Gwaith Mynyddog Cyfrol 1 (testun cyfansawdd)

Gwaith Mynyddog Cyfrol 1 (testun cyfansawdd)

gan Richard Davies (Mynyddog)

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Gwaith Mynyddog Cyfrol 1
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Gwaith Mynyddog (Cyfres y Fil)
ar Wicipedia

—————————————

MYNYDDOG.

"Fy awr red, mor frau yw oes !
Edef fain ydyw f'einioes."

—————————————

GWAITH

MYNYDDOG.


—————————————


LLANUWCHLLYN:

AB OWEN.

1914.

CYHOEDDIR, DROS AB OWEN,

GAN Y

MRI. HUGHES A'I FAB, GWRECSAM.

RHAGYMADRODD

GANWYD Richard Davies (Mynyddog) yn y Fron, Llanbrynmair, yn 1833. Amaethwr a bugail oedd yn ei ieuenctid; ac nis gwn am un math o waith mor hapus, nac am waith sy'n gymaint o addysg wrth ei wneud, a gwaith bugail ac amaethwr. Bywyd y bugail a'r amaethwr welwn yng nghaneuon tri beirdd bron o'r un oed, ond tri bardd tra gwahanol i'w gilydd,—Ceiriog, Mynyddog, a Thafolog. Ardal dda i fardd yw Llanbrynmair, ardal feddylgar a diwylliedig; ca bardd yno rai fedr ddeall ei gyfrinach a mwynhau ei naturioldeb.

Yr oedd Mynyddog yn fachgen uchelgeisiol. Dechreuodd gyda'r bryddest a'r awdl; medrai roddi meddyliau yn y naill a chynghaneddion cywir yn y llall Cafodd wobrau yn Eisteddfodau sir Drefaldwyn, pan tua'r ugain oed, am bryddest, awdl, cywydd, ac englyn.

Ond gwelodd cyn hir fod llwybr wedi ei dorri ar ei gyfer, a cherddodd ef i ddiwedd y daith, yn llawen, yn hapus, ac yn wasanaethgar. Ei lwybr ef oedd llwybr y gân seml, naturiol, lân. Yr oedd yn adnabod trigolion Maldwyn a Meirion,— a chanai, wrth eu bodd, gân ddiaddurn yn cynnwys gwers a gofient neu ergyd a deimlent. Cododd ei lyfrau awydd darllen ar weision ffermwyr a llafurwyr, ac arweiniasant hwy i gysegr llenyddiaeth. Y mae natur heulog, garedig, chwaethus, ddoniol, Mynyddog ei hun yn ei ganeuon i gyd.

Canai ei ganeuon, daeth yn arwr y llwyfan, a gwnaeth ddaioni trwy ei oes ferr. Yr oedd fel pe wedi ei amcanu at arwain Eisteddfod. Yr oedd yn dal a hardd, ei osgo a'i wyneb yn gyfuniad o ddireidi ac urddas, ei air yn barod a'i wên yn wastad ar ei wyneb.

Cyhoeddodd dair cyfrol o'i ganeuon,—yn 1866, 1870, a 1877.

Bu'n fywyd Eisteddfodau ym mhob rhan o Gymru, a bu ar daith yn yr Amerig hefyd. Ysgrifennodd lawer o ryddiaith, a cheir llawer o ddonioldeb ei ganeuon yn hwnnw.

O’i gartref prydferth yn y Cemaes,—Bron y Gân, bu'n mynd allan i ddiddanu ac i buro ei genedl. Bu farw Gorffennaf 14, 1877,—yn anterth ei nerth. Yn ol ei ddymuniad cafodd fedd hoff Lanbrynmair,—

"Pan wedi marw, rhowch i mi
Gael bedd yn Llanbrynmair."

Flynyddoedd yn ol, dywedodd ei chwaer wrthyf fod lliaws mawr o'i ganeuon goreu, y caneuon olaf ganodd, heb eu cyhoeddi, yn eu mysg ganeuon glywswn i ef yn ganu. Ar fy nghais, paratodd y diweddar D. Emlyn Evans y gyfrol hon i'r wasg. Y mae cyfrol arall debyg iddi i'w dilyn, yn cynnwys caneuon perffeithiaf Mynyddog, ymddiriedwyd imi gan ei weddw. Da gennyf fedru rhoi'r caneuon syml, doniol, iach, a phur hyn i'm cenedl; a rhoi llais eto, er mwyn y rhai a'i clywodd a'r llu mawr nas clywsant, i athrylith hoffus Mynyddog.

OWEN M. EDWARDS.

CYNHWYSIAD



Y DARLUNIAU

MYNYDDOG—————————Wyneb-ddarlun

A gwyneb brych, a gwên braid

(Darlun gan y diweddar H. Humphreys, Caernarfon)

Y FRON—————————I wynebu tud. 9

"Bore disglair d-gymylau
Ydyw bore bywyd brau."

BRON Y GAN—————————I wynebu tud. 25

"Hoffder pennaf Cymro yw gwlad ei dadau,
Dyma'r fan dymuna fyw hyd ei angau.”

BWTHYN YN MALDWYN—————————I wynebu tud. 41

"Rhoddwn fyd pe yn fy meddiant,
Am fod eto'n blentyn bach."

(Darlun gan y diweddar John Thomas)

CIPOLWG AR LANBRYNMAIR—————————I wynebu tud. 57

"I hon tywysodd Duw ei arch,
Bu'n gryd i'r dwyfol air,
Mae Cymru oll yn talu parch
I grefydd Llanbrynmair."

(Darlun gan y diweddar John Thomas)

Y FFRWD FAWR, LLANBRYNMAIR—————————I wynebu tud. 89

"E roes Iôr mewn rhaeadr syn
Fawredd yn mhob dyferyn

(Darlun gan y diweddar John Thomas)

Y FRON.

"Ffarwel am byth, fy nheulu hoff,
Hyd fore gwyn y diwrnod mawr.”

—————————————

YSGUB NEWYDD.

MAE'N well cael cân yn newydd grai,
Pe bae pob gair yn cynnwys bai,
Na chael yr un hen gân o hyd
Er cael yr oreu yn y byd;
Mae pawb yn gwaeddi nerth eu gên
Am rywbeth newydd yn lle yr hen,
A dengys hyn mai gwir y gân,—
Fod ysgub newydd yn sgubo'n lân.

Pan ddaw'r gwas ni gynia i'w le,
'Does neb trwy'r ardalfel efe,
A'r forwyn newydd—gwarchod ni !
Mae'n sgubo'r cyfan—ffwrdd a hi;
Hi ruthra allan draws y stôl,
A chyn ei cholli daw yn ol;

Chwi welwch yn glir mai gwir y gân,
Fod ysgub newydd yn sgubo'n lân.
Mae'r llanc yn gweled geneth dlôs
Yn pasio heibio ryw fin nos,
A thystia yno yn ddioed
Mai dyna'r dlysa welodd erioed;

Pe cawsai hi bâr o edyn o'r nen,
Y gwnaethai hi-angel there and then;
Chwi welwch yn glir mai gwir y gân,
Fod ysgub newydd yn sgubo'n lân.

Ar ddydd priodas, creda dyn
"Does neb trwy'r gwledydd fel ei fun,
Mae'n gall,—mae'r harddaf yn y plwy,
A chanddi arian, fil neu ddwy,
A chadwant am dro mor glos fel pe tae,
Os gwelwch chwi un, fe welwch y ddau,
A gwelwch yn glir mai gwir yw y gân,
Mae ysgub newydd yn sgubo'n lân.

Yr hen ddihareb, dwedyd wna
Mai popeth newydd dedwydd, da;
Ond cyn rhoi barn, y goreu yw
I aros i edrych ddeil o'i liw ;
Mae'r ysgub newydd hardd, ddi-feth,
Wrth sgubo'n hir yn treulio peth ;
Ac eithaf peth yw cofio'r gân, —
Mae ysgub newydd yn sgubo'n lân.

Y MELINYDD.

Er wledd ydyw malu ŷd—a chodi
Ychydig doll hefyd ;
Ei fuddiol hoff gelfyddyd
A hulia fwrdd hael i fyd.
 Ion. 29, '63.

FY NGWRAIG A FI.

(Efelychiad).

Ni welodd neb fy ngwraig a fi
Erioed yn ffraeo'n gâs,
Uwch ben ein bwthyn bychan ni
Mae'r awyr byth yn las;
Mae hi yn tystio fy mod i
Yn well nag unrhyw ddyn,
Ond wedi'r cwbl y mae hi
Yn mynnu ei ffordd ei hun.

Mae gwragedd rhai yn cwyno o hyd
Am arian gan eu gwŷr,
Os na chânt wisgoedd goreu'r byd,
Mae'u trwynau'n troi yn sur;
'Dyw ngwraig fach i, yn glaf nac iach,
Yn ceisio dim di-les,
Ond dyna'r aflwydd, bobol bach,
Y hi sy'n cadw'r pres.

"Wel, nag oes—nag oes!—"Oes—wel oes"
Fel hyn mae rhai o hyd,
Yn ffraeo beunydd hyd eu hoes
Wrth fyned trwy y byd;
Os bydd rhyw ambell air go wael
Cydrhwng fy ngwraig a fi,
Mae'r cwbl yn dawel—ddim ond cael
Yr olaf ganddi hi.
 Meh. 10, '72.

PWY SY'N CONOCIO WRTH Y
Y FFENEST GEFN?

(Aralleiriad o "Tapping at the Gate")

Pwy sy'n cnocio wrth y ffenest gefn?
Cnoc, cnoc, cnocio wrth y ffenest gefn
Bob 'n ail nos tua naw 'r un drefn,
Rhywun yn cnocio wrth y ffenest gefn;
Nid y gath o hyd sydd yn gwneud;
Jane, be' chi'n gwrido wrth im' ddweyd?
Peidiwch ag ysgwyd y stolion mor ffol,
Dyw'r cnoc, cnoc, cnoc, ddim dan y stol;
Bob 'n ail nos tua naw 'r un drefn,
Rhywun yn cnocio wrth y ffenest gefn.

O mor sly yw y gŵr pan ddaw,
'N aros gylch y tŷ o saith hyd naw,
Esgus gwneuthur sŵn â'r llwyau tê,
Sut mae'ch llaw chwi'n crynnu, eh?
Gwyn fy myd na fuaswn ì
'N gallu rhoi tro o gylch ytŷ;
Nid y gath sydd yn cnocio'n awr,
Fedr y gath ddim gwneud cnoc mor fawr;
Sut gŵyr cath faint 'di o'r gloch mewn trefn,
A mynd i gnocio at y ffenest gefn?

NYTH HEB FÊL

DOES daioni'n y byd iti syllu
I grochan a photes dy frawd,
Rhag ofn iti rywbryd wrth hynny
Gael dirmyg a galar a gwawd;
A gwylia mewn brys
Rhag rhoddi dy fŷs
I'w losgi'n y potes wrth borthi dy flŷs ;
Ro'f fi ddim er undyn, a deued a ddêl,
Mo'm llaw mewn nyth cacwn, os na fydd no fêl.

'Roedd Hywel o'r Allt yn negesa
I un ac i'r llall yn mhob llun,
Ond hynod anaml 'roedd hwnna
Yn gwneuthur ei neges ei hun;
Ond diwedd y daith,
'Nol gorffen y gwaith,
Ni phlesiai'r un copa, na'i hunan ychwaith;
Ro'f fi ddim er undyn, a deued a ddêl,
Mo'm llaw mewn nyth cacwn, os no fydd na fêl.

Aeth dwsin o wragedd ryw ddiwrnod
I ffraeo ym mhentref Tri Rhyd,
A Hywel a redai mor barod
I setlo y dwsin i gyd;
Ond Hywel o'r Allt
A'i cafodd hi'n hallt,
Fe ruthrodd y dwsin i gyd am ei wallt ;
Ro'f fi ddim er undyn, a deued a ddêl,
Mo'm llaw mewn nyth cacwn, os na fydd no fêl.


Dro arall, aeth gŵr Allt y Meudwy
I ffraeo â'i wreigan ei hun,
A Hywel a neidiodd i'r adwy
I sefyll rhwng dau oedd ynun;
Ond gwelodd cyn hir
Fod siswrn yn wir
Yn torri beth bynnag ae rhwng y ddau ddur;
Ro'f fi ddim er undyn, a deued a ddêl,
Fy mŷs mewn nyth cacwn, os na, fydd 'no fêl.

Fe fîraeodd dau gariad wrth garu,
Fel bydd y cariadon yn gwneud,
A Hywel a aeth i wneud fyny,
Ond cyn iddo hanner gael dweyd,
Y carwr fel dyn
Rodd gusan i'r fân,
A chlewten i Hywel am ddangos ei hun;
Ro'f fi ddim er undyn, a deued a, ddêl,
Mo'm bŷs mewn nyth cacwn, os na fydd 'no fêl.

Gorffennaf 29, '69.

ADFERIAD IECHYD.

DIFYRRUS yw adferyd—ymryddhau
O 'mhrudd hir afiechyd;
Anwyl i'r bardd droi 'nol i'r byd,
Y'min dalfa mynd i eilfyd.
 Racine, Rhag. 4, 76.

NI WN I DDIM YN WIR.

(Efelychiad).

OEDD Gweno Jones yn eneth dlôs,
A geneth gall dros ben,
A bachgen hardd oedd Huw o'r Rhos,
Ond ddim mor gwic a Gwen;
"Pa sut mae'r galon, Huw, yn awr,
Gofynnai Gweno'n glir,
Ond dwedai Huw a'i ben i lawr,—
"Ni wn i ddim yn wir."

"Mae gennych gariad," meddai hi,
"Ond pwy yw honno, Huw?
Cael cwmni llanc mor bert a chwi,
Rhyw fraint ryfeddol yw;
Chwi ellwch gael, 'rwy'n siwr, yn awr
Eich dewis trwy y sir,
A chwithau'n fab i ŵr mor fawr,"—
"Ni wn i ddim yn wir."

"Mi ddwedsoch wrthyf fi ryw dro
Mai fi a fyddai'r un,
Ond 'rych chwi'n awr yn swil o'ch co'
Wrth siarad hefo mûn;
Dowch, Huw, a pheidiwch plygu'ch pen,
A thynnu gwyneb hir,
Gwnewch lygad siriol ar eich Gwen,"—
"Ni wn i ddim yn wir."


"Mae ffair ryw ddydd yn Llanbrynmair,
A ddowch chwi yno, Huw ?
Mae'n lle da iawn i siarad gair
Heb wybod i undyn byw;
A ddowch chwi i'm danfon gyda'r nos ?
Bydd goleu lleuad clir,
'Does fawr oddiacw i'r Rhos,—
"Ni wn i ddim yn wir."

"Mae chwedl ein bod ni ein dau
Yn mynd gyda'r trên yn llon,
I dref Machynlleth ryw ddydd Iau
I brynnu modrwy gron;
Ond nid yw hynny wedi'i wneud,
Chwi wyddoch hynny'n glir,
Dowch, Huw! Dowch, Huw! Wel, be'ch
chwi'n ddweyd?"
"Ni wn i ddim yn wir."

"O'r anwyl fawr! Rhag c'wilydd, Huw,
Fu 'rioed 'run fel y chwi,
Hen wlanen salaf sydd yn fyw
Yn torri 'nghalon i;
Nid oes un llanc, rwy'n dweyd yn syth,
Mor saled yn y sir,
Ddoi ddim yn agos i chwi byth,"—
"NI WN I DDIM YN WIR."

PYMTHEG MLYNEDD YN OL.

WY'N cofio pan yn bymtheg oed,
Yn byw ym mwthyn Ty'n y Coed,
Fy mod i'n llanc gwiriona 'rioed
Am bob rhyw gastiau ffôl;
Ond erbyn hyn gwnaeth amser maith
Newid fy natur lawer gwaith,
Dwy' ddim mor ieuanc ag own i 'chwaith
Bymtheg mlynedd yn ol.

Os daw rhyw dwyllwr draws y wlad,
A'i galon ddu yn llawn o frad,
Gan feddwl cael rhyw gryn fwynhad
Wrth dwyllo dynion ffôl,
Pan ddaw ef yma ar ei daith,
Yna caiff wybod heb fod yn faith
Nad wy' ddim mor ifanc ag own i chwaith
Bymtheg mlynedd yn ol.

'Roedd Gwen Fron Fraith yn eneth glên, .
Rown i yn ieuanc, hithau'n hen,
A rywsut rhwng ei gwisg a'i gwên,
Eis i i'w charu'n ffôl ;
Ond yn lle cymeryd modrwy gron,
Beth feddyliech chwi ddwedodd hon?—
"'Dwy' ddim mor ieuanc ag own i, John,
Bymtheg mlynedd yn ol.”

Digwyddais gwrdd â Gwen ddydd Llun,
Gofynnodd imi,—"Neno dyn,
Ple mae'ch addewid chwi eich hun,
Bymtheg mlynedd yn ol?"

Ond chedwais i na sŵn na sên,
Dwedais yn dawel er mwyn gwneud pen,—
"'Dwy' ddim mor ieuanc ag own i, Gwen,
Bymtheg mlynedd yn ol.”

