Llyfr Haf (testun cyfansawdd)
← | Llyfr Haf gan Owen Morgan Edwards |
Cynnwys → |
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Llyfr Haf |
Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader
GAN YR UN AWDUR
LLYFR DEL Lliain, 2/-
LLYFR NEST Lliain, 2/-
LLYFR OWEN. Lliain, 2/-
LLYFR HAF. Lliain, 2/-
CARTREFI CYMRU. Lliain, 2/-
YSTRAEON O HANES CYMRU
Lliain Ystwyth, 1/3.
Cyfres Gwerin Cymru
Lliain Unffurf, 2/6 yr un.
CLYCH ATGOF
YN Y WLAD
TRO YN LLYDAW
ER MWYN CYMRU
TRO YN YR EIDAL.
LLYNNOEDD LLONYDD.
O'R BALA I GENEVA.
HUGHES A'I FAB
CYHOEDDWYR, WRECSAM
Yr Ych Gwyllt
CYFRES LLYFRAU DEL. IV.
LLYFR HAF
(Llyfr Anifeiliaid, etc., ac adar)
GAN
SYR OWEN EDWARDS
WRECSAM
HUGHES A'I FAB
1926
ARGRAFFWYD YNG NGHYMRU
CYNNWYS
RHAN I. ANIFEILIAID. ETC.:
- ANIFEILIAID Y BYD NEWYDD
- Y MOLOCH PIGOG
- TEULU'R ARMADILO
- CYRN CARW
- YR YCH GWYLLT
- Y GNU
- CAMEL Y MYNYDDOEDD
- EIRTH Y MYNYDDOEDD CREIGIOG
- YR ARTH WEN
- Y TSIMPANSÎ
- YR OPOSUM
- YR YSBRYDION
- Y GLWTH
- YR HEN BEDOL
- Y MORLO BRITH
- Y MANATI
- CWNINGOD
- YR EOG
- Y DYRNOGYN
- LOCUSTIAID
- PRYFED TAN
- LLIW YN AMDDIFFYN
- NADROEDD
- TEULU'R GENEU GOEG
- UN HYLL (Y CROCODEIL)
- Y CRWBAN
- CRWBAN Y MÔR RHAN II. ADAR:
- DYCHWELIAD YR ADAR
- YR YSGUTHAN
- YR WYLAN BENDDU
- ERYR Y MÔR
- PIBGANYDD Y GRAIG
- YR HWYAID EIDER
- YR EHEDYDD
- ELEIRCH DUON
- Y CIWI
RHAN III:
Anifeiliaid y Byd
LLYFR HAF
I
ANIFEILIAID Y BYD NEWYDD
1. Y MAE llid rhwng anifeiliaid y byd hwn. Y mae'r naill yn byw trwy ladd a llarpio'r llall. Nid yw cyrnn y carw yn ddigon o amddiffyn iddo rhag dannedd llymion a phalf nerthol y llew. Gall carnau yr asyn ystyfnig fod yn angau i'r mwnci cyfrwysaf. Brwydr ffyrnig fuasai rhwng gwaedgwn ac arth, gref ei hewinedd. Ac y mae pig pob aderyn yn ddychryn i rywbeth llai.
2. Ac eto, yn ôl proffwyd aruchelaf Israel, y mae heddwch i deyrnasu ymhlith holl anifeiliaid y ddaear. A'r blaidd a drig gyda'r oen, a'r llewpard a orwedd. gyda'r myn; y llo hefyd, a chenaw y llew, a'r anifail bras, fyddant ynghyd. A bachgen bychan a'u harwain. Y fuwch hefyd a'r arth a borant ynghyd, eu llydnod a gydorweddant; y llew, fel yr ych, a bawr wellt. A'r plentyn sugno a chwery wrth dwll yr asp; ac ar ffau y wiber yr estyn yr hwn a ddiddyfnwyd ei law. Ni ddrygant, ac ni ddifethant, yn holl fynydd fy santeiddrwydd, canys y ddaear a fydd lawn o wybodaeth yr Arglwydd, megis y mae y dyfroedd yn toi y môr."
3. Bu cawrfilod hyllion, dychrynllyd eu gwedd, ofnadwy eu grym, yn cerdded y ddaear ac yn nofio'r moroedd. Ond y maent wedi diflannu. Nid y cryf, nid yr hwyaf ei ddannedd a grymusaf ei grafanc, nid hwnnw sydd yn aros. Yr un a erys yw'r caredig a dof. Dyna drefn natur o hyd. Ac yn y byd newydd, pan fydd gwybodaeth wedi amlhau eto ychwaneg, bydd holl anifeiliaid y byd mewn heddwch â'i gilydd, oherwydd eu bod yn dymuno bod felly.
II
Y MOLOCH PIGOG
1 DYMA i chwi un o bethau hyllaf y ddaear. Enw hen dduw'r tân yw Moloch; y mae sôn amdano yn y Beibl. A gair Lladin am bigog neu ddraenog yw Horridus.
2. Creadur bychan yw'r Moloch hwn, rhyw bum modfedd o hyd; pe gosodech ef ar y ddalen hon, buasai digon o le iddo droi heb syrthio oddiarni. Yn rhai o ardaloedd sychion a phoethion Awstralia y mae yn byw. Ni wna unrhyw niwed i chwi; ond pe digwyddech eistedd arno, nid arno ef y buasai'r bai.
Y mae natur wedi rhoi pigau i rai i'w hamddiffyn; gwelwch hwy ar ei ben, ei wddw, ei gefn, ei gorff afrosgo, ei goesau dilun, a'i gynffon hagr. Y mae'r pigau yn ei wneud yn ddiogel a chysurus, ac nid yw ef yn eu gweld yn hagr. Gŵyr na all dim ei frathu ond iddo gau ei lygaid a chau ei geg.
Mewn dull gwahanol iawn y mae natur yn anddiffyn plentyn bach. Rhydd dlysni ar ei rudd, a hoffter yn ei lygaid. Nerth plentyn yw ei ddiniweidrwydd, bod heb bigau. Ond y mae ambell ddyn yn mynnu magu pigau. Y mae yn meddwl yn ddrwg am bobl eraill, y mae ei deimlad yn suro, tybia fod pawb yn ei erbyn, y mae ei enaid yn bigau drosto i gyd. Meddwl eraill yn dda o bawb, y mae eu gwên heulog, a'u gair caredig, a'u cymwynas barod yn adnabyddus i bawb.
Moloch Horridus
3. Mae gan y Moloch berthynasau tebyg iddo. yn yr India, yn yr Aifft a Phalestina, ac yng nghanolbarth yr Amerig, pob un â'i bigau. Diflannu o'r byd y mae pethau hyllion. Y mae creaduriaid sydd â dannedd cryfion, rheibus, fel rhai'r llew; neu rai ag ewinedd nerthol, fel rhai'r dywalgi; neu rai sydd â phig ysglyfaethus, fel un yr eryr neu rai â gwenwyn yn eu dannedd, fel y wiber,—y mae'r rhai hyn oll, a'u tebyg, yn darfod o'r byd. Ond am. greaduriaid dof, tirion, diniwed, fel y fuwch a'r ddafad, y mae y rhai hynny yn amlhau ac yn llenwi'r ddaear. Y mae plant cas, angharedig, yn darfod o'r tir; a phlant bach mwyn yn etifeddu'r ddaear.
Y Poyou
III
TEULU'R ARMADILO
TEULU rhyfedd yw teulu'r Armadilo, a'r Poyou yw'r lleiaf o'r tylwyth. Yn Neheudir America y maent yn byw, yn y gwledydd cynnes a ddyfrheir gan afonydd Amason a La Plata. Yn y coedwigoedd yr hoffant fod.
2. Y peth rhyfeddaf yw eu gwisg. Arfwisg yw. Mae helm ar eu pen, llurig am eu hysgwyddau, a gwisg o gragen gaerog am eu cefn. Er yr edrych y Poyou yn hyf a dewr arnoch, ni wna niwed i chwi. At ba beth y mae'r ewinedd hirion acw? At durio i'r ddaear, a dianc rhagoch. Ond medr y creadur redeg hefyd, bron cyn gynted â chwithau. Mae ei lais fel llais mochyn, a chelanedd yw ei fwyd.
Hagr iawn yw creaduriaid mewn arfwisg, ond diniwed. Un cymharol fychan yw'r Poyou.
Carw Coch Ieuanc
IV
CYRN CARW
1 UN o bethau rhyfedd natur yw cyrn y carw. Pan fydd wedi gorffen tyfu, y mae'r cyrn yn fawr ac yn ganghennog, yn asgwrn caled a miniog; a gwae i'r neb yr ymosodant. arnynt.
Pan fo'r ceirw'n ieuainc, cyn i'w cyrn dyfu, eu harddwch a'u diniweidrwydd yw eu hamddiffyniad. "Tlws pob peth bychan."
Pan fydd y cyrn yn dechrau tyfu, bydd gwisg of groen byrflew drostynt. Y mae hwn yn esmwyth fel melfed; a phan fydd y cyrn yn ieuainc, dywedir eu bod yn eu melfed."
2. Pan fydd y cyrn felly, bydd y carw yn fwyn a diniwed. Cilia yn swil i'r goedwig, ac ni wna ddrwg i neb. Ond wedi i'r cyrn dyfu'n fwy, syrthia y croen melfedaidd oddiarnynt rhwbia y carw hwy yn erbyn y coed neu planna hwy i'r ddaear. Yn raddol cryfha a chaleda y cyrn nes mynd yn asgwrn caled. Yna y mae'r carw yn barod i ymosod ac i ymladd.
V
YR YCH GWYLLT
CHWI welwch ar wyneb-ddalen y llyfr hwn anifail sy'n prysur gilio o flaen gwareiddiad, sef yr ych gwyllt.
Y mae'r ych gwyllt, yr auroch, bron a diflannu o'r hen fyd, os nad ydyw wedi gwneud. Ei gartref olaf yn Ewrob oedd Poland a Rwsia, hyd fynyddoedd Caucasus, lle y daliodd ei dir yn hir yn erbyn dyn, arth, a blaidd.
Ond yng Ngogledd Amerig y gwyddom ni fwyaf amdano. Yno crwydrai tros hanner cyfandir, o'r Great Slave Lake yn y gogledd hyd gyffiniau Mecsico yn y de. Ar hyd y paith maith gwelid gyrraedd o hono yn cynnwys miliynau, ac yn duo'r ddaear cyn belled ag y gwelai'r llygad. Byddai raid i'r trên arafu, ac aros weithiau, gan dyndra'r gyr. Erbyn heddiw y mae'n prysur ddiflannu.
Beth yw'r gwahaniaeth rhyngddo ac ych dof neu wartheg? Ei fwng, ei gorn byr, y crwmach ar ei ysgwydd, ei daldra, y mae'r tarw'n chwe throedfedd o uchter. Hoff ganddo ymdrybaeddu yn y llaid, i gael gwasgod i rwystro pryfed rhag ei bigo. Nid yw mor berygl ag yr edrych, creadur llonydd ac ofnus yw ond pan fo wedi ei gynddeiriogi.
2. Bu'r Indiaid cochion yn genhedloedd lluosog yn yr Amerig, yn pabellu yma ac acw ymysg yr ychen gwyllt, ac yn byw ar helwriaeth. Ond cyflym ddarfod y maent hwythau ers blynyddoedd. lawer. Pan oeddwn i'n blentyn clywem lawer o hanes eu creulonderau at y dyn gwyn, fel y llosgent ei gartref unig yn y coed, fel y lladdent ei wraig a'i blant diniwed, fel y gwisgent grwyn pennau dynol wrth eu gwregys. Ond, erbyn hyn, nid oes ond ychydig ohonynt yn aros; ac y maent yn awr yn dirion, a hyd yn oed yn prynu sebon. Y mae cenedl fwy na hwy yn awr yn eu gwlad. Mae'r fuwch flith a'r ych dof yn fwy cymwys i fyw yn awr, ac nid oes le i'r heliwr cadarn mwy,—yn oes heddwch y byd. A phan ddiflanna ymherawdwyr gyda'r auroch a'r ysbeiliwr, daw heddwch llariaidd i fyd dyn hefyd.
Y Gnu
VI
Y GNU
1.DYMA un o'r creaduriaid rhyfeddaf yn y byd. Y mae fel pe wedi ei gymysgu o rannau amryw greaduriaid eraill. Y mae iddo fwng fel llew ar ei war, a barf fel gafr dan ei ên. Y mae iddo ben fel ych, clustiau fel asyn, a chynffon fel merlyn, a choesau fel ewig.
Wrth edrych ar ei ben, meddyliech mai tarw bychan gwyllt yw, ei lygaid cochion yn fflachio, ac yntau'n gwneud osgo fel pe am ruthro arnoch a'ch codi â'i gyrn cam, bachog. O'r tu ôl edrych fel merlen fuandroed a diniwed.
Y mae ei fygythiad yn debycach i ruad llew nag i weryriad march; cicia fel march.
2. Yn Neheudir Affrig y mae'n byw. Ni fwyteir ef, ac felly nid oes cymaint o hela arno ag sydd ar y carw. Nid yw'n ddinistriol fel y llew ychwaith, ac felly ni helir cymaint arno er mwyn mwynhau perygl. Felly, yn ôl pob tebyg, erys yn y tir gwyllt a breswylia'n awr.
Y mae ei liw rhwng llwyd-ddu a dugoch. Y mae ei fwng a'i gynffon yn wyn, ei farf yn ddu.
Edrych yn llawer mwy barus nag ydyw, oherwydd y blew sydd dan ei lygaid.
Y mae ei symudiadau'n afrosgo a digrif, fel pe buasai ei wahanol rannau yn methu deall ei gilydd. Ond y mae'n effro iawn; a phan ddaw perygl, gall ei wneud ei hun yn bur erchyll i edrych arno,— ei ruad byr, bygythiol, ei lygaid cochion yn fflachio tân, ei gyrn fel pe'n barod i rwygo ei ymosodydd, ei draed yn lluchio yn ôl ac ymlaen mewn cynddaredd.
Nid yw cymaint ag ych neu farch, mae'n debycach i faint llo neu ferlen, ac felly nid yw yn greadur peryglus iawn.
Pan garlama gyr ohonynt hyd y meysydd gwelltog, a'u cynffonnau gwynion yn chwyfio, y mae'r olygfa yn un na ellir ei hanghofio.
