Adgofion Andronicus (testun cyfansawdd)
← | Adgofion Andronicus (testun cyfansawdd) gan John Williams Jones (Andronicus) |
→ |
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Adgofion Andronicus |
Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader
ADGOFION
ANDRONICUS.
O gur ei gystuddiau gerwin,—ei hun,
Yn nghanol y ddryghin,
O'i serch, Andronicus in
Ogrynai'r sypiau grawnwin.
Yn merw'r dyfroedd Mara,—o'i waeledd
Huliai'r wledd felusa,—
Yma er dysg, Gymry da,
Mynwch gael profi'r Mana.
Llangollen. —— HWFA MON (Archdderwydd ).
CAERNARFON:
ARGRAPHWYD GAN Y WELSH NATIONAL PRESS COMPANY (LTD .),
SWYDDFA'R "GENEDL."
1894.
ANERCHIADAU.
Cei fwynhad o'r Cofion hyn,—ddarllenydd ,
Er lloned amheuthyn
Hawdd i serch o'r cystudd syn,
Diarbed, yw eu derbyn.
Diliau ynt, a gaed hyd làn—rhawd einioes
Gwr doniol, pereiddgan,—
Barotödd brawd diddan
Yn rhodd ferth o'i orwedd-fan.——ALAFON
Gyda'i Adgofion doniol—ein lloni
Wna'r llenor cystuddiol;
Ac am y wledd ryfeddol
Dylen' ni dalu yn ol.——EIFIONYDD
"Yn y Trên y'th welais gynt
Yn myn'd a do'd ar ddifyr hynt,
Ac am greu hwyl a gwasgar gwên
Pwy mor fedrus a Gwr y Trên?"
Gwelais di wed'yn, am flwyddi maith,
Yn methu teithio, ond llawn o waith .
A Chymru deimlodd swyn Adgofion
Y "Cymro Gwyn," rhwng bryniau Arfon.
A chlywais rai yn dadleu'n dŷn,—
Pa un debycaf i haul ar fryn,
Ai " Gŵr y Trên" ynte'r " Cymro Gwyn."
Ond yr un wyt ti, er newid enw,
Ac yn dy arddull glir, dryloew,
Naturioldeb wêl ei delw!
Ni ddaeth culni a derbyn wyneb
Erioed i lwydo dy ffraethineb;
"Edward Jones y Wenallt" rodia
Fraich—yn—mraich â'r "Wesle Ola'!"
Dyddanydd fuost i'n cenedl ni,
Daw cenedl yn awr i'th ddyddanu di .
——ANTHROPOS.
At y Darllenydd.
AR daer anogaeth llawer o'm hen gyfeillion yn mhob cwr o'r wlad, yr ydwyf yn anturio cynyg i'm cyd wladwyr y gyfrol fechan hon, sef casgliad o rai o'm ysgrifau a ymddangosasant, o dro i dro, y blynyddau diweddaf, yn rhai o Gylchgronau a Newyddiaduron fy ngwlad.
Nid oes neb yn fwy ymwybodol na mi fy hunan o lawer o wallau a diffygion sydd yn britho y llyfr, ond teimlaf yn berffaith sicr y maddeui i mi, hynaws ddar llenydd , pan ddarlleni "Dipyn o fy Hanes," ac y dealli o dan ba amgylchiadau yr ysgrifenwyd bob gair.
Y mae genyf i ddiolch i Olygwyr y Cylchgronau a'r Newyddiaduron, yn mha rai yr ymddanghosodd fy Adgofion, am eu tiriondeb yn rhoddi hawl i mi eu cyhoeddi yn fy llyfr.
Nid ymhelaethaf, oblegid fel rheol, y rhan fwyaf diflas a difudd mewn cyfrol ydyw'r "Rhagymadrodd," fel y canodd Mynyddog ar ddechreu ei Drydedd Cynyg:
"Ni roddaf Ragymadrodd ,
'Dyw hyny ond lol dilês ;
Cymerwch chwi fy llyfr,
Cymeraf finau'r prês."
Yn gywir,
- ANDRONICUS.
CYNWYSIAD.
Anerchiadau
At y Darllenydd
Cynwysiad
Tipyn o Fy Hanes
Y cwmwl cyntaf.—Beirniadaeth Dr. Lewis Edwards ar Feddargraph.—Cwmwl dudew.—Troi allan i'r byd.—Manceinion.—Dechreu teithio—Y gwyntoedd a ddaethant.—A gaf fi fendio eto.
Edward Jones o'r Wenallt (gyda darlun)
Yr Hen Wenallt.— Edward Jones.—Yn y Stondin.—Fel Ffarier.—Fel Blaenor.—Ei Sasiwn olaf.
Ned Ffowc y Blaenor
Codi blaenoriaid.—Ethol pedwar.—Gartref.—Sara.—Dechreu gweithio.—Mari Dafydd.
Adgofion am y Bala (gyda darluniau)
Rhagymadrodd.—Hen Gapel y Bala.—Maer y Bala.—Y Prif Adeiladau.—Yr Ysgolion.—Y Colegau.—Y Sasiwn.—Diwygiad Crefyddol 1858.—Y Seiat.—Robert Saunderson.—Masnach y Bala.—Y Ffeiriau.—Y Seiat Bach.—Ioan Dyfrdwy.—Hen gymeriadau.—Canu'n iach .
Oriau gyda John Bright.
Y Ddyfrdwy Sanctaidd (gyda darluniau)
Llandderfel.—Y Palé.—Edward Jones, bardd y brenin.—Hen Eglwys Derfel Gadarn.—Llandrillo.—Cader Bronwen.
Corwen, Tref Glyndwr
Rhug.—Y Ffordd Ucha'.—Cefnddwysarn.—Club House—Marged Jones.
Cynlas (gyda darlun)
Hanes yr hen deulu.
Eglwys Llywarch Hen
Troedigaeth dau bechadur
Y Wesle Ola
Robat y Go', neu Heulwen a Chymylau
Heulwen.—Cymylau.
'Steddfod Fawr Llangollen
Cychwyn.—Cyrhaedd Llangollen.—Pwy welais, pwy glywais.—Cadeirio'r Bardd.—Y Rhiangerdd.—Seiat y Beirdd.—Troi adre'.
Hen Sasiwn Plant
Ponc Pant y Ceubren, neu Helyntion Chwarelwr
Y Royal Charter.—Y Bwthyn Gwyn.—Cornel y Lon.—Dialedd Morgan Jenkins.—O flaen y 'stusiaid.—Myn'd i Awstralia.—Yr hen deulu gartref.—Ar ol saith mlynedd.—Myn'd i gyfarfod Benja.—Llythyr o Melbourne.—Ail ddechreu byw.—Yn y Bwthyn Gwyn eto.—Diweddglo.
Hen Goleg y Bala
Y Cosyn a'r Ginger Wine.—Siomedigaeth.
Ymweliad Ned Ffowc â Llundan
Michael Jones y Cyntaf.
Michael Jones yr Ail
Ioan Pedr
Ei Ordeiniad.—Simon Jones.— Tomos Cadwaladr.—Yn Nhir "Nod."—Twymo'r Capel.—Rhoddi Deheulaw Cymdeithas.
Evan Peters
Ei febyd.—Dan y cholera.—D'od adref.—Priodi.—Peter Jones ac Etholiad 1859.—Gwyl arbenig.—Nôd clust.—Fy oen llyweth.
Rhestr o'r Tanysgrifwyr
ADGOFION ANDRONICUS.
TIPYN O FY HANES.
NID ydwyf ar un cyfrif yn bwriadu ysgrifenu Hunan-gofiant, nid oes dim yn fy mywyd a fyddai o ddyddordeb yn y byd i neb o'm darllenwyr ei wybod. Ond enwaf rhyw ychydig o land marks sydd yn fy hanes i fel yn hanes pob dyn cyffredin arall.
Ni fyddai chwaith o un dyddordeb i neb wybod y dydd a'r awr, y mis a'r flwyddyn, y cyrhaeddais y byd pechadurus hwn. Digon yw dweyd fod llawenydd mawr pan wnaeth y mab cyntafanedig ei ymddanghosiad ar lwyfan byd o amser. Tra yr oedd eraill yn llawenhau ar yr amgylchiad, wylo wnai y baban. Gobeithiaf pan yn ymado â'r fuchedd hon y bydd y llawenhau o'm hochr i, beth bynag am y wylo o'r ochr arall. Caiff y darllenydd wybod cyn myn'd yn mhell iawn pa le y ganwyd fi, oblegid mewn llyfr o Adgofion y peth mwyaf naturiol ydyw i ysgrifenydd son am fangre ei febyd.
Y CWMWL CYNTAF.
Y cwmwl cyntaf a ddaeth uwch fy mhen yn nyddiau fy mebyd oedd colli brawd bychan pan oeddwn tua chwech oed. Aeth y bychan yn llaw ei dad rhyw foreu i dŷ ei nain, ac ni ddychwelodd byth mwyach i gyd-chwareu â mi, oblegid bu farw yn ddisyfyd o'r clefyd coch. Nid anghofiaf byth y loes a gefais pan glywais fod Llewelyn bach wedi myned i'r Nefoedd, yr "Ephraim" bach yr oeddwn i wedi helpu i'w ddysgu gerdded. Ni buaswn yn son o gwbl am yr amgylchiad hwn oni bai fod un peth lled bwysig i Ymneillduwyr wedi cymeryd lle ddydd ei gladdedigaeth yn mynwent Llangower, ar lan Llyn Tegid. Yn y flwyddyn 1848 yr oedd hyn, ac ni raid i mi ddweyd nad oedd Deddf Gladdu Osborne Morgan wedi ei phasio, ac felly nid oedd rhyddid i weinidog Ymneillduol gymeryd rhan yn y gwasanaeth. Fodd bynag, er na chai Dr. Lewis Edwards halogi awyrgylch mynwent Llangower â'i lais, yr oedd y Duweinydd enwog yn ddigon gwrol, ac yn Ymneillduwr digon pybyr, i ufuddhau i gais taer fy nhad a darllen rhan o'r Beibl, a gweddio oddiallan i'r "tir cysegredig a sanctaidd." Yr oedd yr hen Reithor Jones yn hen wr caredig a rhyddfrydig ei feddwl, ond yr oedd yntau "dan awdurdod," ac yr oedd yn `rhaid iddo ufuddhau i'r cyfreithiau Eglwysig, neu yr ydwyf yn sicr na fuasai gan yr hen foneddwr ddim gwrthwynebiad o gwbl i Lewis Edwards, Athraw y Coleg Methodus, i gael darllen y gwasanaeth, ac i bregethu hefyd o ran hyny. Pe buasai hyny wedi cymeryd lle buasai muriau hen Eglwys Llangower y pryd hyny wedi cael haner awr o Dduwinyddiaeth na chafodd "gynt na chwedyn;" pob parch i'r gwyr da a fu neu y sydd yn llanw y pwlpud.
Ar ol marwolaeth Llewelyn, cynygiodd fy nhad wobr i aelodau Cymdeithas Lenyddol y Bala o "gadach poced" Indian Silk am y beddargraph goreu i'r bychan oedd yn gorwedd is yr hen "ywen ddu ganghenog" yn mynwent Llangower. Y mae yna ddynion yn y Bala heddyw yn cofio yn dda yr hen Gymdeithas Lenyddol a gynhelid yn llofft yr hen Goleg, yr hen Gymdeithas Lenyddol a ddechreuwyd o dan y pren gwyrddlas yn nghae y Rhiwlas, ac wedi hyny mewn cut mochyn ac ystabl, fel y bu rhyw ysgrifenydd yn ceisio rhoi yr hanes dro yn ol yn Cymru Owen M. Edwards. Wel, fe gynhaliwyd cyfarfod arbenig noson gwobr y "cadach poced." Yr oedd ugain o feirdd y Bala wedi gyru eu cyfansoddiadau i'r gystadleuaeth (ugain sylwch, a'r dyn fu yn ysgrifenu hanes y Gymdeithas Lenyddol yn Cymru wedi dweyd nad oedd yno ddim ond un neu ddau o feirdd yn y Bala, ffei o hono). Do, fe ymgeisiodd ugain o blant y Bala am y "cadach poced sidan." Dr. Lewis Edwards oedd y beirniad, ac yn y fan hon rhoddaf ei feirniadaeth. Yr wyf yn ei chodi o'i lawysgrif ei hunan; mae'r tipyn papyr yn gysegredig yn ein teulu, a dyma eiriau fy hen fam anwyl wrth ei anfon i mi y dydd o'r blaen: "Cofia gymeryd gofal o hono to, 'machgen i. Yr ydwyf wedi ei gadw yn ofalus er's chwe blynedd a deugain."
"BEIRNIADAETH Y PENILLION A'R ENGLYNION."
"Heblaw prydferthwch iaith a meddylrych, dylai penill neu englyn coffadwriaethol gynwys cymaint ar a ellir o gyfeiriad at amgylchiadau neillduol yn hanes y gwrthrych. Ac y mae yn ymddangos hefyd y dylai arwain meddwl y darllenydd at athrawiaeth yr Adgyfodiad, neu o leiaf at hanfodiad yr enaid mewn byd arall. Nid yw cyfeiriadau o'r fath yma yn ddigon ynddynt eu hunain; ond os bydd pob teilyngdod arall yn gyfartal y maent yn fwy na digon i droi y fantol.
"Ar farwolaeth Llewellyn Jones, derbyniwyd Penillion gan Sala, Dafydd, Gwerfil las, Priddellwr, Multum in parvo, Aderyn y corph, Ehedwr, a Llywarch yr ail; ac englynion gan Cyfaill, Galarwr, Crwydryn, Guto Gôf, Lwyd, Galarwr, Llywarch, Cymro Cochddu, Dafydd, Diawen, Beuno, Anwgan, a Cyffredin Dirodres. Yn y dosbarth uwchaf gellir rhestru Multum in Parvo, Aderyn y Corph, Ehedwr, Galarwr, Llywarch, Diawen, Cyffredin Dirodres, a Llywarch yr ail.
"Y mae englyn Cymro Cochddu yn gyfansoddiad campus; ond nid yw yn cyfeirio at hyder y Cristion. Nid oes ynddo un syniad nas gallasai ddyfod oddiwrth un o'r hen feirdd Paganaidd. Englyn da yw eiddo Dafydd o ran meddylrych, ond y mae pob llinell yn llawn o feiau yn erbyn rheolau cynghanedd. Y tri goreu o'r cwbl ydyw Llywarch, Cyffredin Dirodres, a Llywarch yr ail, ac y mae yn ymddangos i mi mai y goreu o'r tri ydyw Llywarch yr ail. Y mae ei benill yn ddadganiad syml o'r amgylchiad ac o'r teimladau a gynyrchid ganddo yn meddwl y tad a'r fam alarus. Yn ei grybwylliad am y fam y mae yn symud y tu hwynt i bob un o'r lleill. Y mae y symudiad disymwth hefyd yn niwedd y drydedd llinell o'r penill yn dra phrydferth. Ond dylasai fod llinell fer rhwng y gair 'sydyn' a'r geiriau tawn a son' i arwyddo cyfnewidiad mater fel y canlyn, —
'O dy ei dad cychwynai i'r Gilrhos yn dra llon;
Cusanai 'i fam gan feddwl dod eto 'n ol at hon;
Ond gerwin oedd ei golli mor sydyn—tawn a son;
Uwch poen mae'r bach penfelyn yn awr yn mynwes Ion.'
"Os nad wyf yn camsynied, hwn sydd yn haeddu y wobr.
L. EDWARDS."
Nid Eisteddfod Gadeiriol, ac nid Beirdd yn ol
Defawd a Braint Beirdd Ynys Prydain oeddynt yn
Llofft yr Hen Goleg y noson hono. Nid Pryddest
ar Owain Glyndwr nac Awdl "Prydferthwch," neu
"Diniweidrwydd" oedd y testyn; na, dim ond plentyn
bychan pedair oed, mab i siopwr bychan yn nhref y
Bala. Nid Cadair, Coron, na Thlws oedd y wobr;
na, dim ond "cadach poced sidan," ac Edward Jones,
Tailor & Draper, deputy superintendent David Evans
yn Ysgol Sul y plant gafodd y wobr. Wn i ddim
yn lle y mae y "cadach poced sidan," ond gwn yn lle y
mae awdwr y penill. Y mae yn nghanol y Nefoedd
er's llawer dydd, ac y mae wedi gwel'd cyn hyn y "bach
penfelyn", ac y mae wedi gwel'd ei dad, yr hwn
hefyd sydd "uwchlaw poen er's dros ddeugain
mlynedd. Ond dyma beth oeddwn i yn myn'd i dreio ddweyd.
Y mae Beirniadaeth Dr. Lewis Edwards, yr
hon sydd yn awr ger fy mron, wedi ei hysgrifenu er's
dros 48 o flynyddoedd, ac er mai at Gyfarfod Llenyddol
llofft y Coleg yr oedd, lle nad oedd Caledfryn, Eben
Fardd na Nicander yn tynu am y dorch, y mae wedi ei
hysgrifenu yn drefnus a gofalus, pob sill a nodyn yn
ei le. Mae'n batrwm i laweroedd yr oes hon. Y Mae
rhai awduron ac ysgrifenwyr yn tybied mai arddanghosiad o ddysgeidiaeth a gallu ydyw ysgrifenu yn flêr,
ac mai doethineb ydyw rhoddi mawr drafferth i wyr y wasg.
Nid dyna oedd syniad y Doethawr mawr
o'r Bala. Y mae genyf fi lythyr a gefais oddiwrtho
mewn atebiad i un o'm heiddo fi, yn y flwyddyn 1865.
Dyma fel y dechreua:—
"Daeth yr eiddoch heb ddyddiad i law."
Yr oeddwn wedi anghofio rhoddi y date, ond nid anghofiais byth wed'yn. Cafodd y wers y fath effaith arnaf fi fel y buasai yn llawer gwell genyf adael fy enw allan o lythyr na'r date. Arwyddair Dr. Lewis Edwards. fyddai "Os ydyw rhywbeth yn werth ei wneyd o gwbl y mae yn werth ei wneyd yn iawn."
CWMWL DUDEW.
Y brofedigaeth fawr nesaf oedd marwolaeth fy nhad, pan oeddwn yn brin ddeg oed, a'r hynaf o bedwar o fechgyn, gydag un chwaer ychydig hyn na mi. Newidiwyd ein holl ragolygon, a bu raid tori y cylch teuluaidd pan oedd rhai o honom yn lled ieuanc, ond gofalodd Tad yr Amddifaid a Barnwr y Weddw am danom yn lled rhyfedd. Ni fuaswn yn son am yr amgylchiad hwn eto, ond fod un digwyddiad wedi cymeryd lle yn y gladdedigaeth sydd yn newydd i'r rhai ieuengaf o'm darllenwyr. Yr oedd gryn dwrw wedi codi y pryd hyny yn mhlith Ymneillduwyr yn erbyn yr hen arferiad Pabaidd
"offrwm" mewn cynhebryngau, a'm tad a gafodd y fraint o'i gladdu gyntaf gyda chladdedigaeth cyhoeddus yn hen Eglwys Llangower heb i'r arferiad o offrwm gymeryd lle.
TROI ALLAN I'R BYD.
Cyfnod pwysig ydyw hwn yn hanes pob bachgen, gadael yr aelwyd gynes a throi allan i'r byd oer, oer, fel yr ia. Ond yr oeddwn yn llawn gobaith y cawn nerth yn ol y dydd, oblegid onid oedd y Doctoriaid Lewis Edwards a John Parry, a Griffith Jones, y blaenor, wedi rhoddi cynghorion da i mi yn y Seiat y noson cynt, ac onid oedd fy hen athraw Robert Jones, y gof, wedi gweddio yn daer droswyf wrth ddiweddu y Seiat? Onid oedd hefyd un o'r myfyrwyr oedd yn lletya yn nhý fy mam wedi gweddio droswyf ar y ddyledswydd deuluaidd y boreu y cychwynwn, a'm mam, fy chwaer, a'm brodyr bach, wedi addaw cofio am danaf bob nos a boreu? Oeddwn, yr oeddwn yn teimlo mor ddewr “a chawr i redeg gyrfa."
Ond nid oes dim yn y ffaith fy mod yn cychwyn oddicartref yn werth sylw, mae miloedd o fechgyn Meirion wedi gwneyd yr un peth, ac ni buaswn yn dy flino, ddarllenydd tirion, trwy gofnodi y ffaith, ond am ddau beth, sef fy mod yn cychwyn oddicartref ar y 29ain o fis Hydref, 1859, sef y diwrnod yr aeth y Royal Charter i lawr ar un o draethellau Môn. Diwrnod dychrynllyd ydoedd hwn i fachgen gychwyn ar daith o chwe' milldir ar hugain ar ben y goach fawr. Yr oeddwn yn cychwyn hefyd o gynhesrwydd y Diwygiad Mawr oedd wedi dyfod fel ton dros ardaloedd Cymru. Teimlwn yn ddigalon ar y daith. Nid ydwyf fardd, ac ni fuom erioed, neu buasai genyf destyn ardderchog pan oeddwn yn teithio trwy Ddyffryn prydferth Llangollen y diwrnod mawr hwnw. Yr oedd y gwlaw yn disgyn yn un cenllif, a'r rhuthr-wynt yn ysgytian yr hen goed ar ochr y ffordd fel yr oedd cawodydd o ddail Hydref yn disgyn ar benau y teithwyr. Ond ni theimlwn yr ystorom; oddi fewn, ac nid oddi faes, yr oedd y storm fwyaf gyda mi. Fe faddeua y darllenydd i mi am roddi y penill cyntaf a gyfansoddais erioed, a hwnw wedi ei nyddu ar ben y goach fawr y diwrnod bythgofiadwy hwnw:—
"Cyn i mi lanchio'm llestr
I ddyfnder môr y byd ,
Lle mae peryglon filoedd ,
A chroesau'n d'od o hyd ;
Da i mi fyddai cofio,
Mai'm tad sydd wrth y llyw —
Ffe yn ngwyneb ' stormydd
A all fy nghadw'n fyw ."
Rhaid i mi beidio ymdroi neu buaswn yn dweyd tipyn o hanes y tair blynedd dedwydd a dreuliais yn Nghaerlleon. Cefais un o'r meistradoedd goreu a charedicaf a gafodd bachgen erioed, sef y diweddar Mr. William Evans, Dilledydd, mab yn nghyfraith Gwilym Hiraethog, a llawer tro y cefais yr anrhydedd o gyd-eistedd wrth yr un bwrdd a'r bardd anfarwol. Hefyd, delai y ffraeth Huw Puw Mostyn i dy fy meistr, a hefyd "Y Gohebydd."
MANCEINION.
Yn y flwyddyn 1863 symudais fy mhabell i'r ddinas enwog hon, a buom yn dal cysylltiad â hi am dros ddwy flynedd ar hugain, yn ystod pa amser y daethum
yn gydnabyddus â nifer fawr o Gymry gwladgarol. Yr oeddwn yn aelod o Gymdeithas y "Cymreigyddion," yr hon a gynhelid yn Alton House. Perthynai i'r gymdeithas hon Ceiriog, Creuddynfab, Derfel, Idris Vychan, a gwladgarwyr eraill, ac y mae yn rhaid i mi ddweyd fod yn perthyn iddi Ddicshondafyddion, na chyfarfyddais rai tebyg iddynt erioed. Siaradent bob. amser yn Saesoneg, a byddai araeth Gymraeg gan un o'r Cymreigwyr yn ddiflas ganddynt. Ond mae yn dda genyf fod pethau wedi newid yn Manceinion erbyn hyn; mae'r Cymry yn dyfod allan fel un gwr gyda'i Chymdeithas "Cymru Fydd" i "Godi'r Hen Wlad yn ei hol."
Amseroedd terfysglyd oedd yn Manceinion yn y Sixties yn y byd politicaidd. Rhyddfrydiaeth oedd yn teyrnasu y pryd hyny yn mhrif ddinas y Cotwm. Nid oedd y Conservative Workingman wedi ei eni i'r byd y dyddiau hyny. Cynhaliai y Rhyddfrydwyr eu cyfarfodydd yn neuadd fawr y Free Trade Hall, ac yn yr ysgwar hanesyddol a elwir "Stephenson Square." Ond am y Ceidwadwyr, rhyw hole and corner meetings fyddai y rhai mwyaf a allent ymffrostio ynddynt. Ond erbyn hyn y mae Toriaeth wedi dyfod yn allu mawr yn mhrif ddinas Masnach Rydd. Yn awr cynhelir cyfarfodydd anferth gan y Toriaid yn y Free Trade Hall, a llenwir yr esgynlawr, ar ba un y clywyd lleisiau Cobden, Bright, Villiers, a Wilson, gan brif wleidyddwyr Toriaidd ein teyrnas. Buom yn bresenol mewn llawer o gyfarfodydd bythgofiadwy yn y Free Trade Hall, nid y lleiaf ohonynt oedd pan ddaeth Mr. Gladstone i'r ddinas ar ol cael ei droi o Rydychain, ac y llefarodd y geiriau hanesyddol "I appear before you unmuzzled." Nid cyfarfod i'w anghofio chwaith oedd y cyfarfod cyntaf y daeth Mr. Bright iddo yn Manceinion ar ol cael ei daflu allan o gynrychiolaeth y ddinas ugain mlynedd cyn hyny (gwel "Oriau gyda. John Bright.")
Yn y flwyddyn 1867 torodd allan y cynhwrf Ffenaidd, a bu gryn derfysg yn Manceinion, pryd y lladdwyd y Cwnstabl Brett tra yn myn'd a charcharor Ffenaidd i Garchardy Belle Vue. Dygwyd y llofruddion i'r ddalfa, ac o flaen y Frawdlys. Buom yn gwrando ar yr hyawdl Ernest Jones yn dadleu drostynt, ond er cymaint ei hyawdledd collfarnwyd tri o'r llofruddion. Nid ydwyf mewn un modd yn ymffrostio yn y ffaith, ond gwelais y tri llofrudd yn cael eu hyrddio i'r byd arall oddiar y crogbren. Aethym i edrych ar yr olygfa ddychrynllyd fel gohebydd i un o newyddiaduron Caernarfon. Yr oedd yn olygfa nad anghofiaf byth. Y weithred oreu a wnaeth Llywodraeth Prydain erioed oedd gwneyd i ffwrdd â dienyddiadau cyhoeddus, a'r weithred nesaf ddylai fod diddymu y gosp o ddienyddio.
Yr oedd blwyddyn 1868 yn llawn berw yn Manceinion fel yn mhob man arall trwy'r deyrnas. Yr oedd yr etholfraint dair onglog wedi cael ei gwneyd yn gyfraith y tir, a dinas y Cotwm fel Lerpwl, Leeds, Birmingham, a rhai dinasoedd eraill, wedi cael tri aelod, ond nis gellid pleidleisio ond dros ddau, felly aeth Tori i fewn ar ben y rhestr y tro cyntaf er 1832. Taflwyd Ernest Jones allan, ac etholwyd Birley, Bazley, a Bright (the three B's, fel y gelwid hwy gan bobl y ddinas). Ond rhaid i mi adael Manceinion yn y fan hon, gan fod fy meistr, Mr. Robert Roberts (brawd i'r meddyg enwog Syr William Roberts), yr hwn a adwaenir yn awr wrth yr enw Robert Roberts, Ysw., U.H., Crug, ger Caernarfon, wedi cael allan rywfodd fy mod yn ddigon o ddyn neu "bechadur" i wneyd Trafeiliwr, a gyrodd fi i Ddeheudir Cymru.
DECHREU TEITHIO.
Teithiais drwy bron bob cwmwd yn Nghymru, 'O ben Caergybi i ben Caerdydd." Y dref gyntaf i mi weithio yn y Deheudir oedd Casnewydd. Cyrhaeddais yno yn hwyr rhyw noson. Y boreu dranoeth, pan yr oeddwn yn dechreu ar fy moreufwyd, daethpwyd a'r Western Mail ar y bwrdd; agorais ef, a'r peth cyntaf a welwn oedd rhestr o'r rhai oeddynt wedi eu hethol y diwrnod cynt, ac yn eu plith Love Jones-Parry, dros Sir Gaernarfon, gyda mwyafrif o 148, a E. Mathew Richards, dros Sir Aberteifi, gyda mwyafrif o 152. Ni fuaswn yn crybwyll y ffaith hon ond am ei bod wedi digwydd fy mod yn darllen y ffigyrau uchod o oruchaf iaeth Rhyddfrydiaeth mewn dwy o siroedd mwyaf Toriaidd Cymru, yn yr ystafell hanesyddol lle y llechai ynadon Casnewydd, pan daniodd y mob Chartaidd arnynt yn y flwyddyn 1848, ac y mae ol bwledi y terfysgwyr i'w gweled ar barwydydd yr ystafell hyd y dydd heddyw.
Yn ystod deunaw mlynedd o deithio, y rhan fwyaf yn Ngogledd Cymru, gwneuthum laweroedd o gyfeillion, ac y mae y cyfeillgarwch yn parhau hyd y dydd heddyw, fel y gwelir yn neillduol yn rhestr y tanysgrifwyr at y gyfrol fechan hon. Gofod a balla i mi adrodd llawer digwyddiad dyddorol a gymerodd le yn ystod y deunaw mlynedd o fywyd teithydd masnachol. Yn y flwyddyn 1871 y digwyddodd yr amgylchiad mwyaf dyddorol a phwysig yn y cyfnod hwn, ac yn fy mywyd hefyd o ran hyny, oblegid mi a briodais wraig, un o ferched goreu Ynys Mon, yr hon sydd er's yn agos i bedair blynedd ar hugain wedi bod i mi yn gydmar ffyddlawn, ac fel angyles yn gweini arnaf gyda phob sirioldeb ac amynedd yn ystod fy mlin a'm maith gystudd, ac wedi helpu llawer arnaf i gasglu fy ADGOFION at eu gilydd. Bendith y nefoedd fyddo ar ei phen.
Y GWYNTOEDD A DDAETHANT.
Pan ar ben dwy flynedd a deugain oed, "Y llifddyfroedd a ddaethant, a'r gwyntoedd a chwythasant" ar y babell bridd hon, "a'i chwymp a fu fawr." Yn y flwyddyn 1884 ymaflodd hen elyn y corph dynol, a'r "swmbwl yn y cnawd," y crydcymalau, yn fy aelodau. Ymdrechais ymdrech dêg i ymladd â'r gelyn, ond efe a orfu. Gweinyddwyd arnaf gan rai o feddygon goreu Cymru a Lloegr, ond y gelyn a fu drech na hwynt, ac yr ydwyf er's deng mlynedd yn rhwym mewn cadwynau. Nid boddlawn gan y poenydiwr fy mhoenydio â gwiail ac ysgorpionau, rhaid iddo roddi fy nhraed yn y cyffion a'm carcharu. Ond er mai carcharor ydwyf, yr wyf yn "garcharor gobeithiol." Oblegid credu yr ydwyf y daw ymwared pan ddel yr amser cyfaddas, a hyny yr ochr yma i'r bedd. Yr ydwyf wedi cael nerth trwy'r holl flynyddoedd i fod yn llawen a siriol yn fy holl brofedigaethau, ac yr oedd i bob cwmwl a fu yn hofran uwch fy mhen "silver lining," ac erfyniaf am nerth i ddweyd hyd ddiwedd fy ngyrfa, "Dy ewyllys Di a wneler."
Dyna, yn fyr ac yn fler, ddarllenydd hynaws, "Dipyn o fy Hanes," ac yr ydwyf yn sicr y bydd i ti, o dan yr amgylchiadau, faddeu i mi am lawer o ffaeleddau sydd wedi ymlusgo i'r gyfrol fechan a gynygiaf i'th sylw.
A GAF FI FENDIO ETO?
Tra yn aros yn yr Hydropathic, yn Llandudno, am rai wythnosau yn ngwanwyn 1885, gyrais y penillion a ganlyn at fy hen gyfaill hoff, y diweddar Mr. J. D. Bryan, Caernarfon, yr hwn a fu farw yn Cairo, ac y mae ei gorph yn gorwedd yn dawel yn ngwlad y Pharoaid. Gyrodd yntau y llinellau i'r Genedl Gymreig:
A gaf fi fendio eto? |
A gaf fi daflu ymaith |
"YN Y TREN."
Cyflwynedig i Mr. J. W. Jones (Andronicus) yn ei gystudd, mewn atebiad i'w linellau, "A gaf fi fendio eto," yn y Genedl Gymreig.
Cei, cei, cei "fendio eto," |
Cei, cei, cei "fendio eto," |
OS NA CHEI FENDIO ETO.
Ar ol darllen llinellau Andronicus yn y Genedl yr wythnos ddiweddaf, ar y testyn "A gaf fi fendio eto," fel hyn yr ysgrifena Mr. W. O. Roberts (Madryn), The Groves, Caerlleon.
Os na chei yma, gyfaill, |
Os cei di eto fendio |
EDWARD JONES O'R WENALLT.
NID bardd, nid llenor, ac nid cerddor oedd Edward Jones o'r Wenallt. Na, dim ond ffermwr bychan ar stad Syr Watcyn; "bwtsiar" bychan yn gwerthu cig bob dydd Sadwrn mewn "stondin" wrth dŷ tafarn yr Onen, yn Stryt Fawr y Bala. Ond er
EDWARD JONES.
mai ffermwr bychan oedd, ac y byddai yn gwisgo ffedog las ac yn sefyll y stondin" ar stryd y Bala, ni phasiodd Dr. Lewis Edwards na Dr. John Parry erioed mo "stondin" Edward Jones heb droi i ysgwyd llaw. Ni phasiodd chwaith yr hen Fichael Jones na'i fab mo'r "stondin" heb nodio pen yn siriol. Chymerasai dim un o fyfyrwyr y Bala, o David Charles Davies, y cyntaf ar restr y Coleg y dydd yr agorwyd ef yn 1837, hyd un o'r bechgyn oedd yn un o'r ddau goleg pan fu Edward Jones farw yn 1880,-ni chymerasai yr un o honynt lawer am basio " bwtsiar bach" heb nodio pen, a chael sgwrs efo fo. Pam, a oedd ein gwron yn rhyw dduweinydd mawr, neu beth? Nag oedd, ond yr oedd yn ddyn duwiol, yn hen wr siriol, ac wedi rhoddi help i lawer o fechgyn y coleg pan yn dechreu pregethu, gyda'i wyneb siriol a'i eiriau caredig. Os bydd i un o'm darllenwyr ddigwydd teithio o'r Bala i Ddolgellau gyda'r trên, a chyfarfod ag un o hen fyfyrwyr y Bala, boed pwy fyddo, golygydd y Traethodydd, y Drysorfa, a Chymru, os mynwch, gofyned," Fedrwch chwi ddangos y Wenallt i mi? Oeddych chwi yn adnabod Edward Jones? Dyma fydd yr ateb,—"Dacw y Wenallt ar ben y bryn acw; adnabod Edward Jones, oeddwn debyg. Cefais lawer sgwrs efo fo yn y ty acw yr ydych yn edrych arno, pan yn myn'd ac yn dyfod i gapel Cefn Dwygraig."
I. YR HEN WENALLT.
Safai yr hen Wenailt mewn pantle, rhwng y fan y saif y Wenallt presenol a'r llwyn o goed a elwir Nyrs Fachddeiliog, yn ymyl hen orsaf ffordd haiarn y Bala. Yr oedd ei safle yn nodweddiadol o arferiad yr hen bobl pan yn adeiladu eu tai. Yr oeddynt yn meddwl mwy am gysur a chynhesrwydd nag am olygfeydd. Ysbotyn felly ydyw y Pant Teg, lle safai yr hen Wenallt. Lle felly fyddai y Tylwyth Teg yn ei hoffi, a llawer oedd yr ystraeon am fel y byddai y bodau hyny yn chwareu eu pranciau yn Mhant Teg y Wenallt. Darfu i'r diweddar Edward Evans, y Bala, lawer tro pan oeddwn yn hogyn bychan, ddangos i mi ryw gylch ar y ddaear; dyna ddwedai ef oedd y lle y byddai y Tylwyth Teg yn dawnsio. Wel, ryw brydnawn Sabboth yn y flwyddyn 1820, yr oedd teulu y Wenallt wedi myn'd i'r ysgol a gynhelid yn y Cornelau, ffermdy yn Nghefn Dwygraig,— yr oedd hyny cyn son am gapel y Glyn, Cefn Dwygraig, na Llwyneinion, pan ddaeth y teulu yn ol o'r Ysgol Sul, gan feddwl cael cwpanaid o dê yn yr hen gartref clyd, yr oedd yr hen gartref wedi llosgi i'r llawr, ac ni achubwyd dim o'r dinystr ond dau beth, medd yr hanes, sef cloc gwyneb pres, a hen Feibl Peter Williams, yr hyn oedd yn wyrth yn sicr. Mae llawer o hen fyfyrwyr y Bala yn cofio hen gloc gwyneb pres y Wenallt, fyddai fel holl glociau y wlad, "awr cyn ei amser."
Pan ddeuai myfyriwr newydd i'r Bala, a chychwyn i Gefn Dwygraig tua haner awr wedi wyth, i fod yno erbyn naw,—gwaith haner awr ydoedd y daith,—byddai wedi dychryn pan welai yr amser ar yr hen gloc, ond dywedai Sarah Jones yn siriol,—"O mae'r hen gloc awr yn ffast." Am Feibl Peter Williams, cafodd llawer myfyriwr ddarllen penod ynddo, wrth gadw dyledswydd yn y Wenallt. Fel y dywedais o'r blaen, ar ben y bryn y mae y Wenallt newydd, a gwelir o ddrws y ty olygfa. ardderchog. Teulu y Wenallt pan aeth ar dân oedd Evan a'i wraig Mari Jones. Yr oedd iddynt wyth o blant. Aeth y ddau fab hynaf Evan a Morris i'r Amerig pan yn ieuainc iawn. Bu rhai o'r plant drosodd yn y wlad hon flynyddoedd yn ol. Dringodd rhai o honynt i sefyllfaoedd uchel mewn cymdeithas, a buont yn anrhydedd i wlad eu tadau. Os wyf yn cofio yn iawn bu un o honynt mewn sefyllfa bwysig yn un o Brifysgolion gwlad yr Amerig. Aeth Peter Jones i gartrefu i'r Merddyn Mared, ac wedi hyny i'r Rhyd Wen, lle y mae yn awr ei fab Morris Peters,—brawd iddo ef oedd Evan Peters, yr arch-holwr plant, a Mr. Edward Peters, tad Dr. Peters, Bala. Yr oedd Peter Jones yn un o ferthyron brwydr fawr etholiadol Wynn o Beniarth a Dafydd Williams. Cartrefodd John yn y Gilrhos; bu farw yn lled ieuanc, ond bu fyw ei wraig Mari am lawer o flynyddoedd, a bydd genyf gryn enyf gryn lawer i ddweyd am yr hen chwaer cyn y diwedd. Edward, y mab ieuengaf, ydyw arwr fy ysgrif. Bu hefyd i'r hen deulu dair merch,—sef Jane, Anne, ac Elizabeth, hon oedd fam i'm cyfaill hawddgar o'r Shop Newydd, Bala, ac hefyd i Mr. Edward Williams y darlunydd, i'r hwn yr ydym yn ddyledus am y darlun o Edward Jones ar gefn yr ebol asyn. Derbyniais lawer o garedigrwydd gan yr hen chwaer dduwiol pan oeddwn yn blentyn, ac yr wyf yn y fan hon yn dymuno heddwch i'w llwch. Bu Evan Jones y Wenallt fyw i fod yn 91 inlwydd oed.
Yn y flwyddyn cyn iddo farw, sef y flwyddyn 1848, penderfynwyd cynhal cyfarfod pregethu ar brydnawn Sul, yn y fan lle byddai y Methodistiaid yn pregethu ar y mynydd cyn son am yr un capel yn yr holl ardaloedd. Nid oedd neb a allai ddangos y llanerch gysegredig heblaw Evan Jones y Wenallt. Cafwyd gan yr hen wr ddyfod yno, ac aeth ati i chwilio am y pwlpud careg, lley safai Howel Harris, Daniel Rowland, Jones o Langan, a Lewis Evan, i bregethu yn amser yr erledigaethau. Yr oedd tyrfa anferth o bobl pum' plwyf Penllyn wedi dyfod yn nghyd. Saif yr hen bwlpud careg ar glawdd mynydd tir Bryn Hynod. Gofynwyd i Mr. John Jones, y Shop, Llanuwchllyn, ddechreu y cyfarfod,—John Jones oedd fab i William Jones, y Rhiwaedog. Bu John Jones am lawer o flynyddoedd yn drefnydd cyhoeddiadau Methodistiaid Meirionydd, yr amser y byddai cynifer o wyr dieithr y De yn dyfod ar hyd a lled y wlad. Mab i John Jones ydyw Mr. Iorwerth Jones, Bryntirion, un o flaenoriaid Cefn Dwygraig, ac iddo ef yr ydym yn ddyledus am rai o'r manylion yn yr ysgrif hon. Wel, John Jones, Bryntirion, roddodd y penill allan yn y cyfarfod,
Dros y bryniau tywyll niwliog
Yn dawel f enaid edrych draw,"
2. EDWARD JONES.
Ganwyd ein gwron yn y flwyddyn 1796. Cafodd ryw anhwyldeb pan yn blentyn, a bu yn gloff hyd ei fedd. "Dyn cloff oedd Jacob," meddai John Hughes, Gwyddelwern, wrth bregethu yn y Bala un boreu Sul, "dyn cloff fel Edward Jones y Wenallt; dacw fo i chi dirion dyrfa, yn y fan acw. Mae pawb ohonoch chi yn ei 'nabod o, yn myn'd i fyny ac i lawr, ac i lawr ac i fyny. Yr oedd gan Jacob, er ei fod yn gloff, fendith ar ei ben, felly y mae Edward Jones, dirion dyrfa, mae ganddo yntau ei fendith ar ei ben."
Dyn bychan oedd Edward Jones, bochgoch, siriol yr olwg, gyda dau lygad du yn llawn o'r wag direidus. "Y chdi" fydde Edward Jones yn ddweyd wrth bawb ond Dr. Edwards, Dr. Parry, a Mr. Williams, Gwernhefin (tad y Mr. Williams presenol). "Chdi" fydde fo yn ddweyd wrth yr "Hen Breis," gan mai chdi fydde Mr. Price yn ddweyd wrtho ynte. Un tro daeth cerbyd Mr. Price o hyd i Edward Jones wrth Bont Mwnogl y Llyn. Yr oedd y gŵr cloff y diwrnod hwnw yn cerdded i'r Bala. Tyrd i fyny, Hedward, wyt ti yn cloff, ro i lifft i ti i'r Bala. Darfu mi cyfarfod claddedigaeth wrth Ty'n y Gwrych, pwy oedden nhw claddu, Edward? "O Shon Wiliam o'r Mr. Price." "Tŷn ta iawn oedd hi Hedward, tŷn ta iawn ydi Lewis Edwards. Wel pyddwn wedi marw i gyd ryw ddiwrnod Edward, os byddwn ni byw ac iach." "Byddwn, Mr. Price bach, bob enaid' ohonom," meddai y dyn bychan yn ddifeddwl. "Dynion da yden ni y Methodust i gyd, Mr. Price." Adroddai Edward Jones y stori hon gyda hwyl anarferol. Cyn marw Shon Evan y Gilrhos, ei frawd, bu y ddau yn bartneriaid yn y "busnes lladd am flynyddoedd, a pharhaodd y bartneriaeth ar ol i Shon Evan farw, rhwng Mari ac Edward Jones. Er mwyn i'r darllenydd ddeall fy mod yn awdurdod ar y pwnc yr wyf yn ysgrifenu arno, gallaf ddweyd yn y fan hon mai mam fy nhad oedd Mari Jones, ac felly yr oedd yn nain i minau. Yr oedd busnes y lladd yn rhedeg yn ngwaed pobl y Wenallt, a byddaf yn aml yn synu na. fuaswn inau wedi cadw i fyny y gelfyddyd dreftadol. Ond y mae llawer o bethau eisieu eu lladd" heblaw ychain, defaid, a lloi; a charwn fod yn foddion i ladd rhai o honynt, sef llawer o hen arferion drwg yr oes.
Y lladd-dy cyntaf ydwyf yn ei gofio oedd lle 'nawr y saif Trem Aran, ar gyfer yr hwn yr oedd hen bydew, ac wedi hyny pwmp. Wedi hyny symudodd Edward Jones i "ladd-dy Gras." Deallwch mai enw hen wraig oedd Gras, ac nid enw ar oruchwyliaeth; oblegid nid oes lladd mewn "gras." Wel, safai ty lladd "Gras" y lle'n awr y saif Henblas Terrace, ar gyfer y Shop Newydd. Yn y fan hono y byddai ein gwron yn lladd bob dydd Gwener, a'i "bartneres" Mari Jones yn "hel gwêr," ac yna yn myned a fo i Simon Jones i wneyd canhwyllau. Felly yr oedd Edward Jones, nid yn unig yn cyflenwi angenrheidiau y corff ond hefyd yn gwneyd ei ran i oleuo trigolion Penllyn.
3. YN Y STONDIN.
Dydd Sadwrn fyddai diwrnod marchnad y Bala, a phob boreu marchnad yn gynharol gwelid y partneriaid yn y stondin wrth yr Onen, Edward Jones gyda'i gôt lian glas, a ffedog, a'r steel yn hongian wrth ei wregys. Eisteddai Mari Jones yn dawel ar y fainc, yn gweu â'i holl egni. Fedrai fy nain ddim byw heb wneyd rhywbeth, a phe dasai y Sasiwn wedi pasio penderfyniad fod rhyddid i hen wragedd weu hosan yn y seiat neu y cyfarfod gweddi, buasai yr hen wraig o'r Gilrhos. wedi gwaeddi,—"Bendigedig." Byddai ysgrifenydd y llinellau hyn yn aml heb fod yn mhell o'r stondin ar ddydd Sadwrn, a llawer leg, spawd, a nec o gig dafad a gariodd efe i'r cenhadon hedd oedd yn efrydu yn Ngholeg y Bala. Cariodd hefyd lawer pen dafad a phen llo, o ran hyny, nid am fod yr un ohonynt ei eisieu ond fel ymborth yn unig. Ai yr "head partner" oddiamgylch i hel ordors ar hyd y tai; ac yna deuai yn ol, a dywedai,—Wel, Mari, yr ydw i wedi gwerthu pob aelod, a'r penau hefyd." "John," meddai," taro i lawr ar y papyr yma,—leg i Mr. Edwards, a leg i Blas'r Acre, spawd i Lantegid, a nec i'r Dirwesty," &c.,—byddai amryw o'r myfyrwyr yn lodgio yn y Dirwesty. "Beth am y pen, f'ewyrth?" "Wel, yr ydw i wedi anghofio, John. P'run o'r stiwdens yna wyt ti yn feddwl sydd eisieu pen fwyaf?" Ond yr oedd y cwestiwn yn rhy anhawdd i mi ei benderfynu.
Yn y ffordd hon elai llwdwn ar ol llwdwn a llo ar ol llo. Byddai busnes y stondin drosodd yn gynar iawn. Buasai Edward Jones yn gallu gwerthu llawer mwy pe mynasai, ond yr oedd yn gwerthu ac yn rho'i llawer fel yr oedd. Cychwynai Mari Jones adref yn gynar, a'r tâl goreu a ddisgwyliai y "clerk in chief" bychan oedd cael myn'd gyda'r hen nain i dreulio y Sabboth yn y Gilrhos dawel. Rhoddwn haner fy mywyd am gael unwaith eto dreulio Sabboth yn y Gilrhos; wel ie, `dase nain yno, a chael dweyd adnod eto yn nghapel bach Cefn Dwygraig. Yr wyf yn cofio un noson oer a drycinllyd yn mis Rhagfyr fyn'd gyda'r hen wraig adref trwy goed y Fachddeiliog a thrwy y Pant Teg. Nid oedd arnaf ofn y Tylwyth Teg, yr oeddwn wrth ochr fy nain, ac nid oedd arnaf ofn "Jack y Lantern," oblegid yr oeddwn yn cario yr hen lantern gorn, oedd fel lusern wedi bod yn "llewyrch i lwybrau" Mari Jones er's llawer o flynyddoedd. Ar ol galw yn y Wenallt i ddweyd wrth Sarah Jones fod Edward Jones yn dwad, ar ol cael smoke efo y Doctor, a chwpaned efo Miss Lloyd, Plas yr Acre, a chwpaned efo hwn a'r llall, ac i ninau gael cwpaned yn yr "Halfway house," sef y Wenallt,—aeth yr hen wraig a'i hŵyr bychan dros y "Bryniau "—wel, ie hefyd "tywyll niwliog" y noson hono. Pan ar dop y "Bryniau," un o gaeau y Wenallt, aeth y lantern gorn allan. Collasom y ffordd, buom am oriau yn crwydro ar hyd y mynydd, a thua haner nos cawsom ein hunain yn Nhy'n y Bryn. Da oedd genym gyraedd y Gilrhos. foreu Sul.
Bob nos Wener delai Edward Jones i'r Gilrhos i wastadhau y llyfrau." Llyfrau memoranda ceiniog oedd llyfrau masnachol Edward Jones, a single entry oedd y system, a dim entry o gwbl yn aml iawn. Gwaith mawr fyddai ambell dro cael gwneyd y llwdwn neu y llo yn gyflawn. "Mari, wyt ti ddim yn cofio pwy gafodd un o legs llwdwn Brynbedwog?" Ar ol tipyn o ystyriaeth cofid pwy gafodd y leg, ac felly byddai y Ilwdwn hwnw yn gyflawn. Felly y byddai gyda phob anifail a leddid. Ond yr oedd gan Mari Jones gof ardderchog, gwnaethai budget gystal ag unrhyw Ganghellydd y Trysorlys. Mae merch i Mari Jones eto yn fyw, a bwriadaf dalu ymweliad â hi pan yr ymwelaf a Chynlas.
4. EDWARD JONES FEL FFARIER.
Bu Edward Jones am lawer iawn o flynyddoedd yn gweithredu fel yr unig ffarier yn rhan isaf ardaloedd Penllyn. Nid oedd erioed wedi cael diploma; ond diploma neu beidio, gwyddai sut i iachau pob clefyd a phob afiechyd yn mhlith yr anifeiliaid. Buasai yn codi cywilydd ar lawer ffarier yr oes hon ag sydd wedi pasio yr arholiadau dyrus. Nid oedd gan Edward Jones bris. neillduol ar ei ddyledswyddau fel ffarier, ond cymerai unrhyw beth a gynhygid iddo yn siriol a dirwgnach.. Cymerodd llawer fantais, fel y mae yn gywilydd dweyd, ar y caredigrwydd hwn i ymddwyn yn hynod o anfoneddigaidd os nas gellir dweyd anonest tuag ato. Ni roddai llawer iddo ond "owns o bacco am deithio milldiroedd, hindda neu ddrycin, ddydd neu nos. Gwelid ef yn aml yn myned trwy y Bala ar gefn ei "lwdn asen yn nghyfeiriad y Llidiardau, Cwmtirmynach, a Rhyd y Fen, a phe chwilid ei logell ar y ffordd adref mae yn sicr na. fyddai un darn melyn bathedig i'w gael, os na fyddai yn digwydd bod yno cyn iddo gychwyn oddi cartref.
5. EDWARD JONES FEL BLAENOR.
Ie, fel blaenor yr oedd rhagorion y "bychan cloff o'i glun" yn dyfod i'r golwg. Os yn gloff o'i glun, fyddai ef byth yn cloffi rhwng dau feddwl," pan y byddai achos yn galw am ryw waith yn ngwinllan yr Iesu o Nazareth. Yr amser yr ydwyf fi yn ysgrifenu am dano, tua saith mlynedd a deugain yn ol, un blaenor fyddai yn nghapel bychan Cefn Dwygraig. Capel bach oedd hwn ar dir y Gilrhos, ar y mynydd, heb na gwal na chlawdd oddiamgylch iddo. Adeiladwyd ef yn y flwyddyn 1830. Dafydd Jones, Ty'n y Bryn, oedd yr hen flaenor; hen wr talgryf, patriarchaidd, a duwiol. Ond yr oedd yn rhaid cael ychwaneg o flaenoriaid. Ryw foreu Sadwrn pan yr oedd Edward Jones yn tori llwdwn dafad yn y stondin, daeth Dr. Parry ato gan ddweyd yn siriol, Edward, yr yden ni yn dwad acw i ddewis blaenoriaid nos Fawrth nesa." "Purion, siwr," ebai Edward," cofiwch ddwad a defnydd gyda chwi, Mr. Parry bach."
Gyda'r plant y byddai "y blaenor cloff" yn cael hwyl fawr. Yr oedd ganddo ryw ffordd neillduol i fyn ́d i'w calonau. Pan y byddai yn holi y plant yn y seiat, byddai y plant yn chwerthin ac yn wylo yr un pryd, a'r bobl hefyd gyda .nhw. Wrth son am Iesu Grist, o'r bron na wnai i'r plant gredu fod yr Iesu yn eistedd yn eu canol nhw ar y fainc fach. Pan yn adrodd hanesyn. o'r Beibl wrth y plant, arferai ymadroddion syml, a rhoddai fywyd yn y stori nes gadael argraff fythol ar eu meddyliau. Pan fu farw yr hen esgob o'r Ty'n y Bryn,. llithrodd Edward Jones yn naturiol i'r swydd o ben blaenor. Byddai yn werth myned o sir Fon i Gefn Dwygraig i'w glywed yn cadw seiat. Yr oedd yn fwy tebyg i deulu yn eistedd wrth y tân mawn yn nghegin y ffermdy, nac i gyfarfod eglwysig mewn capel, Pa le mae yr hen seiadau hyny yn awr, ddarllenydd tirion?[1] Fyddai Edward Jones yn gwneyd fawr iawn efo Dyddiadur. Ryw fath o chapel of ease i'r Bala oedd Cefn Dwygraig, ac i'r Bala yr elai y bobl bron bob nos Sabboth, a phob Sabboth Cymundeb. Cynhelid cyfarfod gweddi ambell nos Sabboth yn y Cefn, er mwyn y plant a'r hen bobl. Y daith Sabbothol fyddai'r Glyn, Cefn Dwygraig, a Llwyn Einion. Pan deimlai Edward Jones ar ei galon i gael pregethwr "i nhw eu hunen," ni chai fawr o drafferth. Elai i un o'r lletyau lle y trigai myfyrwyr, a gofynai i wraig y ty,—"Oes yma un o'r bechgyn gartre fory?" ac yna ai yn syth i'r parlwr a dywedai, Ddoi di acw fory, machgen i, i ni gael dy ddysgu di sut i bregethu?" Wrthododd dim un erioed mo'r blaenor bach. Y tro olaf y bu yr hen gyfaill anwyl Dr. John Hughes yn edrych am danaf yn yr Hydref diweddaf, dywedodd wrthyf,—"Darllenais eich ysgrif am y Bala yn y Cymru; bryd yr ydach chi yn mynd i ddweyd gair am yr hen Edward Jones o'r Wenallt? Pan aethum i i'r Bala yn 1848 (meddai'r Doctor), daeth yr hen fwtsiar bach ataf i'r Dirwesty lle yr oeddwn yn lodgio, a medda fo,—'Ddoi di atom ni fory machgen i, i ni gael gwybod oes defnydd pregethwr ynot ti, rhai iawn ydi bechgyn sir Fon i gyd.' Aethum yno, ac ar ol i mi ddarfod pregethu daeth y blaenor bach ataf, curodd fy nghefn, a dywedodd,—Da machgen i, pregetha di fel yna bob Sabboth, mi fyddi di yn un o'r pregethwyr goreu yn y Coleg cyn yr ei di o'r Bala.' Ie, dyna yr ymgom olaf a gefais i efo Dr. Hughes. Toc wedi i Edward Jones gael ei wneyd yn flaenor aeth Dafydd Jones Ty'n y Bryn i ffwrdd am Sul, a syrthiodd y gwaith o dalu y degwm i'r pregethwr ar Edward Jones. Yr oedd wedi lladd llo ddydd Gwener, oedd wedi ei brynu yn Mhant yr Onnen, ger Llangower. Yr oedd yn myn'd i'r Ty Cerig ddydd Llun i brynu defaid gan Mr. Thomas Ellis, Ty Cerig (Cynlas yn awr), ac wedi gwneyd arian y llo yn sypyn bychan mewn papyr lwyd i dalu i Mr. Robert Roberts, Pant yr Onen, wrth fyned heibio i'r Ty Cerig. Rhoddodd yr arian yn ei boced. Wrth gychwyn i'r capel y boreu Sul hwnw, rhoddodd gwr y Wenallt gydnabyddiaeth y pregethwr yn ei boced. "Deunaw" oedd cydnabyddiaeth Cefn Dwygraig y pryd hyny i'r myfyrwyr, ond rhoddid haner coron i ddau athraw y Coleg bob amser. "Haner coron" hefyd oedd cydnabyddiaeth Owen Thomas ar ol iddo fyn'd i Lerpwl, am mai hyny oedd yr hyn a delid i Henry Rees. Cafodd John Jones, Talysarn, hwyl anarferol yno un prydnawn Sul; yr oedd yn pregethu allan o'r ffenestr, a chafodd ef dri a chwech am y bregeth hono. Hysbysir fi gan Iorwerth Jones fod cydnabyddiaeth Cefn Dwygraig wedi codi tipyn erbyn hyn; felly os oes gan rai ohonoch chwi tua sir Fon neu sir Gaernarfon yma Sul gwag, ymohebwch â phen blaenor Cefn Dwygraig. Wel, y pregethwr a ddigwyddai fod yn Nghefn Dwygraig y Sabboth yr oedd Edward Jones i dalu am y tro cyntaf, oedd Dafydd Williams, Llwyn Einion. Talodd y blaenor iddo y "degwm cil dwrn" yn y ty capel, ac aeth pawb i'w ffordd. Ar ol tê, a phan yr oedd blaenor y Wenallt yn hwylio ati i gael "mygyn, mygyn," rhoddodd ei law yn ei boced i dynu allan y "blwch baco corn." Neidiodd ar ei draed a gwaeddodd ar y gwas dros y ty,—"Ned, Ned, yr ydw i wedi rhoi arian y llo i Dafydd William, dos ar i ol o Ned, mewn munud, i nhol nhw, a hwde doro y ddeunaw yma iddo fo. Brysia, ne mi ddylith Dafydd mai fo ydi Henry Rees wrth gael dwy bunt a chweigien." Bu hyn yn wers i'r blaenor bach; gofalodd, byth wedi hyny, beidio cymysgu "arian y llo" âg "arian y pregethwr."
