Cerddi a Baledi (Testun cyfansawdd)
← | Cerddi a Baledi Teitl gan I. D. Hooson Teitl |
→ |
GAN
1936
I'M RHIENI
EDWARD A HARRIET HOOSON
Argraffiad Cyntaf— Tachwedd 1936
Argraffwyd yng Ngwasg Gee, Dinbych
RHAGAIR
YN y Cymru Coch lawer blwyddyn yn ôl y bwriais fy mhrentisiaeth, a mawr yw fy niolch i Olygydd mwyn y misolyn annwyl hwnnw am roddi derbyniad mor garedig i'm hymdrechion cynnar, O edrych yn ôl dros y blynyddoedd gallaf dystio amdano, fel y gwna llaweroedd, "Corsen ysig nis tyr, a llin yn mygu nis diffydd." Ysgrifennais lawer i wahanol gylchgronau a phapurau lleol y dyddiau hynny; ac yna am ryw reswm anesboniadwy disgynnodd mudandod arnaf. Ymhyfrydwn fel cynt mewn barddoniaeth, ond pallodd pob cyffro ac awydd i greu cân fy hun. Rhai blynyddoedd wedi'r Rhyfel Mawr, yn sydyn ac yr un mor anesboniadwy, wele'r ysfa drachefn yn fy meddiannu, a chynnyrch y dwymyn hon a geir yn bennaf yn y Gyfrol. Rhwng 1930—1936 yr ysgrifennwyd y rhan fwyaf o gynnwys y Gyfrol, ac ni cheir ynddi ond rhyw dair neu bedair o'm caneuon cynnar. Ni bûm erioed yn chwannog i gystadlu. Nid rhinwedd ynof mo hyn yn ogymaint â diffyg o'r ddawn a roddwyd mor helaeth i rai o'm brodyr i ganu'n rhwydd a pharod ar destunau gosodedig. Yr ychydig droeon y mentrais i'r maes cystadlu bu'r beirniaid yn dirion iawn wrthyf, ond ni roddais i mewn yn y gyfrol ond un delyneg fuddugol.
Ymddangosodd y rhan fwyaf o'r "Cerddi a'r Baledi" o droi dro yn Y Llenor, Y Ford Gron a'r Western Mail, a mawr yw fy niolch i Olygyddion y Cyhoedd- iadau hynny am roddi llcty iddynt ar cu siwrnai gyntaf oddi cartref.
Diolch yn bennaf i'm gyfaill llengar, Mr. Hugh Ellis Hughes, prifathro Ysgol Ganolog, Penygelli, Wrecsam, am ei ddiddordeb parhaus yn fy ngwaith, ac am ei gymorth parod a gwerthfawr ynglŷn a phob adran o'r gyfrol.
Am yr hyn sy'n gamp yn orgraff a chystrawen y llyfr, iddo ef y mae'n rhaid diolch. Am unrhyw remp a all fod ynddo, beier mympwy'r awdur.
- I. D. HOOSON.
RHOSLLANNERCHRUGOG,
HYDREF, 1936.Cynnwys
CANEUON
Y Fflam | • • • • • | 13 | Y Lloer | • • • • • | 36 | ||
Y Rhwyd | • • • • • | 14 | Yr Ydfaes | • • • • • | 37 | ||
Y Lamp | • • • • • | 15 | Ffydd | • • • • • | 38 | ||
Aderyn | • • • • • | 16 | Y Pren Afalau | • • • • • | 40 | ||
Y Trysor | • • • • • | 18 | Daffodil | • • • • • | 41 | ||
Henaint | • • • • • | 19 | Y Llwyn | • • • • • | 42 | ||
Y Carcharor | • • • • • | 20 | Y Cudyll Coch | • • • • • | 44 | ||
Castell Conwy | • • • • • | 22 | Yr Eos | • • • • • | 45 | ||
Y Pryf | • • • • • | 24 | Y Wennol | • • • • • | 46 | ||
Y Cysgwyr | • • • • • | 26 | Yr Ehedydd | • • • • • | 47 | ||
Hen Fynwent | • • • • • | 27 | Y Daran | • • • • • | 48 | ||
Tanau | • • • • • | 28 | Yr Ysgyfarnog | • • • • • | 50 | ||
Y Gannwyll | • • • • • | 29 | Y Llwynog | • • • • • | 52 | ||
Cynhebrwng | • • • • • | 30 | Yr Ynys Bellennig | • • • • • | 54 | ||
Tobi | • • • • • | 31 | P'run | • • • • • | 55 | ||
Wil | • • • • • | 32 | Yng Ngolau'r Lloer | • • • • • | 56 | ||
Y Fronfraith | • • • • • | 33 | Fioled | • • • • • | 58 | ||
Hawliau | • • • • • | 34 | Mewn Gardd | • • • • • | 60 | ||
Y Wawr | • • • • • | . . . . | 35 | Y Cariad a Gollwyd | • • • • • | 62 |
BALEDI, etc
Mynwent Bethel | • • • • • | 65 | Owain Lawgoch | • • • • • | 82 | ||
Yr Hen Dwm | • • • • • | 67 | Guto Nyth Brân | • • • • • | 86 | ||
Y Breuddwyd | • • • • • | 72 | Y Gwylliaid Cochion | • • • • • | 91 | ||
Harri Morgan | • • • • • | 76 | Y Rhyfelwyr | • • • • • | 91 | ||
Barti Ddu | • • • • • | 77 | ... | ||||
I'r Plant
CANEUON
Y FFLAM
CARAFAN coch a milgi brych
A chaseg gloff yng nghysgod gwrych;
A merch yn dawnsio i ysgafn gân
A chrwth ei chariad yng ngolau'r tân.
Cyfyd y tân ei wenfflam fry
Fel braich am wddf y crochan du;
A'r Sipsi tal a rydd dan sêl
Ei lw o serch ar fin o fêl.
Dros ac y bryn y dring y lloer,
Mae'r tân yn awr fel hithau'n oer;
Angerdd pob fflam, a thân pob nwyd,
A dry'n ei dro yn lludw llwyd.
Y RHWYD
SYLLAIS ar wead cywrain
Ei rwydwaith arian cain
Ar frigau'r perthi gwyrddion,
A gwynion flodau'r drain.
"Celfydd yw'r llaw a'i nyddodd,
Hawddgar a theg yw'r un,"
Meddwn, "a weithiodd allan
Gampwaith mor hardd ei lun."
Gwyliais—ac wele'r gweithiwr
Yn brysur wrth ei waith,
Ond nid oedd tegwch iddo
Na dim hyfrydwch, chwaith.
Ac yn y rhwydwaith arian
Ymwingai dryslyd ddau—
Prydydd a'i awen ysig,
Pryfyn a'i adain frau.
Y LAMP
(WEDI TANCHWA GRESFORD:, MEDI, 1934)
FE ddeil y lamp ynghyn
Ar fwrdd y gegin lom,
A fflam fel gobaith gwyn
Drwy oriau'r hirnos drom.
Mae'r drws o led y pen,
Er oered gwynt y nos;
Pwy ŵyr na ddaw y llanc
Yn ôl cyn hir i'r Rhos?
"Mae'n gorwedd," meddai rhai,
"O dan y talcen glo
A'r fflam yn fur o dân
O gylch ei wely ô."
Ond, yn y bwthyn llwyd
Mae un o hyd a fynn
Ddisgwyl ar drothwy'r drws,
A chadw'r lamp ynghyn.
ADERYN
(A DDAETH UN DYDD YN FAWR EI FFWDAN DRWY'R
FFENESTR I SWYDDFA'R BARDD)
PAHAM, paham, aderyn hardd,
Y daethost ti i swyddfa'r bardd—
I le mor llwm, mor groes i'th reddf,
O'r llwyni ir ac lynu ddeddf;
O'r awyr rydd i gyfyng rwyd
Ystafell Fwll cyfreithiwr lwyd
Ond un sy'n caru, fel tydi,
Gytgan y dail a murmur lli,
A phob rhyw liw a llawen gerdd
A geir mewn maes a choedlan werdd?
Ai'r hebog cas, aderyn ffol
A fu yn ymlid ar dy ôl?
Ai dianc wnaethost rhag y saeth
Neu ddychryniadau a fo gwaeth—
Rhyw gudd adarwr brwnt ei lun
A ofni'n fwy na'r gelyn ddyn?
O, paid â gwylltio, 'r bychan ffôl,
Gan hedeg, hdeg 'mlaen ac ôl,
Yn lleddf dy gri gan ddeffro'r llwch
Sy'n gorwedd ar fy llyfrau'n drwch;
Pam garwhei dy liwiog blu?
'D oes yma neb ond cyfaill cu;
Ond gwn mai anodd yw i un
A glywodd am greulonder dyn
At deulu'r maes a'r coed a'r lli,
Ddisgwyl tynerwch gennyf i,
Paid, paid â chrynu yn fy llaw,
Cei fynd yn ôl drwy'r gwynt a'r glaw,
I'r meysydd glas a'r goedlan werdd,
Ac yno eto byncio cerdd;
Dan hugan wen y ddraenen ddu
Cei wrando cân dy gymar cu,
A llechu'n dawel; ac fe chwyth
Awelon hwyrddydd dros dy nyth;
Cei deimlo'r plisgyn gwan yn rhoi
Odanat—tithau'n ymgyffrôi
Mewn melys ffwdan am fod un
Newyddanedig gwael ei lun
Yn mynnu, mynnu gwthio'i ben
Dan esmwyth blu dy fynwes wen;
A'th gymar balch â'i felyn big
Yn torri'r newydd drwy y wig.
Pob rhyw hyfrydwch a fedd llwyn
A fo dy ran, aderyn mwyn;
A chysgod yr adarwr hy
 gadwo 'mhell o'th ddeilog dŷ.
Paid, paid â chrynu yn fy llaw,
Cei fynd yn ôl drwy'r gwynt a'r glaw,
Gwêl—mi agoraf lydan ddrws,
Dos dithau, dos, y bychan tlws.
Y TRYSOR
CWSG, O! cwsg; fy mhlentyn,
Yn fy mreichiau clyd
Nid oes a'n gwahana
Heno drwy y byd.
Fe ddaw rhywun heibio
Rywdro, ac a fynn
Ddwyn f'anwylyd ymaith
O fy mreichiau tyn.
Amser, yr Ysbeiliwr,
Antur fawr, neu Serch
Hud rhyw fro bellenig
Llygaid dengar merch,
Gwŷr a meirch y Brenin
Âr eu ffordd i'r gad;
Tithau'n mynd i'w dilyn
Fel yr aeth dy dad.
Rhywdro ond nid heno;
Cwsg fy mhlentyn gwyn.
Ni chei grwydro heno
O fy mreichiau tyn.
HENAINT
Eisteddai'n llonydd wrth y tân
Mewn esmwyth hun, yn hen a blin;
Ei gwar ynghrwm, ei dwylo 'mhleth,
A'r gweill yn segur ar ei glin.
Meddyliau mwyn ymdonnai'n wên
Dros dawel wedd ei hwyneb gwyn,
Fel chwaon pêr o erddi pell
Yn hwyr y dydd dros lonydd lyn.
Huno, breuddwydio, deffro dro,
A'r gweill yn trin yr edau frau
I'r olaf bwyth; a'r olaf hun
Ddifreuddwyd, hir amdani'n cau.
Y CARCHAROR
(TÂN)
TU ôl i'r barrau dur
Fe rua'r bwystfil coch—
Rhuo a chwyno'n lleddf,
Cwyno a rhuo'n groch.
Fe gofia'i uchel dras,—
Llwdn fforestydd nef;
Un o wehelyth hen
Yr heuliau a'r sêr yw ef.
Gwêl ei bawennau llyfn,
Tegwch ei liw a'i rym;
Gwêl felyngoch fwng.
Gwylia'i ewinedd llym.
Ymwinga, ymwthia'n wyllt
Yn erbyn barrau'i gell
Ysir ef gan ei nwyd;
Clyw leisiau'r fforestydd pell.
