Bywyd y Parch. Ebenezer Richard (testun cyfansawdd)

Bywyd y Parch. Ebenezer Richard (testun cyfansawdd)

gan Henry Richard


a Edward W Richard
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Bywyd y Parch. Ebenezer Richard
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Henry Richard
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Ebenezer Richard
ar Wicipedia



BYWYD

Y

PARCH. EBENEZER RICHARD.

GAN EI FEIBION,

E. W. RICHARD,

A

H. RICHARD.




"Tenebat non modo auctoritatem, sed etiam imperium in suos; nee erat ei
verendum, ne videretur aut Insolens aut loquax; etenim ex ejus lingua melle
dulcior duebat oratio."-Ctc. DE SENECTUTE.
[1]




LLUNDAIN:

ARGRAFFWYD, DROS YR AWDWYR, GAN W. CLOWES

A'I FEIBION, STAMFORD STREET.

1839.



I CHWI,

EIN HANWYLAF FAM,

YR YDYM YN MLAENAF YN CYFLWYNO Y GYFROL HON,

YN CYNNWYS YR YMGAIS GOREU A FEDREM

I BERAROGLI COFFADWRIAETH

UN AG YDOEDD I CHWI YN "DDYMUNIANT EICH LLYGAID,"

AC YN OLEUNI EICH BYWYD,

GYDA DEISYFIAD MWYAF DIFFUANT AM I CHWI

GAEL MWYNHAU HYD DDIWEDD EICH HOES

AMDDIFFYN A FFAFR

YR HWN SYDD YN

"SICRHAU TERFYN Y WEDDW."

E. W. RICHARD.

H. RICHARD.



RHAGYMADRODD.

WRTH gyflwyno y gwaith hwn i sylw ein cydwladwyr, crefwn ganiatâd i grybwyll nad ydym wedi arbed llafur na thraul i'w wneuthur yn deilwng o enw y gwrthddrych a gofnodir, ac o sylw darllenyddion deallus Cymru. Yr ydym wedi beiddio ymarfer cymaint o hyder yn ein cyd-genedl, yn enwedig y rhan hòno o honynt sydd yn perthyn i'r Trefnyddion Calfinaidd, a chredu na chyfrifant gyfrol o'r maintioli hyn yn ormod o deyrnged i goffadwriaeth un a dreuliodd ei holl fywyd yn eu gwasanaeth, a thuag at ba un y byddent arferol o broffesu tra yn fyw gymaint o barch, cariad, a diolchgarwch. Pa un a ydyw yr hyder hwn wedi ei gam-osod, amser a ddengys.

Ein hamcan yn nghyfansoddiad y gwaith oedd cadw priod ddull (idiom) y Gymraeg mor belled ag y medrem, a gochelyd defnyddio geiriau ansathredig ac annealladwy, gan nad ydym yn gweled na rheswm na dyben yn yr arfer sydd yn rhy gyffredin gan rai ysgrifenwyr Cymreig, o fritho eu cyfansoddiadau â geiriau clogyrnaidd ac anghynefin, oddieithr yn wir eu bod yn cael eu dwyn i mewn i'r dyben o guddio moelni meddyliau y rhai a'u defnyddiant.

Y mae yn ddyledus i ni gydnabod caredigrwydd amryw o'n cyfeillion yn Nghymru, am y parodrwydd a ddangosasant i weinyddu i ni bob cynnorthwy yn eu gallu tuag at gwblhau ein gorchwyl. Ac yn mlaenaf ac yn benaf, dylem nodi y cefnogaeth a'r cyfarwyddyd a dderbyniasom oddiwrth ein hanwyl ewythr, y Parch. Thomas Richard, ar yr hwn yr ydym yn edrych yn bresennol fel yr unig un y gallwn bwyso arno, wedi colli "tywysog ein ieuenctyd."

Gweddus yw i ni hefyd goffau gyda diolchgarwch enwau Mr. David Jenkins o Aberteifi, a'r Parch. Thomas Evans, o Gaerfyrddin, y rhai a anfonasant i ni amryw hysbysiadau tra gwerthfawr mewn perthynas i ranau boreuol o fywyd gweinidogaethol ein hanwyl dad. Y mae yn gweinu i ni hyfrydwch galarus i grybwyll enw y diweddaf o'r gwŷr hyn, pan ystyriom ei fod er y pryd y derbyniasom y cyfarchiad hwnw oddiwrtho, wedi canlyn ei hen gyfaill i'r "breswylfa lonydd." Ac am dano ef gofynwn genad i sylwi wrth fyned heibio, na anadlodd erioed ddyn o ysbryd mwy cywir a thrwyadl, nac o galon fwy addfwyn a thyner. Addas yw i ni ddwyn y dystiolaeth hon i gymeriad y gwr cyfiawn hwn, canys dangosodd tuag atom ni ofal a charedigrwydd mawr, pan yr oeddem yn ieuainc, ac yn preswylio mewn gwlad ddyeithr.

Os cawn le i farnu fod ein gwaith yn dderbyniol, y mae genym eto lawer o ysgrifeniadau Mr. Richard yn ein meddiant, pigion o ba rai a ellir eu cyhoeddi mewn cyfrol fechan, os dangosir unrhyw awydd am eu cael.

45, Chiswell Street, Llundain,
Mawrth 1, 1839.

CYNNWYSIAD.

Genedigaeth Mr. Richard—Ei rieni, a'u cymeriad—Ei febyd-Tirfa y Ffrancod yn Pen-caer—Cân Mr. R. ar yr achlysur — Ei symudiad i Bryn-henllan-Ei argyhoeddiad dygn, &c.

Dechreuad ei weinidogaeth gyhoeddus—Ei destun, a'i bregeth gyntaf—Ei holiad ef a'i frawd gan y Parch. Mr. Jones, Langan, &c.—Pigion o'i ddydd-lyfrau am y blynyddau 1805 a 1806.

Symudiad Mr. Richard i deulu James Bowen, Ysw.—Mawr lwyddiant ei weinidogaeth yn Aberteifi, a'r gymmydogaeth—Ei daith gyntaf i'r Gogledd—Amgylchiad hynod yn Ngwesty Pont-ar-Fynach—Ei ymdrechiadau o blaid sefydlu yr Ysgol Sabbothol—Llythyr y Parch. Ebenezer Morris ato ef ar yr achos—Llythyr ato ef oddi wrth y Parch John Elias—Un arall oddiwrth y Parch. Thomas Charles, Bala

Ei briodas, a'i symudiad yn y canlyniad i breswylio yn Tregaron—Gwrthwynebiad cryf Captain Bowen a'i gyfeillion, yn ngodreu Sir Aberteifi, i hyny—Llythyr y Parch. Thomas Charles ar yr achos—Ei bennodi yn Ysgrifenydd Cyfarfod Misol y Sir—Genedigaeth ei fab hynaf—Ei eiddigedd a'i wroldeb o blaid y Ddysgyblaeth—Llythyr ar yr un achos at y Parch. J. Jones, Llanbedr

Yr ymneilltuad cyntaf o rai o bregethwyr y corph i holl waith y weinidogaeth, yn nghyd a'r amgylchiadau cyffrous perthynol iddo-Genedigaeth ei ail fab—Diwygiad grymus 1812—Marwolaeth ei dad—Marwolaeth ei fam-yn-nghyfraith—Ei bennodi yn Ysgrifenydd y Gymdeithasiad—Cynnyg urddiad esgobawl iddo

Ei ymdrechiadau i ledaenu gwybodaeth yn y wlad am y Cymdeithasau crefyddol—Llythyr at gyfeillion ar farwolaeth plentyn—Llythyr at Gymdeithasiad Dinbych—Un arall at Mrs. Margaret Thomas.

Ei ymweliad cyntaf i'r brif-ddinas—Pigion helaeth o Ddydd-lyfr a gadwai tra yn aros yn Llundain—Llythyr at eglwys Llangeitho-Marwolaeth ei dad-yn-nghyfraith-Marwolaeth ei fam—Llythyrau ato ef oddiwrth y Parch. David Evans, Aberayron

Hanes ffurfiad Cyfansoddiad a Chyffes Ffydd y Trefnyddion Calfinaidd—Llythyr oddiwrth Mr. R. at Gymdeithasiad y Bala—Llythyr ato ef oddiwrth y Parch. Ebenezer Morris—Llythyr oddiwrtho ef at y Parch. H. Howells, Trehil

{{c|[[PEN. IX.}} Marwolaethau y Parch. Ebenezer Morris a David Evans—Llythyr oddiwrth Mr. R. at Gymdeithasiad Pwllheli ar yr achlysur—Llythyr ato ef oddiwrth y Parch. H. Howells-Ei atebiad ef i yr unrhyw

Hanes gwneuthuriad "Gweithred Gyfansoddawl" ("Constitutional Deed") y Trefnyddion Calfinaidd—Pigion o lythyrau Mr. Richard at ei feibion—Llythyr at y Parch. Mr. Howells, Trehil—Un arall at y Parch. John Elias ar farwolaeth ei wraig—Llythyr oddiwrth y Parch. Richard Jones, Wern

Afiechyd galarus y Parch. D. Charles—Llythyr Mr. R. at ei deulu ar yr achlysur—Llythyr at Mr. William Morris—Un arall at ei Feibion—Ac arall at y Parch. David Williams a Mr. William Morris

Ail-ymweliad Mr. R. i Lundain, a'r amgylchiadau perthynol iddo —Llythyr oddiwrtho ef at eglwys Tregaron—Un arall at eglwys Llangeitho—Llythyrau at ei Feibion—Llythyr oddiwrth y Parch. H. Howells Atebiad Mr. R. i yr unrhyw—Llythyr at Mr. John Morgans—Un arall at wraig weddw—Ac arall at Mr. William Morris—Llythyr oddiwrth y Parch. Richard Lloyd

{{c|[[Bywyd y Parch. Ebenezer Richard/Pen XIII|PEN. XIII.}} Afiechyd trwm Mr. R. yn niwedd y flwyddyn 1832—Llythyr ato ef oddiwrth y Parch. Thomas Evans ar yr achlysur—Llythyr Mr. R. at ei fab hynaf—Ei drydydd ymweliad i'r brif—ddinas.—Llythyr at Mr. a Mrs. Jones, Llanbedr—Llythyrau at ei feibion—Llythyr oddiwrth y Parch. H. Howells—Un arall oddiwrth y Parch. Henry Rees

Ymweliad olaf Mr. R. i Lundain—Urddiad ei fab ieuangaf—Llythyr at eglwys Tregaron—Un arall at Mr. David Jones—Ac arall at Mr. a Mrs. Jones, Llanbedr—Afiechyd trwm Mr. Richard yn Llundain—Llythyr oddiwrtho ef at ei ddwy ferch—Llythyr ato ef oddiwrth y Parch. John Elias

Dychweliad Mr. R. i Gymru—Ei undeb â Chymdeithas Dirwest—Llythyr oddiwrth y Parch. Thomas Evans—Priodas ei ferch hynaf Llythyrau at ei blant—Ei ddyddiau diweddaf—Ei afiechyd, a'i angeu—Portreiad o gymeriad Mr. Richard


Taflen yn rhoddi dangosiad cywir o natur a helaethrwydd llafur Mr. Richard am fwy nac ugain o'r blynyddau diweddaf o'i fywyd.

Rhai o ddywediadau Mr. Richard ar amrywiol destunau, ac ar wahanol achlysuron

Pregeth y Parch. Ebenezer Richard

Cynlluniau o bregethau y Parch. Ebenezer Richard

Engreifftiau o brydyddiaeth Mr. Richard

GWELLIANT GWALLAU

Tud. llin yn lle darllener
4 7 digwyddodd, dygwyddodd,
15 18 gwelai, gwelais.
34 . 1804, 1809
41 6 perhynol, perthynol.
58 1 disgleiriaf, dysgleiriaf.
60 10 anrhydeddus, amyneddus.
69 23 annodau, adnodau.
69 25 yn, yr.
82 31 ymroddi, ymdoddi.
138 14 â'i a'r.
169 19 hon, hwn.

BYWYD

Y

PARCH. EBENEZER RICHARD.

PEN. I.

Genedigaeth Mr. Richard—Ei rieni, a'u cymeriad—Ei febyd—Tirfa y Ffrancod yn Pencaer—Cân Mr. R. ar yr achlysur—Ei symudiad Bryn-henllan—Ei argyhoeddiad dygn, &c.

EBENEZER RICHARD, gwrthddrych y cofiant hwn, ydoedd fab hynaf Henry Richard[2] o ei ail wraig Hannah. Ganwyd ef ar y 5ed o Ragfyr, 1781, mewn pentref bychan a elwir Trefin, yn Sir Benfro, lle preswylfod ei rieni.

Yr oedd ei dad yn wr hynod dduwiol a dichlynaidd yn ei ymarweddiad. Bu yn bregethwr defnyddiol a derbyniol yn mhlith y Trefnyddion Calfinaidd am driugain mlynedd. Ei fam hefyd ydoedd enwog yn ei chymeriad crefyddol, yn wraig hynod o ran ysbrydolrwydd profiadau, a manylrwydd cydwybodol yn nghyflawniad pob dyledswydd, priodol i'w sefyllfa. "Ac yr oeddynt ill dau yn gyfiawn ger bron Duw, yn rhodio yn holl orchymynion a deddfau yr Arglwydd yn ddiargyhoedd."

Yn eu dull o ddwyn i fynu eu teulu, dangosent y gofal mwyaf i gynnefino meddyliau eu plant yn ieuainc a gwirioneddau pwysig yr efengyl-i fagu ynddynt barch diffuant at holl sefydliadau a moddion crefyddol, a thrwy hyfforddiadau tyner, ynghyd a gweddiau taerion a dibaid, i'w harwain yn foreu i ffordd cyfiawnder a thangnefedd, "fel pan yr heneiddient, na ymadawent a hi." Ac fel gwobr am eu hymdrechiadau llafurus a duwiol, cawsant yr hyfrydwch o weled eu plant yn dyfod yn brydlawn i adnabod Duw eu tadau. Fel engraifft o'r effeithiau dymunol hyn, gellir crybwyll yma yr hanesyn canlynol mewn perthynas i wrthddrych y cofiant hwn, yr hyn a gymerodd le yn amser ei febyd. Gellir ei rhoddi yn ngeiriau y gŵr parchedig[3] a'i coffaodd, ar ol ei farwolaeth: 'Clywais un yn adrodd ydoedd yn bresenol ar y pryd, iddo pan yn chwech mlwydd oed estyn ei law ar y Sabbath cymundeb, a derbyn y bara; yna ei fam a'i canfu, ac a'i rhwystrodd i dderbyn y cwpan, a phan aeth allan hi a'i ceryddodd, gan ddywedyd, Fy anwyl blentyn, pa'm y gwnaethost hyn? Yntau yn doddedig a atebodd, Pa'm y gwnaethoch chwi hyn? WEle cofio yr oeddwn i am angeu mâb Duw, ebe hi. Hyny oeddwn inau yn ei wneuthur, ebe y plentyn hawyddgar." Ychydig, o angenrheidrwydd, yw'r cofion sydd genym mewn perthynas i'w ddyddiau boreuaf. "Pan yn blentyn,” medd ei frawd, "yr oedd o dymher add fwyn, wylaidd, ac ofnus, ac yn ieuanc yn dueddol iawn i ddysgu, a darllain, ac yn naturiol o gynneddfau cyflym a chadarn." Gellir crybwyll yma hefyd ei fod pan yn fachgen yn hoff iawn o wrando yr efengyl, a chymaint oedd ei awydd i hyn fel y byddai yn arferol o ganlyn rhai o weinidogion enwog a phoblogaidd y dyddiau hyny i lawer hyny i lawer o fanau, yn olynol, pan y byddent yn ymweled a'r rhan hono o'r dalaeth, a byddai yn hoff o adgoffa mewn math o ymffrost ddigrif yr amgylchiadau hyny, fel prawf o zel a gwroldeb ei ieuenctyd.

Nid oes dim neillduol yn mhellach i hysbysu am dano hyd y flwyddyn 1796, pan y goddiweddwyd ef gan afiechyd trwm a pheriglus, o ba un y bu yn annhebyg iawn i gael ei adferu, ac am yr hwn y dywed efe ei hun, yn un o'i bapurau boreuol, "bu'm glaf yn agos i angeu;" ond gofalodd yr hwn oedd wedi ei nodi, heb yn wybod i ddoethineb ddynol, i fod yn "llestr etholedig" iddo ei hun, i amddiffyn a chadw bywyd ag ydoedd i gael ei ddefnyddio i'r fath ddybenion helaeth a godidog. Yn fuan ar ol ei wellâd o'r afiechyd hwnw, ymddengys iddo ymroddi ei hun i gyflawn aelodaeth yn eglwys Dduw.

Y mae yn hysbys i lawer o'n darllenwyr fod arferiad ragorol, yn mhlith y Trefnyddion Calfinaidd, i ddwyn i fynu eu plant o dan ofal arbenig yr eglwys, a'u hystyried fel plant yr eglwys, ac o ganlyniad, a'r fraint ganddynt i fod yn bresenol yn ei chyfarfodydd neillduol, hyd oni ddifreiniont eu hunain, trwy ryw gam-ymddygiad; ac yn unol a'r rheol hon, gellir dweyd i wrthddrych y cofiant hwn gael ei eni yn nhŷ Dduw, a thrigo yno yn hawl ei rïeni, hyd oni welodd yn dda i Arglwydd y tŷ ei gymeryd ef yn bersonol, a'i gyflogi i'w wasanaeth. Y mae'n debyg i'r afiechyd rhag-grybwylledig gael ei fendithio i ryw raddau, i'w ennill i benderfyniad "i ysgrifenu a'i law ei hun, Eiddo yr Arglwydd ydwyf, ac i ymgyfenwi ar enw Israel."

Yn fuan wedi hyn, yn nechreu y flwyddyn 1797, digwyddodd amgylchiad tra nodedig, yr hwn achosodd gynnwrf, a dychryn nid bychan, yn y rhan hono o'r wlad lle y preswyliai efe. Yr amser hwnw yr oedd y rhyfel ar y cyfandir yn ei boethder mwyaf. Yr oedd Bonaparte yn bygwyth er ys talm i wneuthur ymgyrch gelynol yn erbyn ein hynys. Gyda'r bwriad hyny yr ydoedd wedi cynnull byddinoedd mawrion ar ororau Ffrainc, ac o ganlyniad yn peri pryder, ac anesmwythder parâus, i'r wlad hon.

Yn y flwyddyn rag-grybwylledig ymddangosodd llynges fechan o Ffrancod ar for-gyffiniau Sir Benfro, yr hon a diriodd mewn lle a elwid Pencaer, ger llaw Abergwaun, ar y 22ain o Chwefror. Nid ydyw yn hysbys hyd y dydd hwn pa beth ydoedd tarddiad na dyben yr ymosodiad dyeithr yma. Ymddengys mae llu o ddrwg-weithredwyr oeddynt, wedi eu dilladu yn ngwisgoedd milwraidd byddinoedd Ffrainc. Ond pa un a oeddynt wedi eu danfon tan awdurdod a gorchymyn y llywodraeth, neu nid oeddynt, sydd yn guddiedig eto. Ond pa fodd bynag am hyny, parodd yr amgylchiad gythrwfl dirfawr drwy yr holl dywysogaeth, er na lwyddodd i lwfrâu, eithr yn hytrach i ennyn gwroldeb greddfol trigolion y wlad. Brysient ynghyd yn finteioedd o'r holl barthau, pob un yn ymarfogi ei hun a'r offeryn nesaf at law, ac yr ydoedd yr holl wlad yn dangos drych gwrthwyneb i'r hyn a ddarlunir gan y prophwyd, "Y bobloedd yn troi eu sychau yn gleddyfau, a'u pladuriau yn waywffyn." Trwy hyn, ynghyd a rhyw ddychryn ac annhrefn rhyfeddol a syrthiodd arnynt, ymostyngasant yn fuan, a rhoddasant eu harfau i lawr o flaen y Prif-Raglaw, Arglwydd Cawdor. Yr oedd yn naturiol i amgylchiad o'r fath hwn wneuthur argraff dwfn ar feddwl mor fywiog a theimladwy ag eiddo gwrthddrych y cofiant hwn; ac, i osod allan ei deimladau ar yr achlysur, cyfansoddodd gân o ddiolchgarwch, yr hon a argraffwyd yn yr un flwyddyn. Er nad oes nemawr o gywreinrwydd prydyddawl i'w ganfod yn y pennillion hyn, eto dangosant fwy o addfedrwydd meddwl, a difrifoldeb ystyriaeth, nag a gyfarfyddir a hwy yn gyffredin mewn "bachgenyn pymtheg mlwydd oed."

Gan eu bod yn awr allan o'r argraff er ys llawer o flynyddau, ac yn anadnabyddus y mae'n debyg i'r rhan fwyaf o'n darllenwyr, efallai hoffai rhai i weled engraifft o honynt yma.

'Ry'm ni yma am wneud coffa
Am yr amser tywyll du,
Pan yn safn anferth angeu,
Y bu miloedd o honom ni;
Yno'n hongian uwch ein beddau,
Heb un gobaith o ryddhâd,
Wedi'n dal gan ofnau creulon,
Byddai i ni golli'n gwa'd.

Yr oedd angeu gwedi dyfod,
A'n hamgylchu o bob tu,
O'mewn a maes, yn heol a'r mynydd,
Gwaeddi obry, gwaeddi fry;
R'oedd ein llefau a'n hochneidiau
Yn ofnadwy ac yn drist,
Yn gwaeddi allan, O na buasem
Oll yn credu yn Iesu Grist.


Yn Pen-caer o faes y cernydd,
R'oeddent yn llettya o hyd,
Ninau'n disgwyl gwel'd eu lluoedd
'N tanu allan i'r holl fyd;
Buant yno un diwrnod,
A dwy noswaith, yn mha rai
Yr oedd llefau ac och'neidiau
Yr holl amser yn parhau.

Cawsom waredigaeth hynod,
Gwaredigaeth loyw lân,
Gwaredigaeth nad oedd ynddi
Swn bwledau, na thwrf tân!
Ein cadernid oll fu'n sefyll
'N unig ar ei ysgwydd gref,
Yn y man lle mae yn pwyso,
Daear gron ag uchder nef.

Ni ddianghasom tan dy gysgod,
Tan dy aden dawel wiw,
Yno cedwaist ni'n ddiogel,
Fel y iar o ddeutu ei chiw;
Ni appeliwn attat heddyw,
Mai tydi yn unig yw
Ein diogelwch ynmhob stormydd,
Attat rhedwn ni, ein Duw.

Ac 'rym ninau bron a meddwl
Y bydd anthem braf maes law,
Am y waredigaeth gafwyd,
Heb un arf ac heb un llaw;
Dim ond rhyw anfeidrol allu
A ymladdodd ar ein rhan,
Ac fe'u rhwymwyd fel na's gall'sent
Fudo mymryn bach o'r fan.

Ond meddyliaf mae y soldiers,
Ag oedd yn y frwydr hon,
Wedi ymgasglu ynghyd, oedd teulu,
Nef y nefoedd oll o'r bron:
Michael, a'i angylion cyflym,
Ydoedd yn y frwydr fawr,
I wrth'nebu'r ddraig a'i milwyr,
Ac i'w taflu oll i lawr.


Ein henaid a ddihangodd,
Fel rhyw dderyn bachi ma's,
Maes o rwydau yr adarwr,
Yr hen ddiafol cyfrwys câs;
Do, fe dorodd fil o faglau
Ag oedd am ein henaid gwan,
Ninau a ddianghasom ymaith,
Tan dy gysgod yn y fan.

Mewn cryn ysbaid ar ol hyn (nid ydyw yr amser pennodol yn hysbys) symudodd o breswylfod ei rieni i le a elwir Brynhenllan, rhwng Tref-draeth ac Abergwaun, i gadw ysgol. Yn y rhan flaenaf o'i arosiad yno, nid ydym yn gwybod am ddim neillduol teilwng o sylw, oddieithr i ni grybwyll digwyddiad tra chyffrous, yr hwn a achlysurodd ofid nid bychan i'w deulu. Rhyw fenyw ddichell-ddrwg oedd yn arfer crwydro ar hyd y wlad, o dra drygioni, a alwodd yn nhŷ ei rieni, gan dystio, a threm alarus, fod eu mhab yn glaf iawn ar drancedigaeth, os nad wedi marw. Cychwynodd yr hen bobl yn y fan, mewn pryder a thristwch dirfawr, i fyned ato, ac, wedi teithio trwy gydol y nos, cyrhaeddasant ben eu taith, mewn llawn ddysgwyliad i weled dim ond corph difywyd eu plentyn. Hawddach dirnad na darlunio y teimladau amrywiol ac angerddol—syndod, gorfoledd, a phetrusder—a gynhyrfai yn eu mynwes pan welsant eu bachgen yn dyfod ei hun i'w cyfarfod, mewn cyflawn fwynhad o'i iechyd cynefin. Ymddangosai iddynt fel pe buasent wedi ei dderbyn drachefn oddi wrth y meirw, "o ba le y cawsant ef hefyd mewn cyffelybiaeth." Syrthiodd ei fam ar ei wddf, gan ei gofleidio, a'i gusanu, ac edrych arno yn wyllt a gorphwyllog, gofynai drachefn a thrachefn, "Ai Eben wyt ti?”

Ond nid yn hir ar ol hyn, a thra yr oedd yn cartrefu yn yr un lle, daeth i ben yr amgylchiad mwyaf nodedig a difrifol yn ei holl fywyd, pa un a'i ystyriwn hynodrwydd ei natur, neu helaethrwydd ei ganlyniadau. Yr ydym yn cyfeirio yma at yr argyhoeddiad dygn ac anarferol a ruthrodd oddeutu yr amser hwn fel tymhestl danllyd tros ei ysbryd, nes iddo yn mron ddifa ei nerth a'i synwyr. Nid yw yr achos enwedigol o'r cyffroad hwn yn adnabyddus i ni yn bresenol, ond pa fodd bynag am hyny, mor llym a dychrynllyd ydoedd, fel y gorfu arno roddi i fynu ei alwedigaeth, a dychwelyd adref at ei rieni, lle y bu am ryw gymaint o amser, yn crwydro ar ymylau anobaith. Mewn perthynas i'w deimladau ar y noswaith olaf o'r gwewyr poenus hwn, dywed mewn un o'i ysgrifenadau boreuol, nawr ger ein bron.

Gorphenaf laf, 1801.—Y noswaith hon oedd y fwyaf ofnadwy yn fy mywyd, ond yr wyf yn gobeithio mae ynddi hi y dechreuodd dydd na bydd terfyn arno byth." Bu am dymmor yn ymdrechu mewn ing dirfawr i ddystewi gofynion deddf Duw, trwy osod i fynu ei gyfiawnder ei hun, mewn ymprydiau, gweddiau, a phenydiau poenus, ddydd a nos. I'r dyben o gyflawni hyn yn fwy perffaith, ymneillduai o gymdeithas ei gyfeillion, a chauai ei hun i fynu yn ei ystafell, neu yn addol-dŷ y lle. Ond ar y noswaith y cyfeiria efe ati yn y sylw-nod uchod, torodd y wawr ar ei enaid, trwy iddo gael golwg ddisymmwth o drefn yr efengyl yn Heb. vii. 25. "Am hyny efe a ddichon hefyd yn gwbl iachâu yrhai trwyddo ef sydd yn dyfod at Dduw, gan ei fod ef yn byw bob amser i eiriol drostynt hwy." Byddai efe ei hun yn arferol, yn ol llaw, o rybuddio ereill rhag coleddi dymuniadau rhyfygus, am ryw argyhoeddiad hynod ac echryslon. "Gwnaethum i felly," ebe fe," a chefais fy neisyfiad yn wir, ond dyoddefais tano loesion ac arteithiau, na ewllysiwn weled ci na sarph byth yn dyoddef eu bath."

Ar ol i'r rhyferthwy hwn fyned trosodd, dychwelodd drachefn i Bryn-henllan yn ddŷn newydd, a buan y daeth hynodrwydd ei ddoniau a'i dduwioldeb yn amlwg i bawb. Gellir dwyn i mewn yma yr hyn a ddywed cyfaill caredig, mewn llythyr a dderbyniasom oddi wrtho. "Yr amser cyntaf yr adnabyddais eich tad oedd pan y preswyliai yn Dinas (neu Bryn-henllan), ac oddi ar yr hyn a adroddodd yno mewn cymdeithas neillduol, am ei brofiad crefyddol, teimlais byth wedi hyny y parch mwyaf diffuant iddo fel Cristion gwirioneddol. Cyfarfyddais ag ef yn fynych ar ol hyny yn eglwys Nevern, lle y cyrchai efe yn aml, yn enwedig suliau y cymundeb. Yr wyf yn cofio un tro neillduol, pan wrth fwrdd yr Arglwydd yno, fod ei feddwl wedi ei ddyrchafu mewn modd hynod wrth syllu ar farwolaeth ei Iachawdwr. Yr wyf yn cofio y geiriau a ganai efe, gan eu mynychu drachefn a thrachefn, {{center block|

"Swm ein dyled mawr fe'i talodd,
Ac a groesodd filiau'r nef."

Wedi hyn byddai arferol ar gais cyfeillion crefyddol y lle o ddechreu yr odfaon trwy ddarllen a gweddio o flaen rhai o'r gweinidogion dyeithr a ymwelent a'r eglwys yno, ac mor hynod mewn nerth ac ysbrydolrwydd oedd ei ymdrechiadau fel y synai pawb ar a'i clywsent ef. "Yr wyf yn cofio," medd y gweinidog parchedig a goffawyd o'r blaen, "y byddai llefarwyr yn arfer sôn am dano wrth fy nhad, pan ydoedd yn cadw ysgol yn Bryn-henllan, gan sylwi am dano wedi ei glywed yn gweddio, fel y dywedwyd am Ioan Fedyddiwr, "Beth fydd y bachgen hwn?"

PEN. II.

Dechreuad ei weinidogaeth gyhoeddus—Ei destun, a'i bregeth gyntaf — Ei holiad ef a'i frawd
gan y Parch. Mr. Jones, Langan, &c.—Pigion o'i ddydd-lyfrau am y blynyddau 1805 a 1806.

ODDIWRTH yr hyn a adroddwyd am dano yn niwedd y bennod flaenorol, gall y darllenydd ganfod ei fod eisioes wedi ei nodi gan ereill fel un tebyg i fod yn gymhwys i sefyllfa gyhoeddus yn yr eglwys. Pell iawn oedd efe o fradychu unrhyw awydd wancus i gymeryd "yr anrhydedd hwn iddo ei hun." Ond oherwydd yr arwyddion amlwg o addasrwydd a ganfyddid ynddo, annogwyd ef yn daer gan henuriaid yr eglwys i ddechreu defnyddio ei ddawn yn ngwaith y weinidogaeth, ac wedi hir wrthsefyll pob cymhelliad, mewn ofn rhag iddo ddigio yr Arglwydd, cyd-syniodd a'u cais.

Dedwydd fyddai i achos crefydd pe byddai y cyfryw ymddygiad o bob tu yn fwy cyffredin-y pregethwr ieuanc yn dangos yr un gwylder a gostyngeiddrwydd, a'r henuriaid eglwysig yn meddu ac yn medru ymarfer yr un " ysbryd barn."

Y tro cyntaf y pregethodd Mr. Richard, oedd mewn man a elwir Dinas, yn agos i Bryn-henllan, lle y preswyliai efe y pryd hwnw. Ymddengys i'r Arglwydd arwyddo ei foddlonrwydd, mewn modd neillduol y waith hon, trwy ddisgleirio yn hynod arno ef, ac ar y gwrandawyr.

Ei destun ar yr achlysur hwn oedd Rhuf. viii. 34.— "Crist yw yr hwn a fu farw." Y mae yn foddlon rwydd mawr genym fod nodau y bregeth hon ar gael yn mysg ei bapurau, à chan yr ewyllysiai llawer yn ddiau eu gweled, rhoddwn hi yma fel y mae ar ei gôflyfr, a gellir edrych arni fel esiampl tra chywir o'i ddull cyffredin ef, o ysgrifenu ei bregethau.

"Rhuf. viii. 34, Crist yw yr hwn a fu farw.'

"O ddechreu'r 33 adnod hyd ddiwedd y bennod y ceir Corph Difinyddiaeth; ond yma, y mae enwi person, a dweyd am dano. Y person yw Crist-yr hyn a ddywedir am dano yw, iddo farw.

"I. Crist Eneiniog y Tad i'r 3 swydd.

"II. Pa'm y bu efe farw, Dan. ix. 26.

"III. Pa fodd y bu efe farw, neu pa fath farwolaeth oedd ei farwolaeth.

IV. Y dybenion, neu'r canlyniadau bendigedig, o'i farwolaeth.

"I.—Crist yw, oblegid ei eneinio i'r 3 swydd; P. Deut. xviii. 15; B. Sal. ii. 6; Off. Heb. vi. 20; yr hyn beth ni wnawd ac un arall erioed. Cymododd y B. a'r Off. Zec. vi. 13.

"II.-Pan y bu efe farw yr oedd yn rhaid iddo farw oblegid y 3 pheth canlynol:

"1af. Hyn oedd un o ammodau drutaf y Cyfammod Newydd, ac nid yw cyfammod ddim oni chyfammod. Zec. ix. 11.

"2il. Cyflawni'r prophwydoliaethau a gerddodd o'r blaen. Esa. liii. 7, 12; Luc xxiv. 46.

3ydd. I gyfatteboli i'r holl gysgodau aberthol o hono-lladd yr oen pasg, nid ei glwyfo yn unig oeddit. Ioan i. 29; 1 Cor. v. 7. Crist a aberthwyd, neu ar ymyl y ddalen, a laddwyd trosom ni.

"III.—Pa fodd y bu efe farw, neu pa fath farwolaeth oedd ei farwolaeth ef.

"1af. Marwolaeth felldigedig y groes oedd yr oedd yn felldigedig iawn. Gal. iii. 13.

2il. Marwolaeth gywilyddus oedd hefyd. Luc xxii. 63, 64, 65; xxiii. 11,33—36, &c.

3ydd. Marwolaeth boenus iawn ydoedd-poen yn mhob rhan o'i enaid, Matth. xxvi. 38. Poen yn mhob rhan o'i gorph, Esai 1. 6, pen, traed, dwylaw, ystlys, cefn, ac oll. Dyma boen yr holl boenau.

4ydd. Marwolaeth berffaith, marw yn lân, a wnaeth, Ioan xix. 33.

"IV. Y dybenion o'i angeu rhyfedd.

"1af. Gwneuthur iawn. Job. xxxiii. 24.

"2il. Ein prynu oddi wrth felldith y ddeddf, yr hon oedd arnom. Gal. iii. 13.

"3ydd. Dinystrio Satan, a'i rym. Heb. ii. 14.

"4ydd. Agor ffynon i sancteiddio ac i buro ei bobl. Zec. xiii. 1; 1 Ioan v. 6.

"5ed. Trwy'r cwbl agor ffordd i ni yn ol i heddwch a chymundeb a Duw, yma a thu draw i'r bedd. Heb. x. 19, 20.

"Y defnyddiau gan hyny.

"1af. Gwelwn bechod yn dra phechadurus yn angeu Iesu mawr. Zec. xii. 10.

"2il. Os bu efe farw am ein pechodau, byddwn fyw iddo, Rhuf. vi. 6; 1 Cor. v. 15; Tit. ii. 14.

"Ymgysurwn yma er ein bod yn glwyfus ac yn archolledig. Esai liii. 5; Ioan xi. 35.

"4ydd. Byddwn farw i'r ddeddf byth am fywyd ac iechawdwriaeth. Rhuf. vii. 4.

"5ed. Gan hyny na ail-groeshoeliwn ef mwy. Heb. vi. 6; x. 26."

Y mae amryw eto yn fyw, o'r rhai oedd y pryd hyny yn perthyn i eglwys Dinas, a dystiant mae yr amser y bu efe yn trigo ac yn gweinyddu yn eu plith, ydoedd y tymhor mwyaf llwyddiannus a welsant yn hanes yr achos yn y lle hwnw. Ymroddodd ar unwaith i'r gorchwyl a gymerodd mewn llaw, gyda yr un zel a hunan-gyssegriad, i lafurio mewn amser ac allan o amser, ac a'i hynododd trwy ei holl fywyd.

Yn fuan wedi dechreu ei ymarferiadau cyhoeddus, galwyd ef a'i frawd (yr hwn oedd hefyd wedi cychwyn yn ngwaith y weinidogaeth yn ebrwydd ar ei ol ef) o flaen cyfarfod misol y sir, yn ol trefn arferol y corph crefyddol y perthynent iddo. Holwyd hwynt yn benaf gan yr enwog a'r parchedig Jones, o Langan, yr hwn yn ei ymddiddan cyhoeddus a hwy a ymddangosai yn dra llym a difrifol, ond y mae yn amlwg ei fod wedi ffurfio barn uchel a pharchus am danynt, oblegid yr oedd ei ymddygiad personol tuag atynt bob amser yn hynod hynaws a chefnogol; ac ar ol dyfod allan o'r gymdeithas neillduol, ar yr achlysur crybwylledig, dywedai wrth ryw ŵr dyeithr oedd yn bresenol, "Mae y ddau fachgen hyn yn pregethu fel dau angel."

Fel prawf o'r ysbryd gwyliadwriaeth a gweddi, ynghyd a'r hunan-eiddigedd manwl a arferai efe ar ddechreuad ei fywyd gweinidogaethol, y mae yn ddywenydd genym allu gosod ger bron ein darllenwyr y pigion canlynol o ddydd-lyfr tra helaeth a gadwai efe am ranau o'r blynyddoedd 1805 a 6. Nid yw yr hyn roddir yma ond cyfran fychan o hono, ond eto gobeithiwn ei fod yn ddigon i ddatguddio tymher gyffredinol meddwl yr ysgrifenydd yn y dyddiau hyny.

"Medi 24, 1805. Yr wyf yn hyderu y gallaf oddi ar brofiad alw'r Arglwydd yn Jehovah-Jireh, canys efe a ddarparodd yn rhyfedd i'w wâs gwael heddyw, ar ol ofni ei fod wedi fy rhoddi i fynu. Ehangodd arnaf o'i ras. Gwelais bethau rhyfedd allan o'i air yn Luc xiv. 23. O! am gymhorth i beidio tristau ei ysbryd anwyl, ac i rodio yn isel ger ei fron.

***** "Tachwedd 3. Coder maen i'r Arglwydd eto, canys cynnorthwyodd yr Arglwydd. Teimlas raddau anarferol o helaethiad yn ei waith, ac yr wyf yn gostyngedig hyderu, gan mae yn wyneb fy holl waeledd yr eglurodd ei hun, ac mae o wendid i'm nerthwyd, fod wyneb yr Arglwydd ar ei was gwael. Arweiniodd fi y dydd hwn ar hyd ffordd nid adnabum. Oh ryfedd ras, yn gwneud sylw o ymddifad! Ar Lug xiv. 22, hefyd Salm cxxxvi. 23, cefais achos o newydd i ganu ei drugaredd sydd yn dragywydd. Y dydd canlynol i hwn fe'm cynnorthwywyd hefyd.

***** "12. Bu cyfarfod misol y sir yn nghyd heddyw yma. Pregethodd y brawd Evan Harries ar Heb. i. 3, ac yma y cefais y newydd syn, annysgwyliadwy, am farwolaeth ———. Gwelai mae ynghanol ein bywyd yr ydym mewn angeu, a tharawyd fi a'r gair yn Matth. xxiv. 44. Ymdrechais lefaru ychydig oddi wrtho y dydd canlynol yn ei hangladd. Y nos hon, sef y 13eg, a fu'n werthfawr; i'r Arglwydd y bo'r clod! Llyncwyd fy myfyrdod i'w gyfraith ef—teimlais ei achos yn nes ataf na dim arall hiraethais na allaswn wneuthur mwy gydag ef yn y byd. I'r dyben hyn adnabum orsedd gras yn werthfawr.

***** "24. Oedd sabbath yn wir i'm henaid. O! am enaid a chwbl i fendithio'r Arglwydd am ei diriondeb y dydd hwn i mi, waeledd, yn mysg fy mhobl fy hun—y boreu ar Job xi. 20, yr hwyr ar 1 Cor. x. 4. Byth ni anghofiaf yn llwyr y Sabbath hwn, canys efe a gwblhaodd ei air daionus a'i was gwael: ond deallais nad ydwyf un amser mewn mwy o berygl na phan y bo'r Arglwydd yn gweled yn dda egluro ei hun i'm henaid. O gwna i mi wilio.'

***** "Rhagfyr 11. Cyfarfu cymdeithas fisol y sir heddyw yn Nhŷ—ddewi. Pregethodd Mr. Evan Harries, a Mr. Jones, Langan; y cyntaf oddi wrth Dat. vi. 2; a'r ail oddi wrth Phil. iii. 10. Cafwyd achos o newydd i hyderu fod yr Arglwydd heb ein gadael, a bod ei wyneb ar y gwaith dirgel a chyhoedd.

12. Daeth y gymdeithas gartref yn nghyd i'r cyfarfod gweddi heno, a gobeithio nad heb yr Arglwydd. Profais raddau o awdurdod y gair hwnw ar fy meddwl, Zêl dy dŷ di a'm hysodd i.' Gwelais os bydd arnaf wir zel tros ogoniant tŷ Dduw a'i achos, y bydd hi yn ysu fy nghnawd a'm balchder, a'r ceisio fy hunan sydd ynof. O am brofi hyn yn sylweddol! O Arglwydd, cynnorthwya fi i gadw fy lle tuag at dy air di yn mlaenaf, ac yna tuag at bob dyn.

"Ionawr 1, 1806. Dechreuais flwyddyn newydd heddyw. Cyfarfum a'r Loyal Briton Society' heddyw. Llawer fu tywydd fy meddwl wedi fy ngalw at y gorchwyl presenol, ac, ar ol llawer o wibio yma a thraw, sefydlodd fy meddwl ar y rhan hyny o air Duw, Luc. ii. 14, Ac ar y ddaear tangnefedd.'

Yr ydwyf yn hyderu i'r Arglwydd fy nghynnorthwyo. Gwelais ei fod yn arwain y deillion ar hyd ffordd nid adnabuant. Yr ydwyf yn cofio llawer o dywydd fy meddwl oherwydd addaw yn rhy fyrbwyll myned i S. heb osod yr achos ger bron yr Arglwydd. Oh! na byddai hyn yn rhybudd i mi rhag llaw. Llawer a gynhyrfodd balchder fy nghalon ar yr achos hyn, ond gwelodd yr Arglwydd yn dda fy narostwng, maddeu i mi, a llewyrchu ei wyneb i ryw raddau ar fy meddwl. Dyma Dduw rhyfedd! Aethum o S. i A.; yma mae hi eto, yn hyd yma y cynnorthwyodd yr Arglwydd fi—Clod iddo!

***** "6. Nid oedd y Sabbath yn ddrychinllyd iawn, ond y mae'r Llun ar ei ol yn dymhestlog iawn. Fel hyn y mae yn aml yn ysbrydol arnaf yn fy mhererindodar ol hin dda yn ngwaith fy Arglwydd, rhyw storm yn fuan yn codi; ond, er mor ddrwg yr hin oddi allan, nid wyf yn gallael cofio i myfi dlawd brofi cymaint o help yn y gwaith er pan wyf wrtho. Gwnaeth yr Arglwydd hi'n dda arnom yn wir—clod iddo! O am ymgadw yn agos ato byth! Daethum yn hwyr i Câs B. ond teimlais mae dau beth yw cael graidd o help i fyned trwy'r gwaith er harddwch allanol, a chael y gwynt nefol i lenwi ein hwyliau yn y gwaith.

"7fed. Dygwyd fi tan rwymau newydd i glodfori'r Arglwydd heddyw, am fy nwyn yn iach adref unwaith eto. Teimlais yn y tro yma radd o fin, a llymdra'r holiad pwysfawr hwnw, A pha fodd y pregethant, onis danfonir hwynt?' Rhuf. x. 15. Ni allaswn feddwl llai nad oedd rhai yn pregethu heb eu danfon; arnaf ofn fod fy hun o'u rhifedi. Ond pa fodd yw'r holiad? diau mae yn gnawdol, ac yn ddibrofiad o'r gwir, ac y mae yn rhaid heb arddeliad yr Ysbryd Glân. Yna och! pa ryw anturiaeth ofnadwy oedd rhuthro ar y gwaith mawr, ac y mae pawb yn annigonol iddo, ond y rhai a arddelir gan Dduw, ac y mae eu digonedd o Dduw, heb ddim ond ychydig ddoniau tafod-leferydd yn gymhorth iddo, canys pa fodd y gall hwnw geisio wyneb Duw arno, yr hwn ni anfonodd Duw i'r gwaith? "8ed. Cyfarfu cymdeithas fisol y sir heddyw yn Carfarchell, ac yn mhlith rhyw ychydig o bethau ereill a fu'n ddirgel, gwrandawyd cwyn cymdeithas y lle mewn perthynas i gael ordinhad swpper yr Arglwydd i'w gweini yno. Trosglwyddwyd yr achos trwy gydsyniad i'w benderfynu gan y Gymdeithasiad Chwarterol nesaf. Ofnodd fy meddwl ryw gymaint rhag bod i ni bechu Duw o'n plith trwy ein diystyrwch ar ei ordinhadau, a'n dibrisdod o honynt. Pregethodd 1af Mr. Williams (student), a Mr. Jones, Langan, oddi wrth Esa. xxxii. 2, a llanwyd ni oll.

***** "16 . . . . Teimlais a deallais fod gan yr Arglwydd ryw lais neillduol tu ag ataf oherwydd fy malchder heddyw, ac am hyny ceisiais ymostwng i wrando. Dychrynais wrth edrych ar fy rhyfyg yn rhuthro at waith Duw yn ddiolwg ar ei fawredd, a'm gwaeledd fy hun. O na ddysgid fi i rodio yn isel ger bron yr Arglwydd! Daethum i —— heno, ond och! arosodd y cwmwl arnaf yr hwyr hwn hefyd. Cyfiawn iawn wyt ti, O Arglwydd—i mi y perthyn cywilydd wyneb a chalon.

***** "Mawrth 2il. Dyma Sabbath yn y gwaith gartref. Helpwyd fi i roddi fy achos i fynu i law'r Arglwydd. Am waith y boreu ni allaf ddywedyd fy llwyr adael, ond cyfyngwyd arnaf i raddau mawr. Bûm wrth yr ysgol sabbothol dros rai oriau yn y prydnawn. Aethum yn gysurus fy meddwl at odfa'r hwyr yn y gymmydogaeth, gan gredu fod genyf wir Duw i'w gario i'r bobl. Teimlais loes newydd heddyw am fy anfoniad i'r gwaith, ond fe'm nerthwyd i appelio at Dduw, nad oedd genyf ddim yn fy nghadw gyda'r gwaith ond ofn Duw i feddwl ymadael ag ef. Yn yr hwyr fe'm helpwyd, ond cefais le i ofni nad oedd y gwir yn bachu.

***** 19. Dyma ddiwrnod ein cyfarfod gweddi. Och! mor anmharod ac anaddas ydwyf i'r gwaith mawr o geisio dynesu at Dduw. Ceisiais feddwl heno cyn dechreu ein cyfarfod mae yn moddion gras mae'r Arglwydd yn adferu ac yn adnewyddu ei bobl. Crynhodd yn nghyd lawer o bobl, tu hwnt a welais er ys dyddiau lawer. Diolch i Dduw am hyn. Cynnorthwywyd y brodyr yn y gwaith yn gyhoeddus i fyned trwyddo yn hardd. Yn ddirgel fe ymddiddanodd amryw o honom ryw beth am ein tywydd. Cafwyd gradd o gymhorth i ymddiddan â dwy chwaer, ac ar ddiwedd y cyfarfod canwyd yr hymn hono,

'Dechreu canu, dechreu canmol.'

Yn y rhan hon o'r gwaith gwawriodd arnom mewn modd anarferol; aeth rhwymau llawer yn rhyddion, ac ymadawsom, er ei bod yn awr ddiweddar o'r nos, mewn tangnefedd ac yn siriol. Diolch i'n Duw!

***** "24. Sylwais yn ddiweddar, wrth waith y plant yn yr ysgol yn myned trwy lyfrau'r Brenhinoedd, ar y ddau beth canlynol fel addysgiadau. Yn 1af, Fod trigolion y byd hwn fel olwyn, a'r rhai sydd yn uwchạf yn bresenol yn ddarostyngedig i fod yn isaf yn fuan, yr hyn a siampleiddiwyd i mi yn hanes yn 2 Bren iv. 8, 13'; mae hi i fynu fel ochr uwchaf yr olwyn, ond yn pen. viii. 3, y mae yn ymddangos ei bod yr ochr isaf iddi. Yn 2il, Bod rhyw gystadliaeth rhwng dyddiau Ahaz, brenin Juda (2 Bren. xvi. 17), a dyddiau dyfodiad Anghrist i mewn; canys megis ac y darfu Ahaz ddiscyn y môr tawdd oddiar yr ychen ar ba rai y safodd er dyddiau Salomon hyd ei ddyddiau ef, a'i osod ar balmant (pavement) o gerig, felly yn nyfodiad Anghrist i mewn fe ddiscynwyd gweinidogaeth yr efengyl, o ba un yr oedd y môr yn gysgod, o fod ar gefnau gweinidogion llafurus yn ei phregethu, fel y deuddeg apostol, ac y rho'wd hi ar balmant o gerig, dynion difywyd a dilafur, lle y gorphwysodd yn hir, megis archesgobion, esgobion arglwyddaidd, &c., yr hwn oedd y pavement godidog ar ba un y rho'wd y môr.

***** "Ebrill 9. Y boreu heddyw, fel yr oeddwn yn darfod fy moreufwyd, galwodd dyn yn y drws o'r Dinas, a mynegodd fod ei unig blentyn, yr hwn a fuasai gyda mi yn yr ysgol ychydig o flynyddau yn ol, wedi marw o'r frech wen, (yr hon oedd drwm iawn yn yr ardal,) ac oedd wedi gorchymyn ychydig cyn marw i anfon am danaf i'w angladd. Addawais fyned y dydd canlynol.

***** "13. Dyma Sabbath garw anarferol o ran yr hin. Sul Mr. T. ydyw, eto fe'n hymddifadwyd o hono ef o herwydd y tywydd, a syrthiodd y gwaith cyhoedd gartref i'm rhan i. Ofnais lawer am yr odfa, a chyfyngwyd arnaf mewn gweddi wrth ddechreu, a theimlais fy meddwl yn soddi. Eto er hyn i gyd ni'm gadawyd-cefais fy nerthu i sôn am lafur enaid y Messiah anwyl, a phrofais ryw felusder yn y gwaith, ac ni wrandawyd y sôn yn gwbl ddieffaith yr wyf yn hyderu. Pa le mae fy nghalon anniolchgar? O na folianai'r Arglwydd am ei ryfeddodau i mi. Aethum y prydnawn i wrando un o'm brodyr yr Anymddibynwyr, ac yr oedd i fedyddio baban yno, ar ba achos y mawr helaethodd ar hawl babanod i'r ordinhâd, &c. Arglwydd, arwain fi. ***** "20. Dydd yr Arglwydd yw hwn eto. Aethum y boreu heddyw i wrando y brawd E. H., a llefarodd i'm tyb i dan neillduol arddeliad, a chydag awdurdod Daethum inau at ran o'r gwaith yn y prydnawn. Ni theimlais ddigon o boen meddwl am genadwri at y bobl. Aethum trwy'r gwaith eto dan raddau amlwg o gyfyngder. Yn y gwaith gwelais briodolder y gair hwnw, Ond eglurhâd yr ysbryd a nerth.' Dyma'r cwbl sydd arnaf eisiau, yr eglurhâd i wneud y gwir yn oleu, a'r nerth i awdurdodi'r gwir, a'i wneud yn effeithiol.

***** "Awst 25. Yr ydym yn dychwelyd heddyw i'r un lle ag y buom ddoe. O am Ysbryd yr Arglwydd i ddychwelyd gyda ni! Cafwyd llawer i wrando, a chefais, yr ydwyf yn gobeithio, le i hyderu fod y gwaith heddyw eto yn cael ei gadw mewn eglurder, a chyda gradd o nerth. Moler yr Arglwydd am hyn! Cawsom gymdeithas brifat yma eto-y gymdeithas fwyaf o ran nifer y bum ynddi erioed, canys dywedwyd i mi ei bod yn agos, os nad yn 400, ac nid wyf chwaith yn cofio gweled cymaint o'r Arglwydd mewn nemawr fan erioed,—fe'm mawr siriolwyd yma. Yr ydwyf i fyned at odfa yn yr hwyr yn agos i'r lle hwn. A'th gyngor, Arglwydd, arwain fi.' Trafferthwyd ychydig ar fy meddwl heb wybod pa lwybr i gymeryd, ond anturiais drîn ychydig ar drosglwyddiad yr efengyl at y Cenhedloedd. Ni allaf feiddio dywedyd fy ngadael yma ychwaith, ond cefais fy nhwyllo i ryw radd uwch ben y gwirionedd. Aeth rhwymau llawer yn rhydd. Treuliwyd wedi'r odfa hyd haner nos, yn adrodd y naill wrth y llall y pethau a berthynent i achos Crist.

"26. Heddyw dechreuodd yr hin newid, a chafwyd llawer o wlaw pwysig neithiwr. Yr oedd genym ffordd anial, tros fynyddoedd a thrwy afonydd, i fyned at yr odfa gyntaf. Yma cyfarfum yr ail waith a'r brodyr Is. I. a E. R. o'r Gogledd. Cefais eu bod wedi dechreu y gwaith cyn ein dyfod. Ymdrechais i lefaru ychydig yn ganlynol, a chefais radd o help. Ni welais yr arch mewn mor waeled lle er y daethum o gartref. Daethom yn nghyd i dy gŵr boneddig yn yr hwyr, yn yr hwn y cefais ymgeledd mawr. Dechreuwyd yr odfa, a mawr ofnais mae tan gwmwl y buaswn, ond ni phrofais er dechreu'r daith gymaint tiriondeb. Cefais ehedeg mewn awyr glir gyda'r athrawiaeth. byth! Clod byth am yr odfa hon!

*****

"31. Yr oeddwn trwy'r holl daith i wynebu lleoedd dyeithr, a gweled wynebau dyeithr, felly heddyw eto. Ond Sabbath ydyw heddyw. Wedi dyfod at odfa'r boreu, yr oedd yno frawd arall i ddechreu'r gwaith. Daeth cynnulleidfa luosog iawn yn nghyd, a chefais radd o helaethiad cysurus gyda'r gwaith. Oddi yma aethom at yr ail odfa yn y prydnawn; yma yr oedd llû mawr yn nghyd. Nid oes neb a ŵyr ond yr Arglwydd gymaint terfysg fy meddwl ar yr achos; ond O! na fedrwn fyned i'r llwch i gofio y tro hwn. Nid wyf yn cofio profi fy enaid yn ymlenwi cymaint erioed wrth drafod y gwirionedd. Gwenodd yr Arglwydd arnaf, ac ar y gwaith. Gwnaed y lle yn Bethel yn wir. Diolch, diolch !"

PEN. III.

Symudiad Mr. Richard i deulu James Bowen, Ysw.—Mawr lwyddiant ei weinidogaeth yn
Aberteifi, a'r gymmydogaeth—Ei daith gyntaf i'r Gogledd—Amgylchiad hynod yn Ngwesty
Pont-ar-Fynach—Ei ymdrechiadau o blaid sefydlu yr Ysgol Sabbothol—Llythyr y Parch. Ebenezer
Morris ato ef ar yr achos—Llythyr ato ef oddi wrth y Parch. John Elias—Un arall oddiwrth y
Parch. Thomas Charles, Bala.

Yn ystod y flwyddyn 1806, cymerodd cyfnewidiad arall le yn nhrigfa ac amgylchiadau Mr. Richard, trwy ei symudiad i Aberteifi, i fod yn athraw teuluaidd i feibion y boneddig duwiol hwnw, James Bowen, Ysw., wedi hyny o Lwyn-gwair. Am yr achlysur a'i harweiniodd i'r sefyllfa hon, rhoddir yr hanes ganlynol gan yr un cyfaill caredig a grybwyllasom eisioes, yr hwn oedd yn byw yn y dref hono. "Yr achos o ymweliad cyntaf eich tad ag Aberteifi oedd fel y canlyn. Daeth yno i ymgynghori a meddyg mewn perthynas i'w iechyd, yr hwn oedd y pryd yma yn wael iawn. Barnai pawb a'i gwelai ei fod mewn darfodedigaeth dwfn, ond dywedodd y gŵr meddygol wrtho, os arosai am dymhor yn y dref, a chymeryd ei gyffeiriau ef yn gyson, nad oedd yn ammau y byddai iddo wellhau. Penderfynodd eich tad yn ddioed i wneuthur felly, ac er ein mawr lawenydd trwy y cyfnewidiad hwn, yn nghyd a bendith Duw ar y moddion meddygol, adferwyd ei iechyd i raddau mawr. Ar yr amser uchod yr oedd boneddig duwiol iawn yn byw yma, yr hwn a lwyddodd gyda'ch tad i ddyfod a byw yn ei dŷ ef, ac y mae yn ddilys genyf na bu edifar byth ganddo iddo gydsynio â'r cais; oblegid yr wyf yn sicr, tra yr arosodd efe yn y teulu hwn, fod cymaint o barch a sylw yn cael eu dangos iddo, a phe buasai yn un o honynt eu hunain. Byddent arferol o fyned gydag ef i'w deithiau sabbothol trwy'r dydd, a'i ddwyn adref gyda hwynt yn yr hwyr. Yr wyf yn cofio y tro cyntaf yr aeth eich tad i'r Gogledd i'r gŵr boneddig ei hun a'i was i fyned gydag ef yr holl ffordd yno ac yn ol. Yr oeddwn yn aml yn bresenol ar yr addoliad teuluaidd, yr hwn ydoedd yn wir yn Bethel. O mor ddifrifol y byddai yn dadleu dros y teulu, yr eglwys, a'r bŷd yn gyffredinol? Y mae yn dyfod i'm cof am un amser nodedig, a gafodd eich tad, pan wrth y ddyledswydd deuluaidd yn y teulu rhag-grybwylledig. Un nos sabbath, wedi bod trwy y dydd yn llefaru tros ei Feistr, aeth ef fel arferol i weddi, a thywalltodd ei Dad nefol arno ef, a llawer creill yn bresenol, y gwlaw grasol i'r fath raddau, nes peri iddynt foliannu'ei enw am oriau meithion o'r nos. Yr wyf yn cofio y rhan ddiweddaf o'r pennill oeddynt yn ganu y noswaith hono.

Caf godi 'mhen o dan eu tra'd,
A gwaeddi congcwest yn y gwa'd,
A myn'd i mewn i dy fy Nhad,
Ac aros yno byth."

"Y mae llawer yma nad anghofiant byth yr amser pan oedd efe yn byw yn Aberteifi. Bendithiodd yr Arglwydd ei lafur mewn modd nodedig, er galw llawer o bechaduriaid o'r tywyllwch i ryfeddol oleuni yr efengyl. Chwanegwyd llawer iawn at yr eglwys yma a'r eglwysi cymmydogaethol trwy ei weinidogaeth ef—ac nid ychydig o honynt sydd wedi myned i ogoniant.

Yr oedd yr ysgol sabbothol yma ac yn yr holl wlad yn mwynhau llawer o'i lafur. O mor ddedwydd y byddai wrth ymweled a'r ysgolion, a holi y plant! Gwelais ef a'r plant yn fynych yn wylo gyda eu gilydd, nes y byddai y mwyaf calon-galed yn y lle yn gorfod wylo hefyd, a chyfaddef fod Duw yn wir yn eu mysg. O fy anwyl gyfeillion, fel y bu yn llafurio yn y rhan hon o winllan ei Arglwydd, mewn amser ac allan o amser. Llwyddodd mewn modd rhyfeddol i ddwyn achosion perthynol i'r ysgol sabbothol i'r drefn ag y maent ynddi yn bresennol."

Oherwydd tebygolrwydd egwyddorion a thueddiadau, yr oedd undeb o'r natur anwylaf rhyngddo ef a'r boneddwr duwiol, yn nheulu pa un yr oedd yn cyfanneddu. Yn yr addoliad teuluaidd gweddiai efe yn Gymraeg, a'r Cadben Bowen yn Saesoneg ar ei ol, ac arferai ddywedyd fod y wledd nefol a gaent trwy'r gwasanaeth hwn, uwchlaw yr hyn a allai geiriau osod allan. Y mae hanesyn tra nodedig wedi ei gadw ar gael mewn cysylltiad a'i daith gyntaf i'r Gogledd, yn nghymdeithas Mr. Bowen, at yr hon y cyfeiriwyd eisoes. Llettyasant am noswaith ar eu ffordd i Gymdeithasiad Llanidloes yn Ngwesty Pont-ar-Fynach. Gofynwyd caniatâd i gadw addoliad teuluaidd, ac i gael yr holl deulu yn nghyd iddo, ac, wedi derbyn cydsyniad, gweddiodd mor rhyfeddol nes gorfu ar wr y tŷ, a'r dagrau yn llifo dros ei ruddiau, ymadael o'r ystafell, gan lefain a'i ddwylaw yn blethedig, " O beth a wnâf, beth a wnâf?"

Crybwyllwyd eisoes am y rhan a gymerodd y tymhor hwn o'i fywyd gydag achos yr ysgolion sabbothol, ond anmhriodol fyddai myned heibio i'w lafur gyda'r gorchwyl godidog hwn heb ryw ychwaneg o sylw. Gellir cyfrif yn wir mae trwy ei offerynoldeb ef yn benaf y sylfaenwyd ac yr adeiladwyd y sefydliadau gwerthfawr hyn yn Neheudir Cymru. Ymddengys iddo o'r dechreuad gael ei lyncu i fynu â rhyw zel anniffoddadwy drostynt, yr hon ni lwyddodd dim i'w dihuddo na'i gwanychu hyd oriau olaf ei einioes.

Byddai yn fynych yn crybwyll gyda llawenydd ac ymffrost amlwg ei fod wedi ei eni yn yr un flwyddyn ag y sefydlwyd yr ysgol sabbothol gyntaf, gan Mr. Raikes.

Wrth edrych dros ei ddyddiadurion am y blynyddau hyn, gwelwn eu tudalenau wedi eu britho â'i addewi dion a'i ymrwymiadau mewn cyssylltiad a gwahanol gyfarfodydd yr ysgolion; ac, i'r dyben o alluogi y darllenydd i ffurfio cryfach a chyweirach dychymyg o'i wresogrwydd gyda'r gwaith hwn, yn nghyd a'r teimladau anwyl a thadol oedd yn hanfodi rhyngddo ef ac hyd yn nod aelodau ieuangaf yr ysgol sabbothol, ni a drosglwyddwn yma yr hyn a ysgrifenodd efe ei hun am Chwefror 28, 1808.

"Yn Nghapel Drindod, ar yr 28 o Chwefror, 1808, adroddodd Eliza Griffiths, plentyn pedair blwydd oed, y ddwy Salm gyntaf yn gywir i mi.

Yn Nghlôs-y-Graig, prydnawn yr un dydd, dymunodd lodes ieuanc 15 oed, yr hon oedd yn glâf iawn, ac yn ymddangos mewn darfodedigaeth dwfn, fy ngweled, i'r dyben o iddi gael adrodd ei phennod, a ddysgasai yn ei gwely, ac adroddodd (er yn dyoddef diffyg anadl mawr) y 25 o Matthew, yn o gywir.

"Yn Nghastell-Newydd, yn hwyr yr un dydd, wedi holi yn gyhoeddus, ar ol i'n hodfa fyned trosodd, dilynodd lliaws o'r plant yn perthyn i'r ysgol fi i dŷ cyfaill, ac, wedi canu ychydig hymnau, a'u lleisieu bach, hyfryd, gofynodd dau neu dri o'r bechgyn bach y chwestiynau pwysig canlynol i mi :

"1. Yn mha beth y mae'r Ysbryd Glan yn cymhwyso atom ni yr iechawdwriaeth, yr hon a bwrcasodd Crist? "2. Pa beth ydyw effeithiau cyfiawnhad a sancteiddhad?

"3. Pa un a'i cyfiawnhad au sancteiddhad sydd gyntaf ?"

Ac fel hyn (megis y crybwyllwyd eisoes) y parhâodd yn ei ymdrechiadau gyda'r ysgol sabbothol dros holl ystod ei einioes, ac ni oddefai i unrhyw gyf leusdra tuag wneuthur lles i achos yr ysgol sabbothol fyned heibio heb wneuthur y defnydd goreu o hono. Dygwyddodd fod unwaith yn aros mewn tref, neu bentref bychan, yn Sir Fynwy, am ddiwrnod cyfan, a chan nad oedd ganddo ddim gwaith cyhoeddus i'w alw ato, holodd wr y ty lle yr arosai yn nghylch ansawdd yr ysgol sabbothol yno, ac wedi deall nad oedd un i'w chael, neu ei bod ar ddiffodd, dymunodd arno gydfyned ag ef i ymweled a theuluoedd y lle, a llwyddodd i gael gan bob teulu yn y fan i addaw dyfod yn gyson i'r ysgol sabbothol.

Cyfaill[4] iddo a nodai mewn llythyr a dderbyniasom oddi wrtho yn ddiweddar ar y pwnc hwn,—" Yr wyf yn meddwl mae yn New Inn y gwelais eich tad gyntaf. Byddai yn dyfod atom bob mis o Aberteifi. Nid oedd mo'i fath yn dyfod atom am annog, cyfarwyddo, a holi ysgolion sabbothol. Dangosai serchawgrwydd diffuant tu ag atom, a chyd-ddygai â ni yn ein tywyllwch a'n hanwybodaeth (oblegid nid oedd yr ysgol Sul yr amser hwnw ond braidd dechreu yn y wlad) gyda llawer o diriondeb, fel plant yr ysgol sabbothol, a ninau a'i carem ef agos fel ein heneidiau ein hunain. Yr wyf yn cofio yn berffaith mae prif bynciau ei weinidogaeth, a'r hyn a lanwai ei feddwl sanctaidd wrth holi yr ysgolion, oedd Person, Aberth, ac Iawn Crist. Dyrchafai ei lais peraidd a nerthol ar y pethau mawrion hyn, nes y byddem ni ag ynteu yn wlyb mewn dagrau.

Llawer gwaith y dywedodd, flynyddau lawer ar ol hyny, pan fyddem mewn cyfeillach, a'r ymddiddan yn dygwydd troi at yr amser uchod, Dyma fe; mi holais ef lawer gwaith nes oedd yn chwysu;' a gwir oedd, mi chwysais lawer gwaith wrth geisio ei ateb.”

Priodol yw hefyd yn y fan hon i osod ger bron ein darllenwyr y llythyr canlynol oddi wrth y Parch. Ebenezer Morris; nid oherwydd unrhyw bwys neillduol ynddo ei hun, ond fel y mae yn rhoddi dangosiad hyfryd o'r dull yr oedd y dynion enwog hyn, ddeng mlynedd ar hugain yn ol, yn dwyn i gyd-weithrediad gyda'r gwaith hwn y ddau feddwl mawr, a adawsant y fath argraff cyffredinol ac annileuedig ar Gymru wedi hyny. Diau yr edrych llawer arno gyda'r un boddlonrwydd a hoffder ag a deimlir wrth ganfod cyssylltiad rhyw ddwy ffrwd nerthol, yn agos i'w tarddiad, yn cymmysgu eu dyfroedd, ac yn cydredeg yn un afon loyw lifeiriol trwy yr holl wastad-diroedd eang, nes peri i'r anialwch a'r anghyfaneddle lawenychu o'u plegid, y diffeithwch hefyd i orfoleddu, ac i flodeuo fel y rhosyn." Yr oedd yr ysgrifenydd ar ei ddychweliad o daith yn Sir Frecheiniog

"ANWYL FRAWD,

"Mae rhagluniaeth yn agoryd i mi i ddyfod adref nos Sadwrn Sulgwyn, ac yn gyfleus i ni ddydd Llun i ddyfod i'r cyfarfod; y mae rhyw siarad am dano i fod yn Blaen-annerch Llun y Sulgwyn, a plant yr ysgolion i gyfarfod. Dymunaf arnoch i hysbysu i'r manau a feddylioch yn addas cyn y sabbath. Mae yn sicr y byddai da i ddeg neu ragor o ysgolion gydgyfarfod. Os gellwch hysbysu i'r Twrgwyn a'r Penmorfa, cyn y delwyf adref, fe fydd da genyf. Nid rhaid enwi wrthych y manau ereill.. Mae Owen[5] a minau yn golygu i'r cyfarfod ddechreu am naw neu ddeg y boreu; ni settlwn y canlyniad pan cyfarfyddom.

Eich cywir gyfaill,

EBR. MORRIS.

Aberhonddu,

Mai 30ain, 1808.

"O.Y. Byddai yn llesol i ddau bregethu ar ol yr holiad; mae yn debygol mae chwi a minau fyddant; os cewch dueddu eich meddwl i draethu am y lles gateciso, minau soniaf am y gwerth o dduwioldeb boreuol-cystal fyddai ei gyhoeddi yn gymanfa y plant."

Y mae yn ddiammheuol genym y darllenir gyda hyfrydwch mawr y llythyr canlynol a dderbyniodd yn fuan ar ol hyn oddi wrth y gweinidog enwog, enw pa un a welir wrtho.

ANWYL FRAWD,

Llandrindod, Medi 16, 1808.

