Naw Mis yn Nghymru (testun cyfansawdd)

Naw Mis yn Nghymru (testun cyfansawdd)

gan Owen Griffith (Giraldus)

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Naw Mis yn Nghymru
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Owen Griffith (Giraldus)
ar Wicipedia



𝙽𝙰𝚆 𝙼𝙸𝚂 𝚈𝙽 𝙽𝙶𝙷𝚈𝙼𝚁𝚄.

—GAN—

Y PARCH. OWEN GRIFFITH,
(GIRALDUS.)

TAN-Y-BRAICH—HEN GARTREF YR AWDWR.






UTICA, N. Y.

T. J. GRIFFITHS, ARGRAFFYDD, 1931 GENESEE ST.

1887.




I FY MRAWD, EVAN GRIFFITH (IEUAN DWYFACH),

Y CYFLWYNWYF Y LLYFR HWN, YN ARWYDD

O FY MHARCH DIFFUANT TUAG ATO FEL

BRAWD, A CHYNRYCHIOLYDD YR HEN GARTREF;

FY SYNIAD UCHEL AM DANO FEL

BARDD A LLENOR,

A'I DDYDDORDEB DWFN YN HELYNTION Y GENEDL

GYMREIG YN Y DDWY WLAD.

A chan mai amcan y llyfr hwn yw dyddori Cymry America, trwy adrodd
iddynt nodweddion a sefyllfa eu cydgenedl yn Ngwlad eu Tadau,
credwyf y CYD-FWYNHA IEUAN DWYFACH â hwynt yn y dyddordeb a
ddichon iddynt deimlo yn y llyfr.


YR AWDWR.

CYNWYSIAD.




PENOD IV.
Yn y Deheudir

PENOD VII.
Yn Nghwm Rhondda

PENOD VIII.
Adeg Etholiad

PENOD IX.
Yn Risca a'r Cwm

PENOD XII.
Yn Sir Fon

PENOD XIV.
Gohebiaeth Farddol

PENOD XVII
Yn Abertawe

PENOD XX
Yn Nghwm Rhymni

PENOD XXIII
Ymdrechu am Swyddi

PENOD XXIX
Yn Sir Benfro

PENOD XXXIII
Yn y Gogleddbarth

NAW MIS YN NGHYMRU.




PENOD I

Rhagdrefnu i'r Daith, ac yn Cychwyn.

Wrth godi y "fflodiart" i roi dwfr ar y felin lyfrol y tro hwn, addefaf yr ymgryna fy meddwl gan bryder am natur y blawd a ddisgyn i'r cafn ond gan nad beth ei natur, rhaid gwneyd y goreu yn awr o'r malu, gan fod yr olwynion yn dechreu symud.

Mawr yw y fintai a geir yn flynyddol yn nechreu yr haf, yr ochr hon i lyn y Werydd fawr, yn dysgwyl am lonyddiad (nid cynhyrfiad) y dwfr, fel y gallont hwy ddisgyn iddo a hwylio drwyddo gyda'r gobaith, yn ddiau, o gael iachâd o ba glefydau bynag y dichon iddynt fod yn dyoddef oddiwrthynt.

A chan fod myned ar ymweliad i Ewrop yn beth mor gyffredin yn y blynyddau hyn, yn mhlith "gwyr y wlad yma,” ni ddylid gwarafun, gan hyny, i'r Cymry, brodorion oddiyno, os ceir hwythau hefyd yn dilyn y ffasiwn boblogaidd hon. Ac fel esgusawd arall (os oes angen un), gellir nodi, heblaw fod y Cymry wrth ymdeithio i Ewrop, yn myned i'w hen gartref-gwlad eu genedigaeth-gwlad paradwys boreu oes, a hen wlad eu tadau—y maent hwy wrth fyned yno yn myned i'r rhanbarth odidocaf yn Ewrop; canys meiddiwn ddyweyd fod Prydain fel gem-bin ar fynwes y ddaearen ; ac onid yw Gwalia fel tlws dysglaer yn yr em-bin?

Na ryfedder, gan hyny, os ceid finau a'm hanwyl deulu, yn nghyda chyfeillion mynwesol, yr ail waith yn ystod ugain o flynyddoedd, yn nesâu at ochr y llyn llydan gyda y dymuniad am fwynhau yr unrhyw fraint adlonol hon o fyned am dro i Gymru.

Credais yn gynar fod treulio "naw mis yn Nghymru" yn gofyn dwy flynedd galed o ragbarotoad. Ac felly y bu. A rhag fod neb yn camsynied am werth mwyniant yr ochr draw, dylid gofalu clorianu pwys y gwaith o ragdrefnu yr ochr hon.

Wrth gyrchu at y nôd ymweliadol, yr oedd fy symudiadau yn llawer mwy cyflym nag arfer, ac yr oedd llawer rhwystr yn cael tarawiad go chwim wrth ei symud. Ni cheid amser yn awr i ddilyn y ffasiwn Americanaidd o fyned oddiamgylch cornelau y croes-heolydd, nac i dynu cap i neb. Rheidiol oedd talfyru cyfarchiadau cyffredin, ac amneidio yn lle "clebran." Cymerid camrau esgynfeydd grisiau bob yn dri. Ymlithrwn yn rhwydd i'r dull Iancïaidd o enwi personau, gan ddweyd "Doc." yn lle Doctor, "Zor." yn lle Zorobabel, "John P." yn lle John Prichard Jones, "The." yn lle Theophilus Hughes. Eto, ni phetruswn dalfyru egwyl bwyta; anghofiwn ddilyn arferiad doeth-arafaidd Mr. Gladstone i roi deg cnoad ar hugain i bob tameidyn. Wrth gymeryd y trên, drachefn, da oedd medru dringo iddi bum' mynyd ar ol iddi gychwyn. Wrth wneyd cwrs o alwadau, cwtogwn fwy na'r haner ar y llithiau ymddyddanol. Wrth ohebu ni ellid defnyddio dim ond berfau—dim ansoddeiriau-dim enwau gweinion. Yr oedd amser yn galw—yr oedd gwaith i'w gyflawni.

Y dyn oddimewn, eilwaith, yr oedd yntau mewn cyffro. Teimlai cylchrediad y gwaed y cynhwrfRhedai yr elfen fywydol ddwywaith yn gynt nag arfer trwy ei rhydweliau. Trydanid yr holl beiriant meddyliol. Fel swyddfa llawn o glercod prysur, ceid pob synwyr yn swyddfa y meddwl wrth y ddesc. Yn y cyfnod hwn rhaid oedd defnyddio y telephone yn lle y troed-negesydd, a'r pellebyr yn lle limited mail f' Ewythr Sam.

Yr achos syml o hyn oll, oedd y bwriad o fyned am naw mis i Gymru. Y fath effeithiau grymus, onide, sydd yn canlyn un meddylddrych gogoneddus.

Yn yr adeg neillduol hon o'r calendar, cyferchid fi yn amlach nag yn aml gyda gofyniadau caredig oeddynt yn arwyddo dyddordeb mawr yn fy modolaeth, fy symudiadau a'm cysylltiadau; ond, o ran hyny, nid oedd hyn wedi'r cyfan nemawr amgen y dyddordeb a deimla gwasanaethyddion yn eu meistr, neu blwyfolion yn eu hesgob. "R wyf wedi clywed eich bod yn myned am dro i Gymru," ebe un. "A ydych yn myned yno mor fuan ?" ebe y llall. "Hoffaswn ddod gyda chwi," ebe y trydydd. "Faint ydych yn myned i aros yno?" ebe y pedwerydd. "A ydych yn myned a'r teulu gyda chwi?" ychwanegai y pumed. "Gyda pha linell yr ydych am groesi ?" gofynai y chweched. "Pa ddydd yr ydych yn hwylio?" llefarai y seithfed. "Yn mha dy y bwriadwch letya yn New York, cyn cychwyn ?" manylai yr wythfed.

Na feddylied y darllenydd fy mod yn apelio at ei gydymdeimlad wrth roddi rhestr o'r gofyniadau fel hyn er arwyddo fy mod yn cael fy mhoeni yn ddiangenrhaid gan bethau o'r fath; na, dealled mai anfynych y byddai yr ymofynion yn cael eu gwneyd gan yr un personau, ar yr un amser a lle. Yn hytrach yr oeddynt y rhan amlaf yn cael eu rhoddi i mi yn ddiniwaid ac mewn teimladau Cymreig da yma a thraw, ac oni bae fod fy amser mor ryfeddol brin, buaswn yn eu mwynhau yn anghyffredin; ond gan fod y peth gwerthfawr hwnw mor fychan, yr oedd amryw o'r ymofynion yn gorfod bod heb eu hateb; rhaid oedd talfyru yn hyn fel yn mhob peth arall, a threulio yr amser i fanylu mewn rhagbarotoi i fyned am naw mis i Gymru.

Fel blaenffrwyth ein cysur ymweliadol, yr oedd rhagddysgwyliad am gymdeithas cyfeillion ac adnabyddion oeddynt wedi cyd-drefnu â ni i groesi y Werydd yr un pryd ac yn yr un llong. O'r nifer hwn ceid Mr. John Rees, o Swydd Blue Earth, Minnesota, ffermwr cyfrifol a brawd yn y ffydd; y diweddar Barch. W. M. Evans, Freedom, Cattaraugus Co., N. Y., ac eraill. Wythnos cyn adeg cychwyn llonwyd fy nghalon gan bresenoldeb Ꭹ brawd John Rees, a threuliasom rai oriau hamddenol gyda ein gilydd yn Utica yn ddifyr iawn, ac yn benaf wrth ddangos iddo adeiladau a manau o ddyddordeb yn ein dinas glodwiw. Arweiniais ef i gael trem ar gaper newydd hardd yr "Hen Gorph," a chapelau eang y Bedyddwyr Americanaidd. Ac fel llawer eraill o wyr Cymreig calon-gynes ar eu ffordd i Gymru, boddhawyd ef trwy ymweled â swyddfa glodforus y Drych.

Ni allaf ymatal crybwyll yma, rhwng cromfachau, rai engreifftiau eithriadol anhapus o Gymry yn galw heibio y swyddfa hon ar eu hymdaith i Wyllt Walia. O ran eu personau edrychant yn salw ddigon, gyda gwynebau llwydion a gyddfau crebachlyd. Yn mhen ychydig fisoedd galwant eilwaith wrth ddychwelyd, â golwg hollol wahanol arnynt, a'r olwg wywlyd felynddu wedi cilio i roi ffordd i olwg glaer, ruddlawn, ymlonol, nes y mae yn bleser eu gweled. Ond hyn sydd yn rhyfedd, fod y personau hyn, wedi eu hadnewyddu a'u creu o'r newydd felly gan faethriniau Cymru, wrth adrodd eu hanes yno, yn ymroi i fudr-boeri a bwrw llysnafedd am ben Cymru druan, a hyny i'r fath raddau fel na fydd ganddynt un gair da i ddweyd am wlad eu genedigaeth. Prin y buasai effeithiau hollol wahanol gan Gymru ar eu personau meinion yn cyfiawnhau y fath ymddygiad.

Yn mhorthladd Efrog Newydd, Awst 22, 1885, cyfarfyddodd yr holl bersonau oeddynt i wneyd i fyny ein cwmni. Yn gynar yn y dydd yr oedd yr agerddlong y bwriadem ymddiried ein cludiad iddi, y City of Chester, o'r Inman Line, yn dechreu aflonyddu o eisiau cychwyn; ac fel yr oedd yr awr iddi gael ei gollwng yn rhydd yn agoshau, ymgrynai ei bodolaeth, a chwyrnai ei pheirianau, ac felly yn gynyddol nes o'r diwedd yr oedd yn ein byddaru â'i gweryriadau; ond nid oedd lle i achwyn, canys yr oedd ei holl gynhwrf a'i stwr yn trydanu pawb ynddi ac o'i chwmpas ag ysbryd cyffelyb. Mawr oedd y prysurdeb, ac yn neillduol yn mhlith yr ymfudwyr oeddynt heb fod yn hollol barod. Yr oedd ein lletywr gofalus, Mr. Henry Rosser, "St. David House," 507 Canal Street, New York, yn help mawr i'n parti yn y gwaith o ymbarotoi. Ni ddylem anghofio crybwyll fod ein cyfeillion mynwesol y Parchn. Dr. Fred. Evans a John T. Griffiths wedi dod i'r ddinas i ganu yn iach i ni. Ni fu personau yn fwy ffyddlon erioed yn gwasgar eu cysuron i'w ffryndiau ar adeg o'r fath, nag oedd y ddau frawd hyn yr adeg hon.

Pan ar gamu i'r llestr dyma alwad am y tocynau. Chwiliwn am yr eiddof ar unwaith; ond Ow! nid allaswn ddodi fy llaw arnynt! Wel, dyma benbleth; y mae y llong ar gychwyn, yr agerdd-beiriant yn cydddweyd â'r swyddogion, "Brysiwch, brysiwch!" Ond b'le yr oedd y tocynau? Hebddynt, nid oedd caniatad i fyned i'r llong. Chwilio bob llogell, ond nid oeddynt i'w cael-gwên Dr. Evans yn dechreu cilio— minau yn parhau i chwilio am y papyrau. Wel, wel, beth a wnaf?—a yw yr holl barotoi i syrthio yn ofer? Chwysu dybryd! Lle mae y tocynau, bobl bach? Chwilio llogellau eto-chwilio cudd-logell. Diolch! dyma'r papyrau! a dyma ni fel parti yn dringo i'r llong.

Wedi cael anadl ar ol yr helynt blin a nodwyd, a chael gwerthfawr eiriau ymadawol oddiar wefusau ein cyfeillion, dyma y fynydd-long yn ymsymud yn nghyfeiriad môr y Werydd. Hetiau a chadachau yn cwhwfanu yn y llong ac ar y lan-Dr. Fred. Evans yn chwyfio ei gadach gwyn ar flaen-big ei wlawlen; a dyna brif wrthddrych ein dyddordeb, a welsom ddiweddaf yn y pellder ar y lan, fel baner heddwch.

Nid hir y bu ein llong yn symud yn mlaen cyn i long fawr arall, yn rhwym i Lerpwl, gyd-redeg â ni, ac yn fuan gael y blaen arnom, ond ymgysurem nad ᎩᎳ Ꭹ rhedfa yn eiddo y cyflym, na'r rhyfel yn eiddo y cadarn bob amser. Ac yn wir, yr oeddym wedi ymgadw rhag trefnu croesi mewn llestr gyflym; dymunem yn hytrach gael amser i fwynhau y fordaith.

Cafodd y golygon wleddoedd breision wrth graffu ar brydferthion orielau glanau môr-afon New York ar ein ffordd tua'r môr. Gresyn fyddai cadw y golygon oddiwrth y golygfeydd hyn.

PENOD II.

Y Fordaith a'r Glaniad.

Yr oedd "yn hwyrhau, a'r dydd yn darfod," wrth i ni fyned o olwg tir hawddgarol America. Pruddaidd yw colli golwg ar dir pan byddo cysgodion y nos yn ymledu. Bydd yr olygfa oddiallan yn dwyshau ofnus hiraeth y meddwl. Gwrthweithir y dylanwad nosawl pruddaidd hwn mewn rhan gan sirioldeb y goleuadau glanol. Gwasanaetha y goleudai yn benodol er dyddanwch fforddolion y moroedd. Tranoeth agorodd amrantau y wawr arnom ar ddydd yr Arglwydd. Er siomiant i amryw, ni chaed moddion gras ar Ꭹ Sabboth cyntaf hwn; yr oedd fod cynifer yn gleifion, a'r cadben ei hun heb fod yn iach, yn sefyll ar y ffordd. Modd bynag, wedi hir gythlwng, y Sabboth canlynol caed moddion crefyddol i bawb yn y caban. Darllenai y cadben lithiau Eglwys Loegr o'r Common Prayer; a chwareu teg i'r Common Prayer, yr oedd yn wir flas-

us y tro hwn. I chwyddo y mawl, chwareuai boneddiges yn fedrus ar y berdoneg. Ar ddiwedd yr addoliad gwnaed casgliad at drysorfa Cartref Morwyr Methedig yn Lerpwl. Yr oedd ein calon yn dyner ynom yn yr oedfa foreuol hon, a dygai y brawd John Rees dystiolaeth gyffelyb. Profem fod y "newyddion da" trwy gyfrwng y Llyfr Gweddi Cyffredin, fel "dyfroedd oerion i enaid sychedig."

Gan ein bod yn son am y Common Prayer, esgusoder ni am gyfeirio at un peth ynddo y tybiwn y buasai yn dda ei wella. Nid yw enw yr Arlywydd, yn lle y Frenines, yn swnio yn gyson iawn, nac fel yn ffitio yn dda. Nid yw y bwlch a dorodd yr Americaniaid yn muriau y weddi ymerodrol hon wedi ei drwsio yn gelfyddydgar. Nid yw y trwsiad yn gydffurf â'r rhanau amgylchol. Gweddïir ar ran y Frenines am iddi gael oes hirfaith, ac ar iddi wedi hyny gael mynediad helaeth i dragywyddol wynfyd. Ond wrth ddymuno yr un peth i'r Arlywydd, nid yw mor sicr, canys peidia efe yn fuan a bod yn Arlywydd, ac efelly bydd allan o gyrhaedd y gweddïau hyn. Dyma engraifft nad yw dillad Shon Bwl yn ffitio f' Ewythr Sam.

Ar y cyfan, mae mordeithwyr yn dduwiolach ar y môr nag ar y tir. Er hyny rhaid addef fod duwioldeb llawer ar y cefnfor i raddau helaeth dan reolaeth y tywydd, ac am hyny mae yr hin-fesurydd yn ogystal dangoseg o'r naill ag ydyw o'r llall.

Wrth gyfeirio at wrthgiliadau crefyddwyr newyddddyfodol, arferir dweyd am rai, iddynt golli eu crefydd ar y môr; ond nis gallaf gredu fod y dybiaeth yna yn gywir, canys fel rheol cydiant yn gryfach ynddi yn nghanol tonau y Werydd nag arferol. Mae yn eithaf posibl y ceir rhai yn dechreu llacio eu gafael ynddi wrth ddod i mewn i dawelwch y porthladd; ac efallai ambell waith pan ddaw y pilot i'r bwrdd. Ond fod neb yn colli ei grefydd ar y môr, prin y credwn hyny. Byddai llawer o'r amser yn cael eu dreulio gan y golygon i helwriaeth llongau. I'r pwrpas hwn aent yn fynych ar hynt yn mysg y tonau. Ceid boddhad nid bychan weithiau wrth graff-sylwi ar longau a welid yn fymrynau symudol yn y pellder aneglur, ond byddai y mwynhad yn fwy wrth weled rhai yn cyflymu heibio yn agos, gan ddweyd mewn iaith fanerawl, "Wele ni.”

Pwy fydd eich cymdeithion sydd fater tra phwysig wrth groesi, ac eto bydd yr hyn fydd eraill i chwi yn ymddibynu bron yn hollol ar beth fyddwch chwi iddynt hwy. Heblaw hyn bydd y môrdeithwyr yn gyffredin yn dyfod yn wrthddrychau o ddyddordeb. Ni fu Mr. Evans na minau yn brin o gysur cymdeithasol. Difyrid ni weithiau wrth sylwi ar gymeriadau diniwed yn mhlith teithwyr y steerage. Gwrthddrych dynol a fu yn destyn ein hefrydiaeth fwy nag unwaith ydoedd gymeriad digrifdrem a welem o draw, druan o hono ! Ymddilladai yn blethawl drwchus, fel ar gyfer ystorm gref. Ei gotiau a fotymasid yn ddigoll hyd yr ên. Fe allai fod yr arferiad o wisgo ei hunan fel hyn ar bob tywydd, yn wers a ddysgasai tymestloedd bywyd iddo. Neu, ynte, fe ddichon fod ofn y môr yn ei flino, ac yntau yn ystyried yn ddoeth iddo i fod yn barod bob amser ar gyfer y gwaethaf.

Mr. Fitzgerald, offeiriad Pabaidd, oedd foneddwr y daethom i adnabyddiaeth agos ag ef. Ymddyddanai â ni yn rhydd ac yn ddirodres. Ymataliem rhag ei aflonyddu pan welem ef ar adegau neillduol yn gwefusoli ei wersi crefyddol. Wedi i'r adegau hyn fyned heibio, ail-gydiai gydag yni yn mhen llinyn yr ymddyddan. Pan y rhoddai i ni yn achlysurol ofyniadau mewn perthynas i'r genedl Gymreig, rhoddai ei hunan mewn ystum i dderbyn atebion, tybiem, fel yn y gyffesgell, wrth wrando cyffesiadau ei ddysgyblion. Ymestynai yn mlaen ei ên a gwaelod ei wyneb, gan ddweyd wrthym, "Yes, yes, I understand it."

Mr. Willy, o gerllaw Oshkosh, Wis., oedd gymeriad arall y cawsom lawer o fwynhad yn ei gyfeillach. Ystyriem ef yn ddyn pur gall, cymedrol ei olygiadau a'i eiriau yn ymddangos fel yn ofalus fod seiliau da i'r hyn a ddywedai. Ar y cyntaf nid oedd Mr. Evans yn ei hoffi, ond erbyn y diwedd efe oedd y goreu o bawb, bron, ganddo.

Ni ddylwn anghofio Mr. Lawson, yr hwn ydoedd Sais, a gweinidog gyda'r Cynulleidfaolwyr yn nghymydogaeth Manchester, ac wedi bod ar ymweliad byr â'r Talaethau, a pharthau o Canada. Cawsom ef yn gydymaith tra difyr; ond tybiem am dano nad oedd yn gywir bob amser yn ei fynegiadau am bersonau a phethDaliasom ef amryw droion yn dra phell oddiwrth yr hyn oedd wir. Na cham-ddealler ni; ni phriodolemau unrhyw egwyddor fwriadol anwireddus iddo, ond yn hytrach ryw duedd ddiniwed at fod yn rhy barod i roi sicrwydd ar y pwnc dan sylw, a'r sicrwydd hwnw yn mhell o fod yn gywir.

Dyn ifanc pur nice oedd hwnw o ddinas New York, yn myned i gael golwg ar ddyddorion Prydain Fawr.

Yr oeddym oll yn canmol swyddogion y llong, yn neillduol y cadben a'r purser; yr hen wr a ysgubai y deck a fawr hoffem. Dywedai wrthym iddo fod yn ngwasanaeth y cwmni am 32 o flynyddau. Hen wr parchus yr olwg arno ydoedd, a rhoisom swllt yr un iddo ar ein hymadawiad. Mynych yr aem at ein cyfaill John Rees i gael ymgom, ac yntau atom ninau.

Tynwyd sylw pawb un boreu gan long suddedig, yn y pellder. Ffynai pryder yn ein plith am ei thynged. Ni wyddid eto nad allasai rhai dynion fod yn glynu wrthi. Erbyn agoshau ati, deallwyd mai hen long ddrylliedig oedd, wedi cael ei gyru, efallai, gyda'r tymestloedd fil o filldiroedd. Y tonau yn achlysurol a olchent drosti. Barnem, pe yn nos, y gallasai ein llong fyned yn ei herbyn a chael niwed. Wrth ei gadael o'n hol edrychai yr hen long yn druenus, yn codi ac yn gostwng yn hollol at drugaredd y tonau. Teimlem braidd ein bod yn angharedig wrth ei gadael felly yn ddiamddiffyn.

Treuliasom lawer haner awr yn ymsyniol i edrych ar lafur caled yr ager-beiriant. Teimlem ambell dro duedd gofyn i'r awdurdodau am roddi iddo ychydig seibiant. Swynol yr oedd ei gleciadau yn dweyd yn barhaus, "Myn'd tua Chymru, myn'd tua Chymru."

Wrth agoshau at dir Iwerddon, mawr oedd yr awydd am weled tir; ac O! mor ddymunol oedd cael y drem gyntaf arno yn ngoleu y wawr, er mai tir y Gwyddel ydoedd. Ein prif waith y dydd canlynol oedd manwl sylwi ar lanau yr Ynys Werdd-yr adeiladau gwynion―y meusydd teg, a'r tyrau amrywiol. Tua haner dydd yr oeddym yn hwylio heibio i oleudy mawr ar graig fechan yn y môr. Oddiyno pellebrid i Lerpwl fod y City of Chester wedi pasio.

Gerllaw Queenstown cyfarfyddwyd ni gan agerfad i gymeryd oddiwrthym y mail ac amryw o'r teithwyr. Yr oeddym yn teimlo yn ddwys orfod ymadael â'r teithwyr, yn neillduol a rhai o honynt, ac yn eu plith Mr. Fitzgerald, yr offeiriad Pabaidd. Yr oedd yno lawer o ffarwelio a chwyfio cadachau.

Tua deg o'r gloch hwyr y dydd hwnw yr oeddym yn ngolwg goleudy ar lanau Cymru, i'r dehau i ni. Wrth hwylio yn mlaen deuem i ganol nifer o longau yn myned i bob cyfeiriad, yn groes-ymgroes, a phob un yn pelydru allan ei goleu arwyddol. A dyna wau yn wibiog trwy eu gilydd yr oeddynt, nes yr ofnem yn wir y dygwyddai gwrthdarawiad rhyngom a rhai o honynt. Methwn adnabod y goleudy yn awr yn mhlith goleuadau y llongau hyn. Pe buasai y chwareufa oleuadol hon wedi ei threfnu yn bwrpasol i greu argraff arnom, tybiem nad allasai fod yn fwy synfawr.

Gyda gwawr boreu dranoeth dyma Gymru yn gwneyd ei hymddangosiad, yn gwisgo niwlen lâs sidanaidd dros ei gwyneb hardd, megys i haner guddio ei theimladau tyner wrth gyfarfod â'i phlant o wlad bell-neu ynte i arfer gwyleidd-dra priodol wrth gyfarfod â thyrfa gymysg.

Wedi gwylio yn bryderus nes cael yr olygfa yna, gyda hyn rhedwn yn frysiog i lawr risiau y caban, gan longyfarch y teulu fod tir Cymru yn y golwg, a’u mwyn orchymyn i brysuro fyny i'r dec. Buan y deuwyd i'r lan; ac ni allaf ddarlunio eu boddhad wrth weled tal fynyddau yr Eryri am y tro cyntaf erioed.

Pe gofynid i ni am ddarluniad byr, cyfunol, o'r fôrdaith, buaswn yn ei dosranu yn dair rhan gyfartal, a dywedwn fod y rhanau yn dwyn nodweddau y tri rhinwedd Cristionogol. Wrth fordwyo y mil milldiroedd cyntaf, y gwaith mawr oedd meddu ffydd yn y llong, ac yn llwyddiant y fordaith; ac wrth wneyd yr ail fil yr oedd cyrhaedd y lan draw yn fater o obaith cryf; a pheidier rhyfeddu fod y rhan ddiweddaf yn cael ei nodweddu gan gariad, wrth agoshau at wlad mor ddymunol.

Cawsom fôrdaith gysurus ar y cyfan. Er nad oedd fawr cynhwrf yn y dyfroedd dyfnion, eto yr oedd y brawd W. M. Evans, druan, yn dyoddef y dyddiau cyntaf yn dra thrwm yn benaf oddiwrth glefyd y môr, a'm teulu inau, lawer diwrnod, yn gruddfan o dan effeithian yr un clefyd. Yr oedd tipyn o eiddigedd yn ffynu yn mhlith y cleifion a nodwyd, wrth weled golygydd y Wawr mor rhydd oddiwrth y clefyd môrawl. Ceid ef yn gyson yn dilyn y prydiau bwyd.

Pan gyrhaeddasom enau afon Lerpwl, yr oedd y llanw allan, ac ni allai y City of Chester fyned yn mhellach nes i'r llanw ddod yn y prydnawn. A rhag ein gadael i ddysgwyl am oriau, daeth agerfad bychan i gymeryd y caban-deithwyr i'r dref. Pan oeddym wedi gadael y City of Chester, gan gychwyn i fyny yr afon, edrychem yn edmygawl ar y llong fawr a'n dygasai dros y môr yn llwyddianus—diolchem iddi—canmolem hi, a rhagluniaeth fawr y nefoedd. Glaniasom Medi 1af, wedi môrdaith agos i ddeg o ddyddiau.

PENOD III.

Yn Lerpwl a Sir Gaernarfon.

Wedi nesâu yn ostyngedig yn yr agerfad bychan ar waelod yr afon at y dref bendefigaidd, cawsom laniad dyrchafedig. Yn y tolldy, yr oedd pawb yn siriol. Llygaid perthynasau a nofient mewn dagrau. Estroniaid amryw yn ymryson am ein lletya a chario ein luggage. Ymostyngai y landing-stage i'n derbyn.

Y fath olwg ddyeithrol, a bron dramorol, a gaem ar Lerpwl. Edrychai pethau yn henafol, eto yn gadarn. Llenwid yr heolydd hyd yr ymylon gan lifeiriant masnach. Gwageni olwyn-lydain, yn cael eu tynu yn arafaidd gan feirch cydfaint. Myrdd o gerbydau yn chwyrnellu trwy eu gilydd. Gruddiau y tai yn edrych yn dywyll, eto yn iachus. Bodau dynol amryfath, rhai yn wyllt a rhai yn ddof; rhai yn gyfan-drwsiadus, ac eraill yn anghyfan drwsiadus; rhai yn cario gwynebau gwridgoch, eraill heb ond y rhan flaenaf o'r gwyneb felly. Rhai yn cardota, eraill yn cyfranu; rhai yn canu, eraill yn brudd. Lluaws yn rhedeg ar ol y byd, a lluaws wedi rhoi fyny yr ymdrech. Rhai yn gwneyd cil-olygon ar yr heddgeidwaid, eraill heb ystyried gwyr felly yn deilwng o sylw. Rhai yn dwyn arnynt olion tymestloedd, eraill mor ddysgleirwych a dodrefn caboledig yn dyfod gyntaf o'r siop. Amryw yn meddu nôd, ac amryw heb gysgod un; ond pawb yn ddieithriad yn cyd-symud o'r presenol i'r dyfodol.

Mae heolydd Lerpwl yn yr haf yn dryfrith o Americaniaid; ac O! mor hyfryd ydyw cyfarfod â hwynt.

Llonwyd ni yn fawr wrth gyfarfod â rhai o'n cyfeillion Cymreig yno. Un oedd y brawd W. R. Williams, Pittston, Pa., yr hwn oedd newydd lanio, ac yn prysuro i Gymru am wellhad iechyd. Yr oedd yr ychydig eiriau a gawsom â'n gilydd fel y diliau mêl. Dau eraill oeddynt Mr. W. Cynwal Jones a'i briod, o Utica, N. Y. Siarsem ar iddynt ein cofio at gyfeillion yr ochr draw i'r dwfr.

Ar ol tridiau ymadawodd y brodyr W. M. Evans a John Rees, y cyntaf i Dalywern, Trefaldwyn, a'r olaf i Lanelli, Sir Gaerfyrddin. Yr oedd rheffynau serch yn dyn wrth ymadael.

Y boreu Sabboth canlynol aethom i gapel y Bedyddwyr Cymreig yn Everton Village. Y frawdoliaeth a gyferfydd yma yw hen eglwys Great Cross-hall Street; y gweinidog ydyw y Parch. Charles Davies, brodor o Lwynhendy, gerllaw Llanelli, Sir Gaerfyrddin. Mae ei fam yn chwaer i'r hen frawd duwiol a pharchus, David H. Thomas, Mason City, West Va. Daeth i'w faes presenol o Fangor, Gogledd Cymru, lle y buasai yn gweinidogaethu gyda llwyddiant mawr amryw flynyddau wedi ei ddyfodiad o'r coleg. Tra yno daeth yn ffefryn yn y cyrddau mawrion, yn mhell ac yn agos, a phery felly hyd eto.

Er ein siomedigaeth, nid efe, ond Mr. Davies, gweinidog newydd Birkenhead, a lenwai y pwlpud. Newidiasai y ddau frawd bwlpudau, yn ol arferiad cyffredin gweinidogion Cymreig y dref foreu Sabboth. Cafwyd, er hyny, bregeth fuddiol ar y tri rhinwedd, "Ffydd, Gobaith, Cariad," ac addoliad hapus. Wrth weled y fath gynulleidfa Gymreig fawr a chyfrifol, ymsyniwn mor fendithiol ydyw crefydd y Cymry iddynt mewn tref mor wyllt-ddrygionus, a chymaint o addurn ydynt hwythau i'w crefydd a'u cenedl wrth fod yn ffyddlon fel hyn iddi.

Yr oedd un peth yn rhoddi boddhad neillduol i mi yn y capel hwn, sef y sêt fawr, yn cael ei llenwi gan y diaconiaid. Yr oeddynt yn saith neu wyth mewn rhifedi, a phob un o honynt yn gwisgo ardrem foneddigaidd a chrefyddol. I ganu, yr oedd pawb yn codi. Y pryd hyn cymerai Mr. Roberts, arweinydd y gân, dyn ieuanc cyfrifol, ei safle yn nghanol y diaconiaid, yn y sêt fawr, a phob un o'i frodyr yn meddu ei lyfr emynau yn ei law, ac yn ei ddefnyddio, gan wynebu y gynulleidfa. A hardd oedd yr olwg arnynt! Yn add- ́ urn i ben amryw o honynt yr oedd coron o benllwydni, ac eraill â'r goron hono ar gael ei rhoi iddynt. Yr crganydd, yntau, gyflawnai ei ran yn fedrus; a thrwy fod y gynulleidfa yn cyd-ganu, yr oedd yn y lle "swn addoli " yn wir. Cofiaf gyda boddhad hiraethlon am y cyfarfod foreu y Sabboth hwn yn Everton Village.

Prydnawn y Sabboth hwn cefais y pleser o bregethu i gynulleidfa barchus y Parch. L. W. Lewis (Lector), ac yn yr hwyr i'r frawdoliaeth fechan yn Seaforth.

Methais lwyddo i weled ond ychydig o'r capelau Cymreig. O holl gapelau yr Annibynwyr, capel eang Dr. John Thomas yn unig a welais. Cefais gipdrem allanol ar gapel mawr y Methodistiaid Calfinaidd yn Bootle. Yn ffrynt yr adeilad hwn y mae y geiriau Saesneg canlynol ar astell yn gwynebu y brif heol"Presbyterian Chapel," ar yr un astell, yn gwynebu heol onglog y mae y geiriau, "Capel y Methodistiaid Calfinaidd." Gallesid barnu oddiwrth yr ysgrifau dwy-ieithawg yna fod dau enwad gwahanol yn perchen y capel.

Ni allasai dim ond rhwymedigaethau y Sabboth a nodwyd fy nghadw am wythnos rhag myned yn mlaen i Gymru. Ac yn foreu ddydd Llun yr oeddwn yn y trên yn cyflymu tuag Eifionydd, rhanbarth fy ngenedigaeth, ac anerchwn yr awen, gan ddweyd gyda "Hiraethog":

"O Lynlleifiad llawn llafur,
Awen bach i Eifion bur,
Dianc yn ddystaw dawel
O dre' y mwg i dir mêl,
A chai yno iach anadl
Wych o hyd yn lle tawch hadl
O hagr swn a chlegr y Sais,
Crochlef y Gwyddel crychlais,
A'r Ysgotyn tordyn tew,
Crintach ystyfnig crintew.
Ymorol-cai ymwared
Yn chwai, chwai! hai, hai! ehêd.'

Cyrhaeddasom Gymru hoff o'r diwedd. Yn awr yr oeddym fel teulu yn Sir Gaernarfon—y Sir dalaf o holl Siroedd clodadwy Cymru a Lloegr; bydded y mynyddoedd yn dystion. A barnu y Sir hon oddiar safle fasnachol—y safle oreu i farnu unrhyw ran o wlad-saif yn mhlith Siroedd blaenaf y Dywysogaeth, ac yn y fasnach lechi saif y flaenaf.

Chwarelau Sir Gaernarfon yw canolbwynt masnach lechol y byd, ac o guriad calon y fasnach hon yma y y lluchir bywyd i holl ranau corph anferthol y fasnach yn agos ac yn mhell. O'i chwarelau hi y cloddir llechi a gysgoda dai filoedd lawer o blant Adda rhag gwlaw ac eira, rhuthrwyntoedd a stormydd gauafol yn mhob gwlad wareiddiedig o dan haul y nef. O'i chreig hi y cludir defnyddiau palmantau heolydd prif ddinasoedd y deyrnas gyfunol.

Eto, fel canolbwynt haf bleser-fanau (summer resorts), mae yn fyd-glodus Wele rai o'i phleser-fanau: Llandudno, Colwyn Bay, Colwyn, Llanrwst, Trefriw, Conwy, Penmaenmawr, Llanfair-fechan, Bangor, Bethesda, Pont-y-borth, Caernarfon, Llanberis, Bettws-y-coed, yr Wyddfa, Beddgelert, Portmadog, Criccieth, Pwllheli. I'r lleoedd hyn y cyrcha tyrfaoedd o bendefigion a seneddwyr, o wyr llen a gwyr lleyg, o farsiandwyr a chelfyddydwyr, o feistriaid y celfau a'r gwyddorau, o bendefigesau a boneddigesau ieuainc a hen. Ymfwriant iddynt, meddaf, yn finteioedd di-rif, yn mron, o Loegr, y Cyfandir, a gwledydd pellenig eraill, er adgyflenwi adnoddau corphorol treuliedig, a lloni ysbrydoedd pruddglwyfus.

Bydd y personau hyn oll yn meddu eu dewis-fanau yn mhlith y lleoedd a nodwyd. Prif bleserfan dosbarth lluosog yw Llandudno. Una y lle hwn ynddo ei hun y mwynianau canlynol: Ymdrochle penigamp, golygfeydd rhamantus, a difyrion cymdeithasol swynol. Y mae Colwyn Bay a Llanfair-fechan yn rhestru yn uchel. Arfera y golygfeydd mynyddig ad-dynu tyrfaoedd mawrion. "Pen y Wyddfa " ydyw eithafnod uchelgais llaweroedd. Yn gyffredin ymffurfir yn fintai gryno, a chychwynir o'r gwaelod y nos flaenorol, er cyrhaedd y copa uchelfrig yn ddigon boreu dranoeth er cael gweled yr haul yn codi, ac i dremio ar y golygfeydd amgylchynol. Bydd gan y fintai arweinydd profedig i'w harwain yn ddiogel i'r uchelfan enwog. Mawr fydd y dymuniad wrth ddringo am i'r nengylch fod yn glir y boreu dyfodol. Braidd na fydd rhai yn gweddio am iddi fod yn glir, y rhai na feddyliant am weddio gartref am bethau mwy angenrheidiol. Ac ymddengys fel pe byddai y Tad nefol yn gwrando weithiau ar eu dymuniad, canys cymer ysgubell esmwythlyfn y gwynt yn ei law ei hunan, ac ysguba lawr y ffurfafen yn hollol lân, fel na cheid un llwchyn o gwmwl yn un man i guddio gwaith ei ddwylaw. Mae y fintai o'r diwedd wedi cyrhaedd pen y mynydd, ac y mae yr adeg i'r haul godi wedi dod. Yna ceir pob llygaid yn cyfeirio tua'r fan y dysgwylir i'r haul wneyd ei ymddangosiad-cura pob calon gan ddysgwyliad, a llenwir pob mynwes gan ddyddordeb. O'r diwedd dacw yr haul yn dod allan o'i ystafell fel gwr priod, gan ymlawenhau fel cawr i redeg gyrfa; yn edrych mor ddysglaer a phe buasai yn dod allan am y tro cyntaf erioed o weithfa nefol Duw, heb fod ar waith erioed o'r blaen, ac heb lychwino erioed ei wisgoedd. Bydd pawb yn synu at ogoniant "brenin y dydd." Yna wedi blino edrych arno ef, hwy a syllant ar y wlad amgylchynol-yr afonydd dolenog a'r coedwigoedd gwyrddion. Brwd y canmolir y prydferthion yr adeg hon y dyddiau canlynol, ac ar ol dychwelyd i'w cartrefleoedd clodforir harddwch gwlad y Cymry.

Rhai ymwelwyr a gymerant fwyniant neillduol i ddringo y rhiwiau serth, tra yr ymddifyra eraill ar lanau yr afonydd. Bydd artists yn cymeryd mawr bleser i dynu darluniau o olygfeydd mynyddig a gwyllt.

Bydd rhyw olygfa arbenig yn tynu sylw-cymer yr arlunydd ei eisteddle, cipdrema ar yr ologfa, a chyda ei len, ei bwyntel a'i liwiau, gwna ddarlun harddwych, nes byddo y preswylydd mynyddig, wrth graffu dros ysgwydd yr arlunydd, yn synu at brydferthwch y darlun, pan na welai ronyn o brydferthwch yn yr olygfa ei hunan.

Cawsom fwyniant nid bychan droion wrth weled ambell ymwelydd wedi ymddilladu i hynt fynyddig—ei edrychiad yn arw, ei fasged yn crogi wrth ei ysgwyddau, ei het yn dolciog dywysogaidd, ei lodrau yn terfynu ar y pen-glin, a'r esgidiau yn cyfarfod â'r llodrau yn y man penodol hwnw. Wrth iddo ddychwelyd o'r hynt fynyddig, byddai y nodweddau a nodwyd yn fwy eglur ar ei ddynsawd.

Gwrthddrychau o ddyddordeb i ymwelwyr yw yr hen gestyll, o ba rai y mae Sir Gaernarfon yn gyfoethog. Heblaw fod y cestyll henafol hyn yn hawlio sylw fel gorchestion celfyddyd, y maent yn hawlio sylw hefyd fel ceryg milldir i fesur camrau gwareiddiad. Mae aml i wr pen-uchel yn gorfod codi ei ben i fyny a thynhau llinynau ei ên wrth dremio arnynt; ond mae yr hen gestyll yn llawn haeddu yr holl foes-drem.

Criccieth sydd yn prysur ddyfod yn brif gyrchfan ymwelwyr. Bu dyfodiad y reilffordd trwy y lle yn adgyfodiad i fywyd iddo. Yn y dyfodol agos y mae yn debyg o fod yn un o'r lleoedd enwocaf fel ymdorchle yn y Sir.

Byr yw y tymor haf-bleserol. Pan gyrhaeddais Gymru, yn nechreu Medi, ymadawsai lluaws o'r ymwelwyr; eto yr oedd niferoedd i'w gweled ar lanau y môr a manau eraill, fel yn hwyrfrydig i fyned ymaith. Caraswn gael trem ar y tymor ymweliadol pan ar ei uchelfanau.

Wrth adolygu Sir Gaernarfon fel magwrfan gwyr o fri, nid yw yn llai nodedig. Dyma y Sir a fagodd bregethwyr fel John Jones, Tal-y-sarn, a Robert Jones, Llanllyfni; beirdd fel Dewi Wyn o Eifion, Eben Fardd, R. Ab Gwilym Ddu, Ioan Madog, Pedr Fardd, ac Alltud Eifion; hynafiaethwyr fel Ellis Owen, Cefnmeusydd, ac Owen Williams, Waenfawr; ieithyddwr fel Richard Jones Aberdaron.

Os gofynir am yr achosion a wna y Sir hon yn fath fagwrfan talentau mawrion, gellir ateb trwy geisio gan yr ymofynydd edrych oddiamgylch ar y golygfeydd rhamantus a geir ynddi yn llawn, a gwrando ar y beroriaeth felusfwyn a ddadseinir gan yr adar, y rhaiadrau, a'r awelon. Ceisier ganddo yn mhellach sylwi ar yr amrywiaethau cain yn fôr a mynydd, yn greigiau serth a dolydd têg; yn llwyni llydain a dyffrynoedd breision a ymledant o'i flaen.

Treuliwyd y tair wythnos gyntaf i alw mewn manau cylchynol; i weled perthynasau a chyfeillion, ac i dremio ar olygfeydd boreu oes. Hyfwyn oedd y dyddiau hyny. Wrth syllu ar gyffiniau y fro, dywedwn:

"Mor wyrdd lan, mor hardd eleni,
Yw tir a môr i m trem i.”

Cyfarchiadau anwylion chwareuent yn dyner ar danau ein calon. Ni chyfarfyddid ag un gornel arw i beri briw. Yr oedd pob gwyneb yn arwyddo serch, yr hyn a barai i'n teimladau fod yn lleddf. Yr oedd llariaidd fwyn awelon yr hen ardal yn chwareu yn dyner â chydynau fy ngwallt, ac yn chwythu yn fywiol fwyn ar fy wyneb. Tybiwn fod peroriaeth sisial dwfr yr afonydd, a chathlau mêl yr adar mân ar y brysglwyni, yn cyduno i fy llongyfarch. Dysgwyliaswn, braidd, fawl gan yr adar, canys yr oeddwn pan yn fachgenyn, yn gyfaill calon i'w henafiaid; ac ni thynais nyth un o honynt erioed, yr hyn a wnaethid yn aml gan blant y gymydogaeth, er fy ngofid. Hefyd, dychmygwn fod y mynyddoedd amgylchynol yn edrych dros ysgwyddau eu gilydd i gael trem ar yr hwn, pan yn ieuanc, oedd mor hoff o honynt, ac mor aml a edmygai eu harddwch; oedd yn awr, ar ol blynyddau o absenoldeb, wedi dod ar ymweliad i'w hen gymydogaeth, yn edrych yn bur weddgar, ac yn teimlo yn bur galonogol. Nid oedd y Werydd henafol a gofleidiai lanau fy ngenedigol fro ar ol, ychwaith, mewn dangos hawddgarwch i mi, canys yr oedd plethiadau gwên hyfryd dros ei gwyneb. Ac ychwanegaf, credwn fod coed y maes yn curo dwylaw ar fy nyfodiad i'w plith, Yn awr cofiwn eiriau y Salmydd, "Iraist fy mhen ag olew, fy phiol sydd lawn."

Pan yn dynesu at ffiniau yr hen gartref, gwelwn mewn maes cyfagos, ddyn yn gwneyd cil-edrychiad, ac fel yn dyfalu pwy allasai y gwr dyeithr hwn, a'i gwmni, fod; a gofynwn iddo, er mwyn boddhau ei gywreinrwydd, "a oedd y ffordd hono yn arwain at Tan-y-braich ?” "Ydyw, siwr," ebe yntau. Ac ni thorwyd llinyn yr ymddyddan am ddeng mynyd llawn, o herwydd hen gyfaill ydoedd i'n teulu ni—"Shôn Owen, y teiliwr."

Trwm oedd myned dros riniog drws Tan-y-braich, heb dad na mam yno er's llawer blwyddyn; eto nyni a dderbyniwyd yn garedig gan lysfam dirion a brawd hawddgar.

Nid hir y bu hen gymydogion a hen lwybrau cyn i mi alw heibio iddynt; er efallai nad oedd llawer o ddiolch i mi am y brys hwn, canys yr oedd atdyniadau y gwrthrychau yn rhy gryfion i mi allu dal yn hir i'w gwrthsefyll, pe yn ceisio.

Arsyllfa ardderchog i gael golwg eang o'r gymydogaeth a'r cylchoedd, ydyw copa dyrchafedig "Craig-yGarn." Talodd prydferthwch y golygfeydd yn dda i mi a'm cwmni am y l'afur o ddringo llechweddau serth y graig. Gallaswn ganu yno, a dweyd:

"Tanwyf mae dolydd tyner—llwyni teg,
Yn llawn twf ac îrder;
Mynyddoedd luoedd lawer,
O'm deutu'n cusanu 'r sêr."

Os cynydda Criccieth fel ymdrochle, daw "Craig-yGarn" i fwy o fri.

Gan fy mod yn awr yn ysgrifenu am ardal glodwiw fy ngenedigaeth, esgusoder fi am fanylu ychydig.

Garn Dolbenmaen sydd ardal ddestlus, oddeutu dwy filldir o draws-fesur, yn cynwys niferoedd o fân anedddai tlysion, gyda gerddi bychain iddynt. Mae arwynebedd y tir ar ba un y gorwedda, yn ymddyrchol, ac yn gogwyddo i'r dehau a'r môr. Fel rheol, mae y bobl yn arwain bywyd gwerinawl, moesol a chrefyddol. Yn eu hamgylchiadau, maent yn bur gysurus; tra anfynych. y clywir am neb yn dyoddef angen yn eu plith. Adnabyddir pob ty yn yr ardal wrth enw penodol, er engraifft: Bytwian, Gareg Gron, Lôn-lâs, Mur-cwymp, Llidiart Mawr, Lôn-y-gert, Frongoch, Tan-y-braich, y Rwdan, Braich-y-rhaib, Ty'n-y-cae, Garnedd Wen. A dyma sydd yn hynod, fod yr enwau hyn ac eraill, yn ymddangos rywfodd mor briodol i'r tai a ddynodant. Mae yr enw Bytwian, fel yn ffitio yn gywir i dy Bytwian; a'r un modd yr enwau yn gyffredinol. Eto, credwyf fod yr enwau hyn a'u cyffelyb, yn dwyn delw teithi meddyliol yr hen bobl ragorol a'u cyfansoddent. (Yr ydym yn dweyd hen bobl, oblegid y mae y tai a'r enwau yn hên agos oll.) Delw yr enwau, yn ychwanegol at eu cyfadddasrwydd, a gyfrif yn ddiau i raddau tra helaeth, am y melodedd patriarchaidd a nodwedda eu hynganiad.

Y fath gyfnewidiadau dirfawr y mae deugain mlynedd wedi wneyd ar y boblogaeth. Yr hen batriarchiaid a'r gwyr cryfion gynt nid y'nt yno mwyach; a'r teuluoedd lluosog wedi eu gwasgaru ymaith! cenedlaeth newydd yn mron yn llenwi yr ardal. Y fath esboniad pruddaidd yw y fynwent ar y cyfnewidiadau. Ar ymweliad a mynwent y gymydogaeth, sibrydais:

"Mae degau o'm cym'dogion
A'u tai yn y fynwent hon,
A mi 'n ieuanc, mwynheais,
Ag aidd llon eu gwedd a'u llais;
Ond O! y modd, dyma hwy,
Isod, ar dde ac aswy,
Yn fudion lwch-hanfodau,
A neb o'n hen yn bywhau.
Buoch bobl a baich y byd,
Ar eich gwarau uwch gweryd;
Ond wele 'n awr, delw neb,
Ni ymwahana i'm wyneb.
Cysgwch, cysgwch, lwch y wlad,
Hyd foreu eich adferiad.
Eich Duw yn unig a'ch deall,
Yn y bedd, y naill a'r llall."