VII
CAMEL Y MYNYDDOEDD
1. Y MAE'R lama yn debyg iawn i'r camel. Ond y mae'n llawer llai, ac nid oes ganddo grwb ar ei gefn.
Nid ar anialdiroedd tywodlyd Asia y mae ef yn byw, ond ar fynyddoedd creigiog De Amerig. Nid yw ei droed wedi ei wneud, fel troed y camel, at gerdded tywod, eto, y mae y meddalwch sydd dano yn peri iddo fedru cerdded hyd gerrig yn esmwyth a dilafur.
2. Nid oedd ceffylau na mulod yn y wlad lle ceir y lama; ac am hynny, hwy sy'n cario pynnau. Ond, heblaw hynny, y maent yn greaduriaid defnyddiol iawn; bwyteir eu cnawd, gwneir dillad o'u blew, gwneir esgidiau o'u crwyn. Felly, y maent yn gamel ac yn geffyl ac yn ddafad.
Ar eu cefn hwy y cairwyd aur Peru o'r mynyddoedd, i lawr hyd y llwybrau creigiog i'r môr. Ychydig a fwytant, a medrant gerdded siwrneion hirion ym mhoethter yr haul.
Medrant gario tua chanpwys ar eu cefn. Collant eu tymer pan roir llwyth rhy drwm amynt, poerant mewn cynddaredd. Pan fônt wedi blino, gorweddant i lawr; ac ni chodant, faint bynnag a gurir arnynt. Pan fydd dyn yn eu marchogaeth, a
Y Lama
hwythau'n rhy flin i fynd ymhellach, troant ato, a phoerant boer i'w wyneb.
Ond er eu bod yn ystyfnig, ac yn mynnu eu ffordd eu hunain, y maent yn amhrisiadwy o werthfawr i bobl y gwledydd y maent yn byw ynddynt.
Arth y Mynyddoedd Creigiog
VIII
EIRTH Y MYNYDDOEDD CREIGIOG
LAWENHA plant Cymru wrth weled y gwanwyn a'r haf yn dod. Y mae'n dda ganddynt gael y tywydd cynnes braf, a gweld y gwair ar y dolydd, a'r blodau ar ochrau'r ffyrdd. A hoff ganddynt weld y gwartheg yn y caeau, a chlywed yr adar yn y coed. Ond yr hoffaf peth yw gweld a chlywed hen gyfeillion fu i ffwrdd ymhell o'r wlad yn y gaeaf du. Y pennaf o'r rhai hyn yw y wennol a'r gog. A mawr yw eu croeso, a chroeso yr haf sy'n dod a hwy.
Ond beth pe buasai'r arth yn dod gyda hwy, o ryw goed yn ymyl eich tŷ. Nid arth wen fawr y pegwn yr wyf yn meddwl, ar bysgod y mae hi yn byw, ac y mae yn weddol ddiniwed os gadewch lonydd iddi a chadw o'i llwybr. Ac nid arth lwyd Ewrob yr wyf yn meddwl ychwaith, un a fu yng Nghymru gynt; nid ar gig y mae hithau'n byw, ond ar lysiau, a hoff ganddi fêl a morgrug yn amheuthun.
2. Am arth y Mynyddoedd Creigiog, yn yr Amerig, yr wyf yn sôn. Bydd yr eirth hyn yn cysgu drwy'r gaeaf. Pe byddech yn mynd am dro trwy'r coed, hwyrach bod arth yno, yn cysgu'n drwm, dan ddail sychion, melyn, a chwrlid o eira gwyn.
Ond gyda'r gwanwyn deffry. A bydd yn wancusam fwyd ar ôl ei hympryd hir. Rhuthra o'r coed i chwilio am, rywbeth i dorri ei newyn. Y pethau fydd ar ei llwybr weithiau, a gwae iddynt,—fydd iyrchod, defaid, ŵyn, a phlant.
3. Chwi wyddoch am y Mynyddoedd Creigiog. Cadwyn anferth ydynt, ar hyd Gogledd Amerig, fel asgwrn cefn y wlad. I'r gorllewin y mae llain hir o daleithiau rhwng y mynyddoedd hyn a glannau'r Môr Tawel,—Alasca eirog, Columbia oludog, Oregon ffrwythlawn, Califfornia hyfryd. ac Arisona sech. Yr ochr arall, rhyngddynt ac Iwerydd, y mae toreth taleithiau Canada, yr Unol Daleithiau, a Mecsico. Ni wn yn siwr i ba drefydd y mae'r arth hon yn crwydro. Ond pe elwn tua Donald yn Columbia, Boisé yn Idaho, Dinas y Llyn Halen yn Uta, buaswn yn gofyn i bobl y ffordd haearn a welsant hwy eirth y mynyddoedd. Byddai ar Indiaid Wyoming arswyd wrth feddwl am yr arth, a thalent ryw fath o addoliad iddi; ond bwytaent ei chig mewn gloddest mawr wedi ei lladd.
Y mae hyd yr arth yn naw troedfedd; felly, pan saif ar ei thraed ôl, y mae'n dalach na'r un dyn. Pwysa wyth gan pwys; hawdd iddi, felly, lethu dyn trwy ei wasgu yn erbyn coeden. Gall ladd ych yn pwyso mwy na hi ei hun, a'i lusgo i'w lloches. Ychydig o obaith, yn wir, sydd i'r neb y cydia hon â'i hewinedd nerthol amdano.
Pwy fuasai'n gadael Cymru lân, lle gall plant ganu a chysgu'n dawel; gŵyr pawb na ddaw hon o'i chwsg yn ein gwlad ni.
Yr Arth Wen
IX
YR ARTH WEN
1. MAE eirth duon a llwydion lawer yn y byd, o Rwsia i'r India a Ceylon, yn yr Hispaen, ac yn yr America, yn Syria a Phalesteina.
Ond, yn rhyfedd iawn, ymysg mynyddoedd rhew y Pegwn y ceir yr arth fwyaf, sef yr Arth Wen. Nid oes yno ddeilen werdd i'w gweled, heb sôn am forgrug gwynion a mêl gwenyn,—hoff ddanteithfwyd yr eirth eraill. Yno nid oes ond talpiau o rew noethlwm, a nos dros yr holl wlad trwy fisoedd y gaeaf. Ond y mae yno ddigon o bysgod, ac ar forloi, yn bennaf, y mae'r sirth yn byw.
2. Y mae'r Arth Wen yn greadur cryf ac anferth. Y mae weithiau'n naw troedfedd o hyd, yn gydnerth, ac yn ffyrig. Nid yw'n hollol wen; rhyw felynwen ydyw, o liw hufen. Gwelir hi'n crwydro'n hamddenol ac a frosgo dros y talpiau rhew i chwilio am wyau adar, neu hyd wyneb rhewedig y môr i wylio morlo'n dod at dwll yn y rhew i anadlu. Er cadarned a ffyrniced yw, gall un Escimo, a'i wedd o gŵn, ei hymlid a'i lladd. Bwytânt ei chig yn awchus.
Y Tsimpansi
X
Y TSIMPANSÎ
1. PAN yn fychan iawn, y mae'r Tsimpansî yn debyg i blentyn drwg, croes, garw iawn am ei feddwl ei hun. Daeth un ieuanc i'r wlad yma unwaith, ac yr oedd yn hoff o wraig a edrychai ar ei ôl fel pe buasai fam iddo. Weithiau cerddai wrth ei hochr ar ei draed ôl. gan gydio yn ei gown, fel plentyn.
2. Ryw dro, wrth chwarae ag ef, daliodd gŵr bonheddig ddrych bychan o'i flaen. Synnodd, aeth yn berffaith lonydd ar unwaith, edrychai'n fud ar ei lun yn y drych, ac yroedd fel pe'n rhyfeddu. Edrychodd i fyny ar y dyn, yna dechreuodd ail edrych ar y drych. Yr oedd bysedd y dyn wrth ddal y drych yn y golwg; teimlodd y mwnci y rhai hynny'n fanwl, yna ceisiodd weld beth oedd y tu ôl i'r drych. Rhoddodd ei ddwylo yn sydyn y tu ôl iddo; ac wrth deimlo nad oedd dim yno, yr oedd ei syndod yn fwy.
A fuoch chwi ryw dro yn dal drych o flaen cath fach? Os do, yr ydych yn cofio ei hystryw ddiniwed i geisio dal y gath fach a welai'n edrych arni o'r drych.
3. Dywedir fod dyn a'r Tsimpansî yn perthyn i'r un tylwyth. Ond y mae'r berthynas yn bell iawn, nid yw ond perthynas corff yn unig.
Peth rhyfedd iawn fod ar y Tsimpansî arswyd y sarff. Rhed yn union at ddyn i gael amddiffyn.
Yr Oposum
XI
YR OPOSUM
1. A WELWCH chwi mor ddefnyddiol yw cynffon gref ddi-flew yr Oposum? Gyda hi medrant ddringo coed a disgyn i lawr o'r canghennau. A chyda hi y medrant gario eu rhai bach ar eu cefn. Medr y rhai bach, hefyd, ddefnyddio eu cynffonnau o'u mebyd.
2. Tebyg i gath of ran maint yw'r Oposum. Y mae'n llawn egni, ac yn bur ddeallus. Cymer arno fod wedi marw pan ddelir ef; ond toc, i ffwrdd ag ef. Yn un peth, y mae'n debyg iawn i fachgen drwg, â ag wyau o nyth aderyn. Sugna waed adar, hefyd. Paham, tybed, y mae ei glustiau'n dduon? Yn rhannau deheuol Gogledd America y ceir ef, yn enwedig ym Mecsico.
Y Lemur
XII
YR YSBRYDION
Y MAE tri theulu mawr yn meddu rhyw debygrwydd corff i'w gilydd, sef teulu dyn, teulu'r mwnci, a theulu'r lemur.
Gair Lladin am ysbrydion yw lemures. Gelwir y lemuriaid yn ysbrydion oherwydd mai yn y nos y gwibiant drwy'r coedwigoedd. Yn y dydd y daw'r mwnciod allan, a bydd y goedwig y maent yn byw ynddi yn llawn o brysurdeb a sŵn tra fo'r haul yn tywynnu; ond wedi machlud haul, distawa popeth. Ond am y goedwig y mae'r lemuriaid yn byw ynddi, y mae honno 'n ddistaw fel y bedd. yn ystod y dydd. Ond gyda'r gwyll, gwelir bodau eiddil, ystwyth, â llygaid fflamllyd, a gyddfau gwynion, yn neidio'n heinif distaw rhwng canghennau'r coed, a thybiodd llawer un ofergoelus mai ysbrydion oeddynt. Y mae eu sŵn yn annaearol hefyd; rhed eu llais tros y nodau yn uwch, uwch o hyd, a gallech feddwl bod eu holl nerth yn mynd i'w hudiad.
2. Ynys dywyll Madagascar, gyda'i hin boeth a'i choedwigoedd aml, yw eu cartref. Gellir eu dofi, ac y maent yn hynod ddigrif a chwareus. chwaraeant â phellen fel cath fach, a gwnânt bob math o driciau direidus. Ond yn y nos yn unig y chwaraeant. Yn y dydd y maent yn swrth a chysglyd; ond deffroant at y nos, ac ni byddant yn llonydd am un munud.
Pam y mae eu llygaid mor fawr? Oherwydd. mai yn y nos y chwiliant am eu bwyd, ac y mae eu llygaid yn fawr er mwyn gweld yn well yn y tywyllwch, fel llygaid cath neu lygaid tylluan. Trychfilod ac adar bychain yw eu bwyd.
3. Pam y mae eu blew mor gynnes, a hwythau'n byw mewn gwlad mor boeth? Am eu bod yn greaduriaid pur anwydog, ac am mai yn y nos y codant allan.
Beth ydyw da eu cynffon hir? Yn gynhesrwydd ebe rhai. Troant hi am eu gyddfau weithiau. Dywed eraill mai cymorth iddynt wrth gerdded y canghennau, fel y mae gan ddyn yn cerdded rhaff bolyn hir yn ei ddwylo i gadw ei gydbwysedd, yw'r gynffon.
Ond eu traed neu eu dwylo yw y pethau rhyfeddaf a feddant. Y maent wedi eu haddasu at deimlo popeth, at gydio yn ddiollwng, ac at dorri cwymp y creadur ysgafn ac ystwyth os syrth.
XIII
Y GLWTH
Y GLWTH yw'r mwyaf o deulu'r wenci. Y mae mae ganddo berthynasau mwy, yn perthyn yn bellach iddo, yn enwedig yr arth. Cafodd ei enw ar gam. Tybid ei fod yn fwy glwth na'r un creadur arall, a'i fod yn hoff o fwyta mwy na'i lond. Ond nid yw hyn yn fwy gwir amdano nag am lawer creadur arall.
Ceir ef yng ngogledd yr hen gyfandir a'r newydd, yn enwedig yn Siberia a Khamstchatka.
2. Afrosgo yw o'i gymharu â llawer o'i berthynasau chwim. megis y wenci a'r carlwm. Ond y mae ganddo, nid yn unig nerth rhyfeddol o fawr, ond deallgarwch sydd bron yn ddynol. A digrif yw ystraeon helwyr am ei gastiau, yn enwedig fel y medr ddianc rhag eu rhwydau hwy. Cerdda'n ofalus heibio i'r trapiau. Os bydd y trap wedi dal carlwm, bwyta'r Glwth ef. Os bydd y trap yn wag, bwyta'r abwyd sydd ynddo; ond bydd ganddo ryw ddyfais bob amser i rwystro'r trap rhag cau ar ei drwyn. Y mae ei gallineb yn hyn o beth, meddir. yn fwy na llwynogaidd, y mae bron yn ddynol.
Mewn un peth arall y mae'n debyg iawn i ddyn. Pan wêl rywun yn dod, eistedd i lawr yn hamddenol, a chysgoda ei lygaid â'i balf i edrych pwy sy'n dod.
3. Y mae ambell anifail direswm fel hyn, a'i ymddygiad mor debyg i ymddygiad dyn, fel y mae ar yr heliwr ofn ei saethu.
March yr Arab
XIV
YR HEN BEDOL
UN o greaduriaid prydferthaf y byd ydyw'r march Arabaidd. Y mae'n lluniaidd, yn wisgi, ac yn dlws. Yn yr anialwch tywodlyd y mae'n byw. Medr redeg yn fuan, a dal ati am hir. Ef yw hoff gyfaill yr Arab. Heb ei farch ni allai fyw. Pe collai ei farch yn y diffeithwch maith, collai ei fywyd. Pan fydd wedi colli'r ffordd, ac yn rhy luddedig bron i feddwl, gad i'r march fynd fel y mynno. Ac y mae'r creadur ffyddlon yn sicr o'i ddwyn adref, neu ddod. ag ef at ddwfr i dorri ei syched.
