Gwaith John Thomas (testun cyfansawdd)
← | Gwaith John Thomas gan John Thomas, Lerpwl |
→ |
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Gwaith John Thomas |
John Thomas
O'r Oriel Gymreig
Gwaith John Thomas
Llanuwchllyn: Ab Owen
ARGRAFFWYD I AB OWEN GAN R. E. JONES A'I FRODYR.
CONWY.
Rhagymadrodd.
ADEG rhyddiaith yw ein hoes ni;
ond, tra yr afradir amser ac
ynni ar ffurf prydyddiaeth, caiff
rhyddiaith ei ysgrifennu rywsut, heb ymgais at y cain, y
tlws, a'r tryloew mewn arddull.
Eithaf peth fyddai troi 'n ol at
ysgrifenwyr rhyddiaith goreu
Cymru, a syllu ar y grym a'r
llyfnder iaith sydd yn esbonio eu
dylanwad. Ymysg y rhain y mae lle uchel iawn
i John Thomas. Nid wyf yn haeru fod ei arddull
yn berffaith ymhob manylion; ond mewn tryloewder, symledd, a min y mae yn gynllun i ni.
Yr oedd ei nerth cof a'i welediad clir yn gwneyd
ei iaith mor loew a phur a nant y mynydd.
Ganwyd John Thomas yng Nghaergybi yn 1821; ond ym Mangor y treuliodd ei febyd. Dywed nad oedd ei deulu yn hynod am dalent ; ond, pe na buasai ond am Owen Thomas a John Thomas yn unig, ychydig deuluoedd sydd mor enwog yn hanes meddwl a llenyddiaeth Cymru yn awr. Daeth John Thomas yn fore dan ddylanwad y Diwygiad a Dirwest, ac wrth eu gwasanaethu hwy y daeth ei benderfyniad gwydn a'i gyfoeth o feddwl ac iaith ir amlwg. Dechreuodd gadw ysgol a phregethu gyda'r Anibynwyr yn 1837, pan oedd Dr. Arthur Jones, Caledfryn, Ambrose, a Gwalchmai yn eu bri. Yn 1840 aeth i'r ysgol i Marton, lle yr oedd Ieuan Gwynedd yn gyd efrydydd iddo; ac yna i Ffrwd y Fâl, ond ni rydd yr un olwg ar Dr. Davies ag a rydd rhai o'r disgyblion eraill. Yn 1842 ymsefydlodd fel gweinidog Bwlchnewydd, yn sir Gaerfyrddin ; yn 1850 symudodd i Glyn Nedd; ac yn 1854 symudodd i Lerpwl, lle y bu hyd ei farwolaeth yn 1891.
Yr oedd yn un o dywysogion pulpud Cymru, yn un o'i gwleidyddwyr grymusaf, yn un o'r haneswyr mwyaf manwl a llafurus, ac yn un o'r ysgrifenwyr mwyaf goleu a miniog fu'n gwasanaethu egwyddorion erioed.
Yn 1898 cyhoeddwyd Cofiant teilwng gan ei fab, y Parch. Owen Thomas, M.A., Llundain, a'r Parch. J. Machreth Rees; gyda phennod ddyddorol gan ei fab arall, Mr. Josiah Thomas. Yn hwnnw ceir golwg ar yr holl yrfa lafurus, y pregethu, y bugeilio, y llenydda, Coleg Aber- honddu, ac ysgrifenu "Hanes Eglwysi Anibynnol Cymru."
Swynwyd fi gan ei hunan-gofiant, lle y rhydd ddarlun clir a byw o ymdrech efrydydd i gael addysg yn nechreu'r ganrif ddiweddaf. Trwy garedigrwydd ei ddau fab,—y Parch. Owen Thomas a Mr. Josiah Thomas,—wele ran gyntaf yr hunangofiant yn llyfr hylaw. Ceir y gweddill o hanes y bywyd diflino yn y Cofiant; nid oes yma ond hanes yr efrydydd, hyd at ei sefydlu mewn eglwys fechan yn y wlad.
- OWEN M. EDWARDS.
Rhydychen,
- Dygwyl Dewi, 1905.
Cynhwysiad
- Yn fab pum mlwydd a thri ugain.
- Llanddeiniolen. Owen Thomas y Lliniwr. Clochydd Llanfihangel Ysceifiog. Ellen Jacobs. Etifeddiaeth Cadnant
- Caergybi. John Elias. Bangor. Ysgolion, chware, seiat. Cymylau. Owen fy mrawd.
- Dysgu crefft. Dadleuwyr y siop. Beirdd Eifionnydd. Arfonwyson. Hogi haearn.
- Cymdeithas Cymedroldeb. Eben Fardd. Pregethwyr yr oes. Ty'r Capel. Owen Thomas yn dechreu pregethu. Y glustog felfed. Eglwys ystormus. Corfannydd.
- Taith hyd y Dyffryn. Aros yn Lerpwl. Yn gyflawn aelod.
- Gwyl Bethesda. Cymdeithasfa Llanrwst. Taith ddirwestol. Prestatyn. Williams o'r Wern.
- Taith i'r De. Oerni Methodistiaid Bangor. Meddwl terfysglyd. Ymuno â'r Anibynwyr.
- Henglawdd. Y bregeth gyntaf, Dr. Arthur Jones a'r lleill.
- Perthynas pell. Barn am y Methodistiaid. Pregethu.
- Sion Wyn. Ceidwaid athrawiaeth. Diwygiad tanllyd. Cynllwyn Caledfryn.
- Gwlad dda. Y Myfyrwyr. Ieuan Gwynedd. Y joe dybaco.
- Cyngor S. R. Azariah Shadrach. Cymraeg yn Rhaiadr, Rhys Dafis a Williams Troedrhiwdalar.
- Crug y Bar. Yr ysgol a'r ysgolfeistr. Digalonni am fynd i'r Coleg.
- Pregethwyr Cynorthwyol. Dillad newydd. Si. Ymadael.
- Mr. Rees Llanelli. Sarah Maesteg. Gwr o'r Bwlch Newydd.
- Ymsefydlu. Yr Hen Anibynwyr. "Nadredd cochon," Yr urddiad ym Maenclochog.
- Anfantais. Davies, Pant Teg. J. Breese. D. Hughes. Joshua Lewis. D. Rees, Llanelli. Joseph Evans. D. Evans. Williams Llandeilo. Eraill ieuainc, selog.
- Taith i'r Gogledd. Ben Evans. Sasiwn y Bala. Dywediad Ambrose. Gogledd a De.
TYWYSOGION Y PULPUD ANIBYNNOL
Pan oedd J. Thomas yn ei flodau.
(O'r Oriel Gymreig.)
JOHN THOMAS.
———————————————————
I. EDRYCH YN OL.
MAB pum mlwydd a thriugain wyf fi heddyw! Beth sydd yn fwy naturiol nag i mi "edrych fy ffordd yn y glyn," a chofio yr holl ffordd yr arweiniodd yr Arglwydd fi am yr yspaid hir yma? Mae llawer o'm cyfeillion o bryd i bryd wedi bod yn ceisio gennyf osod ar gof a chadw gyda graddau o fanylwch ddigwyddiadau hynotaf fy mywyd, a'r pethau neillduol a ddaethant o dan fy sylw. Nid oes yn fy hanes ddim fydd o fawr ddyddordeb i neb; ond dichon, pe gallwn gael egwyl i ysgrifennu yr amgylchiadau yr arweiniwyd fi drwyddynt, y rhoddai ryw ddyddordeb i'm plant neu fy wyrion i'w darllen, pan y byddaf fi yn isel fy mhen yn y bedd, a'r llaw hon a ysgrifennodd lawer y triugain mlynedd diweddaf yn llonydd yn y gweryd. Os digwydd i mi wrth fy hamdden ysgrifennu yn lled helaeth, a disgyn at lawer o bethau personol yn fy hanes fy hun ac eraill, ymddiriedaf i ddoethineb a barn y neb y disgynna hyn o ysgrif i'w law pa faint o'r cyfryw y rhoddir cyhoeddusrwydd iddynt, os tybir yn werth rhoddi cyhoeddusrwydd i ddim oll.
II. FY HYNAFIAID.
Nid oes dim yn fwy gweddus nag i mi ddechreu gyda fy hynafiaid.
Yr oedd fy hynafiaid o ochr fy nhad o blwyf Llanddeiniolen, yn sir Gaernarfon, ac yr wyf yn gallu eu dilyn yn ol ddeg o genedlaethau ; ond y mae y cyfenw yn newid, ac yn myned yn ol yr enw, yn ol arfer gyffredin yr hen Gymry. Yn 1406 ganwyd un Owen Thomas. Yn 1446 ganwyd i'r Owen Thomas hwnnw fab, yr hwn a alwyd yn William Thomas. Yn 1472 ganwyd iddo yntau fab; yr hwn a alwyd yn Thomas Williams, yn ol enw cyntaf ei dad. Yn 1526 ganwyd iddo yntau fab, yr hwn a alwyd yn William Thomas, yn ol enw ei dad yntau. Yn 1552 ganwyd iddo yntau fab, a galwyd ef yn Thomas Williams. Yo 1583 ganwyd mab iddo yntau, yr hwn a alwyd yn Owen Thomas. Yn 1617 ganwyd i Owen Thomas fab, yr hwn a alwyd yn Ellis Owen. Yn 1672 ganwyd iddo yntau fab, a galwyd ef yn Thomas Ellis. Yn 1711 ganwyd iddo yntau fab, a alwyd yn Owen Thomas. Yn 1751 ganwyd iddo yntau fab, a galwyd ef yn ol enw ei dad yn Owen Thomas. Hwnnw oedd fy nhaid. Priododd et a Grace, merch y Rhydau, Llanddeiniolen, a ganwyd iddo o honi saith o feibion, y rhai oll a dyfasant i oedran gwyr. Eu henwau oeddynt John, Thomas, William, Robert, Owen, Rowland, a Harry. Y pumed oedd fy nhad, Owen Thomas, yr hwn a anwyd yn 1785. Mae gennyf gof plentyn am fy nhaid yn ein tŷ ni yn Nghaergybi, ac y mae yr argraff ar fy meddwl mai hen wr mawr esgyrniog ydoedd. Gwelais fy ewyrthod oll ond yr hynaf, fy ewyrth John, yr hwn oedd yn byw yn Llangoed, Môn, ac a fu farw yn gydmarol ieuanc. Pobl gyffredin eu hamgylchiadau, fel y deallaf, oedd fy hynafiaid oll o du fy nhad. Ni ddeallais fod nag etifeddiaeth na threfdadaeth yn perthyn i neb o honynt. Ond yr oeddynt yn ddynion cryfion, gweithgar, a diddiogi, yn nodedig am eu gonestrwydd, ac yn nodedig fel parablwyr rhwydd a diatal, er na chefais, er holi, eu bod yn nodedig am eu galluoedd meddyliol, na bod neb o nod fel bardd, na llenor, na hynafiaethydd, na phregethwr wedi codi o honynt. Yr oedd plwyf Llanddeiniolen gynt bron i gyd yn perthyn i'r un teulu, ac yr oedd y trigolion agos oll, pan adnabyddais y lle gyntaf ryw hanner cant neu bymtheg mlynedd a deugain yn ol, yn berthynasau o bell i mi.
Lliniwr oedd fy nhaid wrth ei gelfyddyd—"Owen Thomas y Lliniwr" y gelwid ef, ac yn yr alwedigaeth honno y dygodd ei holl feibion i fyny. Nis gwn a oedd rhai o'i hynafiaid o'i flaen yn yr un alwedigaeth, tra thebygol eu bod, oblegid yn y dyddiau hynny gweithient eu llin a'u gwlan eu hunain. Gwelais y tŷ bychan yn agos i Benisa'r Waen lle yr oedd fy nhaid yn byw, a lle y ganwyd iddo ei holl blant. Pan yr oedd y teulu wedi tyfu i fyny, symudodd fy nhaid o Landdeiniolen i Langoed, Môn, i le o'r enw Hen Odyn. Nis gwn am ba reswm, ond ymddengys mai i ddilyn ei alwedigaeth fel lliniwr y bu hynny. Ond o gylch yr adeg hon trodd rhai o'r meibion eu sylw at fod yn naddwyr cerrig (stone-cutters). Fy ewythr William, fel y deallaf, oedd y cyntaf i droi at yr alwedigaeth honno, eithr nis gwn dan ba amgylchiadau, os nad am fod rhyw adeiladau yn cael eu codi ar ororau Môn ar y pryd. Gan fod y bechgyn yn fedrus mewn llaw-weithyddiaeth cyflwynasant eu sylw yn llwyr i hynny, fel y daethant yn gelfydd yn y gorchwyl, ac fel stone - cutters yr adnabyddid hwy oll. Yr wyf yn meddwl i fy nhaid hefyd cyn diwedd ei oes arfer ychydig â naddu cerrig, a rhoddi heibio ei orchwyl fel lliniwr agos yn hollol; ond yr wyf yn cofio yn dda gweled rhai o'r cribau a'r rhai y byddent yn nyddu gynt yn ein tŷ ni. Cedwid hwy yn y teulu fel hen relics.
Nid oes gennyf fanylion am fy hynafiaid o du fy mam. Ei henw morwynol oedd Mary Roberts, ac yr oedd iddi ddwy chwaer ac un brawd o'r un dad a'r un fam. Yr oedd ei chwaer hynaf, Elizabeth, neu Betty Roberts, fel ei gelwid, yn byw yn y Gaerwen, a bu fyw trwy ei hoes yn ddibriod. Ei brawd, William, a ddilynodd alwedigaeth ei dad fel cylchwr (cooper). Bu mewn masnach eang yn y Drefnewydd, Maldwyn, ond trodd yn afradlon, ac aeth i grwydro y byd. Y mae wedi marw er's llawer o fynyddoedd. Unwaith erioed y gwelais ef, ac y mae gennyf adgof byw o'r amgylchiad. Yr oedd mab iddo yn byw yn Manchester hyd yn ddiweddar, ac ni chlywais ei farw. Daeth chwaer ieuangaf fy mam, Ellen, i Liverpool pan yn ieuanc i wasanaethu, lle hefyd y priododd, ac y ganwyd iddi dair o ferched, a thyfodd dwy i'w llawn oedran; ond gwelodd y fam eu claddu oll, ac y mae hithau yn y bedd ers ugain mlynedd bellach, fel nad oes neb o'r teulu o ochr fy mam yn fyw, oddieithr fod y cefnder hwnnw yn Manchester. Enw fy nhaid, tad fy mam, oedd Robert Roberts, o Bentre Berw, Sir Fôn. Cylchwr ydoedd wrth ei alwedigaeth, a gwasanaethai hefyd fel clochydd ym mhlwyf Llanfihangel Ysceifiog. Yr oedd yn ddyn o gryn lawer o allu, ond yn ofera ei amser. Medrai ganu yn dda, a chyda'r interliwdiau, y rhai y pryd hynny oeddynt yn dra phoblogaidd, nid oedd neb yn fwy blaenllaw. Dilynai y cyfryw gan esgeuluso ei waith ac esgeuluso ei deulu. Enw ei wraig, fy nain, oedd Grace; gwraig dra chrefyddol, yn aelod gyda'r Methodistiaid. Yr oedd yn un o wragedd yr hwyliau, a thorrai allan i orfoleddu. Ond bu farw yn bymtheg ar hugain oed, pan nad oedd y plant oll ond ieuainc, er colled ddirfawr iddynt hwy; ond profodd hynny o fendith i fy nhaid, oblegid ymddengys iddo fod yn ddyn gwahanol byth wedyn. Ysgotiaid ocdd hynafiaid fy nain, a ddaethant drosodd i'r wlad yma. Jacobs oedd yr enw, ac yr oedd traddodiad yn y teulu eu bod yn disgyn o rai o hen frenhinoedd Ysgotland. Nid yw hynny yn fawr o glod iddynt, ond dichon fod rhyw gymaint o'r elfen Ysgotaidd yn aros yn y teulu. Ellen Jacobs oedd enw nain fy nain, ac ni fedrai siarad Cymraeg ond yn amherffaith. Nis gwn pa un ai yn Ysgotland ai yn sir Fôn y ganwyd hi. Yr oedd y teulu yn byw y pryd hwnnw ym Mhlas Cadnant, gerllaw Porth Aethwy, ac yn perchenogi yr etifeddiaeth honno; ond drwy afradlonedd, a pheth anghyfiawnder, fel y tybir, aeth yr etifeddiaeth o feddiant y teulu. William Jones oedd enw tad fy nain, ac yr oedd yn rhyw fath o swyddog yn Beaumaris, a'i dad ef, gŵr Ellen Jacobs, a afradlonodd etifeddiaeth Cadnant. Bernir mai yn adeg y gwrthryfel tua'r flwyddyn 1745 y daeth y tylwyth drosodd i Gymru, yr un pryd ag y daeth y Frazers, a'r Chambers, a'r Ysgotiaid eraill y ceir eu hiliogaeth yn awr yn Môn. Mae gennyi gof da y byddai son mawr yn ein teulu mai'n heiddo ni oedd Cadnant, ond gwaredwyd ni rhag y ffolineb o obeithio cael dim byth oddiwrthi. Yr oedd fy mam yn grefyddol er yn ieuanc, a chlywais hen ŵr, Richard Edwards, Llanfair y Borth, yn adrodd iddo ei chlywed yn y Dwyran neu Bryn Siencyn, pan oedd yn ieuanc, yn gorfoleddu yn hwyliog. Symudodd i Beaumaris i wasanaeth y Parch. Richard Lloyd, a bu yno am rai blynyddau, a thra yno y daeth i gydnabyddiaeth a fy nhad.
III. MEBYD.
Nis gwn ddyddiad priodas fy rhieni, ond yr oedd yn agos i ddiwedd 1811 neu ddechreu 1812. Sefydlasant yng Nghaergybi, ac yno y ganwyd y plant oll oddieithr Josiah, fy mrawd ieuangaf. Myfi oedd y pumed a anwyd iddynt. Yr oedd tri brawd, Owen, William, a Robert, ac un chwaer, Mary, yn hynach na mi, a dwy chwaer, Ellen, a Sarah, ac un brawd, Josiah, yn ieuangach na mi, fel yr oeddym oll yn wyth o blant. Nis gallasai ein bywoliaeth fod yn rhyw hynod o helaethlawn pan nad oedd ond llafur dwylaw fy nhad ar ein cyfer oll, ac ni bu ei gyflog yr adeg oreu arno yn fwy na phedwar swllt ar hugain yr wythnos; fel y rhaid fod gofal, a chynildeb, a darbodaeth fy mam yn fawr iawn cyn y gallasai ddwyn dau ben y llinyn ynghyd. Ond ni bu arnom eisieu dim. Cawsom ymborth a dillad ac yr oeddym yn foddlawn ar hynny, a chawsom hefyd ychydig addysg, a chystal addysg ag a roddid i blant cyffredin yn y dyddiau hynny. Nid yw fy adgofion am Gaergybi ond amherffaith iawn. Ond yno y ganwyd fi, Chwefror y trydydd, 1821, a bedyddiwyd fi gan y Parchedig John Elias, y pregethwr mwyaf hyawdl a phoblogaidd yn ddiau a welodd Cymru erioed; ac y mae yn dda gennyf heddyw, ymhen triugain a phump o flynyddau, fy mod wedi bod ym mreichiau y dyn sanctaidd hwnnw; ac nis gwn pa ddylanwad a adawodd ei weddi drosof pan yn faban ar ddyfodol fy mywyd.
Pan y darfu y gwaith yng Nghaergybi bu raid i fy nhad fyned oddicartref i weithio, yr hyn a ychwanegai at ei draul. Bu yn gweithio yn Glynllifon, palas Arglwydd Newborough, ac yng Nghastell y Penrhyn, palas Arglwydd Penrhyn, a adeiledid ar y pryd gan y perchennog, George Hey Dawkins Pennant, Ysw. Gan i fy nhad gael gwaith parhaol yno, a bod tebygolrwydd i Owen fy mrawd hynaf gael gwaith yno hefyd, penderfynodd fy rhieni symud i Fangor, yr hyn a wnaethant yn 1827, pan nad oeddwn ond chwe mlwydd oed.
Mae fy holl adgofion boreuol ynglyn â Bangor. Yno y cefais fy hun yn yr ysgol gyntaf. Dichon i mi fod yn yr ysgol yng Nghaergybi—nid wyf yn meddwl chwaith—ond os bum, nid oes gennyf unrhyw gof am hynny, nac am y capel na'r Ysgol Sul, er fod gennyf gof am rai personau a rhyw ddigwyddiadau yno. Yr wyf yn cofio yn dda, wedi ein symudiad i Fangor, fod fy mrawd hynaf yn fy nghymeryd i a'm chwaer oedd hyn na mi i'r ysgol at ryw wraig yn Hirael, ond nid oes gennyf fawr o gof pellach am fyned yno. Bum ar ol hynny yn yr ysgol gyd âg Ellen Jones, hen ferch a gadwai ysgol, a'r hon wedi hynny a briododd â John Williams, Coetmor, y hwn oedd yn bregethwr gyda'r Methodistiaid, ac a dreuliodd ei oes ar ol priodi ym Mangor. Bum drachefn yn yr ysgol dros ychydig gyd âg Owen Jones, Llanuwchllyn wedi hynny. Un genedigol o ardal Colwyn ydoedd. Urddasid ef yn weinidog gyda'r Anibynwyr yn Llanaelhaiarn; ond un anwastad yn ei holl ffyrdd ydoedd. Aeth i Lanerchynedd, ond oblegid ei ddrwg fuchedd bwriwyd ef oddiyno, a daeth i Fangor o dan aden y Parch. Arthur Jones, D.D., yr hwn, er ei fod ei hun yn ddyn pur a sanctaidd, oedd yn hynod o dyner a pharod i roddi cynnyg drachefn i rai wedi syrthio. Cymerodd Owen Jones dy yn Hirael, a chadwai dipyn o ysgol mewn un ystafell ynddo. Nid oes gennyf fawr gof am dano. Ni bum yn hir gyd ag ef, ac ychydig a ddysgais yn yr yspaid y bum, ac nid wyf yn meddwl fod ynddo yntau lawer o allu i gyfrannu addysg. Ar ol ei ail godi i bregethu ymadawodd yn fuan i Bwllheli, ac wedi hynny i Lanuwchllyn, lle y bu am flynyddoedd yn pregethu i'r rhai a elwid yr Hen Bobl,' wedi y rhwyg mawr yno. Aeth ei fuchedd yn rhy ddrwg i'w oddef, ac enciliodd at y Bedyddwyr, a chyd â hwy y bu am weddill ei oes, weithiau i lawr ac weithiau i fyny. Yr oedd yn nodedig o ddoniol, ac yn ddyn digon diniwed, ond fod ei flysiau at ddiodydd meddwol yn aflywodraethus.
Gan fod mwy o arian yn dyfod i'r teulu drwy fod fy nhad a'm brawd hynaf yn ennill, cefais fyned i ysgol Hugh Williams, yr hon a gyfrifid yn un o'r ysgolion goreu; ac yno y dysgais agos y cwbl a ddysgais yn y cyfnod hwnnw. Yr oeddwn yn fachgen bywiog a direidus, ac yn bencampwr ar bob chwareu megis rhedeg a neidio. Yr orchest fwyaf oedd medru neidio oddiar y gris uchaf-grisiau cerrig oddiallan—oedd yn myned i'r ystafell lle y cynhelid yr ysgol. Oddiar yr uchaf ond un y gallai y neidwyr goreu neidio, ond yr oeddwn i yn medru neidio oddiar y gris uchaf, yr hyn a roddai i mi y llawryf. Rhyfyg ydoedd y fath beth, oblegid byddem yn disgyn ar garreg fawr, ac yr oedd disgyn felly yn ddigon i ysigo fy holl natur oni bae fy mod mor ysgafndroed. Ar y tymor ymdrochi byddwn yn y dwfr hanner fy amser, ac ychydig oedd yn rhagori arnaf fel nofiedydd. Nofiais yn groes i'r Fenai lawer gwaith cyn fy mod yn ddeuddeg oed. Cadwyd fi rbag pob anfoesoldeb, rhag arfer iaith anweddus, na thorri y Sabboth; ac o ganol y chwareuon, yn aml yn chwys diferol, rhedwn i'r capel ar noson Seiat i fod ar ben y fainc i ddweyd fy adnod; ac ni chadwodd chwareu erioed mo honof o'r capel os byddai rhyw foddion yno, yr hyn a ddigwyddai agos bob nos yn y dyddiau hynny. Fy nghyfoedion oedd Samuel Roberts, yr hwn oedd yn frawd i'r Parchedig David Roberts, D.D., Wrecsam, ac a ddaeth wedi hynny yn weinidog parchus gyda'r Methodistiaid ym Mangor; a John Owen, yr hwn ar ol hynny a wyrodd oddiar yr hen ffordd uniawn, ac a ddaeth i Liverpool i siop, ac wedi hynny i Fanchester, lle y collwyd ef ac ni wybu neb pa beth fu ei ddiwedd. Yr oeddym ein tri yn gyfeillion mawr, a lle y byddai y naill y ceid y lleill. Treuly iasom gannoedd o oriau yn nghyd, a dringem i ryw gilfach yn y mynydd lle y byddem yn cynnal cyfarfodydd gweddio a phregethu, nid yn gymaint oblegid ein crefyddolder, ond oblegid fod ein bryd ar fod yn bregethwyr. Yr oedd eraill a ddeuai yn achlysurol i'r cynhulliadau hynny, ond nyni ein tri fyddai yno yn wastad.
Yn haf 1831 cymerwyd fy nhad yn glaf o glefyd trwm, ac yr oeddwn innau yn glaf yr un pryd o'r un afiechyd, ac wedi naw niwrnod o gystudd chwerw bu farw fy nhad yr wythfed o Orffennaf, 1831. Dyma gwmwl du wedi ein gorchuddio fel teulu, dymuniad llygaid fy mam wedi ei gymeryd ymaith â dyrnod; ffon cynhaliaeth y teulu yn disgyn i'w fedd yn chwech a deugain oed; wyth o blant wedi eu gadael heb dad, a'r ieuangaf o honynt heb fod ond un mis ar ddeg oed, a fy mam wedi ei gadael yn weddw heb unrhyw ddarpariaeth ar ei chyfer ond a oedd yn yr addewid, "Tad yr amddifaid a barnwr y gweddwon yw Duw yn ei breswylfa sanctaidd." Diwrnod cymylog i ni oedd y diwrnod hwnnw. Cafodd fy mrawd hynaf le a chyflog fy nhad yn y gwaith, a dygai ef yn ffyddlon i'm mam oddigerth yr hyn a wariai ar lyfrau. Bu ef i ni fel tad, ac erioed ni bu mab ffyddlonach i'w fam. Yr oedd y brawd nesaf ato yn dechreu dod i ennill, ond nid i allu estyn fawr o help.
IV. SIOP DAFYDD LLWYD.
Yr oedd ar ben arnaf fi i gael rhagor o ysgol, ac, er nad oeddwn eto yn un mlwydd ar ddeg oed, yr oedd yn rhaid i mi feddwl am wneyd rhywbeth i ennill fy mara. Cymerwyd fi gan Mr. John Robert Jones i'w siop. Yr oeddwn wedi arfer fwy na dwy flynedd cyn hynny fod yn siop un Rowland Parry, yn Hirael, yr hwn a letyai gyda
'nhad a mam, a byddwn yn gweini y peth a allwn yn y siop, ac yn rhedeg i wneyd rhyw fần negeseuau drosto; a phan gymerodd Mr. Jones fi i'w siop gwelodd fy mod yn gallu gwneyd mwy nag a ddysgwyliodd. Yr oeddwn yn medru lapio te, a choffi, a siwgwr, a sebon, a phob-nwyddau o'r fath, yn hynod o drefnus. Y cwbl a roddid i mi am fy ngwasanaeth oedd fy mwyd, ac yr oedd hynny yn llawn fy ngwerth; ond estynnid i mi ambell chwe cheiniog yn achlysurol, a rhoddai ambell un i mi ychydig geiniogau, y rhai a ddygwn oll yn ofalus i'm mam, obiegid byddwn yn myned adref bob nos i gysgu. Gwnaeth bod yno naw mis neu fwy les mawr i mi, a meddyliais ganwaith ar ol hynny mai camgymeriad mawr oedd na buaswn wedi aros yno ac wedi ymroddi i'r busnes. Ond nid eiddo gŵr ei ffordd. Yr oedd awydd mawr arnaf i gael crefft, ac yr oedd ynnof er's blynyddau ryw hoffder at ddysgu gwneyd esgidiau. Yr oedd fy mrawd Robert wedi cychwyn i fod yn currier, ond oblegid fod yr alwedigaeth yn rhy oer dewisodd fyned at Thomas Williams i ddysgu gwaith crydd. Cytunwyd i minnau fyned at Dafydd Llwyd, ac er na rwymwyd fi, eto yr oedd dealltwriaeth fy mod i aros gyd ag ef am dair blynedd. Aethum yno yn niwedd Hydref, 1832, drannoeth i'r ffair a gynhelid yn wastad y drydedd wythnos o'r mis hwnnw. Gan fod hwn yn gyfnod nodedig yn fy mywyd, ac mai tra yno, mewn ystyr, yr agorais fy llygaid ar y byd, rhoddaf fanylion yr adeg, a'r personau y daethum i gyffyrddiad â hwy, a'r dylanwad a gafodd eu cymdeithas arnaf. Nid oeddwn ond unarddeg oed er y Chwefror blaenorol pan aethum.