Yn grefyddol, y Bedyddwyr biau y Garn; a saif y lle ar ben ei hun yn y Sir yn yr ystyr hwn. Y Methodistiaid Calfinaidd ydynt y lluosocaf mhob man yn mron yn mhob man arall o'r Sir, fel hefyd yn y Gogledd yn gyffredinol; ond yn y Garn y maent hwy yn y lleiafrif o lawer, a'u capel i lawr yn ngwaelod yr ardal. Rhestra yr eglwys Fedyddiedig hon yn mhlith yr eglwysi hynaf perthynol i'r enwad yn yr holl Sir, os nad yr hynaf. Ei gweinidog cyntaf oedd yr enwog Barch. John Williams, tad y diweddar Barch. W. R. Williams, D. D., N. Y.; ac y mae y teulu Bedyddiedig enwog hwn wedi bod yn elfen bwysig yn eglwys y Garn o'r pryd hwnw hyd yn bresenol. Un o'r teulu nodedig hwn yw Mr. Richard Williams, Cambrian House, masnachwr cyfrifol, yr hwn yw "asgwrn cefn" yr eglwys hon yn awr, mewn doethineb ac haelfrydedd. Brawd iddo ef hefyd ydoedd y diweddar Barch. John Williams, Colwyn, ac yw y Parch. Owen M. Williams, Galesburgh, Illinois, America. Bu yr eglwys yn y Garn mewn perygl dirfawr yn amser ymrwygiad Sandemanaidd John R. Jones, o Ramoth. Ar yr adeg gynhyrfus hono, cynelid cyfarfod pwysig yn y Garn, yn cael ei achlysuro gan y cynwrf. Yr oedd Jones a'i bleidwyr yn bresenol, ac yn benderfynol yn eu hamcan.

Yn y cynulliad boreuol, penderfynasant gymeryd meddiant o'r capel. Daeth hyn i glustiau y brawd William Shôn, hen ddiacon rhagorol; a chanddo ef yr oedd allweddau y capel. Y canlyniad fu iddo ef gloi y capel, fel na allasai y terfysgwyr gyrhaedd eu hamcan. Bu yn llwyddianus, ac achubwyd y capel a'r enwad yn y Garn.

Ugain mlynedd yn ol, ail-adeiladwyd y capel, yr hyn a droes yn fantais werthfawr i'r achos Bedyddiedig yn y lle. Ychydig o'r aelodau ddeugain mlynedd yn ol, pan fedyddiwyd fi, sydd yno yn bresenol. Ar fy ymweliad, ychydig a adnabyddwn. Pregethais i'r gynulleidfa ddau Sabboth, er mwyniant hiraethlawn i mi, a gobeithiwyf, er cysur a lles iddynt hwythau.

PENOD IV.

Yn y Deheuḍir

Ar y daith o'r Gogledd i'r Deheudir, yr oeddwn yn myned trwy ganolbarth Cymru. Yn ngorsaf gysylltiol llinell Corwen, ar y Cambrian, chwe' blynedd yn ol, y gwelais Gwilym Hiraethog ddiweddaf. Y pryd hwnw, cyd-deithaswn ag ef o gyfeiriad y Bala i'r orsaf hono. Eisteddwn ar y sedd gyferbyniol iddo, ac ymddyddanai yntau a mi yn rhydd a naturiol, gan roddi pwys ei ddwylaw ar ben ei ffon. Yn mhlith pethau eraill, cofiaf iddo ddweyd, "Dau ddyn rhyfedd ydyw Beaconsfield a Mr. Gladstone. Mae Beaconsfield yn wr mawr uchel-geisiol anghyffredin; ond am Mr. Gladstone, y mae efe yn ddyn cywir a hunan-ymwadol iawn; yn ddyn a lles ei wlad a'i gyd-ddynion yn benaf ganddo mewn golwg, ac yn mhob peth a wnêl! Ac y mae y gwrth-gyferbyniad rhyngddynt yn rhyfedd, y ddau yn byw yn yr un oes, yn gwasanaethu yr un wlad, yn dal swyddi uchel yn olynol, ac yn meddu safleoedd cyffelyb, ac eto mor wahanol i'w gilydd." Addawswn wrtho i alw heibio iddo yn Nghaer, wrth ddychwelydi America, ond fe'm lluddiwyd; ac ar ol cyrhaedd adref anfonais ymddiheuriad; yntau atebodd gan ddweyd fod yr ymddygiad yn hollol faddeuadwy, yn gymaint a bod llawer o bethau nas gellir eu rhag-weled ar adeg felly, yn cyfryngu ac yn achosi toriad cynlluniau.

Wrth fyned trwy gymydogaeth Llanbrynmair, cefais foddhad i'm chwilfrydedd, drwy gael cipolwg ar hen gapel y ddau frawd, J. R., ac S. R.

Mae y parthau canolog hyn o Gymru, yn gwneyd eu rhan yn dda er hawlio iddi yr enw o Wyllt Walia.

Yn Llanidloes, arosais i orphwyso noswaith, a rhan o ddau ddiwrnod. Y mae Llanidloes yn dref dlws, ac o gryn bwysigrwydd masnachol. Mae iddi safle ddymunol, mewn dyffryn hardd, yn cael ei ymylu o bob tu gan fryniau prydferth. Rhaid fod y fath olygfeydd dillyn, yn ymdaenedig felly ar hyd ochrau y cylchoedd, yn meddu dylanwad diwylliol anghyffredin ar feddyliau trigolion y dref.

Y diwrnod yr oeddwn yn ymadael, yr oedd yno ffair -ffair ddefaid gallaswn feddwl-oblegid y creaduriaid diniwed hyny oeddynt y gwrthrychau marchnadol mwyaf amlwg a lluosog. Digrif dros ben oedd gweled pobl y defaid mewn helbul fugeiliol gyda'r eiddynt, yn ceisio eu cadw rhag myned ar ddisberod, a chymysgu â defaid estronol. Yn y cynyrfiadau gwerthiadol, yr oedd y defaid druain yn cynyrfu, a beth oedd yn fwy naturiol iddynt, wrth glywed areithyddiaeth y prynu a'r gwerthu, yn gweled eu hunain mewn lle dyeithr, hiraeth am gartref, ac efallai y cylla yn wâg. Pa ryfedd eu bod yn anesmwyth! Gallesid tybied weithiau fodd bynag, fod ambell i ddafad ddireidus yn gwneyd mwstwr, ac yn gwneyd cynyg i ddianc fel o bwrpas i beri mwyniant iddi ei hun ac eraill, wrth weled digrif-ddyn yn carlamu i'w chael yn ol. Weithiau yr oedd yn rhedegfa erwin a chymalog. Pan y byddai amryw o grwydriadau rhedegfaol fel hyn yn dygwydd yr un adeg, yr oedd yr olygfa yn ddrama-yddol. Yr oedd brefiadau cyffredinol y defaid mân yn peri i'r teimladau llon a gynyrchai y rhedegfeydd a nodwyd, gilio o'r ffordd yn fuan, i roddi lle i deimladau mwy lleddf a chydymdeimladol.

Mae gan y Bedyddwyr yma eglwys gref a llewyrchus, a chapel cyfleus. Y gweinidog yw y Parch. J. Griffiths, mab i'r diweddar Barch. Jeremiah Griffiths, Ashland, Pa., yr hwn sydd frawd rhagorol, ac yn rhestru gyda y blaenaf yn mhlith gweinidogion ieuanc yr enwad yn y Dywysogaeth.

Wrth symud yn mlaen tua chyffiniau hyfryd Brycheiniog, yr oedd golwg y wlad yn gwella eto. Anhawdd dyfalu pa fodd y gallasai unrhyw wlad edrych yn fwy pryderth.

Yn fuan, cefais olygfeydd gwahanol. Yn y gerbydres yr elwn ynddi o Bontypridd i Lantrisant, nos Sadwrn, yr oedd mwnwr hoenus yn eistedd gerllaw i mi. Yn gyferbyniol iddo, eisteddai dyn syn yr olwg arno. Nid hir y bu y mwnwr hoenus heb anerch y dyn syn, ond ni wnai y syn un sylw o hono. Yntau, yr hoenus, mewn trefn i weithredu yn effeithiolach ar y syn, a ddefnyddiai eiriau digrifion, gan gyfaddasu ei ystum, ei lais, ei wedd a'i ddwylaw i natur ei areithyddiaeth berswadiol. Peidiai a hyn am fynydyn weithiau, er cael gweled, mae yn debyg, a oedd yr oruchwyliaeth yn cyrhaedd ei hamcan ar y syn a'i peidio. Y dyn syn arwyddai annghymeradwyaeth geryddol, ac yn yr orsaf gyntaf aeth allan ar ffrwst, yn llawn trydaniaeth digofus, gan ffromi yn aruthr yn erbyn gweithrediadau yr hoenus. Gyda ei fod allan, dyma ddyn sarug yr olwg arno yn cymeryd ei le. Yr hoenus a anerchai hwn yn fwy egniol, ysmiciau o'i flaen, ond y sarug elai yn fwy sarug, a phan yr aeth ef allan yn yr orsaf nesaf, prysurodd i chwilio am wr a chôt dyn am dano; ac erbyn i hwnw gyrhaedd, yr oedd y mwnwr hoenus wedi myned adref.

Mae yr achos Bedyddiedig yn Llantrisant wedi dechreu yn foreu, ac y mae golwg henafol ar y capel. Treuliais Sabboth cysurus gyda y frawdoliaeth yno. Ymddangosai yr eglwys mewn cyflwr llewyrchus a llwyddianus.

Yn Hydref, 1885, cefais y pleser o fod yn nghyfarfodydd mawrion Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr a'r Iwerddon, yn Abertawe. Y mae gan yr Undeb hwn gyfarfodydd ddwywaith yn y flwyddyn, y rhai blaenaf a'r mwyaf pwysig, yn cael eu cynal yn y Brif-ddinas yn mis Mai, a'r rhai eraill yn cael eu cynal mewn trefydd yn ngwahanol barthau y wlad yn mis Hydref. Ni fum mewn gwell cyfarfodydd o'r natur hyn erioed o'r blaen. Yr oedd pethau o'r pwys mwyaf i'r wlad a'r enwad yn cael eu trafod ynddynt. asiwyd penderfyniadau cefnogol i'r blaid Ryddfrydol gyda brwdfrydedd mawr. Yr oedd crybwyll enw Mr. Gladstone yn creu y brwdfrydedd mwyaf. Traddododd y Parch. Evan Thomas, Casnewydd, anerchiad rhagorol ar yr ysgol Sabbothol. Fel prawf o'r daioni wnaeth yr ysgol Sul yn Nghymru, nododd bersonau teilwng, ydynt yn awr yn genadon mewn gwahanol wledydd pellenig, a fagwyd ar fronau yr ysgol Sabbothol yn Nghymru. Y Genadaeth Dramor sydd yn cael y sylw mwyaf yn y cyfarfodydd hyn. Mae y Bedyddwyr yn gwneyd gwasanaeth dirfawr i'r byd yn y cyfeiriad hwn. Nid oedd cyllid blynyddol y Gymdeithas y flwyddyn ddiweddaf yn llai nag wyth mil a thriugain o bunau. Anhawdd sylweddoli i raddau dyladwy y daioni a wneir gan y gymdeithas hon. Mae ganddi genadon yn bresenol ar y Congo, India, Burmah, Itali a manau eraill. Cofier mae nid yr un yw yr Undeb hwn ag Undeb Bedyddwyr Cymru. Mae hwn yn cynwys yr holl Deyrnas Gyfunol.

Ystyriwn mai gwaith da a bendithiol i Gymru a Lloegr, ydyw fod y cyfarfodydd hyn yn cael eu cynal yn eu tro, yn Nghymru. Trwy hyn ca y Cymry fantais i ddysgu gweithgarwch a threfn oddiwrth y Saeson, a'r Saeson, o'r ochr arall, fantais i ddysgu brwdfrydedd a sêl oddiwrth y Cymry. Yr oedd yn hawdd canfod fod y Bedyddwyr Cymreig yn teimlo dyddordeb neillduol yn ngweithrediadau yr Undeb yn Abertawe, canys yr oeddynt wedi dyfod yno, yn weinidogion a lleygwyr, o bob cyfeiriad; ystyriwn hyn yn arwydd da, canys arddengys fod dyddordeb yn cael ei deimlo gan Fedyddwyr Cymru mewn pethau sylweddol, efengylaidd, a gwareiddiad crefyddol y byd. Rhaid fod effeithiau daionus yn canlyn gweithrediadau yr Undeb. Rhaid fod argraffiadau da yn cael eu cario ar led i bob cwr o'r deyrnas. Ni chanfyddais fwy o ddeheurwydd a sêl erioed o'r blaen. Anogwyd mwy o weithgarwch ac hunan-aberth er mwyn achos y Gwaredwr, yn y fath fodd ag oedd yn cydio ynom. Teimlem fod enwad y Bedyddwyr yn allu mawr iawn yn y Deyrnas Gyfunol. Yr oedd y personau cyfrifol, yn Seneddwyr ac eraill o fri, a lywyddent yn y cyfarfodydd-y caredigrwydd a'r parch a ddangosid i ddyeithriaid yn Abertawe, yn gystal a phethau eraill, yn brawfion diymwad o safle uchel yr enwad yn y wlad.

Gofynai y Parch. Nathaniel Thomas, Caerdydd, i mi ar yr esgynlawr un hwyr, pan oedd yr Albert Hall yn orlawn, a fedrem ni ddangos rhywbeth cyffelyb yn America; a meiddiais ddweyd y gallwn. A gallwch fy nghredu, meddwn, pan gofiwch fod yr enwad Bedyddiedig yn America yn rhifo dwy filiwn a haner o aelodau. Mae yr enwad yn Lloegr a Chymru, gellid barnu, yn ddiamheuol mewn sefyllfa tra iachusol. Yr oedd golwg gyfrifol a pharchus neillduol ar y gweinidogion ieuainc oeddynt yn bresenol. Mae cymeriad gweinidogaethol yn cael ei godi yn gyflym i safle uwch na'r dyddiau gynt.

Cynaliwyd cyfarfod lluosog un prydnawn gan y Bedyddwyr Cymreig, i ystyried mater yr athrofeydd. Mae cyfnewidiadau pwysig ar gymeryd lle yn y cyfeiriad hwn, Eisoes mae myfyrwyr Bedyddiedig Cymreig mhrif ysgolion Bangor a Chaerdydd, a bydd ychwaneg yn eu dilyn yn fuan. Bydd hyn yn gwneyd tri choleg, meddir, yn ddiangenrhaid. Y bwriad presenol yw uno Athrofeydd Pontypool a Llangollen[1] mewn man cyfleus yn y Deheu, megys Caerdydd neu Abertawe, a gadael Athrofa Llangollen yn llonydd. Er hyny, mae llawer o'r dynion goreu yn barnu y byddai gadael yr athrofeydd fel y maent am dymor, beth bynag, yn well. Dealled y darllenydd mai y bwriad yw anfon yr holl yfyrwyr i'r prif-ysgolion i Gaerdydd, Aberystwyth neu Bangor, i dderbyn addysg glasurol, ac ar ddiwedd yr addysgiaeth hono, i'w hanfon iathrofa dduwinyddol am dymor, i gwblhau eu dysgeidiaeth. Mae yn eithaf posibl y bydd cryn gynwrf yn yr enwad cyn y penderfynir y mater.

Bum yn cyd-deithio ag un o barsoniaid eglwys Loegr, adeg yr etholiad, ger Maesteg, Morganwg. Eisteddai ef gyferbyn a mi yn y gerbydres, ac eisteddai un boneddwr arall wrth ei ochr, nad oedd yn Eglwyswr. Cymerais fy rhyddid i ddweyd y drefn yn go hallt wrtho pan y daeth hyny yn gyfleus yn nghwrs yr ymddyddan. Dywedais wrtho rywbeth yn debyg i hyn: "Gellwch benderfynu fod cyfnewidiadau gwladyddol pwysig i gymeryd lle yn fuan yn y deyrnas hon. Bydd y tiroedd yn dyfod i feddiant y werin-yr eglwys yn cael ei dadgysylltu a'i dadwaddoli, ac efallai, cyn hir, y Frenines neu y Brenin, a'r holl dylwyth cysylltiedig, yn cael eu troi o'r neilldu. Pa reswm, meddwn, fod y fath symiau o arian y wlad yn myned i bersonau nad ydynt yn gwneyd un gwasanaeth i'r wlad am danynt? Pa degwch sydd fod y tiroedd, mewn gwlad mor fechan a Phrydain, yn meddiant rhyw ychydig nifer o bersonau? Mae yn anmhosibl i bethau barhau fel y maent yn hir. Os na wna y Parliament fesurau diwygiad, cyfyd y bobl mewn gwrthryfel." Yr oedd gwyneb yr hen barson yn ymliwio wrth glywed pethau fel yna. Cofier fy mod yn dweyd y drefn yn selog, teimladwy a thanbaid wrtho, ac eto yn sobr a hunan-feddianol; a chredaf fy mod yn dweyd y gwir wrtho.

PENOD V.

Rhagoriaethau Nacaol Cymru.

Un o brif ragoriaethau nacaol Cymru yw bod yn rhydd oddiwrth anffyddiaeth. Yn Lloegr a'r Cyfandir, y mae y drythyll yn taflu ei gysgodion tywyll dros lawer meddwl dysglaer. Y mae hyn i'w briodoli, i raddau helaeth, i ddylanwad niweidiol Tom Paine, Voltaire, ac eraill o'r un dosbarth.

Voltaire oedd hwn, fel tarw—uffernol
A ffyrnig am fwrw;
A'i gyrn lawr—gair Ion a'i lw,
A byd arall heb dwrw.

Tom Paine geid y mwya' pôr—o'r holl lu,
Oedd i'r lleng yn flaenor;
Ddenai ei hil fil i for-annuw hâint,
Yn ail y genfaint i fol eigionfôr.

Ond ychydig, os dim, o'u dylanwad gwenwynig gyrhaeddodd Gymru.

Nid oes yn Nghymru anffyddiaeth. Pe byddai ambell un yn mhlith y genedl yn cael ei nodi allan, fel yn tueddu i'r cyfeiriad amheugar, byddai un felly yn eithriad. Mae y Cymry, fel cenedl, yn lân oddiwrth y drwg hwn. Nid oes llenyddiaeth anffyddol yn y wlad. Ni adwaenir yno awdwr anffyddol. Ni welir sill o hysbysiad anffyddol yn y papyrau. Am hyny, ni cheir y bobl yn ymbalfalu yn y tywyllwch am achos mawr gwreiddiol y greadigaeth; nac yn y boen ar ansefydlogrwydd sydd yn canlyn hyny. Ni welir yno sarnu pethau cysegredig, na thynu lawr yr ysbrydol er ceisio dyrchafu y materol. Nid yw y llinell rhwng drwg a da yn aneglur. Nid oes yno awelon gau ddysgeidiaeth o bell yn gwywo blodau rhinwedd. Er mor orlifol anffyddiaeth mawr gwledydd cyfagos, mae dylanwad crediniol Cymru yn rhy gryf iddo; ac er iddo ymfwrw yn donau hyrddiol yn erbyn Clawdd Offa, ni ddaw yn mhellach.

Nid oes gan Babyddiaeth etifeddiaeth yn Nghymru. Y Babaeth, yr hon grefydd sydd mor boblogaidd yn Ffrainc, Germani, a bron yn holl wledydd y Cyfandir, y mae yn wrthodedig yn Nghymru. Methodd y llifeiriant Pabyddol ruthro dros y rhandir neillduol hwn. Methodd y ddrychiolaeth frith-wisgol gael gan yr hen genedl i'w mynwesu. Methodd y lledrith hûd-ddenu. Cofier ymdrech ofer Awstin Fynach.

Nid yw y tafarnau yn agored ar y Sabbothau yn Nghymru. Yn erbyn y drwg câs, fu yn gwneyd y fath niwed i grefydd a moesau, y mae y drysau wedi eu cau. Ni chaniateir iddo mwyach ddyfod i barlwr yr wythnos. Y drwg o yfed gwirodydd a gwlybyroedd meddwol eraill sydd yn ffynu yn barhaus yn Lloegr, a Sir Fynwy, ar y Sabboth, gedwir draw o Walia gyda braich gref, ac a llaw estynedig. Nid yw y diodydd peryglus yn boddi eneidiau dynion ar y dydd i fyned i'r arch. Ni chaiff y dydd cyntaf o'r wythnos fod yn ddydd olaf ei foesau. Ni cha y dydd y cyfododd Gwaredwr dyn o'r bedd, ei ddathlu a rhialtwch y cwpan meddwol. Ac nid dyna y cwbl. Y mae cadwraeth y Sabboth mewn ystyron eraill, mewn bri yn y Dywysogaeth. Y mae pleser-deithio ar y Sabboth yn beth anhysbys yn y wlad. Ni wneir arddangosiadau o angladdau, ac ni welir angladdau yno ar ddydd yr Arglwydd. Nid yw gwresogrwydd addoliadau crefyddol yn cael ei oeri ar y dydd Sabboth drwy daflu brwdfrydedd addoli i gyrddau practiso erbyn dydd yr Eisteddfod. Yn "nglwad y bryniau" ni welir neb yn myned allan i hela, nac i ddilyn unrhyw bleser-chwareuon ar y dydd sanctaidd.

Anaml y cyflawnir llofruddiaeth yn Nghymru. Peth tra anfynych ydyw fod Cymro o waed coch cyfan yn cael ei arwain i'r crogbren; a phan y dygwydd hyny, bydd arswyd yn cerdded trwy y genedl. O herwydd paham nid yw y bobl yn ofnus o'u gilydd yn yr ystyr hwn. Hyd yn nod pan yr adnabyddir person yn euog o ddrygau cyhoeddus eraill, ni amheuir ef fel yn meddu tuedd at lofruddiaeth. A hyn sydd yn cyfrif am garcharau gweigion amryw o'r Siroedd yn aml, ac am fenyg gwynion y barnwyr.

Ni cheir llawer camwri gwladwriaethol a pholiticaidd gwledydd gwareiddiedig eraill yn "ngwlad y gân.” Nid cyfreithiau mewn enw a geir yn y wlad, ond rhai mewn ysbryd a gwirionedd. Llwgrwobrwyaeth ni arferir yn y wlad. Y mae Seneddwyr Cymru yn annhraethol uwchlaw gwerth y pris hwnw. Yn wir y mae beiau o'r fath yn hollol ddyeithr i'r swydd urddasol. Yn ngweinyddiad y gyfraith drachefn, nid digon miloedd o aur melyn i agor y drws i droseddwyr ddianc o grafangau y llew.

Y mae Cymru yn rhydd oddiwrth lu o lwgr-feiau ac arferion cymdeithasol gwledydd eraill, heb eithrio Lloegr. Mae rhedegfeydd ceffylau, hap-chwareuon, chwareudai, a phethau o'r un natur, yn groes i chwaeth ac anianawd y genedl Gymreig. Nid yw yr enwau cysegredig tad a mam wedi eu llygru yn y fam-iaith.

Yn Nghymru, ni raid i wr dyeithr ymostwng i lanhau ei esgidiau (braint werthfawr), nac i waseiddio ei hun i wneyd dim o'r natur. Gellir bod yn sicr y bydd yr esgidiau gerllaw, yn lân ac yn loew yn y boreu. Ni bydd galwad chwaith am godi yn gymwys gyda y wawr. Ni cheir neb mewn gor-frys wrth ddilyn eu goruchwyliaeth. Ni fydd eisau i'r aradwr haner rhedeg ar ol yr aradr a'r ôg—caiff ryddid i gerdded yn mlaen yn hamddenol, dan chwibanu, neu fygu myglys, fel y dewiso.

Wrth ddisgyn i fanylu, mae rhagoriaethau nacaol di-rîf yn ein cyfarch yn mhob cyfeiriad, er nad ellir crybwyll yma ond am ychydig o honynt. Nid iawn ynwyf fyddai esgeuluso nodi tymheredd yr hîn, ac mor rhydd ydyw oddiwrth eithafion. (Mynegaf y pethau hyn er hyfforddiant Cymry Americanaidd.) Nid yw y taranau a'r mellt mor ddychrynllyd yn Nghymru ag ydynt yn America. Nid yw llais y daran mor graslyd, na gwib-fflachiadau y mellt mor bicellog a thrywanol. Gyda golwg ar ruthr-dymestloedd a cyclones, ni cheir hwy o gwbl yn y wlad. Ymddengys i mi fod y nwyau trydanol yn Nghymru yn fwy gwareiddiedig a llednais na'r nwyau gyda ni. Y mae gwahaniaeth annrhaethol eto yn ngwlawogydd y ddwy wlad. Yn lle brâs-wlaw, cur-wlaw, trwm-wlaw, fel yma, ceir yno wlaw tyner, maethlon, a ddisgyna yn fân-wlith ysgafn, esmwyth, ar bawb a phob peth, ac yn neillduol ar adar mân a llysiau. Gall hyd yn nod y gwybed hafol eiddilaf, gario yn mlaen eu camp-chwareuon yn ddirwystr ar adeg bwrw gwlaw, gan mor fwyn a thyner yr oruchwyliaeth. Mae y defnynau yma mor freision ac aml, nes y fflangellant ymaith holl eiddilod diniwaid, a pheri i bob aderyn ddianc i'r cysgodion. Byddaf yn ein gweled ni yma yn America yn gweithredu yn annoeth ryfeddol, wrth ffrystio ar excursions mawrion i weled y Niagara Falls, pan y mae Niagara Falls uwch, mwy a lletach, yn fynych wrth ein drysau yn y brâs-wlaw cawodog, ffrwd-lifol-a geidw draw bawb o fewn pellder moesgar. Myned ar excursions i weled y Niagara Falls yn wir!

A oes rhywun a amheua y pethau hyn? Os oes, y mae genyf dri chant a phump a thriugain o ddyddiau yn barod i dystio yn olynol i wirionedd yr hyn a ddywedais. A chredwyf pe bae y gecraeth amheugar yn haerllug, y byddai gwyneb a llygaid pob dydd erbyn deuddeg o'r gloch, yn gloewi gan sel ac eiddigedd dros wirionedd fy nhystiolaethau.

Nid yw y pontydd Cymreig yn cael eu diraddio trwy roi rhybudd pendant ar eu talcenau, na fydd rhyddid gyru drostynt yn gynt na cherdded, o dan ddirwy o ugain swllt, yr hyn o'i gyfieithu yw, byddwch dosturiol, da chwi, wrth y bont, canys y mae yn wanaidd iawn. I'r heolydd nid oes lle meddal na garw. Gall gwyr yr olwyn-feirch (bicycles), yn felltenawl gyflymu drostynt heb un tramgwydd. Y mae fod yr heolydd fel hyn, mewn cyflwr mor ragorol, wedi troi yn fanteisiol anghyffredin i gyfarfod angen teithio ar yr olwynfarch, sydd wedi dod mor boblogaidd trwy y wlad. Dywedai boneddwr wrthyf yn Casbach, D. C., fod ei fab ef yn myned yn aml i Gaerdydd ac yn ol mewn ychydig amser, ar yr olwyn-farch. Yn y Gogledd, drachefn, y mae llyfnder y ffordd yn galluogi y brodyr ieuainc selog, i fyned o Sir Gaernarfon, i bellafoedd Sir Fon, ar yr olwyn-farch, i'r Cymanfaoedd a'r cyrddau mawrion, a gwneyd y daith yn nghynt na'r meirch-gerbydau.

Bu bron i mi anghofio crybwyll un peth dymunol yn Nghymru, yn ffafr pregethwr dyeithr, sef y dull y telir ef. Nid yw yn arferiad gwneyd casgliad cardotol yn niwedd yr oedfa, ond telir y pregethwr yn anrhydeddus o drysorfa yr eglwys.

Cyn tynu y benod hon i derfyniad, dymunwn wneyd crybwylliad byr eto ar fater cau y tafarnau ar y Sabboth.

Wrth gynllunio y mesur, a hawlio iddo lwybr rhydd trwy ddau dy y Senedd, dangosodd Cymru elfenau moesol a chrefyddol uwchraddol, a theilwng o honi ei hun. O hyn allan gall sefyll ar fanlawr y mesur hwn a dweyd wrth Loegr uchelfrydig, "Dring i fyny yma;” ac y mae ganddi hawl i gyfarch cenedloedd eraill mewn modd cyffelyb. Ond nid heb ympryd a gweddi y caed yr yspryd drwg hwn (yfed yn y tafarnau ar y Sabboth) allan o'r Dywysogaeth dêg. Y mae yr effeithiau yn fendithfawr. Mae llawer oeddynt yn tori eu hunain a chyllyll, ac yn malu ewyn ar y dydd sanctaidd, yn awr yn eu pwyll. Buddugoliaeth ogoneddus a enillwyd, ac un a sicrhaodd fuddugoliaethau moesol a chrefyddol pwysig eraill.

PENOD VI.

Hwyrddydd gydag Arwystl.

Y Parch. H. W. Hughes (Arwystl), Dinas, gerllaw Pontypridd, Morganwg, sydd hen weinidog enwog i'r Bedyddwyr, ond sydd wedi rhoi gofal gweinidogaethol yr eglwys i fyny er's rhai blynyddau. Yr oeddwn yn gydnabyddus ag ef er cynt, ac yn edmygwr mawr o hono. Ac yn awr, pan yn agos ato yn Nghwm Rhondda, teimlwn yn awyddus i alw gydag ef. Ar yr adeg hon cyfarfyddais a'r Parch. Hugh Jones, gweinidog presenol yr eglwys, ac amlygais iddo fy mwriad i alw heibio; yntau a'm taer gymhellodd i wneyd hyny.

Yn hwyr y dydd y gelwais; dygwyddodd fod cyfarfod poblogaidd yn cael ei gynal yn eu capel, i gyflwyno tysteb i frawd o ddiacon parchus oedd ar ymadael i le arall i fyw. Ofnwn, pan ddeallais am y cwrdd, y gallasai fod yn anffafriol i amcan fy ymweliad, ond yn ffortunus dygwyddodd droi yn ffafriol.

Nis gallaf ganiatau i'r darllenydd wybod manylion yr ymweliad, nes i mi yn gyntaf ei ddwyn i gydnabyddiaeth, i ryw raddau, â fy nghyfaill Mr. Hughes (Arwystl). Yr wyf bron yn sicr fod pawb sydd yn gwir adnabod Mr. Hughes, yn ei fawr hoffi; a gwn fod llawer o'r rhai ydynt yn ei adnabod felly, yn mawr edmygu ei deithi meddyliol, ei arabedd, ei chwaeth, a'i allu fel cyfansoddwr. Ond at y nodweddau a grybwyllwyd a fawrygaf, gyda llawer, yn nghymeriad Mr. Hughes fel dyn cyhoeddus, ychwanegaf un nodwedd arall, sef ei ddull o draddodi. Ystyriaf fod y dull hwn yn dwyn cysylltiad agos a'i ystum, ei ardrem, ei wefusyddiaeth, ei oslef, ei aceniaeth, a'i bwysleisiaeth. Saif Arwystl ar ben ei hun fel traddodwr. Pan y daw i'r pwlpud, bydd ei ymddangosiad yn tynu sylw, bydd ei wynebpryd yn dweyd, bydd symudiadau ei wefusau yn datgan, bydd ei fyr besychiad yn awgrymiadol. Pan y saif i fyny i lefaru, buan y bydd yr elfenau a nodwyd yn cyd-ddweyd. Mae ei ddull o draddodi yn ffurfio delweddau ei ddrychfeddyliau; ac mae ei ddrychfeddyliau yn ffurfio delweddau ei ddull o draddodi. Ond ofer y ceisiwn ei ddarlunio rhaid ei wrando er gallu ffurfio syniad cywir am ei ragoriaethau fel llefarwr cyhoeddus.

Ychydig, efallai, yn y Dywysogaeth sydd gyfartal iddo fel meistr y gynulleidfa, pan y byddo yr awel o'i du; ond pan y byddo y gwynt yn groes, y mae fe ddichon, yn nghyfrif rhai, yn waelach na llawer llai nag ef. Wrth iddo hwylio yn erbyn gwynt croes, bydd y dylanwad gwefreiddiol a dreiddia ysbrydoedd dynion, yn absenol. Y pryd hwnw, ymdrecha yn galed â'r tonau; metha ddilyn siarter ei areithyddiaeth; metha gael gafael yn amserol ar y rhaff angenrheidiol; bydd yr ymadroddion yn ddarniog, ac yn gwrthod ufuddhau i'r parabl; bydd y gwefusau yn anesmwyth rhwng geirau. Weithiau gwyra yn sydyn oddiwrth ei bwnc i afael mewn teganau, yna daw mân-besychiadau; brys symuda y gwefusau a'r tafod, fel i finio eu hunain o'r newydd. Ambell dro, bydd y drychfeddyliau fel yn chwareu ag ef, ac yn ymguddio rhagddo.

Braidd na fyddai yn fwy dewisol genyf wrando arno. pan yn y "ditch," na phan yn hoewi ar ei uchelfanau, canys byddai ei waith yn ymdrechu â'r bregeth yn erbyn y rhwystrau, rywfodd, yn fwy llawn o ddoniolwch. Dygwyddodd tro helbulus o'r fath hwn arno unwaith yn Brymbo, G. C., pan yn galw heibio i'r eglwys yn y lle, i roddi iddynt bregeth ymadawol, ar ei symudiad o Lerpwl i gymeryd gofal yr eglwys yn Dinas. Ar ei ffordd yno, dygwyddodd iddo golli y trên iawn, fel y bu haner awr llawn ar ol amser dechreu, cyn gallu cyrhaedd. Yn teimlo yn ofidus o herwydd y diweddarwch hwn, esgynodd gyda brys i'r pwlpud. Yn fuan, canfyddid ei fod wedi ei daflu o hwyl pregethu, ac nad oedd hwn i fod yn un o'i droion goreu. Rhoddwn yma y rhan gyntaf o'r bregeth, fel engraifft o'r gweddill.

Ei destyn oedd Luc, 12:32: "Canys rhyngodd bodd i'r Tad roddi i chwi deyrnas." Wedi gwneyd esgusawd am ei ddiweddarwch yn cyrhaedd, a chrybwyll yr achos, aeth rhagddo yn y modd a ganlyn: "Gan fod yr amser wedi myn'd, ceisiwn ddweyd tipyn yn fyr ac yn felus. Teyrnas teyrnas (byr-beswch), teyrnas—peth gogoneddus iawn yw teyrnas. ('Diolch!' ebe hen frawd dan y pwlpud.) Wel, wel, mi welaf fod Shon Gruffydd eto yn fyw, wedi bod gynt yn mrwydr fawr Waterloo rhyfedd daioni a gofal Duw am dano. Teyrnas-teyrnas. 'Rhyngodd bodd;' y fath gariad, y fath ras a gofiodd am lwch y llawr. Teyrnas, teyrnas (dau beswch byr). Mae genych weinidog rhagorol, Mr. Parry, gweddiwch lawer drosto fo. Teyrnas, peth gogoneddus iawn yw teyrnas. 'Roedd Adda yn wr boneddig mawr yn Eden, (y gwefusau yn brys-symud), ond fe gododd fortgage ar ei estate, ac fe gododd ormod; cododd ormod—methodd ei thalu yn ol (yn oslefol), do, do, methodd ei thalu yn ol. Ond buddugoliaeth Calfari, enillodd fwy yn ol i mi, mi ganaf tra bwy byw. Gwnaf, mi ganaf. Teyrnas!-teyrnas!!"

Bellach, awn rhagom at hanes fy ymweliad a'r pregethwr neillduol ac enwog hwn.

Daeth cynulleidfa fawr a pharchus yn nghyd i gwrdd cyflwyniad y dysteb i'r brawd o ddiacon oedd ar ymadael a'r lle. Yr oedd yn gwrdd poblogaidd, pob cornel ac eisteddle yn llawn. Program hir o adroddiadau, areithiau a chanu i fyned trwyddo. Eisteddai Mr. Hughes yn y sedd bellaf, wrth y pared, ar y chwith o'r pwlpud. Minau a eisteddwn mewn sedd gyfleus yn ffrynt y pwlpud. Cawswn fy hun mewn man manteisiol i lawn fwynhau y gweithrediadau, ac hefyd i fod yn ngolwg Mr. Hughes, oedd draw ar y dde i mi. Yr oedd un peth, fodd bynag, yn peri gradd o flinder i mi, sef nad oeddwn eto wedi cael cyfleustra i ysgwyd llaw ag ef; ac er ei fod mor agos ataf, nid oedd yn gyfleus i fyned ato. Yr oedd y cyflawniadau ar y cyfan yn gymeradwy, ac yn ymddangos eu bod yn rhoi boddlonrwydd cyffredinol, er yn ddiau nad oedd pob rhan yn peri yr un dyddordeb i bawb. Fel yn gyffredin, yr oedd pob un yn mwynhau oreu yr hyn oedd yn ateb oreu i'w chwaeth. Rhai a fwynhaent y canu, eraill yr areithio, eraill yr adroddiadau, ac nid oes amheuaeth nad cyflwyniad y dysteb oedd yn peri y mwynhad mwyaf i'r diacon a'i deulu. Ond yr hyn a barai y dyddordeb mwyaf o lawer i mi oedd gweled gwyneb Mr. Hughes. Tybiwn fod mwy o hyawdledd, ystyr, delweddiad, a dillynder yn ei wynebpryd ef ar y pryd, nag yn holl ranau y gweithrediadau. Nid oedd un ran o'r cyflawniadau heb ei sylw, ac yn effeithio yn amrywiol ar ei feddwl a'i wyneb. Tybiaswn fy mod yn darllen ei feddwl yn nelweddion ei wyneb.

Yn garedig iawn, trefnasai Mr. Jones, y gweinidog, fod Arwystl a minau i gyfarfod a'n gilydd yn ei dy ef, ar ol y cwrdd, ac felly y bu. Er cymaint oedd y mwynhad a gawswn yn y cwrdd, addawswn i mi fy hun nad oedd hyny ond blaenffrwyth bychan o'r hyn oedd i ddilyn.

Wedi cyfarfod yno, yr oedd yn rhaid ail fyned dros yr ysgwyd dwylaw a'r cyfarchiadau a gawsid ar y diwedd, yn y capel. Llawer o bethau newydd a hen ddeuent i'r bwrdd, gan mwyaf hen bethau. Melus yr adroddai Arwystl am helyntion Cymanfaoedd a chyrddau mawrion y blynyddau gynt, ac am gymeriadau diniwaid a hen ffasiwn. Wrth wrando arno yn adrodd y pethau yna, a'u cyffelyb, yr oeddwn yn barod i ofyn, paham yr oedd y dyddiau o'r blaen yn well na'r dyddiau hyn, er fod Solomon yn dysgu “mai nid o ddoethineb yr wyt yn gofyn hyn."

Y cyfnod pan arferai Arwystl fyned oddiamgylch i ddarlithio, oddeutu deng mlynedd ar hugain yn ol, oedd cyfnod euraidd ei fywyd. Testynau ysgrythyrol oedd i'w ddarlithiau, ac nid gwael destynau di-bwys, i faldorddi ffolineb, a chreu crechwen, fel yn rhy aml gyda llawer. Ei destynau ef fyddent deithiau yr Apostol Paul, a helyntion yr Israeliaid ar eu hymdaith o'r Aipht tua Chanaan. Byddai wrth ei fodd, ac yn ei elfen, yn trafod y materion hyny. Yr oedd y dygwyddiadau neillduol yn galw allan ei ymadferthion goreu, a mawr oedd ei boblogrwydd. Difyrus iawn, yn bresenol, oedd cael ganddo rai adroddiadau o helyntion y cyfnod darlithyddol.

Yr oedd fod y ddau weinidog, Mr. Hughes a Mr. Jones, yn gyfeillion mor fynwesol, yn fantais fawr i fwyniant yr ymweliad. Yr oedd anianawd cyfeillgarwch yn allwedd i'r brawd Jones i ddatod cloion switches, er troi cerbyd yr ymddyddan i'r llinellau hyny a ddymunai, neu mewn geiriau eraill, yr oedd yn gwybod pa fodd i dynu allan Mr. Hughes, ac i gael oddiwrtho sylwadau pert, adgofion difyr, hoenusrwydd diniwed, ac arabedd bywiog.

Yn mhlith pethau eraill, dywedai Mr. Hughes ei fod unwaith i ddarlithio yn Merthyr, ac iddo, yn ol ei addewid, ddod at ei gyhoeddiad yn brydlawn gyda trên y prydnawn. Yn yr orsaf yno, dysgwylid ef yn bryderus gan ddau frawd penodedig, ond dygwyddodd yn nghanol y lluaws pobloedd, i'r ddau frawd fethu taro ar y darlithiwr. Aeth y ddau genad ymaith yn siomedig iawn, ac yn methu dyfalu paham nad oedd y boneddwr dysgwyliedig wedi dod. Aeth Mr. Hughes (y gwr dysgwyliedig), i dy teulu adnabyddus perthynol i'r eglwys, a alwasai am y ddarlith. A chyn hir, aeth i'r capel i ragbaratoi ar gyfer y ddarlith. Y brodyr siomedig yn cymeryd yn ganiataol na ddaethai y darlithydd, a benderfynasant nad oedd dim gwell i'w wneyd o dan yr amgylchiadau na myned yn brydlon at y capel, er hysbysu y bobloedd a ddeuent yno, o'r ffaith ofidus. A phan ddaeth yr awr, aethant at y capel, ac er eu syndod, a'u boddhad, pwy a welent yn y capel ond Mr. Hughes wedi gosod mapiau i fyny ar y parwydydd, a threfnu pethau angenrheidiol eraill, ac yn barod am y ddarlith. Nis gallaf fynegi bob yn rhan, yr ymddyddanion dyddan a gafwyd. Braidd nad oedd clock yr ystafell wedi anghofio taro gan gymaint y dyddordeb. Hyn wyf yn sicr, nad oedd yn taro prin un ran o ddeg yr hyn wnai pan ddechreuodd yr ymddyddan. Ac yr oedd y bobl tu allan fel yn talu gwarogaeth i bwysigrwydd yr ymweliad hwn, a'r ymddyddanion, oblegid nid hir y buont heb ddwyn eu hunain i ddystawrwydd, fel nad oedd y twrw lleiaf yn yr holl amgylchoedd.

PENOD VII.

Yn Nghwm Rhondda.

A oes gan natur gelfi aredig? Gellir tybied fod ganddi. Mae ffurf gul hirfain cymoedd Cymru fel yn arwyddo hyny. Ymddengys y cymoedd yn dra thebyg i rychau a dorasid gan ryw aradr anferthol. Fel rheol, nid yw y cwysau yn union a threfnus; yn hytrach y maent fel rhychau bras a wneir mewn tir a fo newydd a garw. Cymharol fychain yw rhychau cymoedd Cymru. Gwyddai perchen yr aradr nad oedd yno le i gwysau llydain dyffrynoedd cyfandirol. Am hyny, amlygir cynildeb a darbodaeth yn ffurfiad arwynebedd y tir. Mae pob craig, mynydd a bryn, dyffryn a dôl, wedi eu lleoli yn gryno anghyffredin. Y mae Cwm Rhondda yn ei ffurf hir-gul, yn edrych fel rhych aradr. Gwnaeth natur ddefnydd da o'i haradr wrth agor cwys y Cwm cyfoethog hwn. Er mai cul ydyw, mae terfynau eang i fasnach y glo a gludir o hono, ac y mae nifer y bobl a ymfudant oddiyno yn lluosog, a'u gwasgariad yn mhell.

Ar fy ymweliad a'r Cwm, gelwais yn gyntaf yn Ponty-pridd. Ymddangosai Pont-y-pridd yn naturiol, heb lawer o gyfnewidiadau mewn ffordd o adeiladu. Mae yr hen bont fwäog dros yr afon yn edrych mor heinyf ag erioed, ac fel heb war-grymu odid i ddim.

Mae y Parch. E. Roberts, D. D., yn dal i edrych yn raenus a siriol. Mae yr eglwys o dan ei ofal yn dra llewyrchus a llwyddianus, a phawb, yn agos ac yn mhell, siarad yn barchus am Dr. Roberts. Pleser mawr i mi oedd cael ei gymdeithas werthfawr, ac aros yn ei dy dros ddwy noson. Mae ganddo breswylfod hyfryd yn agos i Drefforest. Gwrthddrych hardd ydyw gweinidog da yn byw mewn ty da.

Yn Pont-y-pridd y preswylia y Parch. B. Davies, cyhoeddwr Hanes y Bedyddwyr, gan y Parch. Joshua Thomas. Gwnaeth Mr. Davies wasanaeth gwerthfawr i'w enwad trwy ail gyhoeddi y gwaith anghydmarol hwnw, a dylasai gael gwell cefnogaeth. Gelwais gydag ef. Mae ganddo fasnach argraffu ar raddfa pur helaeth. Mae papyr wythnosol Seisnig, a'r Herald Cenhadol yn cael eu cyhoeddi ganddo. Tynid fy sylw gan fychander y swyddfa. Dau anedd-dy cysylltiol ydyw, a drws mewnol yn agoryd o un i'r llall. Y mae gorfodaeth i ddefnyddio y ddau dy hyn; mewn rhan at wasanaeth teuluol, yn ychwanegol at waith argraffu, rhwymo llyfrau a phacio, yr hyn sydd yn peri anghyfleustra, ac yn cyfyngu terfynau y swyddfa. Ceid pawb yn y swyddfa yn dra phrysur-y peiriant argraffu yn llafurus drystio mewn ystafell fechan yn y cefn; chwech neu saith o bersonau yn or-brysur yn ystafell fach y ffrynt; y gweddill yr un mor brysur yn ystafell fach ffrynt y ty arall. Dywedai Mr. Davies wrthyf fod prinder lle yn peri anghyfleustra dirfawr iddo, ac eglurai mai cynydd annysgwyliadwy busnes oedd yr achos na fuasai ganddo adeilad mwy eang a chyfleus fel swyddfa. Diau fod llawer swyddfa argraffu eangach a mwy cyfleus yn Nghymru, ond meiddiaf ddweyd nad oes yr un swyddfa yn yr holl Dywysogaeth yn cael ei rhedeg gan berson mwy crefyddol, uniawn a thirion, na Mr. Davies.

Yn ngorsaf cledrffordd y Taff Vale, Pont-y-pridd, ar brydnawn Sadwrn, yr oedd y tyrfaoedd pobloedd yn awgrymu i fy meddwl fod poblogaeth y rhan hono o'r wlad yn fawr iawn, a'r fasnach yn anferthol.

Cyn gadael Pont-y-pridd, dymunwyf grybwyll i mi gymeryd y pleser o alw, tra yno, gyda mab i'r gweinidog enwog, y diweddar Barch. James Richards. Cwynai iddo amser yn ol fod yn anffortunus, trwy fyned o dan gyfrifoldeb arianol, dros eraill, ac iddo ef a'i briod golli bron bob ceiniog a feddent. Modd bynag, dywedai iddo hefyd, wedi hyny, fod yn ffortunus, trwy ddarganfod ffordd ratach nag eraill i wneuthur canwyllau (yr hon alwedigaeth a ddilyna,) ac oblegid hyny i gael mantais ar eraill yn y farchnad, trwy allu gwerthu yn rhatach. Ymddangosai y ddau yn bresenol yn bur siriol a chalonog er yr holl golledion a gawsant wrth ffafrio eraill.

Mae yr eglwysi yn Nghwm Rhondda, o Bont-y-pridd i Blaen-y-cwm, yn lluosog a llwyddianus. Pan wnaed cyfrif yn ddiweddar o rif y gwahanol enwadau yn y Cwm, yr oedd cynulleidfaoedd y Bedyddwyr yn rhifo oddeutu tair mil yn fwy na chynulleidfaoedd yr un enwad arall ar y Sabboth y gwnaed y cyfrif. Treuliais Sabboth dedwydd gyda'r eglwys yn Nebo, Ystrad, lle y mae y Parch. Anthony Williams yn weinidog. Mae yr eglwys dan ei ofal mewn cyflwr iachus, capel ardderchog, cynulleidfa pur fawr. Gwneid ymdrech neillduol y flwyddyn hono i leihau y ddyled ar y capel. Treuliais Sabboth hefyd gyda'r eglwys yn y Porth. Mae yno gapel hardd, eang a chyfleus, a chynulleidfa fawr-yn ddigon i ddychrynu pregethwr gwanaidd i sefyll o'i blaen. Ond y maent yn wrandawyr rhagorol, yr hyn sydd yn help mawr i'r llefarwr.

Mae Treorci yn ganolog yn Nghwm Rhondda, o ran lleoliad a dylanwad. Mae "Noddfa " Treorci yn ganolog. Saif yn ymgorpholiad o lawer o gynllunio. Mae gweithio mawr yn, ac wedi bod erddo―y casgliadau yn llawer; y cyrddau yn lluosog-y cwbl yn gofyn amser maith i draethu am danynt, heb ddisgyn at fanylion. Y prif symudydd offerynol yw y gweinidog. Mae ei allu cynlluniol yn nodedig, ac hefyd ei allu i gario allan ei gynlluniau. Ni esgeulusa y plant. Pregetha yn aml i'r plant. Dosbartha ei weithwyr-rhydd i bob un ei waith, ei amser, a'i le. Y mae meddwl y gweinidog yn ei waith. Mae yn gwneyd yr eglwys yn destyn myfyrdod; am yr eglwys y llefara; dros yr eglwys y dyoddefa. Mae golwg gweinidog arno; mae ganddo lais gweinidog. Edrycha ar ddynion yn grefyddol. Amcana gael dynion yn grefyddol; pregetha iddynt i'r dyben hwnw; bedyddia hwynt i'r dyben hwnw, a derbynia hwynt i'r eglwys i'r dyben hwnw. Dywedaf eto fod Noddfa Treorci, yn noddfa mewn gwirionedd. Cafodd llawer mewn perygl y ty hwn felly. Pwy ddywed faint y clod sydd ddyledus i hoff weinidog fel Mr. Morris? Pa ryfedd fod y Beibl yn traethu ar y swydd o weinidog yn bwysig? Pan mae y swydd yn cael ei hymarfer yn briodol, oni aroglir ei pherarogledd? Rhyfedd fel y mae pethau yn casglu o gylch y dyn yn gydnaws a'r dyn. Hyn sydd ogoneddus, fod nodweddau personol gweinidog yn ddigon cryfion i godi dynion ato. Pan y mae y lluaws cymysgryw yn rheffynu eu dysgawdwr i lawr atynt hwy, y mae pethau yn alarus. Er i was Duw gadw safle uchel crefydd Iesu, rhaid ei fod yn wreiddiedig ynddi. Mae syniadau fel yna yn cael eu hawgrymu i'r meddwl wrth adfyfyrio nodweddau y gweinidog rhagorol, y Parch. W. Morris.

