Gwaith yr Hen Ficer (testun cyfansawdd)
← | Gwaith yr Hen Ficer (testun cyfansawdd) gan Rhys Prichard golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
→ |
I'w darllen cerdd wrth gerdd gweler Gwaith yr Hen Ficer |
LLANYMDDYFRI.
Pwy na wyle weled Satan
Yn dy dynnu wrth ede sidan."
Gwaith yr Hen Ficer.
"Gelwais hon yn Ganwyll Cymro."
Llanuwchllyn;
AB OWEN
CYHOEDDEDIG DROS AB OWEN GAN R. E. JONES A'I FRODYR CONWY.
Rhagymadrodd.
GANWYD Rhys Prichard yn Llanymddyfri, tua 1579. Yr oedd yn hynaf o blant tad da ei fyd. Aeth i Rydychen, i Goleg yr Iesu, yn 1597; cymerodd ei urdd a'i radd yn 1602; a daeth yn ol yn ficer Llandingad a chapelwr Llanfair ar y Bryn. O hynny i'w fedd, bu'n byw yn ei dŷ ei hun yn Llanymddyfri, rhwng y ddwy eglwys. Gŵr prudd a charcus oedd, mewn oes lawen a gwastraffus,—
Rhai sy'n chwerthin am fy mhen,
Am fod yn sobr heb fawr wên:
Minne'n wylo'r dagrau heilltion
Weld pob rhai o'r rhain yn feddwon.
Y meddw chwarddodd am fy mod
Yn cadw ngheiniog yn fy nghôd,
Yn awr sy'n wylo'r dŵr yn ffrwd
Wrth fegian ceiniog fach o'm cwd.
Yr oedd iddo wraig, Gwenllian; a mab, "Sami Bach," gafodd fywyd gwyllt a marwolaeth ddisyfyd. Cafodd ffafr gan ddau archesgob, Abbott Biwritanaidd a Laud ddefosyniol, ficeriaeth Llanedi yn 1613, prebendariaeth yn Aberhonddu yn 1614, a changeloriaeth Tyddewi yn 1626. Ac nid segur oedd y Ficer yn ei swyddi; pregethodd mewn oes ddi-bregeth. Bu farw tua 1644, a chladdwyd ef yn Llandingad; ond ni wyr neb ple mae man ei fedd.
Daliodd i lefaru yn ei benhillion byrion, syml, llawn profiad. O 1646 hyd heddyw, goleuwyd ei Ganwyll tuag ugain o weithiau. Bu Stephen Hughes, Gruffydd Jones o Landdowror, a'r Athro Rice Rees, ymysg casglwyr a chyhoeddwyr ei waith. Yn y gyfrol hon ceir y caneuon sy'n taflu goleuni ar fywyd Cymru yn ei oes ef ei hun. Treuliodd ei febyd ym mlynyddoedd olaf rhwysg Elizabeth, pan oedd y genedl yn un, a'r eglwys yn borth iddi. Yn ddyn, gwelodd ddwy blaid, dan deyrnasiad lago I. a Siarl I., yn graddol ymffurfio, ymchwerwi, a pharotoi i ryfel. Puritan oedd ef; ond arhosodd yn Eglwyswr a Brenhinwr. Ym merw y Rhyfel Mawr y bu farw.
Yr oedd ei Gymru ef yn dywell, meddw, anonest, ac aniwair; ac amcan ei bregethu a'i ganu oedd ei gwneyd yn oleu, sobr, gonest, a glân. O Loegr deuai awydd am gyfoeth ac awydd am bleser, plant naturiol llwyddiant masnach y dyddiau hynny. O Loegr hefyd, deuai Beibl a phla. Rhydd y ficer holl groesaw ei galon i'r Beibl bach. Y mae ei ddarluniadau o bla 1625 yn hynod gywir, yn ogystal a byw a chynhyrfus, fel y gellir gweled trwy eu cymharu â "Britain's Remembrancer" George Wither. Yn wir, ni cheir gwell darlun o dyfiant Puritaniaeth na'r hyn a fedrwn dynnu o benhillion y Ficer. Y peth yw Morgan Llwyd i ail hanner yr unfed ganrif a'r bymtheg, hynny yw'r Ficer Prichard i'r hanner cyntaf.
Ac o'r penhillion hyn y tarddodd llenyddiaeth gwerin Cymru. Canwyll, nwy, trydan,—dyna'r Ficer, Williams Pantycelyn, Islwyn.
Llanuwchllyn,OWEN M. EDWARDS.
- Rhag. 31, 1908.
Y Cynhwysiad
Rhai Geiriau
I ANNERCH Y CYMRY
At y Cymry
At ryw arglwydd
II Y BEIBL BACH
Angen Beibl; llewyrch, llusern, balm, mwrthwl, drych,
had; gallu'r Gair; tri anhapus,-baban heb fam,
hydd heb ffynnon, gwlad heb Feibl; gwerth pregeth,
er i'r offeiriad fod yn anghymwys; anogaeth
brynnu'r Beibl bach, ei werth; anwybodaeth Cymru
III BYWYD CYMRU
Galarnad Llanddyfri
Anerchiad i'r Brutaniaid
Yn erbyn Consurwyr
Y Sabboth
IV Y TYMHORAU
Y Cynhaeaf Gwlyb
Y Flwyddyn 1629
V HELYNTION YR AMSEROEDD
Croeso'r Prins
Y Rhyfel Mawr
VI CANEUON Y PLA
1 Rhybudd i Gymru
2 Gweddi'r Eglwyswr
3 Byrdra Oes
4 Cyngor i'r Claf
5 Gweddi'r Claf
6 Galw offeiriad a meddyg, gochel swynwr
7 Gwneyd Ewyllys
VII PYNCIAU FFYDD A MOES
Gwell Duw na dim
Ennill Colledus
Ewyllys Rydd
Pechod Gwreiddiol
Cwymp oddiwrth Ras
Duw sy'n trefnu
VIII
GWEDDIAU
Yn erbyn Gorthrymder
Dros yr Eglwys
Y Darluniau.
LANYMDDYFRIO'r Oriel Gymreig, gan JOHN THOMAS.
"Cefaist rybudd lawer pryd.
Nid yw cyngor 'moethyn id."
CARTREF IECHYD A CHARTRE'R PLAS. MAURICE JONES.
Golygfa yng Nghymru ac yn Llundain.
TY'R FICERO wawl arlun gan OWEN M. EDWARDS.
"Minne'th lithiais a di-sigil
Addewidion yr Efengyl."
Y GYNULLEIFA DDIFRAWARTHUR E. ELIAS
"Cenais bibau, ond ni ddawnsiaist;
Tost gwynfannais, nid alaraist."
UNIGRWYDD.ARTHUR E. ELIAS.
"Heb un dyn i weini iti,
Na'th areilio, na'th gomfforddi."
MASNACH A DINAS DAN Y PLA ARTHUR E. ELIAS.
"Mae dy blag mewn cydau lliain.
Eto, yn siopau marchants Llundain,"
LLUNDAIN Adeg y PlaARTHUR E. ELIAS.
"Gwel y lladdfa wnaeth e'n Llundain,
Er maint oedd eu cri a'u llefain."
CASTELL LLANYMDDYFRIO wawl arlun gan OWEN M. EDWARDS.
EGLWYS LLANDINGADO'r Oriel Gymreig, gan JOHN THOMAS.
Trusia hi fel dy anwyl briod.
Na'd un gelyn byth i gorfod."
Rhai Geiriau.
Anniben, 32, heb derfyn, endless.
Brecus, 48, toredig.
Brynti, bryntni, 13. 25, 27. 33. 50, budreddi, aflendid.
Brywus, 32, prysur, egniol.
Bwmbwl. 29, bubble, cloch ddwfr.
Callod, 31, 93. fungi, cibau, husks.
Canis, 93. blawd gwenith.
Caraniswyr.62 crane men. cranagers.
Carc, 10, 106, gofal.
Carcus, 30, 103, gofalus.
Cathrain, 52, 91, galw ar, gorchymyn i.
Cawdelu, 37, cymysgu.
Cest, 88, belly.
Cowyn. 55. pla.
Crilie, 88, bellies.
Cobyn, pate, pen.
Crach bentre. 49. pentre bychan, distadl, ond yn honni bod yn enwog.
Cred, 51, 86, Christendom.
Cwnnu y gawnen, 31, bod yn drech na.
Cyffrddonau, 79, moddion meddygol.
Chwarren, 52, gelwid y pla ar yr enw hwn oherwydd mai yn chwarennod y tarddai.
Debidion, 50, deputies.
Dehoryd, 54, rhwystro.
Didri, 35. perplexity, penbleth.
Diffin, 35, byth.
Digasogion, 111, rhai'n cashau.
Duw Ecron, 79, Baalzebub, 2 Bren. i. 16.
Dygibo, 49, snatch away.
Ferdid, 57. verdict.
Ffinion, 27, 38, ffiaidd, budr.
Ffris, 17, friese, brethyn garw.
Ffusto, 105, curo.
Glaw, hirlaw, curlaw, 15, 37. 39. 40, 92, 104, 111; gwlaw.
Graban, 30, swp, gwinllan.
Gryddfu, 40, 87. poeni.
Gwaddaeth, 58. goddaith. Cym. gwachael, 108, gochel; gwabar, 63. gwobr.
Gweli, 74, clwyf, archoll.
Gwylhersu, 107, dilyn chwareu.
Haeachen, 93, almost.
Heiniar, 38, 82, yd, crop.
Hel, 110, anfon.
Irad. 75. alaethus, enbyd.
Mosiwn, 48, motion.
Juncats, 18, melusfwyd. caws melus.
Lacs, lax, diferlif, Luc viii. 43.
Lasie, 62, laces.
Liflod, 106, livelihood.
Lladmer, 43, Lladinwr, cyfieithydd.
Llyn, 58. fel hyn.
Maethgen, 51, cerydd, cosb.
Metswn, 53. 59, medicine.
Misgawn, 93. carn o ysgubau.
Mustro, go, muster, dod i derfysgu.
Mwnwg, 18. gwddf.
Nadu, 89, gwrthod gadael.
Ocru, 50, to practice usury.
Oflyd, mouldering, 94. traoflyd, traha ffiaidd.
Osgl. 111, cangen.
Pascwch, 59, hwch basgedig,
Pilboeth, 33. at white heat. Ai chwilboeth yw'r gair?
Pilcorn, 93, peeled corn.
Pinni, 93. lleithder.
Poban, 30, ffwrn.
Prudd, 9, 14. 18, 35, 76, 106, dwys, difrif, ystyriol.
Pŵr Jon, 62, pysg gwael; o "John" neu jaune (melyn).
Rhebycu, 76, rebuke,
Rhydi, 93, rhwd lleithder neu or-grasiad.
Saeds a ryw. 53. sage and rue.
Salisbury, 9, Thomas Salisbury, a gyhoeddodd, yn 1603.
Salmau Dafydd o gyfieithiad cynghaneddol y Capten
William Middleton.
Scliffio, 76, 84, ysglifio, ysglyfaethu.
Selyf. 46, Solomon.
Sgil, 57. yscil, ol. lledol.
Siaflyn. 57. javelin, dart.
Siamas, 46, James I.
Sicc. 31, trwyth sur, golch.
Sopaslyd, 38, gwlyb sopen.
Suddas. 17, Judas.
Tesni, 8, destiny. fortune.
Trwcle, 60, trucks.
Twtan, 65, fussing about.
Tyrchod. 110, moch.
Wtro, utter, sell; lisens wtro, 90, license to utter.
Ymhwedd, 51, 73. ymbil, erfyn.
Ymwnc. 55. sydyn.
Ysgafn, ysgawn, o yd, 93 heap of corn.
TY'R FICER, LLANYMDDYFRI.
"Bore codais, gyda'r ceiliog."
Hir ddilynais, byth yn d'annog.
Y FICER PRICHARD.
ANNERCH Y FICER.
OGONIANT Duw, a lles Britaniaid,
Canlyniaeth ffryns, a gwaedd y gweiniaid,
Y wnaeth printio hyn o lyfran,
A'i roi rhwngoch, Gymry mwynlan.
Abergofi pur bregethiad,
Dyfal gofio ofer ganiad,
A wnaeth im droi hyn o wersau,
I chwi'r Cymry, yn ganiadau.
Am weld dwfn-waith enwog Salsbury,
Gan y diddysg heb ei hoffi,
Cymrais fesur byrr cyn blaened,
Hawdd i'w ddysgu, hawdd i'w 'styried.
Gelwais hon yn Ganwyll Cymro,
Am im chwennych brudd oleuo
Pawb o'r Cymry diddysg, deillion,
I wasanaethu Duw yn union.
Er mwyn helpu'r annysgedig,
Sydd heb ddeall ond ychydig,
Y cynhullais hyn mor gyson:
Mae gan eraill well athrawon.
Duw oleuo pawb o'r Cymry,
I'w wir 'nabod a'i wasanaethu;
Duw a wnel i hyn o Ganwyll
Roi i'r dall oleuni didwyll.
Arglwydd grasol, na ryfedda
Weld eglwyswr tlawd i'th goffa,
Ac yn mentro, urddas Cymru,
A'r fath lyfrau dy anrhegu.
Dy sel at Eglwys Crist a'i hurddas,
Dy wasanaeth da i'th brins a'th deyrnas,
Dy serch a'th garc at genel Cymru,
Y bair i bawb dy anrhydeddu.
