrid fel yn perthyn i fonedd y tir. Cawsai yr Yswain Jones, o Gastell Ffonmon, ei argyhoeddi wrth wrando Howell Harris yn pregethu yn Aberddawen. Aethai Mr. Jones tuag yno, gyda nifer o foneddigion, a'i gleddyf noeth yn ei law, er rhwystro y cyfarfod. Ni ddarfu i'r olwg arno ddychrynu y llefarwr o gwbl; yn hytrach ceisiodd gan y bobl ymwahanu a rhoddi ffordd, a throdd i bregethu yn yr iaith Saesneg, fel y gallai y boneddwyr ddeall. Aeth ceffyl yr yswain yn sicr yn y llaid fel nas gallai symud; gorfodwyd y marchogwr felly i wrando gwirionedd Duw o'i anfodd; ond aeth saeth i'w galon; tynodd ei het mewn parchedigaeth, agorodd ei galon i dderbyn yr efengyl, ac aeth yn ei ol i'w gastell a'r pregethwr gydag ef. Cyfododd bwlpud yn ei dŷ at wasanaeth y llefarwyr; daeth ei balas ar unwaith yn gartref y Diwygwyr pan ar eu teithiau, ac ymddengys y cynhelid pregethu rheolaidd yno trwy ystod oes y boneddwr, ac am flynyddoedd gwedi. Yma y lletyai Whitefield pan ar ei daith trwy y wlad. Boneddwr arall a gafodd ei argyhoeddi y pryd hwn oedd Mr. Howell Griffith, o Drefeurig, palasdy rhwng Llantrisant a Thonyrefail, yr hwn, fel y mae yn amlwg oddiwrth ei lythyrau at y Diwygwyr Saesneg, a gawsai addysg dda. Daeth ef yn bregethwr, a'i dŷ yn gartref Methodistiaeth. Un arall eto a gafodd ei enill yr adeg hon oedd Thomas Price, o Watford, ger Caerphili, yr hwn a elwir gan Williams, Pantycelyn, yn ei farwnad i Grace Price yn "Price y justice." Daeth yntau hefyd yn bregethwr. Cawn amryw eraill, yn cael eu dwyn tan ddylanwad yr efengyl, a ddaethant yn bregethwyr, neu, fel eu gelwid y pryd hwnw, "cynghorwyr." Yn mysg y rhai hyn yr oedd Thomas Williams; William Edwards, adeiladydd pont enwog Pontypridd; a John Belcher. O'r rhai hyn, John Belcher oedd y dysgleiriaf ei ddoniau; cafodd ef ei anfon yn un i'r Gogledd er mwyn ceisio efengyleiddio y wlad, a dywedai yr hen John Evans, o'r Bala, am dano "ei fod yn ddyn gwrol, o gyneddfau cryfion, ac yn bregethwr da."
Fel y darfu i ni sylwi, nid oedd Howell Harris wedi tori allan unrhyw gynllun iddo ei hun ar y cychwyn; ni thybiasai ei fod wedi cael ei alw i fod yn bregethwr, credai yn benderfynol nad oedd; rhyw reidrwydd mewnol a'i gorfodai i rybuddio dynion am eu trueni ysprydol. Ond wrth weled y dylanwadau rhyfeddol oedd yn cydfyned a'i ymdrechion, a'r arddeliad oedd ar yr anerchiadau a draddodai, daeth i deimlo yn raddol mai cyhoeddi Crist yn Geidwad oedd gorchwyl mawr ei fywyd i fod. Ail-adnewyddodd hyn ynddo y duedd am ordeiniad. Yn ei ddydd-lyfr am fis Hydref, 1737, ceir a ganlyn: "Bedw (Aberdw?) Sul, y 30. Sacrament. Codi gwedi saith. Marwaidd fel arfer. Dymuniadau heddyw am gael fy argyhoeddi o'm camsyniadau. Gwedi wyth, myned tua chapel Dyffryn Honddu; ar y ffordd myfyrio ar y sacrament, gan deimlo yn orlwythog o ofnau. Yn y capel am enyd yn farwaidd; gwedi hyny dymuno am gael bod yn oleuni i'r byd, gan fod mewn trallod tumewnol mawr gyda golwg ar beth i'w wneyd, gan yr ofnwn gymeryd fy ordeinio rhag i mi gael fy rhwystro i fyned o gwmpas. Ond goleuwyd fi i ganfod, os yw Duw yn fy ngalw y byddai iddo gadw y drws yn agored i mi, gan osod yn nghalonau rhai i ganiatau i mi ddyfod i'w heglwysydd." Teifl y difyniad hwn ffrwd o oleuni ar agwedd meddwl Howell Harris. Gwelir iddo, wedi cryn bryder a therfysg meddwl, ddyfod i benderfyniad i wneyd cais am ordeiniad; mai ei amcan wrth wneyd y cyfryw gais oedd, nid cael bywioliaeth fras, na chael cyfleustra i efengylu o fewn cylch cyfyng plwyf, ond symud ymaith yr afreoleidd-dra a berthynai i'w waith, fel na byddai mwy yn myned o gwmpas i bregethu heb awdurdod ac ordeiniad esgobol; ac mai yn yr hyder y teflid eglwysydd y wlad yn agored iddo mewn canlyniad y daeth i'r cyfryw benderfyniad. Y mae y weddi, "dymuno am gael bod yn oleuni i'r byd," yn dra arwyddocaol, ac yn profi na dderbyniai ordeiniad ar yr amod iddo roddi y teithio i fynu. Y mae yn sicr ddarfod iddo gario ei benderfyniad allan, ac appelio am ordeiniad at yr esgob; dywed Whitefield iddo appelio ddwy waith, a chawn iddo wneyd hyny y drydedd waith. Ond yr oedd afreoleidd-dra ei ymddygiad, a'r ffaith ei fod yn un o'r Methodistiaid dirmygus, yn rhwystr anorfod ar ei ffordd i gael urddau. Trodd yr esgob ef heibio ar y tir ei fod yn rhy ieuanc, "er," meddai Whitefield, "ei fod ar y pryd rhwng dwy a thair-ar-hugain mlwydd oed, ac yn meddu pob cymhwysder ar gyfer urddau sanctaidd. "Eithr er cael ei wrthod yn ei gais, ni roddodd Harris i fynu fyned o amgylch a chynghori. Ar yr un pryd, ymddengys ei fod mewn pryder dirfawr gyda golwg ar ei ymddygiad; edrychai arno ei hun fel un hollol afreolaidd. Ar y naill law, gwelai dân y diwygiad yn ymledu trwy ei offerynoliaeth, eneidiau gwerthfawr yn cael eu hachub, y meusydd yn wynion i'r cynhauaf, anfoesoldeb y werin yn toddi ymaith tan ddylanwad yr efengyl, a rhagluniaeth yn agor drysau newyddion iddo yn barhaus. O'r tu arall, ni wyddai am neb diurddau yn myned o gwmpas i gynghori ond ei hunan. Yr oedd yr Ymneillduwyr lawn mor wrthwynebol i weinidogaeth leygol a'r Eglwyswyr. Cawn hyd yn nod John Wesley, a hyny mor ddiweddar a'r flwyddyn 1742, tua saith mlynedd gwedi i Howell Harris ddechreu ar ei waith, yn cyffroi trwyddo pan y clywodd fod Thomas Maxfield, y lleygwr, wedi ymgymeryd a phregethu, ac yn rhuthro i fynu i Lundain mewn nwyd er mwyn ei rwystro. Ond lliniarwyd llid Wesley gan ei fam. "Cymerwch ofal pa beth a wnewch, John," meddai wrtho; "y mae y dyn ieuanc yna wedi cael ei alw gan Dduw i bregethu mor wir a chwithau."
Ni fynai Howell Harris ychwaith ymuno a'r Ymneillduwyr, er mwyn dwyn ei weithrediadau o'r tu fewn i derfynau rheoleidd-dra; yr oedd eu deddfoldeb, eu dadleuon, eu rhagfarnau, ac yn arbenig eu hoerni crefyddol yn annyoddefol iddo, er fod ganddo barch mawr i'w gweinidogion efengylaidd, a'i fod yn cydweithredu yn galonog â hwy. Rhwng pob peth yr oedd ei feddwl yn gythryblus ynddo, a gwnai aml gyhuddiadau yr offeiriaid a'r gweinidogion Ymneillduol anefengylaidd y cythrwfl yn fwy. Ond penderfynu myned yn mlaen a'i waith a wnaeth er pob peth. A diwedd y flwyddyn 1738, derbyniodd lythyr calonogol oddiwrth Whitefield. Ewch yn mlaen, anwyl frawd," medd y Diwygiwr Seisnig, "ewch yn mlaen; ymgryfhewch yn yr Arglwydd, ac yn nghadernid ei allu ef. Y mae, a bydd, llawer o wrthwynebwyr, ond nac ofnwch. Bydd i'r hwn a'ch anfonodd eich cynorthwyo, eich cysuro, a'ch dyogelu, a'ch gwneyd yn fwy na choncwerwr trwy ei fawr gariad. Fy anwyl frawd, yr wyf yn eich caru yn ymysgaroedd yr Arglwydd Iesu, ac yn dymuno i chwi fod yn dad ysprydol miloedd, a llewyrchu fel yr haul yn y ffurfafen yn nheyrnas ein Tad Nefol. Fy serch calonog at Mr. Jones (Griffith Jones, Llanddowror). O! fel y llawenychaf eich cyfarfod gerbron mainc Crist." Y mae y llythyr hwn yn ddyddorol ar gyfrif mai dyma yr ymgyfathrach cyntaf rhwng y Diwygwyr Cymreig a Methodistiaid Lloegr. Llonodd ei gynwys yspryd Howell Harris yn fawr; yr oedd iddo fel dyfroedd oerion i enaid sychedig; cadarnhawyd ef yn ei gred ei fod tan arweiniad yr Yspryd Glân. A diau fod ei ddylanwad yn fwy, gan mai gŵr wedi derbyn urddau esgobol, ac o enwogrwydd gweinidogaethol digyffelyb, oedd wedi ei ysgrifenu. Ysgrifenodd yntau lythyr caruaidd yn ol yn fuan, yn rhoddi byr hanes am y diwygiad yn Nghymru. Gwedi ei dderbyn dywedai Whiteheld: " Y mae Mr. Howell Harris a minau yn gohebu; bendigedig fyddo Duw! Bydded i mi ei ganlyn fel y mae efe yn canlyn Iesu Grist. Gymaint yn mlaen yw efe arnaf!" Dyma ddechreuad ymgyfathrach a ddaeth yn gyfeillgarwch o'r fath fwyaf anwyl, ac a barhaodd tra y buont byw ill deuoedd. Tawelodd llythyr Mr. Whitefield amheuon ei feddwl i raddau mawr; ond dywed na chafodd lwyr ymwared oddiwrthynt nes iddo gael ei wysio i wydd person o urddas i roddi cyfrif am ei ymddygiad, pan y daeth gyda nerth i'w enaid y geiriau sydd yn Datguddiad iii. 7, 8: "Wele, rhoddais ger dy fron ddrws agored, ac ni ddichon neb ei gau." Cwbl gredodd ddarfod i'r geiriau gael eu hanfon i'w feddwl fel cenadwri uniongyrchol oddiwrth yr Yspryd Glân, ac nid amheuodd drachefn.
Nid oedd derfyn ar yni a gweithgarwch Howell Harris, a chawn ef ddechreu y flwyddyn 1739 ar daith eto yn Morganwg a Mynwy. Ceir hanes rhan o'r daith mewn dalenau o'i ddydd-lyfr, o ba un y gwnawn ychydig ddifyniadau. Y mae difynu yr oll allan o'r cwestiwn, ni fyddai pen draw ar y cyfrolau a lenwid, oblegyd ysgrifenai y Diwygiwr yn ddiderfyn; croniclai nid yn unig y digwyddiadau ai cyfarfyddai, ond hefyd ei fyfyrdodau, a theimladau ei galon.
"COLLENE, GER. TREFEURIG, Sul (lonawr 9, 1789). Deffro yn foreu. Codi gwedi wyth. Yn farwaidd mewn dyledswydd, ond yn teimlo dymuniad am fod ar ben fy hun, yn dal cymdeithas a fy Nuw. Marwaidd hefyd yn y weddi deuluaidd. Oddeutu deg, myned tuag eglwys Llanharry; ac ar y ffordd meddwl am yr hyn a draethwn; ond gwedi hyny cefais ystyriaethau ddarfod i Dduw fy ngwneyd er ei ogoniant ei hun. Teimlwn ddiofalwch pa beth a ddeuai o honof, a pha beth a ddywedid am danaf, ond i mi gael fy ngynorthwyo i ogoneddu Duw. O Arglwydd, ai ni wnei ganiatau hyni mi? Nid wyf yn gofyn am ddim arall mewn bywyd. Pe ei caniateid byddwn y dyn dedwyddaf o fewn y byd. Dwfn ddymuniad fy enaid yw bod yn ddim yn fy ngolwg fy hun, a byw i Dduw. Ond och ! pan fyddwyf yn ymadroddi, fynychaf nis gallaf ganfod o ba le y mae yr ymadrodd yn tarddu; a yw yn tarddu oddiar ras, a chariad at Dduw, ynte oddiar yr arferiad o siarad. Myned i eglwys Llanharry gwedi un-ar-ddeg (yn agos i ddeuddeg). "Teimlo ar y cyntaf yn gysglyd; gwedi hyny llanwyd fi oddimewn a thosturi at yr eneidiau oedd o'm cwmpas. Gwedi tri, myned allan, a gweled pobl ddeillion yn mhob man yn halogi Dydd yr Arglwydd mewn anwybodaeth, a chael fy llanw a thosturi atynt. Yna tynwyd fi allan i weddïo: "O Arglwydd, anfon ddynion ffyddlon i'th winllan! O Arglwydd, ai nid ydwyt yn Dduw trugaredd ? O, ai nid dy gariad a ddanfonodd dy Fab i' byd ar y cyntaf? O, ai nid ydwyt eto yn parhau yn Dduw y cariad? O, ai nid ydwyt yn canfod dy greaduriaid tlawd mewn anwybodaeth o honot ti yn mhob man? Anfon weithwyr!" Wedi hyn, gorchfygwyd fi gan deimlad anniddig ac anfoddog, nes y darostyngwyd fi, wrth ganfod mor lleied or ddwyfol natur ynof. Ofnwn fyned i lefaru heno, gan fy mod wedi fy llenwi a meddyliau angharedig am gyfeillion anwyl, yn enwedig Mr. Edmund Jones. Daeth hunan i mewn, i holi beth a ddywedwn heno, gan ei fod ef (Edmund Jones, yn ddiau) wedi dyfod i'm gwrando. Myned i fysg y bobl o gwmpas chwech, pan oedd Mr. Henry Davies yn gweddïo, pan y dygwyd fi i deimlo mwy o'm hanneilyngdod, ac i ddymuno ar i rywun arall gymeryd y gwaith mewn llaw. O, yr wyf wedi fforffetio pob ffafr; delir fì i fynu yn unig gan hyn, y gall Duw fy nghynal, ac nad yw yn rhoddi cymorth er fy mwyn i, ond er mwyn ei Fab. Y mae dau beth, y rhai, pe y caem olwg arnynt, a'n cyfnewidiai yn fawr; golwg arnom ein hunain, a golwg ar Dduw yn ei holl briodoleddau. Cynorthwywyd fi i orchfygu y teimlad slafaidd, hunangeisiol, o geisio boddhau dynion. Yn y man cefais ddrws agored, (dangosais) yn y modd mwyaf arswydus a chryf fel y caiff y duwiol fwynhau Duw mewn cariad, a'r annuwiol mewn dychryn, a hyny yn fwy argyhoeddiadol nag erioed, ac heb dderbyn wyneb. (Dangosais) o ba beth y mae uffern wedi cael ei gwneyd, a'r modd y mae rhieni yn dwyn eu plant i fynu." Wedi myned dros lawer o'r pethau a draethwyd ganddo, ychwanega: "Cefais ryddid. ymadrodd mawr mewn gweddi ar y diwedd. Yr oeddwn yn wan iawn o ran fy nghorff o eisiau bwyta, ond gweddïais am nerth, A CHYNORTHWYWYD FI. Yn ganlynol, wedi mwynhau cymdeithas cyfeillion, i gyflawni fy awenydd, derbyniais lythyr oddiwrth Mr. Whitefield. Ac wrth weled ei fod yn un a mi mewn yspryd, yr hyn a brofais i yn fynych yn fy enaid tuag ato ef, er heb unrhyw obaith ei weled ef i lawr (yn Nghymru) na chlywed oddiwrtho, synwyd fi at ddaioni Duw." Ymddengys oddiwrth y difyniadau hyn, yn y rhai y lleda Howell Harris ei galon ger ein bron, fod Edmund Jones, Pontypŵl, yn dechreu dangos yr yspryd proselytio, a'r duedd i droi llafur y Diwygiwr yn fantais i'w enwad ei hun, am yr hyn y gweinyddir cerydd tyner iddo yn nes yn mlaen. Yn nhynerwch ei gydwybod beia Harris ei hunan am roddi lle i
—————————————
ATHROFA'R IARLLES HUNTINGDON YN NHREFECCA
A gymerwyd allan o'r Evangelical Register 1824
—————————————
syniad o'r fath; ond daeth yn amlwg, yn mhen ychydig, fod y dybiaeth y gwrthodai roddi lle iddi yn ei fynwes yn sylfaenedig ar ffaith. (Gwelir hefyd mai yn y Collene, yn Morganwg, ar y 9fed o lonawr, y derbyniodd lythyr Mr. Whitefield, er i'r llythyr gael ei ysgrifenu y 26ain o Rhagfyr, y flwyddyn flaenorol. Rhaid cofio fod y trefniadau ynglyn a llythyrau y pryd hwnw yn anmherffaith iawn, a thebygol ddarfod i'r llythyr fyned yn nghyntaf i Drefec chael ei ddanfon oddiyno ar ol Mr. Harris
" TREFEURIG, Llun, lonawr IO, 1739. Deffro yn fynych; medrwn godi, ond esgeulusais. Codi o gwmpas wyth. Yr wyf yn gobeithio y dygir fi i fuddugoliaeth lwyr ar y cnawd. Gweddi breifat; marwaidd, marwaidd; ond cefais benderfyniad i ddisgwyl. Wrth weled fod son am danaf. wedi ymledu tros Loegr, ac mor barod yw fy nghalon i ymchwyddo, a pha mor arwynebol ydwyf, parwyd i mi lefain gyda gofid yn fy enaid: *O Arglwydd, yr wyf yn ofni fod hyn oll yn tueddu i'm dinystr, o herwydd balchder fy nghalon fy hun. Mor llithrig yw y lle yr wyf yn sefyll arno!
Diolch nad aethum o gwmpas er mwyn cael enw. O na fyddwn yn ddinod! Ond, O Arglwydd, yr wyf yn cyflwyno yr oll i ti. Yr wyf yn ewyllysgar i fyned os wyt ti yn fy anfon, digwydded y peth a ddig wyddo i mi. Gelli di ddarostwng holl falchder fy nghalon, a'm cadw yn ostyngedig. O Arglwydd, tosturia wrth y byd. Estyn einioes Mr. Whitefield, Mr. Griffth Jones, Mr. Edmund Jones, a dy holl rai ffyddlon. Os yw y Bedyddwyr yn cyfeiliorni, gosod hwy ar yr iawn. Na fydded hyn (bedydd) yn achlysur ymraniad yn ein mysg. Bydded i ni oll fod yn un. O, yr wyf yn ofni dadleuon, ynghyd a'u canlyniadau i'r cywion (dychweledigion) ieuainc. Yr wyf yn dy glodfori am gynifer o rai ffyddlon. Ti wyddost, O Arglwydd, mor anghymwys wyf i fyned i'r cyhoedd: mor fach yw yr amser sydd genyf i ddarllen; ac mor ychydig o allu sydd genyf i dreulio ac i ddal. O, mi a hoffwn fod yn ddiwyd, ond gan na fedraf, yr wyf yn cyflwyno fy hun i ti; goleua di íì, ac arwain fi i bob gwirionedd. Bydded i mi gael rhagor o oleuni ar dy Air, Os ydwyf yn un o dy blant, bydded i mi deimlo mwy o ddyddordeb yn dy achos; yna mi a allwn dy glodfori yn dragywydd. Cynorthwya fi heddyw i fod yn hyf drosot ti, a gwared fi rhag yr anghenfil hwn, hunan.' "
Dydd Llun y mae yn gadael Trefeurig, ac yn croesi y mynydd heibio Tonyrefail, gan gyrhaedd Cymmer, yn Nghwm Rhondda, tua chanol dydd.
"Cymmer. Llefaru ar y ffordd. Ond fflachiadau yw y cwbl sydd yn perthyn i mi; nid yw yn tarddu oddiar gariad. Yr wyf yn gweled hunan o hyd yn chwerthin o herwydd gwendidau fy nghyd greaduriaid. O, beth wyf fi, fel y cawn fod yn yr un byd a saint Duw? Ond os gwneir fi rywbryd yn rhywbeth dros Grist, bydd er gogoniant tragywyddol rhad gariad. Ar y ffordd, clywed am un o'r Methodistiaid, cadben ar y môr, yn cynghori y milwyr. Llanwyd fy enaid a llawenydd am oriau o'r herwydd. Cefais hiraeth dwfn ac wylo yn fy enaid am Yspryd Duw. O na chawn dy Yspryd, Arglwydd; onide beth a wnaf a dy seiadau di? Yn Cymmer gwedi un, dechreu (trwy ddweyd) Ai nid yw dynion mewn carchar yn llawen wrth glywed am un i'w rhyddhau? A'r claf, wrth glywed am physygwr? Ond yr ydym ni yn farw, yn farw mewn pechod. Cymell i ymgadw rhag dawnsio a phob chwareuyddiaethau. Crist yn dwyn pechaduriaid ato ei hun trwy argyhoeddiad. Y gair (wrth argyhoeddi) yn gyffelyb i dân, i ordd, i oleuni, i gleddyf, ac i sebon. Cyfeirio at yr Iddewon yn cael eu dwysbigo, ac at Nebuchodonosor. Nodau argyhoeddiad ydynt, golchiad y galon, tynu y galon oddiwrth bob peth ato ef, ein tynu i beidio ymddiried ynom ein hunain. Cael peth hyfrydwch a phleser yn y gwaith; rhyw gymaint o gariad at yr eneidiau, a thosturi atynt; ynghyd a hiraeth am Dduw. Rhoddodd Duw i ni hin hyfryd heddyw. Gwedi hyn argyhoeddwyd fi gan Mr. Henry Davies o fy anniolchgarwch i'r Arglwydd am yr help yr oedd yn roi, a'm bod o'r herwydd yn fforffetio'r cwbl; ac o'r ychydig gariad sydd yn fy enaid."
Boreu dydd Mawrth, Ionawr 11, y mae yn llefaru yn Cymmer drachefn, yn teithio rhyw bedair milldir ar hyd Cwm Rhondda, nes cyrhaedd Ynysyngharad, ger Pontypridd. Dydd Mercher, lonawr 12, cawn ef wedi croesi y mynydd ar ei draws, ac yn y Parc, plwyf Eglwysilan; a phrydnhawn yr un dydd mewn lle o'r enw Tynycoed. Rhaid difynu rhan o'i ddydd-lyfr yma eto: "Cawsom dynerwch hyfryd, ac yspryd cariad at y bobl ieuainc; ac yr wyf yn gobeithio ddarfod cael rhai o honynt i Grist. Gwedi un, lleferais hyd o gwmpas pedwar. Cawsom heddyw eto yr hin yn hyfryd; nid yn aml y ceir y fath dywydd yr adeg hon o'r flwyddyn. Yr wyf yn gobeithio fod Duw gyda ni. Rhoddwyd i mi beth a ddywedwn; nid oeddwn wedi ei ragfeddwl, gan y bwriadwn lefaru ar fater arall. Gwedi hyny, myned tua Llanbradach Fach, ac ar y ffordd cael ymosod arnaf gan Fedyddiwr, yr hwn a geisiai bigo cweryl a mi. Teimlais oddimewn i mi wrthnaws at y ddadleuaeth, oblegyd ofn y canlyniadau. Nis gallaf ddweyd beth sydd yn peri fy mod yn cael fy yspryd yn fwy yn erbyn y rhai hyn na neb, oddigerth y Pabyddion. Yr wyf yn ofni fod penboethiaid yn eu mysg, y rhai, os na wel Duw yn dda eu darostwng, a wnant niwed i eglwys Crist. Ond yr wyf yn hwyrfrydig i gymeryd i fynu y pastwn yn eu herbyn; nid rhag ofn y ddadl, oblegyd yr wyf yn glir ar y mater, eithr rhag tynu i lawr waith hyfryd y diwygiad. Yr wyf yn gweled nodau y rhagrithiwr yn amlwg ar y penboethiaid yma. Yn un peth, y mae holl gyfeiriad eu hymddiddan tuag at hyn (bedydd), a dim ond ychydig am Grist. Yn ail, y mae eu cariad gwresog yn gyfyngedig i'r rhai o'r un opiniwn a hwy eu hunain; ond eiddo y dyn duwiol at holl aelodau eglwys Crist. Yn drydydd, y mae eu holl awyddfryd yn amlwg am wneyd proselytiaid iddynt eu hunain, ac awyddfryd y duwiol am ddwyn dychweledigion at Grist, O 7 hyd 11, noswaith anghyffredin o hyfryd; ni welais un mor hyfryd; o leiaf yr un yn fwy. Rhoddwyd i mi (yr hyn a ddywedwn); ond ni phrofais ddigon yn fy yspryd. Argoelion dymunol heno.
Llanbradach Fach, Dydd lau (Ionawr 13). Dihuno yn foreu, a chodi am naw. Cefais gymorth wrth edrych ar y groes. Yr wyf yn gobeithio fod ei angau ef yn marweiddio pechod ynof. Am ddeg, gweddi ddirgel, a chael fy narostwng gan deimlad o fawredd Duw, fel nas gallwn edrych i fynu. 'O Arglwydd, er mwyn Crist, ac nid er mwyn fy nagrau a'm gweddïau tlawd i (oblegyd yr wyf yn wael, fel y pryf gwaelaf sydd yn ymlusgo ar dy ddaear, yn ceisio hunan a phechod), ai ni rynga bodd i ti i'n cadw ni rhag dadleuon, oblegyd eu canlyniadau? O leiaf, Arglwydd, yr wyf yn dymuno ar i ti fy nghadw i allan o'r ddadl, a danfon rhywun arall i'w chymeryd mewn llaw. Ond os wyt yn fy anfon, yr wyf yn foddlon gwneyd pa beth bynag wyt ti yn ewyllysio.' Yna parwyd i fy enaid weled cymaint o ddaioni Duw, fel y tynwyd fì allan mewn clodforedd—'O Arglwydd, yn sicr dylwn dy folianu yn barhaus am yr hyn wyt wedi ei wneyd mor rhyfedd erof. A wnai di dderbyn fy mawl? Cadw fì yn isel, canys yr wyf oll yn bechod. Dyma fy ngweddi, tosturia wrthyf; yr wyf yn bwrw y cwbl arnat ti. Yr wyf yn ymddiried ynot, pan yr af i Gaerdydd, ar roddi i mi yr ymadrodd yno er dy ogoniant.'"
Yn nesaf, dydd Gwener, lonawr 14, yr ydym yn ei gael yn Werndomen, ffermdy ger Caerphili. Yma eto y mae y Bedyddwyr yn ei flino. Ysgrifena: "O Arglwydd, yr wyf yn myned heddyw i lefaru; pa beth a wnaf ac a ddywedaf? A wnai di fy nghadw rhag dynion penboeth i boenydio fy enaid? Os mynet ti, Arglwydd, i mi newid fy marn, gad i mi weled dy ewyllys; ac os arweini di hwy ataf fi, bydded i mi fod yn gywir. O, bydded i ni gael cariad ac undeb. Yr wyt yn canfod nad wyf fi am ymresymu, os rhynga dy fodd di i'm cadw rhagddo. O, ni wnawn ymddadleu oni bai i ti fy anfon."
Gwedi hyn yr ydym heb hanes am dano hyd dydd Mercher, Ionawr 19, pan yr ydym yn ei gael yn Gwrhay, ger Mynydd Islwyn. Ai rhan o'r dydd-lyfr sydd ar goll, ynte a ddarfu iddo ef beidio ysgrifenu, nis gwyddom. Nid oes genym ond dyfalu hefyd pa le y treuliodd yr amser cydrhwng, ond y mae yn fwy na thebyg iddo fyned i Gaerdydd fel yr arfaethasai. Dydd lau, Ionawr 20, y mae yn Llanheiddel, ger Pontypŵl. Dydd Gwener, Ionawr 21, cawn ef yn Mlaenau Gwent; a'r Sul dilynol yn Llanbedr — Llanbedr, ger Crughy wel, yn ol pob tebyg—heb fod yn nepell o'i gartref.
Gwelwn ei fod yn teithio ar draws gwlad, o orllewin Morganwg hyd y rhan ddwyreiniol o Fynwy, a bod y Parchedigion Edmund Jones, Pontypŵl, a Henry Davies, gydag ef am ran o'r daith. Ai Henry Davies, Bryngwrach, a olygir; ynte Henry Davies, gweinidog yr Ymneillduwyr yn Llantrisant, sydd ansicr. Y mae y tebygolrwydd yn ffafr y diweddaf. Anmhosibl darllen ei ddyddlyfr heb deimlo fod ei holl fryd ar achub ei gydgenedl. Teimlir ei fod yn byw yn y byd ysprydol; prin y mae y ddaear a'i helynt yn bod iddo; ei berthynas â Duw, a'r gwaith mawr a pha un yr ymgymerasai, sydd wedi llyncu ei enaid. Er ei fod yn achwyn ar y Bedyddwyr, y mae yn amlwg na theimlai unrhyw chwerwder yspryd atynt. Ofni yr ydoedd fod rhoddi y fath arbenigrwydd y pryd hwnw ar fedydd, ac ymgolli mewn dadleuaeth mewn perthynas iddo, yn rhwystr ar ffordd cerbyd y diwygiad. Buasai ef yn hollol foddlawn i gydweithio a'r Bedyddwyr pe y gallent suddo ei hoff bwnc, ac ymroddi i gyhoeddi Crist yn Geidwad i bechaduriaid. Yr ydym trwy y dydd-lyfr yn gallu edrych i mewn i ddyfnderoedd ei galon; y mae cilfachau pellaf ei yspryd yn cael eu datguddio; braidd nad yw yn tueddu i ddwyn i'r wyneb ei feiau yn hytrach na'i rinweddau; a gwelwn mor syml yr ydoedd, mor ostyngedig, ac mor awyddus am gadw ei hunan i lawr, ac i roddi yr holl glod i Dduw. Mor bell ag y gallwn gasglu oddiwrth y nodiadau a geir, gwasgarog oedd ei bregethau; ni ddangosent feddylgarwch dwfn, ac nid ymdriniai ynddynt o gwbl a phynciau duwinyddol dyfnion. Ond yr oedd saeth ar flaen pob brawddeg, yr hon a anelai yn syth at galonau pechaduriaid; a thaflai yntau ei holl yspryd i'r gwaith pan yn tynu yn y bwa, fel nad oedd yn rhyfedd fod dynion wrth yr ugeiniau a'r canoedd yn cael eu clwyfo.
"Dewch, gwrandewch ef yn pregethu,
Calon ddrwg, lygredig dyn,
Ac yn olrhain troion anial,
A dichellion sy' yno ynglyn;
Dod i'r goleu a dirgelion
I rai duwiol oedd yn nghudd,
Agor hen 'stafelloedd tywyll
Angau glas, i oleu'r dydd.
Dewch, gwrandewch ef yn agoryd
Dyfnder iachawdwriaeth gras,
Gosod allan y Messiah
Yn y lliw hyfryta 'maes;
Ac yn dodi'r cystuddiedig,
Ag sy'n ofni ei ras a'i rym
Fel i chwerthin o orfoledd,
Ac i 'mado heb ofni dim."
Dechreuodd Whitefield ar unwaith gynghori y bobl oedd yn y gwest-dy, tra yr aeth Seward i chwilio am le i bregethu ynddo. Cafodd, trwy ryw ddylanwad, neuadd y dref, a phregethodd Whitefield o sedd y barnwr i gynulleidfa o bedwar cant; gwrandawai y rhan fwyaf yn sylwgar, ond gwatwarai rhai. Gyda ei fod yn disgyn o'i sedd, pwy a welai ond Howell Harris. Teithiasai Harris trwy Gwm Tâf Fawr, ac arosai y nos flaenorol yn Eglwysilan, nid anhebyg yn nhŷ Mr. David Williams. Y cwestiwn cyntaf a ofynodd i'r Diwygiwr Cymreig oedd: "A ydych yn gwybod fod eich pechodau wedi cael eu maddeu? "Prin y medrai Harris ateb, gan mor sydyn y daeth y gofyniad ar ei draws. "Pan gyntaf y gwelais ef," meddai Whitefield, "ymglymodd fy nghalon am dano; yr oedd arnaf eisiau derbyn rhyw gymaint o'i dân; a rhoddais iddo ddeheulaw cymdeithas a'm holl galon. Treuliasom yr hwyr mewn adrodd y naill wrth y llall beth oedd Duw wedi ei wneyd i'n henaid; cymerasom i ystyriaeth hefyd achosion y gwahanol seiadau; a chytunasom ar y mesurau hyny ag a ymddangosai y mwyaf tebygol i lwyddo gwaith ein Harglwydd." Gwelir yma fel yr ymgynghorai y Diwygwyr a'u gilydd; a'r ymgynghoriadau anffurfiol hyn a ymddadblygasant yn raddol i fod yn gyfansoddiad trefnus, gyda Chymdeithasfa a Chyfarfodydd Misol. Treuliwyd boreu dydd lau, Mawrth 9, mewn gweddi ac ymddiddan gydag aelodau y seiat yn Nghaerdydd. Am ddeg, pregethai Whitefield yn neuadd y dref i gynulleidfa fawr, gydag Harris yn eistedd yn glos wrth ei ochr. Tra y llefarai, yr oedd rhyw greaduriaid anystyriol oddiatan yn llusgo llwynog marw o gwmpas, ac yn ceisio cael y cwn cadnaw i'w hela, i rwystro'r odfa. Wedi gorphen, aeth y ddau Ddiwygiwr, yn nghwmni dau weinidog Ymneillduol, i wasanaeth a gynhelid yn yr eglwys. Ysgrifena Whitefield yn ei ddydd-lyfr am Howell Harris: "Goleuni dysglaer a llosgedig a fu efe yn y rhan hon o'r wlad; gwrthglawdd yn erbyn cabledd ac anfoesoldeb; a gweithiwr difefl yn efengyl Iesu Grist. Er ys rhyw dair neu bedair blynedd y mae Duw wedi ei dueddu i fyned o gwmpas i wneyd daioni. Y mae yn awr o gwmpas pum' -mlwydd ar-hugain oed. Ddwy waith appeliodd am urddau sanctaidd, a châdd ei wrthod ar yr honiad twyllodrus nad oedd mewn oed, er ei fod y pryd hwnw yn ddwy-flwydd-ar-hugain a chwech mis. Tua mis yn ol cynygiodd ei hun drachefn, ond trowyd ef heibio. Er hyn y mae yn benderfynol i fyned yn y blaen gyda'i waith. Er ys tair blynedd y mae wedi llefaru braidd ddwy waith bron bob dydd, am dair neu bedair awr or bron, nid yn awdurdodol fel gweinidog, ond fel person preifat yn cynghori ei frodyr. Y mae wedi teithio saith sir, gan fyned i wylnosau, &c., er troi y bobl oddiwrth wagedd a chelwydd. Llawer o bobl y tafarndai, ynghyd a'r ffidleriaid, a'r telynwyr, a achwynant arno am spwylo eu galwedigaeth. Gwnaed ef yn wrthrych lliaws o bregethau; bygythiwyd ef ag erlyniad cyfreithiol, ac anfonwyd cwnstebli i'w ddal. Ond y mae Duw wedi ei fendithio a dewrder anhyblyg; ac y mae yn parhau i fyned yn ei flaen o fuddugoliaeth i fuddugoliaeth. Y mae o'r yspryd mwyaf catholig, yn caru pawb sydd yn caru ein Harglwydd Iesu Grist; ac felly gelwir ef gan benboethiaid yn Ddisenter. Geilw llawer ef yn dad ysprydol, a rhoddent. yr wyf yn credu, eu bywydau i lawr drosto. Llefara fynychaf mewn maes, bryd arall mewn tŷ, oddiar fur, bwrdd, neu rywbeth arall. Y mae wedi sefydlu tua. deg-ar-hugain o seiadau, a pharha cylch ei ddefnyddioldeb i ymeangu. Y mae yn llawn o ffydd, ac o'r Yspryd Glan."
—————————————
ATHROFA'R IARLLES HUNTINGTON, FEL Y MAE YN BRESENOL.
—————————————
Yr ydym wedi difynu mor helaeth o'r dydd-lyfr, am y ceir ynddo gryn lawer o hanes Howell Harris, ac hefyd am y dengys deimlad cynes Whitefield tuag ato. Teimlai Harris lawn mor gynes ato yntau. Dywed ei fod yn ei garu am ei fod ef yn caru yr Arglwydd Iesu. Ymddengys ddarfod i Howell Harris bregethu yn Nghaerdydd yn ogystal, a dywed iddo wneyd gyda gradd o awdurdod. Dydd Gwener, y maent yn gadael Caerdydd, ac yn cyrhaedd Casnewydd. Cafodd Whitefield bwlpud yr eglwys yno; daeth llu o Bontypŵl a manau eraill i'w wrando; a chyfrifid y gynulleidfa yn fil o bobl. Aeth Howell Harris gydag ef i Fryste; treuliodd yno ac yn Bath, lle y gwasanaethai Griffith Jones ar y pryd, o ddydd Sadwrn hyd i dydd Mercher, gan bregethu i'r glowyr ar y maes, ac yn y seiadau yn ogystal. Diau fod angerddolrwydd ei yspryd, a' tân Cymreig a fflamiai o'i fewn, yn synu y Saeson, ac yn dylanwadu yn fawr arnynt. Cyn dychwelyd, cyflwynodd Mr. Seward oriawr iddo, fel prawf o'i serch. Dydd Iau, Mawrth 16, cawn ef yn llefaru yn Eglwysnewydd, tair milldir o Gaerdydd; dydd Gwener y mae yn Mhontypŵl, dydd Sadwrn yn Llanfihangel, yn yr un gymydogaeth; y Sul yn Mynyddislwyn; yn Maesaleg, ger Casnewydd, y Llun; yn Pentre Bach dydd Mawrth, yn St. Bride dydd Mercher, yn ol yn Nghaerdydd dydd lau, yn Ynysyngharad, ger Pontypridd, y Sadwrn, yn Parc Eglwysilan y Sul, yn Llanwono y Llun, Aberdâr dydd Mawrth, Cwmyglo, ger Merthyr Tydfil, dydd Mercher, a nos yr un dydd yn Faenor, yr ochr arall i Ferthyr, a dydd lau, Mawrth 30, y mae yn Cantref, wrth waelod Bannau Brycheiniog, o fewn taith diwrnod i'w gartref. Cyrhaeddodd Drefecca yn ddiau y dydd canlynol, wedi taith o rhwng tair wythnos a mis.
Eithr nid oedd gorphwys i was yr Arglwydd. Llai nag wythnos a gafodd yn ei gartref, oblegyd, Ebrill 5, yr ydym yn ei gael drachefn yn Brynbiga (Usk), yn Sir Fynwy, yn cyfarfod Whitefield ar ei ail ymweliad â Chymru. Gwrthodwyd yr eglwys iddynt yno; a phregethodd Whitefield oddiar fwrdd dan gysgod coeden fawr, a Harris ar ei ol yn Gymraeg. Dilynwyd hwy gan osgordd o tua haner cant o wŷr i Bontypŵl; cawsant yr eglwys yno; ond gan nad oedd lle i'r lliaws a ymgynullasai yn yr adeilad, pregethasant drachefn ar y maes. Yn nghwmni tua deg-ar-hugain o wŷr ceffylau, aethant i'r Fenni; cyffelybai Whitefield hwy i Joshua a'i fyddin yn goresgyn gwlad Canaan. Cawsant gynulleidfa o tua dwy fil yn yr awyr agored, ac nid arbedasant y gwatwarwyr bonheddig wrth lefaru. Disgwyliasent gynhwrf yn y Fenni, ond ni feiddiodd neb agor ei enau i'w herbyn. Cawn hwy yn myned oddiyno i Cwm lau, at yr offeiriad duwiol, Mr. Jones; ond yr oedd y gynulleidfa yn rhy fawr i'r eglwys, a llefarasant yn y fynwent. Gwaith un dydd oedd hyn oll. Ebrill 6, cyrhaeddasant Gaerlleon-ar-Wysg, yn nghwmni tua thriugain o wŷr ceffylau, "yr hon dref," meddai Whitefield, "sydd yn enwog am fod deg-ar-hugain o frenhinoedd Prydeinig wedi eu claddu ynddi, a'i bod wedi cynyrchu tri o ferthyron ardderchog." Mewn maes yma yr oedd pwlpud wedi ei godi i Howell Harris pan yr ymwelasai a'r lle yn flaenorol; yn hwn y darfu i'r ddau bregethu yn awr; daethai miloedd i wrando, ond ni feiddiodd neb aflonyddu, er iddynt guro drwm a bloeddio pan y buasai Harris yma o'r blaen. Odfa ryfedd oedd hon, fel yr ymddengys. "Rhoddodd Duw i mi y fath gymorth anarferol," meddai Whitefield, "fel y cefais fy nghario yn mhell tu hwnt i mi fy hun." Ychwanega: "Gweddïais dros Howell Harris erbyn ei enw, fel yr wyf wedi gwneyd yn mhob lle y pregethais ynddo yn Nghymru. Na ato Duw i mi gywilyddio o herwydd fy Meistr na'i weision." Tebyg y cyfeiria at y ffaith fod Harris yn pregethu heb urddau. Priodola y Gloucester Journal, am Ebrill 24, 1739, fawredd y cynulleidfaoedd i serch personol at Mr. Whitefield, ac hefyd i'r athrawiaeth am yr enedigaeth newydd a bregethai. Prawf hyn mai ychydig o son oedd am ailenedigaeth yn mhwlpudau yr Eglwys. O Gaerlleon aethant i Trelech; y gareg farch, ger y gwest-dŷ, oedd eu pwlpud yno. Cawsant fynedfa i'r eglwys yn Nghaergwent, y dref Gymreig olaf iddynt ar y daith hon, a chawn hwy, Ebrill 9, yn cyrhaedd Caerloyw.
Yn y ddinas hon naceid yr eglwysi i Whitefield, y naill ar ol y llall, er mai dyma ei le genedigol; cymerodd yntau y maes, gyda Howell Harris wrth ei ochr, ac yr oedd eu cynulleidfaoedd yn fynych yn rhifo o dair i bedair mil. Fel hyn yr ysgrifena Whitefield: "Llefed y neb a fyno yn erbyn fy nghyndynrwydd, nis gallaf weled fy anwyl gydwladwyr a'm cydgristionogion yn mhob man yn suddo i ddinystr, o herwydd anwybodaeth ac angrhediniaeth, heb wneyd fy ngoreu i'w hargyhoeddi. Yr wyf yn galw ar y rhai sydd yn ceisio fy rhwystro i ddwyn yn mlaen reswm dros eu gwaith; rheswm nid yn unig a foddlona ddynion, ond Duw. Aelod o Eglwys Loegr ydwyf fi. Yr wyf yn dilyn yn glos ei herthyglau a'i homilïau; a phe y gwnelai fy ngwrthwynebwyr yr un peth, ni fyddai cymaint o Ymneillduwyr oddiwrthi. Ond y mae yn gyffredinol hysbys fod y wlad yn galaru oblegyd anwiredd yr offeiriaid. Yr ydym (ni yr offeiriaid) wedi pregethu a byw llawer o ddynion difrifol allan o'n cymundeb. Yr wyf wedi ymddiddan a nifer o oreuon y gwahanol enwadau, ac y mae llawer o honynt wedi tystio yn ddifrifol ddarfod iddynt adael yr Eglwys am na chaent yno fwyd i'w henaid. Arosasant yn ein mysg nes iddynt gael eu newynu allan." Geiriau ofnadwy o ddifrifol, ac yr ydym yn eu difynu am eu bod yn wir i'r llythyren gyda golwg ar Gymru. Darfu i'r Methodistiaid, a chorff y genedl gyda hwy, adael yr Eglwys Wladol, nid oblegyd syniadau neillduol gyda golwg ar berthynas yr Eglwys a'r wladwriaeth, ond oblegyd fod eu heneidiau yn rhynu ac yn newynu i farwolaeth o'i mewn. Newyn am efengyl oedd yn yr Eglwys; yno cynygid careg i'r bobl yn lle bara, ac aethant hwythau i'r meusydd, lle yr oedd gwirionedd Duw yn cael ei bregethu gan dynion ffyddlon. Un o feibion ffyddlonaf Eglwys Loegr oedd Howell Harris; nid yw byth yn blino mynegu hyny; ond parodd anfoesoldeb buchedd, a difaterwch yr offeiriaid, iddo fod yn flaenllaw gyda mudiad a waghâodd yr eglwysi ar hyd a lled y wlad.
Ond i ddychwelyd, aeth Howell Harris gyda Whitefield i Lundain. Pregethent ar y ffordd, ac yr oedd nid yn unig tân, ond hefyd beiddgarwch penderfynol y Cymro o fantais ddirfawr. Yn nghymydogaeth Bryste, rhwystrwyd Whitefield i lefaru gan branciau a gwatwaredd rhyw chwareuwr, a bu raid iddo roddi i fynu. Neidiodd Harris i'r pwlpud, a chymerodd yn destun: "Daeth dydd mawr ei ddigter ef, a phwy a ddichon sefyll?" Meddai y gwatwarwr annuwiol: "Fe safa i." "Beth!" llefai Harris, a'i lygaid yn melltenu yn ei ben, ac arswyd yn eistedd ar ei wedd; "Y ti sefyll! Y ti, brifyn diddim a gwael y fath ag wyt, sefyll o flaen llid yr Anfeidrol" Cwympodd y dyn fel marw i'r ddaear, a dywedir na adawodd y cryndod mo hono tra y bu byw. Cyrhaeddodd y Diwygwyr Lundain Ebrill 25, lle yr arhosodd Harris hyd ddechreu Mehefin. Tra yn y Brifddinas, elai yn fynych gyda Mr. Whitefield i gymdeithas grefyddol y Morafiaid yn Fetter Lane. Perthynai, nifer o ddynion duwiol a da i'r gymdeithas hon, ac yn eu mysg amrai o fonedd y tir, megys Arglwydd ac Arglwyddes Huntington, Syr John PhiIIips, y Cymro o Sir Benfro, a brawd yn-nghyfraith Griffith Jones, &c. Diau i Harris yma gael cymundeb wrth fodd ei galon. Cyffroid y gymdeithas ar y pryd gan y cwestiwn o hawl lleygwyr i bregethu. Meddai Charles Wesley, yn ei ddydd-lyfr: "Cyfododd dadl gyda golwg ar bregethu lleygwyr; yr oedd amryw yn zelog drosto; ond darfu i mi a Mr. Whitefield sefyll yn gryf yn erbyn." Yn raddol, pa fodd bynag, daeth Whitefield yn fwy cymhedrol; cawn ef yn ysgrifenu mewn llythyr at John Wesley, dyddiedig Mehefin 25, 1739" Yr wyf yn oedi barn ar ymddygiad y brodyr Cennick a Watkins, hyd nes y deallaf yr amgylchiadau yn well. Y mae gwahaniaeth mawr rhyngddynt hwy a Howell Harris. Y mae efe wedi ceisio urddau sanctaidd dair gwaith; bydd i mi ei gefnogi ef ynghyd a'r cyfeillion yn Nghaergrawnt." Rhoisai Harris y seiadau a ffurfiasid trwy ei offerynoliaeth dan ofal dynion ffyddlon, y rhai oeddynt i'w harolygu, ac i anfon gwybodaeth o'u hansawdd iddo ef i Lundain. Yn mysg y rhai hyn yr oedd Meistri James Roberts; David Williams, Watford; Edmund Jones; a Henry Davies. Ysgrifena James Roberts ato Ebrill 17, 1739, ac y mae tôn ei lythyr braidd yn gellweirus: "Fy anwyl Howell," meddai, "gadewch i mi fod dipyn yn siriol gyda chwi. Yr ydych yn fath o Arolygydd, neu Arglwydd Archesgob, mewn amrai siroedd; felly, priodol i'ch caplan tlawd, yr hwn sydd wedi ufuddhau i'ch arch, ac wedi ysgrifenu y llythyr, o ba un y mae copi yn cael ei amgau i chwi, yw eich hysbysu am y modd y cyflawna ei ddyledswyddau." Y "llythyr" oedd cenadwri at yr eglwysi yn Longtown, Llandefathen, Crugcadarn, a Gwendwr. Ysgrifena Mr. Edmund Jones lythyr ato Mai 21, 1739, o ba un y difynwn a ganlyn: "Yr wyf wedi bod o gwmpas eich seiadau fel gwyliwr, i edrych sut yr oeddynt yn dod yn mlaen, a pha un a oedd y diafol yn ceisio eu niweidio; a gallaf ddweyd, diolch i Dduw, i mi gael y cwbl yn llwyddiannus. Ni chefais gymaint o bresenoldeb Duw er ys blynyddoedd ag a gefais ar y daith hon; yn enwedig yn Maesyronen, yn y weddi yn Gwendwr, y Sul yn Nhredwstan, a'r Llun yn Grwynefechan. Y mae eich cyfeillion yn Mrycheiniog yn hiraethu am eich gweled. Cefais nerth gan Dduw wrth weddïo drosoch yn Grwynefechan. Y mae y warrant yn eich erbyn wedi dyfod i ddim. Ni wnai y Cynghorwr Gwynn gyffwrdd a hi, na neb o'r ustusiaid, ond yr ustusiaid offeiriadol; yr oedd Price Davies (offeiriad Talgarth) yn neillduol i'w weled yn eich erbyn; ond llwfrhasant, ac ymddangosent fel yn cywilyddio o'r braidd y darfu i'r offeiriad James, o Lanamwch, yr hwn oedd mor weithgar yn eich erbyn, ddianc rhag boddi ychydig yn ol, yr hyn a haedda sylw. Yr wyf wedi ceisio gan y dynion ieuainc, perthynol i'r seiadau, i weddïo yn benodol dros y boneddwyr a safasant o'ch plaid." Profa y llythyrau hyn amryw bethau; (1) Fod yr Eglwyswyr, yn arbenig y personiaid, yn llawn llid eto yn erbyn Howell Harris, ac yn awyddus am ei gospi, pe y medrent. (2) Fod bonedd y wlad yn dechreu troi o blaid y diwygiad mewn amrywiol leoedd. (3) Fod Harris yn barod wedi sefydlu nifer o seiadau, y rhai oeddynt yn hollol ar wahan i'r eglwysi Ymneillduol oedd yn flaenorol yn y wlad, ac nad oedd y gweinidogion Anghydffurfiol hyd yn hyn yn eiddigus o'r herwydd.
Yn mis Mehefin, cawn Harris yn canu yn iach i'w gyfeillion yn Llundain, ac yn cyrhaedd Trefecca. Heb orphwys ond noson yn nhŷ ei fam, cychwyna i'r Fenni; yr oedd cymdeithas y brodyr yno mor felus, fel na fedrodd gyrhaedd adref hyd yr hwyr; ac yna bu yn ysgrifenu hyd un o'r gloch. Tranoeth pregetha ddwy waith yn y Gelli, Brycheiniog. Y dydd canlynol, wyneba ar gynulliad annuwiol yn Longtown, Sir Henffordd; gyda ei fod ar ymyl y dorf, clywodd ddyn yn rhegu, a cheryddodd ef yn llym. Aeth y si trwy yr holl le fod Howell Harris yno, a daeth torf o ryw ddwy fil o'i gwmpas. "Rhoddodd yr Arglwydd nerth i mi i ymosod ar y diafol ar ei randir ei hun," meddai; "gosododd fy wyneb fel callestr, gan fy llanw o'r hyn a ddywedwn. Yn enwedig, pan welais rai boneddwyr a boneddigesau yn dyfod i wrando, gwnaed fi yn gryfach gryfach i ddarostwng eu balchder," Appeliodd hefyd at yr ynadon, ac at offeiriad y plwyf, gan ofyn iddynt pa fodd y rhoddent gyfrif o'u goruchwyliaeth, gan eu bod yn cefnogi tyngu, a meddwdod. Chwarddodd rhai o'r boneddwyr; "tynwch y clebrwr i lawr," meddai un arall; "ond ni ddaethai fy amser eto," meddai. Wedi pregethu mewn amryw fanau, aeth i Bontypŵl, lle y llefarodd am wroldeb Daniel, a'r tri llanc, ac fel yr oedd yr Arglwydd wedi sefyll o blaid ei bobl yn nydd y frwydr. Eithr erbyn hyn yr oedd yspryd erlid wedi ei ddeffro yn Mhontypŵl Daeth ustus heddwch ar draws y gynulleidfa ac yntau, gan ddarllen deddf terfysg, a gorchymyn iddynt ymwahanu mewn awr o amser. Addawodd yntau y gwnaent; ond gofynodd iddo a oedd yn arfer darllen deddf terfysg yn y gwahanol gampau, ac yn yr ymladdfeydd ceiliogod? Rhoddwyd ar gwnstabl hefyd i gymeryd Harris i fynu. Mynai ef fyned i'r carchar, ond perswadiwyd ef i roddi meichiau, y gwnai ymddangos yn Sessiwn Trefynwy. Cymerodd yr ymddiddan canlynol le rhyngddo a'r ustus: —
Harris: "Nid oeddwn yn disgwyl mai mab yr Uchgadben H fuasai y cyntaf i ymosod ar gynulleidfa o Brotestaniaid heddychol; oblegyd dyn hynaws oedd efe."
Ustus: " Yr wyf wedi derbyn fy nghyfarwyddyd oddiuchod."
" Ai o'r nefoedd ydych yn feddwl?"
"Na, nid oeddwn yn golygu hyny."
"Dywedais wrtho," meddai Harris, "Pe y gwybuai ei fawrhydi mor deyrngar a diniwed ydym, na wnai feddwl yn uwch o hono ef am ein gorthrymu. Felly gadewais ef, wedi gadael rhai saethau yn ei gydwybod, a'i adgofio y rhaid iddo yntau roddi cyfrif gerbron gorsedd ofnadwy; ond y gwnawn weddïo drosto; a diolchodd yntau i mi." Yr oedd hyn ganol Mehefin, ac nid oedd y Sessiwn yn Nhrefynwy cyn Awst. Yn y cyfamser aeth Harris i Fryste, a phregethodd yno i gynulleidfa o Gymry. Cyfarfyddodd yno hefyd am y tro cyntaf â John Wesley. Ymddengys fod peth rhagfarn yn ei feddwl at John Wesley, am nad oedd yn dal yr athrawiaeth o etholedigaeth, a pharhâd mewn gras; nid anhebyg hefyd i'r rhagfarn gael ei ychwanegu gan Mr. Seward, yr hwn oedd wedi cwympo allan a Charles Wesley. Pregethai Mr. Wesley ar Esaiah xlv. 22: "Trowch eich wynebau ataf fi, holl gyrau y ddaear, fel y'ch achuber; canys myfi wyf Dduw, ac nid neb arall." Cyhoeddai y gwirionedd mawr am gyfiawnhâd trwy ffydd mor ddifloesgni a chlir, ynghyd a'r angenrheidrwydd, y fraint, a'r ddyledswydd o edrych at Iesu am gyfiawnder a nerth; ac yr oedd y fath ddylanwad nefol yn deimladwy yn yr odfa, fel y toddodd holl ragfarn Harris; ac er anghytuno ag ef gwedi hyn, nid amheuodd byth fod John Wesley yn weinidog Crist. Aeth yn ganlynol i ymweled ag ef yn ei lety, a phan y gwnaeth ei hun yn hysbys, syrthiodd Wesley ar ei liniau i weddïo drosto gerfydd ei enw, a thros Griffith Jones, a thros Gymru. Bu y ddau yn gyfeillion mwy hyd eu bedd.
Gwedi teithio rhanau helaeth o Gymru, dychwelodd i Drefynwy yn brydlon erbyn y Sessiwn. Teimlai yn bryderus ac yn isel ei yspryd; gwyddai nad oedd ganddo nac arian na chyfeillion i wynebu ar brawf costus; ac ofnai fod yr erledigaeth yn brawf nad oedd wedi cael ei alw i gynghori, a'i fod fel yr honai yr offeiriaid yn rhedeg heb gael ei anfon. Ond pan ddaeth i'r dref llonwyd ei galon; cyffröasai yr Arglwydd feddwl nifer mawr o ddynion da i ddod yno i'w bleidio, o Lundain, Caerloyw, a rhanau o Gymru. Yn ngwyneb y teimlad cyhoeddus, ac yn ddiau dan argyhoeddiad fod y gyfraith yn eu herbyn, gadawodd yr ustusiaid yr achos i syrthio; a chafodd Harris ymadael heb na dirwy na charchar. Diau i'r helynt brofi yn fantais ddirfawr i'r diwygiad; gwelwyd na ellid ei osod i lawr trwy gyfrwng cyfraith y wlad. Enynodd sirioldeb difesur hefyd yn mynwes Howell Harris; symudwyd ei ofnau, a chwbl gredodd y mynai yr Arglwydd iddo deithio o gwmpas i gynghori pechaduriaid. Nid oedd neb a lawenychai yn fwy na Whitefield. Ysgrifena o Philadelphia: "Yr wyf yn eich llongyfarch ar eich llwyddiant yn Nhrefynwy. Yn mhen tua deuddeg mis, os myn Duw, yr wyf am wneyd defnydd o'ch maes-bwlpudau eto. Y mae ein hegwyddorion yn cyduno fel yr etyb wyneb i wyneb mewn dwfr."'
ATHROFA TREFECCA: GOLYGFA DDWYRAIN-OGLEDDOL
Siroedd Morganwg a Mynwy a gawsant y rhan fwyaf o lafur Howell Harris yn ystod 1738, 1739; yr ydym wedi crybwyll eisioes am effeithiau ei weinidogaeth yn Mynwy, a Dwyrain Morganwg, ac ymddengys i'r unrhyw ddylanwadau ei ganlyn i orllewin Morganwg. Bu yn offeryn i ddeffro y wlad o gwr i gwr; mentrodd i ganol y gwyliau mabsantau a'r ffeiriau annuwiol, gan yru ofn ar weithredwyr anwiredd; daeth ei enw yn ddychryn i'r campwyr, a sefydlodd nifer mawr o seiadau. A gwnaeth hyn oll heb nemawr gymorth dynol; efe ei hun, a phresenoldeb ei Dduw gydag ef, a gynyrchodd y childroad; ychydig iawn o gymorth a gafodd gan yr offeiriaid, na chan y gweinidogion Ymneillduol. At ychydig o'i orchestion yn unig y cawn gyfeirio. Adroddir am dano yn pregethu mewn ffair yn Crug-glas, ger Abertawe. Yr oedd terfysg y ffair yn ddirfawr, y sŵn yn ddigon i ferwino clustiau, a'r ymladdfeydd yn waedlyd a chreulon. Buasai dyn cyffredin yn cael ei lethu gan ddychryn, ond ni wnai hyn ond awchu zêl Harris. Cododd i fynu ynghanol y berw, a'r olwg arno mor arswydlawn a phe buasai yn ymgorfforiad o ddychrynfeydd Sinai; taflodd olwg lem ar y twmpath chwareu, a dechreuodd weddïo. Yn raddol y mae difrifwch ei wedd, treiddgarwch ei lais, a thaerni ei weddi yn enill sylw; llonydda y berw fel pe y tywelltyd olew ar ddyfroedd cyffrous; cywilyddia y chwareuwyr ac ymeifl dychryn ynddynt; a dyma hwy yn dianc oddiar y maes fel pe eu hymlidid gan ellyllon. Pan welodd y telynwr ddarfod iddo gael ei adael, rhoes yntau ei offer heibio ac ymadawodd. Yn mysg y rhai oedd yn bresenol y pryd hwnw yr oedd creadur annuwiol a elwid " Rotsh o'r Gadle." Ymddengys i saeth lynu yn ei gydwybod yntau, ond ni adawodd ei ffyrdd drygionus. Gwyddai ei fod ar ffordd na ddylai, ond ni chefnai arni. Dywedir ei fod unwaith wedi gwario ei holl arian ar ei flysiau, ac na wyddai pa fodd i fyned yn y blaen. Tybiai y dylasai yr hwn a wasanaethai mor egniol ei gynorthwyo, a chyfarchai y "gwr drwg" "Wel, yr wy' i wedi bod yn was ffyddlawn i ti, gad i mi weld fath feistr wyt ti; dod rywfaint o arian yn fy het." Yna rhoddai ei het i lawr, a chiliai oddiwrthi encyd o ffordd. Yn mhen enyd, dychwelai ati eilwaith, i gael gweled beth oedd ynddi. Wedi ei chael yn wag, troai i edliw a'r diafol, gan ddweyd: "Mi welaf mai meistr caled ydwyt wedi'r cyfan." Pa foddion a ddefnyddiwyd i'w ddwyn ato ei hun ni wyddis i sicrwydd. Aeth ryw foreu Sul i gyrchu y cŵn hela ar gyfer tranoeth; nid anhebyg i eiriau Howell Harris drywanu ei galon ar y ffordd; pa fodd bynag, daeth yn ei ol heb y cŵn, ac aeth i'w wely, dan arteithiau euogrwydd anamgyffredadwy. Yr oedd wedi cael ei ddal megys a gwys oddiuchod; a fflangellid ef megys ag ysgorpionau. At hyn y cyfeiriai gwedi hyny wrth ganu:—
"Pan oeddwn ar fy ngwely,
Un prydnhawn,
Heb feddwl dim ond pechu,
Un prydnhawn,
Fe ddaeth ei danllyd saethau,
Y ddeddf a'i dychryniadau,
I'm tori i lawr yn ddiau,
Un prydnhawn,
A gado'm holl bleserau,
Un prydnhawn."
Bu ei argyhoeddiad yn ofnadwy. Ai at lan y môr, gan godi llonaid ei law o'r tywod, a cheisio eu rhifo: "Mi a ddeuwn i ben a hyn rywbryd," meddai, "ond am dragywyddoldeb, nid oes rhifo arno byth! "Ymofynai a'i hen gymdeithion, ai ni wyddent hwy am un ffordd o ddiangfa, ond cysurwyr gofidus oeddynt oll, Cyfarfu unwaith â hen feili yn Abertawe, ac yn ing ei enaid gofynai i hwnw: "A wyddost ti rywbeth am Iesu Grist?" Edrychodd y beili yn hurt arno, ac aeth ymaith heb ddywedyd gair, Ond o'r diwedd tywalltwyd olew a gwin i glwyfau "Rotsh o'r Gadle," a'r offeryn a fendithiwyd i hyny oedd Mr. Lewis Rees, o Lanbrynmair, yr hwn oedd wedi dyfod yn weinidog i'r Mynyddbach.
Yr ydym yn cofnodi hanes "Rotsh" am ei fod yn ddiau yn engrhaifft o'r dull yr argyhoeddwyd llawer i fywyd yn yr amser rhyfedd hwnw. Un arall o'r cedrwydd talgryf a dorwyd i lawr yn 1739 oedd William Thomas, o'r Pil, a hyny pan nad oedd ond llencyn un-mlwydd-ar-bymtheg oed. Dwysbigwyd ef trwy wrando Harris yn pregethu mewn lle a elwir Chwarelau Calch, yn agos i Gastellnedd, eithr bu am agos i bedair blynedd gwedi hyn cyn rhoddi ei hun i fynu yn llwyr i'r Iesu. Daeth yn ganlynol yn "gynghorwr" nid anenwog, ac yn ddyn o ddefnyddioldeb mawr. Adroddai hen ŵr, o'r enw John Morgan, am Harris yn dyfod i le a elwir Waungron, nid yn nepell o'r Goppa-fach, ar gyffiniau Morganwg a Chaerfyrddin. Cynhelid gwylmabsant yno ar y pryd. Yr oedd y cyfarfod wedi dechreu cyn i John Morgan, ar ei ffordd i'r gamp, gyrhaedd; ond pan tua chwarter milldir neu fwy o'r lle, cyrhaeddodd llais y pregethwr ei glust, "a daeth," meddai, "gyda'r fath awdurdod, fel y teimlwn ef yn myned trwy fy esgyrn yn y fan." Dychwelwyd ef a llawer eraill at y Gwaredwr y tro hwnw. Cyfeiriai yr hen weinidog hybarch, Hopkin Bevan, o Hirwaun, at Howell Harris yn dyfod dro arall i Crug-glas. Daeth dyn haner meddw yn mlaen, wedi ei anog gan ryw ddihirwyr, a gwn yn ei law, gan geisio saethu y pregethwr, Cynygiodd ddwy waith a thair, ond ni thaniai yr ergyd. "Trowch ffroen eich dryll ffordd arall," meddai Harris, gyda llais awdurdodol; gwnaeth y dyn, ac allan aeth yr ergyd. Yn fuan wedyn cafwyd y dyn wedi llosgi i farwolaeth mewn odin galch, lle yr aethai yn ei feddwdod.
Nis gallwn, o ddiffyg lle, gofnodi ychwaneg o lafur a buddugoliaethau Howell Harris yn Ngorllewin Morganwg y cyfnod yma. Tua'r pryd hwn, neu yn fuan gwedi, sefydlwyd seiadau yn y Palleg, ger Ystradgynlais; Creunant, yn nghymydogaeth Castellnedd; y Goppa-fach, nid yn nepell o Abertawe; Castellnedd, Hafod, Cnapllwyd, Llansamlet; a'r Dyffryn, ger Margam.
Tua mis Rhagfyr bu ar ymweliad a Sir Benfro; ei ymweliad cyntaf yn ddiau, Nid yw hanes y daith genym; felly, nis gwyddom pa mor bell yr aeth, nac yn mha leoedd y bu yn efengylu; ond cyfeiria at yr amgylchiad mewn llythyr " at chwaer yn Sir Fynwy." Dyddiad y llythyr yw Tachwedd 30, 1739. Dywed: "Yr wyf yn awr ar fy ffordd i Sir Benfro; collais y ffordd ar y mynyddoedd neithiwr, ond yr Arglwydd a gofiodd ei gyfamod." Nid ydym yn tybio iddo aros yn hir yma y tro hwn. Nid oes pen draw ar ei deithiau yr adeg hon. Cawn ef yng ngodre Sir Aberteifi, yng nghymdogaeth Penmorfa; teithia oddi yno i Lanarth, ac i Lanbedr; croesa y Mynydd Mawr, a phregetha mewn amaethdy bychan ynghanol y brwyn, o'r enw Brynare, yn agos i darddiad yr afon Towi. Cyn pen wythnos yr ydym yn ei gael yn nhref Henffordd, ac yn myned oddi yno i Gaerloyw, trwy rannau o Sir Fynwy. Rhaid bod ei gyfansoddiad fel haearn, a'i zêl yn angerddol.
Dechrau y flwyddyn 1740 y mae yn cychwyn ar ei ymweliad cyntaf a'r Gogledd. Rhydd yr Hybarch John Evans, o'r Bala, yr amser yn 1739; dywed Methodistiaid Cymru fod dyddlyfr Howell Harris yn cytuno a hyn; eithr y mae y ddau yn camgymryd. Y mae y dyddlyfr, ynghyd a'r holl lythyrau a ysgrifennodd Mr. Harris ar ei daith, at Mrs. James, o'r Fenni, a Miss Anne Williams, o'r Scrin, ac eraill, yn profi mai Chwefror, 1740, y cymerodd hyn le. Hawdd esbonio y modd y darfu iddynt gamsynied. Dilynai Howell Harris wrth ysgrifennu yr hen galendr eglwysig; o Ionawr hyd Mawrth 25, rhoddai, wrth ddyddio ei lythyrau, yr hen flwyddyn a'r flwyddyn newydd; ac y mae y llythyr o Lanfair-muallt, y cyntaf iddo ar y daith hon, felly, sef "Builth, Feb. 1, 1839-40." Elai ar wahoddiad Mr. Lewis Rees, gweinidog yr Ymneillduwyr yn Llanbrynmair, yr hwn a ddaethai dros y mynyddoedd cribog yn un swydd i'w gyrchu. Gan mai Mr. Lewis Rees a fu yn foddion i ddwyn Methodistiaeth i ogledd Cymru, nid anniddorol fyddai ychydig o'i hanes. Ganwyd ef yn Glynllwydrew, Cwm Nedd, yn Sir Forganwg, yn y flwyddyn 1710, ac felly yr oedd rai blwyddau yn hŷn na Rowland a Harris. Yr oedd ei rieni yn aelodau yn yr Eglwys Ymneillduol yn Blaengwrach, yr hon oedd dan ofal y duwiol a'r diragfarn Henry Davies. Ymunodd a chrefydd yn ieuanc. Darfu i'w allu meddyliol, ynghyd a'i dalentau, yn arbennig ei ddawn mewn gweddi, beri i'w rieni ei godi i fynnu ar gyfer y weinidogaeth. Cafodd fanteision addysg helaeth; bu yn yr ysgol gyda Joseph Simons, yr hwn a gadwai ysgol ramadegol yn Abertawe, gyda Mr. Rees Price yn Penybont-ar-Ogwy, ac yn ddiweddaf gyda y Parch. Vavasor Griffiths, yn Sir Faesyfed. Dywedodd yr olaf ei fod yn llawn ddigon o ysgolhaig, ac anogodd ef i ymgymeryd a gweinidogaeth yr efengyl yn ddioedi. Y pryd hwn daeth y Parch. Edmund Jones, Pontypŵl, heibio, gwedi bod ar daith yn y Gogledd; darluniodd gyflwr gresynus y rhan honno o'r wlad, ac anogodd ef i ymgymeryd a bugeiliaeth y ddeadell fechan yn Llanbrynmair, gan addaw troi yn ôl gydag ef, a'i gyflwyno i'r bobl. Cyn cyrraedd pen eu taith collasant y ffordd, a buont am rai oriau yn crwydro mewn lle a elwir Coedfron. Yn y sefyllfa annymunol hon ymroesant i ymddiddan a'u gilydd am bethau yr efengyl, a hynod y mwynhad a gawsant; terfynodd eu dyryswch hefyd yn annisgwyliadwy, gan iddynt gael gafael ar Lanbrynmair tua dau o'r gloch yn y boreu. Yr oedd hyn yn y flwyddyn 1734, tua blwyddyn cyn dechreuad y diwygiad Methodistaidd, a thua chwe' mlynedd cyn taith gyntaf Howell Harris i Wynedd. Yr adeg hon yr oedd cyflwr ysprydol Gogledd Cymru yn dra gresynus. Mewn ychydig fannau yn unig y pregethid yr efengyl yn ei phurdeb. Dihoenai yr eglwys fechan yn Llanbrynmair; ychydig iawn oedd rhif y ffyddloniaid yn y Bala, lle yr oedd achos wedi cael ei blannu gan y Parch. Hugh Owen, Bronyclydwr; ac yr oedd y ddeadell yn Pwllheli ar roddi i fynnu mewn digalondid. Ymroddodd Mr. Rees i bregethu; elai i Bwllheli mor aml ag y medrai, ac i'r Bala unwaith y chwarter. Gwnâi hyn drwy anhawster a pherygl dirfawr.[82] Yr oedd y ffordd yn faith, mynyddig, ac anhygyrch; y tywydd yn aml yn oer, ac yn ystormus; a phreswylwyr Dinas a Llanymawddwy, y pentrefydd, oedd ar ei ffordd, yn ffyrnig am ei ladd, gwedi ddeall ei neges. [83] Pan yn pregethu yn y Bala un tro digwyddodd i Meurig Dafydd, o ben uchaf plwyf Llanuwchllyn, fod yn gwrando. Wedi cael blas ar yr odfa, gwahoddodd Mr. Rees i bregethu i'w dŷ ef. Yntau a aeth fel yr addawsai. Yr oedd y tŷ yn llawn; daethai y bobl yno o chwilfrydedd i glywed Pengrwn yn pregethu; ond yn ol defod y wlad yr amser hwnw, yr oedd pawb, y gwyr yn gystal a'r gwragedd, wrthi yn ddiwyd yn gwau hosanau. Gafaelodd yntau yn y Beibl, gan ddarllen penod, a disgwyl i'r bobl rhoddi heibio eu gwaith; eithr yn mlaen yr oedd y gwau yn myned, a sŵn y gweill yn ymgymysgu a sŵn y Gair. Trodd i weddïo, ond heb fawr gobaith y byddai i neb o'r gynulleidfa gydynmno ag ef, a'r olwg ddiweddaf a gafodd cyn cau ei lygaid, oedd gweled y bysedd wrthi yn brysur yn trin y gweill. Ar weddi cafodd gymorth arbenig; aeth ei enaid allan at Dduw mewn deisyfiadau ar ran y trueiniaid anwybodus oedd yn bresenol; deallodd yn fuan fod y gwau wedi cael ei roddi heibio; ac yn lle clec y gweill clywid sŵn gruddfanau ac ocheneidiau am drugaredd. Ni adawyd ef hefyd wrth bregethu, a bu yr odfa yn foddion achubiaeth i amryw. Gwedi hyn, bu Morgan, brawd Meurig Dafydd, oedd yn gryfach na'r cyffredin, ac yn adnabyddus fel ymladdwr mawr, yn dra charedig iddo. Hebryngai ef trwy Lanymowddwy, gyda phastwn onen cryf yn ei law, a phan geisiai rhywrai niweidio y pregethwr ysgydwai y pastwn, gan ddweyd: "Wedi hebrwng y gŵr da i ffwrdd, mi a ddof i siarad a chwi." Droiai bu gwarant allan i ddal Lewis Rees, am fyned o gwmpas i bregethu yr efengyl. Un tro dygwyd ef o flaen y Canghellydd Owen, yr hwn yn ogystal oedd yn fìcer Llanor a Dyneio. Gwedi' i'r gŵr hwn ddeall fod ganddo drwydded i bregethu, ac felly nas gallai ei anfon i'r carchar, aeth yn gynddeiriog. Ymaflodd mewn cleddyf, gan fygwth ei ladd, ac yn ei gynddaredd torodd got y pregethwr yn gareiau a'r cledd oedd yn ei law.[84] Pan y teithiai Mr. Rees trwy Lanymowddwy un tro, cyfarfu ag offeiriad y plwyf, wrth yr hwn yr achwynodd am ymddygiadau barbaraidd ei blwyfolion. Cymerodd yr ymddiddan canlynol le rhyngddynt: —
"Gŵr o ba wlad ydych chwi?" ebai'r offeiriad.
"Gŵr o Lanbrynmair, Syr," ebai Mr. Rees, yn fwynaidd iawn.
"Beth a ddaeth a chwi i Lanbrynmair?"
"Yr oedd y gynulleidfa Ymneillduol heb weinidog; ar eu dymuniad, mi a ddaethum atynt, ar y cyntaf ar brawf; ac wedi cael boddlonrwydd o bob ochr, mi a osodwyd yn weinidog arnynt."
"Peth afresymol," ebai'r offeiriad," yw goddef i Bresbyteriaid bregethu yn y wlad hon; Ysgotland yw y wlad iddynt hwy." "Gobeithio, Syr," meddai Mr. Rees, "eich bod o well egwyddor nag y ffurfiech eich crefydd wrth arfer y wlad y byddech yn byw ynddi; onide byddai raid i chwi fod yn Bresbyteriad yn Ysgotland, ac yn Babydd yn Rhufain."
Tarawodd grym ei resymau, a mwyneidd-dra ei atebion, y gŵr eglwysig, a thrwy ei ddylanwad ar y preswylwyr, ni chafodd Mr. Rees ei aflonyddu o hyny allan. Gwnaeth Lewis Rees ddaioni anhraethol yn y Gogledd; nid oedd rhagfarn yn ei yspryd; a pharhaodd yn groesawgar i'r Methodistiaid tra y bu yn Llanbrynmair. Wedi llafurio am chwarter canrif yn Ngwynedd, symudodd i'r Mynyddbach, ger Abertawe. Bu farw Mawrth 21, 1800, pan wedi cyrhaedd ei bedwarugain-a-deg mlwydd oed.
Ond i ddychwelyd at daith Howell Harris i'r Gogledd. Ymddengys iddo fod mewn pryder cyn cychwyn pa un ai yno, ynte i Sir Benfro, yr ai. Tebygol mai yr hyn a benderfynodd o blaid Gwynedd oedd cymhellion cryfion Mr. Lewis Rees, ac hefyd yr elfen o berygl oedd ynglyn a'r daith. Ymddengys fod boneddwyr Sir Drefaldwyn wedi rhwymo eu hunain a diofryd y gwnaent garcharu unrhyw Fethodist a anturiai i'w tiriogaethau; daethai hyn i glustiau Mr. Harris, a pharai beiddgarwch ei yspryd, a'i zêl dros ei Waredwr, iddo deimlo awydd angerddol am anturio i ganol yr ystorm. Chwefror y 1af, yr ydym yn ei gael ar y ffordd tuag yno, yn Llanfair-muallt. Rhaid i ni ddifynu darnau o'i ddydd-lyfr, ac o'i lythyrau, eto, fel y caffom nid yn unig ei hanes, ond hefyd agwedd ei feddwl.
"Pan y daethum yma (Llanfair-muallt)[85] cefais y bobl yn canu, a boneddwr ieuanc yn llusgo celain cath o gwmpas, er mwyn peri terfysg. Ond siomwyd ef; ni wnai y cwn hela. Cawsom nerth mawr, ac yr wyf yn awyddus iawn am fod yn rhydd oddiwrth, a byw uwchlaw y creadur, gan ddianc at waed Crist am heddwch a sancteiddrwydd. Yr wyf yn clywed pethau nodedig o hyfryd am Mr. Gwynn; gweddïwch drosto.
Rhaiadr (wyth milltir o Llanfair-muallt), Chwefror 3, 1740. Y mae fy ngorff yn flin, gwedi llafur caled, ac y mae yn awr yn bedwar o'r gloch y boreu. Ond y mae rhywbeth ynof, pan ei rhoddir mewn gweithrediad, sydd yn fy ngwneyd yn ddiludded. Ddoe, galluogwyd fi i lefaru ddwywaith, i drafaelu deng milltir, ac i ysgrifenu llawer o lythyrau. Heddyw, teithiais chwech milltir, llefarais ddwywaith, cedwais ddwy ddyledswydd deuluaidd, ac ysgrifenais chwech o lythyrau. Heno cefais y newydd cysurus fy mod mewn gwirionedd i gael fy nghymeryd i'r ddalfa yn Sir Drefaldwyn. Gwn y llawenhewch, y gweddïwch, ac y bendigwch Dduw trosof. Cawsant gyfarfod i'r pwrpas, ac yr wyf yn cael yr Arglwydd yn fy nerthu yn rhyfedd oddi mewn. Gosododd Duw yn meddwl cyfaill anwyl i ddod i ddweyd wrthyf. Cuddied yr Arglwydd fy mhen yn nydd y frwydr. Yr wyf yn myned y fory i Cwmtyddwr, i wyl, a nos y fory i ran o Drefaldwyn. Y mae yr Arglwydd wedi rhoddi i mi lawer concwest ar y diafol.
Llanybister (pedair milltir o Rhaiadr), Chwefror 5, 1740. Diwrnod gogoneddus oedd y ddoe; yr oeddwn yn yr wyl fawr, a mentrais wrthwynebu y diafol ar ei dir ei hun. Felly lleferais o fewn ychydig latheni i dafarndy, lle yr oedd y chwareuyddiaeth i gychwyn. Ar y dechreu yr oeddwn gryfaf; wrth lefaru am argyhoeddiad Zaccheus, ceisiais eu denu trwy gariad; ond collais fy awdurdod. Yr oeddwn yn farw ac yn sych yn mron hyd y diwedd. Yna dyrchafodd yr Arglwydd fy llais fel udgorn, a galluogodd fi i gyhoeddi hyd adref gyda golwg ar elynion Duw. Ni phrofais erioed fwy o nerth. Yr wyf yn credu ddarfod i rai gael eu gwanu; wylai llawer; llewygodd un; eraill drachefn a deimlent gryndod dirfawr; ac yr oedd ar bawb fraw mawr. Gwedin aethum i'r eglwys; pan y daethum allan ofnwn rhag i'r diafol eu cael i'w fagl drachefn, a chyhoeddais y pregethwn o fewn chwarter milltir i dref Rhaiadr. Yno y daethant, yn mron bawb, yr wyf yn meddwl, ond ychydig oedd yn y tŷ. Cynorthwywyd fi i lefaru, a hyny gyda llai o daranu a mwy o ddyddanwch, nag arfer. Oddiyno aethum i le a elwir Y Lodge, yn Llandinam, lle y galluogwyd fi i lefaru gyda nerth, Neithiwr a heddyw ni chyfarfyddais a dim gwrthwynebiad, a chawsom odfaeon melus": Cedwir llawer rhag dyfod i'm gwrando gan ystori, sydd yn pasio fel gwirionedd, fy mod yn gohebu a brenin yr Ysbaen, a bod deugain punt yn cael eu cynyg am fy nghymeryd. Y fory yr wyf yn disgwyl cael fy nal; ac os caf, ysgrifenaf yn uniongyrchol o fy llety newydd.
Dyma Howell Harris wedi rhoddi ei draed ar ddaear Gwynedd, ac wedi pregethu yn Llandinam, a hon oedd y bregeth gyntaf i Fethodist yn Ngogledd Cymru. Dengys yr hanes pa mor ffol oedd y chwedlau a daenid am dano.
"Llanbrynmair,Nos Sadwrn(Chwefror g, 1740). Hyd yn hyn y mae yr Arglwydd wedi bod gyda mi, ac yn fy llwyddo fwyfwy. Ymddengys Satan fel wedi ei rwymo; yr oeddwn yn disgwyl bob dydd gael fy rhoddi mewn cadwyn; ond hyd yn hyn nid wyf wedi cyfarfod gwrthwynebiad. Dydd Gwener, cyfarfyddais a Mr. Lewis Rees, ac ni chefais yn ystod fy holl deithiau y fath nerth ag a ges neithiwr wrth lefaru i tua mil o bobl yn Llan (Llandinam?) Gallech glywed calonau yn ymddryllio; ac yr oedd y fath ocheneidiau, a dagrau, a gwaeddi, na wrandawsoch ar ei gyffelyb. Yr wyf yn gobeithio ddarfod i lawer o galonau agor i Iesu Grist. Yr oeddwn ymron a chael fy nghario allan o fy hunan. O! gogoneddwch Dduw drosof. Yr wyf yn myned dydd Llun nesaf i Sir Feirionydd. Druan o Wynedd; y maent yn byw yma fel anifeiliaid, heb wybod dim! "Pasiai ar ei daith trwy Lanidloes; nid yw yn ei lythyrau yn cyfeirio at y dref, ond dywedir yn Nrych yr Amseroedd iddo gael llonydd i bregethu heb i neb aflonyddu arno. Bu cymaint o erlid yn Llanidloes a braidd unrhyw dref yn Nghymru ar ol hyn. Cawn iddo hefyd bregethu yn Nhrefeglwys, a dywedir mai dyma y pryd yr argyhoeddwyd Lewis Evan, Llanllugan, yr hwn oedd ar y pryd yn ddyn ieuanc un-ar-hugain mlwydd oed. Gwehydd ydoedd Lewis Evan; gwedi ei argyhoeddi ymroddodd i ddarllen y Beibl; ac yn bur fuan cymerai ef o gwmpas i'w ddarllen o dŷ i dŷ; llithrodd yn raddol i roddi gair o gynghor, ac i derfynu trwy weddi, a daeth yn gynghorwr heb yn wybod iddo, ac heb wybod fod neb wedi gwneyd fel hyn o'i flaen. Peth dyeithr yn yr ardal oedd gwehydd ieuanc yn myned o gwmpas i gynghori, a pharodd ei ymddygiad gryn gyffro.
Nid yw Mr. Harris yn ei lythyrau yn cyfeirio at ei bregethu yn Llanbrynmair,[86] ond y mae yn sicr iddo wneyd, a dywedir mai o flaen tafarndy, a elwir yn awr y Wynnstay Arms, y llefarai. Yr oedd son am dano wedi myned ar led y gymydogaeth fel un a welsai weledigaeth, yr hwn a ai o amgylch i fynegu yr hyn a welsai ac a glywsai. Yn mhlith eraill a ddaethant i'w wrando yno yr oedd tri o frodyr, sef William, Edward, a Richard Howell, ynghyd a gŵr arall o'r enw Richard Humphrey. Er mwyn bod yn gyfleus i wrando aethant i ben tŷ bychan gerllaw. Dechreuodd gŵr Duw bregethu, a nodi beiau yr oes, yn ei ddull llym a phriodol ei hun. Tybiasant hwythau fod y pregethwr yn gwybod am danynt, ac yn eu pwyntio allan. Bu gorfod arnynt, gan rym cydwybod, ddisgyn oddiar ben y tŷ, fel Zaccheus o'r sycamorwydden, a saeth argyhoeddiad a drywanodd y pedwar gŵr. Dyma ddechreuad Methodistiaeth yn Llanbrynmair. Wedi dweyd ei fod yn oedi ymweled a Sir Benfro, am y credai fod gan Dduw waith iddo yn Ngwynedd, â Harris yn mlaen yn ei lythyrau: —
"SIR Feirionydd, ger y Bala, Dydd Mawrth (Chwefror 12, 1740). Y ddoe, anrhydeddwyd fi gan Dduw trwy gael fy nghymeryd yn garcharor yn ei waith, yn mhlwyf Cemmes, yn Sir Drefaldwyn. Gwnaed hyn gan un Wynne, ustus, yr hwn, gydag ustus arall, a boneddwr arall, ynghyd ag offeiriad y plwyf, a ddaeth arnom, wedi anfon eu hysbiwyr, ynghyd a'r cwnstabl, o'u blaen. Ni chefais yr anrhydedd o fyned i Drefaldwyn mewn llyfetheiriau; ond cymerasant ein henwau, ynghyd a'r manylion perthynol i'r cyfarfod, a'n bod yn ymgynull mewn lle heb ei drwyddedu; a bygythient wneyd eu goreu i'm dirwyo i o ugain punt, gŵr y tŷ o ugain punt, a phob un o'r gwrandawyr o bum' swllt yr un. Achwynent fy mod yn tori deddf y tŷ cwrdd (Convcnticle act). Atebais nas gellid fy nghospi yn unol a'r ddeddf hono; mai deddf ar gyfer yr Anghydffurfwyr ydoedd, tra yr oeddwn i yn gydffurfiwr a'r Eglwys Sefydledig. Ni a fynwn ymgynghori a'r cyfreithwyr goreu, meddent, ac os oes cyfraith i'w chael, cewch ddyoddef ei llymder eithaf.' Dywedais yn ol, os oedd y gyfraith yn fy erbyn, fy mod yn foddlawn dyoddef pa gospedigaeth bynag a farnent yn addas ei gosod arnaf. Llanwodd yr Arglwydd fi a gwroldeb; ni chefais fy ngadael. Llawer o ddagrau a gollwyd gan y gynulleidfa; ac yr oedd nifer wedi arfaethu dod gyda mi i Drefaldwyn pe buasai raid. Dychwelais gyda rhai dwsynau oeddynt wedi dyfod gyda mi, i'r lle o ba un y cawswn fy nghymeryd, a llefarais wrthynt am sefyll yn nydd yr ystorm. Cychwynais tua'r lle hwn, taith o tua deuddeg milltir, a llefarais ddwy waith ar y ffordd. Wedi teithio encyd, disgynais, ac aethum i fwthyn bychan ar ochr y ffordd, lle yr ysgrifenais hwn. Gwelais yno, mewn hen wraig, gariad at Air Duw ac at ei Fab, a mawr uniondeb meddwl, a gofal tyner. Y mae arnaf ofn dilyn fy ewyllys fy hun mewn dim, llawenheir fi wrth feddwl mai gwas i Un arall wyf, ac y mae heddwch mawr mewn ymostwng i Dduw yn mhob peth. Teimlais fy nghalon yn cynhesu at yr hen wraig—dywedodd y daw Duw'n nes atom ninau os awn ni yn nes ato ef. Yr oedd yn ddiolchgar iawn, yr oedd yn gweled ei hun yn bechod i gyd, yr oedd ganddi gariad cryf at Grist, teimlwn fy nghalon yn agor iddi o gariad at yr Iesu. Yr oedd yn fwy o ddyddanwch i mi gael bod yn ei thŷ na phe buaswn mewn palas. Bwyteais ychydig fara ceirch tew caled a chaws, ac yna aethum yn fy mlaen ar y ffordd tua thŷ Meurig Dafydd, Gweirglodd Gilfach.
Fel yr oeddwn yn myned o'r bwthyn tua Llanymowddwy, gwawdiwyd fi; rhedai plant ac eraill ar fy ol, gan waeddi, Down with the Rumps, a phethau eraill. Yr oedd Satan yn rhuo, ac yn chwerw iawn. Ni theimlais unrhyw derfysg yn fy enaid, eithr gweddïais drostynt, a thosturiwn wrthynt,—er nad cymaint ag yr hoffwn wneyd. Ac nis gallwn gael fy hun yn ol i'r ystad meddwl hyfryd yr oeddwn ynddi cyn hyny.
Pan aethum yn agos at yr eglwys, daeth tyrfa o bobl mewn oed a bechgyn at eu gilydd; pan welsant fi yn dod, gwaeddasant: Down with the Rumps, a chasglasant y cŵn at eu gilydd i'w hysio arnaf. Pan welais hwynt, teimlais fy ewyllys yn hollol ymroddedig—felly hefyd yr wyf wedi ei theimlo ar hyd y ffordd—cefais galondid mawr i fyned yn mlaen, siaredais heb ofn, a chefais ryddid meddwl. A gofynodd dynes i mi—galwent hi yn wraig fonheddig — beth oedd arnaf fi, dd----l coll, eisiau yno. A chyda hyny, cymerodd laid a thywarchen—nid oedd cerrig yn ei hymyl wrth lwc—a thaflodd hwynt ataf. Gwelais ei bod yn un o ddilynwyr Satan, ond ni dderbyniais niwed.
Gwaeddasant ar fy ol wedi fy myned, ond tra yr oeddwn yn pasio cauodd yr Arglwydd eu safnau.
Ar ol hyn deuais at eglwys Llanuwchllyn. tref fechan ar lan Llyn y Bala; cyfrifir y daith tua deuddeng milltir. Daeth rhywbeth fel ofn drosof wrth glywed fy mod yn neshauat dref, ond tawelwyd fi gan ymroddiad meddwl. Yr oedd fy myfyrdodau yn rhy ysgeifn, ac mor ychydig o Dduw sydd yn fy meddwl! Cefais beth hyfrydwch i'm henaid wrth weled daioni Duw yn rhoddi pethau i ni, a chefais fy hun yn gweddïo: ' O Arglwydd, na ad i mi bechu mewn ewyllys na meddwl.'
Wedi hyn, tra'r oedd cur yn fy mhen, a minau ar newynu, cyrhaeddais y Llan tua phump. Arhosais yma; yr oedd cynulleidfa fawr iawn wedi ymgynull, ond wedi mynd ymaith. Siaredais hyd chwech wrth rai canoedd am dröedigaeth St. Paul. Cefais gymorth yma i efengylu gyda grym, ac yr oedd llawer yn wylo. Atebais amheuon a gwrthwynebiadau, a gwahoddais bawb at Grist. Cefais rwyddineb melus i siarad wrth galonau drylliog, calonau wedi eu perswadio.
Wedi hyn, rhoddwyd i mi ras i weddïo am Yspryd Duw, fel y medrwyf ganu a gweddïo, a charu a siarad, a byw yn yr Yspryd hwnw, ac O mor angenrheidiol yw hyn!
Yna aethum i'r tŷ, lle'r oedd yspryd ysgafnder wedi dod dros y bobl. Bum uwch ben fy mwyd o saith hyd yn agos i wyth. Ac yna agorodd yr Arglwydd ddrws i mi siarad a hwynt, a hwy a wrandawsant. Siaredais am ein cwymp, ac fel yr agorodd y cwymp hwnw ddrws i gariad Duw hefyd. Danghosais iddynt gariad Duw tuag atom, a'n gwrthryfel ninau yn ei erbyn. Effeithiodd hyn arnynt, a wylodd llawer. Agorwyd drws i mi—tŷ tafarn oedd y tŷ—i ddarllen ac esbonio y ddeuddegfed benod o'r Rhufeiniaid, i ganu ac i weddïo. Ymddengys mai pobl ddiniwed sydd yma, a chefais gymorth i fod yn ffyddlon yn eu mysg.
Ysgrifenais lythyr hyd wedi deg; a bum mewn gweddi ddirgel hyd gwedi un-ar-ddeg, yn gweddïo gyda pheth pryder, wedi darllen Actau ii. 17, 18: 'O dyro i mi o'th Yspryd, O dyro i mi o'th Yspryd, fel y gogoneddwyf ac yr anrhydeddwyf di. O Dduw, a allaf fi fod yn llawen tra y dianrhydeddir dy Fawrhydi bendigedig genyf fi ac eraill? Arglwydd anwyl, paham yr wyf yn rhoddi mor ychydig o werth ar dy gariad? Yr wyf yn diolch i ti am y wybodaeth am danat dy hun a roddaist i rai eraill. O Dduw, pa bryd y caf fi dy adnabod a dy garu? O, rhyfedd dy fod yn gwneyd cymaint rhyfeddodau i mi, a minau eto heb gariad atat! '
Llanywyllyn, ger y Bala, Sir Feirionydd, Dydd Mercher. Deffroais yn fore; codais am wyth. Yr wyf yn mhell oddiwrth Dduw o hyd, ac eto yn anfoddlon hebddo. Aethum i weddi yn y dirgel; a gweddïais yn hir mewn geiriau, o'r pen a'r deall, ac nid o'r galon. Nis gallwn gael gafael ar ddymuniadau i wneyd daioni o ddifrif. Ond o'r diwedd, tra yn disgwyl yno ac yn ofni dilyn f'ewyllys fy hun heb Dduw, rhoddodd yr Arglwydd allu i'm henaid lefain: ' O Arglwydd, yr wyf yma ymhell oddiwrthyt ti, ac mewn gwlad bell. Gad i mi dy gael di yn rhan; yr wyf yn ymwadu a phob peth arall. Dyro hwynt i'r hwn a fynot, a gad i mi fod yn eiddo i ti. O Drindod, yr wyf yn rhoddi fy hun i ti.' O naw hyd ddeg, pregethais i rai canoedd o bobl. Dechreuais trwy ddangos oddiwrth y seithfed benod o Rhufeiniaid—fel y gwnaethwn y nos o'r blaen wrth son am dröedigaeth St. Paul—ein bod yn gweled yma y dygir ni, pan ddaw gras Duw i'r galon: (i) I ganfod llygredigaeth ein natur, fel y mae corff ac enaid wedi eu cwbl halogi, ein hamharodrwydd i wneyd da a'n parodrwydd i wneyd drwg. (Danghosais hyn oddiwrth eu profiad hwy eu hunain.) (2) I weled fod teimlo yr anmhosiblrwydd hwn i wneyd daioni yn boen a gofal mawr i'r enaid. (3) Nis gallant fod yn dawel heb chwilio am ryddhad. " Pwy a'm gwared oddiwrth gorff y farwolaeth hon?" (4) Fel y gwelwn oddiwrth Rhuf. viii. 2, pan ddaw'r enaid i chwilio yn ddyfal am ryddhad, datguddia Crist ei hun, i ryddhau yr enaid oddiwrth euogrwydd a llygredd pechod, a chadwynau'r tywyllwch. Ac yma cefais oleuni mawr i ddangos (i) Ein bod dan y gyfraith tra byddom ynom ein hunain. Gadawyd i mi ddeall mwy ar natur y gyfraith nag erioed o'r blaen; dangosais nas gall Duw faddeu am droseddu ei gyfraith nes y caffo iawn i'w gyfiawnder. ' Ai ni fuasech chwi'n condemnio barnwr, ac yn ei gyfrif yn anghyfiawn, pe y rhoddasai bardwn i ddrwgweithredwr, a'i fai yn amlwg, heb iawn i'r gyfraith? ' (2) Nas gall Duw edrych arnom nes y newidir ein natur, ac nas gallwn ninau ymhyfrydu ynddo ef, A fedrai gŵr a gwraig gytuno pe carai y naill yr hyn a gashäi y llall? Felly nis gallwn ninau fod yn gytûn a Duw os carwn chwant, balchder, cybydd-dod, meddwdod, tywyllwch, yr hyn bethau y mae Duw yn gashau; a thra nas gallwn garu y sancteiddrwydd a'r purdeb y mae Duw yn garu. Felly, rhaid i Dduw golli ei briodoleddau o gyfiawnder a phurdeb, neu rhaid i ni gael gwaredigaeth oddiwrth euogrwydd a natur pechod, cyn y gallwn sefyll ger ei fron. (3) Rhaid symud y tywyllwch oddiar ein llygaid; fel y gwelom farwolaeth ynom ni a bywyd yn Nghrist, tywyllwch ynom ni a goleuni yn Nghrist, aflendid ynom ni a phurdeb ynddo ef, gwendid ynom ni a nerth ynddo ef. Ond rhaid i ni deimlo mor druenus ydym cyn yr awn ato, a rhaid ei uno a ni trwy ffydd fywiol, neu ni fydd yn fwy llesol i ni glywed am gyfiawnhad trwy ffydd a thrueni y rhai sydd heb fod yn Nghrist, na phe y clywem am feddyg pan yn wael ac heb gymeryd ei gyffeiriau. Cefais nerth; a phan ddaethum i'r fan yma, gwelwn fod llawer wedi teimlo i'r byw, a medrais bregethu yn felus. Daeth cawod hyfryd arnom wrth i mi ddweyd wrthynt nas gallwn eu twyllo. Yna soniais am ragorfreintiau y rhai sydd yn derbyn Crist. Y mae y rhai sydd yn meddu Crist yn meddu pob peth; a'r rhai nis meddant ef, ni feddant ddim. Cynghorion cyffredinol: molianu Duw. Gwagedd yw gobeithion gau. Pan fo'r Arglwydd yn dysgu ac yn rhoi nerth, peth melus yw gweithio, a pheth hawdd. Fel y teimlasom yr Adda cyntaf ynom, felly y rhaid i ni deimlo Adda'r ail. Mewn gweddi ddirgel, cefais mai dymuniad fy enaid ydyw bod yn ffyddlon, a gogoneddu enw'r hwn a'm danfonodd. Gwneled Duw ei ewyllys arnaf. Ac O, pa fodd y gallaf fod yn llawen tra mae pobl yn dianrhydeddu ac yn anghofio Duw!
Ysgrifenais tan haner dydd, ac yna teithiais i'r Bala—pum' milldir. Nis gallwn gael fy enaid i feddwl am unrhyw fater ar y ffordd—dim ond meddyliau ysgafn—a dyma wnawn beunydd oni bai am ras.
Cyrhaeddais y Bala cyn dau o'r gloch, a siaredais gyda rhai canoedd hyd yn agos i bedwar. Tra yr oeddwn yn siarad, yr oedd llawer yn chwerthin ar eu gilydd, a gollyngwyd ergyd o wn yn fy ymyl.
Clywais un yn dymuno cael ei ddamnio, pe gwyddai mai Presbyteriad oeddwn, os cawn bregethu. Dywedais wrthynt fy mod yn perthyn i'r Eglwys. Pregethais ar y stryd ar gyfer neuadd y dref, ac yr oedd pregethu yno fel pregethu uwchben ceiliogod yn ymladd.
Dechreuais gyda chatecism yr Eglwys, llw y bedydd, y ddwy ddyledswydd at Dduw a dyn, a'r sacramentau. Nid oeddwn hyd yn hyn wedi cael fawr o awdurdod arnynt, ond yr oeddwn yn edrych a fedrwn eu tynu ataf. Gwrandawodd llawer, a wylodd eraill. Pregethais ar Luc xix. 12. Cefais awdurdod i siarad wrthynt am eu pechodau. Rhoddwyd i mi oleuni mawr, fel yn y tŷ cyn myned allan, o wybodaeth gliriach; a dangosais ddrwg pechod fel y mae yn bechod yn erbyn daioni Duw, er argyhoeddiad llawer yr wyf yn gobeithio. Y mae arnaf ofn na wnaed llawer o ddaioni yma, ond cefais nerth i fod yn ffyddlon.
Wedi hyn bum ar fy mhen fy hun, yn bwyta, &c., hyd bump. Yna pregethais hyd chwech. Dangosais fel y mae Duw yn cario ei waith ymlaen yn raddol, o ris i ris; ceisiais gynorthwyo eu meddyliau i weled eu trueni; dangosais fel y mae Satan a'r byd yn ymgynhyrfu yn ein herbyn pan ddechreuom newid oddi mewn ac oddi allan, ac fel y medr yr enaid gael nerth i'w gwrthsefyll; a dywedais wrthynt hanes fy nhröedigaeth fy hun. Cefais felusder, a nerth i fod yn ffyddlon. A llefais yn y dirgel: ' O Arglwydd, gad i mi bob amser dy deimlo di ynof, a rho nerth i mi fod yn ffyddlawn i ti, anwyl Arglwydd.'
Wedi hyn ymadewais, gan deimlad cariad cryf, tua Thal-ardd, pum milldir o ffordd. Cefais gipolwg ar y ffordd ar drueni yr hwn elo at y meirw heb Grist, ond nis gallwn wasgu y peth yn agosach at fy enaid. Gwelaf nad wyf ond pechod, yn farw a thywyll oll; nid oes genyf ond pechod a thrueni; nis gallaf wneyd dim, ond anghofio Duw o hyd; nis gwn ddim, ond y peth a ddangosir i mi.
Daeth pryder ar fy enaid am fy mam, ac awydd i ddadleu drosti mewn yspryd tosturi ac ofn: ' O Arglwydd, gwared hi o drueni. O na welwn hi wedi ei newid. Dyro iddi dy Yspryd, lladd ei hanghrediniaeth, gwna hi yn rhydd, dadguddia dy anwyl Fab ynddi. Gad i mi weled arwyddion amlwg o gyfnewidiad ynddi, ac yn fy enaid tlawd fy hun. O Arglwydd, goleua fy meddwl; a gwrando fi ar ran fy mrodyr. A adewir iddynt fyned ymlaen yn eu pechodau, ac mewn gwrthryfel yn dy erbyn di? Cofia **[87] yr hon sy'n rhan o'm henaid. Ac na alw fi i dragywyddoldeb tra'n farw yn fy mhechodau.'
Cefais olwg ar y cyflwr ofnadwy y buaswn ynddo i dragywyddoldeb; a gwnaeth meddwl mor gyfiawn fuasai Duw, wrth wneyd hyn, i mi ymostwng i'r llwch ger ei fron. Ac yna dangoswyd i mi dynerwch Duw tuag ataf, rhagor at eraill. onis gallaswn fod wedi ymbarotoi at fod yn filwr, a chael fy ngadael i mi fy hun, i fod yn erlidiwr? O, beth wyf fi, fel yr hoffwyd fi rhagor miloedd? Gwae i mi os na ogoneddaf Dduw. O Arglwydd, y mae arnaf ofn pechod. Gwna fi yn un a arweinir ymlaen gan gariad. Tyn fy holl gariad atat, ac na ad i mi orphwys nes teimlo yn sicr fy mod yn eiddo i ti, a thithau yn eiddo i mi yn fwy llwyr o hyd. Ac O, arhosed hyn ynof—cael teimlo cariad newydd, ac awydd am ogoneddu Duw.'
Cyrhaeddais Lanywyllyn, ac arosais yno tan oedd yn agos i wyth; yna troais i tuag adref heno, ac yr oedd ** yn cael lle mawr yn fy meddwl. ' O Arglwydd, gad i mi sicrwydd dy fod di'n Dduw i mi, a fy mod inau'n eiddo i tithau yn mhob peth.'
Cefais beth iselder meddwl wrth weled fod Crist yn oleuni a bywyd a phurdeb, ac wrth weled fod mor ychydig o bob un o'r rhai hyn ynof fi. Ofnwn nad ydyw ef ynof—ond eto y mae graddau, a phwy sydd yn tynu fy meddyliau i fyny? O na fedrwn fod yn ddiolchgar fyth.
—————————————
EGLWYS DEFYNOG.
Lle y Cyfarfydd Howell Harris a Daniel Rowlands am y tro cyntaf yn y flwyddyn 1757
—————————————
Ar y ffordd cefais olwg gliriach ar fawredd Duw. Yr oedd y mawredd hwn o flaen fy llygaid o hyd: yr hwn yn unig sydd yn taenu'r nefoedd.' Yr oeddwn mewn syndod wrth feddwl yr edrychai ar lwch; ac wrth weled rhyfeddod ei dragywyddol gariad yn anfon ei Fab, collais fy hun mewn edmygedd. O tyn fi yn gyfangwbl i dy garu di!
Cyn cyraedd yno yr oeddwn wedi blino, gorff ac yspryd, ac yr oedd fy nhymerau naturiol yn pallu. Pregethais ar ragoroldeb ffydd: (i) Fel y mae'n agoriad i glo trysorau gras Rhagluniaeth Duw. (2) Hi ydyw llaw yr enaid i dderbyn oddiwrth Dduw. (3) Hi ydyw'r droed i redeg ar ol Duw pan fydd yn cilio, ac i ddilyn pan fydd yn tynu ynom. (4) Hi yw y llygad i weled Crist, a phob gras wedi ei drysori ynddo ef. (5) Hi yw y glust i glywed llais Crist yn mhob dim. (6) Hi yw llais a thafod yr enaid. (7) Ei hedyn. (8) Yn treulio bwyd ysprydol.
Ceisiais ddangos gallu cariad Crist, ond gorfod i mi roddi i fyny. Aethum i'm gwely tua haner nos.
Tal-ardd, yn mhlwyf Llanywyllyn, Meirionydd, Dydd lau. Codais cyn saith; wedi breuddwydio neithiwr. Cefais ddymuniadau am i Dduw fy rheoli, a rhoddi i mi fyfyrdodau sanctaidd ar y ffordd heddyw—un-milldir-ar-bymtheg yn ol eu cyfrif hwy—fel y gwelwyf fod fy nghymdeithas i gyda'r Tad a chyda'r Mab. Dymunwn yn dda, ond nid wyf yn teimlo digon o wagder yn fy enaid i dderbyn Duw. Yn sicr ni chafodd neb erioed natur mor anhawdd ganddi ddod at Dduw, ac mor anhawdd iddi gredu'r Beibl ac ymhyfrydu ynddo. Yna daethum i ddarllen y Beibl, ond ychydig o hono gyda'm calon; eithr y mae ef yn tosturio wrthyf, ac yn fy nilyn a'i gariad. Ni fu neb yn meddu mwy o Satan na myfi, nac mor galed i effeithio arnaf, ond rhyfedd yw natur gras—y gras a wnaeth ragrith yn onestrwydd ac uniondeb, y gras a wnaeth y casineb mwyaf yn gariad, y gras a wnaeth y balchder mwyaf yn ostyngeiddrwydd, y gras a wnaeth y llwfrdra mwyaf yn wroldeb, y gras a wnaeth y chwant mwyaf yn burdeb, y gras a'm cododd o'r domen i anrhydedd. O nas gallwn ei ogoneddu ef am byth!
Wedi bwyta a gweddïo gyda'r teulu, cychwynais tua Machynlleth cyn wyth, taith o un-milldir-ar-bymtheg. Mor fuan ag yr aethum allan cafodd fy enaid daerineb a llefain, ac erfyn dros Ogledd Cymru, druan: 'O Arglwydd, dyro wybodaeth iddynt. O trugarha wrthynt. Oni weli di'r tywyllwch dudew sydd yn mhobman yn eu mysg? O Arglwydd anwyl, na wrthod fy nghais; anfon wybodaeth iddynt drwy ryw fodd neu gilydd.'
Nis gallwn oddef cymeryd fy ngwrthod, eithr gwnawd i mi barhau mewn taerineb. Wedi peth cysgadrwydd, gweddïais wedin, ond yr wyf eto yn mhell oddiwrth Dduw. Yna meddyliais am fy myned i Fachynlleth heddyw, a llefais: ' Pe gwyddwn, Arglwydd, fy mod yn mynd i dy ddianrhydeddu di, trwy ras y gallaf ddweyd nad awn. Y mae digon o ddianrhydeddu arnat heb i minau hefyd dy ddianrhydeddu di. Na ad di i mi fod yn mhlith y rhai sydd yn dy erbyn mwy. Er i mi ildio i feddyliau ofer, ac er i'r rheini sychu
fy enaid, O dyro dy hun i mi, ac yna gad i mi fod y peth a fynot, gan deimlo fy enaid wedi ei ddiddyfnu oddiwrth bobpeth, a chan allu meddwl ychydig am berffeithderau Duw.. Rho dy natur ynof, nid oes arnaf ofn dim ond pechod. Na foed ewyllys ynof ond dy ewyllys di, dysg fi i'th ogoneddu yn mhob peth.'
Tuag un-ar-ddeg daethum i Ddinas Mawddwy, tref wyth milldir o Fachynheth. Yr oeddynt yn ymddangos ychydig yn dynerach yma y tro hwn, a dywedent y buasent yn falch o'm clywed. Yna penderfynais bregethu yno, a dechreuais siarad a rhyw ychydig o honynt oedd wedi dod at eu gilydd. Chwarddai rhai, yr oedd pawb a'u hetiau am eu penau, ai rhai eraill heibio heb gymeryd sylw o honof, gwaeddai rhai eraill: ' Yr wyf fi'n clywed digon yn yr eglwys.' Lle ofnadwy ydyw hwn; addefasant y bydd canoedd yn dawnsio ar y Sul, ac yn chwareu pêl, yn tyngu ac yn byw pob afradlondeb; felly y mae yn mynwent Mawddwy. Ni chefais awdurdod arnynt, ac ni chymerais destun, ond pregethais yn gyffredinol am Dduw, a marw, a'r farn, a thragwyddoldeb, a phechodau a arferir. Ni chefais awdurdod, a pheidiais a siarad pan welais rai yn rhedeg ataf, gan feddwl eu bod yn dod i aflonyddu. Ond gwelais mai dod i wrando yr oeddynt, a phregethais ychydig yn ychwaneg gyda mwy o deimlad, ond ychydig iawn. Ni chefais unrhyw effaith arnynt, darostyngwyd fy yspryd; yr oeddwn yn foddlon iddynt fy mathru dan eu traed, ond yr oedd ynof dosturi tuag atynt, a pheth pryder am achos Duw. Cefais yspryd tosturi i weddïo, gan deimlo'n isel a gostyngedig iawn.
Ymadewais am haner awr wedi deuddeg, tua Machynlleth, a daeth ataf, fel o'r blaen, yspryd i weddïo dros Ogledd Cymru. Cyfarfyddais ŵr ieuanc tlawd oedd yn ffafriol, a chawsom ymgom felus; yr oeddwn yn ei garu, a chynorthwywyd fi i'w gynghori. Yr oedd gras Duw ynddo, ond yr oedd yn anwybodus am Grist.
Rhedodd y bechgyn bach ar fy ol heddyw, i waeddi. Yr wythnos hon, hyd yn hyn, y mae Satan wedi cael ychydig o ryddid. Yr oeddwn inau wedi fy ngadael, ac yn isel fy yspryd. Gofidiais pan glywais fel yr oeddynt yn cymeryd enw Duw yn ofer, a llefais: 'O Arglwydd, pa hyd y dyoddefi ni? Saf drosot dy hun, dros dy dŷ dy hun. Ymwregysa, Arglwydd, amddiffyn dy ogoniant; oni weli di fod yr offeiriaid yn dy erbyn, oni weli fod y rhai mawr yn codi yn dy erbyn di? O Dduw, bydd gyda mi. Boed i bobpeth a'th ofidio di fy ngofidio inau; a phobpeth a'th foddhao di fy moddhau inau.' Adnewyddwyd fy nerth, ond yr oeddwn eto yn wan. Teimlais beth cymundeb a Duw, ond yr oeddwn yn rhy ddiofal yn fy myfyrdodau.
Cyrhaeddais Fachynlleth ychydig wedi tri. Disgynais wrth dŷ'r Cyllid. Yno cyfarfyddais a hen ŵr bonheddig, yr hwn oedd wedi meddwi. Cydiodd ynof, sarhaodd fi, gan ofyn cwestiynau sarhaus. Ond ni wnaed terfysg. Clywais iaith uffern—dynion yn damnio eu hunain yn fy nghlustiau—a daeth yr holl dyrfa ynghyd i chwareu pêl droed. Wedi cael ychydig o luniaeth aethum allan, gan feddwl mynd i'r Clwt Teg oedd ger llaw. Yr oedd yr Arglwydd wedi darparu tri neu bedwar o gyfeillion i'm hamddiffyn; ac yr oeddynt hwy wedi cael lle arall i mi, mewn drws bychan oedd yn agor o lofft uwchben grisiau. Sefais yn y drws hwnw, a'm gwyneb i'r heol. Ni wnaethum yr hyn a ddylaswn wneyd mewn lle mor beryglus, sef ceisio yr Arglwydd, eithr dechreuais siarad am lw y bedydd. Ond yr oeddynt wedi ymgynddeiriogi cymaint fel na wrandawent. Yr oedd offeiriad—Mr. Griffiths, o Benegoes, mab i Ddissenter o Sir Aberteifi—a thwrne o'r enw Lewis Hughes, a gŵr bonheddig o'r enw Mr. Thomas Owens; yr oedd y rhai hyn fel pe buasent wedi eu rhoddi ar dân uffernol gan Satan. Yr oeddynt mor wallgof fel y gallesid gweled cynddaredd yn mhob gwyneb; ac ymgynddeiriogai y dyrfa, gan luchio cerrig a thyweirch, a hen esgyrn ataf. Ond gwaredodd yr Arglwydd fi rhag i'r un o honynt gyffwrdd a mi. Y mae genyf achos cywilydd, am fy niofalwch yn peidio ceisio'r Arglwydd, ac yn enwedig yn peidio gweithredu ffydd. Yr oeddwn yn wan, ac nis gallaswn gael geiriau. Ond o'r diwedd ymdawelasant ychydig, a chefais inau beth awdurdod. Siaredais ychydig am y clefyd mawr sydd yn eu mysg; lluchiwyd pethau ataf, ac yr oedd yr offeiriad a'r twrne yn rhuo bygythion, yn bygwth rhoi'r cwnstabl arnaf oni thawn, ac yn cynhyrfu'r dyrfa i ymosod arnaf. Teimlais nad oedd Duw wedi fy ngalw yma, neu fy mod wedi camymddwyn. Ofnais i mi ymfalchio, ond yma tynwyd fy malchder i lawr. Cefais gymorth i ddweyd wrthynt am edrych ati, na safai gwyr mawr yn y farn yn eu lle. Wrth fy ngweled yn dal i bregethu, rhedodd y twrne i fyny i'r ystafell lle yr oeddwn, mewn dig a chynddaredd mawr, a'i enau'n llawn melldithion, yn tyngu yn erchyll, gan feddwl fy llusgo i lawr. Siaredais inau yn deg ag ef, a dangosais mor afresymol oedd iddo ymwallgofi heb reswm. Gorfod i mi dewi, o herwydd nis gallai neb fy nghlywed. Ac yna daeth y gŵr bonheddig i fyny at y drws oddi allan, mewn cynddaredd mawr, a saethodd ergyd o lawddryll yn ein mysg, a chrochlefodd. Aethum inau i lawr y grisiau yn awr, gan weled fy mod mewn perygl. Aethum gyda'r cyfeillion i ystafell breifat, ac yna daeth y dyrfa i'r ffenestr, a chrochlefasant drachefn. Gwelais fy mod yn awr yn uffern, yn ymladd ag anifeiliaid yn Ephesus. Aethum allan, gan feddwl myned ymaith; ond pan gefais fy hun yn y dyrfa gwelais fod fy mywyd mewn perygl. Ofnwn gael fy nhrywanu, yr oeddwn wedi cael fy nghicio ddwywaith, ac wedi fy ngwneyd yn wawd y dyrfa. Galwent fi yn ' berson,' mewn dirmyg. Dangosodd marwolaeth ei wyneb i mi mewn llawer ffordd.
Cefais ystafell breifat wedin gan gyfaill, a bolltiasom y ddôr; ond yr oeddynt yn ysgrechain cymaint y tu faes fel yr oeddwn yn disgwyl gorfod marw pan ddown allan. Ac yn awr ymdrechais geisio Duw, ond gadawyd fi yn unig. Yr oeddwn ar fy mhrawf, a'm ffydd yn wan. Deisyfais ar iddynt beidio fy llofruddio; ac yna agorasom y drws ac aethom i'w mysg.
Achubodd yr Arglwydd fy mywyd; a gwnaeth iddynt adael i mi fyned pan ddywedais fy mod am droi i ffwrdd. Pan ofynais am heddwch yn enw'r brenin, dywedodd un na chawn niwed; a dywedodd un arall, pan oeddynt yn meddwl fy mathru dan eu traed, fy mod yn gyd-greadur. Cymerais fy ngheffyl, ac aethum ar hyd ffordd gefn; ond gorfod i mi fyned drwy ran uchaf y dref ar fy ffordd, a dyna lle yr oeddynt yn dod oll i'm cyfarfod eilwaith. Rhedodd un ataf drwy'r caeau, gan godi dwy dywarchen. Dymunais arno beidio fy lladd; taflodd un dywarchen ataf a methodd, yna taflodd y llall yn union heibio fy mhen. Aethum trwy eu canol, lluchiwyd cerig ar fy ol, ond cadwodd yr Arglwydd fi, ac ni chefais fy nharo gan gareg. Rhedodd un gyda pholyn ar fy ol i'm taro, ond nerthodd yr Arglwydd fy ngheffyl blinedig i garlamu, ac felly dihengais. Ond yr oedd fy nghyfaill ar ei draed, ac yn eu canol; ac ni theimlais gariad yn fy nhynu yn ol i'w achub, er na fedraswn wneyd dim. Ond achubodd yr Arglwydd ef a'r lleill. Pan ddaethum at fy nghyfeillion, galwodd tri neu bedwar o bobl ar ein holau. Yr oeddwn yn ddrwgdybus o honynt; er hyny arhosais hwynt. Yr wyf yn meddwl mai rhai wedi dod i'm dal ar fy nhaith oeddynt; gofynasant i mi beth oedd fy mywoliaeth, a beth oedd yn gwneyd i mi ddod o gwmpas, a chwestiynau felly.
Pan ar fy mhen fy hun, agorodd y Llyfr ar 2 Tim. i'. 17, 18. Treiais geisio'r Arglwydd, ond yr oedd wedi ciho; nis gallwn ei gael, ond medrais lefain: ' Arglwydd, nid af oddiyma nes yr edrychot arnaf." O mor ddigysur ydyw arnom hyd nes y daw yr Arglwydd o hono ei hun. Parodd ei ymadawiad oddiwrthyf i mi edrych ychydig i mi fy hun, a gwelais fod popeth o'i le,—(i) Nid oeddwn wedi cael galwad glir i ddod yma. (2) Nid ymddygais, y mae arnaf ofn, er anrhydedd i Dduw; a gwelaf na wnaf, os na chynhelir fi bob eiliad ac os na ddysgir fi gan Dduw. Ond cefais gysur wrth feddwl fy mod wedi gwneyd, er nad fel y dylaswn, eto fel y daeth i'm meddwl i wneyd. (3) Ni ddisgwyliais ddigon wrth Dduw, a thorais y gorchymyn: ' Nac ofnwch y rhai sydd yn lladd y corff.' Ond ildiais i ofn y cnawd, dywedais yn deg wrth elynion yr Arglwydd, gwelais fy hun yn llawn o hunan-gariad, yn cymeryd mwy o ofal am fy mywyd nag am achos Duw, ac nid oedd pryder am ei anrhydedd ef yn ddwfn yn fy nghalon.
Daeth y pethau hyn oll i'm meddwl; ond wrth ddisgwyl wrth Dduw, cofiodd drugaredd; er fy mod i yn hir mor galed a chareg, heb gariad, yn galed a sych, a'm calon yn berwi drosodd o feddyliau chwerwon am Dduw. Cefais gymorth i osod yr holl fater ger bron Duw, ac i ymbil ag ef, gan deimlo peth euogrwydd a'm caledai. Nis gallwn fyned ymaith,—disgwyliwn, gobeithiwn wrth weled tynerwch Crist,—ond yr oedd fy enaid mewn cadwynau. O'r diwedd rhyddhawyd fi, a medrais lefain gyda pheth gofid, wrth gofio i mi gwympo yn Adda, a cholli ei ddelw ef: ' Ai ni welir dy ddelw arnaf byth mwy? O anwyl ogoneddus Arglwydd! Ai nid digon genyt yr hyn a wnaeth Crist drosof? Tro oddiwrthyf wyneb dy gyfiawnder, ac edrych arnaf mewn trugaredd yn Nghrist. O edrych ar ei waed ef! '
Cefais feddwl rhydd i weddïo drostynt oll, ond ni fedrais gael taerineb. ' O Arglwydd, anwyl Arglwydd, yr wyf yn hiraethu am fod gyda thi. O pa hyd raid iddi fod nes y caf ddod! Ò 'rwyf yn hiraethu, 'rwyf yn hiraethu—cymer fi, enill y fuddugoliaeth yn llwyr dy hun. Yr wyf yn sicr nad oes yr un cythraul yn uffern haeddodd uffern yn fwy na fi, ond y mae genyt ti drugaredd—golch fi yn ngwaed Crist, selia fi yn blentyn i ti dy hun.'
Yna adfeddienais fy enaid, i ddweyd geiriau cariad melus, a diolchgarwch. Yna aethum at y brodyr; gweddïasom a chanasom ynghyd hyd saith. Wedi hyn aethum i dŷ fy ngyfaill, bu'm yno hyd wedi deg, yna i'm gwely.
Dysgais oddiwrth heddyw: (1) Fel y digir yr Arglwydd, ac fel y dengys ei amynedd wrth fy nyoddef. (2) Gymaint o wrthryfel sydd yn Satan, pan welir cymaint o derfysgu yn mysg dynion er cymaint o atalfeydd—er gwaethaf cydwybod, cyfreithiau dynol, gobaith, cywilydd, &c. (3) Fy mod bob amser yn teimlo yn ddiolchgar drostynt am y fraint o siarad a byw dros Dduw. (4) Beth wyf pan wedi i'm gadael, mor barod i edrych i lawr. Mor dda i mi ei fod ef yn dal gafael ynof fi, onide buan iawn y collwn fy ngafael ynddo ef. (5) Mor gryf ydyw cynddaredd Satan yn fy erbyn; a rhaid mai ei gynddaredd ef yw hwn, o herwydd nid oedd dim arall i enyn y bobl yn fy erbyn. Galwasant fi yn ymhonwr ac yn awdwr y cynhwrf hwn; a phe buasent wedi fy nghael allan o'r tŷ, yr oeddynt wedi meddwl fy nghario mewn cadair o gwmpas y dref, mewn gwawd." Yma daw ei fyfyrdodau a'i weddïau hyd nes y cysgodd, cyn un o'r gloch y boreu.
"Rhuegruawell, plwyf Penegoes, Sir Drefaldwyn. Yr oedd fy nghorff yn flinedig, wedi trafaelu ugain milldir ddoe, ac arhosais yn fy ngwely tan oedd agos yn naw. Breuddwydiais fy mod yn derbyn fy nghymun gyda'r Dissenters, ac arhosodd y meddwl hyfryd yn f'enaid. O mor ddiyni ydwyf; a phan fyddaf ar lawr, pa fodd y gallaf godi? A rhoddodd ffydd, wedi ei sylfaenu ar yr addewidion, allu i mi ddisgwyl am atebiad, o herwydd fod Duw wedi addaw, a bod Crist yn y nefoedd. Dadleuais hyn, fel y noson o'r blaen.
Wedi hyn, pregethais hyd oedd yn agos i un-ar-ddeg. Cefais beth cymorth wrth weddïo. A melus oedd pregethu am osod y sylfaen yn ddwfn, ac am afresymoldeb erlid. Daeth adnodau lawer i'm meddwl i ddweyd na chawn ond erlid yma. Cefais gymorth i siarad, yr wyf yn gobeithio, yn ddidderbyn-wyneb, a chyda thynerwch."
Oddi yma aeth tua Thalerddig, ac yr oedd yn nos ar ei brofiad wrth deithio. Nis gallai gredu mwy nag y medrai ehedeg, ond medrodd weddïo. Pregethodd ar gwymp Petr, gan ddifynu adnodau o'i hoff Rufeiniaid. Efengyleiddiodd, ac yr oedd yno "wylo mawr." Ar ganol adrodd ei bregeth dywed: "Yr wyf yn gweled cymaint o ddrygioni yn fy nghalon fel nas gallaf ddweyd y cwbl wrth fy mrawd Lewis Rees. Pan ofynodd un i mi i ble yr ai i gymuno, nis gallwn ddweyd wrthi am fynd ato ef, gan yr hoffwn gael seiadau yn ein heglwys ni; ond pan welaf na fyn Duw hyn, yr wyf yn ymostwng. Ni fedraf fyned gam o flaen ei Yspryd ef." Wedi prophwydo y profid eu ffydd, a chael hwyl ryfedd ar bregethu, a son am "offeiriad cnawdol," aeth tua Chwmcarne, a phregethodd yn nerthol ar ddiwydrwydd Satan, a phethau eraill. Ar weddi, cafodd Lewis Rees lewyrch rhyfedd, ond tywyll oedd hi ar Howell Harris. Eto teimlai fod rhywbeth yn ei gynal.
" Treuhais beth amser i drefnu i ba le i fyned yr wythnos nesaf. Teimlwn awydd cryf am fyned adref, meddwn deimlad i weddïo am fyned, i weled fy mam a ** Ond perswadiwyd fi, yn erbyn fy nheimlad, i fyned ffordd arall, o dosturi at eneidiau."
—————————————
COFLECH HOWELL HARRIS YN EGLWYS TALGARTH.
—————————————
Yr ydym yn gobeithio nad yw ein darllenwyr yn blino ar y dydd-lyfr. Yr ydymyn difynu mor helaeth o hono am ei fod yn taflu goleu cryf ar ansawdd y wlad, ac ar yr amgylchiadau a gyfarfu y Diwygiwr yn ei ymdrech i geisio efengyleiddio ei gydwladwyr; ond yn fwy arbenig, am ei fod yn ddangoseg o natur ei brofiad, y pruddglwyf a'i goddiweddai yn aml, ei ddyhead am Dduw, a'i ryfeloedd yn erbyn anghrediniaeth a llygredigaeth ei galon. Gellid meddwl y buasai, ar ol cymaint blinder ac erlid, yn dyheu am orphwys; ond pan yn ysgrifenu y dydd canlynol o Lanbrynmair, trefnu cyhoeddiad arall y mae. Fel hyn y dywed: "Arfaethai lefaru yn y sir hon hyd dydd Mawrth. Nos Wener yr wyf yn bwriadu, os Duw a'i myn, cysgu yn nhŷ fy anwyl fam, a phregethu yno boreu dydd Sadwrn." Yna trefna i gyfarfod a chyfeillion yn Nolygaer nos Sadwrn, myned i Cwm Iau, lle yn y mynyddoedd, rhwng y Fenni a Thalgarth, y Sul, i wrando ar yr offeiriad efengylaidd, Thomas Jones; leefaru yn y prydnhawn yn agos i Cwm Iau, a dychwelyd i'r Fenni i gysgu. Yna llefaru dydd Llun yn Llandilo, ger y Fenni, a nos Lun yn y Goetre, ger Pontypŵl; dydd Mawrth yn ysgol William Powell, a nos Fawrth yn y Trensh: dydd Mercher yn Llanafan, yn agos i dŷ hen ŵr oedd yn awyddus am ei weled, ac yn Brooks nos Fercher. Oddi yno myned i bregethu i Langynidr boreu dydd Iau, gan gyrhaedd Trefecca nos Iau. Ond wedi cyrhaedd adref, nid oes ganddo hamdden i orphwys. Arfaetha bregethu yn Nhrefecca boreu dydd Gwener, myned y Sul i wrando y Parch. Thomas Lewis, offeiriad ieuanc oedd yn bregethwr da yn nghymydogaeth Aberhonddu, a chychwyn oddi yno am daith faith arall yn Sir Benfro. Braidd nad oedd angerddolrwydd ei yspryd yn ei godi uwchlaw lludded corff; ac nid gwerthfawr ganddo yntau ei einioes ei hun, os gallai gyflawni rhyw wasanaeth i Grist ei iachawdwr. Yr un pryd, digalon y teimlai gyda golwg ar Sir Drefaldwyn. "Yr wyf yn ofni," meddai, "fod y sir hon dan felldith; yr wyf yn cael fod y rhan fwyaf, os nad yr oll, o'r boneddwyr yn elynion."
Fel yr arfaethasai Howell Harris, felly y cyflawnodd. Cychwyna tua Sir Benfro dydd Llun, Mawrth, 1740, gan bregethu dair gwaith yn ystod y dydd. Yn Llywel (Trefcastell) cynhelid ffair bleser; pregethodd yntau gydag awdurdod yn ei chanol. Ceisiodd Satan ei rwystro trwy osod un i fynu i holi cwestiynau iddo, ac un arall i ganu'r gloch, ac arall drachefn i gadw sŵn. Ond aflwyddiannus fuont. Wedi gorphen y bregeth, gosodasant i fynu ddawns yn y fynwent; nis gallai ei enaid yntau oddef iddo ymadael tra yr oedd y dawnsio yn myned yn mlaen; aeth i'w canol, a tharanodd felldithion y gyfraith ddwyfol yn eu clyw, nes eu gyru oll ar ffo. Trwy yr wythnos, cawn ef yn teithio o gwmpas deg milldir, ac yn pregethu dair gwaith y dydd, nes, erbyn nos Sadwrn, Mawrth 8, y mae yn cyrhaedd tŷ yr Hybarch Griffith Jones, Llanddowror. Gydag ef, a Madam Bevan, y treuliodd y Sabbath, ac yr oedd eu cymdeithas, yn ol ei ddydd-lyfr, yn wledd felus i'w enaid. Dydd Llun, yr ydym yn ei gael yn Llwyndryssi, plwyf Llangan, Sir Gaerfyrddin; a dydd Mawrth y mae wedi myned i mewn i Sir Benfro.
Yr oedd Penfro yr adeg yma yn gyffelyb i siroedd eraill Cymru o ran drygfoes, anwybodaeth, a choelgrefydd; os nad oedd, yn wir, yn fwy ofergoelus.[88] Dywedir yr ai y trigolion i'r llan, Sul y Pasg, yn nhraed eu hosanau, sef heb esgidiau, rhag, meddent, gyffroi y pridd. Ar foreu Nadolig cyfodent cyn dydd i edrych y Rhosmari, a thaerent ei fod yn blodeuo; ond rywfodd nid oedd y blodau byth yn aros hyd doriad y wawr. Credent fod ysprydion yn yr eglwys nos Calangauaf, yn cyhoeddi enwau pawb perthynol i'r plwyf a fyddai farw o fewn corff y flwyddyn ddyfodol. Ceid ambell un yn ddigon gwrol i fyned i wrando dan ffenestr y gangell; clywai hwnw, meddid, yr enwau yn cael eu cyhoeddi; ond pe elai a chydymaith gydag ef, ni chlywid dim. Ddydd Calanmai byddai ganddynt helynt fawr ynghylch "gwisgo y fedwen;" ymdyrai y lliaws ynghyd, a meddwdod ac ymladd fyddai y diwedd. Dyoddefai hyd yn nod y ddaear oblegyd anwiredd ei thrigolion.[89] Prin y gellid dweyd fod amaethyddiaeth yn bod o fewn y sir; ychydig neu ddim triniaeth a gaffai y tir; bwrid ychydig ŷd i'r ddaear yma a thraw, yn y llanerchau hawddaf i'w haredig; ond ni fyddai na gwrych na chlawdd o'i amgylch, a gwaith y trigolion trwy yr haf fyddai ei warchod, a chadw yr anifeiliaid allan o hono. Gwelir hyd yn nod y tir yn ddyledus i'r diwygiad. Yr oedd rhai eglwysi perthynol i'r Annibynwyr a'r Bedyddwyr wedi eu planu yma oddiar y ganrif flaenorol; ac ymddengys fod bedydd wedi bod yn destun dadl, a chwerwder yspryd nid bychan yn eu mysg, oddiar adeg y ddadl gyhoeddus ar lechwedd y Frenni Fawr, yn 1692, hyd yn awr. Y mae dydd-lyfr HoweH Harris yn llawn o gyfeiriadau at yr ymryson ynghylch bedydd; teimlai ei galon yn ofidus ynddo o'r herwydd.
Gwnawn ei ddilyn ar ei daith trwy y wlad gyda chymorth ei ddydd-lyfr a'i lythyrau.
Trefhowell, plwyf Llanfrynach, Sir Benfro, dydd Mawrth. Y peth cyntaf a wna wedi codi o'i wely yw gweddïo ar ran John Powell, gweinidog cyfagos perthynol i'r Bedyddwyr, yn ol pob tebyg, yn yr hwn y cred fod y gwaith da wedi ei ddechreu, ond yr ofna iddo gael ei arwain ar gyfeiliorn, a gwneyd niwed. Yna gofyna am gael ei wrando ar ran y Bedyddwyr, yn mysg pa rai y mae yn hyderus fod llawer o bobl i'r Arglwydd, ond amheua mai o hono ef y tardd eu hyspryd condemniol. " Melusa hwy a dy gariad," medd, " fel y byddont bobl bur i ti." Gweddïa yn ganlynol dros y Methodistiaid, ar iddynt gael eu cadw rhag cyfeiliornadau; a thros holl weinidogion y Gair. Cyfaddefa ei fod ef yn hollol allan o drefn, ar ei ben ei hun yn gyfangwbl, ond eto yn cael drws agored i'r weinidogaeth. " Gwna di, Arglwydd, dy ewyllys dy hunan arnaf," medd; " na ad i mi fyned yn fy nerth fy hun, nac yn fy neall fy hun." Ceisiwyd ganddo bregethu ar bwnc dadleugar, bedydd yn ddiau, ond ni wnai, o herwydd y cariad a lanwai ei galon; yn hytrach ymosododd ar lygredigaeth yn y wedd o falchder, meddwdod, gwyn, a chybydd-dod.