20 John Thomas. Yr oedd siop a gweithdy Dafydd Llwyd ar gongoli dwy heol, a byddai llawer iawn yn galw yno. Ac fel y mae yn digwydd bob amser mewn gweithdy o'r fath, yr oedd pob math o gwestiynau yn cael eu trin a'u dadleu. Un o Eglwys Bach, rhwng Conwy a Llanrwst, oedd Dafydd Llwyd. Buasai yn brentis gyd âg Absolom Roberts (Absolom Fardd), am yr hwn yr oedd ganddo lawer o gofion. Dyn cloff, wrth ei fagl, ydoedd, ac un droed iddo yn llawer llai na'r llall. Yr oedd ei wyneb hefyd rywbryd wedi llosgi fel yr oedd creithiau yn amlwg arno. Dyn o deimladau bywiog a hawdd iawn ei gyffroi ydoedd. Treuliasai ei ieuenctid yn wyllt ac annuwiol, gan ddilyn difyrion ac oferedd. Ond aeth o'i wlad ar y tramp, fel y dywedir, yn ol arfer gweithwyr yn y dyddiau hynny yn arbennig, a daeth hyd Garn Dolbenmaen, yn sir Gaernarfon, ac yno, mewn adeg o ddiwygiad nerthol, ymwelodd yr Arglwydd âg ef yn ffordd ei ras, nes ei wneyd yn greadur newydd yng Nghrist Iesu. Ni bu arwyddion amlycach o gyfnewidiad hollol ar ddyn erioed. Derbyniwyd ef yn aelod, ac ymhen amser priododd â merch o Eifionnydd. Sefydlodd yn feistr ei hun yn Dolbenmaen, lle y cadwai amryw weithwyr. Yr oedd wedi ei ddewis gan eglwys y Methodistiaid yn y Garn i fod yn flaenor, ac mor belled ag yr oedd dawn gweddi, a medr i dynnu allan brofiadau crefyddol, yn myned, yr oedd ynddo gymhwysder arbennig i'r swydd. Ryw flwyddyn, neu ychydig yn ychwaneg, cyn i mi fyned ato symudasai i Fangor, gan ddwyn gyd âg ef, heblaw ei deulu, ddau weithiwr oedd gyd âg ef yn Dolbenmaen, sef Ebenezer Thomas ac Ebenezer Morris, a'r ddau yn ddynion ieuainc crefyddol. Un o Efail Newydd, gerllew Pwllheli, oedd Ebenezer Thomas. Yr oedd yn ddyn gwybodus a deallgar, wedi darllen llawer, yn dipyn o lenor a bardd, ac wedi ysgrifennu amryw ddarnau i gyhoeddiadau y dyddiau hynny o dan yr enw "Bodegroes." Yr oedd yn bur hyddysg yn hanes crefydd ym Mhwllheli a'r amgylchoedd, ac yn adnabod y cymeriadau mwyaf nodedig gyda phob enwad trwy y wlad honno. O ran ei olygiadau gwleidyddol yr oedd yn Rhyddfrydwr, neu yn "Whig," fel y gelwid Rhyddfrydwyr y dyddiau hynny. Un o Eifionnydd oedd Ebenezer Morris hefyd, ac yr oedd yn frawd i'r Parch. Morris Williams (Nicander), a'i fam yn chwaer i Pedr Fardd. Yr oedd Nicander, ei frawd, ar y pryd yn Rhydychen, ac oblegid ei gysylltiad a'i frawd, os nad am ddim arall, yr oedd ef yn Dori, a'i gydymdeimlad yn fawr a'r Eglwys. Dyn bychan, dled ddrwgdymherog, ydoedd. Yr oeddwn i y pryd hwnnw trwy ryw reddf yn Rhyddfrydwr, er nad oeddwn ond plentyn, a byddai Eben Morris a minnau yn dyfod i wrthdarawiad mynych. Ni byddai raid i mi ond dweyd gair am yr Eglwys, neu wneyd rhyw gyfeiriad at ei frawd, nad elai yn ffagl mewn munud. Byddai Ebenezer Thomas yn wastad yr un ochr a mi, a'i ddifyrrwch oedd ein gyrru yn erbyn ein gilydd; a mynych y clywid Dafydd Llwyd yn taro ei law yn y bwrdd, ac yn gwaeddi yn awdurdodol,—" Taw, John," oblegid yr oedd ei gydymdeimlad ef gydag Eben; ac os na thawem cochai ei wyneb, a fflamiai ei lygaid, a gwaeddai,—"Os wyf feistr, pa le y mae fy ofn?" gan droi ar ei untroed, a chydio yn ei fagl, a myned i'r gegin nes y llonyddai ei dymer, yr hyn a wnai yn fuan. Yr oedd Ebenezer Morris o dylwyth y beirdd, a'r lleill wedi byw cyhyd yn Eifionnydd, fel yr oedd Dewi Wyn, a Robert ap Gwilym Ddu, ac Ellis Owen Cefn Meusydd, a Sion Chwilog, ac Eben Fardd, a John Owen Gwindy, yn hollol adnabyddus iddynt; ac yr oeddynt wedi son a siarad cymaint am danynt fel yr oeddwn innau yn teimlo fy mod yn hollol gyfarwydd â hwy cyn erioed eu gweled. Byddai yn gyffredin ddau weithiwr arall yno, a'r oll yn lletya yn y ty; ond ychydig a arosai y rhan fwyaf o honynt, dau neu dri, neu o fwyaf, chwe mis; oddigerth un John Davies o Gwyddelwern, yn agos i Gorwen, a fu yno am ysbaid llawer hwy. Anaml y cymerai ef ran yn y dadleuon, ond ymhyfrydai mewn gyrru y cwch i'r dwfr, yn enwedig os gallai gael gennyf fi ddechreu poeni Eben Morris er mwyn cael y difyrrwch o'i weled yn mynd o'i go; ac nid gwaith anhawdd oedd fy nhemtio. Gwelais lawer yno, o bryd i bryd, o wahanol barthau o'r wlad, ac o wahanol enwadau crefyddol, ond yr oedd dysgyblaeth y tŷ mor lym fel nad arhosai neb ofer a blysig yn hir iawn. Deuai ambell un yno yn meddu llawer o wybodaeth, ac o gof rhagorol. Gwelais yno un o Gonwy—nid wyf yn cofio ei enw—Wesleyad oedd, ac yn ddadleuwr neillduol ar y “Pum Pwnc", Yr oedd yno un arall o'r enw William Roberts o Lansantsior, yn Anibynnwr, ac wedi arfer gwrando Mr. Thomas Jones, Moelfre. Byddai pob math o faterion gwladol ac eglwysig, duwinyddol a chymdeithasol, yn cael eu dadleu yno yn eu tro. Yr oedd John William Thomas (Arfonwyson) yn byw fewn ychydig ddrysau, ac yr oedd wedi rhoddi i fyny weithio yn y chwarel, ac yn disgwyl cael apwyntiad i'r Arsyllfa Frenhinol yn Greenwich. Treuliai ef lawer o'i amser gyda ni. Yr oedd wedi astudio gramadeg a gwreiddiau a tharddiad geiriau i raddau helaeth, ac yr oedd gan Ebenezer Thomas chwaeth gref at hynny, a byddai rheolau gramadeg yn cael cryn sylw. Byddai hefyd yn egluro Seryddiaeth pan wesgid arno, er ei fod yn hollol anymhongar, ac na byddai byth yn gwneyd bost o'i wybodaeth. Galwai Shon Dafydd, Ty'r Capel, yn gyson pan y byddai gartref o'i deithiau llyfrwerthol. Dyn garw, trwsgl, a difoes oedd efe, Calfiniad uchel, a gelyn anghymodlawn i'r Eglwys Sefydledig. Byddai ganddo doraeth o hanesion drwg a da-drwg gan mwyaf—pan ddychwelai wedi wythnos o daith. Byddai ef ag Eben Morris grib yng nghrib mewn munud pan y deuai yr Eglwys a'r personiaid i'r bwrdd; ond yr oedd y ddau yn Uchelgalfiniaid; rhonc, ac yn hynny yn unig y cytunent. Calfiniaeth oedd athrawiaeth y ty, ond nid oedd yno y fath gaethiwed fel na oddefid ei dadleu.
Bu tair blynedd yno yn well i mi na thair blynedd o'r ysgol oreu. Cefais ryw syniad ar bob pwnc duwinyddol, ac agorwyd fy meddwl i weled beth oedd gan y rhai a wahaniaethent oddiwrth yr hyn a gredwn i oedd wirionedd i'w ddywedyd. Cefais wybodaeth helaeth am Gymru oll, gan rai oedd wedi ei theithio, cyn i mi weled ond ychydig o honi, ac nid oedd odid ddyn o unrhyw fri, mewn unrhyw gwer o'r wlad na chan unrhyw enwad, yn enwedig yng Ngogledd Cymru, nad oeddwn wedi clywed am dano. A rhaid i mi ddweyd na ddigwyddodd i mi byth daro ar gynifer o ddynion cyffredin o'r fath ddeall a chraffder ar faterion duwinyddol a gwladol ag a gyfarfyddais yng ngweithdy Dafydd Llwyd. Treulid agos yr holl ddydd mewn ymddiddan ar rhyw fater, ac yr oeddynt yn gallu gwneyd hynny heb fod y gwaith mewn un modd yn sefyll, oddieithr pan yr elai yn boeth; yna safai y gwaith, a byddai raid i Dafydd Llwyd orchymyn yn awdurdodol ar ini oll ddistewi. Ac nid yn anaml y byddai y cyfryw orchymyn yn dyfod yn uniongyrchol ataf fi, nid oblegid mai myfi oedd ddyfnaf yn y camwedd bob amser, ond oblegid ei fod yn cymeryd mwy o ryddid arnaf gan nad oeddwn ond bachgen o brentis.
V. Y CAPEL.
Yn fuan wedi i mi fyned yno, cyn diwedd 1832, cychwynwyd y Gymdeithas Cymedroldeb, a chynhelid cyfarfodydd bob wythnos yn yr Infant School. Yr oeddym oll yn aelodau o'r Gymdeithas, ac yn selog o'i phlaid, ac yr oedd Ebenezer Thomas wedi bod yn areithio amryw weithiau yn y cyfarfodydd. Yn un cyfarfod yr oedd Eben Morris i areithio, a gwyddem hynny, ac yr oedd yn ddiwyd yn parotoi. Noson y cyfarfod a ddaeth, ac wele yntau i fyny. Yr oedd yn danllyd a bywiog ym mhob peth a wnai, oblegid un bychan hawdd ei gyffroi ydoedd. Rywle yn ystod ei araeth, wrth ddesgrifio cyflwr y wlad, ac mor resynol ydoedd, dywedai eiriau y proffwyd Jeremiah,—"Ona bai fy mhen yn ddyfroedd!" a dywedai hwy yn gyffrous, mewn llais llefog, a chan wasgu ei ben a'i ddwylaw. Trannoeth digiodd fi am rywbeth, ac nid oedd gennyf ddim i'w wneyd er dial arno ond ei ddynwared y nos
————————————————————————————————————
"OWEN, FY MRAWD."
(O'r Oriel Gymreig.)
"Owen, ty mrawd' oedd ganddo yn wastad. Credai mai efe
oedd y pregethwr gorau, y mab tyneraf, a'r brawd anwylaf
fagodd Cymru erioed; a chredaf finnau ei fod yn agos iawn i'w
le. Mr. Josiah Thomas yn Cofiant John Thomas, tud. 618.
————————————————————————————————————
llefog. Gwylltiodd mewn munud, a bygythiai fy nharo â'r pren troed oedd yn ei law, tra y chwarddai pawb yn y lle. Wedi gweled fod hynny yn cymeryd, a'i fod yntau yn gwylltio, gwnawn yr un peth yn fynych; ac yr oedd wedi myned o'r diwedd nad oedd raid i mi wneyd dim ond rhoddi fy nwylaw am fy mhen nad elai yn benwan mewn natur ddrwg. Methwyd a chael ganddo areithio ar ol hynny rhag i mi wneyd difyrrwch o hono. Yr hen greadur, yr oedd llawer o ddaioni ynddo, ac er iddo weled llawer o dreigliadau, a newid ei enwad, glynodd gyda chrefydd hyd ei ddiwedd. Byrr oedd ei dalent a bychan oedd ei wybodaeth, ond yr oedd ei sel yn fawr, yr hon a ddygai mewn peth da yn wastadol. Nid oedd dim o dalent ei fam, na'i ewythr Pedr Fardd, na'i frawd Nicander ynddo, ond nid oedd yn ol i'r un o honynt mewn daioni.
Yn y blynyddoedd hynny gwrandewais lawer iawn o bregethwyr—prif bregethwyr y Methodistiaid yn y cyfnod hwnnw. John Jones Treffynnon a Dafydd Cadwaladr yw y ddau y mae yn rhaid i mi fyned bellaf yn ol er mwyn eu cofio, ond y mae gennyf gof clir am danynt, yn enwedig am yr olaf. John Elias a John Jones, Talysarn, o bregethwyr y wlad, a glywais amlaf. Clywais hwy ddegau, os nad ugeiniau o weithiau, ac ni chaent ddod i unlle o fewn pum milldir i Fangor na fynnwn i ac amryw eraill fyned ar eu hol. Ychydig o weithiau y clywais Henry Rees, oblegid anaml y devai i'r wlad; ond pan y deuai byddai tynnu mawr ar ei ol. Unwaith y clywais John Hughes Wrecsam, Liverpool wedi hynny. Gwrandewais Ebenezer Richards a Thomas Richards, a John Evans New Inn, amryw weithiau, a William Morris Cilgeran yn amlach na hynny. Efe o holl weinidogion y De fyddai yn dod amlaf, ac nid oedd neb yn fwy derbyniol, Cof gennyf am ddyfodiad Morgan Howell i gasglu at gapel Casnewydd, ac erioed ni welais y fath dynnu ar ol yr un dyn. Yr oedd y wlad wedi ynfydu arno. Yr wyf yn cofio ymweliad cyntaf Lewis Edwards Penllwyn—Dr. Edwards yn awr; John Phillips, Rhaiadr Wy, Bangor wedi hynny; Richard Jones, Llanllugan, Llanfair wedi hynny; a Roger Edwards, Dolgellau, yn ddynion ieuainc; ond John Phillips, o honynt oll, oedd yn fwyaf poblogaidd, er y dywedai y beirniaid y pryd hwnnw mai pregethwr bychan ydoedd, ac mai y lleill oedd y meddylwyr. Ond ar swn yr oedd mwyaf o fynd y pryd hwnnw, fel y mae eto. Yr wyf yn cofio myned ir Carneddi i gyfarfod. Pregethai John Phillips yno yn y bore, o flaen John Elias, oddiar y geisiau,—"Syr, ni a ewyllysiem weled yr Iesu". Dyna yr unig destyn o'i eiddo yn ei ymweliad cyntaf ydwyf yn gofio, ac nid wyf yn cofio dim o'r bregeth. Ychydig o bregethwyr o enwadau eraill a glywais, nac y deuthym o i unrhyw cydnabyddiaeth â hwy, cyn fy mod yn bymtheg oed. Mae yn gof gennyf cyn hynny i mi fyned i Gapel yr Anibynwyr i glywed William Jones, Penybont ar Ogwr. Yr oedd yn pregethu ar y Cyramod Gras, ac yn sylwi, yn gyntaf, ar y cyfamod gras "fel bond, ysgrif, neu weithred." Ni wyddwn yn y byd beth oedd ystyr y fath eiriau, ac yr oedd hwnnw yn asgwrn i fyned uwch ei ben drannoeth. Yr oeddwn i, drwy help un oedd hynach na mi, wedi dod i ddeall ystyr y geiriau cyn cysgu, ond yr oedd pawb yn y gweithdy mor ddiddeall ag oeddwn innau cyn cael y weledigaeth. Mynnai Eben Morris mais pont neu ysgraff" a olygai, rhywbeth i groesi y culfor, a bod y Cyfamod Gras i groesi yr agendor rhyngom a Duw; ond ni wyddai pa beth a wnai a'r gweddill, "neu weithred." Llawer gwaith y gwnaed gwawd o hono ar ol hynny wrth ddweyd am unrhyw beth na ddeallid mai "pont neu ysgraff" ydoedd.
Byddai llawer iawn o gyrchu i Dy'r Capel—ty Shon Dafydd—cyn ac ar ol pob oedfa. Ychydig oedd yno o gadeiriau, rhyw hanner dwsin i'r eithaf. Eisteddai y pregethwr mewn cadair a breichiau iddi, yn ymyl yr hon yr oedd bwrdd crwn, a blwch myglys mawr arno, a'r "Tabernacl" ar y blwch. Dyna "baco'r achos." Rhoddid glasiad bychan o gwrw i'r pregethwr cyn pregethu, ac un arall wedi dibennu. Dyna oedd yr arfer. Ni welais ond dau cyn cychwyniad dirwest yn gwrthod y glasiad—John Hughes Pontrobert ac Ebenezer Richard Tregaron. Os byddai ail bregethwr— y cyfaill—eisteddai ef yr ochr arall ar gyfer ei gydymaith, tra y meddiennid y cadeiriau eraill gan y pregethwyr cartrefol a ddigwyddai fod yno, neu rai o'r blaenoriaid. Yr oedd yno fwrdd o flaen y ffenestr a'i dalcen yn rhedeg at y bwrdd crwn, a bron i ymyl y pregethwr. Thomas Bywater fyddai fynychaf ar ben y bwrdd hwn, ac Edward Ellis yn ei ymyl, ac ni byddwn innau ymhell yn ol. Ychydig iawn a siaradai y pregethwyr fel rheol, oddieithr yr hyn a ofynnid iddynt, ac ni byddai llawer o siarad yn y lle gan neb. Ond weithiau deuai ambell un pur siaradus heibio, yn enwedig pregethwyr y De. Arhosid weithiau ar ol wedi i'r pregethwr fyned, a'r pryd hynny byddai y siarad yn bur rhydd, a denai Shon Dafydd ymlaen,—yr hwn hyd hynny a gadwai yn ol heb ddyweyd gair—oblegid nid oedd neb mor barod i rythu ei farn ar bawb a phopeth.
Yn yr adeg yr oeddwn i gyda Dafydd Llwyd yr ailadeiladwyd ac yr helaethwyd capel Bangor, Gwnaed hynny yn 1834. Yn y flwyddyn honno y dechreuodd fy mrawd bregethu. Ni phregethodd erioed yn yr hen gapel, ond yr wyf yn ei gofio yn dda, ychydig cyn chwalu y capel, yn myned i fyny i'r pulpud, o flaen John Jones, i ddechreu yr oedfa. Dyna y tro cyntaf erioed y gwelais ef yn myned ir pulpud, ac yr wyf yn cofio y munud yma y teimladau a aeth drosof pan welais ef. Yr oedd wedi pregethu, yr wyf yn meddwl, cyn hynny yn Caerhun ar un nos Sabboth, neu wedi bod yn esbonio dameg y Mab Afradlon, a'r unig gof sydd geonyf am hynny ydyw imi glywed iddo fod yn hir iawn. Yn yr adeg yr oedd y capel ar lawr pregethid y bore yng Nghapel yr Anibynwyr, a'r hwyr yn yr awyr agored, oddiar hen gerbyd, yng ngwaelod Cae'r Deon. Yno pregethodd fy mrawd fwy nag unwaith. Clywais William Morris Carmel, Rhuddlan wedi hynny, yn pregethu yno oddiar y geiriau,—"Yr holl ddaear yn aros yn llonydd." Clywais John Jones yno yn pregethu oddiar y geiriau,—"Na thwyller chwi, ni watworir Duw." Ac ar y diwedd rhoddodd fy mrawd allan bennill a gyfansoddwyd ganddo ar y pryd. Yr oedd hynny yn beth pur gyffredin yn y dyddiau hynny, oblegid nid oedd llyfrau hymnau ar y pulpudau. Y pennill oedd,—
"Na thwyller neb gan bechod cas,
Byth ni watworir Duwe pob gras;
Beth bynnag hauo dyn yn awr
A fêd yn y bythol-fyd mawr."
Lled ddiawen a dieneiniad, ond canwyd ef gyda hwyl. Pan gafwyd y capel yn barod yr oedd yno rai am gael clustog felfed ar astell y pulpud o dan y Beibl; ond codai eraill gri mawr yn erbyn hynny. Haerid mai balchder oedd, a'i fod yn halogi y cysegr. Yr oedd teimlad cryf yng ngweithdy Dafydd Llwyd yn erbyn y glustog: ac er mwyn dangos yr anghymeradwyaeth hwnnw cytunwyd fod i mi ddysgu y drydedd bennod ar ddeg o Ezeciel, lle y cyhoeddir gwae uwch ben y "gwniedyddesau clustogau o dan benelinoedd fy mbobl," i'w hadrodd yn y capel y Sabboth cyntaf wedi dwyn y glustog iddo. Felly dysgais hi, ac adroddais hi, ac am wn i mai dyna yr unig beth a wnaethum wrth fodd calon Eben Morris, ac yr oedd Shon Dafydd hefyd yn fy nghanmol yn fawr, ac eraill o'r ysgol honno; ond gwelais hefyd fod eraill wedi brochi yn ddirfawr.
Ystormus iawn oedd ystad pethau yn yr Eglwys Fethodistaidd ym Mangor yn y cyfnod hwn. Cwerylon personol oedd y cwbl, ond yr oedd cryn nifer o deuluoedd wedi eu tynnu iddynt, a'r holl eglwys ar y naill ochr neu y llall. Yr oedd yn hen gweryl er dyddiau yr hyn a elwid y "Llythyr Crwn"; ac er symud llawer ymaith yr oedd drwg yn aros. Yr oedd teimladau yn rhedeg yn uchel. Cyfansoddai y pleidiau gerddi isel i ddirmygu a goganu eu gilydd, a lledaenid y cyfryw, a dywedent bob drygair y naill am y llall. Dygwyd yr achos i brawf o'r diwedd, a diarddelwyd y tri a ystyrrid yn flaenoriaid y terfysg o bob ochr, sef Dafydd Roberts—yr hwn oedd yn bregethwr—William Griffith, teiliwr, a William Davies, llyfrwerthwr. Ni buaswn yn crybwyll am y rhai hyn oni bai fy mod am gael cyfle i ddweyd mai anfantais ddirfawr i fachgen yw cael ei fagu yn swn dadleuon a chwerylon crefyddol. Er na chlywais odid air erioed am hyn ar yr aelwyd gartref, ac er na ddeallais i sicrwydd hyd y dydd hwn pa ochr yn y ddadl a gymerodd fy mam a mrawd hynaf—yr unig rai o'r teulu oedd yn gyflawn aelodau ar y pryd; eto yn y siop dadleuid yr holl gwestiwn, gwyddid yr holl achwynion, ac adroddid yr holl ganeuon, er y ceisid hefyd ofalu na byddai i neb o'r rhai oeddynt yn ddieithriaid hollol i'r enwad wybod. Shon Dafydd oedd un o'r rhai amlycaf yn a cweryl, a bum yn synnu lawer gwaith pa fodd y diangodd ef rhag bod ymysg y diarddeledigion. Ond yr wyf yn sicr fod y cweryl wedi gwneyd niwed mawr i lawer o feddyliau.
Yr oedd y Cyfarfodydd Cymedroldeb yn cael eu cario ymlaen yn rheolaidd. Mr. Cotton—Deon Bangor wedi hynny—Dr. Arthur Jones, a mrawd oedd yn blaenori ynddynt; ond yr oedd yno nifer fawr fyddai yn arfer eu dawn yn achlysurol. Ni wnaed trwy y gymdeithas y daioni a ddisgwylid, oblegid ei bod yn caniatau yfed yn gymedrol y ddiod oedd yn fwyaf o fagl. Mai 5ed, 1835, daeth Robert Williams, teiliwr o Liverpool, i ysgoldy y Tabernacl, lle yr oedd fy mrawd erbyn hynny yn cadw ysgol, i areithio ar Lwyrymataliad. Siaradwr afrwydd iawn ydoedd, a llediaith Seisnig yn drwm arno. Cymerodd Samuel Roberts, John Owen, a minnau docynau ganddo i fod yn aelodau o Gymdeithas Llwyrymataliad Rose Place, Liverpool. Yr oeddwn i ar y pryd wedi troi pedair ar ddeg oed.
VI. Y DAITH GYNTAF.
Ryw bryd yn haf y flwyddyn honno (1835) cychwynnais a'm pac ar fy nghefn, gan fyned fel Abraham heb wybod i ba le. Yr oeddwn wedi clywed cymaint am y Garn a Dolbenmaen fel y penderfynais ei chychwyn y ffordd honno; ac yr oedd yno fachgen wedi bod yn gweithio am ychydig, yr hwn a ddywedai fod ei fam yn cadw Gate yn agos i Dremadog, a dywedai, os byth y deuwn y ffordd hono, y cawn groesaw. Cychwynnais trwy Lanrug, a thrwodd i Lanllyfni, a thrwy Bantglas, a'r Garn, a Dolbenmaen, hyd at y Turnpike Gate gerllaw Tremadog, lle y cefais bob croesaw, a llety noson fel yr addawsid. Yr oeddwn wedi galw mewn mwy nag un lle ar y ffordd i ofyn gwaith, ond heb ei gael; ond wedi cael bwyd mewn mwy nag un lle. Cychwynnais drannoeth o'r Towyn—fel y gelwid Porthmadog y pryd hynny, ac nid oedd yno ond ychydig o dai bychain ar y tywyn moel—mewn bâd i fyned dros y traeth i gyfeiriad Harlech. Gwyddwo enw un gŵr yno, ond nid oedd arno eisieu neb. Aethum ddwy filldir ymhellach hyd le yr oedd tafarnwr yn cadw nifer o weithwyr. Eisteddais ennyd yn y gweithdy, ond nid oedd angen arno am neb. Dyn caredig oedd y tafarnwr. Cymerodd fi i'r ty, rhoddodd fwyd i mi, a hanner peint o gwrw, a chymhellai fi i'w yfed. Ni ddywedais ddim; ond pan welodd nad oeddwn yn yfed, gofynnodd i mi a gymerwn i laeth enwyn, am yr hwn y diolchais. Nid wyf yn meddwl ei fod ef eto wedi clywed son am lwyrymataliad, oblegid nid oedd gair am y fath gymdeithas wedi cyrraedd. Aethum rhagof, gan deimlo yn lled ddigalon wrth weled fod pob drws yn cau.