2. Anaml y mae'r wlad yn greigiog iawn, tywodlyd ydyw gan mwyaf. Ac am hynny ni fydd yr Arab yn pedoli ei feirch. Yn wir, ni wyr beth ydyw pedol. Rhyw dro, yr oedd Arab ar daith heb fod ymhell o ddinas Mosul. Wrth groesi'r diffeithwch, beth a welai ar lawr ond hen bedol. Cododd hi, a rhyfeddai beth ydoedd. Ond ni fedrai ddyfeisio beth oedd.
Aeth a hi gydag ef adref. Safodd holl ddoethion ei lwyth mewn barn uwch ei phen. Ac wedi hir gyngor, penderfynwyd mai hen leuad wedi gwisgo allan, ac wedi syrthio o'r nefoedd i'r ddaear, oedd hi.
Morlo
XV
Y MORLO BRITH
UN o'r morloi lleiaf yw hwn, rhyw dair neu bedair troedfedd o hyd. Ceir ef ar dueddau deheuol Greenland, o gwmpas Ynys yr Ia, ac ar lannau Spitzbergen.
1. Pan yn ieuanc y mae'n wyn, gyda gwawr felen, a'r blew'n grych. Fel y tyf, try ei liw yn wyrdd tywyll, gyda llanerchau modrwyog gwynion hyd ei gefn.
2. Y mae'r morloi hyn yn heigio moroedd y gogledd, ond lleddir hwy, gan ddyn yn enwedig, wrth yr hanner can mil y flwyddyn. Y maent yn hanfodol i'r Escimo; eu crwyn yw eu dillad, a'u cig yw eu bwyd.
Erys yr Escimo yn amyneddgar uwchben y tyllau yn y rhew lle daw'r morlo i anadlu. Yna rhoddant dryfer ynddo, a thynnant ef i'r lan.
3. Gall y morlo fyw ar y tir ac yn y dŵr. Gall ddianc rhag dyn i'r dwfr dan y rhew; gall ddianc rhag ei elynion o'r dwfr i wyneb y rhew. A rhwng chwarae yn y dwfr, gorffwys ar y rhew, ac ymheulo ar y creigiau, nid yw ei fywyd heb ei ddedwyddwch.
Manatî
XVI
Y MANATÎ
MAE llawer creadur rhyfedd yn nheulu'r morfil. Mae'r Manati'n byw yn afonydd mawr Affrig,—Senegal, Niger, a Chongo yn yr Amerig yn llynnoedd Surinam, Guiana, a Jamaica; ac yn afon Amazon. Ei fwyd yw'r planhigion sy'n tyfu o waelod ac o ochrau yr afonydd mawrion hyn. Tawel yw ei fywyd, o'i gymharu â bywyd ei geraint yn y môr mawr, agored, ystormus.
2. Delir hwy'n ieuainc weithiau, a dofir hwy. Rhoddir rhyw lyn yn gartref iddynt, a gofelir eu bod yn cael digon o fwyd. Bu un ohonynt yn byw mewn llyn felly am chwe blynedd ar hugain. Deuai at lan y llyn bob bore i gael ei fwyd; a gadawai i blant fynd ar ei gefn, a chludai hwynt yn hamddenol hyd wyneb y llyn.
Cwningod
XVII
CWNINGOD
1. YM mis Awst, pan fydd yr haul yn gynnes ar y caeau, a digon o lysiau gwyrddion ymhobman, gallech feddwl bod y cwningod yn hapus iawn. Ac, yn wir, felly y maent.
Y mae cartref y cwningod yn noddfa ddiogel iddynt. Cloddiant dwll yn y ddaear, ac yna gwnânt dynel hir, ac yno, ymhell o gyrraedd dyn a chi, y mae eu lloches glyd. Bryniau tywodlyd sychion sydd wrth eu bodd i wneud eu cartref ynddynt, yn enwedig os bydd llwyni o eithin ar hyd-ddo. Turiant yn hawdd i'r bryn tywodlyd, ac y mae ganddynt ddigon o le i lawr yn eu cartref tywyll ond clyd a sych.
2. Yn rhai o'r ystafelloedd hyn y megir y rhai bychain. Y maent hwy yn bur ddiamddiffyn,— yn noethion a deillion pan yn fabanod. Ond y mae y fam wedi gwneud eu nyth yn gynnes â blew fydd wedi dynru o'i gwisg ei hun. Cyn mynd allan i chwilio am fwyd, gofala am gau yr ystafell y mae y rhai bach ynddi â phridd; ac nid oes neb ond hi'n gwybod lle y maent. Ac nid â yno ond yn y nos, rhag ofn i ryw elyn wybod lle y mae ei rhai bach yn llechu.
Llysiau yw bwyd y cwningod. Os bydd eithin o amgylch eu llochesau, bwytânt y rhai hynny; y mae y blagur ieuanc yn fwyd wrth eu bodd. Ond weithiau, er iddynt sefyll ar eu traed ôl, y mae llawer o'r blagur hwn yn rhy uchel iddynt fedru ei gyrraedd.
3. Fel pawb ohonom, ni chaiff y ewningod bob amser ddewis lle eu cartref na natur eu bwyd. Os bydd raid iddynt fyw ar ddaear wleb, ni fyddant yn tyllu i honno; eithr gwnânt ryw fynedfeydd hirion trwy'r grug, neu'r eithin, neu'r glaswellt bras fydd yn tyfu yno. Ambell dro, gwnânt eu cartref mewn hen geubren; ac felly byddant yn byw mewn ty pren.
4. Yn y nos y deuant allan i fwyta, ac i chwarae, a than olau'r lleuad y mae hawsaf eu gweld. Difyr iawn yw gweld eu pranciau hapus. Mae'n rhaid y bydd y rhai ieuainc wrth eu bodd yn cael chwarae allan, yn lle gorfod mynd i'w gwelyau yn yr ystafell fechan, dywyll, honno tan y ddaear. Ond y maent mewn perygl beunydd: y mae adar nos, fel y dylluan, yn chwilio am danynt yn ysglyfaeth.
Pethau bach tlysion ydynt, o liw llwyd golau, a'u blew yn esmwyth iawn. Ac y maent yn hollol ddiniwed. Ni frathant.
5. Y mae ganddynt glustiau mawrion, er eu bod yn llai na chlustiau'r ysgyfarnog, a chlywant yn dda. Y mae ganddynt lygaid mawr, hefyd, a gwelant yn eithaf wedi nos. A da fod ganddynt glust a llygad, oherwydd y mae llawer yn ceisio eu bywyd. Pan wêl un ohonynt berygl, dechreua redeg tua'r tyllau. Rhed y lleill ar ei hôl, a buan iawn y byddant wedi diflannu tan y ddaear.
6. Wrth redeg, codant eu cynffonnau i fyny; a chan fod y gynffon yn wen dani, y maent fel pe'n codi baneri gwynion i fyny. Y mae golwg ddigrif iawn ar y llu cynffonnau gwynion pan fydd ugeiniau a channoedd o wningod yn rhedeg am eu bywyd yn un dyrfa gymysg brysur. Y mae gweld y gynffon wen yn ei wneud yn beth hawdd i filgi eu dilyn neu i ddyn eu saethu. Pam y mae Natur yn eu dysgu i wneud peth a ymddengys mor ffôl a pherygl. Y farn gyffredin yw eu bod yn codi'r gynffon wen er mwyn i'w cyfeillion, ac yn enwedig eu rhai bach, weld ffordd y rhedant i ddiogelwch.
7. Nid ydynt yn darparu bwyd at y gaeaf, fel y gwiwerod. Ond medrant ymdaro yn eithaf; cânt ryw lysiau i'w bwyta trwy'r gaeaf. Ond weithiau, os bydd eira mawr ar y ddaear am hir, bydd yn galed iawn arnynt; a'r adeg honno cnoant risgl coed ffrwythau, a bydd y coed farw i gyd os dirisglir eu bonau.
Ni fedr cwningod fyw ond lle y mae bwyd glas. trwy'r flwyddyn. Felly, ni cheir hwy yng ngogledd a dwyrain Ewrob; buan y buasai'r gaeaf a newyn a'r blaidd yn eu difa yno. Ond cawsant gartref newydd yn Awstralia. Aeth ymfudwyr a hwy yno. Amlhânt yn fuan iawn, bydd llu o rai bach yn eu mysg bob amser, ac y maent bron yn bla yn Awstralia. Difânt y coed a'r llysiau yn y tymhorau sychion, ac y mae bron yn amhosibl eu difa hwy.
Ond, yn y wlad hon, gwnânt lawer iawn o dda; ac ni wnânt ddrwg i goed ond ar ambell aeaf eithriadol o galed. Pethau bach tlysion, difyr, diniwed, ydynt; hawdd eu dofi; cyfeillion i ni.
Yr Eog
XVIII
YR EOG
1. MAE rhywbeth yn brydferth, os nad yn fawreddog, yn ymdaith y pysgodyn hardd a glân hwn drwy ddyfroedd afonydd a moroedd. Y mac ei ben a'i gefn yn lasddu ddisglair, ei ochrau ac odditanodd yn ariannaidd wyn. Yma ac acw y mae ysmotiau duon megis yn ychwanegu at ei dlysni.
2. Yn y gwanwyn a'r haf, pan fydd dwfr ein haberoedd yn lân, daw'r eog o'r môr i'n hafonydd, ac ymdeithia'n ddiorffwys, drwy ryw reddf ryfedd, nes cyrraedd graean glân, mewn rhyw nant fynyddig. Môr y Gogledd yw ei hoff gartref, ni cheir ef yn y Môr Canoldir. Daw i fyny Rhein, ceir ef yn afonydd Rwsia, Sweden, Norway, Ynys yr Ia, a Greenland. A daw i'n hafonydd ninnau. Hoff gan lawer bysgota amdano yn Nyfrdwy a Lledr a Dyfi, yn Nhywi a Hafren a Gwy. Ceir ef yn afonydd yr Amerig hefyd, a gofelir yn llawer gwell yno am y pysgodyn gwerthfawr,—brenin y pysgod ar lawer cyfrif, hoff ddanteithfwyd byd.
3. Daw i'n haberoedd trwy lawer o anawsterau. Rhaid iddo lamu tros greigiau, er mwyn esgyn o lyn i lyn. A welsoch chwi eog yn llamu? Ymffurfia ei hun yn gylch, ymdeifl ei hun i fyny, gan fflachio fel arian ac aur yn yr haul. Yn aml neidiant i fyny wyth troedfedd neu ddeg; a gall rhai neidio o ddeuddeg troedfedd i bedair ar ddeg yn syth ar i fyny. Y mae gelynion iddynt ar y ffordd. Er dod i fyny Dyfrdwy, ychydig a fedr fynd trwy Lyn Tegid i'w haberoedd uchaf; y mae y penhwyad ysglyfaethgar yno, ac yn gwylio pob eog. Wedi cyrraedd graean glân, lle tery'r haul cynnes ar y dwfr, ymgladda'r eog yng ngwely'r afon, ac yno dodwyir yr wyau. Yna â'r eog, y gwryw'n goch a'r fenyw'n ddu erbyn hyn, yn ôl i fwynhau dŵr yr afonydd.
4. Pan ddaw'r eogiaid bach o'r wyau, ni fydd yno neb i roi bwyd na chyngor iddynt. Pethau bach â phennau a llygaid mawr ydynt, yn newid eu gwisgo hyd,—llwydwyn rhesog i ddechrau, yna llwytgoch, yna glaswyn. Eu bwyd yw'r pryfed a geir yn yr afon. Toc, daw rhyw ysfa atynt am fynd i lawr i'r môr. Yn bethau bychain dwyflwydd oed, cychwynnant, ddeugain neu hanner cant gyda'i gilydd. Y maent yn ofnus iawn. Cadwant gyda'r lan cyhyd ag y gallant, ac yn y dŵr llonydd. Pan glywant sŵn rhaeadr, daw dychryn trostynt. Troant eu pennau'n ôl, i gyfeiriad eu hen gartref. Ymhen hir a hwyr, gedy'r dewraf ohonynt i'r dŵr eu cludo i ben y dibyn, a throsodd ag ef. Yna daw'r cwbl ar ei ôl, ar draws ei gilydd, a chânt orffwys ar ôl eu braw yn y llyn tawel islaw. Wedi cyrraedd y môr, tyfant yn gyflym. Ac yn eu hamser, yn bysgod brafiach a dewrach, deuant hwythau'n ôl.
Y maent o bob maint, rhai yn pwyso cymaint a thrigain pwys, neu hyd yn oed bedwar ugain. Delir hwy â genwair bryt neu bluen, â thryferi, ac â rhwydau.
Gellid gwneud llawer mwy i ddiogelu yr wyau a'r pysgod, a sicrhau digonedd o bysg maethlawn a blasus, nag a wneir gennym ni.
Y Dyrnogyn
XIX
Y DYRNOGYN
1. DYWEDAIS na fedr yr eog fynd trwy lyn Tegid oherwydd perygl ei ysglyfio gan y penhwyad cyflym, newynog, nad yw, meddir, byth yn cysgu. Ond y mae yn y llyn. hwnnw heidiau mawrion o ddyrnogiaid; ac er nad ydynt mor flasus a'r cogiaid, eto y maent yn fwyd a dyr newyn dyn a phenhwyad. Paham y medrant hwy fyw yn yr un dŵr â'r penhwyad?
Edrychwch ar esgyll y dyrnogyn, yn enwedig ar yr asgell sy'n codi'n wrychyn oddiar ei gefn. Beth a feddylia'r penhwyad wrth edrych arno, tybed? "Bwyd da," eb ef, "oni bai am y pigau acw; cwyd y rhai acw rywbeth gwaeth na diffyg treuliad."
2. Y mae golwg brydferth ar y dyrnogyn yn y dŵr, er na fedd dynerwch lliwiau'r eog nac ysblander lliwiau'r penhwygyn. Llwydwyrdd yw ei gefn, ei ochrau'n euraidd, a'i fol yn wyn. Pysgodyn cymharol fychan yw, eto cafwyd rhai'n pwyso naw pwys ac yn ddeng modfedd ar hugain o hyd.
3. Ceir y dyrnogyn yn holl ddyfroedd croyw Ewrob a Siberia, a cheir un math yng Nghanada. Ond nid yw'n bysgodyn môr. Ar bryfed a thrychfilod a physgod bychain y mae'n byw. Nid yw ei gig yn debyg o ran gwerth i gig eog y môr a brithyll yr afonydd.