Rwy'n cofio'n burion ddyddiau gynt
Pan own i 'n ieuanc ar fy hynt,
Mor rydd, mor iach, a'r awel wynt,
Ar ol pleserau ffôl;
Ond erbyn hyn mae amser maith
Wedi rhoi arnaf lawer craith,
'Dwy' ddim mor ieuanc ag own i 'chwaith
Bymtheg mlynedd yn ol.
 Mehefin 4, 1868.

DARLLAWDY Y TEPOT

RHOWCH yn fy mhen ddail pellenig—a dwfr
Wrth ryw dân lled ddiddig;
A chodwch fi 'mhen 'chydig—
Iach win merch geir o 'mhîg.
 Racine, Rhag. 2, '76.

CARU

MAE'N rhaid cael rhyw 'chydig o garu
Cyn byth bydd priodi'n y byd,
A rhaid cael rhyw adeg i hynny
Yn gyson, fel gwyddom i gyd;
Mao rhai'n mynd yn gall iawn i garu,
Cyn sobred, â'u dwylaw ymhleth,
Ond dwedir mai'r dylaf mewn teulu
Yw'r callaf yn hynny o beth.
Peth od fod dyn
Wrth garu mûn,
Yn gwneud y fath asyn o hono ei hun.

Os dylid cael goleu i rywbeth,
Fe ddylid cael goleu i gael gwraig ;
Mae dyn yn y t'w'llwch wrth bopeth,
Yn taro ei drwyn yn y graig;
Ac eto mae llawer o'r llanciau
Mor ffôl yn y wlad, onid oes?
A chymeryd y nos i gael goleu
I ddewis cymhares am oes;
Peth od fod dyn
Wrth garu mûn,
Yn gwneud y fath asyn o hono ei hun.

Ond yw e'n beth rhyfedd fod llencyn
Yn galw anwylyd ei serch,
Yn angel, neu'n seren, neu'n rosyn,
Yn bopeth anhebyg i ferch;

A dwedir fod rhai mor wirioned
Wrth garu yng ngoleu'r lloer dêg,
A thystio fod cariad yn gweled
Un seren yn bedair ar ddeg;
Peth od fod dyn
Wrth garu mûn,
Yn gwneud y fath asyn o hono ei hun.

Y DDANNODD

Och o'r gwae sy'n ochr y gêg—a mil dieifl
Yn mol daint 'run adeg;
A thystiais pan na ddaeth osteg,—
"O! myn d——l 'dyw hi ddim yn dêg."
 Medi 9, 76.


Y "SLEEPING-CAR"

AR olwyn uwch y rheiliau—breuddwydier
Bur ddedwydd feddyliau;
Mynd fel tân gwefr dân yn gwau
A huno wrth ager sy'n wyrth, hogiau.
 'Rol Swper, Rhag. 18, '76.

FELLY'N WIR

RWY'N 'nabod hen Gymro hen ffasiwn
Sy'n tynnu mewn tipyn o oed,
Yr hwn sydd a'i lygad a'i galon
Yn llawer ysgafnach na'i droed;
Pan fydd ef yn lolian a siarad,
Cewch weled mor amlwg a'r haul
Fod ganddo ryw winc yn ei lygad,
A hwb yn ei ysgwydd bob 'n ail,
A'i ateb bob amser i bawb sydd yn glir,
Yn fyrr ac i bwrpas, —"Ho-ho, felly'n wir."

A glywsoch chwi, f'ewyrth, y stori
A daenir trwy'r wlad er dydd Sul,
Fod Rhydderch o'r Glyn wedi torri,
A'i ddyled yn ymyl wyth mil?
Fe ddwedir y gwerthir o i fyny i
Ryw adeg cyn dechreu yr ha',
Ond peidiwch a son am y stori
Wrth undyn, os gwelwch yn dda;
Ond f'ewyrth atebai mewn acen mor glir,
Dan wincio, a hwbian,—"Ho-ho, felly'n wir."

A glywsoch chwi hanes y widw,
Ei bod hi fel hyn ac fel hyn,
Yn siarad ar y sly â'r gŵr gweddw
Sy'n byw'r ochr arall i'r bryn?
Fe ddwedir fod honno a hwnnw
Yn edrych modrwyau'n y dre,

Wel, garw o beth yw gŵr gweddw
Am ddenu menywaid, yntê?
Wrth glywed fe ddwedai'r hen Gymro yn glir,
Dan wincio, a hwbian,— "Ho-ho, felly'n wir."

A glywsoch chwi, f'ewyrth, y stori
A daenir heb gelwydd na sên?
Mae'n ddigon i waed dyn i rewi,
A gwallt dyn i sythu ar ei ben,
Cadd teulu'n ddiweddar ei witsio,
Mae'r gŵr wedi drysu o'i go,
A'r fuwch wedi bwyta'r maen llifo,
A'r gath wedi llyncu y llo;
Ond dwedai'r hen Gymro gan wneud gwyneb hir,
A wincio, a hwbian,—"Ho-ho, felly'n wir."

Fe glywir rhyw fath o hanesion
Wrth fyned a dyfod bob tu,
Mae rhai yn gelwyddau go wynion,
A'r lleill yn gelwyddau go ddu;
Ond celwydd yw celwydd trwy'r cyfan,
A gwell peidio'i ddweyd, onid yw?
Mae celwydd bob amser yn aflan,
Beth bynnag a fyddo ei liw;
Dywedwn 'run fath a'r hen Gymro yn glir,
Pan glywn ryw stori,—"Ho-ho, felly'n wir.".
 Mawrth 19, 1872.

MAE CARIAD YN DDALL

Fe ddwedir gan hen awenyddion
Fod cariad mor gryfed a'r graig,
Ac nad oes dim nerth ymysg dynion
Fel cariad cyd-rhwng gŵr a gwraig;
Gwna hwnnw'r cysylltiad yn deilchion
Rhwng plant a rhieni tra mwyn,
A llusga'r ferch gerfydd ei chalon,
A'r llencyn yng ngherfydd ei drwyn;
Ond mae cariad yn ddall, mae cariad yn ddall,
Mewn meibion a merched, y naill fel y llall.

Fe ddwedir fod clustiau gan gariad
Yn clywed un ochr i gyd,
Fe glywa bob da gaiff ei siarad,
Ond chlyw o'r un drwg yn y byd;
Ond rhowch iddo spectol o arian
Neu aur fydd yn bunnoedd o gôst,
Mae cariad drwy'r spectol a'r cyfan
Bob amser mor ddalled a'r pôst;
Mae cariad yn ddall, mae cariad yn ddall,
Mewn meibion a merched, y naill fel y llall.

'Rwy'n nabod llanc ieuanc anghennog,
Sy'n meddwi bob bore a nawn,
Ei logell sy'n wâg fel ei benglog,
Er mwyn cael ei wydryn yn llawn;
Pe byddai gwobrwyo am regu,
Rwy'n siwr yr ai'r wobr iddo ef,

Er hynny mae Jane yn ei garu
Fel pe byddai'n angel o'r nef;
Mae cariad yn ddall, mae cariad yn ddall,
Mewn meibion a merched, y naill fel y llall.

Mi welais ferch ieuanc dro arall
Yn hoeden ddilewyrch, ddi-les,
Heb ganddi na glendid na deall,
A'i gwyneb yn cario'r holl bres;
Ni welwyd erioed ddiwrnod golchi
Yn almanac bywyd y fûn,
Er hynny, 'roedd John yn ei charu
Yn fwy na ei enaid ei hun ;
Mae cariad yn ddall, mae cariad yn ddall,
Mewn meibion a merched, y naill fel y llall.

Ar ol i ti briodi cei physig
A ddaw a dy lygad i drefn,
Fe weli bob peth yn ddau-ddyblyg
Pan ddaw yr hen fyd ar dy geîn ;
'Rol daw rhyw ddwy fil o ofalon
A'u bysedd i'th lygaid bob dydd,
Bydd rhy hwyr it rwbio'th olygon,
Ac edrych o'th gwmpas beth sydd ;
Mae cariad yn ddall, mae cariad yn ddall,
Mewn meibion a merched, y naill fel y llall.
 Ion. 26, '75.

ADREF AT MAM

PAN b'wyf oddicartref, 'rwy'n teimlo
Fy hunan yn blino'n y byd,
Pan fydd fy ngelynion yn beio,
Ac ereill yn gwawdio'r un pryd;
'Rwy'n teimlo fel plentyn chwe troedfedd
Pan byddwyf yn cael unrhyw gam,
A byddaf yn dwedyd yn fynych,—
Mae arnaf eisieu mynd adref at mam.

Os byddaf yn gweled rhyw lencyn
Yn tyfu'n gicaion o hyd,
Yn lluchio ei arian fel cregyn,
A lluchio'i gymeriad 'run pryd,
'Rwy'n teimlo cryn awydd ar brydiau
Rhoi cyngor i'r cyfryw rhag cam,—
"Rhag iti ymhollti gan falchder,
Dos adref yn ol at dy fam."

Bum unwaith yn caru genethig
A'm calon yn gwlwm dan glo,
Yng nghariad fy meddwl brwdfrydig,
Mi deimlwn mor wirion a llo;
Gofynnais i'r ferch am briodi,
A'm dilyn trwy lwyddiant a cham,
Ond dyma'r atebiad roes imi,—
"Mae arnaf eisieu mynd adref at mam."

Mi lwyddais cyn hir i'w pherswadio
I gymryd fy nghalon a'm llaw,
I mewn i hen eglwys Llandrillo
Yr aethom ein dau yn ddi-fraw;
"A gymrwch chwi John," ebe'r person,
"Yn ŵr rhag pob gofid a cham?
Yn lle dwedyd "ymraf," mi waeddodd,—
Mae arnaf eisieu mynd adref at mam.

—————————————

BRON Y GAN

"Mewn adfyd a hawddfyd, mewn gaeaf a haf,
Mae nghalon yng Nghymru ple bynnag yr af."

—————————————

Os gwelwch chwi eneth ben-chwiban
Yn chwilio am gariad a gŵr,
Heb fedru rhoi nodwydd mewn hosan,
Na gwybod am sebon a dŵr,
Rhown gyngor i'r llanciau twymgalon,
Heb ddwedyd y rheswm paham,
Dywedwch wrth bob hogen wirion,—
"Dos adref yn ol at dy fam."

Peth anhawdd yw goddef yr hogyn,
Cyn tyfu yn bedair ar ddeg,
Yn ordro ei gwpan neu nogyn
A phibell wên hir yn ei gêg;
Cymerwch dosturi o'r bychan,
Rhag iddo gael gofid neu gam,
A rhowch iddo farblen neu degan,
A gyrrwch e'n ol at ei fam.
 Ebrill 12, 74.

Y CORWYNT

CURODD oreu cawraidd dderwen—nyddodd
Aneddau fel brwynen;
Ai Abred a ddaeth i'r wybren
I daflu'r byd fel ar ei ben?
 Rhag. 16.

Y LLYGOD YN CHWAREU

MAE'R oenig fach yn chwareu
Yng ngwyneb melyn haul
A chwery'r awel deneu
Cydrhwng y llwyni dail,
Ac mewn mwynhad o hawddfyd,
A bochau gwridog, iach,
Ym more dydd ieuenctid
Fe chwery'r plentyn bach;
A dywed hen ddihareb
Na bu erioed ei bath,
Fod y llygod oll yn chwareu
Ar ol cael lle y gath.

'Rwy'n cofio'r ysgol ddyddiol
Ers llawer blwyddyn faith,
Pan fyddai'r meistr yn gweled
'Roedd pawb yn llawn o waith;
Ond pan ai'r meistr allan
Pob un a chwarddai wawd,
Gan edrych heibio'i gopi,
A'i drwyn ar ben ei fawd.
'Does neb fel plant yr ysgol
Am gastiau o bob math,
Mae'r llygod hyn yn chwareu
Ar ol cael lle y gath.

'Roedd meistr gynt yn cadw
Dwy forwyn gyda gwas,
Pan fyddai'r meistr gartref,
Hwy weithient gyda blas,

Ond wedi i'r meistr a'r feistres,
Y ddau i fynd i ffwrdd,
Caech weld y gwas a'r merched
O gylch y tân yn cwrdd ;
A wincient ar eu gilydd,
A chanai'r tri'r un fath;
Fe all y llygod chwareu
Ar ol cael lle y gath.

'Roedd dwy o ferched ieuainc
Gan Mr. Puw Llwyn Drain,
Pan fyddai'r tad oddeutu
Mor sobor fyddai rhain!
Ond pan ai'r tad o gartref
I edrych am ryw ffrynd,
'Roedd dau o lanciau'r ardal
Yn gwybod ple i fynd.
Ond chwareu têg i'r merched,
Bu llawer dwy run fath,
Mae'n rhaid i'r llygod chwareu
Ar ol cael lle y gath.

 Chwef. 11, 74.

YR EIRA

ARIANNAIDD wely breiniol—plu' edyn
Rhai o'r pleidiau nefol
I'n daear gu droi i'w gól
Yn ei gofid gaeafol.

 Rhag. 17.

SOFREN NEU DDWY

RWY’N myned i ganu am brofiad pob dyn,
A chanu'r un amser fy mhrofiad fy hun,
Mae'r testun yn hynach na nhaid o ran oed,
Ac eto mor ieuanc a llon ag erioed ;
Y testun, gan hynny, yw sofren neu ddwy,
'Does dim sydd mor brydferth a sofren neu ddwy;
Mewn tref ac mewn gwlad,
Mae pob peth yn rhad,
Os bydd gan un weddill o sofren neu ddwy.

Pan fydd y cypyrddau yn mynd heb ddim bwyd,
A’r gôt ar y cefn yn edrych yn llwyd,
Pan fydd arnoch eisieu cael cyfaill neu ddau,
A gwneud i bob drysau i agor a chau,
I gael y rhai yna, a llawer iawn mwy,
'Does dim mor llwyddiannus a sofren neu ddwy.
Dyw'r banciau na'r siop
Ddim byth yn dweyd "stop,"
Tra clywant dinciadau rhyw sofren neu ddwy.

Os ydych am effeithio ar galon rhyw ferch,
A gwneud dyfnion glwyfau â saethau eich serch,
Oferedd yw eiriol yn daer gyda mûn,
Oferedd yw traethu eich cariad eich hun,
Ond dyma y ffordd i wneud effaith a chlwy,
Blaenllymwch y saethau â sofren neu ddwy.
Yn agos a phell,
'Does dim sydd yn well,
Yn sylfaen i gariad na sofren neu ddwy,


Pan ddaw diwrnod rhenti i gneifio'r holl wlad,
A phawb yn dadlwytho i berchen y stâd,
Neu fil am esgidiau, neu fil am y glo,
Neu filiau y teiliwr, y gweithiwr, a'r go,
Neu dreth y tylodion, neu ddegwm y plwy,
Mae'r cyfan yn toddi o flaen sofren neu ddwy.
Rhof glic ar fy mawd,
Yng nghanol pob gwawd,
Os bydd gennyf weddill o sofren neu ddwy.

Mae gallu angerddol ym mraich llawer gør,
A gallu diderfyn mewn tân, ac mewn dŵr,
Mae gallu rhyfeddol mewn ager a gwynt,
Mae gallu rhyfeddach o lawer mewn punt,
Mwy nerthol na'r creigiau yw sofren neu ddwy,
A thrymach na'r bryniau yw.sofren neu ddwy.
Y fellten gref, fawr,
A dynnir i lawr,
A rhed am ei bywyd rhag sofren neu ddwy.
 Gorffennaf 26, 1872.

Y NIAGARA

Yn llwyd wawl y lleuad wen—y rhua
Y Rhaeadr bendraphen;
Lawr obry fel o'r wybren
A dŵr y byd ar ei ben.

Rhag. 15.

'DYW MAM DDIM HANNER BODDLON."

MAE rhai yn dweyd fod canu cân
A chariad yddi hi
Yn groes i bob moesoldeb glân,
Ond beth feddyliech chwi ?
'Rwy'n credu'n siwr os tynnwch chwi
Y cariad pur a ffôl
O'r galon ddynol, serchog, gu,
Fydd yno ddim ar ol;

(Ac mae rhai yn fy meio innau am son am gariad
yn rhai o fy nghaneuon, ac am ddweyd y gwir),—

'Dyw mam ddim hanner boddlon,
'Dyw mam ddim hanner boddlon,
Na, na, prin iawn, er mor anhawdd yw,
'Dyw mam ddim hanner boddlon.

Mi welais ferch flynyddau'n ol,
A'i hoffi 'roeddwn i,
Ac yn fy serch a'm ffwdan ffôl,
Gofynnais iddi hi
A gaem ni fynd i'r llan ein dau
A phrynnu modrwy fach,
Ac wedi meddwl awr neu ddwy,
Atebai'n ddigon iach,— .

"Wel, Dic bach, gan nad wyt ti yn werth mo'r
canpunt yn y flwyddyn, a chan nad allwn innau fyw
heb o leiaf ddau gant yn y flwyddyn, ac hyd nes
dewch chwi yn werth hynny, Dic bach,

"Dyw mam ddim hanner boddlon," &c.