Y mae y Parch. Wm. F. Davies, Nanticoke, wedi dod o eglwys y Noddfa. Ac erbyn ystyried, y mae llawer o ddelw y tad ar y mab. Mae delw gweithgarwch gweinidog y Noddfa ar weinidog Nanticoke.

Hoffais weinidog Treorci yn Nghaerdydd, chwe mlynedd yn ol, pan y darllenai fynegiad un o'r cymdeithasau o dan nawdd yr Undeb. Parai ei ddull gofalus, ystyriol, i mi dybied fy mod yn clywed llais dyn Duw yn ei lais ef.

Pan oeddwn yn Treorci, yr oedd y Bedyddiwr Cymreig, yr hwn a gyhoeddid yno, ar drengu. Yr oedd yn gwaelu er's misoedd yn flaenorol. Bu y cynhwrf etholiadol y pryd hwnw, efallai, yn beth cynorthwy i estyn ei oes.

Ond yr oedd elfenau darfodedigaeth yn ei gyfansoddiad, ac yr oedd yn rhaid iddo gael marw. Credid yn nidwylledd amcan y brodyr da oeddynt yn ei gyhoeddi, ond profodd yr anturiaeth ddiffyg doethineb. Weithiau mae amlhau papyrau yn milwrio yn erbyn undeb, ac yn peri anfantais i gael un papyr o wir werth; felly y tro hwn. Eisiau gwella y Seren sydd. Gadael i'r newydd ymddadblygu o'r hen. Er pob diffygion, mae y Seren yn meddu rhagoriaethau-rhagoriaethau allant gynyddu; meddant flagur tyfiant.

Bum yn y Noddfa yn treulio Sabboth, a noson o'r wythnos. Hwn oedd y capel mwyaf y buaswn ynddo hyd yn hyn. Yr oedd y gynulleidfa yn fawr ar y Sabboth, ond nid cymaint, meddid, ag arferol. Yr oedd merch ieuanc yn pregethu y Sabboth hwnw yn nghapel yr Annibynwyr yn y lle, ac yr oedd yn llawer mwy poblogaidd na'r gwr dyeithr o America, yr hyn oedd heb fod yn ddymunol iawn i'w deimlad, fel y gellid barnu. Ond ymgysurwn trwy geisio perswadio fy hun i gredu mai prin y gallasai Mr. Spurgeon, pe yn y pwlpud, lwyddo i gadw y bobl rhag myned i wrando y bregethwres, gan mor boblogaidd ydoedd.

Boddhaus genyf fuasai cael mwynhau ychwaneg o gymdeithas Mr. Morris, y gweinidog, ond hyny nid oedd yn gyfleus, gan ei fod o gartref y noson waith, ac ar y Sabboth yr oedd yn glaf.

Y fath restr hirfaith, drwchus o gapeli sydd yn holl Gwm Rhondda, a chymeryd i mewn gapeli yr holl enwadau, y rhai ydynt yn dra lluosog, yn neillduol eiddo y Bedyddwyr a'r Annibynwyr. Cyfansoddant linell ardderchog o amgaerau (forts) i weithredu yn erbyn gwersylloedd yr un drwg.

Wrth i mi fyned i fyny ac i lawr y Cwm hwn amryw droion yn ystod dwy wythnos, yr oedd amryw bethau yn taro i fy meddwl mewn perthynas i'r bobl a'r gymydogaeth.

Y fath nifer mawr o drêns glo hirion a redant yn barhaus, ddydd a nos, yn nghyfeiriad Caerdydd. Y mae yr olygfa arnynt, i ddyn dyeithr, yn ymddangos yn wir synfawr. Gwna'r olygfa symudol symud y meddwl i ddyfalu i ba le y mae yr holl symiau aruthrol hyn o lo yn myned.

Golygfeydd nosawl rhamantus ydyw rhestrau hirfeithion y ffwrneisiau coke a ymestynant ar hyd waelod y dyffryn.

Yr oedd fy meddwl yn aflonydd gan chwilfrydedd yn aml wrth ddyfalu am sefyllfa tanddaearol y parthau hyny, pan y mae cymaint o lo yn barhaus yn cael ei gloddio allan. Dyfalwn fod y mynyddoedd a'r bryniau amgylchynol yn cael chwilota trwyddynt yn fwy trwyadl na'r meusydd pridd-dwmpathog gan y waedd.

Mae poblogaeth fawr Cwm Rhondda yn ymddibynu bron yn hollol ar y gweithiau glo am fywioliaeth. Mae y ffaith yn gorlenwi y meddwl a syn-fraw. Ni ellir peidio esgyn yn uwch na deddfau ansefydlog masnach, am sicrwydd bywioliaeth ddigoll i'r trigolion lluosog. Ac y mae amlder moddion crefyddol yno, fel yn profi fod tuedd esgyn felly i'r dyben hwnw yn cael ei deimlo gan y bobl yn dra chyffredinol.

Bu cryn holi arnaf yn y parthau hyn gan bersonau am berthynasau a chyfeillion yn America. Anaml yr elwn i dy na fyddai prawf yn cael ei roddi ar helaethrwydd fy ngwybodaeth am bersonau yr ochr draw i'r Werydd. A gellid yn rhesymol farnu fy mod yn gwneyd pob ymdrech rhag bradychu anwybodaeth mewn maes mor doreithiog; a chydnabyddwyf fod pob cynorthwy dichonadwy yn cael ei roddi i mi yn fynych gan holwyr, rhag fy nghael yn hollol amddifad o'r wybodaeth a ddymunid. Mynych ar yr heol yr oedd fy nghwrs yn cael ei fân-ddarnio wrth sefyll i ateb cwestiynau personau a feddent gysylltiadau teuluol yn cyrhaedd America bell. Er hyny, nid oedd darnio fy nghwrs yn darnio fy nhymer, ond yn hytrach yn ei gyfanu yn un cwrs o fwynhad wrth liniaru meddyliau pryderus ac ymofyngar. Yn niwedd yr oedfaon eto, yr oedd yr un dosbarth o bobl yn fy nghyfarfod. Rhai, efallai, a'm clywsent ar y pryd yn gwneyd cyfeiriadau at bersonau a phethau yn America, a thrwy hyny yn gloewi gan awydd clywed genyf am eu perthynasau a'u cyfeillion yn y gorllewin pell. Buasai yn foddhad mawr i mi allu cofrestru y tyrfaoedd ymofyngar hyn yn y llyfr hwn, ac yr oedd genyf fwriad ar y cyntaf i wneyd hyny, ond trwy iddynt luosogi i nifer aruthrol fawr, ofnais na fuasai genyf ddigon o le idd eu cynwys, a rhoddais i fyny y bwriad. Barnwyf, erbyn hyn, pe buaswn yn gwneyd gor-ymdrech i gael enwau a negeseuon holiadol a chofiadol pawb i mewn, y buasai yn anmhosibl i'r cyfeillion yn America ddod o hyd i'w cyfeillion yn Nghymru yn nghanol y fath nifer lluosog o bersonau a enwid.

PENOD VIII.

Adeg Etholiad.

Yr oedd etholiad 1885 yn y Deyrnas Gyfunol yn neillduol gynhyrfus. Yr oedd dros ddwy filiwn o bleidleiswyr newyddion yn ychwanegu y cynhwrf. Ar yr etholiad hwn yr oedd yn dwrf chwyldroadol trwy y wlad. Yr oedd nerthoedd cryfion ar waith. Lluchid i'r golwg haenau isaf cymeriad cenedloedd, pleidiau a phersonau. Yr oedd y nerthoedd yn gweithio oddifewn i fyny i'r arwyneb. Torent trwy haen gref Ceidwadaeth henafol. Gweithient yn rhwygawl trwy uch-fantell cymdeithas. Mewn manau, megys yr Iwerddon, a'r dinasoedd mawrion yn Lloegr ac Ysgotland, ymferwai llosgwy (lava) eiriasboeth o areithiau tanllyd trwy ddrysau a ffenestri llawer mynydd uchel o adeilad lle cynelid cyrddau. Ymruai llefau dwfn argyhoeddiad trwy lawer cymydogaeth. Ceid iaith blaen hawliau dynol yn dryllio yn chwilfriw iaith ddifwlch lednais dysg. Gosodasid troell naturiaeth yn fflam. Yr oedd llawer ffynon felus yn bwrw allan ddwfr chwerw.

Nid oedd Cymru yn rhydd oddiwrth y cynhwrf. Er nad oedd agos mor eithafol a manau eraill o'r Deyrnas, eto yr oedd hithau yn llawer mwy cynhyrfus nag arferol ar y fath adegau.

Wrth wneyd crybwyllion am yr etholiad yno, dosbarthaf yr adeg i ddwy ran. Y rhan flaenaf oedd pan y bu yr ymgeiswyr a'u cefnogwyr yn anerch y bobl; a'r rhan olaf oedd pan y bu i'r bobl anerch yr ymgeiswyr, trwy eu pleidleisiau a mynegiadau trydanol y pellebyr. Nodaf rai helyntion etholiadol yn y ddwy ran, ag yr oeddwn yn llygad a chlust dyst o honynt; a rhai eraill.

Cyfarfodydd cyhoeddus y Torïaid oeddynt y mwyaf trystfawr a chynyrfus. Yn y cynulliadau hyn, weithiau, cymerai y Rhyddfrydwyr gwerinawl fantais i amlygu eu teimladau tuag at ymlynwyr Torïaidd rhagrithiol, yr hyn a barai i'r gweithrediadau droi allan yn ryfeddol gynhyrfus. Cynelid cwrdd Toriaidd trystfawr o'r fath yn agos i'm hen gartref, ar nos Sadwrn. Cafodd yr ymgeisydd Torïaidd ei hun bob llonyddwch i lefaru, ond mor fuan ag y cododd un o'i bleidwyr cynffynol ef i draethu ei len, yr oedd y twrf yn fyddarol. Ofer oedd i'r un ffug-bleidiwr agor ei enau. Er i amryw o'r cynffonwyr wneyd ymdrech deg i gael gwrandawiad, yr oedd pob ymdrech yn ofer. Tra nad oedd gair i'w glywed oddiwrth y llefarwr, gwelid ysgwydiadau ei freichiau, a symudiadau ei wefusau. Braint werthfawr i'r ffug-bleidwyr y noson hono fu llwyddo i adael y gymydogaeth, a myned adref heb gael tori eu hesgyrn. Cawsant brofi beth oedd pwysau cawodydd llaith-drymion o'u holau; ac hefyd cawsant eu gwneyd yn lliwiol oddiallan yn debyg fel yr oeddynt eisoes oddimewn.

Ni fum bresenol ond yn nghyfarfodydd y Rhyddfrydwyr. Yr ymgeiswyr a wrandewais ni amlygent ddoniau neillduol fel llefarwyr cyhoeddus. Yr oedd rhai o honynt yn dra anystwyth eu parabl, ac yn fynych byddai yr araeth yn cael ei hatal yn ei chwrs yn mlaen, gan rwystrau gyddfol a geneuol, yn debyg fel yr atelir cwrs ffrwd brysur gan anwastadrwydd afrywiog y pant-le y rhed hyd-ddo. Wrth wrando ambell un teimlwn yn anhyfryd. Annymunol oedd gwrando ar areithiwr y dymunid iddo lefaru yn dda, ac yntau yn methu. Yr oedd afrwyddineb yn peri i'r gwrandawyr anffurfio eu hunain wyneb a chorph yn ddiarwybod iddynt.

Cymerai gwrthwynebwyr fantais ar siarad gwael, i arllwys difriaeth, yr hyn oedd yn gwneyd sefyllfa llefarwr parabl rwystrol, a'i wrandawyr cefnogol, yn annymunol i'r eithaf. Addefaf i mi gael fy hun mewn cyflwr gwrandawol annymunol o'r fath, amryw droion yn y cyfarfodydd politicaidd hyn. Ac eto, mae llefarwr haciog, fo ofalus ar ei eiriau, ac i ddweyd y gwir, yn fwy dewisol na llefarwr amleiriog ymdywalltiadol llifeiriol ei eiriau, na fo ofalus am ffeithiau. Ac yn gyffredin, mae y prin a'r baglog ei eiriau, yn fwy tebyg o fod yn gywir ei ddywediadau, na'r hwn fyddo yn gallu marchogaeth iaith yn garlamol. Gall llawer o barabl-aratwch un fod yn effaith gofal am fod yn gywir; a gall llawer o barabl-gyflymder y llall fod yn effaith diofalwch am beth felly. Heblaw hyn, gall un fod yn sylweddol ddwfn-dreiddiol, a'r llall fod mor ddisylwedd a mân-us; y naill yn arafu yr araeth, y llall yn ei chyflymu.

Mewn cwrdd politicaidd y bum ynddo yn Mhwllheli, yr oedd y mathau yna, ac eraill, o areithyddiaeth mewn arferiad. Cafwyd araeth ddoniol yno gan y Parch. Mr. James, Nefyn (brawd Waldo). Dywedai fod Cymru yn nodweddiadol fel Gwlad y Bryniau, ond fod dau fryn yn fwy nodedig, y dyddiau hyny, na'r bryniau eraill yn gyffredin-sef Bryn Adda, a'r Bryn Gwyn (Bryn Adda yw enw cartrefle Mr. Jno. B. Roberts, Rhyddfrydwr, a Gwynfryn yw enw eiddo Mr. Nanney, Tori.) Ond Mr. James ddywedai mai gwell ganddo ef o lawer oedd Bryn Adda na Bryn Gwyn; fod y bryniau pan yn wynion, yn oerion iawn, ac yn gwneyd pobl yn grynedig ac annedwydd; fod Bryn Adda yn dra gwahanol-fod hwn yn meddu golygfeydd rhamantus, a gerddi dymunol yn amgylchu ei odreuon.

Gwr henafol hefyd a lefarodd mewn natur dda, nes nawseiddio tymerau ffyrniglawn y gwrthwynebwyr. Nid oes well cyngor na mai trwy addfwynder y mae dysgu rhai gwrthwynebus.

Mr. Gee, Dinbych, yr hwn sydd foneddwr parchus, a Rhyddfrydwr adnabyddus, a lefarodd yn y cwrdd. Ni fedd y genedl neb a fedr ddadleu hawliau Rhyddfrydiaeth yn well nag efe, ac o bawb a glywsom yn siarad ar wladyddiaeth, efe oedd y rhagoraf. A siaradodd yn ardderchog y tro hwn. Eglurai ddeddfau masnach rydd, y lles oddiwrthi i Brydain, y cynydd masnachol dirfawr a wnaeth er pan y dilewyd y tollau ar nwyddau tramor.

Bum mewn cwrdd politicaidd poblogaidd a gynelid ar fin yr etholiad, yn Llandudno. Llywyddid yn fedrus gan y Parch. H. Hughes (W.) Anerchwyd y cyfarfod gan amryw, ac yn mhlith eraill, y Parch. James Spinther James, M. A., ac offeiriad o Lanelwy. Yr offeiriad, tra yn dod o ganol ffau Dorïaidd i lefaru dros ryddfrydiaeth, gafodd fanllefau uchel o gymeradwyaeth.

Wrth ddeall fod gwr o America yn bresenol, yr oedd yn rhaid iddo fyned i'r esgynlawr i siarad. Dysgwylient i Americawr wrth gwrs fod yn Rhyddfrydwr, a dysgwylient hefyd iddo ddweyd y drefn yn erbyn gorthrwm. Dywedais wrthynt fy mod yn rhyfeddu fod yr areithwyr a glywswn yn dweyd can lleied yn erbyn y drygau tirol ac eglwysig ag y dylasid eu symud. Rhoddwn iddynt restr o'r drygau hyny, ac engreifftiau o waseiddiwch y bobl dan law y gorthrymwyr cyfoethog. Dywedwn y dylasent ymroi i ymosod ar y drygau crybwylledig. Amlygwn ofn fod y drygau hyny yn cael eu trafod ganddynt yn eu cyrddau politicaidd a dwylaw rhy dyner.

Nid oes yr un gweinidog yn Nghymru yn fwy selog fel Rhyddfrydwr, na'r hynod a'r hyglodus Barch. Robert Jones, Llanllyfni. Un boreu Llun, pan y dychwelai o fod yn pregethu y Sabboth yn Aber, cyfarfuwyd ag ef yn ngorsaf Bangor gan genad oddiwrth y Rhyddfrydwyr, yn crefu arno fod yn bresenol mewn cwrdd mawr Rhyddfrydol yn Nghaernarfon y noson hono; yntau a gydsyniodd. Nid oedd un llefarwr mor boblogaidd ag efe. Yr oedd ei ddull yn hynod, ac eto yr oedd efe yn hollol ddifrifol. Dywedai iddo fod unwaith yn Nghaerdydd pan oedd dyn yn cael ei crogi, ac iddo fyned i weled yr olygfa, ond iddo fod am amryw wythnosau cyn dyfod ato ei hun ar ol hyny. Er hyny y buasai yn gallu dal gweled crogi hyd yn nod Faptist fuasai yn pleidleisio gyda y Toriaid. Ebai efe, "Saith for a saith fynydd a fyddo rhyngwyf a phob Bedyddiwr a fotia gyda y Torïaid."

Yr ydym yn bresenol yn nesu yn mlaen at raiadrau y cynhwrf.

Dygwyddais fod yn ardal y Cefnmawr ar ddydd yr etholiad yno. Gweithiai y Torïaid yn egniol i sicrhau pleidleisiau. Gwneid defnydd effeithiol o ddylanwad mawr Syr Watkin yn y parth hwnw. Cipid personau o'r neilldu cyn eu myned at y bwth, er ceisio eu henill. I roi atalfa ar hyn, ymffurfiodd llu o fwnwyr a gweithwyr, oll yn Rhyddfrydwyr, yn orymdaith reolaidd, gan agoshau at y bwth, a chanu, "Hold the fort, for we are coming."

Tra dyddorol i mi oedd bod yn Llandudno yn ystod rhai o ddyddiau yr etholiadau. Elwn bob hwyr i ystafell swyddogol y Rhyddfrydwyr, lle y derbynient ac y darllenent y telegrams a gynwysent ganlyniadau rhifyddol yr etholiadau yn ystod y dydd. Ar draws yr ystafell hon yr oedd gwahanfur, yn ei dosranu yn ddwy adran. Nid oedd y gwahanfur hwnw yn cyrhaedd ond hyd haner y ffordd i'r nenfwd, yr hyn oedd yn fantais ar rai adegau i'r tra ymofyngar, wedi iddo weithio ei fodolaeth i'w ymyl uchaf, i gael gweled a chlywed pethau oeddynt yn myned yn mlaen ar yr ochr arall. Yn yr adran allanol o'r ystafell, yr oedd y lluaws pobl yn pryderus ddysgwyl am y newyddion, ac yn amlygu eu teimladau yn amrywiol yn ol natur y newyddion, ac yn ol eu natur hwythau tuag atynt. Y Cadeirydd oedd ddyn ieuanc tua deg ar hugain oed, golygus, addfwyn a deallgar, yn gallu amlygu ei feddwl yn bur rhwydd a difwlch yn yr iaith Saesoneg. O bob tu i ganol-fur yr ystafell yr oedd amryw feirdd a llenorion lleol o gryn fri. Rhwng y telegrams, adroddid aml i englyn a phenill—rhai yn dda, a rhai heb fod yn dda. Pan y byddai y newyddion yn ffafrio y Torïaid, clywid murmur o anfoddlonrwydd. Pan y byddai y teimlad yn gymedrol dwym, murmurid yn y ddwy iaith; ond pan yn frwdfrydig anghyffredin, byddai y Gymraeg yn boddi y Saesoneg, ac ar adeg felly byddai defnydd mynych yn cael ei wneyd o eiriau cryfion yr Omeraeg. Ond yr hyn a ogleisiau fy asbri yn benaf oedd gwaith y cadeirydd yn darllen y telegrams, ac yn traddodi mân-areithiau eglurhaol a chalonogol. Yr oedd yn well genyf ei glywed yn gwneyd hyny yn Saesoneg, braidd, nag yn yr hen Gymraeg. Yr oedd math o lediaith Cymreig yn gymysgedig a diniweidrwydd Cymreig yn ei leferydd a'i eiriau, ag oedd yn foddhaus iawn i mi. Yr oedd y nodweddau neillduol hyn yn parhau yn foddhaus, ac i swnio yn ogleisiol hyd yn nod pan y byddai y newyddion yn anffafriol i'r Rhyddfrydwyr. Anhawdd fy nghael i gredu fod un swyddfa darllen telegrams yr etholiadau, yn un rhan o'r Deyrnas Gyfunol, yr adeg hono, mor ryw fwyn bleserol ag oedd y swyddfa hon, na chyfeillion mor hoff yn un man i'w cael. Ni haeraf na allasai fod rhai ystafelloedd darllen telegrams mewn manau yn Nghymru yn agos at hon mewn brwdfrydedd, megys y rhai hyny lle y derbynid sicrwydd fod yr ymgeisydd y pleidleisiasai pobl yr ystafell drosto, wedi bod yn fuddugoliaethus; ond ni fuasai hyny drachefn yn sicrhau dim heblaw brwdfrydedd mawr. Ni fuasai yn rhoddi lle i ddysgwyl am arabedd dawn a digrifwch bechgyn Llandudno.

Cawsai yr etholwyr newyddion eu hunain mewn helbulon newyddion, os yn Rhyddfrydwyr. Parai lleffetheiriau y landlord benbleth mewn llawer teulu. Pur anhawdd, yn aml, fyddai ymryddhau o'r fagl. Yr oedd y rhwyd yn cael ei gosod ar bob agorfa amgylchynol. Anhawdd oedd gallu dweyd "Na." Cynaliwyd aml i gyngor mewn aml deulu i benderfynu y cwestiwn. Weithiau methid cadw cyfrinion y mater o fewn cylch cyffredin y teulu. Gwnai dwysder yr ager dori y cylchau. Mewn rhai eithriadau, efallai, cymerai y gwr y prif wâs i'w gyfrinach, a'r wraig wasanaethyddes brofedig i'w chyfrinach hithau. Yr oedd rhwystr arall yn cyfodi ar ffordd y fotiwr newydd. Wedi penderfynu i bwy i fotio, sut i fotio oedd y mater pwysig nesaf. Yn y bwth, yr oedd galwad am i'r fotiwr roddi croes gyferbyn a'r enw dewisol ganddo; ac i ddyn o dan gynhyrfiadau yr adeg, a llygaid cyfreithiol gwyliadwrus gerllaw, nid yn hawdd oedd i lawer un gwan, roddi y croesiad yn gywir, yn neillduol pan gofier fod y Rhyddfrydwyr a'r Torïaid yn flaenorol wedi rhoddi cyfarwyddiadau gwahanol i'r fotiwr mewn perthynas i pa fodd, a pha le i roddi y marc croes ar y tocyn yn y bwth. At hyn eto yr oedd penbleth arall yn dychrynu y Rhyddfrydwr newydd―y perygl i'r landlord Toriaidd wybod pa fodd y pleidleisiodd y deiliad. Parai y perygl tybiadol hwn achreth flin i lawer gwladwr oedd yn myned at yr ethol-fan am y tro cyntaf erioed. Crynai llawer llaw gref wrth wneyd y croesiad. Nid oes amheuaeth nad oedd llawer o'r croesiadau yn groesach nag oedd eisiau. Parodd yr anhawsder cysylltiedig a pha fodd, a pha le i roi croes-farç, i filoedd o bleidleiswyr newyddion gamsynied y lle, os nad y modd. Tystiolaethid i'r Rhyddfrydwyr golli nifer fawr o bleidleisiau o herwydd y dyryswch.

Yr oedd y Torïaid cyfoethog yn eu palasau amgaerog hefyd mewn penbleth. Gwelent yr awdurdod a'r gallu gwleidyddol yn llithro o'u dwylaw i ddwylaw y bobl. Yr oedd yr ystyriaeth o hyn yn ferwinol iddynt. Treiddiai y ffaith lem hon trwy fodolaeth drwchus y mawrion. Nid oedd eu parciau helaeth, a'u muriau caerog yn effeithiol i'w diogelu rhagddi. Nid oedd y palasau fflachiog eu ffenestri, na mwynianau pentyrol eu hystafelloedd, a'u dawns-barlyrau yn ddigonol i gadw y bustl-deimlad draw. Nid oedd dim tarianau i'w cael rhag rhwygiadau y brysebau hysbysol o lwyddiant Rhyddfrydiaeth a methiant Toriaeth. Pan y byddai arglwydd y tir yn ymgeisydd aflwyddianus, y ceid y siom-frathiadau dyfnaf. Cafodd rhai o wyr y palasau yn Sir Ddinbych a Sir Gaernarfon, eu harcholli yn dost gan ruthriadau y frwydr boliticaidd hono Ymadawodd awdurdod Seneddol o rai teuluoedd am y tro cyntaf o fewn haner cant o flynyddau ac ychwaneg. Tro ar fyd oedd peth felly.

Yn ystod y dyddiau yr oedd y cynhwrf gwlad-lydan wedi ei ddirwasgu i redeg ar hyd llinellau culion gwefrol y telegraph, yr oedd yr effeithiau yn ymsaethol a'r picellau yn drywanol i lawer calon ffrom-falch. I eraill yr oedd y brysebau yn cael eu dysbedain fel sain yr arian glych. Trwy holl Gymru bron yr oedd y brysebion fflachiadol yn ymffurfio yn golofn o dân arweiniol i gyfeillion rhyddid, ac yn golofn o niwl a thywyllwch i'r ymlidwyr Torïaidd.

Credwyf fod y cynhwrf etholiadol hwn yn cyrhaedd i lawr yn isel i'r deyrnas anifeilaidd. Yr oedd yr ysgyfarnogod a'r cwningod yn sicr o fod yn anesmwyth am y canlyniadau. Yr oedd y tyrfau yn peri iddynt godi eu clustiau i fyny yn fwy nag arfer, a pheri iddynt ddyfal fyfyrio. Ac yn sicr, dylasent hwy fod yn cymeryd dyddordeb yn y materion terfysglyd hyn, canys y maent yn dwyn cysylltiad a'u hawliau. Y mae llwyddiant y Rhyddfrydwyr yn y man, yn sicr o gyfyngu ar eu terfynau.

Yr hyn y mae pobl Cymru yn sefyll yn arbenig mewn angen am dano ydyw cael eu dysgu i ddeall eu hawliau. Y mae fod cynifer o'n cenedl yn fotio i'r Torïaid, yn brawf diymwad nad ydynt yn deall beth y maent yn ei wneuthur, canys anmhosibl credu y rhoddent eu pleidleisiau iddynt o gwbl pe deallent eu bod yn milwrio yn erbyn eu buddiant eu hunain. Y mae gwahaniaeth dirfawr rhwng Cymry America a Chymry Cymru yn trafod politics. Mae ein cydgenedl yn America mor ddeheuig a neb pwy bynag yn nefnyddiad eu hetholfraint, tra y mae pobl Cymry yn mhell ar ol y Saeson yn y peth hwn. Pan gollodd y Cymry eu hannibyniaeth, collasant bob dyddordeb mewn gwladyddiaeth. Yr oedd hyn yn eithaf naturiol. Ac o hyny hyd yn gymharol ddiweddar, rhyw oddefol y maent wedi bod o dan law y Saeson. Pan oeddwn fachgenyn, Robert y gof a Shon Owen y teiliwr oedd yr unig ddau yn holl Garn Dolbenmaen oedd yn gwybod dim am bolitics. Y mae yn dra gwahanol yno yn awr, ond eto y mae lle i welliant, ac felly trwy holl Gymru. Eisiau dysgu y bobl sydd; a phan wneir hyny, bydd tro ar fyd yn Mhrydain Fawr. Pan y dysgir y bobl pa fodd, a thros bwy i bleidleisio, pan gynrychiolir y werin yn y Senedd, daw y bobl yn rhydd o'u cadwynau. Mae yn hen bryd i hyny gymeryd lle. Mae y mawrion wedi bod yn gorthrymu y tlawd a'r gwan am ddigon o oesau. Chwareu teg i'r bobl gyffredin a ddaw. Henffych i'r dydd. Nid oes neb yn fwy teilwng o barch na'r bobl weithgar, onest; hwynt-hwy, yn mhob gwlad, ddylent, ar bob cyfrif, gael y parch mwyaf. Hwynt-hwy yn Mhrydain ydynt nerth yr ymerodraeth. Pa reswm yw fod y wlad yn meddiant rhyw ychydig gyfoethogion? Pa reswm fod miliynau o arian y bobl yn myned i'r giwdawd sydd yn amgylchynu y Frenines a Thy yr Arglwyddi? Mae yn rhaid i'r anghyfiawnderau hyn ac eraill gael eu symud yn y dyfodol agos, neu ynte bydd yn fawr gynhwrf yn y wlad, ac y mae y newyddion diweddaraf o Gymru fel yn arwyddo fod y cynhwrf eisoes wedi dechreu.


PENOD IX.

Yn Risca a'r Cwm

Yr eglwys a gyferfydd yn "Moriah," Risca, yn wreiddiol ydoedd gangen o eglwys y Cefn, Bassaleg. Ymryddhaodd oddiwrth y fam eglwys ddydd Nadolig, 1835. Ar ddyddiau Sabboth a Llun, Rhagfyr 20 a 21, 1885, cynaliodd yr eglwys gyrddau haner can' mlwyddol, i ddathlu adeg ei sefydliad. Yn gyson ag arbenigrwydd yr achlysur, chwenychai yr eglwys a'i gweinidog addfwyn, gael cynifer o gyn-weinidogion yr eglwys i wasanaethu yn y cyrddau ag oedd ddichonadwy. I'r dyben hwnw gwahoddwyd y Parchn. Thomas Lewis, Risca; B. D. Johns (Peiriander), Pont-y-pridd, a'r ysgrifenydd. Lluddiwyd Mr. Johns i fod yn bresenol. Heblaw yr uchod, gwasanaethodd y Parchn. Evan Thomas, Casnewydd; T. Thomas, Bethany, Risca; W. H. Davies, Tirza, ac eraill o weinidogion y cylch. Pas- iodd y cyrddau gyda chymeradwyaeth. Pregethodd y brawd Evan Thomas yn neillduol dda. Tybiaswn na chlywswn ef erioed o'r blaen cystal. Hoffais ledneisrwydd ei natur ef wrth ei weled yn cymeryd llwybr amgylchog oddeutu y beddau yn y fonwent, yn hytrach na chamu arnynt a throstynt, fel y gwelid oddiwrth olion llwybrol, fod eraill yn gwneuthur.

Ychydig a welwn yn Moriah o'r personau oeddynt golofnau yr achos ugain mlynedd yn ol. Hunasai yn yr angeu, Edmund Edmunds, Ysw., Railway Inspector; Edward Jones, Ysw., Station Master, ei briod, a'r mab Mr. Alfred Jones; Mr. Henry Rosser, "y Daran," a'i briod; Mr. William Jones, Pen-y-pant; yr hen frodyr rhagorol, Thomas Bevis a Dafydd Shon Dafydd a'u gwragedd; Mr. David Benjamin (Dewi Bach); Mrs. Rees, Derwallt, a llawer eraill. Mae y brodyr Charles Harries, James Llewelyn, Edmund Llewelyn, a'r chwaer ragorol Mrs. Edmunds, ac ychydig eraill o'r rhai gynt, yn aros hyd yr awrhon. Dymunwn yma goffhau am letygarwch y brawd Edmund Edmunds a'i briod, i weinidogion y Gair. Eu ty hwy, fynychaf, oedd arosfan yr enwog Barch. D. Rhys Stephen, pan yn galw heibio. Galwodd y Parch. John Williams, awdwr yr Oraclau Bywiol, heibio iddynt unwaith; ac adroddent wrthyf am dano, ei fod mor wanaidd ei iechyd a nervous y pryd hwnw, fel y dymunodd am gael atal yr awrlais ag oedd gerllaw ei ystafell wely, rhag iddo ymyraeth a'i gwsg. Anfynych y ceid neb yn fwy hynaws wrth eu gweinidog hefyd, na hwynt-hwy. Mae Mrs. Edmunds yn weddw er's llawer blwyddyn, ac yn bresenol yn cartrefu gyda ei merch a'i mab yn nghyfraith, D. W. James, Ysw., gerllaw Abercarn. Mae dyddiau blin hen oedran wedi ei dal, a theimla yn dra methedig.

Mrs. Rees, Derwallt, oedd chwaer ragorol arall oedd yn aelod yn Moriah. Bu hi a'i theulu yn gynorthwy mawr i'r achos am feithion flynyddau.

Capel Moriah


Dranoeth wedi y cyrddau, treuliais beth amser yn brudd-hiraethlon yn mhlith y beddau yn mynwent Moriah. O'm cylch yno, ar bob llaw, gwelwn feddau personau oeddynt yn aelodau selog a gweithgar yn yr eglwys hon gynt.

Y mae tri o gyn-weinidogion yr eglwys wedi myned oddiwrth eu gwaith at eu gwobr, sef y Parchn. David Edwards, James Rowe, a William Jenkins.

Y gweinidog presenol ydyw y Parch. Evan Thomas, dyn ieuanc addawol iawn, yr hwn sydd yn profi ei hunan yn weithiwr difefl, ac y mae yr eglwys o dan ei ofal yn dra llewyrchus.

Poenus ydyw gweled y Saesoneg yn enill tir yma, fel yn gyffredin yn Mynwy; ond ni ddylid cwyno os ydyw hyny yn hanfodol i lwyddiant yr achos.

Cefais oedfa nosawl yn nghapel Cymreig Abercarn. Capel hardd, costfawr a newydd ydyw. Mae yr hen gapel wedi ei roddi yn rhad i'r Saeson. Rhyfedd mor garedig yw y Cymry i'r Saeson. Nid ydynt hwy byth yn rhoddi capel felly i ni am ddim. Ond meddal garedig ydym ni bob amser, ac ni allwn fod yn wahanol. Mae eglwys gref gan y Bedyddwyr Saesoneg gerllaw y Cross Keys, rhwng Risca ac Abercarn. Beth am yr hen Beulah? ebe rhywun. Wel, y mae yr hen Beulah yn fyw o hyd, ac yn iach—yn iach yn y ffydd hefyd. Mae y capel wedi myned o dan adgyweiriad mawr yn ddiweddar. Gadawyd y muriau i sefyll fel o'r blaen; ond am bob peth arall, wele, gwnaethpwyd pob peth o newydd—seti newydd, pwlpud newydd-platform yn hytrach. "Gwarchod pawb! (ebe chwi) platform yn Beulah?" Ie wir, oblegid bum ynddo, a phlatform ardderchog ydyw hefyd. Deallwyf fod yr hen fainc a arferai fod o dan draed y pregethwr yn yr hen bwlpud ar gael, yn nhy y gweinidog, yn cael ei chadw yn gysegredig i gofio am ei swydd bwysig. Heblaw y gwelliantau crybwylledig, y mae y parwydydd wedi eu plastro yn hardd; ac y mae ei ffrynt yn olygus dros ben, fel erbyn cymeryd yr oll i ystyriaeth, gellir dweyd ei fod i fyny a'r un capel yn y cylchoedd. Costiodd ei adgyweirio dros chwe' chant o bunau. Da iawn, hen eglwys barchus Beulah, hen gartref llawer o'r pererinion tua'r wlad fry. Mae y Parch. James G. Davies, y gweinidog presenol, wedi gwasanaethu yr eglwys er ys dros ugain mlynedd. Yr oeddym yn gyd-fyfyrwyr gynt yn Athrofa Hwlffordd, a mwynhad nid bychan i mi oedd cael cyfleusdra i dreulio ychydig ddyddiau yn ei gymdeithas, ac o dan ei gronglwyd ef a'i briod hawddgar, ac yn neillduol i gael pregethu yn yr hen Beulah, wedi ei adgyweirio mor ysblenydd. Mae fy nghyfaill hoffus, Mr. Davies, yn rhyfeddol o barchus gan bobl ei ofal, ac y mae yr eglwys mewn cyflwr teilwng o'r capel yn ei ffurf adgyweiriedig. Methodd Mr. Davies gan anhwyldeb iechyd ddod i'r oedfa, a'r peth cyntaf a ofynodd i'w wraig pan yn dod i'r ty oedd, "Pa fodd y pregethodd Giraldus?" Ebe hithau ar amrantiad, "Ni lefarodd dyn erioed fel y dyn hwn." Yn fedrus iawn fel yna canmolai y llefarwr, gan nodi ei destyn yr un pryd. Caffed y ddau, Mr. a Mrs. Davies, lawer o flynyddau i gyd-fyw eto. Ymadewais gyda theimladau tyner.

Yn eu hymyl mae y brawd da Mr. Evan Phillips. Gan iddo ef fod yn America flynyddau yn ol, yr oedd hyny yn ychwanegu at ddyddordeb ein cymdeithasiad.

Gwelsom yr hybarch John Lewis, Blaenau Gwent. Mae ef yn tynu at ei bedwar ugain a deg oed, ac yn parhau yn hynod o gryf a heinyf.

Y Parch. T. T. Evans yw y gweinidog presenol yn Blaenau Gwent. Brawd rhagorol ydyw, ac y mae yn llwyddianus a dedwydd. Mae y Saesoneg yn cynyddu yma. Y mae yr hen gapel wedi ei adgyweirio, a vestry gyfleus wedi ei chodi. Cefais oedfa gysurus yma, ac ymddyddanion dyddan a hen gyfeillion-llawer yn holi am ffryndiau a pherthynasau yn America, yr hyn, o ran hyny, oedd yn cael ei wneyd yn mhob man yr elwn.

Yma mae yr enwog Nefydd wedi ei gladdu. Bum wrth ei fedd. Teimlwn y llanerch yn gysegredig. Mae cofadail olygus ar ei fedd, yn agos i ffrynt y capel.

Gwelais yn Abertelery, Mr. Phillips, y Cyn-Seneddwr fu yn Nhalaeth Pennsylvania. Cartrefa yma yn awr. Cefais fy siomi yn yr ochr oreu yn y Blaenau. Mae y Blaenau yn uwch i fyny na Blaenau Gwent. Y Blaenau hwn yw hen faes Nefydd. Bum yn lletya noswaith yn nhy ei anwyl ferch, Mrs. Lewis, yr hon a'i theulu sydd yn byw yn y ty agosaf i'w hen gartref. Yma yr oeddwn pan ymadawai yr hen flwyddyn, a'r flwyddyn newydd yn dod i mewn, ac yr oeddwn gyda y teulu yn cyd-wylied y mynydau hyny. Llonwyd ni awr cyn hyny a phresenoldeb côr, yr hwn a dderbyniwyd i'r ty, ac a ganodd emynau a chaneuon cydweddol a'r adeg.

Mae y gweithfeydd yma yn myned yn llawer gwell nag yr arferent flynyddau yn ol, ac y mae yn peri fod llawer o Gymry wedi dychwelyd, a newydd-ddyfodiaid wedi dod, yr hyn sydd yn peri i raddau fod yr achos crefyddol wedi cyd-wella.

Mae y brawd Evans, y gweinidog, yn dderbyniol a pharchus yn hen faes Nefydd. Yn flaenorol iddo, y Parch. Aled Jones oedd y gweinidog. Y mae efe yn awr yn gyflogedig gan Fwrdd Ysgol y Cylch, fel Goruchwyliwr. Ystyrir ei ymneillduad ef o'r weinidogaeth sefydlog, yn golled nid bychan i'r enwad, gan ei fod yn ddyn o gyrhaeddiadau meddyliol cryfion, ac yn bregethwr da. Cawsom beth ymgom ag ef yn y ty hardd a gyfodwyd iddo gan y Bwrdd.

Enwn yn nesaf Nantyglo. Mae pethau wedi newid tipyn yma. Y gweinidog yw y Parch. Hugh Williams—dyn rhagorol. Efe yw golygydd yr Athraw, yr hwn a gyhoeddir yn Llangollen er ys llawer blwyddyn. Mae y gynulleidfa a sefyllfa yr achos yn well o lawer yma nag y rhagdybiwn. Clywswn lawer am y gweithfeydd yn sefyll, os nad wedi darfod. Wel, ceid y gweithfeydd glo yn ffynu cystal, os nad gwell, nag erioed. Cawsom oedfa gysurus.

Dyma ni yn awr yn Tabor, Bryn Mawr, yn pregethu. Mae y cynulleidfaoedd Cymreig yn fychain yn bresenol ar y Bryn Mawr. O ran hyny, meddir, nid yw y rhai Saesoneg i'w canmol. Nid yw y gweithfeydd yr hyn oeddynt, ac mae y Bryn wedi llwydo yn fasnachol. Y Parch. W. Morton yw gweinidog Tabor er's saith mlynedd, a gwna yn dda, yn ol amgylchiadau y lle. Mae dau o hen weinidogion eglwys Tabor yn awr yn America-y Parchn. Ebenezer Edwards, Plymouth, Pa., ac Allen J. Morton, Kingston, Pa.

Brodor o Bryn Mawr yw yr adnabyddus Benjamin Hughes, Ysw., Hyde Park, Scranton, Pa.

Nid yn fynych y ceir manau yn Nghymru yn cael eu henwogi trwy gymeriad a phwysigrwy‹ld brodorion i'r fath raddau ag y mae Bryn Mawr wedi ei enwogi a'i wneyd yn fawr trwy fod yn fagwrfan boneddwr mor ragorol a gwasanaethgar i ardal ac eglwys, ag ydyw Mr. Hughes.

PENOD X.

Sain Newydd i'r Saesoneg.

Un o'r neillduolion a dynodd fy sylw pan ddaethum gyntaf i America, oedd sain-lafar y bobl. Clywn hwy yn siarad Saesoneg gyda sain wahanol i Saeson Lloegr. Deallwn erbyn hyn fodiaith, a'i sain, yn ddau beth gwahanol, ac y gallasai iaith fod yn unffurf, a'i sain fod yn gwahaniaethu mewn gwahanol wledydd, ac yn mhlith gwahanol genedloedd.

Cyn hir ar ol bod yn Nghymru ddiweddaf, tybiaswn y disgynai ar fy nglust sain newydd i'r Saesoneg gwahanol i ddim y sylwaswn arno o'r blaen. Yn y man, deallwn mai yn mhlith dosbarthiadau diwylliedig yr oedd yn amlycaf, a gwnaeth adnabyddiaeth helaethach gadarnhau fy syniad.

Yn y sylwadau canlynol, ceisiaf roddi darnodiad byr o'r sain newydd hon, a pheth o'i hanes a'i chyfodiad. Os defnyddiaf y termau ynganiad, tonyddiaeth, sain lafar, seiniadaeth, parabl-sain, byddaf yn tybio yr un peth a phan yn dweyd sain.

Mae yr ynganiad hwn yn dra gwahanol, cofier, i'r lediaith Gymreig gyffredin yr arswydir cymaint rhagddo, ac a warthruddir mor aml. Nid yw hwn yn aflafar fel hwnw. Nid yw hwn yn grâs fragawthus fel hwnw. Nid yw hwn yn peri hunan-ofn fel hwnw. Mae yr ynganiad hwn o uwch gradd a llinach; mae iddo organau perffeithiach; mae iddo sain-lafar ceinbêr. Mae sain hwn yn gymeradwy gan y galon yn ogystal a'r glust. Mae yn bêrorol. Mae yn rhoi sain bereiddfwyn i'r iaith. Mae yn cydgordio seiniau cyneddfau goreu y natur ddynol Gymreig. Mae yn hunan-gymeradwyol. Mewn ymddyddan difyrgar mae yn orthrechol swyngar.

Gwahaniaetha oddiwrth ynganiad sarug rüol y Sais. Nid yw mor orchymynol a'r eiddo ef. Nid yw yn rhwygo yr awyr fel yr eiddo ef. Nid yw mor gleciadol a'r eiddo ef. Nid yw mor glogyrnaidd frochus. Yn hytrach, mae yn dyner leisiol; medda swn caredigrwydd a chydymdeimlad.

Gwahaniaetha yr ynganiad Cymreig hwn o'r Saesoneg hefyd oddiwrth ynganiad yr Americanwr. Y mae mor aceniadol gynganeddol a'r eiddo yntau. Gwahaniaetha yn benaf mewn goslefiad. Mae yn debyg i eiddo yr Americanwr mewn rhai ystyron, ac yn annhebyg mewn ystyron eraill. Mewn rhai nodweddau y mae cystal, ac mewn rhai nodweddau y mae yn rhagori. Nid yw mor sych-lefol; nid yw mor fyr-sydyn doriadol a'r eiddo ef. Nid yw mor sain ffroenol. Mae y seiniadaeth Gymreig hon o'r iaith fain yn meddu cryn lawer o ragoriaethau ynganiadau y Sais â'r Americanwr, ac ychydig o'u beiau.

Nis gwn a fedd Scotiaid a Gwyddelod diwylliedig sain-leisiau neillduol iddynt eu hunain, gwahanedig oddiwrth lediaith gyffredin anghymeradwyol. Os na feddant yn bresenol ynganiadau o'r fath, mae yn eithaf posibl y gall dosbeirth o'r Scotiaid a'r Gwyddelod ffurfio ynganiad felly yn y dyfodol agos-ynganiad diwylliedig, canmoladwy a safonawl.

Yn gymharol ddiweddar y mae yr ynganiad safonawl Cymraeg o'r Saesoneg yn adnabyddus ac amlwg yn Nghymru. Idd ei feddu, rhaid oedd i'r bobl gyrhaedd gradd arbenig o ddiwylliant. Rhaid oedd i'r diwylliant hwnw gynwys ynddo ddiwylliaeth cyneddfau lledneisiaf y natur Gymreig. Rhaid oedd i'r natur Gymreig, yn ogystal a'r synwyrau Cymreig fyned trwy gwrs ymddadblygiant. Rhaid oedd myned trwy ddiwylliant eang ac amrywiaethol. Diwylliant eang amrywiaethol felly yn unig sydd yn rhyddhau yr anhyddysg oddiwrth barabl afrwydd lediaithol. Diwylliant felly. sydd yn codi dosbarthiadau o bobl i uch-safle o sefydlogrwydd trefn a gweddeidd-dra, moes ac ymddygiad. Diwylliant felly sydd yn amod ynganiad seinbêr i'r iaith a lefarwn-bydded yr iaith hono y fwyn famiaith, neu ynte bydded iaith gymysg-rywiol estron genedl.

Adnebydd y glust bêreidd-der y sain Gymreig o'r Saesoneg gyntaf efallai yn ymddyddanion y boneddigesau. Ac ni fyddai ryfedd pe ceid allan yn y man mai yn eu plith hwy y dechreuodd yr adran fendigaid hon o ddiwylliant. Yn bresenol nid oes dim yn eglurach na'u bod hwy yn meddu rhan flaenllaw yn ei dadblygiad. Modd bynag, y mae y sain-lafar hon yn soniarus o enau y boneddwr neu y foneddiges, ac yn neillduol seinbêr mewn ymddyddan cymdeithasol, pan y byddo y ddwy ystlen yn cymeryd rhan yn yr ymddyddan.

Buasai garddwr yn darlunio y sain newydd, efallai, fel blodeuyn prydferth yn ymddadblygu i'r haulwen, mewn gardd aml swynion. Ysgatfydd buasai pêrorydd yn ei darlunio fel nodyn newydd yn nghân ymdeithiol yr hil ddynol ar hyd banau gwareiddiad y bedwerydd ganrif ar bymtheg. Mewn trefn i egluro fy hun yn mhellach ar y mater hwn, rhoddaf ychydig o hanes dadblygiant y sain newydd hon i'r Saesoneg. Wrth gwrs, mae hanfod y sain newydd yn gorphwys ar, ac yn tarddu oddiwrth y natur ddynol Gymreig, a'r iaith Gymreig. Y ddwy elfen neillduol hyny ydynt ddefnydd ei chymeriad. Hwynthwy sydd yn ffurfio prif lais ei phêroriaeth. Ond y mae ei dadblygiant i'w ffurf bresenol i'w briodoli i amryw foddion diwylliant cyfaddas.

Credwn fod a fyno cerddoriaeth a'r sain newydd hon. Mae Cymru wedi gwneyd cynydd dirfawr mewn cerddoriaeth yn ngorph y deng mlynedd ar hugain diweddaf. Fel prawf o hyn cyfeiriwn at gystadleuaeth fuddugoliaethus y palas grisial. Mae y genedl wedi hir dyfu yn y cyfeiriad hwn, nes erbyn hyn y mae pob ardal yn meddu corau dysgybledig. Odid nad yw pawb yn gerddorion. Gellir cyffelybu Cymru i orchestra a'i horielau aml-fryniog yn frith gan gantorion pêrseiniol. Mae y dylanwad i'w ganfod ar barabl dyddiol y bobl. Mwyneiddia y llais, croewa yr aceniad, prydfertha yr ymadroddion, cydgordia lais y deall a llais y teimlad. Treiddia y sel gerddorol i barthau mwyaf Seisonigaidd y Dywysogaeth. Yn Eisteddfodau y manau hyny ni cheir nemawr heblaw cystadleuaeth gerddorol. Felly, rhaid fod effeithiau llais diwylliol y gelfyddyd bêrorol yn treiddio banau uchelaf cymdeithas yn Ngwlad y Bryniau.

Yn y cysylltiad hwn gallwn nodi fod ymarferiadau llenyddol, rhyddieithol a barddonol yr Eisteddfodau yn dylanwadu yn yr un cyfeiriad. Teilynga yr Eisteddfod air da. Y mae yn ei gwahanol adranau yn foddion diwylliaeth meddyliol a lleisiol. Gall y llenorion, y beirdd, a'r cerddorion yn Nghymru, dystio yn gyffredinol a dweyd, "Yr Eisteddfod yw ein mam ni oll."

Ond uwchlaw, ac o dan sylfaen y cyfan o'r moddion diwylliol, mae gwasanaeth y cysegr. Yr eglwys Gristionogol sydd yn, ac wedi rhoddi tôn i'r genedl. Ymwna yr efengyl a'r galon, ac ymwna y galon a'r llais, canys o helaethrwydd y galon y llefara y genau. Mae awelon o Galfaria Fryn heibio i'r pwlpud Cymreig, yn taro yn bêrseiniol ar y glust Gymreig. Pêreiddia y genadwri lais y pregethwr, pêreiddia lais y pregethwr lais y bobl.