Nid yn unig y mae "degwm" Cefn Dwygraig wedi "codi," y mae yno gapel newydd wedi ei godi y flwyddyn y bu farw Edward Jones, 1880; a gellir yn hawdd ei alw yn "Gapel Coffadwriaethol." Y dydd yr agorwyd y capel, yr oedd pob swllt wedi ei dalu, a chyflwynwyd llestri cymundeb i'r eglwys gan Mr. a Mrs. Jones, Bryntirion, caredigion penaf yr achos. Bendith y Nefoedd a fo arnynt hwy a'u hanwyl fab.
6. EI SASIWN OLAF.
Wel, rhaid i mi yn awr adael llanerch hoff fy mebyd. Mae llawer blwyddyn er pan y bu'm yno, ac y mae yn fwy na thebyg na chaf byth eto weld y lle, os na. chaf o ben un o fryniau Caersalem, lle y ceir gweled holl daith yr anialwch i gyd." Ond cefais lythyr caredig oddiwrth fy hoff gyfaill Gwrtheyrn yr wythnos ddiweddaf, a dywed,"Os dowch chi i'r Bala, mi ofalaf fi y bydd digon o ddwylaw parod i fyn'd a chwi at y Roe Wen, i chwi gael golwg ar y ddwy Aran eto, ac awn a chwi i ben Mynydd yr Olewydd,' sef Ffridd Vachddeiliog." Diolch i ti, Gwrtheyrn, mi ddof os gwnei di ofyn i'r Hwn a ddwedodd wrth y cloff ar lan llyn Bethesda,—"Cyfod, cymer dy wely i fyny, a rhodia," fy mendio inau. Wel, Sasiwn olaf Edward
Jones oedd Sasiwn 1871. Dyna y Sasiwn y dadorchuddiwyd colofn Charles o'r Bala, a hefyd yr wythnos y cyflwynwyd y dysteb ardderchog i'r Doctor Lewis Edwards. Yr oedd tyrfa anferthol ar Green y Bala yn gwrando ar y Parch. Dr. Thomas a'i gyfaill yn pregethu foreu y diwrnod mawr. Yr oeddwn i a chyfaill o Fangor yn dyfod o'r Green. Gwelsom hen wr ar gefn mul yn dyfod yn nghanol y dyrfa.. Gwenai llaweroedd wrth wel'd yr olygfa ddigrifol. Pan. wrth adwy y Green daeth haner dwsin o ddynion o amgylch yr hen wr a'r mul. Dyma eu henwau Owen Thomas, pregethwr mawr y Sasiwn, yn mraich William Williams, Abertawe. Yn nesaf gwelem David Charles Davies, yn mraich Thomas Charles Edwards (y prif athraw yn awr); ar ol y rhai hyn daeth Llewelyn Edwards ym mraich David Charles (Dr. Charles) ei ewyrth. Gwelwn hefyd John Hughes. (Dr. Hughes), John Pritchard, Amlwch; a Hugh Jones, Lerpwl. Toc dyma Daniel Rowlands (y Parch. Daniel Rowlands, M.A., Bangor) yn mraich Lewis Edwards (Dr. Edwards), yn dyfod o hyd i'r hen wr a'r mul wrth y tyrpec isaf. Ysgydwodd y rhai a enwais law gyda'r hen wr, a chafodd pob un ohonynt ryw air ffraeth a siriol ganddo. Y mae y ffaith hon wedi ei hen anghofio gan y rhai sydd yn fyw o'r rhai a enwais, ond mae fy nghyfaill o Fangor (yr Henadur J. E. Roberts, Y.H.) yn cofio yn dda, ac os bydd raid daw allan i brofi y pwnc. "Pwy oedd yr hen wr yna, deudwch?" meddai fy nghyfaill ar y pryd, "bron nad ydyw yn gwneyd i rywun gofio am amgylchiad a ddigwyddodd yn Jerusalem,—gyda pharch y dymunaf ddweyd," meddai'r cyfaill. "Ond pwy ydi yr hen wr yma sydd yn cael y fath groesaw gan ddynion goreu Cymru?" "O!" meddwn inau,"dyna
EDWARD JONES O'R WENALLT."
NED FFOWC Y BLAENOR.
CODI BLAENORIAID.
TYDI o ddim ods yn y byd i bwy enwad yr ydw i yn perthyn, nac i ba gapel y byddwn ni yn myn'd fel teulu, ond digon ydi d'eud mai yn ardal Nantlle y mae. Mae gan bob enwad eu dull eu hunain o godi blaenoriaid. Dydi y Methodus, a'r Sentars, a'r Wesla, a'r Baptis, ddim i gyd yr un fath, ac y mae pob un o honynt yn meddwl mai y nhw sydd yn iawn. 'Does gan yr Eglwys yr un blaenor: y person a'r clochydd ydi pobpeth; y person sydd yn dewis y clochydd, a rhyw fistar tir, sydd yn byw yn ddigon pell, ambell dro sydd yn dewis y person. Y mae eglwys y plwy yn perthyn i'r stâd, ac eneidia'r plwyfolion hefyd, fel y mae y ffermydd, y coed, a'r game. Treio rhoi tipyn o ola i chi tua'r Nant yma ydw i.
Noson bwysig mewn capel ydi noson codi blaenoriaid. Pan eir i son am ethol swyddogion mewn capel, welsoch chi erioed fath gynhwrf fydd yn y gwersyll: pawb yn edrach ar eu gilydd, a phawb eisio gwybod sut y mae pawb yn edrach. Bydd calon llawer un yn curo yn erbyn ei sena nes y gallwch eu clywed fel drum Salfation Army, Caernarfon. Welsoch chi 'rioed fel y bydd y dynion y bydd eu llygaid ar y clustogau esmwyth yn altro eu gwedd: mae eu gwyneba yn wên i gyd, o glust i glust. Mae rhai dynion na fydda nhw ddim wedi cymeryd mwy o sylw o honoch na phe buasech yn farw er's blwyddyn. O! fel mae eu gwyneba wedi cael chwildroad. "Sut yr ydach chi heddyw, Mistar So and So? Ydi Mistras So and So a'r plant reit iach?"
Mawr y cyfnewidiad sydd yn cymeryd lle ar lawer wedi cael myn'd i'r sêt fawr. Cyn hyny byddant fel ryw fodau rhesymol eraill, gyda gwên hawddgar ar eu gwynebau; ond arhoswch dipyn, gadewch i'r brawd gael eistedd ar glustogau esmwyth agosaf i'r pwlpud, a theimlo pwysau swyddogaeth ar ei ysgwyddau, a dyna fo yn y fan yn cael "gwedd—newidiad," ond cofier mai eithriadau ydyw y rhai hyn ac nid y rheol.
Yr ydw i yn methu dallt athrawiaeth y cyfnewidiad yma. Os ydyw dyn wedi cael swydd mewn eglwys, pa'm raid iddo dynu gwyneb hir, ac edrych mor ddifrifol a phe b'ai yn sefyll wrth fedd ei nain? Yn lle edrych yn ddifrifol ac yn wyneb—drist, dylai fod yn siriol a gwyneb—lawen; oblegid braint ydyw cael bod yn swyddog yn eglwys Dduw.
Wel, daeth y noson fawr o'r diwedd. Yr oeddwn yn gwybod fod tipyn o si wedi bod y byddai Ned Ffowc yn un o'r etholedigion, er na wyddwn i yn y byd am un cymhwyster neillduol oedd yn perthyn i mi, heblaw y byddwn yn cael tipyn o hwyl wrth holi'r ysgol. 'Roeddwn hefyd yn Nazaread o'r groth, ac yr oedd hyny yn llawer. Wel, ar ol i mi fyn'd adre o'r chwarel, yr oedd y tê yn barod, a Sara a'r plant wedi gwisgo am danynt yn drefnus yn eu dillad capel. Yr oedd Sara wedi d'eud wrth y plant druain fod rhywbeth mawr iawn yn myn'd i gymeryd lle yn y seiat, a bod rhaid iddynt fod yn blant da, ac yn reit ddistaw pan ddown i adra o'r chwarel. Dyna lle yr oedd y pethau bach mor ddistaw a llygod, ac yn edrach mor ddigalon a phe baswn i yn myn'd o flaen y stusiaid am ladd sgwarnog.
Wel, i'r capel a ni bob un ond y babi a'r hogan hyna i edrych ar i ol o:—y plant yn cerdded o'n blaen a Sara yn closio ataf ac yn d'eud, Treia dy ore feddianu dy hunan, Ned bach." 'Roedd yn seiat fawr, fel y bydd bob amser pan y bydd rhywbeth ar droed; ac yn enwedig os bydd rhyw olwg am dipyn o row. Eisteddai pedwar gŵr diarth yn y sêt fawr, wedi dyfod gymeryd llais yr eglwys. Dechreuodd un trwy weddi, ac yna traethodd y tri arall dipyn ar y pwysigrwydd o ddewis dynion mwya' cymwys, a gobeithient y cawsai yr eglwys arweiniad oddi uchod.
ETHOL PEDWAR.
O'r diwedd fe syrthiodd y coelbren ar bedwar, ac yn eu plith yr oedd Ned Ffowc druan. Yr oedd Sara wedi myn'd yn grynedig iawn er's meityn, ac yr oedd yn treio fy nghadw ina rhag myn'd yn swp. Yr oedd y botel smel yn gwneyd gwasanaeth gwerthfawr, ac oni bai am hyny, mae arnaf ofn mai yn ngwaelod y sêt y buasai gwraig fy mynwes pan glywodd hi Edward Ffowc yn cael ei enwi. Gofynodd un o'r ymwelwyr am air gan yr etholedigion, a chan mai fy enw i oedd yr olaf cefais amser i hel fy meddyliau at eu gilydd. Dywedodd fy nhri cyd-etholedig agos yr un peth, sef fod y peth wedi dyfod mor annisgwyliadwy atynt, a bod y cyfrifoldeb mor fawr a phwysig, fel nad oeddynt yn teimlo yn barod i ymgymeryd â'r swydd heb gael digon o amser i ystyried y mater yn ddifrifol. (Gwarchod pawb a'r tri wrthi er's talm yn paratoi ar gyfer y peth).
"Wel, Edward Ffowc, oes genoch chi rywbeth garech chi ddweyd?" meddai yr hynaf o'r ymwelwyr, gyda golwg siriol a phatriarchaidd arno, nes peri i mi gael nerth i ddweyd fy meddwl yn bwyllog. Gwasgodd Sara fy nhroed er mwyn rhoddi nerth i mi. Codais ar fy nhraed, a threiais ddweyd goreu gallwn, nad oeddwn i ddim am ddweyd yr un peth a'm tri brawd; ond y buaswn i wedi fy siomi yn fawr pe b'aswn heb gael fy newis; fod genyf awydd mawr gwneyd rhywbeth dros grefydd, ac os oedd bod yn swyddog yn yr eglwys o ryw fantais i hyny, y gwnawn fy ngoreu, yn ol y goleuni oeddwn wedi ei gael.
"Mae yn wir dda genyf eich clywed yn siarad mor blaen, Edward Ffowc,' meddai yr hen weinidog. "Mae gormod o lawer o hen rodres efo peth fel hyn, a llawer o ragrith hefyd." Yna aeth i weddi.GARTREF.
Yr oedd Sara a'r plant wedi cyrhaedd adref o'm blaen; ac wedi i mi fyn'd i'r ty, dyna lle yr oeddynt yn eistedd fel delwau wrth y tân, a Sara yn edrych yn syn a difrifol. Gwelais y sefyllfa yn y fan. Yr oedd y plant yn meddwl fod rhyw gyfnewidiad mawr i ddyfod ar y teulu; fod dyddiau y sach—lian a lludw, a'r ymprydio wedi dechreu ar ein haelwyd lawen. 'Doedd dim golwg am damaid o swper. Yr oedd y tegell ar y tân yn canu, fel y dywedodd Mr. Spurgeon,—fel "angel du ansyrthiedig. Yr oedd yr ochr cig moch uwch ben y ty yn disgwyl cael gwneyd croesaw i'r blaenor newydd, y gath yn mewian, ac yn rhwbio ei chroen sidanaidd yn fy nghoesau, ond y wraig a'r plant fel pe wedi eu syfrdanu. Pam? Dim ond eu bod yn deall oddiwrth draddodiadau na ddylai blaenor fod â gwên ar ei wefusau.
Eisteddais i lawr a daeth Wil bach ataf. Hogyn pert ydi Wil. Eisteddodd ar fy nglin, ac ebai y bychan :
"Tada, chawn i ddim swper heno?"
'Pam, machgen i?"
"Wel, roeddwn i yn meddwl ein bod yn myn'd i ddechre ymprydio heno."
"Taw a dy lol, Wil, da ti," a gwaith munud oedd tori sglisen o'r cig moch; a welsoch chi 'rioed fel yr oedd Sara wrthi yn paratoi! Yr oedd y miwsig ar y badell ffrio, a sŵn y llestri tê yn ei gwneyd hi yn anhebyg iawn i dŷ ympryd.
SARA.
Ni wisgodd erioed esgid well dynes na Sara. Y mae ganddi hi ei gwendidau fel pob gwraig arall, ond rhai hynod o ddibechod ydynt. Dynes dda oedd Sara gwraig Abram; ond yr oedd ganddi lawer mwy o wendidau na Sara gwraig Ned Ffowc. Pan aeth y plant i'w gwelyau, daeth Sara ataf, rhoddodd ei llaw ar fy ysgwydd, ac meddai :
"Ned bach, mae'n dda gan fy nghalon i dy fod di wedi myn'd drwyddi mor dda yn y capel. Yr oedd gwraig y ty nesa' yn deud mai ti siaradodd oreu o'r pedwar, ond wn i ar chwyneb y ddaear un gair ddeudaist ti, yr oeddwn i wedi myn'd yn un swp er's meitin. Ned, mi leiciwn i fod yn bob help i ti, dawn i'n gwybod sut. Mae un peth yn pwyso tipyn ar fy meddwl i, Ned; ond dydw i ddim yn leicio deud wrtha ti chwaith."
"Yma ti, Sara bach, rhaid i ti beidio myn'd fel yna. Os oes gen ti rywbeth ar dy feddwl, allan a fo. Cofia fod gen i rwan ddau hawl i wrando ar dy brofiad di—fel gwr yn gynta, ac wedyn fel blaenor ar dy eglwys di. Allan a fo, Sara bach."
Rhoddodd Sara ei braich am fy ngwddf, a rhoddodd glats o gusan i mi, a dyna y barclod wrth ei llygaid ac mewn tôn wylofus meddai :
'Ned, a raid i mi dynu y tair bluen goch o'r fonat hono brynaist ti i mi wrth ddod adra o Lundain; gan dy fod ti yn flaenor?"
Wyddwn i ddim lle yr oeddwn yn eistedd, ac ni wyddwn i ddim pa un ai chwerthin a'i crïo a wnawn, ond meddwn,
"Na raid, 'neno'r anwyl; raid i ti dynu dim o dy fonat; cei wisgo cyn gystled ag y gwnest erioed—yr unig beth pwysig ydi eu bod nhw wedi talu am danyn nhw. Mae stori am yr hen weinidog enwog Roland Hill, y byddai ei wraig yn bur ffond o wisgo, a gwisgo mwy nag a allai y gŵr fforddio. Yr oedd arni eisiau bonat newydd, ond 'doedd dim pres i dalu am dani. Yr oedd hen gestar drôr yn y ty heb lawer o'i eisiau; gwerthodd Mrs. Hill hono, a phrynodd fonat. Y Sul wed'yn, yr oedd yr hen weinidog wedi dechreu ar y gwasanaeth cyn i Mrs. Hill ddyfod i fewn i'r capel. Y munud y gwelodd hi dyma fo yn gwaeddi, Clear the way, dyma Mrs. Hill yn dwad a'r cestar drôr ar ei phen."
"Tro digon gwael arno fo, Ned. Ond raid i ti ddim ofni y do i a'r cestar drôr, na dim dodrefn arall ar fy mhen i'r capel. Wyt ti am dynu y goler felfat oddiar dy gôt ucha, Ned, a chribo dy wallt ar dy dalcen, fel yr hen flaenoriaid er's talwm?"
"Na, Sarah bach, mae oes yr hen biwritaniaid wedi myned, ac yr ydw i am fod yn gymaint o swel ag erioed. Yr wyf am goler velvet a 'chiw pi' hefyd."
Llonodd Sara yn fawr wrth hyn, ac ni soniodd air byth am y peth.
DECHREU GWEITHIO.
Ar ol myn'd o dan y corn olew, a dechreu teimlo fy hunan yn sadio tipyn, dechreuais bryderu, pa beth a gawn wneyd fel blaenor. Collais lawer noson o gysgu gan mor bryderus oeddwn. Yr oedd digon yn y sêt fawr eisoes a fedrent siarad mwy na digon, ond yr oeddwn yn teimlo fod eisiau gwneyd rhywbeth heblaw siarad. Yr oedd rhyw lef ddistaw fain o hyd yn dweyd wrthyf fod llawer o bobl na fyddent byth yn twyllu capel nac eglwys dyma fyddai fy ngwaith. Yr oedd un gŵr ar fy meddwl er's llawer dydd, ac yr oeddwn yn teimlo y buasai yn dda genyf pe medrwn ei gael i'r Ysgol Sul. Un o'r dynion mwyaf ffraeth yn yr ardal, dyn a chalon fawr yn curo yn ei fynwes, sef Lewis— —, y gôf, dyna y dyn y rhoddais fy mryd i fyn'd i gael ymddiddan âg ef gyntaf. Ar ol tê ryw nos Lun, ffwrdd a fi ato i'r efail, am y gwyddwn ei fod y noson hono yn gweithio yn hwyr, i orphen rhywbeth pwysig oedd eisiau yn gynar yn y boreu.
Cefais y go' wrthi yn ddygyn yn trwsio darn o un o'r peirianau perthynol i'r chwarel. Pan aethum i fewn i'r efail, edrychodd Lewis i fyny, a gwelwn rhyw wên goeglyd yn myn'd dros ei wyneb. Tynodd ei gap, ac ymgrymodd nes yr oedd ei drwyn bron a tharo yr eingion.
"Helo, Mr. Ffowcs, sut yr ydach chi heno, syr?" meddai'r hen gyfaill.
"Paid a'm galw i yn feistar, Lewis bach; cofia mai Ned Ffowc ydwi fel yr oeddwn tua phymtheng mlynedd ar hugain yn ol, pan oeddem ni yn hogia gyda'n gilydd. Wyt ti yn cofio fel y byddem yn chwareu efo'n gilydd ar lan y llyn isa ar brydnawniau Sadwrn. Llawer 'sgodyn ddaru ni ddal yn te, Lewis. Wyt ti'n cofio, co bach, yr hogia eraill, fydda yn cyd—chwara â ni yn Nghloddfa'r coed, sef Bob Typɔbty, Dafydd Lloyd, Price Griffith, a Morris ———— Wyt ti'n cofio fel y bydda ni ambell noson seiat a chyfarfod gweddi yn myn'd i gyd i'r un sêt, ac yn poeni ysbrydoedd cyfiawn yr hen flaenoriaid anwyl—Edward Wiliam a John Robins."
Erbyn hyn yr oedd y dagra yn powlio i lawr wyneb yr hen ôf, ac yntau yn sychu ei wyneb â chefn ei law nes gadael stripen ddu ar draws ei drwyn.
"Na, paid a'm galw yn Mr. Ffowcs eto, Lewis."
"Wel, yn tydi pawb yn lecio cael eu galw yn fistars ac yn fistresus 'rwan, Ned. Welaist ti y wraig hono oedd yn dy gyfarfod di pan oet ti yn dwad i fyny y lon yna, Mrs. Jones wst ti."
"Pwy Mrs. Jones? Yr oedd hi yn rhy dywyll i mi gwel'd hi yn iawn, ac yr oedd ganddi fêl ar ei gwyneb."
"O, Catrin Wil Robin Shon fydde ni yn ei galw hi cyn iddi gael y cant a haner pres rheini ar ol yr hen gyb o ewythr fu farw yn perthyn iddi hi yn y Mericia, ond Misus Jones bob gair yrwan, if you please. A dyna wraig y Twmpath drain, gwraig Benja Twm Wil Catsen, Mrs. Wilias ydi pob peth rwan. Mae yr hogyn hyna wedi cael myn'd yn glarc yn yr offis, ac wyddos ti be ma nhw wedi neud? Y mae nhw wedi newid enw y ty i Thorn Bush House. Grand yn te?
"Wel, Lewis bach, nid dwad yma i drin achos pobl a'u henwa ddaru mi, ond i dreio fy ngore gen't ti ddwad i'r Ysgol Sul."
"O brensiach mawr, Ned; wyt ti wedi dechra blaenora? Mi weli yn fuan dy fod wedi dyfod i'r rong siop. Rwyt ti yn gwybod am dana i, Ned, dim lol wst ti. 'Does gen i fawr iawn o ffydd mewn crefydd rhai pobol fel y mae hi yn cael ei chario yn mlaen ganddyn nhw y dyddia yma. Tipyn o sham ydi eu crefydd nhw yn awr—tipyn o gilt ar haiarn bwrw. Weli di yr hen bedol yna, Ned, 'dawn i yn gyru hona i Birmingham, i gael ei golchi hefo gilt, buasai pawb yn meddwl mai pedol aur fase hi. Wyddost ti y chestar drôr sy gan Dic Shonat, mahogany, medda fo, ond 'dydi o ddim mwy o fahogany nac ydi coes y morthwyl yma. 'Does dim ond haenen dena o ffinâr ar goed ffawydd. Sham i gyd, Ned; ac felly y mae hi efo crefydd llawer o honoch chi. Paid ag edrych mor ffyrnig, Ned, ne mi ddylia i dy fod yn un o honyn nhw, ond 'dwyt ti ddim chwaith."
"Lewis anwyl, mae arna i ofn dy fod di wedi myn'd yn rhy bell i'r Efengyl na gras allu dy achub di."
"Beth, wyt ti'n meddwl mod i yn waeth na'r lleidr ar y groes? Mi gafodd hwnw fyn'd i'r nefoedd yn yr un cerbyd a Iesu o Nazareth, Brenin yr Iuddewon."
"O, Lewis bach, wyddost ti ddim mor dda gen i fase dy wel'd di yn sadio tipyn. Yr wyt ti yn fwy hyddysg na'n haner ni yn y 'Sgrythyr, ac y mae tipyn o'r gilt a'r ffinâr o'th gwmpas ditha hefyd. Yr wyt ti'n teimlo mwy nag wyt ti'n ddangos. 'Dydw i ddim am dy roi di i fyny, mi weddia drosta ti bob nos a bora." Ie, gwna, Ned bach, oblegid llawer a ddichon taer weddi y cyfiawn. 'Does gen i ddim yn erbyn gwir grefydd, 'machgen i, ond yn erbyn y rhai sydd yn proffesu yn anheilwng, er fod raid i mi ddeud fod llawer iawn o bobl wir dda yn mhob enwad, o oes. Mae arna i eisio gweled mwy o grefydd y Samariad trugarog a llai o grefydd y Lefiad annrhugarog. Os oes gen't ti amser mi ddeuda i stori fach i ti ar y pwnc."
"Oes, digon o amser, Lewis; dechra arni."
MARI DAFYDD.
"Mewn ardal yn sir Gaernarfon yr oedd gwraig weddw—Mari Dafydd oedd ei henw hi. Yr oedd hi wedi colli ei gwr er's haner blwyddyn, a chwech o blant eisieu eu magu, yr hynaf o honynt ddim ond deuddeg oed. Y nos Sadwrn cyn y 'Dolig yma, yr oedd tri o`r plant yn gorwedd yn sâl o'r frech goch, ac felly yr oedd Mari yn methu myn'd yn mlaen gyda'i gwaith gwnio, trwy yr hyn y byddai yn cael tamed iddi hi a'i phlant. 'Doedd dim tamed o fwyd yn y ty, a hithau yn nos Sadwrn 'Dolig. Rhoddodd ei bonat am ei phen, a rhedodd i dy un o flaenoriaid y capel—gŵr arianog— dyn blaenllaw yn y capel—wel, y fo oedd y pen-blaenor. Cnociodd Mari Dafydd yn wylaidd wrth y drws, a chafodd wel'd Mr. Hwn a Hwn, a dwedodd ei chwyn wrtho, ac meddai yntau,
"Does gen i ddim byd i chi, Mari Dafydd. Yr ydw i yn talu trethi mawr at gynal y tlodion; y peth gora fedrwch chi neud ydi myn'd i'r wyrcws.'
"Fedra i ddim myn'd yno heno, Mr. Hwn a Hwn, a 'does gen i ddim tamad at y fory, a thri o'r plant yn sâl, ne faswn i ddim yn dwad ar ych gofyn chi na neb arall."
Does gen i mo'r help am hyny; fedra i wneud dim i chwi."
Trodd Mari druan tua chartref gyda chalon drom; ond meddyliodd y troai i fewn i dŷ rhyw hen saer oedd yn byw ar y ffordd; aeth a dwedodd ei chŵyn wrth hwnw. 'Doedd hwnw ddim yn perthyn i grefydd mwy na minau. Cafodd ddysglaid o de poeth gan Mrs. Tomos, a thra yr oedd hi wrthi yn yfed y te yr oedd yr hen saer a'r wraig wrthi yn llanw basged efo bwyd iddi fyn'd adre. Dyna i ti, Ned, Samaritan digrefydd. P'run sydd fwya tebyg i fyn'd i'r nefoedd, ai yr hen saer yna neu Mr. Hwn a Hwn? Yr oedd plant Mari Dafydd yn well nos Sul, a thrwy fod cymydoges garedig wedi dyfod i aros efo'r plant aeth i'r capel. Yr oedd yno bregethwr da, a soniai lawer am drugaredd a dyledswydd crefyddwyr at rai oeddynt mewn profedigaethau, helbulon, a thlodi. Yn y seiat, cafodd Mari Dafydd y fraint o glywed Mr. Hwn a Hwn gyda thon wylofus, a dagra heilltion ar ei ruddiau yn adrodd darn or bregeth ac yn annog i haelioni a thynerwch. Dyna i ti, Ned, rhyw betha fel yna fydd yn cledu fy nghalon i. Clywed am rai tua'r capeli yma yn son am diriondeb a thrugaredd, maddeugarwch a phethe fel yna, a dim yn ei actio fo eu hunain. Mewn llawer capel mae nhw yn deud wrtha i fod yno bobl yn cydocheneidio, yn cydorfoleddu, ac yn cydeistedd i fwyta y Sacramenta, ac na wna nhw ddim siarad efo eu gilydd ar y ffordd. Nid dyna wir grefydd. Ond fel y dudes i o'r blaen, Ned, y mae llawer iawn o bobl dda yn perthyn i'r Capeli, a'r Eglwys hefyd o ran hyny. Mae yma lawer yn yr ardal yma yn bregethwyr, yn bersoniaid, ac yn flaenoriaid, dynion ag y buasai yn dda gen i pe daswn i yn debyg iddynt. Rhaid i ti beidio meddwl fod gen i feddwl caled o grefydd, o nag oes; yr ydw i yn parchu crefydd a chrefyddwyr, ond y mae defaid duon yn perthyn i bob corlan; ond un braf ydw i ynte i'w pigo nhw allan.
Wel, ar ol clywed yr hen ôf yn siarad fel hyn, yr oeddwn yn teimlo yn sicr mod i wedi cael pregeth gwerth myn'd i'w gwrando, ac y buasai yn llawer ffitiach yn lle bod Ned Ffowc wedi myn'd at yr hen ôf ffraeth a doniol, pe buasai y gôf wedi myn'd i gynghori tipyn arno ef.
ADGOFION AM Y BALA.
I. RHAGYMADRODD.
IE, "Y" Bala; nid Bala, ond "Y" Bala. Mae yn rhaid cael y llythyren "Y" i ddangos pwysigrwydd yr hen dref sydd yn gorwedd yn dawel yn
nghesail y bryniau ac ar lan Llyn Tegid. Ni ddywedir "Y" Corwen,"Y" Dolgellau, nag "Y" Llanuwchllyn. Nid ydyw Llundain, Rhydychain, nag hyd yn oed Bangor fawr ei breintiau, yn ddigon enwog i gael Omega y wyddor Gymreig i ddangos ei phwysigrwydd. Dyna oedd ein syniad ni blant y Bala ddeugain mlynedd yn ol, pan yn chwareu ar y Green gysegredig, y Domen Rufeinig, ac ar lan Môr Canoldir Meirion(Llyn Tegid). Ac yn wir dyna yw ein syniad ni heddyw, pan y mae y pren almon wedi dechreu blodeuo a cheiliog y rhedyn yn faich. Y mae son fod pobl Llundain yn bwriadu boddi y Bala gyda dwfr yr Aran a'r Arennig a'r Berwyn, er mwyn tori eu syched, ac felly wirio prophwydoliaeth Robin Ddu y cyntaf, ganrifoedd yn ol,—
"Bala aeth, a Bala aiff,
A Llanfor aiff yn llyn."
Y mae yn anhawdd genyf gredu y cymer y drychineb hon le; ond os boddir tref y Bala, ni ddileir ei henw hyd oni ddywedir,—
"Yr Aran a'r Wyddfa gyrhaeddfawr
A neidiant yn awr hyd y Ne'."
Rhag ofn y digwydd i ddiluw Penllyn gymeryd lle o fewn y ganrif hon, yr wyf am gymeryd tipyn o le i roddi ar gof a chadw ychydig hanes hen lanerch sydd. mor anwyl gan filoedd o Gymry yn mhob cwr o'r byd. Y mae cymaint o adgofion yn ymgymell i fy meddwl, nas gwn yn iawn pa le i ddechreu. Efallai nas gallaf ddechreu mewn lle gwell nag yn
II. HEN GAPEL Y BALA,
Capel Bethel, neu y capel mawr fel ei gelwid gan bobl y wlad. Hen gapel hanesyddol ydoedd, capel Thomas Charles, Simon Llwyd, John ac Enoc Evans, a Dafydd Cadwalad. Cof genyf fy mod yn dechreu myned i'r capel yn ieuanc iawn.
Yr oedd ein set ar ymyl y gallery, y cloc ar y llaw dde. Eisteddai yn y set agosaf, ar y llaw chwith, fachgen bychan tua'r un oed a minau, orŵyr i Dafydd Cadwalad, sef y Parchedig Dad Jones, yn awr offeiriad Pabaidd yn Nghaernarfon, boneddwr a berchir yn fawr yn y dref gan wreng a bonedd. Capel mawr ysgwar, hen ffasiwn, oedd capel y Bala, capel llawer haws gwrando a phregethu ynddo, medd y rhai sydd yn gwybod, na'r capel newydd. Safai y pwlpud rhwng y ddau ddrws—pwlpud mawr, digon o le ynddo i gynwys tri o bregethwyr mwyaf corphorol y Corph. Yr oedd y set fawr (yr allor) yn fawr mewn gwirionedd cyn iddi gael ei hail wneyd i gyfarfod ag oes mwy ffasiynol. Yr oedd digon o le ynddi i gynal dwsin o flaenoriaid, ond pedwar o wŷr da eu gair oedd wedi bod o dan y corn olew yr adeg yr ydwyf yn ysgrifenu yn ei gylch; sef William Edward, yr emynwr; Hugh Hughes, Tan'rhol, tad y gŵr anwyl Doctor Roger Hughes; Jacob Jones, tad y boneddwr o'r un enw o'r Rhyl; a Griffith Jones, cyfrwywr, wedi hyny arianydd. Ychydig gof sydd genyf am Hugh Hughes; a'r unig gof sydd genyf am William Edward yw fy mod wedi dysgu ei hen benill anwyl ar ei lin,—
"Mae munud o edrych ar aberth y groes
Yn tawel ddistewi môr tonog fy oes,"
Ar law chwith y pregethwr eisteddai Lewis Edwards (Dr. Edwards), ac yn y gornel ar y llaw dde eisteddai Benjamin Griffiths, factotum y capel,—gwneuthurwr menyg lledr o ran galwedigaeth. Ond treuliai fwy o'i amser yn y capel ac yn stabal y capel i ofalu am geffylau y cenhadon hedd a ddelent ar eu tro i'r Bala, nag a wnai gyda'r edau a nodwydd a chroen myn gafr. Hen wr tal, boneddigaidd yr olwg arno oedd Benjamin, nid anhebyg i'r Parch. Henry Rees. Un o oruchwylion ereill Benjamin fyddai gofalu am oleuo y capel. Goleuid y capel â chanhwyllau. Yr oedd yno dair seren (chandelier),—un fawr ar ganol y capel, ac un lai bob ochr i'r gallery. Cynorthwyid ef gan Evan Owen,—tad gweinidog poblogaidd Tanygrisiau, Ffestiniog, hen wr doniol, duwiol, a diddan, un a gerid ac a berchid gan bawb. Un o'n hoff bleserau ni y plant yn misoedd Ebrill a Medi, pan y byddid yn goleuo y canhwyllau ar ol dechreu yr oedfa, fyddai edrych ar Benjamin Griffiths ac Evan Owen yn goleu y canhwyllau, a chael gwel'd pwy a'i drwy ei waith gyntaf. Benjamin a ystyriai ei hunan yn fwyaf teilwng i oleu canhwyllau y pwlpud a'r "seren fawr," tra y byddai Evan Owen yn goleu y cyntedd nesaf allan a'r grisiau, a dyddorol oedd i ni y plant sylwi pa un o'r ddau gyrhaeddai "ser" y gallery gyntaf. Daw un tro rhyfedd i'm cof. Yr oedd Richard Humphreys y Dyffryn yn pregethu, a phan oedd y capel yn cael ei oleuo cyn dechreu y bregeth, rhoddodd yr hen benill hwnw allan i ganu,—
"Diolch i ti, yr Hollalluog Dduw,
Am yr efengyl sanctaidd .
Pan oeddym ni mewn carchar tywyll du
Rho'ist i'n oleuni nefol."
Dyblwyd a threblwyd yr hen benill nes bu bron iddi fyn'd yn orfoledd. Yr oedd Benjamin erbyn hyn wedi dechreu goleu "seren y llofft," ond wedi myn'd i'r hwyl wrth ganu
"Rho'ist i'n oleuni,"
ac yn cadw amser gyda'r taper wêr oedd ganddo yn ei law. Eisteddai hen wr ffraeth o dan y "seren," a chododd i fyny yn sydyn a throdd at Benjamin, gan ddweyd: "Yma chi, Benjamin Griffiths, yr ydech chi yn colli gwêr am fy mhen i." Bu agos i mi anghofio dweyd mai yn y set fawr hefyd, y gornel agosaf i'r llawr, ar ochr dde y pwlpud, yr eisteddai y pencantwr Rolant Hugh Pritchard. Yr oedd yn gerddor rhagorol, a gwelir rhai tonau o'i eiddo yn "Llyfr Tonau Ieuan Gwyllt;" ond yr oedd yn un touchy ddychrynllyd, fel y mae y rhan fwyaf o arweinyddion y gân—maddeuant i mi am ddweyd y gwir.
Jacob Jones oedd y pen blaenor, ac iddo ef y disgynai y swydd bwysig o gyhoeddi yr odfaon, swydd neillduol o bwysig y dyddiau hyny. Cyfarfod gweddi nos yforu am saith, seiat nos Fercher am saith, a'r seiat bach am chwech nos Wener." Ar ol myn'd trwy y rhan arweiniol pesychai yr hen flaenor duwiol, a dyma bawb yn estyn eu gyddfau ac yn rhoddi eu dwylaw wrth eu clustiau. Yrwan am y secret sydd wedi bod yn y dyddiadur er's blwyddyn, mwy neu lai (dim dyddiadur deuddeng mlynedd y pryd hyny, buasai hyny yn gabledd). "I bregethu bore Sul nesa' am ddeg Robet Tomos, Llidiarde; ysgol am ddau, a Robet Tomos am chwech." Dim "parch" na na "mistar; fyddai neb yn cael "mistar" gan Jacob Jones ond Mr. Edwards a Mr. Parry. Arferiad Jacob Jones fyddai cyhoeddi ar ol i'r pregethwr ddarfod pregethu a gweddio; a phan roddai y pregethwr benill allan ar y diwedd, dechreuai y bobl yn enwedig pobl Cefndwygraig a Phantglas—gychwyn allan yn ddiseremoni, er mawr ofid i'r pencantwr ac aflonyddwch i'r rhai fyddai yn dewis aros i ganu. Traethodd Griffith Jones lawer ar hyn, a thraethwr doniol oedd. Ceisiodd ddysgu manners i bobl y wlad—un mannerly oedd ef a thwt gyda pob peth. Siaradodd Dr. Edwards a Dr. Parry hefyd lawer yn yr un cyfeiriad; ond nid oedd dim yn tycio—myn'd allan wnelai y bobl ar ol y cyhoeddi. Ond ryw nos Sabboth yr oedd Dr. Edwards yn pregethu, a daeth drychfeddwl i feddwl awdwr "Athrawiaeth yr Iawn." Ar ol gweddio ar ddiwedd yr oedfa, dywedodd: "Yr wyf am roddi penill allan i ganu yn awr—hen benill anwyl y byddai eich tadau chwi yn myn'd i orfoleddu wrth ei ganu. Gadewch i ni ei gydganu, a chydweddio wrth ei ganu; wedi hyny eisteddwch i lawr yn ddistaw tra y bydd y brawd Jacob Jones yn cyhoeddi." Wyddoch chwi beth, aeth dim un gopa walltog allan. Eisteddodd pawb i lawr ar ol canu tra y bu Jacob Jones yn dweyd" pwy sy Sul nesa." Aeth y peth allan trwy holl Benllyn ac Edeyrnion, a chymerodd yr holl gynulleidfaoedd esiampl oddiwrth bobl y Bala yn hyn o beth, a dysgodd y bobl wylied ar eu traed wrth fyn'd i dŷ Dduw. Rai blynyddoedd ar ol hyn digwyddais deithio gyda Dr. Edwards rhwng Rhiwabon a Chaerlleon, a gofynais iddo a oedd yn cofio yr amgylchiad. "Ydwyf yn dda," a sylwai yn chwareus, a than chwerthin fel y medrai ef chwerthin, pa un ai fy araeth i tybed ai ynte eisieu clywed y cyhoeddi a darodd yr hoel ar ei phen, ac a ddysgodd fanners i'r bobl?
Meinciau oedd ar lawr y capel oddigerth rhyw dair rhes o seti oddiamgylch y muriau, ac ychydig o seddau y dosbarth blaenaf y naill ochr i'r set fawr. Mynych gyrchai prif enwogion y Corph i bregethu yn y Bala, ac nid oedd brin wythnos yn myned heibio heb i ryw "wr diarth o'r Deheudir" fod yn pregethu ganol yr wythnos. Tyrai y bobl o'r ardaloedd cylchynol nes byddai yr hen gapel "dan ei sang." Ambell dro gwelais droi y Sabboth yn rhyw fath o Sasiwn bach, yn enwedig pan y byddai Henry Rees neu John Jones Talysarn yn pregethu. Byddai y capel yn llawer rhy fychan i gynal y bobl, ac felly yr oedd yn rhaid agor y ffenestr oedd yn ymyl y pwlpud, ac i'r pregethwr sefyll ar waelod y ffenestr. Byddai canoedd o bobl ar y lawnt fawr o flaen y capel, ac yr oedd llais mawr John Jones yn cyraedd i gyrau pellaf y dorf. Pan y byddai tipyn o awel, byddai dalenau yr hen Feibl yn chwifio fel gwyntyll. Fe ddywedir, wn i ddim am wirionedd y chwedl, mai ar un o'r troion hyn y cymerodd tro lled ysmala le. Dywedir fod gwr enwog o'r Deheudir yn pregethu yn y ffenestr, gyda thipyn o hwyl a thipyn o "awel" gyda'r hwyl, a bod ei nodion ysgrifenedig oedd rhwng dalenau y Beibl wedi myn'd ar goll. Yr oedd y pregethwr wedi gorphen traethu ar y pen cyntaf a'r ail, aeth i chwilio am ei "nodion;" ac meddai yn drydedd," ac wedi hyny, pysychu—" ac yn drydedd" wed'yn—pysychu eto, ac edrychai yn lled gynhyrfus. Ar hyn gwaeddai hen wr ffraeth o Lwyneinion—" Mae'ch 'yn drydedd' chi wedi myn'd efo'r gwynt." Bu agos ir pregethwr hefyd fyn'd "gyda'r gwynt." Ond daeth "awel" wedi hyny a "chodwyd yr hwyl," a gobeithiwn fod aml un oedd yn yr odfa wedi cael "awel o Galfaria fryn."
Swydd bwysig hefyd yn nghapel y Bala oedd casglu," a bu yr un rhai wrthi am flynyddau. Y rhai cyntaf ydwyf fi yn gofio oedd Robert Michael Roberts, mab i Michael Roberts, Pwllheli—gŵr hynod o ffyddlon yn y moddion cyhoeddus, ac athraw cyson yn yr Ysgol Sul. Er ei bod wedi myn'd yn mhell arno cyn d'od yn aelod eglwysig, yr oedd yn esiampl i lawer o aelodau mewn moesoldeb. Ei gyd—gasglydd ar lawr y capel oedd David Evans, y postfeistr, gŵr y bydd genyf ychwaneg i ddweyd am dano mewn cysylltiad â'r "Seiat Bach." Cymerid un ochr o'r gallery gan Robert Roberts, dilledydd, hen wr cloff o'i glun, ond un uniawn yn ei ysbryd crefyddol. Gofelid am yr ochr arall gan Evan Owen, argraffydd,—wedi hyny llyfrgellydd y coleg,—gwr bychan o gorpholaeth, ond mawr ei sel a'i ffyddlondeb gyda phethau allanol gwaith yr Arglwydd. Yr oedd ef yn un o brentisiaid cyntat Robert Saunderson, argraphydd Geiriadur a Hyfforddwr Charles. Dyna y pedwar cyntaf ydwyf yn eu cofio yn gwneyd y gwaith pwysig. Yr oedd yn "bwysig," fe rheol, am y byddai mwy o geiniogau cochion chwechau gwynion yn cael eu bwrw i'r dollfa. Ond byddai un swllt gwyn ddwywaith yn y flwyddyn i'w cael yn mhlith y pres—sef amser y sesiwn (assizes), a Morgan Llwyd fyddai yn rhoddi y darnau gwynion. Cynhelid yr Ysgol Sabbothol i'r rhai mewn oed yn y capel, ac i'r plant yn yr ystafell o dan yr hen goleg, lle y cynhelid hefyd yr ysgol ddyddiol gan Evan Peters. Ysgol lewyrchus oedd Ysgol Sabbothol y Bala. Nid ydwyf yn cofio a newidid yr arolygwr yn flynyddol—mae genyf ryw led adgof mai Griffith Jones a fu yn dal y swydd am flynyddau. Byddai yr holi ar y diwedd yn sefydliad a berchid. Adroddid hefyd y Sul cyntaf bob mis y Deg Gorchymyn—hen arferiad rhagorol, gobeithio nad ydyw wedi darfod o'r tir. Arweinydd yr ateb a'r adrodd oedd Edward Llwyd coedwigwr ar stâd y Rhiwlas, ac wedi hyny masnachydd glo. Yr oedd gan Edward Llwyd lais fel udgorn, a llanwodd y swydd gyda medrusrwydd a blas am flynyddoedd. Arferai yr hen Gristion gadw y ddyledswydd deuluaidd nos a boreu, yr un mor danbaid a chyda'r un hwyl a phan y cymerai ran yn y cyfarfod gweddi yn y capel. Codai ei lais nes y clywid ef bellder o ffordd; mynych y gwelais dyrfa o bobl yr heel wedi ymgasglu yn nghyd i glywed yr hen frawd. Nid oedd yr hen archesgob, fel y byddem ni y plant yn arfer ei alw, am "oleu canwyll a'i dodi dan lestr,' ac fel Daniel yn Babilon, nid oedd arno ofn na chywilydd i neb ei glywed yn gweddio ar ei Dduw.
Nis gallaf ddarfod gydag Ysgol Sul y Bala, heb son gair am un o'm hen athrawon ffyddlawn, Robert Jones y go', ewyrth y Parch. E. Penllyn Jones, M.A., Aberystwyth. Hen frawd doniol oedd Robert Jones,— hen Galfin o'r Calfiniaid; chawsai yr un Armin fyn'd i fewn i'r nefoedd byth pe Robert fuasai yn cadw y drws. Ond fe ddichon fod yr hen frawd anwyl wedi newid tipyn cyn croesi yr afon. Yr oedd yn athraw llafurus a dygyn. Ei drefn oedd cael gan bob un o'r dosbarth ofyn cwestiwn ar bob adnod ddeuai gerbron. Byddai yn galed iawn yn aml ar yr hwn a ddigwyddai fod yn mhen pellaf y set, a phawb wedi cael "cnoc" ar yr adnod. Un tro, yr oedd pawb wedi gofyn cwestiwn ond John a'r adnod oedd, "Ac yn y man y canodd y ceiliog." "Rwan, John, dy dyrn di ydi hi," meddai'r athraw, "oes gen ti gwestiwn?" Cwestiwn yn wir," meddai John, "ond ydi yr adnod wedi cael ei blingo yn fyw—yden nhw ddim wedi gadael yr un bluen ar yr hen geiliog chwaith." "Yma ti, John, chyma i ddim lol gen't ti, tyr'd a chwestiwn y mynud yma, ne dd'oi di byth i'r class yma eto." Wel," meddai John druan, "os rhaid i chi gael cwestiwn, Robert Jones—beth ydi ystyr y gair ac yn nechreu y frawddeg?" Wrth lwc fe ganodd y gloch y funud yna, a thorwyd yr ysgol. Y mae'r Bala wedi bod yn gartref am dymhor fyfyrwyr Cymru wrth y cannoedd, yn amser haddysg. Y mae genyf adgofion melus am rai ohonynt sydd wedi gwneyd gwaith mawr, ac am rai sydd eisoes. wedi huno. Yr oedd ymysg trigolion y Bala, hefyd, laweroedd o gymeriadau dyddorol iawn,—rhai duwiol, rhai hynod, rhai digrif. Nid ydyw hyn i ryfeddu ato, oherwydd cafodd y Bala freintiau mawr, a bu dan ddylanwadau rhyfedd.
III. MAER Y BALA.
Y mae cyfnewidiadau a gwelliantau mawr wedi cymeryd lle yn hen dref y Bala y deugain mlynedd. diweddaf. Byddai ffosydd a thomenydd aflan i'w gweled ar hyd ochrau'r heolydd, ond erbyn hyn y mae y Bwrdd Lleol wedi dyfod â dwfr o'r Arenig fel afon a'i ffrydiau i lanhau yr hen ddinas. Yn amser Siarl y cyntaf, os nad wyf yn methu, rhoddwyd siarter i'r Bala, yn rhoddi hawl i ethol Maer a Chorphoraeth; ond bu ar goll am lawer o flynyddoedd. Daeth Dafydd Williams, Castell Deudraeth, o hyd iddi wrth chwilio am ryw hen weithredoedd yn Llundain, a pherswadiodd bobl y Bala i gymeryd meddiant o'u hawl. Tua'r flwyddyn 1858, awd drwy y seremoni o ethol maer y Bala, a'r maer oedd George Lloyd, Plas yn dre, mab Simon Llwyd, awdwr yr Amseryddiaeth. Yr oedd hyn yn y flwyddyn ar ol yr etholiad fythgofiadwy pan y daeth Dafydd Williams allan yn erbyn Wynne o Beniarth. Yr oedd yn naturiol felly yr edrychid ar rywbeth a wnai Williams gyda chryn amheuaeth gan wŷr mawr y fro. Yr oedd yr hen foneddwr Price y Rhiwlas, taid i'r gwr sydd yn perchen y stâd yn awr, yn greulawn yn erbyn cael maer i'r Bala, ac yr oedd yn benderfynol o wrthwynebu y symudiad. Ond gwr penderfynol hefyd oedd yswain y Castell Deudraeth ; ac etholwyd maer a chorphoraeth yn y Bala, a dathlwyd yr amgylchiad gyda chryn rwysg. Yn lled anesmwyth yr oedd y faeroliaeth yn gorphwys ar ysgwyddau gwr Plas yn dre. Yr oedd yr "Hen Breis". wedi cael allan nad oedd etholiad y maer yn rheolaidd a chyfreithlawn, felly mewn enw yn unig y bu yn dal y swydd am flwyddyn, a gwrthododd yn bendant gymeryd ei ail-ethol. Ond os oedd ar George Lloyd ofn Price y Rhiwlas, 'doedd ar Simon Jones ddim, ac efe a aeth drwy y seremoni yr ail flwyddyn, ond ni weithredodd yn swyddogol erioed am a glywais i. Er na weithredodd
y maer a'r gorphoraeth, fe weithredodd y Bwrdd Lleol yn gampus, a'r un rhai oedd yn cyfansoddi y ddau fwrdd. Rhoddodd yr hen adeiladau gwael to gwellt le i adeiladau da, ac erbyn hyn y mae tref y Bala mor lân a hardd ag unrhyw dref yn Nghymru.
IV. PRIF ADEILADAU.
Prif adeiladau y Bala ydynt y Capel Mawr, capel yr Annibynwyr, capel y Bedyddwyr, yr Eglwys, neuadd y dref, y Victoria Hall, Banc Gogledd a Deheudir Cymru, a'r Coleg, yn nghyda thair ysgol,—yr Ysgol Ramadegol, Ysgol y Bwrdd, ac Ysgol Eglwys Loegr. Mae capel y Bedyddwyr yn mhen uchaf y dref, a'r agosaf i'r llyn, y mae hyny yn ddigon naturiol. Hen gapel y Wesleyaid ydyw. Mae Wesleyaeth wedi marw yn y Bala er's llawer dydd. (Gwel "Y Wesle Ola.")
Saif capel newydd yr Annibynwyr ar gyfer y llanerch lle safai yr hen gapel, a choleg Michael Jones y cyntaf. Bu y capel hwn o dan ofal y gwr anwyl Ioan Pedr, ac wedi hyny bu Ap Vychan yn bugeilio ei braidd.
Wrth gwrs, capel y Methodistiaid ydyw teml y Bala, fel y gweddai i brifddinas y Corph,—capel gwych a godidog, a phinacl iddo,―rhaid cael pinacl ar deml wrth gwrs. Ryw ddwy flynedd ar ol adeiladu y capel gwelwyd fod y pinacl yn pengamu. Dywedai un hen flaenor ffraeth o Gefnddwysarn fod yn llawn bryd iddo gamu ei ben o gywilydd am geisio efelychu dull yr Eglwys Wladol o adeiladu. Sylwai wag yn perthyn i Eglwys Loegr fod y pengamu yn ddigon awgrymiadol o Fethodist. Pa fodd bynag, pan osodwyd cofgolofn Thomas Charles o flaen y capel, fe gododd y pinacl ei ben, fel pe yn dyweyd,—"'Does arna i ddim cywilydd o fod yn rhan o adeilad yn perthyn i'r enwad gafodd y gwr mawr acw yn un o'i sylfaenwyr."
V. YSGOLION Y BALA.
Bu y Bala am lawer o flynyddoedd heb ryw lawer o drefn ar ei hysgolion dyddiol. Rhoddai Michael Jones addysg i ryw ychydig o blant yn un o ystafelloedd ei goleg. Ond pan y bu ef farw cauwyd yr ysgol. Cedwid ysgol gan y Parch. John Williams, gwr o Ben Llwyn, cartref Dr. Lewis Edwards. Ar ol i Mr. Williams symud i Landrillo cariwyd hi yn mlaen gan y Parch. Evan Peters hyd oni agorwyd yr Ysgol Frytanaidd gan Mr. John Price—yn awr o Goleg Normalaidd Bangor. Ysgol nodedig oedd ysgol John Williams. Cedwid hi mewn ystafell o dan yr hen goleg, a llawer gwaith mewn blynyddoedd wed'yn y buom yn synu sut y gallodd y myfyrwyr uwchben fyn'd y'mlaen gyda'u gwers yn sŵn a dwndwr y plant oedd odditanynt. Un o'r pethau cyntaf i wneyd yn y boreu, ar ol cadw dyledswydd ysgolyddol, oedd galw enwau y bechgyn oedd i fod yn monitors am y diwrnod,—nid oedd pupil teachers y pryd hyny. Yr wyf yn cofio yn dda y boreu cyntaf yr aethum i'r ysgol. Rhoddwyd fi i eistedd ar fainc mewn cornel dywyll gyda phedwar o fabanod ereill; waeth i mi heb eu henwi, ond y mae tri ohonynt yn fyw heddyw, ac yn weinidogion poblogaidd yn Nghymru. Ein monitor ni am y diwrnod oedd bachgen bychan pengoch, a'i lygad fel fflam dân, nid oedd ond ychydig o flynyddau yn hyn na'r rhai oedd yn eistedd ar y fainc fach, ond gwyddai yn iawn sut i ddysgu yr "ABC" i ni. Ar yr un fainc bach y dysgodd yntau hefyd yr "A B C." Thomas Charles Edwards oedd ei enw, ac efe heddyw ydyw Prifathraw Coleg Duwinyddol y Bala. Iechyd a hir oes iddo i lanw y swydd bwysig. Cedwid ysgol i blant hefyd yn Nhy tan Domen, yr ochr ddwyreinioli Domen y Bala, mewn hen adeilad isel. Yr oedd yr ysgol hon o dan nawdd Coleg yr Iesu, Rhydychain, a rhoddid ysgol a dillad yn rhad i ddeg ar hugain o blant. Yr athraw ydoedd un Mr. Morris, dyn bychan o gorpholaeth, ond gyda phen mawr a breichiau hirion; a gwarchod pawb fel y medrai weinyddu disgyblaeth. Bu llawer bachgen yn methu eistedd yn esmwyth am ddiwrnodau ar ol mynd o dan yr oruchwyliaeth. Y mae Mr. Morris yn ei fedd er's llawer dydd, ac y mae yr hen adeilad wedi ei dynu i lawr er's llawer o flynyddoedd, i wneyd lle i adeilad gwell, ac y mae yr ysgol o dan lywyddiaeth athraw dysgedig. Cynhelid hefyd ysgol yn Llanfor gan un Joseph Jones, athraw da, a throdd allan lawer iawn o fechgyn galluog, rhai ohonynt yn llanw swyddi pwysig yn Nghymru.
VI. Y COLEGAU.
Wrth gwrs, prif enwogrwydd y Bala oedd ei cholegau. Yr wyf yn cofio yr hybarch Fichael Jones, tad Michael Jones presenol. Bu llaweroedd o dan ei addysg, o'r Gogledd a'r De. Yr oeddwn yn adnabod rhai o'r myfyrwyr yn dda, yn enwedig Rhys Gwesyn Jones, David Lloyd Jones (wedi hyny o Batagonia), a Dewi Mon, Prifathraw Coleg Aberhonddu. Hen athraw cywir oedd Michael Jones,—dyn talgryf a chorphorol, golwg difrifol a braidd yn ffyrnig arno, ond yn Gristion disglaer, yn foneddwr bob modfedd, a chalon gynes yn ei fynwes. Bu farw wrth ei bost yn y Bala, ac fe'i hebryngwyd i'w feddrod yn Llanuwchllyn gan un o'r torfeydd mwyaf a welwyd erioed yn y Bala.
Yr oedd Coleg y Methodistiaid dan yr unto â'r capel, a ffenestri yn y mur rhwng y ddau adeilad. Ambell dro, pan y byddai y capel yn orlawn, elai rhai o'r gwrandawyr i rai o ystafelloedd y coleg, ac yr oedd yn hawdd clywed y pregethwr. Un noson, Cyfarfod Misol neu Sasiwn, yr oeddwn yn y coleg yn gwrandaw ar y ddau frawd Henry a William Rees yn pregethu. Henry a bregethodd gyntaf, a phan oedd yn gofyn ar ddiwedd ei bregeth am "arddeliad i'w anwyl frawd," yr oedd yn anhawdd peidio gwenu. Nid ydyw fy nghof yn myn'd a fi yn mhellach na'r flwyddyn 1848, ac nid oes genyf gof am lawer o'r myfyrwyr y pryd hyny. Yr wyf yn cofio pedwar yn dda,—sef Robert Roberts, Prion; Ioan Llewelyn Evans, John Lewis, Birmingham; a John Hughes, sir Fon. Y mae y pedwar wedi myned i feddianu eu teyrnas. Yn fuan wedi hyn daeth i'r coleg Dr. Griffith Parry, Dr. Hugh Jones (nid yn Ddoctoriaid y pryd hyny, wrth gwrs), Daniel Rowlands, John Pritchard, a David Roberts, sir Fon. Yr oedd amryw o leygwyr hefyd yn y coleg y pryd hyn, sef John Price, Bangor; y diweddar R. J. Davies, Cwrt Mawr; a John Mathews, Aberystwyth; yr hwn sydd er's llawer o flynyddoedd yn arolygydd y National Provincial Bank yn Amlwch, y ddau yn fechgyn ieuainc iawn, a bu'm yn cyd—chwareu â hwynt ar lanau Llyn Tegid.
