Cyfrol Goffa Richard Bennett (testun cyfansawdd)
← | Cyfrol Goffa Richard Bennett (testun cyfansawdd) golygwyd gan D Teifgar Davies |
→ |
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Cyfrol Goffa Richard Bennett |
GOFFA
RICHARD BENNETT, M.A.
AIL ARGRAFFIAD
PRIS 1/-
Y CYNNWYS
Rhagair
Ysgrif Goffa
Ysgrifau:
Hanes ffurfiad y Gyffes Ffydd
Y Dathliad-Ymbaratoad ato
Ffyddlondeb i Anghydffurfiaeth
Y Piwritaniaid
Ymgysegriad i Grist yng ngoleuni hanes y Tadau
Anerchiad i Fuddugwyr yr Arholiad Sirol
Can-mlwyddiant geni Mynyddog
Cyngor i Flaenoriaid (O'r Drysorfa, Tach. 1928)
Anerchiadau mewn Seiadau, &c.:
Cariad at y Gwirionedd (2 Thes. ii. 10)
Dieithr ydwyf ar y ddaear (Salm 119, 19)
Amryw:
Penillion Coffa am Morris Evans
Rhestr o'i Ysgrifau cyhoeddedig
RHAGAIR
Wedi marw Mr. Richard Bennett, datganodd Henaduriaeth Trefaldwyn Uchaf ei hawydd i ddiogelu'r llawysgrifau o'i waith a oedd o ddiddordeb arbennig i'r Henaduriaeth a'i heglwysi. Trwy garedigrwydd ei chwaer, Mrs. Hughes, a chynorthwy Mr. Richard Jones, Pertheirin, trosglwyddwyd y cyfryw lawysgrifau i ofal yr Henaduriaeth, gyda chaniatâd i'w diogelu yn y Llyfrgell Genedlaethol trwy gyfrwng Cymdeithas Hanes y Cyfundeb.
Yn wyneb awydd pellach i gadw coffadwriaeth Mr. Bennett yn fyw, ymgymerodd yr Henaduriaeth â chyhoeddi'r gyfrol fechan hon. Cynhwysir ynddi nifer o'i anerchiadau a'i ysgrifau, ac enghraifft o'i ddawn fel prydydd. Nis cyhoeddwyd hwy o'r blaen.
Ni fwriedir i'r ysgrifau hyn fod yn enghreifftiau o'i ysgolheictod fel hanesydd. Yn hytrach, cyfyngwyd y dethol i'r hyn a fyddai o fudd ac o foddhad i'r werin—y werin a garai ef mor fawr ac y bu ef yn fab mor anrhydeddus ohoni.
- D. TEIFIGAR DAVIES,
- R. W. JONES,
- Golygyddion.
Ionawr 1940.
NODIAD I'R AIL ARGRAFFIAD
Gwerthwyd bron y cwbl o'r argraffiad cyntaf yng nghylch yr Henaduriaeth, ac yn wyneb y galwadau lluosog o gylchoedd eraill, penderfynwyd ail argraffu.
Cywirwyd rhai gwallau a chwanegwyd nifer o ffeithiau. Ceisiwyd hefyd sicrhau unffurfiaeth yn orgraff y llyfr, eithr gadawyd rhai dyfyniadau heb eu newid.
YSGRIF GOFFA
"Y dyn a gaffo enw da
A gaiff gan bawb oi goffa."
R ydym yn claddu heddiw un o'r dynion mwyaf athrylith- gar a gododd Sir Drefaldwyn yn y ganrif ddiwethaf." ebe un a'i hadwaenai'n dda am Mr. Richard Bennett ar ddydd ei angladd.
Ni all na chytuna pawb o gymnesur ddawn i farnu â chywirdeb y dystiolaeth hon. Nid oedd ond un Richard Bennett, a chreodd yn ei fywyd y fath gylch o gyfeillgarwch a gwasanaeth fel nad oes heddiw a'i lleinw fel efe. Ar bwys ei gymeriad pur a diragrith, ei gyfeillgarwch cywir a didwyll, a'i wasanaeth arbennig a gwerth- fawr i lên hanes ac i'w Gyfundeb, enillodd le dwfn yn serch ei gydnabod a chafodd barch ac anrhydedd gan awdurdodau dysg a chrefydd ein gwlad. Er mai arweddion gwladwr syml oedd i'w fywyd, cysegrodd a datblygodd ei ddoniau a'i alluoedd arbennig i'r fath raddau nes cynhyrchu gwaith a gymhellodd Brifysgol Cymru i'w anrhydeddu â'r radd o Athro yn y Celfydd- ydau. "Nid oeddwn yn ei chwennych," meddai ef," ond nid wyf yn ei dibrisio wedi ei chael.
Profir cymaint y parch sydd i'w goffadwriaeth gan y dymuno mewn llawer cylch am ryw fath ar gyfrol goffa iddo. Ymgymerodd Henaduriaeth Trefaldwyn Uchaf, y bu ef yn aelod ohoni am dros hanner can mlynedd, ag ateb y dymuniad trwy gyhoeddi'r gyfrol fechan hon. Yn yr ysgrif hon rhoddir braslun o'i yrfa, ei waith, a'i gymeriad, gan loffa o'r ysgrifau coffa a ymddangosodd yn y cyfnodolion, a chan ddyfynnu o'i lawysgrifau a'i lythyrau ddarnau o'i atgofion personol. Wrth ddarllen y darnau anghysylltiol hyn, gresynwn nad ysgrifenasai Mr. Bennett ei atgofion yn fanwl a chyson, oblegid trwy hynny ceid cyfrol ddiddorol o "Hunan- gofiant a gyfoethogai lenyddiaeth ein gwlad.
Ei Dras:
Yr oedd hynafiaid Mr. Bennett â'u gwreiddiau yn ddwfn yn naear Cyfeiliog ac Arwystli. Ymsefydlasai'r Bennettiaid ers canrifoedd ym Maldwyn. Tybiai Mr. Bennett ei hun eu bod yn ddisgynyddion o'r mynachod Benedictaidd. Gwyddys i lawer o'r rheini ddilyn esiampl Martin Luther ar ôl y Diwygiad Protestannaidd a phriodi a sefydlu cartrefi iddynt hwy eu hunain. Ceir bod un o'r enw Benedict Nicholls (neu Nicholas Bennett, fel yr ysgrifennid ei enw weithiau) yn esgob ym Mangor yn gynnar yn y bymthegfed ganrif. Rhoddes y brenin fuddiannau tymhorol yr esgobaeth iddo yn 1408, a chroniclir iddo farw yn Nhyddewi yn 1433. Y mae Nicholas Bennett yn enw rheolaidd yn y teulu ers canrifoedd. Yn 1628, prynodd un Nicholas Bennett ddarn o dir sydd yn rhan o fferm Glanyrafon, Llawryglyn, ac yr oedd tad Mr. Richrad Bennett yn ddisgynnydd union o hwnnw.
Edward Bennett oedd enw ei dad. Perthynai ef i'r gangen o'r teulu a ymsefydlasai yng Nghilhaul, Trefeglwys, er mai yn y Derwllwydion, Llawryglyn, yr ymgartrefasai ei rieni. Cymeriad hawddgar a diddan ydoedd. Yr oedd bob amser yn fawr ei ofal am gysur gwas ac anifail, ac iddo air da gan gyfeillion a gwasanaethyddion. Cawsai ef well addysg na'r mwyafrif o'i gyfoedion, ac ar ei ofyn ef y deuent hwy i sgrifennu ewyllys neu lythyr yn Saesneg. Derbyniai ef newyddiadur Saesneg yn gymharol gynnar, ac ymddiddorai ym mhynciau'r dydd. Yr oedd yn Rhyddfrydwr selog, a heb achos ofni datgan ei argyhoeddiadau, oblegid nid oedd efe tan orthrwm meistr tir fel y mwyafrif o'i gymdogion.
Jane Richards oedd enw morwynol ei fam. Un o'r Lumleyaid, Dolcorslwyn ac Esgairangell, plwyf Mallwyd, oedd hi. Yr oedd yn berthynas i'r pregethwr enwog Richard Lumley. Adwaenid hi fel gwraig o gyneddfau cryfion, yn arbennig o gyflym ei deall a byw ei harabedd. Medrai symio cymeriad neu ddigwyddiad mewn brawddeg gyrhaeddgar gofiadwy. Yn ei chartref hi yn yr Hendre, Cwm Pennant, Llanbrynmair, yr ymgartrefodd ei phriod a hithau ar eu priodas. Ac yno y ganwyd Richard Bennett ar yr 21ain o Fedi 1860.
Ar Lwybrau Ieuenctid:
Saif yr Hendre yn nhawelwch llawr Cwm Pennant. O drothwy'r tŷ, gwelir Creigiau Pennant yn codi'n syth ar y naill du, a llethrau Moel Trannon yn codi'n gyflym ar y llall. Yn gymhleth â theimlo hyfrydwch yn swyn a phrydferthwch Natur ar y gwastadedd, daw hyd yn oed i'r gwibdeithiwr ryw arswyd a dry'n ostyngeiddrwydd wrth syllu ar fawredd ac aruthredd y mynyddoedd cwmpasog. Pa faint mwy dylanwad y fath olyg- feydd rhamantus. ar fywyd un a fagwyd yn eu canol! Pwy a all fesur eu dylanwad ar enaid sensitive fel yr eiddo Richard Bennett ? Oni adlewyrchid tawelwch ei fro enedigol yn ei ledneisrwydd mwyn ef, a sefydlogrwydd ei bryniau yng nghadernid ei gymeriad?
Ond pa faint bynnag a ddylanwadodd amgylchedd ei gartref arno, nid oes amheuaeth am ddylanwad awyrgylch y cartref ei hun. Wedi iddo ymneilltuo o'i alwedigaeth a symud i Fangor, mynega ei deimlad yn y geiriau hyn a sgrifennodd yn 1915,— "Ni'm blinir mwy gan bryd hau a phryd medi; y mae dydd yr hen gwynion ar ben. Ond gwrthyd y meddwl weithian gymryd ei ran o'r seibiant, a chymer wibdaith yn ôl i'r hen fro a'r hen fywyd, gan erchi i'r cof a'r dychymyg oleuo a goreuro ambell lannerch ymadawedig, fel y medrant hwy wneud. Un o'r cyfryw yw aelwyd fy maboed ar hirnos gaeaf, pan oeddwn i a'r byd yn hoyw, a chyn i leferydd tad a mam a thaid a nain ddistewi. Ysywaeth, ni fedraf drosglwyddo'r weledigaeth i ysgrifen-dim ond ei mwynhau rhyngof â mi fy hun."
Mewn llyfr a chapel, mewn cofnodi testunau a phregethau, yr ymhyfrydai ef yn ieuanc iawn. Enillodd ei Feibl cyntaf am ddysgu'r "Hyfforddwr," a hynny cyn iddo gyrraedd ei ddeuddeng mlwydd oed. Disgwyliai'n eiddgar am Drysorfa'r Plant" bob mis, a chwanegai at ei wybodaeth o'r Ysgrythur trwy ymroddi i ateb y Tasgau a'r Cwestiynau. "Enillodd bachgen o'r Pennant," eb ef, a chyfeirio'n swil ato'i hun, y wobr gyntaf wrth ateb y Cwestiynau Gwobrwyedig yn 1875, a'r wobr olaf yn 1876,—arwydd ei fod wedi pasio'r penllanw yn ei hanes ef ei hun."
Yn ei "Atgofion am 1865-1895," a baratôdd ar gyfer Cym- deithas Lenyddol y Pennant, ceir cipolwg ar gyflwr llenyddol yr ardal pan oedd ef yn ieuanc. Cwyna nad oedd na Chymanfa Ysgolion nac Eisteddfod o fewn cyrraedd. Ond tua 1869-70, trefnwyd cyfres o "Penny Readings
"Penny Readings" i ddarllen ac adrodd, dadlau a chanu; ac yn 1873, sefydlwyd " Urdd y Temlwyr Da yno. Cafodd y gymdeithas hon lawer o wrthwynebiad yn yr ardal, ond profodd yn gyfrwng bendith i'r ieuainc. "Enillasom ddigon o hyder trwy ymarfer, i fedru wynebu cynulleidfa heb grynu, a gloywodd ein doniau ryw ychydig wrth eu mynych hogi. Aeth tri neu bedwar ohonom i gynorthwyo forsooth mewn cyfarfod cyhoeddus yn y Dylife, a phob un dan bymtheng mlwydd oed." Byddai'n rhigymu hefyd yn bur ieuanc. Ymddangosodd dwy ganig o'i waith yn y Frythones." "Anaml y cawn gystal cynnyrch gan un mor ieuanc," ebe'r Olygyddes, Cranogwen.
Er y dywedai ef mai gŵr o dymer freuddwydiol a fu ef erioed, dengys ei ymroddiad ei fod yn llawn asbri ac yn ymdrechgar i fanteisio ar bob cyfle a chyfrwng i'w ddiwyllio ei hun. A da hynny, oblegid ychydig o gyfleusterau addysg a gafodd ef, fel y rhelyw o blant y dyddiau hynny. Heblaw hyfforddiant aelwyd ac ysgol bentref, bu am ychydig amser mewn ysgol yn Llanidloes, ac yna, ar awgrym y Parch. J. Foulkes Jones, anfonwyd ef i Ysgol Joseph Owen ym Machynlleth. Yr oedd yno'n gyd- ddisgybl â'r Parchn. W. Sylvanus Jones a Maurice Griffith. Er cystal dynion a hyfforddwyd yn yr ysgol hon, yr oedd yntau ymhlith y rhai blaenaf.
Beth fuasai ei hanes pe cawsai addysg coleg? Dichon yr eisteddasai yng nghadair Hanes un o'r prif golegau. "Ond un o droeon caredicaf Rhagluniaeth oedd peidio â'i anfon," ebe'r Parch. Stephen O. Tudor, "nid am y gallwn ddychmygu amdano ef byth yn sych fel dwst llif." Ei berygl ef yn hytrach fuasai ei gloi ei hun yn un o gelloedd y canol-oesoedd neu dreulio ei athrylith ddisglair ymysg hieroglyffiaid yr Aifft. Ac erch o beth fuasai hynny, a maes mwy buddiol a chyfoethog yn disgwyl am dano—maes y buasai coleg, o bosibl, yn ei anghymwyso i weithio ynddo."
Byr fu ei dymor ysgol oblegid yr angen am ei wasanaeth ar y fferm gartref. Efallai hefyd fod rheswm arall ynghudd ym mynwes y fam. Bu iddi hi dri o frodyr, a brentisiwyd mewn gwahanol alwedigaethau. Gwelsai y tri yn dyfod adref i'r Hendre, y naill ar ôl y llall, i farw ymhell cyn cyrraedd canol oed. Pa ryfedd oedd iddi benderfynu, pe caffai hi fab, y cadwai ef gartref.
Cafodd Richard Bennett ei gyfle yn yr Ysgol Sul. Yr oedd honno'n ddigon gwerinol i roddi ei gyfle i ŵr swil, od oedd yr eglwys braidd yn geidwadol. Teimlai ddiddordeb byw yn yr Ysgol Sul yn ieuanc. Ynddi y dysgodd feddwl ac ymresymu. Dilynai'r Cyfarfodydd Ysgolion yn ei dro, a gelwid arno o bryd i bryd i annerch ynddynt. Gwerthfawrogai ef y galwadau hyn, ac ar hyd ei oes teimlai gryn lawer o gariad at y lleoedd hynny a roddodd gyfle iddo yn nydd y pethau bychain. Ymhyfrydai yng ngwaith yr Ysgol Sul, a bu'n ffyddlon iddi ac yn ddefnyddiol ynddi hyd y diwedd.
Wrth gyfeirio at ddylanwadau bore oes Mr. Richard Bennett, ysgrifenna Mr. Edward Jones, Y Castell, Llanrhaiadr, yn ddiddorol a chryno,—"Cafodd yn Llanbrynmair awyrgylch fanteisiol i gychwyn; Mynyddog yn anterth ei boblogrwydd, a Thafolog a Derwenog am y ffin. Credaf mai elfen gyntaf ei ddiwylliant oedd awyrgylch ei fro ac edmygedd o'i harwyr. Wrth ddarllen ei Feibl a dysgu emynau y cafodd ei ddiwinyddiaeth a'i ddefosiwn. Gloywodd iaith llafar gwlad wrth ddysgu adnodau a barddoniaeth. Agorwyd ei lygaid ar gwrs y byd gan Thomas Gee yn y Faner, a John Gibson yn y Cambrian News."
O adolygu hanes ei ieuenctid, gwelir mai ei ymroddiad a'i ddiwydrwydd ef ei hun a gyfrannodd fwyaf i'w ddatblygiad meddyliol. Manteisiodd ar ei gyfleusterau prin yn wyneb pob anhawster, ac enillodd y fath awdurdod ym myd meddwl hyd oni chydnabydid ei fod yn ysgolhaig gwych." Gwnaeth y gorau hefyd o'r cyfryngau sy'n meithrin ac yn gloywi cymeriad, a pherchid ef yn nyddiau ei ieuenctid yn gymaint am ei dduwioldeb ag am ei ddoniau. Eto, nid un yn hen cyn ei amser" ydoedd, ac nid y math sych sobr hwnnw ar dduwioldeb a geidw eraill draw oedd yr eiddo ef. Ni bu heb y nwyf a'r chwarae sydd yn nodweddu plentyndod," ebe'r Parch. Eurfyl Jones. "Yn wir, daeth y chwareus a'r direidus yn elfennau amlwg yn ei dduwioldeb. Medrai chwarae â geiriau hyd yn oed wrth ddweud ei brofiad. Ni chollwyd y plentyn ynddo i'r diwedd. Pwy yn fwy derbyniol ar aelwydydd Maldwyn nag ef? Onid oedd pobl ieuainc yn ei ystyried yn gamp i'w guro wrth y bwrdd draughts? mor naturiol iach a oedd ynddo yn help, nid yn unig i ddiogelu ieuengrwydd ei ysbryd ef ei hun, ond hefyd i ddenu'r ieuainc ato ef ac i'w alluogi yntau i fyned i'w byd hwy. Hynny'n ddiau a gyfrif fod ei anerchiadau i'r ieuaine Bu'r hiwmor fyw a phwrpasol.
Ar Lwybrau Galwedigaeth:
Dilyn galwedigaeth ei hynafiaid a wnaeth yntau, fel y gwnâi'r mwyafrif o fechgyn ieuaine ei gyfnod, oblegid gorfod amgylchiadau. "Pobl gyffredin yw ein teulu ni wedi bod er cyn cof. Coledd y ddaear a thrin anifeiliaid fu moddion bywioliaeth pob un o'm hynafiaid y gwn i amdano. Ni farchogodd yr un ohonynt yn yr ail gerbyd heb sôn am y cyntaf, ac ni chyrhaeddodd neb ohonynt chwaith gyflawn aelodaeth' ymhlith y gwehilion."
Dengys ei holl hanes fod ei afiaith i gyfeiriad arall, ond os mater o ddyletswydd yn hytrach nag o hyfrydwch oedd cyflawni gorchwylion fferm iddo ef, cyflawnai'r cwbl yn gydwybodol gyda'r Ilwyredd a'r trefnusrwydd a nodweddai ei holl waith. Tystia rhai o'i hen gymdogion sydd eto'n fyw mai'r Hendre fyddai ar y blaen gyda gorchwylion pob tymor,—y meysydd wedi eu haredig yn gynnar, y cynhaeaf yn ei bryd, y gwrychoedd yn dangos İlwyredd gofal, digon o fawn wedi ei gasglu at y gaeaf, a graen digonedd ar bob anifail.
Llafuriodd yn ddyfal a chaled a diesgeulus gyda gwaith y fferm ar hyd y blynyddoedd, gan fanteisio ar bob awr hamdden ac egwyl i ddarllen a dilyn ei afiaeth.
Ymneilltuodd o'r Hendre yn 1914, ac aeth i fyw at ei chwaer i Fangor, Sir Gaernarfon. Yno, ysgrifennodd rai o'i atgofion, a chyfeiriodd ynddynt at ei lafurwaith ar y fferm. Bywyd llafurus yr amaethwr bychan a fu fy rhan i o'r dechreuad hyd yn ddiweddar iawn. Treuliais filoedd o ddyddiau mewn caledwaith yn cau a chloddio, aredig a llyfnu, torri gwair ac ŷd a rhedyn, cario mawn a chalch a chynhaeaf, dyrnu a nithio, porthi'r da a bugeilio'r defaid. Ond oherwydd llesgedd a gofidiau eraill, gwelwn na allwn ddal y penffestr a gyrru ychain i drin cwysau a chwedleua am fustachiaid,' felly rhoddais y gorau i'r hen fywyd ar Wyl Mihangel 1914, ac ymneilltuais o drafferthion a mwynderau y cwm anghysbell i unigrwydd y dref boblog."
Ar Lwybrau Hanesiaeth:
Diau mai fel hanesydd, ac yn arbennig fel dehonglydd Llawysgrifau Trefeca, y sonnir amdano yn y dyfodol. Yr oedd ganddo gynhysgaeth naturiol yr hanesydd. Fel y tystiodd yr Athro R. T. Jenkins yn Y Llenor, yr oedd yn chwilotwr tan gamp, a chanddo'r gallu prin hwnnw i weled pethau yn y perspective iawn. "Yr oedd wedi gwneud llawer o waith hanesydd cyn gwybod ohono gyfrinach ei alwedigaeth," ebe Mr. Edward Jones. "Yr oedd cynnwys hen gofrestrau plwyfi Cyfeiliog yn eiddo iddo. Byddai'n ymhyfrydu mewn olrhain achau hen deuluoedd ei ardal, a mynnai ddyfod o hyd i wreiddiau pob ffaith. Cerddai ymhell i hen fynwentydd, a threuliodd lawer o amser i fyned trwy hen gofrestrau eglwysig mewn vestries llaith er mwyn cael sicrwydd am ryw ddyddiad, ac aeth trwy beth wmbredd o hen ewyllysiau a gweithredoedd llychlyd er mwyn dyfod o hyd i ryw line goll." hyn y cytuna'r dystiolaeth a roddes swyddog yn y Swyddfa Ewyllysiau ym Mangor amdano mewn ymgom â'r Athro R. T. Jenkins. "Fe fynnodd hwnnw weled popeth sydd yma," meddai.
Yr oedd yn hyddysg iawn yn hen draddodiadau plwyfi Trefeglwys a Llanbrynmair, ac odid y gwyddai neb gymaint ag ef am lên gwerin Sir Drefaldwyn. Byddai wrth ei fodd yn adrodd straeon am fwganod, ysbrydion, a chonsurwyr, ac yr oedd ei ddull o adrodd mor fyw fel y credai ei wrandawyr ar brydiau ei fod yn disgrifio ffeithiau hanes ac nid cynnyrch dychymyg diniwed ac anwybodus. Ond er y diddordeb a gymerai yn y pethau traddodiadol hyn, ni chymylent ddim ar ei farn wrth drin ffeithiau hanes. Fel hanesydd, ni dderbyniai unpeth fel ffaith oddieithr ei argyhoeddi bod ganddo sail digonol. Dengys ei weithiau, nid yn unig fanylrwydd y gŵr pwyllog a gofalus, ond hefyd fod ganddo allu eithriadol i ganfod y cysylltiad rhwng gwahanol ddigwyddiadau a'i gilydd. Dangosant hefyd fod ganddo'r ddawn brin i ddadansoddi'r elfennau cymhleth yn y natur ddynol, ac i ganfod y cymhellion a ysbrydola ei gweithrediadau. Nid croniclo fel mynach yn ei gell a wnai ef, ond gwylio'r gefnogaeth a roddid i ysbryd y peth byw,' neu'r rhwystrau a godid yn ei erbyn, ym myd personoliaeth.
Ei gyfraniad arbennig ef i hanesiaeth oedd ei waith gwerthfawr ynglŷn â llythyrau a dyddlyfrau Howell Harris yn Nhrefeca. Ar y laf o Orffennaf 1741, ysgrifenasai Howell Harris y frawddeg hon yn ei ddyddlyfr,—"Do Thou raise somebody to search and read my Journal, that something may be drawn to Thy glory." Atebwyd ei weddi pan ymgymerodd Richard Bennett â'r gwaith ryw wyth ugain mlynedd ar ôl hynny.
Diddorol yw'r hanes am y cymhellion a'i harweiniodd i Drefeca. Ni ellir gwneuthur dim yn well nag ailadrodd ei eiriau ef ei hun. "Hanner can mlynedd yn ôl, yn Staylittle, y bum gyntaf ar lwyfan eisteddfod, yn derbyn rhan o wobr am draethawd ar Enwogion Sir Drefaldwyn." Hywel Cernyw oedd un o'r beirniaid, ac ni chofiaf i mi ei weled ar ôl hynny nes inni gyfarfod yn Abertawe yr haf diwethaf i dderbyn graddau anrhydedd Prifysgol Cymru.
"Yr oedd asbri ieuenctid wedi dechrau marweiddio pan euthum i Gyfarfod Misol Llawryglyn tua mis Mai, 1899. Ar awr wan, cymerais fy hudo i'r Tŷ Capel i ysgwyd llaw â'r pregethwr dieithr, y Parch. Evan Jones, Caernarfon; ond pe gwybuaswn beth oedd yn fy aros, nid aethai troed i mi dros y trothwy. Yr oeddwn cyn hynny wedi bod mewn gohebiaeth â Mr. Jones ynghylch ei hynafiaid yng Nghyfeiliog; a phan hysbyswyd fy enw iddo, gwnaeth i mi eistedd wrth ei ochr, a dechreuodd arnaf. Efe a olygai Y Traethodydd ar y pryd, ac nid oedd a'i boddiai ond addewid am ysgrif gennyf i ar gyfer y cyhoeddiad hwnnw. Tybiais am funud mai cellwair oedd y cyfan; ond na, edrychai ym myw fy llygaid gan daeru mai felly yr oedd raid i bethau fod. I'm bryd i, yr oedd y syniad yn wrthun o afresymol ; gwladwr syml anwybodus, nad anfonasai baragraff i newyddiadur erioed—hwnnw i ysgrifennu i'r Traethodydd. Ceisiais ymhob modd i ymesgusodi, a gwn y toddasai fy ngolwg druanaidd galon unrhyw ddyn arall, ond ni fennai dim arno ef. Tawsai pawb yn yr ystafell i wrando arnom. Tewais innau gan gywilydd pur, a gadewais iddo esbonio fy nistawrwydd fel cydsyniad, er mwyn imi gael dianc rywsut i'r awyr agored. Bychan fyddai dweud na fwynheais foddion cyhoeddus y dydd, gan gyfyngdra ysbryd a gofid caled. Ond y gofid hwnnw a'm gyrrodd i Drefeca y tro cyntaf, a bum yn y gafael, i fesur bychan, byth oddi ar hynny.
"Ymhen rhai blynyddau gwasgwyd arnaf gan hwn a'r llall i annerch cynulleidfaoedd ar Hanes Methodistiaeth y Sir. Cyffredin oedd y performance mi wn; a lled gyffredin hefyd oedd y gydnabyddiaeth, lle y byddai'r cyfryw beth. Nid unwaith y dywedodd fy mam wrth fy hwylio i gychwyn,' Pe bâut yn ennill pâr o esgidiau ni chwynwn i ddim.' Ond barnodd cyfeillion Gleiniant yn 1906, fod fy anerchiad yn werth dau bâr o esgidiau, a throis adref yn gryn gawr.
Mewn llythyr at gyfaill, edrydd am gymhelliad pellach:—
Cynhelid Cyfarfod Misol yn y Bont, gerllaw fy nghartref, tua Hydref 1904. Dyna'r pryd y deuthum i deimlo fy mod yn gyflawn aelod o'r Cyfarfod Misol. Dilyn o hirbell a wnawn. cyn hynny, o dan ddylanwad tybiaeth fod y colofnau yn gwgu arnaf. Y pryd hwnnw, trinid rhyw fater neu'i gilydd bron ym mhob Cyfarfod Misol, ac os deuai rhwystr ar ffordd yr agorwr i gyflawni ei orchwyl, yr oedd hawl gan y Swyddogion i geisio rhywun i lanw'r bwlch. Beth bynnag, methai rhywun â dod, a daeth llythyr oddi wrth yr Ysgrifennydd i geisio gennyf i gymryd ei le. Lled anfodlon oeddwn, ond ildiais i daerineb, ac nid edifarheais byth.