Gelwais mewn dau neu dri o leoedd yn y Dyffryn, ond nid oedd eisieu neb. O'r diwedd, daethum at wraig weddw fyddai yn cadw gweithiwr neu ddau, ac yn gweithio ychydig ei hun. Cymhellai fi i aros yno y noson honno gan ei bod ymhell yn y prydnawn. Cydsyniais. Yr oedd erbyn hyn yn brydnawn dydd Mercher. Arosais yno hyd bore Gwener, a chefais ganddi ddeu-swllt am rywbeth a wnaethum tra yno. Ond nid oedd yno ragor i mi. Nis gallaswn ond gwneyd gwaith cyffredin; ac wedi clywed gan amryw mai anhawdd oedd cael gwaith, penderfynais ddychwelyd, er fod arnaf gywilydd hefyd, ond aeth hiraeth yn drech na mi. Cyrhaeddais i dŷ y gate gerllaw Tremadog, nos Wener; a chymerais yn ol trwy Beddgelert, a Rhyd Ddu, a'r Waen Fawr, ac yn groes trwy Bentir, ac yr oeddwn adref nos Sadwrn. Ni ddywedodd fy mam fawr, ac nid oedd ond ychydig yn gwybod fy mod wedi bod oddicartref, a llai na hynny pa le y bum. Ond yr oeddwn wedi agor fy llygaid i weled fod y byd yn fwy nag y meddyliais. Yu haf 1836 penderfynais fyned i Liverpool, lle y bum hyd yn agos i'r Nadolig. Arhoswn gyda fy modryb yn Bridgewater Street, a bum yn gweithio ychydig gydag amryw. Ond gan nad oeddwn ond bachgen, ac yn hynod o amherffaith yn y grefft, nid oeddwn yn cael gwaith cyson; ond gan fod fy modryb yn garedig, ac yn rhoddi fy mwyd i mi yn ddirwgnach am yr ychydig allwn roddi iddi, arhosais yno yn hwy nag y gwnaethwn dan amgylchiadau gwahanol. Myned i'r capel a dilyn cyfarfodydd oedd fy holl hyfrydwch. Yr oedd dirwest y pryd hwnnw yn cychwyn gyda brwdfrydedd, a chyfarfod yn rhyw gapel neu gilydd agos bob nos. I Bedford Street y byddwn yn myned dair gwaith bob Sabboth, oddieithr fy mod yn myned i Pall Mall neu Rose Place yn achlysurol, yr unig ddau gapel arall o eiddo y Methodist iaid oedd yn y dref ar y pryd. Pall Mall oedd y gynulleidfa fwyaf. Cynhelid Seiat Fawr bob nos Lun ar gylch, i'r hon y casglai yr holl eglwysi, a byddwn yn dilyn honno yn gyson. Nid wyf yn meddwl mi golli odid un. Yr adeg honno yr oedd Dr. Edwards o'r Bala yn dychwelyd o Edinburgh, ac yr oedd tynnu mawr ar ei ol. Yr oedd Henry Rees yno hefyd yn niwedd y flwyddyn honno, a dyna yr adeg y penderfynodd symud o'r Amwythig i Liverpool. Yr wyf yn cofio fod rhyw helynt yn Pall Mall mewn rhyw seiat fawr yng nghylch dewis blaenoriaid. Yr oedd John Jones, Castle Street, a Peter Jones (Pedr Fardd) wedi eu dewis, ond yr oedd yr hen flaenoriaid, yn enwedig Samuel Jones, yn eu herbyn, ac yr wyf yn cofio ei bod yn lled derfysglyd. Dywedai John Jones ei fod yn deall fod 37, yr wyf yn meddwl, ac nid 57, wedi fotio drosto, ond gan fod gwrth- wynebiad ei fod yn foddlawn cilio. A dywedai Petr Jones ei fod yntau yn deall fod 35, neu 55, drosto, ond nid oedd am sefyll ar ei hawl os oedd hynny yn peri blinder. Yr wyf bron yn meddwl mai y dynion yn unig oedd yn pleidleisio, ac mai 37 oedd dros y naill, a 35 dros y llall.
Nid oedd gan yr Anibynwyr Cymreig yr amser hwnnw ond y Tabernacl yn Great Crosshall Street, a'r capel bach hir-gul y Greenland Street. Bum unwaith yn y Tabernacl mewn Cyfarfod Dirwestol, lle yr oedd Mr. Williams o'r Wern yn gadeirydd, yr wythnos gyntaf wedi iddo ddechreu ei weinidogaeth yno; a bum unwaith, ar fore Sabboth, yn Greenland Street yn gwrando Mr. Williams yn pregethu. Gadewais Liverpool tua chanol Rhagfyr, 1836, gyda steamer i'r Rhyl, a cherddais oddiyno i Fangor. Nid oeddwn wedi fy nerbyn yn gyflawn aelod cyn dyfod i Liverpool. Yn Bedford Street y bu hynny. Ond ym Mangor wedi dychwelyd y bum gyntaf mewn cymundeb.
VII. GYDA'R AREITHWYR.
Erbyn dychwelyd i Fangor yr oedd yr achos dirwestol wedi cymeryd meddiant llawn o'r lle. Dyna oedd ar dafod pawb. Nid oedd yr un cyfarfod mor boblogaidd a'r cyfarfod dirwest, a pha bregethwr bynnag a ddeuai heibio, byddai raid iddo, ar ol pregethu, ddyweyd gair ar y pwnc. Nid oedd ond ychydig o broffeswyr nad oeddynt wedi cymeryd i fyny a'r achos, er fod cryn nifer o honynt wedi gwneyd hynny yn fwy dan ddylanwad y farn gyhoedd nag oddiar argyhoeddiad. Yr oedd y cyfarfodydd hyn yn flasus-fwyd i mi, a dilynwn hwy i bob man ym Mangor a'r amgylchoedd, er nad oeddwn eto wedi areithio yn gyhoeddus, ond yr oeddwn yn paratoi at hynny. Drannoeth i'r Nadolig cynhaliwyd gwyl fawr ym Methesda—y gyntaf yn y rhanbarth hwnnw o'r wlad i'r hon y daeth cannoedd o Gaernarfon, Llanberis, Dinorwig, Bangor, a llawer o Fôn, heblaw cymdeithasau Bethesda a'r amgylchoedd, y rhai a rifent rai miloedd o aelodau. Gorymdeithiwyd yr heolydd dan ganu nes dadseinio creigiau y wlad, a'r faner fawr ymlaen yn cael ei chario gan chwarelwyr cryfion. Yn Caerhun y gwneuthum i y cynnyg cyntaf ar areithio, yn gynnar yn 1837; a bum wedi hynny yn fuan yng Nghapel y Graig, Rhydfawr, Pentir, Pont Ty Gwyn, Porthaethwy, Llanfair y Borth, ac Aber. Aethum i un o'r cyfarfodydd hyn gyda'r hybarch Doctor Arthur Jones, yr hwn a
ddangosodd tuag ataf dynerwch mawr. Ond yr oedd rhyw ysfa ynnof i weled rhagor o'r byd, ac aethum i weithio am ychydig yn 1837 yn Ty'n Lôn, Llandwrog; a thra yno bum yn areithio ar ddirwest yn Bwlan a Brynrodyn, a rhai lleoedd eraill yn y cylchoedd hynny. Aethum wedi hynny ymlaen i'r cyfeiriad a gymeraswn o'r blaen drwy Dremadog, a thrwodd i sir Feirionnydd, oblegid fod arnaf awydd myned i'r Deheudir. Yr oedd un John Owen, a fuasai yn gweithio gyda Dafydd Llwyd, yn byw yn agos i Ben y Garn, Bow Street, Aberystwyth, a theimlwn duedd i fyned hyd yno. Arosais dros ychydig yn y Dyffryn, gydag un oedd yn Anibynnwr. Tra yno clywais y Parch. D. Charles, B.A., Bala, yn areithio un nos Sadwrn yng Nghapel y Dyffryn. Yr oedd Hugh Roberts, Bangor, ar y pryd yn yr ysgol gyda Mr. Daniel Evans, Llanbedr—Caergybi wedi hynny—a bum gyda hwy yng nghapel y Gwynfryn; ac un noswaith yr oedd Hugh Roberts i bregethu i fyny yn uchel ym mlaen y Cwrn, ar y ffordd i Drawsfynydd mi debygwn, a cheisiodd genyf ddechreu yr oedfa iddo; a dyna y waith gyntaf i mi anturio ar y fath wasanaeth. Dychwelais i Fangor heb fyned ymhellach, ac yno y bum o ganol haf hyd Nadolig 1837
Dydd Nadolig, 1837, yr oedd Gwyl Ddirwestol yn Tal y Bont, rhwng Conwy a Llanrwst, a gwahoddwyd fi iddi. Dyma y tro cyntaf i mi gael fy ngwahodd i'r fath gyfarfod, ac nid wyf yn sicr pa fodd y bu i mi gael fy ngwahodd, os nad trwy fy nghyfaill I. D. Ffraid. Cerddais o Fangor i Gonwy, a chan fod boots newyddion am fy nhraed, aeth fy nhraed yn ddolurus iawn. Yr oedd yn nyfnder y gaeaf, a'r ffordd yn drom. Yr oeddwn wedi llwyr ddiffygio cyn cyrraedd Conwy. Gelwais yn nhŷ Evan Richardson, Conwy, ac yno yr oedd John Jones, Castle Street, wedi dod yn barod i ryw gyfarfod dirwestol oedd i fod yno dydd Llun. Cefais orffwys dros ychydig. Yna ail gychwynnais. Troais i orffwys i'r tŷ wrth gapel Hen Efail, ac yr oedd erbyn hyn wedi myned yn nos. Yr oedd yr hen wr a gadwai Dŷ'r Capel yn eistedd ar yr aelwyd yn y tywyllwch, ac yn shavio,—nid oedd ganddo na glass na goleu i fyned trwy yr oruchwyliaeth. Aethum rhagof i dy fferm yn ymyl Tal y Bont, lle yr oeddwn wedi fy nghyfarwyddo, a lle yr oeddwn yn cael fy nisgwyl, a lle yr oedd llety cysurus iawn. Yr oedd yr hen Robert Owen, Llanrwst, wedi cyrraedd yno, ac efe oedd i bregethu yno y Sabboth. Yr oedd y Nadolig ar y Llun. Pregethodd yr hen wr yn y bore, a rhoddwyd finnau i areithio am ddau; ac am chwech yr oedd David Humphreys, Rhuddlan y pryd hwnnw, Ochryfoel wedi hynny, yr hwn oedd yn gwasanaethu Salem, Llanbedr, y Sabboth hwnnw, yn dyfod yno at Robert Owen, i bregethu ar Ddirwest. Yr wyf yn cofio mai testyn David Humphreys oedd,—"Os o ddynion y mae y cyngor hwn, neu y weithred hon, efe a ddiddymir, ond os o Dduw y mae ni ellwch chwi ei ddiddymu, rhag eich cael yn ymladd yn erbyn Duw." Dydd Llun, yr oedd yr holl gymdeithasau o Drefriw i'r Roe wedi dyfod ynghyd, ac amryw o Lanrwst, Cefais ddeuddeg swllt am fy llafur, a dyna y tal uchaf a gawswn erioed; a theimlwn fy mod wedi gwneyd yn ardderchog, oblegid ni bu erioed cyn hynny gymaint yn fy llogell.
Y dyddiau dilynol yr oedd Cymdeithasfa y Methodistiaid yn Llanrwst, nid Cymanfa Chwarterol, ond math o gymanfa flynyddol, y fath a gynhelid mewn amryw leoedd. Nid wyf yn cofio fawr iawn am y gymanfa. Rhoddwyd fi i letya yn nhy un Mr. Jones, lle pur gyfrifol. Yr oedd Richard Jones, Bala, a Richard Edwards, Llangollen, a Griffith Jones, Tre Garth, yn lletya yn yr un ty. Rhoddwyd Griffith Jones a minnau i gysgu yn yr un gwely, mewn goruwch-ystafell fawr, lle hefyd yr oedd gwely arall, yn yr hwn y gorweddai tri o fechgyn y tŷ,—rhyw las-lanciau, o 13 hyd 18—y rhai oeddynt yn bur gydnabyddus â Griffith Jones, a rhoddai ei ffraethder lawer iawn o ddifyrrwch iddynt. Yr oedd John Elias yno yn pregethu yn un o oedfaon y Gymanfa, am ddeg yr wyf yn meddwl. Pregethai yn y ffenestr, er oered yr hin, ac yr oedd cynifer allan ag oedd i fewn. Nid wyf yn cofio ei destyn, na dim a ddywedodd, ond pregethai a'i gob uchaf-cob hirllaes--wedi ei botymu yn dynn am dano; ac y mae ei holl osgo a'i symudiadau ar astell y ffenestr yn fyw iawn ar fy meddwl, er nad wyf yn cofio y testyn na'r bregeth.
Dydd Sadwrn, yr oedd Gwyl Ddirwestol yn Betws y Coed, a chan fod amryw yn myned o'r Gymanfa yno aethum innau gyda hwy. Ymysg eraill yr oedd Richard Humphreys Dyffryn a John Roberts Capel Garmon. Y rheswm fy mod yn cofio mor glir am danynt hwy ydyw fod y ddau yn eistedd wrth fy nghefn yn y pulpud yn y cyfarfod nos Sadwrn, ac mae yn debyg fy mod yn areithio yn lled ffraeth a siaradus, ac mi glywn Richard Humphreys yn gofyn i John Roberts, "Pwy ydi'r stripling hwn, deudwch?" Ond nid oedd gan hwnnw yr un ateb i'w roddi, oblegid yr oeddwn yr un mor ddieithr i'r naill ag i'r llall. Y noson hono gwahoddwyd fi i Cwmlanerch i letya, lle yr oedd un Mr. Lloyd yn byw, gwr hynaws a boneddigaidd iawn. Yr oedd Mr. Richard Humphreys yno hefyd, a chefais yr anrhydedd o gysgu gydag ef. Bu Mr. Lloyd a Mr. Humphreys yn nodedig o garedig i mi. Mr. Lloyd oedd y cyntaf erioed a ofynodd i mi a oedd dim awydd pregethu arnaf, ac er fy mod yn llawn awydd, eto ni ddywedais hynny yn bendant wrth neb, ond cymhellodd ef a Mr. Richard Humphreys fi yn garedig i feddwl am hynny. Y bore Sul hwnnw yr oedd rhywun gyda Mr. Humphreys yn Betws y Coed. Yr oedd ef yn myned erbyn dau o'r gloch i Gapel Curig, ac aethum gydag ef, ac yr oedd dau neu dri eraill yn cydfyned, oll ar ein traed. Ar y ffordd, dywedodd Mr. Humphreys wrthyf y byddai raid i mi ddechreu yr oedfa iddo yng Nghapel Curig y prydnawn. Ond gan ei bod yn ddiweddar pan gyrhaeddasom, yr oedd Richard Jones Dolyddelen, brawd John Jones, Talysarn, yn gweddio pan aethom i'r lle, Yr oedd Mr, Humphreys i fod yn Nolyddelen am chwech, a Richard Jones wedi dyfod yno i'w gyfarfod. Yr oedd Richard Jones yr un ddawn a'i frodyr, ond o'r braidd yn fwy bywiog, ac yn siarad yn gyflymach. Dyna yr unig waith i mi ei weled. Ymfudodd i'r America, lle y gwelais amryw o'i hiliogaeth. Dychwelais erbyn yr hwyr i'r Betws, lle yr oedd Dafydd Rees, Capel Garmon, yn pregethu; ac nid oedd dim heddwch i mi gyda Dafydd Rees heb i mi fyned gydag ef adref y noson honno, er mwyn myned gydag ef drarnoeth i Wyl Ddirwestol oedd i'w chynnal yn Gwytherin, ac â hynny y cydsyniais. Yr oedd trwch lled fawr o eira ar y ddaear, ac yr oedd y ffordd oedd gennyf i fyned i dŷ Dafydd Rees yn un arw, weithiau trwy lwybrau coediog. Yr oedd ef yn ddyn mawr cryf, esgyrnog, garw, wedi ei galedu trwy fywyd gwledig, a brasgamai ymlaen. Nid oeddwn innau, fel y dywedasai Richard Humphreys, ond stripling main, un ar bymtheg oed, wedi ei fagu mewn tref, ac er hynny yr oeddwn yn gallu ei ddilyn. Nid oedd ef ond newydd briodi gydâ genethig ieuanc iawn, ac yn byw gyda'i dad a'i fam y'nghyfraith. Wedi gorffwys yno y noson honno, cychwynasom yn lled fore, ar ein traed, am Gwytherin trwy eira trwchus. Dyna yr unig dro i mi fod yn y lle, ac y mae yr argraff ar fy meddwl fod y lle yn rhamantus iawn. Yno y gwelais gyntaf erioed fy hen gyfaill wedi hynny, y Parch. Robert Thomas, Bangor. Yr oedd wedi bod y Sabboth yn Mhentre Foelas, ac yn cael Gwytherin ar ei ffordd adref i Gonwy, lle yr oedd ar y pryd yn dilyn ei alwedigaeth. Yr oedd Thomas Jones, y cenhadwr cyntaf i Casia, hefyd yn yr wyl, wedi dod o Rhydlydan, ac i ddychwelyd i Rydlydan y noson honno i areithio ar y Genhadaeth. Yr oedd Athrofa y Bala wedi ei hagor, ac yntau yno yn un o'r myfyrwyr cyntaf, ac yn llawn ysbryd cenhadol. Daethai Evan Thomas—Dinbych wedi hynny—a rhyw rai eraill, drosodd gyda Mr. Robert Thomas o Bentre Foelas, a John Jones, Hafod-tad Father Jones, Caernarfon—gydâ Mr. Thomas Jones; a chan fod yr anifail ar yr hwn y daethai Mr. Thomas yn dychwelyd heb farchogwr, cymhellwyd fi i ddychwelyd gyda hwy, ac felly fu. Gan fod eisiau rhywun i gadw ysgol yn Rhydlydan, cymhellwyd fi i fyned yno, a chydsyniais. Bum yn aros ychydig ddyddiau yn yr Hafod, a dychwelais i Fangor gan feddwl myned yno yn fy ol; ond am ryw reswm, nas gallaf yn fy myw ei gofio, ni ddychwelais. Mae rhyw argraff ar fy meddwl fod y dyn oedd yn byw yn Nhy Capel Rhydlydan yn ddyn trahaus iawn, a chan mai gydag ef yr oeddwn i letya, rywfodd nid oedd awydd arnaf i ddychwelyd yno.
Gwahoddwyd fi i gyfarfodydd dirwestol tuag Abergele, ac yr wyf yn cofio fy mod mewn gwyl yno, a Iorwerth Glan Aled oedd yr ysgrifenydd a'r rheolwr. Bu Iorwerth a minnau yn areithio yn Moelfre a Phenbryn Llwyni, a bum i yn Rhuddlan a Rhyl Nid oedd Rhyl ond lle bychan yn cychwyn. Dywedodd John Jones, Rhyl, wrthyf y buasai Prestatyn yn lle da iawn i gadw ysgol, a bod eisiau rhywun yno. Cefnogodd William Jones, Rhuddlan, fi i fyned yno. Gelwais gyda William Hughes y Gof, a galwodd yntau y pennau
teuluoedd ynghyd. Cwynid ei bod yn ddiweddar————————————————————————————————————
CORFANYDD.
(O'r Oriel Gymreig.)
Un o'r areithwyr cyntaf ar ddirwest. Cymerodd J. Thomas
yr ardystiad ganddo yn fachgen.
————————————————————————————————————
ysgolion mewn lleodd gwledig yn y dyddiau hynny. Byddai eisiau y plant adref pan ddeuai yn ddechreu haf. Dechreuais yr ysgol yno tua chanol Chwefror, 1838, a pharheais hi hyd ddechreu Mehefin,—rhyw chwarter da. Yr oedd yno o ddeg ar hugain i ddeugain o blant, a thalent, rai ddwy geiniog, a rhai dair ceiniog, a rhai rôt yr wythnos. Lletywn gydag un Ellis Dowell ran o'r amser, ond y rhan fwyaf mewn fferm gydag un Mr. Williams, i'r hwn yr oedd amryw blant yn yr ysgol, a rhoddai fy mywoliaeth i'mi yn rhad. Elwn ymaith ambell noson i gynnal cyfarfodydd dirwestol, a bum rai dyddiau ymaith mewn gwyliau. Areithiais yn Dyserth, Llanelwy, Gwaenysgor, Newmarket, a Gronant. Bum mewn gwyl ddirwestol ym Mostyn, lle, yn mysg eraill, yr oedd Mr. Williams o'r Wern yn areithio, a dyna'r unig dro i mi fod yn siarad ag ef. Yr oedd yn llesg a blinedig, a phan ddaeth i dy Mr. Pugh wedi y cyfarfod hwyrol, dywedai wrthyf,"Daffod fy sgidiau," fel y cefais y fraint lythyrennol o ddatod carai ei esgidiau.
Ym Mostyn y deuthum i gydnabyddiaeth âg Enoch Gibbon Salisbury, yr hwn, ar y pryd, oedd yn fachgen ieuanc gyda'i fodryb a'i ewythr mewn siop ym Magillt. Yr oedd gennyf ychydig bunnoedd o arian pan ymadewais o Prestatyn ddechreu Mehefin, a byddwn yn cael ychydig yn y cyfarfodydd y byddwn yn myned iddynt. Bum mewn nifer o leoedd yn Sir Fflint y pryd hwnnw. Treuliais rai dyddiau gyda Mr. Samuel Evans, Travellers' Inn, a bum gydag ef mewn rhai cyfarfodydd, ac mewn Gwyl yn Nhreffynnon, lle yr oedd amryw weinidogion enwog; ac ar ddydd coroniad y Frenhines yr oeddwn ar ben Moel y Gaer yn yr ŵyl nodedig. Bum dros amryw ddyddiau ar ol hynny yn Llaneurgain, Rhosesmor, a'r Wyddgrug, lle y cefais garedigrwydd mawr gan y Parch. Owen Jones. Yn Rhuthyn hefyd, a Llangollen, bum mewn cyfarfodyddd. Gwahoddwyd fi i'r lle olaf gan "Jones, Llangollen," a bum yn aros yn ei dŷ ger llaw y dref.
VIII. NEWID ENWAD.
Ond yr oedd myned i'r Dê yn fyw iawn yn fy meddwl o hyd; ac yr oeddwn bellach yn teimlo y gallaswn bigo fy mywoliaeth, naill ai wrth weithio fy ngwaith, neu gadw ysgol, neu wrth areithio ar Ddirwest. Yr oeddwn yng Nghroesyswallt, Gorffennaf 17eg, 1838, a phenderfynais wynebu tua'r De. Aethum trwy Meifod hyd Lanfair Caereinion. Yn y lle olaf, yr oedd Mr. Roberts—Llandeilo wedi hynny—yn exciseman. Yr oedd dau fachgen a adwaenwn wedi myned i'r De, i le a elwid Taibach—dau fachgen o sir Fon, Evan Williams a David Hughes—a chan fy mod yn gyfarwydd a'r olaf, yr oedd yn fy mryd fyned ato. Aethum i'r Drefnewydd. Yr oeddwn yno ar nos Wener, Cerddais ddydd Sadwrn trwy Lanbadarn Fynydd a Llandrindod hyd Lanfair Muallt, lle yr arhosais y Sabboth; ac yna aethum i Bronllys gerllaw Talgarth, a gweithiais bythefnos. Yr oedd y gwrthwynebiad i ddirwest yn greulawn yno. Credent yn ddiderfyn mewn cider, ac yfent yn helaeth o hono. Yr oedd yn frwydr barbaus rhyngof a hwy. Clywais fod Mr. Roger
Edwards ar daith trwy y wlad, a'r hen frawd John Hughes, Treffynnon, gydâg ef; a chan eu bod i fod yn Aberhonddu y Sabboth, penderfynais fyned yno ar fy ffordd, fel y tybiwn, at Evan Williams a Dafydd Hughes i'r Taibach. Yr oeddwn yn adnabod Roger Edwards, ar ol ei weled amryw weithiau mewn cyfarfodydd dirwestol yn amgylchoedd y Wyddgrug. Gwrandewais arno deirgwaith y Sabboth, a nos Sabboth gwahoddodd Mr. Benjamin Watkins fi i'w dy, lle yr oedd Roger Edwards yn lletya. Yr oedd Mr. Edwards yn anfoddlawn iawn i mi feddwl aros yn y Dê. Cynghorodd fi i ddychwelyd i Fangor, ac awgrymodd y dylaswn feddwl am ddechreu pregethu, ond nas gallaswn wneyd hynny heb sefydlu yn yr un lle am yspaid. Gwrandewais ar ei gyngor, a chychwynnais ddydd Llun, drwy Drecastell, am Lanymddyfri. Yna ymlaen, ar hyd yr hen ffordd trwy Gaio, hyd Lanbedr, a thrwy Dregaron i Lanbadarn, a heibio i John Owen yn Bow Street, a thrwy y Borth, ac Aberdyfi, a'r Bermo, a Thremadog i Fangor, lle y cyrhaeddais cyn diwedd Awst.
Yr oeddwn erbyn hyn wedi gweled cryn lawer o'r wlad, ac wedi ymgymysgu a dynion o wahanol olygiadau ac o wahanol enwadau, fel yr oeddwn wedi eangu cryn lawer ar fy syniadau. Yr oeddwn, beth bynnag, wedi gweled fod dynion da y tuallan i derfynau y Methodistiaid, a llawer o bethau gan eraill oeddynt yn fwy cydrywiol a'm teimladau. Dangosid awydd mawr gan hen bobl y Methodistiaid, ym Mangor yn enwedig, i gadw pawb i lawr; a dichon fy mod innau yn fwy prysur a blaenllaw nag yr oedd yn gweddu i un o'm hoedran. A'r Anibynwyr yr oeddwn wedi gwneyd mwyaf ymhob man lle y bum, oddieithr a'r Methodistiaid, ac yr oeddwn wedi gweled eu gweinidogion yn ddynion rhydd a charedig. Yr oeddwn yn gydnabyddus iawn â'r Parchedig Arthur Jones, ac wedi ei gael yn hynod o dadol, er na roddodd awgrym erioed i geisio fy hudo ato. Yr oedd Mr. David Roberts, yn awr o Wrecsam, wedi ymuno â'r Anibynwyr, ac wedi myned i sir Fôn i gadw ysgol, ac i fugeilio dwy eglwys fechan yno, a lle hefyd yr oedd yn debyg o gael ei urddo yn fuan. Nid oedd y pethau hyn oll heb gario eu hargraff ar fy meddwl, er nad ynghanais air wrth heb erioed. Yr oedd cryn gynnwrf ar y pryd yn ngylch yr athrawiaeth, a thraethawd Jenkyn ar yr Iawn yn destyn siarad cyffedinol, a chondemnio mawr arno fel llyfr peryglus. Daeth William Parry o ryw Gyfarfod Misol yn ddifrifol iawn, i rybuddio pawb i ochel darllen y llyfr, gan mai athrawiaeth gyfeiliornus a ddysgai, yn enwedig am waith yr Yspryd. Yr oedd Jenkyn ar yr Iawn yn ein tŷ—eiddo fy mrawd ydoedd—ac yr oedd ef wedi ei ddarllen oll. Ond nid oeddwn i erioed wedi ei agor, ond pan waharddwyd ei ddarllen teimlais awydd am wybod beth ydoedd. Mor wir yw y gair,—"Nid adnabuaswn i drachwant oni bai ddywedyd o'r ddeddf, Na thrachwanta." Nid oeddwn yn ei ddeall ond yn amherffaith ar ei ddarllen, a hynny mewn rhan oblegid mai Saesneg oedd, ac mewn rhan hefyd oblegid ei fod yn dywyll ac aneglur. Ond deallais ddigon i weled ei fod yn cael ei gamddarlunio yn hollol, ac nad oedd y rhai oedd yn ei gondemnio erioed wedi ei ddarllen; a pha mor gyfeiliornus bynnag oedd ei olygiadau, nad oedd dim yn ddamniol, fel yr awgrymid, ynddynt. Yr oedd y pethau hyn oll wedi cyd-ddylanwadu ar fy meddwl, nes peri i mi yn raddol benderfynu i adael y gangen eglwys yn yr hon y magwyd fi, a lle yr oedd fy hynafiaid oll yn aelodau, a lle y derbyniais innau fy addysg, am yr hyn y byddaf byth yn ddiolchgar, ac ymuno a'r Anibynwyr.