Yr ydwyf yn bod mor hyf arnoch ag ysgrifenu ychydig linellau atoch, gan ddymuno arnoch fod cystal a hysbysu i'r Major Bowen pa fodd yr ydwyf. Ni allaf ysgrifenu Saesneg yn hwylus, neu buaswn mor hyf ag ysgrifenu ato fy hun. Yr ydwyf yma er wythnos i'r Llun diweddaf, ac yn bwriadu aros hyd ddydd Sadwrn. Y mae y dwfr yn gwneud llês i mi; yr ydwyf yn gobeithio y bydd o les mawr yn y canlyniad, ac, er fy mod yn parhau yn lled wan, yr ydwyf yn dysgwyl cryfhau wedi darfod yfed y dwfr. . . . Dywedwch wrth y Major Bowen fy mod yn ddiolchgar iawn iddo am ei ofal am danaf, a fy mod yn cofio yn garedig ato ef, a Mrs. Bowen. . . . . Anwyl Frawd, dymunaf i chwi gael llawer o wyneb yr Arglwydd gyda chwi yn mhob man yn ngwaith mawr y weinidogaeth. Yr ydwyf yn y dyddiau hyn yn gweled llawer o'm gwaeledd, a fy annghymwysder i'r gwaith mawr hwn— cael fy ysbryd yn rhy bell oddi wrth Dduw, ac yn rhy ddiwasgfa am achubiaeth y bobl. Yr ydwyf yn gorfod gwaeddi allan yn wyneb mawredd y gwaith, Pwy sy ddigonol i'r pethau hyn?' ond gan fod yr Arglwydd wedi dewis cymeryd offerynau gwael yn ei law, ag wedi dewis rhoddi trysor y weinidogaeth mewn llestri pridd, fel y byddai godidowgrwydd y gallu o Dduw, ac nid o honom ni'-nid oes achos digaloni er maint ein gwaeledd a'n annghymhwysderau ; ond dylem geisio ein rhoddi ein hunain iddo Ef, fel, er mae gwendid ydym, y byddom yn wendid Duw, ac yn ei law ef yn gryfach na dynion. Dwy demptasiwn hynod sydd gan y diafol i geisio ein dyrysu a'n rhwystro yn y gwaith; un ydyw ceisio ein cadw rhag gweled mawredd y gwaith, a'i ysbrydolrwydd, fel y byddom ddiofal a diwasgfa yn y gwaith; ac yn ganlynol, yr ymchwyddom, ac y balchiom, ac y tybiom ein bod yn rhyw bethau mawr. Yr ydwyf yn meddwl fod yn anmhosibl i ddyn falchio yn ngolwg mawredd y gwaith; os ydym yn gweled ei fawredd, yr ydym yn ein gweled ein hunain yn bethau gwael iawn ynddo, ac mewn agwedd anaddas hynod i'w natur ardderchog. Y llall ydyw pan fyddom yn gweled mawredd y gwaith mewn gradd; ceisio ein digaloni yn ei wyneb, a'n llwfrhau, a'n cadw rhag gweled Duw yn blaid i ni ynddo, a'r addewidion gogoneddus sydd am gymhorth yn y gwaith. Ond yn wyneb y rhai'n, a lluoedd o demptasiynau ereill, fe eill Duw ein cynnal er ei ogoniant ei hun, a lles i'w eglwys. Am hyny, fy mrawd, ymnerthwn yn y gras sydd yn Nghrist Iesu, nid yn unig am gymhorth i gadw ein lle fel Cristionogion, ond hefyd i gadw ein lle fel gweinidogion y gair. Derbyniodd Iesu, yn mysg y rhoddion a dderbyniodd i ddynion cyndyn, roddion i waith y weinidogaeth. O am gael derbyn mwy o honynt yn wastadol! O am gael bod yn ei law, o ryw ddefnydd er ei glod, dros yr ychydig y byddom byw yma yn y byd. Gras a thangnefedd Duw yn Nghrist a fyddo gyda chwi. Amen.

Wyf eich brawd gwael,

a'ch cyd-was,

JOHN ELIAS.

"Da chwi, dewch i'r Gogledd mor fuan ag y .galloch."

Nis gwyddom am le mwy priodol na hwn i ddwyn i mewn y llythyr a dderbyniodd yn nechreu y flwyddyn ganlynol oddiwrth y Parch. Thomas Charles o'r Bala. Ysgrifenwyd ef gan yr awdwr yn Saesneg.

"ANWYL GYFAILL,

"Dyben y llythyr hwn yw ceisio genych y gymwynas o gasglu yn mhlith y cyfeillion yn Sir Benfro gymaint ag a alloch o unrhyw bethau neillduol, mewn perthynas i fywyd a gweinidogaeth Mr. Howell Davies. Yr ydwyf ar ail-ddechreu, trwy ddymuniad arbenig y gymdeithasiad ddiweddar yn Dinbych, gyhoeddiad y Drysorfa, neu'r Eurgrawn Cymreig.

"Y mae bywgraffiad Mr. Griffith Jones, Llanddowror, wedi ei gyfansoddi ar gyfer y rhifyn cyntaf, ac yr wyf yn dymuno yn y rhifyn nesaf i ychwanegu ryw gofion o fywyd ei ysgolhaig, Mr. Howell Davies. Byddai dymunol, os bydd bosibl, cael gwybodaeth am ei dylwyth, ei enedigaeth, a'i ddygiad i fynu, a'i urddiad, gan nodi dyddiad pob un o honynt yn bennodol, os bydd hyny yn gyrhaeddadwy, yn nghyd a'r amser y dechreuodd weinyddu, pa lwyddiant a ganlynodd ei weinidogaeth, pa amser y bu farw, a pha fodd. Yr wyf fi yn gwybod rhyw gymaint am dano, ond y mae fy ngwybodaeth i yn rhy gyffredinol. Byddaf ddiolchgar iawn os byddwch chwi a'ch brawd mor fwyn ac ymofyn yn nghylch y pethau hyn, ac ysgrifenu yr hyn a gasgloch, heb ofalu am unrhyw drefn na manylrwydd cyfansoddiad, a'i ddanfon i mi pan orphenoch, yn mhen dau neu dri mis. Yr ydwyf wedi derbyn llythyr oddiwrth blant Blaenannerch. Gwelwch yn dda hysbysu iddynt, fy mod yn bwriadu rhoddi ateb i'w gofynion yn y Drysorfa. A hoffech chwi i ryw nifer o'r Eurgrawn gael eu danfon i chwi? Os felly, pa nifer, ac at bwy? A ddymunai cyfeillion Castell-Newydd, a rhanau isaf Sir Aberteifi, dderbyn rhyw gymaint? Yr wyf mewn cryn ammheuaeth pa nifer i argraffu, am nad wyf yn gwybod y galwad a fydd am danynt. Y maent i fod yn chwech-cheiniog y rhifyn, neu bedwar swllt a chwech-cheiniog y dwsin; a chan y bydd llawer yn cael ei gynnwys mewn cwmpas bychan, yr wyf yn gobeithio y bydd yn rhagori ar gynllun y rhifynau blaenorol. Telir sylw neillduol i'r cymdeithasiadau, yr ysgolion sabbothol, ac hanesion crefyddol tramor. Yr wyf newydd dderbyn oddiwrth eich brawd gyfrif cysurus am yr ysgolion, yr hwn wyf yn fwriadu ei gyhoeddi. Os daw unrhyw bethau neillduol i'ch gwybodaeth, y rhai a farnoch yn ddefnyddiol, byddaf yn ddiolchgar i chwi am danynt.

Y mae Grammadeg Cymraeg newydd ei gyhoeddi, copi o ba un a anfonwn i chwi pe gwelwn ryw un yn dyfod i'ch cymmydogaeth. Gwerthir ef am swllt, neu saith swllt a chwech-cheiniog y dwsin.

Yr wyf yn dymuno i chwi gyflwyno fy annerchion mwyaf diffuant i'r Major Bowen, a'i foneddiges, a'i fab. Gobeithiwyf eu bod oll yn iach. Yr wyf yn deisyf fy nghofio yn garedig hefyd at fy holl gyfeillion ereill yn eich tref chwi, a'r gymmydogaeth.

"Yr wyf wedi bod yn garcharor, wedi fy nghlymu gerfydd fy nghoes am y pedwar mis diweddaf. Yr wyf yn awr ar gael fy rhyddhau unwaith eto. Yr wyf yn ei chyfrif yn drugaredd arbenig i mi allu myned yn mlaen à fy ngwaith drwy yr holl amser, er fy mod yn fynych na fedrwn gerdded o'm gwely i'r sofa. Trwy hyn galluogwyd fi o'r diwedd i orphen ysgrifenu y Geiriadur, yr hyn a'm hesmwythaodd o faich trwm. Yr oedd yn orchwyl Ercwlfaidd (Herculean.) Bydd yr ail ran o'r drydedd gyfrol allan yn fuan, ac ni awn yn mlaen gyda'r argraffu mor fuan ag y byddo bosibl. Yr ydym yn gobeithio eich gweled yn ein cymdeithasiad yn Llanfair yn y gwanwyn, neu, o'r hyn bellaf, yn nghymdeithasiad y Bala. Y mae Mrs. Charles yn ymuno gyda mi mewn cyfarchiad caredig at Mr. a Mrs. B., heb anghofio mab ei hen gyfaill ac athraw, Henry Richard.

Ydwyf yr eiddoch yn ffyddlon,

THOMAS CHARLES.

Bala,
Ion. 16, 1804.

PEN. IV.

Ei briodas, a'i symudiad yn y canlyniad i breswylio yn Tregaron— Gwrthwynebiad cryf Captain Bowen a'i gyfeillion, yn ngodreu Sir Aberteifi, i hyny—Llythyr y Parch. Thomas Charles ar yr achos—Ei bennodi yn Ysgrifenydd Cyfarfod Misol y Sir—Genedigaeth ei fab hynaf—Ei eiddigedd a'i wroldeb o blaid y Ddysgyblaeth—Llythyr ar yr un achos at y Parch. J. Jones, Llanbedr.

YR ydym yn awr yn agoshau at amgylchiad arall o bwys mawr yn ei fywyd, sef ei briodas. Wrth ymdeithio drwy Sir Aberteifi daeth yn adnabyddus â Mary, unig ferch Mr. William Williams o Dregaron, ac wyres o ochr ei mam i David Evan Jenkins o Gysswch, un o'r cynghorwyr boreuaf yn mhlith y Methodistiaid Calfinaidd, a dyn hynod enwog mewn duwioldeb.

Ar ol cyfeillachu â'u gilydd am ysbaid o amser, priodwyd hwynt yn eglwys Tregaron ar y 1af o Dachwedd, 1809. Ar ol i'r ddefod fyned drosodd, pregethodd ei gyfaill Mr. Ebenezer Morris oddiwrth Gen. ii. 18. Oherwydd y cyfnewidiad hwn yn ei sefyllfa, daeth angenrheidrwydd arno i symud o'i drigfa bresennol i le preswylfod ei wraig, gan nad allai hi ymadael oddi wrth ei rhieni, y rhai oeddynt yn dechreu myned yn llesg ac oedranus. Pan wybu ei gyfeillion yn ngodreu y sir y penderfyniad hwn, dangosasant anfoddlonrwydd nid bychan tuag ato, ac ymosodasant â'u holl egni trwy bob moddion i'w ennill i gyfnewid ei fwriad. Ar ol methu dyfod i unrhyw foddlonrwydd mewn cynnadledd bersonol âg ef ei hun, penderfynwyd terfynu yr achos trwy farn Cyfarfod Misol y Sir, a gynnelid oddeutu yr amser hwn yn Aberystwyth. Aeth Captain Bowen ac un o flaenoriaid eglwys Aberteifi yno, a bu dadl boeth rhyngddynt â thrigolion blaen y sir ar y pwnc; ond beth bynag, trodd y fantol o du iddo fyned i Dregaron.

Ymddengys fod Mr. Bowen yn y cyfamser wedi cael cyfrinach ar y pwnc â'r Parchedig Mr. Charles o'r Bala, ac wedi deisyf arno ef i anfon at Mr. Richard i'w gynghori, a'i rybuddio rhag cymeryd y cam hwn. Mewn ateb i'r cais yma, anfonodd Mr. Charles y llythyr canlynol, yr hwn wedi hyny a gyflwynodd Mr. Bowen i Mr. R., ar ol i'r chwthrwm bychan a achosodd yr amgylchiad rhyngddynt fyned drosodd. Y mae yn hyfrydwch mawr genym fod yn ein gallu i ddwyn ger bron ein darllenwyr y llythyr rhagorol hwnw, nid yn unig oherwydd ei gymhwysder at yr achos mewn llaw, ond hefyd fel y mae yn ddangosiad hynod o'r doethineb, a'r synwyr, a'r sylw craffus ar ffyrdd rhagluniaeth y cyfeiria efe ei hun atynt yn nghorph y llythyr.

"ANWYL SYR,

Yr ydwyf yn gofyn eich hynawsedd am fy mod cyhyd heb gyd-synio a'ch dymuniadau caredig, y rhai a fynegasoch i mi ar ein hymadawiad yn Machynlleth. Yr ydwyf wedi bod yn iach er hyny, ond mewn ffwdan mawr, yn teithio o un rhan o'r wlad i'r llall, ac yn awr yr wyf gartref am ychydig ddyddiau, cyn cychwyn i Gymdeithasiad Pwllheli. Oddi wrth yr hyn a glywais yn Machynlleth, tebygwn ei bod yn awr yn rhy ddiweddar i ysgrifenu dim ar y testun y buoch yn ymddyddan â mi yn ei gylch. Yr wyf yn gobeithio fod y gwr ieuanc wedi cael ei gyfarwyddo yn gywir, a'i lywodraethu gan ddybenion pur. Y mae yn anhawdd ymyraeth gyda diogelwch yn achosion rhai ereill, a symudiadau personau o un sefyllfa i'r llall. Geill fod gan yr Arglwydd ddybenion anhysbys i ni i'w cyflawni trwy bethau a ymddangosant i ddynion yn annoeth, os nad yn bechadurus yn y personau. Am hyny carwn i yn hytrach rybuddio yn garedig, a gweddio, na dweyd yn benderfynol yr hyn a ddylai neb rhyw un ei wneuthur. Efallai fod yr Arglwdd yn rhag-weled rhyw niweid mawr nad yw ganfyddedig i ni sydd yn debyg o ddygwydd os erys yn y lle y mae ynddo yn awr, neu ryw ddyben mawr i'w gyflawni ganddo ef neu rai o'i hiliogaeth trwy ei symudiad. Geill fod gan yr Arglwydd ddybenion mewn golwg i'w cwblhau yn mhen cant neu fil o flynyddau eto, trwy yr hyn a ymddengys yn awr yn ddamweiniol, ie, a thrwy bethau sydd a golwg annymunol arnynt. Y mae rhagluniaeth ddoeth yn bod ag sydd yn goruchwylio ac yn trefnu pob dygwyddiadau, bychain a mawrion, pa un ai pechadurus ai sanctaidd, gyda golwg ar yr offerynau eu hunain. Geill yr offerynau fod yn hollol ar gam yn eu bwriadau a'u golygiadau, a dyoddef yn llym am yr hyn a wnaethant, ac eto fod y dybenion oedd gan yr Arglwydd i'w cyflawni yn anfeidrol ddoeth a da.

"Heblaw hyny, y mae yn ddichonadwy i'r person weithredu oddi ar y dybenion cywiraf, ac eto canfod anhawsderau yn y ffordd y mae yn gorfod myned iddi, a geill ei ymddygiad ymddangos yn gyndyn ac yn gyfeiliornus i ereill. Yr wyf wedi cyfarfod âg esiamplau o'r natur hyn, ag y bu gorfod i bawb wedi hyny i gyfaddef llaw yr Arglwydd, gyda llawer o ddiolchgarwch. Y mae yn bwnc cynnil iawn, chwi welwch, fy anwyl Syr, i ymyraeth ag achosion rhai ereill mewn un modd, ond trwy gynghorion caredig a gweddi. Yr wyf yn dymuno yn ddiffuant i'r brawd Richard fod o dan gyfarwyddyd dwyfol yn holl amgylchiadau dyfodol ei fywyd, ac y mae yn ddiau yn teilyngu ystyriaeth a gweddi mwyaf difrifol ganddo, cyn y goddefo unrhyw reswm i effeithio arno i symud o sefyllfa ag y mae Duw wedi ei alw iddi, ac yn mha un y mae yn amlwg ei fod wedi ei wneuthur yn ddefnyddiol i'w eglwys. Gweddai i ni grynu wrth feddwl ymadael a neb rhyw le, oni byddai yn ymddangos fod ein llafur drosodd trwy annefnyddioldeb, y fendith arferol yn cael ei hattal. Ar ol gosod y pethau hyn yn syml o'i flaen, yr hyn yn ddiau a wnaethoch eisoes, yna cyflwynwch ef i'r Arglwydd, a gwnaed yr Arglwydd yr hyn a fyddo da yn ei olwg. Nid gweddus i ni gyffwrdd a'r arch, fel pe baem yn rhy bryderus am ei diogelwch trwy anghrediniaeth. Y mae efe yn gweithredu fel Pen-Arglwydd dwyfol, gydag urddas a doethineb anfeidrol, ac a fyn i ni oll gyfaddef nad ydym ond abwydod y llwch, ac ydym yn hollol anadnabyddus o'i amcanion goruchel, a'r troelliadau manwl trwy ba rai y mae yn eu dwyn i ben.

"Yr wyf fi yn fynych yn teimlo yn gythruddol iawn, ond y mae fy nyryswch yn gyffredin yn tarddu o anghrediniaeth a diffyg amynedd. Un o'r prif bethau yn y dysgrifiad a roddir o'r pren planedig ar lan afonydd dyfroedd, yw ei fod yn rhoddi ei ffrwyth yn ei bryd. Yr ydym yn fynych yn canfod yr hyn a ddylasem ei wneuthur, pan y mae'r tymhor i weithredu wedi myned heibio; i ddwyn ei ffrwyth priodol yn yr iawn bryd, a ofyn gyfran nid bychan o ddoethineb, synwyr, a sylw craffus ar ffordd rhagluniaeth. Yr ydwyf fi yn teimlo yr angenrheidrwydd o ddylanwadau effeithiol ac awdurdodol yr Ysbryd dwyfol ar fy meddwl yn mhob peth, bychan a mawr. Nid oes dim yn fwy dianrhydeddus a niweidiol i'r eglwys, na bod i ddynion byrbwyll a rhyfygus i yru pob peth o'u blaen, gyda rhyw ruthr ynfyd, nes iddynt daraw eu hunain, a'r achos yn mha un y maent wedi ymgydio, yn erbyn craig sydd yn amlwg i bawb ond hwy eu hunain. Y maent yn ymddwyn fel pe na byddai un Duw yn bod, a bod pob peth yn cael ei lywodraethu ganddynt hwy.

Y mae fy anwyl gymhares, yr hon sydd iach, a'r rhan arall o'r teulu, yn ymuno gyda mi mewn cyfarchiad mwyaf caredig at Mrs. B. a chwithau. Byddai lawen genym eich gweled yn y Bala.

Ydwyf, anwyl Syr,

gyda pharch mawr,

"Yr eiddoch yn ffyddlon a chariadus,

THOMAS CHARLES.

Bala,
Medi 19, 1809."

Er hyn i gyd, mor afaelgar oeddynt am dano yn Aberteifi, fel y methodd ganddynt fod yn esmwyth heb wneuthur un cynnyg arno drachefn; a chyn pen wythnos daeth Captain Bowen a'r blaenor rhag-grybwylledig, ar eu hunig neges i Dregaron i wneuthur ail-ymosodiad arno. Ond wrth ganfod tuedd ei wraig a sefyllfa fethiedig ei rhieni, gorfu arnynt roddi i fynu eu hymdrech; ac, fel prawf fod ei gyfaill caredig Mr. Bowen wedi gweled o'r diwedd briodoldeb ei benderfyniad yn yr achos hwn, gellir coffau, iddo ef a'i deulu ddyfod i fynu i Dregaron, i fod yn bresennol yn y briodas.

Mor hynod yr eglurhawyd yn ol llaw sylwadau doeth Mr. Charles ar drefniadau rhagluniaeth, fel y maent yn swnio i ni yn awr, wedi gweled y canlyniad, yn mron yn brophwydoliaethol; ac, fel y dywedir i'r Parchedig Mr. Rowlands sylwi am dano ef ei hun, mai rhodd Duw i'r Gogledd oedd Charles, felly y byddai y Parchedig Mr. Williams, o Ledrod, arferol o sylwi am dano yntau," Rhodd Duw i Aberteifi yw Richard."

Cyn diwedd y flwyddyn hon, pennodwyd ef yn ysgrifenydd Cyfarfod Misol y Sir, yr hon swydd a gyflawnodd hyd ddiwedd ei fywyd gyda gofal, deheurwydd, a threfn, nas cystedlir yn fynych.

Yn Awst, yn y flwyddyn 1810, ganwyd ei fab hynaf, Edward.

Yn fuan ar ol ei sefydliad yn Tregaron, canfu, er mawr dristwch i'w feddwl, fod yr eglwys yno, yn nghyd a'r eglwysi cymmydogaethol, mewn sefyllfa dra dirywiedig ac annhrefnus. Yr oedd hen arferiad lygredig yn y rhan hono o'r wlad, pan y byddai pobl ieuainc yn myned i'r sefyllfa briodasol, o barotoi a gwerthu diod gadarn i'r gwahoddedigion oedd yn bresennol ar yr achlysur. Yr oedd hyn nid yn unig yn drosedd yn erbyn y llywodraeth, ac yn yspeiliad o gyllid cyfreithlon y brenin, trwy ddarllaw y ddiod heb y drwydded (licence) ofynol, ond hefyd yn achos ffrwythlon o anfoesoldeb dirfawr a gwarthus drwy yr holl ardaloedd.

Yr oedd y bobl ieuainc ar yr amserau hyny yn ymroddi, heb fesur na rheol, i gyfeddach, maswedd, a meddwdod; a byddai crefyddwyr yn arfer ymgymmysgu â hwynt yn eofn, a llawer o honynt fel y gellid dysgwyl yn cael eu llithio i "gyd-redeg gyda hwynt i'r unrhyw ormod rhysedd. Yr oedd yr ysgelerder hwn wedi tynu sylw Cyfarfod Misol y Sir, er ys rhai blynyddau, ac amryw ymdrechiadau difrifol wedi cael eu gwneuthur i osod terfyn arno, o leiaf, yn mysg aelodau perhynol i'r corph. Ond mor ddwfn a gafaelgar yr ydoedd wedi ymwreiddio yn y wlad, fel yr oedd pob ymdrech a wnaethid wedi profi yn aflwyddiannus; ac nid rhyfedd yn wir, oblegid yr oedd yn cael ei amddiffyn a'i goleddu, hyd yn nod gan swyddogion yr eglwysi.

Fel canlyniad naturiol i hyn, yr oedd y ddysgyblaeth wedi ymlaesu i raddau gresynus, a "phob un a wnai yr hyn oedd union yn ei olwg ei hun."

Cyd-oddefodd Mr. Richard â'r diofryd hwn am ysbaid blwyddyn, "yn poeni ei enaid cyfiawn," "wrth weled y ffieidd-dra anghyfanneddol yn sefyll yn y lle sanctaidd," nes o'r diwedd, wedi ei ganfod yn beiddio dyfod i'r allor, ac yn derbyn cymeradwyaeth gyhoeddus gan un o'r blaenoriaid, enynodd y fath eiddigedd tanllyd yn ei fynwes, fel y penderfynodd ddyrchafu ei lais yn enw yr Arglwydd yn erbyn yr ysgymun-beth dyeithr. Cymerodd y cyfleu cyntaf i roddi ei fwriad mewn grym yn nghyfarfod yr eglwys yn Tregaron. Safodd i fynu yn wrol i ymofyn pwy oedd o dŷ yr Arglwydd, ac ni chafodd ond un blaenor i'w gefnogi; er hyny aeth yn mlaen gyda hwnw yn unig i lanhau y tŷ. Cafwyd deuddeg o'r aelodau yn euog o'r trosedd, a diarddelwyd hwynt oll yr un cyfarfod. Tranoeth i'r diwrnod hwnw, yr oedd ei gyhoeddiad yn Llangeitho. Aeth yno hefyd gyda'r un zel sanctaidd yn llosgi yn ei enaid dros ogoniant ei Feistr. Yr oedd dwy briodas wedi cymeryd lle yno ychydig cyn hyny yn yr un dull afreolaidd, a'r eglwys yn byw yn dawel yn nghanol y llygredigaeth; ond gwnaeth ef yr un ymosodiad gorchestol ar y gelyn yno hefyd. Llwyrymroddodd i weinyddu y ddysgyblaeth ar bawb oeddynt wedi ymhalogi â'r peth, a'r canlyniad fu diarddel amryw o honynt cyn ei ymadawiad. Fel hyn, bu yn offerynol i ddystrywio "y niweid a'r anwiredd hwn," oedd wedi gwarthruddo cymaint ar achos Duw yn y rhan hono o'r Dywysogaeth.

Nis gallwn oddef i'r amgylchiad hwn fyned heibio heb alw sylw ein darllenwyr at y dangosiad nodedig a rydd o un o brif briodoliaethau ei gymeriad, sef ei ufudd-dod parod a dibetrus i'r hyn a ystyriai yn ofynion dyledswydd. Tuedd ei dymher naturiol oedd gochelyd gyda'r pryder mwyaf bob dynesiad at ddim tebyg i gythrwfl, ïe, efallai yn wir gellir dywedyd mae rhyw ormodedd o'r petrusder hwn oedd y gwendid parod i'w amgylchu." Ond pan y deuai unwaith yn eglur i'w feddwl fod llais Duw a chydwybod yn galw arno, yn y fan "nid ymgynghorai â chig a gwaed," ond ymroddai, mewn gwrthwynebiad i'w deimladau ei hun, i fyned rhag ei flaen "trwy glod ac annghlod," nes cyrhaedd y nod y cyfeirid ef ato. Dibrisiai bob math o wawd ac anmharch a arllwysid arno, fel ar yr achlysur presennol, ar ba un, er nad oedd ond ieuanc, (tan ddeg-ar-hugain oed,) beiddiodd dros anrhydedd yr achos i wrthsefyll nid yn unig dueddfryd llygredig y wlad yn gyffredinol, ond hefyd gan mwyaf holl rym awdurdod swyddol yr eglwysi, " oblegid efe a ymwrolai fel un yn gweled yr anweledig." Geill y darllenydd farnu yn lled agos beth oedd ei deimladau ef y pryd hwnw, oddiwrth y llythyr canlynol, a anfonodd flynyddau ar ol hyny at weinidog ieuanc oedd anwyl a pharchus iawn ganddo, yr hwn a ysgrifenasai i ofyn ei gyfarwyddyd mewn amgylchiadau cymhwys yr un fath.

Y PARCH. JOHN JONES, LLANBEDR.

Tregaron, Rhag. 28ain, 1825.

FRAWD ANWYL,

Derbyniais eich llythyr nos Lun, ac y mae fy meddwl yn ymdeimlo yn dra dwys a'r amgylchiad crybwylledig ynddo. Ond nid wyf mewn un modd yn barnu fy hun yn addas i eich cynghori, ond yn edrych arnaf fy hun yn hollawl annigonol. Ond fel un wedi bod mewn brwydr â'r arferiad ffieidd a soniasoch, am uwchlaw ugain mlynedd, mi gynnygaf i chwi y pethau canlynol:—(1.) Lledwch yr achos yn ddifrifol ger bron yr Arglwydd, a gelwch yn daer am ei gymhorth a'i gyfarwyddyd. (2.) Dylech gymeryd y cyfleusdra cyntaf i ymddyddan â'r hen frawd —— a dangos iddo mewn modd goleu y perygl aruthrol o iddo ef fod a llaw i gynnal y niweid a'r anwiredd hyny yn y wlad, ac y mae brodyr a thadau i ni sydd yn y nefoedd wedi bod â'u holl egni yn ceisio ei ymlid o'r wlad, a dymuno arno wneuthur ei oreu i droi ei fab hefyd, os nad yw yn rhy ddiweddar; ac os llwyddwch yn hyn yma, chwi a achubwch eich brawd a llawer ereill hefyd. (3.) Os na lwyddwch yn yr ymgais hwn, dylech ar y cyfle cyntaf a gaffoch rybuddio'r holl frodyr a'r chwiorydd, i ymgadw rhag myned yno rhag y pla, oblegid y mae yn fil mwy niweidiol na'r pla, mae yn dianrhydeddu ordinhad Duw, yn darostwng natur dyn, ie, yn damnio eneidiau filoedd. (4.) Y rhai a anufuddhant ar ol pob rhybuddio, a ddylent gael eu diarddel yn ddiau. Byddwch bybyr, gwrol, a glew dros achos ein Duw; nac ymollyngwch er dim; cofiwch eiriau Paul, Gal. ii. 5, "Fel yr aroso gwirionedd yr efengyl gyda chwi." Cofiwch siampl Phineas, yr hwn "a iawnfarnodd (er ei fod yn ieuanc), a'r pla a attaliwyd." Llanwer eich enaid â zel ac awyddfryd sanctaidd dros enw'r Arglwydd, a byddwch ffyddlon y waith hon; chwi gewch yr holl gorph i'ch cefnogi, chwi gewch yr holl Feibl i'ch amddiffyn, chwi gewch yr holl Drindod i'ch harddel, chwi gewch yr holl saint a'r angylion o'ch tu, a neb i'ch gwrthwynebu a'ch gwaradwyddo ond y diafol a'i bleidwyr. Dywedaf wrthych yn awr, yn ngeiriau Mordecai wrth Esther, "Oherwydd os tewi a son a wnai di y pryd hyn, esmwythder ac ymwared a gyfyd i'r Iuddewon (i'r achos) o le arall; a phwy sydd yn gwybod ai oherwydd y fath amser a hwn Ꭹ daethost ti i'r frenhiniaeth?" Ni feddaf amser i ymhelaethu, er y byddai hyny yn hawdd iawn i mi wneud. Cofiwch yn garedig fy ngwraig a minau at eich anwyl gymhares, ac at eich anrhydeddus dad, a mam-yn-nghyfraith.

Ydwyf, frawd anwyl,

Yr eiddoch yn yr Arglwydd Iesu,

EBENEZER RICHARD.

PEN. V

Yr ymneilltuad cyntaf o rai o bregethwyr y corph i holl waith y weinidogaeth, yn nghyd a'r amgylchiadau cyffrous perthynol iddo—Genedigaeth ei ail fab—Diwygiad grymus 1812—Marwolaeth ei dad —Marwolaeth ei fam-yn-nghyfraith—Ei bennodi yn Ysgrifenydd y Cymdeithasiad— Cynnyg urddiad esgobawl iddo, &c.

Y MAE yr hanes yn ein harwain yn bresennol at gyfnewidiad pwysig a gymerodd le yn mhlith y Trefnyddion Calfinaidd, yr hwn yn wir a ellir ei ystyried fel yr amgylchiad a'u ffurfiodd gyntaf yn gorph gwahaniaethol ac anymddibynol o grefyddwyr. Gwel y darllenydd ein bod yn cyfeirio at ymneilltuad rhai o'u pregethwyr i weinyddu yn gyflawn holl ordinhadau yr efengyl yn eu mysg. Di-angenrhaid yw i ni goffau yma gyfodiad a chynnydd yr enwad hwn yn Nghymru. Gŵyr pawb iddo ddechreu ar amser pan ydoedd tywyllwch a chysgadrwydd dygn wedi ymdaenu dros y dywysogaeth, ac i amryw o weinidogion duwiol o'r Eglwys Sefydledig, wrth weled agwedd resynol y wlad, dori dros y terfynau culion o fewn pa rai y cyfyngwyd hwynt, yn ol rheolau dysgyblaethol y cyfansoddiad crefyddol i ba un y perthynent.

Yn ol gorchymyn pendant gwir Ben yr eglwys, aethant allan i'r heolydd a'r ystrydoedd, i'r prif-ffyrdd a'r caeau, gan wahodd cynnifer ag a gaffent i briodas Mab y Brenin. Fel canlyniad i hyn, dechreuodd achos crefyddol, o gynllun hollol newydd, gyfodi trwy Gymru. Ymddangosodd yn fuan "o blith y bobl" amryw bregethwyr nerthol a duwiol, y rhai a ddaethant allan "yn blaid i'r Arglwydd yn erbyn y cadarn." Adeiladwyd llawer o addoldai i gynnulleidfaoedd y bobl hyn yn ngwahanol ranau o'r wlad, lle y byddai y pregethwyr rhag-grybwylledig yn cyhoeddi yr efengyl i dorfaoedd mawrion, "a'r Arglwydd hefyd yn dwyn tystiolaeth i air ei ras.

Ond am hir dymhor gweinyddid yr ordinhadau o fedydd a swper yr Arglwydd i'r lluoedd hyn, yn unig gan yr ychydig offeiriaid at ba rai y cyfeiriwyd eisoes. Ond fel yr oedd y gwaith yn ymledaenu, a'r cynnulleidfaoedd yn cynnyddu yn gyflym drwy yr holl wlad, yr oedd gweinyddiad y sacramentau hyn o angenrheidrwydd yn anaml ac yn annghyson iawn. Trwy hyn, daeth yn raddol argyhoeddiad cryf a chyffredinol ar feddyliau y werin, fod yn ofynol gwneuthur rhyw gyfnewidiad i gyfarfod y diffyg hwn. Byddai raid iddynt yn fynych fod yn gwbl amddifaid o'r rhagorfreintiau gwerthfawr hyn, neu eu derbyn o ddwylaw dynion nas gallent gyfrif a barnu, yn ol barn dyneraf cariad, eu bod yn weinidogion cymhwys y Testament Newydd. Gofynent yn naturiol, pa reswm a allai fod i'w hattal rhag cyflwyno y gorchwyl hwn, i rai o'r dynion hyny a fuont yn offerynol i argyhoeddi cannoedd o honynt, a thrwy weinidogaeth pa rai yr oeddynt yn derbyn maeth ysbrydol i'w heneidiau. Y mae'n wir eu bod yn gwybod nad oedd y gwŷr hyn wedi derbyn eu hawdurdod i'r gwaith "o ddynion, na thrwy ddyn," ond i'w meddyliau syml a dirodres hwy, yr oeddynt yn barnu fod Duw ei hun wedi gosod "sel apostoliaeth" arnynt, a bod ganddynt hawl i'w cyfarch hwy o leiaf yn ngeiriau yr Apostol, "Ai rhaid i ni megis i rai wrth lythyrau canmoliaeth wrthych chwi? Ein llythyr ni ydych chwi, yn ysgrifenedig yn ein calonau, yr hwn a ddeallir ac a ddarllenir gan bob dyn, gan fod yn eglur mae llythyr Crist ydych, wedi ei weini genym ni, wedi ei ysgrifenu nid âg inc, ond âg Ysbryd y Duw byw; nid mewn llechau ceryg, ond mewn llechau cnawdol y galon."

Nid mynych y gwelwyd datguddiad mwy hynod o rym rhagfarn, nag a ddangoswyd yn yr amgylchiadau hyn gan y gweinidogion eglwysig, at ba rai y cyfeiriwyd. Yr oeddynt yn credu ac yn uchel-gyhoeddi fod y rhan fwyaf o'u brodyr parchedig yn y Sefydliad, nid yn unig yn weinidogion anffyddlon, ond yn ddynion o galon anneffroedig, ac o fywyd annichlynaidd, ac eto mynent i'w dysgyblion dderbyn yr elfenau sanctaidd o ddwylaw y cyfryw, yn hytrach na goddef iddynt gael eu gweinyddu gan ddynion, fel pregethwyr boreuaf y Trefnyddion Calfinaidd, am ba rai y beiddiwn ddywedyd, na bu er dyddiau yr Apostolion nifer o weinidogion mwy zelog, duwiol, a doniol yn eu gwaith.

Ond er cymaint oedd eu hawdurdod yn y wlad, yr oedd anghysondeb eu hymddygiad, yn y pwnc hwn, yn ymddangos mor noeth, i lygaid y bobl, fel na chawsant nemawr i'w cefnogi, yn eu gwrthwynebiad, i ddymuniad ag oedd yn ymddangos mor rhesymol i bawb. Wedi hyn dygwyd y peth yn mlaen yn uniongyrchol o tan sylw yn nghyfarfodydd mwyaf cynnrychiolwyr y corph, lle, ar ol llawer o ddadleuon poeth, y penderfynwyd y cynnygiad hwn, yr hyn a gyflawnwyd yn y dull canlynol.—Pennodwyd rhyw nifer o'r blaenoriaid mwyaf syml a synwyrol, o bob sir, i gyfarfod yn Llandilo-fawr, yn Sir Gaerfyrddin, i'r dyben o ymgynghori â'u gilydd yn nghylch y personau mwyaf priodol i gael eu neillduo. Y canlyniad fu iddynt ddewis tri-ar-ddeg o wahanol siroedd y Deheubarth, yn mysg pa rai yr ydoedd (dros Sir Aberteifi) y Parch. Ebenezer Morris, y Parch. John Thomas, a gwrthddrych y cofiant hwn.

Wedi i'r personau a ddewiswyd yno gael eu cymeradwyo gan yr amrywiol gyfarfodydd misol, dygwyd y peth i weithrediad yn Nghymdeithasiad Llandilo, yr hon a gynnaliwyd ar yr 8fed o Awst, 1811, lle yr urddwyd i holl waith y weinidogaeth y brodyr hyny, gan y Parchedigion John Williams, Lledrod, Thomas Charles, Bala, a John Williams, Pant-y-Celyn.

Am yr amgylchiad hwnw, hoff yw genym osod ger bron ein darllenwyr y cofion canlynol, a drosglwyddwyd i ni gan gyfaill parchedig ag ydoedd yn bresenol ar yr achlysur.

"Mewn perthynas i'r ymneilltuad cyntaf, er fy mod yno, y mae'r rhan fwyaf wedi ei anghofio. Ond yr wyf yn cofio tri pheth yn berffaith, sef, laf. Mae y gymdeithas hono oedd yr un fwyaf ofnadwy y bum ynddi yn fy mywyd. Yr oedd pob cnawd yn crynu, ïe, yr oedd hyd yn nod llawer o'r gweinidogion mwyaf duwiol, hyawdl, a chadarn yn yr Ysgrythyrau, bron yn methu ateb gan fawredd Duw.

"2il. Dull hynaws Mr. Charles, o'r Bala, yn gofyn y chwestiynau. Yr oedd ei wedd yn hardd a siriol, ei eiriau yn fwyn ac ennillgar iawn. Wrth ddechreu gofyn i bob un, arferai yr un geiriau, sef, 'A. B., a fyddwch chwi mor fwyn a dweyd gair o'ch meddwl am y bod o Dduw,' &c.

"3ydd. Wrth weled amrai yn crynu, a bron yn methu, yr wyf yn cofio yn dda fy mod mewn pryder mawr, mewn perthynas i'ch tad, rhag ofn iddo golli, oblegid yr oedd yn ieuangach na hwynt oll. Ond cafodd ei hoff bwnc, sef Duwdod Crist; a phan glywais hwnw, syrthiodd fy maich yn y fan, oblegid gwyddwn fod hwn yn anwyl ac fel A, B, C, ganddo. Dywedodd ei feddwl arno yn oleu, rhydd, yn gadarn, ac i foddlonrwydd mawr, fel y collais fy ofnau ar unwaith."

Yn Ebrill, 1812, ganwyd ei ail fab, Henry.

Yn y flwyddyn hon hefyd torodd diwygiad grymus allan yn Tregaron a'r eglwysi cymmydogaethol. Nid yw yn perthyn i ni yn bresenol i ymholi i natur yr ymweliadau rhyfedd hyn. Y mae yn hysbys i bawb sydd yn adnabyddus o hanes crefyddol Cymru, iddynt yn fynych gael eu defnyddio gan yr Arglwydd i adfywio ei achos yn y wlad, i "helaethu lle ei babell, ac i estyn cortynau ei breswylfeydd," ac felly y tro hwn; a chroesawyd ei ymddangosiad yn awr gyda llawenydd mawr dros ben, fel arwydd nad oedd Arglwydd Dduw eu tadau wedi ymadael a'r gwersyll, nac wedi anfoddloni, oblegid y cyfnewidiad diweddar a gymerasai le yn eu plith.

Bu gweinidogaeth Mr. Richard yn yr ymweliad hwn yn llwyddiannus anarferol, a gellir crybwyll fel un prawf o hyn yr engraifft ganlynol. Pregethodd yn Llangeitho, ryw foreu Sabbath yn yr amser hwn, oddiar Luc xvi. 23, gyda'r fath nerth ac arddeliad dwyfol, fel y dwysbigwyd wyth-ar-hugain o eneidiau trwy y bregeth. Yn nghyfarfod yr eglwys a gymerodd le yn fuan ar ol hyny, ychwanegwyd deg-ar-hugain at ei nifer, o ba rai yr wyth-ar-hugain a grybwyllwyd eisoes a briodolent eu hargyhoeddiad i'r bregeth hono. Fel yr oedd y Parch. Mr. Williams (yr hwn oedd y diwrnod hwnw yn cadw y cyfarfod eglwysig) yn ymddiddan â hwynt, un ar ol y llall, ac yn derbyn yn barhaus yr un ateb, llefodd allan o'r diwedd mewn syndod, "Garw gymaint o honoch chwi a saethodd e' â'r un ergyd." Yn wir, hysbyswyd i ni yn ddiweddar, gan wr parchedig ag ydoedd yn byw yn Llangeitho y pryd hwn, ei fod ef yn sicr i gannoedd rai gael eu derbyn i'r eglwys yno, yn nghyd a'r eglwysi cymmydogaethol, y rhai a dystient mai wrth wrando ei bregeth ef, y boreu Sabbath hwn, yr argyhoeddwyd hwy gyntaf o'u sefyllfa beryglus wrth natur.

Ar y 7fed o Ragfyr, yn y flwyddyn hon (1812,) bu farw ei dad, yn hen a llawn o ddyddiau, a galarwyd am dano yn fawr gan ei wraig, a'i blant, a chylch helaeth o gyfeillion. Wrth ddychwelyd o'i daith Sabbothol, yn ngodreu Sir Benfro, syrthiodd y ceffyl tano, a thorodd ei glun, yr hyn yn mhen ychydig ddyddiau a achlysurodd ei farwolaeth. Yn ngwanwyn y flwyddyn ganlynol (Ebrill 10, 1813,) bu farw ei fam-yn-nghyfraith, Mrs. Williams, yn 68 oed, yr hon oedd wraig dduwiol, a hynod am ei gwybodaeth o'r Ysgrythyrau. Bu yn aelod eglwysig am 54 o flynyddau.

Yn y flwyddyn hon (1813) pennodwyd ef yn Ysgrifenydd y Gymdeithasiad (Association) yn y Deheudir, yn ol cynghor y Parch. Mr. Charles, o'r Bala. Diraid yw i ni hysbysu i'r sawl a fuont dystion am y medrusrwydd a'r ffyddlondeb a pha rai y cyflawnodd efe y swydd hon hyd ddydd ei farwolaeth. Yn un o'r pregethau angladdol, a draddodwyd ar ol ei farwolaeth, dywedir gan y llefarwr parchedig-" Ond fel Ysgrifenydd y Cymdeithasiad, yr ydoedd heb ei fath. Yr ydoedd gan Dafydd frenin Jehosaphat yn gofiadur, a Sadoc yn ysgrifenydd; ond mi feddyliwn nad oeddynt ill dau yn nghyd ddim cymaint a'n Ebenezer ni. Y pethau a drinid yn sathredig, efe a osodai bob aelod yn ei le, ac a ddarllenai y sylwadau yn y Gymdeithasiad nesaf, nes y byddai pawb wedi cael cyflawn daliad am eu trafferth i deithio i'r lle. Hyderaf y ceir y blwch, a'i osod yn yr argraff-wasg, nes y gwasgerir ei ber-aroglau dros holl derfynau yr iaith Gymraeg.[6]

Yn y blynyddau hyn, digwyddodd amgylchiad, yr hwn a ddengys mewn modd neillduol ddianwadalwch cydwybodol ei egwyddorion crefyddol. Yr oedd John Jones, Ysw., Derry Ormond, yn agos i Lanbedr, yn berthynas i'w wraig; ac ar ddyfodiad Mr. Richard i Dregaron, yr oedd y gwr boneddig hwn wedi cymeryd hoffder mawr ynddo. Yr oedd y cythrwfl a gyfododd mewn perthynas i'r ymneilltuaeth yn mhlith Ꭹ Trefnyddion Calfinaidd, yn parhau o hyd i gyffroi meddyliau gweinidogion yr Eglwys Sefydledig. Barnent yn uniawn fod y mesur hwnw wedi achosi ymwahaniad trwyadl rhyngddynt hwy a'r corph rhag-grybwylledig, a hyn oedd beth yr oeddynt yn dymuno yn awyddus ei ochelyd; am hyny, arferent bob moddion i ennill yr ymneillduwyr hyn yn ol. I'r dyben hwn, aeth un o brif offeiriaid yr Eglwys yn Sir Aberteifi at y boneddwr uchod, i ddeisyf arno ef i ymdrechu cael cydsyniad Mr. Richard i dderbyn urddiad esgobawl. Mewn anwybodaeth o wir gymeriad y gwr oedd ganddynt mewn llaw, ymrwymodd Mr. Jones yn hyderus i lwyddo yn yr amcan hwn. Anfonodd am dano yn uniongyrchol i'r Ddery, heb amlygu ychwaneg o'i fwriad, na'i fod yn dymuno ei weled yn ddioed. Ufuddhaodd yntau y gwahoddiad yn fuan; ac wedi ei roesawi yn garedig, dywedodd Mr. Jones ei fod ef a'r Vicar (Evans, o Lanbadarn-fawr) wedi bod yn ymddiddan yn ei gylch, y dydd o'r blaen, ac wedi dyfod i'r penderfyniad o roddi iddo y cynnyg o gael ei ordeinio i bersoniaeth eglwysig, lle y derbyniai fywioliaeth lawer mwy esmwyth a chyflawn nas gallasai obeithio ei mwynhau yn ei sefyllfa bresennol, a'i fod ef (Mr. Jones) wedi gwystlo ei air i'w droi i gydsyniad â'r peth. Atebodd yntau yn gadarn a dibetrus, "Y mae y peth yn anmhosibl, syr." Synodd y gwr boneddig yn ddirfawr, a gofynodd, "Paham?" Dywedodd yntau, "Y byddai rhoddi caniatâd i'r cynnyg hwn, yn gyntaf, yn weithred gwbl groes i'w gydwybod, oblegid ei fod o egwyddor yn ymneillduo oddiwrth yr Eglwys Sefydledig. Yn ail, ei fod yn barnu y gallai fod o fwy defnyddioldeb gyda'r gwaith y man yr oedd. Ac yn drydydd, fod cymaint o undeb ac anwyldeb rhyngddo ef a'i frodyr, ag a wnelai y rhwygiad yn annyoddefol i'w deimladau." Nis gallai y gwr boneddig feio mewn un modd ar y rhesymau hyn, ond dywedodd, â gwedd anfoddlon, ei fod yn ei ystyried yn ffol iawn ar ei les ei hun, i wrthod y fath gyfleu. Fel hyn y parhaodd barn Mr. Richard drwy ei holl fywyd. Y mae yn gof genym pan yn ei gyfeillach ryw dro, i enw gweinidog oedd wedi ymadael a'i frodyr crefyddol a myned drosodd i'r Sefydliad, gael ei grybwyll yn ddamweiniol. Sylwodd rhyw un oedd yn yr ystafell, "O'm rhan i, yr wy'n meddwl iddo wneud yn birion, oblegid y mae yn cael bywioliaeth llawer mwy cysurus, a'r un cyfleusdra i bregethu yr efengyl." Nid mynych y gwelsom ef yn edrych yn fwy gwgus na 'phan yr atebodd i'r sylw hwn mewn llais llym ac anfoddlon, "O na, na, os nad oes genym ryw faint o brinciple yn y pethau hyn, nid ydym werth dim!"

PEN. VI.

Ei ymdrechiadau i ledaenu gwybodaeth yn y wlad am y Cymdeithasau crefyddol—Llythyr at gyfeillion ar farwolaeth plentyn—Llythyr at Gymdeithasiad Dinbych—Un arall at Mrs. Margaret Thomas.

YR ydym yn awr wedi agoshau at y flwyddyn 1814. Yn nghylch y pryd hwn ymddengys iddo gyssegru llawer o'i amser a'i lafur i ddwyn ger bron y wlad yn gyffredinol achos y Cymdeithasau crefyddol mawrion, a sefydlasid yn ddiweddar yn y deyrnas hon, sef y Beibl Gymdeithas a'r Gymdeithas Genhadol. Cafodd fod anwybodaeth mawr yn mhlith ei gydwladwyr yn y cymmydogaethau hyny, am natur ac amcanion goruchel y sefydliadau hyn, a'r angenrheidrwydd dirfawr oedd am danynt. Ymroddodd gyda'i zel a'i ddiwyd-· rwydd arferol i'r gwaith hwn. Casglai yn nghyd o bob parth hanesion ac hysbysiadau i'w gydwladwyr uniaith, i osod ger bron y gwahanol gynnulleidfaoedd, yn yr areithiau a'r cyfarchiadau nerthol a hyawdl a wnai ar amser y casgliadau blynyddol at y dybenion hyn. Y mae yn debyg na feiir arnom, os dywedwn iddo wneuthur mwy, trwy y moddion hyn, at gynhyrfu meddwl y rhan hon o'r wlad o leiaf, gyda'r gorchwylion hyn, na nemawr un arall.

Mewn perthynas i'r blynyddau canlynol, nid oes genym ddim neillduol i'w adrodd am dano, ond fod ei lafur cyson a diflin gyda phob rhan o achos yr efengyl, yn parhau ac yn cynnyddu yn feunyddiol. Teithiai lawer trwy bob rhan o Gymru, y Gogledd yn gystal a'r Deheudir, ac ennillai barch a chymeradwyaeth iddo ei hun yn mhob man; nid yn unig oherwydd ei ddawn a'i ddefnyddioldeb yn ei wahanol swyddau, ond hefyd trwy burdeb difrycheulyd ei fywyd, yn nghyd a hynawsedd a boneddigeiddrwydd ei ymddygiadau.

Diau y bydd yn dda gan lawer, yn enwedig rhai mewn cyffelyb amgylchiadau, i weled y llythyr canlynol, a anfonodd yn y flwyddyn 1816 at ei gyfeillion Mr. a Mrs. Davies, Carnachen-wen, Sir Benfro, ar farwolaeth eu hunig blentyn. Ei gyfieithu yr ydym yn llythyrenol o'r iaith Saesoneg, yn mha un yr ysgrifenwyd ef.

Medi 3ydd, 1816.

FY ANWYL A'M HYBARCH GYFEILLION,

Teimlais yn fynych awydd i ysgrifenu ychydig linellau atoch, o dan eich trallod presennol, eto yr wyf yn gobeithio fy mod yn deimladwy o fy annheilyngdod a'm hollol anaddasrwydd at orchwyl mor anhawdd a gweinyddu cysur effeithiol i eneidiau sydd yn ochneidio dan ofidiau a thrallodau allanol, ac yn cael eu hysgwyd ar donau siomedigaethau y byd hwn. Yn wir, gwaith yw hwn a berthyn i'r Ysbryd dwyfol ei hun: Efe yn unig eill orchymyn tawelwch i enaid tymhestlog: Efe eill lefaru tangnefedd ac esmwythder yn nghanol y dyryswch mwyaf, yr hyn a wyddoch yn dda. Pa fodd bynag, dymunwn gydymdeimlo yn dirion â chwi, gan gofio fy mod inau hefyd yn y corph, yn ddarostyngedig i'r un profedigaethau, ac i'ch cynnorthwyo hyd ag y gallaf, i ddwyn eich baich gyda ffydd, amynedd, ac ymostyngiad i ewyllys Duw.

"Dymunwn yn ostyngedig gynnyg yr ystyriaethau canlynol, er eich cysur a'ch cynnaliaeth:

1af. Yystyriwch ben-arglwyddiaeth a goruchafiaeth Duw mawr. Yr ydym yn fwy yn eiddo iddo ef nac i ni ein hunain, ac yn fwy hollol o dan ei drefniad, Salm c. 3; 1 Cor. vi. 20; yr hyn hefyd sydd wir am ein perthynasau agosaf ac anwylaf, a phob meddiannau sydd genym yn y byd. Y mae Job sanctaidd yn cydnabod y pen-arglwyddiaeth hyn. Job i. 21.

"2il. Ystyriwch gyfiawnder yr oruchwyliaeth ddwyfol hon, wrth eich hamddifadu o eich hunig a'ch hawddgar faban. Nid yw Duw yn gweithredu mewn modd traawdurdodus, ond fel brenin doeth a chyfiawn. Ni wnaeth efe ddim cam gan hyny pan gipiodd blentyn anwyl o freichiau mam dyner. Dywediad ardderchog oedd hwnw o eiddo un o'r henafiaid (ancients,) pan dderbyniodd y newydd am farwolaeth ei fab, "Yr oeddwn yn gwybod i mi genedlu un i farw." ("I knew that I begat a mortal.")

3ydd. Ystyriwch nas gall fod ammheuaeth am ddedwyddwch presennol eich hanwyl faban. Y mae marwolaeth Crist wedi gwneuthur iawn am euogrwydd pechod Adda, Rhuf. v. 18, 19; ac, am fod yr euogrwydd wedi ei gymeryd ymaith, nis gall cospedigaethau y pechod hwnw ganlyn yn y sefyllfa ar ol hon; a chan nad oes gan blant ddim euogrwydd personol, o'u heiddo eu hunain, y mae eu hiachawdwriaeth hwy yn canlyn o angenrheidrwydd, felly y mae ein Harglwydd yn llefaru, fel pe bai'r nefoedd yn cael ei pherchenogi yn benaf gan y rhai bychain hyn, Matt. xix. 13, 14.

"4ydd. Ystyriwch ei fod wedi cyflawni dyben ei greedigaeth, a'r amcanion i ba rai yr anfonodd Duw ef i'r byd. Y mae yn wir na wnaeth ond arosiad byr, a bod ei gynneddfau a'i alluoedd yn wanach na'r rhai sydd wedi cyrhaedd cyflawn oed. Nis gallasai ef wneuthur un dewisiad gweithredol, na chyflawni un gwasanaeth personol, ond atebodd efe y dyben i osod allan berffeithiau a rhagluniaeth Duw; ac yn amgylchiadau ei enedigaeth, a'r tiriondeb a fu yn gwarchac trosto yn ei fabandod, yr oedd yn esiampl neillduol o allu, doethineb, a daioni Duw. Da fyddai, pe b'ai y rhai sydd yn marw yn oedranus yn ateb dyben eu creedigaeth mor uniawn a'r rhai sydd yn marw mewn cyflwr o fabandod.

5ed. Yr wyf yn cyfaddef mae unig blentyn oedd yr eiddoch chwi, yr hyn a wna eich profedigaeth yn drymach, ond eto cofiwch amgylchiad Job, i. 18, a'r weddw o Nain, Luc vii. 12. Gwelwch ufudd-dod parod Abraham yn achos ei unig fab; ond, uwchlaw y cwbl, ystyriwch ddigyffelyb gariad Duw, yr hwn a roddodd ei Fab, ei anwyl, ei gyntaf-anedig, ei unig Fab, drosom ni, Ioan iii. 16; Esaia liii. 6-10.

6ed. Ystyriwch eich sefyllfa gyfammodol eich hunain. Mae eich rhan yn y cyfammod yn sicr, pa beth bynag y mae yn ei gymeryd oddiwrthych. Y mae Duw ei hun yn eiddoch chwi, a holl addewidion y cyfammod newydd. Y mae Crist, Mab Duw, yn eiddoch chwi, a holl bwrcas ei waed, 1 Cor. iii. 21, 22. Y mae yn fendith fwy bod ein hunain yn blant i Dduw, ac yn aerion (heirs) etifeddiaeth nefol, na chael teulu lluosog, a'r llwyddiant mwyaf yn ein bywyd, Esaia lvi. 5.

7fed. Ac yn olaf, dymunwn i chwi ystyried fod yn rhaid i ni fyned yn fuan at ein cyfeillion ymadawedig, a bod gyda hwynt drachefn. Fy anwyl gyfeillion, nid ysgariad tragywyddol ydyw, ond yn unig am amser. Nid ydyw ond y pellder sydd rhwng y ddau fyd, ac weithiau nid yw hyny ond un cam, ie, efallai ddim ond y gwahaniaeth o un anadl. Mewn gronyn bychan, bychan iawn, cawn ein hunain mewn syndod hyfryd, wrth eu gweled drachefn, a'u mwynhau yn llawer perffeithiach, a byth, byth heb deimlo mwyach arteithiau ysgariad oddiwrth ein gilydd. Fel hyn y cysurai Dafydd ei hun, 2 Sam. xii. 22. Nid ydyw eich hanwyl William ond wedi cychwyn ryw faint yn gynt, ac wedi myned ychydig yn mlaen.

"Nid oes un Cristion gwirioneddol heb groes o ryw fath neu gilydd, oddifewn neu oddiallan; priodol gan hyny y gallai'r prydydd ddywedyd,

Ai neb ond Simon garia'r groes,
A'r lleill i gyd yn rhydd?
I bawb mae croes, yn mhob rhyw oes,
A chroes i tithau sydd.'

Ond, O gystuddiau hyfryd sydd yn ein diddyfnu oddiwrth y byd truenus hwn, sydd yn foddion i farweiddio ein llygredigaethau, a'n dysgu i fyw yn fwy cyson trwy ffydd ar Iesu Grist, ac i sefydlu ein holl obaith a'n dysgwyliadau ar fyd arall, a gwell.

"Y mae cystuddiau sancteiddiedig i'w dewis fil o weithiau yn hytrach na llwyddiant ansancteiddiedig. Y mae y trallodau trymaf tu yma i uffern yn llai, lawer llai, nac y mae ein hanwireddau yn haeddu. O ras difesur! gallasai fod yn ei law yn lle gwialen geryddol Tad cymmodlawn, gleddyf tanllyd y Barnwr digofus; ac yn y nefoedd, fy anwyl gyfeillion, y bydd cof am fustl a wermod y gofidiau a gyfarfuoch yma, yn tueddu i felysu archwaeth y mwyniant nefol, oblegid pa fwyaf caled fyddo yr ymdrech, mwyaf gogoneddus fydd y fuddugoliaeth; pa fwyaf peryglus fyddo'r fordaith, mwyaf croesawus fydd y porthladd; pa trymaf y byddo'r groes, disgleiriaf fydd y goron; gan hyny, na fydded i galedi eich taith beri i chwi anghofio, eithr yn hytrach i hiraethu mwy am eich cartref. Fel hyn yr wyf yn anfon y fasgedaid fychan hon o loffion, fel arwydd o'm cydymdeimlad a'm parch diffuant, gan wybod na ddiystyrwch hwynt, er eu bod yn dyfod oddiwrth yr annheilyngaf o'ch cyfeillion,

"EBENEZER RICHARD."

Y mae y llythyr canlynol yn esbonio ei hun:

Ionawr 28ain 1818

"Y Brodyr yn gynnulledig yn Nghyfarfod Misol Sir Aberteifi, at y Brodyr yn gynnulledig yn Nghymdeithasiad Dinbych, yn anfon annerch,—Gras, trugaredd, a thangnefedd, oddiwrth Ben yr Eglwys, a fyddo yn ehelaeth yn eich mysg.

"ANWYL A PHARCHEDIG FRODYR,

Yr ydym yn awyddu cydnabod ar bob achlysur yr undeb cadarn a diwahan sydd wedi parhau er ys cymaint o flynyddoedd rhyngom ni yn y Deheubarth a'n hanwyl frodyr yn Ngogledd Cymru; a chan ein bod yn teimlo mawr bryder rhag iddo mewn un modd wanhau na llaesu, yr ydym mewn gwir ofid pan fyddo neb o'n Cymdeithasiadau yn myned heibio heb rai o honoch chwi ynddynt i fod yn gymhorth i ni yn y gwaith. Gyda golwg ar hyn, cytunasom o unfryd i anfon yr ychydig linellau hyn i'ch Cymdeithasiad, gan attolwg arnoch, fod i nifer fawr o honoch ddyfod trosodd i'n cymdeithasiad flynyddol, sydd i fod yn Aberystwyth, y 24 a'r 25 o Mawrth nesaf. Ni all fod yn anhysbys i lawer o honoch, mae hon ydyw y luosocaf a feddwn yn y Deheubarth, a bod tywalltiadau mawr, anghyffredinol, a rhyfeddol o'r Ysbryd Glan wedi bod ynddi lawer blwyddyn, a'i bod hefyd y nesaf a'r fwyaf cyfleus i Ogledd Cymru yn ein holl siroedd.

Anwyl frodyr, nid ydym ond dwy chwaer yn yr holl deyrnas; a phan fyddo rhyw ddiffyg ar y naill, ni fedd un lle ar y ddaear i droi am gymhorth ond at y llall. Y mae llaweroedd yn Lloegr a Chymru yn edrych ar ein hundeb gyda llygaid cenfigenus, ond bydded i hyny ennyn ein zel yn fwy am ei gadw yn ddigoll a difwlch. Byddai yr oerni lleiaf rhyngom yn achos o ahâ yn ngwersyll ein gelynion, ac yn wendid digyffelyb yn ein gwersyll ninau; gan hyny, yr ydym yn taer ddymuno arnoch ein gwrando y waith hon, gan addaw, os cawn brawf o'ch ffyddlondeb y tro presennol, pa beth bynag a ofynoch genym, ac a fyddo yn bosibl i ni ei gyflawni, ni a'i gwnawn.

"Arwyddwyd, dros y Brodyr, genyf fi,

"EBENEZER RICHARD,

"Ysgrifenydd Cymdeithasiad y Dehau."

Yn y mis canlynol i ddyddiad y llythyr uchod, anfonodd un arall at wraig dduwiol yn eglwys Penmorfa, (yr hon ar y pryd oedd yn dyoddef rhyw adfyd trwm,) rhanau o ba un a roddir yma.

AT MRS. MARGARET THOMAS, FFYNNON-BERW.

"CHWAER ANWYL,

Tregaron 24 Chwef 1818

Y mae yn dra gofidus i fy meddwl hyd y dydd heddyw na allaswn gael cyfleusdra i'ch gweled pan yr oeddwn yn eich cymmydogaeth, ond fe'm lluddiwyd gan amgylchiadau anocheladwy. Nid wyf yn cofio fy mod erioed o'r blaen yn Penmorfa na byddwn yn eich gweled yno, a gallaf ddywedyd fod eich presennoldeb yn hoff bob amser. ******* "1. Ystyriwch, chwaer anwylaf, fod cystuddiau yn ein diddyfnu oddiwrth y byd. Dyma'r alws mae Duw yn roddi ar fronau'r creadur. 2. Yn gweithio ymostyngiad tan alluog law Duw. 3. Yn dysgu gostyngeiddrwydd. 4. Yn cyffroi i ddiwydrwydd. 5. Yn ein deffro i weddiau. Ac yn 6. Yn ein cydffurfio â delw Duw, a'n haddfedu i ogoniant.

"I'r dyben o fod yn anrhydeddus tanynt, ystyriwn y pethau canlynol:

Yn 1. Ein mawr drueni ein hunain, a'n bod yn haeddu pethau mwy. 2. Dyben Duw yn eu danfon ï'n cyfarfod. 3. Yr addewidion o gynnaliaeth tanynt. 4. A'r daioni sylweddol sydd yn deilliaw o honynt. Ni ddanfonir cystudd byth i gyfarfod a'r duwiol, ond ar neges briodol. Cofiwch y dywediad, "Mae arwydd gwaeth yw bod heb gerydd na bod tan gerydd." Bod yn Gristion, ac yn Gristion goddefgar, sydd yn anrhydedd dau-ddyblig. Er bod eich baich yn drwm, nid oes genych hir ffordd i'w gario. Pa beth ydyw croes amserol, at wisgo coron dragywyddol?

"Yn nghanol llawer o bob rhyw wasanaeth, ymdrechais anfon atoch yr ychydig linellau hyn, gan obeithio y ca'nt chwi yn llawer iawn gwell. Dymunaf fy nghofio yn garedig at eich gwr, eich mab, a'i deulu, yn nghyd a'ch merch; a dymunaf gael fy nghofio genych o flaen gorsedd gras.

Ydwyf, chwaer anwyl,

Yr annheilyngaf o'ch brodyr oll,

A'ch gwas dros Grist,

EBENEZER RICHARD.

PEN. VII.

Ei ymweliad cyntaf i'r brif-ddinas—Pigion helaeth o Ddydd-lyfr a gadwai tra yn aros yn Llundain—Llythyr at eglwys Llangeitho—Marwolaeth ei dad-yn-nghyfraith—Marwolaeth ei fam—Llythyrau ato ef oddiwrth y Parch. David Evans, Aberayron.

YN y flwyddyn 1818, ymwelodd am y tro cyntaf a'r brif-ddinas, i weinidogaethu yn mhlith ei gydwladwyr, perthynol i'r Trefnyddion Calfinaidd yno; a chan ei fod wedi cadw dydd-lyfr tra chyflawn, am yr amser y bu yn Llundain, rhoddwn y pigion canlynol o hono ger bron ein darllenwyr, lle y canfyddir ei awydd cryf a’i ddiwydrwydd cyson, i ddefnyddio y cyfleusderau oedd o fewn ei gyrhaedd, i wneuthur ei hun yn adnabyddus âg holl amgylchiadau y byd crefyddol yn gyffredin. Geilw ef

DYDD-LYFR,

Neu hanes gywir a manwl o fy nhaith gyntaf i Lundain; fy arosiad yno, a'm dychweliad oddiyno adref; yn cynnwys cofnodau o'r pethau mwyaf hynod a gymerodd le yn mhob diwrnod.

"Mawrth, Iau, 16, 1818. . . . Daeth Mr. Owen Williams i'm cyfarfod i'r dyben o`m harwain i Hoxton Academy; bum am oriau gydag ef yn ei lyfr-gell; yna cefais y fraint o wrando Dr. Collyer yn pregethu yn nghapel Hoxton. Ei destun ydoedd Rhuf. x. 9. Deallais ei fod yn pregethu pur efengyl, a gorfoleddais yn fawr. Gwr o ddoniau mawr i draddodi ei feddwl, mewn iaith oruchel a manwl. ***** Sad. 28. Treuliais y prydnawn yn fy myfyrgell, ond och mor grwydredig fy meddyliau, mor wasgaredig, ac mor anhawdd eu cael at bethau ysbrydol! Gwelais bod mor anhawdd myfyrio yn y 'stafell ac ar yr heol, heb neillduol gynnorthwy. ***** Ebrill, Iau, 1. Yn y prydnawn aethum i Gapel Guildford Street, lle yr oedd cangen o'r Gymdeithas Feiblaidd Gynnorthwyol yn mysg y Cymru yn cyfarfod. Yma yr oedd un Mr. Davies yn y gadair, a llefarodd amryw ar yr achos yn Gymraeg a Saesoneg, ac yn eu mysg llefarais inau ychydig ar y modd mae i ni ddangos parch gwirioneddol i'r datguddiad dwyfol. Teimlais hwylusdra i ryw raddau yn y gwaith, a bu yn dda genyf fod yno. ***** 4. . . . .Aethum heddyw i weled y rhyfedd-beth hynod hwnw yn Leicester Square, sef darluniad o frwydr Waterloo yn y Panorama yno; ni welais ddim erioed i gystadlu ag ef; fe'm mawr synwyd wrth edrych arno, a meddyliais os oedd y creadur mor gywrain, pa beth oedd y Creawdwr? . . . . Treuliais y prydnawn i gyd oll yn fy myfyrgell, gan ymdrechu, trwy weddi a myfyr, i ymbarotoi ar gyfer y Sabbath oedd yn dyfod. ***** 5. Dyma'r trydydd Sabbath wedi gwawrio arnaf yn Llundain. Aethum gyda ychydig o'm cyfeillion i gapel bychan yn y Borough; yna llefarais oddiwrth Salm xlviii. 18. Holais yr ysgol, a chyfrenais yr Epistolau at y Rhufeiniaid a'r Hebreaid i'w dysgu. Yma cawsom gyfarfod gwerthfawr. Aethom oddi yma, a, chan fod amser yn caniatau, daethom i Gapel Surrey i wrando y Parch. Rowland Hill, a chawsom ei bregeth ef i gyd oll. Dychwel'som i Wilderness Row mewn cerbyd. Yn y prydnawn ymdrechais lefaru gair ar eiriolaeth Crist. Teimlais drymder mawr ar natur. Bedyddiais ddau blentyn ar y diwedd. Ar ol gorphwys ychydig, daeth odfa'r hwyr, a soniais am ogoniant Breniniaeth Crist. Profais radd o eangiad yn y gwaith. Yn y gymdeithas ddirgel derbyniwyd un wrthgil-wraig, merch ieuanc. Felly terfynodd y Sabbath gwerthfawr hwn, ar ol i mi gael bod bedair gwaith yn nhŷ Dduw, yn dysgwyl wrtho, a gobeithio y gallaf ddywedyd nad yn ofer. Bydded y mawl i'r Arglwydd, a'r llwch i minau.

6. Yn yr hwyr cadwyd cymdeithas ddirgel yn W. R., yn yr hon yr ymddiddanwyd â dau berson ag oeddynt yn cynnyg eu hunain yn aelodau—un ydoedd wrthgil-wraig o'r wlad, a dyn ieuanc arall, dan raddau go fawr o argyhoeddiadau. Fel hyn terfynais y dydd hwn yn nhŷ Dduw, lle y dymunwn derfynu dyddiau mywyd.

7. Aethum y boreu hwn i eglwys Bartholomeus i wrando'r hen wr Mr. Wilkinson. Pregethodd oddiwrth Matt. xxviii. 19, 20, yn rhagorol o werthfawr; ar ffurf bedydd yr arosodd yn benaf. Gwrandewais ef gyda llawer iawn o hyfrydwch, a theimlais ddiolchgarwch nid bychan am gael y fraint. ***** 11. Aethum heddyw i synagog yr Iuddewon, lle yr oedd llawer o ugeiniau o honynt yn addoli; y cwbl yn wag a hollol ddisylwedd: nid rhyfedd wrth ystyried eu bod tan y llen hyd y dydd hwn. Dychwelais trwy'r Royal Exchange, y Bank of England, a St. Paul's; yma gwelais bethau tra rhyfedd, sef yn mhob un o'r lleoedd uchod: yn R. E. gwelais yr ysgrifenlaw gywreiniaf yn y byd; yn y llall gwelais drafod arian fel trafod ceryg; yn y trydydd gwelais gywreinrwydd mwyaf y celfyddydau. ***** 13. Treuliais y boreu hwn i ysgrifenu llythyrau at fy nghyfeillion yn y wlad. Ysgrifenais at y Gymdeithas yn Nghapel Gwynfil, &c. Derbyniais hefyd lythyr oddiwrth y Parch. Mr. Williams, o Ledrod, mewn ffordd o atebiad i'r un a anfonais i ato ef; bu yn llawen iawn genyf ei gael. . . . Yn yr hwyr aethum i Jewin Street Chapel, i gyfarfod cymwynasgar i'r tlodion, lle yr oedd Dr. Collyer yn y gadair. Ni welais gyfarfod hyfrydach yn fy mywyd. Mawl i Dduw am gael bod ynddo!