"Llafur y Tadau fel symbyliad i lafur gyda'r Deyrnas," oedd y mater a roddwyd iddo, a thraddododd anerchiad clir a gafaelgar, a barodd i arweinwyr yr Henaduriaeth synnu a sylweddoli bod gŵr yn eu mysg a oedd yn hyddysg yng nghyfrinion y gorffennol a chanddo ddawn i gyflwyno'i wybodaeth mewn modd swynol a meistrolgar. Anogodd yr Henaduriaeth ef i fyned i Drefeca a chasglu defnyddiau at ysgrifennu Hanes Methodistiaeth Trefaldwyn Uchaf.
Mewn canlyniad i'r anogaeth hon, a oedd mor gydnaws â'i ddiddordeb ef, dechreuodd ar waith neilltuol ei fywyd. Gan fod hin hafaidd 1905 wedi ei alluogi i gasglu'r cynhaeaf ar y fferm yn gynnar, aeth am wyliau i Landrindod. Oddi yno aeth i Drefeca gyda'i gyfaill, y Parch. J. D. Jones (Trefeglwys y pryd hwnnw), i fwrw golwg dros y llawysgrifau. Synnodd y Prifathro Owen Prys pan ddeallodd eu neges, ac edrychai braidd yn amheus wrth weled amaethwr gwledig yn dymuno gweled Llawysgrifau Howell Harris. Modd bynnag, daeth â sypyn i'r bwrdd, a dywedyd, Dyna i chwi fil o lythyrau; edrychwch beth sydd ynddynt. Ond pan ganfu graffter y lleygwr syml a'i rwyddineb yn dehongli'r llythyrau, agorodd y trysorau iddo, a mynnodd i'r ddau aros tan ei gronglwyd ef y noson honno. Yn lle troi adref drannoeth, fel y bwriadasai, arhosodd Richard Bennett yno am ychydig ddyddiau ymhellach, gan letya yn un o dai'r Terrace. Dychwelodd i'w gartref er mwyn trefnu ynglŷn â gwaith y fferm am y gaeaf, ac yna aeth yn ôl i Drefeca. "I ffwrdd a mi," meddai, ac nid edifarheais byth. Tua chanol mis Tachwedd, bu farw'r Parch. D. Lloyd Jones. Ergyd syfrdanol oedd honno i mi, a phe daethai yn gynt, gallasai ddrysu'r cyfan; ond yr oeddwn ormod yn y gafael erbyn hynny i fedru troi yn ôl. Bum yno hyd ddiwedd Mawrth, a gweithiais yn ddygn yn fy ffordd fy hun.
Yno hefyd y bu prif faes ei astudiaeth am flynyddoedd. Ai yno bob gaeaf i gopio'r Llawysgrifau ac i drefnu eu cynnwys. Y cyfarwydd yn unig a ŵyr faint o amser ac amynedd a llafur a ofynnai hyn. Ni ellir prisio chwaith yr aberth a olygai iddo. Talai gyflog i ddyn am gymryd ei le gyda gwaith y fferm. Ond trwy ei ddyfalbarhad, ei fanylder, a'i graffter, darganfu ffeithiau newydd, a chywirodd lawer o gamgymeriadau ynglŷn â hanes Howell Harris. Er enghraifft, darganfu brofion i Howell Harris fod yng Ngogledd Cymru ddwy flynedd yn gynharach nag y tybiasid o'r blaen. Fel enghraifft arall o'i graffter ac o'i wybodaeth fanwl am ddaearyddiaeth y wlad, gwelodd y dylid darllen cofnodiad yn un o'r dyddlyfrau, a ddehonglasid o'r blaen fel Go back 2 miles, yn Gro Fach 2 miles.
Yn ffrwyth i'w ymchwil, cyhoeddwyd llyfrau a erys yn safon ynglŷn â hanesiaeth y Diwygiad Methodistaidd yn y ddeunawfed ganrif. Yn 1909, ymddangosodd ei gyfrol gyntaf—"Blynyddoedd Cyntaf Methodistiaeth." Nid gormod y ganmoliaeth uchel a roddwyd i'r gyfrol gynhwysfawr a diddorol hon.
Yn 1929, cyhoeddodd yr Henaduriaeth ei ail gyfrol—"Methodistiaeth Trefaldwyn Uchaf. Cyfrol 1, 1738-52." Nodweddir y gyfrol hon eto gan drylwyredd yr ymchwil a chraffter y dadansoddi. Gwelir mai cyfnod byr o bedair blynedd ar ddeg a gynhwysa, a hyderid y dilynid hi gan gyfrolau eraill yn fuan. Parhaodd Mr. Bennett i gasglu ac i drefnu'r defnyddiau rhwng cyfnodau o lesgedd, ond gwelodd na allai orffen y gwaith yn ôl y cynllun a fwriadasai. Oherwydd hynny, cyflwynodd y llawysgrifau a gwplasai ynglŷn â hanes amryw o'r eglwysi i'r eglwysi hynny, a chyhoeddwyd y rhai a ganlyn eisoes, "Methodistiaeth Trefeglwys a'r Cylch" (1933); "Methodistiaeth Cemmaes" (1934); a "Methodistiaeth Caersws" (1937).
Tystia'r gwŷr hyffordd ym myd Hanesiaeth am werth cyfrolau Richard Bennett. Efe, yn ôl y diweddar Barch. M. H. Jones, oedd yr awdurdod pennaf ar Howell Harris a'i gyfnod. A meddai'r Athro R. T. Jenkins," Byth er pan ddechreuais weithio ar y ddeunawfed ganrif yng Nghymru y mae Richard Bennett wedi bod yn rhan hollol anhepgor o'r defnyddiau i mi, nes iddo yntau bron dyfu'n rhan o'r Diwygiad Methodistaidd yn fy ngolwg."
Ar Lwybrau Gwasanaeth:
Ar wahan i'w gyfraniad trwy ei lyfrau, bu'n gymwynaswr mawr mewn llawer cylch.
Bu o gynorthwy arbennig i Gymdeithas Hanes y Cyfundeb. Yr oedd yn faes wrth ei fodd. Bu'n ŵr deheulaw i Olygyddion y Cylchgrawn Hanes wrth gasglu defnyddiau iddo a chyfrannu llawer o'i waith ei hun.
"Bu'n hynod o garedig wrthyf," ebe'r Athro R. T. Jenkins, yn hael â'i wybodaeth. Ac yr oedd ganddo wybodaeth."
Ysgrifennodd gannoedd o lythyrau maith a manwl mewn atebiad i ymholiadau am hanes hwn a hwn a'r peth a'r peth. Rhoddes ei farn am gynnwys llawysgrifau haneswyr cyn eu cyhoeddi, a chywirodd lawer ar broflenni. Olrheiniodd achau teuluoedd, a thrafferthodd lawer i chwilio am ddyddiad eu genedigaeth i bersonau a geisiai'r blwydd-dâl henoed.
Gelwid ef yn fynych i annerch mewn cyfarfodydd dathlu yn Sir Drefaldwyn a Sir Faesyfed, nid yn unig yn ei enwad ei hun, ond hefyd gan eglwysi mewn cyfundebau eraill. Bu'n annerch ar Ddiwylliant y Tadau Methodistaidd yng Nghymdeithasfa Cerrigydrudion yn Haf, 1925, a thraddododd anerchiad "byw, gloyw a meistrolgar," yn ôl yr Adroddiad Swyddogol.
Yn 1935, blwyddyn dathlu deucanmlwyddiant yr enwad, fel arwydd o barch am wasanaeth ffyddlon, torrwyd ar y Rheolau Sefydlog gan yr Henaduriaeth, ac etholwyd ef a'r Parch. D. Cunllo Davies, M.A., i gyd lywyddu am y flwyddyn. Bu'r galwadau arno yn drwm a lluosog y flwyddyn honno. Er mewn cryn lesgedd, ufuddhaodd gyda'i hynawsedd arferol, a chofir yn hir am rai o'i anerchiadau. Yr oedd fel ysgrifennydd medrus yn dwyn allan o'i drysor bethau newydd a hen. Gwisgai ffeithiau sychion â newydd-deb rhyfedd. Yr oedd enw Richard Bennett ar raglen unrhyw gyfarfod yn sicrwydd am gynulliad lluosog ei nifer a bendithiol ei ansawdd.
Bu'n cyflawni'r cymwynasau hyn yn gyson ar hyd y blynyddoedd, gan aberthu llawer o'i amser i hynny. Llafur cariad ydoedd gan mwyaf, a diau i lawer fanteisio ar haelfrydigrwydd ei ysbryd a charedigrwydd ei natur, heb brotest o gwbl oddi wrtho ef. Y mae llawer yn nyled Richard Bennett.
Ar Lwybrau Duw:
Nid oes amheuaeth ym meddwl ei gyfeillion nad y llwybrau hyn oedd y rhai pwysicaf mewn bywyd i Richard Bennett. Yr oedd ei ddyhead am fod yn sant yn angerddolach na'i awydd i fod yn hanesydd da. Yr oedd wrth natur yn grefyddol iawn ei ysbryd, ond ymgysegrodd yn llwyr i Dduw yn ffrwyth argyhoeddiad dwys a gafodd pan oedd yn bur ieuanc. Aethai i Gyfarfod
Pregethu yn y Dylife, ac yno, wrth wrando ar y Parch. Ddr. David Saunders, ymagorodd ei enaid i'r tragwyddol. Wrth fyned adref, trôdd o'r neilltu i hen chwarel, a bu fel Jacob gynt mewn ymdrech â Duw, a gorchfygodd. Rhoddes y profiad hwn gyfeiriad pendant i'w fywyd, ac ymatebodd gymaint i'r ysbrydol nes bod ei gynnydd yn amlwg i bawb.
Derbyniasid ef yn gyflawn aelod yn 12 oed, dewiswyd ef yn athro yn yr Ysgol Sul yn 16 oed, ac etholwyd ef yn flaenor yn 26 oed. Cymhellwyd ef hefyd gan Morris Evans, hen flaenor duwiol yn yr eglwys i ymroddi i'r Weinidogaeth, ond gwrthod cydsynio a wnaeth. Wrth wrando arno'n annerch o bryd i bryd, gorfodid un i deimlo mai barn yr hen flaenor oedd yn gywir, oblegid yr oedd yn amlwg fod y nwyd bregethu yn gryf ynddo.
Ei gymeriad pur a'i ysbryd crefyddol, yn ogystal â'i ddoniau, a enillodd iddo'r arwyddion hyn o barch ac ymddiriedaeth gan y rhai a'i hadwaenai orau, ac yntau mor ieuanc.
Bu'n ddarllenwr mawr o'r Beibl, a myfyriai lawer ar ei wirioneddau. Yr oedd ei gynnwys at ei alwad bob amser mewn ymgom a gweddi, a brithid ei anerchiadau gan gymariaethau byw ac effeithiol o rannau mwyaf dieithr yr Hen Destament. Gair Duw mewn gwirionedd oedd y Beibl iddo ef.
Wrth rodio gyda Duw y dysgodd sut i rodio gyda dynion—yn esiampl ac yn gymwynaswr iddynt trwy lendid ei foes a gwerth ei wasanaeth. Bu'n llwyr-ymwrthodwr ar hyd ei fywyd, ni halogai ei wefusau â geiriau ofer, ac nid oedd swyn iddo mewn ysmygu. Yr oedd yn gyfaill pur, parod ei gymwynas, a'i ddynoliaeth gyfoethog a'i ledneisrwydd yn denu pawb i ymserchu ynddo.
Un yn byw i'r pethau uchaf ydoedd, yn ostyngedig, ac yn hynod o amddifad o hunan-ymffrost a hunan-hyder. Oherwydd hyn, tueddai i fod yn ddigalon weithiau. Ond praw o'i fawredd oedd hyd yn oed ei dristwch,—tristwch y sant yn methu â'i weled ei hun yn ddigon o sant. Gofidiai hefyd oherwydd prinder diddordeb y genhedlaeth hon yn hanes a thraddodiadau'r gorffennol. Disgwyliasai weled deffroad ysbrydol yn ffrwyth dathlu deucanmlwyddiant y Cyfundeb, a mawr fu ei siom. Nid oedd yn bruddglwyfus wrth natur, ond gwyddai am dristwch enaid o weled esgymuno Duw o'i le dyladwy ym mywyd dyn.
Diweddwn yr ysgrif hon gyda'r darlun cywir iawn ohono a geir yng ngeiriau un o'i gyn-weinidogion, y Parch. J. T. Jones, B.A., B.D.,—" Nid amheuai neb a adwaenai Mr. Bennett nad oedd yn Gristion yn ystyr y Testament Newydd i'r gair. Bu fyw ar lefel uchel drwy ei fywyd, a gwasanaethodd y pethau uchaf. Meddai ar brofiad diamheuol o waith gras ar ei ysbryd, a sychedai am fod yn fwy pur, ac fe âi'r Arglwydd Iesu yn uwch yn ei olwg yn barhaus. Mewn llythyr ataf, adeg dathlu Deucanmlwyddiant y Diwygiad Methodistaidd, fe ddatguddia beth o gyfrinach ei ysbryd, a gresyn fyddai cadw'r fath brofiad yn guddiedig."
Dymuniad fy nghalon ar fy rhan fy hun ac eraill yw ar i Iesu gael y lle gorau yn y llety; a gobeithio y cymerir pobl y Dathliad i gyd i Fynydd y Gweddnewidiad i'w weled yn ei ddillad gorau. "Ffarwel, ffarwel bob eilun mwy fyddai'r gân wedyn, oblegid diwedd stori'r mynydd hwnnw yw— Ac ni welsant neb ond yr Iesu yn unig." Gwyn fyd na wawriai'r bore . . . O! na fedyddid ni â'i ysbryd rhag inni fyned yn swp o bethau bach hunanol, na welsom erioed neb mwy na ni ein hunain. Y superiority complex yw'r mwyaf peryglus o lawer ym mywyd crefydd . . Ni bum erioed yn disgwyl mor gryf am fendith ag yr wyf yn awr. Y mae ambell adnod yn diferu brasder ar fy ysbryd, oni thwyllir fi. Dyma'r diwethaf," Efe a'm gogonedda i, canys efe a gymer o'r eiddof, ac a'i mynega i chwi." yw ystyr hon? Ai tybed fod yr Iesu mawr yn ystyried nad yw ei ogoneddiad yn gyflawn nes iddo'n cael ni i well adnabyddiaeth ohono? Nid rhywbeth rhwng y Personau Dwyfol a'i gilydd yn unig yw'r gogoneddiad i fod felly. Nid yw Ef yn fodlon ein cau ni allan. Bendigedig fo Ei enw byth ac yn dragywydd.'
Dyna Richard Bennett, y Cristion cywir ac aeddfed, a gwyn ei fyd."
Diwedd y Daith:
Gwelwyd arwyddion amlwg ers cryn amser fod ei nerth yn pallu, a gorfodwyd ef gan lesgedd i arafu yn y blynyddoedd diwethaf. Llafuriasai yn galed, a threthodd lawer ar ei iechyd a'i ynni ar hyd y blynyddoedd. Cwynai am ei wendid mewn llythyr at gyfaill," Esgusodwch wendidau henaint. Bu gennyf gof gweddol unwaith, ond y mae wedi fy ngadael bron yn hollol, a chyflym wanhau yw hanes y cyneddfau eraill hefyd."
Gofelid yn dyner amdano gan ei chwaer, gweddw'r diweddar Barch. R. W. Hughes, Bangor, gyda'r hon y cartrefai ym Modwnog, Caersws. Yno y bu farw'n orfoleddus ei ysbryd ddydd Gwener, Awst 13, 1937, yn 76 mlwydd oed.
Amlygwyd syniad pobl Maldwyn amdano gan faint y dyrfa alarus a ymgasglodd i'w angladd y Llun canlynol i hebrwng ei weddillion i fynwent Llawryglyn.
YSGRIFAU AR RICHARD BENNETT
Y Drysorfa, Ionawr, 1929. Gan y Parch. S. O. Tudor, B.A., B.D., Gaerwen
Montgomeryshire Express, Aug. 21, 1937.
Montgomery County Times, Aug. 21, 1937.
Y Goleuad, Awst 25, 1937. Gan y Parch. J. T. Jones, B.A., B.D., Southport.
Y Goleuad, Medi 1, 1937. Gan y Parch. R. W. Jones, Aberangell.
Cylchgrawn Hanes, Rhag. 1937 Gan y Parch. D. J. Eurfyl Jones, Llanidloes.
Y Droell Fechan, Mawrth, 1938. Gan y Parch. Edward Evans, Towyn.
Y Drysorfa, Mai a Gorff. 1939. Gan Mr. Ed. Jones, Y Castell, Llanrhaiadr-ym-Mochnant.
Y Llenor, Gaeaf, 1939. Gan yr Athro R. T. Jenkins.
HANES FFURFIAD Y GYFFES FFYDD
GWR o Drefaldwyn oedd y cyntaf i awgrymu i'r Gymdeithasfa y priodoldeb o gyhoeddi Cyffes o'i ffydd. Ym mis Hydref, 1745, cynhelid Cymdeithasfa yn Errwd, islaw Llanfairmuallt. Gan ei bod yn beryglus i rai Cynghorwyr fyned oddi cartref y pryd hwnnw oherwydd y press gang, anfonodd Richard Tibbott o Lanbrynmair lythyr i Errwd, yn lle myned yno ei hunan. Yn agos i'r diwedd, dywed fel a ganlyn,—"Y mae gennyf rai pethau i'w gosod ger eich bron a fyddai, fel yr wyf yn credu, yn fuddiol i ni . . . Tueddaf i feddwl mai buddiol i ni fyddai rhoddi ein barn gyda golwg ar egwyddorion mewn argraff, fel na byddo camsyniadau na lle i neb feddwl ein bod yn coleddu syniadau nad ydym. Byddai hyn hefyd yn gymorth i ni ddeall ein gilydd, ac yn tueddu i fwy o undeb. A manteisiol fyddai gadael tystiolaeth am wirionedd yr Efengyl ar ein hôl, fel y gallai lefaru er lles oesoedd i ddyfod." Gallwn ninnau oll ymlawenhau yma heddiw ar bwys yr ystyriaeth fod un o feibion yr hen sir, yn y cyfnod bore hwnnw, mor graff i weled ac mor wrol i ddangos "beth a ddylasai Israel ei wneuthur."
Ond ni wnaeth Israel yn ôl yr awgrym am agos i 80 mlynedd wedyn. Y prif reswm am yr hwyrfrydigrwydd oedd mawr ofal ein Tadau am osgoi popeth a dueddai i'w gwneud neu i'w dangos yn sect neu enwad ar wahân i'r Eglwys sefydledig. Fel adran o'r Eglwys honno yr ystyrient eu hunain ac y dymunent i bawb arall edrych arnynt. Argraffwyd eu Rheolau i'r Seiadau amryw weithiau, lle y mynegir bod eu golygiadau athrawiaethol yn hollol gytun ag erthyglau eglwys Loegr. A chan fod y rheini yn agored i gael eu deall mewn mwy nag un ffordd, ychwanegid weithiau mai'r dehongliad Calfinaidd arnynt a goleddent hwy. Dyma fu eu safle am dros 80 mlynedd.
Crynhoir hanes y 50 cyntaf o'r 80 mlynedd mewn llythyr a anfonodd Williams o Bantycelyn, ddeng niwrnod cyn ei farwolaeth, at Mr. Charles o'r Bala. "Fe gadwodd Duw," meddai, ein corff ni yn rhydd rhag cyfeiliornadau dros agos i 60 mlynedd. Ni bu ddim heb ymosodiadau aml a dychrynllyd, oddiallan ac oddifewn, ond fe'i cadwyd hyd yma yn iach yn y ffydd trwy'r cwbl, er bendith i filoedd o'n cydwladwyr. Nid wyf yn ammeu na ofala yr un Duw am danom ni eto fel corff tros oesoedd a chenedlaethau."
Dyna dystiolaeth yr olaf o'r Tadau cyntaf am y gorffennol, a'i obaith am y dyfodol. Ac er mwyn gwneud a allai i sylweddoli'r gobaith, ychwanega rai cyfarwyddiadau sydd yn datguddio'r gorffennol wrth gynnig goleuo'r dyfodol. Anogwch y llefarwyr ieuainc, yn nesaf at y Beibl, i sylwi'n fanwl ar Athrawiaethau'r hen Ddiwygwyr enwog, megis y gosodir hwynt allan yn Erthyglau Eglwys Loegr a'r tair Credo, sef Credo'r Apostolion, Nicea, ac Athanasius. Gwelant yno wirioneddau mawrion yr Efengyl a dirgeledigaethau Duw yn cael eu gosod allan mewn modd hynod o ardderchog ac addas. Y mae Cyffes Ffydd a Chatecism y Gymanfa, hefyd, yn haeddiannol o barch mawr a derbyniad. Myfyriant yn astud a chwiliant yn fanwl y cyfryw orchestwaith a'r rhain, fel y dysgont ddeall yn oleu a llefaru yn addas wrth eraill. am athrawiaethau sylfaenol ein cred."
Gwelwn na cheir yn y siars hon un awgrym am ffurfio Cyffes newydd, a chyn i hynny ddyfod i ben, aeth tri deg o flwyddi heibio. Dywedwn air yn fyr am bob un o'r degau.
(1) Y gŵr cyntaf a pharchedicaf yn y Corff ar ôl marwolaeth y bardd o Bantycelyn oedd Peter Williams. Dygwyd cyhuddiad yn ei erbyn ei fod yn gŵyro mewn barn ynghylch yr athrawiaeth, a'r diwedd fu ei ddiarddel. Teg yw casglu i'r helynt hwn gyda gŵr mor enwog ac adnabyddus ddwyn athrawiaeth a chredo i'r ffrynt yn ein plith i raddau mwy nag o'r blaen.
Yn fuan wedyn, dechreuodd rhai o ynadon Meirionnydd roi hen ddeddfau gorthrymus yr oesoedd blaenorol mewn gweithrediad yn erbyn y Methodistiaid. Dirwywyd rhai o'r pregethwyr a'u gwrandawyr; ffodd eraill o'r wlad, bu milwyr allan yn tyrfu ac yn tanio mor agos yma â Chorris, a chaewyd llawer o'r capelau am ysbaid. Mewn canlyniad, penderfynwyd ymofyn trwyddedau i'r pregethwyr a'r capeli, yr un modd a'r Ymneilltuwyr. Llaciodd hyn gryn lawer ar ymlyniad y Methodistiaid wrth yr Eglwys Wladol.
(2) Tua dechrau'r cyfnod hwn, daeth y Wesleaid i Gymru, gan ledaenu'r golygiadau Arminaidd gyda chryn aidd. Yn fuan aeth y wlad fel crochan berwedig gan ymrysonau a dadleuon. Ni feddwn ni heddiw unrhyw ddirnadaeth am ffyrnigrwydd y teimladau a gynhyrchwyd rhwng crefyddwyr a'i gilydd. Barnodd y Gymdeithasfa yn briodol ddelio mewn modd uniongyrchol ag asgwrn y gynnen trwy gymryd Prynedigaeth Neilltuol" yn fater trafodaeth yn Llanfair Caereinion, Ebrill 1806, a "Galwedigaeth Effeithiol" yn Llanidloes, Ebrill 1807. Ond y mae yn ddiamau i lawer o'n pobl ni, wrthwrthwynebu Arminiaeth, lithro i'r eithafion cyferbyniol a mabwysiadu syniadau cyfyng iawn. Y neb a fynno ddeall yr amgylchiadau, darllened hanes y Parch. Robert Davies, Llanwyddelan, pan oedd yn llanc ym mhlwyf Darowen. Gwelir yno ŵr ieuanc mewn ing argyhoeddiad am bechod, a phulpud y Methodistiaid yn Sir Drefaldwyn wedi mynd heb unrhyw ymwared i'w gymell arno. Bendith fawr oedd na chynigiwyd llunio Cyffes Ffydd yng ngwres—neu oerfel, os mynnwch—y teimladau hynny. (3) Yn nechrau'r cyfnod hwn, ordeiniodd y Methodistiaid weinidogion iddynt eu hunain, a thrwy hynny gorffennwyd torri'r cysylltiad oedd rhyngddynt a'r Eglwys Esgobaethol. Yr oeddynt bellach yn gorff o grefyddwyr ar wahân i'r holl enwadau. Rhyfedd na chawsid Cyffes y pryd hwn. Ordeiniodd Cyfundeb Lady Huntingdon, ein cyfathrachwyr agosaf yn Lloegr, weinidogion 30 mlynedd o'n blaen ni, a lluniasant hwy Gyffes Ffydd yr un pryd. Hwyrach mai'r ymddiriedaeth gyffredinol a feddem yn Mr. Charles o'r Bala oedd y prif reswm nad efelychwyd hwynt gennym. Cymerem ef fel referee ar bob mater braidd "ymofynnid ag Abel, ac felly y dibennid " tra fu Abel fyw. Yn Hydref 1814, bu farw Mr. Charles; a chyn diwedd yr un flwyddyn yng Nghymdeithasfa Llanrwst, penderfynwyd paratoi at gael Cyffes Ffydd. Dyna'r hyn y dadleuai Richard Tibbott drosto 69 mlynedd cyn hynny bellach ar y blociau.
Ond ni ddaeth y diwedd eto. Cododd anhawster o gyfeiriad annisgwyliadwy. Y gŵr mwyaf ei ddylanwad yn y Gogledd ar ôl marwolaeth Mr. Charles oedd John Elias. Er ei ddoniau areithyddol, nid oedd mor gadarn a sefydlog ei farn â rhai o'i frodyr. Yn union yn y cyfwng hwn, gŵyrodd oddi wrth y golygiadau uniongred ar un neu ddau o bynciau, a chyhoeddai efengyl arall " ym mhrif leoedd y dyrfa gyda'i huodledd arferol, er gofid dirfawr i'w gyfeillion gorau, a boddhad digymysg i'r rhai culaf o'r frawdoliaeth. Bu cynnwrf nid bychan yn y gwersyll o'r herwydd ; ac nid cyn i Thomas Jones o Ddinbych, ein prif ddiwinydd, wrthwynebu'r cyfeiliornad hyd at ddagrau ar lawr y Sasiwn, y tynnodd Elias rai o'i eiriau yn ôl, ac yr adferwyd heddwch. Ond argyhoeddwyd yr arweinwyr nad gwiw myned ymlaen i lunio Cyffes Ffydd tra byddai'r awyrgylch mor llawn o drydan. Felly aeth y trydydd deng mlynedd, ar ôl marwolaeth Pantycelyn, heibio heb Gyffes, a hyd y gwyddys, heb nemor o sôn am un ar ôl gaeaf 1814—15. Rywbryd yn ystod y flwyddyn 1821, dygwyd y mater i sylw drachefn; ond anodd dweud pa le na pha bryd y bu hynny. Penderfynodd Cymdeithasfa'r Bala, ym Mehefin, gael argraffiad newydd o Reolau y Seiadau, ond nid yngenir gair yn y Cofnodion am Gyffes, er bod y naill yn dal rhyw fath o berthynas â'r llall. Penderfynodd Cymdeithasfa Llangeitho yn Awst "bod y Corff oll yn gweled ei fod yn beth tra dymunol ac angenrheidiol i argraffu a chyhoeddi y tri pheth canlynol,—(1) Math o Gyffes Ffydd, sef Barn y Corff am holl brif bynciau'r athrawiaeth a gredir ac a bregethir yn ein mysg. (2) Y Rheolau Disgyblaethol sydd yn argraffedig yn barod, gyd ag ychydig chwanegiadau, os yn rheidiol. (3) Cyfansoddiad y Corff, etc.
Dyma'r penderfyniad eglur cyntaf a feddwn ar y mater ar ôl i gynigiad 1814 erthylu. Barned y cyfarwydd pa un a basiwyd hwn heb wybod gogwydd y Gogledd ai peidio. Nid cwbl amherthynasol yw atgoffa ddarfod cynnal Cymdeithasfa ym Machynlleth ar ôl un y Bala, ac o flaen un Llangeitho. Ychydig iawn o'i hanes sy'n wybyddus. A yw yn bosibl neu yn debygol mai yma, ym Machynlleth, lle y dathlwyd ei chanmlwyddiant yn 1923, yr ymddygwyd y Gyffes yn 1821? Dichon fod cofnodion ar gael yn rhywle a deifl oleuni ar y cwestiwn diddorol hwn.