Ar un nos Sabboth ym mis Medi, 1838, yr oedd fy meddwl yn derfysglyd iawn. Yr oedd fy mhenderfyniad wedi ei wneyd, ond nis gwyddwn pa fodd i'w gario allan. Gwyddwn y parai ofid i'm mam, ond yr oeddwn am ei wneyd yn y modd a barasai leiaf o ofid iddi. Bum unwaith yn meddwl dweyd wrthi, ond ofnwn i hynny ddyrysu fy mhenderfyniad, felly meddyliais mai diogelach imi oedd fod y cam wedi ei gymeryd cyn fod neb yn gwybod. Aethum i'r Tabernacl y bore, ac i'r ysgol yn y prydnawn, ac i'r festri, yn ol fy arfer, cyn yr oedfa yr hwyr. A phan oedd y pregethwr yn myned i'r pulpud, a phawb yn myned i'w le yn y capel, aethum innau gyda hwy; ond yn lle myned i'r capel, llithrais yn ddistaw trwy yr heolydd cefn, a chan ei bod wedi tywyllu, a'r rhan fwyaf eisioes yn y capel, ni welodd neb fi. Pan gyrhaeddais Ebenezer, yr oedd Dr. Arthur Jones yn y pulpud, a'r dorf yn canu. Aethum i fewn trwy y pen uchaf, ac eisteddais ar yr ochr dde i'r pulpud, yn ymyl y mur, o fewn rhyw bum sêt i'r top. Gwelais lawer o lygaid yn disgyn arnaf, ond meddyliais fod llawer mwy yn craffu arnaf nag oedd. Nid wyf yn cofio y testyn, nag un gair a ddywedwyd, gan mor gythryblus oedd fy meddwl. Terfynodd yr oedfa, ond arosodd yr eglwys ar ol, ac arosais innau. Ni ddywedodd Dr. Jones yr un gair wrthyf, ac ni chymerodd arno fy ngweled, ond, ar y diwedd, yr oedd amryw o'm cyfoedion a'm cyfeillion o'm cylch, ac i gyd yn llawen fy ngweled'; er nad wyf yn cofio i neb o honynt ofyn a oeddwn yn meddwl gwneyd fy nghartref yno. Gwynebu i'r ty at fy mam a'r plant oedd yr anhawsder, ond penderfynais mai myned ar unwaith oedd oreu. Dywedais yn y fan pa le y bum, a pha beth oedd fy mwriad. Cymerodd fy mam y cwbl yn hollol dawel, yn unig gyda dywedyd,—"Beth ddeudsa dy dad dasa fo yn fyw?" Aeth y gair i'm calon, a phe dywedasid ef dair awr yn gynt buasai yn ddigon i ysigo fy mhenderfyniad; ond yr oeddwn bellach wedi myned yn rhy bell i mi droi yn ol. Ni ddywedodd air anghymeradwyol byth wedyn am y cama gymerais. Yr oedd y si wedi cerdded drwy yr holl ddinas yn nghylch fy nghyfeillion cyn nos drannoeth fy mod wedi myned yn Sentar, ond cedwais yn y tŷ y Llun hwnnw rhag cyfarfod â neb. Gelwais gyda Dr. Jones ychydig cyn dechreu y Cyfarfod Gweddi nos Lun, a mynegais y cwbl iddo. Derbyniodd fi yn hollol garedig. Ni holodd ddim arnaf, ond dywedodd y cawn ganddo ef, gan fy mod yn dod, bob calondid a chefnogaeth. Ceisiodd genyf weddio yn y cyfarfod y noson honno, yr hyn a wnaethum; ac ar y diwedd yr oedd yr holl frawdoliaeth â breichiau agored yn fy nghroesawul. Mae bellach wyth mlynedd a deugain erbyn heddyw-Medi 1af, 1886—er hynny; ond er fy mod er hynny wedi gwneyd miloedd o bethau a barodd ofid i mi, eto ni theimlais unwaith erioed ofid am y cam a gymerais y pryd hwnnw. Ac yr wyf yn credu fy mod wedi gwneyd mwy o les, a chael mwy o gysur, a llai o ofid nag a gawswn pe buaswn wedi aros yng ngwasanaeth yr enwad parchus ymysg yr hwn y dygwyd fi i fyny, ac i'r hwn y byddaf byth yn ddyledus.
IX. DECHREU PREGETHU.
Yr oedd lle bychan yn agos i ben Pont Menai, yn sir Gaernarfon, lle yr arferai nifer o aelodau perthynol i eglwys Ebenezer, Bangor, gyfarfod; a deuai rhai o aelodau Siloh, Porth Dinorwig, yno hefyd. Henglawdd y gelwid ef. Tŷ bychan, cyffredin, llawr pridd, a llawer a ddirmygwyd arno; ond cafodd llawer o'r saint wledd yno. Chwiorydd oedd yno gan mwyaf, ond deuai rhai brodyr o Fangor i'w cynorthwyo, ac weithiau deuai rhai o bregethwyr Bangor yno i bregethu, ac weithiau, yn yr wythnos, deuai Dr. Jones ei hun yno. Merch ieuanc o'r enw Jane Williams—merch yr Antelope, tafarn gerilaw—oedd prif gefn yr achos bychan, ac yr oedd ganddi am dano fawr ofal calon; a hi, ar ol hynny, fu y prif offeryn i gael capel Beulah, oblegid yr Henglawdd oedd gwreiddyn yr achos llewyrchus sydd yno.
Un nos lau ym mis Awst, 1839, dywedodd Dr. Jones wrthyf fod yn rhaid i mi fyned i Henglawdd y nos Sabboth canlynol i bregethu, ac yn ddinag ufuddheais. Daeth nifer o frodyr o Fangor gyda mi. Pregethais oddiar y geiriau yn Salm xciii. 1,-"Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu, Efe a wisgodd ardderchawgrwydd, gwisgodd yr Arglwydd nerth ac ymwregysodd, a'r byd a sicrhawyd fel na syflo." Dechreuais yn ddigon uchel beth bynnag; ond yr oedd y brodyr oedd y Dr. wedi eu hanfon gyda mi, i ddwyn tystiolaeth iddo, wedi eu mawr foddhau. Yr oeddwn lawer gwaith cyn hynny wedi bod yn dyweyd ychydig oddiar adnodau mewn cyfeillachau, ond dyna y tro cyntaf i mi bregethu yn ffurfiol. Cyn pen pythefnos daeth cais o Siloh, Porth Dinorwig, ar i mi fyned yno i bregethu; a phregethais yno am ddau a chwech. Pregethais yr un bregeth ag yn Henglawdd am ddau o'r gloch; a'r hwyr oddiar Jer, xxii. 29,—"O ddaear, ddaear, ddaear, gwrando air yr Arglwydd." Pregethais hefyd mewn ty annedd, a elwid Tafarn y Grisiau, ryw noson waith ymhen rhyw wythnos ar ol hynny, oddi ar Heb. iv. 2—"Canys i ninnau y pregethwyd yr Efengyl megis ag iddynt hwythau, eithr y gair a glybuwyd ni bu fuddiol iddynt hwy, am nad oedd wedi ei gyd-dymheru a ffydd yn y rhai a'i clywsant". Dyna yr unig dair pregeth oedd gennyf wrth gychwyn allan. Yr oedd y ddwy gyntaf yn ddidramgwydd i bawb, ond yr oedd y drydedd yn cymeryd golwg eangach ar drefn yr Efengyl nag a oddefai llawer yn y dyddiau hynny, a bum mewn helbul fwy nag unwaith o'i herwydd.
Yn anffodus, yr oedd Dr. Jones allan â'r rhan fwyaf o weinidogion y Sir. Nid oeddynt hwy yn dyfod ato ef, ac nid oedd yntau yn myned atynt hwythau. Nid yw yn perthyn i mi ymholi i achosion yr anghydwelediad rhyngddynt. Rhyngddo ef a Mr. Williams (Caledfryn) y dechreuodd, a chymerodd y rhan fwyaf o'r gweinidogion blaid Caledfryn. Ffurfiwyd yn sir Gaernarfon fath o Undeb Sirol a elwid y Connexion, a ffurfiwyd rheolau lled fanwl a chaeth iddo, rhy gaeth yn ddiau i Anibyniaeth, a mynnai Caledfryn a'i blaid eu cario allan i'r llythyren, ond ni fynnai Dr. Arthur Jones ymostwng iddynt. Ymyrrid a'i ddull ef o gario yr achos ymlaen, ac oblegid nad oedd yn gweithredu ym mhob peth fel y gweithredai mwyafrif yr eglwysi Anibynnol, cyhoeddwyd nad oedd yn Anibynnwr, na'i eglwys yn eglwys Anibynnol; pan mewn gwirionedd na bu erioed weinidog ac eglwys mwy Anibynnol; yn wir, rhy Anibynnol oeddynt. Ymyrrid a'i ddull o dderbyn aelodau a chodi pregethwyr. Gwnaed rhywbeth pur debyg i ysgymundod arno ef a'i bobl o gyfundeb eglwysi sir Gaernarfon, o leiaf, felly yr edrychai ef ar y peth. Yn sicr, ni bu yn yr enwad weinidog mwy gormesol na'r hyn oedd Caledfryn yn y cyfnod hwnnw. Cariai y cwbl ymlaen â llaw gref, a phan gofir nad ydoedd ond dyn o dan ddeugain oed y mae yn syndod pa fodd y goddefid y fath drahausder ynddo. Ond dynion ieuangach a gwannach nag ef oedd y rhan fwyaf o'i gefnogwyr, ac am yr ychydig nifer oedd yn hynach nag ef, yr oedd yn well ganddynt adael iddo na myned i ymryson ag ef. Yn yr ystad yma ar bethau, edrychid ar bawb o Fangor yn wrthodedig, ac ni dderbynnid hwy ond i ychydig o eglwysi. Yr oeddwn wedi deall, yn bennaf trwy Ieuan Gwynedd, pa fodd yr oedd pethau yn sefyll, ac yn gwybod hefyd fod teimlad mwyafrif y gweinidogion y tuallan i sir Gaernarfon yn ffafr Dr. Arthur Jones. Nis gallaswn i help o'm cysylltiad ag eglwys Bangor, a theimlwn fod yn arw os oedd yn rhaid i mi ddioddef oblegid unrhyw ddrwgdeimlad a allasai fod at fy hen weinidog. Penderfynais fyned i ymgynghori â Mr. Samuel, Bethesda, a Mr. Griffith, Bethel, y ddau weinidog agosaf i Fangor. Cynghorai Mr. Samuel fi i fyned ymlaen heb gymneryd arnaf wybod dim am yr anghydwelediad, a phregethu ymha le bynnag y ceisid gennyf, a threfnu i fyned o Fangor mor fuan ag y gallwn i'r ysgol, neu i gadw ysgol. Dangosodd tuag ataf garedigrwydd mawr, a rhoddodd i mi bob cefnogaeth. Cefais Mr. Griffith, Bethel, yr un mor garedig, a chynghorodd fi yn gyffelyb, ac amlygodd teimladau mwyaf parchus at fy hen weinidog, er y deallais fod y ddau am gadw ar delerau da gyda phob plaid, ac yn enwedig nad oeddynt am fyned yn erbyn mwyafrif gweinidogion y sir. Dywedai Mr. Griffith, Bethel, wrthyf fod Cyfarfod Gweinidogion i'w gynnal yn Jerusalem, Llanberis, yr wythnos ddilynol, ac y byddai cryn nifer o weinidogion y sir yn bresennol, ac y cyflwynai efe fi i'w sylw. Aethum i Lanberis i'r cyfarfod, Medi 11, 12, 1839. A chan mai dyma y cyfarfod cyntaf erioed ynglŷn â'r Anibynwyr i mi fod ynddo, rhoddaf fanylion lled helaeth am dano.
X. CYFARFOD LLANBERIS.
Y noson gyntaf pregethodd y Parch. Owen Thomas, Talysarn, oddiar y geiriau,- " Pwy bynnag a'i dyrchafo ei hun a ostyngir; a phwy bynnag sydd yn ei ostwng ei hun a ddyrchefir". Pregeth ragorol iawn, yn llawn sylwadau gwerthfawr, yn cael ei thraddodi mor esmwyth a naturiol ac anymhongar a disgyniad y gwlith ar y ddaear. Ar ei ol, pregethodd y Parch. W. Ambrose, Porthmadog,—y pryd hwnnw yn ddyn ieuanc, glandeg, boneddigaidd,—oddiar y geiriau—"Felly y bydd llawenydd yn y nef yng ngŵydd angylion Duw, am un pechadur a edifarhao". Pregeth dlos, farddonol, ac yr oedd yn eglur ei bod yn cymeryd gan y dorf. Rhoddwyd fi i letya y noson honno yn nhŷ John Pritchard, brawd y Parch. Richard Jones, Llanidloes yn niwedd ei oes, a mab i'r hen bregethwr John Pritchard. Yr oedd y Parch. Robert Ellis, Rhoslan, yn lletya yno hefyd, yr hwn a fu yn nodedig o dyner a charedig i mi. Bore drannoeth, cyn yr oedfa ddeg, yr oedd yno fath o gynhadledd gan y gweinidogion. Nid wyf yn cofio fod yno neb wedi ei ddewis i fod yn gadeirydd; ond Mr. Griffith, Bethel, oedd yn cymeryd yr arweiniad. Yr oedd Robert Jones, Rhydfawr, yno,—pregethwr lled ddoniol yn perthyn i'r Methodistiaid a'r hwn oedd yn berthynas pell i mi,—ond a oedd y pryd hwnnw, am ryw reswm, wedi gadael y Methodistiaid, ac ymuno â'r eglwys yn Bethel, o dan ofal Mr. Griffith. Yr oedd ef wedi bod yn pregethu gyda'r Methodistiaid am fwy na phum mlynedd. Derbyniasid ef, a Robert Ellis, ac Ellis Foulkes, Ysgoldy, a fy mrawd Owen, yn yr un Cyfarfod Misol; ac yr oedd y pedwar o'r un cyff gwreiddiol yn Llanddeiniolen. Yr oedd gan Robert Jones gryn lawer o ddawn pregethu, ond ei fod yn rhy fentrus i ddweyd pethau uwchlaw ei ddeall; a chwynid nad oedd yn ofalus ar ei eiriau mewn tai, ac nad oedd coel yn wastad ar bopeth a ddywedai. Bu dan gerydd o herwydd hynny, fwy nag unwaith. Ond dywedai ef mai rhyddfrydedd ei olygiadau ar drefn yr Efengyl a barai eu bod yn ei erbyn, a hynny a roddai fel rheswm dros ymadael a hwy, ac ymuno â'r Anibynwyr. Urddwyd ef ymhen llai na dwy flynedd ar ol hynny yn y Drewen, sir Aberteifi, lle y bu dros rai blynyddoedd yn barchus iawn, ond fod y drygau y cwynid o'u herwydd o'i gychwyniad yn parhau i lynu wrtho. Aeth yn oruchwyliwr i ryw foneddiges, a rhoddodd y weinidogaeth i fyny. Symudodd i Aberteifi i fyw, ond yr oedd ei gyssylltiad a'r weinidogaeth, os nad â chrefydd hefyd, wedi darfod flynyddau cyn ei farw. Yr oedd ynddo lawer o garedigrwydd, ond ei fod yn llac mewn gair a gweithred. Cyflwynodd Mr. Griffith ef yn garedig i sylw y gweinidogion, fel un oedd yn methu cael rhyddid ymysg ei hen frodyr i gynnyg iachawdwriaeth i bob dyn, a'u bod hwy yn Bethel wedi rhoddi derbyniad cynnes iddo fel aelod a phregethwr. Yna crybwyllodd am danaf finnau, a'm bod innau hefyd wedi fy magu gyda'r un enwad, ond heb fod yn pregethu gyda hwy. Yr wyf yn cofio ei fod yn dweyd yn danllyd am gulni y Methodistiaid. "Dyma nhw," meddai,"chai Robert Jones ddim cynnyg Crist i bawb, a chai John Thomas ddim gweddio dros bawb"; a gwenai pawb gyda hynny, er nad oedd gwirionedd yn y naill sylw na'r llall. Nid wyf yn cofio i unrhyw benderfyniad ffurfiol gael ei basio ynglŷn ag un o honom, nac i neb ddweyd gair ond a ddywedodd Mr. Griffith; ond yr wyf yn cofio yn dda fod agos bawb o'r gweinidogion, ar ol myned allan, yn serchog iawn i mi, ac yn fy ngwahodd i bregethu i'w pulpudau os byddai cyfle. Mr. Ambrose oedd yr unig un y gwneuthum sylw arbennig o hono, na wahoddodd fi. Yr oedd ei fam ef a Dr. Arthur Jones wedi syrthio allan ers blynyddau am rywbeth, ac elai hi bob Sabboth i Bethlehem at Mr. Samuel; ac os nad oedd a fynnai hynny a chychwyn y drwgdeimlad rhwng Dr. Arthur Jones a gweinidogion y sir, bu yn help i'w gryfhau, oblegid yr oedd Mrs. Ambrose yn barchus iawn gan bawb, a'i thŷ yn llety cysurus i'r rhai a ddelai heibio. Nid oedd Caledfryn yno yn yr oedfa y bore, oblegid yn ddiweddarach ar y dydd y cyrhaeddodd. Gwelais ef yn siarad yn serchog' â Robert Jones, ond ni chymerodd arno fy ngweled i, os gwyddai pwy, ac o ba le, yr oeddwn. Rhoddwyd Robert Jones i ddechreu yr oedfa ddeg, a phregethodd y Parch. James Jones, Capel Helyg, yn gyntaf, oddiar y geiriau,—"Yr hwn a'n hachubodd ni, ac a'n galwodd a galwedigaeth sanctaidd; nid yn ol ein gweithredoedd ni, ond yn ol ei arfaeth ei hun a'i ras." Pregeth athrawiaethol, lled Galfinaidd, yn cael ei dyweyd yn oer ac yn araf; a bu yn lled faith. Ar ei ol, pregethodd y Parch. John Morgan, Abererch y pryd hwnnw, oddiar y geiriau,—"Minnau a arferaf weddi." Ni pharhaodd ond am ryw chwarter awr, ond yn hynny o amser gwnaeth y lle yn wenfflam. Taflodd fywyd i'r holl gynulleidfa. Am ddau, pregethodd y Parch. Evan Davies (Eta Delta), Llanerchymedd, ar "Ddioddefiadau Crist." Nid wyf yn cofio fawr am y bregeth, ond yr wyf yn cofio fod Caledfryn yn eistedd wrth ei gefn yn y pulpud, ac yn edrych yn dra anfoddog; a chlywais ef yn dyweyd, ar ol yr oedfa, wrth rywun, mai "bwtchera y Gwaredwr oedd peth felly." Ar ei ol, pregethodd Caledfryn, yn ddoniol iawn, ar “Ras a Dyledswydd"; oddiar y geiriau,—"Y peth a gysylltodd Duw na ysgared dyn." Yr argraff a adawodd ar fy meddwl y pryd hwnnw oedd, mai pregeth sal iawn ydoedd, ac yr wyf yn sicr o hynny erbyn hyn; ond yr oedd yn fedrus a doniol fel ymadroddwr. Yr oedd Samuel Jones, Maentwrog wedi hynny, adref ar y pryd, wedi dyfod o Marton, lle yr oedd yn yr ysgol, ac wedi bod yn y lle er ys rhai Sabbothau. Yr oedd mesur o ddiwygiad eisioes yn y wlad, a daeth yn llawer grymusach y gauaf dilynol. Yr oedd Samuel Jones yn llawn o'r ysbryd. Efe oedd yn trefnu y cyfarfod yn bennaf, ac yr oedd wedi dyweyd wrthyf fy mod i ddechreu yr oedfa yn yr hwyr, a minnau yn falch o'r anrhydedd. Ond pan yr oeddym ar gychwyn i'r capel, pwy a ddeuai i mewn ond William Edwards, Ffestiniog,—Aberdar wedi hynny—"Hogyn Coch Ffestiniog," fel y galwai Caledfryn ef. Yr oedd wedi dyfod yno i weled Samuel Jones, oblegid yr oeddynt yn gyfeillion; ond, fel yr oedd yr hanes hyd ei ddiwedd, wedi gadael hyd yr awr ddiweddaf heb gychwyn, ac yn llawn ffwdan pan y daeth. Yr oedd yn bur boblogaidd gyda dosbarth mawr, yn ddirwestwr tanllyd, ac yn llawn o ysbryd diwygiad, ond ei fod yn myned yn eithafol. Dywedodd Samuel Jones wrthyf, yn garedig iawn, fod yn rhaid iddo roddi William Edwards i ddechreu yr oedfa, gan nad allai ei roddi i bregethu; ac yr oedd y trefniant yn hollol foddhaol gennyf, oblegid erbyn hynny, yr oedd John Pritchard ac eraill wedi ceisio gennyf aros yno dros y Sabboth, gan fod Samuel Jones yn myned ymaith. Dechreuodd William Edwards yr oedfa a gweddiodd yn hynod o afaelgar ac effeithiol. Pregethodd y Parch. W. Thomas, Dwygyfylchi, Beaumaris wedi hynny, yn gyntaf, oddiar y geiriau,—"Wele hyn oll a wna Duw ddwywaith neu dair a dyn i ddwyn ei enaid ef o'r pwll." Pregeth gref, ddifrifol, yn cael ei thra- ddodi yn angerddol. Nid oedd yr un o weinidog- ion ieuainc y cyfnod hwnnw yn fwy poblogaidd. Yr oedd ganddo nifer o bregethau oedd a mynd ynddynt. Disgwylid pethau mawr oddiwrtho, ond rhyw wywo ddarfu iddo. Pregethwyd ar ei ol gan y Parch. Robert Ellis, Rhoslan, yn nodedig o esmwyth ac effeithiol, oddiar y geiriau,—"Pan glywech drwst cerddediad yn mrig y morwydd, ymegnia." Ac yn ddiweddaf pregethodd y Parch. P. Griffith, Pwllheli, hen weinidog y lle, oddiar y geiriau,—"Ymostyngwch gan hynny i Dduw. Dygodd yr holl bregethau i bwynt. Hon, ar ei hyd, oedd yr oedfa gryfaf o'r cwbl. Galwyd cyfeillach ar ol, ac arosodd amryw, a Samuel Jones oedd lawnaf o'r tân o neb oedd yno. Drannoeth, yr oedd cyfarfod yn Bryngwyn, Llanrug, pryd y pregethodd rhai o'r gweinidogion a enwyd uchod, ac un neu ddau eraill. Dychwelais o Lanrug i Lanberis, lle y treuliais y Sabboth cyflawn cyntaf oddicartref i bregethu.
XI. ATHRAW TABOR.
Wrth ymddiddan â Mr. Ellis, Rhoslan, y nosweithiau y buom gyda'n gilydd yn nhŷ Ioan Pritchard, dywedodd wrthyf fod ysgol yn arfer bod ganddynt yn Tabor, ond nad oedd ganddynt neb ar hynny o bryd; a chymhellodd fi i ddyfod hyd yno. Tynnodd daith i mi am ryw ddeng niwrnod, drwy rannau o Eifionnydd a Lleyn, ac i mi ddyfod i Tabor i gael siarad â'r cyfeillion yno. Aethum, gan ddechreu yn Nazareth, ac i'r Pantglas, Sardis, Capel Helyg, Chwilog, Abererch, Nefyn, Ceidio, Tydweiliog, Hebron, Aberdaron, Nebo, Bwlchtocyn, Abersoch, Pwllheli, Rhoslan, ac i Tabor. Pregethwn ganol dydd a'r hwyr bob dydd, a deuai nifer llosog ynghyd; ac yr oedd teimladau da yn y rhan fwyaf o'r cyfarfodydd, oblegid yr oedd yn adeg lled fywiog ar grefydd, o flaen cawod fawr a ddaeth yn fuan. Swllt oedd y dogn a roddid yn y rhan fwyaf o fannau, ond chwecheiniog oedd yn y Pantglas, Chwilog, ac Abererch, ac ni chyrhaeddodd llaw pobl Aber- daron hyd hynny.
Y ddau gymeriad rhyfeddaf a gyfarfum ar fy nhaith oedd John Thomas, Chwilog (Sion Wyn o Eifion), a John Jones, Tyddyn Difyr, Tydweiliog; Bu y blaenaf yn orweddiog bron trwy ei oes, ond yr oedd yn llenor rhagorol, ac yn fardd o radd uchel. Darllenasai lawer yn ei oes; ac yr oedd un ochr, a dau pen ei wely, wedi eu llenwi ag estyll i ddal ei lyfrau, fel y byddent yn gyfleus iddo eu cyrraedd. Uchel-galfiniad ydoedd, ac yr oedd yn ofidus ei ysbryd oblegid y dôn Arminaidd oedd i'r weinidogaeth. Yr oedd John Isaac, Ffestiniog, wedi bod heibio yn pregethu, oddiar y geiriau,—"Ai ceidwad fy mrawd ydwyf fi?" Duw yn dal yr eglwys yn gyfrifol am iachawdwriaeth y byd; ac yr oedd William Edwards, Ffestiniog, wedi bod oddiamgylch yn pregethu oddiar y geiriau,—"Gwybyddwch y bydd i'r hwn a drodd bechadur o gyfeiliorni ei ffordd gadw y enaid rhag angeu."—"Y naill ddyn i gadw y
llall,"—oedd mater y weinidogaeth. Ofnai fy————————————————————————————————————
Ger MARTON.
(O'r Oriel Gymreig.)
"Lle bychan gwledig, ond mewn gwlad dda odiaeth."
————————————————————————————————————
oddiar y geiriau,—"Yr Arglwydd sydd yn teyrn- asu," a boddheais ef yn fawr. Nid oeddwn wedi defnyddio y gair "llywodraeth foesol," ond wedi cadw at yr hen ymadrodd iachus, "llywodraeth rasol." Yr oedd John Jones, Tyddyn Difyr, fel Sion Wyn, yn Galfiniad uchel, ond nid mor ddeallgar, ac yn llawer mwy trahaus. Hen Fethodist ydoedd, wedi ymrafaelio â'r Methodistiaid, ac wedi codi Capel Anibynnol. Efe oedd yn cynnal yr achos, ac efe oedd yn lladd yr achos. Digwyddais basio yn ffafriol gyda'r un bregeth yno hefyd y tro cyntaf, er i mi bechu yn ddirfawr pan aethum yno yr ail waith, fel y caf eto, hwyrach, achos i grybwyll. Yr oedd y gwarcheidwaid hyn i'r athrawiaeth i'w cael yn aml yn y dyddiau hynny; ond y mae y to hwnnw oll wedi mynd, ac nid mantais i gyd yw hynny.
