Tan yr Enfys (testun cyfansawdd)

Tan yr Enfys (testun cyfansawdd)

gan D J Lewis Jenkins

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Tan yr Enfys

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader

TAN YR ENFYS

TAN YR ENFYS

NIFER O DDRAMÂU

I BLANT

GAN

D. J. LEWIS JENKINS




1928.

London & Toronto:

J. M. DENT & SONS, LIMITED

All Rights Reserved

PRINTED IN GREAT BRITAIN

RHAGAIR

YSGRIFENNWYD y chwaraeon bach hyn i blant Llangyfelach i'w perfformio yng nghyngherddau'r ysgol. Bu'r blas a gafodd y plant ar ddysgu pob darn newydd, a boddhad y rhieni o weld eu plant ar y llwyfan, yn ddigon o dâl am yr amser a'r llafur a roddwyd i'r gwaith.

Y mae dysgu plentyn i siarad yn glir ac yn hamddenol yn rhan bwysig o waith ysgol, a gwneir hynny megis heb yn wybod iddynt trwy gyfrwng chwaraeon addas.

Y duedd yn y gorffennol a fu dodi rhy fach o bwys yn yr ysgolion ar ddysgu plentyn i siarad. Yr athro yn siarad y cyfan a'r plentyn yn gorfod eistedd a gwrando. Ond daeth tro ar fyd. Cef- nogir y plentyn, bellach, i siarad, a siarad yn iawn. Y mae'r awyrgylch mewn ysgol dda mor gartrefol nes bod yn well gan y plant ddiwrnod yn yr ysgol na diwrnod o wyliau.

Y nôd yn rhai o'r chwaraeon hyn yw gofalu am waith siarad i bob plentyn yn y dosbarth.

Nid rhaid gwario arian ar olygfeydd na gwisgoedd. Y gwir yw y bydd y plant wrth eu bodd yn darparu pethau angenrheidiol eu hunain. Gofala'r dosbarth gwnio am wneud gwisgoedd o bapur neu ddeunydd rhad, a gofala'r dosbarth celf am baentio golygfeydd eu hunain. Efallai y gall rhai ysgolion ddarparu orchestra i gynorthwyo.

Nid rhaid wrth ganiatad na thâl am berfformio'r chwaraeon. Cafodd yr awdur bleser mawr wrth fwrw'r gwaith at ei gilydd. Gobeithio y darllenir y chwaraeon gan blant bach Cymru, a'u perfformio yn y modd mwyaf prydferth posibl.

Dylid diolch i'r Parch. Enoch Jones, B.A. (Isylog), am lawer o help a chyfarwyddyd wrth gyfansoddi'r chwaraeon; i'r Mri. Saville a'i Gwmni, a'r Mri. J. Curwen a'i Feibion am ganiatad i argraffu rhai caneuon, a hefyd i Mr. J. L. Rees am gyfansoddi "Santa Clôs" at y gwaith hwn.

D. J. LEWIS JENKINS.
YSGOL LLANGYFELACH,
ABERTAWE.
1928.

CYNNWYS.


Pwca a'r Crydd.

[Allan o Chwedlau Grimm.]

CYMERIADAU: Pwca a'i Gyfeillion, Mari, John, Prynwr.

GOLYGFA I: Ystafell y Crydd. Y wraig yn glanhau'r ystafell, a'r Crydd yn gweithio.

Mari: Wel, John, credaf ei bod yn amser i orffwys.

John: Rhaid yw gorffen hyn o waith fel y byddo'n barod i'w wnio yfory. Fe fydd yr arian yn dderbyniol iawn.

Mari: Caled yw bywyd y tlawd bob amser. Gad i ni fyned i'r gwely.

John: Mi ddof ar ol torri'r lledr yma.

Mari: Wel, mi âf i yn gyntaf. Paid â bod yn hir.

[Mari'n mynd allan. Y Crydd yn parhau i dorri, ac yn gweithio'n ddyfal tan ganu rhyw hen alaw Gymraeg.]

John: Wel! Nid da yw gweithio trwy'r nos. Rhaid i minnau hefyd fynd i orffwys.

[LLEN.]

GOLYGFA II: Yr un ystafell yr ail fore. John yn edrych gyda syndod ar esgidiau wedi eu gorffen.

John: Mari! Mari! Dere yma. (Mari yn dod i mewn.) A welaist ti'r fath esgidiau? Yn wir, nid wyf yn ei ddeall.

Mari: O's bosib iti wneuthur hyn o waith neithiwr?

John: Na, yn wir. Nid myfi a'i gwnaeth. Bu rhywun llawer mwy galluog na mi yn gweithio yma. Edrych ar y gwnïad rhyfedd.

Mari: Pwy a'i gwnaeth?

John: Yn wir, nis gwn.

[Curo wrth y drws.]

John: Dewch i mewn.

[Prynwr yn dod i mewn. Mari'n dwstio cadair iddo.]

John: Bore da, syr. Eisteddwch i lawr.

Prynwr: Y mae eisiau pâr o esgidiau arnaf. John: Treiwch rhain. Ni bu gennyf ddim gwell erioed.

[Prynwr yn ceisio eu gwisgo.]

Prynwr:' Ni bu'r fath esgid am fy nhroed o'r blaen. Beth yw ei phris?

John: Pymtheg swllt. (Prynwr yn talu.) Diolch yn fawr.

Prynwr: O! diolch i chwi. Y mae gennyf esgid dda. Wel! Bore da i chwi eich dau.

John a Mari: Bore da.

John (yn dangos yr arian): Y mae ffawd yn gwenu arnom.

Mari: Ydi, yn wir. Dyma ddigon o arian i brynu bwyd, a hefyd i brynu rhagor o ledr.

John: Ie. Awn ein dau i'r dre i'w prynu. [Yn gwisgo ac yn mynd allan.]

[LLEN.]

GOLYGFA III: Yr un ystafell. Dau bâr o esgidiau ar y fainc. John a Mari yn rhedeg i mewn. John yn cydio yn yr esgidiau.

Mari: Ydi'r esgidiau wedi eu gwneuthur?

John: Nid un pâr yn unig, ond dau bâr. Ni welais well crefft erioed.

Mari: Onid yw yn syndod? Y maent yn ardderchog.

John: Anodd yw deall pwy a'u gwnaeth. Y mae rhywun caredig yn gweithio pan fyddom ni'n cysgu. Clyw! Beth pe gwyliem hwy heno?

Mari: Ie, nid ffôl a fyddai hynny.

John: Af i'r pentref i werthu'r esgidiau, a dof â rhagor o ledr yn ol.

Mari: Glanhâf innau'r ystafell, a heno ni gawn weled.

[LLEN.]

GOLYGFA IV: Yr un ystafell. John a Mari yn guddiedig. Pwca a dau neu dri chyfaill wedi eu gwisgo â sachlian yn dod i mewn tan ddawnsio o amgylch y fainc. Gweithiant tan ganu.

Pwca a'i Gyfeillion:

[Yn hwmian a chwarae'n ddireidus tan weithio.]

1. Gwaith, gwaith, gwaith,
Ar ein taith,
Helpu'r gwan
Fynd i'r lan.

2. Pwyth, pwyth, pwyth,
Chwech, saith, wyth,
Arian ddaw,
Byth i'ch llaw.

3. Dyma nhw,
Ar ein llw.
Melys dweyd,
Wedi'u gwneud.

[Yn dawnsio o amgylch yr ystafell, ac yn mynd allan. John a Mari yn dod i mewn.]

Mari: Wel, caton pawb! A welaist ti'r dynion bach yn gweithio?

John: Eu gweld! Do, bid siwr!

Mari: Onid oedd eu dillad yn wael? Mi garwn wneuthur siwt newydd i bob un ohonynt.

John: Ti gei hefyd.

Mari: Wel, gad inni fynd i brynu'r brethyn.

[LLEN.]

GOLYGFA V: Yr un ystafell, a thunics a chapau newydd o sateen coch neu frown ar y fainc. Pwca a'i gyfeillion yn dod i mewn tan ddawnsio. Yn gweld y dillad, ac yn eu gwisgo gyda llawenydd.

Pwca a'i Gyfeillion (yn canu):

Tap, tap, tap,
Côt a chap
Gennych chwi
Gawsom ni.

Diolch mawr
I chwi 'nawr,
Doed i chwi
Aur a bri.

Gwaith, gwaith, gwaith,
Ar y daith,
Hapus fyd,
Ffawd o hyd.

[Dawnsiant allan ar ddiwedd y gân. John a Mari yn dod allan.]

Mari: A glywaist ti beth yr oeddynt yn ei ganu?

John: Do. Gadawsant ffawd ar eu hol.

[Yn canu'r pennill olaf. Pwca a'i gyfeillion hefyd i'w clywed yn y pellter.]

[LLEN.]

[NODIAD.—Pan berfformiwyd y ddrama hon cymerwyd "The Maori War Dance" allan o'r "Teachers' World" fel dawns i Pwca a'i gyfeillion. Dawns arall a wnelai y tro hwn yw "Dance of the Imps" (Schoolmaster Publishing Company)]

Cinderella.

I Blant Bach. Mewn Tair Golygfa.

CYMERIADAU: Brenhines, Tywysog, Chwaer Hynaf, Ail Chwaer, Cinderella, Llyswr.

GOLYGFA I: Y Chwaer Hynaf yn edrych arni'i hun mewn drych. Yr Ail Chwaer yn eistedd ar gadair, a Cinderella yn gosod ei slipers am ei thraed. Gwisgir y ddwy chwaer yn barod i'r ddawns. Am Cinderella y mae gwisg lom, a syrth yn hawdd i'r llawr pan gyffyrddir â hi gan wialen Brenhines y Tylwyth Teg. Odditani y mae gwisg brydferth.

Chwaer Hynaf:Credaf fy mod yn barod.

Ail Chwaer:A minnau hefyd.

Cinderella: O! mi garwn innau fynd i'r ddawns heno. Nid teg yw i mi aros gartref i weithio drwy'r dydd heb eiliad i chwarae.

Chwaer Hynaf:I'r ddawns, yn wir!

Ail Chwaer: Beth feddyliai'r Tywysog wrth weld un fel ti yno?

Chwaer Hynaf:Dy le di ydyw gweithio'n y gegin. (Wrth ei Ail Chwaer): Yn awr, gad inni fynd.

[Ar ol eu hymadawiad Cinderella'n dawnsio o amgylch yr ystafell gan ddychmygu ei bod yn y ddawns, ac wedyn eistedd wrth y tân i bendrymu. Brenhines y Tylwyth Teg yn dod i mewn. Cinderella yn ofnus.]

Brenhines: Peidiwch ag ofni, eneth dlos. Eich cyfaill gorau sydd yma i roddi i chwi eich dymuniad. Medraf wneuthur popeth. Dau beth a roddaf i chwi. Ceisiwch a chwi a gewch.

Cinderella: O! Frenhines hardd, garedig! Y cyntaf peth a gâr geneth fach yw gwisg brydferth, dlos.

Brenhines: Un, dau, tri (yn ei chyffwrdd â'i gwialen). Pa beth a welaf i? (Syrth ei gwisg lom.) Beth sydd nesaf?

Cinderella: Cerbyd hardd a cheffylau byw i'm cludo i'r ddawns.

Brenhines: Un, dau, tri. Drwy'r ffenestr edrychwch chwi.

Cindrella (yn curo'i dwylo): O'r fath gerbyd hardd a welaf yn yr ardd. (Yn edrych ar ei thraed): Ond O!'r fath esgidiau gwael! Pa beth a wnaf?

Brenhines (yn dangos dwy sliper): Gwelwch yma ddwy sliper. Ond cyn eu gwisgo mi garwn ddywedyd bod gennych rywbeth i'w wneuthur. Os

yn y ddawns yr arhoswch chwi am un funud wedi deuddeg, syrth y cwbl oddiwrthych. Unwaith eto y dywedaf, gwyliwch heno rhag clywed y cloc yn taro deuddeg.