Yn ystod y deng mlynedd dilynol, fe ddaeth llaweroedd o fyfyrwyr i'r ac o'r Bala. Blwyddyn nodedig yn hanes myfyrwyry Bala oedd y flwyddyn 1859, blwyddyn y Diwygiad Crefyddol, pan y trwythwyd myfyrwyr y ddau goleg, ac y mae ol y trwythiad i'w weled ar aml un ohonynt hyd y dydd heddyw.
Y mae llawer o wahaniaeth yn myd myfyrwyr y dyddiau hyn i'r hyn ydoedd bymtheng mlynedd ar hugain yn ol. Y mae dyfodiad y ffordd haiarn i Green y Bala, a sŵn y march tân yn chwibanu ar lan Llyn Tegid, wedi rhoddi tro ar fyd y students. Gallant yn awr fyn'd haner can' milldir, mwy neu lai, i'w taith Sabbothol heb wneyd cam â'u hastudiaeth. Os byddai eisieu myn'd dros y Garneddwen i Ddolgellau, dros Figneint i Ffestiniog, dros y Berwyn i Faldwyn, neu Fwlch y Groes i Fawddwy, yr oedd rhaid cerdded y daith neu farchogaeth ar un o hunters y Bala. Fe ganodd Glan Alun yn ddoniol a phrydferth ar ddull y myfyrwyr yn myned i'w taith, ac nis gallaf wneyd yn well na rhoddi'r gân yn y fan hon,—
Ar ol llafurio yn ddifreg
Drwy'r wythnos am wybodaeth deg,
Mor hyfryd ar y Sadwrn fydd
I'r bechgyn gael eu traed yn rhydd;
A'u gwel'd yn cychwyn yma a thraw
Gan ymwasgaru ar bob llaw,
A neges fawr pob un fydd dwyn
Hen eiriau yr Efengyl fwyn
I glyw trigolion yr holl wlad,
Gan lwyr ddymuno eu lleshad;
Bydd weithiau ddau neu dri, neu fwy,
A cherbyd clyd i'w cario hwy ;
Un arall geir yn d'od yn mlaen
Gan farchog ar gefn ceffyl plaen,
Ac ambell waith fe gwympa'r march
Gan lwyr ddarostwng gŵr o barch;
(Mae'n anhawdd i'r myfyrwyr mwyn
Astudio pregeth a cal ffrwyn),
Un arall mwy diogel ddaw
A ffon brofedig yn ei law,
A'i ddull yn apostolaidd iawn
Yn troedio'n gynar y prydnawn
Mor wych eu gweled ar ddydd Llun
A bochau cochion gan bob un
Yn d'od yn ol yn llawn o rym
Am wythnos eto o lafur llym.
Busnes pwysig yn y Bala y blynyddoedd hyny oedd busnes y llogi ceffylau. Yr oedd un Rice Edwards a'i frawd yn cadw tua dwsin o feirch at wasanaeth y myfyrwyr, ac fe gludodd ceffylau Rice fwy o "genhadon hedd" ar hyd a lled y wlad nag a wnaeth ceffylau yr un dyn arall yn Nghymru. Yr oedd gan Rice Edwards un ceffyl,—neu gaseg, nid wyf yn cofio pa un,—oedd yn hoff farch gan y students, a'i henw "Tymplen," Tymplen Rice. Fe gariodd Tymplen druan lawer o Efengyl ar hyd siroedd Meirion, Dinbych, a Threfaldwyn. Fe_gariodd lawer ar yr hybarch Ddoctor Edwards a Doctor Parry. Hen geffyl saff ac un i ymddiried iddo oedd, fydde fo byth yn jibio, nac yn myn'd ar ei liniau,—y marchogwr fyddai yn gwneyd hyny; fydde fo chwaith byth yn rhedeg i ffwrdd, byddai y llwyth yn rhy drwm bob amser, nid o gnawd ond o ddrychfeddyliau y pregethwr. Ond bu farw Tymplen, a hi gasglwyd at ei thadau. Cefais lythyr ar y pryd oddiwrth un o'r myfyrwyr yn gofyn i mi am bwt o englyn fel beddargraph i Tymplen; ond gan nad wyf yn un o olynwyr Dafydd ab Edmwnt, nac yn deall y mesurau caethion, gofynais i fy nghyfaill Gwyneddon wneyd y gymwynas. A dyma nhw,
Gorwedd mae'n awr mewn gweryd,—hen geffyl
Gwffiodd am ei fywyd;
O swn y boen sy'n y byd,"—o grafangau
Du angau mae wedi diengyd.
Tymplen Reis, un neis iawn oedd,—i deithiwr
Deithio trwy'r cymoedd;
Mewn bri bu'n gweini ar g'oedd
I sereiff pena'n siroedd.
Fel y dywed Glan Alun yn ei gân byddai pedwar o'r myfyrwyr ambell brydnawn Sadwrn yn myned i'r un cyfeiriad ac yn uno am gerbyd. Digwyddodd, un tro, amgylchiad gwerth ei gofnodi. Fe gofia yr actors yn y ddrama y tro yn eithaf da. Y mae y pedwar eto yn fyw; mae dau ohonynt wedi myned trwy gadair y Sasiwn yn y Gogledd, mae un arall yn lled agos ati, ac nid ydyw yn anmhosibl i'r pedwerydd fyned trwy'r un anrhydedd. Cychwynodd y pedwar un prydnawn Sadwrn yn nghyfeiriad Cerigydruidion, Llangwm, a Rhydlydan. Nid Tymplen oedd y ceffyl y tro hwn, nac ychwaith un o geffylau ereill Rice, ond rhyw "farch plaen," heb fawr o ol "stabl y capel" na cheirch yr achos arno. Fodd bynag, cyn cyrhaedd pen y daith fe gwympodd yr hen geffyl, ac fe fu farw yn y fan, gan "lwyr ddarostwng y gwyr o barch." Yr oedd golwg mwy tebyg arnynt i'r
Boneddwr mawr o'r Bala Ryw ddiwrnod aeth i hela
nag i rai wedi bod yn cyhoeddi Efengyl y tangnefedd. Ond, i dori y stori yn fyr, chwiliwyd am gigydd i flingo y trancedig, a phrydnawn ddydd Llun dyma'r gwŷr o barch yn ol i'r Bala gyda cheffyl benthyg, a chroen yr ymadawedig gyda hwy yn y cerbyd. Ni welwyd angladd mwy difrifol erioed yn dyfod trwy dyrpec isaf y Bala. Fel hyn y canodd bardd anadnabyddus i'r amgylchiad,—
O dref y Bala un prydnawn |
Fel gweddai i bechaduriaid mawr |
Bu cyfnod y ceffylau yn gyfnod llwyddianus a phroffidiol i'r perchenogion, yn fwy o lawer felly nag i'r marchogion. Lawer gwaith byddai mwy o elw yn myn'd i boced y perchenog nag i boced y pregethwr druan. Nid oedd y gydnabyddiaeth lawer tro fawr fwy nag a delid am fenthyg y ceffyl; ac ambell dro, yn sicr, byddai y daith Sabbothol yn dead loss mewn ystyr arianol. Gobeithio nad oedd felly mewn ystyr ysbrydol. Os oedd un pechadur wedi edifarhau, yr oedd llawenydd yn y nefoedd, a gwobr fawr yn aros. Mae pethau wedi newid yn sir Feirionydd a'r siroedd ereill erbyn hyn ; y mae y blaenoriaid wedi dyfod i ddeall na fedr y pregethwyr ddim byw ar y gwynt mwy na rhyw fodau ereill. Ond peidiwn a rhoddi gormod o fai ar y blaenoriaid; os na bydd aelodau yr eglwysi yn cyfranu megis y llwyddo Duw hwynt, nis gallant hwythau dalu i'r pregethwyr. Nid ydyw yr arian yn nghoffr y capel fel y blawd yn y celwrn, nac fel yr olew yn yr ysten, fel y buasai yn dda gan lawer i hen gybyddion crintachlyd iddynt fod.
Nid oedd y ffaith fod myfyrwyr y Bala yn astudio duwinyddiaeth ac ieithoedd meirwon yn un rheswm fod raid iddynt arwain bywyd mynachaidd, gwisgo mewn sach lian a lludw, ac ymprydio dair gwaith yn yr wythnos; er fod llawer ohonynt, fel y mae yn ofidus ac yn gywilydd dweyd, yn gorfod byw yn lled fain. Prin yr oedd y gydnabyddiaeth yn ddigon i'w cadw. O na, nid mynachod gwyneb—drist oedd hen fyfyrwyr y Bala; yr oedd y mwyafrif ohonynt yn jolly fellows, rhai a fedrent fwynhau eu hunain a bod "yn llawen yn wastadol." Gallent ymbleseru mewn game of draughts neu dominoes, ond ni welais erioed gardiau ar y bwrdd, nac ychwaith yr un ddimeu goch yn cael ei henill na'i cholli. Ychydig a welais o'r bêl droed, ond byddai coetio gyda cherig neu hen bedolau yn cael ei arfer ambell dro.
Gwelais droion fyfyrwyr newydd yn d'od i'r coleg yn lled debyg i Verdant Green, dipyn yn ryw ddiniwed. Byddai raid i'r brawd hwnw fyned trwy dipyn o oruchwyliaeth y plagio. Yr oedd yn rhaid cael allan o ba fetal yr oedd y brawd newydd wedi ei wneyd. Ambell dro byddai cŵyn yn cael ei ddwyn yn erbyn myfyriwr newydd, ei fod yn ddiarwybod wedi troseddu, trwy dori un o ddeddfau anysgrifenedig y coleg. Byddai yn rhaid cael prawf arno yn ebrwydd. Cymerai y barnwr ei le ar y fainc, a chadach poced gwyn am ei ben fel wig. Yr oedd yno fargyfreithwyr ffraeth a siaradus, a deuddeg o reithwyr, tystion lawer, a chwnstabl i gadw heddwch, a'r carcharor druan yn ofni ac yn crynu. Byddai У rheithwyr bob amser yn dyfod a rheithfarn "Euog,' a dedfryd y barnwr yn fynych oedd i'r carcharor fyned i'r Ystadros am bymthegnos i bori mwsogl.
Digwyddodd, un tymor, dd'od i'r coleg fachgen yn meddu dawn neillduol gyda'i bwyntyl, ac yn fynych iawn gelwid am ei wasanaeth i dynu darluniau ar bared gwyngalchog un o oruwch—ystafelloedd y coleg. Dyma lle yr oedd oriel y darluniau. Pan y byddai un o'r bechgyn wedi troseddu, byddai yn rhaid cael ei lun yn yr oriel. Yr oedd un o'r bechgyn rhyw dro wedi cael basgedaid o wyau oddiwrth ei hen fam yn sir——— Cafwyd allan ei fod wedi bwyta chwech o'r wyau i'w frecwast y boreu canlynol. Cyn nos yr oedd llun y brawd yn yr oriel, yn eistedd wrth fwrdd, a chwech o wyau yn ei ymyl. Yr oedd y darlun mor fyw ohono fel nad oedd yn bosibl peidio ei adnabod. Yna cafwyd prawf arno ar y cyhuddiad o fwyta i ormodedd. Nid wyf yn gwybod a yrwyd ef i'r Ystadros ai peidio. Yr wyf yn meddwl ei fod wedi cael dyfod yn rhydd trwy iddo lwgrwobrwyo y rheithwyr trwy roddi wy bob un iddynt. Un nos Sabboth, pregethwyd yn hen gapel y Bala gan un o'r myfyrwyr ieuainc—un sydd erbyn heddyw yn un o bregethwyr mwyaf poblogaidd ein gwlad. Wrth sylwi ar ddyledswyddau dywedodd,—" Y mae yn ddyledswydd arnom ni rieni plant." Cyn haner dydd y diwrnod canlynol, yr oedd llun y bachgen bregethwr yn yr oriel yn eistedd wrth y tân a phlentyn ar bob glin, a thri neu bedwar o rai ereill oddiamgylch ei gader. Erbyn heddyw y mae ganddo berffaith hawl i ddweyd "ni."[2]
Dyn poblogaidd yn mhlith y frawdoliaeth oedd dynwaredwr da. Un o'r rhai goreu felly ydoedd y diweddar bregethwr hyawdl a galluog John Ogwen Jones. Gelwid am ei wasanaeth yn aml iawn yn nhai ei frodyr colegawl, ac hefyd mewn ambell dy capel, ond nid erioed yn gyhoeddus, byddai ganddo ormod o barch i'r rhai a ddynwaredai. Gallai ddynwared Henry Rees, John Phillips, John Jones, Edward Morgan, a llawer ereill. Ni chlywais ond dau fedrai ddynwared Dr. Edwards; sef y diweddar Owen Jones, o'r Plasgwyn, ger Pwllheli, a "Rhys Lewis" yr ail, gweinidog presenol Salem, ger Caernarfon. Dynwaredwr da dros ben hefyd, tra yn y coleg, oedd Thomas Roberts, o'r Ysbyty, yn awr yn America. Daeth i'r coleg yn ieuanc iawn a chanlynodd lawer ar Dafydd Rolant," Caplan Dafydd Rolant" y byddem yn ei alw. Ei brif garictors ef oedd Cadwaladr Owen, Dr. Parry, Richard Humphreys, John Hughes, Gwyddelwern; Dr. John Hughes, Caernarfon; ac yn neillduol Dafydd Rolant.
VII. Y SASIWN.
Ni fyddai adgofion am y Bala yn gyflawn heb ddweyd rhyw ychydig am yr hen sefydliad bendigedig. Hyd o fewn tua deugain mlynedd, cynhelid y sasiwn yn y Bala bob blwyddyn—sasiwn y Bala fyddai sasiwn fawr y Gogledd, a sasiwn Llangeitho oedd sasiwn fawr y Deheudir. Fe ddywedir na ddisgynodd cawod o wlaw wythnos y sasiwn am ddeugain mlynedd yn olynol. Gan mai yn nghanol Mehefin y cynhelid yr ŵyl, yr oedd tuag adeg dechreu ar y cynhauaf gwair. Digwyddodd un flwyddyn fod yn wanwyn a dechreu haf hynod o wlyb, fel ag yr oedd y gwair, yn enwedig yn ngweirgloddiau toreithiog y Rhiwlas, yn hen barod i'r bladur, ond yr oedd ar y pen gwas ofn dechreu wrth wel'd y tywydd mor wlyb. Aeth at ei feistr, yr "hen Breis, a dywedodd ei gŵyn,—"Mae hi yn amser dechre ar y gwair, mistar; ond mae arna i ofn mai difetha wneiff o wedi ei dori ar dywydd fel hwn." "Cerwch at Lewis Edwards," meddai yr hen foneddwr,"a gofynwch iddo fo pryd mae sasiwn Methodus yn dechre." Atebai John,—" Mae'r sasiwn yn dechre yr wythnos nesa, syr." Very well, techrwch chithe ar gwair John, gweles i rioed moni glawio sasiwn Methodus.' Yr oedd gan yr hen Breis feddwl mawr o Lewis Edwards, a sasiwn Methodus, a byddai yn ddiwrnod gŵyl bob amser y diwrnod hwnw.
Fel hyn yr ysgrifena un o blant y Bala i gylchgrawn tri misol,—"Tua deugain mlynedd yn ol yr oedd y sasiwn flynyddol wedi myn'd yn dreth drom ar drigolion y dref. Yr oedd wedi myn'd yn fwy tebyg i ffair G'la mai nag i ŵyl grefyddol. Byddai prif heol y dref, o ben bwy gilydd wedi ei llenwi â stondins fferins a fire aways cnau. Byddaf yn meddwl yn aml am y swn a'r dwndwr y diwrnod cyn y sasiwn, pan fyddai merchants India roc a chnau yn dyfod i'r dref. Tynid eu "masnach droliau," nid gan feirch na mulod, ond gan gwn mawr a ffyrnig, a byddai eu nadau i'w clywed filldiroedd cyn iddynt gyrhaedd y dref. Byddai yr holl dafarnau yn llawnion, a llawer o yfed. Yr oedd pob ty yn agored, a rhyddid i bawb fyned i mewn i fwyta yr hyn a fynent. Yr oedd y tai yn llawn o bregethwyr a blaenoriaid, ac nid yn anaml y byddai chwech mewn un ystafell. Wrth gwrs, ar gefnau eu meirch y byddai y pregethwyr yn dyfod i'r sasiwn, ac ambell un lled gefnog a boliog yn ei gig. Cyfnod y peint o gwrw cyn myn'd i'r pwlpud oedd hwnw. Byddai pregethwyr y De a'r Gogledd yn gweithio eu passage, fel y dywed y llongwyr byddent yn pregethu dair gwaith bob dydd ar y ffordd. C'ai felly y pregethwr a'i farch fwyd at lojin ar y ffordd, heblaw ambell swllt yn y fargen. Fel y dywedais, yr oedd y sasiwn wedi myn'd yn dreth drom ar ein hen dref, ac yn faich rhy anhawdd ei ddwyn; felly penderfynasant un flwyddyn ei gwrthod. Yr oedd llawer o'r hen dadau yn ofni y deuai rhyw farn ar ein hen dref am wrthod y sasiwn, ac y byddai fel Sodom a Gomorrah yn diflanu o'r tir. Ond y mae y dref "bechadurus" eto heb ei difodi, ac y mae yn fwy llwyddianus nag erioed, ac yn cymeryd y sasiwn yn ei thro." Y mae y rhan fwyaf o'r hen Green erbyn hyn wedi cael ei chymeryd i fyny gan y rheilfforddond y mae digon o le i gynal sasiwn arno eto.
VIII. DIWYGIAD CREFYDDOL 1858.
Dyddiau rhyfedd oedd dyddiau y Diwygiad Mawr, Y mae y darllenydd yn cofio mai yn yr Amerig y torodd allan gyntaf, ac yn Ngheredigion y cyffyrddodd gyntaf yn Nghymru. Yr oedd y newydd am y cynhyrfiad wedi cyrhaedd y Bala, a disgwylid yn bryderus am "ymweliad." Yr oedd y Coleg wedi tori, ac fel y byddai bob amser yn ystod yr holidays, pan y byddai yr athrawon a'r myfyrwyr i ffwrdd, yr oedd pethau yn hynod o flat tua'r capel. Yr oedd tri neu bedwar o fechgyn o sir Aberteifi yn y Coleg,—tri ohonynt oedd William James, Lewis Ellis, a William Morgan. Pan ddaeth amser dechreu y Coleg, daethant hwythau yn ol yn llawn tân y Diwygiad. Yn y cyfarfod gweddi nos Lun adroddasant hanes y cyffroad mawr yn Ngogledd Aberteifi. Creodd hyny deimlad angerddol, cynheuwyd y tân, a bu agos iddi fyn'd yn wenfflam y noson hono. Cariwyd y cyfarfod yn mlaen am dros ddwy awr, a chyn y diwedd yr oedd llawr y capel yn orlawn. Cynhaliwyd cyfarfodydd gweddi bob nos, cynhaliai y merched gyfarfodydd, a'r un modd y plant. Yr oedd masnach fel wedi ei barlysu,—y wlad oddiamgylch yn dylifo i'r dref, nid i fasnachu, ond i weddio. Yr oedd myfyrwyr y colegau yn methu yn lân a myn'd yn mlaen. gyda'u gwersi. Aeth llawer ohonynt i'r capelau bychain oddiamgylch, fel llwynogod Samson, gyda'u ffaglau, i danio y wlad. Deuai y bobl at grefydd yn y Bala wrth yr ugeiniau—fel ag y bu rhaid rhoddi i fyny "cornel fach y seiat," a phrin yr oedd lle ar lawr y Capel Mawr. Yr oedd yr holl dref wedi ei chynhyrfu drwyddi,—y meddwon wedi sobri, y cablwyr wedi troi i folianu Duw, ac am yr erlidwyr gellid dweyd am danynt fel am Saul o Tarsus,—"Wele y mae efe yn gweddio." Penderfynwyd un noson gynal dyledswydd deuluaidd yn mhob ty yn y dref. Rhanwyd y dref yn fân ddosbarthiadau, a phenodwyd dau neu dri i fyn'd drwy bob dosbarth gyda'u gilydd rhwng chwech a naw o'r gloch. Cynhaliwyd dyledswydd yn mhob ty oddigerth rhyw dri, sef y prif westy, ty twrne, a thy Eglwyswr selog. Yr oedd y pryd hyny un ar ddeg o dafarndai yn y Bala, a gweddiwyd yn mhob un ohonynt ond yr un a enwyd. Syrthiodd i'm rhan i ymweled â dau o'r tafarndai yn nghwmni dau fyfyriwr, un yn Fethodist a'r llall yn Annibynwr. Rhyfedd oedd gwel'd y tafarndai yn weigion, a gwraig y dafarn yn estyn y Beibl mawr ar y bwrdd. Yr oedd un o'r cyfeillion yn hwyliog dros ben, wedi cael gafael yn "rhaffau yr addewidion," ac yn tynu y Nefoedd ar ei ben. Cyn iddo godi oddiar ei liniau yr oedd cegin fawr y dafarn, ystafell y gyfeddach, wedi ei llenwi gan y cymydogion; a bu agos iddi fyn'd yn orfoledd yn nghanol gwersyll y gelyn. Ymunodd llawer o feddwon. cyhoeddus â'r capelau, a bu amryw ohonynt yn ddefnyddiol iawn gyda'r achos, a bu iddynt barhau hyd y diwedd. Nid anghofir byth un nos Sabboth yn y Bala yn nghanol y Diwygiad. Pregethai Dr. Edwards y bregeth hynod hono,—" Y Diwrnod Mawr." Cymerai ei destyn yn Josuah,—"O haul, aros yn Gibeon, a thithau leuad yn nyffryn Ajalon." Disgleiriai wyneb yr hybarch ddoctor fel gwyneb angel, ei lygaid fel mellten, a'i lais fel taran. Torodd yn orfoledd mawr, syrthiodd amryw i lewyg wedi eu gorchfygu gan eu teimladau.
Y dydd Llun canlynol yr oedd Cyfarfod Misol yn Nolgellau, a chefais yr anrhydedd a'r fraint o gyddeithio â'r Doctor yn un o gerbydau Rice Edwards. Cyn cyrhaedd tafarn Hywel Dda, haner y ffordd i Ddolgellau, torodd y cerbyd; a bu raid aros yn y gwesty hwnw am gryn amser i dd'od a phethau i drefn. Ond cyrhaeddwyd pen y daith o'r diwedd yn ddiogel. Pregethodd y Doctor bregeth y "Diwrnod Mawr" y noson hono, ac y mae yn ddiameu genyf nad anghofia pobl dda Dolgellau y cyfarfod hwnw tra byddant byw. Y mae llawer o ddynion sydd yn awr yn llanw pwlpud y Methodistiaid a'r Annibynwyr gyda dylanwad a nerth, yn blant diwygiad mawr y Bala a'r amgylchoedd.
IX. Y SEIAT.
Noson bwysig yn y Bala fyddai nos Fercher—dyna noson y seiat yn y Capel Mawr. Yr oedd yn rhaid i bob peth gilio o'r ffordd. Os oedd gwaith i'w wneyd, yr oedd yn rhaid ei adael i fyn'd i'r seiat. Byddai rhai yn cau drysau eu siopau am awr a hanner er mwyn i'r holl deulu gael myn'd i'r seiat. Gadawai y crydd esgid ar haner ei gwadnu, a'r teiliwr gôt heb orphen rhoddi bytymau arni. Gadawent hwythau y myfyrwyr eu Lladin a'u Groeg a'u Halgebra i fyn'd i'r seiat am awr a haner. Cynhelid y seiat mewn congl o'r Capel Mawr, yn y pen dwyreiniol. Wn i ddim paham y pen hwnw mwy na'r pen arall, os nad oedd y tadau o'r un farn a'r Eglwyswyr—mai yn y pen dwyreiniol o'r adeilad y dylid cynal y rhan fwyaf cysegredig o'r gwasanaeth. Eisteddai y dynion yn mhen eithaf y capel, a'r merched yn y rhan arall, a'r students gyda'u gilydd rhyngddynt. Eisteddai y plant ar y meinciau tuallan i'r seti, a'r hen wragedd trwm eu clyw yr un modd. Eisteddai y ddau flaenor,—Jacob a Griffith Jones,—wrth fwrdd bychan y tu allan i'r seti, a'r Doctoriaid Edwards a Parry yn y set agosaf atynt. Hen lanerch glyd a chynes i gadw seiat oedd hwn, yn enwedig yn y gauaf, pan y byddai Benjamin Griffiths wedi rhoddi tanllwyth go dda ar y stove fawr henafol ac anolygus ar lun cloch, a'r corn simdde yn myned allan trwy y mur. Gwelais yr hen stove yn wen eirias, a ninau y plant fyddem wedi cymeryd meddiant o'r meinciau agosaf ati yn cael Turkish bath o'r sort oreu. Derbynid arian y seiat bob nos Fercher, nid "casgl mis" fel mewn rhai lleoedd yn awr. Yr oedd y dollfa yn y pen arall i'r capel, ac eisteddai yno yn gyson i dderbyn "yr hyn a fwrid ynddo" Jacob Jones, Griffith Jones, Evan Owen, a David Evans. 'Doedd dim running accounts ar lyfrau seiat y Bala. Yr oedd yn haws i'r wraig weddw dlawd daflu hatling bob wythnos i'r drysorfa na phedair hatling bob mis.
Dechreuid y seiat fel rheol gan un o'r myfyrwyr. Gwrandewid ar y plant yn gyffredin gan un o'r ddau ddoctor. Adroddai yr holl blant gyda'u gilydd destynau y Sabboth, ac wedi hyny ddarnau o'r pregethau. Gwelais ambell dro Dr. Parry yn cael hwyl neillduol, yn gymaint felly fel y byddai yn amser terfynu cyn darfod efo'r plant. Adwaenai hwynt bob un wrth eu henwau. "Be ydech chi yn ddeud, Thomas? Triwch chwithe, John. Ydi o yn iawn, Llywelyn?" Ac os byddai y plant yn methu penderfynu y pwnc, troai at un o'r hen frodyr gan ddweyd," Be ydech chi yn feddwl, Huw Howel?" neu "Edward Rolant, fedrwch chwi roi tipyn o oleuni ar y mater?" Byddai Dr. Parry wedi taro tant yn y cywair llon wrth wrando ar y plant yn adrodd, a cheid hwyl hyd ddiwedd y seiat. Cymerai Dr. Edwards ei dro, wrth gwrs, a byddai wrth ei fodd yn nghanol yr hen frodyr—hen ddivines y Bala. Buasai cofnodiad o ugeiniau o ddywediadau y Doctor wrth ymddiddan â'r hen frodyr a chwiorydd y blynyddau hyn yn gwneyd un o'r cyfrolau mwyaf gwerthfawr yn ein llenyddiaeth. Gweled eu hunain yn bechaduriaid mawr yr oedd pobl y Bala y dyddiau hyny bron i gyd. "Myfi'r pechadur pena oedd byrdwn pob profiad crefyddol. Cafodd Dr. Edwards lawer o hwyl gydag un hen wreigan o'r enw Marged Wiliam,—hen wraig ddarllengar a deallus. Yr oedd Marged cyn iddi farw wedi darllen ei Beibl dros ddeg ar hugain o weithiau. Yr oedd ganddi gof neillduol, ac arferai adrodd penod o flaen y bregeth yn fynych. Un tro clywais hi yn adrodd penod o flaen Richard Humphreys, Dyffryn, y drydedd benod o Ganiad Solomon,—"Liw nos yn fy ngwely y ceisiais yr hwn a hoffa fy enaid," &c. Adroddai gyda llais clir ac eglur nes gwefreiddio y gynulleidfa. Ond er mor hyddysg yn ei Beibl, "pechadures fawr" oedd Marged Wiliam bob amser. "Beth sydd genoch chi heno, Marged Wiliam," meddai Dr. Parry ryw noson. "Testyn y studen yna bore Sul," meddai Marged, "Gwir yw y gair." "Wel, ydech chi ddim yn meddwl mai chi ydi y pechadur pena?" "Ydw wir, Mr. Parry bach, yr hen galon ddrwg anghrediniol yma, ond waeth gen i befo hi—da i ddim i uffern byth. O naga byth a dawn i'n myn'd ono, mi troen fi allan mewn munud, mi ddechreuwn i ganu am 'waed yr Oen, a fedre Belsebub a'r cythreuliaid ddim diodde hyny." Eisteddai, yn agosaf at Marged, hen chwaer wedi dyfod i'r winllan ar yr unfed awr ar ddeg—hen chwaer anllythrenog a hynod o dywyll. "Wel, hon a hon," meddai Dr. Parry, mae'n debyg eich bod chwithe yn cael eich hun yn gryn bechadures fel Marged Wiliam yma?" "Nag ydyw i'nenw diar, ne be baswn i yn dwad i'r seiat? Roeddwn i yn meddwl mai pobol dduwiol oedd yma gyd." "Wel," meddai Dr. Parry,"yr yden ni yn bechaduriaid bob un ohonom ni sydd yma heno." "Wel daswn i yn gwybod hyny, fase'n well i mi aros lle 'roeddwn i," meddai'r hen wraig. "Wel, wel," meddai Dr. Parry yn siriol, "ydi hi yn amser diweddu, Jacob Jones?"
Heblaw y ddau athraw, cymerid rhan mewn cadw seiat y Bala am flynyddau gan y gŵr hynaws ac efengylaidd Lewis Jones, Llwyneinion, golygydd y cylchgrawn bychan dyddorol Y Geiniogwerth, ac awdwr Oriau Olaf Crist. Yr oedd Lewis Jones yn fab-yn-nghyfraith i Wiliam Edward yr emynwr, ac ychydig fisoedd yn ol bu gan ei ferch, Mrs. Davies, Porthaethwy, ysgrif yn Cymru yn cywiro rhyw gamgymeriad am ei thaid. Cadwr seiat o'r radd uchaf oedd Lewis Jones. Perchid ef yn fawr gan bawb. Bu farw yn gydmarol ieuanc. Yr oedd gwr anwyl arall a wnai ei ran yn seiat y Bala, sef John Thomas, brawd i'r Parchedigion William Thomas, Beaumaris; a Dr. H. E. Thomas (Huwco Meirion), Pittsburg, Amerig. Dyn addfwyn a thawel oedd John Thomas. Ni chyrhaeddodd ef mwy na Robet Thomas, Llidiardau, y sefyllfa sydd yn rhoddi hawl i bregethwr wisgo cadach gwyn, ac yr oedd Cyfarfod Misol sir Feirionydd i'w feio yn hyn o beth. Ond os nad oedd y Cyfarfod Misol wedi rhoddi "Parch" iddo, fe'i perchid gan bawb a'i hadnabai, ac yr oedd yn bregethwr cymeradwy.
X. ROBERT SAUNDERSON.
Dyma wr a wnaeth wasanaeth i Gymru yn mlynyddoedd cyntaf y ganrif hon. Yn y flwyddyn 1801 daeth gŵr ieuanc o'r enw Robert Saunderson i'r Bala ar wahoddiad y Parchedig Thomas Charles, o fendigedig goffadwriaeth. Tua yr un adeg, meddir, y daeth Mr. Gee (tad yr hybarch Thomas Gee presenol) i Ddinbych; ac oddeutu yr un flwyddyn hefyd y daeth Mr. Brown i Fangor. Gwnaeth y tri wŷr hyn wasanaeth ardderchog i wlad eu mabwysiad, a bydd son am danynt tra y bydd hen iaith y Cymry yn fyw—yr hyn sydd yr un peth a dweyd diwedd y byd.
Amcan Mr. Charles yn dyfod a Mr. Saunderson i'r Bala oedd hyn. Yr oedd yn bwriadu dyfod a'r Geiriadur allan, ac yr oedd arno eisieu cael dyn o ymddiried i gymeryd gwaith mor bwysig mewn llaw. Tua yr un adeg hefyd y daeth yr argraphiad cyntaf o'r Hyfforddwr allan. Yn y flwyddyn 1806 ymbriododd Robert Saunderson â Rebecca Thomas, nith i Mr. Charles, yr hon a fu yn briod hoff ac yn wir ymgeledd gymwys iddo am dros haner can' mlynedd. Bu iddynt naw o blant, chwech o feibion a thair o ferched, un o'r rhai sydd heddyw yn fyw,—sef y foneddiges hynaws a charedig Miss Saunderson.
Mae yn debyg mai yr argraphwasg gyntaf gafodd Mr. Saunderson oedd y "Cambrian Press "—hen beiriant wedi ei wneyd o goed—a golwg ddigon anolygus a thrwsgwl arno. Gweithid ef gan ddau ddyn—un i roddi y ddalen o bapyr ar y llythyrenau a'r llall i weithio y peiriant. Cymerai amser mawr i argraphu cant o ddalenau,—un tu yn unig. Prin yr ydwyf yn meddwl y gellid argraphu cant mewn llai na dwy awr. Y mae hyn yn ymddangos bron yn anhygoel yn y dyddiau hyn o argraphu cyflym.
Nid y Geiriadur a'r Hyfforddwr yn unig a argraphwyd gan yr hen "Cambrian Press," ond miloedd lawer o bethau ereill. Llawer tro y bu'm pan yn blentyn yn difyru fy hunan yn swyddfa Mr. Saunderson, yn edrych ar yr argraphwyr yn argraphu y Geiriadur. Yr adeg yr ydwyf fi yn gofio, anaml iawn y defnyddid yr hen "Gambrian,"—yr oedd peiriant newydd wedi cymeryd ei le, un yn gweddu yn well i'r ail ran o'r ganrif, ac ynddo lawer o welliantau. Yr oedd yr hen "Gambrian" wedi ei droi i'r borfa ac wedi cael "tynu ei bedolau" fel hen geffyl ffyddlawn ar ddiwedd ei yrfa. Ni ofynid ddim gwaith ganddo, ond ambell odd job pan y byddai ei olynydd yn methu dyfod i ben. Ond pa le mae yr hen "Gambrian" heddyw tybed?[3] Gwn yn dda pa le y dylai fod,—sef yn Amgueddfa Genedlaethol cenedl y Cymry,―pe b'ai y fath le a hyny yn bod, ac y mae yn gywilydd i ni nad oes. Rhaid i mi adael Mr. Saunderson yn y fan yma, gŵr hynaws a hoff oedd yr hen argraphydd—dyn bychan o gorpholaeth a boneddigaidd yr olwg arno. Mae ef a'i briod a llawer o'r teulu yn gorwedd yn Llanecil, heb fod yn mhell oddiwrth feddrod Charles o'r Bala.
XI. MASNACH Y BALA.
Nid yn aml y sonir am y Bala fel tref hynod am ei masnach. Mae enw yr hen "brifddinas" yn fwy adnabyddus trwy'r byd—fel Jerusalem a Meca—yn ei chysylltiad â chrefydd. Ond nis gall pobl y Bala mwy na rhyw bobl ereill fyw ar grefydd yn unig, mwy nag a fedrant ar fara. Rhaid iddynt hwythau "wylio a gweddio fel nad elont i brofedigaeth."
Prif fasnach y Bala ddeugain mlynedd yn ol oedd hosanau (sanau nid "Hosana.") Mae son trwy y gwledydd am sanau y Bala. Byddai sanau meinion a siapus y Bala yn cael gwerthiant buan yn mhrif farchnadoedd Lloegr. Byddai holl ferched yr ardaloedd yn gweu yn ddygn hir nosweithiau y gauaf, ac yn wir bob cyfle arall a gaent. Mynych y gwelid y gwragedd a'r merched ieuainc yn dyfod i'r marchnadoedd a'r ffeiriau dan weu sanau, ac yn wir byddent wrthi yn brysur ar y ffordd i'r cyfarfod gweddi a'r seiat ar noson waith. Prif faelfa sanau yr amser yr ydwyf fi yn gofio oedd Tan'rhol, cartref y boneddwr caredig a haelionus Dr. Roger Hughes, U.H. Gwerthodd Mr. Hughes, Tan'rhol, ugeiniau o filoedd o sanau i fyn'd i drefydd Lloegr. Rhan bwysig o fasnach y Bala hefyd oedd gwlaneni, nid "gwlanen gartref" yn unig, ond byddai y gwlaneni meinaf yn cael eu gwneyd ; ac nid ydyw ar un cyfrif yn anhebyg na wisgwyd gwlanen y Bala gan benau coronog Prydain a gwledydd ereill. Y mae cymaint o fân aberoedd a ffrydiau yn rhedeg o'r mynyddoedd a'r bryniau oddiamgylch fel mai anhawdd ydyw cael lle mwy manteisiol i godi llaw—weithfeydd. Y mae llawer o ffactris a melinau yn y cylchoedd. Dyna ffactri Cefnddwysarn. Troir olwynion y gwaith hwn gan ffrwd fechan ac iddi amrywiol enwau, sef Nant Dyfoliog, Nant Cefncoch, Nant Llwyniolyn, Nant Cefnddwysarn, yr hon a red trwy'r dolydd sydd ar fferm Cynlas Fawr (cartref Mr. Tom Ellis, A.S.), hyd Domen Gastell, lle yr ymuna â'r Meloch, yr hon sydd yn troi olwynion Melin Meloch, ac yna yn ymarllwys i afon gysegredig y Ddyfrdwy. Arferai y diweddar Ddoctor Edwards, Bala, ddyweyd mai y Rhufeiniaid oedd wedi rhoddi yr enw ar afon Meloch, a'i fod yn tarddu o'r gair velox—sef "buan. Enw digon priodol ydyw, oblegid afon ffrochwyllt yw afon Meloch. Mae ffactris a melinau hefyd yn Rhos y Gwaliau, a droir gan yr Hirnant, yn rhedeg o'r Berwyn ac yn ymarllwys i'r Ddyfrdwy ger Tan y Garth. Ond prif ffactri yr ardaloedd ydyw ffactri Ffrydan—hen ffactri William Edward yr Emynydd. Troir olwynion hon gan ffrwd fechan y Ffrydan,—" ffrwd lân" medd rhai. Y mae yn codi rywle yn nghymydogaeth y Fedw Arian, ac wedi gwneyd gwasanaeth da i'r ffactri, mae yn ymarllwys i'r afon Tryweryn o dan hen balasdy y Rhiwlas. Ar ol William Edward, cymerwyd ffactri Ffrydan gan Mr. Robert Jones,—tad Mrs. Evan Jones, Moriah, Caernarfon, ac o dan ei arolygiaeth fedrus ef daeth ffactri fechan yr hen emynydd yn ffactri fawr yn cynwys y peirianau diweddaraf, ac yn rhoddi gwaith i lawer o weithwyr. Saif y ffactri ar gyfer y Rhiwlas—a blinid llygaid yr hen foneddwr, Mr. Price, yn fawr pan y byddai Robert Jones yn rhoddi darn newydd at yr adeilad. Pan fyddai yr hen foneddwr wedi digio Mr. Jones mewn rhyw ffordd, nid oedd raid iddo ond cael llwyth o galch i dalcen y ffactri fel pe yn parotoi i adeiladu, neu wyngalchu y lle, byddai cyflawnder o ysgyfarnogod, phesants, a phetris yn cael o hyd i'r ffordd i dy perchenog ffactri Ffrydan—dyna oedd yr aberth hedd. Adeiladodd Mr. Jones weithdai eang yn ymyl Tomen y Bala i weu gwlaneni, a chadwai lawer o wehyddion.
Ar ol Mr. Robert Jones cymerwyd y ffactri a'r gweithdai gan y boneddwr hynaws Mr. Richard Jones, Bala,—mab y diweddar Barch. Richard Jones, Bala,a brawd i Mr. Edward Jones, U.H., Plas yr Acre, a brawd hefyd i Mrs. James Williams, Llydaw. Delir y ffactri yn awr gan Mr. David Jones,—mab i'r diweddar Watkin Jones.
Yr oedd amryw o wlanenwyr a gwehyddion ereill yn y Bala. Un o'r rhai cyntaf ydwyf yn ei gofio oedd hen wr tal a golwg foneddigaidd arno,—Wiliam Llwyd. Ganwyd William yn y flwyddyn 1777, a byddai yn hoff o ddyweyd ei fod wedi ei eni yn mlwyddyn y "tri chaib." Bu fyw i oedran teg. Priododd ei ferch fab i'r diweddar Barch. Michael Roberts, Pwllheli, ac y mae dwy wyres iddo heddyw yn fyw,—Mrs. Morgan yn Rhaiadr, a Mrs. Evan Williams, y Bala. Edward Rolant hefyd oedd wehydd enwog,—hen wr syml a charedig. Rolant Hugh Pritchard oedd prif wneuthurwr peisiau stwff a defnyddiau ffedogau. Byddai yn myn'd yn fynych dros y Berwyn, dros y Figneint, ac i balasau y boneddigion i werthu ei nwyddau. Byddai y ddiweddar foneddiges o Wynnstay yn gwsmeres dda iddo. Haner can' mlynedd yn ol ymhyfrydai prif foneddigesau Cymru wisgo stwffiau o wneuthuriad Cymreig, ac am a wn i nad felly y buasent eto pe buasai y gwneuthurwyr wedi cerdded yn mlaen gyda'r oes.
XII. FFEIRIAU Y BALA.
Bu ffeiriau y Bala mewn cryn fri; ond, fel ffeiriau llawer tref a llan arall yn Nghymru, mae dyfodiad y ceffyl tân wedi gwneyd mwy o ddrwg iddynt nag o ddaioni. Prif ffeiriau y Bala oedd ffair Sadwrn Ynyd, ffair Galanmai (ffair gyflogi), ffair Wyl Beder (ffair yr ŵyn). Dyma y ffair y byddai Simon Jones o'r Lon yn gwneyd masnach fawr wrth werthu pladuriau, ar gyfer shop ei fab Simon. Ffair ganol yr Hydref oedd ffair fawr y gwartheg, pryd y byddai y porthmyn yn prynu canoedd i fyn'd a nhw i Loegr. Wythnos bwysig oedd wythnos ffair ganol. Yr hen Green oedd Smithfield y Bala. Gan fod yr anifeiliaid yn myn'd i gerdded ffordd
bell, yr oedd yn rhaid eu pedoli, a gelwid am wasan
aeth holl ofaint yr ardaloedd wythnos y ffair i barotoi yr anifeiliaid, druain, ar eu taith hirfaith. Braint fawr oedd gan rai o blant y Bala gael eu cyflogi i fyn'd i helpu gyru y gwartheg i Lundain, Northampton, a threfydd ereill, a llawer ystori ddoniol glywem ni blant yr ysgol ar ol i'r gwroniaid dd'od yn ol o Loegr, yn mhen y mis ambell dro. Diwrnod mawr oedd hwnw pan fyddai y gyroedd yn cychwyn, ac yr oedd yn rhaid i minau gael myn'd i ddanfon y gwartheg pan ond tua chwech oed cyn belled a Llanfor. Ond y mae dyddiau y gyru gwartheg wedi myn'd heibio. Cychwyna canoedd o anifeiliaid o'r Bala yn awr tua chwech o'r gloch y prydnawn, a byddant yn marchnad fawr y merthyron (Smithfield) yn Llundain cyn chwech o'r gloch boreu dranoeth. Rhyfedd fel y mae pethau wedi newid er yr hen amser gynt gyda dyfeisiadau rhan olaf y bedwaredd ganrif ar byn.theg.
XIII. Y SEIAT BACH.
Hawdd genyf gredu fod llaweroedd o hen blant y Bala, sydd ar wasgar yn mhedwar cwr y byd, yn cofio gyda phleser am yr hen seiadau bach bum' mlynedd a deugain yn ol. "Blaenor" y seiat bach oedd David Evans, postfeistr, mab-yn-nghyfraith i'r Parch. Michael Jones y cyntaf. Dyn bychan bywiog oedd Mr. Evans, yn llawn sel gyda phob peth y cymerai afael ynddo; dyn handi gyda holl bethau perthynol i'r capel. Efe oedd arolygwr Ysgol Sul y plant am lawer o flynyddoedd—yr hon a gynhelid yn yr ystafell o dan yr hen Goleg. Nid oedd Mr. Evans yn dduweinydd mawr, ond yr oedd ganddo allu anghyffredin i ddysgu i'r plant egwyddorion sylfaenol crefydd mewn dull syml ac effeithiol trwy gyfrwng y Rhodd Mam. Nid oedd chwaith yn gerddor gwych, ond yr oedd ei sel yn gwneyd i fyny am hyny. Arweiniai y gân bob amser ei hunan. Ni fyddai genym ond tair tôn o ddechreu i ddiwedd blwyddyn, sef"Diolch i Ti yr Hollalluog Dduw," "Mae Iesu Grist o'n hochor ni," ac yn enwedig
"'Rhyd ysgol faith Jehofa'n ddyn
Ro'i bendith Jacob i bob un,"
Byddai hwyl anghyffredin gyda'r olaf, a chanem
"Roi bendith Jac—ob"
gydag yni neillduol. Gofynai Mr. Evans ambell dro Pwy benill gawn, ni, mhlant i? Gwaeddodd un bachgen bychan un Sul,—"Bendith Jac, Mr. Evans, well gen i."
Ond y mae yn tynu at chwech o'r gloch nos Wener, ac mae yn amser myn'd i'r Seiat Bach. Erbyn cyraedd y capel mae yno dyrfa o blant wrth y drws. Agorai Benjamin Griffith ddim mynud cyn yr amser pe ba i hi yn bwrw cenllysg fel pla yr Aipht. Mae llawr y capel wedi ei glirio a meinciau wedi eu gosod yn un ysgwâr fawr. Mae bwrdd bychan yn y canol, a Beibl y Seiat arno, nid yr un Beibl a ddefnyddid yn y Seiat a'r pwlpud. Dechreuir trwy ganu tôn, ac yna, cyduna y plant i adrodd Gweddi yr Arglwydd. Treulid y cyfarfod y rhan amlaf trwy i Mr. Evans ddarllen rhyw hanesyn o'r Beibl, ac wedi hyny adrodd y stori yn ei eiriau ei hun. Byddai ganddo ddarluniau lliwiedig i ddangos prif wrthddrychau yr hanes. Byddai yn gwneyd rhanau o'r Ysgrythyr mor syml fel y gallai y plentyn lleiaf eu deall. Y mae rhai o'i ddarluniau o Abraham yn aberthu Isaac, Moses yn y cawell Joseph yn cael ei ollwng i'r pydew a'i werthu i'r Aipht, yn fyw yn ein cof heddyw, er fod yn tynu at haner cant o flynyddoedd er yr amser hono.
Testyn ymddiddan y Seiat Bach un noson oedd Samson. Ar ol darllen hanes y gŵr cryf yn cyfarfod â llew ac yn ei ladd a'i hollti, galwyd ar ddau o'r bechgyn mwyaf,—y ddau erbyn heddyw yn weinidogion poblogaidd, ac os gwelant y llinellau hyn hwy gofiant yr amgylchiad, a dywedodd," Yma chi, John, y chi fydd y llew, a chwithe, William, fydd Samson." Mae'r llew yn myn'd i un pen o'r capel a Samson i'r pen arall. Maent yn cyfarfod â'u gilydd yn y canol. Mae'r llew yn syrthio ar ol i Samson gymeryd arno ei daro, ac y mae y lladdwr yn penlinio wrth y corpwys ac yn ceisio agor ei enau i'w hollti. "Aros dipyn," meddai'r llew, ne mi roi loc jo i mi." Y rhan nesaf o'r gwasanaeth oedd Samson yn myn'd a phyrth Gazah i ben y bryn. Mae y bechgyn mwyaf yn rhoddi y bwrdd bach o ganol y llawr ar gefn Samson. Mae yntau yn cychwyn tua'r grisiau ac yn esgyn gyda'r pyrth yn nghyfeiriad" pen y bryn sydd gyferbyn a Hebron." Cyn iddo esgyn pedwar gris dyna Benjamin Griffith yn agor y drws ac yn gafael yn nghoes Samson, dan waeddi,—"Stop, William, lle'r wyt ti myn'd a'r bwrdd, 'rhen beth gwirion." Ar hyn gwaeddai y blaenor,—" Gadwch lonydd iddo, Mr. Griffith; Samson ydi o, yn myn'd a phyrth Gazah i ben y bryn, ac os aroswch chi yma dipyn mi gewch i wel'd o yn tynu y capel yma am ein penau ni." "Gwarchod pawb," meddai Benja,"gwell i mi ei chychwyn hi." Ac felly fu. Ac felly fu. Y peth nesaf oedd rhoddi mwgwd am lygaid Samson, a'i rwymo gyda thipyn o linyn, wrth un o golofnau y capel, fel y rhwymwyd Samson gynt wrth golofnau y chwareudy. Ond ni thynodd ein Samson ni y capel am ein penau, neu ni fuaswn yma i ysgrifenu yr hanes heddyw.
Un tro yr oedd eisieu dangos i'r plant sut y bu hi ar Daniel yn ffau y llewod. Gorweddai tri neu bedwar o'r bechgyn ar lawr y capel, ac yna gorweddai Daniel a'i ben yn pwyso ar un o'r "llewod." Toc clywn lais yn gwaeddi o'r gallery,—" Daniel, Daniel, gwasanaethwr y Duw byw, a all dy Dduw di, yr hwn wyt yn ei wasanaethu yn wastad, dy gadw di rhag y llewod?" Yna clywn lais ar y llawr yn gwaeddi,—"O frenin, bydd fyw byth." Daeth y brenin Darius i lawr o'r gallery, a chododd Daniel a'r "llewod" i fyny. Yr oedd y brenin Darius, Daniel, a'r llewod yn cyd—chwareu y dydd canlynol wrth Lyn Tegid. Rhyw ddull fel yna oedd gan Mr. David Evans, blaenor Seiat Bach y Bala, i argraphu hanesyddiaeth y Beibl ar feddyliau yr oes oedd yn codi.
Dyma ystori a gefais ychydig amser yn ol oddiwrth hen gyfaill o'r Rhyl, ond genedigol o'r Bala. Mae canoedd o bobl yn sir Feirionydd yn cofio yn dda am Mr. David Evans, Postfeistr y Bala, mab—yn—nghyfraith i'r Parch. Michael Jones y cyntaf, a brawd—yn—nghyfraith i'r Prif—athraw Michael Jones yr ail. Yr oedd Mr. Evans yn gadwr seiat plant heb ei fath, ac elai i gapelau y cymydogaethau ambell dro i gadw "Seiat Bach." Un tro pan yn cyfeirio ei gamrau yn nghyfeiriad Llwyneinion, cyfarfu ag ef foneddiges ffraeth, gwraig Mr. Simon Jones. "I ble 'rydech chi yn myn'd, Mr. Evans bach? gofynai Mrs. Jones. "I gadw Seiat Bach i Llwyneinion," atebai yntau. "Pwy sydd ganddoch chwi yn. edrych ar ol y siop a'r busnes, Mr. Evans?" gofynai Mrs. Jones. "O," meddai'r cadwr seiat diail,"yr ydw i wedi gadael y siop a phobpeth i ofal Iesu Grist." "Ydech chwi ddim yn meddwl, Mr. Evans," ebai'r foneddiges,"y byddai yn llawer gwell i chwi adael i Iesu Grist fyn'di Lwyneinion i gadw seiat, ac i chwithau aros gartref i edrych ar ol y siop?" Ond mi edrychodd Iesu Grist ar ol y siop, ac fe gafodd David Evans hwyl neillduol yn Seiat Bach Llwyneinion. Heddwch i'w lwch a bydded ei goffadwriaeth yn fendigedig.
XIV. IOAN DYFRDWY.
Nid ydyw y Bala wedi enwogi ei hunan yn neillduol gyda'i beirdd. Rhaid rhoddi y llawryf i Ddolgellau yn y cyfeiriad yna.[4] Fe gododd llawer o feirdd gwychion yn yr ardaloedd, rhai sydd wedi cyfoethogi barddoniaeth y Cymry. Yn Llandderfel cawn Edward Jones, Bardd y Brenin. Gyda llaw, pa le y mae ei hen delyn yn cartrefu yn awr? Prynwyd hi am haner coron yn Manceinion gan Idris Vychan mewn rhyw ocsiwn. Bu yr hen delyn yn lletya yn fy nhy gyda'i pherchenog wythnos Eisteddfod Caernarfon 1880. Arddangoswyd hi hefyd yn Arddangosfa yr Eisteddfod. Yr oedd gan Idris feddwl y byd ohoni. Clywais ei bod yn awr yn meddiant y gwladgarwr Dr. Emrys Jones, U.H., Manchester. Ös felly, y mae yn ddigon diogel hyd y ca Mr. Herbert Lewis Amgueddfa Gymreig. Yn Llandderfel hefyd y ganwyd Huw Derfel, Derfel Meirion, ac R. J. Derfel,—awdwr "Brad y Llyfrau Gleision," "Caneuon Min y Ffordd," a llawer iawn o lyfrau ereill. Yn Llanuwchllyn y ganwyd Ap Fychan, Bardd Dochan, ac ereill. y Bala nid ydym yn cael ond ychydig heblaw yr hen Emynwr. Yr wyf yn cofio Siarl Penllyn,—mab i Robert Saunderson,—a Gwilym Treweryn,—brawd y Parch. Morris Williams, Dinbych.
Y bardd yr wyf fi yn ei gofio oreu yn y Bala ydoedd Ioan Dyfrdwy, sef John Page Daeth y bardd melus hwn i'r Bala o Loegr pan yn faban bychan, a magwyd ef gan deulu caredig Hysbysfa, rhyw ddwy filldir o'r dref. Pan tua deuddeng mlwydd oed, aeth fel egwyddor—was i siop Simon Jones. Dechreuodd John brydyddu yn ieuanc iawn, a hoffid ef yn fawr gan drigolion llengar y Bala, ac yn neillduol gan fyfyrwyr y ddau goleg. Yn y flwyddyn 1850 aeth i Eisteddfod Madog,—a chafodd yno ei urddo yn ol defod a braint beirdd Ynys Prydain, dan yr enw barddol "Ioan Dyfrdwy." Cafodd y bardd ieuanc ei drwytho mewn ysbryd eisteddfodol yn yr Eisteddfod fythgofiadwy hon. Yn hon y cafodd Gwilym Hiraethog y gadair am awdl ar "Heddwch;" Ieuan Gwynedd oedd yr ail. Yn hon hefyd yr enillodd Robyn Wyn am yr englyn beddargraph i Carnhuanawc. Enillodd Glasynys hefyd amryw wobrau yn yr un Eisteddfod.
Arferai Simon Jones werthu pladuriau, fel hefyd y gwnai ei dad, hen wr y Lôn, o'i flaen. Yr oedd nifer mawr o'r celfi miniog hyn mewn ystordy naill du i'r siop. Wrth gario cowled o sebon o ystordy arall, a phan yn myn'd heibio y pladuriau llithrodd traed John a briwiodd ei wegil, fel y dywed,—
Dyma'r fan lle cês i, Jac,
Ar fy ngwegil dori hac ;
Gwae oedd erioed im' wel'd yr awr
I dori mhen â'r bladur fawr.
Cario sebon, goflaid gu,
I'w le priodol 'roeddwn i;
Ac wrth im' ddisgyn hwnw i lawr,
Cês ddyrnod gan y bladur fawr.
Boreu Mehefin sarug, syn,
Yr ail ar hugain ydoedd hyn;
Un mil wyth gant a phedwar deg
A naw—y bu y chwareu breg.
Yr oedd yn bwrw eira ryw foreu, a rhedodd John yn groes i'r heol i siop Tan'rholi wneyd neges. Safai Mr. Hughes ar ben y drws, a gwenodd pan welodd y bachgen yn ysgwyd yr eira oddiar ei ddillad, a gofynai, —"Ddaru ti frifo, John bach?" Atebodd yntau,—
'Heb argau syrthiais fel burgyn—i lawr
Ar oer le bu disgyn;
Cyfodais, dwedais fel dyn
Yn sad na byddwn sydyn."
Tua'r adeg yr oedd John Page yn ngwasanaeth Simon Jones, daeth ficer newydd i eglwys Beuno Sant, Llanecil, o'r enw Mr. Pugh—uchel eglwyswr selog, un a wnaeth dipyn o son am dano, ac a dynodd yr Ymneillduwyr yn ei ben yn enbyd. Safai yn gadarn dros gael offrwm yn y claddedigaethau, a gallwn ddyweyd yn y fan yma mai John Page oedd y cyntaf i gael ei gladdu yn Llanecil mewn claddedigaeth cyhoeddus, heb offrwm. Ffromodd y ficer yn aruthr, a gwrthodai gymeryd tâl o gwbl. Ychydig cyn marw, fel hyn y canodd Ioan Dyfrdwy i "Gyffes Offeiriad,—
Diafol uffernol o'i ffwrnais—oeddwn
::I heddyw ar falais,
Gweini y bu'm mewn gwenbais
Am y degwm ymdagais.
Fel hyn yr englynodd feddargraph i gyfaill,
O gwel, anuwiol, gwylia—arswyd yw,
Os deui di yma
Heb grefydd o'r defnydd da
Doi allan heb dy wella.
John Page a fu yn foddion i gychwyn "Cymdeithas Lenyddol Meirion." Cychwynwyd y gymdeithas flodeuog hon gan bedwar o fechgyn ieuainc yn un o gaeau y Rhiwlas, o dan hen dderwen. Y pedwar bachgen oeddynt. John Page, Ioan Pedr, Gwilym Tegid, a Roger Hughes. Y mae yr olaf yn fyw, ac eiddunaf hir oes iddo i wasanaethu ei genedl a'i Feistr Mawr. Dyma fel y canodd ein harwr i'r cyfarfod cyntaf o dan y dderwen,—
Rhyw bedwar ddengar wŷr ddaeth a'u bwriad
I buro eu harchwaeth ;
A cheisio mêl, achos maeth
O allu noddi llenyddiaeth.