14. Treuliais y boreu hwn gartref i ddarllen ac i ysgrifenu. Yna aethum ymaith gyda'r cerbyd i Greenwich a Woolwich. Yma ymdrechais lefaru am y sylfaen a osodwyd yn Seion. Cawsom gymdeithas neillduol, lle'r ymddiddenais â thri o'r brodyr. Annogais hwy i godi Ysgol Sabbothawl; i hyn cefais fwy o wrthwynebiad oddiwrth yr enw blaenor oedd yno na neb arall: fath beth gwael yw'r cyfryw heb zel a gostyngeiddrwydd. Gwelais fod pob gwaeledd yn rhwym o oresgyn yr eglwysi hyny sydd ag iddynt y fath flaenoriaid. O am ras cyfaddas i'r lle y galwodd Duw ni iddo, fel na byddom yn rhwystr i'r gwaith! ***** 16. Aethum y boreu hwn i dŷ yn Old Jewry, lle y mae yr ystafelloedd cenadwriaethol. Gwelais yma ryfedd-bethau a chywrein—waith o Africa, Asia, ac America, yn nghyd ag amryw greaduriaid, neu eu crwyn wedi eu llanw. Yma boddhawyd fy meddwl âg agos bob golwg a welais. Yn yr hwyr aethum i gyfarfod Beiblau yn Deptford: llefarodd yn nghylch pedwar-ar-ddeg i gyd. Cafwyd llawer o dangnefedd a chariad yn y cyfarfod.

17. . . . . Yn yr hwyr cynnygiais lefaru ar weddio yn ddibaid. Teimlais lawer iawn o ryddid a hyfdra meddwl; mi debygwn na byddai yn rhyfyg i mi feddwl i'r Arglwydd ganiatau dwyfol gymhorth yn y cyfarfod hwn. Bendigedig a fyddo ei enw mawr a rhyfedd, am ei fawr diriondeb i lwch mor wael! ***** 21. Treuliais y boreu hwn yn fy myfyr-gell; ysgrifenais at fy anwyl frawd, Ebenezer Morris, ac ychydig o bethau ereill. . . . . Yn yr hwyr aethum i Gapel Wilderness Row, lle yr oedd cyfarfod gan y Saeson yn achos y Feibl Gymdeithas, a Dr. Collyer yn y gadair. Trodd hwn allan yn gyfarfod tra gwerthfawr. Llefarodd yma lawer iawn ar yr achos, gyda llawer iawn o ddoniau areithyddol, ac ymddangosodd pethau tra rhyfedd yn wyneb yr areithiau. Terfynwyd trwy araeth gan y cadeiriwr.

22. Y boreu hwn, ar ol treulio amryw oriau yn fy myfyr-gell, aethum i Bedford Chapel, i wrando y Parchedig Daniel Wilson, a chefais bregeth o efengyl oddiwrth Jer. xxxi. 31-34; y gair olaf yn benaf, sef maddeuant pechod. Pregethodd yn dda odiacth, ac yn dra eglur a goleu. Yn yr hwyr, aethum i Dŷ'r Cyffredin (House of Commons) yn y senedd, lle y gwelais ryfeddodau, ac y clywais areithiau dawnus a hyawdl gan Mr. Wilberforce, Mr. Goulding, Mr. Grant, Sir Robert Peel, Sir Samuel Romilly, Sir James Macintosh, Mr. Marryatt, Mr. Brown, Mr. Smith, General Thornton, ac ereill. Arosais nes yr ydoedd wedi un-ar-ddeg o'r nos, yna dychwelais mewn cerbyd adref. ***** 24. . . . . Eisteddais yn y prydnawn i gael tynu fy llun; meddyliais am eiriau'r duwiol Hervey ar yr un achos, mae cysgod o gysgod oedd. . . . Yn yr hwyr, cynnygiais lefaru ychydig oddiwrth Col. iii. 11, sef mae Crist yw yr oll yn ein iachawdwriaeth ni. Teimlais raddau mawr o ryddid yn y gwaith. Bu fy meddwl yn dra hyfryd y tro presennol. Teimlais ei bod mor hawdd pregethu ag anadlu, pan y byddai'r Arglwydd yn gwenu. ***** Mai 1. Aethum y boreu i wrando Dr. Adam Clarke yn pregethu pregeth genhadol. Ei destun oedd, "Arglwydd y Lluoedd a wna i'r holl bobloedd yn y mynydd hwn wledd," &c. Dywedodd lawer o bethau da iawn. Ei ddull yn weddus, a'i alluoedd fel pregethwr oedd fawr. Wedi hyny i Freemason's Hall i gyfarfod yn achos y National School. Yma yr oedd y Dug o York, ac yn nghylch pymtheg o esgobion, heblaw arglwyddi ereill. Deallais i Archesgob Canterbury a York, Esgob Llundain, Arglwydd Harrowby, Sir T. Ackland, Wm. Wilberforce, Ysw., Arglwydd Kenyon, Sir Robert Peel, a rhai ereill, lefaru. Daethum adref yn y prydnawn i ymbarotoi erbyn y gwaith cyhoedd. Cynnygiais lefaru ychydig ar gnawdoliaeth Crist, a theimlais fod y son am dano yn adnewyddol felus: bu yn dda genyf gael yr odfa: llawer yn nghyd.

4. Cyfodais heddyw yn hytrach cyn pump; rhodiais allan ychydig, a dychwelais at fy moreufwyd. Wedi hyny aethum gyda chyfaill i'r Capel-ar-Nawf, (Floating Chapel,) can yr heddyw yr agorwyd ef i bregethu ynddo gyntaf. Yn y boreu pregethodd y Parch. Mr. Hill oddiwrth Gen. viii. 9, "Ac ni chafodd y golomen orphwysfa i wadn ei throed." Yr oedd y gynnulleidfa yn lluosog, a'r cyfarfod yn hyfryd iawn. Casglwyd at gynnal yr achos £80. Ymadawodd y gynnulleidfa heb neb yn cael dim niweid ar a glywais. Dychwelasom drachefn erbyn tri o'r gloch i'r Capel-ar-Nawf, lle y pregethodd y Parch. Mr. Roberts, o Friste, oddiwrth Titus ii. 11, 12. Nid wyf yn cofio yn fynych am y fath bregeth erioed. Dangosodd, I. Drueni morwyr yn eu meddwdod-tyngu, anlladrwydd, a dirmyg rhyfygus ar angau. II. Addasrwydd gras Duw, sef yr efengyl, ar eu cyfer. III. Rhwymedigaethau eglwys Duw i ymdrech ar eu rhan. O mor fywiog, nerthol, ac addas y llefarodd; ond yr oedd ei iaith yn uchel. Effeithiodd ei araeth efengylaidd ar y dyrfa, a chasglwyd £48 yn ychwaneg.

5. Dyma foreu hyfryd-yr hin yn deg odiaeth. Aethum heddyw i St. Anne, Blackfriars, lle yr oedd Professor Farish i bregethu yn mhlaid y Church Missionary Society, a phregethodd oddiwrth Luc xi. 2; i'm tyb i, yn dra rhagorol a da. Yma cyfarfum a'm cyfaill Owen Williams, ac aethom yn nghyd tua Freemason's Hall, lle'r oedd y gymdeithas yn cynnal ei chyfarfod blynyddol. Yma yr oedd Arglwydd Gambier yn y gadair. Ar ol darllen hanes gweithrediadau'r gymdeithas am y flwyddyn a aeth heibio, gan y Parch. Mr. Pratt, llefarodd y gwŷr canlynol ar yr achos —J. Thornton, Ysw., Esgob Caerloyw, —— Stevens, Ysw., Esgob Norwich, W. Wilberforce, Ysw., Admiral Sir—— Dr. Thorpe, &c.

6. Dyma foreu yr ydwyf wedi bod yn hiraethu er ys blynyddau am ei weled, sef Cyfarfod Blynyddol y Beibl Gymdeithas Frytanaidd a Thramor. Cymerodd rhai cyfeillion eu boreufwyd gyda ni; yna aethom yn nghyd i Freemason's Hall, ar ol yn gyntaf lenwi'r llogellau yn dra llwythog. Bu y tocynau yn werthfawr i ni heddyw; cawsom le tra chyfleus. Yma gwelais Mr. Griffiths, Hawen, &c. yn y gymanfa. Am 12, daeth y gwir anrhydeddus gadeiriwr, Arglwydd Gambier, yn mlaen, a llefarodd ychydig wrth gymeryd y gadair yn weddus ac yn hyfryd iawn. Darllenwyd gweithrediadau'r gymdeithas am y flwyddyn a aeth heibio gan y Parch. Mr. Deltry. Yna llefarodd y gwŷr canlynol:-canghellwr y drysorfa, Esgob Cloyne, y cenadwr Americanaidd, Iarll Harrowby, Arglwydd Teignmouth, y Llyngeswr Sir James Saumarez, Mr. Wardlaw o Glasgow, Esgob Norwich, Esgob Caerloyw, Parch. Robert Newton, cenadwr, Prince Hesse Homberg, Sir Thomas Ackland, Dr. Henderson o Russia, J. Thornton, Ysw., Esgob Derry, W. Wilberforce, Ysw., y Parch. J. Owen, Professor Farish, &c.: ac felly terfynodd y cyfarfod enwog hwn.

7. Gwrandewais y boreu heddyw un Mr. Cooper, yn Christ Church, Newgate Street. Ei destun oedd Heb. xiii. 9, rhan gyntaf. Ei fater oedd dangos gwerth y llyfr gweddi cyffredin a homiliau, gan eu bod yn gadwraeth rhag athrawiaethau amryw a dyeithr, &c. Yn y prydnawn aethum gyda fy nghyfaill Mr. O. W. i Hoxton, lle y cefais y fraint fawr o wrando'r Parch. Mr. Wardlaw, o Glasgow. Ei destun oedd 1 Tim. i. 15. Dyma wir a phur efengyl; ac fel y sylwodd un gwr boneddig wrth ddyfod allan, yn ngeiriau Dr. Simpson, "Yr oedd yma bwysau da."

8. Bum yn fy myfyrgell yn ysgrifenu hyd ddeg o'r gloch; aethum wedi hyny i St. Paul's, Covent Garden, i wrando Mr. Simeon yn pregethu dros y Gymdeithas i daenu Crist'nogrwydd yn mhlith yr Iuddewon. Ei destun oedd Ezec. xxxvii. a'r chwech adnod gyntaf. Oddiwrth hyn dangosodd, yn I. Gyflwr presennol yr Iuddewon. II. Dyledswydd Cristionogion tuag atynt. Ac yn III. Yr annogaethau i hyny. Pregeth ragorol ar yr achos! Wedi ciniaw daethom i Freemason's Hall i gyfarfod blynyddol y gymdeithas uchod, lle yr oedd Sir Thomas Baring yn y gadair, a chlywsom y gwŷr canlynol yn llefaru: Darllenodd Mr. Hawtry y Report; yna gwnaeth y Parch. Basil Wood araeth, a dygodd ddau-ar-bymtheg-ar-hugain o blant i'r areithfa, y rhai yn hyfryd iawn a ganasant, "Canys bachgen a aned i ni," &c. yn Hebraeg, a "Hosanna i Fab Dafydd," yn Saesoneg. Yna tynasant yn ol, bob yn un ac un, a llefarodd Esgob Gloucester ar yr achos, a darllenodd Basil Wood, ar ei ddeisyfiad ef, rai annodau ar gân o gyfansoddiad Iuddew Germanaidd. Yna cyfododd Admiral Sir James Saumarez ar ei ol ef yn hyglod, W. Wilberforce, Ysw., Parch. J. Owen, ac ereill.

***** "11. Aethum y boreu hwn i Guildford Street i gymanfa'r Anymddibynwyr, lle llefarodd Ebenezer Jones yn Saesoneg, a minau yn Gymraeg; ni'm gadawyd yma, diolch! Yna dychwelais gydag O. W. i dŷ Mr. Roberts, Brick Lane, i giniaw. Yma cefais gyfarfod â'r Parch. Matthew Wilks, a threuliais ran o'r prydnawn gydag ef, ond nid oeddwn yn cyd-olygu âg ef am athrawiaeth maboliaeth Crist. Wedi iddo ef ein gadael, aethom yn nghyd, O. W. a minau, i'r Babell (Tabernacle,) lle y clywsom bregeth tra rhagorol gan un Mr. Warr, o Cheshunt; pregeth o bur efengyl; pechadur yn ddim, a gras yn bob peth. Fe'm llonwyd yn fawr yn yr odfa hon, ac aethum i'm ffordd yn llawen, fel un wedi cael ysglyfaeth. ***** "13. Aethum y boreu heddyw i Gapel Surrey, lle yn rhagluniaethol iawn y cefais le i eistedd heb braidd ei ddysgwyl. Ar ol i'r Parch. Mr. Hill ddarllen y gwasanaeth, pregethodd y dyn anwyl hwnw o Glasgow, Mr. Wardlaw, oddiwrth Act. xvii. 16. O mor bwysig, O mor rhagorol oedd! Dychwelais i giniaw, ac, heb hir oedi, aethom i'r Babell, ond yr oedd y lle yn fwy na llawn, a methais ond prin gwthio i mewn. Yma pregethodd y Parch. Mr. Cooper, o Ddublin, oddiwrth Esaia xlii. 6, 7; a phregethodd un arall o'r tu allan ar unwaith ag ef, oherwydd lluosogrwydd y dorf; dwy bregeth ragorol, ond rhaid rhoddi'r flaenoriaeth i'r gyntaf: nid oedd y llall yn ateb i ddysgwyliadau neb.

14. Aethum erbyn chwech y boreu hwn i'r City of London Tavern, lle yr oedd cyfarfod blynyddol y Tract Society, Joseph Reyner, Ysw., yn y gadair. Darllenodd Pellatt, Ysw., yr hanes flynyddol, a llefarodd y gwŷr canlynol ar yr achos: H. Marten, Ysw., Parch. Meist. Waller, Leigh Richmond, Dr. Henderson, Wardlaw, Saunders, H. F. Burder, &c. Yr oedd hwn yn ddiau yn gyfarfod tra rhagorol. Dychwelais gyda brys i Spa Fields, lle'r oedd y Gymdeithas Genhadawl yn cadw ei chyfarfod blynyddol; T. A. Hankey, Ysw., y trysorwr, yn y gadair. Darllenwyd yr hanes gan y Parch. G. Burder a'i fab; yna llefarodd y gwŷr canlynol: Dr. Bogue, Mr. Wardlaw, Mr. Wray, Dr. Henderson, Mr. Bunting, (Wesleyad,) J. Wilks, Ysw., &c.

15. Aethum am chwech i gymeryd boreu-fwyd yn City of London Tavern, lle yr oedd yr Hibernian Society yn cyfarfod; Samuel Mills, Ysw., yn y gadair. Darllenodd ef yr hanesiaeth, yna llefarodd y gwŷr canlynol: T. Haldane, Ysw., Parch. Leigh Richmond, —— Stevens, Ysw., Mr. Wardlaw, Dr. Thorpe, ac ereill. Bu hwn yn gyfarfod gwerthfawr iawn. Aethom, sef O. W. a minau, yn y prydnawn i Gapel Sion, lle yr oedd gwerin fawr wedi ymgasglu i gydgymuno. Dr. Bogue wrth y bwrdd. Yma rhaid i mi addef nad oeddwn yn gweled dim mawredd ar y gwaith; yr oedd yn ymddangos i mi yn gnawdol a gwael.

16. Aethum y boreu hwn i Albion Tavern, Aldersgate Street, i gyfarfod blynyddol y Gymdeithas er Amddiffyn Rhyddid Gwladol a Chrefyddol, (The Society for the Protection of Civil and Religious Liberty;) Dug o Sussex yn y gadair. Lefarodd J. Wilks, Ysw., ar yr achos, a Dr. Bogue, Mr. Townsend, Mr. Hill, Mr. Wilson, Alderman Wood, ac amryw ereill. ***** 20. Cymerais foreu-fwyd gyda y Parch. Mr. Howells; daeth yn fwyn iawn i fy ngheisio. Aethum gydag ef i alw ar Mr. Hill; ni chefais ef gartref, am hyny dychwelais yn fuan. . . . . Yn yr hwyr traddodais fy nghenadwri am y tro olaf yn Wilderness Row; y testun oedd Dat. xxii. 21. Daeth cynnulleidfa anarferol yn nghyd, a chefais raddau anarferol o ryddid yn y gwaith. Teimlais fy meddwl yn dra diolchgar am y nodded, y tiriondeb, y rhyddid, a'r hynawsedd a gefais oddiwrth Dduw a dynion. Treuliais lawer o fy amser i ffarwelio a fy anwyl gyfeillion a'm cydnabod y Cymry."

Yn ysbaid ei arosiad y tro hwn yn Llundain, bu yn bresennol mewn un-ar-hugain o gyfarfodydd cyhoeddus, a gwrandawodd chwech-ar-hugain o bregethau yn yr iaith Saesoneg.

Tra yn y brif-ddinas, yn ol taer ddeisyfiad eglwys Llangeitho, ysgrifenodd atynt lythyr: rhan o hono yn unig sydd ar gael yn bresennol.

Llundain, Ebrill 13, 1818.

At holl aelodau'r Gymdeithas arferol o ymgynnull yn enw'r Arglwydd yn Nghapel Gwynfil.

"ANWYL FRODYR A CHWIORYDD YN YR EFENGYL,

Nid anghof o honoch, ac nid anffyddlondeb i'm haddewid, ydyw yr achos na buaswn wedi ysgrifenu atoch cyn hyn, ond diffyg amser a chyfleusdra. Mewn perthynas i'r gwaith yn y ddinas fawr hon, yn mhlith ein cydgenedl y Cymry, mae yma dorfeydd mawrion yn ymgynnull, cannoedd lawer ar unwaith bob Sabbath, a'r gwrando yn astud a hardd. Mae yma gynnulleidfa fawr o aelodau proffesedig, mewn cyfammod eglwysig a'u gilydd yn yr Arglwydd; llawer o sancteiddrwydd a heddwch yn mhlith y brodyr, a theyrnas Iesu yn ennill tir. Yr ydwyf yn hyderu y gallaf ddywedyd heb wag-ymffrost fod yr hyfrydwch a'r rhyddid yr ydwyf yn ei fwynhau yn ngwaith yr Arglwydd, yn peri i mi ar brydiau fod yn ddiedifeiriol am gefnu ar fy anwyl berthynasau a'm cyfeillion hoff yn Nghymru, a dyfod i'r lle hwn; gadawaf y canlyniad i'r Arglwydd y llafur sydd i mi, a'r llwydd, y clod, a'r gogoniant iddo yntau. Frodyr caredig, y mae dau beth ag sydd o'r gwerth a'r pwys mwyaf i bob cangen o eglwys Crist ar fy meddwl, sef sancteiddrwydd a heddwch; am hyny y cynghora yr Apostol at yr Hebreaid, ‹ Dilynwch heddwch â phawb, a sancteiddrwydd, heb yr hwn ni chaiff neb weled yr Arglwydd.'

"Ond yn 1af, Am sancteiddrwydd. Mae hwn, fel y dywed y Salmydd, yn gweddu i dŷ'r Arglwydd byth; ac, os yw yn weddus ei fod, pa mor anweddus yw bod hebddo! Nid oes dim yn wir yn gweddu i'r tŷ hwn ond sancteiddrwydd: gwarthruddo y tŷ mae pob peth croes i hyn. Mae perchen a phennaeth y tŷ yn sanctaidd, yn hanfodol, yn hollol a thragywyddol sanctaidd; mae holl waith y tŷ yn sanctaidd, ac y mae holl gyfreithiau y tŷ hwn yn berffaith sanctaidd. Mae sancteiddrwydd yn gweddu i'r pregethwr yn y pulpit, ac i'r gwrandawyr tano. Mae yn gweddu i'r plant, y gwŷr ieuainc, a'r tadau. Mae yn gweddu nid yn unig yn y tŷ, ond i'r tŷ, pa le bynag y byddom, a pha beth bynag a wnelom; ac nid yn unig yr oedd yn gweddu gynt, ond y mae yn gweddu yn bresennol, ac fe fydd yn gweddu byth. Tŷ Brenin yw hwn, fy mrodyr, a dyma'r lifrau a berthyn i weision y Brenin, sef sancteiddrwydd, sancteiddrwydd yn egwyddorol yn y galon ac yn ymarferol yn y bywyd; am hyny bydded yr argraff hon arnoch oll, Sancteiddrwydd i'r Arglwydd. "2il. Heddwch, heddwch fyddo o fewn dy rag-fûr di, Llangeitho."

"Hyd yma," medd y cyfaill caredig, a'i danfonodd i ni, "y mae ar gael, er ein cywilydd a'n colled." Yn mhen ychydig amser ar ol ei ddychweliad o Lundain, bu farw ei dad-yn-nghyfraith, Mr. William Williams o Dregaron, yr hwn er priodas Mr. Richard a fu yn byw yn ei deulu ef. Dygwyddodd hyn o fewn ychydig ddyddiau ar ol marwolaeth un o'i blant, baban ieuanc, yr hwn a fu farw yn mhen ychydig oriau ar ol ei enedigaeth. Wrth goffâu yr amgylchiadau hyn mewn cof-lyfr a gedwid ganddo, ac a alwai "The Family Register," dywed ar yr 8fed o Awst fel y canlyn:—Ar ol desgrifio arwyddion afiechyd ei dad-yn-nghyfraith am amryw ddyddiau yn flaenorol, ysgrifena, "Y boreu heddyw, am saith o'r gloch, efe a'n gadawodd ni am fyd arall a gwell. Heddychol yn ei fywyd, felly hefyd yr oedd yn ei farwolaeth: nid oedd ganddo ddim i'w wneuthur ond marw, oblegid gan ei fod wedi ei gyfiawnhau trwy ffydd, yr oedd ganddo heddwch tuag at Dduw, trwy ein Harglwydd Iesu Grist.' Fel hyn, mewn llai na bythefnos, ymwelodd angeu ddwy waith â'n teulu bychan, a chymerodd yr ieuangaf a'r hynaf, yr hên-wr a'r baban;' y naill oddeutu tair awr a hanner, a'r llall yn cyfrif 86 o flynyddau." Ar y 23ain o'r un mis, derbyniodd hefyd y newydd galarus am farwolaeth ei fam, ac aeth i lawr yn ebrwydd i Drefin erbyn y claddedigaeth; "a dyma," medd efe, "un don drachefn, oblegid y mae wedi bod yn ddiweddar yn don ar don yn curo arnom. Heddyw (24) y cyflwynasom i'r bedd gorph marwol ein hanwyl fam, yn ymyl arch ein hanrhydeddus dad."

Dilys yw genym mae nid annerbyniol gan lawer fydd gweled yma y pigion canlynol o lythyrau a dderbyniodd oddiwrth y gwas ffyddlon hwnw i Grist, y Parch. David Evans, o Aberayron, yr hwn y mae ei goffadwriaeth yn barchus ac yn anwyl gan gannoedd hyd y dydd hwn.

Yr oedd yr ysgrifenydd y pryd hwnw yn gwasanaethu yn eglwys Gymraeg Wilderness Row, Llundain. Ymddengys fod yr eglwys yr amser hwnw yn dra helbulus a therfysglyd, oherwydd rhyw amgylchiadau anghysurus mewn perthynas i rai o'r aelodau, ac am hyny y mae rhai pethau yn cael eu crybwyll yn y llythyrau nad ydym yn barnu yn ddoeth eu gwneuthur yn gyhoedd.

Llundain, Medi 24ain, 1821.

ANWYL A PHARCHEDIG FRAWD,

"Mae yn dda genyf gael y cyfleusdra i'ch hannerch â'r ychydig linellau canlynol, gan obeithio y bydd iddynt eich cael chwi a'ch teulu yn iach; a, thrwy fawr drugaredd a thiriondeb yr Arglwydd, nid wyf finau ddim yn waeth fy iechyd na phan ddaethum oddi cartref. Mi fum yn bur wael yr wythnos gyntaf ar ol dyfod yma, ond yn awr, trwy drugaredd, yr wyf yn llawer gwell. Mi gefais gyfeillion siriol a charedig yn fy nerbyn pan ddaethum yma, er hyny trymaidd ac isel yw fy meddwl y rhan fwyaf o'r amser. Yr unig beth sydd radd yn cynnal fy meddwl gwan i fynu, yn ngwyneb pob tywydd, yw hyny, sef mae ar gais a dymuniad fy anwyl frodyr y daethum yma, a bod yr achos y daethum o'i herwydd yr achos mwyaf yn y byd; ac mi debygwn ambell funud mae y fraint fwyaf yn y byd yw cael bod gyda'r achos hwn. Nid oes genyf fawr i'w ddywedyd yn bresennol am amgylchiadau yr eglwys yn y lle hwn. Mae yma ryw bethau gofidus yn mron bob society er pan ddaethum yma. Ond yn nghanol y pethau gofidus hyn, yr ydym yn cael peth achos i lawenhau weithiau fod yr Arglwydd mawr yn gofalu am ei achos, oblegid y mae rhai yn troi eu hwyneb atom o newydd. Mae ofn a chryndod yn fy meddwl rhag i'r Arglwydd fy ngadael yn y lle hwn yn gwmwl tywyll a diddwfr. Cofiwch am danaf yn aml o flaen gorsedd gras. Yr ydwyf yn dymuno fy nghofio at y cyfarfod misol yn garedig, a dyma fy neisyfiad penaf ganddynt, sef, O frodyr, gweddiwch drosof.' Os gwelwch yn dda, cofiwch fi at gymdeithasau Tregaron a Llangeitho, ac at Mrs. Richard, a'r rhai bychain oll; a gobeithio y bydd i chwi feddwl am Ffos-y-ffin ben y mis nesaf. Nac anghofiwch ysgrifenu ataf; bydd yn dda iawn genyf glywed oddiwrthych, a chael pob hanes o'r wlad.

Ydwyf eich annheilwng frawd,

D. EVANS

Y llall oedd mewn ateb i lythyr a anfonasai Mr. Richard ato ef, yr hwn, y mae yn ddrwg genym, sydd wedi myned ar ddifancoll.

Llundain, Hydref 17eg, 1821.

FY ANWYL A PHARCHEDIG FRAWD,

Nis gallaf gael geiriau i osod allan y llawenydd a'r gorfoledd oedd genyf gael clywed oddiwrthych chwi a'ch teulu, a chael gwybod am amgylchiadau'r achos yn y wlad, yn nghyd a'r cynghorion gwerthfawr a buddiol a gefais. Teimlais fy ysbryd yn adfywio gronyn, a'm meddwl gwan yn cael ei gadarnhau a’i loni, yn ngwyneb mil o bethau sydd. ar fy llethu ynof fy hun, ac oddiwrth amgylchiadau ereill. . . . . Ni bu yn yr eglwys hon y fath bethau yn canlyn eu gilydd er ys llawer o flynyddau, a gobeithio na bydd mwy. Yr ydwyf yn wyneb yr holl bethau hyn yn mron llewygu a digaloni yn lân. Fy mrawd anwyl, cofiwch am danaf o flaen y drugareddfa, yn ngwyneb fy amgylchiadau cyfyng, yn y tònau garw, yn cael fy chwythu gan wyntoedd creulon. Mae hiraeth arnaf am i'r diwrnod ddyfod i fynu i gael troi fy ngwyneb tua ngwlad fy hun, at fy nheulu ac at fy anwyl gyfeillion. Nid wyf eto wedi prynu y llyfrau a nodasoch, ond byddaf yn sicr o wneud cyn ymadael, os ydynt i'w cael ym Llundain.

"Dymunaf fy nghofio yn y modd mwyaf caredig at bawb o'r brodyr, ac yn neillduol at eich anwyl gyd-mares, y plant oll, a'r ddwy Miss Evans o Argoed.

"Mae yr eglwys hon oll yn dymuno eu cofio yn garedig atoch.

Hyn yn fyr iawn oddiwrth eich brawd gwael, sydd o flaen y gwyntoedd gwrthwynebus,

DAVID EVANS.

Yn ystod y blynyddau hyn ganwyd iddo amryw blant, y rhai a fuont feirw yn ieuainc iawn, oddigerth dwy ferch, Mary a Hannah, y rhai ydynt fyw yn bresennol.

PEN. VIII.

Hanes ffurfiad Cyfansoddiad a Chyffes Ffydd y Trefnyddion Calfinaidd —Llythyr oddiwrth Mr. R. at gymdeithasiad y Bala—Llythyr ato ef oddiwrth y Parch. Ebenezer Morris—Llythyr oddiwrtho ef at y Parch. H. Howells, Trehil.

Yn y flwyddyn 1823, gwelwyd yn angenrheidiol, fel yr oedd corph y Trefnyddion Calfinaidd yn cynnyddu mewn maintioli, ac amrywiaeth gweithrediadau, i ddefnyddio moddion cyfaddas gyda golwg i'w ddwyn i ffurf fwy rheolaidd a phendant, fel cyfansoddiad crefyddol. Ac er cyflawni hyn yn effeithiol, gwelwyd ar y cychwyniad cyntaf fod yn anhebgorol, fel sylfaen briodol i'r cyfryw gyfansoddiad, i barotoi mynegiad eglur o brif egwyddorion eu ffydd. Ni pherthyn i ni yn bresennol i ddadleu y pwnc dyrys pa mor bell y mae cyffesau ffurfiol o ffydd yn briodol, ac yn effeithiol yn y cyffredin; ond nid ydyw yn ymddangos i ni pa fodd y buasai yn bosibl i gorph o bobl wedi mabwysiadu y cyfryw ffurf-lywodraeth eglwysig ag eiddo'r Trefnyddion Calfinaidd, i barhau yn hir mewn cysur a chynghanedd heb ryw fesur tebyg i hyn. Gan nad oes, yn ol eu cyfansoddiad hwy, gan bob eglwys awdurdod ddeddfol ynddi ei hun i benderfynu pa fath athrawiaeth a bregethir iddynt gan eu gweinidogion, oni buasai sefydlu rhyw brofiedydd (standard) cyffredinol, ni feddiannasid un diogelwch rhag dygiad i mewn athrawiaethau amryw a dyeithr," ac fel hyn buasai y corph yn debyg i ryw offeryn cerdd mawr, a'i wahanol dannau heb eu gosod yn yr un cywair, ac, yn lle gwneuthur peroriaeth gywir a soniarus, yn peri yr annghydsain anhyfrytaf trwy yr holl dywysogaeth. Diau o leiaf, wedi i'r peth dderbyn cymeradwyaeth cyffredinol y corph trwy eu cynnrychiolwyr cyfreithlawn, nad oes gan aelodau neb rhyw gorph neu enwad arall hawl nac esgus yn afreidiol, "i ymyraeth â materion rhai ereill," oblegid "i'w Harglwydd eu hun y safant neu y syrthiant." Anmhosibl i unrhyw nifer o ddynion fyned yn nghylch gwaith mor bwysig gyda mwy o arafwch, difrifoldeb, ac ofn duwiol, nac a ddangoswyd gan y gwŷr enwog a bennodwyd i barotoi Cyffes Ffydd y Trefnyddion Calfinaidd. Ymddengys i'r peth gael ymdrin âg ef, a'i benderfynu ar ran y Deheudir, mewn Cymdeithasiad a gynnaliwyd yn Llangeitho, Awst y 7fed a'r 8fed, 1822, lle y pennodwyd y gweinidogion canlynol i fod yn gynnrychiolwyr dros y rhan hono o'r dywysogaeth, sef y

PARCH. JOHN WILLIAMS,
EBENEZER MORRIS,
DAVID CHARLES,
JOHN EVANS,
ARTHUR EVANS,
THOMAS JONES,
EBENEZER RICHARD.

Pennodwyd o'r Gogledd i'r un achos, y

PARCH. JOHN Roberts,
JOHN ELIAS,
JOHN HUMPHREYS,
JOHN HUGHES,
MICHAEL ROBERTS,
HUMPHREY GWALCHMAY.


Am y dull yn mha un y cwblhawyd y gorchwyl pwysig hwn, bydd yn dda gan lawer ond odid weled yr hanes ganlynol o dan law gwrthddrych y cofiant hwn:—

Mewn Cymdeithasiad Achlysurol a gynnaliwyd yn Aberystwyth, Mawrth y 13eg a'r 14eg, 1823, y bu'r ymdriniaeth ganlynol:

Yn ol y penderfyniad yn Nghymdeithasiad Llangeitho, Awst y 7fed a'r 8fed, 1822, dechreuodd cynnrychiolwyr Deheubarth a Gwynedd ymgynnull yn nghyd nos Lun, y 10fed. Ond ni ddechreuasant ar eu gwaith pwysfawr hydd dydd Mawrth yr 11eg, pan y cyfarfuant yn nhŷ Mr. Robert Davies, Heol-y-Porth-Tywyll-Mawr, mewn goruwch-ystafell eang ac addas iawn. Dechreuwyd am 9 o'r gloch trwy ddarllen a gweddio gan John Roberts, Llangwm; a'r personau yn gwneuthur yr eisteddfod i fynu oedd y rhai canlynol:

Y PARCH. JOHN WILLIAMS, LLEDROD, Cymmedrolur.
EBENEZER MORRIS,
DAVID CHARLES,
THOMAS JONES,
JOHN ROBERTS,
JOHN ELIAS,
JOHN HUMPHREYS,
JOHN HUGHES,
MICHAEL ROBERTS.

HUMPHREY GWALCHMAY,
Ysgrifenyddion.
EBENEZER RICHARD,

Yn 1af, Cymerwyd rheolau a dybenion y cymdeithasau neillduol tan sylw; ac ar ol eu darllen trosodd yn araf ac ystyriol, penderfynwyd yn un llais arnynt gydag ychydig dalfyriadau ac ychwanegiadau. Yna darllenodd y brawd J. Humphreys yr hyn a ysgrifenasai o hanes dechreuad a chodiad corph y Trefnyddion Calfinaidd, a chytunwyd ar hwn hefyd gydag ychydig dalfyriadau ac ychwanegiadau.

Dechreuwyd yn nesaf ystyried y Gyffes Ffydd, a darllenwyd yr un o'r Gogledd gan y brawd John Elias, a yr un o'r Deheubarth gan Ebenezer Richard; ac ystyriwyd pob pwnc ac erthygl o honi gyda'r pwys, yr arafwch, a'r manyldra mwyaf; ac wrth fyned yn mlaen, dewiswyd, cyfnewidiwyd, ychwanegwyd, talfyrwyd, a chymysgwyd fel y gwelid yn fwyaf addas ac angenrheidiol, nes myned trwyddynt oll bob yn un ac un, a phenderfynu ar bob un o honynt yn un llais.

Yna penderfynwyd fod yr oll i gael ei ddarllen ger bron y corph yn nghyd, yn eu cymdeithas, am 2, y 13eg, ac am 8, y 14eg, a bod Ebenezer Richard i ddarllen y Rheolau a Chyfansoddiad y corph; yna bod y Gyffes Ffydd i gael ei darllen, y rhan o'r Gogledd gan y brawd John Elias, a'r rhan o'r Deheubarth gan Ebenezer Richard. Ac yn ol y penderfyniad uchod y gwnaed nes myned trwy'r cwbl; a chydunwyd gan yr holl gorph yn unllais, gyda'r cyd-gordiad mwyaf hyfryd, ar y cwbl oll, heb gymaint ag un llais croes nac un gwrthddadl.

Penderfynwyd gan yr eisteddfod i yr brawd J. Humphreys barotoi y rheolau a'r hanes i'r argraffwasg, ac i yr brawd H. Gwalchmay barotoi cyfansawdd y corph a'r Gyffes Ffydd.

Penderfynwyd, fod y nifer a fernid yn eisiau ar Wynedd i gael eu hargraffu yn y Bala, a'r nifer a fernid yn eisiau ar y Deheubarth i gael eu hargraffu yn Aberystwyth.

Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel."

Fel prawf o'r teimladau dwys oedd yn eu meddiannu am bwysfawrogrwydd ac anhawsdra y gwaith oedd ganddynt mewn llaw, gellir coffâu yr hanesyn canlynol, yr hwn a adroddwyd gan Mr. Richard ychydig amser cyn ei farwolaeth. Wedi desgrifio y teimladau cymmysgedig o ddychryn a phryder trwm oedd fel llwyth yn gorthrymu eu meddyliau i gyd, trwy yr holl amser hwnw, yn nghyd a'r ysgafnhad hyfryd a deimlent ar orpheniad heddychlon a chysurus eu gwaith, dywedai fod y Parch. John Humphreys yn enwedig wedi ei orchfygu i'r fath raddau, fel y gosododd ei ben i lawr ar y bwrdd yn yr ystafell, ac a wylodd y dagrau yn hidl; ac y mae'n debyg, pe buasent yn ymollwng i'w teimladau, y gallasent oll gymmysgu eu dagrau gyda yr eiddo ef. Rhaid i ni ofyn cenad i gadw meddwl y darllenydd am funud uwch ben y drych cyffröus hwn. I'n meddyliau ni, ac edrych arno nid mewn ysbryd cul pleidgarwch, (ac y mae yn sicr mae nid felly yr oeddynt hwy yn ei ystyried,) y mae rhyw beth hynod fawreddig a chynhyrfiol yn yr olygfa ac y mae y desgrifiad hwn yn ddwyn o flaen y llygad, pan y byddom yn dychymygu gweled cynifer o feddyliau gwrol a chedyrn ("oblegid yr oblegid yr oedd cewri ar y ddaear y dyddiau hyny") yn cydgrymu dan bwys teimladau o gyfrifoldeb ac ofn duwiol am ddiogelwch arch Duw, ydoedd wedi ei chyflwyno mewn modd neillduol i'w dwylaw hwy; ac yna, ar ol dyfod allan yn ddiogel o'r dyryswch a'r pryder mawr, yn ymroddi fel plant, gan rym eu gorfoledd a'u diolchgarwch.

Y mae y llythyr canlynol yn esbonio ei hun:

Y brodyr yn Sir Aberteifi yn gynnulledig yn eu Cyfarfod Misol, at y brodyr yn Ngwynedd, yn gynnulledig yn eu Cymdeithasiad Flynyddawl, yn y Bala, yn anfon annerch:

Gras, trugaredd, a chariad oddiwrth Dduw ein Tad, yr Arglwydd Iesu Grist, a'r Ysbryd Glan y Dyddanydd, a fyddo gyda chwi oll, ac a orphwyso yn ehelaeth arnoch chwi oll.

"FRODYR ANWYL A HOFF,

Yr ydym yn atolwg i chwi ein gwrando ar fyr eiriau, oblegid ar fyr eiriau yr ysgrifenasom atoch. Y mae yn ofidus genym fod amryw o'n brodyr yn y sir hon, a fyddent arferol er ys llawer o flynyddau o fod yn Nghymdeithasiad y Bala, eleni yn cwbl fethu, fel y gellwch glywed gan y brodyr sydd o'n gwlad ni yna; ac yr ydym yn gobeithio na bydd i neb o honoch gyfrif eu habsennoldeb i ddiffyg serch ac ymdrech gyda'r gwaith, nac ychwaith i ddiffyg awydd am eich cymdeithas chwithau yn yr efengyl, ond yn hollawl ac yn gyfan-gwbl i ddiffyg gallu.

Yr oedd ein Cymdeithasiad Flynyddawl ni (fel y. gwyddoch yn dda) yn arfer cael ei chynnal er ys yn agos i 80 mlynedd yn Llangeitho, gydag ychydig iawn o lysiant, ond barnwyd eleni mai gwell fuasai symud y gwersyll yn nes i amddiffynfa (citadel) y gelyn, fel gallai'r magnelau mawrion gael gwell cyfle i ollwng ar fagwyrydd y castell. O ganlyniad, mae y rhyfel wedi ei gyhoeddi, a'r lle a'r amser wedi eu nodi i agor y frwydr y lle yw Llanbedr, a'r amser y 6ed a'r 7fed o Awst nesaf. Nid oes neb o honoch chwi yn y Gogledd ag sydd yn adnabod y maes, nas bernwch fod Llanbedr yn sefyllfa addas i wneuthur yr ymosodiad. Gan hyny yr ydym yn deisyf arnoch anfon y nifer fwyaf a fyddo yn bosibl i chwi hebgor o eich tal-filwyr, eich llym-saethwyr, ac eich tân-belenyddion, wedi eu trwsio a'u harfogi yn Nhŵr Dafydd, yr hwn a adeiladwyd yn dŷ arfau; tarianau fil sydd yn crogi ynddo, i gyd yn estylch y cedyrn.' Chwi a wyddoch, frodyr, fod cyngreiriad diffynawl ac ymosodawl rhyngom ni a chwithau, a gwyddom y byddai yn ddrwg dros ben genych fod eich brodyr gweiniaid yn y Deheubarth yn cael eu baeddu a'u dadymchwel; a phe byddai unrhyw orchest arnoch chwithau yn Ngwynedd, ni thrigai ewin o honom ninau gartref heb ddyfod i'ch cynnorthwyo a'n holl egni."

Hyd yma yr ydym wedi dyfod o hyd i'r llythyr hwn, a ysgrifenwyd gan Mr. R. fel ysgrifenydd y Cyfarfod Misol.

Er mwyn coffadwriaeth y gwr enwog a'i hysgrifenodd, ac fel dangosiad o bryder effro Mr. Richard rhag mewn un modd golli cariad ei frodyr, rhoddwn yma y llythyr canlynol, yr hwn a ysgrifenodd Mr. Morris mewn ateb i ryw achwyniad haner-difrifol oddiwrth ei gyfaill, am fyned heibio Tregaron yn un o'i gyhoeddiadau diweddar.

CAREDIG GYFAILL,

Derbyniais eich llythyr y 25 o'r mis hwn, ac yr oedd yn synedig i mi eich bod yn meddwl drwg am eich cymmydog, ag yntau yn trigo yn ddiofal yn eich ymyl. Nid oedd genyf fi un bwriad fyned heibio Tregaron, oherwydd un gradd o oerfelgarwch, nac wedi cael yr achos lleiaf o dristwch oddiwrthych chwi na'ch gwraig ychwaith, na chyfeillion y society hefyd; ond yr oeddwn yn golygu tynu adref erbyn y Sabbath, ac am gael golwg ar y gwaith newydd yn Llangeitho. Ond 'rwyf fi wedi ffailu a'r cwbl—'rwyf wedi fy nal â'r hen anhwyl yn fy ngenau, trwy wres a phoethder, ac amryw bethau ereill, fel yr wyf yn meddwl yn gydwybodol nas gallaswn ddod i'r Cyfarfod Misol, a myned yr ail wythnos i'r Association, ac oddiyno i Forganwg. O'r ddau, 'roedd yn well genyf golli'r society fisol na cholli'r Association. Ond yr wyf yn gobeithio nas gwelaf yr amser y byddaf yn ddifater am Gyfarfod Misol y Sir. Nid yw ond ofer i mi geisio gyru dynion i gredu fy amgylchiadau i o ran fy natur, ac yr wyf yn teimlo fy hun yn fwy tawel i ddynion dynu'r casgliadau y fynont o bethau; ond 'rwyf yn arfer mwy o hyfder arnoch chwi, fel un o'r brodyr anwylaf yn y sir i adrodd fy helynt.

Nid wyf fi yn gallu y peth a ellais, er amcanu, ac yn ffindio fod pob llafur gorchestol yn fy nhaflu yn anghysurus. Eto dymunwn gael rhwyfo gronyn tra b'wyf gyda'r gwaith goreu. Dymunaf eich gweddiau drosof yn hyn. Mae'n gysurus genyf glywed eich bod chwi yn gallu gweithio'n galed; 'rwyf yn rhydd yn dymuno eich llwyddiant, a'r holl frodyr sanctaidd.

Gobeithiaf eich gweled yn Llanymddyfri.

Cofiwch fi at eich caredig wraig, a d'wedwch wrthi fod St. Paul yn rho'i hyny yn un nod ar gariad Cariad ni feddwl ddrwg.'

Mae fy ngwraig yn cofio atoch eich deuoedd yn garedig.

Eich gwael gyfaill,

EBENEZER MORRIS.

Blaen-y-Wern,
Meh. 26, 1824.

Yma y canlyn lythyr a ddanfonodd Mr. Richard, fel ysgrifenydd y Gymdeithasiad yn y Deheudir, at ei hen dad anwyl a pharchedig, Mr. Howells, o Trehil, Sir Forganwg.

AT Y PARCH. H. HOWELLS, TREHIL.

Llantrisant, Hyd. 20fed, 1824.

BARCHEDIG AC ANWYL SYR,

Darllenwyd eich llythyr brawdol a charedig ar g'oedd yr holl frodyr yn eu cymdeithas am ddau o'r gloch, a bu yn effeithiol iawn i gyffroi tristwch a llawenydd, fel ag yr oedd lluaws o'r brodyr yn wylo ac yn chwerthin ar unwaith-wylo wrth glywed am y dolur poenus ac yr ydych yn llafurio tano; a chwerthin wrth glywed am yr agwedd dawel mae'r Arglwydd daionus yn ei gadw ar eich meddwl yn ei ganol. Tristaem yn ddirfawr wrth weled nas gallem gael eich mwynhau yn ein cyfarfodydd fel cynt, a gorfoleddem hefyd wrth ddeall, er llygru eich dyn oddiallan, fod eich dyn oddimewn yn cael ei adnewyddu o ddydd i ddydd. Llonwyd ni oll yn fawr tros ben wrth weled eich cynhesrwydd at y corph, eich gofal neillduol am achos yr Arglwydd yn y sir, eich gwroldeb yn ngwyneb pob digalondid a llwfrdra, yn nghyd a'ch hyder gref yn addewidion y digelwyddog Dduw, a'r annogaethau syml a roddwch i ninau oll, i ymegnio yn ddigoll gyda'r gwaith.

Y mae'r holl gorph, yn un llais ac fel un gwr, yn dymuno cu cofio yn y modd mwyaf serchiadol atoch, ac yn addaw y cewch le helaeth yn eu gweddiau tra byddoch ar faes y gwaed.

Yr ydym oll yn cydfarnu â chwi y syrth teyrnas Satan o flaen arfau'r filwriaeth; ie, y mae hi yn syrthio beunydd. Y mae'r tywalltiadau rhad a rhyfedd sydd o'r Ysbryd Glan y flwyddyn hon ar amryw ranau o'r achos, yn wystlon bod yn rhaid iddo Ef (yr Arglwydd Iesu) gynnyddu, canys, Hwn a fydd mawr.

Dymunaf finau fy hun gofio atoch, ac at anwyl Mrs. Howells, yr hwn wyf, barchedig ac anwyl Syr, tros gorph y Gymdeithasiad,

Eich gwas gwael yn yr Efengyl,

EBENEZER RICHARD,

Ysgrifenydd Cymdeithasiad y Deheudir.

PEN. IX.

Marwolaethau y Parch. Ebenezer Morris a David Evans—Llythyr oddiwrth Mr. R. at Gymdeithasiad Pwllheli ar yr achlysur—Llythyr ato ef oddiwrth y Parch. H. Howells—Ei atebiad ef i yr unrhyw.

YR ydym yn agoshau yn bresennol at amgylchiad a archollodd ei deimladau, ac a lethodd ei ysbrydoedd efallai yn fwy na dim a'i cyfarfyddodd yn ei holl fywyd, sef marwolaeth o fewn yr un mis y ddau weinidog enwog a llafurus hyny, y Parch. Ebenezer Morris a David Evans, y rhai oeddynt hefyd ei gyfeillion enwedigol ef, gyda pha rai yr oedd wedi bod yn cydlafurio yn yr anwyldeb a'r cydgordiad perffeithiaf am flynyddau lawer.

Ymddangosai am ychydig amser y pryd hwn fel pe buasai wedi hollol lethu tan rym pryder a digalondid.

Yr ydym yn cofio yn dda, er nad oeddem y pryd hyny ond ieuainc, amgylchiadau y Sabbath galarus hwnw ar ba un y clywodd gyntaf am farwolaeth Mr. Evans. Yr ydoedd newydd ddychwelyd ar ddiwedd yr wythnos o'r blaen o angladd Mr. Morris. nghylch 8 o'r gloch ar foreu y Sabbath crybwylledig, ymddangosodd gwr dyeithr wrth y drws, gan ymofyn am Mr. Richard. Yr oedd efe ar y pryd mewn goruwch-ystafell, yn parotoi i gychwyn i'w daith Sabbothol.

Hysbyswyd iddo fod gwr yn y tŷ yn ewyllysio ei weled; a phan ddaeth i waered ato, ymddangosai y dyn yn syn a drysedig, fel pe na buasai yn gwybod pa fodd i grybwyll ei neges. O'r diwedd dywedodd, "Dwad yma 'rwy' i, Syr, i ofyn os gellwch chwi ddyfod i angladd fy meistr ddydd Mercher." Gofynodd yntau yn wyllt, fel pe buasai yn gweled rhyw awgrym o'i neges, "Pwy yw eich meistr?" Atebodd yntau, "Mr. David Evans." Ar hyn bu yn mron syrthio i lewyg. Mor chwyrn a disymwth oedd yr ergyd iddo, fel y teimlodd ar unwaith nad oedd bosibl iddo amcanu myned at ei gyhoeddiad y dydd hwnw, ac arosodd drwy y boreu yn ei ystafell, yn foddedig mewn dagrau a gweddiau. Dygwyddodd fod y Parch. Mr. Williams, o Ledrod, i bregethu y Sabbath hwnw yn Tregaron. Yr oedd yr hen wr parchedig wedi clywed y newydd cyn dyfod i'r tŷ; ac nid anghofiwn byth agwedd y ddau pan gyfarfuont gyntaf. Ar ddyfodiad Mr. Williams i'r tŷ, yr oedd ein tad mewn ystafell arall wrtho ei hun. Pan y daeth allan i'r lle yr oedd ei hen gyfaill yn eistedd, cyfododd yr hen wr parchedig, ac a aeth i'w gyfarfod a'i ddwylaw ar led, a syrthiasant i freichiau eu gilydd. Ni fedrai ein tad lefaru un gair, a'r oll a ddywedodd yr hen wr, wrth ei gofleidio fel plentyn, ydoedd, Eben bach, beth a wnawn ni yn awr?"

Wrth ddechreu yr odfa y prydnawn hwn, o flaen Mr. Williams, darllenodd y bennod gyntaf o ail lyfr Samuel gyda rhyw effaith neillduol, yn enwedig y rhanau olaf o honi; a'r chweched adnod ar hugain o'r bennod hon oedd y testun oddiwrth ba un y pregethodd bregeth angladdol Mr. Evans, ar ddydd ei gladdedigaeth.

Gellir gweled yn y llythyr canlynol, a ddanfonodd yn mis Medi i Gymdeithasiad Pwllheli, dros Gyfarfod Misol y Sir, ddarlun tra chywir o ddwysder ei deimladau ar yr achos.

Tregaron, Medi 15, 1825.

Cyfarfod Misol Sir Aberteifi at Gymdeithasiad Pwllheli, yn anfon annerch:

FY MRODYR ANWYL A HOFF,

Ar ddymuniad Cyfarfod Misol Sir Aberteifi, yr ydwyf yn cyfeirio yr ychydig linellau hyn atoch chwi, yn gynnulledig yn eich Cymdeithasiad Chwarterol, y rhai a dderbyniwch drwy law ein brawd caredig a'n cenadwr ffyddlon, Mr. John Morgans. Cenadwr mewn galarwisg ydyw, ac yn cynnrychioli llonaid sir o frodyr mewn galar-wisgoedd. Am ba achos yr ydym yn galaru, nid rhaid i ni ddywedyd wrthych.

Dygwyd atoch yn hir cyn hyn yr hanes flin am rwygiad ar rwygiad a welodd ein Tad nefol yn dda wneuthur yn ein plith ni yma—rhwygiadau na bu eu cyffelyb yn ein plith er pan ydym yn gorph. Colli dau mor llafurus, diwyd, defnyddiol, a llwyddiannus, mewn llai nag wythnos o amser! O! pwy adfera'r golled hon?-eu colli ar ganol eu gwaith, ar ganol eu dydd, a cholli yr olaf cyn ofni ei golli, cyn dysgwyl am y tro, cyn dychymygu na meddwl fod hyny yn bosibl !

Ein dwy aden oeddynt, â pha rai yr ehedem; ein dwy ffon oeddynt, ar ba rai y pwysem; ein dwy fron oeddynt, o ba rai y sugnem; ein dau lygaid oeddynt, â pha rai y gwelem; a'n dwy fraich oeddynt, â pha rai y gweithiem. Ond heddyw wele ni hebddynt hebddynt, nid am ddau fis i Lundain, nid am fis i'r Gogledd, ac nid am wythnosau i Bristol, neu ryw gŵr arall o'r maes, ond hebddynt am byth ar y ddaear!

Heb eu presennoldeb siriol i'n lloni, heb eu pregethau nerthol i'n bywiogi, heb eu cynghorion doethion i̇'n hyfforddi, a heb eu llywodraeth hynaws i'n trefnu. Llywodraethwyr oeddynt yn ein mysg wrth fodd pawb, uwchlaw pawb, gofalus am bawb, tadol i bawb; heb lethu neb, na phoeni neb, na thra-awdurdodi ar neb un amser. Rhaid i mi daflu'r pin o'm llaw; mae'r dagrau yn tywyllu fy llygaid, ac mae eu coffâu yn aredig fy enaid. Braidd yr wyf yn medru ymattal heb ofyn i chwi o ddifrif, a ydynt hwy ddim gyda chwi yna yn Pwllheli? Onid yw fy mrawd Roberts yn eu henwi at y gwaith cyhoeddus? Och! och! och! clywaf atebion cannoedd o honoch yn gwanu fy nghalon fel picellau Nac ydynt, nac ydynt. Buont yma yn y fynwes, buont yma yn llaw ddehau eu Harglwydd, buont yma tan goron o arddeliad, buont yma yn fynych, a buont yma yn ddiweddar-diweddar! ïe, pa mor ddiweddar? Buont yn eich Cymdeithasiad Flynyddol ddiweddaf yn Nghaernarfon; daethant atoch yn nghyd, ac yno canasant yn iach i eglwysi Gogledd Cymru, fel pe buasent am ragarwyddo eu bod i roddi eu harfau i lawr yn nghyd. O'r fath ymffrostwyr ydynt heddyw, wedi diosg eu harfau, gorphen eu brwydrau, darfod eu teithiau, a thaflu i lawr yr olaf o'u beichiau. Maent yn canu ar eu telynau ryw nefol odlau yn mhlith y seintiau, lle mae llawer o drigfanau, a'r rhei'ny oll yn gysurol, yn heddychol, a thragywyddol.

Fy mrodyr, cofiwch am danom, i weddio drosom, i anfon atom; ac od oes arnoch eisiau cyfle i ddangos cariad, cydymdeimlad, elusengarwch, a haelioni, trowch at Sir Abertefi dlawd, yn ei chyfyngder presennol. Na ddywedwch fod yn ddrwg genych drosom heb arferyd moddion i'n cysuro, cynnorthwyo, a'n pleidio yn awr.

"Y mae ar gof rai o honoch hanes y masnachwr hwnw a ddyoddefodd golledion trymion yn ei eiddo, ar dir a môr. Ei gydfasnachwyr wrth ymddiddan am dano a haerent am yr uchaf mor ddrwg oedd ganddynt drosto; cyfododd un o honynt i fynu, a gofynodd, Ond pa mor ddrwg genych drosto? Y mae yn ddrwg genyf fi

drosto am fil o bunnau,' ac a roddodd ei enw i lawr am fil o bunnau i'w gynnorthwyo; yna canlynodd y lleill, a buont yn foddion i'w unioni o'i ofid blin. Felly, fy mrodyr anwyl, na fydded eich holl serch atom, a'ch holl dristwch drosom, eich goddef i fod bawb gartref, ond deuwch drosodd a chynnorthwywch ni, a hyny ar frys, ac yn helaeth; a llonwch ein brawd trwy ei gyfoethogi â'ch cyhoeddiadau.
Ydwyf, frodyr anwyl,
gyda'r serch mwyaf diledrith,
dros Gyfarfod Misol Sir Aberteifi,
Yr eiddoch,
EBENEZER RICHARD.

Y mae'r llythyrau canlynol yn esbonio ei hunain:

AT Y PARCHEDIG EBENEZER RICHARD, YSGRIFENYDD Y GYMDEITHASIAD.

Trehil, Mawrth 10, 1826.

"ANWYL A PHARCHEDIG FRODYR,
"Yr wyf yn hyderu y bydd i chwi ei gymeryd yn garedig genyf anfon hyn o linellau atoch er annogaeth. Mae'r achos mawr ag ydych wedi eich hanrhydeddu i fod gydag ef, wedi gorwedd yn bwysig ar fy meddwl tlawd, a gobeithio (er fy ngwaeledd mawr) yn agos at fy nghalon; a gallaf ddywedyd yn aml, fy mod wedi ofni yn fawr am arch Duw, sef ei achos mawr yn ein plith. Ond hyn a allaf ddywedyd gyda gradd o hyder gobeithiol, credu yr wyf fod y cwmwl yn aros uwch ben y gwersyll hyd yn hyn, ac na ymadawiff oddiyno nes bo'r udgorn yn swnio i beri i'r gwersylloedd gychwyn yn mlaen, ac ymladd eu ffordd tua thir eu gwlad, ag arch Duw Israel yn cael ei dwyn idd ei bro ei hun, i dir Israel, i fynydd Sion, dinas y Duw byw, gyda llawenydd a gorfoledd, cynghanedd a dawnsio. Tegwch bro a llawenydd yr holl ddaear yw mynydd Sion-Eglwys Dduw. Duw a adwaenir yn mhalasau hon yn amddiffynfa.

Er fy mod wedi fy ymddifadu o'r fraint o fod yn eich plith, tebygwn fod fy enaid a'm calon yn chwennych anadlu gyda chwi am lwyddiant yr achos yn eich plith. O frodyr anwyl, gweddiwch drosof finau. Byddwch ffyddlon ar ychydig hyd y diwedd, fe'ch gosodir ar lawer. Gweithiwch, llafuriwch, cloddiwch at y Graig, nes derbyn o'i thrysorau. Os palla'r manna o'r nefoedd, cawn hen yd y wlad yn gynnaliaeth, nes myned adref i'r etifeddiaeth anniflanedig, na syflir un o'i hoelion yn dragywydd.

Dymunaf arnoch o galon, ac o angenrheidrwydd, i ddodi at y blaenoriaid a stewardiaid societies yn ein sir a'r siroedd, i ddeffro gyda'r gwaith, trafaelu a chynniwair trwy'r pyrth, parotoi ffordd y bobl, palmantu'r brif-ffordd a'i digaregu, fel y galler codi'r faner i'r bobloedd, Is. lxii. 10.

Tebygwn fy mod yn clywed swn tyrfa yn dyfod—rhaid i'r addewidion gael eu cyflawni, y bydd mynydd tŷ yr Arglwydd wedi ei sicrhau yn mhen y mynyddoedd, a'r holl genhedloedd a ddylifant ato. O na oleuai yr Arglwydd ni yn fwy, nes byddem yn prisio ac yn gwerthfawrogi ein braint o fod gydag achos mor ardderchog a gogoneddus; fe dry allan yn y diwedd yn elw annherfynol-y can cymaint yn y byd hwn, ac yn y byd a ddaw fywyd tragywyddol.

Hyn oddiwrth eich ewyllysiwr da yn yr efengyl,

A'ch anwyl frawd,

H. HOWELLS.



AT Y PARCH. MR. HOWELLS, TREHIL.

Tregaron, Ebrill 7fed, 1826.

"ANWYL A PHARCHEDIG SYR,
Yr ydwyf yn dra phoenus fy meddyliau na buaswn wedi gallu cyflawni dymuniad y Gymdeithasiad yn Ystradgynlais lawer yn gynt; canys ar ol darllen eich llythyr serchus a brawdol ger bron y corph oedd yn nghyd, penderfynwyd yn un llais bod i mi fel eu Hysgrifenydd anfon atebiad yn ol i chwi, gyda serchocaf gyfarchiad yr holl Gymdeithasiad atoch, yn dangos eu gofid na fedrant gael eich mwynhau yn eu cyfarfodydd fel cynt. Eto yr oedd pawb yn llawen a diolchgar eich bod yn parhau i arddel perthynas â ni, yn ein gwendid a'n colled, ac y mae genym hefyd seiliau tra chedyrn i farnu (fel yr ydych yn sylwi) "fod y cwmwl yn aros uwch ben y gwersyll"-y cariad llawn a'r cydgordiad gwerthfawr y mae'r Arglwydd yn ei gadw rhyngom a'n gilydd—yr arddeliad amlwg a diammau sydd yn cael ei gadw ar y pregethu cyhoeddus, yn nghyd a'r ffafr ryfedd a rydd yr Arglwydd i ni fel corph gwael yn ngolwg yr ardaloedd, ffordd y mae ein cyfarfodydd yn myned, ydynt oll brofion cedyrn "fod Arglwydd y Lluoedd gyda ni, a bod Duw Jacob yn ymddiffynfa i ni." Ni welwyd lletygarwch a charedigrwydd erioed yn uwch nac yn Ystradgynlais y tro diweddaf. O'r holl gannoedd oedd yn nghyd, ni chlywais fod neb yn gwneuthur yr achwyniad lleiaf, ond pawb yn rhyfeddu sirioldeb y trigolion, a mwy na digon o bob angenrheidiau i ddyn ac anifail: oni fedrwn ganfod llaw'r Arglwydd yn hyn, y mae yn rhaid ein bod yn ddall iawn.

"Barchedig Syr, chwi a wyddoch nad aeth Moses i ryfel gyda Joshua ac Israel yn erbyn Amalec, Exod. xvii. 9—12, &c.; eto yr oedd eu hachos ar ei galon, ac ni allai lai na bod ar y bryn yn dal ei ddwylaw i fynu nes y gorchfygodd Israel; yna cyfodwyd allor yn arwydd o'r fuddugoliaeth, a galwyd hi JEHOFA-Nissi, hyny yw, Yr Arglwydd yw fy maner: felly ninau a ddymunem yn fawr fod ein hachos ninau fel corph ar eich calon, ac yn eich gweddiau chwithau, er na fedrwch fod gyda ni ar y maes fel yn y blynyddau a aethant heibio. Cynnorthwywch ni o'r ddinas fel Dafydd, 2 Sam. xviii. 3, er eich bod yn analluog i fyned allan gyda ein lluoedd.

O ryfedd ddaioni a gras Duw, mae yr achos mawr yn ein mysg yn cynnyddu yn ddirfawr yn holl ranau y wlad: bydded y gogoniant i Dduw a'r llwch i ninau.

Y mae fy anwyl gymhares yn cyduno â mi mewn Crist'nogol a serchus barch a chariad at Mrs. Howells a chwithau.

Ydwyf, anwyl a pharchedig Syr,

eich gwas gwael yn efengyl Crist,

EBENEZER RICHARD.

PEN. X.

Hanes gwneuthuriad "Gweithred Gyfansoddawl" ("Constitutional Deed") y Trefnyddion Calfinaidd—Pigion o lythyrau Mr. Richard at ei feibion—Llythyr at y Parch. Mr. Howells, Trehil—Un arall at y Parch. John Elias ar farwolaeth ei wraig—Llythyr oddiwrth y Parch. Richard Jones, Wern.

Yn y flwyddyn 1826, ar ol ystyried hir a dwys, penderfynodd y Trefnyddion Calfinaidd ddefnyddio moddion i ddiogelu y meddiannau oedd yn perthyn iddynt fel corph crefyddol, trwy fynu gweithred gyfreithlon wedi ei pharotoi, yn ol y drefn ofynol gan ddeddfau'r wladwriaeth. I'r dyben hyn, ymofynwyd cyngor a gwasanaeth John Wilks, Ysw., o Lundain, yr hwn ydoedd cyn hyn wedi enwogi ei hun yn fawr, trwy ei zel yn amddiffyn hawliau yr Ymneillduwyr (Dissenters) yn gyffredinol.

Yr oedd yr angenrheidrwydd am hyn wedi dyfod yn amlwg trwy amryw brofion gofidus, yn mha rai, o ddiffyg y cyfryw ddiogeliad, yr oedd dynion beilchion, hunanol, a diegwyddor, wedi cymeryd mantais i briodoli, fel meddiant personol iddynt eu hunain, rai o'r addoldai a adeiladwyd er defnydd y corph. Wedi i'r weithred gael ei chwblhau, yr oedd yn angenrheidiol cael wrthi arwyddnodau holl Ymddiriedolwyr yr Ammod-weithredoedd (Trustees of Leases) perthynol i wahanol addoldai y corph trwy y wlad; ac i gyflawni yr amcan hwn, pennodwyd y Parch. John Elias i fyned drwy y Gogledd, a gwrthddrych y cofiant hwn i fyned trwy y Deheudir, i dderbyn y cyfryw arwyddnodau. Cymerodd y gorchwyl hwn gryn lawer o amser Mr. Richard i fynu yn niwedd y flwyddyn hon a dechreu yr un ganlynol.

Y mae yn angenrheidiol i ni nodi yma, y bydd genym o hyn allan fantais neillduol i bortreiadu hanes a chymeriad Mr. Richard o flaen ein darllenwyr, trwy osod ger eu bron bigion helaeth o'i lythyrau at ei blant, pan oddi cartref, yn enwedig ysgrifenwyr y cofiant hwn, y rhai a symudasant tua diwedd y flwyddyn 1826 i breswylio yn Nghaerfyrddin, lle yr arosasant am ysbaid tair blynedd.

Priodol yw sylwi mae yn Saesoneg yr arferai ysgrifenu atom, ac o ganlyniad mae cyfieithad yw yr hyn a roddir yma.

Tregaron, Tach. 27, 1826.

"FY MECHGYN ANWYL,
"Gyda hyfrydwch yr wyf yn cymeryd fy ysgrifell yn fy llaw, i hysbysu i chwi am ein hamgylchiadau ni yma.

Y mae eich mam a minau, yn nghyd a'ch chwiorydd, mewn iechyd da, a gobeithio eich bod chwithau yn parhau i fwynhau yr un fendith. . . . . Yr wyf yn gweddio ddydd a nos am i'r Arglwydd weled bod yn dda ddysgu i chwi, mae duwioldeb gyda boddlonrwydd sydd elw mawr.' Mae meddwl anfoddlon yn felldith fawr, oblegid os bydd dyn felly, pe b'ai yn cyfnewid ei sefyllfa bob awr o'r dydd, ni fydd byth yn esmwyth, oblegid y mae'r anesmwythdra, nid yn y sefyllfa, ond yn ei feddwl ei hun. Hyn a wnaeth yr angylion yn anesmwyth yn y nefoedd, Adda yn mharadwys, a Saul, brenin Israel, ar ei orsedd. . . . Goddefwch hefyd, fy mechgyn hoff, i'ch hanwyl dad i gymhell arnoch yr ystyriaeth fanylaf at onestrwydd, oblegid, fel y dywed y ddiareb, Honesty is the best policy, ac y mae awdurdod uwch na hyny wedi gorchymyn i ni ddarpar pethau onest yn ngolwg pob dyn;' a thrachefn, Y rhai ydym yn rhagddarparu, pethau onest, nid yn unig yn ngolwg yr Arglwydd, ond hefyd yn ngolwg dynion;' a thrachefn, Pa bethau bynag sydd wir, pa bethau bynag sydd onest, pa bethau bynag sydd gyfiawn, meddyliwch am y pethau hyn.' Yma gallaf lefain, Fel hyn y dywed yr Arglwydd;' a bydded i holl feibion dynion dalu sylw i'r hyn y mae ef yn ei orchymyn, oblegid nid oes dim esgusodi neu ochel i fod yma. Fy anwyl blant, cedwch yn wastad o flaen eich meddwl, mae eich trysor daearol gwerthfawrocaf, yn nesaf at eich bywyd, yw eich cymeriad. Tra y cedwir ef yn gyfan, yn glir, a dilychwyniad, y mae yn debyg i ddernyn o wydr, yn hynod ddefnyddiol ac addurniadol, ond, wedi unwaith ei dori, y mae wedi ei golli yn anfeddyginiaethol; nid oes dim modd ei gyweirio—gellir ei adael am ryw ychydig amser yn ei le, a'i ddiogelu yno, trwy sythdoes (putty) a moddion ereill, ond y diwedd fydd ei gymeryd i lawr a'i daflu ymaith fel peth diddefnydd a diwerth; felly dyn wedi colli ei gymeriad, fel gwr onest, gellir cyd-ddyoddef âg ef am ryw amser, ond y diwedd fydd ei wrthod, a chau y drws yn ei erbyn.

Ydwyf, fy mechgyn anwyl,

Eich tad pryderus a gofalus,

EBENEZER RICHARD.

Crey, Mawrth 30, 1827.

FY MECHGYN ANWYL IAWN,
Ysgrifenais atoch gyda Mr. Thomas Evans ar ol derbyn llythyr Edward ganddo ef. Ond gan fod genyf ryw ychydig amser a hamdden, nid oeddwn yn gwybod am un ffordd well i'w ddefnyddio na thrwy ysgrifenu atoch chwi.

Rhoddais i chwi ychydig gyfrif o'n Cymdeithasiad yn Aberhonddu. Yr oedd yn gyfarfod da iawn yn ddiau; ac er fod y tywydd yn arw iawn, eto 'roedd yr Arglwydd yn ddaionus, ac yr oedd ei bresennoldeb grasol gyda'i weinidogion annheilwng.