Dechreuais weithio fel y cawr,
A gwella yn y byd,
A mynd i fyny 'n lle i lawr,
Nes cael y swm ynghyd
Pan glywodd Elen am y peth,
Cydgwrddem yn y glyn,
A gofyn wnai â'i dwylaw 'mhleth,
Y geiriau serchog hyn,—

Wel, Dic bach, ’rwy'n deall eich bod yn werth llawer mwy o arian yn
awr na phan ddarfu i ni gwrdd ddiweddaf, a beth am y pwnc oeddech chwi yn ei———?"

Wel," meddwn innau, gan fy mod wedi gwella yn fy sefyllfa,

"'Dyw mam ddim hanner boddlon," &c.

'Rwy'n hoffi'r ferch a'r galon bur,
Ple bynnag bo y fûn,
A fedr garu fel y dur
Er mwyn y dyn ei hun,
Ac ’rwy'n cashau â pherffaith gâs
Bob hoeden ffôl, ddi-les,
A chalon arwynebol, gâs,
Yn caru dim ond pres.

Ac mi fuaswn i yn leicio rhoddi y ladies ar eu
gocheliad rhag iddynt ddweyd unwaith yn ormod,—

'Dyw mam ddim hanner boddlon,
'Dyw mam ddim hanner boddlon,
Na, na, prin iawn, er mor anhawdd yw,
'Dyw mam ddim hanner boddlon.

Awst 19, 1872.

AROS TAN DDEG

PETH llesol yw tamaid o ginio,
Neu ddysglaid ddifyrrus o dê,
Mae'n eithaf cael ffrynd i ymgomio,
A swper sy'n iawn yn ei le;
Ond os gwnewch chwi ginio bryd swper,
A swper rhwng deuddeg ac un,
Bydd wermod yn dilyn y pleser,
A'r cyfan yn troi yn ddi-lun ;
Aroswch tan ddeg,
Siaradwch tan ddeg,
Ond peidiwch bod allan yn hwyrach na deg.

Mae'n arfer gan lawer dyn diffaith
I godi o'i wâl erbyn nos,
A threulio ei ddiwrnod mewn noswaith
Gydrhwng y gyfeddach a'r ffos;
Y gweithiwr sy'n llawer mwy dedwydd,
Yr hwn ar bob adeg a geir,
Yn codi'r un amser a'r hedydd,
Yn cysgu'r un amser a'r ieir;
Cewch aros tan ddeg,
A siarad tan ddeg,
Ond peidio bod allan yn hwyrach na deg.

Aeth John i ryw ginio un noson,
Lle 'roedd ei gyfeillion i'w cael,
Bu yno uwchben y danteithion
Yn bwyta ac yn yfed yn hael;

Wrth gychwyn addawodd o ddifri,
I'w wraig y doi adref fel dyn,
Ond welwyd mo John gyda Mary
Nes ydoedd rhwng deuddeg ac un,
'N lle 'madael cyn deg,
Dod adref cyn deg,
A pheidio bod allan yn hwyrach na deg.

'Mhen wythnos neu lai fe gadd Mari
Ei gwahodd i dê y prydnawn,
A gwisgodd am dani mor deidi,
Er mwyn cael ymddangos yn iawn;
Wrth adael ei gŵr, tystiai Mari
Do'i adref yn hynod o glau,
Ond welwyd dim hanes am dani
Nes ydoedd mewn chwarter i ddau ;
(Mi leiciwn i weld pob gwraig ai allan):
Yn cofio cyn deg
Ddod adref cyn deg,
A pheidio bod allan yn hwyrach na deg.

Hydref 11, '72.


IANCI

IANCI hir-main, cyhyrog—ogof yw
Ei gêg fawr, lafoeriog;
A'i gernau llwyd, esgyrnog,
Yn deneu dd——l fel dannedd ôg.

Rhag. 12, '76.

Y CYMRO PUR

Os ganwyd di yng Nghymru fad
Yn Gymro gwaed coch cyfan,
Os Cymry yw dy fam a'th dad,
O enw ac o anian ;
Os yw dy enw'n Jones neu'n Puw,
Yn Williams neu yn Evans,
Yn Davies, Edwards, Humphreys, Hughes,
Yn Lewis, neu yn Morgans ;
Cadw deimlad Cymro,
Cadw dafod Cymro,
A thra bo calon yn dy fron,
Boed honno'n galon Cymro.

Os Cymro ydwyt, cwyd dy ben
Ac edrych yn fwy eofn,
Mae cystal plant yng Nghymru wèn
Ag sydd yng ngwlad yr estron;
Os daw ar dro ryw estron câs
I chwerthin am ein pennau,
Wel chwardda dithau d'oreu glas
Am ben ei ffoledd yntau,
A chadw deimlad Cymro,
Cadw dafod Cymro,
A thra bo calon yn dy fron,
Boed honno'n galon Cymro.

Os Sais fydd barnwr y Cwrt bach,
Na hidia ddim am hynny,
'Dyw hanner sham ddim hanner iach
Pan ddaw i awyr Cymru;

Y ffordd i adael hwnnw 'i hun,
A thaflu dirmyg arno,
Yw talu'th ddyled bob nos Lun
'N lle mynd yn agos ato,
A chadw deimlad Cymro,
Cadw dafod Cymro,
A thra bo calon yn dy fron,
Boed honno'n galon Cymro.

Os wyt ti yn cardota'n awr,
Cymraeg yw'r oreu i hynny;
Os wyt ti'n nghwmni pobl fawr,
Siarada iaith y Cymry;
A safa ar dy draed cyhyd
Bo gennyt lais i floeddio,
A dywed wrth genhedloedd byd,-
Rwy'n falch fy mod yn Gymro."
Cadw galon Cymro,
Cadw dafod Cymro,
A thra bo calon dan dy fron,
Boed honno'n galon Cymro.

Meh. 29, '72.

DYNES

NEF a wena dan haf wyneb—dynes,
Pan dan wên sirioldeb;
Ond wedyn i'r gwrthwyneb,
Uffern yw i ffraeo â neb.

Rhag. 13, '76.

GWYN Y GWEL Y FRAN EI CHYW

GWS does very mwyth yn ar y bryn,
Lle cefais i fy magu,
Ac adgof sydd fel ysbryd gwyn
Yn hofran byth o'i ddeutu ;
A gwyn yw'r alarch ar y llyn,
A gwyn yw llwydrew'r llechwedd,
A gwyn yw'r eira ar y bryn,
Ar fore gwyn o Dachwedd ;
Ond hyn sy'n od, er dued yw,
Mai gwyn y gwêl y fran ei chyw.

Mae'r fam uwchben ei theulu mân
Yn credu yn ei chalon,
'Does neb mor dlös, 'does neb mor lân,
A'i phlant bach hi, 'run wirion;
Os wyt am fod yn llyfrau'r fam,
Canmola eu rhagoriaeth,
Pe baent mor hyll a Nic ei hun,
Dyw hynny ddim gwahaniaeth;
Mae hyn yn profi, onid yw?
Mai gwyn y gwêl y fran ei chyw.

Mae'r bardd yn canu pryddest fawr
O eiriau cyd ag wythnos,
A chreda nad yw Milton gawr,
Wrth hon yn werth ei ddangos;

Fe gwyd y beirniad gyda hyn,
A dyma ei sylwadau,
"'Does dim yn hon ond papur gwyn,
A hanner pwys o eiriau.”
Yn siomiant hwnna eglur yw
Mai gwyn y gwêl y fran ei chyw.

Edrychwch ar y llencyn llon
Yn rhoi ei serch ar eneth,
Fel mae e'n gweled gruddiau hon
Yn hardd tu hwnt i bopeth ;
Mae pawb ond e'n ei gweled hi
Yn hyll tu hwnt i ddirnad;
Does neb yn gweld dim byd yn ddu
'Rol gwisgo spectol cariad.
Mae'r hen ddiareb byth yn fyw,
Mai gwyn y gwêl y fran ei chyw.

Ionawr, 1873.

IANCI

Mawr yw o gorff, ond miniog un—a "go"
"I guess"" yn ei gynllun;
"Dolar" ydyw ei eilun,
"Anyhow" ac ownio'i hun.

Rhag. 10, '76.

Y MELINYDD.

(Efelychiad).

ROEDD hen felinydd llawen iawn
Yn byw ar nant,
Yn malu ŷd o fore i nawn
I gadw gwraig a phlant;
Fel hyn y canai o hyd o hyd,
Yn llon ar lan y lli, —
Dwy'n hidio am undyn yn y byd,
Na neb yn fy hidio i.

Myfi sydd yma'n bennaf gŵr,
'Rwy'n caru 'ngwraig a 'mhlant,
'Rwy'n caru sŵn yr olwyn ddŵr
A droir gan ffrwd y nant;
Ni chadd y twrne a'r doctor drud
'Run swllt erioed gen i,
'Dwy'n hidio am undyn yn y byd,
Na neb yn fy hidio i.

"Pan ddelo'r gaeaf dros y glyn,
Pan ddelo tywydd braf,
'Rwy'n canu yn yr eira gwyn,
'Run fath ag yn yr haf;
A sŵn y rhod yn troi o hyd
Sy'n fiwsig mwyn i mi,
'Dwy'n hidio am undyn yn y byd,
Na neb yn fy hidio i.


Os gwag yw côd fy siaced wèn,
Mae gennyf fwthyn clyd,
A gallaf fentro codi 'mhen
I ofyn gwaetha'r byd ;
Rwy' wedi talu 'miliau i gyd,
'Does neb a dim i mi;
Dwy'n hidio am undyn yn y byd,
Na neb yn fy hidio i.'

'Run fath a'r hen felinydd llon,
Gadewch gael canu cân,
'Does neb all fyw mor ysgafn fron
A’r sawl sy' a chalon lân ;
Mi gana'n llon o hyd o hyd,
Er rhwyfo'n groes i'r lli,
'Dwy'n hidio am undyn yn y byd,
Na neb yn fy hidio i.
 Rhag. 1, '72.

UN LLOER YN LLADD Y LLALL.

LLED oer i'r lleuad iach—lwyddo â'i chorn
I ladd ei chwaer hynach;
Daw hithau'n wan fechan fach
I'r un ing drwy un i'engach.

BWTHYN YM MALDWYN

"Gwlad mae athrylith yn stôr, gwlad y telynau a'r canu,
Ynddi mae cariad yn fôr,—Eden y ddaear yw Cymru."

EISTEDDFOD PORTHMADOG

MI welais lawer 'steddfod fach,
A rhai 'steddfodau mawrion,
Mi welais rai ddim hanner iach,
A rhai yn od o gryfion;
Ond goreu am feirdd, a goreu am hwyl,
A goreu am bobl enwog,
A'r oreu un am arian llawn,
Oedd 'steddfod fawr Porthmadog.

'Doedd ryfedd bod hi'n 'steddfod dda,
'Roedd yma bwyllgor hwyliog,
A wnaed i fyny o gyfres hir
O bennaf gwŷr Porthmadog;
'Roedd Breese mor ddoniol yno wrth law
Os byddai braw neu angen,
Ac Alltud Eifion oddi draw
Yn cynnyg iddi bilsen.

Bu rhai o grocers mwya'r dre
'N rhoi siwgwr i'r Eisteddfod,
A'r Doctor Roberts yn ei le
Yn edrych ar ei thafod ;
'Roedd Jones a Jones, dau dwrne da,
A'u sgrifbin rhwng eu deu-fŷs,
Rhag ofn y cawsai hi ryw bla,
Ag eisieu gwneud ei h'w'llys.

'Roedd drapers penna'r dre a'u nôd
Am ddod i gyd i'w thrimio,
A gwisgo am dani â gwlanen goch,
Rhag ofn i'w boch hi lwydo;

Datblygid fry yn eitha'r ne'
Fanerau'r greadigaeth,
A chwarddai'r haul yn entrych nen
Ar ddydd ei genedigaeth.

Fu 'rioed fath gwrdd a chwrdd nos Iau,
Pan oedd y gwlaw'n pistyllio,
A'r bobl ieuainc bob yn ddau
O dan un umberelo,
Fe wenai'r ferch a gwenai'r llanc
Wrth wrando y caneuon,
Nes tystiai Rowlands sy'n y banc
Fod yno aml golision.

Fu 'rioed fath fyd, fu 'rioed fath stūr
Er pan y gwnaed tŵr Babel,
Ag oedd pan ruthrai'r curwlaw mawr
I lawr i'r cwpwrdd cornel ;
'Roedd Pencerdd Gwalia yn fan hyn,-
Ac Edith Wynne, 'ran hynny,
Bron at eu hanner yn y dŵr
Yn cadw stŵr 'n lle canu.

Yng nghwrdd y beirdd bu helynt fawr,
A dadleu i'w ryfeddu,
Pob un am gael y llall i lawr,
Wrth siarad ac englynu ;
"'Rwy'n codi i gynnyg," » meddai un,
"'Rwyf finnau'n codi i wrthod,"
Ond dwedai'r hen Waenfawr fel dyn,-
"Fu 'rioed 'run gwell cyfarfod."


Ar adeg yr Eisteddfod fawr,
O'r dre i lawr i'r harbwr,
Gwnaeth pawb eu ffortiwn heb wneud cam,
Oddieithr ambell farbwr;
A'r rheswm mawr fod pawb o'r rhai'n
Yn gwneud mor fain â'u harfau,
'Does neb o'r beirdd sy'n berchen grym
Yn torri dim o'u barfau.

Fe werthodd un hen wraig ei stoc
O India—rock a chandy
Mor llwyr, nes dwedai wrth O. P.—
"Rwyf i yn awr yn lady;
If you'll get steddfod 74,
And ask me for subscription,
I'll give you fifteen pounds ar frys,
Indeed, o 'wyllys calon."

Mae'n rhaid fod 'steddfod yn beth iawn,
Lle bynnag caiff ei chynnal,
Heblaw cael clywed byd o ddawn,
'Does dim yn talu cystal;
Mae pawb yn dod yn llawn o hwyl,
A phennau a phyrsau llawnion,
A phawb yn mynd yn ol o'r wyl
A’u pennau a'u pyrsau'n weigion.
Rhag. 3, "72.

'RWY'N GYMRO PUR.

RYWY'N Gymro pur o fy mhen i ’nhraed,
Rwy'n Gymro o galon, 'rwy'n Gymro o waed,
A thra y cura y galon hon,
Mi garaf finnau hen Gymru lon;
Os gelwir y Cymro yn afr gan rại,
'Dyw hynny yn gwneud mo'r Cymro yn llai,
Mae'n well gen i fod yn afr mewn bro,
Na bod yn ful, na bod yn llo.
'Does wlad mor ddi-sen
Dan gwmpas y nen
Na hanner mor dda a Gwalia Wen.

Yr Wyddfa fawr yw ei choron hi,
Y Gader, a'r Aran, a'r bryniau di-ri;
Mae bythol swyn yn ei dolydd gwyrdd,
Ac ar ei llechweddau mae ceinion fyrdd,
Mae murmur gwyllt y rhaeadr gwyn
Yn rhuo'i mawredd ym mhob glyn,
A'r hen Gymraeg a'i seiniau cain
Sy'n seinio'n uwch na'r oll o'r rhai'n.
'Does wlad mor ddi-sen
Dan gwmpas y nen,
Na hanner mor dda a Gwalia Wen.

DYNA MAE POBL YN DDWEYD

OS gwelwch chwi rywrai o'r naill dŷ i'r llall
Yn taenu chwedleuon di-ri,
Mae rheiny bob amser yn feibion y fall,
Neu yn waeth os oes le, am wn i;
Hwy ddwedant mor dduwiol wrth dywallt eu tê, —
"Mae pwy'ma mron iawn cael ei wneud;
Dwy'n leicio dweyd dim am gymdogion, yntê,
Ond dyna mae pobl yn ddweyd."

"Mae Dafydd yn meddwi yn chwil bob dydd Iau,
A Morus am adael ei wraig,
A Robert yn myned nos Sadwrn fel tae
I ddanfon Sian Jones Tan y Graig;
Mae merch Sion yr Efel ers tro mewn gown gwyn,
Ond thalodd hi byth am ei wneud;
'Dwy'n leicio dweyd dim am gymdogion fel hyn,
Ond dyna mae pobl yn ddweyd."

"Aeth Mrs. Meredydd i geisio ddydd Llun
Am wenwyn gan ddruggist o'r dre',
Er mwyn cael gwneud diwedd am dani ei hun,
Ond yfodd y brandi'n ei le;
A rhoddodd y gwenwyn bob dropyn i'r gath,——
Rhag c'wilydd i'w gwyneb am wneud;
'Dwy'n leicio dweyd dim am gymdogion fel hyn,
Ond dyna mae pobl yn ddweyd."


"Mae Miss Mary Bethma bron llwgu'n y lle,
Er mwyn cael gown newydd bob lloer,
A Sion Harri Sion yn rhoi rum yn ei dê
I gadw ei hunan yn oer;
Mae gwallt wedi'i brynnu ar goryn Miss Price,
Mae deirawr bob bore'n ei wneud;
'Dwy'n leicio dweyd dim am gymdogion mor neis,
Ond dyna mae'r bobl yn ddweyd."
Mai 13, 1875.

