Tro i'r De (testun cyfansawdd)

Tro i'r De

gan Owen Morgan Edwards

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Tro i'r De

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader

TRO I'R DE

* *

*

GAN

OWEN EDWARDS

* *

*

1907

——————

SWYDDFA "CYMRU." CAERNARFON

RHAGYMADRODD

Ysgrifennwyd y penodau hyn ar wahanol adegau, lawer blwyddyn yn ol.

Darllennais hwy ar ddamwain drachefn, a chodasant hiraeth arnaf. Cychwynnaf yng Nghaer, y diwrnod y penderfynwyd mynd ymlaen yn ddi-ildio i gael Prifysgol i Gymru. Yr oedd Cadwaladr Davies yno, a hen Americanwr bach digri yn ein difyrru er cymaint ein pryder; ac yr oedd M. D. Jones yn pregethu y Sul.

Daw fy helyntion yn Llanidloes i'm cof. Aeth fy hanes trwstan i glustiau un o'r gwyr tyneraf a mwyaf boneddigaidd fu'n gwasanaethu crefydd a llenyddiaeth Cymru; a gwaith ei ddireidi ef yw'r ymgom ar gân. Y diweddar Barch. Owen Jones, B.A., gynt o'r Fron Gain, yna o Gapel Chatham. ac yna o Lansantffraid ym Mechain, oedd hwnnw. Penderfynais beidio desgrifio Hafrenydd yr adeg honno; ond y mae yr hen lanc ffwdanus anwyl eto'n fyw iawn yn fy nghof.

Y mae yr hen fachgen dawnus fu'n llefaru wrthyf ar fryniau Muallt, mi glywais, wedi newid byd; clywais hefyd fod cofgolofn yng Ngwm Llywelyn.

Torf fawr Eisteddfod Abertawe yn 1891,—y mae llawer ohonynt na chaf weled mwy. Y calon-gynnes Athan Fardd, Clwydfardd batriarchaidd, Hwfa Mon a'i lais môr a'i galon gynnes, gwên heulog Joseph Parry, ynni diddarfod J. Coke Fowler. a Lewis Morris yntau,—gymaint sydd wedi gadael llwyfan yr Eisteddfod erbyn hyn.

O'r tren yn unig y gwelais Sir Benfro, a hwnnw'n myn'd hyd reiliau newydd. Ond gwlad Pwyll, pendefig Dyfed, oedd i mi. A dyffryn Teifi, pwy fedr anghofio ei swynion a'i bobl?

Tybed a yrr y penodau didrefn hyn rywun arall i geisio dedwyddwch drwy weled gwahanol rannau ei wlad? I mi, y mae pob rhan o Gymru yn dlos ac yn gysegredig.

OWEN EDWARDS

CYNHWYSIAD

——————


I. Caer Lleon Fawr
Gyrru i Gaer. Hen lecyn. Ar y Muriau. Lewis Glyn Cothi. Americanwr digrif. Croniclwyr creulondeb. Y Rows. Gwrthdarawiad. Afon Dyfrdwy. Carreg y Cymry yng nghofgolofn Washington. Nos Sadwrn. Pregethwr y Sul,—Michael D. Jones.

II. Llanidloes
Dyffryn Hafren. Cwmni ac ysgytiad. Chwilio am Gymraeg. Glendid. Yr Eglwys. Llen bererin. Y Siartwr dewr. Diwydiannau gwlad y mynyddoedd a'r aberoedd. Gweinidog Bethel. Hafrenydd. Plant y dre.

III. Llanfair Muallt
Ffasiynau'r chwarelau. Cwm Tylwch. Saesneg sir Faesyfed. Dyffryn Gwy. Emyn John Thomas o Raeadr Gwy. Llanfair Muallt. Cwm Llywelyn. Bore Sul. Syniadau gŵr o Drecastell. Adfail hen gartref. Pont yr enwau. Llanddewi'r Cwm.

IV. Abertawe
Bore Eisteddfod 1891. Eisteddfodwyr. Dyffryn Tywi. Gwlaw yng ngwlad y glo. Pabell yr Eisteddfod. Dechrau hwylus. Y dymhestl, a dymchweliad y babell. Ail ddechreu. Y dorf a'i dull. Y corau. Lewis Morris. Y Tad Ignatius. Athan Fardd. Hwfa Mon. Clwydfardd. Y cadeirio. Y corau meibion. Dr. Joseph Parry.


V. Yr Hen Dy Gwyn
Trwy St. Clears. Yr Hen Dy Gwyn. Yr orsaf. Sir Benfro. Y ffordd haearn newydd. Cip ar Gastell Cilgeran. Aberteifi. Adgofion am bregeth Gerald ac eisteddfod Rhys.

VI. Llangeitho
Capel Daniel Rowland. Nos Sadwrn y pregethwr. Ty'r Capel. Bore Sabbath. Y clochydd. Ystori am Ifan Ffowc. Yn wynebu'r gynulleidfa. Amen a ffarwel.


I. CAER LLEON FAWR

Y DARN cyntaf o farddoniaeth wyf yn gofio, a'r darn cyntaf o lenyddiaeth o fath yn y byd, ydyw darn a glywais pan y siglid fi ar lin rhywun oedd wedi hen flino ar fy swn,—

"Gyrru, gyrru, gyrru i Gaer,
I briodi merch y Maer;
Gyrru, gyrru, gyrru adre,
Wedi priodi er's diwrnodie."

A phan ddilynwyd oriau chware gan oriau gwaith,—oriau mynd i'r mynydd i fugeilio neu i wneyd mawn,—y ganmoliaeth wyf yn gofio ydyw fy mod gyda'r defaid "cyn codi cwn Caer." A phan ddois adre o Loegr unwaith. wedi ymdrwsio mewn lliwiau tanlli, cadach brith, het oleuwerdd, a menyg melynion,— gwnaeth hen wr i nifer o fechgyn gwlad chwerthin am fy mhen drwy gyfeirio atai fel "fy ngwas i o Gaer;" ac yr oedd y chwerthiniad hwnnw mor boenus imi fel na welodd neb byth mwy mo'r menyg melynion na r het oleuwerdd na'r cadach brith.

Pan yn mynd yno nid "gyrru, gyrru, gyrru i Gaer," yn ôl dull yr hen amser gynt, a gefais i; ond llithro trwy ganol darnau o furiau a thrwy greigiau, fel pe buaswn mewn breuddwyd a chael fy nhrên yn sefyll mewn gorsaf oedd yr adeg honno'n gydgyfarfyddiad pethau hyllion holl orsafoedd y byd. Ni fedrwn weled dim o honni, er ymholi a mi fy hun ym mhle'r oedd muriau'r ddinas ac ym mhle'r oedd prydferthwch golud dyffryn Maelor. Yr oeddwn yn tybio fod y bobl wedi ymwylltio am adael lle mor hagr, gan mor brysur y dylifent ymaith. Tybiwn hefyd fod Caer yn lle pwysig iawn, wrth weled cynifer yn mynd yno a neb yn mynd i ffwrdd, wrth weled rheiliau ffyrdd haearn o bob cyfeiriad yn darfod yno.

Ond hwyrach mai dychmygu'r oeddwn fod ei hen bwysigrwydd yn perthyn i Gaer o hyd, heb gofio am y porthladd anferth sydd wedi mynd a'i lle fel drws y gorllewin. Bu amser pan oedd Caer yn enwocaf lle o holl drefi godrau'r mynyddoedd,—hyhi oedd prif gaer rhagfur eithaf Ymherodraeth Rhufain, a bu arni guro trwm; ar ei morfa hi y gorchfygwyd Cymry'r gogledd a'r gorllewin ynghyd; hyhi fu'n nodded rhag y Daniaid i'r Saeson; wedi i gyndadau y rhain dorri ei muriau, a'i gadael yn adfail ac yn unig am flynyddoedd ar lan ei hafon; ynddi hi y bu arglwyddi creulawn yn cadw llys, ac yn rhoddi barn anghyfiawn a chosbedigaeth erchyll i lawer Cymro; o honni hi y rheolid gogledd Gymru yn nyddiau'r gorthrwm mawr; oddiar ei muriau hi y bu Siarl yn edrych ar orthrechu ei fyddin, ac ar ddinistrio hen draddodiadau'r oesoedd tywyll trwy rym y Beibl a phowdwr gwn. Hen furiau llwydion, buoch yn nodded i lawer ac yn ddychryn i lawer. Bu llawer un gwan yn bendithio eich cysgod, wedi clywed eich dorau'n cau y tu allan iddo; a bu llawer un cadarn yn eich melldithio wrth eich gweled ar ei lwybr. Heriasoch lawer gallu, llawer gallu da a llawer gallu drwg. Safasoch pan ddylasech syrthio, a syrthiasoch droion pan ddylasech sefyll. A dyma chwi'n gwgu heddyw, pan nad oes gennych frenin i'w amddiffyn na Chromwell i'w herio. Hen furiau cysglyd, nid y saethyddion sydd yn cerdded hyd eich pennau, ond ymbleserwyr; ac nid o'ch mewn chwi y mae unig loddest y byd erbyn hyn. Nid oes o'ch mewn ond siopwyr, a merchetos yn prynu sidanau. Nid oes ofyn am lurig na chledd ar eich heolydd, ni chlywir gweryriad y march rhyfel o fewn eich terfynau, y mae'r Rhufeiniwr wedi troi ei gefn arnoch, y mae eich Normaniaid wedi hen beidio a'u cyffro, y mae eich mynach olaf wedi huno, y mae eich carcharorion yn rhydd.

Wedi blinder a hirbryd teithio y byddis yn meddwl rhywbeth fel hyn. Erbyn cael ymborth ac ymgynhesu, yr oedd y muriau wedi ymddiosg o'u hadgofion, ac ni chynhyrfid fi wrth edrych arnynt mwy na phe buasent hen glawdd mynydd yn adwyon i gyd. Pa mor henafol bynnag fo dinas, a pha mor gyfoethog bynnag o adgofion y bo, ni chanmolir hi os nas gellir cael ynddi lety gweddol gysurus. Os medraf ei gael, gwell gennyf bob amser aros mewn gwesty lle na werthir diodydd meddwol; gwelais westeion, dan gynhyrfiad gwin, yn fwy cynhyrfus nag y gweddai i neb fod wrth son am bynciau crefydd a rhinwedd a moes. Ond, yn rhy aml, lle anghysurus ydyw tŷ—dirwest; a threth ormod ar natur ddynol ydyw gofyn i un fyned at dân gwannaidd,—rhyw lygeidyn bach yng nghanol lludw,—ac yfed te o gwpanau na olchwyd dan eu dolennau wedi i wefusau llaweroedd fod arnynt, a chofio ar yr un pryd am danllwyth tân a llian purwyn tŷ tafarn. "Fachgen," ebe hen deithiwr wrthyf mewn tŷ dirwest unwaith, uwchben te gwan, " dyma i ti beth pur rhyfedd,—te go lân mewn tŷ go fudr." Yr wyf yn ddirwestwr selog fy hun, ond dylai ceidwaid tai dirwest gofio na ddylem ni ddirwestwyr ddioddef anghysur oherwydd ein hegwyddor.

Pe buase pob gwesty fel gwesty Westminster, Caer, ceid mwy o ddirwestwyr yn y wlad. Pan ddois iddo, cefais fy hun ar unwaith ymysg Cymry a adwaenwn; yr oedd y te'n dda, a'r ysgwrs yn felus. Dywedwyd wrthyf hanes y colegau a hanes yr ymdrech wneir i ddysgu pob Cymro droi ei gartre'n goleg bychan, dywedwyd am y llyfrau diweddaf gyhoeddwyd, ac adroddodd un brawd doniol hanes ymweliad Lewis Glyn Cothi â Chaer. Mewn amser heddwch daeth Lewis i Gaer, a meddyliodd na roddid hen gyfreithiau amser Owen Glyn Dŵr yn ei erbyn. Priododd weddw o Saesnes, ac ymsefydlodd yn gysurus yn rhywle yng nghysgod y muriau. Ond cyn nos trannoeth, yr oedd rhywun, garasai'r gyfraith neu'r wraig weddw, wedi achwyn ar ŵr dieithr y Saesnes, a Lewis wedi ei adael heb

ei eiddo ei hun na'i heiddo hithau ychwaith,

"Ynddi wedi i mi 'mhob modd
Roi fy na 'ng nghwrr fy neuadd,
Gennyf nid oedd ar gynnydd
Drannoeth ond yr ewinedd."

Galarai'r bardd ar ol ei eiddo, ac yr oedd colli llond naw sach,—beth bynnag a u llenwai,—yn golled drom i fardd,—

"O mynasant fy na mewn naw—sach,
Y naw ugain mintai o gwn mantach,
Mynnwn pe'u gwelwn hwy'n gulach—o dda,
Ym moel y Wyddfa yn ymleddfach."

Yr oedd bylchau yng nghaerau'r ddinas yr adeg honno, yr oedd y dinasyddion yn falch ac yn dlodion. ac nid anghofia Lewis yn ei lid eu hadgofio o hyn oll,—

"Tref y saith bechod heb neb dlodach,
Tref gaerawg fylchawg heb neb falchach."

Ei unig gysur oedd dychmygu gweled Rheinallt yn gadael ei dŵr ger y Wyddgrug, ac yn dod i Gaer i hawlio mud ei gyfaill,—

Y Gaer grach a'i gwyr a gryn."

Hyfryd oedd meddwl beth wnai Rheinallt i'r rhai ddygasent y naw sach a'r wraig weddw oddiarno,—

"Eu crwyn a'u hesgyrn crinion—a'u garrau
A dyrr gorwŷr Einion;
Ym mhob mangre 'ng Nghaerlleon,
Efe a ladd fil â'i onn."


Wedi tywallt pob melldith ar Gaer, ond yn unig ar ei heglwysi, dywed Lewis, wrth adael ei muriau heb ei wraig weddw na'i eiddo, ac wrth ffoi tua thwr ei ddialydd,—

Aniweirion blant, anwiredd—a wnant.
Yn wyr ac yn wragedd:
Am a wnaethan a'm hannedd,
Cânt hwythau glwyfau gan gledd."

Wrth i ni chwerthin ar ddiwedd yr adroddiad am ben helyntion Lewis Glyn Cothi a'i sachau a'i wraig weddw, clywem lais hen wr yn chwerthin yn uchel gyda ni. Edrychasom, ac wele ar ganol llawr yr ystafell hen wr bychan syth, a ffon yn ei law, a het wellt gantal cyrliog fawr am ei ben. Tybiem am eiliad mai un o batriarchiaid y Tylwyth Teg oedd. Wedi edrych dro arnom, gan fwynhau ein syndod, dechreuodd siarad â ni, mewn llais gwichlyd a thrwy ei drwyn yn fwy na heb, "Rych chi'n Gymry glân i gyd, mi welaf. 'Ryn ninne'n Gymry selog yn yr America, ac yn siarad Cymraeg bob tro gallon ni."

"O. Americanwr ydych chwi?"

"Ie, Cymro o'r America."

"Fuoch chwi yng Nghymru o'r blaen?"

"Do, drigain mlynedd yn ol, a a rwy'n meddwl bod yno eto ym mis Awst yn yr Eisteddfod. Ac wedi hynny, rwy am groesi'r Werydd. i'r America'n ol."

"Yr ydych chwi wedi gweled llawer tro ar fyd, a llawer blwyddyn hefyd?"

"Odw, mi weles lawer o bethau, mi weles bedwar ugain mlynedd a dwy. A 'does dim yn rhoi mwy o bleser i mi na bod yng nghanol fy nghenedl, a chael siarad Cwmrag. Mi adawes Abertawe pan own i'n ddwy ar hugain oed, drigian mlynedd yn ol."

"Chware teg i chwi," ebe Cadwaladr Davies, "am gadw'ch iaith a'ch cariad at eich hen wlad."

"O'ryn ni yn yr America'n cofio am Gymru o flaen pob peth. Ein harwyddair ni yn yr America yw. Fy ng iaith, fy ngwlad, fy nghenedl. Glywoch chwi am y garreg—

Pan oedd yr hen frawd yn siarad fel hyn, gan sefyll yn syth ar y llawr o hyd, daeth rhywun i ddweyd wrthyf fod fy eisiau mewn ystafell arall. A phan ddois yn ol i holi am y garreg, yr oedd yr hen wr wedi diflannu, a'r ffon, a'r het wen.

Eis innau allan, a cherddais ar hyd y City Road a Foregate Street i weld Caer. Adeiladau newyddion yn unig a welwn i ddechre, ond toc daeth tai a'u llofft yn taflu allan dros ran o'r stryd i'r golwg. Ac yn ebrwydd wedyn cefais fy hun wrth fur y ddinas, gwelwn ystryd brysur o dai henafol o'm blaen, ac uwch fy mhen yr oedd hen lwybr y saethyddion yn croesi'r ffordd. Yn hytrach na myned i ganol y prysurdeb, oherwydd diwedd y prydnawn oedd hi, dringais y grisiau sy'n arwain i fyny i'r mur. Yr oedd yn dawel yno, ac awel y prydnawn yn anadlu arnaf dros fryniau Fflint. Odditanai, oddimewn i'r muriau, yr oedd yr eglwys gadeiriol, a llecyn gwyrdd rhyngof a hi; yr ochr arall gwelwn lechweddau a bryniau Cymru, a Moel Famau'n edrych ar Gaer dros eu pennau. Ar y bryniau draw bu llawer byddin Gymreig yn ymwersyllu yn erbyn y ddinas, ar y mur hwn bu aml iarll digllawn yn gweled mŵg y difrod ac yn tyngu yr ymddialeddai hyd yr eithaf. Ar y llecyn gwyrdd odditanai bu Anselm yn rhodio, ac yn yr eglwys yn rhywle bu mynach ar ol mynach yn ysgrifennu mewn coflyfr yr hyn a glywai o ddwndwr y byd mawr y tu allan i'r muriau. Yr oedd copi o'r coflyfr hwnnw yn fy llaw, a bum yn troi ei ddalennau dan gofio mai ar y llecyn hwn yr ysgrifennwyd ef.

Huw Flaidd sefydlodd y fonachlog yn y flwyddyn 1093, a rhoddodd fynach yno i ysgrifennu'r gwir am gwrs y byd. Un o'r pethau cyntaf ysgrifennodd y mynach hwnnw oedd i Huw Flaidd farw, ac i'w fab seithmlwydd ddod i'r etifeddiaeth yn ei le. Druan o Huw Flaidd, wedi ei saethu yn ei lygad gan for leidr ar draethell Mon, a gorfod o hono wynebu ar fyd heb gledd na llurig ynddo; a druan o iarll seithmlwydd yn gorfod ymdaro yn y byd tymhestlog hwnnw, cyn boddi ar dueddau Ffrainc yn saith ar hugain oed. Mynach arall, mae'n debyg, ysgrifennodd fod Randl, iarll Caer, wedi gorchfygu brenin, ac iddo yntau gael ei garcharu wedyn gan y brenin hwnnw, a fod y Cymry wedi anrheithio ei iarllaeth pan oedd yng ngharchar, hyd nes y lladdwyd miloedd o honynt yn Nantwich draw. Pan ddois i'r flwyddyn 1164, darllennais ymadrodd ferr greulon,—

MCLXIII. Justicia de obsidibus Walensium.

"Gwneyd cyfiawnder a'r gwystlon Cymreig."

Pwy oedd y gwystlon hyn, a beth oedd y cyfiawnder" a wnaed a hwy? Ym Mrut y Tywysogion

ceir yr hanes yn llawn. Yr oedd Harri'r Ail wedi arwain byddin i Gymru; ond gwrthwynebwyd ef gan dri o dywysogion galluocai Cymru. Owen Gwynedd, Rhys ab Gruffydd, ac Owen Cyfeiliog. Yr oedd Gwynedd a'r Deheubarth a Phowys a thymhestloedd y nefoedd yn milwrio yn erbyn y brenin, a gorfod iddo gilio'n ol o ddyffryn Ceiriog.

Ac yn gyflawn o ddirfawr lid, y peris dallu y gwystlon a fuasai yng ngharchar gantaw er ys talym o amser cyn no hynny, nid amgen dau fab Owen Gwynedd, Cadwallon a Chynwrig.—a Meredydd mab yr arglwydd Rhys, a'r rhai ereill."

Wedi tynnu llygaid y bechgyn Cymreig fel hyn, daeth y brenin a'i lu i Gaer i babellu am lawer o ddyddiau; gan ddisgwyl, oddiar y muriau hyn, am longau o'r Iwerddon. Ni ddaeth digon o longau at ei bwrpas, a gorfod iddo ddychwelyd i Loegr yn ol. Rhyfel rhwng Cymru a Lloegr. John yn cyrchu tua'r Eryri, heddwch "bythol rhwng Llywelyn Fawr a iarll Caer, melldith y Pab yn gorffwys ar Gymru, anffyddlondeb gwraig Llywelyn, sylfaenu cestyll rhwng Caer a machlud haul, Llywelyn a Simon de Montford yn ymgusanu ym Mhenarlag, hanes ymdrech olaf Cymru, cwymp Llywelyn, ymdaith Edward trwy Gymru—darllennais am hyn oll ar y muriau, ac yr oedd Moel Famau wedi ymguddio o'm golwg yn y gwyll cyn i mi ddod i ddiwedd y llyfr. O'r braidd na ddychmygwn weled un o'r croniclwyr. Cymro neu Sais. "Slesit" neu "ei gyd gorig," yn codi o'u bedd o'r llannerch werdd odditanaf, gan eu hawydd i adrodd imi hanes cyffrous dyddiau'r hen Gaer.

Gadewais y muriau, oherwydd yr oeddynt yn dechreu oeri; ymswperais, a chyda i mi gysgu, yr oeddwn ar fur Caer yn fy ol, yn dedwydd wylio llong Edward y Cyntaf yn hwylio dros y môr i Ffrainc. Yr oeddwn wedi cael fy mrecwest bore drannoeth, ac yn eistedd i rannu'r dydd oedd o'm blaen, pan welais yr hen Americanwr yn dod i mewn, yn awyddus am ei frecwest ac am rywun i siarad Cymraeg. Penderfynais wylio ei symudiadau'n fanwl, er bod yn sicr nad un o benaethiaid y Tylwyth Teg oedd. Daeth at Sais tew enfawr oedd yn darllen y Daily Telegraph, a chyfarchodd ef fel hyn." Bore da i chwi, gŵr braf y byd." Ond ni chafodd groeso yno, a daeth ymlaen ataf fi gan ddweyd, mewn llais addfwynach, rhag mai Sais oeddwn innau hefyd,—"Mae hi'n ddwarnod ffein." Bu'n edrych arnaf dros ymyl ei gwpan de wrth fwyta ei frecwest, a minnau'n dweyd wrtho yr ychydig wyddwn am yr hen ddinas yr arhoswn ynddi. Does gennych chwi'r un ddinas gan hyned yn yr Amerig," ebe fi. "Nag ôs," ebai yntau, ni welsoch chwi eriod gynt y mae nhw'n tyfu. Prin y bydda i'n nabod llawer o honyn nhw erbyn cyrhaedda i adre. A 'rw i'n geso nad yw Abertawe ddim fel y gweles i hi ddiwedda." Gorffennodd ei frecwest dan siarad fel hyn, yna gosododd ei hun yn gyfforddus at gael ymgom hir, a gofynnodd.

"Glywoch chwi am y garreg farmor ond Gyda fod enw'r garreg wedi disgyn ar fy nghlustiau, dyma lais arall yn boddi gweddill cwestiwn yr hen wr, llais hen gydymaith wedi fy ngweled ar ddamwain, ac ar adeg yr oedd mewn mawr awydd siarad â mi. Aeth a mi gydag ef, a bu'n darlithio wrthyf ar fy nyledswydd tuag at ryw gymdeithas ddyngarol. Erbyn i mi ddod yn ol, nid oedd yno ond cader wag yr hen Americanwr, a gweddillion ei foreufwyd. Beth oedd y garreg honno, tybed?