Mae yr ysgolion dyddiol ac ysgolion uwchraddol i'w cymeryd i ystyriaeth, ac yn gyfryw ag y dylid edrych arnynt yn cydweithredu i godi y genedl i safle uwchraddol. Mae yr effeithiau daionus yn amlwg eisoes, a rhan o'r dylanwad hwnw ydyw y sain newydd o'r Saesoneg, a geir yn bresenol yn Nghymru.

Ni all sain-lafar y Sais lwyddo i'w thraws-newid. Gall yr iaith barhau i ymledaenu, ond niddichon i sainlafar Lloegr orchfygu sain-lafar Cymru. Yn wir, mae yr unigolion o Saeson Lloegr a geir yn Nghymru, ac a gymysgant a'r bobl, fel rheol, yn colli eu hynganiad gwreiddiol, ac yn mabwysiadu y sain Gymreig.

I mi, mae y sain newydd yn dra swyn-bêreiddiol; parha i adseinio yn fy nglustiau yn barhaus, er cymaint y pellder. Ni allaf ychwaith lai na chysylltu yr adsain a phersonau hyglodus yr ochr draw i'r dwfr, a fuont yn cynyrchu yr ad sain trwy eu hymddyddanion. Ydyw, mae yr adsain yn parhau i gadw ei hunaniaeth pêrseiniol, er gwaethaf seiniau gwrthnawsiol lluosog tafodieithoedd estronol amgylchynol.

PENOD XI.

Wrth Feddau Enwogion.

Wrth ychydig feddau enwogion y genedl y caniataodd amser a chyfleustra i mi fod. Pe cawsai fy nymuniad ei ffordd, buaswn yn ddiau wedi bod wrth feddau nifer lluosog. Pe yn gyfleus, buaswn wedi bod wrth feddau amryw yr arferwn eu hadnabod pan yn fyw, ac: eraill yr adnabyddwn hwynt yn unig trwy eu gweithiau awdurol, neu trwy eu henwogrwydd a'u henw da.

Bum wrfh fedd yr enwog Christmas Evans, yn mynwent Bethesda, Abertawe. Nid hwn oedd y tro cyntaf i mi sangu y llanerch gysegredig hono, eto yr oedd y teimlad yn hollol newydd. Yr oedd fy nghamrau yr un mor ofalus wrth agoshau at y bedd, ag oeddynt y tro cyntaf, os nad yn fwy felly, yn gymaint a fy mod yn awr yn gwybod yn gywir y llanerch lle yr ydoedd. Parodd neillduolrwydd y fan neillduolrwydd teimlad a myfyrdod. Adgofiwn yma adroddiadau hen seintiau a wrandawsai ar Christmas yn efengylu anchwiliadwy olud Crist. Adgofiwn eu dywediadau a thôn edmygawl eu lleferydd, yn nghyd a delweddiad eu gwynebau wrth fynegu i mi am y seraph tanllyd hwnw. Adgofiwn fy edmygedd o Christmas Evans fel yr ymddangosai i mi yn eu dywediadau a'u hadroddiadau hwy am dano. Yn neillduol adgofiwn ymddyddan hen chwaer dduwiol, sef Mrs. Mary Evans, gweddw y Parch. Evan Evans, y Garn, yn fuan wedi claddedigaeth corph y Parch. Thomas Rhys Davies yn medd Christmas Evans. Yr oedd y chwaer yn eiddigeddus fod y fath beth wedi dygwydd. Nid ystyriai y dylasai neb pwy bynag gael ei gladdu yn yr un bedd a dyn mor fawr, mor seraphaidd a sanctaidd ag oedd efe. Ystyriai y chwaer fod gorwedd yn yr un bedd a Christmas yn fwy o anrhydedd nag oedd y ffraeth bregethwr hwnw, er mor ragorol, yn ei haeddu. Ystyriai yn benodol y dylasid cadw bedd Christmas yn gysegredig iddo ef ei hun. Credwyf yn mhurdeb chwaeth a chywirdeb barn y chwaer hono ar y mater hwn. Bum yn siarad a rhai am hyn ar ol ei chlywed hi yn datgan ei hangymeradwyaeth. Rhai gweinidogion a phersonau o safle yn yr enwad, a ddygent dystiolaethau o'r un natur.

Yr oedd y ddau, Christmas Evans a Thomas Rhys Davies, yn gyfeillion agos yn eu dydd. A phan y trefnodd rhagluniaeth i'r olaf orphen ei yrfa yn yr un man, ac yn yr un ystafell a'r cyntaf, amlygodd ddymuniad i'r cyfeillion oedd yn ei amgylchynu yn ei oriau olaf, am gael ei gladdu yn yr un bedd a Christmas Evans.

Dirgel gredaf na fuasai Christmas Evans yn foddlawn i'r dymuniad, pe yn rhagwybodus o hono yn ei ddydd. Christmas Evans fu farw Gorphenaf 19, 1838. Rhai o'i eiriau olaf oeddynt, "Yr wyf ar ymadael, yr wyf wedi llafurio yn y cysegr er's tair ar ddeg a deugain o flynyddoedd, a dyma yw fy nghysur a'm hyder yn y bwlch hwn, nad wyf wedi llafurio yno heb waed yn y cawg. Pregethwch Grist i'r bobl, frodyr anwyl."

"Tra yn y byd cai anrhydedd,
A cha barch yn llwch y bedd."

Nid yw y bedd yn bresenol yn ei gwedd arferol. Yn ddiweddar y mae eglwys barchus Bethesda wedi bod yn ail adeiladu y capel. Wrth wneyd hyny, gwelwyd yn angenrheidiol symud y gareg fedd, yr hon bwysai ar fur y capel, os nad yn osodedig yn y mur. Mae y beddfaen yn bresenol yn gorwedd ar y bedd. wedd hon yn ddiau, i aros cyflead gwell iddi. modd peidio prophwydo am adeg heb fod yn mhell, pan y bydd cof-golofn anrhydeddus o farmor hardd yn cael ei chyfodi i'r enwog bregethwr. Gresyn na fyddai hyny yn cael ei wneyd tra fyddo llawer a drydanwyd gan ei athrylith anorchfygol, yn fyw, fel y gallent hwy gael y fraint o gyfranu at gofadail un a edmygent, ac a garent mor fawr.

Bum wrth fedd yr hybarch Henry Rees. Mae ei fedd ef yn mynwent hen eglwys Llandysilio, ger Porthaethwy, ar fin afon Menai. Ar adegau, bydd dyfroedd yr afon yn amgylchynu yr ynys fechan ar ba un y mae yr eglwys a'r fonwent. Mae y fan neillduedig yn cyd-daro a safle unigol ac uwchraddol yr hybarch bregethwr yn ei ddydd. Pan y bu farw John Elias, nid oedd neb yn fwy cyfaddas na Mr. Rees, yn Ngogledd Cymru, i gymeryd ei le fel blaenor yn yr enwad. Ac iddo ef y rhoddwyd lle y gwron o Fon, i flaenori yn ngweithrediadau cyffredinol a chyhoeddus y Corph. Bu farw Chwefror 18, 1869. Bernid nad oedd dim llai na thair mil o bobl yn ei gladdedigaeth; chwe' chant o ba rai a ddaethant yr holl ffordd o Lerpwl.

Gan fy mod yn meddu parch diffuant i'w enw da, ac edmygedd mawr o'i ddoniau dysglaer, aethum i weled ei fedd. Yr oedd hyn yn Mawrth, 1886. Ar y pryd yr oedd caenen drwchus o eira gwlyb dros y ddaear, ac nid heb gryn ymdrech y gellais gyrhaedd y fan. Mae y bedd ar uchelfan, y man mwyaf dewisol yn y fonwent. Mae cofadail hardd a chostfawr ar y bedd. Rhyfedd mor barchus-henafol yr edrych yr hen eglwys. Yn sicr, mae yn wrthddrych tra gwrthgyferbyniol fel gwaith celfyddyd, i adeiladwaith ardderchog y ddwy bont gyfagos-pont Menai a'r Tubular Bridge-un uwchlaw a'r llall islaw iddi.

Daliodd parch i'r marw fi gryn amser ger y bedd enwog. Un cyfleusdra a gefais erioed i wrando ar y Parch. Henry Rees yn pregethu; bu hyny yn Lerpwl, yn 1858. Yr oeddwn y pryd hwnw yn y ddinas hono, ar fy ffordd i'r Athrofa yn Hwlffordd, ac yn aros am ddyddiau i gael cwmpeini myfyriwr. Dygwyddodd fod yr Annibynwyr yn cynal eu Cymanfa ar yr adeg. Boreu Sabboth aethum i gapel y Parch. John Thomas. Er fy syndod, a'm boddhad, pwy oedd y pregethwyr ar y tro, ond y diweddar Barch. Thomas Jones, Treforris y pryd hwnw, a'r hybarch Henry Rees. Cafwyd oedfa neillduol. Yr oedd Mr. Jones ar ei uchelfanau, a'r Parch. Henry Rees yn ei ddilyn gydag hyawdledd mawr. Cofiaf ranau o'r pregethau hyd yr awrhon.

Pan oeddwn wrth fedd Mr. Rees, yr oedd yr oedfa hono, a'r pregethau hyny, yn dyfod yn neillduol fyw i'm cof. Mae ei goffadwriaeth yn fendigedig. Bydd ei ddylanwad bendithfawr yn aros yn hir ar genedl y Cymry.

Fel yr awgrymais wrth son am fy ymweliad a Blaenau Gwent, bum wrth fedd Nefydd. Saif ei gofadail ar fin uchaf y fonwent, ger y capel. Da y gweddai iddo ef orphwysfan mewn lle uwchafol a blaenorol. Yr oedd efe yn rhestru yn mhlith y goreuon yn ei fywyd. Cydnabyddai ei enwad a'r wladwriaeth ef yn bwysig. Ac ni allai efe beidio bod yn fawr; yr oedd elfenau mawredd yn ei wneuthuriad a'i dueddiadau cynwynol. Pell iawn fyddai efe bob amser o fod yn chwythu ei glod ei hun, pa mor fanteisiol y cyfleustra. Pan y bu farw Nefydd, collodd Cymru un o'i hynafieithwyr blaenaf. Pan y bu farw Nefydd, collodd yr ysgolion dyddiol y ffrynd goreu oedd iddynt yn Neheudir Cymru. Pan yr hunodd efe, collodd y Blaenau ei dyn a'i phregethwr blaenaf. Pan yr hunodd efe, collodd yr enwad un o'i gweinidogion enwocaf, ac un o'i chyngorwyr mwyaf ffyddlawn a chywir. Wrth fedd Nefydd, meddianid fi gan deimladau coffadwriaethol neillduol. Efe oedd un o'r gweinidogion a wasanaethent yn nghwrdd fy ordeiniad yn Risca, yn 1861. Yr oedd ein cyfeillgarwch wedi dechreu pan oeddwn yn yr Athrofa, ac efe a brofodd ei hun yn ffyddlawn i mi fel cyfaill hyd y diwedd.

Wele restr o eraill yr ymwelais a'u beddau : Parchn. Mr. Thomas, Trehael, Sir Benfro; David Price, Blaeny-ffos; John Williams, Aberduar; Rufus; William Morgan, Caergybi; John Williams, Garn (diweddar o Golwyn); James Rowe, Abergwaen. Cawn wneyd sylwadau am yr ymadawedigion uchod wrth adrodd hanes ymweliadau a'r ardaloedd lle y claddwyd hwynt.

PENOD XII.

Yn Sir Fon

Er nad yw ardal fy ngenedigaeth yn mhell oddiwrth derfynau Sir Fon, eto aethai dros haner cant o flynyddau heibio cyn i mi gael y fraint o sangu ei chynteddau. O'r diwedd daethai y cyfleustra. Dygwyddodd hyny yn Mawrth, 1886. Yr oedd galwad arnaf, tra yno, i fod yn brysur, canys dwy wythnos yn unig oedd yn y trefniant i mi aros yn yr ynys.

Rhaid i mi addef nad oeddwn yn deall arwyddion y tywydd a'r amserau yn rhy dda ar yr adeg hono o'r flwyddyn. Pe gwybiaswn fod y fath dywydd tymestlog ar fin ymdywallt ar y wlad y pryd hwnw, diau mai anhawdd fuasai cael genyf gychwyn i'm taith o Gaernarfon. O ran hyny, prin yr oedd neb o brophwydi y tywydd yn gallu rhagweled y storom fawr oedd yn nesu. Nid oes dim yn America y byddaf yn arfer cwyno mwy o'i herwydd na'r tywydd oer a'r eira mawr. Ac yn awr ofnwn braidd fy mod yn cael tipyn o gerydd gan ragluniaeth am hyny, trwy gael fy arwain i fod ar daith yn Mon yn ystod y dymestl anarferol o wynt ac eira a ysgubodd dros holl Ogledd Cymru y pryd hwnw. Prin y bum allan ar dywydd mwy tymestlog yn America nag oedd hwnw. Yn wir, daethai mis Mawrth y tro hwn i mewn fel llew, ac nid oedd yn rhy debyg i oen yn myned allan. Cwynai y bobl yn anghyffredin oblegid erchylldra a gerwindeb y tywydd. Tystiai hen bobl nad oeddynt yn cofio y fath dywydd tymestlog er's llawer o flynyddoedd, os erioed. Boreu y dydd Llun y torodd yr ystorm ar y wlad, daeth agerlong fawr i'r lan gerllaw Caergybi. Colli ei chwrs a wnaethai oblegid tywyllni y dymestl. Y "Missouri" ydoedd, llestr perthynol i'r Warren Line, Lerpwl. Llong fawr iawn, yn cario yn agos i 6,000 o dunelli. Y trydydd diwrnod ar ol ei dyfodiad i'r lan, aethum, yn nghwmni Mri. Owen Owens ac Uriah Williams, Pontripont, i'w gweled. Cawsom gryn drafferth i fyned i safle da i gael golwg arni. Gorweddai yn ymyl y lan, ar ei hochr. Yr oedd nifer o fân fadau o'i chwmpas, yn cael eu defnyddio gan rai ugeiniau o ddynion, i'w dadlwytho. Yr oedd cryn lawer o'i llwyth eisoes ar y glanau. Gwelais niferoedd o gyrph yr anifeiliaid a gludasai yn nofio gerllaw, eraill o honynt yma a thraw ar y traeth. Cotwm oedd llawer o'r llwyth, blawd, gwenith, afalau, cig moch, a phethau gwerthfawr eraill at wasanaeth dyn. Y fath golled aruthrol. Gresyn oedd gweled llong mor ardderchog yn y fath gyflwr! Wrth ddyfod oddiwrthi, yn nghyfeiriad Caergybi, gwelais ugeiniau o anifeiliaid a gludasai, a achubwyd rhag boddi, mewn maes gerllaw, yn edrych yn eithaf hamddenol, yn cnoi eu cil, a rhai mewn teimladau, chwareus, a'r oll yn ymddangos fel pe na fuasai dim o bwys wedi dygwydd iddynt. Ofnid fod y llong fawr yn wreck perffaith, ac nad oedd modd byth ei chael oddiyno ond yn ddarnau. Daethai i'r lan, mewn cilfach yn ngenau yr hafan yn yr hon yr arferai y mail ddyfod i mewn o'r Iwerddon ar dywydd mawr, pan yn analluog i fyned i borthladd Caergybi.

Telais ymweliad a'r eglwys Fedyddiedig yn Nghaergybi, a chefais oedfa gysurus-cynulleidfa fawr, ac yn gwrando yn weddus. Mae yr eglwys hon y fwyaf o lawer sydd gan yr enwad yn Mon. Rhifa tua 400 o aelodau. Bu yr hybarch William Morgan, D. D., yn weinidog yma 48 o flynyddoedd, a thrwy ei offerynoliaeth ef yn benaf y daeth yr achos yno i'w safle uchel bresenol. Y mae olion amlwg o'i lafur a'i ddylanwad i'w gweled ar yr eglwys a'r gynulleidfa.

Tranoeth, aethum i fonwent y capel i weled ei fedd ef, a hefyd bedd yr enwog P. A. Mon, tad y llenor adnabyddus Ap P. A. Mon. Bu farw Dr. Morgan Medi 15, 1872, yn 71 mlwydd oed. Bu farw P. A. Mon Chwef. 19, 1842, yn 52 mlwydd oed. Ar gareg ei fedd y mae yr englynion canlynol, o eiddo Cynddelw:

Yma gorwedd y mae gwron—un oedd
Yn addurn i'r Brython;
Rhyw gawr yn mhob rhagorion
Y bu y mawr B. A. Mon.

Ei orddawn oedd yn urddas-i'n cenedl,
Ein ceiniaith a'n barddas;
Hydreiddiol awdwr addas,
Llyw ei fawr gred oedd llyfr gras.

Gweinidog presenol yr eglwys hon yw y Parch. R. Thomas, brawd y Parch. Isaac Thomas, Caersalem Newydd. Y mae wedi gweinidogaethu yma er's dros bymtheng mlynedd, ac y mae efe wedi derbyn i gymundeb yr eglwys y nifer a ganlyn yn ystod ei weinidogaeth : Trwy fedydd, 253; trwy lythyrau, 210; trwy adferiad, 72; cyfanswm, 535. Gresyn na fuasai cofiant teilwng wedi ei ysgrifenu i'r hen wenidog. Deallwn fod y diffyg hwn wedi dygwydd trwy amryfusedd a chamddealltwriaeth personau yr oedd y defnyddiau ganddynt.

Gwelais y fan y collodd Iolo Mon ei fywyd. Druan o Iolo-mae y muriau a syrthiasant arno wedi eu hailgodi, ond y mae yr adfeilion y claddwyd ef ynddynt heb eu hadferyd eto.

Cefais hefyd frys-olwg ar dref Caergybi—y breakwater a gorsaf-borthladd y "London and North-Western Railway." Y mae y breakwater yn werth ei weled, yn ddiau. Yn sicr y mae John Bull yn gryn ddyn! Mae yn gallu gwneyd gorchestion iawn. Nid oes modd cerdded ar hyd y mor-fur hwn heb deimlo hyny. Dyna gadarn yw y morglawdd hwn, a dyna arian lawer a gostiodd. Pa ryfedd fod Shon Bwl y fath allu yn y byd yma! Yn nghysgod y mur hwn yr oedd un o brif longau rhyfel Prydain, yr "Hotspur," yr hon a gymerai ran yn nhânbeleniad Alexandria. Oddiamgylch iddi yr oedd amryw longau yn ymgysgodi. Edrychai yr "Hotspur" yn ddiniwed ei gwala, ond gwylied pawb rhag ei gwrthwynebu ddim. Yr oedd y llong arswydfawr hon yn y porthladd hwn er's misoedd, meddir, a'r amcan oedd gwylied y Gwyddelod! Druain o'r Gwyddelod! Mae amser gwell, er hyny, ar wawrio arnynt yn awr, yn ol pob tebygolrwydd. Y mae nifer lluosog o bobl oreu Prydain ac America yn cydymdeimlo yn fawr a hwynt.

Pan oeddwn yn Pontripont, lle tua phedair milldir o Gaergybi, galwyd fy sylw at y nifer lluosog o hen bobl sydd yn y plwyf. Yr hyn a barodd hyn i ddechreu oedd, fod dau neu dri yn y fan a'r lle o hen bobl yn cael siarad am danynt ar y pryd. Cymellwyd fi gan chwilfrydedd i wybod am nifer yr hen bobl yn yr holl blwyf, sef plwyf Rhosgolyn. Nifer poblogaeth yr holl blwyf yw 350. Yr oedd y nifer a ganlyn o hen bobl yno yn mis Ionawr 1886:

Mrs. Margaret Williams 86
Mrs. Margaret Owen 86
Mrs. Ann Chambers. 86
Mrs. Sarah Griffiths. 91
Mr. Owen Roberts. 93
Mr. Richard Evans. 92
Mr. Richard Jones. 86
Miss Margaret Williams 80
Mr. Richard Williams (F'ewyrth Dic). 80
Mrs. Margaret Williams. 78
Mr. John Williams (John Rasol). 81
Mrs. Mary Jones. 80
Mr. Ellis Jones 78
Mr. William Williams. 80
Mr. Richard Williams 78
Mrs. Ann Jones. 76

Ni wnaethum ddewisiad arbenig o'r plwyf hwn. Er dim a ddeallais, gall nifer yr hen bobl mewn plwyfi eraill fod yn llawn mor lluosog.

Clywais ddweyd lawer gwaith fod pobl Mon mor garedig i bregethwr a phobl Sir Benfro. Hyd ag y gwelais i, ni chefais le i amheu y dywediad. Bum yn Amlwch, hen faes yr enwog a'r hybarch ddiweddar Hugh Williams. Haeddbarchus ydoedd efe yn ei ddydd, a'i enw sydd beraroglus yn y lle ac yn y Sir. Nid oedd neb yn fwy teilwng o'i swydd nag efe yn Mon. Mae yr eglwys yn Amlwch yn parhau yn llewyrchus a lluosog. Cymhara yn dda ag unrhyw eglwys yn y lle o ran rhif a dylanwad. Y gweinidog presenol yw y Parch E. Evans, yr hwn sydd yn llenwi ei le yn dderbyniol iawn. Symudasai yma o Dreffynon tua thair mlynedd yn flaenorol. Y mae llawer o ddelw gyfrifol-barchus yr hen weinidog gynt ar yr eglwys hon yn barhaus.

Pan oedd Hugh Williams wedi sefydlu yn Amlwch, a Christmas Evans yn llafurio yn Mon, adroddir ddarfod i gryn derfysg gyfodi yn yr eglwysi oblegid Ffwleriaeth a Chalfiniaeth. Yr oedd Christmas wedi ei wreiddio erbyn hyn mewn Calfiniaeth-Hugh Williams yn Ffwleriad proffesedig. Yr oedd gan y naill a'r llall eu dilynwyr. O'r diwedd daeth yn bur derfysglyd trwy y gwersylloedd. Yr oedd pethau yn gwisgo agwedd fygythiol. Galwyd gweinidogion o Swydd Dinbych, ac yn eu plith y Parch. Ellis Evans, Cefnmawr, i geisio cymodi y ddwy blaid. Cyfarfyddwyd yn Bodedeyrn, a llwyddwyd i ffurfio rhyw fath o gymod, canys dywedai Christmas Evans, wrth Ellis Evans, yr hwn o herwydd ei ochelgarwch, ni ddaethai yno nes oedd pob peth drosodd-" Wel Ellis, yr ydym ni wedi claddu y diawl." "Da iawn," ebe Ellis Evans, "ond gobeithio na ddarfu i chwi mo'i gladdu o yn fyw." "Hawyr bach, oes arnat ti chwant ei godi o fyny i gael gweled?""

Gerllaw Amlwch y mae Pensarn, ac aethum yno cyn dychwelyd o'r ardal. Ni welais wrandawyr mwy hwyliog yn un man yn Mon nag yno. Rhaid fod sefyllfa yr achos yn llewyrchus yno gynt, pan oedd gweithiau mynydd Paris yn myned yn dda. Y mae fod y cyfryw wedi mwy na haner sefyll wedi peri i laweroedd o bobl weithgar y parthau hyny symud ymaith i leoedd eraill. Dylanwadodd hyny yn anffafriol, yn ddiameu ar yr achosion crefyddol, ac y mae Pensarn wedi dyoddef yn fawr oblegid hyny.

Y rhan galetaf o'r daith yn Mon oedd myned un hwyr o orsaf y Valley i Lanfachreth. Dygwyddodd hyn ar adeg yr eira mwyaf. Yr oedd y lluwchfeydd mor uchel mewn rhai manau fel yr oedd yr heolydd wedi cau i fyny yn hollol. Nid oedd olion teithio o unrhyw fath i weled odid yn un man. Yr oedd yn hwyrhau yn brysur, a minan i fod yn pregethu yn Llanfachreth y noson hono. Yr oedd yn annymunol oddiallan, ond yn fwy felly oddimewn. Ymderfysgai fy meddwl ynwyf. Nid oedd dim i'w wneyd ond ymdrechu tynu yn mlaen. Yr oedd yr eira yn myned yn ddyfnach, ddyfnach, fel y neswn at y Llan. Mynych yr oeddwn yn gorfod tori allan o'r heol a throsodd i'r meusydd. Mynyddoedd o eira yn fy nghyfarfod yno drachefn, a cheisiwn ddychwelyd i'r heol. Yn y man, modd bynag, trwy hir ymdrechu cyrhaeddais y pentref yn ddiogel. Derbyniwyd fi yn garedig, a chafwyd oedfa fach burion. Nid anghofiaf y tro tra bwyf byw. Gallaf dystio fod ymgeledd, sirioldeb a charedigrwydd y brodyr yn Llanfachreth yn felus a gwerthfawr ryfeddol i mi y noson hono. Yr oeddynt hwy yn gwenu, a minau yn gwenu wrth i mi adrodd iddynt helyntion y daith yno. Gallwn feddwl fod yn anmhosibl i wr dyeithr gyfarfod a brawd caredicach a siriolach na Mr. Edwards, y gweinidog.

Brodor o Llanfachreth ydyw y Parch. O. Waldo James. Dyddorol i mi oedd sylwi ar y ty lle y cychwynodd efe ei yrfa ddaearol.

O'r gymydogaeth hono y daeth rhieni y Parch. H. O. Rowlands, M. A., i America.

Tranoeth, yr oedd genyf i fyned i Soar, Llanfaethlu. Os oedd yr heolydd yn gauedig gan eira o'r blaen, yr oeddynt ar y ffordd hon yn llawer mwy felly. Ni allaf ddesgrifio mor annheithiadwy y ffordd. Cefais dipyn o ddefnydd sirioldeb, modd bynag, wedi cyrhaedd cymydogaeth Soar, wrth gyrchu at dy y gweinidog, yn nghymdeithas dau neu dri o frodyr oedd yn cyd-deithio, yn ngwaith un o honynt, wrth fethu cael daear galed, yn "enill ei bedolau" yn yr eira.

Y mae eglwys Soar ac eglwys Rhydwyn yn perthyn i'r un esgobaeth. Mr. Roberts, y gweinidog, sydd ddyn ieuanc parchus.

Nid oedd rhestr fy nghyhoeddiadau yn cynwys Rhydwyn. Da iawn hyny, yn gymaint a bod yr hin mor anffafriol, a'r heolydd mor anhygyrch. Pe yn gyfleus, buasai yn dda genyf allu galw yn Rhydwyn.

Brodor o Rhydwyn, Llanrhyddlad, ydyw y boneddwr adnabyddus T. Solomon Griffiths, Ysw., Utica, N. Y. Pa nifer bynag o dalentau a gafodd efe yn Rhydwyn. i farchnata a hwynt, gan ei arglwydd, gellir bod yn sicr ei fod ef yn ychwanegu atynt yn anrhydeddus yn ei wlad fabwysiedig.

Yn Llandegfan, ar fin afon Menai, yr oeddwn y Sabboth olaf yn Mon. Eglwys fechan sydd yno, ond mae y frawdoliaeth yn ffyddlon. Yn ddiweddar, bu farw yno hen frawd nodedig am ei ffyddlondeb, o'r enw W. Williams, ar ol yr hwn teimlid colled fawr. Mr. Williams, y mab, gyda'r hwn y lletywn, a geisiodd genyf wneyd englynion coffadwriaethol i'w anwyl dad. Dywedai iddo ef ei hun wneyd cynygion at gyfansoddi llinellau ar ei ôl, ond iddo fethu. Trwy ei fod yn ymbil yn daer arnaf, a minau yn tybied fod y testyn yn deilwng, cyfansoddais a ganlyn:

William Williams yn ei amser—oedd ddyn
Haeddianol a thyner;
Un oedd o luoedd lawer,
I'w rifo yn eiddo Nêr.

Bedyddiwr a bywyd addas,—a brawd
Ysbrydol ei urddas;
Aelod o Grist golud gras,
Gu feddodd yn gyfaddas.

Yr achos oedd yr uchaf—yn ei fryd,
A than ei fron amlaf;
Ac addoli mewn bri braf
Hir wnelai 'r gwr anwylaf.

Nid selog 'r hyd y Suliau—a rhyw oer
Ar yr ereill ddyddiau;
Yn ddiflin oedd flynyddau,
Yn bur o hyd gwnaeth barhau.

Ei waith a roes, gwnaeth ei ran—yn lewaidd
I loewi Llandegfan;
Hawliaf fi mai'r loewaf fan
Dda yno oedd ei hunan.

Y goe len dlos gangenog,—ger ei fedd,
Gar fod yn sefydlog;
Ei glod daen a i graen yn grog
I sylw rhai anselog.

Gelwais heibio i rai manau eraill yn y Sir, megys Cae'rceiliog, Rhosybol a Llangoed.

Adwaenir ynys Mon, er cyn cred a chof, wrth yr enw "Mon, mam Cymru." Dywedir mai ffrwythlonedd hynod yr ynys, rhagor parthau eraill y Dywysogaeth, a barodd iddi gael ei galw yn Fam Cymru. Cyn cynyddiad rhyfeddol y bobl yn y ganrif bresenol, cyfrifid fod Mon yn alluog i gynyrchu digonedd o rawn ac anifeiliaid i borthi holl drigolion Gwynedd, Powys, a'r Deheubarth. Ffrwythlonedd rhyfeddol daear eu trigias a alluogodd drigolion yr ynys trwy yr holl oesoedd, i gadw i fyny gymeriad uchel, ar gyfrif eu haelioni i'r rhai tlodion a rheidus. Mewn cyfeiriad at y digonolrwydd yma, yn nghyda pharodrwydd y trigolion i groesawu ymwelwyr â gwleddoedd breision, y canai un o'r beirdd :

"Gor-ddu yw brig y Werddon,
Gan fwg ceginau o Fon."

Hyny yw, cymaint oedd y ceginiau yn Mon, fel y cyrchid torchau mwg y ceginau dros y mor, nes pardduo y Werddon. Moesgar gyfeiriai Goronwy Owain at olud cynhenid ei wlad hefyd pan y dywedai:

"Henffych well, Fon, diriondir,
Hyfrydwch pob rhyw frodir;
Goludog, ac ail i Eden,
Dy sut, neu Baradwys hen:
Gwiw-ddestl y'th gynysgaeddwyd,
Hoffder Duw Nêr a dyn wyd."


PENOD XIII.

Yn Gwrando Mr. Spurgeon.

Tra yn Llundain, cefais gyfleustra i wrando Mr. Spurgeon yn pregethu yn ei Dabernacl. Nos Iau ydoedd. Trwy ragdrefniad gyda Mr. Hughes, myfyriwr yn y coleg-Cymro o Sir Fon—cyfarfyddais ag ef yn y vestry, awr cyn i'r cwrdd mawr cyhoeddus ddechreu. Aeth a mi trwy ystafelloedd a ddefnyddir at wasanaeth y Tabernacl a'r Coleg. Dangosai i mi yr amrywiol gyfleusderau ardderchog a ddarparasid ar gyfer gwahanol angenrheidiau. Cawn achosion i ryfeddu a chanmol fel yr ymsymudwn o'r naill ystafell i'r llall. O'r diwedd deuwn i ystafell y cwrdd gweddi—ystafell fawr gyfleus iawn. Yn yr oedd cynulleidfa dda, yn gynwysedig yn benaf o aelodau yr eglwys, a Mr. Spurgeon ei hun yn arwain, yn cael ei amgylchynu gan henuriaid a diaconiaid. Offrymai efe weddi afaelgar; ymwnai a Duw i bwrpas; tynai adnoddau oddi fry. Oeddwn yn anghofio pobpeth ond efe a Duw mewn ymdrech. Dyn rhyfedd yw Mr. Spurgeon-dyn Duw ydyw-teimlwn hyny yn y cwrdd gweddi hwn. Ymneillduai efe yn y man i'w fyfyrgell, gan adael y rhan oedd yn weddill o'r cwrdd gweddi dan ofal eraill. Terfynai yr awr weddi. Yna prysurwn gyda fy nghyfaill i'r Tabernacl, er cael lle da i wrando. Llwyddais, trwy ymdrech, i sicrhau lle felly, ar fin yr oriel, heb fod yn mhell oddiwrth safle y pregethwr. Yr oeddwn yn llawn cywreinrwydd y mynydau hyn yn sylwi ar y capel, a'r bobl yn dylifo i mewn trwy bob mynedfa. Nid oedd meistr y gynulleidfa eto wedi gwneyd ei ymddangosiad, ond dysgwyliwn ef a llygaid craffus bob eiliad. O'r diwedd dyma fe yn dod o'r tu cefn i lawr y rodfa, nes cyrhaedd y pwlpud. Deuai gan arwyddo gradd o gloffni a llesgedd corphorol. Mewn ymddangosiad, yr oedd yn rhyfedd o naturiol a diymffrost. Dygai arwyddion dyn ystyriol o gyfrifoldeb mawr. Cydymdeimlwn ag ef fel y cyfryw. Teimlwn y parch mwyaf iddo wrth gofio ei fod wedi, ac yn gwneyd gwaith mawr yn ngwinllan ei Arglwydd.

Erbyn i'r cwrdd ddechreu yr oedd y gynulleidfa yn fawr y llawr isaf a'r oriel gyntaf yn llawn. Wrth i'r pregethwr fyned rhagddo gyda y rhanau arweiniol, gallwn ddarganfod engreifftiau amlwg o elfenau ei boblogrwydd a'i ddylanwad. Hoffwn ei ddull o roddi emynau allan―y geiriau yn darawiadol, ac yntau yn eu dweyd yn darawiadol. Darllenai ac esboniai benod yn yr Ephesiaid, yn rhyfeddol o feistrolgar ac efengylaidd. Pe buasai wedi bod am ddyddiau yn parotoi, ni allesid dysgwyl iddo fod yn well-ei weddi yn tynu sylw; ymwneyd a Duw am y fendith mewn gwirionedd yr oedd efe. Tybiwn fod yr holl gynulleidfa fawr yn cydweddio ag ef. Os felly, nid rhyfedd, canys yr oedd efe yn deisyf daioni yn daer iddynt cyffyrddai a chalonau. Parotoid crindir cras i dderbyn yr had da, gan dynerwch nawseiddiol y moddion grasol hyn. Sibrydwn, yn ddiarwybod i mi fy hun, ar ei ran, "Ein Tad nefol, bydd gydag ef." Ei destyn oedd Comisiwn Crist i'w Apostolion-testyn cyfaddas, canys yn niwedd yr oedfa yr oedd pymtheg yn cael eu cydgladdu gyda Christ yn y bedydd. Parhaodd i lefaru am dri chwarter awr, yn hynod fedrus ac efengylaidd. Argraffid ar fy meddwl y syniad am dano fel cenad neillduol Duw. Nid yw efe ei hun am fod yn ddim-Duw, yr Ysbryd Glan, Iesu a phechadur sydd yn urddasoli a grymuso ei holl bregeth. "Pan yn dweyd yn anffafriol am arall,” ebai, 'byddwch ofalus rhag i chwi anghofio ei ragoriaethau, a dweyd, efallai, yn erbyn gwaith yr Ysbryd Glan ei hunan." Yr oedd fy nghalon yn llosgi ynwyf tra yr oedd efe yn llefaru. Diweddodd yr oedfa gan fy ngadael mewn meddiant o deimladau da iawn, gan addaw y ceisiwn, trwy gymorth gras, fyw yn fwy duwiol nag erioed. Dyna yw tuedd pregethau y dyn nodedig hwn. Nid boddio cywreinrwydd deallol yw ei brif amcan, yn ddiau, ond cael dynion i adael eu pechodau, a byw yn well. Ymddengys nad yw yn colli golwg un mynyd ar hyny wrth anerch pechaduriaid a saint.

PENOD XIV.

Gohebiaeth Farddol.

Bu yr ohebiaeth farddol a ganlyn rhyngwyf a Mr. E. W. Jones, (Gwerydd Wyllt), Bethesda, Arfon, yr hwn sydd fardd a llenor rhagorol. Cyfrifir ef yn ddyn parchus yn y dref, ac efe ydyw ysgrifenydd yr eglwys. Gan fod Bethesda yn dref bwysig, a minau erioed heb fod yno, teimlwn awydd cryf i alw heibio. Pan yn y cyffiniau, anfonais air yno yn hysbysu fy mwriad i alw, a nodwn wythnos neillduol, gan adael i'r eglwys nodi noson a ddewisent. Yr atebiad a gefais oedd fod yr Annibynwyr yn cael benthyg eu capel, a bod pob noson yn llawn. Minau yn anfoddlon i'r atebiad, a ysgrifenais drachefn, gan ofyn a oedd y rhwystr yn barhaol, a rhoddais y ddau englyn canlynol yn y llythyr:

'N astud wrth lyn Bethesda—aroswn
Am rasol ddisgynfa;
Yn hollol i fy ngwella,
Mwy trwy hyn fyth o'm traha.


Beunydd mae yr Annibynwyr—a phawb
Ar ffordd y Bedyddwyr;
A marw ga tramorwyr,
Dyna fy rhan gan y gwyr.

O fewn ychydig ddyddiau ar ol hyn, derbyniais yr atebiad a ganlyn:

BETHESDA, Chwefror 25, 1886.

Seibia hyd wedi 'r Sabboth
Araf wr; yna rhyw fath
O lythyr wedi ei lwythaw,
A da lwydd ddel i dy law:
Hwnw a noda adeg,
Er i ti gael chwareu teg,
I arwain yma dy "Oriel,"
Dyna y modd i dynu mêl.
Ymladd yr y'm yn amlwg,
Ar draed, ag amserau drwg,
Er hyny, fy mrawd, ni ranwn,
A gwr y Wawr; mae gair i hwn.

—Gwerydd Wyllt.

Yn falch o'r farddol ohebiaeth, yr awen a atebodd fel hyn:

Wi! daeth i law o'i daith lwys,
'E gamodd yma yn gymwys
Gerdyn yn sydyn fel saeth,
A'i eirchion at fy archwaeth.
Ys o hyny ni synwn,
Gwerydd Wyllt oedd gyrydd hwn.
Gyfaill, a wnewch chwi gofio
Hyn drachefn, mai trefn y tro
Ddymunwyf, os wyf yn siwr,
I'm alw fel ymwelwr,
Ydyw ryw nosawl adeg
Wedi'r pedwarydd-ar-ddeg
O Fawrth, i fi i werthu,
Os y cawn y dawn o du,

A dweyd y newyddion da,
A foriwyd o Galfaria.

Trefnwyd yn ol fy nymuniad, ac aethum yno, a chefais ymweliad wrth fy modd. Dranoeth wedi noson yr oedfa, rhoddodd Gwerydd Wyllt bapyryn yn fy llaw, ac arno yr englynion canlynol:

Giraldus â rhagoroldeb—ei bwyll
A'i ben llawn doethineb,
Rydd, wr mad, yn anad neb,
Eildwf i fy nuwioldeb.

Duwioldeb sant di-ildio—a geiriau
Hawddgarwch ge's ynddo;
Grasol i'r Mab rhydd groeso,
Ac er Ei fwyn, caraf o.

—Mawrth 16, 1886.

Yn fuan wedi hyn, cyfansoddais inau a ganlyn iddo yntau:

Gwerydd Wyllt, ei gu rudd ef—a'i archwaeth
Adlewyrchant wawlnef;
Cana wrth nodau cunef,
Hyn yw graen ei awen gref.

Talent geir yn y teulu—ei cheinion
Wreichionant o bobtu;
Paladrwyr yn pelydru,
Yw ei ddau fab haeddaf fu.

Pur i'r eglwys perarogla—ei nodwiw
Weinidog fawryga;
Maen tynol yn deol y da,
Ydyw deddf ei reddf a'i raddfa.

Os rhwyga a darnia 'n dost—del asia
Yn dlysach heb ymffrost;
Gwna'r gwaith a llamdaith llymdost,
Gloew ddur yn bur iw bost.


Ei lais sydd adlais yn odli—seiniau
A synwyr ei deithi;
Nid oes talach breiniach bri
Arwrol yn Eryri.


PENOD XV

Wythnos yn Llanelli

Wythnos hapus fu hono a dreuliais yn Llanelli, Sir Gaerfyrddin. Cyd-deithiwn yno a Thalamus. Tarawsom ar ein gilydd yn ngorsaf Abertawe, a chefais ganddo wasanaeth deublyg, sef ymddyddan difyrus yn y trên, a chael fy introducio ganddo i gyfeillion yn Llanelli. Yr oedd efe yn darlithio yn y dref y nos Sadwrn hwnw. Wrth gwrs yr oedd yn rhaid myned i'r ddarlith, a rhoddai efe docyn yn fy llaw i'r pwrpas hwnw. Darlithiasai Thalamus droion o'r blaen i'r Llanelliaid. Buasai yn eu dwyn i gymdeithas ag ysbrydion rhamantus yr ysbrydolwyr, yr hyn garedigrwydd a wnaeth efe mewn llawer man arall, yn y blynyddau diweddaf yn Nghym. O'r diwedd, o angenrheidrwydd, daethai y bobl yn gynefin a'r gwrthddrychau dyeithriol hyny, fel pob peth arall, a rhaid oedd i Thalamus gael testyn darlith newydd. Ac yn awr yr oedd efe yn dod yn wr newydd, gyda thestyn newydd, ac â darlith newydd, i Lanelli. Yr oedd hon yn adeg tra nodedig yn mywyd darlithyddol Thalamus i mi ac yntau gydgyfarfod-sef ar derfyniad cyfnod darlith yr ysbrydion, a dechreuad cyfnod darlith newydd, ddynol.


Y testyn y tro hwn oedd "Penau a Gwynebau." Efallai nad allasai gael gafael ar destyn i siarad arno o flaen pobl, yn fwy cyfaddas er cynyrchu hunan-ymholiad yn eu plith, yr hyn sydd yn dra diffygiol yn mhlith gwrandawyr yn gyffredin. Yr oedd adsain yr hen ddarlith boblogaidd yn edliw i adsain yr un newydd hon, yn ymddyddan y bobl ar y diwedd. Teimlwn wrth wrando, fod Thalamus yn ddyn o gyrhaeddiadau cryfion ac ysblenydd, ac nid oeddwn heb dybied y gallasai efe droi ffrwd ei dalentau i weithredu ar bobl er dylanwadu arnynt mewn ystyron mwy budd-fawr.

Cyfrifir Llanelli yn dref hynod grefyddol. Mae yn amheus a oes un dref yn Nghymru mor grefyddol. Yr ydwyf yn dweyd hyn a chymeryd y safonau cyffredin i farnu, sef nifer y capeli, moesau a chymeriad cyffredinol y bobl. Mae gan yr Annibynwyr demlau heirdd ac eang yma, a'r Methodistiaid yn dilyn. Mae y Bedyddwyr ar eu huchelfanau yn Llanelli.

Foreu Sabboth, pregethais yn Calfaria. Eglwys newydd yw hon a hanodd yn ddiweddar o eglwys yr enwog Lleurwg. Mae eglwys ieuanc Calfaria ar y ffordd i lwyddo. Ymddengys fod y gweinidog, Mr. Griffiths, yr iawn ddyn yn yr iawn fan. Sonient am helaethu lled eu pabell, ac estyn cortynau eu preswylfeydd, trwy adeiladu capel newydd. Addolant yn bresenol mewn ystafell eang a fwriedir ei defnyddio yn vestry, wedi gwneyd y capel.

Yn hwyr y Sabboth, pregethwn yn nghapel eang Dr. Rowlands, yr hwn sydd briod â merch y diweddar Barch. Daniel Davies, D. D. (y dyn dall), a'r hwn sydd ewythr i'r adnabyddus a'r clodfawr Barch. H. O. Rowlands, M. A., Elgin, Ill. Yr oedd y gynulleidfa yn y capel hwn yn aruthrol fawr—y fwyaf y bum yn sefyll o'i blaen yn Nghymru. Teimlwn yn ofnus mewn gwirionedd wrth ddringo grisiau y pwlpud. Yr oedd y dorf fel coedwig dyn aml-gangenog, yn amgau o'm cylch o bob cyfeiriad, a'r gas-lights yn orlachar, fel y teimlwn fy modolaeth dan gryn bwysau wrth anturio llefaru. Wedi yr ymdrech hon, nid oedd sefyll i fyny ac anerch cynulleidfaoedd llai, ar nosweithiau yr wythnos, ond gwaith cymharol ysgafn.

Gweinidog efengyl pur gyflawn yn ddiau yw Dr. Rowlands. Ceidw i fyny urddas y weinidogaeth yn arddull ei bregethu, yn gystal ac yn ei fywyd a'i rodiad cyffredinol. Saif yn mhlith y dosbarth blaenaf yn yr ystyron pwysig hyn. Y mae efe yn teilyngu parch, ac yn ei gael yn gyffredinol.

Nos Lun yr oeddwn yn Seion, capel y Parch. J. R. Morgan, D. D. (Lleurwg). Hysbysid fi fod cynulleidfa fawr ganddo yntau ar y Sabbothau, yn gymaint ag erioed—er cynifer a ymadawsant o'r eglwys i ymffurfio yn eglwysi newyddion yn y dref. Y tro hwn yr oedd. y gynulleidfa yn barchus yr olwg arni, a chymedrol ei maint. Ymddangosai Lleurwg yn gryf, siriol a heinyf, bron fel cynt. Y mae meithder tymor ei weinidogaeth yn Seion, a pharhad ei ddefnyddioldeb a'i boblogrwydd yn dweyd llawer yn ei ffafr. Y mae gan y siriol Lleurwg natur ddynol ragorol. Mae ganddo galon fawr. Teimlir hyny yn ei gymdeithas. Mae ei bresenoldeb fel gwên heulwen. Mae yn caru ei genedl, ac yn neillduol bobl ei ofal. Bydd yr olwg arno ar yr heol yn lloni ysbrydoedd llwfr. Credwn fod yr elfen deimladol, garuaidd serchus, siriol hon yn elfen bwysig yn ei boblogrwydd. A pha ryfedd, oblegid mae yn elfen gydnawsiol iawn ag anianawd yr efengyl.

Y Parch. William Hughes yw gweinidog Bethel, Glan-y-mor, yn barhaus. Cefais oedfa yno. Yr oeddynt wrth y gorchwyl, er's misoedd, o adgyweirio y capel. Gwneid capel newydd bron o'r hen. Dysgwylid iddo fod yn barod ddechreu Ionawr, 1886. Yr oedd adranau gorphenedig o'r gwaith yn arwyddo y byddai y capel yn hardd a chyfleus ar ei orpheniad. Cyfrifid i'r treulion fod oddeutu deunaw cant o bunau. Yn y Parch. William Hughes ceir engraifft neillduol o un llwyddianus yn y weinidogaeth. A barnu yn ol y dull cyffredin, y mae ei lwyddiant gweinidogaethol nodedig yn ddirgelwch. Wrth esbonio poblogrwydd a ffyniant gweinidog yn gyffredin, cyfeirir at ryw ddoniau arbenig yn y person. Ond wrth esbonio ei fri ef, ni ellir cyfeirio at unrhyw ddoniau neillduol yn gor-ddysgleirio, ac hawdd eu canfod ynddo. Os edrychir am ddoniau llais, ni cheir ond parabl cystal a'r cyffredin; canys â genau cil-agored y llefara. Os dysgwylir cael ganddo feddylddrychau praff-aruchel, bydd y dysgwyliad yn ofer; tra nad yw porthi y bobl a phethau o'r fath yn un ymgais ganddo. Os mwyneiddiwch ysbryd a thynerwch teimlad fyddant yn wrthddrychau dysgwyliad ynddo, ceir yn lle hyny grasder parablol, a threm wyneb-sych. Os dysgwylir cael ynddo ryw gyfrwysder i drin a thrafod y bobl, ni ellir darganfod dim o'r fath. Yn sicr y mae llwyddiant Mr. Hughes, yn ol pob rheol gyffredin mesuroniaeth weinidogaethol, yn ddirgelwch. Ac eto, wedi ystyriaeth bwyllog, credwyf mai nid anmhosibl gweled i mewn i'r dirgelwch dyddorol hwn. Y mae Mr. Hughes yn wr hollol syml. Cynygiaf y deongliad a ganlyn o'i lwyddiant cyd-bwysedd. Nid oes yn ei wneuthuriad ef gyneddfau cryfion a gweinion wedi eu hieuo yn anghydmarus. Yn y rhan fynychaf, anghydbwysedd cyneddfau sydd yn cloffi pobl, ac yn peri aflwydd a dinystr. Nid ydym yn dweyd fod y cyd-bwysedd hwn a briodolir i Mr. Hughes, yn ei natur heb wybod iddo. Na, credwn yr ymhyfryda efe yn yr ymdeimlad o hono, ac yn ei weithiad allan yn ei fywyd cyhoeddus a chymdeithasol. Saif Mr. Hughes, gan hyny, yn engraifft nodedig o werth cyd bwysedd cyneddfau yn cael eu hymarfer yn briodol. Profir ynddo ef nad yw doniau dysglaer, arabedd, na phereidd-der llais, nac unrhyw gynhyrfus ddoniau yn hanfodol i lwyddiant yn y weinidogaeth. Yn y wedd hon, yn ogystal ac yn ei fuchedd ddifwlch a dianair, y mae efe yn deilwng o efrydiaeth ac efelychiad unrhyw weinidog ieuanc a amcana fod yn ddefnyddiol a llwyddianus.

Aelodau yn eglwys Bethel ydoedd Mr. Thomas Cadwgan Jones, Pittsburgh, Pa., a'i briod. Cyfarfyddais a llaweroedd yn holi yn barchus am danynt. Gelwais yn nhy merch iddynt, a chwaer i Mr. Jones.

Arweiniodd Lleurwg fi i gael golwg ar hen dref Llanelli. Y gwrthddrych hynotaf yn y parth hwnw ydyw hen eglwys y plwyf. Tu fewn i glawdd amddiffynol y fynwent, ymlapia yr hen eglwys rhag dylanwadau gwrthnawsiol oddiallan. Ceidw yn yr agwedd hon er deddf newydd y claddu. Y mae cynlluniad heolydd ac adeiladau yr hen Lanelli wedi gadael mwy o'u dylanwad ar adeiladau a chynlluniad heolydd y Llanelli newydd, nag y mae hen eglwys Llanelli wedi adael ar y capeli. Ychydig o ddelw yr hen eglwys sydd ar demlau newyddion y dref. Gwahaniaethant yn fawr oddiwrthi yn mhob ystyr.