"Deuparth gwaith yw ei ddechrau." Aeth y gwaith o lunio'r Gyffes rhagddo yn hwylus bellach. Ym Mhwllheli, ym Medi, enwyd brodyr o bob sir at y gorchwyl. Disgwylid iddynt ysgrifennu nifer o erthyglau, ac yna eu darllen yn eu Cyfarfod Misol er mwyn unfrydedd a chadarnhad. Mr. Gwalchmai a gynrychiolai ein rhanbarth ni. Yn Llanidloes, Ebrill 1822, penderfynwyd bod y dirprwywyr i gyfarfod yn y Fronheulog, Llandderfel, o flaen Cymdeithasfa'r Bala i gymharu eu sketches, ac i ffurfio un Gyffes gryno allan o'r cwbl. Felly y gwnaethant; a darllenwyd eu crynodeb brynhawn cyntaf y Sasiwn i'r holl frawdoliaeth. Cytunodd pawb â phob pwnc ohoni, heb neb yn tynnu'n groes.
Gweithredodd y De yr un modd; ac yn Llangeitho yn Awst, darllenwyd a chymeradwywyd eu Cyffes hwythau. Felly, am rai misoedd, meddai'r ddwy dalaith bob un ei Chyffes Ffydd ei hun.
Tuag at wneud y ddwy yn un, cyfarfu un-ar-ddeg o weinidogion yn Aberystwyth o flaen Cymdeithasfa Mawrth, 1823; a buont wrthi am ddeuddydd yn talfyrru, yn ychwanegu, neu yn newid, fel y barnent yn angenrheidiol. Mr. Gwalchmai a gynrychiolai Drefaldwyn Uchaf yno hefyd, ac yr oedd yn un o ysgrifenyddion y pwyllgor. Darllenwyd y Gyffes orffenedig i'r Sasiwn y dydd. canlynol, pryd y derbyniwyd hi'n unfrydol a chalonnog.
Un peth oedd yn eisiau eto, sef cymeradwyaeth y Gogledd i'r Gyffes unedig. Yng Nghymdeithasfa Llanfyllin, y mis canlynol, aethpwyd at y gorchwyl hwnnw. Darllenwyd, neu yn hytrach dechreuwyd darllen, yr erthyglau. Ymdriniai'r ddeunawfed â mater y buasai cryn wahaniaeth barn yn ei gylch yn ein plith. Ymddengys mai Mr. Gwalchmai a'i ffurfiodd i gychwyn, ac iddo orfod ei hysgrifennu lawer gwaith, gan newid cryn dipyn arni, er mwyn cyfarfod â syniadau brodyr eraill. Pan ddarllenwyd hon yn Llanfyllin, gwrthdystiodd y Parch. Robert Roberts o Rosllanerchrugog yn ei herbyn, gan ddweud ei bod yn ddoeth uwchlaw geiriau'r Ysgrythur. Siaradodd mor ddeheuig nes cario llawer o'r Sasiwn gydag ef; a'r unig beth a fedrai ei phleidwyr wneud, er achub y sefyllfa, oedd gohirio ystyriaeth o'r 27 erthygl olaf hyd Sasiwn y Bala. Oni bai am hyn, yn Sir Drefaldwyn y cawsai'r Gyffes ei chadarnhau yn derfynol.
Sasiwn y Bala a ddaeth, a thrwy ddylanwad John Elias a Mr. Charles, Caerfyrddin, llwyddwyd i basio'r Gyffes fel yr oedd, heb newid dim arni, fel hefyd y gwnelsid yn Aberystwyth. Dyna'r Gyffes bellach mewn grym. Ond y mae'n deilwng o sylw ddarfod i'r Gymanfa Gyffredinol, 50 mlynedd yn ddiweddarach, farnu mai priodol ychwanegu nodiad at y ddeunawfed erthygl, yn cynnwys yn hollol yr hyn y dadleuai Robert Roberts drosto yn Llanfyllin.
Cytuna awdurdodau go uchel i ddweud bod y Gyffes yn gampwaith o ran mater a chyfansoddiad. Nid sêl enwadol, ddallbleidiol, sy'n dywedyd fel hyn. Rai blynyddoedd yn ôl, bu yn fy llaw i lythyr a ysgrifennodd y Parch. John Roberts, gynt o Lerpwl, at gyfaill yng Nghymru yn y flwyddyn 1871. Preswyliai Mr. Roberts ar y pryd yn Edinburgh, ac wele rai o'i eiriau, "Traddododd Dr. Candlish anerchiad rhagorol i efrydwyr Athrofa yr Eglwys Rydd ar agoriad yr Athrofa ar Deyrngarwch i'r Gwirionedd," ac wrth gyfeirio at yr Athrawiaeth am Etholedigaeth, dywedodd iddo gael ei foddhau yn ddirfawr wrth ddarllen Cyffes Ffydd y chwaer eglwys yng Nghymru, lle yr oedd yr athrawiaeth hon yn cael ei gosod allan yn fwy eglur ac ysgrythurol nag mewn unrhyw Gyffes a welodd erioed. Yna efe a'i darllenodd i gyd. . . Ar ôl y cyfarfod, daeth amryw o Weinidogion yr Eglwys Rydd Professor, Doctors, &c., ataf, i'm llongyfarch a gofyn pa le y gellid cael copi o'r Gyffes Ffydd.'
Dyna dystiolaeth y doethawr o'r Alban amdani ymhen 50 mlynedd ar ôl ei chwblhau. Yr oedd ei hawduron oll erbyn hynny wedi noswylio. John Hughes, Pontrobert, oedd yr olaf ohonynt i adael y ddaear. Wrth ddarllen y ganmoliaeth hon, anodd i'r meddwl beidio ag ehedeg o neuaddau Edinburgh at yr hen batriarch o'r Bont yn ei fwthyn cul a thlodaidd, gyda'i lyfrgell o ryw hanner cant o fân-gyfrolau, ac at ei ddeg cyd-weithiwr na chawsai odid un ohonynt gymaint â therm o'r hyn a ellid ei ystyried yn addysg athrofaol, a gofyn mewn syndod, pa fodd y gallasant gyflawni'r fath orchestwaith. Atebwn ni fel y mynnom. Awgrymir eu hatebiad hwy eu hunain i'r cwestiwn yn y geiriau a ysgrifennodd y Parch. Ebeneser Richard ar ddiwedd ei adroddiad o gyfarfod Aberystwyth,—
"Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel.""
(Yn yr Henaduriaeth, Rhagfyr, 1923).
Y DATHLIAD: YMBARATOAD ATO
BRAENARWCH i chwi fraenar, ac na heuwch mewn drain, dyna anogaeth y proffwyd. Oni wnawn ninnau rywbeth eleni, cnwd gwael a ellir ei ddisgwyl y flwyddyn nesaf. Ac ymddengys mai cenhadaeth Ioan Fedyddiwr sydd i'r flwyddyn hon, sef darparu i'r Arglwydd bobl barod.'
Y mae hynny'n bwysicach nag a feddylir. Llesteiriwyd graslonrwydd y nefoedd lawer tro gan amharodrwydd y ddaear. "Nesaodd amser yr addewid," meddai Steffan; ond prin y daeth yn ei hamser, serch hynny. Er bod yr Arglwydd yn barod i waredu, Moses yn barod i arwain, a Chanaan yn barod i newid dwylo, nid oedd Israel yn barod i gychwyn allan heb ysbaid ychwanegol o gaethiwed caled. Ond pobl barod sydd gymeradwy,—rhai wedi gwregysu eu lwynau a goleuo eu canhwyllau, rhai tebyg i ddynion yn disgwyl eu Harglwydd, a'u parodrwydd yn prysuro dyfodiad dydd Duw yn hytrach na'i atal.
Paratoir trefniadau'r Dathliad gan bwyllgorwyr medrus : pwy sydd i baratoi'r dathlwyr? Wel, y dynion eu hunain mewn ystyr. Meddai Hesecïa ar achlysur arbennig fel hwn, "Yr Arglwydd daionus a faddeuo i bob un a baratôdd ei galon er na lanhawyd ef yn ôl puredigaeth y cysegr." Nid diberygl oedd esgeuluso'r puredigaeth y pryd hwnnw, ond y llall oedd bwysicaf. Gwyliwn ninnau rhag gwario amser i feirniadu a beio gwaith eraill a gadael ein gwinllan briod yn gyfle drain a mieri. Canolbwyntiwn ein sylw ar ein hysbrydoedd ein hunain, rhag i 1935 ddyfod a'n cael yn cysgu. Gwell bod heb ddathliad na hynny.
Ond parod i beth? Eisiau dyfod i gyffyrddiad â'r nerthoedd dwyfol sydd arnom; syniad llethol i ddyn ystyriol. Nid yw nerth anianyddol yn beth i gellwair ag ef. Y mae gwifrau yn ein gwlad heddiw na faidd y cryfaf ohonom eu cyffwrdd heb ryw ddiogeliad. Ac y mae agweddau ar y Nerth Dwyfol sydd yn ddychryn i bechadur. "Wele fi yn anfon angel o'th flaen i'th gadw ar y ffordd . . ."Gwylia rhagddo" . . . na chyffroa ef: canys ni ddioddef eich anwiredd." Eto, argyhoeddiad dyfnaf ein calonnau yw bod yn rhaid ei gael. Pa ryfedd bod yr enaid effro yn bryderus drydar,—
"Dwed a ellir nesu atat,
Dwed a ellir dy fwynhau."
Atebiad diamwys y Nefoedd yw, Gellir.' Gwisgwyd y Nerth anfeidrol mewn tynerwch addewid, a gwahoddir y gwannaf i ymaflyd' ynddo. Grym yr addewidion' oedd hoffus enw ein tadau arno, a thystiasant ganwaith ei fod wrth eu bodd' yn y diwyg hwnnw. A chan mai o'r cyfeiriad yna y mae i ni ddyfodfa ddiogel at y pwerau mawrion, y cwestiwn holl-bwysig heddiw yw, Pa fodd y mae rhyngom ag addewidion Duw? Pa le a gânt yn ein bywyd? Soniai'r hen bobl fwy amdanynt nag a wnawn ni. A argoela hynny na chânt ond ychydig o le yn ein myfyrdodau? A ellir fforddio eu hanwybyddu? Tuag atom ni y mae eu gogwydd hwy o'r dechreuad. Gellir dychmygu am rai o'r angylion yn ymson paham yr addawa eu Harglwydd gymaint, mai gweddusach i'w fawrhydi a fyddai cyflawni ei fwriadau yn ei amser da ei hun, heb ymrwymo ymlaen llaw; ac i ryw angel craffach daflu gair i mewn, a gofyn, Pwy, fel hynny, a ddysgasai i Effraim gerdded? Estyn eu dwylo at yr un bychan i'w gymell i fentro a fu eu hanes hwy erioed, a thebyg na ddaethai'r truan byth i ymlwybro heb eu cymorth a'u cefnogaeth. Ond beth am ein hochr ni i'r ddalen? A oes gwerth pendant i addewidion Duw yn rhaglenni bywyd eglwysi a phersonau heddiw? Neu ai pethau a led-oddefir ar dir sentiment yn unig ydynt? Ai tebyg i deganau silff fantell ambell ffermdy hanner can mlynedd yn ôl, efydd tolciog yn disgleirio rhywfaint, ond heb fod yn werth dwy geiniog ar y farchnad? Os yw'r cyfryw ddibristod yn bod, dylem ymdrechu i'w symud ar unwaith; oblegid anodd yw meddwl am waeth sarhad ar gysegredigrwydd na chyfrif yr addewidion fel dieithr-bethau. Gadael cheques y Brenin Mawr heb eu defnyddio,—heb eu darllen hwyrach Canys dyna ydynt,—archebion wedi eu tynnu allan yn ein ffafr, ar fanc ni pheidiodd erioed â thalu, a medd yr Arglwydd wrth odre pob un. Na feddylied y gŵr a'u diystyro y derbyn ef ddim gan yr Arglwydd.
(Yn yr Henaduriaeth, Rhagfyr, 1934).
FFYDDLONDEB I ANGHYDFFURFIAETH
TRAETHIR llawer ar y mater hwn yn y dyddiau hyn. Edrychir arno gan wahanol feddyliau o wahanol gyfeiriadau. Y peth hawsaf i mi heddiw fydd ceisio dwyn ar gof rai pethau a ddangosant ffyddlondeb ein tadau i Anghydffurfiaeth yn y dyddiau gynt a fu,' mewn hyder y gall hynny brofi yn symbyliad i ninnau gerdded yn llwybrau eu ffydd hwy.
Edrychwn yn fyr ar eu hanes mewn tri chyfnod.
1 Pan oedd Anghydffurfiaeth yn drosedd o'r gyfraith wladol.
Am gan mlynedd ystyrid Anghydffurfwyr yn y wlad hon yn criminals o'r math gwaethaf. Dangosid llai o dynerwch tuag atynt na thuag at y dyhirod tostaf. Dirwy, carchar, alltudiaeth ac angau oedd bygythiad y gyfraith arnynt. Collodd miloedd ohonynt eu bywyd, gyrrwyd myrddiynau i ffoi i wledydd tramor, bu'r carcharau yn rhy lawn ohonynt i gael lle i ladron ac ysbeilwyr, ac atafaelwyd a dinistriwyd gwerth miliynau o bunnau o'u heiddo. Gwneid hyn iddynt, nid gan y mob direol, ond gan swyddogion y llywodraeth. Yr oedd gan eu treiswyr, nid gallu yn unig, ond hefyd awdurdod cyfraith wladol ac eglwysig. Buont fwy nag unwaith yn deisyf am eu rhoddi i farwolaeth yn gyhoeddus, od oedd rhaid; a phan drengent yng nghelloedd ffiaidd y carcharau, ni chynhelid trengholiad ar eu cyrff, mwy na phe haent anifeiliaid. Rhennid eu heiddo i wehilion y bobl am ddwyn tystiolaeth, gam neu gymwys, yn eu herbyn, a gadewid eu teuluoedd i newynu neu i fyw ar elusen.
Digwyddodd pethau fel hyn yn Sir Drefaldwyn. Dinistriwyd holl eiddo Henry Williams o'r Ysgafell, ger y Drefnewydd, lladdwyd yr hen ŵr ei dad, a thrwy gyfryngiad swyddog mwy tyner ar ei rhan y goddefwyd i'w wraig ddianc â'i heinioes, gan arwain ei phlant mân allan, heb wybod i ba le yr oedd yn myned. Bu Vavasor Powell o Kerry—apostol canolbarth Cymru, mewn tri-ar-ddeg o garcharau, ac yng ngharchar y Fleet yn Llundain y bu farw. Cadwyd Charles Lloyd, o Ddolobran, Meifod, ef a'i wraig ac amryw o'u cymdogion, yng ngharchar y Trallwm am ddeng mlynedd, gan eu gosod yn y celloedd isaf, lle y disgynnai holl fudreddi'r carchar, er mwyn gwneuthur bywyd yn faich iddynt.
Cofier nad y werin afreolus a wnâi bethau fel hyn, ond swyddogion llywodraeth Gristnogol Brotestannaidd Prydain Fawr. Cofier nad ymhell yn ôl yn yr oesoedd tywyll y digwyddodd hyn; nage, llai na chan mlynedd o amser cyn adeiladu capeli'r Methodistiaid yn Llanbrynmair a Llanidloes. A chofier, hefyd y gallasai ein tadau osgoi'r holl flinderau hyn yn hwylus trwy fygu eu hargyhoeddiadau a chydymffurfio. Ond ni fynnent brynu eu rhyddid ar draul gwerthu eu hegwyddorion. Aent allan o wydd eu barnwyr yn llawen am eu cyfrif yn deilwng i ddioddef dros y gwirionedd.
Gellir cymhwyso geiriau'r Beibl am grefyddwyr yr Hen Oruchwyliaeth atynt hwythau hefyd "Y rhai nid oedd y byd yn deilwng ohonynt, yn crwydro mewn anialwch, a mynyddoedd, a thyllau, ac ogofeydd y ddaear; yn ddiddim, yn gystuddiol, yn ddrwg eu cyflwr." Hwy a gawsant brofedigaeth trwy watwar a fflangellau, ie, trwy rwymau hefyd a charchar. Hwynt-hwy a labyddiwyd, a dorrwyd â llif, a demtiwyd, a laddwyd yn feirw âr cleddyf, ac a ddirdynnwyd, heb dderbyn ymwared."
Ceir rhai a ddysgant, er hynny, nad oedd yr Anghydffurfwyr ond ffanaticiaid sur, wedi meddwi ar ragfarn at yr Eglwys Sefydledig, a heb fedru gwerthfawrogi dim ond eu mympwyon cul eu hunain. Llawn gormod o dasg i undyn a fyddai profi bod disgyblion John Owen, a John Howe, a John Milton, a John Bunyan yn greaduriaid salw a diddim. A chredaf fod yr hyn a ddigwyddodd ar ddiwedd y cyfnod hwn yn ddigon i wrthbrofi syniad o'r fath. Pan oedd dioddefiadau'r Anghydffurfwyr yn ingol dros ben-merched yn yr Alban yn cael eu rhwymo wrth bolion ar y traeth i foddi yn araf pan godai'r llanw; gwraig yn Llundain yn cael ei llosgi yn lludw am noddi un o'i chydnabod a geisiai ddianc rhag cosb; ugeiniau o Anghydffurfwyr Gwlad yr Haf yn cael eu dienyddio, a'u cyrff yn braenu ar bob croes ffordd, a channoedd eraill yn cael eu gwerthu yn gaethion i India'r Gorllewin am iddynt ymladd dros yr hyn a ystyrient hwy yn rhyddid pan oedd pethau fel yna, yn sydyn cyfryngodd Rhagluniaeth ar eu rhan mewn modd nodedig iawn. Fe ffraeodd yr erlidwyr â'i gilydd, aeth y llys a'r eglwys yn ben-ben, a dacw'r fantol yn llaw'r Anghydffurfwyr dirmygedig. Cyn iddynt bron sylweddoli'r peth, yr oedd y brenin wedi caniatáu rhyddid iddynt, gan ddisgwyl eu hennill felly i'w bleidio ef yn erbyn yr eglwys a'i hesgobion.
Ni buasai'n syndod mawr pe gwrandawsent arno. Onid da cael esmwythder rywfodd o gyflwr mor adfydus, "heb ofyn dim er mwyn cydwybod." Ond chwarae teg i'r hen Anghydffurfwyr, er iddynt ddadlau ac ymladd llawer tros ryddid, ni fynnent ryddid anghyfreithlon. Od oedd gan y brenin hawl i newid y gyfraith yn ôl ei ewyllys ei hun, pa le yr oedd hawliau'r deiliaid? I ba beth yr oedd Senedd da? Wedi ystyried y sefyllfa, penderfynasant wrthod cynnig y brenin, a sefyll wrth gefn arweinwyr yr Eglwys Sefydledig, a addawai basio deddf goddefiad trwy'r Senedd mor fuan ag y gellid gorchfygu'r brenin, a thrwy hynny estyn iddynt ymared mwy cyfreithlon.
Byddai'n burion i'r rhai a soniant fyth a hefyd am genfigen a chulni Ymneilltuaeth gofio am yr enghraifft hon o fawrfrydigrwydd. Yn y cyfrwng tywyllaf a welodd Eglwys Loegr er y dydd y sefydlwyd hi, pan oedd ei Phen daearol hi ei hunan wedi ymddiofrydu i'w difetha, safodd yr hen Anghydffurfwyr yn ffyddlon iddi, er bod dwylo'r Eglwys yn goch gan waed eu brodyr a'u chwiorydd ar y pryd. Achubwyd rhyddid gwladol a chrefyddol ein gwlad mewn canlyniad i'w ffyddlondeb hwy i'w hegwyddorion a'u parodrwydd i anghofio'r camwri a arferasid tuag atynt am genedlaethau.
2. Pan atelid oddi wrth Anghydffurfwyr freintiau cyffredin deiliaid y wlad.
Nid oeddynt yn criminals mwyach yng ngolwg y gyfraith. Taenai Deddf Goddefiad ei hadain trostynt. Achwynir llawer ar y ddeddf honno yn ein dyddiau ni, ac, mewn theory, amhosibl yw ei hamddiffyn. Y naill ddyn yn goddef i ddyn arall addoli Duw yn ôl ei gydwybod! Ond er hynny, da iawn a fu ei chael, a phan gofiwn ei bod ar un ergyd yn atal gweithrediad un-ar-ddeg o hen ddeddfau gorthrymus, hawdd credu haneswyr pan ddywedant nad oes ar lyfrau y deyrnas hon heddiw yr un ddeddf a roddodd derfyn ar gymaint o ddioddef ag a wnaeth Deddf Goddefiad. Dug hon ein tadau trwy'r Mor Coch, ond ysywaeth yr oedd cryn ffordd eto i Ganaan. Yn lle'r Eifftiaid, daeth Amaleciaid, ac er na fedrai'r olaf flino Israel fel y gwnâi'r cyntaf, gwnaent eu gorau mewn llawer ffordd i'w drygu. Sonia Solomon am flinder neilltuol, gan ei gyffelybu i "ddefni parhaus ar ddiwrnod glawog," ac nid hwyrach y gwnâi'r gymhariaeth y tro i ddisgrifio cyflwr Ymneilltuwyr yn y cyfnod hwn. Nid oeddynt mwyach allan yng nghynddaredd y dymestl, na, yr oedd Deddf Goddefiad yn do drostynt. Ond llwyddodd yr erlidiwr i gadw'r tô hwnnw'n dyllog am ganrif a hanner o amser. Disgynnai'r defni ar y trueiniaid o hyd, ac ychydig o gysur a thawelwch a fwynheid ganddynt. Yr oedd mân gystuddiau'r cyfnod hwn bron cymaint o orthrymder ysbryd i'r Ymneilltuwyr, ac o braw ar eu ffyddlondeb, ag oedd helyntion garwach y cyfnod blaenorol. Oblegid gŵyr pob un ohonom ei bod mor hawdd syrthio o flaen profedigaeth gymharol fechan ag yw o flaen un llawer mwy.
Enwn rai o'r ffyrdd y blinid Ymneilltuwyr y cyfnod :—
(1) Trwy fygwth yn barhaus, a chynnig weithiau am ddiwygio Deddf Goddefiad, h.y., ei newid nes bod yn dda i ddim. Bu agos iddynt â llwyddo yn eu hymgais droeon, a'r tebyg yw y buasent wedi llwyddo oni bai am Dŷ'r Arglwyddi,—chwarae teg i hwnnw. Gildiodd y Tŷ hwnnw unwaith, a thrwy farwolaeth y frenhines ar y dydd yr oedd y newid i ddyfod i rym y cafwyd ymwared. Nid rhyfedd i'r dydd hwnnw fod yn 'ddydd o lawen chwedl,' am flynyddoedd gan yr Ymneilltuwyr.
(2) Trwy gynhyrfu'r werin i ymosod arnynt. Ni feiddiai'r swyddogion wneuthur hynny yn awr, ond gallent arfer eu dylanwad ar yr anwybodus i ymosod a wincio ar eu hafreolaeth ar ôl hynny. Felly chwalwyd yr unig gapel a feddai'r Ymneilltuwyr yn Sir Drefaldwyn yn y flwyddyn 1714, sef Capel Llanfyllin.
(3) Trwy wrthod gweinyddu'r gyfraith i'w hamddiffyn. Cydffurfwyr oedd mewn awdurdod fel ynadon drwy'r deyrnas, a phan apeliai'r Ymneilltuwyr atynt am drwydded i weinidog neu gapel yn ôl y gyfraith, gwrthodid hwy o dan ryw esgus neu'i gilydd yn aml iawn. A beth allai diadell o bobl ddiniwed a thlodion ei wneud at gael cyfiawnder, pan wrthodid trwydded iddynt, ac yna eu herlid am weithredu heb drwydded? Amhosibl yw canmol gormod ar y Dissenting Deputies yn y cysylltiad hwn. Naw ugain mlynedd yn ôl, ffurfiwyd cymdeithas yn Llundain, sydd mewn bod hyd heddiw, i amddiffyn hawliau eu brodyr mewn rhannau anghysbell o'r wlad.
Difyr iawn yw darllen eu hanes yn dwyn ambell grachormeswr i'r llwch. Ond caent gryn drafferth ar y dechrau. Pan gamdriniwyd Lewis Rees o Lanbrynmair mor erchyll nes peryglu ei fywyd, cymerodd y gymdeithas ei achos mewn llaw, ond methwyd â chael un cyfreithiwr trwy holl Ogledd Cymru oedd yn barod i ddadlau ei achos er bod y gyfraith yn amlwg o'i blaid. O hynny allan, gofalai'r gymdeithas am anfon cyfreithiwr i lawr o Lundain.
(4) Trwy eu herlyn yn y llysoedd am y pethau mwyaf afresymol. Erlynid y gweinidogion am fedyddio, erlynid y fam am beidio â dod i'r eglwys i'w rhyddhau ar ôl esgor, a'r tad am beidio â thalu'r fees i'r offeiriad er mai'r gweinidog a fyddai wedi gwasanaethu. Gwrthodid priodi Ymneilltuwyr weithiau fel y byddent dan orfod i fyned i Ysgotland i wneud, neu fodloni ar fynd drwy'r seremoni ger bron eu gweinidogion eu hunain, yr hyn nad oedd yn briodas yng ngolwg y gyfraith. Gwrthodid darllen y gwasanaeth claddu yn angladd plant yr Ymneilltuwyr, a phan baratoesant fynwentydd Ymneilltuol ceisiai'r offeiriad dâl claddu er na buasai'n agos i'r lle. Ceisiai'r clochydd fod cystal gŵr â'i feistr drwy erlyn yr Ymneilltuwyr am dâl am lanhau eu seddau yn yr eglwys er na buasent erioed yno. Ac os gwrthwynebid y ceisiadau hyn teflid yr achos i lys yr esgob, ac ni byddai'n waeth i'r Ymneilltuwyr fyned i'r purdan ar unwaith na myned i'r fan honno.
(5) Ond prif arf y gelynion i flino'r Ymneilltuwyr oedd Deddf y Praw-lwon-Test Act. Rhyw hen addodwy gorthrymus oedd hwn a adawsid yn y nyth pan basiwyd Deddf Goddefiad. Addawsai'r esgobion y pryd hwnnw eu bwrw allan yn union, ond cymerasant saith ugain mlynedd i wneud hynny. Amddifadai hyn yr Ymneilltuwyr o'u hawliau fel dinasyddion oni chydymffurfient. Nid oedd obaith i'r un ohonynt gael swydd o dan y brenin neu o dan gorfforaeth dinas heb fyned i'r eglwys i gymuno. Beth bynnag a fyddai eu cymwysterau, ni chaent ymgyrraedd at ffon y cwnstabl, heb sôn am gadair y maer. Gwarthnodid hwy fel bodau is-raddol i'w cymdogion, fel rhyw Gibeoniaid hollol annheilwng o bob ymddiriedaeth. Nodwn un enghraifft i ddangos nodwedd y ddeddf.
Yn y flwyddyn 1745 daeth y Pretender drosodd i'r deyrnas hon i geisio goresgyn a gweithio'i ffordd i'r orsedd. Yr oedd y wlad mewn dirfawr berygl, yr Alban wedi ei darostwng, y fyddin bron i gyd ymhell ar y cyfandir yn ymladd â'r Ffrancwyr, a'r trawsfeddiannydd wedi cyrraedd o fewn taith ychydig oriau i'r brifddinas, lle yr oedd y cyffro mwyaf, a'r Bank of England wedi dechrau talu allan mewn chwecheiniogau. Yn y cyfwng yma mentrodd yr Ymneilltuwyr ffurfio catrawd o filwyr i ymladd dros y llywodraeth er mwyn dangos eu teyrngarwch i'r orsedd. Ond beth fu'r canlyniad? Pan gilgwthiwyd y gelyn pasiodd y Senedd ddeddf i faddau i fwyafrif y gwrthryfelwyr am geisio dadymchwelyd y llywodraeth, ac ar yr un anadl i faddau i'r Ymneilltuwyr am feiddio ei hamddiffyn. Pan oedd eraill yn medi gwobrwyon ac anrhydedd am wasanaethu eu gwlad yn yr un ffordd yn union, cafodd yr Ymneilltuwyr yn rasol iawn faddeuant y wlad honno.