"Fy anwylaf fechgyn, pa le bynag yr elwyf, pa beth bynag a wnelwyf, pa un a'i yn unig a'i mewn cymdeithas, pa un a'i yn ddihun a'i yn nghwsg, pa un a'i yn teithio ar y ffordd neu yn eistedd yn yr ystafell, ïe, pa un a'i gweddio a'i pregethu, yr ydych chwi bob amser o flaen fy meddwl. Y mae eich llwyddiant yn gorwedd yn agos iawn at fy nghalon; eich hamgylchiadau tymhorol a'ch hachosion ysbrydol yn cael rhan yn fy meddyliau pryderus; ac yn aml, ïe, yn aml iawn, yr ydwyf yn dyrchafu fy enaid mewn saeth-weddiau taerion at Dduw trosoch. Yr wyf yn gweddio yn gyson am i chwi gael eich cadw rhag drygau y byd presennol, a chael bod yn gyfranogion o'r iechawdwriaeth hono a'ch dwg i ogoniant yn yr un a ddaw.

Y mae y ddau fyd yn bresennol bob amser o flaen fy ystyriaeth pan fyddwyf yn meddwl am danoch chwi, gan fod yn awyddus uwchlaw pob peth am i chwi ddianc oddiwrth halogedigaeth yn y byd hwn, a rhag damnedigaeth yn y nesaf. . . . . . Pan fyddwyf yn cyfarfod â rhyw ddyn ieuanc annuwiol, yr wyf yn dywedyd, O 'rwyf yn gobeithio na fydd fy mechgyn bach i yn debyg i hwn; a phan fyddwyf yn gweled rhyw ddyn ieuanc duwiol, yna yr wyf yn llefain, Gwnaed Duw fy mechgyn anwyl i fel hyn. O bydded i chwi fod yn wrthddrychau tra-anrhydeddus cariad Duw, yn ddeiliaid dedwydd ei ras, yn breswylwyr ei dŷ uchod, ac yn etifeddion o'i deyrnas uchod, wedi eich gwneuthur yn 'etifeddion i Dduw, ac yn gyd-etifeddion â Christ.'

"Yr wyf yn gobeithio nad anghofiwch byth i ymddarostwng eich hunain ger bron troedfainc trugaredd ddwyfol, ac i ymgynghori â thystiolaethau y gwirionedd dwyfol: yn y naill chwi gewch weled llwybr eich dyledswydd yn cael ei wneuthur yn eglur; yn y llall fe'ch diwellir â gras i gyflawni eich dyledswydd: yn y naill fe'ch goleuir, ac wrth y llall fe'ch cadarnheir; yn y naill fe'ch dysgir 'pa fodd y glanha llanc ei lwybr,' ac yn y llall Duw a ddywed wrthych, Digon i ti fy ngras i;' y mae y naill yn llusern i'ch goleuo, a'r llall yn ystordy i'ch diwallu.

O fy anwyl lanciau, clywch lais eich tad! Mae bywyd yn fyr, angeu yn sicr, y farn fydd ofnadwy, a thragywyddoldeb fydd yn hanfodiad diderfyn. Ni wna dim y tro yn fuan iawn i chwi a minau ond i adnabod yr unig wir Dduw a Iesu Grist, yr hwn a anfonodd efe; oblegid efe yn unig yw y bywyd tragywyddol. Gosodwch yr Arglwydd yn wastad ger eich bron, gan ddweud a gwneuthur pob peth fel yn ei bresennoldeb, a chredu eich bod yn awr, ac y byddwch bob amser, yn noeth ac yn agored i'w lygaid holl-weledig ef.

Ni chwanegaf ragor yn bresennol, gan ddymuno bendith yr Arglwydd ar y cynghorion hyn, y rhai a anfonir atoch gan un o'r tadau serchocaf ac anwylaf,

EBENEZER RICHARD.

Tregaron, Hydref 22ain, 1827.

"FY MACHGEN ANWYL,
"Sefyllfa eich meddwl yw yr hyn sydd yn gwneuthur yr argraff ddyfnaf arnaf fi. Yr ydych yn dweud fod dychrynfeydd yr Arglwydd yn eich amgylchynu, a saethau yr Hollalluog fel pe baent yn glynu yn eich calon: nid yw hyn ddim ond yr hyn a deimlodd y Salmydd duwiol o'r blaen, yr hyn a ellwch weled wrth ddarllen Salm xxxviii. 1-9, a'r lxxxviii. Yr wyf yn gobeithio y bydd i chwi ddarllen y Salmau hyn, ac yna chwi a ganfyddwch nad peth anghyffredin yw i bobl Dduw fod mewn trallod ac ing.

Teimlodd eich tad tlawd, saith-ar-hugain o flynyddau yn ol, ofnau a dychrynfeydd dirfawr ar ei feddwl, am ddyddiau a nosweithiau, fel nas gwyddai pa le i droi na pheth i'w wneuthur; ond, bendigedig fyddo enw Duw, esmwythawyd fi trwy y geiriau hyfryd hyny a welwch yn Heb. vii. 25; Am hyny efe a ddichon hefyd achub hyd yr eitha[7] y rhai trwyddo ef sydd yn dyfod at Dduw, gan ei fod yn byw bob amser i eiriol trostynt hwy.'

'Nawr fy anwylaf —— dyma newydd da ir pechadur truenus, amddifad, di allu, ïe, a di-obaith, yn alluog i achub. Y mae efe yn Waredwr Hollalluog; ac a oes dim yn ormod i'r Hollalluog i'w gyflawni? Na, O na, efe a ddichon, nid yn unig yr amser a aeth heibio (past tense), ond yr amser presennol. Y mae llawer wedi bod yn alluog i gyflawni yr hyn nis gallant yn awr, ond efe a ddichon heddyw, a ddichon yn awr, a ddichon y funud hon, achub—nid i wellhau i ryw raddau, ond i achub yn hollol, yn gyflawn, yn berffaith, ac yn dragywyddol. Hyd yr eithaf. O fy anwyl blentyn, pwy a all fesur yr eithaf gogoneddus hwn? Pwy? Nid oes neb a all ei chwilio allan! Eithaf Duw ydyw. Nid oes na dyn nac angel a eill ei blymio byth! O uwchder, a dyfnder, a hyd, a lled, y gwirionedd goruchel hwn, &c.

Wyf, fy machgen anwyl,

Eich tad,

EBENEZER RICHARD.


Yn y flwyddyn hon ysgrifenodd y llythyr canlynol at y Parch. Mr. Howells o Drehil, mewn atebiad i un anfonodd efe at y Gymdeithasiad yn Llangeitho. Y mae yn ddrwg genym ein bod wedi methu llwyddo i ddyfod o hyd i lythyr Mr. Howells ei hun.

AT Y PARCH. MR. HOWELLS, TREHIL.

Tregaron, Medi 3ydd, 1827.

BARCHEDIG FRAWD, A THAD YN YR EFENGYL,
Eich llythyr gwerthfawr a melus at Gymdeithasiad Llangeitho, yr hwn a ddyddiwyd Gorphenaf 20fed, a ddaeth yn brydlawn i fy llaw, ac a ddarllenwyd genyf fi i glywedigaeth yn nghylch tri chant o bregethwyr a blaenoriaid o Ogledd a Deheudir Cymru, yn gynnulledig yn y gymdeithas am un o'r gloch yr 8fed dydd. Anwyl Syr, y mae yn gwbl anmhosibl i mi fynegu i chwi deimladau y corph wrth wrando ei ddarllen -gwrandawyd ef gyda llawer o ddagrau a llawenydd, a chyda theimladau dwfn o orfoledd a hiraeth:—gorfoledd wrth weled un o'r brodyr hynaf yn y corph yn byw yn nghymmydogaeth y nef; gorfoledd wrth ddeall ei fod yn cael ffrwythau gwlad yr addewid ar drosolion i'r ardal lle mae'n byw; gorfoledd wrth ganfod ei galon mor gynnes at yr arch, a gweision ei Arglwydd sydd ar y maes gyda hi; a gorfoledd hefyd wrth weled nad ydyw wedi colli sylw ar, na serch at, long ein corph bach ni, yr hwn sydd yn nghanol llawer o dònau::-a hiraeth dwys hefyd am weled eich wyneb eto unwaith yn ein mysg; hiraeth am yfed yn helaeth o'r un ysbryd ag sydd mor gyflawn ar ein hanwyl frawd sydd yn rhwym; a hiraeth hefyd am y boreu dedwydd pan y caffom gyfarfod yn yr un gymanfa dragywyddol, heb neb o'r teulu yn eisiau, na neb ond y teulu yn nghyd.

Gorchymynodd yr holl gorph, yn un llais, eu cofio yn y modd serchocaf a charedicaf atoch, a'u bod yn ddiffuant ddiolchgar i chwi am eich llythyr syml, siriol, ffyddiog, ac efengylaidd, darlleniad pa un a barodd i lawer brawd egwan wrth ei glywed, fyned yn hyf, a dywedyd, Awn, a meddiannwn y wlad.' Rhwymasant finau, fel eu hysgrifenydd gwael, i drosglwyddo y penderfyniad uchod i chwi, Syr. Ond O na buasai y gorchwyl yn syrthio ar ryw un mwy cyfaddas y mae gofid arnaf feddwl ysgrifenu at wr sydd yn byw tan wlith Hermon, a minau yn Gilboa-at wr sydd ar ben Pisgah yn gweled y wlad sydd yn llifeirio o laeth a mel, a minau yn nyffryn y celaneddau a glyn lladdedigaeth.

'Swn y rhyfel,
Ydyw'r fan 'rwi eto'n byw.'

Yr oedd pob rhan o'ch llythyr yn wir fuddiol; ond pan yr ydych yn agos i'r diwedd, mewn gwaed milwr, yn gwaeddi ar eich brodyr godi'r banerau, a sefyll yn eu rhesau, ac yn sicrhau y ceir gorchymyn i danio yn fuan, yr oedd byddin ein Hisrael ni yn barod i floeddio i'r gâd gyda hyn. Parhewch, anwyl Syr, ac na ddiffygiwch anfon yn aml atom bob cyfleusdra a gaffoch, canys y mae yn wir hoff genym glywed oddiwrthych. Cofiwch ni yn wastadol fel corph yn eich gweddiau beunyddiol, ac nac anghofiwch y gwaelaf o'ch brodyr oll, a'ch gwas yn yr efengyl,

EBENEZER RICHARD, Ysgrifenydd.


Tregaron, Chwefror 21, 1828.

"FY MECHGYN ANWYL,
Daeth eich llythyr, a ddyddiwyd ar y 19 o'r mis hwn, yn ddiogel i law; a chan eich bod yn ymddangos wedi tramgwyddo oherwydd byrdra fy llythyr diweddaf i, yr unig ddiffyniad sydd genyf i'w gynnyg, yw byrdra y rhybudd oddiwrth y cludydd, yr hwn ydoedd yn barod i gychwyn ar yr amser, fel nas gallaswn ond ysgrifio ychydig linellau yn y brys mwyaf. . . . . Yr wyf yn gobeithio, fy anwyl blant, fod eich meddyliau yn cael eu cymeryd i fynu yn aml gydag hachos eich heneidiau anfarwol. Enaid colledig-O, y fath ddrychfeddwl ofnadwy! Nid oes dim yn nghreedigaeth Duw mor ddychrynllyd! Pwy a all ddyoddef yr olygfa resynol, Ffowch, O ffowch rhag y llid a fydd!

"Ar y llaw arall, enaid wedi ei achub, y fath olwg ogoneddus yw hon !-yma y gwelaf y nefoedd yn agored, yr angylion yn llawenychu, Duw yn gwenu, a'r enaid gor-ddedwydd yn tragywyddol ymorfoleddu. Ceisiwch hyn uwchlaw pob cais arall. Ymbiliwch, ymdrechwch, byddwch daer gyda Duw am hyn. Pechadur wedi ei achub yw un o'r rhyfeddodau mwyaf a welodd y nefoedd ei hun, neu a wel byth! Ond y mae achub oddiwrth bechod yn rhagbarotoawl i fwynhad o iechawdwriaeth dragywyddol yn ngwlad y goleuni. Ofer ac anobeithiol yw dysgwyl iechawdwriaeth yn angeu a'r ochr draw i'r bedd, oni waredir rhag pechod mewn amser. Fy mechgyn anwyl, nid oes genych ddim i'w ofni os ydych wedi eich gwaredu oddiwrth gaethiwed a chaledwaith (drudgery) pechod. Dymunwn yn fawr wybod yn eich nesaf, a oes un o honoch, neu a ydych eich dau, wedi eich derbyn at fwrdd yr Arglwydd?

Y mae eich mam a Hannah yn uno mewn cariad atoch eich dau.

Ydwyf, fy mechgyn anwyl,

Eich tad,

EBENEZER RICHARD.


Yn agos i ddechreu y flwyddyn hon bu farw gwraig gyntaf y Parch. John Elias, ac anfonwyd y llythyr canlynol ato ar yr achlysur gan Mr. Richard.

AT Y PARCH. JOHN ELIAS, LLANFECHELL, MON.

Tregaron, Ebrill 12, 1828.

FY ANWYL FRAWD,
Ychydig ddyddiau yn ol daeth i'm llaw lythyr caredig a doeth oddiwrth ein cyfaill cywir, y Parch. W. Roberts o Amlwch, yn dwyn y newydd poenus ac annysgwyliadwy i mi, am symudiad eich ffyddlon gydmares chwi, a'n chwaer garedig ninau, Mrs. Elias.

Nis gallaf oddef i'm pin ysgrifenu aros i ysgrifio eich colled fawr chwi a'ch anwyl blant—colled yr ardal a'r eglwys—colled pregethwyr cartrefol a theithiol, yn enwedigol yr olaf,—canys gwn nas gwnawn wrth hyny ond ail waedu hen archollion sydd wedi gwaedu gormod eisoes; ac agor dyfr-ddorau sydd wedi llifo yn rhy ddiarbed yn barod.

Ond goddefwch i mi, frawd, droi ar unwaith yn fy nychymyg i eich annedd dawel yn Llanfechell; ac ar ol taflu golwg i'r shop, ac i'r parlour, i'r llofft, ac i'r llawr, i ofyn pwy fu yma, gan fod y dernyn harddaf o'r dodrefn wedi ei symud, gan fod y trysor gwerthfawrocach na'r carbyncl wedi myned yn eisiau? Pwy fu yma, gan fod y penaf o gysuron daearol, un o weision Crist, wedi myned ar feth, ac un o'r mamau doethaf a thirionaf heddyw heb fod yn ei lle? Pwy fu yma, gan fod y priod serchocaf wedi myned yn weddw, a'r plant hoffaf wedi myned yn amddifaid o'u mham? Pwy fu yma? Ai rhyw leidr digydwybod a fu yma? Nage. Ai rhyw ysbeiliwr calon-galed a fu yma? Nage, nage; ond Tad a fu yma yn ymofyn un o'i blant adref ato i fyw. Perchen cyfiawn a fu yma yn ymofyn ei eiddo ei hun. Ganddo ef yr oedd yr hawl gyntaf, benaf, a chadarnaf. Ond och, syrthiodd yr arf gwerthfawr a defnyddiol i'r Iorddonen, a chollwyd hi yn anadferadwy! Minau welaf fy anwylaf frawd Elias yn sefyll ar lan y dwfr, a chydag wylofain chwerw yn dywedyd, Och fi, fy Meistr, canys benthyg oedd!' Eto ni osododd yr Arglwydd ei law ar ddim ond ar ei eiddo ei hun, yr hyn a allasai wneuthur yn gynt, a gwneuthur mewn modd garwach a chwerwach nag y gwnaeth.

"Gallasai ei chymeryd ymaith â dyrnod disymwth, pan y byddech chwi ar rai o'ch teithiau meithion gyda'r efengyl yn Nghymru neu Loegr. O'r tu arall, gallasai gael ei gadael i ddihoeni am flynyddau mewn clefydau blin a phoenus, a chwithau, frawd, wedi eich rhwymo fel nas gallasech, gyda dim tawelwch, ymadaw ag echwyn ei gwely, na myned un awr o'i golwg. Gallasech ei cholli pan oedd y plant yn fabanod ar y gliniau a'r bronau. Gallasai gael ei symud trwy ddyrnod o'r parlys mud, heb i chwi gael yr un gair o’i genau; neu fod wedi colli pob sylw a synwyr yn hir cyn ymadael. Hefyd, ni wnaeth yr Arglwydd i chwi, frawd, yn y tro hwn, ond y peth a wnaeth â miloedd o'i anwyl bobl o'ch blaen. Felly gwelir am Abraham, Isaac, a Jacob, yn nghyd a lluaws ar ol eu dyddiau hwynt.

Hefyd, nid oedd datod y cwlwm priodasol ddim ond amgylchiad a goffawyd wrth ei wneuthur,—hyd oni's gwahano angeu' ydoedd iaith y cyfammod.

"Ond mae genych chwi, anwyl frawd, resymau ardderchocach yn eu natur, a chadarnach yn eu cyfansoddiad, y rhai yn ddiau ydynt yn gweini i'ch meddwl llwythog gysuron mwy sylweddol na dim sydd genyf fi, sef, fod eich anwyl gymhares a chwithau yn rhwym yn yr un cyfammod cadarn; wedi eich prynu â'r un anfeidrol werth, wedi eich galw i'r un berthynas sanctaidd, eich golchi yn yr un ffynnon, eich gwisgo â'r un cyfiawnder, eich harddu â'r un gras, ac y cewch yr un adgyfodiad gwell, cael gweled yr un wyneb, a mwynhau yr un Duw, heb dor, heb gymysg, a heb gwmwl byth.

Mae fy anwyl wraig yn uno gyda mi yn y cydgwyniad mwyaf teimladwy a serchiadol atoch chwi a'ch dau blentyn, gan ddymuno i chwi gredu fy mod, fy anwyl frawd yn yr efengyl,

Eich cyfaill diffuant,

{{c|EBENEZER RICHARD."

Yma y canlyn amryw bigion o wahanol lythyrau a ysgrifenodd atom yn ysbaid y flwyddyn 1828.

Tregaron,.... 1828.

FY LLANCIAU ANWYL,
Er fy mod yn llawn o lafur, yn teithio, yn pregethu, yn egwyddori (ysgolion), yn astudio, yn ysgrifenu, yn darllain, &c., fel y mae fy holl amser yn cael ei gymeryd i fynu yn gwbl, heb genyf funud i'w hebcor; eto, yn nghanol y ffwdan mwyaf, rhaid i mi gael munudyn i ysgrifenu at fy mechgyn bach anwyl. ***** "Y mae yr hyn a ysgrifenodd Henry yn ei lythyr diweddaf, mewn perthynas i ddiddymiad y Cyfreithiau Prawf a Corphoraeth' (Test and Corporation Acts) yn newydd, ac yn newydd da, ac yr oedd yn llawen genyf ei glywed, er na pharodd i mi fyned i ryw berlewyg o orfoledd, fel rhai. Y mae genyf finau newydd i fynegu i chwithau mewn atebiad, a hyny yw, am y diwygiad mawr a gogoneddus sydd wedi tori allan yn y rhanau uchaf o Sir Gaerfyrddin. Y mae yn rhyfeddod gweled ugeiniau yn wylo, ac yn gwaeddi allan ar unwaith, Pa beth a wnawn fel y byddom cadwedig?' ***** O fel yr oedd eich anwyl fam a minau yn llawenychu, dan grynu, wrth dderbyn y newydd, yr hwn a adfywiodd ein calonau, am eich bod wedi tyngu eich hunain yn filwyr dan fanerau Immanuel. Gweddiwch yn fynych ac yn daer, ar i chwi, trwy allu Duw, gael eich cadw trwy ffydd i iechawdwriaeth. O na wnewch eich hunain byth yn agored i'r cyhuddiad o fod yn ymadawyr (deserters) o'i fyddin. . . . . Yr wyf yn gobeithio nad yw, — er ei fod yn achwyn yn ei lythyr diweddaf ar ofnau ac ammheuon mewn perthynas i'w addasrwydd i fod yn gyfranog o swper yr Arglwydd, yn goddef i'w feddwl ymollwng; ond cofied fod y wledd wedi ei phennodi, nid i angylion sanctaidd, ond i ddyn, ac nid i ddyn yn ei sefyllfa o ddiniweidrwydd cyntefig, nac i ysbrydoedd y cyfiawn y rhai a berffeithiwyd,' ond i ddyn yn ei sefyllfa anmherffaith yma ar y ddaear, ïe, gwledd o basgedigion breision, a gloyw win puredig,' i bechaduriaid. Yma, y mae Iesu yn derbyn pechaduriaid, ac yn bwyta gyda hwynt;' ac nid yw fy machgen anwyl ddim gwaeth na phechadur, ac, yr wyf yn gobeithio, yn bechadar wedi ei achub.

Yn eich nesaf, byddaf yn dysgwyl hanes fanwl a phennodol am y Parch. Mr. Charles, gan obeithio fod yr Arglwydd yn drugarog, wedi ei adferyd, i ryw ***** Ar ol rhoddi hanes y daith yr oedd arni y pryd hwnw, dywed,

"Chwi welwch, fy llanciau anwyl, fy mod wedi llenwi fy nhudalen cyntaf âg hanesyddiaeth dymunwn lenwi hwn â duwinyddiaeth.

Y mae dau air mewn duwinyddiaeth ymarferol, ac os dysgwch y ddau air hyny yn gywir, yna chwi gewch yr holl gyfundraeth yn oleu ac yn rhwydd. Y cyntaf yw gostyngedig, a'r llall yw sanctaidd. Gostyngeiddrwydd yw prif addurn y llu angylaidd, a'r gem werthfawrocaf yn nghoron y seintiau sydd wedi eu gogoneddu; ond yn nghymeriad dwyfol ein bythanrhydeddus Gyfryngwr y llewyrchodd y gras hwn yn fwyaf amlwg, a'r rhai hyny sydd wedi agoshau nesaf ato ef yw y rhai mwyaf enwog yn yr eglwys isod. Sancteiddrwydd yw gogoniant a pherffeithrwydd y Duwdod ei hun-rhagoriaeth benaf y nefoedd, &c.

Ond y mae fy amser i fynu: gweddiwch yn ddibaid, ac na ddiffygiwch nes eich gwneuthur yn fwy gostyngedig ac yn fwy sanctaidd.

Ydwyf, fy mechgyn bach anwyl,

Eich tad pryderus,

EBENEZER RICHARD.


"Yr hyn sydd lawer ar fy meddwl y dyddiau diweddaf hyn, yw y gwerth mawr a'r angenrheidrwydd anhebgorol am grefydd calon, oblegid y mae lluoedd yn awr wedi cymeryd i fynu ryw fath o grefydd ysgafn, ddychymygol, fasw, a di-ysbryd. Y maent yn siarad llawer am dani, yn enwedig am bethau nad ydynt hanfodol, ond yn ymddangos yn ddieithriaid i fywyd a chalon crefydd. Goddefwch i mi, fy anwylaf lanciau, wasgu hyn ar eich meddyliau; cymerwch ef o dan eich sylw mwyaf sobr, meddyliwch lawer am dano, a phwyswch ef yn fanwl.

Ymddengys yr angenrheidrwydd am grefydd calon os ystyriwn, yn 1af, Sefyllfa ein calonau wrth natur: nis gall crefydd y pen adnewyddu ein calonau llygredig a drwg-gwahanglwyf y galon yw ein gwahanglwyf ni-pla y galon yw ein pla ni—am hyny nid oes dim ond crefydd calon a all gyfartalu ein hangen ni.

2il. Y mae fod llygad holl-wybodol y Barnwr, o flaen brawdle pa un y bydd raid i ni yn fuan sefyll, yn chwilio y galon, yn profi tu hwnt i bob ammheuaeth, na wna dim ond crefydd calon y tro yn yr amser pwysig hwnw; am hyny, ymdrechwch lawer am y grefydd hon. ***** Aeth Mr. Henry Rees heibio i ni ar ei ffordd i lawr i Sir Benfro. Yr oedd yn ymddangos fel seraph cyflym yn ehedeg yn nghanol y nefoedd, a'r efengyl dragywyddol ganddo i efengylu i'r rhai sydd yn preswylio ar y ddaear. Pregethodd yma prydnawn Sadwrn diweddaf oddiwrth Luc ix. 61, a boreu Sabbath yn Llangeitho, oddiwrth Diar. xxii. 17-21. Yr oedd y gynnulleidfa yn fawr anarferol yn Llangeitho, a'r addoldy, er ei fod yn llawn, nis gallai gynnwys yn agos y dorf luosog: yr oedd llawer wedi dyfod o bellder mawr, ac yr wy'n credu na chafodd neb eu siomi. ***** Fy mechgyn anwyl, erbyn yr amser y derbynioch y llythyr hwn, bydd blwyddyn arall wedi myned heibio, ac fel hyn treuliwn ein blynyddau fel chwedl,' ac yr ydym yn prysuro i'n cartref tragywyddol.

Y mae tragywyddoldeb yn crogi ar funud; ac O'r fath bwys i grogi ar edefyn mor wan! Nid yw y byd ansefydlog presennol ond lle pererindod-tragywyddoldeb yw ein cartref ni. Yn y byd hwn amser hau yw arnom-tragywyddoldeb fydd y cynhauaf i fedi am byth o'r hyn a hauasom yma. O edrychwn at ein llestr had, fel y gwybyddom pa beth yr ydym yn ei hau. Cedwch yn agos at orsedd gras, at foddion ac ordinhadau gras, 'a Duw pob gras, yr hwn a'n galwodd ni i'w dragywyddol ogoniant, trwy Grist Iesu, a'ch perffeithio chwi, a'ch cadarnhao, a'ch cryfhao, a'ch sefydlo. Iddo ef y byddo'r gogoniant a'r gallu yn oes oesoedd. Amen.'"

Da, ond odid, fydd gan lawer weled y llythyr canlynol a dderbyniodd Mr. Richard, yn ystod y flwyddyn hon, oddiwrth y diweddar barchedig Richard Jones o'r Wern.

AT Y PARCH. EBENEZER RICHARD.

ANWYL SYR,
Yr wyf yn gobeithio eich bod chwi a'r eiddoch o dan gysgod grasol aden Hollalluog Dduw. Byddaf ddiolchgar iawn os byddwch mor fwyn a gosod y llinellau canlynol o flaen y cyfeillion yn Nghymdeithasiad Llanbedr.

Barchedig dadau a brodyr cynnulledig yn Llanbedr,—Gobeithio yr wyf y bydd presennoldeb Arglwydd y cynhauaf yn amlwg y tro hwn yn eich plith, a phelyderau ei ogoniant yn ofnadwy i deyrnas y gelyn, a bod amrantau boreuddydd y Jubili ar ymagor, ac y bydd i drigolion ardaloedd Teifi brofi bendithion anorchfygol hon, pa rai sydd a'u goleuni yn dywyllwch, a'u ffydd yn darian cadarnach na phres yn erbyn purdeb y gwirionedd, fel y mae yn yr Iesu; ac nid yw Duwdod person y Gwaredwr ond testun eu gwawd, er dywedyd o'r Ysbryd Glan mae efe yw y gwir Dduw, a'r bywyd tragywyddol.'

Yn awr yr wyf yn gofyn eich cenad i'r brawd yr anfonais hyn o linellau ato, i ddarllen i glywedigaeth y brodyr yr hysbysiad canlynol: sef,

Megis yr anfonais er's amser yn ol ychydig sylwadau i Oleuad Cymru, mewn dull o wawdiaeth a duchan, yn erbyn rhai geiriau a golygiadau perthynol i'r Gyfundraeth Newydd (The New System), yr hon sydd yn ymloewi draws y wlad; yr wyf yn ddiweddar gwedi bod uwch ben y mater mewn modd mwy difrifol ac egniol, trwy yr hyn y cyfansoddais draethawd, yr hwn wyf yn ei alw Drych y Dadleuwr. Ond wrth grybwyll am yr enw Dadleuwr, efallai y tybia rhai mai tanllwyth o ddadleuaeth yw; eithr yr wyf fi yn meddwl nade; o'r hyn lleiaf, yr wyf wedi ei fwriadu i'r gwrthwyneb.

Yn y drych hwn, debygaf, y gall y darllenydd diragfarn weled pa mor agos y mae'r golygiadau uchod yn dyfod i'r gwirionedd, ac ar yr un pryd yn arwain y darllenydd i eithafion a dychymygion anorphenol. Mae'n cynnwys natur dadl, ei da a'i drwg, ei hachlysuron, cyndynrwydd mewn dadl, profion o waith amryw, y niweid o wyrdroi'r Ysgrythyrau, anghysondeb golygiadau Usher ar wir helaethrwydd marwolaeth Crist yn yr iaith y'i ysgrifenwyd, cyfieithad o'r cyfryw, golygiadau Mr. R. yn gyferbyniol, sylwadau arnynt, prynedigaeth, rhybudd i bregethwyr ac ysgrifenwyr, sylwad ar y geiriau neillduol a chyffredinol. Ond tebyg, er fy mod yn ymdrechu i ymgadw o dir dadl, na bydd yn achos o'i gohirio, eto, efallai y bydd i ryw beth sydd ynddo beri i ddynion gwyntog glecian. Ond yr wyf yn gobeithio er hyny y gall fod yn foddion i'r darllenydd diduedd i weled mor ddibwys, o'r hyn lleiaf o ran cu dechreuad, yw llawer o bethau ag sydd yn peri cynhyrfiadau ynfyd yn y byd crefyddol.

Ond gwybydder, nid wyf yn gofyn eich llythyrau canmoliaeth i'r gwaith, nac uchel-udganiad o'r eiddoch o'u blaen, (rhag y byddo i neb oherwydd hyny gael achlysur o'm rhan i, i gablu corph nac enaid,) ond gadael iddo pob chwareu teg, ac na byddo i neb o fy mrodyr, pwy bynag trwy wyneb, genau, nac ael, fod yn blaid i ragfarn na chenfigen, rhag ofn iddynt fod yn achlysur o friw i feddwl neu feddiannau un ag sydd yn caru eu lleshad, ac yn sicr ei fod yn amcanu at ddaioni. Bydd i'r gwaith ddyfod allan yn rhanau. Y rhan gyntaf yn werth chwech-cheiniog; a chymerir ychydig ymofyniad yn nosbarthiad hon, fel y gwybydder pa nifer i'w hargraffu rhagllaw: bydd y llyfr i gyd oddeutu gwerth pedwar swllt.

Ac fel hyn, fy mrodyr, yr ydwyf yn gwybod fy mod yn anturio gorchwyl na anturiwyd o'r blaen, (o'r hyn lleiaf yn Gymraeg,) ac yr wyf yn sicr mae fy amcan yw gwneuthur daioni; a chan nad wyf fi o gyfansoddiad natur, nac o amgylchiadau, fel y gallaf wneuthur nemawr trwy deithio, eto byddai hyny yn Ilondid i mi pe gallwn wneuthur daioni yn rhyw fodd. Ac os gwel Arglwydd y fendith yn dda ond anadlu o ochr fy ymdrechiadau tlodion yn hyn, yr wyf yn meddwl y gallai ateb dybenion daionus yn yr amser presennol.

Ydwyf y llai na'r lleiaf o'r holl frodyr,

Wern, Llanfrothen, Gorph. 26, 1828RICHARD JONES.

PEN. XI.

Afiechyd galarus y Parch. D. Charles—Llythyr Mr. R. at ei deulu ar yr achlysur—Llythyr at Mr. William Morris—
Un arall at ei Feibion—Ac arall at y Parch. David Williams a Mr. William Morris.

YN haf y flwyddyn 1828, dygwyddodd anhwyldeb galarus y Parch. David Charles, o Gaerfyrddin, yr hyn a barodd gymaint o ofid a thrymder i'w gyfeillion trwy Gymru, ac i neb yn fwy nac i wrthddrych y cofiant hwn, oblegid yr oedd Mr Charles yn un o'r cyfeillion mwyaf anwyl a mynwesol a feddai. Achosodd y newydd dristwch nid bychan i'w feddwl; ac, yn mhob llythyr a ysgrifenai atom, byddai yn gwneuthur yr holiadau manylaf yn ei gylch; a phan ymwelodd a Chaerfyrddin y tro cyntaf ar ol yr ergyd trwm, gorchfygwyd ef yn gwbl gan ei deimladau wrth weled sefyllfa ei gyfaill; ac, wrth drosglwyddo penderfyniad Cymdeithasiad y corph ar yr achlysur, ysgrifenodd y llythyr canlynol at deulu Mr. Charles.

Tregaron, Awst, 1828.

AT MR. DAVID CHARLES, IEU

ANWYL SYR,
Achosodd y newydd galarus am yr anhwyldeb trwm â pha un y mae eich tad parchedig wedi ei orddiwes, y teimladau mwyaf poenus a'r galar mwyaf llym yn mynwesau cannoedd o'i gyfeillion, yn mhob rhan o'r wlad; ond ni pharodd yn mynwes neb loesion mwy rhwygiedig nac yr eiddo ei gyd-swyddog a'i gydweithiwr annheilwng, sydd yn cael yr anrhydedd o'ch cyfarch yn bresennol. O'r fath fraw, prudd-der, gofid, a digalondid sydd wedi dal fy nheimladau er pan dderbyniais yr hysbysiad poenus! gyda'r priodoldeb mwyaf gallaf fabwysiadu geiriau Dafydd, 'Oni wyddoch chwi fod tywysog a gwr mawr wedi methu, a chael ei gaethiwo heddyw yn Israel, a minau ydwyf eiddil heddyw?'

Yn ein Cymdeithasiad ddiweddar yn Llanbedr, syrthiodd y gorchwyl poenus i'm rhan i, o hysbysu i'r cyfarfod lluosog a chyfrifol o weinidogion, pregethwyr, a blaenoriaid, sefyllfa alarus eich anrhydeddus dad, ac yr wyf yn sicrhau i chwi nad oedd bosibl dangos mwy o ofid a chydymdeimlad nac a arwyddwyd gan yr holl gymanfa, heb un eithriad; ac fel prawf o hyny, cynnygiwyd a derbyniwyd y penderfyniadau canlynol yn y modd mwyaf gwresog, unfryd, a diledrith, sef, Fod y cyfarfod hwn wedi clywed gyda phoen dirfawr am yr afiechyd disymwth a gofidus, â pha un y mae yr Hollalluog Dduw wedi gweled yn dda i ymweled â'n cydweithiwr anwyl ac anrhydeddus, y Parch. Mr. Charles, o Gaerfyrddin, a'n bod yn cydymdeimlo yn y modd mwyaf diffuant â'i deulu, ei berthynasau, a'i gyfeillion trallodus, o dan yr oruchwyliaeth boenus bresennol o eiddo rhagluniaeth, ac na pheidia a gweddio am ei adferiad buan ac effeithiol.'

Y mae fy anwyl wraig yn cyduno â mi yn ei gwasanaeth Cristionogol gwresocaf at eich parchedig dad, eich hanwyl chwiorydd, a chwithau.

Ydwyf, fy anwyl Syr,

Yr eiddoch, heb ddichell,

EBENEZER RICHARD.

Y mae y llythyr canlynol yn esbonio ei hun:

AT MR. WILLIAM MORRIS, COED-CYMMER.

Tregaron, Chwef. 26, 1829.

FY ANWYL GYFAILL,
Nis gallaf lai na chenfigenu wrthych, fel un yn meddiannu rhai rhinweddau gwerthfawr, y rhai yr wyf yn teimlo, a hyny gyda gofid, fy mod i yn fyr ac yn ddiffygiol iawn ynddynt-rhinweddau o gymeriad uchel yn yr Ysgrythyrau sanctaidd. Yr wyf yn credu eich bod yn perchenogi y cariad hwnw am ba un y mae'r apostol Paul yn llefaru mor uchel, pan y mae yn dweud ei fod yn hir-ymaros, yn gymwynasgar, na chythruddir, ac na feddwl ddrwg.' Ymddengys i mi y gallaf brofi hyn yn hawdd, oblegid yr ydych wedi ymaros yn hir iawn yn wir a mi, i adael eich llythyrau yn barhaus heb eu hateb, wythnos ar ol wythnos, a mis ar ol mis; ac, ar ol siomedigaethau mynych, yr ydych yn ysgrifenu drachefn; yn awr, mae hyn yn gymwynasgar iawn ynoch. Ni chythruddir chwi yn hawdd chwaith, onide, buasai fy esgeulusdod i o'ch gohebiaeth frawdol wedi peri hyny er ys llawer amser, ac, er fy mod wedi ymddwyn yn ddrwg iawn, eto nid y'ch yn meddwl drwg. Y mae eich caredigrwydd yn fy ngorchfygu yn lân―y mae eich calon hael yn parhau i ddychymygu haelioni. Yr holl esgusod sydd genyf i'w gynnyg am fy ymddygiad anfoneddigaidd tuag atoch, yw, nad oedd dim yn fwriadol yn y cwbl, a'i fod yn cyfodi oddiar ddeddf orthrymus angenrheidrwydd, gan fy mod y rhan fwyaf o'm hamser oddi cartref yn pregethu, a phan ddychwelwyf yr wyf yn gorfod myned at y gwaith o gyweirio fy rhwyd, ac yna allan i'r môr drachefn gyda'r llanw cyntaf; ac fel hyn yr wyf yn cael fy nhaflu oddi amgylch, Sabbothol ac wythnosol. Y Sabbath yw i mi y dydd gwaith caletaf, ac y mae rhai o'r dyddiau wythnosol yn wir Sabbathau i'm henaid lluddiedig i. Weithiau, wrth fyfyrio, braidd na ddymunwn fod genyf ddau enaid mewn un corph; a thrachefn, wrth bregethu, egwyddori, &c., derbyniwn yn llawen ddau gorph i un enaid; ond wedi'r cwbl, nid ydwyf ond gwas anfuddiol' iawn. Nid yw achos fy Meistr yn y byd yn fawr iawn gwell o'm plegid i. O'r fath gywilydd, ac eto y mae hyd yn hyn yn ymatal rhag dileu fy enw oddiar y gofrestr, ac nid ydwyf hyd yma wedi fy ngyru allan o'r fyddin, (drummed out of the regiment.)

Ond yn awr amcanaf ateb rhai o'r pethau sydd yn eich llythyr diweddaf. Yr ydych yn gofyn a gewch yr Occasional Paper am byth; i hyn yr atebaf, Na chewch, oblegid, yn ol hen ddiareb Brydeinig, Er cystal gen' i maban, mae'n well gen' i fy hunan:' nid oes genyf ond efe yn fy meddiant.

I'ch dymuniadau taerion, am fod i ddysgeidiaeth yr Ysgol Sabbothol gyrhaedd o begwn i begwn, yr wyf yn rhoddi fy amen o'r galon. Yr ydych wedi dyrchafu fy nysgwyliadau am Gymdeithasiad Pont-y-pool i raddau uchel iawn, a gobeithio na chaf fy siomi.

Yr wyf yn cyduno yn hollol â chwi fod adroddiad (report) ysgrifenedig o undeb (union) pob sir, i gael eu hymgorphori yn yr Adroddiad Blynyddol Cyffredinol dros Ddeheudir Cymru, yn beth i'w fawr ddymuno; ond mae'n rhaid i ni aros nes gweled rhyw beth tebyg i undeb yn mhob sir, oblegid nid oes gysgod o hyny eto yn un sir yn Neheudir Cymru ond Sir Aberteifi. Da fyddai genyf pe gallwn hebgor amser i roddi i chwi hanes gyflawn o Gyfarfod Blynyddol ein hundeb ni, a gynnaliwyd yn Llangeitho ar y pedwerydd o'r mis hwn, lle y cawsom yr ysgrifenydd ac un cynnrychiolwr o bob dosparth, yn dwyn yn mlaen eu llyfrau, ac yn dangos ansawdd yr ysgolion am y flwyddyn. Yna cawsom gyfarfod cyhoeddus, lle y traddododd cynifer ag wyth o weinidogion areithiau ar destunau gosodedig, am chwarter awr bob un: yr oedd yr holl destunau yn dwyn perthynas agos âg addysg yr Ysgolion Sabbothol. ***** Gyda fy nghofion caredicaf at eich mam a'ch gwraig anwyl, heb anghofio eich un bychan,

Crefaf ganiatâd i ysgrifenu fy hun,

Fy anwyl gyfaill,

Yr eiddoch, gyda mawr gywirdeb,

EBENEZER RICHARD.


Tregaron, Mawrth 25, 1829.

FY MECHGYN BACH ANWYL,
Y mae eich tad tlawd unwaith eto yn cael caniatâd i'ch hannerch o dan ei gronglwyd ei hun.

Y mae genym yn gyntaf i gydnabod derbyniad eich dau lythyr chwi prydnawn dydd Sadwrn, yr hyn sydd yn wastad yn adfywio ac yn llawenhau ein cylch bychan ni; ac yr wyf yn gobeithio eu bod yn cyffroi ein diolchgarwch i Drefnwr doeth y cwbl, pan ddeallom eich bod yn iach, ac yn cael eich cadw ar lwybr dyledswydd. Byddwch gystal a dweud wrth ein hanwyl gyfaill, y Parchedig Thomas Evans, y byddwn ddiolchgar iawn iddo am anfon i mi ddangosiad (return) o'r Ysgolion Sabbothol yn Sir Gaerfyrddin, gyda mor ychydig oediad ag y byddo bosibl, h. y. holl rifedi yr ysgolion, athrawon, ac ysgolheigion yn y sir. Geill arbed iddo ei hun y drafferth o wneuthur cofrestr o'r lleoedd fel arferol, ac anfon dim ond y cyfan (total.)

Dywedwch wrtho fod ei anhwyldeb yn achos o wir alar a gofid i mi, yn enwedig pan ddeallwyf nad yw yn bwriadu bod yn ein Cymdeithasiad Chwarterol nesaf. Byddaf yn dra chwithig yn Nghymanfa Pont-y-pool, oblegid byddaf yno heb fy llaw ddehau, yn absennoldeb fy nghyd-swyddog parchus.

Tebyg eich bod wedi clywed am farwolaeth ein cyfaill parchus, Mr. Rees Jones, o Gower; fel hyn yr ydym fel y dywedodd y wraig o Tecoa wrth Dafydd, Yr ydym fel dyfroedd wedi eu tywallt ar y ddaear, y rhai ni chesglir.' Y cwbl sydd genym i ddweud yn nghanol y pethau hyn, gweithredoedd yr Arglwydd ydynt; ac er y gallant ymddangos i ni yn rhyfeddol, eto y maent yn cael eu dwyn i ben mewn anfeidrol ddoethineb a chyfiawnder. Dylem ni ymgrymu mewn ymostyngiad, gan ddweud, Yr Arglwydd Dduw Hollalluog sydd yn teyrnasu. Y mae agwedd meddwl yn bod, (ac O na allem ni ei gyrhaedd,) yr hwn a ddywed yn ngwyneb y cwbl, Efe a wna bob peth yn dda.' Bydded i fawredd ac ardderchawgrwydd Duw wrthbwyso pob peth arall yn ein meddyliau. Q Y mae eich mam, a Mary, a Hannah, yn cyduno yn y cariad anwylaf atoch.

Ydwyf, fy llanciau anwyl,

Eich tad,

EBENEZER RICHARD.


Dengys y llythyr a ganlyn fel yr ydoedd yn parhau yn ei zel a'i ymdrechiadau dros yr Ysgol Sabbothol. Y mae yn dwyn perthynas âg ymweliad a wnaeth trwy Sir Forganwg ar gais rhai o'i gyfeillion yno, gyda golwg i sefydlu gwell trefn yn llywodraeth yr ysgolion.

AT Y PARCH. DAVID WILLIAMS, MERTHYR, A MR.
WILLIAM MORRIS, CEFN-COED-CYMMER.

At Gymmedrolwr ac Ysgrifenydd y Cyfarfod Athrawon a gynnaliwyd yn Merthyr Tydfil, Hydref 23ain, 1829. Annerch.

FRODYR ANWYL A HOFF,
Yr ydwyf yn cymeryd y cyfleusdra cyntaf i'ch cyfarch â gair o ein hanes yn y daith ddiweddar trwy wlad Morganwg, gyda golwg ar achos yr YSGOLION SABBOTHAWL. Cawsom roesawiad parod a siriol yn mhob un o'r chwech dosparth cyntaf; dangoswyd parch a chariad nid bychan i ni yn ein hymgais egwan gyda'r gwaith; a bu gweinidogion, pregethwyr, blaenoriaid, ysgrifenyddion, ac athrawon, yn bob cynnorthwy ag a allent, i osod i fynu bob peth yn y modd sicraf a chadarnaf ag a gynnygem iddynt.

Ond am ddosparthiadau Castell-Nedd ac Abertawy, nid oedd y brodyr yno wedi cael ar ddeall fod y cyfarfodydd i gael eu cadw, ac oherwydd hyny yr oeddynt yn anmharod, ac yn anaddfed i wneuthur sylw o ein cyfundraeth fechan ni; er fod yno, o bosibl, gymaint, os nid mwy, o angen nag yn odid un o'r lleill. Ond diffyg hysbysrwydd yn mlaen llaw am ddyben ein dyfodiad a achlysurodd y dyryswch. Yn y lleill oll cytunwyd yn un llais ar y penderfyniadau canlynol:

Penderfynwyd, Bod y cyfarfod deufisol i gael ei gynnal yn mhob dosparth ar yr un egwyddorion ac wrth yr un rheolau a chyda chwi.[8]

Penderfynwyd, Bod dwy gymdeithas haner-blynyddawl i gael eu cynnal yn mhob dosparth, sef yw hyny, y naill haner o'r dosparth i gyfarfod un haner blwyddyn, a'r haner arall o'r dosparth i gyfarfod yr haner blwyddyn arall, i gael eu holi yn gyhoeddus; ac felly y bydd yr holl ysgolion, yn mhob dosparth, yn cael un gymanfa yn y flwyddyn.

Penderfynwyd, Bod pob dosparth yn un llais yn dymuno cael cyd-weithrediadu â'u brodyr mewn cyfarfod blynyddawl, i dderbyn i mewn holl gyfrifon y sir, i areithio am achos yr Ysgolion Sabbothawl, ac felly llunio'r holl ysgolion a'r dosparthiadau yn y sir yn un cyfundeb cadarn a hardd.[9]

Penderfynwyd, Bod y saith dosparth cyntaf yn y sir, sef pob dosparth ond Abertawy,[10] yn dymuno cydweithredu â'u brodyr i gael llyfr i bob dosparth, yn ol y cynllun amgauedig yn hwn, a chael nifer o docynau unffurf a'r llyfr gyda phob llyfr.

Nid oes genyf yn bresennol ond cyflwyno'r achos gwerthfawr a phwysig hwn i nodded a llwydd yr hwn sydd a'i enw yn IAH, ac i'ch gofal chwithau, canys ni feddaf ond ychydig obaith y dygir ef yn mlaen gyda dim cysondeb, oni byddwch chwi yn brif-symudyddion ynddo: dywedaf wrthych yn ngeiriau y bobl wrth Ezra, Cyfod, canys arnat ti y mae y peth: a ni a fyddwn gyda thi; ymwrola a gwna.' Felly y dywedaf finau wrth fy anwyl frodyr yn Merthyr, Cyfodwch, arnoch chwi y mae y peth; ac y mae cannoedd yn Morganwg yn barod i ddywedyd, Ni a fyddwn gyda chwi; ymwrolwch, gan hyny, a gwnewch. Bydd yn werth cich dyfodiad i'r byd, a threuliad eich oes yn y byd, i gael bod yn offerynau i osod achos yr Ysgolion Sabbothawl ar iawn droell yn y fath wlad a Morganwg. Y mae hyn o linellau yn dyfod atoch o ystafell cystudd: ni ellais adael fy 'stafell er pan ddychwelais o Forganwg.

Ydwyf, frodyr anwyl a hoff,

Y gwaelaf o'ch brodyr oll,

A'r penaf pechadur,

EBENEZER RICHARD.

Tregaron,
Tach. 16, 1829.

PEN. XII.

Ail-ymweliad Mr. R. i Lundain, a'r amgylchiadau perthynol iddo—Llythyr oddiwrtho ef at eglwys Tregaron—Un arall at eglwys Llangeitho—Llythyrau at ei Feibion—Llythyr oddiwrth y Parch. H. Howells— Atebiad Mr. R. i yr unrhyw—Llythyr at Mr. John Morgans—Un arall at wraig weddw—Ac arall at Mr. William Morris—Llythyr oddiwrth y Parch. Richard Lloyd.

YN y flwyddyn 1830, cymerodd rhai cyfnewidiadau tra phwysig le yn amgylchiadau rhan o deulu Mr. Richard. Yr oedd amser arosiad ei ddau fab yn Nghaerfyrddin wedi terfynu, ac yr oedd yn angenrheidiol i'r hynaf o honynt, gyda golwg i gyrhaedd y ddysgeidiaeth briodol fel meddyg, i dreulio ysbaid o amser yn y brifddinas. I'r fath dad ag ydoedd Mr. R. yr oedd y pethau hyn yn achosi pryder ac anesmwythder mawr; a chan fod tro Sir Aberteifi, yn ol cynllun y Gymdeithasiad yn y Deheudir, i ymweled â'u cydwladwyr yn Llundain, yn dygwydd oddeutu dechreu y flwyddyn hon, penderfynodd Mr. Richard, ar gais ei frodyr yn Nghyfarfod Misol Sir Aberteifi, i fyned trostynt i Lundain y tro hwn, oblegid ei fod yn cael mantais ar yr un pryd i hebrwng yno ei fab hynaf, yr hyn ydoedd yn dra dymunol i'w deimladau.

Cyn cychwyn oddi cartref, galwodd yn nghyd holl aelodau yr eglwys yn Tregaron ar brydnawn Sabbath, am yr hwn achlysur dywed fel y canlyn yn ei ddyddiadur:— Ar fy nymuniad neillduol i, rhoddwyd heibio ein hodfa gyhoeddus, a chyhoeddwyd ein bod yn dymuno i'r eglwys gyfarfod am chwech o'r gloch, yr hyn a wnaethant mewn rhifedi lluosocach nas gallaswn ddysgwyl. Dymunais ar ein cyfaill David Owen, yr hwn a ddygwyddodd fod gyda ni y Sabbath hwnw, i ddechreu y cyfarfod, yr hyn a wnaeth trwy ddarllain, mawl, a gweddi. Yna rhoddais inau gyfarchiad byr i arwyddo yr hyn oedd yn fy ngolwg wrth eu galw yn nghyd, gan hysbysu iddynt mae dymuniad am ran yn eu gweddiau arbenig oedd fy unig ddyben. Wedi hyny gweddiodd pedwar o'r brodyr drosof fi a'm hanwyl fachgen Edward; ac yr oedd yn dymhor nas anghofir yn fuan gan lawer oedd yn bresennol. Yr oedd ysbryd gweddi yn amlwg wedi ei dywallt arnynt, a drws helaeth wedi ei agor i ymdrechu gyda Duw. Argraffwyd geiriau gwraig Manoah yn ddwfn ar fy meddwl, Pe mynasai yr Arglwydd ein lladd ni, ni dderbyniasai efe boeth-offrwm a bwyd-offrwm o'n llaw ni, ac ni ddangosasai efe i ni yr holl bethau hyn, ac ni pharasai efe i ni y pryd hwn glywed y fath bethau.' Bendigedig byth fyddo ei enw gogoneddus ef am sylwi arnom

Yma y canlyn lythyrau a ysgrifenwyd ganddo tra yn aros yn Llundain y tro hwn.

AT EGLWYS Y METHODISTIAID CALFINAIDD YN TREGARON.

Llundain, Mawrth 22, 1830

FY MRODYR ANWYL A HOFF,
Y mae amryw wythnosau bellach wedi myned heibio er pan y cawsom y fraint fawr a melus o gydgyfrinachu a rhodio i dŷ Dduw yn nghyd; eto yr wyf yn hyderu nad ydym yn anghofio ein gilydd, a gallaf ddywedyd yn rhydd nad oes un dydd na nos wedi myned heibio eto, nad ydych chwi, a'ch achos fel eglwys, yn ddwys ar fy meddyliau i, a gobeithio yr ydwyf nad ydych chwithau yn fy anghofio inau, yn enwedig yn eich gweddiau dirgel, teuluaidd, eglwysig, a chyhoeddus.

Yn bresennol mi gaf alw eich sylw at ychydig o bethau, y rhai tebygaf ydynt yn nglŷn â'ch llwyddiant ysbrydol, eich heddwch cymdeithasol, a'ch bywyd tragywyddol.

I. Y dyledswyddau sydd i eu cyflawni.

Ac yn 1af. Tuag at Dduw; oblegid 'oni ddylech chwi,' fel y dywed Nehemiah, 'rodio mewn ofn ein Duw ni,gan berffeithio sancteiddrwydd yn ofn Duw.' 1. Gan hyny, dylai eich ofn fod yn fabaidd, sanctaidd, a pharchedig-Ofn yr Arglwydd sydd lân, ac yn parhau yn dragywydd;' dylem wasanaethu Duw wrth ei fodd, gyda gwylder a pharchedig ofn:' gyda pharchedig ofn y darparodd Noah arch i achub ei dŷ.

2. Dylem garu Duw, oblegid barn a chariad Duw ydyw rhai o bethau trymaf y gyfraith, a phethau sydd raid eu gwneuthur; am hyny, frodyr, ymgedwch yn nghariad Duw, gan ddysgwyl trugaredd ein Harglwydd Iesu Grist i fywyd tragywyddol: canys hyn yw cariad Duw, bod i ni gadw ei orchymynion; a'i orchymynion ef nid ydynt drymion; am hyny y dywedaf,Gras ein Harglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a chymdeithas yr Ysbryd Glan, a fyddo gyda chwi oll, Amen.'

3. Dylem ei wasanaethu ac ufuddhau iddo: mae ei wasanaeth wir fraint; a dyma yr hyn a rwymir arnom, Canys ysgrifenwyd, Yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac ef yn unig a wasanaethu.' Awyddwn ninau am ei wasanaethu ef yn ddiofn, mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder, ger ei fron ef, holl ddyddiau ein bywyd; a chedwch bob amser mewn cof, 'na ddichon un gwas wasanaethu dau arglwydd, canys naill a'i efe a gasâ y naill ac a gâr y llall, a'i efe a lŷn wrth y naill ac a esgeulusa y llall;' ni ellwch wasanaethu Duw a mammon;' a 'gwelir rhagor yn fuan rhwng yr hwn a wasanaetho Dduw a'r hwn nis gwasanaetho ef.'

4. Ymostwng i'w ewyllys ef yn wyneb dyoddefiadau a chroesau; ymddarostyngwch gan hyny i Dduw, a gwrthwynebwch ddiafol, ie, ymddarostyngwch ger bron yr Arglwydd, ac efe a'ch dyrchafa chwi; yn mhellach, ymddarostyngwch tan alluog law Duw, fel y'ch dyrchafo mewn amser cyfaddas.' Ymostwng ger bron yr Arglwydd a barodd arbed Ahab, Hezeciah, a Manasseh; am hyny, fy mrodyr, ymostyngwch i rodio gyda Duw-dyma lle y llwyddodd Aaron, Eli, a Job.

II. Ein dyledswyddau tuag atom ein hunain: coffaf ychydig o lawer o honynt.

1. Ni a ddylem wilio arnom ein hunain. Pan y mae Paul yn cynghori henuriaid Ephesus, un o'r pethau mwyaf neillduol a ddywed efe wrthynt ydyw, 'Edrychwch arnoch eich hunain,' yna ar yr holl braidd. Un o brif achosion ein haflwydd ni ydyw peidio gwilio arnom ein hunain dylem wilio ar ein hysbryd a'n hagwedd, ein hegwyddorion a'n dybenion; ac na fydded ein gwinllan ein hun heb ei chadw pa fodd bynag.

2. Holi ein hunain, fel y dywed yr apostol Paul, Profwch chwychwi eich hunain, holwch eich hunain, ai nid ydych yn eich adnabod eich hunain, sef bod Iesu Grist ynoch, oddieithr i chwi fod yn anghymeradwy.' Pan y dechreuom holi ein hunain y deuwn i weled yr angenrheidrwydd o weddio gyda'r Salmydd, Hola fi, Arglwydd, a phrawf fi: chwilia fy arenau a'm calon.'

3. Ymwadu a ni ein hunain. Anrhydedd Duw yw, nas gall ef ddim wadu ei hun, a'n coron benaf ninau yw medru ymwadu a ni ein hunain; heb hyn nis gallwn ddilyn Crist, canys efe a ddywedodd, Os myn neb ddyfod ar fy ol i, ymwaded ag ef ei hun, cyfoded ei grocs, a chanlyned fi.' Gras rhagorol yw hunanymwadiad a gostyngeiddrwydd; mae yn rhoddi hawl i'r addewid Y mae Duw yn rhoddi gras i'r rhai gostyngedig.' Ni ellir bod yn gadwedig heb y gras hwn. Oddieithr eich troi a'ch gwneuthur fel plant bychain, nid ewch chwi ddim i mewn i deyrnas nefoedd.' Y mae genym siampl ein Iachawdwr i gyrchu ati yma, oblegid efe a ddywedodd, Dysgwch genyf fi, canys addfwyn ydwyf, a gostyngedig o galon.'

4. Ni a ddylem ystyried ein hunain: 'Gan dy ystyried dy hun,' medd Paul, rhag dy demtio dithau;' Yr hwn sydd yn tybied ei fod yn sefyll, edryched na syrthio;' Canys mewn llawer o bethau yr ydym ni bawb yn llithro;' ystyriwn mor wan, a ffol, ac agored i demtasiynau yr ydym. Beth os darfu i ti sefyll pan syrthiodd dy frawd, fe allai mac yr awel nesaf a'th chwyth dithau i lawr: ystyria dy hun.

3ydd. Ein dyledswydd tuag at ein gilydd. 'Oblegid ninau, a ni yn llawer, ydym un corph yn Nghrist, a phob un yn aelodau i'w gilydd; canys fel y mac corph yn un, ac iddo aelodau lawer, a holl aelodau yr un corph cyd byddont lawer ydynt un corph, felly y mae Crist hefyd;' h. y. felly y mae eglwys Crist hefyd. Ni ddylai bod anghydfod yn y corph, eithr bod i'r aelodau ofalu yr un peth dros eu gilydd; gan hyny, frodyr, yr ydym yn 1. I garu ein gilydd: Hyn,' medd Crist, yr wyf yn ei orchymyn i chwi, garu o honoch eich gilydd;' ac yr oedd gan y Colossiaid nid yn unig ffydd yn Nghrist Iesu, ond cariad tuag at yr holl saint; a bydded eich cariad tuag at eich gilydd yn helaeth, yn gywir, yn gyson, yn gynnyddol, ac yn barhaus, Parhaed brawdgarwch.'

2. Gweddio dros ein gilydd cyffeswch eich camweddau bawb i'ch gilydd, a gweddiwch dros eich gilydd. 3. Dygwch feichiau eich gilydd, ac felly cyflawnwch gyfraith Crist.

4. Cyngorwch eich gilydd bob dydd tra y gelwir hi heddyw, fel na chaleder neb o honoch trwy dwyll pechod; Ac annog bawb eich gilydd, a hyny yn fwy o gymaint a'ch bod yn gweled y dydd yn neshau:' gochelwch ymchwyddo yn erbyn eich gilydd, na rwgnechwch yn erbyn eich gilydd, frodyr.

Yn bresennol, frodyr a chwiorydd anwyl, nis gallaf helaethu y mae fy mhapur a'm hamser yn pallu; gan hyny byddaf tan rwymau i dewi. Ystyriwch yr hyn a ysgrifenais, a'r Arglwydd a roddo i chwi ddeall yn mhob peth.

Nid ydwyf yn anfon i chwi ddim o fy hanes, gan fod hyny yn cael ei anfon yn wythnosol at fy anwyl deulu. Y mae Edward yn cyduno â mi mewn serchocaf gariad atoch chwi oll, ac yr ydym yn hyderus eich bod yn ddibaid yn ein cofio ni ein dau yn y lle pell hwn.

Ydwyf, fy mrodyr anwyl a hoff,

Yr eiddoch yn Nghrist,

EBENEZER RICHARD


AT EGLWYS CRIST YN CYFARFOD YN CAPEL GWYNFIL, LLANGEITHO.

FY ANWYL GYFEILLION YN YR EFENGYL,
Mae yn gof genyf y prydnawn hwn, ddarfod i mi addaw, cyn ymadael o'r wlad, ysgrifenu llythyr atoch yn amser fy ymdaith yn y ddinas fawr hon; ac wele fi wedi eistedd i'r dyben o gyflawni fy addewid. Nis gwn pa beth sydd oreu i mi ysgrifenu atoch, fel y byddo fy llafur yn hyn yn debyg o fod yn rhyw les, bendith, ac adeiladaeth i chwi: y mae arnaf ofn ysgrifenu geiriau segur, ofer, a difudd; gan hyny, atolygaf ar Dduw gennadu ei Ysbryd Glan i'm goleuo a'm cyfarwyddo.

I. Dymunaf eich sylw ar grefydd bersonol, oblegid hyn yw y sail i bob rhan arall mewn crefydd. Nis gallwn ddysgwyl am grefydd deuluol, gymdeithasol, na gwladol, heb grefydd bersonol: dysgwyl cnwd heb had fyddai hyny, dysgwyl ffrwyth heb un gwreiddyn, a dysgwyl afonydd heb ffynnonau.

Wrth grefydd bersonol yr ydwyf yn deall y tri pheth canlynol, — 1. Cyflwr cyfiawnaol. 2. Anian dduwiol. Yn 3. Cymundeb profiadol â Duw.

1. Cyflwr cyfiawnaol. O mor uchel yw hyn yn y Beibl! O mor werthfawr i'r enaid sydd ynddo! O mor ddiogel! O mor ddedwydd! Y mae gan hwn heddwch tuag at Dduw. Ni ddaw i farn, eithr efe a aeth trwodd o farwolaeth i fywyd. Nid oes damnedigaeth i'r rhai hyn, dedwydd yw y rhai hyn, oblegid maddeuwyd eu hanwireddau, a chuddiwyd eu pechodau; a dedwydd ydynt, am nad yw yr Arglwydd yn cyfrif pechod iddynt. Ni lwydda un offeryn a lunier i'w herbyn; a hwy a wnant yn euog bob tafod a gyfodo i'w herbyn mewn barn. Dyma etifeddiaeth gweision yr Arglwydd; 'A'u cyfiawnder hwy sydd oddiwrthyf fi, medd yr Arglwydd.' Y mae y Mab wedi rhyddhau y rhai hyn, ac am hyny rhyddion a fyddant yn wir dyma gyflwr cyfiawnaol.

2. Anian dduwiol, yr hon a blenir gan yr Ysbryd Glan yn yr ail-enedigaeth. Y rhai ni aned o waed, nac o ewyllys y cnawd, eithr o Dduw.' Y mae y rhai hyn yn Nghrist Iesu, ac am hyny yn greaduriaid newydd. Maent wedi ymadnewyddu yn ysbryd eu meddwl, a gwisgo y dyn newydd, yr hwn yn ol Duw a grewyd mewn cyfiawnder a gwir sancteiddrwydd. Anian yw hon wedi dyfod oddiwrth Dduw, yn cyffelybu i Dduw, ac yn ymhyfrydu yn Nuw. Nis gall neb ddychwelyd at Dduw, ymhyfrydu ynddo, na'i addoli, heb yr anian hon. Dyma ei had ef, yr hwn sydd yn aros yn y dyn. 3. Cymundeb profiadol â Duw; trwy yr hwn y mae yr enaid yn cael ei nerthu a'i ddyddanu; ei rasau yn cael eu lloni a'u cynnyddu; a'i lygredigaethau yn cael eu darostwng a'u marwhau. Y mae y gymdeithas hon yn un agos, heddychlon, briodol, trwyadl, a chyffredinol. Y mae yma gymundeb â'r Tad yn ei gariad, â'r Mab yn ei swyddau, â'r Ysbryd Glan yn ei ras a'i ddoniau. Dyma grefydd bersonol. O fy anwyl frodyr a chwiorydd, na fyddwch byth dawel hebddi.

II. Dymunaf eich sylw at grefydd deuluol. Y mae hon mewn pwys, angenrheidrwydd, a gwerth, yn nesaf at grefydd bersonol. Edrychwch yn ofalus, fel eglwys, rhag bod yn eich mysg wr, neu wraig, neu deulu, yr hwn y try ei galon oddiwrth yr Arglwydd ei Dduw. Cofiwch fod Abraham yn gorchymyn i'w blant, ac i'w dylwyth ar ei ol, gadw o honynt ffordd yr Arglwydd; Jacob yn gorchymyn i'w deulu fwrw ymaith y gau dduwiau; a phenderfyniad Joshua ydoedd, Myfi, mi a'm tylwyth a wasanaethwn yr Arglwydd.' Mae crefydd deuluaidd yn cynnwys addoliad, addysg, a llywodraeth deuluaidd.

1. Addoliad teuluaidd. O mor ddychrynllyd yw y cyhoeddiad hwnw, Tywallt dy lid ar y cenhedloedd, y rhai ni'th adnabuant, ac ar y teuluoedd ni alwasant ar dy enw.' Yn Zech. xii. 12, y dywedir, 'A'r wlad a alara, pob teulu wrtho ei hun.' O na bai y rhai sydd yn addoli yn fwy cydwybodol, yn fwy gwirioneddol, ac yn fwy sylweddol. Mae lluaws mawr a'u haddoliad teuluaidd yn ffurfiol, yn oer, yn ddifywyd, ac yn dywyll. Allor i'r Duw nid adwaenir yw nifer fawr o'u hallorau teuluaidd.

2. Addysg deuluaidd. Hyfforddus weision oedd gweision Abraham, h. y. rhai wedi eu hegwyddori mewn pob gwybodaeth fuddiol. Mae y tadau i faethu eu plant yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Fel y dylai tad gadw cynnaliaeth bara ar ei fwrdd, felly y dylai ei wefusau gadw gwybodaeth; ond och! fy mrodyr, pe nas dysgai llawer o blant ddim gwybodaeth grefyddol ond a glywant yn eu teuluoedd, byddent y mwyaf tywyll a phaganaidd mewn bod. Mae rhy fach o esbonio, cateceisio, a chyngori yn y teuluoedd goreu a feddwn. Erbyn hyn, mae yn rhaid fod y gwaethaf yn ddwfn iawn.

3. Llywodraeth deuluaidd: yn hyn y collodd Eli, ac fe allai Dafydd hefyd. Ac yn hyn mae lluaws mawr yn colli yn ein hoes ninau. Y maent yn addoli, ac y maent yn cyngori peth hefyd, o'r fath ag ydyw; ond y maent yn methu yn y llywodraeth. Rhaid i esgob fod yn llywodraethu ei dŷ ei hun yn dda, 1 Tim. iii. 4, 5. Ond rhaid gadael: ni feddaf amser na phapur i ymhelaethu, onite gwnaethwn gyda phleser.

Ydwyf, fy anwyl gyfeillion yn yr efengyl,

Yr eiddoch yn ddiffuant,

EBENEZER RICHARD

Wedi aros yn Llundain am ddau fis, dychwelodd drachefn i Gymru.

Yn fuan ar ol ei ddychweliad, derbyniodd lythyr oddiwrth ei fab ieuangaf, (yr hwn oedd y pryd hwnw yn cyfanneddu yn Aberystwyth,) yn hysbysu tueddiad ag ydoedd wedi bod yn ddirgel-goleddu am hir amser, i gyflwyno ei hun i waith y weinidogaeth. Gan ei fod yn gwybod yn dda y dychryn oedd yn meddwl ei dad rhag dangos unrhyw gefnogiad i'w blant i ystyried y weinidogaeth fel rhyw etifeddiaeth fydol, i'w derbyn oddiwrtho ef, nid heb lawer o gryndod y beiddiodd ysgrifenu ato ar yr achos. Ond deallodd yn fuan fod rhyw ddysgwyliadau o'r fath wedi eu ffurfio er ys talm yn meddyliau ei rieni, (er eu bod, oherwydd y petrusder a deimlent ar y pwnc, wedi celu hyny yn ofalus oddiwrtho ef;) a phan ddatguddiodd ef y peth yn wirfoddol ei hun, cafodd achos yn fuan i benderfynu fod ei dad yn llawenychu (eithr yn llawenychu yn wir gyda dychryn) yn y gobaith o weled un o'i blant yn cyflwyno ei hun i'r gorchwyl goruchel i ba un yr oedd efe ei hun wedi cyssegru ei fywyd.

Tregaron, Ebrill 27 ain, 1830.

FY ANWYL HENRY,
Derbyniais eich llythyr a ddyddiwyd y 24ain, a darllenais ef yn ddioed gyda'r pryder mwyaf, a phwysais yr hyn a gynnwys gyda'r holl ofal, difrifoldeb, a sobrwydd a feddwn i, a chyda llawer o ymdrech wrth orsedd gras, am gyfarwyddyd, arweiniad, a chyngor, yn yr achos pwysfawr hwn. Pan yn myfyrio ar y pwnc, tarawodd geiriau yr apostol Pedr fy meddwl yn nerthol iawn, y rhai a lefarodd efe yn ei ddiffyniad am fyned i dŷ Cornelius, at rai dienwaededig,— Pwy oeddwn i, i allu lluddias Duw?' ac felly, pwy ydwyf finau, i amcanu lluddias Duw yn yr achos hwn? Na ato Duw i mi fod mor ryfygus! na, dymunwn yn hytrach ddywedyd gyda Dafydd, Pa beth ydwyf fi, O Arglwydd Dduw, a pha beth yw tŷ fy nhad, fel y dygid fi hyd yma?' Mwy llawenydd nid oes genyf, na gweled un o'm hiliogaeth wael i yn cael ei osod yn ngwasanaeth y cyssegr; felly, fy anwyl blentyn, gellwch fod yn hyderus y bydd i mi gymeryd pob cam angenrheidiol yn yr achos pwysig hwn, heb un oediad pechadurus ar y naill law, nac, yr wy'n gobeithio, un byrbwylldra gwyllt ar y llaw arall, oblegid y mae'n rhaid i ni droedio yma gyda phwyll a gwyliadwriaeth, gan wybod 'na frysia yr hwn a gredo.' Yn y cyfamser, rhaid i mi erfyn arnoch i fod yn ofalus i ledu y peth yn gydwybodol ac yn gyson o flaen Duw mewn gweddi.