• • • • • • •
Weithian gorwedda'n fud,
Dim ond y llygaid coch
A weli yng nghwr y gell;
Darfu y rhuo croch,
Llygaid yn araf gau,
Dim ond llwch yn y gell;
Yntau'r carcharor a aeth
Yn ôl i'w gynefin pell,
CASTELL CONWY
TEITHIAIS heibio i Gastell Conwy
Ym Mehefin, gyda'r wawr,
Ac mi welais rhwng y meini
Ryw ysmotiau cochion mawr,
A thafodau tân yn chwarae
Ar y mur ac ar y llawr,
"Gwaed y ddewrion," meddwn innau,
"Gwaed y gwŷr a gwympodd gynt";
Ac 'r oedd siffrwd eu baneri
Yno'n aros y gwynt,
A llef utgyrn hen ryfeloedd
Yn fy nilyn ar fy hynt.
"Fflamau," meddwn, "fflamau'r goelcerth
A gyneuwyd ddyddiau fu,
Ac yn para i olau eto
Er i Angau oeri'r llu
A'u cyneuodd"; ac mi glyw-wn
Glecian rhwng y trawstiau du.
Syllais wedyn—yna gwelais,
Yno'n glir yng ngolau dydd,
Mai Mehefin a fu'n gwisgo
Muriau'r gaer â'i flodau rhudd.
Unlliw'r fflam â gwaed y dewrion;
Ac fe ffodd fy mreuddwyd prudd.
Y PRYF
(RHYBUDD A WELIR AR FURIAU EGLWYS PEDR SANT YN
NINAS CAER, MEDI, 1933. "THIS ANCIENT CHURCH—1026.
YEARS OLD—IS IN DANGER. THE DEATH WATCH BEETLE
HAS ATTACKED THE SOUTH ROOF")
MAE Eglwys y Sant mewn enbydrwydd,
A chyffro drwy Ddinas Caer;
Ac Esgob a Rheithor yn anfon
I fyny ymbiliau taer.
Mae rhywun yn ysu y trawstiau
Nes siglo'r muriau a'r tŵr,
Heb barch i na Rheithor nac Esgob
Na Sant, na chywreinwaith gŵr
Yn nen yr adeilad â'i finiog
Fynawyd yn tyllu drwy
Y llathraidd golofnau fu'n sefyll
Am fil o flynyddoedd a mwy,
Gan droi eu cadernid a'u tegwch
Yn fân-lwch, i ddilyn hynt
Bob tegwch a fu, a chadernid
Ac ymffrost yr oesau gynt.
A dynion â chŷn ac â morthwyl
Yn dringo'r ysgolion tal,
Gan ddilyn ei drywydd drwy'r trawstiau;
Ond ofer yw ceisio ei ddal,
Ei drywydd a gylcha'r cyfanfyd;
A phan êl hwnnw ar chwâl,
Yn lludw y Seren olaf
Y delir y pryf yn ei wâl.
Y CYSGWYR
HEDDIW, a Mai yn Chwerthin
O berth a chlawdd a gwig,
Sefais wrth lidiart isel
Eu holaf dawel drig.
'Roedd chwerthin yno hefyd,
Ac yno yr oedd "Mai
Ai lifrau yn roi urddas
Ar irddail" gwael y tai
Blagurai'r wyllt fiaren
Ar drothwy llawer tŷ,
Ac wrth y drws caeedig
Ymsythai'r chwyn yn hy.
A thorrodd llais direidus
Y drudwy ar fy nghlyw;
Ei chellwair rhwng y cangau,
A'i chân ym mrig yr yw
Ond cysgai'r holl breswylwyr
Drwy hirddydd heulog Mai;
Ac ni ddaeth neb i godi
Llenni ffenestri'r tai.
HEN FYNWENT
PORTHWYD i newyn gwancus
Ar ysbail brasa'r fro
Llyncodd yr hen a'r ifanc
I'w chrombil yn eu tro.
Ymbesgodd ar fireinder
Ac irder mab a bun;
Esgyrn yr hen ŵr musgrell
 sugnodd iddi'i hun.
Bellach syrffedodd hithau,
Caeodd ei hirsafn rhwth;
Wele, daeth arni dynged—
Penyd di-wrthdro'r glwth.
Afiach ei hwyneb chwyddog,
Aflan y wisg fu'n hardd:
Mieri lle bu myrtwydd,
Ac anial lle bu gardd.
TANAU
TANIWYD y grug a'r eithin
Yng ngwyliadwriaeth nos;
Â'r fflam a gerddai'r moelydd
Mewn gwisg o aur a rhos.
Llosgwyd aneddau dinod,
Maesdrefi'r morgrug mân;
Yswyd eu da a'u tiroedd
Gan fflamau'r gwibiog dân.
Clywais o frig yr onnen
Ganig yn lleddfu'r gwynt;
Cofiais am Nero Grythor
Pan losgai Rhufain gynt.
Llygaid digyffro'r nefoedd
Syllai ar hynt y tân;
Echnos—gwych ddinas Rhufain,
Heno—tre'r morgrug mân.
Y GANNWYLL
CRWYDRAIS o'm bro gynefin,
Collais fy ffordd llwyr;
A thros y rhosydd unig
Disgynnai llenni'r hwyr.
Clywais y gwynt yn cwyno
Fel hen bererin llesg;
'R oedd yntau wedi colli
Ei lwybr yn yr hesg,
Taflai y lleuad gannaid
Ei llewyrch ar y rhos;
A llosgai llawer llusern
Ym mhlasau pell y nos.
'Teithiais ymlaen, a gwelais
Olau o'r bwthyn tlawd;
A diddim lloer a heuliau
Wrth olau cannwyll brawd.
CYNHEBRWNG
RHYW dridiau yn ôl ar yr heol
Ynghanol prysurdeb y dref,
Y safai'n gardotyn digysur
Heb neb yn ei gyfarch ef.
Ciliodd i'w gaban, ac yno,
Rhwng cyfnos a thoriad dydd,
Gosododd y Brenin ei hunan
Ei sêl ar ei lwydaidd rudd.
 chydradd cardotyn yr heol
Â'r balchaf benadur a fu,
 chyfled ei stad â'r pendefig
YN rhandir y Brenin du.
Heddiw yng ngherbyd y Brenin,
A'i lifrau, y pasiodd dref,
Â'r dyrfa a minnau'n dinoethi
Ein pennau o barch iddo ef.
TOBI
HEDDIW mi gollais gyfaill,
Hen gyfaill dengmlwydd oed,
Na welwyd mo'i ffyddlonach
Ar ddau na phedwar troed.
Gwelais y golau cyfrin
Yn cilio o'r llygaid têr—
Golau a fflam nad adnabu
Heuliau na disglair sêr,
"Enaid nid oedd i'th gyfaill"—
Dyna a ddywed rhai;
Sut bu i'r fath ffyddlondeb
Ddeilliaw o ddim ond clai?
"Nefoedd nì wnaed i'r cyfryw;
Yn wir, od oes nef i mi,
Mynnwn i'm cyfaill hefyd
Gael cyfran ohoni hi.
WIL
MAE Wil yng ngharchar Rhuthyn,
A'i wedd yn digon trist,
Ei rwyd a'i wn yn gorwedd
Yn segur yn y gist
Y ffesant mwy gaiff lonydd
Ym mherthi gwyrdd y plas,
A'r lwyd gwningen redeg
Yn rhydd drwy'r borfa fras
Mae Wil yng ngharchar Rhuthyn,
A'i wraig yn malio dim;
Na'r plant na neb yn hidio,
Ond "Fflach" y milgi chwim;
Mae hwn fel hen bererin
Hiraethus a dihedd,
Ei dduw ymhell, ac yntau
Yn methu gweld ei wedd,
Yng nghwr y goedwig neithiwr,
A'r lloer yn hwylio'r nen,
A welais lygaid gloywon
Ac ambell gynffon wen;
A thybiais glywed lleisiau
Fel mwyn aberoedd pell
Yn diolch i'w Creawdwr
Fod Wil yn rhwym mewn cell.
Y FRONFRAITH
YN fachgen bochgoch llon,
Â'm 'sgrepan ar fy nghefn,
Ac yn fy niriaid law
Y garreg greulon lefn;
Anelais honno gyda nerth,
A lleddais gantor mwyn y berth.
Yn fachgen llwyd ei wedd,
Penliniais yno'n brudd,
Euogrwydd dan fy mron
A'm dagrau ar fy ngrudd;
Ond ni ddaeth gweddi'r bachgen ffôl
Â'r cantor mwyn i'r berth yn ôl.
HAWLIAU
Mi welais ŵr—llechwrus ŵr—
Un min y nos, ar ddistaw droed,
Yn gosod creulon fagl ddur
I ddal diniwed deulu'r coed;
Haerai y gŵr ei hawl a'i reddf
Yn erbyn arglwydd, gwlad a deddf.
Mi welais ŵr—truenus ŵr—
O flaen y llys ar wŷs ei well,
A'r Ustus balch â sarrug drem
Yn sôn am ddirwy, cosb a chell;
Dadleuai'r gŵr ei hawl a'i reddf,
Pwysleisiai'r Ustus hawliau'r ddeddf.
Mi welais yn y fagl ddur
Greadur bach a'i wddf yn dynn,
A'i ffroenau'n wlyb gan ddafnau gwaed,
Ac yn ei lygaid olwg syn;
Dadleuai yntau yno'n lleddf
Ei hawl i fyw yn ôl ei reddf.
Y WAWR
BU rhyw rialtwch neithiwr
Tu ôl i'r dorau mawr
A gaeir rhwng y machlud
A thoriad cynta'r wawr;
Mae llestri y gyfeddach
Yn deilchion ar y llawr.
Ffiolau perl a chwrel
Ac aur gwpanau cain
A ddrylliwyd, ac mae'r gwinoedd
Yn llifo rhwng y rhain,
Eu staen ar fyrddau'r loddest
A'u gwyn lieiniau main.
Y LLOER
UN gannaid hwyr eisteddai gŵr,
A'i 'sbienddrych hir, mewn uchel dŵr,
Gan syllu fry i entrych nen,
A gwelodd di, O Leuad wen.
Sgrifennodd yn ei lyfr—"Y Lloer
Nid yw ond anial marw, oer,
Di ddŵr, di-awyr, llwm a noeth—
Ysgerbwd byd," medd Llyfr y Doeth.
Ac unwaith cerddai prydydd ffôl,
Yn glaf o serch, ar draws y ddôl;
Edrychodd yntau tua'r nen,
A gwelodd di, O Leuad wen.
Darllenais heddiw gyda gwên
Yng nghywydd mwyn y prydydd hen—
"Canhwyllau'r Brenin bia'r byd
Yw'r gannaid Loer a'r Sêr i gyd"
YR YDFAES
BU'R dawnswyr melyn drwy y dydd
Yn dawnsio'n hapus rudd wrth rudd,
Ac wrth eu traed 'r oedd tyrfa goch
Hefyd yn dawnsio foch wrth foch.
A thrwy y nos dros grib y bryn
Disgynnai ar y dawnswyr hyn
Betalau gwyn rhosynnau oer
Gerddi y sêr a lawntiau'r lloer.
Ond heddiw, drwy yr hafddydd maith,
Bu gwŷr yn brysur wrth y gwaith
O dorri i lawr a rhwymo'n dynn
Y dawnswyr melyn pendrwm hyn.
Âc weithian safant yno'n rhes
Dan leuad Awst, ei haul a'i des;
Ac ni all pibau mwyna'r gwynt
Eu denu hwy i'r ddawns fel cynt.
FFYDD
ROEDD gwyntoedd Mawrth yn chwythu.
Yn oer dros ddŵr y llyn,
A chaenen wen o eira
Yn oedi ar y bryn,
A'r gweithwyr wrthi'n brysur
Ym mrigau Coed-y-glyn.
Gweithwyr mewn cotiau pigfain
O frethyn parchus du
Wrthi drwy'r dydd yn ddyfal,
Er gwaetha'r gwyntoedd cry';
Wrthi heb gŷn na morthwyl
Yn adgyweirio'r tŷ.
Hen gartref eu hynafiaid
A faeddwyd gan y gwynt
Lle magwyd hwy au tadau
Yn hafau'r dyddiau gynt
Lle ledwyd adain gyntaf
Ar wyllt anturus hynt
"Weithwyr, nid oes un ddeilen
Eto ar goed y fro,
A bregus ydyw muriau
Eich cartref gwag, di-do”;
"Na hidia, fe daw ddaw'r irddail
A'r cywion yn eu tro."