Fel yna y bu'r Test Act yn offeryn cyfleus iawn yn nwylo'r gwrthwynebwyr. Darparai'r Ddeddf hon fod pob Ymneilltuwr a gymerai swydd heb gymuno yn yr eglwys yn agored i ddirwy o £500. Tua'r flwyddyn 1748 yr oedd Corfforaeth Dinas Llundain yn adeiladu'r Mansion House. Er mwyn blino'r Ymneilltuwyr a chael arian at yr adeiladau yr un pryd, pasiwyd bye-law ganddynt, dan yr esgus o sicrhau personau cymwys i swyddi cyhoeddus, yn trefnu bod dirwy o £400 ar bob person a enwid yn ymgeisydd am swydd sirydd oni safai etholiad, a £600 o ddirwy ar bob un a etholid oni wasanaethai'r swydd. Yn awr, wele'r Ymneilltuwyr rhwng deugorn y deddfau gwrthwynebol hyn. Os gwasanaethent heb gydymffurfio, gafaelai'r Test Act ynddynt am £500; os gwrthodent wasanaethu, gafaelai'r gyfraith newydd ynddynt am £600. Wrth gwrs, nid oedd eisiau eu gwasanaeth. Twyll oedd hynny, oblegid enwid y personau mwyaf anghymwys os meddent eiddo.
Enwid rhai amhwyllog, gorweddiog, dall, etc. Eu harian yn unig a chwenychid. Wedi dioddef yr annhegwch dybryd am chwe blynedd a thalu £1,500 mewn dirwyon, apeliasant at y llysoedd am amddiffyniad. Meddylier amdanynt—dyrnaid o Ymneilltuwyr yn erbyn corfforaeth y ddinas gyfoethocaf yn y byd! Teflid yr achos o lys i lys er mwyn difetha eu hadnoddau, a bu raid iddynt ddwyn y cyngaws ymlaen am dair-blynedd-ar-ddeg cyn i Dŷ'r Arglwyddi droi'r fantol o'u hochr. Ond bu'r Ymneilltuwyr yn ffyddlon i'w hegwyddorion trwy'r cwbl, ac enillasant i ni hynny o freintiau a chydraddoldeb a feddwn heddiw.
Cofiwn, wrth eu mwynhau, mai â swm dirfawr o ddioddefiadau y cafwyd hwy, a cheisiwn sylweddoli ein rhwymedigaethau fel canlynwyr y gwŷr a roddodd eu heinioes i farw, ac a gymerodd eu hysbeilio o'r pethau a oedd ganddynt yn llawen er mwyn rhyddid cydwybod a theyrngarwch i'r gwirionedd.
"Pe plant Abraham fyddech, gweithredoedd Abraham a wnaech." Ni olyga hyn ein bod i yngan pob "Shibboleth" yn hollol fel y gwnaent hwy na'n bod i'n llywodraethu'n hollol gan law farw'r gorffennol. Ond golyga ein bod i ddal i fyny'r faner dros y gwirionedd mawr,—Iesu Grist yn unig Ben i'w Eglwys, y Beibl yn unig reol ffydd ac ymarweddiad, a chysegredigrwydd cydwybod rhag pob ymyriad gan y rhai oddi allan.
Gadawaf y cyfnod arall i'r siaradwyr fydd yn dilyn. Er bod tipyn o ormes yn perthyn i hwn weithiau, galwn i ef, ar y cyfan, fel cyfnod y llwgr-wobrwyo. Wedi i ŵg fethu â siglo'r Ymneilltuwyr, arferwyd gwên a deniadau. Ac i ambell feddwl nid hwyrach fod y rhain yn anos i'w gwrthsefyll. Fferm i'w chael am gefnu ar y capel: ffafr meistr a goruchwyliwr, manteision ynglŷn â'r fasnach, addysg golegol yn rhad i fachgen tlawd am wadu ffydd ei dadau. Ie, yn y dyddiau diwethaf hyn, y mae'r ffordd yn rhydd i'r llanc o fainc y seiat i'r fainc esgobol. A gall yr Eglwys ddweud yn ddistaw am dderbynwyr y ffafrau hyn, "Y rhai y diystyraswn eu tadau i'w gosod gyda chŵn fy nefaid."
A feddwn ni ar ddigon o ruddin i ddal yn wyneb hudoliaeth yn ogystal â bygythiad? Ymddengys yn awr nad rhaid i ni ddal yn hir iawn. Nid oes ond Iorddonen rhyngom a thir ein gwlad. Ond rhag y bydd rhaid troi'n ôl i'r anialwch am flynyddoedd eto, y mae yn werth inni ymdrechu am ffydd i gredu mewn goruchafiaeth derfynol, tegwch ac uniondeb yng nghysylltiadau crefyddol ein gwlad, ac amynedd i ddisgwyl am hyn oll.
Y PIWRITANIAID
CHWE chan mlynedd yn ôl yr oedd yr holl wlad yma o un grefydd-pawb yn cydnabod awdurdod y Pab ar faterion eglwysig ac yn cymryd eu rheoli o Rufain.
Bum cant a hanner o flynyddoedd yn ôl yr oedd yma wrthdystiad cryf yn erbyn y Babaeth. Codasai John Wicliffe ac eraill yn Lloegr a Walter Brute ac eraill yng Nghymru i ddangos cyfeiliornadau Rhufain, ac enillasant lawer o ganlynwyr, a elwid yn Lolardiaid.
Ond, trwy gymorth y gallu gwladol, llwyddodd y Babaeth i'w darostwng a'u difetha.
Bum can mlynedd yn ôl, daliwyd Syr John Oldcastle, arweinydd y Lolardiaid ar ôl Wicliffe, yn Sir Drefaldwyn, a dygwyd ef i Lundain i'w ddienyddio.
Tywyllwch y gellid ei deimlo oedd yma am flynyddoedd hirion ar ôl dyddiau'r Lolardiaid, yn enwedig yn yr eglwysi, ond ceid ambell belydryn o oleuni o'r tu allan. Er bod y ddeddf i losgi hereticiaid ar lyfrau'r deyrnas, mentrai ambell un o hen feirdd Cymru ganu'r gwir ar ei gwaethaf. Ebe un ohonynt, sef Sion Cent,—
"Am y trosedd a wneddyw
Ar camoedd tra f'oedd yn fyw,
Rhy hwyr fydd yn y dydd du
Od wyf wr i edifaru,
Nid oes nerth ar y berthyn
Onid Duw i enaid dyn.
Jesu wrth gyfraith Moesen
Awr brid a'n prynodd ar bren.
Edrych yn fynych, f'einioes,
Ar Grist a'i gorff ar y groes,
A'i fron a'i galon i gyd,
A'i wiwdlws gorff yn waedlyd,
A'i draed gwrdd mewn diriaid gur
A'i ddwylaw'n llawn o ddolur.
O'th odlau, ddyn, a'th adlam,
O'th gas y cafas y cam!
Profais i, megis prifardd,
Bawb o'r byd, wyr hyfryd hardd.
Profais yn rhwydd arglwyddi,
Tlawd, cyfoethog, rywiog ri'.
Nid cywir gradd onaddun',
Nid oes iawn gyfaill ond Un.
Er neb ni thores Jesu
Ei lân gyfeillach a'i lu."
Ac ebe un arall, Gruffydd ab Ieuan ab Llewelyn Fychan, yn ei "Gywydd yn erbyn braint delwau,"—
"Gwelwn cymerwn gwilydd,
Mor ffol yr aethom o'r ffydd;
Ffydd dduwiol apostolion,
Hoffai Dduw hael y ffydd hon.
Trown ninnau i gyd, byd bedydd,
O ran a pharch i'r un ffydd,
A rhown heibio, tro trymddig,
Ganhwyllau a delwau dig,
A'r trws cwyr a'r llaswyrau,
A'r gleiniau o brennau brau.
Cadwn ddefosiwn heb ddig
Gyda'r gwr bendigedig.
Gwnaethom ormod pechodau,
Galwn help Duw i'n glanhau.
Ni all angel penfelyn
Na llu o saint un lles in,
Nac un dyn wedi'i eni
Is côr nef a'n swera ni,
Na neb ond Un a'i aberth
A roes i ni ras a nerth."
Yr ydym dan ddyled i'r hen feirdd am ganu fel hyn pan oedd y gwylwyr gosodedig yn rhy ddifater i ddim ond i fygwth ffagodau ar bwy bynnag a aflonyddai ar eu hesmwythgwsg hwy.
Bedwar can mlynedd yn ôl, daeth y Diwygiad Protestannaidd. Rhyw ail "gyflawnder yr amser" oedd hwn, pryd y cododd gwledydd cyfan eu hangorau megis, gan hwylio allan i'r cefnfor mawr dieithr. Deffrodd meddwl y werin fel Samson, a drylliodd lyffetheiriau'r Dalilah Rufeinig fel edau garth. Ar y cyfandir y dechreuodd y Diwygiad, ond cyrhaeddodd Brydain yn lled fuan. Yr oedd un gwahaniaeth ynddo yma rhagor y gwledydd eraill. Yno, dynion a dderbyniasai argyhoeddiad anwrthwynebol o'r gwirionedd yn nyfnder eu hysbrydoedd eu hunain oedd yr arweinwyr, megis Luther yn yr Almaen, Calfin a Farel yn Ffrainc, Zwingle yn yr Yswisdir, a John Knox yn yr Alban.
Ond yma ym Mhrydain, syrthiodd y mudiad i ddwylo'r gwladweinwyr, a chollodd lawer iawn o'i nerth a'i werth. Wrth gwrs, yr oedd yma lawer o wir garedigion y Diwygiad, ond gan nad oeddynt yn y ffrynt, ni fedrent osod nemor ddim o'u delw eu hunain arno. Nodweddion cyfaddawd oedd arno yma, fel y sydd ar bopeth bron a ddaw o ddwylo gwleidyddwyr.
Yn y dyddiau hynny, yr oedd yr awudrdod yn y wlad hon bron i gyd yn nwylo'r brenin, yn enwedig pan fyddai hwnnw'n ddyn o ewyllys gref a phenderfynol. Ar y dechrau, yr oedd y brenin, sef Harri VIII., yn wrthwynebol i'r Diwygiad. Cyhoeddodd lyfr yn erbyn Luther, a derbyniodd ddiolchgarwch gwresog y Pab a'i gynghorwyr ynghyd â'r teitl o "Amddiffynnydd y Ffydd" fel gwobr am ei lafur—teitl a gedwir yn ofalus gan ei olynwyr ac a argreffir ar yr arian bath hyd heddiw. Ond trodd y gwynt cyn hir, a chafodd y Pab braw o briodoldeb y cyngor Ysgrythurol "Na hyderwch ar dywysogion." Priodasai'r brenin yn bur ieuanc. (Dywedir y cymerai pobl orau'r hen fyd gryn lawer o bwyll cyn myned i'r stâd briodasol. Gorchwyl mawr a phwysig iawn oedd adeiladu arch rhag dyfroedd y dilyw, eto bernir i Noa gwplàu honno mewn pum neu chwech ugain mlynedd, ond cymerodd bum can mlynedd cyn dewis cymhares i fyned gydag ef i'r arch. Os tybir i Noa fod yn rhy bwyllog, gellir dweud nad oes hanes iddo edifarhau a dymuno am ail gynnig!) Ond edifarhau a wnaeth y brenin Harri a phenderfynu ceisio ail gynnig. I'r pwrpas hwnnw, anfonodd gais at y Pab am ganiatâd i ysgar oddi wrth ei briod. Nid oedd y Pabau'r pryd hwnnw'n rhyw orfanwl am gadw at lythyren y gyfraith mewn mater o'r fath, yn enwedig pan dderbynnid cais oddi wrth un fel "Amddiffynnydd y Ffydd." Ond yn yr Achos hwn, yr oedd y Pab megis rhwng Pihahiroth a Baalsephon. Yr oedd gwraig y brenin Harri'n chwaer i Ymherodr yr Almaen, a chymerodd hwnnw blaid ei chwaer yn eithaf selog.
Felly, o chaniateid cais Harri, digiai llywodraethwr yr Almaen, lle'r oedd y Babaeth eisoes yn siglo o dan ergydion Luther. Ar y llaw arall, oni chaniateid y cais, ni wyddid yn y byd ba gwrs a gymerai "Amddiffynnydd y Ffydd." Yn ei benbleth, chwaraeodd y Pab yr hen ystryw o ohirio'r dyfarniad mor hir ag y medrai. Cadwyd yr achos i redeg am flynyddoedd, nes o'r diwedd i Harri ddiflasu a chymryd y gyfraith a'r cwbl i'w law ei hun. Aeth pethau o ddrwg i waeth rhyngddynt, a chyn hir penderfynodd Harri y mynnai ef fod yn ben yn Lloegr yn eglwysig yn ogystal ag yn wladol. Yr oedd hwn yn gam go fawr i'w gymryd—lleygwr i fod yn ben yn yr eglwys—un na feddai hawl i fedyddio baban na phregethu na chysegru offeiriad i'w swydd. Ond llwyddodd i ennill cefnogaeth y wlad trwy gynnig abwyd go ddeniadol i'r offeiriaid ac i'r gwŷr mawr. Y Pab a benodai esgobion a phob swyddog o bwys yn yr Eglwys o'r blaen, ac nid oedd gan Sais na Chymro obaith am safle da heb dalu'n ddrud i Rufain amdano. Fel rheol, penodid gwŷr o'r Eidal i'r lleoedd brasaf, a gofalai'r rhai hynny drachefn am eu perthynasau a'u cyfeillion, nes creu anniddigrwydd cyffredinol yn y wlad tuag at y tramorwyr. Yn awr, addawai Harri atal yr arfer o benodi tramorwyr pan fyddai ef yn Ben, a hefyd atal yr holl daliadau ariannol i Rufain fel na thlodid y wlad mwyach yn y ffordd honno. Dyna'r wobr i ddenu'r gwŷr llên. Yn awr am yr uchelwyr. Yr oedd yn Lloegr a Chymru'r pryd hwnnw gannoedd o fynachlogydd, a rhai ohonynt yn gyfoethog iawn mewn arian a thiroedd. Y mynachod oedd ysgolheigion y dyddiau hynny, a hwy a elwid fynychaf i wneuthur ewyllysiau hen bendefigion ofergoelus a oedd yn awyddus i wneuthur rhyw iawn am eu bywyd pechadurus. Gofalai'r mynach fynnu rhan o'r ystad i'w fynachlog cyn addo maddeuant a heddwch i'r testamentwr. Aeth yr arfer i'r fath eithafion fel y gorfodwyd y Senedd i'w warafun rhag i diroedd y wlad fynd i gyd yn eiddo i'r Eglwys. Wedi iddo gweryla â'r Pab, ymaflodd Harri yn eiddo'r mynachlogydd bron i gyd, ac ar ôl cadw rhan iddo'i hun, rhannodd y gweddill rhwng gwŷr ei lys. Dyna ddechreuad rhai o'r hen ystadau yn y wlad hon.
Gwelir, felly, nad argyhoeddiad o wirionedd a wahanodd ein gwlad ni oddi wrth Eglwys Rufain y pryd hwnnw. Cyfleustra hunanoldeb mewn un ffurf neu arall oedd y diwygiad yn y cylchoedd uchaf. Yn y cylchoedd isaf, yr oedd yma bobl o ddifrif, Pabyddion yn ogystal â Phrotestaniaid, ac erlidiai Harri y naill a'r llall yn ddiwahaniaeth—y Pabydd am wadu ei uchafiaeth ef, a'r Protestant am wadu trawsylweddiad yr elfennau yn y Sacrament.
Yr unig fraint a enillodd y diwygwyr yn ystod oes Harri oedd cael caniatâd i ddarllen y Beibl yn yr iaith Saesneg.
Ar ôl Harri, daeth ei fab Edward i'r orsedd yn fachgen naw -mlwydd oed, a pharhawyd y gwaith diwygiadol ganddo ef a'i gynghorwyr, a oedd gan mwyaf yn Brotestaniaid. Ond nid oedd neb ohonynt yn ddynion cryfion iawn, ac ofnent newid na symud nemor ddim ymlaen. Yn wir, symudasant yn ôl mewn un peth. Chwarae teg i Rufain, caniatâi hi lawer o ryddid i'r gwahanol rannau o'r wlad ynglŷn â ffurf y gwasanaeth crefyddol. Yr oedd gan York ei dull arbennig, ac felly Lincoln a Bangor hefyd, ac nid ymyrrai neb oddi allan â hwy, ond caent addoli'n ôl eu hen arfer. Ond, yn awr, penderfynwyd sefydlu unffurfiaeth trwy gyfraith a gorfodi pawb i'w mabwysiadu neu i fod tan berygl dirwy a charchar. Gwaeth na'r cwbl, yr hen ffurf Babyddol wedi ei hail-wampio, chwedl Robert Ellis, Ysgoldy, oedd y ffurf newydd. Yr un modd gyda'r gwisgoedd offeiriadol; gorfodwyd gweinidogion y diwygiad i wisgo'r hen wisgoedd Pabaidd neu dderbyn cosb am wrthod. Yn ychwanegol, cadwyd llawer o'r hen seremoniau, megis arwydd y Groes, a rhaid oedd cydymffurfio neu ddioddef. Y mae'n anhygoel y dioddefiadau a achoswyd gan bethau oedd mor ddibwys. Ymadawsai'r diwygwyr ar y Cyfandir yn llwyrach o lawer oddi wrth arferion y Babaeth. Ai rhai o Brotestaniaid Lloegr yno, a dychwelent yn llawn awydd am gyffelyb ryddid yma. Hwynt-hwy a'u canlynwyr a gyfenwyd yn y man yn Biwritaniaid. Dewiswyd un ohonynt, sef Hooper, yn Esgob Caerloyw, ond carcharwyd ef am naw mis am iddo wrthod gwisgo'r gwisgoedd offeiriadol i'w gysegru. Ei ddadl yn erbyn oedd fod perygl i'r bobl feddwl eto fel yn nyddiau'r Babaeth fod rhinwedd yn y wisg, a'i fod yntau mewn ufudd-dod i orchymyn y Beibl yn "casau'r wisg a halogwyd."
Gwelir, felly, mai rhyddid i wlad gyfan yn unig a enillwyd trwy'r Diwygiad. Yr oedd Lloegr fel gwlad yn rhydd oddi wrth Rufain a phob gwlad arall. Ond nid oedd yn Lloegr ddim rhyddid personol i neb o'i deiliaid. Yr oedd John Jones a David Davies yn llawn mor gaeth ag y buont erioed.
Bu farw Edward yn ieuanc iawn, a daeth ei chwaer Mary, a elwir yn Fari Waedlyd, i'r orsedd. Merch oedd hon i'r wraig a ysgarwyd gan Harri, ac yr oedd yn Babyddes selog fel ei mam. Adferwyd Pabyddiaeth eto'n ein gwlad. Llosgwyd tua thri chant o Brotestaniaid mewn ychydig amser, a dihangodd tros wyth gant i'r Cyfandir. Aeth nifer go luosog ohonynt i ddinas Frankfort, a chaniataodd yr awdurdodau iddynt gyfarfod i addoli yn un o eglwysi'r ddinas ar oriau neilltuol. Ar y cyntaf, cytunent i arfer dull syml Genefa yn y gwasanaeth, ond cyn hir cyfododd rhai ohonynt i ddadlau tros fabwysiadu dull y brenin Edward—dull y Llyfr Gweddi. Bu cymaint o gynnwrf rhyngddynt fel y rhwygwyd hwy'n ddwy garfan, ac erys y rhwyg heb ei gyfannu eto. Dyna'r pryd y daeth Schism i Brotestaniaeth Seisnig am y tro cyntaf.
Ar farwolaeth Mary, esgynnedd ei chwaer Elizabeth i'r orsedd. Yr oedd hi'n rhyw lun o Brotestant, a mawrheir ei henw gan laweroedd. "Yr hen amser gynt pan oedd Bess yn teyrnasu," ebe'r bardd, fel pe'n cyfeirio at yr oes euraid. Ond eithaf merch i'w thad, a digon o genawes oedd hi, a chan iddi deyrnasu am bump a deugain o flynyddoedd, sef deugain mlynedd yn hwy na Mary, bu ei llaw'n drymach o ran erledigaeth a charchar er nad o ran ffagodau. Ar ei hesgyniad i'r orsedd, dychwelodd y ffoedigion o'r Cyfandir, ond dychwelsant nid yn un blaid mwyach ond yn ddwy. Cyn hir, adnabyddid y naill blaid fel Diwygwyr y Llys a'r llall fel y Piwritaniaid. Nid oedd eto un gwahaniaeth rhyngddynt o ran athrawiaeth—yr oedd y ddwy'n hollol Galfinaidd. Ysywaeth, nid oedd gwahaniaeth rhyngddynt chwaith yn eu tuedd at unffurfiaeth. Yr oedd y Piwritaniaid mor barod â neb i dderbyn unffurfiaeth, o chaent hwy ddewis y ffurf. Ymdrech fawr a helbulon am ddwy oes a'u dysgodd i barchu rhyddid y gydwybod bersonol. Gorfodwyd hwy i wynebu anawsterau mawr. I ddechrau, pasiwyd Deddf Uchafiaeth y Frenhines, yn eglwysig yn ogystal ag yn wladol. Peth chwerw i ddygymod ag ef oedd hwn. Dynes yn Ben! Beth am ddysgeidiaeth Paul? Yn ail, daeth Deddf Unffurfiaeth yn llawn llymach nag o'r blaen. Wedi hynny, sefydlwyd Llys yr Uchel Gomisiwn i drafod materion eglwysig—llys a oedd i bob pwrpas ymarferol yn annibynnol ar y Senedd ac ar gyfraith y wlad ac a oedd yn meddu awdurdod hollol afresymol ar fywydau ac eiddo'r deiliaid. Yna daeth y Llw ex-officio, fel y'i gelwid, a orfodai ddyn i dystiolaethu yn ei erbyn ei hun. Trefnwyd nifer o gwestiynau yn barod wrth law i ddal y gweinidogion, megis "A ddarfu i chwi rywdro fedyddio heb roddi arwydd y Groes?" neu "briodi heb arfer y fodrwy?" Os do, pa bryd, ac ym mha le?" O wrthod ateb, cosbid hwy am sarhad; o ateb, cosbid hwy ar bwys eu hatebion. Nid rhyfedd i'r Prif Weinidog ysgrifennu at yr Archesgob i ddywedyd bod y fath gwrs yn ei farn ef yn waeth na dim a gyflawnwyd gan y Llys Ymchwil Ysbaenaidd. Ond dyfalbarhau a wnaeth yr Archesgob a'i gynghorwyr. Gallai unrhyw un a dramgwyddodd wrth weinidog anfon cyhuddiad yn ei erbyn i'r Uchel Gomisiwn. Anfonai'r Comisiwn swyddog i wysio'r gweinidog i Lundain, y gweinidog i dalu'r swyddog am ei daith yn ôl hyn a hyn y filltir. Gorfodid ef i adael ei deulu a'i orchwylion a myned i'r brifddinas, yno i ddihoeni mewn carchar ffiaidd i aros ei braw, pryd y condemnid ef ar ei dystiolaeth ei hun. Hynny a fu hanes llawer o'r gweinidogion Piwritanaidd. Y dyddiau hynny, ni châi neb o'r gweinidogion bregethu heb drwydded. Caent ddarllen y gwasanaeth hebddi, a dyna'r cwbl yr oedd angen amdano'n ôl barn y frenhines a'i chynghorwyr. Ond o mynnai gweinidog bregethu yr oedd yn rhaid iddo gael trwydded y llywodraeth. Yn Llyfrgell Coleg Bangor y mae llyfr yn cynnwys adroddiad swyddogol dirprwywyr Esgob Bangor am gyflwr yr esgobaeth yn y drydedd flwyddyn o deyrnasiad Elizabeth. Nid oedd yn yr holl esgobaeth ond dau glerigwr â thrwydded i bregethu'r pryd hwnnw, sef Deon Bangor ac offeiriad Llangurig, Sir Drefaldwyn. Y mae deiseb ar gael eto oddi wrth bobl Cernyw yn taer erfyn am bregethwyr. Er bod yno gant a deugain o glerigwyr, nid oedd yr un ohonynt yn pregethu. Ac eto i gyd, nid unwaith na dwywaith y galwyd yr holl drwyddedau i mewn er mwyn gorfodi pawb i geisio rhai newydd, rhag ofn bod rhai o'r Piwritaniaid wedi'u trwyddedu o ddiffyg gochelgarwch. Oblegid yr oeddynt hwy yn selog dros bregethu. Eto, er bod y wlad yn dyheu am eu gweinidogaeth, rhwystrid hwy ym mhob modd oni chydymffurfient â phob iod a phob tipyn o'r defodau. Ac ni ddihangai'r gwrandawyr yn ddigosb. Gwnaethpwyd cyfraith i gosbi pob un dros un-mlwydd-ar-bymtheg oed oni fynychai eglwys ei blwyf ar y Sul. Y ddirwy i ddechrau oedd swllt y Sul, ond codwyd hi wedi hynny i £20 y mis a charchar oni thelid, yna alltudiaeth gyda bygythiad y rhoddid hwy i farwolaeth pe dychwelent o'u halltudiaeth heb ganiatâd.
Y mae darllen am ddioddefiadau'r Piwritaniaid ar hyd y teyrnasiad hwn yn ddigon i ysu calon dyn. Cynifer ohonynt a fu mewn carcharau! Ac yr oedd carcharau'r dyddiau hynny mor enbyd o aflan a ffiaidd nes magu afiechyd arbennig a elwid yn "haint y carchar" ac a derfynai'n fynych iawn mewn marwolaeth. Gwelais yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth lythyrau oddi wrth garcharorion yng ngharchar Trefaldwyn yn erfyn ar yr awdurdodau fel ffafr eu hanfon i benyd-wasanaeth yn hytrach na'u gadael yn y carchar. Y mae eto ar gael lythyrau oddi wrth Biwritaniaid yn gofyn am gael marw'n gyhoeddus yn rhywle'n yr awyr agored. Ond dihoenodd ugeiniau a channoedd ohonynt i farwolaeth yn y carcharau, ac ni chynhelid trengholiad ar Biwritan.
O'r diwedd dechreuodd rhai o'r Piwritaniaid ymneilltuo. Anghydffurfwyr o fewn yr Eglwys mewn ystyr oeddynt o'r blaen. Yn awr dechreuasant gilio allan ohoni, a galwyd hwy yn Browniaid, oddi wrth enw eu gweinidog, Mr. Brown. Ond anodd iawn oedd iddynt gyfarfod i addoli heb i waedgŵn yr Archesgob ddyfod ar eu gwarthaf. Gan na chaent bregethu, ymroddodd rhai ohonynt i gyhoeddi llyfrau. Ond pasiwyd deddf nad oedd argraffwasg i fod yn unman ond yn Llundain, Rhydychen a Chaergrawnt nac unrhyw lyfr i'w argraffu heb drwydded arbennig yr Archesgob. Ni chaniateid chwaith i undyn gadw ysgol i ddysgu plant heb drwydded. Ymddangosai'r Llywodraeth yn benderfynol i ddifodi'r Ymneilltuwyr yn llwyr. Eto llwyddodd rhai ohonynt i gael argraffwasg yn ddirgelaidd, a threfnent i'w symud o fan i fan rhag i swyddogion y Llywodraeth ei darganfod. Bu'r wasg hon o dan ofal Cymro am dymor.