Y prif fasnachwr yn Llanelli yw Mr. Wm. Thomas. Mae ei fasnachdy helaethfawr yn cynwys block anferth. Dirfawr synid fi wrth gael fy arwain trwy ei wahanol adranau. Ac eto, mae y perchenog cyfoethog yn hollol ddiymhongar. Gallasai yr anghyfarwydd dybied am dano fel dyn ysgafn cyffredin. Efe a gerdda oddiamgylch gydag edrychiad diniwed. Ymddyddaner ag ef, a bydd ei lais yn wanaidd a chrynedig. Bydd ei dremiad yn wylaidd. Ac eto, o dan y ffurf wladaidd yna y mae y cymwysderau masnachol dysgleiriaf yn llechu. Medr ymaflyd yn arddwrn masnach, a rhwydd gyfrif curiadau ei gwaed. Medr weled yn llawer pellach a chliriach na gwyr yr yspien-ddrychau a ddringant safleoedd uchel i dremio ar gwrs trafnidiaeth a marchnadoedd y byd. Y mae yn Llanelli amryw fasnachwyr llygad-graff, ond y mae William Thomas yn drymach na'r oll gyda'u gilydd. Y mae rhai o honynt yn teimlo hyny hefyd. Tra yr oeddwn yn ymddyddan ag ef, ymsyniwn am dano fel enaid y busnes mawr a wnelid o'i gwmpas: gwelwn y lle yn fyw fel cwch gwenyn, gan brynwyr a gwerthwyr prysurol, a rhyfeddwn at y ffaith mai y dyn hamddenol diniwed hwn oedd prif symudydd yr holl beirianwaith. Yr eglwys Fedyddiedig Seisnig sydd, er's amryw flynyddau, yn cael y fraint o'i fynwesu ef fel aelod. Braint fawr i'r eglwys hono ydyw hyny. Y mae yn rhyfeddol o haelionus. Mae ei galon yn agored at angenion crefyddol. Tra y mae ei roddion yn dywysogaidd o fewn cylch ei enwad ei hun, y mae yn cyfranu symiau mawrion yn fynych at achosion perthynol i enwadau eraill.

Yn Llanelli y cartrefa Gwilym Evans, gwneuthurwr y "Quinine Bitters." Gelwais yn ei gyfferdy ef. Dangosodd i mi ranau o'r busnes a garia yn mlaen. Pan y dangosai i mi y symiau tra mawr o arian y mae efe yn eu talu i berchenogion papyrau am hysbysiadau, yr oeddwn yn cael fy nharo gan syndod. Cefais ef yn foneddwr yn ngwir ystyr y gair. Credaf fod Gwilym Evans yn gwir haeddu y gefnogaeth a dderbynia, yn gartrefol a thramor.

Yn eglwys Calfaria y mae brawd o ddiacon o'r enw Thomas Williams, dilledydd. Pan yn gwasanaethu yr eglwys hono deuais i gysylltiad ag ef, a dywenydd. mawr i mi ac yntau oedd y cyd-gyfarfyddiad, canys yr oeddym gyfeillion cynes gynt yn Porthmadog. Yr oedd efe yn un o'r brodyr hyny a ymadawsant o Seion ar adeg sefydliad eglwys Calfaria. Nid yn aml y cyfarfyddir a brawd mor selog a brwdfrydig.

Dysgwyliaswn gyfarfod a'r brawd John Rees, Minnesota, yn Llanelli, ond er fy ngofid, yr oedd wedi dychwelyd i America er's rhai wythnosau. Gwelwn un tebyg iawn iddo ef yn ei frawd, a thebyg iddo hefyd yn ei natur dda garedig.

Mae marchnad Llanelli, ar nos Sadwrn, yn werth ei gweled, o'r hyn lleiaf, yr oeddwn i yn teimlo hyny pan yn rhoddi tro ar nos Sadwrn trwyddi. Dymunol oedd gweled y bobl yn prynu ac yn gwerthu. Wrth sylwi arnynt, yr oedd llawer o bethau yn dod i'r meddwl. Ymsyniwn mor haelfrydig yw rhagluniaeth fawr y nefoedd yn ei rhoddion i ddyn. Effeithiol ar fy nheimladau oedd gweled y merched gyda basgedi yn y farchnad yn prynu at angenrheidiau y Sabboth; ac yn neillduol wrth weled hen boblach gynil ddarbodus yn nesu yn mlaen i brynu. Gwelwn fod yr hwn sydd yn gofalu am adar y to yn ffyddlawn i'w addewid iddynt.

Gelwais yn Llwynhendy. Derbyniwyd fi yn groesawus gan y gweinidog poblogaidd, y Parch. R. D. Roberts. Pan yn pregethu, eisteddai o dan y pwlpud, ond yn gwynebu ataf. Rhoddai hwyl fawr i mi, a dilynid ef gan eraill. Un rhagorol yw am helpu y llefarwr. Ei gynulleidfa ef oedd y fwyaf y bum yn ei hanerch ar noson waith yn holl Gymru. Dywedir fod Mr Roberts yn parhau yn ei boblogrwydd gartref ac oddi cartref. Yn y cyrddau mawrion, yn agos a phell, prin fod neb mor boblogaidd. Yn niwedd yr oedfa, estynai anwyl fam y Parch. Charles Davies, Lerpwl, ei llaw ataf, yr hyn a barai i mi londer ysbryd pan ddeallais pwy ydoedd. Gwerthfawr genyf oedd cael o gymdeithas Mr. Roberts, y gweinidog. Ymddangosai yntau yn foddhaus anarferol pan yr adroddwn iddo fel y cofiwn am dano ef a'i gydymaith, y Parch. John Jones, Llanberis, yn dod i'r Garn, pan oeddynt yn dechreu pregethu, dros ddeugain mlynedd yn ol.

Y Felin-foel oedd le arall y bum. Profodd y vestry yn rhy fychan i gynwys y gynulleidfa a ddaethai yn nghyd. Gan hyny, rhaid oedd myned i'r capel, a chapel ardderchog ydyw, o gynlluniad y Parch. Henry Thomas. Mae y Parch. John Jones, y gweinidog, yn llenwi cylch pwysig. Efe ydyw golygydd Seren Cymru. Rhoddir gair da iddo fel pregethwr galluog ac areithiwr medrus-ddawn. Cryna y parsoniaid pan y byddo efe yn llefaru ar wladyddiaeth. Yr oedd oddi cartref yr wythnos hono, yn berwi y wlad trwy siarad ar faterion etholiadol.

Mae gan y Bedyddwyr eglwys lewyrchus yn y Pwll, rhwng Llanelli a Pembre. Y gweinidog ydyw y Parch. J. Y. Jones, yr hwn fu gynorthwywr i'r Parch. A. J. Parry, yn Abertawe. Saif efe yn uchel fel pregethwr ieuanc. Synwn wrth weled yno gynulleidfa mor fawr ar noswaith yr wythnos.

Deil yr eglwys yn Pembre ei thir yn bur dda ac ystyried amgylchiadau y lle. Y gweinidog yw y Parch. W. E. Watkins.

PENOD XVI.

Pregethwyr a Phregethu.

Dymunwn agoshau at y pwnc hwn gyda gofal a pharch arbenig. Pe ceid fi yn taflu llinyn mesur Seisnig Americanaidd dros wyr pwlpudau Cymru dylid fy ystyried yn angharedig ac annoeth, os nad yn haeddu cerydd. A chaniatau y byddai yn llesol nodi beiau amlwg mewn arddull fflangellog, diau y byddai yn deg i mi wed'yn arfer goruchwyliaeth mwy tyner a chefnogol, wedi i'r ddysgyblaeth chwerw gyntaf gario ei heffaith ddyladwy. Byddai yn resyn gadael y dyoddefydd beius yn ddiymgeledd, heb gyfaddasu cyfferiau meddygol pellach at ei gyflwr gwellhaol. Gan hyny, pe dechreu- aswn yma drafod pregethwyr Cymru mewn dull llymfeirniadol, buaswn yn rhwymo fy hun, yn ol pob rheol deg, i fyned trwy holl gwrs y ddysgyblaeth yn y dyfodol. Pell oddiwrthyf fyddo honi y fath hunan-bwysigrwydd. Bwriadwyf yn hytrach i'r ychydig sylwadau a wnaf yma, gynwys yn unig draethiad syml o deithi a chymeriad presenol pregethwyr a phregethu yn y wlad hono ag y mae agweddau ei bryniau prydferth mor arwydd-luniol o bwlpudau ei chapeli.

Dealler mai am bregethwyr a phregethu yn mhlith y Bedyddwyr y cyfeiriwyf yn benaf yn ein sylwadau.

Ugain mlynedd yn ol, sefydlwyd Undeb Bedyddwyr Cymru. O'r Undeb hwn y mae llawer o ddaioni i'r enwad wedi ffynonellu. Urddasolodd yr enwad â'i gweithrediadau. Y mae ei ddylanwad daionus yn parhau. Nid y lleiaf o'r ffrydiau bendithfawr a dardda allan o hono, yw y ffrwd iachusol hono a reda i gyfeiriad y pwlpud. Daw y gangen ffrwd hon i gysylltiad a'i gwrthddrychau mewn gwahanol fanau. Fel prif le cyd-gyfarfyddiad, nodaf gyrddau blynyddol yr Undeb. Yno mae yn ffrydio yn rhaiadr lifeiriol ar weinidogion a phregethwyr. Peth gwerthfawr er meithrin uchelgais dyladwy mewn gweinidogion yw nôd uchel. Mae cyrddau yr Undeb yn cynysgaeddu nôd felly. O'r blaen, yr oedd uchel-fanau uchelgais yn gyd-wastad. Nid oedd y Gymanfa, fel cynt, yn meddu safle arbenigol i'r teilwng. Gynt, y pregethwyr blaenaf a safent ar y muriau. Edrychid i fyny atynt gan bawb. Y pryd hwnw yr oedd gan weinidogion ieuainc, ac eraill anhysbys, nôd uwchafol i gyrchu ati. Yr oedd yr atdyniad at i fyny yn cyrhaedd trwy holl gylch llefarwyr cyhoeddus israddol. Yn anffodus, tynwyd y pwlpud uchel i lawr at safle y cyffredinolion. Yr annheilwng, yn lle ymgymwyso at safle y pregethwr mawr, a hyf ymwythiodd i'r safle cyn ei haeddu, a dilynwyd ef gan y lluaws eiddigeddus. Tynwyd yr uchelfan gysegredig i wastadedd dinodedd. Y canlyniad fu dirywiad alaethus. Yr oedd adferyd stage y Gymanfa i'w huchder gyntefig y pryd hyn yn anmhosibl mewn ffordd uniongyrchol.

Cyn hir, megys trwy ddylanwad greddf bywyd, ffurfiwyd yr Undeb ar raddfa fawr, eang a chyffredinol, i gynwys yr holl Gymanfaoedd. Mwyach yr oeddynt hwy yn is-ddarostyngol i awdurdod uwch. Daeth esgynlawr yr Undeb yn uwch na stage y Gymanfa. Dyma arbenig-fan newydd i'r teilwng. Os meiddia yr annheilwng i'r fan hon, dibrisir ef hyd lawr. Ofer yw i neb ond y medrus anturio i'r fath le. A thra y dalio yr esgynlawr hwn i gadw fyny ei gymeriad uchel presenol, bydd yn fendith i urddas y weinidogaeth yn yr enwad.

Caed safle i'r llefarwr yn uwch ar ochr mynydd Seion nag a geid yn y Gymanfa gynt. Caed canolbwynt anrhydeddus i edrych i fyny ato. Caed nôd teilwng o flaen uchelgais gweinidogion ieuainc. Ac mae cyrhaedd rhagoriaeth fel llefarwr ar esgynlawr yr Undeb, bydded araeth, draethawd neu bregeth, o angenrheidrwydd yn feithrinol i urddas pregethwrol.

Mae yr Undeb yn gweithredu yn ffafriol i'r pwlpud mewn ffyrdd eraill. Mae dynion goreu yr enwad yn bresenol, ac yn arfer eu dylanwad yn y cynulliadau blynyddol. Yn mhresenoldeb y rhai hyn, cywilyddia yr annheilwng. Mae y dylanwad yn ymburol. Mae yr Undeb yn casglu o dan ei adenydd, megys yr iar ei chywion, amryw gymdeithasau ieuainc gobeithiol. Un o'r rhai hyn yw cymdeithas ddirwestol. Hon a ymlecha yn yswatiol o dan gysgod ei amddiffyn. Mae y gweinidogion a flaenorant gyda y gymdeithas hon yn rhestru yn mhlith y gweinidogion blaenaf yn y Dywysogaeth. Ac nid yw hyn ond dechreu. Mae yr elfen ddirwestol, o'r ganolfan hon, yn prysur enill tir. Mae llinell wahaniaethol yn ymffurfio. Mae yr Undeb, trwy ei chymdeithas ddirwestol, yn gweithredu yn fendithiol ar gymeriad y weinidogaeth, yn bregethwrol a bugeiliol. Y mae amryw ffyrdd eraill drwy ba rai mae y dylanwad daionus canolog hwn yn cyrhaedd y pwlpud.

Tuedda cyrddau yr Undeb i greu ystyriaeth o gyfrifoldeb gorphwysedig ar weinidogion y gair. Tueddant i eangu syniadau parth elfenau llwyddiant crefydd. Tueddant i greu brwdfrydedd a sel sanctaidd, sydd mor hanfodol i ddylanwad pregethwrol. Pwy bynag, gan hyny, a gymero y drafferth i edrych ar safle pregethwyr a phregethu yn gysylltiedig a'r Undeb, rhaid tynu y casgliad fod iddynt safle pur ffafriol. Mae yn ffaith gysurus fod dosbarth diwygiadol uwchraddol o weinidogion yn lluosogi yn bresenol yn Nghymru. Mae y colegau-drysau i'r weinidogaeth yn cael eu gwylied yn fwy gofalus nag erioed.

Mae tôn ymddyddan gyfrinachol a chymdeithasol y gweinidogion, yn wastad yn bur. Mynych y cyfarfyddwn a brodyr yn y weinidogaeth yn tueddu i siarad mwy am faterion crefyddol na dim arall. Llawer a deimlent ddyddordeb i fy holi am sefyllfa yr eglwysi a chrefydd yn America. Amryw a lawenychent yn y ffaith fod rhai pethau yn ddyeithr i'r bywyd gweinidogaethol yn America, ydynt yn rhy adnabyddus iddo yn Nghymru.

Mae y bobl yn dal i edrych i fyny at bregethwyr. Fel rheol, mae gweinidog yn cael parch mawr yn Nghymru. Cyfranir yn dda at ei gynal. Peth mynych ydyw cyfarfod a gweinidog yn byw mewn cystal ty ag a gyfaneddid gynt gan offeiriad. Dengys hyn, i raddau helaeth, safle gweinidogion a phregethwyr yn Nghymru.

Ond dysgwylir i mi, efallai, nesu yn agosach at y pwnc. Ebe ymofynydd, "A yw pregethwyr Cymru yn gyfartal mewn doniau a gallu, i'r hyn oeddynt ddeg mlynedd ar hugain yn ol?" Am bregethwyr tu allan i enwad y Bedyddwyr, nis gallaf ddweyd nemawr i ddim yn yr ystyr hwn. Gallaf fod yn dra sicr wrth ddweyd nad yw rhestr pregethwyr mawrion can hired ag ydoedd yn ngorph enwad y Bedyddwyr. Mae yn eithaf posibl fod y pregethwyr yn gyffredin yn cymharu yn dda a rhai gynt. Mae y mwyafrif presenol o bregethwyr yn fwy dysgedig a gwybodus yn ddiau. Maent yn fwy diwylliedig. Mae eu manteision yn rhagori. Mae y gystadleuaeth yn fwy deffroedig. Amlygir deheurwydd arbenig wrth drafod pynciau.

Yn y pregethu ac nid yn y pregethwyr y mae y gwahaniaeth mwyaf amlwg. Na ryfedder wrth i mi ddweyd fod y pregethwyr llawn cystal a chynt, ag eithrio y cewri, ond nad yw y pregethu cystal. Ni allaf osgoi yr argyhoeddiad nad yw pregethu Cymru yr hyn ydoedd yn amser y' tadau, ddeg mlynedd ar hugain yn ol. Barnwyf fod y pregethu wedi eiddilo. Ymddengys y nodau gwanychol mewn amryw agweddau. Ni cheir yr un difrifoldeb a chynt. Wrth nodi hyn, cofier, nid ydym yn cyfeirio at unrhyw ysgafnder penodol, ond dweyd yr ydym nad oes yr un ardrem lem-ddifrifol yn ganfyddadwy ag a welodd rhai sydd yn fyw yn arweddu gweinidogaeth y tadau.

Nid yw y pregethu presenol mor gyfeiriadol ag eiddo y tadau. Anelid at gydwybodau gynt, anelir at ddifyru a boddhau yn awr. Amcenid at argyhoeddi gynt, amcenir hefyd at hwyl yn awr. Cyfeirid at nôd gynt, cyfeirir yn fwy gwasgaredig yn awr. Nid yw y pregethu yn tybio cymaint, er efallai yn siarad mwy. Mae yr ymegniad yn llawn cymaint, ond yr effaith yn llai. Mae y synwyrau corphorol yn llawn mor gyffroadol, tra mae rhai o synwyrau yr enaid yn dawel. Arwydda y pethau hyn nad yw y pregethu mor gyfeiriadol ag y bu unwaith.

Nodwn eto wahaniaeth nad yw er daioni. Nid oes yr un brwdfrydedd ag a fu. Ni cheir yr un angerddoldeb. Nid yw y tân yn ffaglu cymaint. Mae y pregethu diweddar yn fwy ofnus na'r hen. Clywid gynt daranu yn nod yn y nefolion yn erbyn drygau ysbrydol, hyd leoedd; prin yn awr y sibrydir gair yn erbyn drygau felly. Mae yr hyfder mawr wedi myned ar ddifancoll. Mae swn awdurdod y comisiwn wedi gostegu, ac yn ei le ceir swn areithyddiaeth ac hyawdledd parablol. Ni adnabyddir i raddau dymunadwy yn yr arddull bresenol, fod yr efengyl yn allu Duw. Nid oes yr un mîn rywfodd ar y weinidogaeth ag a brofwyd. Nid yw yr awelon ychwaith yn chwythu mor gryfion.

A yw pregethu presenol Cymru, tybed, mor wreiddiol ag oedd gynt? Credwn fod sail i amheuaeth. Nid ydwyf o'r rhif a gredant nad yw pregethwr i ddefnyddio pob help o fewn ei gyrhaedd. Wrth gwrs y mae yn iawn iddo wneyd. Eto, mae yn eithaf posibl fod y shop mor llawn o nwyddau, fel na fydd lle i'r gwerthwr eu trafod yn briodol. Argyhoeddiadau personol y pregethwr sydd yn rhoddi graen ar bethau. Os llywodraethir tafod a meddwl dyn yn ormodol gan eraill, anhawdd cael cysondeb yn ei leferydd. Enaid pregethu ydyw enaid y pregethwr, faint bynag fydd hwnw, ac edrych ar ochr ddynol i'r mater. Tuedda llenyddiaeth estronol orlifol i filwrio yn fawr yn erbyn gwreiddioldeb pregethu. Milwria hefyd yn erbyn gwreiddioldeb arddull Gymreig. Nid oes angen ymhelaethu yma er profi fod llyfrgelloedd pregethwyr Cymru yn dra llawn o'r math hwn o ddefnyddiau darllen ac efrydiaeth. Gormod o waith i unrhyw dalent Gymreig ydyw Cymreigio meddylddrychau ac iaith y fath lenyddiaeth estronol Seisnig, i raddau dyladwy. Mae pregethu Cymraeg mewn caethiwed peryglus yn nghanol y fath elfenau estronol. Tybir gan rai, efallai, oddiwrth y sylwadau hyn, fy mod yn awgrymu diffyg eithafol mewn gwreiddioldeb yn mhregethu presenol Cymru. Dim o'r fath beth. Y cwbl a ddymunwyf ddweyd ar y pen hwn yw, nad oes yr un graddau o wreiddioldeb a chynt. Wrth gwrs, nid ydym i anghofio y ffaith fod temtasiynau llyfrol yr oes hon yn llawer lluosocach nag oedd rhai yr oes o'r blaen. Mae cynyrchion pen-campwyr meddylwyr Seisnig yn anghyffredin doreithiog. Mae perygli bregethwr golli ei hunaniaeth meddyliol pan y mae cymaint o feddyliau yn pwyso eu hunain arno.

Ac nid llenyddiaeth Seisnig yw yr un fwyaf estronol. Y llenyddiaeth Ellmynaidd sydd fwyaf dinystriol i bregethu gwreiddiol Cymreig. Mae cynyrchion meddylwyr Germanaidd yn dywyllion a dyryslyd i'r Saeson. Ond pan y ceir y cyfryw yn ail law, trwy yr iaith Saesoneg, mewn syniadau Cymraeg, y mae y syniadau a'r damcaniaethau Germanaidd yn dywyllion ac yn ddyeithr yn wir. Os ydym yn gywir yn y syniadau hyn, pa ryfedd fod gwahaniaeth-fod dirywiad yn mhregethu Cymru pan yn gymysgedig a'r fath elfenau estronol-pa ryfedd os yw gwreiddoldeb yn eisiau?

Ond nid ydym eto wedi myned at yr haen isaf a orwedd o dan bregethu Cymru heddyw. Y mae un haen o ddylanwad yn is i lawr na dim a enwyd, ag sydd yn argraffu ei delw yn amlycach ar bregethu na'r un o'r haenau ydynt yn nes i'r arwyneb.

Agoshawn at yr haen neillduol hon trwy ofyn pa agweddiad o'r cymeriad dwyfol a fyfyrir? Y mae prif nodwedd y pregethu yn troi ar y cwestiwn hwn. Ateber pa nodwedd, pa briodoledd neu briodoleddau o'r natur a'r cymeriad dwyfol fydd yn awyrgylch feddyliol y pregethwr, yna hawdd fydd dweyd beth fydd nodwedd ei bregethau. Hawdd canfod fod cyfnewidiad dirfawr wedi cymeryd lle yn yr ystyr hwn yn y weinidogaeth efengylaidd yn Nghymru, er amser y tadau, yn neillduol os eir mor belled ag amser Christmas Evans. Yn eu hamser hwy, yr oedd y priodoleddau o gyfiawnder, toster a phenarglwyddiaeth yn peri daeargrynfäau argyhoeddiadol. Yr oedd y cyfryw elfenau dwyfol, wrth gael eu sylweddoli yn ddyladwy yn eneidiau y pregethwyr, yn ymruo allan yn ofnadwy ddylanwadol yn eu gweinidogaeth. Cyrhaeddai y fath bregethu galonau celyd. Ni fyddai geiriau Duw trwy y fath genadon, yn dychwelyd yn weigion. Glynai y saethau yn nghalonau gelynion y brenin. Yr oedd y gwrthgloddiau mwyaf nerthol yn gorfod rhoi ffordd. Nid oedd yr elfenau dwyfol yn colli eu cymeriad trwy fyned trwy fyfyrdod a thraddodiad y genad. Hawdd oedd canu :

"Cerdd yn mlaen, nefol dân,
Cymer yma feddiant glân."

Prif lyfrau pregethwyr yr oes o'r blaen, heblaw y Beibl, oedd eiddo yr hen Buritaniaid ar y priodoleddau dwyfol. Trwy y cyfryngau hyn, deuent i gysylltiad uniongyrchol a'r nerthoedd hanfodol er gwneyd argraffiadau dyfnion ar bobloedd. Caffai y pregethwyr olwg eang ar y priodoleddau dwyfol yn ngweithiau y bobl dda hyny.

Yr oedd yr hen Buritaniaid wedi cyfansoddi eu gweithiau rhagorol yn ngoleuni tanbeidiol y diwygiad Protestanaidd. Pan ruthrodd Luther fawr wrol allan o ganol caddug yr eglwys Babaidd, gan ddal i fyny yn ei law ffaglen ddysglaer, yr athrawiaeth o gyfiawnhad trwy ffydd, caed golwg newydd ar y cymeriad dwyfol. Oddiwrth y goleu newydd hwn daeth goleuni y Puritaniaid; ac oddiwrth y naill a'r llall y daeth y diwygiad Protestanaidd i Loegr a Chymru. Cyfranogai pregethu yr oes o'r blaen o'r dylanwad gogoneddus hwn.

Yn bresenol, mae y dull yr edrychir ar y cymeriad dwyfol i raddau yn gwahaniaethu. O'r blaen, yr oedd cyfiawnder, gallu, doethineb a gras yn ffynonellau dwyfol ddylanwad. Yn awr, mae cyfiawnder a thoster o'r golwg-gras i gyd ydyw llais y weinidogaeth.

Ychydig o bregethu uffern a geir yn y pregethu presenol. Y mae yr arddull yn felodaidd a maddeugar iawn ei thôn. Y mae yr effeithiau yn niweidiol ar y pregethwr ac ar y bobl. Y mae yr olwg a gymerir ar y priodoleddau dwyfol yn rhy gyfyng ac un-ochrog, ac oblegid hyny mae y pregethu yn gyfyng ac un-ochrog. Y mae yr oll o'r priodoleddau wedi eu bwriadu i dywynu allan yn y weinidogaeth efengylaidd ar gyflwr andwyol a cholledig euog ddyn. Ac nid cynt nag y daw y weinidogaeth i wisgo y nodwedd eang yna y gwelir pregethu Cymru yr hyn ag y dylai fod.

PENOD XVII.

Yn Abertawe

Daethum i Abertawe gan ddysgwyl cael y dref yn dwyn nodwedd Seisnig estronol; yn debyg fel y mae Caerdydd a Chasnewydd. Modd bynag, nid hir y bum yn y dref heb deimlo fy mod wedi mawr gamsynied. Yn lle bod y dref yn ymarweddu mewn agwedd ddyeithriol felly, canfyddwn ei bod yn Gymreig garuaidd. Ceir ynddi lawer o siarad Saesoneg, mae yn wir, ond mae teimlad ac ysbryd y dref yn Gymreig. Pan y deuais i gysylltiad deimladol gyntaf ag ysbrydiaeth Gymreig Abertawe, cofiaf yn benodol mor fwyn-ddymunol y teimlwn. Profwn y chwaon Cymreig o'm cylch yn debyg i leddf awelon cyntaf gwanwyn. Tybiaswn yn sicr fy mod yn ei anadlu, nes ymloni o honwyf. Boddhawyd fi a'i swyn gyntaf ar y brif heol, yn y lle diweddaf y gallesid dysgwyl iddo wneyd ei hun yn hysbys i mi. Canys yn y parthau hyny y mae yr elfenau Seisnig i'w dysgwyl yn eu rhwysg mwyaf. Wedi y profiad cyntaf hwn, dyfal-wyliwn arddangosion cyffelyb fel y symudwn yn mlaen, ac yr ymwelwn â pharthau amgylchynol. Gwnaethum hyn yn benaf er cael prawfion fod yr unrhyw ysbryd Cymreig yn perthyn i'r dref yn gyffredinol. Ofnwn ar y cyntaf rhag y dygwyddasai i'r teimlad hapus droi allan yn ffug, trwy i mi ganfod nad oedd yr ysbrydoliaeth Gymreig neillduol y tybiaswn ei darganfod yn ddim amgen na rhyw fath o anianawd lleol, neu ffrwyth dychymyg ymrwyfus. Ond ni chadwyd fi yn hir yn ngafael yr ofn annymunol hwn. Canfyddwn wrth ymlwybro o honwyf, fod y cyfryw drydan yn mhob man lle yr elwn yn y dref. Wrth fyned i lawr i gyfeiriad y post office, adnabyddwn ei nodau ef. Gwelwn nad oedd dyfodiad i mewn na mynediad allan y llythyr-godau a holl estronol fusnes y byd a'r lle yn ei wyntyllu ymaith. Pan arweinid fi gan gydymaith caredig tua chymydogaeth gorsafau y cledrffyrdd, ceid yr hylif nawseiddiol yn y manau hyny drachefn.

Yn ein cwrs elem ar hyd heol glodfawr y Walter's Road, ac heibio yn arafaidd i'r anedd-dai gorwych a geir o bobtu; yno hefyd yr oedd yr ysbrydiaeth a ddenasai fy serch. Yn uwch i fyny eto, pan y'm caed yn rhodio yn hamddenol yn yr hwyrddydd ar hyd rhodfeydd pleserus, gan syllu ar y dref islaw, a'r cyffiniau morawl, yr oedd y chwa Gymreig a deimlaswn, yn cyfarch fy ngreddf-deimlad. Ac ar y Sabbothau, ynte, yr oedd presenoldeb yr unrhyw hylif yn ddiamheuol. Tua chapel Bethesda, yr oedd fel pe buasai pob cyneddf a feddwyf yn ei fwynhau. Yn nghymydogaeth yr Albert Hall a'r hen eglwys blwyfol fawr gerllaw, ac wrth fyned ar hyd heol y Bellevue, ac heibio capel Bellevue yr ydoedd bodolaeth yr elfen Gymreig yn dra theimladwy; ond yn y capeli yr ydoedd amlycaf. Yn awr, cawswn fy hun mewn adnabyddiaeth wirioneddol o anianawd ysbryd Abertawe, a'm llwyr waredu oddiwrth halogrwydd ac anghywirdeb fy syniadau Seisnig blaenorol. Gyda fy mod wedi cyrhaedd y raddfa hon yn fy ngwybodaeth o Abertawe, dyma ymofyniad yn cyfodi yn fy meddwl, o ba le y cawsai y dref hon y nodwedd werthfawr hon a berthynai iddi. Cymellai amryw dybiadau eu hunain i mi fel esboniad ar y cywreinbeth. Un dyb yw, mai dylanwad yr elfenau Cymreig cryfion yn y cymydogaethau cylchynol ydoedd achos elfen Gymreig y dref. Tyb arall a darawai hwnw yn ol, yw, fod elfenau Cymreig yn cylchynu trefydd eraill yn gyffelyb, na feddent un nôd arbenig o Gymreigyddiaeth. Gyda hyn cynygia syniad arall ei hun, gan awgrymu mai gwrthdafliad y natur Gymreig ydoedd yn erbyn gorbwysau elfenau Seisnig a fygythiasent y dref ryw dro. Teimlaswn ar y cyntaf fod graddau o gywirdeb yn y dybiaeth olaf; ac eto ni allaswn gael fy hun i edrych ar y posiblrwydd o'r fath wrthsafiad fel digonol achos i nodwedd mor werthfawr. Deallwn hefyd fod yr iaith Saesneg ac arferion Seisnig yn uchel eu safle yn y dref, yr hyn a orbwysai y dybiaeth fod y chwaeth Gymreig wedi buddugoliaethu ar y chwaeth Seisnig. Tybiwn, eto, mai effaith morwriaeth Gymreig ydyw yn ymdywallt yn barhaus i'r porthladd, gan gludo swynion Cymreig o wahanol barthau o Gymru, a hyny yn raddol wedi sefydlu i fod yn gymeriad i ysbrydiaeth y dref. Nid oeddwn foddlawn ar un o'r tybiadau crybwylledig fel esboniad digonol ar y mater. Yna ymsyniwn, pwy o ddynion mawrion dylanwadol a allasent fod yn cyfaneddu yn Abertawe pan oedd y dref eto ond lle cymarol fychan, ieuanc a dibwys, ac i'r cyfryw roddi nôd arbenig ar nodweddau Cymreig y dref. Chwilio a wnaethum. Methwn daraw ar neb, rywfodd, yn ddigon mawr a dylanwadol. Yr oedd amryw o gewri diweddar yn ymgynyg i'r meddwl-cewri a adawsant eu hol ar Abertawe er daioni; ond er hyny ni allasent hwy fod wrth wraidd y nôd Gymreig hon, am nad oeddynt bresenol yn ddigon boreu. A thra yn ymsynio yn fyfyriol am hyny, dyma y Parch. Joseph Harris (Gomer), yn ei ffurf Gymroaidd, yn dod megys yn sylweddol o'm blaen. Yr oedd ei ymddangosiad mor deimladwy a phe gwelsid cyfaill hoffus yn dyfod yn ddisymwth, a neb yn ei ddysgwyl. Dyma yr esboniad ar y dirgelwch, ebai fy enaid ynwyf. Nawsiai deigryn i'm llygaid pan y presenolodd ef ei hun i'm meddwl, a'm calon a leddfai gan dynerwch parchusol i'w natur Gymreig Gristionogol glodfawr ef. Yn ddibetrus yr wyf yn coleddu y syniad mai yr enwog Gomer a roddodd i Abertawe ei chymeriad a'i hysbryd Cymreig.

Daeth y Parch. Joseph Harris (Gomer) i Abertawe am y tro cyntaf yn y flwyddyn 1796, y lle a fwriadasid iddo gan ragluniaeth Duw i fod yn faes ei lafur ac yn orphwysfan i'w lwch. Gwasanaethodd yr eglwys Fedyddiedig yn Heol Gefn yn ddifwlch, er anrhydedd mawr iddo ei hun a'r eglwys o dan ei ofal. Bu yn llwyddianus i godi yr achos o ddinodedd i gyflwr llewyrchus a llwyddianus; ac yn benaf ar sail ei lafur ef saif yr eglwys heddyw, o ran cymeriad parchusol ar flaen y rhes yn mhlith eglwysi y cyfundeb yn y Dywysogaeth. Trwy ei ymdrechion, efe a lwyddodd i gael nifer o foneddigion a chyfeillion eraill i ymuno ag ef i gyhoeddi newyddiadur yn y Gymraeg, y cyntaf o'r fath yn yr iaith Gymraeg. Felly dydd Sadwrn, Ionawr 1, 1814, y daeth allan y rhifyn cyntaf o Seren Gomer, neu Hysbysydd Wythnosol Cyffredinol dros holl Dywysogaeth Cymru. Heblaw hyn, yr oedd ei gynyrchion llenyddol yn amrywiol a lluosog, a'r cwbl yn amcanedig i ddyrchafu ei gydgenedl mewn gwybodaeth, moes a chrefydd. Efe a wasanaethodd ei genedlaeth mewn modd rhagorol; cododd ynddynt ymofyniad am wybodaeth gyffredinol; dysgodd iaith eu hen deidiau iddynt, ac ymlidiodd o'u plith y bwbachod a'u brawychent ddydd y nos. Bu farw ar y 10fed dydd o Awst, 1825, yn 52 oed. Nid oes amheuaeth nad marwolaeth ei anwyl "Ieuan Ddu" fu yn achlysur o farwolaeth Mr. Harris. Arddangosir teimlad ei galon friw yn darawiadol iawn yn y penill hwn:

"Marw'm John roes ystyr geiriau
Gwell na holl eirlyfrau'r llawr;
Gofid, galar, o ran ystyr,
Sy'n dra eglur i mi'n awr;
Calon glwyfus, chwerwedd enaid,
Dwys ochenaid chwerw hynt,
Dagrau heilltion, coll cysuron,
Hiraeth calon-gwn beth y'nt."


Ac wrth derfynu "Galar Tad ar ol ei Unig Fab," dywedai fel y canlyn:

"Bellach, Ieuan bach, 'rwy'n tewi,
Rhag i'm meithni feichio'r wlad;
Tewi allaf, ond d' anghofio
Llwyr anmhosibl yw i'th dad;
Ti ge'st deimlo eithaf angau,
'Chydig ddyddiau o'm blaen i;
Buan daw y wys i'm cyrchu
Ar dy ol o'r anial du."

"Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig." Prawf o hyn a gafwyd yn y parch mawr a chyffredinol a dalwyd i goffadwriaeth yr anfarwol "Gomer," gan ddynion o bob cyfenwad crefyddol, ac o bob graddau mewn dysg a dawn a meddianau trwy Gymru a Lloegr.

Tra y cydnabyddir i "Gomer" adael argraff ddofn o ragoriaethau ei natur Gymreig ar holl Gymru, diau yr addefir iddo adael argraff lawn mor ddofn ar dref Abertawe, lle y bu efe yn llafurio yn benodol gyda y fath dderbyniad a pharch. Fy marn bersonol ydyw mai ei ddylanwad daionus a Chymreig ef ar drigolion Abertawe a gyfrif am yr ysbrydiaeth nawsiol Gymreig a gyniwair trwy y dref heddyw.

Bu fy arosiad yn Abertawe dros ddau Sabboth—un Sabboth a dreuliais i wasanaethu eglwys Bethesda, a'r llall eglwys Bellevue. Wrth sangu cynteddau Bethesda, meddienid fi gan deimlad o bwysigrwydd arbenig y lle. Mae yr argraff a geir oddiwrth y diaconiaid a'r blaenoriaid yn tueddu yn yr un ffordd. Teimlwn ddweyd fel Jacob gynt, "Mor ofnadwy yw y lle hwn, nid oes yma onid ty i Dduw, a dyma borth y nefoedd." Mae capel Bellevue yn llawnach, ond yn llai capel o lawer. Gwisga yr achos yma olwg lewyrchus anghyffredin o dan weinidogaeth felusaidd a gofalus y Parch John Lewis. Anaml y ceir un gweinidog yn deall ei bobl yn well nag efe. Wrth gyd-gerdded ag ef ar hyd yr heolydd, gwelwn fod ei foes-drem a'i gyfarchiadau amneidiol yn berffeithrwydd bron. Gwnaethai ddefnydd da o'i eiriau. Arweiniodd fi ar ymweliad ag amryw o deuluoedd ei eglwys. Cefais drwy hyn fantais i gael golwg ar sefyllfa amgylchiadol llawer o drigolion Abertawe, ac hefyd i wybod mewn rhan, nodau aelodau yr eglwysi.

Cefais fy moddhau yn fawr yn fy ymweliadau ag Abertawe. Bu derbyniad yr eglwysi yn bob peth allaswn ddymuno; ac ymddygiad caredig unigolion yn fwy na'm dysgwyliad, yn neillduol yr hybarch Enoch Williams, gynt o'r Garn, a gweinidog poblogaidd Bellevue. Ond y brif elfen yn fy moddineb yn Abertawe oedd ei hysbryd Cymreig dihafal.

PENOD XVIII.

Yn Sirhowi a Tredegar.

Y mae tystiolaethu am bersonau a lleoedd, eu bod yn well nag yr ymddangosant, yn ddweyd ffafriol am danynt. Y mae Sirhowi a Tredegar yn allanol yn edrych yn ddirywiol. Gwna ymddangosiad y lleoedd a'r cylchoedd i'r edrychydd ymsynio am sefyllfa wyneb y ddaear y dyddiau cyntaf ar ol y diluw. Mae y golygfeydd yn cynyrchu prudd-der yn y meddwl. Dygant arnynt arwyddion amser gwell yn y gorphenol. Ac eto, wrth ymdrafod a'r bobl, galw yn eu tai, ac ymddyddan a hwynt, ceid graddau o'r prudd-der yn cilio. Ac wrth fyned i'r capeli ceid pethau yn gwella i raddau helaethach.

Ymwelais a'r eglwys yn Carmel, Sirhowi ddwy waith; y tro cyntaf ar noson o'r wythnos, a'r ail dro ar Ꭹ Sabboth.

Cyfarfyddwn ag amryw a'm holent am eu perthynasau a'u cyfeillion yn ngwlad machlud haul. Enwaf rai o honynt: Mr. Griffiths, diacon, tad y brawd D. D. Griffiths, New Straitsville, O.; Mr. Powell, mab i Thomas Powell, diacon ffyddlon yn amser Cynddelw, a brawd i Thomas Powell, Coalburgh, O. Cyfrifir y mab hwn yn Tredegar, yn gystal a'r mab arall yn Coalburgh, yn ddynion o ddealltwriaeth uwchraddol. Clywais holi parchus am y Parch. John R. Jones, Houtzdale, Pa., ac hefyd am Cadwgan Fardd, Johnstown Pa. Yr oedd amryw yn crybwyll am dano ef gyda pharch mawr. Rhoddes Mr. Samuel Thomas, Tredegar, i mi benill a wnaethai Cynddelw i Cadwgan ar ei fynediad i America. Dyma y penill:

"Wrth groesi 'r cefnfor llydan
O'ı anwyl wlad ei hunan,
Paid for a gwneuthur gwyneb swrth,
Na digio wrth Cadwgan."

Ar y Sabboth bedyddiais ddwy chwaer ieuanc yn y man hwnw lle yr yr arferai Cynddelw weinyddu yr ordinhad. Parai hyn i mi ddyddordeb nid bychan.

Megys yr awgrymais, nid yw yr eglwys na'r gynulleidfa mor fawrion ag y byddent flynyddau yn ol, er hyny mae y naill a'r llall yn dal i fyny yn rhyfeddol o dan yr amgylchiadau.

Lletywn yn nhy y brawd E. Richards, dilledydd, a boreu dydd Llun daeth gyda mi i fynwent Carmel, ac i weled y ty yr arferai Cynddelw fyw ynddo.

Yn y fynwent gwelais feddau rhai o hen ddiaconiaid enwog yr hybarch weinidog. Sefais yn hir wrth fedd y ffyddlon Thomas Powell a'i anwyl briod, Mrs. Susannah Powell. Bedd nodedig arall oedd bedd Mrs. Hannah Ellis, gwraig gyntaf Cynddelw. Y mae'r llinellau canlynol ar ei bedd-faen :

<poem "Er rhoi ei chorph i orphwys Yn ngharchar y ddaear ddwys, Cwyd ei llwch o'r trwch lle trig, Llygradwy'n anllygredig; Yno'i cawn o fewn y cor, Heb len ar wedd ei Blaenor; Diau'n chwaer dan ei choron, Onid hardd yw enaid hon? </poem>

Bu farw Mehefin, 1850, yn 35 mlwydd oed.

Ar fy ymweliad a hen gartref Cynddelw, yr oedd math o brudd-der hiraethlon yn fy meddianu. Aethum i'w hen fyfyrgell. Ceisiwn sylweddoli yr amser gynt pan yn galw heibio, ac yntau, y pregethwr mawr, yn preswylio yno. Ymsyniwn am y cyfnod pan oedd Cynddelw a Chadwgan Fardd yn ymryson prydyddu ar lawer testyn difyrus, a minau yn hoglanc yn Porthmadog, yn dysgwyl yn bryderus bob dechreu mis am y Tyst a'r Greal, er cael rhyw dameidyn o'u gwaith.

Pan yn Sirhowi y daeth y Parch. Robert Ellis yn Cynddelw. Yno y cyrhaeddodd ei enwogrwydd fel

Y PARCH. ROBERT ELLIS (Cynddelw).


bardd a llenor Cymreig. Y pryd hwnw daeth y wlad i'w adnabod fel cymeriad cenedlaethol. Yr oedd amryw bethau yn cydgyfarfod i'w wneuthur ef yn ddyn mawr yno. Y pymtheg mlynedd hyny o'i oes a'u caffent ef yn yr oedran hwnw pan y mae cyneddfau dynol yn cael eu hystyried yn eu llawn addfedrwydd. Llafuriai hefyd yn mhlith dosbarth o bobl oeddynt yn gallu gwerthfawrogi ei ddoniau. Casglasai o'i amgylch ysbrydoedd cydnawsiol. Lluaws a'i gwrandawai yn pregethu a ddygasai efe i fyny i gyflwr meddyliol o'r un anianawd ag ef ei hun. Dyhidlai ei arabedd yn Eisteddfodau y cylchoedd nes hyfwyno dynion megys a gwin. Daeth melodedd yn ei enw. Rhoddodd Robert Ellis le i Cynddelw.

Yn y tymor hwn cynyddodd ei ffraethineb yn rhaiadr. Yn ychwanegol at ei ddigrifwch a'i or-hoender blaenorol, daeth ffrydiau hynafiaethol, barddonol, a chwedl-hanesiol yn llifeiriol. Daeth ei feddwl fel cronfa fawr (reservoir) o hylifau difyrion Cymreig, a ffraethinebau cymeriadau gwreiddiol yr hen oesau, nes gwneyd ei areithiau a'i ymddyddanion yn swyngyfareddol.

Yr oedd sefyllfa y gweithfeydd ac amgylchiadau y bobl yn y blynyddau hyny yn cyd-daro. Yr oedd masnach ar ei huchelfanau, a chysuron bywyd yn ddi-drai. Poblogaeth fawr y parthau hyny yn cael eu llenwi a lluniaeth ac a llawenydd.

Yn ol deddfau llawysgrifeg, gellir adnabod ei arabedd yn ei lawysgrif, o'r hon y rhoddwn yma engraifft:

Mae ffraethineb yn olion ei ysgrifbin. Ymagwedda y llythrenau yn ddigrifol. Y mae y geiriau yn gwmpeini difyrus. Mae delweddiad gwynebpryd Cynddelw yn nelweddiad ei ysgrifiaeth.

Ar fy ymweliad a Tredegar canfyddwn gryn wahaniaeth yn ymddangosiad y lle er cynt. A chymeryd cyfnewidiadau trwy farwolaethau, ac ysgydwadau masnachol a phethau eraill i ystyriaeth, y mae achos crefydd er hyny wedi dal ei dir cystal ag y gellid yn rhesymol ddysgwyl.

Dywenydd mawr i mi oedd cyfarfod yma a Mr. Richard Bebb. Bu ef fyw flynyddau meithion yn America, a phob amser yn ffyddlon i'w enwad. Tra yn teimlo ei hun yn myned yn hen ac yn unig, penderfynodd ddychwelyd i Gymru a chartrefu gyda merch iddo yn Tredegar. Caffed Richard Bebb hin-dda yn hwyrddydd bywyd. Hen frawd crefyddol a chadarn yn yr ysgrythyrau yw efe-un o hen ddysgyblion ffyddlon Cynddelw.

PENOD XIX.

Cofion at Berthynasau a Chyfeillion

Caredigion lawer yn Nghymru a geisient genyf eu cofio yn garedig at berthynasau a chyfeillion yn America. Minau, fel rheol, a addawswn gydsyrio a'u ceisiadau. Dysgwyliwn wrth addaw, y cawswn gyfleusdra i weled y personau y cofid atynt. Wrth ymweled a gwahanol fanau, ychwanegai rhif y ceisiadau hyn yn ddirfawr. Yn y man dechreuwn sylweddoli mawredd fy nghyfrifoldeb. Ceisiais fod yn fwy gochelgar rhag amlhau addewidion o'r fath. Modd bynag parhau i ychwanegu yr oedd rhif y ceisiadau cofianol. Wedi glanio yn America dechreuais drosglwyddo y cofion mor fuan ag y gallwn i'r personau priodol, ac mae y gwaith hwn yn myned rhagddo yn gyson, a dysgwyliaf y byddaf o fewn ychydig fisoedd eto wedi cyflawni fy addewidion yn y fusnes gofianol yn bur llwyr oddieithr yn y Talaethau Gorllewinol. Gwelaf, wrth edrych dros fy nydd-lyfr, fod amryw o'r rhai y cofir atynt, yn y Talaethau pell Gorllewinol, y rhai nad allaf ddysgwyl eu gweled yn bersonol, o'r hyn lleiaf yn y dyfodol agos. Er gwneyd y diffyg hwn i fyny, penderfynais roi rhestr yn y llyfr hwn o'r cofion hyny ag y mae eu gwrthddrychau yn y parthau pellenig, gan hyderu y treigla y cofion atynt yn llwyddianus, yn debyg fel y treiglai brysebion o fryn i fryn yn yr hen amseroedd yn Nghymru. Mae yn bosibl y gwna personau a welont y cofion yma hysbysu ffryndiau mwy Gorllewinol am danynt, ac y bydd i'r rhai hyny drachefn hysbysu rhai pellach eilwaith, nes o'r diwedd y cyrhaeddant y person bwriadedig. Ac os dygwydd na chyrhaeddant yn ddiogel mewn rhai engreifftiau, gall y cofion, yn ddiau, wneyd dirfawr les i deimladau cymdeithasol pobl ar eu hymdeithiad heibio iddynt. Gallant fod yn foddion i lareiddio teimladau chwerwon. Gallant ddeffroi rhai difraw a difeddwl am ffryndiau mewn parthau pellenig. Gallant alluogi pobl i weled llinynau mor fendigaid a chryfion sydd yn rhwymo y ddwy wlad wrth eu gilydd. Gallant fod yn esiamplau da i amryw. Rhoddaf yma restr dalfyredig o'r cofion, o'm dydd-lyfr :

Mae William Evans, ger Machynlleth, yn anfon ei gofion caredig at ei ewythr, Zachariah Davies, brawd ei dad, yn Ashtaroth, Col. Ceisiodd genyf ei hysbysu y bwriada ymfudo yn fuan i America. Cwynai fod amgylchiadau amaethwyr yn gwaethygu yn barhaus yn Nghymru, a bod y rhenti mor uchel fel mai anmhosibl cyfarfod a'r gofynion.

Evan Risiart, Nant-y-brân, Brycheiniog, a hoffus gofia at ei hen gymydog John Hughes, San Francisco, California. Mae Beti Rowland, Cae Isaf, yn cyd-anfon ei chofion.

Ceisiodd Shon Wmffra Dafydd, Tyddyn-y-clawdd, ger Minfro, genyf ei gofio yn y modd mwyaf caredig at David Williams, y saer, Ratcliff, Texas. Dywedai fod ei fab yn llwyddo yn dda fel doctor, a llawenychai yn y dysgwyliad y bydd yn fuan yn un o ddoctoriaid goreu y parthau hyny.

Mari Ifan, Llan-on, a serchus gofia at ei chwaer, a dybia sydd yn byw yn Arkansas.

Henry Jones, Pant-y-goitre, Ceredigion, a enfyn ei gofion mwyaf cynes at John Davies, y blaenor (hen flaenor yn y capel gerllaw), Bath, Dakota.

Richard Jones, Ochr-y-bryn, Pennant, am siarsiodd i gofio yn garedig at ei fab yn Karkeo, Tennessee. Ceisiodd genyf grefu arno ysgrifenu atynt, a dweyd wrtho fod ei fam yn wylo yn hidl yn aml oblegid ei ddifatererwch yn peidio ysgrifenu. Y fath resyn yw fod bechgyn yn anghofio eu rhieni a'u hen gartref. Ysgrifened y bachgen hwn yn fuan, yn ol y cais, ar bob cyfrif.

John Parry, Twyn-yr-odyn, ger Caerdydd, a'm hysbysai fod ganddo fab yn Silver Plume, Col., ac nad yw wedi clywed oddiwrtho er's peth amser, a'u bod fel teulu yn anesmwyth yn ei gylch. Cofied John am ei rieni.

Mae Ellen Evan (ebe hi gelwch fi Neli Ifan Shon), Pen-y-rhiw, Sir Fon, yn cofio at ei modryb, Gweno Hughes yn Postville, Neb.