Y mae'n bysgodyn ffrwythlon iawn. Gedy ei wyau yn rhes hir; a dywedir bod un dyrnogyn yn dodwy, mewn un gwanwyn, gynifer a dau gant a hanner o filoedd, chwarter miliwn,-o wyau. Ond ni ddeorir y rhain i gyd. Ac y mae'n sicr fod lluoedd afrifed o'r pysgod bach yn marw o eisiau bwyd, neu yn cael eu hysgleifio gan bysgod eraill cyn i w hesgyll ddod yn ddigon cryfion i'w hamddiffyn.
XX
LOCUSTIAID
YCHYDIG a wyddom ni am y locustiaid difaol. Ond y maent yn ddychryn i rai gwledydd. Deuant yn llu mawr na all neb eu rhifo, yn gwmwl du rhyngoch a'r haul, disgynnant ar wlad werdd, a gadawant hi yn wlad lom, farw, heb ddeilen na glaswelltyn yn aros ynddi. Ceir llawer o'u hanes yn y Beibl. Hwy oedd i gosbi am wrthod gwrando ar Dduw: "Had lawer a ddygi allan i'r maes, ac ychydig a gesgli; oherwydd y locust a'i hysa." Yr oedd dihareb yn dweud am danynt: "Y locustiaid nid oes brenin iddynt, eto hwy a ânt allan yn dorfeydd." Gwêl Ioel elynion yr amaethwr yn dod yn rhes, a'r gwaethaf yn olaf, i ddifa popeth a adawyd, y ceiliog rhedyn, pryf y rhwd, a'r locust. Y mae darluniad tarawiadol iawn ohonynt yn dod o'r tywyllwch yn llyfr Datguddiad :
"A dull y locustiaid oedd debyg i feirch wedi eu paratoi i ryfel; ac yr oedd ar eu pennau megis coronau yn debyg i aur, a'u hwynebau fel wynebau dynion. A gwallt oedd ganddynt fel gwallt gwragedd, a'u dannedd oedd fel dannedd llewod. Ac yr oedd ganddynt lurigau fel llurigau haearn, a llais eu hadenydd oedd fel llais cerbydau llawer o feirch yn rhedeg i ryfel."
Y Locust
2. Ie, rhyfedd ydynt; y mae eu corff, er mor aneirif ydynt, wedi ei wneud yn berffaith at eu gwaith. Y maent fel tywysogion Ninefe, fel meirch yn carlamu i ryfel. Y mae eu chwe phâr o goesau, pedwar at gerdded a dau at neidio; eu dau bâr o adenydd, yr allanol o wyrdd, a'r mewnol o felyn a glas; eu llygaid aml; eu dannedd cryfion; eu clyw buan,—oll yn hawlio sylw. Y mae cefnder diniwed iddynt, bron yr un ffurf a hwy, yn byw yn ein gwlad ni sef ceiliog y rhedyn; cewch glywed ei sŵn yn rhwbio ei goes ôl yn erbyn ymyl ei aden yn y gwair, er mwyn gwneud miwsig i'w gymhares.
Dodwya'r locust o ddau cant i dri chant o wyau. yn y flwyddyn, a rhydd hwy yn y ddaear. Daw pryfed bach newynog allan cyn hir ac ysant bopeth o'u blaenau. Yna magant adenydd, a deuant yn ddychryn i'r gwledydd. Difânt bopeth o'u blaen, a bydd newyn ar bawb lle y buont. Dros ganrif yn ôl, disgynnodd cynifer ohonynt i'r môr fel y taflwyd ar y lan fanc dros dair troedfedd o uchter o'u cyrff meirw, a thua hanner cant o filltiroedd o hyd. Dywedir bod y drewdod afiach yn mynd gyda'r gwynt gant a hanner o filltiroedd i ffwrdd.
Nid oes modd i'w difa unwaith y cânt adenydd; difa'r wyau yw'r unig ffordd.
Pryfed Tân
XXI
PRYFED TÂN
1. YR wyf yn cofio haf gwlyb anghyffredin. YR Nid oedd dichon cael y gwair yn sych. Yr oedd hanner cyntaf Awst wedi mynd, a ninnau heb gael dim gwair i ddiddosrwydd. Ryw fin nos mwyglaidd peidiodd y glaw â disgyn, a chododd a wel hyfryd o'r gogledd. Pan oedd wedi nosi, daeth y gair fod y gwair yn ddigon sych i'w drin. Ffwrdd â ni i'r weirglodd, a'n cribiniau yn ein dwylo. Wrth i mi droi'r gwair â'm cribin, beth feddyliech oedd fy syndod pan welwn y ddaear megis ar dân, gan oleuni gloyw, tan y gwair. Ofnwn, ar yr olwg gyntaf, losgi dannedd fy nghribin. Miloedd o bryfed tân oedd yno, yn chwilio am ryw fwyd yn y gwair wrth eu golau eu hunain.
2. Tua diwedd yr un mis, yr oeddwn yn mynd i fyny un o ffyrdd y cwm yn fyfyrgar, wedi nos, a'm pen i lawr. Cyn dod at drofa, codais fy mhen yn sydyn, a gwelais beth a wnaeth i mi gilio'n ôl mewn dychryn. Yr oedd pen aruthrol yn llenwi'r ffordd. Yr oedd ganddo drwyn bachog anferth. O bob ochr i'r trwyn yr oedd llygad yn fflamio tân. Fy meddwl cyntaf oedd troi fy nghefn, a dianc am fy mywyd oherwydd clywn fy ngwallt yn codi ar fy mhen. Ond yr oedd arnaf awydd gwybod beth oedd. Sylwais nad oedd yn symud dim. Cerddais ato, yn araf, araf. O'r diwedd, gwelais nad oedd o'm blaen ond carreg ddu fawr yn taflu allan o'r gwrych yn y drofa, a dau ysmotyn o bryfed tân ar lethr y clawdd uwch ei phen. Bum yn edmygu'r ddau deulu,—teulu'r Lampyris,— a rhoddais nifer ohonynt ar gantal fy het. Arosasant yno'n ddiddig, ac wedi mynd adre, rhoddais hwy o'r neilltu, gan feddwl eu chwilio'n fanwl drannoeth. Erbyn y bore, nid oedd yno yr un ohonynt.
3. Dywedir bod dwy lain deneu o sylwedd caled gwyn dan y pryfed; y mae'r llain yn ddwbl, yr ochr allan yn felynaidd dryloyw; a'r ochr i mewn yn wen, na ellir gweled trwyddi. Medr y pryf anadlu i'r lleiniau hyn, a rhywsut, ni wyddys yn siwr sut, medr oleuo lamp i ddangos iddo ei lwybr a'i gymdeithion.
Dywed llyfrau fod llawer o bryfed tân. Y mae un pryf wrth ei filiynau ar wyneb y môr, na welir yn eglur ond trwy chwyddwydr. Weithiau, gwna i filltiroedd o fôr edrych fel pe byddai ar dân. Y mae un pryf y gellir darllen print mân yng ngolau ei bedair lusern. Hwyrach bod rhai ohonoch wedi gweld Jac y Lantar. Rhyw bryfed tân yw'r hen ffrind hwnnw. Golau tyner prydferth ydyw'r golau. Y mae gwŷr dysgedig wedi rhoi llawer o amser i astudio'r golau mewn pryfed ac mewn mater fel phosphorus. Erbyn hyn medrant roddi paent ar wyneb oriawr a'i gwna'n dryloyw yn y nos.
XXII
LLIW YN AMDDIFFYN
1.Y MAE'N ddyletswydd ar bob creadur amddiffyn ei fywyd. Dyna'i reddf ddyfnaf. Y mae gan bob un ryw fodd i'w amddiffyn ei hun,—y mae gan y llew ei balf, yr arth ei chrafanc, y march ei garn, y baedd ei ysgythrddant; ac fel y dywedai yr hybarch Michael D. Jones, gan ddal ei ddwrn o flaen cynulleidfa: "Ac y mae gan ddyn, yntau, ei forthwyl." Y mae gan ambell greadur diniwed ei amddiffynfa,— y draenog ei wisg, y crwban ei gragen.
2. Ond hwyrach mai'r prif amddiffyn yw lliw. Edrychwch ar y darlun acw. Ond craffu, chwi welwch ddau wyfyn, un ar bob cangen uwchlaw'r fforch. Eu hunig amddiffyn rhag llygaid llym adar ysglyfaethus yw tebygrwydd eu cyrff i'r goeden y maent yn gorffwys arni. Pe gwelech hwy yno, yn eu lliwiau priodol, ar ddamwain yn unig y canfyddech hwy.
A fuoch chwi'n gofyn erioed: pam y mae y gloyn byw hwn yn felyn, a hwnacw'n las, a'r llall yn gochddu ac un arall yn wyn? Y mae eu tlysni'n amddiffyn iddynt, gan ei fod yn debyg i dlysni'r blodau yr hoffant ddisgyn arnynt. A fuoch chwi erioed yn teimlo ysbrigyn o bren crin yn troi'n
fyw wrth i chwi gyffwrdd ag ef? Gwyfyn oedd,Y Gwyfyn Llwydfelyn
ar lun ysbrigyn. Y mae ieir mynydd bychain yr un lliw yn union â gwellt y mynydd. Y mae un gloyn byw yn union fel blodau'r grug.
Y mae pob peth sy'n byw yn yr anialwch,— camel, ehedydd, neu sarff,—o'r un lliw a'r tywod. Y mae adar y Pegwn, gwlad yr eira, yn wynion.
Y mae lliw yn gymorth i'r bwystfil ysglyfaethus hefyd, fel na welir ef yn dyfod. Y mae brychni'r llewpard, a rhesi ysblennydd y teigr, yn eu gwneud yn debyg i dyfiant coedwigoedd yr India. Y mae melyn hardd y llew yn ei wneud bron yn anweledig yn erbyn y wlad felynwerdd y llama ar hyd-ddi.
Nadroedd
XXIII
NADROEDD
1. ER perycled yw nadroedd mewn gwledydd eraill, ac er mor farwol yw eu brathiad, nid oes le i ofni yn ein gwlad ni.
Nid oes yng Nghymru ond dwy neidr, sef y Neidr Ddu a'r Neidr Fraith. Y mae'n hawdd adnabod y naill oddiwrth y llall. Y mae llinell ddu ogam yn rhedeg hyd gefn y Neidr Ddu o'i phen i flaen ei chynffon; llwytaidd yw'r Neidr Fraith, gydag ychydig ysbotiau duon. Y mae pen y Neidr Ddu'n llydan, a phen y Neidr Fraith yn weddol hir. Mae'r naill yn wenwynig, ond nid y llall.
2. Ond peidied neb â dychrynu. Ni frath y Neidr Ddu neb ond pan ymosodir arni, neu pan roddir troed arni. Creadur bach ofrus iawn ydyw. Dianga o'r golwg rhag eich cysgod bron. Nid oes arni eisiau ond lle i ymheulo a lle i gysgodi. A phe brathai, nid yw ei brathiad byth yn farwol. Os brethir chwi, sugnwch y briw mor egr ag y medrwch, a tha flwch y poer allan. Neu, oni fedrwch gyrraedd y briw, gofynnwch i rywun arall wneud hynny. Yna cerddwch yn hamddenol i siop cyffyriwr neu adref, a rhowch dipyn o sal volatile neu amonia ar y briw. Ni fyddwch ddim gwaeth nag ar ôl brath gwenynen.
Gelwir creadur bach diniwed arall yn neidr, sef y Neidr Ddafad. Y mae hon yn medru cau ac agor ei llygaid, ond y mae llygaid neidr bob amser megis yn agored.
3. Ym mis Awst diweddaf, gwelwyd neidr yn gwrando ar ganu, ac yn ei fwynhau. Yn ystod angladd yn Lleyn y bu hyn. Yr oedd y person yn sefyll wrth y bedd a'r galarwyr yn canu emyn lleddf. A gwelid neidr, wedi dod o rywle, yn codi ei phen cyn uched ag y medrai, ac yn ymysgwyd yn ôl a blaen gyda'r canu. Tra darllenid y bennod gladdu, aeth y neidr o'r golwg. Ond pan gododd nodau prudd "Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau," daeth y neidr i'w lle wedyn, a siglai ei chorff yn ôl ac ymlaen gyda'r sŵn.
XXIV
TEULU'R GENEU GOEG
MAE'N debyg nad oes yr un teulu yn cael cymaint o gam â theulu diniwed y fadfall neu'r geneu goeg. Nid oes ond tri o'r teulu mawr hwn yn y wlad hon, sef y geneu goeg, madfall y tywod, a'r neidr ddafad.
Ar greigiau heulog y ceir y geneu goeg. Y mae'n hollol ddiniwed. Pan wêl chwi, yswatia i lawr ar y graig, ac y mae'n debyg iddi o ran lliw fel y mae'n anodd iawn ei gweld. Os tybia eich bod wedi ei gweld, ceisia ddianc yn afrosgo i ryw dwll. Os deliwch hi gerfydd ei chynffon,[1] hwyrach y tyr y gynffon yn eich llaw, a dihanga hithau tra foch chwi yn llawn syndod. Tŷf cynffon newydd yn lle yr hen. Er mor ofnus yw, y mae'n bosibl ei dofi. Yn y tywod heulog cynnes yr hoffa madfall y tywod fod. O wyau y daw ei rhai bychain hi.
2. Geneu goeg heb draed yw'r neidr ddafad. Y mae'n debyg iawn i neidr, a dyna achos ei thrallodion. Erlidir, lleddir hi'n ddidrugaredd, lle bynnag y ceir hi. Ac eto y mae'r fwyaf diniwed o holl greaduriaid Duw. Ond pwy a gred hyn wrth weld ei chorff gwyrdd yn ymrwyfo drwy'r glaswellt? "Neidr yw, lladder hi," ebe pawb. Y peth a ddylent ei wneud yw ei dal,[1] a'i chroesawu i'r ardd, oherwydd ei bwyd yw'r malwod sy'n bwyta dail ieuainc eich hoff blanhigion.
Geneu Goeg
Geilw rhai o blant y Saeson hi'n bryf dall. Ond y mae ganddi lygaid bychain disglair, a medr eu cau; a phan welir hi'n farw, yng nghaead y byddant. Ond ni all neidr gau ei llygaid. Y mae rhyw orchudd corn caled trostynt i'w hamddiffyn; a dyna pam y mae eu trem mor oer, nes gyrru ia sau drwoch.
3. Myn anwybodaeth gredu mai sarff yw'r neidr ddafad. Ac wrth feddwl am sarff, meddyliant am y boa conscriptor a fedr falu esgyrn bustach, neu am y puff adder y bydd ei cholyn yn farwol bob amser. Meddyliant hefyd am y sarff ardderchog y cymerodd Satan ei lun wrth ddod a phechod i'r byd hwn.