Cinderella: O! Frenhines, hynny a wnaf.

Brenhines: Ffarwel, fy nghariad (yn ei chusanu). O, fy ngeneth fach, dlos.

Cinderella: Ffarwel, nid anghofiaf fyth y fath garedigrwydd.

[LLEN.]

GOLYGFA II: Y ddawns. Gellir defnyddio unrhyw ddawns y mae'r plant yn ei gwybod. Cinderella yn dod i mewn ar ddiwedd y ddawns. Gwelir hi gan y Tywysog.

Tywysog: O! fy ngeneth brydferth, dlos! A gaf i ddawnsio gyda chwi?

Cinderella: Pleser mawr i mi a fydd hynny.

[Dawnsiant unwaith eto.]

Tywysog:

 
O, Dywysoges fechan, dlos,
Tlysach ydych chwi na rhos;
Ysgafn ydych ar eich troed,
A garech chwi ddawns arall?


Cinderella: Carwn yn fawr. (Clywir y cloc yn dechreu taro deuddeg.) O'r annwyl! O's bosib ei bod yn ddeuddeg?

Tywysog: Ydyw, yn wir. Ond pa wahaniaeth? Gadewch inni ddawnsio.

Cinderella: Na, na; ni allaf. (Yn rhedeg allan pan yw'r cloc yn gorffen taro.)

Tywysog: O! pam y ciliodd i ffwrdd? Ni welais erioed eneth fwy swynol. Hoffais hi'n fawr.

Llyswr (yn dod i mewn â sliper): Dy anrhydedd! Cefais hon ar y grisiau.

Tywysog: Sliper y dywysoges yw. (Yn siarad yn eglur.) Cyhoeddwch hwn i'r lluoedd:

"Pwy bynnag a fedr wisgo hon
A fydd i mi yn wraig."

[LLEN.]

GOLYGFA III:

Chwaer Hynaf (yn hunanol): Pan fyddaf yn wraig i'r Tywysog, ti gei ddyfod i'r plâs ambell dro.

Ail Chwaer: O, yn wir! Nid ti a fydd yno, ond fy nhroed i sy'n taro'r sliper.

Chwaer Hynaf:Dy droed di! O!'r fath droed! Haws a fyddai gosod fy mhen i mewn.

Ail Chwaer: Nid rhaid iti fod mor gâs. Nid wyf am siarad dim yn rhagor.

Chwaer Hynaf:Ust! Ust! Y mae'r Tywysog ei hun yn dod.

[Gŵr y llys yn dod i mewn gan gludo'r sliper o flaen y Tywysog.]

Llyswr: Eich Anrhydeddus Dywysog!

Ail Chwaer: Yn awr, ni a gawn weld.

Tywysog: A fyddwch chwi mor garedig a cheisio gwisgo'r sliper?

Chwaer Hynaf: Gyda'r pleser mwyaf, mi a'i gwisgaf. (Yn gwneuthur pob ymgais i wthio'i throed i mewn.) Mae fy nhroed yn ei tharo i'r dim.

Tywysog: Esgusodwch fi. Mae eich troed yn rhy fawr iddi.

Ail Chwaer: A gaf i ei gwisgo? (Yn gwthio'i throed i mewn.) I mi y mae fel maneg.

Tywysog (yn gwenu): Ofnaf ei bod yn rhy fawr A oes geneth arall yn byw yma?

Chwaer Hynaf: Cinderella'n y gegin syr, ond nid da i'n Tywysog ei gweld hi.

Tywysog: Carem ei gweld.

Ail Chwaer: Nid yw yn ddigon glân i lygaid ein Hanrhydeddus Dywysog ei gweld.

Tywysog: Rhaid i mi ei gweld.

[Gelwir Cinderella gan y chwaer hynaf-yn dod i mewn.]

Tywysog:

O!'r fath wyneb hardd,
Nid dieithr i mi yw,
Ond ble y gwelais ni wn;
A garech chwi dreio'r sliper?

Cinderella: Carwn yn fawr. (Yn ei gwisgo.) Dyna hi-a thyma'r llall!

Tywysog: Fy nhywysoges serchog! A gaiff y dydd hwn fod yn ddydd ein priodas?

Cinderella: Caiff. Eich hapus wraig a fyddaf i. Tywysog: I'r plâs yn awr nyni a awn.

[Ant allan i ganol banllefau'r bobl.]

[LLEN.]

Y Tri Mochyn Bach.

CYMERIADAU: Y Fam, Swca, Betsi, Cwrli, Y Tri Mochyn, Y Blaidd.

GOLYGFA I: Tŷ'r Fam.

Y Fam: 'Nawr, mhlant i, gan eich bod yn bedwar mis oed, credaf ei bod yn amser i chwi fynd allan i'r byd, a chodaf dŷ i bob un ohonoch. Sut dŷ a garech chwi gael, Swca?

Swca: Mi garwn i gael tŷ o wellt. Y mae gwellt mor gynnes.

Y Fam: A fath dŷ garech chwi gael, Betsi?

Betsi: Tŷ o eithin, gan ei fod yn edrych mor bert yn ei flodau melyn.

Y Fam: A sut dŷ y mae Cwrli am?

Cwrli: Tŷ o briddfeini i gadw'r glaw a'r eira allan.

Y Fam: Fe gaiff pob un ei ddymuniad, ond gofelwch beidio ag agor y drws i'r blaidd, gan ei fod yn hoff o fwyta moch bach.

Swca: Byddaf yn ofalus dros ben, mam.

Betsi: Nid agoraf y drws, byth, byth, i'r hen flaidd câs.

Y Fam: Wel, gadewch inni fynd i godi'r tai. Y Tri Mochyn (yn dawnsio): Hwre! hwre!

[LLEN.]

GOLYGFA II: Y Tŷ Gwellt.

Y Blaidd (yn curo'n dawel): Ydych chwi gartref, Swca?

Swca: Pwy sy' 'na?

Y Blaidd:" Hen gyfaill eich mam. A gaf i ddod i mewn, fochyn bach?

Swca: Na, na, yr hen flaidd wyt ti. Yr wyt yn bwyta moch bach, ond ni chei fy mwyta i.

Y Blaidd:" Amser a ddwed. Agor y drws ar unwaith.

Swca: Agora i ddim o'r drws byth, ac ni chei di ddim dod i mewn.

Y Blaidd:" Wel, mi bwffiaf ac mi chwythaf nes. bwrw'r tŷ i lawr.

[Yn bwrw'r tŷ i lawr ac yn bwyta'r mochyn bach.]

[LLEN.]

GOLYGFA III: Y Tŷ Eithin.

Y Blaidd (yn curo'n dawel): A gaf i ddod i mewn?

Betsi: Pwy sy' 'na?

Y Blaidd: Cyfaill eich mam sy' wedi dod o bell i weld eich tŷ pert.

Betsi: Yr wyf yn gwybod pwy sy' 'na. Yr hen flaidd cyfrwys, ond nid ydwyt yn ddigon cyfrwys i'm dal i.

Y Blaidd: "Ho! ho! Yna mi bwffiaf ac mi chwythaf nes bwrw'r tŷ i lawr.

[Yn bwrw'r tŷ i lawr ac yn bwyta'r mochyn bach.]

[LLEN.]

GOLYGFA IV: Y Tŷ o Briddfeini.

Y Blaidd (yn curo'n dawel): Mochyn bach, mochyn bach, a gaf i ddod i mewn?

Cuwli: Pwy sy' 'na?

Y Blaidd:Hen gyfaill eich mam sy' wedi-

Cwrli: Na, na, ni chei di ddim dod i mewn. Y ti yw'r blaidd. Yr wyt am fy mwyta i, ond ni chei di byth.

Y Blaidd (yn arw): Ie, y fi yw'r blaidd. Bwyteais dy frawd a'th chwaer, a bwytâf dithau hefyd. Gwell i ti agor y drws ar unwaith.

Cwrli: Nid agora i mono byth.

Y Blaidd:" Yna mi bwffiaf ac mi chwythaf nes bwrw'r tŷ i lawr.

[Chwythodd y Blaidd, ond ni chwympodd y tŷ, am ei fod wedi ei wneuthur o briddfeini.]

Y Blaidd (wrtho'i hun): Mi a'i daliaf ef eto. Cwrli bach, gad inni fod yn ffrindiau. Mi ddangosaf i ti gae o erfin.

Cwrli: Ble mae e?

Y Blaidd: Ar odre'r mynydd yn ymyl y cae gwenith. Awn yno bore fory gyda'n gilydd.

Cwrli: Pa amser?

Y Blaidd: Chwech o'r gloch.

Cwrli: O'r gore, byddaf yn barod am chwech.

Y Blaidd:" Bore da, Cwrli.

[Yn mynd i ffwrdd.]

Cwrli (wrtho'i hun): Y mae yn meddwl fy mwyta yn y cae erfin, ond y mae Cwrli bach mor gyfrwys ag yntau. Codaf yn fore, a byddaf yn y cae erfin cyn pump o'r gloch.

[LLEN.]

GOLYGFA V: Tŷ Cwrli, yr ail fore.

Y Blaidd (yn curo): Wyt ti'n barod i ddod i'r cae erfin, Cwrli?

Cwrli: Yr wyf wedi bod yno'n barod.

Y Blaidd: Wedi bod, yn wir! Pryd buost ti yno?

Cwrli: Cyn pump o'r gloch. Yr oeddit yn garedig dros ben i ddweyd wrthyf amdano. Erfin ardder- chog ydynt. Yr wyf yn mynd i ferwi rhai ohonynt yn awr.

[Yn gosod pair ar y tân.]

Y Blaidd: Wel, wel, yr wyf wedi ei golli eto, ond, os na ddaw e' allan rhaid i mi fynd i mewn. (Yn ceisio taro'r drws i mewn.) Na, mi af i lawr trwy'r simne. (Yn dringo i fyny ac yn ei ollwng ei hun i lawr—yn syrthio i'r crochan.) Help! help!

Cwrli: Mi helpa i di. (Yn gosod y clorian ar y crochan, ac yn dawnsio o amgylch tan weiddi, "Y mae'r blaidd yn farw. Hwre! Hwre!")

[LLEN.]

Phil Ffôl.

CYMERIADAU: Phil a'i Fam.

GOLYGFA: Cegin mewn bwthyn. Mam Phil yn gweu.

Ei Fam: Phil! Phil! Ble gall y crwt fod? Nid yw ddim byth yn y tŷ nac ar gael pan fydd ei eisieu. (Phil yn cerdded i mewn tan chwiban.) Ha! ti ddeuthost o'r diwedd. Ble ar wyneb daear y buost ti?

Phil: Bûm am dro yn gweld rhai o'm cymdogion.

Ei Fam: Pwy a welaist ti?

Phil: Gwelais Modryb Shân, Tŷ Draw.

Ei Fam: A beth oedd ganddi hi i'w ddweyd wrthyt?

Phil: O, dim byd neilltuol, ond rhoddodd nodwydd i mi i'w rhoi i chwi.

Ei Fam: A ble mae'r nodwydd?

Phil: O, euthum tu ol i gerbyd gwair Penpant, a dodais y nodwydd yn y gwair, a methais yn lân a'i chael wedyn.

Ei Fam: Tebig iawn; pwy erioed a glywodd sôn am ddodi nodwydd mewn tas wair? Pam na ddodaist ti hi yn llewys dy gôt?

Phil: Dyna beth a ddywedodd Modryb Shân wrthyf.

Ei Fam: Tebig iawn. Ble buost ti wedyn?

Phil: Euthum i weld sut yr oedd Modryb Mari, Wernddu.