Ymhlith miloedd a'th anrhegant
A thalentau mawr ei moliant,
Arglwydd da, cenhada finne
Dy gydnabod â'm demeie.
Cymrodd Arglwydd yr arglwyddi
Rodd y weddw dlawd heb siomi,
Er na thale'i rhodd ond dime,
Am roi'r cwbwl ag a fedde.
Cymer dithe, arglwydd serchog,
Rodd o'r fath gan wr dyledog,
Sy'n 'wlly sgar i'th anrhegu
A rhodd well pe bae'n ei feddu.
Haeddaist well, diddanwch Cymru,
Cawsit well pe base genni;
Pwysa'r rhodd yn ol yr 'wyllys,
Hi gydbwysa roddion prinsys.
II
Y BEIBL BACH. [1]
Cyngor i wrando ac i ddarllen Gair Duw.
CAIS gŵr, na gwraig, na bachgen,
Ddysgu'r ffordd i'r nefoedd lawen,
Ceisied Air Duw i'w gyfrwyddo,
Onid e fe aiff ar ddidro.
Mae'r nef ymhell, mae'r ffordd yn ddyrys,
Mae tramwy'n fach, mae rhwystre anhapus,
Mae'r porth yn gul i fyned trwyddo,
Heb oleu'r Gair nid eir byth ato.
Mae'r nef uwch law yr haul a'r lleuad,
Mae'r ffordd yn ddieithr i ti ddringad,
Rhaid Crist yn ysgol cyn dringadech,
A'i Air yn ganwyll cyn canfyddech.
Mae llawer craig o rwystre cnawdol
Mae llawer môr o drallod bydol;
Cyn mynd i'r nef, rhaid myned drostynt,
Heb oleu'r Gair nid eir byth trwyddynt.
Mae llawer mil o lwybre ceimion,
O ddryswch blin, o ffosodd dyfnion;
Cyn mynd i'r nef, 'rwy'n dywedyd wrthyd,
Heb oleu'r Gair, ni elli eu gweglyd.
Di elli fynd i uffern danllyd,
Lwyr dy ben, heb un cyfrwyddyd,
Nid aiff neb i'r nef, gwnaed allo,
Heb y 'Fengyl i'w gyfrwyddo.
Nid goleu'r haul, nid goleu'r lleuad,
Nid goleu'r dydd, na'r ser sy'n gwingad ;
Ond goleu'r Gair, a'r 'Fengyl hyfryd,
All dy oleuo i dir y bywyd.
Cymer lantern Duw'th oleuo,
A'r Efengyl i'th gyfrwyddo;
Troedio'r llwybr cul orchymynwys,
Di ai'n union i baradwys.
Y Gair yw'r ganwyll a'th oleua,
Y Gair yw'r gennad a'th gyfrwydda,
Y Gair a'th arwain i Baradwys,
Y Gair a'th ddwg i'r nef yn gymwys.
Dilyn dithau oleuni'r Gair,
Gwna beth archodd un-Mab Mair,
Gochel wneuthur a wrafunwys,
Di ei'n union i Baradwys.
Seren wen sy'n arwain dyn
O fan i fan at Grist ei hun,
'Yw'r Efengyl i gyfrwyddo
Pawb i'r nefoedd a'i dilyno.
Bwyd i'r enaid, bara'r bywyd,
Gras i'r corff, a maeth i'r yspryd,
Lamp i'r droed, a ffrwyn i'r genau,
Yw Gair Duw, a'r holl 'Sgrythyrau.
Llaeth i fagu'r gwan ysprydol,
Gwin i lonni'r trist cystuddiol,
Manna i borthi'r gwael newynllyd,
Ydyw'r Gair a'r 'Fengyl hyfryd.
Eli gwych rhag pob rhyw bechod,
Oyl i ddofi gwyn cydwybod,
Triag gwerthfawr rhag pob gwenwyn,
Ydyw'r Gair, a balsam addfwyn.
Mwrthwl dur i bario'n cnape,
Bwyall lem i dorri'n ceincie,
Rheol gymwys i'n trwsiadu,
Ydyw'r Gair, ac athro i'n dysgu.
Udgorn pres i'n gwysio i'r frawdle,
Cloch i'n gwawdd i wella'n beie,
Herawld yn proclaimio'n heddwch,
Ydyw'r Gair, a'n gwir ddiddanwch.
Y Gair yw'r drych sy'n gwir ddinoethi
Ein holl frychau, a'n holl frynti,
Ac yn erchi in' eu gwella,
Tra fo'r dydd a'r goleu'n para.
Y Gair yw'r had sy i'n hadgenhedlu
Yn blant i Dduw, yn frodyr Iesu,
Yn deulu'r nef, yn deml i'r Yspryd,
Yn wir drigolion tir y bywyd.
Heb y Gair nid wy'n dychymyg
Pa wedd y bydd un dyn cadwedig;
Lle mae'r Gair yn benna' o'r moddion
Ordeiniodd Crist i gadw'r Cristion.
Heb y Gair ni ellir 'nabod
Duw, na'i natur, na'i lân hanfod,
Na'i Fab Crist, na'r sanctaidd Yspryd,
Na rhinweddau'r Drindod hyfryd.
Heb y Gair ni ddichon undyn
'Nabod 'wyllys Duw, na'i ganlyn,
Na gwir ddysgu'r ffordd i addoli,
Nes i'r Gair roi iddo oleuni.
Heb y 'Sgrythyr ni ddealla
Undyn byth ei gwymp yn Adda,
Na'i drueni, na'i ymwared
Trwy Fab Duw o'r fath gaethiwed.
Heb y Gair ni all neb gredu
Yng Nghrist Iesu fu'n ei brynu;
Can's o wrando'r Gair yn brudd
Y mae i Gristion dderbyn ffydd.
Heb y Gair nid yw Duw'n arfer
Troi un enaid o'i ddiffeithder;
Ond trwy'r Gair mae'n arferedig
Droi eneidiau fo cadwedig.
A'r Gair y trodd yr Apostolion,
Y Cenhedloedd yn Gristnogion;
Heb y Gair peth dieithr yw
Troi pechadur byth at Dduw.
A phregethiad un Efengyl
Y trodd Peder gwedi tair-mil
O Iddewon i wir gredu,
Ar ol iddynt ladd yr Iesu.
Trwy had y Gair yr adgenhedla
Yspryd Duw'r pechadur mwya,
Ac a'i gwna yn oreu ei ryw,
Yn frawd i Grist, yn fab i Dduw.
Y Gair sy'n cynnwys ynddo'n helaeth,
Faint sydd raid i iechydwriaeth:
Chwilia hwn, a chais e'n astud,
Ynddo mae'r tragwyddol fywyd.
Crist sy'n erchi it' lafurio
Am y Gair, a'th draed a'th ddwylo,
Mwy nag am y bwyd a dderfydd,
O chwenychi fyw'n dragywydd.
Fel y llef dyn bach am fronne,
Fel y cais tir cras gafode,
Fel y brefa'r bydd am ffynnon,
Llef am eiriau'r 'Fengyl dirion.
Gwerth dy dir, a gwerth dy ddodrefn,
Gwerth dy grys oddiam dy gefen,
Gwerth y cwbl oll sydd gennyd,
Cyn y bech heb Air y bywyd.
Gwell it' fod heb fwyd, heb ddiod,
Heb dŷ, heb dân, heb wely, heb wasgod,
Heb oleu'r dydd a'r haul garuaidd,
Na bod heb y 'Fengyl sanctaidd.
Tost yw aros mewn cornelyn,
Lle na oleuo'r haul trwy'r flwyddyn;
Tostach trigo yn y cwarter
Lle na oleuo'r Gair un amser.
Na thrig mewn gwlad heb law ar brydie,
Mewn glynn heb haul, mewn tŷ heb ole,
Mewn tre' heb ddwr, mewn llong heb gwmpas,
Mewn plwyf heb ryw bregethwr addas.
Gado'r wlad, y plwyf, a'r pentre,
Gado'th dad, a'th fam, a'th drase,
Gado'r tai, a'r tir yn ebrwydd,
Lle na bytho Gair yr Arglwydd.
Gwell it' drigo mewn gogofe,
A chael gwrando'r 'Fengyl weithie,
Nag it' drigo mewn gwlad ffrwythlon,
Lle na bytho'r 'Fengyl dirion.
Tost yw trigo mewn tywyllwch,
Lle na chaffer dim diddanwch;
Tostach trigo yn rhy hair,
Lle na chaffer gwrando'r Gair.
Nid gwaeth trigo ymysg y Twrcod,
Sydd heb ofni Duw na'i 'nabod,
Nag it' drigo'n dost dy dreigyl,
Lle na chlywer Crist na'i 'Fengyl,
Tynn i Loeger, tynn i Lundain,
Tynn dros for tu hwynt i Rufain,
Tynn i eitha'r byd ar dreigyl,
Nes y caffech gwrdd â'r 'Fengyl.
Blin it' weld yr haul a'r glaw,
Mewn plwyfe o ddeutu, yma a thraw,
A'th blwyf dithe (peth yscymun),
Heb na haul na glaw trwy'r flwyddyn.
Oni bydd un bregeth ddurfing,
Yn y plwyf lle bech yn taring,
Dos i maes i'r plwyf lle i bytho,
N'âd un Sabboth heb ei gwrando.
Pan fo eisie ar dy fola,
Di ai i'r gell i geisio bara;
Pan fo newyn ar dy enaid,
Nid ai i unlle i geisio ei gyfraid.
Beth y dâl it' borthi'r corffyn,
O bydd d'enaid marw o newyn?
A all dy gorff di gael difyrrwch,
Pan fo d'enaid marw o dristwch?
Drwg it' ladd y corff a newyn,
Eisie bara tra fo'r flwyddyn;
Gwaeth o lawer lladd yr yspryd,
Eisie ei borthi â bara'r bywyd.
Llef gan hynny ar y 'ffeiriaid,
Am roi bwyd i borthi d'enaid,
'R wyt ti'n rhoi dy ddegwm iddyn,
Pâr i nhwyntau dorri'th newyn.
Gwrando'r Gair o enau'r 'ffeiriad,
Fel o enau Crist dy Geidwad,
Crist a roes awdurdod iddo,
I'th gynghori a'th rybuddio.
O' par Crist i 'ffeiriad noethlyd
Dy rybuddio i wella'th fywyd,
'Rwyt ti'n rhwym i wneuthur archo,
Pe doe asen i'th rybuddio.
Pe doi Suddas i bregethu
'Fengyl Crist, ti ddylid ei dysgu,
Fe all y 'Fengyl gadw d'ened,
Er i'th athro dost gamsynied.
Os dy fugail sydd anweddaidd,
A'i athrawiaeth yn Gristnogaidd,
Dysg y wers, na ddysg ei arfer,
Gochel feiau Paul a Pheder.
Na wna bris o'i wedd na'i wisgiad,
P'un ai gwych ai gwael fo'i ddillad;
Nid llai grym y 'Fengyl gyngan,
O'r siaced ffris na'r gasog sidan.
Cymer berl o enau llyffan,
Cymer aur o ddwylo aflan,
Cymer win o botel fudur,
Cymer ddysg o ben pechadur.
Gwrando 'Fengyl, Crist yw i hawdwr,
Pa fath bynna' fo'r pregethwr.
Prisia'r Gair, na phrisia'r gennad,
Crist ei hun a'i helodd atad.
Cadw'r geiriau yn dy galon,
N'ad eu dwyn gan gigfrain duon;
Had yw'r Gair i'th adgenhedlu,
Os i'r galon y derbyni.
Dyfal chwilia di'r 'Sgrythyre,
Darllen Air Duw nos a bore;
Dilyn arch y Gair yn ddeddfol,
Hynny'th wna di'n ddoeth anianol.
Cadw'r Gair bob pryd i'th galon,
Ac hyspysa hwn i'th feibion;
Sonia am dano nos a bore,
I mewn, i maes, wrth rodio ac eiste.
Dod e'n gadwyn am dy fwnwg',
Dod e'n rhactal flaen dy olwg,
Dod e'n signet ar dy fysedd,
Na ddos hebddo led y droedfedd.
Gwna'r Gair beunydd yn gydymeth,
Gwna'n gywely it' bob nosweth,
Gwna e'n gyfaill wrth siwrneia,
Gwna'r peth archo wrth chwedleua.
Gwna fe'n ben cynghorwr iti,
Gwna fe'n athro i'th reoli;
Fe ry'r Gair it' gan gwell cyngor,
Nag a roddo un rhyw ddoctor.
N'ad ei drigo yn yr Eglwys
Gyd a'r 'ffeiriad'r hwn a'i traethwys,
Dwg ef adref yn dy galon,
Ail fynega rhwng dy ddynion.
Gwna di'r Gair yn ddysgled benna',
Ar dy fwrdd tra fech yn bwyta ;
Gwedi bwyta, cyn cyfodi,
Boed y Gair yn juncats iti.
Rho i'th enaid, nos a bore,
Frecffast fechan o'r 'Sgrythyre,
Rho iddo giniaw brudd a swper,
Cyn yr elych i'th esmwythder.
Fel y porthi'r corff â bara,
Porth dy enaid bach â'r manna,
N'ad i'th enaid hir newynu,
Mwy na'r corff sy'n cael ei fagu,
Mae'r Bibl bach yn awr yn gyson,
Yn iaith dy fam, i'w gael er coron,
Gwerth dy grys cyn bod heb hwnnw,
Mae'n well na thref dy dad i'th gadw.