Meddyliwch am angel mawr, ardderchog, anwybodus. Wrth gwrs, nid oes yr un. Ond meddyliwch am un felly yn dod i'r byd yma, ac yn lladd plant bach tlysion cherwydd iddo glywed am ryw gewri creulon gynt, y rhai y byddai y Jac bach dewr hwnnw yn eu lladd. Oni fyddai hynny'n gam? Ond dyna a wnawn ni â theulu'r geneu goeg.
Un Hyll
XXV
UN HYLL
1. Y MAE'N debyg bod peth ymryson rhwng y crocodeil â'r aligetor am fod y creadur hyllaf sydd yn bod. Y mae trwyn y crocodeil yn hir, a thrwyn yr aligetor yn fyr; a rhai hyll iawn yw'r ddau.
Y mae amlenni o gragen am y crocodeil; ni wna saeth oddiar fwa ond neidio'n ôl oddiarno, ac ni wna llawer bwled ond flatio fel botwm ar ei gragen. Y mae ei safn anferth yn agored, gwelir ynddi ddwy res hir o ddannedd llymion, ac y mae ei thu mewn yn goch fel gwaed. Mae rhyw edrychiad hanner llechwraidd, hanner mileinig, yn ei lygaid bychain creulon. Ac am ei gorff, llusgo'n afrosgo y mae.
Ceir y crocodeil ym mharthau poethion Affrig, ac yn yr India hefyd. Y mae crocodeil y Neil yn adnabyddus er bore'r byd, ac addolid ef gan yr hen Eifftiaid, y rhai a dybiai ei fod yn llun o'r duw oedd yn achos pob drwg. Y mae dros bymtheg troedfedd o hyd. Gwyrdd golau, gydag ambell lecyn melyn, yw lliw crocodeil yr Aifft; ond du yw crocodeil Senegal. Ceir hwy yn yr India, a Siam. Y maent yn berygl iawn pan yn newynog; ymosodant ar ddyn, a'r unig ffordd i ymachub rhagddynt yw gwthio bysedd i'w llygaid; pan wneir hynny, gollwng y safn hir ei hysglyfaeth ar unwaith.
2. Yn yr Amerig, yng nghorsydd Misisipi ac Amason y mae'r aligetor a'r caiman. Gorweddant ar fin afonydd, heb ddim ond eu pennau allan, a chydiant yn ddidrugaredd ym mheth bynnag a ddaw heibio iddynt,—pysgodyn yn nofio, plentyn yn chwarae neu'r jaguar creulon yn chwilio am ei ysglyfaeth.
Llusga'r teulu hwn eu hysglyfaeth dan y dŵr nes y boddo. Yna rhwygant ei gnawd yn ddarnau trwy dynnu darnau o hono â'u dannedd. Gallant hwy fod tan y dŵr, a chadw eu hysglyfaeth tan y dŵr, tra fo eu ffroenau hwy eu hunain yn yr awyr.
3. "Tlws pob peth bychan," ebe'r hen air. A yw y crocodeil bach yn dlws? O'i gymharu â'i dad a'i fam, y mae. Ond nid yw hynny 'n dweud llawer. Daw o'r ŵy,—ŵy ychydig mwy nag ŵy gwydd, yn barod i ymladd trosto'i hun. Oi gymharu â'r hen grocodeil, y mae'n beth bychan iawn. Y mae ei lygaid yn fawr, y mae ei geg yn agor o hyd, a daw o'r ŵy â dwy res o ddannedd gwynion, llymion iawn. Deil bysgod yn bennaf; ond, bob yn dipyn, daw yntau'n ddigon cryf i dynnu dafad i lawr i'r dŵr, os daw honno i yfed. o fin yr afon.
XXVI
Y CRWBAN
1. RHAI o greaduriaid rhyfeddaf y byd yw'r crwbanod. Mae llaweroedd o fathau ohonynt, rhai yn byw ar y tir, eraill yn y llaid, eraill yn nwfr yr afonydd, ac eraill yn y môr. Y maent oll yn bedwar troediog, ac y mae eu gwaed hwy oll yn oer. Yn y gaeaf, y mae holl grwbanod y tir yn cysgu, hyd nes y daw haul y gwanwyn i'w deffro. Y peth hynotaf yw bod ganddynt wisg o gragen, a honno yn tyfu o'u hesgyrn a'u croen. Mae rhai yn fychain iawn, a gwerthir eu cregyn, wedi eu llenwi â phlwm, yn bwysau papur i rwystro i'r gwynt symud y papurau oddiar eich bwrdd. Y mae eraill yn bum troedfedd a hanner o hyd, ac yn pwyso o dri i bedwar can pwys; a gallech sefyll ar gefn eu cragen heb beri poen yn y byd iddynt. Dodwyant wyau, a rhoddant hwy yn y llaid. Pan ddaw'r crwban bach o'r gragen, bydd ganddo wisg o gragen am ei gefn, a dwyfronneg o gragen odditano. Gall y rhan fwyaf ohonynt dynnu eu pennau a'u coesau i mewn i'w cregyn; a gall rhai gau eu cragennau am danynt.
Byddant byw yn hir iawn. Medrant fyw heb fwyd am fisoedd, os nad am flynyddoedd.
2. Y mae llawer yn cadw crwban yn eu gerddi. Mae'n greadur hollol ddiniwed, ac nid oes ganddo
ddant yn ei ben. O lannau'r Môr Canoldir y dawCrwban y Tir
y crwbanod a welsoch chwi'n cael eu gwerthu: o Dwrci, neu Roeg, neu Asia Leiaf, neu Balesteina.
Os oes gennych un yn yr ardd, gwyddoch lawer amdano. Bychan yw ei ben, heb lun o drwyn, ac heb glustiau i'w gweld. Ac mor ddifrif yw ei lygad llonydd! Nid oes ganddo sawdl, a cherdda'n afrosgo; ond nid yw ei symudiadau'n hyll. Mae ei gragen yn banelau, ac yn aml yn brydferth iawn.
Gwneir cribau ac addurniadau ohoni, ac y mae cragen crwban yn adnabyddus iawn i ferched fydd yn mynd i siopau.
Daw'n ddof iawn yr yr ardd, a daw i'ch adnabod yn fuan, yn enwedig os rhowch ddail wrth ei fodd yn fwyd iddo. Ond, yn bur aml, cilia, rhag plant. Y mae arno ofn iddynt ei roi ar wastad ei gefn, i weld ei ymdrechion digrif i godi ar ei draed drachefn. Y mae wrth ei fodd yn yr ardd. Crwydra wrth ei ewyllys ddydd a nos, ac ni wyddoch yn y byd pa le y deuwch ar ei draws. Ond, fel rheol, rhyw gornel sych, gysgodol, sydd wrth ei fodd. Hwyrach na welwch ef eleni eto. Y mae'n ddigon tebyg ei fod wedi mynd i ryw dwll, ac yno'n cysgu'n drwm ddydd a nos. Ond pan ddaw haul cynnes y gwanwyn i dywynnu ar y llaid neu'r dail sydd uwch ei ben, dadebra eto. A chewch ei weld, a'i goesau afrosgo a'i lygaid llonydd, yn synnu lle mae'r tatw a'r bresych a'r amryw lysiau gwyrddion oedd yn yr ardd pan aeth ef i gysgu yn yr hydref.
Crwban y Môr
XXVII
CRWBAN Y MÔR
1. NID yw crwban y môr cyn hardded â chrwban y tir. Nid yw ei gragen cyn hardded, plaen a diaddurn yw ei gragen ef. Y mae ei draed yn fwy afrosgo hefyd, oherwydd y maent wedi eu gwneud at nofio; er nad ydynt yn hardd, y mae'n dda i'r crwban eu cael. Y mae ei ben yn fwy, ac yn anolygus. Medr dynnu ei wddf i'w gragen, ond ni all dynnu ei ben i mewn, na'i goesau asgellog.
Ond mae ganddo ddwy ffordd i'w amddiffyn ei hun. Yn un peth, medr frathu; ac wedi cydio, ni ollwng ei afael. Peth arall, er mor afrosgo yr edrych, medr symud yn chwim iawn ar dir a dŵr, yn enwedig yn y môr.
2. Yn y môr, ac ar lannau afonydd mawr, y mae ef yn byw. Gwna lawer o les yn y dyfroedd trwy fwyta wyau'r crocodeil ac anghenfilod tebyg, ac felly gwna gymwynas fawr i'r byd.
Ceir ef ar lannau moroedd a llynnoedd ac afonydd gwledydd poethion, yn Asia ac Affrig ac America. Bwyteir ef, a dywedir bod ei gig yn dda iawn.
ADAR
XXVIII
DYCHWELIAD YR ADAR
1. MIS dychweliad yr adar a'r blodau yw mis Ebrill. Daw llawer aderyn hoff i'n gwlad yn ôl, wedi bod yn bwrw'r gaeaf ar grwydr mewn gwledydd pell.
"A glywsoch chwi'r gog?" Dyna gwestiwn plant tua dechrau mis Ebrill. A dyna ddywed y gog:
Mi gana'n ddilai trwy Ebrill a Mai,
A hanner Mehefin, gwybyddwch bob rhai.
Tybiem ni, pan yn blant, yr âi yn ôl o'n gwlad cyn gynted ag y gwelai wair wedi ei dorri. Er hyfryted y cynhaeaf gwair, yr oeddym yn teimlo, wrth weld hogi'r pladuriau, fod y gog ar gychwyn. Mor glir a pheraidd oedd deunod y gwcw! Yr oedd wedi crygu'n sicr, ac fel atal dweud arni,—gwc-gwc-gwe-cw,"— cyn diwedd ei thymor; ond ni hoffem ei cholli. Llawer buom yn craffu wrth chwilio am y deryn llwydlas. A llawer y chwiliasom am ei nyth, cyn gwybod nad yw'r gwcw'n gwneud nyth, ond ei bod yn dodwy wyau, a chogau bach drwg ynddynt, yn nythod adar eraill.
2. A dyma'r wennol yn mynd heibio fel fflach. O, yr oedd ei chroeso'n fawr. Tybiem mai hi oedd yn dod â'r haf cynnes gyda hi. Ac yr oedd ei thrydar yn fiwsig inni. Teimlem fod yr hen feudy wedi peidio â bod yn wag pan ddaeth y gwenoliaid i wibio trwyddo, gan gofio mai ynddo yr oedd yr hen nyth.
3. Daw'r telynorion hwythau hefyd, yr adar bach swil, ac ofnus, prydferth eu gwisg a melys eu cân. Daw Telor yr Hesg i ganu ac i wneud ei nyth yn y corsydd; a'r Gwich-hedydd swil i'r dyrysni.
Daw'r pib-ganyddion hefyd, i wneud eu nythod. ar y ddaear. Gwelir Pibganydd y Coed mewn porfeydd yn ymyl llwyni coed. A gwelir Swit y Waen ar ddoldiroedd. Gwêl y gog ei nyth hi, ac yn aml dodwa ei hwyau ynddo.
Clywch gân gras y Gwddw Gwyn hefyd. Ac yn nyfnder nos, os digwyddwch ddeffro, clywch nodau aflafar Rhegen yr Yd.
Nid enwais ond ychydig. Y mae llu eraill yn dod ym misoedd y gwanwyn. Y mae eu taith wedi bod yn hir ac yn berygl. Ond y mae rhyw reddf yn eu galw'n ôl i'r hen nyth.
XXIX
YR YSGUTHAN
1. YN Ebrill a Mai, pan fydd yr hin yn gynnes, y daw'r Ysguthan i'n gwlad ni. Mwyn, ar noson dawel, yw clywed ei nodyn lleddf, tyner, Cww-w-w.
Colomen wyllt yw'r ysguthan, un o deulu o dros bum cant.
Corff main, telaid, sydd iddi. Glas a llwyd, gyda pheth gwyn a du, yw ei lliwiau esmwyth. Y mae peth lliw coch ar ei bron, a chochion gwinau yw ei thraed.
Bwyty lawer, mes, ceirch, gwenith, pys. Nyth aflêr iawn sydd ganddi, ar fforch derwen, neu ar ben gwrych ger y meysydd llafur. Gwyn yw'r wyau.
Y mae yr ysguthanod bach yn hynod ddiymadferth; a mawr yw gofal y tad a'r fam amdanynt.
Gwledydd tymherus Ewrob ywcartref yr ysguthan. Nid yw'n hoff o dywydd caled, oer. Eto crwydra yn yr haf mwyn i Sweden a Norway, lle mae ffrwythau, a heulwen, ac yn enwedig pinwydd.
2. Y maent yn hoff o goed tawel cysgodol. Yn yr hydref byddant wrth eu bodd mewn derw a ffawydd. Yn y gaeaf ceir hwy ar gangau uchaf y coed talaf, yn enwedig yr ynn, ymhell o gyrraedd cath, wenci, a llwynog.
Yr Wylan Benddu
XXX
YR WYLAN BENDDU
1. MAE'N debyg bod pawb wedi gweld yr Y Wylan Benddu ryw dro neu'i gilydd. Gwelir hi yn y meysydd yn y gwanwyn, yn dilyn yr aradr, ac yn cael ei phrydiau bwyd yn y tir a godir gan swch yr aradr. Gwelir hi yn y trefi mawrion, os bydd afon fawr yn mynd trwyddynt, yn eithaf dof.
Yn Llundain, o amgylch toau uchel St. Paul's, ac ar lannau afon Tafwys, ceir hwy wrth y cannoedd, yn daer am y tamaid a rydd fforddolion iddynt.
2. Ond ger glannau'r moroedd yn yr haf y ceir hwy yn eu hafiaith hapus. Cain iawn yw eu symud- iad ar y don,-" Ysgafn ar don eigion wyd." A thlws iawn yw'r Wylan,—y pen llwyd, y cefn glas-olau, y gynffon wen,—"unlliw a'r araf wenlloer."
Difyr yw chwilio am ei nyth ar y twmpathau, gyda'r tri ŵy glân, gwyrddlas, a'r ysmotiau duon. Beth sydd mor hyfryd â glan y môr?
Eryr y Môr
XXXI
ERYR Y MÔR
1. DYWEDAIS wrthych yn y bennod ddiweddaf hanes un o adar tirionaf y môr, y tro hwn wele i chwi ddarlun adar creulonaf y glannau. Ni welais i yr un erioed, ond dyma fel y darlunia y naturiaethwr enwog Audubon ef: Gellir gweld y gorthrymwr di-drugaredd hwn yn sefyll ar frig uchaf coeden, a gwylia ei lygad disglair, creulon, bopeth sy'n digwydd odditano. Gwrendy ar bob sŵn, ni fedr ewig symud heb iddo ei gweld. Mae ei gymar ar goeden yr ochr arall i'r afon, ac os bydd popeth yn ddistaw, geilw arno, fel pe'n ei annog i fod yn amyneddgar. Wrth ei chlywed, egyr yr eryr ei adenydd llydain, a gwna sŵn fel chwerthiniad un lloerig; yna saif yn berffaith lonydd fel o'r blaen, ac y mae popeth yn ddistaw drachefn.