Y PREN AFALAU
DAETH haid o wenyn gwynion
Ar gangau'r goeden ir,
A gwelais hwy yn cysgu
Dan olau'r heulwen glir;
'R oedd rhywun yn eu siglo,
Gan suo isel gerdd,
A'r gwenyn yn breuddwydio
Ar gangau'r goeden werdd.
Drwy'r berllan cerddais wedyn
Un hwyrddydd lleddf ac oer,
A hwythau'n dal i gysgu
Dan olau'r ieuanc loer;
Ond cri a ddaeth o'r dwyrain,
A rhyw ysgytio mawr,
A'r gwenyn gwyn a giliodd
O'r cangau cyn y wawr.
DAFFODIL
FE'TH welais di ar lawnt y plas,
A gwyntoedd Mawrth yn oer eu min;
Ar feysydd llwyd a gweirglodd las,
Ac awel Ebrill fel y gwin;
Ni welwyd un erioed mor llon,
Ath fantell werdd a'th curaid rudd,
Yn dawnsio yn y gwynt a'r glaw
I bibau per rhyw gerddor cudd.
Fe'th welais di mewn llestr pridd
Ar flawydd fwrdd gwerinwr tlawd;
Mewn ffiol ddrud o risial pur
Yn neuadd wych y da ei ffawd;
Ond ofer yno bob rhyw gerdd;
Ni ddawnsit mwy; ac ar dy rudd
'R oedd hiraeth am y gwynt a'r glaw,
A phibau pêr y cerddor cudd.
Y LLWYN
Haf
Rhyfeddais at dy degwch di
Arglwyddes hardd, a thirion ferch,
Pan ddaeth Mehefin yn ei rwysg
Yn dwym ei fron i ddweud ei serch;
'R oedd aur y flwyddyn yn ei wallt,
Ac yn ei lygaid las' y nef,
A thywysogion Hafau fil
A gerddai yn ei osgordd ef.
Mor llon dy lys, mor llawn dy fwrdd,
Fore'r briodas yn y coed;
A'r llu yn dod â dawns a chân
Ar adain chwim ac ysgafn droed;
Tithau'n ymdroi yng nghwmni'r llanc,
Ac angerdd serch yn gwrido'i wedd;
A minnau a'th westeion fyrdd
Yn oedi uwch cwpanau'r wledd.
Gaeaf
TOSTURIAF wrthyt heddiw, chwaer,
Wyt weddw drist, a thlawd a noeth.
A phle mae'r llanc a'r melyn wallt
A'i eiriau mel, a'i gusan poeth?
Dy lys sydd lwm, ei furiau'n foel,
A'th wisgoedd gwych yn garpiau coch;
Ac nid oes telyn drwy dy ffin,
Ond oernad' blin y rhewynt croch.
Mae'r hen ddirgelwch deimlais gynt
Tra safwn yn dy wyddfod di,
Oll wedi mynd, oil wedi mynd;
Daearol ydwyt fel myfi;
Mae serch yn fyr, byr ei barhad,
A dail a chnawd yn frau, yn frau;
Ond pwy a ŵyr, fy chwaer, na ddaw
Mehefin eto inni'n dau?
Y CUDYLL COCH
DAETH cysgod sydyn dros y waun,
A chwiban gwyllt aderyn du
A thrydar ofnus llinos werdd,
Ac uwch fy mhen ddwy adain hir
Yn hongian yn yr awyr glir.
Fe safai'r perthi ar ddihun,
A chlywid sŵn ffwdanus lu
Yn ffoi am noddfa tua'r llwyn
Mewn arswyd rhag y gwyliwr du;
Ac yntau fry yn deor gwae,
A chysgod angau dros y cae.
A minnau yno'n syllu'n syn,
Ar amrant—yr adenydd hir
Dry dan fy nhrem yn flaenllym saeth,
A honno'n disgyn ar y tir;
Ac yna un, a'i wich yn groch,
Yng nghrafanc ddur y cudyll coch.
YR EOS
NI wn pwy daenai'r stori
Fod eos rhwng y drain
Yn canu'i chalon allan
Ym mherthi Bryn-y-brain;
Ond cerddem yn finteioedd
Dan olau'r lleuad fain,
I wrando cân yr eos
Ym mherthi Bryn-y-brain.
Ni wn a glywodd undyn
O'r dyrfa honno 'rioed
Y mwyn aderyn cefnllwyd
Yn canu yn y coed;
Ond gwn mor llon y teithiem
Ar draws y caeau glas,
A'r hyfryd ddisgwyl wedyn
Dan gysgod coed y plas.
I dawel lys yr hafnos
Ni ddaeth y cantor pêr,
Ond melys oedd yr aros
A'r disgwyl dan y sêr;
Disgwyl y gerdd nis canwyd,
Gwrando y gân ddi-lef—
A gobaith yn creu nefoedd
O'r addawedig nef.
O DAN y bondo ger fy nhŷ
Y wennol las yn trydar fu
Am ryfeddodau broydd pell,
A hafau hir rhyw hafan well;
Ni tharfu dig na thwrf y don,
Na min y storm, mo fynwes hon;
A heb i'm wybod, dros y lli
Â'i llathraidd adain llithrodd hi.
YR EHEDYDD
AR las y ddol gorweddwn i,
A thithau fry yng nglas y nen
Yn tywallt mawl dy galon dwym
Yn gawod felys ar fy mhen:
Bererin llwyd y llawr a'r nef,
A nodau deufyd yn dy lef.
Os gwael dy wely ar y waun,
A'i wellt yn wlyb gan wlith a glaw;
Os cura'r cenllysg arno'n dost,
Ti fedri esgyn uwch pob braw,
Yn ddewr dy fron, ar adain gref,
A'th beraidd salm at byrth y nef.
Fe gân yr cos rhwng y dail,
A châr y fwyalch frig y pren;
Ni cheni di mewn llwyn na pherth,
Fe fynn dy gân eangder nen;
Y cwmwl yw dy deml bêr,
Ac mae d'allorau rhwng y sêr.
Y DARAN
WEDI dyddiau o wres
Ac o fyllni haf,
Wele'r gawod a'i rhin
Ar y meysydd claf.
Distawai'r fwyalchen
Ym mrigau y pren;
Ond arall aderyn
A ganai uwchben.
O'i lwyn yn y cwmwl,
Ei alaw oedd groch;
A fflachiai'i adenydd
Yn llachar a choch.
Ac arno gwrandawai'r
Fwyalchen yn syn;
Ac yntau'n ymlusgo
Dros ysgwydd y bryn.
Ond wele yr Heliwr
Yn dyfod o'i blas,
Ei wyneb yn ddisglair
A'i fantell yn las;
A ffodd yr aderyn
O'i wyddfod yn ddig,
A moliant yr Heliwr
A lanwai y wig.
YR YSGYFARNOG
CLUSTIAU hirfain, llygaid gloyw—
Dacw hi, y geinach hoyw;
Cyfarth pell a sydyn lam,
Ffwrdd â hi drwy'r gwyrdd fel fflam.
Edrych arni'n croesi'r tir—
Dwy goes gwta, dwy goes hir—
A dacw Fiflach, y milgi main,
Ar ei hôl drwy'r grug a'r drain.
Yn ei blaen heb wyro dim,
Yn ei blaen yn chwim, yn chwim;
Llygaid gwylltion, clustiau tal,
A phedair hirgoes am ei dal.
Trwy y grug a'r glaswellt llaith,
Disglair yw ei siaced fraith;
Ac odani'r galon bitw
Gura'n gyflym bore heddiw.
Ar y gwastad wele'r milgi
Ar ei hôl a'i hirnaid heini,
Hithau'n llamu llethrau'r thiw;
Dal di ati'r goch dy liw!
Trwy yr eithin, heibio i'r prysgwydd,
Drwy y grug y rhed y trywydd;
Heibio i'r wal lle bu am oriau
Neithiwr dan y lleuad olau.
Heddiw nid oes le yn unman
Iddi droi, ffoadur truan,
Ond y ffin ddiadlam olaf;
Gyr fod Angau ar ei gwarthaf.
Hirnaid eto, hirnaid heini-
(Y mae Fflach yn siŵr ohoni!).
Hirnaid eto, ac mae'r glustfain
Yn ei afael tyn yn gelain.
Cyfarth cwn a gweiddi croch,
Mwy ni flina'r geinach goch;
Rhag eu hofn byth mwy ni lam
Ar y gweunydd megis fflam.
Y LLWYNOG
MI welais innau un prynhawn
Dy hela yn y Dyffryn bras
Gan wŷr a merched, cŵn a meirch,
Y lledach dlawd a'r uchel dras;
Gwibiaist o'm gwydd fel mellten goch
A'th dafod grasboeth ar dy foch.
Yn unig druan o flaen llu,
Yn llamu'r ffos yn wyllt dy hynt;
Y llaid ar dy esgeiriau llyfn,
A chorn y cynydd ar y gwynt;
O'th ol' oedd Angau'n agosáu,
O'th flaen dy ryddid di a'th ffau.
'R wyt yn ysbeiliwr heb dy fath,
Pa beth yw deddfau dyn i ti
Ni wn a dorraist ddeddfau'r Un
A blannodd reddf dy natur di;
Ond gwn na chei, ffoadur chwim,
Gan ddyn na chŵn drugaredd ddim.
Mynnwn pe mynnai'r Hwn a wnaeth
y goch ddiwnïad siaced ddrud,
A luniodd dy "ryfeddod prin"
It gael dy ddwyn yn iach i'th dud,
I'r creigiau tal ar grib y bryn,
A fflam dy lygaid eto 'nghyn.
Mi fûm mewn pryder oriau hir,
Ond daeth llawenydd gyda'r nos
O wybod mai oferedd fu
Dy hela di hyd waun a rhos,
A'th fod yn hedd y rhedyn crin,
Â'th ben ar bwys dy balfau blin.
YR YNYS BELLENNIG
MI glywais am ynys bellenig
yng nghanol y gwyrddfor maith,
Ynys bellennig, hynod o unig,
Ni eilw un llong ar ei thaith
 glannau yr ynys bellennig
Yng nghanol y gwyrddfor maith.
'D oes yno ond gwynion wylanod
Yn nythu'n agennau y graig
Gwynion wylanod, ac aur-felyn dywod,
Ar laston yng ngwaelod y graig
Yn sibrwd a'i dyfnlais i'r tywod
Dragwyddol gyfrinach yr aig.
F'anwylyd a gawn ni fynd yno,
I'r ynys bellennig i fyw;
Neb ond y wylan, tydi a fy hunan,
Ym murmur y tonnau yn byw,
A throi yr ynysig, bellennig ac unig
Yn fythol baradwys i fyw?
P'RUN?
BLODYN bach,
Ai dy gariad, flodyn bach,
Yw'r wenynen ynte'r awel
Chwery ar dy ruddiau iach?
Goed y llwyn,
P'run felysa, goed y llwyn
Gan eich dail, ai cân aderyn,
Ynte su y chwaon mwyn?"
Laston oer,
P'run a geri, laston oer,
P'run rydd gusan mwyna' iti,
Min y traeth neu ynte'r lloer?
Gwenno lon,
Dywed wrthyf, Gwenno lon;
P'run ai fi ai'r hogyn arall,
Wenno, bia serch dy fron?
YNG NGOLAU'R LLOER
YNG ngolau'r lloer daw'r llwynog coch
O'i ffau ar ysgafn droed,
A'r tylwyth teg o'u pebyll brau
I ddawnsio dan y coed;
Af innau i gwrdd fy annwyl un
Yng ngolau'r lloer-ddedwyddaf fun.
Yng ngolau'r lloer, ac awel Mai
Yn chwerthin yn y coed,
A minnau'n pwyso ar ei fron
Yn eneth ddeunaw oed,
Yn gwrando stori fwyna'r byd
Gan fwynaf fab—O, gwyn fy myd!