Gwell nag aur, a gwell nag arian,
Gwell na'r badell fawr na'r crochan:
Gwell dodrefnyn yn dy lety,
Yw'r Bibl bach na dim a feddi.
Fe ry gonffordd, fe ry gyngor,
Fe ry addysg gwell na doctor;
Fe ry lwyddiant a diddanwch,
Fe ry it lawer o ddedwyddwch.
Fe ry fara i borthi d'enaid,
Fe ry laeth i fagu'th weiniaid,
Fe ry win i'th lawenhau,
Fe ry eli i'th iachau.
Pwy na phryne y Bibl sanctaidd,
Sy mor werthfawr ac mor g'ruaidd?
Pwy na werthe'i dŷ a'i dyddyn,
I bwreasu'r fath ddodrefnyn?
Dyma'r perl y fynn yr Iesu
I bob Cristion doeth i brynu,
Fel y marsiant call a werthe,
I brynu hwn, faint oll a fedde.
Gan i Dduw roi i ni'r Cymry,
Ei Air sanctaidd i'n gwir ddyscu,
Moeswch i ni fawr a bychain,
Gwympo i ddyscu hwn a'i ddarllain.
Moeswch i ni, wŷr a gwragedd,
Gyd â'n gilydd heb ymhowedd,
Brynu bob un iddo lyfyr,
I gael darllain geiriau'r 'Sgrythyr.
Moeswch i ni bawb rhag gwradwydd,
Ddyscu darllain Gair yr Arglwydd;
Gan i Dduw ei ddanfon adre,
Atom bawb, yn iaith ein mame.
Nadwn fynd y gwaith yn ofer,
Y fu'n gostfawr i wŷr Lloeger,
Rhag na fedrom wneuthur cyfri
Ddydd y farn am gyfryw wrthni.
Gwŷr a gwragedd, merched, meibion,
Cymrwn ddysg oddiwrth y Saeson,
Y rhai fedrant bob un ddarllain,
Llyfr Dduw'n eu hiaith eu hunain.
Gwradwydd blin i ninnau'r Cymry,
Oni cheisiwn weithian ddyscu
Darllain Gair Duw, y 'Sgrythyre,
Gan eu printio'n iaith ein mame.
Ni chyst Bibl i ni weithian
Ddim tu hwnt i goron arian,
Gwerth hen ddafad y fo marw
Yn y clawdd ar noswaith arw.
O meder un o'r tylwyth ddarllain
Llyfr Duw yn ddigon cywrain,
Fe all hwnnw'n ddigon esmwyth
Ddyscu'r cwbl o'r holl dylwyth.
Ni bydd Cymro'n dyscu darllain
Pob Cymraeg yn ddigon cywrain
Ond un misgwaith (beth yw hynny?)
Os bydd ewyllys ganddo i ddyscu.
Mae'n gwilyddus i bob Cristion,
Na chlyw arno stofio coron,
Ac un misgwaith o'i holl fywyd,
Ynghylch dyscu'r 'Fengyl hyfryd.
Mae'r cobleriaid a'u morwynion,
A'r rhai gwaetha' 'mysc y Saeson,
Bob yr un â'r Bibl ganthynt,
Ddydd a nos yn darllain ynddynt.
Mae'r penaethiaid gyda ninnau,
A'u tableri ar eu bordau,
Heb un Bibl, nac un plygain,
Yn eu tai, na neb i'w darllain.
Peth cwilyddus gweld cobleriaid
Yn rhagori ar benaethiaid,
Am gadwraeth eu heneidiau,
A'r peth rheita' mewn neuaddau.
Y cobleriaid hyn a gyfyd,
Ddydd y farn, yn anian acthlyd,
I gondemnio'r fath benaethiaid,
Sydd mor ddibris am yr enaid.
Pob merch tincer gyda'r Saeson
Feder ddarllain llyfrau mawrion;
Ni wyr merched llawer scwier
Gyda ninne ddarllain pader.
Gwradwydd tost sydd i'r Brutaniaid,
Fod mewn crefydd mor ddieithriaid,
Ac na wyr y canfed ddarllain
Llyfr Duw'n eu hiaith eu hunain.
Bellach moeswch in', rhag cwilydd,
Bob rhai ddyscu pwyntiau crefydd,
Ac ymroi i ddyscu darllain
Llyfr Duw 'n ein hiaith eu hunain.
Felly gallwn ddyscu 'nabod
Y gwir Dduw, a'i ofni'n wastod,
Ac o'i 'nabod, ei wir ofni,
Fe ry ddidranc fywyd inni.
Duw ro ras a grym i Gymru
Nabod Duw, a'i wir wasnaethu ;
Crist a nertho bob rhai ddarllain
Llyfr Duw 'n eu hiaith eu hunain.
GWEDDI'N ERBYN GORTHRYMDER.
DIHUN, dihun, paham y cysgaist?
Erioed hyd hyn, fy Nuw, ni hepiaist;
Nid Baal wyt; O danfon swcwr,
Tynn dy was o dost gyfyngdwr.
Sych fy nagre, torr fy magal,
Gwared fenaid, llaesa 'ngofal,
Gwel fy nghystudd, clyw fy nghwynfan,
Barn fy hawl, rhyddha fi weithian.
Fy nghraig i wyt, O n'ad fi syrthio,
Fy nhŵr cadarn, n'ad f'anrheithio,
Fy Nuw, fy Ner, O! dere i'm helpu,
Fy nefawl Dad, n'ad fy ngorthrymu.
Galluog wyt, di elli helpu,
Unig ddoeth, y modd ti fedri;
Drugarog Dad, O! dere â swcwr,
Hawdd yw'th gael mewn tost gyfyngdwr
Gwradwydda fwriad fy ngelynion,
Atal falchder fy nghaseion;
Gwasgar gyngor tyrfa waedlyd,
Er mwyn Crist rhyddha fi o'm pennyd.
GWELL DUW NA DIM.[2]
Os tad, os mam, os mab, os merch,
Os tai, os tir, os gwraig trwy serch,
A gais dy droi yn draws ne yn drist,
Oddiwrth dy gred a'th serch at Grist,
Gad dad i droi, gad fam i wylo,
Gad wraig i ysgoi, gad blant i grio,
Gad dai, gad dir, gad faeth, gad fywyd,
Cyn gado Crist, gad faint sydd gennyd.
Bydd Crist yn dad, yn fam, yn frawd,
Yn graig, yn gaer, yn ffrind, yn ffawd,
Yn gyfoeth mawr, yn lles, yn llwyddiant,
Yn bob peth cu i bawb a'i carant.
Heb Grist, heb gred, heb faeth, heb fywyd,
Heb ddull, heb ddawn, heb nerth, heb iechyd,
Heb hop, heb help, heb ras, heb rym,
Heb ddysg, heb dda, heb Dduw, heb ddim.
Gwell Duw na'r nef, na dim sydd ynddi,
Gwell na'r ddaiar, na'r maint sydd arni,
Gwell na'r byd, na'i olud in,
Gwell, a dou well, Duw na dim.
Gwell na thad, na mam, na mamaeth,
Gwell na chyfoeth, na 'tifeddieth,
Gwell na Mair, gwell na Martha,
Gwell na dim yw Duw gorucha'.
Os Duw ddewisiaist yn dy ran,
Cei Grist i'th gynnal ymhob man,
Cei'r saint i'th gylch, cei'r byd i'th garu,
Cei'r nef i'th ran, cei'r fall i'th ofni.
Ti ddewisiaist y rhan benna,
Pan ddewisiaist Dduw gorucha';
Rhan na ddygir byth oddi arnad,
Tra pharhaffo'r haul a'r lloyad.
]]
Y GYNULLEIDFA DDIFRAW.
Ceisiais drwy deg, a thrwy hagar,
Ni chawn gennid ond y gwatwar."
GALARNAD LLANDDYFRI.
MENE Tecel,[3] Tre Llanddyfri,
Pwysodd Duw di yn dy frynti;
Ni chadd ynnod ond y sorod;
Gwachel weithian rhag ei ddyrnod.
Gwialen dost sydd barod iti,
Er ys dyddie am dy frynti;
A'th anwiredd sy'n cynyddu;
Gwachel weithian gael dy faeddu.
Hir yr erys Duw heb daro,
Llwyr y dial pan y delo:
Am yr echwyn a'r hir scori,
Och! fe dal ar unwaith iti.
Mae'n rhoi amser iti wella,
Mae'n rhoi rhybudd o'r helaetha;
Cymer rybudd tra fo'r amser,
Onide gwae di ar fyrder.
Pa hwya mae Duw'n aros wrthyd,
Am edifeirwch a gwell fywyd,
Waethwaeth, waethwaeth yw dy fuchedd
Ond gwae di pan ddel y diwedd.
Lle bo Duw yn hir yn oedi,
Heb roi dial am ddrygioni,
Trymaf oll y fydd ei ddyrnod,
Pan y del i ddial pechod.
Gwachel dithe ddial Duw,
Fe ddaw ar frys, er llased yw;
A'i draed o wlan, a'i ddwrn o blwm,
Lle delo'n llaes fe dery'n drwm.
Tebyg ydwyt i Gomora,
Sodom boeth, a thref Samaria,
Rhai na fynnent wellhau hyd farw,
Nes eu troi yn llwch a lludw.
Tebyg ydwyt ti i Pharao,
Oedd a'i galon wedi'i serio,
'R hwn na fynne wellhau ei fuchedd,
Nes ei blagio yn y diwedd.
Cefaist rybudd lawer pryd,
Nid yw cyngor 'moethyn id',
Nid oes lun it wneuthur esgus;
O! gwae di, y dre anhapus.
Bore codais gyda'r ceiliog,
Hir ddilynais byth yn d'annog
Droi at Dduw oddiwrth dy frynti,
Ond nid oedd ond ofer imi.
Cenais iti'r udgorn aethlyd,
O farn Duw a'i lid anhyfryd,
I'th ddihuno o drymgwsg pechod,
Chwrnu er hyn wyt ti yn wastod.
Minne'th lithiais â di-sigil
Addewidion yr Efengyl,
Yn fwyn i'th wa'wdd i edifeirwch;
Ond ni chefais ond y tristwch.
Mi'th fwgythais dithau â'r gyfraith,
A dialau Duw ar unwaith,
Geisio ffrwyno d'en rhag pechu;
Ffrom a ffol wyt ti er hynny.
Cenais bibeu, ond ni ddawnsiaist,
Tost gwynfannais, nid alaraist;
Ceisiais trwy deg, a thrwy hagar,
Ni chawn gennid ond y gwatwar.
Beth a alla i wneuthur weithian,
Ond i thynnu i ochor ceulan,
I wylo'r deigrau gwaed pe gallwn,
Weld dy arwain tua'r dwnjiwn?
Pwy na wyle weled Satan,
Yn dy dynnu wrth ede sidan,
I bwll uffern yn dragwyddol,
A'r bach a'r bait o bleser cnawdol?
Esau werthe ei 'difeddiaeth,
Am y phiolaid gawl ysywaeth;
Dithe werthaist deyrnas nefoedd,
Am gawl brag, do, do o'm hanfodd.
Dyma'r peth sy'n torri 'nghalon,
Wrth dy weled di'n awr mor ffinion,
Orfod prwfio hyn yn d'erbyn,
Dydd y farn, heb gelu gronyn.
Tost yw gorfod ar y tad,
Ddydd y farn, heb ddim o'r gwâd,
Dystiolaethu, o led safan,
Yn erbyn brynti'i blant ei hunan.
Hyn y fydd, a hyn y ddaw,
Oni wellhai y'maes o law;
Er mwyn Crist gan hynny gwella,
Rhag i ddial Duw dy ddala.
Gwisga lenn a sach am danad,
Wyla nes bo'th wely'n nofiad;
Ac na fwyta fwyd na diod,
Nes cael pardwn am dy bechod.
Cur dy ddwy-fron, tynn dy wallt,
Wyla'r deigre dwr yn hallt;
Cria'n ddyfal iawn," Peccavi,[4]
Arglwydd, maddeu 'meiau imi."
Bwrw ymaith dy ddiffeithdra,
Twyll, a ffalstedd, a phuteindra,
Gad dy fedd-dod, cladd dy frynti,
Mae Duw'n gweld dy holl ddrygioni.
Mae dy farn wrth ede wen,
Yn crogi beunydd uwch dy ben.
Mae dy blant a phob ei reffyn,
Yn ei thynnu ar dy gobyn.
Gochel bellach, dal dy law,
Dial Duw fel bollt a ddaw:
Rhoi it' rybudd prudd sydd raid,
Oni chym'ri rybudd, paid.
ANERCHIAD I'R BRUTANIAID.
AIL Brutus fab Sylfus, Brutaniaid brwd hoenus,
Caredig, cariadus, cyd-redwch i'm bron,
I wrando'n 'wyllysgar, â chalon ufuddgar,
Fy llefain a'm llafar hiraethlon.
Mae rhôd y ffurfafen yn dirwyn yn bellen
O'n heinioes nes gorffen, heb orffwys nos na dydd;
A ninne heb feddwl, nes dirwyn y cwbwl,
Yn cwympo i'r trwbwl tragywydd.
Fel llong dan ei hwyle, yn cerdded ei siwrne,
Tra'r morwyr yn chware, neu chwyrnu ar y nen,
Mae'n heinoes yn pasio, bob amser, heb staio,
Beth bynnag a wnelo ei pherchen.