DEIGRYN AR FEDD

H. BREES, DOLFACH, LLANBRYNMAIR

Gollyngwyd i gell angau—o n gafael,
Do, fy nghyfaill gorau;
Deigryn uwch ei briddyn brau,
Er ei fwyn, fwriaf innau.

Cwsg dy ran, gyfaill anwyl—yn dawel,
Yn dy dywyll breswyl;
Yr Iôn a'th gyfyd i'r wyl,
O eigion bedd, ryw egwyl.

FY AELWYD FY HUN

MI welais balasau y mawrion ar dro,
A llu o gastellau ar fryniau'r hen fro,
Mi welais y dodrefn tra drudfawr a mâd
Sy'n urddo cartrefi arglwyddi ein gwlad;
Y loriau tryloewon o fynor gwyn, claer,
A'r lleoedd sy'n drigfan i'r arian a'r aur,
Ond welais i'r unman yn drigfan un dyn,
Oedd hanner mor ddedwydd a'm haelwyd fy hun,
Fy aelwyd fy hun,
Fy aelwyd fy hun,
Cartrefle dedwyddyd yw'm haelwyd fy hun.

Ar ol bod mewn corsydd a stormydd a stwr,
A chlywed erch gydgan y daran a'r dŵr,
'Nol teithio heb oleu un seren fach, dløs,
Mewn gofid a phryder yn nyfnder y nos,
Bydd gweled goleuni pen canwyll o’m cell
Fel seren y gogledd i'r morwr sy'n mhell;
Er stormydd a gofid, mor hyfryd yw'r hin
Dan gysgod pren mantell fy aelwyd fy hun;
Fy aelwyd fy hun,
Fy aelwyd fy hun,
Mae'n haf trwy y flwyddyn ar f'aelwyd fy hun.

Mor ddifyr yw gweled y gath wrth y tân,
Yn golchi ei chlust gyda'i phawen wen, lân,
Neu'n chwareu â'r bellen o ede wen, fain,
Sy'n rhwym wrth yr hosan a wauir gan nain;

Neu'n grwndian cerddoriaeth felusaf erioed,
Wrth lyfu ei hunan a chwareu â'i throed,
A'r ci yn ei hymyl yn neidio trwy'i hun
Wrth wichian breuddwydio ar f'aelwyd fy hun,
Fy aelwyd fy hun,
Fy aelwyd fy hun,
'Does le ar y ddaear fel f'aelwyd fy hun.

Canolbwynt a haul fy mhleserau bob un
Yw llygaid f'anwylyd ar f’aelwyd fy hun,
Ei gwenau sy'n gyrru pob gofid a gwg
I fyny trwy'r simnai i ganlyn y mậg;
Pan ddeuaf hyd yma o'm teithiau 'bob man,
Mae trallod fy mynwes yn marw'n y fan,
A charreg ar fedd fy nhrallodion bob un
Yw carreg las, loew, fy aelwyd fy hun.
Fy aelwyd fy hun,
Fy aelwyd fy hun,
Paradwys fy mywyd yw f'aelwyd fy hun.

Ebrill 16, 1874.

RHOWCH EICH HUN YN EI LE

MAAE llawer yn beio a llawer yn lladd,
A llawer am weled rhyw wall,
A llawer yn edrych yn groes ar bob gradd
Oherwydd rhyw fai ar y llall;
Os teimlwch chwi awydd i feio rhyw ddyn,
A gosod eich llath arno fe,
Y ffordd i chwi brofi eich rhinwedd eich hun
Yw gosod eich hun yn ei le.
Rhowch eich hun yn ei le,
Go brin yr un fath,
Fydd mesur eich llath,
Os rhoddwch eich hun yn ei le.

Mewn 'Steddfod gynhaliwyd yn rhywle ryw ddydd
Bu'r beirniad yn barnu y gwaith,
Ond cafodd rhyw gorgi cyn diwedd y dydd
I gyfarth am chwe thro neu saith;
Peth hawdd ydyw lluchio y beirniad o bell,
A bwrw y bai arno fe,
Ond hwyrach mai prin gwnae'r grwgnachwr yn well
Pe rhoddai ei hun yn ei le.
Rhowch eich hun yn ei le,
Go brin yr un fath,
Fydd mesur eich llath,
Os rhoddwch eich hun yn ei le.

Aeth llencyn i garu rhyw eneth go lân,
A dylodd am dani'n y fan,
Ond troi yn lled surllyd wrth hwnnw wnae Sian,
Yn lle mynd i'w ganlyn i'r llan;

Aeth yntau i ddwndro am grogi ei hun,
Neu osod ei ben ar rêl—wê;
Cyn meddwl am chwerthin am ben y fath un,
Gosodwch eich hun yn ei le.
Rhowch eich hun yn ei le,
Go brin yr un fath,
Fydd mesur eich llath,
Os rhoddwch eich hun yn ei le.

Os oes yma eneth yn wenwyn i gyd
Wrth weled fod Ann gyda John,
A'i braich yn ei fraich, ac yn wenau bob pryd,
Ac yntau yn edrych mor llon,
Os ydyw yn dweyd nad yw John ddim yn ddyn,
Ac Ann yn gywilydd i'r dre',
Er hynny 'rwy'n credu yr hoffai y fûn
Gael gosod ei hun yn ei lle.
Rhowch eich hun yn ei le,
Go brin yr un fath,
Fydd mesur eich llath,
Os rhoddwch eich hun yn ei le.

Os beiwch chwi 'gethwr am bregeth go gul,
Os beiwch chwi 'ffeiriad y plwy,
Os beiwch chwi Tomos am saldra dydd Sul,
Neu'r doctor am agor y clwy,
Os beiwch chwi finnau ar ddu ac ar wyn
Am ganu'r fath gân mewn fath le,
Y ffordd i chwi wella ar ganu fel hyn
Yw gosod eich hun yn fy lle.
Rhowch eich hun yn fy lle,
Go brin yr un fath,
Fydd mesur eich llath,
Os rhoddwch eich hun yn fy lle.


COFIWCH BEIDIO DWEYD

RWY'N mynd i ddwyd rhyw chwedl fach
Ar Mistar Hwn a Hwn
Nid oes un dyn trwy Gymru iach
A ŵyr y ffaith, mi wn;
'Roedd Sion Tŷ Croes yn dweyd wrth Sian,
A Sian yn dweyd i mi,
'Rwyf finnau'n awr mewn pill o gân
Yn dweyd y peth i chwi.
Ond cofiwch beidio dweyd,
O ran mod i
Yn dweyd i chwi,—
Cofiwch beidio dweyd.

Bum i mewn ffair ar ben y mis,
Yn ceisio prynnu buwch,
Pan oedd y gwartheg braidd yn îs,
A'r merched braidd yn uwch;
Mi welais Miss o'r fan a'r fan,
A Mr. Hwn a Hwn,
Yn mynd i dafarn fwya'r llan
Am hanner diwrnod crwn.
Ond cofiwch beidio dweyd,
O ran mod i
Yn dweyd i chwi,
Cofiwch beidio dweyd.

Mae nhw yn dweyd fod Mr. Pugh
Yn siarad â Miss John,
A bod y ddau ddydd Llun yn Crewe
Yn edrych modrwy gron;

Mae nhw yn dweyd fod math o wanc
Ar bwrs Miss Hughes y Plas,
I godi arian yn y Banc,
Gael gown o sidan glâs.
Ond er mwyn popeth peidiwch dweyd,
O ran mod i
Yn dweyd i chwi,—
Cofiwch beidio dweyd.

Mae nhw yn dweyd fod Mr. Breese,
Gweinidog Capel Mawr,
Ar ryw ddydd Sadwrn yn y mis
Yn cysgu'n llafn ar lawr;
Yn ol pob hanes 'ddyliwn i,
Mae'r chwedl yn eithaf clir,
Ond yw e'n resyn, meddwch chwi,
Os yw y stori'n wir ?
Ond cofiwch beidio dweyd,
O ran mod i
Yn dweyd i chwi, —
Cofiwch beidio dweyd.

Yn mhell y bo y giwaid gâs
Sy'n chwilio am ryw wall,
Mae pawb o'r teulu gyda'u tras
Yn dod o gyff y fall;
Mae'u hen galonnau fel y pair
Yn berwi chwedlau gwneud,
Mae gwenwyn aspaidd dan bob gair
O'r cofiwch beidio dweyd.
Ond cofiwch beidio dweyd,
O ran mod i
Yn dweyd i chwi,—
Cofiwch beidio dweyd.

GWR A GWRAIG

WELE bin ac wele bapur,
Wele awydd plethu cân,
Ond mae eisieu snyfî a phupur
I gynhyrfu'r awen lân,
Ac mae eisieu testun canu,—
Cân heb destun swynol sy
Fel y dyn yn adeiladu
Heb un sylfaen dan ei dŷ.

Dyma destun iawn i ddechreu,—
Hanes bywyd gŵr a gwraig,
Hanes treigliad y serchiadau
Sydd yn dal yn gryf fel craig;
Dyna'n gyntaf un peth rhyfedd,
Ni fydd 'run o'r ddau yn iach, !
Os na chânt bob 'nail a charu,
Weithiau ffraeo tipyn bach.

"William anwyl," ebe Elen
Wrth ei gŵr brynhawn ddydd Llun,
"Dyma'ch slippers, dyma'ch cetyn,
Smociwch gatied 'neno dyn;
William, cym'rwch fwy o siwgwr,
Ydyw'r tê yn ddigon cry?—
Gaf fi bumpunt, William anwyl,
I gael gown o sidan du?"

"Wel, f'anwylyd," ebe William,
"Chwi yw geneth oreu'r byd,
O! mae'n dda gan i am danoch,
Elen anwyl, dlws i gyd;

Gaf fi ofyn un gymwynas,
Elen anwyl—dim ond gair,—
Rhowch im' sofren bore fory,
'N arian poced yn y ffair."

"Wel, f'anwylyd," ebe Elen,
Ryw fis Ebrill ar brynhawn,
"Dowch, gorfîwyswch, William anwyl,
'Roedd hi heddyw'n gynnes iawn;
Peidiwch oeri ar ol chwysu,
Dyna fachgen doniol, da,—
William, dwedwch gaf fi brynnu
Bonet newydd cyn yr ha?”
Ion 27 '75

EISTEDDFOD Y WYDDGRUG

PETH digrif gweled Andreas Môn
A mantell at ei sodlau,
A chap 'r un fath a chrempog sgwâr
Yn union ar ei aeliau;
Peth od gweld Osborne Morgan hardd
A Gladstone yn cusanu,
A'r corau'n ffraeo fel y cŵn,
Ac Estyn wedi crygu.

MAE EISIEU RHYWBETH O HYD

AR ol meddiannu parch y byd,
A'i gyfoeth o bob rhyw,
A chael rhyw etifeddiaeth ddrud
A phalas arni i fyw;
Ar ol cael pawb i blygu'i ben
A tharo'i het â'i fawd,
A chael canmoliaeth yn lle sen
Cyfoethog a thylawd,—
Mae eisieu rhywbeth o hyd,
Ac er y trwbwl ar ol y cwbwl,
Mae eisieu rhywbeth o hyd.

Ar ol cael dillad newydd, grai,
O frethyn goreu'r byd,
A chael ou gwneud heb unrhyw fai
Y ffasiwn ola' i gyd;
Cyn hir daw'r elin drwy y gôt,
A thwll ym mhen y glin,
Dyw'r fîasiwn honno werth 'run grot,
Bydd eisieu newid y llun.
Mae eisieu rhywbeth o hyd,
Ac er y trwbwl ar ol y cwbwl,
Mae eisieu rhywbeth o hyd.

Ar ol cael bara a siwgwr gwyn,
A starch, a blue, a thê,
A soda, a sebon gyda hyn,
A phopeth yn ei le;

Ar ol cael menyn, cîg, a chaws,
A glo a'r tân i'r tŷ,
'Dyw dyn ddim wed'yn damaid haws
Ymhen rhyw ddeuddydd neu dri.
Mae eisieu rhywbeth o hyd,
Ac er y trwbwl ar ol y cwbwl,
Mae eisieu rhywbeth o hyd.

Ar ol cael brecwast blasus iawn,
Bydd raid cael cinio mawr,
A rhywun hwylio tê'r prynhawn,
Ymhen rhyw bedair awr,
A chyn y rhown ein dwylaw 'mhleth,
Bydd eisieu swper drud,
A thrannoeth wedyn yr un peth,
Ac felly ymlaen o hyd.
Mae eisieu rhywbeth o hyd,
Ac er y trwbwl ar ol y cwbwl,
Mae eisieu rhywbeth o hyd.

Mae'r ferch ffasiynol ddydd a nos
Yn 'studio beth i'w gael,
Mae eisieu het a bonet dlôs,
A dress i chwyddo'r draul;
Mae eisieu dress y gwanwyn gwyrdd,
A'r gaea' a'r ha' mor ffôl,
Mae eisieu dress i rodio'r ffyrdd,
A dress i fynd i'r Ball.
Mae eisieu rhywbeth o hyd,
Ac er y trwbwl ar ol y cwbwl,
Mae eisieu rhywbeth o hyd.


—————————————

LLANBRYNMAIR

"Ond O ! Mi wn am ardal fach, mil hoffach ydyw hi,
Ei henw yw fy newis air,—hen Lanbrynmair ì mi."

—————————————

Edrychwch ar y sgogyn syth
Wrth gychwyn taith i'r wlad,
Yn tynnu'i bwrs o'i boced chwith,
Gan edrych ar ei dad,
Mae eisieu gwisg y swell yn awr,
A thaflu ffwrdd yr hen,
Mae eisieu byw fel pobol fawr,
A phres i dalu'r trên.
Mae eisieu rhywbeth o hyd,
Ac er y trwbwl ar ol y cwbwl,
Mae eisieu rhywbeth o hyd.
Ionawr 27, 73.

EISTEDDFOD MADOG

CAWN glywed llais Miss Edith Wynne
Yn canu fel yr eos,
Ac Eos Morlais gyda hyn,
A rhuad Lewis Tomos;
Chwareua'r Pencerdd fiwsig gwiw
Ar hyd ei dannau arian,
A neidia d'reidi'n wreichion byw
O lygaid Tanymarian;
Daw T. O. Hughes i'r 'Steddfod,
A Mrs. Hughes i'r 'Steddfod,
A mil o'n beirdd yn moli'n bêr
Am hwyl i gadw 'Steddfod.

LAWR A DIC SION DAFYDD

WEL, iechyd byth i'r Cymro mâd,
Sy'n caru'i iaith a charu'i wlad,
A phell y bo y llipryn llaith
Sy'n gwadu'i wlad a gwadu'i iaith,
A hyn fo'n gân trwy Gymru i gyd,—
Lawr â Dic Sion Dafydd,
Lawr â Dic Sion Dafydd
Ar ei hyd.

Aeth llawer llanc am fis o'i fro,
Gan ddychwel adre 'mhell o'i go',
A chwyddai i fyny gyda brol,
Heb iaith na synwyr yn ei siol,
A hyn fo'r gân trwy Gymru i gyd,—
Lawr â Dic Sion Dafydd,
Lawr â Dic Sion Dafydd
Ar ei hyd.

Mae'n rhaid fod dyn â synwyr cam,
Cyn cefnu byth ar iaith ei fam ;
A rhaid ei fod yn llo dichwaeth,
Cyn gwadu'r wlad rodd iddo faeth,
A hyn fo'r gân trwy Gymru i gyd,—
Lawr â Dic Sion Dafydd,
Lawr â Dic Sion Dafydd
Ar ei hyd.

Boed llwydd a chlôd yn dod i'r dyn
Sy'n anrhydeddu'i wlad ei hun,
A lawr yr elo'r llelo llaith
Sy'n dewis gwadu'i wlad a'i iaith ;
A hyn fo'r gân trwy Gymru i gyd,—
Lawr â Dic Sion Dafydd,
Lawr â Dic Sion Dafydd
Ar ei hyd.
Mai 22, '73.

Y LLWYNOG A'R FRAN

UN diwrnod aeth brân i lawr i'r glyn,
Ac yno ar lan y lli,
Hi godai grystyn o fara gwyn, gwyn,
Ac ymaith i'r coed a hi;
Ym mrigau hen dderwen fawr uwchben,
Disgynnai ar gangen lân,
Ar hyn dyma lwynog at fôn y pren,
A gwelai y crystyn a'r frân.

"Wel O!" meddai'r llwynog, "y mae hi'n un lân,
Mae'n curo yr adar bob un;
Y fi ydyw honno," dywedai y frân,
Gan siarad â hi ei hun;
Ni welais un harddach erioed ar bren,"
Dywedai y llwynog yn hy,
Mi welais gryn lawer o adar y nen,
Ond welais i 'rioed y fath blu."