Ei Fam: Druan o Fari! A beth a ddywedodd hi wrthyt?

Phil: Rhoddodd gyllell i mi.

Ei Fam: Cyllell! Ble mae hi yn awr?

Phil: Dodais hi yn fy llewys, a chwympodd ar y ffordd.

Ei Fam: Dylaset ei dodi yn dy boced.

Phil: Dyna beth a ddywedodd Modryb Mari wrthyf.

Ei Fam: A ble buost ti wedyn?

Phil: Euthum i weld Morgan, Cwrt y Betws.

Ei Fam: A sut hwyl oedd ar Forgan?

Phil: O, rhoddodd oen bach swci i mi.

Ei Fam: Dyna bresant go lew. Ymhle mae'r oen?

Phil: Gwesgais ef i'm poced, a bu farw.

Ei Fam: Pwy a glywodd sôn am roi oen mewn poced? Pam na buaset yn ei ddodi ar dy ysgwydd?

Phil: Dyna ddywedodd Morgan hefyd.

Ei Fam: Ac wedyn?

Phil: Euthum i weld Dafydd, Tŷ Coch.

Ei Fam: A roddodd Dafydd rywbeth i ti?

Phil: Do; llo bach coch a gwyn.

Ei Fam: A ble mae'r llo?

Phil: Dodais ef ar fy ysgwydd, ond dechreuodd gicio, a chwympais innau, ac ni welais ddim am amser ond sêr ganol dydd, a phan agorais fy llygaid nid oedd llo yn unman.

Ei Fam: Cefaist dy haeddiant. Ni chredais erioed dy fod mor ffôl. Pam na buaset yn ei arwain i'r beudy?

Phil: Dyna beth a ddywedodd Dafydd hefyd.

Ei Fam: Ble buost ti wedyn?

Phil: Gelwais i weld Megan.

Ei Fam: Yr wyf yn falch iawn iti alw i weld Megan. Merch ragorol yw Megan.

Phil: Ië. Daeth Megan adref gyda fi.

Ei Fam (yn syn): Megan yma! Ble mae hi?

Phil: Euthum â hi i'r beudy.

Ei Fam: I'r beudy! O'r hirtyn ffôl! Dylaset ei chymryd i'r parlwr a gofyn iddi dy briodi.

Phil: Dyna beth a ddywedodd hithau hefyd.

[LLEN.]

Sanau Nadolig.

[Drama fach i ddeuddeg o blant wedi eu gwisgo yn barod i fynd i'r gwely, pob un ohonynt â hosan yn un llaw a chanhwyllbren yn y llall, a chan- nwyll ynddo heb ei goleuo. Ar y llwyfan y mae nifer o gadeiriau. Daw y deuddeg i mewn yn un rhes.]

CYMERIADAU:Mair, Merfyn, Megan, Arthur, Dilys, Idwal, Gwyneth, Rhodri, Olwen, Aylwin, Wendy, Geraint.

Y deuddeg yn canu:

SANTA CLÔS.

Daw Santa Clôs ynghanol y nos,
I lawr ein simne ni
Dim ond un nos daw Santa Clôs Nos
Nos cyn Nadolig yw hi

[Daw pob plentyn yn ei dro i ganol y llwyfan, cwyd ei hosan, edrydd ei bennill, yna gesyd ei hosan ar gadair, ac a yn ei ol at y plant eraill.]

Mair:
Daeth gwylnos y Nadolig
Eto yn ei thro,
A Santa Clôs ddaw hefyd
Atom yn y fro;
Ac er nad yw ein 'sanau
Ddim yn 'sanau mawr,
Caiff Santa le i ddodi'i
Roddion ar y llawr.

Merfyn:
Mi garwn i gael llyfr mawr
Yn bictiwrs pert o glawr i glawr.

Megan:
Hosan ddu sydd gennyf i;
Nodyn bach sydd arni hi:
"Cofiwch, syr, taw merch wyf i,
A gwell gennyf ddol na chi."

Arthur:
Fe leinw Santa fy hosan i
Ag afal ac oraens a losins du,
Ac os bydd modd, pan ddaw fy nhro,
Mi garwn gael ceffyl â thipyn o 'go.'

Dilys:
Gennyf i mae hosan fawr,
Honno yn cyrraedd o'm pen i'r llawr;
Nid soc fy nhad, a chwi wyddoch pam
Ond hosan sidan orau fy mam.


Idwal:
Mi garwn innau gael dryll
I saethu ar hyd y wlad;
Saethwn 'sgyfarnog i 'mam,
Saethwn un arall i 'nhad.

Gwyneth:
Hosan fach yw fy hosan i;
Yn ei hymyl rhof hosan mamgu.

Rhodri:
Mae Santa'n siwr o wybod
Mai morwr fyddaf i:
Rhoed i mi gwch i nofio
Ar donnau glas y lli.

Olwen:
Llestri tê yr wyf i am gael
Os bydd Santa yn ddigon hael;
Yna'n eich tro gwahoddir chwi
I yfed tê yn ein parlwr ni.

Aylwin:
Mi garwn i gael ceffyl,
A hwnnw'n geffyl gwyn,
Ac ar ei gefn carlamwn
Ymhell tros lawer bryn.

Wendy:
Daeth Santa Clôs â doli
Y llynedd i'n tŷ ni;
Os daw â doli arall,


Fe'i magaf innau hi.


Geraint:
Mi wn y bydd fy wyneb
O glust i glust yn wên,
Os gwelaf yn fy hosan
Y Flying Scotsman trên.


Y plant i gyd yn canu:

[SANTA CLOS.]

Daw Santa Clôs ynghanol y nos,
I lawr ein simne ni
Dim ond un nos daw Santa Clôs Nos
Nos cyn Nadolig yw hi

Cytgan
Santa Clôs, Santa Clôs,
Cyfaill gorau plant bach
Mil a chant o bethau i'r plant
Sydd ganddo ef yn ei sach

Nos cyn Nadolig fe ddaw
Daw trwy yr eira'n y nos
Rhown iddo "Hwre!"
Does neb fel efe
Byw byth y bo Santa Clôs


Dacw'r Trên.

[Chwarae Bach i Blant Ysgol.]

[Nifer o bobl yn sefyll ar lecyn wrth Gastell Glan Dŵr, Mehefin 18, 1850, yn gwylio'r trên cyntaf yn dyfod o Gaerdydd i Abertawe.]

CYMERIADAU: Dai, Mari, Shân, Ianto, Marged, Llew, Harri, Twm, Dic, Wil, Jim, Betsi.

Dai: Y mae'r trên ar ddod.

Mari: Gobeithio ei fod. 'Rwy wedi sefyll yn y fan hon am ddwy awr.

Shân: Y mae'n nhw'n dweyd bod tri chant o bobl yn y trên.

Ianto: Gobeithio bod yr engine yn ddigon cryf. Dai: Beth os tor i lawr ar y ffordd?

Mari: Dyna beth sy' arna innau ofn. 'Dw i'n credu fawr yn y trêns newydd 'ma.

Marged: Na minnau chwaith. Gwell gennyf i drystio i'r hen gart a'r donci.

Llew: Ond, Marged fach, chwi fyddech wythnos yn dod o Gaerdydd â Nedi yn eich tynnu.

Shân: A chwi glywsoch am y Duc o' Wellington. Dyn dewr yw'r Duc, ond y mae wedi dweyd yn bendant nad aiff e' byth i mewn i'r trêns newydd yma.

Harri: A beth am y caeau gwair a llafur ar y ffordd? Byddant yn siwr o gael eu llosgi i gyd, ac y mae holl ffermwyr y wlad yn uno i wrthwynebu'r trêns.

Shân: Y mae rhai ohonynt yn dweyd na cheir dim un iâr i ddodwy yn agos i'r relwe.

Twm: Ffermwyr neu beidio, y mae'r trên wedi dod i aros, neu i fynd beth bynnag; a chyn bo hir fe fydd yna drêns yn mynd i bob man.

Dic: 'Dwy i ddim yn dy gredu di, Twm. Chym- riff y trên byth le'r hen stage coach.

Twm: Ni gawn weld. Dyn galluog dros ben yw George Stephenson, a diwrnod mawr iddo ef oedd gweld ei drên cyntaf yn mynd o Stockton i Darlington.

Marged: Mi licswn i fod yno y diwrnod hwnnw.

Wil: Glywsoch chi am y dyn hwnnw yn cario flag o flaen y trên?

Jim: Do, ond gorfu iddo glirio bant mewn eiliad. Aeth y trên hwnnw ddeuddeng milltir yr awr.

I Gyd (mewn syndod): Deuddeng milltir!

Jim: Ie, deuddeng milltir, a Stephenson ei hun yn gyrru'r engine.

Betsi: Y mae nhw'n dweyd bod gwledd fawr i fod yn Abertawe heno os cyrhaedda'r trên ben ei daith.

Mari: Mae hwnna reit i wala. Mi glywes i Twm Jones, gyrrwr y coach mawr, yn i ddweyd e.

Dai (yn sydyn): Dacw'r trên!

Pawb: Y trên! Y trên! Hwre! Hwre! Hwre!

[Trefner nifer o blant i ruthro'n rhes drefnus i gynrychioli'r trên yn mynd heibio.]

[LLEN.]

Beth Sydd yn Fy Mhoced?

CYMERIADAU: Ifor, Llewelyn, Gwilym, Merfyn, Ifander, Gwyneth.

Ifor: 'Nawr, fechgyn, beth sydd yn fy mhoced? Mae'n siwr na ddwed yr un ohonoch. Os gwnewch, rhoddaf i chwi y medal melyn hardd a g'es gan f'ewyrth Twm, y bardd. Rhywbeth bach cyff- redin yw, a welwch bob dydd tra byddoch byw. 'Nawr, fechgyn, un ar y tro. Beth sydd gennyf yn fy mhoced?

Llewelyn: Llygoden lwyd a ddaliwyd wrth y glwyd.

Ifor: Llew bach, 'rwyt ti allan ohoni yn llwyr. Llewelyn: Afal coch o ardd Nantygloch. [[Ifor yn ysgwyd ei ben.]

Gwilym: Wy glas-bachyn pysgota--twmpyn o sialc—darn o gortyn. (Ifor yn ysgwyd ei ben ar ol pob cynnig.) Wel, 'dyw hi wahaniaeth yn y byd gen i beth sy' gennyt yn dy boced.

Merfyn: 'Rwy i'n gwybod. Marblen—cyllell—toffi—pêl. (Ifor yn ysgwyd ei ben.) Llyfr i'w ddarllen —cneuen i'w bwyta.

Ifor: Ymhell ohoni bob tro.

Ifander: Gadewch i mi weld, beth sy' gennyf yn fy mhoced i, ac yna efallai y down at y peth reit. Pib blwm—hoelen—taffen ddu—teisen-nodwydd,—darlun bach tlws—papur sgrifennu—cynffon cwningen—brwsh bach du—tin tac neu ddwy—darn o ledr—taten o'r ardd.

[Ifor yn ysgwyd ei ben bob tro. Gwyneth yn dod ymlaen.]

Gwyneth: 'Rwy i'n gwybod beth sydd ym mhoced Ifor. Yn wir, 'rwy'n siwr fy mod. Yn yr ysgol bore ddoe rhoddais bensil bychan iddo. Gosododd yntau ef yn ei boced, ac yn ei boced, ac yn fuan syrthiodd i'r llawr. Felly 'rwy'n siwr fod yng ngwaelod y boced-dwll—a thwll mawr hefyd.

[Ifor yn tynnu ei boced allan ac yn dangos ei bod yn iawn. Yn gosod y fedal ar fron Gwyneth.]

[LLEN.]

Heb Ei Gwahodd.