Yng ngolau'r lloer, mor unig wyf,
A daily coed sy'n grin—
Mae yntau 'mhell ar feysydd Ffrainc,
Yng nghanol berw'r drin—
Mor bell yw dyddiau deunaw oed
Ac awel Mai ym mrig y coed.
Yng ngolau'r lloer, mae llwynog coch
Yn llechu yn ei ffau,
A'r tylwyth teg sy'n cysgu'n drwm
O dan eu pebyll brau—
'Rwyf innau'n brudd, a'm bron yn oer
O ofn y drin, yng ngolau'r lloer.
Yng ngolau'r lloer mae bedd yn Ffrainc,
Ac arno groes o bren—
Bydd bedd yng Nghymru cyn bo hir,
A'm henw uwch ei ben.
A thynged dau—ar garreg oer
Ddarllenir mwy—yng ngolau'r lloer.
FIOLED
FLODEUYN pêr yswil
Yn gwenu ar y ddol,
Fe'th welais di cyn hyn
Yn gwenu yn ei chôl,—
Dy irddail glas a thyner di,
Ar wenfron deg fanwylyd i.
Flodeuyn tlws dy wawr,
Fe'th welais cyn yr hwyr
Yn gwywo ar ei bron,
A'th dlysni'n cilio'n llwyr,—
Ond heddiw gweni ar y ffridd,
A'i thlysni hithau yn y pridd.
Flodeuyn pêr yswil,
Cei di, a'r rhosyn balch,
A'r curaid ddaffodil,
A'r lili liw y calch,—
Bob blwyddyn ddod i'r ardd a'r ddôl—
Ni ddaw f'anwylyd byth yn ôl.
Ni ddodaf lili wen,
Na lluniaidd ddaffodil,
Na rhosyn ar ei bedd,
Ond ti, y bychan swil;
Cei sisial yno wrth y gwynt,
Mor bêr, mor dlos, mor fer fu'i hynt.
MEWN GARDD
DILEUAD hafaidd hwyr,
Y sêr i gyd ynghudd;
A'r awel rhwng y dail
Yn cwyno'n brudd.
Ac yna'r gawod law,
A sisial blagur fyrdd;
Ar coed yn curo'n llon
Eu dwylo gwyrdd.
'R oedd perlau ar bob brig,
Ar fron pob lili dlos,
Yn hirwallt gloywddu pêr
Y wyryf nos.
A pheraroglau'n dod
O gudd welyau'r mwsg,
O'r lawnt lle plygai'r rhos
Ei ben ynghwsg.
O lawer gwritgoch berth,
A gwynion flodau claf,
Cariadon haul a gwynt,
A chawod haf.
A minnau yn y gwyll,
Dan gysgod coed yr ardd,
Yn methu canfod un
O'r dyrfa hardd,
A gysgai wrth fy nhraed,
Freuddwydiai uwch fy mhen;
Mor gudd a'r llu a aeth
Tu hwnt i'r llen.
Ond gwyddwn drwy y nos,
Er eu gorchuddio dro,
Fod llawer câr a ffrind
O fewn y fro.
Ac yna daeth y wawr,
A'i llusern aur i'r ardd-
A gwelais heb un llen
Y dyrfa hardd.
Mi gleddais fy nghariad dan olau y lloer
Mewn tristwch y cleddais i hi;
Ei hamdo oedd dagrau, a hiraeth ei harch,
A'i bedd oedd fy nghalon i.
Mae'r sôn ei bod eto i'w gweled fin nos
Yn rhodio hyd feysydd y fro,
Ond gwn nad fy nghariad yw honno—mae hi
O hyd yn fy nghalon ynghlo.
Efallai mai'r un yw ei henw—a bod
Ei llygaid a'i gwallt o'r un lliw,
Ei delw yr unrhyw o bryd ac o wedd;
Ond gwn nad fy nghariad i yw.
Bu farw fy nghariad pan giliodd ei serch,
Er aros o'r ddelw ddi-rin;
Ni'm dawr am y llusern pan ddiffydd y fflam,
Na'r llestr pan dderfydd y gwin.
BALEDI, ETC.
MAE'R "Bedol" ar yr aswy
A "Bethel" ar y dde,
A'r fynwent yn y canol—
Hir gartre plant y dre;
Daw holl ffyddloniaid Bethel
A'r Bedol yn eu tro
Yno i gadw noswyl,
A chysgu yn ei gro.
Mae Huws, y Grosar, yno—
Y blaenor wyneb-drist,
Ei ddagrau wedi'u sychu
Am byth o fewn y gist;
A Wil, y Glöwr rhadlon,
A feddwai ambell dro—
Mae yntau'n gorwedd yno,
Heb syched, yn y gro.
Fe garai Wil y meysydd
A'r llwyni drwy ei oes,
Cwningen a 'sgyfarnog
A milgi hir ei goes;
Mewn cân a chwmni diddan
Y treuliai lawer awr,
Dan gronglwyd glyd y Bedol
Ar fainc y gegin fawr.
Ond gwynfyd Huws, y Grosar,
Oedd gwrando'r bregeth hir;
Ni welodd Huws ryfeddod
Mewn maes na choedlan ir;
Rhwng meinciau Capel Bethel
A chowntar Siop y Groes
Y cafodd ei ddiddanwch
A'i nefoedd drwy ei oes.
Bu'r ddau yn dadlau'n fynych
Dros hawliau'r chwith a'r dde—
Ond heddiw maent yn dawel
Ym mynwent oer y dre;
Yn aros awr y ddedfryd
Rhwng muriau'r carchar llaith,
Y tystion wedi'u galw,
A'r rheithwyr wrth eu gwaith.
Pwy wŷr beth fydd y ddedfryd
A rydd y rheithwyr call;
"Roedd beiau a rhinweddau
Yn eiddo'r naill a'r llall;
Ond weithian, mwyn fo'u cyntun
Ym mynwent drist y dre,
Y Bedol ar yr aswy:
A Bethel ar y dde.
UN garw yw Twm. A glywaist-ti Twm
Yn dweud fel y listiodd
Pan glywodd y drwm
Yn chwarae Gwŷr Harlech, a'r miri a'r row,
Ac yntau'n pendwmpian yng nghegin y Plow?
A gadael y pentre' a wnaeth yr hen Dwm,
Mewn gwisg o ysgarlad ar alwad y drwm;
Yng ngwledydd y dwyrain, yr Airt a'r Swdan,
Mewn llawer ysgarmes cymerodd ei ran.
O wersyll i wersyll â'i fidog a'i wn
Ymdeithiodd filltiroedd yn flin dan ei bwn,
Ei draed yn ddolurus, yn boenus ei gam,
Heb ddwr yn ei lestr, a'i dafod yn flam.
Dros lwybrau lle cerddodd ieuenctid y byd
Cyn siglo Assyria a'r Aifft yn eu crud,
A lledu y babell rhwng cyfnos a gwawr
Lle gynt y gorweddodd gwŷr Cyrus i lawr.
Ac wedyn ben bore drwy'r anial drachefn,
Y gwyr a'r camelod â'u pwn ar eu cefn,
A theithio a theithio heb ddyfod yn nes
At byrth hen ddinasoedd y tywod a'r tes.
Ac yna y seibiant i gamel a gŵr
O dan y balmwydden yn ymyl y dŵr;
Y beichiau yn disgyn, a'r nos yn nesáu,
Y lludded yn cilio, a'r llygaid yn cau.
• • • • • • •
"Rhyw fywyd go lwm a gefaist ti, Twm?,
'R ôl gadael y pentre
Ar alwad y drwm;
Ac lfan, dy gefnder, a Robin a Now
Yn canu bob Sadwrn yng nghegin y Plow.
"A'r hogiau fel arfer yn porthi yn fras
O'r afon a'r llynnoedd a llwyni y plas—
A thithau'n ymdeithio yn boenus dy gam,
Heb ddŵr yn dy lestr, a'th dafod yn fflam."
"Er brwydro yn galed, a theithio yn flin,
Anghofiwn y cwbwl yn hwyl y cantîn,
Ond rhedai fy meddwl yn amal i'r Plow
At Ifan fy nghefnder a Robin a Now.
"At lawer nos Saboth yng nghanol yr ha',
A Mot yn fy ymyl a'i drwyn fel yr ia,
A'r clychau o'r pellter yn galw yn fwyn,
A ninnau yn loetran yng nghysgod y llwyn.
"Mi welais forynion llygad-ddu a llon
Yn dawnsio a chanu tu arall i'r don,
Lliw'r gwin ar eu gwefus, lliw'r mêl ar eu grudd,
A'u lleisiau fel dyfroedd rhedegog a chudd.
"Anghofiais," medd Twm, "holl ferched y Cwm,
Y Cyrnol a'r Serjiant
A galwad y drwm—
A chyda'r morynion a llanc o Gaerdydd
Y bûm ar ddisberod am lawer i ddydd."
"Fe'i cefaist yn drwm, 'r wy'n stor, yr hen Dwm."
"Do, do," meddai yntau,
"A bywyd go lwm
Mewn cell am rai dyddiau, a'm baeddu yn flin,
Am ddilyn hudoles y wefus o win.
"Mi welais yr Arab ar farch oedd yn gynt
Na fflachiad y fellten a rhuthr y gwynt,
Ar fintai gamelod yn plygu eu glin
Gerllaw y pydewau, yn llwythog a blin.
"Mi welais ddinasoedd y dwyrain a'r de,
A themlau a thyrau yn estyn i'r ne',
A blin bererinion, ar derfyn y dydd,
Yn mynd dros y gorwel i Ddinas y Ffydd.
"Fem llethwyd gan syched, a gwingodd fy nghnawd
Dan filangell y pethwynt ysgubol ei rawd,
Ond profais o wynfyd rhyw nefoedd ddi-stŵr
O dan y balmwydden yn ymyl y dŵr."
• • • • • • • • •
'R wyt gartref ers talwm yn awr, yr hen Dwm,
A'th wallt wedi gwynu, a'th ysgwydd yn grwm;
A garit ti eto ymdeithio dan bwn,
Mewn gwisg o ysgarlad â'th fidog â'th wn?"
"Ni chrwydraf byth eto—'r wy'n araf lescáu,
A'm llygaid yn pallu, a'm clust yn trymhau;
Ond clywaf yn aml dwrf meirch a gwŷr traed,
Ac ias o lawenydd a gerdd drwy fy ngwaed.
"Mi glywaf swyddogion yn gweiddi yn gras,
A Chyrnol a Serjiant yn dwrdio yn gas—
A minnau'n ymsythu yn dalgryf o'u blaen,
Heb rwd ar un botwm, a'm gwisg heb ystaen.
"Ac weithiau pan fyddaf yn gysglyd a blin,
Caf fyned mewn breuddwyd yn ol i'r cantîn,
A chlywaf y chwerthin a'r miri a'r row,
Ac yna deffroaf yng nghegin y Plow.
“O drothwy fy mwthyn, ymhell dros y dŵr
Mi welaf yn aml ryw demel a thŵr,
A blin bererinion, ar derfyn y dydd,
Yn mynd dros y gorwel i Ddinas y Ffydd.
"Daw'r olaf orchymyn i minnau cyn hir,
A cherddaf fel milwr nes cyrraedd y tir;
A chaf gan fy Mrenin ryw lecyn, 'r wy'n siŵr,
O dan y balmwydden yn ymyl y dŵr."
UN noswyl Nadolig eisteddwn yn ymyl y tân,
A noswyl Nadolig oedd hi
A llithrodd fy meddwl ar grwydr ymhell,
I Fflandrys a'i beddau di-ri'.
Mi welais y croesau yn wyn dan y lloer,
A'm calon gan hiraeth yn drist;
A chlywais y clychau yn canu drwy'r nos
Y newydd am eni y Crist.
A chofiais am Ifan yr Efail a Huw—
Huw'r Felin ddireidus a llon,
A'r hwyl a fu ganwaith fin nos gyda'r cŵn,
Neu'n chwarae ar gaeau y Fron.
Am Ifan yr Efail, gyhyrog a thal,
Y cyfaill ffyddlona'n y byd;
A Huw bach y Felin, lygadglas a ffraeth,
A'i wallt cyn felynned â'r yd.