Samuel Roberts, Tan-y-grisiau, anfonai ei gofion at ei gefnder, Gabriel Jones, Wyoming, W. Virginia.

John Ellis, ger Ystum-cegid, Eifionydd, a geisiai genyf hysbysu ei frawd-yn-nghyfraith, John Meredydd, a dybia sydd yn byw yn ngymydogaeth Frostburgh, Md., y dysgwylia gael ei wneyd yn Ustus Heddwch yn fuan, yr hyn fydd yn beth newydd yn mhlith yr Ymneilduwyr yn y parth hwnw. Gwyr yr eglwys wladol, ebai, sydd wedi arfer dal yr holl swyddi. Mae Mr. Meredydd yn ddyn cyfrifol iawn, ac aelod dichlyn gyda y Trefnyddion Calfinaidd. Cofia yn garedig at Mr. Meredydd a'i deulu.

Thomas Richards, Llwyn-Dafydd anfona ei gofion caredicaf at yr hen Gymro twym-galon Dafydd Edwards, sydd yn byw yn rhywle yn Kansas (ni chofiais roddi enw y lle yn fy nyddlyfr.) Ceisiai Mr. Richards genyf ei hysbysu fod yr iaith Gymraeg yn dod i fri yn brysur y dyddiau hyn yn Nghymru, a bod eu cynrychiolwyr yn areithio yn Gymraeg yn y Parliament, os bydd galwad.

Cymydog i Mr Richards-Griffith Pugh—a dystiai fod y Gymraeg yn dechreu cael ei hefrydu yn y colegau a'r prif-ysgolion; a bod ambell i ardal yn dechreu defnyddio ei hawl i'w dwyn i arferiad gystadleuol yn yr ysgolion dyddiol. Bydd Dafydd Edwards yn sicr o fod yn falch clywed newyddion da fel hyn parth yr hen Omeraeg. Y ddau a gofient yn garedig ato.

Mae Gwladys Jones, y Bwlch, yn anfon ei chofion mwyaf cynes at Nansi Tomos, Charlemagne, Ill. Dymunai arnaf ei hysbysu fod ganddi dy newydd hardd yn awr yn lle yr hen dy to gwellt gynt, ond ei bod yn hiraethu am yr hen dy yn barhaus, ac yn ofni na fyddai byth mor ryw ddedwydd yn y ty newydd ag yn yr hen dy.

Sian Owen, y Brithdir a gofia yn garedig at ei nith yn Miltonia, Washington Territory. Perai i mi ei hysbysu, os gwelwn hi, fod Mali Sioned wedi priodi rhyw hen lanc cyfoethog, a'u bod yn byw yn gysurus gerllaw iddynt.

Daniel Hughes, gôf, ger y Pandy, Powys, a gofia yn frwdfrydig at Philip Williams, Juston, W. Virginia. Cefais lawer o hanes yr ardal hono yn y dyddiau gynt, gan Mr. Hughes. Rhoddai air uchel iawn i Philip Williams fel cymydog dyddan a charedig, a dywedai i'r ardal gael colled ddirfawr ar ei ymadawiad i America.

Nathaniel Williams, Tyddyn-dicwm, a gofia yn y modd mwyaf caredig at Richard Ambrose, Aurora, Ill. Adroddai Mr. Williams wrthyf am helynt ddigrif ddygwyddasai yn ddiweddar yn y gymydogaeth rhwng dau ddyn o'r enw Hugh Siams a Dafydd Powell. Dywedai i achos yr helynt ddygwydd adeg "lladd" mawn yn y fawnog gerllaw, trwy i Dafydd syrthio dros ei ben i dwll dwfn a dorasai bachgen Hugh yn y mawndir meddal, pan ydoedd y bobl yn absenol adeg ciniaw. Torasid y dyfndwll, mae yn debyg, ar lwybr Dafydd, a chuddiasid ei arwyneb a thywarchen ysgafn, yn cael ei dal i fyny gan fân frigau. Adroddid fod golwg ddyeithr ar y syrthiedig yn dyfod i'r lan o'r gabolach fawndirol. Cyffrodd hyn Dafydd gan ysbryd dial, ac nid hir y bu cyn cael gafael ar y bachgen, awdwr y gyflafan. A phan oedd y troseddwr ieuanc o dan y gurfa, dyma ei dad yn prysuro i'w amddiffyn, a bu yn helynt blin.

Mae Mali Roland, y Gwyndy, hen chwaer dduwiol a gyfanedda gerllaw y Plas Hen, yn dymuno ei chofio at deulu William Bowen, Yiow, Washington Territory. Adroddai cymydog wrthyf fod yr hen chwaer uchod yn nodedig am ei chrefyddolder; a'i bod yn enwog am roi hwyl i'r pregethwr os caffai ddigon o rad ras yn y bregeth. Meddyliai Mali lawer o deulu Mr. Bowen fel pobl grefyddol, pan y preswylient gerllaw iddi.

PENOD XX.

Yn Nghwm Rhymni.

Y lle pwysicaf yn y Cwm hwn ydyw Rhymni. Saif y pentref hwn gerllaw afon Rhymnwy, yn nherfyniad cledrffordd Rhymni, yn gyfagos i'r cysylltiad a Brycheiniog a Morganwg, dwy filldir a haner i'r gogledd o Dredegar. Y mae gweithiau haiarn yma, a ffwrneisiau wedi eu hadeiladu ar y cynllun Aiphtaidd, mewn cadernid mawr.

Gelwais gyntaf yn Pontlotyn, yr hwn le a saif yn nghwr isaf y pentref. Bugail yr eglwys Fedyddiedig yma yw y Parch. J. P. Williams, Ph. D. Mae efe wedi llafurio yma er's blynyddau meithion. Anfynych y ceir gweinidogaeth mor hir-barhaol a'r eiddo ef. Cymer ef ran flaenllaw mewn mudiadau cyhoeddus, lleol a phlwyfol. Efe yw cadeirydd Bwrdd Ysgolion y rhanbarth hono. Mae brawd i'r Parch. D. S. Thomas, M. A., Shenandoah, Pa., yn aelod parchus yn eglwys Dr. Williams.

Gweinidog presenol Jerusalem ydyw y Parch. J. R. Evans. Lleinw ei le yn rhagorol. Rhif yr eglwys hon yn 1885 oedd 212. Corphorwyd hi yn 1844. Oddiwrth ddull gwyr y sêt fawr, a'r bobl gyffredin yn gwrandaw, gellid barnu fod yr eglwys hon mewn teimlad crefyddol dymunol. Yr oedd eu hawddgarwch, yn weinidog ac eglwys, yn nodedig.

CAPEL PENUEL, RHYMNI.


Corphorwyd eglwys Penuel yn 1828. Hon ydyw y fam eglwys. Rhif yr eglwys yn 1885, oedd 298. Y gweinidog presenol yw y Parch. G. Griffiths. Mae eglwys Penuel yn enwog er ys dros ddeugain mlynedd. Breintiwyd yr eglwys yma â gweinidogaeth rhai o'r talentau dysgleiriaf a feddai yr enwad am flynyddau, megys yr enwog Iorwerth Glan Aled, y Parch. D. Rhys Jones, Plymouth, Pa., ac eraill. Tybiwn fod effeithiau pregethu uwchraddol yn ganfyddadwy ar gynulleidfa Penuel pan yn ceisio ei hanerch.

Anrhegwyd fi gan Mr. Griffiths, y gweinidog, a photograph cywir o gapel Penuel, a chan y credwyf y bydd yn dda gan laweroedd yn America, a fuont yn aelodau ac yn addoli Duw yn Penuel, gael darlun o'r hen deml enwog, mynais gael cerfiad da o'r photograph, i'w argraffu yma gyda hanes fy ymweliad a'r lle.

Bu fy ymweliad a'r eglwysi yn Rhymni yn adnewyddiad ysbryd i mi, ac y mae adgofion melus a gwerthfawrogol genyf am y tro.

Ychydig filldiroedd yn is i lawr y Cwm y mae pentref New Tredegar. Oddiyno yr ymfudodd i America, y brawd Vaughan Richards, Nanticoke, Pa., a'i deulu, a'r Parch. John Seth Jones, ac y mae iddynt lawer o gyfeillion mynwesol yno yr awrhon.

Yr oeddwn yn awyddus i alw yn Bargoed, a daethai y cyfleustra. Ar fy ffordd oddiwrth orsaf y gledrffordd i lawr y pentref, wedi croesi y bont, gwelwn ddyn a dynes yn nrws ty ar y ddehau i mi a'u llygaid yn gyfeiriedig ataf. Tybiwn oddiwrth eu hedrychiad ymofyngar y dyfalent yn egniol pwy a allasai fy nynsawd fod. Diau y credent, wedi fy agoshad, mai y gwr dyeithr o America, a gyhoeddasid yn y capel y Sabboth, oeddwn. Ymddangosent erbyn hyn yn awyddus i'm hanerch fel y cyfryw, ond yn rhy ochelgar i wneyd hyny. Gan nad oeddynt hwy yn tori trwodd i fy anerch i, myfi a'u cyferchais hwy, gan ddweyd, "Ie siwr, y gwr dyeithr o America ydwyf, yn dyfod at fy ngyhoeddiad i'r Bargoed. A welwch chwi yn dda fy hysbysu yn mha le yma mae ty Mr. Parish?" "Y mae ei dy ef ychydig i fyny y bryn. A welwch yn dda droi i mewn i'n ty ni yma am enyd?" Cydsyniais yn ddiolchgar. Deallais yn fuan i mi fod yn gywir parth eu dyfaliad am danaf. "Yr oeddym yn tybied, ebe y gwr, mae Giraldus o'r America oeddych. Mae yn dda genym eich gweled. A welwch yn dda aros yma gyda ni i de." A hyny fu eto. Ai tybed fod cymdeithion mwy dyddan na rhai felly i'w cael ar wyneb y ddaear? Am danaf fy hun, gallaf ateb a dweyd, nad oes neb y byddaf yn mwynhau eu cymdeithas a'u caredigrwydd yn fwy nag eiddo y bobl gyffredin, ddiniwaid, di-ddichell grefyddol, ac o'r cyfryw nodweddau y cefais y teulu hwn.

Mae eglwys y Bargoed wedi cael colledion pwysig yn y blynyddau diweddaf trwy farwolaethau ffyddloniaid —Mr. Phillips, Gilfachfargoed, ac eraill. Buasai rhagluniaeth ddwyfol yn garedig neillduol wrth y Parch. J. Parish, y gweinidog, ychydig ddyddiau yn flaenorol, trwy roi iddo ail wraig, yn ymgeledd gymwys iddo ef a'i blant; boneddiges rinweddol a chrefyddol o Sir Fon. Ystyrid Mr. Parish yn dra ffortunus o'i chael, ac ymddangosai yntau ei fod yn credu hyny.

Ychydig bellder o'r Bargoed y mae Cwm-sy'-fuwch Oddiyno yr ymfudodd y brawd ffyddlon Samuel Morgan, Jermyn, Pa., i America. Holid yn barchus iawn am dano ef gan amryw.

Ar fy ymweliad a'r Bargoed, dygwyddodd fod eira trwchus dros y ddaear. Gwnaeth yr eira dwfn fy nhaith dros y mynydd i Argoed yn dra anfelus. Gyda cryn anhawsder yr ymdeithiwn tua hen eglwys Bedwellty. Gan nad oeddwn yn sicr o'r llwybr, gelwais yn nrws gwesty ger yr eglwys, am gyfarwyddyd. Wrth fod cysgodau yr hwyr yn ymdaenu, y ffordd yn hytrach yn ddyeithr, a'r eira yn drwchus, ymlwybrwn yn ffrystiog. Erbyn cyrhaedd tỷ Mr. J. Jenkins, Argoed, nid oeddwn mewn cyflwr cysurus i fyned i'r pwlpud, Yr oedd yr eira wedi gallu gweithio ei ffordd at y traed. Mynwn beidio rhoi trafferth, ond inynai Mrs. Jenkins i mi wneyd tegwch a'm deudroed trwy offerynoliaeth hosanau sychion. Teimlwn fod cysuron y ty hwn yn ad-daliad da am y drafferth o gyrhaedd iddo.

Mr. Jenkins yw prif noddwr dynol eglwys Argoed. Mae ei grefyddolder a'i amgylchiadau bydol yn ei wneyd yn foneddwr pwysig yn y lle, ac yn lleygwr dylanwadol yn yr enwad. Efe yw Trysorydd Cymdeithas Ddarbodol y Gweinidogion.

Corphorwyd eglwys Argoed yn 1818. Rhif yr eglwys yn 1885 oedd 125. Y gweinidog presenol yw y Parch. E. George.

Mae amryw grefyddwyr da wedi ymfudo o'r Argoed i America. Wele rai o honynt: y Parch. B. E. Jones, Wiconisco, a'i frawd, Lewis Jones, a John R. Jones, Minersville, Pa.; y Parch. William Lawrence, Syracuse, Swydd Meigs, O.; a brodor o Bedwellty, gerllaw, ydyw Edward Saunders, Mason City, W. Virginia.

Pan ddychwelais i Gwm Rhymni, y man cyntaf y gelwais oedd Pengam, lle oddeutu dwy filldir islaw Bargoed. Bu yr eglwys hyd yn gymharol ddiweddar o dan amddiffyn hen fam eglwys Hengoed. Lletywn yma gyda pâr oedranus parchusol, ac aelodau ffyddlawn yn yr eglwys. Yr hen wraig, Mrs. Ann Rees, a ddymunai arnaf eu cofio yn garedig at Mr. John W. Howells, Gilberton, Pa., a'i deulu. Cwynai yr hen wr oblegid llesgedd, peswch, a diffyg anadl.

Brawd nodedig flaenllaw a berthyn i'r frawdoliaeth yn Pengam, ydyw J. L. Meredith. Mwynheais fy ymweliad a Pengam. Yn perthyn i'r adran hon o'r daith, yr oedd fy ymweliad a Hengoed. Er cryn siomedigaeth i mi, methais drefnu i gael cwrdd yn yr hen gapel. Bu yr oedfa yn yr ysgoldy gerllaw Bryn-mynachfferm. Aelodau pwysig yn eglwys Hengoed ydyw brodyr, chwaer, a pherthynasau eraill i'r Parch. Richard Edwards, Pottsville, Pa.

Corphorwyd eglwys Hengoed yn 1650. O dan weinidogaeth yr enwog Barch. John Jenkins, D. D., y daeth eglwys Hengoed yn glodfawr. Mae ei argraff ef ar yr eglwys a'r gymydogaeth yn amlwg iawn hyd heddyw. Un o ddynion mwyaf ei enwad a'i genedl, yn ei ddydd, oedd efe.

Yn nesaf, aethum i Machen. Pregethais yno yn Saesoneg. Seisnigeiddiais fy hun, ac yn neillduol fy nhafod, hyd eithaf fy ngallu am y tro. Teimlwn yn angenrheidiol i wylio yn ofalus ar fy ymadrodd rhag y dygwyddasai i eiriau Cymreig andwyo fy mhregeth Seisonig. Credwyf i mi fod yn llwyddianus yn y wyliadwriaeth orbwysig hono, fel na ddaeth yr un gair Cymraeg o'm genau; ond addefwyf y bu gair Cymraeg neu ddau bron ar fy nhafod. Y fath waith caled ydyw ceisio pregethu Saesoneg o dan y cyfryw ofn—ofn geiriau ei iaith ei hun.

Mae yn Machen weinidog rhagorol-y Parch. John Morgan. Daethai yma yn 1884, o Lanwenarth. Bu tymestl gref yn curo ar yr eglwys yn Machen cyn ei ddyfodiad ef; ond yn awr y mae yn gwisgo agwedd well.

PENOD XXI.

Pregethwr Poblogaidd.

Y pregethwr poblogaidd hwn yw y Parch. E. Herber Evans, gweinidog i'r Annibynwyr yn Nghaernarfon. Pan yn Nghymru ddiweddaf cefais gyfleusdra rhagorol i'w wrando yn pregethu. Yr oedd hyn mewn cyfarfod mawr blynyddol yn Mhwllheli. Yn yr oedfa hono pregethid o'i flaen gan y Parch. Mr. Thomas, Glan-dwr, D. C. Pregethai Mr. Thomas yn rhagorol; ond pan yr esgynodd y gwron o Gaernarfon i'r pwlpud yr oedd y llefaru yn fwy grymus. Er pan y clywswn ef yn pregethu yn Risca, oddeutu ugain mlynedd yn ol, canfyddwn ynddo welliant dirfawr fel llefarwr cyhoeddus. Y pryd hwnw yr oedd llawer o bethau diwerth yn ei bregeth; yn bresenol yr oedd yn fwy sylweddol ac effeithiol. Gwelwn fod yni ac aiddgarwch pregethwrol yn ei lwyr feddianu. Yr oedd yn anesmwyth ac aflonydd gan frwdfrydedd cyn iddo esgyn i'r areithfa. Tybiwn wrth edrych arno yn y wedd hon, y cynhyrfid ei ysbryd eisoes gan ei faterion, ac yr enynai tân ynddo. Ei destyn oedd 2 Bren. 2: 14. "Pa le y mae Arglwydd Dduw Elias?"

Mae ymddangosiad golygus Mr. Evans yn y pwlpud yn fawr yn ei ffafr. Mae iddo ardremiad awdurdodol. Mae iddo barabliad croew. Ni amcana ddylanwadu â llais. Mae yn siarad yn mlaen gan adael i'r drychfeddyliau ymwneyd â chalonau. Ymafla yn ei waith yn fedrus. Teimlir ar unwaith ei fod yn feistr y gynulleidfa, ac yn mhell o fod yn ddyn cyffredin. Nid yw hwyrfrydig yn dod at ei bwnc, ond ymeifl ynddo yn ddioed ac egniol. Mae swn ysbryd ei fater yn ei leferydd a'i oslef.

Buan ar ol iddo ddechreu, adnabyddwn ynddo amryw ragoriaethau pregethwrol. Yr oedd ei bwnc yn amserol, yn ol fel yr oedd ef yn ei gymwyso. A dyma sydd yn cyfansoddi pregethwr ymarferol. Mae llawer o son yn y dyddiau hyn am yr ymarferol, yn wrthgyferbyniol i'r athrawiaethol. Honir mai y pregethu ymarferol y mae yr oes yn sefyll mewn angen mawr am dano. Credwyf mai angen y bobl sydd i benderfynu pa un ai athrawiaethol ai ymarferol ddylai pregethu fod. Mae yn eithaf posibl i'r hyn a ystyrir yn ymarferol mewn ffordd o ddyledswyddau, fod yn hollol anymarferol lawer tro. Pan y mae ar y bobl eisiau eu goleuo am natur dyledswyddau, ac am gymeriad y bywyd Cristionogol, a phan y byddont yn anwybodus am gyfiawnder, dirwest, a'r farn a fydd, yr athrawiaethol sydd fwyaf ymarferol. Deallwn fod y pregethwr hwn yn dal lamp ddysglaer ei destyn uwchben anwybodaeth y bobl, gan ofyn, "Pa le mae Arglwydd Dduw Elias?" Cael allan y lle yr oedd Efe, oedd y pwnc mawr. Hyny oedd yr ymarferol pwysicaf iddynt o dan yr amgylchiadau. Yr oedd cyflwr moesau a chrefydd y wlad, ac yn Llundain fawr, fel yr eglurai efe, yn arwyddo fod Arglwydd Dduw Elias wedi myned ar goll. Traethai fod cymeriad y weinidogaeth yn ei haneffeithiolrwydd ar ddynion, yn arwyddo fod y dwyfol yn absenol. O dan y fath amgylchiadau, ac yn ngwyneb cyflwr mor andwyol, ofer pregethu dyledswyddau, na manylu ar rinweddau. Eisiau cyd-ddymuno a'r bardd Cristionogol sydd:

"Bywyd y meirw, tyr'd in plith,
A thrwy dy Ysbryd arnom chwyth;
Anadla'n rymus ar y glyn,
Fel byddo byw yr esgyrn hyn."

Cyfaddasrwydd y bregeth at gyflwr ysbrydol y wlad, oedd yn ei gwneyd yn dra ymarferol. Gair yn ei bryd ydoedd. Yr oedd min ar ei ymadrodd ef. Parod oedd amryw a'i gwrandawai, i gyd-ofyn ag ef, a dweyd, "Pa le y mae Arglwydd Dduw Elias?" Ac O! am ei gael Ef!

Canfyddwn yn ei arddull nodwedd werthfawr arall—agosrwydd at ei bwnc a'i faterion. Nid oedd yn sefyll o bell oddiwrth wrthddrychau ei fyfyrdodau. Nid oedd yn siarad am ryw bethau draw oddiwrtho. Nid oedd ei faterion ac yntau yn ddyeithr i'w gilydd. Nid oedd yn llefaru ar antur. Na, yr oedd y sylweddau y traethai am danynt yn bresenol iddo. Nesâi mor agos atynt nes y teimlai angerdd eu gwres a'u rhin. Yn canlyn yr oedd cynesrwydd. Deuai y pregethwr i'r fath gysylltiad agos ag adnoddau dylanwad ysbrydol nes yr ymlenwai o hono yn bersonol. Cymdeithasai ei ysbryd ef ag ysbryd ei destyn, nes ei gymwyso a’i urddasoli i lefaru wrth ysbrydoedd ei wrandawyr.

Yn gysylltiedig a hyn, eto, yr oedd dwysder ac angerddoldeb. Yr oedd efe yn llefaru yn ddigoll, yn gryf ac yn rhwysgfawr, nes gwneyd y bregeth yn ymerodrol. Fel yr elai y pregethwr rhagddo, yr oedd yr elfenau gwerthfawr a nodwyd yn grymuso. Ymdoddent i'w gilydd nes gwneyd ffrwd ei areithyddiaeth yn rhyfeddol o effeithiol.

Y mae dilyn glanau y cyfryw ffrwd gref yn awr, yn peri i'r teimlad ad-sylweddoli mewn rhan, yr effaith arnaf y pryd hwnw. Gwnai y bregeth hon gymeradwyo ei hunan i gydwybodau. Nid oedd angen i neb ofyn ar y diwedd, pa fodd yr oedd yn hoffi y bregeth. Yr oedd ei heffaith wedi gwneyd gofyniad o'r fath yn afreidiol. Un a ddywedai wrth y llall wrth ymlwybro tua chartref, "Wel, dyna bregeth dda;" nid fel ymholiad, ond fel sel gymeradwyol o'i dylanwad.

Mae Mr. Evans yn llefaru mewn arddull hollol naturiol. Mae ei athrylith bregethwrol yn rhy gref i blygu i arddull o eiddo arall. Ymddengys o flaen y bobl yn syml a dirodres. Ni adnabyddir ynddo yr un ymgais neillduol am effaith na hwyl-ymgeisia am bethau pwysicach. Mae ei ddull o ddweyd yn cyfateb i'w faterion, a'i faterion yn cyfateb i'w ddull o ddweyd.

PENOD XXII.

O Talybont i Aberystwyth.

Ar fy ffordd i Dalybont, aroswn yn ngorsaf Bowstreet, gan ddysgwyl yn ddyfal i'r gwlaw mawr beidio—a dyna wl——, O na, gwell i ni ymatal, a pheidio cwyno am y gwlaw, oblegid mae digon o hyny yn cael ei wneyd gan ymwelwyr Americanaidd Cymreig eraill. Druan o Gymru —fy anwyl wlad. Drwg genyf fod cynifer o'th blant yn achwyn arnat, yn dy feio am dy wlaw, a'th oerfel, a'th ymborth, a'th arferion, pan y deuant am dro i edrych am danat. Cyfaddefwyf gyda blinder wrthyt, fod llawer o hyn yn cael ei wneyd gan rai a fegaist yn dyner, ac a wesgaist yn hoffus i'th fynwes; a rhaid addef fod hyn yn cael ei wneyd yn aml gan rai ar ol dychwelyd i'r byd Gorllewinol, yn nghlyw estroniaid, y rhai ydynt yn rhy barod eisoes i dy wawdio. O! fy ngwlad, fy hoffus wlad, pell y byddo oddiwrthyf fi y fath ymddygiad ac iaith anwladgarol. Tra y mawrygaf freintiau gwlad estronol, ni chaiff dy glustiau byth glywed fod dy fab hwn yn dweyd yn ddifriol am danat. O! fy ngwlad!

Talybont, yn Sir Aberteifi, sydd yn dra adnabyddus yn hanes y weinidogaeth Fedyddiedig yn Nghymru er haner can' mlynedd neu ychwaneg. Yma, ryw dro, cawn Dr. Cefni Parry hylithrfawr, dduwinyddol ac athronyddol; ac wed'yn y Parch. John Evans, brawd Dr. Fred Evans, ac eraill enwog, fuont yn ffaglu gweinidogaeth yn y lle, nad allaf eu rhestru yma wrth eu henwau yn gywir. Yr oedd yno amryw yn siarad yn dyner-goffaol am y naill a'r llall a enwyd, ac yn fwy manylaidd, am y Parch. John Evans, fel y mwyaf diweddar yn eu plith. Brodorion o'r lle hwn ydyw y Parchn. D. Rhys Jones, Plymouth, Pa.; H. Gwerfyl James, Spinther James ac E. Morddal Evans. James W. Roberts, Utica, N. Y., sydd frodor o fewn dwy filldir i Dalybont. Parai y pethau hyn, yn gystal a dyddorion presenol yr eglwys, y lle, a'r gymydogaeth, i mi deimlo yn ddeffroawl i bwysigrwydd Talybont. Cefais achos i gydymdeimlo a'r gweinidog haeddbarch presenol, y Parch. M. F. Wynne, yn ei gystudd a'i waeledd. Methai wasanaethu yn y pwlpud gan wendid corphorol yr adeg hono; a phleser i mi oedd croesi dros y bryniau o Benrhyn-coch, er ceisio llenwi ei le am ddau o'r gloch brydnawn Sabboth.

Siarsiodd llaweroedd arnaf yno eu cofio yn garedig at eu hen weinidogion, eu perthynasau, a'u cyfeillion yn America. Tipyn o drafferth a gefais i gael allan yn. mha le yr oedd Penrhyn-coch—ymguddia yn nwyfchwareus rhwng traed a bysedd y bryniau. Galwyd y lle yn Penrhyn-coch, efallai, mewn rhan o herwydd ei berthynas a gorllewinbarth y gymydogaeth.

Hen eglwys sydd yma i'r enwad. Mae golwg henafol arni, ar ei phobl (lawer o honynt), ar y capel, ac ar y fangre. Dechreuwyd yr achos yma gan yr hen frodyr rhagorol Shon Sylvanus a Richard Gardener, ac eraill. Corphorwyd yr eglwys yn 1818. Yn Penrhyn-coch y bedyddiwyd yr enwog Barch. John Jones, Seion, Merthyr. Diau y gwelwyd amser gwell yn Penrhyn-coch. Yr unig eithriad hapus, pe hapus hefyd, o ragorach cyflwr ar bethau yno ydyw Eglwys Loegr. Mae hi yn bur lewyrchus ar hyn o bryd. Y mae amryw o fawrion y gymydogaeth yn ei noddi. Golwg ddyeithr i mi foreu a hwyr y Sabboth, wrth fyned heibio, oedd gweled niferoedd o hen Gymry gwladaidd a diniwaid yn myned i'w phyrth ar ganiad y gloch dafod-leisiog. Dyfalwn a deallwn mai dysgyblion y torthau oeddynt bron yn ddieithriad. Gresyn am y bobl wirion yn cymeryd eu hudo felly.

Bu bron i mi anghofio nodi fod pobl gyfrifol y Post Office, perthynasau agos i Mr. Lewis, Llanbadarn, gerllaw Remsen, yn cofio ato yn garedig, ac yn diolch iddo am anfon y Wawr iddynt o bryd i bryd. Yr hyn sydd wedi llwydo Talybont a Phenrhyn-coch, yn wahanol i'r hyn oeddynt flynyddau yn ol, yn benaf, ydyw ansawdd isel y gweithfeydd mwn; ond dysgwyliant amser gwell yn fuan.

Teimlwn yn Penrhyn-coch nad allaswn alw yn Coginan. Dywed Mr. Lewis, Llanbadarn, mai yn Goginan y bedyddiwyd y Parch. H. W. Jones, Caerfyrddin, ydoedd yn flaenorol yn yr ysgol yn dysgu myned yn offeiriad. Daeth adref am dro, a'r pryd hwnw aeth i wrando y Parch. John Davies, yr hwn oedd bregethwr rhagorol o'r Gogledd, ac yn weinidog yn Goginan a Penrhyn-coch. Wedi yr oedfa hono, nid aeth H. W. Jones byth yn offeiriad, ond daeth yn Fedyddiwr, ac i Goleg Pont-y-pool.

Dydd Llun yr oeddwn yn gadael Penrhyn coch, ac yn myned i Aberystwyth: a dydd Llun yw un diwrnod marchnad y lle olaf. Cyrchai llawer o bobl yno, rhai mewn cerbydau, eraill ar feirch, a llawer ar draed. A minau, wedi tipyn o ddadl feddyliol, a benderfynais fyned ar draed hefyd, yn hytrach na chyda'r cerbyd cyhoeddus, er fy mod yn teimlo yn flinedig ar ol llafur y Sabboth. Yr hyn a droes y ddadl yn ffafr y cerdded yn benaf oedd, y dybiaeth y celwn well manteision i weled y wlad, ac i fyfyrio. A dyma fi yn awr yn cychwyn yn araf ac hamddenol, gan sylwi a chraffu. Y mae y ffordd am y tair milldir hyn o Penrhyn-coch i Aberystwyth yn ymdroelli trwy olygfeydd swynol a henafol. Y mae y ffordd yn myned trwy barciau eang y gwyr mawrion. Hardd, yn wir, oedd yr olwg arnynt—y coedydd llydain, talfrig, praff, yn dangos cadernid ymerodrol, a'r creaduriaid gweddgar olygus yn mwynhau eu hunain yn heddychol o dan eu cangenau cysgodol. Gresyn fod etifeddiaethau o'r fath ag sydd yn addurno cymaint fel hyn ar arwynebedd y wlad, yn gysylltiedig a chymaint o anghyfiawnderau, a lethant yn hyllig drigolion y wlad. Er cymaint o hen wladwr ydwyf, nid wyf yn caru y gorthrwm a'r gormes sydd wedi dod i lawr o'r hen oesau, ac am hyny yr ydwyf yn hen wladwr rhyddfrydig-yr ydwyf yn Americanwr ar y pen hwn, yr hyn hefyd ydyw y dosbarth mwyaf goleuedig yn Mhrydain. Wrth i mi gamu yn mlaen ar hyd y ffordd hon, yr oedd parciau y bobl fawrion yn taflu eu cysgodion tywyll dros fy meddwl a'm teimladau, nes y teimlwn yn ddwys dros denantiaid, gwasanaethyddion, a'r werin-bobl, a lethir i'r llawr gan eu perchenogion ffromus, dideimlad a balch. Yr oedd y golygfeydd a gawn ar y fforddolion yn dyfnhau yr argraffiadau hyn. Yr oedd y boneddigion yn chwyrnellu heibio, tra yr oedd y cyffredin bobl yn cilio o'r neilldu, gan wneud moes-gyfarchiadau gwaseiddiol iddynt. O, Gymru anwyl, pa bryd y deui yn rhydd oddiwrth dy lyffetheiriau? Pa bryd y caiff dy frodorion diniwaid anadlu yn rhydd yn dy awyrgylch? Pa bryd y cydnabydda y pendefigion trahaus fod gan y brodorion gwerinawl deimladau dynol hefyd, a chystal gwaed yn rhedeg yn eu gwythienau ag sydd yn eu gwythienau hwythau?

Dymunol fyddai gweled Cymry America, yn lle gwarthruddo Cymru, yn efelychu Gwyddelod America mewn gwneyd eu rhan i ryddhau Cymru o'i gorthrwm, ac yna byddai y manylion annymunol y cwynir cymaint o'u herwydd, yn cael eu symud. Wedi cael rhyddid, y pendefigion i lawr, a'r werin-bobl i fyny, ni cheid achosion cwyno oblegid y tywydd na dim arall. Henffych i'r dydd y delo hyny i ben.

Cefais fwynhad nid bychan wrth graffu ar neillduolion di-feddwl-ddrwg y werinos a gyrchent gyda mi tua'r dref i'r farchnad. Rhai a feddent fasgedi, yn cynwys wyau a deiliach, hosanau ac edafedd, a phethau mân eraill, oeddynt, druain, gyda diwydrwydd wedi eu darpar, ac yn awr ar draed yn eu dwyn i'r farchnad. Ambell un yn fwy cefnog, a chanddo drol fechan, ac asyn yn ei thynu-y drol yn llawn o nwyddau amryfath, nid o sidanau, melfedau, llian main a phorphor, ond rholiau o wlaneni, a charpedau rags. Ambell hen wreigan yn mhlith y lluaws geid yn gwau hosan wlan, gan ddysgu diwydrwydd yr oes o'r blaen i'r un falch bresenol. Modryb Shan a modryb Sioned a welwn yn taro ar eu gilydd ac yn cydymddyddan wrth drotian. Ffermwyr o'r dosbarth canol, yn ddau neu dri yn y cwmni, a wnaent eu ffordd yn mlaen, gan siarad yn fforddus am brisiau y gwartheg a'r moch. Ffermwyr o'r dosbarth uchaf yn eu dawns-gerbydau (spring carriages), yn loewach yr olwg arnynt—y fam a'r ferch yn y cerbyd yn ol―y tad a'r mab yn y cerbyd yn mlaen, a'r mab a'r ferch yn ymddangos yn mynwes eu rhiaint, ac yn neillduol y ferch, gan y dysgwyliai brynu yn y dref ddefnydd dilladau erbyn y gwanwyn a'r haf. Y ffermwyr o'r trydydd dosbarth a gynrychiolid yn y drol fawr drystiog, yn yr hon y ceid gwyddau, ieir, a hwyaid, yn nghyda rhai eraill o deulu yr aden. Eraill hefyd, rhy luosog i'w henwi, a welwn yn yr orymdaith hon -oll yn dwyn beichiau bywyd (oddigerth y boneddigion), ac arwyddion o hyny arnynt; a minau o America, yn ddyeithr, heb neb yn fy adnabod.

Dyma fi wedi cyrhaedd Aberystwyth, a hyny yn gynt na fy nysgwyliad. Wedi cael ymborth, a chan nad oedd Mr. Morris, y gweinidog, yn y ty, aethum i weled y dref a'r farchnad. Credwyf y buasai y llinellau hyn yn ddyddorol i'w darllen, pe gallwn adgynyrchu fy gyniadau ar y pryd. Yn wir, yr oeddwn wrth fy modd wrth ymdroi yn mhlith y bobl. Nid y dref oedd yn cael fy sylw penaf, ond y bobl yn prynu ac yn gwerthu. Yr oeddwn bron a llefain (wylo) gan ryw deimlad o anwyldeb lleddf at fy nghenedl fel y cynrychiolid hi yma, a dichon i mi lefain hefyd. Dywedwn wrthyf fy hun, Wel, yr ydych yn bobl nice iawn, rywsut; Gymry anwyl, yr ydych yn hapus eich byd. Yr ydych yn edrych yn fwy cartrefol a theuluaidd na neb a welais erioed. Y mae delw yr hen efengyl arnoch, yn ddiamheuol. Safwn yn awr ac eilwaith i wrandaw ar bartioedd yn bargeinio. Dadleuent yn hir weithiau ar y gwahaniaeth o ddimai. Wrth bacio pethau i fyny i'r prynwr, yr oeddynt mor ddestlus, ac yn dweyd, "Tanci," mor ddirodres wrth dderbyn yr arian. Nid oedd yn y farchnad hon ddim hen grochfloeddio safnrwth, cras a dideimlad—dim hylldremu-dim twyll-resymu a cham-ddarlunio ; ond ymddangosai pawb yn ddiniwaid, ac heb wybod eu bod hwy felly, ac yn ymddangos felly. Yr oedd pob peth mor lân hefyd, fel yr oedd yr olwg ar y cyfan yn y werthfa yn ddymunol iawn yr olwg arnynt. Gan fel yr oeddwn yn dotio at y bobl, ac at eu nwyddau, a'u dull hwy o werthu a phrynu, yr oeddwn yn meddwl na welswn yn fy mywyd farchnad mor swynol a dymunol yr olwg arni ag oedd hon.

Nos Fawrth, yr oedd y Parch. Mr. Morris wedi trefnu i mi gael oedfa yn ei gapel, er rhoddi (ebe fe) amser i mi orphwyso. Daeth yr adeg, a minau yn pryderu i bregethu mewn man mor nodedig—hen gapel yr enwog, y Parch. Edward Williams, o goffadwriaeth fendigedig. Yr oedd dull hyfwyn, brawdol a charedig Mr. Morris, yn tueddu i ladd llawer o'm hofnau. Daeth cynulleidfa dda yn nghyd, o bobl gyfrifol yr olwg arnynt; yr hen bobl yn dwyn arnynt ddelweddau crefyddol eu hen gyn-weinidog. Cefais fy moddhau yn y gwrandawiad, ac yn ymdyriad amryw o'm cwmpas ar ddiwedd yr oedfa. oedfa. Wedi i'r bobl ymwahanu, treuliais beth amser gyda'r gweinidog i sylwi ar neillduolion hen-ffasiwnol yr addoldy. Aethum i fyny i'r pwlpud (yn y sêt fawr yr oeddwn yn pregethu), a dyna bwlpud uchel. Yn sicr, rhyfeddwn pa fodd y gallai pregethwr ymgadw ynddo rhag pen-syfrdandod. Teimlai yr eglwys wedi cael digon ar yr hen gapel a'r pwlpud yn awr, canys y maent yn myned i gael capel newydd yn uniongyrchol. Y mae haner digon o arian mewn llaw yn barod. Bydd y capel newydd yn yr un man a'r hen, ac nid oes man gwell yn yr holl dref. Mae y gweinidog presenol yno er ys amryw flynyddau bellach, ac yn gwneyd yn rhagorol. Trefnwyd i mi letya mewn man wrth fy modd, gyda theulu sydd yn byw mewn ty mawr yn y terrace goreu sydd yn ffryntio y môr, lle mae'r ymwelwyr mwyaf cyfrifol yn yr haf yn rhoddi i fyny. Pa ddiolch i mi fod wrth fy modd? Ychwanegwyd fy moddhad trwy fod un o fyfyrwyr Llangollen yno hefyd am ran o'r amser; ac hefyd trwy i fab y ty, bachgen ieuanc hyfwyn ryfeddol, yn garedig ddyfod gyda mi i ddangos y dref, yr hen gastell, a'r porthladd. Gwelais hefyd yr University. Gresyn oedd gweled rhanau mor ardderchog o hono wedi llosgi yn fewnol yn allanol ni wnaeth y tân gymaint o ddifrod.

Hawdd oedd genyf gredu y bobl a ddywedent fod Aberystwyth yn rhagorol fel ymdrochle, a lle iachusol; yr oeddwn yn teimlo hyny yn bersonol. Nid hawdd y gellid sefyll ar draed gan mor gryf y gwynt y dyddiau hyny, pan y cerddwn ar hyd y rhodfa. Ar lan y môr of flaen y terraces, teimlwn fy hunan fel o flaen battery machine fawr iechyd, a minau yn ymgryfhau yn deimladwy o dan ei effeitiau.

Dylwn grybwyll, fod yr hen frawd a phatriarch enwog, John Ellis, ironmonger, yn cofio yn garedig at y Parch. Benjamin James. Deallwn eu bod yn gyfeillion mawrion. Treuliais egwyl ddedwydd o dan ei gronglwyd; a gwnaeth gymwynas werthfawr i mi, sef rhoddi modrwy bres dda ar flaen ffon fy ngwlawlen.

PENOD XXIII.

Ymdrechu am Swyddi.

Pa ryfeddod yw os ceir rhai personau mewn manau yn Nghymru yn bresenol yn blasu awdurdod ac yn awyddus am swyddau yn y llywodraeth? Bu pobl Cymru am hir-feithion oesau heb wybod nemawr i ddim trwy brofiad am ddal swyddau yn y wladwriaeth. Yr ydoedd y deyrnwialen yn hollol yn llaw y Sais. Ceid holl beirianwaith awdurdod yn meddiant estroniaid. Gwyr o linach Teutonaidd a eisteddent ar feinciau llysoedd barn.

Ac nid dyna y cwbl. Gwisgai gorthrwm agwedd mwy dirmygus fyth. Nid yw y gweddill o hunan-lywodraeth ac annibyniaeth a geir yn y teitl o Dywysog Cymru, yn ddim amgen na ffugbeth. Trwy dwyll cuddamodol y gwnaed Edward yr Ail yn Dywysog cyntaf Cymru. Ffug disylwedd a fu y teitl o Dywysog Cymru trwy yr oesau. Mae yn watwaredd ar y genedl; ac y mae parhad olynol yr urdd-deitl hwn yn fynychiad digoll o'r gwatwaredd.

O'r diwedd mae amser gwell yn gwawrio ar Gymru. Eisoes cynrychiolir y bobl yn llawn bron yn y Senedd. Dechreua y swyddau sirol a phlwyfol lithro i feddiant y werin. Yn fuan, bydd personau i lenwi y swyddi hyny ac eraill, yn cael eu hethol gan y bobl, ac nid yn cael eu penodi, fel o'r blaen, gan fawrion o awdurdod ymerodrol. Yn barod, mae yr ysgolion dyddiol trwy y wlad yn hollol o dan reoleiddiad y Bwrdd Lleol.

Ar adeg fel hon, gan hyny, pan y mae ychydig awdurdod yn dyfod i'r bobl, na rwgnacher ar un cyfrif, os gwelir ambell i Gymro yn ymegnio ac yn tra ymdrechu am dipyn o swydd fach yn y Bwrdd Ysgol, neu rywbeth o'r fath. Y maent, druain, wedi cael eu cadw ar eu cythlwng am ddigon o oesau; ac y mae ychydig o awdurdod yn blasu yn dda.

Mae yr ymdrechu am swyddau sydd yn Nghymru i'w gymeradwyo ar amryw resymau heblaw ar dir rhyddid. Ymdrechir cael yr awdurdod o afael yr eglwys wladol. Y mae hi yn wrthddrych eiddigedd, canys y mae hyd yn nod yr ysgolion dyddiol o dan ei rheolaeth mewn amryw fanau. Anhawdd iawn gan wyr y gwisgoedd gwynion ydyw gollwng yr awdurdod hon o'u llaw. Os yr ymdrechodd gwyr yr eglwys yn galed i gadw gwyr y capeli rhag cyflawni gwasanaeth claddu yn mynwent eu plwyfi, y mae gwyr y capeli yn bresenol yn llafurio mor egniol i gadw gwyr yr eglwys allan o'r Bwrdd Ysgol. Er sicrhau llwyddiant gwrth-eglwysig, mae canvassio selog yn myned yn mlaen am wythnosau cyn adeg yr etholiad. Blaenorir yn y mudiad perswadiol hwn, efallai, gan y prif swyddwyr blaenorol. Gwelais ddau o swyddwyr y Bwrdd ar ymweliad ag ardal i'r pwrpas hwn. Dygent arwyddion o frwdfrydedd. Ymddangosent yn dod i'r lle ar neges bwysig. Yr oedd eu disgyniad o'r trên yn tynu sylw. Os oeddynt yn arweddu tipyn o hunan-bwysigrwydd, yr ydoedd yn eithaf cymeradwy ar y tro, a chymeryd pob peth i ystyriaeth, er nad wyf yn awgrymu fod y fath nod yn beth cyffredin yn y wlad. Ac efallai y dylwn yma fod yn ochelgar rhag camfarnu y canvasswyr hyny, trwy briodoli nodau iddynt na feddant. Dealler nad ydwyf yn tynu yn ol fy ngeiriau pan y dywedwn eu bod yn dwyn nodau o hunan-bwysigrwydd. Y mae yn eithaf posibl, er hyny, nad oedd yr arddangosiad hwnw yn tarddu oddiar ymfawrogiad o honynt eu hunain fel swyddwyr yn y Bwrdd Ysgol, ond yn hytrach, mewn rhan, oddiar eu hymfawrygiad o air da oeddynt wedi ei enill fel y cyfryw; ac mewn rhan hefyd oblegid effaith o bwysigrwydd yr achos arnynt; ac hefyd mewn rhan, efallai oddiar y nawd arbenig a roddasai y Creawdwr iddynt ar gyfer yr alwedigaeth. Ac heblaw hyn, yn gymaint a'u bod hwy yn weinidogion yr efengyl, nid oedd ond rhesymol dysgwyl iddynt arweddu yn uwchraddol.

Achos arall i'r ymdrechfa swyddogol ydyw anghyfartaledd enwadol. Ar wahan oddiwrth yr eglwys wladol, mae y gwahanol enwadau yn neillduol eiddigeddus rhag na byddo un yn cael gwell cynrychiolaeth na'r llall yn y Bwrdd. Pan y dygwydd anghydbwysedd felly, y mae ymdrech neillduol yn mhlith y blaid leiafrifol am gynrychiolaeth i'r llywodraeth. Blaenorir yn yr ymdrechfa gan yr ymgeiswyr am y swyddi. Dwyseiddir ynddynt hwy y teimladau gweithredol. Ynddynt daw y nodau personol yn fwy amlwg nag arferol, o dan ddylanwad y cynhwrf. Yn debyg fel y bydd gwythienau yr y corph yn fwy eglur a llinynog pan y byddo person yn gyffrous. Mae cynhyrfiadau yn ymchwyddo dyn allan, ac yn neillduol ermygau a chyneddfau arbenig, fyddant yn wastad yn gryfion.

Mae yr helynt etholiadol yn frwydr Armagedon weithiau. Amcenir gwneyd ychwaneg na dwyn cydbwysiad, neu gyfartaledd i'r gynrychiolaeth. Mewn rhai engreifftiau amcenir cryfhau adran oedd yn ddigon cref yn barod. Ar y fath adegau, y mae nerthoedd o natur israddol yn ymffrwydro. Bydd gweiniaid yn yr ymgyrch yn drystfawr.

PENOD XXIV.

Dau Gymeriad Cenedlaethol

Y Parchn. William Rees, D. D. (Gwilym Hiraethog), a Roger Edwards, y Wyddgrug, yn ddiau oeddynt ddau wron cenedlaethol nodedig. Tra yr oedd y ddau yn mhlith gweinidogion blaenaf eu henwad, rhestrent hefyd yn mhlith cymeriadau dysgleiriaf y genedl. Y mae y ddau, er wedi marw, yn llefaru eto. Oblegid y safle oedd ac y sydd iddynt yn mhlith enwogion eu gwlad, ac oblegid fy edmygedd personol, yn neillduol o'r blaenaf, y defnyddiaf y cyfleustra hwn i'w portreadu, trwy eu darluniau a thrwy nodion byrion adgoffaol.

Ganwyd Dr. Rees, Tachwedd, 18, 1802, mewn amaethdy o'r enw Chwibren Isaf, yn mhlwyf Llansannan, Sir Ddinbych. Bu farw Tachwedd 8, 1883, yn Nghaerlleon. Mab ydoedd i Dafydd Rees, o'r lle hwnw; ac enw morwynol ei fam ydoedd Ann Williams, o Gefnfforest. Ei daid ydoedd Henry Rees, gwr genedigol o Llandeilo Fawr, Sir Gaerfyrddin; daeth i Lansannan ar y cyntaf fel exciseman, a phriododd yno Miss Gwen Llwyd, merch ac etifeddes Chwibren Isaf. Yr oedd y Llwydiaid hyn yn deulu henafol a pharchus yn y wlad, ac yn disgyn mewn llinach unionsyth o Hedd Molwyn- og, pen un o bymtheg llwyth Gwynedd, yr hwn a gyfaneddai yn Henllys, Llanfairtalhaiarn. Cafodd Ymneillduaeth

Y PARCH. WILLIAM REES, D. D (Gwilym Hiraethog)


afael yn y teulu hwn yn gynar. Dyn difrifol dwysfyfyrgar a chrefyddol oedd Dafydd Rees (y tad), ac un o'r gweddiwyr hynotaf yn yr holl ardaloedd.

Dywedai ei gymydogion fod cystal ganddynt glywed Dafydd Rees yn gweddio a chlywed John Elias yn pregethu. Yr oedd Anne Rees, ei wraig, hefyd, yn ddynes llygad-graff, ddarbodus a synwyrol. O tan aden y rhieni hyn, mewn cwm anghysbell, yn nghanol golygfeydd gwledig amaethyddol, wrth odreu gogleddol mynydd Hiraethog, yn ngolwg dyffryn swynol Aled y magwyd y tywysog hwn yn mhlith enwogion ei genedl.

Mae genyf amryw adgofion o hono ef yn pregethu ac yn darlithio mewn gwahanol fanau yn ystod ugain mlynedd neu ychwaneg. Y tro cyntaf i mi wrando arno yn pregethu ydoedd yn nghapel Mr. Ambrose, Porthmadog. Y pryd hwnw pregethai ar y testyn, "Dywedwch wrth y cyfiawn mai da fydd iddo." Chwiliai am y cyfiawn, ond methai ddyfod o hyd iddo. Aethai i'r deml, ond yr hunan-gyfiawn oedd yno. Gwnai amryw gynygion i gael allan gyfiawn y testyn, ond yn aflwyddianus. O'r diwedd cawsai afael arno yn Dafydd yn cael ei eneinio yn frenin ar Israel. Wedi i Samuel, ar ei ymweliad a thy Jesse, wneyd adolygiad ar bob un o'r meibion, y rhai oeddynt yn saith mewn rhifedi, efe a ddywedodd wrth Jesse, "Ai dyma dy holl blant ?" Yntau a ddywedodd, "Yr ieuengaf sydd eto yn ol, wele y mae efe yn bugeilio. Nid ydych am ei weled ef, mae'n debyg." "O na, byddai yn well i mi gael golwg arno," ebe y prophwyd. Yna erchid i'r forwyn fyned i alw arno. Hithau, yn ufudd i'r gorchymyn, a redai i ben bryn bychan gerllaw, ac a wnelai udgorn o'i dwylaw, ac a lefai yn egniol, gan ddyweyd, "Dio, Dio, tyr'd i'r ty yn y mynyd, mae yma ryw ddyn dyeithr eisio dy weled di." Yntau a ddeuai, ac a chwn defaid mawrion yn ei ganlyn, ei wyneb yn llwchiog ac yn chwyslyd, a'i wallt yn annhrefnus. Y gwr dyeithr, prophwyd Duw, a nesai yn mlaen ato yn sylwgar, gan ddodi ei law ar ei dalcen, ac a edrychai i'w wyneb, gan ddyweyd, "Dyma y gwr a ddewisodd yr Arglwydd." "Nid edrych Duw fel yr edrych dyn. Dyn a edrych ar y golygiad, ond yr Arglwydd ar y galon." "Dywedwch wrth y cyfiawn mai da fydd iddo;" da mewn amser, da yn angeu, da yn y farn, da i dragwyddoldeb.