Ydwyf, fy anwyl Henry,

Eich gwir gariadus dad,

EBENEZER RICHARD

Yn mhen ychydig fisoedd ar ol dyddiad y llythyr hwn, aeth ei ail fab hefyd i Lundain, a derbyniwyd ef i Athrofa Highbury (Highbury College,) gerllaw y brif-ddinas, lle y bu yn preswylio am bedair blynedd. O hyn allan, wedi yr hysbysiadau a wnaed uchod, ni bydd angenrheidrwydd gwneuthur sylwadau neillduol ar y gwahanol bigion o lythyrau a ddanfonodd at ei ddau fab yn ystod y flwyddyn hon.

Tregaron, Ebrill 27, 1830.

FY ANWYL EDWARD,
Gan fod cyfleusdra i anfon ychydig linellau atoch, yr wyf yn cymeryd mantais o hono, gan obeithio y derbyniwch hwynt mewn mwynhad o'ch iechyd a'ch cysuron eraill, fel yr ydym ni oll yn bresennol; i Dduw y byddo'r clod.

Yma y canlyn ychydig gyngorion, yn deilliaw o galon, lawn o ddymuniadau da am eich llwyddiant, a gobeithio y derbyniwch hwynt fel y cyfryw.

1. Nac esgeuluswch byth i gyfarch mewn gweddi yr Hollalluog Dduw yn gywir, yn wresog, yn gyson, ac yn barhaus, holl ddyddiau eich bywyd.

2. Gwnewch gydwybod o fod yn ddiwyd gyda holl foddion gras fel sefydliadau dwyfol, pa un a'i dirgel a'i teuluaidd, cymdeithasol neu gyhoedd.

3. Prynwch eich hamser, a llenwch ef â rhyw orchwyl defnyddiol; ac na oddefwch byth i bechod, diogi, na chysgu, eich hamddifadu o'r gronyn lleiaf o'r trysor gwerthfawr hwn.

4. Byddwch bob amser yn ofalus iawn pa gyfeillach a gadwoch, pa leoedd a fynychoch, a pha eiriau a lefaroch.

5. Yn nesaf at achos diogelwch a llwyddiant eich enaid anfarwol, telwch y sylw manylaf i'ch galwedigaeth, ac amcenwch yn wastad i gyrhaedd, nid canoligrwydd (mediocrity), ond rhagoriaeth ynddi, gan ddal yn eich meddwl yn gyson fod hyn yn gyrhaeddadwy, nid trwy wastraffu symiau mawrion o arian, na thrwy dreulio rhyw lawer iawn o'ch hamser i redeg dros yr ysbyttai (hospitals,) ond yn hytrach trwy ddyfalwch, ac ymroad dibaid at athrawiaeth ac ymarferiad (theory and practice) eich galwedigaeth.

6. Ymlynwch gyda'r gafaelgarwch mwyaf at fanylrwydd yn mhob ystyr; byddwch fanwl at eich addewidion, eich trefniadau, eich hymrwymiadau, yn y teulu lle yr ydych yn cyfanneddu, yn y perthynasau a ffurfioch, a thuag at y gwahanol raddau mewn cymdeithas (classes of society) â pha rai y byddwch yn ymwneud.

Rhaid i mi adael heibio yn bresennol, ond yr wyf yn cwbl fwriadu, os arbedir fy mywyd, i ychwanegu amryw gyngorion eraill[11] at y rhai uchod; a gobeithio y bydd i Ysbryd Duw, gwaith yr hwn yw ysgrifenu ar y galon, i argraffu y pethau hyn ar eich calon chwi; a chan fabwysiadu geiriau Solomon, dywedaf, Fy mab, gwrando addysg dy dad,' &c.

Aberayron, Awst 28, 1830.

FY ANWYL HENRY,
Daeth eich llythyr yn ddiogel i law boreu dydd Iau, ac O'r fath newydd dedwydd i'ch rhieni pryderus ac anesmwyth, sef, am eich taith ddiogel a llwyddiannus, a'ch dyfodiad amserol i'r ddinas fawr. Mae'n debyg i'r siomedigaeth fechan a gyfarfuoch ar y ffordd, i droi allan yn y diwedd er mwy o gysur i chwi. Mae hyn yn dangos y fath greaduriaid byr eu golwg ydym ni, yn cael ein temtio yn fynych i ddywedyd, Yn fy erbyn i y mae hyn oll,' pan y mae Duw trwy'r amgylchiadau mwyaf croes yn dwyn i ben waredigaethau dedwyddaf. Cyngorwn i chwi sylwi er eich myfyriaeth a'ch cynnaliaeth beunyddiol, y geiriau adfywiol a chalonogol hyny o eiddo'r Gwaredwr wrth Pedr, Y peth yr ydwyf fi yn ei wneuthur, ni wyddost ti yr awr hon, eithr ti a gei wybod ar ol hyn;' am hyny, fy anwyl Henry, yr wyf yn gobeithio y galluogir chwi i ymddiried eich hun yn ei ddwylaw ef, yr hwn a rasol addawodd, Ni'th roddaf i fynu, ac ni'th lwyr adawaf chwaith.' Na ddigalonwch, fy, machgen anwyl, ond ymostyngwch i drefniad doeth ein Duw cyfammodol, yr hwn a wna i bob peth yn y diwedd gydweithio er daioni.' Mewn amynedd meddiannwch eich henaid,' oblegid y mae yn rhaid i ni wrth amynedd, rhag i ni dynu'r ffrwyth cyn y byddo yn addfed, ac fel hyn niweidio yn lle cynnorthwyo ein hunain, gan gadw yn wastad o flaen y meddwl ddywediad y parchus Mr. Gurnal, Fod gwell i ni adael i Dduw dori (carve) drosom, oblegid, bob amser y byddom yn tori drosom ein hunain, yr ydym yn tori ein dwylaw a'n bysedd;' am hyny cyflwynwch eich hunan yn feunyddiol i'w ewyllys tadol ef.

Tregaron, Medi 13, 1830.

FY ANWYL EDWARD, ***** Yr wyf yn gobeithio y bydd i chwi eich dau gadw mewn cof y dywediad dwyfol hwnw, Canys fy anrhydeddwyr a anrhydeddaf fi, a'm dirmygwyr a ddirmygir;' a chedwch yn gyson mewn golwg yr hyn sydd wedi ei lefaru mor ogoneddus am ddoethineb, hocdl sydd yn ei llaw ddehau hi, ac yn ei llaw aswy y mae cyfoeth a gogoniant. Ei ffyrdd hi sydd ffyrdd hyfrydwch, a'i llwybrau hi ydynt heddwch. Pren bywyd yw hi i'r neb a ymaflo ynddi, a gwyn ei fyd a ddalio ei afael arni hi.' Os gofynwch pa beth yw y ddoethineb hon, mynegir i chwi yn y gyfrol ddwyfol, 'Ac wrth ddyn efe a ddywedodd, Wele ofn yr Arglwydd, hyny ydyw doethineb, a chilio oddiwrth ddrwg sydd ddeall.' Sylwch ar yr ymadrodd, hyny ydyw doethineb—hyny yw'r doethineb mwyaf pur, ardderchog, a gogoneddus, hyny yw bod yn ddoeth i iachawdwriaeth, hyny yw bod yn ddoeth ar gyfer tragywyddoldeb. Y mae llawer sydd yn ddoeth iawn yn nghylch teganau, ac yn ddoeth am bethau amserol a gweledig, ond yn ynfydion eithaf yn nghylch y pethau uwch ben pa rai y bydd raid iddynt syllu am oesoedd diddiwedd. O'r fath frycheuyn disylwedd yw'r byd hwn mewn cymhariaeth â'r nesaf, y fath nod anweledig yw ein hamser ni yn y byd hwn mewn cymhariaeth âg oesoedd diderfyn tragywyddoldeb! Yma yr wyf yn colli fy hunan, ac yn cael fy llyncu i fynu yn y syniad am dragywyddoldeb.

Y mae y llythyr canlynol yn cyfeirio at y gwahanol amgylchiadau yr aeth ei ail fab trwyddynt cyn ei dderbyniad i'r athrofa, yn nghyd a'i sefyllfa unig ac amddifad yr oedd ynddi ar y pryd, oblegid daethai i Lundain heb ganddo y wybodaeth leiaf am un cyfaill a allasai ei gyfarwyddo na'i gynnorthwyo yn y dyben oedd ganddo mewn golwg.

Tregaron, Medi 13, 1830.

FY ANWYL HENRY,
Derbyniais eich llythyr yn ddyladwy yn Aberayron. Ysgrifenais ar y 31ain o Awst at Mr. Wilson (trysorwr yr athrofa) ac atoch chwithau; ac yr oeddwn mewn gobaith cael clywed oddiwrthych rai o'r dyddiau diweddaf hyn. Yr wyf yn awr yn ysgrifenu heb wybod pa effeithiau a gafodd y llythyrau a dderbyniwyd o'r wlad, yn eich hachos chwi.

Yr oedd yn llawen iawn genym gael eich llythyr diweddaf, oherwydd nad oedd amser genych yn yr un o'r blaen i roddi i ni un awgrym am eich gweithrediadau, ond yn awr yr ydym mewn meddiant o wybodaeth dra gwerthfawr am danoch. O mor fynych y canlynais chwi at Dr. Henderson a Mr. Halley, at Mr. Wilson ac o flaen y cyfeisteddiad! O mor bryderus y bum yn eistedd wrth eich pen-elin, pan oeddych yn ysgrifenu eich ateb i'w gofyniadau, a chyda'r pa fath gerddediad crynedig y bum yn cydfyned â chwi i gyfarfod a'r cyfeisteddiad y prydnawn hwnw ! Fel y bum yn eistedd yn eich ymyl dros y pedair awr hirfaith o ddysgwyliad pryderus, ac fel yr aethum gyda chwi â chalon grynedig pan eich gwysiwyd i'w presennoldeb! Mor fynych y bum yn gofyn, Pwy ydyw y bachgenyn gwridgoch acw, sydd yn sefyll o flaen doctoriaid dysgedig Llundain? Ai fy anwyl Henry ydyw? Ie, efe yw-nid yw bosibl! Os efe yw, pa le y mae ei gyfeillion a'i gynnorthwywyr? Pa le y mae ei gyngorwyr a'i gyfarwyddwyr? Os oes ganddo y cyfryw, y maent yn hollol anwybodus o'i sefyllfa bresennol; geill ddywedyd gyda'r Salmydd, Câr a chyfaill a yraist yn mhell oddiwrthyf.' A oes ganddo neb i ateb drosto? Pa le y mae ei dad, a'i fam, yr hon a'i hymddug? Y maent ragor na dau chant o filldiroedd oddiwrtho, yn nghanol mynyddoedd Cymru? A oes ganddo neb cydnabod yn Llundain ag y geill droi atynt? Nac oes neb yn y byd! Wel' yn wir y mae e' yn unig iawn, wedi ei adael gan yr holl fyd! Ond boed felly; mi allaf fi ganfod nad ydyw yn unig—yr oedd y Duw hwnw oedd gyda Joseph o flaen Pharao, gyda Henry o flaen y cyfeisteddiad, yn dadleu ei achos ac yn ateb drosto-y Duw hwnw a arweiniodd ei rieni y deugain mlynedd hyn yn yr anialwch, a fu yn gyngorwr ac yn gynnorthwy iddo. Bydded yr holl fawl iddo ef!

Fel hyn, fy anwyl Henry, gellwch ganfod yn hawdd (fel yr wyf yn gobeithio fy mod inau) i bob braich o gnawd gael ei chadw o'r golwg yn bwrpasol, fel y byddai i Dduw gael y gogoniant yn anghyfranogol iddo ei hun; oblegid pe buasai genych lawer o gyfeillion i'ch cymeradwyo, buasai rhan fawr o'r clod yn fwyaf tebyg yn cael ei briodoli iddynt hwy, a'r Arglwydd yn cael ei gadw o'r golwg; ond yn awr nid oes neb i fod yn gyfranogwyr gydag ef: bydded yr holl ogoniant iddo!

Rhoddodd foddlonrwydd mawr i mi i ganfod fod pwys a mawredd ofnadwy gwaith sanctaidd y weinidogaeth i ryw raddau yn cael ei egluro i'ch meddwl. Pan y byddwyf yn meddwl am y sefyllfa bwysig y mae eich brawd ynddi, yr wyf yn aml yn crynu, oblegid y mae yn orchwyl difrifol i gael aclodau, iechyd, a bywyd ei gyd-greaduriaid yn gyflwynedig i'w ofal. Ond O, y mae hyny yn soddi i ddiddymdra mewn cymhariaeth a chael eu heneidiau, eu hanfarwol eneidiau, wedi eu cyflwyno i'ch gofal chwi. Pa beth yw rhwymo asgwrn drylliedig braich neu glûn, mewn cymhariaeth a rhwymo y galon friwedig? O fy mhlentyn anwyl, nis gall holl athroniaeth (philosophy) Llundain byth eich dysgu yn y gelfyddyd ryfeddol a dirgel hon, ond rhaid i chwi gael eich dysgu gan yr Ysbryd Glan. Mae llawer o ddysgawdwyr yn Israel, a llawer D. D., yn ddyeithriaid hollol i'r ddysgeidiaeth hon. Gallant fod yn athrawon mewn celfyddydau eraill, ond y mae'r gelfyddyd o lefaru gair mewn pryd wrth enaid y diffygiol,' yn hollol allan o'u cyrhaedd. Yr wyf yn erfyn arnoch i fyfyrio llawer ar y bummed bennod o ail Corinthiaid. Y mae y cymhwysderau gofynol i'r weinidogaeth yn cael eu gosod lawr yno gan yr Ysbryd Glan ei hun, sef,

1af. Gwybod ofn yr Arglwydd.

2il. Bod cariad Crist yn ein cymhell; ac yn 3ydd. Bod Duw wedi rhoddi i ni weinidogaeth y cymmod.

Cedwch y pethau hyn yn feunyddiol mewn golwg, ac nis gallant lai nac argraffu ar eich meddwl y pwys fawrogrwydd ofnadwy o fod yn weinidog i Dduw.

Tregaron, Medi 15, 1830.

FY ANWYL HENRY,
Aethum y boreu heddyw i Aberystwyth, lle y cyfarfyddais yn annysgwyliadwy iawn â Mr. Morris Davies, oddiwrth ba un y derbyniais ychydig hanes am eich brawd a chwithau, a llythyr oddiwrthych chwi yn rhoddi mynegiad byr a chyflawn am droelliadau rhyfeddol rhagluniaeth ar eich rhan. Pan ddarllenais eich llythyr, nis gallaswn ymatal rhag dagrau o lawenydd a diolchgarwch i'r Duw sydd yn cyflawni ei addewidion, yr hwn sydd wedi profi ei hun yn Dad i'r amddifad,' ac yn un sydd yn gosod yr unig mewn teulu.' Mewn gwirionedd dylai y Duw hwn gael ymddiried ynddo, ei garu, ei foli, a'i fawrygu, a'i ddyrchafu uwch law pob clod. Bydded fod mawl yn aros iddo yn Prospect House a Highbury College, ac iddo ef y dylid talu yr adduned.' Rhoddwch eich holl hyder arno, oblegid ni 'fyrhawyd ei fraich, ac efe yn unig sydd yn gwneuthur rhyfeddodau, oherwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd.'

Yr wyf yn teimlo yn ddiolchgar neillduol am i chwi gael eich derbyn i'r athrofa heb ragor o oediad, canys, fel y dywed Solomon, 'Gobaith a oeder a wanha y galon, ond pren y bywyd yw deisyfiad pan ddel i ben.' Yr wyf yn gobeithio y cynnelir eich meddwl, fy mhlentyn anwyl, oblegid ni bu arweiniad rhagluniaeth yn fwy amlwg mewn un achos erioed, nac yn yr eiddoch chwi; am hyny, ymgryfhewch ac ymnerthwch yn y gras sydd yn Nghrist Iesu. Mae eich anwyl fam ac'h chwiorydd yn dymuno yn fawr wybod pa un a allent hwy eich cynnorthwyo mewn un modd i ddodrefnu eich hystafelloedd; ac os oes arnoch eisiau arian, byddwch sier o roddi gwybod i'ch tad, oblegid yr ydym yn penderfynu gwneuthur yr oll sydd yn ein gallu drosoch yn dymhorol yn gystal ac yn ysbrydol. Y mae aelwyd y Prospect House, a gwely y 'room fach,' yn dystion o'n hymdrechiadau a'n dagrau yn eich hachos chwi.

Tregaron, Tachwedd 6, 1830.

FY ANWYL EDWARD,
Derbyniasom eich llythyr, a ddyddiwyd y 3ydd o'r mis, neithiwr, yr hwn a'n llanwodd â gwahanol deimladau. Yr oedd yn dda genym eich bod wedi derbyn yr arian yn ddiogel; ond pan ddaethom at yr hanes am eich anhwyldeb diweddar, llanwyd ni â theimladau mwyaf poenus ac angerddol. Wrth ddeall fod ein hanwyl fachgen wedi bod mewn cymaint o boen, a hyny yn nghanol dyeithriaid, O fel yr oedd ein calonau yn curo a'n llygaid yn ffrydio wrth feddwl fod ein hanwyl Edward heb ofal a maeth mam dyner a chariadus, ac O fel yr oeddym yn dymuno y buasai genym adenydd i'n cymeryd âg un ehedfa i ystafell glaf ein hanwyl Ned. O fel yr ydoedd y goreu o famau yn darlunio iddi ei hun y modd y buasai yn esmwythâu gobenydd, ac yn gosod pen poenus ei Edward ar ei mynwes, ac fel y buasai yn gwylio cwrs yr afiechyd, yn sylwi ar yr arwydd lleiaf o'i leihad, a'i chalon lawn yn curo yn gyson rhwng ofn a gobaith. Ac O fel y buasai ei dad penllwyd yn galw i ymarferiad yr holl wroldeb, profiad, a ffydd a feddai, i'r dyben o sirioli ei blentyn cystuddiol; weithiau yn ymdrechu gyda Duw drosto, a'r funud nesaf yn gweinyddu iddo o phiol cysur; ond och, och, nid yw hyn i gyd ond breuddwyd, oblegid y mae dau can' milldir rhyngddynt ag ef, ac nid oedd ganddynt y wybodaeth leiaf am ei afiechyd, a phe buasai, yr oedd yn gwbl allan o'u gallu i roddi iddo y seibiant lleiaf. Ond er hyn i gyd, Pa le y mae y Duw yr hwn sydd yn rhoddi achosion i ganu y nos?' a pha le y mae Ceidwad Israel, yr hwn nid yw yn huno nac yn hepian?' Yr wyf yn gobeithio iddo fod yn Dduw agos at law, ac nid yn mhell: ben digedig fyddo ei enw sanctaidd am na'ch llwyr adaw odd yn eich cystudd diweddaf, ac yr wyf yn hyderu 'i'w ymgeledd gadw eich ysbryd.' O mor llawen a diolchgar oedd genym ddeall fod y geiriau gwerthfawr hyny yn Heb. xiii. 8 wedi bod yn gynnaliaeth i chwi, oblegid y mae probatum est wedi ei labedu (labelled) ar y cordial hwn yn ein meddygdy ni; ac O fel yr adseiniodd ein calonau i'r ddau bennill Cymraeg a grybwyllwch.

Sancteiddrwydd im' yw'r Oen dinam,
'Nghyfiawnder a'm doethineb,
Fy mhrynedigaeth o bob pla,
A'm Duw i dragywyddoldeb.

Duw ymddangosodd yn y cnawd,
Fe gafwyd brawd yn brynwr;
Ni chollir neb, er gwaeled fo,
A gredo i'r Gwaredwr.'

Fel hyn, fy anwyl Edward, yr wyf yn gobeithio eich bod wedi cael eich dysgu i wybod fod crefydd a duwioldeb yn fuddiol i bob peth. Y mae llawenydd a chrechwain y dyn cnawdol yn ateb rhyw beth iddo mewn iechyd a llwyddiant, ond pan y byddo cystudd ac afiechyd unwaith yn agoshau, mae'r cwbl yn pallu yn union-nid oes ganddo le i droi, y mae yn cael ei adael i ddychryn ac anobaith.

Ydwyf, fy anwyl Edward,

Eich tad cariadus,

EBENEZER RICHARD.

Yma y canlyn amryw lythyrau a ysgrifenodd yr un flwyddyn at wahanol gyfeillion, enwau pa rai a roddir ar y dechreu; y cyntaf o honynt mewn atebiad i'r cyfarchiad hyfryd a thra-effeithiol oddiwrth y Parch. Mr. Howells, Trehil, at y Gymdeithasiad yn Llangadog, yr hwn hefyd a roddir yma.

BARCHEDIG FRODYR,
Yr wyf yn methu attal heb ysgrifenu hyn o linellau atoch drachefn. Pan glywais fod y Gymanfa yn dyfod i ardal Llangadog, fe lonodd fy meddwl yn siriol iawn wrth gofio yr amser y bum yn teithio trwy y lle caredig hwnw tua Jerusalem (Llangeitho.) Yno y ceisum letya ar y ffordd, a meddyliais fy mod yn y gwersyll, a'r cwmwl yn ein gorchuddio, hyd nes i'r udgorn swnio i beri i ni gychwyn yn mlaen. Cawn, frodyr a thadau caredig ac anwyl, i gyd-drafaelu o Abermarles, a Llwyn-Dewi, a Chae-Shencin gyda hyny, ac amryw leoedd ereill nad wy'n cofio eu henwau. Byddai'r dyrfa yn chwanegu wrth fyned yn mlaen tua Sion, lle cawsom wledda ar y llo pasgedig, a'r gloyw win, a bwrdd yn llawn o foreu-ddydd hyd brydnawn. Yn awr y mae yn wahanol iawn; mae'r dyfroedd wedi dyfod i fro'r dwyrain, a disgyn i'r gwastad, ac y mae yn myned i'r môr, a'r dyfroedd a iacheir; mae bro a bryniau Morganwg yn ymlusgo ato, ac y mae lle i obeithio fod llawer yn cael iachad; mae swn caniadau ymwared a diolchgarwch trwy ein hardaloedd.

Ond bellach, rhaid i mi eich gadael, a deisyf arnoch fy nghofio ger bron yr orsedd fawr, (y gwaelaf o bawb o honoch,) yr unig fan y mae fy enaid tlawd yn cael achos i ganu yn llawen weithiau; cofiwch chwithau fi yn eich gweddiau, hen bechadur tlawd sy'n wynebu glyn cysgod angeu. Er hyny, os bydd y gwr biau'r wialen a'r ffon gyda mi, nid ofnaf niweid-fe ddichon daro'r afon â'r wialen, a chynnal â'r ffon, nes landio mewn i'r wlad lle na bydd achos ofni mwy.

Deuwch yn hyderus atom, frodyr, mae'r graig yn dechreu rhwygo, a lle i feddwl fod rhai meini yn cael eu codi allan o honi, er fy mod i a'm mrodyr wedi ei churo dros yn agos i driugain mlynedd; ond yn awr, mae llu mawr yn sefyll yn nghanol y dyffryn, nes wy'n gorfod gwaeddi, O anadl, tyred, fel y byddo byw yr esgyrn hyn.' Deuwch, frodyr, yn hyderus ac yn arfog; codwch eich banerau i fynu yn enw'r Gwr goncwerodd angeu: ceir gwisgo'r goron yn ddiamau wedi gorchfygu rhwysg a grym y cewri, a'r holl Anaciaid wedi eu diddymu.

Yn awr yr wyf yn eich gadael, frodyr anwyl, gan ddymuno eich llwyddiant â'm holl galon; er fy mod yn ffailu bod yn eich mysg, mae fy meddwl tlawd gyda chwi yn aml ac yn fynych wrth gofio y pleser a gefais yn eich plith, a chofio Llangeitho—y gwleddoedd ge's yno wrth glywed cyhoeddi fod yr hen addewid foreu wedi ei chyflawni, a siol y sarph wedi ei sigo, a llawer yn gwaeddi,

'Un ergyd eto ar ben y ddraig,
A'n traed ar Graig yr Oesoedd;
Mor wir a'n bod ni yma yn nghyd,
Cawn fyn'd o'r byd i'r nefoedd.'

Hyn oddiwrth eich annheilyngaf frawd,

A'ch ewyllysiwr da yn yr efengyl,

H. HOWELLS.

Trehil, Mehefin, 28, 1830.

AT Y PARCH. MR. HOWELLS, TREHIL.

Tregaron, Gorph. 19, 1830.

BARCHEDIG AC ANWYL SYR,
Derbyniwyd eich llythyr efengylaidd, brawdol, a charedig, gyda llonder mawr, a darllenwyd ef yn ngwydd, a gwrandawyd ef gan yr holl gorph yn eu Cymdeithasiad Flynyddol yn Llangadog, a pharodd gysur a llawenydd nid bychan i'r holl frawdoliaeth oedd yn nghyd o'r Dehau a'r Gogledd. Yr henafgwyr oedd yn bresennol ni allent ymattal oddiwrth ddagrau wrth alw i eu cof y dyddiau o'r blaen, a chlywed enwi Llangeitho, Abermarles, Llwyn-Dewi, a Chae-Shencin -lleoedd, mae'n debyg, yr aeth rhwymau llawer yn rhyddion, y trodd nos llawer yn ddydd, a'u galar yn gân-yma yr oedd ein hen bobl yn barod i godi meini, a dywedyd, Ebenezer, hyd yma y cynnorthwyodd yr Arglwydd ni.' Yr ydoedd y bobl ieuainc hefyd ag ydoedd yn bresennol, yn barod i floeddio, Hosanna i Fab Dafydd,' wrth glywed fod y dyfroedd wedi dyfod i fro'r dwyrain, ac yn disgyn i'r gwastad, ac yn myned i'r môr, ac yna yr iacheid y dyfroedd, a bod pob peth byw, pa le bynag y delo'r afonydd, i gael byw, a phob dim lle y delo yr afon fydd byw: hyn ennynodd fawl trwy yr holl le.

Gorchymynodd y corph i mi, fel eu Hysgrifenydd, i drosglwyddo i chwi eu diolchgarwch mwyaf diffuant a chynnes am eich cariad tuag atom, a'ch gofal dibaid am danom bob amser, a'r waith hon eto yn ychwanegol; ac y mae yn llawenydd genym hysbysu i chwi, fel un o dadau y corph, fod ein llong fechan hyd yma heb wneuthur llongddrylliad am y ffydd. Mae llawer ystorm erwinol wedi curo, ïe, wedi rhuthro, arni er ys yn agos i gan' mlynedd bellach, eto er hyn i gyd y mae heddyw ar wyneb yr eigion mawr, yn gyfan ac yn llwyddo. Y mae yr holl glod am hyn yn ddyledus i'r Pen-llywydd IESU yn unig. Yr ydym wedi colli rhwyfwyr glewion oddiar y bwrdd, megis Rowlands, Charles, Roberts, Morris, ac eraill, ac y mae llawer wedi eu hanalluogi a'u rhwymo gartref, rhai gan henaint, eraill gan fethiant, gwywdod, a nych, megis Howells, Charles, a'r ddau Evans[12]; ond, bendigedig a fyddo Duw, y mae yr ARGLWYDD a'r ATHRAW eto yn aros yn y llong i lywiadu a gofalu am dani; am hyny yr ydym yn hyderus y bydd iddi orfod yr ystormydd oll yn y man.

Yr oedd yn dra llawen genym glywed fod yr ymweliad grasol a daionus sydd wedi bod bron ar yr holl eglwysi, yn yr amrywiol wledydd, o'r diwedd wedi cyrhaedd bro fras Morganwg; y mae hyn yn rhoddi'r celwydd i haeriad cableddus y Syriaid, mai Duw y mynyddoedd yw yr Arglwydd, ac nid Duw y dyffrynoedd yw efe; yn wir y mae efe i'r dyffrynoedd hefyd, fel y gwelir heddyw yn eich hardaloedd chwi

'Cerdd yn mla'n, nefol dân,
Cymer yma feddiant glân.'

Y mae yn ddrwg genyf nas gallaswn anfon y llin ellau uchod yn gynt, ac yr ydwyf mewn braw, gan mor agos i gymmydogaeth y nefoedd yr oedd ein hen frawd parchedig wrth ysgrifenu ei lythyr, rhag y bydd wedi ei gipio yno cyn y cyrhaeddo hwn ef.

Yr ydym yn taer ddeisyf cael ychydig linellau eto cyn gynted ag y galloch.

Y mae fy anwyl gymhares yn gydunol â mi yn deisyf ein cofio yn y modd mwyaf caredig atoch chwi, ac at eich anwyl Mrs. Howells.

Ydwyf, barchedig ac anwyl Syr, yr eiddoch,

Dros y corph,

Yn rhwymau efengyl Crist,

EBENEZER RICHARD,

Ysgrifenydd y Gymdeithasiad.


AT MR. JOHN MORGANS, LLANDYSIL.

Tregaron, Aust 26, 1830.

FY ANWYL GYFAILL,
Tebygaf eich bod yn dal yn eich cof ddarfod i chwi ddodi yn fy llaw lythyr agored yn Nghymdeithasiad Aberteifi, ar yr hwn nid oedd amser na chyfleusdra i sylwi dim; ond ar ol dychwelyd adref, a chael ychydig hamdden, mi a'i darllenais drosto yn bwyllog a manwl, ac, i'm tyb i, y mae yn cynnwys tri prif-fater go bwysig, yn enwedig i chwi, sef yn I. Eich bwriad i roddi'r ysgol heibio. II. Eich bwriad i briodi. Ac yn III. Eich bwriad i gynnyg eich hunan i waith y weinidogaeth; yr hyn yw y mwyaf pwysig o'r cwbl. Y mae yn ddiammau fod y ddau gyntaf yn sicr o esgor ar ganlyniadau sobr i chwi, ond y maent yn fach mewn cymhariaeth â'r olaf.

I. Eich bwriad i roddi'r ysgol heibio. Mae ein Cyfarfod Misol ni yn debyg o edrych ar hyn gyda gradd o ofid a galar, gan eu bod er ys amryw flynyddau bellach yn medru cymhorth eglwysi gweiniaid, a defnyddio moddion i oleuo ardaloedd tywyll, trwy eich llafur chwi fel offeryn. Eto ni obeithiwn y cyfyd Duw ymwared o le arall; ac os yw yn ewyllysio i ni barhau y gorchwyl yn mlaen, y dengys ei Fawrhydi ryw berson addas at y gwaith, gan fod gweddill yr ysbryd ganddo; ac o bosibl na bydd cynifer o flynyddoedd yn eich hoes yn nghyd ag y gellwch edrych arnynt gyda mwy o dangnefedd, tawelwch, a hoffder, a'r rhai a dreuliasoch gyda ein hysgol rad ni, eto gall eich rhesymau fod yn ddigonol am ei rhoddi heibio.

II. Eich bwriad i briodi. Nid ydwyf yn gwybod am ddim a all fod yn wrthwyneb i hyn, canys anrhydeddus yw priodas yn mhawb,' ac nid da bod dyn ei hunan; am hyny dywedodd Duw, 'Gwnaf iddo ymgeledd gymhwys iddo.' Un o athrawiaethau cythreuliaid ydyw gwahardd priodi, ac nid oes neb yn gwneuthur hyny ond Anghrist; ïe, yr ydych yn rhydd i briodi y neb a fynoch, ond yn unig yn yr Arglwydd.

Cyfammod dwyfol ac anrhydeddus, yr hwn a wneir gan ddau berson o wahanol ryw, yw priodi, i garu a bywioliaethu gyda y naill y llall hyd onis gwahano angeu hwynt; ond cofiwch fod bywyd priodasol naill neu yn ddiflas, neu yn boenus, neu yn happus. Tuag at ei fod yn happus, rhaid cael y tri pheth canlynol:1. Gwir grefydd, a bod nesaf y gellir o'r un farn am grefydd. 2. Callder, neu gallineb. 3. Natur dda, a goddef eu gilydd mewn cariad. Dyma, yn fyr, rai o'r pethau mwyaf anhebgorol i happusrwydd priodasol; ac os mynwch wybod pa fodd i fod yn wr da, y mae genych hen lyfr yn eich meddiant a ddengys i chwi mewn modd anffaeledig pa fodd i fod y cyfryw un.

III. Eich bwriad i gynnyg eich hunan i'r weinidogaeth. Dyma'r mwyaf pwysig eto. Bod yn weinidog ydyw bod yn 'was i'r Duw goruchaf, yn dangos i ddynion ffordd iachawdwriaeth.' Yr hwn a'n gwnaeth ni yn weinidogion cymhwys y Testament Newydd.' Sylwch, o'r holl rai a wnawd ac a wneir gan ddynion, ni wnaed un cymhwys erioed ond gan Dduw; a rhaid i weinidog, cyn y byddo cymhwys, fod yn

1. Yn Gristion gwirioneddol ei hunan, wedi ei ail-eni, ei eni oddi uchod, o'r Ysbryd, yn greadur newydd.
2. Rhaid fod ganddo gynnysgaeth o wybodaeth, profiad, a doniau, Matt. xiii. 52.
3. Rhaid ei fod wedi ei alw gan Grist trwy ei Ysbryd at y gwaith hwn, Act. xxvi. 18.
4. Rhaid fod ei ddyben yn gywir, syml, a diduedd o flaen Chwiliwr y Galon, 2 Cor. xii. 14.
5. Rhaid fod ei feddwl tan argraff am natur, helaethrwydd, a phwysfawrogrwydd y gwaith, Ezec. iii. 17, &c.
6. Rhaid ei fod o ysbryd addas, heb wneuthur gwaith yr Arglwydd yn dwyllodrus.
7. Rhaid ei fod yn 'weithiwr difefl,' yn medru iawn-gyfranu gair y gwirionedd.
8. Rhaid ei fod yn dyst cyflym, cadarn tros Grist, yn erbyn pob llygredigaeth.
9. Rhaid iddo bwyso yn wastadol a beunyddiol ar Grist am bob nerth angenrheidiol.

Yn awr mi debygaf eich bod yn llefain allan, fel y byddaf fy hunan yn aml, A phwy sy ddigonol i'r pethau hyn?' Eto, er hyn i gyd, mae gwir weinidog neu was Crist yn meddu gras ei Feistr, wedi derbyn galwad ei Feistr, yn gwneuthur gwaith ei Feistr, yn dwyn iau ei Feistr, yn amcanu at ogoniant ei Feistr, ac yn y canlyniad fe dderbyn wobr ei Feistr. Yr ydych yn sylwi yn niwedd eich llythyr fod genych resymau ag sydd yn peri i chwi gredu fod eich cymhelliad i'r gwaith o Dduw. Byddwch sicr o hyny, yna nid rhaid ofni oddiyma i'r farn.

Gan wir ddymuno a thaer weddio am i chwi fod tan ddwyfol gyfarwyddyd yn mhob un o'r achosion pwysig uchod, ond yn enwedigol y trydydd, y terfynaf. Yr eiddoch yn ddiffuant ynddo Ef, yr hwn a fu farw ac a gyfododd drachefn,

EBENEZER RICHARD.

AT WRAIG WEDDW AR FARWOLAETH EI GWR.

Tregaron, Medi 21, 1830.

FY ANWYL CHWAER,
Yr wyf yn teimlo tuedd ynof i ysgrifenu atoch yn eich tywydd presennol; ac eto, wedi dechreu, nis gwn pa beth yn iawn, na pha fodd, byddai goreu ysgrifenu. O mor dda yw gair yn ei amser!' Fe roddes yr Arglwydd Dduw i'r Cyfryngwrdafod y dysgedig, i fedru mewn pryd lefaru gair wrth y diffygiol; ac fe all ef roddi i minau bin yr ysgrifenydd parod, tra byddwyf yn amcanu anfon gair o ddyddanwch at un o ferched cystudd.

Wrth yr hanesion a dderbyniais, tebygwn fod eich diwrnod yn debyg i'r un a ddisgrifir gan y prophwyd Zechariah, xiv. 7. Ond bydd un diwrnod, hwnw a adwaenir gan yr Arglwydd; nid dydd ac nid nos, ond bydd goleuni yn yr hwyr.' Fe fu arnoch chwi ddiwrnod, nid amser anmhennodol, ond diwrnod; nid â byth yn ddau ddiwrnod; diwrnod a fydd,—nid amser annherfynol, ond un diwrnod. Y mae yr Arglwydd yn mesur ac yn pwyso gorthrymderau ei bobl wrth y gronynau. Wrth fesur pan el allan, yr ymddadleu âg ef; mae yn attal y gwynt garw ar ddydd y dwyreinwynt.' Am hyny y llefodd Job, O gan bwyso, na phwysid fy ngofid!' At hyn y cyfeiria y Salmydd hefyd, Salm lxxx. 5, wrth gŵyno tywydd yr eglwys, Porthaist hwynt â bara dagrau, a diodaist hwynt â dagrau wrth fesur mawr.' Deliwch sylw, fy chwaer, dagrau wrth fesur mawr,' eto nid heb fesur: os oeddynt fesur mawr, yr oeddynt wedi eu mesur yn ofalus. Felly hefyd y mae y prophwyd Jeremiah, xxx. 11, yn cysuro Jacob, Eithr, medd Duw, mi a'th geryddaf di mewn barn, (mewn mesur, yn ol y Saesoneg,) ac ni'th adawaf yn gwbl ddigerydd.'

Cofiwch hefyd, Hwnw a adwaenir gan yr Arglwydd.' Fe fu arnoch chwi helbulon mawrion yn ddiweddar, na wyddai Iluaws o'ch cyfeillion nemawr am danynt; eto er hyn fe'u hadwaenir hwy gan yr Arglwydd. Nid aeth awr na munud heibio yn holl gystudd eich anwyl briod, nas adwaenir hwy oll gan yr Arglwydd; ïe, nid aeth un loes iddo ef, nac un ochenaid i chwithau, heibio, heb sylw arnynt gan yr Arglwydd. Y mae efe yn eu hadwaen oll i'r manylrwydd mwyaf. Y mae dydd gofid yn ddydd a gwbl adwaenir ganddo ef, yr achos o hono, a'r dybenion sydd iddo, yn nghyd a'r ffrwyth a fydd arno; canys y mae yn rhoi heddychol ffrwyth cyfiawnder i'r rhai sydd wedi cynnefino âg ef. A dyma yr holl ffrwyth, sef tynu ymaith ei bechod.' Y mae efe yn eistedd fel purwr a glanhawr arian, Mal. iii. 3. Y mae efe yn bresennol yn holl gystuddiau ei bobl yn gwneuthur iachawdwriaeth iddynt. Pan elych trwy y dyfroedd, myfi a fyddaf gyda thi; a thrwy yr afonydd, fel na lifont trosot: pan rodiech trwy y tân ni'th losgir, ac ni ennyn fflam arnat.'

'Drachefn, mai nid dydd ac nid nos' oedd hi arnoch. Duw a wnaeth amser adfyd ac amser gwynfyd; y naill ar gyfer y llall, er mwyn na chai dyn ddim ar ei ol ef.' Dyma gyd-dymheru cywrain a gofalus iawn. Yn awr, fy chwaer brofedigaethus, ni a gawn ganu am drugaredd a barn. Nid dydd i gyd, ac nid nos i gyd; nid yr oen i gyd, nid dail surion i gyd; nid pren yw'r cwbl, ac nid dyfroedd Mara yw'r cwbl y ddau yn nghyd. Nid y demtasiwn yw y cwbl, ond diangfa hefyd. Nid y swmbwl yn y cnawd yn unig yw y cwbl, ond digon i ti fy ngras i hefyd. Nid claddu priod hoff a thad tirion yw y cwbl, ond ei gladdu gartref, a chael ymddiddan âg ef, a'i ymgeleddu. Nid ei weled yn marw oedd y cwbl, ond ei weled yn marw mewn heddwch. Nid dattod yr undeb rhyngddo ef a chwi oedd y cwbl, ond ei undeb â Christ yn dyfod i'r golwg yn eglurach nag erioed. Nid gwlaw, lifeiriant, a gwyntoedd yn unig, ond ar y graig yr adeiladaf fy eglwys, a phyrth uffern nis gorchfygant hi.' Nid diwedd y gwr hwnw a welwyd yn unig, ond diwedd y gwr hwnw yw tangnefedd.' Hi a aeth yn hwyr, o ran i haul ei fywyd naturiol fachludo, ond bu goleuni yn yr hwyr. Nid ymadael a wnaeth eich priod, ond myn'd yn mlaen. Trwsiwn ninau ein lampau, fel y gallom heb betrus fod yn barod i fyned i mewn gyda'r priodfab i'r briodas, cyn cau y drws.

Ond, meddwch chwithau, er hyn i gyd yr wyf fi heddyw yn weddw, a'm plant bach yn amddifaid! Gwir, chwaer, ond y mae genych hawl yn awr i addewidion dwyfol nad oedd dim a wnelych â hwy o'r blaen. A gaf fi genych chwi sylwi ar yr Ysgrythyrau canlynol, Exod. xxii. 22-24. Na chystuddiwch un weddw nac ymddifad. Os cystuddiwch hwynt mewn un modd, a gwaeddi o honynt ddim arnaf, mi a lwyr wrandawaf eu gwaedd hwynt. A'm digofaint a ennyn, a mi a'ch lladdaf â'r cleddyf; a bydd eich gwragedd yn weddwon a'ch plant yn amddifaid.' Deut. x. 18, Yr hwn a farna yr ymddifad a'r weddw, ac y sydd yn hoffi y dyeithr, gan roddi iddo fwyd a dillad.' Pen. xxiv. 19, 21, Pan ysgydwech dy olewydden, na loffa ar dy ol: bydded i'r dyeithr, i'r ymddifad, ac i'r weddw. Pan fedech dy gynhauaf yn dy faes, ac anghofio ysgub yn y maes, na ddychwel i'w chymeryd: bydded i'r dyeithr, i'r ymddifad, ac i'r weddw, fel y bendithio'r Arglwydd dy Dduw di yn holl waith dy ddwylaw.' Pen. xvii. 19, Melldigedig yw yr hwn a wyro farn y dyeithr, yr ymddifad, a'r weddw; a dyweded yr holl bobl, Amen.' Salm cxlvi. 9, Yr Arglwydd sydd yn cadw y dyeithriaid efe a gynnal yr ymddifad a'r weddw, ag a ddadymchwel ffordd y rhai annuwiol.' Jer. xlix. 11, Gâd dy ymddifaid, myfi a'u cadwaf hwynt yn fyw; ac ymddirieded dy weddwon ynof fi.' Salm lxviii. 5, Tad yr ymddifaid a barnwr y gweddwon yw Duw yn ei breswylfa sanctaidd.'

Gwraig weddw borthodd Elias. Gwraig weddw a ddododd y ddwy hatling yn y drysorfa, ac a wnaeth gymaint o son am dani hyd y dydd hwn. Gwraig weddw oedd Anna y brophwydes, Luc ii. 37. Gwraig weddw a lwyddodd gyda y barnwr anghyfiawn. Ac mae Paul yn gorchymyn anrhydeddu y gweddwon, 1 Tim. v. 3. Anrhydedda y gwragedd gweddwon sy wir weddwon.

Darllenwch yn ofalus, a gweddiwch yn daer uwch ben y gweddwon hynod sydd yn yr Ysgrythyrau sanctaidd; meithrinwch yr un dymher, a chanlynwch eu hol: Naomi, Ruth, y weddw o Nain, gweddwon Joppa, oeddynt o'u nifer. Act. ix. 39, 41, 'A'r holl wragedd gweddwon a safasant yn ei ymyl ef, yn wylo, ac yn dangos y pethau a wnaethai Dorcas tra yr ydoedd hi gyda hwynt. Ac wedi galw y saint a'r gwragedd gweddwon, efe a'i gosododd hi ger bron yn fyw.'

Ymweled â'r ymddifaid a'r gwragedd gweddwon yn eu hadfyd, a wneir yn nod o grefydd bur a dihalogedig. Ymddiriedwch yn Nuw. Efe a all eich cadw, a chyflawni eich holl raid chwi; eich amddiffyn rhag eich holl elynion; dial pob cam, a gwneuthur dyddiau eich gweddwdod i fod yn helaeth mewn heddwch a chysur; darpar cyfeillion i chwi a'ch plant amddifaid. Os cewch ewyllys da Duw, chwi a feddiennwch olud dirfawr, anrhydedd anniflanedig, a dedwyddwch annrhaethol; yna y peidia eich galar, ïe, 'cystudd a galar a ffy ymaith.'

Mae fy anwyl gymhares yn dymuno ei chofio atoch yn garedig, ac yn cydymdeimlo yn ddwys â chwi yn eich colled.

Gras, trugaredd, a thangnefedd, a fyddo eich rhan chwi, a'ch plant bach hefyd, a rhan eich gwas yn yr efengyl,

EBENEZER RICHARD.

Y mae y llythyr canlynol yn cyfeirio at drefn cynnaliad, &c., Cyfarfod Deufisol perthynol i'r Ysgol Sabbothol.

AT MR. WILLIAM MORRIS, COED-Y-CYMMER.

Tregaron, Hyd. 12, 1830.

GYFAILL CAREDIG,
Eich llythyr, yr hwn a ddyddiwyd y 22ain o'r mis diweddaf, a ddaeth i law y boreu heddyw, ac wele i chwi ateb o'r fath ag ydyw o fewn corph yr un dydd. Mewn atebiad i eich hymofyniad am faterion i fod tan sylw yn eich Cyfarfodydd Deufisol, rhaid i mi ddywedyd, yn ngeiriau Pedr, Yr hyn sydd genyf, hyny yr wyf yn ei roddi i ti;' ac efallai nas bydd yn llwyr anfuddiol, ar ol y pethau a enwyd genych chwi, sylwi ar y pethau a ganlyn, sef, yn 1af. Ar briodol sain yr egwyddor Gymraeg, h. y. bod rhyw un athraw o bob ysgol i fyned trwy yr egwyddor yn ol y dull y byddir yn ei dysgu yn eu hysgol hwy, yna cewch weled pwy sydd gywir a phwy sydd anghywir, a chyfodi seiniad unffurf yn yr holl ysgolion. 2il. Am sillebu. 3ydd. Am ddarllen wrth y nodau a'r attaliadau, y pwyslais, a'r pethau priodol i ddarllen hyrwydd. 4ydd. Am ymadroddion cyffelybiaethol a throellawg yr Ysgrythyrau, megis trawsenwad, cyforddwyn, gormoddiaeth, gwawdiaith, trawsymddwyn, &c.; h. y. amcanu rhoddi i'ch gilydd ryw ychydig o insight, neu olwg i mewn, i'r troellau, ond nid myned i lawer o fanylrwydd na meithder chwaith, rhag ofn dadleuon anfuddiol. Ar ol gorphen y pethau uchod, cewch yn 5ed. Y gorchwyl mawr ag sydd wedi cymeryd i fynu y pum mlynedd diweddaf o ein hamser yn y sir hon, hyny ydyw, sylwi ar lyfrau yr Ysgrythyr Lan bob un o'r bron, gan ddechreu ar Genesis, sef, fod athrawon pob ysgol i sylwi (er siampl) ar Genesis, 1. Arwyddocad yr enw Genesis. 2. Pwy oedd yr awdwr. 3. Dros ba faint o amser o'r byd y mae yn hanesu. 4. Pa sawl pennod ac adnod mae yn gynnwys. 5. Cyffyrddiad byr a

chryno ar y pethau mwyaf hynod yn y llyfr. Bod araeth i ddyfod o bob ysgol yn cynnwys y penau uchod, a hono wedi ei hysgrifenu, eto ni chaniateir ei darllen, namyn ei hadrodd ar dafod leferydd gan ryw athraw hyawdl; ac, ar ol ei hadrodd, rhodded ei bapur i mewn i'r ysgrifenydd i'w gadw. Ni feddaf amser yn bresennol i ychwanegu: os mynwch gael rhyw eglurhad pellach ar rai o'r pethau uchod, anfonwch ataf.

Y mae agoriad eich haddoldy newydd yn gwbl allan o'm cyrhaedd, gan ei fod (heblaw lluaws o bethau eraill) yn disgyn ar ddyddiau Cyfarfod Misol ein sir ni, sef 27ain a'r 28ain.

Gyda serchus goffa at eich teulu a chwithau, y terfynaf, gan ddymuno i chwi esgusodi yr ysgrif anghelfydd hon a ysgrifenwyd currente calamo; a chredu fy mod yr eiddoch yn llafur yr efengyl,

EBENEZER RICHARD.

Yma y canlyn lythyr tra difyr a dderbyniodd Mr. Richard yn haf y flwyddyn 1832, oddiwrth y gweinidog enwog a pharchus hwnw, y diweddar barchedig Richard Lloyd, Beaumaris.

AT Y PARCH. EBENEZER RICHARD, TREGARON.

FY MRAWD PARCHEDIG,
Mewn taer annogaeth oddiwrth yr holl dadau a brodyr mewn Cyfarfod Misol, oedd ar gylch drefnol mewn lle a elwir Bethel, ddoe ac echdoe, sef y 14eg a'r 15ed o Mai, 1832, nodwyd i mi ysgrifenu atoch yn y modd mwyaf taer a oedd bosibl, ac mewn dull mor agerddol ac awchus ag a allwn, gan atolygu, dymuno, a deisyfu, gan gofio o honoch yn ddinag i ddyfod i'n Cymdeithasiad Flynyddol, a fydd yn Llanerchymedd wythnos ar ol Cymanfa y Bala.

Mae y Gair Da yn ein dysgu i gynnorthwyo asyn yr hwn a'n casâ, pan y gorweddo dan ei bwn. My dear Sir, mae yn swydd Mon lawer o asynod yn gorwedd dan eu pynau. O deuwch i'n cynnorthwyo. Mae y Gair Mawr hefyd yn dywedyd am i'r rhai a fwytasant ac a yfasant o frasder a gwin eu brodyr, am godi a'u cynnorthwyo hwynt; ond och, ni bu gan y Moniaid tlodion ond ychydig o frasder a gwin i'w Lefiaid erioed; eto deuwch, a chynnorthwywch ni. Diragrith ydym yn ein hannerchiad atoch, fel y gwnaeth gwŷr Gibeon anfon at Josua i Gilgal.—Na thyn dy law oddiwrth dy weision, tyred i fynu i'n cynnorthwyo ni; a Josua a aeth.' Gobeithio y bydd i Mrs. Richard, a holl gyfeillion y fro, pan y gofynir am danoch, ddywedyd, Efe a aeth i'r Gogledd i gynnorthwyo ei frodyr yno.' Nid oes ammheuaeth na ddywed yr Arglwydd wrthych fel y dywedodd wrth Josua, Cyfod a dos, a myfi a fyddaf gyda thi.' Pan ddaeth Amasiah, pennaeth y capteniaid, o Siglag at Dafydd idd ei gynnorthwyo, yna Dafydd a'i croesawodd ef, ac a'i gosododd ef yn ben ar yr holl fyddin. Wele yn awr, anwyl frawd, dewch, a ni a'ch croesawn chwi, ac a'ch gosodwn chwi yn ben ar yr holl fyddin yn Llanerchymedd am ddeg neu ddau, a'ch Meistr f'o gyda chwi.

Act. xv. 36. 'Dychwelwn, ac ymwelwn â'n brodyr.' 1. Yr ymwelwr, Mr. Richard. 2. Yr ymweledig, brodyr Mon, cyfranogion o'r un gras ac yntau, yr un berthynas â Duw, yr un cariad yn eu calonau: mae'n fraint i ni gael brawd i ymweled â ni, ac nid gelyn, &c. 3. Yr ymweliad, dychwelwn ac ymwelwn.' Fe ofyn Duw dâl am boen yr ymweliad: byddai yn well bod heb ymweliad na bod yr ymwelwr heb ei neges. 4. Cyfaddasrwydd amser yr ymweliad, wedi rhai dyddiau y dyddiau a dreulir o Dregaron i'r Bala, ac o'r Bala i'r Beaumaris, &c. 5. Manylrwydd yr ymweliad— i bob dinas: Bangor, Llanfair, Llandegfan, Llangoed, Llanddona, Pen-y-garnedd, &c. 6. Natur yr ymweliad—pregethu gair yr Arglwydd. Efe ydyw awdwr y Gair, efe ydyw testun y Gair, ac efe sydd yn ei lwyddo. Yn 7fed. Dyben yr ymweliad-i edrych pa fodd y maent hwy; 1. A ydynt yn aros yn y ffydd. 2. A oes dim cyfeiliornadau yn dyfod i mewn. 3. A oes dim ymraniadau yn eu plith. 4. A ydynt yn cynnyddu mewn gras. 5. Pa un ai cybyddlyd ai haelionus, &c. Edrychwch yn ddyfal ar bob llaw: mae yma waith mawr yn yr eglwysi ac yn y byd hefyd. Odeuwch a chynnorthwywch ni.

Rhoddwch fy ngwasanaeth at Mrs. Richard, a'r plant, a chwithau, yn nghyd ac yn ogyfuwch.

Danfonasom ddau o'r brodyr, T. O. a J. J., i Dalgarth. Yr oedd yn ofidus iawn genym nad oedd neb o Fon yn Aberystwyth. Er mwyn cariad, na roddwch eich cyhoeddiad wrth ddyfod o'r Bala, ond ar eich dychweliad o Fon.

Ydwyf eich ufudd a'ch annheilyngaf gyd-was,

RICHARD LLOYD,

Mai 16, 1832.
Beaumaris yn Mon."

PEN. XIII.

Afiechyd trwm Mr. R. yn niwedd y flwyddyn 1832—Llythyr ato ef oddiwrth y Parch. Thomas Evans ar yr achlysur—Llythyr Mr. R. at ei fab hynaf-=Ei drydydd ymweliad i'r brif-ddinas—Llythyr at Mr. a Mrs. Jones, Llanbedr-lythyrau at ei feibion—Llythyr oddiwrth y Parch. H. Howells—Un arall oddiwrth y Parch. Henry Rees.

ODDEUTU diwedd y flwyddyn 1832, goddiweddwyd ef gan afiechyd trwm, yr hwn a'i caethiwodd am wythnosau lawer. Yr oedd arwyddion o'r anhwyldeb yma wedi dechreu ymddangos er ys amryw flynyddau, ac yn parhau o hyd i gynnyddu yn raddol, nes o'r diwedd iddo gyrhaedd y fath gryfder, fel y bu gorfod ar yr achlysur presennol i ddefnyddio y moddion mwyaf llym a chedyrn er achub ei fywyd. Ei glefyd ydoedd fath o hun-glwyf (lethargy) trwm, yr hwn a'i gorthrechai fel gwr arfog, fel nad oedd posibl ei wrthwynebu. Yr oedd yn barhaus yn peri iddo ofid dirfawr, trwy ei anhwylysu i raddau helaeth i gyflawni ei wahanol ddyledswyddau. Mor adwythig ydoedd ei glefyd wedi myned yn y pwl hon, fel y soddodd yn ddwfn mewn math o drymgwsg angerddol, o ba un nis gellir dywedyd iddo ddeffro yn iawn am amryw ddiwrnodau. Dygwyddodd trwy drefniad grasol rhagluniaeth (i grybwyll ei eiriau ei hun) fod fy anwyl Edward gartref ar yr amser, a bu o wasanaeth annrhaethol i mi yn llaw Duw, oblegid gwnaeth i mi bob peth angenrheidiol fel meddyg; a, thrwy fendith yr Arglwydd ar ei ymdrechiadau, dygwyd fi oddeutu unwaith eto, ac adferwyd fi yn rhyfeddol o'r teimladau trymaidd ac anghysurus â pha rai i'm gorthrymwyd am flynyddau. Bydded i'r Arglwydd fendithio fy machgen anwyl am ei ddyfalwch a'i garedigrwydd yn fy afiechyd a'm poen, a molianner enw'r Arglwydd am weinyddu bendith ar y moddion a ddefnyddiwyd. Yr wyf yn awr (meddai efe mewn llythyr at ei fab arall) yn gallu myned yn fy nghylch oddeutu Tregaron i bregethu a chynnal Cyfarfodydd Eglwysig, a gallaf fi ddywedyd gyda mwy o wirionedd na Samson gynt, Af allan y waith hon fel cynt, ac ymysgydwaf.'

Y mae yn ddyledus arnom nodi yma fod ei ysbryd trwy y clefyd hwn mewn tymher hynod nefolaidd, a synai ei gyfeillion mor dawel y llwyr-ymroddai i ewyllys yr Arglwydd. Wrth ymweled âg ef, gofynent iddo pa fodd yr ydoedd yn ymdeimlo yn ngwyneb yr amgylchiad yr oedd ynddo, adroddai yntau yn barhaus y geiriau hyny, Os caf fi ffafr yn ngolwg yr Arglwydd, efe a'm dwg i eilwaith, ac a bar i mi ei gweled hi a'i babell. Ond os fel hyn y dywed efe, Nid wyf foddlon it'; wele fi, gwnaed i mi fel y byddo da yn ei olwg, 2 Sam. xv. 25, 26.

Yn ystod y clefyd hwn, derbyniodd y llythyr canlynol oddiwrth ei gyfaill anwyl, y Parch. Thomas Evans, Caerfyrddin.

AT Y PARCH. EBENEZER RICHARD.

Caerfyrddin, Hydref 26, 1832.

BARCHEDIG AC ANWYL SYR,

Mae yr ychydig o'n cyfeillion yn y lle hwn (pa rai a gafodd y newydd) yn drallodus iawn oblegid iddynt glywed eich bod chwi yn glaf, ond nid oes genym sicrwydd hyd yn bresennol pa faint o wirionedd sydd yn hyny; gobeithiwn nad oes nemawr, os dim; ond os oes rhyw ychydig o anhwyl, hyderwn a gweddiwn na fyddo o faith barhad.

Hysbyswyd eich addewid am ddyfod atom ddydd Nadolig nesaf i'r ysgol dydd Sabbath wythnos i'r diweddaf, a pharodd y newydd iddynt agos lamu o lawenydd. Mae gan y plant bach bennod neu ddwy o'r Rhodd Mam' yn barod erbyn eich dyfodiad, ac mae ganddynt hefyd dônau newyddion i'w canu, o'r rhai mwyaf peraidd a bywiog a glywsoch â'ch clustiau, a gwyddom y bydd yn anhawdd i chwi beidio wylo wrth eu gwrando. Mae yr holl ysgol hefyd yn llafurus.

Gair yn ol gyda'r dygiedydd, os na chewch gyfleusdra buanach, am ansawdd eich iechyd, yn nghyd a sicrhad o'ch addewid am ddyfod atom ar y dydd a nodwyd uchod, a'n mawr foddlona. Mae ein cyfeillion sydd wedi clywed am eich cystudd, (ni hysbyswyd ond i ychydig, gan ein bod yn gobeithio nad yw yr hanes yn gywir,) yn dymuno cu cofio atoch chwi yn bersonol, yn nghyd ag at eich teulu hawddgar, yn y modd mwyaf serchog a charedig, dros ba rai, ac fel un o honynt, yr ydwyf yn ysgrifenu, ac yn aros gyda dyledus barch, eich annheilwng a'ch egwan gyfaill,

THOMAS EVANS.

Yn fuan wedi adferiad Mr. Richard o'r afiechyd rhag-grybwylledig, dychwelodd ei fab hynaf i'r brifddinas i orphen ei ddysgeidiaeth fel meddyg. Y mae y llythyr canlynol ato ef yn esbonio ei hun.

Tregaron, Chwefror 8fed, 1833.

FY ANWYL EDWARD,

Daeth yr eiddoch, a ddyddiwyd y 26ain o Ionawr, yn ddiogel i law, ac achosodd foddlonrwydd a gorfoledd difesur i deulu Prospect House, y rhai oeddynt cyn derbyn y newydd croesawus ac adfywiol ond ychydig gwell na theulu o hypochondriacs, gan ddysgwyl dyfodiad y cludydd (post) gyda phryder ac ofn. Nid oeddwn i gartref ar yr amser, a chafodd eich mam a'ch chwiorydd fwynhau yr hyfrydwch gryn ysbaid cyn i mi ddychwelyd i gael cyfranogi o hono; a phan ddaeth hyny i ben, prydnawn dydd Mercher diweddaf, yr oedd eich mam druan yn dymuno yn fawr i'm synu i â'r wybodaeth, ond nid oedd posibl rheoli Hannah fach; yr oedd mor llawn o hono fel nas gallasai ymattal rhag llefain, Y mae e' wedi passo,[13] datta bach.' Pan glywais yr hysbysiad hwn, gorchfygwyd fy meddwl â diolchgarwch a moliant i'm Duw cyfammodol. O pa beth a dalaf i'r Arglwydd am y prawf ychwanegol hwn o'i drugarowgrwydd i mi ac i'm heiddo? Bydded i'r ffafr newydd hon a gyfranwyd i ni fod yn foddion i'n darostwng yn y llwch o flaen ein Tad nefol. Ac yn awr, fy anwyl Edward, dywedaf wrthych yn ngeiriau'r Salmydd, Gobeithia yn yr Arglwydd, a gwna dda;' yna nid rhaid i'ch ofni. Nid yw yn briodol i ni ymddiried yn yr Arglwydd a gwneuthur drwg, cabledd yw hyny, ac ni ddylem ychwaith ymddiried yn yr Arglwydd a pheidio gwneuthur dim, oblegid rhyfyg yw hyny. Ond gobeithiwn yn yr Arglwydd a gwnawn dda, ac yna y mae ffydd a gweithredoedd yn myned law-yn-llaw.

Ydwyf, fy anwyl Edward,

Eich tad cariadus,

EBENEZER RICHARD.

Yn y flwyddyn hon ymwelodd a Llundain am y drydedd waith, ar daer gais yr eglwys yn Jewin Crescent, ond tebygol yw na fuasai yn ufuddhau i'r alwad y tro hwn oni bai fod tyniad cryf i'w feddwl tyner a thadol ef tuag at y brif-ddinas, o herwydd fod ei ddau fab yn preswylio yno.[14] Fy mechgyn anwyl, medd efe mewn llythyr atynt ar ol penderfyniad y Cyfarfod Misol ar yr achos, nis gwn yn iawn pa beth i feddwl am fy nyfodiad i Lundain, oblegid byth er y Cyfarfod Misol yr ydwyf wedi cael yn gyson feddyliau am Lundain y dydd, a breuddwydion am Lundain y nos. Weithiau yr wyf yn eistedd yn ystafell Henry yn Highbury, ar y funud nesaf yr wyf yn mharlwr rhyw feddyg yn Chiswell Street; ac ar ol ei ddyfodiad, wrth weled cyflawniad y breuddwydion serchiadol hyn, y mae yn debyg iddo fwynhau rhai o'r oriau dedwyddaf yn ei fywyd; ac nid hawdd i neb ond rhai o'r un dymher hynod, gariadus, a gwresog, ddychymygu yr hyfrydwch dirfawr oedd yn ddarluniedig yn ei wedd pan yn eistedd yn un o'r ystafelloedd a gyfeiria atynt yn y llythyr uchod.

Arosodd y waith hon am oddeutu chwech wythnos yn y brif-ddinas, ond cyn ymadael, derbyniodd y newydd am farwolaeth ei hen gyfaill, Mr. David Jenkins, o Lanbedr; ar ba achos yr ysgrifenodd y llythyr canlynol at ei deulu. AT MR. A MRS. JONES, LLANBEDR.

Llundain, Ebrill 26, 1833.

FY NGHYFEILLION CARIADUS,
Yr oeddwn wedi llwyr fwriadu ysgrifenu atoch cyn ymadael a'r lle hwn, ond pan dderbyniais fy llythyr diweddaf oddicartref, a chael y newydd trwm ynddo am farwolaeth eich hanwyl a'ch hanrhydeddus dad[15], penderfynais nad oedwn ddim yn hwy.

Gallaf ddywedyd yn ddiweniaith fy mod yn teimlo gyda chwi oll, yn enwedigol eich hanwyl fam, ïe, collodd, do, gydmar ffyddlawn ei bywyd; y mae yn rhaid ei bod yn teimlo yn unig, ac yn anghysurus, ac athrist ar ei ol gellir dweud am danynt hwy ill dau, ‘Mai cariadus ac anwyl oeddynt yn eu bywyd,' ond yn eu marwolaeth gwahanwyd hwynt. Gwelsant lawer gauaf garw a llawer haf teg, cyd-ddringasant i ben llawer bryn, a disgynasant i lawer pant dwfn; buant am hir oes yn cyd-gario beichiau, yn cyd-fwynhau breintiau, ac yn cyd-ddefnyddio trugareddau; o'r diwedd tynwyd un yn rhydd o'r iau, a gadawyd y llall tani, Yna y bydd dau yn y maes; y naill a gymerir a'r llall a adewir.' Yr ydwyf yn teimlo drosoch chwithau eich dau, yn enwedig Mrs. Jones: collasoch dad tirion a gofalus, a'ch mawr hoffodd chwi, ac a fawr hoffwyd genych chwi. Ymaflodd yn eich llaw mewn plentyneidd-dra i'ch harwain, gwyliodd drosoch yn eich ieuenctyd, a bu yn gefn ac yn blaid i chwi hyd ddiwedd ei oes. Maddeuafi chwi am wylo peth, oblegid mae galar cymedrol yn rhinwedd, er bod galar anghymedrol yn drosedd: nis buoch erioed oddiwrtho yn cartrefu, nis gwelsoch y tŷ erioed heb eich tad; nid yn unig fe ganiatawyd iddo gael byw i orphen eich magu chwi, ond magwyd eich rhai bychain chwithau ar ei liniau ef hefyd, fel plant Machir ar liniau Joseph.

Collais inau hen gyfaill cywir, cyson, a ffyddlon. Yr ydwyf yn ei alw fy hen gyfaill, am ei fod yn un o'r rhai cyntaf a feddwn yn mlaen Sir Aberteifi; yr wyf yn ei alw yn gywir, am na chefais ef erioed yn anghywir; yr wyf yn ei alw yn gyfaill cyson, oblegid cefais ef bob amser lle y gadewais ef, yr hyn sydd yn ormod i mi ddywedyd am lawer a'u galwent eu hunain yn gyfeillion i mi; yr wyf yn ei alw yn gyfaill ffyddlon, am nas gwelais ef erioed yn hyd y pum-mlyneddar-hugain yn fwy siriol, caredig, a brawdol, na'r tro diweddaf. Ond och! collasom ef; coll'soch chwi briod a thad, a chollais inau gyfaill; eto na thristawn fel rhai heb obaith; cawsoch ef yn hir, yr oedd o gryfder yr wyf yn tybied wedi cyrhaedd pedwar ugain; cawsoch of hefyd yn hynod ddifethiant-mae lluaws mawr cyn ei oedran ef yn fyddar, yn ddall, yn gloff, ïe, yn orweddiog am flynyddau, a llaw drom iawn i gael ganddynt, ïe, llawer iawn o hen bobl dda a aethant cyn myned o'r byd agos yn gwbl ddisynwyr::-oddiwrth hyn oll i'ch gwaredodd yr Arglwydd chwi; nis gallasech ddysgwyl ei gael lawer yn hwy, a phe cawsech, nis gallasech ddysgwyl llawer o gysur, oblegid dyfodiad dyddiau blin arno. Yn awr, Mrs. Jenkins, ymdawelwch, a chlodforwch Dduw am eich bod er ys llawer blwyddyn bellach wedi adnabod Priod a ddaw gyda chwi, nid hyd angeu, ond efe a'ch tywys trwy angeu.

Ef yn arweinydd, Ef yn ben,
I'm ledio o'r byd i'r nefoedd wen.'

Ymofynwch lawer am i'r tro fod yn sancteiddiedig i chwi ac i minau; elwa trwy farw ein perthynasau a'n cyfeillion fyddai yn un esboniad ar y gair hwnw, 'a marw sydd elw.' Dymunaf le mawr yn eich gweddiau taeraf.

Cofiwch fi yn garedig at eich anwyl fam, heb anghofio Mary a David, at Enoch a John Price, ac atoch eich hunain.

Ydwyf, fy nghyfeillion cariadus,

Yr eiddoch byth,

E. RICHARD.

Tregaron, Meh. 16, 1833.

FY ANWYL HENRY,
. . . . . . Yr ydych yn abl o'r diwedd i roddi i ni hysbysiad neillduol o'r lle i'ch pennodwyd iddo dros y gwyliau y flwyddyn hon.[16] Yr wyf yn gobeithio y byddwch yn ddedwydd a chysurus yn eich sefyllfa bresennol, ac, uwchlaw'r cwbl, y byddwch ffyddlon a defnyddiol dros ogoniant Duw a lleshad eneidiau anfarwol. Y mae yn foddlonrwydd mawr i mi ganfod eich bod yn dechreu teimlo natur orchestol y gwaith sanctaidd yr ydych yn ymrwymedig âg ef. O, gyda'r fath deimlad dwys y chwanegodd eich anwyl fam a finau ein Hamen o'r galon pan y dywedech, 'Bydded i'r Arglwydd gyfranu i mi nerth a doethineb oddi uchod:' felly y byddo hi, fy anwyl Henry. Bydded i chwi gael y fath gyfran o ddoethineb a'ch dysgo pa fodd i ymddwyn yn gyfrinachol ac yn gyhoeddus, oblegid yr wyf yn ofni ei bod yn genedl anhawdd ei thrin. Bydded i chwi gyfranogi o'r ddoethineb a'ch dysgo pa fodd i lywodraethu eich hun. Rheol dda yw hono os gweithredir arni— clywed, a gweled, a bod yn fud, neu, fel y defnyddir hi yn iaith eich mam,

'Gwel, a chel, a chlyw,
Ti ga'i heddwch yn dy fyw;'

neu yn hytrach gwrandewch iaith berffaith ac awdurdodol yr ysbrydoliaeth ddwyfol ar y pwnc,- Pwy yw y gwr a chwennych fywyd, ac a gâr hir ddyddiau i weled daioni ? Cadw dy dafod rhag drwg, a'th wefusau rhag traethu twyll.' Ac nid yn unig doethincb, ond nerth hefyd i gyflawni dyledswyddau, i wrthsefyll temtasiynau, i ddyoddef erledigaethau, ac i ymgynnal tan drallodau. O bydded i chwi fod wedi ymgadarnhau mewn nerth, trwy ei Ysbryd ef yn y dyn oddimewn, a bydded i'r Arglwydd eich cefnogi trwy ddywedyd wrthych megis wrth Gibeon gynt, Dos yn dy rymusdra yma; oni ddanfonais i dydi?' a bydded i chwi gael ffafr yn ngolwg yr Arglwydd.