Yn gwrddle, caem bren gwyrddlas, — a'r oerwynt
Weryrai o'n cwmpas;
Garw iawn oedd gerwin ias
Oer aelwyd ar gae'r Rhiwlas."
Daeth y gauaf o'r diwedd, ac yr oedd yn rhaid i'r pedwar llanc llengar gael rhywle heblaw caeau y Rhiwlas i gynal eu cyfarfod, ac yr oedd yn rhaid bod yn lled. ddistaw ar y cyntaf. Nid oedd hen Biwritaniaid duwiol y Bala eto wedi dyfod i gydymdeimlo â dim oddiallan i hen draddodiadau Methodistaidd. Fodd bynag, cafwyd o hyd i gwt mochyn heb breswylydd ynddo, a chafwyd cowled o wellt glân, i wneyd y lle yn gyfforddus, a dyna lle y bu y pedwar llenor, yn ddirgel yn cynal eu tipyn cyfarfod gyda'r "drysau yn gauad rhag ofn" nid yr Iuddewon fel y disgyblion, ond yr hen frodyr crefyddol. Ond dyma fo yn ngeiriau un o'r pedwarawd:
Gado y man gwed'yn;—ond tro baw
Troi beirdd i'r cwt mochyn."
Yn fuan wed'yn cawsant le mewn ystabl yn ymyl y "Domen," a dyna lle y buont yn
Moli yn nghwt y mulyn
Anhawdd, ac nid hawdd gwneyd hyn."
Erbyn hyn yr oedd pethau yn dechreu gwawrio ar y llenorion, a chwanegwyd at eu nifer, a chawsant fyn'd i eistedd wrth dân mewn ty cyfaill llengarol,
"Rol hyny, i dŷ at dân—y daethom
A'n cymdeithas ddiddan ;
Ond tlawd le, at aelwyd lân
O'n tw'llwch a'r cut allan."
Cyn y Nadolig yr oedd y pedwar llenor wedi casglu nerth, a llu o gyfeillion, fel y bu raid cynal y cyfarfodydd yn un o ystafelloedd yr hen goleg,—
"Heno wele lu ohonom—dewisol
Dri dwsin yr aethom;
Llon byth gyfeillion y bôm,
Un dryswch na ddoed drosom."
Bu farw y bardd swynol pan brin yn un ar hugain oed. Claddwyd ef yn barchus gan aelodau "Cymdeithas. Lenyddol Meirion." Gosodwyd careg brydferth i ddynodi man fechan ei feddrod—ac arni yn gerfiedig y beddargraph canlynol gan Fardd Dochan,
Diau hynotach daw Ioan eto
Yn wr heb anaf o hen âr Beuno;
Yn derydd esgyn, wedi ei harddwisgo
A mawredd Salem, i urddas eilio
Cerdd i'w Frawd nol cyrraedd y fro—uwch angen
A'i bêr ddawn addien heb arwydd heneiddio."
Yr unig farddoniaeth gyhoeddedig ag yr wyf fi wedi d'od ar ei draws, o eiddo Ioan Dyfrdwy, ydyw llyfryn bychan o'r enw "Briallu Dyfrdwy. Argraphwyd gan Griffith Jones, y Bala, 1852. Pris tair ceiniog."
XV. YR HEN GYMERIADAU.
Yn mhob gwlad y megir glew; ac felly hefyd yn mhob ardal, llan, a thref, y megir cymeriadau y perthyn iddynt eu neillduolion gwahanol i'w cymydogion. Nid ydyw y Bala yn wahanol yn hyn o beth i drefydd ereill, ac y mae yn naturiol i un o'i phlant feddwl nad oes yr un man arall dan haul yn rhagori mewn unrhyw nodwedd. Yr oeddwn wedi meddwl wrth ddechreu ar fy adgofion sylwi ar rai o hen gymeriadau y Bala yn lled helaeth. Ond wrth edrych dros y pedair penod ar ddeg a roddwyd eisoes o flaen y darllenydd, yr wyf yn gweled fy mod wedi cyffwrdd eisoes â'r prif gymeriadau, a byddai rhoddi penod i bob un ohonynt yn fwy nag a oddefa gofod i mi. Yr ydwyf wedi dwyn ger eich bron. nifer go fawr o gymeriadau a wnaethant eu rhan yn eu gwahanol gylchoedd tuag at enwogi tref y Bala. Dyna Benjamin Griffiths, Rolant Pritchard, y ddau Evan Owen, Robert Michael Roberts, Robert Jones y Gof, David Evans, Griffith Jones, a Jacob Jones, Edward Rolant, Margaret William ag ereill.
XVI. CANU YN IACH.
Y mae llawer o'm darllenwyr na fuont erioed yn y Bala, ac na sangodd eu traed ar y llanerch gysegredig y bu eu tadau a'u teidiau yn gwneyd pererindod iddi ugeiniau o flynyddoedd yn ol. Wrth ganu yn iach, gofynaf i'r darllenydd ddyfod gyda mi am enyd. Ar ol disgyn yn ngorsaf y Bala, cyfeiriwn ein camrau ar hyd yr heol a elwir uniawn nes dyfod at y "Groes Fawr." Trown ar y chwith, awn heibio yr hen goleg a'r capel Methodistiaid,—o flaen yr hwn y saif cof—golofn Charles o'r Bala. Yn fuan cawn ein hunain ar lan "môr y Bala," sef Llyn Tegid. Dyma ni yn sefyll ar y Roe Wen, y pen dwyreiniol i'r Llyn, a gallaf sicrhau y darllenydd nad oes olygfa brydferthach yn Ewrop. Dyma i chwi ddarn o ddwfr ysblenydd! Beth fuasai llawer o drefydd mawr Lloegr yn roddi am lyn fel hwn o fewn cyrhaedd? Buasai dwsinau o agerlongau bychain arno, ac ugeiniau o bleser gychod. Ydych chwi bobl Bala yn gwneyd y goreu o'r adnoddau y mae Rhagluniaeth wedi eu rhoddi yn eich cyrhaedd? Byddai agerlestri bychain yn rhedeg i Lanuwchllyn, ac wedi hyny ddigonedd o ferlynod bychain i fyn'd ag ymwelwyr i ben Aran Benllyn neu Aran Fawddwy, yn atyniad mawr i ddyeithriaid. Y mae y Wyddfa yn tynu miloedd bob blwyddyn i ardaloedd Beddgelert, Capel Curig, a Llanberis; ond nid ydyw y Wyddfa fawr ond ychydig iawn o droedfeddi yn uwch nag Aran Fawddwy.
Wel, dyma ni yn sefyll, fel y dywedais, ar y Roe Wen. Ar y llaw dde mae bryniau y Fron Dderw, ac anedd—dai prydferth Bryn y Groes, Eryl Aran, Bron Feuno, a Bryn Tegid. O dan y Fron Feuno mae Eglwys Llanecil, gyda'i choed yŵ tewfrig, llanerch beddrodau Charles, Simon Llwyd, Enoch a John Evans, Dafydd Cadwalad, ac yn olaf, er mai nid ar un cyfrif y lleiaf, yr anwyl Ddoctor Edwards. Ar law aswy yr ymwelydd mae ffriddoedd serth Fachddeiliog. Yn union ar ben y bryn yna, wrth ben yr hen orsaf, y saif y Wenallt, hen gartref Edward Jones. Nid oes yr un myfyriwr yn fyw a fu yn y Bala o ddydd agoriad y Coleg yn 1838 hyd y dydd y bu farw yr hen bererin, nad oes ganddynt air da iddo. Yn mhellach yn mlaen mae'r Fachddeiliog, lle a sonir am dano yn Methodistiaeth Cymru fel y lle y bu teulu anuwiol yn byw ynddo amser dechreu Methodistiaeth. Mor anuwiol oeddynt fel y byddent ar y Sabboth cyntaf o bob mis yn rhoddi cymun i'r cŵn. Rhyw ddwy filldir yn mhellach y mae hen fynwent Eglwys Llangower, a'r fynwent lle gorwedd llawer o deulu Ty Cerig, lle y ganwyd ac y magwyd tad yr aelod anrhydeddus dros Feirion. A chyda gwyleidd—dra y dymunwn ddyweyd, yno y gorwedd llwch fy anwyl dad er's dros ddeugain mlynedd. Ar gyfer Llangower y mae palasdy bychan Glanllyn, lle y bydd Syr Watcyn yn dyfod amser saethu ieir mynydd. Yn mhen draw eithaf y llyn gwelwn golofnau o fwg yn esgyn i fyny,—dyna Lanuwchllyn, cartref a man genedigol llawer o enwogion. Ar yr aswy, uwchben Llanuwchllyn, mae y ddwy Aran yn ymgodi hyd y cymylau, ac yn y pellder eithaf yn y gorllewin gwelwn Gader Idris. Dipyn i'r dde, dros fryniau y Fron, gwelwn y ddwy Arenig, o'r lle y ca pobl y Bala y dwfr grisialaidd sydd yn lloni eu calonau. Nid wyf yn gwybod am lanerch yn Nghymru lle y caiff un fwy o amrywiaeth golygfeydd nac oddiar lan Llyn Tegid.
Nid oes genym ond ychydig o amser cyn y bydd y trên yn gadael yr orsaf am Ddolgellau a Chaernarfon, ond rhaid myn'd i gael dringo i fyny i ben Tomen y Bala. Sut y daeth y bryn bychan hwn i ganol tref y Bala, y mae yn anhawdd dweyd. Y farn gyffredin ydyw mai beddrod cadfridog Rhufeinig ydyw. Mae un tebyg iddo ar ffordd Cefnddwysarn, sef Tomen Gastell, ac un arall yn ymyl yr hen orsaf, a lle y cychwyna yr afon Ddyfrdwy ar ei ffordd trwy ddyffrynoedd Edeirnion a Llangollen a Maelor i'r môr, ar draethell Fflint, ger Penarlag. Llanerch ddyddorol ydyw Tomen y Bala. Ewch yno ar amser y Sasiwn, cewch glywed y cenhadon hedd yn cyhoeddi efengyl y tangnefedd oddiar yr hen Green gysegredig. Mae golygfa ddymunol i'w chael oddiar ben y Domen. Cewch wel'd Treweryn yn ymuno mewn glân briodas â'r Ddyfrdwy. Cewch wel'd y llyn a'r mynyddoedd y cyfeiriwyd atynt, a phobpeth gwerth i'w wel'd yn ardal y Bala.
Ac yn awr, dirion ddarllenydd, nis gwn am le gwell "Thomen i edifarhau mewn sachlian a lludw am lawer o wallau sydd wedi ymlusgo i fy adgofion. Ond yr wyf yn sicr y maddeui i mi pan ddywedaf fod pob Ilinell a phob gair wedi ei ysgrifenu ar fy nghefn ar glaf wely. A therfynaf yn ngeiriau, o'r bron y gallaf ddyweyd ysbrydoledig, Glan Alun,
Bu'm o ' chydig ddefnydd gynt,
Cawn groesaw canoedd ar fy hynt ;—
Aeth hyny hefyd gyda'r gwynt,
A minau ' n farw 'n fyw."
ORIAU GYDA JOHN BRIGHT.
ER fod John Bright yn ei fedd er's rhai blynyddau bellach," y mae efe, wedi marw, yn llefaru eto." Er iddo yn 1886 dori ei gysylltiad â'r adran fwyaf Radicalaidd o'r blaid Ryddfrydol, a'i Harweinydd enwog, nid oes Radical yn y deyrnas nad ydyw yn barod i anghofio pobpeth ac i dynu ei het er anrhydedd i'w goffadwriaeth pan y sonir am ei enw. Pan fu yr hen wron farw, ei hen gyfaill pur, Mr. Gladstone, oedd yr un a dalodd y warogaeth fwyaf teimladol iddo.
Yr oedd yr enw John Bright yn enw swynol i mi er pan yn blentyn bychan yn chwareu ar lan Llyn Tegid, a llawer gwaith y clywais fy nhad, pan yn ymddiddan â rhai o fyfyrwyr y Coleg oddiamgylch y tân yn nghanol mwg tybaco, yn dyfod a John Bright i'r sgwrs. Yr oedd Peel, Cobden, a Bright, yn enwau teuluaidd y pryd hyny—dyddiau diddymu "Treth yr Yd,"—
Trethydd ŷd, nid rhith o dda—dilëwch
O lwg, O gwyliwch lewygu Gwalia,
fel y canai Dewi Wyn. Ond rywfodd, enw Bright oedd wedi glynu wrthyf fi. Un achos am hyny, efallai, oedd fod un math o felusion (da da, ys dywed y plant), yn dwyn yr enw Bright Drops, a chan fod fy nhad yn gwerthu y cyfryw bethau, ac yn fy anrhegu yn lled aml â rhai ohonynt am wneyd negeseuon yn ddiymdroi, yr oedd, wrth gwrs, y "Bright Drops" a minau wedi dyfod yn gryn gyfeillion. Fel yr oedd blynyddoedd yn myn'd heibio, a minau yn myned yn hyn, ac yn dyfod yn fwy hyddysg â helyntion y byd politicaidd, yr oedd yr enw "Bright" yn dyfod yn fwy anwyl genyf. Yr oedd darllen am ei lafur diflino, ei areithiau tanbaid o blaid rhyddid gwladol a chrefyddol, a heddwch,—yn ei wneyd yn brif arwr fy nychymyg. Nid oeddwn ond bachgen lled ieuanc yn 1858, ond yr oedd yn loes lled drom i mi fod fy arwr wedi cael ei droi allan o gynrychiolaeth Manchester, a hyny am siarad yn erbyn rhyfel a thywallt gwaed y Crimea.
Yn fuan wedi hyn, ymadewais o Gymru i un o drefydd Lloegr, a chefais gyfle i ddarllen y papyrau dyddiol; ac os gwelwn rywbeth am John Bright, mi a'i darllenwn o'i ddechreu i'w ddiwedd, deall neu beidio. Wedi hyny symudais i Fanchester, ac yr oedd awydd cryf arnaf am gael un golwg ar wyneb fy arwr. Un boreu, fel yr oeddwn yn cerdded i lawr Market Street, pwy welwn yn dyfod i fyny yr heol ond John Bright. Yr oedd yn anmhosibl peidio ei adnabod ar ol unwaith gwel'd ei lun. Gwaith hawdd fuasai ei bigo allan o ganol deng mil o bobl, yn enwedig i un oedd yn meddwl cymaint ohono ag yr oeddwn i. Wel, yr oeddwn wedi gwel'd y "great tribune;" ond nid oedd hyny yn ddigon, yr oedd yn rhaid cael ei glywed yn siarad,—yr oedd yn rhaid cael clywed y llais melodaidd a swynol oedd wedi gwefreiddio canoedd o filoedd o bobl yn ystod ymgyrch fawr Deddfau yr Yd. A daeth y cyfle cyn rhyw hir iawn. Yr oedd Mr. Bright i gymeryd rhan mewn cyfarfod mawr yn y Free Trade Hall ryw noson, a phenderfynais y mynwn ei glywed. Hwn oedd y tro cyntaf iddo ymddangos ar lwyfan cyhoeddus yn Manchester ar ol cael ei droi allan yn etholiad 1858. Yr oedd prif ddinas y cotwm wedi edifarhau mewn sachlian a lludw er's llawer dydd. Wel, noson y cyfarfod a ddaeth, ac oriau cyn dechreu cefais fy hun yn nghanol torf o ugeiniau o filoedd, a phawb ar yr un neges a minau. Lle i ryw chwe mil sydd yn neuadd fawr y Free Trade Hall; ond yr oedd dros gan' mil yn yr heol. Fodd bynag, rhyw ddwy awr cyn dechreu y cyfarfod, cefais fy hunan rhwng byw a marw yn eistedd mewn sedd gyfleus i wrando ar arwr y cyfarfod. Dyma hi yn saith o'r gloch o'r diwedd, a dyma rhyw gynhwrf yn ymyl y fynedfa i'r esgynlawr. Y mae llygaid y miloedd yn cyfeirio i'r un pwynt. Dyna ben gwyn patriarchaidd yn ymddangos—pen mawr a gwyneb crwn rhadlon. Pwy ydyw? 'Does dim eisieu gofyn; dyna John Bright, yr hwn y mae ei enw yn fendigedig yn mhob bwthyn yn y deyrnas am roddi iddynt dorth fawr o fara iachusol ar eu byrddau bɔb dydd. Y mae yr organ ardderchog yn taro y dôn," Yr Hen Amser Gynt," ac wedi hyny
Johnny comes marching home again,
ac y mae yr holl filoedd ar eu traed yn uno yn y gân gyda theimladau gorfoleddus. Y mae yr hen wron yn sefyll ar yr esgynlawr, a'i het fawr yn ei law; ei wyneb yn welw, a'r dagrau yn rhedeg ar hyd ei ruddiau. Nis gŵyr neb ond ef ei hunan, a'r Hwn sydd yn gwybod pobpeth, beth ydyw y teimladau sydd yn llanw ei fynwes y mynudau hyn. Nid anghofiaf byth mo'r olygfa. Ar ol cael tawelwch, cawsom anerchiad dyddorol ganddo yn ei ddull mwyaf hapus. Cefais y fraint o wrando arno lawer tro ar ol hyn. Ond nid oeddwn yn foddlawn ar hyn eto heb gael ymgom gydag ef. Ond pa fodd i gyrhaedd y fath uchelgais i fodolyn dinod? Wel, daeth hyny hefyd oddiamgylch yn ei amser priodol, a cheisiaf adrodd yr hanes mor gywir ag y gallaf ar ol rhai blynyddoedd o amser.
Yn Ngwanwyn 1885, dygodd amgylchiadau Rhagluniaeth fi i'r Hydropathic Institution, Llandudno, i fyned o dan y driniaeth ddyfrol. Bu'm yno am rai wythnosau, ac yn ystod fy arosiad daethum i gyfarfyddiad â Mr. Bright. Fel y gwyr y darllenydd, arferai efe fyn'd i Landudno bob dechreu haf, ac arhosai yn y George Hotel. Yr oedd yn hynod o hoff o Turkish Bath, ac ymwelai bron bob dydd â'r Hydro i fyned trwy yr oruchwyliaeth. Yr oedd tri o'r gloch yn awr fanteisiol iddo gael yr ystafell "chwysyddol" iddo ei hunan, gan mai un ar ddeg a phump oedd oriau arferol y rhai arhosent yn y sefydliad. Yr oeddwn wedi sylwi ar y gwleidyddwr enwog aml dro yn dyfod am dri o'r gloch, ac yr oedd awydd angerddol ynof am gael ymgom gydag ef, os gallwn wneyd hyny heb beri unrhyw dramgwydd neu anghysur iddo. Dywedais fy nymuniad wrth Dr. Thomas, meddyg ac arolygydd y sefydliad, a rhoddodd yntau i mi ganiatad i fyned i'r bath am dri o'r gloch. "Ond," meddai, "os ydych am gael ymgom gyda Mr. Bright, peidiwch a forcio ymddiddan arno; gadewch iddo ef siarad yn gyntaf." Felly fu; aethum i lawr. Yr oeddwn yn digwydd bod yn dra phoenus y diwrnod hwnw, fel yr oedd yn rhaid i un o'r gwasanaethyddion fy helpio i'r ystafell boeth, a'm gosod i orwedd ar y fainc bren. Yr oedd Mr. Bright yno o'm blaen, a gorweddai ar fy nghyfer. Edrychai arnaf yn dosturiol, a dywedai, "Yr ydych mewn poen mawr, beth ydyw eich afiechyd?" Dywedais inau mai y cryd cymalau. Dyna yr holl sgwrs y diwrnod cyntaf. Pan aeth i'r ystafell arall, gofynai i'r ystafellydd pwy oeddwn, o b'le
deuwn, a beth oedd fy ngalwedigaeth? Dywedodd Frank, y bathman, wrthyf wed'yn, "Yr oedd yr hen wr yn holi am danoch fel pe dase fo yn myn'd i ysgrifenu hanes eich bywyd; mae o wedi myn'd yn hynod blentynaidd, ac eisieu gwybod hanes pawb." Yr ail ddydd, pan gymerais fy lle yn y bath, yr oedd Mr. Bright yno, a gofynodd yn siriol, "Ydech chi yn llai poenus heddyw? O Gaernarfon yr ydech chi yn dyfod oni tê? Hen dref ddyddorol ydyw eich tref chwi, ac yr ydych yn gryn Radicals acw. "Wel, wn i ddim am hyny, Mr. Bright," meddwn inau, "y mae y mwyafrif mawr ohonom yn Ymneillduwyr, ond wn i ddim beth am ein Radicaliaeth. Yr wyf yn tueddu i feddwl fod y pleidiau yn lled gyfartal." "Beth ydech chi'n feddwl acw of Fesur Claddu Mr. Osborne Morgan, Mr. Jones; ydi o yn dyfod i fyny a'ch dymuniadau? Wel, nac ydyw, syr, mae llawer o bethau ynddo eisieu eu newid." "Wel, beth ydi un ohonynt?" "Wel, syr, ni fu'm i ond mewn un cynhebrwng o dan y Drefn Newydd, ac yr oedd hwnw yn ddiwrnod oer a gwlyb, cefais i a llawer ereill ein gwlychu at ein crwyn wrth sefyll allan tra yr oedd yr hen Eglwys o fewn ychydig latheni i ni, ond nid oedd genym hawl i gynhal y gwasanaeth ynddi heb fyn'd a'r person gyda ni." Ar hyn chwarddodd yr hen wr yn galonog, a sylwai :—" Mae'n debyg mai effaith y gwlychu y diwrnod hwnw ydyw y cryd cymalau, ac felly y mae yn rhaid i chwi ddiolch i Mr. Osborne Morgan am eich anhwyldeb." "O, nage, syr; buasai Mr. Osborne Morgan yn ddigon parod i ni gael myn'd i'r Eglwys i gynhal y gwasanaeth, ond y Toriaid a'r Arglwyddi oedd yn erbyn." "Wel, na hidiwch, Mr. Jones; mae Dadgysylltiad yn Nghymru yn sicr o ddyfod, er gwaethaf y Toriaid a'r Arglwyddi. Ond y mae'n rhaid i chwi gynhyrfu y wlad ben bwy gilydd, a gwylio eich cyfle, pan y bydd pleidlais Cymru yn rym nerthol yn Nhy y Cyffredin. Fy marn i ydyw mai Eglwys Ysgotland fydd raid fyn'd gyntaf, ac wedi hyny yr Eglwys yn Nghymru. Efallai fy mod yn methu." Mae'n debyg pe buasai Mr. Bright yn fyw y dyddiau hyn y buasai wedi newid ei feddwl.
Yr oedd Mr. Bright yn myn'd yn fwy rhydd bob dydd fel yr oeddym yn dyfod yn fwy cydnabyddus, a ninau yn gofalu peidio cymeryd mantais o hyny i'w dynu allan. Yn ystod y dyddiau hyny yr oedd Mr. J. L. Bright yn anerch cyfarfodydd yn Stoke, gyda'r amcan o ymgeisio am y sedd yn yr etholiad cyffredinol oedd wrth y drws. Y peth cyntaf a ofynodd Mr. Bright i mi un prydnawn oedd, "A welsoch chwi y Liverpool Daily Post heddyw, Mr. Jones? "Do syr," meddwn inau. "A welsoch chwi araeth fy mab yn Stoke ar helynt yr Aipht; beth oeddych chwi yn feddwl o gymhariaeth y coginydd?" "Do syr, mi gwelais hi, a meddwl yr oeddwn i y dywed llawer o bobl mai chwi wnaeth yr araeth, mae mor debyg i chwi." "Tybed, tybed," meddai yntau dan chwerthin.
Yn ystod y dyddiau yr oedd yr ymddiddanion hyn yn cymeryd lle, digwyddodd tro lled ryfedd. Derbyniais barsel oddiwrth gyfaill, a hwnw wedi ei lapio mewn dalen o'r Times am y flwyddyn 1845. Yn y darn o'r papyr yr oedd un o areithiau mawr Mr. Bright yn Nhy y Cyffredin ar y "Mesur Helwriaeth." Adroddais y ffaith wrtho y prydnawn hwnw. "Dear me," meddai yntau gyda syndod,"p'le, tybed, y bu y darn papyr yna er's deugain mlynedd? Yr wyf yn cofio yr araeth yn dda, ac y mae genyf achos cofio rhywbeth arall yn nglyn â hi; costiodd yr araeth hono i mi £500. Perswadiwyd fi gan nifer o gyfeillion i argraphu yr araeth mewn ffurf pamphledyn, a gwnaethum hyny; taenwyd ugeiniau o filoedd ar hyd a lled y wlad," ac ychwanegai gan wenu, "and I had to pay the piper."
Un prydnawn dywedodd wrthyf,"Bu'm yn rho'i tipyn o dro yn y wlad, yr oedd yn boeth iawn, ac yr oeddwn yn sychedig. Troais i mewn i fwthyn ar ochr y ffordd a gofynais am ddiod o ddwfr. Ni fedrai yr hen wraig Saesneg, ac ni fedrwn inau eich iaith brydferth chwi; sut bynag, gwaith hawdd ydyw gwneyd i rywun ddeall fod syched arnoch. Yr oedd yno hen gloc gwyneb pres, ac wrth edrych ar fy watch, gwelais fod yr hen gloc awr yn ffast. A fedrwch esbonio hyn i mi; yr oeddwn wedi gweled peth cyffelyb amryw droion mewn amaethdai Cymreig yn sir Feirionydd." "Y mae yn hen arferiad syr," meddwn inau, "yn y wlad yn Nghymru, i gael y clociau awr o flaen clociau y trefi, er mwyn cael gan y gweision a'r morwynion godi yn gynt yn y boreu." "Wel, wel, Mr. Jones," meddai yntau, gan chwerthin nes oedd yn siglo, "dydw i ddim yn gweled logic o gwbl yn hyny. Os bydd y gweision yn dechreu ar eu gwaith awr yn foreuach, y maent yn cael rhoddi i fyny awr yn gynarach hefyd, os ydynt yn myn'd wrth y cloc."
Un diwrnod daeth i aros i'r sefydliad hen foneddwr o Durham, ac ar ol tipyn o sgwrs, cefais allan ei fod ef yn aelod o bwyllgor etholiad Mr. Bright pan ymgeisiai am gynrychiolaeth y ddinas hono yn y flwyddyn 1843. Nid oedd wedi gwel'd Mr. Bright i siarad gydag ef byth ar ol hyny, a llawenychai yn fawr pan glywodd fod y gŵr mawr yn Llandudno, a bod tebygolrwydd y c'ai ei weled. Boneddwr hynod of wylaidd oedd y gŵr o Durham, lled anhebyg, mae arnaf ofn, i ysgrifenydd yr adgofion hyn. Fodd bynag, hysbysais y ffaith i Mr. Bright, a chafodd y ddau ymgom hapus am ddigwyddiadau yr amser gynt.
Fel y gŵyr y darllenydd yr oedd Mr. Bright yn hoff o Billiards, ac yn chwareuwr o'r radd uchaf, ac nid oedd dim a roddai fwy o foddlonrwydd iddo na rhoddi curfa dda i rhyw swell a ddigwyddai gael y fraint o chwareu gydag ef. Chwareuai un waith bob prydnawn cyn gadael yr Hydro, yn fwyaf cyffredin gyda Doctor Thomas. Ar ol myn'd yn ol i Lundain, anfonodd anrheg o set o daclau chwareu fel rhôdd i'r sefydliad, ac am ddim a wn i, yno y maent eto. Dyma y tro olaf y bu Mr. Bright yn Llandudno, a gallwn ychwanegu mai dyma y tro olaf hefyd i'r ysgrifenydd, ond nid yw hyny fawr o bwys.
Terfynaf yr ychydig adgofion hyn am yr hen Grynwr enwog o Rochdale yn ngeiriau "Mr. Punch" bymtheng mlynedd yn ol,—
Stout John Bright ,
What ever you do, whether wrong or right ,
You do it with all your might.
Y DDYFRDWY SANCTAIDD.
AR Domen y Bala y gadewais y darllenydd ddiweddaf yn syllu ar olygfeydd prydferth y fro, ac yn eu plith y "Ddyfrdwy Sanctaidd" yn ymddolenu yn nghyfeiriad Dyffryn Edeyrnion ar ei ffordd tua'r môr mawr llydan. Nis gallwn yn well na dilyn yr hen afon gysegredig trwy ddyffrynoedd Edeyrnion, Llangollen, a Maelor.
"Dwr dwy" fyddai plant y Bala yn ddyweyd fyddai ystyr enw yr hen afon, sef afonydd y Treweryn a'r Ddyfrdwy yn nghyd. Ond dywed y Cymro gwladgarol a dysgedig Dr. John Rhys, yn ei nodion gwerthfawr yr argraphiad newydd o "Pennant's Tour in Wales," mai "Dwfr Duw" a feddylir, gan ddynodi y cysegredigrwydd gyda pha un yr edrychid ar yr afon gan ein hynafiaid.
Nid gwir chwaith yr hen dyb fod y Ddyfrdwy yn rhedeg trwy Lyn Tegid heb gymysgu â'r dwfr hwnw. Y mae llawer o aberoedd yn rhedeg i'r Llyn, ond nid ydyw y Ddyfrdwy yn dechreu a bod hyd oni chychwyna wrth Bont Mwnwgl y Llyn,[5] ar ba bont y safai y diweddar fardd llawryfol Tennyson, pan ddaeth drychfeddwl ardderchog iddo pan yn cyfansoddi rhan o un o'i orchestweithiau.
Ond rhaid cychwyn i'r daith, a chymeryd camau brasach nag a wna y "Gentle Deva" er mwyn cyrhaedd Corwen cyn i'r haul fyn'd i lawr. Wrth sefyll ar Bont y Bala gwelwn ar y llaw aswy y Rhiwlas, hen gartref y Preisiaid, disgynyddion William Pryce, yr hwn foneddwr oedd yn aelod Seneddol dros Feirion yn amser y Senedd Hir yn nheyrnasiad Siarl y Cyntaf.
Rhyfedd fel y mae pethau wedi newid, onite; heddyw nid yswain y Rhiwlas sydd yn cynrychioli Meirionydd yn Senedd Prydain Fawr, ond mab i un o denantiaid y Rhiwlas. Y pentref cyntaf y deuwn ato ar ol cefnu ar y Bala ydyw Llanfor, neu Llanfawr. Gadawn yr hen eglwys ar yr aswy lle claddwyd Llywarch Hen, cawn son am dani ar y daith yn ol. Ond rhaid cael dyweyd gair am Gareg y Bîg, anedd-dy bychan ar gyfer Penisa'r Llan. Cynhaliwyd moddion crefyddol yn Nghareg y Bîg, lle trigai Marged Rolant, hen wreigan dduwiol, nain Mr. Rowlands, ysgolfeistr caredig Brynsiencyn, Môn, am lawer o flynyddoedd bob Sabboth gan y Methodistiaid Calfinaidd cyn codi capel yn y pentref. Y mae hen fyfyrwyr y Bala sydd yn fyw yn cofio yn dda am y lle. Gofalid am bregethwr gan yr hen flaenor hunan-etholedig, Edward Rolant y gwehydd, Bala, a gofalid am y degwm gan yr hen foneddiges grefyddol o'r Tan'rhol hyd ei marwolaeth. Swllt oedd y degwm am bregeth ar brydnawn Sabboth i bregethwr mawr a bach, hyd o fewn ychydig o amser i agoriad y capel, pryd y cododd i "ddeunaw," pris Cefndwygraig. Pan glywai yr hen flaenor fod y pregethwr wedi dyfod i'r Bala, elai ato i'w lety i ofyn iddo fyn'd i Lanfor brydnawn Sul. Digwyddodd un tro fod "pregethwr mawr" o Lerpwl yn pregethu yn y Bala; aeth Edward Rolant ato, gan ddyweyd,"Ddowch chi i Lanfor fory, Mr. ———" "Mae arnaf ofn nas gallaf Edward Rolant, ydw i ddim yn teimlo yn ryw hwylus iawn y tywydd poeth yma," atebai y pregethwr mawr." "O dowch yn wir, Mr. ——— bach, yr yden ni yn rho'i deunaw acw 'rwan." Wel, oherwydd ei daerineb fe aeth y gweinidog caredig ac anwyl, ac nid oherwydd fod y degwm wedi codi i "ddeunaw." Y mae yn cael ei dâl ar ei ganfed heddyw yn y Drydedd Nef. Rhyw haner milldir yn mlaen y mae y Dyfrdwy yn rhoddi tro chwyrn i ymyl y ffordd fawr, ac yno y mae llyn dwfn a du a elwir" Llyn y Geulan Goch." Ofnai plant a phobl yr ardal yn fawr fyn'd heibio y Geulan Goch wedi iddi dywyllu yn y nos, oblegid yr oedd yno "ysbryd." Dyma y stori,—Yr oedd ysbryd ar ffurf "hwrdd corniog" yn blino eglwys Llanfor. Ryw noson aeth sant ar gefn ei farch at yr eglwys ar haner nos, a gweddiodd ar ei gydseintiau am gael ymwared â'r "Ysbryd Corniog." Felly fu, daeth yr hwrdd allan, a neidiodd wrth sgil y sant, carlamodd yntau ei farch yn nghyfeiriad y Geulan Goch, a rhoddodd hergwd i'r bwgan i'r trobwll; ond ni foddwyd y gwalch, oblegid aflonyddwyd ar lawer a ddigwyddent dramwy y ffordd hono am lawer o flynyddoedd; yn wir, hyd yr adeg y daeth diwygiad crefyddol mawr, nid i ymlid ymaith y bwgan, ond yr ofergoeliaeth.
Uwchben y llyn hwn y mae Bryn Pader, lle y cartrefai gynt Peter Jones, y Goat, un o ferthyron brwydr etholiadol Wynne o Beniarth a Dafydd Williams, Castell Deudraeth. Fe ddywedir mai yr achos i'r lle hwn gael yr enw "pen liniol" hwn ydyw a ganlyn,— Yr oedd hen ffordd Rufeinig yn myn'd dros y bryn hwn, a hono yn serth a charegog, a phan y deuai y pererinion o ardaloedd pellenig Llawr y Betws i addoli i eglwys Llanfor, a chyraedd pen y bryn, hwy ddeuenț i olwg yr hen eglwys, ac yna syrthient ar eu gliniau mewn ymostyngiad defosiynol. Dyna y stori fel y clywais i hi gan hynafiaethydd enwog o'r Bala, a dyna fel yr oedd yntau wedi clywed y stori gan ei hen daid, yr hwn hefyd oedd wedi ei chlywed gan ei hen daid yntau.
Yn awr yr ydym yn dyfod at ddwy ffordd gyfarfod, ac er mwyn dilyn y Ddyfrdwy cymerwn y ffordd isaf, yr hon a'n harwain i bentref hynafol
LLANDDERFEL.
Deuwn yn ol i'r Bala y ffordd arall. Awn heibio Melin Meloch, a'r Bodweni, a Dewis Gyfarfod. Yr oeddym wedi clywed yr enw diweddaf lawer tro, ond erioed nid oeddym wedi deall ei ystyr. Ond dyma hen wr ar y ffordd, gofynwn iddo ef. "Wel," meddai yntau, "yn siwr i chi wn i ddim yn iawn, ond mi glywes rywun yn deyd mai dyma y fan y darfu i ddau Wyddel ddewis i gyfarfod i gwffio.' "Wel, meddem ninau, "os oedd y ddau Wyddel eisieu lle i gwffio—paffio ddywedodd o, dyna air Penllyn—heb fod ar yr Ynys Werdd, yr oedd digon o le iddynt ar yr Ynys Sanctaidd, lle yn awr y saif Caergybi (Holyhead)." Tybed mai nid yn y fan yma y darfu i ychydig o hen "ben gryniaid" ardal Llandderfel "ddewis i gyfarfod" yn amser yr erledigaethau chwerwon y cawn hanes am danynt yn "Methodistiaeth Cymru?"
Dyma ni yn awr wedi dyfod at y Fron Heulog, cartref Mr. John Davies, cyfaill mynwesol Mr. Charles, o'r Bala, a llywydd cyntaf y Feibl Gymdeithas yn Nghymru. Gwel y darllenydd gip ar y Fron Heulog yn y coed gerllaw o ben Pont Llandderfel. Dyma ni yn awr yn myn'd i lawr allt serth, dyma lle y syrthiodd Elias o Fon oddiar gefn ei geffyl yn adeg un o Sasiynau y Bala nes tori ei goes, a methu myn'd i'r Bala i bregethu. Os ydym yn cofio yr hanes yn gywir, myn'd i roddi pregeth yn Llandderfel y nos Lun cyn y Sasiwn yr oedd John Elias pan ddigwyddodd yr anffawd. Ar y llaw dde, yn y fan hon, gwelwn balasdy gorwych a adeiladwyd gan y diweddar Mr. Henry Robertson, cyn aelod dros Feirion. Enw y palasdy hwn ydyw
Y PALE.
Dyma lle y bu ein grasusaf Frenhines yn aros am ychydig o ddyddiau Awst, 1889. Hen gartref y Llwydiaid oedd yr hen Balé am dros wyth gant o flynyddoedd, a dywedai y diweddar Forys Hedd Llwyd, yr olaf ond un o'r llinach, mai ystyr y gair Palé ydoedd "lle gwlyb." Mwynhaodd ein brenhines Buddug ei hunan yn ardderchog yn y Palé, ac aeth gyda hi yn ol ddau beth, sef ewyllys da ei deiliaid yn Meirion a ffon Gymreig o wneuthuriad Mr. Hugh Ellis, un o flaenoriaid capel y Methodistiaid yn Llandderfel. Dyma, hyd y dydd heddyw, ydyw hoff ffon yr hon sydd yn eistedd yn nheyrngadair y deyrnas fwyaf pwysig yn y byd—y deyrnas na fydd yr haul byth yn machludo ar ei thêrfynau. Darllenais mewn newyddiadur sydd i fewn nghyfrinion y Palas Brenhinol y dydd o'r blaen, mai y ffon Gymreig a ddefnyddia Victoria i dramwy trwy ystafelloedd ei phalasau, a'r ffon hon oedd yn ei llaw yn Mhalas Buckingham fis Mawrth diweddaf, ac nid "teyrnwialen aur," pan yn rhoddi derbyniad i'w gweinidogion, ei hesgobion, a phendefigion mwyaf ei theyrnas. Gellir felly ddyweyd mai ar y ffon Gymreig, yr hon a gafodd gan y gwr da o Landderfel, y mae holl bwysau Ymherodraeth Prydain yn gorphwys.
Cyn troi dros Bont Llandderfel rhaid i ni droi ar y chwith i bentref bychan destlus Llandderfel, hen fangre hanesyddol, lle y ganwyd llawer bardd o enwogrwydd, ac yn eu plith
EDWARD JONES, BARDD Y BRENIN.
Ar ein ffordd i'w dŷ, darlun o ba un sydd gerbron y darllenydd, awn heibio i "Trafalgar Square," ac y mae y trigolion yn meddwl llawn cymaint o'i sgwâr ag y mae y Llundeinwyr yn feddwl o'u sgwâr hwythau o'r un enw. Nid ymholais pa un ai pobl Llandderfel roddodd yr enw ar eu heol hwy ar ol heol Llundain, ai ynte pobl Llundain ddarfu enwi Trafalgar Square ar ol sgwâr Llandderfel. Ond dyma ni yn ymyl hen gartref hen Fardd y Brenin, sef yr "Henblas." Mae pob Cymro yn gwybod mwy neu lai o hanes yr hen delynor, felly ni raid i ni ddyweyd ond ychydig am dano. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1752. Yr oedd ei dad yn gerddor cywrain, a dysgodd gerddoriaeth i bedwar o'i feibion. I Edward y dysgodd chwareu y delyn Gymreig. Pan yn ddwy ar hugain oed symudodd ein harwr i Lundain, lle y cyrhaeddodd enwogrwydd o dan nawddogaeth rhai o brif foneddigion Cymru. Dysgodd i lawer o foneddigesau perthynol ir bendefigaeth chwareu telyn Gwlad y Bryniau. Yn 1783 penodwyd ef yn delynor i Dywysog Cymru, wedi hyny Sior y Pedwerydd. Cyhoeddodd amryw lyfrau, ac yn eu plith y Bardic Relics yn y flwyddyn 1794, yn cynwys llawer o bethau dyddorol. Bu farw yn Llundain yn y flwyddyn 1824, yn 76 mlwydd oed, wedi byw yno dros haner can' mlynedd. Trown yn awr i gael golwg ar
HEN EGLWYS DERFEL GADARN.
Mab ydoedd Derfel Gadarn Santi Emyr o Lydaw, ac adeiladwyd yr eglwys gyntaf tua'r chweched ganrif. Dangosir hen ysgrin uwchben pa un y safai delw o'r nawdd sant Derfel. Dangosir hefyd ddarn o geffyl Derfel, ond gallasai y ceffyl fod yn rhyw greadur arall o ran dim tebygolrwydd sydd ynddo i'r anifail defnyddiol hwnw. Dywed ereill mai llew oedd y "ceffyl," ond mae yn fwy tebyg mai y "doethion a'r philosophyddion" diweddaraf sydd agosaf i'w lle, y rhai a honant mai "carw" ydoedd y "ceffyl." Ond da waeth, nid ydyw yr hyn sydd weddill o'r pedwar troediog yn dda i ddim, nag yn addurn i Eglwys Derfel Sant. Mae yma hefyd "ffon Derfel," ac os hon oedd y wir ffon a ddefnyddiai y gwr cadarn ddeuddeg cant o flynyddoedd yn ol, mae lle i obeithio y bydd ffon ein brenhines Buddug ar gael ac yn relic gwerth edrych arni mewn cynifer a hyny o flynyddoedd. Mae yr ystori beth a ddaeth o ddelw bren Derfel Sant yn ddigon hysbys i blant yr ardal, ond rhag digwydd y bydd pob llyfr Cymraeg ond yr adgofion hyn wedi myn'd ar goll mewn mil o flynyddoedd rhoddaf hi yn fyr yn y fan hon. Gymaint o barch oedd gan yr ardalwyr i goffadwriaeth yr hen Sant fel ag y byddent yn gwneyd eilun o'r ddelw ac yn ei addoli, ac yr oedd traddodiad y byddai i'r ddelw bren hon roddi fforest ar dân rhyw ddydd. Fodd bynag, yn y flwyddyn 1538, awd a'r ddelw i Lundain o gyrhaedd y werin bobl, ac yn y flwyddyn hono fe gondemniwyd mynach o'r enw Fforest am wadu uwchafiaeth y brenin, i gael ei losgi wrth y stanc yn Smithfield, a thaflwyd delw Derfel Gadarn i'r goelcerth, yn mhresenoldeb Arglwydd Faer Llundain, a'r Esgob Latimer, a gwŷr o awdurdod ereill. Felly gwiriwyd yr hen brophwydoliaeth y gyrai delw Derfel Gadarn "Fforest" ar dân.
Y PALE. YR HEN BLAS. PONT LLANDDERFEL.
Yn ystod teyrnasiad Siarl yr Ail, ymfudodd llaweroedd o ardal Llandderfel i'r Amerig oherwydd yr erledigaethau, ac i ddangos eu cariad at eu hen wlad, ceir hyd y dydd heddyw laweroedd o enwau Cymreig ar rai o'r ardaloedd, megis Berwyn, Bryn Mawr, ac yn y blaen. Ond rhaid i ni gychwyn o'r "Llan er cymaint a garem aros yn hwy, y mae yr haul yn prysur gerdded tua'r gorllewin, rhaid i ninau gerdded yn gyflym tua'r dwyrain. Ar ol myn'd dros Bont Llandderfel down at ddwy ffordd, mae yr hon sydd yn troi ar y dde yn myn'd a ni i Dre' Rhiwaedog. Efallai y cawn fynd ar hyd-ddi ryw dro eto. Trown ar yr aswy heibio yr orsaf, ac awn yn nghyfeiriad
LLANDRILLO.
Mae genym ddau neu dri o leoedd i alw ar y ffordd. Y cyntaf ydyw Bryn Bwlan, cartref olaf Mr. Edward Ellis, gynt o'r Ty Cerig, Llangower, a brawd i'r gwr hynaws, tad yr aelod anrhydeddus dros Feirion. Yma y mae rhai o'r teulu caredig yn byw yn awr. Dipyn yn mhellach down at y Bryn Melyn, cartref Melinydd y Ddyfrdwy, Mr. Thomas Jones, is—lywydd Cyngor Sirol Meirionydd. Mae cân Seisnig a Chymraeg hefyd, o ran hyny, am "Felinydd y Ddyfrdwy," a chân hefyd i'r " Jolly Miller." Mae ein cyfaill o'r Bryn Melyn yn ateb i'r ddau. Mae hefyd yn gerddor trwyddedig, oblegid ni a'i gwelsom yn myn'd o dan y corn olew, a'r cledd, yn ngwyneb haul a llygad goleuni, yn Eisteddfod Porthmadog, yn y flwyddynos ydym yn cofio yn iawn—1873. I Mr. J. M. Jones, Caerlleon, mab y Bryn Melyn, yr ydym yn ddyledus am y darluniau sydd yn yr ysgrif hon. Dyma ydyw hoff waith ein cyfaill pan yn treulio ei ddyddiau hamddenol ar lan yr afon Ddyfrdwy yn Nyffryn prydferth Edeyrnion. Y tro diweddaf y buom yn y Bryn Melyn,"melyn" a thlws odiaeth oedd y dolydd, wedi eu hardd wisgo â briallu Mai. Ond dylem ddyweyd nad ydyw Mr. Jones yn aelod o "Gyngrair y Briallu."—Yma hefyd y magwyd y diweddar Mr. David Jones, sylfaenydd y sefydliad llwyddianus David Jones & Co., masnachwyr, Lerpwl. Nid oes lan na thref yn Ngogledd Cymru na wyddant yn dda am yr enw.
Awn yn mlaen yn awr at balasdy y Crogen, perthynol i Arglwydd Dudley. Dywed rhai mai Careg Owdin yw yr ystyr, ac mai hen amddiffynfa ydoedd ar derfynau Penllyn ac Edeyrnion, a Phowys Madog, a Gwynedd. Yma, yn ol pob tebyg, yr ymladdwyd brwydr rhwng Owen Gwynedd a Harri yr Ail. Y mae yma adfeilion o hen dŵr yn ymyl y palas. Cerddwn yn mlaen dipyn a deuwn at Bont Cilan. Y mae hen adroddiad yn nglyn â'r bont hon, sef fod un Peter Ffowc, mab i Ffowc o'r Ty Gwyn, Llangwm, wedi syrthio mewn cariad â merch ieuanc o Landrillo, ond nid oedd serch y llanc yn onest tuagat y feinwen, a galwyd arno i roddi cyfrif, ac i dderbyn cerydd eglwysig gan y rhai oeddynt mewn awdurdod, megis yn ol arferiad y dyddiau hyny. Ond cyn dyfod dydd y penyd, yr oedd Peter ar y môr, yn hwylio tua gwlad yr Amerig, a chafwyd o hyd i gorph ei gariad yn yr afon ger Pont Cilan. Daeth Peter Ffowc yn mlaen yn y wlad newydd, a llwyddodd fel marsiandwr. Daeth yn ol i Lundain, lle y bu farw heb wneyd ei ewyllys, a bu achos yr "arian mawr" cael sylw yn llysoedd barn y Brifddinas am lawer o flynyddoedd, ac yn Llundain y mae yr "arian mawr" yn ddiogel hyd y dydd heddyw o ran hyny. Er fod llawer o Ffowciaid yn sir Feirionydd, nid oes yr un ohonynt wedi profi ei hunan yn berthynas agosaf na hawl i dderbyn "arian mawr" Peter Ffowc o enwogrwydd Pont Cilan.
Pentref bychan bywiog ydyw Llandrillo, y rhan fwyaf o'r trigolion yn bwyta eu bara trwy chwys eu gwyneb. Cawn yma gapelau yn perthyn i'r gwahanol enwadau, ac eglwys y plwyf o dan nawdd Trillo Sant. Er fod i ni adgofion melus am lawer dydd hapus yn y fro hon lawer o flynyddoedd yn ol, gofod a balla i ni ymhelaethu. Yn nghwmni ein câr Edward Jones, y Shop, awn am daith fechan yn y prydnawn i ben.
CADER BRONWEN.
Dyma frenhines bryniau y Berwyn, yn sefyll ddwy fil a haner o droedfeddi o uchder, ac oddiar ei chopa ceir golygfeydd ardderchog. Edrychwn i'r gogledd, gwelwn Moel Famau, eilun trigolion glanau yr afon Clwyd, sylwi ar gopa yr hon fydd yn codi hiraeth ar y Llyfrbryf pan yn rhodiana yn Everton Brow, yn Lerpwl, ei ddinas fabwysiedig, am fyned i'w hoff Ddyffryn ac i ardal Castell yr Iarll Grey de Rhuthyn. Trown i'r gogledd-orllewin, gwelwn gopâu mynyddoedd Eryri, y "Wyddfa gyrhaeddfawr a Charnedd Llywelyn yn ymryson am y llawryf o uchder. I'r gorllewin, fe welir Llyn Tegid fel drych ardderchog, wrth ba un y mae y ddwy chwaer, yr Arenig Fach a'r Arenig Fawr yn ymbincio fel "Morwynion Glân Meirionydd" cyn cychwyn i gyfarfod eu cariadau yn min yr hwyr. Dacw ddwy chwaer arall yn y de-orllewin, Aran Benllyn ac Aran Fawddwy, yn ymgystadlu am sylw Cader Idris. Gwelwn hefyd o ben Cader Bronwen gopâu bryniau Maldwyn, ac yn y pellder gwelwn frig y Wrekin, hoff gyrchle gwyr beilchion yr Amwythig ar ddyddiau hafaidd Mehefin. Ie, lle ardderchog ydyw "Cader Bronwen" i gael golygfa ysblenydd,
Dair milldir o Landrillo y mae Cynwyd, lle nodedig yn y dyddiau gynt fel man lle y cynhelid cwrtydd gan dirfeddianwyr y fro i benderfynu terfynau eu hetifeddiaethau. Ar y cyfryw amgylchiadau cawn fod y " cwrw da" yn cael lle pur amlwg yn eu plith, yn gymaint felly, fel yr ydym yn cael un tro i drwyth yr heidden effeithio gymaint arnynt yn nghyfeiriad cariad brawdol ac ymddiriedaeth fel y darfu iddynt gyduno i daflu gweithredoedd eu tiroedd i'r tân.
Yr ydym yn awr yn prysur agoshau i ben ein siwrne, ond rhaid i ni droi i gael golwg ar hen eglwys Llangar, neu "Llan y Carw Gwyn." Saif yr eglwys henafol hon yn ymyl llinell rheilffordd y Bala a Chorwen, ar y llaw dde wrth fyn'd i gyfeiriad y lle olaf. Mae i eglwys Llangar eto ei thraddodiad fel pob eglwys arall, a dyma fo,—Bwriedid adeiladu yr eglwys yn ymyl Pont Cynwyd sydd yn croesi y Ddyfrdwy; ond, trwy weledigaeth neu freuddwyd rhag—rybuddiwyd yr adeiladwyr fod yn rhaid iddynt adeiladu yr adeilad cysegredig ar y llanerch lle codai carw gwyn mewn helfa, ac ar y llanerch lle yn awr y saif eglwys Llangar y cododd y carw gwyn."
Mae'r haul bellach wedi suddo i'w wely yn nyfnderoedd y gorllewin, ac wedi tynu y "cyrten coch " ardderchog o amgylch ei orweddfa, ac y mae lleni yr hwyr yn prysur orchuddio hen dref Owen Glyndwr, a thra yn cerdded yn nghyfeiriad y gwesty a elwir ar enw yr hen wron Cymreig daethom ar draws Postfeistr Cyffredinol Corwen a'r ardaloedd, sef ein cyfaill hoffus Mr. Owen Lloyd, mab—yn—nghyfraith i'r diweddar Barch. Dafydd Dafis o'r 'Bermo, yr hen weinidog anwyl, yr hwn gyda'i lais treiddgar a melus a yrodd lawer cynulleidfa ar dân yn adeg Diwygiad Mawr 1859. Wel, 'doedd byw na marw na arhosem dan gronglwyd ein cyfaill am noson. Cawsom lety cysurus a phob tiriondeb gan y gwr hoff a'i briod dirion. Ar ol cael cysgu noson yn ngwely y pregethwrs teimlem ein hysbryd cellweirus wedi ei nawseiddio a'n calonau wedi adfywio, ac yn barod eto i gychwyn yn ol y ffordd arall "O Gorwen i'r Bala," hanes pa daith a roddwn yn nesaf.
CORWEN, TREF GLYNDWR.
GADEWAIS y darllenydd yn y benod o'r blaen, pan oeddwn wedi dadflino, ar ol noson o gwsg melus, oddiwrth y daith flinderus "O'r Bala i Gorwen;" a dyma fi yn awr yn barod i'w arwain ar ein taith yn ol trwy ardaloedd ereill. Ond rhaid yn gyntaf gael golwg ar hen dref Owen Glyndwr.[6] Ni awn ar ol cael boreufwyd blasus gan ein lletywr caredig a'i briod hynaws, ac wedi cael y "Ddyledswydd Deuluaidd,"— O! ie, yr hen "ddyledswydd." Y mae llawer un o ddarllenwyr yr "Adgofion" hyn yn cofio yr hen arferiad yn ddigon da, ar yr aelwyd gartref. Y mae y tafodau a erfyniai fendithion y Nef ar y teulu wedi hen dewi, ond y mae'r argraph a adawodd yr erfyniadau hyny ar lawer un yn aros, a hir y pery. Y mae rhywbeth adfywiol yn yr hen "ddyledswydd," sydd yn gwneyd un yn gryf i ymladd brwydr bywyd. Pell y byddo y dydd pan y bydd y tân wedi diffodd ar allorau aelwydydd Cymru. Lle caf fi yr olygfa oreu ar eich tref chwi, Mr. Lloyd?" meddwn wrth fy lletywr caredig. "O Ben y Pincyn," meddai yntau yn llon,"mi ddof gyda chwi. Felly fu, i ben Eiffel Tower Corwen yr aethom, ac ni cheir o ben Eiffel Tower prifddinas y Ffrancod olygfa fwy swynol nag a geir o ben yr hen graig, o ben yr hon y taflodd Owen Glyndwr ei bicell, ôl yr hon a welir hyd y dydd heddyw (medde nhw) ar gareg yn mynwent Corwen. Y mae yn anhawdd gwybod pa le i ddechreu; y mae cynifer o bethau yn ymgynyg i'r meddwl. Y pwnc mawr ydyw ceisio dyweyd rhywbeth nad ydyw pawb yn ei wybod. Yn y pellder gwelir, ar ddiwrnod clir, y Wyddfa a'r holl fryniau oddi amgylch. Oddi tanom mae hen eglwys y plwyf, dan nawdd Mael a Sulien. Mae traddodiadau gwirion ffôl am yr eglwys hon eto, un o'r rhai ydyw, y bwriedid ei hadeiladu mewn man arall, ond rhag-rybuddiwyd yr adeiladwyr trwy freuddwydion a gweledigaethau nad hono oedd y llanerch gysegredig. Wedi hyny detholwyd lle arall, ond eilwaith daeth yr anweledigion i ymyryd ac i benderfynu ar y fan a'r lle yr oedd eglwys y seintiau Mael a Sulien i gael ei hadeiladu. Mi gredaf pe buasai yr ymyrwyr "ysbrydol" wedi dewis rhyw lanerch tua haner milldir o'r dref na fuasai y Corweniaid fymryn dicach wrthynt, oblegid nid rhywbeth dymunol iawn ydyw cael mynwent ar eich gwynt bob amser; y mae digon o bethau yn mywyd dyn i'w adgoffa am ei fedd heb weled cerig beddau y peth olaf yn y nos a'r peth cyntaf yn y boreu.
Ni fu'm erioed yn credu mewn ysbrydion, ond fe'm dychrynwyd yn fawr un tro yn mynwent Corwen. Yr oeddwn yn cysgu yn ngwesty Owen Glyndwr, un o'r gwestai mwyaf cartrefol a chyfforddus yn Nghymru. Gwynebai fy ystafell—wely ar y fynwent. Pan aethum i'm gwely yr oedd yn dywyll fel y fagddu. Cysgais yn fuan, ond deffroais yn sydyn, ac wele yr oedd mor oleu o'r bron a haner dydd. Neidiais o'm gorweddfa yn ddychrynedig, gan feddwl fy mod wedi cysgu yn rhy hir, ac y dylaswn fod er's meityn ar y ffordd i Bentrefoelas. Aethum at y ffenestr. Yr oedd y cerig beddau i'w gweled wrth yr ugeiniau, ac o'r bron y gallwn ddarllen y cerfiadau arnynt. Ond och! beth ydyw y peth gwyn sydd yn symud rhwng y ddwy gistfaen acw, a'r un fynud tarodd y cloc un o'r gloch, a'r un eiliad dyma dri o'r bodau gwynion yn symud yn nghyfeiriad yr ysbryd cyntaf. Sefais yn syn, gan ddisgwyl mai y peth nesaf a glywn fyddai'r "udgorn diweddaf." Ond wele; pan ddaeth yr "ysbrydion" yn ddigon agos ataf, gwelwn mai pedair o ddefaid diniwed oeddynt, wedi cael y fraint o ddyfod i bori ar frasder y plwyf. Pe buaswn wedi neidio yn ol i'm gwely yn ddychrynedig, buaswn wedi credu fy mod wedi gwel'd drychiolaethau, ac y mae yn fwy na thebyg mai dyna fuaswn yn wneyd y mynudau hyn fuasai ysgrifenu am y pedwar ysbryd gwyn a welais yn hen fynwent Corwen.