Prydnhawn yr un dydd cyfeiria ei gamrau tua Maenclochog, ac ar y ffordd cyffröir ei enaid ynddo wrth siarad am Enoch Francis, gweinidog ymadawedig perthynol i'r Bedyddwyr, galara am y golled a barodd ei farwolaeth i'r eglwys, a gweddïa na chaffo Satan wneyd dinystr arnynt yn awr, wedi i Mr. Francis gael ei symud. Yr oedd Enoch Francis yn bregethwr gwych, ac yn dal gafael dyn yn yr athrawiaeth efengylaidd. Ei ddylanwad ef yn benaf a gadwodd eglwysi y Bedyddwyr yn Nghymru rhag gwyro at Arminiaeth, fel y gwnaethai amryw o'r eglwysi Presbyteraidd. Erbyn cyrhaedd Maenclochog nid oedd neb yn ei ddisgwyl, nid oeddynt wedi clywed am ei ddyfodiad; ond yn mhen rhyw awr casglwyd cynulleidfa o amryw ganoedd, a phregethodd yntau am agos i dair awr. Cyn dechreu, bu mewn ymdrechfa galed a Satan; ond rhoddodd yr Arglwydd fuddugoliaeth iddo ar y gelyn, a galluogwyd ef i lefain: "Satan, gwna dy waethaf! Yn enw yr Iesu yr wyf yn dy herio! Mi a dynaf dy deyrnas i lawr, ac a ddynoethaf dy ddichellion." Yr oedd y rhan gyntaf o'r bregeth yn daranllyd, ac yn dynoethi drygedd y galon; yna trodd i ddangos mai dyna y rheswm paham y dylent ddyfod at Grist. "Ar hyn," medd, "wylodd llawer yn chwerw; ac ymddangosai nerth mawr yn ein mysg oddi yno i'r diwedd. Cyn ymadael anoga broffeswyr crefydd i beidio ymryson, ac ymladd y naill yn erbyn y llall, ond i gytuno yn eu hymdrechion yn erbyn y gelyn. Cyfarfu yma a'r Parch. John Powell, y gweddïasai drosto yn y boreu; "a galluogwyd fi," medd, "i lawenychu yn galonog yn ei lwyddiant." Yn yr hwyr cychwyna tua Hwlffordd; y mae yn llefaru ar fin y ffordd; cyn cyrhaedd, clyw fod un M. P yn pregethu yn erbyn bedydd babanod, a theimla ei yspryd yn ymgynhyrfu gan awydd cymeryd i fynu arf yn ei erbyn. Eithr gwedi ail ystyriaeth, tyr allan mewn gweddi, i ofyn ar i'r Arglwydd lywodraethu ei yspryd a'i galon. Y mae yn clywed, hefyd, os aiff i Dyddewi, y caiff ei gymeryd i'r ddalfa, fod un Justice Vaughan wedi arwyddo gwarant i'r perwyl hwnw; "ond gwnaed i'r oll a glywais," medd, "ddylanwadu yn felus ar fy enaid, i'm tynu allan o fy hunan at Grist."
Dydd Mercher, y mae yn Hwlffordd. Wrth ddal cymundeb â Duw yn y boreu dywed: "Yr wyf yn gofyn am help yn unig i fod yn ffyddlawn i'm Harglwydd; nid yw fy mod i yn cael fy namsang mewn un modd yn ddolurus; nid oes arnaf ofn dim yn gymaint ag i mi drwy fy ngwaith dy ddianrhydeddu di." Gobeithia fod yr Arglwydd am ddefnyddio John Powell i ddiwygio y sir, a hydera y bydd iddo yntau gael gwneyd yr oll a fedr i gryfhau ei ddwylaw. Y mae yn pregethu i ganoedd lawer, cyfrifa y gynulleidfa tua dwy fil. Pregetha yr un dydd yn Saesneg am agos i ddwy awr; pwnc y bregeth yw fod crefydd yn gynwysedig mewn gallu, fel ei heglurir mewn cysylltiad â Zaccheus, ac yn nhroedigaeth Paul. Ymddengys fod yr odfa yn un dra nerthol; " llanwodd yr Arglwydd fy ngenau â geiriau," medd; "dyrchafwyd fy llais i fynu; gwnaed fy yspryd yn gryf; yr wyf yn gobeithio fod awdurdod yn cydfyned, ac i mi gael cymorth i edrych i fynu at Dduw." Pregetha ar yr un mater drachefn yn Gymraeg. Teimlodd hyfrydwch mawr wrth lefaru y ddau dro; ond yn arbenig yn Gymraeg. Yn ganlynol, ymgynghora â chyfeillion gyda golwg ar ei daith trwy ranau eraill y sir.
Dydd Iau, yr ydym yn ei gael eto yn Hwlffordd, ac yn myned i ymweled a'r Parch. Howell Davies, yr hwn feddyliem a ddaethai i'w wrando. Yr oedd y gyfeillach mor felus fel ag i beri i Harris waeddi "Gogoniant!" "Cefais ymddiddan maith ag ef am wahanol bethau," meddai. "Galwai ei sancteiddrwydd yn amod iachawdwriaeth; addefwn inau nas gallai iachawdwriaeth fod hebddo; ond nad oeddwn yn foddlawn ei alw yn amod, rhag i bobl gael eu gyru i chwilio am dano ynddynt eu hunain ac nid yn Nghrist, gan dybio na chânt eu derbyn os na byddant yn feddianol arno. Yr ydym yn cael ein cyfiawnhau er mwyn Crist, ac yn cael ein hachub trwy weled mawr gariad Duw yn rhoddi ei Fab. Ymddiddanasom am deimlad, a'r modd i brofi ei wirioneddolrwydd, trwy y cyfnewidiad a effeithia ar ein heneidiau a'n bywydau; am yr angenrheidrwydd am ffydd yn flaenorol i weithredoedd; am berygl moesoldeb heb egwyddor; am y perygl o fod yn amddifad o dlodi yspryd, i beri i ni anobeithio ynom ein hunain, a'n tynu allan o hunan at Grist; a pha fodd yr ydym yn cael ein cyfiawnhau yn ngolwg Duw trwy Grist, ac nid o herwydd ein hedifeirwch a'n gweithredoedd da." Teimlai Mr. Harris fod ganddo reswm cryf dros geisio cydnabyddiaeth eangach â'r Ysgrythyr. "Ymadawsom yn felus," meddai. A oedd Mr. Davies wedi ei ordeinio yn awr, sydd ansicr; ond y mae yr ymddiddan hwn rhyngddo ef, a wnaed gan yr Arglwydd gwedi hyn yn Apostol Sir Benfro, a Howell Harris, yr hwn a wnelsid yn Apostol holl Gymru, a rhanau helaeth o Loegr, yn dra dyddorol. Wrth fyned o Hwlffordd, clywodd bethau dychrynllyd am gyflwr moesol y wlad; fod meddwdod, puteindra, tyngu, a drygau cyffelyb yn ffynu ynddi, fel na wyddai beth i'w wneyd.
Dydd Gwener, y mae mewn lle o'r enw Loverson, tua saith milldir o Hwlffordd. Yma eto cyfeiria at y Bedyddwyr, ac ymddengys fod ei deimlad tuag atynt wedi newid yn gyfangwbl. "Cefais gryn deimlad," medd, "wrth weddïo dros John Powell. Mi fum nas gallwn garu y Bedyddwyr, na llawenhau yn eu llwyddiant; ond yn awr y mae y cadwynau oll wedi eu dryllio; yr wyf yn teimlo cariad atynt, a phleser yn eu llwyddiant; a mawr yw y nefoedd wyf yn fwynhau yn hyn." Pregethodd yma eto yn Saesneg a Chymraeg ar ein cwymp yn Adda, ac am gariad Crist. Gobeithia i lawer gael eu dwysbigo hyd adref yn yr odfa. Y mae yn myned oddiyno i dŷ Crynwr, yn mhlwyf Llanddewi. "Tra y bof yr ochr hyn i dragywyddoldeb," medd, "na fydded i mi dramgwyddo yr un o dy blant, o unrhyw blaid neu enwad." Pregethodd yma am nerth duwioldeb, oddiar y geiriau, " Deled dy deyrnas." Yn nhŷ y Crynwr y lletyai, ac ymddengys i'r gymdeithas rhwng y ddau fod yn nodedig o feluis; gobeithia Harris na chaiff ei adael i ddweyd gair anffafriol am y bobl hyn eto.
Dydd Sadwrn, y mae yn Pwllhook, ger Clarbeston. Llefarodd gyda nerth mawr am yr angenrheidrwydd o seilio ein gobaith ar waed Crist, a pharhaodd y cyfarfod dros ddwy awr. "O, na fyddai i Dduw," medd, "dosturio wrth y sir hon. Yr wyf fi yn ymadael a'r lle, yn unol a chyngor cyfeillion, er mwyn ymroddi i astudio, gan yr ymddengys mai hyny yw ewyllys Duw." Gwelir fod y pwnc o gymeryd ordeiniad esgobol yn ei flino o hyd. Oddi yma y mae yn myned i le na rydd ei enw, lle yr oedd cynulleidfa o dair mil o leiaf; cafodd nerth mawr wrth weddïo, a phregethodd hyd agos i saith ar "Deled dy deyrnas," gan gymharu y ddwy deyrnas a'u gilydd. Y Sul, y mae yn Wolf's Castle, lle y llefara ar gyfiawnhad. Llefara hefyd yn y prydnhawn, ond ni theimlai unrhyw awdurdod. Yna â tua lle o'r enw Trecomau, lle yr ymgynullasai amryw filoedd. Dydd Llun, y mae yn Nhre-Cadwgan, plwyf Whitchurch. Yr oedd yn flinderog mewn gweddi, ond cynorthwyodd yr Arglwydd ef i raddau. Yma gwelodd lythyr wedi ei ysgrifenu gan weinidog perthynol i Eglwys Loegr, yn erbyn y Bedyddwyr, ac achwyna nad yw y llythyr yn arogli o yspryd Crist. Am ddeg y mae yn cychwyn tua lle o'r enw Tygwyn. Yma cyfarfu a gweinidog perthynol i'r Bedyddwyr, o'r enw Thomas Williams, yr hwn a ofynai iddo pa brawf oedd ganddo dros fedydd babanod. Cyfeiriai Harris ef at i Cor. vii. 14: " Canys y gŵr digred a sancteiddir trwy y wraig, a'r wraig ddigred a sancteiddir trwy y gŵr; pe amgen, aflan yn ddiau fyddai eich plant; eithr yn awr sanctaidd ydynt." Nid oedd gan Mr. Williams ddim i'w ateb, ond nad oedd yn gweled bedydd babanod yn y geiriau. "Yr oeddwn mewn brys," meddai Mr. Harris, " ac nis gallwn aros; ond gwelwn eu bod yn ddeillion i dybio ei bod yn ddyledswydd arnynt dros Dduw i amddiffyn un gwirionedd, heb ystyried eu bod wrth hyny yn niweidio gwirioneddau eraill. Dywedais wrtho ei fod yn gwneyd yn iawn wrth ufuddhau i'r goleuni sydd ynddo ef; felly finau wrth ufuddhau i'r goleu sydd ynof fi."
Dydd Mawrth, y mae yn Hendre Einon, Tyddewi. Dywed ei fod yn deall ddarfod i'r Arglwydd eisioes ei arddel i wneyd daioni mawr yn Sir Benfro, a bod un Cadben Davies a'i foneddiges wedi ymlynu wrtho. Gweddïa: "O Arglwydd, tosturia wrth y sir hon. Yr wyf yn foddlawn cymeryd fy arwain genyt ti, gyda golwg ar fy ymddygiad yn y dyfodol, pa un a af o gwmpas a'i peidio. Galluoga fi i ddal i fynu, gorff ac enaid." Pregetha i amryw filoedd ar drueni yr hwn sydd heb Grist, am y creadur newydd, ac am y ffydd sydd yn cyfiawnhau, ac yn gafaelu yn y Gwaredwr. Yr oll a ddywed am yr odfa yw fod yno nerth, a'r gwirionedd yn chwilio y galon. Yn Methodistiaeth Cymru ceir hanes manylach gan Mr. T. Rees, Trepuet. Dywed ef y pregethai Mr. Harris wrth y Groes, ynghanol yr heol; fod hyny wedi cael ei hysbysu yn flaenorol, ac i dyrfa fawr ymgasglu ynghyd.Dynoethai y llefarwr arferion llygredig y dinasyddion yn ddiarbed a difloesgni; ac yr oedd pob darn ymadrodd o'i enau yn gwreichioni ac yn melltenu mor daranllyd i gydwybodau gwrandawyr, nes yr ofnent fod y farn gyffredinol wedi eu goddiweddyd. Mor rymus oedd yr effeithiau, fel yr oedd dynion dewrion a thalgryfion yn syrthio yn gelaneddau ar yr heol, mewn llewygfeydd o fraw a dychryn. Odfa i'w chofio byth ydoedd yn ddiau. Arswyd a gynhyrfai yn benaf; fel y dywed ef ei hun, trueni y sawl oedd heb Grist oedd ei phrif fater, a chyhoeddi gwae yn erbyn yr oferwyr a mynychwyr y campau; trwyddi dadymchwelwyd yr hen chwareuon, a fuont yn uchel eu penau am oesoedd, fel nad ydynt wedi medru codi eu penau hyd heddyw. Fel engrhaifft o'r dylanwad, adroddir am lencyn pymtheg oed, mab i un Sion Griffith, a ddaethai i'r odfa yn hollol ddifeddwl, gan gael ei gyffroi gan gywreinrwydd yn unig.—Ond aeth saeth i'w galon, ac er pob ymdrech, methai ei hysgwyd ymaith. Cynyddu a wnaeth ei drallod. Yr oedd ing ei fynwes yn ymylu ar wallgofrwydd; nes iddo benderfynu rhoddi terfyn ar ei einioes trwy daflu ei hun bendramwnwgl ir môr, gan na wnai wrth fyw yn y blaen, ond lliosogi ei bechodau, a thrymhau ei gosb. Eithr tra yn cyfeirio ei gamrau at y geulan, daeth yr ymadrodd, "Ha fab, maddeuwyd iti dy bechodau," gyda nerth i'w feddwl; y fath oedd y goleuni a lewyrchai arno, fel y syrthiodd yn gelain ar y ddaear; wedi dadebru, bu yn ceisio amheu nad oedd y gair yn perthyn iddo ef; ond ofer fu ei ymdrech, a chyn codi, llwyr roddodd ei enaid i ofal y Gwaredwr. Erbyn codi ar ei draed, ymddangosai hyd yn nod y ddaear iddo wedi gwisgo gwedd newydd. Diau nad yw hanes y llanc hwn ond un allan o lawer cyffelyb.
O gwmpas 11 yr un dydd y mae yn myned tua Threfin, ac ar y ffordd y mae ei yspryd yn flin ynddo oblegyd fod Duw yn cael ei ddianrhydeddu yn y wlad, a'i Sabbathau yn cael eu halogi. Dywed fod gwaith da yn cael ei gario yn mlaen trwy y diwygiad, os na chai ei rwystro gan rai oddi fewn yn ffurfio pleidiau. Yn Trefin cafodd ymddiddan â chyfeillion anwyl a ddaethent ato i ymgynghori gyda golwg ar ddyfod at Grist, a galluogodd yr Arglwydd ef i fod yn ffyddlawn. Erbyn myned i'r maes yr oedd rhai miloedd yn disgwyl; cafodd nerth mawr ar weddi; llefarodd am dair awr oddi ar Ioan xv. 1, gan ddangos yr angenrheidrwydd am i ni gael ein huno â Christ. "Yr oedd yn ddiwrnod gogoneddus," meddai. Efallai y cyfeiria hyn at yr odfa yn Nhyddewi yn gystal a Threfin. Yn y tŷ daeth rhai ato i ymddadleu yn nghylch bedydd; gwrthododd gymeryd y mater i fynu, gan lefaru yn hytrach am yr angenrheidrwydd o gael Crist ynom.
Dydd Mercher, y mae yn Nhref Howell, plwyf Llanwnda, ar lan y môr. Oddi yno cyfeiria ei gamrau tuag Abergwaun, lle y pregethodd yn Saesneg a Chymraeg i amryw filoedd. Yr oedd llawer o fonedd y wlad wedi dyfod i'w wrando, a gobeithia ei fod mewn yspryd cariad a phwyll wedi medru eu cyrhaedd. Yn Gymraeg pregethai ar dröedigaeth Paul, ac ymddengys fod y cyfarfod yn un nodedig iawn. "Galluogwyd fi," medd, "i daranu mewn modd ofnadwy iawn gyda golwg ar uffern." Cyn gorphen, pa fodd bynag, cyfeiria at gariad Crist. Ymddangosai effeithiau anarferol yn cydfyned a'r traddodiad, a llawer yn cael eu dwysbigo. Achwyna fod John Powell yn ymgynhyrfu gyda golwg ar fedydd, a'i fod y dydd Llun blaenorol wrth bregethu wedi galw yr athrawiaeth am fedydd babanod yn gyfeiliornus, uffernol, melldigedig, a chythreulig. "O," meddai, "fel yr wyf yn hiraethu am heddwch a chariad."
Dydd Iau, y mae yn Nevern, tua milldir o Trefdraeth. Teimlai angenrhaid arno yma i lefaru ar "Profwch yr ysprydion." Gofynwyd iddo fyned gydag un a eilw "Parson Thomas," gweinidog perthynol i'r Bedyddwyr, yn ol pob tebyg. "Yr wyf yn meddwl," ysgrifena, " ei fod er gogoniant Duw i mi fyned; nid i ymryson a'r Bedyddwyr, ond i geisio atal yr ystorm, a pheri i bawb brofi eu hunain. Yn sicr, y mae Dliw yn caelei ddianrhydeddu, ac eneidiau yn cael eu dinystrio, trwy y zêl hon." Üddiyma â tua Glyn-Meredydd. "Yr wyf yn credu," meddai, "fy mod yn eiddo i ti. Ti yw fy Mrenin, a fy Meistr." Wrth ganu, portreadwyd dyoddefaint, angau, a chariad yr Arglwydd Iesu, mor fyw gerbron llygaid ei feddwl, fel yr enynwyd fflam o gariad yn ei enaid yntau. Yn nesaf yr ydym yn ei gael mewn lle o'r enw Dygoed. Dydd Sadwrn y mae mewn lle o'r enw Bwlchyclawdd, yn mhlwyf Maenclochog, y Sul yn Rhyd Hir, plwyf Llanddewi Velfrey, a dydd Llun y mae yn ymadael a Sir Benfro, ac yn cyrhaedd lle o'r enw Wenallt.
Gyda golwg ar y daith hon yn Mhenfro, y mae yn sicr mai yn y flwyddyn 1740 y cymerodd le; profa llythyrau a dydd-lyfr Mr. Harris hyny tu hwnt i amheuaeth. Amlwg yw idd ei ddyfodiad gynyrchu cyffro dirfawr. Pan y deuai cynulleidfaoedd o amryw filoedd i wrando, mewn gwlad mor deneu ei thrigolion, rhaid fod corff y boblogaeth am filldiroedd lawer o gwmpas yn crynhoi ynghyd. Y mae yn sicr fod yr odfaeon, rai o honynt, beth bynag, yn nodedig o nerthol; fod y cynulleidfaoedd yn cael eu hysgwyd fel cae o ŷd o flaen rhuthr y corwynt. Mynai y Bedyddwyr ddadleu ag ef gyda golwg ar fedydd; yr oedd ei enaid yntau yn cashau dadleuaeth, ac ni fynai ymryson. Nid oedd ganddo wrthwynebiad pendant yn erbyn yr athrawiaeth am fedydd y crediniol; ond credai ei bod yn cael ei gwthio yn ormod i sylw, pe byddai yn wir, a hyny ar draul esgeuluso gwirioneddau pwysicach. ond yr hyn a'i blinai fwyaf oedd fod y ddadleuaeth yn lladd yspryd crefydd, ac yn rhwystr anorfod ar ffordd y diwygiad. Nid oes amheuaeth na wnaeth y daith fanwl hon o eiddo Mr. Harris, yr hon a barhaodd bythefnos o amser, argraff annileadwy ar Sir Benfro, a'i bod yn rhagymadrodd ardderchog i lafur cyson Howell Davies yn y blynyddoedd dyfodol.
Medi, y flwyddyn hon (1740), cawn ef yn nghwmni Mr. William Seward yn cymeryd taith faith trwy ranau o Fynwy, Henffordd, a Brycheiniog. Yr oedd William Seward yn ŵr o safle gymdeithasol anrhydeddus; cawsai ei argyhoeddi mor foreu a'r flwyddyn 1728; daeth i gyffyrddiad a'r ddau Wesley, ond glynodd yn hytrach wrth Whitefield, ac yr oedd yn gydymaith iddo yn America yn y flwyddyn 1739. Yr oedd gyda Whitefield pan yr ymwelodd gyntaf â Chymru. Calfin trwyadl ydoedd mewn athrawiaeth, a chwedi cwympo allan a Charles Wesley, y mae yn croesi y sianel, ac yn ymuno â Howell Harris yn Mhontfaen. Pregethasant mewn amryw leoedd nes cyrhaedd Casnewydd. Yno ymosodwyd arnynt yn enbyd; rhwygwyd dillad Mr. Harris, a lladratwyd ei berwig, a bu raid iddo sefyll yn ben-noeth yn y gwlaw. "O ben-noethni hyfryd," meddai, "dan waradwydd Crist." Lluchiwyd cerig atynt, ac afalau pwdr, ynghyd â llaid; ceisiai ei gyfeillion gan Harris roddi i fynu, ond ni theimlai yn rhydd gwneyd hyny nes i'r Arglwydd gael goruchafiaeth ar Satan. Aethant oddi yno i Gaerlleon-ar-Wysg. Tra y gweddïai Seward, a hyny gyda melusder mawr, yr oedd pob peth yn dawel; ond pan y cyfododd Harris i bregethu, dyma y cythrwfl yn dechreu. Crochlefai y werinos; lluchient dom a llaid, ynghyd ag wyau a cherig eirin, at y llefarwyr, a tharawyd Seward ar ei lygad fel y llidiodd, ac yn y diwedd y collodd ei olwg yn hollol. "Gwell dyoddef hyn nag uffern," ebai yntau. Yn Nhrefynwy cedwid rhedegfa geffylau; ac yr oedd gwreng a bonedd wedi ymgynull ynghyd. Dechreuodd Harris lefaru ger neuadd y dref, lle yr oedd nifer o foneddigion a boneddigesau ar giniaw; ymddengys y taranai yn ofnadwy yn erbyn dawnsfeydd cynulliadau llygredig, puteindra, a meddwdod; merwinai clustiau y gwŷr mawr wrth glywed, ac anfonasant rywun i chwareu'r drwm, fel y boddid ei lais; dechreuodd y werinos hefyd luchio cerig, ac afalau, a llaid. Ond yn mlaen yr aeth gweision Crist, yn gorchfygu ac i orchfygu. Aethant oddiyno trwy ran o Sir Gaerloyw; yna dychwelasant i Drefecca. Hydref 22, aethant i Hay; ymosodwyd arnynt yn enbyd yno; dihangodd Harris yn ddianaf, ond tarawodd rhywun Seward druan a chareg ar ei ben, fel y bu farw cyn pen nemawr ddyddiau. Efe, yn ddiau, oedd merthyr cyntaf Methodistiaeth.
Tua dechreu y flwyddyn 1741 y mae Howell Harris yn ymweled a'r Gogledd yr ail waith. Aeth ar y tro hwn ar wahoddiad un Robert Griffith, o Bryn Foyno, yr hwn a'i taer gymhellai, oblegyd i lawer gael eu hargyhoeddi trwyddo pan fu yn flaenorol yn Llanuwchllyn. Yn ddiegwan o ffydd y mae yntau yn myned, er llid y gelyn a bygythion yr offeiriaid. Ymdaenodd y newydd am ei ddyfodiad fel tân gwyllt trwy y wlad, a gwnaed parotoadau eang i'w rwystro i bregethu, ac i'w faeddu. Wrth agoshau at y Bala, ar lan y llyn, goddiweddwyd ef gan offeiriad y plwyf. Rhybuddiodd yr offeiriad ef, os oedd am ddianc a'i fywyd yn ysglyfaeth, am beidio myned i'r dref. Atebai yntau mai ymdeimlad a'i ddyledswydd oedd yn ei yru, nas gallai droi yn ei ol, ac mai ei unig amcan oedd mynegu ffordd iachawdwriaeth i'r bobl, a hyny heb roddi achos tramgwydd i neb. Cyffrodd yr off'eiriad, ac yn ei ddig cyfododd ei ffon, gan fygwth ei daro. Ateb yn fwynaidd a wnaeth Harris, a chafodd lonydd i fyned yn ei flaen. Erbyn cyrhaedd y Bala, lle yr oedd ychydig ddisgybhon yn disgwyl am dano, cafodd y dref yn llawn cythrwfl, y werinos wedi ymgynull ynghyd, ac yn tyngu y gwnaent ei ladd. Blaenor y gad oedd yr offeiriad, yr hwn oedd wedi parotoi baril o gwrw, gan ei gosod yn gyfleus ar y gareg farch yn ymyl y tafarndy, er mwyn gwneyd y bobl yn fwy ffyrnig trwy yfed. Dechreuodd Harris lefaru ar yr heol, ond llefodd yr offeiriad yn groch ar i'r. rhai a garent yr Eglwys ddyfod i'w hamddiffyn. Ar hyn dyma lu, wedi yfed yn helaeth, ac wedi ymddiosg hyd at eu crysau, yn dyfod yn mlaen yn fygythiol, gyda phastynau yn eu dwylaw. Yr oedd fel pe buasai uffern wedi cael ei gollwng yn rhydd. Barnwyd mai ofer ceisio parhau yr odfa ar yr heol, ac awd i dŷ preifat yn nghanol y dref, lle y gwnaeth Harris ymgais i lefaru oddiar y geiriau: "Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erlid i?" Yn y cyfamser yr oedd y werinos yn yfed cynwys y faril, ac yn cael eu hanog gan y Person i ymosod ar y tŷ. Ni chafodd ymadroddi ond ychydig. Torwyd y ffenestri yn ganddryll, daeth rhai o'r terfysgwyr i mewn, gan ruo fel bwystfilod. Ond meddianai gweinidog Crist ei enaid mewn amynedd, ni ddeuai dychryn yn agos ato, a theimlai alwad arno i fyned yn ei flaen; a phan ar gais taer cyfeillion y rhodd i fynu, profai fel pe bai yr Arglwydd wedi ei adael. Ond er tewi ni chaffai lonydd. Yr oedd y terfysgwyr wedi penderfynu ei gael allan. Dringodd rhai i'r tô, gan fygwth tynu y ty i lawr; ymwthiai eraill i mewn trwy y ffenestri drylliedig. Aflan y bu raid iddo ef a rhai o'i wrandawyr fyned, fel defaid i safnau y cwn. Gwnaeth ei gyfeillion eu goreu drosto, ond ei amddiffyn ni fedrent. Ymosodai y dorf fileinig, cynwysedig o'r ddau ryw, arno yn y modd mwyaf creulon; y benywod a'i trybaeddent a thom yr heolydd, y gwŷr a'i curent a'u dyrnau, ac a'u pastynau, nes yr oedd ei waed yn cochi yr heol. Dilynwyd ef allan o'r dref tua'r llyn, bu dan draed yr erlidwyr am beth amser, a thybiodd yn sicr y collai ei fywyd. Llusgwyd ef o gwmpas wrth napcyn ei wddf, a buasai wedi cael ei dagu oni bai i'r napcyn ddyfod yn rhydd. Ond cyfryngodd yr Arglwydd ar ei ran mewn modd oedd bron yn wyrthiol, a dihangodd o'u dwylaw. Daethai Jenkin Morgan, un o ysgolfeistri Griífith Jones, i'r Bala i'w glywed, a bu ei hoedl yntau mewn enbydrwydd. Pan ar gefn ei geffyl, ac yn ceisio dianc, gafaelwyd ynddo gan y werinos. Gwnaed ymdrech i'w daflu ef a'i geffyl dros y graig i'r llyn; glynodd ei droed yn yr wrthafl, a bu felly yn cael ei lusgo o gwmpas am enyd; ond trwy diriondeb Rhagluniaeth dihangodd yntau. Sicrheir ddarfod i farn amlwg Duw orddiwes y rhai blaenaf yn yr helynt warthus. Wedi i'r terfysgwyr wasgar, ymgasglodd y dysgyblion yn nghysgod y tywyllwch i'r llety, lle y buont yn ceisio meddygyniaethu clwyfau eu gilydd. Cynghorai Harris ei gyd-ddyoddefwyr i lynu wrth y Gwaredwr, ac i lawenhau oblegyd eu cyfrif yn deilwng i ddyoddef drosto. Yr oedd Harris ei hun yn llawn penderfyniad; " dyma y gwaed cyntaf a gollais dros Grist," meddai, "er i mi gael fy mynych fygwth." Yr unig beth a'i gofidiai oedd iddo gymeryd ei berswadio i roi i fynu pregethu; gwyddai na fyddai marw iddo ef ond mynediad i ddedwyddwch.
Wedi cael ei drin mor ddidrugaredd yn y Bala, naturiol disgwyl y buasai yn troi yn ol, ac yn gadael y Gogledd i farn; ond yn ei flaen yr aeth. Nid oedd Luther wrth fyned i Worms, pan y dywedai yr ai yno pe bai yn y lle gynifer o gythreuliaid ag oedd o lechi ar benau y tai, fymryn yn fwy gwrol dros Dduw nag oedd Howell Harris, pan yn wynebu Gwynedd yn awr. Nos Sadwrn, cyrhaeddodd Bwllheli, ond ni wyddai neb pwy ydoedd. Boreu y Sul, holodd am y pregethwr goreu oedd yn yr Eglwys yn y parthau hyny. Dywedwyd wrtho fod Canghellydd yr Esgobaeth yn pregethu yn Llanor. Yno yr aeth, ac efe a'i ddyfodiad i Wynedd oedd pwnc y bregeth. Galwai y Canghellydd ef yn weinidog dros y cythraul, yn au brophwyd, ac yn waeth na'r diafol, "oblegyd," ebai ef, "nis gall y diafol weithredu yma yn mysg dynion ond trwy gyfrwng offerynau o'r fath." Galwai arnynt er mwyn Crist a'i eglwys, ac o gariad at eu gwlad, i ymuno yn erbyn y fath ddyn ofnadwy, yr hwn a amcanai ddinystrio nid yn unig eu personau a'u meddianau, ond eu heneidiau dros byth. Fel hyn y llefarai y Canghellydd wrth ei blwyfolion, heb wybod fod y neb a ddynoethai yn bresenol. Ar derfyn y gwasanaeth aeth Harris ato, i ymgynghori ag ef gyda golwg ar osod ysgolion Cymraeg i fynu, ac i ymliw ag ef am y bregeth. Ar hyn deallwyd fod Howell Harris ei hun yn y lle. Dechreuwyd ymosod arno; ceisiai rhai fyned a'i geffyl oddiarno, eraill a daflent gerig at ei ben, ac o braidd y diangodd. "Tybiais," meddai, "na chawn byth genad i ddychwelyd yn fyw o'r parthau hyny."
Ymddengys fod y Parch. John Owen, y Canghellydd y cyfeiriwyd ato, ac oedd hefyd yn ficer Llanor a Dyneio, yn ddyn brwnt, ac yn dra llidus yn erbyn y Methodistiaid. Dywedir ei fod yn meddu ar gryn dalent, y medrai siarad yn rhigl a rhwydd, a bod ganddo ddylanwad nid bychan yn y wlad o gwmpas. Er mwyn rhwystro y diwygiad trefnodd, gyda ei frodyr y clerigwyr, i gadw cyfarfod bob dydd Mercher yn Dyneio, ger Pwllheli, i bregethu yn erbyn yr hyn a alwent yn gyfeiliornadau dinystriol, oedd yn ymdaenu ar led y wlad. Deuai yr offeiriaid i gynal y cyfarfod yn eu tro; eu testynau fyddai: " Ymogochelwch rhag gau brophwydi; " " A chanddynt rith duwioldeb, eithr wedi gwadu ei grym hi;" "Y rhai hyn sydd yn ymlusgo i deiau, gan ddwyn yn gaeth wrageddos flwythog o bechodau," &c. Nid yw yn ymddangos, pa fodd bynag, i'r weinidogaeth enllibaidd hon rwystro dim ar y cerbyd. Yr oedd gan y Canghellydd hefyd glochydd talentog, yr hwn oedd yn ogystal yn ysgolhaig pur wych. Y gwr hwn a gyfansoddodd yr * interliwt enllibaidd yr ydym wedi cyfeirio ati yn barod, yr hon a elwir yn "Interlude Morgan y Gogrwr."[90] Yn y gân fudr hon, nad yw mewn un modd yn amddifad o ddawn, gosodir Howell Harris i gyfarch "Chwitffild" yn yr ymadroddion a ganlyn:—
"Pedfaech chi mor dda 'ch tuedd, Mr. Sanctiddiol,
A rhoi i mine beth o'ch awdurdod nefol,
Rwy'n tybied y gwnawn heb ronyn dawn dysg,
Waith odiaeth yn mysg ynfydion.
Mi fedra grio ac wylo'n greulon,
Mewn golwg, heb ddim ar y nghalon;
A phregethu rhagrith heb ronyn rhith rhaid,
I dwyllo trueiniaid tlodion.
Mi fedraf, pan fynwyf, roi pres ar f' wyneb,
A dweyd mai Gair Duw a fydd pob gwiriondeb,
A throi 'r Ysgrythyr, loew bur wledd,
Gwaith anial wledd, i'r gwrthwyneb.
Mae genyf ddigon wedi eu hudo yn y Deheudir,
A ddaw ar fy lledol fel ped fawn i garn lleidr,
I 'mofyn am ryw gyngor gwan
Mewn hylltod wedi can' milldir."
Fel hyn y dywed Harris wrth Jenkin Morgan : —
"Dos di 'mlaen yn rhith y prophwyd Elias,
Mi ddeuaf finau 'n swydd Simon Magus, neu
Suddas,
Ni a fynwn arian am gadw nad,
Os bydd dim yn y wlad neu 'r deyrnas."
Nis gallwn ddilyn yr Interlude yn mhellach; rhaid addef fod ynddi ddawn, ond dawn celwyddog ydyw, wedi ei fwriadu i daflu gwarthrudd ar gymeriad y rhai a wynebent bob math o beryglon, heb un amcan is nag achub eneidiau. Pa fodd bynag, boddhaodd y clochydd ei feistr. Galwyd cyfarfod o fonedd y tir yn mhalas Bodfel i ddarllen yr Interlude, a'r fath oedd y boddlonrwydd a roddodd iddynt, fel y tanysgrifwyd haner can' gini yn y fan a'r lle i'r clochydd, am y gwasanaeth a gyflawnasai ar ran yr Eglwys. Nid hir y bu y clochydd, modd bynag, heb i'r farn ei orddiwes. Wrth ddychwelyd o argraffu ei lyfr, trodd i felin gerllaw y Bala i orphwys. Gofynodd y rhai a ddigwyddai fod yno ar y pryd, beth a gludai. Atebodd yntau mai interludc yn erbyn y Cradocs. Ond yr oedd y dynion yn cydymdeimlo a'r diwygiad. "Y distryw mawr," meddent, "pa beth a wnaethant i ti? Ble y mae y rhaf? ni a'i crogwn yn ddioed." Dychrynodd yr adyn, a phrin y dihangodd a'i fywyd yn ysglyfaeth. Wedi hyn aeth yn ffrwgwd rhyngddo a'r Canghellydd. Tybiai hwnw ei fod yn ceisio taflu y gloch ar ei gefn er mwyn ei ladd; rhuthrodd arno fel arth, ac ymladdfa waedlyd a gymerodd le, mewn canlyniad i'r hyn y tröwyd y clochydd o'i swydd. Bu farw yn dlawd a thruenus.
—————————————
LLYFRGELL TREFECCA, GYDA PHWLPUD A CHADAIR DDERW HOWELL HARRIS
—————————————
Yn ol Drych yr Amseroedd, yn Nglasfryn Fawr, tŷ Mr. William Pritchard, y pregethodd Howell Harris gyntaf yn Sir Gaernarfon. Saif Glasfryn Fawr yn mhlwyf Llangybi, ger Pwllheli. Cawsai William Pritchard ei argyhoeddi wrth wrando ar Ymneillduwr, o'r enw Francis Evans, yn cadw dyledswydd deuluaidd; anfonasai at Grifiìth Jones am ysgolfeistr i gadw ysgol ac i bregethu; yn unol a'r cais hwn y daeth Jenkin Morgan i'r Gogledd, ac yn y Glasfryn Fawr y cedwid yr ysgol. Teimlai y Canghellydd Owen yn gas at Mr. Pritchard oblegyd hyn, a rhoddodd ef yn Nghwrt yr Esgob. Gyda fod Howell Harris yn dechreu llefaru, rhuthrodd y Canghellydd, gyda haid o oferwyr wrth ei sodlau, arno. Rhoes yntau i fynu bregethu, a dechreuodd weddïo. Ceisiodd yr offeiriad luddias neb i glywed, trwy roddi ei law ar ei enau. Cododd Harris i fynu, a dywedodd:—
" Pa beth? A rwystrwch chwi ddyn i weddïo ar Dduw? Byddaf yn dyst yn eich erbyn am hyn yn y farn."
" Byddaf fi yn dyst yn dy erbyn di, y burgyn budr," oedd yr ateb, "am fyned ar hyd y wlad i dwyllo pobl."
Yna galwai ar un o'i ffyddlon ganlynwyr i ddyfod yn mlaen i gydio yn Harris. Eithr dychrynasid hwnw wrth glywed son am y farn, a gwrthododd, gan ddweyd: "A glywch chwi ar y gwŷr! Ni wn pa un o honoch yw y ffolaf. Ni feiddia yr un o honoch ddweyd gair yno." Ymddengys fod William Pritchard yn ddyn gwrol a chryf; gwthiodd y Canghellydd a'i griw allan dros y trothwy, gan gau y drws ar eu holau. Ceisiodd Harris bregethu drachefn ar ol adfer tawelwch; ond ni chafodd ddrws agored, yr oedd ei yspryd ynddo wedi ei gythryblu yn ormodol, a therfynodd y cyfarfod trwy anog y bobl i ymgadw rhag bugeiliaid ysprydol annuwiol. Yn mhen amser bu y Canghellydd Owen farw tan farn amlwg.
Aeth oddiyno i le a elwir Ty'n Llanfihangel, gerllaw Rhydyclafdy. Daethai cynulleieifa anferth ynghyd, gan eu bod wedi clywed mai y gŵr a welsai weledigaeth ydoedd. Yn mysg eraill, daethai yno foneddwr, gyda bwriad i saethu y pregethwr. Eithr gan na chadwodd Mr. Harris ei amser, blinodd yn disgwyl, ac aeth adref i'w giniaw. Gyda ei fod wedi troi ei gefn dyna Harris yno. Pregethai yn yr awyr agored, a chafodd nerth anarferol i lefaru. Disgynai ei eiriau fel tân ar gydwybodau ei wrandawyr. "Yr ydych yn arfer gweddïo," meddai, gan gyfeirio ei sylwadau at y bobl annuwiol a arferent fynychu yr eglwysydd, " deled dy deyrnas. Beth pe yr ymddangosai efe yn awr, mewn gallu a gogoniant mawr, gyda myrddiwn o angelion a thân fflamllyd; ai ni waeddech allan: 'O Arglwydd, yr wyf yn anmharod; bydded i'th ddyfodiad gael ei oedi!" Cerddai grym dwyfol gyda'r ymadroddion; methai dynion caledion a thalgryf sefyll; cwympent fel meirw ar y maes; ac wrth fyned i'w cartrefi llefent ac wylent ar hyd y ffordd, fel pe buasai dydd yr Arglwydd gerllaw. Odfa ryfedd oedd yn ddiau. Dywedai un o'i wrandawyr i Mr. Harris bregethu y tro hwn nes oedd Lleyn yn crynu; " a dydi hi byth wedi dod ati ei hun," meddai.
Y dydd canlynol pregethodd yn Towyn, ger Tydweiliog, a hyny dan arddeliad rhyfedd. Dyma y pryd yr argyhoeddwyd John Griffith Ellis, a ddaeth yn ganlynol yn bregethwr, am weinidogaeth yr hwn y dywedir ei bod yn rhagori mewn rhai pethau ar eiddo ei holl gydoeswyr. Crybwyllir am un bregeth hynod o'i eiddo, yn Nghymdeithasfa y Bala, ar y geiriau, "Deffro gleddyf yn erbyn fy Mugail," pan y disgynodd rhyw dywalltiad nodedig fel cwmwl yn ymdori, nes y llesmeiriodd ef a llawer o'i wrandawyr gan nerth y dylanwad. Dan y bregeth hon o eiddo Mr. Harris, hefyd, yr argyhoeddwyd un o ferched y Tyddynmawr, a fu gwedi hyn yn wraig Mr. Jenkin Morgan. Daeth y Tyddynmawr mewn canlyniad yn " lletty fforddolion," ac yn noddfa i aml bererin lluddedig, pan yr oedd yr erledigaeth yn chwythu yn gryf. Ymddengys mai dwy waith y pregethodd gwedi hyn yn Sir Gaernarfon, sef yn Rhydolion, a Phorthdyn-llaen. Dychwelodd adref trwy Abermaw a Machynlleth. Bu yn galed arno wrth groesi y Traethmawr; ymosodwyd arno gan fintai o erlidwyr, "y rhai yr oedd yspryd mwrddwyr i'w canfod yn eu gwedd;" ond dihangodd o'u dwylaw, ac yn nhŷ gweinidog Ymneillduol y cafodd noddfa. Bu mewn perygl, hefyd, yn Machynlleth; ond cafodd groesaw mawr yn Llanbrynmair gan Mr. Lewis Rees, a siriolwyd ei yspryd yn hyfryd wrth weled cymdeithasau bychain wedi cael eu sefydlu mewn amrywiol fanau.
Ofer fyddai ceisio rhoddi hyd yn nod crynodeb byr o lafur a theithiau Howell Harris y blynyddoedd hyn. Cyniweiriai trwy swyddi Wilts, Caerloyw, Henffordd, a'r Amwythig; ymwelai a Bryste, Bath, a Llundain , a threuliai gryn amser y n y lle olaf a nodwyd. Gwibiai, fel pe byddai yn angel digorff, o'r naill gwr i'r llall o'r Dywysogaeth, trwy afonydd, a thros fynyddoedd anhygyrch, gan rybuddio pechaduriaid. Haf, 1742, bu yn Llundain am bedwar mis, nid yn segur, ond yn efengylu i'r Saeson yn y Moorfields, ac yn Lambeth. Dywedir y byddai yn pregethu yn Gymraeg yn aml yn Lambeth er budd ei gydgenedl. Cyfeiria ef at un tro arbenig yn ei ddydd-lyfr, pan y pregethodd am dri o'r gloch y prydnawn i dorf o Gymry, oddiar y geiriau: "Simon, mab Jona, a wyt ti yn fy ngharu i?" Tra yn y Brif-ddinas yr oedd gofal yr holl eglwysi yn pwyso arno; er hyny teimlai ei frodyr yn y Dywysogaeth ei eisiau yn fawr, a thaer gymhellent ef i ddychwelyd. Meddai Daniel Rowland wrtho mewn llythyr: " Ai nid ydych yn clywed eich holl frodyr yn Nghymru yn gwaeddi, 'Cymorth, cymorth, cymorth!' Frawd Harris, tydi ryfelwr dewr, pa le yr ydwyt? Beth, yn Llundain yn awr yn nydd y frwydr! Beth, ai nid oes gan Lundain ddigon o ryfelwyr i ymladd drosti? . . . Arglwydd da, tosturia wrth Gymru dlawd. Anfon ein brawd anwyl i'n mysg yn dy allu, ac yn nghyflawnder dy fendithion, a bydded i'r cythraul grynu o'i flaen. Amen, Amen." Fel esiampl o'i lafur dirfawr, a pha mor ddiorphwys y teithiai, yr ydym yn cael ein temtio i roddi ei hanes am ran o Tachwedd a Rhagfyr, 1742. Dydd Iau, Tachwedd yr 11 , y mae yn gadael Llundain gyda'r cerbyd am 6 o'r gloch y boreu, er mwyn dychwelyd i Gymru. Yr oedd yr ymadawiad rhyngddo a'r gymdeithas yno yn nodedig o dyner. Pur wag oedd y cerbyd, cafodd yntau gyfleustra i ymddiddan a'r cerbydwr am fater ei enaid, ac â dynes ieuanc oedd yn cyddeithio ag ef, a gobeithia nad â y dylanwad i golli. Dydd Gwener y mae yn Reading, a theimla yn drymllyd a gwanaidd oblegyd colli ei gwsg. Ceisiodd yr Arglwydd, a chafodd neshad ato. Synai at natur y cyfamod trwy yr hwn y mae yr Arglwydd yn sicrhau ei ogoniant ei hun, ac iachawdwriaeth pechadur, a hyny y tu hwnt i gyrhaedd llygredigaeth. Gweddïodd tros yr eglwys yn Llundain, dros yr eglwys yn Nghymru, a thros yr holl weinidogion a'r cynghorwyr. Dydd Sadwrn teithia trwy Marlborough, yn swydd Wilts; a chan basio trwy Bath, cyrhaedda Bryste yn hwyr. Cyfid y Sul o gwmpas wyth, ac â ar unwaith i bregethu gyda y brawd Humphrey, a'r hwn y cafodd gymdeithas anwyl. Teimlai ei galon yn ymlynu wrtho, oblegyd y dystiolaeth ffyddlon a ddygasai yn erbyn y gweinidogion Ariaidd neu Undodaidd. Wrth bregethu cafodd ryddid mawr; ac er ei fod wedi colli ei gwsg, yr oedd yn llawn o nerth a bywiogrwydd. Pregethodd drachefn o gwedi deg hyd ddeuddeg oddiar 1 Thes. iv. 14, a thybia i'w weinidogaeth fod er bendith.
Dydd Llun, Tachwedd 15, y mae yn gadael Bryste am Gymru cyn chwech y boreu, ac yn cyrhaedd y Passage o gwmpas naw. Bu raid iddo aros yma y gweddïll o'r diwrnod, am ei bod yn amhosibl croesi y sianel. Ond yr oedd amser yn rhy werthfawr yn ei olwg i'w afradu. Wedi adgyfnerthu natur â lluniaeth, ysgrifenodd yn ei ddydd-lyfr hyd gwedi 12; yna aeth allan i bregethu i'r bobl oedd fel yntau yn disgwyl am y cwch; rhoddes yr Arglwydd ymadrodd iddo, a gweddïai yntau am gael ei wneyd yn halen y ddaear. Gwedi ciniaw ymosodwyd arno gan yr hen demtasiwn; beth oedd hono ni ddywed; ond rhoddodd Duw waredigaeth iddo. Methodd groesi dydd Mawrth eto, oblegyd yr ystorm, ond daliodd ar y cyfle i gynghori, ac agorodd yr Arglwydd glustiau y bobl i wrando. Siaradai am ei dröedigaeth, am ddydd y farn, am y cyfrif y rhaid i ni rhoddi o'n holl dalentau, gan eu nodi, pa fodd y dygwyd ef ei hun i weled nas gallai gael ei gyfiawnhau trwy weithredoedd, am haeddiant Crist, am ffydd, beth ydyw, a pheth nad yw, ac am ufudd-dod a chariad fel ffrwythau ffydd. Yn y prydnhawn y mae yn cynghori eilwaith. O gwmpas wyth yn yr hwyr cawsant groesi; yr oedd y gwynt yn ystormus, a'r tonau yn lluchio; meddyliai fod angau, efallai, yn agos, ond cafodd nerth i ymddiried.
Dydd Iau y mae yn Redwick, Sir Fynwy; cyrhaedda Watford, ger Caerphili, nos Iau, lle oedd yn gartref iddo pan ar ei deithiau yn y parthau hyn. Pa nifer o weithiau y pregethodd, ni ddywed; ond y mae yn sicr na chroesodd yr holl filldiroedd ar draws gwlad heb gymell eneidiau at Grist. Cawn ef yn Llanheiddel nos Wener; cyfi am 6 boreu Sadwrn, a dywed ei bod yn felus ar ei enaid yn y weddi ddirgel ac yn y ddyledswydd deuluaidd. Pregetha yn y boreu mewn lle o'r enw Coedcae-mawr; oddi yno cyfeiria ei gamrau tua'r Goetre, ger Pontypŵl. Yno clywodd am ganlyniadau ei lwyddiant blaenorol, nes y darostyngwyd ei enaid ynddo, a pheri iddo waeddi ei fod yn foddlon cael ei droi o'r neilldu, a'i sathru dan draed pawb, a'i fod yn adyn mor wael fel nad yw yn haeddu cael byw. Pregethodd oddiar Salm xli., am y galon doredig; cafodd odfa hyfryd; teimlid yno nerth dirfawr, yn arbenig ar rywun oedd o'r blaen yn llawn rhagfarn tuag ato. Dydd Sadwrn aeth i'r Fenni; cafodd yno ryddid mawr mewn gweddi, yn arbenig wrth gyffesu ei bechodau. Llefarodd oddiar Matt. v. 3-8, gan ddangos gwir natur tlodi yspryd, ac mai dyna y cam cyntaf at Grist. Yna gwnaed iddo ddyrchafu ei lais i alw yr holl bechaduriaid tlodion, colledig, a hunan gondemniedig at y Gwaredwr, gan gyfaddef ei hunan y gwaelaf a'r balchaf o bawb, a'u cymhell at yr Iesu. Cred i rai ddyfod. Ymddengys hefyd fod rhyw ofid dwys yn gwasgu arno y pryd hwn mewn cysylltiad a'r diwygiad; drosodd a throsodd dywed nad arno ef yr oedd y bai; ond fod ei galon ar dori o'r herwydd. Pa beth ydoedd, nid oes genym ond dyfalu; yn ol pob tebyg, rhyw chwedl gelwyddog, yn drwgliwio ei gymeriad, yn cael ei thaenu ar led. Nos Sadwrn, breuddwydiodd fod Esgob Rhydychain yn pregethu yn y 'stryd, ac yn dweyd fod yn rhaid i bawb deimlo cariad Crist wedi ei dywallt ar led yn eu calonau, fel yr oedd yn ei galon ef; llanwodd hyn yspryd Harris â mwynhad. Dydd Sul, Tachwedd 21, y mae yn Llandilo, ger y Fenni, ac achwyna ei fod yn wanaidd o ran ei gorff. Gwelodd a theimlodd ei fod yn caru ei Dduw mor glir ag y gwelsai ei bechod. Arllwysodd ei deimhid gyda golwg ar ei ofid i'r brawd Price. Gwedin aeth i Cwm Iau i wrando yr Hybarch Thomas Jones. Ar ol ciniaw cyfeiriodd ei gamrau tua seiat Longtown, collodd ei ffordd ar y mynyddoedd, ac yr oedd yn agos i saith arno yn cyrhaedd. Cafodd un ymweliad neillduol oddiwrth yr Arglwydd ar ei daith. Ac eto, yr oedd yr helynt yn pwyso ar ei yspryd; ofnai i'r gwaethaf ddigwydd, ac i ganlyniadau gwarthus ganlyn, fel ag i beri i'r achos gael ei ddinystrio. Yna gwawriodd ar ei feddwl nad oedd y gwaith yn dibynu arno ef, nac ar ei enw, fod y gwaith o Dduw. Dydd Llun y mae yn Clydach, lle y cafodd awel hyfryd oddiwrth Yspryd yr Arglwydd. Teimla nad oes ganddo yr un dymuniad ond gogoniant Duw, na'r un ofn ond rhag ei ddianrhydeddu. Dywed na chafodd y fath ymweliad erioed o'r blaen. Wrth deithio yr oedd y brawd Price gydag ef, a gwnaed y naill yn fendith i'r llall. Dywed ei fod yn ddedwydd, yn dragywyddol ddedwydd.
Cyrhaeddodd Drefecca nos Lun, a dywed fod nifer o'r ŵyn anwyl wedi dyfod i'w gyfarfod, i ba rai yr agorodd ei galon ar amryw faterion, yn arbenig ei briodas. Arosodd yn Nhrefecca dydd Mawrth, aeth i Erwd, nid yn nepell o Lanfair-muallt, dydd Mercher; i Ddolyfelin dydd Iau; a chawn ef yn Llansantffraid, Sir Faesyfed, y Sul. Yma pregethodd ar y geiriau: " Myfi yw yr adgyfodiad a'r bywyd," a chafodd lawer o ryddid ymadrodd. Gobeithia i lawer gael eu gosod yn rhydd. Y mae yn Erwd eto y Llun, a rhed ei fyfyrdodau ar Miss Ann Williams. Dywed fod ei weddïau gyda golwg arni yn mron cael eu hateb, a'i bod yn ymyl cael ei pherswadio; yn flaenorol ofnai y croesau, a'r treialon, a'i dymher erwin yntau; ond yn awr rhoddasai yr Iesu iddo ymysgaroedd o dynerwch. Yr oedd yn nerthol iawn wrth bregethu; cafodd ddiwrnod a noswaith i'w cofio byth; yr oedd y bobl yn fflam o gariad, a chawsant eu goleuo, eu porthi, a'u deffro. Daeth y tân i lawr, a phrofwyd melusder dirfawr. Cyrhaeddodd Drefecca nos Lun. Dydd Mawrth, y mae yn nhŷ John Price, yn Merthyr Cynog, rhyw bymtheg milldir o bellder, a thestun ei bregeth oedd: "Canys byw i mi yw Crist." Dydd Mercher, ceir ef yn Cantref, wrth droed Bannau Brycheiniog, dydd Iau yn Beiliau, a dydd Gwener yn Llanwrtyd, lle y teimla fod Duw gydag ef. Cawn ef dydd Sadwrn yn Llwynyceiliog, ger Caio. Yma y teimla mai efe yw y pechadur duaf ar wyneb yr holl ddaear. Cyrhaeddodd Lancrwys, yn ngodreu Cwmtwrch, o gwmpas deuddeg, a daeth i Langeitho yn hwyr yr un diwrnod. Dywed ei fod yn cael ei ddisgwyl yno, ac wrth weddïo, pledia yn daer ar ran yr ŵyn, ac am iddo yntau gael ei waredu oddiwrth y natur uffernol oedd ynddo. "O gariad rhyfedd," meddai, nad wyf yn uffern, wedi temtio cymaint ar Dduw."
Dydd Sul, Rhagfyr 5, y mae yn Llangeitho, ac yn myned i'r eglwys yn y boreu, lle y pregethodd yr anwyl Rowland, oddiar y geiriau: "Canys gŵr halogedig o wefusau ydwyf fi;" a chythruddwyd enaid Harris o'i fewn gan lymder y genadwri. Teimlai mai efe oedd yr adyn gwaethaf o fewn y byd. Yn y prydnhawn, aeth i Lancwnlle, un o'r eglwysi a wasanaethai Rowland; ac wrth glywed y Gair yn cael ei ddarllen cafodd olwg ar ogoniant Crist fel cyfaill publicanod a phechaduriaid. Gwnaed ef yn ddiolchgar wrth glywed Rowland yn pregethu. Yna cyfranogodd o'r sacrament, a gwelodd ei hun y tlotaf, y gwaethaf, a'r dallaf o bawb. " Y mae arnaf eisiau bywyd," medd, "a goleuni, a nerth, a chyfiawnder." Ymddengys fod y gyfeillach ar y ffordd rhyngddo a'r apostol o Langeitho yn nodedig o felus. " Ni wna Crist fy nghondemnio," meddai, " er fy mod yn haeddu, canys dyna ei ewyllys. Yna torodd goleuni arnaf. Eiddof fi yw Rowland; yn fwy nag erioed, gwelais mai eiddof fi yw Crist; ac felly eiddof fi yw pob peth." Yn yr hwyr, ar y maes ger Llangeitho, pregethodd Howell Harris i gynulleidfa o ddwy fil, hyd nes oedd yn wyth o'r gloch. Y mater oedd dydd y Pentecost, ac yspryd yr Arglwydd fel tân. Ymddengys fod yr odfa yn un dra nerthol; wrth lefaru am y tân, daeth y tân i lawr, ac yna aeth yn floedd trwy y lle. Ar y diwedd gweddïodd dros yr esgobion, dros yr eglwys yn gyffredinol, dros amryw o'r Diwygwyr erbyn eu henw, dros y seiadau yn Sir Forganwg, a thros ei fynediad yntau y tu hwnt i'r môr. Awgryma y gair diweddaf fod yn ei fryd ddilyn esiampl Whitefield, a chymeryd taith i'r America. Yn y tŷ bu ef a Rowland yn ymddiddan hyd dri o'r gloch y boreu, ynghylch y brodyr blaenaf gyda'r diwygiad, a'r angenrheidrwydd am eu dwyn i ryw drefn. Gwel fod y gwaith da yn myned yn mlaen yn hyfryd. Cyn myned i'w wely, trefnodd ei deithiau, ac yr oedd yn bedwar cyn iddo fyned i orphwys.
Dydd Llun, cychwyna dros y Mynyddbach, a chyrhaedda Landdewi Aberarth, ar lan y môr. Cafodd nerth mawr yma i gynghori gyda golwg ar ddwyn ffrwyth, ac i lefaru yn erbyn balchder, a diogi; yna efengylodd i'r rhai oedd wedi eu clwyfo. Dydd Mawrth ni a'i cawn mewn lle o'r enw Gwndwn, ger Llangranog, ar lan culfor Aberteifi. Testun ei bregeth yno oedd: "I hyn yr ymddangosodd Mab Duw, fel y datodai weithredoedd diafol." Cafodd odfa rymus; dyrchafwyd ei lais fel udgorn; a dywed ei fod yn nodedig o nerthol wrth wahodd at Grist.
GOLWG FEWNOL AR Y CAPEL COFFADWRIAETHOL
Wedi hyny ysgrifenodd at y cynghorwr blaenaf, ac yr oedd yn llawn o zêl wrth wneyd, gan ddangos iddynt y modd yr oedd y gwaith yn myned yn y blaen dros y byd, a'u hanog i zêl, bywyd, a thân. Yna, wedi canu a gweddïo, eisteddwyd wrth y bwrdd; ond wedi swpera, llefarai Harris drachefn wrth y teulu, gan eu hanog i gariad, a thynerwch, a charedigrwydd at bawb. Dydd Mercher y mae yn Llangranog; teimlai yn hyfryd wrth weddïo, a chynghori oddiar y geiriau: "Pa fodd y gwnaf y mawr ddrwg hwn, a phechu yn erbyn Duw?" Erbyn un daeth i Twrgwyn, a llefarodd oddiar Matt. xii. 43. Yma dywedai: "Yr wyf yn benderfynol i beidio gadael yr Eglwys dywyll hon (Eglwys Loegr); ond mi a safaf yn y bwlch, ac a lefaf ar y mur; nis gallaf roddi i fynu y weinidogaeth na'r bobl. Nid oedd y cyfarfod mor rymus ag yn Llangranog. Am chwech yr un dydd y mae yn Castellnewydd-yn-Emlyn. Datgana yma eto ei benderfyniad i beidio gadael yr Eglwys; ymddengys na chymerodd destun, ond iddo lefaru oddiar amryw adnodau oeddynt yn ateb ei bwrpas. Llefarodd dan gryn arddeliad. Wedi myned i'r tŷ clyw fod gwrthwynebiad yn cael ei barotoi iddo; wrth glywed, llanwyd ei enaid ynddo a nerth; teimlai y gallai wynebu pob erlid. Dywed fod y dyn ieuanc a fwriadai ei gael yn gynorthwywr iddo, John Belcher, neu James Ingram, gydag ef ar ei daith; ac y mae yn trafferthu llawer i'w gynghori a'i gyfarwyddo, a gweddïa yn fynych ar iddo gael ffydd. Dydd Iau, y mae yn Blaenporth; ei fater yma eto oedd: "Pa fodd y gwnaf y mawr ddrwg hwn? " Dymuna fod ganddo gan mil o fywydau i'w rhoi i'r Iesu. Aeth oddi yno tua thref Aberteifi; a chafodd gymdeithas felus a'r nefoedd ar y ffordd. Teimlai nerth dirfawr wrth weddïo a phregethu; ni chafodd erioed y fath nerth wrth efengylu. Gweddïa yn daer dros ei gydymaith: "O Arglwydd, cymhwysa ef ar fy nghyfer; gwna ef yn gryf i fyned trwy anhawsterau; gwna ef yn ffyddlon, yn ufudd, yn ostyngedig, ac yn dringar. Yr wyf yn hyderu yn awr, nad oes dim ond angau a'n gwahana."
Dydd Gwener, y mae yn gadael Aberteifi, wedi trafaelu y sir o Langeitho i'r gwaelod, ac yn cyrhaedd Dygoed, yn Mhenfro. Cafodd wrthwynebiad mawr yno gan Satan, yr hwn a safai ar ei ddeheulaw; ond wrth weddïo tynwyd ef y tu fewn i'r llen mewn modd na theimlodd ei gyffelyb o'r blaen; a phregethodd oddiar y geiriau: " Megys gan hyny y derbyniasoch Grist Iesu yr Arglwydd, felly rhodiwch ynddo." Ymddengys Sir Benfro iddo mewn cyflwr truenus. " Nid wyf yn gwybod," meddai, "ond am ychydig yn y wlad hon gymaint ag wedi eu dihuno i weled eu bod yn ddamnedig yn Adda." Llefarodd hyd yn agos i wyth; oddi yno hyd 11 bu gyda y dychweledigion ieuainc, yn eu ffurfio yn seiadau, ac yn eu hyfforddi mewn dysgyblaeth eglwysig. Dangosai iddynt natur gweithrediadau yr Yspryd; ei fod weithiau yn fawl, bryd arall yn alar; ei fod yn hyfforddi, yn arwain, yn bywiocau ac yn cadarnhau. Dangosodd ddyledswyddau aelodau y seiat, ac na ddylent gyfeirio yn gyhoeddus at bechodau gweinidogion yr efengyl, heb yn nghyntaf alaru o'u herwydd. Cyfeiriodd at y seiadau yn Llundain, ac fel yr oedd y gwaith mawr yn myned yn mlaen dros y byd. Gweddïodd gyda nerth, ac aeth i gysgu o gwmpas un, gan deimlo ei hun yn ddedwydd yn Nuw. Pregethodd boreu dydd Sadwrn drachefn yn Dygoed, ar, "Arhoswch ynof fi." Ty'r Yet, ger Trefdraeth, yw y lle y cyrhaeddodd nos Sadwrn. O gwmpas deg boreu Sabboth pregethodd ar hunan-ymwadiad; cafodd lawer o oleuni, a pheth nerth, ond yr oedd yn sych. Erbyn un yr oedd yn Llysyfran; ar y ffordd tuag yno bu yn cynghori yr ŵyn, y rhai, gobeithiai, oedd yn ddwfn argyhoeddedig o bechadurusrwydd hunan. Daethai cynulleidfa anferth ynghyd i Lysyfran; cyfrifa ef hi yn bum miÌ; ond yr oedd ef yn dywyll ac yn sych iawn ar y dechreu; "ni feddwn ddim nerth," meddai; ond yn raddol tosturiodd yr Arglwydd wrtho; tynwyd ef allan o hono ei hunan wrth weddïo, a chynorthwywyd ef i bregethu ar Had y wraig yn ysigo pen y sarff. Pregethai yn Gymraeg ac yn Seisneg; a soniai am y cyfamod cyntaf, modd ei torwyd, a'r felldith a ddilynodd, a'n bod oll trwyddo mor ddamniol ein cyflwr a'r diaflaid. Yna trodd i ddangos natur y cyfamod newydd. "Cefais nerth, a goleuni, a hyfrydwch mawr," medd, "fel yr wyf yn arfer gael ar y pen hwn, pan y'm harweinir ato gan Dduw. Yr wyf yn gobeithio i lawer gael eu hachub a'u troi; yr oedd yn felus mewn gwirionedd yma; ond yr oeddwn yn dra chyfeiriol a llym yn y rhan flaenorol, fel na allai cnawd fy nyoddef, gan ddangos nas gallent gadw eu calonau yn sefydlog ar Dduw am bum mynyd, pe y caent ddeng mil o fydoedd am hyny, o honynt eu hunain, nac edrych ar yr hwn a wanasant." Mewn ymddiddan preifat a ddilynodd, cafodd y beuai rhai ef yn fawr am beidio rhoddi rhagor o le yn ei weinidogaeth i foesoldeb, ac am osod dynion moesol ac anfoesol ar yr un tir o ran cyflwr. Gwelodd fod arno eisiau doethineb oddiwrth Grist yn gystal a nerth; teimlai yn barod, os dywedasai rywbeth ar gam, i alw ei eiriau yn ol, neu i'w hesbonio, ac yna aeth at yr Iesu i geisio doethineb. Cafodd hyfrydwch mawr yn y weddi deuluaidd, a gwnaed ef yn ddifrifol iawn wrth weddïo dros yr hen bobl yn neillduol. Bu yn ysgrifenu yn ei ddyddlyfr hyd o gwmpas deuddeg. Yna dywed fod yr helynt hono y cyfeiriasai ati yn ddrain yn ei ystlys o hyd; pe buasai wedi cael ei goddef i ddigwydd, nas gallasai ddal, y suddasai tani. Cawsai ei synu yn hapus at lefau tair merch ieuanc yn y cyfarfod, y rhai a gydweddïent gerbron yr orsedd. " Mor hyfryd yw calonau toredig," medd, " yn neillduol rhai ieuainc; mor ardderchog yw yr olygfa; dim ysgafnder, na dadleuaeth, na siarad; ond ar eu gliniau yn pledio eu trueni yn ddifrifol gerbron Iesu, Cyfaill pechaduriaid. Ni chlywais fiwsig mor felus erioed; yr oeddynt fel colomenod yn trydar."
Dydd Llun y mae mewn lle a eilw yn Treinar; yr oedd sefyllfa Eglwys Loegr yn gwasgu yn ddwys ar ei feddwl; bu yn wylo, yn galaru, ac yn dadleu ar ei rhan. Erbyn deuddeg, yr oedd yn Castellnewydd bach, a phregethodd hyd gwedi dau ar, "Gan edrych ar Iesu." Ar y dechreu yr oedd yn sych; ond yn raddol cafodd ryddhad, a thynwyd ef allan mewn mawr gariad. Priodola ei sychder yn y rhan gyntaf i falchder ei galon, o herwydd pa un y gorfodir Duw i'w gaethiwo, er ei gadw yn ostyngedig. Cafodd hyfrydwch a goleuni mawr; dangosodd hefyd os oedd tywyllwch yn Eglwys Loegr, fod marweidd-dra yn mysg yr Annibynwyr; "felly," medd, "bydded i ni alaru ynghyd, a pheidio gadael y naill na'r llall, na gwanhau dwylaw ein gilydd; nid yw Yspryd Crist yn dymuno am ddinystr nac enwad na dynion, ond ar i'r holl eglwysi gael eu llanw o Dduw." Aeth oddi yno tua Fishgate, pum' milldir o bellder; yr oedd yn hyfryd arno ar y ffordd, ac eto nid oedd mor agos at ei Waredwr ag y dymunai. Er ei bod yn nghanol Rhagfyr, dywed y rhaid iddo bregethu allan yn mhob man, gan lluosoced y cynulleidfaoedd. Cafodd hyfrydwch wrth weddïo, a llefarodd oddiar: "Canys byw i mi yw Crist." Yr oedd yn sych yma eto ar y cychwyn, ond dychwelodd ei Arglwydd ato heb fod yn hir. Cafodd gryn nerth i gymell at Grist. Yna aeth i seiat, lle yr oedd llonaid ystafell wedi ymgynull; cafodd nerth yma eto, gobeithia, i'w gosod ar dân; dywed wrthynt mai tân yw eu prif angen. Cyfeiria at yr Eglwys ac Ymneillduaeth fel yn farw. Cynghora hwy i oddef pawb sydd a'u hysprydoedd wedi eu tanio; ac eto nid oes neb i gael eu cefnogi i gynghori ond y rhai y mae Duw yn bendithio eu geiriau er bywiocau.
Dydd Mawrth, y mae yn Abergwaun. Yr oedd yr Arglwydd yn agos iawn ato yn ei ystafell wely. Teimlai anwyldeb mawr at ei gydymaith; edrychai arno fel wedi cael ei roddi iddo gan Dduw; a gweddïai drosto: "O Arglwydd, dy was di ydyw; rho iddo bob doethineb, pob zêl, pob gostyngeiddrwydd, a phob nerth ffydd, i ogoneddu dy enw. Yr wyt yn canfod mai er mwyn dy ogoniant yr oeddwn yn dymuno ei gael."Yna cafodd ddifrifwch mawr wrth weddïo tros yr ŵyn, yn arbenig y rhai a roddasai Duw iddo ef; teimlai y fath anwyldeb atynt fel na wyddai sut i'w gadael; synai fod y Goruchel a'r Dyrchafedig, yr hwn a breswylia dragywyddoldeb, yn gwneyd defnydd o hono ef, a darostyngwyd ef i'r llwch o'r herwydd. Gofynai am i'r Arglwydd fendithio ei lafur, a llafur yr holl frodyr, a dymunai na fyddai unrhyw ymraniad rhyngddynt. Ymddengys ei fod wedi clywed fod annhueddrwydd yn yr offeiriaid i oddef i'r Methodistiaid gymuno yn yr eglwysydd; a gweddïa yntau drostynt, os na chawsent eu galw i bregethu, ar iddynt gael eu cadw rhag gwrthwynebu, a goddef y bobl i ddyfod i'r ordinhad. Pregethodd oddiar Col. i. 12, 13. Ar y cyfan teimlai hyfrydwch yn y gwaith. Aeth oddi yno i Long House, ger Trefin. Llefarodd oddi ar Actau ii. 4: "A hwy oll a lanwyd a'r Yspryd Glân; " cafodd oleuni, hyfrydwch, a nerth mawr. Dydd Mercher y mae yn myned i Dyddewi; llefara hyd gwedi tri, a theimla dosturi diderfyn yn llanw ei yspryd wrth edrych ar y gynulleidfa. Wrth weddïo cafodd ryddid mawr; ac yr oedd nerth rhyfedd yn cydfyned a'r weinidogaeth. Pregetha yn yr hwyr drachefn; rhybuddia y bobl i beidio rhoddi mwy o bwys ar fedydd nag ar waed Crist; a chafodd fwy o flas wrth sôn am y clwyfau nag erioed. Dydd Iau y mae yn Wolf's Castle; ac yn Hwlffordd dydd Gwener. Aeth i eglwys Prendergast yn y boreu; bu yno mewn seiat breifat hyd ddeuddeg; yna pregethodd gyda nerth anarferol hyd oedd yn agos i ddau. Aeth oddi yno tua lle a eilw yn Fenton; yno yr oedd mewn caethiwed ar y dechreu, ac yn galed arno mewn gweddi; ond yn y diwedd cafodd ryddhad wrth bregethu. Aeth yn ei flaen i St. Kennox; llefarodd am gân Simeon a Mair, cafodd ei dynu allan yn rhyfedd. Disgwyliai gyfarfod a'r brawd Howell Davies yno, ond cafodd ei siomi. Gweddïodd drosto, pa fodd bynag. Dydd Sadwrn â i Lwyndyrys. Yma, er ei fawr lawenydd, daeth Howell Davies ato. Ar gyfer y Sul ysgrifena yn ei ddydd-lyfr: "Yr wyf wedi ymadael a'r anwyl a'r cariadus Howell Davies; cydunem yn hollol yn mhob peth, er fod Satan wedi ceisio creu ymraniad. Dywedais wrtho am drefn yr eglwys yn Llundain, ac am y gwaith mawr yn mhob man, a chefais ddoethineb i osod allan yn glir y pethau a rodded i mi." Dywed ei fod yn awyddus i'r diwygiad fyned yn ei flaen pe na bai ganddo ef un llaw ynddo; yn ewyllysgar iddo fyned yn ei flaen fel y mynai Efe, a thrwy yr hwn a fynai Efe. Y mae yn foddlon peidio myned i seiat y gweinidogion, rhag iddo beri gofid iddynt. Yna gweddïa: " O Arglwydd Iesu, pa bryd y caf ddyfod adref! O, yr wyf yn hiraethu am gael dyfod adref atat ti! Yno, fy Nhad, fy Mrawd, ni phechaf! " Aeth yn ei flaen i Landdowror, yna i eglwys Llandilo, lle y pregethai y Parch. Griffith Jones yn y prydnhawn, a daeth awel hyfryd ar ei enaid. Pregethai Mr. Jones—"y gwerthfawr Mr, Jones," y geilw Howell Harris ef—ar adgyfodiad Lazarus.
Gadawa Landdowror y Llun, y mae yn Cilgarw, ger Caerfyrddin, dydd Mawrth; yn Llanon dydd Mercher; Llansamlet, ger Abertawe, dydd Iau; Llanddeusant, Sir Gaerfyrddin, dydd Gwener. Dydd Sadwrn, yr hwn hefyd yw dydd Nadolig, y mae yn Llanddew, ger Aberhonddu, am bump o'r gloch y boreu yn y plygain, lle y gwasanaethai y Parch. Thomas Lewis. Oddi yno brysia yn ei flaen i Drefecca, fel y gallai gymuno yn eglwys Talgarth yn ol ei arfer. Ar ei ffordd clywodd fod ei gyfeillion wedi cael eu hatal o gymundeb yr Eglwys. Derbyniodd y newydd yn hollol dawel; yr oedd ei feddwl yn llawn o heddwch hyfryd, "nid oherwydd dylni," medd, "ond o herwydd ffydd, gan y gwelaf Grist yn mhob peth. Teimlais barodrwydd i adael yr Eglwys, a llawn nerth i ddyoddef hyn; ond teimlwn nas gallwn adael fy mrodyr i gael eu bwrw allan, heb fyned allan gyda hwynt." Yna aeth at yr offeiriad, y Parch. Price Davies, i ymholi ac i achwyn. Dywedodd hwnw, ei fod, oddiar resymau digonol, wedi penderfynu na chai y Methodistiaid gyfranogi o'r sacrament. "A ydych yn fy atal i rhag dyfod i'r ordinhad? " gofynai Howell
Harris. "Ydwyf, yn benderfynol," meddai y Ficer. Llanwyd enaid y Diwygiwr â heddwch dwfn wrth glywed; ymddiriedai yn ngeiriau Duw fod pob peth yn gweithio er daioni i'r rhai sydd yn ei garu; yna dywed: " Gwelais fod daioni mawr yn rhwym o ganlyn hyn; y mae y gwaith o Dduw; yr wyf finau yn foddlon dilyn. Llanwyd fy enaid â thosturi a chariad at yr offeiriad a'r bobl." Gobeithia, er iddo ef gael ei droi allan, y deuai Duw i achub y bob', druain. Y mae yn foddlon cael ei ddirmygu, ac i weled ond ychydig yn dyfod allan gyda hwy.
Yr oedd hyn cyn myned i'r eglwys. Yn y gwasanaeth, wrth glywed y Litany yn cael ei ddarllen ynghyd a'r llithiau, cafodd hyfrydwch mawr; teimlai fod yr adnodau yn nodedig o gyfeiriol. Pregethai yr offeiriad yn erbyn y rhai oeddynt yn mynychu cyfarfodydd crefyddol y tu allan i eglwys eu plwyf; galwai hwy yn Sismaticiaid, a dywedai eu bod yn archolli corff Crist ac yn trywanu ei ystlys sanctaidd mor wir a'r milwr a'i gwanodd a phicell. Tosturi dwfn ato a deimlai Harris, gwelai ei fod yn llefaru yn ol y goleuni oedd ganddo. Ond bu raid i'r Diwygiwr ymadael heb y fraint o gofio angau y Gwaredwr. Ar y ffordd i Drefecca, penderfynodd roddi yr holl achos gerbron yr Esgob, ac os byddai efe yn cadarnhau ymddygiad yr offeiriaid, nid oedd dim i wneyd ond cefnu ar yr Eglwys, er cymaint ei serch ati.
Cyrhaeddodd adref o gwmpas un; llifai heddwch fel yr afon i mewn i'w yspryd; bu yn ysgrifenu llythyrau ac yn cofnodi ei deimladau yn ei ddydd-lyfr hyd gwedi tri, yna pregethodd i gynulleidfa liosog oddiar Esaiah xl: " Cysurwch, cysurwch, fy mhobl." Cafodd nerth anghyffredin i gyfeirio eu llygaid at Grist; hydera i lawer gyfarfod a'r Arglwydd y prydnhawn hwnw. Cyfeiriodd at waith yr offeiriaid yn eu cau allan o ragorfreintiau'r tŷ, a dywed ei fod yn foddlon i'r mater, pwy yw y gwir brophwyd dros Dduw, gael ei benderfynu yn y farn ddiweddaf. Dyma lle y teimlodd fwyaf o nerth wrth lefaru; a syna at y cariad angerddol a lanwai yr ŵyn. Er ei fod heb gysgu y noson flaenorol, a'i fod wedi bod mewn chwech o gyfarfodydd cyhoedd a phreifat y dydd hwnw, cychwyna gyda mîn y nôs i Sancily, ffermdy lled fawr, yn nyffryn Wysg, rhwng Talybont ac Aberhonddu, yr hyn a wnelai ei daith am y diwrnod yn ddeng-milldir-ar-hugain. Er hwyred ydoedd, pregethodd mewn lle o'r enw Tygwyn. Ei destun ydoedd: " Trowch eich wynebau ataf fì holl gyrau y ddaear, fel y'ch achuber." Ar y dechreu yr oedd yn dra difywyd; nid oedd unrhyw ddylanwad yn cydfyned a'i eiriau; ond rhoddwyd ef yn rhydd; cafodd nerth rhyfedd, a chariad a goleuni, i edrych at Grist.Boreu y Sul y mae yn Sancily, a daeth i'w feddwl drachefn y priodoldeb o fyned dros y môr; teimlai ** a Chymru yn agos iawn at ei galon, ond galluogwyd ef i'w cyflwyno i'r Arglwydd Iesu. Teimlai Dŷ yr Amddifaid (a adeiladesid yn Georgia gan Whitelìeld) eglwysi yr ochr arall i'r cefnfor, yn pwyso ar ei feddwl, a mawr awyddai eu gweled. Credai y gallai yr Iesu gario ei waith yn mlaen yn y wlad yma hebddo. Aeth i eglwys Llanddew, lle y pregethai y Parch. Thomas Lewis. Yno cafodd les i'w enaid. Yr oedd ganddo amcan deublyg wrth fyned i Landdew, sef cael cyfranogi o'r sacrament, yr hyn a waharddasid iddo yn eglwys Talgarth gan Mr. Price Davies, y ficer, a chael ymgynghori a Mr. Thomas Lewis, yn ngwyneb y dyryswch newydd oedd wedi codi. Toddodd ei galon fel cwyr ynddo wrth nesu at y bwrdd; tynwyd ei yspryd yn agos iawn at yr Iesu, a melus oedd y gyfeillach. Teimlodd fod yr Iesu yn aros yn ffyddlon, pan yr oedd ef yn cael ei fwrw allan o eglwys ei blwyf. Wrth edrych ar yr elfenau, gwelodd fwy o ddirgelwch yr undeb rhwng y ddwyfoliaeth a'r ddynoliaeth yn mherson y Mab nag erioed.
Aeth oddi yno tua Merthyr Cynog; clywai fel yr oedd y gwaith yn myned rhagddo yn mhob man, a phenderfynai lynu wrth yr ŵyn. Cyrhaeddodd yno o gwmpas pedwar; "Trowch eich wynebau ataf fi," oedd ei destun, cafodd nerth mawr wrth weddïo, ac wrth anerch y dyrfa. Yn yr hwyr aeth i le a eilw Alltmawr, pregethodd hyd gwedi naw oddiar Zech. xii. 10: "A thywalltaf ar dŷ Dafydd, ac ar breswylwyr Jerusalem, yspryd gras a gweddïau, a hwy a edrychant arnaf fi yr hwn a wanasant; " ac yr oedd y nefoedd yn gwenu arno, Bu i lawr hyd gwedi un-ar-ddeg yn cynghori yr ŵyn.
Dydd Llun, y mae yn Llanddewi'r Cwm; anogodd y bobl i edrych at Grist, yna cychwynodd i Langamarch, lle y cyfarfyddodd a'r anwyl Mr. Gwynn. Ei destun yno oedd: "Wele Oen Duw," a chaffodd ddirfawr nerth i lefaru.
Gwedi cymdeithas felus a Mr. Gwynn, cyfeiriodd ei gamrau tua Dolyfelin. Ar y ffordd bu yn dda ar ei enaid; gwelodd bechod fel y mae yn erbyn yr Iesu, ac felly dychrynai rhagddo yn gystal a rhag ei ddoethineb, ei ewyllys, ei reswm, a'i gyfiawnder ei hun; gwelodd Grist yn ogoneddus, a'i hunan yn ofnadwy, nes y gweddïodd: " O, achub fi rhag fy hunan! " Pregethodd oddiar Heb. xii. 1, 2, gyda nerth mawr. Wedi hyny aeth tua Llanfair-muallt, yr oedd ei gysylltiad a Miss Williams, y Scrin, yn pwyso yn drwm ar ei feddwl; ar yr un pryd teimlai barodrwydd i'w rhoddi i fynu, ac i beidio ei gweled byth, os byddai hyny yn fwy manteisiol i ŵyn Crist. Cafodd undeb nefol, a rhyddid ffydd, yn nghymdeithas saint Llanfair; gwelai fod goleuni Crist yn peri iddynt ddirmygu yr hen gyfamod. Pregethodd yma eto oddiar " Trowch eich wynebau ataf fi," a chafodd ryddid a dirfawr felusder yn y gwaith. Aeth oddi yno tua chyfeiriad Hengwm, gan daflu bras-olwg ar ei lafur, er pan y dechrenodd fyned allan gyda'r efengyl. Dywed ddarfod iddo deithio tua deuddeg milldir y dydd am y pedair blynedd a haner diweddaf, ac felly fod ei holl deithiau am y tymor hwnw dros dair mil o filldiroedd, a'r cyfanswm am yr wyth mlynedd yn agos i chwe' mil. Traddodasai rhwng chwech a saith mil o bregethau, heblaw cofnodi ei deimladau a'r digwyddiadau yn ei ddydd-lyfr, ac ysgrifenu llythyrau dirif. Yn ychwanegol, cynghorai yn y seiadau. Cafodd gyfarfod nodedig o nerthol yn Hirgwm. Wrth weddïo daeth dylanwad rhyfedd ar ei yspryd; gwelodd ei holl bechodau wedi eu cyfrif ar Grist; " Gwelais ef,"' meddai, " yn gorchfygu angau ac uffern, ac yn gwneyd hyny drosof fi, yn fwy clir nag erioed; tynwyd fi allan o fy hunan yn fwy nag erioed. Yna, wrth bregethu oddiar 'Wele Oen Duw,' yr oeddwn yn ofnadwy, yn fwy gorchfygol nag erioed; yr oedd genyf yspryd ac awdurdod fel nas gellid gwrthsefyll. Yr oeddwn yn galw ar y chwareuwyr, ac yn condemnio eu hiaith, yn tori pob peth o'm blaen, gan gyfeirio at yr hen fyd, at Sodom, ac at y pechod yn erbyn yr Ysbryd Glân."
Ymddengys fod yr odfa, yr hon a ddesgrifia gyda manylwch, yn un ofnadwy; atebai esgusodion yr annuwiol; condemniai y teuluoedd diweddi, a'r rhai a ddygent eu plant i fynu gan eu harfer i chwareuyddiaethau; a dywedai, os yw Gair Duw yn wir, fod yr holl wlad yn myned tuag uffern. "Ychydig oedd genyf i'r ŵyn," meddai; "ond ni chefais y fath awdurdod erioed." Diau fod yno le difrifol mewn gwirionedd; mellt Sinai a oleuent i'r bobl eu cyflwr colledig, a tharanau yr Hollalluog a ruent yn eu clyw, nes yr oedd eu wynebau wedi myned fel calch, a'u gliniau yn curo ynghyd. Y mae yn Hirgwm hefyd dydd Mercher; aeth oddiyno i Cefnllys, yn Sir Faesyfed; dydd Iau y mae yn Cefnbrith, nid yn nepell o Cefnllys. Aeth oddiyno i Gore, ac ar y ffordd darllenai Lyfr Vavasor Powell, yn desgrifio ansawdd Cymru yn y flwyddyn 1641. Pregethodd yma oddiar Es. xlv. 22. Ar y dechreu yr oedd yn sych iawn, dim dylanwad, a braidd y medrai gael geiriau. Ond trodd at y gyfraith yn ddisymwth; yna daeth nerth mawr, tra y dangosai iddynt eu bod yn caru, yn ofni, yn ymddiried, ac yn rhyfeddu at bob peth ond Duw. Y mae yn y Rhiw dydd Gwener, y dydd diweddaf o'r flwyddyn 1742, a dydd Sadwrn, y cyntaf o'r flwyddyn newydd, y mae yn y Scrin, ar ymwehad a Miss Ann Williams. Teifl y difyniadau hyn allan o'i ddydd-lyfr oleuni mawr ar ei hanes, ar y diwygiad, ar y rhwystrau mawrion a'i cyfarfyddent, ac ar ansawdd ei feddwl yntau. Ond ein hamcan penaf oedd rhoddi rhyw syniad am fawredd ei ymdrechion, a'i yni diderfyn.
Ar ol dychwelyd o'r daith, yr hon a barhaodd agos i saith wythnos, rhydd y crynodeb canlynol o'i lafur, mewn llythyr at gyfaill: "Yr wyf, oddiar pan adewais Lundain, wedi teithio dros fil o filldiroedd, ac wedi llefaru dros chwech ugain o weithiau, fynychaf yn yr awyr agored, gan na all unrhyw dŷ gynwys y dorf, a hyny yn nghanol gwyntoedd, gwlawogydd, a rhew; ac eto nid wyf yn waeth o ran fy nghorff nag ar y dechreu. Hyfryd yw bod ar fy eithaf dros Dduw." Meddai, mewn llythyr arall, at un Mr. Baddington, "Pe baech yn cymeryd tro gyda mi am ddeufis neu dri, yn gweled fy llafur a'm profedigaethau, yr wyf yn sicr na ryfeddech gymaint am na anfonais atoch cyn hyn. Y mae yn awr ynghylch naw wythnos er pan ddechreuais fyned o amgylch De a Gogledd Cymru. Yn yr amser hwn mi a ymwelais â thair sir-ar-ddeg, a thrafaelais gan amlaf 150 o filldiroedd bob wythnos, gan bregethu ddwy waith, ac weithiau dair a phedair gwaith y dydd. Bum saith noswaith yn olynol heb ddiosg fy nillad. Teithiais o un boreu hyd yr hwyr dranoeth, heb orphwys, dros gan' milldir, gan bregethu ganol nos, neu yn foreu iawn, ar y mynyddoedd, rhag cael ein herlid."
Mewn gwirionedd, yr oedd ei lafur yn anhygoel. Y syndod yw nad ymollyngodd ei gyfansoddiad, er cadarned oedd, tan bwys y gwaith. Gwedi taith flin, a phregethu amryw droiau i dorfeydd terfysglyd, a'r holl wlad yn ferw ac yn gyffro o'i gwmpas, arosai i lawr drachefn hyd dri neu bedwar o'r gloch y boreu, yn gweddïo, yn ymdrechu yn galed a llygredigaeth ei galon, ac yn ysgrifenu, fel nad oedd ganddo nemawr o amser i orphwys. Efe, uwchlaw pawb, a arloesodd y tir, ac a dorodd y garw, i'r efengyl. Tybiai ef ei hunan yn fynych fod ei ddiwedd yn ymyl, ond ni theimlai unrhyw brudd-der o'r herwydd; yn hytrach cyffroid ei enaid ynddo gan y gobaith o fyned at ei Waredwr.
Fel enghraifft o'i ddyoddefaint gyda gwaith yr efengyl cymerer a ganlyn. Ryw noson clywai Mrs. Rumsey, Tynywlad, ger Crughywel, lais gwan wrth ddrws y tŷ, o gwmpas dau o'r gloch y boreu. Adnabu y llais, mai llais Howell Harris ydoedd. Prysurodd i agor, ac erbyn iddo ddod i mewn yr oedd golwg ryfedd arno. Wrth ddychwelyd o Sir Fynwy cawsai ei guro a'i faeddu yn dost; gorchuddid ei gorff gan waed, a chan archollion a chleisiau; cafwyd fod tri-arddeg o glwyfau ar ei ben, a'r syndod oedd na chawsai ei ladd. Cafodd bob ymgeledd posibl mewn ffermdy, ac aeth i ffwrdd boreu dranoeth yn siriol ei yspryd, gan ystyried mai braint oedd cael dyoddef anmharch dros Grist.
Dro arall, sef Mehefin, 1741, yr oedd ef a John Cennick yn Swindon ar eu ffordd i Lundain. Dechreuasant ganu ac efengylu, ond cyn gallu dechreu pregethu ymosodwyd arnynt gan y werinos. Saethent a drylliau dros eu penau, ac yr oedd ffroenau y drylliau mor agos i'r pregethwyr fel y gwnaed eu hwynebau mor dduon gan y pylor ag eiddo tinceriaid. Nid oedd arnynt fraw; agorasant eu mynwesau, a dywedasant eu bod yn barod i roddi eu bywydau dros eu hathrawiaeth. Yna cawsant eu gorchuddio drostynt oll a llwch yr heol, yr hwn a deflid atynt. Yn nesaf, cafodd y terfysgwyr beiriant dwfr, yr hwn a lanwasant o gwteri aflan, gan arllwys yr hylif budr ar weision Crist. Ond ni ddigalonent. " Tra y taflent y dwfr budr ar Harris," meddai Cennick, " pregethwn i; pan y tröent y peiriant arnaf fi, pregethai yntau." Parhasant i wneyd hyn, nes niweidio y peiriant; yna taflasant fwceidiau o ddwfr budr a llaid arnynt. Yr oedd boneddwr, o'r enw Mr. Richard Goddard, yn anog y terfysgwyr; benthycasai iddynt ei beiriant a'i ddrylliau i'r pwrpas; dywedai wrthynt am drin y ddau bregethwr cynddrwg ag y medrent, ond peidio eu lladd. Safai ar gefn ei geffyl yn edrych ac yn chwerthin. Wedi iddynt ymadael, gwisgasant ddwy ddelw, galwasant un yn Harris a'r llall yn Cennick, a llosgasant hwy. Diau mai hyn a wnaethent a'r pregethwyr eu hunain oni bai fod arnynt ofn. Nid digwyddiad ar ei ben ei hun oedd hwn, cyfarfyddent a'r cyffelyb yn mron bob dydd.
Fel pregethwr, math o Ioan Fedyddiwr ydoedd, a gwaith garw, rhagbarotôl, i raddau mawr, a gyflawnodd. O ran gallu gweinidogaethol, nid oedd i'w gymharu a Daniel Rowland. Yn ei flynyddoedd cyntaf, ychydig o drefnusrwydd fyddai ar ei sylwadau, ac ni arferai gymeryd testun, eithr llefarai yr hyn a roddid iddo ar y pryd. Tywalltai allan yr hyn a fuasai yn berwi yn ei fynwes, heb ryw lawer o reoleidd-dra, ond gydag awchlymder a nerth nas gallai dim sefyll o'i flaen. Ar yr un pryd, yr oedd rhyw hynodrwydd yn ei arddull, oedd yn ei osod ar ei ben ei hunan ynghanol pawb. Meddai Williams, yn ei farwnad:—
" Ond yn nghanol myrdd o honynt Mae rhyw eisiau o dy ddawn."
Nid rhaid ond edrych ar ei ddarlun," ysgrifena Dr. Owen Thomas,[91] " er mwyn gweled ar unwaith, mai nid dyn cyffredin ydoedd. Y mae y wyneb hir, ac yn enwedig yr ên hir yna, y trwyn eryraidd, yr aeliau mawrion, y talcen llydan er nad yw yn uchel, y genau agored eang, y llygaid treiddgar, a'r wynebpryd penderfynol yna, yn arwyddo ei fod yn berchen galluoedd naturiol cryfion, ac yn arbenig ei fod wedi ei wneuthur heb ofn." Yr oedd dwysder ei argyhoeddiad hefyd, yr ing enaid ofnadwy y pasiodd trwyddo, yr agosrwydd at dragywyddoldeb yn mha un yr oedd yn byw, yn awchlymu ei leferydd, ac yn rhoddi mîn ar ei eiriau. Meddai y Parch. John Hughes:[92] "Rhoes Duw iddo orchymyn, ' Llefa a'th geg, nac arbed; dyrchafa dy lais fel udgorn, a mynega i'm pobl eu camwedd, a'u pechodau i dŷ Israel." Y llef a ddywedodd wrtho, ' Gwaedda.' A gwaeddi yn groch a wnaeth: ' Pob cnawd sydd welit, a'i holl odidowgrwydd sydd fel blodeuyn y glaswelltyn.' Gwnaed ei wyneb fel callestr. Dyrchafodd ei lef uwchben dynion diofal nes yr oedd eu gwynebau yn gwelw-lasu." Pregethwr y werin anystyriol ydoedd yn benaf; pe buasai ei iaith yn fwy coeth, ei leferydd yn fwy tyner, a'i fater yn fwy athronyddol, ni fuasai yn offeryn cymwys ar gyfer y gwaith oedd Duw wedi dori allan iddo. Cyfeiria John Wesley, yn ei ddydd-lyfr, at rymusder ei genadwri. Ar gyfer dydd Llun, lonawr 22, 1750, ysgrifena: "Mi a weddïais yn y boreu yn y Fomidery (capel Mr. Wesley, yn Llundain), a phregethodd Howell Harris, areithiwr nerthol, yn gystal wrth natur a thrwy ras, ond nid yw yn ddyledus am ddim i gelfyddyd na dysgeidiaeth." Cyfeiria ef ei hun yn aml at brinder ei wybodaeth, a'i fod yn methu cael amser i ddarllen, fel rhwystrau ar ei ffordd gyda'r weinidogaeth. Ond fel yr ydoedd yr oedd gymhwysaf ar gyfer ansawdd y wlad. Mewn ymroddiad diarbed i lafur, mewn teithiau hirion a pheryglus, mewn cydwybodolrwydd dwfn i'r Arglwydd Iesu, mewn hyfdra sanctaidd yn ngwyneb gwawd ac erhd, ac mewn ymdeimlad difrifol a gwerth yr eneidiau oedd yn teithio
yn ddiofal i ddinystr, ni ragorodd un o'r Diwygwyr ar Howell Harris. Braidd na allai ddweyd yn ngeiriau Paul: "Mi a lafuriais yn helaethach na hwynt oll;" ac yn briodol iawn y gelwir ef yn Luther Cymru. Yr oedd ei allu trefniadol hefyd agos a bod yn gyfartal i'w ddawn fel siaradwr; bu ganddo ef law fawr, yn wir y llaw fwyaf, yn lluniad y cyfansoddiad Methodistaidd ar y cychwyn, ac y mae ei ddelw ef i'w gweled yn amlwg ar y Cyfundeb hyd heddyw. Gadawn hanes Howell Harris yn y fan hon yn bresenol, ond cawn ddychwelyd ato eto.
—————————————
—————————————
HANES Y DARLUNIAU.
ATHROFA TREFECCA CHAPEL COFFERWDAETHOLAETHOL HOWELL HRRIS. Cymerwyd y darlun hwn ar gyfer y gwaith presenol yn ngwanwyn y flwyddyn hon, 1894. Yn mis Ebrill, y flwyddyn 1752, y gosododd Howell Harris sail yr adeilad i lawr; ac yr oedd rhan o hono wedi ei orphen yn y flwyddyn ganlynol. Ar ddiwedd y flwyddyn 1754 yr oedd teulu sefydledig yn Nhrefecca, o gylch cant o rifedi, heblaw y rhai oedd yn myned ac yn dyfod. Gan y rhoddir hanes cyflawn o'r sefydliad yn Nhrefecca yn amser Howell Harris yn y lle priodol yn nghorff y gwaith, ni raid ymhelaethu arno yn y fan hon. Yn y flwyddyn 1842 yr agorwyd y lle fel Athrofa y Deheudir, ac am yr ugain mlynedd cyntaf, y Parch. D. Charles, B.A., oedd yr unig athraw. Agorwyd y Capel Coffadwriaethol yn mis Gorphenaf, 1873, sef can-mlwyddiant marwolaeth Howell Harris. Gwasanaethwyd ar yr agoriad gan y Parchedigion Dr. Lewis Edwards, Bala; Dr. Owen Thomas, Liverpool; Edward Matthews, David Williams, Troedrhiwdalar, ac eraill. Cynllunydd y capel ydoedd Mr. R. G. Thomas, Menai Bridge; a'r adeiladydd Mr. Evan Williams, Bangor. Costiodd £3,432 2s. 2c. Casglwyd yr arian drwy ymdrechion y Parchedigion Edward Matthews, a Dr. J. Harris Jones, un o athrawon y sefydliad.
DARLUN GWREIDDIOL HOWELL HARRIS. Cyhoeddwyd dau Gofiant o Howell Harris yn y flwyddyn ar ol ei farwolaeth. Argraffwyd hwy yn Nhrefecca, ac yr oedd y cyntaf yn yr iaith Gymraeg, a'r llall yn Saesneg; ond ni chyhoeddwyd darlun o'r Diwygiwr hynod yn y Cofiantau hyny. Cyhoeddwyd Cofiant eilwaith iddo yn Nhrefecca yn 1792, ond nid oes darlun o hono yn hwnw ychwaith. Ond yn y flwyddyn 1838, sef yn mhen tri ugain a phump o flynyddau wedi marwolaeth Howell Harris, fe ail-argraffwyd y Cofiant a ddygwyd allan yn 1792 gan Mr. Nathan Hughes, tad y diweddar Barch. Jobn Ricbard Hughes, Brynteg, Sir Fon. Argraffwyd ef yn Merthyr Tydfil. Pan ynghylch cyhoeddi yr argraffiad hwn o Gofiant Howell Harris, cafodd Mr. Nathan Hughes afael ar ddarlun o hono yn Nhrefecca, pa un a osododd yn llaw fod pris y darlun ei hun yn llawn cymaint a hyny, o herwydd dywedir ddarfod i'r platcerfiedydd mewn dur, a chyhoeddodd liaws o gopïau o hono. Er fod cyhoeddiad y Cofiant hwn a'r darlun yn gyfamserol, ymddengys eu bod yn cael eu gwerthu ar wahân; o herwydd nid yw y darlun wedi ei rwymo gyda'r Cofiant, yn y copïau yr ydym ni wedi eu gweled; ac yr ydym wedi dyfod ar draws y darlun yn aml, heb y Cofiant. Pris y Cofiant ydoedd swllt, a thebygol e gostio deg punt; felly gwerthid hwy gyda'u gilydd neu ar wahân, yn ol ewyllys y prynwr. Dywedir fod y plate yn awr yn meidiant y Parch. Dr. Hughes, gweinidog y Bedyddwyr, Scranton, Pen. America, sef un o feibion Mr. Nathan Hughes. Y mae darlun Howell Harris wedi ei gerfio lawer gwaith yn ystod y blynyddau diweddaf.
EGLWYS TALGARTH. Copi ydyw y darlun hwn o'r print a gyhoeddwyd gydag argraffiad Mr. William Mackenzie o "Holl Weithiau Williams, o Bantycelyn," dan olygiad y diweddar Barch. J. R. Kilsby Jones. Cymerwyd y photograph gwreiddiol tua'r flwyddyn 1867, gan Mr. T. Gulliver, Abertawe. Yr oedd yr eglwys y pryd hwnw heb fyned dan unrhyw gyfnewidiad. Y mae yr eglwys yn bresenol yn bur debyg i'r fel yr ydoedd yn amser Howell Harris, ac y mae genym wrth law amryw ddarluniau diweddar o honi, eto gwell oedd genym dalu am y copyright i Mackenzie na gwneyd defnydd o honynt.
ATHROFA'R IARLLES HUNTINGTON. Cymerwyd y darlun o'r adeilad dyddorol hwn allan o'r Evangelical Register am Ebrill yn y flwyddyn 1824, cyhoeddiad perthynol i Gyfundeb yr Iarlles. Gan y mynegir hanes yr adeilad yn yr amser priodol yn ngborff y gwaith hwn, nid oes eisiau ond crybwyll yn y fan hon, fod Athrofa yr Iarlles, ag Athrofa presenol y Methodistiaid yn Nhrefecca, yn ddau adeilad hollol wahanol, fel y gwelir oddi wrth y darluniau sydd yn addurno y benod hon. Saif Athrofa'r Iarlles ar dir Trefecca Isaf; daeth y tir hwn yn eiddo, trwy bryniad, i Thomas Harris, a disgynodd trwy etifeddiaeth ar ol ei ddydd ef, i Mrs. Hughes, unig ferch brawd hynaf Howell Harris, sef Joseph Harris. Ar ol marwolaeth yr Iarlles, symudwyd yr Athrofa i Cheshunt, ac aeth yr adeilad yn adfaeledig. Y mae bellach er ys blynyddau yn amaethdy, a gelwir ef yn "College Farm," ac y mae yn meddiant James P. W. Gwynne Holford, Ysw., o Buckland, yr hwn sydd yn disgyn o'r Harissiaid. Yr oedd y tir ar yr hwn yr adeiladwyd yr Athrofa bresenol yn eiddo Howell Harris ei hun, er mai i bwrpas arall y bwriadai efe y lle.
GOLYGFA DDWYRAIN-OGLEDDOL AR ATHROFA TREFECCA. Dengys y darlun hwn y rhan o'r adeilad a neillduir yn breswylfod y Prif Athraw. Adnewyddwyd yr Athrofa yn fawr yn ystod y blynyddau diweddaf, ac y mae yn bresenol yn edrych yn adeilad hardd ac mewn cadwraeth dda.
EGLWYS DEFYNOG. Er fod yr eglwys eang hon wedi myned dan adgyweiriadau yn ystod y blynyddau diweddaf, eto nid ydyw wedi myned dan gyfnewidiadau mawrion, er pan y cyfarfyddodd Howell Harris â Daniel Rowland ynddi, yn y flwyddyn 1737. Y mae hon, fel eglwys Talgai'th, yn llawer mwy o faintioli nag yw eglwysi parthau gwledig Cymru yn gyffredin. Yma y treuliodd y Parchedig Mr. Parry ddiwedd ei oes, er ei fod yn llawer mwy adnabyddus fel Mr. Parry o Lywel. Yr oedd efe yn ei ddydd yn un o'r offeiriaid mwyaf poblogaidd a feddai y Deheudir, ar gyfrif ei ddawn pregethwrol a'i ddaliadau efengylaidd. Y mae ei gorff yn gorwedd yn y fynwent hon, er nad yw y fan yn cael ei ddangos yn y darlun hwn.
COFLECH HOWELL HARRIS YN EGLWYS TALGARTH. Nid yw yn hysbys pa bryd y gosodwyd y goflech hon i fyny. Tebygol iddi gael ei gosod yno yn fuan wedi ei farwolaeth, gan y "teulu" yn Nhrefecca. Y mae Mr. Theophilus Jones, yn ei History of Breconshire, a gyhoeddwyd yn 1809, yn crybwyll am dani, er mai cyfeiriad anmharchus ddigon a geir ati yn ei lyfr ef. Y mae yr hanesydd tra-eglwysig hwnw yn achwyn ar eiriad y coffadwriaeth sydd ar y goflech, ac yn anfoddlawn, debygid, fod y geiriau "a hunodd yn yr Iesu " wedi eu harfer i ddynodi ei ymadawiad ef. Tra ddyrchefir ei frodyr ganddo ar draul ei ddarostwng ef. Prin y mae yn bosibl i gulni yspryd fyned yn mhellach na hyn. Adnewyddwyd Eglwys Talgarth yn fawr yn y blynyddau 1874-5, ac o herwydd rhyw resymau nad ydynt yn hysbys i ni, fe dynwyd y goflech ymaith oddiar fur gogleddol yr eglwys, lle yr ydoedd wedi bod am gynifer o flynyddau; ac y mae rhan o honi—a dim ond rhan yn unig—yn awr wedi ei gosod mewn modd digon anmharchus yn erbyn y mur, ar un o ystlysau yr eglwys. Y mae yn anhawdd peidio ymholi paham na buasai yr awdurdodau oedd yn gyfrifol am adgyweiriad yr eglwys, yn ail-osod y goflech? Nis gellir dweyd ei bod yn anhardd ac anolygus, o herwydd y mae y darlun o honi sydd ar tudalen 107 yn dangos yn wahanol. Hwyrach y gallasai ei fod yn angenrheidiol iddi gael ei symud o'r fan yr ydoedd wedi bod er amser marwolaeth Howell Harris, ond pa gyfrif sydd am nad ail-adeiladwyd hi yn ei chyfanrwydd mewn rhyw gwr arall o'r eglwys? Nid ydym yn ystyried ein bod yn gwybod digon o'r amgylchiadau i ateb y gofynion hyn, ond yn sicr, yr ydym yn credu y dylai fod gan awdurdodau Eglwys Talgarth atebion da iddynt. Howell Harris yn ddiau oedd y mwyaf ymlyngar wrth yr Eglwys Sefydledig o'r oll o'r Tadau, ac y mae ei goffadwriaeth yn haeddu pob parchedigaeth oddiar ei llaw hi. Gan Mr. D. Grant, o Lanfair-yn-muallt, y cymerwyd y darlun gwreiddiol.
COFLECH HOWELL HARRIS YN Y CAPEL COFFADWRIAETHOL. Y mae y maen coffadwriaethol hwn yn un destlus a da. Gwnaed y medallion gan Mr. William Davies (Mynorydd), Llundain, ac y mae yn waith celfyddgar a gorchestol. Y geiriau a gerfiwyd arni ydynt fel y canlyn:—"This Chapel was erected in memory of Howell Harris: born at Trevecca, January 23rd, 1714: died July 21st, 1773. He was interred near the Communion Table in Talgarth Church. His powerful preaching was blessed of God, to the conversion of many souls, and the revival of religion in all parts of Wales." Rhodd cyfeillion Llundain ydyw, a chostiodd £32.
LLYFRGELL TREFECCA, YNGHYD A PHWLPUD A CHADAIR DDERW HOWELL HARRIS. Gesid y darlun hwn ger ein bron olygfa ar un o ystafelloedd Llyfrgell yr Athrofa. Y mae y pwlpud a'r gadair wedi eu symud o'u lleoedd priodol, fel ag i ymddangos yn y darlun. Y mae y pwlpud yn egluro ei hun. Cadair dderw gerfiedig ydyw y gadair hon, ac y mae y flwyddyn 1634 wedi ei cherfio arni, felly gwelir fod y gadair yn meddiant y teulu, lawn bedwar ugain mlynedd cyn geni Howell Harris.
GOLYGFA FEWNOL AR Y CAPEL COFFADWRIAETHOL. Rhydd y darlun hwn syniad cywir am sefyllfa y pwlpud a'r goflech. Gwelir ynddo y bwrdd a'r ddwy gadair freichiau, rhodd cyfeillion Dolgellau, gwerth £25. Y mae eiddo gwerthfawr eraill yn y capel hwn, ar nas gallesid eu cael i fewn i'r darlun, megys y llestri arian at wasanaeth y cymun, gwerth £52, a gyflwynwyd gan gyfeillion o Liverpool; ynghyd ag awrlais ardderchog, gwerth £25, sydd yn rhodd cyfeillion o Ddinbych, &c.
LLAWYSGRIF HOWELL HARRIS. Gwelir fod y llythyr hwn wedi ei ysgrifenu yn eglur, ac yn gwbl anhebyg i'w lawysgrif yn y dydd-lyfr, yr hwn sydd yn hynod o aneglur, ac yn llawn talfyriadau. Gosodir tudalen o'r dydd-lyfr i fewn eto. Y mae nodiad ar gefn y llythyr hwn yn darllen fel hyn:—"Letter sent, 1756, to the 4 brethren gone to the Army." Nid yw yn hysbys pwy oeddynt. Mae y gwreiddiol yn ngadw yn Athrofa Trefecca, a chopiwyd ef gan Mr. O.M. Edwards, M.A., Rhydychain, yr hwn sydd yn arlunydd medrus, yn gystal ag yn llenor gwych.
-^PENOD VI
HOWELL DAVIES
Ei hanes dechreuol yn anhysbys—O dan addysg Griffith Jones[93] —Yn guwrad Llysyfran—Ei benodiad i fod yn guwrad Llanddowror—Eglwys Prendergast, a chysylltiad Howell Davies a hi—Yn dyfod yn un o arweimvyr y Methodistiaid—Penfro yn brif faes ei lafur—Ei briodas—Ei lafur mawr gyda'r diwygiad—Adeiladu y Tabernacl yn Hwlffordd—Capel Woodstock, gweinyddu y sacramentau yno—Adeiladu capel newydd—Ei nodweddion—Ei farwolaeth a'i gladdedigaeth.
O'r "Tadau Methodistaidd" y Parchedig Howell Davies, Apostol Penfro, yw yr un y gwyddis lleiaf o'i hanes. Nid ydym yn gwybod brodor o ba le ydoedd; beth oedd enwau, galwedigaeth, a sefyllfa gymdeithasol ei rieni; na dim o hanes ei faboed yntau. Braidd nad yw fel Melchisedec gynt, "heb dad, heb fam, heb achau;" yr ydym yn ei gyfarfod am y tro cyntaf yn ysgol athrawol y Parch. Griffith Jones, Llanddowror, mor sydyn a phe y disgynasai yno o'r cwmwl. Yn mhenawd y farwnad a gyfansoddwyd iddo gan Williams, Pantycelyn, hysbysir ni iddo farw yn y flwyddyn 1770, yn 53 mlwydd oed. Yn ol y cyfrif hwn cafodd ei eni yn 1717; ac yr oedd yr un oed a Williams, dair blwydd yn iau na Howell Harris, a phedair blwydd yn iau na Daniel Rowland. Ymddengys mai o Sir Fynwy yr hanai. Ein hawdurdod ar hyn yw ysgrif sydd yn bresenol ar gael o eiddo Lawrence Torstanson Nyberg, gweinidog cyntaf yr eglwys Forafaidd yn Hwlffordd. Gweinidogaethai efe yn Hwlffordd o Mehefìn 24, 1763, hyd Awst 23, 1768; yn ystod yr amser hwn rhaid ei fod yn dra chydnabyddus a Mr. Davies, yr hwn oedd y gweinidog mwyaf ei barch a'r uchaf ei safle gymdeithasol a feddai y dref; ac felly yr oedd mewn mantais i wybod. Dywed traddodiad y disgynai Howell Davies o deulu parchus, a'i fod yntau er yn ieuanc wedi dadblygu cynheddfau meddyliol cryfion, ac yn dra awyddus am ddysg. Yn ysgol athrawol Griffith Jones gwnaeth gynydd cyflym; daeth yn ysgolhaig gwych mewn Lladin
ac mewn Groeg; a thueddai ei feddwl yn gryf at y weinidogaeth yn yr Eglwys Sefydledig. Eiddil o iechyd ydoedd er yn blentyn; cryfhaodd i raddau gwedi tyfu i oedran, ond ni feddianodd o gwbl gyfansoddiad cadarn ei gydlafurwyr, sef Daniel Rowland, Howell Harris, a William Williams. Dywedir yn mhellach ei fod yn naturiol o duedd ddifrifol, ac iddo gael ei ddwyn dan awdurdod y gwirionedd trwy weinidogaeth Griffith Jones, ei athraw. Felly, nid yw yn debyg iddo deimlo yr ing a'r loes a brofwyd gan Rowland a Harris; ni fu yn crynu wrth droed Sinai yn gwrando ar y taranau; ni chafodd ei ysgwyd uwchben y trueni bythol; yn hytrach ei brofiad ydoedd " Fe'm denodd i yn ddirgel iawn, A dystaw ar ei ôl." Beth bynag am ddull ei argyhoeddiad, cafodd Howell Davies grefydd ddiamheuol. Gwedi hyn yr oedd yn fwy tueddol ei feddwl at weinidogaeth yr efengyl, a diau ei fod yn cael pob cefnogaeth gan ei athraw. Efe oedd hoff" ddisgybl Griffith Jones, a'r diwrnod yr oedd Howell yn caél ei ordeinio, gofynai yr offeiriad hybarch i'r gynulleidfa yn Llanddowror offrymu ei gweddi i'r nefoedd ar ei ran. Yn sicr, gwrandawyd y weddi hon yn helaeth. I guradiaeth Llys Bran, neu fel y gelwir y lle ar lafar gwlad, Llysyfran, y cafodd ei benodi. Yn rhyfedd iawn, nid oes unrhyw gofnodiad o'i urddiad fel diacon ar gael yn llyfrauHOWELL DAVIES
A gyhoeddwyd gan CARRINGTON BOWLES, 60, St. Paul's Churchyard, Llundain, Mawrth 30ain, 1773
—————————————
EGLWYS LLYS-BRAN (NEU LLYSYFRAN), SIR BENFRO.
(Fel yr ymddangosai yn amser Howell Davies.)
—————————————
unwaith yn gyrchfa cynulleidfaoedd aruthrol; aeth yr eglwys yn rhy fechan i ddal y gwrandawyr; ymdywalltai y gwlaw nefol i lawr yn gawodydd bendigedig, fel yn Llangeitho; a chafodd llawer eu troi at yr Arglwydd. Gan mai yn 1740 y cychwynodd, nid cywir y sylw yn Methodistiaeth Cymru, ei fod yn mysg y rhai blaenaf yn y diwygiad Methodistaidd yn Nghymru, o ran amser yn gystal ag o ran enwogrwydd. Yr oedd Daniel Rowland a Howell Harris ar y maes agos i bum' mlynedd o'i flaen.
Gwir nad yw pum mlynedd yn amser mawr; ond ar adeg o gyffro fel oedd yn berwi Cymru y pryd hwnw, pan y bydd digwyddiadau yn canlyn eu gilydd yn gyflym, ac effeithiau dwfn ac arosol yn cael eu cynyrchu mewn cyfnod byr, y mae pum mlynedd yn gryn amser. Yr oedd Rowland a Harris wedi teithio rhanau helaeth o'r Deheudir, a rhyw gymaint o'r Gogledd, cyn iddo ef ddyfod a'i gryman i'r maes. Ond yr oedd agos ysgwydd yn ysgwydd a'r ddau Ddiwygiwr mewn enwogrwydd, a gallu gweinidogaethol. Ac y mae yn sicr iddo ddechreu ar ei lafur yn annibynolEGLWYS ST. DANIEL'S, GER PENFRO
arnynt ; nid dyfod allan yn gynorthwywr i'r un o'r ddau a wnaeth ; yr oedd yn gychwynydd, a hollol briodol ei gyfenwi yn dad Methodistiaeth Sir Benfro. Anwiredd i'w gospi gan farnwyr fyddai ceisio ei osod ar safle is. Pan y cyfarfyddodd a Howell Harris yn Hwlffordd, gwanwyn 1740, y mae yn dra thebyg ei fod wedi ei ordeinio, ac wedi dechrau tynu tyrfaoedd i Lysyfran ; a chyfeiria Harris ato yn ei ddydd-lyfr gyda pharch.
Nid hir y bu Howell Davies yn gweinidogaethu yn Llysyfran; tuag wyth mis o bellaf a fu tymor ei arosiad ; aeth ei weinidogaeth danllyd, effro, yn annyoddefol i rai o'r plwyfolion cysglyd, a llwyddwyd i'w yru ymaith. Cawn ef yn cael ei ordeinio yn offeiriad gan Dr. Nicholas Claget, Esgob Tyddewi, Awst 3, 1740, a'i drwyddedu i guwradiaeth Llanddowror, a Llandeilo-Abercowin, dan yr Hybarch Griffith Jones. Ond ni chyfnewidiodd o ran natur ei weinidogaeth; ni phallodd a rhybuddio yr annuwiol ; ac ni pheidiodd y bendithion dwyfol a disgyn i lawr trwyddo. O hyn allan ystyrir ef yn perthyn i'r Methodistiaid, ac yn arweinydd yn eu mysg. Diau mai un o amcanion Howell Harris wrth ymweled a Sir Benfro, Rhagfyr, 1742, rhyw bythefnos o flaen y Gymdeithasfa yn Watford, oedd ymgynghori a'i gyfaill yn yr efengyl gyda golwg ar y trefniadau y bwriedid eu gwneyd. A chawn fod y ddau yn cydweled yn hollol. Er mai yn Sir Gaerfyrddin yr oedd cysylltiadau eglwysig Howell Davies, eto Penfro oedd prif faes ei lafur. Teithiodd y sir o gwr i gwr; pregethai yn y tai ffermydd ac ar y maes cyn adeiladu capelau, am y gwarafunid yr eglwys iddo mewn aml i fan, a sefydlodd lliaws o seiadau bychain. Er i ymweliadau Harris a Rowland beri cyffro dirfawr, a chynyrchu daioni anarferol, eto, trwy lafur Howell Davies yr efengyleiddiwyd y sir, ac y darostyngwyd hi i grefydd. Ymddengys fod ei ddoniau yn nodedjg o felus. Cyfeiria Harris ato yn ei lythyrau yn barhaus fel yn rhagori mewn nerth a swyn. Dywed, mewn llythyr at Whitefield, wedi ei ysgrifenu o Milford, tua diwedd y flwyddyn 1743,[94] "Y ddau Sul diweddaf gwrandewais efallai y ddau udgorn mwyaf croch a fedd y genedl; sef y brawd Rowland, a'r brawd Davies. Yr oedd y goleuni, y gallu, a'r ddoethineb ddwyfol i glwyfo a meddyginiaethu, ac i ddatguddio yr Arglwydd Iesu Grist, y fath, fel na fedr geiriau gyflwyno unrhyw syniad cywir gyda golwg arno." Mewn llythyr at ei frawd yn Llundain o Fishgate, yn Mhenfro, dywed:[95] "Rhyfeddol yw yr hanes wyf yn glywed am y gallu sydd yn cydfyned â gweinidogaeth y brawd Howell Davies; yn fwyaf neillduol yn mysg y Saeson (y mae haner y wlad hon yn Saesnig). Y mae nerth anarferol hefyd yn y cymdeithasau yma, fel yn aml pan fyddont yn myned i geisio bendith ar eu pryd bwyd, disgyna yspryd gweddi ar amryw o honynt yn olynol, fel y cedwir hwy wrth orsedd gras am agos i dair awr. Y mae llawer yn cael eu swyno gymaint gan gariad Crist wrth ganu, nes y maent yn llewygu."[96] Yn mis Mawrth, 1743, ysgrifena at eglwys y Tabernacl, yn Llundain: "Bum y Sul diweddaf mewn un arall o eglwysydd y brawd Davies yn y sir hon, a gwnaed ef yn ddiwrnod o ogoniant mwy na'r Sul blaenorol. Credaf fod y gynulleidfa o ddeg i ddeuddeg mil. Nis gall iaith fynegu fel y mae yn bendithio y brawd Rowland yn Sir Aberteifi, a'r brawd Howell Davies yn y sir hon." Gallem ddifynu lliaws o ymadroddion cyffelyb, a frithant lythyrau Howell. Harris, yn dangos mor aruchel oedd gweinidogaeth Apostol Penfro, a'r modd y bendithiai Duw ei weinidogaeth.
CAPEL WOODSTOCK, SIR BENFRO.
Nid oedd yn bresenol yn Nghymdeithasfa gyntaf Watford. llai mai y rheswm oedd, ddarfod iddo fynegu ei holl feddwl ar y gwahanol bethau i Harris, fel nad ystyriai fod eisiau iddo yn ganlynol gymeryd taith mor bell. Ond yr oedd hefyd yn wanllyd o ran corff, a chyfrifa hyny am ei absenoldeb o amryw o'r Cymdeithasfaoedd, ac am fod ei lafur yn gyfyngedig i gylch cymharol fychan. Yn y trefniadau a wnaed gyda golwg ar y gwahanol siroedd yn y Gymdeithasfa, rhoddwyd Penfro oll dan ofal Howell Davies, ac efe, os yn bresenol, oedd i fod yn gadeirydd y Gymdeithasfa Fisol. Ar yr un pryd, yr ydym yn ei gael mewn amryw o'r Cymdeithasfaoedd a'r Cyfarfodydd Misol cyntaf. Yr oedd yn Nghymdeithasfa fisol Gelliglyd, Mai 1, 1743; yn Nghymdeithasfa Fisol Longhouse, Mehefin 8, 1743; ac yn Nghymdeithasfa. Trefecca, Mehefin 29, 30, 1743. Bu mewn Cymdeithasfa Chwarterol yn yr un lle hefyd yn 1744. Cawn ef yn llywyddu yn Nghymdeithasfa Fisol Llangwg, neu yn hytrach Llangwm, yn Sir Benfro, pan yr oedd John Sparks, George Gambold, a William Gambold, yn ymgeiswyr am y swydd o gynghorwyr. Yr oedd y ddau Gambold yn frodorion o Gasmal, er ar y pryd yn trigianu yn Hwlffordd, ac yn berthynasau agos i John Gambold, yr esgob Morafaidd, ac un o Fethodistiaid Rhydychain. Yn nghofnodau y Gymdeithasfa Fisol uchod ceir a ganlyn : "Ein bod yn cymeradwyo ac yn derbyn George Gambold fel cynghorwr, a'i fod i fyned oddiamgylch gymaint ag a all, gyda chymeryd gofal am ei nain." Ceir yma hefyd enw yr enwog William Edwards, Rhydygele, a gosodir ef dan ofal Mr. Howell Davies, y cymedrolwr, i gael ei dderbyn i gymundeb, ac i fyned dan arholiad, cyn y caffai ei ystyried yn gynghorwr. Rhoddir caniatad hefyd i John Sparks arfer ei ddawn dan arolygiaeth Howell Davies. Efe a lywyddai yn Nghymdeithasfa Fisol Hwlffordd, Ionawr 28, 1745, er fod Howell Harris yn bresenol fel arolygydd cyffredinol. Daethai. amryw gynghorwyr anghyoedd yno, a thri o rai cyhoedd, sef John Harris, am yr hwn y cawn son eto, William Richard, a Thomas Meyler. Gwelir, felly, fod Howell Davies yn gwneyd gwaith pwysig ynglyn a threfniadau y diwygiad yn Sir Benfro.
Tref Hwlffordd oedd canolbwynt ei lafur, ac eglwys Prendergast, neu fel ei gelwir gan y trigolion, Prengast, oedd un o'r lleoedd yn mha rai y gweinidogaethai. Anhawdd deall natur ei gysylltiad a'r eglwys hon. Gelwir ef weithiau yn "Rheithor Prengast;" ond nid yw yn ymddangos iddo fod yma, nac fel rheithor na chuwrad. [97] Y mae llyfr cofrestriad yr eglwys ar gael yn awr yn gyfan, ac yn cyrhaedd mor bell yn ol a dyddiau Oliver Cromwell, ond ni cheir ynddo ddim i ddangos ddarfod i Howell Davies fod mewn cysylltiad a'r lle o gwbl. Ond y mae yn sicr iddo fod yma yn gweinidogaethu, ac yn gweinyddu y cymun am flynyddoedd, a hyny gyda chysondeb, cyn fod gan y Methodistiaid un capel yn y rhan hon o'r wlad. Tref Hwlffordd yw canolbwynt Penfro; yma y cyrchai y bobl i'r marchnadoedd ac i'r ffeiriau o'r ardaloedd amaethyddol; yr oedd pobl Llysyfran yn neillduol a'u ffordd trwy Prengast; felly daeth yr eglwys, trwy swyn a nerth gweinidogaeth yr hwn a efengylai yno, yn gyrchfa pobloedd. Ymgynullai tyrfaoedd aruthrol i wrando. Prengast oedd y nesaf at Langeitho parthed lluosogrwydd cynulleidfaoedd, ac nid annhebyg oedd y dylanwadau nerthol a ddisgynent yn y ddau le. Pregethai hefyd, a gweinyddai y sacrament, yn St. Daniel, yn Nghastell Martin, ac yn Mounton, ger Narberth, lleoedd a berthynant i'r rhan Saesnig o'r sir. Rhwng y tri lle rhifai ei gymunwyr dros ddwy fil; llenwid yr eglwysydd drosodd a throsodd gan ddynion awchus am gofio angau'r groes.
Tua'r flwyddyn 1744 yr ydym yn ei gael yn myned i'r ystâd briodasol. Nid heb bryder y darfu iddo newid ei sefyllfa; bu yn gofyn cyngor ar y mater i Howell Harris, ac y mae ei lythyr ef mewn atebiad wedi ei argraffu. Yr oedd Harris mewn ystâd meddwl addas i gydymdeimlo ag ef, gan ei fod yntau ei hun ar fedr priodi. Y mae y llythyr yn un tra difrifol; dywed fod enw Mr. Davies mor gyhoeddus, a'r achos o gymaint pwys, fel yr oedd perygl iddo gamgymeryd serchiadau yn lle datguddiad oddiwrth Dduw. Nid oes ganddo ddim yn erbyn y ferch ieuanc; geilw hi "yr anwyl chwaer C—— ," yr hyn a brawf yr adwaenai hi fel dynes ieuanc dduwiol, a diwedda trwy geisio ganddi ddyfod i Gapel Ifan i'w gyfarfod, fel y caffai wybod ystâd ei meddwl yn fanylach. Trodd yr ymddiddan allan yn ffafriol, a phriododd Howell Davies. Haedda ei gymhares ychydig o sylw. Ei henw morwynol oedd Catherine Poyer, ac yr oedd yn ferch i John Poyer, Ysw., yr hwn oedd o haniad Normanaidd, ac yn perthyn i un o'r teuluoedd mwyaf pendefigaidd yn Sir Benfro. Un o'r teulu hwn, John Poyer wrth ei enw, a lywodraethai gastell Penfro yn amser Oliver Cromwell, ac ymddengys iddo amddiffyn y lle yn erbyn lluoedd Oliver gyda dewrder a medr arbenig. Dygasid Catherine Poyer i fynu mewn palasdy tlws, a pha un y mae stâd yn gysylltiedig, o'r enw Parke, ar aelwyd ei thaid a'i nain o du ei mam, sef Griffìth a Catherine Twyning. Yma y daeth tan argraffiadau crefyddol, a hyny, yn ol pob tebyg, wrth wrando ar Howell Davies. Ond yr oedd crefydd, o ryw fath, beth bynag, yn nheulu Twyning. Yr oedd offeiriad o'r enw Griífith Twyning yn ficer Walton, y plwyf agosaf at Llysyfran, yn y flwyddyn 1747, ac y mae sail i gasglu mai efe oedd olynydd Howell Davies yn nghuwradiaeth Llysyfran. Cawn ferch i'r ficer hwn, o'r enw Mrs. Scourfield, yr hon a breswyliai yn Pwllhook, yn perthyn i'r Methodistiaid yn amser y Parch. David Jones, Llangan. Y mae sail i gredu fod Howell Harris a Daniel Rowland, yn gystal a Howell Davies, yn ymweled a'r Parke yn fynych ar eu teithiau; a'r tebygolrwydd yw fod Catherine wedi cyfranogi yn helaeth o yspryd y diwygiad. Cyn ei phriodas yr oedd ei thaid a'i nain wedi marw; felly, perchenogai hi yr etifeddiaeth a adawsid ganddynt; ac yn rhinwedd yr undeb hwn daeth Howell Davies ar unwaith yn ŵr o gyfoeth. Eithr ni fu golud yn achlysur iddo laesu dwylaw gyda'r efengyl; llafuriai gyda'r un awyddfryd ac ymroddiad ag o'r blaen, a diameu iddo gael pob cefnogaeth i hyn gan ei briod. Nid hir, pa fodd bynag, y parhaodd pethau yn ddysglaer yn y Parke; daeth angau i mewn i'r palasdy tlws, gan gymeryd ymaith ddymuniad llygaid Mr. Davies. Bu farw ar enedigaeth baban, ei chyntaf-anedig; a chyn i'r eneth fechan gyrhaedd dwy flwydd oed, cafodd hithau ei rhifo i'r bedd, a gadawyd Howell Davies wrtho ei hun.
Yn mhen amser, priododd drachefn a Miss Luce Phillips, merch Mr. Hugh Phillips, boneddwr cyfoethog o'r un ardal; a chan i'r gweddill o blant Hugh Phillips farw heb hiliogaeth, daeth yr holl eiddo yn feddiant i Mr. Davies. Yr oedd hi yn ddynes nodedig o brydweddol, ac heblaw bod yn enwog am ei doethineb a'i chrefydd, yr oedd yn gantores dda. Meddai Mr. Davies, hefyd, ddawn canu rhagorol, a cheir y dalent yn nheulu y Parke hyd y dydd hwn. Mewn canlyniad i'r briodas hon daeth Howell Davies yn berchen dau gartref, sef y Parke, a thŷ ei wraig yn Prengast; preswyliai yn y ddau fel y byddai cyfleustra yn rhoi. Nid dibrofedigaeth a fu ei yrfa er hyny; bu farw ei unig fab, Howell, yn y flwyddyn 1749, ac efe yn saith mis oed. Ond ganwyd iddo ferch, sef Margaret, yr hon wedi hyny a ddaeth yn wraig i'r Parch. Nathaniel Rowland; ac y mae eu hiliogaeth hwy yn preswylio yn y Parke hyd y dydd heddyw.
Parhau i lafurio a wnaeth Howell Davies, a pharhaodd y nefoedd i fendithio ei waith. Ymledodd y diwygiad trwy Sir Benfro oll, yn arbenig yn y canolbarth, ac yn nhref Hwlffordd. Tua 1748, symudodd i ddarpar lle i'r ddeadell yn Hwlffordd i addoli, a galwyd yr adeilad yn "Ystafell y Tabernacl," gan ganlyn Whitefield, yr hwn oedd wedi galw ei babell ef yn y Moorfields, Llundain, yn "Tabarnacl." Yn cynorthwyo Howell Davies gyda hyn yr oedd y cynghorwr John Sparks, at ba un y cyfeirir yn nghofnodau Cymdeithasfa Fisol Llangwm. Cawsai John Sparks ei eni yn y flwyddyn 1726; brodor o Hwlffordd ydoedd; profodd argyhoeddiad dwfn pan yn ieuanc, a chedwid gwasanaeth crefyddol yn nhŷ ei rieni, yn yr hwn y cymerai ef ran. Yr oedd yn bregethwr da, ac yn ddiamheuol dduwiol. Yn yr ymraniad rhwng Rowland a Harris, glynodd John Sparks wrth y diweddaf. DarIlenwn am dano droiau yn pregethu yn Nghymdeithasfaoedd plaid Harris, a dywedir ei fod yn llefaru gydag arddeliad anghyffredin. Ond yn 1751, gadawodd y Methodistiaid, ac ymunodd a'r eglwys Forafaidd. Yr oedd achos crefyddol cryf wedi cael ei sefydlu hefyd yn Woodstock, trwy offerynoliaeth Howell Davies; adeiladwyd capel yma yn y flwyddyn 1754, agorwyd ef yn y flwyddyn ganlynol, pan y pregethodd Whitefield, ac y gweinyddodd sacrament swper yr Arglwydd. Tybir mai dyma y tro cyntaf i'r ordinhad gael ei gweinyddu mewn adeilad heb ei gysegru, gan offeiriad Methodistaidd, a phrawf yr amgylchiad fod Howell Davies yn meddu cryn feiddgarwch meddwl, a'i fod wedi ymrhyddau oddi wrth Iyfetheiriau yr Eglwys Wladol o flaen ei holl gyd-ddiwygwyr. Ar yr un pryd, yr oedd Howell Harris a Whitefield, mewn undeb a Methodistiaid Lloegr, wedi dyfod i benderfyniad mor foreu a 1743, i weinyddu y cymundeb yn y seiadau pan y gwrthodid y fraint iddynt yn eu heglwysydd plwyfol, a chawsai hyn ei anfon mewn llythyr at Howell Davies. Bu yr ordinhadau, sef bedydd a swper yr Arglwydd, yn cael eu gweinyddu gyda chysondeb yn Woodstock am 56 o flynyddoedd cyn y neillduad yn 1811. Felly, mewn un ystyr, Woodstock yw mam-eglwys y Cyfundeb. Wrth gyfranu, defnyddiai Mr. Davies was maeth yr Eglwys; ond yn aml torai ar ei draws, gan lefaru am ddyoddefiadau y Gwaredwr gyda nerth a melusder, a orchfygai y rhai a ddaethent i gyfranogi.
Bu yn offerynol hefyd i godi addoldy yn nghwr gogleddol Sir Benfro, a alwyd Capel Newydd. Sefydlasid cymdeithas grefyddol mor foreu a 1743 yn y Cerig Gwynion, lle heb fod yn nepell; yn raddol, ymranodd hon er mwyn cyfleustra, un adran yn ymgyfarfod yn Llechryd, a'r adran arall mewn ffermdy yn mhlwyf Clydau, a elwid Hen Barciau. Pregethai Howell Davies yn fynych yn y ddau le. Gan ei fod yn offeiriad urddedig, cai bregethu yn eglwys Llechryd; ond gan lluosoced y gynulleidfa, byddai raid iddo fynychaf lefaru yn y fynwent. Am ysbaid methid cael tir i adeiladu addoldy arno yn yr Hen Barciau, er fod y ffermdai wedi myned yn rhy fychain i'r cyfarfodydd; o'r diwedd cafwyd tir gan Stephen Colby, Ysw., cadben yn y llynges, gwraig yr hwn a deimlai yn garedig at y Methodistiaid. Howell Davies a benderfynodd yr ysmotyn. Wrth deithio dros y bryn o Lechryd i'r Hen Barciau, taflodd ei chwip i ganol yr eithin mân, a dywedodd wrth ei gyfeillion: "Dyma y fan i'r capel." Cafodd y capel hwn ei agor yn y flwyddyn 1763; pregethodd Mr. Davies ar yr achlysur oddiar y geiriau: "Gad, llu a'i gorfydd, ac yntau a orfydd o'r diwedd."
—————————————
EGLWYS MOUNTON, GER NARBERTH, SIR BENFRO
—————————————
Dechreuwyd gweinyddu yr ordinhadau yn Capel Newydd ar unwaith, a bu yn enwog fel yr unig le yn yr ardaloedd hyny ag yr oedd y sacramentau yn cael eu harfer yn mysg y Methodistiaid; cyrchai tyrfaoedd mawrion iddo, ac fel Woodstock, parhaodd i fod yn lle i gymuno hyd nes y neillduwyd gweinidogion. Howell Davies fyddai yn gweinyddu amlaf; yn ei absenoldeb ef cyfrenid gan Daniel Rowland, neu ei fab, Nathaniel Rowland; neu ynte, Davies, Castellnedd; Jones, Llangan; neu Williams, Lledrod. Dywedir ddarfod i Howell Harris, gwedi i archollion yr ymraniad iachau i raddau, bregethu yma amryw weithiau. Yn Capel Newydd y pregethai Daniel Rowland yn y flwyddyn 1773, oddiar Heb iv. 15, pan y cynyrchwyd y fath argraffiadau dyfnion ar feddwl Mr. Charles o'r Bala; argraffiadau na ddilewyd mo honynt byth. Yma hefyd y pregethodd Jones, Llangan, am y tro diweddaf, wrth ddychwelyd o Langeitho.
Efallai na chafodd Mr. Davies gymaint o'i erlid a rhai o'r Tadau; yr oedd ei—————————————
CAPEL NEWYDD, SIR BENFRO.