Daethum i Tabor yn gynnar y prydnawn yr oeddwn i fod yno; yn gynarach nag yr oedd Betty yn fy nisgwyl, ac yr oedd hi yn brysur yn gwnio i rywrai oedd yn disgwyl am dani. Cefais ganddi bob croesaw; ac wedi pregethu, a siarad â Mr. Robert Jones, Bron y Gadair, a John Pierce, penderfynwyd, gan fod cynhaeaf eisioes wedi ei gael, mai gwell oedd i mi ddechreu yr ysgol yno y Llun canlynol. Yr oedd hyn tua dechreu yr ail wythnos yn Hydref. Lletywn yn Nhŷ'r Capel, lle y cefais bob ymgeledd, a gwelais bawb drwy yr ardal yn garedig iawn. Torrodd yn ddiwygiad crefyddol mawr drwy y wlad oll, a chafodd Tabor gymaint o'r gawod ag un lle. Byddwn yn myned i rywle i bregethu bob Sabboth agos, ac i gyfarfodydd gweddi bron bob nos trwy yr wythnos. Bu amryw gyfarfodydd pregethu yn y rhannau hynny o'r wlad yn y misoedd hynny, ond y cyfarfodydd yn Nghapel Helyg a Nefyn oedd yr unig ddau y bum i ynddynt; a chyfarfodydd i'w cofio oeddynt. Daeth pedwar ugain ymlaen yng Nghapel Helyg ar ol yr oedfa, noson olaf y cyfarfod. Caledfryn oedd wedi pregethu, ond nid y pregethu oedd yn ei gwneyd hi, ond yr anerchiadau a'r gweddiau. Thomas Edwards, Ebenezer, a John Morgan, Nefyn, oedd y meginau goreu i chwythu y tân. Elai y ddau heibio i ymgeiswyr, un bob tu i'r Capel, ac er cryfed eu lleisiau, nid oedd yn bosibl clywed dim a ddywedid ganddynt gan floeddiadau y dyrfa. Deuai dynion i mewn i'r capel yn eu hol, ar ol ymadael unwaith, a syrthient ar eu hwynebau yn ddychrynedig iawn. Yr oedd y cyfarfod yn Nefyn yn rhyfeddach fyth. os oedd modd. Pregethodd William Jones, Dolyddelen, yno mewn un oedfa oddiar y geiriau,—"Yr hwn y mae ei wyntyll yn ei law, ac efe a lwyr-lanha ei lawr dyrnu, ac a gasgl ei wenith i'w ysgubor, ond yr is a lysg efe & thân anniffoddadwy." Yr oedd yno le ofnadwy, fel pe teimlasai y dorf ei bod o flaen y wyntyll. Yr oedd yno ryw fachgen bychan, un ar ddeg oed, o Ebenezer, yr hwn a gymerai Mr. Edwards gydag ef; rhoddwyd hwnnw i weddio, a gweddiodd yn nodedig, fel pe buasai wedi cymeryd sylwedd y bregeth i'w weddi. Nid oedd ond bachgen cyffredin ei wybodaeth, ac ni ddaeth dim nodedig o hono, ond yr oedd rhywbeth rhyfedd ynddo fel gweddiwr yn yr adeg honno. Y daith fwyaf a wnaethum tra yn Tabor oedd y daith i Lanberis, Sabboth Nadolig, 1839. Yr oedd y Nadolig ar y Sadwrn, ac yr oeddwn wedi addaw pregethu yn Pantglas mewn plygain, am chwech yn y bore; ac wedi anfon cyhoeddiad i fod yn Nazareth am ddeg, Talysarn am ddau, a Pisgah am chwech, ar fy ffordd i Lanberis. Gan ei bod yn amser llewyrchus ar grefydd, mynnid i mi bregethu mewn plygain yn Tabor, ac yn blygeiniol iawn yr oedd yn rhaid i mi wneyd, os oeddwn i gyrraedd Pantglas erbyn chwech. Dechreuwyd yn fuan wedi pedwar, a phregethais oddiar y geiriau,—"Canys ganwyd i chwi heddyw Geidwad." Wedi cael brecwast gyda Betty, cychwynais yn y tywyllwch i Bantglas. Yr oedd yn fore oer, a haeneri ysgafn o eira yn disgyn, ac nid oeddwn innau mewn un modd wedi fy ngwisgo ar gyfer y fath dywydd. Gwresogais wrth gerdded yn gyflym; ond, er y cwbl, yr oedd yn agos i saith erbyn i mi gyrraedd. Pregethais yn Nazareth am ddeg. Erbyn myned i Dalsarn, yr oedd yno wyl ddirwestol, a rhoddwyd fi i areithio, a chefais ddau swllt am hynny,—dwbl y pris a gawswn am bregethu. Pregethais yn Pisgah yn yr hwyr. Wrth ofyn cyfarwyddyd pa fodd i fyned dros y mynydd i Lanberis drannoeth, cynygiodd Robert Thomas, Penrhiwgaled, y deuai gyda mi, os deuwn yn ol gydag ef i'w lety nos Sabboth; ac felly y cytunwyd. Yr oedd Robert Thomas, ar y pryd, yn gweithio ei grefft fel crydd gyda gwr ar ochr Mynydd y Cilgwyn, ac eto heb ddechreu pregethu. Aethum i Hafod Boeth i gysgu, a bore drannoeth gelwais heibio i Robert Thomas, a daeth gyda mi dros y mynyddoedd, ar fore eiraog, hyd Lanberis. Cawsom yno bob ymgeledd yn nhy Pierce Davies, a phregethais yn Jerusalem am ddeg, yn Nant Llanberis mewn ty annedd, am ddau, ac yn Jerusalem drachefn am chwech. Yr oedd hi yn ddadl fawr yn y society, ar ol yr oedfa, yn nghylch y cyfarfod gweddi saith o'r gloch bore Sabboth. Arferid ei gynnal o dŷ i dŷ, fel y gwneid mewn llawer o fannau; ond gan ei fod yn dyrysu teuluoedd ar awr mor fore, dadleuai llawer dros ei gadw yn y capel, gan fod capel i'w gael, a'r capel yn fwy cyfleus. Yr oedd Tylwyth Shon Pritchard, yr hen bregethwr, yn selog iawn dros ei gael yn y capel; ond yr oedd eraill yn llawn mor selog dros yr hen drefn, ac yr oedd pob ochr yn bur boeth. Apeliwyd ataf fi, a dywedais innau yn y fan, fy mod yn meddwl mai y peth fuasai Iesu Grist, pe yno, yn ei ddyweyd fuasai,—"Cymhellwch hwynt i ddyfod i mewn, fel y llanwer fy nhŷ." Terfynwyd y ddadl yn y fan, a theimlodd pobl y capel yn llawen o'r oruchafiaeth, ac aethum innau yn dipyn o oracl yn eu golwg. Dychwelasom y noson honno i 'lety Robert Thomas, ac wedi cysgu ychydig oriau, codais yn fore, a chychwynnais am Tabor, ac yr oeddwn yn yr ysgol yn fuan wedi deg o'r gloch. Bum yn synnu ganwaith wedi hynny, pa fodd yr oeddwn yn alluog i fyned trwy y fath galedwaith, a minnau heb fod ond bachgennyn eiddil; ond yr oedd egni, a bywiogrwydd, ac ewyllys, yn gwneyd llawer drosof.
Digwyddodd dau amgylchiad arall yn yr yspaid y bum yn Tabor, na ddylwn fyned heibio iddynt heb eu crybwyll. Yr oeddwn wedi addaw Sabboth yn Tydweiliog, Ceidio, a Llaniestyn. Yr oeddwn wedi bod yn y lleoedd hyn o'r blaen, ac wedi pasio yn lled dderbyniol. Yr oeddynt ar y pryd heb weinidog, drwy ymadawiad y Parch. Samuel Edwards i Machynlleth; ac yr oedd rhai o honynt wedi meddwl am danaf yn weinidog, er nad oeddwn ond rhyw chwe mis oed o bregethwr. Aethum i Tyddyn Difyr nos Sadwrn, a derbyniodd yr hen John Jones fi yn garedig, oblegid yr oeddwn y tro o'r blaen wedi pasio yn ffafriol. Y bore Sul hwnnw pregethais oddiar Heb. iv. 2. "Canys i ninnau y pregethwyd yr efengyl megis ag iddynt hwythau,"—y bregeth oreu a feddwn, a honno oedd yn mynd oreu ymhob man. Yr oeddwn wedi ei phregethu yn Ceidio pan yno cyn hynny, ac yr oedd wedi cymeryd yn dda: ond yr oedd heb ei phregethu yn Tydweiliog na Llaniestyn, ond yr oedd gennyf erbyn y diwrnod hwnnw. Ni ddeallais ddim ar yr hen wr fy mod wedi ei anfoddhau, ac er i mi fod yn ei dŷ, ni ddywedodd air wrthyf; a brysiais innau ymaith i fyned i Ceidio erbyn dau. Wedi pregethu yno, aethum i Laniestyn erbyn yr hwyr. Yr oedd y capel yn orlawn, a phregethais bregeth y bore, ac yr oedd yn mynd yn dda. Sylwedd y bregeth oedd :- Fod cynygiad gonest o iachawdwriaeth i'r byd yn yr efengyl, "I ninnau y pregethwyd yr efengyl," —fod y cynygiad yma yn cael ei wrthod, "Ni bu fuddiol"—Mai anghrediniaeth yw yr achos o hynny, "Am nad oedd wedi ei gyd-dymheru a ffydd." Ar ol pregethu y nos yn Llaniestyn, gofynnai William Daniel i mi,—"Ddaru' chi bregethu y bregeth yna yn Tydweiliog y bore?" "Do," meddwn innau. "Wel, bei ddeudodd yr hen John Jones wrtho chi?" " Ddeudodd ddim, meddwn innau. "O rydach chi wedi pechu, gewch chi weld," ychwanegai William Daniel. Bore drannoeth, dyma William Daniel i'r tŷ lle yr oeddwn, ac meddai, "Wel rydach chi wedi g'neyd hi"; ac ar hynny tynnai allan lythyr maith, ar sheet o foolscap, oedd wedi ei dderbyn y bore hwnnw oddiwrth John Jones, yn yr hwn yr ymosodai yn y modd mwyaf diarbed ar y bregeth. Yr oedd yn waeth nag Arminiaeth, a Morganiaeth, a hanner Morganiaeth,-nid oedd yn ddim ond swp o gyfeiliornadau. Yr oedd yr hen greadur wedi treulio yr holl weddill o'r Sabboth, ar ol i mi ei adael, i gablu y bregeth, ac i roddi dyfyniadau o Eiriadur Charles, a Chorff Duwinyddiaeth Dr. Lewis i ddangos y fath gyfeiliornwr dinystriol oeddwn; ac ar y diwedd dywedai,—"Nid yw John Thomas i ddyfod yma mwy, os ydych am ei gael, rhaid i chwi a Ceidio ei gadw." Rhoddodd William Daniel y llythyr i mi, ac y mae yma eto yn rhywle. Nid yw yn werth y drafferth i chwilio am dano, ond fel y mae yn ddangoseg o gulni a rhagfarn dynion yn y dyddiau hynny. Ond dichon, oni buasai am y digwyddiad hwnnw, y buasai y bobl yn ddigon difarn i roddi galwad i mi, a minnau yn ddigon rhyfygus i'w derbyn.
Parodd y digwyddiad arall archoll llawer dyfnach i'm teimladau, ac y mae yn dangos drwgnawsedd a dialgarwch mewn cylch y dylaswn ddysgwyl cydymdeimlad. Yr oeddwn wedi cael lle i ddeall fod fy nghysylltiad ag Eglwys Bangor yn ddolur i amryw. Cefais ryw awgrym gan Mr. Ambrose, a chan Mr. James Jones, Capel Helyg, y buasai yn well pe buaswn wedi dechreu yn rhywle heblaw ym Mangor, gan gystal a rhoddi ar ddeall i mi fod hynny yn fy erbyn. Nid oedd Mr. Ambrose wedi fy ngwahodd i bregethu ym Mhorthmadog, er fy mod wedi galw amryw o weithiau yn ei dŷ, a'i gael yn hollol garedig. Yn gynnar yn 1840, yr oedd cyfarfod yn y Bontnewydd, cyfarfod ynglŷn â'r hyn a elwid yn "Connexion Sir Gaernarfon"—ac yr oedd Caledfryn yno ar ei orsedd, ac heb ond ei bleidwyr gydag ef. Nid oeddwn yn bresennol, nac yn gwybod am y cyfarfod; ond yr oedd Mr. Robert Ellis, Rhoslan, yno, ac y mae yn debyg i Caledfryn alw sylw Mr. Ellis at fy achos i. Nid wyf yn gwybod yn gywir beth fu yr ymddiddan, ond cyn belled ac yr adroddid hi wrthyf fi gan y rhai oedd yn bresennol, dywedent nad oedd ganddynt ddim yn fy erbyn i ond fy nghysylltiad ag eglwys Bangor. Os oedd eglwys Bangor yn afreolaidd, fod yr holl bregethwyr a godid ganddi yn afreolaidd. Dywedai rhai ohonynt, gan fy mod wedi fy nghyflwyno yn Llanberis fisoedd cyn hynny, ac wedi pregethu yn holl gapeli y wlad, mai g'well fuasai peidio gwneyd sylw pellach o'r achos. Ond mynnai Caledfryn nad oedd pregethwr a godasid gan weinidog ac eglwys afreolaidd yn bregethwr rheolaidd, ac mai yr unig beth allesid wneyd oedd i eglwys Tabor, yr hon oedd yn eglwys reolaidd, i'm codi; ac i mi fyned allan fel pregethwr o Tabor, ac nid o Fangor. Cefnogwyd Caledfryn yn hyn, a gosodid ar Mr. Robert Ellis i'w gario allan. Sôn a wneir am yr hen Anibyniaeth a'r hen Anibynwyr! Dyna yr ysbryd oedd yn ffynnu, a pha ryfedd fod y fath ragfarn wedi ei greu yn erbyn Undeb Sirol? Gŵr hynaws, heddychol, oedd Mr. Robert Ellis. Ni fynnai ymryson â neb, na gwneyd dolur i neb. Daeth i Tabor bore Sabboth dilynol, sef Chwefror 23, ac yr oeddwn innau adref. Nid ynghanodd yr un gair wrthyf. Ond ymddengys iddo ddweyd wrth Robert Jones, Brongadair, a John Pierce, a Betty,—oblegid hwynthwy oedd yr eglwys mewn gwirionedd,—a phenderfynwyd ynghyd i glytio y peth i fyny, i ddianc rhag fflangell Caledfryn ar y naill law, a rhag dolurio fy nheimladau innau ar llaw arall. "Rhaid i chwi bregethu yma heno, meddai John Pierce wrthyf yn awdurdodol iawn, yn fwy awdurdodol nag y clywswn ef erioed o'r blaen. "O'r goreu," meddwn innau. Ar ol ciniaw, dywedodd Mr. Ellis wrthyf, "Gwell i chwi ddod hefo mi i Roslan." "O'r goreu," meddwn innau. Nid oes un ddadl nad oedd ef wedi meddwl dweyd wrthyf ar y ffordd, ond ei fod yn rhy dyner, ac iddo fethu magu digon o wroldeb. Gofynnodd i mi ddechreu yr oedfa, a phregethu tipyn o'i flaen, a gwneuthum innau hynny, oddiar y geiriau,—"Pwy hefyd a ymrydd yn ewyllysgar i ymgysegru heddyw i'r Arglwydd ?" Ar y diwedd ymadawson. Aeth ef i Lanystumdwy yr hwyr, a minnau yn ol i Tabor; a phregethais yr un bregeth yno. Yr wythnos ganlynol deallais fod gan Betty rywbeth i ddweyd. Bu yn fy holi ar ddieithr, a diau ei bod hi yn meddwl fod Mr. Ellis wedi dweyd wrthyf; ond pan ddeallodd nad oedd, ciliai yn ol. Y Sabboth dilynol yr oeddwn i fod yn Nazareth a Phantglas ; ac ar y ffordd i Nazareth erbyn deg, gelwais yn nhŷ Richard Owen, Pantglas,—Chwilog yn awr. Deallais y fan fod rhywbeth yn bod, a chyn hir, gofynnodd i mi a oeddwn wedi clywed beth oedd wedi bod yng nghyfarfod Bontnewydd. Dywedais yn y fan na chlywswi ddim. Dywedodd yntau ryw gymaint o'r hanes, yr hyn a gawsai gan Mr. James Jones, Capel Helyg, ar ei ddychweliad o'r Bontnewydd, ac nad oeddwn i bregethu mwy heb i eglwys Tabor fy nghodi. Terfysgwyd fy meddwl yn ddirfawr. Deallais yn y fan y cwbl oedd wedi cymeryd lle y Sabboth blaenorol, a'r dirgelwch oedd gan Betty,—ond na fynnai ei fynegu,—a dywedais beth oedd wedi bod. "O, mae y peth wedi 'neyd ynta," meddai Richard Owen. Aethum yn fy mlaen i Nazareth erbyn deg, a phregethais, ond yr oedd fy nheimladau yn ddrylliog iawn. Yr oeddwn yn pregethu oddiar y geiriau,—"O Ddaear, Ddaear, Ddaear, gwrando air yr Arglwydd, ac yr oedd gennyf ddarn yn lled agos i ddiwedd y bregeth am werth gair yr Arglwydd i gysuro a diddanu mewn trallodion, ac adroddwn amryw o eiriau y Salmydd, "Dyma fy nghysur yn fy nghyfyngder, dy air a'm bywhaodd." Aeth fy nheimladau yn drech na mi, fel y torrais i wylo, ac effeithiodd hynny ar y dorf. Torrodd un hen frawd allan i floeddio yn uchel. Nid oeddwn wedi cael y fath oedfa erioed. Cyn fy mod yn Pantglas am ddau, yr oedd son am yr oedfa wedi cyrraedd o'm blaen, ac amryw wedi dod o Nazareth yno. Pregethais yno y prydnawn a'r hwyr, ac er na soniodd neb ragor wrthyf am y peth, nis gallaswn ei gael o fy meddwl. Wedi cyrraedd Tabor holais Betty, a chefais ganddi yr oll a wyddai am y mater. Dywedai fod Mr. Ellis yno y noson honno, yn gofyn a oeddwn i wedi clywed rhywbeth, a'i fod yn anfoddlawn hollol i wneyd dim ; ond mai Caledfryn a Parry Conwy a Mr. Ambrose oedd yn ei wthio ymlaen, ond mai Caledfryn oedd waethaf.
Yr wythnos drachefn, yr oedd cyfarfodydd pregethu yn Porthmadog a Thabor, ac ymysg eraill oedd ynddynt yr oedd Mr. Samuel Bethesda. Nis gwn a oedd Caledfryn ym Mhorthmadog, nis gallaswn golli yr ysgol i fyned i'r cyfarfod. Ond, os oedd, ni ddaeth i Tabor. Ond yr oedd Parry Conwy yno, oblegid efe a bregethodd ddiweddaf yn y bore, ond brysiodd ymaith yn ddioed ar ol pregethu. Ymddengys mai y trefniad yn y Bontnewydd oedd, i mi gael fy atal am Sabboth neu ddau, ac yna fy nghodi yn Tabor, a'm cyflwyno i sylw y gweinidogion fel pregethwr o Tabor. Farce hollol,—yn unig o ddirmyg ar Dr. Arthur Jones. Ond yr oedd Mr Samuel wedi clywed am weithrediadau anheilwng cyfarfod Bontnewydd, ac wedi ei gynhyrſu drwyddo; ac efe, pan gynhyrfai, oedd eu meistr oll. "Galwodd y gweinidogion ynghyd i loft Tŷ'r Capel, Tabor. Nid wyf yn cofio pwy oedd yno i gyd. Ond yr oedd Mr. Ambrose yno, a Jones Capel Helyg, a Mr. Edwards Ebenezer, a Mr. Ellis Rhoslan, a Mr. Samuel Bethesda. Yr oedd Robert Jones Brongadair a John Pierce hefyd yno. Ni wyddwn yn hollol beth oedd i fod, ond clywn siarad uchel ar y llofft gan Mr. Samuel. "Pa help," meddai, "sydd gan y bachgen bach ei fod yn dod o Fangor?" Yr oedd ei wyneb wedi cochi yn fflam pan ddaeth i lawr y grisiau ; a phan welodd fi dywedodd wrthyf,—" Dewch chi, machgen bach i, mi ofala i na chan' nhw'neyd dim cam a chi"—ac erbyn hynny oedd myned gyda Mr. Jones i giniaw i Bron y Gadair, a phawb o honynt yn swatio o'i flaen. Bu yr ymyriad hwn a'm henw yn y Bontnewydd yn anfantais i mi mewn mwy nag un lle wedi hynny, oblegid nid oedd pawb yn deall mai oblegid fy nghysylltiad â Bangor yn unig y dangosid gwrthwynebiad i mi. Ni wnaed erioed gynnyg mwy iselwael i lethu bachgenyn ieuanc yn hollol ddiachos, yn unig oddiar deimlad dialgar tuag at ei hen weinidog, nag a wnaed tuag ataf fi gan Caledfryn, a nifer o weinidogion sir Gaernarfon oedd ganddo yn offerynau parod at ei law. Mewn cymanfa a gynhaliwyd yn Nghaernarfon, ymhen tair blynedd ar ddeg wedi hyn,—sef ym Mehefin, 1853—yr oedd y gynhadledd yn un gynhyrfus iawn, ynglŷn ag achos Mr. David Hughes, B.A., Bangor y pryd hwnnw. Yr oedd mwyafrif gweinidogion y sir yn ei erbyn. Ond yr oedd iddo rai cefnogwyr, ac ymysg eraill Mr. Robert Jones, Bethesda, yr hwn, er fod presenoldeb y corff yn wan a dirmygus, a fed: ai ddweyd geiriau cryfion. Galwai weinidogion sir Gaernarfon yn "fradwyr a llofruddion"; a chyfeiriai ataf fi fel un oedd erbyn hynny wedi cyraedd safle i'w wahodd i'r Gymanfa o'r Deheudir, ond y ceisiodd gweinidogion sir Gaernarfon ei ladd pan yn fachgen. Trodd Mr. Ambrose ataf, a gofynnodd a oedd hynny yn wir. Ni bum yn ddigon gwrol i ddweyd ei fod, ond ceisiais osgoi y cwestiwn gyda dweyd fod sir Gaernarfon wedi newid llawer er hynny. Nid oeddwn am adgofio hen bethau, onide, y peth fuasai yn wirionedd fuasai dweyd fod hynny yn wir am rai o'r gweinidogion oedd yno dair blynedd ar ddeg cyn hynny, ond nid am danynt oll; oblegid ni chefais neb yn ffyddlonach i mi na rhai o weinidogion sir Gaernarfon yn 1839 ac 1840. Tramgwyddodd Dr. Arthur Jones na buaswn yn glynu yn hollol wrtho ef, ac yn cadw heb wneyd dim â hwy; ond wrth adolygu, nid wyf yn gweled y gallaswn wneyd dim yn well nag y gwnaethum, a phe gosodid fi yn yr un amgylchiadau gwnawn yn hollol yr un fath. Eto rhaid i mi ddweyd mai anfantais ddirfawr i bregethwr ieuanc ydyw cychwyn mewn eglwys, a chyda gweinidog, heb fod ar delerau heddychlawn a mwyafrif gweinidogion ei sir.
XII. YN YSGOL MARTON.
Cyrhaeddais Marton yn nechreu yr haf. Saif y lle rhwng yr Amwythig a'r Drefnewydd, o fewn rhyw chwe milldir i'r Trallwm. Nid yw ond lle bychan gwledig, ond mewn gwlad dda odiaeth. Y gweinidog a'r athraw oedd y Parch. John Jones. Brodor ydoedd o Landdeusant, Môn, a myfyriwr o'r Drefnewydd. Sefydlodd yn Forden a Marton, ac efe a ddechreuodd yr achos ac a adeiladodd y capeli yn y ddau le. Gwr llariaidd ydoedd, ond yn wannaidd ei iechyd. Cadwai ysgol ym Marton, a daethai nifer o bregethwyr ieuainc ato am addysg. Yr oedd yn lle manteisiol i fechgyn tlodion ar gyfrif ei radlonrwydd, ac amhosibl fuasai iddynt gael gwell lle i ymarfer eu hunain i bregethu Saesneg. Yr oedd Hugh James, Llansantffraid; William Roberts, Penybont; William Thomas, Beaumaris; a Samuel Jones, Maentwrog; ac efallai rai eraill, wedi bod yno, ac wedi myned ymaith cyn fy mynediad i yno. Yr oedd Rowland Hughes, Rhoslan; Edward Roberts, Cwmafon; Evan Jones (Ieuan Gwynedd); John Morris, Ffestiniog; a Robert Thomas, Rhyl, yno pan aethum. Nid oedd yno le ond i chwech, er y byddai weithiau wyth yno; a phe gwelai unrhyw un y ty, byddai yn anhawdd iddo ddeall pa le y rhoddid wyth o ddynion, gyda gŵr a gwraig, a saith o blant, a morwyn, i fyw, heblaw rhoddi un ystafell o'r tŷ i wasanaeth yr ysgol. Yr oedd y tŷ o faintioli mwy na'r tai a geir yn gyffredin mewn gwlad. Wedi myned i mewn trwy y drws ar ganol yr adeilad, yr oedd ar y llaw dde ystafell fawr, lle y cedwid yr ysgol; ac ar yr aswy yr oedd cegin agos o'r un maintioli, a chegin allan wrth gefn honno. Uwchben yr ystafell lle y cedwid yr ysgol yr oedd dwy ystafell, y rhai a osodid i'r myfyrwyr. Yr oedd un gwely yn yr ystafell ffrynt, a dau wely yn yr ystafell gefn. Deallaf y rhoddid hefyd weithiau ddau wely yn yr ystafell ffrynt, ond ni welais i hynny. Yn yr ystafelloedd hyn yr oeddym yn myfyrio, ac yn cysgu; a difrifol o le i bedwar o fechgyn eistedd ynddo ydoedd ystafell nad oedd yn bedair troedfedd ar ddeg ysgwar, yn yr hon hefyd yr oedd dau wely lle y cysgent y noson. Perchenogid yr ystafell ffrynt gan Edward Roberts a Rowland Hughes; ac yn yr ystafell gefn yr oedd Ieuan Gwynedd a minnau yn un gwely, a Robert Thomas a John Morris yn y llall. Ond oblegid ei gyfeillgarwch ag Edward Roberts caniateid i Ieuan fyfyrio y dydd yn yr ystafell ffrynt; ac wedi i Edward Roberts fyned i Aberhonddu ganol haf, cafodd ef fyned yno yn hollol; a chyn hir ymadawodd Rowland Hughes, a chefais innau fyned yno ato. Deg swllt yn y chwarter a dalem am ein hysgol, a deunaw ceiniog yn yr wythnos am ein "gwlyb a'n gwely" fel y dywedid ; ac, yn hynny, yr oeddym yn cael digon o datws, y rhai oedd mewn helaethrwydd y pryd hwnnw, ac yn datws mawr blawdiog; ac yr oeddym yn gwneyd cyfiawnder â hwy. Yr oedd yn lle rhyfedd o rad i fyw. Prynodd Ieuan a ninnau ham yn y Trallwm, am yr hon y talsom un swllt ar ddeg Parhaodd i ni ddeufis neu ddeng wythnos, a dyna yr holl gigfwyd a gawsom am yr ysbaid hwnnw, oddigerth yr hyn a gaem ar y Sabbothau pan oddicartref. Rhoddodd hen ffarmwr, o'r enw Mr. Phillips, ryddid i ni ein dau i gasglu a fynnem o afalau oddiar ei dir, yr hyn a wneuthom heb betrusder. Yr oedd gan Ieuan fox mawr, a chennyf finnau fox bychan, a llannwyd y hynny. Yr oedd gan Mrs. Jones ddysgl bridd, felen, fawr, ac ysmotiau gwynion yn ei gwaelod. Llanwai honno ag afalau, a rhoddai dipyn go lew o does arnynt, ac i'r pobty a hi. Yr oedd honno genym bob dydd ar ol ychydig bach o ham, a llawer iawn o datws, fel y gwnaem giniaw da bob dydd; ac ni ddeallais erioed fod y cylla yn gwingo yn eu herbyn oblegid methu eu treulio. Yr oedd Mrs. Jones yn hynod o garedig, ond nid oedd yn nodedig am fedrusrwydd na glan weithdra; ond beth a allesid ddisgwyl amgen, gyda chwech o honom ni, a saith o blant mân, a gwr gwan ac afiach, a hogen o forwyn heb fawr fedr, er yn ddigon ewyllysgar?