CYMERIADAU: Santa Clôs, Bob, Ifan, Dewi, Rhys, Mair, Dilys, Mr. Flue, Mr. Ffigys, Mr. Stamp, Mr. Pobydd, Miss Siwgyr, Mr. Ffermwr, Mr. Carden, Mrs. Jones, Canwyr Carolau.

GOLYGFA I: Sied, lle gwelir nifer o blant yn eistedd yma ac acw. Bob, y mwyaf ohonynt, yn edrych yn awyddus tua'r drws.

Bob: Fe ddaw. 'Rwy'n siwr o hynny. Bydd yma mewn munud.

Rhys: Anodd gen i gredu y daw.

Dilys: Dwedodd Willie Huws nad oedd yr un Santa Clôs yn bod.

Bob: Y mae Willie Huws yn credu ei fod yn gwybod popeth.

Dewi: 'Rwy i'n siwr fod Santa Clôs yn bod. Mi'i clywais ef yn dod i lawr drwy'r simne y Nadolig diwetha.

Mair: Daeth â doli fawr i mi.

Ifan: A bocs o baents ac engine i minnau.

Bob: Pob un sy'n credu bod Santa Clôs yn bod, coded ei law.

[Y plant i gyd yn codi eu dwylo; rhai ohonynt yn codi dwy.]

Rhys: Ust! Clywaf sŵn clychau.

[Y plant yn gwrando.]

Y Plant (gyda'i gilydd): Sh!

Bob: Mae'n dod. Oni ddwedais i y deuthe fe? Y Plant: Do, do! Sh!

[Sŵn clychau i'w clywed yn y pellter. Y plant yn edrych yn syn tua'r drws. Santa Clôs yn dod i mewn tan ysgwyd yr eira i ffwrdd.]

Santa Clôs: Nadolig llawen, fy mhlant i. A yw holl blant y pentre yma?

Bob: Wel, na. Y mae rhai heb ddod.

Santa Clôs: Heb ddod! Sut hynny?

Bob: Nid oeddynt yn credu y deuech o gwbl.

Dilys: Dwedodd Willie Huws nad oedd Santa Clôs mewn bod.

Santa Clôs: Rhaid i mi gofio hynny am Willie. Ond peidiwch â hidio. Y mae rhai yn ameu popeth. Ond clywch! y mae'n amser prysur arnaf. Nid yw'r parseli wedi'u hanner llenwi eto. Ond yr oedd yn rhaid i mi alw yma i drefnu'r swper. Eleni, yr wyf yn meddwl rhoddi swper yn y sied hon i holl bobl y pentref sy'n gweithio'n galed i wneud Nadolig llawen i chwi'r plant.

Y Plant (yn curo'u dwylo): Hwre! Hwre!

Santa Clôs: Gan fy mod mor brysur rhaid i chwi wahodd y bobl yma. Cofiwch wahodd y rhai sy'n gweithio rhyw gymaint i'ch gwneud yn hapus ar y Nadolig, ond peidiwch ag anghofio'r un ohonynt.

Y Plant: O! na, ni wnawn hynny.

Santa Cloôs: Ffarwel, fy mhlant annwyl. Gobeithio nad anghofiwch neb teilwng. Dyma'r cardiau. Ewch at y gwaith ar unwaith.

[Yn mynd allan tan daflu'r cardiau i'r llawr.]

Y Plant: Ffarwel!

[Yn curo dwylo ac yn neidio am y cardiau.]

[LLEN.]

GOLYGFA II: Noson cyn y Nadolig. Yr un sied. Y ford wedi ei gosod i swper. Y Plant yn sefyll y tu ol iddi. Santa Clôs yn eistedd wrth ganol y ford.

Bob: Mae'r wledd yn barod a'r gwahoddedigion ar ddod.

[Sŵn traed. Mr. Flue, ysgubwr simne, yn dod i mewn.]

Mr. Flue: Y mae pob simne'n lân, a dim perigl i Santa Clôs i drochi ei ddillad.

[Yn ymgrymu ac yn eistedd wrth y ford.]

Bob: Mr. Ffigys, gwerthwr ffrwythau Nadolig.

[Yn dod i mewn â phren Nadolig ar ei ysgwyddau, oraens ac afalau mewn basged. Yn ymgrymu ac yn gwenu ar bawb, a gosod y goeden a'r ffrwythau ar y ford.]

Mr. Ffigys: Digon o ffrwythau i lenwi pob hosan.

[Yn eistedd.]

Bob: Mr. Pobydd.

[Mr. Pobydd yn dod i mewn â theisennau a'u gosod ar y ford.]

Mr. Pobydd: Teisen a phwdin i bob teulu-dyna waith.

[Yn eistedd.]

Bob: Mr. Ffermwr.

[Mr. Ffermwr yn dod i mewn.]

Mr. Ffermwr: Bobl annwyl! Dyma laddfa! Y Plant: Ymhle? Pwy sydd wedi eu lladd? Mr. Ffermwr: Cannoedd o wyddau a thwrcis.

[Yn eistedd. Y Plant yn chwerthin.]

Bob: Mr. Carden.

[Mr. Carden yn dod i mewn.]

Mr. Carden: Carden Nadolig i bob un ohonoch.

[Yn rhoddi carden i bob un o'r plant, ac yn eistedd.]

Bob: Miss Siwgyr.

[Miss Siwgyr yn dod i mewn â melysion.]

Miss Siwgyr: Taffis i holl blant y wlad.

[Yn eistedd.]

Y Plant: Hwre! Hwre!

Bob: Mrs. Jones, sy'n glanhau'r ysgol.

Santa Clôs: A beth ddwedoch chi sy' gan Mrs. Jones i wneud â'r Nadolig?

Dilys: Mrs. Jones sy'n cloi gât yr ysgol fel na allwn fynd yno ar y Nadolig.

Mrs. Jones: Ie, dyna ran o 'ngwaith i, syr.

Santa Clôs (yn gwenu): O! mi wela'. 'Steddwch i lawr, Mrs. Jones.

[Mrs. Jones yn eistedd. Sŵn carol i'w chlywed tu allan.]

Bob: Y canwyr carolau.

Santa Clôs: Gelwch nhw i mewn.

[Bob yn eu galw i mewn. Y bechgyn yn dod i mewn tan ysgwyd yr eira i ffwrdd.]

Santa Clôs: Croeso, fechgyn. Gadewch inni gael un garol arall gyda'n gilydd.

[Pawb yn canu'n hwylus.]

Bob (yn edrych tros restr y gwahoddedigion): Credaf eu bod i gyd yma'n awr.

Santa Clôs (yn ddifrifol iawn): I gyd? Gwyddwn y byddech yn anghofio un-yr orau o bawb.

Y Plant (yn edrych y naill at y llall): Pwy allai fod? Pwy?

Santa Clôs: Rhaid i mi fy hun fynd i arwain yr orau o bawb i'r wledd.

[Y Plant yn sisial ac yn edrych tua'r drws. Clywir siarad dyfal y tu allan. "Yn wir yr wyf yn brysur iawn; 'does gen i ddim amser heddiw," a "Rhaid i chwi ddod; dewch yn wir. Yr wyf am i chwi ddod." "Wel, mi ddo am ychydig o amser." Santa Clôs yn arwain i mewn y Fam, mewn ffedog wen, a basin pwdin a llwy fawr bren yn ei llaw.]

Santa Clôs: Dyma hi! Dyma hi!

Y Plant: Mam! Mam!

Y Fam: Yr ydych yn garedig iawn, fy mhlant i, ond 'dyw'r pwdin ddim ar y tân eto, a rhaid i mi wneud y deisen hefyd.

Santa Clôs: 'Steddwch am funud. Cymerwch fy sêt i. (Yn llenwi'r glasses o win—yn codi'i las i fyny. Y lleill yn gwneud yr un fath. Gellir defnyddio rhywbeth i gynrychioli gwin anfeddwol.) Ein mam! Pob mam!

Y Lleill: Mam! Mam!

Santa Clôs: 'Nawr, fy mhlant i. Rhowch "Hwre" i'r orau o bawb. 'Nawr, gyda'n gilydd.

Pawb: Hwre! Hwre! Hwre!

[LLEN.]


Y Flwyddyn a'i Chwmni.

Croeso:

Fe roddwn groeso cynnes
I bawb sydd yma 'nghyd,
Cewch gyngerdd da os byddwch
Yn ddistaw ar ei hyd.

Bu trafferth mawr i'n dysgu
Mewn llawen ddawns a chân;
Ond yr ym oll yn fechgyn
A merched bychain glân.

Mae'r cyngerdd 'nawr yn dechrau,
Gwrandewch, bob gradd ac oed,
Cans dyma'r cyngerdd gorau
A fu'n y Llan erioed.


Y Flwyddyn:

[Y Flwyddyn a'i Chwmni-Chwarae i Blant Bach.]

Myfi yw'r Flwyddyn Newydd,
A dof ar ysgafn droed;
Yr wyf yn hen, ac eto
Mor ifanc ag erioed.


Yr wyf yn dwyn bendithion
I bawb yn ddiwahan,
Agorwch chwithau'r drysau,
A dof i mewn â chân.

A gyda mi yn dyfod
Mae cwmni bychan tlws,
Sef deuddeng mis y flwyddyn—
Agorwch chwithau'r drws.


Y Misoedd:

Daw mis Ionawr yn ei wyn,
Mis yr eira ar y bryn.
[Bwrw eira. Darnau mân o bapur gwyn.]

Daw mis Chwefror ar ei ôl,
Ewch â'r arad maes i'r ddôl.
[Aredig y tir.]

Yna Mawrth a ddaw'n ei wae,
Rhaid rhoi'r oged ar y cae.
[Llyfnu'r tir.]

Yna Ebrill ddaw â'i ddail,
Haul a chawod ar yn ail.
[Agor glawlen.]


Daw mis Mai â'i awel fwyn,
Tros ei gilydd naid yr ŵyn.
[Y deuddeg yn rhedeg a neidio.]
 
Daw Mehefin ar ol hyn
A rhosynnau coch a gwyn.
[Arogli blodau.]

Daw Gorffennaf a'i daranau,
A chwyd ddychryn ar y blodau.
[Dynwared sŵn taranau.]
 
Daw mis Awst a'i wenith gwyn,
Mae'r medelwyr yn y glyn.
[Dynwared medi.]
 
Daw mis Medi ar ei ol,
Mae sŵn saethu ar y ddôl.
[Anelu'r dryll.]

Y mae'r Hydref yn neshau—
Dyma'r mis i hela cnau.
[Casglu a thorri cnau.]

Mae mis Tachwedd yma'n awr,
Cwymp y dail i gyd i'r llawr.
[Y deuddeg yn cwympo bob yn un.]


Yna daw mis Rhagfyr diddig,
Mis llawenydd y Nadolig.

[Dangos Plwm Pwdin.]


Y Dyddiau:

Y dydd cyntaf ydyw'r Sul,
Diwrnod i addoli,
A dyma'r dydd yr awn i gyd
I'r llannau a'r capeli.

Ar ddydd Llun fe'm gwelir i
Yn golchi dillad budron.

Ac ar ddydd Mawrth fe'm gwelir i
Yn smwddio dillad gwynion.

Ar ddydd Mercher byddaf i
Ar doriad gwawr yn corddi.

Ar ddydd Iau fe'm gwelir i
Yn brysur iawn yn pobi.

Ar ddydd Gwener byddaf i
Wrthi yn glanhau y tŷ;
A dywedir mai'r peth nesa'
At dduwioldeb yw glanweithtra.


Ar ddydd Sadwrn, yn ddirwgnach,
Af i'r siop yn Llangyfelach.


Y Plant i gyd:

Diwyd ydym ni a difyr,
O fis Ionawr i fis Rhagfyr;
Nid oes ddechrau ar ein gwaith,
Nid oes ddiwedd arno chwaith;
Gwell, yn wir, yw gweithio gormod
Na byw'n ofer mewn segurdod.