I Wrecsam yr aethom un bore ein tri
Lle cawsom siwt newydd gan "Siôr",
A'n gyrru o wersyll i wersyll ar hynt
Cyn croesi mewn llong dros y môr,
I ganol yr Uffern a luniwyd gan ddyn
I'w gyd-ddyn—ac Ifan a Huw
A minnau'n dygymod ar brydiau a'r fall,
Heb gofio na Chymru na Duw.
Yn llonydd y safem yng nghysgod y ffos,
Ein llygaid yn tremio drwy'r gwyll;
Yn wlyb ac yn lleidiog ein dillad a'n gwedd,
Gan bwyso yn flin ar y dryll.
Un bore, 'r ôl ymgyrch rhwng cyfnos a gwawr,
Anturio a chilio drachefn;
Mae Ifan yr Efail yn tynnu drwy'r mwg
Yn araf a Huw ar ei gefn.
Huw'r Felin dafodrydd am unwaith yn fud—
A'i ruddiau fel marmor yn wyn,
A chlytiau lliw rhwd ar yr aur yn ei wallt,
A'i lygaid direidus yn syn.
'Roedd Ifan yr Efail mor dyner â mam
A wyliai ei phlentyn mewn hun;
Ond gwyddwn na welai Huw'r Felin byth mwy
Na Chapel na marchnad yn Llŷn.
A chofiwn weld Ifan ei hunan un hwyr
Yn gorwedd yn llonydd ac oer;
A hogyn o'r Almaen gydgysgai ag ef
Yn dawel dan olau y lloer.
Yn herio ei gilydd bu'r gynnau drwy'r nos,
A'u lleisiau'n aflafar a chroch,
Ond cysgu yn drymach wnâi Ifan a'r llanc,
Pob un ar ei glustog goch.
• • • • • • •
A minnau mewn hiraeth yn hir wrth y tân
A'm meddwl ymhell dros y môr,
Mi glywais y lleisiau pereiddiaf erioed
Yn canu tu allan i'm dôr.
Cyfodais mewn cyffro ac agor y drws,
Ac yno 'r oedd Ifan ei hun,
A Huw bach y Felin a'i wallt fel yr ŷd
Dan gryman yr Hydref yn Llŷn.
A'r bachgen o'r Almaen (a welais i gynt)
A safai gan wenu yn llon—
Y tri yn ddianaf, a siriol eu gwedd,
Heb ddicter na llid dan eu bron.
A thorrodd eu carol ar drymder y nos,
A gwelwn y Byd yn gytûn
Yn gwrando o'r newydd, gan uno yng nghan
Y bechgyn o'r Almaen a Llŷn.
(YN NULL UN O'R BALEDI SAESNEG WEDI MARW'R
MORHERWR ENWOG YN 1688)
UN dewr oeddit ti, Harri Morgan,
A dychryn holl grwydwyr y don—
Ond bellach 'd oes undyn a'th ofna,
Mae'r tywod yn drwm ar dy fron.
Un gwyllt oeddit ti, Harri Morgan,
A thanllyd dy dafod a'th wedd
Ond bellach fe ddarfu dy gabledd
Yn oerni dilafar y bedd.
Un balch oeddit ti, Harri Morgan,
Ac uchel dy glodydd a'th barch
Pan gerddit y bwrdd-ond 'r wyt bellach
Yn isel rhwng byrddau dy arch.
Hen bry' oeddit ti, Harri Morgan,
Un cyfrwys a'th gyllell a'th gledd—
Ond beth am y pry sydd yn tyllu
Drwy'r amdo yng ngwaelod dy fedd ?
BARTHOLOMEW ROBERTS (BARTI DDU), A ANWYD YNG NGHASTELL NEWYDD BACH (CAS NEWY' BACH) YN 1682. RHESTRIR EF GYDA'R CYMRO ARALL HWNNW, SYR HARRI MORGAN, FEL UN O FORHERWYR ENWOCA'R BYD. LLADDWYD EF MEWN YSGARMES AR Y MÔR YN 1722.
HYWEL Dafydd 'r ôl brwydrau lu
Ar y cefnfor glas yn ei hwyl-long ddu,
A glwyfwyd yn dost,
Er ei rwysg a'i fôst,
Ar y cefnfor glas yn ei hwyl-long ddu.
A'r morwyr yn holi'n brudd eu bron:
"Pwy fydd ein llyw i hwylio'r don;
Pwy fydd y llyw
Ar y llong a'r criw,
A Chapten Dafydd yng ngwely'r don?"
"Barti Ddu o Gas Newy' Bach,
Y morwr tal a'r chwerthiniad iach:
Efo fydd y llyw
Ar y llong a'r criw-
Barti Ddu o Gas Newy' Bach.'
Ac i ffwrdd â hwy dros y tonnau glas,
I ffwrdd ar ôl yr Ysbaenwyr cas,
I reibio o'u stor,
Ar briffyrdd y môr,
Longau Ysbaen ar y tonnau glas.
Barti Ddu yn ci wasgod goch
A gerddai y bwrdd gan weiddi'n groch;
Gyda'i wn a i gledd,
Yn ddiofn ei wedd,
Yn ei felyn gap gyda'i bluen goch.
A'r morwyr yn canu ag ysgafn fron
I'r pibau mwyn ac i su y don:
"Bar-Bartholomew,
Bar-Bartholomew,
Ef ein llyw i hwylio'r don.'
Yn Barbados yr odd llongau mawr;
Yn Barbados cyn toriad gwawr-
Dacw Barti Ddu
A'i forwyr lu
Yn byrddio'r llongau cyn toriad gwawr.
Gemau ac aur oedd ar y bwrdd,
Gemau ac aur a ddygwyd i ffwrdd,
A llawer i gist,
Cyn i'r wawrddydd drist
Weled y gwaed ar y llithrig fwrdd.
Ac yna ymhell drwy y gwynt a'r lli,
I Banama dros y Caribi;
A llongau "Sbaen
Yn ffoi o'u blaen,
A'u hwyl ar daen, dros y Caribi.
Yn llwythog o rawn a llieiniau main,
O loyw-win ac o emau cain—
O berlau drud
O bellafoedd byd,
A barrau o aur a sidanau main.
A'r morwyr yn canu ag ysgafn fron
I'r pibau mwyn ac i su y don:
"Bar-Bartholomew,
Bar-Bartholomew,
EF yw ein llyw i hwylio'r don."
O dracthau Brazil hyd at Newfoundlan',
O fôr i fôr ac o lan i lan,
Ei ofn a gerdd,
Dros Iwerydd werdd
O draethau Brazil hyd at Newfoundlan'.
Ond Barti Ddu o Gas Newy Bach,
Y Cymro tal â'r chwerthiniad iach,
A dorrwyd i lawr
Ar-Iwerydd fawr,
Ac ni ddaeth yn ôl i Gas Newy' Bach.
Fe'i llaeswyd i wely y laston hallt,
A felyn gap am ei loywddu wallt,
Gyda'i wn a'i gledd,
I'w ddyfrllyd fedd,
I gsysgu mwy dan y laston hallt.
Ond pan fo'r storm yn rhuo'n groch,
A'r Caribî gan fellt yn goch,
Daw Barti Ddu
A'i forwyr lu,
Yn ei felyn gap gyda'i bluen goch.
Ac o fynwent fawr y dyfnfor gwyrdd
Daw llongau Ysbaen a'u capteiniaid fyrdd,
Hen forwyr 'Sbaen
I ffoi o'i flaen
A'u hwyl ar daen dros y dyfnfor gwyrdd.
A chreithiau glas ar eu hwyneb gwyn,
A rhaff am lawer i wddf yn dynn;
Yn welw ac oer
Yng ngolau'r lloer,
A chreithiau i gledd ar eu hwyneb gwyn.
A chlywir uwch rhu y gwynt a'r don,
Y pibau mwyn a'r lleisiau llon:
"Bar-Bartholomew,
Bar-Bartholomew,
Ef yw ein llyw i hwylio'r don;
Bar-Bartholomew,
Bar-Bartholomew,
Ef yw ein llyw i hwylio'r don."
PWY yw yr hwn sydd yn croesi'r don,
pwy yw hwn y mae sôn
Am ei longau chwim a'i filwyr dewr,
O Fynwy i Ynys Fôn?
Pwy yw yr hwn sydd yn gyrru'r Sais
O feysydd Ffrainc ar ffo?
Pwy yw yr hwn y mae'r Glêr a'u cainc
Yn moli ei enw o?
Owain o hil Llywelyn Fawr,
Owain y coch ei law:
Owain y coch ei gledd a'i saeth
Sy'n morio o Harfleur draw.
Yn morio a'i wŷr yn eu gwyrdd a'u gwyn,
Pob un gyda'i fwa hir;
Owain y Gwalch, y morgenau balch,
Sy'n dychwelyn ôl i'w dir.
Yn ei longau chwim, dan eu hwyliau gwyn,
Y gwynt a'r don o'i du;
Pennacth y Gad a Gobaith ci Wlad
Sy'n dod gyda'i filwyr lu.
Fflamier y goelcerth o ben pob bryn,
Seinier yr utgorn clir;
Owain sy'n dod, y mawr ei glod,
A'i wyr gyda'r bwa hir.
Owain o hil Llywelyn Fawr,
Owain y coch ei law:
Owain y coch ei gledd a'i saeth
Sy'n morio o Harfleur draw.
II
Paham y taria ei longau ef
Mor hir-ai y don a'r gwynt
A ddaeth a'u lleng; ai y ddrycin ddreng
A'u chwythodd ymhell o'u hynt?
Daeth haf a gaeaf yn eu tro
I'n bro er pan fu'r sôn
Y deuai ef, y Coch ei Law,
O Harfleur draw i Fôn.
A'r gwynt a gludai'i glodydd ô
O lawer bro a glan,
Ond ni ddaeth gwynt a'i longau ô
I frwydro ar ein rhan.
O La Rochelle a'r Eidal draw,
O Lydaw y daw'r sôn
Am rym ei lu a nerth ei law;
Paham na ddaw i Fôn?
Mae'r geclcerth ar y bryniau tal
Yn lludw oer cyn hyn;
A blin yw'r milwr ar y tŵr,
A'r gwyliwr ar y bryn.
Ai oeri a wnaeth y coch ei law,
Y coch ei gledd a'i saeth?
A drechwyd ef gan y gelyn cryf?
Ai yng ngharchar y mae—yn gaeth?
Na, na; nid grym y gwynt na'r don,
Nid rhyferthwy'r storom gref,
Nid bancrog lu-ond y llofrudd du
A ddaeth ar ei warthaf ef.
Rhyw flaidd a ddaeth yn rhith yr oen—
Rhyw lofrudd ffals ei wen
A roddodd friw i ni a'n Llyw
Yng Nghastell llwyd Mortaigne.
"Moes im fy arf," meddai'r Cymro dewr;
Ac yna'r dihiryn Sais,
O gysgod mur, a'i bicell ddur
A'i gwanodd ef dan ei ais.
A'n Pennaeth sydd yn y carchar prudd,
Yn rhwym hyd yr olaf wys;
A'i ddwyn o'i gell, ger Mortaigne bell,
Ni all yr un teyrn na llys.
Owain o hil Llywelyn Fawr,
Owain y coch ei law;
Pennaeth y Gad a Gobaith ei Wlad
I Gymru mwy ni ddaw.
A thrist yw'r gwyliwr ar y tŵr
A'r milwr ar y maes;
A swrth yw'r llongau yn y bae,
A'u hwyliau'n llwyd a llaes.
Owain o hil Llywelyn Fawr,
Owain y coch ei law,
Sy'n huno 'mhell, yn ei hirgul gell,
A'r llongau yn Harfleur draw.
GUTO NYTH BRAN
(RHEDEGWR ENWOG YN EI DDYDD; AR EI FEDDFAEN Y
MAE'N YSGRIFENEDIG HANES RHAI O'I GAMPAU, A'R UN
A GANLYN YN EU MYSG)
MAE mynwent yn Llanwynno
(Ni wa a fuost yno)
Lle rhoddwyd Guto o Nyth Brån
Dan raean mân i huno.
Ysgafndroed fel 'sgyfarnog
A chwim oedd Guto enwog
Yn wir, dywedir bod ei hynt
Yn gynt na'r gwynt na'r hebog.