Am y myfyrwyr oedd yno—dyn synwyrol a deallgar oedd Edward Roberts. Yr ydoedd wedi byw am ysbaid yn Manchester, ac wedi gweled tipyn o'r byd, ac yntau yn sylwedydd craff, ac yn deg a chywir ei farn. Dyn diniwed oedd Rowland Hughes, ond cyffredin ei alluoedd, eithr gwnaeth ei oreu yn ol y ddawn a rodded iddo. Dyn pur a gonest dros ben oedd Ieuan Gwynedd, cydwybodol ym mhopeth, llym a manwl hyd at fod yn greulawn. Daeth yn well yn hynny wedi gweled mwy o'r byd, a chyfarfod thymhestloedd. Dyn gwael oedd John Morris, segur a diafael. Nid oedd ymroad ynddo i ddysgu nac ychydig allu ar y goreu. Soniai rhywrai am ei dalent, ac ymffrostiai yntau yn ei wybodaeth o amryw ieithoedd, ond ymffrost gwag oedd y cwbl. Yr oedd Robert Thomas ac yntau yn gyfeillion, a'r hyn yn bennaf a barai eu cyfeillgarwch oedd fod y ddau yn smocio ac yn cnoi tybaco yn sly, ac yr oedd hynny yn erbyn deddfau y ty. Nid oedd fawr ddysgu yn Robert Thomas. Yr oedd yn fwy na deg ar hugain oed yn myned i Marton. Ond yr oedd ganddo lawer o ddawn, ac yr oedd yn ddadleuydd mawr ar y cwestiynau duwinyddol oedd yn cynhyrfu y wlad yn y dyddiau hynny. Yr oedd elw y Dysgedydd y pryd hwnnw yn myned i gynorthwyo bechgyn ieuainc i gael addysg, a'r bechgyn ym Marton oedd yn cael mwyaf, a danghosid ffafr i fechgyn sir Feirionnydd. Yr oedd Edward Roberts ac Ieuan yn cael ychydig, yr oeddynt hwy eu dau yn dyfod o'r Brithdir yn ymyl Dolgellau. Yr oedd John Morris yn cael ychydig, oblegid yr oedd yntau yn dod o Ffestiniog. Yr oedd Robert Thomas hefyd wedi cael ychydig. Ni chefais i ddim erioed, ac ni wnaethum gais am ddim. Y cwbl a dderbyniais erioed, o unrhyw eglwys neu o unrhyw drysorfa, oedd un swllt ar ddeg a saith geiniog, a gasglwyd i ni yn Bethel, Arfon, nos Sabboth, Gorffennaf 12, 1840. Yr oeddynt hwy yn eiddigeddus o'u gilydd, oblegid credai John Morris a Robert Thomas fod Edward Roberts a Ieuan yn cael mwy na hwy; a chredai Ieuan na ddylasent hwy gael dim, oblegid eu bod yn arfer tybaco. Nid oedd, am amser, brawf diamheuol o hynny ychwaith. Un diwrnod, daeth Ieuan o'r ystafell gefn, i'r ystafell ffrynt, lle yr oedd Rowland Hughes ac Edward Roberts a minnau, a dywedai fod John Morris yn cnoi tybaco, ac iddo weled joi yn ei geg y pryd hwnnw. Aeth â ni i'r ystafell gefn. Cyhuddid John Morris gan Ieuan, ond gwadai hwnnw yn bendant. Taflwyd ef ar y gwely, a phenderfyn- wyd agor ei safn. Yr oedd Rowland Hughes yn gwff o ddyn cryf, a bu raid i Robert Thomas roddi help llaw pa faint bynnag o gydymdeimlad oedd rhyngddo â John Morris. Daliwyd y cyhuddedig yn llonydd, agorwyd ei enau, a rhoddodd Ieuan ei fys i mewn, a thynnodd y joi dybaco allan, fel y cafwyd prawf diymwad. Yr oeddym oll yn mwynhau yr helynt, ond prin yr oedd yn foddlawn heb gael sychu y joi dybaco a'i hanfon i Olygydd y Dysgedydd. Yr oedd ei lymder yn eithafol.
Ni bu John Morris yno yn hir wedi hynny, ac ymadawodd Robert Thomas yn fuan; ac yr oedd Edward Roberts yn dechreu ei gwrs yn Aberhonddu ym mis Medi. Ymadawodd Rowland Hughes o gylch yr un amser, ac yr oedd iechyd Mr. Jones, yr athraw, yn gwaelu yn fawr. Gan nad oedd yno bellach ond Ieuan a minnau, yr oeddym allan bob Sabboth yn gwasanaethu yr eglwysi. Elem i Benllys un Sabboth. Pedwar
————————————————————————————————————
D. REES, LLANELLI.]
(O'r Oriel Gymreig)
"Yr enwocaf a mwyaf dylanwadol o holl weinidogion sir
Gaerfyrddin, os nad y mwyaf poblogaidd yn Neheudir
Cymru.
————————————————————————————————————
Fraich y Waun yn y prydnawn, ceid swllt arall. Yr oedd eisieu help agos bob Sabboth yn nghylch gweinidogaethol y Parch. James Davies, Llanfaircaereinion. Elem un Sabboth i Siloh y bore, Penarth y prydnawn, a Lawnt yr hwyr. Hwnnw oedd y Sabboth goreu—ceid deuswllt ymhob lle, yn gwneyd chwe swllt. Yr oedd Mrs. Davies, Lawnt, yn wraig garedig a chrefyddol iawn. Sabboth arall, elem i Brynhwdog y bore, Voedog am ddau, a Brynelen yr hwyr. Ceid pum swllt y Sabboth hwnnw. Mae Capel Canaan wedi ei godi heb fod ymhell o'r Lawnt, a Byrwydd yn ymyl Brynhwdog, a Jerusalem yn lle Brynelen. Yr oedd lle hefyd o'r enw Gallt y Ceiliog lle y pregethem. Bu Ieuan a minnau ym Marton am rai misoedd wedi i Mr. Jones fethu. Pregethai ef ym Marton a'r lleoedd Seisnig, a gwasanaethwn innau i'r eglwysi Cymreig. Treuliais lawer o amser yn amgylchoedd Llanfair a Phenarth, ac yr oedd yr hen bobl yno yn garedig iawn wrthyf. Mynnai rhai o honynt rannu y weinidogaeth a rhoddi galwad i mi, ond nid oedd Mr. Davies mewn un modd yn foddlawn rhannu yn deg. Yr oedd yn foddlawn rhoddi Penuel a Brynelen i fyny, a chadw Llanfair, Penarth, a Siloh, y tair eglwys gryfaf, ei hun. Penuel oedd y wannaf o'r cwbl, ac nid oedd capel yn Brynelen. Wedi deall fod anfoddlonrwydd enciliais, er fod
gennyf serch cryf at y lle a'r bobl.XIII. TEITHIO.
Yr oeddwn yn Llanbrynmair ryw noson, ac yn ymddiddan â Mr. Samuel Roberts, ac yn ei holi am rywle i fyned i'r ysgol. Crybwyllodd wrthyf am athrofa Ffrwd y Fal, a dywedai fod yno amryw o bregethwyr ieuainc, a'i fod wedi cael gair da i Mr. Davies fel athraw. Anogodd fi i fyned ar daith hyd yno i weled y lle, a phenderfynais wneyd hynny. Yr oedd hyn yn gynnar yn 1841. Anfonais gyhoeddiad i fod yn Nhalybont nos Sadwrn a'r Sabboth. Yr oedd Ieuan Gwynedd wedi bod yn gwasanaethu yn Maesnewydd yn adeg yr ymraniad, ac yno hefyd pan wnaed y rhwyg i fyny; a thrwy fy nghysylltiad ag ef, pe na buasai am eu croesaw arferol, cefais garedigrwydd mawr gan deulu Maesnewydd. Digwyddodd fod cyhoeddiad Mr. David Roberts, Siloh,—Wrexham yn awr,—a Mr. David James, Rhos y Meirch, y rhai oeddynt yn myned ar daith drwy ran o'r Dê, yn Nhalybont y nos Sadwrn a'r bore Sabboth hwnnw; ac yr oeddym ein tri yn lletya ym Maesnewydd.
Pregethodd Mr. Roberts a minnau nos Sadwrn a bore Sul pregethodd Mr. Roberts a Mr. James. Yr oeddynt hwy yn myned ymlaen i Lanbadarn ac Aberystwyth y prydnawn a'r hwyr; ac yr oeddwn innau yn Ceulan y prydnawn, ac yn dyfod yn ol i Dalybont yr hwyr. Nid wyf yn cofio manylion y daith ar ol hynny, ond bum yn Dyffryn Parth, a Nebo, a Neuaddlwyd, a Penrhiwgaled, ac ymlaen i'r Drewen at Robert Jones, yr hwn oedd newydd ei urddo yno, ac yr oedd yn fawreddog a chwyddedig iawn. Pregethais yn Bethesda, ac aethum drwy Gastellnewydd ond ni phregethais yno, ac nid wyf yn cofio pa leoedd y pregethais ynddynt, ond yr wyf yn cofio i mi bregethu yn Capel Noni. Yr oedd y capel ar ei hanner, ac yr oedd un Cook oedd yn weinidog yn Lacharn yno; a chanol dydd drannoeth yr oedd Thomas Jones, Ty'n y Gwndwn, yno yn pregethu. Pregethais hefyd yn Brynteg. Yr oedd Evan Williams,—Pencae ar ol hynny,—yno yn cadw ysgol, wedi ymadael a Chefn Coed Cymer, oblegid nad oedd yn cydolygu a'r eglwys am helynt y Siartiaid. Buasai ef yn weinidog ym Moelfra, Môn, ac yr oedd yn hynod o garedig i mi. Nid oedd yno gyhoeddiad i mi, ond gwnaeth i'r plant hysbysu y buaswn yo pregethu, ac yr wyf yn meddwl fod cyfeillach i fod yno y noson honno. Aethum y Sabboth at Richard Owen oedd yn weinidog yn Llanfair ac Ebenezer, a bum yn cydbregethu yno a'r hen John Thomas, Glynarthen. Yr oedd Richard Owen yn Ogleddwr, ac oblegid hynny cefais ef yn garedig iawn. Yr oedd rhyw hen chwaer Galfinaidd wedi ei alw i gyfrif am rywbeth a ddywedasai yn ei bregeth y Sabboth blaenorol, ac yr oedd wedi cythruddo yn fawr o'r herwydd, a dywedai na oddefai y fath beth. Ni bu yn gysurus ar ol hynny, a chyn hir enciliodd i'r Eglwys Sefydledig.
Nid aethum hyd Ffrwd y Fal, oblegid fod croesaw i'r ysgol yno heb unrhyw ymgynghoriad, ac felly dychwelais. Pregethais yn Aberystwyth y Sabboth; ac yr oedd yr hen Azariah Shadrach yn fy ngwrando y bore, a boddheais ef yn fawr oblegid fod fy mhregeth mor Ysgrythyrol. Gelwais yn ei dŷ y Llun, ac adroddodd i mi gryn lawer o hanes ei deithiau gynt yn y Gogledd.
Rywfodd yr oedd rhagfarn yn fy meddwl yn erbyn Azariah Shadrach, er nas gwn ychwaith paham. Rhaid fod rhywrai wedi siarad yn fychanus wrthyf am dano. Yr oedd wedi glynu wrth yr hen athrawiaeth pan yr oedd y rhan fwyaf wedi eu cymeryd i fyny gan y "system newydd"; ac yr oedd son fod llawer o bregethwyr ieuainc yn marchnata yn ei bregethau wedi peri i mi gadw rhag eu darllen. Ond wedi treulio y diwrnod hwnnw gydag ef, newidiodd fy marn yn hollol am dano. Cefais ef yn hen ŵr gwybodus, nodedig o garedig, hynod o anymhongar, a llawn o deimlad crefyddol; ac y mae darllen ei weithiau, a gwybod mwy o'i hanes, wedi dyfnhau yr argraff a wnaed arnaf y pryd hwnnw. Tynnodd gynllun taith i ini hyd Ffrwd y Fal, trwy Lanidloes a'r Rhaiadr. Cyrhaeddais Marton er cael y box, a'r ychydig ddillad a llyfrau oedd gennyf yno; ac anfonais ef gyda'r carrier o'r Trallwm i Lanymddyfri, ond bu fwy na phythefnos yn myned. Yr oeddwn yn Ffrwd y Fal o'i flaen. Aethum y Sabboth cyntaf, drwy Lanidloes a St. Arnon, i Rhaiadr. Y Parch. Robert Thomas, Hanover, oedd y gweinidog y pryd hwnnw, ac yr oeddynt wedi cael yno ddiwygiad grymus. Yr oedd yno gynulleidfa lawn, a Chymraeg oedd yr holl wasanaeth, oddieithr ychydig Saesneg a roddid ar nos Sabboth; ac yr oedd anfoddlonrwydd mawr gan lawer o'r hen bobol i hynny. Yr oedd Rhaiadr y pryd hwnnw yn un o'r hen eglwysi cryfaf. Dydd Llun aethum i Lanfair. Yno cyfarfyddais â Thomas Jones, Merthyr Cynog; ac yr oeddym ein dau wedi ein cyhoeddi i fod nos Lun yn Cefn y Bedd, ac nid yn Llanfair. A chan fod capel bach Cefn y Bedd yn myned o dan ryw adgyweiriad, yn nhŷ Mr. Jones, Cefn y Bedd, y pregethasom. Dydd Mawrth aethum i Droed Rhiwdalar, i Dan yr Allt, tŷ Mr. Williams, Llanwrtyd. Yr oedd y cyhoeddiad wedi drysu, ond pregethais y noson honno yn Nhan yr Allt. Dyma y tro cyntaf i mi weled Mr, Williams, a bu i mi yn garedig iawn. Yr oedd yn ddirwestwr selog, yn hen gyfaill i Dr. Arthur Jones, ac wedi gweled fy mrawd Owen pan y buasai heibio ar ei daith ddirwestol. Aeth a mi gydag ef i ryw angladd oedd ganddo y prydnawn hwnnw, a gwnaeth i mi bregethu yn ei le. Yn fuan wedi i mi ddychwelyd o'r angladd i Dan yr Allt, daeth Rhys Dafis,—Rhys glun bren, fel yr adweinid ef oreu,—at y tŷ yn ddrwg-dymherog iawn. Yr oedd wedi bod wrth y capel, ac wedi clywed nad oedd yno gyhoeddiad. Aeth y ddau hen frawd i dymer wyllt, ond daethant i'w lle yn fuan, a threuliwyd y noson i ymgomio yn ddifyr gan fyned dros helyntion y dyddiau gynt. Dyma y tro cyntaf i mi weled Rhys Dafis. Pregethodd ar fy ol y noson honno. Y dyddiau dilynol aethum i Beulah, a Llanwrtyd a Bethel; ac o Bethel croesais y mynydd i Cefnarthen, i dŷ Edward Jones, Pentre Tygwyni. Yr wyf yn meddwl fy mod yno nos Iau, oblegid fod y cyhoeddiad yn Bethel wedi dyrysu. Treuliais y noson gydag ef. Yr oedd ei iechyd wedi ei amharu, a phoenid ef gan beswch; dyn caredig iawn, gwylaidd ac anymhongar, ac yn llawn o yspryd ei waith. Yr oedd ganddo ddawn pregethu, ac yr oedd wedi darllen gweithiau Dr. Dick, y rhai oeddynt hollol ddieithr i'r rhan fwyaf o'r pregethwyr oedd o'i gylch. Dyn o wybodaeth gyfyng ydoedd, a'i farnu wrth safon gwybodaeth y dyddiau hyn; ond yn ol safon y dyddiau hynny yr oedd yn ddyn gwybodus, ac yn sychedu am fwy o wybodaeth. Yr oedd yn ddyn cymwys i ddiwylliant, a phe cawsai fyw buasai yn myned ymlaen gyda chynnydd yr oes. Pregethais yn Pentre Tygwyn nos Wener; a nos Sadwrn yr oedd John Davies, Mynydd Bach, yno yn pregethu, ac arosais i'w wrando, ac yr oedd amryw o Lanymddyfri wedi dyfod yno ar ei ol. Yr oeddwn wedi anfon cyhoeddiad i fod yn Llanymddyfri nos Sadwrn a bore Sabboth, ac i Myddfai a Sardis at ddau a'r hwyr; ond cadwodd Mr. Davies fi yn Llanymddyfri drwy y dydd i bregethu dair gwaith. Ni ddywedodd wrthyf nos Sadwrn amgen nad oeddwn i fyned i Myddfai a Sardis; ond nos Sabboth cydnabyddodd yn onest ei fod am glywed y bore pa fath bregethwr oeddwn cyn penderfynu a yrrai fi ymlaen ai peidio; a phe buaswn yn salach yn ei olwg mae yn debyg y cawswn fyned ymaith a chroesaw. Er ei fod yn ddyn diniwed iawn, eto yr oedd ynddo lawer o gyfrwysder i ofalu am
dano ei hun. Un o'r dynion caredicaf ydoedd.XIV. YSGOL FFRWD Y FAL.
Dydd Llun aethum rhyngwyf a Ffrwd y Fâl. Mae gennyf gôf byw o'r olwg gyntaf gefais ar y wlad, pan yn nesau at y dyffryn bychan, tlws yn yr hwn y mae Capel Crug y Bar. Nid oeddwn erioed wedi gweled gwlad a adawodd y fath argraff ar fy meddwl; ac yr oedd deall mai Anibyniaeth oedd wedi ei pherchenogi yn llwyr, yn peri ei bod yn fwy swynol fyth. Cyfarwyddasid fi gan Mr. Williams, Llanwrtyd, i fyned i letya i Nant- gwyn, os byddai yno le,—y tŷ ffarm agosaf at Ffrwd y Fâl. Daniel a Susan Williams oedd enwau y gŵr a'r wraig, Pobl ddiblant. Lle glanwaith iawn. Yr oedd y gŵr yn ddiacon yn Nghrug y Bar, ac yn selog dros Mr. Evan Jones, y gweinidog, pan yr oedd eraill yn ei boeni. Ond dyn lled hawdd ei gyffroi ydoedd. Yr oedd yno amryw yn lletya, ac ymysg eraill John Williams, Brownhill,—Castell Newydd wedi hynny,—dyn ieuanc glandeg, gwylaidd y, pryd hwnnw, ac yn barchus a phoblogaidd fel pregethwr. Rhoddwyd fi i gysgu gydag ef, a ffurfiwyd rhyngom gyfeillgarwch mawr. Dyn ieuanc pur ei feddwl, ei iaith, a'i ymddygiad y gwelais i ef, a'i ysbryd yn gyflwynedig i'w waith. Nid yw fy adgofion am Ffrwd y Fâl yn helaeth, ac y mae fy syniad am yr athraw ymhell o fod mor uchel a'r eiddo llawer. Ysgoldy bychan, cyffredin ydoedd, a meinciau a desciau ar ei draws ar y llaw chwith i'r drws; a desc yr athraw yn union ar gyfer y drws. Ar ei ddeheu ef, a'u gwyneb at yr ysgolheigion eraill, yr oedd plant Mr. David Davies, Ffrwd y Fâl, y boneddwr oedd bia y lle, a'r hwn a roddai yr ysgoldy, ac y gadwai wai yr athraw am ddysgu ei blant ef. Medr ei blant ef, ac Evan Davies o'r Gelli,—Dr. Davies, Abertawy wedi hynny—i ddysgu, wnaeth fwy na dim arall i roddi enw' i ysgol Ffrwd y Fâl. Bu yr athraw, William Davies, yr hwn ar ol hynny a raddiwyd yn Ph.D., yn weinidog yn Cornwall, ond methiant truenus fu yn y weinidogaeth. Yr oedd ei ddawn yn un o'r rhai diflasaf, ac eto medrai ddynwared doniau eraill. Llac iawn oedd yn ei olygiadau duwinyddol, ac amheuid ei fod yn gwyro at Sosiniaeth; ond yr oedd yn credu mwy mewn arian na dim arall, ac yr oedd yn gogwyddo at y Sosiniaid yn bennaf am fod arian yn eu trysorfâu. Gwnai elw ar fechgyn tlodion yr ysgol wrth gymell llyfrau, a phapur, a phinnau ysgrifenu arnynt, a'r neb y cai fwyaf oddiwrtho fyddai fwyaf yn ei ffafr. Yr oedd ganddo allu nodedig i ddirmygu athaflu amheuaeth i feddyliau, a gwneyd gwawd o'r pethau mwyaf cysegredig. Felly y treuliau y rhan fwyaf o bob bore Llun yng nghlyw yr holl ysgolblant. Eisteddai y rhan hynaf oedd yno, a'r pregethwyr gyda hwy, ar y meinciau blaenaf. Rhoddwyd fi ar ben pellaf y fainc flaenaf, yn ymyl y mur. Elai pob un ymlaen ato ef at ei ddesc i ddyweyd ei wers; a phan y byddai ambell un yn lled drwstan, os na byddai yn ei ffafr, gwnai wawd o hono yng ngolwg yr holl ysgol.
Ymysg y pregethwyr oedd yno pan oeddwn i yno, a'r rhai a aeth yn bregethwyr ar ol hynny, heblaw John Williams, Brown Hill, yr oedd John Evans, Maendy; David Stephens, Glantaf; Noah Stephens, Liverpool; Dafydd Jones, Bwlch Llidiart; a Henry Davies, Manor Deilo,—yr oedd y pedwar yma o Gapel Isaac a daethant yno yr un pryd yn fuan wedi i mi fyned yno, ac yr oeddynt yn lletya ynghyd yn Treweun; John Griffith, Aberpedwar; Sem Phillips; John Lloyd Jones, Pen y Clawdd; ac un neu ddau eraill. Yr oedd John Evans, Maendy, yn hen fachgen 30 oed, a mawr fel yr hoffai yr athraw ei boeni, er na byddai byth ar ei ennill o wneyd hynny. Daethum yn lled adnabyddus fel pregethwr, fel na bum Sabboth heb bregethu tra yr arosais yno, a da i mi oedd hynny, oblegid nid oedd gennyf ddim arall i ddibynnu arno. Ond truenus o fychan oedd y tâl a roddid. Ceisiodd Mr. Jones, Crug y Bar, gennyf bregethu yno y bore Sabboth cyntaf, ac yr oedd yn Sabboth Cymundeb, a digwyddodd i mi gael oedfa lled hwylus. Yr oedd yng Nghrug y Bar y pryd hwnnw rai hen addolwyr cynnes, gweddillion y dyddiau gynt, pan oedd Shon Dafydd Edmwnd, a Nansi Jones, Godre'r Myn- ydd, yn eu hwyliau mawr. Digwyddodd i mi daro ar lygedyn goleu y bore hwnnw, fel y torrodd dwy neu dair o honynt i orfoleddu. Parodd hynny dipyn o sôn am y pregethwr ieuanc, heblaw fod tipyn o fri ar wr dieithr o'r North. Gwahoddwyd fi i bregethu yn fisol i Salem, a chynygiwyd dau neu dri o leoedd eraill i mi; ond gan mai hanner coron a roddid am Sabboth, gwell oedd gennyf gadw fy hunan yn rhydd. Yr oedd hynny yn talu yn well i mi. Pregethais yn yr holl gapeli o Ffald y Brenin i Landeilo, ac o Ryd y Bont hyd Lanymddyfri, ac o Ebenezer, Llangybi, hyd Gwynfe; a gwahoddid fi yn aml i bregethu yn yr wythnos lle nas gallaswn fyned ar y Sabboth. Tra y bum yno, bum mewn Cyfarfod Chwarterol yn Bethlehem, mewn cyfarfod pregethu yn Llanymddyfri, ac mewn cymanfa yn Bwlchnewydd.
Nid oeddwn wedi dyfod i weled gwerth addysg y pryd hwnnw fel y daethum ar ol hynny, oblegid i'r Coleg y dylaswn fyned am bedair blynedd. Nid oeddwn eto ond ugain oed, ond yr oeddwn yn unig a digysgod, ac heb neb i ofyn ei gyngor. Ni dderbynnid ychwaith, y pryd hwnnw, ond ychydig i'r Coleg; ac yn anffodus yr oedd tipyn o ragfarn ar y pryd yn erbyn bechgyn o'r Gogledd. Gwrthodasid Samuel Jones yn Aberhonddu, a thrwy anhawsder mawr y cafodd Edward Roberts, Cwmafon, dderbyniad i mewn, yr hwn y gwyddwn ei fod ymhellach ymlaen na mi, ac yn cael ei gymeradwyo gan rai o weinidogion mwyaf dylanwadol y Gogledd. Parodd y pethau hyn i mi ddigalonni i wneyd cais am fyned i'r Coleg. Yn ychwanegol at hyn, yr oedd llawer iawn yn dweyd wrthyf mai ffolineb mawr fuasai i mi fyned i'r Coleg, ac mai i'r weinidogaeth ar unwaith y dylaswn fyned. Ond camgymeriad mawr ydoedd, a chamgymeriad yr ydwyf drwy fy oes wedi dioddef oddiwrtho; ac nid heb ymroddiad a llafur mawr y gellais am flynyddoedd weithio fy ffordd ymlaen, heb gael fy nhaflu yn hollol i'r cysgod, oblegid yr anfantais o ddiffyg addysg reolaidd yn
foreuol.XV. TREFDRAETH GAREDIG.
Yr oeddynt wedi bod heb weinidog iddynt eu hunain yn Nhrefdraeth ers blynyddoedd, ac heb weinidog mewn enw er marwolaeth Henry George, Brynberian, yr hwn nas gallai ddyfod atynt ond yn anaml, gan fod ganddo bump o eglwysi i fwrw golwg drostynt. Yr oedd yno dyrfa fawr y noson honno, yr hen gapel yn llawn, ac oedfa hwylus iawn. Daeth dau ddwsin neu ddeg ar hugain o honynt ar fy ol i'n llety. Lletyem mewn tafarndy bychan a gedwid gan un Stephen Davies. Dechreuasant yn y fan wasgu arnaf i aros yno, ac i'm cyfaill fyned ar ol y cyhoeddiadau; ac felly y cytunwyd. Rhoddwyd fi i letya yn y Felin Newydd, gyda un David Harries a'i wraig. Dyn bychan, bywiog, selog oedd ef; ac yr oedd hithau yn ddynes hawddgar dros ben, heb derfyn i'w charedigrwydd. Bu pawb yn hynod o garedig i mi. Dechreuasant yn ddioed gasglu yn eu plith eu hunain i gael siwt o ddillad newydd i mi, am y rhai yr oedd arnaf wir angen. Pregethais yn y dref y Sabbothau, ac mewn amaethdai drwy y wlad oddiamgylch ddwywaith neu dair bob wythnos, dros fis o amser. Yr oedd yn amhosibl i neb gael mwy o garedigrwydd ; ond deallais yn lled fuan nad oedd yno unfrydedd i roddi galwad i mi, er y gwyddwn fod corff yr eglwys drosof. Yr oedd yno ddau bregethwr cynorthwyol, John Davies,— Gideon wedi hynny—a Thomas Davies, Principality, fel yr adnabyddid ef. Tybid fod eu llygaid hwy ar lle, ac er fod yn eglur na roddai yr eglwys alwad i un o honynt, nac i'r ddau ynghyd, eto nid yw yn debyg fod arnynt awydd mawr i weled neb arall yno. Ni ddangosodd yr un o'r ddau ond pob parch a charedigrwydd i mi; ac ni chlywais fod John Davies yn dweyd nac yn gwneyd dim yn fy erbyn. Ond nis gallaf ddweyd yr un peth am Thomas Davies, er ei fod yntau yn hynod o gyfrwys a gochelgar. Ond yr oedd cryn lawer o berthynasau i'r ddau yno, ac er y cyffesai y rhan fwyaf o'r cyfryw eu bod drosof, eto cefais brawf mai "ffals yw gwaed." Yr oedd yno un Joseph Davies,—os wyf yn cofio yn iawn, hostler mewn gwesty,—yn gwneyd ei hun yn bur brysur; a thrwyddo ef yr oedd Thomas Davies a rhyw ddau neu dri yn gweithredu. Ymddengys iddynt ysgrifenu at ryw weinidog yn y Gogledd i ymholi yn fy nghylch, ac iddynt gael atebiad. Lledaenid y gair yn ddistaw eu bod wedi cael llythyr, ond ni ddangosid ef; ond awgrymid yn llechwraidd nad oedd yn bopeth a ddymunid. Clywais innau, a hawliais weled y llythyr yn y fan, a bu raid ei ddangos. Llythyr at y Joseph Davies yma ydoedd, oddiwrth y Parch. R. P. Griffith, Pwllheli, yn atebiad i lythyr a dderbyniasai oddiwrtho. Nid oedd un gair anffafriol am fy nghymeriad yn y llythyr, ond fy mod yn lled ieuanc i'r weinidogaeth. Gwir bob gair. Ond nid oedd eisiau myned o Drefdraeth i Bwllheli i'w wybod. Pan ddeallais fod pethau felly, dywedais nad arhoswn yno ond nes y deuai y mis i ben. Eithr ni fynnai fy nghyfeillion fy ngollwng. Yr oedd yr hen bobl, a chorff yr eglwys, yn fy ffafr. Yr hen William Morgan, tad y Parch. W. Morgan, D.D., gweinidog y Bedyddwyr yn Nghaergybi, oedd un o'r rhai mwyaf selog. Yr oedd yno hefyd ddau hen ŵr yn Nefern, y rhai oeddynt ddau frawd, ac yn ddiaconiaid,—un honynt yn daid i'r Parch. R. James, Llanwrtyd,—yn drwyadl ffyddlon; a nifer fawr eraill nas gallaf gofio eu henwau; ond yr oedd perthynasau y ddau bregethwr a rhyw ychydig eraill heb fod yn ffafriol. Yr oedd yno ychydig o wragedd Capteniaid yn cymeryd cryn ran yn y llywodraeth: un o honynt yn arbennig oedd Mrs. Rowlands, yr hon a briododd a'r Parch. Samuel Thomas. Nid oedd hi gartref pan aethum yno, ac ni ddaeth nes oeddwn ar fin ymadael. Yr wyf yn meddwl mai tueddu i ffafrio y pregethwyr yr oedd hi. Pa fodd bynnag, gwrthodais iddynt roddi yr achos ger bron yr eglwys, nad arhoswn er neb gan nad oedd yno unoliaeth, ac enillais drwy hynny gymeradwyaeth cyffredinol. Ond wedi gweled pethau felly, teimlwn yn bryderus iawn. Yr oedd fy amser i ymadael wedi dyfod, ac nis gwyddwn pa le i droi. Nid oeddwn am fyned yn ol i Ffrwd y Fâl, ac nid oedd un drws yn ymagor o'm blaen, fel yr
ymddangosai fy ffordd yn cau mewn tywyllwch.XVI. SIOMEDIGAETHAU.