[LLEN.]

Ymadawiad Arthur.

CYMERIADAU: Y Brenin Arthur, Syr Bedwyr, Y Frenhines.

GOLYGFA: Y Brenin Arthur, wedi ei glwyfo yn farwol, yn gorwedd yn ymyl llyn, yn siarad â Syr Bedwyr.

Arthur: Cymer y cleddyf hwn, a thafl ef i ganol y llyn.

[Syr Bedwyr yn cymryd y cleddyf, cerdded i ymyl y llyn, ac edrych yn fanwl ar y cleddyf.]

Syr Bedwyr: O! 'r fath ffolineb a fyddai taflu'r cleddyf hwn i ganol y llyn. Na! Mi a'i cadwaf i mi fy hun.

[Cuddio'r cleddyf a dychwelyd at Arthur.]

Arthur: A deflaist di'r cleddyf?

Syr Bedwyr: Do, fy Mrenin.

Arthur: Ac yna, pa beth a welaist?

Syr Bedwyr: Dim ond y tonnau'n cerdded at y lan.

Arthur: Nid gwir yw d'eiriau, farchog. Paid â thwyllo dy frenin, ond ufuddha ei orchymyn ar unwaith.

[Syr Bedwyr yn mynd yn ol i'r llyn ac yn cuddio'r cleddyf drachefn-yn dychwelyd at ei frenin.]

Arthur: A wnaethost ti fy ngorchymyn? Syr Bedwyr: Do! Frenin.

Arthur: Pa beth a welaist?

Syr Bedwyr: Dim ond y tonnau'n cerdded at y lan.

Arthur: O, fradwr! Ufuddha dy frenin os wyt am fyw.

[Syr Bedwyr yn dychwelyd ac yn taflu'r cleddyf i ganol y llyn-yn dyfod yn ol at ei frenin.]

Syr Bedwyr: O! Frenin, gwneuthum yr hyn a ofynnaist, a gwelais law yn ymestyn o'r llyn ac yn gafael yn y cleddyf.

Arthur: Gorffwysais yma yn rhy hir. Dygwch fi i'r llyn ar unwaith.

[Syr Bedwyr yn galw ar farchog arall. Y ddau yn dwyn Arthur i'r llyn, lle y gwelir bâd ac amryw o forynion ynddo, a Brenhines Arthur yn eu canol. Y Frenhines yn codi yn raddol ac yn galw Arthur ati.]

Arthur: Tynnir fi gan rywbeth tua'r bâd. Ffarwel, farchogion! Ffarwel!

Y Frenhines: Daeth f'anwylyd o'r diwedd!

[Y Frenhines yn gafaelyd yn Arthur; ei morynion yn ei osod i orwedd â'i ben yn gorffwyso ar y Frenhines-y bâd yn mynd i ffwrdd yn araf.]

Syr Bedwyr: O! fy Mrenin annwyl! Paham y'm gadewaist? Beth ddaw o Brydain a'i marchogion ar ol hyn?

Arthur: Rhaid ymadael er cael gwellhad. Ond fe fydd ysbryd Arthur yn fyw yn y wlad. Gwnaed pob un ei ddyletswydd, ac fe godir yr hen wlad yn ei hol.

[Y Rhianedd yn canu yn bêr. Syr Bedwyr a'i gyfaill yn cerdded i ffwrdd tan wylo.]

Llithra'r llong ar hyd y lli',
Arthur Frenin arni hi
Archoll farwol ar ei fron,
Wrth ei weled cwyna'r don.
Archoll farwol ar ei fron,
Wrth ei weled cwyna'r don
Wrth ei weled cwyna'r don
cwyna'r don

Ond wele Arthur yn y bad
Yn cyrraedd glannau prydferth wlad
Does yno neb yn marw mwy
Na neb yn gorwedd tan ei glwy'
Na neb yn gorwedd tan ei glwy'
Na neb yn gorwedd tan ei glwy'
ei glwy'
ei glwy'
ei glwy'


[LLEN.]

[NODIADAU.-Gellir gosod (a) Plant bach, neu ychydig o goed mewn cylch i awgrymu llyn. (b) Pedair olwyn a phlanc i wneuthur bâd. (c) Plentyn bach i gydio'n y cleddyf pan deflir ef i'r llyn, a'i chwifio deirgwaith.]

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Tŷ Sion a Siân
ar Wicipedia





Siôn a Siân.[1]

CYMERIADAU: Siôn, Siân, ac Un o'r Tylwyth Teg

GOLYGFA: Y llwyfan i fod yn debig i'r tŷ tywydd. Siôn i sefyll tu mewn, a Siân tu allan, a'r ddau mor syth ag sydd bosibl, nes dod un o'r Tylwyth Teg i dorri ar y swyn

Siôn: Sut ydych chwi 'nawr, Siân?

Siân: O, 'rwyfi'n reit dda, diolch, ond mi garwn pe byddai'r tywydd yn newid ychydig, fel y gallwn ddod i mewn am dro.

Siôn: Yn wir, y mae n debig iawn i law. (Yn dal ei law allan.) Clywais ddiferyn ar fy llaw. Ydyw, y mae'n mynd i fwrw.

Siân: Siôn bach, cofiwch agor eich 'brela. Nid wyf am i chwi gael gwynegon.

[Y ddau yn symud-Siân i mewn, a Siôn allan—mor debig i'r tŷ tywydd ag sydd bosibl.]

Siôn: Y mae'n dda cael newid am ychydig. Siân: Ydyw, 'nghariad i. Ond 'rwyf i wedi blino'n lân ar fyw fel yma.

Siôn: 'Rwyf innau hefyd. Wyddoch chwi, Siân, y mae deng mlynedd wedi mynd heibio er pan ddigwyddodd hyn.

Siân: Onid ydyw yn beth creulon dros ben—deng mlynedd heb gael cipolwg ar eich annwyl briod.

Siôn: Ie, Siân fach, mor agos ac eto mor bell. Pa mor hir y pery y gosb hon?

Siân: Nid wy'n gwybod, ond arnom ni yr oedd y bai. Fe ffraesom yn o arw, onid do?

Siôn: Do, Siân fach, ond sicr ein bod wedi ein cosbi ddigon erbyn hyn.

Siân: Pe bae'r Tylwyth Teg ond gwybod pa mor heddychol yr ydym yn awr, 'rwy'n siwr y caem ddod yn rhydd.

[Un o'r Tylwyth Teg â chlogyn amdani yn dod i mewn ac yn gwrando.]

Siôn: Dim ond inni feddwl: 'roeddym ni'n ffôl dros ben.

Siân (yn chwerthin): A ydych chwi'n cofio'r pethau bach y ffraesom yn eu cylch? A ydych chwi'n cofio fel yr oeddwn yn eich poeni am wisgo'ch het ar gam? O, fe roddwn lawer am gael un golwg fach arnoch ynddi 'nawr.

Siôn: Ie, a ydych chwi'n cofio'r bara menyn? (Yn dorcalonnus): Rhaid i mi ei dorri ef fy hun yn awr.

Siân: Sut y mae'r tywydd 'nawr?

Siôn: Go wael, Siân fach. (Yn edrych i'r ochr, ac yn gweld un o'r Tylwyth Teg.) Helo! A garech chwi ddod tan y 'brela rhag y glaw?

Un o'r Tylwyth Teg: Fe'r ydych yn garedig iawn, ond y mae gennyf glogyn da, diolch.

Siân: Gyda phwy yr ydych yn siarad, Siôn?

Siôn: Merch ifanc lân, hawddgar.

Siân: O 'n wir.

[Y Tylwyth Teg yn cerdded tuag at ochr Siân, ac yn edrych i mewn.]

Siân (yn gwenu): Dewch i mewn.

Un o'r Tylwyth Teg: Mi eisteddaf ar y fainc fan yma. Y mae'r glaw yn peidio.

[Yn eistedd. Siôn a Siân yn symud eto.]

Siân: Siôn a Siân ym ni. Tebig i chwi glywed lawer gwaith amdanom ni.

Un o'r Tylwyth Teg: O do, yr ydych mor hapus ac mor annwyl y naill i'r llall fel bod pobl yn dweyd, "Mor hapus a Siôn a Siân."

Siôn: Eithaf gwir, ond nid fel yna y bu hi'n wastad. Cawsom ein cosbi am ffraeo, ac yn awr y mae Siân yn wastad i mewn pan fyddaf innau allan, ac allan pan fyddaf innau i mewn, yn ôl fel bo'r tywydd.

Siân: Cosb greulon ofnadwy yw, ac yr ydym wedi blino'n lân arni.

Un o'r Tylwyth Teg (yn gwenu): O'r ddau fach annwyl!

Siân: Y mae'n galed ofnadwy. Nid ydym wedi gweld y naill y llall am ddeng mlynedd.

Un o'r Tylwyth Teg (yn taflu'r clogyn i ffwrdd: Siôn a Siân yn edrych arni gyda syndod): Un o'r Tylwyth Teg ydwyf innau. Fy neges yma heddiw ydyw eich gollwng yn rhydd. Pan darawo'r cloc ddeuddeg chwi fyddwch yn rhydd.

Siôn a Siân: Yn rhydd! yn rhydd!

Un o'r Tylwyth Teg: Ie, ond ar un amod.

Siôn a Siân: O! 'n wir, beth yw?

Un o'r Tylwyth Teg: Os byddwch byw am awr o amser heb yr un gair croes, chwi gewch aros yn rhydd am byth; ond os ffraewch-wel, "un, dau, tri-ac yn ol â chwi."

Siôn a Siân: Ffraeo'n wir-byth mwy.

Un o'r Tylwyth Teg: Mi gawn weld. (Y cloc yn taro deuddeg.) Deuddeg o'r gloch. (Yn chwifio'i gwialen hud.) Siôn a Siân, mae'ch cosb ar ben. Deuwch yn rhydd unwaith eto. Ffarwel! Ond cofiwch-dim un gair croes. (Yn mynd allan. Siôn a Siân yn rhedeg i gofleidio a chusanu ei gilydd.)

Siân: O! Siôn bach annwyl, dyma ryddid. Byddwn yn hapus am byth yn awr.

Siôn: Byddwn, 'rwy'n siwr.

Siân (tan wenu): Siôn bach, mae'r hen het naill ochr eto.

Siôn: Pa bwys am hynny 'nawr?

Siân: Mae chwant dysglaid (cwpanaid) o dê arnaf. Beth pe byddem yn ei chael yn y fan hon?

Siôn: Ie'n wir. Rhaid i mi eich helpu.

[Yn symud y ford i'r canol, ac yn cario allan y llestri a'r bwyd-Siân yn torri'r bara menyn.]

Siân: Dyna hyfryd fydd cael pryd bach unwaith eto gyda'n gilydd.

Siôn: Ie'n wir. Nid wy'n meddwl i mi fwynhau yr un pryd yn ystod y deng mlynedd diwethaf gymaint â hwn.

Siân: Na minnau, 'chwaith. Wel, 'nawr, dyma bopeth yn barod.

[Yn eistedd i lawr ac yn arllwys y tê—y ddau'n bwyta.]

Siôn (yn cydio mewn tafell ac yn edrych trwy dwll yn ei chanol, ac yn gwenu): Wel, Siân fach, mae'r bara menyn yr un fath o hyd.

Siân: Wel, beth sy mater ar hwnyna, 'nawr?

Siôn: Chwi ddylech dreio torri'r dorth yn gymwys.

Siân (yn edrych i fyny): Chwi ddylech chwithau dreio gwisgo'ch het yn gymwys.

Siôn: O, 'n wir! Mi wisgaf i'r het fel y mynnaf.