Cychwynnais drachefn hyd y City Road, a bum yn gwrando ar hen wr dall yn darllen y Beibl, a'i ben yn ysgwyd fel pen y teganau wneir gan ddwylaw celfydd pobl Japan. Clywais droion na fedr dyn dall ysmygu a mwynhau ei hun wrth wneyd hynny, gan nas gall weld y mwg. Ond gwelais yr hen ddarllennwr hwn yn ceisio taro tân unwaith ar ddiwrnod ystormus, pan nad oedd neb yn barod i wrando ar ei lais. Nis gwn er's faint y mae wedi bod yn darllen yn nghysgod y mur, ni welais neb yn aros i estyn ceiniog iddo, ond hwyrach ei fod wedi anfon saeth o air Duw i galon rhywun calon-ysgafn brysurai heibio iddo.

Cerddais ymlaen, gydag un o adnodau'r hen wr yn fy meddwl; ond yn lle esgyn i'r mur, cerddais ymlaen i'r ystryd brysur honno,—Eastgate Street. Wedi cerdded ennyd, gwelwn fod yr ystryd yn ddwbl—dwy res o siopau bob ochr uwchben eu gilydd. Dyma'r Rows y clywswn gymaint o son am danynt. Yn y rhes isaf o'r siopau gwerthir nwyddau trymion, megis haearn a dodrefn. Yn y rhes uchaf y mae siopau lle gwerthir nwyddau cain,—gwisgoedd a darluniau a llyfrau a phethau tlysion o bob math. Bum yn cerdded hyd lawr pren y Row, —lle oer braf yn yr haf, a lle clyd yn y gaeaf— ysbio ar y ffenestri, a thybiwn na welais ffenestri erioed wedi eu trefnu mor ddestlus. Y mae rhai'n meddwl nad oes eisiau dim mewn siopwr llwyddiannus ond medru gwenu a rhwbio ei ddwylaw a dioddef anwyd a datod cylymau. Rhaid iddo wybod mwy na hyn, rhaid fod ganddo chwaeth i drefnu ei ffenestr, ac adnabyddiaeth helaeth o'r natur ddynol, fel y gwypo beth i'w gynnyg i bawb, ac fel na chollo ei amynedd mewn amgylchiadau na fedrasai'r hen Job ei hun gadw ei dymer ynddynt. A fuost ti, ddarllennydd yn nwylaw un y teimlet ei fod yn feistr arnat, ac heb allu gwrthryfela? Bum i, a hynny droion. Bum dan lygad athraw, heb feiddio gwingo; dilynai ei drem oer wibiadau fy llygaid i bob man, nes y blinais geisio dianc, ac y rhoddais fy hun yn ei law, gan adael iddo ddarllen fy hanes i gyd. Bum yn llaw meddyg, teimlwn ei fod yn fy nal ar fin dibyn, yn meddu gallu i'm codi i fyny neu i'n gollwng lawr. A bum yn llaw siopwr hefyd, erlidiai fi hyd lwybr fy meddwl fy hun, darganfyddai pa liw oedd yn demtasiwn i mi, agorai bethau o flaen fy llygaid fel y gwelais bysgotwr yn ffitio coch-a- bonddu neu bluen iar fynydd at liw'r dŵr. Peth melus yw cael rhodio'n rhydd, heb fod dan awdurdod neb.

Ond wff wrth rodio'n rhydd dyma fi wedi dod i wrth-darawiad a rhywun pan yn troi'r gornel i Bridge Street. Mewn profedigaeth fel hyn, y peth goreu bob amser ydyw cymeryd yn ganiataol mai ar y dyn arall mae'r bai, a chroch- floeddio y mynnwch iawn ganddo am eich niweidio. Ni fedrais erioed gofio hynny'n ddigon buan. Ac heblaw hynny ni fum erioed yn hoff

o ddweyd gair brwnt wrth neb. Fe ddywedir

y gall cacynen geifr golio bob dydd, ond y bydd y wenynen marw wedi colli ei hunig golyn. Yr wyf fi'n debyg i'r wenynen yn hyn o beth,—y mae gair chwerw'n costio llawer mwy o boen i mi nag i'r hwn y dywedaf ef wrtho. Pe buasai hynny'n wir am y dyn bach tew byrbwyll gyfarfyddais mor sydyn ar gornel ystryd Caer, buasai wedi marw gan ofid cyn cyrraedd pen y Row. Bobol anwyl, dyna lle'r oedd blagardio! Dyn, na welodd mohona i erioed o'r blaen, yn dweyd yn fanwl holl neillduolion fy nghymeriad, ac yn tynnu cymhariaethau rhyngof â bodau dychmygol nad gweddus eu henwi, ac yn fy ngalw ar eu henwau fel pe buaswn yn un o honynt! Ni chlywais neb erioed yn pentyrru cymaint o eiriau o'r natur hwnnw, a pharodd yr ymadroddion lawer o boen i mi ar hyd y dydd. Digon yw dweyd y byddaf yn ochelgar iawn wrth neshau at gornel yn awr; themtir fi'n fynych i waeddi fy mod yn dod, fel y Groegwr roddai rybudd i'r fforddolyn cyn agor ei ddôr.

Wedi i'r gwr gwyllt fy ngadael,—a diolch am ei le, yr oedd Bridge Street o fy mlaen. Gwelwn ynddi siopau hen ffasiwn prydferth, a thalcennau pren iddynt; ac wrth gerdded i lawr i gyfeiriad yr afon, gwelais aml i dy fu'n dyst o'r Rhyfel Mawr, ac aml ystryd na fu newid ar ei ffurf er pan fyddai'r iarll a'r esgob a'r brenin yn rhannu "ceiniogau" 'r ddinas rhyngddynt. O ddwndwr yr ystryd lawn dois i ddwndwr yr afon, sydd fel pe'n cofleidio Caer yn ei mynwes, yr hen Ddyfrdwy ogoneddus, y tybid gynt fod rhyw ddwyfoldeb yn perthyn iddi. Y mae golwg ryfedd ar y bont, yr unig bont a gysylltai Gaer â Chymru yn y dyddiau gynt. Saif uwchben hen ryd, hwyrach mai i wylio'r rhyd yn un peth yr adeiladwyd Caer gyntaf. Pont bren oedd i ddechreu, o waith arglwyddes Mersia," merch Alffred Fawr, ond yn 1279 taflodd yr afon ei hiau bren oddiar ei gwarr. Yna codwyd pont garreg gul, a chodid treth ar bob nwydd ddeuai drosti i'r ddinas. Bum yn sefyll arni'n hir, yn edrych ar y llwybr oedd fel pe'n crogi fel cadwen wrth ochr y mur, ac ar yr ewyn ddawnsiai ar y dwfr rhedegog, ac ar yr hen felinau lle'r oedd yn rhaid i bawb falu ei fara gynt, ac ar y llyn na cha neb bysgota ynddo hyd y dydd hwn ond y brenin ei hun.

Cerddais yn ol i ganol y ddinas; ond, yn lle troi adre hyd Eastgate Street, troais ar y chwith i Watergate Street. Ac anodd iawn oedd mynd o hon gyda'i siopau hen gywreinion a'i hen dai coed, gydag arwyddeiriau'r Puritaniaid eto'n aros arnynt. Yr oedd rhywbeth yn tynnu fy sylw o hyd,—dyma le y bu Swift yn aros am ei long, ac yn ddrwg ei natur: dyma hen blas teulu Stanley, yn wyw a thlawd fel hen wr bonheddig wedi torri: dyma lle y gwerthid llian yr Iwerddon,—ond erbyn heddyw ni fedd Caer ond ei hynafiaeth i ymfalchio ynddo, y mae'r farchnad yn Lerpwl. Cerddais yn fuan, o'r diwedd, i fyny i'r mur; a chyflymais ar hyd hwnnw, gan gip-edrych ar dyrau a'r dyfnder odditanodd, hyd nes y cyrhaeddais dŵr uchel a elwir ar enw Siarl y Cyntaf. O'i gysgod daeth dynes aml-eiriog, yr hon a fynnai i mi brynnu darluniau, a llyfryn yn dweyd hanes Siarl. Yn y llyfr, meddai hi. cawn hanes y brenin yn edrych o ben y tŵr ar ei fyddin yn cael ei gorchfygu ar Rowton Moor draw, ym mis Medi, 1645. Prynnais y llyfr, nid oeddwn yn meddwl y gallwn beidio wedi i'r ddynes ddweyd beth oedd ynddo, ond teflais ef dros y mur wedi mynd o'i golwg. Ac heb gyfarfod neb wedyn, cyrhaeddais fy ngwesty, yn flin ac yn newynog.

Pan oeddwn yn bwyta, pwy ddaeth i'r ystafell, yn union fel y daeth y diwrnod cynt, ond yr hen Americanwr,—ffon, a het wellt wen gantal cyrliog. Dywedais wrtho am y dyn roddodd dafod drwg i mi, a gofynnais a gyfarfyddodd ei ddyn felly erioed.

"Odw," meddai, "wi wedi cyfarfod llawer o ddynnon fel hynni, ond wi'n cerdded yn rhy ara 'nawr i ddod i wrth-darawiad a neb.

Glywsoch chwi son am y garreg farmor ddu,— "Naddo erioed." ebe finnau'n awchus, "hynny ydyw, ni chlywais ond ei henw wrth i chwi ofyn yr un cwestiwn o'r blaen."

Welsoch chwi mo'r golofn godwyd er cof am gyhoeddi anibyniaeth yr America?"

"Naddo, fum i erioed yn yr America."

"Wel, pan welwch chwi'r golofn honno, edrychwch chwi ar y bedwaredd res o gerrig, yr ochr sy'n edrych ar y Capitol, a chwi welwch yn y lle mwyaf amlwg garreg farmor du. A beth feddyliech chwi ydyw'r geiriau sydd ar y garreg honno?"

"Nis gwn i ddim."

Cyn dweyd beth oedd y geiriau, tarawodd yr hen frawd ei ffon deirgwaith yn y llawr, i ddynodi'r pwyslais oeddwn i roi ar ei eiriau. Dyma'r geiriau sydd ar y garreg," meddai,— "fy ngiaith, fy ngwlad, fy nghenedl." Y ni Gymry'r America roddodd y garreg honno yno —yn y Washington Monument. Cymro o waed ysgrifennodd y Datganiad Anibyniaeth, Thomas Jefferson. 'Roedd dau Gymro o enedigaeth ymysg y rhai arwyddnodasant y Datganiad, a thri ar ddeg o waed Cymreig. Dyna William Williams o Connecticut, Francis Lewis o Landaff, Stephen Hopkins, Robert Morris, ond dwi'n cofio mo'u henwe nhw i gyd. Os ych chwi wedi cadw'r Cyfaill am 1839, edrychwch chwi hwnnw, y maent yno i gyd. A wyddoch chwi pwy ddarganfyddodd fedd Roger Williams?"

"Na wn, ond clywais fod rhywun wedi gwneyd. Oni ddywedir fod gwreiddiau pren afalau wedi bwyta corff Roger Williams"

"Gwedir. Ni wyddai neb lle'r oedd ei fedd; a Stephen Randell a minne darganfyddodd e. 'Roedd hen goeden afalau wedi taflu ei gwreiddiau dros y bedd, ac yr oedd y gwreiddiau ar lun esgyrn yr hen Roger Williams. Ryn ni wedi codi cofadail iddo, o wenithfaen Rhode Island, yn ddeg troedfedd ar hugain o uchder. A wel- och chwi ei darlun hi?"

"Naddo, ond hofiwn ei weld."

"Mae e gyda fi. rwy'n mynd ag e i un o ddisgynyddion Roger Williams sy'n byw yn y De.'

]]

Danghosodd i mi wawl-arlun o'r gofadail. un hardd iawn, ac arni yr oedd y geiriau,—

Erected
by
DANIEL L. JONES.
ER
COFFADWRIAETH
AM
ROGER WILLIAMS,
Founder of Rhode Island.
Born in Wales,
1599,
Died in Rhode Island, 1683.

"Gwn," meddwn, wedi syllu'n hir ar ddarlun y gofadail, "pwy oedd Roger Williams; ond pwy yw y Daniel L. Jones yma? A ydych chwi yn ei adnabod "

"Odw," meddai, a'i lygaid yn dawnsio o ddireidi, "odw, rwy'n i adnabod e'n dda; y fi yw e."

Nid oeddwn wedi clywed gair am yr hen Gymro bychan hwn erioed o'r blaen, nac wedi gweled ei enw tan y funud honno, ond nis gallaswn lai na gwasgu ei law yn gynnes,—un ymorfoleddai yn y rhan gymerodd y Cymry yn ffurfiad gweriniaeth fawr byd y gorllewin, un fu'n cadw ac yn gwylio mynwent lle'r hunai llawer o'i genedl, a'r Werydd rhyngddynt a'r fynwent lle'r hun eu mam a'u tad, am hanner cant o flynyddoedd. Ychydig o deuluoedd sydd yng Nghymru nad oes ganddynt rywun anwyl yn yr Amerig, yn fyw neu yn ei fedd. Nid am fedd Roger Williams yn unig yr oedd yr hen wr ffyddlon wedi gofalu, gofalodd am flynyddoedd am y "Welsh Burial Ground," gydag adnodau dieithr i'r Americanwyr ar ei gerrig beddau.

Ni ryfeddwn na fu'n gofalu am laswellt bedd un berthynai i minnau, ymysg y llu sydd yno'n gorwedd ymhell o'u gwlad. Yr wyf finnau'n hoff iawn o grwydro, ond fy ngweddi olaf fydd am fedd yng Nghymru. Pe cynhygiai Rhagluniaeth i mi athrylith Goronwy Owen, ni fynnwn hi os byddai raid i mi gymeryd bedd fel ei fedd ef. Onid oes swn huno tawel yn niwedd hanes llawer hen batriarch,—"ac efe a gasglwyd at ei dadau"?

Cyn i mi a'r hen wr orffen ymgomio am Gymry'r Amerig yr oedd y prydnawn wedi darfod, a nos Sadwrn yn dod. Byddaf yn hoffi clywed enw nos Sadwrn, y mae swn noswylio ynddo. A hyfryd ydyw meddwl, pan y daw, fod corff blin y llafurwr yn dadflino a'r meddwl pryderus llwythog yn gorffwys, cyn i dawelwch adfywiol y Sabboth ddisgyn ar y byd. A'r nos Sadwrn honno bum innau'n gorffwys wrth wrando beth oedd Cymru pan adawodd fy hen gyfaill hi, a beth oedd yr Amerig drigain mlynedd yn ol. Dydd gwaith ydyw hanes yr Amerig i gyd, ond dydd Sul tragwyddol ydyw hanes Caer erbyn hyn o'i gymharu á hanes New York neu Chicago.

Pan ddaeth y bore, ymholasom am gapel, a chychwynasom i chwilio am gapel yr Anibynwyr y dywedwyd wrthym am dano. Cerddasom drwy amryw ystrydoedd cefn, lle'r oedd gweision ystablau'n ymolchi o flaen eu drysau, a throisom i ystryd dipyn tawelach. Cyn hir daethom o flaen adeilad yn meddu rhyw debygolrwydd i gapel. Ni wyddai'r plant troednoeth carpiog chwareuent o'i flaen beth oedd; tybiai'r mwyafrif mai Iddewon oedd yno. Ond toc dyna nodau hen emyn nas gallem ei gamgymeryd, ac aethom i mewn. Ac yno yr oedd henafgwyr a siopwyr a morwynion; yr oedd yno blant lawer hefyd, ac yr oeddynt yn medru canu Cymraeg.

Yr oedd y capel bychan hwnnw'n lle ardderchog i orffwys. Drwy'r ffenestr oedd o'n blaenau, uwch ben y pulpud, gwelem goeden griafol yn ymysgwyd yn araf, fel y gwelais wyr a gwragedd yn ysgwyd wrth ganu hen donau. Cofiem hefyd mor aml y clywyd llais Arthur Jones a Gwilym Hiraethog yn y capel hwn. Ac yn ei bulpud yr oedd Michael D. Jones, yn pregethu efengyl purdeb, ac yn rhoi gwisg o frethyn cartref Cymreig am y patriarchiaid. Gwyddwn am wr y Bala fel gwladgarwr ac fel arweinydd gwyr ieuainc Cymru, ond nid oeddwn wedi ei glywed yn pregethu erioed o'r blaen,— yn pregethu'r Beibl yn ei burdeb gyda grym ac arddeliad mawr. Yn y capel bychan hwnnw y treuliais y Sabbath drwyddo, ac nid anghofiaf ef. Yr oedd seiat ar ol y nos, bu'r hen Americanwr yn dweyd hanes y garreg, ac yn gobeithio y byddai i'r Cymry ran yng ngwneyd Teyrnas Dduw fel ag y bu iddynt ran yng ngwneyd gweriniaeth y Gorllewin; croesawodd rhyw hen wr eneth oedd newydd briodi, mewn geiriau ddywedid yn eu hamser, megis afalau aur mewn gwaith arian cerfiedig; a siaradodd amryw frodyr calon-gynnes am Gymru ac efengyl Crist.

Nid o'm bodd y trown o Gaer fore Llun. Yr oeddwn wedi meddwl am grwydro drwy Faldwyn a Brycheiniog, i weled y bobl gartref, ac yr wyf am ddweyd y gwir am danynt, mor bell ag y gwelais i ef, heb roddi dim ato ac heb dynnu dim oddiwrtho.

II. LLANIDLOES.

Llanidloes, lle i anadlu
Awyr a gwynt Cymru gu."
—CEIRIOG.

YM mis Gorffennaf diweddaf yr oeddwn yn teithio i fyny dyffryn Hafren, gan ddyfalu pa fath le allai Llanidloes fod. Ceisiwn ddarlunio ei hymddanghosiad i mi fy hun, yng nghanol mynyddoedd lle nad yw'r Hafren ond aber; ceisiwn ddychmygu a welwn blant Siartwyr 1839, ac a oeddynt yn cofio am frwdfrydedd rhyfedd eu tadau; ceisiwn ddyfalu pa argraff adawai ei phobl arnaf. Treiais weled hanes y dref yn glir trwy droion canrifoedd. gan edrych allan ar y dyffrynnoedd ffrwythlawn y cyflymem drwyddynt; a thybiwn fod gwawr Gorffennaf, gwawr cyfoeth, darganfyddiad, a meddwl, ar hanes Llanidloes. Ond rhag i'm meddyliau droi'n freuddwydion ofer, penderfynais beidio ffurfio syniad am Lanidloes nes y gwelwn hi, a throais i edrych ar fy nghyddeithwyr.

Gwelais eu bod oll yn edrych, gyda gwên ddireidus, ar un o honom. Geneth oedd honno, a gwallt fflamgoch. Yr oedd yn eneth brydferth ac fel pob un fedd wallt o liw blodau'r eithin, yr oedd wedi ymwisgo mewn lliwiau tanbaid, a'r lliwiau'n toddi i'w gilydd yn dlysaf peth welais erioed. Ond nid ei gwallt o liw'r goelcerth, ac nid prydferthwch lliwiau ei gwisg, oedd yn gwneyd i'w chyd-deithwyr wenu. Yr oedd yn ceisio rhoi edeu mewn nodwydd, ac yr oedd ysgytiadau'r tren yn ei wneyd yn beth amhosibl iddi daro pen yr edeu i'r crai. Treiai dro ar ol tro, ac yr oedd pawb yn ei gwylio, ac yn cael rhyw hanner mwynhad wrth ei gweled mor agos i lwyddo, ac yn methu. Yr oedd yno hogyn ysgol, ac yr oedd yn mwynhau yr olygfa ymron gymaint a phe buasai ef ei hun wedi rhoi rhyw sylwedd tryloew yn llygad y nodwydd; yr oedd yno hen wraig yn edrych dros ei spectol, ac wedi gollwng ei phapur newydd; yr oedd yno hen lanc, heb weled ymgais i roddi edeu mewn nodwydd yn y tren o'r blaen, ac yn gwylio bysedd yr eneth bengoch mor ddyfal dros ei hysgwydd a phe buasai'n parotoi i drwsio'r twll oedd yn ei hosan ef; yr oedd yno hen fachgen mawr tew, a llygaid fel gwydr, a'r rheini'n llawn o chwerthin, tebyg i lewyrch haul ar risial.

Ond toc, rhoddodd y tren ysgytiad mwy nag arfer, a thaflwyd braich yr eneth heibio i'r nodwydd oedd yn ddal yn ei llaw arall, nes y plannodd yr edeu yn llygad yr hen lanc. Gyda fod yr ysgytiad drosodd, yr oeddym ym Moat Lane Junction, a disgynnodd yr hen lanc a minnau, oherwydd yr oedd yn rhaid i ni newid tren. Yr oedd yn rhwbio ei lygad dolurus, a mynnai mai o fwriad y plannodd yr eneth yr edeu yn ei lygad. A chan enwi un y dywedir yn gyffredin fod yn rhaid cael dwy goch i'w wneyd, sicrhaodd fi fod lliw yr eneth honno yn sicrwydd mai tanio wnai ar y rhybudd lleiaf. Dan wrando ar achau merched, aethom trwy ddolydd meillionog, trwy Landinam a'i blodau, a thoc gwelsom Lanidloes a chopâu mynyddoedd lawer. Moel a llwm oedd yr olwg gyntaf ar y dref or orsaf, gwelwn ystryd lydan yn dechreu draw, ac yn rhedeg i lawr i gyfeiriad yr afon. Yr oeddwn wedi codi'n foreu, wedi gorfod cipio rhyw damaid cyn rhedeg at y tren, ac heb ymdrwsio mor ofalus ag y dymunwn wneyd. I fanylu, nid oeddwn wedi eillio, ac yr oedd y cadach wisgwn am fy ngwddf wedi gweld dyddiau gwell.

Troais i'r gwesty cyntaf gawn, cefais yno foreubryd blasus, ac yna eis i'r heol i brynnu rhyw fan betheuach, gan gofio, wrth i mi eu gweled hwy, y byddai pobl Llanidloes yn fy ngweled innau. Y peth cyntaf a'm tarawodd oedd Seisnigrwydd masnachwyr y lle.

Yn y gwesty, ni fedrai'r forwyn Gymraeg mwy na barnwr neu eneth ysgol. A phan droais i mewn i siop haearn, gofynnodd siopwr braf melynwallt imi yn Saesneg beth a gai werthu i mi. Ond pan ofynnis yn Gymraeg iddo am rasel, siaradodd Gymraeg mor rigil a minnau. Cerddais i lawr yr heol, gan synnu beth allasai'r adeilad coesau pren sydd ar ganol yr ystryd fod, a throais am y gornel i siop dilledydd, a gofynnais i ferch ieuanc weddus ei phryd am gadach fel y cadach wisgwn am fy ngwddf, a chanodd rhywun direidus am y tro. gan ddychmygu deuawd fel hyn,—

"Oes gennoch chwi gadach du?"
"What is it you want?"
"Maddeuwch fy mod mor hy."
"Leave off your cant."
"Mae arnaf ei eisiau yn awr."
"The gibbering clown!"
"Mi dalaf, chostiff o fawr."
"You are a pest in the town."
"Peth fel hwn i'w roi fan hyn."
"Oh, that's better."
"Dyma am dano ddeuswllt gwyn."
"Oh, what bother."
"Diolch i chwi am eich mwynder."
"Boy, reach me a mourning kerchief."
"Bellach caf fy nghais ar fyrder."
"I'll watch the man, he's bent on mischief."
"Na. nid hwnne, ond rhimin du main."
"Won't that suit you, try."
"Un gloewddu, 'r un lliw a'r brain."
"Oh, you want a black neck-tie."
"Dyma fo! Faint yw ei bris o?"
"Thirteen pence, or say a shilling."
"Rhof mi rof fi hynny am dano."
"Thanks, I wish you a good morning."
[Exit.
"Y faeden pam na ddallte hi Gymraeg?"
"Poor fellow, he must be an Africaner."
"Nid y fi yng Nghymru sieryd Saesnaeg."
"Escaped from Stanley or the asylum warder."