Mae'r ange glas ynte, yn dilyn ein sodle,
A'i ddart, ac â'i saethe, fel lleidir di-sôn;
Yn barod i'n corddi, yng nghanol ein gwegi,
Pan fom ni heb ofni ei ddyrnodion.
A'r bywyd fel bwmbwl ar lynwyn go drwbwl,
Sy'n diffodd cyn meddwl ei fod ef yn mynd;
A ninne cyn ddyled nad ym yn ei weled,
Nes darffo iddo fyned i helynt.
Mae'r byd ynte'r cleirchyn, yn glaf ar ei derfyn,
Bob ennyd yn 'rofyn rhwyfo tua'i fedd;
A'i ben wedi dotio, a'i galon yn ffeintio,
A'i fwystfil yn wastio yn rhyfedd.
Rým ninnau blant dynion, heb arswyd nac ofon,
Yn trysto gormoddion i'r gŵr marwaidd hen;
Fel morwyr methedig, a drystant mewn perig',
I'r llongau sigedig, nes sodden.
O! nedwch in' drysto i'r byd sy'n ein twyllo,
Fel iâ pan y torro, gric, dan ein tra'd,
A'n gollwng heb wybod, i'r farn yn amharod,
Cyn ini gydnabod ei fwriad:
Ond moeswch yn garcus in' bawb fod yn daclus,
I fyned yn weddus, nis gwyddom pa awr,
O flaen y Messias, yng ngwisg y briodas,
A thrwsiad cyfaddas i'r neithiawr.
A nadwch ein dala, pan ddêl yr awr waetha,
Mewn medd-dod, puteindra, rhag rhwystro i'r daith,
Heb oyl yn ein llestri, heb gownt o'n talenti,
A'r cwbwl o'n cyfri' yn berffaith.
Mae'r fwyall ar wreiddie y cringoed er's dyddie,
Mae'r wyntyll yn dechre dychryn yr ûs;
Mae'r angel â'r cryman yn bwgwth y graban,
I'w bwrw i'r boban embeidus.
Mae'r farn uwch ein penne, mae'r dydd wrth ein dryse,
Mae'r udgorn bob bore yn barod i roi blo'dd;
Mae'r môr a'r mynwentydd, ac uffern, yn ufudd
Roi'r meirw i fynydd a lyncodd.
A'r Barnwr sydd barod, a'r saint sy'n ei warchod,
A'r dydd sydd ar ddyfod i ddifa hyn o fyd;
A galw'r holl ddynion o flaen y Duw cyfion,
I gyfri am y gawson o'i olud.
'R ŷm ninne'n ymbesgi ar bechod a brynti,
Heb feddwl am gyfri na gorfod ei roi,
Yn wastio'n talente i borthi'n trachwante,
Doed barn, a'i diale, pan delo'i.
Fel cewri cyn diluw, fel Sodom cyn distryw,
F:el Pharo, a'r cyfryw, eu cyfri nid gwaeth,
Yr ydym yn pechu â'n grym ac â'n gallu,
Heb fedru 'difaru, ysywaeth.
Ymbesgi ar bechod, fel moch ar y callod,
Ymlenwi ar ddiod, fel ychen ar ddwr;
Ymdroi mewn puteindra, fel perchyll mewn llaca,
Yw'n crefydd, heb goffa cyfyngdwr.
Tyngu a rhegu, a rhwygo cig Iesu,
Ac ymladd am gwnnu y gawnen i gyd;
Cyfreithia'n rhy ddiriaid, nes mynd yn fegeriaid,
A gadel y gweiniaid mewn gofid.
Y mae'r haul, ac mae'r lleuad, yn gweld ein hymddygiad,
Mae'r ddaear yn beichiad ein buchedd mor ddrwg,
Mae'r sanctaidd angylion yn athrist eu calon,
O weled Cristnogion yn gynddrwg.
Mae'r 'ffeiriad, mae'r ffermwr, mae'r hwsmon a'r crefftwr,
Mae'r baili, a'r barnwr, a'r bonedd o'r bron,
Bob un am y cynta yn digio'r Gorucha,
Heb wybod p'un waetha'u harferion.
Mae'r 'ffeiriaid yn loetran, a'r barnwyr yn bribian,
Mae'r bonedd yn tiplan o dafarn i dwle;
Mae'r hwsmon oedd echdo heb fedru cwmnio,
Yn yfed tobacco yn ddidwlc.
Puteindra'r Sodomiaid, a medd-dod y Parthiaid,
Lledrad y Cretiaid, O credwch y gwir,
Ffalstedd gwlad Græcia, a gwan-gred Samaria,
Sy'n awr yn lletya ymhob rhandir.
Mae'n anfoes im draethu ein campau ni'r Cymry;
Rhag cwilydd mynegi'n hymddygiad i'r byd;
Eto, rhaid meddwl y traetha Duw'r cwbwl,
Pan ddelo'r dydd trwbwl i'w trefnyd.
Gwell i ni 'r awran gael clywed eu datgan,
Er peri i ni'n fuan 'difaru tra fom,
Na gweled ein taflu i'r tywyll garchardy,
O eisie 'difaru tra fyddom.
Gan hynny mi fynnwn gael gennych, pe gallwn,
Ymbilio am bardwn yr ennyd y boch;
A gwella'n 'wyllysgar, cyn eloi'n ddiweddar,
Rhag bod yn edifar pan ddeloch.
Mae'n ofer 'difaru, a chrio, a chrynnu,
Pan ddeler i'n barnu bawb ar y barr;
Ni cheir ond cyfiawnder, er cymaint y grier,
Pan elo hi'n amser diweddar.
Meddyliwn, gan hynny, cyn delo Crist Jesu
O'r nefoedd i'n barnu, bob un wrth ei ben,
Am fod yn edifar, a deisyf ei ffafar,
Cyn tafler ni i'r carchar anniben.
Fe ddaw yn dra digllon, a llu o angylion,
I ddial ar ddynion, ei ddirmyg mor ddu,
Yn daran echrydus i'r bobl anrasus,
Sy 'rwan mor frywus yn pechu.
Yna, o waith cymaint y fydd y digofaint,
Ei weision, a'i geraint, a garai mor gu,
A'i sanctaidd angylion, y grynant yn greulon,
Pan ddelo mor ddigllon i farnu.
Yr haul a dywylla, y lleuad a wrida,
Y nefoedd a gryna, bob modfedd yn grych,
Ar stowta o blant dynion, rhag echryd ac ofon,
A gria'n hiraethlon wrth edrych.
Fe dawdd y ffurfafen, fe syrthia pob seren,
Fe losga'r holl ddaren oddiarni yn boeth;
A'r tyrau a'r cestyll a gwympant yn gandryll,
A phob rhyw o bebyll a a'n bil-boeth.
Y creigyddd y holltant, y glennydd y doddant,
Y moroedd y sychant ar syrthiad y ser,
A phob rhyw fwystfilod, ymlusgiaid, a physgod,
Y drengan ar waelod y dyfnder.
Pa wasgfa, pa wewyr, pa gynffwrdd, pa gysur,
Y fydd gan bechadur na chodo ei big,
Pan gwelo'r fath drallod ar bob peth yn dyfod,
O herwydd ei bechod yn unig?
Brenhinoedd cadarnblaid, cewri, capteniaid,
Beilchion, a gwilliaid, gwycha'r awr hon,
A griant ar greigydd am bwnian eu 'mennydd,
A'u cuddio rhag cerydd Duw cyfion.
Yn hyn o lwyr drafel fe gân yr Archangel
Ei udgorn mor uchel, ond awchus y cri!
Nes clywo'r rhai meirw, yn grai ac yn groew,
Y llef yn eu galw i gyfri.
A'r meirw a godant, ar drawiad yr amrant,
O'r llwch lle gorweddant, pan glywant y cri,
A'r byw a newidir, a phawb a gyrhaeddir
I'r wybren lle bernir eu brynti.
Y Barnwr mawr, ynte, yn gyflym â'i gledde,
A'r dafal a'i bwyse, a bwysa ddrwg a da;
Gan rannu i'r eneidie, wrth gywir fesure,
Yn gyflawn i'r gore a'r gwaetha.
Nid edrych e'n llygad yr Emprwr na'r Abad,
Ni phrisia fe drwsiad na galwad un gŵr;
Ond rhannu cyfiawnder i'r Brenin a'r beger,
Heb ofni displeser na chryfdwr.
Fe egyr y llyfre, fe rwyga eu clonne,
Fe ddengys eu beie yn amlwg i'r byd;
Fe deifl anwiredd pawb yn eu dannedd,
Fe ddial ar gamwedd y gwynfyd.
Ni ddianc gair ofer, na'r ffyrling y dreulier,
Na'r funud a waster, heb ystyr na phwys;
Na gwagedd, na gwegi, na beie, na brynti,
Nes gorfydd eu cyfri yn gyfrwys.
Puteindra'r gwŷr mawrion, a'r gwragedd bon ddigion,
Sy'n arfer y gweision heb wybod i'r gwŷr,
A'r mawr-ddrwg a'r mwrddriad, y ffalstedd, a'r lledrad,
A wneir i bob llygad yn eglur.
Pa wyneb iradus, pa galon echrydus,
Pa gynffwrdd gofidus (gwae feddo'i fath),
A fydd y pryd hynny, gan bobl sydd heddy'
Mor ffyrnig yn pechu, ysywaeth!
Ni ddianc na llymaid, na thipyn, na thamaid,
Y roddir i'r gweiniaid, er mwyn Iesu gwynn,
Heb ymdal am dano, a chyfri', a chofio
Y briwsion a ballo y cerlyn.
Yno y detholir y defaid a'r geifir,
Ac yno y bernir pawb wrth y pôl,
Y defaid i'r deyrnas, mewn harddwch ac urddas,
A'r geifir i'r ffyrnais uffernol.
Yno yr a'r cyfion, yn llawen eu calon,
Mewn gynau tra gwynion, yn union i'r nef,
I dderbyn goresgyn o'r deyrnas ddiderfyn,
Y roddodd Duw iddyn' yn gartref.
A'r geifir damnedig, a'r bobol fileinig,
Sy 'rywan yn dirmyg y Barnwr a'r dydd,
A deflir yn g'lyme, mewn cedyrn gadwyne,
I uffern, i'r poene tragywydd.
Yn uffern y llefan, gan flined eu llosgfan,
Yn ebrwydd, ar Abra'm, am ddafan o ddwr;
Pe llefent hyd ddiffin, ni chânt hwy un dropyn,
Na thamaid, na thipyn o swcwr.
Can's yno'n dragywydd, mewn carchar a chystudd
(Heb obaith y derfydd eu dirfawr gur),
Yr erys anwiredd, yn rhincian eu dannedd,
Heb derfyn na diwedd o'u dolur.
Ac yno'r awn ninne, i estyn ein gwefle,
Am dreulio ein dyddie mewn pechod mor dal,
O ddiffyg in' wylio, a dyfal weddio,
A gwella, cyn delo'r dydd dial.
Meddyliwn, gan hynny, tra'r amser yn gadu,
Yn brudd edifaru, nid yw foru i neb,
A 'madael â'n brynti, a'n gwagedd, a'n gwegi,
Cyn delom i gyfri' ac ateb.
Duw Iesu dewisol, y brynaist dy bobol,
O'r ffwrnais uffernol, oedd ffyrnig ei phwys,
Cadw'n heneidie pan ddelont i'r frawdle,
A dwg hwy i gadeirie paradwys.
Os gofyn Deheubarth, na Gwynedd o unparth,
Pwy ganodd y dosparth, i'ch dispwyll rhag ing,
Eglwyswr, sy'n hoffi eich dad'raidd o'ch didri,
A'ch cofio am eich cyfri' cyfyng.
ENNILL COLLEDUS.
ENNILL canpunt, colli'r credyd,
Ennill bawach, colli bywyd,
Ennill cyfoeth, colli Crist,
Ennill trwm; ond colled trist.
Gwell ceiniog fach trwy ffordd ddigamwedd,
Na'r chweigien aur trwy drais a ffalstedd;
Y naill a lwydda'r ffordd y cerddech,
A'r llall a fwyty faint a feddech.
Gwell cae o dir trwy union bryniad,
Na gwlad o dir trwy dreisio bagad;
Trais hel d'enaid i boenydio,
A'th wraig yn dlawd, a'th blant ar ddidro.
Na wna gam âg un rhyw ddyn,
Gwell godde deg na gwneuthur un;
Os cam a wnai, rhaid ateb drosto,
Ond godde gam, cei iawn am dano.
Beth wnai di â'r geiniog drist a dreisech?
Fe fwyty hon y maint a feddech;
Ni fynn Duw na'i dŷ mo honi,
Yn ffroene Crist mae'r fath yn drewi.
Os prynu tir, hi bair ei werthu:
Os adail tai, hi'u try yn lludy;
Os rhoi i'th blant, hi gyrr ar anffod;
Os rhoi'r tlawd, mae Duw'n ei gwrthod.
Rho'r geiniog drais i'w hunion berchen,
Cyn tynno i'th dŷ rhyw farn aflawen;
Ni lwydda hon ymhlith dy weiniaid,
Mwy na'r arch ymysg estroniaid.
Y CYNHAEAF GWLYB.
RHEOLWR y nefoedd, a'r ddaiar a'r moroedd,
A'r tywydd, a'r gwyntoedd o'r glynnoedd, a'r glaw,
Clyw gwynfan tosturiol, ac achwyn dy bobol,
Gan dywydd dryc-hinol a hir-law.