Ydwyf, fy anwyl Henry,

Eich tad cariadus,

EBENEZER RICHARD.

Yma y canlyn un llythyr yn ychwanegol oddiwrth y Parch. H. Howells at y Gymdeithasiad, wedi ei gyflwyno i ofal Mr. Richard.

AT Y PARCH. EBENEZER RICHARD.

Trehil, Mawrth 27, 1834.

FY MHARCHEDIG FRODYR,
Yr ydwyf yn anturio i ddanfon hyn o linellau atoch un waith yn mhellach, i fynegu fod brawdgarwch eto yn para, er fy mod wedi fy ymddifadu o'r fraint o fod yn eich plith; mae'r frawdoliaeth wedi parhau dros driugain mlynedd, a gallaf ddywedyd ei bod mor gynes heddyw yn fy meddwl ag erioed. Yr ydwyf yn gwir ddymuno eich llwyddiant yn y gwaith o'm holl galon, ac yn cwbl gredu fod Arglwydd mawr y cynhauaf wedi eich gosod bob un ar ei rwn: ymwrolwch, ymarfogwch, cymerwch atoch holl arfogaeth Duw, fel y galloch wrthsefyll yn y dydd drwg, ac wedi gorphen pob peth sefyll, oblegid nid yw ein hymdrech ni yn erbyn gwaed a chnawd, ond yn erbyn tywysogaethau, ac yn erbyn awdurdodau, ac yn erbyn bydol-lywiawdwyr, tywyllwch y byd hwn, a drygau ysbrydol yn y nefolion leoedd. Byddwch yn lew ac yn hyderus, anwyl frodyr, mae perchen y maes ei hunan wedi addaw bod gyda chwi. Cydweithwyr Duw ydym ni; mae addewid fawr y nef ar eich rhan, fel y byddo y dydd y bydd eich nerth; cewch fodd i ddal yn mlaen dan bwys a gwres y dydd, nes dod i ben y tir; yno y cewch eich ffrwyth yn sancteiddrwydd, a'r diwedd yn fywyd tragywyddol. Yn nesaf yr wyf yn dymuno rhan yn eich gweddiau drosof, hen bechadur, y penaf hefyd, sydd ar lan yr afon bob dydd yn dysgwyl command i lanchio i'r dw'r. Fy unig obaith am fyned trosodd yn ddiangol yw cael cadw fy ngolwg ar y Brawd Hynaf, yr hwn sy'n abl fy nwyn yn ddiangol i'r tir lle na raid ofni mwy.

'Bydd pawb o'r brodyr yno'n un,
Heb neb yn tynu'n groes,
Yn moli'r duwdod yn y dyn,
A chofio'i angeu loes.'

O frodyr, gweddiwch drosof.

Yr wyf eich cydymaith mewn cystudd,

H. HOWELLS.

Tregaron, Chwef 28, 1834.

FY ANWYL HARRI,
Derbyniasom eich llythyr a'r swpyn (parcel) yn cynnwys y ddau draethodyn, y rhai yn garedig a ddanfonasoch i mi. Yr oeddwn er ys talm yn teimlo awydd cryf am weled y Case,[17] gan fy mod wedi darllen cynifer o bigion o hono o'r blaen. Mor bell ag yr ydwyf fi yn alluog i farnu, y mae yn ddernyn meistrolaidd, a dim ond ysgrifell meistr a allasai ei ffurfio, a diammau y caiff sylw teilwng gan bob darllenydd diragfarn. Mae cyfansoddiad Mr. Binney yn sicr yn un rhagorol, ond dywedasem ni, yn ein ffordd ni yn Nghymru, fod eisiau tori ei ewinedd, ac yna buasai yn blentyn hardd.

Tregaron, Meh. 20, 1834.

FY ANWYL HENRY, . . . . .Mewn perthynas i'ch ymweliad â chartref eleni, yr ydym yn erfyn arnoch ymdrechu, gan fod eich rhieni a'ch chwiorydd druain yn llawn o ddysgwyliadau, a chael croesawu ein hanwyl Harri adref y tymhor hwn a'i gwna yn haf yn wir. Yna y cân yr adar, yna y blodeua ein gardd, ie, bydd yr holl dref a'r gymmydogaeth yn edrych yn llawen, pan delo ein bachgen anwyl yno. Ond eto, fel yr ydych yn sylwi'. yn eich llythyr, rhaid i chwi ymfoddloni i ddysgwyl mewn amynedd am arwyddion rhagluniaeth. Yr ydym yn cydymdeimlo yn wirioneddol a diffuant â chwi yn eich amgylchiadau presennol, ac yn teimlo pryder mawr; ond eto yr wyf yn gobeithio nad yw ein pryder yn cyrhaedd i anghrediniaeth, a diffyg hyder yn y Duw hwnw sydd wedi dangos y fath ofal pennodol a nodedig tuag at eich rhieni a chwithau. Deuddeng mlynedd-ar-hugain i'r dydd heddyw y dechreuodd eich tad tlawd â'i yrfa weinidogaethol, ac O'r fath garedigrwydd a ddangoswyd tuag ato, trwy faddeu ei golledion, a chydymddwyn â'i wendidau! Cymeraf fy nghenad yn ngeiriau y Salmydd wrth ei enaid, gan erfyn am iddynt gael eu cymhwyso atoch chwi yn eich amgylchiadau presennol, Paham i'th ddarostyngir, fy enaid, a phaham y terfysgu ynof? Ymddiried yn Nuw: canys eto moliannaf ef, sef iechawdwriaeth fy wyneb a'm Duw.'

Ydwyf, fy anwyl Henry,

Eich tad cariadus,

EBENEZER RICHARD.


Tregaron, Awst 22, 1834.

FY ANWYL HENRY,
Yr ydym yn ddiolchgar iawn i chwi am yr hanes gyflawn a chywir a roddasoch am danoch eich hun yn eich llythyr diweddaf. Wrth ei ddarllen, a'ch gweled yn fy nychymyg yn Ware; yn awr yn y parlwr, maes law yn y pulpid; weithiau yn eich ystafell, a phryd arall yn nhŷ'r Capel; yn awr yn parotoi eich pregethau, yn fuan ar ol hyny yn eu traddodi; weithiau yn eich ystafell yn ymdrechu gyda Duw, ac yn mhen ychydig drachefn yn y deml, yn cynghori, yn gwahodd, ac yn ymresymu â phechaduriaid, ac yn erfyn arnynt dros Grist, Cymmoder chwi â Duw.' Wrth feddwl am y pethau hyn, gallaf ddweud mewn gwirionedd, fel y dywedodd Elizeus gynt wrth Gehazi, ond mewn llawer gwell achos, Onid aeth fy nghalon gyda thi?' O mor fynych yr ydwyf wedi gofyn wrth edrych arnoch, yn un, neu yn mhob un, o'r lleoedd hyn, Ai hwn yw fy anwyl Harri, a fum gynifer gwaith yn ei ddawnsio ar fy nghlun, yn ei gofleidio yn fy mynwes, yr hwn y bum yn ei gusanu a'i faldodi gant o weithiau? ai posibl mae hwnw yw a ddysgais i i gerdded ac i siarad, sydd 'nawr yn cyfarch y cannoedd cynnulledig? O pa beth a dalaf i'r Arglwydd, yr hwn a osododd yr anrhydedd hwn arnaf, i gymeryd un o'm heiddo i'w wasanaeth, a'i awdurdodi i fod yn genadwr at fyd gwrthryfelgar? Mewn perthynas i'ch bywyd dyfodol, gellid gobeithio nad yw yr olygfa sydd o'ch blaen yn dywyll a digalon iawn yn bresennol, ond yr ydym yn byw mewn byd o gyfnewidiadau. Un funud geill ein terfyngylch ymddangos yn ddysclaer a digwmwl, ac mewn ychydig iawn o amser tywylla yr holl ffurfafen gan gymylau duon, yn rhagarwyddo storm ddychrynllyd. Ond yr wyf yn gobeithio ac yn hyderu fod eich barn gyda'r Arglwydd, a'ch gwaith gyda'ch Duw.' Yn eich holl ffyrdd cydnebyddwch ef, ac efe a hyffordda eich llwybrau. Treiglwch eich gweithredoedd ar yr Arglwydd, a'ch meddyliau a safant, ac aroswch yn ofn yr Arglwydd yn hyd y dydd.' O'r fath Amen naturiol ac o'r galon a dynodd y frawddeg hono yn eich llythyr oddiwrth eich hanwyl fam a minau,— O na chymerid fi dan ddysgeidiaeth yr Ysbryd Glan, fel y byddai i'r galon gael ei dysgyblu yn well, a meithriniad moesol ac ysbrydol i gael ei ddwyn yn mlaen; heb yr hyn bydd yn rhaid i bob cyrhaeddiadau fod yn annigonol.' Amen, amen. Ie, fy anwyl Henry, rhydd dysgeidiaeth yr Ysbryd Glan i chwi farn uniawn am bob peth sydd genych mewn llaw, ac a'ch tywys i bob gwirionedd. Y mae sylw a wneir gan yr enwog Dodridge yn dyfọd i'm cof yn fynych, sef, bod y frawddeg yn Matt. xxiii. 12, 'A phwy bynag a'i dyrchafo ei hun a ostyngir, a phwy bynag a'i gostyngo ei hun a ddyrchefir,' i'w chael o'r hyn leiaf ddeng waith yn yr efengylwyr, i ddangos mae yr unig ffordd ddiogel i ddyrchafiad yw trwy ddyffryn gostyngeiddrwydd; a da genyf ddeall wrth sain eich llythyr, nad oes genych ryw lawer o ymddiried yn y cnawd, ond eich bod yn teimlo eich diddymdra eich hun. Yr wyf yn cofio darllen hanesyn am weinidog yn Lloegr Newydd, enwog am ei ddoniau, yr hwn a gyfarchwyd ryw ddiwrnod gan un o’i wrandawyr, yr hwn a ganmolai yn uchel iawn un o'i bregethau, am ba un y barnai efe ei hun yn isel iawn. Ar ol gwrando arno yn amyneddgar am rai munudau, atebodd y gweinidog, Fy nghyfaill, nid yw y cwbl a ddywedasoch yn rhoddi dim gwell barn i mi am danaf fy hun nac oedd genyf o'r blaen, ond y mae'n rho'i i mi lawer gwaelach barn am danoch chwi.' Ond rhaid i mi adael heibio, am fy mod yn gorfod parotoi pregeth angladdol erbyn deg o'r gloch foru.

Ydwyf, fy anwyl Henry,

Eich tad,

EBENEZER RICHARD.


Mehefin, 1835.

FY ANWYL EDWARD,
Derbyniais eich llythyr yn Llanfair, ac yr oedd yn dda iawn genyf fi a'ch hanwyl ewythr ei gael. Yr oedd wedi ei ysgrifenu mewn dull caredig a serchiadol, ac y mae pobl o'n hoedran ni yn medru prisio caredigrwydd. Gwnaeth eich llythyr les i mi. Gan fy mod wedi crybwyll Llanfair, rhoddaf i chwi hanes byr o'n Cymdeithasiad Chwarterol yn y lle hwnw. Cyrhaeddodd eich ewythr a minau yno y prydnawn o'r blaen, a phennodwyd ni i bregethu yn nghyd y noswaith hono, ac felly llefarodd eich ewythr ychydig yn mlaenaf, a minau yn ganlynol, fel yr ydoedd weddus, gan mae myfi ydyw'r hynaf. Yna, ar ol enwi y gwahanol weinidogion a fuont yn ymddangos yn gyhoeddus, sylwa, Yr oedd yr hin yn ddymunol iawn, a'r Arglwydd yn dda, ond eto nid oedd dim symud yn mysg yr esgyrn sychion. O Arglwydd, pa hyd! Y mae yr hanesion a dderbyniasom am y Cyfarfodydd Blynyddol yn Mai, yn wir ryfeddol. Yr wyf yn bendithio ac yn clodfori Duw am yr ysbryd rhagorol oedd yn treiddio-trwyddynt. Yr oedd cynhwrf zel-bleidgarwch wedi ennill y fath oruchafiaeth dros nifer fawr o'n cyd-ddeiliaid yn y wlad, fel yr oedd pob peth pwysig a difrifol bron wedi cael eu halltudio o feddyliau a geiriau y rhan fwyaf o honynt. Rhyw dwymyn foesol boeth iawn ydoedd, ac yr oedd llawer o honynt yn ymddangos yn agos yn orphwyllog. Bydded i'r nefoedd ostwng a llonyddu rhyw raddau ar y clefyd dychrynllyd hwn.

Y mae ein cyfaill parchedig Mr. Evans, gynt o New Inn, wedi dymuno arnaf ei gofio yn garedig atoch eich dau, ond y mae yn ddrwg iawn genyf orfod dweud, fy mod wedi clywed yn ddiweddar fod ei hen anhwyldeb wedi gwneuthur ymosodiad tra llym arno drachefn; bydded i'r Arglwydd ei adferyd yn fuan, oblegid yr ydym yn teimlo ei absennoldeb yn fawr iawn, efe yw ein Daniel, wr anwyl.' Mewn perthynas i'ch cais diweddaf chwi, am ran yn fy ngweddiau i, na ato Duw i mi beidio a gweddio drosoch bob dydd a nos, boreu a hwyr. Gallaf sicrhau i chwi fod y rhan amlaf o'r gweinidogion sydd yn lletya yn ein bwthyn bychan ni, yn gwneuthur coffa am danoch chwi o flaen yr orsedd. Yr ydwyf fi yn eich dwyn yn wastad ar fy nghalon; ac os gallasai y frenhines waedlyd Mary ddweud y ceffid Calais yn ysgrifenedig ar ei chalon ar ol ei marwolaeth, gallaf fi ddweud gyda llawer mwy o briodoldeb y ceir enwau Edward a Henry yn gerfiedig ar fy nghalon i, ar ol fy marwolaeth; ac yr wyf yn ostyngedig obeithio na bydd i blant cynifer o ddagrau a gweddiau, i gael eu gwrthod yn y diwedd.

Wyf, fy anwyl Edward,

Eich tad cariadus,

EBENEZER RICHARD.

Yma y canlyn lythyr a dderbyniodd Mr. Richard yn ystod y flwyddyn 1835, oddiwrth ei gyfaill hoff a hyawdl y Parch. Henry Rees.

AT Y PARCH. EBENEZER RICHARD.

Amwythig, Gorph. 29, 1835.

FY NGHYFAILL ANWYL A HOFF,
Yr ydwyf yn ofni fod fy ngwaith yn oedi ateb eich llythyr wedi hanner-fferu y cariad gwresog a weithiai mor nerthol yn eich mynwes pan oeddych yn ei ysgrifenu. Ond gallaf sicrhau i chwi nad oherwydd diffyg parch, cariad, a chyfeillgarwch y bum cyhyd heb ysgrifenu, ond methu penderfynu pa un a wnawn, ai dyfod i Langeitho ai peidio. Yr ydych yn peri i mi roi heibio bob rhesymau gweiniaid yn erbyn dyfod; wrth yr hyn yr wyf yn casglu y boddlonwch i mi beidio a dyfod ond rhoddi i chwi resymau cryfion am hyny. Yn awr, fy anwyl gyfaill, onid yw pellder y ffordd yn rheswm cryf? Onid yw y draul o ddyfod gyda y cerbyd yn rheswm cryf? Onid yw byrdra'r amser y gallaf aros yn y wlad ar ol myned i'r draul i'm cyrchu iddi, yn rheswm cryf i aros gartref? Onid yw'r ystyriaeth y bydd cyflawnder o frodyr i'r gwaith yn Llangeitho, a degau na bydd lle iddynt wneud dim, yn rheswm cryf i beidio myned i draul anarferol yn achos un brawd? Onid yw'r ystyriaeth fy mod yn hen ysglodyn sychlyd, heb na phregethau nac ysbryd i'w traddodi pe byddent genyf, yn rheswm cryf a digonol i beri i mi wrthod gadael i'm brodyr fy nghyrchu o bellder anarferol, trwy draul anarferol, a hyny i gyfarfod anarferol, lle o bosibl y gallaf fyned a lle rhyw frawd a fyddai yn fwy buddiol a chymhwys uwch ben y dorf? Ger bron fy Ngwneuthurwr, y mae y pethau hyn yn ymddangos yn rhesymau cryfion yn fy ngolwg i. Ond gan fod yr Arglwydd yn peri i mi beidio ymddiried i'm deall fy hun, a bod Paul wedi gweled gwr o'r fan yn deisyfu arnynt ddyfod trosodd i'w cymhorth hwy, wedi cwbl gredu alw o'r Arglwydd hwynt yno; minau, rhag ofn pechu, a ymdrechaf ddyfod i Langeitho. O na weddiech drosof! Os gofynwch am beth, mi ddywedaf wrthych, Am i mi gael y weledigaeth, yr argyhoeddiad, y cyffyrddiad, yr ymadawiad anwiredd, a'r glanhad oddiwrth bechod, a'r holl ymgeledd a ddesgrifir yn Esaia, chweched bennod. Yna y d'wedwn, Wele fi, anfon fi. O fe fyddai y flwyddyn hon yn flwyddyn ryfedd, nid yn unig ar gorph y Methodistiaid ac ar Langeitho, ond arnaf finau hefyd, pe cawn hyn. O yr ydwyf bron yn meddwl y caf hwy. Mae fy nychymyg yn rhedeg i Dregaron, mi a'ch gwelaf yn darllen fy llythyr, a'm cais dlawd yn dechreu cyffroi tannau brawdgarwch yn eich mynwes, y llygaid parod i wylo yn dechreu llenwi-mi a'ch gwelaf yn myned i fynu i'r study, yn troi at y chweched o Esaia, ac yn ei darllen mewn dagrau; mi a'ch gwelaf yn myned ar eich gliniau, a'r fynwes oedd yn gronfa o gymmysg deimladau yn ymarllwys mewn llefau cryfion a dagrau ar fy rhan. O mi a'u caf, mi a'u caf; fy mrawd ar y ddaear yn eu ceisio troswyf, a'm Brawd yn y nef yn cyflwyno ei gais, i'w Dad ef a'i Dad yntau, ei Dduw of a'i Dduw yntau. O fe ddaw y bendithion, a minau, os deuant, a ddeuaf yn llawn i Langeitho. Mae yn dda genyf ddyfod i WELED Y DIWEDD[18]; bron na ddysgwyliwn ryw beth mawr. Caf setlo y Sabbath ar ol dyfod.

Gyda yr un serchawgrwydd yr ydwyf fi a'm gwraig, Mr. a Mrs. G., yn cofio atoch chwi a'ch anwyl Mrs. Richard, a'ch hoffus blant.

Yr eiddoch yn Nghrist Iesu,

HENRY REES.

Tregaron, Awst 8, 1835.

FY ANWYL HARRI,
Ar ein dychweliad o'r cyfarfod gweddi misol neithiwr, derbyniasom y Patriot,' yn nghyd a'ch llythyr chwi, ac yn ebrwydd aeth eich mam, a minau, a'ch chwiorydd, o'r neilldu i'w ddarllen. Dechreuais inau ei ddarllen yn nghanol y dystawrwydd a'r pryder mwyaf difrifol, nes dyfod at y frawddeg hyfryd hono, 'A chytunwyd arno yn un llais.[19] Nis gallaswn fyned yn mlaen yn mhellach; torodd ein teimladau allan gyda'r fath rym nes cludo y cwbl o'i flaen mewn cenllif o ddagrau oddiwrth eich anwyl fam a'ch chwiorydd bach cariadus, nes oeddwn fy hun yn mron wedi fy nirymu; ac ar ol rhai munudau o ddiolchgarwch dystaw, ond diffuant, dywedodd eich anwyl chwaer Hannah, 'Datta, rhaid i chwi fyned i weddi yn union.' Yna darllenais inau y xlvi. Salm, ac ymostyngais gyda fy nheulu bychan; ac yr wyf yn gobeithio y gallaf ddywedyd yn ddiymffrost, mae amser o adfywiad ydoedd o olwg yr Arglwydd. O beth a dalaf i'r Arglwydd am ei holl ddaioni i mi? Phiol iechawdwriaeth a gymeraf, ac ar enw yr Arglwydd y galwaf.' Ond nac anghofiwch, fy anwyl Henry, eich bod eto ar y môr, oblegid, er ein bod yn cael yr hyfrydwch o'ch cyfarch yn bresennol fel un sydd wedi eich dwyn yn ddiogel dros un don aruthrol, eto geill fod ugeiniau o rai eraill llawn mor ddychrynllyd a hono o'ch blaen, ond addewid ddiball ein Duw yw, Ni'th roddaf i fynu, ac ni'th lwyr adawaf chwaith,' ac wele yr wyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd.'

Yn awr, fy anwyl Henry, yr ydym yn cydlawenychu â chwi yn y modd gwresocaf a chywiraf ar yr alwad ddedwydd yr ydych wedi ei derbyn, nid oherwydd swm y gyflog, neu'r ganmoliaeth ddynol a gawsoch, ond yn benaf oherwydd y cyfleusdra a rydd hyn i chwi i fod yn ddefnyddiol gydag achos Duw, ac hefyd oherwydd fod eich meddwl wedi cael ei esmwythau o'r pryder gofidus cysylltiedig â sefyllfa o betrusder ac ansicrwydd. Yr ydym wedi bod ar ein gliniau lawer gwaith yn erfyn ar ein Duw cyfammodol i fod yn bob peth i chwi yn yr amgylchiad hwn-i fod yn lle rhieni, cyfeillion, a brodyr; ac nid wyf yn ammau na bydd felly, tu hwnt i ddim a allwn ni ei ofyn neu feddwl, yn ol cyflawnder ei gyfoeth yn Nghrist Iesu.

Mewn perthynas i'r gwahoddiad caredig a roddwch i'ch hanwyl fam a minau i fod yn bresennol ar amser eich hurddiad, yr ydym yn ei gymeryd yn dirion iawn oddiwrthych chwi, ac nid yw yn anmhosibl i hyny gymeryd lle. Ond am eich cais i mi gymeryd rhyw ran yn y gwasanaeth cyhoeddus ar yr achlysur, yr wyf yn gobeithio y gwelwch y priodoldeb o i mi wrthod y cynnyg, oblegid er y buasai ar lawer golygiad yr amgylchiad dedwyddaf yn fy holl fywyd i mi, eto i gyd yr wyf yn barnu y bydd yn fwy doeth i mi i'w ochelyd, oblegid yn 1af. Creai y fath bryder ar fy meddwl fy hun, ac efallai ar yr eiddoch chwithau a'ch anwyl frawd, ac a'n gwnai yn anesmwyth drwy yr holl wasanaeth. Yn 2il. Yr wyf yn ofni y byddai i̇'m teimladau fy ngorchfygu a'm anhwylysu i'r fath raddau, fel nas gallwn gyflawni yr hyn a allaswn mewn amgylchiadau eraill. Yn 3ydd. Yr wyf yn addaw i chwi na chaiff hyny fod yn un golled i chwi, oblegid chwi gewch yr oll ag sydd gan eich tad druan i ddweud ar y testun mewn ystafell-gynghor (parlour-charge) ac mewn llythyrau. Ond rhaid i mi addef y gweinyddai i mi yr hyfrydwch mwyaf i fod yn bresennol ar yr achlysur. Y gweinidogion a ddymunwn i i gymeryd rhan yn eich hurddiad chwi, ydyw y rhai mwyaf sanctaidd, profiadol, ac sydd yn sefyll yn uchel o ran cymeriad, oblegid nid oes dim a wna'r tro yn lle hyny. Mae'r galluoedd naturiol a chyrhaeddedig mwyaf ardderchog megis yn ddim mewn cydmariaeth a chymeriad.

Ydwyf, fy anwyl Henry,

Eich tad cariadus,

EBENEZER RICHARD.

PEN. XIV.

Ymweliad olaf Mr. R. i Lundain—Urddiad ei fab ieuangaf—Llythyr at eglwys Tregaron—Un arall at Mr. David Jones—Ac arall at Mr. a Mrs. Jones, Llanbedr—Afiechyd trwm Mr. Richard yn Llundain—Llythyr oddiwrtho ef at ei ddwy ferch—Llythyr ato ef oddiwrth y Parch. John Elias.

YN ol y bwriad a fynegir yn y llythyr yn niwedd y bennod o'r blaen, daeth Mr. a Mrs. Richard i Lundain yn nechreu mis Tachwedd, yn y flwyddyn hon, i'r dyben o fod yn bresennol ar amser urddiad eu hail fab. Arosasant yn y brif-ddinas yn nghylch tri mis; ac y mae y llythyrau a'r sylwadau a ysgrifenodd Mr. R. tra yma, yn dangos y gwahanol deimladau a phrofiadau yr aeth trwyddynt, yn yr amrywiol amgylchiadau pwysig a difrifol a ddygwyddasant yn ystod yr ymweliad hwn.

Yn y Cof-lyfr Teuluaidd, at ba un y cyfeiriwyd eisoes, ceir yr hanes canlynol:

Tachwedd 11, 1835. Hwn ydoedd un o'r dyddiau mwyaf sobr a difrifol yn holl ystod ein bywyd, oblegid cael ein galw i fod yn bresennol yn urddiad ein hanwyl Henry, yn Marlborough Chapel, Old Kent Road, Llundain, wedi derbyn gwahoddiad unllais oddiwrth yr eglwys cynnulledig yno. Y gweinidogion rhai a fuont yn gweinyddu ar yr achlysur, oeddynt y Parchedigion John Burnett, Ebenezer Henderson, Ph. D., Thomas Binney, ac eraill. Tymhor oedd hwn i'w hir gofio, yn enwedig i'w dad, a'i fam, a'i frawd, y rhai a gawsant y fraint o fod yn bresennol, ond yn annrhaethol fwy felly i ein hanwyl Henry ei hunan. O bydded i Dduw Abraham, Isaac, a Jacob, osod ei zel ar yr hyn a wnaethpwyd yno y pryd hwnw, 'bydded i ewyllys yr Arglwydd lwyddo yn ei law ef,' a rhodder llawer o zeliau i'w weinidogaeth, a llawer o eneidiau yn gyflog iddo yno ac mewn manau eraill.

AT EGLWYS TREGARON, I OFAL MR. THOMAS JONES.

45, Chiswell Street, Llundain,
Tach 27, 1835.

FY NGHYFAILL ANWYL,
Y mae wedi dyfod i'm cof amlwaith, er pan y gadewais Gymru, ddarfod i chwi ddeisyf arnaf, a hyny yn y modd taeraf, i ysgrifenu atoch, ac i minau led addaw gwneuthur hyny; eto, oblegid prysurdeb mawr gan amryw amgylchiadau er pan ddaethum i'r brifddinas, oedais hyd yn hyn, ac yn awr, a mi wedi dechreu ysgrifenu, nid ydwyf yn gwybod pa beth a fyddai oreu a mwyaf buddiol i mi ddanfon.

Am ein hanes ein hunain, chwi a gewch hono yn llawn o lythyrau Mary a Hannah, a phob peth angenrheidiol idd ei wybod am iechyd neu afiechyd, cysur neu anghysur.

Ond gan o bosibl y tueddir eich meddyliau i ddarllen y llythyr hwn i'r holl eglwys yn nghyd, mi amcanaf at rai pethau o fuddioldeb cyffredinol. Yn gyntaf, mi ddymunwn fy nghofio yn y modd mwyaf caredig at yr holl eglwys heb wahaniaeth; ond fy nghysur ydyw, fod ganddynt un anfeidrol fwy ffyddlon i'w cofio na myfi. Gallaf fi ddywedyd fy mod yn eu cofio yn aml, ond y mae un a ddywed, Eto myfi nid anghofiaf di. Wele ar gledr fy nwylaw y'th argreffais; dy furiau sydd ger fy mron bob amser.' Pan y byddwyf fi yn eich cofio, yr ydwyf yn hyderu fod brawd cywir, didwyll, a diffuant yn eich cofio, eto llygredig, eiddil, ffol, ac analluog i'ch cymhorth; ond pan y cofio Iesu chwi, bydd Brawd sanctaidd, diddrwg, dihalog, a didoledig oddiwrth bechaduriaid, uwch na'r nefoedd, eto yn weddus i ni, yn eich cofio. Pan y byddwyf fi eich cofio, yr ydwyf yn ofidus na fedrwn wybod pa fodd y mae arnoch; ond pan y byddo Iesu yn eich cofio, y mae Efe yn eich gweled, yn gwybod pa dywydd yw hi arnoch, a pha ryw dònau yr ydych yn myned trwyddynt, oblegid, er bod yr Arglwydd yn uchel, eto efe a edrych ar yr isel.' 'Pe rhodiwn yn nghanol cyfyngder, ti a'm bywhait, estynit dy law yn erbyn digofaint fy ngelynion, a'th ddeheulaw a'm hachubai.' Cofiwch, fy anwyl frodyr, mai y ffordd i fod yn nghysgod yr Hollalluog yw trigo yn nirgelwch y Goruchaf; ni all y cywion gael lles, na chysgod, na nodded, na gwres, na magwraeth, na chynnydd, oddiwrth adenydd yr iar, heb iddynt ymgasglu yn agos ati, ymlechu tan gysgod ei phlu; felly nid rhyfedd fod yr Ysgrythyr yn dywedyd, Gwyn ei fyd yr hwn a ddewisech ac a nesaech atat, fel y trigo yn dy gynteddoedd. Gwyn eu byd preswylwyr dy dŷ, yn wastad i'th foliannant.' Pobl agos ato yw pobl yr Arglwydd, eto cofiwn yn nglŷn a hyn, nad oes gyfeillach rhwng cyfiawnder ac anghyfiawnder, na dim cymundeb rhwng goleuni a thywyllwch, na dim cysondeb rhwng Crist a Belial, na rhan i anghredadyn gyda chredadyn, na chydfod rhwng teml Dduw ac eilunod, canys teml y Duw byw ydych chwi; fel y dywed Duw, Mi a breswyliaf ynddynt, ac a rodiaf yn eu mysg, ac a fyddaf yn Dduw iddynt hwy, a hwy a fyddant yn bobl i mi. Oherwydd paham, deuwch allan o'u canol hwynt, ac ymddidolwch, medd yr Arglwydd, ac na chyffyrddwch â dim aflan, ac mi a'ch derbyniaf chwi, ac a fyddaf yn Dad i chwi, a chwithau a fyddwch yn feibion ac yn ferched i mi, medd yr Arglwydd Dduw Hollalluog.' Fel hyn y gwelwch, fy anwyl frodyr a chwiorydd yn yr efengyl, mai yr unig ffordd i fod yn ddiogel gan Dduw, yw bod yn agos at Dduw, ac nas gellir bod yn agos at Dduw heb fod yn gyssegredig i Dduw. Fel y dealloch hyn yn well, dymunaf ar bob un o honoch a allo, ddysgu'r Psalm xv. erbyn y delwyf adref, a darllen llawer ar bregeth Crist ar y mynydd; ei myfyrio, a'i chymeryd i mewn i'r meddwl.

Yr ydwyf yn taer ddymuno eich gweddiau oll trosof fi a'm teulu yn Nghymru a Lloegr. Yr ydym ni ein pedwar yn iach, ac yn dymuno cyd-gofio at eich gwraig a'ch teulu, ac at bob un o'r cymmydogion a ofyno am danom.

Hyn yn fyr oddiwrth eich cyfaill a'ch gwas yn yr efengyl,

EBENEZER RICHARD.

"AT MR. DAVID JONES, LLANGEITHO.

45, Chiswell Street, Llundain,
Rhagfyr 11, 1835.

"FY ANWYL GYFAILL,
'Nid ydyw eich taer ddymuniad pan y'ch gwelais y tro diweddaf cyn gadael y wlad, am ysgrifenu atoch, wedi myned mewn un modd yn anghof, eto rhaid i mi addef ei fod wedi ei oedi yn feithach nac y dymunaswn, oherwydd lluaws o amgylchiadau, y rhai nis gallaswn eu gochelyd. Y mae gobaith a oedir,' medd Selyf, ' yn gwanhau y galon;' a da fyddai genyf bod fy llythyr yn ateb i ran arall yr adnod, ond pren y bywyd yw deisyfiad pan ddel i ben.' Y mae yn perthyn i mi yn y lle cyntaf i ddychwelyd mawl a diolchgarwch i Dduw am y fath daith hwylus i'r brif-ddinas, a'r agwedd gysurus a gefais ar fy mherthynasau ac ar yr eglwys a'r achos yn y lle pan ddaethum, yr iechyd ac amlder y daioni eraill y mae fy anwyl wraig a minau wedi ac yn fwynhau. 'O na foliannem yr Arglwydd am ei ddaioni a'i ryfeddodau i ni y gwaelaf o feibion dynion.' Y mae dau beth wedi bod, ac yn parhau i fod, yn agos iawn at fy meddyliau y dyddiau hyn, sef y pethau sydd yn ymddangos i mi yn rhagoriaethau gweddiau ac yn rhagoriaethau pregethau. 1. Rhagoriaethau gweddiau, sef eu bod yn llawnach o lawer mewn diolchgarwch gwarth ein gweddiau yw eu bod mor wag o ddiolchgarwch. Rhaid i mi addef fy mod wedi bod yn dra rhagfarnllyd at weddiau a llawer o ddiolch ynddynt, gan feddwl mae Phariseaid oedd y rhai a ddywedent yn aml, Yr wyf yn diolch i ti,' &c.; ond gwelaf yn awr mae balchder fy nghalon ffol oedd un achos o hyn, a diffyg sylwi ar yr Ysgrythyrau ydoedd achos arall, oblegid pe edrychaswn ar y pethau a ganiateid i mi, nis gallaswn weled dim ond achos diolch, oblegid pa beth sydd genyf ar nas derbyniais? ac os derbyniais, paham yr ydwyf yn gorfoleddu megis pe bawn heb dderbyn?' Hefyd, pan edrychwyf i'r Ysgrythyrau, iaith y rhai hyny ydyw yr un a ganlyn, Yn mhob dim diolchwch. Gan ddiolch yn wastad i Dduw a'r Tad am bob peth yn enw ein Harglwydd Iesu Grist. Gwneler eich deisyfiadau chwi yn hysbys ger bron Duw, mewn ymbiliau a gweddiau, gyda diolchgarwch. Gwnewch bob peth yn enw yr Arglwydd Iesu, gan ddiolch i Dduw a'r Tad trwyddo ef. Trwyddo ef, gan hyny, offrymwn aberth moliant yn wastad i Dduw, yr hyn yw ffrwyth ein gwefusau yn cyffesu i'w enw ef.' Yr ydwyf erbyn hyn wedi fy llwyr argyhoeddi, mae un o'r achosion o aflwydd ein gweddiau ydyw ein bod yn diolch llawer rhy fach ynddynt. Medrai Job ddiolch pan yr oedd Duw yn ei ddiosg o'r cwbl a feddai yn y byd, ac felly y gwnai Dafydd hefyd,—' Bendithiaf yr Arglwydd bob amser, a'i foliant fydd yn fy ngenau yn wastad.' Diolch mwy a ddylem.

2il. Rhagoriaeth pregethau. Y mae yn ymddangos i mi fod cymaint o ragor rhwng un pregethu a'r llall yn y dyddiau hyn, ac sydd rhwng dodi cleddyf yn y wain a'i dynu allan a'i ddefnyddio. Y mae llawer o'n pregethau ni yn yr oes hon yn rhy debyg i guddio'r cleddyf yn y wain, ac yn aml y rhai a fedro roddi'r cleddyf yn y wain fwyaf trefnus a deheulaw yw y rhai a glodforir fwyaf. Ond och, fy mrawd anwyl, ni bydd neb yn teimlo un min iddo fel hyn. Y mae yn ddaufiniog, ond ni chlywir oddiwrth ei fin fel hyn, nis gall 'gyrhaedd trwodd hyd wahaniad yr enaid a'r ysbryd, y cymmalau a'r mer, i farnu meddyliau a bwriadau y galon.' O mor ddigalon yw gweled rhai yn trin y cleddyf yn nghanol gelynion y Brenin heb ddim tebyg i glwyfo nac archolli, y cleddyf yn y wain yr holl amser. Y mae arnaf ddirfawr ofn fod ein pregethau fel cadach, o'r dechreu i'r diwedd, wedi eu troi oddeutu min y cleddyf; gan hyny, os mynwch lwyddo mwy yn eich gweddiau, anfonwch fwy o ddiolchgarwch, ac os dymunech weled mwy llwydd ar bregethu yn Llangeitho, a'r ardaloedd, a'r wlad o amgylch, eiddigeddwch âg eiddigedd mawr dros ben am gael y cleddyf o'r wain.

Dymunwn ein dau ein cofio atoch chwi a'ch teulu, ac at bregethwyr a blaenoriaid a holl aelodau eich eglwys chwi yna.

Ydwyf, fy anwyl gyfaill, yr eiddoch,

EBENEZER RICHARD.

AT MR. A MRS. JONES, LLANBEDR.

45, Chiswell Street, Rhagfyr 11, 1835.

FY NGHYFEILLION ANWYL,
Nid wyf wedi anghofio y dymuniad caredig a wnaethoch pan yr oeddym yn myned trwy Lanbedr ar ein ffordd i'r lle hwn, er fy mod wedi gorfod oedi'r cyflawniad ar lawer o gyfrifon; ond y mae Solomon yn dywedyd,Gobaith a oeder a wanha'r galon;' am hyny nid oedaf yn hwy. Nis gellwch ddysgwyl i mi ysgrifenu yn Gymraeg ar ol byw cyhyd yn Llundain, am hyny rhaid i'r cwbl fod yn Saesoneg. . . . . peth cyntaf o bwys teilwng i'w grybwyll, yw Urddiad ein hanwyl Henry, yr hyn a gymerodd le y dydd Mercher ar ol ein dyfodiad; ond gan y gellwch weled hanes gyflawn o hono yn y Patriot a'r Evangelical Magazine, chwi a esgusodwch i mi ei dransgrifio yma.

Y Sabbath diweddaf ydoedd Sul cymundeb cyntaf ein hanwyl Henry er ei urddiad; aeth ei fam, a'i frawd, a minau, i'w gapel, i fod yn bresennol ar yr achlysur difrifol. Ond beth fydd eich syndod pan ddealloch i'ch hen gyfaill E. Richard, o Dregaron, sefyll i fynu, a phregethu pregeth Saesoneg i gynnulleidfa gyfrifol iawn yn y brif-ddinas! Mi wn y chwardd Mrs. Jones yn iach am ben hyn, ac y dywed ond odid, Yr hen wr gwirion druan, y mae ei ben-wendid (dotage) yn dyfod arno; y mae yn dechreu myned yn hen.' Ar ol y bregeth, cawsom yr hyfrydwch mawr o eistedd i lawr wrth fwrdd yr Arglwydd, a'n hanwyl Henry yn gweinyddu. Yr oedd bron yn ormod i'n teimladau ddal, ïe, mewn gwirionedd, yr oedd fel rhyw nefoedd fechan i ni ar y llawr. O pwy ydwyf fi, a pha beth yw tŷ fy nhad, fel y goddefid i mi weled y fath bethau rhyfeddol a hyn. Yr ydwyf wedi pregethu yn nghylch pymtheng ngwaith er pan wyf yma. Yr wyf yn amcanu bod yn ffyddlon ar ychydig bethau, ac ychydig ydynt yn wir. *******

Ydwyf, fy anwyl gyfeillion,

Yr eiddoch heb dwyll,

EBENEZER RICHARD.

Yn mhen ychydig wythnosau ar ol ei ddyfodiad i Lundain, dechreuodd arwyddion amlwg ymddangos fod ei hen afiechyd ar ymosod arno unwaith eto, fel y dywed efe ei hun yn y Cof-lyfr, o ba un yr ydym wedi gwneuthur amryw bigion yn barod. Nid oeddwn ond canolig wrth fyned i'r brif-ddinas, a chymerais anwyd newydd a thrwm wedi cyrhaedd yno. Teimlais fy hun yn fuan yn llesg, gwasgedig, a thrymaidd iawn, fel yr oedd y symudiad lleiaf oddeutu yn boenus hynod. Fy anwyl Edward, yn canfod y cyflwr yr oeddwn ynddo, a'm gwaedodd yn helaeth, ac a roddodd i mi gyffeiriau nerthol iawn, yr hyn am ychydig amser a weiniasant ryw gymaint o seibiant. Ond canfyddwyd yn fuan nad oedd yr anhwyldeb wedi ei symud, ond yn hytrach ei fod wedi ennill nerth yn y cyfansoddiad, nes yr oeddwn bron wedi fy ngorchfygu, ac yn amlwg fy mod yn suddo'n gyflym. Yr oeddwn y pryd hwn yn mron wedi colli pob cof a sylw, ac yr oedd natur yn hollol analluog i gynnal ei hun, nes ydoedd fy achos agos yn anobeithiol. Yr oedd yr ystorm yn rhuthro gyda grym dirfawr, ac yr oedd fy anwyl wraig a'm meibion yn nghanol y trallod dyfnaf, gan ddysgwyl dim llai y pryd hwn nac y byddai raid iddynt fy nghladdu yn Bunhill Fields, ac y byddai raid iddynt yn fuan brofi pa beth oedd bod yn weddw ac yn amddifaid. Wrth weled hyn, dechreuodd fy anwyl Edward, gyda chalon drom ac â llygaid gwlybion, i ymorchestu i'r eithaf, trwy ddefnyddio y cyffeiriau cryfaf, a gollwng gwaed yn helaeth, a, than fendith y Duw graslawn a thrugarog, llwyddodd o'r diwedd i'w drechu. Dechreuais wellhau yn raddol, a thrwy law ddaionus ein Duw arnom, yr oeddwn yn fuan yn alluog i weinu rhai o'm dyledswyddau cyhoeddus. Yma y mae genym resymau neillduol a difrifol iawn fel teulu i eneinio'r golofn, i gymeryd cwpan iechawdwriaeth yn ein llaw, a galw ar enw yr Arglwydd.

Y mae yn deilwng o sylw ei fod yn y cystudd hwn o ran agwedd ei feddwl, gyda golwg ar angeu a thragywyddoldeb, yn gwbl dawel a digyffro. Un diwrnod, pan ydoedd yn wael iawn yn ei wely, sylwodd rhyw un wrtho, Ond y mae un peth i'w ddweud, y mae'r mater yn dda, ac wedi ei settlo cyn heddyw. O ydyw, ydyw, ebe yntau. Ac felly nid yw ond mater bach pa un a'i cynt a'i diweddarach y daw'r gennad? Nac yw ond bach iawn; yr wy'n meddwl am eiriau Williams

'Trefna'r fan, a threfna'r funud.'

45, Chiswell Street, Ion. 13, 1836.

FY ANWYL MARY A HANNAH,
Yr wyf yn gobeithio y cynnorthwywch chwithau eich rhieni i fynegu moliant yr Arglwydd yn adferiad eich tad i'r fath raddau, fel y gallaf 'nawr eistedd i ddarllen ac ysgrifenu o foreu i hwyr heb deimlo un tuedd i gysgu. Nid wyf yn ammau nad anfonodd yr Arglwydd fi yma i'r dyben o wellhau fy iechyd, oblegid chwi wyddoch ei fod ef yn rasol ac yn llawn o dosturi. Nid oes neb yn gwybod hyn yn well na nyni fel teulu. Ei garedigrwydd sydd wedi bod yn gynnaliaeth i ni trwy ein holl daith hyd yma, a'i ffyddlondeb ni phallodd. Dylasem adeiladu colofnau o ddiolchgarwch am ei ras o'r Aipht hyd yma, ond cyn b'o hir dygir allan y maen penaf, gan waeddi, Rhad, rhad iddo.'

"Fy anwyl ferched, cadwch ar dilerau da â'r cymmydogion yn gyffredinol, ond yn enwedig â Duw ac â'ch cydwybodau eich hunain, oblegid os bydd Duw trosoch, pwy a all fod i'ch herbyn? ac os bydd tystiolaeth cydwybod o'ch plaid, bydd yn fwy o werth i chwi na bydoedd wedi eu pentyru yn nghyd. Mae cydwybod a Duw y rhan amlaf ar yr un ochr, ac yna, os cewch un, chwi gewch y ddau o'ch tu. Gofelwch rhag ymddwyn yn y fath fodd, fel y byddo arnoch gywilydd dywedyd wrth Dduw am dano, oblegid archolla hyn eich cydwybod, a dwg gwmwl rhwng eich heneidiau a Duw. Yr ydwyf yn eich cyflwyno i'w ofal ef bob dydd a nos. O bydded iddo eich gwaredu rhag pob niweid a phechod. O ïe, pechod yn enwedig, oblegid pechod yw'r gwenwyn yn mhob man. Dywedwch wrth ein cyfeillion crefyddol, yr ystyriem ef yn garedigrwydd mawr os bydd iddynt fod mor fwyn a gweddio am ein dyfodiad adref yn ddiogel, oblegid llawer a ddichon taer weddi'r cyfiawn.'

Ydwyf, fy anwyl Mary a Hannah,

Eich tad cariadus,

EBENEZER RICHARD.

Cyn ei ymadawiad o Lundain, derbyniodd Mr. Richard y llythyr canlynol oddiwrth ei gyfaill caredig, y Parch. John Elias.

AT Y PARCH. EBENEZER RICHARD.

Fron, Ion. 5, 1836.

BARCHEDIG AC ANWYL FRAWD,
Mewn llythyr a dderbyniais heddyw oddiwrth fy merch, gwelais eich bod yn wael iawn, yr hyn a'm trallododd i yn fawr; er fy mod yn gwybod fod pob cystudd a gwaeledd o dan lywodraeth Duw, ac mai eich Tad chwi yw y Duw hwnw, er hyny yr wyf yn methu peidio a gofidio drosoch chwi a'ch anwyl briod, oblegid bod cystudd wedi eich dal mor bell o'ch cartref; er fod yn gysur i chwi fod eich meibion gyda chwi, a phob moddion dynol at wellhad gerllaw, a'ch Tad nefol mor agos yn Llundain ac yn Tregaron. Gwn y gwna efe bob peth yn y modd goreu i chwi; y mae ei ddaioni yn anfeidrol, a'i ddoethineb y fath na fetha a gwneud felly!

Ond ni wyddom ni yr awr hon beth y mae efe yn ei wneuthur (yn fynych), ond ar ol hyn cawn wybod. Ond gallwn gael gras i gredu yn awr fod ei driniaeth yn dda, ïe, pan y byddo yn chwerw. Gŵyr ein Tad nefol beth sydd oreu i ni. Llestri pridd yw ein cyrph; y mae yn rhyfedd eu bod cyhyd heb gael eu dryllio: tra y byddo y Gwr yn dewis i ni ddwyn ei drysor, gofala am y llestr er gwàned. Y mae elfenau datodiad yn ein pebyll. Y mae y dihenyddwr yn ein tai er ys llawer blwyddyn; ni wyddom yr awr y gorchymynir iddo roi y dyrnod, ond gwyddom i bwy credasom, a'i fod ef yn abl i gadw. Nid yn unig efe a dderbyn ein hysbrydoedd, ond hefyd gallwn roddi y cwbl sydd anwyl genym i'w gadael ar ein hol yma i fynu yn dawel i'w ofal ef. Gallwn adael ein hymddifaid iddo; 'Ceidw hwynt yn fyw;' gall ein gweddwon ymddiried ynddo.' A'i achos mawr yn ein plith sydd yn agos at ein calon, gallwn ei adael yn dawel iddo. Er y carem ei gweled yn fwy o ddydd ar yr eglwys cyn i ni gael ein galw ymaith, a chael gweled yr arch ar ysgwyddau rhai mwy ysbrydol, eto ewyllys yr Arglwydd a wneler, ïe, a wneir.

Anwyl frawd, yr wyf yn taer ddymuno i'r Arglwydd eich adferu eto i fod yn hir ddefnyddiol yn ei winllan; er i fy meddwl ehedeg at ein ymadawiad-daw yn fuan.

'Bydded i'r Arglwydd gynnal meddwl eich anwyl briod yn ei thrallod wrth weled eich gwaeledd, ac mewn lle dyeithr.

Yr wyf fi a'm gwraig yn cofio yn garedig iawn atoch eich dau.

Wyf eich cydymaith mewn cystudd,
JOHN ELIAS.

Tywyned yr Arglwydd ei wyneb arnoch.

PEN. XV.

Dychweliad Mr. R. i Gymru—Ei undeb â Chymdeithas Dirwest—Llythyr oddiwrth y Parch. Thomas Evans—Priodas ei ferch hynaf— Llythyrau at ei blant—Ei ddyddiau diweddaf—Ei afiechyd, a'i angeu —Portreiad o gymeriad Mr. Richard.

DYCHWELODD Mr. Richard i'r wlad a'i iechyd wedi ei adnewyddu yn rhyfeddol, fel yr oedd yn alluog i ymaflyd drachefn yn ei wahanol orchwylion pwysig a llafurus, gyda nerth a bywiogrwydd mwy na chyffredin. Dechreuodd ei gyfeillion ymgryfhau yn y gobaith y goddefid iddynt am gryn ysbaid yn ychwaneg fwynhau ei lafur a'i bresennoldeb yn eu plith. Ond ymddengys fod rhyw ragdybiaeth ddofn wedi ymaflyd yn ei feddwl ef ei hun, fod tymhor ei ymadawiad yn agoshau, ac yr oedd effeithiau y grediniaeth hon yn amlwg yn ei holl ymddygiad, ac yn enwedig yn hollol ymgyssegriad ei feddwl a'i fywyd i waith yr Arglwydd. Ofer ydoedd pob ymgais i'w ennill i laesu ei ymdrechiadau rhag niweidio ei iechyd, oblegid yr oedd yn gweithredu yn ysbryd y sylw a grybwyllai yn fynych mewn ateb i'r cyfryw gymhelliadau, Fod yn well ganddo dreulio allan na rhwdu allan. Yn ystod y flwyddyn hon dechreuodd ymgymeryd gyda ei egni arferol âg achos dirwest. Wrth ganfod effeithiau truenus meddwdod ar y wlad yn gyffredinol, teimlai fod rhyw ymdrech gorchestol yn angenrheidiol i wrthsefyll y llifeiriant dinystriol, ac yr oedd yn barnu fod y gymdeithas oedd newydd ymddangos yn Nghymru, yn meddu llawer o gymhwysder at gyflawni y gorchwyl hwn. Nid oedd yn ei ystyried yn beth gofynol, i'r dyben o brofi gwirionedd ei zel yn yr achos, i ddrwgdybio egwyddorion na chamddarlunio dybenion eraill, nas gallasent gydweled a chydfyned i'r un graddau ac efe ei hun ar y pwnc. Defnyddiai bob rheswm a chymhelliad moesol i ennill pawb i'r un grediniaeth, ond nid oedd foddlon gweled dim tebyg i erledigaeth neu chwerwder yn cael ei ddatguddio gan bleidwyr y gymdeithas tuag at eraill, gan farnu ond odid yr un peth a gweinidog enwog yn yr America, yr hwn a ddywedai ar y mater yma, Os na chaiff y cythraul un ffordd arall i ddystrywio achos da, fe dry yn goachman ei hunan, ac a’i gyr yn rhy chwyrn a chyflym. Eto, o'r ochr arall, dylid cofio na bu i un sefydliad daionus erioed gyrhaedd perffeithrwydd ar unwaith, a dideimlad a diddaioni yn wir yw y dyn na chanfyddo ac na chyfaddefo y daioni helaeth sydd er hyny eisoes wedi ei gyflawni trwy offerynoldeb y gymdeithas hon; ac os gellir ond ei sefydlu ar sylfeini cedyrn a diysgog, y mae y daioni sydd yn ystor ganddi i oesoedd dyfodol yn fwy nac y geill tafod ei draethu, yn fwy nac y geill dychymyg ei gynnwys. Diau i'w waith ef, yn nghyd a'i ddull ef yn cefnogi yr achos hwn, fod yn un o'r prif foddion i'w sefydlu yn mysg y Trefnyddion Calfinaidd yn y Deheudir. Yma y canlyn lythyr a dderbyniodd Mr. Richard ar yr achos hwn oddiwrth ei anwyl gyfaill, y Parch. Thomas Evans.

AT Y PARCH. EBENEZER RICHARD.

Caerfyrddin, Mai 4, 1836.

BARCHEDIG AC ANWYL SYR
Tair wythnos yn ol ysgrifenais atoch o'r blaen, i ddymuno arnoch yn y modd taeraf a fedrwn i ddyfod i gynnorthwyo Cymdeithas Cymedroldeb yn y dref hon; gan na chefais ateb, mae arnaf ofn fy mod yn troseddu ar eich amynedd, ond gan na chaf lonydd gan y committee, yr ydwyf unwaith eto yn arfer hyfdra tuag atoch i ddefnyddio geiriau Mr. Breese ei hun wrthyf neithiwr, ar ol i mi hysbysu na chefais un ateb oddiwrthych, Sgrifenwch eto gyda brys, a dywedwch wrth Mr. Richard fod yn rhaid iddo ddyfod i'n cymhorth, ac os na ddaw, bydd yr achos da hwn yn sicr o syrthio rhwng ein dwylaw, oblegid y mae tre a gwlad yn ein herbyn, ac maent eisoes wedi hen gynefino â'n storiau ni.' Gyda golwg ar yr achos ynddo ei hun, (oblegid yr un golygiadau a feddaf finau ar y mater hwn,) taer ddymuniad Mr. Breese, yn nghyd a'r caredigrwydd mawr a ddangosodd efe yn nghyd a'i gynnulleidfa i ni yn amser ein cymanfa, bydd yn hynod dda genyf i chwi ddyfod atom, a hyderaf na adewch ddim i eich rhwystro y waith hon os bydd bosibl.

Penderfyniad diweddar y committee yw i gyfarfodydd cyhoeddus y gymdeithas hon i gael eu cynnal yn y capeli ar gylch. Bu y diweddaf yn Nghapel Heol Awst; mae'r nesaf i fod yn Nghapel Heol Dw'r, ar y 27ain o'r mis hwn, sef nos Wener, am 7 o'r gloch; ond os bydd rhyw noswaith arall yn fwy cyfleus i chwi wrth ddychwelyd o Sir Benfro, mae'r cyfeillion yn foddlon cyfnewid er eich mwyn, ond yn unig cael gwybod gyda'r cyfleusdra cyntaf. Gan fy mod yn hyderus eich bod wedi derbyn fy llythyr diweddaf ar yr achos hwn, ni chwanegaf. Mae fy mhriod yn cyduno â mi i gofio atoch chwi, Mrs. R., yn nghyd a'ch teulu caredig oll. Wyf, barchedig ac anwyl Syr,

Eich egwan a'ch annheilwng gyfaill,

THOMAS EVANS.

O. Y. Gobeithiaf y gwnewch dreulio'r Sabbath canlynol i'r cyfarfod uchod yn ein plith. T.E.

Rhoddwn yma ychydig bigion o'r gwahanol lythyrau a dderbyniasom oddiwrtho ar ol ei ddychweliad i'r wlad y tro hwn.

FY ANWYL HENRY,
. . . . . . Yr hanes a roddwch yn eich llythyr diweddaf am yr argoelion cysurus o'ch blaen yn Marlborough Chapel, a'n dygodd ar ein gliniau i ddiolch i Roddwr pob rhodd ddaionus a phob rhodd berffaith,' oblegid heb ddylanwadau yr Ysbryd Glan byddai raid i ni lafurio yn ofer, a threulio ein nerth yn ofer ac am ddim. O bydded i chwi a minau gael ein cadw mewn ysbryd ymddibynol, yn dysgwyl am ei weithrediadau nerthol a graslawn ef i wneuthur y gair yn effeithiol, oblegid efe yn unig a eill roddi y cynnydd. A pha raddau bynag o lwyddiant a ganiateir i'ch hymdrechiadau, gochelwch, fy anwyl Henry, rhag logellu (pocketing) dim o arian eich Meistr. Wrth yr arian yr wyf yn golygu y clod a'r anrhydedd. Duw eiddigus ᎩᎳ ein Duw ni, yn eiddigus am ei foliant, oblegid efe a ddywedodd, Myfi yw yr Arglwydd, dyma fy enw, a'm gogoniant ni roddaf i arall, na'm mawl i ddelwau cerfiedig.' Ni oddef i neb i'w yspeilio, yn enwedig o'i ogoniant, am hyny byddwch ofalus i offrymu y clod iddo ef ar eich gliniau bob boreu a hwyr, gan gofio yn wastadol mae eiddo chwi yw y llafur, ac eiddo yntau y llwyddiant a'r clod. Ar ol rhai o'ch odfaon mwyaf cysurus a llwyddiannus, bydd y diafol yn barod i guro eich cefn, a dywedyd, Well done, Henry, pwy a wnaeth yn well na hyn erioed?' Ond yr ydwyf yn gobeithio ac yn gweddio y dysgir chwi fel na byddoch heb wybod ei ddichellion ef. Yr ydych yn ddiogel, fy anwyl blentyn, cyhyd ag y cynnalio Duw chwi, a dim yn hwy, oblegid 'dy holl saint ydynt yn dy law, a hwy a ymlynant wrth dy draed, pob un a dderbyn o'th eiriau.' Mewn perthynas i'r achos y gofynwch fy ngyngor i yn ei gylch, nid oes genyf ond dywedyd, bob tro y bu i mi fedyddio dynion mewn cyflawn oed, na cheisiais i gyffes gyhoeddus gan un o honynt, yr hyn a ystyriwn i yn afreidiol, oblegid rhaid fod yr eglwys wedi cael ei boddloni yn eu cylch cyn iddynt gael caniatâd i ddyfod yn mlaen, yr hyn a ddylech bob amser ei grybwyll ar y pryd. Yr ydwyf yn ei ystyried hefyd yn beth dideimlad, yn enwedig os benywaid fydd yn cynnyg eu hunain, i ofyn tystiolaeth yn gyhoeddus o'u ffydd, oblegid yn eu gwaith yn ymostwng i'r ordin- had y maent mewn effaith yn rhoddi y cyfryw dyst- iolaeth. Ond cyngorwn chwi i fỳnu gwybod pa beth yw arferiad gyffredin gweinidogion Llundain. Yn awr mi derfynaf, trwy wneuthur yr hyn yr wyf yn ei wneuthur yn gyson ar gareg yr aelwyd, Henry bach, a hyny yw eich cyflwyno chwi eich dau i Dduw sydd yn cadw cyfammod ac yn cyflawni ei addewid.

Ydwyf, fy anwyl Henry,
Eich tad cariadus,
EBENEZER RICHARD.'

Yr oeddwn yn teimlo yn ddedwydd ac yn ddiolchgar iawn i ddeall, fy anwyl Henry, i chwi gael eich galluogi i fyned trwy wasanaeth eich Sabbath gyda chymaint o gysur i chwi eich hun; a chan fy mod wedi cael rhyw gymaint o brofiad yn y pethau hyn am bumtheg-ar-hugain o flynyddau, efallai y goddefwch i mi wneuthur un sylw fel hyn, sef ein bod yn gyffredin yn teimlo mwy o foddlonrwydd i ni ein hunain, ac y mae yn debyg yn fwy bendithiol i eraill, wrth fyned trwy yr odfaon hyny ag ydynt wedi costio i ni fwyaf o bryder a gofid meddwl, a mwyaf o weddiau hefyd, na'r rhai hyny sydd wedi achosi llai o drallod. O'r fath briodoldeb sydd yn ngeiriau Hannah dduwiol, pan y dygodd ei hanwyl Samuel i Eli yn Siloh, i fod yn gyssegredig i'r Arglwydd,—‘Am y bachgen hwn y gweddiais, a'r Arglwydd a roddodd i mi fy nymuniad a ddymunais ganddo! O na fyddai genym ninau fel gweinidogion fwy o'r plant gweddi yma, fel y gallem yn fynychach ddywedyd mewn gwirionedd, Am y bregeth hon y gweddiais; am yr ordinhad hon, am y gwasanaeth hwn, am y gorchwyl hwn y gweddiais!' Fy anwyl, anwyl Henry, bydded fod achos eich swydd yn sefyll goruwch pob gofal arall yn eich ystyriaeth, a bydded i orchwyl penaf eich galwedigaeth ddifrifol gael y blaenoriaeth o hyd, sef i ennill eneidiau; 'a'r neb a ennillo eneidiau sydd ddoeth.

Fy Anwyl Edward
Derbyniasom eich llythyr yr wythnos ddiweddaf, a llawenychodd ni yn fawr iawn ar amryw gyfrifon. Yr oedd yn hoff genym ganfod y pryder, y llawenydd, a'r diolchgarwch a ddangoswch wrth dderbyn y newydd am ein dyfodiad yn ddiogel adref. Mae yn sirioli calonau eich rhieni, ac yn gwneuthur lles iddynt, i weled fod y rhai ydym wedi eu magu a'u meithrin gyda chymaint o ofal a thiriondeb, yn cydymdeimlo â ni yn mhrydnawn ein dydd; bydded i'r nefoedd eich gwobrwyo lawer gwaith am eich holl garedigrwydd a ddangosasoch mor ddibaid tuag at eich tad a'ch mam tra yr oeddynt yn preswylio yn Llundain. Rhan arall o'ch llythyr ag ydoedd yn wir foddlonol i mi oedd eich bod wedi clywed eich hanwyl frawd y prydnawn Sabbath diweddaf, (yr wyf yn gobeithio y bydd bob amser ganddo ryw beth fel cenad oddiwrth Dduw at ddynion,) a'i fod yntau wedi ymweled a chwi drannoeth, oblegid Mwy llawenydd na hyn nid oes genyf, sef cael clywed fod fy mhlant yn rhodio mewn gwirionedd,' cariad, a sancteiddrwydd; oherwydd os ydych am wybod fy arwydd-air i, dyma fe, Gwirionedd, heddwch, a sancteiddrwydd.'

Rhan arall o'ch llythyr a effeithiodd yn hyfryd ar deimladau eich rhieni, yw'r pryder a ddangoswch mewn perthynas i'n iechyd, yn nghyd a'r cyngorion a roddwch i mi. Credwch fi, fy anwyl Edward, y maent yn pwyso yn annrhaethol fwy gyda mi na phe deuent oddiwrth feddyg ei Fawrhydi, pwy bynag ydyw; a gellwch benderfynu y telir dyledus sylw i bob cyfarwyddyd oddiwrthych chwi perthynol i'm iechyd.

Y mae yn ddrwg genym ddywedyd wrthych fod eich hanwyl ewythr yn bur ganolig. Darllenais iddo yr hyn a grybwyllwch yn eich llythyr; yr oedd yn ddiolchgar iawn i chwi am eich cynnyg, ond yr oedd yn ymddangos yn bur llwfr ac anobeithiol. Yr wyf yn hyderu, os gellwch feddwl am unrhyw beth a ddichon weinyddu seibiant iddo, yr ysgrifenwch ato yn ddioed.

Fy anwyl blant, mi a barhaf i ymdrechu drosoch gyda Duw yn ddirgel ac yn gyhoedd, ddydd a nos, ac ni pheidiaf byth hyd awr fy marwolaeth.

Ydwyf, fy anwyl Edward,
Eich tad cariadus,
EBENEZER RICHARD.

Yn y flwyddyn hon priododd ei ferch hynaf â Mr. Samuel Morris, mab ieuangaf ei hen gyfaill a'i gydwas, y diweddar Barchedig Ebenezer Morris; ac yma y canlyn lythyr a anfonodd atynt ychydig fisoedd ar ol hyn, mewn ateb i un a ysgrifenasai ei ferch ato ef.

Tregaron, Rhagfyr 6, 1836.

FY ANWYL BLANT,
Derbyniasom gyda hoffder mawr eich llythyr, a dedwydd oedd genym ddeall fod eich iechyd a'ch amgylchiadau mor gysurus. Yr wyf yn gobeithio ac yn deisyf am i chwi gael eich gwneuthur yn fendith y naill i'r llall. Mynwch wybod dyledswyddau eich sefyllfaoedd eich hunain o air Duw, a gweddiwch yn feunyddiol am ras i'w cyflawni, oblegid nid oes dim dedwyddwch oddieithr bod dyledswyddau eich sefyllfa yn cael eu cwblhau yn ddyledus. ******* Wrth fy anwyl Mary, mewn ateb i'r hyn a ysgrifenodd yn nghylch sefyllfa ei meddwl mewn perthynas i bethau crefyddol, dywedaf, mae teimlad fy anwylyd yn arwydd o fywyd. Nid ydyw y marw yn teimlo dim. Mae'r teimladau mwyaf poenus yn well na chaledwch calon. Y peth mwyaf anobeithiol mewn perthynas i'r corph yw pan y byddo dyn a'i deimlad wedi ei ddiarbodi. Mae'n well clywed ei riddfanau a’i ocheneidiau, na chael ei fod yn glaf, ac eto heb wybod; felly, fy anwyl blentyn, yr wyf wedi dychwelyd diolch i Dduw ar eich rhan er pan ddarllenais eich llythyr. Bugail yw ein Harglwydd a'n Meistr anwyl ni, ac un o'r swyddau grasol y mae yn eu cyflawni, yw dwyn adref y darfedig. Ymddengys eich bod chwithau yn bresennol yn teimlo fel un darfedig, ond yr wyf yn hyderu y bydd iddo ef yn rasol eich dwyn yn ol drachefn, ac adferyd eich henaid. Yn awr, os yw cydwybod wedi ei deffro i ryw fesur, gofelwch wrando arni, oblegid llais Duw yw llais cydwybod; ac os na bydd i ni sylwi ar rybuddion cydwybod, bydd ef tan yr angenrheidrwydd o ddefnyddio moddion eraill, a'r rhai hyny efallai heb fod o'r natur dirionaf. Ond yr wyf yn gobeithio, fy anwyl blentyn, y galluogir chwi i ateb fel y plentyn Samuel, 'Llefara, Arglwydd, canys y mae dy law-forwyn yn clywed.' Yr wyf yn hyderu y dysgir chwi eich dau i wybod dirgelion dichellion Satan. Y mae yn awr efallai yn myned oddiamgylch i'ch temtio, trwy ddangos i chwi olud y byd a'i ogoniant, gan ddywedyd, Hyn oll a roddaf i chwi, os syrthiwch i lawr a'm haddoli.' Maes o law, efe a ddywed wrthych y gellwch esgeuluso pethau y byd hwn, a rhoddi eich hunain i fynu i grefydd, i'r dyben o ddwyn gwaradwydd ar achos Crist trwy eich hesgeulusdod; ond dysg gras Duw chwi i roddi eiddo Cæsar i Cæsar, ac eiddo Duw i Dduw; fe'ch dysg i roddi pob peth yn ei le priodol ei hun, i adael y byd i gael ei le,-os nid y penaf, eto gadewch iddo gael ei le priodol,―ond gofelwch am i grefydd fod yn mlaenaf ar bob achlysur, canys chwi a adwaenoch neb a ddywedodd, Fy anrhydeddwyr a anrhydeddaf, a'm dirmygwyr a ddirmygaf.' Yr ydych yn gofyn am ran yn ein gweddiau, fy anwyl ferch, a chwi a gewch hyny ddydd a nos, ond yr wyf yn gobeithio na bydd i chwi byth attal gweddi ger bron Duw eich hun; gwybydded eich hystafell am eich hymdrechiadau gyda Duw.

Wyf, fy anwyl blant,
Eich tad,
EBENEZER RICHARD.



Tregaron, Chwefror 21, 1837

FY ANWYL NED,
Derbyniasom yr eiddoch a ddyddiwyd y 9fed, gyda llawer o hyfrydwch; yn y rhan flaenaf o ba un y dangoswch bryder canmoladwy mewn perthynas i iechyd eich rhieni. Diolch i Dduw, y gallwn ddweud am eich hanwyl fam,<ref>Cyfeirio y mae yma at ddamwain a ddygwyddodd i Mrs. Richard ychydig fisoedd cyn hyn, sef tori ei braich.
ei bod cystal ag erioed. Mewn perthynas i mi fy hun, er fy mod yn teimlo llawer iawn o gysgadrwydd ac iselder, eto yr wyf yn gallu dal i fynu yn rhyfeddol. Y mae eich cynnyg caredig i anfon ychydig draethodau (pamphlets) yn foddlonol iawn i mi. Nid rhaid i chwi ond cofio'r ddiareb, I'r newynog pob peth chwerw sydd felus.' Nid oes dim ond newyn i gael yn Tregaron am lyfrau. Byddai y briwsion oddiar fyrddau Llundain yn wledd yma. Dymunwn weled y Penny Pulpit,' os bydd yn bwysau da, tebyg i'r hyn sydd yn dyfod o Dŷ-pwys-y-brenin.<ref>Cyfeirio y mae yma at ddamwain a ddygwyddodd i Mrs. Richard ychydig fisoedd cyn hyn, sef tori ei braich.
Yr wyf yn gobeithio, fy anwyl blant, eich bod yn medru gwahaniaethu rhwng yr ûs a'r gwenith, oblegid beth yw yr ûs wrth y gwenith, medd yr Arglwydd. Yr ydwyf wedi methu yn hollol y flwyddyn hon a chael fy nghod-lyfr (pocket-book) bychan blynyddol, er fy mod yn canfod ei fod wedi ei gyhoeddi. Nid wyf wedi bod heb un o honynt yn gyson bob blwyddyn am ddeg-ar-hugain o flynyddau, ac y maent yn cynnwys cronicl ffyddlon o'm hymdrechiadau eiddil, a'm symudiadau araf i. Trwy y rhai hyn y gellwch olrhain holl deithiau a throelliadau fy mhererindod yn yr anialwch, wedi i mi gael fy ngosod i orwedd gyda'm tadau. Os gellwch gael unrhyw gyfleusdra i anfon i mi yn llogell rhyw gyfaill, naill ai'r Christian Lady's Diary, neu'r Evangelical Museum, byddai yn foddlonrwydd nid bychan.

Y mae eich bwriad i sefydlu y Gymdeithas Gristionogol Gymreig.[20] yn ddyfais ragorol, ac yn debyg o fod yn foddion i achub eneidiau. Yr wyf yn gweddio ar Dduw am iddi lwyddo. Yr oeddwn mewn gobaith i weled rhyw hanes o'r cyfarfod cyhoeddus, lle yr oeddych yn dysgwyl cynifer o wŷr enwog i fod yn bresennol i sefydlu eich cymdeithas, yn un o'r Patriots' diweddaf.