Ymhell wedi i mi adael Llanidloes gwelais yr uchod ar lun" ymgom rhwng gwâr ac anwar yn Seoldinall." Ond yr wyf yn protestio yn erbyn y fath ddesgrifiad, oherwydd nad yw wir. Os oedd rhywun yn ddrwg ei dymer wrth brynnu'r cadach, myfi oedd. Yr oedd y ferch ieuanc a'i gwerthodd yn siarad Cymraeg campus, ac yn amynoddgar iawn.

Ond, o'r diwedd, dyma'r cadach newydd am fy ngwddf, a minnau'n edrych drosto ar Lanidloes a'i thrigolion. Cerddais i ddechreu ar hyd yr ystryd fawr sy'n rhedeg i lawr at yr Hafren, o dan yr hen neuadd sy'n sefyll, fel dyn ar strydfachau, wrth ben yr heol. Dyma gysgod braf i bobl fedr fyw'n segur, ond ychydig iawn o lercwyr welais yn Llanidloes. Gadawodd y dref argraff arnaf ar unwaith ei bod yn lle glân, a thybiwn fod gan y trefwyr wynebau deallgar iawn. Yr oeddwn newydd fod yn crwydro drwy drefydd ereill ar gyffiniau Maldwyn a'r Amwythig, a theimlwn fy mod mewn tref oedd wedi cael addysg well na'r trefydd hynny. Nis gwn a ydyw'r frawddeg ysgrifennem yn ein copy books yn yr ysgol, heb ei deall bid siwr yn wir, Cleanliness is next to godliness; ond gwn hyn, fod rhyw gysylltiad agos rhwng dwfr glân gloew a glendid moes. Os gadewir ffosydd drewedig mewn tref. ac os gadewir ei heolydd neu ei thai'n fudron, y mae hyn yn sicr o roddi rhyw ddiogi meddwl, rhyw amharodrwydd meddwl at lanhau, i'w thrigolion. Wedi ymgynefino a gadael pethau anymunol o'i gwmpas, buan y dysgir dyn i adael llonydd i bethau anymunol ymgartrefu yn ei foes a'i feddwl. Ond am Lanidloes,—dyma hi yng nghanol y mynyddoedd, y dref gyntaf ar yr afon Hafren, lle mae'r dwfr yn dryloew wrth lithro hyd lwybr glân o raean neu graig. Yr oedd glendid y dref wedi ymddelweddu ar y gwynebau welwn, ac ni fum mewn tref erioed lle mae'r hen bobl yn edrych mor sionc ac ieuanc.

Tan feddwl a sylwi, cyrhaeddais y Bont Ferr, pont sy'n taflu dros yr Hafren lle mae erchwynau carreg gwely'r afon yn agos iawn at eu gilydd. Ac wrth edrych i fyny ar hyd yr Hafren tua'r mynyddoedd draw, gwelwn gwm yn llawn o olygfeydd y medraswn dreulio blynyddoedd i'w mwynhau. Gwyddwn fod hanes i'r cymoedd o gwmpas, gwyddwn fod Edward Morgan y Dyffryn wedi ei eni yn un o honynt, gwyddwn fod y Siartwyr wedi bod yn dadleu eu hegwyddorion chwyldroadol yn y tai o'm cwmpas. Yr oedd arnaf awydd holi, ac arhosais nes y doi rhywun hamddenol dros y bont, gan fwynhau dwndwr yr afon wrth iddi furmur yn ddedwydd tra'n troi ffatri ar ol ffatri, a thra'n torri'n ewyn o lawenydd ar graig ar ol craig. Erbyn y cyrhaedda y trefydd nesaf, bydd ei dwfr wedi colli ei burdeb, bydd hithau wedi colli llawenydd y mynyddoedd, ac yn llithro'n araf ac yn brudd ar ei chrwydriadau maith.

Ond dyma ddyn yn dod, ffatrwr bach prysur, a'i ffedog wedi ei throi i un ochr. Medrais wneyd iddo aros, a dechreuais ei holi. Ond ni wyddai ddim am Lanidloes, newydd ddod yno o Drefclawdd yr oedd, ac aeth ymaith dan wenu'n hapus. Ar ei ol daeth gŵr tal teneu, gan gerdded yn hamddenol, ac ysbio arnaf oddi tan ei aeliau. Daeth ataf, a rhoddodd ei bwys ar y bont yn f'ymyl. Dyma fo, meddwn wrthaf fy hun, yrwan am holi. "Na, welwch chwi," meddai. fum i ddim yn Llanidloes er ys deugain mlynedd, o Ruddlan y dois ar daith i weled Cymru, a dyma fi yn Llanidloes eto, ar ol amser mor hir. Yr wyf newydd weled fy mrawd, sy'n byw yn y cwm draw, a phrin yr adnabyddem ein gilydd wedi cymaint o flynyddoedd." Dywedodd mai Anibynnwr oedd wrth ei grefydd, a thafarnwr wrth ei alwedigaeth. Gwahoddodd fi i'w dŷ pan awn i Ruddlan, a gwelais ef yn syllu ar dai Llanidloes nes y cuddiodd y neuadd coesau pren ef o'm golwg. Fel y gwelwn yn y man, peth pwysig iawn i deithiwr ydyw ei fod yn gofalu dweyd y gwir.

Cyn i neb arall groesi'r Bont Ferr, troais o honi i lawr gyda'r afon ar hyd heol Pen y Graig. O hon rhed llawer o ystrydoedd bychain culion, gyda thai newyddion glân, a'r tai i gyd ar graig lâs olchwyd yn lân gan y gwlaw. Meddyliwn am dref Basel o hyd, y dref sydd ar lan y Rhein, yr oedd dwndwr yr afon a glanweithdra'r tai a phryd y bobl yn gwneyd i mi feddwl er fy ngwaethaf fy mod yn y ddinas honno, dinas y bu ei gweithwyr yn noddwyr i ryddid a'r Beibl pan oedd tywysogion y byd yn elynion iddynt. Ni welwn fawr o bobl Llanidloes ond hen bobl a phlant,—hen wyr a hen wragedd mewn amlder dyddiau, a bechgyn a genethod yn chware yn ei heolydd hi. Gwelais lawer gwyneb tarawiadol yn estyn allan o ddrysau'r tai,—llygaid duon, trwyn enfawr, a gwallt gwyn. Saesneg siaredid â'r plant, ond yr oedd pawb yn berffaith barod i siarad Cymraeg.

O dipyn i beth dois at yr eglwys, yr oeddwn wedi gweled ei thŵr anorffenedig o bell, yn ymddyrchafu o fysg coed a llwyni. Y mae'r eglwys a'r fynwent mewn lle prydferth iawn, ar fryncyn sy'n codi o lan yr afon; ac nid yw'r fynwent hon yn ddistaw fel mynwentydd ereill. eithr y mae dwndwr tragwyddol y dwfr i'w glywed o honi. Y mae'r fynwent yn llawn iawn, bu Llanidloes yn lle pwysig, pan oedd wyth gant o beiriannau nyddu'n mynd ar unwaith, ac y mae'r beddau wedi eu palmantu â cherrig au harddu â blodau. Y mae'r cerrig beddau'n dweyd hanes y dref, dengys yr enwau fod Saeson o rannau gweithfaol Lloegr wedi ymgymysgu a thrigolion y mynyddoedd i drin gwlan ac i'w weu'n wlanen. Woosnam, Hamer, Kay, Mills, Ashton, Bowen, Maypole, Marshall, Roderick,—dyna gymysgfa digon rhyfedd. un bedd gwelais enw gwladaidd iawn, enw a'm hadgofiai am lawer hen ffermdy clyd.—"William Shôn."

Wedi tro o gylch y fynwent, un o'r llecynnau prydferthaf trwy Faldwyn i gyd, troais i edrych ar yr eglwys. Y mae'n anodd i unrhyw adeilad edrych yn fawreddog a hardd yng Nghymru, nis gall yr un adeiladydd ymgystadlu a'r Hwn sylfaenodd y mynyddoedd; y mae mynyddoedd Cymru'n gwneyd yr eglwys uchaf fel corach, a'r castell hynaf fel creadur doe. Ond

"Aros wnant hwy byth yn ieuanc,
Er eu bod mor hen a'r byd;
Natur sydd yn cadw arnynt
Swyn ei chreadigol wrid:
Engyl ar eu teithiau safant,
I ryfeddu gymaint rodd
Duw o hono ef ei hunan
Yn eu mawredd, wrth eu bodd."[1]


Nis gwn ai mawredd trumau Plunlumon oedd yn gwneyd i'r eglwys edrych yn adeilad distadl a di addurn. Ond wedi mynd i mewn gwelais yn union fod cyfoeth oesoedd o fewn i'r eglwys hon. Nid oedd, mae'n amlwg, mwy na rhyw naw mlynedd neu ddeg er pan "adnewyddwyd" hi; ond yr oedd yr hen golofnau cerrig gynhaliai ei bwau a'r nenfwd bren ardderchog yn dangos fod gwaith oesoedd ereill yn aros ynddi. Hwyrach fod y cerrig yn aros er y seithfed ganrif, ac y mae'r derw wedi bod mewn eglwys er ys dros saith gan mlynedd. Ail adeiladwyd yr eglwys tuag amser dinistrio'r mynachlogydd, rhwng 1538 a 1542, a chariwyd coed Abaty Cwm Hir iddi, oddi tros y mynydd draw. Gwyn fyd na chadwesid holl drysorau'r mynachlogydd,— trysorau oes bur a chyfoethog wedi mynd i ddwylaw rhai amhur ddi-ddaioni,—yn yr un modd. Enwau crefftwyr oedd ar y beddau y tuallan, fel pe buasai'r fynwent yn un o fynwentydd yr Isel-diroedd Ellmynnig; y tu mewn yr oedd enw ambell hen deulu bonheddig Cymreig, ac ambell i deulu crefft wedi ymgyfoethogi nes bod cyfuwch a hwythau,—Lloyd Glan Dulas, Evans y Faenol, a March a Woosnam.

O'r fynwent cerddais ymlaen drwy ystryd o dai o adeiladwaith canrif o'r blaen a chyda lloriau fel y beddau o gerrig mân, nes y dois at dalcen y Bont Hir. Bum yno ennyd yn gwylio'r Hafren a'r Glywedog yn ymuno â'u gilydd, ac yn aros hyd nes y deuai hen wr welwn draw i ganol y bont. Cyferchais well iddo, a rhoddasom ein dau ein pwysau ar ganllaw'r bont, i ysgwrsio. Dyn mawr, dros ddwylath o hyd, oedd yr hen wr, un fu'n syth ac yn lluniaidd iawn.

Yr oedd ganddo wyneb tarawiadol ac yr oedd yn weddol lan,—trwyn Rhufeinig a thalcen fel thalcen mur. Am dano yr oedd trowsus rips clytiog syml glân,—digon glân i ddydd gwaith beth bynnag, a sane bach; gwasgod frethyn, a chôt ddisgynnai oddiar ei gefn crymedig at ei arrau. Yr oedd blynyddoedd wedi ystwytho ei het i lun ei ben, ac yr oedd yr haearn ar flaen ei ddwy ffon wedi treulio yn agos i'w hanner. Yr oedd yn llawn o ystraeon, ond nid oedd ganddo syniad clir iawn am amser. Bu'n byw ugeiniau o flynyddoedd yn Llanidloes, ond am ryw gwm yng nghyfeiriad Llanbrynmair yr oedd ei ysgwrs, dywedai mai yno'r oedd y fro dlysaf dan haul, a'r dynion cefnocaf.

"Yr oeddych yn ddyn cryf yn eich dydd," ebe fi.

"Oeddwn," meddai, "mi weles ddydd yr oeddwn i'n gryfach dipyn. Ond yrwan rydw i'n rhy hen i ddim, 'dydw i da i ddim ond i fod ar y ffordd."

"Rydech chwi'n cofio llawer iawn o bethau?"

"Ydw, ond 'mod i'n bur ddotlyd, rydw i wedi gadel fy nwy a phedwar igien. 'Rydw i'n cofio Llanidloes dipyn yn llai, rydwi'n cofio'r amser y bydde'r wlad yma i gyd yn byw ar beth dyfe ynddi hi, ac mi weles y sached gynta o fflŵr ddaeth yma erioed yn cael ei gwerthu fan acw o flaen yr Hall. Ond mae'r Hall wedi heneiddio erbyn hyn, fel y finne, dyn a'm helpo."

"I'r Eglwys y byddwch chwi'n mynd?"

"Choelia i fawr! Rydw i'n perthyn i grefydd, Methodus ydw i."

"Ond y mae yma berson da. a chiwrad da iawn?"

"Oes, medde nhw, mi glywes gamol y ciwrad lawer gwaith, ac mae'r person yn eitha dyn, am wn i. Ond Saesneg gewch chi gennyn nhw bob gair; welwch chwi'r eglwys acw, does neb yn torri'r Cymraeg ynddi Sul na gwyl na gwaith. Mae nhw'n deyd mai un o Rydychen ydi'r ciwrad, a does neb ddaw oddyno'n medru siarad Cymraeg."

"Howld on, 'r hen bererin, un o Rydychen ydyw gweinidog capel y Methodistiaid hefyd." Ie, a bachgen neis iawn ydi o, a bachgen neis anghyffredin oedd yma o'i flaen o. Ond am gapel Saesneg y Methodistiaid 'rydech chi'n meddwl, ac am y capel Cymraeg rydw inne'n meddwl.

Ma yma gapelydd braf yn Llanidloes, dene chi gapel crand iawn gen y Sentars, ond yn capel ni ydi'r nobla. Ma yma bregethwrs da iawn hefyd, ond y mae Cynhafal Jones yn un o'r pregethwrs mwya, mae o yn i handwyo nhw i gyd. Glywsoch chi am dano fo'n,—"

"Good morning, a fine day."

Yr oeddwn wedi gweled perchennog y llais main merchedaidd ddywedodd y geiriau hyn yn troi o'n cwmpas er ys meityn. Dyn byr di-farf oedd, a'i awydd am siarad â ni'n gryf, i swildod yn gryfach na hynny. Daeth atom o'r diwedd, ac yr oedd fel pe wedi dychrynnu wrth glywed ei lais ei hun. Yr oedd het lwyd feddal am ei ben, a'i chantel wedi ei droi i fyny un ochr; gwisgai drowsus o ribs gwyn newydd ei olchi, a chôt o frethyn llwyd-goch. Yr oedd golwg di-daro arno, er ei swildod; safai'n syth, ond gan edrych i lawr, gydag un law ym mhoced ei drowsus a'r llall ym mhoced ei gôt. Ni fuasai neb byth yn dweyd oddiwrth ei ymddanghosiad beth oedd ei oed na'i grefydd na'i gyflwr bydol. A phe buasai raid penderfynu oddiwrth ei wyneb a'i lais, ni fuasai neb yn medru dweyd prun ai dyn ai dynes oedd.

"Good afternoon," ebe finne. "Can you speak Welsh?"

"Medra'n dda," meddai'n awchus. Mi fedra i whlia Saesneg, ond mae'n well gen i Gymraeg. Iaith fy mam ydi'r Gymraeg, ond dysgu'r llall ddaru mi. 'Rwan mae'r ysgolion yn gyrru'r Gymraeg o'r wlad, 'does dim ond ambell hen nyddwr fel y fi am siarad Cymraeg. Oeddech chwi'ch dau yn siarad am y Siartwyr?"

"Nag oeddym. A wyddoch chwi rywbeth am danynt?"

"Gwn; 'rown i yn i canol nhw."

"Yn eu canol, 'does dim posib eich bod yn ychwaneg na deugain oed; 'doeddech chwi ddim. wedi eich geni yn 1839."

"Oeddwn, 'roeddwn i'n naw mlwydd oed yn y flwyddyn honno, ac yn i canol nhw."

A thra'r oedd gyrroedd o ddefaid a throliau gwlan a mwnwyr yn pasio dros y bont, dechreuodd yr hen wr hwn, oherwydd yr oedd yn drigain oed,—adrodd yr helynt rhyfedd hwnnw. Darluniodd fel y canodd "corn Rhyddid" i alw'r brodyr i ymgynnull ar y Bont Hir; a'r pregethu tanllyd wrth dalcen y bont. Ar ganol y cyfarfod dyna waedd fod y cwnstabliaid wedi dal rhai o'r Siartwyr a'u bod yn eu cadw'n garcharorion yng ngwesty Trewythen Arms. Cododd swn digofus oddiwrth y dorf, a dyna bawb fel un gŵr yn troi o'r bont ac yn rhedeg i ganol y dre "i dorri ffenestri." Ac yr oeddwn inne yn i canol nhw." Torrwyd ffenestri'r gwesty'n gandryll, rhuthrwyd i'r ty, maluriwyd y dodrefn, a diangfa gyfyng gafodd y cwnstabliaid am eu bywyd."Mi gweles nhw'n dengid drw'r ffenest. A'r Siartwyr fu'n rheoli'r dre yma am ddyddie. 'Roedd trefen braf ar bethe'r adeg honno. Ac yr oeddwn inne yn i canol nhw.'

Ond, cyn hir deallodd Lord John Russell fod perygl yng Nghymru; a gwelwyd milwyr yn cyrchu i Lanidloes o bob cyfeiriad,-o Drefaldwyn dan lywyddiaeth Charles Wynne, yr aelod dros y Sir, o'r Amwythig a Chaer a'r Iwerddon. Dylifasant i'r dref,"ac yr oeddwn inne yn i canol nhw. Mi ddengodd y Siartwyr i'r wlad i ymguddio, a'r cavaldri ar i hole nhw i'w ffeindo nhw maes, a mi gweles nhw'n dwad i'r dre rhwng y cyffyle. Down i ddim yn i canol nhw pryd hynny."

Nid oedd y dyn mawr na'r dyn bach yn gwybod beth oedd Siartaeth, a cheisiais esbonio iddynt. Dywedais am swyn egwyddorion rhyfedd y Chwyldroad Ffrengig,—rhyddid, cydraddoldeb, brawdgarwch. Dywedais am y deffroad gwleidyddol y gwelodd Siartwyr Llanidloes ei fore.

"Braint oedd cael byw y dyddiau hynny.
A nefoedd bod yn ieuanc,"

ebai bardd oedd yn Geidwadwr selog cyn diwedd ei oes. Dywedais mai nid torri ffenestri a lluchio cerrig at gwnstabliaid oedd unig amcan hen wroniaid Llanidloes, ond croesawu bore rhyddid oedd iddynt hwy fel bore cyntaf teyrnas Dduw. Yr oedd tlysni meddyliau am fyd heb drueni wedi eu dallu, yr oedd eu brwdfrydedd wedi dallu eu ffydd. "Pe gwneid y Cymry mor aiddgar dros wleidyddiaeth ag ydynt dros grefydd," meddai gwleidyddwr o Sais am danynt yr adeg honno, "byddai eu sel yn gaffaeliad amhrisiadwy." Nid dynion di-werth oeddynt, ond dynion yn pryderu ddydd a nos am gyflwr eu cyd-ddynion, bu un o leiaf o honynt yn ymladd dros y caethion yn Amerig, dynion diwyd a gonest oeddynt pan ddaethant o'u carchar. Ac erbyn hyn y mae eu meibion wedi cael ymron yr oll a geisient hwy. Dywedir i mi fod gwaed y Siartwyr yn Llanidloes eto. A ydyw hynny'n wir?

Yr oedd y dyn mawr a'r dyn bach yn dechre blino ar ysgwrs fel hyn, hawdd oedd gweled eu bod yn ceisio dyfalu beth oeddwn, ac y buasent yn hoffi ymgom fwy personol. A phan dewais, dechreuodd y dyn bach bysgota am wybod- aeth,—

"Blonged i ffatri'r ydech chi?"

"Buasai'n dda gennyf feddu ar wybodaeth am weithrediadau llaw-weithfeydd."

"Gwerthu slêts?"

"Ni fyddaf byth yn dweyd fy hanes fy hun with undyn. Ar egwyddorion, nid ar bersonau y byddaf yn traethu fy syniadau."

"Dim ods, syr, dim ods yn y byd. Meddwl 'roeddwn i fod gennoch chi ryw newydd. Ma hi'n bur fflat yma yrwan, syr, y mae cannoedd o dai'n segur.'

Mae digon o waith," ebe'r dyn mawr, "cael dynion i'w wneyd o ydi'r gamp."

"Ie," ebe'r bach, ond rhaid mynd o Lanidloes i'w gael o. Mae pawb yn ffond iawn o'i gartre, a 'rydw i wedi treio pob peth i gael bod yma. Mi fum yn y ffatri tan losgodd hi, ac yn y gwaith mwn tan stopiodd o. Ma yma le brai, ma'n biti gorfod mynd oddyma. Cerwch chi i fynu hyd y ffordd yma, gael i chi weld brafied gwlad ydi hi."

Cerddais innau dros y bont, a dringais y bryn yr ochr draw iddi, heibio ffatri losgwyd, ffatri heb ddim ond muriau moelion a chorn simddeu uchel yn aros ar lan y dŵr. I ba gyfeiriad bynnag yr ewch o Lanidloes, byddwch yn y mynydd toc, ymysg creigiau ac eithin melyn. A daeth awel gynnes drwy'r cwm i'm cyfarfod, awel oddiar Blunlumon, yn llawn o iechyd adfywiol. Ar fy ffordd gwelais lawer ffatri ar lan aberoedd mewn hafannau dymunol, a bechgyn gyda gwynebau deallgar yn cario beichiau o wlan. Meddyliais am olygfeydd erchyll a thrueni a themtasiynau'r trefydd mawr, gwelais mor iach a dedwydd y dylai bywyd fod yn y gweithfeydd hyn. Hwyrach y daw'r amser pan y defnyddir gallu dwfr aberoedd Cymru, ac y gwelir ochrau ein mynyddoedd yn llawn o weithfeydd prysur dedwydd. Ac erchylldra a phechod y trefydd mawrion ni bydd mwy.

Bum yn syllu'n hir, oddiar ben bryn, ar y mynyddoedd sy'n amgylchu Llanidloes, tarddleoedd yr Hafren a'r Wy. Cofiwn nad oes odid ardal ar lannau'r afonydd hyn heb golli eu Cymraeg, ac y mae Saesneg yn ymlid yr hen iaith yn galed i fyny at ffynhonellau'r ddwy afon. Yr ochr hon i'r mynyddoedd, Llanidloes yn unig sydd wedi cadw ei Chymraeg, a rhaid fod cariad ei thrigolion at eu hiaith yn angerddol cyn y buasai wedi gwrthsefyll Saesneg cyhyd. Ni chlywir gair o Gymraeg yn ei heglwys, mi glywais,— gobeithio nad yw'r hyn a glywais yn wir; ni ddysgir Cymraeg yn ei hysgolion, y dref wnaeth gymaint dros lenyddiaeth Cymru; ei phulpudau Ymneillduol a'i haelwydydd yw unig noddfeydd yr iaith Gymraeg.

"Peth digon pruddglwyfus," ebe rhywun, "ydyw edrych ar iaith henafol yn marw yn ei chwm olaf, ond pa golled sydd oddigerth i deimlad Cymro?" Y mae colled anrhaethol. Dowch i lawr i'r orsaf obry, edrychwch ar y llyfrau Saesneg werthir yno,—llyfrau'n gwanhau meddwl, yn dirywio chwaeth, yn llygru moes, trwyddynt hwy y mae Saesneg yn dod i Lanidloes. Nid mater o golli iaith ydyw i ardal golli ei Chymraeg,—cyll nerth ei mheddwl ar yr un pryd. Nid oes yn y byd foddion addysg fel Llenyddiaeth Cymru: dalied pob Cymro ei afael yn yr hen iaith, a dysged Saesneg hefyd.

Wrth ddod i lawr i Lanidloes yn fy ol, er mawr lawenydd i mi, cyfarfyddais weinidog Bethel. "Rhaid i chwi ddod gyda mi heno i edrych am Hafrennydd," meddai. "chwi a'i cewch yn un wrth fodd eich calon." A phenodasom awr i fynd. Yno cawsom hanes ymdrech Llanidloes i ddyrchafu ac i buro chwaeth gerddorol Cymru.