—————————————
sefyllfa fydol barchus, ynghyd a nodded yr Hybarch Griffith Jones, yn gryn gysgod iddo. Ond ni ddiangodd yntau heb i'r ystorm ruthro arno. Mewn llythyr o eiddo Howell Harris ato, dyddiedig Medi 7, 1743, ceir a ganlyn: "Byddai yn dda genyf gael gwybod pa fodd yr ymdarawsoch yn Nghwrt yr Esgob; efallai y gallwn ymddiddan a rhywrai yma (Llundain) er cael cyfarwyddyd pa fodd i weithredu. Ond credaf na wnant ddim. Yn arbenig, os deallant eich bod chwi yn gwybod nad oes gan eu llys ddim gallu, a'ch bod chwithau yn benderfynol o appelio at y gyfraith wladol, a dwyn cwrs eu hymddygiadau duon i oleuni. Hyn, mi a gredaf, yw ein dyledswydd; ond cadw ar yr amddiffynol; ac os cawn ein rhyddid, bydded i ni yn ostyngedig a diolchgar ei ddefnyddio." Nis gwyddom beth a ddaeth o helynt Cwrt yr Esgob, ond sicr yw mai yn ei flaen, heb droi ar y ddehau na'r aswy, yr aeth gweinidog Crist, gan deimlo yr erlid yn fraint, am mai dros ei Waredwr y dyoddefai.
Apostol Penfro yn benaf oedd Howell Davies; yr oedd ei apostoliaeth yn gyfeiriedig yn llawn cymaint at yr adran Saesnig o'r sir a'r adran Gymraeg; a phregethai yn y naill iaith neu y llall fel y byddai galwad. Gwnaed ef yn gwmwl dyfradwy i Benfro; disgynodd y gwlaw graslawn yn drwm ar yr holl wlad trwy ei weinidogaeth; cafodd weled y ddaear yn blaendarddu ac yn dwyn ffrwyth mewn canlyniad, a'r holl fro wedi ei darostwng i raddau mawr i efengyl Crist. Ond er ei fod yn fwy cartrefol na rhai o'i gyd-ddiwygwyr, eto, teithiodd lawer ar hyd Dê a Gogledd Cymru, ac hefyd yn nhrefydd Lloegr. Bu yn Llundain droiau; ymwelai yn ei dro a Bryste, ac a Bath, ynghyd a threfydd eraill, yn mha rai y pregethai y Methodistiaid Saesnig, a dywedir ei fod yn un o hoff bregethwyr Iarlles Huntington. Yr oedd ef yn un o'r rhai a gyfarfu a'r Iarlles yn Mryste, ac a ffurfìent osgorddlu iddi pan yr ymwelodd a'r Dywysogaeth yn y fwyddyn 1748. Dywedai yr Hybarch John Evans, o'r Bala, iddo fod amryw weithiau yn y dref hono. "Gŵr tirion a mwynaidd oedd efe, a phregethwr enillgar iawn," meddai Mr. Evans gyda golwg arno. Yr oedd Howell Davies yn bresenol yn y Gymdeithasfa gyntaf a gynhaliwyd yn y Bala. Cawn ef yn ysgrifenu at Howell Harris: "Er y pryd yr ymadawsom o'r Gymanfa, rhoddais dro trwy Sir Forganwg, a bu i rai yn amser hyfryd iawn. Am danaf fy hun, yr wyf yn hiraethu am fyned yno drachefn yn fuan, canys diau fod Duw gyda hwynt. O berthynas i fy mynediad i'r Gogledd, yr wyf yn meddwl y hydd yn rhy boenus i mi, sydd o hyd yn llesg ac afiach; ond, pa fodd bynag, yr wyf yn penderfynu cynyg hyny, pe y gorfyddai i mi farw ar y ffordd." Nid ychydig o beth i ddyn gwanllyd fel Howell Davies oedd anturio am daith i'r Gogledd yr adeg hono.[98] Yr oedd y ffyrdd yn ddrwg ac yn fynyddig; y lletyau yn wael ac yn anaml; caredigion yr efengyl gan amlaf yn dlodion eu cyflwr, ac yn ychydig eu rhif; yr addoldai yn wael, ac yn oerion, ac yn mhell oddiwrth eu gilydd; y rhagfarn yn erbyn y Methodistiaid yn greulawn fel y bedd; y werin yn derfysglyd a dideimlad; a'r clerigwyr a'r gwyr mawr yn llawn llid, ac yn gwylio am gyfleustra i erlid a baeddu y rhai a gyfrifid fel aflonyddwyr y byd. Nid rhyfedd y dychrynai Mr. Davies wrth feddwl am yr anturiaeth; ond penderfynai fyned, hyd yn nod pe y tröai y daith yn angau iddo. Yr ydym yn cael Williams, Pantycelyn, yn y farwnad ardderchog a ganodd iddo, yn cyfeirio at fawredd ei lafur a'i deithiau. Darlunia ddau seraph, o'r enw Cliw a Sirius, yn adrodd hanes ei fywyd i'r angylion:—
"D'wedent i ni fel y teithodd,
Pan oedd yn ei iechyd gynt,
Mynwy, Dinbych, a Chaernarfon,
Môn, Meirionnydd, a Sir Flint;
Fel cyhoeddodd yr efengyl,
Gydag yspryd bywiog, rhydd,
O Lanandras i Dyddewi,
O Gaergybi i Gaerdydd.
D'wedent i ni fel y chwysodd
Fry yn Llundain boblog, lawn,
Wrth bregethu gair y deyrnas,
Weithiau foreu, weithiau nawn;
Bryste, hithau, oer, derfysglyd,
Glywodd swn ei 'fengyl gref;
Tidea thonau, llif a storom,
Gurodd ganwaith arno ef."
Y mae yn amlwg ei fod yn cilio yn ol hyd byth ag y medrai oddiwrth gyhoeddusrwydd. Ysgrifena Howell Harris ato Mawrth 7, 1744: " Ni ddylai eich ofn i'ch llythyr gael ei gyhoeddi yn y Weekly History beri i chwi beidio defnyddio eich ysgrifell; oblegyd ni wnawn hyny heb eich caniatad. Ni wnaf erchi, fy mrawd; yn unig dywedaf fy marn am amcan y papyr. Nis gwn paham na wnai y brawd Davies roddi ei enw yn mysg y rhai a lafuriant ynglyn ag ef, gan ddweyd yr hyn sydd ganddo i'w fynegu am Iwyddiant yr efengyl Yr wyf yn credu fod yr achos mor agos at ei galon a neb, a'i fod yn gwybod cymaint trwy ei sylwadaeth, a dylanwad ei weinidogaeth a neb. Yr wyf yn gwybod ei fod yn eu caru (sef y credinwyr), ei fod yn barod i gyd-gyfranogi o'u dyoddefaint, gan y gwyr eu bod yn llefaru yr un iaith, yn cael eu harwain gan yr un Yspryd, yn ymladd dan yr un faner, a'u bod yn cael eu cyfrif ynghyd gan y gelynion. Ni ddyliai ofn clod ein cadw rhag traethu yr hyn a wyddom, mwy nag y dylai awydd clod beri i ni ei fynegu. Gwyr fy mrawd mai yr Arglwydd sydd yn gwneyd y cwbl, nid nyni." Wedi ei geryddu yn dyner fel hyn am ei yswildod a'i duedd at anghyoeddusrwydd, y mae Mr. Harris yn myned yn mlaen i'w gymhell i'r Gymdeithasfa ddilynol, mewn dull sydd yn dangos y rhoddai bwys mawr ar ei bresenoldeb. "Yr wyf yn gobeithio y daw fy mrawd," meddai, "i gyfarfod y brodyr yn y Fenni, dydd Mercher, yr 28ain. Gellir llanw yr amser wrth fyned a dychwelyd mewn pregethu yn Siroedd Brycheiniog a Mynwy. Yr wyf yn fwy taer, am yr ymddengys nad yw y rheidrwydd o hyn yn pwyso ar galon ein brawd i'r graddau ag y dylai. Bydded i ni gymdeithasu mwy, fel y byddo i'n gelynion deimlo ein bod o ddifrif, ac felly nas gallant ddinystrio un, heb ddistrywio yr oll Bydd y cwn bob amser yn gyru y defaid yn glosach at eu gilydd."
Ymddengys mai Mr. Howell Davies a fu yn offeryn dychweliad Mr. Bateman, ficer St. Bartholomew Fwyaf, yn Llundain, yr hwn, gwedi hyny, a ystyrid fel un o'r rhai mwyaf efengylaidd yn y brifddinas. Ymddengys fod gan Mr. Bateman fywioliaeth fechan yn Sir Benfro. Un tro, pan ar ymweliad achlysurol a'i , blwyf, daeth i'w ran i bregethu yn un o'r eglwysydd yn mha rai y gweinyddai Howell Davies. Yr oedd Mr. Bateman y pryd hwnw heb ei argyhoeddi; ac yr oedd ei bregeth yn Ilawn o gyhuddiadau enllibaidd yn erbyn y Methodistiaid; rhybuddiai ei wrandawyr, er mwyn eu heneidiau, i'w gochel. Gwedi y bregeth, syrthiodd arno ryw brudd-der yspryd, nas gallai roddi cyfrif am dano; ni fedrai na chysgu na bwyta; ac nis gallai fwynhau y gyfeillach anghrefyddol, yn yr hon yr ymhyfrydai yn flaenorol. Aeth i wrando Howell Davies, a hyny i'r un eglwys ag y buasai yn ei wawdio ef a'i ganlynwyr; teimlodd y Gair fel "picell yn trywanu ei afu;" ei bechodau bellach a'i llethent; aethant dros ei ben, yr oeddynt yn faich rhy drwm iddo eu dwyn. Bu am fìs o amser cyn cael heddwch i'w enaid. Eithr gwedi hyny bu yn fendithiol i lawer yn Nghymru ac yn Llundain.
Y mae yn ddiau fod Howell Davies yn bregethwr nerthol dros ben. Nid oedd, yn nghyfrif yr hen bobl, yn ail i neb ond i Rowland ei hun. Pa le bynag y pregethai, ai mewn tŷ anedd, neu ysgubor, ynte mewn addoidy eang yn Mhryste neu Lundain, enillai sylw ei wrandawyr ar unwaith. Darllenai neu adroddai benill neu emyn; yna arweiniai y canu ei hun gyda y llais clir, llawn peroriaeth, a feddai; a chydunai y gynulleidfa mewn mawl i Arglwydd yr holl ddaear. Yn y weddi arweiniol byddai yn nodedig o afaelgar; medrai ymddyrchafu hyd at y Presenoldeb Dwyfol, a thynu y nefoedd i'r lle; yn ei daerni gerbron yr orsedd ail-adroddai yr un dymuniad drosodd a throsodd, fel pe yn methu gollwng ei afael arno. Yr oedd y gynulleidfa wedi ei nawseiddio yn hyfryd ganddo, erbyn ei fod yn myned i bregethu; ac yr oedd rhyw nefoleidd-dra yn ei ymddangosiad yn tueddu i'w ffafr, ac fel yn cynyrchu cariad ac ofn ar yr un pryd. Darllenai ei destun yn hyglyw, a chyda melodedd sain o'r fath fwyaf dymunol. Am ychydig llefara yn araf, gan esbonio yr adnod a'u chysylltiadau. Ond yn fuan, dyna ei yspryd yn gwresogi o'i fewn; y mae yn dyrchafu ei lais fel udgorn arian, nes y mae cyrau pellaf y dorf yn gwladeiddio ger ei fron. Anela saethau llymion at ei wrandawyr, ac y mae pob brawddeg yn clwyfo. Erbyn hyn y mae yno le difrifol mewn gwirionedd. Clywir canoedd yn ocheneidio ac yn gruddfan; aeth y graig gallestr yn llyn dwfr; gwelir y dagrau yn llifo yn hidl ac yn gyffredinol; nid oes yr un rudd sych yn y gynulleidfa. Ond yn fuan newidia y pregethwr ei gywair; rhydd heibio daranu, a chyfeiria y gwrandawyr yn eu dagrau megys a'i fys at y Gwaredwr a ddichon achub hyd yr eithaf. Diflana yr ocheneidiau, a pheidia y gruddfan; yn eu lle clywir bloeddiadau "Gogoniant!" a " Diolch iddo!" Erbyn hyn y mae yn orfoledd cyffredinol o gwr i gwr i'r dorf. Llifa y dagrau eto, ond dagrau llawenydd ydynt yn bresenol; a gorphena y pregethwr, gan adael y gynulleidfa mewn hwyl sanctaidd.
" Fel hyny y rhodiai y penaf areithydd,
Dros nef yr athrawiaeth, y bwa o waed,
A roed i rychwantu y bythol wybrenydd,
Yr eigion rhwng daear a nefoedd a gaed."
Heblaw ymddangosiad personol urddasol, ac areithyddiaeth wych, dywedai un o'i hen wrandawyr fod ganddo ryw symudiad neillduoI iddo ei hun ar ei law ddehau, yr hon a ddygai i gyffyrddiad a'i law aswy mewn modd effeithiol dros ben. Yn ei bregethau tynai ddarluniau nodedig o fyw; ac yn arbenig, pan y desgrifiai groeshoeliad y Gwaredwr, yr oedd ei ddarluniad mor rymus ac effeithiol, fel yr oedd pob llygad wedi ei hoelio arno. Dywedir pan y pregethai ar foreu Sabbath yn Llechryd, yr arosai y gynulleidfa ar ol weithiau, yn moli ac yn gorfoleddu hyd y nos. Ai ef ymaith yn y prydnhawn, ond wedi cyrhaedd bryn a elwir Craig Cilfowyr, safai am enyd, ac edrychai yn ol ar y dyrfa orfoleddus gyda syndod a diolchgarwch. Un tro, cyd-bregethai Howell Harris ac yntau yn Llechryd. Pregethai Howell Davies y tu fewn i'r fynwent, a'r Howell arall y tu allan. Yr oedd un o honynt wedi bod dan law yr esgob, a'r llall heb fod; nid oedd caniatad, gan hyny, i Howell Harris ddiurddau i bregethu yr efengyl ar dir cysegredig,
Yn yr ymraniad gofidus rhwng Rowland a Harris, glynodd Howell Davies, yr un fath a WiIIiams, Pantycelyn, a'r rhan fwyaf o'r offeiriaid, wrth Rowland. I'w fawr ddylanwad ef, yn ddiau, y rhaid priodoli ddarfod i'r corwynt hwn chwythu drosodd heb wneyd cymaint o niwed yn Sir Benfro ag a wnaeth mewn rhanau eraill o'r wlad. Gan fod Siroedd Aberteifi a Phenfro yn ffinio am filldiroedd lawer, yr oedd Rowland a Howell Davies a therfynau eu meusydd llafur yn cyffwrdd a'u gilydd; a diau y byddai y ddau yn dal gafael ar bob cyfleustra a gaent i gyd-ymgynghori ac i gyd-gynllunio. Yr oeddynt yn hollol o'r un syniadau gyda golwg ar athrawiaethau crefydd. Nid yw yn ymddangos ychwaith ddarfod i unrhyw eiddigedd, nac unrhyw oerfelgarwch, gyfodi rhyngddynt o gwbl. Er fod Howell Davies yn ddyn mwynaidd a thra charedig a rhyddfrydig, eto, medrai wrthwynebu pob ymadawiad oddiwrth y ffydd, a phob afreolaeth mewn buchedd, gyda hyfdra. Cawn Williams yn cyfeirio at hyn yn ei farwnad:—"Clywsom fel y gwrthwynebodd
Ef heresiau diried ryw;
Mellt a tharan oedd ei eiriau,
I elynion 'fengyl Duw;
Cywir yn ei egwyddorion,
Syml, gonest yn ei ffydd;
Elusengar yn ei fywyd,
Llwyr ddefnyddiol yn ei ddydd."
Ni ddarfu i'w boblogrwydd fel pregethwr, na'r cyfoeth a ddaeth i'w ran, gynyrchu ynddo y gradd lleiaf o falchder yspryd; yn hytrach parhaodd yn wir ostyngedig trwy yr oll. Hoffai osod ei hun yn gydradd a'r gwaelaf. Cerddai yn fynych i Woodstock, Sul y cymundeb, ffordd arw, bymtheg milldir mewn hyd. Un amcan mewn golwg ganddo oedd gosod ei hun yn hollol ar yr un safle a chorff y werin, y rhai a ddylifent yno o ugain milldir o gwmpas. Ond diau y gwnelai hyny hefyd er cael cymdeithasu ar hyd y ffordd a'r hen bererinion, y rhai yr oedd eu calonau yn llawn, gwres, a'u profiadau yn fywiog ac ysprydol. Nid oes amheuaeth fod y wledd nefol yn cael ei phrofi mewn rhan cyn cyrhaedd y capel, a bod y gymdeithas yn barotoad ardderchog i'r odfa, ac i'r sacrament. Geilw Williams ef yn " fugail pedair eglwys fawr." Yr eglwysydd hyn oeddynt Capel Newydd, Woodstock, St. Daniel, yn Nghastell Martin, a Mounton, ger Narberth.
—————————————
TŶ LLE Y PRESWYLIAI HOWELL DAVIIES, GER HWLFORDD, SIR BENFRO
—————————————
Ond dyddiau Howell Davies a nesasant i farw, a hyny pan oedd yn nghanol ei waith, ac yn nghanol ei ddefnyddioldeb. O ran oedran, nid oedd nemawr dros ganol oed; gallesid disgwyl blynyddoedd lawer o weithgarwch oddiwrtho; ond yr oedd ei lafur dirfawr wedi peri i'r ychydig nerth a feddai ei gyfansoddiad eiddil dreulio allan; a rhifwyd ef i'r bedd, Ionawr 13, 1770, ac efe yn dair-ar-ddeg-a deugain oed. Bu farw yn ei balas, sef y Parke. Buasai Elizabeth, ei ail wraig, farw ddeng mlynedd o'i flaen. Ac yn ei hymyl hi, a'i unig-anedig fab, Howell, y rhoddwyd ei weddillion yntau i orwedd yn mynwent Prengast hyd ganiad yr udgorn. Diwrnod tywyll a du i Fethodistiaid Sir Benfro oedd y dydd y claddwyd Howell Davies, ac nid oedd neb a deimlai hyny yn fwy byw na hwy ei hunain. Er fod y pellder o'r Parke i Hwlffordd tuag ugain milltir, yr oedd yr angladd yn un tra lluosog ; ac heblaw y rhai a deithient yr holl ffordd, deuai cwmniau neu dorfeydd o'r gwahanol leoedd, yn mha rai y buasai efe yn gweinidogaethu, i'r croesffyrdd i ddangos eu parch iddo; ac wrth fod yr arch yn pasio wylent yn uchel.
—————————————
EGLWYS PRENDERGAST.
Lle Claddedigaeth Howell Davies
—————————————
Erbyn cyrhaedd Hwlffordd yr oedd y dorf yn anferth, cyrhaeddai lawn milldir ar y ffordd fawr. Mor fawr oedd yr hiraeth ar ei ol, ac mor ddwys y teimlad a lanwai fynwesau pawb, fel y methai yr offeiriaid a weinyddent ddarllen y gwasanaeth claddu. Cyfeiria Williams at hyn yn ei farwnad. Ac yn nghanol cawodydd o ddagrau chwerwon, ac arwyddion o alar na welwyd ond anfynych eu cyffelyb, y gosodwyd Howell Davies i orwedd yn y ddaear. Efe oedd y cyntaf o'r Tadau Methodistaidd a gymerwyd ymaith. Gadawodd yr achos mewn cyflwr llewyrchus yn Sir Benfro ; rhifai ei gymunwyr ef yn unig yn agos dair mil; ac yr oedd y Methodistiaid yn y sir yn dra lliosog. Nis gallwn wrthsefyll y brofedigaeth o ddifynu rhanau o'i farwnad gan Williams, Pantycelyn:—
"Y mae'r tafod fu'n pregethu
Iachawdwriaeth werthfawr, ddrud,
'Nawr yn dew, yn floesg, yn sychu,
Ac fel yn ymgasglu'n nghyd;
Fflem a lanwodd y pibellau
Oedd yn dwyn y gwynt i'r lan,
Ac mae natur hithau'n methu
Clirio lle i'r anadl gwan.
Y mae'r olwg ar yr angladd
Wedi'm dodi'n drist fy ngwedd,
Haner Sir, i'm tyb, sy'n eisiau,
Pan mae Davies yn ei fedd
Ni alla' i ddim dyoddef edrych
Arno'n myned dan y don,
Heb fod hiraeth cryf a chariad
Yn terfysgu dan fy mron.
Gwelwch gwmni ar ol cwmni,
Yn ugeiniau ar bob llaw,
Oll yn wylo dagrau heilltion
Yn ei gwrddyd yma athraw;
Yr hears yn cerdded yn y canol,
Dyma'r arwydd pena' erioed,
Ag a welodd gwledydd Penfro
Fod rhyw ddrygau mawr i ddod.
Pwy sydd yn y coffin pygddu,
Trwm, yn nghanol y fath lu?
Medd trafaelwyr ar y gefnffordd,
Rheiny'n synu hefyd sy';
Howell Davies, ffyddlon, gywir,
Bugail pedair eglwys fawr,
Sydd yn myn'd i fonwent Prengast,
Heno i orwedd yno i lawr.
Dacw'r coffin rhwng y brodyr,
Yn ei gario idd ei gell,
Ac mae'i swn yn ngwaelod daear,
Megys swn taranau pell;
Y mae'r bobl oll yn wylo,
Ac fe ddaliodd yspryd gwan
Feibion Lefi, fel nas gallent
Ddim llefaru yn y fan.
*****
Nid yn ngerddi cryno'r Parke,
Dan och'neidio yma a thraw,
Mae'r offeiriad heddyw'n rhodio,
Ond yn ngardd Paradwys draw;
Nid y lemon, nid yr orange,
Pomgranad, nw'r nectarine,
Ond pur ffrwythau Pren y Bywyd
Mae'n ei ddodi wrth ei fin.
Nid y gwinwydd sy'n rhoi ffrwythau
I ddiodi cwmni'r nef,
Ond afonydd gloew'r bywyd
Heddyw sy'n ei gwpan ef;
Mae yno amrywioldeb eang
O bob ffrwythau, heb ddim trai,
A phob dim sydd yn eu gwleddoedd
Sydd fyth fythoedd i barhau."
—————————————
—————————————
HANES Y DARLUNIAU
DARLUN Y PARCH. HOWELL DAVIES. Y mae copi gwreiddiol o'i ddarlun. ef yn yr Amgueddfa Frutanaidd (British Museum), Llundain. Cedwir ef yn y Print Room. Hwn yw yr unig ddarlun o'r Tadau Methodistaidd ag y daethom o hyd iddo yn yr ystafell hono. I'w fframio y gwnaed ef, ac nid i'w osod mewn llyfr. Nid yw y copi hwn ond tua haner maintioli'r un gwreiddiol. Y mae o wneuthuriad tra chelfyddgar, ac y mae mewn cadwraeth dda. Fel hyn y mae yr ysgrif dano yn darllen: "The Rev. Mr. Howell Davies, late Minister of the Gospel in Pembrokeshire, and Chaplain to the Countess of Walsingham. Printed for Carrington Bowles, at his Map and Print Warehouse, No. 69, in St. Paul's Churchyard, London. Published, as the Act directs, March 30, 1773." Gwelir felly mai yn mhen tair blynedd wedi marwolaeth Howell Davies y cyhoeddwyd ef. Y mae un o'r copiau gwreiddiol yn nghadw yn Llyfrgell Athrofa Trefecca. Rhodd Cyfarfod Misol Sir Benfro i'r sefydliad ydyw.
EGLWYS LLYSYFRAN. Nid oes gyfnewidiad o gwbl yn yr adeilad hwn er dyddiau y Diwygiwr. Y mae llawer o'r beddfeini ar y fynwent yn adeiladau diweddar.
EGLWYS ST. DANIEL, GER PENFRO. Y mae hon hefyd fel yr ydoedd gynt. Drwy law y Parch. W. Evans, M.A., Pembroke Dock, y cawsom y darlun hwn.
EGLWYS MOUSTON, GER NARBERTH. Adeilad fechan iawn ydyw hon, a phur ddiaddurn. Ni chynelir gwasanaeth grefyddol ynddi yn bresenol, ond yn ystod misoedd yr haf. Gynt, yr oedd y brifffordd o Benfro i Lundain yn arwain heibio iddi; ond wedi gwneyd y ffordd bresenol, y mae yr eglwys yn sefyll ar gongl neillduedig, ac nid oes dramwyfa briodol tuag ati. Y mae yn hollol fel yr ydoedd yn amser Howell Davies.
CAPEL WOODSTOCK. Adeiladwyd y capel cyntaf yn y flwyddyn 1754. Adnewyddwyd a helaethwyd ef ddwywaith oddiar hyny. Darlun o'r capel fel y mae yn bresenol sydd yma. Nid oes darlun o'r hen adeilad ar gael. Y mae y capel presenol yn eang a hardd, yn enwedig y tu fewn iddo.
CAPEL NEWYDD. Saif y capel hwn yn mron ar derfyn gogleddol Sir Bonfro, heb fod nemawr o filldiroecíd o dref Aberteifi. Adeiladwyd ef gyntaf gan Howell Davies yn y flwyddyn 1763, ac ail-adeiladwyd ef yn 1848. Darlun o'r capel presenol ydyw hwn.
TŶ HOWELL DAVIES YN PRENDERGAST, GER HWLFFORDD. Nid oes gyfnewidiad o bwys yn yr adeilad er dyddiau y Diwygiwr.
EGLWYS PRENDERGAST, GER HWLFFORDD. Mae yr eglwys hon wedi myned dan adgyweiriadau a gwelliantau lawer er dyddiau Howell Davies. Yn mynwent yr eglwys hon y claddwyd ef. Cyfeiriwn y darllenydd at gareg fedd, sydd yn gorphwys ar fur porth yr eglwys, yn y darlun. Gwelir croes fechan ar y mur uwch ei phen. Dyna'r fan y mae efe a'i deulu yn gorwedd. Careg fedd syml a diaddurn—ond careg dda iawn—sydd ar ei fedd. Gosodwyd hi gan Gyfarfod Misol Sir Benfro, mewn coffadwriaeth barchus o hono. Mae yn mhwriad Methodistiaid Sir Benfro i osod Coflech hardd i'w goffadwriaeth yn Nghapel Woodstock yn fuan. Trwy lafur y Parch. E. Meyler, y mae yr arian at ddwyn y treuliau eisioes wedi eu casglu.
Cymerwyd yr holl o'r darluniau ar gyfer y gwaith hwn yn ystod y flwyddyn hon a'r un flaenorol; ac yr ydym yn dra dyledus i'r Parch. E. Meyler, Hwlffordd, am ei garedigrwydd yn ein arwain ac yn ein cludo dros ugeiniau o filldiroedd, fel ag i'n galluogi i gymeryd darluniau o'r lleoedd dyddorol hyn.
PENOD VII
——————:o:———————
WILLIAM WILLIAMS, PANTYCELYN
Sylwadau arweiniol—Cofiant Mr. Charles iddo—Sefyllfa barchus ei rieni—Ymchwiliad i hanes ei ieuenctyd—Sefyllfa foesol a chrefyddol yr ardal y magwyd ef—Desgrifiad Ficer Pritchard ohoni—Eglwysi Ymneilldnol yr ardal—Eu dadleuon a'u hymrysonau—Desgrifiad tebygol o'r eglwysi hyn yn "Theomemphus"—Ei fymdiad i Athrofa Llwynllwyd—Ei droedigaeth ar ei ddychweliad adref, dan weinidogaeth Howell Harriis—Yn ymuno a'r Eglwys Wladol, ac yn ymadael a hi yn fuan—Ei apwyntiad yn gynorthwywr i Daniel Roitdand—Ei lafur fel efengylydd, a'i safle fel pregethwr—Ar gymhelliad ei frodyr yn dechreu cyfansoddi hymnau—Hymnau ei ieuenctyd—Yn cyhoeddi ei Aleluia"—Yn ymgymeryd a llafur llenyddol o bob math - Rhagoroldeb ei brif gyfansoddiadau barddonol—Ei "Olwg ar Deyrnas Crist " a'i "Theomemphus"—Poblogrwydd anarferol ei gyfansoddiadau—Barn llenorion Cymru am ei safle fel llenor, emynydd, a bardd.
WILLIAMS, o Bantycelyn, ydyw llenor cyntaf y Cyfundeb Methodistaidd yn Nghymru, ac hwyrach mai efe ydyw ei addurn penaf. Gwnaeth yn ei ddydd fwy er cyfoethogi llenyddiaeth ei wlad a'i genedl, na neb o'i gydoeswyr. Ac mewn un ganghen bwysig o lenyddiaeth, sef barddoniaeth gysegredig ac emynawl, cydnebydd pawb ei fod yn sefyll yn hollol ar ei ben ei hun. Y mae yn anhawdd synied am anrhydedd uwch ar ddyn, na chael bod yn brif gyfrwng mawl y Goruchaf i genedl gyfan. Y mae Williams heddyw yn dâl yr anrhydedd hon, ac y mae yn debyg o'i chadw tra y bydd y genedl Gymreig yn addoli yn iaith eu tadau. Yr oedd Williams yn gymeriad hynod, ac yn meddu cymhwysderau arbenig at gyflawni ei waith ei hun. Cymerodd ran fawr yn ngwaith cyffredinol y diwygiad, a llafuriodd mor galed a chyson i ddwyn y cyffroad yn mlaen a'r un. Gwir nad oedd efe yn un o'r ychydig nifer a gododd ar y fore wawr. Daniel Rowland a Howell Harris ddarfu wneyd hyny. Ond cododd yntau gyda chodiad haul, yr oedd yn gweithio yn y winllan yn gynar yn y dydd, a pharhaodd hyd yr hwyr, gan ddal pwys y dydd a'r gwres. Bu fyw i weled y tri chedyrn cyntaf wedi croesi yr Iorddonen. Goroesodd hwy, a gwnaeth hyny mewn mwy nag un ystyr. Yr ydym yn gorfod cyfaddef, yr edrychir gan yr oes bresenol hyd yn nod ar gewri fel Daniel Rowland, Howell Harris, a Howell Davies, yn hytrach fel nerthoedd a fu—spent forces. Cydnabyddir, bid sicr, eu bod yn parhau i fyw hyd y dydd hwn, yn y sefydìiad crefyddol a adeiladwyd ganddynt, yn eu hanes, ac yn eu hesiampl. Ond y mae Williams yn parhau i fod yn ddylanwad presenol ac arhosol yn ein mysg, ac fel pe wedi dianc heb i law oer angau erioed gyffwrdd ag ef. Y bardd sydd yn byw hwyaf o bawb; y mae efe yn anfarwol.
Hyd y mae ynom gwnawn geisio gosod y cymeriad aml-ochrog hwn ger bron ein darllenwyr. Ceisiwn ei ddangos fel diwygiwr, llenor, a bardd, ond rhaid i ni yn gyntaf gael bras-olwg ar brif ffeithiau ei fywyd.
Er cymaint a ysgifenodd Williams yn ei ddydd, gadawodd ei gydwladwyr mewn tywyllwch hollol yn nghylch ei helyntion personol ef ei hun. Tybir, ac y mae hyny yn ddigon tebygol, fod amryw gyfeiriadau at amgylchiadau ei fywyd yn ei weithiau llenyddol, yn enwedig yn Theomemphus a'r Marwnadau; ond nid ydynt yn ddigon eglur a phendant i fod o nemawr gwerth hanesyddol. Ceir ynddynt ychydig gyfeiriadau amlwg, ac y mae y rhai hyny yn bwysig. Hyd y gwyddom, yr unig linellau a ysgrifenodd Williams ar lun hanes am dano ei hun, sydd wedi disgyn i lawr at yr oes hon, ydyw y paragraph byr hwn a osododd efe yn nghanol llythyr maith at y Parch. Thomas Charles o'r Bala, o fewn tair blynedd i'w farwolaeth. Ysgrifenwyd ef yn yr iaith Saesnig, ac y mae yn darllen fel hyn: "My days are drawing to an end, my course is nearly run: I have had a long life. I am now 73 years old. My strength would yet be pretty good, were it not for the affliction my Heavenly Father has laid upon me. I have been preaching for the last forty-three years, and have travelled on an average between forty and fifty miles every week during that time. I had four or five long journeys last spring through the counties of South Wales. Each was about a fortnight's space, and I travelled each time about two hundred miles. I intended going through North Wales, but these long journeys have, together with my complaint, so weakened me, that I have no hope of mending.'' Hyn yw hyd a lled " Hunan-gofiant Williams," ac y mae yn nodweddiadol iawn. Gwelir ei fod yn cyfeirio yn unig at ei lafur fel efengylydd, heb wneyd yr awgrym lleiaf at ei orchestion llenyddol
—————————————
LLWYNLLWYD, GER Y GELLI, SIR FRYCHEINIOG
Preswylfod y Parch. David Price, Gweinidog Maesyronen, lle y lletyai Williams, tra yn yr Athrofa
—————————————
Ac nid hyn yn unig. Ychydig iawn a ysgrifenwyd yn ei gylch gan y rhai oedd yn cydoesi ag ef. Dichon fod y sefyllfa ail-raddol a lanwai yn cyfrif i fesur am hyn. Cynorthwywr Daniel Rowland ydoedd. I hyn yma yr apwyntiwyd ef yn Sasiwn Watford, a sicr yw na chafodd neb erioed well cynorthwywr nag a gafodd Daniel Rowland ynddo ef. Dywediad awgrymiadol iawn oedd hwnw o eiddo y Parch. D. Griffith, Nevern, onide? "Gallai Rowland lywodraethu yr holl fyd, ond iddo gael Williams o Bantycelyn wrth ei benelin." Diau mai Rowland a Harris oedd arwyr yr oes hono, am danynt hwy y byddai pawb yn siarad ac yn ysgrifenu, ac yr oedd Williams o Bantycelyn, fel pawb eraill, yn cael ei gysgodi ganddynt, yn enwedig yn nghychwyniad y diwygiad.
Yn mhen dwy-flynedd-ar-hugain wedi ei farwolaeth y gwnaed yr ymgais cyntaf i ysgrifenu hanes ei fywyd, ac nid neb llai na'r Parch. T. Charles o'r Bala a ymgymerodd a'r gorchwyl Meddai Mr. Charles bob cymhwysder at y gwaith, o herwydd yr oedd yn bersonol gydnabyddus ag ef, yn hysbys o'i lafur dirfawr fel efengylydd, ac yn edmygwr mawr o'i weithiau llenyddol. Ymddangosodd y cofiant hwn nid mewn cyfrol ar ei phen ei hun, ond yn y cylchgrawn a olygid ganddo ar y pryd, sef yr Hen Drysorfa. Cyhoeddwyd ef yn Ionawr, 1813. Nid oes neb, hyd y gwyddom, yn nodi y ffaith mai ar gymhelliad y Parch. John Williams, mab y bardd, yr hwn oedd yn byw ar y pryd yn Mhantycelyn, yr ysgrifenwyd y cofiant hwn. Ond dyna'r gwirionedd.[99] Mewn llythyr o eiddo y Parch. John Williams, at ei frawd, y Parch. William Williams, cuwrad Truro, Cornwall, gwna gyfeiriad at farwolaeth Mr. Charles o'r Bala, gan ddweyd: "Mawr y golled a gafodd Cymru oll, yn enwedig corff y Methodistiaid. Yr oedd efe yn hynod o ddefnyddiol mewn llawer ffordd. Cyhoeddodd lawer o lyfrau rhagorol, Efe a gyhoeddodd, ar fy nymuniad i, hanes bywyd ein tad; myfi a roddais yr ysgerbwd iddo, ac yntau a'i gwisgodd a chroen; myfi a ddanfonais y defnyddiau, ac yntau a gododd yr adeilad." Y mae hyn yn dangos fod Mr. Charles mewn pob mantais i gyflawni yr hyn yr ymgymerodd ag ef. Ysgrif fer ydyw cofiant y Drysorfa, dim ond tua dwsin o dudalennau. Eto, cynwysa mewn ffordd fer a chryno, yr oll a dybiai gŵr defosiynol fel efe, yn weddus i'w groniclo yn nghylch Williams. Gadawodd allan o'i ysgrif yr holl ysträeon difyr am dano. Ö leiaf, gadawodd allan yr oll ond un, a chafodd hono le, nid am ei doniolrwydd, debygid, ond am ei bod yn dangos tynerwch cydwybod y bardd. Diau fod Mr. Charles yn gwybod degau o honynt; ond gan nad oeddynt yn fuddiol i athrawiaethu, i argyhoeddi, i geryddu, ac i hyfforddi mewn cyfiawnder, gosododd hwy o'r neilldu, gan ymgadw at yr hyn sydd sylweddol a gweddus. Y mae haneswyr diweddarach wedi bod ar eu heithaf yn casglu y difyr-hanesion hyn at eu gilydd, a chan fod ystori dda yn byw yn hir, yr ydys wedi dyfod o hyd i lawer o honynt, pa rhai erbyn hyn a ystyrir yn rhanau hanfodol o hanes Williams. Y maent yn flasus fwyd, y fath a gâr yr oes nwyfus yr ydym ni yn byw ynddi.
Ganwyd Williams yn y flwyddyn 1717, mewn amaethdy, o'r enw Cefncoed, yn mhlwyf Llanfair-ar-y-bryn, yn agos i dref Llanymddyfri. Yn yr amaethdy hwn y bu yn preswylio hyd iddo briodi. Enw ei dad oedd John Williams, amaethwr gonest a chyfrifol, a diacon yn eglwys Annibynol Cefnarthen, oedd gerllaw. Efe oedd perchenog yr amaethdy y trigai ynddo. Dorothy Lewis ydoedd enw morwynig mam Williams, a'i thad hithau oedd perchenog amaethdy Pantycelyn. Y mae y ddau dŷ o fewn milldir i'w gilydd; ac fe ddaeth Williams i feddiant o'r cyntaf trwy ei dad, ac i'r olaf drwy ei fam. Yr oedd ei serch at ei fam yn ddiarebol. Dywedir iddo ysgrifenu ar ffenestr anedd-dy, lle yr arhosai ar un o'i deithiau, benill o glod i eneth fechan yno oedd yr un enw a hi:"
Dorothea yw dy enw,
Ystyr hyn yw ' Rhodd dy Dduw,'
Ac yn ol yr enw hyfryd
Yn y bywyd b'o it' fyw;
Rhodd yw'th ddysg, a rhodd yw'th ddoniau,
A rhodd yw'th fod yn ferch fach lân;
Rhodd y rhoddion ydyw hyny
I'th gadw di rhag uffern dân."
Yr oedd gwahaniaeth oedran anarferol rhwng tad a mam Williams, gymaint a 33 o flynyddau. Adroddir y chwedl ganlynol am ddechreuad eu carwriaeth.[100] "Dywedir fod John Williaras yn cyfeillachu a dynes oedd yn byw yn mhell o'i gartref, i ymweled a pha un y byddai yn rhaid iddo fyned heibio i Bantycelyn. Pan ar ei daith i dalu un o'r ymweliadau hapus hyny, ac yn myned drwy gyntedd Pantycelyn, cyfarfu yno a merch y tŷ, sef Dorothy Lewis. Meddyliodd y ferch ieuanc fod hwn yn gyfle rhagorol iddi gael tipyn o ddifyrwch ar draul yr ' hen fab.' 'Yr ydych yn myned yn mhell iawn i ymofyn gwraig, F'ewythr Sion,' ebe hi; ' y mae yn ymddangos i mi y gallech gael un yn nês gartref.' 'Fe allai mai fel hyny y bydd hi yn y diwedd,' oedd yr ateb; ac yn sicr ddigon, fel hyny y trodd pethau allan." Dywedir yn aml ddarfod i John Williams farw pan yr oedd y mab yn bur ieuanc, ac o ganlyniad ddarfod i'r gofal o'i ddygiad i fynu ddisgyn ar y fam. Y mae hwn yn gamgymeriad dybryd; ac y mae yn anhawdd cyfrif sut y darfu i neb syrthio iddo. Ar y 1af o Ebrill, 1742, y bu John Williams farw, ac yr oedd Williams y pryd hwnw yn 25 mlwydd oed. Bu y tad fyw bedair blynedd wedi argyhoeddiad ei fab athrylithgar dan weinidogaeth Howell Harris, yr oedd yn fyw am y ddwy flynedd y bu yn parotoi ar gyfer yr Eglwys Wladol; ac am ddwy flynedd arall o'r amser y bu efe yn guwrad ar eglwysydd Llanwrtyd ac Abergwesyn. Os mai ymgais yw hyn i egluro sut yr aeth mab i ddiacon blaenllaw gyda'r Annibynwyr yn offeiriad, y mae yn gwbl annigonol, ac yn groes i'r gwirionedd. Gwir fod y tad mewn gwth o oedran, o herwydd yr oedd yn 86 mlwydd oed pan y bu farw. Yr oedd hefyd wedi colli ei olygon, canys yr oedd yn ddall hollol am y chwe' blynedd olaf o'i oes; ond yr oedd mewn cyflawn feddiant o'i alluoedd hyd y diwedd, ac yn ŵr o gyneddfau cryfion, Fel prawf o'i nerth a'i yni, digon yw dweyd ddarfod iddo ddwy flynedd cyn ei farw, arwain y blaid Galfinaidd allan o gapel Cefnarthen, a chymeryd lle arall i addoli ar wahan i'r blaid Arminaidd, oedd ar y pryd yn y mwyafrif yn yr eglwys hono. Diau i Williams gael y fantais o gyfarwyddyd ei dad yn gystal a'i fam, pan y penderfynodd fyned i'r Eglwys Wladol, ac nas gwnaeth newid ei enwad crefyddol yn groes i'w teimladau hwy. Pan briododd Williams, yr hyn a wnaed ganddo pan yn 32 mlwydd oed, symudodd o Gefncoed i Bantycelyn, ac aeth a'i fam, yr hon oedd erbyn hyny yn weddw, gydag ef. Bu hi fyw nes ydoedd yn 95 mlwydd oed, ac ni bu farw ond saith mlynedd o flaen ei mab. Yr oedd Williams a'i wraig yn aelodau yn nghapel y Methodistiaid yn Nghilycwm, ond ymddengys i'w fam barhau yn aelod gyda'r Annibynwyr hyd ei bedd. Cadarnheir hyn gan hen lyfr seiat Cilycwm, yr hwn oedd yn cofrestru yr aelodau yn deuluoedd. Ceid ynddo yr enwau: "William Williams, Pantycelyn; Mary, the Wife; Mary, the Maid;" ond nid oedd ,"Dorothy, the Mothcr," ynddo. Cynrychiohd y tri enwad yn Mhantycelyn y blynyddoedd hyny, sef y Methodistiaid, yr Annibynwyr, a'r Eglwys Wladol.
Y darn mwyaf tywyll yn mywyd Williams ydyw hanes ei ieuenctyd. Yr unig wybodaeth sicr sydd genym am dano yn y cyfnod hwn, ydyw iddo dyfu i fynu heb dderbyn argraffìadau crefyddol dyfnion. Y mae genym ei dystiolaeth ef ei hun ar hyn, fel y cawn weled, eto; ond y mae y cwestiwn pa un ai mewn difaterwch a difrawder y treuliodd y blynyddoedd hyny, neu ynte, a ddarfu iddo eu treulio mewn llygredigaeth ac annuwioldeb, yn fater nas gellir ei benderfynu. Cafodd y fantais fawr o'i ddwyn i fynu ar aelwyd grefyddol.[101] Dywedir am ei dad, heblaw bod yn " henadur llywodraethol " yn eglwys Cefnarthen, sef y ffurf uchaf, meddir, ar y swydd ddiaconaidd, "ei fod yn Gristion addfwyn, gonest, a chywir, ac iddo gael ei fynediad trwy anialwch y byd hwn i'r wlad well yn lled rydd oddiwrth ofidiau." Dyma gymeriad ei dad, fel ei rhoddir i ni gan y rhai a'i hadwaenent oreu. Ac y mae yn sicr fod ei fam o ymarweddiad cyffelyb. Eithr er fod yr awyrgylch y magwyd ef ynddi yn un grefyddol, a bod dylanwad yr aelwyd gartref yn iachus a dymunol, y mae yn sicr mai tyfu i fynu yn anystyriol a dioruchwyliaeth a wnaeth efe.
Hwyrach nad anfuddiol fyddai ymholi beth ydoedd ystad foesol a chrefyddol y gymydogaeth yr oedd efe yn byw ynddi ar y pryd? Y mae y cwestiwn hwn yn un pur hawdd i'w ateb. Yr oedd ardal Llanymddyfri mor ddyfned mewn llygredigaeth a phechod a'r un yn Nghymru. Hynodid hi gan ei hannuwioldeb a'i drygioni. Uwchben y dref halogedig hon y cyhoeddasai Ficer Pritchard ei felldithion, gan' mlynedd cyn amser y diwygiad; ac y mae genym ddigon o brofion wrth law i ddangos nad ydoedd ronyn yn well yn yr amser hwn. Dyma fel y cyhoeddai yr hen Ficer ei felldithion ar dref Llanymddyfri:
Mene Tecel, tre Llanddyfri,
Pwysodd Duw hi yn dy frynti;
Ni chadd ynnot ond y sorod,
Gochel weithian rhag ei ddyrnod.
Cefaist rhybudd lawer pryd,
Nid yw cynghor 'mheuthyn id';
Nid oes lun it' wneuthur esgus,
O! gwae di, y dref anhapus!
Bore codais gyda'r ceiliog,
Hir ddilynais yn dy annog
Droi at Dduw oddi wrth dy frynti,
Ond nid oedd ond ofer imi.
Cenais bibau, ond ni ddawnsiaist,
Tost gwynfannais, nid alaraist;
Ceisiais trwy deg a thrwy hagar,
Ni chawn gennyt ond y gwatwar
Cawn fod plwyfydd Llanfair-ar-y-bryn, Llandingad, a Chilycwm, mewn tywyllwch dudew, ac nad oedd yr offeiriaid, yn nechreuad y diwygiad Methodistaidd, ond gwyliedyddion deillion. Ond beth am yr eglwysi Presbyteraidd oedd yn y gymydogaeth, ai nid oeddynt hwy yn dal yn gryf yn erbyn y llifeiriant oedd yn gordoi y wlad? Diau eu bod i ryw fesur, ond nid i'r graddau y gwnaethent mewn adeg foreuach. Y pryd hwn, yn arbenig, yr oedd cylch eu dylanwad er daioni yn bur gyfyng, gan eu bod yn cael eu rhwygo gan derfysgoedd ac ymrysonau, yn benaf yn nghylch athrawiaethau crefydd. Yr oedd dwy o eglwysi Ymneillduol yn nghymydogaeth Llanymddyfri, sef eglwys y Bedyddwyr yn Nghilycwm, ac eglwys Annibynol Cefnarthen. Eglwys fechan a chymharol ddinod ydoedd yn Nghilycwm, ond yr oedd un Cefnarthen yn un lliosog ac o enwogrwydd. Yn hon yr oedd tad a mam Williams yn aelodau, ac i'r capel hwn y byddai Williams yn myned yn ystod ei ieuenctyd. Rhaid i'r darllenydd gael brasolwg ar hanes yr eglwys yma, er mwyn iddo weled pa fagwraeth i grefydd allasai gael ganddi. Yr oedd yn un o eglwysi hynaf Cymru, ac wedi gwneyd gwasanaeth anrhaethol i grefydd ardaloedd Llanymddyfri tuag adeg y weriniaeth, ac yn ystod yr erledigaeth wedi adferiad Siarl yr Ail. Ceir hanes llawn, a dyddorol dros ben am dani yn Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, cyf. iii., tudal. 582; ond rhaid i ni dalfyru llawer arno yma.
Planwyd eglwys Cefnarthen gan Mr. Jenkin Jones, Llanddetty, hwyrach mor foreu a'r flwyddyn 1642; ond gwasgarwyd hi gan erledigaethau, a charcharwyd y gweinidog a lliaws o'r aelodau. Ailgasglwyd hi tua'r flwyddyn 1688, gan Mr. Rees Prytherch, gŵr a fu yn ffyddlon weinidog ynddi hyd ei farwolaeth, yn 1699. Ei ganlynydd ef ydoedd Mr. Roger Williams. Calfiniaid, o ran athrawiaeth, ydoedd y ddau weinidog cyntaf; a Chalfiniad ydoedd Roger Williams ar y cychwyn; ond cyn diwedd ei oes yr oedd yn pregethu Arminiaeth, a llwyddodd i ledaenu yr athrawiaeth hono yn mysg ei aelodau a'i wrandawyr. Bu farw yn 1730, wedi bod yn pregethu, yma ac yn eglwys Cwmyglo, Merthyr Tydfil, am 32 o flynyddau. Yr oedd yr eglwys yn ddwy blaid pan y bu efe farw, ac ymddengys mai yr Arminiaid erbyn hyn oedd y blaid gryfaf ynddi. Ar ei farwolaeth ef, cafodd dau weinidog o ddaliadau Arminaidd eu dewis gan un blaid, ac un arall o olygiadau Calfinaidd gan y llall. Yr oedd y tri gweinidog hyn, cofier, yn weinidogion ar yr eglwys ar yr un amser; nid am fod rhifedi yr aelodau yn galw am hyny, ond yn unig er cyfarfod a'i sefyllfa ranedig hi ar y pryd. Buont yn pregethu athrawiaethau croes i'w gilydd, yn yr un capel, ac o'r un pwlpud, am saith mlynedd. O'r diwedd ymranodd yr eglwys; cadwodd yr Arminiaid feddiant o'r addoldy, ac aeth y Calfiniaid i addoli i amaethdy o'r enw Clinypentan, yr hwn sydd yn sefyll rhwng Cefncoed a Phantycelyn. Yr oedd tad Williams yn arwain y blaid Galfinaidd allan o'r hen gapel. Wedi yr ymraniad cynyddodd y Calfiniaid, a lleihaodd yr Arminiaid. Adeiladwyd capel newydd i'r Calfiniaid ar ddarn o dir a roddwyd i'r pwrpas gan fam Williams, Pantycelyn, ac yntau, yr hwn a elwir yn Pentretygwyn. Yn nghwrs blynyddoedd unwyd yr eglwysi gan Mr. Morgan Jones, a charthwyd yr athrawiaeth Arminaidd allan o honynt yn llwyr.
Dyna yn fyr, hanes eglwys Cefnarthen. Gwelir i Williams gael ei ddwyn i fynu yn un o eglwysi mwyaf terfysglyd Cymru; eglwys ag yr oedd llawer mwy o ddadleuon ynddi nag o grefydd. Nid pobl yn cytuno i anghytuno oeddynt, ond pobl anhyblyg dros eu gwahanol opiniynau, ac yn medru cario rhyfel poeth yn mlaen am flynyddau lawer. Nis gwyddom a oedd Williams yn aelod proffesedig o'r eglwys, ond yno y cyrchai i'r addoliad cyhoeddus hyd yr ymadawodd i fyned i'r coleg, yn llanc ieuanc, dwy-ar-bymtheg neu ddeunaw mlwydd oed. Y mae yn bur debyg fod Roger Williams wedi troi yn Arminiad cyn iddo ef gael ei eni. Am y blynyddoedd cyntaf, nid oedd o fawr pwys i Williams ieuanc pa athrawiaethau a bregethid yn ei glyw. Eithr cyn terfyn gweinidogaeth Roger Williams, hwyrach fod gan y bachgen llygadlas ryw syniad aneglur am yr hyn a wrandawai; y deallai fod rhyw wahaniaeth nas gallai efe ei amgyffred, rhwng yr hyn a lefarai y gweinidog, a'r hyn a gredai ei dad; ac nid anhebyg iddo glywed aml i ddadl frwd rhwng y ddau. Yr oedd yn dair-ar-ddeg oed pan fu y gweinidog hwnw farw. Yr oedd yn llawer pwysicach pa athrawiaethau a gyhoeddid yn ei glywedigaeth yn ystod y pum' mlynedd nesaf; dyma y cyfnod yr ymagorai ei ddeall, ac y rhoddai heibio bethau bachgenaidd, am y teimlai ei fod yn dyfod yn ŵr. Gresyn na fuasai gweinidogaeth pwlpud Cefnarthen, a dysgeidiaeth yr aelwyd yn Cefncoed, yn cyfnerthu eu gilydd yn yr adeg bwysig hon. ond y mae genym ofn fod yr hyn a adeiledid y pryd hwnw ar yr aelwyd, yn cael ei dynu i lawr yn y capel. Gwyddom, er ein gofid, nad oes dim ag a duedda yn gryfach i ddyeithrio meddwl yr ieuanc oddiwrth grefydd, na dadleuon ac ymrysonau yn yr eglwys, o unrhyw natur. Ond yn y tymhor hwn yr aeth rhyfel yr athrawiaethau yn ddifrifol o boeth yn Nghefnarthen; yr oedd yr Arminiaid wedi dyfod yn allu llywodraethol yn yr eglwys, a blin fu y frwydr rhyngddynt a'r Calfiniaid. Ai nid gweli a fuasai iddynt ymwahanu yn gynt , gan fod pob undeb gwirioneddol rhwng y pleidiau wedi llwyr ddiflanu? O bosibl hyny; ond hwyrach fod eu hymlyniad wrth yr hen addoldy yn gwneyd y peth yn anhawdd iddynt. Fel y dywedwyd, bu y pleidiau yn pregethu yn erbyn eu gilydd, o'r un pwlpud, am saith mlynedd; ac yr oedd Williams yn mynychu y capel am bump allan o'r saith hyn. Gresyn na fuasai ef wedi rhoddi i ni hanes Cefnarthen yn y tymhor hwn, gan ddesgrifio yr hyn a welodd ac a glywodd; gallasai daflu goleu ar lu o gwestiynau sydd yn ddyrus i ni erbyn hyn, megys: A fyddai y pleidiau yn pregethu yn erbyn eu gilydd yn yr un odfa, neu ynte ar wahanol amserau? Os mai ar wahanol amserau, a fyddai y naill blaid yn mynychu cyfarfodydd y llall? A ydoedd Williams yn cymeryd rhan yn y dadleuon hyn, neu ynte a oedd yn eu hangymeradwyo hwynt, ac yn eu gochel? Rhaid i ofyniadau fel yma aros bellach heb eu hateb, ond yr ydym yn sicr o un peth, sef na ddarfu y dadleuon a'r ymrysonau hyn grefyddoli ei yspryd. Prin y gellir disgwyl y buasent yn foddion gras iddo. Os darfu iddo ef ymdaflu i'r dadleuon, hwyrach iddynt eangu cylch ei wybodaeth, a blaen-llymu ei alluoedd meddyliol.
Tybed nad oedd hanes eglwys Cefnarthen yn bresenol yn meddwl Williams pan yr oedd yn cyfansoddi Theomemphus? Credwn ei fod; ac mai trethu ei gof, yn hytrach na thynu ar ei ddychymyg, yr oedd pan yn darlunio y pregethwyr hyny, ag oeddynt yn ceisio dileu dylanwad Boanerges ac Evangelius oddiar feddwl ei arwr. Darllener y llinellau hyn yn ngoleu yr hanes yr ydym newydd ei osod gerbron y darllenydd am Gefnarthen, a chredwn y gwel ynddynt gyfatebiaeth mawr. Dyma fel y mae un, a alwai y bardd yn Arbitrius Liber, yn pregethu cyfiawnhad trwy weithredoedd:—
"Gwrandewch, hiliogaeth Adda " ebe'r areithiwr mawr,
"Nid dim erioed ond cariad, wnaeth i chwi droedio'r llawr;
Meddyliau da tuag atoch sydd er creadigaeth byd,
A thraw yn nhragwyddoldeb, cyn rhoi'r elfenau 'nghyd.
Eich Crëwr yw eich priod, eich priod oll o'r bron,
Ewyllysiwr da'n ddiameu, i bawb sydd ar y dòn;
Ni fyn e' i neb i farw, ond am i bawb gael byw,
Os gwir llyth'renau'r Beibl, wel hyn, gwirionedd yw.
Pa gynifer gwersi sy' yno, pob un yn haeru 'nghyd,
Nad ydyw Duw am ddamnio, yn unig safio'r byd?
Gwae rhai sy'n cloi trugaredd wrth rai o ddynol ryw,
Yn haeru rhagordeiniad, nad rhagwelediad yw.
P'odd gall un perchen rheswm i haeru maes yn lan,
I Dduw bwrpasu dynion, ryw rai i uffern dan?
Mae hyn yn gam anorphen a hanfod mawr yr Iôr,
Sydd a'i ddaioni cymaint a dyfroedd mawr y môr.
Nid ydyw dyn heb allu, er iddo fyn'd ar ŵyr,
Mae ei 'wyllys a'i resymau, heb eto'i llygru'n llwyr;
Ei ddeall yw ei reswm, fe gadwodd hwn ei le,
Pan collodd ei frenhiniaeth o fewn i deyrnas ne'.
A dyma'm neges inau, cyhoeddi i chwi'r gwir,
A gwneuthur pob dyledswydd, y t'wylla'n oleu clir;
Wel, pwyswch yn eich meddwl y geiriau yma'n llawn,
A gwnewch eich dyledswyddau o foreu hyd bryd nawn.
Ymdrowch yn eich rhinweddau, ac ynddynt byddwch fyw,
Cyflawni pob gorchymyn i gyd yw meddwl Duw;
Am dori'r ddeddf mae damnio, fe dd'wedodd hyn ar g'oedd,
I'n dori oll os torwn orchymyn fyth o'n bodd.
At ddyledswyddau bellach, y perlau mwyaf drud
Yw dyledswyddau nefol, o'r cwbl sy'n y byd;
Gweddïau ac elusen, 'does mo'u cyffelyb hwy,
Hwy ro'nt i angau creulon ei hunan farwol glwy'.
Rho'wch ymaith bob rhyw bechod, o'weithred ac o fryd,
Pob malais a chenfigen, a gormod garu'r byd;
Ein dyled ni yw caru, wrth geisio fe gair gras,
Nid yw e'n waith mor anhawdd i goncro pechod cas
A dim ond gwneyd ein goreu, yw'r cwbl sydd gan ddyn,
A Duw sydd siwr o'i ateb, fe dystia'r gair ei hun;
Mae gras i'w gael ond ceisio, a'r ceisio sy' arnom ni,
A'r fynyd gyntaf ceisiom fe rodda Daw yn ffri."
Fel hyn eilwaith y dywed Orthocephalus, yr hwn sydd bregethwr uniongred, ond ei fod yn hunanol, ymffrostgar, a sych:—
"Mae gau-athrawon lawer," 'be fe, "yn myn'd ar led,
Heb 'nabod ac heb ddeall mo egwyddorion cred;
Heb ganddynt ffurf na rheswm, ond rhyw gymysgedd cas,
athrawiaethau anial maent yn eu taflu maes.
Mae'r Coptics a'r Armeniaid, ar hyd yr Aiphtaidd dir, .
Yn ddigon pell, ysywaith, oddi wrth derfynau'r gwir;
Mae yma opiniynau o fewn ein gwlad ein hun,
Sydd ddiau yn ddinystriol i iachawdwriaeth dyn.
Mae'r Antinomian trwsgl, yn dweyd i maes ar g'oedd,
Os pechu wna neu beidio, y bydd ef wrth ei fodd;
Cyn iddo'n caru gyntaf, fe wyddai Duw ein bai,
'Rys wedi maddeu ein pechod, cyn i ni 'difarhau.
Mae amryw Galfinistiaid yn myn'd i maes o'u lle,
Rhy galed maent yn gwasgu'r pwnc ar yr ochr dde';
Y maent yn dala'r ethol, a'r gwrthod cas yn un,
Heb gofio llw'r drugaredd a dyngodd Duw ei hun.
'Chytuna'i ddim a Baxter, sy'n rhanu'r cyfiawnhad,
Na Chrisp, sy'n dodi'r gyfraith yn hollol tan ei draed,
Na Zinderdorf a'i drefn, 'dwy'n llyncu un o'r tri,
Ac ni bydd Athanasius yn feistr ffydd i mi.
Ni chaiff articlau Lloegr eu credu geny'n lân,
Na rhai wnawd yn Genefa, ryw flwyddau maith o'r blaen;
Er pured Eglwys Scotland, nid purdeb yw hi gyd,
Ni phiniaf ddim o'm crefydd, ar lawes neb o'r byd.
—————————————
ATHROFA LLWYNLLWYD FEL Y MAE YN BRESENNOL
—————————————
Drwg enbyd yw yr amser, rhyw athrawiaethau blin
Mae gau a gwag-athrawon, er's dyddiau yn eu trin;
Da iawn fod gan weinidog ryw lawer iawn o ddysg,
I gyfarwyddo'r bobol y rhodder e'n eu mysg.
Mi safais, ac mi safaf, ac nid wy'n ofni dim,
Yn erbyn llif o ddyfroedd, er cymaint yw eu grym;
Mewn llawer brwydr buais, ond am fod geny'r gwir,
Cyn i mi lan goncwerio, ni chawn fod yno'n hir.
'Rwy'n gosod ffydd yn flaenaf, 'rwy'n gosod gwaith yn ail,
Os anog i sancteiddrwydd, 'rwy'n gosod Crist yn sail;
Pa ddyledswyddau enwir o foreu hyd brydnawn,
Mae'r cwbl geny'n gryno mewn iachawdwriaeth lawn.
'Dwy'n gadael unrhyw ganghen grefydd o un man,
Ag y mae rhai yn ddamsang, nad wy'n ei chodi i'r lan;
'Dwy'n gadael un gofyniad yn y cyfamod gras,
Nad wyf fi ar ryw amser yn ei gyhoeddi maes.
'Rwyf yn dyrchafu'r Arglwydd, ac yn darostwng dyn,
Yn tori lawr ei haeddiant a'i allu yn gytun;
'Rwyn curo cyfeiliornad ar aswy ac ar ddê,
'Rwyf yn cymhwyso 'mhobl i mewn i deyrnas ne'."
A dyma fel y mae Schematicus yn traethu ei lith yntau, pregethwr uniongred arall, ond sydd yn condemnio egwyddorion ac athrawiaethau pawb, ond yr eiddo ei hun:—
"Schematicus, un arall, un gwresog iawn ei ddawn,.
Un pwnc oedd swm ei bregeth o foreu hyd brydnawn;
Er fod rhyw bynciau eraill wrth eu bregethau nglyn
Ni 'nynai ei zêl ef ronyn, nes d'ai at ei bwnc ei hun.
Yr arfaeth oedd ei eilun, ac yna'r arfaeth rad,
Oedd sylfaen ffydd, sancteiddrwydd, 'difeirwch, cyfiawnhad;
Olrheiniai ef ei natur, bob cangen yn gytun,
Oddi wrth un wers o'r Beibl, dros driugain Sul ag un.
Efe 'sgrifenodd lyfrau, rai meithion iawn eu hyd,
'Run pwnc oedd ei athrawiaeth, trwy rheiny oll i gyd;
Pwy bynag ŵr na chredai, anrasol oedd y dyn,
Fel credai ef heb amheu, Schematicus ei hun.
A'i athrawiaethau haerllug o'r diwedd 'nynodd dan,
Am farn ac opiniynau, dyeithr o'ent o'r blaen;
Daeth enw'n erbyn enw, fe gai un enw'n awr,
Ei godi cuwch a'r cwmwl, a'rllall ei dynu i lawr.
Terfysgwyd penau'r bobl, fe ranwyd yma a thraw,
Dau 'biniwn mewn un eglwys, ac weithiau wyth neu naw;
Zêl at y pethau lleiaf, yn gweithio yn y dall,
Un pwlpud yn fflangellu athrawiaethau'r llall.
Didolwyd, gwnawd partïon, o'r bobl oedd gytun,
Tri'n erbyn pump rai prydiau, neu ddeg yn erbyn un;
Cyhoeddwyd cymanfaoedd o'r De i'r Dwyrain dir,
I chwilio gwraidd opiniwn, a gwneyd y pwnc yn glir.
Fe lidiwyd, anfoddlonwyd, fe dduwd ar bob llaw,
Fe chwiliwyd am athrawon, rai newydd yma a thraw;
Pregethwyd, fe 'sgrifenwyd, pawb am ei bwnc ei hun,
Yn gant o ddarnau rhanwyd y Beibl oedd yn un.
Myfyriwyd Groeg a Hcbrew, gopiau'r 'Sgrythyr Lan,
Un copi fe'i goreurid, fe roid y llall i'r tan;
Darllenwj'd heu 'sgrifenwyr, rhai eu galw'n gywir cas,
Rhai'n hercticiaid deillion, ga'dd eu cyhoeddi maes.
Nes myn'd a llu o bobl fu'n ochr Sinai fryn,
Yn gwrando Boanerges yn brysur iawn cyn hyn;
Ar ol rhyw bynciau gweigion, a cholli'r yspryd trist,
Drylliedig, oedd yn gwaeddi am 'nabod Iesu Grist.
I 'mofyn dŵr a bedydd, 'nol gwneuthur proffes lan,
Anghofio bedydd yspryd, a bedydd nefol dân,
I bledio'n erbyn gwenwisg, a darllen gweddi maes,
Anghofìo taernu calon, a dirgel ruddfan gras.
Gwallt llaes sydd bwnc arbenig, rhaid cael y pen yn grwn,
Gwell rhwygo mil o eglwysi, na cholli'r pwncyn hwn;
Mae'n rhaid i hwn gael Esgob, ond Presbyter i'r llall,
Wêl Quaker Independiad ddim gwell na mab y fall"
Braidd nad yw y desgrfiad uchod yn llythyrenol gywir o sefyllfa eglwys Cefnarthen yn nyddiau ieuenctyd Williams, sef tra y bu ef o fewn cylch ei dylanwad hi.
Ymddengys na fu raid i Williams adael cartref tra yn derbyn ei addysg, hyd iddo fyned i Athrofa Llwynllwyd. Diau mai mewn ysgolion cymydogaethol, yn nhref Llanymddyfri, hwyrach, y treuliodd y blynyddoedd hyny. Yr oedd yn llawn dwy-ar-bymtheg neu ddeunaw mlwydd oed pan yn myned i'r athrofa, o herwydd cawn ei fod wedi gorphen y cwrs arferol yno, sef tair neu bedair blynedd, erbyn ei fod yn un-ar-hugain oed. Y mae yr enw Athrofa Llwynllwyd yn disgyn yn ddyeithr ar ein clustiau. Nid oes enw o'r fath yn mhlith ein hysgolion. Byddai yn ddigon cywir, ac yn fwy dealladwy, dweyd mai i Athrofa Caerfyrddin yr aeth; lle y cafodd y fath nifer o enwogion Cymru eu haddysg. Yn y sefydliad hwnw y gorphenodd Williams ei addysg, er fod yr athrofa ar y pryd wedi ei symud o dref Caerfyrddin, ac yn cael ei chynal yn Llwynllwyd, yn agos i'r Gelli, yn Sir Frycheiniog. Yr achos o newidiad lle yr athrofa ydoedd hyn. Ar farwolaeth Mr. Thomas Perrot, athraw Athrofa Caerfyrddin, yn 1733, penodwyd Mr. Vavasor Griffiths, gweinidog Maesgwyn, Sir Faesyfed, i gymeryd ei le. Gwrthododd Mr. Griffiths fyned i Gaerfyrddin, am y barnai y buasai yn well i'r athrofa gael ei chadw yn y wlad, fel na fyddai y myfyrwyr yn agored i brofedigaethau tref. A hyn cydsyniodd awdurdodau yr athrofa; ac felly fe symudwyd y sefydliad at yr athraw. Yn ystod y saith mlynedd y bu dan ofal y dysgedig a'r duwiol Mr. Vavasor Griffiths, cynhaliwyd hi mewn tri neu bedwar o fanau, am nad oedd yr un adeilad wedi ei ddarpar ar ei chyfer. Y lle y cynhelid hi y pryd yr oedd Williams ynddi ydoedd yn amaethdy Llwynllwyd, preswylfod Mr. David Price, gweinidog eglwys Annibynol Maesyronen. Dywed Mr. Charles mai Mr. Price ydoedd athraw yr athrofa, ond y mae hyn yn gamgymeriad. Ac y mae y Parch. J. Kilsby Jones yr un mor gamsyniol, pan yn tybied mai yn Llwynllwyd y preswyllai Mr. Vavasor Griffiths.
Yr oedd Mr. Vavasor Griffiths yn un o'r ysgolheigion goreu, ac yn un o'r dynion mwyaf duwiol yn ei oes. Dywedir ei fod yn arfer mwy o lymder nag a wnelsai, oni buasai fod tynerwch eithafol Mr. Perrot, wedi bod yn achlysur i lawer o'r myfyrwyr i ymollwng i gyfeiliornadau blin mewn barn a buchedd. Bu farw yn mhen tair blynedd wedi i Williams adael y sefydliad, sef yn 1741. Nid oes gair o hanes Williams tra y bu yn yr athrofa genym; ond gellir casglu ddarfod iddo wneyd defnydd da o'i gyfleusderau. Yr oedd yn lletya, debygid, gyda Mr. Price yn Llwynllwyd, ac yn mynychu capel Annibynol Maesyronen ar y Sabbathau. Tebygol fod ei holl fryd yn y tymhor hwn ar gasglu gwybodaeth, yn enwedig yn y cangenau hyny sydd yn dal perthynas a'r alwedigaeth feddygol, oblegyd dyma y cyfeiriad a fwriadai gymeryd. Sefydliad at barotoi pobl ieuainc ar gyfer y weinidogaeth oedd yr athrofa; ond cafodd ef fynediad iddi fel lay stndent. Nid oes hysbysrwydd pa hyd o amser y bu yn yr athrofa hon, ond gwyddis ddarfod iddo orphen ei efrydiaeth ynddi yn y flwyddyn 1738. Gan yr arferai pobl ieuainc aros mewn athrofeydd, yr amser hwnw fel yn bresenol, am dair neu bedair blynedd, aeth yno naill ai yn y flwyddyn 1734 neu 1735. Yr oedd mynediad Williams i Llwynllwyd felly agos yn gyfamserol a throedigaeth Howell Harris, a ffaith ryfedd, nas gellir yn hawdd gyfrif am dani ydyw, na ddaeth i gyffyrddiad personol a'r Diwygiwr o Drefecca yn ystod yr amser yr arhosodd yn yr athrofa. Rhaid iddo glywed llawer o son am dano. Gwedi ei argyhoeddiad daeth Harris i enwogrwydd buan, dechreuodd bregethu i'w gymydogion yn Nhalgarth, a chynyrfu y wlad o gwmpas yn ddiymaros. Cyn diwedd y flwyddyn 1737 yr oedd wedi ymweled a phob ardal yn Sir Frycheiniog, gan sefydlu seiadau, ac yr oedd wedi sefydlu amrai o'r cymdeithasau hyn yn Siroedd Maesyfed a Henffordd. Ond nid yw yn ymddangos iddo bregethu yn Glasbury, y pentref agosaf at Llwynllwyd, yn ystod yr adeg hon. Efallai, gan fod yr athrofa mor agos, y tybiai y gallai adael y lle i'r gweinidog duwiol a dysgedig oedd yn athraw arni, ynghyd a'r Parch. David Price, gweinidog parchus Maesyronen. Gwedi hyn, pa fodd bynag, sef yn y flwyddyn 1738, ysgrifenodd y Parch. Vavasor Griffiths at Harris, yn ei wahodd yno, a diau iddo yntau gydsynio a'r gwahoddiad, o herwydd gwelwn oddiwrth gofnodau Cymdeithasfa gyntaf Watford, fod eglwys Fethodistaidd yn Glasbury yn 1743. Ond dichon fod hyn wedi i Williams adael Llwynllwyd. Nis gall nad oedd gweithredoedd nerthol y Diwygiwr, a hynodrwydd neillduol ei weinidogaeth, yn destun siarad mawr yn yr athrofa, yn enwedig pan gofiom mai rhai a'u bryd ar y pwlpud oedd y rhan fwyaf o'r efrydwyr. Y mae yn fwy na thebyg i amryw o honynt fyned yn unswydd i Dalgarth, pellder o tua chwech milltir, er mwyn ei wrando. Pa fodd nad aeth Williams gyda hwynt, nid oes genym ond dyfalu. Efallai ei fod, fel llawer o'r Ymneullduwyr ar y pryd, yn dirmygu yn ei galon ŵr diurddau yn myned o gwmpas i gynghori. Neu efallai fod ei wanc am wybodaeth yn gryf, tra nad oedd ei dueddiadau crefyddol ond gwan ac eiddil. Hyn sydd sicr, tra yr oedd Howell Harris yn cyffroi y wlad, ac yn rhybuddio yr annuwiol i ffoi rhag y llid a fydd, yr oedd y llanc o Bantycelyn yn ymgolli yn ei efrydiau, ac yn ddifater am gyflwr ei enaid.
Ond daeth adeg ymadael a'r athrofa, ac yn y flwyddyn 1738 yr ydym yn ei gael yn dychwelyd adref i dŷ ei dad. Yr oedd ganddo daith faith, dros ddeg-ar-hugain o filldiroedd; arweiniai y ffordd ef drwy dref Talgarth, ac heibio i fynwent yr eglwys. Yr oedd Harris yn pregethu ar y fynwent, pan yr oedd efe yn pasio. Aeth i mewn i'r fynwent i weled a chlywed am y tro cyntaf y dyn y clywsai gymaint son am dano; a chafodd ei argyhoeddi mor sydyn ac mor effeithiol ag yr argyhoeddwyd Paul ar y ffordd i Damascus. Damwain hollol o du Williams ydoedd hyn, ond
"Yr hyn sy'n ddamwain ddall i ddyn,
Sy'n oleu arfaeth Iôr."
Ac yr oedd cyfarfyddiad digwyddiadol Williams a Howell Harris y boreu hwn o ganlyniadau pwysig iddo ef ei hun, ac i eglwys Crist yn Nghymru, o leiaf tra y bydd hi yn parhau i. addoli yn yr iaith Gymraeg.
Y mae yn anhawdd peidio benthyca desgrifiad y diweddar "Hiraethog " (Dr. William Rees) o droedigaeth Williams, er ei fod yn mhell o fod yn hanesyddol gywir, fel y cawn sylwi eto: "Ar ryw fore (Sabboth, y mae'n debygol) yn y flwyddyn 1738, dyna sain cloch llan blwyfol, mewn pentref neillduedig yn Sir Frycheiniog, yn gwahodd yr ardalwyr i ymgynull ynghyd i'r gwasanaeth crefyddol. Ymgynulla lliaws at eu gilydd. Yn eu mysg, dacw ŵr ieuanc, oddeutu un-ar-hugain oed, o gorff lluniaidd, a thaldra canolig, ac ymddygiad mwy boneddigaidd na'r cyffredin, yn myned i mewn i le yr addoliad. Telir sylw mwy na chyffredin iddo. Y mae naill ai yn ddyeithr yn y lle, neu y mae newydd ddychwelyd i blith cydnabyddion wedi cryn absenoldeb. Craffwch arno! y mae rhywbeth yn ei wynebpryd a dynodiant ei lygaid a bar i chwi deimlo rhyw fwy o ddyddordeb ynddo nag mewn unrhyw ŵr ieuanc arall drwy yr holl gynulleidfa; ond ni wyddoch yn iawn pa beth ydyw chwaith; rhywbeth ydyw na ellwch roddi cyfrif am dano, ac na ellwch chwaith help i chwi eich hunain wrtho. Par i chwi yn awr ac yn y man, drachefn a thrachefn, daflu eich llygaid arno, bron yn ddiarwybod i chwi eich hun. Dyma y gweinidog yn dyfod i mewn, a'r gwasanaeth yn myned i ddechreu. Ar hyn, wele ŵr canol oed, lled fyr o gorffolaeth, o agwedd difrif-ddwys anghyffredinol, yn dyfod i'r lle. Y mae pob llygad yn y synagog yn canolbwyntio arno. Cynhyrfa yr olwg arno wahanol deimladau yn y gynulleidfa, y rhai a ddadguddiant eu hunain drwy lygaid a delweddau wynebpryd y naill a'r llall. Ei ymddangosiad a dery fath o syndod ac arswyd drwy y lle. Y sylw a'r teimladau rhyfeddol a gynhyrfid fel hyn drwy ei ymddangosiad a enyn gywreinrwydd y gŵr ieuanc y buom yn edrych arno, a gofyna yn wylaidd a dystaw i'r agosaf ato: 'Pwy yw y gŵr rhyfedd hwn sydd yn enill y fath sylw cyffredinol ato?' Yr ateb yw: 'Dyna Howell Harris! ' Y mae meddwl a llygaid y gŵr ieuanc yn y fan yn cael eu hoelio wrtho. Clywsai bethau rhyfedd am dano, ond ni welsai ef o'r blaen. Dyma y dyn hynod oedd yn aflonyddu y byd, ac fel yn gyru dynion a chythreuliaid i gynddeiriogrwydd, yn awr o flaen ei lygaid! Edrycha arno gyda gradd o ofn a chryndod.
"Dyma y gwasanaeth ar ben; rhedasid drwyddo mewn dull sychlyd a marwaidd. Arweinir y gynulleidfa allan gan y gweinidog; a efe yn mlaen, gydag un neu ddau o'i blwyfolion tua'r persondy; ond erys y gynulleidfa ar y fynwent, ac ymgasgla eraill o'r pentref a'r wlad oddiamgylch atynt. Erys y gŵr ieuanc hefyd ar ol. Yn mhen ychydig, dyma y gŵr a welsom gynau yn dyfod i'r llan, yn esgyn ar gareg fedd, a phob llygad wedi ei adsefydlu arno. Y mae bywiogrwydd anghyffredin yn gerfiedig ar lygad ac wynebpryd y gŵr ieuanc yn awr. Dyna genad y nef yn agoryd ei enau. Y mae ei lais fel swn taranau cryfion, neu adsain dyfroedd lawer; disgyna ei eiriau fel tan poeth ar y bobl. Newidia IIiw eu hwynebpryd gyda phob ymadrodd. Ai yr un bobl a welwn yn awr yn y fynwent ag a welsom ychydig fynydau o'r blaen o fewn y muriau yna? lë, yr un bobl gan mwyaf ydynt; ond nid yr un yw y pregethwr. ' Y mae hwn yn llefaru fel un ag awdurdod ganddo, ac nid fel yr ysgrifenyddion.' Gafaela rhywbeth yn meddyliau a chydwybodau y bobl yn awr, a bar i'r cryfaf ei galon frawychu, ac i'r gliniau cadarnaf guro yn erbyn eu gilydd. Y mae fel pe bai y nefoedd yn gwlawio tan a brwmstan am eu penau. Llenwir rhai o gynddaredd yn erbyn y pregethwr a'i athrawiaeth; eraill a lesmeiriant dan bangfeydd o argyhoeddiad cydwybod; eraill a lefant allan: ' Pa beth a wnawn ni?' Y mae yn gyffro cyffredinol; ond pa le mae y gŵr ieuanc dyddorgar hwnw? Dacw efe, a'i wyneb wedi gwynlasu, a'i holl gorff yn ysgwyd gan gryndod a braw. Y mae yn wir ddelw o ddychryn. Dysgwylia bob moment weled Mab y Dyn yn dyfod ar gymylau y nefoedd. Aeth rhyw saeth loyw-lem oddiar fwa athrawiaeth y gŵr sydd ar y gareg fedd acw i'w galon. Y mae cleddyf dau-finiog wedi ei drywanu hyd wahaniad yr enaid a'r yspryd. Y mae ganddo olwg wahanol arno ei hun yn awr i'r hyn fu ganddo erioed o'r blaen. Mewn gair, y mae yn ddyn newydd. Daeth allan o'r fynwent y boreu hwnw wedi ei greu o newydd."
Y mae yn hysbys bellach nad yw y desgrifiad campus uchod yn cydgordio yn hollol a ffeithiau hanes. Y mae mor fyw a phrydferth, fel y mae perygl yr anghofir mai desgrifiad barddonol ydyw, ac mai un felly y bwriadwyd iddo fod. Heb hyny, gall fod i fesur yn gamarweiniol. Cymerodd "Hiraethog" drwydded y bardd pan yn ei ysgrifenu, ac y mae y darlun, er cystal ydyw, yn wallus mewn amryw o fanylion. Gwir fod gan hanesydd, yn enwedig bardd hanesydd, drwydded i lanw i fynu ddiffygion hanesiaeth a'i ddychymygion ei hun, ond iddynt fod yn naturiol a phriodol. Ond y mae i hyn ei derfynau. Rhaid i'r bardd barchu ffeithiau, a chadw mewn perffaith gydgordiad a hanesiaeth awdurdodedig. Fel yr oedd yn ofynol i brophwydi yr oes apostolaidd, pan brophwydent, brophwydo yn ol cysondeb y ffydd; felly, rhaid i feirdd ein hoes ninau, pan farddonant, farddoni yn ol cysondeb hanes. Tebygol, os nad sicr ydyw, na ddarfu Williams fwriadu yn mlaen llaw gwrando Howell Harris yn pregethu'yn Nhalgarth; y mae yn anhebygol hefyd ei fod yn bresenol yn ngwasanaeth yr eglwys y boreu hwnw; ac y mae yn sicr na ddarfu iddo weled Howell Harris yn ystod y gwasanaeth, os oedd yn bresenol. Nid oddiar gareg fedd ychwaith yr oedd Harris yn pregethu ar y fynwent, ac y mae y desgrifiad o oedran y pregethwr yn wallus; desgrifir ef yn " ŵr canol oed," tra nad oedd ar y pryd ond 24 oed. Nid yw yn debygol ychwaith mai Sabbath ydoedd, gan fod Williams ar ei ffordd adref, a bod yr hen Bresbyteriaid yn fanwl iawn mewn cadw y dydd yn gysegredig. Ac os mai yr hen Price Davies a weinyddai, ni redwyd trwy y gwasanaeth mewn dull sychlyd a marwaidd. Ond y mae yn ddarlun swynol er y diffygion hyn. Fel hyn y dywed Williams ei hun am ei argyhoeddiad yn marwnad Howell Harris:
"Dyna'r fan trwy'n fyw mi gofiaf,
Gwelais i di gynta' erioed,
O flaen porth yr eglwys eang,
Heb un twmpath dan dy droed;
Mewn rhyw yspryd dwys nefolaidd,
Fel yn ngolwg byd a ddaw,
Yn cynghori dy blwyfolion
A dweyd fod y farn gerllaw."
—————————————
CAPEL ANNIBYNOL. MAESYRONEN.
(Sef yr Addoldy y byddai Williams yn ei fynychu, tra yn Athrofa Llwynllwyd.
—————————————
Gwelir fod y penill hwn yn gwrthddywedyd y desgrifiad uchod mewn dau bwynt o leiaf. Y mae yn amlwg mai "o flaen porth yr eglwys eang" y gwelodd y bardd Harris "gynta' erioed," felly nis gwelsai ef cyn hyny yn ystod y gwasanaeth yn yr eglwys. Ac nid ar gareg fedd yr oedd yn pregethu ychwaith, ond " heb un twmpath dan ei droed," yr hyn yn ddiau sydd yn golygu ei fod yn sefyll ar y llawr gwastad. Y mae tri phenill yn y gan,[102] " Golwg ar Deyrnas Crist," a ymddengys i ni yn cau allan y golygiad fod Williams yn awyddus am wrando ar Howell Harris ar ei ffordd adref yn Nhalgarth. Y mae y bardd yn y gan hono yn cyfarch ei enaid ei hun fel yma:—
"Fy eanid, d'wed pwy ddyben, pwy feddwl, pwy barto'd,
Oedd ynot yn yr amser y'th alwyd gynta' erioed?
Trwy foddion anhebygol, y denwyd fi oedd ffol,
Mewn amser anhebygol i alw ar dy ol.
Yr arfaeth oedd i esgor, fe ddaeth dy drefn lan,
Yn ddiarwybod imi a'r moddion yn y blaen;
Pob peth yn ffìtio'r dyben, gylch ogylch dan y nen,
Mab Cis yn lle asynod, gas goron ar ei ben.
Zachëus, bach y meddyliodd, ac yntau'n dringo fry,
D'ai iachawdwriaeth rasol, pryd hyny idd ei dŷ;
Ac felly Paul a Phetr, a Magdalen, a mwy,
A minau'n ddibarotoad, gâs fywyd gyda hwy."
Y mae yn dra sicr genym mai amcan y bardd yn y llinellau uchod ydyw dangos pa cyn leied o law fu ganddo ef ei hun yn amgylchiadau ei argyhoeddiad, a pha mor llwyr yr oedd dan arweiniad Rhagluniaeth fawr y nef. Gwnaed hyn heb ddyben, heb feddwl, heb barotoad o'i du ef; trwy foddion annhebygol, ac mewn amser annhebygol. Cyflawniad ydoedd, debygid, o'r brophwydoliaeth: " Ceisiwyd fi gan y rhai ni ymofynasant am danaf, cafwyd fi gan y rhai ni'm ceisiasant."
Pa un ai ei glwyfo yn unig a gafodd Williams ar fynwent Talgarth y boreu hwnnw, neu ynte a dywalltwyd olew yn ei glwyfau ar yr un adeg? Hwyrach nas gellir rhoddi atebiad pendant i'r cwestiwn hwn. Dywed ef ei fod wedi ei ddal gan wŷs oddi uchod, ond nid yw yn dweyd hefyd ei fod wedi derbyn rhyddhad yr efengyl. Fel hyn y mae efe yn mynegu:-
"Dyma'r boreu byth mi gofiaf,
Clywais inau lais y nef;
Daliwyd fi wrth wŷs oddi uchod
Gan ei sŵn dychrynllyd ef;
Ac er crwydro dyrys anial
O! a gwrthol dilesâd,
Tra bo anadl yn fy ffroenau
Mi a'i galwaf ef fy Nhad."
Swn taranau Sinai a glywir yn y pennill hwn, a gweinidogaeth gyffelyb a geir yn mhregeth Boanerges, lle y tybir fod y bardd yn desgrifio ei dröedigaeth ei hun:-
"Ac yna Boanerges,
Agora'i enw pur
Rhwng awyr dudew, dywyll,
A nefoedd oleu glir;
Mil oedd o glustiau'n gwraado
A Theomemph yn un,
Ac ofn yn ei galon,
A chryndod yn ei lin.
Uwch corryn mynydd Sina,
Yn uchel, uchel fry,
Ar aden cwmwl gwibiog
Mewn awyr dywyll, ddu,
Lle clywai gwlad o ddynion,
Lle y dadseiniai'r nef,
Mewn eitha' godidawgrwydd
'Roedd ei sefyllfa ef.
Ei lais oedd fel taranau
Amrywiol iawn ynghyd,
Neu fel yr udgorn olaf
A eilw'r meirw ynghyd;
Yn creu rhyw arswyd rhyfedd,
Trwy'r ddaear faith a'r nef,
A miloedd yn llewygu
Wrth sŵn ei eiriau ef."
Ond os nad esgynodd Harris i fynydd Seion y pryd hwnw, diau i Williams ei weled wedi hyny yn esgyn yno, ac mai trwy ei weinidogaeth ef y cafodd efe ei ryddhad; pe fel arall, prin y buasem yn dysgwyl iddo arddel Howell Harris yn dad ysprydol iddo. Y mae Williams yn gosod allan Harris fel cenad hedd fel yma:
"Dewch, gwrandewch ef yn agoryd
Ddyfnder iachawdwriaeth gras!
Gosod allan y Messiah
Yn y lliw hyfryda' maes;
Ac yn dodi'r cystuddiedig
Ag sy'n ofni ei ras a'i rym,
Fel i chwerthin o orfoledd,
Ac i 'mado heb ofni dim."
Argyhoeddiad rhyfeddol o rymus a gafodd Williams. Diau ddarfod i'r saeth gyrhaedd i ddyfnder ei enaid, ac iddo deimlo ingoedd angau. Ond pan gymhwyswyd i'w archoll y balm sydd yn iachau, fe'i meddyginiaethwyd yn llwyr. Yr oedd bellach yn ddyn newydd - hollol newydd, a daeth yn fyw i ystyriaethau ag yr oedd hyd yma yn farw iddynt. Dyma'r pryd y daeth gyntaf i gyffyrddiad ffyddiog a gwirioneddau mawrion yr efengyl. Cafodd yn awr ddatguddiad o'r ysprydol a'r tragywyddol. Difrifolwyd ei feddwl, sancteiddiwyd ei yspryd, dyrchafwyd ac unionwyd ei amcanion; a daeth i gysylltiad a phobl oedd yn llosgi mewn awydd am achub eneidiau. Cyflwynodd ei galon ei hun i'r Gwaredwr, ac ymddiriedodd ynddo am ei gadwedigaeth; a meddiannwyd ef gan awydd angerddol am ddwyn eraill at Grist. Daeth i ofyn cwestiwn Saul, " Arglwydd, beth a fyni di i mi ei wneuthur," a chafodd dystiolaeth yn ei fynwes fod yr Iesu yn gofyn am holl wasanaeth ei fywyd. Penderfynodd ufuddhau i'r alwad nefol, a chefnu am byth ar yr alwedigaeth ddaearol yr oedd wedi cymhwyso ei hun iddi, a chysegru ei holl fywyd i weinidogaeth y gair. Ei gymdeithion newydd oeddynt Howell Harris, Daniel Rowland, a'r cynghorwyr oedd yn eu canlyn; ac fe yfodd yn helaeth o yspryd y diwygiad Methodistaidd. Hyd yma yr oedd wedi troi yn hollol o fewn cylchoedd Ymneullduol a gwrth Eglwysig; ac y mae yn debygol ei fod yn cyfranogi o egwyddorion a rhagfarnau ei bobl. Gwir nad oedd yn meddu argyhoeddiadau cryfion ar bethau crefyddol, ond prin y gellir tybied nad oedd gwrthwynebiad i'r Eglwys Wladol yn deimlad dwfn yn ei fynwes. Cadarnheir hyn i fesur gan un gair a ddefnyddir gan Williams am Howell Harris, offeryn ei droedigaeth, a'i dad yn Nghrist. Yn y pennill a ddifynwyd gennym o'r blaen i amcan arall, dywed Williams:-
"Trwy ' foddion annhebygol '
Y denwyd fi, oedd ffol;
Mewn amser anhebygol
I alw ar dy ol."
Yn mha le y bu efe yn darpar ar gyfer arholiad yr esgob nis gwyddom. Yr oedd yn ysgolhaig da yn barod; a thebygol ddarfod iddo gael pob cymorth ag ydoedd yn eisiau arno gan ryw ŵr Eglwysig a drigau gerllaw. Fel hyn y dywed Mr. Charles am ei urddiad: " Urddwyd ef yn ddiacon yn yr Eglwys Sefydledig a.d. 1740, gan Nicholas Claget, Esgob Tyddewi, i guwradiaeth Llanwrtyd, a Llanddewi Abergwesyn. Gwasanaethodd ei guwradiaeth am dair blynedd, a phregethodd, gydag ond ychydig lwyddiant, i bobl dywyll ac anfoesol iawn. Dywedai, gyda llawer o ddifyrrwch, iddo gael ei roddi yn Llys yr Esgob am bedwar-ar-bymtheg o bechodau y bu yn euog o honynt: sef, am beidio rhoddi arwydd y groes wrth fedyddio, a pheidio darllen rhai rhannau o'r gwasanaeth, a'r cyffelyb bethau bychain, dibwys." Dywed yn mhellach: " Mai y Parch. G. Whitefield, yn bennaf, a'i hanogodd i adael yr Eglwys, a myned allan i'r priffyrdd a'r caeau. Yr oedd yn gwasanaethu ei eglwysi o Gefncoed, deuddeg milldir o leiaf o Landdewi-Abergwesyn. Yn y dyddiau hynny yr oedd yn cadw gweddi deuluaidd dair gwaith yn y dydd, ac yr oedd ei holl ymarweddiad yn syml, ac yn dduwiol yn gyfatebol i hynny. Ni chafodd erioed ei gyflawn urddau, fel y dywedant; pallodd yr esgob ei urddo, o herwydd ei afreolaeth yn pregethu yn mhob man, heblaw yn yr eglwysi, yn y plwyfau yr oedd yn gweinidogaethu ynddynt. [104]Gwedi gadael, neu gael ei droi allan, nis gwn yn iawn pa un, o'r Eglwys Sefydledig, daeth yn gydnabyddus a'r Parch. Daniel Rowland, yr hwn a fyddai yn dyfod yn achlysurol i bregethu i gapel Ystrad-ffin, yr hwn oedd yn sefyll yn y plwyf yr oedd yn byw ynddo." Y mae amryw bethau yn y paragraph hwn nad ydynt yn fanwl gywir. Sicr ydyw fod Williams yn gydnabyddus a Daniel Rowland yn mhell cyn iddo adael yr Eglwys, a chyn iddo ymuno a hi. Yr oedd Daniel Rowland yn pregethu yn Ystrad-ffin yn dra chynarol. Daethai Rowland a Harris i gydnabyddiaeth a'u gilydd flwyddyn cyn tröedigaeth Williams, ac y mae yn rhesymol meddwl pan ddarfu i Williams ddyfod i gydnabyddiaeth a'r naill, na fu yn hir cyn dyfod yn gydnabyddus a'r llall. Y cyfeiriadau cyntaf a gawsom at Williams yn llythyrau y Diwygwyr Cymreig ydynt y rhai canlynol, pa rai a argraffwyd yn y Weekly History. Mewn llythyr dyddiedig Hydref 20, 1742, cawn Daniel Rowland yn ysgrifennu at Howell Harris fel hyn: " Yr wyf yn clywed fod y brawd Williams wedi ei roddi yn Nghwrt yr Esgob, am nad yw yn byw yn ei blwyf."
A chawn gyfeiriad arall ato yn niwedd yr un flwyddyn, mewn llythyr oddiwrth Howell Harris at y brawd H——t.
" Ymadewais y boreu hyn a'r brawd W——ms, cuwrad Ll——d. Gyda yntau hefyd y mae gallu rhyfeddol. Y mae yn llosgi o gariad a zêl."
Mewn llythyr oddiwrth Evan Williams, cynghorwr, dyddiedig Awst 29, 1743, dywedir:
"Yr wyf newydd ddychwelyd ar ol bod yn gwrando ar y nodedig ŵr Duw, Mr. Rowland, pellder o ugain milldir. Rhyfeddol oedd gallu Mr. Rowland ar y Sabbath, a Mr. Williams ar y Sadwrn cyn hyny, ac yn y seiat. . . . Dymuna Mr. Williams ar i mi hysbysu y brawd Harris fod yr esgob wedi gwrthod iddo ei gyflawn urddau, am ei fod yn Fethodist, er fod ganddo lythyrau cymeradwyol oddiwrth amryw o offeiriaid, ac oddiwrth ei blwyfolion ei hun. Fe anghymeradwyd fod y plwyfolion yn datgan eu cymeradwyaeth o hono."
Yn olaf, ysgrifenna y brawd Thomas Jones at Howell Harris, Awst 30, 1743:
"Am un o'r gloch yr oeddwn yn Llangamarch, lle yr oedd seiat newydd gael ei sefydlu. Erbyn chwech yn yr hwyr, daethum i Bronydd, pan y cyfarfyddais a'r anwyl frawd Williams. Gwrthododd bregethu. Wedi yr odfa, cawsom seiat felus o ugain o rifedi."
Dengys y dyfyniadau uchod fod Williams yn gwbl hysbys i weinidogion a chynghorwyr cyntaf y diwygiad, a'i fod yn cael ei gydnabod yn gydweithiwr a hwy tra yr oedd yn yr Eglwys Sefydledig. Nid ymddengys i'w gysylltiad ef a'r Eglwys fod o nemawr gwasanaeth i'r diwygiad, nac o ddim mantais personol iddo ef ei hun. Pe buasai wedi llwyddo i gael llawn urddau Eglwysig, tra yn y sefydliad hwnnw, diau y buasai ei barch a'i gyfleusderau i wneyd daioni yn helaethach. Rhoddid bri mawr ar urddau yr Eglwys Wladol yn yr oes honno gan y Methodistiaid, ac yr oeddynt yn bethau a fawr chwenychid. Pobl yn meddu urddau yn unig a bregethaiit yn yr eglwysi, ac oddiar y tir cysegredig. Ganddynt hwy yn unig yr oedd hawl i weinyddu y sacramentau. Ystyrid offeiriad yn ŵr o anrhydedd digyffelyb, perchid ef, telid gwarogaeth iddo, ac yr oedd ei awdurdod yn mron yn ddiderfyn. Methodd Williams gyrhaedd yr anrhydedd hon, a methodd yn unig o ddiffyg arafwch a phwyll. Yn lle ymgadw o fewn y terfynau gosodedig, ymdaflodd i weithgarwch, gan ddilyn esiampl Howell Harris, ac enynnodd ddigofaint yr offeiriaid tuag ato, a chauwyd ei lwybr ef i ddyrchafiad ac anrhydedd Eglwysig a drain. Cyhuddid ef, meddai ef ei hun, o dori cynifer phedwar-ar-bymtheg o ddeddfau yr Eglwys yn ystod tair blynedd o amser. Pechodau bychain, dibwys, y galwai Mr. Charles hwynt, ond pechodau ysgeler a rhyfygus iawn yr ystyriai yr awdurdodau Eglwysig hwynt. Cafodd ddwyn ei benyd, a chanlyniad ei weithredoedd; a gorfu iddo fod yn ŵr syml, heb lawn urddau am ei holl fywyd. Ymddengys fod Williams ei hun yn gosod llawn bris ar urddau Eglwysig, ac iddo gael ei siomi yn fawr pan y nacawyd hwynt iddo. Fel yma y dywed Mr. Charles: " Nid oedd (Williams) yn cymeradwyo yr afreolaeth hwn, yn ei feddwl, dros ei holl fywyd. Gweithred fyrbwyll ynddo yr oedd yn ei barnu, ac y gallasai fod yn fwy defnyddiol pe buasai yn fwy araf a phwyllog; ond geill Duw ddwyn ei amcanion i ben trwy ffolineb dynion; a hwyrach mai fel yr oedd, yr oedd yn fwyaf addas i gyflawni ei amcanion doeth ef." Yn ein tyb ni, y mae brawddeg Mr. Charles wedi ei cham-ddeall a'i cham-esbonio gan ysgrifenwyr diweddar. Addefwn ei bod yn amwys, ond nid yw yn anhawdd iawn i'w deongli. Beth oedd yr afreolaeth ag yr oedd Williams yn ei anghymeradwyo ynddo ei hun? Nid ei fynediad i'r Eglwys Wladol, fel y tybia rhai, na'i ymadawiad o honni, fel y barna eraill. Y mae Mr. Charles yn deffinio yr "afreolaeth" yn ddigon clir, sef " pregethu yn mhobPHOTOGRAPH LAWYSGRIF WILLIAMS YN EI IEUENCTYD
(Allan o ysgriflyfr y Bardd yn meddiant ei orwyres, Mrs. Jones, priod y Parch. Josiah Jones, Machynlleth.)
A ydym ynte yn barod i gydnabod ddarfod i Williams ddatgan ei edifeirwch am fyned i bregethu i'r prif-ffyrdd a'r caeau? Nac ydym, yn bendant. Ond yr ydym ar dystiolaeth Charles yn barod i gredu ddarfod iddo ddangos ei edifeirwch am beidio cyfyngu ei hun dros amser ei guwradiaeth o fewn ei blwyf. Collodd, drwy wneyd fel y gwnaeth, sefyllfa o anrhydedd yn mhlith ei frodyr am ei holl fywyd, a chollodd yr eglwysi ei wasanaeth yn ngweinyddiad yr ordinhadau hefyd. Bu hyn yn fwy o anfantais iddo, hwyrach, nag ydym yn ei feddwl. Yr ydym ni yn ystyried William Williams yn gydystâd a Daniel Rowland, Howell Davies, William Davies, Castellnedd, ac eraill, ond nid ydoedd felly. Pregethwr yn unig oedd efe, tra yr oeddynt hwy yn weinidogion ordeiniedig, ac yn meddu rhagorfreintiau eu swydd. Medrai yr holl offeiriaid Methodistaidd gymeryd lle Daniel Rowland ar Sul y cymundeb yn Llangeitho, pan y byddai galwad am hynny; ond nis meiddiai Williams wneyd felly, er ei fod yn bresennol fynychaf. Yr oedd yn cynorthwyo ar y cymundeb, ond nid yn gweinyddu. Bu yn llanw lle ail-raddol felly yn Llangeitho, yn agos i hanner cant o flynyddoedd. Bu yn pregethu hefyd am bymtheg-mlynedd-arhugain, unwaith y mis, yn nghapel Llanlluan, lle ag y gweinyddid yr ordinhadau ynddo. Ar Sul y cymundeb yr oedd yn rhaid iddo ef i rhoddi lle i ryw ŵr ordeiniedig ag a fyddai o bosibl yn fyrrach ei ddawn, ac yn llai ei gymhwysderau nag ef ei hun. Y mae yn naturiol i feddwl fod Williams yn aml yn teimlo y diraddiad hwn; ac y mae yn hollol gredadwy ddarfod iddo yn mhrydnawn ei ddydd gydnabod wrth Mr. Charles ei fod wedi gweithredu yn annoeth a byrbwyll, pan yn guwrad yn Llanwrtyd. Ond y mae ddarfod iddo ddatgan edifeirwch am bregethu mewn lleoedd anghysegredig, ond dan yr amgylchiadau yr oedd efe ynddynt yn ystod ei guwradiaeth, yn hollol anhygoel. Y mae ei eiriau a'i weithredoedd dros ei holl fywyd yn dangos yn amgen.
Blwyddyn nodedig iawn yn hanes Williams ydyw 1743, blwyddyn cynhaliad Cymdeithasfa gyntaf y Cyfundeb. Yn y Gymdeithasfa hono, a gynhaliwyd yn Watford, ar y 5ed a'r 6ed o Ionawr, y cyfarfyddodd efe gyntaf a'r enwog George Whitefield. Hwyrach mai yn hon y bu efe yn annog Williams i adael yr Eglwys Wladol, a myned i'r prif-ffyrdd a'r caeau. Os felly bu, rhaid mai mewn ymddiddan cyfrinachol y gwnaed hynny, o herwydd nid oes yn yr adroddiad grybwylliad am hyn, hyd yr ail Gymdeithasfa, a gynhaliwyd yn yr un lle ar y 6ed a'r 7fed o Ebrill. Yno pasiwyd penderfyniad "Fod y Parchedig Mr. Williams i adael ei guwradiaeth, a bod yn gynorthwywr i'r Parchedig Mr. Daniel Rowland." Yn ychwanegol at hyn, penodwyd ef yn Gymedrolwr ar un o'r pump dosbarth y rhannwyd y wlad iddynt, sef Siroedd Maesyfed a Threfaldwyn; a gosodwyd yr enwog Richard Tibbot yn arolygwr dano. Mewn Cyfarfod Misol a gynhaliwyd rhwng y ddwy Sasiwn yn Watford, sef ar y 3ydd o Chwefror, yn nhŷ Jeffrey Dafydd, o'r Rhiwiau, yn mhlwyf Llanddeusant, Sir Gaerfyrddin, gosodwyd gorchwyl pwysig arall ar ei ysgwyddau ef . Yr oedd yn bresenol yn y cyfarfod hwn, Howell Harris, Daniel Rowland, William Williams, a dau neu dri o gynghorwyr; a dywed Mr. Charles, "er nad oedd ond cyfarfod bychan o rhan nifer, ei fod wedi ei anrhydeddu yn fawr a phresenoldeb yr Arglwydd. Ar yr ail ddydd, darfu i Howell Harris annog pawb ag oedd yno i gyfansoddi ychydig benillion o brydyddiaeth erbyn y cyfarfod nesaf, i edrych a oedd yr Arglwydd wedi rhoddi dawn prydyddiaeth i un o honynt, a phwy oedd hwnnw. Felly y gwnaethant; ac wedi iddynt i gyd ddarllen eu cyfansoddiadau, penderfynwyd yn gydun mai Mr. William Williams a gafodd y ddawn odidog hon, ac anogodd Mr. Harris, a phawb eraill, iddo ei harferyd er gogoniant Duw, a lles ei eglwys." Gwelir felly iddo gael ei apwyntio i wasanaeth fel efengylydd ac fel bardd, yn agos iawn i'r un amser. Sut y cyflawnodd efe y dyledswyddau hyn? Cawn weled yn y man. Edrychwn arno yn gyntaf fel efengylydd. Gwnaed ef yn brif swyddog ar eglwysi Maesyfed a Threfaldwyn, a thrwy ei fod yn gynorthwywr i Daniel Rowland, ar yr hwn yr oedd gofal rhan uchaf Sir Aberteifì a Sir Gaerfyrddin, yr oedd rhan o ofal y siroedd hynny hefyd yn gorphwys arno ef. Cyflawnodd ddyledswyddau ei swydd gyda'r fath ymroddiad a zêl ag yr oedd yn bosibl i neb wneyd, ac eithrio Howell Harris ei hun. Gwnai, nid yn unig gadw golwg gyffredinol ar eglwysi ei ofal, ond gwnâi i fynnu ddiffygion y cynghorwyr oedd dano, gan ymweled a'r eglwysi ei hun, a danfon adroddiadau o'i sefyllfa i'r Cymdeithasfaoedd. Cawn enghraifft o hyn yn hanes eglwysi Llangwyryfon, Lledrod, Rhydfendigaid, &c., yn Sir Aberteifi. Yr oedd arholygiad yr eglwysi hyn yn gorphwys ar Morgan Hughes. Yn rhyw sut, methodd gyflawni ei ymddiriedaeth, ac ymwelodd Williams a'r eglwysi, ac y mae dau adroddiad a ddanfonodd Williams am danynt yn awr ar gael a chadw, yn llawysgrifau Williams ei hun, yn Nhrefecca.[105] Y mae y cyntaf o honynt yn rhy faith i'w osod i fewn yma. Rhydd adroddiad manwl am y pump eglwys ar wahân, a diwedda trwy ddweyd: " Yr wyf fi fy hun yn ymweled a hwy unwaith yn y chwech wythnos, ac yn cadw cwrdd eglwysig gyda hwy, fel y gwypwyf eu syniadau a'u sefyllfa. Teimlwyf gariad ac ymlyniad atynt, ac felly hwythau tuag ataf finnau. Y mae derbyniad caredig i'w cynghorwr anghyoedd yn gyffredinol yn eu mysg, a da ganddynt gael eu holi ganddo ef, a chennyf finnau. Yr wyf yn sylwi mai y fath a fydd y cynghorwr, pa un ai zêlog, siriol, a ffyddlawn, ai ynte claiar, &c., y cyfryw hefyd a fydd y bobl o dan ei ofal." Ceir adroddiad byr arall ganddo am yr un eglwysi, dyddiedig Mehefin 2gain, 1745, yn yr hwn y dywed: " Nid oes gyda mi fawr o hanes neillduol am danynt, oddiwrth yr hyn a gawsoch o'r blaen. Y maent yn para i ddyfal lynu wrth yr Arglwydd. Y rhan fwyaf o honynt sydd yn cynyddu mewn adnabyddiaeth o honno. Mae arnaf fi a hwythau ryw faint o flinder, am ein bod mewn eisiau o gynghorwyr preifat i edrych atynt yn wythnosol. Y rhai a fynnant hwy eu cael, nis gallant ddyfod; a rhai a all ddyfod, nis derbyniant. Ond yr wyf yn gobeithio y caiff hyn ei gyflawni." Dengys hyn ei fod yn barod at bob gorchwyl, ac nad ystyriai yr un ddyledswydd yn rhy ddistadl iddo ef ei hun ei chyflawni.
Y mae olrhain teithiau a llafur Williams am hanner cant o flynyddoedd yn anmhosibl. Nid ysgrifennwyd hwynt ond yn Llyfr bywyd yr Oen. Fel hyn y dywed awdwr i Methodistiaeth Cymru am dano: "Mae yr hen ganiedydd peraidd, Williams, Pantycelyn, yn ei hen ddyddiau, pan yr oedd yn 73 mlwydd oed, ac yn tynnu yn agos i derfyn ei oes, yn dweyd:—[106] 'Mae fy nyddiau yn tynnu tua'r terfyn; y mae fy ngyrfa ymron wedi ei rhedeg. Cefais oes faith; yr wyf yn awr yn 73 mlwydd oed. Yr wyf wedi bod yn pregethu am y 43 mlynedd diweddaf,[107] ac wedi teithio bob wythnos at eu gilydd, rhwng deugain a deg-a-deugain o filldiroedd, dros yr holl amser hynny. Y gwanwyn diweddaf, mi a deithiais bedair neu bum' waith drwy Ddeheudir Cymru; pob taith yn para pythefnos o amser, ac yn 200 milldir o hyd.'
"Gellir ffurfio rhyw ddrychfeddwl am ei deithiau, pan y dywedir iddo deithio digon o filldiroedd i gyrhaedd bedair gwaith o amgylch y ddaear,—nid llawer llai na chan' mil o filldiroedd! O ba faint o ddefnydd y gellir meddwl y bu y gŵr hwn yn ei oes i Gymru dywel? Pa sawl pregeth a draddododd? Pa sawl cyfarfod eglwysig a gadwodd? Ac yn mha nifer o gyfarfodydd cyhoeddus y bu? A phan y galwn i gof fywiogrwydd ei yspryd, tanbeidrwydd seraphaidd ei feddyliau, a'i ddibyniad cyson ar Dduw am ei fendith, pa swm o ddaioni, gan ei faint, ni chwblhaodd? Sicr yw ddarfod i'r cwmwl hwn, mewn ysbaid 43 o flynyddoedd, ddefynu llawer o gawodydd bendithiol ar diroedd cras y Dywysogaeth; ie, y mae efe wedi marw yn llefaru eto yn ei emynau bywiog, a'i gyfansoddiadau barddonol; a thrwyddynt hwy, y mae yn parhau hyd heddyw i adeiladu a chysuro plant Duw, yn filoedd ar filoedd ar hyd Cymru oll, ac yn llawer o drefydd Lloegr, ie, yn nhir y Gorllewin bell; a diau gennyf y pery ei waith barddonol yn ei flas a'i ddefnyddioldeb am oesoedd eto i ddyfod."
Awgrymir weithiau, gan rai pobl, nad oedd Williams ond pregethwr cyffredin, a bod ei nerth yn gorwedd mewn cyfeiriadau eraill. Nid hyn oedd syniad y bobl oeddynt yn cydoesi ag ef. Dyrchafent hwy ei alluoedd pregethwrol ef, a rhoddent iddo y lle mwyaf parchus yn nghyfarfodydd pregethu y Cymdeithasfaoedd. Yr oedd yn aml yn pregethu o flaen Daniel Rowland. Nid oedd i'w gystadlu ag efe fel pregethwr, ac y mae yn bosibl nad oedd mor boblogaidd a Howell Harris; ond yn sicr nid oedd neb arall yn rhagori arno yn hyn. Dywedai Howell Harris fod ganddo "allu rhyfeddol," ac am ei allu pregethwrol yr oedd yn siarad. Dyma fel y dywed Mr. Charles am dano fel pregethwr:- " Yr oedd ei ddoniau areithyddol yn helaeth, ei bregethau yn efengylaidd, yn brofiadol, ac yn felus; yn chwilio i mewn i au athrawiaethau a gau brofiadau, ac yn gwahaniaethu yn fanwl rhwng gau a gwir yspryd. Yr oedd ei ddychymyg yn gryf, ei lygad yn graff a threiddgar, a llawer o ddylanwadau nefol ar ei yspryd wrth weinidogaethu yn gyhoeddus, ac yn ei ymddiddanion a dynion am fater eu heneidiau yn y cymdeithasau neillduol." Yr oedd yn bur ymddibynol ar y gwynt nefol a gaffai wrth bregethu, ac fe ddywedir ddarfod iddo ddweyd wrth ei gyfaill, y Parch. Peter Williams: " Ti elli di, Peter, bregethu pe byddai yr Yspryd Glan yn Ffrainc; ond ni allaf fi wneyd dim o honni heb iddo fod wrth fy mhenelin i." Y mae y Parch. Thomas Jones, o Ddinbych, yn ei ddyrchafu fel duwinydd a phregethwr. Ar ôl canmol Daniel Rowland, ysgrifenna:— [108]
"Ond ai rhaid i Williams hefyd,
Ar ei ol yn fuan ddiengyd?
Oedd un ddyrnod ddim yn ddigon,
I geryddu plant afradlon?
Dau arweinydd eon mawrddysg
Yn ein gado yn y terfysg!
Llon eu gwedd, y'nt mewn hedd,
tudraw i'r bedd llychllyd;
Gweiniaìd yn yr helbul dybryd,
Ar ei hol yn ngwlad yr adfyd.
Doniau ar ei ben ei hunan
Oedd gan Williams, fywiog, wiwlan;
Medrus, manwl mewn athrawiaeth,
Egwyddorion a dysgyblaeth;
Ca'dd ei ddysgu i drin yn gymhwys
Bob rhyw gyflwr yn yr eglwys;
Cryf a gwan, yn mhob man,
a wyddan', lle teithiai,
Llwybrau ceimion a ddangosai,
Cysur, maeth i'r gwan a roddai.
Cadarn ydoedd fel Duwinydd;
Nid anfuddiol fel Hanesydd;
I'r serchiadau ac i'r deall,
Taflai ffrwythau'r Ganaan ddi-ball;
At y galon, Balm o Gilead,
Clwyfau'r Oen, a'r cyfiawn bryniad,
Llawn iachâd, rhydd a rhad,
i'r anfad a'r dinerth,
Yn yr unig ddwyfol Aberth,
A wnaeth Iawn am feiau anferth.
O! 'r mawr golled fydd am dano,
Athraw doeth, wyliedydd effro!
Gras a deall, a hir brofiad,
Oeddynt ynddo mewn cysylltiad;
Amryw ffyrdd yr oedd ei ddefnydd
Yn dra amlwg ar hyd y gwledydd;
Eto grym, angau llym, oedd hylym, ddiarbed,
Yn ei awr o'u mysg cai fyned;
Aeth o'r byd yn d'wysen addfed! "
Cyffelyb hefyd yw desgrifiad Jacob Jones, o'r Hendre, o honno:— [109]
"Nid oedd lle i ddysgwyl iddo
Aros yma ddim yn hir;
'Roedd e' beunydd yn addfedu
Tua'r nefol sanctaidd dir;
Wedi rhoddi fyny'n hollol
Chwilio naturiaethau'r llawr,
Dyna swm ei holl bregethau,
Oedd dyrchafu'r enw mawr!
Dewch i'w wrando yn pregethu
Yn ei ddyddiau ola' i gyd,
'I lygaid yn ffynonau dagrau
Wrth ganmol y Gwaredwr drud!
Nid am system Isaac Newton,
Pliny hen, na Ptolemy,
Mae e'n son uwchben y werin,
Ond am fynydd Calfari.
Pan ddoi Williams i'r soseiet,
Hynod yno oedd ei ddawn;
Fe olrheiniai droion calon,
A'i dichellion oll yn llawn;
Nid oedd rhaid ond agor genau,
Chwiliai fe'r cflyrau ma's;
Gwahaniaethai rhwng y rhagrith
Ac effeithiau dwyfol ras.
'Roedd e'n berchen goleu cyflym,
Ac fe lefai at y nôd,
Y llygad de a'r fraich anwyla',
Ac ni fethodd byth mo'i dro'd;
Ond i'r golwg doi a'r eilun,
Fe ddynoethai'r gwraidd yn llwyr,
Nes bai hen galonnau celyd
'N toddi'n union fel y cwyr."
PHOTOGRAPH O LAWYSGRIF WILLIAMS YN EI IEUENCTYD
(Yn dangos yr Hymnau wedi eu rhannu yn benilllon, a'u hatalnodi. Allano ysgriflyfr Mrs. Jones, Machynlleth.)
Ond er ein bod yn credu fod i Williams yn ei ddydd le uchel fel pregethwr, eto y mae yn hysbysol mai yn nghynulliadau y saint -yn y societies y byddai ei ddoniau amrywiol yn dyfod i'r golwg fwyaf. Yma yr oedd ei allu ymddiddanol i'w weled mewn llawn weithrediad. Nid oedd ei fath am gadw seiat. Y mae yn anmhosibl i orbrisio ei wasanaeth hirfaith i'r Cyfundeb yn y cyfeiriad pwysig hwn. Yr oedd wedi ei gynysgaeddu mewn modd arbennig a neiliduol iawn a'r ddawn i wahaniaethu ysprydoedd. Adnabyddai ddynion megys wrth reddf, ac yr oedd yn unplyg a gonest yn ei ymwneyd a phawb. Yr oedd hefyd yn hynod am ei allu i orchfygu terfysgoedd, a heddychu pleidiau, a godent weithiau yn erbyn eu gilydd yn yr eglwysi. Danfonid am dano yn aml mewn amgylchiadau o'r fath, ac yr oedd yn rhyfeddol o lwyddiannus i adfer heddwch ar ôl ei golli. Y mae llawer o enghreifftiau o'i wasanaeth yn y cyfeiriadau hyn, wedi eu croniclo yn hanes ein heglwysi. Yr oedd hefyd yn nodedig o wasanaethgar yn nghynadleddau y Cyfarfodydd Misol, a'r Cymdeithasfaoedd, yn enwedig pan fyddai pwnc o athrawiaeth, neu rai o'r heresïau oedd yn blino yr eglwysi gerbron. Yr oedd ei graff"der naturiol, a'i wybodaeth eang o athrawiaethau crefydd yn ei hynodi yn mhlith ei frodyr, a gwnaeth ddefnydd mawr o'r doniau arbennig yr oedd Pen mawr yr Eglwys wedi ei ymddiried iddo.
Rhaid i ni bellach droi at ei ysgrifeniadau. Ar yr hyn a ysgrifennodd y mae enwogrwydd Williams yn bennaf yn syllaenedig; yma y gorwedd ar waelod llydan a chadarn. Cafodd ei annog gan ei frodyr, fel y dywedwyd gennym, i arfer ei ddoniau prydyddol yn 1743; ond y mae yn amlwg ei fod ef yn cyfansoddi hymnau yn mhell cyn hynny, hwyrach yn fuan ar ôl ei argyhoeddiad yn 1738. Yn ystod y blynyddoedd diweddaf yr ydys wedi dyfod o hyd i hen ysgrif-lyfr o eiddo Williams, yr hwn sydd yn awr yn meddiant Mrs. Jones, priod y Parch. Josiah Jones, Machynlleth, yr hon sydd orwyres i'r bardd. Hwn yn ddiau ydyw ei ysgriflyfr cyntaf ef. Y mae yn Llyfr golygus, mewn cadwraeth dda, gyda chloriau lledr, a clasp pres. Ar y clawr, yn ei ddiwedd, y mae yr unig ddyddiad ag sydd arno, a hwnnw yn llawysgrifen yr awdwr, sef March 25th, 1745. Mae ynddo o chwech i wyth cant o benillion, wedi eu hysgrifenu yn ddiau yn moreuddydd ei oes. Diau fod y dyddiad sydd ar ddiwedd y Llyfr wedi ei ysgrifennu ar ol iddo gael ei orphen, ac nid oedd y bardd y pryd hwnnw ond 28ain oed. Cynwysa lafur blynyddoedd, a diau fod y rhan gyntaf o honno wedi ei ysgrifennu yn foreu iawn. Hwyrach fod yr hymnau cyntaf wedi eu cyfansoddi yn agos i'w argyhoeddiad, a'i bod yn ddangoseg o ystâd ei feddwl ef ei hun yn y blynyddoedd cyntaf o'i fywyd crefyddol. Dangosant fod ei deimladau yn bur amrywiol. Y mae yn dechreu gan rodio yn y tywyllwch, yn gweddïo am ymwared, yn gweled gwawr, yn dyfod yn hyderus, ac hyd yn nod yn cyrhaedd sicrwydd, ac yn ofyn am barhad mewn gras. Y mae eilwaith mewn tywyllwch, yn achwyn ar erledigaethau, yn cael golwg ar y Cyfryngwr, yn cael sail eilwaith i hyderu, ac yn gweddïo am sicrwydd gobaith. Nis medrwn gael lle i ychwaneg nag un o'r hymnau dyddorol hyn, a dewisiwn y gyntaf, heb un rheswm arall heblaw mai hi yw y gyntaf yn y Llyfr: [110]
"Pe gwelswn i cyn myn'd i'm taith,
Mor ddyfned yw ffordd Duw a'i waith,
Anobeithiaswn yn y man
Gyfodi o ddystryw byth i'r lan.
Ond pan y'm galwyd fel Abraham,
Gwnes ufuddhau heb wybod p'am;
Gan geisio gwel'd dyeithr Dduw,
Ond ffaelu ei ffeindio yn fy myw.
Pe gwelswn ddyn - mi carwn ef
A ddysgai'r ffordd im' fyn'd i'r nef;
Rhyw guide i'r nef, ei wel'd pe cawn,
Fy enaid fyddai lawen iawn.
Ond och! sa' draw, ddymuniad gwiw,
A drusto i ddyn melldigaid yw;
Rhaid i ti aros amser Crist,
Er maint dy hast, fy enaid trist.
A gymerwyd gan John Williams, Llanddwrog Sir Gaerfyrddin o gylch y flwyddyn 1779 — A Gyhoeddwyd gan William Mackenzie, Glasgow yn y flwyddyn 1867
Darluniau William Williams pantycelyn
'Rwy'n ffiaidd iawn, 'does fan yn lân,
'Rwy'n gymhwys iawn i fyn'd i'r tân!
Po' fwyaf geisiaf fyn'd i'r lan,
Iselach am fy enaid gwan;
Och! brysio raid,— gwel angau glas,
A mi prin gam o'r Aipht i maes!
Cymuno, darllen, gweddïo'r wyf;
'Chwanegu mae rhai'n at fy ngblwyf;
Cyfiawnder, angau, euogrwydd du,
Cytuno maent i'm damnio i!
Yn dra diobaith 'rwyf yn byw,
Heb allu rhoi fy mhwys ar Dduw;
Ac, fel y graig, mae'n nghalon gas,
Och fi! gwae fi! beth wnaf am ras?
'Rwy'n farw fel yr esgyrn sych,
A welsai 'Zeciel gynt trwy ddrych;
Llabyddiwyd fi a'r ddeddfol saeth,
'Does fawr o le im' fyn'd yn waeth.
Chwi, lan eneidiau, peraidd gainc,
Sy'n rhodio oddeutu'r orseddfainc,
P'odd daethoch yma,—traethwch im',
Bydd hyny'n well gen i na dim.
Moses, Esau - mawr yw'ch bri
A Daniel, Job,—p'odd daethoch chwi?
Dros flin flynyddoedd buoch, fìl,
P'odd darf u i'ch gadw ffordd mor gul?
Chwi sy'n mwynhau'r goleuni glan,
Dewr filwyr Duw, mewn dwr a than;
P'odd darfu i chwi goncro'r byd,
Pan ddaethoch trwy'r anialwch drud?
Yn awr, caf ateb gan y rhai'n,
Mewn geiriau amlwg, eglur, plaen;
Medd Pedr, lago, Jude, ac Io'n—
'Daethom trwy ludded mawr a phoen.'
'Yn crynu'n flin y buom ni,'
Medd Moses, 'ar y mynydd du;'
'Minau,' medd Dafydd, 'lawer pryd
Wlychais a'm dagrau'm gwely clyd.'
A! dyma'r fiordd, medd pawb ynghyd,
Sy'n arwain tua'r nefol fyd;
Ffordd gul i'r cnawd, ffordd gyfyng yw,
Sy'n arwain tua thŷ ein Duw.
Unwaith cynygia'i eto i'r nef,
A Duw wrandawo ar fy llef;
Arglwydd, clyw, a chlyw heb ball,
Daer lefain dy greadur dall.
Rho i mi nerth i fyn'd ymla'n,
Trwy ganol dyfroedd mawr a than;
Ni thawaf ddim nes caffwyf le
Gyda fy Nuw, o fewn i'r ne'.
Gwerthfawrogir yr hymnau bachgenaidd hyn, yn benaf, am eu bod yn dangos ystad meddwl Williams yn ystod cyfnod ar ei fywyd ag sydd i fesur yn gyfnod tywyll. Cawn yma hefyd olwg ar ei awen yn ei blagur.
Y mae y ffaith ddarfod i Williams gyhoeddi y rhan gyntaf ox Alelina o fewn blwyddyn i'r amser y cafodd anogaeth ei frodyr i arfer ei ddawn prydyddol, yn dangos ei fod yn bur barod at y gwaith, ac yn awgrymu nad oedd cyfansoddi hymnau yn ddyeithrwaith iddo. Dyma lyfr argraffedig cyntaf Williams. Argraffwyd ef gan Felix Farley, yn Mryste. Daeth allan mewn chwech o ranau: Rhan i. tua dechreu 1744; ail argraffìad o'r unrhyw tua diwedd yr un flwyddyn; Rhan ii. yn 1745; Rhan iii. yn yr un flwyddyn; Rhan iv. yn 1746; Rhan V. yn 1747; a Rhan vi. tua diwedd yr un flwyddyn. Tybid, hyd yn ddiweddar, na chyhoeddwyd y rhanau uchod yn un Ìlyfr hyd y flwyddyn 1758. Gelwid yr argraffìad hwnw yn " Drydydd Argraffiad," [111] ond y mae yn sicr, bellach, fod argraffiad o hono wedi ei gyhoeddi gan Felix Farley yn y flwyddyn 1749. Gelwid hwn yn "Ail Argraffiad." Teitl yr argraffiad ydyw 'Aleluia, neu Gasgliad o Hymnau (gan mwyaf) o waith y Parchedig Mr. William Williams." Cymer y "gan mwyaf" i ystyriaeth, mae'n debyg, yr hymnau sydd yn Rhan vi., ag enwau eraill wrthynt.
Ymddengys ddarfod i Williams roddi ei bin ysgrifenu o'r neilldu, am un pedair blynedd, ar ol cyhoeddi y Chweched Ran o'r Aleluia, yn niwedd 1747, am fod ganddo fater pur bwysig mewn golwg, sef priodi. Dywed Mr. Charles am ei briodas fel hyn: "Pan oedd yn nghylch deuddeg-ar-hugain, priododd Mary Francis, brodor o Lanfynydd, ac wedi hyny a drigodd yn Llansawel. Bu Miss Francis yn aros gyda y Parch. Griffith Jones, Llanddowror; yr oedd yn ferch synwyrol dduwiol. Yr oedd gofal yr Arglwydd am dano yn ymddangos yn fawr, yn y fath rodd iddo a gwraig gall, brydferth, ddoeth, dduwiol, mwynaidd, a serchog." Gallwn ychwanegu fod Mrs. Williams yn gantores ragorol, ac felly yn medru profi llithrigrwydd yr emynau a gyfansoddid ganddo, cyn eu cyhoeddi. Gan ei bod yn unig ferch ac etifeddes ei thad yr oedd ganddi ran lew o fendithion y bywyd hwn. Enw ei thad ydoedd Mr. Thomas Francis, o Benlan. Daeth Williams yn bur gyfoethog drwy ei etifeddiaeth ei hun, a'r hyn y daeth iddo drwy ei briodas. Bu iddynt ddau o feibion, a phump o ferched. Cododd ei ddau fab i'r offeiriadaeth. Gwnaeth yr ieuangaf, John, adael yr Eglwys, ac ymuno a'r Methodistiaid; ond cadwodd yr hynaf, William, yn yr Eglwys Wladol i'r diwedd. Bellach, rhaid i ni ddychwelyd at weithiau llenyddol Williams. Mae yn llwyr anmhosibl, o fewn ein terfynau ni, i fanylu ar amseriad llyfrau Williams. Rhaid i ni foddloni ar gyfeirio y darllenydd am bob manylion at Weithiau Williams, Pantycelyn, gan y Parch. N. Cynhafal Jones, D.D., llyfr ag a bery yn gofgolofn oesol i'r bardd, ac yn anrhydedd arosol ar y golygydd llafurus a galluog. Rhoddwn yn y fan hon restr o'i lyfrau emynawl ef. Dilynwyd yr Aleluia gan Ganiadau y rhai sydd ar y mor o wydr, i Frenin y Saint; Ffarwel Weledig; Gloria in Excelsis; Rhai Hymnau Newyddion, ynghyd a dau lyfr o emynau Seisonig dan yr enwau, Gloria in Excelsis, a Hosannah to the Son of David. Cyfansoddiadau barddonol eraill Williams ydynt y rhai canlynol: Golwg ar Deyrnas Crist; Caniadau Duwiol; Theomemphis; Tair-ar-ddeg-ar-hugain o Farwnadau; Myfyrdodau ar Angau; Llyfr Amrywioldeb; Cerdd Newydd ar Briodas; a Gweddillion Awenyddol.
Wele eto restr o'r gweithiau rhyddiaethol a gyhoeddwyd ganddo: Sicrwydd Ffydd (cyfieithiad o bregeth Erskine); Pantheologia, neu Hanes Holl Grefyddau y Byd: Llythyr Martha Philopur; Ateb Philo Evangelius; Hanes Llwyddiant yr Efengyl (cyfieithiad); Crocodil Afon yr Aipht; Y Tri Wyr o Sodom; Aurora Borealis; Antinomiaeth; Drws Society Profiad; Cyfarwyddwr Priodas; Hanes Troedigaeth y Parch. Thomas Goodwin, D.D.; Imanuel; Ymddiddan rhwng Philalethes ac Eusebes, mewn perthynas i wir Gristionogrwydd.
Pan ystyriom fod Williams yn teithio o gwmpas pump-a-deugain o filldiroedd bob wythnos trwy gydol ei oes, ac yn pregethu ac yn cadw seiadau yn ddi-dor, ymddengys y gwaith llenyddol a gyflawnodd yn nemawr llai na gwyrth. Cyrhaedda ei emynau y nifer o 916, a'r penillion dros bedair mil. Y mae ei ddwy brif gân, Golwg ar Deyrnas Crist, a'i Theomemphis, yn cynnwys bob un dros bum mil o linellau, ac y mae amryw o'i ganiadau eraill yn gyfansoddiadau meithion. Ei brif waith rhyddiaethol ydyw ei Pantheologia, sef Hanes Holl Grefyddau y Byd. Rhed athrylith Williams drwy ei holl weithiau, ac y mae ei ysgrifeniadau rhyddieithol yn dwyn yr un nodweddau a'i gyfansoddiadau barddonol. Yr oedd meddwl Williams yn rhyfeddol o gynhyrchiol. Medrai ei awen ef aros yn hir ar ei hedyn. Esgynai yn uchel, a medrai aros yn hir heb ddisgyn. Dichon fod rhai o feirdd ac emynwyr ein gwlad wedi esgyn yn agos i'r un uchelderau ag yntau, ond ehediadau byrion oeddynt; gan nas gallent aros yn hir heb ddisgyn yn ôl i'r ddaear. Yr oedd awen Williams fel eryr cryf yn esgyn yn gyflym ac yn aros yn hamddenol ar ei hedyn, ac yn disgyn yn ddiludded wrth ei hewyllys. Neu, a newid y gymhariaeth, yn nghyfansoddiadau llawer o feirdd ein gwlad, yr ydym yn gweled afonydd llydain a llynnoedd prydferth; ond yn ngweithiau Williams cawn olwg ar y môr. Bardd di-urddau oedd, y mae'n wir, fel mai pregethwr di-urddau oedd Howell Harris. Gellid cymhwyso pennill Williams i Howell Harris fel pregethwr, ato ef ei hun fel bardd:
"Yntau, Howell, heb arddodiad
Dwylaw dynion o un rhyw,
Na chael cennad gan un esgob
Ag sydd llawer llai na Duw."
Ond cawsant ill dau eu hurddiad yn ddigyfrwng gan Dad y Goleuni. Cydnabyddwyd ef yn foreu yn fardd o uchel fri, gan y genedl Gymreig; a daeth yn fuan yn anghymharol fwy cymeradwy a phoblog na'r un bardd a fu o'i flaen. Darllenid a chenid ei weithiau yn awchus, a chafodd ei lyfrau gylchrediad digymar. Bu y frawdoliaeth farddonol yn hir cyn ei gydnabod. Nid oedd efe o'u hurdd hwy, ac am hynny anwybyddent a diystyrent ef. Ond os nad enillodd gymeradwyaeth y beirdd a gydoesent ag ef, gwnaeth fwy trwy ennill meddwl a theimlad y bobl. Dichon mai Sion Lleyn a Thomas Jones, o Ddinbych, oeddynt y cyntaf o "Feirdd Braint a Defawd" i ganiatáu iddo eistedd gyda'r beirdd. Yn yr hen Oleuad ceir cywydd o waith Sion Lleyn, dan y teitl, "Paradwys Gerdd yn cael ei holrhain, sef y farddoniaeth a gariodd y grawnsypiau i Israel Duw yn yr anialwch," ac ar ôl ymholi
"P'le ceir awen ysplenydd!
Mirain hoff wawd; morwyn ffydd?"
y mae yn ateb yn nacaol, na cheir hi gan Homer, Horas, Vyrsil, Ofid, nac ychwaith gan feirdd Cymreig ei oes ef:
"Ond Williams——
Yn rhodd a gafodd y gân,
Yn fedrus i weddus wau,
A siarad y mesurau;
Fel gwin, ei ddyfal ganiad;
Fel y mêl oedd ei fawl mad;
Dysgleiriach na dysgl arian,
Na phelydr gwydr ei gân;
Diau wych flodeuog wawd
A dyfodd ar ei dafawd;
Cantor craff, Asaph oedd,
Iach y molai uwch miloedd,
O ffraethder—effro wychiant,
Nid hyn ei gerdd—hymnau gant;
Tanau, gwrydau, Gwridog,
Wedi cael o waed y cawg;
Yn Nghymru ni bu neb iach,
Yn nyddu cerdd fwyneiddiach;
Dewiswyd gan ei D'wysog,
Yn Gerddor, goleu-ŵr glog;
Dwysfardd y Briodasferch,
Mwyn ei sain, emynau serch.
Perlau ei emynau mawl,
A thlysau o'r iach lesawl;
Cymwys i'r wir Eglwys Rydd
(Llais di-feth) yn llys Dafydd."
Mae nodiad ar ddiwedd y cywydd gan Sion Lleyn ei hun fel yma: "Y rhai hyn (y beirdd a enwir yn y rhan gyntaf) a fuant foddlawn ar wisg farddonol, heb yr enaid, ac am mai ei henaid yw gwir foliant i Naf, a dedwydd yw ei pherchennog, yr hyn beth a feddiannodd y Parch. W. Williams, yn anad neb y' Nghymru, gan nad beth oedd ei gwisg hi ganddo ef; fy marn dlawd i yw, mai iddo ef y rhoddwyd enaid y gerdd o neb o'i gydoeswyr y' Nghymru. Os bydd lleferydd iaith ar gael ar ol yr adgyfodiad, nid amheuaf na bydd rhai o'r odlau melusber a ganodd Williams yn cael eu canu gan y gwaredigol hil y pryd hynny." Dengys yr hen gywydd hwn fod rhai o "Feirdd Braint a Defawd" ei oes ef yn cydnabod uwchafiaeth Williams. Yr un modd y mae Thomas Jones, o Ddinbych, yn ei ddyrchafu, gan ei alw, hwyrach am y tro cyntaf, yn "Bêr Ganiedydd Cymru." Arferai Dewi Wyn o Eifion, hefyd, un o feirdd galluocaf Cymru, ddywedyd, "y gallasai efe eistedd drwy gydol y nos, ar y noswaith oeraf yn y gauaf, heb dewyn o dan yn agos ato, i ddarllen gweithiau Williams, ac y buasai yn cael ei dwymno hyd at chwysu yn ddyferol wrth eu darllen."