2. A llawer hwyaden i lawr gyda'r afon, ond ni wna'r eryrod un sylw ohonynt hwy; y mae eu bryd ar aderyn ardderchocach. A thoc, clywir gwaedd alarch ar ei aden, gwaedd debyg sŵn utgorn, yn dyfod o bell. Daw ysgrech oddiwrth yr eryres, i alw sylw'r eryr at y peth sy'n dod. Ym- ysgydwa yntau, a rhydd ei blu'n daclus â'i big gam. Erbyn hyn y mae'r aderyn claerwyn yn y golwg, a'i wddf hir yn ymestyn ymhell o'i flaen. Pan fydd yr alarch yn ehedeg rhwng yr adar yr arswyda gymaint rbagddynt, ymsaetha'r eryr oddiar ei gangen gydag ysgrech ofnadwy, sy'n gyrru ias o ddychryn trwy'r alarch. Disgyn drwy'r awyr fel seren yn syrthio, a chyrhaedda ei ysglyfaeth ofnus sydd yn awr ym mhangfeydd anobaith, ac yn ceisio troi a throsi i geisio'i arbed ei hun rhag ei grafangau. Ceisia ddisgyn i lawr at y dŵr. Ond gŵyr yr eryr y medr yr alarch suddo os medr gyrraedd y dŵr, a dianc rhag ei ergyd. Ymsaetha i lawr odditano, ac wrth weld ei grafangau, cwyd yr aderyn dychrynedig i'r awyr drachefn. Toc, y mae'r alarch yn blino, prin y medr anadlu gan ludded a braw. Yn awr tery'r eryr ef dan ei aden â'i grafane haearnaidd, a hyrddia ef i lawr ar osgo i lan yr afon. Yn awr, wedi iddo ddisgyn, gwasga ef i lawr â'i draed nerthol, a gyr ei ewinedd bachog drwy ei gnawd i'w galon. Wrth deimlo cryndod angau'n dod i gorff ei ysglyfaeth, ysgrechia'r llofrudd mewn gorfoledd a llawenydd dros yr holl fro.
Bu ei gymar yn gwylio pob symudiad. Yn awr, ehed yn llawen i lawr i lan yr afon, i gydfwynhau y pryd gwaedlyd.
3. Aderyn rhaib yw'r eryr, ac un creulon. Ond, yn y nyth yn y graig, disgwyl ei rai bach am, dano. Syllant i'r awyr las nes y gwelant eu tad neu eu mam yn dyfod o bell. A lle mae cariad y mae gwledd.
Nid oes ond ychydig wledydd heb eryrod. Ond y mae gwahanol fathau ohonynt,—eryr aur, eryr coch, eryr ymerodrol, ac eraill. Y maent oll, fel teulu, yn debyg i'w gilydd. Y mae iddynt gyrff cryfion, pennau llydain, trem falch a thrahaus, llygaid tanllyd, gwgus, adenydd hirion, crafangau fel haearn. Nid oes dim mor ddidrugaredd â'u rhuthr ar eu hysglyfaeth; clywir ei esgyrn yn malurio yn eu hewinedd.
Mae nyth yr eryr mewn lle unig iawn bob amser. Aderyn unig yw. Rhaid iddo gael mynyddoedd iddo'i hun, a lle pell, anghyfanedd, yn gartref. Cilia o leoedd poblog; anaml iawn y daw eryr i Gymru'n awr, hyd yn oed i Eryri.
Gwna ei nyth ymysg clogwyni, ar dalp o graig. Nyth mawr, llydan a bas ydyw. Ym mis Mawrth y gwneir ef, yn sŵn y stormydd mawr olaf. Rhoddir canghennau mawr ar y graig i ddechrau. Ar y rhai hynny rhoddir canghennau llai. Yna yn uchaf rhoddir canghennau mân, a'r dail arnynt. Bydd y dail hynny, wedi sychu, yn ddigon clyd a chynnes i wely eryr bach.
Chwi synnech, wrth gofio mai'r eryr yw brenin yr adar, ei fod yn dyfod o wy mor fach. Gwyn neu lwydwyrdd yw yr wyau, gydag ysbotiau a marciau tywyllach.
Ni fydd ond rhyw un, dau neu dri o wyau yn y nyth; yn aml ni fydd ond un, heb fyth fwy na thri. Rhai newynog iawn yw'r eryrod bychain. Y mae eu rhieni yn hoff iawn ohonynt, fel y maent yn hoff o'i gilydd. Dônt a bwyd iddynt yn ei bryd. Ond bob tro y caiff yr eryrod bach fwyd, bydd ysgyfarnogod bychain heb fam, cywion rhyw aderyn arall heb neb i'w bwydo, neu ddafad heb oen. Ie, cyn hyn, aethpwyd â phlentyn bach i fyny i'r nyth.
Dywedir bod eryrod dof wedi byw i fynd dros gan mlwydd oed.
Pibganydd y Graig
XXXII
PIBGANYDD Y GRAIG
1. Y MAE enw Pibganydd y Graig yn awgrymu dau beth amdano, sef ei fod yn ganwr, a bod ei gartref ymysg y creigiau.
Y mae'n ganwr bach eithaf mwyn. Tua diwedd Gorffennaf a dechrau Awst y clyw ar ei galon ganu. Cân yn fuan fuan, fel pe am ddod i'r diwedd ar unwaith. Nid oddiar ei graig y cân, ond cwyd i fyny i'r awyr a'i adenydd ar lawn led, erys ar ei aden fel pe'n nofio'n araf trwy'r awyr, ac yna disgyn yn hamddenol i'r llawr, fel pe wedi gwneud ei ddyletswydd wrth ganu.
2. Yn yr Alpau ceir ef yn aml iawn. Ond nid yw'n hoffi'r eira; oherwydd, weithiau, llithra'r eira ar ei nyth, a lletha ei rai bach. Felly cilia i lawr o flaen yr eira, daw i'r dyffrynnoedd, lle y caiff bryfed yn fwyd ar lannau'r afonydd. Yno caiff ei fwyd yn y corsydd, ac agen yn y graig i osod ei nyth ynddi.
Yn ein gwlad ni, ni cheir ef byth bron ond ar lan y môr, yn enwedig lle mae'r traeth yn greigiog, a lle ceir y llanw'n golchi dros y creigiau.
3. Aderyn gwyrdd-dywyll yw Pibganydd y Graig, gydag ysbotiau duon ar ei gefn a rhai gwynion ar ei fron. Mae llain wen dros ei lygad, ac y mae ymylon golau i'w adenydd.
Mae o chwech i saith modfedd o hyd. Hyd ei aden yw tair modfedd a hanner, a hyd ei gynffon yw dwy fodfedd a thri chwarter.
Rhoddir y nyth lle na all dim ddisgyn ar yr wyau : mewn agen craig, mewn twll, neu dan gysgod coeden yn agos at ei bôn. Cartref digon brau yw cartref pibyddion bach y graig. Bydd o bedwar i saith of wyau yn y nyth, rhai gwyn a gwawr werdd, a chyda brychau o wyrdd tywyll.
Ar y tywod yn y gwymon y cânt eu bwyd. Creginbysg bychain sydd wrth eu bodd. Pan ar lan y môr, eisteddwch am ennyd i edrych arnynt yn chwilio am eu bwyd mor ddistaw, mor ddyfal, mor amyneddgar ydynt. A pheth da iawn, bwytânt y cregynbysg fydd yn difa rhwydi'r pysgotwr.
XXXIII
YR HWYAD EIDER
1. MI gredaf mai ar lannau'r afon Eider, rhwng Holstein a Schleswig, y gwelwyd yr hwyaden brydferth, werthfawr, a rhadlon hon gyntaf. Ond anaml y daw mor bell i'r de a hynny. Moroedd y gogledd yw ei hoff gartref. Ceir hwyaid eider wrth y miloedd ar draethellau Norway, Spitzbergen, Siberia, a Gogledd Amerig. A hwy yw y prydferthaf o'r hwyaid. Gwyn a du ydynt, ond y mae peth gwyrdd ar eu pennau, a choch gwan ar eu bronnau. Y mae eu plu yn dewion. yn wlanog, ac yn hynod esmwyth.
Adar y môr ydynt. Ant i fyny hafnau Norway gryn gan milltir i ddodwy a nythu, ond nid ânt fyth ymhell o gyrraedd dŵr hallt ac eangderoedd y môr. Gwnânt eu nythod ym Mai a Mehefin ar greigiau a llethrau rhyw ynysig. Heliant ryw beth a fedrant gael i wneud ochr allan y nyth, ond gwnânt y tu mewn blu gwynion esmwyth eu bronnau eu hunain. A phan godant oddiar eu nyth i chwilio am fwyd, y mae digon o bysg-gregyn iddynt ar lan y môr,—rhônt fan blu ar yr wyau i'w cadw'n gynnes. Ymhen rhyw bum niwrnod ar hugain daw yr adar bach prydferthaf a welsoch erioed o'r wyau. Ant i'r môr cyn gynted ag y gallont. Ni allant gerdded dim llun, ac afrosgo iawn y cerdda eu tad a'u mam, syrthiant ar eu hochrau ac ar eu pennau beunydd. Ond gadewch iddynt fynd i'r môr, mor brydferth y nofiant!
Yr Hwyaid Eider
2. Wedi i'r cywion adael eu nyth, daw pobl i gasglu'r plu y buont mor gynnes ynddynt. Ceir pwys o'r plu ysgeifn, cynnes, mewn rhyw ddeuddeng nyth. Gwn am blant bach sy'n cysgu'n gynnes a hapus dan gwiltiau eider down. Tybed y gwyddant fod yr un plu wedi bod yn cadw adar bach tlysion yn gynnes ym moroedd oerion y gogledd pell?
Y mae plu yr hwyad eidler mor werthfawr yn awr fel y cymerir gofal mawr gyda'r adar. Paratoir lle iddynt ar ynysoedd, a dônt yn eiddo i berchenogion yr ynysoedd, fel pe buasent wartheg neu ieir. Dont yn ddof iawn. Weithiau deuant i gaban y gwyliwr i wneud eu nyth. Ni ddiangant oddiar eu nyth er neb; ond rhônt ryw bigiad chwareus i chwi os ewch yn rhy agos atynt. Ond gadawant i chwi eu codi oddiar eu nyth, ac edrych ar eu hwyau, a'u rhoi i lawr yn eu hôl. Nid yw'n rhyfedd fod plu mor esmwyth yn tyfu ar adar mor fwyn.
Ehedyddion Ieuainc
XXXIV
YR EHEDYDD
1. BETH, yn holl dlysni'r haf, sydd mor swynol â chodiad yr ehedydd? A welwch chwi ef yn codi o'r cae ŷd, lle bu'n gorffwys tros nos, ac yn cychwyn ar ei daith ryfedd i'r nefoedd? A'r miwsig sy'n arllwys o'i big! A glywsoch chwi erioed ganu a chymaint o ynni angerddol ynddo?
Ceir ehedyddion trwy Ewrop i gyd, ac yn Asia, ac mewn rhannau o Affrig. Nid oes yr un aderyn yr hoffa yr Americaniaid ei weld a'i glywed fel yr ehedydd, ac erbyn hyn y mae llawer o'r adar yn byw yn yr Amerig.
Y mae llawer math o ehedyddion, yr ehedydd byrfys, yr ehedydd du, ehedydd y tywod, ehedydd y diffeithwch, ehedydd y waen, y corr hedydd. ehedydd y traeth, ehedydd y coed, enid, esgudogyll, ehedydd y maes.
Er bod mân wahaniaethau, y maent oll yn debyg i'w gilydd yn eu cryfder, yn eu gallu i ehedeg yn uchel, yn eu hynni bywiog, ac yn swyn gwefriol eu cân. Daw ehedydd y coed i Gymru weithiau, ond ehedydd y maes yw ein ehedydd ni. I Gymro, ef yw yr ehedydd.
Erys rhai ehedyddion yma trwy'r flwyddyn; daw eraill yn ôl o'r cyfandir yn yr hydref. Ond ni chrwydra'r ehedydd ymhell, fel y wennol a'r gog.
Mae ein ehedydd ni o ffurf fwy telaid ac eiddil na'r lleill. Tua saith modfedd yw ei hyd. Mae ei gefn yn llwydfelyn, y fron yn felynwen, ac ymylon rhai o'r plu yn wynion. Mae'r gynffon yn fforchog. Ar y ddaear yr erys y nos, ond yn yr awyr y mae'n byw. Cwyd ar doriad y wawr, ac i fyny ag ef ar ei union, tan ganu. Ei fwyd yw chwilod, gloywod byw, sioncod y gwair, a phryfed copyn; ond, wrth ddifa y rhai hyn, rhaid iddo gael ambell flaguryn o'r yd neu'r gwenith sy'n tyfu o'u cwmpas. Ar lawr cae y gwneir y nyth. Nid yw ond twll yn y ddaear. Y gamp yw ei wneud yn debyg i'r cae o'i gwmpas, fel na wêl llygad barcud ef. Prif elynion yr ehedydd yw nadroedd, hebogau, a phlant drwg. Glaswellt sych, dail gwyw, a rhawn, yw prif ddefnydd y nyth. Yn nechrau Mai y gwneir y nyth, a'r ŷd ieuanc glas yn codi o'r ddaear o'i amgylch. Bydd yno bump neu chwech o wyau melynwyrdd neu gochwynion. Yn fuan iawn wedi eu deor, ehed y rhai bach i'r ŷd, a bydd brodyr bach yn eu dilyn o'r nyth wedyn cyn diwedd yr haf.
A welsoch chwi'r ehedydd yn cerdded? cherdded y mae, nid rhoi naid ac ysbone; a rhyfedd, rhyfedd, mor fuan y mae ei draed yn mynd.
Ond ar ei adain y mae orau. Cwyd i'r awyr, weithiau mewn cylchdro troellog, weithiau gan ymsaethu'n syth i fyny. Â'n llai, llai, ac o'r diwedd gwelir ef fel ysmotyn bychan du yn entrych yr awyr ddisglair. Cyn hir, cychwyn i lawr; a chyn cyrraedd y ddaear wele ef yn cau ei adenydd, yn rhoi ei ben ymlaen, ac yn disgyn i'r ddaear megis plwm. Er i chwi golli golwg arno, y mae mor ddiogel yn y gwellt ag oedd ar fron y ewmwl. A'i gân Mor fyw ydyw,—y mae'n gyrru trydan drwoch. Cân wrth godi; ar ôl pob esgyniad arllwysa gân ar y ddaear fel cawod o lwch aur ac arian. Ac fel yr â i fyny, â'r gân yn felysach a thynerach.