Ysgydwai'r hen frân ei hadenydd mor llon,
A'r llwynog mor barod ei ddawn,
A ddwedai,—"Mae deryn mor hardded a hon,
'Rwy'n sicr, yn canu yn iawn."
Wrth glywed fath ganmol, gwirionodd y frân,
A balchder a lanwodd ei bryd,
Agorodd ei phíg, a dechreuodd ei chân,
A'r llwynog gai'r bara i gyd.

Os gwelwch chwi lwynog o ddyn ar ryw dro,
A'i eiriau yn weniaith di-sen,
Gochelwch ei weniaith rhag ofn iddo fo
Gymeryd eich tamaid o'ch pen;

Pan glywch chwi ryw siarad nodedig o fwyn,
A chanmol eich glendid a'ch cân,
Wel, cofiwch ar unwaith y llwynog yn dwyn
Y crystyn o bigyn y frân.
Chwef. 21, '73.

YR EISTEDDFOD


OS yw ein brodyr hwnt i'r Clawdd
Am hel a dal llwynogod,
Pam na chawn ninnau hedd a nawdd
I gynnal pwt o 'Steddfod ?
Os ydynt hwy yn teimlo blas
Ar redeg hen geffylau,
Pam na chawn ninnau redeg râs
I weld cyflymdra pennau ?
Cadwn yr Eisteddfod,
Parchwn yr Eisteddfod,
I gadw'r hen Gymraeg yn fyw,
Does dim yn well na 'Steddfod.

Daw rhai i'r 'Steddfod draw o bell
I ennill y gwobrwyon,
Daw ereill yno i drin eu gwell,
A gwneuthur trwynau surion;
Mae'n ddigon drwg ar lawer ffrynd
Sy'n myned i feirniadu,
Ond dyn a helpo'r sawl sy'n mynd
Yn feirniad ar y canu !
Cadwn yr Eisteddfod,
Diwygiwn yr Eisteddfod,
A chadwn bob rhyw gynen gâs
Tu allan i'r Eisteddfod.

DYDD GWYL DEWI

DA gan Gymry gydgyfarfod
Wyl Dewi Sant,
A iaith y Cymry ar bob tafod
Wyl Dewi Sant;
Sôn am Gymru gynt a'i hanes,
Gyda gwên a chalon gynnes,
A chalon Cymry yn y fynwes,
Wyl Dewi Sant.

Gwened haul ar ben y Wyddfa,
Wyl Dewi Sant,
Chwardded ffrydiau gloewon Gwalia,
Wyl Dewi Sant,
Gwyl hudolus—gwyl y delyn—
Gwyl y canu—gwyl y cenin
Nyddu cân, a phlethu englyn,
Wyl Dewi Sant.

Cadwn hen ddefodau Cymru,
Wyl Dewi Sant,
Cinio cynnes cyn y canu,
Wyl Dewi Sant;
Llawer Cymro calon gynnes
Wisga genin ar ei fynwes,
A'r lleill ro'nt genin yn y potes,
Wyl Dewi Sant.


Mae pob Sais yn hanner gwylltio,
Wyl Dewi Sant,
Eisieu o galon bod yn Gymro,
Wyl Dewi Sant,
Dwed y Sais dan wisgo'i faneg,
"Fi yn leicio'r Welsh pob adeg,
Ag fi dim dweyd un gair o Saesneg,
Wyl Dewi Sant.

Y ganwyll frwyn fo'n goleu'n siriol
Wyl Dewi Sant;
A'r tanllwyth mawn fo'n twymno'r gongl,
Wyl Dewi Sant;
Ac wrth oleu mawn y mynydd,
Pur wladgarwch elo ar gynnydd,
A'n serch fo'n ennyn at ein gilydd,
Wyl Dewi Sant.

Y BYD YN MYND

MAE pawb yn mynd wrth steam yn awr,
Fu 'rioed y fath fynd o'r blaen,
Mae'r byd yn chwilio i fyny ac i lawr,
Ar draws, yn ol ac ymlaen;
Os sefwch chwi eiliad ar ryw bryd,
I siarad rhyw air â ffrynd,
Mi gollwch afael yng nghynffon y byd, —
Bydd y gynffon a'r byd wedi mynd !
Mae'r ager yn pyffio, yn pyffio'n mhob man,
A chwyrnu ymlaen y mae'r byd,
Mae'r cwbl yn mynd-mynd-mynd,
Ar garlam-ar garlam i gyd.

Bu llawer o frol gyda mul a throl,
Neu gyfrwy ar gefn y march,
Cael carriage and four, to pull up at the door,
Ers dyddiau gyfrifid yn barch
Ond bellach mae carnau y ceffyl glân,
Gan 'rafwch, yn gwneud dyn o'i go';
Mae dyn erbyn heddyw'n cyfrwyo y tân,
Ac yn dweyd wrth y mellt,—Ji, wo.'
Mae'r ager yn pyffio, yn pyffio'n mhob man,
A chwyrnu ymlaen y mae'r byd,
Mae'r cwbl yn mynd-mynd-mynd,
Ar garlam-ar garlam i gyd.

Mae'r ager yn difa y pellder o'r byd,
Daw'r amser i ben yn ddioed,
Aiff cerbyd o'r ffasiwn trwy'r byd i gyd,
A dynion yn piclo'u dau droed;

Mae nerth y steam yn troi ei hun
Olwynion fach a mawr;
Mae hyd 'nod tafodau y gwragedd bob un
Yn troi wrth steam yn awr.
Mae'r ager yn pyffio, yn pyffio'n mhob man,
A chwyrnu ymlaen y mae'r byd,
Mae'r cwbl yn mynd-mynd-mynd,
Ar garlam-ar garlam i gyd.

Wrth steam, mewn llawer pentref bach,
Mae chwedlau'n cael eu gwneud,
Wrth steam mae llawer tafod gwrach
Yn mynd pan yn eu dweyd,
Wrth steam y nyddir chwedlau'n hir,
Y gwneir y ddau yn ddeg;
Ond pan aiff dyn i ddweyd y gwir,
Mae'n ddigon araf deg.
Mae'r ager yn pyffio, yn pyffio'n mhob man,
A chwyrnu ymlaen y mae'r byd,
Mae'r cwbl yn mynd-mynd-mynd,
Ar garlam-ar garlam i gyd.
Mai 23, 73.

CHWAREU TEG I'R MERCHED

MAE llawer llanc a llawer dyn
Yn aml iawn i'w clywed,
Yn dweyd fod beiau'r byd bob un
Yn bod o achos merched;
A dwedant mai trwy ferch y daw
Pob gofid y'm yn gynnal,
Er pan fu'r drwg yn Eden draw,
Pan lyncodd Efa'r afal.
Ond chwareu têg i'r merched,
Peidiwch gwawdio'r merched,
Mi fuasai'r byd o chwith i gyd
Pe buasai heb y merched.

Pwy byth gaiff flas ar bryd o fwyd
Os na fydd merch o'i ddeutu?
Mae'r bwrdd yn edrych yn ddigon llwyd
Pan na fydd Efa'n trefnu;
Gadewch i'r merched gael y gwir,
Beth bynnag gaffo'i ddwedyd,
Os yw eu tafod braidd yn hir,
Mae'u pennau'n hirion hefyd.
Ond chwareu têg i'r merched,
Peidiwch gwawdio'r merched,
Mi fuasai'r byd o chwith i gyd
Pe buasai heb y merched.

Aeth Jones Ty'n y Groes yn ugain oed,
I ofyn am briodi,
At Elin Edwards, Tan y Coed,
Fel hyn dywedodd wrthi,—

"Os doi di'n wraig i Dy'n y Groes,
Rhaid iti fod yn ufudd,
A thendio arnaf hyd fy oes,
Os wyt am fod yn ddedwydd.'

"'Rhoswch dipyn, Mr. Jones, os ydw'i i fod yn Mrs. Jones, Ty'n y Groes, 'dydw'i ddim i fod yn slave i Mr. Jones, oblegid, —

Chwareu têg i'r merched,
Peidiwch gwawdio'r merched,
Mi fuasai'r byd o chwith i gyd,
Pe buasai heb y merched.

Ymhen rhyw ugain mlynedd llawn,
'Roedd Elin yn mynd heibio
I Dy'n y Groes ar ryw brynhawn,
A Jones yn hen lanc eto;
A dyna lle'r oedd Jones yn chwys
Yn ceisio golchi'i goler,
A newydd fod yn golchi'i grys
Mewn cawl hyd at ei hanner.

Ar hyn, fe'gorodd Elin y drws yn ddistaw bach, a dechreuodd ganu,—

Chwareu têg i'r merched,
Peidiwch gwawdio'r merched,
Mi fuasai'r byd o chwith i gyd
Pe buasai heb y merched.
Meh. 11, 73,

GWYLIA DY HUN

BETH bynnag fo'r cwmni, beth bynnag fo'r ddawn,
Beth bynnag a fo'r brofedigaeth,
P'run bynnag fo'r llogell yn wâg neu yn llawn,
Mewn llwyddiant neu mewn siomedigaeth,
Gwylia dy hun,
Cofia dy hun,
A chymer bob gofal o honot dy hun.
Gwylia dy hun,
Cofia dy hun,
A chymer bob gofal o honot dy hun.

Os wyt ti am fynd i farchnad neu ffair,
Neu rywle i ganlyn cyfeillion,
Wel, cyfra dy fysedd ryw ddwywaith neu dair,
A chyfra y draul a'r colledion;
Ond odid na chai,
Fod llygredd rhyw rai,
Ag awydd i'th hudo p'le bynnag yr ai.
Gwylia dy hun,
Cofia dy hun,
A chymer bob gofal o honot dy hun.

Os gweli di eneth yn falchder i gyd,
Yn gwisgo ei hunan â rhodres,
A gwên fel y fall ar ei gwyneb bob pryd,
A dichell yn llonaid ei mynwes,

Edrych i'r nen,
Ysgwyd dy ben,
A phaid a rhoi'th galon rhy fuan i Gwen;
Gwylia dy hun,
Cofia dy hun,
A chymer bob gofal o honot dy hun.

A thithau'r ferch ieuanc, pan weli di ddyn
Yn siarad yn fêl ac yn fenyn,
Feallai fod geiriau mor felus a'r gwin
Yn cuddio dyfnderoedd o wenwyn.
Fe ddwedir o hyd
Fod angel y stryd,
A diafol pen pentan i'w cael yn y byd;
Gwylia dy hun,
Cofia dy hun,
A chymer bob gofal o honot dy hun.
Gor. 18, 1873.

NOS A DYDD YN DANGOS DUW

O mae'r Nos, wrth dramwy'r nen—yn dodi
Duwdod yn mhob seren;
A thrwy wawl traetha'r heulwen,
Yn dân byw, fod Duw yn ben.

CADW DY GROEN YN IACH.

A GYMI di gyngor gan lencyn o fardd,
Hen gyngor a gadd gan ei nain?
Mae'r cyngor diniwaid a rof yn gwahardd
I neb roi ei droed yn y drain;
Pan fyddo rhyw helynt yn codi'n y fro,
Prun bynnag ai mawr fo, ai bach,
Neu gweryl andwyol yn dyfod ryw dro,—
Wel, cadw dy groen yn iach.
Cadw dy groen yn iach
Dros ddigio dy ffrynd,
Wel, gad iddo fynd,
A chadw dy groen yn iach.

Mae bron bob cariadon, os carant yn iawn,
Yn ffraeo'n erwinol ar dro,
Danghosant eu natur—gwastraffant eu dawn,
I ladd ar eu gilydd o'u co';
Os daw un ohonynt, neu'r ddau, at dy ddor
I gwyno yn ddistaw bach, bach,
Wel, edrych mor wirion a draenog mewn dror,
A chadw dy groen yn iach.
Cadw dy groen yn iach
Dros ddigio dy ffrynd,
Wel, gad iddo fynd,
A chadw dy groen yn iach.

Mae ambell i wraig ac ambell i ŵr
Fel llafnau y siswrn o hyd,
A min croes i'w gilydd yn cadw'r fath stwr
Tra'r ant gyda'u gilydd trwy'r byd;

Mae'r siswrn yn torri pwy bynnag a ddaw
Cydrhwng y ddau lafn ennyd fach,
Gan hynny, ymgroesa, a saf ymhell draw,
A chadw dy groen yn iach.
Cadw dy groen yn iach
Dros ddigio dy ffrynd,
Wel, gad iddo fynd,
A chadw dy groen yn iach.

Pan wêl di gymdogion, 'run teulu, 'run wlad,
I gyd gyda'u graen yn lled groes,
Neu fab lled ystyfnig yn ffraeo â'i dad,
Neu fam gyda'r ferch yn ddi-foes,
Gad iddynt i'w hymladd hi allan i'r pen,
A chana yn ddistaw bach;
Atal dy dafod—arbed dy ben,
A chadw dy groen yn iach.
Cadw dy groen yn iach,
Dros ddigio dy ffrynd,
Wel, gad iddo fynd,
A chadw dy groen yn iach.
Medi 17, '73.

PERTHYNASAU

PAN fyddo rhyw ddyn yn ymgodi
Yn rhywle i fyned yn fawr,
A'i arian yn dechreu cyd-groni,
Cewch glywed y bobol is lawr
Yn taeru fod hwnnw yn perthyn
Yn agos i bawb o'nynt hwy,
Mae'n ewyrth, neu gefnder, neu blentyn,
Neu rywbeth i bawb yn y plwy.
Peth braf yw bod yn ŵr mawr,
Peth hynod yw bod yn ŵr mawr;
Mi gewch yr holl ddaear i'ch llyfu
Os byddwch yn bwt o ŵr mawr.

'Roedd Jones Tan y Bryn yn gyfoethog,
Yn berchen ei diroedd a'i dai,
A thystiai hen wrach y Cae Draenog
Fod Jones iddi hithau yn nai;
Bu'n gefnder i bawb o'i gydnabod,
Ac ewyrth i'r byd am wn i,
A Jones oedd gan Sian hir ei thafod
Yn fodryb gwaed coch iddi hi.
Peth braf yw bod yn ŵr mawr,
Peth hynod yw bod yn ŵr mawr;
Mi gewch yr holl ddaear i'ch llyfu
Os byddwch yn bwt o ŵr mawr.

Ond fel y mae pob amgylchiadau
Yn newid a throi gyda ffawd,
Ymhen rhyw ychydig flynyddau,
Aeth Jones Tan y Bryn yn dylawd;

Ac wedi iddo syrthio i dlodi,
Ei gefndryd, a'i neiaint, a'i gwâd,
Nid ydyw, ar ol mynd i gyni,
Yn perthyn i neb yn y wlad.
Peth braf yw bod yn ŵr mawr,
Peth hynod yw bod yn ŵr mawr;
Mi gewch yr holl ddaear i'ch llyfu
Os byddwch yn bwt o ŵr mawr..

Gofala, wrth ddewis cyfeillion,
I gael rhai fo'n deilwng a thêg,
Os bydd dy logellau yn llawnion,
Peth hawdd yw cael cyfaill hin dêg;
Os gelwir di'n ewyrth neu gefnder,
Gochela rhag gweniaith ysgwrs,
A chofia mai'r arian yw'r ewyrth,
A chefnder y byd yw dy bwrs.
Peth braf yw bod yn ŵr mawr,
Peth hynod yw bod yn ŵr mawr;
Mi gewch yr holl ddaear i'ch llyfu
Os byddwch yn bwt o ŵr mawr.
Tach. 4, '73.

"I'R PANT Y RHED Y DWR."

MAE natur fel mae dynion,
Am gael ei ffordd yn fawr,
Fe fynn y mậg fynd fyny,
A mynn y gwlaw ddod lawr;
Ond gan nad p'run am hynny,
Mae hyn yn ddigon siwr,
Beth bynnag rêd i fyny,
I'r pant y rhêd y dŵr.

Pan ddelo swydd i'w llenwi
Yn werth rhyw gant neu ddau,
Bydd llawer dyn mewn tlodi
Yn ceisio am dani'n glau;
Ond i'r sawl oedd a digon
Yr aiff y swydd yn siwr,
A dwed y bobl dlodion,—
"I'r pant y rhêd y dŵr."

Bu farw hen lanc cyfoethog,
A'i deulu'n dlawd i gyd;
'Roedd Mr. Jones, Fronheulog,
Yn berchen tiroedd drud;
A Jones oedd ei etifedd,
Ond cadwai'r lleill fawr stwr,
A dwedent dan gnoi'u gwinedd, —
" I'r pant y rhêd y dŵr."

Aeth mab i Hughes o'r Ogo'
I ddewis gwraig i'r Pant,
A chafodd ferch fan honno
Yn werth rhyw ddeunaw cant;
Rhodd Hughes ddwy fil o bunnau
I'r mab pan aeth yn ŵr;
"Well done, fy nhad," medd yntau,
"I'r pant y rhêd y dwr.'


Yr ail o blant yr Ogo'
Briododd gyda hyn,
A merch heb aur nac eiddo
Yn byw ym Mhen y Bryn;
Aeth yntau i geisio gwaddol,
Ond dwedai 'i dad fel gŵr,—
"Chei di 'run ddimai bythol,—
I'r pant y rhêd y dŵr."