Yn ystod yr hanner can' mlynedd diweddaf, y mae clodfori a dyrchafu Williams wedi dyfod yn ffasiynol. Telir gwarogaeth iddo gan bawb. Efe yw " Peraidd Ganiedydd Cymru," ac efe yw "Prif-fardd y genedl." Plygir iddo mewn parchedigaeth gan y doeth a'r deallus, ac y mae pob gradd yn teimlo swyn ei farddoniaeth. Ac y mae i sylwi arno, mai po fwyaf a ddarllenir ar ei gynhyrchion ef, mwyaf oll y daw ei ragoriaethau i'r golwg. Hyd y flwyddyn 1867, Yr oedd gweithiau Williams yn aros yn wasgaredig, yn gyfrolau a phamphledi prinion fel y cyhoeddwyd hwy gan yr awdwr ei hun, ac felly tu allan i gyrhaedd y bobl. Yn 1811, casglwyd ei holl emynau ynghyd, a chyhoeddwyd hwy gan ei fab, sef y Parch. John Williams, Pantycelyn; ond cafodd y wlad aros am dros hanner cant o flynyddau wedi hyn (1867), cyn i'w holl weithiau gael eu casglu at eu gilydd. Gwnaed hyn gan y diweddar Barch. J. R. Kilsby Jones, gŵr a lanwodd le mawr yn llenyddiaeth ein gwlad, a gŵr oedd yn edmygu y Bardd o Bantycelyn tu hwnt i fesur. Cafodd yr argraffiad cyflawn hwn gylchrediad helaeth, a daeth ei weithiau, am y tro cyntaf, yn hysbysol i'r oes hon. Yn ddiweddar, bendithiwyd y wlad ag argraffiad rhatach, cywirach, a llawer gwell yn mhob ystyr, gan y Parch. N. Cynhafal Jones, D.D., fel y mae y werin Gymreig, bellach, yn alluog i ffurfio barn drostynt eu hunain am wir werth a theilyngdod ei gynhyrchion llenyddol ef. Ni raid i Williams yn awr wrth lythyr canmoliaeth. Cyn i'w weithiau ddyfod o fewn cyrhaedd pawb, gwnaeth Hiraethog, Mills, Brutus, Caledfryn, Eben Fardd, a'r Dr. Lewis Edwards, wasanaeth da drwy eu hysgrifeniadau am dano. Ysgrifenasant yn helaeth, gan ddifynu darnau neillduol yn esiamplau o'i waith, a dangos eu prydferthwch; ond y mae hyny, bellach, yn gwbl afreidiol. Y mae pob beirniadaeth wedi dystewi, a chymeradwyaeth y genedl wedi ei sicrhau.
Nid oes gennym ofod i fanylu ar y cyfnewidiad mawr a effeithiodd Williams yn emynyddiaeth ein gwlad. Nid ydoedd yn ddim llai na chwyldroad. Teimlasai yr arweinwyr Methodistaidd yn Nghymru, yn gystal ag yn Lloegr, fod mawr anghen am well emynau yn y gwasanaeth crefyddol nag oedd mewn arferiad yn y cyfnod hwnnw, ac yr oeddent yn awyddus am i ryw rai cymwys ymgymeryd a'r gorchwyl. Disgynodd yr yspryd ar Charles Wesley a Toplady yn Lloegr, ac ar Williams, Morgan Rhys, ac eraill, yn Nghymru. Yn briodol iawn y dywed Mr. Charles, o'r Bala, am Williams fel emynydd: "Yr oedd ei ddoniau prydyddol wedi ei rhoddi iddo yn naturiol ac yn helaeth gan yr Arglwydd. Eheda yn aml ar adenydd cryfion iawn, sydd yn ei gario yn odidog ac yn uchel. Aberth mawr y groes yw sylwedd a phwnc pennaf ei holl ysgrifeniadau; a thra byddo cariad at y Gwrthddrych mawr hwnnw yn nghalonnau y Cymry, bydd ei waith yn gymeradwy yn eu plith, yn enwedig ei hymnau. Ehedai ar awel nefol, a chymerai y geiriau nesaf at law, a chwbl ddeallus i'r werin gyffredin, y rhai a hoffent ei ganiadau yn ddirfawr. Effeithiodd ei hymnau gyfnewidiad neillduol ar agwedd crefydd yn mhlith y Cymry, a'r addoliad cyhoeddus yn eu cyfarfodydd. Y mae rhai penillion yn ei hymnau fel marwor tanllyd yn poethi ac yn tanio yr holl nwydau wrth eu canu, ac yn peri eu dyblu yn aml gan y bobl, nes y byddant yn gwaedu ac yn llamu o orfoledd. Y mae yr effeithiau cryfion hyn yn brawf neillduol o rym yr achos sydd yn eu peri." Nid oes gwell prawf i'w gael o lwyredd y cyfnewidiad a ddygwyd i mewn i emynyddiaeth ein gwlad gan y Diwygiad Methodistaidd, na'r ffaith nad oes yn bresennol ond ychydig iawn o hymnau mewn ymarferiad cyffredin, a gyfansoddwyd cyn yr amser hwnnw. Teimlir ynddynt wres angerddol y diwygiad, a chlywir ynddynt sŵn gorfoledd a chan.
Nid oes dim yn amlycach na bod ysgrifennu a chyfansoddi barddoniaeth mor hawdd iddo ag anadlu. Y mae yn dweyd hyny ei hun ar rai achlysuron. Yn ei ragymadrodd i Theomemphis - cyfansoddiad yn cynwys tua phum mil o linellau dywed: "Fe redodd y llyfr hwn allan o'm hyspryd fel dwfr o ffynnon, neu we’r prif gopyn o'i fol ei hun. Y mae yn ddarn o waith newydd, nad oes un platform iddo yn Saesonig, Cymraeg, nac yn Lladin, am wn i. Fe redodd i fy neall fel y gwelwch, ac wrth feddwl y gall fod yn fuddiol, mi a'i printiais." Y mae y pennill olaf yn "Marwnad Grace Price," yn cofnodi y ffaith ddarfod i'r alargan odidog honno gael ei chyfansoddi ganddo mewn ychydig oriau, cyfansoddiad a gynhwysa 42 o benillion, ac un a gafodd y fath dderbyniad, fel y clywsom hen bobl yn dweyd i'r bardd wneyd ugeiniau o bunnoedd o elw o honni. Y mae sicrwydd fod llawer o'i emynau yn fyrfyfyr. Dywedir ei fod yn pregethu yn Meidrym, Sir Gaerfyrddin, ar foreu Sabbath, ac yn darllen ar ddechreu y gwasanaeth, y 4edd bennod o Efengyl Ioan. Darllenodd yn mlaen yn ddi-dor hyd adnod y 35ain, yr hon sydd fel yma: "Onid ydych chwi yn dywedyd, Y mae eto bedwar mis, ac yna y daw y cynhauaf? Wele, yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych, Dyrchefwch eich llygaid, ac edrychwch ar y meusydd, canys gwynion ydynt eisioes i'r cynhauaf." Wedi darllen yr adnod drosti, "Arhoswch chwi," meddai, yn synfyfyriol, "nid yw syniad yr adnod hon erioed wedi ei droi ar gan." "Arhoswch chwi," meddai eilwaith (yn fwy wrtho ei hun nag wrth y gynuileidfa), "Fel hyn, onide:"—
"Onid ydych chwi'n dywedyd fod eto bedwar mis,
Ac yna daw'r cynhauaf toreithiog gyda brys?
Dyrchefwch chwi eich llygaid, medd Iesu, brenin nef,
Can's gwynion ydyw'r meusydd lle mai ei wenith ef."
A darllenodd yn ei flaen i orphen y bennod. Y mae llawer o'i emynau mwyaf poblogaidd yn gynyrchion byrfyfyr; ac y mae i amryw o honynt liwiad lleol pur amlwg. Y mae bron yn sicr mai golygfa ramantus ar yr afon Tywi, lle y mae y ffordd yn arwain dros greigiau serth rhwng y Fannog a Chapel Soar, ddarfu awgrymu i Williams syniad y pennill cyfarwydd hwnw:
"Cul yw'r llwybr i mi gerdded,
Is fy llaw mae dyfnder mawr,
Ofn sydd arnaf yn fy nghalon
Rhag i'm traed i lithro i lawr;
Yn dy law y gallaf sefyll,
Yn dy law y dof i'r lan,
Yn dy law byth ni ddiffygiaf,
Er nad ydwyf fi ond gwan."
Ac y mae lliwiad lleol dyfnach fyth ar un
arall o'i emynau. Y mae yr afon Cothi,
heb fod yn mhell o Pumpsaint - lle a
dramwyai Williams yn aml - yn ymollwng
i bwll anferth, ac a elwir yn "Bwll Uffern
Gothi," ac yr oedd ffordd newydd yn cael
ei gwneyd heibio i'r fan yn nyddiau y
bardd. Yma, meddir, y canodd efe am y
"Ffordd newydd wnaed gan Iesu Grist
I basio heibio uffern drist;
Wedi ei phalmantu ganddo ef
O ganol byd i ganol nef."
Ond er fod y penillion hyn a'u cyffelyb wedi eu hawgrymu iddo gan olygfeydd natur, ac wedi eu cyfansoddi yn hollol ddiorchest, eto, y mae Williams ei hun yn dangos mai nid heb barotoad a llafur mawr y cyfansoddodd ei brif weithiau. Fel hyn y dywed am ei brif gyfansoddiad barddonol, Golwg ar Deyrnas Crist: "Mi wnes fy ngoreu wrth gyfansoddi hyn o lyfr am ddarllen llyfrau addas at yr achos, fel yr oeddwn yn myned drwyddo, a'r rheiny, os gallwn, yn uniongred a iachus. A phan y gwelwn rywbeth at fy mhwrpas, cymerwn swm hynny i fy meddwl, ac yna rhown rywfaint o'i sylwedd i lawr, wedi ei wisgo a fy ngeiriau fy hun, ond megys yn gyntaf ymborthi arno fel yr eiddo fy hun, a'i gymysgu a'r hyn oeddwn wedi ei wau o fy meddyliau eisioes, yr hyn sydd bell o fod yn feius. Ond y llyfr hwnnw oeddwn yn glynu fwyaf wrtho, sef Llyfr Duw. . . . Yn awr yr wyf yn gadael i hyn o waith i fyned allan i'r byd, a Duw a safo o'i blaid! Y mae arnaf gywilydd o'i blegyd, am fod ei wisgoedd mor dlawd, ac yntef yn cymeryd arno i ganmol Un mor ardderchog. . . . Yr wyf yn gobeithio y bydd i'm Duw ei guddio oddi wrth ddynion cyfrwys, critic, ag sydd yn cymeryd pob gwirionedd i ymresymu yn ei gylch, yn hytrach nag i adeiladu. . . . Pwy bynnag elo i graffu ar y farddoniaeth, mi wn nad oes yma yr un wers heb ei bai. A hyn a'm digalonnodd lawer pryd i'w roi mewn print. A pha hwya' y bo yn fy llaw, mwya' i gyd wy'n ddiwygio arno. Ond y mae arnaf ofn ei gadw yn hwy, rhag tynnu ymaith ei awch. Am hynny, aed fel y mae. Pwy effaith a gaiff, nis gwn i; ond hyn a wn, iddo beri llawer o boen ac o amser i mi esgor arno." Dywed ei fywgraffydd iddo astudio cymaint wrth gyfansoddi y bryddest odidog hon, fel yr effeithiodd yn niweidiol ar ei iechyd am y gweddill o'i oes.
PHOTOGRAPH O WYNEB-DDALEN LLYFR HYMNAU CYNTAF WILLIAMS
Y mae gwall argraff yn y ddwy linell olaf. Enw yr Argraffydd oedd Felix Farley a'r blwyddiad oedd M.DCC.XLV
'fod emynau Williams fel y marbles, pan yr oedd llawer o emynau eraill mwy rheolaidd yn disgyn fel tameidiau o glai.' Nis gwyddom pa gyfrif i'w roddi am y bywyd hwn yn enaid y bardd, yn mhellach na'i fod yn deimlad cryfach na chyffredin - teimlad o brydferthwch anian, teimlad sydd yn myned i mewn i helynt dynoliaeth, yn ei mawredd a'i thrueni, ei llawenydd a'i galar, ei chariad a'i chas, ei daioni a'i drygioni." Byddai yn hawdd ychwanegu. Y neb a gar weled pa mor uchel y safai Williams fel bardd, yn meddwl y diweddar Dr. Lewis Edwards, o'r Bala, darllened ei ysgrif alluog a dawnus ar "Gyfnewidwyr Hymnau," yn Nhraethodydd 1850. Teimlwn ei fod yn fwy pwysig yn awr i gael barn y parchedig ddoctor ar Williams fel duwinydd. Ymddangosodd ysgrif o dan ei law ef, yn Yr Arweinydd am 1878, cyhoeddiad a olygid gan ei fab, y Parch. Llewelyn Edwards, M.A., ar "Dduwinyddiaeth Williams, Pantycelyn," ac er ei bod yn faith, teimlwn nas meiddiwn ei chwtogi. Dechreua gyda'r frawddeg a ddyfynnwyd gennym yn barod i bwrpas arall:-
"Cydnabyddir yn gyffredin gan y rhai sydd yn gallu myned trwy y geiriau at y meddyliau fod Williams yn fardd o radd uchel, ac yn neillduol ei fod fel emynwr yn rhagori yn yr angerddolrwydd teimlad sydd yn hanfodol mewn gwir farddoniaeth. Ond fel y mae yn anhawdd ein cael i weled mwy nag un rhagoriaeth yn yr un person, felly yn ei achos ef y mae dysgleirdeb ei farddoniaeth yn tueddu i guddio o'r golwg ei fawredd fel duwinydd: ac am hynny cymeraf y cyfle hwn i alw sylw at eangder ei olygiadau duwinyddol.
"Yn y lle cyntaf, byddai yn fuddiol i ni oll gymeryd ein dysgu yn fanwl gan Williams yn yr athrawiaeth am Berson y Cyfryngwr. Yn y gwrthdarawiad a gododd yn erbyn Howell Harris mae yn ddiau mai emynau Williams fu y moddion pennaf i gadw y Methodistiaid rhag myned i eithafoedd yr ochr arall: ac er yr holl barch a deimlid iddo, yr oedd llawer y pryd hwnnw, ac y mae llawer hyd heddyw, yn methu rhoddi derbyniad calonnog i'r cyfryw eiriau a 'dwyfol waed,' 'dwyfol loes,' 'dwyfol glwy',' y rhai ydynt mor gyffredin yn ei ganiadau. Weithiau newidid hwynt, neu gadewid hwynt allan: a phan arferid hwynt, yr oedd hynny yn fynych ar y dealltwriaeth eu bod i'w cymeryd fel gormodiaeth farddonol, ac nid fel duwinyddiaeth gywir. Yn awr, yr hyn sydd gennyf mewn golwg yw, nid gwneyd esgusawd dros y geiriau hyn a'u cyffelyb, ond dangos nad ydynt yn sefyll mewn angen am esgusawd. Yn eu hystyr fanylaf y maent yn berffaith gyson a'r athrawiaeth a ddysgir yn y Testament Newydd am Berson a gwaith yr Arglwydd Iesu Grist. Dywedir yno fod dynion wedi lladd Tywysog y bywyd, wedi croeshoelio Arglwydd y gogoniant. Y Gair a wnaethpwyd yn gnawd. Yr Hwn oedd yn ffurf Duw, a'i dibrisiodd ei hun, ac a'i darostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd angau, ie, angau y groes. Y mae o bwys i ni beidio cymysgu y ddwy natur; ond y mae mor bwysig a hynny i ni ofalu rhag mewn un modd i ni rannu y Person. Efe a'i hoffrymodd ei hun, nid rhan o honno ei hun; ac am hynny efe, yn anfeidroldeb ei Berson, ac nid rhan o honno, yw yr Iawn, O ganlyniad, y mae ei waed, yn yr ystyr helaethaf a all fod, yn ddwyfol waed, yn briod waed Mab Duw ei hun.
"Arferir priodoli angau pob dyn i'w holl berson, drwy ddweyd fod y dyn wedi marw, ac nid rhan o hono. Y mae y gyffelybiaeth hon, er mor anmherffaith, yn dangos rhesymoldeb y dywediad fod gwaed Crist yn ddwyfol waed. Ond yr oedd undeb agosach rhwng Person y Mab a'i natur ddynol ef nag sydd rhwng enaid dynol a chorff dynol. Heblaw hynny, yr oedd ei Berson dwyfol ef yn weithredol yn ei farwolaeth. Er mwyn cael cyffelybiaeth gyflawn y mae yn rhaid i ni feddwl am ddyn yn marw o'i fodd, yn taflu ei hun yn ysglyfaeth i angau mewn trefn i achub bywydau rhai o'i gyd-ddynion. Yn y cyfryw amgylchiad y mae yn marw, nid yn oddefol yn unig, ond yn weithredol; ac y mae ei holl enaid yn y weithred. Felly y gellir dweyd am yr Arglwydd Iesu Grist, fod ei holl Berson wedi ei wneuthur yn gnawd, fod ei holl Berson wedi darostwng ei hun, fod ei holl Berson yn y weithred o farw, gan fod yn ufudd hyd angau, ie, angau y groes.
"Y mae gan Williams mewn rhai mannau ymadroddion cryfach eto, ac nid wyf yn myned i wneuthur esgusawd dros y rhai hynny ychwaith. Dyma un pennill cyflawn, a darn o un arall, wedi eu cymeryd o ddwy hymn sydd yn dilyn eu gilydd yn ei waith:
"Mae'r ffordd yn awr yn rhydd
O'r ddae'r i entrych ne',
Er pan y daeth fy Nuw
I ddyoddef yn fy lle;
Mae'r nef, mae'r nef, o led y pen,
Can's hi ddyoddefodd ar y pren.
Boed bryn y groes, boed Calfari
Yn uwch na'r bryniau mwya' eu bri,
Am mai yma collwyd gwaed fy Nuw.'
"Goreu po gyntaf y dysg y darllenydd beidio dychrynu a thramgwyddo wrth eiriau cryfion o'r fath yma am farwolaeth ein Harglwydd. Yn lle hynny gwell fyddai iddo gynefino ei hun yn raddol i fyw ar fwyd cryf. Ac nid ydynt gryfach na'r rhai a ddyfynnwyd eisioes o'r Testament Newydd; a dyma iaith gyffredin y brif eglwys.
"Gan fod y bardd o Bantycelyn yn meddu golygiadau mor eang am Berson y Gwaredwr, ac am ddwyfoldeb y gwaed, nid yw yn rhyfedd ei fod yn credu fod gwiwdeb a gwerth anfeidrol yn yr Iawn. Yr hyn sydd yn rhyfedd ydyw fod neb wedi bod erioed yn amheu gwirionedd mor amlwg. Nid yw yn gweddu i ni geisio bychanu pechod; oblegyd er nad yw dyn mewn cymhariaeth ond bychan fel creadur, y mae mwy o ddrwg mewn un pechod nag y gall neb amgyffred. Er hynny, pan feddyliom fod Un oedd mor fawr fel nas gallasai fod neb mwy wedi ymostwng yn y fath fodd fel nas gallasai fod ymostyngiad mwy, y mae pob cyfartaledd yn diflannu o'r golwg; ac yr ydym yn barod i ddywedyd gyda Williams:—
"Pechod yma, cariad acw,
Fu yno yn y glorian fawr;
Ac er trymed oedd y pechod,
Cariad bwysodd hyd y llawr.
Y gair Gorphenwyd
Wnaeth i'r glorian bwysig droi.'
Ymddengys mai felly y cyfansoddwyd y penill, ac y cyhoeddwyd ef ar y cyntaf. Nid oedd y sawl a'i newidiodd yn euog o gyfeiliornad dirfawr. Ond pan y mae rhai mor fanwl a cheisio gwella gwaith eraill, y mae yn naturiol i ninau fod yn fanwl wrth farnu y gwelliant; ac y mae yn sicr mai prin y buasai Williams yn foddlawn i ddweyd fod cariad wedi ei bwyso, oblegyd nis gellir pwyso anfeidroldeb. Rhoddwyd y cariad yn y glorian, nid i'w bwyso, ond i orbwyso y pechod, yr hyn a wnaeth hyd y llawr. Yn yr un hymn dangosir y meddwl yn gryfach eto, os yw bosibl, yn y penill canlynol:—
"Haeddiant Duwdod, o'i gymharu
'N erbyn uffern fawr o'r bron;
Dafn gwaed sy'n ganmil rhagor
Nag aflendid dudew hon:
Gw'radwyddiadau
Duw rydd iawn am feiau'r byd.'
Mewn man arall, rhif 427 o'r llyfr hynmau diweddaf, ceir y ddau bennill ardderchog a ganlyn:-
"Pe buasai fil o fydoedd
Yn cael eu prynu 'nghyd,
A'r cyfryw bris fuasent
Yn llawer iawn rhy ddrud:
'Does angel fyth, na seraph,
Na cherub o un rhyw,
I'r filfed ran all ddywedyd
Mor werthfawr gwaed fy Nuw.
O na allwn innau’r awrhon
Ehedeg fyny fry,
A dysgu rhyw ganiadau
Sydd gan y nefol lu;
Fel byddai cydsain hyfryd
Rhwng dae'r a nef yn un,
Caniadau anfeidroldeb
Marwolaeth Duw yn ddyn.'
Gallesid rhoddi llaweroedd o benillion eraill yn cynnwys yr un athrawiaeth; ond y mae hynny yn afreidiol, gan eu bod eisioes yn nwylaw y Cyffredin o ddarllenwyr Cymru; ac felly ni chaf ond ychwanegu un penill allan o'r Golwg ar Deyrnas Crist, yr hwn y cyfeiriwyd fy sylw ato yn ddiweddar gan ddiacon darllengar a deallus yn Sir Feirionydd.
"Dystawa, fy nghydwybod
Anesmwyth, rowd ddim llai
Nag y mae Duw yn ei ofyn
O daliad am fy mai;
Boddlondeb, a myn'd trosodd,
Rowd i anfeidrol lid;
A heddwch, a myn'd trosodd,
I edifeiriol fyd.'
"Yr eangder a geir yn nghaniadau Williams pan yn son am Berson a gwaith y Cyfryngwr, a welir hefyd yn ei olygiadau am y drefn drwy ei haeddiant ef i gadw pechaduriaid. Afreidiol yw cymeryd amser i brofi ei fod yn dal cyfiawnhad drwy ffydd yn ei holl helaethrwydd; oblegyd y mae Protestaniaid efengylaidd yn gyffredinol yn credu yr athrawiaeth hono, Ond nid oes unrhyw gydwelediad gyda golwg ar y drefn i aileni; ac y mae yn werth i ni chwilio beth oedd barn Williams, a oedd efe yn dal ailenedigaeth drwy ffydd, yr un modd a chyfiawnhad drwy ffydd. Mewn geiriau eraill, a ydyw aileni yn dyfod drwy ffydd, yn ôl ei farn ef, ai ynte ffydd yn dyfod drwy aileni? Saif y mater hwn mewn cysylltiad agos ag amryw faterion eraill. Er enghraifft, os yw ffydd yn dyfod drwy aileni, y mae yn rhaid fod ailenedigaeth yn rhagflaenu cyfiawnhad; ac hefyd y mae yn rhaid i ni gredu fod yr Yspryd Glan yn aileni dyn yn ddigyfrwng, ac nid drwy y gair. A'r hyn sydd yn fwy pwysig na'r cwbl, y mae y golygiad yma yn cynnwys fod bywyd ysprydol yn dyfod i'r enaid cyn ei uno a Christ drwy ffydd. Cyn myned i chwilio pa olygiad sydd yn gywir, byddai yn fuddiol cael ychydig o hanes yr athrawiaeth hon, fel y gweler i ba raddau y mae Williams yn cytuno a duwinyddion eraill; a gellir cyfyngu yr ymchwiliad bron yn gwbl i'r testun cyntaf, sef aileni drwy ffydd, neu ffydd drwy aileni, gan fod yr ateb a roddir i hwn yn effeithio ar y lleill.
"Y nesaf o'r holl dadau at yr Apostol Paul, er fod pellder anfesurol rhyngddynt, oedd Awstin o Hippo. Lled dywyll yw efe am ystyr y gair aileni, gan ei fod yn ei gysylltu yn ormodol a bedydd; er nad yw dweyd fod yr aileni hwn yn cynnwys mwy na rhyddhad oddiwrth bechod gwreiddiol. Yr hyn a elwir gan Brotestaniaid efengylaidd yn aileni ydyw yr hyn a eilw efe yn gyfiawnhau. Gwnaeth gamsyniad pwysig am ystyr y gair; ond y mae yn eithaf goleu yn gosod allan fod y cyfnewidiad hwn, pa beth bynnag y gelwir ef, yn dyfod drwy ffydd. Efallai nad oes neb wedi deall Awstin yn well na Neander; ac fel hyn y mae efe yn symio i fyny ei farn ef ar y pwnc: 'Ond er fod y Pelagiaid yn gosod allan yn eglur y cysylltiad allanol rhwng Crist a'r credinwyr, yn seiliedig ar yr hyn a wnaeth efe unwaith, ac a enillodd dros ddynolryw, ac a sicrhaodd iddynt am yr amser dyfodol, er hyny gosodent y cysylltiad tufewnol rhwng y ddau yn mhell o'r golwg, yr hyn nis gallasai lai na bod, yn ol egwyddorion sylfaenol eu cyfundraeth. Y mae Awstin yn dwyn yn mlaen yn barhaus yn erbyn eu cynllun yr wrthddadl, eu bod yn gwneuthur gras Crist i gynnwys dim mwy na chyfraniad o faddeuant: eu bod yn gadael dyn, wedi iddo gael hyn, i ryddid ei ewyllys ei hun, ac na chydnabyddent fod hyd yn nod yn awr ei holl gyfiawnder tufewnol neu ei sancteiddhad yn waith Crist yn unig; fod yr egwyddor newydd o fywyd dwyfol, yr hon yw ffynonell pob daioni yn y credinwyr, yn tarddu o'r undeb ag ef trwy ffydd. Yr undeb tufewnol rhwng Crist a chredinwyr, y cyfiawnhad neu sancteiddhad yn deilliaw o hyny a'i sylfaen yn Nghrist, dyma yr hyn a ddaliai Awstin yn eglur mewn gwrthwynebiad i'r Pelagiaid.' - (History of the Church, vol. iv., p. 363, Bohn's edition).
"Y mae yn amheus a oedd Calfin yn fwy dyn nag Awstin; ond y mae yn ysgrifennwr sydd yn medru dwyn ei feddyliau allan yn fwy eglur; ac nis gall dim fod yn fwy diamwys na'i farn fod aileni yn dyfod drwy ffydd. Yn y drydedd bennod o'r trydydd llyfr o'i Gorff Diwinyddiaeth, yr hon sydd yn traethu, fel y dywedir yn nechreu y bennod, am 'ailenedigaeth drwy ffydd,' yn y nawfed adran cawn y geiriau a ganlyn: 'Y mae y ddau hyn (sef marweiddiad y cnawd a bywhad yr Yspryd), yn dyfod i ni drwy undeb a Christ. Oblegyd os cawn wir gymdeithas yn ei angau ef, y mae ein hen ddyn yn cael ei groeshoelio drwy ei allu ef, a chorff pechod yn marw.' Yna dywed, ' Mewn un gair, wrth edifeirwch yr wyf yn deall ailenedigaeth.' Ac mewn mannau eraill dadleua fod edifeirwch yn dyfod yn unig drwy ffydd. Nid oes achos ymofyn yma pa un a ydyw yn barnu yn gywir mai yr un peth yw edifeirwch ac ailenedigaeth; ond y mae yn amlwg mai ei olygiad ef oedd fod ailenedigaeth yn dyfod drwy undeb a Christ, a'r undeb hwnnw yn dyfod drwy ffydd.
"Ar ol dyddiau Calfin aeth amryw o'r Protestaniaid i gredu ac amddiffyn y farn Arminaidd, yr hyn a barodd wrthdarawiad yn y lleill, fel yr aeth llawer o honynt yn fwy Calfinaidd na Chalfin. Ni fynnent i neb feddwl am gredu yn Nghrist cyn ei aileni, ac yn yr aileni nid oedd lle i'r Gair; ac y mae lle i gasglu, yn ol barn rhai o honynt, nad oedd lle yn yr aileni i Grist ei hun. Ond rhag gwneyd cam a neb, dylid ychwanegu eu bod yn cydnabod fod yr aileni yn dwyn y meddwl at y gair ac at Grist. Fel hyn y dywed Ridgley yn ei Gorff Duwinyddiaeth, 'Nis gall y gair lesâu os na fydd wedi ei gyd-dymheru a ffydd; ac nis gall ffydd weithredu os na fydd yn tarddu o egwyddor o ras wedi ei phlannu oddimewn; gan hyny nid yw yr egwyddor hon o ras yn cael ei chynhyrchu ganddo. Yr un peth fyddai tybied fod dal darlun prydferth o flaen dyn dall yn ei alluogi i weled.' Dilynwyd Ridgley gan Dr. Williams, o Rotherham, Dr. George Lewis, a lliaws o ysgrifenwyr eraill yn mysg yr Anghydffurfwyr. Hyn hefyd yw barn Dr, Hodge, o America, yr hwn yn ddiau ydyw un o dduwinyddion galluocaf yr oes hon; ac nis gallaf fyned heibio i'w enw heb dalu iddo deyrnged o warogaeth, ac annog pawb i ddarllen ei ysgrifeniadau.
"Ond y mae yn bryd i ni edrych pa beth oedd barn Williams a'r hen Fethodistiaid yn Nghymru ar y mater hwn. Fel hyn y dywed Williams yn ei Theomemphus am natur ffydd, ac am y drefn i aileni drwy ffydd:—
"R efengyl wy'n bregethu,
Nid yw hi ddim ond hyn,
Mynegu'r weithred ryfedd
Wnawd ar Galfaria fryn;
Cyhoeddi'r addewidion,
Cyhoeddi'r marwol glwy',
A diwedd llygredigaeth
I'r sawl a gredo mwy.
O cred, O cred, cai gymorth
I dynu'th lygad de;
O cred, O cred, cai allu
I dori'th fraich o'i lle:
Cred yn yr Oen fu farw
Fry ar Galfaria fryn,
Y fynyd gynta' y credost
Cai lawer mwy na hyn.
Nac edrych ar amodau
Fyth fyth o'th fewn dy hun;
Trwy gredu daw amodau,
Mae gras wrth gredu 'nghlŷn;
Y fynyd gynta' y credost
Yw'r fynyd byddi byw,
Wrth gredu yn Nghrist yn unig
Cai wel'd gogoniant Duw.
Nid credu Yw bod gennyt
Ryw drugain nôd ac un,
Amrywiol o rasusau
Rhagorol ynot d' hun;
Ond credu yw dy weled
Yn eisieu oll i gyd,
A'th eisieu yn peri it' bwyso
Ar Brynwr mawr y byd.'
"Nid yw y penillion hyn ond pigion o lawer a allesid roddi; ond y mae hyn yn ddigon i ddangos beth oedd barn Williams am ffydd, fel y mae yn derbyn Crist heb fod unrhyw anian dduwiol na chalon newydd yn gymhwysder blaenorol yn y dyn ei hun. Yna yn y rhan olaf o bregeth Efangelius rhydd oleu pellach ar y drefn fel y canlyn:—
"'Crynhowch eich holl achwynion
Y mwyaf sydd i'w gael,
Cewch yma ddigon digon
I'ch ateb chwi yn hael;
'Does dim ond edrych yma,
Mae edrych yn iachau,
Mae edrych yn sancteiddio,
Mae edrych yn mwynhau.
Mae'r ffynnon yn agored,
Dewch edifeiriol rai;
Dewch chwithau yr un ffunud
Sy'n methu edifarhau;
Dewch gafodd galon newydd,
Dewch chwithau na cha'dd un,
I olchi pob budreddi
Yn haeddiant Mab y dyn.'
Dyma oedd barn Williams; a gellir cymeryd yn ganiataol ei fod yn rhoddi barn gyffredin y Methodistiaid yn y cyfnod hwnnw. Ar ôl ei ddyddiau ef, y mae yn debyg na fu neb yn cynrychioli y Methodistiaid yn well na Mr. Charles o'r Bala: ac os dewisiwn gael ei olygiadau ef, nid oes raid i ni ond troi at yr Hyfforddwr. Yn yr wythfed bennod, ar ol son am aileni, gofynnir, ' Pa fodd y mae yr Yspryd yn gweithredu y cyfnewidiad hwn? ' A'r ateb ydyw, ' Trwy uno yr enaid a Christ, canys trwy undeb a Christ y mae pob gras a rhagorfraint yn deillio i ni." Y mae yma radd o anhawsder, drwy fod yr Hyfforddwr yn y bennod nesaf, ar ôl dweyd fod yr Yspryd Glan yn dwyn pechadur at Grist, drwy amlygu Crist, yn myned yn mlaen i sylwi mai y rhai sydd yn derbyn y datguddiad hwn o Grist yw y rhai a wir gyfnewidiwyd gan Yspryd Duw. Byddai yn waith buddiol i blant yr Ysgol Sabbothol, pe chwilient y ddwy bennod, nes cael golwg ar gysondeb y ddau ddywediad. Ond er mwyn cael golygiadau Mr. Charles yn helaethach ac yn eglurach, darllener y Geiriadur, dan y gair adenedigaeth.
"Does dim ond edrych yma,
Mae edrych yn iachau,
Mae edrych yn sancteiddio,
Mae edrych yn fwynhau.'
"Yn llythyrau Paul daw yr un athrawiaeth i'r golwg, nid mewn ymadroddion achlysurol yn unig, ond fel swm a sylwedd ei ymresymiad, yn enwedig yn ei Epistol at y Rhufeiniaid. Fel sylfaen i'r holl ymdriniaeth am drefn yr efengyl, y mae yn traethu yn gyntaf am ein derbyniad gyda Duw drwy ffydd heb weithredoedd y ddeddf, ac yna yn myned yn mlaen i sylwi ar y cyfnewidiad tufewnol fel y canlyniad angenrheidiol i gyfiawnhad drwy ffydd. Dechreua draethu ar y mater olaf yn pen. vi. i, drwy ofyn, 'Beth wrth hyny a ddywedwn ni? a drigwn ni yn wastad mewn pechod, fel yr amlhao gras? ' Mae yn amlwg na fuasai lle i'r gofyniad hwn pe buasai cyfiawnhad yn rhagdybied ailenedigaeth. Ar y dybiaeth fod gras wedi amlhau tuag at ddyn y n y cyfiawnhad, cyn fod gras ynddo, y gellir gofyn, ' A drigwn ni yn wastad mewn pechod fel yr amlhao gras? ' Yr ateb i'r gofyniad hwn ydyw, ' A ninau wedi meirw i bechod, pa wedd y byddwn byw eto ynddo ef? ' Y mae yr ateb hwn yn cynnwys ein bod wedi meirw i bechod yn y cyfiawnhad; hyny ydyw, wedi meirw iddo yn gyfreithiol, fel nad oes gan bechod awdurdod arnom mwyach, megys nad oes gan y meistr awdurdod ar y caethwas pan fyddo y caethwas wedi marw. Ond pa fodd y mae y caethwas yn marw yn yr amgylchiad hwn? Dengys yr apostol yn yr un bennod ei fod yn marw i bechod drwy ddyfod i undeb ffydd a marwolaeth Crist. Y mae hyn oll yn perthyn i gyfiawnhad; ac felly mae cyfiawnhad yn ngolwg yr apostol yn cynwys, nid rhyddhad oddiwrth gondemniad yn unig, ond rhyddhad oddiwrth arglwyddiaeth pechod, yr hyn sydd yn cynwys hefyd nas gall neb fod yn was cyfreithlawn i bechod wedi ei gyfiawnhau. Ond i ddangos yn fwy eglur eto y cysylltiad anwahanol rhwng cyfiawnhad a sancteiddhad, dygir yn mlaen ein perthynas a'r ddeddf, yr hon oedd yn ein rhwymo yn nghaethiwed pechod. Nid oedd modd i ni farw i arglwyddiaeth pechod heb i'r ddeddf gael ei newid, neu i ni farw i'r ddeddf; ac nid oedd modd i ni farw i'r ddeddf oddieithr drwy undeb ffydd a marwolaeth Crist. Y mae hyn eto yn perthyn i'r cyfiawnhad. Ond o'r ochr arall, ' Yr ydym yn marw i'r ddeddf (yn y cyfiawnhad) drwy gorff Crist; fel y byddem eiddo un arall, sef eiddo yr hwn a gyfodwyd o feirw, fel y dygem ffrwyth i Dduw.' A dyma wreiddyn ein hailenedigaeth, a dechreuad ein sancteiddhad. Gwelir fod y cwbl yn dyfod o undeb a Christ, a'r cwbl gan hyny yn dyfod drwy ffydd. Ceir yr un athrawiaeth yn y bedwaredd bennod o'r Epistol at y Galatiaid, lle y dywedir ein bod wrth natur yn gaethion dan wyddorion y byd. Yr oedd yr etifeddiaeth yn barod; ond yr etifedd yn gaeth, ac yn rhaid ei brynu. Y canlyniad o'r prynu ydyw mabwysiad; a chanlyniad y mabwysiad ydyw anfon Yspryd y Mab i'n calonnau ni, yn llefain Abba, Dad.
"Addysgiadol yw sylwi fel y mae Paul yn cyffelybu credu i farw, ac felly yn ei osod allan fel rhywbeth hollol groes i weithio, er mai o'r marw hwn y mae bywyd a gwaith yn tarddu. I'r un perwyl y dywed Williams, mai nid credu yw fod gennym rinweddau ynom ein hunain, ond gweled ein hunain yn eisieu oll i gyd, a'r eisieu hwnnw yn peri i ni bwyso ar y digonolrwydd sydd yn Nghrist. Y mae hyn yn wahanol iawn i'r gred sydd yn rhy gyffredin fod yn rhaid cael bywyd newydd yn yr enaid cyn y gall neb gredu. Mae yn sicr na ddylid priodoli i eraill ganlyniadau y farn a goleddir ganddynt, os byddant hwy eu hunain yn ymwrthod a'r canlyniadau hyny. Er hyny, am y rhai sydd yn dal y farn hon, byddai yn dda iddynt ystyried mor agos ydynt, ac mor hawdd yw iddynt lithro i'r golygiad Pabaidd am ffydd a chyfiawnhad. Addefa y Pabyddion fod cyfiawnhad drwy ffydd; ond dywedant yr un pryd fod ffydd wirioneddol yn cynwys cariad, ac felly gwnânt gyfiawnhad drwy ffydd yn gyfiawnhad drwy weithredoedd. Yr unig ffordd i wrthwynebu y golygiad Pabaidd ydyw drwy ddal, yn ôl tystiolaeth amlwg yr Ysgrythyr, fod aileni yn dyfod drwy ffydd, ac nid ffydd yn dyfod drwy aileni. Yr wrthddadl fawr yn erbyn hyn yw, nas gall dyn gredu heb fod ynddo fywyd yn gyntaf. Ond ni feddylir fod neb yn credu yn gadwedigol heb yr Yspryd Glan, mwy nag y mae yn marw yn naturiol heb i Dduw beri hyny. Ac os caniateir fod yr Yspryd yn argyhoeddi dyn cyn ei aileni, paham na ellir caniatáu ei fod yn ei ddwyn i gredu cyn ei aileni, er nad yw yr Yspryd yn preswylio ynddo nes y daw drwy gredu i undeb a Christ? Ond nid ei wella y mae yr Yspryd cyn iddo ddyfod at Grist, ond ei ddwyn at Grist er mwyn iddo gael ei wella. Gan hyny, nid oes achos i neb oedi nes cael tro cyn dyfod at y Ceidwad. Pe rhoddid derbyniad dwfn i'r athrawiaeth hon gan holl bregethwyr yr efengyl, byddent yn sicr o deimlo mwy o gryfder i alw ar bawb i ddyfod at Grist yn ddiymaros; ac i ddywedyd gyda Williams, yn y pennill a ddyfynnwyd eisioes:—
"Mae'r ffynon yn agored,
Dewch edifeiriol rai;
Dewch chwithau yr un ffunud
Sy'n methu edifarhau;
Dewch gafodd galon newydd,
Dewch chwithau na cha'dd un,
I olchi pob budreddi
Yn haeddiant Mab y dyn.'"
Dichon ein bod wedi aros yn rhy hir ar deilyngdod llenyddol, a chysondeb athrawiaethol emynau a chyfansoddiadau eraill Williams, ond nid ydym yn anghofio fod eu prif ragoriaeth yn gorwedd mewn cyfeiriad arall. I lawer pererin blinedig y maent wedi bod fel dyfroedd oerion i enaid sychedig. Buont yn gyfnerth i'r llesg, ac yn olew a gwin i lawer enaid drylliedig. Cafodd llawer olwg ar y wlad well a'r Brenin yn ei degwch drwy ei emynau ef. Profasant yn foddion gras i filoedd yn Nghymru, ac yr ydym yn hyderu y parhânt yn eu rhinwedd am oesoedd lawer i ddyfod.
Nis medrwn adael Williams heb goffhau y difyr hanesion sydd am dano, a'r ffraeth benillion a wnaeth ar wahanol achlysuron. Nid ydynt o nemawr gwerth ar wahân oddiwrth eu hawduraeth. Taflant oleuni ar ei barodrwydd, ei ffraethineb, a sirioldeb ei yspryd. Nid oes iddynt drefn amseryddol, nac ychwaith unrhyw sicrwydd am eu lleoliad, ac nis gellir dwyn nemawr o honynt o dan unrhyw ddosbarthiad. Gosodir hwy i fewn yma am fod gan y wlad barchedigaeth i fanbethau y bardd o Bantycelyn, a gwneir hyny mor fyr ag a fydd yn ddichonadwy. Danfonodd y pennill canlynol at ei wraig pan yr oedd ar daith trwy'r Gogledd:—
"Hêd, y gwcw, hed yn fuan,
Hêd y deryn glas ei liw,
Hêd oddi yma i Bantycelyn,
D'wed wrth Mali mod i'n fyw;
Hêd oddi yno i Lanfairmuallt,
D'wed wrth Jack am gadw ei le,
Os na chaf ei weled yma,
Caf ei weled yn y ne'."
Cawn yn Methodistiaeth Cymru, cyf. iii., tudal. 345, nodiad fel yma: "Daeth hanes arall i law am y bardd pan yr ydoedd ar daith yn Môn, ac yn yr hanes y mae ffurf wahanol ar y pennill, 'Hêd y Gwcw,' ac ar yr amgylchiad a barodd ei gyfansoddi. Cymerwyd y bardd yn afiach, medd yr hanes, yn y Garnedd—ddu, a bu yn gorwedd ddyddiau rai. Yn ei salwch aeth yn isel iawn ei feddwl, a theimlai hiraeth angerddol am ei gartref, ac am ei deulu." Wylai a chanai fel hyn:—
"'Rwy'n awr yn eitha' Môn yn aros,
Ac y mae yn fy yspryd glwy',
Am gael gweled Pantycelyn,
'Chaf ei weled mo'no mwy!
Hêd, y gwcw, dros y bryniau,
Hêd, aderyn glas ei liw,
Dwg i'm newydd, dwg yn fuan,
A yw yno bawb yn fyw?
Hêd oddi yno i Lanfairmuallt,
D'wed wrth Jack am gadw'i le,
Os na chai weled ar y ddaear,
Y caf ei weled yn y ne';
Hêd oddi yno, dos at Mali,
Dywed wrthi'n ddistaw bach,
Os ca'i gennad gan yr Arglwydd,
Y dof fi adre' eto'n iach."
Dywedir ddarfod i Williams, pan yn hen ŵr mewn tipyn o anghofrwydd meddwl, roddi "Hêd y Gwcw" allan i'w ganu, wrth ddechreu odfa mewn capel ag oedd wedi ei adeiladu yn bur agos i'r môr. Ymaflodd ei gyfaill yn nghwr ei gôt, a dywedodd yn ddistaw: " W. Williams, nid yw y penill yma yn weddus mewn addoliad." "Gwir a wedi di," ebe yntau; ac ar yr un anadl rhoddes y penill canlynol allan, a ddaeth i'w feddwl yn y fan, wrth glywed sŵn y môr:—
"Mae'r iachawdwriaeth fel y môr
Yn chwyddo byth i'r lan;
Mae ynddi ddigon, digon byth,
I'r truan ac i'r gwan."
Gwnaeth y penill canlynol i dalu diolch i Enos, tad Owen Enos, o'r Twrgwyn, Sir Aberteifi. Yr oedd y bardd yn lletya ar dywydd ystormus yno, ac er mwyn iddo fyned i'w gyhoeddiad, rhoddodd Enos iddo fenthyg ei gaseg, a thaflodd ei wraig, "Pal," ei chlog drosto, gan estyn iddo botel yn cynwys rhyw wlybwr ag y tybiai hi a'i cadwai ef yn gynnes:—
"Deg bendith fo ar y clogyn.
Ac ugain fo ar 'Pal,'
A phymtheg fo ar y gaseg
A'm cariodd i mor dal,
A naw fo ar y botel,
Ddiddefnydd wrth fy nghlun,
A'r rhest ar gopa Enos,
I'w gwneyd yn gant ag un."
Yr oedd unwaith yn pregethu yn Môn, ac yr oedd y wraig yn cyd—drafaelio ag ef, fel y digwyddai yn aml. Daethant i Langefni. Ar ol y bregeth aeth y ddau i dafarndy, o'r enw Penybont, i letya. Yr oedd cynllwyn yn ngwersyll yr erlidwyr yn erbyn y pregethwr, ac wedi deall pa le yr ydoedd, ymgasglodd haid o honynt wrth ddrws y gwesty. Yr oedd gyda hwy grythwr (fiddler). Ar y pryd yr oedd Williams a'i wraig yn aros yn y parlwr, clywent drwst traed llawer o bobl yn y fynedfa, a gwelent ddrws y parlwr yn agor, a'r crythwr yn sefyll o'u blaen, tra yr oedd llu o ddyhiriaid wrth ei gefn. Pan welodd Williams ef, galwodd arno: "Tyr'd i mewn, fachgen." Y crythwr a ofynnodd, gyda llawer o goeg—foesgarwch, a garent hwy gael tinc? "Carem," atebai Williams, " gad dy glywed yn chwareu." "Pa dune? gofynnai y crythwr. "Rhyw dune a leici di, fachgen—Nancy Jig, neu rywbeth arall"—oedd yr ateb. Ar hyn dechreuodd rygnu y crwth, a gwaeddodd Williams ar y wraig, "Nawr, Mali,
"Gwaed dy groes sy'n codi fyny
'R eiddil yn gongcwerwr mawr;
Gwaed dy groes sydd yn darostwng
Cewri cedyrn fyrdd i lawr:
Gad i'm deimlo
Awel o Galfaria fryn."
A chanu a wnaethant nes gostegu ynfydrwydd y bobl, y rhai a lithrasant ymaith heb aflonyddu arnynt yn mhellach. Arferai Williams adrodd am erledigaeth arall a gafodd yn y Gogledd. Pregethai mewn tafarndy. Pan o gylch dechreu y gwasanaeth, daeth yswain y gymydogaeth a llu o bobl gydag ef, i'r amcan o'i niweidio. Ciliodd yntau o'r golwg, a darfu i'r tafarnwr ei berswadio i newid ei ddillad, ac ymddyeithrio. Daeth allan wedi newid ei wisg, ac ni ddarfu i'r erlidwyr ddeall mai efe ydoedd y pregethwr. Ond yn fuan cododd ystorm enbyd yn nghydwybod Williams yn nghylch priodoldeb ei ymddygiad, a daeth geiriau y Gwaredwr gyda nerth anorchfygol i'w feddwl: "Pwy bynnag a'm gwado i yn ngwydd dynion, minnau a'i gwadaf yntau yn ngwydd fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd." Gorfu iddo ddychwelyd, a gwisgo ei ddillad ei hun, a gwynebu y perygl. Adnabuwyd ef yn y man, a dechreuasant ymosod arno, ond gan i'r tafarnwr gymeryd ei blaid, ni dderbyniodd niwed. Efe oedd y cyntaf a geisiodd bregethu yn nhref Caernarfon. Yr oedd wedi bod yn pregethu yn Sir Fôn. Yr oedd ei wraig gydag ef ar y daith hon. Wrth groesi y culfor o borth Talyfoel, dyrysodd Mrs. Williams yn rhyw fodd yn ngodreu yr hwyl, a thaflwyd hi dros ymyl y cwch i'r môr. Yr oedd tybiaeth gref i hyn gael ei wneyd o fwriad! Pa fodd bynnag, gwaredwyd hi rhag boddi, a thiriasant yn ddiogel yn Nghaernarfon. Deallodd Williams yn fuan nad allai anturio pregethu yno, gan eu bod yn penderfynu ei rwystro neu ei ladd. Ymguddiodd, ac aeth ymaith mor ddirgel ag y medrai drannoeth. Nis medrai efe wrthsefyll erledigaeth fel y gwnâi y gwrol Howell Harris.
"Rho heibio waith Llaaddewi,
A chadw caseg fawr,
A bildio teiau nowydd,
A thynnu’r hen i lawr;
A phaid a rhenti'r tiroedd
I'r deiliaid yn rhy ddrud,
Gwna'r triugain fwy o lawer
Na wna y cant i gyd."
Cafodd un Evan Moses sen drymach ganddo. Teiliwr ac argraffydd oedd y gŵr hwn. Yr oedd wedi bod yn ddigon hyf i feirniadu marwnad Williams i Howell Harris, ac wedi gadael rhai penillion allan wrth ei argraffu hi:—
"Wel, gwrando, Evan Moses,
Y teiliwr gwaetha'i ryw,
O'r dorf ddi-rif deilwriaid
Erioed a greodd Duw;
'Dwy'n amheu nad yr Arglwydd,
A'th wnaeth di'n deiliwr glas;
Ond Satan a dy alwodd
At waith efengyl gras."
Cyfansoddodd Williams lawer yn nyfnder y nos, pan y byddai pawb eraill yn gorphwys. Dywedir y byddai yn aml, ar ol myned i orphwys ei hun, yn deffro ei gymar, gan waedu yn sydyn: "Mali, Mali; cannwyll, cannwyll, y mae yn rhaid i mi fyned i ysgrifennu." Goleuai Mali y gannwyll yn ddiymaros a dirwgnach, ond nid oedd efe bob amser pan ar ei deithiau yn cael yr un parodrwydd i weini arno. Un tro, yn y Collenau, yn ymyl Tonyrefail, medd rhai, yn Maescefnffordd, ger Llangamarch, medd eraill, methodd y bardd yn lan a dihuno y forwyn, a dyma fel y canodd iddi boreu drannoeth:—
"'R'wy' 'nawr yn gwel'd yn eglur,
'Tai clychau mawr y Llan,
A rhod y felin bapyr,
A gyrdd y felin ban;
A'r badell fawr a'r crochan
Yn twmblo oddeutu'r tŷ,
A'r gwely'n tori dani,
Mae cysgu wnelai hi."
Un tro yr oedd Williams ar daith trwy Fro Morganwg, ac yn pregethu yn Llysyfronydd. Yr oedd pobl y wlad o gwmpas wedi dyfod i'w wrando, ac yr oedd ganddo gopïau o Theomemphus i'w gwerthu ar ol yr odfa. Gwnaeth farchnad go dda o honynt; ond yr oedd un o'r enw Ned Lewis, un o wrandawyr Llangan, yn gomedd prynu, ac yn dweyd fod y llyfr yn rhy ddrud; dywedodd Williams wrtho:—
"Ned Lewis, er ei wrando,
Yn selog yn mhob man,
Sy'n hoffi ceiniog tincer,
Yn fwy na ffydd Llangan;
Ni phryn e' ddim o Theo',
Mae e' geiniog yn rhy ddrud,
Nes delo'r wiber danllyd
I frathu ei fynwes glyd."
Yr oedd dynes yn byw yn ymyl Castellnedd, yn Sir Forganwg, o'r enw Sali
Stringol, ag y byddai Williams yn arfer
masnachu a hi mewn llyfrau. Yr arfer
oedd talu am yr hen wrth gael y newydd.
Un tro, pan yr oedd Williams ar gylch, ni
ddaeth Sali i'w gyfarfod fel y byddai yn
arferol o wneyd, ac fe aeth y bardd i ofni y
byddai iddo golli yr arian. Ysgrifenodd
ati i achwyn, gan ddweyd y byddai ar
amser penodedig yn Fforchonllwyn, Ystradgynlais, ac y carai iddi ei gyfarfod yno, a
dwyn yr arian gyda hi. Digiodd Sali yn
enbyd, a phan ddaeth yr amser, aeth yno
yn ddrwg ei hwyl, er fod ganddi ffordd
faith i'w cherdded. Yr oedd Williams yn
lletya gyda Mr. Jones, yr offeiriad. Pan
ddaeth Sali i'r tŷ, arweiniwyd hi i mewn
i'r parlwr lle yr oedd y bardd, gŵr y tŷ, ac
un neu ddau eraill yn eistedd. Cyfarchodd
y bardd hi yn garedig, gan holl ei helynt;
ond yr oedd hi yn rhy glwyfedig ei hyspryd
i siarad, a thaflodd yr arian ar y bwrdd yn
swta, a gofynnodd am receipt. Gwelodd
Williams fod y wraig dda wedi tramgwyddo, a dywedodd, "Cewch, cewch,
cewch, cewch," yn hollol hunanfeddiannol
"Rhowch i mi dipyn o bapyr, Mr. Jones,"
meddai, ac wedi ei gael, eisteddodd i lawr
i ysgrifenu. Ar ol gorphen, estynnodd y
papyr i'r offeiriad, yr hwn a dorrodd allan i
chwerthin; a phan ddarllenodd hwnw ef
allan i glywedigaeth y cwmni, yr oedd Sali
yn chwerthin mor iach a neb o honynt.
Dyma y receipt:—
"Rwy'n rhyddhau Sali Stringol,
Y wraig a'r natur fawr,
O bob rhyw ddyled imi
O Noah hyd yn awr;
Dymunaf dda i Sali,
A'i chrefydd gyda hi,
A gwnaed hi hedd a'r nefoedd,
Fel gwnaeth hi hedd a mi."
Ryw bryd yn y flwyddyn 1788, yr oedd y bardd yn pregethu yn nghapel y Dyffryn (Dyftryn Clwyd), ac yn ol yr arfer gyffredin, yn y tymor hwnw, yn cadw cyfarfod eglwysig ar ol yr odfa. Yr oedd yno ddau wedi aros i ymofyn am aelodaeth o newydd, sef gŵr o saer yn y gymydogaeth, a merch ieuanc. Ymddiddanodd Williams a hwy, yn ol ei arfer, ac ar ol darfod, ebe fe, gan gyfarch yr eglwys: "Gadewch i'r eneth yma aros gyda chwi, ac ymgeleddwch hi; ond am y gŵr yma, nid oes ganddo fwy o grefydd nag sydd gan fy ffon i," gan daro ei ffon ar y llawr. Felly y troes pethau allan.
Yr oedd gŵr, o'r enw William Powell, aelod o eglwys Llansamlet, Morganwg, wedi gwyro at Sandemaniaeth, gan ddilyn Mr. Popkins, yr hwn oedd wedi gwyro o'i flaen ef. Pan yr oedd efe ar ei wely angau ymwelodd y bardd o Bantycelyn ag ef, ac yn y gair a goffheir iddo ei ddweyd wrth y claf, y gallwn weled fod gan y bardd feddwl da am ei grefydd, er iddo lithro ychydig oddi ar y ffordd: "Wil, Wil," eb efe, " ti fuost ti yn whil'o Llawer am ddyn'on perffaith yn dy dymor, mi.'dy wela di yn nes atyn' nhw' yn awr nag erioed." At y Mr. Popkins uchod y cyfeiriai Williams pan y dywedai, mai "pedwar peth a'i gwnaethai yn bregethwr mawr - perwig Samson Thomas, ceffyl Howell Davies, cyfoeth Popkins, a doniau Rowlands."
EGLWYS LLANFAIR-AR-Y-BRYN.
Yn dangos y Meini Coffadwriaethol cyntaf a osodwyd ar y beddau
Daeth gwraig fonheddig ato unwaith i'w wahodd i ddyfod i bregethu i'w thŷ hi yn Llandeilo Fân, yn Sir Frycheiniog. Ymddengys mai Mrs. Lloyd, Aberllech, ger Beiludu, ydoedd hi, boneddiges a fu yn dra chymwynasgar i grefydd yr ardal honno yn ei dydd. Dyma atebiad boneddigaidd y bardd iddi:—
"Ti, bendefiges hawddgar,
Mi gadwaf yn fy ngho',
I'th babell do'i bregethu
Pan ddelwyf gynta' ith fro;
Ac hefyd ti gai wobr,
Pan elo'r byd ar dân,
Am wa'dd efengyl Iesu
I blwy' Llandeilo Fân."
Ymddengys ei fod yn ŵr pur ddifater am ei ymddangosiad personol. Nid oedd un gwasanaeth yn rhy isel iddo ef ei gyflawni. Elai o gwmpas y wlad fynychaf ar gefn ei geffyl, gyda sachaid o'i lyfrau ar y cyfrwy; ac os digwyddai i'r tywydd droi allan yn anffafriol, ac yntau yn ddiddarpariaeth, benthycai gôt rhyw gyfaill, neu glog ei wraig, heb ymholi dim a fyddai dilladau felly yn gweddu gŵr parchus a chyfrifol fel efe. Cawn ei fod yn pregethu un tro yn mharlwr gŵr boneddig yn Margam, Sir Forganwg.
Ei bwlpud yno oedd bwrdd derw caboledig, ac i'r amcan dyblyg, o beidio niweidio
y bwrdd, ac o beidio niweidio ei hun drwy
syrthio oddiar y bwrdd llithrig, tynodd
ymaith ei esgydiau, a phregethodd yn
hwylus yn nhraed ei hosanau, ar y wledd
o basgedigion breision, yn Mhrophwydoliaeth Esaiah.
Dro arall, cawn ei fod yn pregethu ar dalcen pont Castellnewydd-Emlyn. Y gauaf oedd hi, ac yr oedd ar amser yr odfa, meddir, yn " dywydd embeidus, ac yn lluwcho eira." Gwisgodd Williams ei gôt fawr, a rhwymodd ddau napcyn ar ei ben, a gosododd het walciog ar hyny. Yr oedd carthen rawn, o'r fath a ddefnyddid i nithio yd ar faes agored, wedi ei rhwymo dros y cyfan gyda ffiled gaws. Pregethodd yn hwylus allan o'r pentwr dillad hyn. Diau fod yr amgylchiad hwn yn un eithafol iawn, er y gwyddis ei fod yn cael ei flino yn dost gan yr "hyp," neu y pruddglwyf, yn ei henaint, sef y cyfnod ar ei fywyd y dywedir i'r peth gymeryd lle.
Yr oedd Morgan Rhys, yr emynydd enwog, yn enedigol o'r un ardal a Williams, sef ardal Llanymddyfri; a buont yn gydaelodau o eglwys Cilycwm, ar un tymhor o'u bywyd. Ffaith hynod ydyw fod dau emynydd mor nodedig a William Williams a Morgan Rhys yn enedigol o'r un ardal, ac yn aelodau o'r un eglwys. Cytunir i osod Williams yn mlaenaf yn mhlith yr emynwyr Cymreig, ac y mae pobl o farn, a "Hiraethog" yn eu mysg, yn gosod Morgan Rhys yn nesaf ato. Arferent adrodd eu hymnau wrth eu gilydd. Byddai Morgan Rhys weithiau hytrach yn amleiriog, ac ambell bryd yn arfer gormodiaeth anochelgar. Un tro, pan yr adroddodd hymn newydd o brofiad pur uchel, dywedodd y prif emynydd wrtho: "Wel, y mae genyt ti yn hona, beth bynag, brofiad Cristion a haner da." Y meddwl oedd ei fod gryn lawer uwchlaw cyrhaeddiad y cyffredin o gredinwyr.
Bellach, rhaid terfynu. Ymddengys ei fod wedi ei fendithio a chyfansoddiad corphorol cryf, a mwynhaodd iechyd da, er ei fod yn hynod esgeulus o hono. Eisteddai i fyny yn aml i ysgrifenu hyd y boreu, ac anfynych yr elai i'w wely hyd ddau o'r gloch. Dygodd hyn y graianwst (gravel) arno, a chafodd ei flino yn fawr yn y blynyddoedd olaf gan y pruddglwyf. Yr oedd mor ofnus ar derfyn ei oes, fel nad elai allan y nos wrtho ei hun. Bu farw Ionawr 11, 1791, yn 74 mlwydd oed, yn y gadair freichiau, lle y gosodasid ef i eistedd tra y taenid ei wely; ehedodd ei enaid i'r orphwysfa dragywyddol y canodd mor odidog am dani, tra yr oeddynt wrth y gorchwyl hwnw. Claddwyd ef yn barchus yn mynwent Llanfair-ar-y-bryn, a phregethwyd yn Mhantycelyn ar yr achlysur gan Mr. Llwyd, Henllan, Cayo, i gynulliad llliosog ag oedd wedi dyfod i weini y gymwynas olaf iddo.
—————————————
OLNODIAD.
—————————————
Ar ol gorphen ysgrifenu y benod hon, tra yn chwilio cofnodau Trefecca, daethom o hyd i ffaith sydd i fesur yn cyfnerthu golygiad a amddiffynir genym ar dudalenau 154-6, ynglyn a'r cyfaddefiad o edifeirwch am afreolaeth, a wnaed gan Williams wrth Mr. Charles o'r Bala. Yr ydym yno yn dal mai edifarhau am iddo beidio oedi ei fynediad allan i'r prif-ffyrdd a'r caeau a wnaeth efe, hyd nes y caffai ei lawn urddiad gan yr esgob. Cawn yn y cofnodau crybwylledig hanes Cymdeithasfa Fisol Longhollse, pan yr oedd yn bresenol Daniel Rowland, Howell Davies, a Howell Harris. Yn mysg pethau eraill, penderfynwyd: "Fod y brawd John Jones i fod yn ddystaw, mewn trefn i gael ei ordeinio, hyd nes y byddo yr ordeiniad trosodd." Y dyddiad ydyw Mehefin 8fed, 1743, sef dau fis wedi pasio penderfyniad fod Williams, Pantycelyn, i adael ei guwradiaeth. Dengys hyn fod yr arweinwyr eisioes wedi gweled mai gwell oedd i guwradiaid o dueddiadau Methodistaidd ymfoddloni ar fod dros amser yn ddysgyblion ananilwg, nes iddynt gael eu hordeinio; a'u bod yn cyfrif llafur presenol y cuwradiaid yn llai pwysig na'r gwasanaeth cyflawnach a fyddent yn alluog i'w roddi i'r diwygiad yn y dyfodol Hwyrach mai gwrthodiad yr esgob i urddo Williams a roddodd iddynt agoriad llygaid. Gwelwn yn y penderfyniad uchod eu bod yn trefnu na fyddai i John Jones syrthio
i'r un amryfusedd a'r Bardd o Bantycelyn.DARLUNIAU O LEOEDD YN DAL PERTHYNAS A BYWYD A CHOFFADWRIAETH Y BARDD O BANTYCELYN
Y DARLUNIAU
Nid oes un darlun o Williams ar gael a wnaed tra yr oedd ef yn fyw, ac y mae yn dra thebyg na thynnwyd yr un. Hyn yw hanes y darluniau o honno a gyhoeddir gennym: Yr oedd gŵr, o'r enw John Williams, Wernogydd, Llanddarog, Sir Gaerfyrddin, pan yn ieuanc, yn arfer gwrando ar Williams, Pantycelyn, pan fyddai yn pregethu yn nghapel Llanlluan, yr hyn a wnâi unwaith yn y mis. Bu y bardd farw pan yr oedd awdwr y darlun tua 19 oed. Yn mhen blynyddau ar ôl ei farwolaeth, pan yr oedd y gan, Golwg ar Deyrnas Crist allan o brint, darfu i'r gŵr ieuanc hwn ysgrifennu copi o'r gan mewn copy-book, a gwnaeth ddarlun o'r bardd o'i gof ar y ddalen gyntaf gyda'r pin ysgrifennu. Ysgrifenodd dano y geiriau hyn: "A resemblance of the poet, William Williams, from recollection many years after his death." Ac o dan hynny eilwaith ysgrifennodd ddifyniad yn Lladin o waith Virgil, a chyfieithiad Saesoneg o dan hynny eilwaith. Rhed y cyfieithiad fel yma: "He shall partake of the life of gods, shall see heroes mingled in society with gods, himself be seen by them, and rule the peaceful world with his father's virtues." Ar dudalen arall o'r llyfr hwn y mae yn ysgrifenedig: "I attended Capel Llanlluan, where William Williams preached monthly, from my youthful days till he died. J. Williams, living in Bristol from 1819 till this day, December 16th, 1851. I was born February 2nd, 1772; 79 years old now. -J. W. This book was out of print when I lived at Carmarthen from my youth till 1802, and the whole of it copied out of a printed copy, and finished August 19th, 1779, at Wernogydd, in the Parish of Llanddarog, near Middleton Hall."Cafodd y diweddar Barch. R. Jones, Rotherhithe, afael ar y llyfr hwn gyda llyfrwerthwr yn Broadmead, Bristol, a phan fu Mr. Jones farw, fe brynwyd ei lyfrgell ef gan Gynghor Trefol Abertawe, ac y mae llyfr John Williams yn awr mewn cadwraeth ofalus yn Free Library y dref honno.
Y mae barn pobl yn amrywio am werth y darlun. Rhaid cyfaddef nas gellir rhoddi llawer o ymddiried i ddarlun wedi ei wneyd allan o gof dyn ieuanc, yn mhen blynyddoedd wedi i'r gwrthddrych farw. Y mae y llyfr mewn cadwraeth dda, ac ystyriwn ei fod wedi ei wneyd gan ŵr medrus ar ei bin ysgrifenu. Y mae y wyneb-ddalen yn ddynwarediad o waith yr argraffwasg. Teimlwn nad gwaith dyn anghelfydd ydyw. Nid yw ond amlinelliad, ond ceir yn aml fras-ddarluniau yn y cyfnodolion Saesoneg nad ydynt yn amgenach na hwn. Credwn fod John Williams yn ddigon galluog i gyflawni ei amcan, os oedd delweddau y bardd yn ddigon clir ar ei feddwl. Gellir casglu oddi wrth y nodiadau sydd ar y llyfr i'r darlun gael ei wneyd o fewn wyth mlynedd i farwolaeth Williams.
Yr ydym wedi bod yn holi hanes awdwr y darlun, ac yn cael mai enw ei dad oedd John William Arthur Williams, neu yn ôl yr hen enw gwledig, Siôn William Arthur, ac mai Mari oedd enw ei fam. Yr oedd iddo frawd o'r enw David Williams. Yr oedd y bechgyn yn enwog mewn dysgeidiaeth, ac yn gwybod ieithoedd. Y mae dyddiad hedydd John Williams i'w gael ar gôf-lyfr Eglwys Llanddarog, yr hwn sydd yn cyfateb i'r hyn a ddywed efe am ei oedran. Dywedir i Dafydd fyned at fonheddwr yn agos i Gaerdydd i ddysgu ei blant, ac iddo fyned i'r offeiriadaeth wedi hyny, a gadael Cymru. Excise Officer oedd John Williams, ond yr ydym wedi methu cael dim o'i hanes yn Bryste. Yr oedd y rhieni yn Fethodistiaid zêlog. Pan yr oedd y cyhoeddwr, William Mackenzie, o Glasgow, yn dwyn allan yr argraffiad o Holl Weithiau Williams, dan olygiad y diweddar Barch. J. R. Kilsby Jones, yn 1867, daeth Mr. Kilsby Jones i wybod am ddarlun John Williams, yr hwn oedd y pryd hwnnw yn meddiant y Parch. R. Jones, Rotherhithe, a chafodd ganiatâd i wneyd defnydd o hono i addurno y gwaith. Ymddengys na thybiai y cyhoeddwr a'r golygydd fod darlun John Williams yn ddigon celfyddgar a gorphenol i ateb eu pwrpas bwy, ac felly gosodasant y gwreiddiol yn llaw cerfiedydd i wneyd darlun gweddusach a mwy gorphenol o'r bardd. Gwel y darllenydd fod copi Mackenzie yn bur annhebyg i'r gwreiddiol. Rhydd y cyntaf olwg ar Williams yn hynafgwr, tra y mae yr olaf yn ei ddangos yn ŵr ieuanc. Diau mai gwell fuasai iddynt adael y darlun fel y cawsant ef, ac ymfodloni ar roddi i'w darllenwyr gopi teg o ddarlun John Williams, a dweyd yn onest mai darlun a wnaed wedi marw y bardd ydoedd hwnw. Ond nid felly y gwnaethant hwy; ond yn hytrach cyhoeddasant ddarlun wedi ei seilio ar yr un gwreiddiol, ond yn gwahaniaethu yn fawr oddi wrtho, a hyny heb air o eglurhad, nac o ymesgusodiad. Nid ydym yn amheu nad oedd eu hamcan yn gywir a chanmoladwy, ond ymgymerasant a gorchwyl ag oedd yn ôl natur pethau yn anmhosibl. Bellach, y mae y wlad wedi cynefino a'r darluniau hyn, yn enwedig a'r eiddo Mackenzie; ac felly yr ydym dan fath o angenrheidrwydd i'w gosod yn y gwaith hwn, er nas gellir ymddiried llawer yn eu cywirdeb. Yn ngwyneb y diffyg hyn y mae y desgrifiad sydd gennym o'i ymddangosiad personol yn dra gwerthfawr, er mor ychydig ydyw. Dywed Mr. Charles "ei fod yn ei ieuenctyd yn ŵr hardd, bywiog, ac o'r maintioli cyffredin, a bod ei dymherau yn o boethlyd, ond yn gyffredinol ei fod yn dirion ac yn hawddgar tuag at bawb." Y mae hyn i fesur yn cydgordio a desgrifiad yr hynafgwr Price, Penybont, gŵr oedd yn byw yn ymyl cartref y bardd, ac yn ei adwaen yn dda. Desgrifiai efe ef i Mr. Daniel Davies, Ton, yn 1859, fel dyn bychan gorffolaeth, cyflym ei gerddediad, a siriol ei wedd. Yr oedd ei bryd yn oleu (light complcxion), y gwallt yn felyn, a'r llygaid yn leision; siaradai yn gyflym, a thorrai ei eiriau yn fyrion a chrwn. Yr oedd yn hynod o fywiog ei yspryd, ac dymer ysgafn a llawen.
LLWYNLLWYD. Dengys y darlun yr hen amaethdy a'r un newydd. Y mae boneddiges ieuanc yn sefyll yn ymyl drws yr hen amaethdy, yr hwn sydd yn gwasanaethu fel cegyn i'r tŷ presennol. Y mae y tŷ newydd, yr hwn sydd bellach yn agos i gan mlwydd oed, yn un helaeth a chyfleus. Adeilad hynafol yw yr ysgubor a welir ar ganol y darlun.
YR ATHROFA. Ysgubor yw yr adeilad yn bresennol, ac ymddengys ei fod wedi ei adeiladu ar y cyntaf i'r pwrpas hwnw. Yr oedd dwy ysgubor ar y tir, a diau i'r Parch. David Price waghau un o honynt, a'i gosod at wasanaeth yr athrofa. Saif ychydig bellder oddi wrth amaethdy Llwynllwyd, dau neu dri chant lathenni.
CAPEL MAESYRONEN. Mae y capel hwn yn sefyll ar fryn gyferbyn a Llwynllwyd, ac mewn pellder o tua dwy filldir. Y mae yn un o'r capelau Annibynol hynaf yn Nghymru.
CEFNCOED. Y mae yr amaethdy hwn heb nemawr o gyfnewidiadau ynddo er y dyddiau gynt.
EGLWYS LLANWRTYD. Nid oes gyfnewidiad o bwys yn yr eglwys hon er dyddiau Williams, er ei bod wedi myned dan adgyweiriadau.
AMAETHDY PANTYCELYN. Rhoddir yma ddau ddarlun o gartref y bardd. Dengys y cyntaf y tŷ fel yr ydoedd yn ei amser ef, a'r llall fel y mae yn bresennol. Yr ydym yn ddyledus i Mr. William Mackenzie am ganiatâd i gyhoeddi darlun o'r adeilad cyntefig.
LLANFAIR-AR-Y-BRYN, A'R HEN ADEILADAU AR Y BEDDAU. Yr ydym yn ddyledus i Mr. W. Mackenzie am hwn hefyd.
Y GOFADAIL. Y Parch. T. Levi, Aberystwyth, ddarfu gychwyn y mudiad o osod y gofadail bresennol ar fedd Williams. Dechreuodd ar y gwaith yn fuan ar ôl gorphen gyda chofadail y Parch. Daniel Rowland, Llangeitho. Gwasanaethai efe fel ysgrifennydd i'r mudiad, a D. Roberts, Ysw., Liverpool, fel trysorydd. Casglwyd at y pwrpas £300, ond ni wariwyd ar y gofgolofn ond oddeutu £150. Gwnaed hi oddi wrth gynllun o eiddo Richard Owen, Ysw., Architect, Westminster Chambers, Liverpool. Y mae yn un-ar-bymtheg a hanner o droedfeddi o uchder, ac o gwmpas chwe' tunnell o bwysau. Ei defnydd ydyw ithfaen coch (red granite). Y mae yn gerfiedig arni y geiriau canlynol:
Sacred to the memory of
the
REV. WILLIAM WILLIAMS, PANTYCELYN,
in this Parish,
Author of several works in prose and verse
He waits here, the coming of the
morning star, which shall usher in
the glories of the first resurrection,
when at the sound of the Archangel's trumpet
the sleeping dust shall be reanimated,
and death for ever
shall be swallowed up in victory.
Born 1717; Died Jan. 11th, 1791;
Aged 71 years.
"Heb saeth, heb fraw, heb ofn, ac heb boen,
Mae'n canu o flaen yr orsedd ogoniant Duw a'r Oen;
Yn nghanol myrdd myrddiynau, yn canu oll heb drai,
Yr anthem ydyw cariad, a chariad i barhau."
Ar yr ochr arall i'r gofgolofn y mae yn gerfiedig fel yma:
ALSO, MARY,
the beloved wife of the above
William Williams,
who died 11th June, 1799;
Aged 76 years.
ALSO, THE REV WILLIAM WILLIAMS,
St. Clement's, Truro, Cornwall, Clerk,
eldest son of the above Rev. William Williams,
who died .30th Nov., 1818;
Aged 74 years.
ALSO OF THE REV JOHN WILLIAMS,
OF PANTYCELYN,
youngest son of the above Rev. William Williams,
who died 5th June, 1828;
Aged 74 years.
A sinner saved.
Y CAPEL COFFADWRIAETHOL. Tua'r un amser ag yr oeddid yn apelio at y wlad am arian i godi cofgolofn ar fedd y bardd, penderfynodd Cyfarfod Misol Sir Gaerfyrddin godi Capel Coffadwriaethol iddo yn nhref Llanymddyfri. Cyflawnwyd y ddau amcan. Y mae y capel yn un destlus a hardd. Cynlluniwyd ef gan Mr. J. H. Phillips, Architect, Caerdydd, ac adeiladwyd ef gan Mr. David Morgan, Adeiladydd, Abertawe. Mai ffenestri y ffrynt yn rhai lliwiedig, ac yn goffadwriaethol - un am y diweddar Dr. Thomas Phillips, goruchwyliwr y Feibl Gymdeithas, yr ail am y Parch. John Roberts (Ieuan Gwyllt), a'r drydedd am Ann Griffith, yr emmyddes enwog o Ddolwar Fechan. Costiodd y ffenestri lliwiedig hyn tua £160. Yr ydys yn dra dyledus am orpheniad y capel i ymroddiad a llafur y Parch. T. E. Thomas, Llanymddyfri, ynghyd a Mr. J. James, Draper, a brodyr eraill o dref Llanymddyfri. Costiodd £3,100. Agorwyd y capel ar ddyddiau Mawrth a Mercher, Awst 7fed a'r 8fed, 1888. Pregethwyd ar yr achlysur yn y gwahanol gyfarfodydd gan y Parchn. W. Powell, Penfro, Edward Matthews, Dr. Saunders, T. Levi, Dr. Dickens Lewis, Dr. Cynddylan Jones, D. Lloyd Jones, M.A., H. Barrow Williams, a J. Williams, Brynsiencyn.
PWLPUD Y CAPEL COFFADWRIAETHOL. Gwnaed ef gan Mr. Joseph Rogerson, London Road, Liverpool. Maen yw ei ddefnydd-Caen stone, feddyliem-ac y mae wedi ei gerfio yn dra ardderchog. Y mae pump panel cerfiedig yn cylchynu y pwlpud, a phob panel, ond un, yn arddangos rhyw hanes ysgrythyrol. Yn y canol ceir cerflun o Williams. Darlunir ef megys yn eistedd yn ei lyfrgell yn ysgrifennu barddoniaeth. Y cerfluniau eraill ydynt: "Dychweliad y Mab Afradlon," "Crist a'r Wraig o Samaria," "Yr Ystorm ar Fôr Tiberias," a'r "Samaritan Trugarog." Costiodd £150, a thalwyd am dano a rhan o'r arian a gasglwyd ar gyfer y gofgolofn gan y Parch, T. Levi, Aberystwyth.
LLAWYSGRIFAU WILLIAMS. Yr ydym yn ddyledus i Bwyllgor y Llyfrau am y copïau hyn.
YR ALELUIA. Cymerwyd y darlun hwn oddi wrth y copi o'r argraffiad cyntaf, sydd yn meddiant y Parch. Owen Jones, M.A., Llansantffraid.PENOD VIII
WYTH MLYNEDD CYNTAF Y DIWYGIAD.
Cynydd cyflym y diwygiad yn y Deheudir—Y Gogledd, gyda’r eithriad o Sir Drefaldwyn, yn elynol i'r symudiad—Y diwygiad Methodistaidd yn gyffelyb i ddiwygiad yr oes apostolaidd—Yr Ymeilldiwyr ar y cyntaf yn cydweithredu, ond gwedi hynny yn peidio—Y Methodistiaid yn debygol o gael eu hesgymuno o'r Eglwys—Eu safle yn anamddiffynadwy — Ymgais at drefn—Y cynghorwyr cyntaf—Cyfarfodydd o'r arweinwyr ar cynghorwyr yn dechreu cael eu cynnal yn 1740—Yr angenrheidì'wydd am Gymdeithasfa—Rheolau cyntaf y seiadau.
DECHREUODD y diwygiad Methodistaidd yn 1735. Gwael a diolwg iawn oedd yr offerynnau a ddefnyddiwyd i roddi bod iddo; nid amgen cuwrad tlawd, na fu ei gyflog erioed dros ddeg punt y flwyddyn, mewn dyffryn gwledig yn Sir Aberteifi; a dyn ieuanc, na wnelai yr esgob roddi urddau sanctaidd iddo, wrth draed mynyddoedd Brycheiniog. Gellir ychwanegu atynt ddyn ieuanc arall yn nghanolbarth Penfro. Yn niwedd 1742, sef yn mhen llai nag wyth mlynedd wedi y cychwyniad cyntaf, yr oeddynt wedi gosod Cymru oll, o Gaergybi i Gaerdydd, yn wenfflam. Am y Deheudir, prin y mae yn ormod dweyd i'r garw gael ei dori yn ystod y cyfnod byr hwn. Nid oedd braidd unrhyw gymydogaeth, pa mor wledig ac anhygyrch bynnag ei safle, lle na fuasai y Diwygwyr yn pregethu. Gwir mai Howell Harris oedd y mwyaf egnïol gyda hyn. Y mae yn anmhosibl rhoddi syniad cywir am gyflymder ei wibdeithiau; yr oedd ar y cyfrwy, neu ynte yn cyhoeddi efengyl gras i bechaduriaid, o doriad y wawr hyd fachlud haul. Pregethai nid yn unig yn y trefydd, ac yn y man bentrefydd yn y cymoedd unig, ond hefyd tan gysgod coeden, pa le bynag yr ymgasglai pobl, er na fyddai tai yn agos. Ceir traddodiad am dano yn mhob ardal braidd. Flynyddoedd lawer yn ôl cerddai Mr. Daniel Davies, Ton, Rhondda, o Glanbran, ger Llanymddyfri, tua'r Sugar Loaf, sef y mynydd uchel a wahana rhwng Siroedd Caerfyrddin a Frycheiniog. Ar ei daith pasiodd fwthyn Aberwyddon, lle y preswyliai hen wraig o'r enw Kitty Parry, a anesid yn y flwyddyn 1775.
Wrth fod Mr. Davies yn ei holi am hen gofion y gymydogaeth, dangosai iddo goeden yr ochr arall i'r nant, a dywedai: "Fe fu Howell Harris yn pregethu dan y pren yna pan oedd yn ddyn ifanc; " ac nid oes na llan na phentref yn agos. Ceir cofion cyffelyb yn mhob rhan o'r wlad yn mron. Teithiai Rowland, hefyd, a Williams, Pantycelyn, lawer iawn; ac nid oedd Howell Davies heb wneyd teithiau hirion.
Mewn canlyniad, yr oedd cymdeithasau crefyddol wedi cael eu sefydlu dros y wlad, o Lanandras i Dyddewi. Mewn tai anedd yr oeddent eto; ac nid oeddent yn lluosog; ond yr oedd zêl yr aelodau yn fawr. Meddianesid Sir Faesyfed o gwr i gwr. Darllenwn am Howell Harris droiau yn Llanybister, ac ymddengys fod y moliannu a'r gorfoleddu yno agos yn gyffelyb i'r hyn a gymerai le yn Llangeitho. Ysgrifena James Ingram at Howell Harris:
[121]"Y mae yr Arglwydd yn bendithio y brawd William Evans yn rhyfedd. Y mae y tân a gyneuwyd ganddo yn Llanybister o'r un natur a thân Llangeitho, ac yn llawn mor gryf mewn wyth neu ddeg o aelodau y seiad. Bum yno yn ddiweddar, a phrin y clywid fy llais gan eu llefau. Yr oedd rhai dan argyhoeddiad o'u cyflwr colledig yn dweyd eu bod wedi eu damnio; eraill o fawr lawenydd wrth ddarganfod iachawdwriaeth yn Nghrist, a waeddent: ' Gogoniant! gogoniant! gogoniant i Dduw yn oes oesoedd am Iesu Grist.' Parhaodd hyn o gwmpas pedair awr." William Evans, yr hen gynghorwr o Nantmel, yw "y brawd" y cyfeirir ato. Cawn seiadau wedi eu sefydlu yn Nantmel, Llanybister, Llandrindod, Claerwy, Aberedw, Dyserth, Glascwm, Llansantffraid, a lleoedd eraill yn Sir Faesyfed, Yr oedd cymdeithasau, hefyd, yn britho Sir Fynwy o Blaenau Gwent i Gasnewydd, ac o afon Rhymney yn y gorllewin hyd afon Wy yn y dwyrain. Yr ydym yn enwi y ddwy sir hon am iddynt gwedi hyn gael eu colli, agos yn hollol, i Fethodistiaeth. Yr oedd seiadau hefyd, a ystyrid o fewn cylch y Diwygwyr Cymreig, wedi cael eu sefydlu yn yr Amwythig, Llwydlo, Llanllieni, ac yn swyddi Caerloyw, Wilts, a Henffordd. Ychydig ar ôl hyn dywed Thomas Jones,[122] un o'r arolygwyr, fod seiat hefyd, cynwysedig o bymtheg o bersonau wedi cael ei sefydlu yn nhref Henffordd; o ba rai yr oedd amryw wedi eu cyfiawnhau, ac eraill yn ceisio yn hyfryd. Yr oedd yn y dref eraill drachefn yn awyddus am wrando. Am Siroedd Brycheiniog, Morganwg, Caerfyrddin, Aberteifi, a Phenfro, yr oedd seiadau, rhai yn fychain a rhai yn fawrion, wedi cael eu plannu ynddynt o gwr i gwr.
Rhaid addef mai ychydig o afael a gawsai y diwygiad eto ar y Gogledd. Er fod ymweliadau Howell Harris wedi creu gryn gyffro, nid yw yn ymddangos fod nemawr o seiadau wedi cael eu sefydlu yno trwy ei offerynoliaeth. Dywed yn ei ddyddlyfr fod y drws yn Ngwynedd fel pe yn cael ei gadw yn nghau yn ei erbyn. Yr unig eithriad i hyn oedd Sir Drefaldwyn. Yr oedd y sir hon yn agos iddo, ac ymwelai yntau a hi yn fynych, yn enwedig y rhannau hynny o honni a ffiniai ar Frycheiniog a Maesyfed. Cawn fod cymdeithasau wedi cael eu sefydlu yn Llanbrynmair, Llanfair, Llanllugan, Mochdre, Llangurig, a Llandinam. Yr oedd yr achos yn Llandinam yn nodedig o lewyrchus, fel y dengys yr adroddiad a anfonwyd i Gymdeithasfa Trefecca, Mehefin, 1743. "A mae yma," ebai yr arolygwr, "tua deugain o aelodau, a phedwar cynghorwr anghyoedd. Ein hanwyl Arglwydd sydd yma yn Emmanuel. Y mae yn dwyn ei waith yn mlaen yn rhagorol, er gwaethaf llawer o rwystrau." Nid oedd gwahaniaeth rhwng Sir Drefaldwyn a siroedd y Deheudir gyda golwg ar ymdrechion y Diwygwyr, a'r llwyddiant a ddilynai eu llafur. Ond am y gweddill o Wynedd, ychydig o argraff a wnaethid arni. Ar yr un pryd, rhaid i ni gofio fod Lewis Rees yn llafurio gyda graddau o lwyddiant yn Llanbrynmair, a'i fod yn ymweled yn bur fynych a rhannau o Feirionydd. Yr oedd Jenkin Morgan, hefyd, un o ysgolfeistri Griffith Jones, yn cadw ysgol, ac yn pregethu, hyd y goddefid iddo, yn Sir Gaernarfon.
Yn ystod y cyfnod hwn hefyd trechwyd yr yspryd erlidgar i raddau mawr. Ar y dechreu, terfysgid y cyfarfodydd gan y werinos ddifeddwl, y rhai a gyffroid gan yr offeiriaid a'r boneddigion; a deuai y swyddogion gwladol yn mlaen i fygwth dirwy a charchar. Ond diflannodd hyn yn y De agos yn hollol, yn ystod yr wyth mlynedd cyntaf. Nid na chawn esiamplau o erlid gwedi hyn, ond y maent yn anaml, ac yn fwy o gynnyrch damwain nag o ragfwriad. Yr oedd dau reswm am hyn. Un, fod nifer o ddynion dylanwadol yn mhob sir braidd wedi eu henill at y diwygiad, megys Marmaduke Gwynn; Price, yr ustus; yr Yswain Jones, Ffonmon; Howell Griffiths, Tref-feurig, ac eraill Gosodai y rhai hyn eu hofn ar y rhai a hoffent derfysgu, fel na feiddient roddi rhaff i'w teimlad. Yn ychwanegol, yr oedd opiniwn y cyhoedd wedi troi yn gryf o blaid y Diwygwyr. Gwelai y bobl eu bugeiliaid priodol yn ddifater am eu heneidiau, a llawer o honynt yn arwain bucheddau anfoesol cyhoeddus; teimlent fod Harris a Rowland, a'u cyd-lafurwyr, yn ddynion o ddifrif, ac yn awyddus am eu hachub rhag distryw. Ac os oedd y seiadau yn fychain eu rhif, yr oedd cynulleidfaoedd anferth wedi cael eu codi i wrando; byddai clywed fod Rowland neu Harris yn dyfod trwy ryw ranbarth o'r wlad yn ei chyffroi drwyddi, ac ymgasglai miloedd i glywed, fel nad oedd unrhyw adeilad a ddaliai y torfeydd. Efallai mai nifer gymharol fychan fyddai yn cael eu hachub, ond yn bur aml ysgydwid yr holl gynulleidfa, a deffroid eu cydwybodau, nes y byddai eu holl enaid yn cael ei ennill o blaid y gwirionedd. Yn ngwyneb y teimlad hwn anmhosibl oedd cyffroi erledigaeth. Dywedai Whitefield fod cannoedd ar hyd a lled y wlad yn barod i roddi eu bywydau i lawr dros Howell Harris. Nid amheuwn fod yn mysg y rhai hyn lawer o ddynion anfoesol, meddwon mewn tafarndai, y rhai na fedrent ymwrthod a'u blysiau, ond oeddynt ar yr un pryd yn gwbl argyhoeddedig fod y Diwygwyr yn ddynion Duw. Ymddengys y diwygiad Methodistaidd i ni fel yn dwyn cyffelybrwydd nodedig i ddiwygiad yr oes apostolaidd. Yn un peth, drylliai y man reolau oeddent mewn arferiad, gan ddwyn i mewn ddulliau newyddion o weithredu. Gwin newydd oedd Methodistiaeth, ac mor gryf oedd ei ymweithiad fel yr aeth yr hen gostrelau yn gandryll. Bywyd ydoedd, ac fel pob bywyd, mynnodd lunio corff iddo ei hun. Er yr ymlynai y Diwygwyr wrth Eglwys Loegr, ac y teimlent annhueddrwydd mawr i adael ei chymundeb, rhaid addef eu bod yn rhedeg yn ngwddf holl draddodiadau a defodau yr Eglwys. Fel esiamplau o hyn gallwn gyfeirio at y weinidogaeth deithiol, yr hon oedd yn ngwrthwyneb i'r dosparthiad eglwysig o'r wlad yn blwyfydd; at y weinidogaeth leygol, yr hon, trwy genhadu i ddynion diurddau fyned o gwmpas i bregethu, a ymddangosai fel yn diystyru ordeiniad esgobol; at y cynulliadau mewn tai anedd, ac ar y maes agored, y rhai a droseddent y ddefod gyda golwg ar gysegriad; ac at ffurfiad y seiadau, yn y rhai y cynghorai pobl gymharol anwybodus. Ffurfiau newyddion ar fywyd crefyddol oedd y rhai hyn oll; rhoddwyd bod iddynt gan yr ynni a'r brwdfrydedd ysprydol oedd yn y Diwygwyr, a'u hawyddfryd i gyfarfod amgylchiadau y wlad ar y pryd. Ni honnent fod yr hyn a wnelent yn rheolaidd; yn unig dadleuent fod eu gwaith yn angenrheidiol yn ngwyneb cyflwr Cymru. Achub eneidiau oedd eu pwnc 'nawr; wrth wneyd hynny ni ofalent pa reolau o osodiad dynol a sathrent dan draed; ac fel y maent yn cerdded rhagddynt, clywir trwst y traddodiadau, o gwmpas pa rai yr ymgasglasai mwswgl henafiaeth, yn myned yn deilchion dan eu gwadnau. Yn nesaf, tueddai i wneyd defnydd o bob dawn o fewn yr eglwys er cario y gwaith yn mlaen. Y mae am ryw awgrymiadau yn llythyrau Howell Harris ei fod am wneyd defnydd o llafur benywaidd, fel y gwnaed yn Nghyfundeb y Wesleyaid ar ôl hyn; nid i bregethu yr efengyl, ond i arolygu ac i gynghori yn y seiadau. Mewn llythyr at Mrs. James, o'r Fenni, a ddaeth ar ol hyn yn Mrs. Whitefield, ceisia ganddi ysgrifennu at y gwahanol gymdeithasau i'w cyffroi a'u cadarnhau. Dywed: "Cynhyrfwch bawb dros Dduw; gwnewch yn amlwg eich bod yn proffesu ei enw; profwch hwynt hyd adref. Pan yn ysgrifennu gadewch allan o ystyriaeth mai Mrs. J s ydych, a pha beth a fydd syniad y byd am danoch; ond yn hytrach (ystyriwch) beth fydd eich syniad chwi am bethau pan fyddoch yn rhoddi y tabernacl hwn heibio; na ymddangosed unrhyw beth i chwi yn anffasiynol, anmhriodol, neu yn anweddaidd. Sonia St. Paul am wragedd anrhydeddus a'i cynorthwyent yn ei waith. Gall yr Yspryd Glan anadlu ynoch lythyrau i fod yn ddefnyddiol i eneidiau, yr un fath ag y medr fendithio geiriau." Nid oes unrhyw amheuaeth ei fod yma yn cymell Mrs. James i lafur mwy neu lai cyhoeddus. Yr oedd hithau yn ddynes nodedig iawn, a haedda ei choffadwriaeth fwy o sylw nag y mae wedi gael. Dangosai letygarwch diderfyn i'r cynghorwyr o bob gradd; yr oedd yn llawn o fwyneidd-dra doethineb, ac ar yr un pryd yn hollol ddi-ofn. Gwedi priodi Mr. Whitefield, pan yr oeddent ill dau yn croesi y môr i Georgia, bygythiwyd y llong, yn mha un yr hwylient, gan elyn. Gwnaed parotoadau i frwydr, gan sicrhau yr hwylbren a dwyn y magnelau yn mlaen. Addefai Whitefield ei fod ef yn naturiol lwfr, a'i fod yn crynu gan ofn; ond am ei briod, yr oedd hi yn ddiwyd yn gwneuthur ergydion (cartridges), ac yn trefnu ar gyfer yr ymladdfa. Dro arall, ymgasglodd y werinos o gwmpas Whitefield pan y pregethai; lluchid ceryg ato o bob cyfeiriad; pan oedd yn tueddu i roddi fyny ac i ffoi, tynnodd hi wrth ei wisg, gan ddweyd gyda gwroldeb diderfyn: "Yn awr, George, chwareuwch y dyn dros Dduw." Tybiai Howell Harris fod yn y wraig ardderchog yma ddefnydd diacones, a chymhellai hi i'w gyflwyno i wasanaeth Mab Duw. Ceir rhai awgrymiadau i'r un cyfeiriad yn ei lythyrau at "Chwaer o Sir Fynwy," ac at yr "Anwyl Chwaer, Paul" Nis gwyddom beth a rwystrodd defnyddio llafur benywaidd; efallai fod rhai o'r Diwygwyr eraill yn amheus am ei briodoldeb. Ond hyd y medrid yr oedd pob math ar ddawn yn cael ei ddwyn yn gaeth at Grist; zêl a thalent ymadroddi y cymharol anwybodus; callineb a gallu trefniadol yr hwn a fyddai yn safndrwm a thafodrwm fel Moses; nid oedd neb o fewn unrhyw gymdeithas i fod yn segur, nac unrhyw ddawn i gael ei esgeuluso.
Yn ychwanegol, yn ei ddechreuad cyntaf, darfu i'r diwygiad at-dynu iddo ei hun holl grefyddolder a difrifwch y Dywysogaeth. Nid oedd yn adnabod na sect na phlaid. Deuai personau perthynol i wahanol enwadau, a arferent edrych ar eu gilydd gyda rhagfarn ddiderfyn, yn mlaen i gydweithio yn galonnog. Deffroi y wlad, cael eneidiau at y Gwaredwr, a'u hadeiladu yn y gwirionedd, oedd yr amcan mawr; yn ymyl hynny na nid oedd enwadaeth ond dibwys. Ar y naill law, gwelwn nifer o offeiriaid perthynol i'r Eglwys Sefydledig yn cyfranogi yn y deffroad; dy wedir fod o leiaf ddeg o'r cyfryw yn cael eu hadnabod fel Methodistiaid yr adeg hon; ac y mae lle i gasglu fod eraill, er na ddeuent allan yn gyhoeddus, yn dirgelaidd gydymdeimlo. Taflent ymaith eu rhagfarnau eglwysig, ac ymunent yn y gorchwyl o ysgwyd Cymru. O'r ochr arall, cawn yr holl weinidogion Ymneillduol, pa beth bynag fyddai eu golygiadau wahaniaethol, a feddent unrhyw radd o ddifrifwch yspryd, yn croesawu y diwygiad gyda breichiau agored. Y mae tegwch hanesyddol, a chyfiawnder a'u coffadwriaeth, yn hawlio i ni goffau hyn. Derbyniasant- Howell Harris a Daniel Rowland fel anghenion; gwahoddasant hwy i'w cymydogaethau i bregethu, a gwnaethant bob peth o fewn eu gallu i gadarnhau eu dwylaw. Adnabyddasant y diwygiad ar unwaith fel bys Duw, fel anadliad oddiwrth y pedwar gwynt ar yr esgyrn sychion; a mawr fu eu llawenydd oblegyd ei ddyfodiad. Y mae hyn yn wir yn unig am y rhai o olygiadau uniawngred. Gwrthwynebai yr Arminiaid; ond buan y darfu i'r diwygiad ysgubo ymaith Arminiaeth anefengylaidd, fel yr ysguba chwythwm o wynt lonaid dyffryn niwl ac o darth i ffwrdd; ac ni welwyd mo honno mwy yn Nghymru, oddigerth mewn ychydig gonglau, lle yr ymddadblygodd yn ol ei natur yn Ariaeth, ac yn Sosiniaeth.
Cydweithredai y Bedyddwyr yn gystal a'r Annibynwyr; ac os hoffent ddwyn bedydd i amlygrwydd gormodol, yn ol barn a theimlad y Tadau Methodistaidd, hawdd maddeu iddynt, gan eu bod hwythau yn awyddus am wneyd yr hyn a fedrent yn mhlaid yr efengyl. Yr ydym am bwysleisio ar y ffaith, ddarfod i holl weinidogion difrifol Cymru, perthynol i bob enwad a phlaid, yn mron yn ddieithriad, ddyfod allan ar y cyntaf i bleidio y diwygiad. Talodd y nefoedd yn ol iddynt hwythau yn ehelaeth; bedyddiwyd hwy yn ddwys a'r un a'r unrhyw ysprydiaeth; gwnaed hwythau yn gymylau dyfradwy i ddyhidlo y gwlaw graslawn ar y tir sychedig; ac ymledodd y diwygiad y tuallan i derfynau Methodistiaeth. Y mae dylanwad y diwygiad i'w ganfod ar bob enwad crefyddol uniawngred yn Nghymru y dydd hwn.
Ond am amser byr y parhaodd y brawdgarwch a'r cydweithrediad cyffredinol hwn. Nid oedd rhagfarn wedi marw eto, er iddi fod mewn trwmgwsg am dymor. Cawn Edmund Jones, Pont-y-pŵl, y cyntaf i wahodd Howell Harris i Fynwy, ac i'r hwn am beth amser yr ymddiriedai Harris seiadau y rhan honno o'r wlad, yn ngwres ei zêl broselytiol yn ceisio ffurfio eglwysi Annibynol o'r dychweledigion, a hyny heb unrhyw gydymgynghoriad a'r rhai a fuasai yn offerynnau i'w hargyhoeddi. Gwnaeth hyny yn y Brychgoed, ger Defynog, yn Nghastellnedd, mewn lle yn swydd Wills, ac hyd yn nod yn nghymydogaeth Trefecca. Yr ydym wedi cyfeirio yn barod at lythyr Howell Harris ato mewn canlyniad; llythyr boneddigaidd, rhyddfrydig, a chatholig ei yspryd; ond a dramgwyddodd Edmund Jones i'r fath raddau fel ag i beidio cydweithredu mwy. Yn dyner, beia Harris ef am ei fod trwy ei ymddygiad yn gwanhau dwylaw y Diwygwyr, gan beri i'w gelynion edrych arnynt fel rhai awyddus am ffurfio plaid, tra yr oeddynt hwythau wedi datgan o'r cychwyn nad oedd hyny yn amcan ganddynt; am y perai i'w gwrthwynebwyr gredu am danynt eu bod yn rhagrithwyr, yn cyhoeddi eu ymlyniad wrth yr Eglwys, ac ar yr un pryd yn gosod i fynnu sect arall mewn gwrthwynebiad i'r Eglwys, ac felly mewn ystyr yn tynnu dan ei sail; ac am ei fod yn dwyn i mewn gyfnewidiad pwysig, nad oedd un prawf fod yr Arglwydd yn foddlon iddo, gan mai fel yr oeddynt yn faenorol y daethai Duw at y Methodistiaid, gan eu bendithio. Eglura Harris, hefyd, y cyfarwyddiadau a roddir ganddo i'r holl ddychweledigion gyda golwg ar wrando y Gair, sef, ar iddynt fyned (i) lle y pregethir yr efengyl fwyaf pur; (2) lle y cyffyrddir ddwysaf a'u calonnau; (3) lle y mae yr Arglwydd yn gweithio gryfaf ar eu heneidiau; (4) lle y maent yn cael eu cymell yn mlaen, eu harwain, eu porthi, eu cadw rhag cysgadrwydd, a'u hanog i gynyddu ar ddelw Crist fwyaf. Gyda golwg ar y cymun, cynghora bawb i aros lle yr oeddynt, bydded eglwys neu gapel, er mwyn heddwch. Ni syrthiai Edmund Jones i mewn a golygiadau Howell Harris; cawn y Diwygiwr yn achwyn arno oblegyd ei zêl enwadol mewn amryw o'i lythyrau, a darfyddodd pob cydweithrediad rhyngddynt. Nid oedd Edmund Jones yn bresennol yn Nghymdeithasfa gyntaf Watford. Yn gyffelyb y gweithredai David Williams, Pwllypant. Er mai efe a wahoddasai Harris gyntaf i Forganwg, ac iddo ddiolch i'r nefoedd am yr effeithiau rhyfedd a gynhyrchwyd trwy ei weinidogaeth, yr oedd yntau erbyn hyn wedi cloffi, ac yn Nghymdeithasfa Watford y mae yn amlwg trwy ei absenoldeb. Yr oedd rheswm arall am gloffni David Williams. Dechreuasai ollwng ei afael ar yr athrawiaethau efengylaidd; yn raddol, collodd gydymdeimlad yr adran oreu o'i enwad ei hyn, a chyn ei farw, yr oedd wedi cofleidio Pelagiaeth os nad Ariaeth. Ymddengys fod teimlad diflas at Howell Harris wedi ei enyn yn y rhan fwyaf o'r gweinidogion Ymneillduol y pryd hwn. Meddai, gyda golwg arnynt: "Ar y cyntaf hoffent fi yn fawr, gan fy mod yn annog y bobl i fyned i unrhyw fan i wrando, lle yr oedd Crist yn cael ei bregethu, a lle y derbynient fwyaf o fudd. A phan y cawsant fod eu capelau yn cael eu gorlenwi trwy hyn, yr oeddwn am beth amser yn fawr fy mharch gan bob plaid, ac nid oeddwn heb gefnogaeth i ymuno a hwy." Ond yn fuan cododd rhagfarn ei phen. Taranai Harris yn erhyn oerni, deddfoldeb, a diffyg dysgyblaeth yr Ymneillduwyr, lawn mor groch ag y gwnaethai yn flaenorol yn erhyn anfoesoldeb a difaterwch Eglwys Loegr. Ac yr oedd ei ymlyniad wrth yr Eglwys yn faen tramgwydd. Cyfeiriai yr Ymneillduwyr at fywyd penrydd yr offeiriaid a'r bobl yn yr Eglwys, ac at wrthwynebiad pendant y rhai oeddynt mewn awdurdod i'r diwygiad; dadleuent nad iawn annog y dychweledigion i gymuno gyda'r cyfryw; nas gallai fod yn wir eglwys pan y goddefid y fath bethau o'i mewn; fod aros ynddi fel ceisio y byw yn mysg y meirw, ac mai dyledswydd y Methodistiaid oedd ei gadael. A phan na welai Harris a'i frodyr eu ffordd yn rhydd i gydsynio, aed i edrych arnynt yn gilwgus, ac i wrthod cydweithio.
Yn wir, trodd yr Ymneillduwyr mewn rhai lleoedd yn erlidwyr, mor bell ag yr oedd eu gallu yn cyrhaedd. Mewn llythyr o eiddo William Richards,[123] cynghorwr yn Sir Aberteifi, at Howell Harris, dyddiedig Medi 12, 1742, ceir a ganlyn: "Y mae y cymdeithasau yn Blaenporth a Phenbryn wedi ymuno ag eiddo Howell Davies yn Llechryd, gyda'r eithriad o un aelod, yr hwn sydd wedi uno a'r Bedyddwyr, ac nid yw yn dod yn agos atom. Y mae y diafol wedi cyffroi y Dissenters yn ein herbyn, fel y cyffroa y gwynt y coed. Y maent yn gwyrdroi ein geiriau a'n hymddygiadau, gan dynnu y casgliadau mwyaf dychrynllyd oddiwrthynt. Y mae ein hanwyl chwaer, Betti Thomas, yn cael ei blino yn fawr ganddynt; bygythiant ei hesgymuno, os nad ydynt wedi gwneyd hyny yn barod, am ei bod yn derbyn y Methodistiaid i'w thŷ. Y mae yn dyfod i'n seiat breifat; ac nis gwyddant beth i'w wneyd o honni (y seiat). Dywedant mai drws agored i Babyddiaeth ydyw, a llawer o bethau eraill poenus a chableddus." Prawf y llythyr hwn fod yr Ymneillduwyr mewn rhai mannau wedi ymuno a'r digrefydd a'r erlidgar i gamddarlunio y seiat brofiad, trwy awgrymu weithiau eu bod yn dwyn cyffelybrwydd i gyffesu pechodau yn yr Eglwys Babaidd; ac weithiau, fel yr awgryma y gair "cableddus," trwy honni fod gweithredoedd pechadurus ac aflan yn cael eu cyflawni ynddi, ac mai dyna y rheswm paham ei dygid yn mlaen yn breifat. Addefa y Parch. Thomas Rees, D.D., [124]ddarfod i bob cydweithrediad o eiddo yr Ymneillduwyr a'r diwygiad Methodistaidd ddarfod gwedi y flwyddyn 1741, ac o hyny allan mai yr unig weinidogion a ymgyfathrachent a Howell Harris oeddynt y Parch. Henry Davies, Bryngwrach, a'r Parch. Benjamin Thomas, a darfod i'r diweddaf droi yn Fethodist proffesedig.
O'r ochr arall, gwnâi yr awdurdodau Eglwysig eu goreu i darfu y Diwygwyr. Dan gochl esgusodion gau, nacaodd yr esgob ordeinio Harris ei hun, a gwrthododd lawn urddau i Williams, Pantycelyn. Dywed Howell Harris hefyd ddarfod i amryw o ddynion ieuainc talentog, yn meddu cymhwysderau diamheuol ar gyfer y weinidogaeth, ond oeddynt wedi bwrw eu coelbren yn mysg y Methodistiaid, apelio am ordeiniad esgobol, a chael eu gwrthod heb gymaint ag arholiad. Parodd hyn i eraill o gyffelyb nodwedd ddigalonni, a pheidio myned i mewn am ordeiniad, gan y credent mai ofer fyddai eu cais. Cyfododd cri yn mysg y Methodistiaid eu hunain mewn canlyniad am adael yr Eglwys. A phan na chydsyniai yr arweinwyr, ymadawodd amryw o'r cynghorwyr, gan gymeryd eu hurddo yn ol trefn yr Ymneillduwyr, a dilynwyd hwy gan rai canoedd o bobl. Rhydd Howell Harris y rhesymau canlynol dros ei ymddygiad: Nad oedd y prophwydi gynt yn annog y duwiolion i gefnu ar yr eglwys Iddewig, er ei bod wedi ymlygru yn ddirfawr; fod Iesu Grist ei hun yn addoli yn y deml ac yn y synagog fel aelod o gynulleidfa Israel, er fod yr offeiriaid yn anfoesol ac yn rhagrithiol; na throdd yr apostolion, gwedi adgyfodiad yr Iesu, eu cefnau ar y synagog hyd nes iddynt gael eu gyrru allan; nad oedd rhinwedd y sacramentau yn dibynnu o gwbl ar dduwioldeb neu annuwioldeb yr hwn a'u gweinyddai, ond ar ffydd y derbynnydd; mai eu dyledswydd hwy oedd, nid cefnu ar yr hyn oedd yn ddiffygiol, ond ei ddiwygio, a dyfod yn eu perthynas ag ef yn halen y ddaear; fod llawer o greaduriaid truain yn derbyn lles trwyddynt, oedd mor llawn o ragfarn o blaid yr Eglwys, fel na wrandawent ar neb perthynol i gyfundeb arall; mai fel yr oeddynt y bendithiasai yr Arglwydd hwy, ac mai eu dyledswydd hwythau oedd peidio gwneyd unrhyw gyfnewidiad o bwys, hyd nes y caent brawf diamheuol o arweiniad dwyfol. Credwn mai y diweddaf oedd y prif reswm. Protestia Harris drosodd a throsodd nad dallbleidiaeth oedd yn ei gadw i mewn. Yr ydym yn ei gael yn ddiweddar yn cyfeirio droiau at "yr Eglwys dywyll hon." ofni symud heb fod y golofn yn myned o'u blaenau oedd ar y Diwygwyr. Y mae yn sicr fod y posibilrwydd o gael ei yrru allan gan amgylchiadau wedi tori yn gryf ar feddwl Harris y pryd hwn. Pan y datgana ei benderfyniad, yn ystod ei daith yn Sir Benfro, i beidio gadael Eglwys Loegr, nid yw ofid mynegu ei deimlad yn ngwyneb amgylchiadau oedd fel yn ei drechu yn hollol. Anfonasai Whitefield lythyr at y Diwygwyr, diwedd y flwyddyn 1741, yn mha un y mynegai fod ymwahaniad oddiwrth yr Eglwys yn rhwym o gymeryd lle. Y mae y llythyr mor nodedig, yn neillduol gan ei fod yn dyfod oddiwrth glerigwr, fel yr hoffem ei ddifynu oll. Meddai Mr. Whitefield: "Medd gwahanol bersonau wahanol ddoniau. Y mae rhai wedi eu galw i ddeffroi, eraill i sefydlu ac i adeiladu. Medd rhai ddawn poblogaidd, cymwys ar gyfer cynulleidfaoedd mawrion; symuda eraill mewn cylchoedd cyfyngach, a gallant fod yn dra defnyddiol yn y seiadau preifat. Yr wyf yn credu am y rhai a alwyd i fod yn gyhoeddus, y dylent ymroddi yn gyfangwbl i'r gwaith, gan fyned allan heb bwrs nac ysgrepan. Gwna y Meistr ddwyn y draul. Am eraill, y rhai na allant ond ymweled yn anghyoedd, dylent barhau i ddilyn eu galwedigaethau. Y mae rhai o honnoch yn weinidogion perthynol i Eglwys Loegr; ond os ydych yn ffyddlon, nid wyf yn meddwl y gellwch barhau ynddi yn hir. Modd bynnag, peidiwch myned allan hyd nes y bwrir chwi allan; ac yna, pan wedi eich bwrw allan er mwyn Iesu, peidiwch ofni pregethu yn y caeau."Yna, wedi cyfeirio at amryw drefniadau, dywed: "Gellir gwneyd hyn oll heb ymadawiad ffurfiol oddiwrth Eglwys Loegr, yr hyn, yr wyf yn gredu, nad yw Duw yn galw am dano yn bresennol." Dyna yn hollol deimlad y Diwygwyr Cymreig gyda golwg ar yr Eglwys; tybient mai ymadawiad oedd o'u blaenau; ond dewisent gael eu hesgymuno o honni, yn hytrach na myned allan eu hunain; byddent felly yn sicr mai ewyllys Duw oedd iddynt ymffurfio yn blaid, oblegyd ni chafodd y syniad am roddi y gwaith i fyny le yn eu meddyliau, naddo am awr.
Y pryd presennol, yr oedd gwaith y clerigwyr yn Sir Benfro, yn nghyd a chlerigwyr Brycheiniog, yn cael eu harwain gan Ficer Talgarth, yn gwrthod y sacrament i'r rhai oeddynt yn aelodau gyda'r Methodistiaid, yn dwyn pethau i argyfwng difrifol. Ni ddylid beio gormod ar Mr. Price Davies. Gweithredai ef a'i frodyr yn hollol onest, yn ôl y goleuni oedd ganddynt. Rhaid addef fod agwedd y Methodistiaid ar y pryd yn un hollol eithriadol ac anghyson. Meddai y Parch. David Lloyd, offeiriad yn Sir Frycheiniog, yn y ddadleuaeth alluog a gariodd yn mlaen a Howell Harris: "Yr ydych yn achwyn fod y sacrament yn cael ei wrthod i rai personau. Yr wyf yn gobeithio nad oes yr un clerigwr yn ei wrthod i'w blwyfolion heb resymau digonol. Yr wyf yn gobeithio hefyd na fynnech i unrhyw offeiriad gamarfer y peth sanctaidd, trwy ei roddi i rai nad ydynt yn perthyn i'w gynulleidfa, y rhai a ymwahanant oddiwrtho dan glogyn awydd am burdeb mwy; nac i'r rhai sydd yn condemnio ein haddoliad a'n hathrawiaeth. A fedrwch chwi gyfrif y rhai na ddeuant i'n cynulleidfaoedd yn eu heglwysydd plwyfol ond ar ddyddiau y sacrament, ac a safant allan y pryd hwnnw hyd nes y byddo gwasanaeth y cymyn wedi dechreu, fel yn perthyn i'n cymundeb ni, ac a ant yn hwyr y dydd drachefn i dai cyrddau, ac nas gwyddom pa leoedd? Ai nid oes dim yn cael ei wneyd yn iawn yn ein heglwys? Ai gweinyddiad y sacrament yw yr oll o'n haddoliad? A ydych yn tybio fod dyfod i'r eglwys, a derbyn y sacrament, unwaith y mis, yn ddigon i beri i ddyn gael ei ddynodi yn aelod o Eglwys Loegr? Y mae genych syniadau chwithig. Ai nid gwneyd y sacrament yn glogyn i ragrith a sism yw peth fel hyn? Ai nid camddefnydd o gorph a gwaed Crist ydyw? Ai nid twyllo pobl ydyw cymeryd arnoch eich bod yn perthyn i'r Eglwys Sefydledig, tra ar yr un pryd yr ydych yn ymdrechu ei dinystrio wreiddyn a changen, gan ddal yr athrawiaethau mwyaf penboeth, ie, athrawiaethau cythreuliaid, oddiwrth ba rai yr wyf yn gweddïo Duw ar iddo waredu pawb dynion?" Yr oedd David Lloyd a Howell Harris yn ddadleuwyr glewion, bob un o ddifrif, a'r naill yn deilwng o ddur y llall. Ar rai pwyntiau, yn arbennig hawl dyn heb ei ordeinio i fyned o gwmpas, dan amgylchiadau neillduol, i gynghori pechaduriaid i ffoi rhag y llid a fydd, Harris yn ddiau oedd y buddugwr; ond gyda golwg ar anghysondeb y Methodistiaid yn disgwyl cael y sacramentau yn yr eglwysydd plwyfol, heb dywyllu eu drysau ar unrhyw adeg arall, gan y Parch, David Lloyd yr oedd pen praffaf y ffon. Y gwir yw, nas gellid, gydag unrhyw degwch, alw corph y Methodistiaid, hyd yn nod mor foreu a hyn, yn Eglwyswyr; glynai yr arweinwyr wrthi, gan benderfynu peidio ei gadael heb arweiniad pendant; ond am y cyffredin bobl, ni feddent unrhyw barch iddi. Ni aent y tu fewn i'w muriau ond ar Sul cymundeb; y pryd hwnnw nid aent i'r gwasanaeth cyffredin, nac i'r bregeth, os byddai yno rywbeth o'r fath; gwyddent na fedrai yr offeiriad bregethu efengyl Crist, ac mai baldorddi y ffregod fwyaf ynfyd a wnelai, neu ynte felldithio y bobl a elent o gwmpas i gynghori heb awdurdod oddiwrth yr esgob; felly safent allan o gwmpas y drysau hyd nes y dechreuai gwasanaeth y cymun, ac yna aent at yr allor i gyfranogi o'r elfennau. Rhaid addef fod eu hymddygiad yn anghyson; braidd nad oedd yn anweddaidd; ac ar un olwg nid yw yn rhyfedd fod llawer o'r offeiriaid wedi dod i'r penderfyniad i wrthod y sacrament iddynt. Canlyniad yr anghysondeb hwn oedd fod y Methodistiaid yn anghymeradwy gan Eglwyswyr ac Ymneillduwyr. Meddai Howell Harris: "Y mae pob plaid fel yn ymuno i'n gwrthwynebu." Nid ydym yn sicr na chamgymerodd Rowland a Harris arwyddion yr amserau, ac nad oeddynt yn crefu am arwydd mwy pendant nag yr oedd ganddynt hawl i'w ddisgwyl; dywed y Parch. T. Rees, D.D., pe y buasent yn gadael yr Eglwys Wladol yr adeg hon, y buasai Cymru yn mron oll yn Fethodistaidd. Yr un pryd, y mae yn bosibl fod rhwystrau yn amlwg iddynt hwy, nas gallwn ni sydd yn barnu eu hymddygiad, gant a hanner o flynyddoedd gwedi, gael unrhyw syniad am danynt.
Yn ystod y cyfnod o 1735 hyd ddiwedd 1742, yr oedd cryn lawer wedi cael ei wneyd tuag at gynhyrchu trefn. Y mae yn ddiau y bodolai cydweithrediad rhwng Rowland a Harris er pan ddarfu iddynt gyfarfod gyntaf yn Eglwys Defynog, haf 1737; dallent afael ar bob cyfleustra i gydymgynghori, ac i gydgynllunio gyda golwg ar ddwyn y gwaith mawr yn mlaen; ymholent a'r Diwygwyr Seisnig, perthynol i bob plaid, fel yr oedd y trefniadau a wnelent i raddau mawr yn gynnyrch barn aeddfed. Yn raddol, daeth yr ymgynghoriadau hyn, a gymerent le yn achlysurol pan y byddai rhyw achosion pwysig yn galw, i gael eu trefnu yn mlaen llaw, nes dyfod yn gyfarfodydd rheolaidd. Ar y wynebddalen a flaenora y Trevecca Minutes ceir y nodiad a ganlyn yn llawysgrif Howell Harris ei hun: "Cyfarfyddai y brodyr yn Nghymru am ragor na dwy flynedd cyn dyddiad y Llyfr hwn (sef Ionawr, 1743), unwaith y mis, ac unwaith bob dau fis yn 1740, gan arholi llawer o'r cynghorwyr, a chwilio i geisio lle pob un. Ond ni ddeuwyd i unrhyw drefniant sefydlog (settled agreement) hyd ddyddiad y Llyfr hwn, pan yr anfonwyd am Mr. Whitefield. Ac ymddangosai mai ewyllys Duw, fel ei hamlygid yn ngoleuni unol yr holl frodyr, wedi dysgwyl yn ddyfal wrth yr Arglwydd, a dadleu yr holl fater, oedd: Mai arolygwyr a chynghorwyr anghyoedd oedd y drefn i fod yn mysg y brodyr diurddau; fod y brawd Harris i'w harolygu oll, a'r gweinidogion ordeiniedig i fyned o gwmpas gymaint ag a fyddo posib i; fod yr arolygwyr i gael adran o wlad (district), a'r cynghorwyr anghyoedd i arolygu cymdeithas neu ddwy, gan ddilyn eu goruchwylion arferol, tra yr oedd rhyw ychydig, ag yr oedd eu doniau a'r fendith a brofid trwyddynt yn ymddangos yn eu cymhwyso at hynny, i fod yn gynorthwywyr i'r arolygwyr, mewn modd mwy cyffredinol." Y mae y nodiad hwn o'r pwys mwyaf. Dengys ddarfod i ymgynghoriadau y Diwygwyr ddechreu cymeryd ffurf reolaidd yn y flwyddyn 1740; mai tuag unwaith bob dau fis y cyfarfyddent yn ystod y flwyddyn honno; iddynt ddyfod yn ymgynghoriadau misol yn 1741, a pharhau felly dros y flwyddyn ddilynol; ac mai prif fater yr ymdrafodaeth oedd profi cymhwysderau y cynghorwyr. Mewn cydgordiad hollol a hyn, ceir llythyr o eiddo Mr, Whitefield, a gyhoeddwyd yn yr Evangelical Magazine am 1826, wedi ei gyfeirio at gadeirydd un o'r cynulliadau yma, a'i ddyddio, Bristol, 28, 1741. Yn y llythyr, o ba un yr ydym wedi difynu yn barod, dywed fod y materion oedd i ddyfod tan sylw o'r pwysigrwydd mwyaf, a'i fod yn gofidio na fedrai fod yn bresenol gyda hwynt. Yna mynega ei farn yn rhydd ar amryw o'r pethau oeddynt i fod yn destynau ymdriniaeth. Y mae lawn mor amlwg oddiwrth y nodiad mai cymharol ddiawdurdod yr ystyrid y cyfarfodydd hyn; yr hyn a wneyd ynddynt oedd trefnu a chynghori; nid oeddynt yn pasio penderfyniadau sefydlog, gan hawlio awdurdod i'w gosod mewn grym, ac i orchymyn i'r brodyr eu cario allan. Yr oedd sefydliad y Gymdeithasfa, ddechreu y flwyddyn 1743, yn symudiad hollol newydd, ac er mwyn rhoddi arbenigrwydd ar y cam pwysig a gymerid, yn gystal ag er mwyn cael cymorth gŵr o ddoniau mor ddysglaer, yr hwn oedd yn cydweled a hwy lygad yn llygad ar bob pwnc o athrawiaeth, y gwahoddwyd Whitefield i fod yn bresenol ac i gymeryd y gadair ar yr amgylchiad. Cadarnheir hyn gan dystiolaeth Howell Harris, mewn crynodeb o hanes ei fywyd sydd ar gael yn awr yn Nhrefecca. Fel hyn yr ysgrifenna: " Yr haf hwn (1740), gan fod llawer yn sefyll i fyny i lefaru, mewn gwahanol leoedd yn Nghymru, tybiodd rhai o'r gweinidogion mai gwell fyddai gwneyd rhyw ymgais i drefnu pethau, er rhwystro anhrefn, ac fel na fyddai i bersonau anghyfaddas gymeryd y gwaith mewn llaw. Yna anogwyd pawb a lefarent yn y modd hwn i gyfarfod, i siarad am eu profiad parthed gwaith gras ar eu calonnau, fel y gallent adnabod y naill y llall, er cael undeb a chymundeb fel brodyr yn mlaenaf oll. Yna i amlygu eu cymhellion, beth a barodd iddynt ymgymeryd a'r gwaith, a pha resymau a allai pob un roddi fel profion ei fod wedi cael ei alw iddo, ac yna i gyflwyno y cwbl i farn yr oll. Eto ni feddyliem ein bod wedi cael ein galw i ffurfio ein hunain yn enwad ar wahân; ni chymerasom arnom ychwaith i arholi neb gydag awdurdod i roddi i'r cyfryw genhadaeth; yn unig tybiem ein bod yn cael ein gorfodi i fyned mor bell a hynyna, os oeddym am ymffurfio yn gymdeithas, yr hon na fedr fodoli heb ryw fath o reolau." Teifl y difyniad hwn ffrwd o oleuni ar natur y cyfarfodydd trefniadol blaenorol i sefydliad y Gymdeithasfa. Gwelwn (i) Fod pawb a fyddent yn myned o gwmpas i gynghori yn cael eu gwahodd iddynt; (2) Mai gwrando profiad personol y cynghorwyr, ynghyd a'u cymhellion i'r gwaith cyhoeddus, oedd eu prif orchwyl; (3) Nad oeddynt yn honni unrhyw awdurdod ar y cynghorwyr, trwy ar y naill law roddi hawl iddynt i fyned o gwmpas, nac ar y llaw arall, eu hatal; yr oll a wnelent oedd datgan barn, a rhoddi cyngor, gan adael rhyngddynt hwy a gweithredu yn ol y cyfryw. Ond erbyn 1742 gwelai y Diwygwyr, os oedd yr annheilwng i gael ei rwystro i ymgymeryd a gwaith na feddai gymhwysder ar ei gyfer, ac felly i gael ei gadw rhag dwyn yr efengyl a'r diwygiad i anfri, fod yn rhaid iddynt yn eu cyfarfodydd trefniadol gymeryd mwy o awdurdod i'w dwylaw. Dyma un o'r prif resymau dros fyned yn y blaen i sefydlu y Gymdeithasfa.
Yr oedd y cynghorwyr, at ba rai yr ydys wedi cyfeirio yn barod, yn perthyn i Fethodistiaeth o'r cychwyn. Daethant i fod, nid trwy unrhyw benderfyniad dynol, ond trwy alwad o'r nefoedd. Nid gormod dweyd fod y swydd, os priodol galw swydd arni, yn greadigaeth uniongyrchol yr Yspryd. Un rheswm paham yr ymledodd y diwygiad mor gyflym, ac y darfu iddo gymeryd ffurf barhaol, oedd cyfodiad dynion diurddau i gynghori eu cydfforddolion yn ngwahanol rannau y wlad. Oni bai am danynt hwy cawsai y seiadau bychain drengu o ddiffyg ymgeledd. Cymylau mawrion, cyfoethog o wlaw, oedd Daniel Rowland, Howell Harris, a'r prif Ddiwygwyr; pa le bynag yr aent pistyllent eu cynnwys ar y sychdir diffrwyth, fel pe byddai ystorm o wlaw taranau wedi ymdorri ar y fangre; ond wedi gwlychu y tir am y tro, aent hwy yn eu blaenau i dywallt y cyffelyb wlaw bras ar ranau eraill y wlad; a buasai y gwahanol leoedd wedi gwywo gan sychder, yn absenoldeb y cymylau mawrion, oni buasai i'r Arglwydd godi y cynghorwyr, y rhai a fuont dan fendith Duw fel gwlith dyfrhaol i'r eglwysi. Dechreuasant yn hynod syml. Yn y cymdeithasau, oblegyd cymhwysder naturiol a phrofiad dyfnach o waith gras yn eu calonnau, gelwid arnynt i ddarllen a gweddïo yn gyhoeddus, ac i roddi gair o gyngor oddiwrth yr hyn a ddarllenid. Yn raddol darfu i rai o honynt ddadblygu dawn arbenig at hyn; aeth y gair o gyngor yn rhywbeth cyffelyb i bregeth; aeth y son am danynt i'r gymdeithas fechan nesaf, a galwyd hwy i egluro Gair Duw ac i roddi gair o gyngor yno, nes yn ddiarwybod iddynt eu hunain y deuwyd i edrych arnynt fel rhai yn ffurfio math o swyddogaeth ar wahân. Nid oeddynt yn cefnu ar eu galwedigaethau; ni dderbynient ond ychydig dal am eu llafur; dyoddefent lawer o wawd a chamdriniaeth oddiar ddwylaw y drygionus a'r ffug-grefyddol; ond arhosodd eu bwa yn gryf er pob peth trwy rymus ddwylaw Duw Jacob. Amrywient yn ddirfawr parthed safle gymdeithasol, eangder gwybodaeth, dawn ymadrodd, a phrofiad ysprydol. Ceid yn eu mysg rai o safle barchus, wedi cael dygiad i fynnu, ac addysg dda, yn cael eu hystyried fel yn perthyn i fonedd y tir, ond a ddewisent ddirmyg Crist gyda y Methodistiaid yn hytrach na rhodres a pharch bydol. Perthynai eraill o honynt i ysgolfeistri Griffith Jones. Rhaid y meddent, fel cymhwysder i swydd ysgolfeistr, raddau helaeth o gydnabyddiaeth a'r Ysgrythyr; arferent yn feunyddiol gyfarch eu hysgoleigion, a'u harholi yn y catecism; felly, cam byr iddynt oedd myned i ddweyd ychydig yn gyhoeddus wrth eu cyd-ddynion. Cawn amryw o'r prif gynghorwyr yn perthyn i'r dosparth hwn. Ond yr oedd llawer o'r cynghorwyr yn dlawd eu hamgylchiadau, ac nid yn unig yn annysgedig, ond yn gymharol anwybodus yn athrawiaethau crefydd. Eithr cawsent olwg ar Grist croeshoeliedig fel Ceidwad holl ddigonol; tywynasai ei ogoniant ar eu heneidiau gyda thanbeidrwydd gorchfygol; llanwesid eu calonau a chariad diderfyn ato; ac er na wyddent ryw lawer yn ei gylch, teimlent reidrwydd i fynegu yr ychydig hyny i bawb o'u cwmpas. Fel Ahimaas gynt, yr oeddynt yn llawn awydd am redeg dros y Brenin; ac os nad oedd ganddynt genadwri gryno ar y cychwyn, cawsant hi cyn rhedeg nemawr. Ychychg a wyddai y wraig o Samaria am yr Iesu; ond gwedi i'w eiriau gyffwrdd a'i chalon, gadawodd yr ystên ar lan y ffynnon er mynegu i'w chyd-ddinasyddion am y Person rhyfedd a gyfarfyddasai. Yn gyffelyb am y cynghorwyr Methodistaidd, ymroddasant fel yr oeddynt i'r gwaith, a seliodd Duw eu llafur a bendith. Arferiad y byd yw gwawdio llafur personau diurddau, a chyfeirio gyda dirmyg at eu galwedigaethau bydol. Meddai Dr. South am y Puritaniaid: "Gallant yn llythyrenol daro yr hoel ar ei chlopa. Medrant osod pwlpud wrth ei gilydd cyn pregethu ynddo." Yn ngolwg Dr. South, yr oedd medr saernïol yn anghymwysder hanfodol i'r weinidogaeth. Fel y sylwa awdwr Methodistiaeth Cymru: "Hen ddull o watwar pregethwr da gynt oedd gofyn, 'Onid hwn yw y saer?' Ond yn nghyfrif Duw yr oedd i'r Saer hwnnw barch mawr; fe dderbyniodd gan Dduw Dad barch a gogoniant." Nid amheuwn fod cyfarchiadau rhai o'r cynghorwyr Methodistaidd yn dra anhrefnus; efallai fod eu hiaith yn sathredig, eu cymariaethau yn gartrefol os nad yn arw, eu hystumiau yn annaturiol, a'u traddodiad yn gwbl amddifad o ddlysni araethyddol. Ond yr oeddynt yn llawn o zêl; profasent argyhoeddiad dwfn eu hunain, a chyfranogasent yn helaeth o felusder yr efengyl mewn canlyniad. Gwyddent beth oedd cael eu clwyfo a'u meddyginiaethu; os na feddent gymhwysder dysg, meddent gymhwysder profiad; a bendithiodd Duw eu gwaith. Nid annhebyg mai fel hyn yr oeddynt fwyaf cymwys. Gallent fyw ar ymborth gwael wrth deithio; medrent ddyoddef gerwinder tywydd heb fod eu cyfansoddiadau yn cael eu hamharu; a chan mai A dynion anniwylliedig y byddent yn ymwneyd gan mwyaf, yr oedd eu diffygion yn troi yn fanteision iddynt, ac yn eu galluogi i fyned yn fwy agos at y bobl. A chododd Duw o'r dosbarth hwn bregethwyr ddarfu ysgwyd Cymru; rhai ag yr oedd arucheledd eu doniau, a nerth eu hareithyddiaeth yn ysgubo y cwbl o'u blaen, ac y mae eu henwau yn eiriau teuluaidd yn Nghymru hyd y dydd hwn. Dywedir fod tua deugain o gynghorwyr yn bodoli rhwng pob rhan o'r wlad adeg y Gymdeithasfa gyntaf. Ar yr un pryd, rhuthrai rhai i'r gwaith o gynghori heb unrhyw gymhwysder ar ei gyfer. Disgynasai ar y cyfryw awydd am hynodrwydd a sylw, fel ar Simon Magus gynt, ac aent o gwmpas gwlad o'r naill gymdeithas i'r llall, gan wneyd mwy o niwed nac o les, nes peryglu cymeriad y diwygiad. Un o brif amcanion y Gymdeithasfa oedd dwyn y cynghorwyr i drefn, drwy gefnogi y cymhwys, ac atal yr anghymwys. Yr oedd amcan arall, llawn mor bwysig, i'r Gymdeithasfa, sef dwyn y seiadau i ffurf. Yn flaenorol, yr oedd y cymdeithasau hyn yn hollol annibynol ar eu gilydd; ni feddent unrhyw rwymyn allanol o undeb; yr unig gysylltiad rhyngddynt oedd eu bod oll yn cyfranogi i raddau mwy neu lai o yspryd y diwygiad, a'u bod yn meddu parch diderfyn i Rowland, a Harris, a Howell Davies, y rhai a ystyrid ganddynt fel eu tadau yn Nghrist. Sail bersonol oedd i'r ufudd-dod a roddent i gyfarwyddiadau eu harweinwyr. Pe buasai rhyw gymdeithas yn myned ar gyfeiliorn mewn athrawiaeth, neu yn goddef o'i mewn y rhai drwg, nid oedd unrhyw allu i'w galw i gyfrif, ac i adfer pethau, ond dylanwad personol un o'r Diwygwyr blaenaf. Gwelwyd angenrhaid yn fuan am uno yr eglwysi yn un cyfansoddiad cryf, er mwyn i ddylanwad y diwygiad gael ei barhau, ac er mwyn ei gadw rhag rhedeg yn wyllt. Tua dechreu y flwyddyn 1742, tynasid allan gyfres o reolau ar gyfer y cymdeithasau. ond ni cheisiwyd eu huno mewn trefniant cyffredinol hyd gyfarfyddiad y Gymdeithasfa yn Watford. Y mae yn sicr na chymerwyd y cam pwysig hwn heb lawer o ragfeddwl a rhag ymgynghoriad; ac y mae lawn mor sicr mai i Howell Harris yr ydym yn ddyledus am gynlluniad a gweithiad allan yr hyn a ellir ei alw yn sail y cyfansoddiad Methodistaidd. Efe yn anad un o'r Tadau oedd y trefnydd; yr oedd ei feddwl ffrwythlawn ar waith yn wastad yn cynllunio; ac yn y cyfwng hwn yr oedd wedi bod mewn cydymgynghoriad ag amryw bersonau y tu allan i Gymru, yn gystal ag a'i frodyr yn y Dywysogaeth. Un y bu mewn gohebiaeth ag ef ar y mater oedd Mr. Oulton, gweinidog y Bedyddwyr yn Llanllieni (Leominster). Yr oedd Mr. Oulton yn ddyn gwir dduwiol, yn llawn o yspryd y diwygiad, ond yn Fedyddiwr cryf. Mewn llythyr ato dywedai Harris fod yn anhawdd iddynt oll ddyfod i gydweled gyda golwg ar y rhanau hyny o'r Beibl a gyfeiriant at ffurflywodraeth eglwysig, adeg a dull bedydd, a rhyw ychydig o gyffelyb allanolion ydynt .yn fuan i ddarfod; a bod undeb yn anmhosibl hyd nes y cydunent i beidio gwneyd dim yn amod aelodaeth, amgen adnabyddiaeth achubol o'r Arglwydd Iesu, a ffydd fywiol yn cynyrchu sancteiddrwydd buchedd, yr hon a brofai ei bodolaeth trwy ei chynydd. "Pe bawn i," meddai, "a gofal cynulleidfa arnaf, ystyriwn yn ddyledswydd arnaf i dderbyn pawb yn aelodau y gallwn obeithio am danynt eu bod wedi eu geni o Dduw, er na fyddent yn cydweled a mi gyda golwg ar ychydig o bethau allanol" Nis gallai Mr. Oulton gyfranogi yn y syniadau catholig hyn; ffromai braidd wrth Mr. Harris am gyfeirio at fedydd fel un o'r allanolion bychain oedd yn fuan i ddiflanu, gan ei fod yn ordinhad wedi ei sefydlu gan Grist ei hun, ac i aros yn yr eglwys hyd ddiwedd y byd. Maentymiai hefyd fod y trefniadau allanol, y cyfeiriai Harris atynt gyda gradd o ddiystyrwch, lawn mor glir yn y Testament Newydd, ac yn llawn mor hawdd dyfod i sicrwydd gyda golwg arnynt, a'r gwirioneddau achubol Cyfiawnder a Mr. Oulton yw ychwanegu, er na dderbyniwyd ei gynghor gyda golwg ar wneyd bedydd trwy drochiad yn amod aelodaeth, na ddarfu iddo dynu yn ol ei gydymdeimlad a Methodistiaeth o'r herwydd; ond ei fod gwedi hyn yn ysgrifenu at Howell Harris lawn mor gyfeillgar a brawdol, ac yn dangos llawn cymaint o ddyddordeb yn ffyniant y Cyfundeb. Y mae yn sicr ddarfod i sefydliad y Gymdeithasfa achosi pryder dwfn i'r Tadau Methodistaidd; teimlent eu ffordd bob cam a roddent; a diau mai gyda chalonau gorlwythog ac ysprydoedd ofnus y cyfarfuant yn Watford.