Bachgen o Sir Frycheiniog o'r enw John Penri ydoedd. Aethai i Goleg Caergrawnt yn Babydd selog, ond yno daeth o dan ddylanwad rhai o'r Piwritaniaid a chofleidiodd eu hegwyddorion. Wedi iddo gael y goleuni ei hunan, dechreuodd deimlo'n angerddol dros ei wlad, ac anfonodd ddeiseb at y Frenhines i ofyn am bregethwyr i Gymru neu am ganiatâd i fyned yno ei hunan. Fel y gellid disgwyl, yr oedd ei gais yn drosedd anfaddeuol. Bu'n ffoadur o fan i fan, ond o'r diwedd daliwyd ef. Gwyddai yntau nad oedd ond marwolaeth yn ei aros. Cyn ei braw ysgrifennodd o'r carchar amryw o lythyrau ffarwel. Y mae'r llythyrau hyn gyda'r pethau mwyaf toddedig a ddarllenwyd erioed. Amhosibl yw eu darllen â llygad sych. Ysgrifenna at ei briod i erfyn arni hyfforddi eu pedair geneth fach-yr hynaf heb fod eto'n bedair oed-yn ofn yr Arglwydd. "Yn enwedig," meddai, "paid â tharo'r eneth hynaf yn rhy arw; gwyddost fod gair yn ddigon! Ysgrifennodd hefyd lythyr i'w bedair geneth i'w gadw nes y medrent hwy ei ddeall. Apelia atynt i weddïo tros Gymru, i wneuthur cymwynas i'r plentyn lleiaf o Gymru pryd bynnag y caent gyfle, ac i fod yn gefn ac yn gysur i'w nain ei fam ef a fu mor garedig wrtho gynt. Ysgrifennodd hefyd at yr eglwys Ymneilltuol y perthynai iddi, a chynghorai ei haelodau i chwilio am wlad arall, oblegid nid oedd ym Mhrydain orffwysfa i Biwritan ond carchar neu fedd. "Eiddo yr Arglwydd y ddaear. Bydd yr hwn sydd yn Dduw i chwi yn Lloegr yn Dduw i chwi hefyd mewn unrhyw wlad." Crêd rhai mai Penri a roddodd yr awgrym cyntaf i'r Piwritaniaid am fyned i'r America.
Un diwrnod, codwyd crocbren ar ffordd Kent, ac am bedwar o'r gloch ar brynhawn ym mis Mai 1593, crogwyd Penri arno, heb wybod o'i briod na'i gyfeillion am y peth, ac nid oes ond yr Hwn a ŵyr bopeth yn gwybod ymha le y gorffwys ei lwch.
Ar ôl ei farw ef, gofynnodd yr Ymneilltuwyr am ganiatâd y Llywodraeth i fyned i wyllt-diroedd America er mwyn cael Ilonydd i addoli, ond gwrthodwyd eu cais. Ymhen saith-mlynedd-ar-hugain, aethant hwy neu eu holynwyr yno o Holand, a hwy a adnabyddir byth oddi ar hynny fel y Tadau Pererin.
YMGYSEGRIAD I GRIST—BYWYD Y TADAU
Mr. Llywydd a Chyfeillion,—
AR achlysur mor gyhoeddus ni byddai yn ddoeth imi gadw ond ychydig o amser, felly âf rhagof at fy ngorchwyl heb ymdroi dim. Clywsoch yn barod eglurhad ar y mater mewn geiriau, a chewch glywed ychwaneg eto cyn diwedd y cyfarfod. Ond barnodd y cyfeillion yma mai purion fyddai cynnig egluro trwy enghreifftiau hefyd. Dichon fod yma rai a ddeallant ac a gofiant enghraifft o'r peth yn well na diffiniad geiriol ohono. A dyna fy ngwaith i dangos ymgysegriad i Grist mewn ymarferiad ym mywyd y Tadau. Yn Wrth y Tadau mae'n debyg y deellir y Tadau Methodistaidd. Pobl ymroddedig iawn i wasanaeth Crist oeddynt hwy. Yn wir, eu hymroddiad a'u gwnaeth yn Dadau inni. Ni buasai yn wiw gennym eu harddel fel Tadau yma heddiw oni bai am eu hymgysegriad i Grist. Diddorol a buddiol iawn i bawb ohonom. a fyddai aros mwy yng nghwmni hanes eu sêl fawr a'u llafur diflino. Ond nid hwyrach fod perygl yn llercian yn ymyl y budd. Wrth ddarllen neu wrando am Howel Harris neu Ddaniel Rowlands yn marchogaeth trwy Gymru o'r naill gwr i'r llall i efengylu yr anchwiliadwy olud heb ymrwystro gyda negeseuau y bywyd hwn, hawdd i bobl gyffredin sy'n gorfod bod yn brysur ar y tyddyn neu yn y chwarel o fore Llun hyd nos Sadwrn, yw llithro i feddwl mai rhywbeth priodol i arweinwyr crefyddol yn unig yw yr ymgysegriad hwn, ac felly i geisio ymesgusodi neu anwybyddu eu diffyg eu hunain ohono. Ond ni wna hynny mo'r tro i'r distadlaf ohonom. Y mae geiriau Crist ei hun yn derfynol ar y pen hwn, "Os daw neb ataf Fi, ac ni chasao ei dad a'i fam, etc.
Nid yn unig ni all fod yn apostol neu genhadwr at y paganiaid, ond ni all ef fod yn ddisgybl i mi. Nid yn unig ni bydd yn fawr yn Nheyrnas Nefoedd, ond nid â i mewn iddi. Rhaid yw cael yr ymgysegriad nid yn unig i'r pulpud ac i'r set fawr, ond i ganol y capel hefyd. Yr ydym oll yn bur chwannog i feirniadu swyddogion eglwysig, ond y mae gennym waith mwy angenrheidiol o lawer i'w gyflawni. Ac fel cymhelliad i hynny, adroddwn ychydig hanesion, nid am y cedyrn a fu yn wŷr enwog gynt, ond am ymroddiad pobl gyffredin oedd â'u gyrfa bron ar yr un lefel â'r eiddom ninnau heddiw.
90 mlynedd yn ôl fe argyhoeddwyd geneth bedair-ar-ddeg oed wrth wrando pregeth mewn capel bychan ger Llanfair Caereinion. Perthynai i deulu uchelfrydig a lynai'n ystyfnig wrth draddodiadau eu tadau gan ddiystyru'r capel a'i gysylltiadau. Diau iddi orfod dioddef llawer o wawd a chwerwder gartref, ond daliodd afael ddiysgog yn ei phroffes. A chyn hir dacw hi'n dechrau ar yr offensive, chwedl y newyddiaduron, ac yn amlygu yn ei chymeriad yr elfen ymosodol sydd i fod ym milwyr yr Arglwydd Iesu. Gofynnodd am ganiatâd ei rhieni i gychwyn addoliad teuluaidd. Nid yn rhwydd y goddefid newydd-beth o'r fath yn y Wern, ond dyfalbarhau a wnai Mary Jones. 'Nhad,' meddai o'r diwedd, rhaid i mi gael gwneud." "Wel," meddai yntau, os rhaid yw, Pal, 'does dim ond gadael iti." A dacw'r eneth 16 oed yn offeiriadu ar aelwyd ei chartref. Yn raddol effeithiodd ei gweddïau, a'i hymarweddiad gwastad ar feddwl ei brawd hynaf, nes yr enillwyd ef i geisio Arglwydd Dduw ei chwaer. Daeth hwnnw yn ddyn duwiol iawn, ac yn gyfaill daearol pennaf i'r Parch. R. Jones o Lanfair. Ond yr oedd Evan, y brawd arall yn parhau yn wyllt a dioruchwyliaeth. Difyr yw darllen am ymgais Mary i geisio ei ennill yntau-yn trefnu oedfa i fod yno ar noson waith, ac yn llunio i roi'r pregethwr i gysgu gydag Evan. O'r diwedd llwyddodd yn ei hamcanion a daeth Evan a Margaret ei chwaer i arddel crefydd. A phwy oeddynt, debygech chwi? Neb amgen na'r Parch. Evan Jones o Drewythen wedi hynny, a Mrs. D. Davies hynaf, Llandinam. Y fath ffrwd o weithgarwch crefyddol a lifodd ac a barha i lifo o'r teulu hwn! Ond y mae'r cwbl yn effaith llafur distaw Mary Jones, sydd yn ei bedd ers 66 mlynedd. Nid rhyfedd fod ei choffadwriaeth yn annwyl tu hwnt ganddynt tra buont byw, ac y mae ei hesiampl yn werthfawr i ninnau. "Yr hyn a allodd hon, hi a'i gwnaeth." Chwiorydd ieuaine sydd yma heddiw, a gaiff yr un gair fod yn wir amdanoch chwithau? Sibrydir bod addoliad teuluaidd yn darfod o'r tir; beth a wnewch chwi tuag at ei edfryd? Onid ydych yn ddigon cryf i'w ail-gychwyn eich hunain, a ofelwch chwi na bo dim rhwystr ar ffordd tad neu frawd? A gedwch chwi dôn ysgwrs yr aelwyd y fath fel y bydd y trawsgyweiriad at Feibl a gorsedd gras yn esmwyth a rhwydd? Cofiwch hefyd fod eich dylanwad ar eich brodyr yn fawr iawn, ac ar adeg neilltuol ar eu hoes yn gryfach efallai na dylanwad mam. A ellir dweud amdanynt yng nghanol hudoliaethau tymor ieuenctid fel y dywedir am Foses yn y cawell llafrwyn, " a'i chwaer ef a safodd o bell i gael gwybod beth a wneid iddo ef." Beth a wyddost ti, ferch, a gedwi di dy frawd? Os teimlwch yn wan i wneuthur y pethau hyn, cofiwch ddau beth:—
1. Fod ffyddlondeb distaw, cyson i Grist yn llefaru'n effeithiol iawn. 140 mlynedd yn ôl, ar brynhawn Saboth yn yr haf, difyrrai dau o weision Rhiwgriafol eu hunain trwy goetio. Ar ganol set gwelent wraig yn dynesu atynt. Adnabuant hi fel un oedd yn arfer cerdded o'r ardal honno dros y bwlch i gapel y Bont bob Sul. Ni ddywedodd yr un gair wrthynt, ond aeth ei ffyddlondeb i'w Harglwydd fel brath cleddyf i galon un o'r bechgyn. Y mae'r set honno heb ei gorffen eto, ac enw'r bachgen a glwyfwyd yn adnabyddus fel Ishmael Jones, y pregethwr o Landinam, y bendithiwyd ei weinidogaeth i ddwyn Ann Griffiths i brofi rhyddid yr Efengyl.
2. Fod ymgyflwyniad i Grist yn cryfhau galluoedd yr enaid, fel yr oedd Nasareaeth Samson yn gryfder i'w gorff. "Y gwan, fe'i gyr yn gryfach." "Ni ddichon byd a'i holl deganau, fodloni fy serchiadau 'nawr," medd Ann Griffiths. Fe fuont yn gallu gwneud hynny gynt. Do siwr! Wel, y maent hwy ynddynt eu hunain yr un peth eto! Ydynt, ond yr wyf wedi tyfu llawer er y pryd hwnnw. Wedi i'm Harglwydd ennill fy mryd, ymehanga bob dydd.
Y mae hanes Evan Griffiths o Gegidfa yn debyg iawn i hanes Mary Jones, pe byddai amser i'w adrodd. Cymered y meibion, hefyd, yr hyn a ddywedwyd eisoes at eu hystyriaethau, gan gofio bod angen am Barac yn gystal â Deborah er gorchfygu'r Canaaneaid. Beth am waith yr Ysgol Sul yn yr ardaloedd yma? Cofiaf, pan oeddwn yn llanc imi fod mewn Cyfarfod Ysgolion yn Rhydyfelin, a'r diweddar Barch. Isaac Williams yn siarad â'r athrawon : "Dafydd Morgan," meddai wrth un, Ydech chwi yn dod yma yn o gyson?" Wel, 'rwy'n weddol cyn belled ag y mae hynny yn y cwestiwn," ebe yntau. "'Rwy'n meddwl mai dwy ysgol a gollais i ers dros 40 mlynedd." Cadarnhawyd ei dystiolaeth gan ei gymdogion amser cinio, a dywedent mai afiechyd blin a'i lluddiodd y ddau dro a gollodd. Rhaid oedd fod hwnnw wedi dechrau glynu'n bur ieuanc. Rhai tebyg iddo sydd eisiau heddiw. Beth am gyfrannu hefyd at yr Achos a chyfreidiau'r saint? A yw ein pobl ieuainc yn peidio â gadael y fraint hon yn ormodol i'r rhieni a'r pennau teuluoedd? Yr oedd llanc o Lanllugan gynt yn was yn ardal Pentyrch pan ddaeth hen bregethwr o'r Deheudir heibio ar ei daith. Teimlodd y bachgen yn fawr wrth weld agwedd lesg yr hen ŵr. Defnyddiasai ran o'i gyflog i brynu merlyn ychydig cyn hynny, gan feddwl ei werthu yn y man ac elwa wrth farchnata felly. Ond yn awr, penderfynodd roddi'r merlyn yn anrheg i'r hen bregethwr. Ymliwiai ei feistr ag ef gan ddweud, "Gwell iti adael i mi ei gael, rhoddaf fi ei werth amdano. "Na, meistr," meddai yntau, gwas Iesu Grist sydd i gael y merlyn." Ac felly y bu, aeth Humphrey Edwards yn shareholder yn nheyrnas nef. Bob yn dipyn daeth yn bregethwr ei hunan, a bu'n ffyddlon hyd angau. A phan oedd yntau yn hen ŵr, ac ar daith yn Sir Fôn teimlodd rhai o'r brodyr drosto ac anrhegasant ef â merlyn fel y gwnaethai yntau â William Harry hanner can mlynedd cyn hynny. Bendigedig yw'r dyn ieuane sydd yn hawdd ganddo roddi a chyfrannu at achos ei Wared wr. "Yn wir, meddaf i chwi, ni chyll efe ei wobr." Gobeithio nad oes yma yr un sydd yn llawn honour yn Ffair Dinas, ond yn dianc heb dalu am eisteddle yn y capel flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Cyfarfod i'r bobl ieuaine yw hwn, ac atynt hwy y mae cyfeiriad ein sylwadau. Ond nid arhosant yn hir yn yr ystad y maent ynddi heddiw. Y mae cyfnewidiadau mawr o'u blaen, a phwysig yw medru mynd trwyddynt heb golli'r ymgysegriad. Enwn rai ohonynt:
1. Priodas: Ni wnaf ond dweud adnod ar hyn. "Na ieuer chwi yn anghymarus gyda'r rhai digred. O anghofio hyn dug rhai o'r ffyddloniaid arnynt eu hunain lawer o ofidiau. Merch grefyddol o Gwmeidrol gerllaw yma a oddefodd i eiddo a safle bydol ei hudo i briodi dyn digrefydd o gwr arall Cyfeiliog. Daliodd afael ar ei chrefydd trwy'r cyfan, ond O! 'r chwerwedd a ddaeth i'w rhan. Byddai raid iddi lechian yn ddirgelaidd trwy gymoedd a choedwigoedd i fynd i'r seiat, a llawer gwaith yr aeth ei gŵr ar ei hôl i godi cynnwrf o gwmpas y capel, a phriodoli pob anweddeidd-dra iddi hi a'i chyfeillion. A oedd ychydig eiddo yn ddigon o dâl am y misoedd o oferedd a'r nosweithiau blinion a osodwyd iddi?
2. Dewis Cartref: Nid manteision bydol yn unig a ddylai benderfynu'r dewisiad. Dylai breintiau crefyddol, neu ynteu gyfle i wasanaethu crefydd lle y mae'n wan, gael llais yn y mater. Pan briododd Thomas Foulkes o'r Bala y tro olaf, teimlai y dylai symud i fyw i rywle rhag bod yn opposition i Mr. Charles mewn busnes. Ond i ba le? Pan oedd ar benderfynu symud i Ruthyn neu Gaer, lle yr oedd perthynasau i'r wraig yn barod i'w croesawu ac agorfa dda am fusnes, digwyddodd rhywun ddweud yn ei glyw, "Gresyn na fuasai rhyw deulu crefyddol, gweddol gefnog yn ymsefydlu ym Machynlleth, y mae'r achos Methodistaidd yno bron â chael ei lethu gan wendid yr aelodau a her gelynion, prin y ceir yno ddrws agored i letya pregethwyr, a chymaint o deithio sydd rhwng Gogledd a De drwy'r dref." Machynlleth amdani ynteu," ebe Thomas Foulkes, ac yno y daeth ac yr erys rhai o'i deulu hyd heddiw, o dan fendith amlwg y Goruchaf. "Lot a drigodd yn ninasoedd y gwastadedd, ac a luestodd hyd Sodom," ond bu raid iddo ddianc oddi yno heb ei gyfoeth, a thipyn o greithiau ar ei gymeriad yn y fargen.
3. Trin y Byd: Dylai ymgysegriad i Grist ddyfod i mewn i'n helyntion masnachol, er ein cadw rhag ariangarwch,—gwreiddyn pob drwg. Sonnir yn aml am arfer y byd heb ei gamarfer. Y darlleniad diwygiedig yw arfer y byd heb ei lawn arfer—without fully using—awgrym y dylai Cristnogion fod yn gymedrol yn eu hymgais am gyfoeth, ac nid gyrru'r cerbyd hyd y dibyn. Clywsoch am Mr. Jones, Dolfonddu, gynt. Porthmon oedd ef, a chyrhaeddodd adref o Loegr un tro ar fore ffair Dolgellau. Yr oedd y farchnad wedi gwella yn Lloegr, ond nid oedd papur newydd na thelegram y pryd hwnnw i daenu'r sôn. Gan hynny, anfonodd Mr. Jones y criwr trwy'r dref i rybuddio'r ffermwyr i fod ar eu gocheliad gan fod y farchnad wedi gwella fel a'r fel. Porthmon yn ddigon o Gristion i wneud fel yna! Blaenor yn eich eglwys chwi, Mr. Llywydd, yn galw yn fy hen gartref i un diwrnod, ac yn gofyn i'm nain, "Sarah Richard, ydych chwi yn barod i werthu'r gwlân?" Ydwyf." "Faint ydych eisiau amdano?" "Hyn a hyn," meddai hithau, 1/- y pwys, dyweder. "O,' meddai yntau, "mae'r gwlân wedi codi peth, 'rwy'n rhoddi 1/1 am wlân fel eich un chwi yrwan, ac mi rhof nhw i chwithau." Gwendid," meddai rhywun. Nage, nerth, fy nghyfeillion. Dyna i chwi ddyn wedi gorchfygu y chwant anniwall am gyfoeth sydd yn boddi dynion i ddinistr a cholledigaeth. "Wel, busnes ydi busnes," meddech chwi, "nid â dyn ddim ymhell y ffordd yna. Fe aeth hwn mor bell â'r bedd yn anrhydeddus, ac fe adawodd lawer o eiddo i'w fab ar ei ôl. Fe adwaenwn i hwnnw; ni rodiodd ef yn ffyrdd ei dad, ceisiodd fod yn smartiach, ac yn fwy business-like, os gwelwch yn dda, a bu farw yn hen ŵr heb fod nemor gwell na phensioner ar elusen dieithriaid. Nid ystraeon wedi eu coginio i bwrpas neilltuol yw'r pethau hyn, ond ffeithiau profedig. A gallaswn adrodd ychwaneg ohonynt pe buasai amser yn caniatau. Braf o beth fyddai medru gorchfygu'r byd ac nid ymostwng i arfer ei ddulliau. Darllenwch orchestion arwyr yr unfed bennod ar ddeg o'r Hebreaid, a chewch yno 'wneuthur cyfiawnder' wedi ei osod i mewn rhwng goresgyn teyrnasoedd a chau safnau llewod. Cofiwn air y gŵr doeth-gwneuthur cyfiawnder a barn sydd well gan yr Arglwydd nag aberth."
4. Gweini yn Nhŷ Dduw: Os oes raid wrth ymgysegriad i drin y byd yn ddibrofedigaeth, diau fod ei eisiau i iawn ymddwyn. yn y Cysegr. Chwychwi, fy nghyfeillion ieuainc, yn fuan iawn a fydd athrawon ac arolygwyr yr Ysgol Sul, a blaenoriaid yr eglwysi yn y cylch hwn. Efallai y cyrhaedda rhai ohonoch i'r Weinidogaeth. Bydd eich cyfrifoldeb yn fawr iawn, ac nid oes dim ond ymgysegriad i Grist a'ch dwg drwyddo yn ddiogel. Un o'r dynion gorau a fu'n byw erioed yn y cyffiniau yma oedd y Parch. John Roberts hynaf, Gweinidog yr Annibynwyr yn Llanbrynmair. Adroddaf un hanesyn wrthych a ddengys pa fodd yr oedd ef yn gwneud ei waith. Tua chan mlynedd yn ôl, mwy neu lai, megid bachgen addawol iawn ar fronnau'r eglwys yn yr Hen Gapel. Parai ei fedr a'i ymroddiad gyda dysgu'r Gair ac adrodd y pregethau syndod a llawenydd i'r holl frawdoliaeth a mynych. y gofynnid, "Beth fydd y bachgennyn hwn?" Ond daeth y dydd iddo adael diogelwch cartref a chwmni'r saint, a gorfu iddo droi i Ddeheudir Cymru am fywoliaeth fel llawer un ar ei ôl. Yno daeth o dan ddylanwadau gwahanol iawn, ac ysywaeth, ymadawodd ei fwynder fel gwlith boreol. Cyn bo hir, medrai eistedd yn eisteddfa'r gwatwarwyr ac ennill yno yr un flaenoriaeth ag a feddai gynt yn y capel a'r gyfeillach. Ryw ddiwrnod cyrhaeddodd rhyw Cusi i Lanbrynmair gyda'r newydd fod hwn a hwn wedi troi'n fachgen drwg, ac O! 'r prudd-der a daflwyd dros feddyliau ei gyfoedion, a hen gyfeillion ei fam a'i dad. Ond nid oedd dim i'w wneud ond cusanu gofid a gweddïo. Arhoswch funud, yr oedd yno un a gredai y dylid gwneud ychwaneg. Un bore, fe gyfododd y gweinidog yn blygeiniol iawn, a chyfrwyodd y ferlen fach a throdd ei wyneb tua'r Deheudir. Nid oedd Cymanfa na Chwrdd Chwarter ar ei ffordd, ac nid ar bulpud yr oedd ei lygad. Beth oedd ystyr ei daith, ynteu? Wel, cofio am eiriau ei Feistr a wnaeth, a gadael y namyn un pum ugain yn y gorlan a mynd i'r anialwch ar ôl y colledig. Ar fuarth tafarn rhwng Rhymni a Thredegar fe'i canfu oddi draw. Gwelodd y bachgen yntau, ac aeth yn ddydd barn arno mewn moment. Dihangodd am ei fywyd i rywle o'r golwg. Ond nid oedd yr hen weinidog wedi marchogaeth 80 milltir a chroesi pedair sir i gymryd ei daflu ymaith mor hawdd; mynnodd afael arno, ac nid oes ond y nef a ŵyr hanes cyfarfyddiad yr afradlon a'r bugail. Beth bynnag, ni throdd John Roberts ei wyneb tuag adref nes medru cyflwyno'r colledig edifeiriol i ofal ac ymgeledd eglwys Dduw yn y lle, ac allan nid aeth ef mwyach, ond disgleiriodd fel seren dros amser byr, ac yna bu farw gan adael tystiolaeth ddiffuant fod ei gamwedd wedi ei ddileu.
O ardderchowgrwydd Cymru! Beth bynnag yw ei dyled i dywysogion y pulpud, credaf ei bod yn llawn cymaint i fugeiliaid fel John Roberts, ac y mae'r fugeiliaeth hon i raddau yng nghyrraedd pawb ohonom.
Yr wyf i yn awr ar ben. Dyma drem ar nodwedd y bobl yr ydym ni yn ddilynwyr iddynt. Efelychwn hwy gan ystyried diwedd eu hymarweddiad. Enillasant barch a gwrogaeth y byd yn y diwedd.
Ac os ewyllysiwn ninnau feddu ar ddylanwad iach a chryf ar ein hoes, y ffordd i'w gyrraedd yw bod yn ffyddlon i Grist.
ANERCHIAD I'R BUDDUGWYR YN YR
ARHOLIAD SIROL
Annwyl Gyfeillion Ieuainc,—
DYMUNA'R Henaduriaeth eich llongyfarch yn galonnog ar eich llwyddiant yn yr Arholiad Sirol eleni, a dewisodd hen ymgeisydd, un na bu erioed yn llwyddiannus iawn ei hunan, i estyn y llongyfarchiad i chwi. Am heddiw fe ganiateir tipyn o falchder i chwi, ac i'r ysgolion y perthynwch iddynt.
Ond ni ellwch fyw i bwrpas wrth edrych yn ôl,-hyd yn oed ar orchestion. Rhaid parhau i edrych ymlaen. Edrych ymlaen i ddechrau at arholiadau'r blynyddoedd nesaf; penderfynu dal eich tir, ac ennill tir newydd eto. Ac edrych ymlaen ambell waith heibio i arholiadau at fywyd defnyddiol yn y byd yma. Oblegid moddion yw arholiad, ac nid diben. Hogi eich arfau a wnewch mewn arholiad; ac oni ddefnyddir hwy wedyn mewn gwaith, bydd yr hogi yn ofer. A dyma garwn i ei wasgu at eich meddyliau heddiw, eich bod drwy'r hogi wedi eich rhoddi eich hunain yn y gafael megis, wedi rhoddi eich enwau i mewn fel ymgeiswyr am waith na ellwch bellach ei wrthod yn anrhydeddus.
Dau ddosbarth lluosog yn ein heglwysi yw, y rhai a fedrai wneuthur unrhyw beth braidd, ond na wnânt ddim; a'r rhai na fedrant wneud nemor ddim yn ddeheuig, ond a wnânt serch hynny. Cael y medr a'r parodrwydd gyda'i gilydd a fyddai'n hyfryd. Awgryma eich safle heddiw fod y gallu gennych chwi; edrychwch chwithau ynteu at ddatblygiad ac ymarferiad yr ewyllys. Ewyllys i ufuddhau i rieni ac athrawon, i flaenor a gweinidog; ewyllys i weithio a llanw'r lle a gewch o bryd i bryd, dyna rywbeth amhrisiadwy werthfawr. Megwch hwn ynoch eich hunain. Gwyliwch rhag ymfodloni ar ysgwyd pen pan ofynnir i chwi wneuthur rhywbeth. Na hidiwch os dywed y gwatwarwyr eich bod yn ymwthio i sylw; pe bai yn wir, y mae gwaeth peth na hynny. Gwyddoch, ond odid, mai anodd yw cael y goler am wddf y ceffyl onis gwthia ef ei hun ryw fymryn.
Efallai mai un o ffurfiau cyntaf yr ufudd-dod a fydd sefyll. Safasoch yr arholiad, dysgwch eto sefyll mewn bywyd. Pa fath ddyn oedd Ioan Fedyddiwr, y mwyaf o blant yr Hen Oruchwyliaeth? Wel, nid corsen yn ysgwyd gan wynt ydoedd; nid rhywbeth chwit-chwat, na wyddai neb ym mha le i'w gael. Medrai sefyll yn ei le ar bob math o dywydd. Ceir hanes arholiad yn y Beibl, ac y mae enwau'r buddugwyr ar lawr. Pedwar o fechgyn oddi cartref oeddynt, a thystiai'r Arholwr eu bod yn ddeng well na'u holl gyd-ymgeiswyr. A ellir dweud rhywbeth yn ychwaneg amdanynt? Gellir, ychwaneg o lawer. Trowch chwi ddalen yn eich Beiblau, a chewch hanes diwrnod arall pur wahanol. Llywodraeth greulon orthrymus yn penderfynu gwasgu'r deiliaid i wadu eu hegwyddorion, i alw'r du yn wyn, a'r gwyn yn ddu, i blygu i'r eilun. Wel, a blygodd pawb? Na, fe safodd pedwar. Pwy oeddynt tybed? Y pedwar bachgen oedd ar y blaen yn yr arholiad! Er ffau'r llewod a'r ffwrn danllyd boeth, safasant yn ddigryn. A dyma a bair ein bod ni yn gallu sôn amdanynt ym Mhenegoes heddiw. Credaf fi na buasai'n werth gan yr Ysbryd Glân fframio tystysgrif eu harholiad, pe troesent yn llwfriaid ar yr ail ddydd. Yr ail ddydd a goronodd y cyntaf.