Wrth adael ty yr hen frawd mwyn, gydag adlais ei "Landinam" yn fy nghlustiau, clywais beth o Saesneg truenus y dre. Rhyw hanner Cymraeg a hanner Saesneg ydyw, clywais son am "top o' town." a chlywais am un yn gofyn i'w gariad, "Wilt thou meet me at Plwmp o' the Hall, fach?"

Boreu drannoeth, yr oedd haul ar y mynyddoedd, a phenderfynais innau dynnu llun neu ddau o brif adeiladau'r dref. Ond mor fuan ag y gosodwn fy nghamera a'i lygad ar yr adeilad, byddai tyrfa o blant o'm blaen. Ni welais gymaint o blant yn unlle erioed. Pa le bynnag y safwn, byddai tyrfa o honynt o'm cwmpas ymhen ychydig o funudau, ac nis gwyddwn o ba le y deuent, mwy nag y gwyddwn o ba gyfeiriad o'r awyr y daw brain i gae gwair yn ei ystodiau. Gwynebau plant oedd ar fy ngwydrau i gyd, ond cefais ddarluniau prydferth gan arluniwr ieuanc o'r dref. Erbyn i mi osod fy hun ar gyfer y Bont Hir, a bod yn barod i dynnu'r mwgwd oddiar fy nghamera, yr oedd plant dan ei bwau, a thybiwn fod yr hen bont gadarn yn gwegio dan y llwyth o blant oedd hyd ei chanllaw hir. Yr oedd digon o gerrig crynion mân dan fy nhraed, ond cofiais dri pheth—fod llygad fy nghamera yn wydr; y medr plant, yn enwedig disgynyddion y Siartwyr, luchio cerrig; a dihareb estron, "Those wha live in glass houses shouldna thraw stanes."

Yr oeddwn wedi meddwl mynd i Lan Gurig. i ddringo Plunlumon ac i holi'r dyn hysbys: ond nid oedd amser. Er hynny cefais dro i'r cyfeiriad hwnnw, a mwynhad wrth weled aberoedd mynyddig a blodau. Cefais ysgwrs hir â hen wr a hen wraig hefyd. Pan gyferchais well iddynt, dywedodd hi,—"Swmol, swmol; ffordd rych chi'n ymgynnal heddiw."

"Nid un o'r dre ydych," meddai'r hen wr tal, gyda gwawr cwestiwn ar ei ddywediad.

"Sut y gwyddoch hynny," ebe fi.

"Ych clywed chi'n siarad Cymraeg yr oeddwn; siaradith pobol y dre ddim Cymraeg, ond pan fyddan nhw ar glemio. O mae'n biti fod yr iaith Gymraeg mewn cimin o amharch. Mi geuson ni syndod mawr echdoe, mi ddoth brawd i mi, ac roeddwn i heb i weld o ers deugien mlynedd. Llawer o wahaniaeth sydd rhwng Llanidloes yrwan a deugien mlynedd yn ol,"—

Ie, dywedodd yr un stori'n union ag a glywais ar y Bont Ferr. Peth pwysig iawn i deithiwr ydyw ei fod yn gofalu dweyd y gwir. Aeth yr hen wr a'i bladur i'r cae,—a throais innau'n ol, heibio i lawer bwthyn prydferth a llawer cae deintyr. Toc gwelwn gurad y dref yn fy nghyfarfod, gwr diddan, a llawer awr dreuliaswn yn ei gwmni. Temtasiwn fawr oedd troi'n ol gydag ef, ac anghofio holl alwadau'r byd yn unigedd Llan Gurig; ond, ymadawsom wedi ymgom ferr yr oedd ef yn prysuro i gladdu rhyw farw, a gwelais labedi hirion ei got yn fflapio yn y gwynt ar ben yr allt cyn mynd o'r golwg.

Drannoeth yr oedd ffair yn Llanidloes, a bum yn ymwthio drwy dyrfa ryfedd at dren bore bore. Yr oedd pobl Maesyfed yno, a'u Saesneg ysmala; porthmyn mawr a ffyn onnen ystwyth dan eu ceseiliau; mynyddwyr Plunlumon a'u cwn a'u Cymraeg, ond nid oedd amser i ymdroi, yr oedd y tren yn dod draw, a minne i fod yn Llanfair Muallt cyn hir brydnawn.

I feddrod Llywelyn mae'r tir wedi suddo,
Ac arno'r gwlawogydd arosant yn llyn;
Mae'r lloer wrth ymgodi, a'r haul wrth fachludo,
Yn edrych gan wrido ar ysgwydd y bryn.
Fy Nghymru, fy Ngwlad, a wyddost ti hyn!
Pa le mae Gwladgarwch yn dangos ei gwedd?
Mae dagrau y cwmwl yn gwybod am dano,
A deryn y mynydd yn nabod y bedd.

Ceiriog




III. LLANFAIR MUALLT.

Pur wladgarwch, rhinwedd yw
A roed yng nghalon dynol ryw.
Os aiff yr iaith Gymraeg yn fud,
Caiff Saesneg ganu,-Oes y byd
I bur wladgarwch Cymru fyw."
—CEIRIOG.

YN yr haf diweddaf, yr wyf yn cofio fy hun ar dren bore, ac yn cael fy ngwthio i un o'r cerbydau gan dri neu bedwar o ddynion oedd yn gorfod rhedeg gyda'r tren wrth wneyd y gymwynas hon imi. Wedi sychu fy chwys, a threulio ennyd i fwynhau'r syniad fy mod wedi cael y tren, a pha syniad sydd felusach, os byddis wedi ei gael yn erbyn gobaith,—teflais drem ar fy nghyd-deithwyr. Yr oedd yno wraig chwarelwr, yn mynd ar ol ei gŵr i'r gweithydd, a chwaer iddi, a phedwar o blant. Yr oedd y plant y pethau mwyaf gwinglyd welais erioed, weithiau ar eu gliniau, weithiau dan y fainc, ac weithiau ar fy ysgwydd i. "Fedra i mo'i cadw nhw'n llonydd, mae nhw wedi codi er tri o'r gloch y bore," meddai eu mam. "O na hidiwch," meddwn innau, gyda gwên wan, tra'r oedd un o'r bechgyn bach yn rhwbio ei ddwylaw triagl hyd labed fy nghot newydd. Nid oedd ar y plant ddim o ofn eu mam, ond yr oedd edrychiad yng nghil llygad y fodryb a'u tawelai ar unwaith. Dywedasant eu bod yn mynd i fyw i Forgannwg am byth, ac yn gadael Arfon.

"Mi fydd arnoch chwi hiraeth mawr am Arfon," meddwn i, gan feddwl am fwg Morgannwg ac aberoedd pur Arfon.

"Bydd yn wir, welwch chwi," ebai'r fam, y mae arna i hiraeth garw'n barod am y cloc bach adewais i ar f'ol."

Gwelais ar unwaith nad oeddwn wedi taro ar gymdeithion prydyddol iawn; ond, tra'r oeddynt yn cael mwynhad o botel lefrith a chilcin torth chwech, bum yn synnu at un peth wrth edrych arnynt. A'r un peth hwnnw oedd. -paham y mae gwragedd chwarelwyr yn aml mor grand eu gwisg, a phaham y mae eu crandrwydd mor ddichwaeth. Yr oedd gwisgoedd y ddwy wraig hyn yn dangos dau beth sy'n wrthun iawn gyda'u gilydd,—balchder gwisg, a thlodi gwisg. Yr oeddynt wedi cael dillad o'r toriad newyddaf ar hyd y blynyddoedd diweddai, a phob toriad yn berffaith afresymol; yr oeddynt wedi cymysgu gwahanol ffasiynau, heb ymgais at drefn a chwaeth; ac yr oedd y dillad crand wedi mynd yn shabby iawn. Ewch i gynulleidfa o chwarelwyr yn Arfon ar y Sul, a gallech dybied mai mewn cynulleidfa ffasiynol ym Mharis yr ydych; cerddwch drwy'r pentref ar fore dydd Llun, a thybiwch eich bod yn cerdded drwy ran isel o Lunden, lle mae pawb wedi cael eu dillad o siop ail law. Yn enw pob rheswm, beth ydyw'r awydd pechadurus sydd mewn rhai mannau o Gymru am ddillad ymddangosiadus, cymysgliw, dichwaeth? Yr wyf fi'n byw mewn ardal fynyddig, ac y mae rhyw ffasiwn newydd erchyll ar ddillad y merched o hyd, nes gwneyd i mi feddwl am y creaduriaid cyn-ddiliwaidd welir yn rhai o'n hamgueddfeydd. Y mae llawer gwraig yn gwybod fod yr hen ffasiwn syml yn gan prydferthach a rhatach; clywais am ferched wedi mynd at y stanc i'w llosgi, ond ni chlywais erioed am un wedi bod ar ol y ffasiwn un munud yn hwy nag y medrai.

O'r tu allan yr oedd prydferthwch perffaith. wrth i'r tren ddringo i fyny dyffryn cul afon Tylwch. Disgynnai'r afon i'n cyfarfod, o graig i graig, o lyn i lyn. Yr oedd gwaelod y cwm yn llawn o goed gwern, gydag ambell binwydden yn eu mysg, fel merch ieuanc o'r dref yng nghanol merched y wlad. Hyd yr ochrau dis- gynnai aberoedd bychain rhaiadrog, gan ganu a dawnsio wrth adael y mynyddoedd. Ond y gweirgloddiau oedd yn brydferth. Y mae'n anodd cael dim prydferthach na gweirglodd yng Nghymru ym mis Mehefin; pan feddylir am gyfoeth ac ysblander lliwiau ei blodau. Dacw flodau melynion,—nid melyn gwywedig dillad siop neu aur, ond melyn byw, melyn fel pe bai bob amser dan ei wlith. Llwyni o fanadl wrth draed y creigiau, tlws crwn o flodau'r ymenyn ar iron y weirglodd, a llanerchi o grafanc y fran yn disgleirio ar yr ochr fry, yn sicr, ni wisgwyd Solomon yn ei holl ogoniant fel un o'r mynyddoedd hyn.

Ond dyma ni yn Sir Faesyfed, yr unig un o siroedd Cymru sydd wedi llwyr golli ei Chymraeg. Cyn dod i Sir Faesyfed, yr oeddwn yn rhyw feddwl na fyddai Cymru'n Gymru pe, mewn rhyw oes bell, y marwai'r iaith Gymraeg. Ond nid oes fymryn o wahaniaeth rhwng pobl Maesyfed a phobl Maldwyn, oddigerth, hwyrach, fod Maesyfed ychydig bach yn fwy ar ol yr Cymry wedi dysgu Saesneg ydyw pobl Maesyfed, a Chymry fyddant. Y maent wedi dysgu Saesneg i gyd yr wyf yn meddwl nad oes blwy Cymreig trwy'r sir. Clywir ambell hen bererin yn dweyd ei brofiad yn y seiat yn Gymraeg ar gyffiniau Brycheiniog; y seiat, mae'n debyg, fydd noddia olaf yr iaith Gymraeg. Ond y mae eu hymddangosiad, a'u syniadau, a'u crefydd mor Gymreig â rhai pobl Llangower neu Drawsfynydd. Er hynny y mae'n rhyfedd meddwl fod Cymry sir gyfan heb ganu emynnau Williams Pant y Celyn ac heb fwynhau caneuon Ceiriog, y mae'n rhyfedd meddwl fod Cymry sir gyfan yn cael eu meddyliau o'r Beibl Saesneg, y Christian Herald, a'r Herefordshire Times. Bum yn synnu droion paham y mae llenyddiaeth Seisnig Cymru mor wael o'i chymharu â'i llenyddiaeth Gymreig, paham y mae hanes meddwl Cymru Seisnig,—dyffryn Hafren, Maesyfed, a deheudir Penfro,—mor dlawd. Hwyrach mai y rheswm ydyw na fu'r Deffroad ond gwleidyddol yn unig yn y rhannau hyn. Pa fodd bynnag, y mae rhyw gryfder ym meddwl Cymru Gymreig nad ydyw Cymru Seisnig wedi ei feddu eto.

Ond dyma ni ym Mhant y Dŵr. Dacw fynyddoedd pell, dan glog o wlaw llwyd; ac y mae Abbey Cwm Hir, dros fynyddoedd oerion, ar y chwith inni. Y mae'r wlad yn mynd yn fwy mynyddig, a dyma'r tren yn cyflymu drwy wlad agored oer. Ar y gwaelodion yr oedd yr yd wedi hen ehedeg, ond yma prin y mae'r egin glas wedi cuddio'r rhychau.

"Yn Hafod Elwy'r gog ni chân,
Ond llais y frân sydd amla;
Pan fo hi decaf ym mhob tir,
Mae hi yno'n wir yn eira."

Dyma St. Hermon, a gwastadedd mynyddig brwynog, a chylch o fynyddoedd o'i gwmpas. Yna dyma'r mynyddoedd yn cau at eu gilydd, ac—mae'n amhosibl i ni ddyfalu ffordd yr awn, oherwydd yr ydym fel pe wedi cyrraedd pen draw'r byd. Dyna ni mewn tynel; a phan ddaethom allan, yr oeddym yn nyffryn Gwy. Gwyllt ac aruthrol, ac eto tlws a rhamantus iawn, ydyw'r mynyddoedd hyn. Wrth i'r tren ruthro i lawr tua Rhaeadr Gwy, ymagorai cwm ar ol cwm o'n blaenau, gyda dwfr yn disgyn ymhell oddiwrthom, a'r pellder yn ei wneyd yn ddistaw fel esgyniad mŵg. Tra'n aros ennyd i'r tren gael ei anadl, ymsyniwn faint o Gymraeg siaredir yn awr yn Rhaeadr Gwy. Yn 1803 y bu farw John Thomas o Raeadr Gwy, a daw ei gyfieithiad melodaidd o bennill Dr. Watts i'm meddwl, a gwyn fyd na chlywid cystal Cymraeg yn yn sir Faesyfed heddyw,—

"Duw, atal di rwysg fy meddyliau fiol,
A dena'm serch a'm calon ar dy ol;
Yn holltau'r graig rho im ymgeledd glyd,
A thawel hedd, nes mynd o'r anial fyd."

Hawdd iawn ydyw cael cam-argraff wrth edrych ar y dref o'r tren. Y mae llawer un wedi darlunio trigolion ardal oddiwrth lercwyr diod-gar anhrwsiadus fydd yn hanner byw wrth dân yr orsaf. Ni ddywedaf felly am y Rhaeadr ond ei fod yn lle rhamantus, yng nghanol golygfeydd gwylltaf Cymru, a fy mod yn gresynu nas gallwn aros yn y gymydogaeth enillodd serch Shelley.

Gyda'r gair dyma ni mewn gwastadedd braf, a dyffryn Elan o'n blaenau. Nid rhyfedd fod Shelley wedi hoffi'r ardal brydferth hon; pe na chlywswn erioed ei fod wedi bod yma, buasai'r golygfeydd yn dwyn ei feddyliau i'm cof, ei feddyliau dieithr prydferth, gwyllt; meddyliau un fedrai wneyd y binwydden a'r graig a'r seren yn gyfeillion iddo.

Wrth inni deithio ymlaen, doi'r mynyddoedd weithiau'n agos at eu gilydd, gan adael ond prin ddigon o le i'r afon redeg rhyngddynt; weithiau byddai'r ochrau'n goediog, dro arall yn wyrddion, gydag ambell i lecyn ysgwâr o binwydd, fel catrodau o filwyr ar eu ffordd o'r gwaelod i ben y mynydd. Ac weithiau deuem i wastadedd eithinog, a gwelem dai cerrig bychain gwyngalchog yn ysbio i lawr arnom, a mynyddoedd dan eu niwl yn ysbio dros eu pennau hwythau.

Erbyn cyrraedd Pont Newydd ar Wy y mae'r wlad wedi ffrwythloni llawer, y mae'n wlad goediog a gweiriog. Newbridge on Wye ddylaswn alw'r lle hwn hwyrach, oherwydd dyna'r enw sydd ar ystyllen yr orsaf. Ond, wrth edrych dros y gwrych, gwelaf fod yr orsaf yn ymyl mynwent, ac y mae'r beddau yn ddigon agos i mi ddarllen yr enwau sydd ar y cerrig,— megis Hannah Meredith, David Powell, Rhos y Beddau, Pandy Hir. Peth digon rhyfedd ydyw gorsaf a mynwent yn ymyl eu gilydd. Beth pe bai rhyw borter ofnus, wrth waeddi yn y nos "Take your seats, all tickets ready," yn gweled tyria'n codi am y gwrych ag ef? Ac eto digon tebyg ydyw mynwent i orsaf, ond yn unig fod mwy na lled ffordd haearn rhwng ochr yr ymadael ac ochr y cyrraedd. Pe buasai ein hen weinidog wedi bod yma, cawsem bregeth angladdol a chymhariaeth ynddi,-" Mynd a dod sydd ar ffordd y byd yma; galar un ochr i'r ffordd, a llawenydd yr ochr arall. Ond dyma ni heddyw mewn gorsaf nad oes ond ymadael ynddi. Ar ffyrdd y ddaear yma y mae gorsafoedd aml; ond, wedi gadael terminus y fynwent, nid erys neb cyn cyrraedd terminus gorffwys Duw neu anhun yr anuwiol. Y mae gwahaniaeth mawr rhwng llawer gorsaf wledig a gorsaf y brif-ddinas, ond beth yw hynny wrth y gwahaniaeth rhwng llawer hen fynwent wledig a'r terminus gogoneddus yr ochr draw." Er hynny ni fyddaf byth yn hoffi pregethwr sydd bob amser mewn tren neu mewn agerlong. "Dal di sylw, 'machgen i," ebai hen Gristion craff wrthyf unwaith, "mae pregethwr sal yn siwr o fynd i stemar cyn hanner i bregeth, ac odid fawr na fydd o mewn tren cyn prin gyrraedd y lan yn i ol." Yr wyf yn cofio Doctor mewn Diwinyddiaeth yn mynd i brofedigaeth unwaith wrth geisio mynd i dren. "'Roeddwn i'n teithio gyda'r rheilffordd ryw ddiwrnod yn ddiweddar," meddai, "ac mi roddais fy mhen allan o'r gerbydres mewn gorsaf neillduol, ac mi ofynnais i'r swyddog ym mha le yr oeddym. A dywedodd yntau mai yn Rhos Llannerch Rugog." "Y ffwl di-gywilydd," ebai rhyw bechadur yn f'ymyl, "pam y mae hwn yn mynd i'r pulpud i ddeyd i gelwydd, 'does yr un stesion o fewn dwy filldir i'r Rhos."

Pryd y down i Lanfair Muallt? Byddwn yno gyda hyn; dyma ni yn Builth Road, fel y gelwir gorsaf Llechryd yn awr. Dacw dyrfa o ymwelwyr Llandrindod yn disgwyl am eu tren, —pregethwyr a blaenoriaid,—gwyr tewion gwyneb-goch; mwnwyr llygaid dyfrllyd, a modrwyau yn eu clustiau; personiaid a phlu pysgota hyd eu hetiau; gwraig radlon yn siarad Cymraeg, a'i mherch yn ei hateb yn Saesneg, wrth ddarllen nofel a elwir yn "Her Only Love." Ond dyma gychwyn eto. Enw'r orsaf nesaf oedd Builth Wells. Esboniodd rhywun mai Llanfair Muallt oedd hwnnw. Dywedodd y gorsaf-feistr,—Cymro bywiog caredig,—fod gennym ychydig o ffordd i'w cherdded i'r dref, a'i bod yn tywallt y gwlaw. Wedi cyrraedd pen y bont hir sy'n croesi'r Wy o Sir Faesyfed i Sir Frycheiniog gwelem o'n blaen dref a'i hadeiladau'n glos yn eu gilydd, a'i hystrydoedd yn llawn o bobl yn bargeinio yn y gwlaw. O fysg pobl y ffair, daeth hen Faesyfwr gwalltwyn ar ei geffyl i'n cyfarfod, yn feddw gywilyddus. Erbyn cyrraedd y dref, yr oedd golwg fudr ar y gwestai, gan amled y bobl traed-fudron oedd yn parhaus fyned i mewn, ac yn dod allan gan dynnu labedi eu cotiau ar draws eu cegau gwlybion. Un o'm gwendidau i ydyw awydd am le cysurus tawel i letya ynddo pan mewn lle dieithr; ond gwelwn mai lle oedd gwestai Llanfair Muallt i fechgyn lusgo eu cariadau iddynt i yfed cwrw oer, a lle i feddwon syfrdanu eu gilydd â'u dadwrdd Penderfynais adael Llanfair Muallt, a mynd i Landrindod neu Llanwrtyd. Ond cyn i mi droi'n ol dros y bont, daeth un o'm hen ddisgyblion i'm cyfarfod, gŵr digon brwdfrydig i wneyd i ddyn deimlo'n ddedwydd yn y gwlaw. Dywedodd fod y dref yn un o'r lleoedd tlysaf a mwyaf dymunol yng Nghymru, ond ar ddiwrnod ffair gwlawog,—a fod digon o letydai clyd ynddi, gan fod ei ffynhonnydd yn hoff gyrchfan miloedd o bobl bob blwyddyn. Cefais lety cysurus rhwng yr eglwys a'r bont, yn ymyl Capel Alpha, sef y capel honna fod y capel Methodistaidd cyntaf yng Nghymru.

Ym Muallt y cwympodd Llywelyn; ac y mae Ffynnon Llywelyn, y ffynnon y dywed traddodiad iddo yfed olaf o honi, o fewn rhyw ddwy filltir i dref Llanfair. Erbyn i mi gael ychydig o ymborth heb anghofio'r gwpanaid o de, yr oedd y gwlaw wedi darfod, a'r haul yn gwenu ar ddyffryn Gwy a'r mynyddoedd o bobtu Tybiwn na welswn wlad dlysach erioed pan yn cychwyn ar fy mhererindod tua Chwm Llywelyn; ac, er fy llawenydd, medrai bron bawb basiwn ar y ffordd siarad Cymraeg â mi. Troais i dŷ tafarn ar y ffordd, ty hen ffasiwn a mantell simddau fawr, i holi am y ffordd, a dywedai hen wraig y Prince Llywelyn fod yno groeso bob amser i Gymro'n siarad Cymraeg, er nad oedd arno eisieu glasied. Cyn hir dois at dy bychan unig ar ochr y ffordd, ar y llaw chwith. Cnociais wrth y rhagddor a daeth gwraig fechan o Saesnes i ddweyd fod croeso i mi fynd i'r ardd. Y mae'r ffynnon a Chwm Llywelyn i gyd ar dir fy nisgybl brwdfrydig, ond gwelais nad oedd eisieu i mi son am ei enw, yr oedd y wraig yn un garedig iawn, a siaradus. Oedd, yr oedd llawer o Gymry'n dod i weled y ffynnon, y mae rhai—oes y mae rhai,—'n cymeryd dyddordeb mawr yn y lle. Arweiniwyd fi drwy lidiart fechan i'r ardd, a danghoswyd i mi lwybr trofaog yn arwain i lawr at y ffynnon. Nant gauad lawn o goed cyll ydyw Cwm Llywelyn, yn rhedeg i lawr o ffordd Llangamarch i gyfeiriad dyffryn tlws yr Irfon. A ffynnon fechan yng ngwaelod gardd ydyw ffynnon Llywelyn, gyda gwaelod o graig a graean. Uwchben y ffynnon saif helygen wyllt, ac o'i hamgylch y mae llawer o flodau,—clychau'r gog ac anemoni'r coed yn eu hamser, llygaid y dydd a llysiau'r mel yn eu hamser hwythau. Ac y mae'r Saesnes wedi plannu llawer o flodau dieithr yno, blodau na wyddwn i mo'u henwau, fel pe i gyd-wylo â blodau Cymru am Lywelyn. Ar y geinen sy'n cysgodi'r cwm bychan, y mae derw, a chaeau agored i'w gweled rhwng eu bonau, a rhes o fryniau y tu hwnt i'r rhai hynny. Yn rhywle ar y caeau hyn y cwympodd Llywelyn, a chyda'i gwymp ef collodd Cymru er hanibyniaeth. Yr oedd awel wylofus yn anadlu dros y meusydd gweiriog. ac yn cario geiriau'r ffermwyr oedd yn mynd adref o'r ffair i'm clustiau. a'm meddyliau innan'n ol yn y flwyddyn 1282. Troais oddiwrth ffynnon Llywelyn i edrych ar y bryniau oedd yn gorwedd y naill wrth gefn y llall mor bell ag y medrai'r llygad weled.