Yr ydym wedi cyfeirio at y rheolau i'r societies a dynnwyd allan. Dywed Howell Harris yn ei Fywgraffiad mai efe a'u ffurfiodd; dywedir ar wyneb-ddalen y rheolau eu hunain eu bod wedi cael eu cyfansoddi "gan ŵyr o Eglwys Loegr." Yr eglurhad yw mai Harris a'u drafftiodd; iddynt yn ganlynol gael eu cyflwyno i farn y gweddill o'r arweinwyr, a chael eu cymeradwyo ganddynt; a chwedi hynny iddynt gael eu cyhoeddi yn enw yr oll Y mae y rheolau hyn yn bwysig ynddynt eu hunain; dangosant ysprydolrwydd meddwl dwfn; ond meddant ddyddordeb arbennig ar gyfrif mai dyma y genadwri gyntaf a anfonwyd gan y Methodistiaid at y gwahanol eglwysi. Felly, er eu bod i raddau yn faith, yr ydym yn eu gosod i mewn yn y cyfanswm.
"SAIL, DIBENION, A RHEOLAU Y CYMDEITHASAU NEU Y CYFARFODYDD NEILLTUOL,
a ddechreuasant ymgynnull yn ddiweddar yng Nghymru. — At y rhai y chwanegwyd rhai Hymnau i'w canu yn y Cyfarfodydd neilltuol Gan wŷr o Eglwys Loegr.
"Diar. XV. 22. ' Ofer fydd bwriadau lle ni byddo cyngor,' &c.
,, xxiv. 6. 'Trwy lawer o gynghorwyr y bydd diogelwch.'
,, xxvii, 17. 'Haiarn a hoga haiarn.'"Bristol: Printed by Felix Farley in Castle Green."
M.DCCXLII.
RHAGYMADRODD.
"At bawb ag sydd gwedi cael eu gwneuthur yn ewyllysgar i ymwadu a hwynt eu hunain, i gyfodi eu croes, ac i ddilyn yr Oen; ac yn neilltuol at y Societies o Eglwys Loegr.
"Yn ddiweddar fe ein cymhellwyd ni (ychydig o Weinidogion) i gyfarfod a'n gilydd mor fynych ag y gallom, i geisio gwylied yn fwy manol dros ein gilydd, ac er mwyn gwybod helynt praidd Crist yn well, ac er mwyn ymgynghori pa fodd i ymdreulio oreu yn ngwinllan ein Meistr; ac yn y cyfamser a gawsom ein calonnau i gytuno ar y Rheolau canlynol A chan wybod mor wasgaredig ydych chwi, ac er mwyn eich cyfarwyddo pa fodd i adeiladu eich gilydd oreu yn eich Cyfarfodydd neilltuol, ni a farnasom yn ddyled arnom i ddanfon y Rheolau hyn atoch, gan obeithio y bydd i Dduw eu bendithio i chwi; a rhoddi calonnau i chwi ymostwng y naill i'r llall, holwch eich gilydd wrthynt mor bell ag y gweloch y byddont yn uniawn. Tybiasom yn oreu eu rhoddi mewn print, fel y gallo pawb weled y gwirionedd o'n dibenion a'n rheolau yn ein Cyfarfodydd neilltuol; ac os bydd neb yn chwennych ymuno a ni, fel y gallo ef weled pa ddysgyblaeth yr ydym ni yn tybied yn ddyled ei chadw yn ein mysg. Gan edrych, pa waradwydd bynnag a gaffom gan y byd, bod gennym gydwybod ddirwystr yn hyn, na feiddiom ni wneyd dim yn y dirgel ag na allom ei gyfaddef pan gyhoeddir pob peth dirgel ar bennau’r tai. Ofer yw neilltuo oddiwrth y byd ac ymddangos megys rhai a fyddai yn rhodio gyda Duw, a gwneuthur rheolau o'n rhodiad, oni fyddai ein heneidiau mewn undeb a Duw yn Nghrist, ac a'r naill y llall yn yr Ysbryd Glan; gwedi cael ein glanhau oddiwrth ein holl eilunod, gan ddysgwyl dim yn y byd, ond yr hyn a gafodd ein Pen o'n blaen, a'r hyn a addawodd Efe i'w holl ddilynwyr, sef cael ein casáu gan bawb er mwyn ei Enw Ef, Mat. X. 22. Ac y mae yn perthyn i ninnau edrych mai er ei fwyn ef yr ydym yn goddef; a thra byddom yn cael ein cablu a'n difenwi megys rhagrithwyr beilchion, segur, twyllodrus, edrychwn ar fod tyst o'n mewn yn dywedyd eu bod yn gelwyddog; onid ê ni erys Ysbryd gras a gogoniant i'n cysuro na'n cynorthwyo. Ond os er ei fwyn ef yr ydym yn dioddef, nac ofnwn: ni lwydda un offeryn a lunier i'n herbyn, Esa. liv. 17; a phyrth uffern ni allant ein gorchfygu, Mat. xvi. 18. Ond gwyliwn rhag ysbryd balch y Phariseaid: os ydym ni yn gweled, ac ereill yn ddall, pwy a wnaeth y gwahaniaeth? Dangoswn ein bod wedi bod gyda'r Iesu, trwy ein hymddygiad addfwyn, tirion, maddeugar, cariadus a gostyngedig, tuag at ein gwrthwynebwyr. Ac er mai trwy Grist yn unig yr ydym yn gadwedig, eto dangoswn ein cariad ato ef, am ein prynu a'n gwaredu yn rhad trwy ei fywyd a'i farwolaeth, trwy gyflawniad diragrith o'r holl ddyledswyddau gorchymynedig, gan garu y gyfraith, fel rheol o'n bywyd newydd a gawsom gan Grist, i'w chadw; yr hon yr ydym yn ymwrthod a hi, fel cyfamod i fyned at Dduw trwyddi i gael bywyd. Yr ydym yn atolwg arnoch i wylied yn eich Societies yn erbyn balchder ysbrydol, yn ymddangos mewn diystyru ereill, bod yn annioddefus i gyfaddef ein beiau ac i dderbyn cerydd; rhagrith, neu geisio ymddangos yn fwy llawn o gariad, ffydd, gostyngeiddrwydd, a goleuni, nag y byddoch; hunan-ewyllys a hunangariad, doethineb cnawdol, a phob ymddangosiad a fyddo yn tarddu oddiwrth gais dirgel yn y galon i ereill dybied eich bod yn dduwiol ac yn cynyddu hefyd. Ac na pheidiwch hefyd A chwilio allan bob arwyddion o'r gwreiddyn ofnadwy, yr hwn a ddwg bob math o ffrwythau drwg, sef ariangarwch, seguryd, a diogi. Gwyliwch hefyd rhag geiriau segur, ysgafnder ysbryd, chwerthiniad cnawdol, meddyliau ofer, ac anffyddlondeb neu weniaeth mewn geiriau wrth farchnata, trwy ddywedyd geiriau dauddyblyg, neu ddywedyd mwy neu lai na'r gwir; gan wybod ein bod ni bob amser ger bron Duw. Dangoswch eich bod wedi ei osod ef bob amser ger eich bron. Edrychwch at gynnydd eich gilydd mewn addfwynder, tiriondeb, a gwir iselder ysbryd; a bydded genych gariad diragrith at bawb o deulu'r ffydd, a thosturi dwfn tuag at ereill, yn peri i chwi alaru yn y dirgel dros eu pechodau. Gwnewch bob peth mewn gwirionedd a symlrwydd, megys i'r Arglwydd. Os plant, gwyliwch ar wneyd eich goreu i ennill eich rhieni, os cnawdol ydynt, trwy eich ymddygiad ufudd a gostyngedig. Os rhieni, edrychwch pa fodd yr ydych yn dwyn eich plant a'ch tylwyth [i fyny] yn ofn yr Arglwydd, gan weddïo a chwilio yr Ysgrythyrau yn fanol, a'u cateceisio beunydd gartref, Deut. vi. 6, 7; Gen. viii. 19. Os tlawd ydych, byddwch foddlawn i'ch cyflwr, diwyd a ffyddlawn yn eich gwaith, gan fyw yn gyfatebol i'ch gradd. Os cyfoethog, edrychwch ar gyfrannu, gan ystyried mai stiwardiaid ydych chwi; ac fel mai eiddo y Pen yw eich da chwi oll, bod yn ddyledus iddo ef gael ei ffordd a'i ewyllys yn eu trefnu hwynt fel y myno ei hun. Os hen Gristionogion profiadol ydych, magwch a dysgwch mewn addfwynder a thiriondeb y rhai gwan. Os rhai iefainc ydych, gochelwch ymrysonau, hunan, ac anghrediniaeth; a dysgwyliwch oll am groesau beunydd oddiallan ac oddifewn; a phan y byddoch agosaf at yr orseddfainc, cofiwch ninnau, y rhai ydym ychydig, a llawn o lygredd; ond yr ydym, er eich mwyn, gwedi cael ein cymell i ymadael a phob peth, heb geisio dim ond bod yn ffyddlawn, fel y gallom ddywedyd yn y diwedd, ' Wele ni a'r plant a roddaist i ni.'
SAIL Y CYFARFODYDD.
"I. Gorchymyn yr Ysbryd Glan trwy St. Paul yw, nad esgeulusom ein cydgynulliad ein hunain, megys y mae arfer rhai, &c.
"II. Os yw yn ddyledswydd arnom gynghori ein gilydd tra y gelwir hi heddyw (neu bob dydd), o herwydd mai dyna'r modd inni ymgadw rhag cael ein caledu trwy dwyll pechod, Heb. iii. 13; yna, ni a ddylem ddyfod ynghyd i gynghori ein gilydd.
"III. Arfer y duwiolion oedd ymgynnull fel hyn dan yr Hen Destament (Gwel Mal. iii. 16), a than y Newydd hefyd. Wedi ymgynnull fel hyn yr oedd [y disgyblion] , pan ymddangosodd Crist iddynt wedi ei adgyfodiad, ac y dywedodd, 'Tangnefedd i chwi.' Luc xxiv. 33 — 36.
"IV. Ein Hiachawdwr a addawodd fod yn y canol lle y byddai dau neu dri (oni fyddai ychwaneg) wedi ymgynnull, yr hon a addewid y mae pawb a ymgynullasant mewn gwirionedd, ymhob oes, wedi ei phrofi yn cael ei chyflawnu, Mat. xviii. 20.
EU DIBENION
"1. Mewn ufudd—dod i'r gorchymyn, i annog i gariad a gweithredoedd da, Heb. X. 24.
"2. I ragflaenu calongaledwch a gwrthgiliad tra y byddom weinion mewn gras, a'n llygredigaethau yn gryfion, a'n profedigaethau yn aml, i Cor. iii. i, 2, 3, &c.
"3. Er mwyn dyfod i adnabod mwy o ddichellion Satan, 2 Cor. 11, a thwyll ein calonau, a gwaith gras a'i gynnydd yn ein heneidiau, i Pedr iii. 8.
"4. Er mwyn goleuo eu gilydd yng ngair Duw, ac er mwyn cadarnhau ac adeiladu y naill y llall yn y sancteiddiaf ffydd.
"5. Er mwyn cynghori eu gilydd a rhagflaenu ymrysonau, ac anghariad, a drwg-dybiau, a chenfigennau, &c. i Tim. vi. 4.
"6. I edrych yn ôl bywyd ac ymarweddiad, ysbryd a thymer, y naill y llall, ac er mwyn dwyn beichiau ein gilydd, Galat. vi. 2.
"7. Er mwyn gogoneddu gwaith gras Duw, trwy fynegu idd eu gilydd pa beth a wnaeth efe dros ein heneidiau, yn ôl esampl Dafydd, Salm Ixvi. 16.
"8. Er mwyn ymgryfhau ynghyd yn erbyn gelynion ein heneidiau, y byd, y cnawd, a'r cythraul; er mwyn gweddïo dros ein gilydd, ac er mwyn cyfrannu pob addysg a ddysgasom am Dduw, am ei Fab, ac am danom ein hunain, er pan fuom ynghyd o'r blaen.
Fel y byddo ir Dibenion hyn gael eu hatteb, yr ydym yn cytuno ar y Rheolau canlynol:— "1. Ar ôl canu mawl a gweddïo, i Tim. ii. i, bod ini agoryd ein calonau i'n gilydd, ac adrodd yn symlrwydd ein calonau yr hyn oll o'r drwg a'r da, yr ydym yn ei weled oddifewn ini, yn ôl y cymorth a gaffom, [ac mor bell ag y gweddai gwneyd hynny ger bron dynion.] Oherwydd yr ydym yn profi, trwy'r balchder sydd ynom, anewyllysgarwch i ddyfod a gweithredoedd y tywyllwch sydd o'n mewn i'r goleuni, rhag ini gael cywilydd; ac felly barodrwydd i guddio ein pechod: a thra byddom yn gwneuthur hyny, ni lwyddwn ni ddim yn ein heneidiau. Ond yr ydym yn profi, pan y gwelom ni y pechod wedi ei faddau, ac y caffom ein calonau i'w gasáu, y gallwn ddyfod ag ef i'r goleuni; a mawr yw yr undeb ysbryd, y rhyddid meddwl, a'r cariad yr ydym yn ei brofi fod yn canlyn y symlrwydd yma. Ond os ni fydd i ni gael cymorth i ddywedyd gyda rhywfaint o olwg ar y drwg sydd yn y fath lygredd, a galar a chywilydd o'n mewn am dano, yr ydym yn dueddol i wneuthur yn ysgafn o hyn, ac felly yn sychu ein gilydd. Ac wrth ddywedyd am ddaioni Duw, os bydd ini ollwng yn angof olygu ei ogoniant ef, ac ymfodloni a meddyliau y bydd i'r brodyr feddwl yn dda am danom, neu edrych yn wael ar y rhai a fyddo heb brofi mor bell a ni, - os hyn a gaiff le, yr ydym yn profi ein bod yn tristau Ysbryd Duw, ac y mae dieithrwch yn canlyn rhwng Duw a'n heneidiau, ynghyd ag oerfelgarwch a sychder.
"2. Er mwyn tynnu ymaith bob dim a'r sydd yn rhwystro cynnydd cariad, i ddywedyd pob drwg-dyb a lettyo yn ein meddyliau am ein gilydd, a ddelo oddiwrth Satan, cyhuddwr y brodyr, neu ryw ffordd arall. Os gwir fydd yr achwyniad, dywedwn ef er mwyn codi yr hwn a gwympodd, trwy ei geryddu ef yn addfwyn, yn ôl cynghor ein Hiachawdwr, rhyngom ni ag ef ei hun, yna o flaen dau neu dri o'r brodyr, i edrych a welom ni arwyddion ynddo, fel y bo i'n cariad gael ei adnewyddu. Os bydd y drwg-dyb yn wir, yna deuwn a hyny i'r amlwg er cywilydd i ni ein hunain, fel na chaffo Satan le i weithio ei waith ei hun yn ein calonau ni. Llawer ydyw'r budd yr ydym wedi ei brofi oddiwrth hyn. Yr esgeulusdra o'r symlrwydd hyn a roddodd le i Satan weithio cymaint o ymrysonau, &c.
"3. Bod ini gymmeryd ein holi a'n chwilio gan ein gilydd; o herwydd mor barod yr ydym i sefyll yn rhy agos atom ein hunain, ac i beidio a myned i dre, wrth holi ein hunain.
Holiadau i brofi ein hunain wythynt.
"i Beth yw ein dibenion ymhob dim ar a gymmerom yn llaw, pa un a'i gogoniant Duw, ai rhyw bleser neu esmwythder, rhyw glod neu anrhydedd, neu rhyw elw neu fudd i ni ein hunain?
"2. Beth ydym ni yn ei brofi o'n mewn yn ein cymhell i wneuthur yr hyn yr ydym ni yn ei wneuthur? Cariad Crist, neu ynte hunan gariad?
"3. Wrth ba ewyllys yr ydym ni yn rhodio, ac yn gwneuthur pob peth; pa un ai ewyllys ddadguddiedig Duw yn ei air, neu ynte ein hewyllys ein hunain? A ydym ni yn ymwadu a'n hewyllysiau ein hunain ymhob peth?
"4. Gan ein bod ni wedi rhoddi ein hunain yn y cyfamod gras i Dduw yn Nghrist, ac nad ydym ni mwyach i fyw i ni ein hunain, ond i'r Hwn a'n prynodd ni, ac a roddodd ei Hun drosom; a chan fod i ni ddwyn ffrwyth oddiwrth bob talent ag sy gennym, yr ydym i wylied dros ein gilydd, pa fodd y byddo ini arferyd ein heneidiau, a'n cyrph, doniau, cof, dysg, amser, cyfoeth, a phob odfa i wneuthur a derbyn daioni, fel y dygom fwyaf o anrhydedd i Dduw, a lles i'w eglwys, trwy eu gosod allan yn ol rheol ei air Ef, gyda phob diwydrwydd a symlrwydd.
"5. Fel nad oes ond un corph gan Grist; ac fel y mae Efe yn gweddïo ar i bawb o'i ddisgyblion (neu ei ddilynwyr) Ef i fod yn un;- fel nad yw'r nifer ond ychydig; fel ag y mae'r ffyddloniaid oll (o bob barn mewn pethau amgylchiadol) i fod ynghyd yn dragywydd yn ol hyn; fel ag y maent yn profi yn awr undeb, wedi ei weithio oddifewn, a'u gilydd yn yr Ysbryd Glân; fel ag y maent yn trafeilio yr un ffordd, yn ymladd dan yr un faner, yn erbyn yr un gelynion, yn ymborthi ar yr un manna, yn yfed o'r un ffynnon ysbrydol, yn cael eu tywys gan yr un Ysbryd, wedi eu gwisgo a'r un cyfiawnder cyfrifol, yn ceisio yr un diben, ac yn cael eu cymhell gan yr un egwyddor, wedi clywed i gyd yr un llais, wedi eu prynu a'u golchi a'r un gwaed, &c., felly nid ydym ni yn atal neb o un farn rhag dyfod i fod yn aelod o'r Society gyhoedd ag a allo gael ei holl galon i gytuno a'r rhagddywededig Reolau, ac i ateb y cwestiynau canlynol.
"1. A ydych chwi wedi cael eich hargyhoeddi gan Ysbryd Duw i weled eich hunain yn golledig hollol, ac yn haeddu eich damnio? ac mai cyfiawn fyddai i Dduw orchymyn i bob creadur eich poeni, ac i'ch taflu i'r trueni a'r poenau eithaf, gan weled eich hunan y pennaf o bechaduriaid?
"2. A ydych chwi wedi eich deffroi gan ras i weled nad yw eich goleuni chwi ddim ond tywyllwch? ac na ellwch chwi ddim adnabod y Tad, na'i Fab, yn gadwedigol, na chwi eich hunain, heb i'r Ysbryd Glan oleuo llygaid eich meddwl chwi yn oruwchnaturiol, gan eich bod wrth natur fel ebol asen wyllt?
"3. A ydych yn profi, nid yn cyfaddef yn unig, ond wedi cael eich dysgu gan yr Arglwydd, i weled ac i wybod hyn, sef, bod pechod felly wedi gwenwyno eich holl natur yn y fath fodd ag na ellwch gymaint a meddwl un meddwl da, na gwneuthur dim a fyddo cymeradwy gan Dduw? Ac na ellwch ddim eich helpu eich hunan o'r cyflwr hwn mewn un modd, wrth natur?
"4. A ydych chwi yn credu ac yn profi mai trwy gyfiawnder Crist, yn cael ei gyfrif ini yn unig, y mae ini fod yn gadwedig? ac mai trwy ffydd y mae hwn yn cael ei dderbyn? ac mai Ysbryd Duw yn unig a all, ac sydd yn gweithio y ffydd hon? ac na allwn ni ddim ei gweithredu hi nag un gras arall nes y byddo i'r un Ysbryd, fel y gogleddwynt neu y deheuwynt chwythu arnom.
"5. A ydych (gan weled mai Crist yn unig yw'r ddinas noddfa i ffoi iddi rhag dialydd y gwaed) yn profi fod Ysbryd Duw wedi eich gwneuthur yn ewyllysgar i ymadael yn eich serchiadau a phob peth ag oedd gynt yn werthfawr ag yn felus genych? megys eich llygad deheu, eich cyfaill anwylaf, a'ch pechod melusaf, amlwg a dirgel, er mwyn Crist, ac i wneuthur lle iddo Ef yn y galon?
"6. A ydych chwi wedi bod yn y dirgel yn bwrw'r draul? Ac yn awr yn profi fod gras Duw wedi peri i chwi ymwadu a'ch dibenion, eich ewyllysiau, eich cyfiawnderau, a'ch doethineb eich hunain, ac i ymostwng i ewyllys, a chyfiawnder, a doethineb Crist? Ac yn ymfoddloni i ddioddef pob croes ag a gyfarfyddoch wrth fyned ar ei ol Ef, a thrwy allu ei ras Ef i selio ei air a'ch gwaed, os bydd achos.
"7. Os ydych eto heb gael tystiolaeth yr Ysbryd Glan i gyd-dystiolaethu a'ch ysbryd chwi eich bod yn blentyn i Dduw, a ydych chwi yn profi eich bod bob amser yn ceisio Duw a'ch holl galon, heb geisio dim ond Efe? Chwiliwch a [ydych] yn cyfrif pob peth yn golled fel yr enilloch Ef? ac nas gellwch orphwys ar hyn chwaith nes i chwi ei gael Ef?
"8. A ydych chwi yn profi na ellwch chwi ddim cael esmwythdra, na heddwch, oddiwrth ddim ag sydd wedi ei weithio ynoch hyd yma, nes y bo i chwi brofi fod Crist ynoch chwi—nes y gwyddoch 'eich bod yn credu,—nes y byddoch wedi cael y fath olwg ar gyfiawnder Crist yn boddloni cyfiawnder Duw drosoch chwi, ag a fyddo yn ennyn cariad ynoch chwi ato Ef, a hwnnw yn eich cymhell i ufudd-dod; a'r cyfryw olwg ar ei ystlys fendigedig Ef wedi ei thrywanu, ag a ddryllio eich calon i alaru am bechod fel un yn galaru am ei gyntaf-anedig, ac i wir gasáu pob pechod, nes y byddoch wedi derbyn Ysbryd mabwysiad yn llefain Abba, Dad, ynoch chwi?
"9. A ydych chwi yn credu ac yn cydsynio a'r gwirioneddau sylfaenol, yn gyntaf, ynghylch y Drindod; yn ail, etholedigaeth; yn drydydd, pechod gwreiddiol; yn bedwerydd, cyfiawnhad trwy ffydd; yn bumed, parhad mewn ystâd o ras, &c., fel ag y maent yn cael eu dal allan yn Articlau a Homilïau Eglwys Loegr? Ac yn yr hyn nad ydym yn hollol, ysgatfydd, yn cytuno mewn rhai pethau amgylchiadol, megys dysgyblaeth eglwysig, seremonïau, y dull a'r amser o fedydd, &c., a ydych chwi yn addaw na bydd i chwi ddim blino eich cyd-aelodau ynghylch y pethau nad yw Duw wedi dyfod a ni i weled yr un modd?
"10. A ydych yn profi mai cariad Crist sydd yn eich cymhell i ymuno a ni? Ac a ydych chwi, yn ol dyfal ystyried, yn profi eich calon yn ddiragrith yn ymostwng i'r rheolau hyn, gan edrych arnom ni, a ninau arnoch chwithau, fel aelodau o'r un corff, fel plant yr un Tad, fel un, ac na ddywedoch wrth neb o'r rhai sydd oddiallan yr hyn a fyddom ni, yn symlrwydd ein calonau, yn eu dweyd? (Oherwydd mai taflu perlau o flaen moch, yw dweyd profiadau wrth yr annuwiol.)
"Mae'r cwestiynau hyn yn gofyn i bwy bynnag a chwenycho fod yn aelod o honom, ar ol iddo yn gyntaf roi ei enw yn y cyfarfod o'r blaen, a dyfod a thystiolaeth rhai o'r brodyr (os bydd lle) ynghylch ei fywyd, a'i dymer a'i ymarweddiad, a pha gymaint o amser sydd er pan y daeth dan argyhoeddiad, ac i gael y cyfnewidiad yma yn ei fywyd. Fe ddichon bod rhai ag a fyddo heb eu rhyddhau odditan. ysbryd caethiwed, ac eto yn gwir geisio, a'u bod eto heb gael; wedi cael eu gwneuthur yn ewyllysgar, ac heb yfed o ddwfr y bywyd, — y rhai hyn rhaid eu porthi a llaeth. Ac fel na byddo i eraill gael eu cadw yn ol ganddynt hwy, y rhai a fyddo wedi profi ymhellach, ac wedi derbyn cymwysiadau, a ddylent adeiladu eraill trwy gynghori, &c. Ac eraill, wedi profi budd a llesâd wrth gyfarfod yn fwy neilltuol i fod yn fwy manol i chwilio; ni a gytunasom i gyfarfod i'r diben hyn yn fwy neilltuol; a phwy bynnag a fyddo wedi bod dros amser yn y Society gyffredin, ac wedi ymddwyn yn addas, y mae i gael ei dderbyn i'r ymgynulliad yma, pan y gallo ateb i'r cwestiynau a ganlyn, neu eu cyffelyb.
"1. A wyddoch chwi eich bod yn credu? eich bod yn y ffydd? a bod eich pechodau wedi ei maddeu? a bod Crist wedi marw drosoch chwi yn neilltuol? ac yn awr yn trigo trwy ei Ysbryd ynoch chwi? a bod Duw wedi eich caru a chariad tragywyddol? A ydyw Ysbryd Duw bob amser yn cyd-dystiolaethu a'ch ysbryd chwi, eich bod yn blentyn i Dduw?
"2. A ydych chwi yn profi mwyfwy o gydymdeimlad yn eich calon a'r rhai a demtir? a mwy o dosturi, o bwyll, ac o anian cariad yn eich ysbryd tuag at bawb, ond yn enwedig at deulu y ffydd, pwy bynag fyddont?
"3. A ydych chwi yn profi mwy o oleuni ysbrydol o'ch mewn, yn dadguddio i chwi fwyfwy o burdeb a sancteiddrwydd Duw, ac ysbrydolrwydd ei gyfraith ef, ac yn dangos i chwi fwy o bla a thwyll eich calon, a drwg pechod, a gwerthfawrogrwydd Crist?
"4. A ydyw eich cydwybod yn fwy tyner i argyhoeddi am y dechreuad cyntaf o bechod yn y meddwl? am bob edrychiad anllad a'r llygaid? Am y dechreuad cyntaf o ysgafnder neu lawenydd cnawdol, neu ragrith, neu hunan, neu natur chwerw, yn y dechreuad cyntaf o honynt? am eiriau segur, am ollwng Duw yn angof, am feddyliau llygredig ac ofer?
"5. Pa wers a ddysgodd yr Arglwydd i chwi er pan fuom ni ynghyd o'r blaen? Pa faint a welwch chwi [yn] fwy o ddrwg a thwyll eich calon? o ddichellon Satan? o ddyfnderoedd gras Duw, a rhyfeddol waith ei ras Ef ynoch? o oleuni ysbrydol, profiadol, yn ei air Ef?
"6. A ydych chwi yn gweled mwy o ryfeddod yng nghariad neilltuol Duw tuag atoch chwi? Ac a ydyw yr olwg hyn yn eich cyfnewid i'w ddelw Ef, ac yn gweithio ynoch fwy o hiraeth am ei ogoneddu Ef yn y cwbl? ac am ei weled Ef yn dyfod i gael ei ogoneddu yn ei saint?
"7. A ydyw pechodau rhai eraill yn dyfod yn fwy agos atoch? Ac a ydych chwi yn profi bod eich eneidiau yn cael eu gwreiddio a'u hadeiladu fwyfwy mewn cariad? fel nad yw pob golwg ar eich gwendid, a grym eich llygredd, a'ch tywyllwch, &c., ynoch, a fu yn peri poen (er eu bod yn achos o alar), ond eich bod yn amlycach yn canfod eich holl iachawdwriaeth yn Nghrist? a thrwy olwg ar y cyflawnder, a'r gallu a'r ffyddlondeb, sydd ynddo Ef, yn rhodio yn gysurus yng nghanol profedigaethau, ac yn dweyd: 'Mi a wn i bwy y credais,' pan y byddo hi dywyllaf arnoch?
"8. A ellwch chwi ddywedyd, trwy eich bod wedi dyfod i weled yn fwyfwy amlwg, trwy dystiolaeth y dwfr a'r gwaed, bod eich enwau wedi eu hysgrifenu yn llyfr y bywyd; ac y gwyddoch ar sail gywir, ar yr hunanymholiad manylaf, wrth air Duw: ' na all nac angau, nac einioes, nac angylion, na thywysogaethau, na meddiannau, na phethau presennol, na phethau i ddyfod, nac uchder, na dyfnder, nac un creadur arall, eich gwahanu oddiwrth gariad Duw, yr hwn sydd yn Nghrist Iesu ein Harglwydd; ' ac na all neb eich tynnu chwi o'i law Ef, oherwydd ei fod Ef yn fwy na phawb oll; ond pan yr ymddattodo ein daiarol dy o'r babell hon, bod i chwi adeilad gan Dduw, sef tŷ nid o waith llaw, tragywyddol yn y nefoedd; ac mai eich sail chwi i hyn oll yw cyfamod tragywyddol ac anghyfnewidiol Duw?"PENOD IX
Y GYMDEITHASFA
Howell Harris ar ei daith tua Watford—Y chwech cyntaf—Penderfyniadau y Gymdeithasfa Gorphen mewn cân a moliant—Cyfarfodydd Misol Llanddeusant, Trefecca, Tyddyn, Llanwrtyd, a Glanyrafonddu—Ail Gymdeithasfa Watford—Taith Whitefield a Howell Harris trwy rannau helaeth o’r Deheudir—Argyhoeddiad Peter Williams—Cyfarfodydd Misol Gelliglyd, Watford, Dygoedydd, a Longhouse—Cymdeitliasfa Chwarterol Trefecca Y ddau arolygydd tramgwyddus—Whitefield a Howell Harris yn ysgrifennu llythyrau atynt.
CYNHALIWYD y Gymdeithasfa gyntaf yn Watford, dyddiau Mercher a Iau, Ionawr 5 a 6, 1743. I'r dyddiad hwn dwg dyddlyfr Howell Harris a dyddlyfr Whitefield dystiolaeth bendant, a chadarnheir ef gan amseriad y llu o lythyrau a ysgrifennwyd yn uniongyrchol gwedi; felly, nid oes lle i unrhyw betrusder gyda golwg ar y mater. Y tebygolrwydd yw ddarfod i awdwr parchus Methodistiaeth Cymru gael ei arwain ar gyfeiliorn yma eto trwy gamddeall yr hen galendar eglwysig. Cychwynodd Howell Harris, yn ôl ei ddyddlyfr, foreu Sul, Ionawr 2, 1743. Teimlai bwysigrwydd dirfawr y cyfarfod ar ba un yr oedd yn wynebu, nid yn unig i'r diwygiad Methodistaidd, ond hefyd i grefydd Cymru; a'r peth cyntaf a geir ar y dyddiad yn ei lyfr yw: "Myned i gyfarfod y Gymdeithasfa yn Sir Forganwg." Nid ai ar hyd y ffordd unionaf, a'r un a arferai gymeryd pan yn teithio i Forganwg neu Fynwy, sef heibio Cantref, wrth draed y Banau; eithr cadwai yn mhell ar y chwith, er mwyn cymeryd Cwm Iau ar ei hynt, fel y gallai ymgynghori a'r offeiriad duwiol a weinidogaethai yno, Thomas Jones, ac y caffai ei enaid gyfnerth wrth wrando arno yn pregethu Gair y Bywyd. Arweinid ef trwy olygfeydd mor brydferth a rhamantus a dim sydd yn Nghymru; eithr nid ymddengys fod ei yspryd mewn unrhyw gydymdeimlad a'r tlysni a'i cylchynai; yr oedd pryder ei feddwl yn gymaint, fel nas gallai gael tawelwch ond trwy ddyrchafu gweddi at Dduw. Wedi gweddïo dros Miss Ann Williams, a thros ei fam, "gweddïais," meddai, "dros ein Cymdeithasfa, ar i Dduw ddyfod i'n mysg i'n cyfarwyddo, a chyda golwg ar fy myned dros y môr; cefais ryddid mawr i osod yr achos gerbron yr Arglwydd, ond ni chefais ateb; dros yr Eglwys dywyll hon, a thros bawb sydd mewn pechod. Cefais nerth i alaru ac i lefain ar ran holl deulu Duw, gan weled yr holl eglwys fel yn perthyn i'w deulu ef, ar iddynt gael eu dwyn i rodio yn y goleuni." Rhwng naw a deg o'r gloch cyfarfu nifer o frodyr ef, rywle ynghanol y mynyddoedd, y rhai a dystiolaethent i'r lles a dderbyniasent oddiwrth Dduw trwyddo. Gweddi penderfynu rhyw faterion perthynol i'r gymdeithas fechan yno, a rhoddi ei gofal i'r brawd Joseph, yr hwn y tybiai a ordeiniasid gan Dduw i ofalu am y praidd, aeth yn ei flaen. Daeth myned dros y môr i bwyso ar ei feddwl eto. Gwelai y gallai yr eglwys yn Nghymru fyned yn mlaen hebddo. Ond yr oedd ei galon yn orlawn o anwyldeb at ei blant ysprydol, a gwnaed iddo lefain: "O, pa fodd y gallaf eu gadael?" Cyffrowyd ei yspryd ynddo, ynghanol gwylltineb y mynydd, i fendithio a moliannu Duw. "Pa fodd," meddai, " y gallaf dy fendigo am Iesu Grist, a'r cyfoeth a drysorwyd ynddo?" Wedi' cyrhaedd Cwm Iau, agorodd ei fynwes i Thomas Jones; mynegai am ddrygedd ei galon, yr hwn a gynhyrfid pan glywai ei fod i gael ei esgymuno; wrth adrodd torrodd i lawr gan wendid corph. Pregethodd yr hen offeiriad yn hyfryd; eithr ni chafodd Harris unrhyw nerth; ond cafodd afael ryfedd ar weddi, yr hyn a ddygodd gryfder i'w gorph a'i enaid. Ymadawodd boreu y Llun, gwedi ymgynghori a Mr. Jones, yrCapel Annibynol Watford
hwn a ddangosodd yspryd gwir gatholig, a chyrhaeddodd y Goetre, ger Pontypŵl, o gwmpas saith. Pregethodd yno boreu dydd Mawrth, gan rybuddio y gwrandawyr rhag hunan a drygedd y galon. Cysgodd yn Llanfihangel nos Fawrth. Y peth cyntaf a ysgrifena yn ei ddydd-lyfr boreu Mercher yw: "Myned i'r Gymdeithasfa; y mae gofal yr oll ar yr Iesu." Achwyna ei fod yn wanaidd ei gorph, ac yn teimlo yn druenus heb sicr bresenoldeb Iesu Grist. Cafodd wyneb yr Arglwydd ar ei daith, a dymunai fod ganddo ddeng mil o fywydau i'w cyflwyno iddo. Cyrhaeddodd Watford tua chanol dydd.
Gorwedda Watford ar lechwedd cwm sydd yn myned i mewn i'r mynydd, tua thri chwarter milltir i'r gorllewin o Gaerphili, rhwng dyffrynoedd y Rhymney a'r Taf. Nid oes yno na thref na phentref. Yr unig adeiladau ydynt ffermdy golygus Watford-fawr, yr hwn, yn adeg Howell Harris, oedd yn balasdy o gryn fri, a chapel Ymneillduol Watford, rhyw ddau led cae yn uwch i fynu, ac a dderbyniodd ei enw oddiwrth y tir ar ba un y cawsai ei adeiladu. Dywedir yn Mdhodistiaeth Cymru: "Yn ymyl tŷ Watford, y mae capel Presbyteraidd hen iawn, yn yr hwn yr arferai y Diwygwyr Methodistaidd bregethu, gan y coleddid hwynt gan Mr. a Mrs. Price, y rhai oeddynt yn preswylio yn y palasdy y pryd hwnw. Am y Mrs. Price hon y canodd Williams, Pantycelyn, alareb ragorol ar ol ei marw. Yr wyf yn tueddu i feddwl nad oedd yr un gweinidog sefydlog yn yr hen gapel y pryd hwnw; a chan fod Mr. Price yn llochi y Methodistiaid, efe a agorodd ei dŷ ei hun i'w croesawu, ac a gafodd ganiatâd iddynt ddefnyddio y capel, o leiaf yn achlysurol, i gynal cyfarfodydd." Buasai yn anhawdd gwthio mwy o gamgymeriadau i le mor fychan. Nid gwraig Price, yr ustus, oedd Grace Price, i'r hon y canodd Williams alareb, ond gwraig Cadben Price, ei fab; ac nid oedd wedi ei geni pan y cynhaliai y Methodistiaid eu Cymdeithasfa gyntaf yno. Rhy brin y gellir galw capel Watford yn "gapel Presbyteraidd." Nid oedd ychwaith yn hen; rhyw dair blynedd cyn y Gymdeithasfa y cawsai ei adeiladu; a nerth yr adfywiad a ganlynodd ymweliad cyntaf Howell Harris a'r lle a roddodd galon yn y bobl i ymosod ar y gwaith o'i godi. "Ystafell newydd" y geilw Harris yr adeilad. Nid oedd ychwaith heb weinidog, gan fod David Williams, Pwllypant, yn dal y lle mewn undeb a Chaerdydd.
Cyfarfyddodd y Gymdeithasfa y tro cyntaf yn nghapel Watford am ddau o'r gloch. Meddai Howell Harris, yn ei ddydd-lyfr: " Arosasom yn yr ystafell newydd hyd saith, yna aethom i dŷ y brawd Price." Ar un olwg, y mae yn syn iddynt gael y capel, gan fod David Williams, y gweinidog, wedi darfod cydweithio a hwy. Ond dylid cofio mai rhai a ddychwelasid trwy weinidogaeth Harris oedd y nifer amlaf o'r aelodau yno; mai ei ymweliad ef yn 1738 a fu yn achlysur i'r capel gael ei adeiladu; ac yr ystyriai yr eglwys ei hunan ar y pryd i raddau mawr yn Fethodistaidd, a pharhaodd i deimlo felly hyd nes y darfu i syniadau Arminaidd, a hanner Ariaidd David Williams, orfodi y Methodistiaid i ymwahanu, ac i adeiladu capel y Groeswen. Dewiswyd Mr. Whitefield yn gadeirydd. Agorodd yntau y cyfarfod trwy weddi, mawl, a chyngor. Dywed Harris na welodd y fath serchowgrwydd meddwl, y fath gariad a grym, wedi cyd-gwrdd yn neb ag yn y gŵr da hwnnw. Heblaw Mr. Whitefield, yr oedd yn bresennol y Parchn. Daniel Rowland, John Powell, a William Williams, oll yn offeiriaid urddedig; ynghyd a Mri. Howell Harris, Joseph Humphreys, a John Cennick, lleygwyr. Y chwech hyn yn unig a gyfansoddent y Gymdeithasfa ar y cyntaf. Ystyrid y tri offeiriad yn perthyn iddi ar gyfrif eu hordeiniad; Howell Harris ar gyfrif ei sefyllfa eithriadol fel y mwyaf ei lafur o bawb, a sylfeinydd y nifer amlaf o'r seiadau; a Mri. John Cennick a Joseph Humphreys, oblegyd y safle uchel a feddent yn mysg Methodistiaid Lloegr. Cuwrad Aberystruth, ger Blaenau Gwent, oedd y Parch. John Powell; argyhoeddasid ef trwy weinidogaeth Howell Harris, pan yr ymwelodd gyntaf a'r rhan honno o'r wlad; a daeth mewn canlyniad yn bregethwr efengylaidd a thra sylweddol. Er ei holl awydd am wneyd daioni, cafodd ei erlid yn fawr yn Aberystruth. Ymddengys fod ei wraig hefyd yn ddynes nodedig o grefyddol; a dywed Mr. Edmund Jones y tybid yn gyffredin,[125] ddarfod i waith rhai o'r prif blwyfolion, yn mysg pa rai yr oedd ei thad, wrthwynebu caniatáu i Daniel Rowland bregethu yn yr eglwys effeithio mor ddwys ar ei meddwl, fel ag i fyrhau ei dyddiau. Gwedi dyoddef llawer oblegyd ei gysylltiad a'r Methodistiaid, cafodd Mr. Powell fywoliaeth yn rhan isaf o Fynwy, lle y trigodd hyd ddydd ei farwolaeth.
John Cennick ydoedd fab i Grynwr o Reading, a chafodd ddygiad i fynnu crefyddol, gan gael ei arfer i weddïo nos a boreu gan ei fam. Eithr tyfu yn fachgen drwg a wnaeth John. Arferai ganu caneuon masweddgar, chwareu cardiau, a mynychu y chwareudai; anfonodd ei dad ef naw gwaith i Lundain i'w brentisio i ryw gelfyddyd; eithr ni chymerai neb ef gan mor ddrwg ydoedd, oddigerth rhyw saer, yr hwn a'i derbyniodd ar brawf, eithr a wrthododd ei gymeryd fel egwyddorwas pan ddaeth yr amser i hynny. Argyhoeddwyd y llanc tra yn cerdded Cheapside, un o heolydd poblog Llundain, yn y flwyddyn 1735, tua'r un adeg a Howell Harris. Pa foddion a fendithiwyd iddo, nis gwyddom; ond bu mewn teimladau ofnadwy am amser. Ymprydiai yn fynych, a hyny am amser maith, a gweddïai naw gwaith bob dydd. Ofnai ysprydion yn enbyd; ac yr oedd arno fawr ddychryn cyfarfod a'r diafol. Gan y teimlai fod bara, hyd yn nod bara sych, dienllyn, yn ymborth rhy dda i bechadur mor fawr ag efe, ymroddodd i fwyta cloron, mês, a glaswellt; ac ymawyddai am fyw yn gyfangwbl ar lysiau a gwreiddiau. Ni chafodd heddwch i'w enaid hyd Hydref, 1737; y pryd hwnnw datguddiodd Duw ei drugaredd iddo, ac aeth yntau i'w ffordd yn llawen. Dechreuodd bregethu ar unwaith, fel Howell Harris, a chyfansoddi hymnau. Argraffwyd nifer o'i hymnau, wedi ei golygu gan Charles Wesley, yn y flwyddyn 1739. Yr un flwyddyn cyfarfyddodd a John Wesley, yr hwn a'i hapwyntiodd yn ysgolfeistr i Kingswood, ger Bryste, lle yr oedd nifer mawr o lowyr wedi eu dychwelyd. Cyrhaeddodd Kingswood yn mis Mehefin; er ei fawr siomedigaeth cafodd fod Wesley wedi ymadael am Lundain, ond gwahoddwyd ef i fyned i wrando rhyw ddyn ieuanc yn darllen pregeth i'r glowyr. Lle y cyfarfod oedd dan gysgod sycamorwydden, yn ymyl y fan y bwriedid i'r ysgol fod. Daeth y glowyr ynghyd, tua phum cant o honynt, ond ni ddaeth darllenydd y bregeth. Bu raid i Cennick bregethu iddynt, a chafodd odfa nerthol; dygodd Duw dystiolaeth i air ei ras, a chredodd llawer i fywyd tragywyddol. Pregethodd drannoeth, a dwy waith y Sul dilynol. Daeth Howell Harris i'r lle; ymroddodd y ddau, pregethwr diurddau cyntaf Lloegr, a phregethwr diurddau cyntaf Cymru, i bregethu i dyrfaoedd oeddynt yn awchus am wrando y Gair; fel pan gyrhaeddodd John Wesley yno y dydd Mawrth dilynol, yr oedd clod y ddau efengylwr yn mhob genau. Ni cheisiodd Wesley daflu rhwystr ar ffordd John Cennick, ac iddo ef y perthyn yr anrhydedd o fod yr efengylwr lleygol cyntaf perthynol i'r Methodistiaid Seisonig. Ac ymddengys ei fod wedi ei ddonio yn helaeth. Meddai barodrwydd ymadrodd mawr, a gwroldeb diderfyn. Pan yr ymrannodd Wesley a Whitefield, mewn canlyniad i syniadau Arminaidd y blaenaf, glynodd Cennick wrth y blaid Galfinaidd, ac yr oedd yn un o'r deuddeg a deugain a drowyd allan o gymdeithas Kingswood gan Wesley, yn y flwyddyn 1741. Efe, gwedi hyn, oedd llaw ddeheu Whitefield. Eithr yn y flwyddyn 1745, tra yr oedd Whitefield yn America, ymadawodd a'r Methodistiaid, ac ymunodd a'r Eglwys Forafaidd. Bu farw yn 1755. Dywed Tyerman am dano: "Meddai Cennick ei wendidau; ond mewn bod yn farw i'r byd, mewn cymundeb a Duw, gwroldeb Cristionogol, ac amynedd siriol, byddai yn anhawdd cael ei ragorach." Ychwanega Tyerman, gan lefaru oddiar safle Wesleyad: "Er ei Galfiniaeth, ac er ei ddadleuon a John Wesley, yr ydym yn caru y dyn."
Mab i weinidog Ymneillduol yn Burford, lle heb fod yn nepell o Rydychain, oedd Joseph Humphreys; ac er fod ei enw yn Gymreig, nid oes un sicrwydd ei fod o haniad Cymreig. Ganwyd ef Hydref 28, 1720, felly yr oedd ychydig dros ddwyflwydd ar hugain oed adeg y Gymdeithasfa yn Watford. Cafodd addysg well na'r cyffredin. Bu ei dad farw pan nad oedd Joseph ond llanc tair mlwydd ar ddeg; a chawsai yn ei ddydd ei ddirmygu gan Ymneillduwyr ac Eglwyswyr, oblegyd ei zêl a'i fywyd Puritanaidd. Gwedi hyn anfonwyd Joseph i ysgol yn Llundain, yn mha un yr oedd dynion ieuainc yn cael eu parotoi ar gyfer y weinidogaeth, a thuag at y pwlpud yr edrychai yntau. Arferai y llanciau a fwriedid i fod yn bregethwyr gynnal cyfarfodydd gweddi; tybiai yntau ei hun yn ffodus mewn cael bwrw ei goelbren yn mysg dynion ieuainc o'r fath dduwioldeb a difrifwch; ond yn fuan gwelodd nad oedd yr oll ond clogyn, a'u bod yn ddirgel yn ymroddi i chwareuon annheilwng, yn gystal ag i ymddiddanion cellweirus ac ofer. Y mae ymddiddanion drwg yn llygru moesau da; daeth Joseph Humphreys yn fuan mor ysgafn a'r un o honynt; ac yn y dirgel yn inffìdel. Rhoddodd raff i'w nwydau llygredig, gan arwain bywyd cyhoeddus annuwiol. Yn raddol sobrodd drachefn, ymaelododd mewn eglwys Ymneillduol yn Llundain, a dechreuodd bregethu, "ond yr oeddwn heb fy argyhoeddi," meddai. Haf 1739, aeth i wrando Whitefield, gweinidogaeth yr hwn a ddylanwadai yn fawr arno; wrth weled y torfeydd yn ymwasgu yn awchus i wrando yr efengyl, dywedai ynddo ei hun: "Ni welwyd y fath beth yn Israel." Ceisiodd gymdeithasu ag ef, ac un nos cafodd y fraint o swpera gydag ef a Howell Harris, a rhai brodyr eraill, mewn gwesty yn Blackheath. Gwedi swpera, aed i siarad am bethau crefydd; aeth y tafarndy yn gysegr; teimlai Humphreys y lle yn nefoedd ar y ddaear. Un diwrnod, tra y canent emyn yn yr athrofa, lle y parhâi i fod yn efrydydd, cafodd y fath brawf o gariad maddeuol Crist, fel y toddodd ei galon o'i fewn, ac yr aeth ei lygaid yn ffynhonnau o ddagrau. Holai ei gyd-efrydwyr ef beth oedd y mater; ond yr oll a allai ateb oedd ei fod yn ddedwydd. Gwedi hyn, dechreuodd bregethu mewn ystafell ddawnsio; cafodd gynulleifaoedd mawrion, a ffurfiodd yno gymdeithas eglwysig, yn rhifo tua saith ugain o aelodau. Pregethai yr athrawiaethau Calfinaidd, pechadur yn cael ei gyfiawnhau gerbron Duw ar sail haeddiant Iesu Grist yn unig. Am hyn gwrthwynebwyd ef yn yr athrofa, daeth yn wawd ei gydefrydwyr, cafodd ei erlid gan ei athraw, a'i adael gan ei gyfeillion, tybiwyd ei fod wedi colli ei synhwyrau, a Rhagfyr 19, 1739, cafodd ei esgymuno o'r sefydliad, heb fod unrhyw gyhuddiad arall yn cael ei ddwyn i'w erbyn. Ond er pob peth rhaid oedd iddo gael pregethu, a bu yn gweinyddu i'r seiadau yn Deptford, Greenwich, a Ratcliffe. Caffai ei erlid; weithiau byddai mewn perygl am ei fywyd, oblegyd cerrig yn cael eu lluchio ato, ond ni ofalai. Yn y flwyddyn 1741 unodd a Whitefield, a phregethwr teithiol mewn cysylltiad ag ef ydoedd pan ddaeth i Gymdeithasfa Watford. Hawlia tegwch hanesyddol i ni grybwyll na fu diwedd ei fywyd agos mor ddysglaer a'r rhan gyntaf. Yn mhen amser gadawodd Whitefield, gan gymeryd ei ordeinio yn weinidog Presbyteraidd; a chwedi hynny urddwyd ef yn offeiriad yn yr Eglwys Sefydledig. A dywedir ei fod yn gwawdio y Methodistiaid, ac yn cyfeirio at ei hanes yn ei mysg fel adeg ei wallgofrwydd.
Y mae aelodau eraill y Gymdeithasfa mor adnabyddus fel nad rhaid cyfeirio atynt. Braidd na saif y Gymdeithasfa hon ar ei phen ei hun yn hanes y byd. Mewn difrif, edrycher arni, yn cael ei gwneyd i fynnu o chwech o ddynion ieuainc, pob un dan ddeg-ar-hugain oed, wedi ymgynnull mewn capel bychan ar lechwedd y mynydd, i drefnu mesurau i ddwyn Prydain at Grist! Nid gwallgof ydynt; ac nid wynebu ar anturiaeth, heb ymdeimlo a'i hanhawsderau, y maent ychwaith. Y maent yn ofnadwy o ddifrifol, eu calonnau sydd yn berwi ynddynt gan gariad at yr Iesu, a zêl am achub eneidiau; y mae amryw o honynt yn barod yn adnabyddus trwy Loegr a Chymru fel pregethwyr digyffelyb, y rhai gyda hyawdledd wedi ei ieuo gydag efengyl bur, a fedrant dynnu miloedd i'w gwrando, a'u cadw am oriau wyneb yn wyneb a sylweddau tragywyddoldeb. Edrychir arnynt gan gannoedd fel eu tadau yn Nghrist, a cherir hwy mor angerddol gan lawer, fel y tynnent eu llygaid o'u pennau iddynt. O'u cwmpas, yn y capel diaddurn, y mae degau a gawsent eu hargyhoeddi trwy eu hofferynoliaeth, ac mewn canlyniad a ddechreuasent gynghori pechaduriaid; ond yn awr ydynt yn disgwyl yn bryderus am gael rhyw gyfran benodol yn y gwaith ysprydol wedi ei gyflwyno iddynt. Cyfarfod hanesyddol oedd y cynulliad; teimlir ei ddylanwad hyd y dydd hwn; a diau y bydd ei hanes yn felus hyd byth gan bawb ag y mae lles ysprydol Cymru yn agos at eu calonnau.
Gwaith cyntaf y cyfarfod oedd arholi y cynghorwyr cyhoedd, sef y rhai a arferent deithio o gwmpas i bregethu, dan nawdd y Diwygwyr. Ei henwau oeddynt Herbert Jenkins, James Beaumont, Thomas James, Morgan John Lewis, Benjamin Thomas, John Jones, a Thomas Lewis. Deuant oll dan ein sylw eto. Profwyd hwy a chwestiynau celyd, a hynny nid yn unig gyda golwg ar eangder eu gwybodaeth, a'u huniongrededd, ond hefyd gyda golwg ar waith gras ar eu calonau, eu cymhellion i'r gwaith, a'r doniau a feddent fel cymhwysder ar ei gyfer. Gwedi bod yn ymddiddan a hwy yn y capel hyd saith, ymneillduwyd i balas Watford, ac yr oedd yn agos i un o'r gloch y boreu pan eu derbyniwyd yn aelodau o'r Gymdeithasfa. Whitefield a John Cennick a gymerent y rhan fwyaf blaenllaw yn yr ymddiddan. A ddarfu i Howell Harris gael briw am na chafodd ei osod yn y gadair, ac am fod y ddau Sais yn cael lle mwy amlwg nag efe? Yr ydym, oddiwrth rai dywediadau yn ei ddyddlyfr, yn tybio iddo gael. Cawn ef yn achwyn ar yr ymosodiadau a wnelai hunan arno: "Bydded i mi geisio bod yn ddim," meddai; "myfi yw y gwaelaf, y balchaf, y dallaf, a'r gwaethaf o bawb," meddai drachefn; dywed ei fod yn ofni agor ei enau, fod yn dda ganddo mai i ran Whitefield y syrthiodd y gwaith, yr ymawyddai am fod yn guddiedig a chael ei anghofio; ond fod prudd-der dirfawr wedi ymdaenu drosto. Ymddengys hyn fel pe bai yn ymladd yn erbyn rhyw siomiant a gawsai yn y cyfarfod. Paham lai? Dyn a gwendid ynddo oedd yntau. Ond cafodd fuddugoliaeth ar y teimlad anfoddog yn fuan, a thyr allan i weddïo dros Whitefield, yr offeiriaid, a'r cynghorwyr. Daeth y pwnc o fyned dros y môr i'w flino drachefn; dywed nad oedd wedi cael amlygiad clir o feddwl yr Arglwydd ar y mater; ond daeth i hyn: "Os wyf i fyned, yr wyf yn ddedwydd; os nad wyf i fyned, yr wyf yn ddedwydd; ond bydded i mi gael gras i ogoneddu Duw."
Boreu dydd Iau, am wyth, pregethodd Daniel Rowland, oddiar Rhuf. viii. i: "Nid oes gan hynny yn awr ddim damnedigaeth i'r rhai sydd yn Nghrist Iesu;" yr oedd yn odfa nerthol. Dangosodd natur cyfiawnder Crist, a'r perygl i'r athrawiaeth am gyfiawnhad heb weithredoedd gael ei chamddeall a'i chamddefnyddio. Dangosodd yn mhellach nodau y rhai a gawsent eu cyfiawnhau trwy ras, nad ydynt yn byw mewn pechod, nac yn cael pleser ynddo; ac eglurodd nodwedd y rhai sydd yn rhodio yn ôl yr Yspryd. Cafodd y bregeth ddylanwad dwfn, yn enwedig ar y pregethwyr; teimlai Howell Harris ei fod ef yn caru yr Yspryd Glan yn arbennig, a dywedai James Beaumont ei fod ef wedi cael cariad newydd at y Tri Pherson. Ymffurfiodd y Gymdeithasfa drachefn am un-ar-ddeg. Prif waith y cyfarfod oedd arholi y cynghorwyr anghyoedd, yr hyn orchwyl a ymddiriedwyd yn bennaf i Howell Harris. Cafodd nerth rhyfedd gyda hyn. Dywed fod ei sylwadau yn cyrhaedd i'r byw; iddo gyfeirio at y farn, a thragywyddoldeb, a'r gyfraith, nes yr oedd dychryn yn ymdaenu dros bawb; "yr oedd yn lle ofnadwy," meddai. Gwasgodd arnynt, os oeddynt yn teimlo ddarfod i'r Yspryd Glan ymddiried gofal yr ŵyn iddynt, y rhaid iddynt gael eu llenwi a gofal tad, tynerwch mam, a chydymdeimlad brodyr; fod arnynt eisiau yr Iesu yn yr oll o'i enwau, brenin, offeiriad, a phrophwyd; ac yn ei holl rasau, ffydd, cariad, gostyngeiddrwydd, doethineb, mwyneidd-dra, a thosturi. "Teimlwn hwy," meddai, " fel rhan o honof fy hun; yr oeddwn yn foddlon bod yn arolygwr i wylio drostynt; ac yr oeddwn yn dra chartrefol gyda hwynt. Darostyngwyd hwythau hyd adref; deallent fod arnynt eisiau pob cymhwysder." Buwyd yn y capel hyd saith, yn ymdrin a gwahanol faterion; "ac yr oeddym oll yn cyduno ar bob peth," meddai Howell Harris. Awd gwedi hynny i'r tŷ; eisteddwyd i fynnu hyd gwedi deuddeg yn gorphen y gwaith, yn gosod pob un yn ei le, ac yn trefnu y Gymdeithasfa. "Yr oeddym yn llawn cariad," meddai Harris, "yn sicr, yr oedd yr Arglwydd gyda ni; o gwmpas dau, aethum i'm gwely yn hyfryd yn fy yspryd." Gwelir, os cafodd teimlad anniddig le yn ei fynwes y dydd blaenorol, ei fod erbyn hyn wedi diflannu yn llwyr; fod dylanwad yr Yspryd Glan wedi ei uno ef a'r holl frodyr ynghyd, fel y mae dau haiarn yn cael eu hasio mewn twym ias. Yr oedd rhyw fan bethau, pa fodd bynnag, heb eu llwyr benderfynu; a chyfododd y brodyr o gwmpas hanner awr wedi saith dydd Gwener, i orphen y trefniadau. "Erbyn deg," meddai Howell Harris, "yr oeddym wedi trefnu ein holl faterion, ac yn llawn cariad. O'r fath heddwch, doethineb, serch, a threfn a welir pan y rhoddir yr holl waith i ddwylaw yr Arglwydd!" Ymadawodd y nifer fwyaf tua chanol dydd, eithr arosod Harris a John Cennick i bregethu y noswaith honno. Cawsant odfa ryfedd. Sylw Harris yw: "Daeth Duw i lawr." Teimlai ei hun yn cael ei dynnu allan o hono ei hunan yn felus pan y pregethai Cennick; aeth ei gadwynau yn ddarnau; teimlai ei fod mewn byd newydd, byd o ryddid. Yr oedd yr effeithiau yn ddwysach pan yr aeth ef ei hun i lefaru. " Yr oeddwn fel yn yr amser gynt," meddai; " dangosais fod y rhai sydd yn meddu ffydd yn Nghrist yn gweled gogoniant yr Iesu, eu bod yn aros yn yr Yspryd, yn caru eu gilydd, yn meddu gwir zêl dros achos Duw; eithr eu bod yn myned allan o'r Yspryd yn fynych, fel plentyn gwedi myned dros drothwy y drws, yn cael ei hun yn ddiarwybod iddo yn mysg y cwn a'r moch, ond na faidd y creaduriaid hyn ddyfod i'r tŷ. Yn sicr, gwresogwyd llawer gan dan Duw. Yna aeth yn floedd yn mysg y dorf." Dyddorol yw deall na therfynodd y Gymdeithasfa gyntaf, mwy na degau o Gymdeithasfaoedd ar ei hol, heb arwyddion amlwg o'r Presenoldeb dwyfol. Ymadawyd ynghanol moliant a chan. Ac os oedd llethrau mynydd Caerphili, a dyffrynnoedd y Taf a'r Rhymney, yn adseinio y noswaith hono gan glodforedd y dorf a ddychwelai adref wedi yfed hyd at ddigon o felus win yr iachawdwriaeth, nid oedd ond canlyniad naturiol y dylanwadau a ddisgynnent yn ddibrin ar y lliaws a ymgasglasai ynghyd.
A ganlyn yw penderfyniadau y Gymdeithasfa, fel eu ceir yn llawysgrif Howell Harris: "[126] Cydunwyd fod y brodyr canlynol i fod yn gynghorwyr cyhoedd; sef Herbert Jenkins, James Beaumont, Thomas James (i fod fel y mae hyd nes y byddo ei amgylchiadau wedi cael eu trefnu), Morgan John Lewis, Benjamin Thomas, John Jones, a Thomas Lewis.
- Cydunwyd fod Richard Tibbott i fod yn ymwelydd cyffredinol a'r seiadau.
- Cydunwyd fod y brodyr canlynol i fod yn gynghorwyr anghyoedd: James Williams, i ymweled a'r cymdeithasau yn Cayo, Talley, Llanfynydd, a Llangathen.
- Morgan Hewes (felly y sillebir ei enw), Cayo, Lledrod, a Rhydfendigaid.
- David Williams, Lledrod a Llanilar.
- Price Thomas, Pontargamddwr a Charon.
- John Powell, Defynog.
- Wm. Evans, Llanddewi, Llandegle, a LIandrindock (Llandrindod?).
- Howell Griffith, Llantrisant a Glynogwr.
- Richard Thomas, Llanedern, ac i gynorthwyo yn Watford.
- John Belsher, ymwelydd a'r brodyr sengl yn Watford.
- Evan Thomas, Mynyddislwyn.
- William Rice, ymwelydd a'r brodyr priod yn Watford.
- Thomas Evans, i gymeryd gofal y pethau allanol yn Watford.
- William Morgan, ymwelydd y gwŷr.
- Henry Harris, i gynorthwyo y brawd Price.
- Thomas Price, i gymeryd gofal Watford.
- William Powell, i gymeryd gofal y seiadau yn ei dŷ.
- Stephen Jones, Glasgoed a'r Goetre.
- Thomas Lewis, Pentyrch a Newhouse.
- Richard Jones, a John Deer, Aberthyn, Llanilltyd, ac Aberddawen.
- Charles Powell, Glasbury a Bronllys.
- John Jones, Cwmdu a Grwynefechan.
- Morgan John, Palleg, Creunant, Llanddeusant, a Cwmaman.
- Cymeradwywyd Wm. Harry, a John Richards.
- Cydunwyd ar i'r brodyr a deimlent betrusder gyda golwg ar dderbyn y sacrament yn yr Eglwys, oblegyd annuwioldeb yr offeiriaid; a chyda'r Ymneillduwyr, oblegyd eu clauarineb, barhau i dderbyn yn yr Eglwys, hyd nes yr agorai yr Arglwydd ddrws amlwg i ni adael ei chymundeb.
- Cydunwyd na fyddai i'r un cynghorwr gael ei dderbyn i'n mysg ond y sawl a fyddai wedi ei gymeradwyo; ac nad oedd neb i fyned dros ei derfynau gosodedig heb gael ymgynghoriad a chyfarwyddyd yn gyntaf.
- Cydunwyd fod i bob cynghorwr anghyoedd ddwyn adroddiad am y cymdeithasau sydd dan ei ofal, ynghyd a phwy a fydd wedi cael eu derbyn i aelodaeth, i'r Gymdeithasfa, yr hon sydd i gael ei chynnal y Mercher cyntaf gwedi y 25ain o Fawrth, 1743.
"Gwelodd yr Arglwydd yn dda fod yn mysg y brodyr, ac, yn ôl pob ymddangosiad, i lewyrchu ei wyneb ar eu hymgynghoriad. Gogoniant yn y goruchaf i Dduw." Gwelir fod yspryd yr ysgrifennydd, yr hwn nid oedd yn neb amgen na Howell Harris, wedi gwresogi o'i fewn wrth groniclo y cofnodion; y mae ei draed ar yr uchelfannau; ac ymdora ei deimlad brwdfrydig allan mewn moliant i'r Arglwydd, yr hwn a'u harweiniasai yn eu holl ymgynghoriadau. Y mae amryw bethau yn y cofnodion sydd yn galw am sylw. Gwelwn fod Watford yn cael ei wneyd yn fath o ganolbwynt i'r symudiad. Ai sefyllfa gyfleus y lle, fel man canolog rhwng Cymru a Lloegr, oedd y rheswm am hynny, ynte cymhwysder Thomas Price, perchennog a phreswylydd palas Watford, at y gorchwylion y rhaid eu cyflawni mewn lle o'r fath, nis gwyddom. Y mae y penderfyniad yn annog y rhai oeddynt yn betrusgar gyda golwg ar pa le y derbynient y cymundeb, i barhau i wneyd hynny yn yr Eglwys Wladol, wedi cael ei feirniadu yn llym. Meddai y Parch. T. Rees, D.D:[127] "Y mae y penderfyniad yn arddangos ymlyniad dull arweinwyr cyntaf y Methodistiaid wrth yr Eglwys Sefydledig, pan yr anogent eu canlynwyr i gymuno yn yr eglwysydd plwyfol gydag offeiriaid annuwiol, yn hytrach na chyda yr Ymneillduwyr clauar, pa mor dduwiol bynnag y gallent fod." Fod yr arweinwyr Methodistaidd, yn arbennig Howell Harris, yn dwyn mawr zêl dros yr Eglwys Sefydledig, sydd sicr; fel Eglwyswyr yr edrychent arnynt eu hunain; ac nid oeddynt am adael ei chymundeb, oni orfodid hwynt. Ond efallai nad oedd eu hymlyniad mor ddall ag y myn Dr. Rees. Gellir dwyn y rhesymau canlynol dros y penderfyniad y daethent iddo: (i) Anogaeth ydoedd i'r rhai oeddent hyd hyny wedi arfer cymuno yn yr Eglwys; profir hyny gan y gair "parhau;" nid oes yma gymaint ag awgrym i'r Ymneillduwyr i adael yr enwad i ba un y perthynent. (2) Yr oedd yr oerni a'r clauarineb ysprydol oedd wedi meddiannu llawer o'r eglwysi Ymneillduol yr adeg hon, yn gymaint rhwystr ar ffordd crefydd yn mryd y Tadau Methodistaidd, a buchedd anfoesol yr offeiriaid. Yn eu golwg hwy nis gallai oerni ysprydol a duwioldeb gyd-drigo. Nis gallai dyn wedi ei ferwi gan y diwygiad, a'i galon yn llosgi ynddo gan gariad at y Gwaredwr, lai na theimlo gwrthnaws o'i fewn wrth weled gwasanaeth y cymundeb yn cael ei gyflawni gan weinidog a'i yspryd ynddo mor oer a'r rhew. Ac mewn aml i fan yr oedd yr oerni yn gynnyrch syniadau anefengylaidd am berson Crist, a natur yr iawn a roddodd. Yn yr Eglwys, pa mor anfucheddol bynag y gallai yr offeiriad a weinyddai fod, yr oedd y gwasanaeth a ddarllenid ganddo yn ardderchog, ac yn llawn maeth i dduwioldeb. (3) "Hyd nes y rhoddai yr Arglwydd ddrws agored iddynt i adael cymundeb yr Eglwys," yr oedd yr anogaeth. Felly y dywed y penderfyniad. Ymddangosai yr adeg yn ymyl iddynt ar y pryd; yr oedd gwaith rhai o'r offeiriaid yn gwrthod y sacrament i'w canlynwyr fel yn dwyn pethau i argyfwng; ac os y dymunent i'r rhai a gawsent eu hargyhoeddi trwy eu gweinidogaeth barhau ynghyd, heb fod rhai yn ymuno a'r blaid yma, a'r lleill a'r blaid arall, pwy a fedr eu beio? (4) Yr oedd yspryd diflas, ac, i raddau, erledigaethus, at y Methodistiaid, fel yr ydym wedi sylwi yn barod, wedi cael lle erbyn hyn yn mynwesau llawer o'r gweinidogion Ymneillduol, ac yn eu heglwysi. Mewn rhai eglwysi awd mor bell ag atal o gymundeb y rhai a fynychent gyfarfodydd y Methodistiaid.[128] Yn nghofnodau Cymdeithasfa Fisol Glanyrafonddu, a gynhaliwyd Ebrill 17, 1744, ceir cyfeiriad at un Thomas Dafydd, a gawsai ei ddiarddel gan yr Ymneillduwyr oblegyd ymgyfathrachu a'r Methodistiaid, a chaniateir iddo aelodaeth, a gwasanaethu fel cynghorwr anghyoedd ar brawf, tan arolygiaeth y brawd James Williams, ond nad ydyw i adael ei alwedigaeth. Yr ydym wedi crybwyll am hen wraig, o'r enw Betti Thomas, yn cael ei bygwth ag esgymundod oblegyd yr un peth, yn ngodreu Sir Aberteifi. Ffynai yr un teimlad yn Lloegr, lle y dyoddefodd y duwiol a'r diragfarn Dr. Doddridge ei erlid yn dost gan yr Ymneillduwyr, am ymgyfathrachu a'r Methodistiaid. Yr oedd yr ysprydiaeth yma yn naturiol wedi cynhyrchu diflasdod yn y Methodistiaid at yr Ymneillduwyr, nes erbyn hyn yr oeddynt wedi myned, mewn llawer man, yn bur bell oddiwrth eu gilydd. Erbyn cymeryd yr oll i ystyriaeth nid yw penderfyniad y Gymdeithasfa yn Watford, gyda golwg ar gymuno yn yr Eglwys, mewn un modd i synnu ato.
Nid oes unrhyw gyfeiriad at Howell Harris, na neb o'r offeiriaid, yn mhenderfyniadau y Gymdeithasfa; ond y mae eu gwaith yn cael ei benodi yn y nodiad, a ddifynwyd gennym yn barod, sydd yn blaenori y cofnodau; sef fod y brawd Harris i arolygu yr holl eglwysi a'r cynghorwyr, a bod y gweinidogion ordeiniedig i fyned o gwmpas hyd byth ag y medrent. Cafodd Howell Harris y gorchwyl a ddymunai ei galon. Os oedd yn bryderus cyn i'r Gymdeithasfa gyfarfod, yr oedd ei yspryd yn llawn hyder a gorfoledd gwedi iddi fyned trosodd. "Penderfynwyd gan yr Arglwydd," meddai, "gyda golwg ar fy arosiad yn Nghymru, fy mod i aros i drefnu y cymdeithasau, i ddarllen, ac i ysgrifennu hyd byth ag y caniatâ fy nghorph. Wrth weled cynllun Duw, fel y dymunaswn iddo fod, llanwyd fy enaid a chariad, fel y llefwn: 'O, gad i mi ddwyn dy holl feichiau di.' Aeth fy nghalon gyda'r rhai a ymadawent a'r Gymdeithasfa." Ymadawodd yntau dydd Sadwrn, ond nid cyn gweddïo yn daer am gael ei gynysgaeddu yn helaeth a'r cymhwysderau gofynnol i'w waith. "O, Iesu," llefai, "er mwyn dy ogoniant dy hun, a'th enw, a'th achos, dyro i mi ffydd, cariad, gallu, a phob doniau, gan fy mod yn eu gofyn er dy fwyn di a'th ogoniant, ac nid i mi fy hun, nid hyd yn nod er mwyn fy iachawdwriaeth; a dyro dy fendith ar fy llafur." Cyd-deithiai amryw frodyr gydag ef, ac yn eu mysg Beaumont a Cennick. Cyrhaeddasant Gelligaer erbyn tua deuddeg. Wrth fod Beaumont yn gofyn bendith ar yr ymborth yno, cafodd Howell Harris ymweliad o'r nefoedd; gweddïodd yn dufewnol am gymorth i fugeilio yr ŵyn; am bob doethineb, cariad, tynerwch, a gofal angenrheidiol at y gorchwyl; a dywed ei fod yn teimlo yspryd y bugail yn barod o'i fewn. Aeth Harris yn ei flaen trwy Cantref, lle y treuliodd ran o'r Sabbath, Felinfach, a Llywel, gan ddychwelyd i Drefecca dydd Iau. Ni fu yno ond dau ddiwrnod, gan fod trefnu y cymdeithasau yn unol a phenderfyniad y Gymdeithasfa, a dwyn yr holl gynghorwyr i ufudd-dod, yn galw arno i fyned o gwmpas. Eithr gwelodd ryw ogoniant yn Nghrist cyn cychwyn i'w daith, na welsai ei gyffelyb erioed o'r blaen, a hynny yn bennaf trwy ddarllen llyfr wedi cael ei ysgrifennu gan un o'r Bedyddwyr ar natur eglwys. Dywed fod dynion yn ymrannu yn bleidiau, er fod natur yr eglwys yn ysprydol, ond fod yr Yspryd yn bendithio rhywbeth perthynol i bob un iddo ef, a'i fod yn rhydd oddiwrth fod mewn caethiwed i blaid.
Erbyn y Gymdeithasfa Fisol yn Llanddeusant, yr hon a gynhaliwyd Chwefror 3, 1743, yr oedd wedi teithio trwy rannau helaeth o Siroedd Brycheiniog, Mynwy, a Morganwg, gan sefydlu y seiadau, a phregethu yr efengyl. Ni ddywedir pwy oedd yn bresennol yno, rhoddir yn unig y penderfyniadau, y rhai sydd fel y canlyn: "Fod y rhai sydd yn cynghori mewn un seiad i barhau, fel yr ydym yn awr yn eu cymeradwyo, ar yr amod eu bod yn dyfod i'n Cymdeithasfa nesaf.
"Fod y brodyr W. Williams, Cerigcadarn; William John, Lancothi; Jenkin Jenkins, Llandefathen; David Rees, Tirabbad; Hopkin John, a John Meyrick, i fod fel y maent yn awr yn cael eu trefnu, a'u bod i ddyfod i'r Gymdeithasfa nesaf.
"Fod y rhai canlynol i gael eu dystewi hyd y Gymdeithasfa nesaf, ac i gyfarfod a ni yno, sef James Tomkins; David Price, Dyserth; Richard Thomas, Ystradfellte; John David, Llandyfeilog; John Watkins, Defynog; a Thomas Price, Llandilo Fach.
"Fod y brawd John Jones, Cayo, i ymsefydlu yn agos i Gastellnedd, ac i arolygu bob yn ail wythnos y seiadau yn Creunant, Hafod, Castellnedd, Palleg, Cwmamman, Llandilo Fach, Llangyfelach, Llansamlet, Llanddeusant, Blaen Llywel, Casllwchwr, Llanon, Pembre, a Defynog, gyda y brawd John Richard; a'u bod i gael eu cynorthwyo gan y brawd Jeffrey Dafydd yn Llanddeusant, John Powell yn Defynog, Jenkin John yn Llywel, Edward Meyrick yn Pembre, a George Phillips yn Nghastellnedd a'r Hafod.
- Fod y brawd Richard William Dafydd i arolygu y seiadau yn Llandyfaelog, Cilgarw, Llanddarog, a Chaerfyrddin.
- Fod y brawd John Rees i gynghori dan ofal y parchedig frawd William Williams.
- Fod y brawd William Richard i arolygu y seiadau canlynol: Blaenheinaf (Blaenhoffnant), Dyffryn Saith, Blaenporth, Twrgwyn, Llechryd, a Lhmfair-y-llwyn.
- Fod y brawd William Harry i gadw ysgol yn Sir Gaernarfon, ac i gynghori yn y gymydogaeth, hyd byth ag y medr, rhwng oriau yr ysgol.
- Fod y brawd William John, Llanwrda, a'r brawd Dafydd, i gynorthwyo y brawd James Williams yn seiadau Llanwrda, Llansadwrn, Cilgarw, a Talley.
- Fod y brawd Richard Tibbot i gadw ysgol yn Sir Benfro.
- Fod y brawd John Dafydd i lefaru ar brawf o flaen y brodyr yn seiadau Llandyfaelog, a Chilgarw, hyd nes cawn farn y brodyr."
Dyma gofnodau Cyfarfod Misol cyntaf Sir Gaerfyrddin. Gwelir mor debyg oedd ei waith a'i arddull i eiddo Cyfarfod Misol yr amser presennol. Awgryma y cofnodau amryw gwestiynau dyddorol, nad oes gennym hamdden i sylwi arnynt; ond rhaid i ni ddifynu rhan o ddyddlyfr Howell Harris gyda golwg ar y cyfarfod. Fel hyn yr ysgrifenna: "Cymdeithasfa Fisol yn Llanddeusant. Ar y ffordd yno yr oeddwn yn sych, a marw, a difater; ond yn y man, trwy gredu fod Duw wedi fy ngharu fel yr ydwyf, yn galed ac yn ddifater, dechreuodd cariad gynhesu yn fy enaid, a gollyngwyd fi yn rhydd. Gwelaf fod Duw yn fy ngharu yn fy mhechod, heb yr un rheswm am hynny, ond am mai felly y rhynga bodd yn ei olwg. Teimlais ynof fod Duw yn myned i wneyd rhyw bethau mawrion ynof fi, neu i mi, neu drwof fi, neu erof fi. Am y rhan fwyaf o'r ffordd yr oedd fy nghalon yn llosgi ynof fel pentewyn o'r tan. Daethum i'r lle gwedi deuddeg, ac yno yr eisteddasom yn penderfynu materion y seiadau hyd yn agos i saith, ac mewn gweddi. Dygodd yr Arglwydd fi y tu fewn i'r llen, a chadwodd fi yno yn hyfryd, am y rhan fwyaf o'r amser. Myfi yw y gwaelaf o honynt oll, ond yr hyn a ofnais a fuasai yn faich i mi a wnaed yn hawdd ac yn felus. Cytunasom oll. Yn sicr yr oedd yr Arglwydd yno. Ond wrth ganu yr hymnau diweddaf, cyneuwyd ynom y fath fflam fel na allem ymadael; yn sicr tosturiodd yr Iesu wrthym; ac er fy mod (yn flaenorol) yn ddifater, cyneuwyd ynof y fath gariad at y brodyr, fel yr oeddwn fel gwreichionen o dan mewn fflam. A phan y gwelais fod un o'r brodyr i fyned i Ogledd Cymru, darfu i fy enaid yn wir fendithio Duw am hynny. Wrth ganfod fod y nerth oll, fel pe bai, gyda y brawd Rowland, teimlais fy enaid yn ddiolchgar ynof; yr oeddwn yn foddlon cael fy yspeilio o'm nerth a'm doniau er mwyn iddo ef gael yr oll; llawenychais a bendithiais Dduw yn wir wrth ei weled ef mor llawn o Dduw. O, fel y gwresogem ynghyd! Gwedi eistedd a threfnu ein holl amgylchiadau, gwrandewais ar un o'r brodyr yn cynghori hyd nes oedd wedi naw. O'r fath bethau y mae yr Arglwydd yn myned i'w cyflawni ar y ddaear, yn neillduol erof ac ynof fi! O'r fath newyddion a glywais o Sir Aberteifi, y fath dywalltiadau o'r Yspryd sydd yno, y fath fflamiau o gariad! Fflamiai fy nghalon, a llosgai ynof fel pentewyn glo, wrth ganfod fel y mae Duw yn rhoddi gallu, a zêl, a goleuni i'r brodyr." Gwelir ddarfod i'r Cyfarfod Misol cyntaf derfynu mewn moliant; fod y brodyr yno oll yn gytûn ac yn cydweled; fod doniau ardderchog Rowland yn rhoddi iddo y flaenoriaeth ar bawb yn ngolwg Howell Harris, a'i fod yntau yn gallu bendithio Duw y nefoedd o herwydd y gras a arddangosid ynddo.
Yn nghofnodau Trefecca rhoddir hanes cyfarfod a gynhaliwyd yn Nhrefecca, Chwefror 7, 1743, sef yn mhen pedwar diwrnod gwedi Cyfarfod Misol Llanddeusant. Dibwys oedd y penderfyniadau a basiwyd, ac yr oedd y rhai hyny i gael eu cyflwyno i ystyriaeth bellach y Gymdeithasfa. Y tebygolrwydd yw nad oedd yn Gyfarfod Misol rheolaidd, a gwelwn oddiwrth ddydd-lyfr Howell Harris nad oedd efe yn bresennol. Cynhaliwyd cyfarfod yn Tyfyn, neu Tyddyn, Sir Drefaldwyn, Chwefror 17, pan y penderfynwyd fod y brodyr Morgan Hughes, Benj. Cadman, a Lewis Evan i gymeryd gofal y seiadau yn Tyddyn, Llanidloes, Llanllugan, Llanwyddelan, Bwlchyrhwyaid, a Mochdre, gyda Thomas Bowen fel goruchwyliwr neu genhadwr. Yr oedd Howell Harris yn hwn; eithr y mae yn amheus a oedd yn gyfarfod rheolaidd; y tebygolrwydd yw mai cymeryd mantais ar bresenoldeb y Diwygiwr o Drefecca a wnaed i ymgynghori ar ychydig bethau. Rhaid mai byr hefyd fu yr ymgynghoriad, oblegyd dywed Harris yn ei ddyddlyfr iddo fod yn ysgrifennu hyd o gwmpas deg, ac y mae yn pregethu yn Nhrefeglwys, pellder o ryw saith milldir, o gwmpas deuddeg. Tebyg mai gwedi yr odfa y nos flaenorol y bu yr ymgynghoriad.
Yn ganlynol, cawn gyfarfod yn Llanwrtyd, na roddir ei ddyddiad, pan y gosodwyd yr holl gynghorwyr yn y rhan honno tan ofal y Parch. W. Williams, oedd ar y pryd yn guwrad yn Llanwrtyd.
Mawrth i, 1743, cynhaliwyd Cymdeithasfa Fisol dra phwysig yn Glanyrafonddu, Sir Gaerfyrddin, yn mha un y gwnaed cryn nifer o drefniadau, ac y cydunwyd ar nifer o gynygion i'w cyflwyno i'r Gymdeithasfa Chwarterol oedd i gael ei chynnal yn Watford. Yn mysg pethau eraill penderfynwyd: "Fod y brawd David Williams, Llangyndeyrn, i gynghori yn unig gerbron y brodyr, yn y cymdeithasau preifat agosaf, hyd nes y byddo wedi cael tystiolaeth oddiwrthynt, a'i fod i ddyfod i'n Cymdeithasfa nesaf i gael ei holi.
Fod y rhai canlynol i gael eu dystewi, am ein bod yn argyhoeddedig nad ydynt wedi cael eu hanfon gan Dduw: James Tomllins; Richard Thomas, Ystradfellte; John Watkins, Defynog; a Thomas Price, Llandilo Fach.
Fod y brawd John Richard, Llansamlet, i gymeryd gofal, ac i gynghori yn seiadau Cefnfedw, Blaencrai, Llanddeusant, Cwmaman, Llanon, Pembre, Casllwchwr, Llandafen, Llandremor, Llangyfelach, Llansamlet, Castellnedd, Hafod, Creunant, a Talley; ei fod i ymweled a hwy unwaith bob pythefnos, un bob dydd, ac i gael ei gynorthwyo gan John Jones, Cayo, yr hwn sydd i ymweled a hwy unwaith yn y mis, gan fyned o gwmpas un wythnos, a gweithio yr wythnos arall
Fod y brawd William Harry i gadw ysgol yn Sir Gaernarfon; a'r brawd Richard Tibbott i gadw ysgol yn Sir Benfro.
Fod y brawd John David, o Landyfaelog, i lefaru yn seiadau Llandyfaelog a Chilgarw, ar brawf, gerbron y brodyr, hyd y Gymdeithasfa nesaf, pan y disgwylir barn y brodyr o berthynas iddo.
Fod Hopkin John, Llangyfeiach; John Meyrick, Llandafen; a John Jones, Llandyfalle, y rhai na ddaethant hyd yn hyn i'n Cymdeithasfa i gael eu holi, i aros yn y lleoedd a benodwyd iddynt fel y maent wedi eu sefydlu, ar yr amod eu bod yn dyfod y tro nesaf, os bydd hynny yn gyfleus iddynt."
Yr ydym yn rhoddi lle i'r cofnodau hyn, oblegyd eu bod yn ddangoseg o'r modd y gweithredai y Methodistiaid yn eu Cymdeithasfaoedd, a'u Cyfarfodydd Misol cyntaf; mor fanwl oeddynt yn eu trefniadau, ac mor ddidderbyn wyneb a chydwybodol. Am lawer o'r cynghorwyr y cyfeirir atynt, y mae pob peth perthynol iddynt ond eu henwau wedi myned yn angof; nid oes efallai gymaint a thraddodiad o barthed iddynt ar gael yn yr ardaloedd lle y preswylient; nid oes adswn o'u hanes wedi cyrhaedd i lawr i'n hoes ni; ac eto, y mae yn sicr fod rhai o honynt yn ddynion o ddefnyddioldeb mawr, os mewn cylchoedd cymharol gyfyng; eu bod yn llawn zêl ac ymroddiad, ac nid oes ond y dydd hwnnw a ddengys faint yr aberth a wnaethant dros yr Arglwydd Iesu, a pha mor ddyledus yw y cyfundeb Methodistaidd hyd yn nod y dydd hwn i'w llafur cariad.
Pasiwyd hefyd y penderfyniadau dilynol fel cynygion i'w cyflwyno i'r Gymdeithasfa: "Fod y Gymdeithasfa Gyffredinol o weinidogion a chynghorwyr, sydd yn unedig yn Lloegr a Chymru, i gyfarfod yn unig bob hanner blwyddyn, oblegyd y pellder mawr. Fod y brodyr Saesnig i gyfarfod unwaith cydrhwng, felly hefyd y brodyr Cymreig, rywle tua chanol y Deheudir, fel y penderfynir; ond eu bod i ymohebu yn fisol trwy lythyrau. Fod cynifer ag a fedr o'r gweinidogion, a'r cynghorwyr cyhoedd, i gyfarfod unwaith y mis, neu ddwywaith rhwng pob Cymdeithasfa Chwarterol, neu i anfon eu llythyrau. Fod gofal cyffredinol yr holl achos i gael ei gyflwyno i'r gweinidogion ordeiniedig, sef meistri Whitefield, Rowland, Howell Davies, John Powell, Thomas Lewis, a William Williams; ac fel ymwelwyr cyffredinol, neu gynorthwywyr, dan y chwech gweinidog hyn, fod y chwech canlynol i gael eu hapwyntio, sef Meistri John Cennick, Thomas Adams, a Joseph Humphreys, yn Lloegr; a Meistri Howell Harris, James Beaumont, a Herbert Jenkins, yn Nghymru; eu bod i gael fel cynorthwywyr, er mwyn arolygiaeth fanylach, y chwech cynghorwr anghyoedd a ganlyn, pob un o honynt i gael cylch a gofal neillduol, sef John Richard, William Richard, John Harris, Thomas James, John Jones, a Morgan John (Morgan John Lewis, yn ddiau), deuddeg cymdeithas yr un, neu lai, iddynt; a Morgan Hughes, James Williams, Milbourn Bloom, Thomas Lewis, Thomas Williams, Richard William David, chwech cymdeithas yr un. Yn gyflawn, 6 gweinidog urddedig, 6 i'w cynorthwyo; 6 cynghorwr dros ddeuddeg o seiadau, a 6 dros chwech o seiadau. Fod yr holl gynghorwyr anghyoedd eraill i roddi cyfrif am yr un neu ddwy gymdeithas sydd o dan eu gofal i'r ymwelydd cyffredinol a fyddo wedi ei osod drostynt; fel y byddo adroddiad, yn bersonol neu trwy lythyr, yn cael ei dderbyn yn mhob Cyfarfod Misol. Pan fyddo un yn cynyg ei hun fel cynghorwr, ei fod i gynghori yn mlaenaf yn y cymdeithasau preifat; ac yn gyntaf i dderbyn cymeradwyaeth rhyw Gristion, neu Gristionogion difrifol a phrofiadol, a'i clywsant ef yn aml; yn ail, barn tri neu bedwar o'r cynghorwyr anghyoedd a chyhoedd, a'r gweinidogion ordeiniedig; ac yn drydydd, ei fod i gael ei arholi parthed ei ras, galwad, cymhwysderau, doniau, ac athrawiaeth. Mewn trefn i ofalu am y tlawd a'r afiach, ac am yr arian a gesglir, ac i fod yn gennad y gymdeithas, ac yn dangnefedd-wneuthurwr; fod goruchwyliwr neu ddau i gael eu dewis yn mhob seiat. Mewn cysylltiad a'r 6 cynghorwr y cyfeiriwyd atynt, sef John Cennick, Howell Harris, &c., y rhai ydynt i fod yn gynorthwywyr y gweinidogion ordeiniedig, eu bod heb unrhyw derfynau gosodedig gyda golwg ar leoedd, ond i fyned o gwmpas fel y byddo galwad, eithr Howell Harris gan mwyaf yn Nghymru; a'r 12 cynghorwr arall y cyfeiriwyd atynt i gael terfynau penodol, y rhai y gellir eu newid trwy ymgynghoriad a'r gymdeithas."
Cynhaliwyd yr ail Gymdeithasfa Chwarterol yn Watford, Ebrill 6ed a'r 7fed, 1743. Yr oedd yn bresennol o weinidogion ordeiniedig, Meistri Whitefield, William Williams, a Thomas Lewis, yn nghyd a Henry Davies, Ymneillduwr. O'r arolygwyr, yr oedd yn bresennol Meistri Harris, Herbert Jenkins, Thomas James, James Beaumont, Morgan Hughes, Morgan John Lewis, Thomas Williams, a Thomas Adams. Dewiswyd Mr. Whitefield yn llywydd, yr hwn a agorodd y Gymdeithasfa gyda phregeth ar y geiriau: "Ac Enoch a rodiodd gyda Duw." Ymddengys iddo gael cymorth anarferol. Ysgrifena Whitefield yn ei ddyddlyfr: "Dydd Mercher, ar hanner dydd, agorais y Gymdeithasfa, gydag anerchiad difrifol ac agos, ar rodio gyda Duw. Teimlai y brodyr a'r bobl lawer o'r presenoldeb dwyfol. Gwedi hynny aethom at y trefniadau. Penderfynwyd amryw faterion o bwysigrwydd mawr. Torasom i fynnu o gwmpas saith; cyfarfyddasom drachefn am ddeg, a pharhasom yn penderfynu pethau perthynol i'r seiadau hyd ddau o'r gloch y boreu, Dydd Iau, eisteddasom drachefn hyd bedwar yn y prydnhawn. Yna, wedi cymeryd lluniaeth, pregethais ar orphwysdra y credadyn; gwedi hynny aethom yn y blaen gyda'r trefniadau, gan orphen y Gymdeithasfa o gwmpas haner nos."
Y mae pregeth agoriadol Whitefield ar gael, a diau ei bod yn un o'i oreuon. Temtir ni i ddifynu rhannau o honni: "Ni symudir y pechod preswyliedig yn hollol," meddai, "hyd nes y byddom yn crymu ein pen, ac yn rhoddi i fynnu yr yspryd, Llefara yr Apostol Paul am dano ei hun yn ddiau, a hynny nid pan oedd yn Pharisead, ond yn Gristion gwirioneddol, pan yr achwyna fod y drwg yn bresennol gydag ef, pan yr ewyllysiai wneuthur da; yn bresennol gydag ef, nid yn meddu llywodraeth arno, ond yn gwrthwynebu ac yn rhwystro ei fwriadau a'i actau daionus, fel na fedrai gyflawni yr hyn a ewyllysiai i'r perffeithrwydd ag y dymunai y dyn newydd. Dyma a eilw yn bechod yn preswylio ynddo. Ond am allu llywodraethol pechod, y mae yn cael ei ddinystrio yn mhob enaid sydd wedi ei eni yn wirioneddol o Dduw; a gwanheir ef yn raddol fel y byddo y credadyn yn cynyddu mewn gras, ac fel y byddo Yspryd Duw yn cael goruchafiaeth fwyfwy yn ei galon." Meddai drachefn: " Gweddi! gweddi! gweddi! Y mae yn dwyn Duw a dyn at eu gilydd, ac yn eu cadw ynghyd; y mae yn dyrchafu dyn at Dduw, ac yn tynnu Duw i lawr at ddyn. Os dymunech rodio gyda Duw, gweddïwch; gweddïwch yn ddi-baid. Byddwch yn aml mewn gweddi ddirgel. Pan gyda gorchwylion cyffredin bywyd arferwch saeth-weddïau yn barhaus. Anfonwch, o bryd i bryd, lythyrau byrion i'r nefoedd, ar adenydd ffydd. Cyrhaeddant hyd galon Duw, a dychwelant yn llwythog o fendithion." Gyda chyfeiriad at yr hyn y cyhuddid ef yn fynych o honno, sylwa gyda medr mawr: "Er mai hanfod penboethni yw honni ein bod yn cael ein harwain gan yr Yspryd heb y Gair ysgrifenedig; eto dyledswydd pob Cristion yw cymeryd ei arwain gan yr Yspryd mewn undeb a'r Gair ysgrifenedig. Yr wyf yn dymuno arnoch, gan hynny, O gredinwyr, ar i chwi wylio symudiadau Yspryd y Duw bendigedig yn eich calonnau; a phrofwch eich syniadau a'ch cymhellion wrth Air di-feth a sanctaidd Duw. Trwy arfer y rhagocheliad hwn, chwi a hwyliwch yn ddyogel yn y canol rhwng dau eithaf peryglus, sef penboethni ar y naill law, a Deistiaeth ac anffyddiaeth ronc ar y llaw arall. Terfyna mewn diweddglo hyawdl: "Un gair," meddai, "un gair wrth fy mrodyr yn y weinidogaeth, ac yna byddaf wedi gorphen. Chwi a welwch, fy mrodyr, fod fy nghalon yn llawn; braidd na allwn ddweyd ei bod yn rhy lawn i lefaru, ac eto yn rhy lawn i fod yn ddystaw, heb ddyferu gair i chwi. Sylwais ar ddechreu yr anerchiad fod Enoch, yn ôl pob tebyg, yn ddyn cyhoeddus, ac yn bregethwr tanllyd. Er ei fod wedi marw, y mae yn llefaru eto wrthym ni, i fywiocau ein zêl, ac i'n gwneyd yn fwy ymdrechgar yn ngwasanaeth ein Meistr gogoneddus a bendigedig. Sut y pregethodd Enoch? Pa fodd y rhodiodd gyda Duw? Bydded i ni ei ddilyn, fel yr oedd efe yn ddilynwr Crist. Y mae y barnwr wrth y drws. Yr hwn sydd yn dyfod a ddaw, ac nid oeda. Y mae ei wobr gydag ef; ac os byddwn ni yn zêlog dros Arglwydd y lluoedd, cawn heb fod yn hir lewyrchu fel y sêr yn y ffurfafen yn nheyrnas ein Tad byth bythoedd."
Felly y pregethai Whitefìeld gerbron y Gymdeithasfa yn Watford, ac nid rhyfedd fod y frawdoliaeth yn toddi dan ddylanwad ei ymadroddion. Daw ei ddoniau godidog i'r golwg yn amlwg yn y difyniadau byrion hyn. Y mae yspryd y peth byw i'w deimlo ynddynt. Er fod ei bresenoldeb yn absennol, ac nas gallwn glywed acenion ei lais, y llais melus a allai wladeiddio cynulleidfa a'i llwyr goncro, meddir, trwy yn unig floeddio y gair "Mesopotamia;" eto, canfyddwn ynddynt yn amlwg nodweddion y gwir areithiwr. Y mae mor amlwg a hynny nad mewn llais a thraddodiad yn unig y gorweddai cuddiad ei nerth, ond ei fod yn dduwinydd gwych. ac yn fanwl ac yn athronyddol yn nghyfansoddiad ei bregeth.
A ganlyn yw prif benderfyniadau y Gymdeithasfa: "Fod y Parch. Mr. Williams i adael ei guwradiaeth, ac i fod yn gynorthwywr i'r Parch. Mr. Rowland. Fod y brawd Howell Harris i fod yn arolygydd dros Gymru, ac i fyned i Loegr pan elwir am dano. Fod y brawd Herbert Jenkins i fod yn gynorthwywr i Mr. Harris, ac hefyd i'r brodyr Saesonig. Fod y brawd James Beaumont i gymeryd arolygiaeth Sir Faesyfed, a Sir Henffordd, ac i gael ei gynorthwyo gan y brodyr John Williams, John Jones, William Evans, David Price, ac hefyd gan Richard Lewis, os cymeradwyir ef gan y Gymdeithasfa Fisol. Fod y brawd Morgan Hughes, os teimla ryddid i hynny, i arolygu Sir Drefaldwyn, gan gael ei gynorthwyo gan y brodyr Lewis Evan, Benjamin Cadman, a Thomas Bowen (dalier sylw: gwedi hir brawf newidiwyd hyn, a gosodwyd Richard Tibbott yn ei le). Fod y brawd Thomas James i arolygu rhan o Frycheiniog, hyd yr afon Wysg, ac i gael ei gynorthwyo gan y brodyr T. Bowen, Ed. Bowen, T. Bowen, Buallt, Jos. Saunders, John Williams, Tregunter, W Williams, Jenkin Jenkins, David Rees, a Rees Morgan. Fod y brawd Morgan John Lewis i arolygu cymdeithasau Dolygaer, Cwmdu, Cantref, Defynog, a Llywel, oll yn Mrycheiniog; Llanddeusant, yn Sir Gaerfyrddin; a Mynwy, yr ochr arall i'r Wysg; ac i gael ei gynorthwyo gan y brodyr John Jones, John Powell, Richard Thomas, John Belsher, Evan Thomas, Stephen Jones, Jeffrey David, a Jenkin John. Fod y brawd Thomas Lewis i arolygu y cymdeithasau rhwng y Passage a'r afon Wysg, i gynorthwyo y brodyr Seisonig, pan elwir am dano, ac i gael ei gynorthwyo gan y brawd Geo. Cross. Fod y brawd Thomas Williams i arolygu Morganwg mor bell a Llantrisant, ac i gael ei gynorthwyo gan y brodyr E. Evans, W. Powell, T. Price, W. Edward, T. Lewis, R. Jones, J. Yeoman, a H. Griffith. Fod y brawd John Harris i arolygu Sir Benfro, ei gynorthwywyr i gael eu penderfynu yn Nghymdeithasfa Fisol nesaf y sir. Fod y brawd Milbourn Bloom i arolygu Sir Gaerfyrddin hyd Gastellnedd, ac i gael ei gynorthwyo gan Jno. Richards, ac eraill. Fod y brawd James Williams i arolygu y rhan arall o Sir Gaerfyrddin, ac i gael ei gynorthwyo gan nifer o frodyr. Fod y brawd David Williams i arolygu Sir Aberteifi." Tebygol mai David Williams, Aberthyn, gwedi hyn, oedd y brawd diweddaf.
Heblaw y trefniadau hyn, rhai a ddynodant wyliadwriaeth ddyfal dros yr holl gymdeithasau, pasiwyd, yn mysg eraill, y penderfyniadau canlynol: " Fod yr arolygwyr i gael rhyddid i bregethu ar eu teithiau, os gelwir arnynt, ac os tybiant yn eu calonnau y byddai i'r brodyr yn y Gymdeithasfa, pe yn gydnabyddus a'u hamgylchiadau, ganiatáu iddynt; nad yw y brodyr yn credu yn eu calonnau fod y brawd James Tomkins wedi cael ei alw gan Dduw i fod yn bregethwr, ac y maent yn penderfynu peidio ei gefnogi, a pheidio ei wahardd, ond ei adael i'r Yspryd. Fod pawb sydd yn tybio eu bod wedi cael eu galw i gynghori i wneyd apêl i un o'r Cymdeithasfaoedd Misol, gan yr hon y gwneir ymchwiliad manwl i'w doniau, eu gras, a'u galwad; os cymeradwyir hwynt, y maent i gael maes penodedig, fel y gwêl y Gymdeithasfa yn briodol; ac y mae y cyfryw gymeradwyaeth i gael ei ddwyn i'r Gymdeithasfa Gyffredinol, ac i gael ei gymeradwyo yno. Fod yr arolygwyr i ddanfon adroddiad am waith Duw yn eu meusydd neillduol i Lundain, i fod yno ddiwedd pob mis, ac i gyfeirio eu llythyrau at weinidog y Tabernacl, i ofal Mr. John Sims. Fod pob arolygwr i feddu llyfr, yn mha un yr ysgrifenna enwau ei holl gynghorwyr anghyoedd, ac enwau pob aelod perthynol i'r seiadau preifat, gan eu rhannu i ddynion priod, gwragedd priod, dynion sengl, benywod sengl, ac hefyd i ddwyn adroddiad am ystâd pob seiat i'r Gymdeithasfa Gyffredinol. Fod ysgrifennydd i gael ei benodi i bob Cyfarfod Misol, yr hwn a gofnoda y gweithrediadau mewn llyfr. Fod Cymdeithasfaoedd Misol i gael eu cynnal yn y lleoedd a ganlyn: Maesyfed a Threfaldwyn, gyda y Parch. W. Williams yn gymedrolwr; Siroedd Caerfyrddin ac Aberteifi, gyda Mr. Rowland yn gymedrolwr; Brycheiniog, gyda Thomas Lewis; Penfro, gyda Mr. Howell Davies; Morganwg a Mynwy, gyda Mr. John Powell. Fod pob Cymdeithasfa Fisol i gynnwys gweinidog ordeiniedig, os yn bosibl, fel cymedrolwr; arolygydd y rhandir, yn nghyd a'i gynorthwywyr; yn absenoldeb gweinidog ordeiniedig, yr arolygydd i fod yn gymedrolwr. Fod pob Cymdeithasfa i gael ei dechreu trwy weddi, a'i therfynu trwy weddi a chyngor, a bod yr holl arolygyddion i fod yn bresennol, heb eithrio y cynghorwyr anghyoedd, os hoffant ddyfod. Fod y Parch. Mr. Whitefield i ddewis y brawd Howell Harris i fod yn gymedrolwr yn ei absenoldeb."
Cofnodir yn mhellach ddarfod i'r Gymdeithasfa gael ei chario yn mlaen gyda llawer o undeb a chariad, ac i'r brodyr ymadael a'u gilydd gan fendithio Duw am yr hyn a wnaeth, a chan ddisgwyl pethau mwy yn y dyfodol. Ysgrifena Whitefield mewn llythyr ddarfod iddo ef gael ei ddewis yn gymedrolwr parhaus, os byddai yn Lloegr. Ni cheir hynny, mewn geiriau pendant, yn y cofnodau; ac eto cynhwysir ef, o ran ystyr, yn y penderfyniad fod Whitefield, os yn absennol, i benodi Howell Harris i gymeryd ei le. Edrycha Tyerman ar y penderfyniad hwn fel yn gosod Whitefield yn llywydd ar holl Fethodistiaid Cymru, a dywed fod sedd yr awdurdod yn cael ei symud o'r Dywysogaeth, ac yn cael ei gosod yn Llundain. Yr ydym yn amheus a olygai y Gymdeithasfa hynny yn hollol; ac eto, pan gofiwn fod y nifer amlaf o'r aelodau yn bleidiol i ffurflywodraeth esgobol, y mae yn ddiau y bwriadent gyflwyno gyda'r gadair ryw gymaint o awdurdod rhwng y Cymdeithasfaoedd.
Daethai Whitefield i lawr i Gymru y tro yma gyda'r bwriad, nid yn unig o gymeryd rhan yn ngweithrediadau Cymdeithasfa Watford, ond hefyd er cymeryd taith trwy rannau o'r Deheudir, a pha rai nad oedd wedi ymweled yn flaenorol. Yr oedd i'r daith amcan deublyg, sef pregethu yr efengyl am y deyrnas, hoff waith y gweinidog poblogaidd hwn; ac hefyd dwyn yr holl gymdeithasau crefyddol, a'r cynghorwyr perthynol iddynt, i syrthio i mewn a threfniadau y Gymdeithasfa, ac felly ffurfio yn corph cyfansawdd a chryf. Yn anffodus, nid yw holl ddyddlyfr Howell Harris ar gael; ond anfonodd Whitefield adroddiad dyddorol, a chymharol fanwl, o'r daith i Lundain, i'w gyhoeddi yn y WeeMy History. Ysgrifena y llythyr cyntaf o Watford, Ebrill 7, 1843. Gwedi rhoddi hanes y Gymdeithasfa, dywed: "Nis gallaf ddweyd wrthych y fath gynnydd sydd wedi cymeryd lle er y Gymdeithasfa o'r blaen. Yr wyf yn cofio pan y marchogwn ar hyd Gymru, bedair blynedd yn ôl, i'r Arglwydd beri i mi deimlo yn fy nghalon fy mod yn debyg i Joshua yn myned oddiamgylch, gan gymeryd y naill ddinas ar ôl y llall. Adgofiai yr anwyl frawd Harris fi yn awr o hyny, ac awgrymai fy mod y tro hwn yn debyg i Joshua yn rhannu y wlad. Y mae yn ymddangos fod Duw wedi rhoddi i'r brodyr sanctaidd ymddarostyngiad. Dewiswyd fi, os yn Lloegr, yn gymedrolwr parhaus; a gobeithiaf y bydd i'r iachawdwr roddi i mi yspryd at hyn. Teimlwn fy mod i raddau mawr dan addysg ddwyfol, a chydnabyddai y brodyr yn ewyllysgar yr awdurdod a rodded i mi. Y mae y brodyr wedi gosod y seiadau yn Nghymru ar fy nghalon. Efallai y deuaf i Lundain yn mhen mis. Ymddengys mai ewyllys yr Arglwydd yw i mi aros yn Nghymru am ryw bythefnos, a chymeryd taith trwy Sir Benfro. Y mae drysau llydain yn agored yno.
"Llantrisant, Ebrill 10, 1743. Pregethais y ddoe yn Nghaerdydd i gynulleidfa fawr. Eisteddai y gwatwarwyr mwyaf yn llonydd wrth fy ochr, a theimlai plant Duw y dwyfol bresenoldeb. Yn yr hwyr aethum i Ffonmon; derbyniodd Mr. Jones ni yn garedig; a gwelodd Duw yn dda lefaru drosof yn y seiat, lle y pregethais. Y boreu hwn pregethais drachefn. Yr oedd yn amser bendigedig. Y mae y brawd anwyl Harris yn pregethu yn Gymraeg. Y mae y bobl yma yn hynod syml." Felly yr ysgrifenna Whitefield, ond yn ol llythyr Howell Harris, yn Aberddawen y pregethai y ddau, ond aethant i Ffonmon i letya. Dywed hefyd mai yn Mhenmarc y pregethasant yr ail foreu.
Y mae y llythyr nesaf o Abertawe, ac wedi ei ddyddio Ebrill 12. Fel hyn y dywed gŵr Duw: " Y mae pethau mawrion yn cael eu gwneyd, ac i gael eu gwneyd yn Nghymru; y mae drws effeithiol wedi cael ei agor i bregethiad yr efengyl. Pregethais ddoe yn Nghastellnedd, oddiar dyganllaw (balcony) yn yr heol, i o gwmpas tair mil o eneidiau. Yr oedd yr Arglwydd gyda mi mewn gwirionedd. Y boreu heddyw pregethais yma (Abertawe) i o gwmpas pedair mil, gyda mawr eglurhad yr Yspryd. O gwmpas un, pregethais gyda mwynhad mawr yn Harbrook, bedair milldir o bellder, ac yr wyf newydd ddychwelyd er pregethu yma eto. Llefarai yr anwyl frawd Harris ddoe a heddyw yn Gymraeg." Yna y canlyn ôl-ysgrif, wedi ei hysgrifenu ar ol saith yn yr hwyr: "Yr wyf newydd orphen pregethu. Dychlamai eich calon gan lawenydd pe baech yma. Y mae Abertawe wedi ei chymeryd. Ni phregethais erioed gyda mwy o nerth argyhoeddiadol Yr oedd llawer o'r cyfoethogion a'r mawrion yn bresenol, a'r gynulleidfa yn fwy nag yn y boreu. Gorchfygodd yr Iesu trosof. Iddo ef boed yr holl ogoniant. Clodforwch ef; clodforwch ef drosof fi." Ysgrifenai yn amlwg tan ddylanwad y cyffro oedd wedi ei feddiannu yn y pwlpud, ac y mae yn hawdd gweled fod ei galon yn crychneidio ynddo. Tôn milwr buddugoliaethus, wedi ennill un o gaerau pwysicaf y gelyn, sydd i'w theimlo yn ei eiriau, a rhydd yr holl glod nid i'w ddewrder a'i fedr ei hun, ond i bresenoldeb yr Iesu, ei Gadfridog.
Yr ydym yn ei gael yn nesaf yn Lacharn, Ebrill 15, a dywed: "Wedi i mi adael Llantrisant, gwnaeth y diafol ymdrech galed i'm tynnu allan o Gymru, trwy geisio fy mherswadio na ddylwn fynd yn mhellach; ond yr oedd ein Hiachawdwr yn rhy gryf iddo. Pregethais dydd Mercher yn Llanelli i gynulleidfa fawr, ac yn yr hwyr yn Abergwili. Dydd Iau, pregethais yn Nghaerfyrddin, un o'r trefydd mwyaf a boneddigeiddiaf yn Nghymru; yn y boreu llefarwn oddiar ben y groes, yn yr hwyr oddiar fwrdd yn ymyl. Yr oedd y Sessiwn fawr yno. Dymunodd yr ustusiaid arnaf aros hyd nes y byddent hwy wedi codi, ac y deuent i wrando. Hwy ddaethant, a llawer o filoedd yn ychwaneg, ac amryw o bobl bendefigaidd. Yr oedd yr Iesu gyda mi, a hyderaf i lawer o dda gael ei wneyd. Y mae y brawd anwyl Harris yn cynghori yn mhob lle. Ymddengys ein Hiachawdwr fel pe byddai wedi rhoddi trefydd Cymru i mi. Yr wyf yn hoffi Cymru yn ddirfawr. Yn mhen rhyw ddeg diwrnod gobeithiaf fod yn Mryste." Y mae yn Hwlffordd, Ebrill 17, ac yn ysgrifennu: " Pregethais yn Narberth gyda mawr eglurhad yr Yspryd, i amryw filoedd o eneidiau, y rhai oeddynt nid yn annhebyg i lowyr Kingswood. Y boreu hwn pregethais yn Llys-y-frân i gynulleidfa gyffelyb i eiddo Moorfields; a'r prydnhawn i o gwmpas yr un nifer yn y dref hon. Hefyd, darllenais y gweddïau. Y mae yr awdurdod, y nerth, a'r llwyddiant sydd yn cael ei roddi gan Dduw i mi, yn mysg cyfoethog a thlawd, yn anrhaethadwy. O, cynorthwywch fi i'w foliannu." Pan yn dweyd fod y gynulleidfa yn Llys-y-frân yn debyg i eiddo Moorfields, diau mai cyffelyb mewn lluosogrwydd a feddylia; cyfrifai Howell Harris hi yn ddeuddeg mil. Tueddwn i feddwl fod y Diwygwyr, yn eu brwdfrydedd, yn gorgyfrif, fel y mae yr arfer wastadol ynglŷn a thorfeydd, ond y mae yn sicr fod cynulleidfaoedd Penfro y tro hwn yn anferth, a bod holl drigolion y sir, agos, yn Gymry ac yn Saeson, wedi ymgasglu i wrando yr efengyl.
Cawn ef yn Nghaerfyrddin eto, Ebrill y 20, o'r hwn le yr ysgrifenna: " Pregethais dydd Mercher yn Hwlffordd i o gwmpas wyth mil, ac yn y prydnhawn i amryw filoedd yn Narberth. Y boreu hwn llefarais gyda melusder mawr yn Lacharn. Wrth fy mod yn croesi y geincfor cefais foesgyfarchiad na dderbyniais ei gyffelyb o'r blaen, sef un llong yn tanio nifer o fagnelau, a llongau eraill yn cyhwfan eu banerau. Nis gellwch ddirnad y fath barch a delir i mi yma; y mae Duw wedi darpar Cymru i'm derbyn. Iddo ef boed yr holl glod. Pregethais yn Cydweli i gynulleidfa fawr. Yma (Caerfyrddin) pregethai un o'r offeiriaid yn fy erbyn y Sul diweddaf, gan fy enwi; ond fel fy ngwrthwynebwyr eraill, ac fel gwiber yn cnoi durlif (file), gwnaeth niwed yn unig iddo ei hun. Yr wyf yn cael fy hun fei pe mewn byd newydd, a hwnnw yn un nodedig o ddymunol." Ar y 25, ysgrifenna o Rhaiadr: " Ebrill 22, pregethais yn Nghaerfyrddin i tua deng mil o bobl, a'r anwyl Mr. Rowland ar fy ol, gyda melusder a nerth dirfawr. Cawsom Gymdeithasfa fendigedig arall y dydd blaenorol, ac yr ydym yn awr wedi trefnu holl siroedd Cymru." Ychwanega ddarfod iddo bregethu dydd Sadwrn, y 23, yn Llangathen, lle y caniatawyd yr eglwys iddo, ac yr oedd cynulleidfa fawr wedi ymgynnull; yn yr hwyr pregethodd yn Llanymddyfri. Llefara yn Llanymddyfri foreu y Sul drachefn, a dywed fod Duw gydag ef; ac erbyn yr hwyr y mae yn Aberhonddu, pellder o dair-milldir-ar-hugain, lle y mae cynulleidfa fawr, a hynod foneddigaidd, wedi dyfod ynghyd. Dydd Llun, cawn ef yn Nhrefecca, ac yn yr hwyr yn Gwenfìthen, yn agos i'r Gelli. Am dano ei hun dywed: " Y mae fy nghorph yn wan, ond yr wyf wrth draed fy Mhrynwr; y mae efe yn llywodraethu yn frenin yn fy nghalon, ac yr wyf yn llawenychu, ac yn fuddugoliaethus ar bob peth." Aeth yn ei flaen oddiyno i Lanfairmuallt, ac yna i Gore, yn Sir Faesyfed, y lle olaf y pregethodd ynddo yn Nghymru. Dywed: "Yn wir, cadwodd ein Hiachawdwr ei win goreu hyd y diwedd; yr oedd ein phiol yn rhedeg trosodd." Rhwng wyth a naw yn yr hwyr cychwynnodd am Lanllieni (Leominster), yr hwn le a gyrhaeddodd o gwmpas tri o'r gloch y boreu. Aeth yn ei flaen trwy Henffordd a Ross, a daeth i Gaerloyw oddeutu wyth yn yr hwyr, Ebrill 28. Symia hanes ei daith i fynnu fel y canlyn: " Darfu i mi, mewn tair wythnos o amser, drafaelu pedwar cant o filltiroedd, treulio tri diwrnod mewn dwy Gymdeithasfa, pregethu o gwmpas deugain gwaith, a phasio trwy saith o siroedd. Yma, ynte, mi a osodaf i fynnu fy Ebenezer; mi a ddiolchaf i'r gogoneddus Iesu am ei holl drugareddau; ac o ddyfnder fy nghalon rhof iddo y clod."
Wedi y cwbl, y mae yn sicr na chroniclodd hanes ei holl daith. * Y mae traddodiad yn Nhregaron ddarfod iddo yr adeg hon, neu yn fuan gwedi, ymweled a rhannau o Sir Aberteifi, a'i fod yn pregethu yn y dref honno oddiar y garreg farch, yn ymyl yr hen Grown. Cymry uniaith oedd y gynulleidfa gan mwyaf, ond torrodd allan yn orfoledd mawr yn yr odfa, er mai yr unig air a ddeallid oedd "Haleliwia." Ymddengys hyn ar un olwg yn rhyfedd, ond soniai Dr. Owen Thomas am gyfreithiwr enwog yn Llundain, a arferai fyned i wrando Ebenezer Morris [129] bob nos Sabboth, pan y byddai y gŵr enwog hwnnw yn gweinidogaethu yn y Brifddinas, a bod ei wyneb yn wastad yn foddfa o ddagrau, er na ddeallai air o'r bregeth. Y mae yn sicr i'r ymweliad hwn o eiddo Whitefield fod yn dra bendithiol i Gymru. Cadarnha llythyrau Howell Harris, a Thomas Price, o Watford, ac eraill, yr hyn a ddywed ef am y nerthoedd oeddynt yn cyd-fyned a'i weinidogaeth. Efallai rhai yn Abertawe a Chaerfyrddin y cafodd yr odfaeon rhyfeddaf o'r oll. Dywed Price, Watford, mewn llythyr at Whitefield, yn fuan gwedi, ei fod wedi clywed newyddion gogoneddus am lawer wedi cael eu deffro yn Nghaerfyrddin, un o ba rai ydoedd ddynes anniwair gyhoeddus, a'u bod yn myned i sefydlu seiat yn y dref. Ond yr enwocaf o'r dychweledigion, yn ddiau, oedd Peter Williams, yr hwn, yn laslanc un-ar-hugain oed, oedd ar y pryd yn yr athrofa yn y dref, ac a aethai yn llechwraidd i wrando y pregethwr hyawdl Saesonig, er gwaethaf gwaharddiad llywydd y sefydliad. Yr oedd tröedigaeth y gŵr, a ddaeth gwedi hyn yn dad esbonwyr Cymru, yn fwy na digon o dal amPlasty Watford ger Caerffili Sir Forgannwg
cartref Price yr Ustus a Mrs Grace Price ei ferch yng nghyfraith; lle cynhaliwyd rhai o gyfarfodydd y Gymdeithasfa gyntaf yn 1743
Ond i ddychwelyd at gofnodau y Cymdeithasfaoedd. Croniclir cyfarfod o'r brodyr yn nhŷ y cynghorwr Bloom; ni roddir dyddiad y cyfarfod, ac nis gwyddom a oedd yn Gymdeithasfa Fisol reolaidd a'i peidio. Preswyliai Mr. Bloom yn Llanarthney, nid yn nepell o Gaerfyrddin, a thueddwn i feddwl mai dyma y Gymdeithasfa Fisol y cyfeiria Whitefield ati, yn mha un y pregethai Daniel Rowland ar ei ôl. Dibwys yw y penderfyniadau a basiwyd, ond haedda y nodiad a ganlyn ei groniclo: " Wrth ymadael, disgynnodd yr Arglwydd mewn modd mor hynod i'n mysg, fel yr aethom oll yn fflam, ac yr unwyd ni oll mewn gwir gariad."
Cynhaliwyd Cymdeithasfa Fisol yn Gelliglyd, Mai i, 1743, ac ymddengys i Whitefield, yn ol y cofnodau, ddychwelyd o Gaerloyw i fod yn bresennol. Yr oedd yno heblaw efe, Daniel Rowland, Howell Davies, a Howell Harris, ynghyd a nifer o'r arolygwyr a'r cynghorwyr. Y prif benderfyniadau oeddynt: " Fod y brawd Geo. Bowen i ddilyn ei orchwyl hyd y Gymdeithasfa nesaf yn Sir Benfro. Fod yr offeiriaid a'r arolygwyr i gasglu yr hyn a fedrant yn eu gwahanol seiadau er mwyn argraffu llyfrau Cymraeg. Fod William Jones, David Evan, a Rich. Tibbot i fod yn ysgolfeistri Cymreig. Ac nad yw y cynghorwyr anghyoedd ar eu teithiau i anfon rhybudd o'u dyfodiad i unrhyw fan; eithr os dymunir arnynt gallant lefaru mewn unrhyw dŷ i'r teulu neu y cymydogion."
Yn Watford, Mai 11, yr oedd y Gymdeithasfa Fisol nesaf, pan y llywyddai John Powell, ac yr oedd Howell Harris, a chryn nifer o'r arolygwyr a'r cynghorwyr yn bresennol. Yn mysg pethau eraill, pasiwyd: "Fod Mr. Thomas Price i fod yn oruchwyliwr y gymdeithas hon fel o'r blaen, ac hefyd i gynorthwyo y brawd Thomas Williams. Fod y gwrywod a'r benywod i gyfarfod ar wahân, fel y byddo Yspryd yr Arglwydd yn eu cyfarwyddo. Fod yr arolygwyr yn mhob seiat breifat i annerch y dynion a'r benywod ar wahân, fel y byddont yn gweled yr achlysur yn galw, ac fel y bo Yspryd yr Arglwydd yn eu cyfarwyddo."
Mai 19, yr oedd Cymdeithasfa Fisol yn Llandremor, ger Llandilo Fach. Llywyddai Daniel Rowland, ond bychan oedd y cynulliad. Cymharol annyddorol hefyd oedd y penderfyniadau, ond dengys y cofnod a ganlyn ystad yr amseroedd: "Fod John ac Edward Meirig, oni throir hwy allan gan eu rhieni, i gynghori yn breifat dan orolygiaeth y brawd John Richard."
Cynhaliwyd Cymdeithasfa Fisol yn Dygoedydd, Mai 25, 1743, pan yr oedd yn bresenol Daniel Rowland, a Williams, Pantycelyn, ill dau yn gweithredu fel cymedrolwyr; Howell Harris, Benjamin Thomas, yr hwn oedd weinidog Ymneillduol, ynghyd a James Williams, yr arolygwr ar rannau o Sir Gaerfyrddin. Penderfynwyd ar i'r brawd Thomas David, yr hwn a fuasai dan arholiad gyda golwg ar ei alwad, gael cynghori ar brawf, dan arolygiaeth James Williams, mewn dwy seiat breifat hyd y Gymdeithasfa nesaf, pan y disgwylir tystiolaeth oddiwrtho, ac oddiwrth y brodyr a'i gwrandawodd. Pasiwyd y cyffelyb am Jos. John, a David John. Hefyd, fod blwch i gael ei osod yn mhob seiad, dan ofal un o'r ddau steward, i dderbyn cyfraniadau wythnosol tuag at achos Duw; a bod pob cynghorwr anghyoedd i gadw llyfr ag enwau y rhai sydd dan ei ofal, yr hwn lyfr a ddygir ganddo i'r Gymdeithasfa Chwarterol, a'i fod i hysbysu pa swm a ellir hebgor, trwy gydsyniad unol y gwahanol seiadau, at y gwaith cyhoeddus. Gwelir fod y drefn bresenol o gasglu wedi cael ei bod yn nghychwyniad Methodistiaeth.
Yn mhen dau ddiwrnod, sef Mai 27, yr oedd Cymdeithasfa Fisol yn Dolberthog, Llandrindod; llywyddai Williams, Pantycelyn, ond yr unig benderfyniad a basiwyd oedd, fod y brawd Richard Lewis, Ymneillduwr, yn cael ei osod yn gynorthwywr i'r brawd James Beaumont.
Ar yr 8fed o Fehefin, cynhaliwyd Cymdeithasfa Fisol yn Longhouse, Sir Benfro, pan y llywyddai Daniel Rowland, a Howell Davies, ac yr oedd Howell Harris yn bresenol. Yn mysg pethau eraill, penodwyd nifer o eglwysi i fod dan arolygiaeth Thomas Meyler, John Harris, a William Richard. Pasiwyd fod y brawd Watkin Watkins i gymhwyso ei hun i fod yn ysgrifennydd i'r brawd Rowland, neu y brawd Davies. Fod y brawd John Jones i fod yn ddystaw am ryw amser, mewn trefn iddo gael ei ordeinio, hyd nes y byddo yr ordeiniad trosodd; a bod y brawd Richard Tibbot i weithio, ac i fynychu rhyw seiadau preifat, hyd nes y caffo ysgol Gymraeg.
Yr ydym yn dyfod yn awr at y drydedd Gymdeithasfa Chwarterol reolaidd, yr hon a gynhaliwyd yn Nhrefecca, Mehefin 29 a 30, 1743. Yr oedd yn Gymdeithasfa bwysig, gan y disgwylid iddi adroddiadau yr arolygwyr gyda golwg ar rif ac ansawdd y seiadau. Daeth Whitefield yno o Lundain i gymeryd y gadair, gan drafaelu trwy Gaerloyw a Bryste; yr oedd yn bresenol yn ychwanegol Daniel Rowland, W. Williams, Howell Davies, John Powell, Thomas Lewis, a Benjamin Thomas, gweinidog Ymneillduol. Yr oedd y cynghorwyr cyhoeddus canlynol yno: Howell Harris,Herbert Jenkins, James Beaumont, Thomas James, Morgan John Lewis, Thomas Williams, Richard Tibbot, Thos. Lewis, a William Richards. Fel hyn yr adrodda Whitefield hanes y Gymdeithasfa:[130] " Cyrhaeddais Drefecca dydd Mercher, Mehefin 29, lle y cyfarfyddais a byddin gyfan o dystion yr Iesu. Am bump yn y prydnhawn pregethais i; gwedi i mi orphen, pregethodd a gweddïodd Howell Davies. O gwmpas wyth, agorasom y Gymdeithasfa gyda difrifwch mawr. Yr oedd ein Hiachawdwr gyda mi mewn modd arbennig, yn fy nysgu, ac yn fy nghynorthwyo i lanw fy lle. Gohiriasom o gwmpas canol nos, ond darfu rhai o'r brodyr aros i fynnu trwy yr holl nos, gan groesawu y boreu gyda gweddi a mawl. Am wyth, cyfarfyddasom drachefn, a siriolwyd ni yn fawr gan adroddiadau syml yr arolygwyr am eu gwahanol seiadau. Parhasom gyda'r trefniadau hyd ddau yn y prydnhawn, a thorasom i fynu gyda difrifwch mawr a llawenydd sanctaidd. Cawsom undeb rhyfedd a'n gilydd. Yn wir, y mae yr Iesu wedi gwneyd pethau mawrion i Gymru. Y mae y gwaith wedi llwyddo yn ddirfawr. Synwn weled y fath drefn. Y mae y brawd Howell Davies wedi cael ei fendithio er argyhoeddiad clerigwr ieuanc, offeiriad St. Bartholomew, yn Llundain."
Yr offeiriad oedd y Parch. Richard Thomas Bateman, [131] at yr hwn yr ydym wedi cyfeirio yn flaenorol. Disgynai o deulu pendefigaidd, ac yr oedd yn ŵr o ddoniau mawr. Gwedi ei argyhoeddiad daeth yn weithiwr di-fefl yn ngwinllan Crist. Rhoddai bob rhyddid-i Whitefield a Wesley i bregethu yn ei eglwys, a chawn ei fod yn bresenol yn nghynhadledd y Wesleyaid yn 1748. Eithr i ddychwelyd at y Gymdeithasfa, dywed y cofnodau iddi gael ei hagor gyda difrifwch arbennig gan Mr. Whitefield, trwy bregeth, a gweddi daer am arweiniad yr Yspryd Glan. Ei phrif waith oedd darllen a gwrando yr adroddiadau a ddygid gan yr arolygwyr am sefyllfa y cymdeithasau a osodasid dan eu gofal. Cawn gyfeirio at yr adroddiadau yma eto. Yr unig orchwyl arall a gyflawnodd, mor bell ag y dengys y cofnodau, oedd cymeryd i ystyriaeth lythyr John Richard, yr hwn a gondemniai y trefniadau a wnaethid yn flaenorol. Un o breswylwyr Llansamlet oedd John Richard; yr oedd yn arolygydd ar bymtheg o eglwysi yn nghyffiniau Morganwg a Chaerfyrddin, a phob un o ba rai y disgwylid iddo ymweled unwaith y pythefnos. Yn ei lythyr, maentymiai fod rhannu yr aelodau i sengl, priod, a gweddw, a'u holi yn fanwl parthed eu cyflwr ac ystâd eu heneidiau yn Babaidd; fod gosod eu henwau i lawr ar lyfr yn anysgrythyrol; a bod trefnu arolygwyr dros ranau o wlad yn gamwri. Ond y mae yn amlwg oddiwrth rediad yr hyn a ysgrifennai, mai prif achos ei anesmwythid oedd, fod y Gymdeithasfa wedi cyfyngu ei lafur i gylch, gan ei rwystro i fyned o gwmpas i bregethu fel yr ewyllysiai. Dywed fod y rhesymau canlynol yn ei berswadio mai ewyllys yr Arglwydd oedd iddo fyned oddi amgylch. "Yn mlaenaf," meddai, "yr wyf yn profi fy enaid yn fwyaf awyddus am fyned po fwyaf o Dduw sydd yn tywynnu arnaf. Yn ail, nad wyf yn myned i un man nad wyf yn cael tystiolaeth gan y brodyr, a rhai marciau gan Dduw, fod yr Arglwydd yn fy arddel fel offeryn yn ei law i wneuthur rhyw ddaioni yn ei eglwys. Yn drydydd, na adawodd fi yn fynych heb lawer o gymorth, ac na adawodd fi erioed, mor bell ag yr wyf yn cofio, yn hollol i mi fy hun. Yn bedwerydd, mi dybygwn rai prydiau fy mod yn teimlo newyn anorchfygol yn fy yspryd am ddychwellad pechaduriaid at Dduw, ac y gallwn ddweyd y trengwn pe y tawn. Yn bumed, yr wyf yn gwybod pe yr awn oddiamgylch y cawn lefaru wrth ddeg enaid am bob un yr wyf yn llefaru wrtho yn awr, a pha fwyaf o bysgod a fyddo, mwyaf oll o gysur sydd i daflu y rhwyd. Yn chweched, nid wyf yn awr yn cael llefaru ond unwaith yn y pedair-awr-ar-hugain, a'r unwaith hyny wedi nos, mewn rhai manau; ond pe bawn yn myned o amgylch mi a gawn lefaru gynifer gwaith ag y gallwn. Yn seithfed, mi a fyddaf yn gorfod dweyd nas gallaf fyned i rai manau, er fy mod yn cael fy anog gan Dduw i fyned, ac yn cael galwad gan ddynion. Yn wythfed, y mae genyf ormod i gymeryd gofal neillduol am danynt, a rhy fychan i fyned yn gyhoeddus oddiamgylch iddynt o hyd; canys y mae'r bobl, ar ol hir arfer o ddyn, yn esgeuluso dyfod i wrando, a chwi ellwch ddeall ei bod yn anghysurus i mi i fyned ddeng-milltir-ar-hugain o ffordd heb gael fawr pobl ynghyd yn y diwedd, a hyny yn y dydd." Diwedda trwy siarsio y brodyr yn y Gymdeithasfa ar iddynt edrych ati ar fod Yspryd Duw yn eu harwain mewn cysylltiad ag ef, a thrwy awgrymu tuedd i fyned o gwmpas ar ei gyfrifoldeb ei hun mewn dibrisdod o'u trefniadau. Hen Gristion syml oedd John Richard, fel y mae yn amlwg, yn arllwys •allan ei deimladau siomedig, oblegyd cael cyfyngu arno yn ei waith, gyda gonestrwydd unplyg; a mynega fod dau beth yn peri iddo amheu ei alwad, sef fod y brodyr yn ei rwystro, a'r olwg oedd yn gael ar fawredd y gwaith. Ond y mae ei brofiad crefyddol yn ogoneddus. " Y mae yn dda genyf wneuthur a allaf dros Dduw," meddai, "hyd yn nod pe byddai iddo fy nhaflu i uffern yn y diwedd; ond mi dybygwn nad oes yr un man a wnaeth Duw, gwneled y diafol ei waethaf, na fydd i mi fwynhau Duw ynddo, a chanmol yr anwyl Iesu." Anhawdd genym feddwl na ddarfu darlleniad y llythyr hwn dynu dagrau o lygaid y brodyr ymgynulledig; ac er na fedrent ganiatáu iddo yr hyn a ddymunai, gan mai cymharol fyr mewn doniau ydoedd, eto y teimlent eu calonnau yn cynhesu ato. Yr oedd llythyr o gyffelyb nodwedd wedi cael ei anfon hefyd gan Rhisiart William Dafydd, cynghorwr o Sir Gaerfyrddin, yr hwn y darllenasom am dano yn nghofnodau ail Gymdeithasfa Watford ei fod i fyned dan arholiad.
Penderfynodd y Gymdeithasfa fod Whitefield i ysgrifennu atebion i'r llythyrau hyn; darllenodd yntau yr hyn a ysgrifenasai yn un o'r cyfarfodydd dilynol, yr hyn a dderbyniodd gymeradwyaeth unfrydol y brodyr. Y mae yr atebion ar gael, ac yn ddyddorol. Dy wed Whitefield wrth John Richard, gyda golwg ar ei fygythiad i myned o gwmpas ar draws pob trefniadau, y teimlasai y frawdoliaeth yn flin pe y rhoddasai achos cyfiawn iddo i gymeryd y cwrs hwn; ond gan na wnaethai, a chan y teimlai yn sicr mai dibwys, a hawdd rhoddi pen arno, fuasai unrhyw wrthwynebiad a allai efe godi yn y dull yma, ei bod yn teimlo y gallai ymddiried yr achos i'r Arglwydd Iesu, a bod yn hollol dawel yn ei gylch. Cydnabydda er hyny y gallai y Gymdeithasfa gyfeiliorni, a dywed y byddai y brodyr yn barod i ail-ystyried yn ofalus unrhyw brofion a ddygid yn mlaen fod yr hyn a benderfynasent yn groes i feddwl Duw. Yna a yn mlaen i ateb ei wrthddadleuon. Gyda golwg ar groniclo enwau yr aelodau mewn llyfr, dywed: " Pa beth, anwyl frawd, sydd yn anysgrythyrol yn hyn? Onid yw ein Harglwydd Iesu yn dweyd fod y bugail da yn galw ei ddefaid erbyn eu henw? Onid ydyw pob plwyf yn cadw coflyfr o'r plwyfolion? Onid yw yr Ymneillduwyr yn ysgrifenu enwau pawb mewn llyfr a fyddo mewn cymundeb gyda hwynt? A pheth yw llyfr Numeri ond cofres o enwau meibion Israel? Gyda golwg ar ymofyn am gyflwr ysprydol pob enaid, ymddengys i ni ei fod yn hanfodol angenrheidiol. Yr ydym yn edrych ar yr eglwys fel clafdy, a'i gweinidogion fel physigwyr, y rhai a ddeuant o dro i dro i edrych pa fodd y mae gyda y rhai sydd dan eu gofal. Yr wyf yn tybio pan aeth yr apostolion oddi amgylch i edrych hynt eu brodyr, iddynt chwilio i ansawdd yspryd pob un. Nid ydym yn gwybod pa fodd y gall gweinidog bregethu oddigerth ei fod yn gwybod am gyflwr ei bobl, na pha fodd y gallech chwi anfon yr adroddiad a anfonasoch, am yr hwn yr ydym yn diolch i chwi, oni bai i chwi wneyd rhyw ymchwiliad" Yna a ymlaen i ddweyd mai amcan rhannu yr aelodau i ddosparthiadau o sengl, priod, a gweddw, oedd er mwyn cael cyfrif eglur, ac hefyd allu cymhwyso cynghorion priodol at eu gwahanol sefyllfaoedd. Awgryma fod hyn yn cael ei wneyd yn yr Eglwys Apostolaidd; fod Ioan yn ysgrifenu at y gwŷr ieuainc, a Phaul yn cynghori y rhai oeddynt yn wir weddwon, yr hyn a dybia eu bod yn ffurfio dosparth ar wahan yn yr eglwys. Diwedda trwy achwyn ar ryw William Christopher yn ysgrifenu mewn arddull anweddaidd at Daniel Rowland, a thrwy ei gynghori ef, John Richard, i chwilio o ba yspryd yr ydoedd. Y genadwri a anfonwyd at Rhisiart William Dafydd oedd ceisio ganddo ddarllen y llythyr a anfonasid at John Richard.