Y mae'r gwynt, mae'r tonne, mae'r glaw a'r diale,
A'r ser yn eu gradde, a'r nefoedd yn grych,
Yn ymladd i'n herbyn, droseddwyr escymun,
I'n plago à newyn yn fynych.
Mae'r haul oedd i'n porthi, gwres a goleuni,
Yn awr gwedi sorri, yn edrych yn sur,
Gan ballu rhoi 'thwymder, a'i gwres wrth ei arfer,
Nes pydru'r naill hanner o'n llafur.
Mae'r lleuad yn wylo, fel gwraig a fai'n mwrno,
Bob nos mae'n ymguddio mewn cwmwl o'n gŵydd,
I ollwng ein deigre, gan amled o'n beie,
Nes soddi'r llafurie âg aflwydd.
Mae'r tonne cynddeiriog, a'r wybren gafodog,
A'r cymyle gwlybyrog, yn glawio bob awr
Afonydd o ddrwgfyd, gan gynddrwg o'n bywyd
I'n plago âg adfyd yn ddirfawr.
Mae'r ormes yn sathru y llafur sy'n tyfu,
Mae'r gwynt yn cawdelu y dalo o frig,
Nes iddo ddihidlo, a mallu, ac egino,
Gan wlaw yn ei guro yn ffyrnig.
Mae'r llafur s'eb fedi yn barod i golli,
Heb dywydd i'w dorri, nai daro ynghyd,
Mewn cyflwr anhygar; Duw, moes i'n dy ffafar,
I'w gwnnu o'r ddaiar sopaslyd.
Mae'r maint sy'n ei helem, fel gwellt yn y domen,
Yn ddigon anghymen, yng nghwman y dâs,
Yn twymo, yn mygu, yn llwydo, yn mallu,
A chwedi llwyr bydru o gwmpas.
Mae'r maint sy'n y 'sgubor, gogyfer a gogor
Yn twymo heb gyngor, yn mygu heb gel;
Yn barod i 'nynnu; Mab Duw, dere i'n helpu,
A na'd di lwyr fethu ein trafel.
A'r maint sydd ar feder ein cinio a'n swper,
Sydd gynddrwg ei biner, a'i dymer mor dost;
Ac oni chawn gennyd, Duw grasol, gyfrwyddyd,
Fe'n plagir ni âg adfyd hir-dost.
Agor dy lygad, O Arglwydd ein Ceidwad,
A chenfydd mor irad, it' weled mor hyll,
Holl ymborth Cristnogion yn pydru mor ffinion,
O eisie cae! hinon i gynnull.
Duw grasol, tosturia, difwynodd ein bara,
(Hir nychdod a faga dan fogel dy blant;)
O diffyg it ei rwystro, a'i ddyfal fendithio,
A rhoddi rhad arno a llwyddiant.
Duw, beth y feddyliwn, am had-ŷd y gwanwyn,
O ba le y ceisiwn, os cawn fyw yn cyd?
Mae pawb yn chwyrngar ddifwyno eu holl heiniar,
Duw, dangos dy ffafar am had-ŷd.
Duw grasol, tosturia, wrth ddefaid dy borfa,
Na thorr ffon ein bara, i beri i ni boen;
Madde'n trosedde, gwella'n drwg nwyde,
Cysura'n calonne di-hoen.
Gorchymyn i'r haulwen ymddangos drachefen,
Gwna'r lleuad a'r seren yn siriol i'th saint,
Rho hinon a chysur i'r poenfawr lafurwyr,
A dofa dy brysur ddigofaint.
Rhwylla'r wybrenne, a gwasgar y cwmle,
Cerydda'r catode, cu ydwyd a rhwydd;
Gostega'r dost ormes, rho degwch a chraster,
I'r llafur anghynnes, Arglwydd.
Ond yma, Duw'r gallu, 'rwy'n brudd yn cyffesu,
Mai'n pechod sy'n tynnu'r fath ddial ar ein traws,
A'th stormydd anrasol, a'r tywydd dryc-hinol,
I'n cospi, dy bobol rhy-draws.
Ti lenwaist ein bolie, mor gyflawn a'th ddonie,
Na chodem o'n beiste i ostwng ein glin,
I roddi it foliant, na chlod am ein porthiant,
Nes tynnu aflwyddiant i'n dilyn.
Yr eidion a'r asen a edwyn eu perchen,
A'r ci fydd llawen wrth ei portho â llaeth;
Ond pobol ddi-wybod ni fynnant gydnabod,
Nac adde' mo'r Drindod, eu Tad-maeth.
Yr wyt yn ein porthi ag amryw ddaioni,
Fel un a fai'n pesci pascwch, yn rhin;
Ni chodwn o'n penne i weld, mwy nag ynte,
O ble mae'r fath ddonie yn disgyn.
Gan hynny ti yrrest y storom a thempest,
I gospi ein gloddest à dryc-hin a glaw;
I beri i ni nabod, a gweled mai'r Drindod
Sy'n porthi ni'n wastod â'i ddwylaw.
Er maint o'r diale a roist am ein penne,
I gospi ein beie, gan gynddrwg ym yn byw;
Ni buom er y Concwest yn byw mor anonest,
A chymaint ein gloddest, ag heddyw.
A'r storom yn chwythu, a'r glaw yn ein gryddfu,
A'r llafur yn pydru heb adrodd ond gwir,
Yn nheie'r tafarne yn chwydu ddydd Sulie,
A'th gablu 'rym ninne, rai anwir.
Pan ddylem weddio, a phrysur repento
Mewn llwch, ac ymgreino am bardwn a gras,
A'th gywir wasnaethu, roe'm ninne'n dy gablu,
A'th rwygo a'th regi'n ddiras.
Pa fwyaf y ceisiwyd ein troi a'n dychwelyd,
I wella ein bywyd, a madel â'n bai;
Waethwaeth y pechem, fwyfwy y'th ddigiem,
Saith bellach y ciliem ninnau.
Pa fwya ddiale y roed am ein penne,
Bid newyn, bid cledde, bid clefyd, bid glaw;
Fwyfwy, fel Pharo, yr ym yn dy gyffro,
I'n poeni a'n plago â hir-law.
Nid rhyfedd gan hynny, dy fod yn ein maeddu,
Gan ddwblu a threblu ein maethgen â thrwst;
Ond mwy o ryfeddod, na roit ini ddyrnod,
A'n taflu i'r pwll isod yn ddidrwst.
Duw, maddeu'n styfnigrwydd Duw, dofa'th lidiawgrwydd,
Tynn ymaith ein gwradwydd a'n haflwydd hir;
Rho ras i ni fedru fel Ninif ddifaru,
A'th ddyfal wasnaethu yn gywir.
GRESO PRINS Y CYMRY.[5]
Y Muwsys oll o Helicon,
Y Grasys tair, a'r Nymphs o'u bron,
Cymrwch bawb eich offer canu,
I reso o Spaen Dywysog Cymru.
Apollo, dod dy gôr yn gyngan,
Par i'r Nymphs a'r Grasys ddawnsian,
Tra fo'r Muwsys oll yn canu,
Welcwm hôm i Brins y Cymry.
Doro i'r Grasys wisgoedd gwynion,
Pletha'u gwallt a r lawrydd gwyrddion,
Trwsia'r Nymphs a'u tlyse o ddau-tu,
Fynd i reso Prins y Cymry.
Rho i'r Muwsys offer auraid,
Gore'n Nelos dan law'r ceidwaid,
Fel y gallont gywraint ganu,
Greso o Spaen i Brins y Cymry.
Gosod bob un yn eu gradde,
Gwachel ado dim yn eisie,
Ag a allo lawenychu,
Clust a llygad Prins y Cymry.
Gwedyn, Phoebus, taro'r delyn,
Hoff gan ferched Jove dy ganlyn;
A'r tair chwaer y fydd yn gwenu,
Dawnsio welcwm Prins y Cymry.
Troed Melpomen drist ei hoer-nad,
Caned Clio lawen ganiad;
Gaded pawb i Thalia flaenu,
Auraid fers i Brins y Cymry.
Merchur dithau, dos i hedfan,
Gwysia'r duwiau fawr a bychan,
A'r duwiesau bawb ymdaclu,
Fynd i reso Prins y Cymry.
Dawed Jove a'i holl oreu-gwyr;
Mars mewn rhanc a'i holl ryfelwyr,
Phoeb a'i ffeiriaid oll dan ganu,
Greso o Spaen i Brins y Cymry.
Dawed Juno a'r coach o baunod,
Festa ar gerbyd o glomennod,
Fenus a'r elerchod coes-ddu,
I roi greso i Brins y Cymry.
Rbodded Fenus iddo degwch,
Juno gyfoeth, Palas heddwch,
Ceres lafur gwedi addfedu,
I bresento Prins y Cymry.
Son adeinog, heda dithe,
Dros y moroedd o'r mynydde,
Cân a'th gorn, i'r byd o bobtu,
Saff return i Brins y Cymry.
Pâr i bawb, a'u dillad gore,
Ddyfod i'w resawi adre';
Ac yn ddyfal i foliannu
Duw, am gadw Prins y Cymry.
Neptun donnog a'i ddolphiniaid,
Thetis drwst-fawr a'i Sireniaid,
Y rows shiars i Driton ganu
Gosteg för i Brins y Cymry.
olus chwyrn-wyllt ynte ostegodd
Dwrf a chynnwrf yr holl wyntodd,
Ac a wnaeth i Zephyr chwythu
'R hwyl wrth fodd Tywysog Cymru.
Phoebus hardd o'r nef a chwarddodd,
Weld y llongau ar y moroedd
Ac a wnaeth i'r haul-wen wenu,
Tra fu'r dydd, ar Brins y Cymry.
Cynthia hithau ni bu segur,
Na'i morwynion ar yr awyr,
I oleuo'r byd o bob-tu,
Tra fu'r nos, i Brins y Cymry.
Castor, Pollux, ac Urania,
Pôl y gogledd, ac Aurora,
A'r holl ser oedd yn ymdynnu,
Ledo'r ffordd i Brins y Cymry.
Haul, a lleuad, ser y nefoedd,
Gwynt, a glaw, a thir, a moroedd,
Nef a daear, sy'n datganu
Ffafr Duw i Brins y Cymry.
Pan y daeth i olwg Lloeger,
F'aeth y duwiau i strifio'n 'sgeler,
Pwy gai gynta, dan ymdynnu,
Ddwyn i dir Dywysog Cymru.
Merchur, am fod drosto'n ladmer,
Jove, am roddi iddo bwer,
Fenus am ei fynd i garu,
Fynne'r dydd gan Brins y Cymry.
Satwrn friglwyd, tad y duwie,
Wrth ei oedran ynte mynne;
Ond y Sul, 'r hwn oedd e'n barchu,
Gas y dydd gan Brins y Cymry.[6]
Y pumed dydd o fis October,
Ar ddydd Sul, dair awr cyn hanner,
Y dygodd Duw, dan lawenychu,
I dir Lloeger Brins y Cymry.
Duw ddanfonodd ei wir angel,
I gyfrwyddo ei holl drafael;
Ac i ddwyn pob peth o bobtu,
Wrth fodd calon Prins y Cymry.
O moliannwn ninne'r Drindod,
Ddydd a nos â chalon barod,
Am 'ddo ddwyn pob peth o bobtu,
Wrth fodd calon Prins y Cymry.
Spaen a fynne, mewn cyfrwysder,
Gadw'n Prins dros ddyddie lawer;
Duw a gwlad y fynne, er hynny,
Fyrr ymchweliad Prins y Cymry.
Gan i Dduw o gariad ato,
Ddangos cymaint ffafar iddo,
Pa fath roeso gwych y ddyly
Brydain roi i Brins y Cymry?
Doed ein Brenin a'i Gynghoriaid,
Doed yr leirll a'r holl Benaethiaid,
Yn eu rhôbs, a thrwps o bobtu,
I resawi Prins y Cymry.
Doed y grasol Archesgobiaid,
A'r Esgobion, a'r Preladiaid,
Mewn prosessiwn i foliannu
Duw, am gadw Prins y Cymry.
Doed ardderchawg Arglwydd Keeper[7]
Urddas Cymru, llewyrch Lloeger,
A'r Britanniaid hardd o ddeutu,
I roesawi Prins y Cymry.
Doed y mwya garo Cymro,
Colofn y deyrnas, Arglwydd Penfro,,
A'i wyr galant, i 'stafellu
Yn nhy'r Brenin Brins y Cymry.
Doed Maer Llundain a'i gwmpeini,
Yn eu sgarled, a'u cadwyni,
Ar feirch gwynion i anrhegu,
Ac i reso Prins y Cymry.
Doed y Merchants mawrion hwynte,
I'r heolydd a'u gwin gore,
I roi rhwng eu ffryns o bobtu,
I yfed health Tywysog Cymru.
Doed yr holl brentisiaid hwynte
Dan roi bloedd, a thaflu cape,
Yn dra llawen dan grechwenu,
I reso o Spaen Dywysog Cymru.
Doed sgolheigion yr holl ynys,
Yn eu gradd, a'u heuraid fersys,
A'u hareithie dan lawenu,
I resawi Prins y Cymry.
Doed offeiriaid a'u plwyfolion,
Gwyr a gwragedd, merched, meibion,
I'r eglwysydd i foliannu
Duw, am gadw Prins y Cymry.