Un bore, pan oedd fy meddwl yn gythryblus, dyma i mi lythyr oddiwrth Mr. Rees, o Lanelli, yn dweyd, os nad oeddwn wedi cytuno i aros yn Nhrefdraeth, fod arnynt hwy eisiau dyn ieuanc yn Siloa, fod y bobl wedi fy hoffi pan y bum yno, ac os, wedi cael prawf pellach, y deuent hwy a minnau i ddealldwriaeth, y byddai yn dda ganddo gadarnhau yr undeb rhyngom. Gwelais ddrws yn ymagor, ac anfonais yn y fan y deuwn, ac y byddwn yno erbyn yr ail Sabboth. Yr oeddwn, drwy drefniad, i fod yn Maenclochog y Sul dilynol, a phenderfynais fyned yn fy mlaen oddiyno i Lanelli. Cyrhaeddais Lanelli ar y Sadwrn, a gelwais yn nhy Mr. Rees; ac yr oedd wedi trefnu i mi i fyned i letya at fam y Parch. D. Williams, Blaenau,—hen wraig garedig, a fu i mi fel mam, a'i merch Peggy, a briododd wedi hynny â Thomas Jones, diacon yn Nghapel Als, a fu i mi fel chwaer. Nid angholiaf byth eu caredigrwydd. Yr oedd Mr. Rees hefyd wedi ysgrifennu at y Parch. R. P. Griffith, Pwllheli, ac wedi cael atebiad cyffelyb i'r un a anfonasai i Drefdraeth, fel nad ymddanghosai mor bleidiol i mi ag y gallesid disgwyl. Yn anffodus, yr oedd Henry Davies,—Bethania wedi hynny—wedi anfon ei gyhoeddiad i fod yn Llanelli y Sabboth hwnnw, a phregethodd ef yn Ngapel Als y bore, ac yn Siloa yr hwyr. Tybiodd rhai mai efe oedd y pregethwr ddisgwylid, a dechreuasant ei ganmol, ac, wedi deall eu camgymeriad o'r dyn, nid oeddynt yn barod i newid. Bum yno dros fis neu chwech wythnos, a gallaswn aros yn hwy, ond gan nad oedd arwydd eu bod yn dyfod i unrhyw benderfyniad, dechreuais anesmwytho. Mae yn debyg nad oedd Mr. Rees yn gweled addfedrwydd digonol i ddwyn y peth ger bron yr eglwys; mwy na thebyg nad oedd yn teimlo yn gryf iawn ei hun, er iddo fod yn hynod o garedig i mi, a gwnaeth bod gydag ef yr wythnosau hynny i mi lawer o les.
Yr oedd fy nghyfaill, John Evans, wedi cael galwad o'r Maendy, ac i gael ei urddo ym mis Hydref, a phenderfynais fyned yno. Pregethais yng Nglandŵr, Treforis, a Chwmafon ar fy ffordd. Cefais bawb yn garedig, yn enwedig y Parch. Daniel Griffiths, Castell Nedd. Cymhellai fi yn daer i fyned i'r Llwyni, lle yr oedd achos newydd,—Soar, Maesteg yn awr—wedi ei gychwyn gan nifer o bobl oedd wedi torri allan o Carmel, o dan y broffes o fod yn fwy o ddiwygwyr na'r rhai a adawsant ar ol. Addewais yr awn wrth ddychwelyd. Wedi yr urddiad yn y Maendy, ymdroais yn y wlad dros rai wythnosau. Bum Sabboth yng Nghaerdydd, a Sabboth arall ym Mhenmain. Yno y cyfarfyddais à John Davies, Cilcenin,—y dyn dall,—ac y clywais ef yn pregethu ddwywaith. Oddiyno aethum tua Merthyr ac Aberdâr, yn ol cytundeb a wneuthum yn y Maendy a'r Parch. T. Rees, Aberdâr (Dr. Rees wedi hynny). Yr oedd dadl Rhymni newydd basio, ac yn Merthyr cyfarfyddais â Jones Llangollen, ac a'm hen gyfeillion Edward Roberts, a Ieuan Gwynedd, a William Edwards, y rhai oeddynt fyfyrwyr yn Aberhonddu, ac wedi dyfod i Ddadl Bedydd Rhymni i fod yn reporters. Buom yn cydgynnal cyfarfod dirwestol ym Mhontmorlais. Aethum o Aberdâr trwy Hirwain, i Gastell Nedd, a phregethais yn Melincwrt ar fy ffordd. Digwyddodd fod Cyfarfod Ailagoriad Soar, Castell Nedd, ar y pryd, a rhoddwyd fi i bregethu y noson gyntaf gydâ Davies, Mynydd Bach. Drannoeth, yr oedd Price, Cwmllynfell, a Jones, Castle Street, Abertawe, yn pregethu am ddeg; Jones, Clydach, am dri; a Morgan, Llwyni, a Griffiths, Alltwen, yn yr hwyr. Yr oedd yn gyfarfod hwyliog iawn. Oddiyno aethum i'r Maesteg, lle yr arhosais dri Sabboth. Nid oedd yr achos ond dechreu. Cyfarfyddent mewn hen gapel bychan oedd wedi ei adael yn ddiwasanaeth; ond un nos Sabboth pregethais mewn ystafell eang mewn cwrr arall i'r Dyffryn, yn uwch i fyny. Arhoswn yn nhŷ yr hen bregethwr Rhys Powell, ond pregethwn y nosweithiau mewn lleoedd oddiamgylch. Bum yn y Cymer hefyd un noson. Yr oedd Capel Soar yn cael ei godi ar y pryd. Yr oedd yno ychydig bobl ffyddlon, ond mai isel eu hamgylchiadau oeddynt gan mwyaf. "Sarah Maesteg," fel ei gelwid, oedd fwyaf ei dylanwad, a hi oedd y fwyaf gwybodus o honynt 'oll. Merch o sir Gaer- fyrddin ydoedd, a ddaeth drosodd i wasanaethu i fferm Maesteg, ac a briododd ei mheistr. Ni dderbyniais alwad ffurfiol oddiwrthynt, ond yr oedd rhyw gyd-ddealldwriaeth rhyngom fy mod yn myned i aros yno hefyd, er nas gallent addaw i mi ond ychydig: Ni theimlwn unrhyw hoffder at y lle, ac nid oedd yn yr achos ddim yn ddeniadol; ond gan nad oedd un drws arall yn agor, yr oeddwn yn penderfynu aros yno. Yr oedd gennyf ryw bethau wedi eu gadael yn Llanelli, ac yn Nhrefdraeth, a phenderfynais fyned i gyrchu y
rhai hynny. Yr oedd yn awr yn ymyl Nadolig,————————————————————————————————————
CAPEL BWLCHNEWYDD.
(Oddiwrth ddarlun mwy yn Cofiant John Thomas.)
————————————————————————————————————
Rock, Cwmafon, ac yr oedd Mr. Jones, Clydach, wedi dyfod yno i bregethu yn y plygain bore drannoeth. Aethum hyd Lanelli, lle yr oeddwn y Sabboth cyntaf yn Ionawr 1842. Dywedodd Thomas Jones, Abertawe, wrthyf ar ol hynny ei fod ef a Henry Rees, Ystrad Gynlais,—Kansas yn awr—yn fy ngwrando yn nghapel Als y bore hwnnw; y ddau ar y pryd yn aelodau gyda'r Methodistiaid, ond yn llawn ysbryd pregethu. Yr oeddwn yn myned i lawr yr wythnos ddilynol i Drefdraeth, ac wedi anfon ychydig gyhoeddiadau ar y ffordd; ac wedi anfon y buaswn y Sabboth dilynol yn Bwlch Newydd, yr hwn le oedd ar y pryd yn wag Yr oeddwn yn Nhrefdraeth nos Fawrth, ac yr oedd y capel yn orlawn a llawer mewn teimladau dwys. Mynnent i mi aros yno, ac ni buasai dim yn haws i mi na chael mwyafrif mawr yr eglwys o'm plaid, ond gwrthodais. Aethum ymaith yn fore drapnoeth, wedi casglu y cwbl a feddwn ynghyd, ac nid oedd hynny ond ychydig. Bu rhai o honynt yn garedig iawn i mi fel na chefais fyned ymaith yn waglaw. Yr oeddwn yn Llwyn yr Hwrdd nos Fercher, ac wedi anfon cyhoeddiad i fod yn Nhrelech ganol dvdd Iau. Cefais yn Llwyn yr Hwrdd fod Cymanfa Ysgolion i fod yn Nhrelech, a dymuniad am i mi fod yno yn fore. Yr oedd y capel yn orlawn. Gosodwyd fi i holi un o'r ysgolion, allan o Holwyddoreg Mr. Hughes, ac ymddengys ddarfod i mi wneyd hynny yn foddhaol iddynt. Hebryngwyd fi gan un o feibion Owen Picton, Glanrhyd, hyd Ffynnon Bedr. Erbyn cyrraedd cefais fod Cymanfa Ysgolion yno hefyd, ac amryw na fuasai yno oni bai hynny, wedi aros i'r oedfa. Cydbregethai Warnott Edwards a minnau. Aethom i letya i Plasparciau ein dau, a daeth Mr. Jones, Ffynnon Bedr, a James Thomas (Tresimwn), yr hwn oedd newydd ddechreu pregethu, yno gyda ni. Dyma fy nghyfarfyddiad cyntaf a'r cyfaill hoff James Thomas. Yr oedd efe wedi dyfod i Ffynnon Bedr i'r Gymanfa Ysgolion gydag ysgol 'Raber, cangen o Bwlch Newydd. Aelod yn Bwlch Newydd oedd John Davies, Plasparciau, er ei fod yn ymyl Ffynnon Bedr; ond aethai oddiyno rai blynyddoedd cyn hynny gydag amryw eraill, y rhai a gychwynasant Gibeon, oblegid rhyw anghydwelediad yn newisiad gweinidog. Yr oedd John Davies yn ddyn deallgar, yn ddarllenwr mawr ac yn hoff iawn o byncio a dadleu. Disgybl i Mr. Davies, Pant Teg, ydoedd, ac wedi ei faethu yn ei athrawiaeth. Gwyddai y "Llyfr Glas," fel y gelwid "Galwad Ddifrifol" John Roberts—i gyd, ac yr oedd wedi ei fwyta oll. Mae yn debyg fy mod wedi ei daro wrth bregethu; ac wedi myned i'r tŷ a chael swper, dechreuodd ar ei hoff bynciau, a buom wrthi hyd y bore. Yr oeddwn yn digwydd bod yn bur gyfarwydd a'r cwestiynau hynny, oblegid dyna oedd cwestiynau y dydd, ac yr oedd y lleill wedi gadael y siarad bron yn gwbl i ni ein dau. Nid oeddwn wedi deall fod unrhyw gysylltiad rhyngddo a'r Bwlch Newydd, nes iddo ddweyd wrthyf pan yn ymadael bore Gwener, y cai fy ngweled yn Bwlch Newydd
bore Sabboth.XVII. BWLCH NEWYDD.
Yr oeddwn yn myned i Gibeon nos Wener, a daeth James Thomas gyda mi. Ar y ffordd dywedodd wrthyf mai y peth cyntaf a ddywedodd John Davies wrtho wedi dod o'r capel yn Ffynnon Bedr oedd,—" Dyna weinidog Bwlch Newydd." Dydd Sadwrn, yng Nghaerfyrddin, cyfarfu John Davies mae'n ymddangos ag amryw o aelodau Bwlch Newydd, a'r un peth a ddywedai wrth bawb, fel erbyn i mi fyned yno bore Sabboth yr oedd llawer yn disgwyl am danaf, ac y mae yn bur sicr fod eu disgwyliadau wedi eu codi yn rhy uchel, yr hyn oedd i mi yn anfantais. Pregethais nos Sadwrn yn Nhroed Rhiw Meirch, lle y cedwid y mis. Yr oedd John Thomas, Gideon,—Mr. Thomas, Bryn, yn awr—i fod hefyd yn Bwlch Newydd y bore hwnnw, yntau yr un modd yn curo i fyny. Yr oedd hynny drachefn yn anfantais. Pregethais yr hen bregeth oedd yn arfer myned, —"Pwy hefyd a ymrydd yn ewyllysgar i ymgysegru heddyw i'r Arglwydd ?" Aeth yn lled dda, ond gwelais hi yn gwneyd yn well lawer gwaith. Clywais fod John Thomas, Gideon, yn dweyd mai gaseg coach," ydoedd, "bron wedi rhedeg" maes. Sylw digon gwir a digon naturiol, a digon goddefol, yn enwedig lle yr oedd tipyn o gydymgais. Yr oedd gennyf erbyn hyn amryw o bregethau newyddion, y rhai a wnaethwn yn Nhrefdraeth a Llanelli, a Maesteg; ond yr oedd gennyf fwy o ymddiried yn yr hen rai i wynebu cynulleidfa am y waith gyntaf. Aethum i Cana erbyn dau o'r gloch, ar ol cyhoeddiad a anfonaswn, ond gwasgwyd arnaf i ddychwelyd i'r Bwlch Newydd erbyn yr hwyr, er nad oedd prgeth byth yn arfer bod yno yn y nos oni ddelai cyhoeddiad rhywun. Ar ddiwedd y Sabboth ceisiwyd gennyf i aros yno dros ychydig. Dywedais fod gennyf gyhoeddiadau ar hyd yr wythnos ddilynol ar y ffordd i Maesteg erbyn y Sabboth; ond meddai un hen frawd, John Davies, Crynfryn, wrthyf,—"Os dewch chi yn ol yma erbyn y Sabboth nesaf, chi gewch fenthyg pony bach gen i i fyned ar ol eich cyhoeddiadau, trwy yr wythnos." Yr oedd hwnnw yn gynnyg rhy dda i'w wrthod, ac oblegid hynny derbyniais ef. Aethum i'r Crynfryn i gysgu. Gadewais y sypyn dillad oedd gennyf yno, a bore Llun, cychwynnais yn falch iawn ar gefn y pony am Bencadair, a Throed y Rhiw, a Penuel, a Siloam a Phen y Groes, ac hyd Cross Inn. Yr oeddwn yn tybied fy hun yn dipyn o ddyn ar yr anifail, er mai benthyg oedd, a rhagolwg lled obeithiol am le i aros. Dychwelais nos Wener i Plas Mynydd, i dŷ y Parch. D. Evans, Pen y Graig. Yr oedd ef wedi gweled John Davies, Plasparciau, y Sadwrn blaenorol yn y dref, ac wedi i mi ddweyd wrtho pa fodd y bu y Sabboth, a'r amodau ar y rhai yr addewais ddychwelyd yno erbyn y Sabboth dilynol, teimlai ef fod popeth yn berffaith ddiogel. Pregethais yno y Sabboth hwnnw a'r un dilynol, ac ar y Cymundeb daeth Mr. Davies, Pant Teg; yno. Lletywn yn y Crynfryn, lle y cawn bob croesaw yn eu ffordd wledig hwy. Nid oedd yno wraig, dim ond morwyn. Buasai ef yn ddiacon, ond aethai dan gwmwl rai blynyddau cyn hynny, ac nid oedd ond yn ddiweddar wedi ei adfer yn aelod. Yr oedd yn glyd ei fyd, a chryn lawer o'i berthynasau yn yr eglwys. Ym mis Chwefror, yr oedd Cyfarfod Chwarterol yn Llanelli, a disgwyliwn i'r achos gael ei roddi o flaen yr eglwys cyn hynny, fel y gellid hysbysu yno am yr urddiad, fel yr oedd yn arfer y pryd hwnnw. Yr oedd yn ddeddf yn sir Gaerfyrddin, ac yn y rhan fwyaf o siroedd y De, na urddid neb heb i hysbysiad o hynny gael i wneyd yn y Cyfarfod Chwarterol; nid i dderbyn eu cymeradwyaeth, ond er mwyn rhoddi boddlonrwydd fod y dewisiad yn unol, ac fel na byddai i neb mewn anwybodaeth gael eu hudo i fyned i urddiad pan y gallasai fod rhywbeth yn erbyn yr urddedig, neu yr eglwys yn rhanedig ar ei achos. Nid oeddynt mewn un modd yn ymyraeth â dewisiad yr eglwysi, ond yr oeddynt yn diogelu eu hunain rhag cymeryd rhan yn urddiad neb heb gael sicrwydd fod pobpeth yn foddhaol. Yr oedd yr hen weinidogion, Davies, Pant Teg; Rees, Llanelli; Griffiths, Horeb; Jones, Penybont; Jones, Tredegar; ac eraill a edmygir fel "yr hen Anibynwyr," yn selog iawn dros y drefi hon. Aethum i'r Cyfarfod Chwar terol i Lanelli gyda Mr. H. Hughes, Trelech, a Mr. Evans, Pen y Graig; a dyna y pryd y deallais gyntaf nad oedd y teimladau goreu rhwng pawb o weinidogion y sir. Ffromodd Mr. Hughes, Trelech, yn fawr wrth Mr. Rees, Llanelli, oblegid iddo gyhoeddi Mr. Williams, Llandeilo, i bregethu ar ei ol ef, ac yntau yn gymaint hynach fel gweinidog. Gwnaeth Mr. Williams bob ymgais i gael pregethu yn gyntaf, ond ni chaniatai Mr. Hughes; ac yr oedd yn eglur ar Mr. Rees mai fel y cyhoeddodd y mynnai iddi fod; ac yn ddiau, i ddylanwad yr oedfa, felly yr oedd oreu. Yr oedd Mr. Williams yn llawn mwy doniol ei draddodiad, ond yr oedd cyfansoddiad pregeth Mr. Hughes yn Hawer mwy gorchestol.
Yn y cwrdd eglwys, yr ail ddydd Mawrth yn mis Mawrth, rhoddwyd ger bron yr eglwys i roddi galwad i mi. Yr oeddwn yn bresennol yn gweled ac yn clywed y cwbl. Pasiwyd yn hollol unfrydol. Arwyddodd y diaconiaid hi yn y fan, "dros, ac yngwydd yr eglwys.". £28 yn y flwyddyn o gyflog a addewid i mi, a rhoddid i mi un Sabboth yn y mis yn rhydd, ac un gwasanaeth y Sabboth a ofynnid am y tri Sabboth arall, fel, pe buasai eglwys arall yn gyfleus yn rhoddi galwad i mi, yr oeddwn at fy rhyddid i'w derbyn. Nid oedd y Cyfarfod Chwarterol i fod hyd ddechreu Mehefin, yn Llanboidy, ac felly yr oedd yn rhaid aros hyd ar ol hynny cyn cael yr urddiad, a phen- derfynwyd iddo fod yr wythnos ddilynol. Aethum ddydd Mawrth ar ol y Cwrdd Eglwys i'r Posty Isaf, at William James a'i wraig Ann—fy chwaer yo nghyfraith wedi hynny—ac yno y cymerais fy llety. Yr oedd yn lle llawer mwy dymunol, a phob cysuron i'w cael yno yn well nag mewn un lle arall; er y gwyddwn mai gwell fuasai ganddynt i mi aros yn rhywle yn nes i'r capel, er na ddywedodd neb air wrthyf ond a ddywedodd John Thomas, Crynfryn, pan aethum yno i ymofyn yr ychydig bethau oedd gennyf,—"'Roeddwn i yn meddwl y buasai pobl fawr y gwaelod yna yn mynd a chi," meddai. Gwrthododd gymeryd dim am fy lle, a dywedodd y gallaswn aros yno yn hwy ar yr un telerau. Ond nid oedd yno le cysurus, heblaw fy mod erbyn hyn yn dod i wybod tipyn am y bobl. Cyfarfyddaswn ychydig cyn hynny â hen wr hanner paganaidd, o'r enw John Richard, oedd yu byw islaw Bwlch Newydd, a'r hwn elai weithiau i'r eglwys. Gofynnodd i mi, "Odi chi, machgen i, yn dod yn weinidog i'r Bwlch yma?" Wel, mae hynny yn debyg yn awr," meddwn innan. "Wel, Duw a'ch helpo, machgen bach, shwd yn y byd y byddwch chi byw gyda nhw ? Mae nhw fel nadredd cochon bach trwy'i giddil i gyd, un tylwyth u'nhw, peidiwch mynd rhyng'un nhw.' Dau deulu mawr cangbenog oedd trwy yr eglwys,—teulu y Crynfryn, a theulu Clomendy, ac yr oedd rhai pobl dda yn perthyn i'r naill a'r llall; ond yr oedd y rhan fwyaf o bobl oreu a theuluoedd goreu yr eglwys heb fod yn perthyn i'r un o honynt. Nis gallaf fyned heibio heb grybwyll enwau rhai o honynt. Dafydd Phillips oedd hen wr cywir a dihoced, ac, er nad oedd ond gweithiwr tlawd, yr oedd ganddo fwy o ddylanwad na neb yn yr eglwys. John Jones, neu John Mason, fel ei gelwid, oedd ddyn deallgar iawn. Yr oedd yn ddarllenwr iawn ac yn gofiadur rhagorol, ac yn un o'r ymadroddwyr mwyaf dymunol. Jonathan, Plas Bach, oedd ddyn rhagorol, o ddawn rhwydd ac yn heddychol ei ysbryd. Dafydd Thomas, Pen y Gaer, oedd un o'r rhai ffyddlonaf i bob moddion, ac er nad oedd, fel y deallais wedi hynny, yn ffafriol ar y dechreu i roddi galwad i mi, eto ni chefais neb yn fwy ffyddlon. Willam James, fy lletywr, oedd ŵr mwynaidd a heddychol, felly hefyd yr oedd Dafydd Rees. Ffynnon Wen, a Dafydd Edwards, Ty Rhos. Dafydd y Crydd oedd ddyn cynnes a bywiog, a ffyddlawn dros ben i weinidog Bwlch Newydd pwy bynnag fyddai. Dywedai fy olynydd, y Parch. Michael D. Jones, am dano, mai "mewn tri pheth y credai-gweinidog Bwlch Newydd, tamed o gig myharen, a dyferyn o dablen—ac mai tri pheth a felldithiai—priodas, crefydd gymdeithasol, a gwŷr Heol Awst." Mae llawer o wir yn y sylw. Un bychan pigog ydoedd, ond cefais i er, tra y bum yno, yn drwyadi ffyddlon. Eglwys dlawd ar y cyfan oedd eglwys Bwlch Newydd, a'i phechod parod oedd diota. Nid oedd rhai o'r dynion goreu yn rhydd oddiwrth hynny.
Yn ystod yr amser y bum yno cyn fy ordeinio, newidiwn ar y Cymundeb ag un o'r gweinidogion. Bu Mr. Evans, Pen y Graig, a Mr. Lewis, Henllan, ac nid wyf yn cofio pwy arall, yn fy lle. Bum yn urddiad Henry Davies yn Bethania, ac yn agoriad Soar, Hen Dy Gwyn, ac yng Nghyfarfod Chwarterol Llanboidy, ac yng Nghymanfa Trefgarn, yn y cyfamser. Hysbysodd Mr. Davies, Pant Teg, yng nghyfarfod Chwarterol Llanboidy, fy mod wedi cael galwad, a bod yr eglwys yn hollol unol, a bod yr urddiad i fod yr wythnos ddilynol, a gwahoddodd y gweinidogion oll i fod yn bresennol, y rhai a ddaethant yn lluosog. Urddwyd fi Mehefin y 14eg a'r 15fed,
1842.XVIII. CYDLAFURWYR.
Dechreuais deimlo yr anfantais o fod heb addysg briodol, a phenderfynais wneyd y diffyg i fyny, hyd y gallwn, drwy gwbl ymroddiad. Nid oedd gennyf lawer o lyfrau, ac nid oedd y rhai oedd gennyf, o'r dosbarth uchaf; ond gwnaethum y goreu o honynt oll. Gwyddwn bopeth oedd ym mhob un ohonynt. Treuliais lawer wythnos gyfan heb fyned fawr ddim allan o'r tŷ. Trafferthwn i gasglu y pethau goreu a allwn gael i'm pregethau, ac i'w gosod allan yn y modd gore. Ysgrifennwn hwy yn ofalus, a chan nad oedd angen, fel rheol, ond am un bregeth bob pythefnos, byddai gennyf gyflawnder o amser atynt. Treuliais felly yn lled lwyr y pedair blynedd cyntaf; ond teimlwn yr anfantais o fod heb neb i ymgynghori ag ef, a chael cyfarwyddyd ganddo. Cyfarfyddwn yn aml â gweinidogion y sir mewn cyfarfodydd, yr hyn a brofodd i ini yn lles mawr, Deuent hwy ataf fi, ac elwn iunau atynt hwythau. Mr. David Davies, Pant Teg, oedd un o weinidogion hynaf y sir oedd yn cymeryd rhan amlwg yn achosion yr enwad. Nid oedd yntau ychwaith yn hen, gan nad cedd ond ychydig dros hanner cant oed, ond yr oedd wedi ei urddo yn ieuanc, a phawb yn edrych arno fel henafgwr. Yr oedd yn ddyn synwyrol a deallgar, yn cael ei ystyried yn dduwinydd craff; er na ddeallais erioed ei fod yn nodedig o graff ychwaith. Ond yr oedd wedi cymeryd rhan amlwg yn dadleuon yn nghylch y "System Newydd", ac ysgrifenasai ar "Sefyllfa Prawf," a chyhoeddasai bregeth dda iawn ar "Athrawiaeth lachus." Yr oedd yn fedrus iawn i ddweyd ei feddwl yn eglur, a'i ddweyd ar ychydig eiriau. Dywedid ei fod yn ei ddydd yn ddoniol iawn fel pregethwr, a'i lais yn swynol ryfeddol; ond cafodd glefyd trwm iawn ychydig flynyddoedd cyn i mi ei adnabod, a dywedai llawer wrthyf na bu efe byth yr un wedi hynny. Yr oedd yn barchus iawn gan yr holl eglwysi, ond un meddal ydoedd; ac er ei fod yn ddyn pur hollol ei hun, eto yr oedd yn rhy barod i noddi dynion gwaelion. Taflodd ei aden dros un, yn arbennig, nad oedd uwchlaw amheuaeth, a pharodd hynny fesur o anghydwelediad rhyngddo â Mr. Rees, Llanelli, ac eraill yr arferai gyd. weithio â hwy. Pan ddaeth dirwest i'r wlad gwrthododd Mr. Davies, Pant Teg, ymuno, a chymerodd eraill yn ei gysgod achlysur i sefyll draw. Bu hynny yn help i oeri teimladau.