Yr wyf yn gobeithio na anghofiwch byth orsedd trugaredd a'ch Beibl. Byddwch wyliadwrus, byddwch ostyngedig, nid yn ddiog mewn diwydrwydd, yn wresog yn yr ysbryd, yn gwasanaethu yr Arglwydd, ac yn dyfal barhau mewn gweddi, yn enwedig dros eich tad penllwyd,

EBENEZER RICHARD.

Y mae yn deilwng o sylw, mae y llythyr hwn, yn mha un y cyfeiria mor neillduol at ddiwedd ei einioes, oedd yr olaf a dderbyniasom oddiwrtho byth; a'r llythyrau a ddanfonasom ninau mewn atebiad iddo, oedd y geiriau diweddaf yr edrychodd arnynt yn ei fywyd, oblegid darllen y rhai hyn oedd y peth olaf a wnaeth cyn myned i orphwys y noswaith o flaen ei farwolaeth.

Yr oedd iechyd Mr. Richard wedi bod yn llesghau yn raddol er dechreu y flwyddyn hon, ac y mae yn debyg nad oedd neb yn dychymygu ar y pryd y teimladau dyeithr yn erbyn pa rai yr oedd yn gorfod ymdrechu yn ystod y misoedd hyn. Mewn dydd-lyfr bychan a gadwai yr amser hwn, cawn yn wasgaredig yma a thraw amryw nodiadau byrion yn profi hyn yn amlwg, megis, Cefais lewyg trwm, Mewn dyfroedd dyfnion, dyfnion iawn, Eiddil a methedig i'r eithaf, O am nerth! Ac fel prawf ychwanegol o'r un peth, gellir crybwyll yr amgylchiad canlynol:—Yn Nghyfarfod Misol y Sir, y diweddaf yn mha un y bu yn bresennol, yr hwn a gynnaliwyd yn Lledrod, ar ol gorphen yr odfaon cyhoeddus collodd y cyfeillion olwg arno; ond wedi hir chwilio, canfyddodd ei gydymaith ffyddlon Edward Mason ef, yn eistedd wrtho ei hun yn y capel, o tan y pulpid; a phan amlygodd Mason ei syndod ar yr achlysur, atebai yntau, Yr wyf yn methu dyoddef y swn, mae yn myned trwy fy mhen yn lân.

Y mae yn amlwg fod rhyw rag-dyb gadarn wedi ymaflyd yn ei feddwl er ys misoedd, fod ei oes yn agosau at ei therfyn. Pan ydoedd yn Llundain, ychydig ddyddiau cyn ei ymadawiad, dywedai mewn cyfeiriad atom ni, Fy mechgyn bach i, ni chaf fi byth eu gweled mwy; nid oes gen' i ddim i'w wneud ond eu rhoddi yn llaw yr Arglwydd. A'r haf canlynol, pan ydoedd yn ei gyflawn iechyd yn Nghymanfa'r Bala, wrth gyfarch ei frodyr yn un o'u cyfarfodydd neillduol, gan eu hannog i ymweled â'r Deheudir erbyn Cymanfa Twrgwyn, tystiodd ei grediniaeth gref ei fod yn eu hannerch am y tro olaf byth yn y Bala. Nid oddiar rhyw ofergoeledd gwag, ebe efe, yr wyf yn dweud felly. Hon yw y flwyddyn yr wyf yn cyrhaedd yr oed yn mha un y bu fy mrodyr farw,[21] ac y mae genyf ryw dystiolaeth gref i mi fy hun mai hon yw'r olaf i minau hefyd. Ac wrth bregethu yn Tregaron ar ddydd Calan 1837, dewisodd fel ei destun y geiriau canlynol yn Jeremiah, xxviii. 16. O fewn y flwyddyn hon y byddi farw; ac yn ystod ei bregeth, sylwodd ei fod yn credu fod cyfaddasrwydd pennodol yn y geiriau hyn at ei achos ef ei hun. Yr oedd yn eithaf eglur i bawb fod ei ysbryd yn addfedu yn gyflym mewn cymhwysder i'r breswylfa nefol. Nid oedd un amser trwy ei fywyd yn talu llawer o sylw at bethau amgylchiadol y bywyd hwn, oblegid ystyriai ei hun fel peth cyssegredig i waith yr Arglwydd; ond y dyddiau diweddaf hyn yr oedd bron yn anmhosibl arwain ei feddwl i ystyried hyd yn nod pethau gwir angenrheidiol. Yr oedd agwedd gyffredinol crefydd yn Nghymru yn gwasgu yn drwm ar ei feddwl; ac un arwydd galarus o adfeiliad byddai arferol o sylwi, oedd, fod cariad wedi oeri yn rhyfeddol -nad oedd dim o'r parch a'r hyfrydwch a ddatguddiai yr hen bobl wrth weled eu gweinidogion, i'w `ganfod yn bresennol, ond yn hytrach eu bod yn ystyried y derbyniad digon canolig a roddir iddynt, yn faich rhy drwm i'w ddwyn. Byddai yn arfer ymofyn gyda difrifwch mawr, i'r amrywiol weinidogion a'r cyfeillion crefyddol a gyfarfyddai gartref neu oddicartref, os oeddynt yn canfod rhyw arwyddion o adfywiad yn mhlith yr eglwysi yn un rhan o Gymru. Yr hyn oedd yn gofidio ei feddwl drymaf wrth weled amser ei ddatodiad yn nesau, oedd yr olwg a ganfyddai ar gyflwr moesol y byd; a byddai arferol o ddweud gydag ochenaid drom wrth ei wraig, A raid i fi adael y byd, Mary fach, heb weled unrhyw arwydd o wellhad arno?

Yn nechreu mis Mawrth (1837,) pennodwyd ef a Mr. John Morgan, Aber-y-ffrwd, i ymweled a'r eglwysi mewn dosparth o Sir Aberteifi, yn ol cynllun a fabwysiadwyd gan y Cyfarfod Misol. Cychwynodd oddicartref i Gyfarfod Misol Lledrod, yr hwn a gynnaliwyd ar y 1af a'r 2il o fis Mawrth; a thra yno, canfyddodd amryw o'r cyfeillion fod ei lesgedd wedi cynnyddu yn fawr; ac fel prawf ychwanegol o'i deimladau ef ei hun o'r un peth, crybwyllodd ei benderfyniad diysgog i roddi i fynu ei swydd fel Ysgrifenydd. Oddiyno aeth ef a'i gyfaill yn mlaen i'r manau appwyntiedig, hyd oni ddaethant y dydd Llun canlynol i Dwrgwyn, ac yno pregethodd am y tro olaf byth yn yr un pulpid lle y terfynodd ei gyfaill enwog y Parch. Ebenezer Morris ei weinidogaeth yntau. Ei destun oedd Act. xxiv. 16.

Cysgodd y noswaith hono yn nhŷ ei fab-yn-nghyfraith, Mr. Samuel Morris, lle yr achwynai ei fod yn teimlo llesgedd anarferol. Aeth oddiyno dranoeth i Salem, lle y bu yn cynnal cymdeithas neillduol, gyda golwg ar ddyben ei daith. Dylasai, yn ol ei gyhoeddiad, fyned yn mlaen dydd Mercher i Blaen-annerch, at yr un gorchwyl, ond yr oedd ei natur wedi suddo i'r fath raddau, fel y barnodd y byddai yn fwy doeth iddo ddychwelyd adref, ac yn ol y penderfyniad hwn ymadawodd ef a Mr. Morgan, oddeutu deg o'r gloch boreu dydd Mercher, o Blaenwern, cartref ei ferch, a chyrhaeddasant Dregaron oddeutu saith o'r gloch yn y prydnawn. Er fod y daith hon yn agos i ddeg-ar-hugain o filldiroedd, daliodd yn siriol heb gysgu, ac ymddiddanai yr holl ffordd â Mr. Morgan. Ond rhywle ar y daith sylwodd, Y mae fy oes i yn mron terfynu. O nac ydyw, Mr. Richard bach, meddai Mr. M., ni a'ch cawn am flynyddau eto; nid wyf fi yn gweled pen neb yn dyfod i'r golwg i gymeryd eich lle.

Ar ol ei fynediad i'w dŷ, gofynodd Mrs. R. iddo os ydoedd yn sâl. Nac wyf, ebe yntau, ond fy mod yn teimlo yn llesg, a'r cwsg yn fy mlino, a thrwy hyny yn barnu bod yn well i fi ddychwelyd adref. Ar ol iddo gymeryd ychydig luniaeth, fel yr ydoedd ei ferch ieuangaf yn sefyll gerllaw iddo, dywedodd, Yr wyt yn ei orchfygu ef yn dragywydd, fel yr elo ymaith; a chan newidio ei wyneb ef, yr wyt yn ei ddanfon i'w ffordd.' Nid yw hyny ddim llawer o gamp, goelia' i.

Ar ol darllen dau lythyr oddiwrthym ni o Lundain, aeth i'w wely; a phan aeth ein mam i'r ystafell ar ei ol, yn mhen rhai oriau, yr oedd yn ymddangos yn cysgu yn esmwyth. Yn nghylch chwech o'r gloch boreu dranoeth, trwy lawer o lafur, llwyddodd ei wraig a'i ferch i'w ddeffro, i'r dyben o roddi iddo ryw foddion meddygol ag yr oedd ei fab hynaf wedi ei annog yn daer i'w cymeryd yn y llythyr a ddarllenasai y nos o'r blaen; ac wedi eu cymeryd, dywedodd wrth Mrs. Richard, Rho lymaid o ddw'r i fi i lyncu ar eu hol. Gofynodd hithau os mynai ychydig yn ychwaneg, atebodd yntau, Myna'; a byth mwy ni chlywyd un sill o'i enau anwyl. Pan gyfododd ein mam, gadawodd ef mewn cwsg trwm; ac wedi i'r teulu orphen eu boreufwyd, aeth ei ferch i'r ystafell i edrych os ydoedd wedi deffro, ond gwelodd yn fuan wrth sylwi ar ei wyneb fod rhyw gyfnewidiad mawr wedi cymeryd lle, oblegid yr oedd gwedd ddyeithr arno. Galwodd ar ei mam i ddyfod i fynu yn ddioed, a thra yr oeddynt yn sefyll oddiamgylch ei wely, yn mhen oddeutu chwarter awr, darfyddodd anadlu.

He set as sets the morning star, which goes
Not down behind the darkened west, nor hides
Obscured among the tempests of the sky,
But melts away into the light of heaven.'


Dydd Mawrth canlynol (yn ol ei ddymuniad ei hun) cymerwyd ei gorph yn gyntaf i'r capel, lle y traddodwyd dwy bregeth ar yr achlysur gan y Parchedigion John Jones, Llanbedr, ac Evan Evans, Aber-y- ffrwd, oddiwrth 2 Sam. iii. 38, ac 2 Tim. i. 10; ac yna gosodwyd ef i orwedd yn mynwent Tregaron.


Y mae'n debyg y bydd rhai o'n darllenwyr yn dysgwyl ar ddiwedd yr hanes hon ryw ymgais i osod ger eu bron ychydig ddifyniad yn mhellach o'r priodoliaethau mwyaf nodedig yn nghymeriad Mr. Richard. Hwyrach y barna rhai fod yn anhawdd i ni gyflawni y gorchwyl hwn gyda'r didueddgarwch a'r cywirdeb gofynol, a diau y bydd eu barn i ryw raddau yn uniawn. Y mae cariad yn edrych ar ei wrthddrych trwy gyfrwng tebyg i wydr lliwiog, yr hwn a dafl ei wawr ysblenydd ei hun ar ba beth bynag a ganfyddir trwyddo. Ond eto y mae mantais fawr i gyrhaedd gwybodaeth fanol a gwirioneddol o gymeriad mwyaf tufewnol unrhyw berson gan y rhai sydd wedi bod yn byw mewn cyfrinach agos a mynwesol âg ef, ac wedi cael cyfle i sylwi arno yn yr oriau hyny pan y mae dynion yn arfer ymollwng eu hunain i'w hagweddau a'u tymherau mwyaf naturiol, yn mynwes eu teuluoedd eu hun. Ond os tybia neb ein bod wedi tynu darlun rhy deg a gwenieithus, yr ydym yn dra dilys yn ein cred y derbyniwn faddeuant parod oddiwrth bawb ag oeddynt yn adnabyddus o'r gofal, y tynerwch, a'r cariad difesur a didrai a ddangosai Mr. R. bob amser tuag at ei blant.

Y peth mwyaf nodadwy mewn perthynas i alluoedd meddyliol (intellectual faculties) Mr. Richard, oedd amrywiaeth rhyfeddol ei ddoniau. Nid mynych y gwelwyd dyn mor gyflawn, ac yn meddu y fath gymhwysderau i bob rhan o'r gwaith gweinidogaethol. Cymaint oedd cyflymdra a pharodrwydd ei feddwl, fel yr ydoedd yn gallu ymgymeryd â phob gorchwyl a ddeuai o'i flaen, gyda medrusrwydd ac effeithioldeb na ragorid arnynt yn fynych. Am ei gynneddfau fel pregethwr, nid rhaid i ni helaethu, oblegid y mae miloedd yn fyw yn mhob rhan o Gymru a allant dystio i effeithiau grymus ei weinidogaeth, yn addysgu'r deall, yn cynhyrfu'r gydwybod, ac yn enwedig yn agor ffynnonau serchiadol y galon, yn troi'r graig yn llyn dwfr, a'r gallestr yn ffynnon dyfroedd. Yn y cymdeithasau neillduol, pa un ai yn yr eglwysi ai yn mhlith ei frodyr, tywynai ei alluoedd gyda thanbeidrwydd nodedig, oblegid yr oedd i raddau hynod wedi ei gyfoethogi mewn pob ymadrodd, ac yn meddiannu yr hyn a elwir gan y Saeson, the faculty of extempore speaking, neu'r gallu i lefaru yn ddi-ragfyfyr, yn mron uwchlaw neb a adnabuom erioed. Cymaint oedd bywiogrwydd a ffrwythlondeb ei feddwl, fel y synai ei gyfeillion yn fynych, trwy draddodi areithiau hir a hyawdl ar ba destun bynag a gyfodai yn ddamweiniol yn y gwahanol gyfarfodydd.[22] Oddiar y gallu hwn i lefaru yn ddi-ragfyfyr, yr oedd hefyd ei ddawn hynod ac anarferol mewn gweddi yn tarddu. Mor rymus a diammheuol yn fynych ydoedd y dylanwadau a ddiscynent ar feddyliau dynion pan y byddai yn ymdrechu gyda Duw mewn gweddi, nes y byddai y bobl annuwiolaf yn y lle yn gorfod gwaeddi wrth fyned ymaith,

Yn wir, yr oedd Duw yn y lle hwn.

Mewn medrusrwydd at amrywiol achosion yr Ysgolion Sabbothol, ac yn enwedig, fel holydd cyhoeddus, mae'n ddilys yr addef pawb a'i hadwaenai na bu ei ail yn Nghymru,[23] ac i'w glywed ar un o'r achlysuron hyn oedd un o'r pethau mwyaf effeithiol ag y gallasai y meddwl dynol fod tano; a mynych pan y caffai rwyddineb yn y gorchwyl hwn, ymddangosai effeithiau treiddgar ac anorchfygol tu hwnt i ddychymyg. Ei galon ef a gyffroai, a chalon y bobl, megis y cynhyrfa prenau y coed o flaen y gwynt.

Ei ddeheurwydd fel trefnwr holl achosion amgylchiadol y corph, sydd deilwng o sylw pendant. Yr oedd cariad at reoleidd-dra yn rhan o'i natur. Yr oedd hyn yn ymddangos yn yr oll a wnai. Teimlai yn anned- wydd oddieithr fod pob peth yn ei le, ac yn ei amser priodol; ac yn ol y tueddiad hwn, pan y galwyd ef i'r swydd o Ysgrifenydd i'r Gymdeithasiad (Association) yn y Deheudir, dygodd yn fuan yr hyn oedd o'r blaen yn gymmysgedd annhrefnus, i fod yn gyfundraeth weddaidd a chyson; ac yr oedd yr holl beirianwaith yn gweithredu gyda'r tawelwch a'r rhwyddineb per- ffeithiaf, oherwydd y gofal a'r medrusrwydd diball oedd yn dirgel-lywyddu ei holl ranau a'i ysgogiadau tufewnol.[24] Achosai y swydd hon yn nghyd a'r gwahanol swyddau eraill a gyflawnai, lafur a phryder dirfawr a pharaus, ac nid ychydig o draul.

Yn y cyfarfodydd neillduol yr oedd ei bresennoldeb a'i gynnorthwy o werth dirfawr i'r gwahanol eglwysi y byddai arferol o ymweled â hwynt. Yr oedd y wybodaeth fanol a threiddgar oedd ganddo o'r natur ddynol, yn ei alluogi i ddeall cymeriadau dynion gyda'r fath gyflymdra, fel y canfyddai yn ddioed yr hyn oedd gymhwysiadol at y gwahanol amgylchiadau a osodid ger ei fron;` a lluosog yw yr hanesion digrif a adroddir gan ei gyfeillion mewn perthynas i'r dull cywrain yn mha un y byddai yn dyrysu, ac yn gorchfygu cecraeth rhyw wrthwynebwyr cyndyn. Os byddai rhyw ddyryswch neu anhawsdra yn mherthynas i weinyddiad y ddyscyblaeth neu drefniadau allanol yr achos yn cyfodi mewn unrhyw fan, cyfrifai ei frodyr mae eu doethineb penaf oedd ei gyrchu ef yno yn ddioed.[25] Nid mynych y methai efe trwy yr undeb medrus o wroldeb a llarieidd-dra a ymarferai i ddwyn yr achos i benderfyniad boddlonol i bawb. Yr oedd yn mhell o geisio traarglwyddiaethu ar etifeddiaeth Duw, ond eto yr oedd efe yn llefaru megis un ag awdurdod ganddo.[26] Yr oedd efe bob amser yn caru ymddwyn at ddynion fel creaduriaid rhesymol, ac yr ydym yn cofio yn dda yr ymadrodd a ddefnyddiodd un tro pan fynegwyd iddo am ymddygiad traws a gormesol rhyw wr swyddol yn un o siroedd y Deheudir, O——'——," (gan grybwyll enw y person ddwy waith drosodd,) nid dyna fel y mae trin dynion. Y mae arnaf ofn os â yn mlaen fel hyn, y gyr ef y swch yn swmbwl. Yn hyn yma y mae'r Wesleyaid yn Lloegr wedi ei cholli, bwlian dynion,―y gweinidogion yn myned yn ormod o feistri. Ni chymer dynion ddim o'u trin fel hyny y dyddiau hyn.'

Wrth ymdrin â phrofiadau ysbrydol, dangosai dynerwch a deheurwydd mawr; fel meddyg medrus, cymhwysai y feddyginiaeth at amgylchiadau y claf. Yr oedd ei dduwioldeb personol ef ei hun[27] mor nodedig, fel yr oedd yn berffaith adnabyddus o holl ddirgelion y bywyd ysbrydol, a'r « Arglwydd Dduw a roddes iddo dafod y dysgedig, i fedru mewn pryd lefaru gair wrth y diffygiol.

Nid oedd un amser yn amcanu at gael yr enw o fod yn dduwinydd mawr, trwy gyfansoddi rhyw bregethau dyfnion a gorchestol iawn, y rhai a ofynent lafur mawr i'w hamgyffred. Y mae yn amlwg nad oedd hyn yn cyfodi oddiar ddiffyg gallu at y cyfryw orchwyl, oblegid byddai weithiau (ac y mae yn ddiau genym fod ar gof gan rai o'n darllenwyr y cyfryw achlysuron) yn dwyn allan gyfansoddiadau a brofent yn amlwg y medrai ymaflyd â braich cawr yn y pynciau mwyaf dyrys, a thrin mewn dull meistrolaidd ac eglur, ie, dyfnion bethau Duw hefyd. Y mae yn wir nad oedd cyfansoddiad naturiol ei feddwl yn ei ogwyddo i ymdwrio llawer i mewn i ddirgelion athrawiaethol crefydd, oblegid tueddiad greddfol ei feddwl ef oedd dianc o blith yr anhawsderau hyn, trwy gymeryd iddo adenydd dychymyg a serch ysbrydol, ac ehedeg ymaith megis eryr tua'r wybr, lle yr hoffai ymddigrifo yn mhelederau Haul y Cyfiawnder. Ond y mae yn ddiammau ei fod yn ymochel a'r dirgeledigaethau hyn oddiar y grediniaeth wreiddiol oedd yn ei feddwl, nad oedd y cyfryw weinidogaeth yn debyg o fod yn fuddiol i'r gwrandawyr, oherwydd nad oedd gymhwysiadol at raddau gwybodaeth a grym cynneddfau y cyffredinolrwydd o ddynion. Nid mynych y bu un erioed yn fwy parod i anghofio ei glod ei hun, yn ei awyddfryd i gadw mewn golwg ddyben mawr pregethu; a diau y gallasai, gyda golwg ar y pwnc hwn, fabwysiadu geiriau'r Apostol, Yn yr eglwys gwell genyf lefaru pum gair trwy fy neall, fel y dysgwyf eraill hefyd, na myrddiwn o eiriau mewn tafod dyeithr;[28] ac fel canlyniad i hyn gellir sylwi, i'w weinidogaeth fod yn llwyddiannus anarferol; ac ychydig iawn o'i gydoeswyr a fuọnt yn offerynol i ddeffroi cynifer o'u gwrandawyr i ystyried eu diwedd.[29] Ond y mae yn ddiau mae yr hyn oedd yn hynodi cyfansoddiad meddyliol Mr. R. yn fwy na dim, ydoedd nerth a bywiogrwydd ei ddychymyg (imagination.) Oddiar ei feddiant o'r gynneddf hon i'r fath raddau, tarddai y deheurwydd hynod a feddai i gyfleu ei feddwl trwy gyfrwng cyffelybiaeth a dammeg. Ymddangosai ei ddychymyg fel rhyw ystordŷ cynnwysfawr, i ba un yr ydoedd wedi casglu holl gyfoeth y greedigaeth allanol, o'r nefoedd uchod, a'r ddaear isod, a'r dwfr tan y ddaear, i'r dyben o'u defnyddio fel cyfryngau i egluro dirgelion teyrnas Dduw. Ac yn ganlynol, wrth areithio ymddangosai fod y cydmariaethau (illustrations) mwyaf cyfaddas a chyffrous at ei law bob amser, yn barod i'w defnyddio, yn debyg i ddyn o berchen tŷ, yr hwn sydd yn dwyn allan o'i drysor bethau newydd a hen. Y mae yn ddiau genym fod llawer o'n darllenwyr yn cofio yn dda y dull medrus ac effeithiol yn mha un y byddai yn arwain ei wrandawyr, un i'w faes ac arall i'w fasnach, i'r dyben o eglurhau iddynt, trwy y gwrthddrychau mwyaf cynefin i'w meddyliau, y (pethau a berthynent i'w heddwch. Trwy y gallu hwn, yn nghyd a dwysder angerddol ei deimladau, yr ydoedd yn meddu goruchafiaeth berffaith ar serchiadau ei wrandawyr.[30] Y mae yn ddiammau na bu un areithiwr galluog ac effeithiol erioed heb fod ei hun yn ddyn o nwydau bywiog a thanllyd, ac yn medru teimlo yn ddwfn yn gyntaf yr hyn a draddodai i eraill. Mor wir ydyw geiriau y bardd Rhufeinig, fod yn rhaid i'r sawl a fynont gyffroi eraill, i deimlo yn gyntaf y cyffroad eu hunain; ac nid mynych y gwelwyd dangosiad mwy eglur o eirwiredd y rheol a nodir ganddo, nag a eglurid yn araethyddiaeth Mr. R.[31]

Mewn perthynas i'w gymdeithas gyfrinachol, nid llawer a gawsant fantais i ffurfio barn gywir am dano, oherwydd yr oedd hyn o neillduolrwydd yn perthyn i'w dymher naturiol, ei fod yn hynod o ochelgar rhag ymddiried Hawer cyn adnabod cymeriadau y rhai yr ymddiddanai â hwy. Y mae'n debyg fod yr adnabyddiaeth oedd ganddo o ddyn, wedi dysgu iddo nas gallasai yn ddiogel wneuthur cyfaill mynwesol o bob cydymaith achlysurol a gyfarfyddai ag ef; ac yn enwedig y gweddai i ddyn cyhoeddus fod yn ofalus rhag agor ei feddwl yn rhy barod i bob dyhiryn eofn ag y byddai ysfa arno i ymlusgo i'w gydnabyddiaeth, i̇'r dyben o wneud adroddiad ymffrostgar drachefn o'i farnau a'i ddywediadau. Achosai hyn weithiau ymddangosiad o afrwydd-der ac anhynawsedd yn ei ymddygiad at ddyeithriaid, yn enwedig os byddent fel yn honni hawl i ryw beth mwy na'r moesgarwch cyffredinol a ymarferir rhwng dyeithriaid. Ond pan y byddai yn mhlith cyfeillion ag yr oedd ganddo gyflawn ymddiried ynddynt, ymollyngai i ymddygiadau rhydd a syml fel plentyn. Yr oedd ynddo lawer o'r digrifwch chwareugar hyny ag a ddangosir yn gyffredin gan y dynion o'r meddyliau cryfaf, pan y byddont yn ymollwng oddiwrth eu gorchwylion difrifol; ac ar rai achlysuron yr oedd hyn yn dyfod i'r golwg mewn modd hynod ddifyrus pan yn mhlith ei deulu ei hun. Ymddigrifai yn fawr yn nedwyddwch a llawenydd ei blant, a chyfranogai i'r eithaf yn mhob cellwair chwareugar a diniweid a gymerai le yn eu plith, gan ofalu bob amser i gefnogi y gwanaf a'r ieuangaf, ac, o byddai angenrheidrwydd, i'w gynnorthwyo hefyd i ennill y fuddugoliaeth.

Dylem nodi yn bendant y graddau uchel ydoedd wedi gyrhaedd mewn sancteiddrwydd personol. Yr oedd tymher gyffredin ei feddwl yn hynod o ysbrydol. Yr oedd yn amlwg fod myfyrdodau sanctaidd yn cartrefu yn ei feddwl, ac nid megis pererinion yn y tir, neu fel ymdeithydd, yn troi i letya dros noswaith; a mynych y clywid saeth-ymadroddion sobr yn murmur ar ei wefusau, fel pe buasai yn dal cynnadledd ddirgel â'r preswylwyr nefolaidd hyn oedd yn trigo yn ei fynwes. Yn wir y mae lle i gasglu na threuliai nemawr funudau (yn enwedig yn y rhanau olaf o'i ocs) na byddai ei ysbryd yn crwydro at y pethau ni welir, oblegid yr oedd ei ewyllys yn nghyfraith yr Arglwydd, ac yn myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nos. Ond nid oedd o'r un farn a'r dynion da hyny sydd yn ei theimlo yn ddyledswydd arnynt i anffurfio eu hwynebau, a chwyn-leisio â'u gyddfau, i'r dyben o brofi eu hysbrydolrwydd tumewnol; eithr yr oedd yn cyfrif fod duwioldeb gyda boddlonrwydd, a sirioldeb hefyd, yn elw mawr.

Yr oedd yn hynod wyliadwrus drwy ei holl fywyd am ddangos grym ei egwyddorion trwy fuchedd sanctaidd a dichlynaidd; ac yn ei ymarweddiad, cymaint oedd ei ofal i gadw ei hun yn ddifrycheulyd oddiwrth y byd, fel y byddai ei fanylrwydd a'i eiddigedd drosto ei hun ar rai achlysuron yn ymddangos yn hollol annealladwy i blant y byd hwn, y rhai sydd yn ddoeth yn eu cenhedlaeth; ac yr oedd yn anmhosibl iddo ymadaw a'r byd â geiriau mwy cymhwys ar ei wefusau, na'r rhai a ddefnyddiodd fel ei destun diweddaf, Ac yn hyn yr ydwyf fi yn ymarfer fy hun, i gael cydwybod ddirwystr tuag at Dduw a dynion yn wastadol.

Dylid sylwi mewn modd neillduol ar amrywiaeth a helaethrwydd ei lafur. Dros lawer o'i oes byddai yn teithio amryw filoedd o filldiroedd bob blwyddyn, mewn cysylltiad â gwahanol achosion crefyddol. Byddai yn gyffredin, tra pharhaodd yn ei gyflawn nerth a'i iechyd, yn arfer pregethu dair gwaith yn y dydd am amryw wythnosau yn ol-yn-ol, heblaw y gwahanol ddyledswyddau cysylltiedg â'r weinidogaeth, megis cynnal cyfarfodydd eglwysig, gweinyddu'r ordinhadau o fedydd a swper yr Arglwydd, holi yr ysgolion yn gyhoeddus, &c.

Pan gartref byddai ei ddwylaw yn llawn, oblegid, heblaw ei fod yn cael ei alw yn barhaus i weinyddu i'r eglwys gartrefol a'r eglwysi cymmydogaethol, yr oedd y gorchwylion oedd yn treiglo arno fel Ysgrifenydd y Gymdeithasiad, Ysgrifenydd Cyfarfod Misol y Sir, ac Ysgrifenydd y Sunday School Union dros y Deheudir, yn nghyd a swyddau eraill, a gynnaliai yn difrodi ei amser, ac yn treulio ei nerth, i raddau na ddichon neb ddychymyg ond y rhai sydd yn gynefin â'r cyfryw ymrwymiadau. Byddai llythyrau o bob math, ac oddiwrth bob math o bersonau, yn cael eu pentyru arno. Yr oedd yn ymddangos fel pe buasai pawb yn tybied fod ganddynt hawl i ollwng eu saethau papur ato ef fel rhyw nod cyhoeddus. Os byddai rhyw un wedi derbyn, neu yn dychymygu ei fod wedi derbyn, unrhyw ormes yn ngweinyddiad y ddyscyblaeth; os byddai rhyw fasnachwr wedi dyoddef anghyfiawnder oddiwrth un o aelodau y Trefnyddion Calfinaidd; os byddai gan ryw un feirniadaeth ddysgedig i'w wneuthur ar gymeriad personol gweinidog, neu gyfansoddiad cyffredinol y corph; os byddai gan neb gweryl yn erbyn neb, nid oedd dim i'w wneuthur ond anfon yn uniongyrchol i Dregaron, heb feddwl dim fod yr hyn oedd yn cyfoethogi trysordy'r brenin yn ardreth drom ar wrthddrych eu gohebiaeth. Rhoddir cyn diwedd y gwaith hwn daflen gywir o lafur a theithiau Mr. Richard, wedi ei chasglu o'r cof-lyfrau a gadwai efe trwy'r amrywiol flynyddau o'i weinidogaeth. Gallasem ychwanegu un dosparth arall yn y daflen, ond efallai ei fod yn ddoethach i ni yn bresennol ei gadw yn ol. Ond cymerwn yr hyfdra i sylwi na fuasai'r dosparth hwnw o honi yn un anrhydedd i eglwysi y Trefnyddion Calfinaidd. Yr ydym yn cwbl gredu nad oedd hyn yn cyfodi oddiar ddiffyg parch tuag ato, neu o herwydd nad oeddynt yn gwerthfawrogi ei weinidogaeth, ond oddiar hen drefn ac arfer a ddylasent gael eu cyfnewid yn mhell cyn hyn. Nid oes dim yn fwy sicr, na bydd ond ofer i'r Trefnyddion Calfinaidd rhagllaw i ddysgwyl y bydd i ddynion o ddoniau a dysgeidiaeth aros yn eu plith, oni chanfyddant rwymedigaeth y ddeddf a sefydlwyd gan Ben mawr yr eglwys mewn perthynas i weinidogion y gair, Oblegid felly yr ordeiniodd yr Arglwydd, i'r rhai sydd yn pregethu yr efengyl, fyw wrth yr efengyl.

Efallai na chyfrifir ein gwaith yn gyflawn heb i ni nodi rhyw gymaint yn mherthynas i'w farnau fel duwinydd. Ni byddai hoff o gynniwair yn fynych tuag at yr ymylau peryglus hyny ag ydynt yn ffinio y wybodaeth eglur a roddwyd i ddynion yn nghylch dirgelion teyrnas nefoedd, oblegid yr oedd wedi canfod cymaint o ffolineb dynion yn ymgiprysu â'u gilydd yn y tywyllwch, mewn perthynas i bynciau nad oedd na'r naill na'r llall yn deall dim yn eu cylch. Yr oedd yn dal yr athrawiaeth a elwir yn gyffredin Calfiniaeth, ond nid yn yr ystyr hyny ag sydd yn arwain i Antinomiaeth; a chan ei fod yn gwybod yr anhawsderau o ddyfod i benderfyniad cadarn a hyderus mewn perthynas i lawer o fanwl-bynciau cysylltiedig â phob cyfundraeth, yr oedd yn medru ymarfer hynawsedd tuag at rai nad oeddynt yn gallu cydweled âg ef ar bob pwnc. Mewn gair, nid oedd dim a fynai ef âg athrawiaeth anffaeledigrwydd.

Nid oedd yn caru ymyraeth ond ychydig âg achosion gwladol, ond yr oedd ei farn yn eithaf penderfynol o blaid rhyddid, yn yr ystyr helaethaf o'r gair. Yr oedd gormes o bob math yn ei gynhyrfu yn ddirfawr, ac nid oedd dim a hoffai yn fwy na gweled gorthrymwyr, neu bleidwyr y cyfryw, yn cael eu fflangellu gan hyawdledd digllon cyfiawnder. Fel engraifft o'i deimladau ar y pynciau hyn, gellwn grybwyll yma yr ymddiddan canlynol a glywsom rhyngddo ef a gwr arall, yn ystod ei ymweliad diweddaf yn Llundain. Ryw ddiwrnod, wrth fyned trwy Smithfield gyda'i wraig a'r gwr rhag-grybwylledig mewn cerbyd, sylwodd Mr. R. wrth ei wraig, Dyma'r fan, Mary fach, lle y merthyrwyd llawer o'r hen dduwiolion. Ie, ebe'r gwr oedd gydag ef, ond y mae yn amser braf arnom ni yn awr. Ydyw, ebe yntau, y mae yn well yn ddiau, ond y mae llawer o erledigaeth eto. Beth mae dynion yn feddwl wrth y Toleration Act? Dim ond ein tolerato ni y maent hwy eto. O ffei! ffei! goddef dynion i addoli Duw yn ol eu cydwybod.

TAFLEN, yn rhoddi dangosiad cywir o natur a helaethrwydd llafur Mr. Richard am fwy nac ugain o'r blynyddau diweddaf o'i fywyd.

1815
Pregethau . . . 343
Cyfranu'r Ordinhad. . . . 73
Bedyddiadau . . . 21
Cymdeithasiadau . . . 6
Cyfarfodydd Misol . . . 12
Cyfarfodydd Ysgolion Sabbothol . . .
Milldiroedd a deithiodd . . . 2,699
1816
Pregethau . . . 381
Cyfranu'r Ordinhad . . . 75
Bedyddiadau . . . 29
Cymdeithasiadau . . . 8
Cyfarfodydd Misol . . . 12
Cyfarfodydd Ysgolion Sabbothol . . . 5
Milldiroedd a deithiodd . . . 3,006
1817
Pregethau . . . 317
Cyfranu'r Ordinhad . . . 62
Bedyddiadau . . . 23
Cymdeithasiadau . . . 6
Cyfarfodydd Misol . . . 11
Cyfarfodydd Ysgolion Sabbothol . . . 1
Milldiroedd a deithiodd . . . 2,584
1818
Pregethau . . . 300
Cyfranu'r Ordinhad . . . 60
Bedyddiadau . . . 20
Cymdeithasiadau . . . 5
Cyfarfodydd Misol . . . 12
Cyfarfodydd Ysgolion Sabbothol . . . 1
Milldiroedd a deithiodd . . . 2,490
1819
Pregethau . . . 385
Cyfranu'r Ordinhad. . . . 69
Bedyddiadau . . . 9
Cymdeithasiadau . . . 10
Cyfarfodydd Misol . . . 13
Cyfarfodydd Ysgolion Sabbothol . . . 25
Milldiroedd a deithiodd . . . 3,128
Heblaw 256 gyda'i achosion ei hun.
1820
Pregethau . . . 322
Cyfranu'r Ordinhad . . . 69
Bedyddiadau . . . 26
Cymdeithasiadau . . . 8
Cyfarfodydd Misol . . . 11
Cyfarfodydd Ysgolion Sabbothol . . . 19
Milldiroedd a deithiodd . . . 2,914
1821
Pregethau . . . 360
Cyfranu'r Ordinhad . . . 69
Bedyddiadau . . . 58
Cymdeithasiadau . . . 10
Cyfarfodydd Misol . . . 13
Cyfarfodydd Ysgolion Sabbothol . . . 12
Milldiroedd a deithiodd . . . 2,855
1822
Pregethau . . . 311
Cyfranu'r Ordinhad. . . . 64
Bedyddiadau . . . 53
Cymdeithasiadau . . . 9
Cyfarfodydd Misol . . . 10
Cyfarfodydd Ysgolion Sabbothol . . . 20
Milldiroedd a deithiodd . . . 2,395
1823
Pregethau . . . 263
Cyfranu'r Ordinhad . . . 69
Bedyddiadau . . . 37
Cymdeithasiadau . . . 8
Cyfarfodydd Misol . . . 12
Cyfarfodydd Ysgolion Sabbothol . . . 11
Milldiroedd a deithiodd . . . 2,673
1824
Pregethau . . . 372
Cyfranu'r Ordinhada . . . 72
Bedyddiadau . . . 36
Cymdeithasiadau . . . 11
Cyfarfodydd Misol . . . 13
Cyfarfodydd Ysgolion Sabbothol . . . 19
Milldiroedd a deithiodd . . . 3,020
1825
Pregethau . . . 385
Cyfranu'r Ordinhad . . . 76
Bedyddiadau . . . 59
Cymdeithas adan . . . 9
Cyfarfodydd Misol . . . 13
Cyfarfodydd Ysgolion Sabbothol . . . 17
Milldiroedd a deithiodd.. . . . 3,087
1826
Pregethau . . . 389
Cyfranu'r Ordinhad . . . 79
Bedyddiadau. . . . 50
Cymdeithasiadau . . . 10
Cyfarfodydd Misol . . . 17
Cyfarfodydd Ysgolion Sabbothol . . . 17
Milldiroedd a deithiodd . . . 3,108
1827
Pregethau . . .
Cyfranu'r Ordinhad. . . .
Bedyddiadau . . .
Cymdeithasiadau . . .
Cyfarfodydd Misol . . .
Cyfarfodydd Ysgolion Sabbothol . . .
Milldiroedd a deithiodd . . . 2,915
1828
Pregethau . . . 384
Cyfranu'r Ordinhad . . . 83
Bedyddiadau . . . 53
Cymdeithasiadau . . . 10
Cyfarfodydd Misol . . . 16
Cyfarfodydd Ysgolion Sabbothol . . . 9
Milldiroedd a deithiodd . . . 3,289
1829
Pregethau . . . 342
Cyfranu'r Ordinhad. . . . 71
Bedyddiadau. . . . 68
Cymdeithasiadau . . . 6
Cyfarfodydd Misol . . . 13
Cyfarfodydd Ysgolion Sabbothol . . . 11
Milldiroedd a deithiodd . . . 2,750
1830
Pregethau . . . 321
Cyfranu'r Ordinhad. . . . 60
Bedyddiadau . . . 32
Cymdeithasiadau . . . 8
Cyfarfodydd Misol . . . 8
Cyfarfodydd Ysgolion Sabbothol . . . 8
Milldiroedd a deithiodd . . . 2,833
1831
Pregethau . . . 352
Cyfranu'r Ordinhad. . . . 59
Bedyddiadau . . . 54
Cymdeithasiadau . . . 9
Cyfarfodydd Misol . . . 11
Cyfarfodydd Ysgolion Sabbothol . . . 15
Milldiroedd a deithiodd . . . 2,484
1832
Pregethau . . . 297
Cyfranu'r Ordinhad . . . 59
Bedyddiadau . . . 38
Cymdeithasiadau . . . 8
Cyfarfodydd Misol . . . 12
Cyfarfodydd Ysgolion Sabbothol . . . 8
Milldiroedd a deithiodd . . . 2,359
1833
Pregethau . . . 298
Cyfranu'r Ordinhad . . . 48
Bedyddiadau . . . 42
Cymdeithasiadau . . . 8
Cyfarfodydd Misol . . . 8
Cyfarfodydd Ysgolion Sabbothol . . . 8
Milldiroedd a deithiodd . . . 2,266
1834
Pregethau . . . 321
Cyfranu'r Ordinhad. . . . 59
Bedyddiadau . . . 54
Cymdeithasiadau . . . 7
Cyfarfodydd Misol . . . 14
Cyfarfodydd Ysgolion Sabbothol . . . 8
Milldiroedd a deithiodd . . . 2,142
1835
Pregethau . . . 231
Cyfranu's Ordinhad. . . . 39
Bedyddiadau . . . 30
Cymdeithasiadau . . . 9
Cyfarfodydd Misol . . . 7
Cyfarfodydd Ysgolion Sabbothol . . . 8
Milldiroedd a deithiodd . . . 1,884
1836
Pregethau . . . 274
Cyfrann'r Ordinhad . . . 45
Bedyddiadau . . . 32
Cymdeithasiadau . . . 7
Cyfarfodydd Misol . . . 9
Cyfarfodydd Ysgolion Sabbothol . . . 10
Milldiroedd a deithiodd . . . 2,211

RHAI O DDYWEDIADAU MR. RICHARD AR AMRYWIOL
DESTUNAU, AC AR WAHANOL ACHLYSURON.

Y MAE y sylwadau canlynol wedi eu casglu o wahanol gyrau, ac nid ydym ni wedi gwneuthur dim ond cysylltu y rhai a berthynent i'r un pwnc â'u gilydd. Cofion ydynt o'r hyn a gadwyd ar feddyliau amrywiol gyfeillion wedi clywed eu traddodi gan Mr. Richard. Ni byddai ef ei hun yn arfer ysgrifenu sylwadau o'r natur hyn, ac nid oedd un angenrheidrwydd iddo wneuthur felly, oblegid yr oeddynt bob amser yn ymddangos yn tarddu i fynu yn barod, megis o ffynnon ddiyspydd, pan y byddai gofyn am danynt. Galarus yw genym feddwl fod mor ychydig o honynt ar gael, canys diau genym, wrth gofio y cyflawnder o'r cyfryw sylwadau oedd ganddo ar bob achlysur, fod cannoedd o honynt wedi myned ar ddifancoll.

WRTH BREGETHWYR.

Yn y Cyfarfod Misol cyntaf ar ol marwolaeth y Parchedigion Ebenezer Morris a David Evans, safai i fynu yn nghyfarfod yr eglwys mewn dagrau a dywedai, Rhaid i ni fyned yn mlaen fel arferol, ond anarferol iawn yw hi arnom ni heddyw, oblegid y mae peth hynod wedi ein cyfarfod—colli y ddau frawd enwocaf a feddem, a'u colli, nid wedi myned yn hen a methiedig, ond yn nghanol eu nerth a'u llafur. 'Nawr, y cyngor a roddaf i'm brodyr yn y weinidogaeth yw, sefwch yn eich ranks. Pan fyddo generals mawr yn syrthio yn y frwydr, y mae yn beryglus iawn os bydd yr is-swyddwyr, rhyw officers bach, yn rhuthro yn mlaen i geisio llanw lle y general; y ffordd oreu yw i bob un gadw ei le ei hun yn y gad; felly chwithau, fy mrodyr, na fydded i neb wthio o'i le, nes y byddo galw arno, ond pob un fyddo yn ymofyn yn hytrach am y lle isaf. Nid rhaid i ni ofni na chawn Dduw gyda ni, oni rwystrwn ni ef: ofni ein hunain a ddylem ni yn fwy na dim. Cofiwn mae yr hyn sydd angen arnom ni yw cael, dau parth o'u hyspryd hwy,—nid eu cotiau, na'u lleisiau, na'u tônau, ond eu symlrwydd, eu gostyngeiddrwydd, a'u zel; dynion plain iawn oeddynt hwy, heb ddim rhyw blygiau a nadau yn perthyn iddynt. Mae eisiau arnom ni gofio sylw ein hanwyl frawd E. Morris; yn ngwyneb fod rhyw rai yn ymadael â'r corph, dywedai, Pe b'ai llawer o honom yn myned i'r clawdd, yma a'r ffos draw, gwna Duw ofalu am ei achos: 'y mae y llywodraeth ar ei ysgwydd ef.'

Yn wyneb yr amgylchiad hwn, mae rhai oedd yn ymddiried mewn braich o gnawd a'u gobaith wedi pallu, ond chwilio am ryw ddyn y byddant hwy eto, ac ymafaelu ynddo, a dweud, Rhaid i chwi ddyfod fynu yn eu lle hwynt. Bydd eraill sydd wedi bod yn derbyn peth oddiwrth Dduw trwy eu gweinidogaeth yn galaru ac yn tristâu yn fawr am danynt, ond mwy o weddio a ddylai fod gan bawb yn y dyddiau hyn dros genadau Duw, y gwragedd a'r merched, yn gystal a'r gwŷr.

A chofiwn, yn ein tristwch, mae nid galaru yr ydym am eu bod wedi syrthio i afael rhyw bechod neu brofedigaeth, O nage, ond un yn dweud wrth ei wraig y diwrnod y bu farw, Mary fach, mae'r brenin yn y golwg, dim ond myned i'r wlad heddyw;' a'r llall yn dweud, Yr wyf fi, Thomas bach, yn gorphen fy ngyrfa mewn llawenydd, mewn tangnefedd.' Dyna farw braf. Cofiwch bob amser am y tair C—cyflwr, cymeriad, a chenadwri.

Gofalwch, fy mrodyr, am eich crefydd bersonol. Y mae lle i ofni fod llawer dyn yn meddwl y bydd ei bregethau yn rhyw gysgod iddo, ond cysgod gwael wna y rhai hyn. Rhaid i ni bwyso ar Grist am iachawdwriaeth fel eraill. Os pwyswn arno ef, nid awn byth i uffern; ond os pwyswn ar ein pregethu, yr ydym yn sicr o syrthio yno. A ydyw pregethu wedi eich gwneud yn llai gweddiwr? Os felly, mae'n wael iawn. O fy mrodyr mae eisiau rhyw ris pellach arnom ni mewn duwioldeb personol, nes byddom yn ymestyn fel Paul hyd at adgyfodiad y meirw,' fel y gwelwch y race-horse yn ymestyn, fel pe dymunai fod ei drwyn ar y cyrch-nod, pan byddo ei draed yn mhell. Dylai hyn fod yn benaf rhagoriaeth yn ein golwg, bod yn dduwiol iawn, yn 'ber-arogl Crist' yn mhob man, yn bethau cysegredig i'r Arglwydd. Os byw, byw i'r Arglwydd; os marw, marw i'r Arglwydd'; pa un a'i byw a'i marw, eiddo yr Arglwydd. Nid ydym. ni ond crefyddwyr bach iawn eto. Mesurwch eich hunain wrth dduwiolion y Bibl. Sefwch yn ymyl dyn duwiol y Salm gyntaf. Sefwch yn ochr dyn duwiol y bymthegfed Salm. Nid cydmaru ein hunain a ddylem â chrefyddwyr ein hoes ni-oes o grefyddwyr gwael yw ein hoes ni-ond mesur ein hunain wrth esiamplau gair Duw, 'mesur y cysegr.' Ymofynwch am ryw beth newydd o hyd mewn profiad ysbrydol, onide chwi ewch yn ddiflas iawn yn eich gweinidogaeth. Mae'n dda cofio hen bethau, ond profiad newydd o Dduw sydd yn dwyn adnewyddiad i'r enaid. Bum yn ddiweddar yn Llundain, a gwelais yr hen bibellau pren oedd yn arfer trosglwyddo dwfr trwy'r ddinas, wedi eu tynu o'u lle. Gofynais beth oedd i wneud â hwy. O, meddai rhyw un, maent yn awr yn hollol ddifudd i ddim ond i'w llosgi, oblegid maent wedi pydru yn y gwasanaeth. Ac mi feddyliais mae felly bydd ar rai o honom ninau; wedi bod yn foddion i ddyfrhau a dadebru eraill, ond heb dderbyn un rhinwedd ein hunain trwy'r gwirionedd, yn pydru yn ein gwaith, ac yn myned yn fit i ddim ond ein llosgi.

Cofiwn, fy mrodyr, mae nid yn mhob man a chyda phob peth y rhydd yr Arglwydd ei gymdeithas. Pan oedd Joseph yn myned i amlygu ei hun i'w frodyr, yr oedd yn rhaid cael yr Aiphtiaid allan yn gyntaf; felly, cyn y datguddio Crist ei ogoniant i'r enaid, mae'n rhaid cau allan lawer o bethau o'r fynwes. Ac nid pechodau rhyfygus yn unig sydd yn yspeilio dynion o wyneb yr Arglwydd, ond yn aml rhyw bethau bychain yn ein golwg ni. Fe robiwyd y dyn o'i arian: Wel, pa fodd? A ddaeth rhyw leidr pen-ffordd i gyfarfod ag ef i'w daro i lawr, a bygwth ei fywyd? O, na bu dim felly; ond fe gollodd ei holl drysor, ni ŵyr yn iawn pa fodd, na thrwy law pwy; felly mae dynion yn cael eu hanrheithio o ffafr yr Arglwydd, a'u holl lewyrch a'u mwynhad crefyddol, nid gan bechodau rhyfygus ac amlwg, ond trwy ryw bethau dirgel nad ydynt hwy eu hunain yn eu hadnabod yn iawn.

Mae eich pen, meddai efe wrth un hen frawd, yn dangos eich bod bron myned oddi yma, ond peth mawr os ydych yn addfedu o ran eich hysbryd. Mae'n drwm os bydd rhaid gwneud â ni fel y bydd y farmer yn gorfod gwneud â'r llafur sy'n pallu addfedu. Ar ol hir ddysgwyl a'i adael cyhyd ag y byddo bosibl, wel, beth wneir iddo, meddai rhyw un? Rhaid i mi ei dori lawr fel y mae. Glas iawn yw e', ac ni bydd fawr werth; ond nid gwiw dysgwyl yn hwy, rhaid i mi ei fedi. Felly y mae lle i ofni y bydd rhaid i'r Arglwydd, ar ol ein gadael am amser maith i edrych a addfedwn, ein cymeryd yn y diwedd yn las ac anffrwythlon iawn.

Dylem fod yn glir iawn am ein hanfoniad i'r weinidogaeth, fy mrodyr. Peth peryglus iawn yw rhedeg i'r gwaith hwn heb ein galw, a pheth diwerth a diawdurdod fydd ein pregethu. Mae dynion yn cymeryd y gorchwyl hwn mewn llaw heb eu hanfon, fel pe bai plant y dref yn cael gafael ar gloch y crier, ac yn myned allan i'w chanu ar hyd yr ystrydoedd, ond nid oes ganddynt ddim ond y swn, heb un awdurdod, ac heb un genadwri chwaith oddiwrth swyddwyr y ddinas. Mae miloedd yn y deyrnas hon yn pregethu, wrth ba rai y dywed Duw, Pwy a geisiodd hyn ar eich llaw chwi? O, mae arnaf ofn cyfarfod â'r gair hwn yn y farn! Mae llawer dyn yn siarad yn. ffraeth am dano ei hun. Pregethwr wyf fi,' meddai'r dyn; ïe, ond pwy a geisiodd hyn genyt? Beth os bydd hi arnom ni fel y dynion mae Crist yn son am danynt, pan elom i ymddangos ger ei fron ef? Buom ni yn pregethu yn dy enw di, yn trafaelu, ac yn llafurio, ac yn chwysu, 'Ac yntau a etyb, Pwy a geisiodd hyn ar eich llaw? nis adnabum i chwi erioed.'

Dylem fod yn grynedig iawn gyda'r gwaith, fy mrodyr, canys gwaith ofnadwy ydyw. . Clywais, O Arglwydd, dy air, ac ofnais,' meddai'r Salmydd. Ychydig, mi feddyliwn, sydd a'r agwedd hon arnynt yn bresennol, yn crynu ac yn arswydo dan rym y genadwri sydd ganddynt. Gwahanol iawn yw teimladau llawer. Chwi glywch ambell un yn dweud, 'Does dim ofn dyn arnaf fi;' nac oes, fe allai, nac ofn Duw chwaith. Gochel i'r Creawdwr dy alw i bwyll. ymarswydwn rhag i ni dristâu yr Ysbryd Glan wrth ein cryfdwr a'n hunan-ddigonedd. Cynnorthwyo gwendid' yw ei swydd ef, ond yr ydym ninau yn fynych mor gryf fel yr ydym yn gallu myned yn mlaen hebddo yn burion. Fel gwelsoch y plant weithiau ar ol dysgu'r multiplication-table i gyd, os bydd rhyw un yn ceisio eu helpu wrth ei adrodd, O na,' meddai'r plentyn, 'peidiwch chwi dweud; 'rwyf fi yn ei wybod i gyd fy hunan.' Felly ninau, yr ydym yn myned mor gynefin â gwaith Duw, fel yr ydym yn medru myned dros y wers ein hunain yn eithaf rhigl. O mi feddyliwn fod yr Ysbryd Glan weithiau yn dyfod i'r odfa gyda dyben i gynnorthwyo ein gwendid ni,' ond, erbyn myned yno, 'does yno neb yn dysgwyl am dano, nac un arwydd fod neb yn teimlo gwendid, ac yntau yn tristâu ac yn troi ei gefn, ac yn ymadael, gan ddweud, 'Does dim o fy eisiau yma.' O fy mrodyr anwyl, ffaelu myned yn mlaen hebddo y byddom ni. Y swn y mae ef yn dymuno clywed yw, 'Ni wyddom ni beth a weddiom megis y dylem.' Wel,' meddai rhyw un, 'pwy oedd yr hurtyn truan oedd fel yna, na wyddai pa beth i weddio? nis gwn inau pryd i ddybenu gweddio wedi dechreu.' Dim llai, fy nghyfaill, na'r Apostol Paul a'i frodyr oedd yn defnyddio'r iaith yna.

Gochelwch segurdod gyda gwaith yr Arglwydd. Marchnatwch, medd Iesu, hyd oni ddelwyf, fel na byddo'r total yr un faint a phan gadawodd y Meistr. Gobeithio na chollwn yr awyddfryd i yru y dalent yn ddwy trwy ddiwydrwydd a llafur. Pob man y sango gwadn eich troed chwi arno,' meddai'r Arglwydd wrth yr Israeliaid, 'a roddais i chwi.' Felly ar dir y weinidogaeth, ni etifeddwn ni ddim ond yr hyn y sango ein traed arno, am hyny rhaid ymdrechu yn galed am bob lled troed a feddiannom. Diogi a bair myned mewn gwisg garpiog, yn y weinidogaeth; ac O mor garpiog y wisg y mae llawer pregethwr yn ymddangos ynddi yn fynych o flaen cynnulleidfaoedd, a hyny yn unig o herwydd diogi. Llaw'r diwyd a gyfoethoga;' a pheth mawr yw dysgu bod yn ddiwyd, llenwi ein hamser â rhyw beth buddiol; nid eistedd wrthi o hyd; a hynod fel y gall dyn heb nemawr o gapital, heb ryw alluoedd cryfion, ymgyfoethogi mewn gwybodaeth a dawn trwy fod yn ddiwyd, yn ceisio defnyddio pob munud i ryw ddyben da. Un diwrnod yw ein hoes ni, ac ni ddylid cysgu dim o hono. Llafuriwch, fy mrodyr, am bethau pwysig a buddiol i ddweud wrth y bobl, ac am rym ac arddeliad wrth eu traddodi. Mynwch y powdwr a'r shots gyda'u gilydd os ydych am ladd dynion trwy eich gweinidogaeth. Mae rhai dynion nad oes ganddynt ddim ond powdwr, tân, a gwreichion, a swn heb ddim sylwedd na gwerth,-'does dim shots gan y rhai hyn. Mae eraill â shots da ganddynt, ond heb rym nac awdurdod wrth eu traddodi; ac mae'n drueni gweled y fath belenau gloewon braf yn syrthio i'r llawr wrth enau'r dryll, o eisiau'r powdwr. O ymdrechwn am gael y ddau-pethau da i'w dweud, a nerth ac arddeliad wrth eu dweud—ac yna caiff dynion eu clwyfo a'u lladd.

Mae gwahaniaeth mawr rhwng pregethu. Mae rhai yn yd glân, yn ebrau pur; eraill yn yd trwy ûs; ac eraill yn ús i gyd, heb ddim swmp na sylwedd.

Ymgeisiwch i eglurhau'r gwirionedd; fel hyn yr oedd yr Apostol Paul a'i frodyr; trwy eglurhad y gwirionedd yr ydym yn ein canmol ein hun wrth bob cydwybod dynion yn ngolwg Duw.' Ond fe fu'r geiriau a ddefnyddir am esgyniad Crist yn dyfod i'm cof i weithiau wrth wrando, A chwmwl a'i derbyniodd ef allan o'u golwg.' Fel hyn mae ambell bregeth yn derbyn y testun allan o olwg y gwrandawyr, i ganol niwl a thywyllwch dudew, nas gellir gweled prin cip arno nac ar y gwirionedd sydd ynddo o'r dechreu i'r diwedd; ac yn wir, byddai rhaid i Dduw wneuthur gwyrthiau cyn gallo rhai pregethau fod yn un lles i ddynion.

Gofalwn fod pethau'r pulpit genym yn y pulpit. Dylai pethau'r pulpit yn wastad fod yn bethau pwysig, yn bethau sicr, ac yn bethau perthynol. Yn bethau pwysig,―nid gwneud i ddynion chwerthin, pan y dylem wneud iddynt grynu. Yn bethau sicr; dylai fod digon am fywyd pechadur genym yn mhob pregeth, ac yn bethau perthynol, oblegid nid pob peth sydd dda a defnyddiol ynddo ei hun sydd gymwys i'r pulpit. Mae llawer o sylwadau angenrheidiol i'w gwneud yn yr eglwys nad yw briodol eu cyhoeddi o flaen y byd. Ond y mae ambell i bregethwr, â cheg agored, yn dinoethi holl waeleddau'r eglwys yn y pulpit, fel pe bai yn bwriadu agor genau pob infidel trwy'r wlad. Gweddiwch lawer, fy mrodyr ieuainc, am fod eich gweinidogaeth yn gymeradwy gan y saint. Dichon yn fynych na bydd gymeradwy genych chwi eich hun, ac na bydd wrth fodd llawer o ddynion cnawdol; ond os bydd gymeradwy gan y saint, y rhai sydd yn adnabod blas y gwirionedd, mae hyny y peth nesaf i fod yn gymeradwy gan yr Arglwydd.

Gofalwn, fy mrodyr, am fod ein cymeriad yn ddi frycheulyd, peidio ymrwystro gyda negesau'r bywyd hwn. Mae yn gyfreithlon ac yn angenrheidiol i lawer o honom ni fod gyda negesau y bywyd hwn, ond ymrwystro yw'r perygl. Fel y plentyn yn cael ei anfon i neges, nid oes dim drwg yn hyny, oblegid mae'r tad yn gorchymyn; ond pan fyddo yn aros yn rhy hir, ac yn loitran gyda'i neges, ac yn anghofio ei gartref, y mae hyn yn tynu gwg y tad arno. A chofiwn fod rhyw awr y brofedigaeth' i bob un o honom. Hyd hyny y mae llawer wedi sefyll, a dim yn mhellach; ac y mae ambell un weḍi aros yn hir cyn iddi ddyfod, ac yn syrthio yn y diwedd, fel llong wedi bod yn yr India, ac yn myned yn llongddrylliad yn y channel, ac yn ngolwg yr hafan; a meddyliwn am yr ammod ar ba un y mae'r addewid wedi ei rhoddi, O achos cadw o honot air fy amynedd i, minau a'th gadwaf di oddiwrth awr y brofedigaeth, yr hon a ddaw ar yr holl fyd, i brofi y rhai sydd yn trigo ar y ddaear.'

Cadwch ganol y ffordd, fy nghyfeillion. Ni welsom weithiau rhyw fachgen bach mentrus yn rhodio ar ganllaw y bont i'r dyben i ddangos ei gamp a'i fedrusrwydd, ond y diwedd fu ryw ddiwrnod iddo syrthio i'r afon; ac felly y mae wedi bod ar rai dynion yn y weinidogaeth, wrth geisio dangos mor agos y gallent fyned i'r ymyl, yn syrthio dros yr ymyl. Gweddiwn lawer am beidio tynu gwarth ar yr achos mawr. Canwyllau bychain meinion iawn yw llawer o honom ni, ond fe all y ganwyll fach roï'r tŷ ar dân. O, gobeithio y cawn afael ar y bedd cyn dwyn gwaradwydd ar y gwaith. Mae'n ddiammau y gorphenwn ni ein gyrfa i gyd ryw fodd, ond y fraint fawr yw cael gorphen ein gyrfa mewn llawenydd.

Gofalwn hefyd am fod ein hymddygiad yn gymhwys. Dylai pregethwr fod nid yn unig yn Gristion gostyngedig, ac yn genadwr ffyddlon, ond yn ddyn mwyn; nid fel blodeuyn ar ddraenen, yn edrych yn rhyw beth gwych oddi draw, ond na feiddia neb agoshau ato na chyffwrdd âg ef. Peth priodol iawn yw i ni wybod ein hoedran gyda'r gwaith, gwybod ein lle, a gwybod ein maint. Mae'n chwithig iawn gweled rhyw dwarf bach yn plygu ei ben wrth fyned dan arch fawr sydd latheni yn uwch nac ef, ond nid mor chwithig a gweled ambell un o honom ni, rhyw bethau bach byrion di-syt, yn cymeryd arnom fod yn isel iawn, fel pe b'ai yn deilyngdod mawr ynom ni ymddarostwng at y rhai isel radd.[32] Cofiwn mae aelodau o gorph ydym ni, a bod yn ddymunol iawn i ni fod yn aelodau esmwyth.

Peth mawr yw cael doethineb i osod pethau'r efengyl ger bron dynion mewn dull cymeradwy, heb achosi un tramgwydd afreidiol. Rho grys am y gwirionedd,' meddai Mr. Rowlands wrth Mr. Gray. Mae ambell i ddyn yn peri i'r gwrandawyr deimlo yn wrthwynebus tuag at y gair, o eisiau doethineb i'w ddangos o'u blaen mewn modd ag y mae'n debyg o gael derbyniad.

Yr ydym yn cofio clywed Mr. Richard yn dweud ar ol ei adferiad o afiechyd trwm, fod ei feddwl yn y cystudd wedi bod mewn llawer o bryder a dychryn, wrth ystyried mor hawdd oedd i bregethwyr gamsynied am natur eu teimladau wrth draddodi'r genadwri. Mi fuais weithiau, ebe efe, yn gwrando ar y counsellor yn dadleu rhyw achos yn y llys. Yr oedd ei lygaid yn llawn tân, a'i lais yn llawn dwysder a difrifwch, a chwi allasech feddwl yn ddiau fod y dyn yn teimlo yn ddwfn anghyffredin bob peth oedd yn perthyn i'r ddadl. Ac eto nid oedd y cwbl ddim ond artificial, dim ond cywreinrwydd a medr y dyn fel areithiwr; ac erbyn myned allan o'r llys, 'doedd e'n gofalu dim brwynen am y pynciau y bu yn ymresymu yn eu cylch mor brysur a thaer. O mae arnaf ofn mae rhyw dân dyeithr fel hyn sydd genym ninau yn fynych,—yn ymddangos pan o dan gynhyrfiad areithio fel pe b'ai ein heneidiau yn llawn o zel losgadwy, ond wedi i hyny fyned heibio, y cwbl yn cael edrych arno fel dyeithr-beth.

WRTH FLAENORIAID.

Wrth ymddiddan â blaenor, gofynai iddo, A ydyw edrych ar y pethau ni welir yn cynnyddu, a ydyw bod yn 'gadwedig yn gwrth-bwyso, pob peth arall yn eich meddwl? A ydyw y frwydr a llygredd eich calon yn parhau? Dylem ymddwyn at hwn fel at elyn o hyd, golygu at ei fywyd. Os ydych wedi derbyn gwir egwyddor o ras, nid sham-fight fydd hi rhyngoch chwi a phechod. Mae rhyw beth mewn gras am ladd pechod, ac y mae o bwys mawr eich bod chwi, fel swyddogion eglwysig, mewn gelyniaeth â phob pechod. Mae gan lawer o ddynion ryw bechod mynwesol yn cael ei gelu a'i lochesu yn y galon; a phan byddo hi felly ar flaenoriaid, maent yn gochelyd agoshau at y pechod hwnw yn eraill. Maent yn siarad yn uchel ac yn daranllyd am lawer o bethau drwg, ond y maent yn ddystaw iawn yn nghylch yr ysgymun-beth sydd yn guddiedig yn nghanol eu pebyll' hwy eu hunain. Maent trwy hyn yn twyllo llawer un, fel y gwelsoch y plant yn cael eu twyllo yn nghylch (nyth yr aderyn. Mae'r aderyn yn canu yn uchel ac yn iach ar ben rhyw lwyn, a'r bachgen bach wrth ei weled yno yn myned i chwilio am ei nyth yn mon y llwyn hwnw. Ond O mae'n camsynied yn mhell. Mae ei nyth ef rhywle draw yn nghanol y drysni; a phan byddo gerllaw yno, nid yw yn canu dim, ond yn hedfan yn ol ac yn mlaen mor ddystaw fel prin y gallwch glywed swn ei aden.

A oes cymdeithas yn cael ei chynnal rhwng eich enaid chwi a Duw? Mae hyn yn beth mawr mewn crefydd i bawb, ond yn enwedig i chwi. Mae'n beth chwithig iawn fod y gwas yn y tŷ am flwyddyn heb ymddiddan un gair â gwr y tŷ. Mae'n anhawdd credu fod y gwaith yn myned yn mlaen yn hwylus, tra byddo'r steward heb ddim cyfrinach â'r Meistr, ond mae'n waeth bod yn flaenoriaid yn eglwys Dduw heb gymdeithasu âg ef—fod yn Jerusalem am ddwy flynedd heb weled wyneb y Brenin. Ac os bydd cyfrinach, bydd ei hol i'w ganfod arnoch, oblegid mae cymdeithas â'r Arglwydd yn beth effeithiol iawn. Pan ddaeth Moses i lawr o'r mynydd, yr oedd yr Israeliaid yn deall ei fod wedi bod gyda Duw, oblegid yr oedd ei wyneb yn dysgleirio; felly dylai fod dynion yn medru canfod arnoch chwithau eich bod yn cymdeithasu â Duw, trwy fod dysgleirdeb sancteiddrwydd yn eich profiad a'ch ymarweddiad.

Cofiwch mae blaenoriaid ydych. Dylai blaenor fod yn mlaen yn mhob peth, mewn gwybodaeth, mewn profiad, mewn defnyddioldeb. Fel y dyn sydd yn arwain y fedel; os bydd y bachgen sydd ar ben y fedel yn rhyw greadur diog a diddim, yn rhwystro eraill i fyned yn mlaen, ac heb roi haner digon o waith i'r bobl trwy'r dydd, mae'r meistr yn anfoddlon ac yn digio yn ddirfawr, ac mae'r cynhauaf yn cael ei gadw 'nol yn enbyd; felly chwithau, fy nghyfeillion, peidiwch sefyll ar ffordd y fedel, mynwch gryman ag awch arno, a thorwch yn mlaen i roi digon o le i'r medelwyr. Hyn ddylai fod amcan pob blaenor, fod y dyn duwiolaf a mwyaf defnyddiol yn yr eglwys yn hynod yn mhlith yr Apostolion.'

Y mae achos Crist wedi ei ymddiried i ryw raddau yn ein dwylaw ni; ac O gofalwch na byddo'r achos mawr yn gwaelu yn eich dydd-gylch chwi. Mae ambell i overseer yn y plwyf am flwyddyn sydd yn gwellhau ac yn harddu pob peth, gwell drych ar y ffyrdd, gwell trefn ar y tlodion, a holl achosion y plwyf yn ymddangos yn llewyrchus ac yn hardd. Ond mae eraill nad ydynt werth dim, ac yn gollwng pob peth yn mlwyddyn eu swydd i syrthio i adfeiliad ac annhrefn. Dymunwch chwithau am edrych dros, bwrw golwg ar, bob peth, fel na byddo'r eglwys yn ammharu ac yn dihoeni tra byddoch chwi yn y swydd. O na fydded fod achos Duw yn gwaelu yn ein dwylaw ni!

Dylid fod yn ofalus iawn fod undeb diffuant rhyngoch a'ch gilydd, nid undeb pleidgarwch, ond undeb yr Ysbryd; nid fod dau flaenor gyda'u gilydd a dau eraill yn eu herbyn, ond oll yn un yn cyd-dynu yn y we', heb fod y ceffylau blaen yn kickio na'r rhai ol yn cnoi, ond yn cyd-deithio ac yn cyd-dynu i'r dyben o gael y llwyth i ben y rhiw. A chofiwch i gyd nad oes dim yn hyfrytach na gweled dyn bach mewn lle mawr, hyny yw, dyn â meddwl bach am dano ei hun yn llanw lle mawr mewn defnyddioldeb a daioni; na dim yn fwy gwrthun na gweled dyn o feddwl mawr a chwyddedig yn methu a llanw lle bach.

Peth da a dymunol iawn yw cael blaenor ag awch arno, ond y mae o bwys hefyd fod yr awch arno lle y dylai fod. Nid fel cryman a'r min ar ei gefn yn lle ar ei wyneb, oblegid tori dwylaw y sawl a'i defnyddio wna hwnw yn lle tori'r yd. Mae llawer dyn â rhyw zel danllyd iawn gyda rhyw bethau ac y byddai yn llawer gwell fod hebddo, ac fe allai gyda'r pethau y byddai angen am dano, 'does dim ond y diofalwch a'r diflasdod; cryman ac awch ar ei gefn yn lle ar ei wyneb yw hwnw, ac yn llawer mwy niweidiol na defnyddiol.