Caned clych yr holl eglwysydd,
Nes dadseinio'r mor a'r mynydd,
Ac i'r ddaiar fud ddatganu
Greso o Spaen i Brins y Cymry.
Cynner tân, bonffeirs fagad,
Tân sy'n dangos gwres ein cariad,
Fel y gwelo'r byd o bobtu,
Faint yw'ch serch i Brins y Cymry.
Minne a'm tylwyth, nos a bore,
A rof ddiolch ar fy nglinie,
I'r gwir Dduw, am ddwyn o ddutu,
Yn iach lawen Brins y Cymry.
Duw ymddiffyno rhag bradwriaeth,
Cadwed Crist ef rhag Pabyddiaeth,
A rhag pawb sydd yn amcanu
Drwg neu speit i Brins y Cymry.
Duw ro galon Ezekias,
Synwyr Selyf, zel Josias,
Dewrder Dafydd, ac at hynny
Einioes Noe, i Brins y Cymry.
Ioas, Cusai, fo cynghorwyr,
Joseph, Daniel, fo golygwyr,
Moesen, Samuel, a fo'n barnu,
Byth ar y faine dan Brins y Cymry.
Crist â'i esgyll a'i hadeinio,
Crist a'i Ysbryd a'i cyfrwyddo,
Crist â'i ras a fytho'n nerthu,
Ym mhob achos, Brins y Cymry.
Arglwydd grasol, cadw'r deyrnas
A bendithia'n brenin Siamas,
A rho gynnydd gras a gallu,
Uwchlaw pawb, i Brins y Cymry.
EWYLLYS RYDD.
MAE meddylfryd pob rhyw galon,
Ar ddrygioni bob amseron;
Na all dyn, nes adgenhedlir,
Na bwriadu da na'i wneuthur.
Er cwymp Adda nid oes undyn,
All droi at Dduw a'i waith ei hun;
Na boddio Duw, a'i wir wasnaethu,
Nes i Dduw ei adgenhedlu.
Mae gan ddyn, wrth gwrs naturieth,
Rydd- did meddwl at gynhalieth;
Fel y mae gan bawb o'r Twrcod,
A'r Paganied, a'r 'nifeilod.
Fe all dyn o'i naws ei hunan,
Weithio gwaith gwarddedig Satan;
Ond ni all un dyn, er hynny,
Wneuthur da heb ras i'w helpu.
Fe wnaeth Duw ddyn ar y dechre,
Fel y gallsai geisio'r gore;
Fe droes Satan ddyn drwy bechod,
I fwriadu drwg yn wastod.
Ba wedd y daw o galon aflan,
Fwriad da un amser allan;
Nes i Grist a'i waed ei scwrio,
Ac â'i Yspryd ei sancteiddio?
Ba wedd y dwg ysgallen ffigys,
Na 'fallen sur afalau melus:
Na drain pigog rawnwin peraidd,
Na dyn aflan feddwl sanctaidd?
A ry ffynnon hallt ddwr melus?
A geir cyw da o'r ŵy fo brecus?
A ddaw glendid o beth aflan,
Na dim da o ddrygddyn allan?
A all dyn marw mewn drygioni,
Wneuther da ac adgyfodi?
A'r dall weld y llwybyr gole,
Nes i Grist oleuo'i lwybre?
Rym ni'n feirw, 'rym ni'n ddeillion,
Rym ni'n ddrwg oll, ac yn llymion;
Ba wedd y gall y meir cibddall,
Wneuthur un twrn da, na'i ddyall?
Rhaid i Grist ein hadgyfodi,
A goleuo'n dall dywyllni;
Cyn y gallo un pechadur,
Wir 'wyllysio da, na'i wneuthur.
Nes ail eni'r dyn o'r Yspryd,
A gras newid ei feddylfryd,
A goleuo ei wybodeth,
Ni wna ddim daioni ysyweth.
Ni all dyn o'i naws ei hunan,
Feddwl dim ond pethau aflan;
Os gwell pethau a feddyliwn,
Oddiwrth Dduw y daw'r fath fosiwn.
Ni all dyn naturiol ddyall
Pethau Duw, y mae mor anghall;
Y pethau penna ag archo Duw,
I synwyr cnawdol, ffoledd yw.
Ni wna undyn tra fytho byw,
Ddim daioni heb yspryd Duw;
Fel nas dichon unrhyw impyn
Ddwyn dim ffrwythau da, heb wreiddyn.
UNIGRWYDD.
CARTREF WEDI EI ANRHEITHIO GAN Y PLA.
"Ni ddaw meddyg, ni ddaw ffeiriad,
Ni ddaw ffrynd yn agos atad."
CANEUON Y PLA.
1.-Rhybudd i Gymru i edifarhau ar yr amser yr
oedd y chwarren fawr yn Llundain.
CYMRU, Cymru, mwrna, mwrna,
Gad dy bechod, gwella, gwella,
Rhag i'th bechod dynnu dial
A digofaint Duw i'th ardal.
Mae dy bechod wedi dringad
Cuwch a'r nef, yn crio'n irad,
Am ddiale ar dy gopa,
Megis Sodom a Gomorah.
Mae e'n gwaeddi nos a bore,
Fel gwaed Abel, am ddiale,
Nid oes dim a stopa ei safan,
Ond plag Duw, neu wella'n fuan.
Mae e gwedi 'nurddo'r ddaiar,
Fel pechodau'r cowri cynnar;
Ac yn gofyn dy ddygibo
Oddi arni, neu repento.
Nid oes cornel mwy na Ninif,
Na bo llawn o feie aneirif;
Na chrach bentre na bo pechod,
Yn swrddanu clustiau'r Drindod.
Nid oes unrhyw radd na galwad,
Na bo gwedi ymlygru'n irad,
Ac yn tynnu, fel wrth reffyn,
Blag a dial ar dy gobyn.
Mae'r penaethiaid bob yr un,
Yn ceisio'u mawl a'u lles eu hun;
Ac heb ymgais am wir grefydd,
Moliant Duw, na lles y gwledydd.
Mae dy 'ffeiriaid hwyntau'n cysgu,
Ac yn gado'r bobol bechu;
Ac i fyw y modd y mynnon,
Heb na cherydd na chynghorion.
Mae dy farnwyr, a'th wyr mawrion,
Yn cyd-ddwyn â mwrddwyr, meddwon;
Ac yn goddef treiswyr diriaid
Speilio'r gweddwon a'r ymddifaid.
Mae'r swyddogion hwyntau'n godde
Cablu Duw a meddwi'r Sulie,
Troedo'r 'fengyl, casau'r cymun,
Heb na chosp na cherydd arnyn.
Mae'r sheriffaid, a'u debidion,
Yn anrheithio'r bobl wirion;
Ac wrth rym eu braint a'u swydde,
Yn eu speilo liw dydd gole.
Mae'r cyfoethog hwyntau'n llyncu
Faint sy'n helw'r tlawd yng Nghymru
Ac wrth rentu'n dost, ac ocra,
Yn eu gyrru hwy i gardota.
Mae'r cyffredin o bob rhyw,
Yn delo'n ffalst, yn digio Duw,
Yn ddall, yn ddwl, heb fynnu eu dysgu,
Yn mynd i'r pwll, heb odde eu nadu.
Mae pob gradd yn pechu'n rhigyl,
Ac heb wneuthur pris o'r 'fengyl,
Nac o gyfraith Duw gorucha,
Yn addoli'r byd a'r bola.
Mae pob gradd, â rhaffau pechod,
Yn dirdynnu dial hynod,
Am eu penne heb dosturi,
Oni thront oddi wrth eu bryntni.
Mae'r fath feddwdod, mae'r fath dyngu,
Mae'r fath gamwedd ynnot, Cymru,
A'r fath wangred, a gaudduwiaeth,
Na bu 'nghred ei sut, ysywaeth.
Mae Duw cyfion yntau'n canfod
Drwg ymddygiad pawb a'u pechod,
Ac yn rhwym, wrth swydd a natur,
Dial ar y fath droseddwyr.
Er ys dyddie mae'n ymhwedd,
A'th holl blant am wella eu buchedd:
Eisie gwella, mae'n bwriadu,
Weithian dial camwedd Cymru.
Duw a'th ddododd yn y taflau,
Duw a'th gafodd lai na phwysau;
Duw a fyn roi maethgen iti,
Oni throi oddiwrth dy frynti.
Eisie Cymru gymryd rhybudd,
Oddiwrth Loeger yn ei holl gystudd
Mae gwialen gwedi'i gwlychu,
Yn y sicc ar feder Cymru.
Y mae plag, yn ol dy bechod,
Gwedi'i lunio gan y Drindod;
Ac yn barod ddwad atat,
O waith cynddrwg yw'th ymddygiad.
Y mae'n crogi uwch dy gobyn,
Ddydd a nos, fel wrth edefyn,
Ac yn barod iawn i syrthio,
Oni throi di a repento.
Yr wyt tithe yn pentyrru
Plag ar blag, heb edifaru,
Ac yn cam-arferu'n rhyfedd
Ffafar Duw a'i hir amynedd.
'Rwyt ti beunydd yn mynd waeth-waeth
Ac yn pechu fwy-fwy sywaeth;
'Rwyt ti'n tybied fod Duw'n cysgu,
Tra'n dy gathrain i ddifaru.
'Rwyt ti'n hwrnu yn dy bechod,
Heb ystyried na chydnabod,
Fod Duw'n hogi'n llym ei gledde,
Tr'ech ti'n hepian ar dy feie.
Edifara'n brudd gan hynny,
Cyn del plag i'th ardal, Cymru.
Cyn y tynno Duw ei gledde,
Cais ei ffafar ar dy linie.
Os digofaint Duw a 'nynna,
Pwy o'r holl fyd a'i diffodda?
Os y chwarren wyllt a ddenfyn,
Pwy a'i tynn i maes o'th derfyn?
Os yr Arglwydd dig a ddechre
Ladd dy blant, a'i follt a'i gledde;
Pwy all gadw rhag ei ddyrnod,
Un o'th blant, os tery'r Drindod?
Gwel y lladdfa y wnaeth e'n Llundain,
Er maint oedd eu cri a'u llefain:
Eisie gwneuthur hyn mewn amser,
Fe ddifethodd fwy na'u hanner.
Cwyn gan hynny, gwachel oedi,
Llwyr ymwrthod a'th holl frynti;
Llef am ras cyn del dy faethgen,
Fory, ysgatfydd, y daw'r chwarren.
Mae dy blag mewn cydau lliain,
Eto'n siopau marchants Llundain;
Fe ddaw'r plag oddi yno i Gymru,
Os ar fyrder ni ddifari.
Os i Gymru y daw cornwyd,
Och! mor amharodol ydwyd
Fynd i'r barr i wneuthur cyfri
Heb na gwisg na dim goleuni.
Os i Gymru y daw'r clefyd,
Ofer ceisio un cyfrwyddyd:
Nid yw'r byd yn abal stopi
Haint, pan ddelo Duw i'n cospi.
Ofer ceisio saeds a ryw,
I wrthnebu clefyd Duw;
Oni throi oddiwrth dy bechod,
Ni thal metswn un o'r chwilod.
Ofer cadw pyrth dy drefydd,
Fe ddaw'r plag dros ben y gwelydd,
Ni all peics na dwbwl canon,
Atal plag, os Duw a'i danfon.
Ofer rhedeg hwnt ag yma,
I geisio cilio rhag dy ddifa;
Dos lle mynnech, fe fyn dyrnod
Duw a'i farn orddiwes pechod.
Goreu cyngor rhag y plag,
I ddyn gadw ei hun yn wag;
Nid rhag bwyd, ac nid rhag diod,
Ond rhag pob rhyw fath o bechod.
Os daw plag i gospi Cymru,
Fe ddaw newyn i'th gastellu,
Tristwch, cerydd, câs, ac ofan;
Ni ddaeth plag erioed ei hunan.
Fe fydd drygfyd yn dy drefydd,
Fe fydd ochain rhwng dy welydd;
Fe fydd cwynfan ym mhob heol,
Fe fydd braw ar bawb o'th bobol.
Cariad brawdol a ddiffoddodd,
Pob cardigrwydd a ddiflannodd,
A naturiaeth a charennydd
A lwyr gollant eu cydnebydd.
Ni ddaw'r fam i drin y ferch,
Na'r wraig ei gwr, er maint ei serch,
Na'r chwaer ei brawd, na'r tad ei blentyn;
Cas, a thrist, a thrwm yw'r cowyn.
Y mab a ladd ei dad â'i ana'l,
A'r fam ei plant, er maint ei gofal;
A'r wraig ei gwr wrth roi ochenaid,
A'r brawd ei chwaer a'i holl gyfnesiaid.
Y marw ladd y byw a'i claddo,
A'r gwan y gwych a ddel i'w drinio,
A'r claf yr iach a fo'n ei faethu,
Mor gas, mor flin yw'r plag wrth hynny.
Dyn â'r plag sy'n lladd â'i ddillad,
Fel y basilisc a'i lygad,
Ac a'i ana'l sy'n gwenwyno,
Fel y coccatris y granffo.
Y plag a bair i bob cymydog
Gashau'r llall fel ci cynddeiriog;
A chyfathrach, ffryns, a chenel
Gashau câr fel blaidd neu gythrel.
Hyn a bair garcharu'r cleifion
Yn eu tai fel traitwyrs ffeilstion,
A'u dehoryd i fynd allan,
I gael bwyd dros aur ac arian.