Yn canlyn rhoddaf amlinelliad o bregeth y gwrandewais ef yn ei thraddodi yn nghapel Caledfryn. Cymerodd yn destyn Salm 73: 28—"Minau, nesau at Dduw sydd dda i mi." Pwy a ddengys i ni ddaioni? Da yw, a theg, i ddyn fwyta ac yfed, a chymeryd byd da o'i holl lafur, a lafuria dan yr haul holl ddyddiau ei fywyd, y rhai a roddes Duw iddo. Dyna beth da. Wel ie, y mae yn beth da, ac yn dda penaf yr anifail, oblegid ar ol iddo gael digon i fwyta a digon i yfed, y mae ef wedi cael ei ddiwallu. Cnoa yr anifail glân ei gil yn ymfoddlongar pan y byddo wedi cael digon i fwyta a digon i yfed. Bydd prif angenrheidiau ei fodolaeth wedi eu cyflenwi. Ond ar ol i ddyn gael digon i fwyta a digon i yfed, y mae ynddo ef rywbeth a frefa ac a rua am rywbeth uwch a gwell. Da yw i ddyn fyw yn onest ac yn garedig tuag at ei gyd-ddyn. Wel, y mae hwn yn well da na'r llall, ac yn nes i fod yn dda penaf i ddyn; ac eto, nid yw hwn, er ei ragoriaeth, yn meddu y gwerth dyladwy i fod yn dda penaf dyn. "A minau, nesau at Dduw sydd dda i mi." Wel dyma rywbeth teilwng o ddyn. Ar adeg cyfansoddiad y Salm hon, yr ydoedd. yr awdwr yn isel ei feddwl. Gwelai ddynion annuwiol yn llwyddianus yn y byd, a gwelai ddynion duwiol yn aflwyddianus. Methai weled pa fodd yr oedd crefydd yn talu ei ffordd os felly oedd y canlyniadau. Modd bynag, un diwrnod ymlusgodd y Salmydd i'r cysegr; a dyna lle yr ydoedd yn ddigalon a phruddaidd, a'i ben yn pwyso ar ymyl y sêt. Elai yr offeiriaid yn mlaen a'r gwasanaeth, a gwrandawai yntau, ac yn y man gwelid ei lygaid yn ymloewi heibio ymyl y sêt, ac ymsythai ar ei eisteddle, a dywedai ynddo ei hun, "Y mae ynddi hi rywbeth, er hyny." Daethai yno i olwg byd arall, ac yn y cysegr fe welai megys oddiar ben bryn uchel, gyfandir mawr tragwyddoldeb, ac y byddai i Dduw yno ymddwyn tuag at bawb yn ol eu gweithredoedd. A dyna a sibrydai wrtho ei hun wrth fyned adref, "A minau, nesau at Dduw sydd dda i mi." 1. Mae nesau at Dduw yn waith anhawdd iawn. Mae profiad y gweddiwr yn dwyn tystiolaeth o hyny. Pan y ceisia efe draethu ei neges ger bron Duw, y mae y meddwl yn dianc oddiarno ei hunan, 'ac, o dan angenrheidrwydd i redeg ar ol ei hunan i gael ei hunan yn ol drachefn at Dduw. mae fod y meddwl felly mor wibiog ac afreolus, yn gwneyd nesau at Dduw yn waith tra anhawdd. Heblaw hyn, y mae fod gwrthddrych mawr gweddi yn anweledig, yn ychwanegu at yr anhawsder hwn. Yr ydym, yn ymddangosiadol, mor ddibynol ar y gweledig, ac yn byw yn ei bresenoldeb yn wastadol, ac yn ymdrafod cymaint ag ef, fel y mae yn anhawdd cael gan y meddwl i fyned oddiwrth y gweledig at yr anweledig. Y mae nesau at Dduw yn waith tra anhawdd. 2. Y mae agoshau at Dduw, er hyny, yn bosibl. Wrth wneyd y rheilffordd gyntaf o Lerpwl i Manchester, yr ydoedd, yn un man, ryw wagle mawr yn gwrthod cymeryd ei lenwi, a buwyd yn cario ac yn cario iddo ef, ond y cwbl a lyncid yn fuan o'r golwg. O'r diwedd penderfynwyd cario darn o fynydd iddo, a thrwy gario o hwnw fe'i llanwyd. O dan yr hen oruchwyliaeth yr oedd rhyw wagle mawr rhyngom ni a'r cysegr sancteiddiolaf yn gwrthod cymeryd ei lenwi. Buwyd yn cario iddo trwy oesau meithion aberthau ac offrymau. Nifer o wyn yn myned tua Jerusalem; i ba le yr ydych yn myned? O! yn myned yn aberthau dros bechodau y dyn yna. Yr oedd angen ysbrydol a moesol y dyn y fath fel ag yr oedd bron a thynu bywyd y Duwdod iddo ei hunan. Yn ngwyneb diffyg y cyfan i lenwi y gwagle, wele Iesu, ei hunan mawr, yn myned i'r gwagle, ac fe'i llanwodd yn gyflawn, ac yn awr mae ffordd newydd a bywjol wedi ei chysegru trwy y llen, sef cnawd ei anwyl Fab. Mae nesau at Dduw yn bosibl. Daeth Iesu unwaith oddiwrth yr anweledig i'r gweledig, ac a "drigodd yn ein plith ni," ac aeth yn ol drachefn at yr anweledig, er gallu denu myfyr dyn gydag ef yn ol at yr anweledig; a'r dysgyblion "oeddynt yn edrych yn ddyfal tua'r nef." 3. Y mae nesau at Dduw yn waith da iawn. Pan y mae dyn yn sychedig, a'i dafod yn ddu yn ei enau gan syched, rhodder iddo ddyferyn o ddwfr oer, ac O! y mae yn dda !—mae yn dda! Felly yr enaid sychedig am Dduw yn nghanol anialwch y byd hwn, ac yn nghanol gau-ffynonau, y mae agoshau at Dduw yn dda iawn iddo.

Ystyrir Gwilym Hiraethog yn un o'r talentau dysgleiriaf a welodd Cymru erioed. Yr oedd ganddo natur ddynol o'r fath oreu a chyflawnaf. Yn ei gymeriad cyhoeddus ymddangosai fel archoffeiriad mawr, yn meddu cymwysderau meddyliol a chymeriadol a'i galluogai i fyned i mewn i gysegr sancteiddiolaf crefydd a natur. Medrai ddarllen cyfrinion calon dyn. Gwyddai i berffeithrwydd pa fodd yr ymddygai dyn mewn gwahanol amgylchiadau. Gwyddai anianawd y greadigaeth israddol, i lawr oddiwrth yr uchelaf ynddi hyd ddrychfilyn distadlaf y llwch. Gwyddai hefyd ddirgeledigaethau y byd ysbrydol. Yr oedd gartref yn yr Hen Destament. Yr oedd enwau personau a lleoedd yn ngwlad yr addewid gynt yn beroriaeth iddo. Nid gormod dweyd fod rhai o brif ragoriaethau yr enwogion, Christmas Evans, John Elias, Williams o'r Wern, wedi cydgyfarfod ynddo. Meddai ddychymyg darfelyddol byw, doniau areithyddol nerthol, a theimladau greddfol nodedig. Bum yn teimlo wrth ei wrando lawer tro, na wrandawswn neb erioed tebyg iddo. Gwelais bregethwr dewisedig yn gwaseiddio, yn wylaidd ger ei fron. Gwelais gynulleidfaoedd mawrion, deallgar, mewn perlewygedd a llesmair ysbrydol wrth ei wrando. ngrym ei ddylanwad ac ysbrydolrwydd ei araethyddiaeth, ymddangosai fel yn gwlawio hyawdledd dwyfol ar y bobl. Yr oedd ei ddrychfeddyliau a'i draddodiad yn argraffu eu hunain ar y meddwl am byth.

Y Parch. Roger Edwards, D. D., ydoedd un o'r gweinidogion hynaf a mwyaf dylanwadol yn nghyfundeb y Trefnyddion Calfinaidd. Bu yn pregethu am yr ysbaid maith o bymtheg a deugain o flynyddau. Ganwyd ef yn y Bala, Ionawr 10, 1811. Bu farw Gorphenaf, 1886. Ychydig o amser cyn ei farwolaeth anrhydeddwyd ef a'r gradd o D. D., gan ymddiriedolwyr Coleg Hamilton, N. Y.

Y PARCH. ROGER EDWARDS, D. D., WYDDGRUG.


Er na chefais gyfleustra i wrando ar Roger Edwards yn pregethu, na chwaith i ffurfio adnabyddiaeth bersonol erioed ag ef, eto fe'm dygwyd yn foreu i barchu ei enw, ac i edrych arno fel dyn ysplenydd, ac o nodau meddyliol a chymeriadol uwchraddol. Bu clywed amryw o brif weinidogion y Bedyddwyr droion yn siarad yn uchel am Roger Edwards, y Wyddgrug, yn foddion mewn rhan, i fy nwyn i goleddu syniadau parchusol ac anwyl am dano.

Er mai yn y Bala y ganwyd y dyn rhagorol hwn, yn Dolgellau y dygwyd ef i fyny, gan i'w rieni symud yno i fyw pan nad oedd efe eto ond tair blwydd oed. Credwyf fod Dolgellau yn lle mwy ffafriol i'w ddadblygiad meddyliol nag a fuasai y Bala, oblegid mae y golygfeydd amgylchynol mor ramantus. Ai tybed na fu cyfeiriad gogleddol Dolgellau yn meddu dylanwad ffafriol arno. I'r dehau mae Cader Idris a mynyddoedd uchel eraill yn cysgodi. I'r gogledd-orllewin o'r lle mae mynyddoedd dyrchafedig Sir Gaernarfon, a golygfeydd dwyreiniol swynol ac aruchel i'w canfod. Y môr, yntau a'i rochfawr ru, a raid fod yn cyffwrdd a'i enaid. Yma, gan hyny, rhaid ei fod yn fyfyriwr mawr ar natur. Ac nid oes un astudiaeth ragorach na natur i eangu efrydwr. Yntau, tra yn meddu cyneddfau a greddfau eneidiol cryfion, a wnaethai, yn ddiau, gynydd dirfawr yn mhlith "clogwyni coleg anian.”

Yr oedd iddo ef le mawr yn ei enwad. Edrychid arno ef fel blaenor. Llenwai amryw swyddau a chylchoedd o bwys. Yr oedd yn ysgrifenwr poblogaidd, fel y dengys chwedl y "Tri Brawd," a ymddangosodd yn y Drysorfa flynyddoedd yn ol. Ac y mae amryw emynau tlws a threfnus o'i waith yn y Salmydd Cymreig (o'i gasgliad ei hun), yn gystal ag yn llyfrau emynau y gwahanol enwadau. Ymddangosodd llawer o erthyglau duwinyddol o'i eiddo, o bryd i bryd, yn dangos gwreiddjoldeb meddwl a gallu ymresymiadol gwych.

Efe a Dr. Edwards, Bala, a gychwynasant y Traethodydd, yn 1845, a bu y ddau yn ei gyd-olygu am ddeng mlynedd, a pharhaodd efe yn mlaen, gyd ag eraill. Felly efe a wasanaethodd ei genedlaeth yn dda fel llenor yn gystal ag fel pregethwr.

Fel eglurhad ar ei ddoniau fel emynwr tlws, rhoddaf yr engreifftiau canlynol o'i waith o'r Llawlyfr Moliant:

TYRED GYDA NI.

Ymdeithio 'r y'm wrth arch ein Tad,
I'r Ganaan nefol fry;
A ddeui dithau i'r un wlad?
O! tyred gyda ni.

Gwlad ydyw hon sy'n llifo'n hael
O laeth a mêl yn lli':
'Does ynddi neb yn glat na gwael—
O! tyred gyda ni.

Cei ar dy daith ymgeledd glau,
O ffrydiau Calfari,
A'th geidw'n llon rhag llwfrhau—
O! tyred gyda ni.


HELAETHIAD TEYRNAS CRIST.

O doed teyrnasoedd byd yn rhwydd
Yn eiddo 'n Harglwydd ni;
Trwy'r ddaear caner heb nacau,
Am angau Calfari.

Gwregysa 'th gleddyf ar dy glun
O gadarn Un! yn awr;
Mewn llwyddiant marchog is y rhod,
Ti wyt i fod yn fawr.


CLOD AM Y GWAED.

Y gwaed, y gwaed a lifodd,
Ar groesbren un prydnawn;
Haeddianau hwnw roddodd
I'r gyfraith daliad llawn:
Y gwaed, y gwaed a olcha
Bechadur du yn wyn;
Dadseinwn Haleliwia
Am waed Calfaria fryn.

Y gwaed, y gwaed a egyr,
Holl ddorau'r nefoedd lon;
Y gwaed, y gwaed rydd gysur
Dan holl gurfeydd y fron:
Ar fryniau anfarwoldeb,
Pan yno sang fy nhraed,
Fy nghan i dragwyddoldeb
Gaiff fod y gwaed, y gwaed!


PENOD XXV.

Parlwr Rose Cottage.

Mae parlyrau yn dweyd llawer am bobl. Maent yn dweyd am eu chwaeth at y dillyn a'r prydferth, ac am eu hamgylchiadau bydol. Y gwrthddrychau arwyddol ynddynt, fel rheol, fydd darluniau heirdd a dodrefn costfawr. Adnabyddir yn gyffredin oddiwrth olygfa y parlwr beth fydd diwylliaeth a safle dymorol y teulu.

Yn Ionawr, 1886, cartrefais am wythnos yn Rose Cottage, Aberdar, cartref cysurus y Parch. Thomas Price, Ph. D. Y mae parlwr yr annedd-dy hwn yn llefaru pethau gwell am ei breswylydd nag y mae parlyrau yn gyffredin yn ddatgan am eu preswylyddion.

Mae y parlwr neillduol hwn fel amgueddfa llawn o arddangosion coffadwriaethol o barch, a gyflwynwyd o bryd i bryd, i'r Dr. Price gan ei eglwys ei hun, eglwysi amgylchynol, a chan wahanol gymdeithasau a chorphoriaethau, am ei lafur a'i wasanaethgarwch cysylltiedig a hwynt. Y mae muriau y parlwr eang hardd yn orchuddiedig a'r arwyddnodau addurniedig hyn. Wedi'r cwbl, nid y cof-dlysau ydynt y sylweddau, er mor hardded a gwerthfawr. Llefarant am bethau cysylltiedig (lawer o honynt), mewn ffordd o dystebau— symiau mawrion-weithiau o arian, y lleill a gyfeirient at roddion tlysog, a llestri o aur ac o arian. Cyfeiria rhai o'r cofnodau at gyrddau poblogaidd a gadwyd i ddathlu adegau neillduol yn mywyd cyhoeddus y Dr. Y mae rhai yn cyfeirio at ei wasanaeth cysylltiedig a gwelliantau yn nhref Aberdar. Mae y cymdeithasau dyngarol wedi gwlawio arno roddion a thystebau dirif yn mron.

Ac wedi'r cyfan, diau nad yw yr arddangosion hyn ond bychain a diystyr yn gyferbyniol i fawredd y gwaith a'r gwasanaeth a wnaeth efe i'w teilyngu. Y mae ei fywyd ef am ddeugain mlynedd wedi bod yn llawn o weithgarwch ac o ddefnyddioldeb. Ei yni ef fu agerdd pob symudiad o bwys yn Aberdar a'r cyffiniau am feithion gyfnodau. Bu llawer brwydr boeth rhyngddo a'r parsoniaid, ac a gwyr pwysig eraill a feiddient ei wrthwynebu. Ardderchog fyddai ei amddiffyn i'r tlawd a'r gorthrymedig. Cyrhaeddai ei ddylanwad i reolaeth y gweithfeydd haiarn a glo. Byddai y meistriaid yn weision iddo ef yn aml. Ysbryd Dr. Price oedd prif ysbryd y dref a'r cymydogaethau. Pan y byddai anghydfodau mewn byd neu eglwys, ceid ef yn brif dangnefeddwr. A pha mor nerthol bynag y gwrthwynebiadau, dygai ef farn i fuddugoliaeth bron yn ddieithriad. Rhyw Vesuvius tanllyd o ddyn ydoedd; angerdd gwres yr hwn a deimlai pawb, yn mhell ac yn agos.

O'r diwedd effeithiodd y fath fywyd gweithgar ac ymdrechiadol yn fawr arno, yn gorphorol a meddyliol, fel erbyn iddo fod yn driugain oed, cafodd ei hun yn wr methiedig, er mor gryf a bywydus ydoedd, yn mhob ystyr. Mae ei oedran yn awr tua thriugain a saith. Pan oeddwn i yno yr oedd yn parhau fel gweinidog Calfaria, ond wedi hyny y mae llesgedd wedi gafaelyd yn gryfach ynddo.

Ar ddydd Calan, Ionawr 1, 1886, cynaliwyd cyfarfod poblogaidd yn Calfaria, er dathlu y ddeugeinfed flwyddyn o dymor ei weinidogaeth yn y lle.

Cyhoeddasai Dr. Price bamphled yn cynwys hanes yr eglwys, a'i gysylltiad ef a hi yn ystod y tymor maith a nodwyd. Dywedir yn hwn iddo fedyddio 1,596 yn y deugain mlynedd, ac iddo ffurfio 21 o eglwysi o'r fam eglwys yn Calfaria.

Credwyf fod pob eglwys o'r un-ar-hugain a hanodd o'r fam eglwys, yn cael ei chynrychioli yn nghof-arwyddion addurniedig parlwr Rose Cottage. Yn mhlith y rhai hyn mae y Gadlys, Heol-y-felin, Hirwaen, Ynys-lwyd, Cwm-bach, Gwawr, Aberaman; Rhos, Mountain Ash. Bum ar ymweliad a phob un o'r rhai hyn.

Yn Hirwaen, y Parch. E. C. Evans yw y gweinidog. Bu ef ar ymweliad ag America, am wellhad iechyd, ychydig flynyddau yn ol. Y mae efe wedi llafurio yma am flynyddau, gyda derbyniad mawr.

Noson waith y bum yn Heol-y-felin. Rhyfedd mor boblogaidd y mae Mr. Harris, y gweinidog, yn parhau yma. Y mae efe yn dal i edrych yn gryf a heinyf, ac yn pregethu, meddir, yn well nag erioed.

Y Gadlys sydd agosaf i fynwes y fam eglwys. Y gweinidog yma ydyw y Parch. B. Evans. Y mae efe yn tebygoli i Dr. Price mewn gweithgarwch. Mae yr hen frawd parchusol Mr. James, tad y Parch. Iago W. James, yn ddiacon yn yr eglwys hon.

Eglwys Ynys-lwyd sydd a'i theml yn nghwr isaf Aberdar. Bugeilir yma gan y Parch. R. E. Williams, o barabliad croew, gwynebpryd hawddgar, ac o nodau meddyliol a chymeriadol rhagorol.

Treuliais Sabboth yn Cwm-bach. Mae yma gapel eang, a chynulleidfa fawr. Amryw a'm holent yno am berthynasau a ffryndiau yn America.

Tra yr oeddwn yn y gymydogaeth, cynaliodd Cymanfa Ddwyreiniol Morganwg ei chwrdd haner blynyddol, yn Gwawr, Aberaman. Y cwrdd haner blynyddol sydd yn lle y cyrddau chwarterol. Cefais yn y cwrdd hwn fantais i ddod i adnabyddiaeth a llawer o'r gweinidogion, a gwrando ar amryw o honynt yn pregethu. Yr oedd y pregethau yn dda oll, ond yr oedd rhai yn rhagori. Pregethodd y brodyr T. T. Jones, Salem, Caerdydd, a J. R. Jones, Llwynpia, yn dra derbyniol. Un o'r eglwysi mwyaf llewyrchus, os nad y fwyaf felly, yn nghwm Aberdar yn awr, yw eglwys Rhos, Mountain Ash. Cefais oedfa gysurus yno ar nos Lun, a chymdeithas hapus dranoeth â'r gweinidog serchus, y Parch. W. Williams.

Yn unol a gwahoddiad caredig Dr. Price, gwasanaethais Sabboth yn Calfaria.

Yn mhlith dyddorion fy ymweliad ag Aberdar a'r cyffiniau, erys ar fy nghof yn arbenig, gof-arwyddion eglwysi amgylchynol, ac eraill, a geir yn mharlwr y Rose Cottage, fel sel o'u gwerthfawrogiad o lafur a gwasanaeth y Parch. Dr. Price.

PENOD XXVI.

O Dowlais i Gaerdydd

Dau le a ddaliant gysylltiad masnachol agos a'u gilydd ydynt Dowlais a Chaerdydd. Er pan agorwyd llinell cledrffordd Rymni i Dowlais, mae y drafnidiaeth yn anferthol, ac yn fwy nag erioed. Caerdydd a dderbyn helaethaf, yn ddiau, o fuddion y fasnach, canys Dowlais a edrych yn llwyd wywlyd, ond Caerdydd a edrych yn llewyrchus fywydus.

Gweithgarwch meibion llafur Dowlais, a manau eraill mewn rhan helaeth, a gyfrif am gyflwr llwyddianus presenol Caerdydd. Rhestra y porthladd yn awr y trydydd mewn pwysigrwydd yn Mhrydain. Y mae ardderchawgrwydd a lluosawgrwydd yr adeiladau newyddion yn synfawr, yn neillduol i'r rhai hyny a adnabyddent yr hen Gaerdydd.

Ond deuer i Dowlais, mor wahanol yw yr olygfa adeiladol. Ymddengys y tai yn henaidd a phygddu. Yr orchest yma yw, nid ceisio myned i fyny, ond ymgadw rhag dadfeiliad a dinodedd. Yn y man, ar ol dod i'r lle, teimlwn fel ei gyfarch rywbeth fel y canlyn, "Wel, Dowlais bach, rhyw edrych dipyn yn llwydaidd yr ydwyt rywfodd. A oes rhywrai yn gwneyd cam a thi? Mae arnaf ofn fod. A ydyw pobl Caerdydd yna yn peidio cael mwy na'u cyfran oddiyma? Neu a yw y gwyr mawrion o'th gwmpas, a pherchenogion y gweithfeydd yma yn peidio dy ysbeilio a thraws-arglwyddiaethu arnat? Byddai yn ddrwg genyf ddeall hyny." Atebai Dowlais, feddyliwn, yn ol ymddyddanion y bobl, gan ddyweyd, "Mae llawer o wir yn yr hyn a awgrymaist, ymwelydd. Mae y gwyr mawrion yn helpu eu hunain yn helaeth o'r da geir yma. A Chaerdydd, hithau, a ymgyfoethoga ar ein llafur. Ac eto, peidiwch a barnu Dowlais yn hollol wrth y golwg. Mae y bobl yma yn byw yn bur gysurus er y cyfan, yn fwy felly nag y meddylia llawer. Y fath siopau llawnion o bob angenrheidiau bywyd sydd yn mhob cwr. Mae y cyflogau yn fychain, mae'n wir, ond y mae y gweithfeydd yn gweithio yn gyson, ac y mae ymborth ac angenrheidiau eraill yn rhyfeddol o rad, fel nad oes achos cwyno mawr. Yn y dyddiau hyny yr oedd dau ddyn o Ystalyfera yn dolefus ganu mathau o gerddi, gan ymsymud trwy yr heolydd. Ceisient gynorthwy yn eu hadfyd yn y dull hwnw, a llwyddent hefyd. Rhyw deimlo yn ddigalon a phruddaidd yr oeddwn wrth eu clywed, a chwenychwn am ryw ddull arall iddynt apelio am gydymdeimlad.

Arosais yn Nowlais am wythnos bron. Pregethais y nosweithiau yn Moriah, Caersalem, Hebron, ac Elim, Penydaren. Mae gweinidog yn mhob eglwys, a phob un yn ymddangos yn barchus a llwyddianus. Gwelais amryw o gyfeillion i Gwilym Evans (brawd Dr. Evans). Hiraethent am dano, a rhyfeddent iddo fyned ymaith. ac yntau mor dderbyniol a llwyddianus yn Elim. Aethum, yn nghwmpeini y Parch. T. Morgan, gweinidog Caersalem, i weled beddau yr enwogion Mathetes, a'r Parch. Edward Evans. Careg gyffredin ydoedd ar fedd Mathetes, ond yr oedd trysorfa yn croni er cael cof-golofn deilwng iddo, ac yr oedd uwchlaw £80 eisoes mewn llaw.

Wedi i'r nos ein dala, aethom ein dau i weled y gweithiau dur mawrion-y rhai mwyaf yn y deyrnas, meddir. Ymsyniwn y fath fendith ydoedd y gweithiau hyn i drigolion Dowlais a'r cylchoedd! Golygfa ardderchog geir ar y gweithiau hyn yn y nos. Gyda gofal neillduol y llwyddwn i gadw o berygl wrth ymsymud trwyddynt. Gweithio yn galed yr oedd pawb yma yn galed iawn! Gweithid cyflenwad o sleepers haiarn a rheiliau dur ar gyfer gwneyd rheilffordd newydd yn yr India.

Yr oedd genyf fwriad i alw heibio yr eglwysi yn Merthyr, ond fe'm lluddiwyd, er i mi gael gwahoddiad taer gan y Parch. R. Thomas, gweinidog y Tabernacl, i alw heibio. Bum yn myned trwy Merthyr amryw droion. Methais hefyd alw yn Abercanaid a Throedy-rhiw.

Ar fy ffordd i Gaerdydd gelwais yn y lleoedd canlynol:—Merthyr Vale, lle newydd islaw Troed-y-rhiw. Treharis-mae yno eglwys luosog a chref. Mae Thomas Edwards, Ysw., brawd y Parch. R. Edwards, Pottsville, Pa., yn ddiacon pwysig yno. Berthlwyd— mae yr eglwys hon yn dal yn llewyrchus, er fod eglwys boblogaidd Treharis gerllaw. Brysiog fu fy ymweliad ag yno. Caed cwrdd nosweithiol, ac adnabyddiaeth ag athraw yr ysgol ddyddiol aelod o'r eglwysac amryw frodyr blaenllaw gyda yr achos. Cefais olwg ardderchog ar y wlad amgylchynol oddiyno. Blaenllechau-mae yr eglwysi o'r ddau tu i'r afon yn gryfion. Mae y Parch. Isaac Jones, Salem, yn berthynas agos i'r diweddar James Richards, Pont-y-pridd; a'r Parch. John Jones, Nazareth, yn frawd i Mr. Aled Jones, Blaenau. Pont-y-gwaith-yr ydoedd y Parch. J. D. Hughes, o Dalysarn, Arfon, newydd ymsefydlu yno. Gresyn fod y capel mor isel i lawr y cwm. Y mae, er hyny, meddir, yn llawn ar y Sabbothau.

Yn hwyr y dydd y cyrhaeddais Caerdydd yr oeddwn i bregethu yn nghapel y Parch. N. Thomas. Yno cyfarfyddais a'r Parch. D. W. Morris, diweddar o Taylorville. Ymddangosai yn llawen o'n cyd-gyfarfyddiad. Gwahoddodd fi i'w lety dranoeth. Arosai ef a'i briod yn nhy chwaer i Mrs. Morris. Bwriadent symud yn fuan i Brycheiniog, i fan arosol rhwng Aberhonddu a Llanymddyfri, a deallwyf eu bod erbyn hyn wedi gwneyd y symudiad. Dranoeth ymgymerodd a'r gorchwyl o fod yn arweinydd i mi, yn gyntaf i dy y Parch. T. T. Jones, gweinidog Salem, ac yna i dy y Parch. N. Thomas. Ond yn lle iddo ef fod yn arweinydd i mi, bu gorfod i mi fod yn arweinydd iddo ef. Yn y prydnawn yr oeddwn i fyned ymaith gyda y gerbydres i Casbach, y lle yr oeddwn i bregethu yr hwyr hwnw. Daeth Mr. Morris i'm hebrwng i'r orsaf, ac i fod yn arweinydd i mi iddi. "Yn awr," ebwn wrtho, 'gofalwch, Mr. Morris, i fyn'd a fi yn ddiogel i'r lle; yr ydych yn gwybod y ffordd i'r orsaf, mae'n debyg?' "O ydwyf," oedd yr ateb, "yr wyf yn myned yn aml i'r orsaf." Myned tua'r orsaf a wnaem, ond erbyn cyrhaedd yno, canfyddwn nad oeddwn yn yr orsaf iawn— yn lle bod yn ngorsaf y Great Western yr oeddwn yn ngorsaf y Taff Vale. "Wel, wel," meddwn, "dyma arweinydd!" Edrychwn i'w lygaid, a lled-wenai yntau arnaf. Dygwyddai fod cab gerllaw—llogais hwnw ar amrantiad i fyned a mi i'r orsaf briodol—deg mynyd oedd genyf, ond llwyddwyd i gyrhaedd yn brydlon, a dim yn weddill.

PENOD XXVII.

Ymweliad a Myfyr Emlyn.

Y Parch. Benjamin Thomas (Myfyr Emlyn), yw gweinidog yr eglwys Fedyddiedig yn Narberth, Sir Benfro, ac sydd frodor o ardal Bethabara, o'r un Sir.

Efe ydyw awdwr "Dafydd Evans, Ffynonhenry," yr hwn sydd waith a ystyrir yn un o'r bywgraffiadau goreu yn yr iaith Gymraeg. Y mae efe yn awdwr amryw gynyrchion gorchestol eraill, megys pregeth "Y Cerbydau," cyhoeddedig yn yr "Echoes from the Welsh Hills," yr "Explanatory Notes," &c.

Y mae efe hefyd yn fardd rhagorol. Mae ei ganeu- on yn adlewyrchu gwawr golygfeydd ysplenydd ardal Bethabara, ei enedigol fro, a dysgleirdeb llachar y môr gerllaw, pan o dan belydrau haul ganol dydd. Ei awen sydd o anianawd nefol, a cheir ei ddarluniadau weithiau fel yn gyfunrhyw a golygfeydd "ardal lonydd yr aur delynau.”

Yn mhlith ei gynyrchion barddonol goreu y mae ei ganeuon ar ei ymweliad a Brycheiniog, ac a'r Parch. Kilsby Jones. Yn y canau hyny gwna megys delyn o Gymru, gan ddefnyddio ei mynyddoedd a'i bryniau, ei llynau, ei hafonydd, a'i ffrydiau, fel tannau iddi. A chwery bysedd ei awen ar hyd y tanau hyn nes tynu o honynt y beroriaeth fwyna erioed.

Bydd ei benillion uwch bedd y Parch. John Roberts, (Tredegar gynt), yn Minersville, Pa., fyw byth. Ni phetrusaf wrth ddweyd mai efe ydyw yr athrylith fwyaf gloew yn Nghyfundeb y Bedyddwyr yn Nghymru heddyw. Pe buasai efe yn feddianol ar haner uchelgais llawer un, gallasai fod yn cael ei restru yn mhlith dosbarth Christmas Evans o bregethwyr.

Yr wyf yn llefaru fel hyn am dano ef oddiar fy adnabyddiaeth agos ag ef, pan yn gyd-fyfyriwr yn Athrofa Hwlffordd, bump-ar-hugain o flynyddau yn ol, yn gystal ag oddiar adnabyddiaeth helaethach o hono ef o'r pryd hwnw hyd yn bresenol.

Pan yn yr Athrofa, arferai y myfyrwyr bron yn ddieithriad, edrych i fyny ato gadag edmygedd mawr.

Y Parch. B. Thomas, D. D., Toronto, Canada, yn awr, (mab yr hybarchus gyn-weinidog Narberth), ac yntau oeddynt gyfeillion mynwesol. Yr ydoedd hoenusrwydd a thuedd chwareus ddiniwed y ddau yn nodedig i'r eithaf, ac yn nodweddiadol iawn o nwyfiant personau o dalentau cryfion yn y tymor ieuanc hwnw yn oes dyn. Yn unol a rheolau athrofaol y pryd hwnw, llawer o ddigrifwch diddichell a gaent ar adeg dyfodiad myfyrwyr newyddion i mewn, yn neillduol os ceid ambell un yn cael ei nodweddu gan hunanoldeb. Byddent yn gwneyd gweithrediadau "ordeiniad" un felly yn chwerw iddo; ond dealler, byddai y cwbl yn cael eu bwriadu er daioni y myfyriwr ieuanc.

Pan yn Nghymru, teimlwn awydd cryf i alw heibio iddo, ac yn fy llythyr ato yn ei hysbysu o fy mwriad, amgauais yr englynion canlynol:

Arferaf, Myfyr, ryw fwriad—i ddod
I Dde ar ymweliad;
Hyd Narberth, os caf nerthiad,
Daw 'r ol hyn i'm ado'r wlad.

Morio wnest i'r Amerig—i'm gwel'd i,
A'm gwlad hoff, ryddfrydig;
Dros fryniau môr-donau dig,
Gwir ydyw, o'et garedig.

Ai nid gormod o nôd mwynhau—y daith
Am unwaith i ninau;
Er cael bod ddiwrnod neu ddau
Yn ngwawl dy ddenawl ddoniau.

Yn drylawn mynwn dreulio—yr amser
I ymson a chofio
Hoen y coleg, 'rwy'n coelio,
A llwyr drefn llawer i dro.

O, ryfedd, mae'r athrofa—a'i thymor
Fyth i mi yn para
Yn swynol ddyddorol dda,
O gyffwrdd drwy adgoffa.


A thithau yn ddiau dd'wed—yn debyg,
Mi dybiaf, heb arbed;
I deulu, onid dyled
Noddi glwys gyn-anedd gled?

Cawn enwi holi helynt—y students,
Pa ryw 'stad sydd iddynt;
A ninau fel dau o honynt
A rown yn wyl ran o'n hynt.

O'r tri deg yn y coleg gynt,
Arwyddaf pa rai oeddynt:

Y Thomasiaid a'r Williamsiaid,
Y Daviesiaid irdwf foesau;
Yr Evansiaid a'r Phillipiaid;
Y Griffisiaid-gwyr a phwysau.

Ioaniaid a gaed yno—teleidwyr,
White a Lloyd, ddau eto;
A Samuel oedd fel y fo,
Ac o'n Watkins cawn adgo'.

A Rees, yr hen Drysorydd—arianol,
Yr hwn ofnem beunydd;
Scursio am dano fo fydd,
Gwn, o gwelwn ein gilydd.

Fe allai na fu cyfeillion—ffyddlonach,
Nac ablach dysgyblion;
A thrwyadl yr athrawon
I mlesio i melus son.

Yr ydoedd rhai eithriadau—o honom
Yn weiniaid, yn ddiau;
Ambell ful yn cul nacau
Rhoi ei hawl i'r rheolau.

Chwarter canrif a rifwyd—er hyny
Yr einioes fyrhawyd;
Cryn y llaw, a'r coryn llwyd,
Och, yrwan ddechreuwyd.


Paid synu na rhyfeddu'n fawr—o wel'd
Giraldus yn d'orawr;
Y gwir yw, bydd gwr y Wawr,
Yn ymyl cyn pen nemawr.

Yn burwych bydd yn barod—i adrodd
Pêr fydrau'r hen gyfnod;
Fel yna gofala fod
I wynebu 'th gydnabod.

Yn fy llythyr hefyd awgrymais y pregethwn yn ei gapel pan yn galw, os yn ddewisol ganddo. Yntau a atebodd nad ystyriai hyny yn ddefnydd cysur i mi, gan nad dymunol i Gymro geisio pregethu yn Saesoneg i bobl ddyeithr ac estronol, fel yr oeddwn i i'w bobl ef.

Gan i mi orfod oedi fy ymweliad am rai wythnosau, yr oeddwn yn gohebu eilwaith ag ef, gan awgrymu eto y pregethwn iddynt os ewyllysient, a fy mod yn well Sais yn awr na chynt. Ysgrifenwn ato fel hyn am y tybiwn mai ofni fy Saesoneg yr ydoedd (oblegid Sais bychan iawn oeddwn yn yr Athrofa,) ac na fynai fod un aflerwch ieithyddol ac ymadroddol yn dygwydd ag a fuasai yn peri diflasdod i'r gynulleidfa, a thrwy hyny. i mi ac yntau. Yn gwybod hyn, dymunwn inau chwareu ychydig a'r ofn hwn, gan gymell fy ngwasanaeth trwy bregethu yn ei gapel yn Saesoneg pan y delwn; er hyny, yn ysgafn y cymellwn hyn arno, gan ddatgan fy mod yn gadael y peth yn hollol yn ei law ef, ac y byddwn yn hollol foddlawn i'r trefniadau fodd bynag y byddent.

Trefnwyd i mi bregethu yn Narberth ar nos Lun. Pan gyrhaeddais, ebe Myfyr Emlyn wrthyf, "Yr wyf wedi dy gyhoeddi neithiwr i bregethu. Dywedais y byddai i ti roddi oddeutu chwarter awr o'th bregeth yn Saesoneg, a'r gweddill yn Gymraeg." "Pob peth yn iawn" meddwn. Daeth capeliad da o bobl yn nghyd. Pregethais inau yn Saesoneg, a rhoddais ychydig eiriau yn y diwedd yn y Gymraeg.

Yn niwedd yr oedfa, cyfodai Myfyr ar ei draed, gan wneyd ymddiheuriad i'r bobl am na fuaswn wedi rhoi ychwaneg o fy mhregeth yn Gymraeg iddynt. Tystlai wrthynt iddo ef fy hysbysu o natur y cyhoeddiad, ac nad oedd ef i'w feio am na chawsent ychwaneg o Gymraeg. Ac ychwanegai y gwyddai ef paham yr oeddwn wedi pregethu cymaint o Saesoneg iddynt, sef mai eisiau dangos iddo ef oedd arnaf, fy hyddysgrwydd yn y Saesoneg, a fy ngallu i bregethu yn yr iaith hono. Hysbysai hefyd mai Sais gwael oeddwn yn dod i'r Athrofa, a rhoddai engreifftiau o fy Saesneg llarpiog y pryd hwnw, er dirfawr ddifyrwch i'r bobl. Yr oedd ef yn dweyd hyn yn y Gymraeg, ac oddiwrth waith y bobl yn gwenu ac yn mwynhau ei sylwadau, gallesid barnu nad oedd neb yn bresenol heb fod yn deall iaith Gwalia. Cydnabyddai fy mod wedi gwellhau yn fawr yn fy Saesoneg; ac os byddai i mi gynyddu cymaint yn yr iaith yn y pum' mlynedd ar hugain nesaf ag oeddwn wedi wneyd yn y chwarter canrif diweddaf, y byddwn yn Sais da erbyn hyny.

Erbyn hyn yr oedd yn amser i minau amddiffyn fy hun, a hyny a wnawn gan ddweyd nad oedd eu parchus weinidog a'm cyfaill hoffus yn hollol gywir yn ei ddehongliad o'm hamcan wrth esgeuluso pregethu Cymraeg. Yr amcan oedd, nid yn gymaint i ddangos fy hyddysgrwydd yn yr iaith, ond yn benaf er gwneyd fy hun hun yn ddealladwy i'r gynulleidfa; canys yr oeddwn wedi deall y cyhoeddiad o enau y gweinidog yn tybio rhywbeth fel hyn: "Saeson ydyw y bobl yma, wel di, ond mae rhai o honynt yn deall tipyn o Gymraeg; a rhag i ti ddygwydd methu gyda y Saesoneg, paid gofalu am bregethu llawer yn yr iaith hono; dywed ychydig bach yn y Saesneg, os gelli, yn y dechreu, ac yna ymollwng i'r hen Gymraeg." "Yna," meddwn, "yn lle trugarhau wrthyf fy hun, yn ol yr awgrym yna gan eich gweinidog, trwy beidio dweyd Saesoneg, cydymdeimlais a'r bobl yn hytrach, nad oeddynt yn deall Cymraeg yn ol yr hysbysiad a gawswn-gan ddweyd wrthynt fel y gallwn yn yr iaith a ddeallent.”

Arwyddai y bobl deimladau hynod foddhaus tra yn gwrando ar yr egluriadau pwysig yna o'r ddau du; felly yn y diwedd, a chymeryd y cyfan o'r gweithrediadau i ystyriaeth, credwyf y cafwyd cyfarfod go lew, a hyny heb archolli y Saesoneg yn ddrwg iawn, nac archolli neb arall. Ond yr oedd yr hwyl a gafwyd trwy y sylwadau diweddaf i'w briodoli yn benaf i natur dda a ffraethineb Myfyr Emlyn.

Bu galar Mr. Thomas yn fawr ar ol ei anwyl briod, "Margaret," ac y mae rhagluniaeth Duw fel pe wedi cydymdeimlo drosto, a rhoddi iddo ail Mrs. Thomas, o nodweddau gwraig rinweddol.

Ni fu fy arosiad ond yn unig dros noswaith. Canol dydd dranoeth yr oeddwn yn cefnu ar Narberth, gan deimlo fy mod wedi byw llawer iawn mewn ychydig iawn o amser, a chael mwynhad o gymdeithas cyfaill a brawd oedd o'r fath werth a dyddanwch nad allaf ei hanghofio tra fyddwyf.

PENOD XXVIII.

O Aberduar i Aberteifi.

Yn Aberduar y bedyddiwyd yr anfarwol Christmas Evans, gan y Parch. Timothy Thomas, yn 1788, pan yn 23ain oed, ac wedi bod yn pregethu gyda'r Presbyteriaid Arminaidd am dair blynedd a haner. Yr oedd y ffaith hon yn peri i mi deimlo dyddordeb neillduol yn y lle ar fy ymweliad.

Yn fuan wedi i mi gyrhaedd, dychwelai y Parch. H. James, y gweinidog, a'i briod, o daith ymweliadol, wedi cael peth niwaid trwy i'w ceffyl wyllt-redeg gyda'r cerbyd, ond yn ffodus nid oedd y niwaid yn ddifrifol.

Pan yn y pwlpud, cyn dechreu yr oedfa, tynwyd fy sylw gan ymddygiadau dyn mewn sêt ar y chwith i mi. Pe buasai yn Babydd ni fuasai ei ddefosiynau yn fwy dangosol. Neillduolion meddyliol a chrefyddolder a'i llywodraethai. Ofnwn ar y cyntaf y gallai beri diflasdod i mi, ond hyny ni fu.

Wrth sefyll ger beddau yr hen gyn-weinidogion enwog yn mynwent y capel, meddienid fi gan barch dwfn i'w coffawdwriaeth.

Dyrysais dipyn wrth fyned i Landysul, trwy fyned i lawr i Pencader gyda trên, yn lle tori ar draws ar linell unionsyth o'r orsaf gyntaf o Aberduar. Cerddais bob cam o Bencader i Landysul, ac oddiyno drachefn i Drefach. Yn Llandysul troais i mewn i siop hen weinidog yr eglwys, mewn hen adeilad oedranus digrif. Mae siopau hen-ffasiwnol yn llawer mwy dymunol na rhai ysblenydd diweddar. Maent rywfodd yn fwy fforddus —felly y siop hon. Deuai pecyn o Seren Cymru yno ar y pryd, ac yr oedd hyny eto yn asio yn ddymunol a phethau eraill.

Daeth y Parch. T. E. Williams, Aberystwyth, i mewn, yr hwn oedd o amgylch yn casglu tanysgrifiadau at un o gymdeithasau cyffredinol yr enwad. Ynddo ef ceid hefyd elfen gydnawsiol.

Yr oedd y gweithwyr yn troi ffrynt capel y Bedyddwyr lawr y dref, at yr heol, yn lle fel o'r blaen. Tybiwn mai gwaith da yr oeddynt hwy yn ei wneuthur.

Wrth holi, deallwn nad oeddwn yn mhell yma oddiwrth Castell-hywel, yr hwn le a wnaed yn enwog trwy enwogrwydd yr adnabyddus a'r clodfawr David Davis, Castell-hywel. Pe amser yn caniatau, buaswn yn myned i gael cipolwg ar y fangre. Deallais i wyr o fri iddo ef fod yn yr ysgol yn Llandysul, sef Thomas R. Davis, Ysw., Philadelphia, yr hwn, pan boenid ef yn ddibaid gan ryw ddau o fechgyn yr ysgol, a droes o'r diwedd atynt ac a ddiwallodd y ddau a churfa dda.

Yn y prydnawn elwn tua'r Drefach. Cefais fwynhad wrth dremio ar y wlad bob cam o'r ffordd, yr hon oedd dipyn yn droellog; yn y trofeydd mynych, mynai y ffordd fy nghael i ail-edrych, megys, ar lawer golygfa.

Yn Drefach cefais ddadl dwymn â Thorïaid, yn nhy Mr. Lewis, cefnder y Parch. J. Lewis, Abertawe. Yr oeddynt yn dri. Mynent nad oedd gan y Gwyddelod un hawl i ddweyd dim yn y Parliament o berthynas i Home Rule. Safent ar yr un tir, meddynt, a charcharor o flaen y fainc. Gwesgais hwy i gornel yn y man hwn. Braidd y credaf y clywsent neb erioed o'r blaen yn dweyd y drefn mor hallt yn erbyn Torïaeth a gorthrwm. Gan yr ofnwn fy mod wedi cymeryd gormod o ryddid mewn ty dyeithr, gwnawn esgusawd i wr y ty am fy eofndra, ond sicrhai fi nad oedd angen.

Mae yr achos yn Drefach yn llewyrchus, ac o dan aden eglwys Castellnewydd Emlyn.

Ar fy ffordd i'r lle olaf gwelais dy tô gwellt prydferth iawn, ar ymyl y ffordd, ar y dde i mi. Dywedaf prydferth, canys felly yr ydoedd-glanwaith, gwyn, twt, trwsiadus, a phob gwelltyn yn ei le, a gerddi bychain yn llawn blodau o'i gylch.

Yn ymyl Castellnewydd Emlyn cyfarfyddais a'r Parch. Mr. Davies, brawd Mr. Daniel Davies, Carbondale,—efe oedd ar geffyl yn myned adref o'r farchnad.

Yna cyfarfyddais ag un o'r Thomasiaid, mewn cerbyd yn cael ei dynu gan ddyn. Nid ofnai i'r ceffyl redeg, yr hyn oedd yn beth gwerthfawr i ddyn afiach nervous.

Mae capel y Bedyddwyr yn Castellnewydd yn raenus, ac yn meddu lleoliad yn nghanol y dref. Cyn ymadael, aeth Mr. Griffiths, y gweinidog, a fi i weled y dref, yr hen gastell, y bedydd-fan, a'r tloty gerllaw, yr hwn oedd fel parlwr, ond bron heb neb ynddo. Aelod yn eglwys Mr. Griffiths yw y goruchwyliwr.

Cymerais y coach i Aberteifi ddydd Sadwrn. Y gyrwr wedi cael "llymaid," a gymerai "lymaid” eilwaith, a thrydedd waith. Gan fod yr amser yn myned wrth sefyllian gyda'r "llymaid," yr oedd yn rhaid i'r ceffylau a'r hen coach fyned i wneyd i fyny y coll. Ni fuaswn erioed o'r blaen mewn cerbyd yn cael ei dynu gan geffylau yn myned mor chwyrnellol. Gyrwyd mewn un man ar draws trol ac asyn, gan daflu y cyfryw ar amrantiad o'r neilldu. Ofnwn mewn gwirionedd y teflid finau a'm cwmpeini o'r neilldu gan fel y carlamai y meirch. Dysgwyliwn bob mynyd am dynged anhapus. Cyrhaeddwyd Aberteifi yn ddiogel, a gorfoledd mawr oedd hyny. Oni buasai fod yr heolydd yn llyfn-wastad, buasem oll wedi ein chwilfriwio. Meddyliwn beth fuasai y canlyniad o yru felly ar ambell ffordd yn America.

Yn fy nysgwyl wrth y cerbyd yr oedd hen gyfaill o gyd-fyfyriwr, y Parch. Thomas Phillips, gweinidog eglwys y Ferwig, yr hwn a gartrefa yn Aberteifi.

Wrth fyned i fyny i Ferwig foreu Sabboth yr oeddwn yn myned heibio hen gartref yr hybarch John Herring. Yn eglwys y Ferwig y dechreuodd y Parch. D. Rhys Jones, Plymouth, Pa., weinidogaethu.

Trwm i mi yno oedd sefyll ger bedd Mr. B. Jones, brawd rhagorol fuasai farw yn ddiweddar, ac yn fuan wedi ei ddychweliad o America, lle y buasai fyw amryw flynyddau.

Cefais foddhad mawr yn ngwaith Mr. Phillips, y gweinidog, yn rhoddi emynau allan; synwn nad oeddwn wedi gweled yr emynau yn y "Llawlyfr Moliant," o ba lyfr yr oedd efe yn eu darllen.

Pregethais am ddau yn y prydnawn yn Penyparc, ac yn yr hwyr yn Aberteifi. Yn Aberteifi yr oedd y gynulleidfa yn fawr, ac yr oedd pwysigrwydd y lle yn gwneyd i mi fod yn dra awyddus er sicrhau cwrdd derbyniol. Mae yr eglwys yma yn parhau mewn cyflwr llwyddianus o dan weinidogaeth y Parch. J. Williams, yr hwn a lafuria yno er's amryw flynyddau.

PENOD XXIX.

Yn Sir Benfro

Treuliais Sabboth yn Llandudoch a Gerazim. Mae cynulleidfa y lle cyntaf yn parhau mor fawr ag erioed. Y pryd hwnw yr oedd capel Blaenywaen yn cael ei adeiladu o'r newydd. Mae y Parch. E. Jones, gweinidog yr eglwysi hyn, yn cael ei ystyried yn un o weinidogion mwyaf poblogaidd yr enwad yn Nghymru. Yn ddiweddar derbyniodd alwad unfrydol oddiwrth eglwys fawr, barchus, Bethesda, Abertawe. Er nad yw efe ond dyn ieuanc, a bychan o gorpholaeth, mae ei ddoniau pregethwrol yn nodedig. Mae capel newydd destlus yn Gerazim.