Ni ddaw peth fel yna yn union i'ch cwrdd chwi, ond bydd arnoch eisiau nerth i fedru gwrthsefyll weithiau. Oni fyddwch yn ochelgar, geill edefyn eich maglu. Fel hyn, er enghraifft: Cyfarfod Ysgolion i fod yn eich capel chwi y Sul nesaf, llawer o bryderu a pharatoi ar ei gyfer, a disgwyliad pendant am eich help chwi gyda thasg eich dosbarth. Ond nawn Sadwrn cyferfydd cyfaill â chwi ar y ffordd, a'i eiriau cyntaf fydd," Ddoi di i Aberystwyth 'fory? Bydd charabanc yn cychwyn o'r dref am unarddeg, ac y mae lot ohonom ni yn mynd. Swllt a chwech ydi o, double journey, ddoi di?" A fedrwch chi wrthsefyll yr hudoliaeth? Gwelsoch blant yr Hen Oruchwyliaeth yn sefyll yn ddewr; ai gormod a fyddai i blant y Testament Newydd. wneuthur yr un fath? Oni wnewch, fe gyll gwobr yr Arholiad Sirol ei gwerth yn eich golwg chwi a phawb arall.
Heblaw sefyll fel yna i dystiolaethu, sefwch hefyd i wasanaethu. Os cedwch eich gwybodaeth i chwi eich hunain, neu os gwariwch hi arnoch eich hunain, gellwch ddatblygu'n greaduriaid balch, beirniadol, a fydd yn cil-wenu'n wawdus wrth gamgymeriadau pobl eraill mwy anwybodus hwyrach, ond mil mwy defnyddiol na chwi. Ffrindiau, gochelwch hynyna fel angau ei hunan. Dyna'r bodau mwyaf dirmygus o dan haul y nefoedd. Nage, ond gwariwch eich gwybodaeth a'ch cyrhaeddiadau i helpu eraill. Credwch fod gan yr Eglwys a'r Ysgol Sul hawl ar eich gorau,-hawl, y mae pob gair arall yn rhy wan. Bydd eisiau Athrawon ac Athrawesau, ac Arolygwyr yn yr Ysgol Sul, cynrychiolwyr i'r Cyfarfod Ysgolion, a phobl i agor y materion yno. Pan y'ch penodir chwi i'r pethau hyn a'r cyffelyb, beth bynnag a wna eraill, ufuddhewch chwi. "Pwy sydd yn gwybod ai oherwydd y fath amser â hwn y daethost ti i'r frenhiniaeth?" Digon tebyg fod rhyw leisiau yn cymell Esther i fod yn llonydd, i fod yn gall a gofalu am dani ei hun. "'Does neb yn gwybod mai Iddewes wyt ti." "Nac oes, eto," meddai, "ond fe gaiff pawb wybod cyn pen ychydig oriau. Ni allaf i fod yn esmwyth yn y Safle uchel a enillais tra bydd fy mhobl mewn perygl. O derfydd amdanaf, darfydded. Mi fentraf fywyd a safle a phopeth er mwyn eu helpu hwy." Chwarae teg iddi, onid e? Dyma a gadwodd ei henw yn sweet ar hyd yr oesoedd: buasai wedi pydru ers talwm pe mynasai hi fyw iddi ei hun.
Ar ôl mynd adref heno darllenwch y bennod olaf ond un yn llyfr cyntaf Samuel, hanes Dafydd ar ôl ennill brwydr. Mynnai "Y rhai o'r milwyr gadw'r ysbail i gyd iddynt eu hunain. rhai a arosasant wrth afon Besor," meddent, "ni chaiff y rheini ddim o'r anrhaith." Fechgyn bach!" meddai Dafydd, peidiwch â siarad mor afresymol. Y mae pobl afon Besor i gael rhan fel ninnau yn union. Ac ychwaneg na hynny," meddai, y mae pob tref ac ardal y buom ni ynddynt yn ddiweddar i gael share hefyd. Mewn gair, y mae'r holl wlad i fod ar ei mantais o'n bod ni wedi curo." Dyma'r patrwm i chwithau. Gweithredwch fel yna, ac fe â eich punt yn ddwy, yn bump, yn ddeg heb i chwi erioed feddwl. Gwell yw i'r arfau dolcio tipyn mewn gwaith na rhydu ar y trawst.
******
Some of you, possibly, do not understand my remarks. I would impress on your minds that your success in the examination has created in those around you an expectation of a bright future for you, and that such a future lies along the lines of obedience and service. We hope and believe that your fine morning shall prove to be the herald of a still finer day. As far as it depends on you, do not disappoint us. You stand to gain nothing by disappointing your parents, your teachers, your minister.
But it is not that alone. Scripture states plainly that the Lord Himself watches the situation. He is interested in your present and your future. When Israel was a child," says He "I loved him. O! he was a dear little chap when a child, so winsome, so promising, so hopeful! I cannot even now forget the kindness of his youth. But he grew up, and when I looked,' mark well the expression, "when I looked that he should bring forth grapes, as was my plan for him, he brought forth something else." They are terrible words: God declaring Him-self disappointed with us. Would present ease, pleasure, or excitement balance such an awful risk as that?
If you do not wish to make a mess of your lives after such a beautiful beginning, listen to Paul's explanation of his behaviour in his very prime. Says he, "I labour,' Yes, we know you do, but for what? What is your goal, your ambition? "I labour to be accepted of Him." I can dream of nothing bigger than that, or wish anything better for you.
CANMLWYDDIANT MYNYDDOG
Mr. Llywydd,—
RHYW ogwydd i ufuddhau i'r pwyllgor yw'r unig gymhelliad i mi sefyll yma heddiw, oblegid ychydig iawn sy gennyf i'w ddweud, er mor ddiddorol yr amgylchiad. Un rheswm yw mai mewn cwr arall o'r plwyf y maged fi, a golygai chwech neu saith milltir y pryd hwnnw fwy o bellter a dieithrwch nag a wnant yn awr. Rheswm arall yw pellter amser. Ni bum erioed yn siarad â Mynyddog, ac ni welais mohono ond unwaith cyn. iddo adael Llanbrynmair. Aeth mwy na thrigain mlynedd heibio er hynny, ac y mae trigain mlynedd yn ysbaid go faith.
Cofiaf am fy nhad yn ei gyfarch gan ddweud, "Dyn braf ydech chi canu 'Hen Lanbrynmair i mi bob amser, a mynd i fyw i Gemes wedyn." "Daethwn i ddim yn wir," meddai yntau, pe cawswn i le symol cyfleus i godi tŷ yma.' Pa rwystr oedd ar y ffordd, ni wn, ond pan geisid ychydig lathenni o dir am eu llawn werth o arian ystalwm, âi pob congl mor gysegredig â gwinllan Naboth ym marn a theimlad y tirfeddianwyr. Digon posibl na chawsid caniatâd i ddodi tabled ar fur Dolydan y pryd hwnnw, pe buasai ar rywun awydd gwneud. Daw'r byd yn well mewn rhai pethau yn araf bach. Diolch i'r Cemes am dderbyn Mynyddog pan wnaeth awdurdodau ei ardal ei hun beth tebyg iawn i'w wrthod.
Gan iddo dreulio tair rhan o bedair o'i oes yn y ward uchaf, rhaid yw i un o blant y ward honno ddweud gair amdano yma heddiw. Pan grybwyllir ei enw, yr hyn a welaf fi mewn atgof, yw dyn tal, lluniaidd, goleubryd, ysgafn ei drem, hunan-feddiannol, cartrefol ymhob man, ond yn arbennig felly ym mhrifleoedd y dyrfa. Wrth gloriannu llenorion y cylch, dywedai doctoriaid ein hardal ni gynt,—
"Tafolog yn y study, Mynyddog ar y stage."
Gwaith peryglus yw cymharu, ond nid hwyrach bod y dyfarniad yna mor deg â'r cyffredin. Beth bynnag, meddai Mynyddog bob mantais i adael argraff ffafriol ar gynulleidfa,-ymddangosiad enillgar, dawn ymadrodd hynod o rwydd a pharod, adnabyddiaeth o ddynion, a medr i'w trin. O methai ef, lle gwael oedd i neb arall gynnig.
Ond nid oedd yn ddieithr i'r fyfyrgell chwaith, ac nid ofer a fu ei astudiaeth ynddi. A chaniatau nad esgynnodd i'r uchelderau, ac na ddug ef bethau dirgel allan i oleuni, dysgodd i'w ddarllenwyr lawer gwers bwysig mewn ffordd rhy eglur i'w chamddeall, a rhy drawiadol i'w hanghofio. Dywedai Emrys ap Iwan fod rhoddi ysbryd a bywyd newydd mewn hen bethau cyffredin yn gystal praw o wreiddioldeb â dweud pethau newydd. Deil Mynyddog y praw yna yn lled wych. Bardd synnwyr cyffredin ydoedd, hynny yw, os cyfreithlon ei gyfrif yn fardd o gwbl. Ond gwell i mi beidio â mynd y ffordd yna.
Daeth Mynyddog yn adnabyddus i Gymry pob gwlad, a'r cwestiwn yw, Pa fodd y daeth? Ai yng ngrym y gynhysgaeth naturiol a dderbyniodd, neu ynteu a lafuriodd efe i'w datblygu? A anwyd ef yn freiniol neu a gostiodd ei ragoriaeth rywbeth iddo? Heb gau'r cyntaf allan, credaf mai gwell ar ein lles ni heddiw yw aros gyda'r ail.
Diau i lawer dylanwad anhysbys i ni effeithio arno er gwell neu er gwaeth. Cyn eistedd i lawr dywedaf air am yr hyn y gwn i fwyaf amdano. Nid oedd awyrgylch ffermdy hyd yn oed yn Llanbrynmair yn ffafriol iawn i ddatblygiad chwaeth lenyddol bedwar ugain ac ychwaneg o flynyddoedd yn ôl-dyddiau'r hungry forties' ys dywed y Sais. Daliai'r hen bobl fod gan lanc reitiach gwaith y pryd hwnnw na nyddu cerdd neu naddu englyn. Amcan mawr bywyd ffermwr oedd medru talu ei rent, a disgyblid pob synnwyr i'w gyrraedd. Dyna ddiben eithaf hynny o addysg a roddid i'r plant, ac ni chaent anghofio eu cenhadaeth wrth dyfu i fyny. Dau fath o bobl oedd; rhai llac neu ddidoreth, a rhai cwnin neu wych at fyw. Rhoddai'r dosbarth olaf gwbl-ddiwydrwydd yn eu galwedigaeth, a chodasant gynildeb i fod yn gelf gain.
Fel y gellid disgwyl, adnabu Mynyddog ei gylchfyd yn bur gynnar. Od oes coel ar draddodiad, ei rigwm cyntaf oedd hwn,—
"Mae dada wedi mynd i'r ffair,
I brynu buwch i bori gwair,
I gael rhoi menyn yn y stycie,
I dalu rhent i Jones y Parcie."
Go anfarddonol onid e? Ond dyna'r byd y ganesid y bachgen iddo, ac nid ar unwaith y gallai ymryddhau. Pan ddechreuodd dorri llwybr iddo ei hun, buan y cafodd deimlo bod pwysau yr awdurdod yn ei erbyn. Onid ei brofiad ei hun sydd ganddo yn y "Pwn ar gefn yr awen"?
"Wel, Ifan tyrd i lawr,
'N lle llosgi canwyll, etc"
Disgynnai hyn fel defni parhaus i fwrw diflasdod ar ei egni llenyddol. A'r awgrym eglur yw mai diwerth oedd ei waith—y game ddim yn werth y gannwyll, er y gellir bod yn siwr mai cannwyll frwyn ydoedd. Gwyddai Ifan o'r gorau fod cannwyll wêr i'w chael a chan croeso i dorri gwellt neu ryw orchwyl buddiol felly, oblegid nid diberygl golau noeth mewn ysgubor, ond gwastraff hyd yn oed ar babwyren oedd ei llosgi i ysgrifennu caneuon, neu ryw ffregod o'r fath. A'r gwaethaf oedd y deuai'r gwrthwynebiad o le rhy gysegredig i'w anwybyddu.
Gwelwn mai morio lawer pryd yn erbyn llanw a gwynt,' a fu helynt Mynyddog ym more ei ddydd. Clywais adrodd y byddai yn croesi cae ddwywaith neu dair heb yr un gwys pan mewn dwys fyfyrdod. Ped arosasai yn ei unman, gwelsid ef oddi draw, galwesid ef i gyfrif, ond tra daliai i symud, ni ellid bod yn sicr nad atebai ddiben ei fodolaeth yn ôl safon uniongrededd.
Na feier gormod chwaith ar yr oes o'r blaen. Yr oedd parch yr hen bobl iddynt eu hunain ac i'w gilydd mor glymedig wrth fedru talu eu ffordd, ac y mae salach safon na honno i'w chael. Dywedodd Evan Jones, Caernarfon,-efe'n gâr agos i Fynyddog—wrthyf â'i dafod ei hun, ddarfod iddo ef gadw ei argraff-wasg am flynyddau ar ôl dechrau pregethu, rhag, os methai gyda'r gorchwyl hwnnw, y byddai'n dda iddo wrthi.
"'Ro'wn i yn benderfynol y mynnwn fod yn annibynnol," meddai, ac unwaith y dechreuir gofyn a derbyn ffafrau, dyna eich annibyniaeth wedi mynd. Felly mi gedwais afael ar fy ngwasg, nes y teimlais y medrwn sefyll ar fy ngwadnau fy hun yn y pulpud, ac yr oedd hynny ddwy flynedd wedi i mi ddod i Foriah." Credaf fod llawer o'r un peth yn yr hen ffermwyr hefyd. Ond rhaid yw cydnabod y medrent yrru'n bur chwyrn, a hawlio dogn helaeth o briddfeini heb fod yn rhy hael ar wellt.
Aeth anawsterau Mynyddog i ebargofiant erbyn heddiw, a'n perygl ni yw eu hanwybyddu, a cheisio cyfrif amdano ef heb y rhwystrau, a heb y dyfalbarhad a'u gorchfygodd. Gwers ei fywyd i lanciau ei hen blwyf yw mai Llaw y diwyd a gyfoethoga,' ac mai" Ym mhob llafur y mae elw." Yn ei eiriau ef ei hun—
I fyny bo'r nod,
Dringwn lethrau serth clod,
Mae wedi'r holl stormydd fyd dedwydd yn dod."
Ac nid hollol anamserol anogaeth arall o'i eiddo—
"Astudiwch, fechgyn annwyl, am rywbeth i'ch llesau,
I helpu cadw noswyl, darperwch lyfr neu ddau,
Gwnewch ddefnydd o'ch meddyliau, tra bo'ch yng ngwres eich gwaed,
Rhowch fwy o waith i'ch pennau, a llai o waith i'ch traed."
CYNGOR I FLAENORIAID
Annwyl Frodyr,—
CLYWSOCH y Llywydd yn galw arnaf i'ch cynghori. Na thybiwch oherwydd hynny ein bod ni yn honni unrhyw ragoriaeth arnoch. Meddyliaf yn fynych mai cymhwysach i'r hen flaenoriaid fyddai derbyn cyngor na'i roi, ar achlysur fel hwn. Oblegid, ymhen ychydig bachigyn eto, byddwch chwi yn synio yn uwch neu yn is am eich swydd nag y gwnewch heddiw a thebygol mai cymdeithas â ni fydd wedi effeithio arnoch, er gwell neu er gwaeth. Felly y mae eich derbyniad i'r Henaduriaeth bron iawn yn gymaint o braw arnom ni ag yw arnoch chwithau, a phurion fyddai i ni gael ein hatgoffa o hynny yn awr ac eilwaith. Yr un pryd, diau fod rhyw addasrwydd mewn cyngor cyfeillgar i ddwylo newyddion oddi wrth y rhai oedd yn y gwaith o'u blaenau, ac arnaf i y disgynnodd y coelbren i'w roi y tro hwn.
A mi mewn myfyr am air cyfaddas i'w ddweud wrthych, cynigiodd dwy ysgrythur eu hunain i'm sylw,—un o'r Hen Destament, a'r llall o'r Newydd. Cewch y flaenaf yng nghyfarchiad Heseciah i'r Lefiaid,—blaenoriaid yr Hen Oruchwyliaeth. "Fy meibion, na fyddwch ddifraw yn awr, canys yr Arglwydd a'ch dewisodd chwi i sefyll ger ei fron Ef, i weini iddo Ef." Na fyddwch ddifraw, ynteu. Pe gweddai difrawder i rywrai, nid yw yn gweddu i chwi. Y mae eich safle chwi yn gyfryw fel nas gellwch fforddio cellwair yn esgeulus â hi.
Cewch yr ail ar ddechrau rhestr yr Apostol Paul o gyneddfau diaconiaid," Rhaid i'r diaconiaid fod yn onest," neu yn ôl cyfieithiad diweddarach, "fod yn ddifrifol." Nid rhywbeth allanol a feddylir, goeliaf fi, nid anffurfio'r wyneb fel y Phariseaid gynt, ond agwedd ysbryd, earnestness, neu fel y dywedir mewn siarad cyffredin,—bod o ddifrif. Enwa'r Apostol gymwysterau eraill, ond ymlaenaf oll, ar ben y rhes, uwchlaw pob peth, rhaid i'r diaconiaid fod o ddifrif. Gallant beidio â bod felly, ond trychineb sydd yn dilyn hynny. I ennill gradd dda yn y gwasanaeth, rhaid i'r diaconiaid fod yn bobl o ddifrif.
A chan fod y ddau Destament yn cytuno mor agos ar y mater, ni allaf innau yn awr wneud yn well na gafael yn yr awgrym, a nodi ychydig o gymhellion i ddifrifwch fel amod diaconiaeth lwyddiannus.
1. Wrth fod o ddifrif y gwnewch chwarae teg â'r swydd. Cawsoch swydd sydd ynddi ei hun yn dra anrhydeddus, ond bydd y byd yn chwannog i'w barnu oddi wrth eich hymddygiadau chwi ynddi. Ffieiddiodd dynion ordinhadau y cysegr yn amser meibion Eli, am anwiredd y rhai a'u gweinyddent. Ffaith dra annymunol yn ein dyddiau ninnau yw y lle a roddir i'r blaenor yn y ddrama Gymreig. Ond yn hytrach na ffromi oblegid hyn, y peth gorau a allwn wneud yw ymroi i "gyflawni y weinidogaeth a dderbyniasom gan yr Arglwydd." Cewch chwi, mae'n debyg, swyddau eraill gan y byd, onid ydych eisoes wedi eu cael; ond ni ddylai hon fod yn is-raddol i'r un ohonynt yn eich golwg. "Gochelwch rhag bod yn flaenoriaid rhwng cromfachau," chwedl Daniel Owen. Na wthiwch y swydd i back-ground eich bywyd, i gofio amdani yn unig pan na fydd dim arall yn digwydd galw am eich sylw. Darllenwch lyfr Malachi yn bwyllog ac ystyriol. Gwelwch yno fod yr Arglwydd yn dra eiddigeddus dros anrhydedd ei dŷ, ac nad cymeradwy ganddo Ef bob math o wasanaeth. Offrymu y dall a'r cloff, dwyn pethau i'r cysegr na wiw eu dangos yn y farchnad: canlyniad ymddygiad fel yna yw,
Nid oes gennyf fodlonrwydd ynoch, ac ni dderbyniaf offrwm o'ch llaw." Ofer, a gwaeth nag ofer, a fyddai cynnig eich gwehilion iddo Ef, bod yn swrth-fusgrell fel blaenoriaid, ond yn fywiog ac effro yn eich ymwneud â'r byd. Dywedai Ebeneser Morris y buasai ef heb y syniad a feddai am ogoniant gweinidogaeth yr Efengyl, pe heb adnabod Robert Roberts o Glynnog. Drwy ddifrifol ymroddiad, dyrchafodd Roberts y pulpud, ym marn y dynion gorau, ac nid oes yr un ffordd arall i godi'r sêt fawr, a'i chadw i fyny. Er mwyn urddas eich swydd, byddwch o ddifrif.
2. Wrth fod o ddifrif y gwna pob un ohonoch chwarae teg ag ef ei hun. Dichon i chwi feddwl yn waelach ohonoch eich hunain yn ddiweddar nag y gwnaethoch erioed o'r blaen. Gwelsoch eich hunain, efallai, mor annigonol ar gyfer y swydd newydd a ddaeth i'ch rhan, nes petruso pa un a ymaflech ynddi ai peidio. Ni ddymunwn lwyr ddileu y fath deimlad o'ch mynwesau, pe medrwn. Ond os ofnasoch fod eich holl egnïon gyda'i gilydd yn rhy fyr at y gwaith, beth fydd rhan ohonynt iddo? Ar y llaw arall, cofiwch fod dyn bychan, o'i gael i gyd, yn werth llawer mwy i gymdeithas na dyn mawr difater. Darllenwch y bumed bennod o lyfr y Barnwyr. Clywais Joseph Thomas yn dweud y cynhwysai Cân Deborah ddarlun o hanes yr eglwys trwy'r oesau. Y gelynion yn gryfion a lluosog, a dim ond rhyw ddyrnaid o bobl druain dlodion i'w hwynebu. Y llwythau mawr dylanwadol ddim yno. Y mae Sabulon a Naphtali yno. Ydynt, ond pwy erioed a glywodd amdanynt hwy yn arwain gyda dim? Gwell gohirio ac encilioond arhoswch! Dacw'r bobl ddistadl yn disgyn ar eu traed i'r dyffryn i gwrdd y gelyn! Eithaf gwarant nad ydynt yn meddwl dianc oblegid pwy a allai ddiane ar ei draed ar wastadedd, a naw can cerbyd haearn i'w ymlid? Diane, nage. "Pobl Sabulon a roddes eu heinioes i farw "; ac wedi eu cael i'r cywair yna, dechreuodd adgyfnerthion y Nefoedd ymddangos, a rhyfedd y galanas a wnaed ar y gelyn cyn nos. Tra'r oedd y bobl fawr yn ysgafala, cafodd y bobl fach sathru cadernid dan draed. Drwy ddifrawder, aeth y rhai blaenaf yn olaf, a thrwy ddifrifwch aeth yr olaf yn flaenaf. Pe byddai eich dechreuad chwithau yn fychan, os gwnewch eich gorau, eich diwedd a gynydda yn ddirfawr. Ni sylweddolir eich posibilrwydd mewn ffordd arall; ni ddeuwch byth i'ch maint fel blaenoriaid wrth arfer rhyw hanner-mesurau. Er mwyn eich twf a'ch cynnydd eich hunain, byddwch o ddifrif.
3. Wrth fod o ddifrif y gwnewch chwarae teg â'ch brodyr. Nid units annibynnol ydych i fod, ond aelodau mewn corff. Darllennwch y ddeuddegfed bennod o'r Epistol Cyntaf at y Corinthiaid. Gorchest i ymgyrraedd ati yw dysgu cydweled, a chyd-oddef, a chyd-weithredu. Nid fel pendefigion Judah yn gohebu â Thobah er mwyn hunan-fawrhad, neu ddiogelwch; nid fel Meros yn aros yn amhleidiol ddiwrnod argyfwng mawr eu cyd-genedl; ac yn arbennig, nid fel Achan yn cellwair â'r diofrydbeth nes dwyn yr holl wersyll i waradwydd a cholled. Ond yn debycach i Paul, â'i gydymdeimlad yn llosgi pan fyddai arall yn wan. "I'r meirch yng ngherbydau Pharao y'th gyffelybais, fy anwylyd." Os bydd tresi un march yn llac, bydd gormod o bwysau yn rhywle arall. Rhaid meithrin y team-spirit y sonnir cymaint amdano'r dyddiau hyn, a dynion difrif sydd debycaf o wneud. Er mwyn eich brodyr a'ch cyfeillion y dywedaf yn awr, byddwch o ddifrif.
4. Wrth fod o ddifrif y gwnewch chwarae teg â'r eglwysi hefyd. Rhoddasant hwy eu gorau i chwi wrth eich dewis i'r swydd hon, ac ai mawr yw iddynt gael eich gorau chwithau yn ôl? Oblegid nid i segur-swydd y'ch galwyd. Meddyliwch am ei thraddodiadau yn eich cymdogaethau. Yr ydych yn perthyn i dair o'r eglwysi hynaf a pharchedicaf a feddwn :-Llanidloes, cartref John Lewis y watch-maker, a llu o wŷr grymus ar ei ôl; Llanbrynmair, eglwys Richard Howell, Hugh Dafydd, a William Williams; a Mallwyd, maes llafur Owen Sion ac Edward Morris. Drwy ymdrech ddyfal a chyson gwnaeth y gwŷr hyn Fethodistiaeth yn allu amlwg er daioni yn eu hardaloedd; ac yn awr, ar alwad yr eglwysi, yr ydych chwi yn myned i mewn i'w llafur. Fy mrodyr annwyl, nid cellwair o beth yw bod yn olynwyr i ddynion fel yna. Ehangodd hen frenhinoedd Judah derfynau eu gwlad, ond pan ddaeth Jehoram i'r orsedd, dechreuwyd colli'r taleithiau. Dyn gwael oedd ef, a diwedd ei hanes yw, "efe a ymadawodd heb hiraeth amdano, a chladdasant ef yn ninas Dafydd, ond nid ym meddrod y brenhinoedd." Teimlai'r wlad megis yn reddfol nad oedd y dyn a gollodd y taleithiau yn deilwng i orwedd yn yr un bedd â'r dynion a oedd wedi eu hennill. Cofiwch chwithau nad rhwng cwsg ac effro y gellir llanw lle hen flaenoriaid Trefaldwyn Uchaf; a chofiwch hefyd mai diflas i'r eglwysi fyddai gorfod ymfodloni ar darianau pres yn lle'r tarianau aur a feddent gynt. Er mwyn tŷ yr Arglwydd ein Duw, byddwch o ddifrif.
5. Oni byddwch o ddifrif, fe wnewch gam â gras Duw. Dug Efe gyfle i fod yn ddefnyddiol at eich drysau. Nid rhaid esgyn i'r nef na disgyn i'r dyfnder; y mae'r siawns yn agos atoch. Pe buasai yr amod fel hyn, "Rhaid i ddiaconiaid fod yn ddysgedig," dyna chwi a minnau ar y clwt mewn amrantiad. Neu fel hyn, Rhaid iddynt fod yn ddoniol," â chroen eu dannedd yr aethai neb ohonom ni i mewn. Ond gosododd y Nefoedd y premium ar ddifrifwch, ar ymroddiad a chwbl-ddiwydrwydd,—pethau sydd mewn ystyr o fewn eich cyrraedd, a phethau a arferir gennych bob dydd mewn cysylltiadau eraill. Rhoddwyd ger eich bron ddrws agored, ac ni ddichon neb ei gau ond chwi eich hunain. Edrychwch yn ddyfal rhag derbyn ohonoch ras Duw yn yr ystyr hon, yn ofer. Nid oes dristach brawddegau yn yr holl Feibl na geiriau Iesu Grist am was annheilwng.
Daw arglwydd y gwas hwnnw ac a'i gwahana ef, ac a esyd ei ran gyda'r anffyddloniaid." Eich derbyn i mewn a wneir yma heddiw. Cadwer chwi i ymroi felly i'ch dyletswyddau, fel na ddelo awdurdod uwch yn dragywydd i'ch bwrw allan.
Anodd tewi heb gyffwrdd ag un ystyriaeth arall. Hwyrach y dywedwch fy mod yn siarad fel pe bai popeth yn dibynnu arnoch chwi. Hwyrach yr ymofynnwch ynoch eich hunain "A chaniatau bod ein llwyddiant yn gorffwys ar ein difrifwch, ar ba beth y gorffwys y difrifwch? A allwn ni drwy nerth penderfyniad ei gynhyrchu ynom ein hunain heb help neb?" Na fedrwch, fy mrodyr, yn hollol. Gellwch gynhyrchu peth tebyg iddo: ond tuedd hwnnw yw rhedeg yn wyllt a datblygu yn sêl ddallbleidiol neu ffanaticiaeth gul galed gas, beryglus i chwi eich hunain a phawb a ddaw yn agos atoch. Nid y cyfryw a gymhellir arnoch yn awr.