Wrth i chwi ei wrando, gofynnwch,—"Ai o lawnder ei galon y mae'n canu? Ynteu a ydyw yn fy ngweld i 'n gwrando?"
Pe chwiliech yn fanwl, caech fod iddo edmygwyr heblaw chwi. Y mae ei blant, y rhai mwyaf a'r rhai lleiaf, yn edrych yn edmygol arno'n codi, ac yn hoffi ei gân. Dilynant ei siwrne, a thoc croesawant ef yn ôl.
Pa ryfedd fod y beirdd wedi canu clod yr ehedydd?
Eleirch Duon
XXXV
ELEIRCH DUON
1. AM ganrifoedd lawer yr oedd "alarch du" yn enw ar rywbeth nad oedd yn bod. Tynnai gwynder yr alarch, wrth nofio mor gain ac ysgafn ar y dŵr, sylw pawb, ac ni chredai neb fod y fath beth ag alarch du i'w gael. Hwyrach bod yr alarch yn wyn oherwydd mai yng ngwledydd yr eira y gwna ei nyth ac y maga ei gywion. Am yr alarch gwyllt nid am y dof, yr wyf yn dweud. Ond pan ddarganfuwyd Awstralia, cafwyd ynddi beth rhyfeddach na'r cangarŵ a'r oposwm, sef alarch du. Mae'n debyg iawn i'w frawd gwyn sy'n byw am y ddaear ag ef.
Pam y mae gwddw yr alarch mor hir? Am mai llysiau a gwreiddiau sy'n isel yn y dŵr yw ei fwyd.
Y Ciwi
XXXVI
Y CIWI
1. UN o'r adar digrifaf yw'r ciwi. Nid oes UN ganddo gynffon, nac adenydd gweladwy; ond y mae ganddo goesau hirion a phig hir iawn. O bell, ymddengys fel hen wraig fechan sione, a'i chlog wedi ei thaflu trosti, gan guddio ei breichiau.
Brodoro New Zealand ydyw. Y mae pedwar math o hono ar ddwy brif ynys New Zealand, ond nid oes yr un ohonynt yn fwy na dwy droedfedd o daldra.
Y mae ei symudiadau'n ddistaw ac yn gyflym iawn. Medr gymryd camrau breision, a rhedeg yn hynod fuan, a'i gorff megis yn ei ddau ddwbl. Weithiau saif yn syth; ambell dro rhydd ei big ar y ddaear, a gorffwys ei gorff arni hi ac ar ei goesau ; ond, fel rheol, saif yn ei hanner crwn. gan chwilio am fwyd â'i big hirfain.
2. Oherwydd ei big yw ei ffortiwn. Y mae'n hir ac yn gref, a thybir y gall arogli â hi. Piga ffrwythau oddiar y coed. Ond ei brif fwyd yw pryfed, yn enwedig pryfed genwair. Planna'i big i'r ddaear, a gyr hi i mewn at y bôn. Cyn sicred â dim, daw â phryf genwair, neu ryw drychfilyn arall sydd yn amheuthun iddo, allan ynddi. Mae golwg ddoniol arno. Yn araf ac yn ofalus tyn y pryfyn allan, gan ofalu peidio a'i niweidio na'i dorri. Mae fel pen sibrwd wrtho: "Tyrd, y peth bach, or ddaear ddu, dywyll ac i oleuni cynnes yr haul, i'th fwynhau dy hun." A chyn gynted ag y caiff y pryf allan i gyd, teifl ef i'r awyr, deil ef yn ei big wrth iddo ddisgyn. a llwnc ef heb na halen na phupur.
O liw, y mae rhai o'r ciwiaid yn llwyd, a rhai yn llwytgoch.
Dodwant ryw ddau ŵy, ac eistedd y gwryw a'r fenyw ar yr wyau bob yn ail nes eu deor.
Nid â'i big y bydd y ciwi yn ei amddiffyn ei hun, ond ag un o'i draed. Cwyd ci droed i fvny. a rhydd ergyd neu grafangiad ag ef.
GOFYNION A GEIRFA
I
1. Ennwch y gwahanol ffyrdd yr amddiffynna yr anifeiliaid, y gwyddoch chwi am danynt, eu hunain.
2. Ysgrifennwch y paragraff hwn yn eich geiriau eich hun.
3. Rhowch enwau yr anifeiliaid a ddiflannodd o'r byd, os gellwch. Pa fath anifeiliaid oeddynt?
- LLID, anger.
- CARN. hoof.
- EWIN, claw.
- BLAIDD, wolf.
- CENAU, cub.
- LLWDN, wether.
- FFAU, den.
- SANTEIDDRWYDD, holiness, holy.
- CAWRFIL, elephant.
- LLARPIO. to maul.
- YSTYFNIG, stubborn.
- PROFFWYD, prophet.
- LLEWPARD, leopard.
- ANIFAIL BRAS, fatling.
- GWIBER, viper.
- CRAFANC, claw.
- PALF, paw.
- CARW, deer.
- GWAEDGI, bloodhound.
- ARUCHEL, very high.
- MYN, kid, young goat.
- PORI, to graze.
- YCH, ox.
- DIDDYFNU, to wean.
- TOI, to cover.
II
1. Esboniwch feddwl enw yr anifail hwn.
2. Pa ddau ddull sydd gan natur o amddiffyn anifeiliaid?
3.Rhoddwch restr o'r anifeiliaid y credwch chwi a fydd yn y byd ymhen mil o flynyddoedd, a rhestr o'r rhai a ddiflanna.
- DREINIOG, thorny, prickly.
- MOLOCH, restless.
- MODFEDD, inch.
- LLADIN, latin.
- DALEN, page.
- SYRTHIO, to fall.
- GWDDW, neck.
- AFROSGO, clumsy.
- DILUN, shapeless.
- HAGR, ugly.
- GRUDD, check.
- DINIWEIDRWYDD, innocence.
- SURO, to sour.
- ENAID, Soul.
- CYMWYNAS, favour.
- AIFFT, Egypt.
- RHAIB, rapacity, greed.
- DYWALGI, tiger.
- YSGLYFAETH, prey.
- ERYR, eagle.
- ETIFEDDU, to inherit.
III
1. Dywedwch a wyddoch am afonydd Amason a La Plata.
2. Ennwch a disgrifiwch anifeiliaid eraill sydd ag arfwisg.
- TEULU, family.
- TYLWYTH, tribe.
- DYFRHAU, to water.
- ARFWISG, armour.
- HELM, helmet.
- LLURIG, armour.
- YSGWYDD, shoulder.
- CRAGEN
- shell.
- GAEROG, armoured
- NIWED, harm.
- TURIO, to burrow.
- CELANEDD, carnage.
IV
1. Cymherwch gyrn y carw pan fyddont heb dyfu a phan fyddant wedi llawn
- CORN, horn.
- CANGHENNOC, branching.
- GWAE, woe.
- AMDDIFFYN, to defend.
- BYRFLEW, short hairs.
- MELFED, velvet.
- SWIL, shy.
V
1. Disgrifiwch yr Ych Gwyllt yn ôl y darlun o hono yn yr ysgrif hon.
2. Ysgrifennwch unrhyw stori a glywsoch am Indiaid Cochion.
- CILIO, to disappear.
- GWAREIDDIAD, civilization.
- YCH GWYLLT, buffalo.
- AUROCH, buffalo.
- ARTH, bear.
- BLAIDD, wolf.
- CYFANDIR, continent.
- CYFFINIAU, borders.
- PAITH, prairie.
- GYR, flock.
- TYNDRA, tightness.
- MWNG, mane.
- CRWMACH, convexity, hump.
- YMDRYBAEDDU, to wallow.
- LLAID, mud.
- GWASGOD, waistcoat.
- CYNDDEIRIOG, mad, furious.
- PABELLU, to camp.
- HELWRIAETH, hunting.
- GWREGYS, girdle.
- SEBON, soap.
- BUWCH FLITH, milch cow.
- LLARIAIDD, gentle.
VI
1. Ennwch rannau o anifeiliaid eraill a geir yng nghorff y Gnu. 2. Disgrifiwch yr anifail rhyfedd hwn.
- GWAR, neck.
- BARF, beard.
- GAFR, goat.
- GEN, chin.
- MERLYN, pony.
- EWIG, deer.
- OSGO, inclination.
- GWERYRIAD, neighing.
- BARUS. vicious.
- AFROSGO, clumsy.
- EFFRO, awake.
- RHUO, to roar.
- CYNDDAREDD, fury.
- CARLAMU, to gallop.
- CHWYFIO, to wave.
VII
1. Beth ydyw'r gwahaniaeth rhwng y lama a'r camel?
2. Pa ddefnydd a wneir o'r lama?
- LAMA, llama.
- CRWB, hump.
- TYWOD, sands.
- ESMWYTH, easily, smoothly.
- PWN, load.
- CNAWD, flesh.
- SIWRNAI, journey.
- POER, spit.
- YSTYFNIG, obstinate.
VIII
1. Pa flodau, adar, ac anifeiliaid newydd a ddaw i Gymru bob gwanwyn?
2. Disgrifiwch gwsg Arth y Mynyddoedd Creigiog.
3. Dywedwch y cwbl a wyddoch am y Mynyddoedd hyn.
4. Ai gwell gennych chwi fyw yng Nghymru neu ynteu yng ngwlad yr arth hon, a phaham?
- Y MYNYDDOEDD CREIGIOG, the rocky mountains.
- COG, cuckoo.
- PEGWN. pole.
- LLYSIEUYN, herbs.
- MEL. honey.
- MORGRUG, ants.
- AMHEUTHUN, dainty.
- CWRLID, coveret.
- GWANCUS, voracious.
- YMPRYD, fast.
- IWRCH, IYRCHOD, roebuck.
- CADWYN, chain.
- LLAIN, long slip.
- TALAITH, state.
- GOLUD, wealth.
- SECH, SYCH, dry, arid.
- IWERYDD, Atlantic Ocean.
- UNOL DALEITHIAU, United States.
- HALEN, salt.
- ARSWYD, dread.
- GLODDEST, carouse.
- LLETHU, to overwhelm.
- GWASGU, to squeeze.
- LLOCHES, lair.
IX
1. Disgrifiwch gartref yr Arth Wen.
2. Pa liw ydyw lliw yr Arth, a phaham?
- HISPAEN, Spain.
- GWENYNEN, bee.
- DANTEITHFWYD, dainty food.
- TALP, mass, lump.
- NOETHLWM, bare, bleak
- MORLO, seal.
- CYDNERTH, well set.
- FFYRNIC, fierce.
- HUFEN, cream.
- ESCIMO, Esquimaux.
IX
1. Edrychwch ar y darlun, a disgrifiwch y tsimpansi.
2. Pe daliech ddrych o flaen eich cath chwi, beth, tybed, a wnelai?
3. Edrychwch eto ar y darlun, a dywedwch ymha bethau y tebyga'r tsimpansi i ddyn, ac ymha bethau yr annhebyga.
- TSIMPANSI, chimpanzee.
- PLENTYN CROES, cross child.
- DRYCH. looking glass.
- MUD. dumb.
- MWNCI, monkey.
- YSTRYW, trick.
SARFF, serpent.
XI
1. Pa ddefnydd a wneir o'u cynffon gan wahanol anifeiliaid?
2. Rhoddwch hanes yr Oposwm.
- OPOSWM, opossum.
- EGNI, effort, energy.
- SUGNO, to suck.
XII
1. Ymha le y trig y lemur? Disgrifiwch ef.
2. Ennwch brif ryfedd bethau y mwnci hwn.
3. Ennwch anifeiliaid eraill sydd yn codi wedi nos. Pam y codant yr adeg hon o'r nos?
- GWIBIO, to rove.
- FFOREST. forest.
- MACHLUD HAUL, Sunset.
- GWYLL, dusk.
- EIDDIL, slender.
- OFERGOELUS, superstitious.
- HUD, magic, enchantment.
- HIN, weather.
- DIREIDI, mischief.
- SWRTH, sullen,
- CHWILIO, to seek.
- TYLLUAN, owl.
- TRYCHFIL, vermin.
- ANWYDOG. cold.
- ADDASU, to adapt.
XIII
1. Beth ydyw ystyr gluth"? Sut y cafodd yr anifail yr enw hwn?
2. Disgrifiwch rai o'i ystrywiau.
3. Adroddwch unrhyw stori a glywsoch am anifail direswm.
- Y GLWTH, glutton.
- WENCI, weasel.
- AR GAM, unjustly.
- GLWTH, gluttonous.
- CHWIM, nimble.
- CARLWM, Stoat.
- DEALLGARWCH, understanding.
- RHWYD, net.
- ABWYD, bait.
- DYFAIS, scheme, invention.
- HAMDDEN, leisure.
- PALF, paw.
- YMDDYGIAD, behaviour.
- HELIWR, huntsman.
- LLOFRUDDIAETH, murder.
XIV
1. Ysgrifennwch ddisgrifiad o'r march prydferthaf a welsoch erioed.
2. Paham y pedolir ceffyl yn ein gwlad ni? A wyddoch am anifeiliaid eraill a bedolid unwaith?
- PEDOL, horse-shoe.
- MARCH, horse.
- LLUNIAIDD, shapely.
- GWISGI. alert, nimble.
- DIFFEITHWCH, desert.
- LLUDDEDIG, tired.
XV
1. Disgrifiwch fel y cyfnewidia y morlo ei liw.
2. Sut y lladd yr Escimo ef, a phaham?
3. Sut y dihanga ?
- GWAWR, hue.
- CRYCH, wrinkle.
- LLANNERCH, patch.
- MODRWY, ring.
- HEIGIO, to shoal. to teem.
- TRYFER, harpoon
XVI
1. Ceisiwch allan ymha leoedd y mae'r afonydd a'r llynnoedd a enwir yn y bennod hon.
2. Dywedwch debyg i ba beth ydyw y Manati. a sut y tebyga iddo.
- MANATI. manatee.
- MORFIL, whale.
- PLANHIGYN, plant.
- CAR, CERAINT. friend.
- DOFI, to tame.