Wrth drin y pwnc ariannog,
Mae'r byd yn eithaf rông,
Am arian gwr cyfoethog,
Rhy'r banciau fwy o lôg;
Uwchben holl ddrysau rheiny
Fe ddylid gyrru gŵr
I baentio sign, ag arni,—
" I'r pant y rhêd y dŵr."

Pan wneir rhyw destimonial,
Rhaid gwneud un i ŵr mawr,
Cryn beth gael punt at gynnal
Y tlawd a fo ar lawr;
Rhowch docyn wrth y pyrsau
Sy'n dal tystebau'r stwr,
Ac arno rhowch y geiriau,
"I'r pant y rhêd y dŵr."

Pwy bynnag sydd a digon,
Cânt chwaneg, odid fawr,
A'r sawl sy'n brin o foddion,
Rhaid taro hwnnw i lawr;
Fel mae y ddeddf mewn natur,
Mae'n ddeddf rhwng gŵr a gŵr,
Er gwaethaf pawb a phopeth, —
"I'r pant y rhêd y dŵr."

'ROEDD MAM YN SIGLO BABAN LLON

ROEDD mam yn siglo baban llon,
"Si-hwi, hwian, hwian, hwi,"
A dyma'i chân yn brudd ei bron,—
Si-hwian, hwi,
O cwsg, fy maban, hûn o hedd,
Dy dad roed heddyw yn ei fedd,
Si-hwi, hwi, hwian, hwian, hwi."

Y galon gurai yn ei fron,
Si-hwi, hwian, hwian, hwi,
Un ergyd mwy ni chura hon,
Si-hwian, hwi;
A'r llygaid wenent arnat ti
Sydd wedi cau yn angeu du,
Si-hwi, hwi, hwian, hwian, hwi.

"Bu lawer gwaith yn siglo'th gryd,
Si-hwi, hwian, hwian, hwi,
Y dyn dedwyddaf yn y byd,
Si-hwian, hwi;
Ond heddyw, 'mhlentyn anwyl i,
Gair gwâg ac oer yw tad i ti,
Si-hwi, hwi, hwian, hwian, hwi.

"Af at ei fedd pan gwyd y lloer,
Si-hwi, hwian, hwian, hwi,
Ac yno ar y tyweirch oer,
Si-hwian, hwi,
Penliniaf uwch ei wely ef,
I anfon gweddi fry i'r nef,
Si-hwi, hwi, hwian, hwian, hwi.


"Pan mae anwyliaid byd yn ffoi,
Si-hwi, hwian, hwian, hwi,
'Rwy'n diolch am fod lle i droi,
Si-hwian, hwi;
Myfi a'm baban tra b'wyf byw,
Gyflwynaf fry i ofal Duw,
Si-hwi, hwi, hwian, hwian, hwi."

EISTEDDFOD FFESTINIOG
SULGWYN, 1875.

MAE eisieu 'Steddfod ambell dro
I wŷr y fro gael treio,
Mae eisieu 'Steddfod ym mhob plwy,
Gael gwybod pwy sy'n gweithio;
Mae eisieu 'Steddfod ddoniol, ddel,
I bob rhyw chwarel enwog,
Ac eisieu 'Steddfod ar ben blwydd
I brofi llwydd Ffestiniog.

Boed llwyddiant i lenorion doeth
A chanwyr coeth Ffestiniog,
"I fyny" fyddo'u hunol lef,
Hyd at y nef serenog;
Boed mil o feirdd mewn tlysau aur
O amgylch godre'r Moelwyn,
A bendith nef ddisgynno i lawr
Ar 'Steddfod fawr y Sulgwyn.
Mai 11, 1875.

ARHOSWCH DIPYN BACH.

OS oes rhyw rai yn ameu
Ymysg y dyrfa lân,
Fod diffyg mewn testynau
I wneuthur pwt o gân;
Os credir gan rywun yn awr
Mai marw'r awen iach,
Gwrandewch i gyd a 'steddwch lawr,
Arhoswch dipyn bach,
Arhoswch dipyn bach.

Pan fyddo eisieu pwyllo,
Yn araf pia hi,
Cadd llawer un ei dwyllo
Wrth ruthro, ffwrdd a hi;
Os nad yw'r ffordd yn eithaf clir,
A chwithau'n eithaf iach,
Fe wella pethau cyn bo hir,
Arhoswch dipyn bach,
Arhoswch dipyn bach.

Pan ddelo rhyw chwedleuon
I ddisgyn ar eich clyw,
'Dyw coelio rheiny'n union
Ddim lles i undyn byw;
Anwiredd sydd yn tyfu'n hir,
Ar dafod llawer gwrach,
Cyn coelio'r un o'r rheiny'n glir,
Arhoswch dipyn bach,
Arhoswch dipyn bach.


Pan elo camgymeriad
Ryw dro rhwng dyn a dyn,
Nes byddo gwreichion cariad
Yn diffodd bob ag un;
Os penderfynwch yn y fan
I fynd at dwrne iach,
Cymerwch gyngor prydydd gwan,—
Arhoswch dipyn bach,
Arhoswch dipyn bach.

Pan ddelo rhyw ddieithrddyn,
O fab neu ynte ferch,
I geisio denu rhywun
Er dwyn y llaw a'r serch,
Dywedwch wrth y rhai'n i gyd,
Ieuenctid heinyf, iach,
" 'Dwy ddim am ddod ar hyn o bryd,
Arhoswch dipyn bach,
Arhoswch dipyn bach."

Mae'n bosibl mynd i nadu
Wrth ganu ar bob pryd,
Mae'n bosibl blino canu
Wrth ganu a chanu o hyd,
Y sawl sy'n disgwyl mwy yn awr
Ymysg y dyrfa iach,
Gwrandewch i gyd, eisteddwch lawr,
{Arhoswch dipyn bach,
Arhoswch dipyn bach.
Tach. 5, '71.

Y FFASIWN

MAE llawer arferiad yn dyfod i fri,
Sy'n blino peth anferth ar Gymro fel fi,
Mown gaeaf a gwanwyn, mewn gwres a hin oer,
Mae'r ffasiwn yn newid yn amlach na'r lloer,
Cyn cofio y newydd, na gadael rhai gynt,
Mao popeth yn newid mor gynted a'r gwynt.

Mi welais ryw ddiwrnod John Jones, Tan y Graig,
Yn rhedeg ei oreu â bonet i'r wraig,
Yr oedd y wniadwraig a'i gwnaeth wedi dweyd
Nad oedd dim ond dwy awr er pan ga'dd ei gwneud,
Ac erbyn i'r gŵr fynd a'r fonet i'r tŷ,
'Roedd y fonet o'r ffasiwn ers deuddydd neu dri.

Mae'r dynion cyn waethed, os nad ynt yn waeth,
Am gadw at reol y ffasiwn yn gaeth,
Cadd pwyma gôt newydd ar gyfer y cwrdd,
A threiodd y gôt cyn i'r teiliwr fynd ffwrdd,
Ond erbyn i'r brawd roi'r fraich chwith yn ei lle,
'Roedd y gôt yn hen ffasiwn cyn gwisgo'r fraich dde.

Mae ffasiwn gan ladies wneud limp tra anhoff—
Peth od fod y ffasiwn yn gwneud neb yn gloff,
Mae rhai gyda hynny i'w gweled mor blaen
Yn plygu eu hunain yn gam ar ymlaen,
A'r dynion sydd eilwaith wrth wneud Roman fall,
Yn plygu eu hunain yn gam ar yn ol.

Ond nid yn y gwisgo mae'r ffasiwn i gyd,
Mae'r siarad yn newid wrth ffasiwn y byd,

Os bydd un yn stylish a thipyn o 'sg'laig,
Cewch glywed y gŵr yn dweyd "Ma'm" wrth ei wraig,
A'r wraig yn dweyd dada wrth briod ei bron,
Fu 'rioed ar y ddaear sut ffasiwn a hon.
Chwef. 6, 1871.

GWEN O GOED Y DDOL.

O Gaf fi 'nghalon yn ei hol?
Neu os na chaf hon gan ti,
Cymer finnau gyda hi;
Wêl di 'nawr y deigryn mawr
Yn dod, yn dod o'm mynwes?
Wêl di 'nawr y deigryn mawr
Yn dod o wraidd fy mynwes?

Tra bo euraidd wawr y nen
Yn adliwio eurwallt Gwen,
Dwg y ser ar gôf i mi
Oleu byw dy lygad di,
Ac yn dyst o'm serch yn awr,
Treiglo i lawr mae'r deigryn mawr.
Ffarwel mwy, fy anwyl Gwen,
Bendith nef fo ar dy ben,
Cei fy nghalon ffyddlon, ffôl,
Gyda thi yng Nghoed y Ddol.

Y MOCH YN YR HAIDD

UN diwrnod mi welais amaethwr
Yn rhedeg a'i het yn ei law,
A dangos wnai 'i holl ysgogiadau
Fod arno ryw ddychryn a braw;
Mewn gormod o gyffro i siarad 'roedd e',
A hawdd ydoedd gwybod fod rhywbeth o le;
O'r diwedd fe grynodd y bryniau o'r braidd,
Pan waeddodd y ffarmwr, —"Mae'r moch yn yr haidd."

Mae treth y tylodion yn uchel
Ar bawb sy'n ei thalu trwy'r plwy',
Ond nid yw tylodion yr ardal
Ond prin yn cael ceiniog neu ddwy;
Mae amryw swyddogion yn pesgi ar hon,
A nifer o glercod yn sugno ei bron,
Uwch arian y tlodion mae pob dyn a faidd
Yn debyg ryfeddol i fochyn mewn haidd.

Mae byrddau corfforaeth y trefydd
Yn byw, medda nhw, yn lled fras,
'Dyw'r byrddau hyn byth, meddai pobol,
Heb rywbeth a thipyn o flas;
Mae'r trethi gordrymion a godir trwy'r lle,
Yn mynd, meddai'r Bwrdd, at welliantau y dre,
Ond wedyn, pan basia'r boneddwyr, o'r braidd
Na waedda y plantos,—"Mae'r moch yn yr haidd."

Bu farw hen gybydd ryw ddiwrnod,
Gan adael ei gyfoeth a'i nyth,

A'r cyfan a gasglodd trwy'i fywyd,
I ofal ei nai gyda'i nith;
Fe welwyd arwyddion cyn hir, fel pe bae,
Y gwyddai y nith, ac y gwyddai y nai,
Pa sut yr oedd chwalu yr arian o'r gwraidd,
A dangos i'r byd fod y moch yn yr haidd.

Fe syrthiodd rhyw lencyn di-arian
Mewn cariad â geneth a thir,
A thyngai mai nid er mwyn tyddyn
Y carai yr eneth mor bur;
Priododd y ddau yn llawn cariad a serch,
A'r llanc aeth i aros i dyddyn y ferch,
Ond gwelwyd fod twll yn ei boced, o'r braidd,
A'i fod, 'rol priodi, fel mochyn mewn haidd.

Fe syrthiodd masnachydd cyfoethog
Mewn cariad â geneth heb ddim,
A gwnaed y trefniadau priodi
Cydrhyngddynt yn hynod o chwim;
Yr anwyl a minnau, fel chwyddodd y chwaer
Pan aeth hi yn feistres ar eiddo yr aer,
A'r gŵr aeth i ganu cyn meddwl o'r braidd,
Ar dôn bur alarus, —" Mae'r hwch yn yr haidd."
Rhag. 16, 1870.

I MARY.

ROEDD rhosyn hardd a lili wen
Yn tyfu'n agos at eu gilydd,
A'r lili roddai bwys ei phen
Ar fron y rhosyn coch, ysblenydd;
O Mary ! chwi yw'r lili wen,
Gaf finnau fod yn rhosyn, Mari?
I chwi gael rhoddi pwys eich pen
Ar fynwes sydd yn gariad trwyddi.

'Roedd cwmwl mawr a chwmwl bach
Un tro yn nofio trwy'r wybrennydd,
Ond pan y chwythodd awel iach,
Ymdoddai'r ddau i gôl eu gilydd;
Gawn ninnau fod, O Mari dlos,
'Run fath a'r cymyl hynny, dwedwch?
Ag awel cariad ddydd a nos
I'n chwythu'n un i fro dedwyddwch?

Mae calon lawn o dan fy mron,
Yn ocheneidio am eich cwmni,
Pob curiad rydd y galon hon
Sydd fel yn dwedyd,—"Mari, Mari; "
O coeliwch fi mai nid rhyw rith
Yw cariad pur y galon dyner,
Os curo'n ofer gaiff hi byth,
Mae'n siwr o dorri draws ei hanner.

MORFUDD PUW

WAETH tewi na siarad,
Mae rhywbeth mewn cariad,
Onid oes, fechgyn?
Er cymaint o guro
A ddichon fod arno,
Mae cariad yn ennyn.

Waeth tewi na siarad,
Mae rhywbeth mewn cariad,
Onid oes, ferched?
Er ceisio ei lethu,
Mae cariad yn tyfu
Llawn mor gyflymed.

Er i ti lwyr gladdu
Dy hanes yn caru,
O dan wraidd dy fynwes,
Os sonnir wrth siarad
Am wrthrych dy gariad,
Daw gwrid mewn amrantiad
I ddweyd dy hanes.

Peth arall yn wastad
Sy'n rhyfedd mewn cariad,
Gall fyw'n eithaf tawel
Mewn bwthyn iselwedd,
Yn gystal a'r annedd,
Lle mae rhwysg a mawredd
Bonedd ffroen uchel.


'Does dim ond bron serchog
Yn ddigon galluog
I dynnu y palas
I ymyl y bwthyn,
A chodi hwn gwedyn
Cyn uched ei goryn
A chartref urddas.


Genethig dlôs oedd Morfudd Puw,
Yn dlysach braidd na neb o'i rhyw
Oedd yn yr ardal honno;
A llawer llanc wrth weled hon
A deimlodd rywbeth dan ei fron
Na fedrai ddim ei 'sbonio.

Ymrithiai cariad ar ei boch
Trwy dlysni pur y rhosyn coch
Eisteddai yno'n wastad;
Ac am ei llygaid bywiog, llawn,
Nis gwn i beth i'w galw'n iawn,
Os nad ffenestri cariad.

Amaethwr bychan oedd ei thad,
Heb weled fawr ond symledd gwlad
Fynyddig, wyllt, a dedwydd;
A gwyntoedd ffawd a chwythai luwch
Goludoedd i ryw leoedd uwch
Na chartref anwyl Morfudd.

Ond gwelwyd blodau llawn o swyn
Yn tyfu'n mysg y grug a'r brwyn
Ar hyd llechweddau'r mynydd;
Ac ymysg geirwon greigiau serth
Y cafwyd llawer perl o werth,
Ac un o'r rhain oedd Morfudd.


Bu llawer gwladwr lawer pryd
Yn chwilio am drysorau drud
Ymysg clogwyni'r mynydd;
Ond O ! daw estron yn ddioed
I gipio'r perl oddiwrth ei droed,
Ac felly fu am Morfudd.

'Roedd pawb trwy'r fro yn meddwl
Ei bod yn llawn o serch,
Ond, rywfodd, wedi'r cwbl,
'Doedd neb gai garu'r ferch;
Ymddangos byddai'n wastad
Fel seren dêg ei bri,
A holl nodwyddau cariad
Gyfeirient ati hi.

A llawer llaw a chalon
Yn estynedig fu,
A llawer oent ry fyrion
I gyrraedd Morfudd gu;
Bu delw'i gwyneb glanwedd
Mor ddwfn mewn llawer bron,
Nes methodd deugain mlynedd
Lwyr ddifa'r ddelw hon.

'Roedd Morfudd dyner unwaith
Yn cneua yn y coed,
Lle bu hi lawer canwaith
Yn ysgafn iawn ei throed,
Ar foncyff hen eisteddai,
Dan berth oedd werdd ei gwisg,
Ac yno syn-fyfyriai
Wrth dynnu'r cnau o'r plisg.


Tu ol i'r lle'r eisteddai,
Ar hyd y llwybr troed,
Daeth dau o hoew lanciau
Dan siarad, drwy y coed;
A pheth oedd pwnc y siarad
Pan ddaeth y ddau i'w chlyw,
Ond dadlu p'run oedd cariad
Anwylaf Morfudd Puw.

Pob un o'r ddau a farnai
Mai ef a fyddai'r dyn,
Pob un o'r ddau a ddygai
Ei reswm drosto'i hun;
Pan oedd y ddadl yn boethlyd,
A'r geiriau yn tynhau,
Daeth llais o'r llwyn yn dwedyd,
"Ni fynn hi'r un o'r ddau."

Bu mab i dir-feddiannydd,
A thipyn bach o 'stad,
Yn ceisio caru Morfudd
Trwy siarad hefo'i thad;
'Roedd hwnnw'n meddwl, druan,
Do'i Morfudd yn ei brys
I garu gŵr âg arian
Wrth ddim ond codi'i fŷs.

Pan aeth y llanc i siarad
A'r anwyl Forfudd Puw,
Deallodd wrth ei llygaid
Nad oedd ef at y lliw;
Peth gwael yw swllt am garu
Gan fron sy'n llawn o serch,
Nid llinyn aur all g'lymu
Dwy galon mab a merch.