Fe ddangosir i chwi yn y fynwent, ar rai o'r beddfeini gorweddog, dyllau yn y rhai y penliniai y rhai a ddeuai i weddio ar y seintiau am i ysbrydoedd y perthynasau oedd yn gorwedd islaw gael gollyngdod o'r purdan. Ni oddefai y saint i'r penlinwyr fyn'd a chlustog esmwyth, fel welir yn eglwysydd a chapeli yr oes hon. Rhai geirwon iawn fyddai rhai o'r seintiau fyddai yn eiriol dros eneidiau y purdan.
Y bryn crwn acw, a welwch chwi yn nghyfeiriad Dyffryn Clwyd, ydyw Caer Drewyn, hen gaerfa Brydeinig, ac olion amlwg i'w gweled hyd y dydd heddyw. Bu y gaerfa hon yn lled debyg yn noddfa oesoedd cyn i Owen Gwynedd ymladd byddin Harri yr Ail, a chyn i Owen Glyndwr ymladd â byddinoedd y Saeson yn nheyrnasiad Harri'r Pedwerydd. Nid oes dref yn Nghymru o'i maint wedi cymeryd camrau brasach gyda'r oes nag y mae Corwen yn ystod y deugain mlynedd diweddaf. Y mae'r adeiladau bychain tlodaidd wedi gwneyd lle i adeiladau nad oes eu gwell yn Meirion, —capelau heirdd perthynol i bob enwad ag sydd yn addurn i'r dref, ac adeiladau masnachol nad oes eisieu eu gwell. Cyn i'r march tân ddyfod i aflonyddu ar froydd tawel a phrydferth dyffrynoedd Edeyrnion a Llangollen, yr oedd Corwen y pryd hyny yn dref fywiog, yr oedd fel rhyw junction i ffyrdd y Bala a Cherigydrudion. Gwelais lawer tro ddwsiniau o droliau glo ar eu ffordd i lofeydd Rhiwabon, yn un rhes yn cyrhaedd o hen westy yr " Harp" i waelod y dref. Cychwynai y troliau o'r gwahanol ardaloedd ar ol i'r cloc daro haner nos, felly fe safid talu y "tyrpec" fwy nag unwaith o fewn y pedair awr ar hugain. Llawer tro y clywais droliau ardaloedd Penllyn yn trystio ar heol y Bala ar ol i hen gloc y dref gyhoeddi fod un diwrnod eto i gael ei gyfrif yn mhlith y pethau a fu. Hen westy o'r iawn sort oedd yr "Harp," a llawer gwaith y bu'm yn mwynhau boreufwyd blasus wrth fwrdd Mrs. Pritchard. Hen wreigan o'r sort oreu oedd mine hostess o'r "Harp." Y mae rhai o'i meibion wedi dringo i fyny i sefyllfaoedd uchel fel prif fasnachwyr Gwrecsam, ac y mae un arall yn amaethwr cyfrifol yn Nhrefalun, ger Rossett. Ond yr ydym wedi ymdroi ar y mwyaf, a chenym siwrnai fawr o'n blaen. Rhag i ni wyro ar y dde neu ar yr aswy, daeth ein lletywr i'n hebrwng dros bont Corwen sydd yn croesi y Ddyfrdwy, yr hon sydd erbyn hyn yn cyrhaedd cryn led. Ar ol croesi y bont, cadwn ar ffordd Caergybi, ffordd ardderchog Telford. Ar y llaw dde wrth Ty'n y Cefn, cychwyna ffordd Rhuthyn, trwy Gwyddelwern a Bryn Saith Marchog,—ffordd goediog brydferth, a'r creigiau calch fel mynor gwyn yn nghanol coed canghenog a gwyrddlas, yn disgleirio fel gemau gwerthfawr yn mhelydron tanbaid Brenin y Goleuadau. Ond nid ar y ffordd hon y mae y daith i fod yn awr. Awn yn mlaen ar ffordd Caergybi nes cyrhaedd y Ddwyryd, lle y cana ffordd Telford a ffordd y Bala yn iach i'w gilydd. Ond cyn cychwyn ar ffordd y Bala, rhaid i ni droi am fynud i hen balas
RHUG.
Hen gartref y Vychaniaid, o Nannau a Chorsygedol, ydyw. Meddienir yr ystâd yn awr gan Mr. Charles H. Wynn, un o feibion y diweddar Arglwydd Newborough, o Lynllifon, yn Arfon. Yn Rhug, gwelir yn yr ardd olion hen gastell, lle y carcharwyd Gruffydd ab Cynan, Tywysog Gwynedd, tua'r flwyddyn 1077, trwy iddo gael ei fradychu i ddwylaw Huw Lupus, cwnstabl Caerlleon, yr hwn hefyd a'i symudodd i gastell y ddinas hono mewn talm o amser, lle y bu yn garcharor am ddeuddeng mlynedd, hyd nes y rhyddhawyd ef trwy wroldeb mawr Cynffig Hir. Yr olaf o Vychaniaid y Rhug oedd Syr Robert Vaughan, hen Gymro Cymreig, a fedrai siarad Cymraeg, fel y medrai boneddigion yr oes hono, ac yr oedd hyny yn llawer gwell nag y medr eu holynwyr. Mae hen stori ar lafar gwlad yn yr ardal na fyddai yn anyddorol, efallai. Cymerai Syr Robert lawer o ddyddordeb yn ei ddefaid. Adnabai bob un ohonynt, ac adnabyddid ei lais yntau, fel llais bugail da, gan y defaid. Un diwrnod collodd un o'r praidd, ac aeth i chwilio am y golledig. Ryw dipyn o ffordd o'r palas, cyfarfyddodd ag un o'i denantiaid, a gofynodd iddo, John, welis ti yr un ddafad a V ar ei chefn hi?" "Naddo'n wir, Syr Robert, welis i yr un ddafad chwaith fase yn medru eich cario chi." Fe ddywedir mai haner y rhent fu raid i'r tenant dalu yr haner blwyddyn. hwnw, cymaint oedd Syr Robert wedi mwynhau ei ffraethineb. Cofus genyf aml dro wel'd cerbyd Syr Robert yn myn'd ac yn dyfod trwy y Bala ar ei ffordd o Nannau ac yn ol. Yr wyf yn cofio hefyd yn dda ei gladdedigaeth, pan y dangosodd pobl yr ardaloedd barch mawr i'w goffadwriaeth. Ond dyma ni ar
Y FFORDD UCHA' I'R BALA.
Dyma y ffordd y byddai yr hen goaches, y troliau, a'r cerbydau yn myn'd ac yn dyfod i'r Bala, nid am ei bod yn ffordd mor brydferth a rhamantus a'r ffordd drwy Landrillo, oblegid nid ydyw felly ar un cyfrif. Ond y mae filldir yn ferach, ac yn ffordd well. Ffordd ddigon anial oedd y "ffordd ucha' mewn rhai manau, hyd oni ddelom at Gefnddwysarn, ac y mae yn lled sicr ei bod yn fwy anial fyth yn awr pan nad oes fawr o dramwy arni. Gadawn Bettws Gwerfil Goch dipyn i'r dde, ac awn drwy bentref bychan Llawr y Bettws yn lled frysiog, ar ol cael golwg ar yr eglwys a adeiladwyd ar gynllun Syr Gilbert Scott, yr archadeiladydd enwog. Yn yr ardal yma y mae Hengaer Isa' a Hengaer Ucha',—yr hyn a ddengys fod rhyfel a thywallt gwaed wedi bod yn yr ardal anghysbell hon. Dyma ni yn awr yn Bethel. Mae yma gapel, gefail gôf, a thafarndy dan arwydd y "Boot." Capel Annibynol sydd yma, a theithiodd yr hybarch Fichael Jones lawer yma, oblegid bu dan ei ofal am flynyddoedd, a gwnaeth ei fab, M. D. Jones, yr un peth.
Tua milldir a haner yn mlaen down i'r Sarnau. Bu yma gapel yn nechreu y ganrif hon gan y Methodistiaid, capel bychan tô gwellt a llawr pridd, a chedwid traed y saint yn gynes gyda brwyn, tra y cedwid eu calonau yn gynes gan wres y llefarwyr Penaugryniaid a ddaethai ar eu tro i'r ardal. Cawn hanes am un hen bregethwr duwiol o'r enw Gruffydd Sion yn byw yn Bethel tua diwedd y ganrif o'r blaen. Hen wehydd ydoedd, ac fe ddywedir mai gyda'r Gruffydd Sion hwn y bu John Elias yn brentis o wehydd yn ardal Penmorfa. Esbonir yr achos iddo ddyfod i fyw i'r cwr hwn o'r wlad trwy ei gysylltiad â theulu Preis y Rhiwlas, yr hwn oedd ganddo stâd yn Eifionydd heb fod yn mhell o'r fan lle trigai yr hen bregethwr. Arferai Gruffydd Sion wneyd llymru o'r fath oreu, a phan y byddai pobl Corwen a Llawr y Bettws yn myn'd ac yn dyfod i Sasiynau y Bala, byddent yn cael eu gwala a'u gweddill o lymru yr hen Gristion. Un tro hefyd digwyddodd i'r hen Breis o'r Rhiwlas fyn'd i ffowla i ymyl Sarnau, a daeth chwant bwyd arno, a 'doedd dim i'w wneyd ond troi i dŷ Gruffydd Sion. Sgenoch chi tipyn bara chaws, Gruffydd?" meddai'r hen sgweiar. Nag oes 'n wir, mistar bach, ond mae gen i lon'd crochan o lymru.' "Towch brofi Gruffydd." Daeth yr hen bregethwr a llon'd cwpan bren o lymru ar y bwrdd, a llwy bren i'w fwyta. Gnewch chi gweddio arno fo, Gruffydd" (gofyn bendith), meddai'r hen Breis. Ac felly fu. Caf- odd perchenog stâd y Rhiwlas fwynhau yr un danteith- fwyd ag a ga'i pererinion Sasiwn y Bala, sef "llymru Gruffydd Sion."
Bu y diweddar hen flaenor duwiol a gweithgar, Ellis Dafis, Ty'n y Coed, yn mynychu y capel hwn yn moreu ei oes. Symudodd yr achos yn nechreu y ganrif hon i
CEFNDDWYSARN.
Rhwng y Sarnau a Chefnddwysarn yr oedd comins anial nad oedd un goeden yn tyfu arno mwy nag sydd yn niffaethwch Sahara. Y pen agosaf i Bethel y mae ffrwd fechan yn rhedeg, ac felly yn y pen agosaf i Gefnddwysarn, ac yr oedd sarn yn croesi pob un, felly y cawn Sarnau a Chefnddwysarn. Y mae llawer o bethau hynafol yn ardal Cefnddwysarn, ac er mwyn i mi beidio camarwain fy narllenwyr, trown i fewn i Grynierth i gael ymgom ddifyr gyda Mr. Robert Evans, yr hwn sydd, fel ei frawd Mr. Daniel, Fourcrosses, yn awdurdod ar hynafiaethau y fro. Wel, dyma ni yn Nghrynierth, a thra yn mwynhau cwpanaid o dê cawsom dipyn o hanes yr ardal. Nid oedd Mr. Evans erioed wedi clywed fod Tylwyth Teg wedi bod yn chwareu eu pranciau ar gomins y Sarnau, yr oedd yn lle rhy noethlym iddynt, meddai. Hysbyswyd ni mai ystyr yr enw Crynierth ydyw Cyn yr ierth, yr hyn sydd o'r un tarddiad a Cynlas neu "Cyn y loes.' Mae esboniad arall arno medd Mr. Daniel, yn yr hyn y cydolyga tywysog yr hynafiaethwyr Cymreig, sef y Doethawr John Rhys, a hwnw ydyw "Crwn Arth," neu Garth Gron. Cawn hefyd yn yr ardal hon Caerbach, Maes y Clawdd, Cefn y Byrlos (cefn y byr loes). Dengys hyn yn amlwg fod llawer brwydr wedi ei hymladd yn y fro dawel hon eto yn amser Cymru fu, ac fe ddichon fod llawer o waed Rhufeinig wedi ei golli ar y llechweddau lle yn awr y pora y defaid mewn tawelwch, a llawer un o filwyr llengoedd Cesar wedi eu lladd ar y dolydd lle yn awr y mae y gweision amaethyddol yn "lladd y gwair." Ar lechwedd y bryn y tu deheuol i gapel Cefnddwysarn mae caerfa henafol, a gwarchgloddiau i'w gweled yn amlwg hyd y dydd heddyw. Dywedai Ioan Pedr mai oddiar y caerau hyn y byddai yr hen Gymry yn rhoddi hysbysrwydd pan fyddai y gelyn yn dyfod i'r wlad, trwy oleu tân mawr arnynt, ac y mae ôl y tanau hyny i'w gweled yn amlwg. Yr oedd caerau hefyd ar ben Cader Idris, Moel Famau, a bryniau ereill, ac fel hyn yr hysbysid newyddion (fel y gwyr y darllenydd yn ddigon da) o un ardal i'r llall.
Bu dau o hen benaethiaid Cymru yn byw yn yr ardal hon. Un oedd Iolyn, a ddaeth yma o Blas Iolyn, ger Pentrefoelas, ac a drigodd mewn anedd-dy a alwyd Llwyn Iolyn. Y llall oedd Bedo. Aeth y ddau benaeth i ymladd a'u gilydd, a lladdwyd y diweddaf yn y bwlch cyfyng sydd yn ymyl Coed y Bedo. Rhyw filldir o'r tyddyn hwn y tardd yr afon Hafesp, ac heb fod yn mhell o'i tharddiad y ganwyd Bedo Hafesp, a'r ochr arall i'r afon, mewn bwthyn tô gwellt, y ganwyd Dewi Hafesp, yr englynwr dihafal. Bu'm yn darllen y llythyr diweddaf a ysgrifenodd Dewi y dydd o'r blaen, ac yr wyf yn deall fod y cyfaill a'i gyrodd i mi am ei anfon gyda thipyn o hanes y bardd trancedig i'r wasg. Ar lan Ar lan yr afon Hafesp, onitê, rhyw haner milldir o hen eglwys Llanfor, y lladdwyd Llywarch Hen a'i feibion, yn ol traddodiad. Rhed yr afon fechan trwy Lanfor a chroesa y ffordd filldir o'r Bala rhwng Penucha'r Llan a'r ficerdy, a chyn iddi ymarllwys i'r Ddyfrdwy Sanctaidd, golchwn ein ysgrifell ynddi ar ol ysgrifenu cymaint am dywallt gwaed, ac awn yn ol am enyd i gapel bychan prydferth Cefnyddwysarn. Adeiladwyd y capel hwn yn y flwyddyn 1868, blwyddyn fawr yr etholiad fythgofiadwy. Perthyna i'r capel bychan fynwent, ac y mae erbyn hyn yn faes Macpela hanesyddol. Yma y claddwyd Ellis Roberts, Fron Goch, un o ferthyron cyntaf brwydr etholiadol 1859. Claddedigaeth i'w gofio oedd claddedigaeth Ellis Roberts; daeth tyrfaoedd o bob cyfeiriad i ddangos eu parch i'w goffadwriaeth, ac i ddangos eu hedmygedd o'r gwron oedd yn ddiddadl wedi colli ei fywyd dros ei egwyddorion. Yma hefyd y gorwedd llwch Ellis Dafis, Ty'n y Coed, a Marged ei wraig. Gwr ydoedd Ellis Dafis a deilynga gyfrol o'i hanes. Yr oedd yn perthyn i "upper ten duwiolion Penllyn. Yma hefyd y gorwedd Ellis Jones, Llandrillo, masnachydd yn ol ei urdd, ond yn gywrain mewn amrywiol bethau; ac yma hefyd y gorphwys llwch Mari Jones ei fam. Mae'r darllenydd yn cofio mai Mari Jones oedd partneres "Edward Jones o'r Wenallt," am yr hwn y buom yn son mewn penod flaenorol.
CLUB HOUSE MARGED JONES.
Yr oedd i'r hen chwaer ferch, ac yn Nghefnddwysarn y gwna ei chartref yn awr. Flynyddoedd yn ol sefydlwyd yn nhy Marged Jones fath o glwb llenyddol, lle y cyfarfyddai rhai o wleidyddwyr ieuainc yr ardal i drafod pynciau gwleidyddol ar ol dyfod o'r seiat a'r cyfarfod gweddi. Cyhoeddasant newyddiadur, hyny ydyw, cymerent ddarn mawr o bapyr a rhoddent yn ngofal gwraig y "Club House." Elai aelodau y "club" yno pan darawent ar ryw newydd o bwys, ac ysgrifenent golofn yn y "Club Journal." Gyrwyd y papyr fwy nag unwaith i golegau Aberystwyth a Rhydychain pan fyddai rhai o'r aelodau yno, er mwyn iddynt wneud eu rhan i lenwi y papyr. Dyddorol fyddai cael gafael ar un o'r rhifynau; ceid gwel'd beth oedd syniadau gwleidyddol yr ysgrifenwyr y pryd hyny. Yr ydym yn gwybod eu syniadau yn awr yn lled dda, oblegid mae rhai ohonynt yn arweinwyr gwleidyddol, ac un ohonynt yn llanw swydd bwysig yn y Weinyddiaeth bresenol, a bydd genym air i ddyweyd am ei fan genedigol yn y benod nesaf. Ond y mae newyddiadur "clwb" gwleidyddol Cefnddwysarn, a sefydlwyd tua phymtheng mlynedd yn ol, yn ddigon diogel yn ngofal Marged Jones, a byddai yn haws tynu mêl o faen llifo na thynu dim o gyfrinion y "club" o Farged Jones. Yn mynwent Cefnddwysarn gwelwn hefyd gofgolofn hardd i Evan Peters, apostol plant Ysgol Sul Penllyn, wedi ei chodi ganddynt er cof am dano. Ar Evan Peters y syrthiodd mantell Robert Owen, yr holwr, ag aeth son am ei ddawn trwy holl Gymru. Bu yn gofalu am amryw eglwysi yn ardal y Bala am flynyddoedd. Yr oedd Evan Peters yn boblogaidd iawn yn mhlith cleifion y Bala.
CYNLAS
AR ol gadael Cefnddwysarn, a cherdded tua dau gan' llath yn nghyfeiriad y Bala, deuwn at lidiart ar y llaw dde. Agorwn hi ac awn i fyny ffordd serth, ac ar ol cyraedd pen yr allt cawn ein hunain yn muarth taclus Cynlas Fawr, "Cyn y Loes," medd rhai, sef cyn dyfod at faes lle bu brwydr rhwng yr hen Gymry a'r darostyngwyr. Dywed ereill mai oddiwrth Cunyg Las y tardd y gair, sef am hen dywysog Cymreig. Gwr doeth arall a ddywed mai ystyr yr enw Cynlas ydyw llanerch yn ngwyneb yr haul yn glasu yn gynt na llanerchi ereill yn yr ardal. Beth ydych chwi bobl Ffestiniog yna yn feddwl o'r esboniad diweddaf, onid ydych yn cael ynddo rywbeth lled awgrymiadol? Ond gadawn ystyr y gair i'r doethion a'r deallus, digon yw i ni wybod mai yma y ganwyd ac y magwyd Mr. Tom Ellis, yr aelod anrhydeddus dros Feirion, a phrif Chwip y blaid Ryddfrydol. Dyna beth ydyw yn awr, ond beth fydd mewn deng mlynedd, mwy neu lai, nis gwyddom.
Daeth Mr. Thomas Ellis i fyw i Gynlas yn y flwyddyn 1855, o'r Ty Cerig, Llangower. Hen balasdy, mae'n amlwg, oedd Ty Cerig; yr oedd yn dŷ mawr, a seler dano, ac yr oedd y seler hono er's blynyddoedd yn llawn o ddwr, a gwelais lawer tro yr hwyiaid a'r gwyddau yn ymddifyru yno. Yr wyf yn sicr, os daw y geiriau hyn o flaen llygaid Plenydd, neu ei gyfaill Daniel, y dywedant fod seler lawn o ddwfr a hwyiaid a gwyddau yn llawer gwell na seler lawn o faluriau cwrw.[7] Tua 150 o flynyddoedd yn ol yr oedd yn Ty Cerig, Llangower, a elwid y pryd hwnw Plas Newydd, deulu o'r enw Wyn yn byw, ac fe ymddengys mai teulu anuwiol iawn oeddynt, yn ymhoffi yn erledigaeth y crefyddwyr. Bu un ohonynt foddi wrth ddyfod adref o ddawnsfa a gynhelid mewn palas yr ochr arall i'r afon, ac fe fu farw yr olaf ohonynt yn berson yn Llangwm, ac fe gyrchwyd ei weddillion i feddrod y teulu yn Llangower, lle y gwelir heddyw feddfaen mawr yn dynodi y llanerch.
Oddeutu 120 mlynedd yn ol syrthiodd yr etifeddiaeth i ddwylaw rhyw berthynas iddynt, a rhoddwyd y lle i fyny. Cymerodd un o'r enw Ellis Cadwaladr y plas a'r tir i'w amaethu, a newidiwyd yr enw i Ty Cerig. Bu gan Ellis Cadwaladr fab o'r enw Edward, a galwyd ef yn ol yr hen ddull Cymreig yn Edward Ellis, a mab iddo ef ydyw Thomas Ellis, Cynlas Fawr, tad Mr. Tom Ellis. Tua chan' mlynedd yn ol daeth teulu y Ty Cerig at grefydd, a dechreuasant roddi eu holl yni a'u sel i wasanaeth y Gwaredwr. Bu eu ty am lawer o flynyddoedd yn agored i weision yr Arglwydd. Gan fod y Ty Cerig mewn lle cyfleus ar ochr Llyn Tegid rhwng Llanuwchllyn a'r Bala byddai y pregethwyr fyddai yn teithio rhwng y De a'r Gogledd, trwy Ddolgellau a thros Fwlch y Groes, yn nghyda phregethwyr Sabbothol, yn lletya yno am dros 50 mlynedd; a thrwy fod teulu caredig Cynlas yn parhau i agor eu ty ac i roddi croesaw i'r Cenhadon Hedd hyd y dydd heddyw, gellir dyweyd fod eu ty wedi bod yn "gartref oddi cartref" i'r rhai sydd yn efengylu er's dros gan' mlynedd. Bu farw Edward Ellis yn y Ty Cerig 47 o flynyddoedd yn ol. Fe wêl y darllenydd, er nad ydyw teulu y Cynlas yn hanu o hen deulu y Wyniaid, y rhai oeddynt yn ymffrostio yn eu "gwaed glas" a'u hynafiaid, y maent yn hanu o linach mwy urddasol, a gallant olrhain eu hachau i bendefigion teyrnas yr Iesu o Nazareth.
Yr wyf yn cofio un prydnawn Sabboth y digwyddais fod yn y Ty Cerig pan yn fachgen bychan iawn. Yr oedd y teulu oll wedi myn'd i'r Ysgol Sul i Gapel y Glyn, a minau gyda nhw. Ar ol dyfod yn ol beth welai y tri brawd ond dau leidr yn eistedd yn gyfforddus wrth y bwrdd yn y gegin fawr, ac yn mwynhau danteithion Sabbothol y Ty Cerig. Nid hir y bu y tri brawd talgryf, Thomas, Edward, a John yn rhoddi croesawiad i'r "ymwelwyr." Cyrchwyd rhaffau rhawn o'r ysgubor, a rhwymwyd y lladron. Prin yr oedd y rhaffau yn foddlon i'w gwaith anghynefin, oblegid eu hoff waith oedd rhwymo gwair ar y ceir llysg. Buan y cyrchwyd y cwnstabl o'r Bala, a chafodd yr ymwelwyr Sabbothol fyn'd i edifarhau i garchar Dolgellau, ac i dori cerig am eu gwaith yn tori ty a thori y Sabboth.
Y mae yr hen Gynlas, lle y ganwyd Tom Ellis, wedi hen fyned i wneyd lle i'r Gynlas bresenol, ty prydferth a chyfleus i gyfarfod âg anghenion yr oes. Fferm dda ydyw Cynlas, wedi ei thrin yn rhagorol gan Mr. Ellis er's deugain namyn un o flynyddoedd. Mae ugeiniau o hen fyfyrwyr y Bala yn gwybod yn dda am Gynlas, ac wedi profi o garedigrwydd a chroesaw Mr. a Mrs. Ellis, y ddau yn ymgomwyr dyddan ac yn ddarllenwyr mawr a deallgar. Pwy bynag fydd yn ysgrifenu hanes Cynlas mewn can' mlynedd, nid ceisio esbonio yr enw Cynlas a wna, ac ni fydd eisieu son am Rufeiniaid ac am y brwydrau, ond ysgrifenu a wna am Gynlas fel man genedigol gwleidyddwr enwog, yr hwn a orweddai yn faban yn ei gryd pan y disgwyliai ei anwyl rieni dderbyn gyda phob post rybudd i ymadael o'u cartref ar gyfrif eu daliadau crefyddol a gwleidyddol. 'Does ryfedd fod ein gwron o Gynlas yn wleidyddwr mor graffus, yn genedlgarwr mor drwyadl, ac yn un o arweinwyr blaenllaw Cymru Fydd.
EGLWYS LLYWARCH HEN.
TROEDIGAETH DAU BECHADUR.
YR ydym yn awr bron ar derfyn y daith, a dim ond tair milldir rhyngom a gorphwysdra. O'r deuddeng milldir o "Gorwen i'r Bala," dyma y tair milldir mwyaf swynol, oblegid yr ydym yn cael bryniau coediog y naill du, a miwsig afonig y rhan fwyaf o'r ffordd i'n difyru. Ar y llaw dde, tua haner y ffordd, mae Tomen Gastell, un o'r triawd tomenyddawl a godwyd, mae'n debyg, i wylio mynedfeydd i'r Bala. Dyma Domen y Bala fel gwylfa i Ddyffryn Edeyrnion a Dyffryn y Tryweryn; Tomen Pen y Bont fel gwylfa i'r mynedfeydd o Faldwyn dros y Berwyn ar y naill law, a mynedfa Bwlch y Groes ar y llaw arall, a dyma Domen Gastell eto i wylio y mynedfeydd o gyfeiriad Llawr y Bettws, a hefyd y cwmwd trwy'r hwn y rhed yr Aber Afanc, sydd yn ymuno â'r Feloch ger Tomen Gastell, ac yn ymarllwys i'r Ddyfrdwy ger Melin Meloch. Gyda golwg ar yr enw Aber Afanc, dywedai y diweddar Ioan Pedr, ac nid oedd gwell awdurdod ar hynafiaethau Penllyn na'r cyfaill hoff a hynaws hwnw, mai yr achos i'r afonig gael yr enw hwn oedd am y byddai llaweroedd o'r creaduriaid bychain a elwid afancod yn llochesu yn y cwmwd trwy'r hwn y rhed. Ond y mae yr afanc er's llawer blwyddyn wedi gadael Cymru, fel lluaws o greaduriaid ereill, am ryw reswm neu gilydd.
Dyma ni eto wrth fynegbost y ddwy ffordd gyfarfod (y finger post). Awn heibio i Lyn y Geulan Goch yn ddigon tawel, gan gredu, fel y soniasom o'r blaen, fod yr ysbryd wedi boddi, neu wedi myn'd i'w le ei hun. Ar ol pasio Penisa'r Llan deuwn at Eglwys Llanfor. Mae'r hen eglwys wedi rhoddi lle i un newydd, ac nid cyn yr oedd eisieu. Yr oedd Yr oedd yr hen eglwys a phobpeth oedd yn perthyn iddi wedi adfeilio, ac wn i ddim a oes rhywun yn Llanfor yn awr a fedrai ddyweyd hanes yr hen eglwys. Fe wyddai Charles y Clochydd er's llawer dydd hanes yr eglwys o'r dydd yr adeiladwyd hi, a gallai ddangos i chwi feddrodau pob gwron a gladdwyd yn y fynwent neu yn muriau yr eglwys er's amser Llywarch Hen, yr hwn a gladdwyd,—os nad wyf yn camgymeryd, yn y mur yn mhen dwyreiniol yr eglwys. Ond gadawn i lwch Llywarch a'i gydoeswyr orwedd yn dawel.
Fe'n temtir cyn canu yn iach i eglwys Llanfor adrodd hanesyn bychan am ddigwyddiad a gymerodd le yn agos i ddeugain mlynedd yn ol yn yr hen eglwys. Yr oedd dau fachgen, tua thair ar ddeg oed, yn perthyn i Gapel Mawr y Bala, oedd yn nodedig am eu direidi diniwed. Un prydnawn Sabboth yr oedd Thomas Roberts, Ysbyty, "caplan" Dafydd Rolant, yn pregethu yn anedd—dy Careg y Big, lle y soniais am dano yn fy ysgrif yn y benod o'r blaen. Ar ol y bregeth troisant tua thre'; pan yn pasio Eglwys Llanfor yr oedd Charles. y Clochydd wrthi yn canu y gloch i alw y plwyfolion, yn enwedig disgyblion torthau Mrs. Price y Rhiwlas,—mam yr ysgweiar presenol,—i'r gwasanaeth prydnawnol. Nid oedd yr un o'r ddau wedi bod erioed mewn gwasanaeth eglwysig ar y Sabboth, efallai mai dyma yr achos eu bod mor ddireidus. Wel, i'r eglwys yr aethont, a danghoswyd y ddau Fethodus ieuanc i'r sedd agosaf i'r pwlpud, yr hon oedd, fel pob un arall oddifewn i'r adeilad, wedi gweled dyddiau gwell. Pe buasai arch Noah wedi sefyll ar ben Moel Emoel neu yr Aran yn lle ar ben mynydd Ararat, buasem yn barod i sicrhau mai coed yr arch oedd defnydd y seddau. Wel, nid oedd disgwyl cael sedd gyfforddus; ond buasai pobpeth yn dda, pe dai ond am y ffaith mai bob tro y symudai un o'r ddau fachgenyn fe roddai y sedd wich ruddfanllyd, yr hyn a barai i'r ddau Fethodus wenu, a gwaeth na hyny, chwerthin, ar yr hyn yr edrychai yr hen Reithor Griffiths, coffa da am dano,—yn lled wgus. Parhaodd hyn i fyn'd yn mlaen am beth amser, nes o'r diwedd cauodd yr hen berson y Beibl, neu y Common Prayer,— wn i ddim p'run,—a dywedodd,—" Ddarllenaf fi ddim gair eto nes i'r ddau fachgen yma fyn'd allan." Ar hyn daeth Charles y Clochydd o'r pwlpud bach, ac agorodd ddrws y sedd i'r ddau derfysgwr fyn'd allan, ac wrth iddynt fyn'd dywedodd yr hen berson duwiol,—“ Gewch chi wel'd lle y byddwch chwi fory." Digwyddodd mai pedwar oedd yn yr eglwys ar y pryd, heblaw y person, y clochydd, a'r ddau derfysgwr, digwyddiad lled gyffredin y dyddiau hyny. Wel yfory a ddaeth, ac mor sicr a hyny rybudd oddiwrth y rheithor yn bygwth cospi y pechaduriaid. Ystorom fawr a fu hi yn nghartrefi y ddau fachgen drwg, a'r diwedd a fu iddynt orfod myn'd i dy y person i ofyn maddeuant, yr hyn a roddwyd yn rhad, a chyda hyny swllt bob un a darn mawr o fara brith. Llawen oedd y ddau "edifeiriol fod
"Eu beiau wedi 'i maddeu
A'u traed yn berffaith rydd,"
oblegid carchar Dolgellau neu y stocs o flaen y lock-up oedd wedi bod yn eu meddyliau trwy'r dydd. Ond fe drowyd y llawenydd yn dristwch y boreu dranoeth pan y cyhoeddodd ysgolfeistr yr Ysgol Frytanaidd, Y Prifathraw Price, Coleg Normalaidd, Bangor, y ffaith yn yr ysgol ar gais rhieni y troseddwyr. Mae'r ddau fachgen yn fyw heddyw, a'u penau wedi gwynu, a'r unig gysur sydd ganddynt i feddwl am dano ydyw yr hyn a ddywedodd y Dr. Lewis Edwards un tro mewn cwmni, wrth adrodd yr hanes yn mhresenoldeb un o'r "pechaduriaid," fod y ddau wedi cael dau "dro" yr un wythnos, sef eu troi o Eglwys Llanfor a'u troi o fod yn fechgyn drwg i fod yn fechgyn da. Cysur arall hefyd ydyw, mai nid hwy oedd y rhai cyntaf i gael eu troi o'r eglwys; ni raid ond enwi dau, sef Thomas Charles o'r Bala. a Daniel Rowland Llangeitho.
Dyma'r daith ar ben, mae'r haul wedi myn'd i lawr, ac y mae hithau y lloer wedi dyfod i wasanaethu yn ei le, ac wrth sefyll ar Bont Tryweryn, O! olygfa ardderchog yn nghyfeiriad y Rhiwlas.
"Mae'r lloer yn arianu'r lli:"
mae tref y Bala yn ddistaw erbyn hyn; fydd hi ddim
yn derfysglyd iawn byth. Mae'n cyfaill wrth y drws yn
disgwyl am danom, a da genym roddi ein pen ar
obenydd esmwyth o fewn ychydig iawn o gamrau i'r
ystafell lle yr ysgrifenodd Simon Llwyd ei " Amseryddlaeth," i gysgu yn dawel ac i freuddwydio am lawer of
hen gyfeillion sydd heddyw yn gorwedd yn nhy eu hir
gartref, rhai y buom yn chwareu llawer gyda hwy ar
Domen y Bala" ac ar lan Llyn Tegid.
Y WESLE OLA'.
NID ydwyf yn gwybod ond am un dref yn Nghymru heb un capel Wesleyaidd ynddi—efallai fod mwy, fel ag y mae trefydd heb gapel Methodus, heb gapel Baptist, ac heb gapel Annibynwyr. Nid ydwyf chwaith yn myn'd i esbonio paham na chafodd Cyfundeb nerthol a phoblogaidd y Wesleyaid ddyfnder daear yn y dref yr ydwyf yn myn'd i son am dani. Saif y dref ar lan llyn prydferth yn un o siroedd mwyaf mynyddig Cymru. Bu yno Wesleyaid gynt, ac wrth ben y fynedfa i'r capel yr oedd maen, ac arno yn gerfiedig un o ffraethebion y diwygiwr mawr, a sylfaen ydd y Cyfundeb Wesleyaidd.
Adeiladwyd y capel y soniwn am dano yn mlynyddau boreuol y ganrif hon, a bu yno eglwys am lawer o flynyddoedd, ond llai a llai yr aeth, nes o'r diwedd ni adawyd ond dau i ymgynull yn nghyd. Ymaflodd y ddeuddyn hyn yn "rhaffau yr addewidion" am lawer o fisoedd. Onid oedd addewid? "Lle y byddo dau neu dri wedi ymgynull yn fy enw i yno y byddaf inau yn eu canol;" a thorodd y Gwr Mawr erioed ei "gyhoeddiad " yn y capel bach y soniwn am dano.
Rywle tua y flwyddyn 1850, ar ddiwrnod oer yn y gwanwyn, aeth un o'r ddau" i mewn i lawenydd ei Arglwydd, a gallasai yr un ddyweyd fel Elias, "Wele, minau fy hunan a adawyd."
Y nos Sadwrn dilynol, aeth gwr ty nesaf i'r hen bererin unig ato, hen Galfin rhonc a dadleuwr athrawiaethol heb ei fath, a dywedodd, "Wel, Edward bach, waeth i ti heb na myn'd i'r capel Wesley yna ar ben dy hunan; mi alwa i am danat ti yn y bore, ac mi gei ddwad efo fi i'r capel mawr; cawn eiste' wrth y stove fawr ar ganol y capel. Mae Dafydd Rolant yn pregethu,a rhwng gwres y stove a gwres yr hen Ddafydd mi g'neswn ni dipyn ar dy hen galon di, er mai Calfiniaid yden ni."
"Na ddo'i byth, Evan; mi a i i'r hen gapel Wesley tra y medr yr hen goese' yma fy nghario i.
Wel, Ned, be nei di ono, ddaw ono neb atat ti, wyddost ti. Ydi yr Ysbryd ddim wedi addo d'od os na. bydd ono ddau neu dri."
"Fydda i ddim ono 'nhun, Evan; mi a i ono, ac mi ddarllena benod, ac mi ledia benill—yr hen benill yma, Evan, ac mi canaf hi, a mesur byr dwbl, wyddost ti, ydi o."
Ar hyn, taranai Edward yr hen dôn "Pererin geiriau hyn :—
"Pererin wy'n y byd,
Ac alltud ar fy hynt,
Yn ceisio dilyn ôl y praidd,
Y tadau sanctaidd gynt;
I'mofyn gwlad sydd well,
Er fod ymhell yn ol,
Trwy gymhorth gras, yn mlaen mi af,
Dilynaf finau 'u hol."
Canai Edward gyda hwyl anghyffredin, a gwaeddai yn ddychrynllyd pan yn canu, "Y praidd—Y tadau sanctaidd gynt." Wrth gwrs, nid oedd "praidd" na. "thadau sanctaidd" yn y byd yn ngolwg Edward ond y tadau Wesleyaidd.
"Fydda i ddim wedi bod ar fy nglinie bum' mynud," dywedai Edward, "na fydd yno ddau yn y capel." "Pwy fydd y ddau, Ned?" gofynai Evan.
Wyt ti yn meddwl y meder John Wesley edrach arna i yn yr hen gapel ar ben fy hunan, yn treio fy ngore i wneyd y dau neu dri' i fyny, ac yn methu. Na, mi ddoith i lawr o'r nefoedd, ac os na feder o ddwad ei hunan mi fydd yn siwr o yru ei frawd Charles, ac yr oedd o yn gantwr, ac yn fardd hefyd. Mae genoch chi rai o'i benillion o yn eich llyfr hymns chi; dyma un o honyn' nhw :"——
Ai marw raid i mi,
A rhoi fy nghorff i lawr?
A raid i'm henaid ofnus ffoi
I dragwyddoldeb mawr?"
Parhau i fyn'd i'r hen gapel ddarfu Ned am rai misoedd ar ben ei hunan, a chafodd lawer o hwyl gyda
John a Charles Wesley a'r Hwn oedd wedi dyfod i'r
"canol." Ond daeth y dydd yr oedd yn rhaid cau
drws y capel Wesley y tro olaf. Yr oedd yn rhaid talu
trethi a'r llog arian, a feddai Edward druan mo'r
arian. Y diwrnod ar ol ffair G'lanmai oedd y " Sul ola'."
Mae llawer un heblaw yr hwn sydd yn ysgrifenu yr
ysgrif fechan hon yn cofio yr hen wr haner dall,
"Edward llygad bach," fel ei gelwid, yn myn'd i'r
capel Wesley am y tro olaf. Byddaf yn meddwl yn
aml am ei wynebpryd pan yr oedd yn cloi drws am y
tro ola'." Yr oedd amryw ohonom ni blant y dref
wedi hel o gwmpas y drws, a'r hen gyfaill ffyddlon Evan,
yr oedd yntau wedi dyfod yno i'w arwain adref.
Wel, Ned, gawsoch chwi dipyn o gynulleidfa acw
heno?" gofynai Evan.
Llon'd y capel yn llawn, Evan bach. Yr oedd acw lawer yn gorfod sefyll, wel'd di."
"Pwy oedd acw, Ned? welest ti Sentars ne Fethodus?
"Yr oedd hi fel dydd y Pentecost. Yr oedd y Parthiaid a'r Mediaid a'r Elamitiaid, a thrigolion Mesopotamia a'r India," &c.
"Welest ti neb oeddet ti yn nabod, Ned?" (Fedrai Ned ddim gwel'd neb).
"Do nenw'r dyn. Yr oedd John a Charles Wesley ono, ac wedi dwad a George Whitfield efo nhw, a Thomas Charles, Williams o'r Wern, a Christmas Evans, efo'i lygad bach," medde Ned.
Wel, pwy bynag oedd yno, yr oedd Edward wedi cael gwledd. Yr oedd yn ei feddwl ef John Wesley wedi dyfod yno i draddodi y funeral oration, a Charles Wesley i ganu y requiem.
Y nos Fercher dilynol, gwelid Edward yn myn'd tua'r Capel Mawr yn mraich Evan i gynyg ei hunan i'r Calfiniaid. Yr oedd yn perthyn i'r Capel Mawr ddau "brophwyd" mawr, a thua haner cant o feibion y prophwydi. Ar ol i un o "feibion y prophwydi " ddechreu y seiat, gofynai y pen blaenor, "A oes yma rywun o'r newydd yma heno, neu rywun a phapyr o eglwys arall?
Cododd Evan ar ei draed, a dywedodd, "Mae Edward Richards wedi dwad yma i gynyg ei hunan i ni."
"Oes geno fo bapyr, Evan?"
"Sut y ca'i y creadur, druan, bapyr; 'doedd ono neb i roid un iddo fo. Yr oedd o ono ar ben ei hun fel cyw jac do er's talwm."
Yr oedd y prophwydi a meibion y prophwydi erbyn hyn bron yn methu dal, ac meddai yr hen flaenor, "Dr. ———, ewch chi i ymddiddan â'r hen frawd."
Gyda gwyneb siriol aeth y doethawr anwyl at Edward, a dywedodd,—
"Wel, Edward bach, ydech chi yn meddwl y medrwch ch'i wneyd eich cartre' efo ni?"
"Wn i ddim yn wir, syr; fydda i ddim eisieu cartre yn rhyw hir iawn eto; mi gaf fi fyn'd at yr hen deulu cyn hir."
"Pwy ydi' yr hen deulu,' Edward?"
"O, pobl John Wesley ydi fy nheulu i; mae yn dda iawn gen i am yr hen Wesleys."
"Ydech chi yn meddwl, Edward, y medrwn ni wneyd Calfin ohonoch ch'i?'
"Na fedrwch byth; Wesley fydda i tra y bydda i byw, a Wesley fydda i hyd dragwyddoldeb.
Wel, wel, Edward bach, pob peth yn dda; i'r un fan yr yden ni yn treio myn'd i gyd."
Mae Edward wedi myn'd at ei deulu" er's llawer dydd, ac y mae'r anwyl Ddoctor Parry wedi myn'd ar ei ol. Wn i ddim i ba gapel y mae y ddau yn myn'd, oblegid "yn nhy fy Nhad y mae llawer o drigfanau,” ac os oes yno gapel Wesley gallwn fod yn ddigon siwr mai gyda'i deulu y mae Edward Richards. Edward oedd the last of his race o "deulu" y Wesleyaid yn hen dref Galfinaidd y Bala.
ROBAT Y GO', NEU HEULWEN A CHYMYLAU.
HEULWEN.
GOF oedd tad Robat Jones, gof oedd ei daid, a gof ei hen daid—ac mae lle i gredu fod y gofaint dewr hyn yn ddisgynyddion uniongyrchol o'r hen of cywrain Tubal Cain. Saif gefail Robat Jones ar groesffordd yn un o ardaloedd poblogaidd Arfon. Mae un lôn yn rhedeg i chwarel sydd yn rhoddi gwaith i filoedd o ddewr feib y creigiau. Mae lôn arall yn myned a chwi i dref enwog Caernarfon. Mae'r drydedd yn myned a chwi i bentref poblogaidd, a'r olaf yn cyfeirio tua'r môr. Rhwng y pedair ffordd hon gallwch feddwl fod gryn dramwy heibio efail Robat Jones, a phrin byth bydd neb yn pasio heb droi i mewn i gael ymgom gyda gwr poblogaidd yr eingion. Y mae gan Robat Jones air siriol i'w ddyweyd wrth bawb, a pherchir ef yn mhell ac yn agos, gan hen ac ieuanc, gwreng a bonedd.
Y mae traddodiad yn yr ardal fod Shon Robat, hen daid Robat Jones, yn ymladdwr mawr, ac wedi cymeryd rhan lled flaenllaw yn erledigaeth y Methodus yn ei ddydd a'i dymhor, a'i fod yn un o'r rhai a gymerasant ran yn erlid Howel Harris pan ar ymweliad âg ardaloedd Sir Gaernarfon. Ond cafodd ei fab, Robat Shon, droedigaeth wrth wrando Lewis Evan yn pregethu, ac aeth i'r seiat, a llawer gwaith y bu Robat Jones yn myn’d i'r seiat ganol 'rwsnos yn llaw ei daid, pan yr oedd ei dad yn rhy brysur yn pedoli ceffylau blaenoriaid y capel. Noson brysur iawn yn yr efail bob amser ydoedd, ac ydyw eto, noson y seiat. Mae gwr Tyddynygwair yn flaenor yn Nghapel ———— ac wrth gychwyn i'r capel try i'r stabl, a dywed wrth y gweision,—
Hwdiwch, fechgyn, os oes rhywbeth i fyn'd i'r efail cerwch a fo wrth fyn'd i'r seiat, a dudwch wrth Robat y galwch chi am dano wrth ddyfod yn ol."
Gan fod meistriaid amryw o'r ffermydd mwyaf yn yr ardal hon, fel yn mhob ardal arall, yn perthyn i'r sêt fawr, bydd gryn dipyn o jobs yn yr efail noson seiat. Mae y ffarmwrs mwya' bob amser yn perthyn ir sêt fawr, os byddant yn perthyn i'r capel o gwbl. Mae hyn yn hen arferiad yn yr ardaloedd hyn. Nid am fod mwy yn mhen y ffarmwr mawr, ond y mae yn lle neis i'r pregethwyr aros. Y mae ffarm Mr. W., pen blaenor y capel o ba un y mae Robat y Go' yn aelod ffyddlon a chyson (mor gyson ag y gall fyn'd a gwneyd cyfiawnder â mân jobses y blaenoriaid), yn filldir a haner o'r capel, ac yn aml iawn bydd Mr. W. yn troi i'r efail ar ei ffordd i'r seiat neu y cyfarfodydd gweddi, ac yn deud,—
"Hwdiwch, Robat, mae tair o bedole y gaseg yma yn ysgwyd; gyrwch un o'r hogia i stabl y capel i'w nhol tra y bydda i yn y capel. 'Rydech chi yn rhy brysur, Robat, i ddwad i'r seiat, miwn."
"Yr ydw i yn o brysur, Mr. W., fel y bydda i bob amser noson capel, ond y mae gen ine enaid, ond y gwaethaf ydyw mae gen i wyth o safnau eisieu eu llenwi, a rhaid i ni beidio digio neb. Be' ydi y pwnc sydd genoch chi heno, Mr. W.?"
"Cyfiawnder ydi testyn yr ymdrafodaeth heno, Robat, a fi sydd wedi fy mhenodi i'w agor. Cofiwch yru i nol y gaseg, a galwaf yma wrth ddyfod adref."
"Gwnaf siwr, Mr. W. Fydde yn anodd i chwi dalu y tipyn bil hwnw oedd yn diw flwyddyn i Glame diwedda'? Mae y trafaeliwr haiarn yn dwad rownd ddydd Llun, ac y mae arna' i eisieu talu iddo."
"Yn wir, Robat, ydw i ddim wedi cael amser i edrach drosto fo eto. 'Rydw i wedi bod yn brysur ofnadsen efo counts y capel: mae llawer iawn o bobl ar ol efo'r taliadau mis ac arian seti, ac yr ydwi'n myn'd i'w deyd hi yn hallt heno wrth agor y pwnc 'Cyfiawnder".
"Da iawn, Mr. W.; a da chi yn deyd tipyn yn nghil hyny am i'r bobl dalu yn y shiope hefyd, ac i'r cryddion a'r teilwriaid, gwnaech dro bendithiol iawn."
"Diar mi, Robat, yr ydw i yn synu atoch; 'does fyno hyny ddim â'r pwnc mawr ydw i wedi cael fy mhenodi i'w agor heno. Be' sydd fyno 'Cyfiawnder' â shiope, a chryddion, a theilwriaid? 'Tâl dy ddyledion i'r Arglwydd'—dyna ydi y pwnc mawr.'
"Ond sut y medr pobl dalu i'r Arglwydd os na thâl pobl iddynt hwy yn gyntaf?"
"Robat bach, yr ydych chwi yn edrych ar y pwnc mawr o safon rhy isel. Mae arnaf ofn nad ydych chi ddim yn 'studio llawer ar Dduwinyddiaeth: mae'ch meddwl chwi ormod gyda'r pethau sydd isod'—pedolau a phethau felly. Ond rhaid i mi fyn'd. Cofiwch y gaseg, Robat, a rhowch dipyn o ddur ar y pedolau blaen, yr ydw i yn myn'd i'r Cyfarfod Misol 'fory. Mae yno dipyn o allt go serth, ac y mae hi fel da hi am rewi heno."
Aeth Robat y Go' yn mlaen gyda'i waith, a gyrodd i nol caseg Mr. W. Yr oedd wedi meddwl yn sicr cael myn'd i'r capel, ond 'doedd dim chance: yr oedd yn rhaid pedoli caseg y pen blaenor, a gwneyd amrywiol jobsus ereill tra y bydde y bobl yn y capel. Ding dong, ding dong a glywid ar engan y gof, tra yr oedd y pwnc "Cyfiawnder" yn cael ei ymdrin yn y capel, a thra yr oedd Mr. W. yn hedfan uwchlaw amgyffred ei wrandawyr gyda "pethau sydd uchod" yr oedd ei gyd—aelod, Robat y Go', wrthi yn rhoddi pedolau ar garnau ei farch, dan ganu iddo ei hunan,—
"Pechadur wyf, O Arglwydd,
Yn curo wrth dy ddôr,
Erioed mae Dy drugaredd
Diddiwedd yn ystôr."
Aeth y seiat drosodd, ac yn fuan yr oedd llon'd yr efail o bobl, a thoc dyma Mr. W. yno,—
"Ydi y gaseg yn barod, Robat. Gobeithio eich bod chi wedi rhoddi dur—mae hi yn rhewi yn ffast. Cawsoch golled fawr na fasech chi yn dwad i'r seiat. Mi dria i gael amser i edrach dros y bil ar ol dwad o'r Cyfarfod Misol. Nos dda, Robat."
"Sut seiat gawsoch chi, boys?" medde'r Go' wrth yr hogie oeddynt yn disgwyl am eu neges.
"Yr oedd yno ddigon o siarad, peth siwr iawn ydi o," meddai hwsmon Tyddynygwair, "ond dase y dyn yna aeth i ffwrdd ar gefn y gaseg yna 'rwan wedi cau arni hi, fase yn llawer gwell. Son am gyfiawnder, yn wir! Ac eisio i ni, fechgyn y ffarmwrs a hogie'r chwarel, ro'i mwy yn y casgliad mis. 'Does yna yr un mistar cletach na fo yn y plwy' yma—y cyflog isa' i bawb bob amser; ac ydi y bwyd y mae o yn roid i bobl ddim ffit, ac yn eu gweithio nhw o oleu i dywyll. Son am wyth awr, yn wir: dase fo yn ei gadael hi ar "twice eight," fel bydde ni yn deyd yn yr ysgol, mi fase yn o lew. Ond mae o yn flaenor, Robat Jones bach, ac mae o yn sicr o fyned i'r nefoedd. Y ni, y pechaduriaid —yr aelodau cyffredin—aiff i'r lle arall hwnw; neu os cawn ni fyn'd i'r un fan a Mr. W., rhywle tua'r seti cefn fydd hi."
"Paid a siarad fel yna, John anwyl. Ydi ddim yn iawn i ti wneyd, a thithe newydd ddwad o'r seiat. Mae yn ddyledswydd arno ni wneyd fel y dywed y rhai sydd wedi eu codi i swyddi. Rhaid i ti gofio fod blaenoriaid yn cael eu dewis o dan arweiniad, ac nid mater o hit and miss ydi hi."
"Pob parch i chi, Robat Jones, choelia i byth mo hyny. 'Does gen i ddim mymrym o ffydd yn y codi blaenoriaid yma—y fodrwy aur pia hi, Robat Jones. Ty braf i gymryd pregethwrs, a gig i fynd i'r stesion i'w cyfarfod nhw. Chlwsoch chi rioed fath hogle cwcio fydd yn Tyddynygwair acw bob nos Sadwrn mis y pregethwrs, a bydd yr haid gwydde yn y buarth acw yn myn'd un yn llai bob wsnos. Byddwn ni, y gweision, yn cael digon o'r hogle amser cinio ddydd Sul, a bydd hyny fel rhyw sôs i helpu i ni fyta y cig moch a thatws trwy crwyn."
"Taw, taw, John bach; paid a chablu pethau cysegredig. Rydw i bob amser wedi cael fy nysgu i barchu cenhadon hedd' ac i edrych gyda gwyleidd—dra ar hyd yn nod 'ôl traed y rhai sydd yn efengylu.'
"Wel, felly fine, Robat Jones; ac os ydw i wedi newid fy marn, nid arnaf fi mae y bai. Os oes genych amser, mi ddeuda i stori bach wrthoch, ac y mae hi mor wir a'ch bod chi yn chwythu y tân yna 'rwan."
"Wel, a hai, John, ond paid a chablu."
"Yr ydach chi yn gwybod am mistar. Ydi o ddim yn rhyw swell mawr iawn ond pan y bydd o yn myn'd i'r Cyfarfod Misol, neu pan y bydd o yn gynrychiolydd' i'r Sasiwn. Mae o yn gwisgo ddigon plaen bob dydd. Wel i chi, rhyw brydnawn Sadwrn yn nghanol y cynheua yd, dyma fo yn edrych ar i watch yn y gadles, ac yn deud, 'Yn wir, rhaid i mi fyn'd i'r stesion i gyfarfod y pregethwr, a 'does dim amser i molchi na dim.' Ffwrdd a fo i'r stabl, rhoddodd Bess yn y gig, a ffwrdd a fo. Nid y gweinidog oedd wedi ei gyhoeddi oedd yn y stesion, ond rhyw fachgen difarf a diddawn newydd ddechreu wedi dwad yn ei le. Meddyliodd y pregethwr mai y gwas oedd, a gwnaeth yn lled hy arno. 'Ydech chi acw er's talwm?' meddai. 'Ydw, er's talwm iawn,' medde mistar. 'Oes acw le go dda acw?' 'Oes.' "'Oes acw fwyd go dda?' 'Oes.' Oes acw ferched?' 'Oes. 'Yden nhw yn rhai neis? 'Yden am wn i.' 'Wyddoch chi oes acw dipyn o begs?' 'Wel, felle fod pan fydd yr hen wr a'r hen wraig wedi myn'd.' Gyda hyn dyma'r gig i fewn i'r buarth, a dyma mistar yn gwaeddi arna' i, 'John, rho y gaseg yma i fewn, a rho ffeed o geirch a tipyn o ffa iddi. Edrychodd y pregethwr ifanc yn syn. Gwelodd ei fod wedi rho'i ei droed yni, ac yr oedd ei wyneb fel crib yr hen dyrci oedd wrth ddrws yr hen 'sgubor. Ar ol tê aeth y pregethwr ifanc allan am dro. Yr oedd trên yn gadael y stesion am naw o'r gloch. Yr oedd gwely y pregethwrs yn wâg y noson hono, ac yr oedd pwlpud capel ———— yn wag boreu Sabboth. Mae'r stori cyn wired a'r pader, Robat Jones. Nid arna' i mae y bai os nad oes genyf gymaint parch i'r efengyl ag oedd."
Mae yn wir ddrwg genyf, John, fod dy feddwl di yn cymeryd y cyfeiriad yna. Rhaid i ti beidio gadael i bethe fel yna droi dy feddwl di yn erbyn gweision yr Arglwydd. Cofia, John bach, am yr hen Dalsarn, Robat Ellis, Dafydd Morris, William Herbert, Evan Owen. A hefyd 'rwyt ti yn 'nabod llawer o bregethwyr hen ac ifanc y dyddie yma. Paid a mesur rhyw barblis wrth hoelion wyth. Gwrando di ar y genadwri—hidia befo y cenhadwr."
Hawdd iawn ydi i chi siarad, Robat Jones; yr ydych wedi cael gras."
John bach, paid a siarad fel yna. Os nad wyt ti wedi ei gael dos ar dy linie heno, a gofyn am ei gael. Mi glywest am y dyn yna gafodd ei ladd yn y chwarel heddyw. Y mae yn dda iddo erbyn hyn fod ei bac yn barod."
Yn wir, Robat Jones, llawer ffitiach i chi fod yn y sêt fawr na'u haner nhw. Yr ydach chi yn gwneyd mwy o les mewn ffordd syml fel hyn na llawer pregethwr gyda phregeth hir, a hono yn bene ac yn rhane i gyd. Os ydi y stwffl yn barod, rhaid i mi fyn'd. Nos dda, Robat Jones; mi dalith mistar rhywbryd."
Pan aeth gwas Tyddynygwair allan, dyma rhyw stordyn o wâs bach oedd yn helpu gyda'r godro a thua'r stabl yn y Buarth Mawr yn codi oddiar rhyw hen aradr oedd yn disgwyl am y "doctor" yn nghornel yr efail, ac yn dyweyd "Robat Jones" lon'd ei gêg.
"Wel, be' sant di eisie, Wil?"
"'Sgenoch chi raw reit dda newch i werthu i mi, Robat Jones; mae arna i eisia cael rhaw i mi 'nhun?"
"Oes siwr, Wil; wyt ti wedi cael lle i dori bedde, neu wyt ti yn myn'd yn brentis i ddysgu dal tyrchod daear. Ond dyma i ti raw newydd spon am dri a chwech."