Ar fy ffordd adref cyfarfyddais ugeiniau o wyr Buallt, pawb ar gefn ei geffyl, a phawb yn mynd nerth traed eu merlod bychain adre o'r ffair. Ni welais un meddw ymysg y lluoedd gwyr meirch; ac ymysg y gwŷr traed ni welais ond un ag arwyddion diod arno,—tolc yn ei het ac awydd sefyll ar ei sodlau. Hen wr oedd hwn hefyd, ac y mae lle i obeithio y bydd y genhedlaeth feddw wedi darfod o Gymru cyn hir.

Cefais orffwys tawel wedi dod yn ol, a thipyn o hanes y dref. Y Sabboth oedd drannoeth, a dywedodd y wraig nas gallwn gael pregeth Gymraeg os na chawn un yng Nghapel Alpha'r nos. "Rych chi yn y North yn fwy piwr i'ch iaith na ni." Ystafell isel hen ffasiwn oedd gennyf, lle hawdd breuddwydio am bethau fu. Ond, cyn amser huno, yr oedd gennyf ddigon o amser i fynd i edrych y castell. Dringais i fyny bryn, a gwelais lle y bu'r castell. Nid oes garreg o hono'n aros; nid oes yno ond trumau gleision yn unig. Nid ydyw heddyw ond lle i ymwelwyr rodianna. Hawdd gweled ei fod ar le manteisiol iawn. I'r gogledd y mae dyffryn Gwy, a mynyddoedd gleision i'w gweled dros dŵr ysgwâr eglwys Llanelwedd,—mynyddoedd Maesyfed Seisnig ofergoelus. Ond i'r de y mae dyffrynnoedd ffrwythlawn wrth draed Mynydd Epynt, a'u gwartheg, a'u hydau, heb ofn Norman na'i gastell.

Bum yn ymdroi peth hyd wastadedd glannau'r Wy. Cofiwn fod y Saturday Review wedi rhoddi beirniadaeth dyner ar dlysni'r golygfeydd hyn, a gallesid meddwl oddiwrth dôn y chwiliwr gwallau chwerw hwnnw fod gwaith Duw ymron wrth ei fodd. Tan fwa'r bont gwelwn Gapel Alpha, ac adeiladau'r dref dan y bwâu ereill. Yn olaf peth eis am dro drwy fynwent yr eglwys. Ar garreg wen darllennais enw Eidalwr anesid yn Ombreglio, "wedi ei gyfiawnhau yn rhad trwy ei ras ef." Cofiwn mai uwch ben un o'r beddau hyn y bu John Williams, mab y Per Ganiedydd, yn darllen y gwasanaeth claddu'n feddw, mor feddw fel na fu ond y dim na syrthiodd i'r bedd,—er dirfawr boen ac edifeirwch iddo wedyn.

Bore Sul tawel hafaidd oedd bore drannoeth. Clywais fod capel Anibynwyr bychan ryw dair milltir i'r wlad, lle pregethid Cymraeg. Cerddais drwy'r dref, yr oedd yn ddistaw fel y bedd, ac nid oedd fawr o wybodaeth i'w gael ond am enwau'r siopwyr. Price ydyw'r enw mwyaf cyffredin o lawer, yna Powel a Davies, yna Morgan a Meredydd a Hamer a Morris; gwelais hefyd enwau Prosser, Gwynne, a llawer enw Seisnig. Cerddais ar hyd yr ystryd hir, o'r bont, ac yna gadewais y dref, a dringais i fyny bryn hyd hen ffordd Aberhonddu.

Ar ael y bryn, wrth lidiart, gwelwn bedwar o ddynion, tri yn rhai gweddol lonydd, a'r llall yn ysgwyd ei fraich fel pe yng nghanol hyawdledd mawr. Pan gyrhaeddais hwynt, trodd y siaradwr ataf fi. a dechreuodd fy holi'n galed yn Gymraeg. Sylwodd nad oedd fy nwylaw'n galed, a dywedodd nad oeddwn yn ennill fy nhamaid yn hen ddull y cwymp. Gŵr llawn ynni oedd, ac ni fuasai neb yn dychmygu ei fod yn 70 oed. Yr oedd yn Drefnydd selog, ac yn ei gosod hi ar ei enwad yn Llanfair yn bur drwm, gan ddangos pa fodd y rhoddasai ef hwy ar hwyl. Yna dechreuodd foli Tre Castell, magwrfa athrylith a'i fan genedigol yntau. Gŵr o haearn ydyw, anhyblyg, a di—drugaredd,—na, dacw ddeigryn yn ei lygad wrth adrodd hanes ei fab fu farw pan ar wneyd enw iddo ei hun fel meddyg. Yr oedd ei addysg wedi costio llawer o arian iddo, ond yr oedd clywed pobl yn dweyd iddo golli arian ar ei fachgen yn ei hala fe'n grac. "Son am arian o hyd,—a fawr o son am ened; hwy'n son am yr arian yn mynd yn ofer, a minne'n meddwl fod 'y machgen i ar y lan.' Yna dywedodd ei feddwl am addysg y dyddiau hyn. Yr oedd ei ferch wedi bod yn yr ysgol ym Mryste; yr oeddynt wedi ei dysgu lle'r oedd pob afon yn tarddu trwy'r byd yma benti gili. Ond am y wlad well y dysgid ni, adnode a hyme fydden ni'n ddysgu." Yr oedd yr hen frawd wedi holi'r tri gŵr o Forgannwg, rhai wedi dod i'r ffynhonnydd fel yntau, yn fanwl; ac yr oedd yn dangos un o honynt i mi fel pe buasai greadur mewn arddangosfa, oherwydd ei fod yn gefnder i Islwyn. Nid oedd yn llonydd un munud, rhaid fod ei ynni di—ddarfod wedi effeithio llawer ar ei ardal, a synnwn a fyddai'n cysgu, ynte a fyddai fel penhwyad, yn effro am byth. Trois fy nghefn arno, a phan edrychais yn ol o'r pellder, gwelwn yr hen Frycheiniwr yn pregethu a'i holl egni i'r tri gŵr llonydd o Forgannwg.

Ar ochr y mynydd gwelwn dai glân gwyngalchog, ac aml adfail. Uwch ben un ty to brwyn anghyfannedd gwelais dair coeden yn gwyro, caban un—nos ar fin y mynydd, a chae bychan glasach na'r mynydd o'i gwmpas a llwybr troellog yn mynd i fyny i'r mynydd oddiwrtho. Cofiwn fod coed yn gwyro, fel gwylwyr blinedig, uwchben llawer cartref tebyg yng Nghymru, tra y mae'r plant yn grwydriaid ar hyd y byd, neu wedi suddo i dlodi a phechod ein trefydd mawrion. Pan gaiff Cymru addysg gelfyddydol, oni chynheuir tân ar yr hen aelwydydd hyn, oni ddaw'r hen gartrefi'n gartrefi celfyddydwyr? Tynnir cyfoeth o gerrig a phren; ac ni ddiystyrir gwenyn a ieir.

Dyma dro yn y ffordd, a chraig o'n blaenau, a phont haearn dros yr afon Dihonnw. Dyma dawelwch perffaith, heb un ty yn y golwg, na swn ond dwndwr yr afon; ni welaf ddim byw ond ambell wiwer ofnus yn croesi'n ysgafn trwy gyll y glyn. Yr oedd paent gwyn ar y bont, a fforddolion lawer wedi ysgrifennu rhyw ychydig o hanes eu bywyd ar hyd-ddo, Jack Penyryrfa bound for the south," Thomas Bevan passed by seven o'clock." "Tom yr Efail, Sir Fon,"—dyma hanes trigolion Cymru'n ymfudo i'r De. A rhyfedd iawn, dyma enw hen gydysgolor i minnau, yn ei law ei hun, ac ar ol yr enw,—"hard up on the road." Wedi dringo'r bryn gwelais fod rhywun wedi cyhoeddi athrod ar y fforddolion hyn mewn lle amlwg, "Beware of the dog."

Ond dyma ni yn Llanddewi'r Cwm. Deallais fod y capel hwnnw filldiroedd ymhellach, ac nad oeddwn ar y ffordd iawn. Nid oedd gwasanaeth yn yr eglwys tan y prydnawn, a gwelais na chawn gyd-addoli a neb y boreu hwnnw. Troais i'r fynwent, mynwent ar godiad tir mewn gwlad dlos lechweddog. Y mae'r plwy am yr Wy a Sir Faesyfed, ac o fewn rhyw ddau blwy i derfynau Lloegr, a deallais yn union fod y Gymraeg yn marw yma. Lle di—gynnwrf ydyw plwy Cymreig ar fin ymseisnigo, cyll yr Ysgol Sul ei lle, cyll y werin ei chywreinrwydd meddwl, gwneir gagendor rhyngddi a'r dosbarth darllengar. Yr oedd gwahaniaeth dirfawr rhwng yr amaethwyr welais yma a'r hen wr o Dre Castell; gwell gennyf fi garreg fedd hen Gymro nag ysgwrs Cymro seisnigedig. Cymreig iawn ydyw'r fynwent,—dyma fedd geneth ddeg oed o Nantyrarian, bedd hen felinydd o Ddolellinwydd, a bedd hen ferch o Gwttwshyrwain; dyma adnod Gymraeg, a dyma bennill ysgrifennwyd ar garreg ddarfodedig yn 1807,—

"Dyma Evan wedi tewi,
Da newyddion fu'n gyhoeddi
Dros i Dduw yn erbyn pechod,
A llawn rhyddhad yng ngwaed y Cymod."

Gadewais dŵr isel gwyngalchog creciog yr eglwys, a'r tawelwch dorrid gan swn y brain, a throais yn ol tua Llanfair. Ar y ffordd gwelais drol hir yn gorffwys, hysbyswyd fi mai "gambo" y gelwir hi, a deallais gyfeiriad atı mewn pregeth glywais wr ieuanc o'r De'n draddodi wrth gasglu at ei goleg,—

"Mae hen gambo'r iachawdwriaeth yn cywain eneidiau o hyd glannau'r afon i ysguboriau'r Duwdod."

Yr oeddwn yn brydlon yng nghapel Alpha amser dechreu, a chawsom bregeth ddwy—iaith rymus a gafaelgar iawn gan y gweinidog. Yn y seiat ar ol, siaradodd llawer o frodyr o Forgannwg, Llanfair Muallt a'i ffynhonnau yw eu hoff gyrchle, yn Gymraeg. Cefais wahoddiad cynnes i wlad y gweithydd ganddynt, ac yr wyf yn meddwl mynd ryw dro. Wedi ymgom a'r gweinidog, cefais orffwys breuddwydiol. Y nos honno, bum yn ail grwydro bryniau Buallt mewn breuddwyd, gan chwilio am fedd Llywelyn. A gwelais gof-golofn ardderchog,-arwydd serch cenedl wedi deffro,-i ddweyd wrth oesau ddel am fywyd ein Llyw Olaf. Pa bryd, tybed, y caf weld hyn pan ar ddi-hun?

"Dyn a garo grwth a thelyn,
Sain cynghanedd, cân, ac englyn,
A gâr y pethau mwyaf mwynion
Sy'n y nef ym mhlith angylion."
—HEN BENNILL.

Bore oer cymylog, o fore'r ail ddydd ar bymtheg o Awst, oedd bore Llun wythnos Eisteddfod 1891. Nid oedd arnom lai nag anwyd wrth sefyll ar orsaf Bangor, ymysg gwyr Mon ac Arfon, gan ddisgwyl am y tren oedd i redeg trwy'r dydd, ar hyd Cymru, i Abertawe Yr oeddym yn ddistaw, gan edrych yn bryderus ar yr awyr lwythog fygythiol oedd yn taflu cysgodion duon ar Ynys Mon a phenrhynoedd Arfon. Ond toc aeth rhywbeth tebyg i drydan drwy'r dyrfa, rhywbeth a'n cynhesai ac a wnai i ni dynnu'n llygaid oddiar yr awyr ddu. Wedi gweled Mary Davies, brenhines cân Cymru, yn ein mysg yr oeddym.

Gyda fod y tren wedi cychwyn dechreuasom ysgwrsio, oherwydd i'r Eisteddfod yr oeddym oll yn cyrchu, ac nid oedd yn ein cerbyd ond un lle gwag. Ysgolfeistr, bardd, traethodwr, beirniad, cantores, geneth fach yn ofni fod ei thelyn yn cael cam,—yr oeddym yn gwmni digon difyr. Cyn hir aethom tan furiau Castell Conwy, ac yr oedd golwg oer a phruddaidd ar yr afon sydd mor ogoneddus o brydferth dan wenau'r haul. Yn Llandudno yr oedd llawer tren, a phennau aneirif, pob un yn wên o glust i glust, yn y drysau a'r ffenestri. Philistiaid oeddynt, Saeson Lerpwl, yn cael mwynhad wrth fodd eu calonnau trwy edrych ar dri gard yn ceisio darbwyllo llo,—llo oedd eto heb ddysgu symud ei bedwar troed ar unwaith,—i gerdded o'r naill ben i'r platfform i'r llall. Pan ail—gychwynnodd y tren, gwelsom fod un o'r rhai hyn, hen Philistiad tal trwyngoch penwyn, wedi gosod ei hun yn gysurus yn y sedd wag. Gormod o waith oedd ei ddarbwyllo i gau ei geg, gwaith anhawddach na hynny oedd ei gael i draethu ei ddoethineb ar unrhyw fater llenyddol. Tra'r oedd ein tren yn prysuro ar draws godreu Dyffryn Clwyd, ac yn chwyrnellu trwy bentrefi Fflint, ni fynnai y Sais son am Forfa Rhuddlan nac am abaty Basing, eithr yn hytrach mynnai siarad am y gwahanol fathau o gwrw lyncasai yn ardaloedd mynyedig Meirionnydd. Er i mi ei hysbysu na wyddwn wahaniaeth rhwng cwrw a dwfr llyn hwyaid, yr oeddym wedi cyrraedd Caer cyn i mi gael ymgom a'r enethig am ei thelyn.

Yng Nghaer ac yn yr Amwythig daeth torfeydd newyddion, personiaid du eu gwisg a llyfn eu gwyneb, pregethwyr Anibynnol ffraeth bywiog, pregethwyr Methodistaidd gwelw distaw, beirdd a cherddorion pwysig, siopwyr trwsiadus, ffermwyr rhadlon, y chwarelwr a'i gariad, y glowr a'i gariad yntau, Cymry'r Gogledd wrth eu tylwythau i gyd. O fardd i fardd gwibiai Eifionnydd, nid y wlad, ond y gŵr a elwir felly, i sugno mêl eisteddfodol i'r Genhinen. Cynghaneddion yn berwi ydyw mater enaid hwn,—rhyw fath o Genhinen Eisteddfodol fyw ydyw; wrth weled Cardiff ar dren oedd yn melltennu heibio," I Gaer Dydd i gordeddu meddai; gwelwch gynghaneddion yn berwi yn ei lygaid, ac y mae ei dafod yn diferu o honynt, feddyliwn i, ddydd a nos. Methasom fyned i'r un cerbyd a'r beirdd, cawsom ein hunain gyda Saeson ar eu ffordd i Ddinbych y Pysgod, rhai na fedrent siarad yr un gair ond Saesneg, golygydd papur newydd yn cynnyg "ail argraffiad o ffrwythau i eneth swil y gwelais ei hagrach, dynes ganol oed a gwallt gwyn a llygaid brithion oer di-drugaredd a llais cras wnai i mi ymgreinio mewn poen wrth orfod gwrando arno. Yr oedd yno borthmon, a gwraig wylofus ar ei ffordd adref o gladdu rhywun, a pherson yn meddu gwyneb bachgen a'r het silc fwyaf welais erioed yn mynd i Landrindod am ei iechyd, nid oedd golwg eisteddfodol iawn arnom. Yr oedd y tren yn orlawn yn gadael yr Amwythig: ac ym mha le y rhoddwyd y Cymry gwasgaredig a ddisgwyliai am danom yng nghyffordd Craven Arms, nis gwn i. Pan gyrhaeddasom gyffiniau bryniog Maesyfed yr oedd y gwlaw oer yn disgyn yn gawodydd niwliog ar y gwair. Daethom i Knighton, tref dan gysgod craig, ac yna trwy wlad o lechweddau a chymoedd a ffriddoedd, ond yr oedd y tren yn myned yn rhy gyflym i ni fedru darllen enw pob gorsaf yr aem drwyddi. Cyn dod i Landrindod aroswyd i hel ticedi; yr oedd gan y person rywfaint i dalu, ac wrth orfod aros nes y cai ei newid, collodd y gard ei dymer a dywedodd eiriau nad gweddus eu hysgrifennu. He says that he is not going to stay here all day," esboniai'r golygydd i'r wraig a'r llais hogi llif, "for this gentleman's change, which he called a blessed sixpence."

Wedi gadael gorsaf Llandrindod, a llu o bobl ynddi na chymerent lawer am lercian mewn un orsaf arall, daethom i wlad o rosydd gwlybion. Toc gadawsom Lanfair Muallt ar y chwith, ac ar y dde gwelem Gwm Llywelyn yn ein hymyl; Llangamarch, cartref John Penry ar ochr mynydd draw, cymoedd mynyddig Llanwrtyd, tynel hir, ac wedi dod o hono yr oeddym yn un o'r golygfeydd mynyddig mwyaf ardderchog yng Nghymru. Crawcwellt, yr aber yn ei babandod yn dechre sisial siarad, niwl gwyn y mynydd, defaid bychain chwim, unigedd perffaith, peth rhyfedd oedd bod mewn tren ac mewn golygfa fel hon ar yr un pryd. Toc ymagorodd dyffryn Tywi o'n blaenau, a chofiem wrth lithro drwy Lanymddyfri fod yr Hen Ficer a Williams Pant y Celyn yn huno yno. Erbyn cyrraedd Llandeilo yr oedd y gwlaw'n ymdywallt, ac arwyddion eglur fod tymhestl yn dod. Yr oedd bwa hir pont Llandeilo fel pe'n crynnu rhag ofn yr ystorm; a chastell Dinefwr draw yn gwisgo gwg herfeiddiol yr hen amseroedd. Newidiasom ein cerbyd, a chawsom ein hunain gyda Chymry o'r Alban ar eu ffordd. fel nyninnau, i'r Eisteddfod. Wrth i ni redeg i lawr dyffryn Llwchwr at y môr ac Abertawe yr oedd y dymhestl wedi ymdorri. Er mai canol Awst oedd, cauasom y ffenestri'n dyn, ofnem weld y gwynt yn dinistrio gorsaf Tir y Dail, ac ni welsom wlaw erioed fel y gwlaw a bistylliai ar weithfeydd a glowyr Pontardulais. Beth am yr Eisteddfod yfory? "Y mae un cysur yn unig." cwynfannai un. "'does dim posib i'r tywydd fynd yn waeth." Tywalltai'r gwlaw pan redai ein tren, dros awr ar ol ei amser, hyd gyffiniau Gwyr; ond torrodd yr hin am ennyd pan ddaethom i olwg y môr. A hyfryd ryfeddol oedd cael gadael ein cerbyd clos, ac anadlu'r awel iach ddoi dros Fau Abertawe,—a pha le prydferthach welir ar draethellau ein moroedd na'r bau o orsaf Bau Abertawe? Wedi blinder ein taith hir adfywiwyd ni wrth weled eangderoedd y môr, a'r goleu, rhywbeth tebyg i lawenydd, draw ar ei orwel. Ond buan y dechreuodd yr awyr ail-dduo, a phrysurasom ninnau i'n llety ym Mryn y Môr, gan daflu golwg wrth basio ar y babell enfawr wleb oedd fel pe'n rhynnu yn y gwynt didrugaredd a'r gwlaw. Y peth olaf glywais cyn cysgu oedd rhu bygythiol y gwynt, a breuddwydiais fod y babell wedi ei chwalu'n ddarnau mân dros holl fro Morgannwg.

Pan edrychais gyntaf drwy'm ffenestr bore drannoeth gwelwn, er mawr lawenydd i mi, fore heulog braf yn gwenu arnaf. Ni fedrais fynd i'r Orsedd, eis i edrych y babell cyn i'r bobl ddod. Gwelwn y babell gron enfawr dan ei baneri, yn prysur sychu ar ol y gwlaw. Saif yn y parc prydferth sydd ar lan y Bau; o'i blaen yr oedd y môr, ac yn hanner cylch y tu ol iddi yr oedd Abertawe ar lethrau bryn. Yr oedd yr olygfa'n brydferth a mawreddog, a hawdd y gallwn fenthyca rhyw ddesgrifiad o'r Mabinogion i'w darlunio hi.

Prin yr oeddwn wedi rhoi tro o gwmpas y babell a holi pwyllgorwyr ffwdanus pan glywn sain Gorymdaith Gwyr Harlech yn y pellder— yr oedd seindorf filwrol yn arwain y beirdd o'r Orsedd. Ond nid oedd y babell yn hollol barod, —yr oedd y to wedi dod i lawr yn yr ystorm,— a swn morthwylion glywai'r beirdd, a swn morwyr yn tynnu yn y rhaffau i sicrhau'r to. Cyn unarddeg, er hynny, yr oedd cor yr Eisteddfod yn canu "Maes Garmon"; a minnau'n edrych o gwmpas' y babell oddimewn. Yr oedd yn fwy o lawer na phabell Bangor,—medrai pymtheng mil o bobl eistedd yn gysurus ynddi; ond, gan nad oedd ar godiad tir, nid oedd mor hawdd i bawb weled a gwrando ynddi. O'i hamgylch, gyda'i hochrau pren, rhedai rhes o feinciau'n codi'n raddol o'i llawr hyd ei bargod, ac o'r rhain gwelid y gwaelod eang, a'r llwyfan dan ei nen o goed. Uwchben yr oedd to o lian bras trwm yn crogi wrth ddau bolyn uchel, nofiai fel cwmwl i gysgodi'r babell, ond nid oedd yn llawn ddigon i'w ymylon gyrraedd ochrau'r babell. Tlawd iawn o arwyddeiriau oedd y colofnau a'r parwydydd,—pa ham na lenwasid hwy, fel y gwneir yng ngwyliau pob cenedl arall, ag enwau ein prif leoedd? Beth lonasai fwy ar galon un o Gaer Dydd, o Aberystwyth, neu o Gaernarfon, na gweled enw ei dref ym mhabell Abertawe? Peth Philistaidd oedd rhoddi "Gochelwch Ladron" ymysg yr hen arwyddeiriau, ond esboniodd Cynonfardd mai llen ladron a lladron cariadau a feddylid. Wrth ben y llwyfan yr oedd Môr o gan yw Cymru i gyd ac o'i hamgylch yr oedd enwau Ceiriog, Mynyddog, a'r beirdd a'r llenorion ydym newydd golli. Nid oes dim wna fwy i uno Cymru na galaru am yr un rhai; wrth weled yr enwau o'n blaen cofiem am rai fu'n llafurio i godi ein gwlad, Brinley Richards, Tanymarian, Glan Llyfnwy, Gwilym Gwent, Nathan Dyfed, Annie Williams, Gweirydd ab Rhys, Glanffrwd, Kilsby, William Evans Tonyrefail, Vulcan, Thomas Rees, Owen Thomas, ac ereill. Pwy wyr enwau pwy fydd o'n blaenau, i alaru am eu colli, yn Eisteddfod y Rhyl?