Yr aur a ladd y rhai'i derbyniant,
Y stwff a ddifa'r maint a'i medlant;
Pan ddel plag, er maint o'r diffyg,
Ni thal arian fwy na cherrig.
Hyn a bair i'th bobl, Cymru,
Pan ddel chwarren, hir newynu;
Pan na chaffer bwyd dros arian,
Na dim cymorth er ei fegian.
Dy blag a ddaw yn ymwnc hefyd,
Fel y diluw ar y cynfyd;
Neu'r tân gwyllt y ddoeth ar Sodom,
Yn ddirybudd fel ystorom.
Pan fych brysur yn ymdwymo,
Neu'n y tafarn yn carowso,
Neu'n cynhennu yn y farchnad,
Y daw'r plag yn ymwnc arnad.
Os mewn tafarn neu y stewdy,
Os mewn marchnad neu ddadleu-dy,
Os mewn maes y'th dery'r cowyn,
Dyna'r man y bydd dy derfyn.
Yno cei di, megis 'nifel,
Farw'n ymwnc trwy fawr drafel;
Heb un dyn i weini iti,
Na'th areilio, na'th gomfforddi.
Ni ddaw meddyg, ni ddaw 'ffeiriad,
Ni ddaw ffryns yn agos atad;
Nac un carwr, un o'th holl gene'l,
Mwy nag at ryw anfad rebel.
Ni chei neb a ddel i'th drinio,
Nac i'th ystyn, na'th amwisgo,
Nac i'th arwyl, nac i'th gladdu,
Ond â chladdiad buwch o'r beudy.
O! pwy angau, O! bwy bennyd.
O! pa blag a diwedd aethlyd,
O! pa felldith a throm fforten,
Ydyw marw'n llyn o'r chwarren!
Hyn i gyd a welodd Lloeger,
Yn nhref Llundain yn hwyr amser;
Hyn a weli dithau, Cymru,
Os â'th bechod ni 'madawi.
O! gan hynny, Cymru, ystyr,
Mor anhygar, mor ddigysur,
Mor ddigariad, mor aflawen,
Ydyw marw'n llyn o'r chwarren.
Dyma'r angau wyt yn haeddu,
Am dy bechod, Cymru, Cymru;
Dyma'r angau sy ar dy feder,
Oni throi at Dduw ar fyrder.
Mae Duw'n disgwyl, er ys dyddie,
Am it droi a gado'th feie;
Eisie troi, mae Duw yn barod,
A phlag ddial dy holl bechod.
O gan hynny, Gymru, mwrna,
Gad dy bechod, edifara:
Dysg gan Ninif geisio heddwch,
Cyn del dial a diffaethwch.
Cyn y tynno Duw ei gledde,
Cais ei heddwch ar dy linie:
Rhy ddiweddar it ymbilian,
Gwedi tynno ei gledde allan.
Cwymp i lawr wrth draed dy Brynwr,
Megis Magdlen wyla'r hallt-ddwr;
Sych a'th wallt ei ddeu-droed rasol;
Fe ddiddana'r edifeiriol.
Cyfod allor megis Dafydd,
Offrwm iddo yspryd cystudd:
Deisyf arno stopio'r angel
Sydd ar feder lladd dy gene'l.
MASNACH A DINAS DAN Y PLA.
"Yr aur a ladd y rhai derbyniant,
Y stwff a ddifa'r maint a'i medlant."
Mwrn mewn sach fel pobol Ninif,
Tro oddiwrth dy feie aneirif;
Duw newidia'th farn a'th ferdid,
Os tydi newidi'th fywyd.
Tramwy i'r demel nos a dydd,
Megis Aron mwrna yn brudd,
Llef am ras ar Grist dy Geidwad,
Cyn y delo'r cowyn arnad.
Cur dy ddwyfron yn gystuddiol,
Fel y Publican edifeiriol:
Cais gan Dduw dosturio wrthyd,
Cyn y'th dorrer ffwrdd â'r clefyd.
Bwyta beunydd fara dagrau,
Megis Dafydd am dy feiau;
A gwna'th wely'r nos yn foddfa,
Cyn i'r chwarren wyllt dy ddifa.
Saf fel Moesen yn yr adwy,
Lle mae'r plag ar fedr tramwy:
Cais gan d'Arglwydd droi'i ddigllonedd,
Felly dengys it drugaredd.
Megis Phinees cymer siaflyn,
Lladd y rhai sy'n peri'r cowyn,
Cospa â'r gyfraith afreolaeth,
Duw a'th geidw rhag marwolaeth.
Gado Sodom, tynn i Zoar,
Gochel ddistryw, bydd edifar:
Gwrando'r angel sy'n rhoi rhybudd,
Cyn y del y plag i'th drefydd.
Gado'r moch a'r bobol feddwon,
Fel y gade'r mab afradlon;
Tynn i dŷ dy dad rhag newyn,
Cyn dy dorri lawr â'r cowyn.
Tynn fel Peder i ryw gornel,
Wyla'n chwerw dros dy gene'l;
Y mae'r ceiliog yn dy gofio,
Cais drugaredd cyn dy blagio.
Gwna dy gownt a'th gyfri'n barod,
Cyn dy fynd o flaen y Drindod;
Nynn dy lamp, a gwisg dy drwsiad,
Cyn y delo'r chwarren arnad.
Chwyrn yw'r chwarren pan ei delo,
Ni ry amser it ymgweirio;
Bydd barodol yn ei gwiliad,
Bob yr awr cyn delo atad.
Os ymgweiria Cymru farw,
Ac i fynd at Dduw yn hoew,
Hawsa i gyd i Dduw dy spario,
A rhoi iechyd hir it eto.
Duw fo grasol wrthyd, Cymru,
Duw ro ras it edifaru,
Duw'th achubo rhag y chwarren,
Duw ro iti flwyddyn lawen.
Cymru, Cymru, mwrna, mwrna,
Cwyn fel Ninif, edifara;
Gwisg dy sach, cyhoedda ympryd,
Llef am ras, a gwella'th fywyd.
Y mae Lloeger, dy chwaer hyna,
Yn dwyn blinder tost a gwasgfa,
Dan drom wialen y Duw cyfion,
Sy'n ei maeddu yn dra chreulon.
Y mae'r plag yn difa ei phobloedd,
Fel tan gwyllt y ddoi o'r nefoedd,
Ac fel gwaddaeth ar sych fynydd,
Yn goresgyn ei holl drefydd.
Maent hwy'n meirw yn ddi—aros,
Wrth y miloedd yn yr wythnos,
Ac yn cwympo ar eu gilydd,
Yn gelanedd mewn heolydd.
Nid oes eli, nid oes metswn,
Nid oes dwr, na deigre miliwn,
All ei ddiffodd, och ! na'i laesu,
Ond trugaredd Duw a'i allu.
Y mae Llundain fawr yn mwrno,
Fel Caersalem gwedi'i hanrheithio;
Nid oes dim ond ochain ynddi,
Cwynfan tost, a llef annigri.
Mae'r fath alar, mae'r fath dristwch,
Mae'r fath gwynfan a thrafferthwch,
Mae'r fath wewyr a'r fath ochain,
Ni bu'r fath erioed yn Llundain.
Mae pob gradd yn gweld yr Ange
Ger eu bron yn cwnnu ei gledde,
Ac yn disgwyl heno, heddy,
Am y cart i'w dwyn i'w claddu.
Y mae'r gwyr yn gweld eu gwragedd
A'u plant anwyl yn gelanedd;
Yn y tai yn dechreu sowso,
Heb gael undyn a'u hamwisgo.
Y mae'r gwragedd hwynte'n ochain,
Weld eu gwyr a'u plant yn gelain;
Ac heb feiddio myned allan,
Yn gwallbwyllo'n flin gan ofan.
Mae'r ymddifaid bach yn gweiddi
Yn y tai heb neb i'w porthi;
Ac yn sugno brest eu mame,
Gwedi marw er ys tridie.
Nid oes cymorth, nid oes cysur,
O'r nef, o'r ddae'r, o'r môr, na'r awyr,
O'r dre', na'r wlad, o'r maes, na'r winllan,
O'r llan, na'r llys, o'r gaer, na'r gorlan.
Y mae'r iach yn gweld y trwcle,
Y fai gynt yn dwyn tomene,
Heb ddwyn dim, o'r gole i'w gilydd,
Ond y meirw i'r monwentydd.
Mae rhai byw yn hanner marw,
Cyn del arnynt wŷn na gwaew,
Wrth weld cymaint yw'r diale,
Sy'n digwyddo am eu penne.
Ni cheir rhydd-did i fynd allan,
Ni cheir bwyd i mewn dros arian;
Ni cheir tramwy at un Cristion,
Ni cheir madel â'r rhai meirwon.
Yn y tai mae'r plag a'r cowyn,
Yn yr hewl mae'r cri a'r newyn;
Yn y maes mae'r cigfrain duon,
Hwyntau'n pigo llygaid cleifion.
Y mae sowaeth, Duw a dynion,
Wedi gado'r rhain yn dlodion;
Heb roi help na swcwr iddyn,
Yn eu nychdod tost a'u newyn.
Mae Duw'n chwerthin am eu penne,
Ac â'i fys yn stopio'i glustie;
Ac heb wrando gweddi canmil,
Eisie gwrando llais ei 'fengyl.
Y mae dynion anrhugarog
Yn eu ffoi fel cwn cynddeiriog;
Gwell yw ganddynt weled gwiber
Yn y wlad na gweled Lyndner,
Waith bod dyn a'r plag yn 'nurddo
Pob rhyw un a ddelo ato;
Ac yn lladd â gwynt ei ddillad,
Fel y basilisc â'i lygad.
Ni faidd tad fynd at ei blentyn,
Na gwraig drin ei gwr â'r cowyn,
Na ffrynd weld ei ffrynd â'r clefyd,
Heb fawr berig am ei fywyd.
Y mae'r fam yn lladd a'i chusan
Ei hanwylyd blentyn bychan;
Ac heb wybod yn andwyo
Hwn a'r plag tra fytho'n sugno.
Y mae'r tad yn lladd a'i ana'l,
Ei blant anwyl yn ddiatal
Ac fel cocatris gwenwynllyd,
Yn ddi-son yn dwyn eu bywyd.
Y mae'r plentyn a glafychodd
Ynte'n lladd y fam a'i magodd;
Ac o'i anfodd yn inffecto
Yr holl dylwyth lle bo'n trigo.
Maent hwy'n meirw yn ddisymwyth,
Gwyr a gwragedd, plant a thylwyth:
Wrth y pumcant yn y noswaith,
Nes mynd Llundain megis anrhaith.
Mae'r fath wylo, mae'r fath ochain,
Ym mhob cornel yn dref Llundain;
Ni bu 'rioed o'i fath yn Rama,
Gynt gan Rachel a'i chyfnesa.
Mae'r offeiriaid a'r pregethwyr,
Yn galaru maes o fesur,
Weld eglwysydd, lle'r oedd miloedd,
Fel lluestai heb ddim pobloedd.
Y mae'r marchants mawr a'u siope
Llawn o frethyn aur, a lasie,
Heb gael gwerthu dim o'r llathaid,
I roi bara i'r prentisiaid.
Y mae'r crefftwyr hwynte'n ochain,
Gwedi gweithio pethau cywrain,
Heb gael undyn yno i'w prynu,
Ac yn barod i newynu.
Mae lleteuwyr y gwyr mawrion,
A'r arglwyddi, a'r marchogion;
A'u hostrie mawr yn wag,
Heb neb ynddynt ond y plag.
Y mae'r water-men a'r porters,
A'r caraniswyr oll, a'r haliers,
Heb gael lle i ennill dime
I roi bara yn eu bolie.
Mae'r farchnadfa, lle'r oedd llafur,
Cig a physgod tu hwnt i fesur;
A phob moethe o'r danteithia,
Heb na chig, na blawd, na bara.
Y mae llawer oedd yn ceisio
Quails a pheasants erbyn cinio,
Nawr yn chwennych torri'u newyn,
Ar Bŵr Jon a hen ymenyn.
Lle'r oedd beunydd fil o fade,
Yn dwyn ymborth, heblaw llonge,
Nid oes heddyw bwnn yn dwad
O flawd cawl, dros aur i'r farchnad.
Lle'r oedd llewndid o bob ffrwythi,
Ag oedd dae'r a dŵr yn roddi;
Nid oes heddyw ond y newyn,
A'r drudaniaeth, waith y cowyn.
Hyn a barodd ein hen draha,
A'n glothineb, a'n puteindra,
A'n gau-dduwiaeth, a'n cas feddwdod,
A dirmygu'r Gair yn wastod.
Dyma wabar, dyma ffrwythe,
Dyma gyflog ein pechode;
Dyma'r faethgen dost haeddasom,
Am y bryntni gynt a wnaethom.
Dyma fel y gall Duw cyfion
Dynnu lawr y trefydd mawrion;
Mewn byrr ennyd am anwiredd,
A'u darostwng am eu balchedd.
Dyma fel y gall Duw blygu
Pobol drawsion y fo'n pechu;
Ac heb wneuthur pris o'i ddeddfe,
A'u comito dan law'r Ange.
Hyn haeddasom er ys dyddie,
Hyn a ddylem bawb ei adde:
Cyfiawn yw Duw a diargoedd,
Yn ei ffyrdd a'i holl weithredoedd.
Ni hauasom bob diffeithder,
Gynt rhwng cwyse anghyfiawnder,
'Ry'm ni'n medi, 'ry'm ni'n casglu
Y crop y ddygodd pechod ini.