XVII
1. Pa bryd y chwery'r cwningod, ac ymha le?
2. Disgrifiwch eu cartref.
3. Ymha le y cartrefa'r cwningod pan na bydd ganddynt dwll?
4. Darluniwch hwy'n chwarae yng ngoleu'r lloer.
5. Paham y mae'n rhaid i wningen wrth glust a llygaid da?
6. Paham y rhed cuningen a'i chynffon i fyny? Disgrifiwch hwy.
7. Sut y casglant fwyd, a beth a fwytânt?
- CWNINGEN, rabbit.
- NODDFA, refuge.
- CLODDIO, to burrow.
- TYNEL, tunnel.
- LLOCHES, refuge.
- EITHIN, gorse.
- MAGU, to rear.
- DIAMDDIFFYN, defenceless.
- PRIDD, soil.
- BLAGUR. sprouts, buds.
- MYNEDFA, entrance.
- GRUG, heather.
- CEUBREN, hollow tree.
- PRANC, prank.
- BEUNYDD, continual.
- BRATI, a bite.
- YSGYFARNOG, hare.
- BANER, banner, flag.
- MILGI, greyhound.
- DARPARU, to prepare.
- YMDARO, to shift for oneself.
- RHISGL, bark.
- DIRISGLO, to bark, to peel.
- DIFA, to destroy.
- YMFUDWR, emigrant.
- EITHRIAD, exception.
XVIII
1. A welsoch chwi eog rywbryd? Pa liwiau sydd arno?
2. Ennwch gartrefi'r eog, a disgrifiwch hwy.
3. Ysgrifennwch hanes taith yr eog i fyny'r afon.
4. Disgrifiwch daith gyntaf yr eog bach i lawr yr afon.
- EOG, salmon.
- MAWREDDOG, grand, majestic.
- ABER, confluence.
- GREDDF, instinct.
- GRAEAN, gravel.
- PYSGODYN, a fish.
- GOFALU, to care for.
- LLAMU, to leap.
- DYFRDWY, Dee.
- HAFREN, Severn.
- WY, Wye.
- ESGYN, to ascend.
- PENHWYAD, pike
- YMGLADDU, to bury oneself.
- DODWY, to lay eggs.
- GWRYW, male.
- BENYW, female.
- YSFA, hankering.
- RHAEADR, fall.
- DIBYN, precipice, drop.
- GENWAIR, fishing rod.
- PLUEN, fly, feather.
- TRYFER, harpoon.
- MAETH, nourishment.
XIX
1. Beth a bair y gall dyrnogyn fyw yn yr un dwr â phenhwyad?
2. Cyferbyniwch y dyrnogyn a'r eog. Ymha le y dodwa ei hwyau?
3. Ymha wledydd y ceir y dyrnogyn?
- DYRNOGYN, perch.
- YSGLYFIO, to prey upon, to snatch.
- ASGELL, fin.
- GWRYCHYN, bristle.
- DIFFYG TREULLAD, indigestion.
- YSBLANDER, splendour.
- BRITHYLL, trout.
- DEOR, to brood, to hatch.
XX
1. Ysgrifennwch yn eich dull eich hun yr adnodau yn y bennod hon a ddisgrifia'r locust.
2. Disgrifiwch y locustiaid, a dywedwch y cwbl a wyddoch amdanynt.
- LLWM, bare.
- GLASWELLTYN, a blade of grass.
- YSU, to devour.
- DIHAREB, proverb.
- TYRFA, crowd.
- CEILIOG RHEDYN, grass hopper.
- PRYF YR RHWD, cankerworm.
- DATGUDDIAD, revelations.
- LLURIG, armour.
- CARLAMU, to gallop.
- ADEN, wing.
- DREWDOD, stink, smell.
XXI
1. Dywedwch sut yr amddiffynna yr anifeiliaid fferm, y gwyddoch chwi am danynt, eu hunain.
2. Disgrifiwch sut yr amddiffynir rhai anifeiliaid, adar, a phryfaid, gan eu lliw.
- GWYFYN LLWYDFELYN.
- GWYFYN, moth.
- YSGYTHR-DDANT, fang, tusk.
- HYBARCH, very reverend.
- DWRN, fist.
- CYNULLEIDFA, congregation.
- MORTHWYL, hammer.
- DRAENOG, hedgehog.
- CRWBAN, tortoise.
- YSBRIGYN, sprig.
- CRIN, withered.
- IAR MYNYDD, grouse.
- GLOYN BYW, butterfly.
- BRYCHNI, spots.
- LLEWPARD, leopard.
- YSBLENNYDD, splendid.
- TEIGR, tiger.
XXII
1. a 3. Disgrifiwch olau pryfed tân.
2. Dywedwch hanes Syr Owen yn cyfarfod â'r pryfed tân.
- PRYF TÂN, glow worm.
- NID OEDD DICHON, it was impossible.
- DIDDOSRWYDD, shelter.
- MWYGLAIDD, tepid, sultry.
- GWEIRGLODD, meadow.
- CRIBIN, rake.
- MYFYRGAR, studious.
- TROFA, corner.
- BACHOG, hooked.
- GWRYCH, hedge.
- LLETHR. side.
- YSMOTYN, spot.
- EDMYGU, to admire.
- DIDDIG, contented.
- LLAIN, patch, slip.
- SYLWEDD, matter.
- LLUSERN, lamp.
- JAC Y LANTAR, glow worm.
XXIII
1. Pa nadroedd a geir yn ein gwlad ni?
2. Beth a wnaech, pe'ch brethid gan neidr yng Nghymru?
3. Dychmygwch neidr yn gwrando ar ganu, a disgrifiwch ei hystumiau.
- NEIDR (NADROEDD, NADREDD), snake.
- BRATH, bite.
- NEIDR DDU, viper, adder.
- NEIDR FRAITH, grass snake.
- IGAM-OGAM. zig-zag.
- GWENWYNIG, poisonous.
- EGR, sharp.
- POER, spit.
- CYFFYRIWR, chemist.
- GWENYNEN, bee.
- NEIDR DDAFAD, slow worm.
- ANGLADD, burial.
- PERSON, parson.
- GALARWR, mourner.
- LLEDDF, plaintive.
- SIGLO, to rock.
XXIV
1. Dywedwch y cwbl a wyddoch am y geneu goeg.
2. Beth a wyddoch am y neidr ddafad?
3. A wneir anghyfiawnder heddiw â thylwyth y geneu goeg?
- GENEU GOEG. common lizard.
- MADFALL Y TYWOD, sand lizard.
- YSWATIO, to swat.
- GERFYDD, by means of.
- TRALLOD, trouble.
- YMRWYFO, to struggle through, glide.
- MALWEN, Snail.
- PRYF DALL, blind worm.
- GORCHUDD, Covering.
- TREM, look.
XXV
1. Disgrifiwch y crocodeil a dywedwch ymha le y trig.
2. Adroddwch hanes yr aligetor.
3. Ai gwir "tlws pob peth bychan?" Profwch hyn gydag enghreifftiau.
- CROCODEIL, crocodile.
- ALIGETOR, alligator.
- AMLEN, envelope.
- BWLED, bullet.
- CORS, marsh.
- FFROEN, nostril.
XXVI
1. Pa ddefnydd a wneir o'r crwban?
2. Paham y mae'n dda cadw crwban yn eich gardd?
- PWYSAU PAPUR, paper weight.
- DWY FRONNEG, breastplate.
- TWRCI, Turkey.
- GROEG, Greece.
- ASIA LEIAF, Asia Minor.
- SAWDL. heel.
- CILIO, to retreat.
- DADEBRU, to resuscitate, to revive.
- BRESYCH, cabbage.
XXVII
1. Cyferbyniwch Crwban y Môr â Chrwban y Tir.
2. Ymha le y ceir crwban y môr?
- CRWBAN Y MÔR, turtle.
- DIADDURN, unadorned.
- ANOLYGUS, unsightly.
XXVIII
1. Ceisiwch ddisgrifio y tro cyntaf y clywsoch y gog y flwyddyn hon.
2. Disgrifiwch y wennol.
3. Pa nifer o'r telynorion y sonnir amdanynt a glywsoch chwi. Tebyg i beth yw eu lliw a'u llun?
- DYCHWELIAD, return.
- BWRW R GAEAF, staying the winter.
- CRWYDR, wandering.
- DILAI. without ceasing. Unreservedly.
- GWAIR, hay.
- PLADUR, sickle.
- CRYGU, to grow hoarse.
- ATAL DWEUD. stutter, impedi-
- ment in speech.
- CRAFFU, to seek diligently, to peer.
- CHWILIO, to look for.
- YSGUTHAN, wood pigeon.
- COLOMEN, dore, pigeon.
- TELAID, graceful.
- COCH GWINAU, auburn.
- MESEN, acorn.
- CEIRCH, oats.
- GWENITH, wheat.
- PYS, pea.
- GWENNOL, swallow.
- FFLACH, flash.
- TRYDAR, chirp.
- BEUDY, Cow-shed.
- TELYNOR, harpist, singing bird.
- SWIL, chy.
- TELOR YR HESG, sedge warbler.
- GWICH HEDYDD, grasshopper warbler.
- PIPGANYDD, pipers.
- PIBGANYDD Y COED, wood sandpiper.
- GWDDW GWYN, whitethroat.
- RHEGEN YR YD, corn-crake.
XXIX
1. Disgrifiwch yr ysguthan, ei hwyau, a'i rhai bach.
2. Ymha le y gwna ei nyth, a thebyg i beth yw?
- DERWEN, oak tree.
- DIYMADFERTH. helpless.
- TYMHERUS, temperate.
- PINWYDDEN, pine tree.
- FFAWYDDEN. fir, birch tree.
- ONNEN, YNN, ash.
- LLWYNOG, fox.
XXX
1. Dywedwch ymha le y gwelir yr Wylan Benddu. A welsoch chwi hi yn rhywle?
2. Darluniwch hi yn eich geiriau eich hun.
- GWYLAN BENDDU, sea-gull.
- ARADR, plough.
- PRYDIAU BWYD, meals.
- SWCH, ploughshare.
- LLUNDAIN, London.
- TAFWYS, Thames.
- ERYR Y MOR. osprey.
- NATURIA ETHWR, naturalist.
- GORTHRYMWR, oppressor.
- BRIG, top branches, twig.
- EWIG, hind, deer.
- CYMAR, partner.
- LLOERIG, lunatic
XXXI
1. a 2. Ail adroddwch ddisgrifiad Audubon o'r eryr a'i ddull o ddal ei ysglyfaeth.
3. Paham y gelwir yr eryr yn frenin yr adar?
4. Disgrifiwch nyth yr eryr.
- FFORDDOLYN, passer by.
- YN EI AFIAITH, in his element.
- CAIN, beautiful.
- TON EIGION, ocean wave.
- GWENLLOER, silvery moon.
- TWMPATH, tump.
- ALARCH, swan.
- UTGORN, trumpet.
- TACLUS, neat, tidy.
- CLAERWYN, clear white.
- YSGRECH, Scream, shriek.
- PANG, PANGFEYDD, convulsion, pang.
- ANADLU, to breathe.
- LLUDDED, weariness, fatigue.
- HYRDDIO, to hurl.
- CORFOLEDD, jubilation.
- RHAIB, rapacity.
- SYLLU, to gaze.
- ERYR AUR, golden cagle.
- ERYR COCH, red eagle.
- ERYR YMERODROL. imperial eagle.
- TREM, look.
- TRAHAUS, arrogant.
- GWGUS, frown, scowl.
- RHUTHR, rush.
- MALURIO, to crunch.
- ANGHYFANNEDD, desolation.
- CLOGWYN, crag.
- TALP, mass, lump.
- BAS, shallow.
- RHIENI, parents.
XXXII
1. Sut y cân Pibganydd y Graig?
2. O ba wledydd y daw i'n gwlad ni, ac i ba ran o Gymru y daw?
3. Disgrifiwch yr aderyn bach mwyn hwn.
- PIBGANYDD Pipit.
- GORFFENNAF, July.
- GRAIG. Rock
- LLANW, tide.
- YMYL, edge.
- BON, bottom.
- BRAU, fragile.
- BRYCHAU, spots.
- GWYMON, seaweed.
- AWST, August.
- ALPAU, Alps.
- TRAETH, Sea shore.
- HWYADEN EIDER, cider duck.
- RHADLON, kind.
- TRAETHELL, strand, sand bank.
XXXIII
1. Disgrifiwch hwyaden eider.
2. Pa ddefnydd a wneir o'i phlu? Sut y cesglir hwy?
- GWLAN, Wool.
- HAFN, hollow, gorge.
- HALLT, salty.
- EANGDER, expanse.
- MAI, May.
- MEHEFIN, June.
- YNYSIG, islet.
- MANBLU, down.
- CWILT, quilt.
XXXIV
I. Ysgrifennwch am "holl dlysni'r haf."
2. Pa fathau ar ehedyddion y sydd?
3. Disgrifiwch ein ehedydd ni.
4. A welsoch ei nyth? Tebyg i beth yw?
5. Sul y cerdda ac yr ehed?
6. Sut y cận?
- EHEDYDD, skylark.
- CAE YD, corn field.
- ARLLWYS, to pour.
- EHEDYDD DU, black skylark, golden skylark.
- EHEDYDD Y TYWOD, shorelark.
- EHEDYDD Y DIFFEITHWCH, desert skylark.
- EHEDYDD Y WAUN, meadow pipit.
- Y CORR EHEDYDD, pipit.
- EHEDYDD lark.
- TRAETH, shore.
- EHEDYDD Y COED, wood lark.
- ENID, ESGUDOGYLL, EHEDYDD Y MAES, skylark.
- GWEFROL, electric.
- CHWILOD, beetle.
- SIONCYN Y GWAIR, grasshopper.
- BARCUD, kite.
- DEOR, to hatch.
- NAID AC YSBONC, jump and hop.
- ENTRYCH, firmament.
- PLWM, lead.
- EDMYGYDD. admirer.
XXXV
1. Pa nifer o wahanol eleirch sydd? Disgrifiwch hwy.
- ALARCH, ELEIRCH, Swan.
- DOF, tame.
- CANGARŴ, kangaroo.
- GWDDW, neck.
XXXVI
1. Dywedwch y cwbl a wyddoch am y ciwi, yma
2. Disgrifiwch ei big rhyfedd.
- CIWI, kiwi.
- GWELADWY, in sight.
- SIONC, nimble.
- CLOG, cloak.
- BRODOR, native.
- FFORTUN, fortune.
- PRYF, Worm.
- PRYFED GENWAIR,
Nodiadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Nodwch. Mae bellach yn anghyfreithiol i drin, cyffwrdd, neu beri niwed i herpetofauna yng Nghymru a gweddill y DU. Gweler Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru am ychwaneg o wybodaeth
Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.