Ond dacw Syr J. T. D. Llewelyn, yng ngwisgoedd gwychion Maer Abertawe, yn cynnyg ein hannerch. Y mae ei lais yn dreiddgar ac y mae yn dweyd pethau dyddorol am eisteddfodau'r hen oesoedd. Ond, pa mor wladgarol bynnag y medr fod y mae mewn lle perygl i siarad gormod; wrth edrych yn ol gwelwn bennau gwyr Morgannwg, gwyr byrbwyll ac anibynnol, a chyda fod yr ugain munud ar ben, dyna lais o'r bellder, fel adlais clir y maer, yn dweyd ei bod yn bryd mynd at rywbeth arall.

Canodd Maldwyn Humphreys "O na byddai'n haf o hyd," yr oedd heulwen arnom y funud honno, a gweddiem am gael haf trwy wythnos yr Eisteddfod. beth bynnag am y misoedd sydd i ddod. Wedi'r gân daeth y beirdd a'u henglynion, Iago Tegeingl walltwyn, Eifionnydd lygaid gwibiog, Creidiol fwynlais, a Chlwydfardd batriarchaidd. Cafodd yr hen Eisteddfodwr dderbyniad croesawgar, gwyddid ei fod wedi gadael ei ddeng mlwydd a phedwar ugain, teimlid grym ei englynion i'r Eisteddfod pan ddywedai mai "cadarn yw hi, a'i henaid heb ddihoeni," a tharawiadol iawn, wrth weled gwynned ei wallt, oedd clywed ei lais llawn treiddgar yn hwylus floeddio nad oes arni hi "na henaint na phenwynni."

Yna heliwyd y beirdd ymaith, a chymerodd gwyr cochion y gatrawd Gymreig eu lle, i chware Llwyn Onn a Hob y Deri, Ar Hyd y Nos a Gorymdaith Gwyr Morgannwg. Ar eu hol hwythau daeth cantorion, Dr. Parry a John Thomas i feirniadu'r unawdwyr bariton. Yr oedd heulwen gynnes yn chware arnom drwy do'r babell erbyn hyn, yr oedd meinciau'r cefn yn prysur lenwi, yr oedd pawb yn ddifyr, ac yn teimlo fod yr hwyl Eisteddfodol wedi dod. Cafwyd beirniadaeth ferr ar y cyfieithiadau, beirniadaeth hir gan Hwfa Mon ar y can englynwr a deugain, gormod dair gwaith o ganu piano, beirniadaethau byrion ar gân a chelf a thraethawd, "Hobed o Hilion yn felus gan Miss Adela Bona, yr oedd Cynonfardd yn hwylio pethau ymlaen yn ddeheuig iawn. Yn ystod y gystadleuaeth seindyrf a'r triawdau yr oeddym yn ddedwydd, yn gynnes, ac yn edrych ymlaen gystadleuaeth gorawl,—"Goed yr Hydref " at a "Stone him to death." Ac ebai bardd wrthyf, "Nefoedd o le ydyw eisteddfod pan bo pethau'n mynd fel hyn; disgwyliwch, mae'r babell yn llawn."

Gyda hynny gwanhaodd yr heulwen, a marwwodd. Taflodd cymylau duon eu cysgodau arnom, a chlywem y gwynt yn codi. Erbyn tua thri o'r gloch, cyn i'r corau fod yn barod, deallasom mai gwynt tymhestl oedd. Dechreuodd to'r babell ysgwyd, gwelem hi rhyngom a'r awyr fygythiol fel llong mewn ystorm. Daliai'r bobl. eu hanadl, gwelwn y miloedd yn eistedd fel delwau duon, ac yr oedd duwch yr ystorm wedi taflu rhyw gysgod prudd ar bob gwyneb. Taran, filach mellten, a dyna ni yn y diluw a'r ystorm. Ni fedrid clywed dim gan swn y cenllif gwlaw trystfawr, a buan y gwaghawyd canol y babell gan bobl yn wlybion at eu crwyn. Gwynt rhyferthwy, dacw'r rhafiau'n gollwng, y prennau'n torri, a tho'r babell yn dod i lawr. Graddol iawn y disgynnodd, fel llong yn suddo, ond gwelais lawer yn ymlafurio ymysg y rhaffau a'r prennau ddisgynasai arnynt, ond yr oedd rhyw swyn i mi yng nghwymp araf y babell, ac am ennyd nis gallaswn ddianc.

Ni welais dorf erioed yn ymddwyn yn fwy pwyllog a doeth. Gwahoddodd Cynonfardd ni ymlaen, a thawelodd ni. Gofynnodd i ni eistedd i lawr, ac eisteddasom, er fod llyn bychan o ddwfr ar waelod pob cader. Nid oeddwn am anufuddhau i'r arweinydd; ond gallaf dy sicrhau, ddarllennydd mwyn, na fydd fawr o frwdfrydedd yn neb wedi iddo eistedd mewn llyn o ddwfr oer.

Pan droais o'r babell i'r gwlaw tymhestlog, yr oedd y bobl yn gwasgu o gwmpas y llwyfan i wrando ar y corau'n canu. Wedi'r cystadlu hwn, yr oedd cystadlu canu telyn, a synnwn beth ddaeth o delyn yr eneth fach o'r Borthaethwy yn yr ystorm.

Yn yr Albert Hall y cynhaliwyd y cyngherdd yr hwyr; ond gorfod i mi droi oddiwrth y drysau, gyda lluoedd ereill, oherwydd nad oedd yno le. A phan ddaeth y nos, methwn gysgu gan feddwl am y wraig laddesid yn y babell, yr oedd yr Eisteddfod, fel hen wyl dderwyddol, wedi dechre gydag aberthu bywyd. Ofnwn y byddai'r babell mor unig a mynwent drannoeth, heb neb ond y beirdd, a hwythau'n galaru'n ddistaw uwchben bedd anamserol yr Eisteddfod na fu gwell rhagolygon erioed na'i rhagolygon hi.

Y nos honno bu rhyferthwy mawr; a phan aeth hi yn ddydd gallesid meddwl oddiwrth y gwlaw dirfawr fod diluw, ail i ddiluw'r hen No, yn dod. Yn blygeiniol prysurais tua'r babell. Yr oedd yno o hyd, ond heb godi ei phen. Yr oedd y pare yn byllau lleidiog drosto a phwyllgorwyr prudd yn ceisio cyrraedd y babell yn droedsych, ac yn ceisio'n ofer. Ni welais obaith yn unlle ond yn nhymer hyderus yr ysgrifennydd di—flino, ac mewn ambell heulwen wan oreurai odrau'r cymylau duon. Troais yn ddi—galon tua llyfrgell y dref i ddarllen hanes hen Eisteddfodau, pan gyfarfyddai'r beirdd yn ystafell oreu rhyw hen westy clyd, heb ofni rhuthrwynt na gwlaw. Ar fy ffordd cyfarfyddais Iwan Jenkyn, yn anfoddog wedi colli'r Cymrodorion, ac Athan Fardd yn hapus rhwng ei gyfeillion Dyfed a Dafydd Morgannwg. "Fachgen," ebai Athan, "ple'r ych chwi'n mynd, ych chwi ddim yn troi'ch cefn ar yr Eisteddfod?" Tybiwn na fuasai Eisteddfod, a chollais fy hun am rai oriau yng nghywyddau Tudur Aled a Iolo Goch.

Tua dau o'r gloch cychwynnais tua'r Eisteddfod, yr oedd cawod wlaw a heulwen boeth yn ymlid eu gilydd dros Abertawe, gan ddyfalu a fyddai yno un. Pan ddois i olwg y babell gwelwn ei bod a'i phen i fyny, a gofynnais i heddgeidwad safai gerllaw, Frawd, a oes rhywun yn y babell acw?" (Rhywun!" atebai, "oes; y mae ugain mil o bobl ynddi, a dacw i chwi filoedd ereill wrth y pyrth yn ymryson am fynd i mewn." Nid anghofiaf byth yr olygfa welais. Yr oedd y babell enfawr wedi ei gorlenwi, nid oedd na llawr na mainc yn y golwg, dim ond môr aflonydd o wynebau ceg—agored,—y cegau'n crochfloeddio ar breswylwyr y llwyfan y dylent gilio, er mwyn i gor mawr Caernarfon gael lle. Deallais yn eglur ein bod ar fin y brif gystadleuaeth gorawl. Yr oedd yn anodd iawn i gor Caernarfon ddechre canu, yr oedd yn anodd clirio'r llwyfan, dywedid fod amryw o enethod y cor wedi syrthio mewn llewyg wrth geisio ymwthio i'w lleoedd, yn sicr yr oedd y cor hwn dan anfanteision mawr. Ac yr oedd amynedd y dorf aruthrol yn fyr. Nid oes neb yng Nghymru ond Mabon fedrasai gadw cwrs ar dorf fel hon, ac ofnwn na fedrai yntau lwyddo y diwrnod hwnnw. Yr oedd rhai'n ymgynhyrfu o angenrhaid, gwelais lwybr o gynhyrfiad, fel y cynnwrf welais ar lyn uwch ben ci fyddai'n nofio; glowr o'r Rhondda oedd "shwst a mwgi," ac yn ceisio cyrraedd un o'r drysau. Yr oedd rhai'n ymgynhyrfu o ofn,—clywn drwst meinciau'n dryllio, gan ollwng y rhai eisteddai arnynt yn bentwr ar y ddaear wleb; ac nid oedd yr uchaf yn y pentwr, y mae lle i ofni, yn sylweddoli beth oedd cyflwr yr isaf. Yr oedd ereill mewn dadl frwd, pobl na chyfarfyddasant erioed o'r blaen, ac na chyfarfyddant byth eto. Yn fy nghyffiniau i yr oedd dadl boeth rhwng Gogleddwr a Deheuwr parthed gwir Gymraeg. "Iaith y De yw iaith y Beibl," ebe'r Deheuwr, ac os na fedrwch chi ddarllen y Beibl, dir, ble'r ych chi? Jowl yriod," meddai ym mhoethder ei sel ond chwarddodd y Gwyneddwr wrth glywed y fath amddiffyniad i iaith y Beibl, ac aeth y ddau'n ffrindiau mawr. Ond mewn rhannau ereill o'r babell, yr oedd aml i ddadl wedi troi'n frwydr; gwelais amryw frwydrau ffyn yn y meinciau cefn. a'r ergydion i gyd yn disgyn ar hetiau rhai nad oedd ganddynt ran na chyfran yn ddadl. Ni ddiangais yn hollol ddianaf fy hun, er fy mod yn agos i'r drws, yn ddistaw, ac yn barod i gytuno a phawb ym mhob peth; diolchwn, wrth glywed yr eirin a'r cnau a'r afalau yn rybedio oddiar fy het, mai hanner coron yn unig oedd wedi gostio i mi. Yr oedd pethau'n mynd yn waeth waeth, y gynulleidfa'n ferw drwyddi, a raid i Fabon sefyll i edrych arnynt heb fwy o obaith eu tawelu na phe'r edrychasai ar ferw tonnau'r môr? Na; gyda holl nerth ei lais y mae'n dechre canu "Hen Wlad fy Nhadau.' Darfyddodd pob ymgecraeth, distawodd pob digrifwch anheilwng, llonyddodd y berw, a dyna ugain mil o leisiau, mewn undeb gogoneddus, yn cydganu alaw sydd erbyn hyn, er ei saled, yn un o alawon cenedlaethol Cymru.

Ac oni ofnwn mai fel y dyrfa afreolus honno y bydd Cymru i gyd, yn llawn o ymgecraeth ffol ac ymbleidio chwerw, o grochfloeddio ffug wladgarwch dall a chyhoeddi barn anghyfiawn, o lefaru heb wybodaeth ac o weithredu heb ddoethineb? A beth a wneir a'r ynni effro anorchfygol hwn? Na cheisier ei fygwth, ni fuasai waeth i Fabon fygwth eisteddfodwyr Abertawe. Rhodder ffurf iddo a chroesawer ef. Trodd croch-waeddi a nadau tyrfa aflonydd yn fiwsig ardderchog pan ddechreuodd Mabon eu harwain. Try cynnwri y Deffroad yn ymdrech wir dros Gymru; defnyddir ei nerth i gyfoethogi hanes a meddwl ein gwlad, os cawn ein harwain yn iawn. Na feied ein harweinwyr ni am ein brwdfrydedd, eu lle hwy yw gofalu am waith iddo; os methwn a chael pen llwybr doethineb, cofied ein harweinyddion mai arnynt hwy bydd y bai, ac nid arnom ni. Rhaid defnyddio a sancteiddio'r Deffroad; ac os na wneir hynny, nis gellir dirnad pa ddrwg a wna. Mor fuan ag y rhoddwyd gwaith i dyrfa aflonydd yr Eisteddfod, peidiasant a'u cyffro, ac ni welwyd cystal trefn ar gynulleidfa tan y fath amgylchiadau erioed.

Yn ystod y distawrwydd ddilynodd y canu rhyfedd hwn, cododd cor Caernarfon ar ei draed, a dyna'r ugeinmil cantorion yn troi'n ugeinmil o feirniaid astud. A chyda hynny hefyd daeth cysgodau cymylau drosom, a dechreuodd to'r babell ysgwyd ac ocheneidio wrth ein pennau. Pan oedd y cor a'r gynulleidfa newydd ddod i gydymdeimlad a'u gilydd, disgynnodd y gwlaw yn genllif trystfawr, ac yr oedd y cor mawr ymron yn anghlywadwy. Dechreuodd llian y to ddiferu hefyd, dyferion bras yn taro at groen bob ergyd, a thybiwn fod preswylwyr y meinciau blaenaf mor wlybion ag y medrai dwfr eu gwneyd. Yn ystod y canu a'r dymhestl gwelid pobl wlybion yn cerdded hyd y llwyfan rhwng y gynulleidfa a'r cor. Yr oedd y bobl yn rhy astud i holi ai'r Tywysog Henry o Fattenberg a'i gwmni oedd yno; nid oeddynt yn malio mwy mewn tywysog nag a faliai'r dymhestl,—

"What care these roarers for the name of king?"

Yr oedd dyferynau mawrion oer yn rhedeg i lawr rhwng fy nghrys a'm cefn, a gadewais y babell newydd i gor Caernarfon orffen canu. Pan oeddwn ar ganol ymlwybro trwy'r mwd clywn floedd uchel yn y babell,—croesaw, debygwn, i un o gorau'r De. Eis at un o'r drysau, a gwelwn wynebau duon gwyr byrion y Rhondda lond y llwyfan yn dechre canu. Nid oedd bosibl mynd i mewn yn ol, ac ni chlywais y corau ereill. Ymhen oriau wedyn gwelais y bobl yn dylifo allan, pawb yn datgan ei farn am y canu a'r feirniadaeth. Cyfarfyddais Jenkins yn prysuro ymaith wedi cythlwng mor hir, deallodd beth ddymunwn wybod,— Llanelli'n gyntaf, Caernarfon yn ail, cystadleuaeth ardderchog."

Nid oeddwn yn brydlon yn y cyngherdd nos Fercher i glywed oratorio Gounod, ond yr oedd digon o le. Yr oedd y meinciau'n wlybion, ac y mae mor anodd i gerddor roddi mwynhad i ddyn gwlyb ag ydyw i bregethwr "achub dyn ag anwyd o'i draed." Symudai'r dyrfa'n aflonydd o gwmpas, yr oedd llawer o fynd allan a dod i mewn; ond peth tarawiadol iawn oedd gweled y dyrfa'n llonyddu ac yn distewi pan godai Mary Davies ar ei thraed.

Pan ddynesais at y babell fore dydd Iau, trwy wlithwlaw, clywn swn morthwylion dirif y tu mewn, fel pe buasai yno gystadleuaeth seiri Cymru; ac yr oedd torfeydd yn prysur ymgronni o gylch y drysau; a phan agorwyd, gwelem fod pob ol difrod wedi ei glirio ymaith. Ar y llwyfan yr oedd Lewis Morris, yn son mewn syndod am olygfa ryfedd doe: y Tad Ignatius, yn grynedig ofnus nas meddai ddigon o lais, wedi siarad drwy'r Amerig, i areithio heddyw; hen Americanwr pedwar ugeinmlwydd, wedi rhoddi ysbrigyn derw ar fron y mynach ac ar fron pawb o'i gwmpas; Athan Fardd, arweinydd y dydd, yn bryderus, hwyrach, a wrandawai'r glowyr ar ei lais; Syr Hussey Vivian, yn ymsynio beth ydyw cenedlaetholdeb; llu o feirdd, o bregethwyr, o bersoniaid, ac o bob tylwyth o lenorion. Hir iawn, a sech, oedd araeth Syr Hussey, a gorfod i Athan Fardd godi ei lais tanbaid droion i gael gosteg iddo. Eto yr oedd awdurdod yn lleferydd yr hen wladweinydd,—

"

Yr wyf yn credu yn ein gallu meddyliol; y mae heb ei ddadblygu a'i ddisgyblu hyd yn hyn, ond pan gawn addysg, bydd Cymru, fel yr Alban, yn allu trwy'r byd."

Pan dawodd o'r diwedd, bu mawr englynu i'r flywydd; ac, wrth gwrs yr oedd "Vivian" yn "vwy vwy" ymhob un o'r bron.

Yr oedd yr ystorm a'r glowr—eu heisteddfod hwy oedd Eisteddfod 1891,—wedi cael llawer o'u ffordd eu hunain hyd yn hyn; ond gwelid heddyw y ceid mwy o dawelwch nag o'r blaen. Cododd Cadfan ei bereidd-lais, wedi englynu i'r llywydd, i adrodd englyn arall i'r bechgyn sy'n ysmygu draw ar gwrr y babell." Yr oedd yr englyn yn fwy chwerw bob llinell, ac erbyn i'r bardd ddod i'r llinell olaf,—"gwehilion pob gwehelyth," yr oedd y catiau wedi eu cadw, a phellder rhwng yr ysmygwr a'r cwmwl mŵg oedd yn prysur ddiflannu uwch ei ben. Ni bu ysmygu mwy. Ond wedi i Ddyfed Lewis ganu can yr Eisteddfod, wele, yr oedd pobl meinciau blaena'r trydydd dosbarth yn sefyll ar eu traed, neu'n eistedd ar gefnau'r meinciau; a chlywid cwynian chwerw o'r tu ol iddynt, cwynfan rhai'n gweled dim. Areithiodd Athan wrthynt, a than ei araeth, llithrai'r dorf yn araf i lawr; a phan eisteddodd yr olaf, rhoddodd Athan y fendith ar ei araeth drwy droi at y llywydd a dweyd, Boneddigion yw pobl fy ngwlad i, syr, bob un." Waeth heb fygwth y glowr, ond mor fuan ag y tybio Shoni yr edrychir arno fel boneddwr try'n foneddwr yn y fan.

Wedi canu penillion, wedi beirniadaethau a chystadleuaeth celf a thraethawd a chan, wedi aml ochenaid gwynt yn nen y babell ac ofni tymhestl arall, daeth dau o'r gloch ac amser cadeirio'r bardd. Erbyn hyn yr oedd y beirdd wedi llenwi'r llwyfan, wedi ymffurfio'n hanner cylch o amgylch Clwydfardd a'r gader, gan edrych tua'r gynulleidfa anferth, a dyfalu pa fardd newydd ddoi i'w mysg o'r miloedd. Y tu ol i'r beirdd, ar wahan, safai Syr Hussey Vivian, Lewis Morris, John Rhys, a Mrs. Rhys. Ar un ochr i'r hanner cylch beirdd eisteddai Dr. Parry; ac ar yr ochr arall yr oedd Mary Davies yn eistedd a'i chwaer yn sefyll wrth gefn ei chader, group prydferth iawn. Er fod Hwfa Mon yn bur hir yn darllen y feirniadaeth, ac er y clywid aml arwydd ystorm, yr oedd rhyw ddistawrwydd rhyfedd wedi syrthio ar y dyrfa. Pan waeddodd Gurnos,—"Os yw yma atebed," aeth y distawrwydd yn ddyfnach byth.

Clywyd "Ydyw" grynedig o rywle, a dyna hi'n ferw gwyllt drwy'r miloedd, pawb yn troi at ei gymydog, yn amheu mai efe oedd y bardd. Dacw Hwfa Mon a Dyfed yn disgyn o'r llwyfan. ac yn mynd i fan ymysg y bobl lle'r oeddis wedi gwneyd cylch o amgylch un gŵr, fel pe buasai wahanglwyfus. Dacw hwynt yn dod yn ol, gan arwain gwr tal, teneu, myfyriol, a'i wallt yn dechreu britho, tua'r gader. Safodd dan y cleddyf, ac yr oedd y beirdd byrion yn cael tipyn o drafferth estyn eu dwylaw at ben gŵr gymaint yn dalach na hwy. Daeth "gwaedd uwch adwaedd" fel taran oddiwrth y dyrfa, yn ateb yr archdderwydd fod heddwch, a daeth heulwen o flaen cawod i chware ar wyneb y bardd wrth ei gyhoeddi'n fardd cadeiriol Eisteddfod 1891, yng ngwyneb haul a llygad goleuni.

Yr oedd y cadeirio'n deilwng ac yn fawreddog, ac yn beth gofia plentyn am dri ugain mlynedd ac ychwaneg. Eto yr oedd yno bethau digrif, er nad yn anwahanol gysylltiedig a'r seremoni. Un peth digrif ddigon oedd gweled sel gweithwyr Seisnig,—pobl y babell,—yn curo eu dwylaw wrth weled arwain y buddugwr i'r llwyfan; ond heb wybod dim am beth yr anrhydeddid ef. Peth arall oedd clywed atebiad Pedrog i wr y wasg a ofynnodd iddo dros gefn y gader ym mha le y ganwyd ef,—"Wn i ddim yn wir, 'dydw i ddim yn cofio, 'dydw i'n cofio dim byd."

Pan gododd Mary Davies i ganu cân yr Eisteddfod, ymddistewodd y dorf eilwaith. Gydag iddi orffen daeth cawod drom o wlaw; ac yr oeddwn i'n prysuro o'r babell pan glywn hwrê hir o groesaw i Ddavid Randell. Yr oeddwn wedi blino gormod i ddod yn ol; ac ni chlywais Lucas Williams yn canu am fedd Llywelyn yng nghyngherdd y nos.

Yr oedd dydd Gwener, diwrnod ola'r Eisteddfod, yn ddiwrnod heulog braf yng nghanol wythnosau o dymhestloedd gwlawog; ac ym mhlith holl ddyddiau'm bywyd, cyfrifaf ef ymysg y dedwyddaf rai. Cofiaf am dylwythau'r Cymry wedi ymgyfarfod mewn heddwch, ar fin bau prydferthaf Cymru, a than wenau'r haul. O'r llywyddion, nid oedd Stanley wedi dod, ac yr oedd Lewis Morris wedi diflannu. Gwnaeth Coke Fowler gadeirydd da; dywedir ei fod wedi bod yn gyd—fuddugol a glowr mewn Eisteddfod flynyddoedd yn ol. Nid yw Mr. Fowler yn Gymro ei hun. ond, oddiar wybodaeth eang o ardaloedd gweithiol y De, y mae wedi talu llawer teyrnged onest inni. Dyma'r unig le yn y byd," meddai, "lle cynhyrfir teimladau tyrfa mor fawr gan bopeth sydd dda, a dim sydd ddrwg. Coleg symudol ydyw'r Eisteddfod, ac ni wn am ddim i'w gymharu a hi ond Campau Olympaidd Groeg." Bu englynu brwd i Mr. Fowler hefyd, ac ni themtiodd cynghanedd neb i ddweyd ei fod yn "ffaelu" gwneyd dim. Pedr Mostyn oedd yr arweinydd, yr oedd gwawdio mawr ymysg y Shionis ar ei ymdrech i ddweyd "nawr," a bloeddid am Mabon o hyd. Un bore, nid wyf yn cofio pa un, bu ymgom fel hyn, ac y mae'n esiampl o lawer o'i chyfryw. Yr oedd Iago Tegeingl yn sefyll ar y llwyfan a'i bapur englyn yn ei law,—

Shoni draw: "P'in iw e?"
Arweinydd: "Iago Tegeing!."
Shoni: P'in yw e. Mabon?"
Mabon: Iago Te—eg—eingl—y, englynwr."
Shoni: Englyn 'te! Ma swn englyn yn i enw fe.'