"Na ro byth, Robat. Jones (gan boeri sug tybaco), mi ro i chi haner coron.
"Na roi byth, Wil; wyddost am dana i—fydda i ddim yn gwneyd dau bris.'
Wel, rhowch bres peint o gwrw, ynte."
"Ffei o honot, Wil, yn son am dy gwrw. Fydde yn well gen i ro'i hoelion at ro'i yn dy arch di o lawer. Ond mi ddeuda i ti beth na i efo ti. Oes gent ti Destament, dywed?"
"Nac oes, Robat Jones; yr ydw i wedi colli hwnw roth mam, druan, i mi pan oeddwn i yn gadael cartre."
"Wel hwde, dyma i ti chwech i brynu un newydd yn Stryd Llyn pan ei di i G'narfon. Ac yna, os bydd arnat eisia pladur newydd at y cynheua gwair—os byddi di wedi dysgu allan y pymtheg penod cynta yn Ioan— mi ro i y bladur ore sydd geni i ti, os doi di ata i yn ffair Llanllyfni. Gwna, Wil bach, er mwyn dy hen dad a dy hen fam dduwiol. Mae nhw yn y nefoedd, ac os wyt ti am fyn'd atyn nhw, rhaid i ti beidio hel â'r ddiod yma."
Aeth gwas bach y Buarth Mawr adref gyda'r rhaw ar ei ysgwydd, a dagrau yn ei lygaid.
Fel yna y bydde Robat Jones y Go' yn pregethu. Er nad oedd yn cael myn'd i'r seiat bob wythnos, ac er nad oedd yn bregethwr na blaenor, yr oedd yn gwneyd llawer iawn o les yn y cylch yr oedd yn troi. Yr oedd ei bregethau at y pwrpas bob amser—'roedd rhyw fachau ynddynt. Byddai yn hoff dros ben o blant, a hoff waith y gof oedd gwrando arnynt yn dyweyd eu hadnodau cyn myn'd i'r seiat. Yr oedd yn holwr plant heb ei fath yn yr ardal, a dyna yr unig swydd a gafodd erioed yn yr eglwys na'r Ysgol Sabbothol, ac nid diffyg cymhwyster, ond ei fod yn digwydd gwisgo barclod lledr a chrys brith.
Trwy ddiwydrwydd a chynildeb yr oedd Robat Jones wedi hel ceiniog lled ddel cyn bod yn haner cant oed. Yr oedd wedi prynu ei dy a'r efail. Yr oedd ganddo shares yn llongau William Thomas, a swm go lew yn manc y Maes. Ond pan ar ben haner cant cyfarfyddodd â damwain wrth bedoli merlyn gwyllt yn perthyn i wr Tyddynygwair. Anafwyd ef gymaint fel ag y bu mewn perygl mawr o golli ei fywyd. Dyna yr amser y dechreuodd ei helbulon. Y mae pum' mlynedd o amser er hyny. Ni fu byth yn chwareu tôn â'i forthwyl ar yr engan ar ol hyny. Os gwelir mwg yn esgyn i fyny o simddau efail y Groesffordd, nid Robat Jones sydd yn chwythu y tân. Y mae ef yn gorwedd byth, ac y mae wedi cael digon o seibiant i weled "dull y byd hwn," a beth sydd mewn crefydd a'r rhai sydd yn ei phroffesu. Y mae wedi darllen llawer ar ddameg y gwr a syrthiodd yn mhlith lladron, ac yn deall yn lled dda ystyr y geiriau Lefiad a Samariad.
CYMYLAU.
Y diwrnod y ciciwyd Robat Jones gan y ceffyl gwyllt, safai ei wraig a'i blant oddiamgylch y gwely wedi haner d'rysu, ac yn disgwyl bob mynud wel'd llygaid y tad yn agor neu ei wefusau yn symud. Safai dau feddyg medrus o Gaernarfon (dau frawd) wrth ben y gwely.
Ydech chi yn meddwl y daw o trwyddi hi, doctor anwyl?" meddai y fam grynedig a phryderus.
"Yr ydym yn disgwyl yn fawr, Elin Jones. Yr oedd Robat yn ddyn sobor, ac wedi cymeryd gofal o hono ei hunan bob amser, ac y mae hyny yn ei ffafr yrwan. Mi wnawn ni ein goreu, Elin Jones, a gofynwch chwithe i'r Meddyg Mawr ddyfod yma i'n helpu ni. Yr ydech chi ag Yntau yn gryn ffrindie er's llawer dydd. Cerwch chwi i gyd i lawr yrwan: mae yn rhaid i ni gael lle reit ddistaw; mae o reit wael, ac yn feverish iawn."
Aeth y teulu i gyd i lawr i'r gegin, lle yr oedd llawer o bobl y capel wedi d'od yn nghyd i gael gwybod sut yr oedd gwr yr efail; ac yn eu plith hen wr duwiol o'r enw Shon Dafydd, fyddai yn arfer eistedd yn nghanol llawr y capel, ac yn weddiwr heb ei fath. Y mynud y gwelodd Elin Jones yr hen wr aeth ato a dywedodd, "Y mae Robat bach yn sâl iawn; ewch chi dipyn i weddi, Shon Dafydd, a gofynwch i'r Iesu o Nazareth ddyfod yma: y Fo ydi y Meddyg Mawr." Aeth yr hen Gristion ar ei liniau, a phawb arall gyda fo, a gweddiodd yn ddwys ac effeithiol. Ymaflodd yn rhaffau yr addewidion nes tynu y nefoedd am ei ben. Ar hyn daeth un o'r meddygon i lawr o'r llofft a dywedodd, Gwell i chwi fyn'd i fyny, Elin Jones: mae o wedi agor ei lygad am fynud, ac mi ddywedodd un gair, a hwnw oedd 'Elin.' "Diolch byth," meddai hithau, a "diolch byth" meddai pawb arall. Pan aeth Elin Jones at wely ei gwr, edrychodd arni, a dywedodd, "Elin bach," ac yna cauodd ei lygaid, a dyna oedd y geiriau olaf a ddywedodd am lawer o wythnosau. Amser blin a phryderus fu hi ar deulu y gof tra y bu ef yn hongian rhwng byw a marw. Cymaint oedd trallod y wraig druan fel nas gallai roddi ei meddwl ar ddim arall ond ar ei gwr. Nid oedd yr un o'r bechgyn yn ddigon hen i fyn'd i'r efail, ac nid oedd yr un o'r prentisiaid wedi cael digon o brofiad i gymeryd y gofal. Nid oedd Elin Jones chwaith yn dymuno cyflogi gweithiwr profiadol heb ymgynghori â'i gwr: felly 'doedd dim i'w wneyd ond cau yr efail. Peth chwith iawn oedd gwel'd Efail y Groesffordd heb fŵg yn esgyn i fyny o'r simddai, ac yr oedd plant yr ysgol bron a thori eu calonau wrth basio y lle; yr oeddynt wedi colli tân yr efail a gwyneb rhadlon a geiriau siriol eu hen gyfaill. Diwrnod i'w gofio yn nhý y gof oedd pan yr agorodd ei lygaid gyntaf ar ol i glefyd y 'menydd ei adael, ac y dechreuodd siarad tipyn. Pan glywodd plant yr ardal y newydd yr oeddynt yn falch dros ben. Yr oedd gan un gylch wedi tori, ac un arall eisieu hoelen i roi yn mlaen ei dop, ac amryw o fân jobsus yn disgwyl. Byddai Robat Jones yn gwneyd llawer o gymwynasau bychain i blant yr ardal. Yr oedd ganddo lawer iawn o gwsmeriaid bychain y thankee jobs. Pan aeth y gair allan fod Robat Jones yn debyg o fendio, ac y byddai yr efail yn agor cyn hir, yr oedd llawenydd mawr yn mhlith gweision y ffarmwrs trwy'r ardal, ac yr oeddynt yn dechreu hel pethau at eu gilydd i fyn'd a nhw i'r efail. Colled fawr iddynt hwy oedd colli ymgom ddifyr y gof. Yr oedd yn dda iawn hefyd gan wr Tyddynygwair glywed, oblegid gaseg ef oedd wedi anafu Robat, druan. A chwareu teg i'r ffarmwr tyner-galon, yr oedd llawer basgedaid o wyau, cywion ieir, a phwysi o fenyn yn cyrhaedd ty y gof er pan oedd yn gorwedd. Ac os oedd llawenydd yn mhlith cyfeillion, gellwch feddwl bod llawenydd llawer mwy yn y teulu oedd yn ei garu mor fawr. Ond och! byr iawn fu y llawenydd pan ddywedodd y doctor y gallai Robat Jones ddyfod i sgwrsio ac i fwyta ac yfed, ond yr oedd yn gwestiwn a fedrai byth godi o'r gwely. Yr oedd y meddyg yn lled agos i'w le, oblegid gorwedd y mae y gof er's pum' mlynedd, ac y mae wedi myned trwy lawer iawn o helbulon.
Fel y dywedais yn y benod gyntaf, yr oedd Robat Jones wedi hel ceiniog lled ddel, ac yr oedd ganddo swm lled dda wrth ei gefn yn Manc y Maes, ac mewn lleoedd ereill; ond druan o hono, tra y mae y fraich gref a gurai gyda nerth ar yr engan wedi bod yn gorwedd yn farw wrth ei ochr yn y gwely er's pum' mlynedd, y mae y tipyn pres wedi diflanu. Mae'r efail a'r busnes wedi eu gwerthu er's llawer dydd i wr diarth o ardal arall; ac y mae dau fachgen hynaf Robat Jones yn brentisiaid yn hen efail eu tad.
Yr oedd amgylchiadau wedi myn'd a'r ysgrifenydd i fyw i ardal gryn bellder oddiwrth fy hen gyfaill o'r Groesffordd, ac yr oeddwn heb ei weled er's yn agos i flwyddyn. Fodd bynag, diwrnod Diolchgarwch diweddaf penderfynais fyn'd i dalu ymweliad â Robat Jones. Yr oeddwn yn teimlo ei bod yn llawn cymaint o grefydd i mi fyn'd i ymweled â'm hen gyfaill ag ydoedd myn'd i'r capel dair gwaith. Pan y bydd y Barnwr Mawr yn eistedd ar y cwmwl, y dydd diweddaf, ni ddywed, "Yr oedd cyfarfod diolchgarwch yn nghapel----," ond dywed wrth lawer, "Bu'm glaf, ond ni ddaethoch i ymweled â mi." Felly, yn fore ddydd Llun cychwynais gyda'r tren, ac yr oeddwn wedi synu yn ddirfawr gweled cynifer yn teithio gyda'r trens. Yr. oedd ugeiniau o fechgyn a merched o'r shiope, o'r chwarelau, ac o'r ffermydd i'w gweled yn ddigon penrhyddion a gwamal, yn cymeryd mantais ar y dydd gwyl i fyned i ymblesera yn lle myn'd i'r capel i ddiolch am eu "bara beunyddiol." Clywais yn Stesion Caernarfon fod canoedd wedi myn'd efo'r excursion i Fanchester. O ran fy hunan, nid oes genyf fawr o feddwl o'r cheap trips yma. Mae pobl yn cael eu denu i fyned i ffwrdd i wario eu pres yn lle talu eu dyledion yn y shiope, ac yn prynu pethau yn Lerpwl a Manchester, ac yn aml yn rhoddi mwy am danynt nag a fydde yn rhaid iddynt. Heblaw hyny, mae fod hogia a hogenod ieuainc yn teithio mewn cerbydau heb oleuni ynddynt ar hyd y nos yn beth ag y dylid sefyll yn gryf yn ei erbyn. Dyna chwi, bregethwyr a blaenoriaid, bwnc teilwng o ymdriniaeth arno yn eich cyfarfodydd. Ond dyma fi wedi myn'd oddiwrth fy nhestyn; ond nid y fi ydyw y cyntaf i grwydro oddiwrth y pwnc (rhyw dipyn rhwng cromfachau, fel y bydd yr areithwyr mawr yn dyweyd). Erbyn cyrhaedd ty Robat Jones yr oedd pawb wedi myn'd i'r capel ond y wraig. Y mae pum' mlynedd o bryder a helbulon wedi gwneyd eu hol ar Elin Jones. Y mae golwg ddigon llwydaidd arni, eto, trwy'r cwbl, yr ydym yn ei chael yn siriol; ac y mae yn hawdd gwybod ei bod yn cael cysur o rywle heblaw oddiwrth bethau y byd yma. Yn wir, y peth cyntaf a welwn ar y ford gron ar ol myned i fewn oedd hen Feibl Peter Williams yn agored. Hwn oedd Hen Feibl mawr ei mam." Yr oedd llawer o ôl bodio, ac yn wir ôl dagrau, arno. Yr oedd y Beibl yn agored ar lyfr Job, a'r benod olaf. Mi fyddwch yn cael cryn dipyn o gysur yn yr Hen Lyfr, Elin Jones," meddwn wrthi.
'O byddaf yn wir; dyma y lle y byddaf yn troi bob amser pan y bydd yn gyfyng arnom. Yn hwn y byddaf yn cael hanes am y cyfaill a lŷn yn well na brawd.' Pan y bydd hi yn dywyll iawn arnom—fel y bydd hi yn aml iawn—byddaf yn cael llawer o gysur yn yr Hen Feibl yma ac yn hymns Ann Griffiths. Wn i ddim be' nawn i hebddyn nhw. Yr ydan ni wedi ei chael i yn arw iawn er's pum' mlynedd; ond wyddoch chi be', yr ydw i yn meddwl fod Robat yn troi ar fendio. Fella nad oes neb arall yn sylwi; ond y fi sydd efo fo o hyd. 'Rwy'n dechra meddwl y caiff o fendio eto, ac wed'yn bydd pobpeth yn iawn. Mi gawn i yr hen efail yn ei hol, ac mi ddaw yr hen ffrindia sydd wedi ein anghofio ni, y rhai fyddai yn llenwi y ty yma pan aeth Robat yn sâl gynta', a phan oeddan ni yn o dda allan. Mi ddo'n nhwtha yn ol; dyna arfer a dull y byd hwn er amser Job. Wyddoch chi pwy adnod oeddwn i yn ei darllen pan ddosoch chi i mewn: dyma hi,—'Yna ei holl geraint a'i garesau, a phawb o'i gydnabod ef o'r blaen, a ddaethant ac a fwytasant fwyd gydag ef yn ei dy, ac a gwynasant iddo, ac a'i cysurasant am yr holl ddrwg a ddygasai yr Arglwydd arno ef,' &c. Tybed, tybed, da Robat yn mendio y bydda hi felly arno ni?" O byddai, Elin Jones," meddwn ina. "Fel y dywedwch chi, dyna ddull y byd hwn, ac 'i'r pant y rhed y dwr' wyddoch chi; 'ond cyfaill calon mewn ing ei gwelir.'"
"O, peidiwch a meddwl am fynud nad oes genym nina ffrindia, hen gyfaill. O oes, mae rhai wedi bod yn driw i ni trwy'r cwbl; ydyn, yn driw iawn. Ond y peth rhyfedda ydi, mai y rhai yr oeddym ni wedi gwneyd fwya iddyn nhw, a'r rhai oedd Robat druan wedi troi mwyaf yn eu plith, dyna y rhai oedd y cynta i droi eu cefna arno ni."
"Ond mae pobl y capel wedi bod yn driw i chi, mae'n siwr."
Fynwn i ar fy mywyd ddyweyd gair bach am bobl y capel; ond ydyn nhw ddim ond wedi bod fel rhyw bobl arall. Fasech chi byth yn credu, ond mae gwraig y Rectory wedi bod yn ffeind iawn wrtha ni, a'r hen Rector wedi bod yma mor aml, er na thwllodd Robat erioed yr eglwys ond pan yn myn'd i gynhebrwg." "Ond mi fydda Robat yn cymeryd gryn fusnes tua amser y lecsiwn. Yr ydw i yn ei gofio fo amser Watkin Williams yn siarad yn llewis ei grys ar y wal yn ymyl yr efail. Mae nhw, y Librals, wedi bod yn ffeind iawn, dwi'n siwr, Elin Jones.'
"Na, hen gyfaill, wyddom ni ddim gwahaniaeth rhwng Whigs a Toris. Mae rhai o'r Toris wedi bod yn ffeind iawn, a da Robat yn mendio, anodd iawn fasa geno fo fotio yn i herbyn nhw."
"Pe dai Robat yn mendio, Elin Jones, fydda dim llawer o dryst na fyddo fo gymaint o Radical ag erioed."
"Yn wir, dyna Robat yn curo y llofft—mae o wedi deffro. Gorphenwch y gwpanaid yna, a dowch i fyny; mi fydd yn dda iawn ganddo fo eich gweled, er na fedar o ddim siarad llawar.'
"All right, Elin Jones, mi ddof i fyny ar eich hol; ac os na fedar o siarad gallwch chwi wneyd y diffyg fyny, peth siwr iawn ydi o."
Yr oedd fy hen gyfaill, y gôf, yn edrych dipyn gwell nag oedd pan welais ef flwyddyn yn ol, ac yr oedd yn dda iawn ganddo fy ngweled.
"Wel, Robat bach, sut yr ydach chi erbyn hyn?"
"Diar mi, hen gyfaill anwyl, mae yn dda gen i ych gwel'd chi; ac wedi d'od yr holl ffordd, a hyny ar ddiwrnod diolchgarwch. Dyma y chweched diwrnod diolchgarwch i mi golli; ond os nad ydw i yno o ran corph, y mae fy ysbryd gyda'r brodyr. Ydach chi wedi cael yr yd i gyd? Mae nhw yn deyd i mi fod yna lawer iawn heb ei gael, a llawer wedi ei ddifetha. Mi ddylasan fod wedi cael dydd o ymostyngiad er's talwm. Bydd yn anhawdd iawn i rai o'r ffarmwrs fyn'd ar eu gliniau i ddiolch am y cynhaua, a nhwtha heb ei gael."
Ar ol araeth mor faith yr oedd Robat druan wedi colli ei anadl yn llwyr, ac Elin yn deyd wrtho, "Peidiwch a siarad chwaneg, Robat bach; neith yr hen gyfaill ddim digio wrthych."
Treuliais rai oriau hynod o ddyddan yn nghwmni y gôf. Yr oedd yn rhaid iddo gael rho'i pwt i fewn yn ei dwrn. Yr oedd methu yn yn lân a deall y drefn. Yr oedd rhai o bobl y capel yn dyfod i edrych am dano weithiau, ac yn dyweyd fod y cwbl er daioni; ond fedrai Robat ddim gwel'd hyny.
"Dyma fi," meddai Robat, "ar fy nghefn er's dros
bum' mlynedd, a saith o blant eisieu eu magu. Y mae
holl bethau y byd wedi myned oddiwrthyf fel Job. Am
beth, tybed? Yr ydwyf yn ddigon hunanol i feddwl nad oeddwn i ddim gwaeth na rhyw greadur arall, ac
fella yn well na llawer o rai sydd yn cael iechyd.
'Doeddwn i ddim yn bregethwr nac yn flaenor nac yn
ddyn cyhoeddus; ond yr oeddwn yn ceisio gwneyd
tipyn o les yn fy ffordd fach fy hun, a phan gawn gyfle
i ddyweyd gair da am Iesu Grist wrth rai o'r hogia fydda
yn dwad i'r efail—byddwn yn gwneyd hyny. Ond
gallasai fod yn llawer gwaeth arnaf. Fe gollodd Job ei
anifeiliaid a'i holl dda, a'i blant gyda hyny, ac yr oedd
ei wraig eisieu iddo felldithio ei ddydd. Ond dyma
mhlant i gen i gyd, ac y mae Elin yma yn gwneyd ei
goreu i fy helpu i ddyweyd, 'Dy ewyllys Di a wneler."
O gallai, gyfaill, gallasai fod yn llawer gwaeth arnaf.
Gogoniant i'r Enw Mawr."
STEDDFOD FAWR LLANGOLLEN.
FARMWR bychan ydw i, o'r enw Benjamin Dafis, yn byw mewn cwmwd rhamantus rhwng rhai o fryniau mynydd mawr y Berwyn, yr hwn sydd fel clawdd terfyn rhwng broydd Meirion a Maldwyn. Pan oeddwn i y dydd o'r blaen yn hel y defaid i'r mynydd ar ol cael eu cneifio-mae gen i rhyw bedwar cant o ddefaid-ac y mae nhw yn edrych yn lân ac yn neis iawn 'rwan, mae nhw wedi tynu oddi am danynt siwt y gauaf, a'r llythyrenod pitch " B.D." wedi eu stampio ar yr ochr dde iddyn nhw. Mae gen i lon'd y sgubor o wlân yn disgwyl am i'r dyn o Yorkshire ddwad i'w brynu o, ac wed'yn, mi fydd hwnw yn ei werthu i'r ffatrwrs, a'r rheini yn ei werthu o i'r maniffatrwrs, ac wed'yn mi fyddwch chitha' yn myn'd i'r siopau i brynu'r brethynau. Wel, dene ddigon am amaethyddiaeth a "gwlanyddiaeth." Fel y dywedais i ar y dechre, pan oeddwn i yn myn'd a'r defaid i'r mynydd, ac un o bapyrau C'narfon yn fy mhoced, mi ddarllenais am yr Eisteddfod fawr sydd i fod yno yn mis Gorphena' pan y bydd y Prins o Wales yno, ac mi ddaeth rhyw deimladau rhyfedd drosta i, mi gofiais ddiwrnod
'STEDDFOD FAWR LLANGOLLEN.
Mae jest i ddeugain mlynedd er hyny, wel, y mae un-ar-bymtheg ar hugain. Cerdded ddarfu mi dros y mynydd. Yr oeddwn yn bedair ar hugain oed, ac heb erioed fod noson oddicartref, a llawer llai, ddim wedi bod yn agos i 'Steddfod erioed; ond yr oeddwn wedi darllen llawer am 'Steddfode yn yr Hen Amserau a'r Herald bach. Y Smere fydde yr Hen Ffarmwr yn ddeyd; ie, hen foi iawn oedd yr Hen Ffarmwr, y fo ddysgodd bolitics i "Gymru Dywyllaf," ac mi ddysge bolitics a chrefydd i "Cymru Sydd" a "Chymru Fydd hefyd, da nhw yn ei ddarllen o; ac y mae digon o honyn nhw i'w cael yn holl shiope y wlad, ac os nad oes gyrwch i Lerpwl at y Llyfrbryf.
Wel, gwnes fy meddwl i fyny i fyn'd, a phan ddudes i wrth yr hen bobl, y gwarchod pawb dyma hi yn dowydd mawr,
Medde nhad: "Wel, Benjamin bach, ddylies i erioed y cawn i weled y dydd y byddai fy unig anedig fab yn meddwl am fyn'd i le mor halogedig a 'Steddfod. Fase well gen i, Benjamin bach, dy weled di yn yr hen fonwent yna; ond mi fydda i yni yn union deg os wyt ti am ddechre myn'd i 'Steddfode, a mi ddoi a'm penllwydni i'r bedd yn fuan iawn."
Mam: "Yma ti, Shon, yr ydw i yn meddwl dy fod di yn cymeryd y peth yn ormod at dy galon. Rhaid i ti gofio mai rhyw fath o 'Sasiwn' ydi yr Eisteddfod; ond mi weles i, yn yr Amsere ne yr Herald bach, fod yno 'Seiat y Beirdd' i fod, ac ydi o ddim yn rhywle drwg iawn os oes ono 'seiat,'Shon bach."
Tad: "Wel, os wyt ti yn deud hyny, Mari bach, pob peth yn dda. Wel dos, Benjamin, a chymer ofal beidio yfed cwrw Llangollen. Mae arian yr hen fuwch wine yn hosan dy fam yn yr hen gwpwr pres yn y siambar, dos yno, a chymer hyny o arian sydd arnat ti eisio."
Mam: "Cofia, Benjamin, fyn'd i 'Seiat y Beirdd,' a dywed dy brofiad ono; os bydd rhai o'r gwinidogion yn gofyn i ti ddyweyd rhywbeth, adrodd dipyn o adnode o Lyfr y Pregethwr.'
Benjamin: "Wel, nhad a mam bach, rhaid i chi ddim ofni am dana i, mi gymra i ddigon o ofal o hona 'nhun, da fo ddim ond o barch i chi, a phwy wyr na chai i wobr ono. Yr ydw i wedi gyru 'Bugeilgerdd' ono er's dau fis, ac yr ydw i wedi son yni am bob hwrdd a hesbwrn sydd a rhywbeth ynyn nhw, yn enwedig y ddau hen hwrdd fydd yn cornio eu gilydd bob dydd. Y mae nhw wedi rhoddi llawer o flinder i mi."
Daeth nhad a mam i'm danfon at lidiart y mynydd, dan fy nghyngori a pheri i mi ddwad adre nos Sadwrn am fod Joseph Thomas, Carno, yn pregethu yn ein capel ni. Ar ol ffarwelio â'm tad a'm mam, y tro cynta 'rioed—fu mi ddim noson oddi cartref o'r blaen yn fy mywyd—'roedd hi wedi myn'd yn galed iawn ar yr hen wraig; ac yr oedd rhyw lwmp yn fy ngwddw ine, a'm llygaid yn llawnion iawn. Pan yr oeddwn wedi myn'd rhyw ganllath, troais fy mhen yn ol, a dyna lle yr oedd fy nhad a'i bwyse ar y llidiart, a mam a'i ffedog gingam las a gwyn wrth ei llygaid, a dyma hi yn gwaeddi nerth ei phen, "Cofia fyn'd i Seiat y Beirdd, Benjamin anwyl."
CYRHAEDD LLANGOLLEN.
Medi 20fed, 1858, oedd y diwrnod bythgofiadwy i mi fynd i'r 'Steddfod gynta'. Y bobl anwyl, fu y fath fflagie? Yr oedd fflag yn mhob ffenest, ac ar ben pob coedyn. Yr oedd yr hin yn braf, a pheth ofnadsen o bobl ono, a phawb yn ei gneyd hi am y babell. Wel 'doedd hi ddim llawn cymaint a Pafilion C'narfon, ond mi 'roedd hi yn ddychrynllyd o fawr. Tales swllt am fyn'd i mewn, a bobol bach, weles i 'rioed le mor grand. Yr oedd y lle wedi ei wisgo efo dail a banere, a lot o enwe mawr wedi eu printio efo hen drioedd ac arwyddeiriau Cymreig, megys "Y gwir yn erbyn y byd," "A laddo a leddir," ""Oes y byd i'r iaith Gymraeg," "Heb Dduw, heb ddim; Duw a digon." Pan welais yr olaf, meddwn wrtha fy hun, Mae hi yn o dda yma, os do'nt a'r geiriau hyny yma. Mae mam yn o agos i'w lle."
PWY WELAIS ? PWY GLYWAIS?
Gan mai hon oedd fy 'Steddfod gyntaf, yr oeddwn yn awyddus iawn i adnabod pob bardd, pob llenor, a phob dadgeiniad, ac yn enwedig y telynorion a'r canwyr penillion. Daethum i gydnabyddiaeth â rhai o honynt, a gwnaethum gyfeillion gyda rhai a barhaodd am lawer o flynyddau, yn wir, hyd y symudwyd hwy gan yr angeu. Gwelais lawer yno y tro cyntaf a'r tro olaf hefyd ran hyny. Gwalchmai oedd prif fardd y 'Steddfod; yr oedd ef y pryd hyny yn agos i driugain oed, ac y mae heddyw yn fyw, iach, a heini. Yr oedd yno hefyd Alltud Eifion, yn gweu ei benillion fel y bydd Eifionydd yr oes oleuedig hon. Un arall sydd yn fyw ag a gymerodd ran bwysig yn Eisteddfod 1858 ydyw fy hen gyfaill anwyl Llew Llwyfo, ac fe ddymunwn o'm calon gael ysgwyd palf "yr hen Lew am unwaith eto. Yr oedd yno hefyd Eos Llechid, mae yntau yn fyw, ac yn cadw mewn hwyliau Eisteddfodawl. Yno y clywais Llew yn canu "Morfa Rhuddlan" yn hwyliog dros ben. Carwn ei glywed eto. Dyma yr Eisteddfod gyntaf i Edith Wynne ganu ynddi; ac fe ddywedodd y Llew yr amser hono y byddai y gantores ieuanc yn anrhydedd i Gymru rhyw ddydd, ac felly y bu.
Yn mhlith y rhai a hunasant oeddynt bresenol yn Eisteddfod Llangollen, cawn enwau Caer Ingil, Ab Ithel, Cynddelw, Glasynys, Ceiriog, Taliesyn o Eifion, Idris Vychan, Pererin, Cadifor, Eos Iâl, a'r Estyn yn fywiog fel y gôg. O, ie, ac Owain Alaw yn gwefreiddio y bobl efo'r berdoneg, ac yn canu "Mae Robin yn swil," a darnau ereill. Mae llu ereill wedi myned yr ochr draw, nas gallaf eu cofio ar ol cynifer o flynyddoedd.
CADEIRIO'R BARDD.
Wel, o bob peth, dyma oedd yr atdyniad mwyaf i mi i'r Eisteddfod, ac felly y mae i mi hyd y dydd heddyw, ac felly y bydd yn Eisteddfod Caernarfon eleni, pob parch i'r Tywysog a'i hoff briod. Anghofia i byth mo'r olygfa, am mai dyma y tro cyntaf i mi weled dim o'r fath. Ar ol i'r beirdd gymeryd eu lle ar alwad Corn Gwlad o amgylch ogylch y Gadair, dyma Ab Ithel yn darllen beirniadaeth Hiraethog, Nicander, a Chaledfryn ar destyn y Gadair, sef "Maes Bosworth." Nid oedd y beirniaid yn cytuno. Pryd y gwelsoch chwi hwy yn gwneyd hyny yn gydwybodol? Mynai dau mai "Rhys Penarth" oedd y goreu, tra y daliai y llall mai arall oedd y goreu. Felly, "Rhys Penarth" a orfu. Da i mi mai llencyn talgryf oeddwn, yn mesur chwe' troedfedd a dwy fodfedd heb fy nghlocs, neu gobaith gwan fuasai i mi wel'd y "cadeirio;" oblegid yr oedd pawb yn estyn eu gyddfau fel gwyddau. Ond pe buasai genyf wddf fel Giraffe, ni welswn y bardd a enillodd y Gadair; oblegid yr oedd ef y pryd hyny yn dysgu hogie i fyn'd yn bregethwyr yn Nghlynnog Fawr yn Arfon. Glywsoch chwi erioed son am Eben Fardd? oblegid efe ydoedd y bardd cadeiriol yn 1858. Do, mi glywodd pob Cymro trwy'r byd am Eben Fardd, ac os na chlywsoch, rhag cywilydd i chwi. Pwy na chlywodd am gadeirfardd Eisteddfod Powys, yn Trallwm, 1824? a chadeirfardd y Gordofigion yn Lerpwl, 1840? Am nad oedd "Eben" yn Llangollen, yn 1858, chefais i fawr iawn o hwyl efo busnes y cadeirio cyntaf i mi weled. A dyma gynghor henafgwr i bobl Caernarfon, os oes modd yn y byd, mynwch gael y Bardd Cadeiriol ei hunan yn y Gadair neu fe golla y dyddordeb i'r rhai fyddant yn bresenol.[8]
Y RHIANGERDD.
Nid oedd y beirniaid yn cydweled gyda golwg ar y buddugol eto; mynai dau mai "Tudor" oedd y goreu, a mynai y llall mai "Myfenydd" oedd y goreu; ond y mwyafrif a orchfygodd yn ol "defawd a braint," a chafodd "Myfenydd" honourable mention, Pan alwyd ar Tudor yn mlaen, gwelwn fachgen ieuanc o'n hardal ni yn cerdded yn mlaen at yr esgynlawr, a bu agos i mi waeddi dros y lle "Well done, John." Edrychai yn wylaidd, a gwridai fel meinwen wrth gael cusan gan ei chariad. Enw, enw, enw," llefai canoedd yn y dorf, a dyma Gwalchmai yn gofyn am osteg, ac yn gofyn i'r llanc am ei enw, ac yna gwaeddai mai John Ceiriog Hughes, o Fanchester, oedd y buddugwr. Bu agos i minau waeddi nerth fy mhen, "Na, y ni yn yr ardal acw sydd yn hawlio John bach." Glywsoch chwi son am dano fo, lanciau Eryri? Do, do; mae'n siwr nad oes nemawr un ohonoch nad ydych wedi treulio llawer o "Oriau Hwyr" gyda Cheiriog, ac "Oriau Eraill" o ran hyny; ac os na ddarfu i chwi, gwnewch yn ddioed. 'Does dim llyfrwerthydd yn eich hardaloedd nad allant eich helpu i wneyd hyny. Ni raid dyweyd wrth ddarllenwyr craff a darllengar yr ADGOFION hyn mai arwr ac arwres rhiangerdd Ceiriog ydyw Hywel a Myfanwy, a bod dwy galon ar y Beithinen a "Myfanwy yn nghanol un galon, a Hywel yn nghanol y llall." Do, fe glywodd pob Cymro trwy'r byd am Ceiriog anwyl. Glasynys oedd "Myfenydd," ac nid rhaid dyweyd fod ei riangerdd yntau yn dda.
SEIAT Y BEIRDD.
Yr oeddwn yn methu yn lân a dyfalu yn mha le y cynhelid "Seiat y Beirdd." "Yn y capel Methodist, yn siwr i chwi, chwi," meddai gwraig y ty login, "achos dyna fydda nhw yn ddeyd. 'Cwrdd' ddywedwn ni, y Sentars; ac y mae gwraig y ty nesa' yma yn perthyn i'r Wesle', ac i'r class y bydd hi yn myn'd. Wn i ar wyneb y ddaear be ddywed y Batus, rhyw gyfrinach grefyddol' ne rwbeth fyddan nhw yn ddeyd." Ond i wneyd yn sicr, aethum at rhyw ddyn weles i ar hen Bont Llangollen, un o saith ryfeddodau Cymru, wyddoch chi. Mi nes yn siwr mai Methodis oedd o; yr oedd yn dal ei ben yn gam, ac yn edrych yn athrist. Ond Annibynwr oedd o; a'r achos ei fod o yn edrych mor athrist oedd am ei fod o wedi treio gwneyd englyn i "Gastell Dinas Bran," ac wedi ei gyru hi i'r gystadleuaeth, a rhywle tua'r "hen ganfed" oedd o ar restr yr ymgeiswyr, a rhyw swnian canu yr Hen Ganfed yr oedd o pan aethum ato. Fodd bynag, bu mor garedig a dyweyd wrthyf mai yn "Mhabell y Cyfarfod" y cynhelid "Seiat y Beirdd," am saith o'r gloch (fel pob "seiat" arall). Ar ol i mi ro'i coler lân a gofalu nad oedd un blewyn yn troi ar i fyny ar fy nhalcen, ymaith a fi i'r "seiat," gan ddisgwyl cael gwledd grefyddol. Yr oedd cynulleidfa lled gryno wedi dyfod yn nghyd, ond dim llawn cymaint a'r "Seiat Fawr" yn Hengler's Circus, Sasiwn y Sulgwyn. Pan darodd cloc yr Eisteddfod saith, cododd un o'r gweinidogion i roddi y mater i lawr, heb ganu, darllen, na gweddio, yr hyn a'm synodd yn fawr. Y mater ydoedd y priodoldeb o gael gan y frawdoliaeth i ddefnyddio y llythyren "v" yn lle "f," ac "f" yn lle "ff," rhag gwastraffu llythyrenau y wyddor a rhoddi trafferth diangenrhaid i'r argraphwyr. Y mae Eisteddfodwyr bob amser yn hynod o ofalus rhag rhoddi trafferth i'r argraphwyr !!!
Y mater arall oedd y priodoldeb o gael gair i sefyll dros y neuter gender. Wydde neb beth oedd y gair Cymraeg, Peth hyll iawn, meddai un o frodyr y seiat, ydi deyd y "fo" am fwrdd, a "hi" am gadair, neu y "fo" am y pocar, a "hi" am yr efail; y "fo" am bren, a "hi" am gareg. Cafwyd tair awr o ymdrafodaeth anmhwyllog, a methwyd a dyfod i benderfyniad, a therfynwyd y cyfarfod—nid trwy weddi —ond trwy—wel, tawn a son. Y mae dyddiau "Seiadau y Beirdd," fel dyddiau llawer o bethau ereill mewn cysylltiad â'r Eisteddfod, yn mhlith y pethau a fu, a heddwch i'w llwch.
TROI ADRE.'
Arhosais yn Eisteddfod Llangollen o'i dechre i'w diwedd, a bore ddydd Sadwrn gwnes fy mhac i fyny—'doedd hwnw fawr,—telais fy mil, a 'doedd hwnw fawr chwaith. Yr oeddwn wedi myn'd a thorth haidd, bara ceirch, darn o gosyn bychan mewn waled, a phwys o fenyn fresh a llun dafad arno,—dyna oedd ein preint ni. Wel, yn nghadach poced sidan fy nhad yr oedd rhywbeth arall, a be ddyliech chi oedd hwnw? O! yr hen fam anwyl oedd wedi rhoddi fy Meibl bach yno, rhag ofn i mi fyn'd i fy ngwely heb ddarllen penod fel y byddwn yn gwneyd bob amser gartref, ac ydw i byth wedi stopio gwneyd, a stopiai byth tra y medr yr hen lygaid yma wel'd, a phan y bydda nhw wedi pylu mae un o'r hogia yma yn ddigon parod i wneyd hyny drosta i. 'Doedd fy arian fawr lai, a dim mwy, oblegid ni enillais wobr o gwbl. Lle prysur oedd hi y bore hwnw yn Llangollen—pawb yn troi adre' mewn cerbydau, ar feirch, ac ar eu traed. 'Doedd dim stesion yn nes na Rhiwabon. Cefais ddigon o amser i feddwl ac i synfyfyrio ar y ffordd adref. Yr oeddwn yn teimlo yn falch o gael fy hunan mewn unigedd wrth droedio y Berwyn ar y ffordd adref. Yr oedd brefiadau y defaid, "pi-witiad" ansoniarus y cornchwiglod yn llawn mwy swynol i mi na dwndwr y seindyrf pres, a thawelwch unigedd y Berwyn yn fwy hudolus i mi na thrwst yr Eisteddfod Genedlaethol. Paham? Wel, am fy mod yn nesau at fy mro enedigol, ac yn cael anadlu awyr iach y bryniau.
Fel y nesawn at fy nghartref codais fy llygaid a gwelwn fy mam yn sefyll wrth lidiart y mynydd yn disgwyl am danaf; gwelodd hithau finau a chychwynodd i'm cyfarfod. Ond yr hen gi defaid oedd y cyntaf i'm croesawu: yr oedd ef wedi llamu dros y llidiart, ac yn dipyn ieuengach na'r hen fam, ac yn llawer mwy chwim ei droed. Rhoddodd mam ei breichiau am fy ngwddf a dywedai, "Benjamin anwyl, chysgais i yr un wincied er's pan es ti i ffwrdd; wyt ti yn siwr dy fod di wedi bod yn 'Seiat y Beirdd,' machgen i?"
Gyda hyn dyma fy nhad yn dyfod atom: yr oedd wedi clywed cyfarthiad croesawol y ci defaid.
"Ge'st ti wobr, Benjamin?" gofynai fy nhad.
"Ddo'st ti a chader, neu goron, neu dlws arian adre', ne rwbeth? Ddaru ti yfed llawer o gwrw Llangollen?"
Naddo, 'nhad, dim un dyferyn, a 'does gen i na chader na thlws, na choron chwaith.
"Hidia ddim, 'machgen anwyl i," gwaeddai fy mam; "hidia ddim yn eu cadeiriau, eu tlysau aur, na'u coron; wyt ti ddim wedi yfed cwrw, ac yr wyt ti wedi bod yn 'Seiat y Beirdd.' Bendigedig, a diolch byth, yr wyt ti wedi dwad adre' a dy goron ar dy ben. Tyr'd i'r ty, Benja bach, mae'r uwd yn barod yn y crochan, a llon'd powlen o lefrith newydd ei odro ar y bwrdd yn disgwyl am danat."
SASIWN Y PLANT.
SEFYDLIAD pwysig yn ardal Penllyn, Sir Feirionydd oedd y Sasiwn Plant a gynhelid yn y Bala. Yr ydwyf bron yn sicr mai y gyntaf i mi gofio oedd yr hon a gynhaliwyd yn y flwyddyn 1848, ac y mae er yr adeg hono chwe' mlynedd a deugain. Ychydig ydyw nifer heddyw y rhai oeddynt yn eistedd ar lawr yr hen gapel yn gwrandaw ar, ac yn ateb holiadau yr hen Robert Owen, Nefyn. Yr oedd lluoedd o blant wedi dyfod i'r dref mewn gwageni, fel y mae pobl Llandderfel, Parc, a Chefnddwysarn yn dyfod a'r plant yn awr. Yr oedd yn ddiwrnod hafaidd yn niwedd mis Mai, ac fel yr oedd y plant yn dyfod o Lanuwchllyn un ochr i'r llyn, a phlant y Glyn yn dyfod yr ochr arall trwy Langower, yr oedd eu lleisiau swynol wrth ganu yn ymgymysgu â pheroriaeth y corau asgellog yn nghoedwigoedd Glanllyn a Brynhynod. Un o hoff gerddi y plant yr adeg hono oedd,—
"Afonig fechan fywiog fâd
Pa le 'r äi di?
Af adref, adref at fy nhad
Môr, môr i mi."
Clywai plant y Glyn leisiau plant Moelgarnedd, a chlywai plant Uwchllyn leisiau plant Glyngower, oblegid mae Môr y Bala yn nodedig am ei allu i gario lleisiau ar ei wyneb llyfn. Ydw i ddim yn siwr iawn na fyddai yn bosibl i ddyn yn sefyll ar y Bryniau Goleu, glywed llais dyn arall yn gwaeddi oddiar ffriddoedd Fron Feuno. Rywbeth yn debyg i Ebal a Gerazim, gyda'r unig wahaniaeth na fyddai dim melldithion yn cael eu cyhoeddi mewn ardal ag sydd wedi cael cymaint o fanteision crefyddol ag ardal y Bala.
Ond dyma ni yn y Capel Mawr ganoedd ohonom. Yn yr allor mae Lewis Edwards, a Lewis Jones, a Jacob Jones un ochr. Yn yr ochr arall eistedd John Jones, Llanuwchllyn (tad Iorwerth Jones) gyda gorchudd gwyrdd ar un llygad; yn ei ymyl eistedd Ellis Dafis, Ty'n y coed, ac yr ydwyf bron yn sicr mai Dafydd Edwards, Tyisa', Llandderfel, oedd y nesaf ato, a Rolant Hugh Pritchard, arweinydd y canu, yn ei gornel ei hunan. Mewn cadair o dan y pwlpud, eisteddai gwron y cyfarfod, "Apostol y Plant." Eisteddai John Parry (Dr. Parry), fel arferol, yn ei sêt ei hunan, yr un sêt ac yr eisteddai Dr. Owen Richards, y meddyg enwog. Yr oedd Griffith Jones, David Evans, Evan Owen, a Richard Hughes, Tan'rhall, yn nghanol y plant yn cadw trefn. Rhoddwyd allan i ganu,—
"Dyma Geidwad i'r colledig,
Meddyg i'r gwywedig rai,"
a chanwyd hi gydag yni a hwyl. Yna safai merch ieuanc o Glyngower i fyny yn y sêt fawr,—'rwy bron meddwl mai un o ferched Bwlchyfowlet ydoedd,—yr oedd hi yn nodedig am ddysgu allan ac adrodd; dysgodd lyfrau cyfain o'r Beibl. Wedi hyny offrymodd Ellis Dafis weddi fer ac effeithiol yn gofyn am fendith ar y cyfarfod.
Wel, o'r diwedd dyma Robert Owen ar ei draed; safai am ryw ddau fynud neu dri heb ddyweyd gair; edrychai gyda gwyneb siriol ar y plant, troai i'r dde, ac yna i'r aswy, ac i bob cwr o'r capel. Trwy y cynllun hwn sicrhaodd sylw y plant, yr oedd pob llygad fel pe wedi ei hoelio arno; a'r distawrwydd o'r bron yn llethol. Ar ol canu {{center block| <poem> Mae Iesu Grist o'n hochor ni Fe gollodd ef ei waed yn lli',"
dechreuodd yr arch—holwr ar ei waith yn bwyllog, a gofynai,—
Am bwy yr ydym ni yn myn'd i son, mhlant i?
Am Iesu Grist.
Pwy oedd Iesu Grist, mhlant i? Ai rhyw General mawr oedd o, rhywbeth yn debyg i'r Duke o' Wellington?
Nage.
Rhyw fath o Christopher Columbus wedi darganfod Cyfandir mawr oedd o?
Nage.
Wel, seryddwr mawr oedd o ynte, fel Syr Isaac Newton?
Nage.
Wel, pwy oedd o ynte?
Duw a Dyn.
Aeth Mr. Owen yn mlaen fel hyn gyda'r bumed benod o'r Rhodd Mam.
Yn mha le y bu Iesu Grist farw?
Ar Galfaria.
Pa fodd y bu ef farw?
Trwy gael ei groeshoelio.
A gladdwyd ef?
Do, mewn bedd.
Be' ddudsoch chi, mhlant i? Ddudsoch chi fod Iesu Grist wedi ei gladdu?
Do.
Welsoch bobl yn cael eu claddu, mhlant i?
Do.
Wel, roeddech chi yn dweyd fod Iesu Grist wedi dwad i'r byd i gadw pechaduriaid ond oeddech chi? Oeddan.
Ac yr ydech chi yn dweyd ei fod o wedi cael ei gladdu?
Yden.
Ar hyn cymerai yr hen holwr ei gadach poced a rhoddai wrth ei lygaid gan ysgwyd ei ben heb ddyweyd gair. Bu distawrwydd mawr fel y bedd, y plant a'r bobl oll yn ocheneidio, ac un hen wreigan yn y gallery yn methu dal heb dori allan i wylo. Tynodd yr holwr y cadach poced oddiwrth ei lygaid, trodd at y plant unwaith yn rhagor, a dywedodd,— Ddudsoch chi yn do fod Iesu Grist wedi marw a'i roi yn y bedd?
Do.
Wel, wel, dyna hi yn ôl ofar arno ni! Mi af i adre.
Gafaelodd yn ei het, ac ymaith ag ef at y drws, ond gwaeddodd rhyw fachgen bychan o Lwyneinion dros y capel nes yr aeth rhyw thrill drwy'r gynulleidfa fawr, "Ond Efe a gyfododd." Trodd Robert Owen yn ol a gwaeddodd nerth ei ben,
Be ddudsoch chi, machgen anwyl i?
Mae o wedi codi o'r bedd, Robert Owen.
O, diolch byth; mae hyny wedi altro pob peth, meddai yr holwr.
O ie, diolch, meddai rhyw hen wr o Waen y Bala oedd yn eistedd wrth ben y cloc, a diolch meddai llawer un arall trwy'r capel i gyd. Yr oedd awel o Galfaria Fryn wedi dyfod i gapel mawr y Bala y prydnawn hwnw, a chafodd llawer hen dderwen gref ei hysgwyd at ei gwraidd. 'Doedd neb yn meddwl am holi dim yn mhellach. I beth yr oedd eisieu holi ychwaneg, onid oedd Iesu Grist wedi marw ac wedi adgyfodi o'r bedd? Nid yn y Bala yn unig y cafodd Robert Owen hwyl fawr wrth holi am Iesu Grist. Bu yn actio yr un ddrama yn Nghastell Rhuddlan, yn Mhwllheli, a lleoedd ereill. Dramatist o'r first water oedd Robert Owen y plant. Pe buasai y gŵr da wedi myn'd ar y stage, buasai wedi enwogi ei hunan yn ei line ei hun, yn gymaint a Henry Irving a J. L. Toole. Buasai wedi gwneyd ei farc wrth actio rhai o weithiau Charles Dickens. Y mae yn sicr mai yr agosaf at Robert Owen fel holwr plant oedd ei olynydd Evan Peters. Mae yntau hefyd, fel Robert Owen, wedi myn'd at yr Iesu, yr Hwn yr oedd mor hoff o son am dano, ac os bydd y fath beth a "holi plant yno, fydd yr un o'r ddau yn rhyw bell iawn, 'dres dim mor sicr a hyny. Hen Sasiynau plant bendigedig fyddai yn hen gapel mawr y Bala haner can' mlynedd yn ol.
PONC PANT Y CEUBREN,
NEU HELYNTION CHWARELWR.
Y MAE pob un o'm darllenwyr sydd yn tynu at eu haner cant oed yn cofio yn dda am y noson fawr y drylliwyd y llong ardderchog
Y ROYAL CHARTER
ar draethell Moelfre, Sir Fon. Digwyddodd y gyflafan ar y 29ain o Hydref, 1859, felly y mae dros bymtheg mlynedd ar hugain er hyny. Ond nid ydyw amser wedi llwyr gau yr holl friwiau a agorwyd y noson fythgofiadwy hono.. Y mae yr hanes yn ddigon cyfarwydd yn Nghymru ar lafar gwlad, fel na raid myn'd i'r manylion yn y fan yma; ac yn wir ni fuaswn yn son o gwbl am y llong anffortunus oni bai fod a fyno ei drylliad â hanes helyntion y chwarelwr ieuanc a fu yn gweithio ddyddiau ei ieuenctid yn Mhonc Pant y Čeubren, yn chwarel fawr Dinorwig.
Y BWTHYN GWYN.
Dyma enw y bwthyn bychan a safai lawer o flynyddoedd yn ol ar y ffordd o Gaernarfon i Landdeiniolen. Y mae wedi ei dynu i lawr er's llawer dydd i wneyd lle i dy gwell; ac yno y cartrefa rhai o'r teulu hyd y dydd heddyw. Nid oedd teulu yn yr ardal yn fwy dedwydd na theulu William Tomos o'r Bwthyn Gwyn. Yr oedd Betsan Tomos yn un o'r gwragedd goreu yn Llanddeiniolen—yn ddynes dawel, gynil, a fforddiol. Nid oedd iddynt ond un plentyn, sef Benja; ac ni cheid hogyn pertiach yn y fro. Nid oedd yr un hogyn yn nghapel ———— i'w gydmaru â Benja bach y Bwthyn Gwyn am ddeyd ei adnod; a llawer gwaith y dywedodd yr hen Robert Ellis, pan ddeuai yno i gadw seiat, "Da, machgen i, da, machgen i; gna di fel mae'r adnod yna yn deyd, ddoi di trwy'r byd yma yn iawn."
Pan oedd Benja yn ddeuddeg oed cafodd fyn'd efo'i dad i'r chwarel; a buan iawn y daeth yn un o weithwyr goreu y bonc. Erbyn cyrhaedd deunaw oed yr oedd yn glamp o ddyn cryf ac esgyrniog, ac yn enill yr un cyflog a'i dad.
CORNEL Y LON.
Tua haner milldir o'r Bwthyn Gwyn yr oedd bwthyn arall o'r enw uchod, yn yr hwn y preswyliai Dafydd Morus, ei wraig Elin, a'u merch Susan. Hogan bach bert oedd Susan, lygad ddu,—
"Ei boch fel y rhosyn,
A'i gwallt fel y frân."
Yr oedd Benja a Susan wedi chwareu llawer gyda'u gilydd er yn blant ieuainc iawn, ac yn hoff o'u gilydd, a'r hoffder hwnw yn cynyddu fel yr oeddynt hwythau yn myn'd yn hynach. Ond nid Benja oedd yr unig un oedd a'i lygaid ar Susi Cornel y Lon. Yr oedd bachgen o glerc yn y chwarel o'r enw Morgan Jenkins—bachgen o Sir Benfro—tipyn o swell a masher, lled hoff o lymaid a myn'd i Gaernarfon bob Sadwrn i gerdded y tafarnau, ac i ddangos ei hun ar hyd yr heolydd. Ambell nos Sul elai i'r un capel a Benja a Susi, ac yr oedd fwy nag unwaith wedi rhoddi ei hunan yn ffordd yr hogan i gael sgwrs gyda hi.
Ni roddai Susan yr un mymryn o dderbyniad iddo; ond yn hollol i'r gwrthwyneb. Ond yr oedd Morgan yn meddwl y byddai yn sicr o lwyddo cyn hir. Yr oedd yn meddwl fod ei siwt frethyn ef yn sicr o wneyd mwy o argraph na siwt ffistian Benja; ond fel y ceir gwel'd fe fethodd yn fawr yn ei amcan. Ryw noson, fel yr oedd Susan yn dyfod adref o neges o Shop y Bont, pwy ddaeth i'w chyfarfod ond Morgan Jenkins. Gwnaeth ei goreu i'w osgoi, ond heb lwyddo. 'Wel, Miss Morus," meddai Morgan, "dyma fi wedi y'ch cael chi ar ben eich hunan am dro, ac y mae yn rhaid i mi gael cusan genoch chi," ac ymaflodd am dani ac a geisiodd gyrhaedd ei amcan. Gwaeddodd Susi nes yr oedd ei llais yn adsain trwy'r fro. Cyn iddo lwyddo i gael cusan daeth rhywun o'r tu ol iddo, a rhoddodd y fath glustan i'r gwalch nes yr oedd ar ei hyd ar lawr. Ar ol codi ac ysgwyd ei blu, gwelodd fachgen ieuanc hardd a thalgryf yn sefyll yn ymyl Susan, yn barod i roddi iddo glustan rhif yr ail os oedd eisieu. Ni raid dyweyd mai Benja oedd yr hwn oedd wedi gwneyd i'r Hwntw fesur ei hyd ar y ddaear. All right, Benja," meddai Mr. Jenkins, "cei dalu yn ddrud am hyn eto," ac aeth i ffwrdd yn debyg i gi wedi cael cweir. Er na chafodd Jenkins gusan gan Susi, nis gallaf sicrhau na chafodd Benja fwy nag un cyn cyrhaedd Cornel y Lon.
DIALEDD MORGAN JENKINS.
Yr oedd yn perthyn i'r Bwthyn Gwyn gae bychan lle y porai yr unig fuwch. Ambell dro byddai ysgyfarnog yn talu ymweliad â glaswellt blasus y bwthyn, ac yn amlach fyth byddai pheasants yn crwydro yno o dir boneddwr yn yr ardal. Yr oedd Benja wedi eu gweled lawer gwaith, ond gwyddai yn dda am y canlyniadau pe y byddai iddo gyffwrdd âg un ohonynt. Yr oedd ei dad wedi ei rybuddio lawer gwaith, a dyweyd wrtho os digwyddai rhywbeth i'r game ar eu tir hwy y byddai yn ddrwg iawn arnynt. Ond yr oedd Benja yn fachgen call, ac nid oedd ond eisieu dyweyd unwaith. Yr oedd y tad a'r mab yn hoff dros ben o arddio; ac nid oedd gardd yn yr holl ardaloedd yn debyg i ardd y Bwthyn Gwyn. Yr oedd gan Betsan Tomos darten riwbob o flaen neb o'i chymydogion, ac yr oedd son am winionod William Tomos yn mhell ac yn agos. Ond blinid hwy yn fawr gan adar tuag adeg yr hau, fel y blinir pob garddwr arall. Ar ol d'od adre' o'r chwarel bob nos blinid hwy yn fawr gan yr olygfa ar y dinystr oedd y gelynion asgellog wedi ei wneyd ar eu gwaith. O'r diwedd penderfynwyd cael rhwyd fawr i'w rhoddi dros y gwelyau hadau mân. Felly, Sadwrn setlo, dyma Benja i Gaernarfon i brynu rhwyd—i ryw siop yn Stryd y Llyn. Pan oedd wrthi yn bargeinio, pwy ddaeth i fewn ond Morgan Jenkins i brynu bacha' 'sgota. Ni fu ddim sgwrs rhwng y ddau, bid siwr. Ar ol i Benja fyn'd allan sylwodd Jenkins wrth y siopwr, "Bachgen drwg ydi hwna; 'does arno fo ddim eisio y rhwyd yna i ddim daioni; ond i botchio, mi wna lw." "Waeth gen i prun," meddai'r siopwr, "ydi hyny ddim i mi: gwerthu sydd arna i eisio." Ar ol gorphen ei neges cychwynodd Benja tua chartref, yn llwythog gan barseli. Yr oedd erbyn hyn yn llwyd—dywyll. 'Doedd dim son am drên Llanberis y pryd hyny; felly 'doedd dim ond y "cerbyd deudroed" i gyrhaedd adref. Fel yr oedd Morgan Jenkins yn myned adref yn lled fuan ar ol Benja, yntau hefyd ar ei ddeudroed, tarodd ei droed wrth rywbeth. Ar ol ei godi, gwelodd mai parsel papyr llwyd oedd: agorodd ef, a gwelodd mewn mynud mai rhwyd Benja Tomos oedd. Fel y daeth y diafol i galon Judas Iscariot, felly y daeth i galon Morgan Jenkins, "All right", Benja bach," meddai, "mi gei di dalu am roddi y glustan hono i mi." Y nos Lun ganlynol, pan yr oedd teulu y bwthyn yn y cyfarfod gweddi, cychwynodd Jenkins tua'r fan. Yr oedd ganddo barsel o dan ei fraich; ac aeth yn syth i gae ei elyn, a gosododd rywbeth ar lawr, ac a aeth adref, heb neb ei weled—yr oedd yn noson mor dywyll. Tua naw o'r gloch aeth i dy tafarn cyfagos, lle y gwyddai y byddai plisman yr ardal yn myn'd bob nos tua'r adeg hono i ofalu am gadwraeth cyfraith y tir a heddwch y fro, ac i gael glasiad bach yr un amser. Nid oedd plismyn yn ditotals yr amser hono fel y maent yn awr. Llawer tropyn bach oedd Jenkins wedi ei gael gyda Philip y plisman. Yr oeddynt yn gryn ffrindia; yr oedd un yn dyfod o Sir Benfro a'r llall o Sir Aberteifi. Ar ol cael dau lasiad bob un yn y "Rwbel Arms," aeth y ddau gyfaill tuag adref; ac ar y ffordd dyma Jenkins yn deyd "Yma chi, offisar (bydd plisman bob amser yn hoffi cael ei alw yn offisar), wn i am job reit dda i chi, sydd yn sicr o arwain i bromotion." "Thanciw mawr, Mr. Jenkins; fydda yn dda iawn gen i gael myn'd o'r fangre yma: mae nhw gymaint o grefyddwrs a thitotlars: 'does dim chance am job; ac os na chewch chi job, chewch chi ddim promotion. Dowch i mi glywed, syr yr ydw i yn glust i gyd." "Wel, Mr. Philip, yr ydach chi yn nabod Benja y Bwthyn Gwyn, ond ydach chi? Wel, roeddwn i mewn shop yn Stryd y Llyn, yn y dre, nos Sadwrn, a phwy oedd yno ond y fo; a be ydach chi'n feddwl oedd o yn brynu?" 'Fedra i ddim dychmygu, Mr. Jenkins." "Wel, rhwyd fel fydd genyn nhw yn dal adar. Ac yr ydach chi yn gwybod, offisar, y bydd pheasants yn myn'd yn aml iawn i gae y Bwthyn Gwyn." "Thanciw, Mr. Jenkins bach; mi fydda i ar watch y gwalch drwg; chaiff ddim noson basio; mae yn dda gen i, syr, gael cymdeithasu â boneddwr o'r De, yn lle efo hen snêcs y North yma. Byddaf yn nghae y Bwthyn Gwyn ‘cyn codi cŵn Caer,' a'r cipar efo fi.”