Enillodd dlysau lawer;
Ond hyn sy'n drist, gwrandawer—
Fe aeth i'w fedd, cyflymed oedd,
Flynyddoedd cyn ei amser.
Ymryson wnaeth yn ffolog,
Gan herio march a'i farchog
I'w guro ef ar gyflym daith
Dros hirfaith gwrs blinderog.
Daeth tyrfa fawr i ddilyn
Yr ornest awr y cychwyn—
A gwylio'r ddau a redai ras
o ddolydd glas y dyffryn.
Dros briffyrdd sych cargº
Dros gulffyrdd gwlyb a lleidiog,
Drwy'r llwch a'r dwr, y rhed y gŵr
A'r march fel dau adeiniog,
Drwy lawer pentref llonydd,
Lle saif yn yr heolydd,
Ar bwys eu ffyn, yr hen wŷr syn
A'u barfau gwyn aflonydd.
Dros lawer cors a mawnog
Y dwg y march ei farchog—
A Guto ar ei warthaf rydd
Ryw lam fel hydd hedegog
A'r dyrfa yn goriain,
A chŵn y fro yn ubain;
Mae'r bloeddio gwyllt fel terfysg cad
Trwy'r wlad yn diaspedain.
Fel milgwn ar y trywydd
Y dringant ochrau'r mynydd;
Dros fryn a phant, dros ffos a nant,
Cydredant gyda'i gilydd.
Dros briffyrdd sych, caregog,
Dros gulffyrdd gwlyb a lleidiog,
Drwy'r llwch a'r dŵr, y rhed y gŵr
A'r march fel dau adeiniog.
Ac wele, dacw'r gyrchfan
O faen y rhedwyr buan;
Mae Guto ar y blaen yn awr,
A'r dyrfa fawr yn syfrdan.
Nid oes ond canllath eto ..
Ond ugain . . decllath eto
A dacw'r march yn fawr ei dwrf
Bron wddf am wddf â Guto.
Ysbardun llym a fflangell
Sy'n brathu'r march fel picell—
Ni thycia ddim; mae Guto chwim
O'i flaen ar draws y llinell.
A hirfloedd a dyr allan,
Gan lenwi'r dyffryn llydan—
Rhyw nerthol gawr, fel taran fawr,
A nef a llawr sy'n gwegian.
"Hwrê, Hwrê i Guto,
Nyth Brân a orfu eto":
Daw'r fanllef lon yn don ar don,
A'r gŵr bron â llesmeirio.
Ei riain a'i cofleidia,
Gan guro'i gefn—ond gwelwa
Y llanc ar fron ei eneth lan,
Ac yna'n druan trenga.
Cei ddarllen ar y beddfaen
Sydd uwch ei wely graean
Yr hanes trist, ac fel y'i caed
Yn gorff wrth draed ei riain.
Ac am ei roi i huno
Ym mynwent wen Llanwynno,
'R ôl curo'r march, yn fawr ei barch
Mewn derw arch ac amdo.
Ac yno yn Llanwynno
Yr huna Guto eto;
Cyflymed oedd—ni all y llanc
Byth ddianc oddi yno.
JOHN Wyn ap Meredydd o Wydir
Gychwynodd yn fore o'i lys
John Wyn ap Meredydd a'i filwyr
Farchogodd i Fawddwy ar frys;
Dros drumau yr Oerddrws, a'r gaeaf
Yn chwythu ei utgyrn yn groch,
A'r eira yn cuddio y creigiau
Lle llechai y Gwylliaid Coch.
John Wyn ap Meredydd o Wydir,
Ac Owain y Barwn a'i lu,
A Siryf Trefaldwyn yn marchog
Ei geffyl porthiannus a du;
Eu dynion i gyd dan eu harfau
Fel byddin yn barod i'r gad,
Yn dyfod drwy'r Oerddrws i Fawddwy
I ymlid y Gwylliaid o'r wlad.
O drothwy i fwthyn caregog
Ap Siencyn edrychai yn syn
Wrth weled y Barwn a'r Siryf
Yn ymdaith a gosgordd fel hyn;
Ap Siencyn—ysbïwr y Gwylliaid—
A ofnodd, a gwelwodd ei foch,
A rhedeg a wnaeth yn ei ddychryn
I wersyll y Gwylliaid Coch.
Disgynnai yr eira'n gawodydd
Ar filwyr Syr John yn y glyn,
Pob milwr fel petai'n felinydd,
Ei arfwisg yn ddisglair a gwyn;
Ond toc o gilfachau y mynydd
Rhyw arall gawodydd a ddaeth,
A gwelwyd rhosynnau yn gwrido
Ar fronnau a wanwyd a'r saeth.
John Wyn ap Meredydd o Wydir
A gododd ei gleddyf uwchben,
A'u wyr ar ei archiad a yrrodd
Eu saethau i fyny i'r nen;
Ac yna y dringo dros greigiau
A bwyeill, cleddyfau, a ffyn,
Yr ymlid drwy ddrysni y Dugoed,
A'r hela dros ddyffryn a bryn.
Y Gwylliaid a chwalwyd mewn dychryn,
Fel truain lwynogod ar ffo,
Heb iddynt ymgeledd yn unman,
Na llety na ffrind drwy y fro,
(Y dynion yn lladd ac yn erlid,
Y gwragedd yn wylo yn drist,
A dydd y Nadolig yn nesu,
Dydd Geni y Baban, y Crist).
Gwae! Gwae! i Wylliaid y Mawddwy,
Fe'u daliwyd, fe'u rhwymywd yn dynn—
A chrogwyd ugeinau ohonynt
Ar gangau y deri a'r ynn;
Mor ofer y gri am drugaredd,
'R ôl ymlid mor galed a phoeth,
Mor ofer wylofain y mamau,
Ac ymbil eu bronnau noeth.
"Arbedwch, arbedwch fy meibion,"
Dolefai y fam yn ei gwae;
Y Barwn a droes ar ei sawdl,
A'i filwyr a grogodd y ddau.
Y fam a ddyrchafodd ei llygaid
A'i breichiau melynddu i'r nef,
Gan dyngu i'r duwiau y mynnai
Gael dial eu gwaed arno ef.
Y gaeaf a guddiai a'i wenwisg,
Y creigiau didostur a du,
Ond nid mwy didostur y creigiau,
Na chalon y Barwn a'i lu;
Y gigfran a gafodd ei gwala,
A swrth oedd yr eryr a'i gyw
O fwyta o ffrwyth y crocbrennau
A safai yng nghysgod y rhiw.
John Wyn ap Meredydd o Wydir
Ddychwelodd yn llawen i'w blas,
John Wyn ap Meredydd a'i filwyr,
O hela y Gwylliaid cas,
A'r Barwn a Siryf Trefaldwyn,
Yn chwerthin yn uchel a hir,
Wrth deithio yn ôl drwy yr Oerddrws,
'R ôl ymlid y Gwylliaid o'r tir.
Cyn hir yr oedd Brawdlys ym Maldwyn,
A'r Barwn ddychwelai o'r llys,
I'w hafod ger hen dref Dolgellau,
Drwy ddrysni y Dugoed ar frys;
A'r Gwylliaid a wybu ei ddyfod,
A chofiwyd diofryd y fam,
A chlywyd y meirw yn galw
O'u beddau am ddial y cam.
Yng nghanol y perthi y safent,
Bob un gyda'i fwa yn dynn,
Ac Owain, y Barwn, yn nesu,
Mor falch ar ei geffyl gwyn;
Ac yna yn sydyn daeth cawod
O saethau-ni wyddid o b'le-
Ac Owain, y Barwn, a drawyd
Ar afal ei lygad de.
Y Barwn clwyfedig orweddai
Wrth ochr ei farch ar y llawr,
Y Barwn clwyfodig riddfannai,
A phoenau ei enaid oedd fawr;
A brodyr y ddeuddyn a grogwyd
Wrth reffyn ar dderi'r rhiw,
A olchodd eu dwylo yng ngwaedlif
Y Barwn—ac yntau yn fyw.
Diofryd y fam a gyflawnwyd,
A hithau a giliodd i'w bedd;
Mae'r meirw ym Mynwent y Gwylliaid
Yn gorwedd ers talwm mewn hedd;
Bro Mawddwy a gafodd ymwared,
A'r gaeaf a scinia yn groch
Ei utgyrn dros drumau yr Oerddrws
A beddau y Gwylliaid Coch.
"BLE'R wyt ti'n mynd, y bachgen dewr,
I ble'r wyt ti'n mynd mor llon,
Ar dy winau farch,
Gyda'th darian gref,
A'th loyw waywffon?"
"Mi welais gynnau y bannau'n goch,
Gan fflamau'r goelcerth fawr,
'Rwyf innau'n mynd,
Ar fy ngwinau farch,
I Gatraeth gyda'r wawr."
"Mae'r praidd heb fugail y bachgen ffôl,
Yn crwydro'r mynydd mawr
"Ni'm dawr am y praidd,
Mae'n rhaid i mi fynd,
I Gatraeth gyda'r wawr."
II
"I ble'r wyt ti'n mynd, y bachgen hoff,
Mor heini dy gam drwy'r dref;
Gyda'r seindorf bres,
Yn dy newydd wisg,
A'th wn ar dy ysgwydd gref?"
"Mi glywais sôn am rhyw frwydro mawr,
Yn Fflandrys tu hwnt i'r don;
'Rwyf innau'n mynd
Gyda'r bechgyn dewr,
I ganol y frwydr hon."
Mae'r arad' draw ar y dalar werdd
Yn dy aros, y bachgen hoff";
"Na'r—fidog i mi,"
Meddai'r talgryf lanc,
"A'r arad' i'r hen a'r cloff."
III
Hir, hir, yw'r gri o Gatraeth bell
I Fflandrys tu hwnt i'r don,
Ond mae'r utgorn clir,
Drwy yr oesoedd hir,
Yn galw'r bechgyn llon.
Tra bo gwaed yn goch, a'i lif yn chwyrn—
Yn chwyrn drwy y gwythi poeth—
Ofer yn wir,
Drwy yr oesoedd hir,
Yw cyngor yr hen a'r doeth.
A chlywir o hyd eu hymdaith hwy,
A'u sang ar y palmant oer,
Eu canu per,
Dan y distaw sêr,
A'u llwon o dan y lloer.
Ar eu holaf hynt ar eu gwinau feirch,
Gyda'r waywffon a'r cledd;
Drwy y dur a'r tân,
A'u rhegfeydd a'u cân,
Ar eu hynt yn llym eu gwedd;
Gyda'r gynnau croch
Dros y meysydd coch,
I fri neu i gynnar fedd.
Y gwynt a chwyth dros eu beddau hwy,
A'r gwlith a'r glaw a'u gwlych;
A'u hun fydd hir
Dan y glaswellt ir
Lle pawr y march a'r ych;
Y gwŷr a aeth-gyda'r cledd a'r saeth
I Gatraeth gyda'r wawr,
Yn rhengoedd hir drwy Fflandrys dir
A chur y Rhyfel Mawr.
I'R PLANT
DWY gwningen fechan
Yn eistedd ger y llwyn—
Un yn gwrando'n hapus
Ar gân yr adar mwyn,
A'r llall a'i phawen felfed
Yn rhwbio blaen ei thrwyn.
Dwy gwningen fechan
Yn ffoi drwy'r borfa las,
Eu calon yn eu gyddfau,
A Mic, y milgi cas,
Yn rhedeg ar eu holau
Ar chwiban Deio'r gwas.
Un gwningen fechan
Dan goeden yn y llwyn,
Yn crio am ei chyfaill
Yng ngolau'r lleuad fwyn,
Gan godi'i phawen felfed
A rhwbio blaen ei thrwyn.
MAE'N gorwedd ar yr aelwyd
Yn swrth ond hardd ei llun,
Heb un ysmotyn arni,
Fel darn o'r nos ei hun;
Ac yno mae'n breuddwydio
Ei bod ar hirddydd haf
Wrth fôr o hufen melyn
Lle'r heigia pysgod braf.