Yr oedd yr haul yn sychu'r babell a'r parc, a'r bobl yn llenwi'r eisteddleoedd pan ganai Lucas Williams "Longau Madog;" ond gorfod i mi ymadael, ac erbyn i mi ddod yn ol, yr oedd y gystadleuaeth corau meibion ar ddechre, ger bron ugain mil o feirniaid heblaw'r pum cerddor ar llwyfan.

Cor Brynaman ddechreuodd, cor o weithwyr yn geirio'n ardderchog, ond gyda lleisiau braidd yn gras. Ar eu holau daeth cor Caerfyrddin, cor o bobl a golwg mwy bonheddig arnynt, siopwyr y dre a meibion ffermwyr y gymydogaeth. Yr oedd tân yn eu datganiad o "Ddinistr Gaza," ond collasant lawer o nerth drwy ganu'r "Pererinion" yn Saesneg. Er hynny, yr oeddynt wedi swyno'r gynulleidfa, ac yr oedd lluoedd y cefn wedi meddwi ar fiwsig. Bu'r cor nesaf braidd yn hir yn dod i fyny, a mwynhai'r dyrfa ei hun drwy roi'r cyweirnod, a gallesid clywed eu "Doh" am filldiroedd. Cyn hir dechreuodd y dorf ganu eu hunain, a chawsom ddadganiad o "Hen Wlad fy Nhadau" gan gor o ugain mil.

Ond dacw gor Treorci'n barod; dynion ag ol chwys llafur ar eu gwynebau. Wrth wrando arnynt yr oedd y gynulleidfa'n ddistaw fel y bedd; daeth Mabon i mewn heb yr un floedd i'w groesawu, ac ni fedrai Morien gael neb i ddadlu am y cysylltiad rhwng y Logos a'r Maen Llog. Yr oedd y dyrfa mewn ysbryd nefolaidd erbyn hyn, a chyda fod y cor wedi gorffen, dyna'r ugeinmil eto'n canu Huddersfield," ac Emlyn Jones yn eu harwain.—

"Pa Dduw sy'n maddeu fel Tydi,
Yn rhad ein holl bechodau ni?"

Gelwid ar Emlyn Jones a Mabon i arwain canu tôn arall, ond cyfeiriai Mabon at gor Glan Tawe, a gwaeddai, Mae rhain yn barod, mae'r cor hyn yn barod!" Yr oeddwn i bron a newynu erbyn hyn, ac o babell bwyd y clywais gor Glan Tawe. Pan ddois yn ol, yr oedd y gynulleidfa'n canu "Aberystwyth gydag eneiniad mawr,—

"Beth sydd imi yn y byd,
Ond gorthrymder mawr o hyd."

Wedi'r canu rhoddwyd graddau'r orsedd. Clywais waeddi enw hen Americanwr, mab pedwar ugeinmlwydd ddaeth o'r Amerig i'r Eisteddfod, ond nid oedd yno yn y cynhulliad hyfryd, ar ol ystormydd a dychryn y dyddiau cynt.

Ymdaenodd distawrwydd dros y dyrfa anferth wedyn pan welwyd cor anorchfygol Pont y Cymer yn barod. Glowyr oeddynt, ac y mae'n anodd gennyf gredu fod gwell cantorion yn y byd. Yr oedd tân a mynd yn eu dadganiad o ddernyn La Rille yn anesgrifiadwy; a phan ddaethant at ddernyn Dr. Parry—

"Wedi pererindod bywyd,"

dernyn yn llawn adlais o alawon melusaf y Cymry, yr oedd y gynulleidfa bron a thorri allan i orfoleddu. Yr oedd y pum beirniad fel pe wedi anghofio eu hunain, yr oeddynt wedi troi at y cor, gyda gwynebau dan wên boddhad. "Grand, passionate, inspiring," ebai'r estron Signor Randegger am y canu hwn. Hawdd y gallaf gredu fod dagrau yn llygaid Dr. Parry. yr oedd yn awr buddugoliaeth iddo. Yr oedd ugain mil heblaw Signor Randegger, Dr. Parry, David Jenkins, John Thomas, a Mr. Shakespeare wedi eu swyno gan y canu hwn—arhosodd y distawrwydd yn hir wedi i'r cor dewi, ac yna ymdorrodd bloedd canmoliaeth y dorf.

Wedi cael gosteg, cymerodd Major Jones y gader, anerchodd ni fel hoff gyd-wladwyr." a diolch i Unol Daleithiau'r Amerig am anfon Cymro i gynrychioli'r Weriniaeth fawr yn nhref fwyaf Cymru, ac yna eisteddodd, gan edrych yn syn ar y dorf. A chyhoeddodd Gurnos, ar englyn, ei fod yn ddyn a'i ddawn fel naw neu ddeg. Cyn i weithwyr plwm Port Talbot fod yn barod, canodd Llinos Sawel "O peidiwch a dweyd wrth fy nghariad" yn swynol odiaeth. Y corau oedd yn tynnu sylw pawb—yr oedd yn rhaid craffu i weled Morien brysur yn gwibio hyd ael yr esgynlawr, a Chlwydfardd hen a'i bwys ar ei ffon. Daeth dau gor Aber Dâr, y naill ar ol y llall, a chlywid eto ryw furmur gorfoleddus drwy'r dorf. A chlywid "Hen Wlad fy Nhadau" yn ymgodi o gylch meinciau dyrchafedig y cefn, fel cwmwl mynyddoedd.

Ni fum erioed mor falch o Gymru, tybiwn ein bod yn ben gwlad y byd. Ond, pan ddel balchder, fe a ddaw gwarth. Am gyfansoddi miwsig i offerynau tant, dywedodd Signor Randegger nad oedd ond un yn deilwng, a fod "ei gof yntau'n rhy gryf i gael gwobr am beth gwreiddiol." Tybiwn fod y geiriau amlwg oedd ar y llwyfan,— Môr o gân yw Cymru i gyd," —yn gwrido ac yn myned yn llai lai. Medrwn ganu'n ardderchog, ond canu caneuon wedi i ereill eu gwneyd. Er hyn, down ninnau'n gyfansoddwyr; pan fo cenedl yn galw am ddyn, y mae'r dyn hwnnw'n siwr o ddod. Ysbryd cenedl sy'n gwneyd cerddor a bardd. Dacw lowyr y Rhondda ar eu traed. Y mae'r canu'n oerach nag o'r blaen a chollwyd grym "Y Pererinion" trwy gymeryd y geiriau Saesneg. Cor Treherbert oedd yr olaf,—creodd ddistawrwydd a gorfoledd yn y dorf. Yn y distawrwydd hwnnw cododd Hwfa Mon, ac mewn llais fel adlais y canu, dywedodd wrthym am Eisteddfod Chicago yn 1893. Ni fedrid gadael Cymru heb Eisteddfod, rhaid ei chynnal ym Mhont y Pridd, ond anfonir beirdd a chantorion dros y Werydd. Testyn y gader fydd,—

"IESU, o Nasareth."

"Amen" ebe rhywun yn fy ymyl, o eigion ei galon. Ond gwrandewch ar y llais udgorn

arian,—

"Bydd clustiau'r gorllewin, bydd clustiau'r dwyrain, bydd clustiau'r gogledd, bydd clustiau'r de, bydd HOLL GLUSTIAU'R DDAEAR yno'n gwrando."

Wedi i Eifionnydd ddweyd rhywbeth yng nghanol twrw, wele feirniaid arwrgerdd y goron ar y llwyfan. Watcyn Wyn ddarllennai'r feirniadaeth, yr oedd Dafydd Morgannwg wedi mynd adre, ac nid oedd Elis Wyn o Wyrfai wedi dod or Gogledd. Yr oedd y feirniadaeth yn hir, ond yr oedd y dyrfa'n berfiaith dawel, oherwydd fod yr hin yn braf, a llais Watcyn Wynn yn glir, a'r iaith Gymraeg wrth eu bodd. Pan waeddwyd am wir enw'r buddugwr, bu cyfiro ac edrych o gwmpas fel cynt hyd nes y cododd gwr tal du ei wisg, dan wenu yng nghyffiniau'r llwyfan. Yr oeddwn yn digwydd bod yng nghanol nifer o hen fyfyrwyr Aberystwyth, a mawr oedd eu llawenydd pan welsant mai David Adams, bardd eu coleg, a safai ar ei draed. Daeth Llew Llwyfo a Gwynedd o fysg y beirdd i'w geisio; gofynnodd Clwydfardd fel cynt a oedd heddwch, a chafodd ateb taranllyd fod; ac yna gosododd Cadfan y goron arian ar ben y bardd buddugol. Ychydig feddyliai Oliver Cromwell, wrth basio Abertawe ar ei hynt yn erbyn Poyer a Chymry'r de, y coronid bardd ar lan y môr ymhen llai na dau gant o flynyddoedd am ganu arwrgerdd Gymraeg iddo.

Gyda bod y coroni drosodd, ymadewais i â'r babell, er mwyn cael bod mewn pryd i glywed "Emmanuel" Dr. Parry y nos. Yr oedd y babell yn orlawn, a'r dadganiad yn ardderchog. Un peth oedd yn ol,—dylesid canu'r oratorio yn Gymraeg. Er cystal cyfieithydd ydyw Dewi Mon, nid oes gyfieithiad fedr gadw grym a symlrwydd Gwilym Hiraethog; ni fuasai waeth ceisio gwisgo hen wladwr mewn dillad dandi'r boulevard yn lle brethyn cartref. Ac ar gyfer y geiriau Cymraeg, mae'n amlwg, y mae'r oratorio wedi ei chyfansoddi. Yr oedd y dadganiad yn rhoddi tymer addoli i'r dyrfa, blodeued cerdd Cymru i lawer oratorio o'i bath. A chyda thôn gynulleidfaol Gymreig, tôn anwylir ym mhob tref a chwm, y darfyddodd Eisteddfod Genedlaethol 1891.

Y noson honno, tra'r oedd y miloedd yn troi adre, i'r chwarel a'r lofa a'r gweithdy a'r amaethdy, meddyliwn fod rhai nodweddion yn perthyn i Eisteddfod Abertawe y dylid eu gwybod a'u cofio.

1. Cymerid dyddordeb mawr yn y delyn, ac yn y dadganu gyda hi. Ond sylwer mai bechan iawn yw'r wobr am ganu'r hen delyn hudolus,' llai nag am ganu'r piano a'r crwth. Pan gofier fod yn rhaid i'r telynor gario ei delyn gydag ef a fod telyn dda'n costio llawer, pan gofir hefyd y dylid gwneyd ymdrech i ddwyn y delyn yn ol i Gymru—gwelir y dylai'r Eisteddfod ddyblu a threblu'r wobr hollol anheilwng a gynhygir y naill flwyddyn ar ol y llall am ganu'r delyn.

2. Cymerwyd dyddordeb mawr yn y prif draethodwr gwrandawodd y miloedd yn astud ar yr archddiacon Griffiths yn dweyd hanes yr heddgeidwad llafurus enillodd y wobr o hanner canpunt am draethawd ar hanes llenyddiaeth Gymreig rhwng 1650 ac 1850. Yn yr hen amser yr oedd yn bwysig rhoddi gwirionedd ar gân, er mwyn ei gofio a'i gadw, ac yn yr amser hwnnw yr oedd barddoniaeth yn bwysicach na rhyddiaeth ond, erbyn heddyw, y mae arddull ryddieithol ac athrylith at ysgrifennu rhyddiaeth mor bwysig a doniau'r bardd. Y wasg, y pulpud, y llwyfan,—onid ar ddawn rhyddiaeth y dibynna eu gallu? Yr wyf yn disgwyl y bydd pwyllgor Eisteddfod Pont y Pridd yn cynnyg coron i brif draethodwr y flwyddyn 1893 yn ogystal ag i'w phrif fardd.

3. Yr oedd Eisteddfod Abertawe'n hollol ddemocrataidd; nid ar bresenoldeb tywysog nag arwr y dibynnai ei llwyddiant, ond ar gariad glowr y Deheudir at gelf a chân. Daeth y Tywysog Henry o Fattenberg yno, heb ei ddisgwyl yr wyf yn meddwl; ac yr oedd yn dda gan bawb ei weled, cafodd groesaw iawn. "Faint yn llai o bobl fuasai yma, pe heb y Tywysog," gofynnais i un o aelodau'r pwyllgor. "Un," oedd yr ateb.

4. Bu Eisteddfod Abertawe yn llwyddiannus ymhob ystyr yng ngwyneb anhawsderau mawrion. Parodd y tymhestloedd enbyd lawer o golled ac anghysur a phryder i'r pwyllgor ac i'r rhai ddaeth i'r babell. Ond ni welais dro anfoneddigaidd ar neb. Rhaid rhoddi llawer o'r clod i ysgrifennydd medrus a diflino'r Eisteddfod. Ond ni fuasai ei waith yntau mor hawdd oni bai am foneddigeiddrwydd a chydymdeimlad y glowr, hyd yn oed pan oedd yn methu cael lle i eistedd ac yn wlyb at ei groen. Clywais droion mai creadur garw ac anhyblyg ydyw glowr y Deheudir; ond, wedi ei weled yn ei Eisteddfod ei hun, bydd gennyf barch iddo tra byddaf byw. Ac er yr enbydrwydd a'r gwlaw, cofiaf am Eisteddfod Abertawe fel moddion addysg a dedwyddwch i filoedd o Gymry.

V. YR HEN DY GWYN

YN yr haf, flwyddyn neu ddwy yn ol, yr oedd dau o honom yn gadael dyffryn Tywi, ac yn meddwl am ardaloedd ereill grwydro drwyddynt. Yr oeddym yn gwmni newydd, ac heb gwbl ddysgu ffyrdd ein gilydd. Yr oedd fy nghydymaith heb ddeall anhebgor cyntaf teithydd,—sef medru bydio gyda hynny o glud fedrir gario ar ysgwydd wan. Felly yr oedd yn cyd—symud â ni gist, ysgafn iawn o'i maint anferth; ac oherwydd yr amrywiaeth mawr oedd ynddi, galwem hi'n arch Noa. Gallai Noa fod wedi ei chael yn arch, a gallesid ei chladdu cyn i'r diluw orffen sychu, o ran dim defnyddioldeb a fu i ni.

Ond i ble yr aem? Mynnai'r naill fynd i Lanfihangel, yr oedd wedi bod yn ddigon segur i ddarllen y dim melodaidd ysgrifennodd Jeremy Taylor, fu'n llechu yno yn amser y Rhyfel Mawr. Mynnwn innau ddilyn afon Cothi, gan led obeithio y medrwn ddarganfod cartrefi rhai o enwogion aml y fro hanesiol honno. Ond torasom y ddadl drwy benderfynu mynd i Landdowror, ac aros yn nhawelwch cartref Gruffydd Jones, o fendigedig goffadwriaeth, dros y Sul. Caem weled yr eglwys lle rhoddid dimeuau'r Cymun at addysg Cymru.

Cymerasom y tren i orsaf Caerfyrddin, gan feddwl disgyn yn St. Clears. Gofynnais i rywun safai gerllaw a oedd y tren yn mynd y ffordd honno. "Ydyw," oedd yr ateb, "y mae'n mynd y ffordd honno." Ni ddeallais ystyr y pwyslais nes gweled fod y tren yn rhuthro'n wyllt drwy orsaf St. Clears; a chyn i ni orffen edrych ar ein gilydd mewn syndod dig, yr oeddym yn Hendy Gwyn ar Daf. Disgynasom ar ffrwst, a llusgwyd arch Noa allan. Wedi penderfynu rhoddi cyfraith ar gwmni'r ffordd haearn, a setlo ar dwrnai a bargyfreithiwr, a chael olew ar ein teimladau cynhyrfus o gydymdeimlad hen wraig oedd wedi dod yno o'i hanfodd, drwy gamgymeryd y tren, edrychasom o'n cwmpas am rywun a'n hyfforddiai tua Llanddowror. Heb fod yn nepell cawsom dy gyriedydd. Pan welodd hwn ein clud, dywedodd ddigon am y ffordd i beri i ni roi'r meddwl am fynd yno heibio. Gwnaethom ein meddwl i fyny i fynd ymlaen i'r gorllewin i rywle, gan adael i ffawd benderfynu'r lle. Ond cyn i'r tren nesaf ddod yr oedd gennym amser hir i aros, a dim byd i'w wneyd nac i'w weled. Dim byd, a minnau yn yr Hen Dy Gwyn ar Daf! Yma unwaith bu un o dai hela brenhinoedd Dyfed: ac yma, fil o flynyddoedd yn ol, gwelwyd dysgedigion o wahanol fannau o Gymru yn ymgyfarfod, ac yn rhoddi cyfreithiau Cymru mewn ysgrifen, dan arweiniad Hywel Dda. Ofer i ni oedd chwilio am yr Hen Dy Gwyn, ond rhoisom dro drwy'r ardal er hynny.

Cyfarfyddasom a llyfrwerthwr deallgar sy'n byw yn y wlad honno, a dywedodd fod hen fynachlog heb fod yn bell. Troisom ar y dde o ffordd Caerfyrddin wrth gapel, a cherddasom drwy gaeau hyfryd gweiriog nes dod i olwg dyffryn caead bychan. Yr oedd tawelwch mwyn yn gorffwys arno, dyma'r lle ddewisai mynachod y Canol Oesoedd, a gwyddent hwy'n dda beth oedd cysur, er eu bod yn proffesu dirmyg tuag at y byd darfodedig hwn. Y mae afonig fach yn murmur yn ddedwydd heibio adfeilion yr hen erddi. Daeth gŵr gwynebgoch trwynsur o rywle, a dim golwg ateb cwestiynau arno. Edrychai fel pe buasai'r holl fyd wedi ei wneyd o bwrpas iddo ef gael bod ynddo. Arosasom am ennyd i fwynhau'r olygfa ar y gerddi gerllaw, hyd nes y daeth hen wr heibio, yn arwain helgwn. Pan ofynasom a oedd gan berchennog y lle hyfryd lawer o dir, atebodd,—"Os, ôs, getin mowr o dir." Wrth droi'n ol meddyliem, pe gwyddai'r diwygwyr beth a wneid ag ystadau'r mynachlogydd., na fuasent mor chwerw yn erbyn yr hen fynachod rhadlon groesawai bererinion yn yr hen amser. A chyfrif eu holl wendidau,—ie, pe credem J. A. Froude am danynt, daeth eu gwaeth yn eu lle.

Daethom i'r orsaf yn ol heb benderfynu i ble yr aem. Gwelsom yno focs hirgul wedi ei osod ar ei ben. Yr oedd agen yn agos i'w ben uchaf. ac yr oedd dyn y tu fewn yn gwerthu ticedi. O amgylch y sefydliad hwn yr oedd tyrfa o bobl eithaf tarawiadol, yn aros am i'r agen agor. Yn nesaf un at y twll yr oedd gwraig a het hen ffasiwn, a rubanau duon yn disgyn oddiwrth yr het o bobtu ei gwyneb, gan wneyd iddi edrych fel ysbryd. Yn nesaf ati yr oedd pregethwr mewn côt ucha fawr a het sile a chadach cynnes, a'i wallt fel yr eira, a gofynnodd rhywun digri oedd yno ai efe oedd Ioan Rhagfyr. Yno hefyd yr oedd ffermwr cefngrwm, mewn hosanau bach, a'i fryd ar lawr y byd hwn.

Yr oedd yno ffermwr arall wedi torri gormod ar ei syched, ac yr oedd yn amlwg fod holl allu ei lygaid wedi croes grwydro i'w dafod. Yr oedd yno hefyd hen wr tew, ac ychydig o lun ar ei wyneb, fel pe buasai rhywun wedi dal dyn main a'i rowlio mewn eira.

Gofynasom i ba le y cyrchai'r holl bererinion hyn, ac atebwyd ni mai ar hyd y ffordd haearn newydd i Aberteifi. Yn y fan, gwnaethom ninnau ein meddwl i fyny yr aem hyd y ffordd haearn newydd i Aberteifi. A gwell i mi ddweyd hyn yn y fan yma,—ni chawsom erioed fwy o fwyniant nag wrth ddilyn afon Teifi, o Landudoch i fyny i'r mynyddoedd sydd o gwmpas Ystrad Fflur.

Stopiodd y tren yn Llanfalteg, a sylwasom ar lygaid duon a chrwyn iach a Chymraeg tlws y bobl. Yr oeddym yn gadael y wlad wastad, fu gynt yn hollol Seisnig ond sydd yn awr wedi dod yn Gymreig yr ail waith, ac yn tynnu i fyny tua'r bryniau. Erbyn dod i Login,—nis gwn ai dyma ffurf iawn yr enw, y tebyg yw mai nad e, oherwydd dyna'r enw sydd ar orsaf y ffordd haearn, yr oedd golwg henafol a dedwydd iawn ar bopeth. Yr oedd bwthynod to brwyn clyd mewn hafanau cysgodol; prin y maent wedi dechreu codi tai brics i weithwyr ger gorsafoedd y ffordd newydd. Wrth fyned i fyny'r afon, gwelem ambell dŷ llaid, gyda tho llaes hir fel mwdwl o wair. Wedi pasio Llanglydwen daethom hyd ffordd drwy'r garreg i wlad uchel agored. Dyma Rydowen, a mawnogydd a brwyn gleision, a'r terfyn rhwng sir Gaerfyrddin a sir Benfro. Yn Llanfyrnach yr oedd pobl yn edrych ar y tren fel pe buasent wedi dod ar daith i'w weled, a pheth newydd oedd yn eu hardal hwy. Yr wyf yn cofio fy hun yn mynd i weld y tren yn dod am y tro cyntaf drwy ein hardal ni. Gwelais ef yn dod yn y pellter; ond ni chefais olwg agos arno, oherwydd daeth ofn mawr arnaf, a rhedais nerth par o glocs, at a tangent i linell gyrfa'r tren. Tybiasom ein bod yn agoshau at y môr yn awr, wrth weld toau'r tai wedi eu gwyngalchu. Yn y Glog, rhoddodd rhywun y syniad mai "Glogue" ydyw gwir enw'r lle ym mhenglogue rhyw Sais enwogue,— gwelem gaeau gwrteithiedig i grib y mynydd. Yr oedd y dyffryn yn dechreu culhau'n awr, a'r ffordd haearn yn troelli fel sarff. Ai'r afon yn llai lai, a'r wlad yn harddach, harddach. Troisom i gwm mynyddig, gan adael tai bychain lân o'n holau hyd nes nad oedd yno ond prin le i'r nant, y nant y mae cymaint o frenhinesau'r weirglodd a llygaid y dydd yn edrych arni. Dyma ni ar ben y tir, ac yn fuan iawn cawsom olwg ogoneddus ar hen arglwyddiaeth y Cemaes yn sir Benfro. Yr oedd gwastadedd eang o'n blaenau, hyd lan y môr, a mynydd du llwm yn taflu ei gysgod arno. Nid rhyfedd fod Martin o'r Tyrau wedi blysio y fath wlad, ac wedi codi Trefdraeth ar y lan draw. Ond dyna ni'n colli'n golwg ar sir Benfro wrth droi am y mynydd. Ac wele ddyffryn arall harddach nag o'r blaen, fel pe buasai Ceredigion am ddangos ei rhagoriaeth ar sir Benfro. Ym Moncath yr oeddym ar ben gwlad uchel, a dim yn y golwg yn uwch na ni ond y mynydd du llwm. Oddiyno aem i lawr gydag ochrau glyn dwfn, nes y gwelem ddau o dyran Castell Cilgeran yn gwgu arnom, dros y pentref, oddiar ochr serth afon Teifi.