Siân: Mi dorraf innau fara menyn fel y mynnaf innau.

Siôn: Siân, fe' rydych yn anghofio. Chwi fyddwch yn ffraeo cyn bo hir.

Siân: Nid wy'n anghofio dim, ac nid wy'n ffraeo dim. Yr unig beth a ddywedais i oedd y dylech wybod erbyn hyn sut i wisgo'ch het yn gymwys.

Siôn (yn codi): Wel, wel, 'does dim pleser byw yma; ni welais i 'rioed y fath fenyw bigog.

Siân (yn codi hefyd a'r ddau yn siarad tros y ford): Pigog, yn wir. Pwy sy'n bigog?

[Un o'r Tylwyth Teg yn dyfod i mewn yn ddistaw.]

Siôn: Chwi ffraeech ag angel.

Siân: 'Rwy'n sicr o un peth-eich bod chwi ymhell o fod yn angel.

Siôn: Dylaswn fod yn gwybod. Fe 'rydych yn dod o deulu o natur wyllt.

Siân: Mae fy nheulu i gystal a'ch teulu chwi, unrhyw awr o'r dydd.

Siôn: Y trueni yw nad oes gennych ddim llywodraeth ar eich tymer.

Siân: Y trueni yw i mi erioed briodi'r fath ddyn. Siôn: Y camsyniad mwyaf yn fy mywyd i oedd i mi erioed edrych arnoch chwi!

Un o'r Tylwyth Teg: Siôn a Siân! Siôn-a Siân!

[Y ddau'n sefyll fel pe wedi eu parlysu.]

Siôn a Siân: A gawn ni un cynnig bach eto? Dim ond un?

[Un o'r Tylwyth Teg yn siglo ei phen.]

Un o'r Tylwyth Teg: Na, ofnaf ei bod yn amhosib, o leiaf am ddeng mlynedd arall.

Siôn: A gawn ni ddweyd "Ffarwel"?

Un o'r Tylwyth Teg: Cewch, bid siwr.

Siôn a Siân: Ffarwel, f'annwyl gariad (yn cusanu).

Siân: Yr wyf yn clywed y gosb yn dod. Y mae rhywbeth yn tynnu.

Siôn: 'Rwyf innau hefyd.

[Y ddau yn graddol fynd yn ol i'w lle yn y tŷ tywydd.]

Siân: Siôn bach, mi dreiaf dorri'r bara menyn yn gymwys y tro nesaf.

Siôn (yn gosod ei het yn gymwys): Mi dreiaf innau gofio sut i wisgo fy het.

Un o'r Tylwyth Teg: Ac mewn deng mlynedd deuaf yn ol i'ch gollwng yn rhydd.

[LLEN.]

Breuddwyd Brenda.

[Drama Fer i Ferched.]

CYMERIADAU: Brenda, Brenhines y Tylwyth Teg, Tylwyth Teg 1, Tylwyth Teg 2, Tylwyth Teg 3, Tylwyth Teg 4, Fioled.

GOLYGFA I: Cegin mewn bwthyn cyffredin, Brenda yn golchi llestri.

Brenda: Nid oes gennyf gynnig golchi llestri. Y mae yn gâs gennyf weld dysglau a soseri. "Golch rhain," neu "Dwstia'r celfi" yw hi o fore hyd nos. Câs beth gen i yw gwaith. (Yn taflu'r llestri i lawr heb eu sychu, ac yn cydio mewn llyfr ac yn eistedd.) Dyna beth ardderchog ydi bod heb waith! Oni byddai yn hyfryd gallu chwarae drwy'r dydd? Un o'r Tylwyth Teg a ddylwn i fod-yn dawnsio yn wyneb haul o fore hyd nos. Nid ydynt hwy byth yn gweithio. O! mi garwn fod yn un ohonynt.

[Y Tylwyth Teg yn dawnsio i mewn. Brenda yn edrych arnynt a synnu.]

Tylwyth Teg 1: Clywsom eich dymuniad.

Tylwyth Teg 2: Do, ac os carech fod yn un ohonom ni, chwi ellwch fod a dod gyda ni.

Brenda: A gaf i yn wir?

Y Tylwyth Teg: Cewch, cewch.

Tylwyth Teg 1: Bydd ein Brenhines yn falch eich gweld.

Brenda: Byddaf innau yn falch i ddod allan o'r lle hwn. 'Does gen i gynnig golchi llestri.

Tylwyth Teg 2: Nid oes llestri yn ein gwlad ni.

Brenda: Onid ydych chwi yn yfed ambell dro?

Tylwyth Teg 3: Ydym. Deilen wyrddlas yw ein cwpan ni.

Brenda: O! yr ydych yn llawer callach na ni.

Tylwyth Teg 4: Ydym, bid siwr.

Brenda (yn edrych ar eu gwisgoedd): Onid oes gennych ddillad prydferth?

Tylwyth Teg 3: Peidiwch ag ofni eich ffrog. Fe rydd ein hannwyl Frenhines i chwi y ffrog harddaf a welodd eich llygad erioed.

Brenda (yn curo ei dwylo): O! mi garwn ddod gyda chwi ar unwaith.

[LLEN.]

GOLYGFA II: Gwlad y Tylwyth Teg. Y Frenhines ar ei gorsedd oddiamgylch y Tylwyth y Tylwyth Teg yn dawnsio ac yn canu.

CLYCHAU'R TYLWYTH TEG.

Clywaf glychau'r Tylwyth Teg
Yn swn y gwynt
Crwydrant tan y coedydd ar eu hynt;
Hwynthwy sy'n lliwio'r enfys hardd
A hwy sy'n gwylio blodau'r ardd

Cytgan
Ar eu hysgafn droed
Dawnsiant trwy y coed
Igyd yn Rhydd
I gyd yn rhydd

Gwibio dros y gweunydd
Megis min tai dlos
Canu 'nholau'r lleuad
Ar eu taith trwy'r nos
Ac unwn ninau gyda hwy
A dawnsio mewn llawenydd mwy


[Brenda yn cael ei harwain i mewn gan rai o'r Tylwyth Teg-yn agoshau at yr orsedd.]

Y Frenhines: Croeso, fy mhlant! A phwy yw'r eneth fach hon?

Tylwyth Teg 1 (yn ymgrymu): Ein hannwyl Fren- hines, gwelwch yma un o blant bach y ddaear. Brenda yw ei henw. Y mae wedi blino ar wasan- aethu ei mam, ac am ddyfod yn un ohonom ni.

Y Frenhines: Os felly, yr wyf yn eich croesawu chwi, eneth fach. Yr ydych yn siwr eich bod am fod yn un o'r Tylwyth Teg?

Brenda: O! ydwyf.

Y Frenhines: A ydych chwi yn hoff o waith? Brenda: O, nac wyf, yr wyf yn cashau gwaith.

[Y Tylwyth Teg yn gwenu-y Frenhines yn codi.]

Y Frenhines: Wel, Brenda, chwi ellwch aros yma am ddiwrnod. Fe gaiff un ohonom edrych ar eich ol. Fioled, dewch yma. (Fioled yn dod ymlaen a sefyll yn ymyl Brenda.) Yn awr, Fioled, eich gwaith chi fydd dysgu Brenda. Dangoswch iddi bopeth y rhaid iddi ei wneud, a chawn weld wedyn os yw i aros yma.

[Y Frenhines a'r Tylwyth Teg yn dawnsio allan yn ysgafn.]

Fioled: Wel, Brenda, yr ydych i fod yn un ohonom ni. Y mae gennyf lawer o waith i'w wneud heddiw. Dewch gyda mi a dangosaf i chwi beth y gellwch ei wneud.

Brenda: Gwaith! gwaith! A ydych chwi yn gweithio yma?

Fioled (yn gwenu): Gweithio! Ydym, debig iawn! Dyna paham yr ydym mor hapus. Y mae pob un ohonom bob amser yn ddyfal. Fel rheol, yr ydym yn dawnsio wrth weithio. Y mae'r mwynhad o wneuthur daioni yn peri inni ddawnsio.

Brenda: A ydych chwi yn golchi llestri, neu yn golchi'r llawr?

Fioled: O, nac ydym. Nid yw ein gwaith ni mor hawdd.

Brenda: Wel! Beth ydych yn ei wneud?

Fioled: O! ni sydd yn paentio'r blodau ac yn lliwio'r enfys, ac yn arwain yr haul at ddail y coed. Nid oes gennyf amser i ddywedyd rhagor; rhaid i chwi ddod i'n helpu. Yr ydym wedi gwastraffu digon o amser. Gadewch inni fyned ar unwaith neu fe ddigia'r frenhines. Dewch ymlaen.

Brenda: Credais nad oedd y Tylwyth Teg yn gweithio. Ni allaf i baentio'r blodau na lliwio'r enfys, nac arwain yr haul at ddail y coed. Credais mai dawnsio a chwarae yr oeddych trwy'r dydd.

Fioled: O! nid oes gennym amser i chwarae. Dewch, y mae yna rosyn i'w liwio yn ymyl eich hen gartref. Y mae i agor heddiw.

Brenda: Yn agos i'm cartref! O! mi redaf i mewn i weld sut mae mam.

Fioled: O! na, neu ni ddeuwch byth yn ol.

[Y Frenhines yn dawnsio i mewn gyda rhai o'r Tylwyth Teg.]

Y Frenhines: O! Fioled! sut nad ydych yn gweithio? Ymaith â chwi. Rhaid i Brenda eich helpu.

Brenda: O! eich anrhydeddus Frenhines! ni allaf i liwio'r blodau fel Fioled. Ofnaf na byddaf o fawr gwerth yn eich mysg. Gwell yw i mi fynd adref.

Y Frenhines: Credaf innau mai hynny a fydd orau. Ond gobeithio eich bod wedi dysgu rhywbeth yma. Y mae pob un ohonom ni o ryw wasanaeth yn y byd. Y mae rhai ohonom yn gweithio trwy'r dydd: eraill trwy'r nos. (Y Frenhines yn galw'r lleill ati.) Ewch â Brenda adref. Gobeithio y bydd yn ferch dda, ac o help mawr i'w mam.

[Brenda â'i phen i lawr yn mynd adref yng nghwmni'r Tylwyth Teg.]

[LLEN.]

Tan yr Enfys.

CYMERIADAU: Aylwin, Dilys, Pwca, Herald, Y Tylwyth Teg, a'u Brenhines.

GOLYGFA: Cornel cae yn ymyl nant, coed tu cefn.

Aylwin: Nid ydym ymhell iawn o un pen iddo. Dacw fferm Nantygloch, a dyma ni yn ymyl afon Llan. 'Rwy i'n siwr mai rhywle o'r fan yma y cychwynnodd, ond gwell pe buasem wedi mynd tua'r pen arall i Gwmrhydyceirw. Pam yr oeddych chwi mor benderfynol o ddod tua'r pen hwn?

Dilys: Wel, mi ddweda. Y mae yna ormod o dai a phobl yng Nghwmrhydyceirw heddiw. Y mae'r ceirw wedi'u lladd er's canrifoedd bellach, ac nid oes yr un o'r tylwyth teg i'w gweld yno er's llawer blwyddyn.

Aylwin: Nid dod i weld y Tylwyth Teg a wnaethom, ond dod i chwilio am ddechrau'r enfys.

Dilys: Ond y Tylwyth Teg sy'n paentio'r enfys, ac os ydynt i'w gweld yn unman, yn agos i Nantygloch y gwelir hwynt. Arferai'r hen bobl glywed clychau'r Tylwyth Teg yn sŵn y gwynt ar noson oleu leuad. Dyma pam y gelwir y lle yn Nantygloch.

Aylwin: Clywais 'nhad yn dweyd mai Nantyglo sy'n iawn, ac mai am fod pobl wedi cael glo yng ngwely'r nant y rhoddwyd yr enw ar y lle.