Tueddwn i feddwl yr ystyriai Howell Harris lythyr Whitefield yn rhy amddifad o dynerwch, ac o ras yr efengyl, ac felly ysgrifennodd at y ddau frawd tramgwyddus ar ei gyfrifoldeb ei hun. Wrth John Richard dywed: "Mi a wn beth yw profedigaethau o'r fath hyn; er mwyn yr Iesu byddwch arafaidd a phwyllog; y mae'r gelyn yn ceisio eich temtio i wneuthur rhwyg yn ein mysg, a'n dod i wanhau dwylaw ein gilydd. Byddwch ostyngedig; ofnwch eich hunan; gelyn dirgel yw yn wir, anhawdd ei adnabod. Y mae yn bosibl i ni (sef John Richard a Harris) gamsynied; maent hwy (aelodau y Gymdeithasfa) yn llawer, a bagad o honynt o leiaf yn agos at yr Arglwydd, ac yn chwilio ei Air ef, ac yn disgwyl wrth ddysgeidiaeth ac arweiniad ei Yspryd mor glos a ninau; ac y maent yn bwyllog, ac wedi gwrando fy rhesymau i, yn ofn yr Arglwydd, yn methu gweled fel fi. Myfi, yn hytrach, a ofnaf fod yn anffaeledig, ac a ddisgwyliaf wrth yr Arglwydd, rhag i mi wneuthur terfysg yn ei waith ef, a blino ysprydoedd ei anwyl weision, y rhai oeddynt yn Nghrist o'm blaen i, ac wedi bod a'u bywyd yn eu dwylaw drosto, ac yn ei gyngor cyn ein geni ni yn ysprydol-y fath feddyliau a'r rhai hyn a fu fuddugol i mi yn fy mhrofedigaethau. Y mae fy enaid i, anwyl bererin, yn dy garu yn wresog, a chyda phob tiriondeb ac anwyldra brawdol yr wyf yn dyweddu.—Dy ostyngedig gydfilwr, How. Harris."
Wrth Rhisiart William Dafydd dywed: "Fy anwyl, anwyl frawd, er pan adnabûm i chwi gyntaf, yr ydych wedi bod yn anwyl i mi. Er nad wyf yn fy nghalon yn teimlo fy hun yn deilwng i olchi eich traed, goddefwch i mi ofyn genych er mwyn yr Iesu, yr hwn sydd anwyl genych, am ymdrechu cadw undeb yr Yspryd yn nghwlwm tangnefedd, a bod yn wyliadwrus rhag y gelyn cyffredinol, cyhuddwr y brodyr. Un corph ydym, ac ni all un aelod fod heb y llall, gadewch i ni gyd-ddwyn a'n gilydd. Mae'r gwaith yn fawr, a ninau yn anghymwys iawn iddo; gochelwn redeg o flaen ein gilydd. Gan obeithio eich bod yn credu fy mod yn ostyngedig yn eich gwir garu yn yr Arglwydd, fel eich brawd a'ch cydfilwr tlawd, dymunaf annerch yr holl ŵyn yn fy enw i."
Ysgrifenwr llythyrau heb ei fath oedd Howell Harris; teimlir cynhesrwydd ei galon yn mhob brawddeg o'r rhai blaenorol; ac nid rhyfedd i'r ddau frawd tramgwyddus doddi, a syrthio i mewn a'r trefniadau. Cawn John Richard yn y llwch mewn canlyniad, ac yn ysgrifenu llythyr edifeiriol i'r Gymdeithasfa nesaf: "Blin gennyf, anwyl frodyr," meddai, "ddarfod i mi sefyll yn gyndyn yn eich erbyn cyhyd. Credu yr wyf na wyr neb yn iawn, ond a gafodd brofiad, pa mor ddichellgar yw yr hen sarph, fel y bu gyda mi yn yr amgylchiad hwn, ac mor gyflawn oeddwn yn meddiant y diafol, fel y tybiais fod yn rhaid i chwi ymostwng i fy marn i. Ond yr wyf yn credu fod y diafol wedi twyllo ei hun. Bendigedig fyddo Duw, yr hwn a ddug ddaioni allan o ddrwg; oblegyd fe'm dysgwyd gan Dduw, fel yr wyf yn credu, i beidio byth eto a meddwl fod mwy o oleuni gennyf nag sydd gan holl blant Duw; ac heblaw hyn, fe fu yr amgylchiad yn gymorth i mi i sefyll yn erbyn yr un a'r unrhyw yspryd yn rhai o'r brodyr yn Llansamlet yn ddiweddar. Oddiwrth eich annheilwng frawd, John Richard."
Felly y terfyna cofnodau Trefecca am 1743; dygir y gweddill i mewn i'r hanes wrth fyned yn y blaen.PENOD X
RHAI O'R CYNGHORWYR BOREUAF
Richard Tibbot—Lewis Evan, Llanllugan—Herbert Jenkins—James Ingram—James Beaumont— Thomas James, Cerigcadarn—Morgan John Lewis—David Williams, Llysyfronydd Thomas Williams—William Edward,yr Adeiladydd—William Richard—Benjamin Thomas—John Harris, St. Kinox—John Harry, Treamlod—William Edward, Rhydygele—Rhai o'r Adroddiadau a anfonwyd i'r Cymdeithasfaoedd.
BYDDAI unrhyw hanes am y diwygiad Methodistaidd yn ei ddechreuad cyntaf, na roddai le mawr i ymdrechion y cynghorwyr, a'u llafur cariad gydag achos Crist, yn dra anghyflawn, ac yn wir yn gamarweiniol. Mewn peiriant, y mae yr olwynion bychain o lawn cymaint pwys, er nad mor amlwg, a'r olwynion mawrion. Y prif olwynion, mor bell ag yr oedd a fynnai dynion a'r peth, yn y diwygiad, oeddynt Rowland, a Harris, a William Williams, Pantycelyn, a Howell Davies. Olwynion bychain, o'u cymharu a'r rhai hyn, oedd y cynghorwyr, er fod rhai o honynt hwythau yn fwy, a rhai yn llai; ond heb eu gwasanaeth a'u cymorth, ni symudasai y peiriant yn ei flaen fel y gwnaeth. Yr ydym yn meddu ar lawer o hanes y rhai pennaf o honynt; gwyddom am eu teithiau, eu peryglon, a'u dyoddefiadau; adnabyddwn eu cymeriadau yn bur drwyadl yn rhinwedd y llythyrau a ysgrifennwyd ganddynt. Yr oeddynt oll yn llawn tan; bedyddiasid hwy yn helaeth ag yspryd yr adfywiad; a meddent ddewrder a barai iddynt gael eu clodfori fel gwroniaid, pe buasai yn cael ei arddangos ar faes y gwaed. Nid oeddynt heb eu gwendidau; pwy sydd? Y mae rhai o'u mympwyon a'u syniadau yn ymddangos i ni yn awr yn dra gwirion; ond nis gellir amheu eu gonestrwydd, eu zêl, a'u teyrngarwch i Grist. Am eraill, nid oes gennym ond eu henwau; prin y ceir unrhyw adgofion o'u hanes yn y cymydogaethau yn mha rai y buont yn llafurio; nid oes cofnod ar gael am ddim a wnaethant ar lyfrau y ddaear; ond sicr yw fod eu ffyddlondeb a'u diwydrwydd wedi eu croniclo yn fanwl ar y llyfrau fry, a phan y daw yr Iesu i'w ogoneddu yn ei saint, bydd yr hen gynghorwyr Methodistaidd yn adlewyrchu ei glodforedd mor effeithiol a neb pwy bynnag. Dynion diddysg oedd llawer o honynt, cartrefol eu gwisg, plaen eu geiriau, heb fawr caboliad na gwrtaith meddyliol; ond gwnaent i fynnu am bob diffyg trwy eu hymroddiad, a'u llafur, a'u zêl dros y Gwaredwr. Drwg gennym mai hanes ychydig o'r prif gynghorwyr yn unig a ganiatâ ein terfynau i ni roddi.
Un o'r cynghorwyr mwyaf adnabyddus, er efallai nad y mwyaf nodedig ei ddoniau, oedd Richard Tibbot. Ganwyd ef yn Hafodypant, plwyf Llanbrynmair, Ionawr 18, 1718, ac yr oedd yr ieuangaf o chwech o blant. Ymddengys fod ei rieni yn hynod am eu duwioldeb, ac ymunodd Richard a chrefydd cyn ei fod yn llawn pymtheg mlwydd oed, a hynny, yn dra sicr, yn eglwys Annibynol Llanbrynmair. Dywedir iddo ddechreu pregethu yn y flwyddyn 1738, yn llencyn ieuanc pedair-mlwydd-ar-bymtheg. Nid yw hyn yn golygu y pregethai yn rheolaidd; nid oedd cyfleusterau i hynny ganddo ar y pryd; ond anerchai gynulleidfa yn awr ac yn y man, pan y gofynnai Mr. Lewis Rees ganddo wneyd hynny. Diau fod Richard Tibbot yn un o wrandawyr mwyaf aiddgar Howell Harris, pan yr ymwelodd a'r Gogledd yn 1740, ac y mae yn sicr ddarfod i'w weinidogaeth effro, gyffrous, adael argraff ddofn arno, Tua'r flwyddyn 1741 aeth i ysgol y Parch. Griffith Jones, Llanddowror. Ai Lewis Rees, ynte Howell Harris, a'i cymhellodd i gymeryd y cam hwn, ni wyddis. Yn bur fuan ymunodd a'r Methodistiaid. Tybir iddo fod am ryw gymaint o amser yn cadw ysgol yn nghymydogaeth Llanddowror. Tebygol hefyd ei fod yn cynghori yn nghymdeithasau y Methodistiaid yn rhannau isaf Sir Gaerfyrddin, a'r rhan uchaf o Sir Benfro. Gwel y darllenydd amryw gyfeiriadau ato yn nghofnodau Trefecca. Yn Nghymdeithasfa gyntaf Watford penodwyd ef yn ymwelydd cyffredinol y seiadau (bands); mewn Cymdeithasfa ddilynol penderfynwyd ei fod i gadw ysgol yn Sir Benfro; a chyn diwedd y flwyddyn 1743 gosodwyd ef yn arolygwr y cymdeithasau bychain a gawsent eu ffurfio yn Sir Drefaldwyn. Yn Nghymdeithasfa Fisol Nantmel, Sir Faesyfed, Ebrill 18, 1744, pasiwyd ei fod i ymroddi yn hollol ac yn gwbl i'r gwaith o ymweled a'r holl eglwysi (yn Sir Drefaldwyn) unwaith bob wythnos. Ond mewn Cymdeithasfa arall, a gynhaliwyd Hydref yr un flwyddyn, penderfynwyd ei fod i fyned at y brawd John Richard i ddysgu y grefft o rwymo llyfrau.
Er fod Richard Tibbot wedi ymuno a'r Methodistiaid, ac yn llafurus yn eu mysg, eto teimlai gryn ymlyniad wrth yr Annibynwyr, ac ymgymysgai a hwy i raddau mawr. Creodd hyn ryw gymaint o ragfarn ato yn meddyliau y Methodistiaid, ac aethant i dybio ei fod yn fwy hoff o'r Ymneillduwyr nag o honynt hwy. A wnaed achwyniad cyhoeddus yn ei erbyn am hyn, nis gwyddom; ond deallai ef fod y cyfryw deimlad yn bodoli. Y mae llythyr o'i eiddo at Gymdeithasfa Hydref, 1745, ar gael yn Nhrefecca, yr hwn y teimlwn fod tegwch hanesyddol yn galw arnom i'w gyhoeddi. Yn ychwanegol, y mae yn ddyddorol ar gyfrif y goleu a dafla ar yspryd yr amseroedd, ac ar ansawdd meddwl Tibbot. Fel hyn y dywed: "Y mae gennym gynifer o faterion yn ein Cymdeithasfaoedd Chwarterol, fel mai ychydig o gyfleustra a feddwn i fynegu ein barn a'n profiad parthed amryw bethau, y byddai yn fuddiol i'n cynnydd a'n hundeb, a'n cariad brawdol, i ni ymdrin a hwy. Y mae yn ein mysg, hefyd, gynifer o wahanol syniadau am ddisgyblaeth (ffurflywodraeth?) eglwysig, fel yr ydym yn barod i ymrannu oddiwrth ein gilydd weithiau gyda golwg arnynt, fel y brodyr yn Sir Forganwg, yr hyn mewn rhan sydd yn oeri ein cariad, ac yn lleihau ein brawdgarwch, a'n hundeb. Gan fy mod yn fynych gyda'r Ymneillduwyr, ac yn eu cymdeithas yn aml, yr hyn a eill fod yn achlysur i chwi dybio fy mod yn cael fy arwain ganddynt, a'm bod yn wrthwynebus i chwi mewn tymer a barn, tybiais yn angenrheidiol wneyd datganiad o'm syniadau gyda golwg ar seiliau crefydd, pa mor bell yr wyf yn cydweled a chwi, a pha mor bell yr wyf yn cydweled a'r Ymneillduwyr.
"1. Dywedaf ychydig o'm meddwl, i ddechreu gyda golwg ar egwyddorion pwysicaf crefydd. Yma, fy mrodyr, rhaid i mi gyffesu fy nygn anwybodaeth; y mae fy nghalon wedi bod yn ddolurus er ys rhai blynyddoedd oblegyd fy anwybodaeth; ond hyderaf nad wyf yn gorphwys yn gyfangwbl ar gyffes. Nid wyf yn meddwl ei fod yn ddigonol sail i mi ddarfod i mi feddiannu nifer o resymau, a chael rhyw fath o oleuni oddifewn, a phrofi rhyw gymaint o nerth ac awdurdod yn fy ngorfodi i gredu rhyw egwyddorion; gwelaf y rhaid i mi gael goleuni oddiwrth yr Yspryd Glan i oleuo llygaid fy enaid, fel y gwelwyf weithrediadau ysprydol mor glir ag y gwelaf wrthddrychau naturiol yn ngoleuni yr haul, ac fel na byddo i mi newid fy marn gyda golwg arnynt yn nydd angau, yn nydd y farn, ac i dragywyddoldeb. Dyma y ffydd a'r wybodaeth a ddymunaf, ac yr wyf yn ocheneidio am na feddaf; am y wybodaeth hon yr ymgeisiaf, hyd nes y meddiannaf hi, yn llawn ac yn berffaith. Dyma fy ffydd a'm barn, fel yr wyf yn gweled yn bresennol, (a) Mai un Duw sydd; (b) Fod Tri Pherson yn y Duwdod, o'r un sylwedd, gallu, a gogoniant, sef y Tad, y Mab, a'r Yspryd Glan. (c) Ein bod oll wedi cwympo yn Adda, ac wrth naturiaeth yn blant digofaint. (d) Ddarfod i Dduw ethol rhyw nifer i fywyd tragywyddol cyn dechreuad y byd. (e) I Fab Duw ddyfod yn ddyn i waredu ei bobl etholedig. (f) Mai trwy ei ufudd-dod ef y cyfiawnheir ei bobl, ac mai trwy ffydd y deuant i feddiant o'i gyfiawnder. (g) Fod y ddeddf yn rheol bywyd i'r rhai sydd wedi eu cyfiawnhau trwy Grist. Cymaint a hynna am yr erthyglau.
"2. Mewn cysylltiad a disgyblaeth eglwysig, credaf ei fod yn oddefol i rai, mewn rhyw amgylchiadau, i bregethu, heb dderbyn awdurdod oddiwrth ddynion, fel yr arferwn ni yn awr; ac mai ein dyledswydd ni ac eraill, dan y fath amgylchiadau, yw disgwyl am arweiniad yr Arglwydd trwy ei Yspryd, canlyn rheol ei Air, gofalu na byddom yn gwneyd dim yn groes i'w Air ysgrifenedig, a chrefu am arweiniad Rhagluniaeth ac Yspryd Duw i ddyfod i drefn ragorach. Er mai ein dyledswydd yw bod yn drefnus, eto ni ddylai amryw drefniadau ein cadw rhag brawdgarwch, a chymdeithasu ag eraill, na fyddo yn cadw y cyffelyb drefniant, ond ydynt yn cyduno a ni am y prif athrawiaethau, a chyda golwg ar fywyd crefydd. Ond yr wyf yn foddlon i aros fel yr ydym parthed disgyblaeth eglwysig, hyd nes y byddo i Dduw roddi i ni drefn a disgyblaeth well yn ei amser ei hun.
"3. Gyda golwg ar fy undeb a'r cyffredinolrwydd o'r corph o honom ni, ac a'r Ymneillduwyr, y mae undeb fy nghalon yr un a'r undeb a broffesaf, ac a ddangosaf yn fy ymddygiad. Fel y darfu i mi adael yr Ymneillduwyr, o ran cymeryd fy llywodraeth ganddynt, a rhoddi fy hun i'ch llywodraeth chwi, gan broffesu fy hun yn aelod gyda chwi, felly yr wyf yn teimlo yn fy nghalon fwy o undeb a'r cyffredinolrwydd o honoch nag a'r Ymneillduwyr. Ond y mae yr amryw brofedigaethau a gefais y blynyddoedd diweddaf wedi bod mor gryfìon, fel na fedraf dderbyn egwyddorion crefyddol, na threfn eglwysig, oddiwrth unrhyw blaid o bobl, yn unig am eu bod hwy yn eu proffesu, heb i mi fy hun weled eu gwirionedd. Nid wyf yn awr, ychwaith, mor hawdd fy moddhau o wirionedd pethau ag oeddwn unwaith, am fy mod yn gweled ddarfod i mi gael fy nhwyllo wrth dderbyn golygiadau fel gwir, gan feddwl fy mod wedi fy ngoleuo ynddynt gan yr Yspryd Glan, tra y gwelais ar ol hyny nad oedd fy ngoleuni ond rhanol ac anmherffaith. Hawdd genyf gyffesu ddarfod i mi gredu mor gryf yn nghywirdeb rhai pethau, fel na phetruswn sefyll drostynt, hyd yn nod pe bai y bobl gallaf a goreu yn barnu yn wahanol; ac yr oedd fy zêl wedi tyfu gymaint goruwch fy marn, fel na ddarllenwn unrhyw lyfr a fyddai yn groes i'm golygiadau, fel pe bawn yn berffaith mewn gwybodaeth, ac yn anffaeledig; ac yr oeddwn yn barod i gondemnio unrhyw un, fel dyn anwybodus, a ddywedai air yn fy erbyn. Ond cefais fynych achos i newid fy syniad am anffaeledigrwydd fy ngwybodaeth gwedi hyn. Ond yn awr teimlaf rwymau i fod yn eiddigus gyda golwg ar fy ngwybodaeth, ac i ddirnad pethau yn ddwfn cyn eu credu, ac nis gallaf ddirnad dim heb gael fy nysgu gan Yspryd Duw. Er fy mod yn fwy mewn undeb A chwi nag a'r Ymneillduwyr, eto gwelaf amryw bethau yn ein mysg sydd yn gofyn am gael eu diwygio: (a) Ein bod yn rhy barod i dderbyn pethau fel gwirionedd, heb eu chwilio yn ddigon manwl, ac i farnu yn dda am danynt, yn ol y gradd o gysur a weithiant oddimewn i ni. (b) Tueddwn i edrych ar bob cysur a dyddanwch fel cynyrch Yspryd Duw, yn yr hyn y dylem weithiau fod yn dra gochelgar, ac hefyd i farnu bywyd crefydd wrth zêl, a gwresowgrwydd teimladau, gan gondemnio eraill nad ydynt lawn mor zêlog fel defodwyr. Gwell genyf fi farnu pobl wrth eu hymarweddiad cyffredinol, yn hytrach nag wrth yr hyn a ymddangosant mewn odfaeon. (c) Y mae yn ein mysg ormod o yspryd partioi, yr hyn wyf yn ei gashau yn mhawb. Yr ydym yn rhy barod i gondemnio rhai o'n brodyr, yr Ymneillduwyr, i'w cau allan o'n cymdeithas, ac i ddweyd yn eu herbyn; yr hyn, pe y gwnaethent hwy a ni, a alwem yn erledigaeth. Y mae yspryd agored, diragfarn, yn werthfawr.
"4. Gyda golwg ar yr Ymneillduwyr, yr wyf yn caru yr hyn sydd dda ynddynt; ond cyn y gallaf eu barnu yn gywir, rhaid i mi wybod eu hamgylchiadau, oblegyd wahaniaethant gymaint yn eu mysg eu hunain ag a wahaniaethwn ni oddiwrthynt hwy; felly, nid wyf yn cyduno a'r Sociniaid, yr Ariaid, yr Arminiaid, a'r Baxteriaid sydd yn eu mysg; ond y mae y rhai difrifol a sobr o honynt mor anwyl i mi a neb, ac yr wyf yn cadw ar y telerau mwyaf anwyl a hwynt. Eithr nid wyf yn cael fy nghario i roddi fy hun dan eu llywodraeth, am fy mod yn credu mai ewyllys Duw yw i mi aros fel yr wyf,
"5. Y mae gennyf rai pethau i'w gosod ger eich bron, a fyddai, fel yr wyf yn credu, yn fuddiol i ni: (a) Dylem fod yn fyrrach, os yw bosibl, wrth ymdrin ag allanolion, gan ymddiddan mwy am brif bynciau crefydd, a holi ein hunain am ein sail, a'n sicrwydd, a'n profiad o honynt. Gwedi dod mor bell i'n Cymdeithasfaoedd, da fyddai i ni hebgor peth o amser cysgu, ac amser bwyta, gan ymroddi i adeiladu y naill y llall yn ysprydol. (b) Tueddaf i feddwl mai buddiol i ni fyddai rhoddi ein barn gyda golwg ar egwyddorion mewn argraff, fel na byddo camsyniadau, na lle i neb feddwl ein bod yn coleddu syniadau nad ydym. Byddai hyn, hefyd, yn gymorth i ni ddeall golygiadau ein gilydd, ac yn tueddu i fwy o undeb. A manteisiol fyddai gadael tystiolaeth am wirionedd yr efengyl ar ein hol, fel y gallai lefaru er lles oesoedd i ddyfod. (c) Tybiaf, pe y gwelai Rhagluniaeth yn dda agor y ffordd, y dylid gosod ysgol i fynnu, er mwyn gweini rhyw gymaint o hyfforddiant i'r rhai sydd yn cynghori. Gallai ychydig o fisoedd ynddi, gyda bendith Duw ar yr addysg, fod yn dra llesiol. Hyn yn ostyngedig, fy mrodyr, oddiwrth eich annheilwng frawd a chydfilwr, Richard Tibbot."
Dengys y llythyr hwn Richard Tibbot fel gŵr craff, nodedig o ddiragfarn, ac yn meddu gwroldeb digonol i ddweyd ei olygiadau wrth Gymdeithasfa a gynhwysai ddynion fel Whitefìeld, Rowland, a Harris. Yr oedd yn fwy o Fethodist nag o Annibynwr; ac nid oedd cefnu ar y Methodistiaid yn ei fwriad yr adeg yma; ond elai i mewn ac allan gyda phob plaid uniongred, gan deimlo yn gynnes at bawb oedd yn caru yr Arglwydd Iesu. Mor bell ag y gwyddom, efe, yn y llythyr hwn, a awgrymodd gyntaf y priodoldeb o gael Cyffes Ffydd a Rheolau Dysgyblaethol, a dyma hefyd y cyfeiriad cyntaf at gael athrofa. Mewn rhyw bethau diau ei fod o flaen ei oes. Y mae y crybwylliad a geir yn y llythyr am y brodyr yn Sir Forganwg yn cyfeirio at genadwri cynghorwyr y Groeswen at Gymdeithasfa Cayo, Gwanwyn 1745, yr hon a ddaw dan ein sylw eto. Tra yr oedd yr Ymneillduwyr ar y pryd wedi ymgladdu yn ormodol mewn defodau oerion, ac yn condemnio pob gwresowgrwydd crefyddol, gwelai Richard Tibbot berygl i'r Methodistiaid roddi pwys gormodol ar zêl, a phrofiad tumewnol; a hiraethai ei enaid am fwy o oddefgarwch a chariad brawdol o'r ddau tu.
Y mae yn sicr i'r llythyr roddi boddlonrwydd i'r Gymdeithasfa, oblegyd ychydig wedi hyn cawn holl eglwysi Gwynedd wedi eu gosod dan ei ofal; arolygai y cymdeithasau yn Siroedd Trefaldwyn, Meirion, Dinbych, ac Arfon. Wrth deithio, dyoddefodd ei ran o erledigaethau. Unwaith yn Sir Gaernarfon, pan ar ganol pregethu, ymosodwyd arno gan was bonheddwr, yr hwn a'i curodd a ffon o gwmpas ei ben yn ddidrugaredd, fel y syrthiodd mewn llewyg, ac y bu glaf am amser. Dro arall, pan ar daith yn yr un sir, dygwyd ef gerbron heddynad, yr hwn a'i triniodd fel vagabond, gan ei anfon adref o gwnstab i gwnstab, y naill yn ei roddi i fynnu i'r llall, fel pe byddai yn greadur peryglus. Yn yr ymraniad rhwng Rowland a Harris, ymunodd Tibbot ar y cychwyn a phlaid y diweddaf. Yr oedd yn naturiol iddo wneyd felly; Harris oedd y cyntaf o'r Methodistiaid i ennill ei fryd; Harris oedd y mwyaf ei ddylanwad o'r Diwygwyr yn Sir Drefaldwyn, a chydag ef y bwriodd yr holl seiadau yn y sir eu coelbren. Cawn enwau Tibbot, a Lewis Evan, Llanllugan, yn mysg y rhai oeddynt yn bresennol yn Nghymdeithasfa gyntaf plaid Harris, yr hon a gynhaliwyd yn St. Nicholas, Gorph. 25, 1758; a rhaid fod cryn zêl yn eu meddiannu cyn y teithient o ganol Trefaldwyn i Fro Morganwg er mwyn bod yno. Yn y Gymdeithasfa trefnwyd fod Richard Tibbot i ddwyn adroddiad am ystâd y seiadau yn Sir Drefaldwyn i'r Gymdeithasfa ddilynol, ac i fyned ar daith i'r Gogledd i bregethu am dair wythnos. Cawn ef hefyd yn Nghymdeithasfa Fisol Llwynyberllan, Rhagfyr 30, yr un flwyddyn, ac yr oedd yn un o'r rhai ddarfu ateb pan y gofynnodd Harris pwy oedd yn barod i roddi ei galon a'i law i'r Arglwydd. Nid oedd yn Nghymdeithasfa Dyserth y dydd lau canlynol, ond ceir nodiad yn y cofnodau yn dweyd iddo gael ei anfon y boreu hwnnw i'r Gogledd, yr hyn a ddengys mai nid diffyg cydymdeimlad a Howell Harris, a'r rhai a ymlynent wrtho, a achosai ei absenoldeb. Yn raddol, pa fodd bynnag, ymddengys i amheuaeth gref godi yn meddwl Tibbot gyda golwg ar yr yspryd a lywodraethai Harris a'i ganlynwyr. Ac yn Nghymdeithasfa y blaid, yr hon a gynhaliwyd yn Llwynbongam, Gorph. 2, 1751, daeth pethau i argyfwng. Gofynai Harris am arwydd, pwy oedd a ffydd ganddo i gymeryd y wlad, ac i sefyll yn unig yn y gwaith gyda'r Arglwydd, heb neb gydag ef. Ystyr hyn, dybygid, oedd myned o gwmpas y seiadau, er cael ganddynt gefnu ar yr offeiriaid Methodistaidd. Gwrthododd amryw arwyddo. Y nos gyntaf, yr oedd Tibbot yn anmhenderfynol; gwelai y brodyr heb fod yn sefydlog, a theimlai awydd am gael ymddiddan a'r blaid arall. Ceisiai Harris ymresymu ag ef, a dangos yr angenrheidrwydd am farn sefydlog; dywedai, yn mhellach, fod y rhai a ymadawsant wedi tramgwyddo, a bod pob moddion posibl wedi cael ei ddefnyddio i'w hadfer. Eithr ofer a fu yr ymresymu. A boreu drannoeth, trowyd Richard Tibbot allan am wrthod ufuddhau i fyned o gwmpas, ac am ei benderfyniad i fyned i ymddiddan a phlaid Daniel Rowland. Allan yr aeth, gan fwrw ei goelbren gyda Rowland, a pherthyn i'w blaid ef y bu tra mewn cysylltiad a'r Methodistiaid. Ni phallodd ei deimladau caredig at Harris er hyn, a phan fu gwraig y diweddaf farw ysgrifennodd Tibbot ato lythyr, yr hwn sydd yn awr ar gael, yn datgan ei gydymdeimlad ag ef yn ei dywydd; llythyr Cristionogol, yn llawn o syniadau aruchel, yn gystal a thynerwch.
Llafuriodd Richard Tibbot yn mysg y Methodistiaid hyd y flwyddyn 1762. Y pryd hwnw yr oedd eglwys Annibynol Lanbrynmair yn amddifad o weinidog, gan fod y Parch. Lewis Rees wedi symud i'r Mynyddbach, ger Abertawe; taer gymhellwyd Tibbot i gymeryd ei le, yr hyn a wnaeth yntau. Tebygol fod arno, fel amryw o'r cynghorwyr eraill, awydd cael ei ordeinio, yr hyn ni chai gan y Methodistiaid. Ar yr un pryd, nid oedd, wrth gymeryd y cam hwn, yn troseddu unrhyw egwyddor, nac yn gwneyd cam a'i gydwybod; gyda'r Annibynwyr y cawsai ei ddwyn i fynu; pan gwedi ymuno a'r Methodistiaid, ymgymysgai yn rhwydd a'i frodyr gynt, gan deimlo parch mawr iddynt; ac o'r dechreu nid oedd enwad a phlaid o nemawr pwys yn ei olwg. Gweithiodd yn ddyfal yn Llanbrynmair; cyrhaeddai cylch ei weinidogaeth o Fachynlleth i Landinam; ac yn ychwanegol, teithiai yn fynych trwy Ddê a Gogledd Cymru. Yr oedd mor gymeradwy yn mysg y Methodistiaid a chynt, ac nid oedd ei barch yntau iddynt hwy ddim yn llai; presenolai ei hun hyd ddiwedd ei oes yn Nghymdeithasfaoedd Llangeitho a'r Bala, a chaffai bregethu ynddynt ar yr adeg fwyaf anrhydeddus. Pan yn teithio, pregethai yn nghapelau y ddau enwad yn ddiwahaniaeth, a chroesawid ef yn addoldai y Bedyddwyr. Ni wyddai am gulni enwadol; yr oedd ei dŷ yn Llanbrynmair yn agored i weinidogion a chynghorwyr pob plaid grefyddol.
Nid oes ond y dydd mawr a ddengys faint llafur y gŵr da hwn, na'r erlidiau a ddyoddefodd yn ei ymdrechion gyda'r efengyl Arferai fyned i'r Waenfawr, ger Caernarfon, er cymaint y peryglon y gosodai ei hyn yn agored iddynt, a lletyai yn nhy Thomas Grifiith, tad y bardd adnabyddus, Dafydd Ddu Eryri, yr hwn a gadwai siop fechan yn ymyl y bont. Pan ddeuai Tibbot i olwg y lle, torai allan i ganu; ac ar waith Thomas Grifiiths yn clywed y llais, cyffroai trwyddo, a dywedai mewn llinell farddonol:
"Dyna Tibbot, yr wy'n tybied."
I'r Waenfawr y cyrchai yr ychydig Fethodistiaid oeddynt yn nhref Caernarfon i addoli. Cynygiodd Williams, Pantycelyn, bregethu yn y dref, ond rhwystrwyd ef gan yr erlidwyr. Er gwaethaf y terfysg'wyr, meiddiodd Tibbot lefaru yno tua'r flwyddyn 1770. Safai, meddir, ar risiau tŷ un Hugh Owen, lledrwr [curricr), gyferbyn a tliafarndy "Y Delyn," yn ngwaelod heol Penyrallt. Ond ni chafodd lonyddwch. i gychwyn, daeth un Twm y Goes-fawr yno, gan sefyll ar risiau uwch, a lluchio prenddysglau at y pregethwr, nes yr oedd ei ben yn orchuddiedig gan archolhon, a'i waed yn llifo. Yn ganlynol, cynygiodd rhyw adyn ei saethu, ond methodd. Gwaeddai rhyw un yn groch dros y lle, mewn cynddaredd oedd yn gyfartal i'w anwybodaeth: " I ba beth y mae y diafliaid hyn yn dyfod yma i ddwyn yr efengyl oddiar Grist, nis gwn i." Pa fodd y gorphenodd yr odfa, ni ddywedir, ond ar y terfyn carcharwyd y pregethwr a'i anifail yn y castell; gollyngwyd hwy ymaith, modd bynag, foreu tranoeth, heb dderbyn niwaid.
Cawn hanes am dano, gyda chynghorwr o'r enw Edward Parry, yn pregethu yn gyfagos i Henllan, Sir Ddinbych. Daeth offeiriad Llanefydd, ynghyd a Mr. Wynn, Plasnewydd, yno i'w rhwystro. Tueddai Mr. Wynn i aros i wrando, er cael dealltwriaeth am yr athrawiaeth a draethid ganddynt; ond rhuthro yn mlaen yn ei afiaeth a wnaeth yr offeiriad, gan ofyn yn sarug: "Paham y meiddiwch bregethu mewn tŷ heb ei drwyddedu?" Atebodd Edward Parry yn fwynaidd: "Y mae gorchymyn wedi ei roddi i fyned i'r priffyrdd a'r caeau; ac yn fy nhyb i, nid gwaeth myned i dŷ, os bydd cyfleusdra yn rhoi." "Yr wyf fi," ebai'r offeiriad, "yn pregethu i'r plwyfolion bob Sul, fel nad oes raid i neb arall ymyraeth." Deallodd Tibbot wrth hyn mai clerigwr ydoedd, ac ebai efe: "Yr wyf yn tybied, Syr, mai o'r un llyfr a minau yr ydych chwi yn pregethu, ac feallai oddiar yr un testunau." "Rhowch weled pa lyfr sydd genych," ebai'r clerigwr. Estynodd yntau Destament Groeg iddo. Agorodd yr offeiriad a Mr. Wynn eu llygaid pan welsant y Testament Groeg; ni thybiasent fod y Pengryniaid dirmygus yn gwybod dim am yr ieithoedd clasurol, ac ymadawsant ill dau heb ddweyd gair yn ychwaneg.
Y tro olaf y pregethodd Richard Tibbot oedd Ionawr 21, 1798. Pregethodd ddwy waith y Sul hwnw, a gweinyddodd yr ordinhad o Swper yr Arglwydd mewn dau le. Ymddangosai fel pe byddai ei gorph yn gryfach, a'i deimladau yn fwy nefolaidd nag arferol. Sylwai un o'i wrandawyr ei fod, wrth son am ddyoddefìadau yr Arglwydd Iesu, braidd fel be buasai yr ochr fewn i'r llen. Bu farw Mawrth 18, 1798, yn agos i bedwar ugain mlwydd oed. Pregethodd ei olynydd, y Parch. John Roberts, yn ei gladdedigaeth, oddiar y geiriau: "Oni wyddoch chwi i dywysog ac i ŵr mawr syrthio heddyw yn Israel?" Tystiolaeth pawb a'i hadwaenent oedd ei fod yn ddyn galluog, ac o alluoedd meddyliol cryfion; er nad oedd yn ymadroddus, nac o ddoniau dysglaer, yr oedd yn dduwinydd gwych; ac yr ydoedd yn un o heddychol ffyddloniaid Israel. Mewn cyfnod ag yr oedd rhagfarn grefyddol yn rhedeg yn uchel, a dallbleidiaeth yn ffynu, yr oedd Tibbot yn glynu wrth hanfodion yr efengyl, gan ddibrisio y man gwestiynau a wahanent y naill blaid oddiwrth y llall. Y mae ei goffadwriaeth yn fendigedig hyd y dydd hwn.
Cynghorwr arall yn Sir Drefaldwyn a haedda ein sylw yw Lewis Evan, Llanllugan. Yr ydym wedi cyfeirio yn barod at ei argyhoeddiad yn Nhrefeglwys, dan weinidogaeth Howell Harris, yn y flwyddyn 1740, a'i waith yn dechreu cynghori yn bur fuan gwedin, heb gael caniatad gan unrhyw lys, crefyddol na gwladol. Ymddengys iddo gael ei eni yn y flwyddyn 1719, ac felly yr oedd yr un oed a Richard Tibbot. Gwehydd oedd wrth ei gelfyddyd; gweithiai gyda ei dad mewn lle o'r enw Crygnant. Peth dyeithr yn y wlad y pryd hwnw oedd fod gwehydd ieuanc yn myned o gwmpas o dŷ i dŷ, i ddarllen y Beibl, ac i weddïo, a chynghori; creodd ei ymddygiad gryn gyffro yn yr ardal; ac yn bur fuan deffrodd erledigaeth. Gwasanaethai dyn cryf o gorph yn Plashelyg, amaethdy rhwng cartref Lewis Evan a thy yr arferai gyrchu iddo i ddarllen; ymddengys fod y gweddïo a'r cynghori yn cythruddo gwas Plashelyg yn enbyd, a gwyliai Lewis Evan yn pasio, gan ei fygwth yn dost oni roddai heibio y gorchwyl. Hyn nis gwnai yntau, a'r diwedd a fu i'r adyn creulon ei guro yn dost, nes yr oedd y ffordd yn goch gan ei waed. Yr oll a atebodd i'w erlidiwr ydoedd: "Dywed i mi, fy machgen gwyn, pa beth a wnaethum i ti, gan dy fod yn fy nhrybaeddu fel hyn?"
Ceir cyfeiriadau mynych at Lewis Evan yn nghofnodau Trefecca. Mewn Cyfarfod Misol a gynhaliwyd yn y Tyddyn, ger Llanidloes, Chwefror 17, 1743, rhoddwyd nifer o eglwysi Sir Drefaldwyn dan ei ofal ef, mewn undeb a Morgan Hughes, a Benjamin Cadman. Yn y Cyfarfod Misol a gynhaliwyd yn Glanyrafonddu, yn mhen pythefnos gwedin, rhoddwyd cymdeithasau Llanllugan, a Llanwyddelan, yn gyfangwbl tan arolygiaeth Lewis Evan, tra y cafodd B. Cadman ei drefnu i ymweled a holl eglwysi y sir. Penderfynwyd mewn Cymdeithasfa Fisol yn Nhrefecca, Ionawr, 1744: "Fod y brawd Lewis Evan i fyned can belled ag y gallai, yn gyson a'r alwad a fyddai arno, i Sir Feirionydd." Yn adroddiad Richard Tibbot o ansawdd yr eglwysi yn Nhrefaldwyn, yn yr un flwyddyn, dywedir: "Y mae Lewis Evan, yr hwn sydd yn cynghori yn Llanllugan, yn cael ei arddel gan yr Arglwydd i fod yn ddefnyddiol i lawer; y mae amryw ddrysau yn cael eu hagor iddo, ac amryw wedi cael eu hargyhoeddu trwy ei athrawiaeth." Ymddengys ei fod yn bregethwr effeithiol, ac yn dra derbyniol gan y cymdeithasau tros yr holl wlad. Mewn llythyr oddiwrth un T. E., Tyddyn, dyddiedig Awst 1, 1746, at Harris, ceir a ganlyn: "Yr oedd y brawd Lewis, o Lanllugan, yma ychydig amser yn ol; crychneidiai calonau y saint o'u mewn tan ei ymadroddion. Syndod fel y mae yr Arglwydd yn peri i'r dyn hwn gynyddu mewn dawn a gras." Yn haf 1747, dywed Mr. T. Bowen, Tyddyn, mewn llythyr at Harris: " Y mae dyfodiad y brawd Lewis Evan atom wedi bod yn nodedig o adfywiol yn ddiweddar." Oddiwrth yr amrywiol dystiolaethau yma nis gellir amheu fod y cynghorwr diaddysg o Lanllugan yn meddu llawer o gymhwysderau pregethwrol, a'i fod yn cael ei fendithio gan ei Feistr i fod yn offeryn i achub pechaduriaid, ac i adeiladu y saint. Fel holl gymdeithasau a chynghorwyr Trefaldwyn, yn yr ymraniad gofidus rhwng Rowland a Harris, cymerodd Lewis Evan blaid y diweddaf, ei dad yn y ffydd, ac yr oedd yn bresenol yn y Gymdeithasfa gyntaf a gynhaliwyd ganddo ef a'i bleidwyr yn St. Nicholas. Pan y penderfynwyd yno anfon nifer o gynghorwyr i Ogledd Cymru, er perswadio y seiadau mai Harris oedd yn gywir, a bod Rowland a'i ganlynwyr wedi colli eu gafael ar yr Arglwydd, yr oedd Lewis Evan, Llanllugan, yn un o'r anfonedigion. Dengys hyn yr ystyrid ef yn ddyn o ymddiried. Cawn ef yn bresenol yn Nghymdeithasfa yr Harrisiaid, a gynhaliwyd yn Dyserth, Ion. 3, 1751, a darfu iddo, fel nifer o gynghorwyr eraill, ddatgan ar gyhoedd ei barodrwydd i gyflwyno ei hun a'r oll a feddai i'r Arglwydd. Penodwyd ef yno i fod yn un o'r rhai oeddynt i adael pob peth, ac i fyned o gwmpas yn wastadol, i wasanaethu yr achos. Yr oedd yn Nghymdeithasfa y blaid yn Nhrefecca, y Chwefror canlynol; yn Nghymdeithasfa Castellnedd, Ebrill 10, yr un flwyddyn; ac yn Nghymdeithasfa Llwynbongam, Gorph. 2, 1751, lle y gwnaeth, fel eraill, ail ddatganiad o'i ymroddiad i wasanaethu crefydd tan arweiniad Harris. Cafodd yr anrhydedd o bregethu hefyd yn y Gymdeithasfa hon. Y tro diweddaf y ceir ei enw yn y cysylltiad hwn yw yn Nghymdeithasfa Trefecca, Hydref 2, 1751. Anogid y brodyr yno gan Harris i adrodd eu teimladau yn rhydd; yr ail i agor ei enau oedd Lewis Evan; dywedai ef ei fod yn teimlo angenrhaid arno, ddydd a nos, i fyned at yr Iesu croeshoeliedig, ac i weithio drosto. Eithr yn raddol darfu i dra-awdurdod cynyddol Howell Harris, a'i waith yn cyfyngu yn bennaf ei lafur i Drefecca, beri i Lewis Evan, fel nifer o gynghorwyr eraill, droi ei gefn arno, ac ail ymuno a'r Methodistiaid dan dywysiad Daniel Rowland,
Ni ddyoddefodd neb yn yr oes honno fwy dros yr efengyl na Lewis Evan; darllena ei beryglon, ei ddyoddefaint, a'i waredigaethau fel rhamant. [132] Pan y teithiai unwaith yn Nyffryn Clwyd, yr oedd dau ddyn yn sefyll yn ymyl pont yn ei ddisgwyl, gyda phastynau mawrion yn eu dwylaw; a chan un o honynt tarawyd ef ar ei ben, nes yr oedd ei waed yn ffrydio. Ni wyddai efe, oblegyd y syfrdandod a achosid gan y ddyrnod, fod ei waed yn llifo, nes i ryw wraig ei gyfarfod, a gofyn iddo yn gyffrous: "Yn enw'r mawredd, beth yw y drefn yna sydd arnoch?" Fel yr oedd, cyrhaeddodd dŷ un o'i gyfeillion, lle y cafodd olchi ei friwiau, a phob ymgeledd. Dro arall, pan yn cynghori yn Darowain, nid yn nepell o Fachynlleth, daeth tua thriugain o ddihyrwyr o'r dref i aflonyddu arno, gan lawn fwriadu ei niweidio. Gan eu bod yn rhy ffyrnig i ymresymu a hwynt, ac yn rhy gryfion i'w gwrthsefyll, nid oedd dim i'w wneyd ond ffoi, a ffoi a wnaeth. Gan ei fod yn ysgafn o gorph, ac yn chwimwth ar ei droed, nid oedd heb obaith dianc. Wrth redeg, syrthiodd i ffos ddofn, a ddigwyddodd fod yn sych ar y pryd; daeth i'w feddwl y gallai y ffos fod yn ymguddfa iddo. Ynddi y llechodd nes yr aeth yr erlidwyr heibio, ac felly y dihangodd o'u crafangau,
Pan yn pregethu yn y Bala un Sabboth, anfonodd bonheddwr, oedd hefyd yn heddynad, swyddogion i'w ddal, ac i'w ddwyn ger ei fron. Galwyd Lewis Evan i'r parlwr, a chymerodd yr ymddiddan canlynol le rhwng y ddau: Ynad. " Ai ti a fu yn pregethu yn y Bala? "
Lewis Evan. " Ië, Syr, myfi fu yn rhoddi gair o gyngor i'r bobl."
Ynad. " O ba le yr wyt yn dod, a pheth yw dy orchwyl pan fyddi gartref? "
L. E. " O Sir Drefaldwyn, o blwyf Llanllugan, yr wyf yn dod, a gwehydd wyf wrth fy ngalwedigaeth."
Ynad. " Beth a ddaeth a thi y ffordd hon? Ai nid oedd gennyt ddigon o waith gartref? "
L. E. " Oedd, digon; ond mi ddaethum yma i roddi gair o gyngor i'm cydbechaduriaid."
Ynad. " Nid oes yma ddim o dy eisiau. Y mae gennym ni bersoniaid wedi cael addysg dda, ac wedi cael eu dwyn i fyny trwy draul fawr yn Rhydychain, i bregethu i ni."
L. E. " Y mae digon o waith iddynt hwy a minnau. Y mae y bobl yn myned yn lluoedd tua dystryw er y cyfan."
Ynad. " Mi a'th anfonaf i'r carchar am dy waith."
L. E. " Bu fy ngwell i yn y carchar o'm blaen. Carcharwyd yr Arglwydd Iesu ei hun, er iddo ddyfod i'r byd i gadw pechaduriaid." Gyda hyn, dywedai y gwehydd air yn mhellach am yr Arglwydd Iesu, ac am ei amcan goruchel yn dyfod i'r byd; ond yr ynad a'i lluddiodd, gan ofyn: "
A wyt ti yn meddwl pregethu yn fy mharlwr i?"
"Nid wyf yn meddwl, Syr," oedd yr ateb, "fod eich parlwr chwi yn rhy dda i ddywedyd am Iesu Grist ynddo."
Gwelai yr ynad nad oedd fawr tebygolrwydd yr enillai lawer ar y pregethwr trwy ymddiddan o'r fath; felly, anfonodd ef i garchar Dolgellau, lle y bu y gwehydd tlawd am yspaid hanner blwyddyn. Eithr aeth cyfeillion yr efengyl i chwilio i mewn i'r helynt, a chawsant fod y prawf a'r ddedfryd yn afreolaidd, a bod y bonheddwr a'i traddododd, yn ôl pob tebyg, wedi gosod ei hun yn ngafael y gyfraith trwy yr amryfusedd a gyflawnasai. Deallodd yr ynad hynny yn ogystal, a bod cyfeillion Lewis Evan yn bwriadu cael ymchwiliad i'r helynt. Brysiodd i Ddolgellau, ac i'r carchar at Lewis Evan, lle y cymerodd yr ymddiddan a ganlyn le:-
Ynad. " Wel, Lewis, ai yma yr wyt ti eto? "
L. E. " Ië, Syr, dyma lle yr wyf."
Ynad. "Mae yn debyg mai yma y byddi di byth."
L, E. "Na, ni fyddaf fi na chwithau yma byth."
Ynad. "Pe y rhoddit ychydig arian, mi a allwn dy gael allan."
L. E. "Yn wir, Syr, chwi a ddylech fy nghael allan am ddim, gan fod genych law fawr yn fy rhoddi i mewn."
Ynad. "Dywed i mi, a oes llawer o honnoch?"
L. E. "Oes, Syr, y mae llawer o honom, ac fe fydd mwy o lawer eto yn mhen ychydig amser."
Ynad. "Yn nghrog y bo'ch chwi wrth yr un gangen."
L. E. "O! Syr, chwi fyddwch chwi wedi hen bydru cyn hynny."
Afreidiol ychwanegu ddarfod gollwng Lewis Evan yn rhydd yn ebrwydd, ac heb ddim costau. Mewn canlyniad, gadawyd yr ynad yn llonydd, ond rhoddwyd ar ddeall iddo y cedwid llygad arno o hyny allan, ac na oddefid iddo gyflawni y fath gamwri mwy.
Meddai Lewis Evan lawer o ffraethder a pharodrwydd ymadrodd yn nghanol diniweidrwydd diddichell. Dringasai ef a Mr. Foulkes, Machynlleth, i ben yr Wyddfa unwaith; ac wedi cyrhaedd ei gopa tynnai Mr. Foulkes ei het, a dywedai: "Beth pe yr aem ychydig i weddi?" "Da iawn, Mr. Foulkes,"oedd yr ateb; "gwnewch ar bob cyfrif, daliwch afael ar y cyfleustra, oblegyd ni fuoch mor agos i'r nefoedd erioed o'r blaen." Rhaid i ni ymatal, onide gallem groniclo llu o hanesion am dano. Dyn bychan ydoedd, bywiog ei ysgogiadau, cyflym ei leferydd, a pharod ei ymadrodd. Ni ystyrid ef yn bregethwr mawr, ond bu yn dra defnyddiol. Daliai afael ar bob cyfle i gynghori. Yr oedd rhyw adnod o'r Beibl, neu air o addysg, ar ei wefus yn wastad. Cyffelybid ef i ysgol symudol, gan mor ddyfal yr oedd yn cyfrannu gwybodaeth am Dduw, a chyflwr colledig dyn, i'r rhai a gyfarfyddai. Bu farw yn y flwyddyn 1792, yn 72 mlwydd oed, ac yn ddiau aeth i dangnefedd. Canodd nai iddo farwnad ar ei ôl, ond nis gallwn ei chofnodi o ddiffyg lle.
Cynghorwr arall, o gryn enwogrwydd, oedd Herbert Jenkins. Cawsai ei eni yn mhlwyf Mynyddislwyn, Sir Fynwy, yn y flwyddyn 1721. Ymddengys fod ei rieni yn ddynion crefyddol, ac mewn amgylchiadau cysurus, a rhoisant addysg dda i'w mab. Bu am ryw gymaint o amser yn yr ysgol yn Mryste, gyda Mr. Bernard Fosket, athraw athrofa y Bedyddwyr. Yn ôl pob tebyg, argyhoeddwyd ef dan weinidogaeth Howell Harris, ac yn bur fuan dechreuodd lefaru am Grist wrth ei gyd-bechaduriaid. Gan y medrai bregethu yn Gymraeg ac yn Saesneg, a'i fod o ddawn poblogaidd, daeth galwad mawr am ei wasanaeth. Yn Nghymdeithasfa gyntaf Watford, ei enw ef a geir y blaenaf ar restr y cynghorwyr a dderbyniwyd i undeb y Gymdeithasfa. Ei enw ef hefyd yw y cyntaf ar restr y cynghorwyr presennol yn yr ail Gymdeithasfa; a phan y dosrennid y wlad tan arolygiaeth cynghorwyr, ni roddwyd adran i Herbert Jenkins, eithr trefnwyd iddo i fod yn gynorthwywr i Howell Harris, ac i'r brodyr Saesnig. Amlwg felly yr ystyrid ef mewn rhai pethau yn rhagori ar ei gyd-gynghorwyr. Dywedir iddo gael yr apwyntiad gwedi i Howell Harris ei glywed yn pregethu yn ardderchog, ar ddirgelwch Duwdod y Gwaredwr. Pa mor uchel y syniai Harris am dano a welir oddiwrth lythyr o'i eiddo at Whitefield, Chwefror 12, 1743. Meddai: "Y mae yr Arglwydd yn bendithio y brawd Herbert Jenkins yn fawr. Gwelais ef yr wythnos hon, ar ei ddychweliad o Siroedd Penfro, Morganwg, a Chaerfyrddin. Y mae yn cael ei arddel, a'i hoffi; ac y mae galw cyffredinol am dano; ac oni fydd ei alwad i swydd Wilts yn bur eglur, nid wyf yn meddwl y dylai fyned, oddieithr yn achlysurol, yn enwedig gan fod y brawd Adams yn dyfod yn mlaen mor ddymunol.
Ymddengys, modd bynnag, mai llefau y brodyr Saesnig a orfu, oblegyd yn eu mysg hwy y treuliodd Herbert Jenkins y rhan fwyaf o weddill ei oes. Yn Hanes Bywyd yr Iarlles Huntington, dywedir iddo ymuno a chymdeithas Mr. Wesley yn 1743, ac iddo deithio yn y cyfundeb hwnnw am rai blynyddau gyda dyhëwyd a llwyddiant; ei fod yn bresennol yn ail gynhadledd y Wesleyaid, a gynhaliwyd yn Mryste yn 1745, ac y ceir ei enw yn olaf ar restr y pregethwyr teithiol. Ond nid yw yn ymddangos fod y nodiad yn hollol gywir. Nid ymwahanasai Herbert Jenkins oddiwrth ei hen frodyr, er iddo lafurio yn mysg y Wesleyaid am beth amser. Yn mhellach yn mlaen, dywedir yn y cofiant iddo ymuno drachefn a Mr. Whitefield, a llafurio gyda Cennick ac eraill yn Nghyfundeb y Tabernacl, a'i fod yn pregethu llawer yn Nghymru. Cawn ef mewn cymdeithasau perthynol i'w gyfundeb ei hun yn Mryste, Mawrth 20, 1744. Y mae llythyr o'i eiddo at Howell Harris, dyddiedig Ebrill 11, 1745, ar gael yn Nhrefecca, yn dangos ddarfod i Herbert Jenkins oeri rhyw gymaint at y Methodistiaid, ac at Harris ei hun. Achwyna yn y llythyr nad oedd Harris yn teimlo ato fel cynt, a'i fod wedi dwyn cyhuddiadau pwysig yn ei erbyn. Sef yn (1) Nad ydoedd ei holl galon ynglŷn wrth yr achos. Gwada hyn yn hollol, ond dywed yr ymddengys iddo fod Harris yn nesu yn rhy agos at y Morafiaid, a'i fod yntau yn eiddigus o'r herwydd. (2) Nad ydoedd yn cymeradwyo y trefniadau Methodistaidd a wnaed yn y Gymdeithasfa. Ateba ei fod yn cydweled a'r seiadau preifat, yn y rhai yr ymgynullai yr aelodau i weddïo, ac i ganu, ac i adrodd eu profiadau; fod y cyfryw gyfarfodydd wedi profi yn nodedig o fendithiol; ond nad oedd yn cydweled a gosod ymwelwyr dros y seiadau, ac mai goreu pa gyntaf y byddai hynny yn darfod. (3) Ei fod yn aros gyda y Methodistiaid, er yn anghytuno a'u trefniadau, gyda'r bwriad o ymadael yn mhen amser, a thynnu y bobl ar ei ôl. Y mae yn gwadu y cyhuddiad hwn yn y modd mwyaf diamwys. (4) Ei fod mewn ystyr yn ddyn gwahanol, ac yn teimlo yn wahanol at Howell Harris. Addefa fod peth gwir yn hyn: "Unwaith," meddai, " yr oeddwn yn eich gwneyd yn rheol cred ac ymddygiad; tybiwn eich bod yn anffaeledig. Ond yn awr yr wyf yn ei theimlo yn ddyledswydd arnaf i beidio canlyn neb, ddim cymaint a cham, ond i'r graddau y mae efe yn canlyn Crist." Gorphena ei lythyr trwy ddweyd ei fod yn parchu Harris yn fawr, fel un oedd yn Nghrist o'i flaen ef, ac fel un a anrhydeddasid gan yr Arglwydd, trwy gael ei wneyd yn offeryn i ddychwelyd llawer o eneidiau.
Nid yw yn ymddangos i Howell Harris ddigio o herwydd y llythyr, ond yn hytrach i hyn glirio i ffwrdd lawer o'r niwl a orweddai rhyngddynt. Yn 1745, penodwyd Herbert Jenkins i wasanaethu yn y Tabernacl, fel olynydd i Harris, hyd Chwefror y flwyddyn ddilynol. Mewn llythyr arall at Howell Harris, hysbysa iddo lawn fwriadu myned i'r athrofa, a gedwid gan un Mr. Thompson, i berffeithio ei hun yn mhellach mewn Lladin a Groeg; ond er cynyg droiau, i gynifer o anhawsderau gyfodi ar ei ffordd, fel yr oedd yn argyhoeddedig nad ewyllys Duw oedd iddo fyned. Ddarfod i Mr. Stephens, gweinidog yr Annibynwyr yn Plymouth, ei annog i fyned i Gaerloyw, a chymeryd trwydded fel pregethwr Ymneillduol; fod y brawd Adams wedi gwneyd felly, gan gael trwydded, a myned i Orllewin Lloegr i lafurio; ond nas gallai efe feddwl gwneyd peth o'r fath heb ymgynghori yn gyntaf a'r Gymdeithasfa. Gyda golwg ar gael ei ordeinio yn Eglwys Loegr, ei fod yn awr yn gwbl ddiobaith. Buasai y dydd blaenorol gydag Esgob Bryste, ac yn dweyd ei holl hanes wrtho; gwrandawodd yr Esgob ef yn amyneddgar, ac ymddygodd ato yn foesgar, gan awgrymu iddo na fyddai fawr gwrthwynebiad i'w ysgolheigiaeth. Ond yr oedd Methodistiaeth Herbert Jenkins ar ei ffordd. Dywedodd yr Esgob wrtho y byddai yn anhawdd iddo gael teitl, a chael esgob a'i hordeiniai; ac hyd yn nod pe y caffai hyn, y gwneyd yr arholiad yn fwy caled iddo am ei fod yn Fethodist. Diwedda ei lythyr gyda'r geiriau hyn: " Yr wyf yn gobeithio y bydd i fy mrawd anwyl weddïo trosof pan fyddoch agosaf at yr Oen, erfyniwch arno am arwain ei blentyn yn ei holl ffyrdd."
Fel yr ofnai, methiant a fu pob ymgais o'i eiddo i gael urddau yn yr Eglwys Sefydledig. Mewn canlyniad, cawn ef yn bwrw ei goelbren gyda'r Ymneillduwyr, ac yn y flwyddyn 1749, urddwyd ef yn weinidog ar eglwys Annibynol Maidstone, lle y llafuriodd, gyda mawr lwyddiant, am bedair-blynedd-ar-hugain. Bu farw yn anterth ei boblogrwydd, Rhagfyr 11, 1772, yn 51 mlwydd oed. Y mae yn sicr fod Herbert Jenkins yn ddyn gwych, yn bregethwr hyawdl, ac yn llawn o ynni; a phe y gwelsai y Methodistiaid eu ffordd yn rhydd i'w ordeinio, ni fuasai byth yn gadael y Cyfundeb. Cyfansoddodd amryw emynau, ac y mae un emyn o'i eiddo ar gael yn awr. Cynwysa bump o benillion ar "Gynydd Gras." Ymddengys iddo hefyd gyfieithu amryw o emynau John Cennick, y rhai, gydag eiddo David Jenkins, ei frawd, a argraffwyd dan yr enw, Hymnau ar amryw ystyriaethau, gan amryw Awdwyr, Bristol, 1744."
Nid yw enw James Ingram i'w gael yn nghofnodau Trefecca, ond y mae yn sicr ei fod yn bregethwr teithiol o gryn enwogrwydd. Nid yw hanes ei enedigaeth a'i ddygiad i fynnu gennym; ond ymddengys iddo gael ei argyhoeddi trwy Howell Harris. Yn fuan, gwnaeth Harris ef yn was ac yn olygwr ar ei eiddo yn Nhrefecca; a throdd y gwas, gan ganlyn ei feistr, i gynghori, Y llythyr cyntaf oddiwrtho sydd gennym, ysgrifennwyd ef at Harris, rywbryd yn y flwyddyn 1744, o garchar Aberhonddu. Cawsai Ingram ei ddal er mwyn ei orfodi i ymuno a'r fyddyn. Dyma un o ffurfiau yr erledigaeth yn erbyn y Methodistiaid, a ddygid yn mlaen gan offeiriaid a bonheddwyr y dyddiau hynny, sef carcharu y cynghorwyr, a'u gorfodi i fyned yn filwyr, neu i ymuno a'r militia. Cawn bedwar cynghorwr yr un pryd, yn y flwyddyn 1745, gyda'r fyddyn yn nhref Caerloyw. Ond i ddychwelyd at James Ingram. Yn ei lythyr o'r carchar, dywed: "Gyda chywilydd yr wyf yn cyffesu ei bod yn isel arnaf neithiwr; ond y boreu heddyw galluogwyd fi i lefaru ar y geiriau hyny:- 'Yn ôl dy ddydd y bydd dy nerth.' Cefais ryddid neithiwr i esbonio y ddeuddegfed bennod o'r Datguddiad, am o gwmpas awr; parheis yn hwy heddyw, gyda chymorth anghyffredin. Yr oedd fy enaid yn y nefoedd; yn enwedig pan oeddwn yn gweddïo drosoch chwi, a thros y cyfeillion. A chwedi hyny, pan y daeth fy nhad, a Sali (ei wraig), gweddïais gyda phleser mawr. Yr wyf yn erfyn arnoch berswadio Sali, yr hon sydd yn benderfynol o ddyfod gyda mi; ond yn sicr, nid yw yn iawn iddi wneyd, er fod ymadael a hi i mi fel pe y rhwygid asen o'm hochr." Prin yr oedd yr offeiriaid yn manteisio wrth garcharu James Ingram; yr oedd cynghori yn llosgi fel tan yn ei yspryd, a gwnâi hyny yn y carchar, i'r rhai, fel yntau, a gawsent eu dal, er mwyn eu gorfodi i ymuno a'r fyddyn.
Bu Mr. Marmaduke Gwynn yn gwneyd ei oreu i'w gael yn rhydd, eithr methiant a fu yr ymgais. Noddfa olaf pob Methodist gorthrymedig oedd yr Iarlles Huntington, ac ati hi yr apeliodd Howell Harris ar ran ei was. Y mae llythyr Ysgrifenydd yr Iarlles, a anfonwyd mewn atebiad at Harris, Mehefin 13, 1744, ar gael. Dywed: "Ein hunig ffordd i gynorthwyo Mr. Ingram yw trwy apelio at Iarll Stair, y prif gadfridog; ac ni fedd efe awdurdod dros y swyddogion gwladol, eithr yn unig y rhai milwrol. Felly, os nad yw Ingram wedi cael ei roddi i fynnu i'r awdurdodau milwrol, nis geill yr Iarll wneyd dim drosto, Cawsom ddwy esiampl o diriondeb a thegwch ei arglwyddiaeth yn ddiweddar. Pan y darfu i mi, fel goruchwyliwr yr Iarlles, brofi i'w foddlonrwydd fod y ddau y dadleuwn drostynt yn bregethwyr Methodistaidd, er heb fod mewn urddau, a'u bod wedi cael eu dirwasgu i'r fyddyn trwy falais a thwyll yr offeiriaid, a'r churchwardens, a'r oferwyr, efe a ryddhaodd un o honynt yn uniongyrchol, ar yr amod iddo dalu i lawr yr arian, a'r costau yr aethai y gatrawd iddi ynglŷn ag ef; yr hyn a wnaed ar unwaith. Ac am y llall, cafwyd dyn cryf i gymeryd ei le. Felly, chwi a welwch, y rhaid i chwi anfon pob manylion am Ingram, a phrofi nad yw yn syrthio tan y ddeddf seneddol ddiweddaf, gan ei fod yn was i chwi, ac yn edrych ar ôl eich eiddo, yr hwn ydych yn cadw tŷ, a'r cyfryw dŷ yn eiddo i chwi eich hun, a'ch bod wedi cael addysg dda yn yr ysgolion ac yn y brifysgol, a'ch bod yn parhau i ddilyn eich efrydiau. Nid rhaid i chwi ddweyd eich bod yn bregethwr Methodist. Ac os gellwch ychwanegu eich bod yn freeholder, goreu oll; a bydd yn barod o'ch plaid i gael eich ryddhau, pe y rhoddent mewn gweithrediad eu bygythion mileinig yn eich erbyn chwi. Rhaid i chwi nodi hefyd a pha gatrawd y cysylltir Ingram; pwy yw ei gadben, a'i filwriad, a rhaid i chwi addaw naill ai talu yr arian a'r costau i'r gatrawd, neu fod y dyn yn barod i'w gynyg yn ei le,"
Teifl y llythyr hwn ffrwd o oleuni ar y modd yr ymddygid at y Methodistiaid. Gwelwn (i) Fod y cynghorwyr yn cael eu gorfodi i ymuno a'r fyddyn. (2) Yr ystyrid eu cael yn rhydd trwy dalu arian, neu gynyg dynion eraill yn eu lle, yn ffafr. (3) Na cheid y ffafr hon heb apelio at yr awdurdodau milwraidd uchaf. (4) Nad oedd Howell Harris ei hun, er yn dal eiddo rhydd-ddaliadol, yn ddiberygl o gael ei bresio. (5) Mai yr offeiriaid, a'r rhai oeddynt yn ufudd weision iddynt, oedd wrth wraidd y cyfan. Pa fodd bynnag, daeth Ingram yn rhydd. Ysgrifena at Howell Harris, Mehefin ig, 1744: "Gallaf eich hysbysu fy mod allan o garchar Aberhonddu er ys pythefnos, ar yr amod fy mod yn rhoddi fy hun i fynnu yno pan ddaw y swyddog. Yr oeddwn yn rhy fyr i dir-filwr, a chedwir fi i fod yn fôr-filwr, er fy mod yn rhy fyr i hynny yn ogystal, gan nad wyf ond pum troedfedd a dwyfodfedd a hanner o hyd. Ni wn ddim am yr amser, na'r llong yn mha un y cymerir fi i ffwrdd, na pha un a gymerir fi o gwbl. Y mae amryw ynadon, a Syr H. H., aelod seneddol, wedi addaw gwneyd eu goreu i'm cael yn rhydd. Y mae eraill yn rhuo fel llewod. Eithr rhuent hwy; Duw sydd yn teyrnasu. Pregethais, yn gyffredin, dair gwaith y dydd yn ystod y tair wythnos y bum yn y carchar. Yr wyf yn awr ar fy nghylchdaith yn Sir Henffordd. Anerchwch bawb sydd yn caru llwyddiant Seion yn fy enw. Eich tlawd ac annheilwng was, ond trwy ras, eich dedwydd frawd, James Ingram." Tebygol mai yn rhydd, ac yn pregethu Crist, y bu o hyn hyd ddiwedd ei oes. Yn Gorph. 28, 1744, ysgrifenna Benjamin Cadman at Howell Harris gyda golwg arno: "Cafodd y brawd Ingram, pan oedd ddiweddaf yn Nantmel, alwad i fyned trosodd i Drefaldwyn. Atebai ef nad oedd ganddo awdurdod arno ei hun, ac nas gallai fyned heb eich caniatâd chwi, Yr ydym yn dymuno arnoch dalu ymweliad a ni, os gellwch; os na ellwch, ar i chwi roddi rhyddid i'r brawd Jemmi Ingram i ddyfod." Hydref, yr un flwyddyn, ysgrifenna John Sparks at Howell Harris o Hwlffordd:— "Neithiwr, pregethodd y brawd Ingram yn fy hen bwlpud i yma. Llefarai yn felus ac yn gysurlawn oddiar y geiriau:— 'I chwi y rhai sydd yn credu y mae yn urddas.' Daethai llawer i wrando, a gobeithiaf i rai glywed mewn gwirionedd." Yn Ionawr, 1745, cawn yr hen gynghorwr, John Richard, Llansamlet, yn ysgrifennu: "Mi a fûm gyda fy mrawd James Ingram yn Newton, yn ei wrando yn llefaru; daethai llawer o bobl i'w wrando, a gallaf ddweyd trwy brofiad ddyfod o'r Arglwydd yno i'n cyfarfod. Bendigedig a fyddo ei enw ef. Amen. Yr wyf yn credu i'r odfa gael ei bendithio i agor calonnau rhai i genhadon Duw, os nad i Dduw ei hun; canys chwi a ryfeddech y fath dynerwch oedd yn eu hysprydoedd. Gosodwch ar y brawd Jemmi i fyned yno mor fynych ag y gallo, canys yr wyf yn credu pe y byddai iddo fyned yno i aros am wythnos, y byddai i'r holl fro gael ei hagor i dderbyn cenhadau yr Arglwydd. Yr wyf yn teimlo fy enaid fel llew am ysglyfaeth, am gael yr eneidiau hynny oddi tan lywodraeth Satan." Y mae yn amlwg oddiwrth y llythyrau hyn a'u cyffelyb fod James Ingram yn dra phoblogaidd fel cynghorwr.
Tua chanol haf 1745, tybia fod Howell Harris wedi cael ei anfoddhau ganddo, oblegyd ei ddiofalwch. "Fel yr oeddwn yn dyfod o Erwd," meddai, " daeth i'm meddwl mai gwell fyddai i mi aros mwy gartref, gan fy mod i, a'm ceffyl, a'm golchiad, yn dra chostus i chwi, tra nad wyf o fawr gwasanaeth yn Nhrefecca. Eto, er mai prawf o falchder fyddai i mi dybio y gallwn gyffroi pobl anffrwythlawn y sir hon, yr wyf yn gostyngedig dybio fod gan yr Arglwydd genadwri atynt i'w hanfon drwof fi. Dynoethwyd braich yr Arglwydd tra y pregethwn yn ngŵyl Aberedw; darfu i un o brif ddynion yr wyl dori ei goes; a syrthiodd un arall, cymydog i ni, wrth ddychwelyd o wyl arall, dydd Sul diweddaf, oddiar ei geffyl, a bu farw yn y fan." Pa gysylltiad oedd rhwng pregethu Ingram a gwaith y dyn yn tori ei goes, ni ddywed; y mae yn fwy na thebyg yr edrychai ar y ddamwain fel barn Duw. Modd bynnag, adferwyd cyd-ddealltwriaeth yn fuan rhwng Ingram a'i feistr. Cawn amryw lythyrau o'i eiddo at Howell Harris gwedi hyn, yn mha rai y dengys awydd am ymroddi i'r gwaith Saesnig. Eithr cyn yr ymraniad yr ydym yn colli golwg arno yn llwyr. A fu efe farw yn gymharol ieuanc, neu ynte, a ymsefydlodd fel gweinidog Ymneillduol ar ryw eglwys yn Lloegr, nis gwyddom.
Ceir nifer o gyfeiriadau yn nghofnodau Trefecca, ac yn llythyrau Howell Harris, at James Beaumont, cynghorwr yn Sir Faesyfed. Ymdddengys mai yn Gore, lle yr oedd hen eglwys Ymneillduol, ac yn yr hwn le hefyd y bu seiat gynnes gan y Methodistiaid, y preswyliai. Dywedir ei fod yn ymadroddwr gwresog. Rhaid yr ystyriai Howell Harris ef yn mysg yr enwocaf o'r cynghorwyr, oblegyd enw Beaumont yw yr uchaf ar y rhestr bron yn ddieithriad, oddigerth eiddo Herbert Jenkins. Cafodd ei dderbyn i undeb y Gymdeithasfa fel cynghorwr cyhoedd yn Nghymdeithasfa gyntaf Watford, Yn Nghymdeithasfa Fisol Glanyrafonddu, cafodd ei benodi, gyda Howell Harris a Herbert Jenkins, i fod yn ymwelydd cyffredinol dros yr holl seiadau. Yn ail Gymdeithasfa Watford, gwnaed ef yn arolygwr dros seiadau Siroedd Maesyfed a Henffordd. Profa y llythyr canlynol, o eiddo Howell Harris ato, pa mor uchel y meddyliai y Diwygiwr o Drefecca am dano, a pha mor gynhes oedd y lle a feddai yn ei serchiadau. Y mae wedi ei ddyddio Gorph. 9, 1743: "Fy Mrawd Anwyl, ac agos iawn, Beaumont. Dal yn mlaen i ymladd; y mae y frwydr wedi ei henill; wele, y mae yr Iesu yn dangos y goron a bwrcaswyd ganddo. Dos rhagot, tydi filwr dewr; ni saf dim o'th flaen, oblegyd y mae Crist o'th ochr. Gwna ei glwyfau gwaedlyd ef lanw dy holl raid; ie, pe y gwnai angau ac uffern rwystro ar y ffordd. Clyw! y mae yr Iesu yn galw; bydded i James ufuddhau. Efallai y ca y llythyr hwn fy anwylaf frawd, a'm hagosaf gyfaill, yn flin arno ei hun, ac yn gruddfan am ryddid. Wel, cymer yr Iesu dy faich i ffwrdd; ac hyd hyny efe a'th gynal di dano, gan dy gymeryd yn llwyr o fysg pethau amser, a dangos i ti bethau na welodd llygaid eu cyffelyb. Y pryd hwnw cofia am dy frawd tlawd, ffol, drygionus, a phechadurus, a ddymunai rodio yn Nghrist. Y mae yr Arglwydd wedi gweled yn dda yn wastad ymostwng i ddyfod i'n plith pan fydd ei ragluniaeth yn ein dwyn yn nghyd. . . . Yr wyf yn mawr hiraethu am weled fy anwyl gydfilwr yn fflamio fwyfwy mewn zêl dros yr Oen; y mae pob gras a dawn a roddir i chwi yn mwyhau fy hapusrwydd. Yn fuan, ni a gyfarfyddwn draw, yn mysg y llwyth adeiniog, lle y bydd pechod a gofid wedi eu dinystrio. Yn sicr, nis gall neb yno glodfori rhad ras, a chariad arfaethol, yn uwch na ni, na chyda phereiddiach sain. Ydwyf, fy anwylaf frawd, a'm cydddinesydd, yr eiddot byth yn yr Oen,
How. Harris."
Dengys y llythyr hwn anwyldeb diderfyn Harris at James Beaumont. Y mae yn sicr ei fod yntau yn ddyn beiddgar, nodedig o ddiofn, ac agos mor egniol a Harris ei hun gyda theithio a phregethu. Rhydd y difyniad canlynol o lythyr a ysgrifenodd at Harris, Awst 2, 1742, olwg ar y dyn: "Y mae llawer dan argyhoeddiad yn Llanybister, Meddigre, Llanddewi, a Maesgwyn, lle y pregethais ddwy waith gyda nerth. Yr oedd y diafol yn rhuo ei oreu. Bendigedig fyddo Duw, y mae teyrnas yr un drwg yn cwympo i lawr bendramwnwgl o gwmpas ei glustiau. Felly nid rhyfedd ei fod yn rhuo, gan fod ei amser mor fyr. Bydded i'r Duw tragywyddol ddryllio ei deyrnas fwyfwy, er mwyn Iesu Grist. Amen." A yn mlaen i ddweyd fod drws newydd yn ei blwyf ef wedi cael ei agor i'r efengyl, lle y pregethodd y noson cynt, tan arddeliad amlwg; fod y churchwarden a'i deulu yn y cyfarfod; i lawer gael eu cyffroi; ac ar y terfyn i'r churchwarden ei wahodd i'w dŷ, ac arlwyo gwledd iddo. Pregethodd dranoeth yn yr un lle; yr oedd y swyddog eglwysig yno drachefn, a theimlodd dan y Gair i'r fath raddau, nes y bu raid iddo eistedd i lawr, a gwaeddu allan. Yr oedd rhai o'r teulu hefyd yn wylo dros y lle. Diwedda ei lythyr trwy ddweyd fod yr Arglwydd wedi ei fendithio yn rhyfedd yn mysg pobl Maesyfed, a bod ei ddau frawd, a'i chwaer fechan, yn rhodio yn ostyngedig gerbron yr Arglwydd. Nid bob amser yr oedd swyddogion eglwysig mor dyner o hono. Cymerer y difyniad canlynol a ysgrifenodd i Lundain at Mr. Grace, Tachwedd 29, 1742: "Bum yn ddiweddar yn Siroedd Brycheiniog, Henffordd, a Morganwg. Yn Sir Forganwg, yr oedd Duw gyda mi yn rhyfeddol; gellid meddwl fod teyrnas y cythraul yn syrthio; ni chefais y fath daith erioed o'r blaen, bendigedig fyddo fy anwyl iachawdwr. Aethum yn ddiweddar i wylnos a gynhelid yn y wlad. Gafaelodd offeiriad y plwyf ynof, gan fygwth fy rhoddi yn y stocs. Atebais inau i mi fod yn y stocs o'r blaen o herwydd yr un peth, a'm bod yn foddlon cael fy rhoddi ynddynt eto. Ni chyflawnodd ei fygythiad, ond cadwodd fi yno am beth amser, nes y gwaredodd yr Arglwydd fi o'i law. Aethum i dŷ ychydig ffordd o'r lle, a phregethais i nifer o eneidiau tlodion, y rhai a'm canlynasent o'r fan lle y'm cymerasid yn garcharor. Y mae yr Arglwydd yn rasol iawn i gynghorwyr tlawd Maesyfed. Y mae yn agor eu geneuau yn rhyfedd mewn ffeiriau a marchnadoedd."
Cafodd James Beaumont ei ran o erlidiau. Rhydd y llythyr dilynol, a ysgrifenwyd at Howell Harris, rywbryd yn y flwyddyn 1744, hanes ei ymweliad ef, a'r hen gynghorwr William Evans, Nantmel, a rhan o Sir Drefaldwyn: "Pan aethum i Lanidloes, rhoddodd boneddiges o'r lle genad i mi bregethu dan neuadd y dref. Ond gyda bod y bobl yn dechreu ymgasglu, daeth y churchwarden, gan beri terfysg mawr. Ymddengys fod ganddo awdurdod oddiwrth ganghellydd yr esgobaeth i'm rhwystro i lefaru yn y dref. Pan ddaeth yn agos ataf, gofynodd: 'Trwy ba awdurdod yr ydych yn pregethu yn y lle hwn?' Atebais inau mai trwy awdurdod Gair Duw. Ond ni ofalai efe am y pethau a berthyn i Dduw, eithr yn hytrach pa fodd y gallai fy nhynu i lawr o'r lle y safwn arno. Pan welais ei fod yn benderfynol o'm rhwystro, dywedais wrtho fy mod yn barod i ufuddhau i holl gyfreithiau y tir, yn wladol ac yn eglwysig, Dechreuodd geisio fy arwain ymaith fel carcharor; tynais inau fy oriawr allan er gweled pa awr o'r dydd ydoedd; ar hyn pallodd calon y dyn o'i fewn, newidiodd ei wedd, a chyfnewidiodd o ran ei leferydd. Dywedodd ei fod yn fater cydwybod ganddo i fy rhwystro, gan fod y canghellydd wedi ei orchymyn yn gaeth na chaifai neb bregethu yn y dref; ac os pregethai rhywun ar iddo ei gymeryd yn garcharor. Ond yn lle fy nghymeryd i fynu, aeth ymaith, gan ddymuno yn dda i mi.
"Yn bur fuan, dychwelais i'r lle yr oeddwn i bregethu, a rhoddais allan air o hymn. Trwy amser y canu yr oedd pob peth yn dawel; ond pan aethum i weddi, daeth yr yswain, gan ganu yn ei gorn hela, a galw ynghyd y bytheuaid bychain (beagles). Ymddengys mai y werinos derfysglyd a olyga wrth y beagles; ac mai siarad yn ffugrol y mae. "Ymddangosent," meddai, "fel cwn, yn barod am eu hysglyfaeth, Ond ni oddefodd yr Arglwydd iddynt fy nghamdrin yn mhellach na fy ngorchuddio drosof a thom, ac wyau. Rhegent y collent eu bywydau cyn y cawn bregethu yn y dref. Aethum inau i gwmyn cyfagos, ond y tu allan i gylch y gorffbriaeth, a chanlynodd llawer o bobl. Gwnaeth yr Arglwydd fi yn gryf, ac yn ddisigl, a rhoddodd i mi i lefaru ei air gyda hyfdra, ac nid oedd fy llafur yn ofer yn yr Arglwydd. Methais a phregethu yn Nhrefeglwys, oblegyd ystorm enbyd o wynt a gwlaw. Llechai ŵyn Crist o dan berth yn ymyl y fan y trefnasid i mi lefaru; ond treiddiai y gwlaw trwy y llwyni, ac yr oedd y creaduriaid truain yn oerion ac yn wlyb. Gan nad oedd cyfaill i'n derbyn, meddyliasom am fyned i dafarndy, ryw haner milltir o'r lle. Yno, yn y gwesty, cynyddodd y bobl. Erlidwyr oedd y tafarnwr, a'i wraig. Gofynasom ganiatad i ganu hymn, a chawsom; galluogodd Duw ni i ganu a'r yspryd ac a'r deall. Gwedi canu clodydd ein Prynwr, cymerais ryddid i gynghori ac i weddïo"
"O gwmpas deuddeg o'r gloch dranoeth aethom i'r Drefnewydd, a chauodd y trigolion o'n cwmpas ar bob tu. Lledent eu safnau arnom, ac ysgyrnigent ddanedd, fel llew parod am ei ysglyfaeth. Dywedodd Person y dref wrth ei ysgolheigion, pwy bynag o honynt a'n curai waethaf, y caffai fwy o ffafr gydag ef mewn cysylltiad ag addysg. Ffordd ryfedd o bwrcasu dysg, sef ei brynu a gwaed! Gwnaed yr ymosodiad cyntaf arnaf gan y menywod, y rhai a wlychent eu ffedogau yn nghenel y cŵn, er mwyn dwbio fy wyneb a'r budreddu aflan. Safai y brawd William Evans yn fy ymyl, gan geisio fy nghysgodi oddiwrth yr ergydion ar fy nghorph eiddil; ond yn ofer. Curent eu ceffylau, gan geisio gyru trosom. Codasant i fynu fath o gert, neu chwerfan, fel y syrthiai arnom, ac y rhoddai derfyn ar ein hoedl. Yr oedd y cerig a hyrddid atom yn myned gyda'r fath ruthr, fel y treiddient trwy glawdd, oedd ryw gymaint o bellder. Fel hyn y parhaodd y werin derfysglyd i'n baeddu yn y modd mwyaf barbaraidd, hyd nes i un o honynt fy nharo, fel y llewygais. Pan welsant nas gallwn ddal mwy, taflodd rhai o honynt eu harfau i lawr, gan ddweyd fy mod wedi cael digon. Daliai y brawd Evans fì yn ei freichiau hyd nes y daethum ataf fy hun, yna aeth i chwilio am fy ngheffyl, yr hwn a yrasid ymaith gan yr erlidwyr. Fel y safwn wrthyf fy hun, daeth dynes annhrugarog, gan geisio fy nharo a phren ysgwar, ond gwelodd y brawd Evans hi, a chyfryngodd rhyngof a'i hamcan gwaedlyd. Erbyn hyn yr oeddwn wedi fy ngorchuddio drosof a thom ac a gwaed, ac mor wan, fel nas gallwn sefyll heb gymhorth. Tra y ceisiai fy nghyfeillion fy nghynorthwyo allan o'r llaid, i ba un y cawswn fy nhaflu, daeth benyw, a thaflodd ddyrnaid o dom i'm safn, yr hyn a gymerth ymaith fy anadl, yn mron. Gwaedais tros ddwy filltir o ffordd, ar ol cael ymwared oddiwrth fy erlidwyr; a phan aethum i ddiosg fy nillad, cefais fod fy mhen, a rhanau o'm crys, fel pe y baent wedi eu trochi mewn gwaed, Wedi cael plastr i fy mhen, ac ymborth i fy nghorph, gweddîais ar fy Nhad nefol am faddeu iddynt, ac yr oeddwn yn ddedwydd o ran fy meddwl Dyma y derbyniad a gefais gan bobl y Drefnewydd. Yr wyf yn gweddïo ar i Dduw roddi iddynt galon newydd, er mwyn Iesu Grist. Amen, ac Amen."
Fel hyn yr ymddygid at yr hen gynghorwyr; dyma y driniaeth a dderbynient oddiwrth y bobl y ceisient eu llesoli yn yr ystyr uchaf. Ond er llid y personiaid, a chynddaredd y dorf, ni lwfrhaent; aent rhagddynt gydag yspryd diofn i gyhoeddi efengyl gras Duw i bechaduriaid. Ni chythruddwyd hwynt ychwaith fel ag i geisio dial eu camwri; yn hytrach, fel Stephan, y merthyr Cristionogol cyntaf, ac fel yr Arglwydd Iesu ei hun, medrent weddïo dros eu herlidwyr yn eu gwaed. Dyma wroniaid na fedr y byd ddangos eu rhagorach.
Yn mhen peth amser aeth Beaumont drosodd i lafurio yn Lloegr. Ysgrifena at Howell Harris, Ebrill ii, 1745, i ddweyd ei fod yn bwriadu myned tua Bath a Llundain. Achwyna hefyd yn y llythyr hwn fod oerfelgarwch wedi codi rhwng Harris ag ef. Pa beth oedd achos yr oerni nis gwyddom; tueddwn i feddwl mai gwahaniaeth barn ar ryw bwnc o athrawiaeth; ond cynyddu wnaeth y pellder rhwng y ddau gyfaill, nes myned yn dra dolurus. Cawn un Rice Williams, cynghorwr yn Sir Faesyfed, yn ysgrifenu at Howell Harris, Rhagfyr 29, 1748, fel y canlyn: "Bydded i'r Arglwydd frysio eich ymweliad a ni i gadw seiat breifat. Os ca pethau fyned yn mlaen yn hir fel y maent, gellwch ffarwelio a seiat Sir Faesyfed. Y mae rhai yn ddigon hyf i daeru, os troir Beaumont allan, y bydd i liaws o'r cynghorwyr ei ganlyn, gan ei fod yn sicr o gymdeithas y sir. Y mae Beaumont yn pregethu yn ein herbyn bob wythnos. Yn awr, y mae ein seiat fechan, oedd mewn perffaith undeb, yn ferw trwyddi, ac yn llawn o zêl bartïol. Yr wyf yn ofni y canlyniadau. Anfonwyd am dano ef (Beaumont) gan James Probert, i'r Castell, nos lau diweddaf, lle y maent yn ymgynull yn wythnosol, ond, fel ag yr wyf yn deall, heb yn wybod i'r lleill, Y mae wedi cael ei wahodd i ddod yma, hefyd, ar y dydd cyntaf o'r flwyddyn newydd; ond bwriadaf ei rwystro, gan fod Thomas James i fod yma, yr hwn sydd ychydig yn llai tra-awdurdodol. Y mae y ddadl ynghylch sancteiddhad, yr hyn (fel yr honant) nid yw ond credu syml. Ni oddefìr cyfeiriad at ddyledswydd, na gorchymyn; ac nid ydynt yn credu mewn cynydd mewn gras; a chaseir gwylio ac ymprydio. Y mae Tom Sheen wedi yfed yn ddwfn o athrawiaeth Beaumont; efe yw gŵr ei ddeheulaw. Llawer o'n haelodau a gloffant rhwng dau feddwl, heb wybod pa fodd i fyned yn mlaen. Y mae ein Credo Nicea yn cael ei chashau gan ein hathrawon newyddion; honant y dylai gael ei diwygio, yn arbenig y rhan am genhedliad o'r Tad cyn dechreuad y byd."
Fel hyn yr ysgrifena Rice Williams, a rhydd ei lythyr gipolwg ar y golygiadau wahaniaethol a ddelid gan Beaumont. Ai nid dyma wraidd y gymysgedd o Sandemaniaeth ac Antinomiaeth a ffynai am beth amser yn ardaloedd Llanfairmuallt, gwedi yr ymraniad rhwng Rowland a Harris, at ba un y cyfeirir yn Nrych yr Amseroedd, i'r hon y dywedir fod Thomas Sheen yn athraw? Nid yw yn debyg i James Beaumont fyw yn hir gwedi y llythyr uchod; y mae yn sicr ei fod wedi marw cyn y flwyddyn 1750. Dywedir mai cael ei daro a chareg a wnaeth pan yn pregethu yn yr awyr agored, ac i'r ddyrnod droi yn angau iddo. Y dyb yw mai yn Sir Benfro y cymerodd hyny le. Sicr yw ei fod yn ŵr ymroddgar, llawn o zêl a gwroldeb; a gofidus gorfod croniclo ddarfod iddo gyfeiliorni i raddau oddiwrth y ffydd cyn diwedd ei oes.
Y cynghorwr nesaf a ddaw dan ein sylw yw Thomas James, Cerigcadarn, yn Sir Frycheiniog. Ychydig iawn o'i hanes personol sydd genym, ond a allwn gasglu oddiwrth ei lythyrau, ynghyd a'r cyfeiriadau ato yn nghofnodau Trefecca. Ymddengys, modd bynag, iddo gael ei argyhoeddi tan weinidogaeth Howell Harris, ac iddo ddechreu cynghori ar unwaith. Y mae genym brofion y cynghorai yn nechreu y flwyddyn 1741. Mewn llythyr, dyddiedig Hydref 9, 1742, at Howell Harris, yn Llundain, dywed ddarfod iddo bregethu mewn gwylmabsant, yn Llanfihangel, y flwyddyn flaenorol, a chael ei fendithio i argyhoeddi rhyw enaid. Tybiai fod hyn yn gosod rhwymau arno i fyned i'r wylmabsant y flwyddyn ganlynol. Ceisiai y diafol ei rwystro, gan sibrwd wrtho y cai ei ladd; daeth nifer o gyfeillion ato i ddangos iddo y perygl, a gelynion i'w ddychrynu; ond ni wrandawai Thomas James; yno yr aeth; a'i fywyd yn ei ddwrn. Cyrhaeddodd Lanfihangel cyn i'r rhialtwch ddechreu; aeth y tafarnwr ato, a geiriau llawn mêl ar ei wefusau, gan geisio ganddo beidio terfysgu, ac y byddai yn dda ganddo ei weled yno unrhyw amser arall. Atebai yntau na wnai derfysgu, ond mai ei waith oedd sefyll i fynu yn erbyn teyrnas Satan; na lefarai yn erbyn dim ond pechod; ac os oedd y tafarnwr am gefnogi pechod, fod yn rhaid iddo ei wrthwynebu. Erbyn hyn, yr oedd y dorf yn dechreu ymgasglu. Daeth dynes, lawn o'r cythraul, a hyrddiodd ei hun ar ei draws, nes ei fwrw i lawr, gan ddweyd mai ar ei thir hi yr oedd yn sefyll. "O'r goreu,"' atebai'r cynghorwr, "mi a safaf ar y brif-ffordd." I'r brif-ffordd yr aed, rhoddodd y pregethwr air allan i ganu, eithr y tafarnwr a ddaeth, gan regu na chaffai aros yno, a galw ar y bechgyn i barotoi'r cerig. Dyma y rhai hyny yn rhuthro yn erbyn yr ychydig saint oedd wedi ymgynull ar yr heol, a chyda mwrdd-dra yn eu hwynebau, a chan floeddio fod y brif-ffordd yn rhydd i bawb, gwthient y gynulleidfa fechan o'u blaen, fel na chaffai aros. Yr oedd pastynau yn eu dwylaw, ond, meddai Thomas James: "Mor bell ag yr wyf yn cofio, nid oedd arnom ofn. Yr oedd tân yn llosgi yn fy nghalon trwy yr amser." Yn awr y mae yn myned yn frwydr rhwng y ddwy deyrnas, pob un o'r ddwy yn ymladd a'u harfau priodol ei hun. Gwaeddodd y pregethwr am osteg, fel y gallai siarad a'r arweinydd; eithr pan y cymerodd ef allan o'r dorf, yr oedd y dyn mor wan fel y crynai yn ei wyddfod, ac aeth i ffwrdd a'i liniau yn curo ynghyd. Ail gychwynwyd yr odfa; tra y canai ac y gweddi'ai y saint yr oedd gweision y diafol yn taflu tom a darnau o goed atynt; gorchuddiwyd gwyneb William Evans, Nantmel, a llaid. Ond ni chafodd neb niwed; y Beibl agored, a'u dillad yn unig, a gafodd gam. A'r Iesu gariodd y dydd. Pregethodd Thomas James am awr a haner, oddiar y geiriau: "Ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys, a phyrth uffern nis gorchfygant hi," gan argyhoeddi yr annuwiol, a chadarnhau yr wyn. Ar derfyn ei bregeth teimlai gariad mawr at ei elynion, a chymhellai hwynt gyda thaerni i ddyfod at y Gwaredwr, gan ddangos ei fod yn alluog i achub hyd yr eithaf. Trowyd yr wylmabsant yn gyfarfod pregethu; ac ar y terfyn aeth y tafarnwr at ŵr Duw, gan ei wahodd i'w dŷ i swpera. Diwedda Thomas James ei lythyr gyda'r geiriau: " Nid i ni, O Arglwydd, nid i ni, ond i'th enw dy hun dod y gogoniant."
Yn y Gymdeithasfa gyntaf yn Watford, cafodd ei dderbyn fel cynghorwr cyhoedd, ond ni phenodwyd maes iddo i'w arolygu, oblegyd rhyw helynt ynglyn a'i amgylchiadau. Erbyn ail Gymdeithasfa Watford, ymddengys fod y rhwystr wedi cael ei symud, a chafodd yntau ei osod yn arolygwr ar seiadau Brycheiniog, oeddynt yr ochr nesaf i Drefecca i'r afon Wysg. Cyflawnodd yn ffyddlawn y gorchwyl a gawsai ei ymddiried iddo, fel y dengys yr adroddiadau a anfonodd i mewn. Bu mewn aml i helynt wrth wasanaethu praidd Duw. Mewn llythyr a anfonodd at Cennick, Mawrth 26, 1743, rhydd hanes ei ymweliad a rhyw seiat, ar gyffyniau Siroedd Maesyfed a Brycheiniog, yn nghwmni James Beaumont, a brawd arall. Er cyrhaedd y lle, rhaid oedd iddynt groesi yr afon Wy; a pherswadiodd boneddwr y badwyr i godi crogbris arnynt. Pan na thalent, gwnaed y cwch yn sicr wrth raff yn nghanol yr afon; a daeth llu o bobl i lan y dwfr, o'r Gelli a manau eraill, er cael digrifwch wrth eu gweled yn methu myned nac yn ol nac yn mlaen. Ond yr oedd beiddgarwch a dyfais yn y cynghorwyr; troisant y cwch yn bwlpud i'r Iesu; a dechreuasant bregethu i'r dorf oedd o'r ddau tu. Ffyrnigodd yr erlidwyr, ac ymroisant i luchio cerig at y llefarwyr. Eithr cadwodd Duw ei weision yn rhyfedd; ni anafwyd un o'r tri; ac ymddengys i'r odfa, na chawsai ei chyhoeddi yn mlaen llaw, fod yn foddion i achub amryw. Gwedi i'r cynghorwyr gael eu cadw uwch ben y dwfr am bump awr, yn canu, ac yn gweddïo, ac yn cynghori, caed allan nad oedd gan y cychwyr yr un drwydded; a bu dda ganddynt gymeryd y tri brawd i dir. Tybia Thomas James ddarfod clwyfo cydwybodau y cychwyr eu hunain.
Gorchuddir rhan olaf bywyd y gwas ffyddlawn hwn i Grist a thywyllwch. Y cyfeiriad olaf a gawn ato yw yn llythyr Rice Williams, Rhagfyr 29, 1748. Ni cheir ei enw yn mysg y rhai a ymlynent wrth Harris adeg yr ymraniad. Naill ai yr oedd wedi marw yn flaenorol, neu ynte bwriodd ei goelbren, yn yr argyfwng pwysig hwnw, gyda Daniel Rowland, a Williams, Pantycelyn. Y mae yn sicr fod Thomas James yn un o'r cynghorwyr mwyaf defnyddiol. Cyfunai yn ei dymheredd y llew a'r oen. Nid oedd arno ofn perygl; mentrai i ganol yr erlidwyr yn ddi fraw; ond yr oedd yn nodedig o dirion a gostyngedig wrth drin y praidd.
Y cynghorwr nesaf a ddaw dan ein sylw yw Thomas William, arolygydd adran o Sir Forganwg. Ychydig o'i hanes sydd ar gael; ond ymddengys iddo gael ei argyhoeddi ar daith gyntaf Howell Harris i blwyf Eglwys llan, yn y flwyddyn 1738, ac iddo ddechreu cynghori ar unwaith. Pan yr ymneillduodd y Methodistiaid. o Watford, oblegyd cyfeiliornadau David Williams, y gweinidog, gan ymsefydlu yn y Groeswen, yr oedd Thomas Williams yn un o'r fyntai a aeth allan. Yn Nghymdeithasfa Fisol Glanyrafonddu, a gynhaliwyd Mawrth i, 1743, penodwyd ef i arolygu seiadau y rhan ddwyreiniol o Forganwg, can belled a Llantrisant, a chafodd hyn ei gadarnhau yn Nghymdeithasfa nesaf Watford. Y mae amryw o'r adroddiadau am ansawdd yr eglwysi, a osodasid dan ei ofal, yn awr ar gael, ac y maent yn dra dyddorol. Pan y cyfododd anesmwythid yn meddyliau cynghorwyr y Groeswen, parthed cymuno yn yr Eglwys Wladol, yr oedd Thomas William yn un o'r rhai ddarfu arwyddo y llythyr hanesyddol, a anfonwyd at Gymdeithasfa Cayo, Mawrth 30, 1745. A chan nad oedd atebiad y Gymdeithasfa yn ei foddloni, cymerodd ef, mewn undeb a William Edwards, yr adeiladydd, ei ordeinio yn weinidog i'r Groeswen, yn ol dull yr Ymneillduwyr, ac yno y bu yn llafurio, gan weinyddu y sacramentau, hyd ddydd ei farwolaeth. Nid yw yn ymddangos ei fod yn ystyried ei hun trwy hyn yn ymadael a'r Methodistiaid, o leiaf yn llwyr; ac yr oedd y Diwygwyr yn arfer ymweled a'r Groeswen ar eu teithiau fel cynt. Nid hir y bu fyw gwedi ei ordeiniad, bu farw yn nghanol ei ddefnyddioldeb, a chladdwyd ef yn mynwent Eglwys y llan, am nad oedd claddfa yn perthyn i'r Groeswen y pryd hwnw.
Am ei gyd—weinidog, sef William Edward, a elwir yn gyffredin, " William Edwards, yr adeiladydd," y mae ei hanes yn fwy adnabyddus. Cafodd ei eni mewn ffermdy bychan, yn mhlwyf Eglwys Ilan, rhwng Pontypridd a Chaerphili, o'r enw Bryn, yn y flwyddyn 1719. Efe oedd yr ieuangaf o bedwar o blant, a phan nad oedd ond dwy flwydd oed, bu farw ei dad. Ychydig o ysgol a gafodd, prin digon i'w alluogi i ddarllen ac ysgrifenu Cymraeg. Treuliodd ei faboed yn llafurio ar y tyddyn. Wrth adgyweirio y cloddiau cerig oedd ar y tir, dechreuodd ymhoffi mewn adeiladaeth; ac yn bur fuan aeth ei glod fel gwneuthurwr cloddiau sychion dros y wlad. Wedi gweled seiri meini wrth eu gorchwyl, a sylwi pa fath arfau a ddefnyddient, teimlai ei hun yn alluog i adeiladu tai, a daeth i ragori yn y gelfyddyd. Yn agos i'w gartref yr oedd hen gastell enwog Caerphili, gyda ei furiau cryfion, a'i fŵau celfydd, yn sefyll i fynu, gan herio ystormydd y canrifoedd. Yr oedd athrylith adeiladu yn y llanc William Edward, a threuliai bob awr a allai hebgor mewn astudio nodweddion yr adeilad, ac yn fuan daeth i ddeall egwyddor bŵa (arch). Pan tuag un-ar-hugain mlwydd oed, gosododd weithfa haiarn (iron forge) i fynu yn Nghaerdydd, ac aeth i'r ysgol yno at ddyn dall, o'r enw Walter Rosser, lle y dysgodd Saesneg, ac elfenau gwyddoniaeth. Tua'r flwyddyn 1749, ymgymerodd ag adeiladu pont dros afon Taf, yn Mhontypridd, yr hyn orchwyl a gyflawnodd gyda medr mawr. Ond yn mhen tua blwyddyn, daeth llifeiriant enbyd; cauwyd bŵau y bont gan y coed a'r llwyni a ddeuent gyda'r dwfr i lawr o'r cymoedd uwchlaw; cronodd y dwfr, a than y pwysau anferth rhoddodd y bont ffordd. Y mae yntau yn ymosod i adeiladu pont arall, ac fel na ddigwyddai anffawd gyffelyb drachefn, penderfyna ei gwneyd o un bwa. Eithr cyn fod y bont wedi ei gorphen, darfu i'r pwysau ar y ddau pen wasgu y gareg glo allan, a syrthiodd hithau i'r afon. Ni wangalonodd William Edward; canfyddodd ble y camgymerasai; ac ymosododd i adeiladu trydedd bont, sef y bont fwyaf o un bŵa yn y byd. Y mae y bont hon yn sefyll hyd heddy w, ac yn brawf o athrylith a dewrder y gŵr a'i lluniodd.
Ond a hanes grefyddol William Edward y mae a fynom ni. Argyhoeddwyd ef dan weinidogaeth Howell Harris, pan nad oedd ond llanc pedair-mlwydd-ar-bymtheg oed. Ymroddodd ar unwaith i wasanaethu Crist, a dechreuodd gynghori ei gydbechaduriaid. Yn Nghymdeithasfa Watford, pan y penodwyd ei gyfaill, Thomas William, yn arolygydd, gosodwyd William Edward, fel cynghorwr anghyoedd, i fod yn un o'i gynorthwywyr. Y mae yn debyg nad diffyg dawn na chymhwysder oedd yr achos na osodwyd ef yn arolygwr, ond amledd a phwysigrwydd ei orchwylion bydol, gan ei fod, heblaw cynghori, yn cadw tyddyn, ac yn adeiladydd prysur. Prawf ei fod yn dra derbyniol yw penderfyniad Cymdeithasfa Watford, Ebrill 24, 1744, sef nad oedd y cynghorwyr anghyoedd i lefaru yn gyhoeddus, eithr yn y seiadau preifat, gyda'r eithriad o William Edward, am yr hwn yr oedd galw i Lantrisant a'r Groeswen. Cawn ei enw ef wrth lythyr cynghorwyr y Groeswen i'r Gymdeithasfa, a chafodd ei ordeinio yn weinidog yno yr un pryd a Thomas William. Ar farwolaeth ei gyfaill, daeth yn unig weinidog y Groeswen, ac yno y bu yn llafurio, gyda mawr gymeradwyaeth, hyd ddydd ei farwolaeth. Methodist yr ystyriai ei hun hyd ddiwedd ei oes. Cymerai ychydig gydnabyddiaeth gan yr eglwys am ei lafur, ond ni roddodd i fynu ei orchwylion bydol; yn hytrach parhaodd i adeiladu pontydd a thai, ac i amaethu ei dyddyn, yn ogystal a phregethu yr efengyl. Bu farw yn y flwyddyn 1789, yn dri-ugain-a-deg mlwydd oed, a chafodd ei gladdu yn mynwent Eglwys Ilan. Y mae crefydd wedi aros yn ei deulu hyd y dydd hwn. Gorŵyr iddo yw Dr. Edwards, Caerdydd, yr hwn nid yn unig sydd yn enwog fel meddyg, ond hefyd yn ŵr tra chrefyddol.
Am y tri arall o gynghorwyr y Groeswen a ddarfu arwyddo y llythyr i'r Gymdeithasfa, sef Thomas Price, John Belsher, ac Evan Thomas, nid rhyw lawer o'u hanes a wyddom. Nid oes dim ond enw Evan Thomas wedi ein cyrhaedd. John Belsher oedd y dysgleiriaf ei ddoniau o'r pump, a'r mwyaf poblogaidd. Pan y penderfynwyd yn Watford, Ebrill 27, 1744, fod un i gael ei ddewis i lwyr ymroddi i'r gwaith, er mwyn bod yn gymorth i Howell Harris, a chynorthwyo yr arolygwyr yn eu gwahanol adranau, wedi cryn ymddiddan parthed ei gymhwysderau mewnol ac allanol, syrthiodd y coelbren ar John Belsher, fel yr addasaf i lanw y swydd. Tybia y Parch. John Hughes mai ar gyfer y Gogledd yn benaf y gwnaed y penodiad hwn; ond y mae hyny yn anghywir; dywed y penderfyniad mai ei faes oedd Siroedd Mynwy, Marganwg, a Chaerfyrddin. Ceir nodiad yn nghofnodau Cymdeithasfa Fisol Llanfihangel, Mai 3, 1744, yn awgrymu fod cryn betrusder wedi codi yn ei feddwl gyda golwg ar gymuno yn yr Eglwys WIadoI, ond iddo addaw cadw ei amheuaeth iddo ei hun. Tua diwedd y flwyddyn 1745, neu ddechreu y ganlynol, cafodd ei benodi, gyda thri o gynghorwyr eraill, i fyned i Wynedd, er ceisio ei darostwng i'r efengyl. Dyma yr hanes olaf sydd genym am dano. A ddarfu iddo farw yn gynar, neu ynte ymuno a'r Ymneillduwyr, nis gwyddom. Am Thomas Price, perchenog palas Watford, yr hwn a alwa Williams, Pantycelyn, yn "Price yr Ustus," nid oes llawer o hanes. Y tebygolrwydd yw iddo gael ei argyhoeddi dan Howell Harris, ac i'w dŷ gael ei daflu ar unwaith yn agored i'r efengyl. Ymadawodd yntau a chapel Watford, oblegyd heresi David Williams, gan ymaelodi gyda'r Methodistiaid yn y Groeswen. Gwnaed ef yn arolygwr ar nifer o eglwysi yn Morganwg, mewn cysylltiad a Thomas Williams, ac y mae genym nifer o adroddiadau o'i eiddo. Er iddo arwyddo y llythyr at y Gymdeithasfa, ac iddo barhau mewn cysylltiad a'r Groeswen wedi urddo gweinidog yno, Methodist yr ystyriai efe ei hun hyd ei fedd, a chyrchai y Diwygwyr i'w dŷ megys cynt. Ymddengys iddo roddi pregethu i fynu yn bur gynar. Ceir llythyr o'i eiddo at y Gymdeithasfa yn y Weekly History, yn deisyf cael ei ryddhau oddiwrth y gwaith. Ni rydd reswm penodol dros ei gais. Ond ymddengys nad oedd ei ddoniau mor ddysglaer a rhai o'r cynghorwyr, a'i fod yn barod yn dechreu cael ei flino gan asthma. Tad-yn-nghyfraith oedd i Grace Price, i'r hon y canodd Williams ei farwnad odidog; ei fab, Nathaniel, oedd ei gŵr; ac yr oedd Thomas Price yn fyw, er yn llesg ac yn gaeth gan y diffyg anadl, pan y bu ei ferch-yn-nghyfraith dduwiol farw. Profir hyny gan y penill canlynol:
"Price y Justis, ti ge'st golled,
Rwymodd asthma ar dy 'stôl,
Aeth dy ferch i ganol nefoedd,
Fe'th adawyd dithau'n ol;
Aros ronyn, trwy amynedd,
Yn y dyrys anial dir,
Ti gai gyda gwraig y capten
Ganu authem cyn bo hir."
Cynghorwr o gryn enwogrwydd, ac un a fu yn dra gweithgar yn nechreuad Methodistiaeth, oedd y Parch. Morgan John Lewis. Hanai, yn ol pob tebyg, o Blaenau Gwent, a chafodd ei argyhoeddi ar daith gyntaf Howell Harris i Fynwy, yn y flwyddyn 1738. Yn bur fuan dechreuodd gynghori, a cheir aml gyfeiriad ato yn nghofnodau Trefecca. Yr oedd yn un o'r rhai a gafodd eu penodi yn gynghorwyr cyhoedd yn Nghymdeithasfa gyntaf Watford. Yn ail Gymdeithasfa Watford, gosodwyd ef yn arolygydd ar y seiadau yn Dolygaer, Cwmdu, Cantref, Defynog, a Llywel, yn Mrycheiniog; Llanddeusant, yn Sir Gaerfyrddin, a'r oll o Fynwy, yr ochr nesaf i Gymru i'r afon Wysg. Y mae amryw o'r adroddiadau a anfonodd i mewn yn awr ar gael. Yn Nghymdeithasfa Llanfihangel, Mai 3, 1744, bu ymdriniaeth bwysig ar y priodoldeb o barhau i dderbyn y cymundeb yn Eglwys Loegr; ymddengys mai Morgan John Lewis a agorodd y ddadl, a'i fod yn gryf dros i'r Methodistiaid ordeinio gweinidogion iddynt eu hunain. Penderfynu peidio, nes cael arweiniad eglurach a wnaed, a dywedir yn y cofnodau ddarfod " i'r brawd Morgan John Lewis gyduno, mewn ffordd o oddefgarwch, i beidio symud, hyd nes y byddai i'r Arglwydd ein gwthio allan, neu ynte ddwyn diwygiad i mewn." Cymerodd ran flaenllaw yn y ddadl yn Nghymdeithasfa Llanidloes, rhwng pleidwyr Rowland a Harris, yr hon a derfynodd mewn ymraniad; ymddengys mai efe a ddygodd y pwnc i sylw. Pleidiwr Rowland oedd efe, a chyda'r Diwygiwr o Langeitho, a Williams, Pantycelyn, y bwriodd ei goelbren. Yn nghymydogaeth y New Inn, yn Sir Fynwy, y preswyliai; a chwedi yr ymraniad, i'r ddeadell fechan a ymgynullai yno, y pregethai yn benaf. Cynyddodd y gymdeithas yno yn fawr, drwy i nifer o Eglwyswyr efengylaidd, na fedrent ddyoddef gweinidogaeth anefengylaidd offeiriad Llanfrechfa, ymuno a hi; mewn canlyniad, adeiladwyd capel, ac ystabl ynglyn ag ef. Yr oedd hyn yn y flwyddyn 1751. ond yr oedd yr aelodau yn analluog i gael y cymundeb; ni oddefai eu cydwybod iddynt gymuno gyda'r clerigwyr digrefydd yn y llan, ac nid oeddynt am ymuno a'r Ymneillduwyr. Yn eu cyfyngder, anfonasant ddau genad i Langeitho, i ofyn cyngor Daniel Rowland. Yntau, wedi gwrando arnynt, a dwys ystyried yr amgylchiadau, a'u cynghorodd i alw Morgan John Lewis yn weinidog iddynt, trwy ympryd a gweddi; ac ychwanegai: "Gwna gweddi y ffydd fwy o les iddo na dwylaw unrhyw esgob dan haul." Dyn nodedig o ryddfrydig oedd Daniel Rowland; nid oedd ei ymlyniad wrth yr Eglwys agos mor gryf ag eiddo Harris, ac ychydig o bwys a roddai ar ordeiniad esgobol. Derbyniwyd ei gynghor gan eglwys y New Inn. Ymgynullodd yr holl aelodau ynghyd; wedi darllen rhanau o'r Gair, a chanu, a gweddïo, mynegodd y pregethwr ei gredo ar g'oedd; yna dangosodd yr eglwys trwy arwydd ei dewisiad o hono i fod yn weinidog iddi. Yn ganlynol, cyfododd un o'r blaenoriaid, ac mewn modd difrifol cyhoeddodd Morgan John Lewis yn weinidog dros Grist, i eglwys y New Inn, i gymeryd ei gofal yn yr Arglwydd. Dywedir yn Methodistiaeth Cymru mai Sulgwyn, 1756, y cymerodd hyn le; ond tueddwn i feddwl ei fod yn gynarach.
Parodd yr ordeiniad hwn, un o'r rhai cyntaf yn mysg y Methodistiaid, gyffro dirfawr. Beiai yr Eglwyswyr y peth mewn modd chwerw, am yr ystyrient waith neb yn gweinyddu y sacramentau, heb feddu ordeiniad esgobol, yn rhyfyg ac yn ysgelerder. Beiai yr Ymneillduwyr y weithred lawn mor chwerw, am nad oedd unrhyw weinidog ordeiniedig wedi bod a llaw yn yr urddiad. Yr oeddynt hwy yn eu ffordd eu hunain lawn mor gulion a'r Eglwyswyr, ac yn credu lawn mor gryf mewn math o olyniaeth apostolaidd. Meddai Morgan John Lewis, ac eglwys y New Inn, syniadau mwy rhyddfrydig, a nes at y Testament Newydd, am osodiad gweinidog ar eglwys. "Llawer o ddyeithrwch, chwerwder, anfrawdgarwch, a dirmyg, a daflwyd arnom," meddai Mr. Lewis; "Fe'n gwrthwynebwyd yn gyhoeddus y cyfle cyntaf a gafwyd. Ond y mae y ffordd yr ydym ni yn broffesu yn ymddangos i ni yn fwy cydsyniol a threfn yr efengyl, ac yn ateb y dyben yn well, ar y dewisiad cyhoeddus, neu ordeinasiwn gweinidogion. Dymunwn i'r Arglwydd ein cynorthwyo bawb i gydoddef ein gilydd mewn cariad." Gan mor gynddeiriog oedd yr ystorm a ymosodai ar eglwys y New Inn, a chan mor anwireddus a disail oedd y chwedlau a daenid am dani, ac am ei gweinidog, barnodd Morgan John Lewis yn ddoeth argraffu math o Gyffes Ffydd, yn yr hon y gosodai allan mewn modd clir yr egwyddorion a gredai.
Eglwys Fethodistaidd oedd eiddo y New Inn dros yr holl amser y bu Morgan John Lewis yn gweinyddu iddi. Yn wir, ni wnai eglwysi Ymneillduol y wlad ym- gyfathrachu a hi; ni ddeuai gweinidogion yr Anghydffurfwyr yno ar unrhyw gyfrif i gyflenwi ei phwlpud; cauid hi y tu allan i'r gwersyll, yr un fath a'r gwahanglwyfus gynt yn Israel; a gellid tybio ddarfod iddi bechu y pechod anfaddeuol wrth alw gweinidog i'w bugeilio yn ol y drefn a ystyriai hi fwyaf cyson a dysgeidiaeth y Testament Newydd. Mor gryf ac mor greulon ydyw rhagfarn! Pa fodd bynag, deuai y cynghorwyr Methodistaidd yno ar eu teithiau, gan sirioli calon y gweinidog a'i gynulleidfa drwy eu hymweliad. Yno y llafuriodd Morgan John Lewis am O gwmpas pymtheg mlynedd gwedi, gyda mawr lwyddiant. Teimlodd yr holl wlad o gwmpas oddiwrth ei weinidogaeth; ymgasglai dynion i wrando arno bymtheg milltir o bellder. Eithr daeth ei wasanaeth i derfyn mewn modd hynod iawn. Y Sabbath olaf y bu yn pregethu yn y New Inn, aeth yn yr hwyr i gynal gwasanaeth crefyddol mewn ffermdy yn nghymydogaeth Pontypwl, tua milltir allan i'r dref. Yn y tý lle y darfu iddo bregethu y lletyai y noson hono. Dranoeth, cyn iddo godi o'i wely, daeth perchenog y tyddyn i'r lle, a rhyw swyddog milwraidd gydag ef, a chan gyfarch gŵr y ty, gofynai: "Pa le y mae y pregethwr a fu yn cadw cwrdd yma neithiwr? Atebwyd yn ofnus iawn ei fod yn ei wely. "Rhaid i ni gael ei weled," ebai'r boneddwr; "y mae arnom eisiau cael ymddiddan ag ef." Cynygiodd y gŵr ei alw i lawr atynt, ond ni wnai hyny mo'r tro i'r boneddwyr, eithr rhuthrasant i fynu y grisiau, ac i mewn â hwy i ystafell wely y gweinidog yn ddiseremoni. Yno y cysgai gŵr Duw heb freuddwydio am berygl. Tynodd y swyddog milwraidd ei gleddyf, a chan sefyll wrth ochr y gwely, a dal y cledd uwchben y pregethwr, gwaeddodd mewn llais croch: "Heretic, deffro!" Deffrodd yntau, a'r olwg gyntaf a ganfu oedd milwr yn dal arf uwch ei ben, fel pe ar fedr ei drywanu. Yr oedd yr olygfa mor enbyd, ac yn ymrithio o'i Haen mor ddisymwth, cyn iddo gael amser i ymresymu ag ef ei hun, nac i ymbarotoi ar gyfer y brofedigaeth, fel y bu yn ddigon i ysgytio ei natur o'i lle, ac i ddyrysu ei synwyr. Ymddadebrodd i raddau gwedi hyn, ond ni ddaeth byth yn alluog i bregethu. Darfu a bod yn gysur iddo ei hun, a chollodd ei ddefnyddioldeb i eraill, ac yn mhen tua blwyddyn ymollyngodd i'r bedd. Meddai y Parch. John Hughes: "O ran ymddangosiad, y gelyn a gawsai yr oruchafiaeth. Y New Inn, a Sir Fynwy, ie, a Chymru oll, a gafodd y golled." Duwinydd gwych oedd Morgan John Lewis; meddai gydnabyddiaeth ddofn a Gair Duw, a chryn dreiddgarwch meddwl i fyned i mewn i'w ystyr. Pregethai gyda nerth a hyawdledd, a chrynai dynion tan ddylanwad ei weinidogaeth. Yr oedd yn dra difrifddwys yn wastad, a dywedir na welwyd erioed wên ar ei wyneb. Gyda hyn oll, yr oedd yn Gristion pur, ac yn ddyn gwir ostyngedig. Bu farw tua'r flwyddyn 1771, wedi gwasanaethu Cyfundeb y Methodistiaid am tua deng-mlynedd-ar-hugain.
Pregethwr rhagorol, ac un a fu yn dra defnyddiol, oedd y Parch. David Williams, Llysyfronydd. Dywedir yn Methodistiaeth Cymru mai brodor o Landyfaelog, yn Sir Gaerfyrddin, ydoedd. Y mae yn bur sicr fod hyn yn gamgymeriad, ac mai o Dregaron yr hanai; mai yno y cafodd ei eni a'i fagu, ac y cafodd grefydd. Efe yw y Dafydd William, y cyfeiria Mr. Hughes ato fel cynghorwr, a breswyliai yn Nhregaron ar gychwyniad yr achos yno. Yn Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, dywedir ei fod yn Blaenpenal, a'i fod yn un o ddisgyblion Phihp Pugh, ond iddo, ar doriad allan y diwygiad Methodistaidd, ymuno a Daniel Rowland yn Llangeitho. I hyn nid oes sail o gwbl; ceisir dal yr honiad i fynu yn unig ag "ymddengys;" cyfid oddiar awydd anghymesur am wneyd holl gynghorwyr cyntaf y Methodistiaid yn broselytiaid oddiwrth yr Ymneillduwyr. Y mae y tebygolrwydd yn gryf fel arall. Nid oedd David Williams ond glaslanc, dwy-ar-bymtheg mlwydd oed, pan y dechreuodd Daniel Rowland gynhyrfu ; y tebyg yw ei fod yn gyífelyb i'w gyfoed, yn ddifater am Dduw a phethau ysprydol; ac mai nerth angerddol gweinidogaeth y Diwygiwr o Langeitho a'i torodd i lawr, ac a'i dygodd i feddwl am grefydd. Yn bur fuan, pan yn ngwres ei gariad cyntaf, dechreuodd gynghori, a dygodd ei ddoniau enillgar ef i sylw Rowland. Yn ail Gymdeithasfa Watford cafodd David WiIIiams ei benodi yn arolygwr yn Sir Aberteifi ; a oedd holl seiadau y sir dan ei ofal, ynte ryw gyfran o honynt, ni ddywedir. Nid yw ei enw wrth un o'r adroddiadau a anfonwyd i'r Gymdeithasfa. Pan y penderfynwyd anfon pedwar o'r pregethwyr enwocaf i Ogledd Cymru i lafurio, oblegyd fod crefydd mor isel yno, pob un o honynt i aros am chwarter blwyddyn, yr oedd David Williams yn un o'r cyfryw. Mor werthfawr oedd ei lafur, ac mor gymeradwy oedd ei weinidogaeth, fel y dywedir iddo gael gwahoddiad taer i ymsefydlu yn y Bala. Wrth deithio Gwynedd cafodd ei drin yn arw yn aml. Cawsai ei gyhoeddi unwaith i bregethu mewn tŷ bychan yn nghymydogaeth Caergwrle, yn Sir Fflint. Daethai yno yn lled gynar, ond yn min y nos, rhuthrai merch i'r tŷ, a'i hanadl yn ei gwddf, gan ddweyd fod llu o erlidwyr gerllaw. Cododd gŵr y tŷ, a chlodd y drws. Gyda hyny, dyma y dyrfa afreolus yno, ac yn nghanol rhegfeydd a swn, yn gorchymyn gyru y pregethwr allan. Ni fynai pobl y tŷ gydsynio. Darfu i'r gwrthodiad gynhyrfu yr erlidwyr yn fwy, a thyngent i'r dystryw mawr, oni wnaent yru y llefarwr allan y tynent y tý i lawr am eu penau. Rhedodd rhai o honynt i gyrchu trosolion, er mwyn rhoddi eu bwriad dieflig mewn grym. Penderfynodd David Williams, ar hyn, yr ai allan i'w mysg. Pan y ceisid ei atal, dywedai: "Gollyngwch fi; rhaid i mi gael myned." Allan yr aeth i ganol y dyrfa ffyrnig, a chan edrych yn ddiofn arnynt, gofynodd: "Yn enw'r Gwr goreu, beth sydd a fynoch a dyn dyeithr ar ei daith? Pa enw neu anrhydedd a gaech pe baech yn fy lladd?" Digwyddodd fod yn eu mysg ryw ddyn cryf, a rhyw deimlad o anrhydedd heb ddiffodd yn ei fynwes. Safodd hwn i fynu, a chyda llonaid ei safn o lwon, gwaeddodd: "Dyn iawn yw hwn. Mi a fynaf chwareu teg iddo." Gwelodd David Williams fod y drws wedi ei agor iddo megys yn wyrthiol i lefaru; cafodd le i sefyll arno wrth ochr y ffordd, a phregethodd gyda dylanwad mawr wrth oleu'r lloer; a diau na chuddiodd Haul y Cyfiawnder ei wyneb. Bu yr erlidwyr mor ddystaw a chŵn yr Aipht, ac ymadawsant yn heddychol. Rhydd y Parch. E. Morgan, Syston, yr hanes ychydig yn wahanol. Dywed efe ddarfod i'r erlidwyr ymaflyd yn y pregethwr, gan ei gymeryd at ryw lyn, a bygwth ei foddi. Pan ar gael ei daflu i mewn, gwaeddodd David Williams: "Bydd yn warth tragywyddol i bobl Caergwrle, os boddant hen bregethwr penllwyd, a ddaethai o eithafion y Deheudir i gyhoeddi iachawdwriaeth iddynt." A dyma y pryd, meddai Mr. Morgan, y darfu i'r dyn cryf gyfryngu rhyngddo a'r gwaethaf.
Ymddengys ddarfod i David Williams
symud i Lysyfronydd, er gofalu am y mân
gymdeithasau a gawsent eu sefydlu yn
Mro Morganwg, ac mai gan Daniel
Rowland y bu y prif law yn ei symudiad.
Yn bur fuan priododd a Miss Pritchard,
Talygarn, yr hon a berthynai i deulu tra
chyfrifol, Pan y cyfododd awydd yn y
cymdeithasau am gael rhai o'r cynghorwyr
yn weinidogion, ordeiniwyd David Williams yn weinidog i eglwys yr Aberthyn.
Dywedir yn Hanes Eglwysi Annibynol Cymru
mai yn y flwyddyn 1766 y bu hyn ; ond credwn iddo gymeryd lle gryn lawer yn
gynt. Wedi ceisio gwneyd Mr. Williams
yn Annibynwr yn nechreu ei oes, y mae
yr un llyfr yn ceisio ei wneyd yn Annibynwr o'i urddiad yn mlaen. Dywedir iddo
gael ei ordeinio yn ol trefn yr Annibynwyr. Y mae hyn yn anghywir. Y mae
y traddodiad am ei ordeiniad yn gyffelyb i
eiddo Morgan John Lewis. Methai y
ddeadell fechan yn yr Aberthyn a chael
gweinyddiad cyson o'r ordinhadau gan
offeiriad Methodistaidd; yr oedd Davies
heb ddyfod eto i Gastellnedd, a Jones heb
ddyfod i Langan; nid oedd yr aelodau yn
foddlawn myned i gymuno at offeiriaid
digrefydd yr egiwysi cymydogaethol, ac
felly anfonasant at Daniel Rowland i
geisio cyfarwyddyd. Ei gyngor ef oedd ar
iddynt ordeinio David Williams. Hyny
a wnaethant, a gweinyddodd yntau yr
ordinhadau yn y lle hyd ddydd ei farwolaeth. Nid oes hanes i weinidogion Ymneillduol gael eu galw i gymeryd rhan yn
y ddefod; y mae yn fwy na thebyg mai
cynllun eglwys y New Inn a ddilynwyd.
Dengys yr hanes pa mor rhyddfrydig oedd
Daniel Rowland; mor llac oedd y rhwymau
a'u cysylltent wrth yr Eglwys Sefydledig,
a'r modd yr oedd yn gallu ymddyrchafu
goruwch mân ragfarnau yr Eglwyswyr
a'r Ymneillduwyr. Yn yr un dull yn
hollol yr ordeiniwyd Thomas Williams, a
fu am flynyddoedd yn aelod gyda David
Williams yn yr Aberthyn, yn weinidog
Bethesda-y-Fro, fel y dengys cofnod yn
llawysgrif yr hen fardd, John Williams,
St. Athan.
Parhaodd David Williams yn Fethodist gwedi ei ordeiniad fel cynt, ac eglwys Fethodistaidd yw yr Aberthyn hyd y dydd hwn. Gweinyddai swper yr Arglwydd yno yn fisol, ac ar y cyfryw achlysuron ymgynullai ato liaws o grefyddwyr yr ardaloedd o gwmpas. Ni roddodd i fynu deithio ychwaith; mynychai y Cyfarfodydd Misol a'r Cymdeithasfaoedd; ac elai o gwmpas trwy Gymru i efengylu yr un fath a'i frodyr. Yr ydoedd yn ŵr cadarn yn yr Ysgrythyrau. A dywedir mai efe a ddysgodd ffordd Duw yn fanylach i Jones, Langan, ac a fu yn arweinydd i'r gŵr enwog hwnw mewn duwinyddiaeth. Tynerwch a nodweddai ei weinidogaeth. Nid Boanerges ydoedd, yn sefyll ar goryn Ebal, ac yn taranu melldithion uwchben anwir fyd; ond Mab Dyddanwch, yn cymhwyso y Balm o Gilead at glwyfau y rhai oeddynt yn archolledig a briw. Enillgar ydoedd o ran dawn, a melus odiaeth o ran llais. Dywed John Evans, o'r Bala, am dano: Gŵr tirion oedd efe, mwynaidd iawn, a phregethwr hynod o iraidd a gwlithog." Gyda golwg arno ef a John Belsher, ychwanega yr un gŵr : "Bu y ddau hyn yn dyfod atom bob yn ail dros rai blynyddoedd, yn ngwyneb llawer o iselder ac anhawsderau, Nid oeddem ni ond tlodion i gyd, ac o'r braidd y gallem roddi llety a thipyn o fwyd iddynt, wedi iddynt, trwy fawr ymdrech, ddyfod atom. Byddai y brodyr yn y Deheudir yn garedig yn eu cynorthwyo, onide nis gallent dalu eu ffordd ar eu teithiau." Cafodd David Williams lawer o drafferth yn yr Aberthyn; daeth Sabeliaeth i mewn i'r eglwys, a bu yn achos llawer o ddadleu ac ymrafaelio. Ond cadwodd ef ffurf yr athrawiaeth iachus, a bu farw mewn tangnefedd, gan adael Bro Morganwg mewn galar ar ei ol. Gweddus cofnodi fod Mr. Williams yn frawd yn ol y cnawd i'r enwog fardd, John Williams, St. Athan, awdwr yr emyn ardderchog:—
"Pwy welaf o Edom yn dod'?"
Ychydig iawn a wyddom am William
Richard, arolygwr seiadau y rhan isaf o
Sir Aberteifi, yn nghyd a'r oll o gymdeith
asau glàn y môr yn Sir Benfro, mor bell a
Thyddewi, ond a geir yn nghofnodau
Trefecca. Un o ddychweledigion Daniel
Rowland ydoedd, a dechreuodd gynghori
yn mron yn union wedi iddo gael crefydd.
Cawn y cyfeiriad cyntaf ato yn nghofnodau
Cyfarfod Misol Llanddeusant, pan y
rhoddwyd nifer o seiadau dan ei ofal.
Cyfeirir ato hefyd yn nghofnodau ail Gymdeithasfa Watford, lle y dywedir ei fod i
aros fel yr ydoedd hyd Gymdeithasfa
Dygoedydd. Yn Nghymdeithasfa Fisol
Glanyrafonddu, ail-roddir seiadau Blaenhownant, Dyffryn Saith, Blaenporth, Twrgwyn, a Llechryd dan ei ofal, a gelwir ef
yn "William Richard o Landdewi-frevi."
A ydoedd yn preswylio yn Llanddewi-brefi
ar y pryd, nis gwyddom; y tebygolrwydd
yw mai oddiyno yr hanai, ond ddarfod iddo
symud ei breswyl cyn hyn i gymydogaeth
Aberteifi. Yn ngweithiau barddonol Williams, Pantycelyn, ceir marwnad i un
William Richard, o Abercarfan, yn mhlwyf
Llanddewi-brefi, yr hwn a fu farw o'r
darfodedigaeth, haf 1770. Y mae amryw
bethau yn y farwnad yn pleidio mai yr un
ydyw a William Richard y cynghorwr.
Dywed y bardd:—
"Mae Llanfrynach wan yn wylo
Hyd yn awr, wrth gofio am dano."
Gorwedda Llanfrynach yn gyfagos i gydiad y tair sir, sef Penfro, Caerfyrddin, ac Aberteifi, ac felly yr oedd yn ymyl y maes a gawsai ei ymddiried i William Richard, os nad oedd yn wir yn rhan o hono. Os ydym yn gywir yn ein dyfaliad, profasai William Richard bethau cryfion ar gychwyn ei fywyd crefyddol; buasai yn neidio ac yn molianu tan weinidogaeth danllyd Rowland; a chadwodd ei goron hyd ddiwedd ei ddydd. Fel hyn ei desgrifir gan Williams:—
"Gwelais of ar oriau hyfryd,
Yn moreuddydd braf ei fywyd,
Yn molianu, yn prophwydo,
Yn flaena' o'r werin yn Llangeithio;
Chwys fel nentydd clir yn llifo,
Tarth trwy ei wisgoedd tew yn suo;
Cariad pur, gwerthfawr clir, yn gwir enynu,
Nes oedd corph yn gorfod helpu
Enaid allan i'w fynegu.
Mi fum unwaith wrth ei wely,
'Roedd ei wledd fel gwleddoedd gwindy,
A'i holl eiriau'n tarddu'n gyson,
O grediniaeth, heb ddim ofon:
Gwyr yn twymo wrth y siarad,
Merched, hwythau'n wylo cariad ;
Minau f'hun, waclaf ddyn, gwanaidd, yn gwenu,
Ac yn hyfryd ciddigeddu,
Weled plentyn arna i'n blaenu.
Y mae y desgrifiad yn nodedig o fyw. Braidd na welwn ef yn moreuddydd ei fywyd, gyda dillad tewion, wedi eu gwneyd o frethyn cartref, yn ol arfer ffermwyr y pryd hwnw, am dano; y mae y syniadau am ogoniant y Gwaredwr a ymrithiant gerbron ei feddwl mor ogoneddus, nes y mae ei gorph yn gorfod helpu ei enaid i roddi mynegiant iddynt. Wrth ei fod yn neidio ac yn molianu, y mae chwys fel nentydd yn llifo dros ei wyneb, a'i ddillad yn myned yn wlybion am dano, fel pe buasai tarth wedi treiddio trwyddynt. A chan yn amlwg y cyfunai wybodaeth grefyddol eang, a medr mawr mewn ymwneyd a'r dychweledigion, nid rhyfedd fod seiadau glàn y môr mewn rhanau o ddwy sir yn cael eu gosod dan ei ofal. Gallwn dybio ddarfod iddo yn mhen amser symud yn ei ol i Landdewi-brefi, ac mai yno yr arhosodd hyd ddydd ei farwolaeth. Nid tawel a fu ei fywyd crefyddol yno; bu mewn dadleuon poethion; eithr safodd yn ffyddlon trwy bob anhawsder. Meddai William Williams yn mhellach:—
"Ti, Llanddewi, fu'n agosa'
Gneifio'r blew oedd ar ei gopa,
Mwg a thân fu iddo'n galed
Yn y ffrae rhwng Twrcs ac Indiaid;
Ond fe safodd Wil i fynu
Pan oedd Efan laith yn methu."
Nis gwyddom beth oedd testun y ffrae, na phwy oedd y "Twrcs ac Indiaid" a'i dygent yn mlaen; na phwy oedd yr "Efan laith" a fethodd sefyll ei dir; ac ofer dyfalu yn awr. Yr hyn sydd yn bwysig yw deall ddarfod i William Richard ddyfod
"O'r anialwch mawr i fynu,
Heb ei ladd, heb ei orchfygu."
Gweinidog Ymneillduol, a ymunodd a'r Methodistiaid, oedd y Parch. Benjamin Thomas. Ychydig iawn o'i hanes sydd genym. Yn nghofnodau ail Gymdeithasfa Watford, cyfeirir at ddau weinidog Anghydffurfiol; un yn bresenol, sef y Parch. Henry Davies, Bryngwrach; a'r llall yn absenol, sef y Parch. Benjamin Thomas. Rhoddir eu henwau yn mysg yr offeiriaid ordeiniedig; gellid meddwl yr edrychid ar urddiad Ymneillduol fel yn hollol gyfartal i ordeiniad Esgobol; y mae enw Howell Harris yn is i lawr, sef yn mysg y lleygwyr. Rhaid nad oedd y Tadau Methodistaidd, er eu hymlyniad wrth yr Eglwys Sefydledig, yn ddynion rhagfarnllyd. Yr ydym yn cael y Parch. B. Thomas yn bresenol yn Nghymdeithasfa Trefecca, haf 1743, yn gystal ac yn Nghymdeithasfa y Fenni y mis Mawrth dilynol. Yn Nghymdeithasfa Porthyrhyd, Hydref, 1744, penderfynwyd fod y brawd Benjamin Thomas i gynorthwyo Howell Harris fel arolygwr dros holl Gymru, yn lle Herbert Jenkins, yr hwn a ymroddasai i lafurio yn benaf yn Lloegr.