Mae'n grwnian ac yn grwnian,
Yn isel wrth y tân,
A'r tegell yntau'n mynnu
Ymuno yn y gân;
Mae'r crochan ar y pentan,
Bydd hwn yn ffrwtian toc;
A mwmian wrtho'i hunan
Mae pendil yr hen gloc.
Daw Robin Goch i 'sbio
Drwy'r ffenestr arni'n hy,
A'r llygod swil i chwarae
Yng nghonglau pella'r tŷ:
Heb ofn na dychryn arnynt;
Ond gwae i't truan ffôl,
Os cwyd yr heliwr cadarn
I ymlid ar eu hôl.
Fe'i gwelais un diwrnod
Yn mynd ar ysgafn droed;
Ymlusgai yn llechwraidd,
A lithrai rhwng y coed;
Ymlusgo—oedi ennyd—
Ac yna sydyn lam,
Tra fflachiai'r cleddau arian,
A'r llygaid aur yn fflam.
Ond heddiw, nid rhaid ofni,
Mae'n gorwedd wrth y tân,
A heddwch fel yr afon,
Yn llenwi'r gegin lân
Mae'r Robin ar y ffenestr,
A'r llygod yn cael sbri,
A'r llygaid aur fel gemau
Mewn blychau eboni.
MORYS y Gwynt â'i ddwyfoch goch,
Yn neidio a dawnsio a gweiddi'n groch;
Ac Ifan y Glaw yn eistedd yn brudd,
A'r dagrau yn llifo i lawr ei rudd.
Dagrau Ifan yn disgyn i lawr
Ar flodau bychain a phrennau mawr;
A'r Haf a'i lestr aur yn ei law
Yn casglu dagrau Ifan y Glaw.
Morys y Gwynt ar ei geffyl gwyn
Yn gyrru ar garlam i lawr y glyn,
Ei utgorn arian a'i delyn fwyn,
A'i chwerthin mawr yng nghoed y llwyn.
"Morys y Gwynt, i ble'r wyt ti'n mynd?"
"I sychu dagrau Ifan fy ffrind,
I'w dwyn ar fy march ymhell dros y bryn,
I'w wely plu yn y cwmwl gwyn."
"I'w neuadd wych yn ei uchel blas,
A'i muriau o berl a saffir glas;
Lle daw'r haul i wau a'i euraid law
Ei fwa dros wely Ifan y Glaw."
AR ganol bwrdd y parlwr
Fe dyf y goeden hardd,
Ac arni ffrwyth nas gwelwyd
Ar un o brennau'r ardd;
Mae yno farch a modur,
A chi, a llong, a thrên,
A doli fawr las-lygad,
Balŵn ac eroplên.
Mae yno filwr hefyd
Yn cario 'i utgorn plwm,
A llongwr llaes ei lodrau
Yn pwyso ar y drwm;
Ac ar ei lwyfan brigwyn
A'i wasgod fel y tân,
Mae Robin yntau'n sefyll
Yn barod i roi cân.
Ust! tewch!-mae'r milwr bychan
Yn chwythu'r utgorn plwm,
A'r llongwr llaes ei lodrau
Mewn hwyl yn curo'r drwm;
A Robin yn ymsythu,
Gan ddechrau ar ei gân,
A minnau'n deffro'n sydyn
O'm trwmgwsg wrth y tán.
GUTO benfelyn o Dyddyn-y-celyn,
A Gwenno o Dyddyn-y-gwynt,
A aeth un diwrnod
I chwarae i'r tywod,
Yn ysgafn a llawen eu hynt—
Guto benfelyn o Dyddyn-y-celyn,
A Gwenno o Dyddyn-y-gwynt.
Hwy welsant y llongau yn mynd dros y tonnau,
A'u hwyliau yn chwarae'n y gwynt,
A llawer i wylan
Benchwiban yn hofran
A hedfan yn simsan ei hynt,—
A diwrnod i'w gofio oedd hwnnw i Guto,
A Gwenno o Dyddyn-y-gwynt.
Castell o dywod, a ffos yn ei waelod,
A'i faner yn chwifio'n y gwynt,
A chlawdd i'w amddiffyn
O wmon a chregyn
I atal y llanw, a hynt
Holl lengoedd y gelyn, wnaeth Guto benfelyn,
A Gwenno o Dyddyn-y-gwynt.
A'r tonnau a ruodd, a'r castell a gwympodd,
A'r llanw a ruthrodd yn gynt,
Gan ddwrdio a gwylltio
A'r wylan yn crio,
Bron syrthio mor simsan ei hynt—
Ond chwerthin, a chwerthin, wnaeth Guto benfelyn,
A Gwenno o Dyddyn-y-gwynt.
HEN ŵr bychan
A dwy ŵydd dew
Yn mynd tua'r farchnad,
Drwy'r eira a'r rhew;
Yr hen ŵr bychan
Yn chwerthin yn braf,
A'r ddwy ŵydd druan
Yn teimlo'n reit glaf.
"Ddown ni byth yn ôl,"
Meddai'r ddwy ŵydd dew;
"Fe'n gwerthir ni heddiw
Am bris go lew";
A gwerthwyd y gwyddau
I gigydd mawr tew,
Y diwrnod hwnnw,
Am bris go lew.
Yr hen ŵr bychan
A'i logell yn llawn,
Ddaeth yn ôl i'w dyddyn
Yn hwyr y prynhawn,
Ei lygaid yn loyw,
A'i dafod yn dew
"Myn dyn," meddai ef,
"Cefais bris go lew."
Ac ymaith a'r gŵyddau
Yn rhwym yn y drol;
A'r cigydd a'u lladdodd
Heb ragor o lol;
A dyna oedd diwedd
Y ddwy ŵydd dew;
Aeth i ffair y Nadolig,
Drwy'r eira a'r rhew.
"DYRO i ni gân, hwyaden,"
Medd mwyalchen melyn big;
"Gad dy lyn a thyrd i'r goeden,
Yma'i ganu ar y brig."
"Cân ni feddaf," medd hwyaden,
"Taw, fwyalchen, taw a'th stŵr;
Beth pe deuit ti o'th goeden
Yma i nofio ar y dŵr?"
"Ti a gefaist ddawn i ganu,
Purion ddawn, mae hynny'n siŵr;
Cefais innau ddawn i nofio—
Llyna ddawn uwch llyn o ddŵr.
"Cân ymlaen, mi nofiaf innau,
Hyn a fynn yr Hwn a'n gwnaeth
Yn fwyalchen a hwyaden—
Taw a'th gellwair, gyfaill ffraeth."
Y FANTELL FRAITH
I
EISTEDDED pawb i lawr
I wrando arna' i'n awr
Yn dweud yr hanes rhyfedd
Am bla y llygod mawr:
Am helynt flin Llanfair-y-Llin,
Ar lannau afon Gennin,
Cyn geni'r un ohonoch chwi
Na thaid i daid y brenin.
II
Llygod!
O! dyna i chwi lygod, yn haid ar ôl haid,
Yn ymladd a'r cathod a'r cwn yn ddi-baid;
Yn brathu y gwartheg a phoeni y meirch,
A rhwygo y sachau lle cedwid y ceirch;
Yn chwarae eu campau gan wichian yn groch,
A neidio o'r cafnau ar gefnau y moch;
Yn tyllu trwy furiau o gerrig a chlai
I barlwr a chegin,
Ysgubor a melin;
Yn torri i'r siopau, yn tyrru i'r tai,
Yn rhampio trwy'r lloftydd, yn cnoi trwy'r parwydydd,
Ac eistedd yn hy ar y cerrig aelwydydd,
Gan wichian a thisian,
A herian a hisian,
Ar ganol ymddiddan y forwyn a'r gwas;
Yn dringo i'r distiau,
A neidio o'r cistiau,
113
A heidio ar risiau y bwthyn a'r plas;
'Sgyrnygu eu dannedd ar fonedd a thlawd,
A bwyta eu bara, a d'wyno eu blawd;
A dryllio barilau
Mewn dyfnion selerau
Nes boddi o'r lloriau mewn cwrw a gwin.
Pa ryfedd bod newyn yn Llanfair-y-Llin?
Yn wir, nid oedd 'menyn
Na chosyn caws melyn
Na bara nac enllyn yn Llanfair-y-Llin:
Ond llygod mawr Pygddu
Yn rhythu a gwgu,
A phawb ar fin llwgu yn Llanfair-y-Llin!
III
Eisteddai y Cyngor yn Neuadd y Dref,
Mewn dygn anobaith, yn isel eu llef;
Mewn dryswch a phenbleth pa beth i'w wneud,
Mewn dryswch a phenbleth pa beth i'w ddweud,
Yn gwelwi, yn crynu wrth glywed rhu
A lleisiau bygythiol y dicllon lu
Oedd ogylch y Neuadd, yn dyrfa flin,
I fynnu gwell rheol yn Llanfair-y-Llin.
"Beth? Talu ein trethi i ffyliaid fel hyn,
A'u gwisgo mewn porffor a melyn a gwyn,
A hwythau yn methu ein gwared rhag pla
Y llygod sy'n ysu a difa ein da!"
Ar hyn dacw rywun yn curo yn daer
Ar ddrws yr ystafell Cyfododd y Maer;
Gwrandawai yn astud,—mae'r Cyngor yn awr
Yn credu bod Pennaeth y Llygod mawr
Wrth law a holl lengoedd ei fyddin gref
I ofyn am einioes Cynghorwyr y Dref!
Distawrwydd am ennyd;ac yna yn y man.
"D-o-w-ch i m-e-w-n," meddai'r Maer a'i
....leferydd yn wan;
Ac i mewn y cerddodd ar ysgafn droed
Y creadur rhyfeddaf a welwyd erioed.
Ei wallt yn hirllaes a chyn wynned â'r gwlân,
Ei drwyn fel bwa a'i lygaid yn dân
Am funud: ac yna mor llon
 llygaid bachgennyn diofal ei fron;
Ei gorff yn lluniaidd a llyfn oedd ei en,
Yn fachgen, yn llencyn, yn hen ŵr hen;
A chraffu mewn syndod wnâi Maer y Dref
A'r Cyngor i gyd ar ei fantell ef.
Ni welwyd ei thebyg erioed o'r blaen
Ond ar beunod balch pan fo'u plu ar daen,
Ac ni roes yr Hydref i'r cwm na'r coed
Fantell cyn hardded â hon erioed.
IV
Amneidiodd am osteg. Ei lais oedd mor fwyn
A bwrlwm yr aber yn nyfnder y llwyn.
"Chwi-Faer a Chynghorwyr Tref Llanfair-y-Llin-
Hysbyswyd fi neithiwr o'ch helynt flin,
A dyma fi'n unswydd, heb oedi, ar lam
O gyrrau pellennig ac unig Sïam
I wared eich ardal o'i blinder a'i phla
O lygod mawr rheibus sy'n difa eich da.
Gyda hon," meddai ef-a gwelodd y Maer
Rhwng plygion ei fantell ei delyn glaer—
"Medral yrru yn ebrwydd bob aflwydd o'ch plith,
Boed amlwg neu ddirgel, beth bynnag fo'i rith.
A gaf i eich cennad i'ch gwared o'r pla
Sy'n poeni'r preswylwyr a dila eu da?"
"Beth yw dy bris? Pa faint fydd y bil?"
Meddai'r Maer, a daw'r ateb yn swil
"Cewch wared o'r llygod i gyd a'u hil
Am bymtheg cant."
Cei bymtheng mill!"
Meddai'r Maer: a'r Cyngor yn unfryd a llon
A roddodd eu sêl ar y fargen hon.
V
I lawr y grisiau marmor
O Neuadd fawr y Dref,
Y cerddodd y telynor
A'r Cyngor gydag ef;
Hwy yn eu gwisgoedd porffor,
Ac yntau ar y blaen,
A'i fantell hardd symudliw
Fel machlud haul ar daen.
Ymaflodd yn ei delyn,
A'i fysedd meinion gwyn
Yn hudo miwsig allan
Yn ffrwd o'r tannau tyn;
A'r dyrfa fawr a glywai
Ryw derfysg oddi draw,
Fel cenllysg trwm yn curo
Neu sydyn gafod law;
A'r llygod yn ymdywallt
I ganol Sgwâr y Dref,
Gan rym cyfaredd ryfedd
Ei delyn hudol ef.