'Roedd Morfudd yn godro ryw noson
Wrth lwybr yn arwain i'r llan,
Dan sibrwd ei difyr ganeuon
I glustiau yr awel leddf, wan,
Rhyw olwg rhwng llon a phryderus,
Neu rywbeth rhwng siriol a syn,
Feddiannai ei gwyneb cariadus,
Tra canai benillion fel hyn,—

"Mae'r adar bach ar frigau'r coed
Mor ysgafn droed a dedwydd,
Pob un a wêl ei gymar mwyn
Ar gwrr rhyw dwyn neu gilydd,
Ehedant bob yn ddau a dau,
Gan gydfwynhau eu pleser,
Pan gano un mewn hwyl di-wall,
Fe gân y llall bob amser.

"Ar lethr y mynydd mae dwy nant
Gyd-redant tua'r gwaelod,
Ac ar y gwastad yn y rhyd
Mae'r ddwy yn cyd-gyfarfod;
Nid oes dim a'u gwahana mwy,
Ymdodda'r ddwy i'w gilydd;
Mae'r ddwy nant fach yn un nant lawn,
Yn llawer iawn mwy dedwydd.

"A minnau sydd fel 'deryn bach
Mewn awyr iach yn hedfan,
Heb weld erioed mewn lle na llwyn
Un cymar mwyn yn unman;
Caf deithio f'oes o fryn i bant,
Fel nant ei hun fae'n llifo,
A marw'n môr tragwyddol fyd,
Heb neb i gydymdeimlo.


—————————————

Y FFRWD FAWR

"Mae 'nghalon yng Nghymru, ymwrando a fyn
Ar fiwsig y rhaeadr yn ystlys y bryn."

—————————————

Tra canai Morfudd, yn y fan
Daeth llanc ar hyd y llwybr troed,
Gofynnai iddi'r ffordd i'r llan,
Rhoes hithau ateb yn ddioed;
Aeth yn ei flaen, a dyna fu;
Ond pan y croesai dros y ddôl,
Ni fedrai llygaid Morfudd gu
Ddim peidio edrych ar ei ol.

Ni fedrai yntau yn ei fyw
Ddim edrych yn ei flaen yn syth,
'Roedd delw gwyneb Morfudd Puw
Yn troi ei ben i'w ysgwydd chwith;
Aeth godro heibio fel pob nos,
A thua'r tŷ 'r aeth Morfudd dlos,
Ond erbyn cyrraedd camfa'r ddôl,
Y stên a'r armel oedd ar ol.

Dechreuai siarad wrthi ei hun,
A dweyd yn frysiog, "Neno dyn,
Cyn sicred ag mai gwyn yw'r ôd,
Mae rhywbeth rhyfedd heno'n bod;
Ni wnes erioed o'r blaen fath dro,
Mae'n rhaid fod rhywbeth ar fy ngho';"
A gwirio'r hen ddiareb wnaed,
Arbeda'r coryn byth mo'r traed;
Anghofio wnaeth wrth fynd yn ol
Fod llo yn pori ar y ddôl,
Ac ar yr adeg beth a wnaeth
Y llo, ond troi y stên a'r llaeth.

Ymhen pythefnos union,
Eisteddai Morfudd dirion
Ar fainc oedd yn yr ardd;

A'r rhosyn mewn sirioldeb
A wenai yn ei gwyneb,
Yr hwn oedd gywir ardeb
O wyneb Morfudd hardd.

Ni chlywai mo'r aderyn
Oedd wrth ei chlust ar frigyn,
Yn hidlo peraidd gân;
Nid aethai'r noson honno,
A'r helynt hefo'r godro,
A'r llanc a basiodd heibio,
Ddim byth o'i chôf yn lân.

MYFANWY Y GLYN

ER na feddaf aur na thrysorau di-ri,
Na bwthyn na phalas yn eiddo i mi,
Y mawrion a bia bob maenol a bryn,
Ond y fi bia galon Myfanwy y Glyn.

Mae'r ffrydlif yn gwenu wrth redeg i'r pant,
A'r brithyll yn chwareu yn nyfroedd y nant;
A gwenu a chwareu wnaf finnau fel hyn,
Tra mai fi bia galon Myfanwy y Glyn.

Mae'r ŵyn ar y bryn mor ddifyrrus a llon,
A'r adar yn canu yng nghoedwig y Fron,
A llawen wyf finnau 'run fath a'r rhai hyn,
Tra mai fi bia galon Myfanwy y Glyn.

'DWY'I DDIM YN IANCI ETO

RWY' i wedi dysgu goddef row
Pan draw yng ngwlad yr Ianci,
A dysgu dwedyd anyhow
I guess trwy'n nhrwyn eleni
Rwy' i wedi mynd yn dene a main,
Fel pe bawn wedi'm rheibio,
Ond er yr holl arwyddion rhain,
'Dwy' i ddim yn Ianci eto.

Er dysgu gwneud pob peth o chwith,
'Run fath ag mae yr Ianci,
'Dwy'i ddim yn meddwl dysga i byth
Anghofio gwlad y cerddi;
Mae " Yankee-doodle " yn eithaf tôn,
Ond "Hob y deri dando"
Sy'n ddeng melusach i fy mron, —
'Dwy'i ddim yn Ianci eto.

Mi allais ddysgu'n ddigon rhwydd
I fyw ar oysters oerion,
A byw ar dwrci yn lle gwydd,
A lunch yn lle uwd rhynion;
Peth hawdd oedd dysgu taflu traed
I'r bwrdd 'rol darfod cinio,
Ond nid yw hynny'n newid gwaed, —
'Dwy' i ddim yn Ianci eto.

Mi ddysgais yfed dwfr a rhew
Wrth deithio mewn cerbydau,
Ond ddysgais i ddim mynd yn
dew
Wrth fwyta corn a falau;
'Rwy'i wedi dysgu sythu 'nghefn,
A chydig bach o frolio,
Er hynny, diolch am y drefn,
'Dwy' i ddim yn Ianci eto.

BERWI I LAWR

ROEDD march wedi chwyddo yn Nhyddyn y Rhiw,
A phawb wedi meddwl na fyddai ddim byw;
Gan boenau dirdynol ei anadl oedd gaeth,
A myned yr ydoedd bob eiliad yn waeth;
Caed doctor i'w weled, a dwedai y gŵr,
"Rhowch ddyrnaid o ddeiliach mewn galwyn o ddŵr,
A dodwch y cyfan mewn crochan am awr,
A thân da o dano, a berwch o i lawr."

Mae ambell ysgogyn i'w weled ar dro,—
Yn debyg i'r ceffyl, yn chwyddo o'i go',
Mae'i olwg mor wyntog nes haeddu cael sen,
Mae gwynt lond ei galon, a gwynt lond ei ben,
Mae gwynt yn ei wyneb, a gwynt yn ei 'sgwrs,
A gwynt, meddai pobol, yn llenwi ei bwrs;
Wel, rhowch yr ysgogyn chwyddedig am awr
Yng nghrochan gwaradwydd i'w ferwi fo i lawr.

Mae ambell enethig i'w gweld yn y wlad
Yn gwadu'n ddigwilydd ei thylwyth a'i thad, —
" I cannot talk Welsh," meddai'r feinir mor fain,
Will somebody shew me the house of my nain? "
Mae starch yn ei gwegil, a starch yn ei hiaith,
Mae starch yn ei chalon, a starch yn ei gwaith,
I wella yr eneth o stiffdra mor fawr,—
Wel rhowch hi mewn boiler i'w berwi hi lawr.


Pan fyddo yr araeth yn mynd yn rhy hir,
Neu'r gân yn mynd weithiau dros ormod o dir,
Pan ddelo rhyw wynt, neu orfalchder ar dro,
A dyn yn dueddol i fyned o'i go,
Wel berwch yr araeth, a berwch y gân,
A berwch y balchder uwch digon o dân,
Y doctor rhagoraf i fach ac i fawr
A flinir gan wynt, yw eu berwi nhw i lawr.

Y TEITHIWR AR Y MYNYDD

YMGAUAI'R niwl, doi'r curwlaw i lawr,
A'r teithiwr ar y mynydd mawr
Ymhell o'i gartref cu;
'Roedd t'wyllwch dudew hanner nos
Yn cuddio pob rhyw seren dlos—
Y nef a'r llawr yn ddu;
Y t'wyllwch Aifftaidd o bob tu
Ddanghosai wyneb angau du
Yn syllu ar bob llaw;
Ond ha! Fe welai yn y fan
Ryw oleu bychan, llwydaidd, gwan,
Yn wincio oddidraw;
Ysgafnai'r galon gyda'i droed,
Cyfeiriodd yno yn ddioed,
Fe chwarddai'r goleu drwy y dellt
O'r ffenest dan y bondo gwellt;
Agorodd ddrws y bugail mwyn,
Cadd yno ddweyd ei gais a'i gŵyn,
Cadd groesaw cu, a thệ a thân,
A gwledda ar yr aelwyd lân.

EISTEDDFOD ENLLI

Ar ddyfnderau'r môr berwedig,
O dan wlith y nef garedig,
Gyda gwŷr y gân;
Dyma Gethin, Ioan Arfon,
Alfardd, Bodran, ac Alafon,
Dyma Glwydfardd,—dyma ddigon
I roi'r môr ar dân.
Os oes rhai 'Steddfodau
Heb ddim " mynd " trwy'r cyrddau,
Fe fydd hon, ar frig y donn,
A phawb yn mynd ei orau;
Dyma 'Steddfod lawn o bleser,
'Steddfod sydd yn mynd wrth ager,
Yn y dŵr hyd at ei hanner,
Eto'n sych i gyd.

Fflamied doniau pur yr awen
O galonnau beirddion llawen,
Deued pawb ag englyn cymen,
Neu ryw bennill mwyn;
Canwn wrth fynd tuag Enlli,
Nes bo adsain byw ein cerddi
Yng nghlogwyni yr Eryri
Megis dwyfol swyn;
Tanied ein teimladau
At hen wlad ein tadau,
Moli'n hiaith a fyddo'n gwaith
Tra anadl yn ein ffroenau;
Mewn gwladgarwch gwnawn ragori,
Na foed hanes byth yn tewi
Am y beirdd yn 'Steddfod Enlli,
Tra y pery'r byd.

GWLAD FY NHADAU

RWY'N caru hen wlad fy nhadau
Gyda'i thelyn, ei henglyn, a'i hwyl,
'Rwy'n caru cael bechgyn y bryniau
Gyda thân yn y gân yn eu gwyl;
Canaf ei halawon
Nes gwneud fy mynwes yn dân,
A Chymru i gyd gaiff fod yn fud
Cyn byth y rhof heibio'r gân,
Aiff y Wyddfa fawr ar ei chwith i lawr
Cyn byth y rhof heibio'r gân.

Mae y 'Sgotyn yn hoffi ei bibell
Gyda chreigiau hen fryniau ei fro,
A chanmol ei wlad gyda'i delyn
Yn uchel mae'r Gwyddel o'i go';
Mynnaf finnau ganmol
Hen Walia orenwog a glân,
Aiff y Ddyfrdwy fawr i fyny'n lle i lawr,
Cyn byth y rhof heibio'r gân;
Bydd clychau'r llan wedi tewi'n mhob man
Cyn byth y rhof heibio'r gân.

Cara'r Saeson gael gwledd o gîg eidion,—
Cara'r trefydd, y dolydd, a'r dail;
Cara'r Negro gael byw yn y poethder
Lle mae hafddydd, a hirddydd, a haul,
Pan na charaf innau
Delyn Cymru lân,
Bydd Môn a'i stôr, wedi boddi yn y môr,
Cyn byth y rhof heibio'r gân;
Caiff Homersham Cox gerdded mewn clocs,
Cyn byth y rhof heibio'r gân.

CAN Y GWEITHIWR

WRTH fyned allan gyda'r wawr,
I ddechrau diwrnod Gwaith
A cholli chwŷs o awr i awr
Yng nghanol llafur maith,
Mor felus meddwl am y nos,
A thaflu'r arf i lawr,
A chwrdd â gwenau priod dlos
Ar ol y llafur mawr.

Mae cysur rhai mewn heulwen iach,
A blodau Ebrill cu,
Mae 'nghysur innau, bobol bach,
Mewn hirnos gaeaf du;
Cael tynnu 'nghadair at y tân
A chanu hwyr y dydd,
A'r cenllysg ar y gwydr glân
Yn gwneud cyfeiliant prudd.

Os bydd y daith dros fynydd mawr
Ynghanol gwynt a gwlaw,
O dan ruadau'r daran fawr,
A'r mellt yn gwau gerllaw,
Mae'n werth cael teithio oriau hir
Yng nghanol llaid bob llun,
Er mwyn cael gweled golau clir
Fy aelwyd fach fy hun.

Y GWAREDWR

DAETH Gwaredwr gwiw i ddynion,
O! newydd da;
Sych dy ddagrau, gaethferch Seion,
O! newydd da;
Chwyth yr udgyrn ar dy furiau,
Gwisga wên a sych dy ddagrau,
Gorfoledda yn ei angeu,
O! newydd da.

Daeth o uchder gwlad goleuni,
O! gariad mawr,
I ddyfnderoedd o drueni,
O! gariad mawr;
Rhodiodd trwy anialwch trallod,
Ac o'i fodd fe yfai'r wermod,
Sydd i'w gael yng nghwpan pechod,
O! gariad mawr.

Trefnodd ffordd i gadw'r euog,
O! ryfedd ras,
Trefnodd fara i'r anghenog,
O! ryfedd ras;
Yn y ffynnon ar Galfaria,
Golch yr aflan, ac fe'i gwisga
A chyfiawnder fel yr eira,
O! ryfedd ras.

Clywch ei lais holl gyrrau'r ddaear,
Dewch ato Ef,
Syllwch ar ei wenau hawddgar,
Dewch ato Ef;
Cewch, ond derbyn ei ymgeledd,
Nerth i ddringo o bob llesgedd,
A chewch goron yn y diwedd,
Dewch ato Ef.

PEN Y MYNYDD

MOR ddedwydd dringo'r mynydd iach,
Tra t'w'nna'r haul yn llon,
A chanu cân i Gymru fach,
Heb ofid dan fy mron;
Cael eistedd ar y twmpath brwyn,
I garu anian fawr,
A gwrando si y gornant fwyn
Yn rhuthro i lawr, i lawr.

Ar ben y mynydd, dyma'r fan
I yfed awyr bur,
Ac adnewyddu'r fynwes wan
Fu'n gwaedu dan ryw gur;
Fan yma anian ar bob llaw
Sy'n banorama byw,
Ac yna nid oes dim a ddaw
Cydrhwng y dyn a Duw.

I ben y mynydd ni ddaw un
Gorthrymder erch ei wedd,
'Does dim ond natur hardd ei hun
Fan honno ar ei sedd;
Ac yno caf roi 'mreichiau'n dynn
Am wddw anian dlos,
A byw ar wên fy nghariad gwyn
O'r bore hyd y nos.

'DOES DIM YN Y PAPUR

DOES dim yn y papur am heddyw—dim byd
Ond hanes llofruddiaeth yn rhywle neu gilydd,
Neu eneth lofruddiodd ei baban teg bryd,
Ac a redodd o'r wlad rhag byw dan y c'wilydd;
Neu hanes am ŵr wedi curo ei wraig,
Tra dyn y drws nesaf yn clywed ei llefain,
Ond ni wyddai'r gŵr oedd a'i galon fel craig,
Mai llofrudd oedd ef hyd nes gwawriodd y bore,
Ond mae pethau fel yna yn digwydd o hyd,
Does dim yn y papur am heddyw—dim byd.

'Does dim yn y papur am heddyw—dim byd—
Wrth gwrs, mae 'na wraig wedi marw'n yr oerni,
Ond clywir peth felly o hyd ac o hyd,
Mewn oes mor Gristnogol a hon sydd yn codi,
Neu eneth dwylledig tra hawddgar a thlos,
A daflodd ei hunan i ddyfnder yr afon,
Neu lencyn yn dwyn rhyw ferch fawr yn y nos,
Neu dad yn gweld enw ei fab gyda'r lladron;
Ond mae pethau fel yna yn digwydd o hyd,
'Does dim yn y papur am heddyw—dim byd.

'Does dim yn y papur am heddyw—dim byd,
Os na theimlwch eisieu cael hanes y trefi,
Lle mae y gwŷr mawr yn gwneud drygau o hyd,
Ond nid oes dim cosb i gael bod ar y rheiny,
Neu lanc a ddiangodd o siop gwerthwr tê,
A sofren neu ragor o bres ei feistradoedd,
Wrth reswm, cymeryd eu benthyg 'roedd e'
I brynnu teganau ar hyd yr ystrydoedd;
Ond mae pethau fel yna yn digwydd o hyd,
'Does dim yn y papur am heddyw—dim byd.