Wrth ymdrin â phrofiadau dynion yn yr eglwys, ceisiwch roi ger bron eraill y pethau a deimlasoch eich hunain o air y bywyd.' Mae arnaf ofn fod rhai blaenoriaid fel masnachwyr sydd yn gwerthu yn wholesale. Mae rhai hyny yn derbyn casgen o siwgr o Bristol neu Liverpool, ac yn ei gwerthu drachefn yn grwn, heb ei hagor na'i phrofi eu hunain. Os gofynwch iddynt a ydyw yn siwgr da, maent yn eithaf parod i'w ganmol, a dweud, O ydyw, mae e'n article rhagorol. A ydych chwi wedi profi'r melusder eich hun? Nac wyf fi ddim wedi agor hon, ond chwi ellwch hyderu ei fod yn siwgr da. Ac fel hyn y mae blaenoriaid weithiau yn rhoi pethau gwerthfawr yr efengyl i eraill, ac yn eu canmol yn uchel hefyd; ond eu rhoi yn grwn yn y gasgen heb ei hagor i gael profi'r melusder eu hunain. Ond ceisiwch chwi, fy nghyfeillion, roddi ger bron dynion y peth yr ydych yn ei brofi ac yn ei ddefnyddio eich hunain.

Pan fyddoch yn derbyn dynion i'r eglwys, byddwch ofalus i ymarfer ysbryd barn. Ymbiliwch lawer am gyfarwyddyd, rhag i chwi daro yr hwn a darawodd Duw, dryllio yr hwn a ddrylliodd Duw, yn lle ceisio rhwymo ei friwiau. A gofalwch beidio a thaflu tram- gwydd ar ffordd y rhai a fyddo yn dyfod, oblegid ychydig sydd ddigon i dramgwyddo a digaloni un gwan sydd yn dechreu troedio. Pan byddo'r plentyn bach yn ceisio cerdded ar y cyntaf, mae'r fam yn ofalus iawn i symud pob peth oddiar y ffordd. Mae e'n rhy wan,' meddai hi, ‘i godi ei droed fach dros ddim byd, ac ymswynwch rhag fod y gaib neu'r fwyall ar y llawr o'i flaen; rhaid cael y llwybr yn glir cyn y gallo ddechreu.' Felly chwithau, fy nghyfeillion, byddwch ystyriol o wendid dynion fo'n ceisio am y tro cyntaf rodio yn y ffordd, a gwnewch lwybrau uniawn o'u blaen, fel na throer y cloff allan o'r ffordd.' Ac ar yr ochr arall, peidiwch ymgwyno â dynion iach eu hys- bryd, sydd heb eu hiawn argyhoeddi̟ o bechod, a dweud, Mae'n dda iawn genym dy weled yn dyfod i dŷ Dduw, yn lle dweud yn onest, Mae eisiau siotsen arnat ti eto. Yr Ysbryd Glan a'ch cynnorthwyo i iawn farnu, ac i adnabod cam flas![33]

Mae angen am ddoethineb mawr wrth drin achosion dynion yn yr eglwys, i gymhwyso eich triniaeth at wahanol gymeriadau. Nid yr un pethau ac nid yr un dulliau sydd addas i bob math. Nid yr un ffordd yr ydych yn gymeryd i drin pob math o anifeiliaid. Os ydych am arwain y ceffyl i ryw le, y peth goreu yw defnyddio'r ffrwyn; ond os bydd eisiau arwain y mochyn, chwi gyfrifech y dyn hwnw yn ffol iawn a amcanai ffrwyno'r mochyn. O na, mae'n rhaid cael y stwc, ac yna fe ganlyn yn naturiol. Ac felly y mae gwahaniaeth mawr rhwng cymeriadau dynion, a dylech chwithau amcanu adnabod beth yw ansawdd meddwl pob un, ac ymddwyn tuag ato yn gyfatebol. A thrugarhewch wrth rai, gan wneuthur rhagor, eithr rhai cedwch trwy ofn, gan eu cipio hwy allan o'r tân.'

Ac wrth weinyddu cerydd, byddwch ofalus am ei wneuthur mewn tymher briodol. Nid ymruthro yn ffyrnig ar ryw ffaeleddau bach, fel pe baech am ladd y dyn. Mae ambell flaenor wrth geryddu aelod yn yr eglwys, fel pe gwelech ryw ddyn yn myned i ladd gwybedyn ar dalcen ei frawd à morthwyl haiarn. Dim ond gwybedyn sydd yno; a phe b'ai e'n estyn ei fys, byddai'n llawn digon i ateb y dyben, ond yn lle hyny chwi welwch y dyn yn ymaflyd yn yr ordd fawr, ac yn anelu â'i holl nerth at dalcen ei frawd. Ceisiwch gyfateboli y cerydd at faint y bai, peidio gwneud rhyw swn mawr am bethau bychain, a goddef i ryw ysgymun-beth diriaid fyned heibio yn ddisylw. Weithiau chwi glywch flaenor yn taranu'n ddychrynllyd ar g'oedd yr holl eglwys os gwel ryw lodes fach ddol wedi troi tamaid o ribban oddeutu ei hat, ond nis clywir ef yn yngan un gair am fod Mr. Hwn-a-hwn wedi dyfod adref o'r farchnad yn haner meddw.

Dylai fod sylw manwl genych ar yr aelodau yn gyffredinol, fel y galloch gyfarwyddo dyeithriaid a fyddo yn dyfod atoch yn achlysurol, pa beth i ddweud wrth y rhai yr ymddiddenir â hwy. Chwi fuoch yn sylwi ar y gof gwedi tynu'r haiarn poeth o'r tân i'r einion, yn galw rhyw ddyn cryf ei ysgwydd a fyddo'n dygwydd bod yno, i gymeryd yr ordd fawr mewn llaw yn barod i'w guro. Eto gwyddoch nad yw hwnw yn cael taro arno fel y myno chwaith, onite fe ai'r haiarn yn gnyciau ac yn bantau, ac fe allai yn gatiau oddiwrth ei gilydd. Ond y mae'r gof â'i forthwyl bychan yn ei law yn dangos iddo y fan y dylai guro, ac yn dweud,

Taro di lle 'rwyf fi yn taro,' ac yna mae'r haiarn yn gweithio ac yn ymestyn, ac yn dyfod i'r llun yr oedd y gof yn bwriadu ei gael. Felly chwithau, pan byddo rhyw frodyr cryfion eu hysgwyddau o'r De' neu'r Gogledd yn dyfod atoch, dangoswch iddynt y man i daro ar achos pob aelod, trwy daro yn gyntaf â'ch morthwyl bach eich hunain.

WRTH AELODAU MEWN CYFARFODYDD EGLWYSIG.

Wrth ymddiddan mewn Cyfarfodydd Eglwysig, byddai'n arferol o ddweud, Mynwch grefydd gryno a chyflawn, crefydd yn ei holl ranau, pob peth yn ateb i'w gilydd. Pe gwelech ferch ieuanc yn rhodio ar hyd yr ystrydoedd a gŵn sidan costus am dani, a chlocs a bacsau ar ei thraed, oni byddai hyny yn anhardd iawn, ac yn ddefnydd gwawd a chwerthin i eraill? felly dyn crefyddol heb bethau crefydd sydd olwg anhyfryd, ac yn peri llawer o achos gwawdio a chablu i'r gelynion. Pob peth crefydd sydd eisiau, gwybodaeth o'r wir athrawiaeth, profiad hefyd o'i rhinwedd, ac ymarweddiad addas iddi. Mae rhai dynion athrawiaethol iawn—dim ond y pwnc wna'r tro iddynt hwy; eraill yn ymofyn dim ond y profiad—mae rhaid cael siwgr o hyd neu thâl hi ddim; ac eraill drachefn â'u holl sylw ar y traed—ceisio ymddwyn yn ddiwarth yw eu hunig amcan. Mae pob un o'r pethau hyn yn briodol iawn yn ei le; ond os ydym am fod yn grefyddwyr cyflawn, ymorchestu am danynt oll, crefydd yn y deall, yn y profiad, ac yn yr ymarweddiad.

Mae eisiau mwy o gymdeithasu â Duw yn y dirgel arnom; a'th Dad, yr hwn a wel yn y dirgel, a dâl i ti yn yr amlwg.' Os collwn ni mewn gweddiau dirgel, colli wnawn ni yn mhob man. Ni wna dim y tro gyda chrefydd yn lle cymdeithas â Duw. Peth gwerthfawr yw bod yn gymeradwy gan ein brodyr, yn ddiddolur i'r achos, &c., ond os ydym am fod yn dduwiolion gwirioneddol a llewyrchus, rhaid i ni fyned yn ddyfnach, ddyfnach, i'r dwfr hwn, nes byddom yn gallu dweud gyda Ioan, Ein cymdeithas ni yn wir sydd gyda'r Tad, a chyda'i Fab ef, Iesu Grist.'

Byddwch ofalus rhag esgeuluso moddion gras, oblegid mae hyny yn bechod yn erbyn y Drindod, yn taflu sarhad ar gariad y Tad, gras y Mab, a chymdeithas yr Ysbryd Glan. Cofiwch mae pethau mawrion Duw yr ydych yn eu hesgeuluso, a'i osodiad pendant ef. Os ydym yn gwneuthur hyny yn wirfoddol, mae'n arwydd diammeuol o adfeiliad mewn crefydd bersonol. Mae hyn yn codi cymylau rhyngom a Duw, yn datod cariad rhyngom a'n brodyr, ac yn tori'r cyfammod sydd rhyngom a'r eglwys. Mae yn rhoddi mantais ddirfawr i'r gelyn trosom; a phe gofynid i'r diafol pa beth yw ei benaf amcan tuag at ddynion, a pha beth a ddymunai'n hoffaf ei weled, meddyliwn yr atebai, Cadw'r wlad yn mhell oddiwrth addoliad Duw, a defnyddio moddion gras; a dyma'r ffordd i dynu achos Duw i lawr, fel â cheibiau, ac i ddwyn yr ardaloedd yn ol i'r anialwch yr oeddynt ynddo haner can' mlynedd yn ol.

A oes dim arwyddion digon amlwg yn ein dyddiau ni, fod gwialen Duw ar esgeuluswyr moddion gras? A ydyw of ddim yn eu hesgeuluso hwythau? Paham y mae'r dyn yn cael ei adael cyhyd i ddihoeni mewn cystudd? Fe allai mai'r Arglwydd sydd yn adfesuro iddo yn ol ei fesur ei hun. Byddai yn arfer cymeryd arno ei fod yn glaf ar y Sabboth, ac yn methu dyfod i foddion gras, er ei fod yn gallu myned at ei achosion bydol ddydd Llun yn eithaf hoew; ac yn awr y mae efe yn glaf mewn gwirionedd, ac yn awyddus iawn am odfa, ond ni chaiff yr un. Ac os na bydd fel hyn, eto mae'r Arglwydd yn eu hesgeuluso hwy yn ysbrydol, pan y deuont i'r moddion weithiau wrth eu pleser eu hun. Mae'r agoriadau yn ei law ef, ac nis gall dim rhinwedd ddyfod i'r enaid heb ei genad ef. A mynych y mae'r dynion hyn yn dyfod ac yn myned, heb dderbyn dim; ac y mae gwrando pregethau heb glywed un gair oddiwrth Dduw yn farn drom. Os ydym yn blino ar addoli Duw, beth a wnawn yn y wlad lle na bydd dim ond ei addoli ef byth? Oherwydd yno y maent ger bron gorseddfainc Duw, ac yn ei wasanaethu ef ddydd a nos yn ei deml.'

Ymofynwch am ffyddlondeb gydag achos yr Arglwydd, fel byddo i chwi lynu wrtho yn mhob amgylchiadau. Yn y tywydd teg ceir clywed y gog yn canu, a gwelir y wenol yn ehedeg oddeutu'r tŷ; ond pan byddo'r gauaf yn agoshau, yr ydys yn colli golwg ar y rhai hyn; maent yn myned ymaith na wyddir i ba le; ac fel hyn mae dynion wedi bod gyda chrefydd. Yn amser y diwygiad neu yn ymyl y gymanfa, neu rhyw gynhwrf cyhoeddus, pan yr oedd yn ymddangos fod yr haul yn tywynu ar yr eglwys, yr oeddynt hwythau yno pryd hyny yn fawr eu ffwdan ac uchel eu stwr; ond pan byddo'r achos wedi myned yn isel ac yn gymylog, maent yn diflanu, ac ni welir cip arnynt yn dyfod yn agos. Ond y mae ambell i hen Gristion ffyddlon fel y 'deryn du, neu'r frongoch, yn aros ar hyd yr ydlan ac oddeutu'r tai, pan byddo'r eira yn gorchuddio'r holl wlad fel llen, ac yn lle ymadael a chilio draw, yn dyfod yn nes yn mlaen ar y tywydd garw yn ffyddlon hyd y diwedd.

Hyn sydd yn profi gwir berthynas âg achos Crist, a gwir gariad ato, ein bod yn canlyn gydag ef pan byddo yn dyfod at rwystrau ac i ganol anhawsderau. Chwi welsoch weithiau mewn angladd lawer o ddynion yn barod i roi eu hysgwyddau dan yr elor tra byddo ar ganol ffordd deg; ond pan ddelo i ymyl yr afon, cewch weled y rhan fwyaf yn cilio 'nol, ac yn ymofyn am y bont-bren. Ond mi welaf rhyw bedwar dyn yn ymaflyd yn yr elor, ac yn rhodio yn mlaen i ganol y d'wr, ac yn penderfynu myned a'u llwyth trwodd pe byddai raid iddynt fyn'd hyd at yr ên. Wel, pwy yw y rhai hyn? O rhyw gyfeillion ffyddlon i'r marw. Felly byddoch chwithau, fy mrodyr a'm chwiorydd, yn barod i roi eich hysgwyddau o dan arch yr Arglwydd pan byddo'n myned trwy'r dyfroedd dyfnaf, os bydd angen.

Gofalwch rhag i chwi gael eich dallu trwy dwyll cyfoeth, fel na byddoch yn gweled mawredd a phwysfawrawgrwydd y pethau a berthyn i'ch iechawdwriaeth. O'r fath wrthddrychau gwael a distadl a all wneuthur hyn! Pe b'ai i chwi ddal dimau yn agos iawn at eich llygad, hi all guddio'r haul yn ei holl ddysgleirdeb a'i ardderchawgrwydd o'ch golwg; ac felly pethau bychain iawn yw pethau'r byd hwn; ond os deliwch hwynt yn rhy agos at eich serchiadau, chwi ellwch guddio â hwy holl ogoniant y byd tragywyddol.

Chwi fuoch yn sylwi ar ambell i ddyn afiach, a golwg wael a nychlyd iawn arno. Wel, holwch beth sydd arno. O, meddai yntau, eistedd ar y ddaear wneuthum i er ys amser maith yn ol, ac ni chefais ddiwrnod iach byth wedi hyny. Ac felly mae ar ddynion sydd yn caru'r byd hwn; maent yn eistedd ar y ddaear ac afiechyd ysbrydol yn ymaflyd yn eu henaid, o dan ba un y gwelir hwy yn dihoeni am flynyddau.

Wrth wrando ar ryw un yn dweud ei brofiad, yr hwn a achwynai ei fod yn ammheus pa un a oedd pechod wedi ei symud o'r llywodraeth yn ei galon, neu nid oedd. Wel, fy mrawd, ebe yntau, adnabyddwch pa un ai chwi sydd yn dilyn pechod neu bechod sydd yn eich dilyn chwi. Yr wyf yn cofio y byddai yn arferiad gynt gan wŷr boneddigion i gadw blacks yn weision, a'r pryd hyny yr oedd y black yn myned o flaen ei feistr, ac yntau yn dilyn; ond fe newidiodd y ddefod (fashion) wedi hyny, fel yr oedd y gwr boneddig yn myned yn mlaen a'r black yn dyfod ar ol. A chyffelyb i hyn yw'r cyfnewidiad sydd yn cymeryd lle yn yr adenedigaeth; am hyny, fy mrawd, ymofynwch chwithau pa un ai yn ol neu yn mlaen mae y black.

Wrth un arall a achwynai ei fod yn cael ei ofidio gan feddyliau ofer, dywedai, A ydych chwi yn sicr nad ydych yn rhoi cefnogaeth iddynt ar ryw achlysuron yn ddirgel? Pan byddoch yn myned i ambell i dŷ, chwi welwch y fowls yn rhuthro i mewn yn eofn iawn drachefn a thrachefn, a gwraig y tŷ yn eu gyru allan, dan gywilyddio o flaen dyeithriaid. Ond pan na byddo neb yno, y mae hi yn arfer taflu dyrnaid o lafur yn fynych iddynt ar lawr y gegin; ac felly mae'n bosibl eich bod chwithau weithiau yn porthi y meddyliau ofer hyn, a thrwy hyny yn eu dysgu i ddyfod yn mlaen yn eofn pan y byddoch am eu cadw draw.

Wrth ymddiddan â llances ieuanc oedd yn dechreu oeri gyda chrefydd, dywedodd fel hyn, Mae ambell i grefftwr weithiau yn blino ar ei grefft, ac y mae yn cymeryd farm. Ond er hyny nid yw yn gwerthu ei arfau, megis y fwyall, a'r llawlif, a'r plane; ac yn mhen tipyn mae e'n blino ar y farm drachefn, ac yna yn dychwelyd yn ol at yr hen grefft. Ond mae un arall yn gwerthu yr holl dools ar unwaith, ac yna mae'n rhaid ymroi ati. Ac felly mae llawer wrth ddyfod at grefydd; maent yn gadael yr hen grefft am ryw ychydig, ond nid ydynt yn gwerthu'r arfau; ac am hyny, maent hwy yn medru gwneud ambell i job gyda'u hen gyfeillion fel o'r blaen, ac, wedi blino ar grefydd, gallant droi 'nol pryd y mynont at yr hen alwad. Ond y rhai sydd wedi gwerthu'r fasged arfau, 'does dim modd i'r rhai hyny droiʼnol byth. Felly tithau, fy merch fach i, gochel dy fod heb werthu'r hen arfau, ac y byddi yn dychwelyd 'nol atynt eto.

Wrth ymddiddan â gwraig oedd mewn galar mawr ar ol colli ei gwr, dywedodd, Mae troion fel hyn yn debyg i ddyn yn cael ei daflu i'r afon; mae e'n teimlo rhyw ias arswydus ar y pryd, ond y mae hyny yn myned heibio yn raddol, ac y mae'n dyfod i fynu drachefn; felly tir anghof yw'r bedd, ac ni ddeuwn allan yn mhen tipyn o'r gofid mawr; ond y pwnc pwysig yw, pwy ochr y deuwn i fynu o'r dwfr, pa un ai yn nes at Dduw neu yn mhellach oddiwrtho. Mae cystuddiau yn bethau defnyddiol iawn yn eu heffeithiau ar eneidiau'r saint. Nid ydynt ynddynt eu hunain ond pethau garw a gwrthun, a gellir meddwl wrth edrych arnynt nad ydynt dda i ddim ond i boeni a brawychu dynion. Fel y gallai dyn anwybodus ddychymygu am y maen hogi, Nid yw hwn werth dim, meddai'r dyn, ni thor e' fara ac ni feda ŷd. Mae hyny'n wir, ond fe rydd awch ar y gyllell a'r cryman a bar iddynt hwy dori yn llawer gwell. Felly, fy chwaer, yr ydych chwithau wedi cael eich troi ar y maen am ychydig o droion yn ddiweddar, a gobeithio eich bod yn gloywi ac yn myned yn fwy awchus yn erbyn pechod. Dylem fod yn ofalus iawn na f'o cystuddiau yn myned heibio heb ein bod yn cael puro trwyddynt i ryw raddau, oblegid hyn yw'r dyben, tynu ymaith y pechod. Weithiau pan, byddo'r cawl yn berwi, fe ddaw rhyw un â'i ledwad yno, ac fe gyfyd yr yscum ymaith, ond os gadewir ef y pryd hyny heb ei godi, fe ferwa trwyddo nes byddo'r cwbl yn gymmysg; felly 'rwyf yn gobeithio fod y gwr wedi bod yn cymeryd peth o'r yscum ymaith tra yr oeddech yn y berw mawr, oblegid gwae,' meddai'r prophwyd, 'y crochan yr hwn y mae ei yscum ynddo, ac nid aeth ei yscum allan o hono.'

Ar achlysur o ddiarddel dyn ieuanc am bechod gwaradwyddus, llefarodd Mr. R. fel hyn wrth eglwys, Mae arnaf ofn nad ydym yn teimlo fel y dylem pan byddo troion fel hyn yn cymeryd lle. Nid oedd yr Apostol yn beio ar y Corinthiaid am y pethau anghysurus oedd yn eu plith, ond, medd efe, ni alarasoch yn hytrach.' Mae'r diafol yn dwyn dynion diras i'r eglwys er mwyn tynu gwarth ar yr achos, ond er hyny ein dyledswydd ni yw galaru drostynt, canys nid ydynt yn fwy abl i ddyoddef tân uffern na rhyw rai eraill. Dylem alaru yn drwm hefyd, am y dianrhydedd mawr sydd yn cael ei dynu ar Grist a'i achos. Clywsoch ddweud ambell dro am rai angladdau, 'Doedd neb yn y lle yn galaru nac yn wylo, ac y mae genym ninau achos i ofni fod llawer o angladdau ysbrydol yn cymeryd lle yn ein plith ni, am ba rai y gellir dywedyd, nid oedd neb yno'n galaru.

AM GORPH Y TREFNYDDION CALFINAIDD.

Wrth ymddiddan mewn cyfeillach am rai o'r hen bobl yn nechreu y corph, dywedai, fod pethau mabaidd iawn yn llawer o honynt, a bod yr Arglwydd, mae'n debyg, wedi goddef llawer o bethau ganddynt oherwydd eu mabandod, nas goddefai genym ni yn y dyddiau hyn. Chwi welsoch y fam weithiau yn cario'r plentyn yn ei chol, a'r un bach yn chwareu ei freichiau, ac fe alle yn ei tharo yn ei hwyneb; Wel, onid yw hi yn ymofyn am y wialen? O na, y plentyn bach gwan! nid yw hi yn gwneud dim ond chwerthin yn ei lygaid; ond pe bai y bachgen ugain mlwydd oed, neu'r lodes ddeunaw mlwydd yn gwneud hyny, ni chai ddim fyned heibio'n ddisylw. Dylem ninau ochelyd meddwl y gallwn ni wneuthur rhyw bethau annheilwng, oherwydd fod rhai o'r hen bobl wedi gwneuthur felly, rhag i ni dynu gwg Duw arnom. Ar yr ochr arall, y mae ofn i ni ryfygu, oherwydd ein bod yn dwyn perthynas grefyddol â'r dynion mawr enwog oedd yn ein plith, heb feddiannu eu hysbryd, ymffrostio ein bod yn blant y prophwydi, a Duw'r prophwydi wedi ein gadael ni. Mae dychryn ar fy meddwl yn fynych rhag bod Satan yn y dyddiau hyn yn gallu gwrthdroi (retort) arnom, a dweud wrthym ni fel y dywedodd wrth feibion Scefa, 'Pwy ydych chwi? 'Roeddwn i yn adnabod eich tadau chwi yn burion—Robert Roberts a adwaen, a David Morris a adwaen. O yr oeddwn i yn gorfod eu hadnabod hwy, oblegid gwnaethant rwyg yn fy nheyrnas i trwy Gymru, sydd heb ei gyweirio hyd heddyw; ond pwy ydych chwi?

'Roedd Mr. R. tua diwedd ei oes yn dweud yn aml ei fod yn ofni eu bod yn adfeilio fel corph; ac yn mhlith arwyddion eraill, byddai yn sylwi mae un o'r pethau mwyaf gofidus ar ei feddwl oedd canfod fod hyd yn nod crefyddwyr wedi colli ysbryd barn am weinidogaeth yr efengyl, i raddau pell iawn. Mi fyddaf yn synu, ebe efe mewn cyfeillach, yn aml wrth glywed dynion cyfrifol, a rhai y gallwn feddwl eu bod yn ddynion da a synwyrol, yn canmol llawer o bregethwyr a llawer o bregethau ac sydd yn fy meddwl i yn hollol annheilwng o'r enw. Mae dynion fel pe baent heb un archwaeth i wahaniaethu rhwng y gwerthfawr a'r gwael, yn debyg i ryw hen ddynes y clywais Mr. Hill o Lundain yn sôn am dani, yr hon oedd wedi colli ei blas (palate) naturiol, a pha beth bynag a osodid o'i blaen, melys neu chwerw, 'good, good,' meddai hi am y cwbl.

Arwydd arall o ddirywiad oedd yn ei ganfod, oedd fod cariad yn oeri yn eu plith. Byddai'r hen bobl gynt, meddai efe, er eu bod yn anfedrus ac yn annhrefnus iawn yn fynych yn eu dull o dderbyn pregethwyr, yn dangos y croesaw mwyaf gwirioneddol; a pha beth bynag oedd ddiffygiol, yr oedd yn hawdd gweled fod eu calonau yn llawn cariad fel tân. Ond yn awr, er fod fe allai ryw faint mwy o drefn a boneddigeiddrwydd, yr wyf yn ofni fod llawer yn edrych ar yr ychydig maent yn wneud gydag achos Duw, fel rhyw faich bron yn rhy drwm i'w ddwyn. Mae arnaf ofn fod cariad llawer yn oeri; a phan byddo hyny yn cymeryd lle, mae'n arwydd drwg iawn. Os bydd dyn yn glaf iawn, a rhyw un yn dweud, Mae ei draed ef yn dechreu oeri, mae pawb yn deall ei fod bron myned i farw; ac oeri mewn cariad brawdol sydd arwydd o farwolaeth ysbrydol.

O, meddai efe, ychydig ddyddiau cyn ei farwolaeth, mewn cyfarfod eglwysig, Gochelwch i'r Arglwydd ein gadael. Gwell i ni bob peth na cholli presennoldeb ein Duw. Pe b'ai hyny yn cymeryd lle, efallai y bydd i'r addoldy yma fyned yn fagwyr, a'r ffwlbertiaid yn tyllu dan y corau; ac yn yr oes nesaf bydd rhyw un yn gofyn, Beth fu fan hyn? a rhyw hen wr, wedi ei adael yn weddill o'r oes grefyddol, yn ateb, Capel fu fan hyn, tŷ ein sancteiddrwydd, lle y moliannai ein tadau ni yr Arglwydd.'

Pan byddo dyn duwiol yn colli llewyrch wyneb yr Arglwydd, mae hyny yn profi fod rhywbeth wedi myned rhyngddo a'r Arglwydd; ac yna nid oes ond un o dair ffordd am ei adferiad-naill ai symud yr Arglwydd allan o'i drefn i gysuro ei bobl, neu symud y gwrthddrych sydd yn achosi'r cwmwl, neu symud y dyn; y cyntaf sydd anmhosibl, y diweddaf sydd beryglus, a'r llall yn unig sydd ddiogel i'r dyn, ac yn ogoniant i Dduw.

AM DDIRWEST.

Yr wyf yn ddiweddar wedi bod yn rhyfeddu dau beth yn ddibaid am danaf fy hun, sef pa fodd y meddyliais yfed erioed heb syched, a pha fodd y meddyliais erioed yfed y peth a allasai osod fy mhen tan draed fy ngheffyl. Yr wyf fi wedi bod yn gorfod gofyn pardwn y dwr am y dirmyg a fum yn daflu arno trwy'r blynyddoedd. Y mae genyf grediniaeth gadarn, y bydd i'r achos hwn fyned yn mlaen er gwaethaf pob gwrthwynebiad. Ofer i chwi feddwl ei attal. Yr un pryd y troir Teifi o bont Aberteifi i ffrydio tua Ffair Rhos, ag y troir achos mawr cymedroldeb yn ei ol cyn llifo dros yr holl wlad. Mae pobl —— yn bwriadu peidio dyfod allan i weled y llanw a'r llif, ond fe dyr i'w tai yn fuan, ac fe dardd wrth echwyn eu gwelyau. Ein dyben, meddai efe wrth areithio ar yr achos hwn mewn rhyw fan ar lan y môr, ein dyben wrth ymuno â'n gilydd fel hyn yn y gymdeithas hon, yw fel y gallom ymdrechu yn fwy effeithiol i achub y dynion. Fel y gwelsoch weithiau ar lan y môr, pan y canfyddid rhyw un yn mron boddi yn nghanol y tònau, bydd y bobl ar y lan yn ymaflyd law-yn-llaw, ac yn ymestyn allan felly nes cael gafael ar y bachgen druan sydd yn mron soddi, a'i ddwyn yn ddiogel i dir.

Mewn atebiad i wrthddadl a ddefnyddid gan rai, fod y gymdeithas yn ei hamcan yn rhy ddisymwth a byrbwyll, a byddai'n well ceisio gwneud y peth yn fwy graddol, dywedai, Pe b'ai i chwi weled dyn yn ceisio crogi ei hun, a'r rhaff am ei wddf, ac yntau yn hongian wrthi, pa beth a farnech oreu i'w wneuthur ar y fath achlysur? Ai myned yn mlaen yn bwyllog i ddatod y gorden yn raddol, bob yn edef a phob yn bleth? O nage, ond allan a'ch cyllell, a thorwch y rhaff âg un ergyd os ydych am achub y dyn; ac fel hyn rhaid i ninau wneuthur â'r meddwon-rhaid tori yr hen arfer ar unwaith, neu nid oes gobaith am dani.

PREGETH [34] Y PARCH. EBENEZER RICHARD,

Ar Act. xxvi. 18.—I agoryd eu llygaid.

MAE y geiriau hyn yn dyfod i mewn yn yr araeth ryfeddol hòno a draddodwyd gan yr Apostol Paul o flaen Agrippa, Ffestus, Bernice, ac eraill.

Yr oedd Paul y pryd hwn yn garcharor mewn cadwyn am air Duw, ac am dystiolaeth Iesu Grist, ac wedi ei ddwyn ger bron llywiawdwyr a breninoedd oblegid ei ymlyniad wrth grefydd; ac wrth sefyll ger bron y fainc y mae yn cael cenad i ateb drosto ei hun, ac wrth ateb y mae yntau yn defnyddio y cyfle i wneuthur yr araeth anghydmarol hon. Y mae yn dangos yma dri pheth am dano ei hun.

1af. Ei fuchedd o'i febyd. Y modd y codwyd ef i fynu wrth draed Gamaliel, ac mai yn ol y sect fanylaf o'n crefydd ni y bum i fyw yn Pharisead.' 2il. Y tro rhyfedd a ddaeth arno. Y modd y galwodd Crist ef, ei droi o fod yn Iuddew i fod yn Gristion, o fod yn erlidiwr i fod yn weddiwr, o fod yn gablwr Crist yn bregethwr Crist, ac yn ewyllysgar i ddyoddef dros ei enw. 3ydd. Ei anfoniad gan Grist at y cenedloedd, at y rhai yr wyf fi yn dy anfon di yr awr hon.' Geiriau Crist wrth Paul yw y rhai hyn, ac yn cael eu hadrodd gan Paul o flaen Agrippa; ac wrth nodi ei anfoniad i fod yn bregethwr Crist, y mae yn dangos y dybenion i ba rai yr oedd yn cael ei anfon, ac felly yn dangos dybenion mawr gweinidogaeth yr efengyl yn mhob oes o'r byd, I agoryd eu llygaid, ac i'w troi o dywyllwch i oleuni.' Dyma yr amcan mawr wrth ei anfon i ganol y cenedloedd deillion, i agoryd eu llygaid;' a chan eu bod yn ddeillion, nid eill dim fod yn fwy defnyddiol iddynt nac agor eu llygaid. Nid llygaid eu cyrph a feddylir, (er y mae yn ddiau i'r Apostol dderbyn awdurdod gwyrthiol oddiwrth Grist i roddi llygaid i ddeillion naturiol,) ond llygaid y deall, llygaid y meddwl, llygaid ysbrydol.

Gwelwn yma hefyd nad oedd Paul a'i frodyr i fod yn ddim yn y gorchwyl yma ond offerynau, ac nid eill cenadon y gair fod yn ddim hyd y nos hon ond fel y defnyddir hwy gan Grist. Efe yn unig a all agor llygaid y deillion, ac fe ddanfonir yr efengyl i ychydig ddyben i blith deillion, onis agorir eu llygaid. Gellwch ddifyru deillion, gellwch ganu tune wrth eu bodd, ac eto bod eu llygaid yn nghau, ond y gymwynas benaf â'r dall yw agor ei lygaid.

I. Fod pechaduriaid wrth natur â'u llygaid yn nghau yn mhob gwlad, o bob iaith, ac yn mysg pob cenedl→ yn ddeillion ysbrydol.

II. Mae gorchwyl Duw yw agor llygaid pechadur. III. Mae gweinidogaeth yr efengyl yw y moddion appwyntiedig ac arddeledig gan Dduw i agor llygaid deillion.

I. Fod pechaduriaid wrth natur â'u llygaid yn nghau. Y mae dallineb naturiol yn tarddu o amryw achosion. 1. Y mae rhai wedi eu geni felly o groth eu mam; dyna fel yr oedd y dyn hwnw yr agorodd Crist ei lygaid, 'Ni a wyddom mai hwn yw ein mab ni, ac mae yn ddall y ganwyd ef.' 2. Henaint ac oedran yn pylu ac yn tywyllu y llygaid; fel hyn yr oedd yr hen batriarchiaid, Isaac a Jacob. Mae esiamplau am lawer fel hyn, wedi gweled am ugeiniau o flynyddoedd, yn colli eu golwg. 3. Barn Duw wedi taro rhai yn ddeillion weithiau; fel hyn yr oedd ar drigolion Sodom, cael eu taro â dallineb disymwth nes oeddynt yn ymbalfalu am y drws, a ffaelu ei gael; a phur debyg mae trengu yn ddeillion wnaethant dan y gafod frwm- stan. 4. Trwy ddwylaw dynion; felly y gwnaed âg Hezeciah.

Y mae hefyd amryw achosion i ddallineb ysbrydol:

1. Llygredigaeth natur: nid yn ddeillion y creodd Duw ddynion ar y cyntaf. O na, 'roedd Adda yn gweled yn eglur ac yn mhell, ond fe ammharwyd ei natur yn y fath fodd trwy bechod, fel yr aeth yn ddall, ac y mae ei ol i'w weled ar ei holl hiliogaeth; yn ddall o galon. 2. Y diafol; y mae ganddo ef law ryfedd yn y gwaith hwn.

3. Hunan-dyb ac ymchwydd-meddwl ei fod yr hyn nid yw. Felly yr oedd yr eglwys yn y Datguddiad, Goludog wyf, a mi a gyfoethogais, ac nid oes arnaf eisiau dim.' Wel, a oes dim o honi felly? O nac yw, heb weled mae hi; pe gwelai ei hun, ' y mae yn dlawd, yn anghenus, yn ddall.'

4. Diffyg y grasusau ysbrydol hyny â pha rai y mae y gwaredigion yn cael eu cynnysgaeddu, megis ffydd, amynedd, cariad, &c.; ' a'r hwn nid yw y rhai hyn ganddo, dall ydyw.'

5. Anwybodaeth wirfoddol; cau eu llygaid yn erbyn y goleuni-ni fynant mo hono.

6. Barn Duw yn rhoi i fynu i ddallineb.

II. Gorchwyl Duw yw agor llygaid y deillion. Salm cxlvi. 8; cxix. 18. Esa. xlii. 7. Luc xxiv. 45. 1 Pedr ii. 9.

1. Nid oes neb arall yn meddu digon o allu.

2. Nac ychwaith ddigon o drugaredd a thosturi. III. Gweinidogaeth yr efengyl yw'r moddion a ddefnyddir i agor llygaid pechaduriaid. Act. xiv. 1; xvii. 3, 4. Rhuf. i. 10, &c.

Gwelwn oddiwrth hyn,

1. Y dylai fyned yn gashau, yn ffieiddio, ac yn ddial ar yr hwn fu yn achos tynu llygaid cymaint. Pe b'ai rhyw ddyn wedi tynu llygaid plentyn yn y dref yma, byddai yn anhawdd iawn i'r mamau tyner adael ceryg y street yn llonydd heb eu rhoi yn un â'i ben, ac anhawdd iawn i'r tadau tirion adael eu dyrnau yn llonydd heb eu gosod arno; ond yr wyf fi yn myned i ddweud am un dynodd lygaid miloedd, ac mi gyhoeddaf ei enw ar g'oedd y dyrfa-pechod; ac eto y mae llawer yn coleddu y fath adyn a hwn! O aed yn ddial arno!

2. Gobeithio y cynhyrfa Duw deimladau o dosturi at y deillion. Pan y byddo'r mamau tyner yma yn gweled rhyw blentyn bach dall yn cardota ar hyd yr ystrydoedd, y mae tosturi yn cael ei greu yn eu teimladau tuag ato, a rhyfeddu na fuasai eu plant bach hwythau felly. Ond O, a gaf ddweud wrthych, y mae genych blant, a pherthynasau, a chymmydogion heb lygaid, a chwithau er hyny yn gwbl ddiofid am danynt! Os gellir tywallt cymaint o ddagrau dros un plentyn dall naturiol, a oes dim un deigryn i'w spario dros yr holl ddeillion ysbrydol.

3. Cyngorwn holl ddeillion y wlad i gadw ochr y ffordd. Mae'r hen Bartimeus wedi bod yn galondid i fy meddwl i lawer gwaith. Yr oedd e' wedi bod er ys llawer o amser efallai ar ymyl y ffordd yn deisyf elusen, yn begian dimai; ac yr oedd yno y diwrnod yr aeth yr Iesu heibio, ac fe glywodd swn y dyrfa, ac fe ofynodd beth oedd y mater; mae rhyw beth mwy heddyw nac sydd bob dydd. Mae rhyw un yn ateb, fod Iesu o Nazareth yn myned heibio. Mi debygwn y clywn i e'n dywedyd, O yr oeddwn yn dysgwyl y cyfle er ys llawer dydd; yn awr mi waeddaf arno, ‘Iesu, fab Dafydd, trugarha wrthyf!' 'Roedd yno ryw gentry yn rhodio o flaen y dyrfa yn dechreu ei geryddu,—— Taw son, paid a bod yn impudent i flino'r athraw; ni fu'r gwr mawr a'i gwmni erioed y ffordd hon o'r blaen, ac a thi sydd yn myn'd i roi dy nadau? Ond lwyddodd dim gydag ef i dewi; efe a lefodd yn uwch o lawer iawn, ‘Iesu, fab Dafydd, trugarha wrthyf.' Yn awr syned nefoedd a rhyfedded daear gyda fi wrth y gair nesaf, A'r Iesu a safodd!' Fe safodd yr haul pan galwodd Joshua, fe arosodd y lleuad ar gais tywysog Israel, ond dyma beth anfeidrol fwy, Creawdwr yr haul a'r lleuad yn aros wrth fod cardotyn tlawd, hen feggar dall yn gwaeddi arno; ac mi ddych'mygwn y gwelwn rhyw ddyn calon-dyner yn rhedeg a'r newydd anwyl iddo, Cymer gysur; y mae efe yn galw am danat.'


Y MAE y cynlluniau (sketches) canlynol o bregethau wedi eu cymeryd o'r nodau hyny a fyddai Mr. Richard arferol o'u parotoi yn ei fyfyr-gell cyn ymddangos yn y cyhoedd.

Act. xxviii. 18.— Ac o feddiant Satan at Dduw.

I. Sefyllfa dyn wrth natur-' yn y tywyllwch;' tywyllwch pechod, anwybodaeth, ac anghrediniaeth. Ioan i. 5. a iii. 19. 2 Cor. vi. 14. Eph. v. 8, 11.
1. Yn y tywyllwch am Dduw a'i berffeithiau. Jer, ix. 6. Ioan xv. 21. 1 Thes. iv. 5. 2 Thes. i. 8.
2. Am bechod a'i ganlyniadau. Rhuf. vii. 7, 13. Psalm li. 4. Gen, xxxix. 9.


3. Am ffordd heddwch, cyfiawnhad, ac iechawdwriaeth trwy Grist. Act. xvi. 17. a xviii. 25, 26.
4. Am yr Ysbryd a'i waith cadwedigol ar yr enaid. Ioan iii. 4. 1 Cor. ii. 14. Rhuf. viii. 5.
5. Am yr Ysgrythyrau; ni fedrant ganfod dim i ddeddf nac efengyl. Salm cxix. 12, 18, 26, 33, 64. 2 Cor. iv. 3.
6. Am eu rhan yn y byd tragywyddol, ac i ba le maent yn myned. 1 Ioan ii. 11.

II. Y sefyllfa i ba un y maent yn cael ei galw iddi—'i oleuni,' 'ï'w ryfeddol oleuni ef.'
1. At Dduw, yr hwn sydd oleuni ei hunan. Salm xxvii. 1. 1 Ioan i. 5.
2. At Grist, yr hwn yw'r goleuni, gwir oleuni'r byd. Ioan i. 4-9.
3. At y Gair, yr hwn sydd oleuni i'w llwybr. Salm cxix. 105. a xix. 8. a xliii. 3. Diar. vi. 23.
4. I oleuni cyflwr grasol yn y byd hwn. 2 Cor. iv. 6. Eph. v. 14.
5. I oleuni gogoniant yn y byd a ddaw. Col. i. 12. Goleuni yw hwn heb gymylau, heb ddiwedd.

III. Y modd y mae'r efengyl yn effeithio byn-troi.' Dan. xii, 3. Iago v. 20. Act. iii. 26.
1. Nid troad allanol yn unig yw hwn, nid diwygiad allanol yn ei ymddygiadau yn unig ydyw. Matt..xxiii. 27, 28. Rhuf. ii. 28. 1 Sam. xvi. 7.
2. Nid cyfnewidiad barn yn nghylch athrawiaeth ydyw.
3. Ac nid adferiad ar ol gwrthgiliad ydyw.

Ond y gwaith cyntaf ydyw troedigaeth.
1. Y mae yn droedigaeth tumewnol yn y galon. Salm xix. 7.
2. Y mae yn droedigaeth gwirioneddol.
3. Y mae yn droedigaeth ddwyfol. Salm lxxxv. 4.
4. Y mae yn droedigaeth dragywyddol.
5. Y mae gweinidogion y gair yn offerynau yn y troad hwn.



Act. xxvi. 18.— Ac o feddiant Satan at Dduw.


I. Cyflwr truenus plant dynion-'yn meddiant Satan.'
1. Mae yn feddiant hen iawn. Yr oedd y dyn cyntaf yn ei feddiant.
2. Anghyfiawn iawn; oherwydd meddiant Duw ydyw o ran hawl, Salm c. 3; a'r diafol trwy dwyll, dichell, a chelwydd.
3. Cadarn iawn. Esa. xlix. 24, 25. Matt. xii. 29.
4. Creulon a chaled iawn i gorph ac enaid. Esa. xlix. 25.
5. Tawel a heddychol iawn o du y dyn. Luc xi. 21.
6. Llafurus iawn o du Satan. Eph. ii. 2.
7. Bydd yn feddiant tragywyddol, oni bydd i Dduw gymeryd trugaredd arnom.
Yn mha fodd neu ddull y maent yn ei feddiant?

1. Fel y mae y dall yn meddiant ei arweinydd. Y mae yn eu dallu, yn eu cadw yn ddall, ac yn cynnyddu eu dalliaeb. 2 Bren. vi. 19.
2. Fel caffaeliaid yn meddiant eu goresgyawr. Gwel Adonibezec.
3. Fel aderyn yn meddiant yr adarwr. 1 Tim. iii. 7, a vi, 9.
2 Tim. ii. 26.
4. Fel plentyn yn meddiant ei dad. Ioan viii. 44.
5. Fel carcharor yn meddiant ceidwad y carchar.
6. Fel gwas yn meddiant ei feistr. Matt. viii. 9.
7. Fel addolwyr yn meddiant eu Duw. 2 Cor. iv. 4.

II. Y cyflwr y dygir dynion iddo drwy yr efengyl-at Dduw. Dyma yw dyben mawr prynedigaeth, 1 Pedr iii. 18; a dyben mawr galwedigaeth yr efengyl, Esa. Iv. 7.
1. I wybodaeth achubol o Dduw. Ioan xvii, 3,
2, 1 ddymuno am dano. 2 Sam. xxiii. 5. Esa. xxvi. 8, 9.
3. I'w garu yn wirioneddol. Deut. xxx. 6.
4. I ymddiried ynddo. Salm xl. 4.
5. I gymdeithasu a chyfeillachu âg ef. 1 Cor. i. 9. 1 Ioan i. 3.
6. 1 ufudd-dod iddo. Act. v. 39.
7. 1 fwynhad tragywyddol o hono. Salm xvi. 11. a xvii. 5.

Sylwer,

1. Y mae Satan yn para i demtio ar ol y troad hwn.
2. Bydd yn boenydiwr y saint tra y byddant yma.
3. Oud eto ni chaiff eu dinystrio nac yn y byd hwn nac yn y byd a ddaw.
4. Pan y byddo pechaduriaid yn cael eu troi o dywyllwch i oleuni, y maent yn ganlynol yn dyfod o feddiant Satan at Dduw.

ENGREIFFTIAU O BRYDYDDIAETH MR. RICHARD.

AR BERSON, DYODDEFIADAU, AC EIRIOLAETH CRIST.

O Edom ddiras, daeth yn llawn urddas
Gorchfygwr addas gwiw,
I ymarddelu, ac etifeddu
Holl deulu meibion Duw.
Hardd yn ei ddillad, boff yn ei wisgad,
Yw'n beirniad enwog 'nawr;
Hynod ei hwyredd, hyglod ei fawredd,
Yn dwyn tangnefedd mawr.

Cyfiawnder yw ei iaith,
Cadweidiaeth yw ei waith;
'Fe sathrodd hefyd, ar winwryf enbyd,
Gorphenodd lychlyd daith;
Gorchfygodd angeu, a'r byd a'i ddrygau,
Trwy ddyoddef ar y bryn;
Ergydion trymion, deddf a'i melldithion
Ya gyfan y pryd hyn.
Deigrynu 'roedd ei waed
Ya drwm o'i ben i'w draed;
Heb gynnorthwywr, 'roedd ein Cyfryngwr,
Ein mwyn ganolwr måd;
O Bozrah waedlyd, daeth craig ein hiechyd,
A gobaith bywyd llawn,
Wedi concwerio, trwy hardd filwrio,
Nes iddo roddi iawn.

Hwn yw'r planhigyn, a'r hardd flagurya
Ddygodd y rhosyn per,
Sydd yn rhaglunio, ac yn pereiddio,
Wrth bledio o flaen ein Ner.
'Nawr mae peroriaeth ei fwyn eiriolaeth,
Yn bridwerth dros y tlawd;
A Iesu'a dadleu, ei waed a'i glwyfau,
Dros feiau'n daliad waawd.
Mae'n Llywydd rhad—ein Rhi—
'Nawr yn ein tywys, lu
Trwy gywrain gyfraith, efengyl odiseth,
Dladleuaeth trosom ni.
Mae yn gorseddu, uwch pob rhyw allu,
'Nawr yn y teulu fry;
Pob goruchafiaeth, a phendefigaeth,
Blaenoriaeth iddo sy'.
Areithio mae ef 'nawr
O flaen yr orsedd fawr,
Am faddeu beian,
A phla camweddau
Ei seintiau ar y llawr;
'Fe lwydda hefyd, nes caffunt wynfyd
Mewn tragwyddolfyd pell,
A'a dwyn o'r tonau,
A'r mawr ofidiau,
I'r gwir drigfanau gwell."

BLOEDD-GYNHAUAF, NEU GAN O DDIOLCHGARWCH AM
GNWD Y FLWYDDYN 1820.

CYD-GANED y meusydd, y dolydd, a'r dw'r,
Canmoled mynyddoedd a moroedd y gwr;
Doed adar y nefoedd a lluoedd y llawr
I seinio clodforedd Duw rhyfedd yn awr.

"Pryd hau a phryd medi, pryd oerni a gwres,
Ddaeth in' o law'r Arglwydd, ein llywydd, er lles;
Pryd hau a chynhauaf, hyfrydaf diball,
I'r eryfaf a'r gwanaf, a'r gwaethaf heb wall.

"Mewn gobaith bu'r arddwr a'r hauwr 'r un wedd,
Ya taflu eu hadau rhwng ewysau i'r bedd;
Ni siomwyd mo'u gobaith, am effaith yr hau
Fe lonwyd calonau a gruddiau y ddau.

"Medelwr a rhwymwr, y gyrwr a'r gwas,
A gyd-lawenychant mewn mwyniant o'r ma's;
Henafgwyr a llanciau, llancesau a phlant,
Gyd-lamant, gyd-ganant, gyd-chwariant a'r dant.

"Mae canu ar goedydd, y gelltydd, a'r gwrych,
Wrth weled fath lawnder, dibrinder, difrych;
Mae'r yeh a'r march gwrol yn hollol run iaith;"
Clodfori a moli eleni yw'r gwaith.

"Mae'r iar a'i man gywion, rai gweinion di-ddrwg,
Ya 'nabod fod lluoedd y nefoedd heb wg;
Y morgrag, cwningod, y bychod a'r brain,
Caed gweled fod gofal di-attal am 'rhai'n.

"Ca'dd hithau'r wenynen fach felen ei lliw,
Rwydd bynt i rydd gasglu a thyru at fyw;
Hi heliodd felusion goreuon eu gwerth,
O flodeu perllanau a brigau y berth.

"Fel hyn mae'r greedigaeth faith helaeth i gyd,
Yn canmol Creawdwr a Noddwr y byd;
'Does dafod ti glywi yn tewi 'r un lle,
Ond diolch yn hylwydd i lywydd y ne'.

"Dewch chwithau, blant dynion, ya hylon a hael,"
Fon'ddigion a thlodion, y gwychion a'r gwael;
I Dduw rhowch ogoniant a'r moliant mewn pryd,
Am iddo dosturio a'n cofio ni gyd.

"Caed blwyddyn goronog, odidog a llon,
Daioni rhagluniaeth fu'n helaeth yn hon;

Dyferodd ar gamrau a llwybrau Duw Ior,
Ryw frasder rhyfeddol, anarhaethol ei stor.

"Mae'r yd a'r grawu goreu, gwenithau a haidd,
Yn ymborth i'r gweiniaid, bugeiliaid y praidd;
'Fe drefnodd ein celloedd, ni phallodd yr un,
Bob lluniaeth yn helaeth, cynnaliaeth i'r dyn.


PENNILLION I'R IEUENCTYD

"O na ddei'ie'netyd yr holl wlad
At Geidwad pechaduriaid;
Ymwrthod a gorwagedd byd,
Yn nghyd a llwybrau'r diriaid.

O deuwch blant, gwrandewch yn rhwydd
Gyfreithiau'r Arglwydd nefol;,
Mynegaf i chwi foreu a nawn
Ei ddeddfau uniawn llesol.

Dysgaf iwch hefyd ofni Duw,
A charu ei glodwiw eiriau;
A'i dystiolaethau gaiff fod byth
Eioh dilyth fyfyrdodau.


O FLAEN PREGETH.

Dysg ni, O Dduw, i graffu "nawr
Ar werthfawr eiriau'r bywyd;
Can's ynddynt hwy ceir heddwch hir,
Cysuron gwir a iechyd."


AR DIAR. VIII. 17.

Ceisiwch yr Arglwydd, a chewch ef
Yn noddfa gref i'ch cadw;
Yn foreu ceisiwch Grist a'i ras,
Can's urddas iawn yw hwnw.


AR ESA. XLIII. 10.

"Gwaa fi yn dyst ffyddlonaf,
Cywiraf tra fwyf byw;
Mae doeth a thirion hefyd
Mewn adfyd yw fy Nuw:
Rho rym i dystio'n gyson
Mae fyddion yw heb goll,
A theilwng iawn o'i fali
Gan deulu'r nefoedd oll."


AR SALM XXXVI. 9.

Gyda thydi, O Arglwydd hael,
Mae ffynnon ddiwael, gyflawn,
Sef ffynon dawel dyfroedd byw,
Goleuni gwiw i'r cyfiawn.


AR IOAN I. 47.

O Gwna
Fi'n Israeliad didwyll da,
Hebddrwg na thrawsder, trais na thra',
A hoelia 'nghlust with byst dy dŷ,
I aros ynddo yn ddiwahan,
Nes dod yn lân i'r Ganaan fry.


AR EPH. IV. 3.

Yn llythyr cymun Crist y cair,
Dangnefedd auraidd ar ei air;
Ac yn ei weddi olaf wir
Ceir undeb llawn a heddwch hir:
Addawyd, do, er's oesoedd pell,
'Dai'r llew a'r ych i ddiwyg gwell;
Y llo a'r llewpard, 'r oen a'r blaidd,
Heb ddim gelyniaeth yn eu gwraidd.


Yr engreifftiau uchod o brydyddiaeth Mr. R., er eu bod gan mwyaf wedi eu hysgrifenu er ys llawer o flynyddoedd yn ol, ydynt yn awr yn ymddangos yn y wasg am y tro cyntaf. Diangenrhaid sylwi nad oedd awdwr y cyfansoddiadau uchod wedi gwneuthur rheolau dyrys a gormesol Barddoniaeth Gymreig yn wrthddrych myfyrdod manwl, gan mae fel difyrwch ac nid fel gorchest y byddai ef yn troi at y gwaith o rigymu. Ofer gan hyny i'r rhai sydd yn cyfrif cyw- reinrwydd mydr a phlethiadau campus sillafau fel yr unig bethau mewn prydyddiaeth ag y maent "yn chwennych eu hanrhydeddu," i edrych yn y llinellau anghelfydd a dirodres uchod am ddim teilwng o'u beirniadaeth ddysgedig hwy. Ond os nad ydyw pleidgarwch cariad wedi dallu ein barn, ni fydd yn anhawdd i'r gwir fardd ganfod ynddynt rai o elfenau mwyaf hanfodol prydyddiaeth, yn enwedig yn Nghân y Cynhauaf.

Byddai Mr. R. yn arfer dweud mewn digrifwch, os oedd ef yn meddu un wreichionen o athrylith barddonol, ei fod yn sicr mae at sen-brydyddiaeth (satire) yr oedd tueddiad ei awen. Ac y mae ar gael yn bresennol yn mhlith eu bapurau un gân o'r natur hyny, mor llym a gerwin a nemawr o ddim a welsom crioed. Ond nis beiddiwn ei chyhoeddi yn awr, am ein bod yn gwybod na fuasai efe ei hun yn foddlon er dim achosi poen nac anesmwythder i feddyliau neb, er ei fod yn medru canfod a chondemnio yr hyn oedd annheilwng a gwarthruddus yn eu cymeriad Ond gallwn roddi yma un neu ddau bennill eraill o'r natur yma fel engraifft i'n darllenwyr.

HANES DAU.

Dau hurtyn disynwyr, disylw, diserch,
Diannel, diaddurn, yw'r diogyn a'i ferch;
Dibarcha diberchen, diberfedd, dibwyll,
Didawr a dideimlad; didlws—nid didwyll."


SEN I'R SAWL A'I HAEDDO.

Y corgi cynddeiriog, celwyddog a chas,
Ni feddi synwyryn, na mymryn o ras;
Eisteddaist, dirmygaist, a cheblaist dy well,
Am hyny fe'th yrir o'th oror ya mhell.


DESGRIFIAD O RYW UN NAD YW DDA.

Y dyhiryn, diogyn diras,
Mab suddas, un atgas o ryw,
Yn ymdroi ac yn braenu yn y baw;
Y cenaw cethina' yn fyw,
Mab diafol-ei briodol dad ef,
Yr ellyll gelynol ei hynt;
Mab ffol, mab ffuantus a ffraeth,
Mab gwaeth na mab gwegi a gwynt."


Fel engreifftiau o ddigrifwch diniweid, gellir rhoddi yma y rhigymau canlynol:—

CYHOEDDI MOCHYN.

"O chewch chwi weled parchell gwyn
Yn ngwaelod pant neu ar y bryn,
Rhowch air o'i hanes i mi'n rhwydd:
Cewch ran o hono'n fochyn blwydd."


I'R CHWIFFWYR.

Mai ——— a'i bregethwyr,
Yn benaf o'r holl chwiffwyr;
A rhaid cael pibell wen bob dydd
Er budd a chynnydd synwyr.


Y pennillion canlynol a gyfansoddodd i'n mam a'n chwaer ieuangaf, yn 1836, ar y diwrnod yr oedd yn eu dysgwyl adref o'r Ffynonau.

"Mi ferwaf y crochan, a'm tan bach fy hunan,
Heb riddfan na thuchan, yn hapus fy hoen;
Cewch genyf gawl cenin, a bara ac ymenyn,
A llawer amaethun i ganlyn eich poen.

Bydd dda genych weled, ar ol byw mor galed,
Fod yma ryw 'stenaid neu lestraid o laeth;
Bydd melus bytaten i'w throchi mewn halen.
Ac iraidd erfinen, neu ryw beth f'o gwaeth.





Llundain: W. CLOWES a'i FEIBION, Duke Street, Stamford Street.

Nodiadau

golygu
  1. "Yr oedd ganddo, nid yn unig awdurdod, ond hefyd reolaeth dros ei bobl; nid i'w ofni, rhag iddo gael ei ystyried yn ddirmygus neu yn siaradus; yn wir, o'i dafod y daeth lleferydd melysach na mêl."— Ctc. AR HENAINT.
  2. Yr oedd i Mr. Henry Richard hefyd ddau fab o'i wraig gyntaf, sef John a William Richard, a mab a merch yn ychwanegol o'i ail wraig, sef Thomas a Mary Richard, y rhai ydynt oll yn fyw yn bresenol, yn Sir Benfro.
  3. Y Parch. William Morris, Cilgerran.
  4. Y Parch. Thomas Evans, Caerfyrddin,
  5. Owen Enos, yr hwn mae'n debyg oedd ei gyfaill ar y daith hon.
  6. Y Parch. William Morris, Cilgerran.
  7. Y cyfieithad Saesoneg.
  8. Bernais hyn yn ddigonol tan y penderfyniad hwn, gan y gwyddwn eich bod chwi wedi cymeryd nodiadau manwl o bob peth perthynol i'r cyfarfod deufisol.
  9. Bod holl drefniad y Cyfarfod Blynyddawl hwn yn gyfan-gwbl a hollawl yn nwylaw Cyfarfod Misol y Sir, sef pa le a pha bryd y cedwir ef, pwy fydd i lefaru ynddo, ac ar ba destunau, &c.
  10. Yr achos nad oedd dosparth Abertawy yn ymofyn am lyfr, ydoedd, eu bod hwy wedi myned i'r draul o geisio llyfr taclus a hardd yn barod, ac a atebai'r dyben yn hollawl ond ei linellu e'n drefnus.
  11. Y rhai ni ddaethant byth i law.
  12. Y Parch. John Evans, New Inn, a'r Parch. Thomas Evans, Caerfyrddin.
  13. Sef yr Examinations angenrheidiol i'w awdurdodi yn gyfreithlon i ymarfer â'i alwedigaeth.
  14. Y naill newydd ddechreu ymarfer â'i alwedigaeth fel meddyg, a'r llall yn parhau yn yr athrofa.
  15. Mr. David Jenkins, Llanbedr.
  16. Byddid arferol o anfon y gwyr ieuaine perthynol i'r athrofa i wasanaethu rhyw eglwys amddifad o weinidog, dros y gwyliau.
  17. The Case of the Dissenters. Traethodyn a ysgrifenwyd ar achos yr Ymneillduwyr, mewn dull o lythyr at Arglwydd Brougham, fel yr ydys yn barnu, gan y Parch. Dr. Andrew Read.
  18. Y mae yn gymhwys i ni hysbysu i'n darllenwyr, mae yr hyn y cyfeiria Mr. Rees ato yn y frawddeg uchod ydyw terfyniad y ganrif gyntaf, er sefydliad dechreuol y Trefnyddion Calfinaidd. Dechreuwyd sefydlu y corph hwn yn Nghymru yn y flwyddyn 1735. Gellir hefyd sylwi yma, mae y Gymdeithasiad hon, yn 1835, oedd yr olaf byth a welodd Mr. Richard yn Llangeitho.
  19. Cyfeiriad at yr hanes a roddasid yn y llythyr, am ba un y crybwylla o ddewisiad ei fab ieuangafi fod yn weinidog ar eglwys gerllaw Llundain.
  20. Cymdeithas a sefydlwyd ar yr 16 o fis Chwefror yn y flwyddyn hon (1837,) i'r dyben o ymweled ac ymgeleddu y miloedd o Gymry tlodion ac anystyriol sydd yn preswylio yn Llundain; a bydd yn llawenydd gan lawer o'n darllenwyr ddeall, fod y gymdeithas, yn ol dymuniad Mr. Richard, wedi bod eisoes yn dra llwyddiannus.
  21. Y Parchedigion Ebenezer Morris a David Evans.
  22. Fel engraifft o hyn, gellir cyfeirio at y cyfarchiadau cyhoeddus a fyddai arferol o draddodi yn y Cymdeithasiadau (Associations,) i'r dyben o gydnabod caredigrwydd a mwyneidd-dra trigolion y cymmydogaethau yn mha rai y cynnelid y cyfarfodydd hyn. Mor ddengar a boneddigaidd oedd ei areithyddiaeth ar yr achlysuron hyn, fel y byddai yn swyno serchiadau pob math o wrandawyr; ac fel y dywedwyd yn un o'r pregethau angladdol a draddodwyd ar ol ei farwolaeth, Dewisid ef yn wastad i dalu diolch i gyfeillion achos Duw am eu caredigrwydd yn lletya, &c., ac fe wnai hyny nes y byddai lluaws tref yn crychneidio o lawenydd.—Parch. William Morris.
  23. Collodd yr efengyl un o'r pregethwyr mwyaf hyawdl a melus ya yr oes. Profwyd hi o'r enau, nid fel gair dyn, ond fel gwir air Duw, ya aml. Collodd yr Ysgol Sabbothol yr holiedydd goreu ar dir Cymru i gyd: daeth llawer o'r nefoedd i waered i'r ddaear pan fyddai ef gyda'r gwaith hwn."-Pregeth Angladdol gan y Parch. J. Jones, Llanbedr, oddiwrth 2 Sam. iii. 38. Gwel Pregether, Cyl. II. tudal. 123.
  24. Pe buasai byw yn yr oesoedd gynt, cawsai ei gyfrif yn un o dadau yr eglwys. Pwy fel efe i drefnu achosion y gwaith mawr yn ein plith? ac fel cyflawnwr amryw orchwylion neillduol dros y corph ac ydoedd yn gwasanaethu iddo, ni chaed neb fel efe. Fel Ysgrifenydd y Gymdeithasiad, yr ydoedd heb ei fath. Yr ydoedd gan Dafydd frenin Jehosaphat yn gofiadur a Sadoc yn ysgrifenydd; ond mi feddyliwn nad oeddynt ill dau yn nghyd ddim cymaint a'n Ebenezer ni. Y pethau a drinid yn sathredig, efe a osodai bob aelod yn ei le, ac a ddarllenai y sylwadau yn y Gymdeithasiad nesaf, nes y byddai pawb wedi cael cyflawn daliad am eu trafferth i deithio i'r lle. Hyderaf y ceir y blwch, a'i osod yn yr argraff-wasg, nes y gwasgarer ei ber-aroglau dros holl derfynau yr iaith Gymraeg.—Pregeth Angladdol, gan y Parch. William Morris, Cilgerran, oddiwrth 2 Sam. iii. 38.
    Pa le y gallwn edrych am neb i lanw ei le yn ein Cymanfaoedd Chwarterol trwy holl Ddeheudir Cymru i gyd? Gwasanaethodd yno lawer o flynyddau yn ffyddlon, addfwyn, a doeth, yn hynod o ddiddolur i'w holl frodyr. Beth a wnawn am un tebyg iddo i lywyddu Cyfarfodydd Misol y Sir hon? Braw sydd arnom yr â y llestr yn erbyn y graig, wedi colli ein llywydd medrus a doeth yn y cwbl, pethau amgylchiadol ac ysbrydol y gwaith. Pa fodd bellach y gallwn gynnal cyfarfodydd blynyddol, a haner-blynyddol, a dau-fisol yr Ysgolion Sabbothol? Byddai efe yn gymhorth mawr i'r rhai hyn. Pwy a gawn i drin pethau dyrys ac anhawdd yn yr eglwysi?.... Er fod y diwygiad Methodistaidd, yr hwn a ledaenodd trwy holl Gymru, wedi dechreu cyn ei eni lawer o flynyddoedd, gwelodd yr Arglwydd fod yn dda wneud defnydd amlwg o hono i sefydlu a gosod llawer o bethau yn eu plith a fyddant mewn ymarferiad parchus ganddynt, fel y mae lle i obeithio a chredu, lawer o amser ar ol i ei gorph falurio yn y bedd. Gallaf ddywedyd iddo ragori yn fawr yn hyn ar bawb o'i gydoeswyr. Llawer o ol ei ddoethineb a'i fedrusrwydd sydd ar gymanfaoedd y corph, ac ar Gyfarfod Misol y Sir hon yn neillduol,-ar y teithiau Sabbothol, ac ar yr holl bethau perthynol i'r Ysgol Sabbothol. Nis gallwn edrych ar ddim bron perthynol i'r achos, nad oes ol ei lafur ef arno; a sicr y gallwn ddywedyd iddo gael doethineb a help gan yr Arglwydd i roddi cerbyd mawr yr achos ar ben llwybr da, a fu lwyddiannus hyd yn hyn.—Pregeth y Parch. John Jones.
  25. Byddem yn teimlo gwendid i fyned at un peth o bwys heb ei bresennoldeb ef gyda ni; carem gael ei feddwl am bob addoldy cyn ei adeiladu, derbyniad pobl ieuanc i'r weinidogaeth, a dewisiad holl swyddogion eraill yn yr eglwys.—Pregeth y Parch. John Jones.
  26. Edrychai ei frodyr arno, ac ymddygent tuag ato, fel llywydd doeth arnynt, a bugail ordeiniedig iddynt; ac fel y cyfryw yr oedd efe yn deall deddfau Zeion yn dda, a phob amser yn eu gweinyddu hwynt yn ysbryd yr efengyl. Yr oedd egwyddorion gorfodaeth gyda phethau crefydd yn hollol groes i'w olygiadau ef; barnai mai naturiol ffrwyth y cyfryw orfodaeth ydyw rhodres a rhagrith, yr hyn sydd ffiaidd gan yr Arglwydd. Pan fyddai rhyw achos tan sylw, a gwrthwynebwyr iddo gerllaw, ac yntau yn ystyried yn ddyledswydd arno i bleidio y peth, dygai fedrusrwydd anghyffredinol i'r maes i'w drin, a'i droi, a'i drosi, er ei osod allan yn y lliw goreu a thanbeidiaf.—Parch. J. Phillips, Treffynnon. Gwel Cronicl yr Oes, Ebrill 1, 1837.
  27. Pwy a gawn ar dir mor uchel mewn profiad o bethau ysbrydol a chymdeithas â Duw ac efe, yn alluog i alw ar ei frodyr, ' Dringwch i fynu yma?—Pregeth y Parch. John Jones.
  28. Yr ydym yn cofio clywed un gweinidog ieuanc yn adrodd gyda llawer o addfwynder a digrifwch yr awgrym (hint) a dderbyniodd unwaith ar y pwnc uchod oddiwrth Mr. Richard; yr hwn hefyd a ellir edrych arno fel engraifft o'r dull cynnil a chwareugar trwy ba un yr arwyddai yr hyn oedd yn ei farnu yn feius yn mhregethau ei gyfeillion ieuainc. Yr oedd y gwr y cyfeiriwn ato wedi bod yn pregethu yn Tregaron, ac mewn un rhan o'i bregeth wedi ymsuddo yn dra phell i rai o'r dyfnderau hyn. Wedi dychwelyd i'r ty, pan yr oedd pawb eraill wedi ymadael, Yr oeddwn i, meddai Mr. R., gan gyfarch ei wraig, yn hoffi yn fawr y sylwadau ymarferol yn niwedd y bregeth a glywsom heno, oblegid yr oeddwn inau yn deall y rhai hyny.
  29. Ei lwyddiant hefyd ydoedd yn fawr iawn. Mae yn gwestiwn a fu neb yn y blynyddoedd diweddaf hyn yn fwy yn llaw Duw i ddeffroi eneidiau nag efe. Byddant yn goron ac yn ogoniant iddo pan ymddangoso y Pen-bugail. Cafodd hwn eneidiau yn wobr am ei waith.—Parch. William Morris.
  30. Gellid meddwl wrth wrando arno, ei fod wedi astudio cyfansoddiad y greedigaeth resymol hyd at berffeithrwydd, a bod holl dannau y meddwl dynol wedi eu gosod tan lywodraeth ei fysedd ef, i'w chwareu a'u trin yn ol ei ewyllys ei hun, a'i fod wedi ei bennodi yn frenin ar deimladau meibion dynion.—Parch. John Phillips.
  31. Non satis est pulchra esse poemata: dulcia sunto:
    Et quocunque volent animum auditores agunto
    Ut ridentibus arrident, ita flentibus adflent
    Humani vultus. Si vis me flere, dolendum est
    Primum ipsi tibi.—Hor.
  32. Byddai yn arfer cyngori ei frodyr ieuaine, beidio un amser a gofyn gan weinidog neu bregethwr a fyddai lawer yn henach na hwy i ddechreu yr odfa o'u blaen. Os dygwydd, ebe efe, i chwi fod yn flinedig, a'r cyfryw un fod yn mysg y gynnulleidfa, gwell i chwi ymdrechu fyned trwy y gwaith eich hun er eich teimladau, oddieithr i chwi gael rhyw ddyn ieuanc i'ch cynnorthwyo.
  33. Rhoddodd y cyngorion uchod i flaenoriaid eglwys lle yr oedd diwygiad grymus ar yr amser.
  34. Ysgrifenwyd y bregeth hon gan yr Awdwyr ar waith Mr. Richard yn ei thraddodi, yn y flwyddyn 1829, yn Nghaerfyrddin.
 

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.