Teithiai Mr. Thomas lawer, trwy Dde a Gogledd Cymru, ac ni ddihangodd rhag erlidiau, mwy na'r gweddill o'i frodyr. Cawn hanes am dano yn pregethu yn Minffordd un tro, mewn adeilad wedi cael ei drwyddedu yn ol y gyfraith i gynal addoliad. Daeth yno lu o erlidwyr, gyda ffyn mawrion yn ei dwylaw, ac i un o'r ffyn hyn yr oedd pen haiarn. Ceisiwyd taro y pregethwr a'r ffon hon, ond ar un Howell Thomas, o Blas Llangefni, y disgynodd yr ergyd; ac yr oedd y tarawiad mor chwimwth fel y torodd y pen haiarn i ffwrdd, gan fyned dros y clawdd i'r ffos tu hwnt hwnt. Dilynodd yr erlidwyr y dorf am chwarter milltir, gan eu curo a'u baeddu yn ddidrugaredd, nes yr oedd eu gwaed yn ffrydio ar hyd y ffordd. Ymddengys, modd bynag, i B. Thomas ddianc yn gymharol ddianaf, gan ei fod yn wr cyflym ar ei draed. Tyner oedd nodwedd pregethu Benj. Thomas; llifai y dagrau i lawr ei ruddiau wrth gynghori pechaduriaid. Pregethai unwaith yn y Bontuchel, yn Sir Ddinbych. Daeth dyn i'w wrando o'r enw Thomas Parry, gwr pwyllog, tra ymlyngar wrth Eglwys Loegr, a llawn rhagfarn at y Methodistiaid. Ond cymhellasid ef gan ei frawd i ddyfod i'r odfa. "Ti gei weled, Twm," meddai ei frawd, "y bydd y dyn yn pregethu o'i galon, canys bydd ei ddagrau yn treiglo i lawr ei wyneb." Pwnc y bregeth oedd ailenedigaeth. Mawr ddymunasai Thomas Parry gael pregeth ar y mater hwn; ond nid oedd y clerigwr a wasanaethai yn yr eglwys yn cyfeirio un amser at y mater. Eithr cafodd yn y pregethwr o'r Dê fwy na boddlonrwydd i'w gywreinrwydd, ac eglurhad ar bwnc duwinyddol; bachodd y gwirionedd yn ei gydwybod, a daeth yn ddyn newydd o'r dydd hwnw allan. Daeth gwedi hyny yn adnabyddus fel Thomas Parry, o'r Rhewl, ac yn un o'r blaenoriaid galluocaf a mwyaf defnyddiol yn holl Wynedd. Nid ydym yn gwybod pa bryd na pha le y terfynodd y Parch. Benjamin Thomas ei yrfa. Ymddengys, pa fodd bynag, mai wrth blaid Rowland y glynodd yn amser yr ymraniad, ac iddo barhau i efengylu yn mysg y Methodistiaid hyd ddiwedd ei oes.
Yr oedd dau gynghorwr yn Sir Benfro, cyffelyb o ran enwau, y rhai y mae eu hanes wedi eu cydgymysgu yn anobeithiol yn Methodistiaeth Cymru. Un oedd John Harris, St. Kennox, yr hwn, mor foreu a'r flwyddyn 1743, a benodwyd yn arolygwr ar y cymdeithasau yn Llawhaden, Prendergast, Jefferson, Carew, Llandysilio, a Gellidawel. Y llall oedd John Harry, Treamlod, cynghorwr anghyoedd. Y blaenaf oedd yr enwocaf o lawer. Ymddengys ei fod yn ddyn siriol, yn bwrlymu o athrylith, yn ysgolhaig gwell na'r cyffredin mewn Cymraeg a Saesneg, a chyda hyn yn meddu gwroldeb diofn. Er dangos ei gymeriad, nis gallwn wneyd yn well na difynu rhanau o'i lythyrau i'r Cymdeithasfaoedd. Fel hyn yr ysgrifena at Gymdeithasfa Fisol Longhouse, Medi 28, 1743, gan gyfarch Daniel Rowland a Howell Davies: "Anwyl a charedig fugeiliaid. O'r diwedd, fe'm cymhellir, o gariad at yr anwyl Immanuel, i'ch hysbysu pa fodd y mae wedi bod arnaf er ein Cymdeithasfa Fisol ddiweddaf, pryd y rhoddasoch arnaf ofal amrywiol gymdeithasau. Pan y gofynwyd i mi y pryd hwnw am fy rhyddid (sef rhyddid i fyned o gwmpas arolygu y seiadau), atebais fel y dysgwylid i mi. Ond daeth y syniad ar unwaith i'm meddwl, pa fodd y gallwn i, nad wyf ond baban mewn profiad, ryfygu sefyll i fynu fel clorian i bwyso eneidiau? Meddyliais ynof fy hun, pe y digwyddai rhyw amryfusedd ynglyn ag esbonio, y byddai yn llai niweidiol i enaid nag a fyddai barnu ar gam rhwng cnawd ac yspryd, a rhwng gwir a gau gariad. Pa fodd bynag, fe fu y gair Rhydd' a atebais i chwi, fel cadwen i fy rhwymo i edrych beth a gymerais mewn llaw. Syrthiodd dychryn ar fy enaid, rhag im fod nid yn unig yn anffyddlawn i'r anwyl Oen, ond yn dristwch i fy hoff athrawon, ac hefyd yn waradwydd i ffyrdd Duw, ac i'w blant. Daeth y baich hwn mor annyoddefol fel ag yr oedd corph ag enaid yn mron cael eu llethu dano. Bum yn yr ing am gryn amser, yn meddwl mwy am y Gymdeithasfa, lle y gelwid arnaf i roddi cyfrif o'm goruchwyliaeth, nag am y farn fawr. Ymroddais i anfon at y cymdeithasau i ymgynull ar amser priodol ac mewn trefn, gan ymddangos iddynt fel gŵr o awdurdod." Yn canlyn, ceir adroddiad o ansawdd y seiadau. Yn sicr, nid dyn cyffredin a allasai ysgrifenu fel y gwna John Harris.
Yr un gŵr, sef John Harris, St. Kennox, sydd mewn llythyr, dyddiedig Mai 12, 1745, yn cofnodi hanes ei ymweliad a chymydogaeth Tenby. "Nid oes, bellach," meddai, "yr un rhan o'r sir na fum yn cynghori ynddi, ond tref Penfro, a bwrdeisdref Tenby, yr hon sydd borthladd tua phump neu chwech milltir o Penfro Bum yn llefaru o fewn dwy filltir i'r lle, nos Wener diweddaf. Nid oes ond un brawd crefyddol yn byw yn Tenby; mynych y ceisiasai hwn genyf ddyfod i'r dref i bregethu; yn awr, anfonais ato y deuwn i'w dy i letya, ac os gwelai efe yn oreu wahodd rhyw nifer o wyr a gwragedd adnabyddus iddo, ac yn chwenych fy ngwrando, i fy nghyfarfod, y gwnawn esbonio ychydig o adnodau yn yr ystafell gefn. Felly hefyd y gwnaeth y gwr. Ond pan oeddwn ar ganol y gwasanaeth, daeth y cwnstab i mewn, gan ddweyd: Syr, y mae yn rhaid i chwi dewi; gorchymynir i mi gan y maer eich dwyn o'i flaen yn ddioedi. Dywedais inau y cydsyniwn a'r cais, ond gan fy mod ar wasanaeth Meistr arall yn awr, fy mod yn hawlio caniatad i draddodi fy neges drosto ef yn nghyntaf. Ar hyn, efe a adawodd yr ystafell. Eithr cyn i mi orphen, dyma y cuwrad i mewn, a chydag ef yr oedd cwnstebli, a phedwar neu bump o foneddigion. Ceisiai y cuwrad gan y swyddog fy llusgo i lawr. Atebodd yntau: Gresyn fyddai hyny, cyn iddo orphen, oblegyd y mae yn llefaru yn felus.'
"I lawr ag ef,' ebai y cuwrad, 'onide mi rof gyfraith arnat ti am esgeuluso dy ddyledswydd.'
"Er fod y dynion (y cwnstebli) yn haner meddw, cefais genad i orphen yr odfa; ac yn wir, yr oedd yn hyfryd ar fy yspryd, ac ar fy ngwrandawyr hawddgar, y rhai a rifent tua deugain. Disgynais oddiar y lle y safwn, a thra yr ymesgusodent (y swyddogion) wrth wr y tŷ, yr oedd eu gwedd yn llwyd rhyfedd.
"Nia ddaethom, Mr. Thomas,' meddent, i weled y darluniau gwych sydd genych.' "Atebais inau: "Tybygwyf, foneddigion, mai fi yw y darlun y daethoch i'w weled.' Ar hyn, y swyddog a roes ei law ar fy ysgwydd, gan ddweyd: Yr ydych yn garcharor, Syr, a rhaid i chwi ddyfod o flaen y maer.'
"Yr wyf yn barod i ddyfod,' ebe finau. Pan aethom i'r heol, a hyny rhwng naw a deg o'r gloch y nos, yr oedd yno tua mil o bobl, yn wyr ac yn wragedd, gyda llusernau a chanhwyllau yn fy nysgwyl, ac yn llefain yn echrys: Ymaith ag ef! Ymaith ag ef!'
"At y maer yr aethom. Hwn, heb edrych yn fy wyneb, a ofynodd am fy nhrwydded. Atebais nad oedd genyf yr un. Gofynodd: 'Pa fodd y meiddiwch ddyfod i'n tref ni i bregethu?" "I hyn atebais: 'Ni chyhoeddwyd fi i bregethu; eithr gwedi i'r bobl wybod am fy nyfodiad yma i letya, daethant i mewn; minau a esboniais ychydig adnodau iddynt, canasom emyn neu ddwy, a gweddiasom." "Rhaid i chwi,' ebe y maer, 'roddi meichiau am eich ymddangosiad yma y cwarter sessiwn nesaf.'
"Da fyddai genyf wybod, Syr, beth sydd genych i'w roddi yn fy erbyn.' "Eich gwaith yn pregethu,' oedd yr ateb.
"Os hyny yw y trosedd, Syr, chwi a'u cewch yn ewyllysgar. Am ba swm y gofynir hwynt?
"Am ddau cant o bunoedd,' oedd yr ateb. Yr oedd yno ddau frawd yn barod i ymrwymo, ond gofynodd rhywrai a safent gerllaw: A roddech chwi eich gair, pe y caech fyned yn rhydd yn awr, na ddeuwch yma i bregethu mwy?'
"Hyny nis gallaf ei wneyd,' ebe finau;' 'er na ddaethum yma i bregethu y tro hwn, nid oes sicrwydd na fydd raid i mi bregethu yma cyn y fory, oblegyd nid oes genyf awdurdod arnaf fy hun."
"Gan bwy, atolwg, y mae awdurdod arnoch?' gofynai gwraig y maer.
"Dan awdurdod fy Meistr yr wyf.'
"Pwy yw eich meistr? Ai y diafol?'
Nage. Y mae fy Meistr i yn feistr ar y diafol, ac arnoch chwithau yn ogystal.'
"Ust,' ebe y maer wrth y wraig, 'tewch a son." Gyda hyn, galwyd arnaf i lawarwyddo yr ymrwymiad, a gollyngwyd fi yn rhydd."
Dyma adroddiad John Harris o helynt Tenby. Pan aeth allan i'r heol yr oedd yno dorf o derfysgwyr yn ei ddysgwyl, yn ffyrnig eu gwedd, ac yn barod i ymosod arno. Ond amddiffynwyd ef yn annysg wyliadwy gan ryw ynad, a deimlai yn garedig at y Methodistiaid, a chymerodd ef i'w dy, gan ei letya fel brenin. "Dychwelais inau adref dranoeth," meddai, " a'r dagrau yn llifo dros fy ngruddiau, o wir dosturi at drigolion tlodion Tenby." Sut y bu yn y sessiwn nis gwyddom. Y tebygolrwydd yw i'r Arglwydd, yn ol ei arfer, i'r rhai a garant ei enw, amddiffyn ei was, a'i ddwyn yn ddyogel allan o fysg y llewod. Y mae hanes John Harris, o'r ymraniad allan, yn gorwedd dan gryn dywyllwch. Dywedir iddo, yn yr argyfwng hwnw, gymeryd plaid Harris; a phan y deallodd fod y blaid yn gwanhau, ac yn rhwym o ddarfod, iddo, fel y cynghorwr John Sparks, o Hwlffordd, ymuno a'r eglwys Forafaidd.
Am John Harry, o Dreamlod, dywedir mai brodor o ranau uchaf Penfro ydoedd, ac mai tuag adeg y diwygiad y symudodd i lawr i odreu y sir. Cawn y cyfeiriad cyntaf ato yn nghofnodau Trefecca yn nglyn a Chymdeithasfa Fisol Llangwg, neu Llangwm, Gorph. 16, 1744. Yno penderfynwyd fod y brawd John Harry yn cael ei gymeradwyo, a'i fod i gynghori fel o'r blaen hyd y Gymdeithasfa Fisol nesaf,
tan arolygiaeth y brawd William Richard. Yn Nghymdeithasfa Fisol Hwlffordd, Ionawr 28, 1745, penderfynwyd fod y brodyr John Harry, a John Morris, gan eu bod yn addysgu mewn ysgol, i gynghori gymaint ag a fedrant yn gyson a gofal yr ysgolion. Ymddengys fod John Harry yn ddyn tra gweithgar, ac yn dal gafael ar bob cyfleustra i gynghori ei gyd-bechaduriaid gyda golwg ar eu mater tragywyddol. Lletyai unwaith mewn ffermdy, ac nid esgeulusodd rybuddio y rhai a weinyddent yno. Boreu dranoeth, gofynai y feistres i'r llances o forwyn oedd yno: "Dos a botasau y gŵr dyeithr iddo." "Nac af fi, yn wir," oedd yr ateb. "Paham hyny? "F'wed wrthw i mod i yn bechadur," meddai yr eneth. Prawf diymwad nad esgeulusai efe unrhyw gyfle i wneyd daioni. Yr oedd gan yr hynod Rowland Hill feddwl uchel am dduwioldeb John Harry. Pregethai Mr. Hill unwaith yn Nhre- amlod, gwedi i'r hen gynghorwr farw; ond yr oedd y weddw, a'i fab, y Parch. Evan Harris, yn preswylio yno ar y pryd. Wrth ymadael, dywedai: "Os ewch chwi i'r nefoedd o'm blaen i, cofiwch fi at John Harry, a dywedwch fy mod inau hefyd yn dyfod." Dro arall, galwodd wyr i John Harry, sef y Parch. T. Harris, Hwlffordd, yn nhy Mr. Hill yn Llundain. "Pwy ydych chwi?" ebai Mr. Hill. "Yr wyf yn wyr i'r diweddar John Harry, o Dreamlod," atebai yr ymwelydd. Ar hyn, ymunionodd Mr. Hill; sefydlodd ei lygaid ar y dyn ieuanc, ac meddai, mewn llais llawn o deimlad: "Os oes un dyn o'n byd llygredig ni yn y nef, y mae yr hen John Harry yno. Efallai mai ei berthynas a'r hen John Harry a barodd i Mr. T. Harris gael ei ddewis gwedi hyn i fod yn weinidog Wooton-under-Edge, lle yr arosodd am rai blynyddoedd. Gyda Rowland y glynodd efengylydd Treamlod yn yr ymraniad, a bu yn nodedig o ddefnyddiol yn nghylchoedd Methodistaidd Penfro hyd ddiwedd ei oes. Pregethai unwaith yn y mis yn nghapel Woodstock. Gelwid y Sabbathau yno yn ol enw y pregethwr a fyddai yn gweinyddu. "Sul Rowland " y gelwid Sul pen y mis; "Sul John Harry" oedd yr ail; "Sul Henry Richard," tad Eben a Thomas Richard, oedd y trydydd; a "Sul William Griffith "oedd yr olaf. Bu John Harry farw yn y flwyddyn 1788, yn nhŷ offeiriad Trefdraeth. Yn ei angladd, pregethwyd gan Sampson Thomas, oddiar y geiriau: Gwyn eu byd y meirw, y rhai sydd yn marw yn yr Arglwydd." Pregethwyd hefyd ar yr amgylchiad yn eglwys Treamlod, gan Mr. Rowland, oddiar y geiriau : "Ac os o braidd y mae y cyfiawn yn gadwedig, pa le yr ymddengys yr annuwiol a'r pechadur?" Nid yw yr hen John Harry heb fod rhai o'i hiliogaeth yn gweinyddu mewn pethau sanctaidd, yn mysg y Methodistiaid, hyd y dydd hwn. Mab iddo oedd y Parch. Evan Harris, a gafodd ei ordeinio yn mysg y fyntai gyntaf yn Llandilo Fawr, yn y flwyddyn 1811. Mab iddo yntau oedd y Parch. Thomas Harris, gwr o ddoniau arbenig, ond a derfynodd ei yrfa mewn cysylltiad a'r Eglwys Wladol. Gorwyr i John Harry yw y Parch. James Harris, Clarbeston Road; ac yr ydym yn deall fod mab iddo yntau eto wedi cychwyn gyda gweinidog- aeth y Gair.
Un o gynghorwyr hynotaf Penfro oedd William Edward, Rhydygele. Darllenwn am dano yn nghofnodau Trefecca yn cael caniatad i ymweled a chymdeithasau Tyddewi, Penrhos, a Mounton, yn wythnosol, ar brawf, hyd y Gymdeithasfa ddyfodol. Yr oedd yn llawn tân a chyffro, a meddai lawer o dalent naturiol, a medr i gyfarch pechaduriaid, ond ei fod yn drwsgl ac yn dra anwrteithiedig. Methodist ydoedd; dan weinidogaeth Howell Harris y cawsai ei argyhoeddi; ond ymgymysgai gryn lawer a'r Ymneillduwyr, ac yn eu cyfarfodydd arbenig, eisteddai bob amser yn mysg y swyddogion. Edrychent hwy arno ef fel un rhy danbaid, a rhy ddireol; credai yntau eu bod hwy yn rhy farwaidd ac anefengylaidd. Gyda llawer o ffraethineb, dangosai iddynt unwaith y gwahaniaeth rhwng ei ddull ef yn pregethu, a'r eiddynt hwy, trwy gymhariaeth o dộ ar dân. "Eich dull chwi," meddai, "yw dweyd: Wrth deithio yn y nos, yn 1af, Mi a ganfum dân. Yn 2il, Mi a welais fwg. Yn 3ydd, Mi a ddeallais fod y tý yn llosgi. Yn 4ydd, Mi a wybum fod y teulu ynddo mewn trwmgwsg. Yn 5ed, Mi a ddaethum i'ch deffro, a'ch galw allan, rhag eich dyfetha. Fy null inau, wedi deall fod y ty ar dân, a'r teulu yn cysgu, yw gwaeddu, heb na chyntaf nac ail: Iwb! Iwb! Hawyr! Hawyr! Deffrowch! Deuwch allan ar frys, y mae y ty ar dân, onide fe'ch llosgir yn lludw!"
Saer oedd William Edward wrth ei grefft. Arweiniwyd ef unwaith, wrth ddilyn ei gelfyddyd, i fysg y Saeson a breswyliai ran o Benfro, a hyny mewn palasdy, lle yr oedd pobl dra boneddigaidd yn byw. Yn fuan, aeth y si allan fod y saer yn bregethwr. Gwedi ei holi, a chael fod y chwedl yn wir, trefnodd y foneddiges fod iddo gael anerch y teulu y Sul canlynol. Y Sul a ddaeth, ac esgynodd William Edward i ben ystôl, er mwyn bod yn uwch na'i wrandawyr. Tynodd lyfr allan o'i logell, gan ddarllen yn Saesneg o hono fel testun: "Pwy bynag a yr ei was neu ei forwyn i godi pytatws, neu i dori bresych, ar foreu Sabbath, a ddemnir dros byth." "Dyma fy nhestun, madam," meddai; "yn awr, gyda'ch cenad, mi a af yn mlaen." Eithr cyffrodd y foneddiges yn enbyd; nid oedd yn ddieuog yn ngwyneb y cyhuddiad; a bloeddiodd yn groch: "Nag ewch ddim yn mlaen, yr adyn; dewch i lawr ar unwaith; dim ychwaneg o'r fath gleber!" Ac i lawr y bu raid iddo ddod, heb wneyd rhagor na darllen y testun, a therfynodd y cyfarfod. Dengys yr hanesyn fod tân a zêl yn yspryd y cynghorwr, ond yn fynych fod y cyfryw yn tori allan yn wyllt, heb gael eu llywodraethu gan yspryd pwyll.
Byddai ei dymer yn aml yn fagl iddo. Unwaith, aeth yn ddadl rhyngddo a Thomas Hooper, ei gymydog; aeth yr ymryson yn enbyd o boeth, ac yn y cyffro rhoddes William Edward wth i'w wrthwynebydd, nes y syrthiodd yn sybyrthol yn erbyn rhyw arf, gan gael archoll ddofn ar ei dalcen. Dyma y si allan fod William Edward, Rhydygele, pregethwr efengyl, wedi taro ei gymydog a chaib, fel yr oedd ei ymenydd yn y golwg. Gellir yn hawddach ddychymygu na darlunio y gofid a barodd y chwedl i'r cyfeillion crefyddol. Dygwyd y mater yn mlaen yn y seiat. Gwadai yntau iddo daro Tom Hooper. Eithr ni chredai ei gyd-aelodau; ymddangosai yr archoll yn profi yn wahanol. Penderfynwyd ei ddiarddel. Cyn myned allan, gofynai ganiatad i fyned i weddi. Yr oedd y weddi yn un ryfedd; gruddfanau yr hen bererin mewn edifeirwch wrth yr orsedd, gan grefu am faddeuant, ac apeliai at hollwybodaeth y Goruchaf nad oedd wedi gwneyd yr hyn y cyhuddid ef o hono. "Y mae fy mrodyr yn gwrthod fy nghredu," meddai, "eithr gwyddost ti, Arglwydd Mawr, na tharewais mo Tom Hooper yn ei dalcen a'r gaib." Gorchfygwyd ei gyd-aelodau, a chwedi eu hargyhoeddi yn drwyadl nad oedd yn bwriadu drwg, caniatasant iddo aros yn eu mysg. Bu y tro yn wers iddo am ei oes; daeth gwedi hyn mor hynod am ei larieidd-dra a'i arafwch ag oedd yn flaenoro! am ei fyrbwylldra. A gorphenodd ei yrfa yn fawr ei barch gan bawb a'i hadwaenai.
Bellach, rhaid i ni adael y cynghorwyr, er mor ddifyrus ac addysgiadol eu hanes. Yr amser a ballai i ni fynegu am John Richard, Llansamlet, yr hwn oedd yn wr gwresog ei yspryd, a gonest ei galon, ac er tramgwyddo wrth arweinwyr y Gymdeithasfa oblegyd cyfyngu o honynt ar ei faes llafur, a ddaeth i'w le yn fuan, gan gyfaddef ei ffolineb, a gofyn am faddeuant; am Howell Griffith, Trefeurig, yr hwn oedd yn ŵr dysgedig, ac mewn amgylchiadau da, ac a fu o fawr ddefnydd i achos yr Arglwydd yn ngymydogaethau Llantrisant, Tonyrefail, a Bro Morganwg, ac nad oedd uwchlaw derbyn cerydd yn garedig gan ei frodyr, pan y teimlent ei fod yn tueddu i fyned ar gyfeiliorn; am James Williams, arolygydd y seiadau yn Sir Gaerfyrddin, adroddiadau pa un o sefyllfa y cymdeithasau a osodasid dan ei ofal sydd yn awr ar gael, ac yn dra dyddorol eu cynwys; am Milbourn Bloom, a breswyliai yn Llanarthney, yn nhŷ yr hwn y cedwid y Cyfarfod Misol nodedig, pan y disgynodd Yspryd Duw fel fflam i fysg ei bobl, nes gwresogi eu calonau, a pheri iddynt folianu ei enw; am Morgan Hughes, a fu unwaith yn arolygydd seiadau Sir Drefaldwyn, a chwedi hyny, mewn undeb a Williams, Pantycelyn, yn arolygydd seiadau rhan uchaf Sir Aberteifi, yr hwn, am ei waith yn myned o gwmpas i efengylu, a wysiwyd i frawdlys Aberteifi, yn y flwyddyn 1743, ond erbyn myned yno, a ddaeth yn rhydd am nad oedd neb i'w erlyn; ac am amryw eraill. A'u cymeryd fel dosbarth, dynion ardderchog oedd yr hen gynghorwyr. Eu hunig wendid, os gwendid hefyd, oedd awydd am gael eu hordeinio, fel y gallent weini yr ordinhadau megys gweinidogion yr Ymneillduwyr. Ychydig o gydymdeimlad oedd rhwng y nifer fwyaf o honynt a'r Eglwys Sefydledig; yr oedd eu cydymdeimlad a'r Ymneillduwyr yn fwy. A phan na fynai yr arweinwyr ganiatau ordeiniad iddynt, aeth amryw trosodd at yr Ymneillduwyr, gan gymeryd gofal eglwysi a gwasanaeth eu Harglwydd a'u cenhedlaeth yn ffyddlawn. Dyma fel y collodd y Cyfundeb Evan Williams, y crybwyllasom am dano yn dianc o'r Gogledd oblegyd poethder yr erledigaeth; a John Thomas, a ymsefydlodd yn y Rhaiadr; a Richard Tibbot, Herbert Jenkins, Milbourn Bloom, ac amryw o ddynion talentog eraill. Eithr glynodd y nifer fwyaf yn ffyddlawn, er pob temtasiwn i gefnu. Ond yr ydym yn colli golwg ar amryw o honynt yn amser yr ymraniad, a pha beth a ddaeth o honynt, nis gwyddom. Aeth rhai yn Annibynwyr; cyfeiliornodd eraill oddiwrth y ffydd, gan ffurfio mân bleidiau, a gosod eu hunain yn ben arnynt; ond am y nifer fwyaf, ymlynasant wrth Rowland, Howell Davies, a Williams, Pantycelyn, a buont farw ar y maes fel medelwyr diwyd, a'u crymanau yn eu dwylaw.
Yr ydym yn dyfod yn awr at adrodd- iadau y cynghorwyr, a anfonwyd i'r Cymdeithasfaoedd, yn desgrifio sefyllfa yr eglwysi a osodasid dan eu gofal. Y mae yr adroddiadau hyn mor lliosog, fel nas gallwn ond difynu ychydig o honynt, a hyny megys ar antur. Yr adroddiad cyntaf yn nghofnodau Trefecca yw eiddo Thomas James, Cerigcadarn, o ba un y mae a ganlyn yn esiampl:—
“Cymdeithas. Llanfair-muallt. Cynghorwr, Thomas Bowen :—
Enwau yr Aelodau. | Eu Sefyllfa. |
Thomas James | Tystiolaeth lawn ac arosol |
Thomas Bowen | Mewn rhyddid helaeth |
Evan Evans | Wedi cael tystiolaeth, ond yn wan mewn gras |
Sarah Williams | Wedi ei chyfiawnhau,ac wedi dod allan o'r ffwrnais |
Sarah James | Tystiolaeth gyflawn ond mewn dirfawr gaethiwed |
Eliza Bowen | Yn gyffelyb, ond i raddau wedi ei gadael |
Elenor Jones | Yn dechrau ymadfer o'i gwrthgiliad |
Gwen James} | Wedi mynd i ogoniant fel yr ydwyf yn credu |
Susan James} | |
Gwen Kinsey} |
Rhif yr aelodau yma oeddynt 13.
"Cymdeithas Llanafan. Cynghorwyr anghyoedd, Edward Bowen a Thomas Bowen:—
Enwau yr Aelodau | Eu Sefyllfa |
Rice Price | Yn dwyn tystiolaeth yn ei gystudd |
Thomas Price | Yn gyffelyb, ond wedi colli llawer o'i gariad a'i zêl, gan fod wedi ei faglu yn y byd |
Thomas Jones | Mewn caethiwed dirfawr. Yn dysgwyl |
Stephen Jones | Dan lawer o dywyllwch |
James Evans | Yn wan mewn gras ond yn dysgwyl |
Thomas Bowen | Tystiolaeth lawn yn aml, ond nid yn arosol |
Edward Bowen | Tystiolaeth lawn ac arosol |
Eliza Evans | Tan lawer o amheuon oblegyd grym llygredigaeth |
Mary Jones | Y gair hwn wedi ei selio iddi hi: "A chariad Tragwyddol y'th gerais" |
Catherine Jones | Tystiolaeth hyfryd o gariad Duw |
Mary Price | Yn un modd |
Diana Evans | Yn rhodio yn agos at Dduw ond mewn llawer o amheuon |
Margaret Bound | Tystiolaeth lawn |
Tri-ar-ddeg oedd rhif yr aelodau yma yn
ogystal.
Llanwrtyd. Cynghorwr anghyoedd Rice Morgan:—
Enwau yr Aelodau | Eu Sefyllfa |
Rice Morgan | Yn rhodio yn agos, ond mewn peth amhaeaeth |
David Williams | Nid yw wedi ei adael mewn un gradd o amheuaeth |
Rice Williams | Ei gyflwr yn tywyll iawn |
Thomas Lloyd | Efe yn tybio darfod iddo gael tystiolaeth ond eraill heb eu llawn foddloni yn ei gyflwr |
Edward Winston | Mewn caethiwed mawr |
Roderick Rice | Mewn caethiwed a thywyllwch |
Ann Lloyd | Yn ceisio yn ddyfal ond mewn treialon dirfawr |
Eliza Evans | Ar y ffordd yn ceisio |
Margaret Evans | Yn ei chariad cyntaf |
Eliza Williams | Yn llwythog o anghrediniaeth |
Yr oedd 28 o aelodau yn perthyn i'r gymdeithas hon, a dywedir ei bod yn myned yn y blaen yn hyfryd. Rhydd gyfrif cyffelyb am seiadau Merthyr Cynog, Llandyfathen, Cerigcadarn, Llanddewi'r Cwm, a Llaneigion. Y mae ei sylwadau ar gyflyrau y gwahanol aelodau i'r pwynt, ac yn fynych yn brydferth. Dywed am un William Saunders, Llaneigion: "Gwedi bod mewn dirfawr amheuaeth gyda golwg ar dduwdod Crist, ond yn awr creda nid yn unig ei fod yn Dduw, ond hefyd yn Dduw iddo ef." Am un Mrs. P., o'r un seiat, dywed: "Medd dystiolaeth lawn, ac y mae yn rhodio yn agos, ond nid yw ei henw wedi ei ysgrifenu, am fod y gŵr yn bytheirio ac yn erlid." Ychwanega am yr un gymdeithas: "Y mae saith yn ychwaneg i ddod i mewn."
Dengys y cofnodion hyn ddirfawr wahaniaeth parthed ysprydolrwydd meddwl rhwng y Methodistiaid a'r Ymneillduwyr oeddynt yn y wlad o'u blaen. Dospartha Dr. John Evans, yn y daflen y cyfeiriasom ati yn barod, y rhai a berthynent i'r Anghydffurfwyr yn ol eu sefyllfa fydol; rhenir hwy i ynadon, ysweiniaid, rhai yn meddu pleidlais yn y sir neu y fwrdeisdref, rhydd-ddeiliaid, amaethwyr, masnachwyr, a labrwyr. Nid yw yr hen gynghorwr o Gerigcadarn yn prisio dim parthed safle fydol aelodau y gwahanol seiadau; dibwys ganddo pa un ai labrwyr ynte ustusiaid ydynt; rhana efe hwy yn ol eu cyflwr ysprydol, sef rhai wedi eu cyfiawnhau, rhai yn dyfal geisio, a rhai dan draed amheuon, &c. Yr oedd y Methodistiaid cyntaf yn byw gymaint yn y Presenoldeb Dwyfol, fel nad oedd mân wahaniaethau y byd o un pwys yn eu golwg. Eithr y mae Thomas James heb orphen ei adroddiad. Fel hyn y dywed am y seiadau canlynol :— <poem> Trefecca Heb fod mewn trefn. Llangamarch Newydd ei ffurfio. Cynghorwr anghyoedd — David. Rhif, oddeutu 14. Llwyncoll Mewn trefn, ond nid yw yn gyfleus i mi rhoddi eì chyfrif. Llanfihangel Nant-Bran—Y seiat newydd ei ffurfio. Llanfibangel Fechan—Ni wnant eto ymostwng i unrhyw drefn. Tref Aberhonddu—Heb eì ffurfio. Llangors Heb ddod i drefn. Cilhonwy—Y seiat tan Mr. Beaumont. Dyserth—Heb gael ei phrofi.
Dywed fod yr aelodau y rhydd gyfrif o honynt yn 134, ond y byddai y cyfanswm yn sicr o fod yn 200. Cofier mai rhan o Frycheiniog oedd dan ei ofal. Terfyna yn y modd a ganlyn: "Bendigedig fyddo ein Hiachawdwr am hyn o ddechreuad, gan obeithio y gwna efe ei Jerusalem yn llawenydd yr holl ddaear, oblegyd yn wir eto y mae lle. Am hyn, gweddïwch lawer drosom, a throsof fi, yr annheilwng— THOS JAMES."
Cymerer eto adroddiad Morgan Jones, arolygwr dros ranau o Fynwy. Fel hyn yr ysgrifena efe:
“GOETRE. Y maent yn 13 o rif, gydag un goruchwyliwr drostynt, yr hwn sydd ŵr tra gofalus. Nid oes yma ond dau ŵr priod, a dim un sengl. Derbyniwyd dau yn ddiweddar, un yn wraig mor hawddgar yn ei hyspryd a'r un o'r lleill. Y mae rhai, fel yr wyf yn credu, yn Gristionogion, ond heb uno eto a'r seiat breifat. Y mae yr aelodau wedi profi mesur o ryddid, neu amlygrwydd eu bod wedi cael eu cyfiawn- hau, bawb o honynt ond un, rhai fwy, a rhai lai. . . . Meddant ryddid mawr at eu gilydd, ac at y brawd Stephen Jones, eu cynghorwr anghyoedd. Gwn ddarfod i'r Arglwydd fendithio fy llafur yn eu mysg. Meddwn ryddid mawr y naill at y llall. Bendigedig a fyddo y sanctaidd Dduw, yr hwn a'i dygodd.
"GLASCOED. Y maent tua 9 mewn rhif. Y brawd Jones, eu cynghorwr anghyoedd, a wasanaetha swydd goruchwyliwr, ac, fel yr wyf yn credu, a wasanaetha yn ffyddlawn. Y maent wedi eu gosod yn y drefn oreu bosibl, ac ystyried eu hamgylchiadau. Cyfarfyddant yn breifat mor aml ag y gallant, ac y mae yr Arglwydd yn eu bendithio, fel y mae yn bendithio pawb a gyfarfyddant felly. Nid wyf yn gwybod am un nad yw yn barod i dystio fod yr Arglwydd yn eu bendithio yn rhyfedd yn eu cynulliadau preifat; ond am y rhai sydd yn gwrthsefyll, y maent yn myned yn sychach bob dydd. Y mae yr holl aelodau wedi profi cariad Duw wedi ei dywallt ar led yn eu calonau i'r fath raddau, fel y maent wedi eu hargyhoeddi fod eu pechodau wedi eu maddeu, a'u hanwireddau wedi eu cuddio. Yr wyf yn credu fod eu profiad yn gadarn ac yn gywir, oblegyd y mae eu bywydau yn cyfateb. Tlodion ydynt gan mwyaf, ond y maent yn ffyddlawn yn eu galwedigaethau, ac hefyd y naill i'r llall. Y maent yn foddlawn gweithio er cynorthwyo eu gilydd, pan yn glaf neu mewn eisiau. Y mae i mi undeb mawr a hwy, a felly hwythau ataf finau. bendigedig fyddo Duw am ei ddwyn oddiamgylch. Amen.
"ST. BRIDES.. . Pedwar-ar-ddeg o rif ydynt, a chredaf eu bod yn Gristionogion sylweddol o ran gwybodaeth a phrofiad. Holais hwynt yn breifat, a chefais dystiolaeth ddarfod iddynt oll brofi rhyddid yr efengyl i raddau mawr, oddigerth tri; ac y mae un o'r tri wedi cael fod Crist yn eiddo iddi, ond y mae ei ffydd yn wan. Am y ddau arall, dywedant nad ydynt eto wedi cael gafael ar yr Arglwydd, ond yr wyf yn credu eu bod, a dyna farn y gweddill o'r brodyr. Meddyliais iddynt wneyd yn glir mai gwaith Duw ydoedd, er eu bod yn ceisio ei guddio. Temtir hwy gan y gelyn i gredu na chawsant eu hargyhoeddi erioed, er fod eu calonau yn ymddangos yn ddrylliedig. Y maent mor ostyngedig a neb a welais.
"MYNYDDISLWYN. Y maent yn IO o rif, gyda dau oruchwyliwr drostynt, ac y mae yr Arglwydd yn bendithio y moddion iddynt. Cynorthwyir fi, ac felly eraill hefyd, pan fyddwyf yn llefaru yn eu mysg. Cyfarfyddant yn breifat unwaith yr wythnos, a chant gymaint o les trwy hyn a dim. Y maent yn ddiargyhoedd yn eu bywydau. Medd rhai o honynt dystiolaeth ddarfod eu cyfiawnhau, a dyhea y gweddill yn feunyddiol am ei gael.
"LLANGADOG. Daw cryn nifer ynghyd i wrando y Gair yn y cymdeithasau cyhoeddus, a rhydd yr Arglwydd allu i lefaru mewn cariad. Pedwar-ar-ddeg sydd wedi rhoddi eu henwau. Y maent yn rhy ieuainc i dderbyn un i edrych drostynt, ond daw un atynt o Lannfihangel mor fynych ag sydd bosibl. Dechreu ymgynull yn breifat y maent. Yr wyf yn teimlo rhyddid mawr yn eu mysg, am eu bod
R mor debyg i blant, gan fod yn foddlawn cymeryd eu dysgu.
"TREFETHIN. Y maent yn 19 o rif, gyda thri goruchwyliwr. Y rheswm fod tri ganddynt yw, fod dau o honynt yn fasnachwyr, ac felly yn analluog i ddyfod i bob moddion. Cyfarfyddant dair gwaith yr wythnos, a theimlant lawer o Dduw yn eu mysg, yn arbenig yn eu cyfarfodydd preifat. Rhodiant yn ddiargyhoedd, ac y maent, mi a hyderaf, yn cynyddu yn ngwybodaeth yr Arglwydd. Y maent, gan mwyaf, yn deimladwy o gariad maddeuol Duw. Y mae seiat fechan yn Llanheiddel hefyd, nad yw yn ewyllysgar i gymeryd ei dwyn i drefn hyd yn hyn; ond ar yr un pryd, y mae yno lawer o blant anwyl i Dduw.
"GRWYNEFECHAN. Ugain yw rhif yr aelodau yma; y maent mewn trefn, gyda dau oruchwyliwr yn gofalu drostynt. Cyfarfyddant dair gwaith yr wythnos, un o'r tair yn breifat. Gallant oll dystiolaethu fod ganddynt amlygrwydd ddarfod eu cyfiawnhau, er fod rhai heb deimlo cymaint o gysur ag y buont. Ond yr wyf yn hyderu fod yr Arglwydd yn eu mysg. Teimlais nerth mawr pan fum yn eu plith ddiweddaf.
"CWMDU. Rhif yr aelodau yw 12. Y mae yr Arglwydd yn llewyrchu arnynt, ac yn tywallt ei Yspryd i'w mysg yn fwy nag erioed. Y maent oll, ond dau, wedi profi cariad maddeuol Duw. Cant weithiau gymaint o bresenoldeb Duw, nes peri iddynt lefain : Arglwydd, digon yw!' Teimlant gymaint o Dduw mewn gweddi weithiau, nes dymuno peidio myned o'r fan, hyd nes y byddo iddynt ymadael i fod gyda Christ.
"CANTREF. Y maent yn 14 o rif, a chredaf am y rhan fwyaf o honynt ddarfod eu selio gan yr Yspryd Glân hyd ddydd prynedigaeth.
"BLAENYLLYN. Ugain ydynt o rif. Arholais hwy yn breifat, a chefais fwy o foddlonrwydd nag a feddyliais y gellid gael. Credaf fod yr Arglwydd wedi dechreu gwaith ar eu heneidiau. Ymddangosant yn dra gonest; mor bell ag y gallaf farnu, y maent wedi bwrw eu heneidiau ar Grist; ond nid ydynt eto wedi cael llawer o arwyddion o gariad Duw.
"LLYWEL (Sir Frycheiniog). Y maent yn 18 o rif, ac y maent wedi eu gosod mewn cystal trefn ag a allaf, gyda goruchwyliwr i wylio drostynt. Y maent yn benderfynol o gyfarfod yn breifat, i weled beth a wna Duw i'w heneidiau. yn dra esgeulus o hyn. Teimlodd rhai o honynt fesur o gariad Duw; yr wyf yn eu cael yn foddlon cymeryd eu dysgu, ond nid oes llawer o undeb yn eu mysg, am na chyfarfyddant yn breifat. Dylent gael eu cymeryd yn dyner, fel baban sugno ar y fron, oblegyd eu gwendid.
"LLANDDEUSANT (Sir Gaerfyrdddin). Wyth—ar—hugain o rifedi ydynt yma; y maent wedi eu gosod mewn trefn, gyda dau oruchwyliwr anghyoedd yn eu mysg. Cyfarfyddant yn gyhoeddus ddwy waith yr wythnos, ac unwaith yn breifat. Credaf fod gwaith mawr yn cael ei gario yn mlaen yn eu plith. Gallant dystiolaethu fod Duw yn tywallt ei Yspryd yn helaeth arnynt, yn arbenig yn eu cyfarfodydd anghyoedd. Medd rhai o honynt brofiad helaeth a dwfn o gariad Duw; ond y mae eraill mewn caethiwed. Y maent oll yn ddiargyhoedd o ran ymarweddiad. Tystiolaethant ddarfod i'r Arglwydd fy mendithio i fod o les i'w heneidiau. Bendigedig a fyddo yr Arglwydd hyd byth! Amen, ac Amen. Teimlais nerth rhyfedd yn eu mysg y tro diweddaf, wrth lefaru am fawrion bethau Duw, oddiar Actau ii. 11; yr oedd tua dau cant yn bresenol.
"D.S. Y mae ychydig o eneidiau hefyd yn cyfarfod yn Llanfihangel—Cerig—Cornel, tua thair milltir o'r Fenni, y rhai a anghofiwyd y tro diweddaf yn Watford. Dymunwn i chwi feddwl am danynt, ac anfon rhywun i ymweled â hwynt. Y brawd Morgan John Lewis yw y cymhwysaf, yn ein tyb ni, gan nad yw y brawd Beaumont yn medru siarad Cymraeg."
Byr, mewn cymhariaeth, yw adroddiad Thomas Williams, arolygydd adran o Forganwg, o'r cymdeithasau osodasid dan ei ofal ef. Y mae fel y canlyn, ond ein bod yn gadael allan yr enwau:—
Gwyr | Gwragedd | Dynion sengl | Merched sengl | |
---|---|---|---|---|
Wedi eu cyfiawnhau | 9 | 8 | 13 | 9 |
Dan y ddefdd | 1l | 2 | 3 | 4 |
Rhif aelodau cyffredin y Groeswen oedd 49; ychwaneger at hyny y pump cynghorwr anghyoedd, a gwnaent y cyfanswm yn 54. Dywedir yn mhellach fod un ferch ieuanc, o'r enw Amy Price, wedi marw mewn llawn sicrwydd ffydd.
Gwyr | Dynion sengl | Merched sengl | |
---|---|---|---|
Wedi eu cyfiawnhau, ac yn meddu rhyddid | 4 | 2 | 1 |
Dan y ddefdd | 7 | 2 | 2 |
Felly, rhif seiat Llantrisant oedd deunaw, ac os yw y cyfrif yn gywir, ni pherthynai yr un wraig briod iddi.
Rhifai cymdeithas Llanedern 6, o ba rai yr oedd 4 wedi eu cyfiawnhau, a 2 dan y ddeddf; Dinas Powis, 13, o ba rai yr oedd 2 wedi eu cyfiawnhau, ac yn meddu rhyddid; 6 wedi eu cyfiawnhau, ond mewn caethiwed, a'r gweddill dan y ddeddf; St. Nicholas, 32, o ba rai yr oedd 15 wedi eu cyfiawnhau, ac yn meddu rhyddid; 11 wedi ei cyfiawnhau, eithr mewn caethiwed, a'r gweddill dan y ddeddf. Rhifai seiat Pentyrch 9; Aberddawen, 15; ac Aberthyn, 19. Rhif yr holl aelodau dan ofal Thomas Williams oedd 168.
Nodedig o fyr yw adroddiad James Williams, arolygwr rhan o Sir Gaerfyrddin. Dywed fod seiat Cayo yn rhifo 49; Talyllychau, 45; Llansawel, 46; Llangathen, 37; Cwmann, 32. Am seiat Cilycwm, yr oedd yn ieuanc, ac heb ei dwyn i drefn, ac felly ni roddir ei rhifedi. Dywed am rai o'r aelodau eu bod yn meddu rhyddid, eraill fel pe yn canfod yr orphwysfa, a'r gweddill tan y ddeddf. Am y rhai a feddent ryddid, nid oeddynt oll ar yr un tir, oblegyd am nifer o honynt dywedir eu bod yn meddu mesur bychan o ryddid.
Adroddiad tra dyddorol yw eiddo William Richard, arolygwr y rhan isaf o Sir Aberteifi, a'r rhan Gymreig o Sir Benfro. Cymerer yr esiampl a ganlyn:—
Enwau yr Aelodau. | Eu Sefyllfa. |
---|---|
1. Thomas Dafydd | Yn credu, ond tan rai amheuon o herwydd temtasiynau; y mae yn dymuno ac yn dyheu am fwy o ryddid. |
2. Dafydd Morgan | Wedi archwaethu llawer o gariad Duw; y mae yn credu yn wastadol; ei brofiadau ydynt yn dra syml. |
3. Dafydd Rees | Yn credu, ond tan lawer o gymylau. Daeth trwy lawer o brofedigaethau, ond yn gorchfygu fwy fwy. |
4. Jenkin John | Tan dreialon am dymhor, yn dywyll ac yn sych ei yspryd. |
11. Margaret Thomas | Tan lawer o argyhoeddiadau, ond yn dra thywyll." |
Nis gallwn gofnodi yr holl daflen, eithr rhifai cymdeithas Dyffryn Saith 20, ac ymddengys na pherthynai iddi yr un wraig briod; eiddo Blaenhownant, 10; Twrgwyn, 9; Llwyndafydd, 10; ac Aberporth, 20. Yn Sir Benfro, rhifai cymdeithas Longhouse 15; cymdeithas Tyddewi, 11; eiddo Abergwaun, 35; Dinas, 7; Trefdraeth, 13; Pencaer, 7; Llwynygrawys ac Eglwyswrw, 35. Gwna yr oll 190, gyda 19 o aelodau ar brawf.
Cyn terfynu, rhaid i ni roddi adroddiad John Harris, St. Kennox. Fel hyn y dywed: "Ar y 13eg o'r mis, mi a gyfarfyddais ag wyn Prendergast ac Ismason yn Phonton (25 o rifedi); agorwyd ffenestri y nefoedd, a gwlawiwyd i lawr arnom wlith cariad Duw, nes yr oeddem ar ymgolli a boddi yn y môr mawr. Rhoddwyd i mi deimlo doethineb, gwybodaeth, deall, gostyngeiddrwydd, a chyd— ymdeimlad a fy wyn anwyl, fel y gallwn ddweyd: Teyrnas Dduw sydd o fewn i mi,' ac hefyd, Duw cariad yw.' Yr oedd yr wyn fel asgwrn o'm hasgwrn, a chnawd o'm cnawd. Canasom y gân newydd, a chanasom ag un anadl.
"Y 14eg o'r mis, yn Llawhaden. Nid oedd ond 11 o rif, ond yr oedd fy serch yn parhau ac yn cynyddu. Ar weddi, nid digon oedd penlinio; sythiodd dau ar eu hwynebau ar y llawr, ac o braidd y medrent gyfodi. A thra y gosodwn ger eu bron gariad yr Oen, nis gallent aros yn yr ystafell, eithr aethant allan o un i un, gan ymdreiglo yn y llwch, a gwaeddi: Michael, cân di, nis gallwn ni! "Y 15fed o'r mis, yn Jefferson. Ysgydwyd tŵr Babel, ac yr oedd ar ei ogwydd i syrthio, yn ddirgel ac ar gyhoedd. Galluogwyd fi i gredu ddarfod iddo gwympo; yr oedd sain hyfryd rhad ras yn mhob genau, a phob calon yn llawn o gariad.
"Ar y 18fed o'r mis, yn Carew. Rhif 25. Wedi cynghori yn gyhoeddus datguddiwyd i mi nad oes dim yn trallodi'r diafol yn gymaint a'r seiadau preifat. Yr oedd hyny yn amlwg yn ei offerynau, sef y bobl gnawdol o bob enwad; y maent yn eu cashau uwchlaw pob peth. Er fod y drws yn nghau ar y dechreu, daeth yr anwyl Oen, gan sefyll yn y canol, a dywedyd Tangnefedd i chwi! Yna yr wyn anwyl a doddwyd hyd ddagrau, ac a lanwyd â chariad, nes y gwaeddodd un allan Gresyn! gresyn! y mae yn llifo drosodd. Na fydd hanerog, eithr llanwer eraill hefyd.' A thorodd y lleill allan i lefain Bendigedig fyddo Duw am Iesu Grist.'
"Ar y 19eg o'r mis, yn Mounton, ger Narberth. Rhif 9. Cawsom gymundeb melus a'r anwyl Immanuel. Gan fod yr hin yn wlyb, ac amgylchiadau eraill yn ymyraeth, nid oeddent yn fy nysgwyl, felly yr oedd 11 o'r aelodau yn absenol.
Ar yr 20fed o'r mis, yn Gellidawel. Rhif 16. O'r cychwyn, ïe, hyd yn awr, ni chymerodd yr anwyl Oen ei wenau melus oddiarnaf, ond fe'm dyddanodd megys ar ei lin, nes fy llenwi i, a'r wyn yn ogystal, a chariad, gan beri i ni lefain ar lu y nef: "O, chwi wyryfon gogoneddus, cenwch, oblegyd rhyddhawyd chwi oddiwrth y clai. Treblwch eich cân, nes y deuwn ninau !'
"Felly, gan fy mod yn eich galw yn anwyl frodyr, fe a'm gwnaed yn gyfranog o'ch llafur, a'ch hymdrechion, yn eich gwaith mawr. Yr wyf yn tybio fy mod yn dwyn y baich gyda chwi. A chan fy mod yn credu fod ein hanwyl Archoffeiriad yn eich cynorthwyo, yr wyf yn meddwl fel mai efe ydyw awdwr, y bydd hefyd yn berffeithydd y gwaith; er y gall Satan a'i offerynau ddweyd fel Tobiah wrth Sanbalat am waith Nehemiah yn adeiladu muriau Jerusalem: "Ped elai lwynog i fyny, efe a fwriai i lawr eu mur hwynt. Ewch yn mlaen, yn wir y mae gan Oen Duw law yn y gwaith a pha un ydych yn ymwneyd, a chwithau a gewch fedi o ffrwyth eich llafur. Hyn oddiwrth yr annheilyngaf o bawb sydd yn ceisio gwyneb yr Oen— JOHN HARRIS.”
Dengys yr adroddiadau hyn lawer o
frwdaniaeth yspryd, a llawer o fedr i
adnabod sefyllfa ysprydol yr eneidiau,
gofal pa rai a gawsai ei ymddiried i'r
cynghorwyr. Adroddiadau am sefyllfa
pethau tua dechreu y flwyddyn 1743
ydynt. Dylem gadw mewn cof nad yw
nifer yr aelodau yn ddangoseg o gwbl o
rifedi y rhai a wrandawent yr efengyl
gyda y Methodistiaid, ac a ystyrient eu
hunain yn ganlynwyr Rowland a Harris.
Nid gorchwyl hawdd oedd ymuno a'r seiat
y pryd hwnw. Yr oedd y drws mor gul,
a'r ddisgyblaeth ynddi mor lem, fel y
cawn amryw o'r arolygwyr yn cyfaddef
fod rhai wedi eu hachub i fywyd tragywyddol, fel yr oeddynt hwy yn barnu, ond
heb ymuno ag unrhyw gymdeithas. Yn
Llanddeusant, cawn nad oedd rhif yr
aelodau ond wyth-ar-hugain, ond barnai
yr arolygwr fod y gynulleidfa a'i gwrandawai ef yno tua dau cant.
PENOD XI.
HOWELL HARRIS
(1743—44).
Gwaeledd iechyd Harris yn ei dueddu i roddi i fynu y gwaith cyhoeddus—Ymosodiad Edmund Jones ar y Methodistiaid—Dechreu codi capelau—Capelau Maesgwyn a'r Groeswen—Prawf Morgan Hughes—Dadl ag Esgob Tyddew—Pumed ymweliad Harris a Llundain—Y Gymdeithasfa Saesnig—Glynu wrth yr Eglwys Sefydledig—Whitefield yn tybio y cai ei wneyd yn esgob—Dadl a Richard Jenkins gyda golwg ar y Gair—Ystorm yn Nghymdeithasfa Glanyrafonddu—Cymdeithasfa Watford, 1744—Y Methodistiaid a'r gyfraith wladol Llythyr aelodau Mynyddislwyn—Chweched ymweliad Harris a Llundain—Amryw Gymdeithasfaoedd Chwarterol a Misol.
YR ydym yn barod wedi olrhain hanes Howell Harris hyd tua chanol y flwyddyn 1743. Gwelsom ei fod yn teithio yn ddidor, ac yn llafurio yn hwyr ac yn foreu, mewn cynghori pechaduriaid, cadarnhau y saint, trefnu y seiadau, ac arolygu pob peth cysylltiedig a'r symudiad grymus oedd yr Arglwydd wedi gychwyn trwyddo ef a Rowland. O Gymdeithasfa gyntaf Watford, a gynhaliwyd ddechreu Ionawr, hyd ganol Awst, pan yr aeth am ychydig amser i Lundain, prin y gellir dweyd iddo gael diwrnod o orphwys. Yn ychwanegol, yr oedd ei ohebiaeth yn ddirfawr. Ysgrifenid ato gan bersonau na welodd mo honynt erioed, a hyny ar bob math o faterion; ac yr oedd yntau mor gydwybodol a gofalus, fel na adawai lythyr heb ei ateb. Dan yr holl bwys hyn, nid rhyfedd i'w iechyd fethu. Nid gormod dweyd iddo amharu ei gyfansoddiad i'r fath raddau, fel na bu mor gryf a chynt byth. Fel rheol, pan yn croniclo helynt pob diwrnod yn ei ddydd—lyfr, dechreua trwy gofnodi fod ei gorph yn sâl ac yn friw. Pan ar daith yn Sir Benfro, mis Mehefin, cwyna fod poen annyoddefol yn ei wddf, ac yn saethu trwy ei ben, a bod lygaid, ei glustiau, a'i dafod yn y cyfryw stad, fel nas gallent gyflawni eu swyddau priodol. Parodd hyn iddo feddwl am roddi y cynghori i fynu, ac ymroddi yn gyfangwbl i'r gwaith o arolygu y cymdeithasau. Mewn llythyr at gyfaill yn Llundain, dyddiedig Mehefin 4, 1743, dywed: "Y mae yn yn gwasgu yn drwm ar fy meddwl cael fy ngalw oddiwrth y gwaith cyhoeddus at yr hyn sydd yn fwy preifat. Rhoddaf fy rhesymau i chwi, a gwn y gwnewch chwithau eu lledu gerbron yr Arglwydd, ynghyd a'r credinwyr gweddïgar o'ch cydnabod. (1) Ymddengys fel pe bai Duw yn gosod hyn yn fwy ar fy nghalon na'r llall. (2) Y mae fy natur wedi ei hamharu a'i threulio allan i'r fath raddau, a'm corph wedi myned mor egwan, fel nad oes genyf nerth digonol; ac ni fu y cyfryw genyf er ys amser maith, ond pan ei cawn yn wyrthiol trwy ffydd. (3) Yr wyf yn gyson yn colli fy llais, fel na fedraf wneyd i gynulleidfa fawr glywed, o leiaf heb boen dirfawr. (4) Trwy gyfres o dreialon anarferol o bob cyfeiriad, oddiwrth ddynion, oddiwrth Satan, ac oddiwrth fy natur felldigedig fy hun, y mae yr Arglwydd fel pe yn fy nghymwyso yn neillduol at waith oddifewn. (5) Darfu iddo gyfranu doniau cyhoeddus i alw, argyhoeddi, ac i ddal Crist gerbron yr annychweledig, yn helaethach ar amryw o'r brodyr nag arnaf fi, a chredaf eu bod yn cael eu bendithio yn fwy yn y gwaith. (6) Ymddengys angenrheidrwydd am rywun at y gwaith hwn, ac y mae digon o wahaniaeth rhyngddo a'r gwaith cyhoeddus. (7) Trwy hyn, gallwn roddi mwy o amser at ddarllen, ysgrifenu llythyrau, ac, efallai, gwneyd a derbyn mwy o ddaioni yn breifat. Y rhesymau hyn, yn neillduol fy nghrygni a'm gwaeledd, sydd yn eu gwneyd yn anmhosibl i mi ddod i Lundain oni ddaw rhyw frawd gyda mi at y gwaith cyhoeddus." Pa fodd bynag, dywed i'w selni ddysgu gwersi gwerthfawr iddo, sef ei ddyledswydd i gydymdeimlo a'r rhai ydynt mewn poen; deall y fath gydymdeimlad sydd rhwng y naill ran o'r corph a'r llall, a'r parodrwydd sydd yn y naill aelod i gynorthwyo y llall, yr hyn sydd yn ddrych o'r undeb dirgel ac ysprydol a fodola rhwng y saint; a theimlai yn sicr fod y cystudd wedi ei fwriadu er lles iddo, er ei wneyd yn fwy gostyngedig, ac felly ei barotoi i dderbyn rhyw ddawn oedd Duw ar fedr ei gyfranu iddo.
Ymddengys i'r rhwyg oedd wedi dechreu eisioes rhwng y Diwygwyr a'r Ymneillduwyr ymledu yn ddirfawr tua'r cyfnod hwn. Mai 30, 1743, cawn Howell Harris yn ysgrifenu yn ei ddydd-lyfr: " Clywais trwy y brawd H. am broclamasiwn cyhoeddus yn ein herbyn gan yr anwyl frawd Edmund Jones, a'r rhai a ymlynant wrtho yn mysg gweinidogion yr Annibynwyr. (Condemniant ni): Yn gyntaf, am ein bod yn cymuno gydag offeiriaid cnawdol; ac yn ail, am nad ydym wedi ein hordeinio," "Y brawd H.," yn ol pob tebyg, oedd Herbert Jenkins, yr hwn ar y pryd oedd ar ymweled a Threfecca. Math o alw i'r gâd oedd y proclamasiwn, yn ddiau, mewn canlyniad i waith Cymdeithasfa Watford yn cynghori yr aelodau a arferent gymuno yn yr Eglwys i barhau, hyd nes yr agorai yr Arglwydd ddrws i adael ei chymundeb. Ymddengys ei fod yn benderfyniad cymanfa, ac yn cael ei anfon at yr egiwysi yn ei chylchlythyr. Y mae cyfeiriad yr ail adran o'r cyhuddiad, sef pregethu heb feddu ordeiniad, yn uniongyrchol at Howell Harris. A dweyd y lleiaf, yr oedd hyn yn anniolchgarwch mawr ar ran Edmund Jones a'i frodyr. Wedi i'r Diwygiwr ymweled a'u hardaloedd ar eu cais, a bod yn foddion yn llaw Duw i argyhoeddi lliaws o eneidiau, o ba rai y darfu i nifer mawr ymuno a'u heglwysi, peth tra annheilwng oedd troi arno, gan ddanod mewn proclamasiwn cyhoeddus, a ddeuai, yn ol pob tebyg, yn swyddogol o'u cymanfa, nad oedd wedi ei ordeinio. Eithr ni chythruddwyd yspryd Howell Harris. Meddai: " Darfu i'r Yspryd Glân, fy anwyl Arweinydd, fy nghadw rhag fy yspryd fy hun, gan fy narostwng, a'm danfon at Dduw, a rhoddi i mi gariad at bawb sydd yn ymwahanu oddiwrthym. Galluogwyd fi i lefain yn y dirgel: 'O Dad, dangos i mi dy lais mewn perthynas i hyn; gwel fel yr ymosodir arnom o bob cyfeiriad. O arwain ni, a threfna ni fel y mynost, a sancteiddia yr oll i ni. Bendithia y rhai sydd yn ein herbyn. Pa hyd y caifF dy blant di ymryson ar y ffordd, a bod yn rhanedig? (Yma rhüddwyd i mi yspryd galar oblegyd hyn). O cadw ni rhag eu niweidio, na gwanhau eu dwylaw mewn un modd. Bendithia a llwydda hwy i gasglu eneidiau atat ti, a bydd yn eu mysg.'"Os bu gweddi anhunangar erioed, yn anadlu yspryd Iesu Grist, yr oedd y weddi hon o eiddo Howell Harris ar ran Edmund Jones, a gweinidogion yr Annibynwyr, felly. Teimla ei hun ddarfod iddo gael ei ddyrchafu uwchlaw ei natur lygredig, oblegyd sylwa rhwng cromfachau: " Y mae hyn yn mhell oddiwrth yr hen ddyn."
Darfu i broclamasiwn Edmund Jones ddwyn ffrwyth, a pheri i nifer o weinidogion yr Ymneillduwyr, oeddynt hyd yn hyn wedi bod yn cynorthwyo gyda'r diwygiad, droi eu cefnau. Yn mhen ychydig ddyddiau cawn Howell Harris yn ysgrifenu fel y canlyn yn ei ddydd-lyfr: " Clywais eto fod nifer o frodyr anwyl, gweinidogion, yn bwriadu ein gadael, oblegyd rhagfarn atom. Yr oedd yn dra phoenus. Ond darfu i Yspryd Duw, trwy yr hwn y gallaf wneyd a dyoddef pob peth, fy nghadw rhag fy hunan. Darostyngwyd fì yn isel, a gwnaed i mi garu Duw o'r herwydd; gan fy mod yn ei weled yn gadwraeth rhag hunan, a rhag ymuno yn gnawdol. Ni theimlwn na llid na dig atynt; gallwn olchi eu traed; ac anfonais genadwri atynt, os gadawent hwy ni, nas gallem ni eu gadael hwy." Byddai yn anmhosibl cyfarfod ag yspryd mwy rhyddfrydig. Efallai fod yr ymadrodd "ymuno yn gnawdol" yn cyfeirio at y perygl y bu Harris unwaith yn ei ofni, sef iddo ef a'i gyd-ddiwygwyr gael eu gyru gan amgylchiadau i ymuno a'r Ymneillduwyr, heb fod yr undeb rhyngddynt yn undeb yspryd a chalon. O hyn allan, ychydig o gymhorth a gafodd Harris oddiwrth weinidogion yr Ymneillduwyr; yr oedd ei fod yn myned o gwmpas i gynghori, heb gael ei ordeinio gan esgob, na'i urddo gan weinidog, yn faen tramgwydd iddynt nas gallent gamu drosto.
Yr oedd cyffro wedi enyn yn mysg y Methodistiaid erbyn hyn am adeiladu capelau; nid mewn gwrthwynebiad i'r eglwysydd plwyfol, ond er cyfleustra i'r lleygwyr lefaru, gan fod y tai anedd yn myned yn rhy fychain i'r cynulleidfaoedd, ac hefyd er mwyn cynal y seiadau ynddynt. Yn ol pob tebyg, y capel cyntaf perthynol i'r Methodistiaid ag y mae genym hanes am dano, yw capel Maesgwyn, yn Sir Faesyfed. Nid yr un Maesgwyn yw a'r lle o'r un enw cyfagos i'r Gelli, yn mha un y gweinyddai y gweinidog Ymneillduol enwog, Vavasor Griffiths; y mae yn fwy i'r gogledd, ac yn gorwedd rhwng y Rhaiadr a Llanybister. Ysgrifena James Beaumont at Howell Harris, yr hwn oedd yn Llundain, Awst 2, 1742: "Y mae yr Ustus V___n yn bygwth tynu tŷ cwrdd Maesgwyn i lawr." Pe capel Ymneillduol fyddai, buasai wedi ei drwyddedu yn ol y gyfraith, a buasai gymaint allan o gyrhaedd unrhyw ustus i'w dynu i'r llawr ag eglwys gadeiriol Tyddewi ei hun. Anhawdd meddwl na wyddai Beaumont hyn yn dda. Ond gan nad oedd y Methodistiaid gynt yn codi trwydded ar eu haddoldai, am nad ystyrient eu hunain yn Ymneillduwyr, yr oedd yr adeiladau a osodent i fynu i raddau mawr at drugaredd yr erlidwyr. Y tebygolrwydd yw mai capel Methodistaidd oedd Maesgwyn. Yr oedd Howell Harris yn fyw gan awydd
codi addoldai yn y flwyddyn 1742. O fewn corph y flwyddyn hono ysgrifena at foneddiges gyfoethog, nad oedd yn ddiberygl o gael ei pherswadio i gyfranu ei heiddo at bethau diraid, gan ddynodi amryw achosion teilwng oeddynt yn galw am gymhorth, ac yn mysg pethau eraill dywed: "Y mae llyfrau i'w hargraffu a'u gwasgar, a thai seiat i'w hadeiladu." Sefydliad neillduol i'r Methodistiaid oedd y seiat, a rhaid mai ar adeiladu addoldai iddynt hwy yr oedd bryd Howell Harris, pan y cyfeiria at dai seiat.
Ymddengys i gapel y Groeswen gael ei adeiladu yn y flwyddyn 1742. Dyddiad gweithred y tir, ar ba un y saif, yw Mehefin 2, 1742. Yn Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, ceisir gwadu mai y Methodistiaid a'i hadeiladodd, a dywedir yn bendant na fu erioed yn perthyn iddynt. F'el hyn yr ysgrifenir: "Yn 1742, adeiladwyd capel bychan ar ben y Groeswen, ar gwr cae, a elwid y Waunfach, fel cangen o'r Watford, y mae yn dra thebyg, Ond yn mhen ychydig amser, aeth y bobl a ymgynullent yno yn rhy Fethodistaidd i bobl y Watford a'u gweinidog allu cyd-dynu a hwy; ac felly buont am flynyddau yn ymgyfeillachu mwy a'r Methodistiaid nag a'r Annibynwyr. Ond ni buont ar un adeg o'u hanes yn Felhodistaidd hollol; a chamgymeriad yw haeru mai gan y Methodistiaid yr adeiladwyd ef, oblegyd yr oedd wedi ei adeiladu cyn i'r Methodistiaid ymffurfio yn gorph. Ffurfiwyd yma gymdeithas eglwysig yn ol cynllun Howell Harris, a bu am dymor yn cael ei hystyried yn gymdeithas Fethodistaidd, yn ol yr ystyr a roddid i Fethodistiaeth ar y pryd."
Y mae y difyniad hwn nid yn unig yn dywyll a chymysglyd, gyda ei wahanol adranau yn gwrthddweyd eu gilydd, ond y mae yn ogystal yn gwbl gamarweiniol. Nid eglwys Watford yn lledu ei therfynau, ac yn bwrw ei gwraidd i lawr mewn tir newydd, a roddodd fod i gymdeithas y Groeswen, ond y Methodistiaid, gwedi blino dadleu yn erbyn David Wiliams a'i heresi, a chwilient am gartref heddychol. Thomas Price, o'r Watford, cynghorwr gyda'r Methodistiaid, oedd y prif ysgogydd yn y symudiad, a'i enw ef yw y blaenaf o'r ymddiriedolwyr ar weithred trosglwyddiad tir y capel. Cymerai seiat y Groeswen ei llywodraethu gan y Gymdeithasfa fel y seiadau eraill, a cheir ei hadroddiadau, a anfonwyd i'r Gymdeithasfa, yn mysg yr adroddiadau sydd yn awr yn Nhrefecca. Yn mhellach, datgana cynghorwyr y Groeswen yn bendant, yn eu llythyr hanesyddol at Gymdeithasfa Cayo, mai trwy y Methodistiaid y cawsent eu hargyhoeddi a'u dwyn at grefydd, ac mai hwy a gydnabyddent fel eu tadau yn Nghrist. Yn ngwyneb y ffeithiau hyn ofer dweyd na fu eglwys y Groeswen erioed yn Fethodistaidd. Yr oedd mor Fethodistaidd a'r gymdeithas a ffurfiwyd yn ei ysgubor gan Daniel Rowland, yn Llangeitho, ac nid yw fod y capel wedi cael ei adeiladu ychydig fisoedd cyn ffurfiad y Gymdeithasfa, os mai felly y bu, yn newid dim ar y cwestiwn.
Fel y dywedasom, tua'r blynyddoedd 1742-43, yr oedd adeiladu capelau wedi dod yn gwestiwn pwysig yn mysg y Methodistiaid, a thueddwn i feddwl fod amryw wedi cael eu gosod i fynu yn ngwahanol ranau y wlad. Yn mis Mawrth, 1743, ysgrifena y Parch. Benjamin Thomas, y gweinidog Ymneillduol a ymunodd a'r Methodistiaid, at Howell Harris : "Darfu i'r Eglwyswyr gloi un o'r tai cyrddau yn fy erbyn, a phregethais inau gyda fy nghefn ar y drws. Tybia rhai ddarfod iddynt ysgrifenu i Lundain gyda golwg ar hyn. Byddwch mor garedig a rhoddi gwybod i ni beth a allant wneyd. Yr wyf yn foddlon rhoddi fy nghorph a fy enaid i ddyoddef drosto, os rhydd efe i mi nerth." Anhawdd genym feddwl fod Mr, Thomas yn cyfeirio at un o'r capelau Ymneillduol; gwyddai efe, a gwyddai yr holl wlad erbyn hyn, fod Deddf Goddefiad yn gysgod i'r cyfryw, ac nad oedd gan neb, hyd yn nod Archesgob Caergaint, hawl i ymyraeth â hwy; y mae tebygolrwydd cryf mai at dai cyrddau perthynol i'r Methodistiaid y cyfeiria, y rhai oeddynt yn ddiamddiffyn, gan nad oeddynt wedi eu trwyddedu yn ol y gyfraith. Yn Nghymdeithasfa Porthyrhyd, a gynhalwyd Hyd. 3, 1744, penderfynwyd, yn mysg pethau eraill, fod tŷ at ddybenion crefyddol yn cael ei adeiladu yn Llansawel. Nid oes un rheswm dros amheu ddarfod i hyn gael ei gario allan, ac nid yw geiriad y penderfyniad yn awgrymu ei fod yn symudiad newydd.
Teimlai Howell Harris ddyddordeb arbenig yn y dyddiau o'r flwyddyn a fyddent yn cyfateb i'r adegau pwysig yn ei fywyd ysprydol. Cawn ef yn ysgrifenu Ebrill 6, 1743: "Ar y dydd hwn, wyth mlynedd yn ol, yn ol dyddiau y mis, Sul y Pasg y flwyddyn hono, y derbyniais y sacrament am y tro cyntaf. Yr oeddwn wedi cael fy argyhoeddi gyda golwg ar yr angenrheidrwydd am hyn y Sul blaenorol, sef Mawrth 30. Y pryd hwn cynyrchwyd y fath argraff ar fy yspryd na adawodd fi am bythefnos gwedi. Yna cefais Holl ddyledswydd dyn, trwy yr hwn y daethum yn raddol i ganfod fy nhrueni, yr hyn a derfynodd mewn argyhoeddiad." Ebrill 20, 1743, ysgrifena: "Heddyw yw dyddgylch yr wythfed flwyddyn oddiar fy argyhoeddiad cyntaf, trwy ddarllen Holl ddyledswydd dyn. Sulgwyn yr un flwyddyn cawn ef yn ysgrifenu: "Dyma gylchwyl yr wyth fed flwyddyn er pan y cefais olwg gyntaf—trwy ffydd—ar Grist yn marw trosof, ac y teimlais heddwch a llawenydd. O gwmpas yr amser hwn, wyth mlynedd yn ol, y bwriwyd Satan allan o honof. Yn awr, gwnaed i fy enaid lefain, nid mewn teimlad yn unig ond gyda gradd o oleuni, 'Satan, ti a wyddost dy fod wedi dy fwrw allan o honof, trwy allu Duw; fod Duw yn awr ynof. Ti a wyddost, Satan, mai plentyn Duw ydwyf yn awr, a llestr etholedig iddo. Ti a wyddost mai fi yw dy arglwydd, na chefaist lywodraethu arnaf byth oddiar hyny, ac na chai di ddim llywodraethu arnaf fi. Ti a wyddost fy mod yn eiddo'r Arglwydd, nas gelli fy niweidio.' Gwnaed i fy enaid yn awr mewn ffydd goncwerio ar fy holl elynion, trwy weled fod Duw wedi fy ngharu, ac wedi fy ngwaredu rhagddynt oll. Gwnaed fi, yn wir, yn ddiolchgar am fy ngwaredu o deyrnas y diafol, gyda ei grym a'i thrueni. Gwelais yn awr, trwy ffydd, fy rhagorfreintiau, fy mod yn eiddo yr Arglwydd, ac yntau yn eiddo i minau. Wyth mlynedd yn ol tynwyd fi o grafangau y diafol at Dduw; ond yn awr y mae arnaf eisiau cael fy ngwaredu oddiwrth ddylanwad y cnawd, a'r natur, yn mha rai y mae Satan yn gweithio. O Dduw, gwared fi rhag fy hunan! O, gwared fi rhag fy natur!" Yn sicr, nis gallai neb ond un yn byw llawer yn y byd ysprydol ysgrifenu fel hyn.
Un o ddigwyddiadau mawr y flwyddyn 1743, oedd dal y cynghorwr Morgan Hughes, a'i anfon i garchar Aberteifi, i sefyll ei brawf yn y brawdlys yno, heb ganiatau iddo gael myned yn rhydd yn y cyfamser, trwy roddi meichiau am ei ymddangosiad. Cynyrchodd yr amgylchiad gyffro dirfawr yn mysg y Methodistiaid; ymddangosai yr helynt, y naill ffordd neu y llall, fel yn penderfynu tynged y diwygiad. Pan y pasiai Howell Harris trwy dref Aberteifi, ar ei ffordd i Gymdeithasfa Fisol Longhouse, yr oedd Morgan Hughes, druan, yn gaeth y tu fewn i furiau y carchar. Nis gallodd fyned i'r carchar i'w weled; nid yw yn ymddangos fod ganddo drwydded i hyny oddiwrth yr ynadon. Ond hawdd gweled ei deimlad yn y difyniad canlynol o'i ddydd-lyfr: "Aberteifi, dydd Mercher. Yn y dirgel cefais achos y brawd Morgan Hughes, y carcharor, yn gwasgu yn drwm arnaf. Teimlais y fath gariad ynof fel yr oeddwn fel pe wedi cymeryd lle y carcharor, ac yn teimlo fel y teimlai efe; yr oedd pob peth oedd genyf, bywyd, arian a chwbl, at ei wasanaeth; gallwn ddyoddef yn ei le. Teimlwn hefyd y cyfryw gariad tadol at yr oll o'r cynghorwyr, fel y gallwn ddyoddef gyda hwy. Ysgrifenais lythyr at y brawd Rowland, yn ei gyfarwyddo i geisio cael y brawd yn rhydd trwy roddi meichiau." Teimlad diflas i un a'i ymysgaroedd mor dosturiol a Howell Harris, oedd gorfod cefnu ar Aberteifi heb weled ei gyfaill, na medru ei gynorthwyo mewn un modd. Ni lwyddwyd i gael Morgan Hughes allan trwy feichiau, ychwaith; bu raid iddo aros yn rhwym hyd ddydd y prawf. Teimlai Thomas Price, o'r Watford, a'r gymdeithas i ba un y perthynai, yn ddwfn oblegyd yr helynt. Meddai Mr. Price, mewn llythyr at Howell Harris: "Yr wyf yn ofidus, ac eto yn llawenhau, oblegyd yr erledigaeth ar y brawd Rowland a'r brawd Hughes." Awgryma hyn fod Daniel Rowland yn ogystal wedi cael ei wysio i sefyll ei brawf yn Aberteifi, ond na feiddai yr ynadon draddodi offeiriad ordeiniedig i garchar. Ychwanega Mr. Price: "Bûm yn meddwl myned i Aberteifi erbyn y brawdlys, gyda y brodyr William Morgan a Watkin Evans; ond gan i rwystrau ddyfod ar ein ffordd, a bod y draul yn anghymesur, yr ydym yn anfon hyn (swm o arian) gyda ein serch i'r brodyr Rowland a Hughes. Yr ydym yn anfon cymaint ag a fedrwn o'n cariad gyfranu, er mwyn i chwi symud yr achos i Westminster, ac yr ydym yn barod i'ch cynorthwyo hyd eithaf ein gallu. Gwell i ni fod yn ddiffynwyr, ond os nad ânt yn y blaen, dymunwn arnoch ddwyn cyhuddgwyn yn eu herbyn am gam drin Morgan Hughes ar brif-ffordd y brenin. Nid rhaid wrth dyst, gan i'r peth gael ei gyflawni mewn lle mor gyhoeddus." Felly yr ysgrifena Mr. Price, a hawdd gweled ei fod wedi ei gyffroi, ac y meddai yn ogystal lawer o wybodaeth o'r gyfraith.
Ar foreu dydd Llun, tua diwedd mis Ebrill, y mae Howell Harris a Daniel Rowland yn cychwyn o Langeitho tua brawdlys Aberteifi. Yr oedd eu ffordd ar y cyntaf trwy ddyffryn prydferth Aeron, un o'r rhai tlysaf yn Nghymru; erbyn tri daethant i Clwyd Jack, haner ffermdy a haner palasdy, tua thair milltir islaw Talsarn, lle y cawsant ymborth i'w hanifeiliaid. Cyrhaeddasant dy un Walter Watkins erbyn chwech, ac yr oedd yn agos i naw arnynt cyn cyrhaedd Aberteifi. Melus odiaeth oedd y gyfeillach ar y ffordd; teimlent ddirfawr hyfrydwch mewn cael cyd-ddyoddef. Gwelai Howell Harris fawr dynerwch a doethineb Duw yn nhrefniant eu dyoddefaint; ar y cychwyn, pan oeddynt yn wan, ni erlidid hwy ond trwy eu gwatwar a'u gwawdio, dim ond digon o wrthwynebiad yn eu cyfarfod i roddi rhyw gymaint o ymarferiad i'w gras eiddil; a phan, tua phedair blynedd yn ol y cyfododd ystorm yr oedd ganddynt gyflawnder o frodyr, a chyfeillion ac arian i fod yn gymhorth iddynt. Daeth ar ei feddwl i ysgrifenu a chyhoeddi llyfrau Cymraeg, fel gallai pawb ddod i adnabod Crist; ond teimlai mai ei ddyledswydd gyntaf oedd ymweled a'r seiadau, lle yr oedd yn amlwg fod yr Arglwydd yn ei fendithio. Wedi cyrhaedd Aberteifi, y peth cyntaf oedd ymweled a Morgan Hughes, y brawd oedd yn y carchar. "Pan ei gwelais," meddai Howell Harris, "aeth fy nghalon yn fflam; tynwyd fi allan mewn nerth ffydd, a chariad, a gwres, fel y diflanodd pob ofn ac iselder yspryd, a dychryn ymddangos gerbron y fainc; gallwn eu gwynebu oll yn wrol, a dyoddef gyda fy mrawd. Yn ngrym y nerth hwn gallwn, yn wir, fyned i'r fflamau; tynwyd ofn y werinos i ffwrdd oddiwrthyf; yr oedd ynof ddigon o ddewr- der i arddel fy Arglwydd. Daethum at Morgan Hughes pan oedd yn isel ei yspryd, ac yn gweled pob peth yn ei erbyn, heb wybod am neb a gymerai ei achos mewn llaw. Ond cefais ddigon o nerth ffydd i ddweyd a dangos fod Duw uwchlaw iddynt oll, nad oes arnom eisiau cymhorth braich o gnawd, gan fod Duw yn chwerthin ar ben y diafol, a phob ymgais o'i eiddo, ac y byddai iddo ddwyn da o hyn oll. Cysurais fy mrawd, a theimlais fy hun yn llawn cariad a thosturi at ein gwrthwynebwyr."
Addawsai Harris i Mr. Llwyd na byddai i'r Methodistiaid osod cyfraith ar eu herlynwyr, ond iddynt dalu holl gostau y prawf. Felly, nid oedd gan y barnwr ddim i'w wneyd ond rhyddhau Morgan Hughes, heb ei osod ar ei brawf, ac wrth wneyd hyny dangosodd barch mawr at y rhai a erlynid heb ddim yn eu herbyn ond eu crefydd. "O Arglwydd," meddai Harris, "y mae hyn oll yn dyfod oddiwrthyt ti." Felly y terfynodd y prawf yn Mrawdlys Aberteifi, ac y mae yn sicr i'r amgylchiad feddu dylanwad mawr er gyru ofn ar y gwrthwynebwyr, a chalonogi y rhai a geisient addoli Duw yn ol argyhoeddiad eu cydwybodau. Manyla Howell Harris ar eu hanes yn Aberteifi, lle y buont o nos Lun hyd brydnawn dydd Iau. Dywed fod ei gorph yn wan, ond am ei enaid yr oedd yn byw yn mhell uwchlaw y creadur, ac yn bendithio Duw am edrych ar ei fath. Daethai llawer o'r brodyr crefyddol yn nghyd, fel nad oedd prinder cydymdeimlad nac arian; ac yn nghanol eu pryder cadwent gyfarfodydd i weddïo, a chanu, a molianu, y fath na chlywyd y cyffelyb o'r blaen mewn brawdlys. Ymddengys mai un W. Llwyd oedd blaenor yr uchel reithwyr; dangosodd hwn ei fod yn gyfaill i'r diwygiad; ac meddai Harris: "Teimlwn fy enaid yn ymlenwi o gariad ato, cyffelyb i eiddo yr angelion." Buont yn ymgynghori a chyfreithiwr, a dadleuydd, ac yn egluro yr holl achos. Arweiniodd Mr. Llwyd Harris i'r coffee room yn y prif westy, i ganol yr uchelreithwyr a'r mawrion, ac ymddengys i argraff ffafriol gael ei gynyrchu. Dydd Iau y daeth y prawf yn mlaen. Yn nghyntaf oll gosodwyd gerbron bump o ddrwgweithredwyr; tri am ladrata caseg, a buwch, a rhyw gymaint o arian; a dau am dori tŷ. Wedi gorphen â'r lladron, a'r tŷ-dorwyr, dygwyd Morgan Hughes gerbron. Ond yr oedd yn ddealledig erbyn hyn fod yr uchel-reithwyr wedi taflu yr achos allan, trwy ddylanwad Mr. Llwyd yn benaf, ac yr oedd ei wraig, boneddiges ieuanc dyner, wedi dylanwadu arno yntau. Yn ystod y flwyddyn 1743, hefyd, bu Howell Harris mewn gohebiaeth ag Esgob Tyddewi, gyda golwg ar waith y clerigwyr yn gwrthod y cymundeb iddo, ac i'r rhai oeddynt wedi eu hachub trwyddo. Nid oes un o lythyrau yr Esgob ar gael, ond y mae yn Nhrefecca gopi o lythyr a anfonodd Howell Harris at Ysgrifenydd yr Esgob. Ei ddyddiad yw Awst 1, 1743. Gellir casglu oddiwrtho fod achwynion trymion wedi cael eu dwyn yn erbyn Harris, parthed athrawiaeth ac ymddygiad; a chawn yntau wrth ateb yn dweyd ei feddwl yn ddifloesgni, heb ofni awgrymu nad yw yr Esgob yn hollol iach yn y ffydd. Difynwn ranau o hono: "Yr wyf eto yn amheus a ydyw ei arglwyddiaeth yn cyduno gyda golwg ar gyfiawnhad, mai unig achos am gyfiawnhad gerbron Duw yw ufudd-dod gweithredol a dyoddefol Iesu Grist, heb unrhyw waith o eiddom ein hunain; a bod yr haeddiant hwn yn cael ei drosglwyddo yn rhad i ni gan Dduw, ac yn cael ei ddirnad yn y gydwybod fel yn eiddo i ni trwy y gras o ffydd, yr hwn hefyd sydd yn cael ei roddi i ni. Y mae y ffydd hon yn profi ei hun i ni y wir ffydd, trwy fod yr Yspryd Glân yn tystiolaethu yn ein calonau; ac i'r byd trwy fywyd ac ymarweddiad uniawn. Yn yr ystyr hwn yr wyf yn credu fod sancteiddrwydd tumewnol ac allanol yn angenrheidiol; sef yn angenrheidiol i rodio ynddynt tua'n cartref tragywyddol; a phob amser yn angenrheidiol fel y ffrwyth sydd yn canlyn cyfiawnhad. Gyda golwg ar y cyhuddiadau amgauedig yn eich llythyr, yr wyf yn addef rhai, ac yn gwadu rhai. Ond chwi a addefwch eu bod yn llawn chwerwder, a theimlad cas. Gyda golwg ar y lleoedd y bum yn
llefaru ynddynt, cydnabyddaf ddarfod i miPHOTOGRAPH O DUDALEN DDYDD-LYFR HOWELL HARRIS
wneyd casgliadau at amcanion crefyddol yr ochr arall i'r môr, ond telais hwy bob ceiniog i Mr. Whitefield, fel y dengys ei lyfr, a thalodd yntau hwy at yr amcan mewn golwg. Parthed fy mod yn dal perffeithrwydd dibechod, ni chredais ac ni chyhoeddais hynny erioed. Eithr wedi bod yn nghymdeithas Mr. Wesley, tua thair blynedd yn ôl, yr wyf yn addef i mi arfer ymadroddion heb fod yn glir; ond wedi deall ei fod ef yn dal y cyfryw gred, mi a ysgrifennais lythyr maith ato, ac a ysgerais fy hun oddiwrtho ar bwnc o athrawiaeth. Er hynny, yr wyf eto yn credu ei fod yn ddyn gonest, yn ymdreulio mewn gwneyd daioni, ac fel y cyfryw, yr wyf yn ei garu ac yn ei anrhydeddu. Credaf y byddai ei arglwyddiaeth yn fwy ffafriol i ni pe na chredai yr oll y mae yn glywed. Cyhuddir fi o ddweyd nad yw y naill le yn fwy sanctaidd na'r llall. Yr wyf yn gobeithio eich bod chwithau yn credu felly, nad oes yr un gwahaniaeth, dan yr efengyl, rhwng un lle a lle arall, ond gwahaniaeth cyfleustra; ac na cheir unrhyw addewid yn yr Ysgrythyr am bresenoldeb Duw mewn un man rhagor man arall, oddigerth gyda golwg ar deml Solomon. Nid oedd hyny ychwaith ond fel yr oedd yn gysgod o'r eglwys Gristionogol, ac i barhau yn unig hyd nes y sefydlid addoliad ysprydol, pan y darfyddai yr holl gysgodau. Yn awr, pa le bynag yr ymgynull dau neu dri yn enw yr Iesu, ac mewn ffydd, yno y mae presenoldeb Duw. Ar yr un pryd, er mwyn trefn allanol, dymunwn na fyddai un rheswm yn erbyn, a'i fod yn bosibl i ni oll ymgynull yn yr un lle. Am y cyhuddiad ddarfod i mi lefaru ar adeg y gwasanaeth dwyfol yn Felin-newydd, credaf ddarfod i chwi gael eich camhysbysu; mewn anwybodaeth y gwnaethum, os gwnaethum hefyd; yr oedd yn ymyl machlud haul arnaf yn cyrhaedd yno, mor bell ag yr wyf yn cofio. Os troir fi allan o gymun- deb, pan na ellir dwyn unrhyw achwyn yn erbyn fy ymarweddiad, tra y mae eraill yn cael derbyniad, er byw mewn pechodau ysgeler, dan rith tynerwch cydwybod, daw yn amlwg ryw ddydd, os nad yw felly yn awr, a ydyw hyn yn ymddygiad cydwybodol. Gwyddoch os nad oes ymwared i'w gael oddiwrth hyn, ac oddi- wrth y cyffelyb weithredoedd direswm ac anghariadus, yn y llysoedd eglwysig, fod y gyfraith wladol i'w chael. Os troir aelodau allan o eglwys yn unig am fyned i wrando lle y medrant ddeall yr hyn a wrandawant yn well nag yn eu heglwysydd plwyfol, a lle cânt fwy o les, ac teimlant fwy o'r Presenoldeb Dwyfol, nis gwn pa fodd y gall y cyfryw Eglwys gael ei rhyddhau oddiwrth yspryd erledigaeth, na honi ei bod yn meddu y cariad catholig, na'r tynerwch, y rhai y tybiwn ydynt brif nodweddion eglwys."
Llythyr teilwng o apostol. Hawdd gweled ei fod yn ysgrifenu gyda phob gonestrwydd, ac yn hollol ddiofn, er ei fod yn awyddus am dalu i'r Esgob a'i Gaplan bob parch gweddus. Yn ngoleuni y llythyr yma gallwn weled natur y cyhuddiadau a ddygid yn erbyn Howell Harris, sef (1) Ei fod yn dal nad yw gweithredoedd da yn amod cyfiawnhad, a'i fod yn pregethu athrawiaeth John Wesley gyda golwg ar berffeithrwydd dibechod y credadyn. (2) Ei fod yn casglu arian yn y cyfarfodydd crefyddol a gynhelid ganddo, gan ddefnyddio y cyfryw at ei wasanaeth ei hun." (3) Y pregethai nad oedd cysegriad esgobol yn gwneyd adeilad yn fwy sanctaidd, ond y gellid defnyddio unrhyw le, pa un bynag ai wedi ei gysegru neu ynte heb ei gysegru, at ddybenion crefyddol. (4) Ei fod yn cynal ei gyfarfodydd ar yr un adeg ag yr oedd yr offeiriaid yn cynal gwasanaeth dwyfol yn y llanau. Profa yntau ei fod yn ddieuog o rai o'r pethau a osodid i'w erbyn; ac am y pethau eraill, fod ei syniadau yn fwy Ysgrythyrol nag eiddo ei wrthwynebwyr. Gyda golwg ar wrthod y cymun bendigaid iddo ef, a'r Methodistiaid, tra yn derbyn i'r ordinhad sanctaidd ddynion o fucheddau annuwiol cyhoeddus, ysgrifena gyda grym anwrthwynebol, ac anhawdd genym feddwl nad oedd y gwrid yn dyrchafu i ruddiau Esgob Tyddewi wrth ddarllen ei eiriau llosgedig. Da genym weled nad oedd eglwysyddiaeth Harris yn myned mor bell ag y tybir weithiau, ac mai dibwys iawn yr edrychai ar gysegriad esgob. Yr ydym yn parchu ei ddewrder, a'i onestrwydd, ynghyd a'i gydwybodolrwydd i wirionedd ac i Grist.
Dydd Mercher, Awst 3, 1743, y mae Howell Harris yn cychwyn ar gefn ei geffyl tua Llundain, sef ei bumed ymweliad a'r brif-ddinas. Amcan ei ymweliad oedd cael cyfarfod a'r brodyr Saesnig yn eu Cymdeithasfa Gyffredinol. Eithr nid ai y ffordd unionaf; yn hytrach cymerai dro ar draws y Deheudir, mewn rhan er defnyddio pob mantais i bregethu yr efengyl, ac mewn rhan er cael cydymgynghori a'i frodyr, fel y byddai yn alluog yn y Gymdeithasfa i roddi mynegiant i syniadau yr arweinwyr yn Nghymru, yn gystal a'i syniad ei hun. Aeth y diwrnod cyntaf i Beiliau, lle y pregethodd oddiar y geiriau: "Myfi yw y ffordd." Yr oedd yn odfa dda, a theimlai yntau ryddid mawr. Tranoeth, aeth i Myddfai, lle y llefarodd oddiar y geiriau: "Portha fy wyn." Nid arosodd yma nemawr, eithr teithiodd yn ei flaen i'r Parke, yn Sir Benfro, a chyfrifa fod taith y diwrnod o gwmpas haner can' milltir. Yma yr arosodd hyd brydnhawn dydd Sadwrn. Oddiyno aeth yn ei flaen trwy Lanstephan, hyd Gapel Evan. Ymddengys fod Cymdeithasfa Fisol yn cael ei chynal yma. Pregethodd Howell Davies yn mlaenaf, i gynulleidfa o saint yn benaf. Ar ei ol ef llefarodd Daniel Rowland, oddiar Gal. ii. 20: "Mi a groshoeliwyd gyda Christ." Pregeth anarferol, gyda goleuni a gwres mawr. Dangosai yn (1) Fel y mae yr enaid yn canfod ei hun yn wag o bob daioni, ac fel y mae yn canfod ei ddigonedd, am amser a thragywyddoldeb, yn Nghrist. (2) Natur y farwolaeth o ba un y mae y Cristion yn marw yn rhinwedd ei undeb â Christ; sef ei bod (a) yn farwolaeth boenus, (b) yn farwolaeth araf a dyhoenus, (c) yn farwolaeth gywilyddus, ond (d) ei bod yn dwyn llawenydd i'r enaid. (3) Dangosodd natur y bywyd sydd i'w gael trwy undeb â Christ, a'r fath ddirgelwch yw y credadyn; ei fod yn farw ac eto yn fyw, yn wan ac eto yn gadarn, yn bechadurus ac eto yn bur, yn ddall ac eto yn gweled, yn cwympo ac eto ar ei draed. Y casgliad oedd fod pawb amddifad o'r bywyd hwn o dan y felldith. Gwaeddai gydag awdurdod: "Bechadur, beth wnei di! Dere allan oddi tan y gyfraith, ac oddiwrth bechod, a hunan, a'r byd, a rho dy hun i Grist.' Cafodd nerth anghyffredin; yr oedd calon Harris yn gyffrous o'i fewn hyd yr Amen, a theimlai sicrwydd ynddo y gwnai Duw ddisgyn, a bendithio'r gwaith.
O Gapel Evan aeth Harris yn ei flaen ar draws Siroedd Caerfyrddin, Morganwg, a Mynwy, gan bregethu efengyl gras Duw yn Abertawe, Castellnedd, Llantrisant, Watford, a Llanfihangel, a lleoedd eraill, a chyrhaeddodd Bryste dydd Mercher, pen y pythefnos er pan y cychwynodd o gartref. Brysiodd gyda'i gydymaith, James Beaumont, i'r ystafell newydd i wrando Mr. Mansfield yn pregethu. Pwnc y bregeth oedd cyfiawnhad heb weithredoedd y ddeddf; eglurai y llefarwr y mater mor glir, gan ddangos geudeb yr egwyddor o wneyd hyn, a'r llall, ac arall, er mwyn cael bywyd, fel y llanwyd enaid Harris a diolchgarwch i Dduw am gyfodi y fath oleuni yn y wlad. Teimlai ei falchder hefyd yn cael rhyw gymaint o glwyf am ddarfod iddo dybio nas gallai y cyfryw oleuni ddyfod "heb fod rhai o honom ni yn eu mysg." Ai y Cymry a olyga wrth y"ni," nis gwyddom. Bwriadai fod yn bresenol mewn Cymdeithasfa Fisol yn Mryste, ond yr oedd drosodd cyn iddo gyrhaedd. Eithr wedi clywed y penderfyniadau teimlai y gallai gymeradwyo yr oll. Boreu dydd Iau ail gychwynodd tua Llundain, gan gyrhaedd yno oddeutu pump prydnawn dydd Gwener. Elai i mewn i'r ddinas trwy Hyde Park, gan basio yr adeiladau mwyaf gorwych perthynol iddi, ond prin y sylwai ar y mawredd oedd o'i gwmpas; agorodd Duw ei lygaid i ganfod gogoniant byd arall, a gwychder ty ei Dad, yr hwn ogoniant sydd dragywyddol, tra y mae mawredd daear i ddiflanu. Er mor flinedig ydoedd, aeth y noson hono i'r Tabernacl i wrando Mr. Whitefield yn pregethu, a theimlo ei enaid yn ymddarostwng ynddo tan ddylanwad y gwirionedd. Boreu dydd Sadwrn aeth Howell Harris, yn ngwmni Whitefield, i gyfarfod â John a Charles Wesley. Teimlai nad oedd yn gymhwys i fod yn mysg y cyfryw gymdeithion, ac y byddai yn fraint iddo gael bod wrth eu traed i'w cynorthwyo. Mater eu hymgynghoriad oedd gwaith mawr y diwygiad, y posiblrwydd o undeb rhyngddynt, a'r priodoldeb o neillduo personau i gyfarfod er cael cydweithrediad. Cafwyd cryn ymddiddan gyda golwg ar gyfranogi o'r sacrament yn nghyd; nid oedd y ddau Wesley yn teimlo eu hunain yn rhydd i hyny; ofnent rhag i gyfarfyddiad canlynwyr Whitefield a'u canlynwyr hwythau beri dadleuon. Cydunent mai dymunol cael pregethwyr diurddau, eu bod gan bob eglwys; mai gwell peidio ymffurfio yn blaid wahaniaethol hyd nes y byddai iddynt gael eu gwthio allan o Eglwys Loegr; ac hefyd i roddi cyfraith ar y werinos a ymosodai arnynt, fel y gallent gadw eu rhyddid. Eithr nid oedd y Diwygwyr am ddial; bwriadent faddeu i'r rhai a'i camdriniai wedi iddynt ddeall ddarfod iddynt droseddu cyfraith y tir. Penderfynasant yn mhellach apelio at y gyfraith wladol rhag traha y llysoedd Eglwysig. Ymadawyd mewn teimlad hyfryd, wedi cydymostwng gerbron gorsedd gras. Dydd Mercher, yn mhen yr wythnos, y dechreuodd y Gymdeithasfa, yr hon oedd yn gyffredinol i'r holl frodyr Saesnig. Pwnc cyntaf yr ymdriniaeth oedd y priodoldeb o ymwahanu oddiwrth yr Eglwys Sefydledig. Meddai Howell Harris: "Darfu i'r brawd Whitefield a minau sefyll yn erbyn; ac yn y pen draw darbwyllwyd y brodyr i aros fel yr ydym. Yr wyf yn cael nad yw yr Arglwydd am ddinystrio yr Eglwys Genedlaethol dlawd hon. Yn (1) Y mae ganddo lawer o eneidiau da o'i mewn, nad ydynt yn ymuno â ni. (2) Y mae yn cadw ac yn bendithio y brawd W. yn fawr. (3) Y mae yn goruwch-lywodraethu malais y clerigwyr. (4) Y mae wedi argraffu yn ddwfn ar feddwl y brawd Whitefield y bydd iddo gael ei wneyd yn esgob, a thrwy hyn y mae yn ei gadw yn mlaen fel y mae yn awr. (5) Y mae yn rhagluniaethol wedi ein cadw rhag ysgar oddiwrthi hyd yn hyn. Parhaodd y ddadl yn hir; dadleuais (1) brydferthwch ffurf yr ordeiniad yn ein mysg; (2) fod yn rhaid i'r sawl a fyddo am gael ei ordeinio gael cymeradwyaeth y sawl sydd yn ei adwaen, gan y rhaid cyhoeddi ei fwriad o gynyg ei hun, yn eglwys y plwyf, dri Sul yn mlaen llaw; (3) rhaid iddo gael cymeriad oddiwrth dri offeiriad sydd yn ei adnabod; (4) rhaid iddo gael ei arholi gan yr esgob. Dywedais nad aethum allan ar y cyntaf i ffurfio plaid, ond i ddiwygio y wlad, ac mai dyna wyf yn wneyd yn awr.
"Cydunwyd nad yw y brawd Humphreys i gymeryd ei ordeinio (yn ol ffurf yr Anghydffurfwyr). Sonia ef am ymuno â'r Ymneillduwyr, a chymeryd y gynulleidfa gydag ef. Cefais ryddid i ddweyd am iddo yn hyn ateb i'w gydwybod; ond pe bawn i yn ei gefnogi gyda golwg ar ordeiniad, y byddwn yn dyfod yn un ag ef yn yr act, ac yn ei gwneyd yn eiddo i mi fy hun. A chan nas gallwn gymeryd fy ordeinio fy hunan yn y cyfryw fodd, nas gallwn ei gefnogi yntau. Eithr y byddai i mi wedi hyny ddal cymundeb ag ef fel brawd Ymneillduol, ond nid fel un o'r Methodistiaid, y rhai ydynt yn briodol yn perthyn i Eglwys Loegr, oni yrir hwy allan. Cydunwyd gyda golwg ar y cyfryw Ymneillduwyr ag sydd yn ymuno â ni, fod i rai gweinidogion Ymneillduol a wnant hyny, gael cyfranu yr ordinhad; ac yn mysg y gweddill, y rhai na fedrant gael y cymun yn yr Eglwys, rhai o'n hoffeiriaid ni a fyddant yn rhydd. Y mae hyn yn groes i'r canonau; eithr yr ydym yn gwadu awdurdod y rhai hyny."
Teifl yr ymdrafodaeth ffrwd o oleuni ar agwedd meddwl y Methodistiaid yr adeg hon. Yr oedd y pwnc o barhau yn nghymundeb yr Eglwys wedi dyfod yn gwestiwn llosgawl. Whitefield, a Howell Harris, oedd y mwyaf awyddus am aros i mewn. Am Whitefield y mae yn sicr ei fod yn credu y caffai ei wneyd yn esgob; yr oedd ei gyfeillgarwch a'r Iarlles Huntington, ac a phendefigion a boneddigesau urddasol eraill yn ei gefnogi yn ei dyb; ceir amryw gyfeiriadau yn nydd-lyfr Harris at y gobaith y byddai iddynt gael esgob mewn cydymdeimlad a'r diwygiad; a diau fod a fynai hyn a'i ymlyniad penderfynol wrth y Sefydliad. Nid ydym am awgrymu fod Whitefield yn wageddus ei feddwl, ac yn awyddus am y swydd er dyrchafiad personol. Tebygol y credai mai modd i beri i grefydd efengylaidd wreiddio yn y deyrnas oedd trwy efengyleiddio yr Eglwys Wladol; a phe bai y Methodistiaid yn cefnu arni, ac yn ymffurfio yn blaid ar wahan, y byddai i'r amcan gael ei oedi, os nad ei wneyd yn amhosibl. Ac eto, efallai nad oedd urddas y swydd heb feddu rhyw gymaint o ddylanwad arno. Pwy sydd yn hollol rydd oddiwrth awydd am ddyrchafiad? Ám Howell Harris, nid hawdd deall grym ei ymlyniad. Ar y naill law yr ydym yn ei gael yn ddyn rhyddfrydig, yn dibrisio traddodiadau a defodau yr Eglwys Wladol, yn tori ar draws ffurfiau a ystyrid yn awdurdodol, ac yn meiddio dweyd yn ngwyneb yr Esgob nad oedd gwahaniaeth o gwbl rhwng tŷ wedi ei gysegru, a thy heb ei gysegru. O'r ochr arall, ni fynai son am adael ei chymundeb, oddigerth cael ei yru allan. Modd bynag, yr ydym yn sicr ei fod yn gwbl anhunangar yn y mater. Nid oedd ei lygaid yn cael eu dallu gan swydd, ac nid oedd yn awyddus am gael ei ddyrchafu. Os oedd yn dymuno cael ei ordeinio, awyddai am hyny er cael mantais helaethach i wneyd daioni.
Ond i fyned yn mlaen gyda phenderfyniadau y Gymdeithasfa. Cydunwyd mai cyfreithlon erlyn â chyfraith y werinos a derfysgent y cyfarfodydd, ac a ymosodent ar y crefyddwyr. "Ar hyn," meddai Howell Harris, "llanwyd fy enaid a thosturi at y terfysgwyr; cefais y fath olwg ar eu trueni, a'r fath gariad atynt, fel yr oedd fy nghalon ar dori." Wrth benderfynu gosod yr achos yn llaw cyfreithiwr, yr oedd gofal i gael ei gymeryd nad oedd y personau a erlynid i gael eu niweidio; gyru ofn arnynt yn unig oedd yr amcan. Yna aed i giniawa i dy un Mr. Richardson. O gwmpas y bwrdd bu cryn ymddiddan gyda golwg ar y Morafiaid, a'u cyfeiliornadau; a gwnaeth Howell Harris ymdrech i leihau chwerwder teimlad rhai o'r brodyr atynt. Yn yr hwyr yr oedd seiat. "Ac er fy mod trwy y dydd," meddai Harris, "yn mhell o'r goleuni, ac heb feddu cymundeb yspryd â Duw, yn y canu daeth y dylanwad dwyfol arnaf, fel y cefais fy nhynu yn agos at yr Arglwydd, ac y perwyd i mi lefain am gael peidio dychwelyd i'r creadur."
Ymgynullai y Gymdeithasfa ychydig wedi saith dydd Iau drachefn. Teimlai Howell Harris ei hun yn dywyll ac yn dra digysur; yr oedd y ddadl y dydd blaenorol wedi dolurio ei yspryd. "Yr oedd cryn betrusder yn fy meddwl," meddai, "pa un a barhawn i fod yn gysylltiedig a'r Gymdeithasfa hon. Er y gallwn aros i ddysgwyl am dano, nis gallaf deimlo yr un undeb brawdol atynt ag at y brodyr yn Nghymru. Ychydig wedi saith aethum at y brodyr, ac eisteddasom hyd wedi dau, yn trefnu achosion y Tabernacl, gan ddewis yn (1) ymwelydd a'r cleifion, (2) athraw ysgol, (3) llyfrwerthydd, (4) un yn ben ar bob dosparth, er ceisio eu dwyn i drefn. Yna cafwyd ymddiddan maith am y priodoldeb o bregethu y ddeddf fel rheol bywyd i gredinwyr. Yr oedd y brawd Cennick yn erbyn hyn, eithr pregethu Crist, hyd nes y byddem yn dyfod yn debyg iddo, a phechod yn cael ei ddystrywio. Minau a ddywedais nad oeddwn yn cyduno ag ef, a bod ei syniadau yn Antinomaidd. Fy mod yn meddwl fel mai trwy adnabyddiaeth o Dduw yn Nghrist y mae y creadur newydd yn cael ei borthi, felly mai trwy sancteiddrwydd Duw yn y gyfraith y mae gweled drwg pechod, ac y dinystrir yr hen ddyn, sef y natur lygredig. Mai nid hyd nes y byddom yn credu yr ydym dan y ddeddf, ond hyd nes na byddo dim o'r hen natur yn aros; a bod y ddeddf i barhau yn athraw i ni hyd nes y dygir ni i lwyr ddarostyngiad i'r Iesu. Gwelwn ei fod ef (Cennick) y tuhwnt i mi yn mhell mewn rhyddid, ond nis gallwn uno ag ef yn hyn. Cefais nerth i ddweyd sut yr oedd arnaf, fy mod yn methu teimlo undeb â hwynt, y modd yr oeddwn yn teimlo petrusder gyda golwg ar ddyfod i Lundain gwedi hyn, a datgenais fy mwriad i beidio dyfod. Yr oeddwn yn farw, a dwl, a thywyll, a sych, yn mhell oddiwrth Dduw, ac nis gallwn deimlo cymundeb â Duw nac â hwy. Darostyngwyd fi; gwelais nad oeddwn yn deilwng i ddyfod i'w mysg, ac eto yr oeddwn yn llawn cariad atynt. Yna ymddiddanasom am lawer o bethau. Yna, gwedi trefnu ymwelwyr mewn cys- ylltiad a'r Tabernacl, ynghyd a'r tŷ newydd, ciniawsom yn nghyd; yr oeddwn yn afiach o ran corph, ac yn flinedig yn fy yspryd. Ymneillduais, a cheisiais weddïo thynu yn agos at fy Arglwydd, ond nis gallwn. Ychydig o Dduw a welwn yn fy neall, yn fy ewyllys, ac yn fy serchiadau; ond llawer o'r diafol, ynghyd a'r natur hono sydd yn barod i gyneu mewn unrhyw brofedigaeth. Myfi yw yr eiddilaf, y dallaf, y mwyaf llygredig, a'r llawnaf o hunan o bawb; a thra yn dymuno am i undeb mewnol i gael ei ffurfio, yr wyf yn ewyllysgar i fod mewn undeb allanol â hwy. Yr oedd yn boenus arnaf heddyw; ac eto yr wyf yn drwyadl ddedwydd, o herwydd fy mod trwy ffydd yn gorwedd ar ffyddlondeb Crist." Felly yr ysgrifena Howell Harris, a therfynodd y Gymdeithasfa trwy iddo ef bregethu oddiar Heb. x. 19, 20.
Dyma y ddadl frwd gyntaf, yn cynyrchu teimladau dolurus, a gymerodd le yn Nghymdeithasfaoedd Methodistiaid. Hawdd gweled ddarfod i Howell Harris golli ei dymer. Cydnebydd yntau hyny mewn gofid, gan achwyn yn dost ar ei natur lygredig, yr hon sydd yn barod i danio ar y brofedigaeth leiaf. Cawn gipolwg am y tro cyntaf ar y dymher gyffrous, a'r yspryd na oddefai gymeryd ei wrthwynebu, a andwyodd ei ddefnyddioldeb gwedi hyn, ac a barodd iddo droi ei gefn ar ei frodyr. Y mae yn sicr fod a fynai ei iechyd, canlyniad naturiol gor-lafur, a'r ysprydiaeth oedd yn dechreu ei feddianu. Dychwelodd i Lundain ddechreu mis Hydref. Y peth cyntaf a gofnoda wedi dychwelyd adref yw ymddiddan ag un Richard Jenkins, yr hwn oedd wedi gadael y Methodistiaid, ac wedi ymuno a'r Ymneillduwyr. "Gwelais," meddai, "ei fod yn synio yn gyfeiliornus am danaf, sef fy mod wedi newid fy marn gyda golwg ar y Gair ysgrifenedig a bywiol; fy mod yn derbyn ac yn coleddu chwedlau anwireddus am danynt, gan edrych arnynt fel plaid wedi ymuno yn ein herbyn, a'm bod wedi gosod gorfodaeth ar bobl i gadw i ffwrdd oddiwrthynt. Atebais inau fod y goleuni a ganlynent yn digwydd gwanhau ein dwylaw; am danaf fy hun, fy mod wedi cael fy ngalw i aros yn yr Eglwys Sefydledig; a'u bod yn pregethu yn ein herbyn. Ond gyda golwg ar Mr. Edmund Jones, fy mod yn credu am dano ei fod yn blentyn i Dduw, yn wir weinidog i Grist, ac yn gwneyd pob peth a wnelai yn gydwybodol; ond fy mod inau yn aros yn yr Eglwys o herwydd cydwybod, ac nid o herwydd rhagfarn. Yna mynegais fy syniadau gyda golwg ar y Gair ysgrifenedig, nad yw Duw ynddo yn hanfodol, nac yn barhaus, nac yn gweithio ynddo yn wastad, ond fel y mae yn ewyllysio; mai offeryn ydyw y Gair, trwy yr hwn y mae yr Arglwydd yn gweithio i alw pechaduriaid ato ei hunan, ac i ddatguddio iddynt yr Arglwydd Iesu. Ond ynddo ei hun, ac ar wahan oddiwrth Dduw, nad yw ond llythyren farw, a'i fod yn amddifad o oleuni, a bywyd; mai yn Nuw yn unig y mae y bywyd. Ei fod (y Gair) yn dest- ament ysgrifenedig, yn cynwys cymun- roddion i blant Duw, ac yn ddarlun o Dduw, yn ei gynrychioli gerbron y byd; ond nas gallwn weled Duw ei hun heb i'r Yspryd ei ddatguddio i'n heneidiau; fod yr Yspryd ar wahan oddiwrth y Gair, ac nad yw wedi rhwymo ei hun wrtho, er ei fod wedi ein rhwymo ni; a bod dal ei fod yn wastad ynddo, pe byddai ein grasusau ni yn weithgar i'w ganfod, yr un peth, yn ol fy meddwl i, a dweyd fod yr Yspryd yn wastad yn y dwfr bedydd, neu yn yr elfenau yn Swper yr Arglwydd; a'i fod yn wadiad ar benarglwyddiaeth yr Yspryd, yr hwn sydd yn tywynu fel y rhynga bodd iddo yn y Gair, ac yn ein heneidiau ni. Ein bod yn deall ei fod yn fynych yn bresenol yn y Gair i eraill pan nad yw i ni, ac i ni heb fod i eraill. Fy mod yn cael am y llyfr, a elwir y Beibl, ei fod yn unig am amser, tra y byddom yn y cnawd, ac na fydd ei angen yn y byd ysprydol, am y gall Duw lefaru yno yn ddigyfrwng wrth ein heneidiau. Pan y mae yr Arglwydd yn llefaru trwy y Beibl, fod y llais a'r nerth yn bethau ar wahan oddiwrth y Beibl, a'i fod yn farw hyd yn nod y pryd hwnw, er fod bywyd yn dyfod i ni trwyddo, ac nad yw ond cyfrwng."
Prawf y difyniad hwn fod Harris yn dduwinydd ardderchog, ac y meddai graffder dirfawr i adnabod pethau sydd a gwahaniaeth rhyngddynt. Gwelir hefyd fod y gwahanfur rhyngddo a'r Ymneillduwyr yn ymddyrchafu yn raddol, a bod y naill wedi myned yn ddrwgdybus o'r llall. Dau ddiwrnod o orphwys, os gellir ei alw yn orphwys, a gafodd wedi dychwelyd o Lundain, cyn cychwyn drachefn ar ei deithiau. Nos Sul y cyrhaeddodd adref; dydd Mercher canlynol wyneba ar Glanyrafonddu, yn yr hwn le y cynhelid Cymdeithasfa Chwarterol. Ar y ffordd goddiweddodd rai o'r ŵyn, cymdeithas pa rai a fu foddion i danio ei enaid. Pan y clywais," meddai, "am y gweinidogion Ymneillduol yn troi yn ein herbyn, ac yn bwrw rhai allan am ymuno â ni, galerais. Pan y clywais drachefn fod y gwaith yn myned yn mlaen yn ogoneddus trwy y brodyr Rowland, Williams, a Davies, llawer yn dyfod tan argyhoeddiadau, a chanoedd lawer yn dyfod i'r ordinhad, fflamiodd fy enaid ynof, a thynwyd fi allan i fendithio yr Arglwydd." Yn Llwynyberllan cyfarfyddodd a'r tri offeiriad y clywsai am eu llwyddiant, sef Daniel Rowland, Williams, Pantycelyn, a Howell Davies, a thaniwyd ei yspryd yn eu cwmni. Teimlai amddifadrwydd o rym i fyned i Ogledd Cymru, ond meddai, "teimlwn y gallai fy enaid apelio at Dduw, gan lefain:, O Arglwydd, ti a wyddost fy mod yn foddlon myned yno i farw, ac yna i ddod atat ti." Pregethodd Howell Davies yn Llwynyberllan, oddiar Esaiah i. 6, a chafodd odfa nerthol. Dranoeth cyrhaeddodd cenhadau Crist Glanyrafonddu, a chafodd Herbert Jenkins afael ryfedd ar weddi wrth agor y Gymdeithasfa. I gychwyn, llefarodd Harris hyd nes tua haner awr wedi dau wrth yr holl frodyr cynulledig, am fawredd y gwaith, am drefn a darostyngiad, am ddarllen yr Ysgrythyr, a llyfrau da eraill er diwyllio eu meddyliau; a'i fod yn gweled mai ei le ef oedd cynorthwyo y gweinidogion ordeiniedig.
Ond chwythodd ystorm ar y Gymdeithasfa. Meddai Howell Harris: "Cyfododd dadl yn ein mysg gyda golwg ar y Morafiaid; yr oedd y brawd Rowland yn rhagfarnllyd o'u plaid; safais inau yn erbyn eu cyfeiliornadau. A'r gelyn a lywodraethodd fy yspryd. Drachefn, y brawd Morgan John Lewis a ddatganodd ei argyhoeddiad gyda golwg ar adael yr Eglwys Sefydledig, fod ei sail yn Iuddewaidd, ei chanonau yn anysgrythyrol, ei hoffeiriaid yn elynion Duw, a'i haddoliad yn ffurfiol, gyda llawer o goelgrefydd Babyddol, a'i fod yn meddwl y dylem ei gadael yn awr; mai yn awr yw yr amser i adael cyfeiliornadau, pan yr ydym yn argyhoeddedig o honynt. (Datganodd yn mhellach): Ein bod yn awr yn eglwys, ac y dylem ymwahanu; i'r eglwys Iuddewig gael ei sefydlu yn gyntaf yn yr Aipht, yn ganlynol iddi gael ei dwyn i'r anialwch, ac ymwahanu; fod yr eglwys Gristionogol am beth amser yn yr eglwys Iuddewig, ac yna iddi ymwahanu. Yna yr holl frodyr a gytunasant yn erbyn hyn, nad oeddem yn cael ein galw i ymneillduo; na ddarfu i ddisgyblion Crist adael yr eglwys Iuddewaidd nes iddynt gael eu gwthio allan; ac nad ydym ni yn euog am ddim o'r drygau sydd yn yr Eglwys, gan ein bod wedi codi ein llais yn eu herbyn. Datgenais i fy ffydd a'm rhesymau y bydd i'r gwaith hwn (sef y diwygiad) lanw yr Eglwys a'r deyrnas." Y mae yn dra sicr i'r ddadl fod yn frwd, ac i Howell Harris gyffroi yn enbyd. Y mae yr ymad fod y gelyn yn llywodraethu ei yspryd, yn dra arwyddocaol, ond yn dangos gonestrwydd na cheir yn gyffredin ei gyffelyb. Ai parch i deimladau Howell Harris a barodd i'r brodyr benderfynu yn unfryd na wnaent
ymwahanu, ynte argyhoeddiad gwirioneddol mai aros yn yr Eglwys oedd eudyledswydd, nis gwyddom. Ond hyfryd cofnodi ddarfod i'r ystorm dawelu, ac i dangnefedd lanw y gynhadledd. Meddai y dydd-lyfr: "Yna, wedi cyduno i aros fel yr ydym, a chwedi ateb rhyw bethau i'r rhai a betrusent, gweddïasom a chanasom, a daeth nerth a thân i'n mysg.'
O hyn hyd y diwedd aeth y Gymdeithasfa yn mlaen yn hyfryd. Dygai yr arolygwyr eu hadroddiadau i mewn, y rhai oeddynt yn nodedig o galonogol, a phenderfynwyd llawer o bethau. Yn yr ymdrafodaeth, cafwyd goleuni arbenig trwy y brodyr Morgan John Lewis, a William Richard. Gosodwyd y brawd John Richard, Llansamlet, yn ol yn ei le, wedi iddo fod dan ychydig gerydd. "Wedi penderfynu pob peth," meddai Harris, "a chael fod arolygwyr Siroedd Mynwy, a Threfaldwyn, yn glauar, agorodd yr Arglwydd fy ngenau, a chyda dwyfol ddoethineb, gallu, awdurdod, cariad, a melusder, mi a hyderaf, anerchais y cynghorwyr gyda golwg ar eu gwaith; y pwys iddynt iawn ymddwyn yn mysg yr wyn; am ein hanghymwysder, bawb o honom, i'r gorchwyl; am y pwys o ymroddi i ddarllen; am adeiladu y saint fel meini bywiol, am gymeryd y gwaith yn uniongyrchol o law Duw, ac am garu ein gilydd. Yr oedd bywyd a gallu yn cydfyned a'r ymadroddion, yn dangos pa mor fawr yw y pethau a wna Duw yn fuan trwy y gymdeithas hon." Boreu dranoeth, sef dydd Iau, ysgrifena drachefn: "Yr oedd swn canu a gweddio i'w glywed trwy gydol y nos. Yr oedd cwmwl cyfan o dystion yr Oen wedi ymgynull, sef tri offeiriad, dau frawd Ymneillduol, deuddeg arolygwr, a nifer mawr o gynghorwyr. Teimlwn agosrwydd mawr at Dduw. Treuliais y boreu mewn ffarwelio a'r brodyr, ac yn trefnu fy nheithiau, yr hyn wyf yn wneyd bob amser gyda mawr ofal a gweddi." Arosodd yn Glanyrafonddu hyd dydd Sadwrn, ac yna cychwynodd ,am Langeitho. Y Sul, cafodd flas mawr ar wasanaeth yr Eglwys, a phregethodd Rowland yn rhyfedd oddiar Hosea i. 10. Yr oedd mewn agosrwydd mawr at yr Arglwydd hefyd ar y cymundeb. Dywed fod y gynulleidfa fawr a ddaethai yn ughyd yn dyfod o wyth o wahanol siroedd. Yn y prydnhawn, am bump, pregethodd Harris oddiar y geiriau: "Aroswch yn fy nghariad," a chafodd ryddid ymadrodd dirfawr. Boreu dydd Llun, cyfid am bump, teimla gariad angerddol at Rowland a Williams, Pantycelyn, fel nad hawdd ffarwelio â hwy, ac am chwech cychwyna tua Llanbrynmair. Tramwyodd trwy ranau helaeth o Siroedd Tref- aldwyn, Maesyfed, a Brycheiniog cyn dychwelyd.
Yn mis Tachwedd cawn ef yn bresenol mewn Cymdeithasfa Fisol yn Llanddeusant. Ni fu yno na digter na dadl, ond pob peth yn myned yn mlaen yn hyfryd. Rhoddodd Harris siars ddifrifol iawn i'r cynghorwyr, gyda golwg ar eu hymddygiad, eu gwisg, a'u darllen; dangosai fawredd y gwaith, gwerth yr ŵyn, a pha fodd y dylent eu caru, a bod yn dyner o honynt, er mwyn Crist. "Yr oeddwn yn fanwl," meddai, "wrth ddangos sut y mae hunan a balchder yn dyfod i mewn, dan wahanol liwiau, megys gwisgoedd, &c. Yna agorwyd fy ngenau, gan Dduw, yr wyf yn credu, i geryddu brawd am fod yn anffyddlawn i'w ymddiriedaeth. Tra yr oeddwn yn ei geryddu aethum i lawr i'r llwch, yr oeddwn yn cael fy nhrywanu gan gariad ato, a dangosais ganlyniadau niweidiol anffyddlondeb i ymddiriedaeth i bawb o honom, ei fod yn ddirmyg ar awdurdod Duw yn ein mysg." Nid oedd Harris yn fwy dirmygus a gwael yn ei olwg ei hun un amser, na phan yn gweini cerydd i arall, a chawn ef y tro hwn yn llefain ar y canol: "O Arglwydd! Pwy wyf fi i fod yn y fath le o ymddiried! Yr wyf yn ei deimlo i'r byw, ei fod yn fy ngosod fwy- fwy yn lle tad, ac y mae hyn yn fy ngyru i'r llwch."
Diorphwys y teithiai Howell Harris misoedd Tachwedd a Rhagfyr, 1743. Yr ydym yn ei gael yn barhaus naill ai yn Llangeitho, neu ynte yn nghymdeithas Daniel Rowland a Williams, Pantycelyn, mewn rhanau eraill o'r wlad, yr hyn a arwydda fod materion pwysig cysylltiedig â'r diwygiad yn peri dirfawr bryder, ac yn gofyn am aml a dwys gydymgynghoriad. Eithr yr oedd yspryd Harris ar uchelfanau y maes. Dydd Nadolig ysgrifena: "Yr wyf yn awr yn dychwelyd o daith am bedair wythnos trwy Siroedd Aberteifi, Penfro, a Chaerfyrddin, lle y mae y gwaith yn myned yn mlaen yn rhyfedd. Ni welais erioed o'r blaen yn y nifer amlaf o leoedd y fath dân, bywyd, nerth, a rhyddid ffydd. Bydded i Grist gadw mewn cof yn ein mysg ryfeddol waith yr Yspryd Glan. Yn sicr, y mae yr Arglwydd wedi dychwelyd i'w deml. Neithiwr, yn y dirgel, yr oedd fy enaid yn llosgi gan awydd am ogoneddu Duw; yr oedd fy enaid ar dân gan fawl i Dduw. Llefwn: 'O Dduw, yr wyf yn dy garu ac yn dy fendithio am Grist. Yr wyf yn dy fendithio am ei fywyd, fy nheitl perffaith i'r nef; yr wyf yn dy fendithio am ei farwolaeth, fy ngwaredigaeth rhag y felldith; yr wyf yn dy fendithio am ei adgyfodiad, am orchfygu marwolaeth, a phechod, a'r diafol; yr wyf yn dy fendithio am ei fod yn awr mewn gogoniant, a phob awdurdod ganddo.' O, y rhyddid hwn! Cryfhawyd fy ffydd yn fawr wrth ddarllen Mat. i. 21, y gellid fy ngwaredu oddiwrth fy mhechodau. Cefais lawer o nerth i weddïo dros y sir hon, yn enwedig ar i Dduw aros yma, a'm bendithio inau iddi."
Blwyddyn ryfedd yn hanes Methodistiaeth Cymru yw y flwyddyn 1743. Ynddi y cymerodd cyfansoddiad y Cyfundeb ffurf arosol, ac y darostyngwyd y seiadau a'r cynghorwyr i drefn. Bu yn gyfnod o ddirfawr bryder, o ymdrechion arwrol, ac o ymweliadau grymus. A chawn Howell Harris ar ei therfyn mewn yspryd bendigedig, yn bendithio ac yn molianu Duw.
Y dydd Mercher cyntaf yn y flwyddyn 1744, cyfarfyddai y Gymdeithasfa Chwarterol yn Watford. Y mae profiad Harris ar ei ffordd yno yn haeddu ei groniclo:
"Llefais mewn dwfn ddarostyngiad: O Arglwydd, oni bai am y gras sydd ynot ti, O Iesu, nis gallwn fyned yn y blaen; dychrynid fi gan y treialon a'r croesau; ynot ti ac ar dy ras yr wyf yn pwyso.' Cefais olwg hyfryd ar ogoniant, cariad, a melusder Duw; gorweddais yn gysurus arno, gan lefain: Gyda golwg ar fyned i Lundain, dangos i mi, Arglwydd, a ydwyt yn fy anfon. Yr un peth i mi yw myned neu beidio myned. Yn unig bydded i mi dy gael di, yna danfon fi i uffern, os wyt yn ewyllysio, i bregethu i'r gethr sydd yno. Yr wyt ti yn frenin arnynt hwy, ac y maent yn rhan o dy deyrnas." Gwelais hyn mor amlwg fel yr oeddwn yn barod i fyned neu beidio myned. Yna yn ddisymwth cododd cri ynof: O Arglwydd, anfon fi i Lundain; anfon genadwri gyda mi er bendith i'r wyn.' Teimlwn gariad dwfn, a dymuniad am gael fy anfon i'w mysg. Gyda golwg ar y mawrion yr wyf i ymddangos ger eu bron, sef esgobion, &c., gwnaed i fy enaid lefain: O Arglwydd, yr wyt ti yn y nefoedd; ar y gras sydd ynot ti yr wyf yn pwyso." . . . Y ddoe oedd y dydd yr ymddangosai yr wyn perthynol i Sir Drefaldwyn, gerbron y gelynion yn Bangor; teimlais gymundeb dwfn â hwy yn eu dyoddefaint, a hyder y byddai i Dduw fod gyda hwy. Am danaf fy hun, teimlwn yn barod i fyned i ganol y werinos, a marwolaethau o bob ffurf, gan fy mod. yn gweled Crist uwchlaw pob peth."
Gyda golwg ar Fethodistiaid Sir Drefaldwyn yn cael eu gwysio i Bangor, teifl y difyniad canlynol o lythyr Howell Harris at yr Hybarch Griffith Jones, ryw gymaint o oleuni: "Oddiar pan welais chwi bum yn Sir Drefaldwyn. Y ddoe aethant (y Methodistiaid) i Bangor; ac yn ol eich cyfarwyddyd chwi ymgynghorais â rhai personau deallus yn y gyfraith. Ymddengys mai yr unig ffordd trwy ba un y gellir symud achosion o'r llys hwnw i'r Court of Arches yw trwy writ oddiwrth yr Arglwydd Brif Ynad, a elwir nolle prosequi. Dydd Sadwrn nesaf, yn Nhrefecca, yr wyf yn dysgwyl cael hysbysrwydd am y gweithrediadau yn eu herbyn, a pha un a fydd i hyny, a materion eraill, fy ngalw ar unwaith i Lundain. Neithiwr, cyfarfyddais a Mr. Whitefield yma; y mae efe am i mi fyned, ac am gario yr achos yn mlaen. Ond gan mai achos yr Arglwydd ydyw, nid amheuaf y bydd iddo dueddu meddyliau pawb ydynt dan lywodraeth deddf ei gariad i uno, galon a llaw, i'w gario yn mlaen. Bendigedig a fyddo Duw, y mae y gwaith ar gynydd yn mhob man, a drysau newyddion yn agor." Ysgrifenwyd y llythyr hwn o Watford, Ionawr, 1744. Gwelwn fod Griffith Jones, er na ymunai yn ffurfiol â'r Methodistiaid, yn calonog gydymdeimlo â'r diwygiad, a'i fod yn wr o gynghor i'r Diwygwyr ar bob achos dyrys. Sut yr aeth pethau yn mlaen yn Mrawdlys Bangor, nis gwyddom, ond gallwn fod yn sicr ddarfod i'r Arglwydd, yn ol ei arfer, i'r rhai a garant ei enw, ofalu am ei eiddo. Y "materion eraill" y cyfeiria Harris atynt, fel yn debyg o'i alw i Lundain, oedd y cynghaws cyfreithiol a ddygid yn mlaen yn erbyn y rhai ddarfu ymosod ar y Methodistiaid yn Hampton, gan derfysgu eu cyfarfodydd. Yr oedd canlyniad y cynghaws o'r pwys mwyaf i'r Methodistiaid, am y penderfynai eu hawl i gael llonyddwch i addoli Duw yn ol argyhoeddiad eu cydwybod.
Cymdeithasfa fechan ydoedd yn Watford. oedd Daniel Rowland, Williams, Pantycelyn, a Howell Davies, yn absenol; dywed cofnodau Trefecca mai gerwinder yr hin a'u rhwystrodd, ac i'w ceffylau fethu. Ond daethai Whitefield yno yn ffyddlawn i gymeryd y gadair; yr oedd y Parch. Henry Davies, Bryngwrach, wedi cyrhaedd, ac hefyd y nifer amlaf o'r arolygwyr. Dechreuwyd am ddeuddeg trwy weddi a mawl. Meddai Harris:
"Dysgwyliais am nerth i roddi fy mywyd i lawr; teimlwn fy hun yn foddlawn gwneyd hyny, ac eto ni chymerwyd arswyd marwolaeth i ffwrdd; gwelwn ddadgysylltiad natur a newid stad yn beth i'w fawr ofni. Gwelais angau fel anghenfil dychrynllyd, ond gwelais Iesu Grist uwchlaw iddo, ac uwchlaw y diafol; ac yn yr ymdeimlad o nerth Crist cymerwyd yr arswyd ymaith."
Gwaith cyntaf y Gymdeithasfa oedd derbyn adroddiad yr arolygwyr. Yna traddododd Whitefield anerchiad i'r cynghorwyr. Yn ganlynol, pregethodd Whitefield, gyda chryn nerth, oddiar Heb. viii. 10-12. Yna ail eisteddodd y frawdoliaeth i ymdrin â gwahanol faterion, o'r hyn y rhydd Harris y crynodeb canlynol:
"1. Llefarodd Whitefield am y cynghaws cyfreithiol, a daeth Yspryd Duw i lawr; cefais nerth i weled ei fod dros yr Arglwydd, felly hefyd y gwelai yr holl frodyr. Profodd yn foddion i'n gwasgu yn
agosach at ein gilydd, ac felly ni a gyfranasom yr hyn a fedrem at yr achos. 2. Gofynodd Whitefield genyf ysgrifenu hanes fy mywyd; cefais inau ryddid mawr tuag at Grist, gan ganfod ei fod yn dysgwyl hyn genyf; cefais nerth i benderfynu gwneyd, er mwyn yr wyn, ac o gariad ato ef, gan mai ei eiddo ef yw yr holl waith.
3. Pan y gofynwyd genyf i fyned i Lundain, i weled llawer o'r mawrion, a phan oedd arnaf ofn y prawf, cefais nerth i gyfeirio fy ngolwg at glwyfau yr Iesu, a chododd cri ynof: O Arglwydd, gad i mi fyned; gad i mi fyned, ac anfon fi.' wedi gweddïo mewn cryn ryddid gyda'r brodyr, agorwyd fy ngenau i gynghori, daeth tân, nerth, a bywyd i'n mysg. Tuag un-ar-ddeg aethom i'r Watford, ac eisteddasom i fynu hyd bump, yn siarad yn rhydd gyda'r brodyr am lawer o faterion, megys cynhanfodiad eneidiau, taith yr Israeliaid tua Chanaan, &c. Y mae fy holl hyder yn y gras sydd yn Nghrist. O fel yr ydym yn cael ein ffafrio, ac fel y mae yr Oen yn ein harwain ac yn tosturio wrthym." Hawdd gweled fod yr yspryd goreu yn ffynu, a bod y brodyr yn rhydd iawn yn nghymdeithas eu gilydd. Tyna Harris mewn ychydig linellau ddarlun prydferth o'r cwmni yn mhalas Watford o gwmpas y tân, wedi gorphen eu gwaith, ac yn aros i fynu hyd bump o'r gloch y boreu, yn ymdrin â chwestiynau dyrys a damcanol, cyffelyb i gynhanfodiad eneidiau. Gwelwn hefyd mai yn y capel y cynaliwyd y cyfarfodydd. Ond pa un ai capel Watford, ynte capel y Groeswen, sydd ansicr; y mae dull y geiriad yn ffafrio y diweddaf.
A ganlyn yw yr adroddiad am y Gymdeithasfa yn nghofnodau Trefecca:—
"Darllenwyd llythyr oddiwrth seiat Cnapllwyd, yn gofyn ar i'r brawd George Phillips gael ei anfon i'w cynorthwyo. Pwyswyd y mater gan y brodyr, a chydunwyd ei fod i gael ei anfon.
"Yr oedd adroddiad y brawd Beaumont am ei seiadau yn felus; dangosai eu bod mewn stad o gynydd; ond yr oedd arno angen llafurwr oddifewn, i feithrin yr eneidiau. Cydunwyd ei fod i ofalu am danynt ei hun, mor bell ag y bydd hyny yn gyson â'i gynllun, hyd nes y cyfyd yr Arglwydd rywun yn meddu y ddawn neillduol hon.
"Y mae y brawd Thomas Lewis i gael ei roddi yn gyfangwbl i'r brodyr Saesnig.
"Creda y brodyr fod y brawd Jacob Jones yn cael ei alw gan ein Hiachawdwr i weithio yn ei winllan, ac y maent yn cyduno iddo fod yn gynorthwywr i'r brawd Morgan John Lewis. Yr un fath am y brawd Richard Edward.