Yr oedd Saul o Tarsus, yn rhan gyntaf ei oes, yn ddigon difrifol i gymryd llawer o'r cyfrifoldeb am labyddiad Steffan a'r holl gyfrifoldeb am lanw'r gwledydd â bygythion a chelanedd. O'i ddaear ef ei hun y tyfai y cnwd hwn. Minnau hefyd a dybiais ynof fy hun fod yn rhaid imi wenuthur" fel a'r fel. Ond un diwrnod, ar ffordd Damascus, cwrddodd Saul â Rhywun, a newidiodd ansawdd a naws ei ddifrifwch am byth. Nid oedd eisiau lladd neb mwyach. Daeth yn fwy angerddol ddifrifol nag erioed, ond ymadawai y chwerwder a'r surni yn llwyr, ac yn eu lle teyrnasai cydymdeimlad a charedigrwydd. Yn lle fflangellu pobl eraill, âi o dan wialenodiau dros fesur ei hunan. Yn lle carcharu eraill, ceir ef ei hun mewn carcharau yn fynych,—mor fynych nes ein temtio i feddwl mai yno y dysgodd ganu, o leiaf ni chofiwn amdano yn taro tôn cyn bod ei draed yn sicr yn y cyffion.
Beth a effeithiodd y fath gyfnewidiad? Wel, y cyfarfyddiad ar y ffordd a'i gwnaeth, a'r un peth yn union a'i gwna eto. I gael y difrifwch cymeradwy, rhaid i ninnau gwrdd â'r un Person yn rhywle. O'r braidd nad ydym ni yn yr oes hon yn rhy wylaidd i gyffesu'r peth, ond dyna'r gwirionedd. Nid gormod ei roi fel hyn mesur eich adnabyddiaeth a'ch gwerthfawrogiad o Grist fydd mesur eich gwir ddifrifwch yn ei wasanaeth.
Dro yn ôl gwelais gofnod-lyfr hen amaethwr o flaen plwyf Llandinam. Ar un tudalen edrydd iddo fyned i Sasiwn Llanidloes pryd y pregethai Ebenzer Morris ar Sechariah xi. 12. Ergyd y bregeth hyd y gellid casglu, oedd Iesu Grist yn gofyn i bobl y Sasiwn ba faint oedd ei werth Ef yn eu golwg. Prisiodd rhywrai fi i hyn a hyn, ond beth meddwch chwi? Barnai fy ngelynion fi yn werth rhywfaint: beth yw eich barn chwi? Beth a gymerech chwi yn gyfnewid amdanaf? Gwnewch eich cyfrif i fyny, os gwelwch yn dda. Aeth cant a deunaw o flynyddoedd heibio er pan hyrddid y cwestiwn at gydwybodau y dorf ar dop llais mawr Ebenezer Morris. Ond y mae mewn date heddiw; ac ar yr atebiad a roddwch iddo, ar ôl llawn ystyriaeth, ar hwnnw y dibynna eich difrifwch yn y gwaith.
Hawdd credu nad anghofiodd y ddafad golledig byth mo'r siwrnai tuag adref. Ei chael ei hunan allan o gyrraedd y bleiddiaid, a'r corsydd, a'r mieri, yn y diogelwch ar ysgwyddau'r bugail, ac yntau yn siarad â hi erbyn ei henw heb ffonnod na chernod na dannod,―naddo, anghofiodd hi byth mo'r daith yn ôl.
Bum yn dychmygu gweled y defaid eraill y dyddiau canlynol yn tyrru o'i chwmpas gan arogli a ffroeni, fel pe dywedasent yn eu hiaith hwy, "Ti yw'r ddafad a fu ar goll, onid e?" a hithau'n ateb, "Fi yw'r ddafad a fu ar ysgwyddau Meistr sut bynnag, a lle gwan i'r un ohonoch chwi ymwthio rhyngof fi ag ef byth mwy.' Dyna wrtaith i ddifrifwch. Ymlyniad y ddafad yn tyfu ac yn tyfu nes dod yn rhyw counterpart i lawenydd y Bugail ei hun! Ac er iddo Ef ein dysgu i ddewis y lleoedd isaf mewn rhai amgylchiadau, ni oes ronyn o berygl iddo ffromi pe gwelai hen grwydriaid yr anialwch yn gwasgu ymlaen i geisio bod yn agosaf at Ei sodlau o'i ddiadelloedd i gyd.
Teyrngarwch i Grist yn codi oddi ar brofiad personol o'i ffafr,—Os yw y pethau hyn gennych, y maent yn peri na byddwch na segur na diffrwyth yn y gwaith. Os yw y pethau hyn gennych, ni fedd yr Henaduriaeth, ond un gair i'w ddweud wrth y naill a'r llall ohonoch,-y_gair a ddywedodd yr angel wrth Gedeon, Dos, yn dy rymusdra yma, oni anfonais i dydi."
"CARIAD Y GWIRIONEDD"-2 Thes. ii. 10
Y MAE i'r testun amryw o ystyron, ond cymerwn ni ef i olygu "Cariad at y gwirionedd," pob gwirionedd—oddi wrth Dduw, ac ato. Na ddychrynwn rhag darganfyddiadau gwyddonwyr, ymchwilwyr, &c. "Ni bu ddim dirgel, ond fel y delai i eglurdeb," meddai Iesu Grist. Carwn wirionedd ymhob cylch, ac o ba le bynnag y daw. Ond yn arbennig gwirionedd yr Efengyl y Beibl—Y Gwirionedd.
(a) Carwn y gwirionedd ei hun.
Nid ein rhag-dybiau ni am yr hyn a ddylai fod, na'n hesboniadau ni arno. Nid dysgeidiaeth anwadal uwch-feirniaid nac is-feirniaid amdano, na thraddodiadau ein tadau yn ei gylch, ond y gwirionedd ei hun.
(b) Carwn y gwirionedd hwn i gyd.
Addewidiona bygythion hefyd; adnod â blas maddeuant arni—ac adnod â blas sancteiddrwydd arni hefyd. Pan fyddo o'n plaid-ie, a phan fyddo yn ein herbyn hefyd. Cofiwch gwestiwn Aletheius a Theomemphus, a'r atebaid: Peidio tampro â'r safon.
(c) Carwn y gwirionedd.
Nid ei dderbyn fel y derbyniodd y creigleoedd yr had,-egino heddiw a gwywo yfory. Nid ei ddeall fel y rhai a oleuwyd unwaith ac a syrthiasant ymaith wedyn. Nid ei barchu fel y perchir barbed wire, rhag cael dolur oddi wrtho. Nid ufuddhau iddo er mwyn y wobr draw. Ond ei garu er ei fwyn ei hun, ymfodloni, ymhyfrydu, ymserchu ynddo. Nid cadw'r Saboth gan ofyn, Pa bryd yr â heibio, fel y gwerthom ŷd, etc., ond galw'r Saboth yn hyfrydwch a gofyn pa bryd y daw eto. Nid ffugio cariad fel Simon y Pharisead at Iesu Grist. "Ni roddaist i mi ddwfr i'm traed," y cwrteisrwydd arferol i wahoddedig. A gaiff ef fwy? Hon a olchodd fy nhraed â dagrau. Paham? "Hi a garodd yn fawr." I ba gyfeiriad y mae ein dyfeisgarwch ni? A gaiff y Beibl gymaint o barch â llyfrau eraill? Ai llunio cyfleusterau i ddarllen a myfyrio yn y Gair a wnawn, ai llunio esgusodion dros osgoi hynny?
Tri rheswm dros garu'r gwirionedd.
(i) Oni cherir ef ni bydd yn allu llywodraethol yn ein bywyd. Yr hyn y mae dyn yn ei hoffi a gaiff deyrnasu arno Paham? Am fod cariad yn gryf fel angau,—yn gryfach na phethau cryfaf dyn. (a) Yn gryfach na synnwyr a rheswm. Yr oedd pob rheswm dros i Samson beidio â phriodi merch y Philistiaid. Ond' y mae hi wrth fy modd i,' meddai, ac am hynny rhaid i synnwyr ildio. Onid yw llwybrau ei orchmynion' wrth ein bodd ninnau, ni bydd gwirionedd Duw ond ail beth gennym. (b) Yn gryfach na phob cyrhaeddiadau deallol. Y mae mae cariad yn debyg i'r bias yn y bêl (bowls). Yr oedd Balaam yn gwybod llawer. gŵr yr agorwyd ei lygaid' yn bowlio at farc go lew—'marw o farwolaeth yr uniawn.' Ond tynnodd cariad at wobr anghyfiawnder' ef i ŵyro. Bu farw ymhlith y gelynion—ymhell oddi wrth y marc. (c) Yn bwysicach nag arferion da ac ymarweddiad dichlynaidd. Yr oedd y gŵr ieuanc y dywedir amdano yn yr Efengyl, wedi cadw'r gorchmynion oll o'i febyd, yn bowlio at y marc uchaf posibl etifeddu bywyd tragwyddol.' Ond ymddiried mewn golud' yn ei dynnu ar ŵyr bron ar ei waethaf." Efe a aeth ymaith yn athrist'. Paham yn athrist? Am ei fod yn rhyw ymwybodol ei fod yn gwneud camgymeriad—ond myned er hynny. Sonnir am ddynion â'u serch arnynt eu hunain... er dysgu bob amser ni ddeuant byth i wybodaeth o'r gwirionedd. Pa le a roddwn i'r gwirionedd yn ein bywyd? Y mae Duw am iddo gael y lle gorau y cysegr sancteiddiolaf, y galon. A feiddiwn ni ei gadw yn y cyntedd allanol?
(ii) Oni bydd y gwirionedd yn allu llywodraethol ynom, ni bydd yn allu amddiffynnol inni chwaith.
Ped ymryddhai'r trefedigaethau oddi tan lywodraeth Prydain, ni chaent ei hamddiffyniad mwy. Y sawl a'm carant i, a garaf innau. Fy anrhydeddwyr a anrhydeddaf,' Tarian yw efe '-i bwy? I bawb a ymddiriedant ynddo. Y mae'r gwirionedd yn amddiffyn pob un a gymer ei arwain ganddo. Ac angel Duw, yr hwn oedd yn myned o flaen byddin Israel, a symudodd, ac a aeth o'u hôl hwynt ... Ac efe a ddaeth rhwng llu yr Eifftiaid a llu Israel; ac yr ydoedd yn gwmwl ac yn dywyllwch i'r Eifftiaid, ac yn goleuo y nos i Israel: ac ni nesaodd y naill at y llall ar hyd y nos. Dyma beth mawr! Gwirionedd Duw yn goleuo i ni.
Dyna brofiad y Salmydd yn ei gystudd, "Oni bai fod dy ddeddf yn hyfrydwch i mi, darfuasai yna am danaf." Morris Evans ar lawr; ond yn fwy na choncwerwr ymhen yr wythnos. Beth wnaeth y gwahaniaeth? Darn o adnod o lyfr yr Actau. Ond, cofiwn mai â'i ffrindiau y gwna'r gwirionedd fel hyn. "Am iddo roddi ei serch arnaf, am hynny y gwaredaf ef." Dim byd i Saul, dim byd i Jehoram mewn cyfyngder. "Beth sydd i mi a wnelwyf â thi? Dos at broffwydi dy dad, ac at broffwydi dy fam."
"Derbyn cariad y gwirionedd, fel y byddent gadwedig"—ar hyd y daith. Bydd adnodau yn dilyn y Cristion, fel life-guards, i'w amddiffyn, ac yn ernes o fuddugoliaeth lwyr yn y man."Tangnefedd Duw, fel afon gref,
O Orsedd Nef yn llifo,
A fydd i'r sawl a garo'r gwir,
Gan rodio'n gywir ynddo.'
(iii) Oni chaiff y gwirionedd ein llywodraethu a'n hamddiffyn, cyn bo hir fe â yn allu barnedigaethol yn ein bywyd.
Ni wn beth i'w ddweud ar hyn; nid wyf yn ei ddeall. Nid y farn ddiwethaf a olygir: rhaid i bawb wynebu honno.
Am hynny y denfyn Duw iddynt hwy amryfusedd cadarn, fel y credont gelwydd." Y Beibl, o'i hir gamddefnyddio, o'r diwedd yn ildio goleuni camarweiniol. Dynion yn eu gweithio eu hunain allan o gylch dylanwad yr Ysbryd Glan, ac yn cael credu'r peth a fynnont. O'r Beibl y caiff yr Antinomiaid resymau dros fywyd penrhydd; ac yn y Beibl y cafodd y Pabyddion resymau dros losgi'r merthyron yn y tân. Ie, a dynion â "Y Beibl yn eu dwylo a gyflawnodd crime mwyaf yr oesoedd. mae gennym ni gyfraith, ac wrth ein cyfraith ni efe a ddylai farw," llefent ger bron Pilat. "Croeshoelia ef." Sut y medrent daflu cochl gwirionedd dros weithred mor anfad?
Hir gellwair â'r gwir, nes y diflasodd hwnnw, a'u gollwng i fynd wrth eu cyngor eu hunain. Edrychwch arnynt, yn synagog Nasareth, gyda'r dyn a anesid yn ddall, yn cynllwyn i ladd Lazarus,—yn dysgu'r milwyr i ddweud anwiredd, etc.
Ac eto pe buasai Ysgol Sul y pryd hwnnw, buasai y rhain yn flaenllaw ynddi. Yr oeddent yn chwilio'r Ysgrythurau, etc. Pa le yr oedd y bai ynteu? "A hon yw y ddamnedigaeth garu o ddynion y tywyllwch yn fwy na'r goleuni."
Edrychwch arnoch eich hunain." Gwylia arnat dy hun. "Adwaenwn hwn a hwn yn dda iawn." Beth amdanat ti dy hun? Gwell i ddyn wneuthur tipyn o home detective-work na barnu ei frawd. A fyddwn ni yn ystumio'r gwirionedd weithiau? "Dowch i'r Ysgol Sul," "Waeth imi beidio, os gwir a ddywedodd y dyn Bangor yna. Gwyliwn deithio y ffordd yna, mae honyna'n darfod ychydig ymlaen.
Wel, cofleidiwn a chusanwn y gwirionedd rhag iddo ddigio. Un gair eto; yr ydych yn cofio ysmaldod Wil Bryan, yn ceisio gyrru'r cloc tra'r oedd un olwyn yn ei logell. A ydym ni yn peidio â bod yn rhy debyg iddo mewn ystyr anhraethol fwy pwysig? Y mae'r Cyfarfod Misol newydd basio yma. A fu o yn llwyddiant-yn fendith i ni?
Gofynnaf yn ôl: A oedd yr olwyn fawr yn y gafael, y serchiadau yn cydio, ac yn bachu yn y gwirionedd? Os felly, nid ofer a fu.'
(Y Bont, Mehefin 9, 1918).
"DIEITHR YDWYF AR Y DDAEAR"
(Salm cxix. 19)
Y mae'r adnod yn darllen fel hyn:—" Dieithr ydwyf fi ar y ddaear; na chudd Di rhagof dy orchmynion."
O ran ei ffurf y mae yn debyg i lawer adnod arall yn yr un llyfr. Hawdd gan y Salmydd roi mynegiant i ryw wirionedd allan o'i brofiad ei hun, ac yna offrymu gweddi a fyddai'n cyfateb iddo mewn rhyw fodd neu'i gilydd. Felly yma, Dieithr ydwyf fi," etc., dyna'r profiad; "Na chudd Di rhagof dy orchmynion," dyna'r deisyfiad a godai allan ohono.
Nid o ddamwain y cysylltir y ddau beth hyn, sef profiad a gweddi, â'i gilydd: oblegid y maent yn perthyn yn agos i'w gilydd, neu o leiaf fe ddylent fod. Diffrwyth fydd profiad onid esgor ar weddi. Cafodd y genedl yn amser Amos brofiadau nodedig iawn. "Trewais chwi â diflaniad, ac â malltod, eto â ni ddychwelasoch ataf fi, medd yr Arglwydd," ac felly syrthiodd y profiad yn fyr o gyrraedd ei amcan. Ar y llaw arall, gwag fydd gweddi lle na chyfyd o brofiad y gweddïwr, "Nesau y mae y bobl hyn ataf â'u gwefusau, eu calonnau sydd bell oddi wrthyf. Dychwel gweddi felly adref yn wag. Neges profiad yw awchlymu'r weddi, ac effaith gweddi iawn fydd cyfoethogi profiad. Gyda'ch cydsyniad ni a edrychwn yn awr ar y ddau beth hyn, sef Profiad a Gweddi'r Salmydd.
Y Profiad yn gyntaf, "Dieithr ydwyf fi ar y ddaear."
Ar ryw olwg, swnia'n lled afresymol. Pe dywedasai ei fod yn ddieithr ym mhob man arall, gallem ei ddeall. Pan edrychai ar y nefoedd, gwaith bysedd y Creawdwr, ychydig iawn a wyddai amdanynt. A phe gadawai i'w ddychymyg gloddio i goluddion y ddaear, ni chyrhaeddai ei adnabyddiaeth ymhell y ffordd honno chwaith dieithr oedd dieithr oedd ym mhob man heblaw ar y ddaear, a feddyliem ni. Ond yma dywed ei fod yn ddieithr yno yn anad unman.
Sut y gellir esbonio'r peth? Ai ymson hen ŵr sydd yma wedi goroesi ei gyfoedion, ac yn methu asio yn dda â'r tô sydd yn dod ar ei ôl? Y mae peth felly yn bod. Gwelir ei gysgod yng nghân Hiraethog ar Adgofion Mebyd " lle y teimla'r bardd fod Llansannan wedi mynd yn ddieithr iddo. A'r un modd Goronwy Owen :—
"Y lle bûm yn gware gynt,
Mae dynion ni'm hadwaenynt,
Cyfaill neu ddau a'm cofiant,—
Prin ddau, lle'r oedd gynnau gant."
Gŵyr pawb ohonom sydd yn dechrau heneiddio am y teimlad hwn. Ond nid oes sicrwydd bod y Salmydd yn hen. Casgla llawer oddi wrth gywreinrwydd cynllun y Salm hon, ei rhaniad yn gynifer o adrannau cyfartal, wyth adnod ymhob un, a phob adran yn dechrau gyda llythyren wahanol o'r wyddor, mai bardd cymharol ieuanc ydyw. Wel, ynteu, ai ymson sant aeddfetach na chyffredin a geir yma? Y mae peth felly yn bod. Meddai un o'n hemynwyr :—
"Fe sugnodd nefoedd Duw fy mryd,
Nes wyf yn ddieithr yn y byd.
Ond prin y gellir meddwl bod y Salmydd wedi cyrraedd tir fel yna. Nid oedd bywyd ac anllygredigaeth wedi eu dwyn i oleuni yn ei amser ef, a rhyw ymbalfalu, megis dan eu dwylo, yr oedd mwyafrif seintiau yr Hen Oruchwyliaeth ar gwestiwn y dyfodol.
Ond yr oedd un ystyriaeth yn amlwg i brofiad y Salmydd sef mai taith neu yrfa yw bywyd dyn ar y ddaear. Gwelir hynny yn ei fynych ddefnydd o'r termau ffordd a llwybr.' Pe gofynasid iddo beth oedd bywyd, atebasai mai llwybr yn arwain i rywle ydoedd. A phe gofynasid iddo beth oedd ef ei hun, dywedasai mai teithiwr oedd. Ac y mae'n sicr bod y gair" ymdeithydd" yn gywirach cyfieithiad o ddechrau'r adnod na'r gair "dieithr." Ymdeithydd ydwyf ar y ddaear." I ba le, dichon na wyddai, ond gwyddai ei fod yn mynd i rywle. Y mae yr un peth yn wir amdanom ninnau, a phurion a fyddai inni aros yn awr ac eilwaith yng nghwmni'r gwirionedd, er nad oes dim yn newydd ynddo. Hwyrach ein bod yn rhy debyg i'r Atheniaid gynt, yn ein hysfa am bethau newydd. Addefai yr Apostol Pedr ei fod yn fodlon ar ddwyn ar gof i'w ddarllenwyr hen bethau a wyddent o'r blaen, er mwyn gwasgu'r cyfryw yn ddwysach at eu hystyriaeth mewn trefn iddynt fedru dylanwadu'n briodol ar eu holl fywyd.
Gwyddom ninnau yn burion mai teithwyr ydym, ac addefwn hynny mewn ffordd lac yn aml, ond a ydym yn ei sylweddoli, fel y Salmydd, nes iddo fod yn brofiad byw o'n mewn? Onid iaith ddirgel ein calon yw 'Ni'm syflir yn dragywydd.' 'Ni byddaf mewn blinder hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.' 'Byddaf farw yn fy nyth' (hynny yw, os byddaf farw hefyd). Byddaf mor aml fy nyddiau â'r tywod.'
Nid fy amcan i, fy nghyfeillion, yw ceisio eich arwain i gymryd golwg bruddaidd ar fywyd, na meithrin teimlad o'r fath ynof fy hun chwaith. Ond pa les inni ein twyllo ein hunain? Pa ddoethineb a fyddai mewn gwthio ein pennau i'r tywod, fel y dywedir am yr estrys, a meddwl nad oes berygl oni byddom ni yn ei weld? Onid gwell yw edrych ar y sefyllfa yn deg yn ei hwyneb? Oblegid edrych neu beidio, fe'n syflir, fe ddaw blinder, fe chwelir ein nyth, a chyngor y Beibl yw inni mewn iechyd a hoen gofio bod dyddiau tywyllwch.
"Arhoswch funud," meddai rhywun, "fe wna siarad fel yna fwy o ddrwg nag o les. Yr ydym ni wedi ein dysgu mai'r grefydd orau yw honno sy'n crynhoi ei hadnoddau at waith a dyletswyddau bywyd, "heb flino ynghylch amserau draw." Mae cymaint o bethau i'w gwneuthur yma, ac ni wna moedro ar ansicrwydd bywyd ond gwanhau pob dwylo a pharlysu pob ymdrech.
Rhaid addef y gall hynny ddigwydd, yn wir sonia'r Beibl amdano fel wedi digwydd yn hanes rhyw rai, Bwytawn ac yfwn," meddent," canys yfory marw yr ydym." Mae bywyd mor fyr, ni waeth heb ddechrau ar ddim, nac ymroi at ddim "A short life, and a merry one," onid e? Ond nid yw'r ffaith y gellir camddefnyddio gwirionedd yn ddigon o reswm dros beidio â'i ddefnyddio o gwbl. Gwyddom am Un mwy na'r gloddestwyr hyn, a ddywedodd, "Rhaid i mi weithio tra ydyw hi yn ddydd, y mae y nos yn dyfod, pan na ddichon neb weithio." Byrdra oes yn rheswm dros beidio â gwneud dim, meddai'r bobl gyntaf; byrdra oes yn rheswm dros wneud ein gorau, meddai Iesu Grist. Felly gan y gall yr ystyriaeth droi yn gymhelliad i fywyd gwell, a llawnach, ni raid ymddiheuro am aros gyda hi am ennyd yn hwy.
"Ymdeithydd ydwyf fi ar y ddaear." Nid oeddwn yma ddoe, ni byddaf yma fory, pasio trwodd heddiw yr ydwyf. Cofiaf gwrdd cydnabod yn Llandrindod rywdro, ac ar ôl cyfarch gwell, gofynnais iddo y cwestiwn arferol yno, Ple'r ydych yn aros?" 'Dwy'n aros yn unman," oedd yr ateb, yma am ddiwrnod yr wyf. Yr un modd amdanom ninnau, yma am y diwrnod yr ydym. Fel y dywed y pennill,—
"Ni chawn aros, ni chawn orffwys,
Nes i'n fynd i'r ochr draw.'
Aeth tô ar ôl tô, o'n blaen. Pe caeai yr hynaf ohonoch lygaid ei gorff, ac agor amrannau atgof, nid chwi a minnau a welai yng Nghapel y Dinas heddiw'r bore, nage, ond pobl eraill ymhob sedd yma. Ple mae'r rheini yn awr? Wedi pasio ymlaen i rywle; a chyflymwn ninnau ar eu hôl. O dan amgylchiadau fel yna, ofer bwrw gwraidd ar y ddaear ofer a gwaeth nag ofer gadael i serchiadau'r galon ymgordeddu am bleserau munud awr. Beia rhai y gôg am fenthyca nythod adar eraill, yn lle gwneud nyth iddi ei hun. Ond y mae hyn i'w ddweud o'i phlaid, bird of passage ydyw, ac y mac ei thymor yma yn fyr iawn. Passengers ydym ninnau,—pobl yn myned heibio. Oni chanwn weithiau "Ar fôr tymhestlog teithio'r wyf"—a pha synnwyr mewn cartrefu a nythu mewn lle o'r fath hynny?
Wel, meddai rhywun ohonoch, "ni choeliaf i ddim eich bod yn proffwydo yn ôl cysondeb y ffydd y bore yma. Hanner gwirionedd sydd gennych, neu lai na hynny yn fy marn i." Hwyrach gyfaill, ond fe addefwch chwithau ei fod yr hanner hawsaf i'w anghofio. Ac os rhoddodd ein tadau braidd ormod o bwyslais arno, nid wyf yn siwr na roddwn ni rhy fach o bwys arno yn y dyddiau hyn.
Rhag i chwi feddwl mai gwagedd i gyd sydd gennyf, ar ôl i chwi fynd gartref, darllenwch esboniad y Principal Edwards ar y 14eg adnod o'r bennod olaf o'r llythyr at yr Hebreaid, a chwi a gewch eiriau fel hyn, "Perygl Cristnogion o ymgartrefu ar y ddaear." Chwi a anghofiwch bopeth a ddywedaf i, mi wn, ond peidiwch ag anghofio geiriau y Principal, a setlwch yn eich. meddyliau eich hunain beth yw eu hystyr.
Dywed gwyddonwyr wrthym fod yn y greadigaeth yma ddwy ddeddf yn gweithio yn groes i'w gilydd,—y naill yn tynnu ati, a'r llall yn gwthio draw, ac mai trwy gydweithrediad y ddwy y cedwir cytbwysedd y cyfanfyd. Byddaf fi yn meddwl weithiau fod dwy ddeddf gyffelyb yn y byd moesol hefyd. Mi a wn yn gystal a chwithau fod lle cyfreithlon mewn bywyd i ofal am yr amgylchiadau, lle i ddarbod dros yr eiddo, serch ac anwyldeb teuluaidd. Ond od â'n bywyd i gyd i redeg yn y groove yna, daw trychineb ynghynt neu hwyrach. Gyda'r attachment dylai fod dipyn o detachment hefyd—tipyn o ryw allu i ymryddhau cyn y llwyddir i gadw bywyd ar ei wastad.
Sonia Paul yn rhywle am brynu megis heb feddu, am fod yr amser yn fyr, ac am arfer y byd heb ei gamarfer, neu yn gywirach heb ei lawn arfer, without fully using, heb wthio pethau i'r pwynt eithaf. Yr ystyr, 'rwy'n coelio, yw marchogaeth y byd yn lled rydd, heb wthio ein traed at y sodlau i'r warthol, fel pe baem i fod yn y cyfrwy am byth. Teithiwr oedd Paul, a barnai fod cwlwm dolen yn ddigon o gysylltiad rhyngddo a'r byd. Teithwyr ydym ninnau hefyd.
"Tir rhyw ŵr goludog a gnydiodd yn dda," eithaf praw ei fod yn ffarmwr penigamp. Gwir oedd y gair y pryd hwnnw, fod yr hen ddaear yn lled onest; fel y rhoddwn ni iddi, y rhydd hithau yn ôl. Diau yr ystyrid y gŵr goludog yn model farmer ei ardal. Nid yn unig coleddai'r ddaear, ond gofalai am y cnwd ar ôl ei gael. Darparai ddigon o adeiladau i gadw popeth yn ddiddos. Pe buasai Undebau Amaethwyr, a Chynghorau Dosbarth a Sirol, yn bod y pryd hwnnw, cawsai le amlwg arnynt oll. Ond beth oedd y teitl a roddodd ysbrydoliaeth iddo? O ynfyd!' Thou fool! Paham y siaradai yr addfwyn Iesu mor galed a brwnt am ddyn gweithgar, cynnil, gofalus? Wel, nid oblegid y pethau a wnaeth, ond oblegid y pethau ni wnaeth. Un o'r ddwy ddeddf oedd mewn gweithrediad yn ei hanes. Darparodd yn unig ar gyfer aros yma, ac yntau o angenrheidrwydd yn deithiwr. Felly aeth ei holl fywyd yn smash mewn un noson.