Yr oeddym wedi blino tipyn erbyn hyn, a da oedd gennym gael ein traed ar orsaf Aberteifi. Aethom i gerbyd clonciog, a ffwrdd a ni dros y bont, ac ar i fyny i'r dre. Ein hunig ofn oedd gweld arch Noa yn disgyn oddiar ben y cerbyd ar y llu o blant oedd o gwmpas y cerbyd. Carlamodd y ceffylau heibio hen le'r castell, ac arhosodd ym mhrif heol Aberteifi o flaen y Black Lion. Cawsom le cysurus i aros yn yr hen westy hwn. Ystafelloedd duon trymaidd sydd ynddo, yn gwneyd i ni feddwl am ustusiaid a chinio rhent.

Yr oedd wedi nosi pan aethom allan i weld y dre, ac yr oedd lleuad newydd yn taflu goleuni gwannaidd ar Aberteifi. Ystryd hir hyd gefnen a welsom, a phob modfedd o dir ar ochr yr afon wedi ei lenwi. Yr oedd golwg ddieithriol iawn ar y toau gwynion, fel pe buasai newydd fwrw eira arnynt. Anadlai awel dyner o'r môr, ac arogl gwair cynhaeafus ar ei hedyn, wrth i ni grwydro yn ol a blaen ymysg y bechgyn a'r genethod oedd yn ymddifyrru yng nghwmni eu gilydd ar noson mor hyfryd. Cymraeg llithrig ryfeddol siaradent i gyd. Ac eto hysbyswyd ni mai Saesneg yw tri phapur newydd tref Aberteifi.

Yn y pen agosaf i'r orsaf, wrth dalcen y bont, gwelsom dŵr yr hen gastell. Buom yn edrych arno, gan gofio am yr ymladd enbyd fu yn y pant odditanom o dro i dro. Yr oedd yn bwysig iawn, gan ei fod yn gwylio'r ffordd i Geredigion a rhan ddeheuol y wlad y methodd y Normaniaid ei gorchfygu. Ynddo, yn 1107, y bu Cadwgan ab Bleddyn yn gwledda tywysogion ac yn noddi beirdd ar ddechreu deffroad llenyddol mawr y ddeuddegfed ganrif. Yma, medd rhai, y gwelodd Owen brydferthwch alaethus Nest,— ac o hynny daeth gofid i'r hen Gadwgan ac i Gymru i gyd. Ar fryn gerllaw, y Crug Mawr. y bu'r frwydr fawr rhwng Gruffydd ab Rhys ac Owen Gwynedd a'r Saeson, pan enillodd y Cymry fuddugoliaeth lwyr. Cofiodd daear y frwydr am y fuddugoliaeth honno, medd traddodiad; os gadewid arf neu arfwisg ar y maes yn y nos, byddai wedi ei falurio erbyn y bore. Ar y bont hon y bu Gerald Gymro'n pregethu Rhyfeloedd y Groes. Yn y castell acwy bu Eisteddfod glodus Rhys ab Gruffydd yn 1176, pan ddaeth holl feirdd Cymru yma. Wedi hyn bu Llywelyn yn ymosod ar y castell ac yn gyrru'r Saeson o'r dref; ac wedi cwymp ein Llywelyn olaf bu Edward, gorchfygwr Cymru, yn byw am fis yn yr hen gastell. Yn ystod y Rhyfel Mawr bu magnelau'r Senedd yn tanio ar y muriau hyn, hyd nes torrwyd adwy ynddo, ac y rhuthrodd y milwyr i mewn. Y mae'n ddigon tawel heno, nid yw'n ddychryn i'r wlad mwyach, y mae ei dyrau wedi syrthio a'i ddaeargelloedd wedi eu troi'n selerydd.

Bore drannoeth cawsom gwmni gŵr ieuanc deallus a wyddai am danom, ac aethom yn ei gwmni i weled y wlad. Pan ddaethom at y bont, nis gallwn lai na chofio am olygfa ryfedd welwyd yma yn 1188. Yr oedd archesgob Caergaint yn dod drwy Gymru i bregethu, a Gerald Gymro gydag ef. Ei neges oedd darbwyllo rhai i fynd i Ryfeloedd y Groes, i ymladd â'r anwir am fedd yr Iesu. Daeth y pregethwyr i Aberteifi, ac yno daeth Rhys ab Gruffydd, un o'r tywysogion hynotaf yn hanes Cymru, i'w cyfarfod. Wrth dalcen y bont hon y cyfarfyddodd y pregethwyr a'r tywysog. Deuent hwy o fynachlog Llandudoch, lle yr arhosasent y nos cynt; daeth yntau o'r castell.

Hawdd dychmygu am yr odfa gynhaliwyd ar y glaswellt acw. Wele Faldwin archesgob a Gerald archddiacon yn pregethu, a'r tywysog Rhys a'i ddau fab ymysg y dyria o wrandawyr. Bu arddeliad mawr ar y pregethu; ac ar y diwedd daeth gŵr ieuanc ymlaen i gymeryd y groes. Yr oedd ei fam yno yn ei weled yn myned ymlaen. Ei hunig fab oedd, a'i hunig obaith, ac yr oedd hi'n hen iawn. Tybiai'r pregethwyr fod ei geiriau wedi eu hysbrydoli.— "O Iesu anwyl," meddai, gan syllu'n ddyfal ar ei mab, yr wyf yn diolch o'm calon i ti am adael i mi ymddwyn y fath fab, mab yr wyt ti'n edrych arno fel un cymwys i'th wasanaethu."

Ar ol hwn, daeth gwr arall, gŵr gwraig. Ond cydiodd ei wraig ynddo gerfydd ei wisg, a rhwystrodd ef rhag myned ymlaen. Y nos honno clywodd y wraig lais dychrynllyd yn dweyd, Cymeraist fy ngwas oddiarnaf, am hynny cymerir oddiarnat y peth a geri fwyaf." Erbyn y bore yr oedd ei phlentyn wedi marw. Cymerodd y gwr y groes, a hi ei hun a wniodd yr arwydd ar ei lawes.

A dacw Barc y Capel, lle cododd y bobl allor i gofio am yr odfa honno. Ni raid i ni fynd yn ol i'r ddeuddegfed ganrif i chwilio am hyawdledd yn nhref Aberteifi; clywodd rhai sydd eto'n fyw hyawdledd yn ei sasiynau na chlywant ei debyg, feallai, byth mwy. Ond rhaid i mi brysuro ymlaen. Yr ydym am ddechreu ym mynachlog Llandudoch, wrth enau'r afon Dyfi. a dilyn y dyffryn i fyny i fynachlog Ystrad Fflur.

VI. LLANGEITHO

Cefais, yn hynod anisgwyliadwy, y fraint o fynd i Langeitho, i bregethu i gapel Daniel Rowland.

Nid oeddwn erioed wedi bod mor bell oddicartref, ac nid oeddwn wedi pregethu ond ychydig iawn. Yr oedd y syniad am esgyn i'r pulpud yn fy llethu bob amser, ni chawn hun i'm hamrantau y noson cynt na'r noson wedi pregethu. Tybiwn fod y bobl yn crymu eu pennau gan gywilydd drosof, wrth araf ddirwyn o'r capel ar nos Sul. Tybiwn y byddai'r blodau, fyddai weithiau yn ffenestr fy ystafell wely yn y cartrefi cysurus y derbynnid fi iddynt, yn troi eu gwynebau tua'r ffenestr oddiwrthyf. Ac eto. —eiddilyn gwan, gyda phob discord wedi ei gasglu i'm llais—tybiwn fod anghenraid arnaf i bregethu'r efengyl. A phan ddaethum i Aberystwyth, anfonid fi ambell dro i bregethu yn lle pregethwyr dorrai eu cyhoeddiadau yn ardaloedd mwyaf anghysbell Ceredigion. A rhywfodd, oherwydd marw neu ryw achos arall, yr oedd Sul gwag yn Llangeitho.

Pan ddaeth y gennad ataf, penderfynais yn y fan nad awn. Ond wedyn,—daeth meddyliau hunanol. Cawn ysgrifennu adref i ddweyd fy mod yn pregethu yn Llangeitho y Sul. Gwyddwn y byddai son am Langeitho ar yr aelwyd gartref,—am ei phregethwyr ac am ei sasiynau,—a llawer gwell fuasai gennyf fod yn llawenydd yr aelwyd ddistadl honno na mentro i le mor enwog i bregethu. Yr oeddwn yn cael tua phythefnos o rybudd, ac ni chefais bythefnos mor anedwydd erioed. Bum hyd lan y mor am ddiwrnodau, yn disgwyl drychfeddyliau: ond ni welais, mwy na'r gwas hwnnw oedd heb daflu'r cleddyf i'r dwr, ond y tonnau'n ymlid eu gilydd tua'r lan. Eis i wrando William Evans yn pregethu ar waith yr Ysgol Sul, oddiar y geiriau hynny.—"Bwrw dy fara ar wyneb y dyfroedd, a thi a'i cai ar ol llawer o ddyddiau." Wedi cymharu fy mhregeth fy hun ar bregeth honno, tybiwn mai hyfdra ynfyd ynnof fi oedd mynd i bulpud. Darllennais Ad Clerum Dr. Parker, a llanwodd hwnnw gwpan fy anedwyddwch i'r ymylon,—condemniodd bron bob peth oedd gennyf yn fy mhregethau.

Ond daeth y prydnawn Sadwrn o'r diwedd. Chwi nad ydych yn bregethwyr, diolchwch na roddwyd arnoch yr anghenraid o wynebu cynulleidfa ar ddydd gorffwys y greadigaeth. Cychwynnais gydag efrydydd arall o Aberystwyth am hanner awr wedi dau. Yr oeddwn yn diolch fod y tren yn mynd mor araf er mwyn i mi gael mwynhau y golygfeydd ar fy nhaith gyntaf i'r Deheudir. Cododd y tai to gwellt a'r teisi mawn hiraeth melus arnaf am ucheldir sir Feirionnydd, a gwelwn ein bod yn mynd ymhellach o wlad y llechi. Tybiwn fod golwg dlawd ac oer ar y rhan gyntaf o'n taith.—Cors Fochno ar un llaw, a mynyddoedd eang ar llall. Ond toc daethom i wlad frasach, a phob peth yn edrych yn hyfryd addfed ynddi. Peth rhyfedd i mi oedd y ty pridd cyntaf welsom. O bridd y gwneir y tai,—fel y bobl.—ac y mae golwg hyfryd arnynt an wedi eu gwyngalchu. A chyn hir cawsom gipolwg ar flaen dyffryn swynol Aeron.

Yr oedd fy nghyfaill yn fy ngadael, ac yn mynd i Abermeurig at y Sul. Un direidus iawn oedd, a llawer tric chwareuodd â mi. Cyn ymadael, dywedodd hyn yn olaf o lu o gynghorion,—

A chofia di hyn. Y mae dyn bach yn set fawr Llangeitho, yn eistedd dan y pulpud. Os gweli di ben hwnnw'n edrych arnat heibio'r pulpud, tro ben ar dy bregeth y munud hwnnw."

Pam?" meddwn innau, yn bur ofnus.

"Paid a gofyn pam i mi; ond, os na throi di ben ar dy bregeth pan weli di ben y dyn bach, gwae i ti."

Yr oedd y nos hyfryd yn disgyn fel bendith ar y bryniau a'r dyffrynnoedd ffrwythlawn pan welais Langeitho odditanaf. Rhyw syniad anelwig oedd gennyf am Langeitho, tybiwn ei fod rywfodd yn debyg i'r Bala ac i Jerusalem. Cefais ef yn bentref bychan, gydag ysgwar mawr yn ei ganol, yn debycach i ffermdy mawr na dim arall, gydag adeiladau o amgylch y buarth. Cefais fy hun yn unig yn nhy'r capel ar y nos Sadwrn honno, o fewn ychydig lathenni i'r hen gapel y bu braich a chadernid iddi mor amlwg ynddo. Yr oedd yr hen wraig garedig, wrth roddi te a thost imi, wedi dweyd tipyn o hanes y fangre. Dywedai fod Llangeitho fel rhyw lan arall yn awr, a'u bod yn son am godi cofgolofn i Ddaniel Rowland. Yr oedd oriau cyn amser mynd i gysgu, a rhoddwyd amryw lyfrau i mi i'w darllen. Y peth cyntaf yr agorais arno oedd esboniad Ifan Ffowc o Lanuwchllyn ar adnod,—

"Am hynny, gan roddi heibio yr ymadrodd sydd yn dechreu rhai yng Nghrist, awn rhagom at berffeithrwydd.' Beth yw hynny? Rhoi heibio'r llyfr corn, a mynd ymlaen i ddarllen y Testament."

Gwibiodd fy llygaid dros lawer o bethau, a'm

pregethau'n rhwystro i'm meddwl ymsefydlu ar ddim hyd nes y disgynnodd fy ngolygon ar bennill dynnodd Christmas Evans o Milton,—

"Ni bydd gwrthdaro'n bod
I anghymodi'r gân,
Ond bydd pob sant a'i glod
I'w glywed ar wahan;
Ac eto i gyd, fel taran gref,
Gwnawn swn melusaf glywodd nef."

Tra'n meddwl tebyg i beth oedd y capel, a thra'n meddwl fath un oedd Daniel Rowland, tarewais ar y darluniad hwn o hono o waith Christmas Evans,—

"Yr wyf fel pe gwelwn ef wedi ymwisgo yn ei wn du, yn agor drws capel bychan, ac yn ymddangos yn y pulpud. Yr oedd ei wynepryd wedi ei wisgo â mawredd ydoedd yn arddangos synwyr a hyawdledd. Ei dalcen oedd uchel, a'i lygaid yn dreiddgar, ei drwyn ydoedd Rufeinig neu eryraidd, ei wefusau yn weddus, a'i en yn taflu ychydig; ei lais ydoedd soniarus ac uchel seiniol."

Ehedodd fy meddwl at y bod bychan llwyd fyddai ym mhulpud Rowland drannoeth, gyda bychander yn argraffedig ar ei wyneb, a thlodi meddwl wedi rhewi yn ei lais. Tybiwn fod y llinellau nesaf ddarllennais, darluniad Eryron Gwyllt Walia o'r eira, yn ddarlun o effaith fy mhregeth ar gynulleidfa,—

"Dros y tir yn ddidrwst a,
A'i wisg oer wen wasgara."

Ond am yr hen bregethwyr fu yma gynt, cymerer darluniad Eryron o'r dymestl,—

Byw wibia mellt yn bybyr,
Ac allan y daran dyr.'

Yr oedd hanner nos yn dod. Ni welais yn unlle erioed ddarluniad o ystad meddwl pregethwr heb arweiniad ar fin y Sabbath. Y mae lle gwag ynddo, ac os na ddaw ysbryd Duw i'w lenwi, y mae yno gartref i ysbryd arall, ysbryd ofer y gwatwar a'r ameu. Wrth edrych yn unig ar wynebau ysbrydion fel hwn y cysgais i yn Llangeitho, ac yn fy erlid yr oedd englyn Eryron ar y geiriau "Ar hanner nos y bu gwaedd,"

"Gwaedd a wnai adwaedd ddiedwi,—adlef
Diadlam drueni;
Gobaith nef? Gwae byth i ni!
Dydd a ffydd yn diffoddi."

Bore drannoeth, a bore Sabbath oedd hi, yr oedd goleu melyn yr haf yn tonni dros hyfrydwch y wlad dawel. Yr oedd cyfarfod gweddi yn gyntaf peth yn y boreu, ac eis innau iddo. Yr oedd yno weddio taer, gan hen bererinion hyddysg iawn yn eu Beibl. Arhosodd gŵr hynaws gyda mi, ac atebodd lawer o'm cwestiynau. Deallais mai clochydd y pentref oedd un o'r gweddiwyr, hen wr hen iawn. Nid oedd teimladau mor chwerwon yr adeg honno rhwng Eglwys Loegr a'r Methodistiaid, a byddai llu'n mynd o'r capel wedi pregeth y bore i'r eglwys.

Yr oedd yno hen wr arall, a llawer o newydd—deb naturiol a tharawiadol yn ei weddi, ac yr oedd rhywbeth yn ei ddull a'i bryd wnai i mi ymawyddu am wybod ei hanes. "Yr ydych chwi'n dod o Lanuwchllyn," meddai'm cydymaith, "yr wyf yn cofio Ifan Ffowc yn dod yma ar daith, ac yn holi profiad yr hen frawd yna yn y seiat. Yr oedd wedi tywyllu arno y pryd hwnnw, meddai ef; ac ni fuasech byth yn meddwl, wrth wrando ar ysbryd nawsaidd ei weddi heddyw, mor bell yn nhir sychder yr oedd." Ac adroddodd yr ymgom hon fu rhwng Ifan Ffowc a'r hen wr yn y seiat,—

"A fyddwch chwi'n cael blas ar y moddion?"

"Na fydda ddim,"—yn swta iawn.

"Dim blas ar y seiat?"

"Dim."

"Ydych chwi'n darllen y Beibl?"

Nagw i."

Wel, wel. Waeth i chwi heb seiat na chyfarfod gweddi na Beibl na dim. A wnewch chwi addaw peidio dod i'r gymdeithas mwy?"

"Na wnaf,"—yn wresog iawn.

"Gan eich bod wedi gorffen a'ch Beibl, a wnewch chwi ei werthu i mi?"

"Na wnaf byth!"

Trodd Ifan Ffowc at y bobl, a dywedodd,——"Y mae'r perl gan y brawd hwn, ond y mae rhyw lwch wedi casglu o'i gwmpas." Yna adroddodd ystori am deulu tlawd mewn gwlad y gwyddai ef am dani. Yr oeddynt yn mynd yn dlotach o hyd, gorfod iddynt adael eu ffarm, ac nid oedd ganddynt ond ychydig iawn wrth gefn. Aeth y gŵr i Awstralia, a llawer o ddisgwyl fu ymysg y teulu bach am arian oddiwrtho i ddod ar ei ol. Daeth llythyr oddiwrtho o'r diwedd, a blwch bychan i'w ganlyn. Dywedai'r llythyr wrthynt am ddod i wlad llawnder, ond nid oedd dim ond cerrig anolygus yn y blwch. Tybiai'r wraig fod rhywun wedi eu hysbeilio, gan roi cerrig yn lle'r arian yn y blwch. Daeth llythyr wedyn, a blwch arall. Ond nid oedd ynddo ond cerrig a llwch. Erbyn hyn yr oedd arian y wraig wedi darfod; ac nid oedd dim am dani ond mynd ar y plwy. Pan ddaeth y swyddog yno yr oedd y wraig a'r plant yn wylo'n chwerw. Er mwyn dangos iddo mai nid yn gyfiawn yr oeddynt yn dlawd, danghosodd y wraig y ddau flwch i'r swyddog, a dywedodd fel y lladratasai rhywun yr arian fuasai yn eu cludo'n ddifyr i lawnder. Ond yr wyf wedi cadw hyd yn oed y llwch," ebe'r wraig, trwy ei dagrau, wrth son am ei gŵr, "oherwydd ei fod yn dod oddiwrtho ef." Edrychodd y swyddog ar y blychau, a dywedodd wrth y wraig,—" Wraig, cyn i chwi fynd ar y plwy, gadewch i mi eich hysbysu fod gennych ddigon yn y blwch yna i brynnu'r plwy i gyd."

"Yr wyf finnau wedi dod yma," ebe Ifan Ffowc, gan droi at y gŵr oedd yn ameu ei grefydd, i ddweyd wrth y brawd hwn fod perl yn y blwch." "A byth er hynny," ebe'r adroddwr wrthyf fi, "y mae tinc felus yng ngweddi'r hen frawd hwnnw, a sain gobaith yn ei brofiad." Daeth awr odfa'r bore. Dylifai'r bobl o'r wlad oddiamgylch, rhai ar draed a rhai ar feirch, i'r capel fel yn amser Daniel Rowland. Y mae drws yn nhalcen y capel, yn agor yn union i'r pulpud. Un funud y mae'r pregethwr allan, a'r caeau hyfryd yn ymestyn o'i flaen, dan dawel unigrwydd y Sabbath; y funud nesaf y mae wedi agor y drws, ac yn gweld ugeiniau o wynebau'n syllu'n ddifrif-ddwys arno.

Daeth y nos, ac yr oedd gennyf lawer o bethau i'w hysgrifennu adre. Yr oeddwn wedi bod ym Mala'r Deheudir ac yn y Cwrt Mawr, wedi ysgwyd llaw â brawd David Charles Davies ac â merch Ebenezer Richard. Yr oeddwn wedi gweld merched, wyth neu naw o honynt, mewn hetiau coryn uchel; ond yr oedd y tai pridd yn fwy rhyfeddod na'r rhain, gan fod hetiau coryn uchel yn fy nghartref hefyd. O feddwl am beth ysgrifennwn, daeth i mi feddyliau sy'n dod weithiau i pregethwr ar nos Sul, rhai pur a dyrchafol, rhai ereill i dywyllu ffydd, a rhai wedi eu geni o'r reaction wedi pryder ac ymdrech y dydd."

Bore drannoeth, cyn ymadael, cofiais am ddywediad fy nghyfaill direidus am y dyn bychan hwnnw yr oedd ei ymddanghosiad i roi pen ar fy mhregeth. Trwy drugaredd, yr oedd fy mhryder gyda'm pregethau wedi peri i mi anghofio popeth am dano drwy gydol y dydd. Dywedais fy ofnau wrth yr hen westy-wraig, ac ebe hi, mewn tôn oedd yn llawnach o gydym- deimlad nag o ddireidi,—

"Fy machgen mawr i, yr oeddych chwi mewn perffaith ddiogelwch oddiwrtho."

Deallais wedi hynny na fyddai'r hen frawd hwnnw byth yn ymddangos odditan y pulpud ond pan gai pregethwr hwyl.

Ddarllennydd mwyn, ar ddiwedd hyn o ysgwrs munudau segur, ni chaf weld dy wyneb siriol. Nis gallaf dy godi ar dy draed, er hynny gobeithiaf fod yn y gyfrol fechan hon ambell beth y gelli ddweyd "Amen," beth bynnag yw

dy ddull o ddweyd hynny, wrth fy ngadael.

Llyfrau Newyddion.

Cyhoeddedig gan Gwmni'r Cyhoeddwyr Cymreig (Cyf.).

Caernarfon.

Nid yw y llyfrau hyn yn gyfres er eu bod oll bron o'r un plyg a maint.

LLIAN, 112 TUDALEN, DARLUNIAU.

PRIS, SWLLT YR UN.

YN BAROD.

I.

GAN OWEN EDWARDS.

II

WEDI EU CASGLU GAN GARNEDDOG.

Penhillion y Diwygiadau, tân oddiar yr allor.
yn llawn ysbryd ac athrylith.

III.

GAN RICHARD MORGAN.

1.-Coch y Berllan.
2. Priodas y Blodau.
3: Nyth Aderyn Du.
Y Gyfrol Gyntaf.
4. Bore Teg.
5.-Carwriaeth y Coed.
6.-Crafanc yr Arth:
7. Telor yr Helyg.

IV

GAN EIFION WYN.

V.

Cerrig y Rhyd

Llyfr o hanes rhai'n camu cerrig rhyd bywyd

GAN WINNIE PARRY.

VI

CAPELULO.

GAN ELFYN.

VII.

GAN OWEN EDWARDS.


VIII.

ROBERT OWEN, APOSTOL LLAFUR.

GAN Y PARCH. RICHARD ROBERTS, B.A.

Y cartref yn y Drefnewydd. Y Siop yn Llundain, Manceinion, Lanark Newydd. Amseroedd Rhyfedd.
Trueni'r gweithiwr. Adam Smith a Malthus. Ym Mharis a'r Ynys Werdd. Ymroddi i wella cymdeithas. Ei syniadau.

IX.

DAFYDD JONES O DREFRIW.

GAN Y PARCH. O. GAIANYDD WILLIAMS

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.

 
  1. Iolo Caernarfon. Oriau yng Ngwlad Hud a Lledrith." 10.