VI
Llygod!
O! dyna i chwi lygod a dyna i chwi sŵn!
Rhai cymaint â chathod, bron cymaint â chŵn;
Rhai duon, rhai llwydion, rhai melyn, rhai brith,
Yn lluoedd afrifed cyn amled â'r gwlith;
Rhai gwynion, rhai gwinau,
Rhai tewion, rhai tenau,
Yn rhuthro i'r golau o'r siopau a'r tai,
Gan dyllu trwy furiau o gerrig a chlai:
Rhai mawrion, rhai bychain,
Yn hisian a thisian,
A rhedeg dan wichian at Neuadd y Dref,
Ac yno yn heidio, yn dawnsio a neidio
Wrth nodau deniadol ei delyn ef;
Dilynent y delyn dros briffordd y Brenin
At hen afon Gennin, i ymyl ei lli,
Ac yna'n eu bwrw eu hunain i'w lli.
Y fyddin fileinig
O lygod mawr ffyrnig
Yn llamu yn llawen i ganol ei lli!!
A'r afon yn chwyddo
A hwythau yn suddo,
Yn suddo am byth yn ei dyfroedd hi!
Ac O! y llawenydd yn Llanfair-y-Llin!
Y canu a'r bloeddio yn Llanfair-y-Llin!
Baneri yn chwifio,
A chlychau yn seinio,
A'r bobl yn dawnsio yn Llanfair-y-Llin,
Yn dawnsio a bloeddio,
Yn chwerthin a chrio,
A rhai yn gweddio yn Llanfair-y-Llin!
VII
Fe ddywed yr hanesydd
Mai un llygoden ddu
Yn unig a achubwyd
O'r dirifedi lu;
Ac iddi cyn ei marw
Roi i lawr ar gof a chadw
Hanes yr hyn a fu.
A dyma a ddywedodd
Yr hen lygoden ddu:-
"Wrth edrych ar ei fantell a gwrando'i delyn fwyn,
Ymrithiai caws a 'menyn yn union dan fy nhrwyn.
Fe beidiai'r cŵn a'u cyfarth, a'r cathod oll yn ffoi,
A holl gypyrddau'r ddaear ar unwaith yn datgloi;
A'r rheini'n llawn o fara a'r seigiau gorau erioed,
O felyn rawn y meysydd a ffrwythau ir y coed.
Ac nid oedd prinder mwyach, ond pob llygoden lwyd
Am byth uwchben ei digon o ddiod ac o fwyd;
A gwelwn afon Gennin yn troi o fin i fin
Yn hufen tew a melyn, yn gwrw coch a gwin;
A'r delyn yn cyhoeddi mai dros ei dyfroedd hi
Yr oedd Paradwys Llygod a Nefoedd Wen i ni.
Mi geisiais nofio'r afon at y Baradwys Wen,
Ond llifodd afon Gennin a'i dyfroedd dros fy mhen."
VIII
A thrannoeth yn fore ger Neuadd Dref
Mae'r Maer a'r Cynghorwyr yn uchel eu llef,
Yn siarad â'i gilydd a chwerthin yn llon,
A'r Maer yn torsythu a churo ei fron:
(Un tew oedd y Maer ac yn foel ei ben,
Gŵr bychan a byr ond un pwysig dros ben).
Mae'n codi ei lais ac yn edrych draw,
Yn pesychu'n drwm ac yn codi ei law;
A'r bobl yn tyrru at Neuadd Dref
Yn eiddgar i glywed ei eiriau ef.
Yn sydyn distawodd y cyffro a'r stŵr:
Pwy sydd yn dyncsu! 'Ha! Wele y gŵr
Yn ei fantell frithliw'n ymwthio gerbron
Y Maer a'r Cynghorwyr a'r dyrfa lon.
IX
Yn foesgar ymgrymodd a gwen ar ei fin,
Ei lygaid yn dyner a'i lais fel y gwin: -
"Chwi–Faer a Chynghorwyr Tref Llanfair-y-Llin-
A fyddwch chwi cystal a thalu fy mil,
Sef y pymtheg cant?" gofynnai yn swil.
Beth! Meddai'r Maer, gan chwerthin yn braf,
Dy bymtheg cant! Y dihiryn! Y craf!
Dos ymaith ar unwaith a chymer dy hynt,
Efallai y rhoddwn it bymtheg punt.
Mae popeth drosodd a phopeth yn dda,
A diwedd am byth ar y llygod a'r pla.
Oni welais hwy'n suddo i'r afon, fy hun,
Pob copa ohonynt? Do'n siwr, neno'r dyn!
Fe foddwyd y cwbwl ac ni ddônt yn ôl,
Ar arch yr un dewin. Yn awr na fydd ffôl,
Ond cymer yr arian, a hynny'n chwim,
Neu'n wir, ar fy llw, ni roir iti ddim."
(A dweud cyfrinach rhwng brawd a brawd,
Roedd Llanfair yn wir, yn eithaf tlawd;
Y coffrau'n wag a'r trethi'n drwm
Ar ol gwastraffu llawer swm
Ar fympwy'r Maer, ar win a medd,
A mynych ddawns a mynych wledd;
Ar deithio pell heb unrhyw raid,
A phrynu fafar plaid a phlaid:
Ar wisgoedd gwychion drud i'r Maer;
A beth am neithior merch ei chwaer?
Fe gostiodd honno fwy na mwy,
A'r gost i gyd ar dreth y plwy).
X
Ymwingai y gwr dan y ddichell a'r cam,
Yn finiog llefarai A'i lygaid yn fflam:—
"Mi roddaf un cynnig eto i chwi
I dalu yn llawn eich dyled i mi
Yn deg ac yn gyfiawn, a hynny'n chwim,
Y pymtheg cant neu ynteu ddim.
Mae gennyf gennad i fynd ar lam
Yn syth oddi yma i dueddau Assam,
I wared tywysog gonest a da
Rhag nadroedd gwenwynig a heintus bla.
Dowch! Telwch ar unwaith; neu mi drawaf dant
Nas anghofir byth gennych chwi na'ch plant."
Ond ffromodd y Maer dan ei eiriau ef,
A chododd ei ddwylo a chododd ei lef:-
"Dos ymaith y cnaf, neu'n siŵr i ti
Mi yrraf y cŵn ar dy warthaf di."
XI
I lawr yr heol lydan
Y cerddai'r gwr yn awr,
o Wydd y Maer a'r Cyngor
A heibio i'r dyrfa fawr.
Gafaelodd yn ei delyn,
A'i fysedd hirion gwyn,
Yn hudo miwsig allan
Fel mel o'r tannau tyn;
A'r dyrfa fawr a glywai
Sŵn canu oddi draw,
A'r plant yn llifo allan
O'r drysau ar bob llaw,
Gan dyrru yn eu miloedd
I ganol Sgwâr y Dref,
Ar alwad seiniau swynol
Ei delyn hudol ef.
XII
Plant!
O! dyna i chwi blant! Tyrfaoedd dircel
Yn brysio o bobman i ganol yr heol;
Yn rhedeg, yn trotian, yn cerdded, yn cropian,
Pob llun a phob oedran yn diddan a llon;
A'u gruddiau rhosynnog,
A'u pennau bach cyrliog,
A'u llygaid chwerthinog cyn lased â'r don:
Genethod a bechgyn yn dawnsio wrth ddilyn
Y cerddor a'i delyn at ymyl y dŵr,
Dros briffordd y Brenin
Hyd at lannau Cennin;
Ac yna, arafodd a safodd y gŵr;
A'r bobl yn synnu,
Yn gwelwi a chrynu;
Ond heibio i'r afon y cerddodd y gŵr;
I fyny i'r mynydd,
A'r plant mewn llawenydd
Yn dilyn o hyd yn ei gamau ef;
Yn rhedeg, yn trotian,
Yn cerdded, yn cropian,
Heb falio am degan na dim dan y nef
Ond miwsig dihafal ei delyn ef;
A'r mynydd yn agor
O flaen y telynor
Ac yntau yn arwain cei fintai i'w gôl!
Y gruddiau rhosynnog,
Y pennau bach cyrliog,
Ac ni ddaeth na bachgen na geneth yn ôl!
Ac O! y galaru yn Llanfair-y-Llin!
Y cwyno a'r wylo yn Llanfair-y-Llin!
Y siopau'n gacëdig a'r llenni i lawr,
A'r bobl yn tyrru i'r eglwys yn awr:
Y mamau a'r tadau,
A'u gruddiau yn ddagrau,
Yn plygu eu pennau, yn plygu y glin,
A phawb yn gweddio yn Llanfair-y-Llin.
XIII
Ond dywed yr hanesydd
Am un amddifad hoff
A fethodd ddringo'r mynydd,
Sef Huw, y bachgen cloff.
A byddai Huw adrodd
 dagrau ac â gwen,
Hanes y diwrnod hwnnw
Wrth ifanc ac wrth hen.
"Chwaraewn," meddai'r bachgen, a rhai o'm
...ffrindiau hoff
A fyddai'n dyner beunydd wrth Huw, y bachgen cloft;
A gwelais yn mynd heibio ryw ŵr mewn mantell glaer
Na welais i mo'i thebyg crioed ar gefn y Maer.
Fe redodd fy nghyfeillion ar unwaith ar ei ôl,
A cheisiais innau ddilyn, a Siôn, yr hogyn ffôl,
Yn gafael yn fy mreichiau; ond dyna Siôn yn mynd,
A minnau ar yr heol fy hunan, heb un ffrind.
Ar hyn mi glywais ganu, a thelyn fwyn ei thant
Yn sôn am froydd tirion Paradwys Wen y Plant;
Ac am ei llethrau tawel, ei dolydd glas a'i choed,
A'i chwrlid hardd o flodau na bu eu bath erioed;
Am adar pêr yn nythu ym mrigau'r cangau mawr,
A ffrwythau cochion addfed yn hongian hyd y llawr;
Am wenyn aur ei gerddi a brithyll chwim ei lli,
A'r meirch a'u carnau arian ar ei heolydd hi.
Fy nghalon o lawenydd ddychlamai dan fy mron
Wrth wrando'r delyn seinber yn sôn am degwch hon—
Y Wlad tu hwnt i'r mynydd! Ac, O! mor wyn fy myd
Pe gallwn rywfodd gyrraedd un o'i chilfachau clyd!
Y Wlad tu hwnt i'r mynydd, a'i llwyni byth yn wyrdd,
Bro'r Tylwyth Teg a'r Cewri a Rhyfeddodâu fyrdd:
Lle'r oedd teganau ddigon a gwisgoedd o bob lliw,
A phawb o'i mewn yn llawen heb neb o dan ei friw;
Lle rhoddid synnwyr eto i Siôn, fy nghyfaill hoff,
A lle na byddwn innau byth mwy yn fachgen cloff.
Mi geisiais ddilyn camau y gêr a'r fantell fraith,
Ond Och! ni fedrwn redeg na cherdded llawer chwaith;
A gwelais fy nghyfeillion a'r gwr yn ymbellhau,
A phyrth y wlad yn agor a phyrth y wlad yn cau;
A mi fy hunan yno, heb un o'm ffrindiau hoff,
Yn Huw, y bachgen unig, a Huw, y bachgen cloff."
XIV
Ar hyd a lled y gwledydd
Anfonwyd gan y Maer
Genhadon gannoedd lawer
Ar ymchwil hir a thaer.
Ond ofer fu'r holl chwilio
Ni ddaeth y gŵr yn ôl,
Er gwobrau ac ymbiliau
Y Maer a'r Cyngor ffôl.
A'r mamau trist a'r tadau,
Mewn hiraeth ddydd a nos,
Am bennau bychain cyrliog,
A gruddiau fel y rhos;
Ac ni ddaeth un ohonynt
Byth mwy yn ôl i'r dref,
'R ôl clywed miwsig rhyfedd
Ei delyn swynol ef.
A dyna ddiwedd hanes
Y gŵr â'r fantell fraith,
A'r delyn ryfedd honno,
A'i swynol hudol iaith—
Y llygod mawr a'r Cyngor,
A'r Maer anonest, ffôl
A'r pennau bychain cyrliog;
Na ddaethant byth yn ôl
Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1954, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.