Un o hoff lyfrau ein teidiau a'n neiniau oedd 'Taith y Pererin.' Hanes gyrfa Cristion trwy'r byd ydyw, ac y mae'r syniad sydd yn yr enw yn un ysgrythurol. Dengys yr Epistol at yr Hebreaid fod bywyd saint uchaf yr Hen Oruchwyliaeth yn braw mai dieithriaid a phererinion oeddynt ar y ddaear. Pobl oeddynt yn ceisio gwlad, ond heb ei chyrraedd. Ni chartrefodd Abraham, Isaac a Jacob yn unman, trigo mewn lluestai, gan symud o fan i fan a fu eu hanes. Ac y mae yn deilwng o sylw mai am y tri wŷr hyn yn arbennig y dywedir nad cywilydd gan Dduw ei alw yn Dduw iddynt hwy'; fel pe byddai ganddo Ef ffafr neilltuol i'r ysbryd a'r dymer bererinol.
"Ie," meddai rhywun, "ond trefniant dros amser oedd hwnna; fe addawyd gwlad ddaearol iddynt, a chafodd eu hepil hi yn y man.' Do, rwy'n addef, a chollasant hi hefyd. Ond hyd yn oed pan yn eu gafael, rhannol iawn oedd eu meddiant arni. Gwrandewch ar clause o'r deed a gawsant wrth fyned iddi, "A'r tir ni cheir ei werthu yn llwyr, canys eiddof fi yw y tir (medd yr Arglwydd); oherwydd dieithriaid ac alltudion ydych gyda mi." (Lef. xxv. 23). All-tud-ion, pobl allan o'u tud, allan o'u gwlad, awgrym fod iddynt hwythau wlad yn rhywle. Ond nid Canaan ydoedd ni feddent ond life-interest yno ar y gorau. Na, ymdeithwyr oeddynt hwy, ac ydym ninnau ar y ddaear.
Nid yw hyn yn taflu unrhyw ddiystyrwch ar y ddaear fel lle. Mewn llawer gwedd, nid gormod dweud ei bod yn lle gogoneddus a hyfryd. Cawn ninnau chwilio ei cheinder, a mwynhau ei rhyfeddodau i'r graddau eithaf, ond inni wneud hynny fel tourists, gan sibrwd yr un pryd, " Nid yma mae 'ngorffwysfa i." Oblegid pobl ar y march ydym fel yr Israeliaid yn yr anialwch. Gellir adrodd hanes ein bywyd bron yn yr un geiriau ag yr adroddir eu hymdaith hwy o'r naill wersyllfa i'r llall. "A chychwynasom o'r crud, a gwersyllasom ar aelwyd tad a mam; a chychwynasom o'r aelwyd a gwersyllasom yn yr ysgol; a chychwynasom o'r ysgol a gwersyllasom yn yr egwyddorfa: a chychwynasom oddi yno a gwersyllasom yn yr alwedigaeth, &c." Gŵyr rhai ohonom am le o'r enw Marah, lle yr oedd y dyfroedd yn chwerw; am le arall o'r enw Rephidim, lle yr oeddynt yn brin: am le arall o'r enw Elim, lle o drugaredd yr oeddynt yn helaeth a pheraidd. Cofus gennym am Cades, o'r lle yr anfonem ein hysbïwyr allan i chwilio'r dyfodol, ac am Fynydd Hor lle y collasom ryw Aaron o hen arweinydd. Ychydig ymlaen eto y mae mynyddoedd Abarim, ac o'r fan honno gellir gweled afon Iorddonen ar gyfer Jericho.
Gan mai teithwyr ydym, ac na allwn fod yn ddim arall, gweddus yw bod mor hysbys ag y medrwn o amodau'r daith. Y mater pwysicaf o bob mater i deithiwr yw medru peidio â cholli'r ffordd. Cafodd yr Israeliaid y golofn niwl a thân i'w harwain hwy, a chafodd y Doethion o'r dwyrain seren i'w harwain, ond beth a gawn ni? Ni wna profiad mo'r tro, am fod yr amgylchiadau yn newid o hyd. Anawsterau newyddion, rhwystrau newyddion, temtasiynau newyddion; dyna hanes y daith. Ar ddechrau pob blwyddyn a phob mis a phob wythnos gallwn ddweud, "Ni thramwyasom y ffordd hon o'r blaen." Ond lle y mae cyfle profiad yn cau, y mae cyfle gweddi yn agor. Dwg hyn ni at yr ail fater, sef:—
Gweddi'r Salmydd:—"Na chudd Di rhagof dy orchmynion." Ar ryw olwg nid yw hon chwaith y peth a ddisgwyliem. Dyn bron â'i lethu gan chwim ehediad y blynyddoedd, ac yn teimlo'r tir yn rhoi o dan ei draed; naturiol i hwnnw, debygem ni, erfyn yn debyg i Hesecïah gynt, Eled y cysgod yn ei ôl ddeg o raddau ar y deial, fel yr adfeddiannwyf eto flynyddoedd fy nerth.' Neu o leiaf dorri allan yng ngeiriau Josua fab Nun, a dywedyd, O haul, aros, a thithau leuad, cymer bwyll! peidied y rhod â throi mor gyflym, fel y caffwyf fy anadl, ac y cryfhawyf cyn fy myned ac na byddwyf mwy!" Ond nid hynny sydd yma. Nid gofyn y mae am i ddiwedd oes gilio o'r golwg, ond am i orchmynion Duw aros yn y golwg. Beth a olygai'r gorchmynion iddo ef, anodd gwybod, gan nad oedd rhyw lawer o'r ysgrythur yn bod y pryd hwnnw. Ond ni chyfeiliornwn ryw lawer wrth eu cymryd yn gyfystyr â'r Beibl. "Na chudd Di dy Feibl rhagof."
Yn awr, beth yw gwerth Beibl i deithiwr? Hyn, fy nghyfeillion, llyfr a'i bwrpas ydyw i ddangos y ffordd. Dyma'r guide-book a gyhoeddodd llywodraethwyr y wlad yr ydym yn mynd iddi, i gyfarwyddo pererinion i ben eu taith—
Dengys hwn y ffordd i farw,
Dengys hwn y ffordd i fyw.'
Am hynny, gwyliwn rhag diystyru nac esgeuluso hwn. Peidiwch chwi, feibion a merched ieuaine, â meddwl mai hobby ychydig o hen bobl a phlant yw Ysgol Sul-rhywbeth y gellwch chwi yn eich afiaith fforddio ei hanwybyddu. Camgymeriad arswydus a fyddai hynny, oblegid llyfr yr Ysgol Sul yw yr unig arweinydd diogel ar y daith yr ydych chwi eisoes wedi cychwyn arni. Dod i'r Ysgol Sul a bod yn llafurus ynddi yw y cwrs mwyaf ymarferol y medrwch ei ddilyn tuag at beidio â cholli'r ffordd.
O chewch chwi a minnau ein dwyn yn ddiogel i ben ein taith, nid wyf yn siwr y bydd arnom angen am Feibl wedyn. Awgryma rhai o'i eiriau ef ei hun, na fydd. Ymddygwch mewn ofn dros amser eich ymdeithiad." Byddaf fi ar ben â chwi wedyn. Teimla rhai yn anniddig am na buasai ysbrydoliaeth wedi tynnu mwy o'r llen oddi ar y sefyllfa ddyfodol. Yr oedd John Foster yn hynod felly. Ond nid amlygwyd eto beth a fyddwn. Y cwbl a ellir ei gasglu ydyw na ddaeth i galon dyn erioed odidoced yw y wlad well. Neges y Beibl yw nid ei disgrifio, ond ein helpu yno. Mynegfys ydyw ar y croesffyrdd i ddangos yr iawn gyfeiriad. Buoy ydyw ar yr afon i farcio'r sianel. Goleudy ydyw ar y graig i rybuddio am y perygl.
Pa fath le a gaiff y Beibl yn ein bywydau? Fe fyddaf yn sylwi ar y teithwyr yn yr haf tua Moat Lane acw: fel y byddant yn holi'r swyddogion, yn ymgynghori â'r Time-table, ac yn edrych eu guides, a'r cwbl rhag ofn colli'r ffordd. A ydym ni am fentro taith bellach a phwysicach heb neb na dim i'n harwain heblaw ysbryd yr oes ac arfer gwlad?
Sôn am reilffordd! Safwn ar blatfform Caersws acw dro yn ôl yn disgwyl trên, ac un o wŷr y ffordd yn fy ymyl. Ymhen tipyn, meddai: "Mae o yn dwad yrwan." "Ple gwelwch chwi o? meddwn innau, Wela i mono eto," meddai yntau, " ond y mae'r signals i lawr. Sut yr ydych yn deall y signals yna," gofynnais innau. "Welwch chwi yr ystyllen acw draw, a hon fan hon, a honna fan yna?" "Gwelaf," meddwn innau. "Wel ni ddaw yr un trên i mewn o gyfeiriad Carno heb i'r tair yna fod i lawr. Wrth gwrs, fe all ddod, o ran gallu, ond nid oes yr un gyriedydd yn ei synhwyrau a gynigiai wneud hynny, oblegid dryswch a dinistr a fyddai'r canlyniadau." Meddyliais ganwaith am ei eiriau, a hynny mewn ystyr uwch nag a roddai ef iddynt ar y pryd. Sawl bachgen, sawl geneth, a welais i yn fy nydd yn rhuthro ymlaen i'w gyrfa, â'r signals yn eu herbyn! "Nac edrych ar y gwin pan fyddo coch, pan ddangoso ei liw yn y cwpan, pan ymgynhyrfo yn iawn. Yn y diwedd efe a frath fel y sarff, ac a biga fel neidr." Dyna'r ystyllen yn sefyll allan yn eglur ddigon, ac yn arwyddo, Halt!' Bechgyn ieuainc a fu'n cydadrodd eu hadnodau â mi yn y Seiat yn y Pennant, yn mynnu pasio honna, ac yn cyrraedd y bedd yn hanner eu dyddiau, fwy nag un ohonynt. Bobl ieuainc, onid yw'n werth ymgynghori â'r signal book?
Fe fyddaf yn meddwl weithiau fod y lle a gaiff y Beibl yn ein bywydau ni yn bur debyg i'r lle a gafodd yr Apostol Paul ar fwrdd y llong ar ei fordaith i Rufain. Er bod gan y swyddogion lawer o ryw fath o barch iddo, ni dderbynient ei gyfarwyddyd ar gyfer y daith. "Y canwriad a gredodd i lywydd y llong yn fwy nag i'r pethau a ddywedid gan Paul." Felly, er bod morio weithian yn enbyd, codi angor a wnaethant, a chodi hwyl a gollwng i'r môr, ar draws rhybuddion yr Apostol Paul. Ond cyn bo hir dyma'r Euroclydon yn dod gan wneud y môr fel crochan berwedig, a hyrddio'r llestr i fyny ac i lawr, yn ôl ac ymlaen, fel tegan chwarae. Ac wedi i bob gobaith am fod yn gadwedig ei ddwyn oddi arnynt, dechreuodd Paul gael gwell gwrandawiad A'r gair cyntaf a ddywedodd oedd, "Pe baech wedi gwrando arnaf i yn y dechrau, byddech wedi osgoi llawer o sarhad a cholled. Os gwrandewch chwi heddiw fe gedwir eich bywydau, ond rhaid i'r llong a'i llwyth fynd." Ef yn ymarferol a fu'r Capten o hynny i'r diwedd, a gwiriwyd ei eiriau i'r llythyren. Fe ddaethant i'r lan bob un, rhai drwy nofio, rhai ar ystyllod, ac eraill ar ryw ddrylliau o'r llong. Fe ddaeth pawb i dir yn ddiogel, ond heb ddim cerpyn o luggage gan yr un ohonynt. Rhyw hanner damwain oedd hi hefyd, rhywbeth na allesid yn deg gyfrif arno. "A digwyddodd," meddai'r hanesydd, "A digwyddodd ddyfod o bawb i dir yn ddihangol." Da iawn oedd cael y lan rywsut, ond 'doedd o ddim yr un peth chwaith â myned i'r porthladd o dan lawn. hwyliau, ac eiddo pawb ar y bwrdd.
Fy nghyfeillion ieuaine, a gaf i yn barchus ddweud un gair wrthych chwi? Peidiwch â thrystio eich diogelwch i ddamwain. Ni ddeuwch i groesffordd o hyn i'r bedd nad oes yn hwn gyfarwyddyd eglur yn dweud, "Dyma'r ffordd, rhodiwch ynddi." Perchwch y cyfarwyddiadau o'r cychwyn cyntaf, ac felly fe osgowch lawer o ofid a cholled i chwi eich hunain, ac i'ch anwyliaid. Penderfynwch dreio cyrraedd y lan a'ch luggage gyda chwi, fel y byddo gennych rywbeth at ddechrau eich byd ar y Cyfandir mawr. A yw hynny yn bosibl? Ydyw. "Os gwaith neb a erys, efe a dderbyn wobr." Fe gaiff basio, nage, fe gaiff wobr. Beth fydd honno, tybed? Derbyn cyfarchiad personol y Brenin, "Mi a'th osodaf ar lawer. Bydd di ar ddeg dinas. Bydd dithau ar bump." Beth fydd y wobr? Gweled y pictiwr a dynnaist ti o fywyd yr Iesu yn dy fywyd dy hun ar lechweddi Mawddwy, trwy lawer o rwystrau a digalondid, gweled hwnnw yn cael ei gymeradwyo gan yr Awdurdod uchaf mewn bod, a'i farnu yn deilwng o le yn y Royal Gallery ochr yn ochr â masterpieces yr oesau. Mae'r posibilrwydd yna yn agored i chwi, gwyliwch ei werthu am yr un saig a all y byd hwn ei chynnig i chwi.
Amdanom ni sy'n heneiddio, ac yn gorfod edrych yn ôl ar lawer cam gwag, nid yw y rhagolygon mor addawol. Ni wn i pa fodd yr ydych chwi, hen frodyr a chwiorydd, yn teimlo ond y tir uchaf a fedraf i ei gyrraedd y rhan amlaf yw geiriau'r pennill:—
Mynd yr wy'n llwm tua thir y bywyd
Ffon yn unig yn fy llaw."
A defnyddio iaith yr ysgolion yma, y mae'r siawns am distinction wedi ei cholli am byth, a'r siawns am basio yn edrych yn amheus lawer diwrnod. Beth a wnawn ni ynteu? Oni theimlwch fod y speed yn myned yn uwch ac yn uwch o hyd? Mae'r blynyddoedd wedi mynd yn rhyw bytiau byrion yrwan wrth y peth oeddynt ers talwm. Nid cynt y bydd Calan Ionawr heibio nag y bydd Calan Mai wrth y drws, a chyn gynted ag i ni basio hwnnw bydd ias Calan gaeaf yn yr awel. Ond od yw amser, fel Jehu gynt, wedi mynd i yrru yn ynfyd, rheswm yw hynny—a dwbl reswm—dros inni wylio'r arwyddion yn fanylach nag erioed. Mae llawer ohonynt wedi mynd out of date i ni erbyn heddiw, praw arall mai teithwyr ydym. "Cofia yn awr dy Greawdwr yn nyddiau dy ieuenctid,"—nid yw honna yn ddim i mi mwyach. Mae deugain mlynedd er pan oeddwn ar ei chyfer. "Anrhydedda dy dad a'th fam." Ugain mlynedd yn rhy ddiweddar! Ond o drugaredd y mae yna rai ohonynt yn ein taro ni heddiw. Edrychwch rhag i'ch calonnau drymhau.' "Marchnatewch hyd oni ddelwyf." "Bydded eich lwynau wedi eu hymwregysu, a'ch canhwyllau wedi eu golau, a chwithau yn debyg i ddynion yn disgwyl eu Harglwydd." Dyna hwy, "O'u cadw y mae gwobr lawer.
"Pan fo natur wan yn methu,
Pan fo twllwch o bob tu,
Pan ddiffoddo lampau'r ddaear,"
gall y rhai hyn, o'u parchu, oleuo ein ffordd a'n cyflawni o lawenydd yn nhroeon mwyaf dyrys yr yrfa. Hoff gennyf i erioed emyn Pantycelyn—
"Dyn dieithr ydwyf yma,
Draw mae 'ngenedigol wlad."
Dechreua'r bardd yn y cywair lleiaf, yn ymwybodol ei fod ymhell o'i le, a deisyfa am y deheuwynt i'w wthio o'i grwydriadau. Yn nes ymlaen, y mae'r deheuwynt wedi dod, ac wedi gwneud ei waith, a thôn y bardd wedi newid. "Ni byddaf yn hir cyn gorffen," meddai. Gorffen sut, tybed? Ai ar y gwaelod? O nage,—
"Ddim yn hir cyn glanio fry."
Sut yr wyt ti mor hyderus, Williams? A yw cartref yn y golwg? Nac ydyw, ddim yn y golwg eto, ond mae'r signals o'n hochr bob un.
"Pob addewid, pob bygythiad,
Pob gorchymyn sydd o'm tu."
Mae'r tair ystyllen i lawr, fel pe dywedai, yn arwydd imi fentro ymlaen, fod y cwrs yr wyf arno yn berffaith ddiogel. Soniwch chwi am force y currents, a nerth y tonnau, os mynnwch mi ganaf innau—
Gair fy Nuw sy'n drech na moroedd,
Gair fy Nuw sy'n drech na'r don,
Mi anturiaf oll a feddaf,
Fythol . . .
I beth? I gywirdeb y signals sydd ar ddalennau'r hen Lyfr. Dyma dâl bendigedig am oes o grefydda, onid e? Wel, beth a allwn ni ei wneud yn well ar y diwedd, fy nghyfeillion, na chyd-ymuno yng ngweddi'r Salmydd, "Na chudd Di rhagof dy orchmynion."
Tri gair ar hyn:
1. Nid yw cuddio yn y plan. Gorchmynion ydynt, ac y mae'r rheini, yn eu natur, wedi eu bwriadu i fod yn hysbys—fel Iesu Grist ei Hun wedi eu rhoddi i'w gwneuthur yn amlwg.
2. Os bydd rhaid cuddio, nid o'i fodd y gwna Ef hynny. Fe wna bopeth braidd cyn gildio i guddio ei eiriau Ei hun. Wylodd uwchben Jerusalem gan ddywedyd, "Pe gwybuasit tithau, ie, yn dy ddydd hwn y pethau a berthynent i'th heddwch eithr yn awr y maent yn guddiedig oddi wrth dy lygaid." Dy lygaid,—awgrym hwyrach mai yn y llygaid yr oedd y bai am y cuddio, ac nid yn y pethau.
3. Hyd yn oed os yw'r cuddio wedi dechrau, a'r Gair a'r Weinidogaeth wedi mynd i siarad llai â ni nag a wnaent unwaith, y mae un addewid yn aros eto, "Os ceisi hi fel ceisio arian: os chwili amdani fel am drysorau cuddiedig; yna y cei ddeall ofn yr Arglwydd, ac y cei wybodaeth o Dduw." Oddi wrth y bobl sydd yn gwrthod chwilio ac felly yn taflu diystyrwch ar y trysor, ac yn ymarferol yn gwadu bod yno drysor o gwbl, oddi wrth y rhai hynny y bydd yr Arglwydd yn cuddio yn derfynol. Un o ddeddfau sylfaenol teyrnas Nefoedd yw bod yr hwn sydd yn ceisio yn cael. Gofynnwn ninnau iddo yng ngeiriau'r pennill:
"O gad imi'n fuan, Arglwydd,
Glywed geiriau distaw'r Ne',
Rhag im' redeg heb im' wybod
Ar ryw law i maes o'm lle."
A bydd cyn gofyn ohonom iddo Ef ateb, ac â ni eto yn Ilefaru iddo Ef wrando, ac anfon inni ddatguddiad llygaid fel y gwelom bethau amhrisiadwy werthfawr allan o'i gyfraith Ef.
Hyn fyddo ein rhan, yn hen ac yn ieuanc, er mwyn y Gŵr a dderbyniodd roddion i ddynion, ie, i'r rhai cyndyn hefyd. Amen.
Penillion Coffadwriaethol am Morris Evans
(Uno hen flaenoriaid y Pennant)
Morris Evans! er ei farw
Gorchest i gariadus fryd
Ydyw synio na cheir mwyach
Ei gyfeillach yn y byd;
Cais ei ddilyn dros y terfyn
Carai'i hebrwng heibio'r bedd,
Sylla'n graff, gan ddirfawr awydd
Wele ddull ei newydd wedd.
Ond ychydig hwnt i'r afon
Y gellir canfod ddiwrnod clir,
Ac ni phery'r weledigaeth
Fwyaf helaeth ddim yn hir;
Troi yn ôl i'r hen gynhefin
Fel Barzilai'n fuan gawn,
Heb adnabod llys y Brenin
Na gwrthrychau'r nefol ddawn.
Troi yn ôl at goffadwriaeth
Morris Evans raid i ni,
Rhodio llwybrau'i bererindod
Mewn myfyrdod am a fu.
Adgyfodi hen seiadau.
Uchel-wyliau'i fywyd gwiw,
Cofio'i aidd yn sugno cyfoeth
Addewidion grasol Duw.
Nid o'r ddaear 'roedd ei synnwyr
Nid wrth natur 'roedd ei rym,
Dynol fawredd neu anrhydedd
Ni chyrhaeddodd mo'nynt ddim;
Neillduolrwydd ei gymeriad
Ydoedd crefydd orau ran,
A dirgelwch ei ddylanwad,
Hawdd ei olrhain i'r un man!
Holl serchiadau calon effro
Ar un gwrthrych wedi eu rhoi,
Pob dymuniad yn yr enaid
I'r un pwynt yn ymgrynhoi;
Weithiau'n cwyno mewn anobaith,
Weithiau'n canu mewn mwynhad;
Eto'n wastad-storm neu hindda—
'N tynnu tua Chanaan wlad.
Blaenor cymwys fu i'r eglwys
Yn y Pennant gyfnod maith;
Am yr Arch yn gwir-ofalu,
A'i holl galon yn y gwaith;
Profodd wobr llafur cariad—
Mynych adnewyddiad nerth,
Ef a'r gwaith yn helpu'i gilydd
Dros y creigiau geirwon serth.
Gair o'i brofiad yn y Seiat
Oedd ddanteith-fwyd peraidd flas,
Ei weddïau a'i gynghorion
Fel o ryw ysbrydol dras;
Beibl Duw ei brif gydymaith,
Fe'i harddelai gyda gwên,
‘Hwn,' medd ef, yw 'mhapur newydd
Nad yw byth yn mynd yn hen.
Geiriau dwyfol Llyfr crefydd
Oeddynt beunydd ar ei fin;
Medrai ddirnad a dehongli
Eu cenhadaeth ato'i hun.
Os y gelyn wnai ymosod,
Yntau'n gorfod dioddef loes,
Adnod fach a godai'r gwarchae
Gant o weithiau yn ei oes.
Cyfarfyddai bethau chwerwon,
Dyddiau blinion ar y daith;
Bara ing a dwfr gorthrymder
A roed iddo lawer gwaith:
Gwynt a glaw a chwyrn lifeiriant
A gurai ar ei enaid trist,
Yntau weithiau'n colli gafael
Yn ffyddlondeb Iesu Grist.
Pan f'ai'i feddwl wedi suddo
'Mhell o gyrraedd help y llawr,
Ac a'i enaid yn llesmeirio,
Deuai'r weledigaeth fawr.
Angel Duw, yr hwn ei pioedd,
Safai yn ei ymyl ef,
I fynegi mai diogel
Oedd yr einioes hyd y nef.
Caniad newydd ganai wedyn
Felys wiw rhwng lleddf a llon;
Megis Gad mae'r Cristion heddiw,
Llu a'i gorfydd,—llawer ton:
Gorfydd yntau'n lân o'r diwedd,
Henffych fuddugoliaeth lwyr;
Yn y diwedd daw daioni,—
Bydd goleuni yn yr hwyr.
O! fy annwyl athro hybarch,
Ni chaf mwy dy gyfarch di;
Mor anhepgor gwers a chyngor
I newyddian fel myfi:
Tithau aethost i dangnefedd,
Dyna'r diwedd wedi dod;
Dechrau hefyd ddrachtio bywyd
Yn y gwynfyd uwch y rhod.
YSGRIFAU CYHOEDDEDIG MR. RICHARD BENNETT
Y Traethodydd:
Ymweliad Cyntaf Howell Harris â Sir Drefaldwyn. (Ion. 1900).
Howell Harris yn Llanidloes—yr ail waith. (Mai 1900).
Y Goleuad:
Anerchiad ar yr Ysgol Sul. (Medi 4, 1918).
Y Cyfundeb a'r Addewid. (Rhag. 26, 1934).
Y Drysorfa:
Howell Harris: Dinesydd a Gwladgarwr. (Meh. 1911).
Trannoeth Angladd. (Hyd. 1927).
Cyngor i Flaenoriaid, C.M. Pantperthog, Medi 6, 1928. (Tach. 1928).
Cyfraniad Griffith Jones i'r Diwygiad Methodistaidd. (Medi 1930).
Y Cofiedydd:
Hanes Methodistiaeth ynghylch y Cyfarfod Misol (Cyfres o Erthyglau misol yn y blynyddoedd 1914, 15, 16, 17, 18).
Taith Howell Harris trwy'r Gogledd yn 1747. (Tachwedd, 1915).
Hynafiaid y diweddar Mr. William Thomas, Aberystwyth. (Ion 1816}
Ychydig o Hanes Methodistiaeth yn y Pennant. (Mai, 1916).
Cylchgrawn Hanes:
Bibliography of Welsh Calvinistic Methodism i. 3; iii. 4; v. 17; v. 43.
Teithiau Howell Harris i Ogledd Cymru, i. 10.
Harrisiana—a bibliography, and notes, i. 68; ii. 5; ii. 38; ii. 71.
Richard Tibbott (1719-1798) i. 57.
Briwsion Hanes, i. 79; ii. 22; xvi. 78.
Dyddlyfr Richard Tibbott, ii. 9; ii. 35; ii. 67; iii. 10; iv. 12; iv. 120.
Cyfarfod Misol Sir Fflint, ii. 18.
Howell Davies, iii. 96.
Transcription of Trevecka Letters, Trevecka Supplements (No. 2-8). iii. No. 3; v. No. 2; vi. No. 1; ix. No. 2; xi. No. 3; xix. No. 1; xx. No. 3.
Taith trwy Wynedd, iv. 41.
Yr Erledigaeth Gyntaf ar y Methodistiaid yng Ngwrecsam, iv. 132.
Hen Lythyr (1818) ynglŷn â'r Athrofa gyntaf i'r Cyfundeb, v. 20.
Cylchdaith Bregethu, v. 28.
Llythyrau y Parch. Thomas Charles, v. 36.
Methodistiaeth Gwrecsam yn y Llysdy, v. 49.
Taith Thos. William si'r Gogledd yn 1751, a gwahoddiad i Howell Harris yn 1764, vi. 14.
Lewis Evan, Llanllugan. vi. 42.
Evan Roberts a 'Theulu Trefeca.' vii. 4.
Derbyniad John Jones, Talysarn, i'r Gymdeithasfa. vii. 57.
Teulu'r Tyddyn. viii. 57.
Sir Ddinbych a Theulu Trefecca-Wm. a Thos. Roberts, Plasbach. x. 21
Dechreuad Methodistiaeth yn Sir Fflint. x. 35.
John Foulkes Jones. xii. 1
Adolygiad o 'Hanes Methodistiaeth Liverpool," J. Hughes Morris. xiv. 84.
Odfeuon dwyieithog Howell Harris. XV. 110.
Yr Hen Gymdeithasfaoedd. xvi. 25.
Angladd Dafydd Dackin. xvi. 64.
Y Goror. xvi. 96; xvii. 48.
Trwyddedu a Chofrestru Pregethwyr ac Addoldai Methodistiaid Sir Drefaldwyn, 1796-1811. xviii. 133.
Addoldai Methodistaidd Sir Drefaldwyn a Gofrestrwyd yn ystod bywyd Mr. Charles o'r Bala. xix. 8.
Dafydd Cadwaladr. xx. 56.
Pamffledi:
Hanes Crefydd yng Ngharno. (Gwasg y Bala, 1924).
Diwylliant y Tadau Methodistaidd. (Llyfrfa'r M.C., 1925).
Nodiadau
golyguBu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1925, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.