"Cydunwyd fod y brawd William John i fod yn arolygwr dros Sir Gaerfyrddin, yn lle y brawd Bloom, yr hwn sydd wedi ymddiswyddo.
"Derbyniwyd adroddiadau y brodyr Morgan John Lewis, Thomas Williams, William Richard, William John, Thomas James, a Richard Tibbot, am seiadau Trefaldwyn, Morganwg, Brycheiniog, Mynwy, a rhanau o Faesyfed, a Chaerfyrddin. Yr oeddynt yn hyfryd yn wir. Nis gellid cael yr adroddiadau eraill. Y mae Cymdeithasfaoedd Misol wedi cael eu cynal yn mhob cylch o arolygiaeth er ein Cymdeithasfa ddiweddaf, sef yn Gellidorchleithe, Cayo, Trefecca, a Watford; siomiant a fu yn Dygoed; ac yr oedd yr Arglwydd gyda ni yn mhob man; a phenderfynem bob peth, yr ydym yn gobeithio, yn ol ewyllys ein Hiachawdwr, mewn cariad, a heddwch, ac undeb. Ein Cymdeithasfa nesaf i fod yn y Fenni, y dydd Mercher cyntaf gwedi Gwyl Fair."
Ymddengys ddarfod i holl drefniadau y Gymdeithasfa gael eu gwneyd y diwrnod cyntaf, ond pregethodd Whitefield boreu dranoeth am wyth, oddiar 1 Cor. xv. 53, dan arddeliad anarferol. O gwmpas deg, cychwynodd Harris ac yntau tua'r Fenni. Ar eu ffordd pasient gymydogaeth Pontypwl, maes llafur y Parch. Edmund Jones. Llonwyd Howell Harris yn fawr wrth glywed am ymdrechion a llwyddiant y gŵr da hwnw. Meddai: "Cefais lawer o undeb ag ef, a serch ato, er ddarfod i Satan ar y cyntaf geisio creu pellder rhyngom, fel nad oeddwn yn hoffi ei weled." Fe gofir mai Edmund Jones fuasai a'r llaw flaenaf yn lluniad ac anfoniad allan y proclamasiwn hwnw yn erbyn y Methodistiaid; ac felly y mae yr yspryd a ddengys Harris yn y difyniad uchod yn fawrfrydig anarferol.
Y mae y llythyr canlynol, a anfonwyd at arweinwyr y diwygiad gan aelodau seiat Mynyddislwyn, yn esbonio ei hun, ac yn taflu goleuni pruddaidd ar fywyd llygredig clerigwyr Eglwys Loegr ar y pryd:
Anwyl frodyr; yr ydym mewn cyfyngder yn ein meddyliau o herwydd ein bod yn ffaelu bod yn gyfranog o'r ordinhadau. O herwydd y mae ein cuwrad ni yn un ag y mae y gair am dano ei fod wedi ei dyngu yn odinebwr, ac oblegyd hyny yr ydym yn methu cael rhyddid i gydfwyta, heb dori gorchymyn Duw. Yr ydym yn dymuno cael eich barn chwi ar y mater. Yr ydym yn gweled fod yr ordinhadau yn foddion na ddylid eu hesgeuluso, ac na ddylid, ychwaith, bwyso arnynt yn ormod. Dymuno cael cynghor oddiwrthych yr ydym, gyda chofio am danom gerbron gorseddfainc y gras." Dyddiad y llythyr hwn yw Ionawr 2, 1744. Diau y bwriedid iddo gael ei ddarllen a'i ystyried yn Nghymdeithasfa Watford, eithr nid oes un cyfeiriad ato yn ei chofnodau. A gafodd efe sylw yno, ac os do, pa ateb a roddwyd, sydd yn gwbl anhysbys.
Dydd Mercher, Ionawr 11, 1744, y mae Howell Harris yn cychwyn am Lundain. Cyrhaeddodd Ross o gwmpas tri yn y prydnawn, wedi cymdeithas anarferol o fuddiol am ran o'r ffordd gyda y brawd Morgan John Lewis; dysgasant amryw wersi buddiol yn nghyd, gan weled mai trwy brofiad y mae adnabod Duw, ein hunain, Crist, a dichellion y diafol. Cyrhaeddodd Gaerloyw erbyn pump, a chwedi cael adgyfnerthiad i'w gorph aeth i'r seiat, lle y cafodd achlysur i lawenhau. Cododd boreu dranoeth am chwech, er mwyn anerch aelodau y seiat, yr hyn a wnaeth oddiar y geiriau: "Canys eiddot ti yw y deyrnas." Nos Sadwrn, daeth i Lundain, gan fyned ar ei union i dy Mr. Whitefield, lle y clywodd newyddion gogoneddus am lwyddiant y gwaith. Boreu y Sul, aeth tua St. Paul; nis gallai glywed yr offeiriad yn pregethu; ond cafodd nerth i weddïo dros Eglwys Loegr: "O Arglwydd, dychwel; y mae dy ogoniant ar riniog y drws, bron ymadael oddiwrthym. O tyred, ailadeilada yr adwyau; fel, os oes yma goffadwriaeth i'th enw, os oes genyt had yn ngweddill, os nad yw y gogoniant wedi llwyr adael, y gallwyf aros yn yr Eglwys druan hon." Teimlodd y fath gariad at yr eneidiau tywyll oedd yn yr Eglwys fel nas gallai eu gadael, ond gwnaed iddo lefain: "O Iesu, yr wyt wedi agor tai cyrddau (y mae llawer o dai cyrddau wedi eu hagor yn awr), ac yr wyf, Arglwydd, yn dy fendithio am hyny; ond ai ni wnei di ein bendithio ninau, ac agor drysau yr eglwysydd?" Teimlodd yspryd galar; cyffesodd ei bechodau ei hun, pechodau yr Eglwys, a phechodau y genedl, a llefodd: "O Arglwydd, yr wyt yn canfod ein bod yn farw, mewn trwmgwsg, ac nid yn unig hyny, ond yn gwrthryfela yn dy erbyn di. ac yn dy demtio yn mhob ryw fodd. O tosturia wrthym, a dychwel atom drachefn." Wedi i'r bregeth orphen aeth at fwrdd y cymun, a gwelodd yr oll y safai mewn angen am dano yn Nghrist. Y noson hono aeth i wrando Whitefield yn pregethu, yr hyn a wnaeth yn ardderchog, oddiar hanes Samson; ac yn y seiat a ddilynai anerchodd Harris y frawdoliaeth. Clywodd yno am Esgob Llundain yn ysgrifenu yn eu herbyn.
Boreu dydd Llun aeth efe a Whitefield at y cyfreithiwr, gyda golwg ar y cynghaws. Cafodd ar ddeall na wnai y terfysgwyr unrhyw ddiffyniad, yr hyn a barodd i Harris lefain allan: "Gogoniant!" Dydd Mawrth yr oedd Cymdeithasfa Fisol yn cael ei chynal yn y Tabernacl; ymddengys nad oedd llawer o faterion yn galw am sylw; yr unig beth y cyfeirir ato yn y dydd-lyfr oedd, priodas rhai brodyr, i'r hyn nad oedd tadau eu darpar-wragedd yn foddlawn. Beth a benderfynwyd ar hyn ni ddywedir. Bu yn Llundain hyd Mawrth 15fed, yn pregethu, yn cynghori yn y cymdeithasau, ac mewn amryw gynadleddau o weinidogion. Ymwelodd a'r palas brenhinol yn Kensington; a charcharorion wedi eu dedfrydu i angau yn Newgate; a chawn ef amryw droiau ar ymweliad a'r Iarlles Huntington. Yr oedd Llundain yn ferw yr amser yma rhag i'r Ffrancod oresgyn y deyrnas; cyfranogai Harris ei hun o'r ofn, a dywed ddarfod i lynges elynol ddyfod unwaith i fynu y Thames. Ymddengys fod ei iechyd hefyd yn wael trwy yr holl amser; weithiau methai godi o'i wely hyd ganol dydd. Cyrhaeddodd Gaerloyw nos Wener, Mawrth 16, ac amcanai fod yn y brawdlys, yn mhrawf terfysgwyr Hampton. Ni wnaethant fawr o ddiffyniad, a dyfarnwyd hwy yn euog, ond gadawyd maint y ddirwy i'w thalu ganddynt i'w phenderfynu gan Lys y King's Bench, yn Llundain. Meddai Whitefield, yr hwn yntau hefyd. oedd yn bresenol: "Yr wyf yn clywed fod y terfysgwyr wedi dychrynu yn enbyd; ond nid ydynt yn gwybod mai ein hamcan yw dangos beth a allwn wneyd, ac yna maddeu iddynt." Ychydig o enghreifftiau a geir o ddynion mor alluog i faddeu i'w gelynion, a thrwy hyny gyflawni gorchymyn Crist, a'r Methodistiaid.
Nos Sul, Mawrth 19, y cyrhaeddodd Drefecca, yn lluddedig ac yn llesg. Dydd Mercher, yr wythnos ganlynol, yr ydym yn ei gael mewn Cymdeithasfa Chwarterol yn y Fenni. Daethai Whitefield yno i gymeryd y gadair; yr oedd Daniel Rowland, Williams, Pantycelyn, a Howell Davies, yn bresenol, yn nghyd â chryn nifer o'r arolygwyr. Y mae yn clywed, gyda ei fod yn cyrhaedd y lle, am gwymp rhai brodyr. "Rhoddodd yr Arglwydd "Rhoddodd yr Arglwydd i mi," meddai, "i deimlo baich o alar oblegyd ein bod yn pechu fel hyn yn erbyn ein hanwyl Dad; ein bod ni, sydd yn cael ein ffafrio mor fawr, yn pechu yn ei erbyn. Cyfarfyddais a brawd arall, Mr. William Evans, yr hwn oedd dan ryw feichiau, a theimlais yn fwy nag erioed fod ei faich yn gwasgu ar fy yspryd." Yna dywed iddo fyned yn mhell oddiwrth yr Arglwydd, i lygredd ei natur ymdori i'r golwg mewn llid, iddo golli ei dymher, a phoethi, a chlywodd ddarfod i'w boethder daflu rhywun i lewyg. Gwelodd mor anghyfaddas ydoedd i'w le, ac mor annheilwng i fod yn ŵr priod, yr hyn yn awr a bwysai yn drwm ar ei feddwl; ac aeth i'w ystafell i ymddarostwng ger bron yr Arglwydd. Bu yn drallodus iawn yno. Ond galluogwyd ef cyn dod allan i ddiolch i Dduw am guddio ei wyneb oddiwrtho, ac am adael i'w lygredd amlygu ei hun, gan fod tuedd yn hyn i'w gadw yn ostyngedig. Daeth yn foddlon rhoddi i fynu ei ddarpar-wraig, ei le yn yr eglwys, a phob rhodd a dawn a gawsai. Agorodd Whitefield y Gymdeithasfa trwy bregethu ar y geiriau, "A wyt ti yn fy ngharu i yn fwy na'r rhai hyn?" Dangosodd nodau cariad at Grist, ei fod yn llawenhau wrth glywed am lwyddiant yr efengyl, ei fod yn awyddu marw, yn gallu caru ei elyn, yn meddwl ac yn siarad am dano ef, ac yn caru plant Duw perthynol i bob plaid grefyddol. Ei fod yn ein galluogi i agor ein calonau i'n gilydd; nas gallwn garu Crist heb wybod hyny; a'i fod yn peri i ni roddi pob peth i fynu iddo ef. Wrth weddio ar derfyn y cyfarfod cafodd nerth anarferol. Yn y cyfarfod neillduol, gosodwyd ar Harris i weinyddu dysgyblaeth ar frawd oedd wedi troseddu; gwelai ei hun, wrth wneyd hyny, yn waeth na'r un a ddysgyblai, ond fod Duw yn cuddio. ei ddrwg, tra y daethai drwg y brawd oedd ger bron i'r golwg. Gwanai hyn ef fel pe ei trywanid a dagr yn ei galon. Tranoeth pregethodd gyda llawer o nerth.
Heblaw trefniad y Cyfarfodydd Misol am y misoedd dyfodol, yr unig benderfyniadau o eiddo y Gymdeithasfa a groniclir yn nghofnodau Trefecca yw a ganlyn:-
"Cydunwyd yn ddifrifol nad oes neb i fod yn absenol o Gymdeithasfa, oddigerth iddo allu rhoddi rheswm am hyny a ddeil yn nydd y farn.
"Fod y Gymdeithasfa Chwarterol nesaf i gael ei chynal yn Nhrefecca, y dydd cyntaf wedi pen y chwarter.
"Fod y brawd John Richard i barhau i fyned o gwmpas hyd y Gymdeithasfa nesaf, ac yn y cyfamser, fod Mr. Harris i ymweled a'i seiadau, er eu cymhell i ddwyn ffrwyth iddo. Yr oedd yn absenol, ond anfonodd adroddiad am y seiadau, yr hwn oedd yn hynod felus.
"Fod y brawd Dafydd Williams i ddyfod i'r Gymdeithasfa Chwarterol nesaf, i ateb i'r pethau a roddir i'w erbyn.
"Fod pregethu i gael ei gynal yn mhob Cymdeithasfa Chwarterol; yr offeiriaid i weinyddu yn eu cylch; y Gymdeithasfa i ddechreu am ddeuddeg, a'r brodyr wedi cymeryd lluniaeth yn flaenorol. Mr. Rowland i bregethu y tro nesaf."
Ychydig sydd yn y cofnodau yma yn galw am sylw. Gwelwn fod yr hen frawd John Richard, Llansamlet, yn dlawd ei amgylchiadau, ac mai amcan ymweliad Harris a'i seiadau oedd eu cymhell i estyn cymhorth arianol iddo. Gwelwn hefyd y lle mawr a gaffai pregethu yn y Cymdeithasfaoedd o'r dechreu.
Ebrill 2, 1744, yr ydym yn cael Harris mewn Cymdeithasfa Saesnig, yn Wiltshire. Whitefield a lywyddai; ymddengys mai efe oedd cadeirydd sefydlog y Cymdeithasfaoedd Saesnig yn ogystal a'r rhai Cymreig. Ar y cyntaf teimlai Howell Harris ei hun yn galed ac yn gnawdol; ond pan ddechreuodd y cadeirydd weddïo dros y brenhin, a'r wlad, ac yn erbyn y Pabyddion, toddodd ei galon o'i fewn, a gollyngwyd ei yspryd yn rhydd. Eisteddwyd hyd o gwmpas pump yn trefnu rheolau cyffredinol, ac yn gosod pawb yn eu lle, offeiriaid, pregethwyr, cynghorwyr, a goruchwylwyr. Tra y gwneyd hyn, teimlai Harris awydd myned allan i'r rhyfel, i gael marw ar faes y gwaed. Dywed hefyd iddo gael ei wneyd yn offeryn i gymeryd cam yn mlaen tuag at ymwahanu oddiwrth y brawd J. W.; John Wesley, yn ddiau.
Ebrill 13, yr oedd Cymdeithasfa Fisol yn Nantmel, yn Sir Faesyfed; yr oedd Howell Harris yn bresenol, ond Williams, Pantycelyn, a lywyddai. Meddai Harris, yn ei ddydd-lyfr: "Yn wir fy ngenau a agorwyd i anerch y brodyr yn gyffredinol, gan ofyn a oeddynt yn teimlo y gwaith wedi ei osod yn ddwfn yn eu calonau; a oedd cariad at eneidiau wedi ei gynyrchu ynddynt; ac a oedd golwg ar fawredd a natur y gwaith, a gwerth eneidiau wedi peri iddynt ofyn am nerth a doethineb? Hefyd, a oedd yr Yspryd wedi dangos iddynt (1) Ogoniant Crist? (2) Drygedd y galon, nad yw y naill yn ddigon heb y llall? A ydyw Duw wedi rhoddi dwy ffydd iddynt, un er mwyn eu heneidiau, a'r llall er mwyn y gwaith? A ydyw teimlad o fawredd y gwaith yn eich gwasgu i'r llawr, a theimlad o'r anrhydedd a berthyn iddo yn eich gwneyd yn ostyngedig, ac yn eich cyffroi ? Yna y brodyr a atebasant yn hyfryd. Dangosodd y brawd Beaumont fel yr oedd Duw wedi ei waredu ef rhag hunan-gariad, trwy weled ei hun a'r gwaith yn Nuw am amser, ac i dragywyddoldeb. Yna, gwedi arholi y brodyr (gwelwn fod yr Arglwydd yn fy nghymhwyso ar gyfer y lle, ac yn fy mendithio ynddo), galluogwyd fi i'w cyffroi i ddiwydrwydd, ac i ddangos iddynt pa fodd i ymddwyn mewn teuluoedd. Ymddiddanais yn faith gyda y brawd gyda golwg ar ei briodas, a'i ragolygon mewn bywyd, gan ddangos na ddylai gweinidog ymrwystro gyda phethau'r byd ond mor lleied byth ag sydd yn bosibl. Cefais lawer o ffydd, a gwresawgrwydd, a zêl, a rhyddid i gynghori, ac yn neillduol i weddio, ac yna ymadewais yn hyfryd mewn cariad." Gwelir ddarfod i Howell Harris mor foreu a hyn weled mai dyledswydd gweinidogion y Gair oedd llwyr ymroddi i'r weinidogaeth, mor bell ag yr oedd hyny o fewn eu cyrhaedd.
A ganlyn yw penderfyniadau Cymdeithasfa Nantmel, fel eu ceir yn nghofnodau Trefecca:
"Penderfynwyd fod y brawd Richard i gael ei neillduo yn hollol ac yn gyfangwbl i'r gwaith o ymweled a'r cymdeithasau, yr oll o honynt bob wythnos.
"Fod y brawd Edward Bowen i oedi ei briodas yn bresenol, am nad ydym yn glir ei bod o Dduw.
"Fod y cynghorwyr i ofalu, pan yn ymweled a theuluoedd, i gynghori ac addysgu y plant, y gweision a'r morwynion, &c. Cawsom lawer o wyneb yr Arglwydd, yn ein haddysgu, ac yn tanio ein calonau, gan roddi i ni lawer o oleuni ysprydol gyda golwg ar ein gwaith a'n lleoedd, a chan ddangos i ni fawredd y gwaith, ac ymweled â ni yn nglyn ag ef."
Ymadawodd Howell Harris yn nghwmni Williams, Pantycelyn, o gwmpas pump o'r gloch; melus odiaeth oedd y gyfeillach. rhwng y ddau gyfaill wrth groesi mynyddoedd Maesyfed a Brycheiniog; Williams yn cyfeirio ei gamrau tua chartref, heibio Llanwrtyd, lle y buasai yn guwrad gynt, a Harris yn myned i Ddolyfelin, lle yr oedd ei gyhoeddiad i bregethu. Meddai y dyddlyfr: "Cefais hyfrydwch dirfawr gyda y brawd Williams; ffafriwyd fi â golwg ar Dduw, oll yn oll, yn debyg i'r hyn a gefais yn y boreu." Treuliodd y Sul yn Llanwrtyd, ac aeth i'r eglwys yn y boreu; ond nid Williams a wasanaethai yno yn awr, ond rhywun hollol wahanol parthed dirnadaeth o wirioneddau yr efengyl, a dawn i'w traethu. Meddai Harris: "Cefais dosturi dirfawr at yr offeiriaid tlodion a dall, gan lefain drostynt fel dros ddeillion ar ochr y ffordd." Wedi i'r gwasanaeth ddarfod, pregethodd yntau, oddiar Salm xxiii.; cafodd ryddid mawr wrth lefaru ac wrth weddïo. Yn yr hwyr pregethodd i dyrfa fawr, yn rhifo llawer o ganoedd, mewn lle o'r enw Penylan, tua thair milltir allan o'r pentref. Dydd Llun y mae yn Llwynyberllan; aeth yn ei flaen oddiyno i Gilycwm, a phregethodd yn ymyl y dderwen fawr sydd yn nghanol y pentref oddiar Salm xxiii., i dorf o amryw ganoedd. Yr oedd yn odfa nerthol. Cyfarfyddodd yno a chlerigwr o'r enw Llewelyn Llewelyn, dyn galluog, llawn bywyd, ond yn llithro yn aml mewn modd ffiaidd. Teithiodd rhagddo i Gayo, wedi pregethu ar y ffordd cydrhwng, ac aeth y noson hono i seiat breifat. Dydd Mawrth y mae yn Nghwmygwlaw. Aeth oddiyno i gapel Abergorlech, lle y pregethai Daniel Rowland. Llefarai oddiar Jer. viii. 7, a chafodd nerth rhyfedd i egluro'r gwirionedd. Dydd Mawrth, Ebrill 17, ymgynullent mewn Cymdeithasfa Fisol, yn Glanyrafonddu; heblaw Rowland a Harris, yr oedd Williams, Pantycelyn, yno, yn nghyd a'r Parch. Benjamin Thomas, a nifer mawr o arolygwyr a chynghorwyr. Yr oedd yn chwech o'r gloch yn yr hwyr ar y cyfarfod yn dechreu; buont yn cydeistedd yn trefnu materion, ac yn cydweddïo hyd o gwmpas un-ar-ddeg. Yr oedd Harris mewn yspryd rhagorol; hawdd deall wrth ei sylwadau fod y Gymdeithasfa flaenorol yn yr un lle, pan y llywodraethwyd ei yspryd gan y gelyn, yn pwyso yn drwm ar ei feddwl. "Yr oeddwn," meddai, "mewn yspryd gweddïgar, ac yn hyfryd at y brodyr; tueddai pob peth i'm darostwng; yr oeddwn yn isel, ac yn addfwyn, ac mɔr ddedwydd. Wrth weddio gwelais fod angau, uffern, rhyfel, a phob peth dychrynllyd i natur, o fewn awdurdod Crist; canfyddwn ef goruwch iddynt oll. Wrth gynghori gwnaed fi yn rhydd ac yn hyf; dangosais eu dyledswydd at yr wyn, ddarfod i'r Iesu eu llwyr brynu, fel y byddai iddynt ddefnyddio enaid, corph, amser, anadl, talent, ac arian yn ei wasanaeth, &c., ac nid i wasanaethu hunan. Cefais ryddid i lefain Arglwydd, y mae pob peth yn eiddot ti; eiddot ti yw fy enaid, a'm corph; felly nis gellir eu colli.' Gyda y goleuni hwn drylliwyd fy yspryd, fel y gallwn oddef cael fy ngwrthwynebu, ac ymostwng i bob peth." Yn sicr, prawf y difyniadau hyn ei fod mewn tymher nodedig o hyfryd. Yn canlyn wele y penderfyniadau a basiwyd:
"Penderfynwyd fod Dafydd William Rees i fyned a chyfaddef iddo lefaru ar fai wrth ymddiddan a Mr. Griffith Jones, ger bron Mr. Davies; a phan eu cymodir, ei fod i gael ei adfer i'w swydd fel cynghorwr, ond ei fod i ymatal hyd hyny.
"Fod Thomas Dafydd, gan ddarfod i'r Ymneillduwyr ei droi allan am gymdeithasu â ni, i gael ei uno yn llwyr â ni yn Erwd, ac i gynghori ar brawf, tan arolygiaeth James Williams, ond nid yw i adael ei orchwyl yn y cyfamser.
"Fod y cynghorwyr i lefaru yn y ffurf o anerchiad, ac nid yn y ffurf o bregeth.
"Fod y brawd Thomas Griffith i gael ei dderbyn fel cynghorwr preifat, tan arolygiaeth y Meistri Rowland a Williams.
"Fod Benjamin Rees i gael cynghori, fel brawd perthynol i'r Ymneillduwyr, hyd y Gymdeithasfa nesaf.
Fod John Dafydd i gynghori yn ei gymydogaeth ei hun, ar brawf, tan arolygiaeth y brawd James Williams, hyd nes ceir adroddiad gyda golwg ar ei ddoniau, a'i gymhwysderau, mewn trefn i arholiad.
"Fod y brawd Evan John i gael ateb i'w lythyr trwy Mr. Williams, sef nad ydym yn cael ein perswadio gyda golwg ar ei alwad i gynghori, fel y gallwn roddi iddo ddeheulaw cymdeithas, ac felly ein bod yn ei gyflwyno i'r Arglwydd."
Gwelwn fod y dull o brofi pregethwyr y dyddiau hyny yn gyffelyb iawn i'r dull presenol, gyda'r eithriad fod y rhai nad oedd gweledigaeth eglur gyda golwg ar eu cymhwysderau, nid yn cael eu hatal, ond yn cael eu cyflwyno i'r Arglwydd. Pa beth yw ystyr hyny, nid ydym yn hollol sicr. Efallai mai eu gadael tan fath o brawf hyd nes y ceid goleuni ar y mater oddiwrth Ben yr Eglwys.
Yn mhen dau ddiwrnod drachefn, sef Ebrill 19, yr oedd Cymdeithasfa Fisol yn Llandremore. Dylid cofio fod y Cyfarfodydd Misol hyn, sydd yn cael eu cynal ar sodlau eu gilydd, yn perthyn i wahanol randiroedd, ond y dysgwylid i Howell Harris, hyd ag y byddai hyny yn bosibl iddo, i bresenoli eu hunan ynddynt oll. Yma Howell Davies a lywyddai. Yr oedd y ddau Howell y pryd hwn ar bwynt priodi, a bu iddynt ymgynghoriad a chyfeillach felus yn nglyn a'r mater. Cymdeithasfa fechan ydoedd; ychydig a ddaethai yn nghyd, a chymharol ddibwys oedd y gweithrediadau. Ond ymddengys iddynt gael profion amlwg o foddlonrwydd Duw. I gychwyn, pregethodd Harris oddiar Matt. xxviii. 18, a chafodd nerth neillduol i lefaru wrth saint a phechaduriaid. Wrth agor y seiat breifat trwy weddi, daeth yr Arglwydd i lawr, gan eu gwneyd oll yn ostyngedig, a'u goleuo, a'u tanio. Wedi sefydlu y brawd William Cristopher yn gateceisiwr, siaradodd Harris yn bur blaen a rhyw frawd, gyda golwg ar iddo ymuno â'r Ymneillduwyr, neu a'r Methodistiaid. "Yna," meddai, "wedi trefnu pob un yn ei le, ymadawsom fel mewn fflam." Dau benderfyniad o'r Gymdeithasfa hon sydd ar y cofnodau; sef "Fod William Cristopher i fod yn gateceisiwr, i gateceisio yn unig, a'n bod i geisio sefydlu cateceisio yn mhob lle; a chan fod galwad daer ar y brawd Richard William Dafydd i Gorseinon, a bod dirfawr angen yno, ac yn Pembre, ein bod yn cydsynio iddo ef, a'i frawd, i fyned i ymweled a hwy hyd y Gymdeithasfa nesaf yn Abergorlech."
Wedi tramwy trwy ranau helaeth o Siroedd Caerfyrddin a Morganwg yr ydym yn cael Howell Harris mewn Cymdeithasfa Fisol yn Watford, a chan nad oedd yno yr un offeiriad urddedig, efe a lywyddai. Pregethodd yn y tŷ newydd, sef naill ai capel y Watford neu y Groeswen, y noson cynt, gydag arddeliad anghyffredin. Dangosodd, gyda nerth na chafodd ei gyffelyb erioed o'r blaen, y fath frenin yw Crist; pa mor ardderchog yw ei deyrnas; fod nefoedd, daear, ac uffern yn perthyn iddi; y modd y mae yn llywodraethu dros bob pethgras a phechod, goleuni a thywyllwch, bywyd ac angau, y byd ysprydol a'r byd naturiol. Yna eglurodd ddyogelwch deiliaid y deyrnas, fod gair Duw; llw Duw; ffyddlondeb, gallu, doethineb, trugaredd, a natur Duw, fel cadwynau cryfion yn eu cadw rhag syrthio; ac nad oedd dynion drwg, a phechod, a Satan, ond gweision Duw, wedi eu bwriadu i ddwyn y saint yn mlaen, trwy gyfarth fel cŵn wrth eu sodlau. "Yna," meddai, "mi a gadarnheais y rhai a ofnent gael eu pressio i fyned allan i'r rhyfel, gan ddangos y gwna pelen magnel y tro cystal a rhywbeth arall i'w hanfon adref. Bloeddiais! pe y gwelech mor gyfoethog ydych, mor ddyogel, ac mor ddedwydd; y fath Frenin sydd arnoch, byddai arnoch gywilydd o honoch eich hunain am eich ofnau a'ch diffrwythder; llefwch am i chwi, a'ch holl dalentau gael eu defnyddio ganddo, gan deimlo y fath anrhydedd ydyw; ewch lle y mynoch, ac i fysg unrhyw greaduriaid y mynoch, eich bod o hyd o fewn tiriogaethau Crist. O Frenin gogoneddus! Ychwaneged eich ffydd i weled gogoniant ei deyrnas!" Ymddengys ei bod yn odfa nerthol, tu hwnt; dywed efe na chafodd ei chyffelyb erioed o'r blaen, ac na chadd syniadau mor ardderchog erioed. Efallai hyny; ond y cof diweddaf yw y cof goreu. Cynyddodd yr hwyl wrth ganu a gweddio ar y diwedd. "Canfyddais ogoniant teyrnas yr Iesu," meddai, "yn y fath oleuni prydferth, fel y fflamiwyd ac y cadarnhawyd fy enaid, ac y parwyd i mi ymuno a'r côr fry i ganu, "Teilwng yw'r Oen a laddwyd! Teilwng yw yn wir!'"
O gwmpas deuddeg, dydd Mercher, agorwyd y Gymdeithasfa. Wrth weddïo ar y dechreu disgynodd ar yspryd Harris i ofyn a oedd yr Arglwydd yn myned i roddi y Methodistiaid i fynu? Cafodd ei berswadio i'r gwrthwyneb, a theimlai fod y cyfryw argyhoeddiad yn dyfod oddiwrth Dduw ei hun. Buont yn eistedd, gydag ychydig seibianf, hyd ddeuddeg o'r gloch y nos. Cawsant drafferth fawr gydag un cynghorwr, o'r enw William Rees, yn ceisio ei argyhoeddi o'i gyfeiliornadau. Maentymiai ef ei fod yn berffaith; ni addawai ychwaith fod yn ddystaw gyda golwg ar ei berffeithrwydd tybiedig yn y cymdeithasau; "felly," meddai Harris, "er mwyn gogoniant Duw, daioni yr ŵyn, a lles ei enaid ef ei hun, ni a'i troisom ef allan o'r seiat, gan yr ymddangosai wedi ymchwyddo yn fawr. Wrth ymgynghori â Duw gyda golwg ar hyn, cefais hyder gan mai yr Arglwydd oedd wedi fy anfon, y byddai iddo ofalu fy nghynysgaeddu â phob gwybodaeth a goleuni angenrheidiol." Eisteddasant i lawr hyd o gwmpas pedwar yn y boreu, yn rhydd ymddiddan am amryw bethau; am gymundeb Eglwys Loegr, ac yspryd erledigaethus ei hoffeiriaid, am briodas agoshaol Howell Harris, a phethau eraill. Barnai y brodyr hefyd, mai John Belsher oedd y cymhwysaf, mewn gwybodaeth o'r Ysgrythyr, doniau, a gras, i fod yn gynorthwywr i Mr. Harris yn ei waith mawr.
Y mae y penderfyniadau a basiwyd, fel eu ceir yn nghofnodau Trefecca, y modd a ganlyn:
"Cydunwyd fod i'r brawd Price ofalu am seiadau Sir Fynwy, ar y morfa, fel cynt, ac i gael ei gynorthwyo gan y brawd Thomas Williams, mor bell ag y gall.
"Wedi cryn ymgynghoriad cydunwyd i drefnu y cynghorwyr anghyhoedd, na byddo iddynt gynghori yn gyhoedd, ond yn y seiadau preifat yn unig; gyda yr eithriad o William Edward, am yr hwn yr oedd galwad daer i Lantrisant a'r Groeswen. Joseph Simons i fod fel o'r blaen; Evan Thomas i fyned i Machen a Mynyddislwyn fel o'r blaen ar brawf; a'n bod yn chwilio am bersonau priodol i gateceisio y rhai oddifewn ac oddiallan, er mwyn sefydlu yr ŵyn a'r gwrandawyr mewn gwybodaeth iachus o egwyddorion crefydd, trwy gatecism Mr. Griffith Jones.
"Er mwyn gwell trefn yn nglyn â'r cateceisio, pan ei sefydlir, fod yr arolygwyr i fod yn bresenol, i gynorthwyo yn y gwaith.
"Fod Edward Lloyd yn cael ei gynyg i fod yn gateceisiwr yn y Groeswen, Samuel Jeremiah yn Llanedern, William Thomas yn Aberthyn a Llanharry, Edward Edwards in Dinas Powys a St. Nicholas, Cristopher Basset yn Aberddawen, Howell Griffith neu Morgan Howell yn Llantrisant, William Hughes yn Nottage, a Jenkin Lewis yn yr Hafod.
"Cydunwyd, gan fod cylchoedd yr arolygwyr yn rhy fawr, y gallant ymweled a'r seiadau unwaith y pythefnos yn unig; a chan fod y brawd Herbert Jenkins, a gawsai ei osod i gynorthwyo y brawd Harris fel arolygydd cyffredinol, yn treulio haner ei amser yn Lloegr, y rhaid dewis un i ymroddi yn gyfangwbl i'r gwaith, i fyned o gwmpas fel cynorthwywr i'r brawd Harris, ac i helpio yr arolygwyr. Wedi ymgynghori gyda golwg ar ei gymhwysderau mewnol ac allanol, ein bod yn cynyg y brawd John Belsher fel y mwyaf cymhwys i lanw y lle hwn, yn y rhanau of Siroedd Mynwy, Morganwg, a Chaerfyrddin, ar làn y môr, a orweddant yn nghylchoedd y brodyr John Richard, Thomas William, Thomas Price, a rhan o gylch Morgan John; a bod yr arolygydd i gyfarfod ei gynorthwywyr, er mwyn sefydlu yr wyn, unwaith y pythefnos, ar nos Wener.
"Cydunwyd nad ydym yn cael ein perswadio am alwad y brawd William Rees i gynghori, a'n bod yn anfon ato i ddymuno arno roddi i fynu, hyd nes y caffom ragor o foddlonrwydd ynddo; ond fod y brawd William Powell i barhau i fyned yn mlaen, gan ddysgwyl i ba le y bydd yr Arglwydd yn ei alw ac yn ei sefydlu.
"Gan fod y brawd Richard Jones i'w feio, ar amryw gyfrifon, am ymlynu yn ormodol wrth y byd, a bod yn anffyddlawn i'r ymddiriedaeth a roddasid iddo, heb ymdeimlo a'i ddyledswydd tuag atom ni, ei frodyr, a'i fod wedi parhau yn y rhai hyn, yn nghyd a beiau eraill, ar ol aml gynghor a cherydd; ein bod yn cyduno i'w hysbysu oni wna edifarhau am ei golliadau, ac addaw diwygio, ein bod yn dymuno arno am beidio llefaru mwyach fel un o honom ni, a'n bod yn anfon at y seiadau i'w hysbysu o'r penderfyniad hwn. Ond os ymddengys yn edifeiriol, ein bod yn caniatau iddo fyned yn mlaen ar brawf hyd y Gymdeithasfa Gyffredinol nesaf.
"Cydunwyd y byddai i ni, trwy nerth. Duw, ddechreu llefaru, &c., yn fanwl o fewn i awr neu lai o'r amser a benodwyd.
"Fod y brawd Richard Thomas i ddyfod i'n Cymdeithasfa yn Llanfihangel i gael ei sefydlu.
"Traethasom ar amrywiol bynciau duwinyddol, a chydunwyd nad ydym yn Eglwys na Sect, ac nad ydym i alw ein hunain felly, ond seiadau oddifewn i'r Eglwys Sefydledig, hyd nes y'n troir allan; ac nad yw y llefarwyr i alw eu hunain yn weinidogion, ond cynghorwyr.
"Yr ydym yn gweled hefyd nad yw yr hyn sydd er gogoniant i Dduw, ac yn llesiol, mewn un man, yn ateb y pwrpas mewn man arall.
"Gan nad yw dawn y cynghorwyr anghyoedd ond byr, ei fod yn cael ei adael i ddoethineb yr arolygwyr i'w cyfnewid, fel y gwelant yn oreu yn eu cyfarfodydd pythefnosol, ac nad yw y cynghorwyr i drefnu eu lleoedd eu hunain heb ganiatad.
"Gwedi ymddiddan yn hir a William. Rees parthed rhai cyfeiliornadau Antinomaidd, yr oedd wedi syrthio iddynt, a chwedi cynyg iddo aros yn ein mysg, er hyny, os addewai beidio ein terfysgu, at therfysgu yr ŵyn, trwy ei gyfeiliornadau, a phan nad addewai (er ei fod yn addef y crwydrai yn aml ar weddi), ond y taerai nad oedd wedi pechu er ys dyddiau, ac nad oedd unrhyw bechod yn ei ddeall, ei ewyllys, na'i gydwybod, ni a benderfynasom ei droi allan o'r seiadau, ac o'r Gymdeithasfa, gan rybuddio yr holl seiadau rhag ei heresi, ac i beidio cael unrhyw gymundeb agos âg ef. Felly, darfu i ni yn ddifrifol, ar ol dwys ystyriaeth a gweddi, ei droi allan, ac yr oedd ein calonau yn doddedig o gariad ato, gofal am ogoniant Duw, a chydag ofn sanctaidd, a gofal am yr wyn."
Felly y terfyna cofnodau y Gymdeithasfa Fisol hon yn Watford, ac yr oedd yn un o'r rhai pwysicaf a gynhaliwyd. Cawn un, am y tro cyntaf yn hanes y Methodistiaid, yn cael ei esgymuno am gyfeiliornad mewn athrawiaeth, ac yr oedd calonau y brodyr yn mron myned yn ddrylliau wrth orfod ei ddisgyblu. Antinomiaeth oedd yr heresi a flinai y Methodistiaid cyntaf; efallai mai un rheswm am hyn oedd tuedd i fyned i'r eithafion cyferbyniol i'r Ymneillduwyr, y rhai a anrheithid gan Arminiaeth. Y mae yn sicr nad yr un William Rees a drowyd allan, a'r brawd o'r un enw a ataliwyd. rhag cynghori oblegyd byrder ei ddawn. Yr oedd y blaenaf yn bresenol, a chafwyd dadl faith ag ef; yr oedd yr olaf yn absenol, felly anfon cenadwri ato a wnaed. Yr ydym yn gweled ymlyniad cryf wrth. Eglwys Loegr yn ngwaith y Gymdeithasfa yn penderfynu peidio ymgyfenwi yn Eglwys nac yn Sect, ac yn gwarafun i'r cynghorwyr alw eu hunain yn weinidogion; Howell Harris, yn ddiau, oedd yn gyfrifol am y penderfyniadau hyn; yr oedd efe yn fwy ymlyngar wrth yr Eglwys na neb; yr oedd Rowland, Williams, Pantycelyn, a Howell Davies, yn absenol; ac yr oeddynt hwy yn llawer llai eu parch i'r Sefydliad, ac yn fwy parod i gefnu arno.
Y dydd Gwener canlynol cawn Harris yn Pentyrch, tua chwech milltir o Gaerdydd, ac y mae y nodiad yn ei ddydd-lyfr yn haeddu ei groniclo: "Yr oedd fy natur wedi ei llwyr weithio allan, ac ni chyfodais hyd gwedi deg. Wrth fod y brawd T. P. a minau yn agor ein calonau i'n gilydd, a chael fod fy ffaeleddau yn cael siarad am danynt yn ddirgel, cefais olwg ar natur hunan a balchder, gan ei weled ynof fel mynydd, yn ymddyrchafu yn erbyn Duw, a hyny i'r fath uchder fel nas gallai neb ond Duw ei faddeu a'i ddinystrio. Cefais galon i alaru o'i herwydd, a ffydd i gyf lwyno fy hunanoldeb a'm balchder i law Duw i gael eu dinystrio. Yr wyf yn cael fod y brodyr yn dyfod yn agosach ataf, gan deimlo fod eu hachos hwy yn debyg i'r eiddof fi.” Y mae yn glir mai yn mysg y Methodistiaid y siaredid am ffaeleddau Harris yn ddirgel; cyhoeddai ei elynion yr hyn a ganfyddent yn feius ynddo ar benau tai. Felly yr oedd tymher gyffrous y Diwygiwr, a felltenai allan pan ei gwrth wynebid, neu pan y sonid am ymadael ag Eglwys Loegr, wedi dyfod yn destun sylw yn mysg y cynghorwyr a'r aelodau cyffredin. Ymdeimlai yntau a'i ffaeledd, a gofidiai o'i herwydd, gan ei gymeryd at yr Arglwydd i gael maddeuant ac ymwared oddiwrtho. Dydd Sadwrn y mae yn Aberthyn. Boreu y Sul aeth i eglwys Wenfo, lle y gwasanaethai clerigwr efengylaidd o'r enw William Thomas; cyfranogodd o'r sacrament, a diolchai i Dduw ei fod wedi gadael yr ordinhad yn yr Eglwys. Llefai: "O Dduw, na fydded i ni gael ein troi allan o'r ordinhad yn yr Eglwys dlawd, amddifad hon; yn hytrach, bydded i ni ddyfod yn halen iddi. fydded i'n llygredigaethau ni, ein hunanoldeb, a'n balchder, a'n tuedd i ddirmygu eraill; nac i lygredigaethau rhai eraill, a'r yspryd erledigaethus sydd ynddynt, ein troi ni allan. O dychwel atom, a bydded i ni ddyfod yn oleuni yr holl dir."
Y mae y nodiad canlynol yn ei ddyddlyfr, wedi ei ysgrifenu yn Watford y dydd Mawrth dilynol, yn esbonio ei hun: "Y maent yn ceisio dwyn oddiarnaf yr hyn wyf yn barod wedi ei roddi ymaith, a'r hyn nad yw yn feddiant i mi, ond i Grist, sef fy mywyd. Gwelaf yn hyn brawf i fy ffydd. Y mae gwarant allan i fy mhressio i'r fyddin. Pan aethum i feddwl am y peth cefais ryddhad wrth lefain ar yr Arglwydd: Ó Arglwydd, yr hyn wyt ti yn wneyd a saif. Ti ydwyt frenhin. Nis gallant weithredu hebot ti. Yn awr, dysg fi yn unig i'th ogoneddu, ac i lawenychu fod genyfenaid a chorph i'w rhoi i ti. Ni chefais erioed brofiad mor felus. Y mae y newydd (am y warant) mor bell o fod yn boenus i mi, fel na chymerwn fil o fydoedd am fod heb ei glywed. Daeth y geiriau i fy meddwl a fendithiwyd i mi saith mlynedd yn ol, sef: 'Ni ddichon neb ei gau.' Gwelwn hwy oll yn llaw Crist." Profiad bendigedig. Nid ydym yn gweled Howell Harris yn ymddyrchafu mor uchel mewn gras, nac yn dangos yspryd mor ardderchog, un amser, a phan y mae yr ystorm yn rhuthro ar ei draws.
Cynhelid Cymdeithasfa Fisol, Mai 3, yn Llanfihangel; nid oedd yma eto yr un offeiriad urddedig yn bresenol, ac felly, Howell Harris a lywyddai. A ganlyn yw y penderfyniadau, fel eu ceir yn nghofnodau Trefecca:
"Cydunwyd yma, fel yn Watford, gyda golwg ar gateceisio, ein bod yn ei argymhell ar y brodyr, a'n bod i ddefnyddio catecism Mr. Griffith Jones, yn neillduol y catecism ar y credo.
"Fod y brawd John Belsher i gynorthwyo y brawd Harris mewn helpio yr arolygwyr, fel y penderfynwyd yn Watford.
"Fod y cynghorwyr anghyoedd i gymeryd gofal uniongyrchol ymweled a'r cymdeithasau preifat, pan gyfarfyddant yn ddirgel, oddigerth ar amgylchiadau arbenig, pan fydd rhywrai i'w derbyn, neu i'w tori allan, neu ryw betrusder i'w symud, neu pan fyddo angen ymgynghoriad gyda golwg ar briodas.
"Cydunwyd fel yn Watford gyda golwg ar drefnu y cynghorwyr anghyoedd.
"Wedi ymddiddan a'n gilydd, a chyflwyno ein goleuni yn rhydd y naill i'r llall, gyda golwg ar ein dyledswydd at yr holl hil ddynol, a'r berthynas yr ydym yn sefyll ynddi at bawb yn gyffredinol fel cydgreaduriaid, at yr holl eglwys dros holl fyd yn neillduol, fel corph Crist, ac at y gangen hon o honi yn y wladwriaeth hon, ond yn fwyaf arbenig at y rhai sydd yn cymdeithasu â ni, cydunasom, er mwyn symud mor bell ag y medrwn bob maen tramgwydd, i gymuno yn ein heglwysydd plwyfol, ac i gynghori y bobl i wneyd hyny, fel na byddom yn ymddangos yn debyg i sect. Yr oeddem wedi cyduno yn flaenorol i beidio galw ein cymdeithasau yn eglwysi, ond seiadau o fewn yr Eglwys Sefydledig; ac i beidio galw y cynghorwyr yn weinidogion. Yn neillduol, gan ein bod yn gweled fod petrusder y rhan fwyaf (gyda golwg ar gymuno yn eu heglwysydd plwyfol) yn codi o'u tywyllwch a'u llygredd, ac nid o'u gras; yn (1), am eu bod yn edrych ar, ac yn tramgwyddo wrth feiau rhai eraill, sydd yn derbyn gyda hwy, yr hyn sydd yn sawri yn gryf o yspryd y Pharisead yn pwyntio at y Publican, ac yn bradychu anwybodaeth gormodol am danynt eu hunain, a rhy fach o dosturi at eraill; yn (2), am eu bod yn edrych ar waeledd neu bechadurusrwydd yr offeiriad, gan ddweyd: Pa fodd y gallwn ddysgwyl bendith, neu dderbyn lles trwy y cyfryw un? yr hyn sydd yn profi diffyg ffydd i edrych trwy y moddion at Dduw, ac yn dangos dibyniad ar ras y person sydd yn gweinyddu, ac nid ar y gras sydd yn Nghrist.
"Cydunodd y brawd Morgan John Lewis â hyn, mewn ffordd o gyd-ddwyn, hyd nes y byddai i'r Arglwydd ein gwthio allan, neu ynte ddwyn diwygiad i mewn. Yn unig, mynegai fod eu heglwys blwyfol hwy mewn annhrefn hollol, heb un trefniant sefydlog gyda golwg ar amser (yr ordinhad); a phan y cynygiai gael yr ordinhad yn St. Brides, i'r offeiriad ei dderbyn yn garedig, gan ddweyd nad oedd ganddo un gwrthwynebiad iddo, ond fod y canonau yn erbyn. Ni feddai y brawd Belsher ryddid llawn gyda golwg ar hyn, ond cadwai ei amheuaeth iddo ei hun. Yr oedd y lleill yn foddlon."
Gwelir fod yr un materion yn cael eu trin, a'r un penderfyniadau yn cael eu pasio, mewn gwahanol Gyfarfodydd Misol. Yr amcan oedd cael cyd-ddealltwriaeth ar ran yr holl gymdeithasau a'r holl gynghorwyr yn ngwahanol ranau y wlad. mae yn amlwg ddarfod i berthynas y Methodistiaid a'r Eglwys Sefydledig fod yn destun dadl faith yn y cyfarfod. Eithr ni chollodd Harris ei dymher, fel yn Nghymdeithasfa Glanyrafonddu. Yn hytrach, pwyswyd y rhesymau o blaid ac yn erbyn ymadael gyda gofal; ac yn y diwedd trodd y cyfarfod o blaid aros hyd nes y byddai iddynt gael eu bwrw allan. A ydyw Harris yn rhoddi rhyw gymaint o liw ei syniadau ei hun ar y cofnodau, pan yn crybwyll fod y cri am beidio cyd-dderbyn â dynion annuwiol o law offeiriad anfoesol, yn codi nid o ras, ond o lygredigaeth, ac yn sawri o yspryd Phariseaeth, nis gwyddom. Diau mai felly y teimlai efe, a naturiol tybio fod ei deimladau yn dylanwadu arno pan yn ysgrifenu.
Dydd y Gymdeithasfa, Iau Dyrchafael, sef Mai 3, 1744, ysgrifena yn y modd a ganlyn: "Saith mlynedd i'r dydd hwn, pan yr ymddangosai y drws fel yn cael ei gau yn fy erbyn i fyned o gwmpas, darfu i dad anfon ei fab i geisio genyf lefaru yn ei dŷ ef, yr hyn a brofodd yn foddion i agor y drws i mi i fyned o amgylch. Ac yn awr yr wyf yn myned i gael ei ferch." Gwelwn oddiwrth y difyniad hwn mai Mr. Williams, o'r Ysgrin, oedd y boneddwr o Sir Faesyfed a wahoddodd Harris i bregethu yn ei dŷ, yn y flwyddyn. 1737, ac a fu yn foddion yn llaw rhagluniaeth i ledu y diwygiad dros y wlad. Ymddengys fod priodas agoshaol Howell Harris yn cyffroi mawrion Brycheiniog a Maesyfed yn ddirfawr. Yr oedd Williams, o'r Ysgrin, yn foneddwr, ac yn perthyn i'w cylch neillduol hwy; a byddai cael Miss Williams yn wraig yn dwyn Harris, y Methodist a ddirmygent yn eu calon, i fath o gysylltiad â hwy, yr hyn beth nis gallant ei oddef. Ei rwystro i briodi Miss Williams, o'r Ysgrin, oedd y prif amcan. wrth godi gwarant i'w bressio i fod yn filwr. "Yr wyf yn cael," ysgrifena, "fod llid yr ynadon yn cyffroi yn ddirfawr yn fy erbyn. Dywedai U.H. wrth dad y gwnai fy anfon i'r rhyfel, pe yn unig er fy rhwystro i gael ei ferch yn wraig." Darfu iddynt gynhyrfu brawd Miss Williams i fod yn wrthwynebol i'r briodas, ac i ymuno yn eu cynllwyn.
O'r diwedd dyma yr ystorm yn dechreu rhuthro arno. Dydd Mawrth, Mai 8, ysgrifena: "O gwmpas un o'r gloch daeth William Ga'r cwnstab i gymeryd Jemmi i fod yn filwr." James Morgan, golygwr ei dy, a chynghorwr gyda'r Methodistiaid, oedd "Jemmi." "Cawswn fy rhybuddio eu bod yn dyfod; felly rhedais i fynu y grisiau, a syrthiais gerbron yr Arglwydd. Ond am ychydig amser yr oeddwn wedi fy ngadael, fel nas gallwn weddïo, na thynu yn agos at Dduw. Yr oeddwn yn ymroddedig, ond gan fy mod wedi suddo i afael hunan ni theimlwn y nerth a'r bywyd a arferwn deimlo. Yr oeddwn mewn llyfethair gan ofn slafaidd, fel nas gallwn fod yn hyf. Cawswn fy narostwng fel petrysen; yr oedd y gelyn gerllaw; teimlwn y cnawd yn dychrynu rhag i'r tŷ o glai gael ei ddatod trwy ergyd ar fy mhen. Yn raddol, pa fodd bynag, daethum gymaint ataf fy hun fel ag i fyned i lawr at y gweithwyr." Yr oedd y gweithwyr hyn yn parotoi y tŷ yn Nhrefecca, a gawsai yn rhodd gan ei frawd Joseph, ar gyfer ei ddarpar-wraig ag yntau. Hawdd gweled ddarfod i ffydd Howell Harris ballu am enyd; y mae y cadarn, nad ofnai holl luoedd y fall, yn gwanychu am ychydig, nes dyfod fel gŵr arall. Nid ysgrifenu hanes dyn perffaith yr ydym, ond dyn duwiol, a'i ras ambell dro yn myned dan gwmwl. Ond nid yw y cwbl wedi ei adrodd eto. Rhag ofn i'r ustus a'r cwnstab ddychwelyd a'i gymeryd yntau, dihangodd i gyfeiriad Tynycwm, yn Sir Faesyfed. Mewn difrif, ai dyma Howell Harris! Nid rhyfedd ei fod yn croniclo ar y ffordd, ei fod o hyd mewn caethiwed, a'i fod yn gwaeddi: "O fy ngwendid!" Ond meddai, drachefn: "Y mae yr Arglwydd yn fy adwaen." Ni pharhaodd y ffit o ddigalondid yn hir, pa fodd bynag. "Llanwyd fy enaid à nerth," meddai; "gwelwn nad oedd fy mywyd, pe ei collwn ddeng mil o weithiau, yn ddim yn ymyl ei ogoniant ef. Gwelwn fy holl elynion fel dim." Aeth yn ei flaen i'r Ysgrin, i gysuro a gwroli Miss Williams, ar gyfer y prawf oedd o'i blaen, a thranoeth dychwelodd i Drefecca, i aros y canlyniadau, beth bynag a fyddent.
Dydd Iau, Mai 11, yr oedd ystad ei feddwl yn ogoneddus. Gwelais," meddai, "nad yw fy nghorph yn eiddof fi, ond eiddo yr Arglwydd. Gwell genyf ddisgyn i uffern filiwn o weithiau trosodd, na rhoddi lle am eiliad i syniad anfoddog, iddo ef lywodraethu fy enaid, a gwneyd â mi fel y mae yn ewyllysio, hyd yn nod pe bai iddo fy nifodi, neu osod cospedigaeth dragywyddol arnaf. Gan fy mod wedi cael fy mhrynu ganddo, ai ni chaiff wneyd à mi fel yr ewyllysia? Clywais heddyw drachefn a thrachefn y byddwn yn sicr o gael fy nghymeryd yfory, a bod yr holl ynadon yn llidiog yn fy erbyn, yn arbenig o herwydd fy mhriodas." Tranoeth i'r dydd yr ysgrifena yr oedd y Gymdeithasfa Fisol i gael ei chynal yn Nhrefecca; ac ymddengys ddarfod i'r erlidwyr benderfynu rhoddi y warant mewn grym pan fyddai Harris yn anerch y cyfarfod cyhoeddus, er mwyn gyru ofn ar bawb, ac yn neillduol ar y cynghorwyr fyddai wedi ymgynull o wahanol barthau y wlad. Ond yr oedd gŵr Duw yn hollol ddiofn.
"Cefais y fath olwg ar Dduw fel uwchlaw iddynt oll, a'r fath sicrwydd y gwnai roddi i mi ddrws agored nas dichon neb ei gau," meddai, "fel yr edrychwn ar fy ngwrthwynebwyr fel gwybed a gwagedd." Ni adawodd ei Arglwydd ef heb gysuron yn y cythrwfl hwn. Daeth un brawd yr holl ffordd o Gastellnedd er ceisio sirioli ei yspryd. Dygodd un arall y newydd iddo fod Maer Bryste wedi cyhoeddi na wnai ddanfon yr un o'r Methodistiaid i'r rhyfel. "Toddodd hyn fy nghalon yn llymaid," meddai; "gwelwn fod Duw o hyd yn ymddangos o'n plaid. Y mae llawer yn fy nghynghori i beidio llefaru yfory, gan fy mod yn sicr o gael fy nghymeryd; ond gwelaf mai fy nyledswydd yw myned yn y blaen gyda'r gwaith, a'm bod yn cael fy ngalw i ddyoddef ynddo. Llenwir fi yn fynych a llawenydd wrth weled fod fy nyoddefaint gerllaw; bryd arall yr wyf yn ofni ac yn crynu yn yr olwg ar Dduw, ac ar eu cynddaredd a'u llid hwy, yr hyn sydd wialen Duw, yn cael ei chymhwyso ganddo at ein cnawd; y mae yn myned fel brath cleddyf trwodd. Ond drachefn, gyda phob croes, yr wyf yn cael rhyw gymaint o ychwanegiad nerth i'r dyn newydd, a rhyw gymaint o hunan a natur yn cael ei gymeryd ymaith."
Dydd Gwener oedd y diwrnod i osod y warant mewn grym, pan fyddai y Gymdeithasfa wedi ymgynull. Cyfododd Harris yn siriol ei yspryd; gwelai Dduw yn eistedd ar y llifeiriant. "Ysgrifenais fy nydd-lyfr," meddai; "trefnais fy holl angylchiadau ar gyfer fy ngharchariad ; ac yr oeddwn yn hapus a dedwydd. Cadwyd fi rhag edrych am amddiffyn cnawdol gallwn ddianc pe yr ewyllysiwn; ond gwelwn mai fy nyledswydd oedd sefyll." I'r cyfarfod yr aeth, i sefyll i fynu dros ei Dduw. Cyn myned, gweddïai dros ei fam, na ddiffygiai ei ffydd. Bu yn y cyfarfod preifat gyda'r cynghorwyr hyd gwedi un, yna aeth i'r odfa gyhoeddus. Daeth torf fawr yn nghyd; cafodd yntau nerth anghyffredin wrth lefaru. Ei fater oedd y tŷ ar y tywod, a'r tŷ ar y graig. Cyn terfynu, agorodd ei galon i'r bobl; dywedai ei fod yn barod i ddyoddef, ac mai cariad at Dduw ac at eu heneidiau hwy a'u dygasai yno y dydd hwnw. Rywsut, ni roddwyd y warant mewn grym. Ai nerth y geiriau a lefarai gŵr Duw a wanhaodd freichiau yr erlidwyr; ynte a oedd arnynt fraw i afaelu mewn dyn mor enwog a Howell Harris, yr hwn a feddai eiddo rhydd—ddaliol, ac a noddid gan rai o brif bendefigion y deyrnas, nis gwyddom. Ond gofalodd Duw am ei was; diarfogodd yr erlidwyr mor effeithiol ag y cauodd safnau y llewod yn y ffau gynt.
Bychan oedd y Gymdeithasfa Fisol yn Nhrefecca; nid oedd yr un o'r tri offeiriad yn bresenol, ac ond dau o'r arolygwyr, sef Morgan John Lewis, a Thomas James; efallai fod yr erledigaeth wedi cadw y gweddill i ffwrdd. Daethai, modd bynag, nifer da o gynghorwyr yn nghyd. Y prif benderfyniadau a basiwyd ydynt a ganlyn:—
"Rhoddasom ein barn i'r brawd Walter Hill, gyda golwg ar ei betrusder i dderbyn y sacrament gydag offeiriaid cnawdol, &c.; y dylem am y presenol, hyd nes y byddo i ni gael ein troi allan, neu i ddiwygiad gael ei ddwyn i mewn, oddef a chyd-ddwyn er mwyn y gwaith.
"Cydunwyd fod i'r brawd John Williams, fel y cynghorwyr anghyoedd eraill, beidio aros yn sefydlog i arolygu yr un seiadau, ond i gael ei anfon draw ac yma, yn ol doethineb yr arolygwr, fel y byddo efe yn canfod fod ei ddawn a chyflwr y bobl yn galw.
"Fod y brawd Thomas Jones i gyflogi ei hun gyda John Richard, ac i fod fel o'r blaen hyd y Gymdeithasfa gyffredinol nesaf, gan ymweled a Sir Faesyfed unwaith y mis.
"Wedi cryn ymgynghoriad parthed priodas y brawd Morgan John Lewis, cawsom ryddid i gydweled a'r peth.
"Cydunwyd fod i fater priodas y brawd Edward Bowen i gael ei benderfynu gan y brodyr Thomas James a Thomas Bowen, ar ol ymgynghori â'r seiadau y mae efe a hithau yn perthyn iddynt.
"Fod y brawd Walter Hill i fyned i wasanaeth y brawd William Evans, a bod Mr. Roberts i gael ysgrifenu ato, i ddymuno arno ei ollwng; a bod y brodyr i gael ymddiddan â hwy, fel y byddo iddynt ryddhau y brawd Evans o ran o'i gyflog.
"Fod y brawd William Evans i gyflwyno ei hun yn hollol i'r gwaith, mor bell ag y byddo hyny yn gyson â'i ofalon teuluaidd, a'i fod i arolygu yr holl seiadau sydd dan y brawd Beaumont yn ystod ei absenoldeb ef (Beaumont) yn Llundain, ac i gael ei gynorthwyo gan y brawd Thomas James.
"Ein bod oll, yn ystod yr amser profedigaethus hwn, i arfer diwydrwydd dyblyg, ac i ymdrechu gyda chateceisio yn ein teuluoedd.
Meddyliem nad oedd bwriad y brawd Thomas i briodi o'r Arglwydd."
Yn mhen tri diwrnod wedi Cymdeithasfa Fisol Trefecca, sef Mai 15, yr oedd Cymdeithasfa Fisol yn Brynbychan. Daeth lliaws yn nghyd yno, ac yn eu mysg Daniel Rowland, yr hwn a lywyddai, Williams, Pantycelyn, y Parch. Benjamin Thomas, Richard Tibbot, &c. Aeth Howell Harris tuag yno trwy gantref Buallt, gan lefaru mewn amrywiol fanau ar y ffordd. Am 10 o'r gloch, boreu y Gymdeithasfa, pregethai Daniel Rowland yn nghapel Eglwysig Abergorlech, tua phedair milltir o Brynbychan. Ei destun oedd, Salm ii. 6, a chafodd odfa hynod. Dangosai pa mor ddyogel oedd eglwys Dduw, mor anmhosibl oedd ei gorchfygu, er cymaint o lid a fodolai yn erbyn Crist. Gorphenodd trwy alw ar holl blant Duw i fuddugoliaethu mewn gobaith, ac i beidio cael eu cyffroi wrth glywed son am ryfeloedd, &c., gan fod ein Cesar (Crist) yn fyw. "Nid yn unig y mae yn fyw," meddai y pregethwr, "ond y mae yn teyrnasu. Gorfoleddwch; y mae Crist yn teyrnasu!" Gwaeddai enaid Harris oddifewn wrth wrando: " Gogoniant i Grist!" Yr oedd yn odfa ryfedd. A phan y gweddïai y pregethwr ar y diwedd dros bob dosparth o ddynion, ac yn eu mysg dros y brenhin, llewyrchodd goleuni anarferol ar y gynulleidfa. Meddai Harris: "Bendigai fy enaid Dduw am yr anwyl Rowland; am y dawn, y nerth, y ddoethineb, y gwroldeb, a'r awdurdod a roddodd iddo; a theimlwn yn foddlawn bod heb ddim (dawn) er mwyn iddynt hwy flaguro er gogoniant Duw." Cyrhaeddasant Brynbychan yn y prydnawn; am bump cyfarfyddodd y Gymdeithasfa, a buont yn cydeistedd hyd ddeg yn yr hwyr. Teimlai Harris yn bur sål, ond agorodd Duw ei enau i anerch y brodyr, gyda golwg ar natur gostyngeiddrwydd, ac yspryd drylliedig, ac ymgydnabyddiaeth â Duw. Cafodd y fath olwg yn y cyfarfod ar nerth y gelynion, mawredd y gwaith, ei anghymwysder ei hun ar ei gyfer, a'r angen oedd arno am bob gras, fel y llefai: "Arglwydd, ni wnai dim beri i mi fyned allan (i bregethu), ond dy fod di yn fy anfon; hyn, a hyn yn unig yw y sail yr wyf yn adeiladu arni, fy mod wedi cael fy anfon ganddo ef." Dranoeth, aeth yn nghwmni Rowland a Williams mor bell a Dygoedydd; yno pregethodd Daniel Rowland, ar Can. ii. 14, ac ymddengys iddo gael hwyl anarferol. Yna ymwahanodd y cyfeillion, Rowland a Williams yn myned tua Cheredigion, a Harris tua Threfecca.
Ychydig, a chymharol ddibwys, oedd penderfyniadau Cymdeithasfa Brynbychan:Cydunwyd, gwedi dadl faith, fod Evan John i gael ei adael i'r Arglwydd, hyd nes y caffom oleuni pellach i ganfod ei alwad; nid oedd ef yn teimlo ei hun yn rhydd i roddi i fynu.
"Fod enw yr hwn sydd i gynghori i gael ei hysbysu, pan y cyhoeddir fod cynghori i gymeryd lle mewn unrhyw le.
"Fod cateceisio i gael ei osod i fynu, a'i drefnu yn y fath fodd ag a fo fwyaf buddiol, er cyffroi pawb i chwilio yr Ysgrythyrau.
"Fod William Samuel i gynghori ar brawf o gwmpas cartref."
Fel yr oedd adeg priodas Harris yn agoshau, cynyddai y gwrthwynebiadau i'r undeb. Yr oedd teulu Miss Williams ei hun yn chwerw ac yn erlidgar. Cynygiai ei thad, a roddasai unwaith ei gydsyniad i'r briodas, bymtheg cant o bunoedd iddi am dynu yn ol; bygythiai ei mam ei churo; ac yr oedd ei brawd yn llawn cynddaredd. Yn ychwanegol, taenid chwedlau ar led oeddynt yn dra niweidiol i gymeriad y Diwygiwr, sef ei fod yn priodi yn unig er mwyn y gwaddol a gaffai gyda ei wraig, ac nad oedd ef a hithau yn myned i'r ystad briodasol mewn ffordd anrhydeddus. Pan glywid am gwymp tybiedig y dyn a elai o gwmpas i bregethu, gan fygwth digofaint Duw ar holl weithredwyr anwiredd, llawenychai ustusiaid Brycheiniog a Maesyfed fel pe wedi cael ysglyfaeth lawer. Eithr yr oedd rhuddin yn y ferch ieuanc; ac er pob gwrthwynebiad, unwyd hi a Howell Harris mewn glân briodas yn Nghapel Ystrad—ffin, Mehefin 18, 1744. Er rhoddi taw ar elynion crefydd, gwrthododd Harris gymeryd ceiniog o waddol gyda hi; ac yn y cyfnod priodol profodd amser fod y chwedl arall yn anwireddus.
Ar y 27ain o Fehefin, cynhelid y Gymdeithasfa Chwarterol yn Nhrefecca. Ymgynullodd y frawdoliaeth yn bur gryno, ac yn mysg eraill yr oedd Daniel Rowland, Howell Davies, Williams, Pantycelyn, wedi dyfod. Am un—ar—ddeg yn y boreu, pregethodd Rowland, oddiar Heb. vi. 18, gan ddangos yr angenrheidrwydd am ffydd o flaen gweithredoedd, a'r ddyledswydd o fyned at yr addewidion cyn myned at y gorchymyn. gorchymyn. Teimlai Harris eu hun yn drymaidd a chysglyd yn ystod y cyfarfod. Nid oedd hyd yn nod Rowland yn gallu tanio cynulleidfa bob amser. Gwedi hyny pregethodd Herbert Jenkins, oddiar Phil. iv. 4, a chafodd gryn afael ar y bobl. "Wedi iddo orphen,' meddai Harris, "aethom i giniaw, a chefais bleser mawr tra yn gwasanaethu ar y brodyr wrth y bwrdd, gan deimlo yn ddiolchgar fod genyf dŷ i groesawu cenhadau Duw. O gwmpas tri, aethum gyda'r gweddill o'r frawdoliaeth i'r Gymdeithasfa, lle yr arosasom hyd ddeg. Yr oedd genym faterion o bwys i'w hystyried, yn arbenig y priodoldeb i'r offeiriaid gyfranu y sacrament mewn tai. Yr oeddwn i, gyda mawr wres a zêl, wedi bod yn erbyn hyn; ond wrth weled cymaint o anesmwythder yn yr ŵyn, a bod llawer yn ein gadael o'r herwydd, ymddangosai i mi fod llais rhagluniaeth yn galw ar yr offeiriaid i fyned un cam yn mhellach. Ond gan na theimlent hwy yn rhydd, cydunasom i neillduo diwrnod yr wythnos nesaf i ymgynghori â Duw. Yr oeddem yn unfryd yn ein holl ymgynghoriadau a'n penderfyniadau. Mor raddol y mae yr Arglwydd yn ein harwain, fel y gallwn ei ddwyn. Wrth ddarllen hanes yr arolygwyr am yr ŵyn dan eu gofal, cawsom foddhad mawr. Ond yr oeddwn i yn sych. Yna swperasom, a chawsom gymdeithas felus yn nghyd, yn trefnu ein Cyfarfodydd Misol am y dyfodol." Dranoeth pregethodd Morgan John Lewis, gyda nerth mawr, oddiar Hab. iii. 19, ac yna ymwahanodd y brodyr.
Am unwaith, gwelwn fod Howell Harris yn fwy rhyddfrydig na Daniel Rowland, a Howell Davies, a Williams, Pantycelyn. Daethai ef yn foddlon i'r offeiriaid weinyddu y sacramentau mewn tai byw, yn y plwyfydd hyny lle yr oedd offeiriaid yn anfoesol, neu lle y gwrthodid y cymundeb i'r Methodistiaid. Nid oeddynt hwy eto yn barod i gymeryd cam mor bwysig. Diau y gwelent yr arweiniai hyn i beri i'r Esgob gymeryd eu trwyddedau oddiarnynt, yr hyn a allai wneyd yn hawdd, gan nad oedd un o honynt yn fwy na chuwrad.
Dyma y penderfyniadau a basiwyd, fel eu ceir yn nghofnodau Trefecca:—
"Cydunwyd, wedi ymgynghoriad, parthed yr angenrheidrwydd am gynorthwywr i'r brodyr Morgan John, Thomas Price, Thomas William, a John. Ritichard, fod i'r brawd John Belsher ymroddi yn hollol i'w cynorthwo hyd y Gymdeithasfa Chwarterol nesaf.
"Deallwyd fod y brawd Evan Williams am ein gadael, a myned i fysg yr Ymneillduwyr.
"Cydunwyd fod y brawd Morgan John i gyfnewid taith gyda y brodyr Thomas William a Thomas James.
"Atebwyd llythyr oddiwrth y brawd Richard Charles gyda golwg ar weithio ar y Sabbath, ar fod iddo ymgadw oddiwrth bob gwaith diangenrhaid, a chadw y dydd Sabbath yn sanctaidd.
"Cydunwyd fod y brawd (Herbert) Jenkins i ddyfod o Loegr fis cyn y Gym- deithasfa nesaf, ac yna i fod yn fwy arosol a sefydlog.
"Fod ein Cymdeithasfa. Chwarterol nesaf i íod yn Mhorthyrhyd, tair milltir o Lanymddyfri, y Mercher cyntaf wedi Gwyl Mihangel, a'r brawd Howell Davies i'w hagor, trwy bregethu am ddeg o'r gloch y boreu.
"Fod yr holl frodyr i gadw diwrnod o ympryd a gweddi yn yr wythnos nesaf ar eu penau euhunain, o herwydd amryw faterion.
"Darllenwyd yr holl adroddiadau, ac yr oeddynt yn hyfryd.
"Cydunwyd fod y brawd William Williams i ymweled â'r cymdeithasau yn mhen uchaf Sir Aberteifi, unwaith bob chwech wythnos, ar brawf, hyd y Gymdeithasfa Gyffredinol nesaf."
Diau mai Williams, Pantycelyn, oedd yr ymwelwr hwn. Eithr dealler mai nid efe, yr hwn oedd yn offeiriad ordeiniedig, a osodid ar ei brawf, ond y cynllun yn ol pa un yr oedd i ymweled bob chwech wythnos a'r cymdeithasau. Ni theimlai y Gymdeithasfa yn sicr pa fodd y gweithiai y cyfryw drefniant.
Arosodd Howell Harris yn Nhrefecca, yn adnewyddu tŷ ei breswylfod, ac yn pregethu yn yr ardaloedd o gwmpas, am ryw naw diwrnod wedi y Gymdeithasfa. Gorphenaf 7, y mae efe ai briod yn cychwyn am daith o dair wythnos trwy ranau o Maesyfed, Brycheniog, Caerfyrddin, Morganwg, a Phenfro, gan gyrhaedd Llangug, neu Llangwm, Gorph. 16. Yno cynhelid Cymdeithasfa Fisol. Eithr ar eu ffordd yno buont ar ymweliad â Howell Davies, yn y Parke. Teimlai Harris yn hyfryd wrth fyned tua'r Gymdeithasfa. "Cefais y fath serch at ogoniant Duw," meddai, "fel y llyncwyd yr holl achosion eraill fi fynu yn hyn. Nid oeddwn yn dymuno unrbyw ras na doniau, ond er mwyn ei ogoniant ef. Nid oedd fy iachawdwriaeth fy hunan yn ddim yn ymyl hyn. Llefais: "O Arglwydd, dyro i mi ras, ffydd, cariad, doethineb, gostyngeiddrwydd, a gwroldeb i ymddyrchafu uwchlaw pechod, angau, a Satan, yn unig er mwyn hyn, sef fel y gallaf ogoneddu dy enw, ac ymddwyn fel dy blentyn a'th weinidog di. Am danaf fy hunan, dyro i mi i'th wasanaethu, ac yna gwna fel y mynot a fi, am amser a thragywyddoldeb." Eisteddasom ynghyd yn ein cyfarfod hyd chwech, yn trefnu y cynghorwyr, ac yn penderfynu amryw faterion. Yr wyf yn credu i'r Arglwydd ein bendithio yn fawr, y naill i'r llall, gan roddi i ni gryn oleuni ar amryw bethau. Clywais oddiwrth y brawd William Richard pa mor arswydus yw myned o flaen yr Arglwydd gymaint a cham, a pha mor llym fydd ein dyoddefaint o'r herwydd; ac hefyd y fath farn yw peidio bod a'n hamser yn cael ei lanw gan yr Arglwydd gyda y naill ddyledswydd neu y llall. Sicr yw mai y cynghorwr o Landdewas brefi oedd y William Richard hwn; ac nid annhebyg mai efe ei hun, mewn rhyw amgylchiad neu gilydd, oedd wedi rhedeg o flaen yr Arglwydd, a chwedi cael ei gospi yn drwm am y rhyfyg. Am natur y cam a gymerodd, ynghyd a'r farn a ddisgynodd arno mewn canlyniad, nid oes genym yn awr ond dyfalu. "Dysgais gan amryw frodyr eraill," meddai "yn enwedig pan ddywedai y brawd Thomas Miles os na fydd genym oleuni tufewnol, mai da yw canlyn y llais allanol, sef eiddo rhagluniaeth. Dywedwyd llawer am William Edward (Rhydygele), a George Gambold." Yna ymadawodd Howell Harris am Hwlffordd, lle y pregethodd y noson hono gyda nerth anghyffredin oddiar eiriau yn Llyfr Job.
Y mae penderfyniadau Cyfarfod Misol Llangwm fel y canlyn :—
"Cydunwyd fod y brawd John Harry, gan ddarfod iddo dderbyn cymeradwyaeth, i gynghori fel o'r blaen hyd ein Cymdeithasfa Fisol nesaf, tan arolygiaeth y brawd William Richard.
"Fod y brawd George Bowen i lynu yn ddiwyd wrth ei alwedigaeth bresenol, ac i gynghori yn ei gymydogaeth dan y brawd John Harris.
"Fod y brawd W. Gambold, gan ddarfod iddo gael ei gymeradwyo fel cynghorwr, i fyned o gwmpas gymaint ag a fedr, gyda chymeryd gofal priodol am ei nain.
"Fod y brawd John Morris, gan ddarfod iddo gael ei gymeradwyo fel cynghorwr, i barhau i gadw ysgol, fel y mae yn gwneyd yn awr, hyd nes y bo i ragluniaeth agor drws arall iddo.
"Fod y brodyr John Sparks a John Evans, gan ddarfod eu derbyn a'u cymeradwyo fel cynghorwyr, i arfer eu doniau dan arolygiaeth y brawd Davies.
"Fod y brodyr John Lloyd a John Gibbon i gynghori yn breifat, fel y gwnaent o'r blaen, ac yn gyhoeddus dan arolygiaeth y brawd W. Richard.
"Yr un peth gyda golwg ar y brawd John Hugh.
"Fod y brawd John Griffiths i ymweled a'i gymydogion, ac i ddarllen iddynt ar y Sabbath, ac hefyd i gynghori yn breifat dan y brawd W. Richard.
"Fod y brawd John i gynghori fel o'r blaen ar brawf, a'r brawd William Jones dan arolygiaeth Thomas Miller.
"Fod y brodyr William Lewis a John Thomas i gynorthwyo y brawd John Harris yn ei waith preifat.'
Dyna fel y darllen y cofnodau. Nid ydym yn gwybod y nesaf peth i ddim am. amryw y crybwyllir eu henwau yma: eithr buddiol cadw ar glawr y penderfyniadau gyda golwg arnynt, fel esiampl o ddull y tadau yn cario y gwaith yn mlaen. Aeth Howell Harris a'i briod yn mlaen trwy ranau o Sir Aberteifi, gan alw yn Nghastellnewydd-Emlyn, Blaenporth, Llanwenog, a Chilfriw. Erbyn y 26, yr oeddynt yn Glanyrafonddu. Yna cyfarfyddodd Harris a phrofedigaeth, hanes pa un a gaiff adrodd. yn ei eiriau ei hun: "Ĉefais demtasiwn yn y lle hwn, trwy glywed am gynyg o eiddo Satan i beri rhaniad rhyngom a'r offeiriaid gyda golwg ar y tân sydd yn ein mysg. Neithiwr dygais fy nhystiolaeth yn erbyn ymddygiad eithafol rhai, yn chwerthin allan, yn llamu ac yn neidio, yr hyn y mae yr offeiriaid yn ei gondemnio. Gwedi i mi ddweyd fy meddwl, oddiwrth yr Arglwydd, fel y tybiwn, gwrthwynebwyd fi yn gryf gan y cnawd, a chan reswm daearol; minau a'i cyflwynais i Dduw, gwedi i mi gael nerth i ymddwyn fel Cristion. . . . Cefais atebiad gyda golwg ar yr hyn a ddywedais am y tân, sef fod yr hyn a lefarais yn boddio yr Arglwydd. O fel y mae Duw yn sefyll wrth fy ochr, gan fy nghlirio a'm cyfiawnhau, pan yr wyf yn dinystrio fy hun, a'm cymeriad, ac yn colli fy awdurdod, trwy beidio ymddwyn yn deilwng o lysgenhadwr y nef." Nid yw y difyniad yn hollol glir, ond gallwn feddwl ddarfod i Harris lefaru gyda gwres yn erbyn yr arddangosiadau gormodol o deimlad a wnelid gan rai; i rywrai feiddio ei wrthwynebu, a hawlio fod y cyfryw arddangosiadau yn gyfreithlon, ac iddo yntau mewn canlyniad golli ei dymer, ac ymddwyn, fel yr ystyriai efe yn ganlynol, yn annheilwng o weinidog Crist. Pan dawelodd ei gyffro, cyflwynodd yr holl fater i Dduw yn y nefoedd. Yn mhen enyd, cafodd atebiad ei fod yn iawn yn ei farn; eithr teimlai yn edifar oblegyd colli llywodraeth ar ei yspryd; ac yr oedd yn ymwybodol ddarfod iddo ymddwyn yn annheilwng o lysgenhadwr oddiwrth Dduw. Dyna y rheswm fod ei gydwybod yn ei gondemnio, er fod ei farn ar y mater mewn dadl yn gywir.
Prin y cafodd Howell Harris ddychwelyd i Drefecca nad oedd yn bryd iddo gychwyn drachefn i Gymdeithasfa Fisol, a gynhelid yn Cwmbrith, ger Llandrindod, Awst 1, 1744. Yno, Williams, Pantycelyn, a lywyddai. Y mae y cofnodau am y cyfarfod fel y canlyn:
"Gwedi holi am ansawdd y cymdeithasau yn Sir Drefaldwyn, i'r brawd Richard Tibbot, cydunwyd, gan nad yw ei holl amser yn cael ei gymeryd i fynu, ei fod yn awr, dros amser y cynhauaf, i gynorthwyo'r brodyr, hyd nes y caffo ryw orchwyl arall.
"Ar ol arholiad manwl ar y brawd Edward Buffton am ei wybodaeth o dduwdod yr Iesu, a'i waith yn dwyn pechodau ei bobl ar y pren; am barhad y saint mewn gras; am ddatguddiad yr Yspryd Glân, a thrueni yr holl ddynoliaeth wrth natur, a chael ein boddloni gyda golwg ar ei ras, a'i alwad i lefaru dros y Duw mawr, cydunwyd ei fod i gynorthwyo y brawd Beaumont fel cynghorwr anghyoedd.
"Yn gymaint a bod gwrthwynebiad ac erlid mawr yn Llanllieni (Leominster), ac yn gymaint a bod yr Arglwydd yn rhoddi iddynt nerth ffydd yn eu heneidiau, cydunwyd fod y brodyr i gyfarfod fel arferol, gan orchymyn eu hunain i Dduw; ac os gwneir unrhyw gamwri, fel y byddo y Gair yn cael ei rwystro, a'u bywydau hwythau yn cael eu gosod mewn perygl, fod iddynt ddefnyddio y gyfraith mewn ffydd, a bod y brawd Beaumont i fyned i'w cynorthwyo gwedi i'w wraig gael ei dwyn i'w gwelyfod.'
Yn ychwanegol, gwelwn oddiwrth ddydd-lyfr Harris ddarfod i'r cyfarfod benderfynu fod Daniel Rowland, a Williams, Pantycelyn, i fyned ar daith i Ogledd Cymru; neu i Williams hysbysu fod hyn yn eu bwriad. Meddai: "Teimlais fod holl alluoedd uffern wedi ymgynghreirio yn ein herbyn. Yna cefais gariad mawr at, a chydymdeimlad dwfn â y brodyr Rowland a Williams yn eu gwaith, gan eu bod yn myned yn fuan i Ogledd Cymru, i ganol peryglon; yn ganlynol cefais gydymdeimlad â'r holl Fethodistiaid a'r offeiriaid yn Nghymru, yna yn Lloegr, ac yna dros y byd, am fy mod yn gweled eu bod wedi ymuno mewn un yspryd yn erbyn uffern. O y gwahaniaeth rhwng deall a'r yspryd a dim ond dirnadaeth o wirionedd yn y llythyren!"
Yn mhen deng niwrnod, sef Awst 12, yr oedd Cymdeithasfa Fisol yn Llangeitho. Teithiodd Howell Harris tuag yno trwy Lanidloes a Llanbrynmair, gan bregethu mewn amryw fanau yn Sir Drefaldwyn. Cafodd Richard Tibbot yn gydymaith am beth amser, ac wrth ymddiddan a'r cynghorwr duwiolfrydig hwnw, gwelai mor fychan oedd ei ddirnadaeth ei hun o ogoniant a a dirgelwch pethau dwyfol. Daeth i Langeitho yn hwyr nos Sadwrn. Ar y ffordd, teimlai y fath gariad brawdol at Daniel Rowland fel nas gallai ymatal rhag llefain: "O Arglwydd, anfon genadwri o gariad a nerth drwof fi, greadur gwan, iddo ef, fy mrawd hynaf; ac O, gwared fi oddiwrth fy hen natur, er mwyn dy enw." Boreu y Sul, aeth i'r eglwys erbyn naw. Williams, Pantycelyn, oedd yn pregethu; a'i destun oedd Zechariah xiii. 9: "A dygaf y drydydd ran trwy y tân, a phuraf hwynt fel puro arian, a choethaf hwynt fel coethi aur.” Difyna Harris yn helaeth o'r sylwadau, ac yr ydym yn cofnodi rhai o honynt fel esiampl o arddull gweinidogaeth Williams.
Dangosodd," meddai, "pa fath yw y tân yn mha un y mae yn puro ei bobl. Yn gyntaf, ei fod yn anfon yspryd caethiwed arnynt; nid caethiwed deddfol, yn codi o ofn slafaidd; ond cuddiad ei wyneb. Ei fod yn gadael ffydd iddynt, ond eto yn cuddio ei wyneb, yr hyn sydd yn waeth nag uffern i'r cyfryw ag sydd yn ei garu. Yn ail, ei fod yn puro trwy dân croesau rhagluniaethol, gan nodi Dafydd a Job fel esiamplau. Yn drydydd, trwy ollwng pechod a llygredigaeth yn rhydd ynom, yr hyn yw y tan dirgelaidd, a'r baich trymaf o bob peth i'r Cristion. Yr oedd ei sylwadau yma yn agos. Dangosodd, yn mhellach, effeithiau y tân, ei fod yn rhoddi goleuni, a'i fod yn llosgi pob pechod." Felly y pregethai Williams yn eglwys blwyfol Llangeitho. Meddai Harris: "Yr oedd yn bregeth hyfryd. O'r fath fendith yw gweinidogaeth y Gair!" Ond teimlai hefyd nad oedd yn ddigon clir ar rai pwyntiau. "Er mor rhagorol oedd yr ymadroddion," meddai; "traddodwyd rhai pethau yn y cyfryw fodd, pethau yn y cyfryw fodd, fel pe buaswn yn y cnawd, ac heb gael fy rhyddhau gan Un arall, y cawswn fy nwyn i gaethiwed, o eisiau gwahaniaethu yn fwy clir." Daethant allan o'r eglwys ychydig cyn deuddeg. Yn y prydnawn aethant i Eglwys Llancwnlle; pwy a weinyddai yno ni ddywedir. Yn yr hwyr pregethodd Howell Harris i gynulleidfa fawr oddiar y geiriau: "Fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn;" ac ymddengys fod yr odfa yn un dra grymus.
Yn ol y dydd-lyfr, nos Sabbath, wedi gwaith cyhoeddus y dydd, y cynhaliwyd y Gymdeithasfa Fisol. Meddai: "Daethom adref yn ddedwydd, ac yr oedd undeb hyfryd rhyngom. Eisteddasom i fynu hyd ddeuddeg mewn Cymdeithasfa, ymddiddanasom am lawer o bethau, ac yr oeddym yn hapus yn nghyd." Ychydig o arolygwyr a chynghorwyr oedd yn bresenol, a'r drafodaeth dilynol, yn ol y cofnodau, oedd yr unig fater y bu ymdriniaeth arno: “Wedi ymchwiliad manwl i helynt y brawd Morgan Hughes, ac heb fedru cyduno yn ein goleuni, ni a'i rhoddasom i bleidlais, a fyddai iddo gael llefaru yn breifat neu na fyddai, ac yr oeddem yn gyfartal ranedig. Árosasom am beth amser, a pharhäi pob un yn ei olygiad, un haner am iddo lefaru, a'r haner arall yn erbyn. Felly gadawyd y peth heb ei benderfynu, a'r seiadau i gael eu harolygu gan David Williams a Thomas Griffiths." Prawf sylwadau dydd-lyfr Harris, er fod y brodyr yn y Gymdeithasfa yn rhanedig, na fu dim drwgdeimlad rhyngddynt, ond y cydunent. gyda phob heddwch i wahaniaethu. Ymddengys hefyd i bethau eraill fod yn destunau ymddiddan. Meddai Harris: "Yr wyf yn hyderu fod yr Arglwydd yn myned. i gyflwyno i mi y fraint fawr o ddarllen ac ysgrifenu. Hyn nis gallaf ei wneyd hyd nes y caf ryddid." Ai ysgrifenu llyfrau at wasanaeth y dychweledigion a olyga, nis gwyddom. Eto; Yn awr, gan fod y brodyr Rowland a Williams yn myned i'r Gogledd, gwnaed i mi ddwyn cyfran fechan o'u beichiau, ac i ddadleu ar eu rhan, ar i'r Arglwydd gadw eu calonau mewn buddugoliaeth a rhyddid; gan fy ngweled fy hun yn rhy egwan i'r fath dreialon dirfawr, ac eto yn foddlawn myned, pe y cawn fy anfon. Llefwn: 'O Arglwydd, na âd i'th elynion fuddugoliaethu.'" Cafwyd pregeth yn Eglwys Llangeitho boreu. dydd Llun drachefn, a hyny gan Rowland, yn ol pob tebyg. Yn y prydnhawn, aeth Harris i Llanbedr Pontstephan, lle y pregethodd oddiar gareg yn yr heol i gynulleidfa fawr, oddiar y geiriau yn Job: "Mi a glywais a'm clustiau son am danat.” Dychwelodd drwy Gilycwm a Dolyfelin, gan gyrhaedd Trefecca prydnhawn dydd Gwener.
Yr oedd Cymdeithasfa Fisol yn cael ei chynal yn Nhrefecca yn mhen llai nag wythnos, sef Awst 18. Cymdeithasfa fechan ydoedd; heb yr un offeiriad yn bresenol, a Howell Harris yn llywyddu. A ganlyn yw ei chofnodau:—
"Wedi darllen yr hyn y cytunasem arno yn flaenorol, ac ymgynghori yn nghyd, cydunwyd fod y brawd Thomas Jones i ymroddi yn gyfangwbl i'r gwaith, ac i fod yn gynorthwywr i'r brodyr Thomas Jones, Richard Tibbot, James Beaumont, a Morgan John, a'i fod i ymweled a Siroedd Brycheiniog, Trefaldwyn, y rhan Gymreig o Faesyfed, yn nghyd a seiat Longtown, dan arolygiaeth y brawd Howell Harris.
"Yn gymaint a bod y brawd Evans mewn cyfyngder am ryw arian, eu bod i gael eu benthyca yn uniongyrchol, a bod y mater yn cael ei gyflwyno i'r cymdeithasau, er mwyn ysgafnhau ei faich.
"Fod y brawd Joseph Saunders, mor fuan ag y byddo ei amgylchiadau wedi dod i drefn, i roddi prydnhawn dydd Sadwrn, yn nghyd â'r Sabbath, i ymweled ar yn ail a'r seiadau cymydogaethol.
"Fod y brodyr i wneyd yr oll a allant i gael dau le i bregethu ynddynt bob Sul, a'u bod i drefnu eu cyfarfodydd yn y cyfryw fodd na byddont yn rhwystr ar ffordd neb i fyned i leoedd eraill o addoliad.
"Fod y brawd Thomas Bowen i aros yn Llanfair-muallt am haner blwyddyn heb symud, i aros clywed llais Duw yn fwy clir."
Ychydig sydd yn galw am sylw yn y cofnodau hyn. Dengys y penderfyniad am drefnu y cyfarfodydd fel na rwystrent neb i fyned i leoedd eraill o addoliad, mor benderfynol oedd y Methodistiaid i beidio ymffurfio yn blaid ar wahan. Prawf y trefniant gyda golwg ar gynorthwyo y brawd Evans, sef William Evans, y cynghorwr tanllyd ei yspryd o Nantmel, yn ddiau, mor llawn oedd eu mynwesau o gydymdeimlad, ac fel yr oedd baich un yn dod yn faich pawb.
Yr ydym wedi dangos yn flaenorol ddarfod i erledigaeth ar ran y werinos ddarfod agos yn hollol cyn hyn, yn y rhan fwyaf o'r Deheudir, ac yn neillduol yn Mrycheiniog; yr oedd y teimlad cyffredin wedi troi o du y Methodistiaid. Ond yr oedd yspryd erlid yn cyffroi y boneddigion yn fwy nag erioed. Yn y Sessiwn a gynhaliwyd yn Aberhonddu, Awst 28, 1744, cyflwynwyd y penderfyniad canlynol gan Uchel Reithwyr Brycheiniog i'r Barnwr a eisteddai ar y fainc: "Yn gymaint a'n bod ni, Uchel Reithwyr Sir Frycheiniog, wedi derbyn fel siars oddiwrth Anrhydeddus Farnwr y gylchdaith hon, yn mysg amryw bethau eraill dysgedig a chanmoladwy, y dylem alw sylw at bob. rhwystr ar ffordd ein crefydd sanctaidd, y darn mwyaf gwerthfawr o'n cyfansoddiad gwladol; ac yn gymaint a'i fod yn rhy wybyddus fod amryw (fel yr ydym yn cael ein hysbysu) o gyfarfodydd anghyfreithlon yn cael eu cynal ar y maes, a lleoedd eraill, gan bersonau sydd yn galw eu hunain yn Fethodistiaid, y rhai y mae eu pregethwyr yn honi eu bod yn esbonio yr Ysgrythyrau Sanctaidd tan ddylanwad ysprydoliaeth, trwy yr hyn y maent yn casglu yn nghyd dyrfaoedd. mawrion o bersonau afreolus, er mawr berygl i heddwch teyrnas ein harglwydd Frenhin, a'r hyn, oddigerth iddo gael ei osod i lawr yn fuan, a all beryglu heddwch yr holl ymherodraeth yn gyffredinol; ac yn gymaint a bod y pregethwyr, neu y dysgawdwyr ffugiol hyn, yn eu cyfarfodydd afreolaidd, trwy ei hathrawiaethau penboeth, yn dyrysu meddyliau llawer o ddeiliaid ei Fawrhydi, yr hyn, mewn amser, a eill brofi yn dra pheryglus, hyd yn nod er dinystr ein crefydd sefydledig, ac yn ganlynol dymchwel ein llywodraeth dda, yn eglwysig ac yn wladol; yr ydym, er mwyn bod mor fanwl ag y gallwn wrth ddynoethi y cynllun mileinig hwn, yn cyflwyno i sylw y tai canlynol, sef: Pontywal, plwyf Bronllys, tŷ John Watkins, a thŷ Howell Harris yn Nhrefecca, plwyf Talgarth, y ddau yn y sir hon, fel lleoedd sydd yn cynal ac yn cefnogi y cyfryw gynulliadau afreolaidd; ac yr ydym yn dymuno ar ein Anrhydeddus Farnwr, os nad yw awdurdod y llys yn ddigonol i ddarostwng yr afreoleidd-derau hyn, ar iddo appelio, er cyrhaedd hyny, at ryw awdurdod oruwch, fel y byddo i'n crefydd, heddwch y genedl yn gyffredinol, ac eiddo y sir hon yn neillduol, gael ei dyogelu ar sail ein Sefydliad henafol a chanmoladwy."
Byddai yn anhawdd dychymygu am gofeb mwy gyflawn o anwiredd, a thebycach o gyffroi yr awdurdodau gwladol yn erbyn y Methodistiaid. Nid oedd cofion y rhyfel cartrefol wedi myned ar ddifancoll eto, ac yr oedd y rhyfel rhwng y deyrnas a Ffrainc yn peri fod y llywodraeth yn gwylio gyda llygad eiddigus bob cynulliad, y tybid fod teimlad anniddig yn cael ei feithrin ynddo. Felly, yr oedd Uchel Reithwyr Brycheiniog yn llunio pluen i gyfateb i liw'r dwfr. Anhawdd meddwl na wyddent fod y Methodistiaid yn deyrngarol i'r carn; yr amcanent, hyd ag oedd ynddynt, i gadw yr heddwch cyffredin; na fyddent yn cyna! unrhyw gyfarfod heb weddïo dros y brenhin, a thros bawb oedd mewn awdurdod; ond yr oedd gelyniaeth y boneddigion atynt yn gyfryw, yr hyn yn ddiau a gyffroid gan falais yr offeiriaid erlidgar ac eiddigus, fel nad gormod ganddynt gyflwyno i'r barnwr gwladol, yn mhrif Sessiwn y sir, ddarluniad, y gwyddent ei fod yn gelwyddog, o bobl a geisient addoli Duw yn ol argyhoeddiad eu cydwybod. Pa beth a ddywedodd y barnwr ar yr achlysur, sydd anhysbys; ond sicr yw na ddaeth dim o'r peth.
Yr ydym yn cael Cymdeithasfa yn Abergorlech, Medi 4. Tebygol, oblegyd bychandra rhif y rhai a ddaethant yn nghyd, mai Cymdeithasfa Fisol ydoedd, er na ddywedir hyny yn y cofnodau. Y cymedrolwr oedd Daniel Rowland; ac yr oedd Williams, Pantycelyn, a Howell Harris, yn nghyd â nifer o'r arolygwyr yn bresenol. Pregethai Rowland yn nghapel Abergorlech ar Heb. ii. 11: "Canys yr hwn sydd yn sancteiddio, a'r rhai a sancteiddir, o'r un y maent oll." Dangosai y modd y daethai Crist i sancteiddio ei bobl; mor fawr yw gwaith sancteiddhad; fel yr oedd Crist wedi ymddiosg o'i ogoniant er ei ddwyn yn mlaen; a'r modd yr ydym yn cael ein gwneyd yn gyffelyb i Dduw, er nad yn anfeidrol mewn graddau fel efe. "Cafodd lewyrch anghyffredin," meddai Harris; "ac yn awr, pan yr ydym yn cael ein troi allan o'r capelau, gwnaed i fy enaid lawenychu o'i herwydd, gan fy mod yn gweled yr Arglwydd uwchlaw iddynt oll." Cyfeiria yr ymadrodd "troi allan o'r capelau" at helynt capel Eglwysig Abergorlech, yr hon a ddaw dan ein sylw yn y cofnodau. Yr oll a ddywed Harris am y Gymdeithasfa yn ei ddydd-lyfr yw iddynt gael cyfarfod melus yn nghyd. Y mae ei chofnodau fel y canlyn:
"Cydunwyd fod deiseb at yr Esgob yn cael ei thynu i fynu, gyda golwg ar gapel Abergorlech, yn datgan, gyda phob gostyngeiddrwydd, ein bwriad i barhau Mr. Williams fel bugail; ac, os bydd raid, i ddyoddef o'r herwydd.
Fod y brawd John Morgan i fod yn ddystaw, a pheidio llefaru, hyd y Gymdeithasfa nesaf.
"Fod rhyw gyfran o amser, yn yr wythnos ddyfodol, yn cael ei neillduo gan bob un o honom, er ymostyngiad ac ymbil.
"Fod tỷ i gael ei adeiladu yn Llansawel at ddybenion crefyddol, megys pregethu, a chadw ysgol."
Capel Eglwysig oedd Abergorlech; tebygol na chynelid gwasanaeth crefyddol ynddo yr adeg hon gan yr Eglwys, ac felly i'r Methodistiaid gymeryd meddiant o hono er pregethu, ac efallai gyfranu yr ordinhad, gan fod y lle wedi ei gysegru. Diau mai Williams, Pantycelyn, oedd "y bugail" a ofalai am y lle. Ymddengys fod yr Esgob am eu rhwystro, ac am gau y capel, dyna y rheswm am y ddeiseb, a'r penderfyniad i barhau i bregethu ynddo, hyd yn nod pe eu cospid am hyny. "Yna," ysgrifenai Harris, "daethom i Glanyrafonddu. Pan y clywais am lwyddiant anarferol y brawd Rowland, yn Ngogledd Cymru, llanwyd fy enaid a diolchgarwch." Aeth yn ei flaen, efe a'i wraig, i Langathen; clywodd ryw glerigwr ieuanc yn eglwys y plwyf yn pregethu ystwff rhyfedd yn lle efengyl; a rhwng gwendid corph a chlywed y fath ffwlbri, teimlai y fath wasgfa nas gall iaith ei ddesgrifio. Wedi i'r gwasanaeth orphen pregethodd yntau y tu allan; y testun oedd, y mab afradlon, ac yr oedd y clerigwr yn mysg y gwrandawyr. Cafodd nerth anghyffredin; eithr pan aeth i ddangos fel yr oedd plentyn Duw yn hiraethu am gartref, ac nad oedd yn ofni dydd y farn, marchogodd y clerigwr ieuanc i ffwrdd. Dydd Sadwrn yr oedd Harris yn ei ol yn Nhrefecca. Erbyn cyrhaedd yno cafodd fod cymylau duon yn hofran uwch ei ben; clywai sî fod yr erlidwyr eto am ei bressio i'r fyddin; ond ymgysurai yn nghanol yr oll wrth weled fod pob peth dan ofal yr Arglwydd, ac y gallai oruwch-lywodraethu y cyfan i'w ogoniant.
Y mae y dydd-lyfr yn dra dyddorol, ond rhaid i ni foddloni ar ychydig loffion o hono. Medi 10, ysgrifena Harris: "Heddyw ffafriwyd fi a dau lythyr o Sir Forganwg, yn mhob un o'r rhai y cefais bryd o fwyd gan Duw. Cynwysai un newydd am yr efengyl yn enill tir yn Morganwg, yn mysg y milwyr. Wrth ddarllen, yr oeddwn yn fflam o gariad at Dduw, ac at yr anwylaf Price." Tebygol mai Price, o'r Watford, a ysgrifenasai y llythyr. "Y llall a daer erfyniai arnaf fyned trosodd i borthi fy mhlant ysprydol. Llefwn am gael fy anfon yno, i borthi fy ŵyn, ac am gael fy anfon, ac nid yn waglaw."
Medi II, ysgrifena: "O gwmpas un-ar-ddeg aethum tua thy cwrdd Tredwstan (capel yr Annibynwyr); ofnwn fyned, rhag rhoddi tramgwydd i rywun, ac eto awyddwn am fyned, er cael cyfarfod â fy Nuw. Felly aethum, gyda phob symlrwydd, gan ymddiried y cwbl iddo ef. Er fod dyn yn pregethu nas gallwn farnu dim am ei ras; ac er fod yn ei bwnc fwy o reswm nag o Grist O na baent ddoethion'-eto, cefais symlrwydd i wrando, ac i dderbyn y cyfan mewn cariad a gostyngeiddrwydd. Ar y dechreu, llefais ar ran y gynulleidfa hon, a holl gynulleidfaoedd yr Ymneillduwyr perthynol i'r genedl, ar i'r Arglwydd ddychwelyd atynt, a'u llanw. Yn nesaf, pan y dywedai mai un ran o ddoethineb yw cael amcan cywir er gogoniant Duw, a chael cymdeithas ag ef, teimlais awyddfryd cryf am hyn, ac am hyn yn unig. Dengys y difyniad hwn (1) fod yn mysg y Methodistiaid rai mor llawn o ragfarn at yr Ymneillduwyr, fel ag i beri i Howell Harris ofni eu tramgwyddo wrth fyned i gapel Ymneillduol. (2) Nad oedd Harris. ei hun yn cyfranogi mewn un gradd o'r cyfryw ragfarn, er ei fod yn dra ymlyngar wrth yr Eglwys Sefydledig; ond yn hytrach y disgwyliai gyfarfod a'i Dduw dan weinidogaeth brawd o Annibynwr. (3) Fod y weinidogaeth Ymneillduol yr adeg hono, os oedd y bregeth yn Nhredwstan yn engrhaifft deg o honi, yn rhy amddifad o Grist, yn marn y Diwygiwr, ac yn pwyso yn ormodol ar ddyledswyddau. (4) Y teimlai Harris fod presenoldeb yr Arglwydd wedi gadael yr Ymneillduwyr yn Nghymru, y pryd hwnw, i raddau mawr beth bynag, a'i fod yntau yn llawn o yspryd gweddi ar i Dduw ddychwelyd i'w plith.
Dydd Sadwrn, Medi 17, cychwyna Howell Harris a'i wraig am daith faith, mewn rhan, o ufudd-dod i wahoddiad y brodyr yn Morganwg, ac mewn rhan, er bod yn bresenol mewn amryw Gymdeithasfaoedd. Pregethodd y noson hono yn nghapel Eglwysig Grwynefechan gyda nerth anghyffredin. Gwelai fod gan Dduw blant yno. Aeth yn ei flaen i Lanbedr, ger Crughywel; a boreu y Sul yr oedd yn Cwm Iau, yn gwrando yr offeiriad duwiol, Mr. Jones. Pregethodd yntau yn felus oddiar Dat. iii. 3, gan agor yr addewidion. Yn y prydnhawn, pregethai Harris; yr oedd ei wendid corphorol gymaint, fel y methai fyned yn ei flaen; llefodd ar yr Arglwydd mewn ffydd am nerth, gan ddweyd: “Pa beth bynag a gaf genyt, oni wariaf ef oll er dy fwyn di?" Mewn atebiad i'r weddi daeth nerth; testun y sylwadau oedd y geiriau yn Ioan: "Fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn;" ond yn lle bod yn fab dyddanwch, gwnaed iddo daranu, nes yr oedd yr holl dorf yn cael ei chyffroi. Oddiyno aethant i Aberbig; yr oedd mor sal fel mai o braidd y gallai siarad; ond wrth lefaru oddiar 1 Ioan iii. 1, cafodd nerth, enaid a chorph; daeth yr Arglwydd i'w mysg mewn modd anarferol iawn; agorwyd ei enau yntau yn rhyfedd i ddangos rhagorfreintiau y duwiolion, a natur cariad Duw tuag atynt. Dydd Llun y maent yn y Goetre, dydd Mawrth yn Llanheiddel, Mercher yn Tonsawndwr, Iau yn St. Bride, a nos Iau cyrhaedda Watford, lle y mae Cymdeithasfa Fisol yn cael ei chynal. Harris oedd y cymedrolwr. Meddai: "Gwelwn y fath anrhydedd a osodid arnaf, fy mod yma fel cymedrolwr; darostyngwyd fi yn fy yspryd oblegyd hyn, a gwnaed i mi grynu rhag ofn balchder. Daeth yr Arglwydd i'n mysg, a thynodd i lawr lawer o waith Satan, megys rhagfarn, &c., a rhoddodd i mi ddoethineb rhyfedd, gan ddysgu i mi trwy bob peth lawer o wersi." Pregethodd ar y diwedd i gynulleidfa anarferol o fawr. Darllena cofnodau y Gymdeithasfa fel y canlyn:
"Gan fod y gelyn wedi dechreu creu peth rhagfarn rhwng rhai o'r llafurwyr, yr hyn a gododd oddiar ddiffyg rhagor o gariad a gostyngeiddrwydd wrth lefaru yn gyhoeddus, ac mewn ymddygiadau preifat, wedi dysgwyl yn ostyngedig wrth Dduw, pob un yn agor ei galon ac yn cyfaddef rhyw fai, a phawb wedi dysgu gwersi pwysig, gan weled yn neillduol nad digon fod y llygad yn syml, ond y rhaid i'r rheol a'r bwriad fod yn iawn, a'r oll mewn yspryd iawn, cyn y byddo ein hymddygiad yn ddyogel, cydunasom, ac yr oeddym yn un, bendigedig fyddo Duw, gan ganfod llawer o ddichellion y gelyn. Gan fod y brawd Howell Griffith wedi cael ei oddiweddid gan fai, a chwedi dangos profion digonol of edifeirwch gwirioneddol at y brodyr, cydunwyd ei fod i gael ei dderbyn drachefn ar brawf, ar yr amod ei fod yn cymeryd gofal am achos ei gwymp yn y dyfodol.
"Fod y brawd Richard Jones i gael ymddiddan ag ef gan y brawd Harris, ac i gael ei dderbyn yn unig ar arwyddion o wellhad oddiwrth ei ddifaterwch, yr hyn a ddangosodd yn mhen dau ddiwrnod wedi siarad ag ef gerbron yr holl seiadau yn St. Nicholas, pan y trefnwyd ei fod ef a'r brawd Thomas Lewis, Pwllymeirch, it gyfnewid bob yn ail Sabbath, ac i gadw yn ddifwlch eu cymundeb â'r brodyr.
"Trefnwyd y goruchwylwyr yn seiadau. St. Nicholas, ac hefyd yn seiadau St. Andrews, Aberthyn, ac Aberddawen.
"Gan ddarfod i Thomas Williams ddweyd rhywbeth yn erbyn y gŵn a'r cassog (cassock and gown), addefodd nad hwy eu hunain oedd mewn golwg ganddo, eithr gwneuthur eilunod o honynt.
"Addefodd y brawd Powell hefyd ei fai, ddarfod iddo gyfeirio at y brodyr Price a Belsher fel rhai heb fod yn uniongred mewn rhai egwyddorion; ac ystyrid ei fod yn ddiofal wrth anog y bobl i beidio parchu y pregethwyr yn fwy nag eraill; fod hyn. yn tueddu i wanhau dwylaw y pregethwyr, ac yn rhwystro y bobl i barchu y swydd; er mai ei amcan ef (Powell) oedd peidio gwneyd eilunod o honynt, neu dderbyn wyneb personau yn ol y cnawd."
Dengys y cofnodau hyn fod y Methodistiaid yn dechreu cyfarfod â rhwystrau mewnol; fod rhai o'r cynghorwyr a berchid fwyaf yn cael eu dal gan feiau, a mawr angen am eu hadgyweirio; ac nad oeddynt yn gwbl rydd oddiwrth eiddigedd a rhagfarn y naill at y llall. Y mae yn amlwg nad yw diwygiad grymus, a theimladau dyfnion a chyffrous, yn dinystrio yr hen ddyn yn y bobl oreu mewn diwrnod. Anhawdd peidio gwenu wrth weled y mawr ofal a gymerir rhag i neb lefaru gair condemniol am bethau perthynol i'r Eglwys, ac yn arbenig y gwisgoedd offeiriadol. Ond y mae yn deilwng o sylw nad oedd yr un offeiriad urddedig yn bresenol yn y Gymdeithasfa; ac felly nad neb o honynt. hwy oedd yn gyfrifol am yr eiddig. edd hwn. Aeth Howell Harris yn bur fanwl trwy ranau o Sir Forganwg a Sir Gaerfyrddin, gan gyfeirio ei gamrau tua Phorthyrhyd, lle y cynhelid Cymdeithasfa Chwarterol, Hydref 3 a 4. Prawf y difyniad canlynol ansawdd ei yspryd: Cefais nerth i ddymuno ar i mi gael fy ngwneyd yn fendith i bawb, y ffordd yr wyf yn teithio; i'r cynghorwyr, ac i'r ŵyn, fel y gallwn fendigo pob tŷ yr awn iddo, a bod o les i bawb sydd yn fy ngwrando. Gwelais y fath anrhydedd y mae Duw yn roddi arnaf trwy fy ngosod yn y fath safle. Gweddïais dros y gweithwyr, yn arbenig ar iddynt fod yn un.”
Y diwrnod cyn y Gymdeithasfa daethant i gapel Abergorlech, lle y pregethai Rowland, oddiar y geiriau: "Dos yn fy ol i, Satan." Ymddengys ei bod yn bregeth amserol, a thra miniog. Y "Satan' yr anogai y brodyr i ddweyd wrtho, "Dos yn fy ol i," oedd balchder. Ymhelaethai ar ymfalchio mewn doniau, ac mewn grasusau, gan ddangos i'r rhai na feddent ddawn mor ddedwydd ydynt, eu bod yn gyffelyb i lwyn isel, yn ddyogel rhag llawer o dreialon a phrofedigaethau at chwythant ar y rhai sydd wedi eu donio yn helaeth; ac fel yr oedd yr Arglwydd yn edrych ar ffydd yn hytrach nag ar ddoniau. Yna llefarai wrth y rhai a feddent ddoniau, gan ddangos yn (1) Nad yw y doniau wedi eu rhoddi er ein mwyn ni, ond er mwyn eraill; (2) Fod y rhai a feddant lawer o dalentau yn aml yn brin mewn gras; (3) Nad yw dawn yn ddim yn ngolwg Duw mwy na phe byddent hebddo; mai ar ffydd yr edrych efe; (4) Fod doniau yn cael eu rhoddi yn amodol; y gellir eu cymeryd ymaith, a bod hyn yn cael ei wneyd yn aml; (5) Fod doniau yn aml yn arwain i brofedigaethau, fel siaced fraith Joseph. Yna trodd at falchder mewn grasusau, gan egluro fod Duw yn erbyn pob ffurf ar falchder, nad oes dim a wneir mewn balchder yn llwyddo. Yn ddiweddaf, dangosodd arwyddion ymfalchio mewn gras, sef mawrhau ein gras, ac ymddiried ynddo, yn lle yn Nghrist. Pregeth i'r cynghorwyr ydoedd yn benaf; yr oedd pob gair yn dweyd ar Howell Harris. "Gwnaed i fy enaid blygu o dan y Gair," meddai; "llefwn am ostyngeiddrwydd i mi fy hunan ac i'r cynghorwyr. Pan y clywais fod y sacrament i gael ei weinyddu, wedi i'r capel fod yn nghau, llanwyd fy enaid at diolchgarwch, gan weled fod yr Arglwydd yn dychwelyd atom. Ond pwy sydd yn cael ei lethu gan y fath gorph o falchder a mi! Y fath gwympiadau wyf yn gael o'r herwydd!"
Gwelwn ddarfod i ymdrech y Methodistiaid gyda golwg ar gapel Abergorlech fod yn llwyddianus. Pregethai Rowland drachefn yn Glanyrafonddu, y nos flaenorol i'r Gymdeithasfa. Ei destun oedd, Datguddiad xiv. 1. Wrth fyned yn nghyd tua. Phorthyrhyd cyfarfyddasant a nifer mawr o frodyr a'u gwyneb ar y cyfarfod. Clywodd Harris amryw newyddion a'i llonodd yn fawr: (1) Fod yr Archesgob wedi cynyg ordeinio un o bobl Mr. Wesley; (2) Pan y tynwyd y cwyn yn erbyn ei dy yn Nhrefecca (gan yr Uchel Reithwyr yn Sessiwn Aberhonddu), i Mr. Joseph Hughes sefyll yn ei erbyn, a'i rwystro; (3) Fod yr Arglwydd wedi bendigo Mr. Gw. i agor ei ddrws i bregethu; (4) Fod yr efengyl yn enill tir mewn gwahanol ffurf mewn llawer o leoedd. Agorwyd y Gymdeithasfa trwy bregeth gan Daniel Rowland. Ei fater oedd, yr Arglwydd yn fur o dân o amgylch ei bobl. Yna anerchodd Howell Harris y cynghorwyr ar anrhydedd, mawredd, a phwysigrwydd y gwaith ; eu hanghymwysder ar ei gyfer, gan ddangos y fath rai oeddynt, a phwy a pha fath oedd eu gelynion; natur gwir ostyngeiddrwydd, ei fod yn golygu ein bod yn ddim yn ein golwg ein hunain, a'n bod mor ofalus am helynt y brodyr ag am ein helyntion ein hun; a'r angenrheidrwydd oedd arnynt oll am ddoethineb. "Wrth agoshau at Dduw," meddai, "cefais y fath oleuni yn fy yspryd, na chefais ei gyffelyb erioed o'r blaen. Yna cawsom ymddiddan maith ar natur ymrwymiad (contract); a chawsom lawer o oleuni, yn neillduol i weled mor anwybodus ydym.”
Ymadawyd y noson hono mewn tymer hyfryd; ond boreu dranoeth cyfododd tymhest yn eu mysg. Caiff Howell Harris adrodd yr hanes. "Y boreu hwn," meddai, "cawsom groes. Ceryddais i y brawd Rowland, ac eraill, am hunanesmwythid, ac am beidio myned o gwmpas gymaint ag a ddylai. Digiodd yntau. Ond yn fuan drylliodd yr Arglwydd y fagl, ac ail unodd ni. Ymresymais i yn erbyn y ddau, a'r Arglwydd a ddrylliodd fy nghalon, ac a'm darostyngodd yn y fath fodd, fel yr oeddwn yn foddlawn nid yn unig i'r brodyr weled fy ngwendidau, ond yn llawenhau yn hyny; ac oddiar ymdeimlad o'm llygredigaethau a'm gwendid llefwn am gael fy ngosod o'r naill du, gan weled pob un o honynt yn llanw ei le yn well na mi. Yr oeddwn yn wir wedi fy narostwng; nis gallwn lai nag wylo ger eu bron, gan gyfaddef beth oedd allan o le; gallwn orwedd wrth eu traed hwy oll." Y mae yn bur amlwg ddarfod i dymherau poeth Harris ei orchfygu yma eto, a pheri iddo roddi briw i'w frodyr; ac yr ydym yn ei gael yntau yn y llwch. mewn canlyniad, yn gruddfan ac yn wylo, ac yn taer ddymuno maddeuant. Yn sicr, darfu canfod y dewr pan yn wyneb perygl, yn ei ddagrau gerbron ei frodyr, effeithio yn ddwys ar y frawdoliaeth, a gorchwyl hawdd a dedwydd oedd estyn maddeuant iddo. Ymadawyd yn y teimladau goreu. A ganlyn yw penderfyniadau y Gymdeithasfa, fel y maent wedi eu croniclo yn y cofnodau:
"Wedi cryn ymgynghoriad gyda golwg ar fawredd y gwaith, ac am weled a theimlo ei faich, cydunwyd i gadw dau ddiwrnod i fod yn nghyd.
"Fod un o'r offeiriaid urddedig i bregethu yn mhob Cymdeithasfa Chwarterol, yn olynol; ac os rhwystra rhagluniaeth yr un benodwyd rhag bod yn bresenol, fod y nesaf ato i bregethu.
"Cydunwyd i ysgrifenu at y brodyr Davies, a John Harris, am na ddarfu iddynt anfon rheswm dros eu habsenoldeb; ac hefyd at y brawd Thomas Miller, oblegyd llwyr esgeuluso ein Cymdeithasfaoedd.
"Fod y brawd Jenkins, oblegyd yr angenrheidrwydd presenol, a'i alwad i Loegr, i fod yn gyfangwbl yno, oddigerth pythefnos bob tri mis, y rhai y mae i'w rhoddi i ni, adeg ein Cymdeithasfaoedd Chwarterol.
"Fod y brawd Benjamin Thomas i gynorthwyo y brawd Harris, yn lle y brawd Jenkins, yn arolygiaeth holl Gymru.
"Fod y brawd James Ingram, gwas cyflog gyda y brawd Harris, i'w gynorthwyo fel cynghorwr, ac ysgrifwas, ac i gael ei anfon ganddo i Loegr a Chymru, i gynorthwyo, fel y bo galw; efe a'r brawd Thomas ar brawf hyd y Gymdeithasfa nesaf.
"Fod y brawd Roger Williams i fyned i Ferthyr, i ddilyn ei alwedigaeth, ac i gynorthwyo y brodyr Thomas James, a Morgan John, ar brawf hyd y Gymdeithasfa nesaf.
"Fod y rhai hyny o'r arolygwyr a feddant oleuni a chymhwysder, i gael rhyddid i egluro yr Ysgrythyrau; ond am y cynghorwyr anghyoedd, nad ydynt i lefaru mewn ffordd o bregethu, oddiar destun, ond cynghori neu esbonio. Hyn i'w gadarnhau eto, pan y ceir rhagor o oleuni.
"Fod y brawd Harris i gario cerydd yn enw y brodyr at y brawd John Williams, oblegyd ei esgeulusdod i wylio dros y cymdeithasau sydd dan ei ofal; a'i fod i gael myned yn mlaen eto ar brawf am fis, ond ei fod i gael ei droi allan y pryd hwnw oddigerth iddo ddangos ffyddlondeb ac ufudd-dod."
Y mae amryw bethau teilwng o sylw yn y cofnodau hyn, ond nid oes genym hamdden i fanylu. Hyfryd deall, modd bynag, i Howell Harris ymweled ar ei ffordd adref a'r brawd John Williams, a chael ganddo blygu hyd y llawr. "Nid oeddwn fel y dylaswn," meddai Harris, "eto efe a ddarostyngwyd ac a doddwyd; a daeth arnaf yr hyn na theimlais erioed o'r blaen yr un fath, sef baich yr Arglwydd. Yr oedd yr Arglwydd yn wir yn agos atom ein dau; drylliodd ein calonau, ac wylasom."
Nid llawer o amser a gafodd Howell Harris yn Nhrefecca wedi dychwelyd; yn fuan yr ydym yn ei gael yn cychwyn am Gymdeithasfa Fisol, a gynhelid yn Nantmel, Sir Faesyfed, Hydref 18. Ar ei ffordd tua Nantmel, cafodd ddwy odfa ryfedd, yn wir, odfaeon hynotaf ei oes. Meddai: "Gwnaeth yr Arglwydd y dydd hwn yn ddiwrnod mawr i mi. Mewn lle o'r enw Gwernfyddai, tua deng milltir o Dalgarth, gweddïais a phregethais oddiar 1 Ioan i. 7; cefais ryddid mawr; dysgwyd fi pa fodd i drywanu, a chlwyfo, ac argyhoeddi y rhai oeddynt heb Dduw, ac yn byw mewn pechod. Yr oedd y llewyrch yn anghyffredin. Yna, daethum i Trefilod, lle sydd tua dwy neu bedair milltir yn mhellach. Ar y ffordd cefais olwg eglurach nag erioed ar fawrhydi a gogoniant Duw, a hyny fel sicrwydd y gwnai fy nwyn trwy yr holl dreialon ato ei hun. Cefais ddatguddiad hefyd o ogoniant yr Iesu, a rhyddid mawr wrth lefaru oddiar Dat. xii. 1. Dangoswn fel yr oedd duwdod Crist yn cael ei amlygu i'r eglwys; y fath awdurdod sydd yn yr amlygrwydd a rydd Duw; effeithiau hyn ar ein heneidiau.
Yr oeddwn yn cyrhaedd hyd adref yma Dangosais y modd y dylem wrando a gweddïo; ein bod yn dyfod i gyfarfod â Duw, a'r modd pan y deuwn yn ddifater nad ydym yn ei weled. Yr oeddwn yn. awr yn trywanu i'r byw, ac yn llefaru gydag awdurdod mawr. Dangosais fod rhai pechodau a drwg arferion y geill plentyn syrthio iddynt, a rhai nas gall; a'r modd yr oeddynt yn gaethion iddynt eu hunain ac i'r byd. Yr oedd yn lle ofnadwy mewn gwirionedd. Cafodd llawer, mi a hyderaf, eu dychwelyd." Gwelir mai gwirioneddau amlwg a syml yr efengyl a gyhoeddai Howell Harris; nid yw yn ymddangos fod y sylwadau ychwaith yn nodedig am eu trefnusrwydd; ond yr oedd arddeliad dwyfol ar ei eiriau; teimlai y dorf oedd o'i flaen fod ganddo genadwri oddiwrth Arglwydd yr holl ddaear; a chrynent fel dail yr aethnen gerbron y nerth anorchfygol a deimlid.
Brysiodd Harris i Nantmel, lle y pregethai Daniel Rowland. Yr oedd y teimlad dolurus a gynyrchwyd yn Mhorthyrhyd wedi llwyr iachau erbyn hyn. Meddai y dydd-lyfr: "O gwmpas pump aethum i'r Gymdeithasfa, a theimlais yn fy enaid, trwy yr Yspryd Glân, undeb a'r brawd Rowland. O, y fath ddirgelwch sydd yn yr eglwys, na wyr y byd ddim am dano! Y fath gydgymundeb ag ef ei hun y mae yr Arglwydd yn roddi i'r creaduriaid tlawd sydd yn cael eu ffafrio ganddo! Cefais y fath undeb a'r holl frodyr, fel nas gallwn feddwl am eu gadael ar ol; yr oeddwn yn un â hwynt. Cefais oleuni anghyffredin wrth arholi cynghorwr ieuanc, a dangos iddo fawredd y gwaith. Ymdrinasom a llawer o bethau, gan drefnu diwrnod o ymostyngiad a gweddi, unwaith y mis, a chymorth i'r saint erlidiedig yn Llanllieni, a gwasgu ar yr ŵyn i rodio yn fwy agos, ac i ddwyn ffrwyth. Teimlwn fy nghalon yn llosgi ynof. Yna agorwyd fy ngenau gan yr Arglwydd i lefaru am y rhyddid Cristionogol, am fuddugoliaeth ar bechod a Satan, y fraint o fod yn gredinwyr, perygl clauarineb, a'r angenrheidrwydd am zel, tân, a bywyd; na ddylem fod mewn caethiwed, onide nas gallwn arwain yr ŵyn i ryddid. Ond hyd yn nod pe byddem ni ein hunain tan draed Satan, na ddylem dynu eraill yno, ond yn hytrach llawenychu wrth weled eraill yn gorchfygu. Yr oeddwn i yn yr Yspryd; ac yr oeddym oll yn hyfryd a dedwydd. Teimlwn fy hun yn fwy o goncwerwr ar ddiafol a phechodMAP O DEITHIAU HOWELL HARRIS, WEDI EI DYNU GANDDO EF EI HUN.
[Cafwyd hwn yn mysg ei bapyrau rhyddion. Ar y tu cefn ceir taflen gyflawn, yn dangos pellder y gwahanol leoedd.]
nag erioed. Ysgrifenasai un brawd lythyr i'm ceryddu i a'r brawd Rowland am ein hysgafnder. Cefais nerth i'w ateb mewn cariad."
Felly yr ysgrifenai Howell Harris am Gymdeithasfa Nantmel; hawdd gweled fod cariad brawdol yn llifo yno. Yr oedd y Diwygiwr o Drefecca yn arbenig ar yr uchel fanau, y diafol a phechod tan ei draed, a'i galon yn nghlwm wrth eiddo ei frodyr. A ganlyn yw y cofnodau:—
"Wedi arholiad, a dangos natur a mawredd y gwaith o gynghori, penderfynwyd fod y brawd Thomas Meredith, Mochdre, i gynghori ar brawf yn ei seiadau ei hun.
"Gwedi hir ymddiddan parthed stâd y cymdeithasau, perygl clauarineb, a'r angenrheidrwydd am dân dwyfol, a bywyd, cydunwyd ar i'r holl frodyr gyffroi y bobl i wrando lle y mae arwyddion o fywyd, ac i dderbyn yn serchus bob cenad sydd a bywyd ynddo.
"Cydunwyd, gan fod esgeulusdra cyffredinol gyda golwg ar ddwyn ffrwyth i'r Arglwydd, ac hefyd yn rhodiad rhai, fod y bobl i gael eu hanog i ddwyn ffrwyth, ac i rodio yn addas.
"Fod dydd o ymostyngiad a gweddi i'w gynal unwaith yn y mis, i ymddarostwng oblegyd ein pechodau, a phechodau yr holl eglwys weledig, yn nghyd ag eiddo yr holl fyd, yn arbenig gyda golwg ar y rhyfel.
"Fod y dydd cyntaf o Dachwedd nesaf i gael ei gynal yn ddydd o ymostyngiad trwy yr holl seiadau, o herwydd yr erledigaeth yn Llanllieni.
"Fod y brawd Richard Tibbot i fyned at y brawd John Richard i ddysgu y grefft o rwymo llyfrau."
Yn mhen pum niwrnod cynhelid Cymdeithasfa Fisol yn Nhrefecca. Howell Harris a lywyddai. Yr holl gofnod a geir am dani yw hyn: "Wedi agor ein calonau i'n gilydd, a chydnabod ein clauarineb a'n difaterwch, yn nghyd ag arafwch ein cynydd mewn sancteiddrwydd, a hyny gyda chalonau drylliog i raddau, a than deimlad o ddrygedd ein pechodau ein hunain, a phechodau eraill, cadarnhawyd y penderfyniadau a basiwyd yn Nantmel."
Y mae y nodiad canlynol yn dra arwyddocaol o safle Howell Harris yn nglyn â'r diwygiad: "Ni chynhaliwyd rhagor o Gymdeithasfaoedd Misol y chwarter hwn. Aeth y brawd Harris i Lundain." Cychwynodd Howell Harris a'i briod tua'r brif—ddinas tua chanol Tachwedd, a dychwelasant yn eu holau dydd Sadwrn, Rhagfyr 29.
Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.
Nodiadau
golygu- ↑ North British Retiew, 1847
- ↑ Tyerman's Life of John Wesley
- ↑ Johnes Causes of Dissent in Wales.
- ↑ Welsh Piety
- ↑ Welsh Piety
- ↑ Welsh Piety
- ↑ Pratt's Gleanings in Wales, Holland, and Westphalia.
- ↑ A view of the State of Religion in the Diocese of St. David's about the Beginning of the Eighteenth Century Tudalen 17
- ↑ Welsh Calvinistic Methodism, tudalen 18.
- ↑ Welsh Calvinistic Methodism tualen 19
- ↑ Welsh Calvinistic Methodism tualen 19
- ↑ A view of Religion in the Diocese of St David tudalen 17
- ↑ Diocesan History of St. David's
- ↑ Gwaith y Parchedig Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir). Golygedig gan D. Silvan Evans, B.D., tudal. 202
- ↑ State of Religion in the Diocese of St David's
- ↑ Welsh Piety
- ↑ Welsh Piety
- ↑ Diocesian History of St David's
- ↑ A View of the State of Religion in the Diocese of St david's
- ↑ History of Protestant Nonconformity in Wales tudalen 278
- ↑ History of Protestant Nonconformity in Wales tudalen 413
- ↑ History of Protestant Nonconformity in Wales tudalen 172
- ↑ History of Protestant Nonconformity in Wales tudalen 259
- ↑ Welsh Calvanistic Methodism
- ↑ History of Protestant Nonconformity in Wales tudalen 226
- ↑ Life of Howell Harris by H J Hughes tudalen 181
- ↑ History of Protestant Nonconformity in Wales tudalen 369
- ↑ Welsh Calvinistic Methodists tud 23-24
- ↑ Causes of Disent in Wales
- ↑ The Charity Commissioners' Report Relating to Wales vol i
- ↑ History of Protestant Nonconformity in Wales p. 318 2ed
- ↑ Welsh Piety, 1742
- ↑ Sir Thomas Phillips' Wales P 284
- ↑ Y Parch. Owen Jones, B.A. yn y Lladmerydd, 1887
- ↑ Y Parch Owen Jones BA Liverpool yn Lladmerydd 1887
- ↑ Trysorfa Ysbrydol Llyfr II
- ↑ Weekley History
- ↑ Weekly History 1743
- ↑ Weekly History 1743
- ↑ Weekly History 1743
- ↑ Life and Times of Selina, Countess of Huntingdon tudalen 85
- ↑ Causes of Disent in Wales
- ↑ Y Drysorfa 1813
- ↑ Enwogion y Ffydd
- ↑ Methodistiaeth Cymru Cyf i tudalen 69
- ↑ Y gerdd yn gyfan: Saith o Farwnadau/Y Parch Daniel Rowlands, Llangeitho
- ↑ Methodistiaeth Cymru, Cyf. i. tudal. 66
- ↑ The Life of Howell Harris, tudal. 45
- ↑ Traethodau Llenyddol, tudal 479
- ↑ Hanes y Bedyddwyr, tudal. 53
- ↑ Traethodau Llenyddol tudal 479-480
- ↑ Weekley History
- ↑ Weekley History
- ↑ Weekly History
- ↑ Weekly History
- ↑ Methodistiaeth Cymru Cyf i tudal 630
- ↑ Weekly History
- ↑ Ibid
- ↑ [[Drych yr Amseroedd/Hanes Mr. Daniel Rowlands|Drych yr Amseroedd tudal 79-81
- ↑ Weekly History
- ↑ Enwogion y Ffydd
- ↑ Ministerial Records
- ↑ Ministerial Records tudal 54
- ↑ Weekly History
- ↑ Ministerial Records
- ↑ Traethodau Llenyddol tudal 498
- ↑ Ministerial Records
- ↑ Llyfr 1af tudal 103
- ↑ Ibid tudal 136
- ↑ Ibid tudal 137
- ↑ The Life and Times of Selina, Countess of Huntingdon Cyf II tudal 118
- ↑ Ministerial Records
- ↑ Cofiant John Jones, Talsarn
- ↑ Hanes Bywyd Christmas Evans.
- ↑ Cofiant y Parch John Jones, Talsarn Rhan II
- ↑ Tudal 368
- ↑ Trysorfa Ysprydol
- ↑ Hunan-gofiant
- ↑ Oxford Methodists, gan Tyerman, tudal. 18.
- ↑ Tyerman's Oxford Methodists.
- ↑ History of the Parish of Aberystruth
- ↑ Methodistiaeth Cymru, cyf. i.
- ↑ History of Protestant Nonconformitiy in Wales, tudal. 415.
- ↑ Methodiastiaeth Cymru
- ↑ Llythyrau at Miss Anne Williams, Y Scrin
- ↑ Methodistiaeth Cymru, cyf. i., tudal 98.
- ↑ Wrth ** y meddylir Ann Williams, o'r Ysgrin, yr hon ddaeth wedi hyny yn wraig i Howell Harris.
- ↑ Methodíistiaeth Cymru
- ↑ Ibid
- ↑ Gwel tudalen 51.
- ↑ Cofiant John Jones, Talsarn.
- ↑ Methodistiaeth Cymru.
- ↑ Yr ydym yn ddyledus am lawer iawn o gynwys yr ysgrif hon i'r Parch. E. Meyler, Hwlffordd, yr hwn ni arbedodd boen na thrafíerth i geisio dod o hyd i ffeithiau; a'r hwn yn ogystal sydd yn edmygydd mawr o Howell Davies.
- ↑ Weekly History
- ↑ Weekly History.
- ↑ Ibid.
- ↑ Ysgrif y Parch. E. Meyler.
- ↑ Methodistiaeth Cymru.
- ↑ Cofiant y Parch. J. Williams, Pantycelyn, gan y Parch. Maurice Davies, Llanfair-yn-Muallt, tudal. 24.
- ↑ Y Parch. W. Williams, Abertawe, yn Nhrysorfa 1865 tudal. 123.
- ↑ Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, cyf. iii., tudal. 583.
- ↑ Gweithiau William Williams Bantycelyn, gan y Parch. N. Cynhafal Jones, cyf. i., tudal. 163.
- ↑ Ateb Philo Evangelius
- ↑ Gadael yr Eglwys Wladol o'i wirfodd a wnaeth efe, ar gais ei frodyr yn Sasiwn Watford; ac efe oedd y cyntaf o'r Tadau a'i gadawodd hi.
- ↑ Gwel Methodistiaeth Cymru, cyf. ii., tudal. 27.
- ↑ Methodistiaeth Cymru Cyf. i., tudal. 206.
- ↑ Mae yma gamargraff. Pan yr oedd Williams yn 73 oed, yr oedd wedi bod yn pregethu am 50 mlynedd, ac nid am 43. Y mae y dyfyniad Seisonig, a geir yn nechreu yr ysgrif hon, yr un mor wallus. Felly y ceir y cyfrif gan y Parchn. .J. Hughes a N. Gynhafal Jones. Ceir y cyfrif yn gywir yn y copi o lythyr Williams at y Parch. T. Charles, fel y mae yn Yr Arweinydd, cyf. v., tudal. 180. Dyddiad y llythyr yw Ionawr 1af, 1791. Dywed yno fel yma:— "Deallwch, er fy mod wedi gwella rhyw faint o'r poen dirfawr fu arnaf, nid wy' ond gwan a llesg eto, ac yn analluog iawn, ac nid oes geni fawr gobaith gallu dyfod allan fawr neu ddim byth mwy, am fy mod yn 73 oed; ond meddyliwch fath siomedigaeth i ddyn ag oedd yn trafaelio agos i dair mil o filldiroedd bob blwyddyn tros 50 o flynyddau, fod yn awr heb drafeilio dim rhagor na 4 o droedfeddi yn y dydd, sef o'r tân i'r gwely."
- ↑ Hen Farwnadau, gan y Parch. T. Levi.
- ↑ ibid'
- ↑ Gweithiau Williams, gan y Parch. N. Gynhafal — Jones, D.D., cyf. ii, tudal.
- ↑ Llythyr oddiwrth y Parch. Owen Jones, M.A., Llansantffraid.
- ↑ Ieuan o Leyn
- ↑ Dafydd Ddu
- ↑ Howell Ieuanc o Lanllyfni
- ↑ Gwallter Mechain
- ↑ Y Bardd Glas o'r Gadair
- ↑ Twm o'r Nant
- ↑ Goronwy Owen
- ↑ Traethodydd, cyf. iii., tudal. 160
- ↑ Traethodau Llenyddol, tudal. 157
- ↑ Weekly History.
- ↑ Trevecca MSS.
- ↑ Trevecca MSS.
- ↑ History of Protestant Nonconformity in Wales, page 355.
- ↑ History of the Parish of Aberystruth.
- ↑ Trevecca Minutes.
- ↑ History of Protestant Nonconformity in Wales.
- ↑ Trevecca Minutes.
- ↑ Ysgrif Mr. Daniel Davies, Ton.
- ↑ Tyerman's Life of Whitefield, vol. ii., p. 62.
- ↑ Gwel tudal. 136
- ↑ Drych yr Amseroedd.