Dilys: Gwell gen i gredu stori'r Tylwyth Teg.

[Aylwin yn taro llwyn bach â'i droed.]

Aylwin: Mae'r gwlith wedi disgyn yn barod. Gwell inni fynd adref.

[Pwca yn dawnsio i mewn.]

Pwca: O'r crwt drwg! Pam y gwnaethost hyn? Yr wyt wedi orri'r perlau i gyd, a minnau wedi dod yma i'w casglu.

Aylwin: Pwy wyt ti, a pheth yr wyt yn siarad? Nid ydym ni wedi gweld perlau o gwbl.

Pwca: Na, 'does dim llygaid gan blant y ddaear i'w gweld. O diar, diar, beth a wnaf yn awr, a minnau wedi addo necklace i bob un o Dylwyth Teg yr enfys?

Dilys: Ymhle 'roedd y perlau?

Pwca: Ar y goeden fach hon, a gwelais y crwt drwg hwn yn eu torri â'i droed.

Aylwin (yn chwerthin): Nid perlau, ond gwlith oedd ar y goeden.

Pwca: Gwlith yn wir! Perlau hardd, ac enfys byw ynghalon pob un ohonynt.

Dilys: Credwch fi, nid oedd fy mrawd yn gwybod ei fod yn gwneud unrhyw ddrwg.

Pwca: Na, na; ond dyna fel mae plant y ddaear bob amser-dinistrio pethau prydferthaf y byd.

Aylwin: 'Rwy i'n flin iawn. Gobeithio y cewch goeden fach arall â gwell perlau arni.

Pwca: Tebig y caf. A welsoch chi'r enfys heddiw?

Dilys: Do; onid oedd yn hardd?

Pwca: Nid "oedd" ond "yw" ddylasech ddweyd. Yr ydych o tan yr enfys yn awr.

[Y ddau yn edrych i fyny.]

Aylwin: Ymhle mae e'? Deuthum yma i chwilio amdano.

Pwca: Y mae yn awr yn nosi, ac nid yw plant y ddaear yn medru ei weld yn y nos. Dacw fe!

[Yn cyfeirio at y cylch.]

Dilys: Wela i ddim.

Aylwin: Na minnau chwaith.

Pwca: Gadewch imi osod perlau'r fioled ar eich llygaid, ac fe gewch ei weld.

[Pwca yn dawnsio i ffwrdd.]


Aylwin: Wel, wel, dyna ddyn bach rhyfedd, onite?

Dilys: 'Rwy'n siwr mai Pwca yw—gwas bach y Frenhines Titania. Imp bach yw yn llawn drygioni. Ef dynnodd y stol o dan forwyn y plâs pan oedd ar eistedd. Dwed rhai ei fod yn suro'r llaeth, ac eraill ei fod wedi gwneud llawer o bâr o esgidiau i John y Crydd pan oedd pawb yn cysgu. Pwca yw, 'rwy'n siwr.

[Pwca yn dyfod yn ol â phedair deilen.]

Pwca: Yn awr, gadewch imi osod y perlau ar eich llygaid, ac fe gewch weld. (Yn gosod deilen ar bob llygad.) Edrychwch! (Yn arwyddo'r bwa.)

Dilys (mewn syndod): O 'r fath liwiau hardd!

Aylwin: Onid yw yn bert?

Pwca: Y mae'r lleuad yn llawn heno, ac efallai y cewch weld rhai o'r Tylwyth Teg a fu'n paentio'r enfys.

Dilys: O, mi garwn yn fawr.

[Pwca yn cydio mewn corsen, ac yn canu miwsig swynol. Saith (neu 14) o'r Tylwyth Teg yn dawnsio i mewn wedi'u gwisgo yn lliwiau'r enfys: 1, Coch; 2, Oraens; 3, Melyn; 4, Gwyrdd; 5, Glas; 6, Indigo; 7, Fioled. Aylwin a Dilys yn sefyll yn ymyl y llwyfan; Pwca yn y canol yn canu'r fflwt; y Tylwyth Teg yn canu a dawnsio yn rhes tu ol iddo.]

Un o'r Tylwyth Teg: Y mae rhywun yn dod.

[Y ddawns yn aros a phawb yn edrych.]

Un arall: Y Frenhines Titania yw.

[Herald yn dyfod i mewn gan chwythu corn.]

Herald:Gwnewch ffordd i'r Frenhines Titania.

[Y Tylwyth Teg yn ymrannu i ddwy ochr y llwyfan. Y Frenhines Titania gyda Thylwyth Teg bach yn dyfod i mewn—y Tylwyth Teg yn canu.]

Croeso i'n Brenhinas hardd
Glanach yw na blodau'r ardd
Croeso, croeso iddi hi
Titania, ein Brenhines ni.

Titania: Croeso, fy mhlant. Mae'r adar a'r blodau i gyd yn cysgu. Daeth awr y Tylwyth Teg i ddawnsio a chanu. Ond pwy yw plant y ddaear yma?

Pwca: Brawd a chwaer o'r pentref gerllaw a gerddodd hyd yma i chwilio am ben llinyn yr enfys.

Titania: Croeso, fy mhlant, i wlad y Tylwyth Teg. Cewch glywed rhai o'm deiliaid yn canu, a'u gweld yn dawnsio, ac yna rhaid i chwi frysio tuag adref.

[Cân y Tylwyth Teg. Dawns y Tylwyth Teg.]

Titania: Da iawn.

[Aylwin a Dilys yn curo dwylo.]

Llais yn y pellter: Aylwin——o!

Titania: Sh! Rhagor o blant y ddaear! (Yn gosod ei dwylo ar bennau Aylwin a Dilys.) Bendith a'ch dilyno chwi, fy mhlant. Ymaith, ymaith fy neiliaid. Y mae plant y ddaear yn agoshau.

[Yn dawnsio allan.]

[LLEN.]

"Mewn Anghof Ni Chânt Fod."

[Drama Hanes i Ddosbarth o Blant Ysgol.]

[Un o amcanion y ddrama fach hon yw rhoddi gwaith i bob aelod o ddosbarth. Hawdd fydd ychwanegu at nifer yr enwogion i ateb rhif y dosbarth, neu eu lleihau. Daw pob un o'r enwogion i mewn pan elwir yr enw gan Ysbryd yr Oesoedd." Saif ef ynghanol y llwyfan, edrydd ei ran, yna â gam yn ol.]

CYMERIADAU: Gwilym a Mair, Plant heddiw. Ysbryd yr Oesoedd, Caradog, Buddug, Dewi Sant, Hywel Dda, Gerallt, Llywelyn, Dafydd ap Gwilym, Yr Esgob Morgan, John Penri, Henry Morgan, Hywel Harris, Gruffudd Jones, Richard Wilson, Pantycelyn, Ann Griffiths, Philip Jones, Henry Richard, Ceiriog, Robert Owen, Syr H. M. Stanley, Dr. Joseph Parry, Tom Ellis, Syr Owen M. Edwards, a Lloyd George.

GWISG: Gwisg seml y cyfnod. Ysbryd yr Oesoedd a chanddo farf hir a chlogyn: pladur yn ei law.

GOLYGFA: Cae agored, a bachgennyn yn eistedd ar foncyff yn darllen llyfr. Geneth yn cerdded tuag ato.

Mair: Wel, Gwilym, beth yw'r llyfr yna?

Gwilym: Mair, ai chwi sydd yna? Llyfr diddorol iawn yw hwn.

Mair: 'Rydych yn hoff iawn o lyfrau, Gwilym.

Gwilym: O, ydwyf, ac yn enwedig o lyfrau fel hwn. Heroes of History yw ei enw. Ceir ynddo hanes Drake, Raleigh, Capten Cook, Nelson, ac eraill.

[Ysbryd yr Oesoedd yn cerdded i mewn yn araf. Y ddau blentyn yn edrych arno gyda syndod.]

Mair: Pwy ydych chwi?

Ysbryd yr Oesoedd: Rhyw un wyf i a fu byw drwy'r canrifoedd. "Ysbryd yr Oesoedd" y'm gelwir i. Medais â'r bladur hon flynyddoedd dirif. Gwyliais gamau holl bobl y byd o'r dechrau hyd yn awr.

Gwilym: Os felly, tebig eich bod yn adnabod Drake, Raleigh, Nelson, a'r bobl eraill sydd yn y llyfr hwn?

Ysbryd yr Oesoedd: Cofiaf hwy'n dda. ('Yn cymryd y llyfr ac yn darllen.) Heroes of History—wel, ïe, pobl fawr oeddynt, ond wedi'r cyfan bu llawer gwron heblaw y rhai hyn. (Yn rhoddi'r llyfr yn ol.) Gadewch imi weld, nid Saeson bach ydych chwi?

Gwilym: Na, Cymry ydym ni.

Ysbryd yr Oesoedd: 'Roeddwn i'n credu hynny. A ydych chwi'n gwybod hanes enwogion Cymru?

Gwilym: Na, ychydig iawn o hanes pobl fawr Cymru a wyddom.

Mair: O, dwedwch rywbeth wrthym amdanynt.

Ysbryd yr Oesoedd: Mi a alwaf eraill yma a ddwed yn well na mi. Gwroniaid hanes ydynt. Bu gan bob un ohonynt ran yn y gwaith o godi Cymru.

[Yn curo ei ddwylo, ac yn galw ar berson anweledig. Clywir sŵn traed.]

Ysbryd yr Oesoedd: Caradog.

Caradog: Bûm yn ymladd tros y wlad hon yn erbyn Rhufain. Cefais fy mradychu o'r diwedd, a'm dwyn mewn cadwyni tros y môr.

Ysbryd yr Oesoedd: Buddug.

Buddug: Bûm innau yn arwain fy ngwlad yn erbyn Rhufain. Collais y dydd, ond y mae f'ysbryd yn fyw ar y mynyddoedd.

Ysbryd yr Oesoedd: Dewi Sant.

Dewi Sant: Nawdd Sant y genedl ydwyf i. Dangosais ogoniant heddwch i'm pobl. Dysgais enw'r Iesu iddynt.

Ysbryd yr Oesoedd: Hywel Dda.

Hywel Dda: Cerais innau fy ngwlad yn angerddol, a bûm yn llunio ei chyfreithiau yn Nhŷ Gwyn ar Daf.

Ysbryd yr Oesoedd: Gerallt.

Gerallt: Gweld Eglwys Rydd yng Nghymru ac Archesgob o Gymro yn Nhŷ Ddewi oedd fy mreuddwyd i, ond er i mi gerdded deirgwaith i Rufain, bu'r cyfan yn ofer.

Ysbryd yr Oesoedd: Llywelyn.

Llywelyn: Bûm yn brwydro'n hir tros fy ngwlad. Nid y gelyn a'm trechodd, ond brâd fy mhobl fy hun.

Ysbryd yr Oesoedd: Dafydd ap Gwilym.

Dafydd ap Gwilym: Cenais i'r nant a'r adar a'r blodau, ond i Forfydd y cenais fy nghân felysaf.

Ysbryd yr Oesoedd: Yr Esgob Morgan.

Yr Esgob Morgan: "Yr wyf yn disgwyl pethau mawr oddiwrth William," oedd geiriau fy mam, ond nid oedd dim a allai ei boddhau yn fwy na throi'r Beibl i'r Gymraeg.

Ysbryd yr Oesoedd: John Penri.

John Penri: Fy ngwaith i oedd rhoi Efengyl i Gymru dywyll, dlawd, yn iaith y bobl, ond er i'r gelyn fy ngosod yng ngharchar a'm llosgi, bu'r hen iaith byw.

Ysbryd yr Oesoedd: Henry Morgan.

Henry Morgan: Hoffwn antur y môr, a bûm yn ymosod lawer tro ar lynges Ysbaen, a chymerais lawer o aur oddiarni.