John Breese, Caerfyrddin, oedd bron yn gyfoed a Mr. Davies. Yr oedd efe wedi dechreu gwaelu pan aethum i'r wlad, a bu farw yn y mis Awst canlynol. Yr oedd efe yn gefnogol iawn i mi, bu raid i mi fyned i bregethu i Pentre Hydd, lle yr oedd yn aros, er mwyn iddo fy nghlywed; ac yn y Gwanwyn daeth ryw noson i'r Aber i bregethu. Daethum yno i'w wrando o urddiad fy nghyfaill, Henry Davies, Bethania. Pregethai yn dda ac ymarferol oddiar y geiriau, “Brysiais ac nid oedais gadw dy orchymynion," ond yr oedd wedi gwanychu yn ddirfawr er pan y clywswn ef flwyddyn cyn hynny. Nid wyf yn meddwl iddo fod fawr oddicartref wedi hynny. Lletywn gydag ef y noson honno yn Aberhentian. Pesychai yn drwm drwy y nos. Yr oedd yn ddyn cryf, crwn, cydnerth, ac yn un y gallesid disgwyl iddo fyw hyd bedwar ugain oed; ac yr wyf yn credu y buasai efe, fel llawer o bregethwyr yr oes honno, fyw yn llawer hwy pe buasai yn gadael heibio yfed brandy. Credent hwy ei fod yn help iddynt, ond yn lle hynny eu niweidio yn fawr yr oedd. Safodd yntau draw oddiwrth ddirwest, ac yr oedd yn gryf yn ei herbyn. Y noson honno, yn Aberhenllan, gofynnai i mi a oeddwn yn adnabod Owen Thomas, Bangor. Atebais fy mod. Yna dechreuodd ei drin, a'i fod wedi dweyd pan ar ei daith ddirwestol, mai tair colofn meddwdod yn sir Gaerfyrddin oedd Breese Caerfyrddin, Davies Pant Teg, ac Evans Llwynffortun. Gwyddwn nad oedd erioed wedi dweyd y fath beth; ond nid aethum i ddadleu ag ef, ac felly aeth y peth heibio. Mae yn ddiau fod rhywun wedi dweyd hynny wrtho ef. Dyn caredig iawn oedd Mr. Breese, un o'r rhai parotaf i wneyd cymwynas, a ffyddlon iawn i'r rhai y cyfierai atynt. Pregethwr dwfn, tywyll, geiriog, cadwynog ei frawddegau ydoedd, ond yn fywiog a gwresog ei draddodiad, ac wedi cael y gair o fod yn bregethwr mawr, ac oblegid hynny yn hynod o boblogaidd. Pan y pregethai yn ymarferol byddai yn nerthol iawn, yr hyn a wnai fynychaf ar nos Sabbothau. Yr oedd ynddo, yn ddiau, allu mawr fel pregethwr, ond iddo yn fore syrthio i mewn ag arddull dywyll a niwliog, a gamenwid yn fawredd.
Mr. David Hughes, Trelech, oedd un o'm cymydogion agosaf, gan ei fod yn gweinidogaethu yn Blaen y Coed yn ogystal a Threlech. Yr oedd ef wedi dyfod i'r wlad fwy a thair blynedd o'm blaen, o Casnewydd, lle y treuliasai un mlynedd ar ddeg. Pregethwr o ddosbarth Mr. Breese ydoedd, ond fod ei bregethau o ran eu cyfansoddiad yn fwy gorffenedig. Ond nid oedd yn meddu ar danbeidrwydd, ac ystwythder, a hyawdledd traddodiad Mr. Breese. Cyfyngai Mr. Hughes ei lafur bron yn gwbl i'w bobl, ac yr oeddynt yn synied yn uchel am dano. Anaml yr elai oddicartref oddigerth i'r Gymanfa, ac i'r Cyfarfod Chwarterol os digwyddai fod gerllaw. Ond yr oedd yn ffyddlon i boll sefydliadau yr enwad, a byddai yn hynod o garedig pan ymwelid ag ef. Yn ei lyfrgell y ceid ef fynychaf yn darllen neu ysgrifenu. Ychydig o allu cynyrchu oedd ynddo. Cyfieithiad oedd yn mron y cwbl o'i bregethau, ond cyfieithiad o ddarnau detholedig, y rhai a saerniai ac a osodai ei hun mewn trefn. Mewn amgyffrediad o'r gwirionedd, a gallu i'w osod mewn ffurf a threfn, yr oedd yn fwyaf nodedig. Colled ddirfawr i'r holl wlad oedd iddo farw yn ddwy flwydd a deugain oed.
Mr. Joshua Lewis, Henllan, oedd un o'r dynion ieuainc mwyaf dysgedig ac addawol yn y wlad. Yr oedd ef yn rhyw bedair blwydd oed o weinidog pan aethum i'r sir, ac urddasid ef yn gydweinidog â'r Hybarch John Lloyd. Nid oedd yn ddoniol, eto pregethai yn fywiog, a phob amser yn ymarferol. Yr oedd tuedd athronyddol i'w feddwl; cychwynnai gyda rhyw wirionedd, a dilynai hwnnw i ba le bynnag yr arweinid ef ganddo. Adeiladwaith gref a gorffenedig fyddai pregeth Mr. Hughes, Trelech, at yr hon y casglai y defnyddiau o bob man; ond coeden yn tyfu ac yn ymganghenu oedd pregeth Mr. Lewis, Henllan. Byddai ei bregeth yn llawn eglurhadau,—nid chwedlau—a'r rhai hynny yn chwaethus dros ben. Ei brofedigaeth yn ei flynyddoedd cyntaf oedd bod yn rhy glasurol ac arddansoddol. Dyn da iawn ydoedd, pur o galon, pur ei ymadroddion, a phur ei fuchedd. Ei brofedigaeth oedd cymeryd i fyny â hobbies, a marchogaeth y rhai hynny nes y byddai efe ei hun, a phawb arall, wedi blino arnynt. Bu am flynyddoedd yn un o'r dirwestwyr mwyaf selog a manwl, ond, ar ol hynny, llyncodd ryw syniad eithafol am ysprydolrwydd crefydd, nes myned i gredu fod crefydd ysprydol yn codi dyn uwchlaw pob ymrwymiad dirwestol, ac ar yr un pryd yn ei godi uwchlaw arferion yfol oddieithr o dan amgylchiadau eithriadol. Dibriod fu drwy ei oes. Siomwyd ef yn ei gynlluniau; onide, mae'n bur siwr, pe cawsai wraig yn ymgeledd gymhwys iddo, yr ychwanegasai yn fawr at ei ddedwyddwch a'i ddefnyddioldeb. Efe yn ddiau oedd un o'r dynion goreu a adnabyddais erioed ; a thynnodd ei gwys yn uniawn i'r terfyn; er iddo yn ei flynyddoedd olaf gael ei analluogi gan ergyd o'r parlys i gyflawni ei weinidogaeth.
Mr. David Rees, Llanelli, oedd yr enwocaf a'r mwyaf dylanwadol o holl weinidogion sir Gaerfyrddin yn yr adeg honno, os nad efe, yn wir, oedd y mwyaf poblogaidd yn Neheudir Cymru. Nid oedd ond dyn deugain oed; ond yr oedd mewn amgylchiadau bydol gwell nag odid neb o'i frodyr,—yn olygydd y Diwygiwr, yr hwn a ddarllennid gan filoedd,—yn ddyn o yspryd diwygiadol yn wladol, cymdeithasol ac eglwysig,—yn meddu ewyllys gref a phenderfyniad diysgog,—yn bregethwr doniol a phoblogaidd,—yn weinidog egniol a llwyddiannus; a'r pethau hyn yn nghyd a gyfrifai am ei ddylanwad. Yr oedd cyn ei fod yn wyth mlwydd o weinidog yn fynych yn cael ei alw i lywyddu Cynhadleddau y Cymanfaoedd, ac i bregethu yn y prif oedfaon. Yr oedd ei ddawn a'i gloch yn hynod o soniarus, ac weithiau, gydag adroddiad ambell i hanesyn tarawiadol, byddai yn dra effeithiol. Yn ei ysbryd diwygiadol yr oedd ei ragoriaeth, a'i allu i daflu ei ysbryd ei hun i bawb a ddelai i gyffyrddiad ag ef. Ni lefarodd neb erioed yn groewach ac yn gryfach o blaid pob mesur o ddiwygiad gwladol, a thros yr egwyddor fawr o gydraddoldeb crefyddol nag y dadleuodd ef. Yn wir, yr oedd yn ngolwg llawer o'i frodyr yn rhy eithafol, ond ni pharodd hynny iddo ostwng ei dôn—na lliniaru ei iaith—nac mewn un modd beri iddo ddirgelu ei olygiadau. Yr oedd yn ddyn calonnog ac agored, yr hyn a roddai iddo ddylanwad helaeth dros y rhai a ymwnaent ag ef. Cymerodd i fyny gyda dirwest o ddifrif, ac yr oedd y tô o weinidogion ieuainc yn ddilynwyr ffyddlon iddo. Er na bu yfed erioed yn brofedigaeth iddo; ac er ei fod yn nodedig o gymedrol yn ei arferion yn yr adeg ddiotgar y dechreuodd ei oes, eto gwelodd fod y gymdeithas ddirwestol y peth oedd yn ateb cyflwr y wlad, a thaflodd holl bwysau ei ddylanwad o'i phlaid. Yr oedd yn un llym iawn yn erbyn dynion llygredig, ac yn enwedig yn erbyn gweinidogion llygredig; ac nis gallesid disgwyl gair da iawn iddo gan y rhai hynny, er iddo hefyd fod yn foddion i waredu amryw ohonynt oedd ar y dibyn. Yr oedd yn fywyd pob cyfarfod lle y byddai, ac yn y teuluoedd lle y lletyai nid oedd neb a hoffid yn fwy. Yr oedd yn ddyn gwir dda, megis trwy ryw reddf yn wastad o blaid yr hyn oedd uniawn. Bendith anrhaethol i Lanelli a sir Gaerfyrddin oedd cael ei fath pan y sefydlodd ynddi ; a bendith fawr fyddai i bob sir yng Nghymru yn awr gael rhywun ynddi o gyffelyb feddwl iddo.
Mr. Joseph Evans, Capel Seion, oedd tywysog y sir fel pregethwr yn ei arddull arbennig ef, yn yr adeg honno. Nid oedd neb yn sir Gaerfyrddin y gwnaethum gymaint ag ef yn ystod yr wyth mlynedd a mwy y bum yno ag a wnaethum a Mr. Evans. Dyn o athrylith ac arabedd, yn llawn synwyr cyffredin, ac un o'r rhai cymhwysaf i roddi barn deg ar bob achos a ddygid o'i faen; ond ei fod yn rhy lwfr a meddal i gario allan ei argyhoeddiadau os meddyliai fod perygl. Yr oedd yn un o'r dynion mwyaf diniwed, ac ni wnelai gam a'r distadlaf. Fel pregethwr y rhagorai. Nid oedd cylch ei ddarlleniad ond cyfyng, ac felly nis gallai ei wybodaeth gyffredinol fod yn helaeth. Nid oedd ychwaith yn meddu cyflawnder a helaethrwydd o ymadroddion; ac eto yr oedd ei bregethau at achlysuron cyhoeddus yn ddarnau detholedig. Casglai iddynt dlysion a phrydferthion, ymadroddion coeth a tharawiadol o bob man, a ffurfiai ei frawddegau caboledig yn y dull tebycaf i daro y glust a'r teimlad. Siaradai mewn ryw oslef leddf, ac fel y poethai cryfhai, a byddai ar brydiau yn ysgubol; yn enwedig yn y cylch lle yr oedd ei briod-ddull o lefaru yn adnabyddus. Nid oedd yn ddawn cenedlaethol, oblegid fod cymaint o'r hyn a eilw Sais yn provincialism yn ei arddull. Dyn gwan a meddal ydoedd ymhob cylch, yn ei deulu. a'r eglwys, fel yn y cyhoedd. Trwy ddylanwad ei gyfaill a'i gyfoed Mr. Rees, Llanelli, pan gychwynodd dirwest ymunodd â hi, a bu yn ddirwestwr trwyadl am dair blynedd ar ddeg. Priododd wraig weddw gyfoethog, i'r hon yr oedd nifer o feibion; ac er iddo gael cartref cysurus nid oedd fawr gydymdeimlad rhyngddi hi a'r weinidogaeth. Bu hi farw yn dra sydyn yn 1850, ac yn y brofedigaeth hudwyd ef i yfed er anghofio ei ofid, ac yn ei feddalwch cydsyniodd. O'r dydd hwnnw allan collodd ei fawr nerth. Cafodd lawer o drallodion; cododd mab i'w wraig mewn gwrthryfel i'w erbyn i fyned a'r eiddo oddiarno: syrthiodd yntau i ddwylaw drwg, y rhai a'i hysbeiliasant o'r cwbl a feddai, ac yn nhŷ un o'r cyfryw yng Nghaerfyrddin y bu farw. Bum yn ymweled ag ef yno, a threuliais awr gydag ef. Drwg iawn gennyf ei weled fel Samson wedi ei amddifadu o'i ddau lygad. Yr oedd yn ddioddefydd mawr ar y pryd oddiwrth y dyfrglwyf, ac felly y parhaodd hyd ei farwolaeth. Un o'r cyfeillion ffyddlonaf a welais yn fy oes ydoedd; ac ni welais yn ystod yr holl flynyddoedd y buom yn cydweithio ddim yn anheilwng ynddo. Ac er fy mod yn mhell o'i esgusodi am yr hyn a wnaeth i'w arwain i'r fath ddiwedd cymylog, eto pan gofiwyf ei dymer naturiol, a'i feddalwch, a'r holl helbulon a'i cyfarfyddodd, yr wyf yn gorfod teimlo ei fod yn wrthrych i dosturio wrtho yn llawn cymaint ac i'w feio. Mr. David Evans, Pen y Graig, a safai yn cymeradwy fel pregethwr yn y sir y pryd hwnnw. Yr oedd wedi bod ryw saith mlynedd yn y weinidogaeth cyn fy urddo. Gweinidog egniol a llwyddiannus ydoedd. Ymosodai gyda phenderfyniad ar arferion llygredig y wlad, a gwnaeth lawer i'w rhoi i lawr. Yr oedd yn bregethwr pur
effeithiol, er nad oedd yn fawr nac yn gryf. Nid————————————————————————————————————
CYDLAFURWYR J. THOMAS YN LERPWL.
(O'r Oriel Gymreig)
(Noah Stephens, John Thomas, William Rees (Hiraethog), William Roberts, Hugh Jones)
————————————————————————————————————
dywedai eiriau fel brath cleddyf; ac nis gallai ennill ewyllys da neb, wedi ei golli. Ymadawodd nifer o aelodau o Ben y Graig mewn terfysg, ac adeiladasant Ramah, ac aeth amryw o weinidogion y sir i bregethu iddynt. Chwerwodd hynny ef yn fawr, a pharodd iddo gadw draw o gyfarfodydd y sir oddieithr yn anaml. Ond yr oedd yn ddyn da, crefyddol, a chydwybodol, ac yn ei gylch uniongyrchol gwnaeth lawer o les. Nid oedd yn y wlad well gweinidog.
Mr. William Williams, Llandeilo, oedd y pryd hwnnw yn anterth ei ddydd, ac fel pregethwr doniol y mwyaf poblogaidd yn y sir. Yr oedd ei ddawn yn ysgythrog; ac heb ei ddawn a'i wres ef gyda'r traddodiad, buasai llawer o'r pethau a ddywedai yn cael eu cyfrif yn arw, os nad yn isel. Cydmariaethau gwledig a ddefnyddid ganddo, ac yr oedd eu naturioldeb, a chyfarwydd-deb y bobl a hwy, yn peri fod mynd arnynt. Nerth oedd nodwedd ei weinidogaeth, nerth i ymosod ar ddrygau, a nerth i ymlid ar ol pechod a phechaduriaid, yn fwy na nerth meddwl i egluro a debongli y gwirionedd. Yr oedd yn ddyn o ddawn mawr ym mhob man, a phan ddechreuai gymeryd dyn i fyny, neu wneyd gwawd o hono, nid oedd terfyn. Trahaus yn hytrach ydoedd yn ei ffordd, a pha le bynnag y byddai, cariai y llywodraeth â llaw gref. Ond fel pregethwr yr oedd yn ddoniol a phoblogaidd. Heblaw y rhai a nodwyd, yr oedd eraill yn sir Gaerfyrddin pan sefydlais yno, nas gallaf fanylu arnynt, ac felly rhaid i mi eu gadael heb ond prin grybwyll eu henwau. Mr. William Davies, Llanymddyfri, oedd ddyn diniwed a doniol. Mr. David Jones, Gwynfe, oedd hen wladwr gwybodus a deallgar. Mr. David Williams, Bethlehem, oedd wr crefyddol a ffyddlon. Mr. Evan Jones, Crug y Bar, oedd ddyn craff a deallgar, ac o ewyllys gref. Mr. Thomas James, Tabor, oedd dywysog llonydd." Mr. Rees Powell, Cross Inn, a geid yn wastad "yn canu yn dda". Mr. Thomas Jenkins, Penygroes, oedd ddarn o aur pur heb ei gaboli. Mr. Henry Evans, Pembre, oedd yn garedigrwydd i gyd, ac a bregethai yn dda,—yn enwedig pan gai gefn y gweinidogion. Mr. Daniel Evans, Nazareth, oedd ddyn unplyg a dihoced. Mr. David Jones, Cydweli, "a welai lonyddwch mai da oedd." Nid oedd Mr. William James, Llangybi, yn rhoddi y byd ar dân, er ei fod yn wr dichlynaidd. Mr. Joseph Williams, Bethlehem, a osodwyd mewn "gwlad dda odiaeth," ond a esgeulusodd ei waith, fel y gwelodd yn well encilio i'r Eglwys Wladol. Mae Mr. Evan Jones eto yn aros, a'r unig un sydd yn aros yn awr. Mr. Evan Evans, Hermon, oedd gymydog caredig, heb ddim drwg gan neb i ddweyd am dano. Mr. William Morris, Abergwili, oedd yn ddyn selog ond ei fod yn orffwyllog. Mr. John Williams, Llangadog, a urddasid y flwyddyn o'm blaen, ac efe oedd y mwyaf poblogaidd ac addawol o'r holl weinidogion ieuainc, Urddasid Mr. Henry Davies, yn Bethania, ychydig fisoedd o'm blaen, ond yr oeddwn wedi dyfod i'r sir cyn dyfodiad Mr. Thomas Rees i Siloa, yr hwn a fu i mi yn gyfaill a chydymaith fy oes. Gwelir mai ieuainc gan mwyaf oedd y gweinidogion. Yr oedd y rhan liosocaf o honynt o dan ddeugain oed, ac nid oedd ond ychydig o honynt uwchlaw hanner cant oed. Y peth mwyaf arbennig ynddynt oedd eu bod yn ysbryd eu gwaith; ac yr oedd myned i gyfarfod y sir yn hyfrydwch, gan mor llawn oedd pawb o ysbryd pregethu. Pregethid llawer iawn i'r eglwys, ac ar ddyledswyddau crefyddwyr, ac yn erbyn pechodau cyhoeddus. Dyna' a geid bron yn gyffredinol. Anaml y pregethid ar unrhyw athrawiaeth; ac nid oedd y weinidogaeth yr hyn a elwir yn efengylaidd, os nad oedd felly mewn ysbryd.
XIX. OEDFA HAPUS.
Daeth tyrfa fawr (i Landeilo) yn nghyd, i wrando Mr. Williams wrth reswm, oblegid yr oedd efe yn uchder ei boblogrwydd, ac yn tynnu y lliaws ar ei ol. Yr oeddwn innau yn gwbl ddieithr iddynt oll, a phe buasent yn fy adnabod nid yw yn debyg y buasai hynny yn gymhelliad i'w cael ynghyd. Darllenais yn destyn,—"Ar yr hyn bethau y mae yr angylion yn chwenychu edrych." Deallais cyn pen pum munyd fy mod wedi cael clust yr holl dorf. Nid wyf yn siwr nad oedd y rhan fwyaf o honynt yn meddwl mai Williams Llandeilo oeddwn, oblegid yr oedd yntau yn gwbl ddieithr i gannoedd yno, ond yn unig mewn enw; ac nid wyf yn amheu na fu hynny o help i mi. Cryfhaodd eu gafael hyd y diwedd, nid mewn hwyl orfoleddus; ond mewn gwenau cyffredinol o gymeradwyaeth. Nid oeddwn wedi cael oedfa mor lwyddiannus erioed cyn hynny. Rhoddodd y tro hwnnw fwy o hyder i mi yn y peth a allaswn wneyd fel pregethwr na dim a deimlaswn o'r blaen; er i mi fod yn hir ar ol hynny cyn dyfod i syniad iawn beth ddylai pregeth fod, heb sôn am ddyfod i fyny a'r syniad hwnnw.
XX. TAITH I'R GOGLEDD.
Yr oeddwn yn cychwyn o gymanfa Llansadwrn, a gynhelid Mai 22ain a'r 23ain.—y gymanfa sirol gyntaf yn sir Gaerfyrddin. Mr. Williams, Llandeilo, oedd gweinidog Llansadwrn. Rhoddodd fi i bregethu gyntaf yn yr oedfa chwech o'r gloch y bore, ar y maes,—ac yr oeddwn yn falch o'r anrhydedd. Pregethais y bregeth ar y geiriau, —"Ar yr hyn bethau y mae yr angylion yn chwenychu edrych"—yr hon oedd y brif bregeth gennyf i fyned i'r daith. Rhoddid canmoliaeth uchel iddi. Nos olaf y Gymanfa yr oeddwn yn Ffald y Brenin, ac ar fy ffordd yno cyfarfuais â Benjamin Evans, brawd fy hen gyfaill, Joseph Evans, Capel Seion; ac wedi deall fy mod yn myned ar daith i'r Gogledd, dywedai yr hoffai ddod gyda mi; a chymhellais ef i ddyfod. Yr oedd ef ar y pryd yn cadw tipyn o ysgol yn Abergorlech, ac ar dorri yr ysgol dros wyliau yr haf. Dywedodd wrthyf cyn ymadael, efe i Abergorlech a minnau i Ffald y Brenin, os cawsai fenthyg pony gan rywun, y deuai ar fy ol cyn y Sabboth. Pregethais nos Iau yn Ffald y Brenin. Dydd Gwener pregethais yn Ebenezer am ddeg, Ty'n y Gwndwn am ddau, ac Aberaeron yn yr hwyr. Yn Aberaeron pregethais y bregeth ar "Adferiad popeth," yr hon oedd yn y wasg. Canmolai Mr. Evans hi, ond dywedodd y buasai yn ychwanegu un peth ar y diwedd, fel cymhwysiad—Er yr adferid pobpeth nad oedd adferiad o uffern. Derbyniais ei awgrym, ac anfonais i'r swyddfa i ychwanegu hynny. Yr oedd ef wedi dyfod fwy i gyffyrddiad a'r Sosiniaid na mi, ac felly wedi clywed mwy yn haeru adferiad o'r poenau. Yn fy llety, nos Wener, pan yn hwylio i fyned i orffwys, pwy a ddeuai i mewn ond Ben Evans, wedi llwyddo gael pony i ddyfod gyda mi. Dydd Sadwrn, pregethason yn Nebo am ddeg, ac yn Llangwyryfon am ddau; ac yr oeddym i fod yn y Parth yr hwyr, ond collwyd y cyhoeddiad, ac yn Tan y Castell y buom yn lletya,—lle y cawsom bob croesaw. Y Sabboth, yr oeddem yn Aberystwyth am ddeg, yn Llanbadarn am ddau, ac yn Talybont am chwech. Nid oes gennyf fawr gof am y Sabboth, ond i ni gael deuddeg ceiniog o bres bob un am bregethu yn Llanbadarn; ac yr oeddynt yn ddigon hylaw i dalu y gates. Yr wyf yn cofio hefyd i bobi Talybont gael y fath flas âr bregeth “Yr angylion," fel y bu raid i mi addaw Sabboth yno wrth ddychwelyd, ac estynnodd hynny fwy nag wythnos ar fy nhaith, er mwyn i mi fod yno ar Sabboth Cymundeb, gan eu bod ar y pryd heb weinidog. Nos Lun yr oeddem yng nghapel y Graig, Machynlleth. Aethom ddydd Mawrth heibio i Ddolwen, i weled Mr. Williams Aberhosan, ac i Lanbrynmair erbyn yr hwyr. Yr oedd rhyw ddyryswch ar y cyhoeddiad, ond yr oedd ysgoldy y Bont yn cael ei agor, a tea party yno, â Mr. Evans Llanidloes, wedi ei alw yno i bregethu. Dydd Mercher yr oeddem yn Beulah am ddeg, a Llanfair yn yr hwyr; nos Iau yn Llanfyllin nos Wener yn Llanrhaiadr, a nos Sadwrn yn Smyrna. Yn y lle olaf cyfarfuom â Richard Jones, Llwyngwril, a chan nad oedd lle ond i un o honom gysgu, a hynny gyda'r hen frawd o Lwyngwril, aethom ein dau ar ol yr oedfa i Groesoswallt. Pregethasom yno am ddeg bore Sul, yn Rhosymedre am ddau, ac yn Rhosllanerchrugog am chwech. Yr oedd pethau yn isel iawn yn y Rhos y pryd hwnnw. Nos Lun yr oeddem yn Llangollen. Nos Fawrth, yn y Bala. Yr oedd yn noson gyntaf y Sasiwn, ond cyhoeddwyd ni, a chawsom gynulleidfa weddol. Yr oedd y myfyrwyr oll yno. Bore drannoeth cyfarfum a'm brawd Owen. Yr oedd wedi gorffen yn Edinburgh, a phregethodd yn olaf y noson olaf, oddiar geiriau, —"Canys trwy ras yr ydych yn gadwedig,"—a dyna y waith gyntaf iddo bregethu yn Sasiwn y Bala, a chafodd oedfa nodedig. Nid oedd dim yn gyffelyb wedi bod. Daeth sôn am yr oedfa ar fy ol. Aethom i Lanuwchlyn nos Fercher, a bu raid i mi yno hefyd addaw Sabboth wrth ddychwelyd. Yr oeddynt heb weinidog. Dydd Iau yr oeddem yn y Brithdir a Dolgellau. Nos Wener, yn Pen y Stryt,—a dyna un o'r lleoedd llwytaf a welsom ar y daith. Yr oeddem i fod nos Sadwrn yn Maentwrog, ond ni chyhoeddwyd ni. Pregethasom yno bore Sul, ac yn Porthmadog am ddau. Dywedodd Mr. Ambrose wrthyf, wedi gwrando fy nghyfaill, —"Yr ydych chi yn gall iawn, wedi dod a phregethwr ddigon sal gyda chi yn gyfaill, er mwyn i chi ddangos yn well, fel y bydd dyn wrth arwain march yn dod ar gefn merlyn bychan er mwyn i'r march ymddangos yn fwy.' Nos Sabboth yr oeddwn i yn Pantglas, a Ben Evans yn Nazareth. Gadewais ef i ddilyn y cyhoeddiadau y dyddiau canlynol, ac aethum ar fy union i Fangor; ac yna i Fon am yr wythnos honno. Mae gennyf gof fy mod yn Amlwch yn pregethu “Na rwgnechwch," a'i bod yn oedfa lled dda. Yr oedd amryw mewn trallod mawr. Rhoddodd Mr. Jones ar y diwedd allan i'w ganu,
"Dysg fi 'dewi gydag Aaron
Dan holl droion dyrys Duw."
Yr oeddem wedi trefnu i fod yng Nghorwen (ar y ffordd adre); ond gan nad oedd cyhoeddiad, aethom ymlaen drwy y Bala, a hyd Ty Mawr, Llanuwchllyn, gan mai yno yr oeddym i fod y Sabboth. Yr oeddem yr wythnos ddilynol yn myned i ryw leoedd yn sir Drefaldwyn, ac i'r Foel i urddiad Mr. Edward Roberts. Aethom y noson honno i Samah, ac yr oedd Mr. Samuel Roberts yno gyda ni, a mawr ganmolai y bregeth "Na rwgnechwch." Nos Wener yr oeddem yn Salem, Machynlleth ; ac yn myned oddiyno i Dal y Bont nos Sadwrn, ar wlaw mawr na bum allan ond anaml ar ei gyffelyb.
Yn y daith honno drwy y Gogledd cyfarfyddais â llawer o hen gyfeillion, ond ychydig gyfle gefais i glywed neb yno yn pregethu. Bum yn ymddiddan ag amryw yn nghylch pregethu, ac am grefydd yn gyffredinol: ond rywfodd nid oedd fy syniad am y Gogledd, ei gweinidogion a'i phobi, wrth ddychwelyd mor uchel ag ydoedd wrth gychwyn, ac ddangosai pethau i mi yn wahanol iawn i'r hyn yr ymddangosent bedair blynedd cyn hynny. Ymddangosai y gweinidogion agos oll fel rhai heb fod yn ysbryd eu gwaith, fel y gweinidogion ym mysg y rhai yr oeddwn i yn arfer ymdroi yn y Dê. Gwelwn fod llacrwydd mawr gyda dirwest, a'r rhai oedd eto yn para yn hynod o ddisêl; pan yr oeddym ninnau,—y rhai oedd yn ddirwestwyr yn y De, ac yr oedd nifer fawr o honom—yn angerdd ein sel. Parodd hyn i mi ddychwelyd â syniad îs am y Gogledd nag oedd gennyf wrth gychwyn, a llawer llai o awydd
myned yno drachefn.Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.