O FLAEN Y 'STUSIAID.
Yn foreu dranoeth, a hi eto yn dywyll, yr oedd offisar Philip a'r cipar yn nghae y Bwthyn Gwyn, a'r peth cyntaf a welsant oedd rhwyd ac ynddi pheasant. Yr oedd hyn yn fêl ar fysedd y plisman a'r cipar. Pan aeth y ddau at y ty, yr oedd ddau at y ty, yr oedd y tad a'r mab wedi cychwyn i'r chwarel, a Betsan Tomos wrthi yn corddi. Pan ddywedodd y neges wrthi bu agos iddi syrthio i lewyg; ac ofer oedd dyweyd mai celwydd oedd. Pan ddaeth Benja yn ol o'r chwarel gyda'r nos yr oedd y plisman yno yn ei ddisgwyl. Yr oedd o wedi bod yn y dre, a chael summons iddo dd'od o flaen yr ustusiaid ddydd Sadwrn. Yr oedd y llys yn llawn o gyfeillion Benja, ac nid oedd neb yn coelio ei fod yn euog. Yr oedd Morgan Jenkins hefyd yno yn profi ei fod wedi gweled Benja yn prynu y rhwyd oedd gerbron y llys, a'r siopwr yno yn erbyn ei ewyllys i brofi ei fod wedi gwerthu rhwyd i'r carcharor; a hefyd yr offisar a'r cipar yno i brofi eu bod wedi cael y rhwyd a pheasant ynddi yn nghae y Bwthyn Gwyn. Wrth gwrs, ni fuasai y Twrna Cyffredinol ddim yn gallu gwrthbrofi tystiolaeth mor eglur; a chafodd Benja, druan, ei ffeinio i dair punt a'r costau-y cwbl yn bum' punt a saith a chwech.
MYN'D I AWSTRALIA.
Wrth gwrs, nis gallai Benja godi ei ben ar ol hyn. Er fod y rhai oedd yn ei adnabod oreu yn credu ei fod yn ddieuog, eto yr oedd pob peth yn glir yn ei erbyn. Trowyd ef o'r chwarel a throwyd ef hefyd o'r seiat. Rhyw noson oleu, toc wedi'r Pasg, gwelid dau yn rhodio yn araf i fyny y ffordd yn ymyl lle y saif yn awr orsaf Pontrhythallt. Safasant fynud o dan yr hen dwmpath drain. Susi bach," meddai'r bachgen, "ydach chi yn credu mod i yn ddieuog? Atebodd hithau trwy godi ei gwyneb ato, a rhoddi cusan ar ei foch. Wel, fy nghariad bach, gan eich bod chi a nhad a mam yn coelio hyny yr ydw i yn ddigon hapus. Ffarwel, Susi anwyl; byddwch yn driw i mi pan fydda i yr ochr arall i'r byd." Yr oedd Benja wedi penderfynu myn'd i wlad yr aur i Awstralia. Noson hir-gofiadwy oedd y noson cyn i Benja gychwyn. Yr oedd teulu Congl y Lon wedi dyfod yno i gael swper. Ar ol bwyta cafwyd dyledswydd. Yr oedd tad Benja yn gweddio yn daer am i Ragluniaeth daenu ei haden dros ei anwyl fachgen. Erfyniai tad Susan am i ddieuogrwydd Benja gael ei amlygu rhyw ddydd. Aeth Benja i ddanfon Susi adre'; a gweddus yw tynu y llen ar gysegredigrwydd y ffarwelio. Hebryngwyd Benja gan ei dad a chyfaill caredig i Bont y Borth, lle y cafodd long i Lerpwl, ac oddiyno hwyliodd i Awstralia. Tra gwahanol oedd myned o Lerpwl i Awstralia y dyddiau hyny. Cafodd ein harwr fordaith hir a blin, a bu yn agos i bedwar mis cyn cyrhaedd Melbourne. Ymunodd Benja â gang oeddynt a'u gwynebau i'r un cyfeiriad ag yntau, sef y mwngloddiau aur. Nid ydym am ei ddilyn yno. Digon yw dyweyd ei fod, ar ol llawer siomedigaeth a llafur caled, yn mhen y saith mlynedd, wedi enill digon o arian i droi yn ol i'r hen wlad.
YR HEN DEULU GARTREF.
Yr oedd yn agos i ddwy flynedd cyn i William a Betsan Tomos glywed un gair oddiwrth Benja. Yr oedd y llythyr cyntaf a ysgrifenodd adref wedi colli ar y ffordd. Pan ddaeth llythyr oddiwrtho o'r diwedd, yr oedd nodyn bychan ynddo i Susan, yn adgoffa iddi gytundeb Pontrhythallt. Cadwcdd yr hogan y nodyn yn ei mynwes am flynyddoedd. Aeth i weini at deulu parchus yn y dref, a bu yno am flynyddau. Y mae ei hen feistres yn fyw eto, ac y mae ganddi air da i Susan byth. Daeth profedigaeth chwerw i gyfarfod teulu Cornel y Lon ryw flwyddyn wedi i Benja fyn'd i Awstralia. Syrthiodd darn o graig ar Dafydd Morus, a lladdwyd ef yn y fan; a gwelwyd gorymdaith bruddaidd yn myned tua chyfeiriad Cornel y Lon. Pa sawl gwaith y bu ein llygaid yn llanw â dagrau wrth edrych ar gyffelyb orymdaith yn Talysarn a Bethesda a manau ereill? Yr oedd cyfaill wedi myned i dori y newydd i Elin Morus, a gwraig i un o'r blaenoriaid wedi myned i Gaernarfon i 'nol Susan, druan. Ni fu y fath gynhebrwng er's llawer blwyddyn a phan y claddwyd Dafydd Morus. Yr oedd Elin wedi bod yn gynil iawn, ac wedi cadw tipyn o arian yn yr Hen Fanc; a chyda llogau y rhai hyny, gyda thipyn o help gan Susan, yr oedd ganddi ddigon i fyw fel yr oedd arni hi eisieu. Drwg iawn gyda'r crydcymalau oedd Betsan Tomos o hyd; ac o'r diwedd penderfynodd ofyn i'w hen gyfeilles Elin Morus ymadael o Gornel y Lon a myned i'r Bwthyn Gwyn i fyw, ac felly y bu; a buont yn hapus iawn. Tyfodd Susan i fyny yn ferch ieuanc brydweddol a rhinweddol. Elai yn gyson i hen gapel Moriah, ac nid oedd neb yno yn fwy ei pharch na hi yn perthyn i'r eglwys. Yr oedd amryw o'r bechgyn oedd yn y sêt ganu a'u llygaid arni. Yr oedd hithau yn perthyn i'r côr, ac yr oedd ganddi lais fel yr eos. Cafodd gynyg cariad fwy nag unwaith; ond yr oedd nodyn bychan Benja yn mynwes Susan o hyd. Galwodd Morgan Jenkins gyda hi un tro, ac yr oedd un tro yn llawn ddigon yn ol y derbyniad a gafodd.
AR OL SAITH MLYNEDD.
Erbyn hyn yr oedd Benja yn meddwl ei fod wedi hel digon o bentwr i droi tuag adref i briodi Susan ac i wneyd yr hen deulu yn gysurus am eu hoes, Ac ysgrifenodd adref i ddyweyd y byddai yn cychwyn yn ol yn mhen y chwe' mis. Ysgrifenodd drachefn i ddyweyd y byddai yn cychwyn o Melbourne ar ddiwnod penodedig gyda'r llong Royal Charter. Aeth i Melbourne, cymerodd bassage gyda'r llong hono. Yn wirionffol rhoddodd ei holl arian mewn cist fechan, a'i ddillad mewn un arall. Rhoddodd yr address a ganlyn ar y ddau focs:—
Benjamin Thomas,
(Passenger by the Royal Charter),
Bwthyn Gwyn,
Llanddeiniolen,
Carnarvonshire,
N. Wales.
Aeth a'r bocsus ar fwrdd y llong y noson yr oedd yn myned i hwylio yn brydlawn. Cychwynodd y Royal Charter tua haner nos, ac ni chlywyd gair am dani hyd onid aeth yn ddrylliau ar draeth Moelfre.
MYN'D I GYFARFOD BENJA.
Boreu prysur oedd hi yn y Bwthyn Gwyn pan yr oedd William Tomas a Susan yn cychwyn i Lerpwl i gyfarfod Benja. Yr oedd yn rhaid cerdded i Fangor i gyfarfod y trên chwech yn y boreu; ac felly yr oedd yn rhaid cael tamaid yn foreu iawn, a hwylio tamaid i fwyta ar y ffordd. Y peth cyntaf a glywodd William Tomos a Susan wedi cyrhaedd station Bangor oedd fod y Royal Charter wedi myn'd i lawr, a phawb wedi boddi. Nid oes ysgrifell a all ddarlunio teimladau yr hen ŵr a'r ferch ieuanc drallodus. Nid oedd wiw myn'd i Lerpwl; ac O! y troi yn ol heb Benja. Tynwyd y blinds i lawr yn y Bwthyn Gwyn pan gyrhaeddwyd adref. Gwnaf finau yr un modd, a gadawaf y teulu trallodedig yn yr unigedd sydd yn gweddu oreu o dan y fath amgylch— iadau. Mewn rhyw wythnos wed'yn daeth un o focsus Benja i'r lan, a gyrwyd ef yn ddiogel i'r Bwthyn; ond nid y bocs yr oedd yr arian ynddo, mwya'r piti. Galarwyd am Benja fel am un colledig, a rhoddwyd beddfaen fechan o goffadwriaeth iddo. Yr oedd Morgan Jenkins wedi gadael y chwarel a myn'd i'r South er's blynyddau; a phan glywodd am drallodion y Bwthyn Gwyn, a bod Benja wedi colli yn y Royal Charter, ysgrifenodd at yr hen deulu lythyr edifeiriol, a chyfaddefodd mai efe oedd wedi gosod y rhwyd yn y cae, a bod Benja yn ddieuog; a dyna yr olaf a glywsom am y gwalch drwg.
LLYTHYR O MELBOURNE.
Anwyl Dad a Mam,—
Mae yn debyg eich bod chwi eich dau a Susan yn meddwl fy mod i yn ngwaelod y môr; ond ydw i ddim fel y gwelwch, diolch i'r Arglwydd mawr. Fel y gwyddoch, yr oeddwn i wedi cymeryd fy mhas i ddwad adre' gyda'r Royal Charter, ac yr oeddwn i wedi myn'd a'm dau focs ar y bwrdd yn ddigon buan. Wel, rhyw awr cyn cychwyn cofiais fy mod wedi gadael rhyw becyn bychan ar y bwrdd yn y gwesty, ac aethum i'w nol. Fel yr oeddwn yn croesi y stryd daeth cerbyd yn frysiog, a rhedodd drostof, a bu agos iawn i mi gael fy lladd. Yr oedd fy mhen wedi ei anafu gymaint fel yr oeddwn yn berffaith ddideimlad. Aed a fi i'r hospital a bu'm yn gorwedd yno am bedwar mis heb agor fy llygaid. Ar ol dyfod ataf fy hun daeth pob peth i'm cof, Clywais am suddiad y Royal Charter; ac wrth gwrs yr oeddwn yn gwybod fod fy holl eiddo i yn ngwaelod y môr. Effeithiodd hyn yn fawr arnaf, a bu agos i mi golli y dydd. Buasech chwi wedi cael llythyr cyn hwn, ond nid oedd neb yn gwybod pa le i ysgrifenu. Cewch lythyr eto cyn hir. Cofion serchog atoch oll. Rhowch y nodyn bach sydd oddifewn i Susan
AIL DDECHREU BYW.
Mendiodd Benja yn rhagorol. Nis gwyddai beth i'w wneyd. Nid oedd am fyned adref yn dlawd, ac nid oedd chwaith am fyn'd yn ol i'r cloddfeydd aur—yr oedd yn fywyd rhy anuwiol ganddo. Tra yn yr hospital, deuai i edrych am dano weinidog perthynol i un o gapelau Melbourne, yr hwn, wedi clywed hanes Benja, a gymerodd ato yn fawr. Rhyw foreu, pan yr oedd Benja ar ymadael o'r clafdy, daeth ei gyfaill ato â llythyr yn ei law, a dywedai," Cefais lythyr heddyw oddiwrth foneddwr yn Tasmania. Amaethwr cyfoethog ydyw, heb na châr na pherthynas yn y byd. Y mae ganddo tua haner can' mil o ddefaid, ac y mae arno eisieu i mi recomendio bachgen da a gonest fel overseer iddo: leiciech chi fyn'd? Rhaid cychwyn yn ddioed." Neidiodd Benja at y cynygiad, ac ymaith ag ef. Buasai yn dda genyf ddilyn ein harwr i sheep walks Mr. Smith yn Tasmania. Dyno Yorkshire oedd ei feistr, ac wedi bod allan er's dros ugain mlynedd. Aeth Mr. Smith yn hoff iawn o Benja, a phenderfynodd ei fabwysiadu fel ei fab ei hun, a gadael ei holl gyfoeth iddo. Cymerodd anwyd trwm rhyw noson, ac mewn ychydig o ddyddiau yr oedd Benja yn unig, ond yn berchen eiddo mawr. Meddyliodd unwaith am yru am ei dad a'i fam a Susan a'i mam i ddyfod drosodd ato; ond "hen Gymru fynyddig i mi" oedd hi gyda Benja. Gwerthodd yr holl eiddo mor fuan ag yr oedd modd, a rhoddodd yr arian yn saff yn y banc i'w trosglwyddo i Lundain. Penderfynodd droi tuag adref; ond yr oedd y tro hwn am fyned heb ysgrifenu, rhag digwydd ail siomedigaeth. Aeth i Melbourne, cymerodd bassage, a glaniodd yn Lerpwl ar ddydd Gwener y Groglith. Cafodd gan gyfaill i ysgrifenu i'r Bwthyn Gwyn i ddyweyd fod cyfaill i'r mab newydd ddyfod o Awstralia, a bod ganddo barsel iddynt, ac y byddai yn galw gyda hwy tua wyth o'r gloch nos Sadwrn. Gofynai hefyd am iddynt ofyn i Miss Susan Morris ddyfod yno i'w gyfarfod; ei fod wedi clywed Benja yn sôn llawer am dani, a bod ganddo genadwri neillduol iddi hi.
YN Y BWTHYN GWYN ETO.
Cafodd Susan ganiatad rhwydd iawn i fyn'd adref i dreulio y Pasg, a chafodd groesaw gan ei mam a rhieni Benja. Toc ar ol i'r hen gloc gwyneb pres daro wyth, dyma gerbyd yn aros wrth lidiart yr ardd, a'r gyrwr yn neidio i lawr, ac yn gwaeddi, "Hwn ydi ty William Tomos?" Yr oedd yr hen wr a Susan wrth y drws yn y fan. Daeth gŵr dieithr i lawr o'r cerbyd-dyn talgryf, esgyrniog, gyda barf fawr, a hono wedi britho gryn dipyn. Ar ol ysgwyd llaw gyda'r ddau aeth yn mlaen at y tân, lle yr oedd Betsan Tomos yn eistedd yn methu symud, a mam Susan yn sefyll yn ymyl ei chadair. "Sut yr ydach chi heddyw, Mrs. Thomas?" meddai'r gwr diarth. Edrychodd yr hen wraig yn myw ei lygad, neidiodd i fyny, anghofiodd ei chrydcymalau, a gwaeddodd, Benja bach, y ti wyt ti: fedar neb dwyllo mam. 'Roedd breichiau cryfion y mab oddiamgylch ei hen fam mewn eiliad, ac yn ei rhoddi i eistedd yn esmwyth yn y gadair. Yr oedd William Tomos wedi myn'd i gau y llidiart ar ol y cerbyd. Ond yn lle yr oedd Susan? Wel, yr oedd wedi syrthio yn un swp i'r gadair, a'i mham yn sychu y chwys oer oddiar ei gwyneb; ond Benja oedd y doctor goreu, a buan iawn yr oedd Susi yn gorphwys ei phen ar ei fynwes. Pan ddaeth yr hen ŵr i'r ty golygfa ryfedd a gyfarfyddodd ei lygaid, ac nis gwyddai pa un ai llesmeirio ai dawnsio oedd y goreu iddo. Ond y peth a wnaeth oedd disgyn ar ei ddeulin wrth yr hen gadair freichiau a diolch i Dad y trugareddau am ei fawr ddaioni i deulu y Bwthyn Gwyn.
DIWEDDGLO.
Y mae pum' mlynedd wedi gwneyd llawer o wahaniaeth yn y Bwthyn Gwyn. Mae'r hen dy wedi myn'd i
wneyd lle i dy gwell. Mae yn ddydd Llun y Pasg cynes,
heulog. Y mae Benja a'i dad wrth eu hoff orchwyl yn
twtio tipyn ar yr ardd. Mae nain Tomos yn eistedd yn
hapus o dan y goeden eirin yn gwau socs coch, a nain
Morus yn eistedd ar gadair arall yn pendympian yn yr
haul. Y mae bachgen bochgoch, pedair mlwydd, yn
chwareu gyda'r ci ar lwybr yr ardd, ac un arall dwy
flwydd yn ymlid y gath wen. Mae Mrs. Benja Tomos
yn sefyll uwchben y lle mae ei gŵr yn gweithio, ac yn
gofyn a gaiff hi ei helpu. "Yr help goreu fedrwch chi
roi, Susi, ydi edrych ar ol y gweilch bach yma, ne mi
fydda nhw a'r cwn a'r cathod wedi gwneyd mwy o ddifrod i'r gwlau winwyn na fydda yr adar yn neyd er's
talm yn amser y rhwyd." O, Benja bach, peidiwch a
sôn am yr amser hono." Gyda hyn dyma waedd o'r ty.
"Dos, Susi bach, dyna number three yn galw am danat;
a hwylia gwpanad o dê go gynar, i ni fyn'd i ro'i tipyn o
dro tua Phontrhythallt i edrych a oes blodau gwynion
ar yr hen ddraenen. Wyt ti'n cofio, Susi?
HEN GOLEG Y BALA.
Y COSYN A'R GINGER WINE.
DIGWYDDODD llawer tro lled ddigrif yn y blynyddoedd 1848—50. Dyma un stori fach glywais gan un o fyfyrwyr 1848, un o bregethwyr mwyaf Cymru sydd yn awr yn nghanol y nefoedd. "Yr oedd dau ohonom," meddai, " yn lletya efo hen weddw dduwiol arferai gadw tipyn o westy, lle y troai llawer ar ddiwrnodau marchnad a ffeiriau i gael tamaid. Pan y byddai priodas o'r wlad byddai y gwahoddedigion yn aml yn troi i dy yr hen weddw i gael tipyn o biscuits a ginger wine (dirwestol, wrth gwrs). Rhyw ddiwrnod derbyniodd un ohonom gosyn cartref bychan yn bresent, a mawr oedd ein llawenydd, oblegid nid rhyw lawer o gaws nac enllyn sut yn y byd syrthiai i ran myfyrwyr 48 (gobeithiaf fod mwy y dyddiau hyn). Wel, mewn rhyw ddiwrnod neu ddau gwelsom fod rhyw 'lygoden' fach ddeudroed wedi bod yn helpu ei hunan a'r cosyn. Parodd hyn gryn ofid i ni, oblegid ni wyddem ar wyneb y ddaear o ba le y deuai y cosyn nesaf. Rhoddasom ein penau wrth eu gilydd i solfio y problem—yr oedd Euclid yn un o destynau ein hefrydiaeth y pryd hyny. Daeth drychfeddwl godidog i fy mhenglog, sef gwneyd marc round y cosyn gyda phensil led, haner modfedd o'r pen oedd wedi ei dori. Wel, meddwn wrth fy nghydfyfyriwr, os bydd marc y pensil wedi myn'd erbyn yfory, yna fe gymerwn ninau lasied bob un o'r ginger wine sydd yn y cwpbwrdd yna, dyna be ydi 'a Roland for an Oliver,' wyddost ti, John. Pan ddaethpwyd a'r cosyn i fewn i'n swper, yr oedd rhyw bechadur wedi croesi y line, nid yr equator, ond line y cosyn, ac felly yr oedd yn rhaid cael iawn. Pan aeth yr hen weddw dduwiol i'w. gwely, aethum inau i'r cwpwr cornel, ac aeth John i'r gegin i 'mofyn tipyn o ddwfr poeth, a gwnaethom i ni ein hunain dipyn o bwnch diniwed, oblegid oer iawn oedd hi y noson hono. Felly y parhaodd y ddrama—cosyn versus pwnch ginger wine, nes bu i'r ddau ddarfod. Ond rhyw amser ciniaw, pan ddaeth John a minau o'r Coleg, bu tipyn o farce. Yr oedd yn ystod y boreu briodas wedi cymeryd lle, ac yr oedd y priodfab a'r briodasferch wedi troi i dy yr hen weddw, sef ein llety ni, i gael tropyn o'r ginger wine, i gael bracio y nerves newn amgylchiad mor bwysig. Aeth y westywraig i'r cwpwr cornel; yr oedd y botel yno yn ddigon diogel, ond yr oedd y gwin yn non est. Pan yr oedd John a minau yn dechreu ar ein boiled mutton oeddym wedi brynu gan Edward Jones o'r Wenallt, daeth y weddw i fewn i'r ystafell, a'r botel wâg yn ei llaw, ac meddai,— Pwy ohonoch chwi fu yn yfed fy ginger wine i, tybed? Edrychais mor ddiniwed a'r oen bach, a gofynais,— 'Pwy yn y gegin fu yn bwyta ein cosyn ni?' Exit y weddw dduwiol, a'r botel wâg gyda hi, ac ni chlywsom air byth am y pwnch, ac ni ddarfu i ninau o wir barch at yr hen Gristionoges edliw gair byth am y cosyn." Dyna y stori i chwi mor agos ag y medraf ei chofio fel y clywais hi gan fy hen gyfaill anwyl ag y buom yn eistedd ar ei lin lawer tro yn 1848, ac mewn blynyddoedd wedi hyny yn gwrandaw arno lawer tro yn rhai o brif Sasiynau Cymru.
SIOMEDIGAETH.
Dyma ystori a glywais gan foneddwr oedd yn Ngholeg y Bala yn 1848: y mae yn fyw ac yn iach heddyw, ac yn llywyddu ar Goleg lle y troir allan 30 o ysgolfeistriaid bob blwyddyn. Wrth edrych arno y dydd o'r blaen, meddyliwn mai ychydig o ddynion sydd i'w cael wedi gwneyd cymaint o waith, a hwnw yn waith mor bwysig yn ystod y ddwy flynedd ar bymtheg ar hugain diweddaf, ac yn cadw ei oedran mor dda. Hir oes iddo eto, meddaf, i barotoi dysgawdwyr i "Gymru Fydd."
Cafodd dau o'r myfyrwyr wahoddiad gan Miss Owen i fyn'd i Ivy House i gael tipyn o swper. Trêt o'r mwyaf oedd hwn i'r bechgyn, oblegid yr oedd llawer ohonynt nad oedd eu byrddau yn orlwythog gan ddanteithion. Struggle fawr fu hi ar lawer bachgen yn y Bala, tua deugain mlynedd yn ol, i gael y ddau ben Ilinyn yn nghyd. Ni ddywedaf fod yr un ohonynt erioed wedi dioddef eisieu bwyd, ond bu yn fain iawn ar lawer un ohonynt, ond daeth llawer ohonynt yn mlaen trwy'r cwbl, a buont yn anrhydedd i Gymru. Yr oedd y pryd hyny, foneddigesau tyner—galon yn y Bala, fel y mae yn awr, ac os clywid am un o'r bechgyn yn gorfod gwasgu arno ei hunan, buan iawn y deuai a bara a chig y boreu a bara a chig y prydnawn, fel y daeth yr aderyn hwnw a'r un luxuries i'r hen brophwyd Elias ar lan afon Cerith. Un o'r boneddigesau tirion hyny oedd Miss Owen, Ivy House. Gwahoddai y students yn eu tro, fesul dau neu dri, a red letter day fyddai hwnw yn Nyddlyfr y bechgyn. Wel, daeth tro fy hysbysydd i fyn'd yn nghwmni un o arwyr y cosyn a'r ginger wine" i Ivy House ryw noson. Bu gryn barotoi, rho'i coler lân, tipyn o olew ar y gwallt, ac felly yn y blaen. Yr oedd un o'r bechgyn yn lletya ar gyfer yr Hen Goleg, a'r llall gyda'r hen wreigan y buom yn son am dani. Edrychai y myfyrwyr ereill oeddynt yn lletya yn yr un man yn hynod o ddigalon, wrth weled y ddau fachgen lwcus yn cychwyn i'r wledd.
Cyrhaeddwyd Ivy House, a dyma y forwyn at y drws ac ebai un ohonynt,—"Ydi Miss Owen i fewn os gwelwch yn dda ?" Nag ydi yn wir, syr," meddai Dorcas. "Ydech chi yn ei disgwyl hi i fewn yn fuan," ebra y mwyaf o'r ddau. Mae arnaf ofn na ddaw hi ddim yn fuan, syr," atebai Dorcas, mae hi wedi myn'di dy Mrs.———— i swper." "O yn wir," meddai y myfyriwr oedd yn cymeryd y flaenoriaeth yn yr ymddiddan, "Dudwch wrth Miss Owen ein bod ni wedi galw, nos da Dorcas, nos dawch."
"Wel, be nawn i rwan John bach, ydi fiw i ni fyned i dy lodgin di na fy lodgin ina, ne fydd dim byw i ni, mi blagith y bechgyn acw ein eneidiau allan o'n cyrph ni."
Sefyll wnaeth y ddau am enyd yn ymyl y tyrpec ucha i fwrw y draul, ac i gymeryd y bearings fel y dywed y llongwyr.
"Well gen i fyned i fy ngwely heb damaid o swper na myn'd i'r ty yn ol," meddai yr ieuengaf. "Be ddyliet ti John bach, da ni yn cael wicsen bob un, a haner pwys o ben mochyn o siop yr hen frawd John Roberts, Pendre." "Wel, ie yn wir" meddai'r lleiaf, drychfeddwl teilwng o Plato."
Felly fu, aethpwyd i siop John Roberts, a chafwyd yr ymborth a enwyd. Lapiwyd y wics a'r brawn pen mochyn mewn papyr glân, ac awd, nid at afon Cerith, ond at y Llyn Tegid. Eisteddodd y ddau fyfyriwr ar lan y llyn, ac ni fwynhaodd yr hen brophwyd wledd yn fwy wrth yr afon Cerith nag y darfu "meibion y prophwydi" y noson hono ar lan môr y Bala.
Têg ydyw dyweyd, mai anghofio y gwahoddiad a wnaeth Miss Owen, ac iddi wneyd y peth i fyny y noson ganlynol. Ond buasai yn llawer gwell gan y bechgyn pe buasai y foneddiges dirion wedi anghofio y peth o gwbl, oblegid pan aeth i login y ddau y dydd canlynol, ac i wneyd apology, ac i'w hail wahodd, daeth y gath allan o'r cwd, a mynych y gofynwyd iddynt yn ystod y tymor hwnw yn dra choeglyd, "Bryd ydech chi yn myned i Ivy House eto?" Y mae un o'r ddau fachgenyn fyw fel y dywedais, ac os oes rhyw- un o'm darllenwyr yn amheu yr ystori, ond iddynt ddyfod yma ataf fi, rhoddaf iddynt fy awdurdodau.
YMWELIAD NED FFOWC A LLUNDAIN.
MAE Dei, fy mrawd, yn Llundan er's dros ugian mlynedd, yn gweithio gwaith saer. Hen lanc ydi o, yn byw mewn login, ac nid arna i fydd y bai os nad hen lanc fydd o tra bydd o byw. Mae Dei wedi safio gryn dipyn o begs, ac y mae o wedi siwṛio ei fywyd am dri chant, a does ganddo fo neb i'w gadael nhw ond i mi a'r plant,—hyny ydi, os o eiff gynta, ac os hefyd y peidith rhyw hen lefret a myn'd dros i ben o, ac wed'yn dyna hi yn ol ofar arno ni. Yr ydw i wedi deud digon wrtho fo, ac mi ddylwn i wybod yn well na fo. Rhyw fora, dyma lythyr oddiwrth Dei, eisio i mi fyn'di edrach am dano fo, ac i gael gweld priodas y Diwc o Yorc. Pan ddarllenes i y llythyr i Sara, mi drodd reit wyn yn ei gwyneb, ac mi ddylies i base hi yn cael ffit; ond mi ddoth ati hun. 'Daswn i yn myn'd i Steddfod Gigago fasa raid iddi ddim gneyd fath ffys. Ond druan o Sara, fedar hi ddim byw hebdda i—fum i ddim un noson oddi cartra er's pan briodasom,—ac y mae yn gyru ar ugian mlynedd er hyny. Wrth gwrs doedd gan Sara ddim i ddeyd yn erbyn i mi fyn'd.
"Dim iws digio Dei," medde hi. Gwell i chi fyn'd; a dyna fo wedi gyru dwy bunt i dalu'ch trên chi."
Dechreuodd Sara druan hwylio ati yn y fan i barotoi. Yr oedd eisio golchi fy nghrys main, a startsio a smwddio chêts a choleri. Ac medda hi,
"Gwell i chi bicio i'r shiop, Ned, i brynu tipyn o bethe. Rhaid i chi gael tri phâr o gybs newydd, a thei glâs gwan, a thipyn o getshi poced a border genyn nhw. Rhoswch, mi reda i i'r llofft i nol ych het silc chi, fuo hi ddim am ych pen chi er amser Sasiwn Pwllheli." Tra yr oedd Sara yn y llofft, edrychais ina dros lythyr Dei, i mi gael bod yn siwr bryd oedd eisio i mi fyn'd; ond dyma Sara i lawr dan waeddi—
"Ned, Ned anwyl! Yr oeddwn i wedi rho'i ych het chi mewn bambocs o dan y gwely; a dai byth o'r fan yma, mi fedrodd yr hen gath i agor o! ac olwch, mae yma dair o gathod bach yn ych het chi."
Dyma y gath i'r gegin dan fewian, wedi smelio ei chathod, a dyma Sara yn troi ati yn ffyrnig—
Ysgiat, yr hen sopan, yma ti be wyt ti wedi neyd!" Ar ol tynu yr het allan a spio arni, dywedodd Sara,
"Neith hon mo'r tri i chi, Ned; mae hi mor goched a chrib ceiliog; ac mae yn amser iddi gochi ran hyny, mae hi gynoch chi er's pan ddaru ni briodi. Ydach chi yn cofio y sport guson ni efo'r het. Mi gorodd y siopwr rhyw ddwsin o focsus, ac yr oedd arno fo ofn y buasai raid iddo yru eich pen chi i Lundan i gael ei ffitio. Mae gynoch chi rhyw ben mor rhyfedd—mae'ch menydd chi i gyd un ochr. Ond ydech chi yn cofio mi gath y siopwr hyd i het o'r diwedd i'ch ffitio—het oedd hi gafodd ei hordro i ryw bregethwr Methodus, ond yr oedd rhywun wedi ei berswadio y basai jim cro yn ei siwtio yn well. Digon tebyg. Ond mi gawsoch chi fargen ar yr het. Os cewch chi dipyn o bres gan Dei ych brawd, rhaid i mi gael bonat newydd swel at Sasiwn Cnarfon, a thair o blu duon arno, a ruban feflat llydan."
'Does dim stop ar dafod Sara pan fydd hi yn son am betha fel yma, mae hi yn myn'd fel olwyn gocos. Ond dyna ydi ei hunig fai,—mae hi yn wraig o'r sort ora, ac wedi magu saith o blant,—wel, ddim wedi gorphen eu magu eto.
Ar ol cyrhaedd adref wedi cael yr het silc a'r siwt ora oedd yn y dref, gwelais fod Sara wedi bod wrthi yn ddygyn tra y bu mi i ffwrdd. Dyma hi yn dechre dangos beth oedd yn y bocs oeddwn i yn myn'd efo fi i Lundan. Wel, yr oedd ganddi bedwar dwsin o wye cowenod, oedd hi wedi brynu gan y cymdogion, ac yr oedd hi wedi crasu lot o fara ceirch, ac wedi rho'i tri potiad o jiam gwsberis oedd hi wedi ei wneyd ei hunan. Mae hi yn trio'i gora cadw i fyny efo'r hen lanc er mwyn i a'r plant. Aeth Sara druan ddim i'w gwely trwy'r nos, yr oedd arni gymaint ofn i mi golli'r trên cynta'; ond 'doedd dim ffiars, chysges i ddim winc. Mi ddoth Sara â'r holl blant efo fi i'r stesion, a'r babi ar i braich, a Wil yn cario numbar 7— a Robin a Dwlad yn cario y bocs. Pan welodd stesion mastar Nantlle ni, dyma fo yn gofyn oedden ni i gyd yn myn'd, os felly byddai raid i ni gael special trên. Ond dyma fi yn bwcio i Lundan, a phan yr oedd y trên yn cychwyn, mi ddechreuais ysgwyd llaw a chusanu, gan ddechra gyda'r babi a diweddu efo Sara druan, ac yr oedd hi wedi myn'd yn un swp yn fy mreichiau. Cyrhaeddais Bangor yn ol reit, a dyma fi yn gofyn i ryw bortar am ddangos through carage i mi. Smocin, syr," medda fo. "Yes," medda fina, a fewn a fi; twtsiodd ei gap, ac mi wyddwn i beth oedd hyny yn feddwl;—rodd o yn meddwl mod i yn dipyn o wr bonheddig—wedi bod yn aros yn y Faenol—a rhag iddo feddwl yn wahanol, rhois bisin tair iddo fo. Wrth gwrs, yr het silc oedd wedi gwneyd hyn, a'r siwt oeddwn i wedi gael.
Nid wyf am ddyweyd hanes fy nhaith—run fath fydda i yn gweled pob taith—caeau, coed, ac afonydd, a lot o dai. Digon i mi yw dyweyd fy mod wedi cyrhaedd Euston yn sâff tua pump o'r gloch,—a bod hi wedi bod yn gryn helbul arno i yno. 'Doedd Dei ddim wedi dwad i ngyfarfod i mewn pryd, ac mi ades fy het silc ar y shilff uwch fy mhen,—a thra yr oeddwn i yn edrych am Dei, dyma blisman ata i yn gofyn i mi be oedd gen i yn y bocs; fod o yn debyg iawn i'r bocsus fydd geny nhw yn cario dynameit.
Hegs, syr," medda fina, "and bred ceirch my wife was make for my brother Dei. Did you saw him, syr." Gyda hyn dyma Dei i'r stesion yn un chwys mawr; a dyma fo yn troi ata i, ac yn edrach, reit ffyrnig,
"B'le mae dy het silc di, yr hen lob? 'rwyt ti yn edrych fel Keir Hardie yn y cap yna. Ddo i gam byth efo ti."
Diawst," medda fina, “ yr ydw i wedi gadal hi ar y shilff yn y tren."
Ond yr oedd y trên wedi myn'd i rywle. Ond gwnaeth Dei bob peth yn iawn, a doth yr het i'r login erbyn wyth o'r gloch. Aeth Dei a fina i giab, a mawr oedd fy syndod wrth weled cymint o bobol—a gofynais i 'mrawd a oedd y bobol yn dwad o'r capel neu oedd yno Sasiwn. Chwarddodd Dei yn galonog, a dywedodd yr hen englyn glywes i Llew Llwyfo yn ddeud yn Eisteddfod Penygroes:—
"When Ned first landed in London,—he saw
Many wonders uncommon:
A mermaid and a Mormon,
And a neis mule from Ynys Môn."
Wel, o'r diwedd, ar ol i'r hen geffyl druan ein tynu am haner awr, dyma ni yn stopio wrth y drws. Ar ol i Dei dalu i'r dyn rhyw bisin deuswllt, a hwnw yn ei ddal o ar gledar ei law heb ddeyd un gair, ond yn gneyd rhyw wên guchiog, a ffwrdd a fo.
"Roist ti ddim digon i'r creadur, Dei," meddwn ina. Ga' i alw arno'n ol er mwyn i mi gael rho'i chwechyn iddo, i roddi extra ffid i'r hen asyn yna. Pe tase un o gariwrs y Waen neu Rhostryfan yn dreifio ceffyl fel hwna i Gnarfon, mi fasa plismyn y dre acw yn i war o fel bwldogs."
"Cau dy hen glep, y dwlyn,' meddai Dei. "Ydw i ddim wedi bod yn Llundan er's dros ugain mlynedd heb wybod faint i'w ro'i i'r hen gabis yma ? 'does dim boddloni arnyn nhw."
Erbyn hyn yr oedd Dei wedi canu y gloch, a dynes y ty login wedi agor y drws, ac yn wên o glust i glust, a chyrls melyn bychain fel sosingiars round ei phen, a thusw ar ei thalcen fel mwng ceffyl. Mi drwg leicis i hi y fynud y gwelais hi, ac mi ddylies ei bod hi just y sort i fyn'd dros ben Dei druan. Dyma hi yn ysgwyd llaw efo mi, ac yn deyd,
"How-di-dw, Mr. Ffowcs? How is Mrs. Ffowcs and all the little Ffowcsus? Come to the parlour; tea is quite ready."
Wel, yr oedd tê yn reit barod, a chlobyn o ffinihadi mawr ar y bwrdd, a teacakes, a marmalade, ac mi steddodd mei ledi wrth ben y bwrdd, a Dei a fina un bob ochor. Yr oedd ei thafod hi yn myn'd fel olwyn gocos o hyd, ac yn gneyd rhyw lygad slei ar Dei druan. Mae hi am dano fo, myn cebyst, meddwn wrthyf fy hun, ac mi gymris y cyfle cyntaf ges i ddèyd wrtho fo, ac mi ddaru addo newid ei login. Meddwl am ei insiwrin a'i bres o, wrth gwrs, oeddwn i. Felly dyna ddigon am yr hen feuden, ac ni soniaf am dani mwy.
Ar ol tê, gofynodd Dei i mi a oeddwn wedi blino, ynte faswn i yn leicio myn'd allan dipyn. 'Doedd hi ddim ond tua saith o'r gloch, ac wrth gwrs yr oedd yn dda gen' i fyn'd.
"I b'le leiciet ti fyn'd, Ned?" gofynai Dei.
"Wn i ddim yn wir," meddwn inau. "Ydi hi yn noson seiat heno, ne oes yma gyfarfod gweddi yn y dre' yma heno, neu bregeth?"
"'Roeddwn i yn meddwl," atebai Dei, "mai dwad yma i weld rhyfeddodau Llundan yr oeddet ti. Mi elli fyn'd i'r seiat yn y Nant, ac i'r cyfarfod gweddi hefyd, ac mae dwy bregeth yn yr wsnos yn llawn ddigon buaswn yn meddwl, pe tae rhywun yn dal arnyn nhw. Faset ti ddim yn leicio myn'd cyn belled a'r House of Commons am dro; tydi o ddim yn rhyw bell iawn? Mi awn yno ar yr afon."
"All right," meddwn ina, ac allan a ni. Aethom heibio Capel Spurgeon ac at Bont Llundan, er mwyn cael gwel'd tipyn, ac ar ol croesi y bont (dylaswn ddyweyd mai yr ochor arall i'r afon mai. Dei yn byw) dyma ni yn cael stemar, a brensiach mawr fel 'roedd hi yn myn'd. Tydi stemar bach Sir Fon yn ddim wrthi am fyn'd.
Oddiar fwrdd y stemar ar Afon Llundan yr oedd Dei wrthi a'i holl egni yn dangos i mi y pethau mwyaf dyddorol.
Dacw hen Eglwys St. Paul fan acw. Dacw Somerset House, lle mae nhw yn gwerthu stamps. Wyddost ti beth ydi hwn acw? Dyna nodwydd Cleopatra."
"Beth ydi hwnw, dwad?" meddwn ina.
"O," atebai yntau, "enw hen frenhines yr Aipht ydi Cleopatra, a dacw ei nodwydd hi."
Cyn iddo gael gorphen deud, meddwn ina, "Yma ti, Dei. Gâd i ni ddallt ein gilydd, rwan, cyn myn'd ddim pellach. Os wyt ti am neyd ffwl ohonof ar ol i mi ddwad i edrych am danat, mi âf adra y cynta peth bora 'fory."
Wel, mi sponiodd Dei am y Nodwydd i mi, mai cofgolofn oedd; ac yr oedd pobpeth yn reit mewn mynud.
"Weli di y clochdy uchel acw, Ned, a gwyneb cloc mawr arno fo? Dacw y Parlament. Fan acw mae yr House of Lords a'r House of Commons."
"Diar mi, Dei, wyt ti ddim yn deyd mai fan acw y bydd Bryn Roberts, y'n membar ni, a Lloyd George, a Tom Ellis, a Mr. Gladstone, a'r membars i gyd yn cyfarfod?"
"Ie siwr, Ned," meddai Dei, "ac mi fyddwn ninau yno mewn pum' mynud."
Ac yn wir i chwi, felly y bu. Aethom i fyny rhyw steps, a dyna ni yn nghwrt yr House. Aethom i mewn trwy ddrws mawr, ac i fewn i rŵm fawr, lle yr oedd dwsine o bobl yn cerdded yn ol a blaen; ac i fyny rhyw steps wed'yn, lle yr oedd twr o bobl yn sefyll, a thri neu bedwar o blismyn y sefyll wrth rhyw ddrws gwydyr.
"Weli di drwy y drws yna, Ned?" gofynai Dei. "Dyna y Lobi. Fan yna y bydd y membars yn hel straeon, fel lot o hen ferched. Mi roswn ni yn y fan yma am dipyn; 'does wybod pwy ddaw heibio i ni. Gwelsom lawer iawn o'r membars yn myn'd i fewn ac allan, ac yr oedd Dei yn nabod llawer o honyn nhw o ran eu gweled. Gwelsom Mr. Chamberlain a Mr. Balfour; a dyna glamp o ddyn mawr tew yn dwad allan.
Dyna y Syr William Harcourt hwnw fu yn Mhafilion Cnarfon er's talwm," ebai Dei, a chyda'i fod o yn deyd hyny, mi drois fy mhen tua'r cyntedd nesa allan, a phwy welwn i yn dwad i fyny y steps ond Bryn Roberts, ein membar ni. Tynais fy het iddo, nodiodd yntau arna ina a safodd, gan ddeyd,
"I have not the plesiar of no you, syr."
Ebe fina yn Gymraeg, "Yr ydw i yn eich nabod chi, Mr. Roberts, yn reit dda. Edward Ffowc, o Dalysarn, ydi f'enw i—numbar 596 ar y registar yn y lecsiwn ddweutha."
"O, Mr. Ffowcs, mae'n reit dda gen i'ch gweled chi. A pwy ydi y boneddwr yma sydd gyda chi?"
"Dei fy mrawd ydi o, syr. Mae o yn byw yn Llundan er's dros ugian mlynedd."
"Fasech chi yn leicio myn'd i'r Ty? Dowch efo mi i'r Lobi eich dau, ac mi a edrychaf a oes yna le i chị." Fu o ddim deng mynud nad oedd o yn ei ol a golwg siriol arno fo.
"Dowch ffordd yma, gyfeillion, mae yna le i ddau yn y gallery."
Felly yr aethom i mewn, a dywedodd Mr. Roberts wrthym am yru ein henwau ar dipyn o bapyr efo un o'r plismyn ato fo pan fyddem yn myn'd allan.
Wel da i ddim i ddechra darlunio petha yn y Ty, mae hyny yn cael ei neyd mor aml yn y papyr newydd. Un o'r rhai cynta' a welais i yno oedd yr hen Gladstone,—mi ddarfu i mi ei nabod mewn mynud. 'Does neb yn Nghymru na fuasai yn adnabod yr Hen Wr ardderchog. 'Doeddwn i yn deall yr un gair oedd neb yn ddeyd, ac yr oedd yn rhwyr gen i fyn'd allan ar ol bod yno haner awr. Anfonasom air at Mr. Bryn Roberts, ac mewn mynud dyma fo allan, ac aeth a ni i gael cwpaned o goffi. Yr oedd o yn glên dros ben wrtho ni. Dyn iawn ydi o,—dyn âg asgwrn cefn ganddo. Os daw o i dreio yn y lecsiwn nesa, myn einioes Pharo, mae o yn siwr o fy vote i.
Buom hefyd yn ysgwyd llaw efo Mri. Lloyd George, Thomas Lewis, Herbert Roberts, a Herbert Lewis. Chawsom ni ond prin weled Tom Ellis, yr oedd rhyw ymraniad pwysig i gymeryd lle, ac yr oedd o wrthi fel pe dase fo yn lladd nadroedd. Ar ol i ni wybod mai wrthi yn chwipio yr oedd o, yr oeddwn yn disgwyl gweled globen o chwip fawr yn ei law o fel bydd gan wagonars ei dad o yn Nghynlas. Ond oedd geno fo ddim ond rhyw bapyr glâs mawr yn un llaw, a pensil led yn y llall. Toc dyna y gloch yn canu, a dyma Mr. Bryn Roberts yn dyweyd, "Dyna'r Division Bell rhaid i mi fyn'd, nos da Mr. Foulkes."
Gwelsom lawer o betha ar y ffordd i'r login, ac yr oedd yn rhwyr glâs gen i fyn'd i'r gwely. Yr oedd eisio codi cyn codi cwn Caer y bore dranoeth i fyn'd i wel'd priodas y Diwc o Iorc.
Yr oedd Dei a fina allan cyn pump o'r gloch y bore, ac wedi myn'd a brechdan a wye wedi eu berwi yn galed gyda ni. Yr oedd pob man yn fyw er mor fore ydoedd, ac yr oeddym bron a methu myn'd yn ein blaenau gan y crowd. Buom yn sefyll am oriau lawer, bron rhostio yn yr haul, a bron marw gan syched. Ond o'r diwedd Wele y bu gwaedd—mae y priodfab yn dyfod." Ac yn y fan dacw gerbyd ardderchog yn y golwg.
"P run ydi o, p'run ydi o?" gwaeddai pawb. Ond mi welais i rywun oeddwn yn adnabod yn y cerbyd, a dyna fi yn gwaeddi nerth fy mhen, "Drycha, 'drycha, Dei! dacw Mr. M—— o Gaernarfon ne dai byth o'r fan yma."
Taw, yr hurtun," meddai Dei; "ond y Prins o Wales ydi hwna, tad y Diwc o Iorc, sydd yn eistedd wrth ei ochor. Ond wst i be, mae o'n debyg hefyd, erbyn i ti sôn."
Toc, daeth yr hen chwaer, y Frenhines, heb ddim gwên ar ei gwyneb. Mae nhw'n deyd na fydd hi byth yn chwerthin ar ol colli ei gŵr, ac y mae dros ddeng mlynedd ar hugain er hyny. Poor thing, y mae hi'n siampl i lawer gwraig weddw adwaen i. Mae llawer un ohonyn nhw yn barod i ŵr cyn fod gwelltyn wedi tyfu ar fedd ei gwr cynta. Ond bydd Sara acw yn deyd, yn enwedig pan y bydd wedi cael rhywbeth newydd gen i, na phriodith hi byth os mai fi aiff gynta. Wel, wel—just i mi ddeyd, mi gawn wel'd.
Toc, dyma waedd arall—"Wele mae y briodasferch yn dyfod," a dyma bawb yn sgrythu eu llygaid i gael gwel'd y Princess May. Wel, mae hi yn beth fach a golwg reit ffeind arni hi. Ond er mor grand oedd hi, dydi hi ddim haner can glysed ag oedd Sara acw pan briodais i hi. Ond "gwyn y gwel pob bran ei chyw," yn tê?
Wel, 'doeddwn i a Dei ddim am aros i sefyll yn y crowd i aros iddyn nhw dd'od allan. 'Doedd dim peryg y caem ni y fraint o ysgwyd llaw â nhw, a 'does gen i ddim ond deyd lwc dda i'r pâr ifanc. Yn ystod yr wythnos y bu'm i yn Llundan, aeth Dei a fi i lawer iawn o lefydd rhyfedd iawn, ond rhaid i mi beidio manylu.
Un o'r llefydd mwya dyddorol y bu'm ynddo oedd Westminster Abbey, hen eglwys fynachaidd. Dyma lle y mae rhai o hen frenhinoedd Lloegr wedi eu claddu, a llawer o enwogion ein gwlad, ac yn enwedig ein prif feirdd, ac yr ola aeth yno oedd y bardd Tennyson. Yr oeddwn i yn meddwl wrth edrych ar eu bedda nhw, fod yn biti na fase gan y Cymry Gladdfa Genedlaethol—yn rhyw le canol—yn lle fod cyrph ein seintiau wedi eu gwasgaru ar hyd a lled y wlad. Dyma John Jones, Talysarn, yn gorwedd yn Llanllyfni, a Dafydd ei frawd yn Nghaernarfon; dyma Henry Rees yn Llandysilio, a William, ei frawd talentog, yn Lerpwl; John Elias yn Llanfaes; a Owen Thomas yn Lerpwl. Base claddfa genedlaethol yn beth nobl iawn a gwerth myn'd ganoedd o filldiroedd i'w gwel'd. Ond yr ydw i wedi colli y ffordd—dyma beth oedd yn dyfod i fy meddwl pan own i yn Westminster Abbey. Yno hefyd mae cader y coroni, ac yni hi y bu pob brenin a bren— hines yn eista i gael eu coroni, o amser Edward y Cynta i amser Victoria. Ond diar anwyl, ddo i byth i ben.
Aeth Dei a fi i eglwys fawr St. Paul, i wel'd bedda Nelson a Wellington, ac aeth a fi i ben pinacl ucha' y clochdy. Lle braf i wel'd Llundan, a lle doniol i dowlyd eich hunan i lawr dase chi eisio gneyd am danoch eich hun.
Ddiwrnod wed'yn, aeth a fi i Dŵr Llundan. General Rowlands o ymyl Cnarfon ydi y pen yno rwan, ond oedd dim eisio gofyn iddo fo gael myn'd i mewn, ddim ond talu chwechyn bob un. Yno mae llawer o hen arfau rhyfel yn cael eu cadw, ac yno y gwelsom goron y frenhines a'r deyrnwialen aur. Wel, fase siwt o ddillad da yn well i mi tua'r Nant yna na rhyw hen lymbar fel yna, daswn i yn cael cynyg.
Buom yn y Crystal Palas. Bobl anwyl, dyma le ardderchog. Pan es i Bel Viw, Manchester, efo Sal acw, just newydd i ni briodi, on i yn meddwl mai dyma y lle crandia yn y byd, ond ydi o ddim byd wrth y Crystal Palace.
Aethom hefyd i'r Britis Miwseam, lle mae nhw yn cadw un o bob papyr newydd, ac un o bob llyfr ddaeth allan erioed, ac y mae yn eu plith CYMRU O. M. Edwards a'r GENINEN, a chopi o'r rhifyn cyntaf o bob papyr Cymraeg. Ddown i byth i ben i enwi y filfed ran o be sy yn y lle mawr yma. Y pethe gymres i fwya o sylw ohonyn nhw oedd darn o Arch Noah, corph yr hen Pharo a'i bendrulliad, a cyrph llawer ereill. Basai corph Moses yno dase nhw yn cael gafael ynddo fo. Wel yno hefyd y mae y cledda ddaru Dafydd dori pen y cawr efo fo, a dwy o'r ceryg oedd ganddo fo yn i sgrepan, a darn o olwyn un o gerbyda Pharo gawson nhw yn ngwaelod y Mor Coch; ac yn fwy na'r cwbl, y pysgodyn lyncodd Jona wedi ei stwffio. (Choelia i mo hyny chwaith.) Ond ddo i byth i ben.
Erbyn cyrhaedd y ty login, yr oedd yno lythyr wedi dwad oddiwrth Sara ata i, a dyma fo i chi:—
- "Anwyl Ned,—
"Rodd yn dda ofnatsan gen i glywad fod ti wedi cyradd yna yn saff. Cymer ofal ohonot dy hun, Ned bach, gwilia golli dy hun mewn lle mawr fel yna. Mae Marged y drws nesa yma wedi cael bonat newydd o ryw shiop yn y dre, un grand ofnatsan. Yma ti, Ned anwyl, nei di chwiliad am un i mi yn mhob un o'r shiope yna, riwbeth reit swell, wyddost ti be neiff fy siwtio i, ws ti. Feflat glâs tywyll, a thair pluen goch, nid plu ceiliog ws ti, ond plu estrys. Yr ydw i yn sicr y base ti yn leicio i mi edrach yn o neis, yrwan yr wyt ti yn y sêt fawr. Cofia y tair pluen, Ned, a strings feflat du. Brysia adre, Ned bach, ma arna i hirath am danat ti; fu'm i ddim yn cysgu hebddat ti erioed o'r blaen ar ol priodi. Mae'r plant a fine yn cofio atat ti yn arw iawn. Cofia y tair pluen, Ned.
"SARA."
Ar ol darllen y llythyr, ebra fi wrth Dei,—
Wyddost ti be, Dei, wrth mod i'n cychwyn adra bora 'fory, rhaid i mi fyn'd i chwilio am fonat i Sara y cynta' peth. Ddoi di hefo mi, Dei bach; mae fy Saesneg i mor ddrwg. Byddaf yn gallu trin merched y Nant acw yn iawn, ond y mae arna' i ofn swels shiopa Llundan—mae nhw'n edrach ar eu gilydd ac yn gneyd sport o'r Cymry. Pan eis i brynu y tacla chwara i'r hogia acw yn y stryd hono wrth ymyl y wacs wyrcs, yr oedd yno dair o genod yn gneyd sport am mhen i, a bu agos i mi ro'i clustan i un o ohonyn nhw."
Mi ddaeth Dei hefo mi i Oxford Street a Regent Street, a dyna lle buom am oria yn chwilio y ffenestri am fonat melfat glâs a thair pluen goch. Gwelsom un o'r diwedd, ac i fewn a ni. Gofynodd Dei ei phris, a d'wedodd rhyw swel o hogan (buasech yn meddwl mai un o ferched y Frenhines oedd hi),—
"This is made for the Duchess of Trawsfynydd, but she does not want it till to—morrow, so you can have this one, and we can make another for her. The price is forty—nine shillings and sixpence."
"Wel, just i mi fyn'd i ffit.
"Tyr'd allan, Dei bach," ebra fina, "a gad i'r Dduchess gael ei bonat, ac mi bryna ina un yn y Nant acw am dipyn dros chwarter y pris."
Wel adra a fi o'r diwedd, ac erbyn cyrhaedd Stesion Nantlle yr oedd holl dylwyth y Ffowciaid, fel teulu Abram Hwd wedi d'od i'm cyfarfod, ac welsoch chi erioed y fath gofleidio; ac yr oedd Sara druan yn un cadach llestri, ac wedi myn'd yn un swp o lawenydd wrth fy ngweled wedi dychwelyd yn saff. Gallwn lenwi tudalen i ddyweyd hanes y croesaw gefais i gan bawb, ac yr oedd Sara mor falch a hogan bach o'i bonat. Wyr hi ddim eto mai yn Ngarnarfon y cefais hi—ond. caiff wybod ar ol iddi orphen ei chanmol.
Dyna i chwi dipyn o hanes taith un o chwarelwyr.
Sir Gaernarfon i Lundain.
MICHAEL JONES Y CYNTAF.
FEL yr oedd yn naturiol i mi, a mi yn dipyn o Fethodus, wedi fy ngeni a'm magu yn mhrif ddinas y Methodistiaid Calfinaidd, yr ydwyf wedi rhoddi mwy o ofod yn y gyfrol fechan hon i Adgofion am bethau perthynol i'r Hen Gorph" nag i un o'r enwadau ereill. Nid am nad oes genyf barch calon a gwir edmygedd i bob enwad crefyddol, ac yn eu plith yr Eglwys Sefydledig. Yr ydym bawb ohonom yn ymdrechu am fyn'd i'r un wlad, ond fel mae agerlongau ardderchog y Werydd perthynol i'r gwahanol liners yn cymeryd eu cwrs eu hunain, felly y mae genym ninau ein ffyrdd a'n symudiadau gwahanol. Y pwnc mawr ydyw cyrhaedd yr hafen ddymunol yn ddiogel.