Ysbryd yr Oesoedd: Philip Jones.

Philip Jones: Un o ddynion mawr Cromwel oeddwn i. Dwy flynedd ar ol i mi ddyfod yn aelod o Dŷ'r Cyffredin dewiswyd fi yn un o ddeuddeg yng Nghabinet Prydain Fawr.

Ysbryd yr Oesoedd: Hywel Harris.

Hywel Harris: Pregethais Efengyl Crist, gan ddeffro cenedl o'i chwsg.

Ysbryd yr Oesoedd: Griffith Jones.

Griffith Jones: Ficer oeddwn i, ond fel ysgol- feistr, yn dysgu'r Beibl i blant Cymru, y medrais wneud hoff waith fy mywyd.

Ysbryd yr Oesoedd: Richard Wilson.

Richard Wilson: Hoffwn brydferthwch Natur yn fawr, a bûm mewn llawer gwlad yn paentio darluniau.

Ysbryd yr Oesoedd: Pantycelyn.

Pantycelyn: Cenais emynau'r Diwygiad, ac enillais galon Cymru.

Ysbryd yr Oesoedd: Ann Griffiths.

Ann Griffiths: Bûm innau hefyd yn emynau Cymru, a hynny oedd mwynhad fy mywyd.

Ysbryd yr Oesoedd: Robert Owen.

Robert Owen: Gwella cyflwr y werin oedd prif amcan fy mywyd i, a gweld y tlawd yn cael yr un cyfle a'r cyfoethog.

Ysbryd yr Oesoedd: Henry Richard.

Henry Richard: Apostol Heddwch oeddwn i. Efallai mai fi oedd y cyntaf i feddwl am Gynghrair y Cenhedloedd.

Ysbryd yr Oesoedd: Ceiriog.

Ceiriog: Cenais "Nant y Mynydd" ac "Alun Mabon," a cherddi melysaf Cymru.

Ysbryd yr Oesoedd: Syr H. M. Stanley.

Syr H. M. Stanley: Cefais afael ar Livingstone ynghanol Affrica, a bydd sôn amdanaf yn hir.

Ysbryd yr Oesoedd: Dr. Joseph Parry.

Dr. Joseph Parry: Rhoddais y dôn "Aberystwyth" i'r byd, a chanwyd a chenir llawer arni.

Ysbryd yr Oesoedd: Tom Ellis.

Tom Ellis: Sefais i fyny tros werin Cymru, a rhoddais iddi ddelfrydau pur.

Ysbryd yr Oesoedd: Syr Owen M. Edwards.

Syr Owen M. Edwards: Ysgrifennais lyfrau i blant a rhieni Cymru. Bydded "Cymru'r Plant" fyw byth.

Ysbryd yr Oesoedd: Lloyd George.

Lloyd George: Myfi oedd y Cymro cyntaf i fod yn Brifweinidog Prydain, ond nid yr olaf, 'rwy'n gobeithio.

Mair: Y fath bobl enwog.

Gwilym: Fe garwn innau fod yn un o enwogion Cymru.

Ysbryd yr Oesoedd: Gweithiwch yn galed. Cerwch eich gwlad a'ch iaith.

Pawb (yn canu ar y dôn "Gwnewch bopeth yn Gymraeg"):

Plant bychain Cymru ydym,
Yn caru gwlad y gân,
A throsti hi, dan ganu,
Yr aem drwy ddŵr a thân;
Boed Cymru byth yn Gymru,
A'r iaith Gymraeg yn ben,
Tra saif yr hen fynyddoedd
Rhaid caru Cymru Wen.


[LLEN.]

Y Tylwyth Teg.

CYMERIADAU: Dafydd Ifans (gŵr y tŷ); Betsi Ifans (ei wraig); John Ifans (eu mab); Mair Ifans (eu merch); Y Tylwyth Teg-Dafydd Ifans (mab John Ifans); Rachel Ifans (ei wraig)

GOLYGFA I: Cegin mewn bwthyn cyffredin ym mhen- tref Llanarmon. Betsi Ifans yn gwau; Mair, y ferch, yn gwnio; John, y mab, yn darllen wrth y bwrdd; a Dafydd Ifans yn chwilio am grafat ar y chest of drawers. Cyn codi'r llen syrth ornament a looking-glass i'r llawr, a chwyd y llen â phawb a'u hwynebau ar Ddafydd Ifans, y tad.

Betsi: Welsoch chwi erioed un mor lletwith a'ch tad? Dafydd bach, pam na buasit ti yn dweyd gair dy fod yn chwilio am rywbeth?

Dafydd: Faint gwell fuaswn o ddweyd wrthych? Yr ydych i gyd yn rhy ddyfal i'm helpu i unrhyw amser.

Betsi: A gwaeth na'r cyfan, dyna ti wedi torri'r ornament a roddodd Mari Alec i ni ar ddydd ein priodas; a gwaeth na hynny, dyna ti wedi torri'r looking-glass. Fe fydd rhyw anffawd yn sicr o ddigwydd i ni fel teulu ar ol hyn.

Dafydd: Lol i gyd! Paid â chredu'r fath nonsens!

Betsi: Paid ti â siarad mor ysgafn, Dafydd! A glywaist ti erioed am rywun yn torri glass heb fod rhyw ddamwain yn canlyn? Dyna Richard Jones! Druan ag e'! Blwyddyn yn ol torrodd glass mawr y parlwr wrth ei osod yn erbyn y mur. Go hir fu'r ddamwain cyn canlyn; ond cyn sicred ag y rhed y dŵr i'r môr, yr oedd yn sicr o ddod ryw ddydd. A druan ag e'! Yr wythnos ddiwetha' y collodd y mochyn mwyaf o'r twlc.

Mair: Mam fach! Pa gysylltiad oedd rhwng mochyn yn marw yr wythnos ddiwetha' â thorri looking-glass flwyddyn yn ol?

Betsi: Dyna hi! Yr wyt tithau fel y rhan fwyaf o blant yr oes yn gwadu hen gredoau'r tadau.

Mair: Beth yw dy farn di, John? Oes yna ryw golled i ganlyn torri looking-glass?

Betsi: Beth ŵyr John? Y mae ef fel tithau yn gwadu ac yn ameu popeth.

John: Mam fach! Na! 'Rwy' i yn credu bod colled yn canlyn.

Betsi: Dyna hi. Ti weli, Mair, fod cryn dipyn o sens ym mhen John. Mair: Oes posib dy fod ti yn credu'r fath sothach, John?

John: Edrych yma, Mair. Beth oedd gwerth y glass?

Mair: Tua swllt.

John: Wel, a dweyd y lleiaf, y mae swllt o golled yn canlyn.

Mair (yn chwerthin): Wel, John, yr wyt yn smart!

Dafydd (wedi cael gafael yn ei grafat): Wel, 'rwy' i yn mynd a'ch gadael. Tebig y byddwch yn credu yn y Tylwyth Teg nesa'.

Betsi: Pa syndod fod y plant yn gwadu! Paid ti â gwatwar, Dafydd, rhag ofn i ti fynd i'w cylch heno!

Dafydd: Peidiwch â hidio, ni bydd rhyw lawer o golled. Oni ddeuaf yn ol erbyn deg, byddaf yn y ddawns gyda'r Tylwyth Teg. Good-bye!

Betsi: Paid ti â chellwair, Dafydd! Y mae dy well di wedi mynd i'w dwylo cyn heno.

Dafydd: Da bo chwi!

[LLEN.]

GOLYGFA II: Dafydd Ifans yn eistedd yn ymyl y ffordd. Y Tylwyth Teg yn dod i mewn gan ddawnsio o'i amgylch a chanu. Y Tylwyth Teg yn tynnu Dafydd i mewn i'w cylch i ddawnsio. Cangen o wiail yn cael ei thaflu i'r cylch. Y Tylwyth Teg yn ffoi i bob cyfeiriad, a Dafydd Ifans yn cael ei adael wrtho ei hun.

Dafydd: Ai breuddwyd oedd? Sicr fy mod wedi cysgu. Rhaid mynd tua chartref.

CAN Y TYLWYTH TEG.

Tylwyth Teg ydym ni Prydferth yw ein lliw Yn unigedd pell y Rhos Yr ym ni yn byw

Tylwyth Teg ydym ni Prydferth yw ein lliw Yn unigedd pell y Rhos Yr ym ni yn byw

Tros y bryn awn yn heidiau Lleuad oleu uwch ein pennau Dawnsiwn trwy y coed Clywch, clywch dawns a chan Yn y coed ac ar y bryniau Melys bydd ein cân

[LLEN.]

GOLYGFA III: Y Gegin. Dafydd Ifans yr Ail yn eistedd â'i ben ar y bwrdd yn cysgu. Yr hen ŵr yn dyfod i mewn.

Dafydd: 1 Betsi! Betsi! Ble 'rwyt ti? (Yn dihuno Dafydd 2.) Halo! Pwy sydd yma?

Dafydd 2 (yn dihuno): Wel! Pwy ydych chwi?

Dafydd: 1 Ie! Ie! Dyna beth a ofynnais innau hefyd. Pwy wyt ti?

Dafydd: 2 Wel! Dafydd Ifans wyf i!

Dafydd: 1 Ie; a Dafydd Ifans wyf innau, ond pwy y dywedi dy fod, a beth a wnei yma?

Dafydd: 2 Wel! Yma yr wyf yn byw. Dafydd Ifans wyf i, mab John Ifans, a oedd yn fab i Ddafydd a Betsi Ifans. Ein teulu ni sydd wedi bod yn byw yn y bwthyn hwn ers oesau.

Dafydd: 1 Ble mae Betsi, dy famgu?

Dafydd: 2 Yn y bedd er's blynyddoedd lawer.

Dafydd: 1 Beth! Yn y bedd? Druan â hi. (Gan wenu): A beth am dy dadcu?

Dafydd: 2 O! Aeth fy nhadcu ar goll flynyddoedd yn ol, a 'chlywyd yr un gair amdano. Taerai fy mamgu ei fod wedi ei gipio gan y Tylwyth Teg.

Dafydd: 1 Druan o Betsi! Yr oedd yn eithaf iawn.

[Yr hen ŵr yn syrthio ar y fainc.]

Dafydd: 2 Halo! Halo! Beth sy'n bod? Gadewch i mi 'nol diferyn o ddŵr i chwi.

[Aeth yr Ail allan, a chlywyd cân y Tylwyth Teg yn y pellter. Deuant yn agosach ac yn agosach, nes dyfod i mewn i'r ystafell. Amgylchynant y fainc a dawnsiant yn yr ystafell, a chipiant yr hen ŵr allan.]

Dafydd 2 (yn dod i mewn â'r dŵr): Beth oedd y canu swynol yna? Tybiais y clywn sŵn dawns. (Yn edrych o amgylch.) Ble'r aeth yr hen ŵr?

Rachel (yn dod i mewn): Mae rhyw olwg brysur arnat, Dafydd. Beth sy'n bod?

Dafydd: 2 Rhywbeth rhyfedd. Clywsoch sôn am fy nhadcu a gollwyd! Wel, bu yng nghylch y Tylwyth Teg am hanner can mlynedd. Daeth yn rhydd heno, a daeth yn union i'w hen gartref-i'r ystafell yma. Syrthiodd ar y fainc-y fan yna. Euthum i 'nol dŵr iddo, a phan oeddwn allan clywais sŵn swynol y Tylwyth Teg yn dawnsio ac yn canu. Deuthant i mewn ac aethant â chorff yr hen ŵr gyda hwynt.

Rachel: Dafydd bach! Yr wyt wedi bod yn cysgu. Breuddwyd oedd!

[LLEN.]

Nodiadau golygu

  1. Dyweder Shôn a Shân.
 

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1954, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.