'Does dim yn y papur am heddyw—dim byd,
Ond rhes y meth-dalwyr, y geni, a'r claddu,
A'r hen fyd yn mynd ar ei gythlwng o hyd,
A rhinwedd ar lawr, a phechod i fyny,
A dwsin o goncerts a 'Steddfod neu ddwy,
A phawb oedd yn colli yn bygwth y beirniad,
A chwrdd yfed tê ym mhob treflan a phlwy,
Lle boddwyd rhyw deirawr mewn tê ac mewn siarad,
Ond mae pethau fel yna yn digwydd o hyd,
'Does dim yn y papur am heddyw—dim byd.

GOGONIANT I BRYDAIN


GOGONIANT i Brydain, paradwys y byd,
Gogoniant i'w meibion, rai gwrol i gyd;
Mewn heddwch neu ryfel, mewn tlodi neu fri,
Y dewrion Frythoniaid sy'n myned a hi.

Os daw y gelynion, a glanio'n ein gwlad,
Mae'r Saeson a'r Cymry yn gewri'n y gâd;
Yr Alban a'r 'Werddon sy'n uno â ni
I waeddi,—"Brythoniaid sy'n myned a hi."

Mae modrwy yr eigion o amgylch ein tir,
Ac am ein gwladwriaeth mae modrwy y gwir,
I gadw ein teyrnas rhag gormes a chlwy',
Mae modrwy ein hundeb yn gryfach na'r ddwy.

Mae rhyddid a chariad mewn hedd a mwynhad
Yn sail i orseddfainc Brenhines ein gwlad,
A miloedd o leisiau gydwaeddant ynghyd,—
"Hir oes i Victoria, Brenhines y byd."

MAE'N OLAU YN Y NEFOEDD

OS ydyw'n dywyll yn y bedd,
Lle'n dawel huna'r marw,
Os ydyw angau ar ei sedd
Yn gwylio'r twmpath hwnnw,
Wrth ochr angau ar y bedd,
Addewid Duw sy'n gwenu,
Ac un o engyl gwlad yr hedd
A'i fys yn pwyntio i fyny.

O ddydd i ddydd, o nos i nos,
Fel hyn y dwed yr angel,
"Os ydyw'ch anwyl briod dlôs
Yn awr a'i phen yn isel,
Ei llwch a neidia fyny'n fyw
Ar fore'r adgyfodiad,
Y blwch a'i deil yw llw fy Nuw,
A chanddo Ef mae'r 'goriad.

"Os tywyll ydyw brig yr yw
Sy'n gwylio uwch y beddrod,
Os diffodd wnaeth y golau byw
Oedd yng ngweniadau'ch priod,
Os tywyll yw eich profiad chwi
Ynghanol du dymhestloedd,
Edrychwch rhwng y cymyl fry—
Mae'n olau yn y nefoedd.

"Feallai pan y byddwch chwi
Yn tywallt heilltion ddagrau,
Bydd hithau'n gwenu oddi fry
Dros un o'r aur ganllawiau,
Gan ddweyd—Pob peth yn dda yn awr,
Daeth Haf ar ol tymhestloedd,
F'anwylyd, peidiwch edrych lawr—
Mae'n olau yn y Nefoedd.'"

I FYNY MAE YMWARED

AR ganllaw aur y Wynfa ,
Mae llaw mor wen ar wawrddydd,
Yn estynedig atoch chwi
Gan wa'dd i fyny beunydd;
Y llaw fu am flynyddau maith
Yn dangos Nef i'w theulu,
Mae honno heddyw heb un graith
Yn dal i ddweyd "I fyny."

Mae llygad llawn o nefol fri
Yn edrych lawr o'r gwynfyd,
Disgleiriach ydyw hwn i chwi
Na mil o sêr gwreichionllyd;
Gaiff hwnnw fod i chwi, fy ffrynd,
Fel seren morwr gwrol,
Yn dangos beunydd sut mae mynd
I'r hafan têg, dymunol?

Ar aden wen y gyflym wawr,
A chydag awel hwyrddydd,
Daw tyner lais o'r nef i lawr
I swyno'ch clustiau beunydd;
Y llais fu gynt yn mynd a'ch bryd
Sy'n para i lefaru,
A chyda'r llais mae'r Nef i gyd
Yn dwedyd,—"Dring i fyny."

"I fyny" y mae blodau'r tir
Yn edrych pan yn tarddu,
Dwed hyd yn oed y glaswellt ir
Sydd ar bedd "I fyny;"
'Does dim trwy'r nef, 'does dim trwy'r byd
Yn edrych ar i waered,
A chofiwn ninnau ar bob pryd,
"I fyny mae ymwared.

STATION AFON WEN

OS hoffech chwi gael gyrru
Eich natur dda i'r pen,
Neu brofi eich amynedd,
Ewch tua'r Afon Wen,
Cewch yno ddisgwyl oriau,
A goddef aml i sen,
Cewch bopeth ond hwylusdod
Yn Station Afon Wen.

Pan ddewch chwi o Gaernarfon,
Dros gefnen Pen y Groes,
Bydd train y llinell honno
Ar ol gryn hanner oes,
A phan bydd hwnnw'n ol-llaw
Yn Afon Wen yn cwrdd,
Bydd train Pwllheli'n flaenllaw,
Ac wedi mynd i ffwrdd.

Ond pan ewch o Fachynlleth,
I fynd i'r Afon Wen,
Bydd llinell fawr y Cambrian
Yn araf iawn dros ben;
Ac os am gael Caernarfon
Y bydd yn hwn ryw ffrynd,
Bydd train y llinell honno,
Cyn daw, yn siwr o fynd.

Mi welais ŵr bonheddig
Ryw dro yn Afon Wen,
A dwedai yn bruddglwyfus
Mewn trallod dros ei ben,—

"I want to have some shelter
To rest my weary bones,"
Ond nid oedd dim i'w ganfod
Ond dannedd Dafydd Jones.

Mae Afon Wen yn haeddu
Ei galw'n Afon Ddu,
Nid oes dim gwyn i'w ganfod
Pan ddeuir iddi hi;
Heblaw gwyn llygaid porters
Wrth dendio'r naill y llall,
Yn lle rhoi clust i'r teithwyr,
A rhoddi ateb call.

Mae llawer teithiwr enwog
Yn teithio'r wlad i gyd,
A'i goffrau yn ei ganlyn,
Heb drafferth yn y byd,
Ond llawer teithiwr cyflym,
Ga'dd waith i'w law a'i ben,
Wrth geisio cadw'i luggage
Yn Station Afon Wen.

Mae cannoedd byd o deithwyr
Yn glaf a llesg eu bron,
A pheswch sydd ar filoedd
Oherwydd bod yn hon;
" Rheumatic" sy'n eu coesau,
A'r—"Tic" sydd yn eu pen,
Oherwydd bod yn aros
Yn Station Afon Wen.

AR LAN Y DDYFRDWY LONYDD

AR lan y Ddyfrdwy lonydd mae bwthyn bychan, gwyrdd,
Fel pe yn ymguddio rhag y storom fawr;
O dan y mynydd lle y pora'r wyn a'r mynn,
Fan honno treuliais lawer dedwydd awr.
Mae'r lili megis cynt
Yn ymysgwyd yn y gwynt,
Ac mae'r rhosyn coch yn gwenu'n yr ardd,
Ond p'le mae'r rhosyn coch
A fu'n gwenu ar ddwy foch
Morfudd deg fu'n eilun pur i galon bardd?

Du oedd ei llygaid fel tywyllwch hanner nos,
Gwynion ei gruddiau fel goleuni rhydd,
Gwên fel y wawr a ddwyfolai'i dwyrudd dlos,
Tra ei llais fel llais angel gwlad y dydd;
Ei serch oedd fel y dur—
Yn danllyd ac yn bur,
'Roedd ei chalon oll yn un â'm calon i;
Ond pa le mae Morfudd wen?
Ai ym mysg angylion nen?
Adsain brudd sy'n gofyn eilwaith,—P'le mae hi?

Ar lan y Ddyfrdwy lonydd y mae beddrod bychan, gwyrdd,
A'r haul yn edrych arno lawr o'r nef,
Anfarwoldeb gwyrddlas gyda gwlithos fyrdd
Yw yr unig addurniadau arno ef;
Mae engyl glân mi wn,
Yn gwylio'r beddrod hwn,
Ac mae 'nghalon innau yno nos a dydd;
O na allwn ddweyd i ti,
Morfudd anwyl, fel 'rwyf fi,
Yn dy garu, er yng ngwaelod beddrod prudd.

AR LAN Y WEILGI UNIG

AR lan y weilgi unig
Hen graig ei hysgwydd gwyd,
I lochi bwthyn gwledig
A'i dô a'i fur yn llwyd;
Ysgubodd myrdd o stormydd
Dros goryn moel y graig,
A gwenodd llawer haf-ddydd
Ar fwthyn glân yr aig.

Mae'r donn yn curo'r glannau
'Run fath a meddwyn ffôl,
A'r graig yn cau ei dyrnau
I daro'r donn yn ol;
Y storom sy'n ymgodi,
Mae'r gwynt yn rhuo'n waeth,
Nes tyrr cerbydau'r weilgi
Yn deilchion ar y traeth.

'Roedd gwraig yn suo'i baban
Ym mwthyn glan y môr,
'Doedd rhyngddi ag angeu'i hunan
Ond trwch a nerth y ddôr;
Fe gysgai'r bach yn dawel,—
Rhy ieuanc ydoedd ef
I deimlo'r storom uchel,
Na deall gŵg y nef.

Dau wyliwr dewr y glannau
A droent i mewn yn awr,
A'u dillad yn gareiau
Gan nerth y storom fawr;

Eu gwedd arweddai bryder,
A phryder wnai fwyhau
Ym mynwes y fam dyner
Wrth sylwi ar wedd y ddau.

Cydgraffai'r gwylwyr ffyddlon
Trwy'r ffenestr ar y donn,
Gan ddisgwyl gweld gweddillion
Rhyferthwy erchyll hon;
'Rol craffu hirion oriau
Ar olwg erch fel hyn,
Hwy welent ar y tonnau
Ryw smotyn bychan, gwyn.

Cydruthrai'r ddeuddyn allan,
Ond pan yn cau y ddôr,
Bendithient fam y baban,
A rhuthrent at y môr;
Ond prin cyrhaeddent yno
Y sypyn bychan gaed
Ar flaen rhyw foryn gwallgo,
Yn disgyn wrth eu traed.

Datblygent y dilladau,
A'r syndod mwya' 'rioed,
Ynghanol y plygiadau
'Roedd baban chwe mis oed;
Eu geirwon ddwylaw tyner
Gyfodai'r trysor iach,
A chludent ef mewn pryder
I fyny i'r bwthyn bach.


Yn awr fe welid yno
Ddau fach mewn hûn di-wall,
'Roedd un yn cysgu i ddeffro,
Ond cwsg y nef gai'r llall;
Wrth weled dlysed agwedd
Y marw bychan, gwyw,
Bron iawn na ddoi eiddigedd
I fam y plentyn byw.

Ni chaed un math o enw,
Nac un lythyren chwaith,
I adrodd hynt y marw,
Na'r lle dechreuai 'i daith;
Y ffeiriad calon gynnes
Ddywedai ar lan ei fedd, —
"Mae Duw yn gwybod hanes
Y bychan tlws ei wedd."

Daeth rhes o blant y dreflan,
Pob un â lili wen,
Hyd at y beddrod bychan,
I'w plannu uwch ei ben;
A dodwyd maen i'w gofio
O garedigrwydd llwyr,
Ac arno wedi'i gerfio
Y ddeuair,—"Duw a ŵyr."

IACHAWDWRIAETH

CYYNLLUNIAI Duw aneirif faith gysawdau
I droi a dirwyn yn yr eangderau;
Oddiwrth ei fŷs dyferai bydoedd anferth,
Ac effaith amnaid Iôr yw'r cread prydferth;
Nid ydoedd creu y dy a'r angel rhyfedd
Ond un o oruchwylion blaenau'i fysedd;
Olwynion natur a rhagluniaeth hefyd
A droant wrth ei archiad at y funud.
Ond O! bu meddwl dyfnaf Anfeidroldeb
Yn tynnu cynllun draw yn nhragwyddoldeb,
O'r ffordd i godi dyn o ddyfnder llygredd,
Heb dynnu anfri ar ei sanctaidd orsedd;
Nid gormod dweyd fod codi'r natur ddynol
Yn brif ddrychfeddwl yn y fynwes Ddwyfol
Draw 'mhell cyn bod y cread mawr gweladwy,
Pan oedd diddymdra fel yn amhlantadwy;
Gan faint oedd llygredd dyn mewn dwfn drueni,
Bu braich y Duwdod megis ar ei hegni
Yn estyn llaw o gariad anherfynol
Hyd cyrraedd llaw lygredig y bôd dynol.

Mae Iachawdwriaeth, megis môr heb geulan,
Yn llenwi tragwyddoldeb mawr ei hunan,
O'r braidd 'roedd brigau'i donnau bendigedig
Yn cyffwrdd â chras-diroedd dyn syrthiedig,
Hyd nes daeth Crist i agor y dramwyfa
I donnau Iachawdwriaeth gael mynedfa.
Awelon cariad a gynhyrfai wyneb
Y môr diderfyn draw yn nhragwyddoldeb,

A than gynhyrfiad yr awelon tyner
Ymdaflai ambell donn i grasdir amser;
Ond wele Dduw yn gwisgo'r natur ddynol,
I agor prif-ffordd i'r llifeiriant grasol
I redeg megis heibio i ddrws dynoliaeth,
Oedd bron a suddo yn ei lygredigaeth;
A phan ogwyddai Crist ei ben i farw,
'Roedd moroedd Iachawdwriaeth yn ben llanw
O flaen awelon cariad anorchfygol,
Sydd megis anadl gan y Bôd Anfeidrol.

O ddyfroedd gwerthfawr ! Dyma ffrydiau gloewon
Gynhwysant lonnaid enaid o fendithion;
Un defnyn bach o'r dyfroedd yn eu purdeb
Iachâ yr enaid claf am dragwyddoldeb;
Er lleted ydyw moroedd Iachawdwriaeth,
Ymranna'r ffrydiau mân ymysg dynoliaeth,
Fel lle mae dyn yn teimlo arno syched,
Mae ffrwd yn ymyl, dim ond iddo yfed.

O Iachawdwriaeth! Dyma gynllun rhyfedd,
Sy'n dangos gras a chariad yn eu mawredd;
Trwy'r cynllun rhyfedd hwn daw dyn yn ddedwydd,
Daw'r Nef a'r ddaear i gofleidio'u gilydd;
Trwy'r cynllun hwn mae dyn i gael ei godi
I rodio fraich ym mraich â'r angel heini;
Gall ysgwyd llaw â cherub pur a channaid,
A gwenu yng ngwynebau claer seraffiaid.
Tan effaith ffrydiau Iachawdwriaeth hyfryd
Mae tir y fendith yn ail-wisgo bywyd,
Ei dyfroedd pur sy'n wenwyn i bob llygredd,
Tra maent yn faeth i flodau tyner rhinwedd;
Yr anialdiroedd ddont yn ddolydd breision,
A thŷf y lili lle mae drain yr awrhon.


Mae popeth sy'n yr Iachawdwriaeth dirion
Yn ateb i drueni dyfnaf dynion;
Mae'n gwisgo'r noeth â phurdeb difrycheulyd,
Ac i'r newynog dyry fara'r bywyd;
Mae meddyginiaeth yn ei llaw dyneraf
I wella clwyfau y pechadur pennaf;
Ar groesau bywyd dyry ryw felusder,
A llaw i dywys trwy anialwch amser;
A phan yn nesu tua glan yr afon
I diriogaethau tywyll angau creulon,
Nid ydyw angau'n angau i'r duwiolion,
Mae craig yr oesoedd dan eu traed yr awrhon;
A Iachawdwriaeth sydd fel llusern olau
Yn taflu pelydr ar diriogaeth angau;
Porth aur y nefoedd i'r pererin ddengys,—
Allweddau gwynfyd rwymwyd wrth ei gwregys.



PRYDNAWN BYWYD MEWN GWLAD ESTRONOL

TÔN,—"The last rose of Summer."

O NA bawn i gartref ar aelwyd fy nhad,
Yn lle bod fel alltud yn mhell o fy ngwlad;
Lle treuliwn foreuddydd fy einioes yn llon,
Heb ofid na hiraeth, yn ysgafn fy mron.

'Nol chwareu boreuddydd fy einioes i gyd,
Newidiodd y chwareu am ofal y byd;
Ymguddiodd haul disglair boreuddydd fy oes
Tu ol i gymylau o chwerwder a loes.

'Roedd awyr boreuddydd fy einioes yn glir,
Ond Ow! ni pharhaodd fy heulwen yn hir;
Daeth stormydd o ofid i hulio fy nen,
Mae rhei'ny'n ymarllwys o hyd am fy mhen.

Pan fyddwyf yn cefnu ar ofid a loes
Boed f'awyr yn ddisglair fel bore fy oes;
Terfyngylch fy hwyrddydd fo'n oleu pryd hyn,
A'i belydr yn cyrraedd gwaelodion y glyn.



Cyhoeddwyd y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1929, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.