Nid oes ond un esboniad paham y mae y Methodistiaid yn gryfach yn y Bala nag enwadau ereill, sef mai yno y cartrefodd Thomas Charles. Pe buasai un ai Christmas Evans, Williams o'r Wern, neu John Wesley, wedi cartrefu yn y Bala, a Mr. Charles mewn rhyw gymwd arall, mae yn ddiddadl mai un o'r enwadau y perthynai y naill neu y llall o'r gwŷr enwog hyny fuasai y mwyaf llewyrchus yn y dreflan brydferth sydd yn gorwedd yn dawel ar lan y Llyn Tegid. Dyna yr achos hefyd fod Annibyniaeth wedi cael dyfnder daear, sef am fod Michael Jones y Cyntaf wedi cartrefu yma ac yn Llanuwchllyn, ac efe a sefydlodd y Coleg sydd yn awr wedi tyfu yn sefydliad pwysig o dan yr enw Bala-Bangor. Da y gwnaeth yr awdurdodau yn rhoddi y flaenoriaeth i hen dref y Bala yn enw bedydd y Coleg Newydd, oblegid yn awyr môr y Bala y tyfodd yr egin bychan i fod yn bren cryf, ac ni niweidiwyd dim arno pan y transblanwyd ef i awyr cryfach glanau y Fenai dêg.
Yr ydwyf yn cofio yr Hybarch Fichael Jones yn dda, a buom rai troion yn ei ysgol ddyddiol, yr hon a sefydlwyd ganddo yn nglyna'r Coleg. Y myfyrwyr cyntaf ydwyf fi yn gofio yn Ngoleg Michael Jones oedd y Parch. D. M. Jenkins, yn awr o Lerpwl; y Parch. Lloyd Jones, yr hwn a aeth i'r Wladfa Gymreig; Rhys Gwesyn Jones, a'r Proffeswr Dewi Môn. Hen foneddwr noble oedd Michael Jones, golwg braidd yn ffyrnig arno i estron, ond calon gynes dirion yn curo yn ei fynwes. Yn Llanuwchllyn y trigai, lle y triniai dyddyn o dan y Barwnig o Wynstay. Waeth heb nag agor hen friwiau, neu buasai yn hawdd i mi ysgrifenu am ddigwyddiadau a gymerasant le gyda golwg ar y tyddyn hwnw yn amser etholiadau ffyrnig sir Feirionydd. Gŵr talgryf, corphorol, oedd Mr. Jones. Delai i'r Bala bob dydd ar gefn ei ferlen. Disgynai wrth y tyrpec oedd y pen uwchaf i'r dref, neu pan ddeuai dros Bont-mwnwgl-y-llyn-disgynai cyn dyfod i'r dref, ac arweiniai ei farch i'r ystabl oedd yn ymyl y Coleg. Arhosai yn y dref ambell noson, ac yn y Bala y bu farw, ac fel y dywedais mewn man arall yn fy Adgofion, cafodd un o'r claddedigaethau mwyaf a pharchusaf a welwyd erioed yn nhref y Bala. Y mae yn ddiameu fod Coleg Annibynol y Bala yn amser Michael Jones y Cyntaf, ac hefyd o dan lywyddiaeth ei fab, y Prifathraw M. D. Jones, wedi gwneyd ei ôl ar enwad barchus yr Annibynwyr yn Nghymru.
MICHAEL JONES YR AIL.
YR ydwyf yn sicr na ddigia fy hen gyfaill parchus, y Parch. M. D. Jones, M.A., cyn-Brifathraw Coleg Annibynol y Bala, am i mi adrodd y stori fach a ganlyn a glywais y dydd o'r blaen gan hen gyfaill a fu yn cyd-chwareu â mi ugeiniau o weithiau ar lan Llyn Tegid, ac yn cyd-bysgota "dyrogiaid " ger y fan lle y cychwyn y Ddyfrdwy ar ei thaith tua'r môr:—"Yr oeddwn yn un o blant ysgol yr Hybarch Fichael Jones, pan y byddai yn cadw ysgol i'r plant, a Choleg i'r pregethwyr yn yr un adeilad. Cymerai yr hen ŵr ei brydau bwyd yn ei study uwchben ystafell y plant. Ryw dro yr oedd yr hen athraw wedi myn'd oddicartref, a chan fod ei fab yn digwydd bod gartref ar y pryd, cymerodd ofal o'r ysgol am y tro. Am ryw drosedd nad ydwyf yn cofio beth, bu raid i dri ohonom aros ar ol i ddysgu rhyw wers fel cosp am ein trosedd. Eisteddai mab ein hathraw ar ei gadair i ddarllen y Times, eisteddem ninau i wneyd ein penyd. Toc aeth 'ceidwad y carchar' i fyny i'r study i gael ei giniaw, ac ar yr egwyddor
"When the cat is away
The mice will play,"
dechreuasom ninau droi tops oedd yr hen John Morris y Saer wedi ei wneyd i ni. Clywodd y gŵr oedd yn y study y twrw a daeth i ben y grisiau a chloben o dorth fawr o dan ei fraich, a chyllell yn y llaw arall. Trwy ryw anffawd slipiodd y dorth o'i afael, a rowliodd i lawr y grisiau, cododd un ohonom hi ac aethpwyd a hi i fyny i'w pherchenog, yr hwn oedd yn sefyll ar y grisyn uwchaf yn chwerthin nes oedd o yn siglo. Gwell i chwi fyn'd adre' 'nawr blant ne bydd eich ciniaw wedi oeri.' Trwy anffawd y dorth maddeuwyd ein pechodau. Y mae y Prifathraw M. D. Jones, wedi anghofio pobpeth am yr amgylchiad, ond ydw i ddim, er fod haner can` mlynedd er yr amser hono."
Dyma ystori arall am y Bonwr caredig o Bodiwan. Yr oedd yn myned am dipyn o dro yn nghyfeiriad Llanycil, pryd y cyfarfyddodd â'r hen wr haner dall, Edward Richards, gyda'i drol mul, am yr hwn y mae genym ysgrif (gwel tudalen 123). Y mae yn anhawdd gwybod pa un ai Edward oedd yn tywys y mul ai ynte y mul oedd yn tywys Edward, fodd bynag, cymerodd yr ymgom a ganlyn le:—
"Wel, Edward," meddai y Bonwr caredig, “i ba gapel 'ych yn myn'd yn awr?”
"I gapel y Baptis, syr," atebai Ned, gan dwtsiad ei het, a het iawn fyddai gan yr hen bererin, gymaint ei chantel bron a thorth geirch Sarah Jones or Wenallt.
"Yr oeddech chwi yn addoli gyda'r Wesleyaid yn y capel hwnw onid oeddych chwi, Edward?" meddai'r Bonwr.
Oeddwn, syr, ac mi faswn eto dase Wesle i'w cael."
Wedyn mi aethoch at y Methodus i'r Capel Mawr?"
"Do siwr, syr, yr oedd yn rhaid addoli yn y 'mynydd hwn' gan nad oedd yr un Jerusalem' i'w chael."
"Ac yn awr dyma chwi yn ol i'r hen gapel Wesle?"
"Ie siwr, syr."
"Wel, Edward bach, mae'n amlwg mai crefydd
cath yw'ch crefydd chwi; chwaith mae dwy fath o
grefydd, sef crefydd ci a chrefydd cath. Chwi wyddoch
am y ci, yr â ef yn wastad gyda'r teulu pan yn ymadael
â'r ty, ond am y gath hi erys yr holl amser yn y ty, felly
chwi welwch mai crefydd cath y'ch chwi wedi gael, ond
ydi o ods yn y byd os ydyw eich rhan a'ch mater yn
dda. Bore da, Edward Richards."
IOAN PEDR.
NIS gallwn yn hawdd ddirwyn fy Adgofion i ben heb sôn tipyn am y gwr hoff hwn, "Ioan yr Athraw a'r Dysgybl anwyl." Ie, un anwyl oedd yr "Ioan" hwn fel yr oedd yr "Ioan" a garai yr Iesu mor fawr, yn un anwyl. Cof genyf pan oeddwn yn fachgen bychan iawn weled Ioan Pedr yn dyfod adref oddiwth ei waith yn rhai o'r melinau, oblegid seiri melinau oedd ei dad ag yntau. Deuai gan ymgomio yn siriol gyda'i dad, a chyda gair caredig a nod i hwn a'r llall a gyfarfyddai ar y ffordd. John fyddai yn cario y fasged arfau bob amser, a'i dad a gariai y piser bychan fyddid yn myn'd a llaeth neu de at giniaw. Gweithiai yn ddygn bob dydd am ei fara beunyddiol, a phan ddeuai adref, ei lyfrau fyddent y prif atyniad. Ei hoff astudiaeth fyddai ieithoedd a hynafiaethau, ac y mae ei enw yn gof-golofn yn mhlith enwogion Cymru beth all Cymro ieuanc wneyd trwy ddyfalbarhad. Bu Ioan yn gohebu â phrif Gymreigwyr y byd, ac y mae rhai o'r llythyrau a dderbyniodd ar gael hyd y dydd heddyw. Byddai gan Ioan Pedr air caredig i'w ddyweyd bob amser wrthym ni y plant, ac yr oedd yn hoffddyn gan bawb ohonom. Edrychem arno fel rhyw oracle yn y byd llenyddol, ac efe bob amser a'n rhoddai ar y ffordd sut i gadw Cyfarfodydd Llenyddol. Yn fuan ar ol marwolaeth yr Hybarch Michael Jones, cynygiwyd gwobrwyon mewn cyfarfod llenyddol a gynhelid yn hen gapel yr Annibynwyr. Y testynau oeddynt, "Cof-Draethawd i'r Parch. Michael Jones," a thraethawd a'r " Oliver Cromwell." Gyrodd awdwr yr ysgrif hon ddau draethawd i'r gystadleuaeth, a rhoddodd fel ffugenwau "Plato" a Virgil." Yr oeddwn wedi dewis yr enwau clasurol gan feddwl y buasai hyny yn pwyso gryn dipyn gyda'r beirniad, Ioan Pedr, ac yn hyn yr oeddwn yn lled agos i fy lle, oblegid fe "bwysodd" cynyrch fy ysgrifell i waelod rhestr yr ymgeiswyr. Gwnaeth Ioan gryn sport o'r awdwr oedd wedi benthyca enwau yr athronwyr Rhufeinig. Ond yr oedd y bachgen uchelgeisiol i'w esgusodi, oblegid yr oedd yn troi bob dydd yn mhlith myfyrwyr y colegau, a byddai enwau doethion Rhufain a Groeg fel enwau teuluaidd. Cafodd gwers y beirniad wrth draddodi y feirniadaeth effaith ddyladwy arnaf byth.
Yr oedd gan blant y Bala hefyd gyfarfod llenyddol, for beginners, mewn ystafell fechan o dan goleg y Methodistiaid. Nid oeddynt yn ddigon o lenorion i fyned i'r Gymdeithas Lenyddol fawr, a gynhelid yn yr oruwchystafell, am yr hon y buom yn sôn mewn ysgrif flaenorol (gwel tudalen 83). Ar ddiwedd y tymor, cynhelid cyfarfod cyhoeddus gan y llenorion ieuainc, a chynorthwyid ni gan y greater lights oedd yn cartrefu uwch ein penau. Cof genyf am un cyfarfod neillduol iawn, yr oedd y lesser lights yn myn'd i "chwareu cadeirio bach," ac aethom dros ben y Doctor Roger Hughes, y pryd hyny yn fachgen deuddeg oed, i ddyfod i'n llywyddu, a Dr. Charles Edwards, yntau tua'r un oedran, i ddyfod yn gyd-feirniad â Ioan Pedr, i feirniadu y prif draethawd. Yr oedd yr ymgeisydd llwyddianus i gael ei gadeirio. Dyma i chwi, bwyllgor Eisteddfod Llandudno, dyma i chwi precedent, o'r sort oreu, i'ch cyfiawnhau am dynu yn eich penau lid pleidwyr y mesurau caethion, a hawl yr awdl yn unig i'r gadair. Prif destyn y cyfarfod oedd traethawd, "Rhyfeddodau Duw yn y Greadigaeth." Y wobr oedd dau swllt ac ysnoden werdd ofydd, heb "gadair na choron." Ar ol i un o'r arweinyddion ofyn dair gwaith, yn ol braint a defawd, "A oes heddwch?" ac i'r "dorf" ateb, "Heddwch!" daeth Ioan Pedr yn mlaen i ddarllen y feirniadaeth, a dyfarnodd y wobr i un a alwai ei hunan yn "Llai na'r Lleiaf." Dyma waedd drachefn, "A oes heddwch?" a'r "beirdd a'r llenorion ieuainc" a waeddasant gyda chrochlef, Heddwch!" galwyd ar y buddugwr i amlygu ei hunan, a gwnawd hyny gan Ellis Roberts, yn awr. Registrar Roberts, Llanfyllin. Arweiniwyd ef i'r gadair gan "ddau brif fardd," nid Hwfa Môn na Gwalchmai, ond dau o feirdd yr oruwch-ystafell. Daliwyd cledd yr hen Dwalad y Sargent, gyda pha un yr oedd wedi lladd tua chant o Ffrancod yn Waterloo, uwch ei ben, ac yn well na'r cwbl, cyflwynwyd iddo y wobr o ddau swllt, sef pedair ceiniog ar hugain, ceiniogau mawr Sior y Trydydd, oeddynt, wedi eu cymeryd wrth y drws am ddyfodiad mewn i'r "Eisteddfod." Cyn diwedd rhoddodd Ceidwad y Corn Gwlad dair bloedd ar y corn tin oedd wedi ei brynu am chwe' cheiniog gan haid o shipsiwns oeddynt yn pabellu o dan y Bryn Hynod. Ie, pedair ceiniog ar hugain oedd y wobr yn "Eisteddfod fawr" plant bach y Bala,—dylasai fod yn six and eight pence, legal fee twrne, yn yr hon broffes y darfu i'n cyfaill y Registrar wedi hyn enwogi ei hunan. Nid oes arnaf ofn iddo ddyfod a libel arnaf, oblegid iddo ef yr ydwyf yn ddyledus am adgoffa i mi am yr Eisteddfod fythgofiadwy hon. Byddai Ioan Pedr wrth ei fodd yn helpu plant y Bala yn ei difyrion diniwed.
EI ORDEINIAD.
Rhyw dro ar ol marwolaeth yr Hybarch Michael Jones, dewiswyd Ioan Pedr i fugeilio eglwys Annibynol y Bala, a chymerodd yr ordeiniad le yn yr hen gapel Sentars, neu fel ei gelwid y dyddiau hyny, "y capel newydd," am nad oedd mor oedranus a chapel Mr. Charles. Nid oeddym ni blant y Bala erioed wedi cael y fraint o wel'd ordeiniad, yr oedd rheolau yr Hen Gorph mor geidwadol yn hyn o beth. Ni oddefid i neb o dan rhyw oedran penodol fyn'd yn nes i'r sêt fawr ar adeg ordeinio na'r cyntedd nesaf allan, ac ni oddefid i ferch o unrhyw oedran halogi" llawr cysegredig y capel ar yr amgylchiad o ordeinio. Mae'r darllenydd yn cofio yr hanes yn dda fel y rhwystrodd rhyw hen Gristion cul a rhagfarnllyd y diweddar Dr. John Hughes a'i gyfaill, oeddynt wedi cerdded yr holl ffordd o Lanerchymedd, i fyn'd i gapel y Tabernacl, Bangor, i weled ordeinio. Yr oedd cyfundeb yr Annibynwyr yn llawer mwy rhyddfrydig eu barn y dyddiau hyny, ac y mae yr Hen Gorph erbyn hyn-wedi dyfod i edrych ar y peth yr un fath. Wel, o dan yr amgylchiadau, yr oedd plant y Bala yn dyheu am fyn'd i gael gweled eu cyfaill Ioan Pedr yn myned o dan y "corn olew." Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan y Parch. D. Roberts, Caernarfon, yn awr Dr. Roberts (Dewi Ogwen), Gwrecsam. Nid ydwyf yn cofio y gŵr da arall, bron y meddyliwyf mai Ap Vychan, ond nis gallaf fod yn sicr. Un peth mwyaf neillduol ydwyf yn ei gofio yn y seremoni ydyw Dewi Ogwen yn gofyn y cwestiwn hwn i'r pregethwr ieuanc, "A ydych chwi yn credu eich bod wedi eich haileni?" Atebai John Peters mewn llais clir, penderfynol, "Ydwyf, yr ydwyf yn credu fy mod yn gadwedig." Edrychodd plant y Methodus ar ei gilydd yn sobr, nid oeddynt hwy erioed wedi clywed y fath athrawiaeth. Yr oedd pob un ohonom ni wedi cael ein dysgu mai ni oedd "y pechadur pena," ac nid oedd yn bosibl i ni wybod pa bryd y ca'em ein haileni. Ond daeth dyddiau bendigedig y diwygiad mawr cyn hir, pan y pregethodd y Dr. Lewis Edwards, y bregeth fythgofiadwy "Y Diwrnod Mawr." Cymerodd ei destyn yn Josuah, "O haul sefyll yn Gibeon, a thithau leuad yn nyffryn Ajalon." Dysgwyd ni fod "diwrnod mawr yn hanes pob pechadur edifeiriol, ac y gallai wybod y dydd y symudwyd y gollfarn oddiarno. Yr oedd yn dda genym ni blant y Bala erbyn hyn ddeall nad oedd ein hoff gyfaill Ioan Pedr ddim wedi cyfeiliorni. Bu Ioan Pedr yn weinidog ar eglwys Annibynol y Bala am rai blynyddoedd, hyd oni aeth yn Broffeswr i'r Coleg, ac yna fe'i dilynwyd gan y cadeirfardd Ap Fychan.
SIMON JONES.
Yr ydwyf yn cofio tri o flaenoriaid capel Ioan Pedr yn dda, sef yr areithiwr dihafal Simon Jones, y blaenor distaw a'r Israeliad yn wir, Moses Roberts, a Tomos Cadwaladr, yr hen Gristion ffraeth, am yr hwn y bydd genyf gryn dipyn i ddyweyd cyn diwedd y benod hon.
Mae llawer wedi cael ei ddyweyd a'i ysgrifenu am "Simon Jones." Bu yn destyn darlith gan Plenydd, ac ysgrifenwyd yn ddoniol am dano i Cymru gan Llew Tegid, Ysgol y Garth, Bangor; ond nid ydwyf yn cofio i mi weled yr hyn a ganlyn mewn unrhyw gyhoeddiad o gwbl. Gŵyr pawb sydd yn gwybod rhywbeth am dano ei fod yn ddirwestwr o'r groth i'w fedd, a phe dai angen am Gyfarfod Dirwestol yn y Drydedd Nef byddai Simon" yn ddigon parod i areithio ar y pwnc.
Yr oedd boneddwr yn y Bala, tua'r adeg yr ydwyf yn sôn am dano, fyddai dipyn yn gaethwas i'r ddiod feddwol. Deuai yr awydd arno am y ddiod ar adegau, pryd y byddai yn hollol yn ei gafael am ysbaid o amser, ac yna ca'i lonydd am gryn amser. Yr oedd yn ddyn talgryf, hardd, ac yn un o'r dynion mwyaf talentog yn nhref y Bala. Gwnai ei oreu i ymladd a'i elyn, ac y mae yn sicr pe buasai ei gyfoedion wedi ei helpu yn lle ei demtio y buasai yn un o brif addurniadau cymdeithas. Ond er cywilydd iddynt, ei hudo a wnai y rhai a alwai efe yn gyfeillion mynwesol. Yr oedd yn fwy hoff o'r gyfeddach nag oedd o'r ddiod feddwol. Deallodd "Simon" hyn, ac aeth ato rhyw ddiwrnod, a dywedodd,- "Yna chwi, Mr.-- os eisieu cael cwmni eich cyfeillion sydd arnoch, p'am na yfwch chwi ddwfr glân?" Atebai yntau nad oedd ganddo ddigon o wyneb i fyn'd i dafarn a gofyn am ddwfr. "Dowch efo fi, ynte," meddai "Simon," ac felly fu. Aeth y ddau gyda'u gilydd fraich yn mraich i'r dafarn. Pan aeth aeth yr areithiwr dirwest mawr i ystafell y llymeitian, ni fu y fath syndod yn mhlith y llymeitwyr. Buasai yn dda ganddynt pe medrent am y tro ddiflanu fel y Tylwyth Teg. Eisteddodd "Simon" a'i gyfaill i lawr yn eu canol, canwyd y gloch, a daeth y forwyn yno, a phan welodd hi pwy oedd wedi ei galw, edrychodd yn ddychrynedig. "Mary, tyr'd a dau lasiad o gwrw Adda yma yn y fynud." "Dear me, Simon Jones, be ydi hwnw dudwch? Chlywes i 'rioed sôn am dano fo. Mi af i ofyn i meistres. Felly fu, a daeth yn ol yn ebrwydd, gan ddyweyd fod ei meistres yn dyweyd nad oedd hi ddim yn gwerthu dwfr. Edrychodd "Simon" ar y forwyn, fel yr edrychodd Shiencyn Penhydd ar y tafarnwr, a dywedodd,—"Dos ti i nol dau lasied o ddw'r y fynud yma, a dyma ti bres am dano fo," gan daflu grôt o bres ar y bwrdd. Cafwyd "cwrw Adda," ac yfwyd y ddiod flasus gydag awch, a galwyd am lasied bob un wed'yn. Edrychai edmygwyr Syr John Heidden yn syn ar "Simon" a'i gyfaill, a chawsant gryn hwyl yn gwrandaw ar ystori oedd gan yr hen ddirwestwr i'w dyddori. Ysgydwodd "Simon law gyda phob un o'r cwmni wrth ymadael, ac wrth un ohonynt dywedodd,—"John bach, yfa di ddigon o gwrw Adda' yn lle cwrw Llangollen, mi wnawn i ddyn ohonat ti." Fe ddywedir fod y gair bychan yna wedi effeithio gymaint ar y bachgen, na phrofodd ef byth ddiferyn o'r ddiod feddwol wedi hyny. Cafodd yr amgylchiad yma effaith ddaionus ar y boneddwr y buom yn sôn am dano, a bu yn ddirwestwr selog am amser maith. Gwnaeth "Simon" lawer o blaid dirwest mewn gwahanol ffyrdd, ac yr oedd ganddo bob amser air ffraeth yn barod i'w roddi i fewn yn mhlaid ei hoff bwnc. Dyna un o flaenoriaid eglwys Ioan Pedr.
TOMOS CADWALADR.
Dyma eto hen giaractor rhyfedd oedd yn addurno sêt fawr capel Ioan Pedr. Brodor ydoedd Tomos Cadwalad, fel y gelwid ef, o Cynllwyd, Llanuwchllyn. Clywais ef yn dyweyd rhyw dro ei fod yn cofio myn'd i hen Eglwys Llanuwchllyn un boreu Sabboth pan yn blentyn, ar gefn ei dad. Ar ol i'r gwasanaeth fyn'd drosodd, ymgasglodd y gynulleidfa at eu gilydd yn y fynwent i chwareu eu mabol gampau, megis ymaflyd codwm, neidio am y pellaf, a chwareu pêl ar wal yr eglwys. Eisteddai y person ar un o'r cerig beddau i fwynhau y chwaraeon ac i gadw cofnod o'r campau, ac enwau y buddugwyr. Pan yn ieuanc yr oedd Tomos yn un o'r rhai mwyaf direidus. Gadawodd ei gartref yn lled ieuanc, ac aeth i wasanaethu i Goed y Foel Isaf. Nid oedd Tomos yn credu mewn Tylwyth Têg nac ysbrydion, ac yr oedd hyn yn gryn fantais iddo, oblegid yr oedd yn hoff iawn o fyn'd allan yn y nos i boachio, a llawer ysgyfarnog, gwningen, a pheasant oddiar 'stâd y Rhiwlas a syrthiodd i ran y bachgen direidus o Goed y Foel. Rhyw ddiwrnod yr oedd wrthi yn ddygn yn tori gwair ar ben y dâs yn y gadles. Cododd ei ben am fynud, a gwelai ysgyfarnog braf yn llygad-rythu arno. Yr oedd ysgyfarnogod Mr. Price o'r Rhiwlas y dyddiau hyny mor ddof a chathod. Wel, yr oedd gwel'd y pry' hir-glustiog yn ormod i Tomos, slipiodd i lawr ochr y dâs wair, ac aeth i'r armoury, sef llofft y 'stabl, lle yr oedd ganddo glamp o wn careg fflint. Aeth a'r gwn i ben y dâs, ac yr oedd yr ysgyfarnog wrth y clawdd yn pori yn dawel, ond ni phorodd, ac ni chnodd ei chil byth mwyach. Mewn llai o amser nag a gymerodd i mi ysgrifenu y frawddeg uchod yr oedd y drancedig yn gorwedd yn dawel wrth ochr chwaer neu gyfnither iddi yn llofft y gwair. Aeth Tomos yn ol i ben y dâs, ac nid cynt ag y cyrhaeddodd yno nag y clywai sŵn traed march, a phwy oedd ond yr "Hen Breis," y pryd hyny yn Mr. Price ieuanc, oblegid tua'r un flwyddyn y ganwyd Thomas Cadwaladr yn Nghwm Ffynnon, Cynllwyd ag y ganwyd aer y Rhiwlas, yr hwn a adwaenem ni blant y Bala fel yr "Hen Breis.' Ar gefn ei geffyl gwyn yr oedd y boneddwr. Safodd ar gyfer y gadles, a gwaeddai:—
Domos, clywsoch chi sŵn gwn, 'rwan jest?" Do, syr," meddai Tomos. . 191 "Cwelsoch chi dyn daru gollwng ergyd, Domos?"
"Naddo, syr," ebai'r llanc, "fu neb yn y gadles yma er's oriau ond fi, syr.".
"Cawn i gafel yno fo, mi baswn yn cyru fo i jail Dolgelle at once."
"Basech yn gwneyd tro call iawn efo fo, syr," ebai'r poacher, "y cena drwg, bwy bynag oedd o, yn lladd y pethe bach diniwed."
"Ydech chi bachgen da iawn, Domos, bachgen gonest, call; os bydd arnoch chi eisia lle Clame nesa, dowch chi ata i i'r Rhiwlas. Bore da, Domos."
"Bore da i chithe, syr; os clywaf i pwy saethodd y sgwarnog, neu beth bynag oedd y pry', mi ddo i atoch chi i ddeyd, syr."
Ond ar ol i Tomos gael gwraig daeth cyfnewidiad mawr drosto, oblegid fe ddenodd ei wraig ef i'r capel, ac yn fuan iawn daeth yn ddefnyddiol iawn yn yr eglwys, ac mewn amser yn flaenor gweithgar. Dewisodd fel ei alwedigaeth waith bwtsiar, a chadwai ystondin yn mhrif heol y Bala, o flaen ty Mr. David Evans, lle yn awr y saif y North & South Wales Bank.
YN NHIR "NOD."
Yr oedd ty Tomos Cadwalad, fel y galwem ni y plant ef, ar gyfer hen gapel yr Annibynwyr, a byddai yn gyson ac mewn pryd yn y moddion. Efe a arferai gyhoeddi y gwasanaeth.
Byddai oedfa ar brydnawn Sabboth ambell dro yn y Capel Sentars, a phan fyddai yn fwll yn yr haf cysgai Tomos Cadwalad yn drwm yn y sêt fawr o dan y pwlpud. Rhyw dro digwyddodd y Parch. Mawddwy Jones fod yn pregethu. Yr oedd yn brydnawn trymaidd, a buan yr aeth yr hen flaenor i dir "Nod." Cafodd y pregethwr gryn hwyl, ond swiai ei lais yr hen Domos i gysgu yn drymach, fel y gwna llais y fam i'r plentyn gysgu yn y cryd. Toc dyma rai o'r hen bobl yn dechreu porthi, ac yn gwaeddi " Ie, ie," " diolch byth," "Amen, Amen." Yr oedd un hen frawd yn mhen draw'r capel eisieu i'w "Amen " yntau gael ei chlywed, a dyma fo yn rho'i rhyw "Amen" ddychrynllyd, na chlywyd y fath "Amen" erioed. Ie, Amen i'w chofio oedd hono, oblegid fe ddeffrodd Tomos Cadwalad o'i gwsg melus. Yr oedd yr Amen fawr hono wedi tynu y gwynt o hwyliau y pregethwr am rhyw fynud, a phan ddadebrodd yr hen flaenor yr oedd distawrwydd yn y pwlpud, a meddyliodd yr hen frawd fod y bregeth drosodd, a bod y gynulleidfa yn disgwyl wrtho i gael trefn y moddion am yr wythnos. Dyma fo i fyny ar ei draed, ac meddai, Cyfarfod canu am bump, Mr. Jones am chwech, Cyfarfod Gweddi nos yfory, Seiat nos Fawrth, Mr. Jones y Sabboth nesa'." Methodd y gynulleidfa a dal, aeth pawb i chwerthin, ac yr oedd y pregethwr yn dal ei gadach poced wrth ei safn, ddywedaf fi ddim mai chwerthin yr oedd yntau, meddyliwch chwi beth a fynoch. Rhoddwyd penill allan i ganu, ond ychydig iawn ddarfu "joinio y chorus." Yr oedd pawb wedi myn'd adref cyn tri o'r gloch. Dyna y stori fel y clywais i hi gan hen gyfaill oedd yn bresenol, ac y mae hyny yn ddigon i mi gredu yn ei geirwiredd.
TWYMNO'R CAPEL.
Un gauaf oer iawn,—sef y gauaf y rhewodd Llyn Tegid drosto, ac yr oedd y rhew mor gryf fel y gellid myned a cherbyd ar ei draws yn berffaith ddiogel,— y gauaf hwnw, penderfynodd y brodyr yn nghapel Ioan Pedr gael stove i dwymno'r capel, ond yr oedd hyny yn groes iawn i feddwl Tomos Cadwalad, a safai yn gryf yn erbyn y symudiad.. Credai ef nad oedd eisieu dim gwres o gwbl ond gwres yr efengyl yn nghalonau pechaduriaid i'w cadw yn gynes. Gwrthwynebai ef yn gryf gael dim byd i'r capel i wneyd cynesrwydd artificial, a chredai yn sicr y deuai a barn yr Hollalluog ar eu penau. Ond y mwyafrif a orfu, a bu raid i'r hen Gristion foddloni i'r drefn.
Rhoddwyd y gwaith o osod y stove i saermaen a adnabyddid oreu wrth yr enw "Evan Pobpeth," ond nid bob amser y medrai Evan wneyd "pobpeth" yn iawn, ac felly gyda'r stove. Bu Evan wrthi ddyddiau yn ceisio cael "bwgan" Tomos Cadwalad, i weithio. Gwelai yr hen frawd Evan yn myned ol a blaen i'r capel, ac effeithiodd gymaint ar ei feddwl fel y ciliodd cwsg, ac y methodd a bwyta. Rhyw brydnawn daeth Tomos adref o Benisa'rllan, Llanfor, lle yr oedd wedi bod yn prynu defaid, a phan yn myn'd i fewn i'r ty gwelai dipyn o fŵg glâs yn esgyn i fyny o'r simddeu haiarn oedd yn mur y capel. Ond ni wyddai yr helynt yr oedd "Evan Pobpeth ynddo i gael gan y stove i "dynu" er trio "pobpeth," darfu i'r cwbl end in smoke, ac erbyn amser dechreu y seiat yr oedd y capel mor oer, os nad yn oerach nag y bu erioed. Aeth Tomos Cadwalad i'r capel yn ol ei arfer bum' mynud cyn amser dechreu. Aeth heibio i'r stove heb edrych arni, gan feddwl, wrth gwrs, fod ei llon'd o dân. Eisteddodd i lawr yn y sêt fawr a golwg pruddglwyfus arno, heb ddisgwyl na gofyn am fendith o gwbl y noson hon. Dechreuwyd y seiat gan un o'r myfyrwyr. Holwyd y plant gan Moses Roberts, a dywedodd Simon Jones rhyw air wrthynt. Gofynodd Ioan Pedr i Tomos Cadwalad oedd ganddo ef air i'w ddyweyd, "nac oes, John bach, ddim byd heno," meddai'r hen bererin yn ddigalon. Aed yn mlaen yn y dull arferol gyda'r ymddiddan. Toc gwelid Tomos Cadwalad yn datod botymau ei gôt fawr, ac wedi hyny yn tynu ei gadach poced coch allan, ac yn sychu ymaith y "chwys dychmygol." Pan yr oedd un hen wreigan yn dyweyd ei phrofiad gyda gryn dipyn o hwyl, dyma Tomos Cadwalad ar ei draed, a thynodd ei gôt fawr oddiam dano gan ddyweyd dros y capel, "'does dim posib byw mewn lle poeth fel hyn, mae hi fel pe da ni yn nhypobty John Roberts." Aeth gwên dros lawr y capel, ac aeth Ioan Pedr at yr hen frawd a dywedodd, Does dim tân yn y stove Tomos bach, mi fethodd Evan gael gan y stove i weithio." "Wel diolch i'r Nefoedd am hyny," ebai yr hen wr, a bu agos iddo waeddi Bendigedig" dros y capel.
RHODDI DEHEULAW CYMDEITHAS.
Pan y byddai pregeth ar brydnawn Sabboth yn y
capel Sentars, elai Mr. Jones, yr Exiseman, yno, er mai
gyda'r Methodistiaid yr arferai wrandaw. Eisteddai yr hen foneddwr yn sêt Mrs. Evans, y Post Office, yn y
sêt agosaf at y sêt fawr. Yr oedd yn drwm iawn ei
glyw. Eisteddai Tomos Cadwalad yn y sêt fawr a'i
gefn ar sêt Mrs. Evans. Rhyw brydnawn Sul, daeth
Mr. Jones i'r capel a'i fraich dde mewn sling, yr oedd
wedi anafu ei law. Rywbryd pan oedd y pregethwr ar
ganol ei bregeth, ac yn dechreu ar y tipyn peth
melus," chwedl yr hen bobl, yr oedd ar Mr. Jones
eisieu tynu y faneg oedd am ei law chwith, ac i'r diben
yma roddodd bwniad i Tomos Cadwalad. Trodd
yntau at Mr. Jones, a safodd ar ei draed. Gwelodd fod
llaw yr hen Exiseman yn estynedig ato, a meddyliodd
ar unwaith mai eisieu iddo estyn "deheulaw cymdeithas" iddo oedd arno. Gafaelodd y blaenor yn
dŷn yn llaw Mr. Jones, ac ysgydwodd hi yn galonog,
gan ddyweyd yn lled uchel, "Mae'n dda iawn gen i
eich gwel'd chwi yn troi atom ni, Mr. Jones, bach."
Dyna i chwi dipyn o hanes am ddau o flaenoriaid
perthynol i gapel yr addfwyn Ioan Pedr. Y mae y
ddau flaenor a'r bugail mwyn erbyn heddyw wedi
cyrhaedd y wlad ddedwydd hono y soniasant gymaint
am dani pan yma ar y llawr, ac yr ymdrechasant
ymdrech deg i'w chyrhaedd. "Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig."
EVAN PETERS.
EI FEBYD.
YR ydwyf wedi son fwy nac unwaith am fy hen gyfaill a'm câr, Evan Peters, yn y rhan gyntaf o'r Adgofion hyn, ond efallai y carai rhai o blant Ysgolion Sabbothol Cymru wybod tipyn mwy am y gwr hoff a fu yn holi cymaint arnynt. Pan fu farw Robert Owen, Nefyn, syrthiodd ei fantell ar Evan Peters, ac yr oedd ganddo yntau fel yr arch-holwr ei arddull ei hunan, ac yr oedd yr arddull hwnw yn un anghyffredin.
Ganwyd Evan Peters yn y Merddyn Mared, plwyf Llangower, yn Mhenllyn. Ei dad oedd Peter Jones, un o feibion y Wenallt, a brawd i'r gwr y mae darlun ohono ar gefn yr ebol asen yn nechreu y llyfr. Merch y Glyn oedd Sian Jones ei fam, ac os nad ydwyf yn camgymeryd yr oedd yn chwaer i fam Thomas Jones, yr hwn a fu am flynyddoedd yn genhadwr ar fryniau Cassia.
Canfyddwyd pan oedd Evan yn lled ieuanc nad oedd ei fryd ar weithio ar y fferm, na bugeilio defaid ei dad. Y mae yn lled debyg ei fod lawer tro wedi bod yn gwneyd ei ran gyda'r defaid, yn enwedig ar y "prif wyliau," sef diwrnod "golchi" a diwrnod "cneifio" y canoedd defaid oedd yn pori ar "libart" y Merddyn Mared. Gwell fyddai gan y bachgen ddarllen ac astudio a chwilio am adnod ar rhyw bwnc na myn'd i chwilio am ddafad gölledig. Ond, fe ddaeth y dydd mewn blynyddoedd, pan yr aeth Evan Peters ar ol llawer "dafad golledig," a bu yn foddion yn llaw y Bugail Mawr i ddyfod a llawer “dafad" oedd wedi crwydro, i'r gorlan.
Derbyniodd ei addysg elfenol yn y Bala, ac aeth i Goleg y Methodistiaid tua'r flwyddyn 1847, nid y pryd hyny gyda'r amcan o fyn'd i'r weinidogaeth, ond ei fwriad oedd paratoi i fod yn ysgolfeistr.
Yn y flwyddyn 1850, neu oddeutu hyny, aeth i Goleg Hyfforddiadol y Borough-road, Llundain, sefydliad o'r un natur ag ydyw Coleg Normalaidd Bangor, yr hwn sydd yn awr o dan ofal y Prif-athraw John Price, a'r Is-athraw John Thomas, B.A. Mewn rhai misoedd ar ol myn'd i'r brif-ddinas, cymerwyd Evan Peters yn glaf o'r cholera, yr hwn bla y flwyddyn hono a laddodd fwy o bobl yn Llundain nag a laddodd unrhyw bla er amser y pla du yn y flwyddyn 1665, yr hwn a ddilynwyd y flwyddyn ganlynol gan y tân mawr, yr hwn hefyd a laddodd ugeiniau o filoedd o'r dinaswyr.
DAN Y CHOLERA.
Un diwrnod daeth llythyr i fy nhad a marc post Llundain arno. Cymaint oedd y dychryn yn y wlad wrth glywed son am y geri marwol oedd yn difa cynifer o blant dynion yn y Brif-ddinas, fel yr oedd arnynt ofn cyffwrdd â hyd yn oed llythyr oddiyno. Agorodd fy nhad y llythyr gyda llaw grynedig, ac er ei fawr ofid gwelai fod ei hoff gâr a chyfaill, Evan Peters, yn gorwedd mewn Ysbyty yno o dan y cholera. Teimlodd y loes yn fawr. Gwelai mai ei ddyledswydd gyntaf oedd myn'd i dori y newydd trwm i Merddyn Mared, a dyna y swydd fwyaf anhawdd a syrthiodd i'w ran erioed.
Haws dychmygu na darlunio teimladau Sian Jones pan glywodd y newydd. Eisteddodd i lawr yn yr hen gadair yn yr hon yr oedd wedi eistedd ganoedd o weithiau i fagu Evan bach. Dyma holl deimladau calon dyner mam yn cael eu cynhyrfu i'r gwaelodion. "Ow, Ow," meddai, "Evan bach, fy machgen anwyl i, yn gorwedd o dan y pla marwol, yn nghanol estroniaid. 'Does yna yr un fam i afael yn dy law, ac i roddi tipyn o ddwr oer i wlychu dy wefusau sychion, ac i esmwythau dy glustog" (wyddai y fam drallodus ddim fod ei bachgen mewn dwylaw caredig yn un o brif Yspytai y Brifddinas). Wylai Sian Jones yn dorcalonus, a gadawyd iddi. 'Does dim sydd mor iachusol i rywun mewn ing a thrallod, a chael wylo dagrau yn hidl. Os bydd arnat ti, ddarllenydd hynaws, eisieu wylo pan mewn ing, na fydded gywilydd genyt, oblegid oni wylodd yr Iesu o Nazareth uwchben bedd ei gyfaill Lazarus? Mae rhywbeth refreshing mewn cael colli dagrau pan fyddo y gostrel yn llawn. Wel, fe wylodd Sian Jones am fod Evan o dan y cholera. Safai Peter Jones a'm tad fel delwau. Ni wylodd Peter, nid oedd efe o'r un natur a'i wraig. Teimlodd i'r byw, ond nid ydoedd mor emotional a'i briod. Parchai fy nhad a Peter Jones deimladau y fam. Yn y man tarawodd rywbeth Peter, ac aeth at ei wraig, rhoddodd ei law ar ei hysgwydd, a dywedodd, "Paid a chrio, Siani bach, ydi Evan ni ddim ei hunan yn mhlith estroniaid, o nag ydi, yr oedd o yn ormod o ffrynd i'r 'Cyfaill a lŷn yn well na brawd,' iddo fo ei adael o mewn cyfyngder." Edrych- odd Siani yn myw llygad Peter, a gwenodd gan ddyweyd, O ydi, Peter bach, mae hi yn ol reit efo Evan, 'roedd o ac Iesu Grist yn gryn ffrindiau." Nid hir y bu Sian Jones cyn sychu ei llygaid gyda'i ffedog stwff cartref. Hen wr dewr oedd Peter Jones, o'r Merddyn Mared, wedi hyny o'r Rhydwen. Hen grefyddwr distaw. Chlywais i neb erioed yn dyweyd eu bod wedi ei glywed yn gorfoleddu amser Diwygiad Crefyddol, na'i fod erioed wedi rhoddi rhyw "amen" uchel iawn; ond nid oedd hyny yn arwydd yn y byd nad oedd " ysbryd ysbryd y peth byw" ganddo. Ie, hen wr brave oedd Peter Jones, fel y cawn weled yn mhellach yn mlaen.
D'OD ADREF.
Yn mhen ychydig o ddyddiau cafodd fy nhad ail lythyr o Lundain, wedi ei ysgrifenu yn llaw dda ac eglur Evan Peters, yn yr hwn y dywedai ei fod yn gwella yn gyflym, ac y deuai adref cyn gynted ag y cai ganiatad y meddygon. Da y cofiaf y prydnawn y daeth adref yn y goach fawr o Llangollen Road. Yr oedd tyrfa fawr wedi dyfod at y White Lion i'w ddisgwyl, a mawr oedd yr ysgwyd dwylaw. Yr oedd Peter a Siani Jones hefyd wedi dyfod i gyfarfod eu mab. Pan ddaeth y mab i fewn i'r ty—wel, mae'r olygfa yn rhy gysegredig—tynwn i lawr y llen.
Gwellhaodd E. Peters yn gyflym o dan ofal ei fam. ac awelon iachus Mynydd y Berwyn, lle porai deadelloedd Peter Jones. Yn fuan wedi hyn ymadawodd y Parch. John Williams i Landrillo i fod yn agent i Lord Ward, a chymerodd Evan Peters ei le fel ysgolfeistr, ac yn lled fuan wedi hyny dechreuodd bregethu. Ar ol agor y British School yn 1855 gan Mr. John Price, yn awr o'r Normal College, Bangor, symudodd Mr. Peters i Tynewydd, Talybont, ger y Bala, lle bu yn ffarmio am flynyddoedd, ac yn cadw ysgol yn y capel. Bu eglwysi Talybont, Llidiardau, a Celyn o dan ei ofal am flynyddoedd.
PRIODI.
Pan yn ysgolfeistr yn y Bala elai yn ol a blaen i'r Rhydwen bob wythnos, a galwai yn fynych iawn yn y Ty Cerig, hen gartref Mr. Thomas Ellis, Cynlas, fel y buom yn dyweyd o'r blaen. Yr oedd yno ddwy ferch, Gwen a Catherine, ac nid ydoedd yn beth rhyfedd fod y llanc parablus wedi syrthio dros ei ben mewn cariad â'r hynaf o'r ddwy. 'Doedd hyny ond true to nature, fel y dywedai Wil Bryan. Unwyd y ddeuddyn hapus mewn glân briodas, a chafodd ysgrifenydd yr Adgofion hyn y fraint o fod yn bresenol ar yr amgylchiad. Mae Mrs. Peters yn fyw eto, ac yn iach a heini. Ar farwolaeth Mr. Peters, fel y dywedais o'r blaen, rhoddodd plant ysgolion Sabbothol pum' plwy' Penllyn gofgolofn hardd ar ei feddrod.
PETER JONES AC ETHOLIAD 1859.
Mae pobl y Bala yn cofio yn dda am etholiad fawr 1859, pryd y daeth Mr. David Williams, Castell Deudraeth, allan yn erbyn Mr. Wynne, o Beniarth, yr hwn oedd wedi eistedd dros Sir Feirionydd am lawer o flynyddoedd. Yr oedd Peter Jones yn un o ferthyron yr etholiad fythgofiadwy hono. Dylasai fod cofgolofn ar heol fawr y Bala yn goffadwriaeth am y gwŷr da hyny a ddioddefasant dros eu hegwyddorion yr amser hono. Foreu diwrnod yr etholiad collwyd Peter Jones yn foreu iawn o'r Rhydwen. Daeth cerbydau o'r dref oddiwrth y ddwy blaid i'w gyrchu i'r etholfa, ond nid oedd son am Peter. Chwiliwyd yr ysgubor, yr ystabl, a'r beudai. Awd i gorlanau y defaid i'r mynydd, ond nid oedd son am Peter Jones.
Bu yn gyfyng iawn arno o'r ddeutu. Dywedai un llais wrtho, Dos i'r Bala i fotio dros Williams, Castell Deudraeth. Dywedai llais arall yn groch,—Na, Peter, cerdd di i roddi dy bleidlais yn ol dymuniad dy feistr tir, dyna y peth goreu i ti o lawer. Yn nghanol y grug yr oedd Peter Jones yn llechu, ac nis gŵyr neb ond ef ei hunan a'r Hwn sydd yn gwybod pobpeth yr ymdrech y bu ynddi. Buom yn dychymygu lawer gwaith fod y defaid yn edrych ar yr ymdrechfa, ac yn gwel'd y gwr ar ei liniau yn nghanol y grug, ond efallai nad oedd yr olygfa yn un anghyffredin iddynt. Mae'n debyg mai nid dyna y tro cyntaf na'r diweddaf y bu Peter Jones o'r Rhydwen ar ei liniau yn y grug.
Wel, yr oedd lecsiwn fawr 1859 yn myn'd yn mlaen yn y Bala, ac yr oedd pob pleidlais o werth amhrisiadwy. 'Doedd dim son am Peter Jones o'r Rhydwen. Yr oedd y poll i gau am bedwar o'r gloch. Dyma fys yr hen gloc mawr ar dri-chwarter wedi tri-haner awr wedi tri, ond dim golwg ar Peter Jones. Safai Evan Peters yn y dyrfa yn welw ei wedd gan bryder.
"Ddaw o ddim yn siwr," meddai rhywun.
"Choeliaf fi ddim," meddai Evan Peters, "tan fydd y cloc wedi taro pedwar." Dyna fys y cloc ar chwarter i bedwar, dyna ryw waedd yn y "Stryd fach." Be' sydd yn bod? Dyma Peter Jones wedi dwad," meddai ugeiniau o leisiau. Aeth yr hen wr i'r Town Hall. Yr oedd yno agent y meistr tir ac amryw ereill yn bresenol. Daliai pawb ei wynt yn ei ddwrn. "Wel, Peter Jones," meddai arolygydd y bleidesfa, "dros pwy ydech chwi yn myn'd i fotio?
"Dros Dafydd Williams, Castell Deudraeth," meddai'r hen wr yn dawel. Yn y grug yr oedd Peter Jones wedi tori y ddadl. Nid anghofiaf byth yr olygfa pan ddaeth yr hen wron allan o'r neuadd. Yr oedd Evan Peters yn barod i orfoleddu. Ni chafodd tywysog erioed fwy o groesaw nag a gafodd yr hen wron y prydnawn hwnw ar Heol Fawr y Bala. Ni adroddaf beth a ddigwyddodd ar ol yr etholiad, digon yw dyweyd mai Mr. Morris Peters, mab ieuengaf Peter Jones, gafodd y fferm, ac mai efe sydd yn byw yno hyd y dydd heddyw.
GWYL ARBENIG.
Diwrnod mawr yn Rhydwen fyddai diwrnod cneifio, dyna yr wyl arbenig." Rhifai defaid Peter Jones ganoedd lawer, ac nid wyf yn meddwl y gwyddai ef eu rhifedi, mwy nag y gŵyr Morris Peters yn awr rifedi ei ddefaid ef, a mwy nag y gwyddai Abraham rifedi ei ddeadelloedd pan oedd efe yn Ngwastadedd Mamre. Nid oedd gan Peter Jones gymaint ag oedd gan Job o ddefaid pan oedd ef yn ngwlad Us, rhifai ei ddefaid ef saith mil, ond fe glywais lawer tro fod gan wr y Rhydwen yn mhell dros fil o ddefaid yn pori ar fryniau y Berwyn. Ie, diwrnod mawr oedd diwrnod cneifio, fel y canodd Ceiriog yn ddoniol,—
"Sŵn y gwelleifiau mewn 'sgubor a buarth,
Hyrddod yn ymladd 'rol stripio eu gwlan;
Cwn yn brefu, a defaid yn cyfarth,
A'r crochan pitch yn berwi i'r tân."
Fy hoff waith i oedd cael myn'd i'r Wyl fawr i Rhydwen, ac hefyd i'r Wenallt, Gilrhos, a'r Ty Cerig. Yn y lleoedd hyny y dysgais y gelfyddyd o "argraphu," —nid argraphu ar bapyr, ond argraphu ochrau y defaid gyda llythyrenau pitch ar ol eu cneifio. Bu canoedd lawer o ddefaid yn tramwy ar fryniau mynydd mawr y Berwyn âg ol fy argraphwaith i arnynt. Llawer dafad a argrephais â'r llythyrenau P J., E J., M E., a T E. Dyna oeddynt lythyrenau Rhydwen, y Wenallt, y Gilrhos, a'r Ty Cerig. Dechreuais ddysgu "argraphu" pan yn chwech oed, a rhoddais i fyny y grefft pan aethum y tu ol i'r counter i werthu pitch, nôd coch a lamb black. Wn i ddim beth fuasech chwi, argraphwyr proffesedig yr oes hon, yn galw y llythyrenau? Nid bourgeoise, long primer, na small pica, na chwaith small caps. "Caps" oeddynt mae'n siwr, ond "large caps." Nid oedd yr argraphwaith ar ochrau y defaid yn hir—barhaol, oblegid byddai gwlan y defaid yn "tyfu drachefn," fel y "tyfodd gwallt Samson drachefn," ac yna collai y llythyrenau pitch, ac yr oedd yn rhaid cael nôd arall, sef
NOD CLUST.
Dyma "nôd" farbaraidd dros ben; wn i ddim lle cafodd yr hen Gymry y drychfeddwl an—ardderchog, os nad gan y Tyrciaid neu y Persiaid. Maent hwy, medd ysgrifenydd yr erthygl ragorol Yma ac Acw yn Asia yn y rhifyn cyntaf o'r LLENOR, yn hoff iawn o "dori clustiau" dynion, beth bynag am glustiau defaid. Waeth gan y Shah dori clust dyn i ffwrdd na'i 'winedd. Golygfa a barodd i mi wylo lawer tro oedd gwel'd y bugail neu y bwtsiar yn tori clustiau yr ŵyn bach diniwed. Buasai yn llawer gwell genyf eu gwel'd yn tori clust y bugeiliaid; byddai fy nghalon yn gwaedu wrth wel'd y gwaed yn treiglo i lawr benau yr ŵyn bach.
Wn i ddim yn sicr a ydyw nodau clustiau gwahanol siroedd Cymru yn gwahaniaethu llawer, ond dyma rai o nodau sir Feirionydd:—1. Nod canwar—tori bwlch yn mlaen y glust: 2. Nod carai—tori un ochr i'r glust: 3. Nod sciw—tori un ochr i'r glust ar sciw: 4. Bwlch tri thoriad: 5. Bwlch plŷg: 6. Tori blaen y glust.
FY OEN LLYWETH.
Mawr oedd fy llawenydd pan roddodd fy nain oen
llyweth" yn bresant i mi—"oen swci" ddywedant
mewn rhai siroedd. Canlynai fi i bob man fel y canlynai "pet lamb" "Mary" y buom yn canu am dani yn
yr ysgol pan yn fabanod. Ond pan ddaeth Edward
Jones o'r Wenallt i'r Gilrhos rhyw ddiwrnod, dywedodd
yr hen wraig wrtho,—"Yma ti, Ned, gwell i ti ro'i nôd
clust ar oen John bach." Rhoddais fy mreichiau am
wddf fy oenig, a dywedais, "Chewch chi ddim tori clust
fy oen bach; well gen i, i chwi dori fy nghlust i." Am
y tro bu fy eiriolaeth yn ddigon. Fodd bynag, pan
aethum i ffwrdd i Loegr am haner blwyddyn rhoddwyd
nôd ar glust fy oen, a gyrwyd hi i'r mynydd mawr
gyda'r defaid. Pan ddaethum yn ol, chwiliais lawer am
dani, ond nid oedd Beti yn adnabod John na John yn
adnabod Beti. Tybed ai onid oes rhyw oruchwyliaeth
i roddi nôd parhaol ar ddefaid heb arfer creulondeb?
Fe ddywed rhai nad ydyw yr oen bach yn teimlo
teimlo poen.
Ond paham y mae'r oen diniwed yn brefu mor dorcalonus ag y bydd baban yn wylo pan mewn poen?
Clywais na fydd bugeiliaid yr Alpau yn tori nôd ar
glustiau y defaid, ond mai math o gylch roddir am eu
gyddfau, ac oddiwrth hwn bydd cloch fechan yn hongian.
Pan y bydd y praidd yn dychwelyd i'r gorlan gyda'r
hwyr, rhag ofn y bleiddiaid, bydd swn y clychau yn
adseinio trwy'r dyffrynoedd a'r llechweddau yn y modd
mwyaf swynol. O! na chaem glywed y fath fiwsig ar
lechweddau y Berwyn, yr Aran, Cader Idris, Moel
Famau, y Wyddfa fawr, a bryniau ereill Gwalia Wen.
RHESTR O'R TANYSGRIFWYR
Fe ddichon fod rhai enwau wedi eu gadael allan trwy amryfusedd; os oes, byddant mor
garedig a chydymddwyn â mi.
ABERYSTWYTH.
Davies, Mr. E., Talbot Hotel |
Parry, Mrs., Llwyn'rodyn. |
|
Jones, Revd. Evan |
CRICCIETH . |
Owen, Mr. T. Woodward, M.A., |
LLANRWST. |
MOLD. |
PENRHYNDEUDRAETH. |
The Theological College,
BALA, NORTH WALES.
Principal: The Rev. T. C. EDWARDS , D.D. , late Principal of the University College of Wales, Aberystwyth.
Professor of Dogmatics and the Biblical Criticism of the New Testament: The PRINCIPAL.
Professor of Ethics, Apologetics, and. Comparative Religion: The Rev. ELLIS Edwards, M.A. (Edin.)
Professor of Church History and the History of Doctrine: The Rev. HUGH Williams, M.A. (Lond.)
Lecturer in Hebrew and Exegesis of the Old Testament: Rev. JAMES O. F. GRACIE, M.A., B.D.
The College is exclusively Theological, but is open to all, whether candidates for the ministry or laymen, and whether men or women, belonging to any section of the Christian Church, on passing an entrance Examination.
A fee of £5 for the Session is charged in the case of students not candidates for the ministry among the Welsh Calvinistic Methodists.
The next Session begins on Tuesday, January 15th, 1895. The College Calendar for the year 1894-5, containing an address to the students, by the Rev. JOHN WATSON, M.A.; addresses on Pastoral Work, by the late Rev. W. POWELL, Pembroke; Examination Papers, &c., is now ready, and may be had on application from the Registrar of the College.
Nodiadau
golygu- ↑ * Ar ol i'r ysgrif hon ymddangos ysgrifenodd un hen Gristion ataf y geiriau canlynol: "O, y mae digon i'w cael ar hyd a lled Cymru." Wel diolch am hyny.
- ↑ Y mae y cyfaill wedi myn'd erbyn hyn i fewn i lawenydd ei Arglwydd.
- ↑ Hysbysir fi gan Olygydd Seren y Bala fod yr hen "Gambrian" yn ddigon diogel yn y swyddfa, ond wedi ei dynu yn ddarnau.
- ↑ Ar ol i'r sylwadau hyn ymddangos yn CYMRU buom o dan driniaeth chwerw gan amryw feirdd am anghofio Tegidon a Gomer ab Tegid. Gwneuthym ymddiheurad llawn a maddeuwyd fy mhechodau.
- ↑ Cywira Mr. Owen M. Edwards fi mewn rhifyn o CYMRU, a dywed fod tarddiad y Ddyfrdwy yn Garneddwen rhwng y Bala a Dolgellau, a rhaid i mi ymostwng iddo ef.
- ↑ Da genyf ddeall fod awgrym Mr. Owen M. Edwards i gael Côfgolofn i Glyndwr yn cael derbyniad selog.
- ↑ Yr ydwyf yn ddyledus am hanes y Wyniaid o'r Plas Newydd i Miss M. E Ellis, Cynlas.
- ↑ Ysgrifenwyd hwn cyn yr Eisteddfod.
- ↑ Cochfarf oedd ffug-enw iawn Mr Thomas
Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.