Yr wythnos hon gelwais gyda'r eglwysi yn Penybryn, Cilgeran, Blaenyffos, Bethabara, ac Ebenezer. Yr oeddwn yn hollol adnabyddus yn y parthau hyn ac i lawr hyd Tyddewi, pan yn Athrofa Hwlffordd, oddeutu pum' mlynedd ar hugain yn ol, a theimlwn fy hun yn fwy cartrefol yn y parthau hyn nag y gwnaethwn yn flaenorol yn y manau dyeithr y daethum heibio iddynt.

Wedi'r cwrdd yn Penybryn yr oeddwn yn myned i letya i dy Mr. Jonathan George, Pantygrwndda, ac yr oedd Mr. Evans, y gweinidog yn y cwmni. Yr oedd yn noson pur dywyll, ac yn hytrach na dilyn y brif heol, torem ar draws y caeau, gan ddilyn math o lwybrau, er byrhau y ffordd. Blaenorid gan Mr. George, Mr. Evans a finau yn canlyn. Mewn un man dygwyddodd fod ôg ddraenen, neu beth tebyg, yr ochr bellaf i'r clawdd a groesid, a chan nad oedd yr arweinydd yn ymyl, a'r noson yn dywyll, aeth Mr. Evans yn ddiarwybod i'r ddraenen, gan ddisgyn iddi megys ar ei eistedd, a bu yn aros felly am dipyn, gan chwerthin allan at ddigrifwch ei sefyllfa. A chan yr ymddangosai fel wedi sefydlu ei hunan yno, nid wyf yn sicr na fuasai efe yn eithaf boddlawn i aros yno nes cyrhaedd Pantygrwndda, pe buasai ceffyl i'w dynu ef yno yn ei gerbyd ddraenen. Atebodd Pantygrwndda (ein llety), yn dda i'w enw. Cafodd Mr. Evans a minau le cysurus, a charedigrwydd fel y môr.

Nos dranoeth yn Cilgeran, daethai i'r oedfa y Parch. T. Phillips o Aberteifi, a'r Parch. N. Davies o'r lle, (hen gyd-fyfyriwr eto, nas gwelswn ef er's llawer blwyddyn). Mae capeli Cilgeran a Pen-y-bryn bron yn newydd, a'r eglwysi yn gryfion.

Yn nghapel Blaen-y-ffos yr oedd dipyn yn niwliog arnaf fi a'm gwrandawyr. Ar y lampau yr oedd y bai. Prin y gwelem ein gilydd yno wrth graffu.

Brodor o Blaen-y-ffos yw y pregethwr poblogaidd, y Parch. Jno. W. Williams, D. D., Scranton, Pa.

O'r ty y lletywn yn Bethabara dangosid i mi hen gartref Myfyr Emlyn, gerllaw. Aethwn yno i'w weled a'i edmygu pe cawswn arweinydd ar y pryd. Gwelais ei hoff fynydd, y "Freninfawr."

Y noson yr oeddwn yno y traddodai Mr. Gladstone ei araeth fawr yn y Senedd, yn ffafr "Ymreolaeth" i'r Iwerddon. Bum yn darllen yr hanes yn y papyr trwy y boreu dranoeth.

Gelwais i weled mam oedranus y brawd Griffith G. Watts, Bevier, Mo., ar fy ffordd i Ebenezer.

Bum yn dra anffortunus ar fy ffordd o Aberteifi i Trefdraeth. Cefais fy nhrawsnewid ar unwaith o fod yn wr boneddig cyfoethog, i fod yn wr tlawd dinôd. Cymerodd yr amgylchiad anffodus le fel hyn: Danfonai Mr. Williams, gweinidog Aberteifi fi yn ei gerbyd ysblenydd haner y ffordd i Drefdraeth, ac yn y fan hono dyma y cerbyd yn sefyll, a mnau yn gorfod myned i lawr o hono, gan gymeryd fy nau droed i'm cario weddill y ffordd.

Cysurwyd fi ar y ffordd ger Llan Nanhyfer, wrth edrych ar y plant yn dod o'r ysgol ddyddiol yn ymyl fy llwybr. Ymfwrient allan fel o garchar, gan adseinio y gymydogaeth a'u lleisiau puraidd mewn nwyfiant chwareuol.

Yn mhellach yn mlaen, wrth fyned trwy ffordd a rhandir palas Nanhyfer, meddianwyd fy mherson yn sydyn gan anystwythder rhyfedd; aethai y "stiffni" trwy fy holl gymalau, ond yn unig fy nghoesau. Teimlwn ef yn benaf yn llinynau ol fy ngwddf, fy ngwar a fy nghefn. Yr oedd yn fy mreichiau hefyd a'm gwyneb—ni allwn gymaint a chodi fy llaw at fy het. Y man y teimlais ei effeithiau amlycaf oedd pan y cyfarfyddais a dwy foneddiges ieuanc, perthynol i'r palas,、 yn fy nghyfarfod ar eu ceffylau, gan grechwenu siarad a'u gilydd mewn llais arianaidd. Drwg iawn oedd genyf nad allwn, oblegid yr anystwythder a nodwyd, gymaint a gwneyd un math o foes-gyfarchiad iddynt. Yn eu dilyn yr oedd groom; yntau ar ei geffyl, ac yn cadw o fewn pellder teilwng o bellder sefyllfa ac amgylchiadau. Pan y cyfarfyddais ag ef, er fy syndod, yr oedd yr anystwythder wedi fy ngadael i raddau helaeth! a gellais wneyd dipyn o foes-gyfarchiad iddo ef; a phan yn fuan y cyfarfyddais a'r game-keeper gadawsai y "stiffni" fi yn hollol! oblegid ni chefais un drafferth i'w foes-gyfarch ef, a chael ymgom ddifyr.

Wedi cyrhaedd Trefdraeth, prin yr adnabyddwn y dref. Gwisgai olwg ddyeithriol i'r eithaf. Yr oedd y gwestai fel wedi derbyn cyffyrddiad o'r parlys. Yr oedd y tai a wynebent y mynydd yn gwneyd golygon cyffroadol. Holwn am dy Mr. Jenkins, y gweinidog. Dangosid ei dy ar ochr y mynydd. Wedi i mi gael fy anadl ar ol cyrhaedd y ty, hysbysai Mr. Jenkins fi fod yn ddrwg ganddo nad oedd un cyhoeddiad i mi yno, oblegid fod cwrdd dirwestol yn cael ei gynal yn y capel y noson hono. "Pob peth yn dda,” meddwn.

Ar y ffordd trwy y dref i lawri'r capel, clywwn sisial am y cwrdd dirwestol o enau pawb a gyfarfyddwn. Mewn ambell fan yr oedd yn gyffro gwrth-darawiadol rhwng yr elfenau dirwestol a'r gwrth-ddirwestol; ond nid oedd gan yr elfen olaf un siawns i gael chwareu teg gan fod yr elfen ddirwestol gymaint yn gryfach. Prin y gallem ymwthio yn mlaen i gymydogaeth y pwlpud gan mor lawn o bobl oedd y capel. Wedi i'r pregethwr dyeithr o America ddechreu y cwrdd yn y dull pregethwrol cyffredin, traddododd y Parch. Mr. Jenkins araeth agoriadol ddirwestol gref. Cenid yn ddirwestol yn aml. Traddodid anerchiadau dirwestol doniol dros ben. Prin yr oeddwn yn gallu sylweddoli fy hun a'r amgylchiadau gan mor ryw ddyeithriol oedd y cyfan; canys ni chyfarfyddaswn a dim yn debyg yn yr holl barthau hyny. Tua diwedd y cwrdd, pan wneid cyfeiriadau at y trefniadau dirwestol yn y dyfod ol, sylwais fod enw "Mrs." Jenkins yn cael ei grybwyll yn aml iawn-cysylltid ei henw hi a phob ychydigyn o'r gwaith.

Mewn ymddyddan yn niwedd y cwrdd, deallais holl athroniaeth y cynhwrf dirwestol. Dyma y sylwedd: Y Parch. J. Jenkins, gweinidog, a briodasai yn ddiweddar ail wraig ieuanc,-Saesnes o Loegr, yr hon oedd ddirwestreg selog. Buan wedi ei dyfodiad i Trefdraeth, hi a ddechreuodd ar y gwaith da o sobreiddio y lle, gan ddechreu gartref, a myned i lawr at yr yfwyr mawrion; ac yr ydoedd eisoes wedi bod yn dra llwyddianus yn ei hymdrechion clodadwy, fel y gellid casglu oddiwrth yr hyn a nodwyd.

Wrth deithio o Trefdraeth i Tabor, cefais anerchiad parchusol a chariadus gan graig gyfagos, ar y llaw chwith i mi, yr hon graig a gynrychiolai y creigiau amgylchynol yn ei mynegiadau. Dyma amlinelliad o'r anerchiad: "Wel, Griff. bach, yr wyt, mae'n debyg, yn gweled llawer o gyfnewidiadau yn y parthau hyn, mewn byd ac eglwys, er yr amser y byddet yn dod ffordd yma tua phum' mlynedd ar hugain yn ol, pan oeddit fyfyriwr yn Hwlffordd. Nid yw y cyfnewidiadau yn llawer na phwysig i ni, sydd yn barhaus wedi gweled cymaint o gyfnewidiadau o'r dechreuad. Er yr adeg y cyfodasom ni ein penau i fyny o'r tryblith boreuol, nyni yn wir sydd wedi gweled cyfnewidiadau fyrdd o bob natur o'n hamgylch Rhai o feibion hynaf natur ydym ni, ac mae y tonau a ymddrylliant ar greigiau y traeth gerllaw, yn arwyddluniol anghyffredin o donau amgylchiadau, cyfnewidiadau yn mhlith gwrthddrychau materol, llysieuol, anifeiliol a dynol, a ymddrylliasent wrth ein traed trwy oesau dirif. Mewn cymhariaeth i luosawgrwydd a mawredd y rhai hyn, nid yw cyfnewidiadau y chwarter canrif ddiweddaf o'n cylch ond bychain a dibwys iawn. I ti, y maent yn ddiau yn edrych yn lluosog a phwysig, er nad ydwyt yn gweled ond ychydig o honynt ac o'u heffeithiau. Ynom ni, fe ddichon nad ydwyt yn canfod nemawr gyfnewidiadau, a dymunem i'r ffaith hon fod yn gysur i ti, bererin, wrth fyned heibio fel hyn ar fyr-dro yn nghwrs blynyddau lawer. Dymunem dy adgofio o'r anrhydedd fawr roddes ein Creawdwr ni a thithau arnom ni, trwy ein defnyddio yn wystlon o sicrwydd ei addewidion i'w bobl, ac o sefydlogrwydd ei gyfamod a hwynt dros byth. Y mae yn canlyn fod cysylltiad agos yn bodoli rhyngom ni a phererinion ysbrydol, i ba rai y rhoddwyd yr addewidion, ac â pha rai y gwnaethpwyd y cyfamod. Paid tithau, gan hyny, a rhyfeddu at ein gwaith pan fel hyn yn dy gyfarch wrth fyned heibio, a phan yr ydym yn dy sicrhau o'n dyddordeb ynot, a bod yn hynod dda genym dy weled wedi dal cystal o dan feichiau trymion cyfrifoldeb bywyd. Ffarwel i ti, hen gyfaill; a phob daioni fyddo i ti, a llwyddiant digoll i gyrhaedd yn ol i America, ac yn y diwedd i gyrhaedd i'r wlad nefol fry."

Yr oeddwn yn rhy ddrylliog fy nheimladau i wneyd un atebiad ffurfiol iddynt. Ynganwn yn unig mewn iaith doredig fy mod yn ddiolchgar iawn iddynt, fwyn greigiau, am yr arwyddion a ddangosasent i mi o'u teimladau da.

Parha Tabor i arddelwi nodau cysegredig Tabor yr Hen Destament. Y gweinidog presenol yw y Parch. J. W. Maurice (un eto o'm hen gyd-fyfyrwyr).

Yn Abergwaen yr oedd yn neillduol dda genyf gyfarfod a'm hen gyfaill a chyd-fyfyriwr, y Parch. W. Jones, y gweinidog. Y fath feddwl sydd ganddo ef! Gall ad-dynu iddo ei hun bob peth fo dda yn mhob llyfr a ddarllena; a gall efe drachefn drosglwyddo yn dda y pethau goreu o honynt i'r bobl yn ei bregethau.

Beth oedd dyben natur tybed wrth wneyd y fath bantle yn y ffordd fawr i'r gogledd o Abergwaen? Ai er dysgu y wers hono i berchenogion meirch a cherbydau, "Caffed amynedd ei pherffaith waith.”

Yn Trelettert teimlwn i ddweyd, "Wele, gwnaethpwyd pob peth yn newydd." Mae y capel yn newydd, yr eglwys yn newydd, a'r pentref yn newydd. Y Parch. B. Thomas, brawd yn meddu calon hawddgar a da, yw y gweinidog. Mae ol ei lafur ef ar yr achos. Saif ei enw yn uchel yn y lle, a thrwy holl gylch Cymanfa y Sir.

Wrth agoshau at Llangloffan cefais ymddyddan byr a difyrus iawn â dyn diniwed oedd yn trwsio y ffordd. Pan ofynwn iddo faint y dydd ydoedd ei gyflog, atebai mai dau swllt. Yna awgrymwn wrtho nad oedd yn debyg fod dysgwyliad iddo am weithio yn galed iawn am gyflog mor fychan. Yntau a'm sicrhai fod; fod rhyw rai o dalwyr y trethi yn pasio yn fynych, y rhai fuasent yn achwyn arno yn fuan pe gwelsent ef yn segura.

Mae y dyddiadau canlynol, yn gerfiedig ar ffrynt capel Llangloffan, yn dynodi yr adeg yr adeiladwyd y capel gyntaf; yna yr adegau yr adgyweiriwyd ac yr ail adeiladwyd ef: 1706, 1749, 1791, 1862.

Mae yr hen seintiau enwog gynt wedi myned i'r nefoedd bron i gyd o gymydogaeth Llangloffan; efallai fod dau neu dri yn aros hyd yr awrhon.

Ddydd Sadwrn cyrchwn i Groes-goch. Ni wyddwn Ꭹ ffordd yn dda. Holwn y plant a chwareuent ar yr heolydd yma a thraw, am y ffordd i Groes-goch. Cyfarwyddent fi yn ddioed, ond trwy iddynt siarad yn fuan, a defnyddio geiriau dyeithr i mi, ni allaswn haner eu deall. Ebe merch fach, "Ewch dros y sdigil ycw, a thrwy y fidir, a trowch ar y llaw aswy, ac yna trwy iêt fach yn y fan draw." Ystyr "fidir" fel y deallais wedi hyny, ydyw "Mair-dir."

Dydd Llun daeth y Parch. Mr. Phillips, gweinidog Groes-goch, gyda mi i Tyddewi. Ar ein ffordd yno galwasom yn hen gartref y Parch. James G. Davies, Beulah, Mynwy. Pan yn dychwelyd i'r brif-ffordd, cyfarfyddem a dyn yn llonaid trol fechan o ddigrifwch, yn cael ei dynu gan asyn.

Yn Tyddewi, dygwyddodd i mi fyned yn ddiarwybod, i le peryglus anghyffredin, o flaen ffroen canon mawr. Bu yr anffawd fel y canlyn: Aeth Mr. Harris, y gweinidog, â Mr. Phillips a minau i gael golwg ar yr hen eglwys Gadeiriol, yr hon oedd ar y pryd yn myned dan adgyweiriadau pwysig. Yn gymaint a bod y drysau yn agored, aethom yn ddiseremoni i mewn iddi, ac yna yn mlaen trwy ei gwahanol adranau nes dyfod o honom i'r cysegr sancteiddiolaf. Nid cynt nag yr oeddym yno, y cawsom ein hunain o flaen y Canon. Efe yn cael golwg bregethwrol arnom a'n cyfarchai yn foneddigaidd, ac mewn modd teilwng o bersonau o urddau felly. Dychwelai y ddau frawd y moes-gyfarchiadau yn ol gyda llog, ond dygwyddodd i'r anystwythder a'm poenodd tua Nanhyfer, fy meddianu yn ddisymwth fel i'm lluddias i wneyd dim o'r fath.

Y Parch. Aaron Morgan yw gweinidog Felin-ganol a Solfach. Dywedir fod yr achos yn y ddau le yn. myned rhagddo. Yn Solfach mae yr hybarch William Owen (Caerdydd gynt), yn byw. Llogodd efe gerbyd i fyned a fi i Blaenllyn, a daeth y Parch. Mr. Morgan gyda mi yn gwmpeini. Galwasom ar ein ffordd yn Pen-y-cwm, cartref Mr. Edward Evans, brawd i'r diweddar William Morgan Evans, Argraffydd, Caerfyrddin.

Mawr y cyfnewidiad a welwn yn Trehael. Y Parch. Mr. Thomas, gwr y ty, yn ei fedd er's blynyddau; a'r plant oeddynt fychain pan arferwn alw gynt, wedi hen dyfu i oedran. Mae caredigrwydd y teulu i bregethwr yn parhau yr un peth.

Hebryngwyd fi dranoeth mewn ychydig fynydau i Hwlffordd. Yr oedd sioncrwydd y ceffyl, esmwythder y cerbyd, hoenusrwydd y gyrwr, natur dda pobl Trehael, dymunoldeb y tywydd, a neillduolrwydd y golygfeydd, yn gwneyd y frys-daith hon yn hynod bleserus. Gwelwn Hwlffordd wedi heneiddio. Dydd Sadwrn ydoedd. Yma cyfarfyddais a'r Parch. Aaron Morgan ar ei ffordd i Lanelli erbyn y Sabboth. Treuliasom rai oriau gyda ein gilydd. Aethom i weled y Coleg Newydd a'r Hen Goleg. Ger yr Hen Goleg boddlonais chwilfrydedd fy nhraed trwy ganiatau iddynt gamu ar riniog drws y gegin lle y buasent yn camu lawer gwaith o'r blaen; ac yr oeddynt yn llawn trydan boddhaol.

Fel y deuem ein dau heibio ffrynt capel Bethesda, ar y chwith i ni, canfyddem ddyn yn ymdrechu ag asyn a dynai drol fechan. Yr amcan oedd cael gan y


creadur hir-glustiog ddod yn mlaen o yard i'r heol. Yn lle cydsynio, cymerasai yr asyn yn ei ben i wasgu ei berchenog yn dost yn erbyn y mur cyfochrog. Pan welai y gyriedydd ni yn sefyll gan graffu arno yn yr helbul, ac yn chwithig yr olwg arno, cywilyddiai, ac aethai yn fwy afler fyth wrth lafurus ymdrechu gwrthwthio yr asyn, a'i gael i symud yn mlaen gyda y drol o'r yard i'r heol. Methem ddod i benderfyniad sicr beth oedd dyben yr asyn wrth wneyd gwrthddrychau mor ddigrifol o hono ef ei hun a'i feistr-pa un ai ystyfnigrwydd natur asynaidd, ynte dial am gam a gawsai yr ydoedd, ac yn flaenorol wedi gwylied am gyfle manteisiol i dalu y pwyth yn ol, ac yn awr y cyfle hwnw wedi dod; neu ynte a'i rhyw duedd ddireidus ddiniwed, ac awydd am dipyn o ddigrifwch ar fin y brif-ffordd oedd wrth wraidd y ddrama ddigrifol, ni allem ein dau ddyfalu. Gogwyddem i dybied mai y ddamcaniaeth ddiweddaf oedd y debycaf o fod yn gywir.

Cefais olygfa ddigrifol arall yr un dydd, mewn cwr arall o'r dref, pan yn cyd-rodio a'r Parch. J. Jenkins, gweinidog Hill Park, o Prendergast, ychydig yn uwch i fynu na ffrynt y capel Cymreig. I'n cyfarfod deuai dyn yn arwain ceffyl a throl, ar y ffordd adref o'r farchnad. Deuai yn mlaen ar y llaw ddehau i ni. Pan y daeth bron yn gyferbyniol, edrychai ar Mr. Jenkins yn fygythiol, gan wneyd defnydd cas o'i dafod, trwy fwrw ato gabledd difriol, brwnt a miniog. "Wel, dyma hi," meddwn wrthyf fy hun, "gweinidog yr efengyl yn cael ei athrodi fel hyn ar yr heol. Tybiwn yn uwch o Mr. Jenkins na'i fod yn haeddu peth fel hyn." Ac yr oeddwn mewn dyryswch beth allai hyn fod. Ebe y dyn, "O, 'r ydwyf yn deall yn awr pa fath ddyn y'ch chwi. Hen dwyllwr anghyfiawn ydych, a chewch chwi ddyoddef am y cam a wnaethoch a mi." Methwn ddeall peth fel hyn! Yn fuan, modd bynag, daeth goleu ar y mater. Mae yn debyg fod y dyn hwn newydd basio gwir wrthddrych ei ddygasedd, a chan fod y ddau yn ymsymud mewn cyfeiriadau gwrthgyferbyniol i'w gilydd, methai y dialydd uchel-leisiog, cabldraethol, gadw cyfeiriad ei wyneb at ei elyn gwirioneddol, a chymeryd gofal o'i geffyl a'i drol yr un pryd; er hyny, cadwai ei wyneb yn yr un ffordd a phan yr oedd y gwrthddrych digasol yn gyferbyniol iddo. A phan y daeth Mr. Jenkins gyferbyn, a chymeryd lle y gelyn ar yr heol, efe a wnaethpwyd yn fwch diangol, megys i ddwyn holl bechodau y troseddwr.

Yn Blaenconin cyd-deithiwn mewn cerbyd a brawd o'r eglwys, ac adroddai i mi hanes tramor-ddyn fuasai yn ddiweddar ar ymweliad ag ef am rai wythnosau, ac a broffesai fod yn frawd iddo. Y tramor-ddyn apeliai ato yn y man am fenthyg symiau o arian. Yntau a gydsyniai, gan gredu ei fod trwy hyny, yn gwneyd cymwynas i'w frawd. Wedi myned o'r dyn dyeithr ymaith, cawsai y cymwynaswr reswm i amheu gwirioneddolrwydd y berthynas; ac yr ydoedd mewn trallod a gofid blin o herwydd y dwyll-drafodaeth a ddygwyddasai. Yr hyn a barai i mi y mwyniant penaf ar y pryd ydoedd dull haner-geiriol, bratiog, anghysylltiol, annrhefnus y dyn yn adrodd i mi yr hanes. Yr oedd yr hanes ynddo ei hun, fel y deuais i'w ddeall ar ol hyny gan wr o'r gymydogaeth, yn llawn dirgelwch, er ei osod allan yn y dull egluraf yn bosibl. Ond yn yr adroddiad a gawswn yn y cerbyd, yn iaith fratiog, fyngys, ddyryslyd fy nghydymaith, yr oedd y cwbl yn ddyeithr wirioneddol. Yn wir, rhoddais i fyny ei holi o'r diwedd wrth geisio deall beth a ddywedai wrthyf. Nid oedd dim i'w wneyd ond gwrando ar swn y gabolach ymadroddol, ac arwyddo fy mod yn gwrando yn astud, trwy ddweyd yn achlysurol, "Ie, ie, felly wir, rhyfedd, hynod iawn, dear me, yr anwyl bach." Wrth ei wrando, gresynwn yn fawr na fuasai y Parch. D. Phillips, Croes-goch, yn clywed y faldordd gymysglyd o enau y dyn wrth fy ochr.

Wedi treulio Sul yn Blaenconin, boreu Llun gelwais yn nhy y Parch. Owen Griffiths, y gweinidog, yr hwn ydoedd ar ei glaf wely. Drwg oedd genyf ei fod ar y pryd yn rhy wanaidd i mi gael golwg arno.

Gelwais yn Whitland, yn St. Clears, a Salem, Mydrin. Pan yn y lle olaf lletywn yn nhy chwaer i'm cyfaill, y Parch. B. Thomas, D. D., Toronto, Canada.

Bum yn nhref Caerfyrddin am y tro cyntaf erioed. Cefais oedfa yn y Tabernacl. Y gweinidog yw y Parch. John Thomas, yr hwn a ystyrir yn un o weinidogion blaenaf yr enwad. Breintiwyd fi hefyd a chymdeithas ddyddan y Parch. Griffith H. Roberts, gweinidog Peniel.

PENOD XXX.

O Pen-y-bont i Gaersalem Newydd.

Pen-y-bont fel cynt. Y Parch: G. James yn weinidog, ac yn siarad am gael capel newydd. Anrhegodd fi a darlun da o'r hen gyn-weinidog enwog-y Parch. Owen Michael.

Pan elwais gyntaf yn Maesteg, yr oedd y Parch. R. Hughes yn fyw. Pan agorodd efe y drws, aeth ias o syndod droswyf wrth weled arno gymaint o arwyddion henaint a dadfeiliad Pan elwais eilwaith, yn mhen ychydig fisoedd, nid ydoedd. Pan fu farw Mr. Hughes, aeth ton o alar dros yr enwad.

Y Parch. E. Jones, (hen gyd-fyfyriwr), yw y gweinidog yn y Tabernacl. Yr oedd amgylchiadau y bobl yn nghymydogaeth ganolog ei gapel ef, yn isel ar y pryd.

Yn Salem, y Parch. J. Ceulanydd Williams yw y gweinidog—tery yn dda yno, meddir. Y mae efe yn llenor a bardd o nod.

Brodor o Maesteg ydyw y Proffeswr Apmadoc. Ynddo ef ceir esboniad da ar y geiriau, "Pa fodd y glanha llanc ei lwybr?" Nid oes foneddwr o Gymro yn America yn fwy teilwng o barch nag Apmadoc. Diau fod gwasanaeth a phresenoldeb y boneddwr hwn yn Eisteddfodau a chyngerddau y genedl yn y Talaethau, yn meddu gwerth deublyg.

Yn Pisgah, Pyle, y Parch. W. Haddock yw y bugail. Pan oeddwn yno yr oedd y cymylau fuasent yn ei orPan elwais heibio Aberafon yr oedd y Parch. O. Waldo James yn parotoi yn brysur i ymfudo i America. Rhyfeddwn ato yn gadael maes mor ardderchog, eglwys mor fawr, capel mor ysblenydd, ond yr oedd yn glaf, efe a'i deulu am groesi y dw'r i America. Deallwn fod teimlad dwfn o'i golli yn yr eglwys, y lle, a'r cymydogaethau, a thrwy holl gylchoedd ei ddefnyddioldeb yn yr enwad.

Pregethais yn Rehoboth, Llansawel. Cwynid oblegid iselder masnachol, yr hyn oedd yn effeithio ar yr eglwysi yn y lle; eto hyderent nad oedd ond amserol.

Cynulleidfa y Parch. B. Evans, D. D., Castellnedd, oedd yr oreu am wrando a welais yn holl Gymru. Teimlwn yn hynod flinderus oblegid mawredd llafur yr wythnosau blaenorol. Ofnwn am y cwrdd. Dewisais ryw bregeth a dybiwn fuasai yn taro ei bobl ef. Fel yr elwn rhagwyf, gwelwn nad oedd un gair yn myned yn ddisylw. Yn nghynulleidfa Dr. Evans ceir prawf mai y gweinidog sydd i benderfynu pa fath wrandawyr sydd ganddo. Bu croesawiad Dr. Evans a'i bobl i mi yn frwdfrydig. Daeth efe gyda chuddio trwy farwolaeth ei anwyl wraig, yn symud ymaith yn brysur. Yr oedd newydd briodi ail wraig ragorol.

Awr fu yr alwad yn Cwmafon. Mae Mr. Llewelyn Griffiths a'r brodyr eraill yno yn dwyn tebygolrwydd agos, mewn person a natur, i'r adnabyddus gerddor gwych, a'r Cymro twym-galon, Mr. T. D. Griffiths, St. Clair, Pa., yr hwn sydd yn frawd o waed coch cyfan mi prydnawn dranoeth i Aberdulais, a dygodd fi gydag ef adref y noson hono ar ol y cwrdd.

Bum yn Clydach, lle mae y Parch. T: V. Evans, brawd Dr. Evans (Ednyfed), yr hwn a fedyddiwyd oddiwrth y Trefnyddion Calfinaidd, yn weinidog. Llenwa efe yn dda ddysgwyliadau a goleddid am dano ar adeg ei droedigaeth.

Ymwelais ag un o eglwysi y Parch. E. W. Davies, uwchlaw Llangyfelach.

Mae eglwys Treforris yn gref a lluosog. Y gweinidog yw y Parch. Robert Roberts. Adnabyddir ef fel pregethwr poblogaidd iawn, ac fel y cyfryw lleinw ei le yn gampus. Yn ei eglwys ef mae y brawd John W. Morgan, yr hwn fu rai blynyddau yn America.

Ychydig uwchlaw Treforis y mae Caersalem Newydd. Y Parch. Isaac Thomas yw y gweinidog. Y mae efe yn hysbys trwy holl Gymru fel dirwestwr selog a chydwybodol, a gwna waith mawr yn y cyfeiriad daionus hwn, yn gystal ag fel gweinidog gartref.

Yma erys y Parch. D. W. Jones, diweddar o Drifton, Pa. Ceidw siop fechan, gan gartrefu gyda ei anwyl fam. Tuedd parhau yn wanaidd sydd i'w iechyd. Yr oedd yn dra siriol o'n cyd-gyfarfyddiad. Holai gyda dyddordeb am ei hen gyfeillion yn America.

Gelwais heibio Adulam, Llansamlet. Y gweinidog yw y Parch. J. D. Harris, brodor o Sir Benfro. Brawd rhyfeddol o fwyn a charedig yw efe. Lletywn yn nhy Mr. Cornelius B. Griffiths, un o feibion y diweddar Barch. Jeremiah Griffiths, Ashland, Pa. Mae meibion y brawd ymadawedig hwn yn troi allan yn ddynion rhagorol. Mae un o honynt yn weinidog llwyddianus yn Llanidloes, a'r llall yn New Tredegar. Y mae dau o'i feibion yn byw yn Llansamlet, ac yn aelodau heirdd a gweithgar yn eglwys Adulam. Y mae iddo hefyd. ddwy ferch yn byw yn y lle, ac yn aelodau selog o'r un eglwys.

PENOD XXXI.

Yn Llanymddyfri a Rhandirmwyn.

Mae tref Llanymddyfri mewn sefyllfa dra difyrus, mewn dyffryn yn cael ei ddyfrhau yn dda, ac yn cael ei chylchynu a bryniau wedi eu gorchuddio a choed. Mae sefyllfa ganolbarthol y dref yn rhoddi iddi sefyllfa bwysig yn y wlad. Y mae dyddordeb hanesyddol yn perthyn i'r lle hwn, fel maes genedigol y Parch. Rees Pritchard, a adwaenir gan y cyhoedd wrth yr enw "Ficer Llanymddyfri." Y mae wedi enwogi ei hun am ei waith prydyddol, dan yr enw "Canwyll y Cymry," neu yn ol yr enw cyffredin, "Llyfr y Ficer," yr hwn sydd gyfansoddiad dysyml a diaddurn, yn cynwys nifer mawr o ganiadau ar destynau ymarferol a phrofiadol, yn union o'r fath ag yr oedd y wlad yn sefyll mewn angen ar y pryd. Bu yn ddigaregydd gwerthfawr i eraill a ddaeth ar ei ol, efallai yn rhagori o ran gwisg, ond nid o ran ysbryd a defnyddioldeb. Ganwyd y Ficer yn 1575, a bu farw yn 1644.

Mae yma gapel newydd destlus. Gwnaeth Mr. Davies, y gweinidog, a'r eglwys, yr hyn a allent er gwneuthur fy ymweliad yn ddyddorol i mi. Cefais oedfa hwyrol.


Yn Llanymddyfri, ddydd Sadwrn, cyfarfyddais a'r Parch. D. Mathias, Llanwrtyd, yn myned at ei gyhoeddiad bythefnosol i Rhandirmwyn Yn gymaint a'n bod gynt yn gyd-fyfyrwyr yn Hwlffordd, yr oedd y cyfarfyddiad annysgwyliadwy yn hapus. Cawsom ein cario fwy na haner y ffordd i Rhandirmwyn, ond yr oeddym yn dra blinedig erbyn cyrhaedd Bwlch-yrhiw, ger y lle yr oeddym i bregethu boreu Sul. Yr oedd y gôg wedi ymroi i ganu ei goreu ar y ffordd, fel o bwrpas i'n lloni. Bu cwrdd boreu Sabboth yn y Bwlch yn gysurol. Pregethasom ein dau. Dau o'r gloch a'r hwyr yr oeddym yn Rhandirmwyn; y capel yn llawn y ddau dro.

Brodorion o'r lle hwn ydyw y brodyr adnabyddus Thomas D. Davies, Ysw., a John T. Williams, Ysw., Hyde Park, Pa.; ac hefyd Mr. R. D. Williams, Druggist, Plymouth, Pa. Llawer a'm holent yn barchus am y boneddwyr hyn. Canmolid y brawd John T. Williams am ei ofal cyson sylweddol am ei anwyl fam. Dywedid iddo anfon iddi ganoedd lawer o ddoleri yn y blynyddau diweddaf. Rhyfedd fu i'w marwolaeth ddygwydd y Sabboth yr oeddwn yno. Nid llai parchus y siaradid am y brawd T. D. Davies. Mae y ddau wedi dangos parch mawr i goffadwriaeth perthynasau trwy osod cof-golofnau heirdd a drudfawr ar eu beddau yn mynwent y capel.

Mae yr eglwys wedi llwydo peth yn y blynyddau diweddaf o herwydd amgylchiadau y lle. Cefais fy mawr foddloni yn fy ymweliad a Rhandirmwyn.

PENOD XXXII.

Yn Mynwy a Manau Eraill.

Cefais gwrdd yn vestry yr hen Nebo enwog, Ebbw Vale. Dringais trwy ymdrech i fyny risiau uchel y pwlpud hen ffasiwn.

Ysgrifenodd y Parch. William Jones, y gweinidog, erthyglau tra dyddorol yn ddiweddar i Seren Gomer, ar y Puritaniaid a'r Bedyddwyr.

Treuliais Sabboth yn Brynhyfryd. Gwelwn y cyfnewidiadau yn ddirfawr; yr hen adnabyddion wedi myned, a haner y moddion Sabbothol yn Saesoneg. Y Parch. Leyshon Roberts yw y gweinidog yn bresenol.

O'r lle hwn y daeth y brodyr rhagorol, y Parch. D. J. Nicholas (Ifor Ebbwy), a Mr. Joseph Aubrey (Cynfal), i America; ond brodor o Abergwaen yw Ifor. Cryn lafur a gefais i fyned dros y mynydd, trwy yr eira mawr i Llangynidr. Cychwynwn o Cenedl. Bu y derbyniad yn wresog. Edrychai y rhanbarth hono o'r wlad mewn dillad gwynion yn ardderchog.

Bum yn Blaenafon am ychydig oriau. Ni chefais amser na chyfleustra i weled hen ffryndiau a pherthynasau personau yn America, megys y brodyr Evan W. Davies, Daniel Davies, a Thomas Davies, Carbondale, Pa., ac eraill.

Gelwais yn Pisgah, ar y ffordd i Pontypool.

Ar y ffordd o Lundain i Ddeheudir Cymru, gwelwn olwg ddyeithriol ar y Saeson gwerinawl yn y gorsafoedd. Pan oeddwn yn nesâu at gyffiniau Cymru, teimlwn fel yn dyfod adref.

Yn Casnewydd gelwais heibio y Parch. Timothy Thomas, cyn-weinidog Cefn Bassaleg. Deil efe a Mrs. Thomas i edrych yn bur dda yn eu henaint.

Gerllaw iddynt mae preswylfod y Parch. E. P. Williams, Cwmbrân gynt. Siarsiai efe arnaf ei gofio yn garedig at y Parch. Theophilus Jones, Wilkesbarre, Pa.; ас yr oedd amryw drwy Gymru yn ceisio eu cofio ato ef. Daeth y Parch. Mr. Williams gyda mi i dy y Parch. Evan Thomas. Parotoi yr oedd efe erbyn y Sabboth. Byr fu fy arosiad. Gwelswn ef yn flaenorol yn Risca. Dyna bregethwr yw efe! Mae llanw ei boblogrwydd yn ddi-drai.

Yn Caerphili, gelwais yn nhy y Parch. Wm. Evans, fu yn Paris a Youngstown, O. Gwasanaetha fel curad Eglwys Loegr. Cwyno yr ydoedd mai anfynych yr oedd galwad am ei wasanaeth.

Gweinidog yr eglwys Fedyddiedig yw y Parch. J. P. Davies. Y mae efe yn feddyliwr gwreiddiol, ac yn llenor gwych.

Pregethwr poblogaidd neillduol yw y Parch. R. Lloyd, Casbach. Y mae galwad cyson am ei wasanaeth yn y cyrddau mawrion yn agos ac yn mhell. Yn Saesneg y pregethwn yn Casbach, a rhyfeddwn glywed pawb yn siarad a mi yn y diwedd yn Gymraeg.

Da iawn genyf oedd cyfarfod a Dr. Davies, Llywydd Athrofa Hwlffordd yn Abertawe, ac ar ol hyny gartref. Bu ef yn gyfarwyddwr ffyddlawn i mi a'm cyd-fyfyrwyr; ac felly y mae wedi parhau i'r myfyrwyr olynol.

Gelwais yn Ystylfera ychydig wythnosau cyn i'r gweithfeydd sefyll. Nid oedd un cysgod dyddiau tywyll ar feddwl y Parch. C. Williams, y gweinidog, na neb arall y pryd hwnw. Cefais gipdrem ar Aberhonddu. Ar fy ffordd i'r Gogledd, yn ddiweddol, cefais fwynhau cymdeithas yr adnabyddus a'r clodfawr, y Parch. Edward Matthews, Ewenny, am rai oriau wrth gyd-deithio yn y trên yn nghyfeiriad Mont-lane. Dyna ddyn trwm yw efe !

PENOD XXXIII.

Yn y Gogleddbarth.

Machynlleth a Talywern.—Mae tref Machynlleth o adeiladaeth mwy unffurf na llawer o drefi Cymru―ei hystrydoedd yn llydain ac uniawn, a'r tai gan mwyaf o ymddangosiad parchus. Er ei bod yn ganolbwynt gweithfeydd gwlan y rhan orllewinol o'r wlad, nid yw hyd yn hyn, meddir, wedi cyd-gerdded a threfi y parth dwyreiniol. Tybir mai llygriad yw ei henw o Mancyn-llaith, gan ddynodi ei safle wrth gaincfor y Dyfi. Gwanaidd yw yr achos Bedyddiedig yn y dref hon. Brodor o'r gymydogaeth yw y brawd Richard R. Owens, Freedom, N. Y. Y cyfleustra a gefais i fyned oddiyma i Dalywern oedd mewn rhan o gerbyd am ran o'r ffordd, a'r gweddill ar fy nau droed; y pellder i gyd oddeutu chwech milltir. Yn y cerbyd yr oeddym yn dri, ac eisteddwn i yn y rhan ol, a'r ddau yn mlaen yn ymddyddan yn frwd ar wleidyddiaeth (canys amser etholiad ydoedd), a minau yn gwrando ac yn rhoi ambell air i mewn yn ffafr rhyddid. Yn Talywern lletywn yn nghartref cysurus Mrs. Mary Lloyd. Dangosai cyfeillion i mi y fan, ar fin yr afon, o dan goeden gangenog, lle y safai yr anfarwol Christmas Evans i bregethu ar adeg dechreuad yr achos yn yr ardal. Cefais oedfa pur gysurus, a hawddgarwch nid bychan. Tranoeth daeth y Parch. Mr. Edwards, y gweinidog, i'm hebrwng, gan gyd-gerdded yn hamddenol hyd o fewn ychydig bellder i Machynlleth.

Harlech a Llanbedr. —Cyfansoddwyd yr englyn canlynol i Gastell Harlech, gan yr hen fardd William Phillip:

Llys Bronwen, glaerwen, lawn o glod—ollawl
A Chaer Collwyn hynod;
A Llys Llur eglur wiw-glod,
Ni all fyth un o'i well fod."

Sicrheir fod yma amddiffynfa Brydeinaidd yn foreu, yn myned dan yr enw Twr Bronwen, oddiwrth Bronwen, merch Bran ab Llyr fel y bernir, a'r hon wedi hyny a gafodd yr enw Caer Collwyn. Dywed rhai haneswyr fod y Castell wedi ei sylfaenu mor foreu a'r flwyddyn 530, gan Maelgwyn Gwynedd; ond yr adail bresenol a gyfodwyd gan Edward y Cyntaf, ac a alwyd "Arlech," oddiar ei safle ar graig, neu Harddlech, y graig deg.

Mwyn ddyddorol i mi oedd galw heibio i Harlech, canys arferwn gynt fyned trwy y lle yn fynych ar fy ffordd i Llanbedr i "ddweyd dicin" yn nghymdeithas cyfaill. Tybiwn y pryd hwnw y byddai capel y Bedyddwyr Sandemanaidd ar ochr y bryn cyfagos, yn ychwanegu at fwyneidd-dra yr awyrgylch. Mae capel bychan yn Harlech yn awr gan yr "yr hen Fedyddwyr." Cyn-weinidog Cefn Cymerau, ger Llanbedr, yw Parch. William Evans. Rhoddodd efe ofal yr eglwys i fyny yn ddiweddar, ac y mae dyn ieuanc o Athrofa Llangollen wedi cymeryd ei le yno ac yn Harlech. Y gweinidog hybarchus hwn a'm bedyddiodd i yn y Garn, yn 1847. Mab ydyw i'r hybarch Evan Evans. Deallwn fod tysteb yn cael ei wneyd iddo yn bresenol, yn gydnabyddiaeth am ei ffyddlondeb a'i lafur fel gweinidog yr efengyl. Treuliais Sabboth mwynianus yn Cefn Cymerau yn Hydref, 1885.

Llangollen a Cefnmawr.—Dyma hen feusydd gweinidogaeth y Parchn. John Prichard, D. D., ac Ellis Evans, D. D. Y tro o'r blaen yr oeddwn yn Nghymru, yn Hydref, 1880, yr oedd Dr. Hugh Jones yn fyw, ac yn llenwi cylch pwysig, a thrist oeddwn wrth gael ei le ef yn wag yn Llangollen y tro hwn. Ganwyd Dr. Pritchard Mawrth 25, 1796, mewn ffermdy bychan, tua milltir o dref Amlwch. Bu farw Medi 7, 1875. Bu yn gweinidogaethu yn Llangollen dros haner can' mlynedd. Dywed ei fywgraffydd, y Parch. O. Davies, yr hwn a fu yn fyfyriwr yn y coleg pan oedd efe yn Llywydd, ac yn gyd-weinidog ag ef am flynyddau, am dano yn niwedd ei gofiant, "Ffarwel, fy hen athraw anwyl; bydd adgofion am eich cymdeithas, a dylanwad iach a dyrchafedig eich cymeriad, yn foddion gras i mi tra y byddaf ar y ddaear."

Treuliais Sabboth yn Cefnmawr a Cefnbychan; a nos Lun yn Seion, Cefnmawr. Sefais yn hir mewn adgof hiraethlon wrth fedd y Dr. Ellis Evans. Ganed ef Mehefin 22, 1786. Bu farw Mawrth 28, 1864, yn 78 oed. Bu yn weinidog yn y Cefnmawr 39 o flynyddau. Mae ol gweinidogaeth efengylaidd Dr. Ellis ar lawer yn America heddyw, megys y personau canlynol yn Shenandoah, Pa.: Edward Wright a'i briod, John Evans a'i briod, Jonathan Rogers a'i deulu, John R. Jones, ac eraill.

Pan yn y cylchoedd hyn gelwais yn Pen—y—cae, y Fron, a'r Garth. Yn y lle olaf gelwais yn nhy chwaer i'r brodyr rhagorol, Mr. D. Price, Lima, O., a Mr. E. Price, California. Gwelais y Parch. W. Williams, cyn weinidog y Fron a'r Garth.

Ffestiniog.—Y fath gynydd mae y Bedyddwyr wedi ei wneyd yn y lle hwn. Buais yn pregethu yma ar ddechreuad yr achos. Yn awr y mae yno dair eglwys; dwy o honynt yn gryfion, a thri chapel da ganddynt. Holid fi yn barchus am y brodyr da, Evan Roberts, Utica, N. Y., a Robert Griffiths, Summit Hill, Pa., ac eraill.

Pur wanaidd yw eglwys Penrhyndeudraeth. Y Parch. J. G. Jones, yw y gweinidog, yr hwn a gyfanedda mewn palasdy gerllaw.

Porthmadoc.—Ugain mlynedd yn ol yr oedd y dref hon yn fywydus yn Ngogledd Cymru. Nid oedd cymaint ag un long yn cael ei hadeiladu yno yn awr. Nid yw eglwys Pont—yr—ynys—galch wedi gwneyd mwy na chadw rhag gwanychu.

Pwllheli a Tyddyn Shon.—Nid yw eglwys y Pwll mor golofnol a chynt. Tyddyn Shon yn wanach wedi corphoriad eglwys Llithfaen. Bum yn siarad a chwaer Mrs. Williams, priod y Parch. W. J. Williams, Girard, O., yr hon sydd yn byw yn nhy capel Tyddyn Shon. Mae eglwys Llanaelhaiarn mewn capel da. Galwasom fel teulu yn hen gartref tlws y Parch. O. F. Parry, Bordwell, N. Y. Bu iddo ef lwybr dysglaer tuag i fyny o Pen-y-maes hwnw i'w gartrefle cysurus presenol. Gerllaw Pen-y-maes mae fy anwyl chwaer Ellen, a’i gwr yn byw.

Talysarn a Llanllyfni.—Y mae yr hen esgob clodfawr y Parch. R. Jones o dan goron hardd o benllwydni. Bywyd sant fu iddo erioed. Mae eglwys lwyddianus yn Talysarn, a chapel ysblenydd.

Caernarfon.—Yma y cartrefai y teulu, o dan nawdd fy anwyl chwaer Margaret. Mwynianus i mi fu adolygu yr hen gastell; gwrando ar y crier (dall); ac ar ddyddiau penodol, pan y gwerthai y papyrau Cymreig mewn twang Gogleddol; clywed partïoedd gwladaidd gwerinawl yn bargeinio ar ddiwrnod marchnad. Mae yr eglwys mewn cyflwr pur lewyrchus, dan ofal y Parch. Owen Davies. Daeth Mr. Davies yma yn olynydd i'r enwog Cynddelw, ac y mae wedi llenwi ei le yn anrhydeddus. Nid llawer o weinidogion sydd yn Nghymru o safle a pharch y gweinidog da hwn. Heblaw ei fod yn sefyll yn uchel gartref yn ei eglwys a'r dref, y mae iddo safle o ddylanwad yn ngweithrediadau cyffredinol yr enwad yn y Dywysogaeth. Heblaw hyn, y mae yn profi ei hun yn llenor o gryn allu. Y mae golwg barchus ar ei gynulleidfa ar y Sabboth, ac y mae y capel eang yn rhwydd lawn yn y nos. Ni welais well ysgol Sabbothol yn Nghymru nag a welais yma.

Gwnaeth y teulu adnabyddiaeth a llawer o ffryndiau yn Nghaernarfon a manau eraill, ar ol ра rai y teimlent hiraeth dwys. Yn Lerpwl croesawid ni yn ymadawol gan y Parch. John Davies, Bootle; Lector, a chan chwiorydd tirion, dwy a'n canlynent o Gymru, a'r llall sydd yn byw yn y dref, yn nghyd a lluaws o berthynasau a chyfeillion eraill. Bechgyn rhagorol fy chwaer Margaret fuont hynod o garedig o'r dechreu i'r diwedd. Cychwynasom ar y City of Chester Mehefin 8, a glaniasom yn ddiogel ac iach yn New York, Meh. 19, 1886. Cyfansoddais yr englynion canlynol ar y môr, y rhai a ddangosant fy nheimladau wrth ddychwelyd:

Rhyw bêr egwyl, er braw eigion,—a gaf
I gofio cyfeillion;
Ceisiaf wneyd miwsig cyson;
Mae siawns gyda dawns y don.

Y tonau tew ewynant—i'r nef-gylch
Ac o ogylch gwgant;
Yn lluwch y trosom lluchiant,
O deuwn i waelod nant.

Rhoi aml nâd am dad y dydd y mae'r môr
Murmurawl aflonydd;
A'i brudd-der am y ser sydd
Yn drech na'r un edrychydd.

A lliwir ymaith y lleuad—gan len
Ganlyna ei llwybriad;
A mawr yw y môr ruad
Am achles cyfeilles fad.

Y storom anystyriol—a thyrfau
Ei therfysg elfenol,
Gyflawna 'r gwaith anrhaithol,
Gwelir hyn yn glir o'i hol.

Yn ddi-ernes aeth oddiarno—'u hanwyl
Arluniau roed iddo;
Y medals wedi 'mado,
Fu'n ser ar ei fynwes o.

Wel fôr, gwn dy leferydd—a hefyd
Wylofaiu dy stormydd;
Adwaen swn dy donau sydd,
A'u bronau hyd wybrenydd.


Ac felly am gyfeillion—wyf finau
O fonwes hiraethlon;
Ing leinw fy englynion,
Wrth enwi, sylwi a son.

Nawsiol son am berth'nasau—a welais
Yn olaf mewn dagrau,
O bwyll wyf wrth ymbellâu,
O fynwes eu trigfanau.

A chwerw gadael chwiorydd—tirion
Y tair hefo'u gilydd;
Glynent hyd at y glenydd,
Eu gruddiau a'u bronau 'n brudd.

Wylais wrth adael William—a'i olwg
Yn wywlyd ddiwyrgam;
Ef, mi wn, oedd gan fy mam,
Yn dyner iawn a dinam.

Wylo hefyd wrth adael Evan—brawd
Sydd brydydd pereiddgan;
Rhai doniau o fryd anian,
'Nghyd geir yn ngwead ei gãn.

Eto lawer teuluol—arwyddent
A'u gruddiau trallodol,
Alaeth a hiraeth o'n hol,
Yn llawn iechyd llinachol.

Ni allaf yma'n hollol—eu henwi,
Pe hyny yn fuddiol;
Mwy duwiol yw—mwy di-lol,
Im' adrawdd yn gymedrol.

Nythol yn nghol fy nghalon—am Walia
Mae melus adgofion;
F' enaid i y fynyd hon,
Hiraetha am dir Brython.

At anwyl wlad fy nhadau—oreu lwys
A rhyw lu o ffryndiau,
Bydd curiad fy serchiadau
Yn bur o hyd i barhau.

Nodiadau

golygu
  1. Diawl y wasg—Athrofa'r Bedyddwyr, Hwlffordd a bwriadwyd i uno efo Athrofa Pontypŵl
 

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.