Dyma'r dial gynt addawodd
Duw ei ddanfon ar y bobloedd
Nas gwasnaethant a'u holl galon,
Ac na chadwent ei orchmynion.
Dyma'r faethgen y gaiff Cymru,
Eisie gwella a 'difaru,
A chymeryd rhybudd dyner
Oddiwrth blag a dial Lloeger.
Pan yr helodd Duw'r fath wialen
Ar y bobl dda o Lunden,
Ma' rnai ofn y daw y cleddy',
Ar y bobol ddrwg o Gymru.
Pan na chymre pobl Juda
Rybudd prudd oddiwrth Samaria;
Duw roes Juda i gaethiwed,
Fel Samaria dan law'r Syried.
Oni chymer Cymru warning
Oddiwrth Loeger yn ddi-daring;
Ma 'rnai ofan y daw dial,
Ar y Cymry, a phlag anial.
Pan y glawiodd Duw gorucha',
Dân ar Sodom a Gomorah,
Ni ddiffoddodd o'i lid tanllyd,
Nes difethu Zeboim hefyd.
Pan yr helodd Duw y chwarren,
I dir Lloeger ac i Lunden,
Ma 'rnai'i ofan tost na laesa
'R plag, nes del i 'mweld â Chambria.
Os pan helodd Duw a chledde,
I Germania a'i chyffinie,
Eisie'r Ffrancod gymryd rhybudd,
F'aeth y cleddyf trwy'u holl drefydd.
Eisie i Loeger gymryd warning
Oddiwrth Bohem, Ffrainc, a Flushing,
Y mae Duw yn cospi Lloeger,
Yn saith gwaeth nag un o'r nifer.
Oni chymer Cymru rybudd
Oddiwrth Loeger drist a'i chystudd;
Ma 'rna'i ofan gweld ar fyrder
Blag yng Nghymru'n waeth na Lloeger.
O, gan hynny, Cymru, mwrna,
Gåd dy bechod, edifara;
Dysg gan Ninif geisio heddwch,
Cyn del dial a diffeithwch.
Cur dy ddwyfron, wyla'r hallt-ddwr,
Golch dy wisg yng ngwaed dy Brynwr;
Llef am ras, a gâd dy fryntni,
Cyn dialer dy ddrygioni.
Cyn y tynco Duw ei gledde,
Cwymp yn isel ar dy linie;
A chais ras a ffafar gantho.
Cyn i'r Ange dig dy daro.
Ofer crio gwedi'th glwyfer,
Ofer ymbil gwedi'th farner,
Ofer ceisio torri'r wialen,
Gwedi rhodder iti'r faethgen.
Cwyn, gan hynny, gwachel oedi,
Brysia'n esgud, gad dy fryntni:
Gwel y farn sydd uwch dy gobyn,
Tro, cyn caffo arnat ddisgyn.
2.-Gweddi eglwyswr, wrth fyned i ymweled â'r
cleifion yn amser y chwarren.
Duw gwynn, gwel mor beryglus
Yw swydd dy was trafaelus,
Sydd yn twtan aea a haf,
At bob dyn claf gwrthnebus.
Nid oes na gwr na bachgen,
Bid claf o'r frech neu'r chwarren,
Neu ryw glefyd y fo gwaeth,
Nad wyf fi gaeth i'w olrhen.
Os gwres, os gwaew poethlyd,
Os chwys, os twymyn awchlyd,
F'orfydd myned uwch ei ben,
Bid claf o'r chwarren waedlyd.
A hyn sydd dra echrydus,
I galon egwan glwyfus,
Sydd heb bwer gantho ei hun
I wechlyd twymyn awchus.
Gan hynny, ar funig helpwr,
A'm Ceidwad a'm diffynnwr,
Sy'n rheoli'r rhain i gyd,
'Rwy'n crio'm mhryd am swcwr.
O Arglwydd mawr, ti elli
Fy nghadw'n iach, os mynni
Rhag yr heintiau hyn i gyd,
Er maint o'u bryd i'm llyncu.
Ac oni byddi helpwr,
I'm cadw rhag cyfyngdwr,
Nid oes le im ddianc mwy,
Ond ildio i nhwy fel gwannwr.
Gan hynny, Duw'r holl allu,
Os d'wyllys sy'n cenhadu,
Cadw fi dy waelaf was,
Rhag heintiau cas i'm cyrchu.
Tydi fy Nuw sy'n clwyfo,
Tydi sydd yn elio;
Tydi sy'n lladd ac yn bywhau,
Tydi y gai'n correcto.
Gan hynny, tynna droswyf
Dy aden, fel dihangwyf;
N'ad i glwyf neu glefyd cas,
Ymlynu a'th was daearol.
Duw, 'r hwn a gedwaist Aron,
Yn iach yng nghanol cleifion,
Cadw finne'n rasol rhag
Yr haint a'r plag echryslon.
Ti gedwaist Abednego,
Yng nghanol fflam, heb dwymno;
Cadw finne ynghanol plag,
Er Iesu, nad f'andwyo.
Ti gedwaist Ddaniel hefyd
O safn y llew newynllyd ;
Cadw finne, Arglwydd Dduw,
Rhag haint, i fyw mewn iechyd.
Ac felly mi'th folianna,
Mewn llann, a llys, a thyrfa;
Ac a roddaf, tra ynnwy chwyth,
It' ddiolch byth o'r mwya.
Fel Aron yn y gangell,
Fel Daniel yn y 'stafell;
Ac fel Dafydd, tra f'wyf byw,
Bendithiaf Dduw, fy nghastell.
3.—"Byrr yw oes dyn."
FEL gwennol Job mae'n hoes yn llithro,
Fel rhosyn Dafydd mae hi'n gwywo,
Fel gyrfa Paul y mae'n diweddu,
Fel bwmbwl Iago mae'n diffoddi.
Fel canwyll gŵyr mae'n hoes yn treulio,
Fel llong dan hwyl mae'n myned heibio,
Fel post pan sawd mae'n pedwar-carnu,
Fel cysgod cwmwl mae'n diflannu.
Gwan yw'n tai, a chryf yw'n gelyn,
Byrr yw'n terem, siwr yw'n terfyn,
Ansertennol yw 'i ddyfodiad ;
Byddwn barod yn ei wyliad.
4-Cyngor ir Claf.
Pan y'th d'rawer gynta â chlefyd,
Ystyr o ble daeth mor danllyd,
A phwy helodd glefyd atad,
A phaham ei dodwyd arnad.
Duw ei hun sy'n danfon clefyd
Oddiwrth Dduw y daw mor aethlyd;
Am ein beie mae'n ei hela,
I geisio gennym droi a gwella.
Edifarha am dy feie,
Deisyf bardwn ar dy linie,
Cais gan Dduw dosturio wrthyd,
Fe'th gysura yn dy glefyd.
Os 'nynnodd llid dy Dduw yn d'erbyn,
Nes rhoi arnat glefyd sgymun,
Gwaed yr Oen a'th reconsilia,
Deigre heilltion a'i dad-ddigia.
Gostwng iddo, mae'n drugarog;
Cais ei ras, fe'i rhy yn serchog;
Edifara, ynte fadde:
Wyla di, tosturie ynte.
Addef iddo dy gamwedde,
Barn dy hunan am dy feie,
Cwymp o'i flaen, a deisyf bardwn,
Ti gai ras ac absolusiwn.
Tro di ato, ynte a'th dderbyn,
Er ei ddigio rhaid ei ganlyn,
A phan gwelo heilltion ddagrau,
Fe bair laesu dy flinderau.
Duw ei hun sy'n danfon clefyd,
Cennad Duw yw nychdod aethlyd,
Oddiwrth Dduw y daw clefydon,
Ni all neb ond Duw eu danfon.
Nid o'r moroedd, nid o'r mynydd,
Nid o'r ddae'r, na'r aer, na'r corsydd,
Y daw clefyd ar blant dynion,
Ond oddiwrth yr Arglwydd cyfion.
Gwres a gwaew, crach, cornwydion,
Cryd a haint, a syndra calon,
Nychdod, nodau, mall, diflaniad,
Sy' oddiwrth Dduw ei hun yn dwad.
Ni all emprwyr mawr yr holl-fyd,
Ddanfon haint, na thynnu clefyd:
Nid oes neb a'i tynn na'i ddanfon,
Ond Duw mawr, y Barnwr cyfion.
Nid aiff clefyd ffwrdd wrth bwyntment
Leo, nac Antwn, Cat, na Chlement,
Witch, na dewin, swyn, na phlaned,
Nes cenhado Duw ei fyned.
Os o swrffet, os o anwyd,
Neu dŷ afiach y cest glefyd,
Duw ei hun sydd yn dy daro.
Pa fodd bynnag daethost iddo.
Nid wrth ddamwain, nid wrth fforten,
Nid wrth dreiglad lloer na seren,
Y daw clefyd, mawr na bychan,
Ond wrth bwyntment Duw ei hunan.
Na chais edrych, fel dyn ynfyd,
Trwy ba fodd y daeth dy glefyd:
Gwell it' edrych tua'r nefoedd,
Ar dy Dduw a'r llaw a'th d'rawodd.
Duw a'th d'rawodd, Duw a'th wella,
Duw a'th glwyfodd, Duw a'th elia;
Duw sy'n cospi dy gnawd diriaid,
Duw iacha dy gorff a'th enaid.
Derbyn gennad Duw'n groesawgar,
Ymddwyn dano'n ddioddefgar;
Neb a garo Duw fe'i cospa,
Pob mab anwyl fe'i gwialenna.
Bydd ddioddefgar dan dy drwbwl
Ffol a wingad ar ben swmbwl;
Duw a'th d'rawodd mor ddolurus,
Ofer it wrthnebu ei 'wyllys.
Am ein pechod a'n drwg fywyd,
Y mae Duw yn danfon clefyd,
Ac yn gryddfu meibion dynion,
Am droseddu ei orchmynion.
Darn o gyflog pechod aethlyd,
Ydyw nychdod ac afiechyd;
Pechod ddygodd wrth ei gynffon,
A phob clefyd ar blant dynion.
Torri'r Saboth, tyngu'n rhugyl,
Casau'r eglwys a'r efengyl,
Distadl ffeiriaid a swyddogion,
A bair lawer o glefydon.
Meddwdod, maswedd, a phuteindra,
Rhegu, loetran, a lladrata,
Gwledda, gloddest, treisio tlodion,
Sy'n dwyn clefyd a thrallodion.
Os ce'st glefyd, o daeth gwasgfa,
Pechod helodd hwn i'th ddala,
Ac a barodd i Dduw ddigio,
A rhoi'r clefyd hwn i'th daro.
Chwilia'n fanol dy gydwybod,
A chais gwrdd a'th ffiaidd bechod:
Llwyr groeshoelia dy anwiredd,
Ac ymbilia am drugaredd.
Os 'difari am dy feie,
A llwyr droi at Dduw yn fore,
Fe faddeua Duw dy bechod,
Ac a'th dynn i maes o'th nychdod.
Cais gan Dduw leihau dy ddolur,
Dofi'th boen, a gwella'th gysur;
Cais yn daer esmwythder gantho,
F'all ei roi yr awr y mynno.
Pa ryw bynnag yw dy ddolur,
Fe all Duw ostegu ei wewyr,
A'th iachau y modd y mynno,
Bid e'r dolur mwya fytho.
Fe iachaodd y claf o'r parlys,
Gwraig o'r lacs, a'r cripil nafus,
Job o'i grach, a Namaan glawrllyd,
A'r rhai cleifion o bob clefyd.
Nid yw clefyd ddim ond cennad,
Wrth arch Duw sy'n dywad atad,
Fe ladd, fe baid, pan archo ei berchen,
Fe ddaw, fe a, fel gwas y capten.
O! gan hynny galw'n daerllyd,
Ar dy Dduw sy'n danfon clefyd,
Cais ei nawdd er mwyn dy Brynwr,
Di gei gantho help a swcwr.
5.—Gweddi claf.
Arglwydd cyfion, tad fy iechyd,
Barnwr pawb, a'u helpwr hyfryd,
Gwrando weddi dyn clefyca,
Er mwyn Crist, ac edrych arna.
Yn glaf mewn corph, yn drist mewn enaid,
Yn drwm mewn meddwl ac uchenaid,
'Rwy'n ymlusgo, O! 'Nghreawdwr,
Atad ti i geisio swcwr.
Grasol wyt, a llawn trugaredd,
Hwyr dy lid, a mawr d'amynedd,
Hawdd i'th gael mewn tost gyfyngdwr;
Er mwyn Crist tosturia nghyflwr.
Ti ro'ist iechyd im' ys dyddie,
'Nawr ti'i dygaist am fy meie,
Ac a helaist boen a nychdod,
I'm cystuddio am fy mhechod.
Duw, mi haeddais, rwy'n cyfadde',
Un oedd drymach er ys dyddie;
Yn dra chyfion, Duw goruchaf,
Y rhoist hyn o nychdod arnaf.
Ti allasid ddanfon clefyd
Imwnc cas, i ddwyn fy mywyd,
A'm troi i uffern i boenydio,
Heb roi amser im' repentio.
Eto'n fwyn, fel Duw trugarog,
Ti ro'ist arnaf glefyd serchog,
I'm rhybuddio am fy niwedd,
A'm cyfrwyddo i wella 'muchedd.
LLUNDAIN ADEG Y PLA.
"Duw gwyn, gwel mor beryglus
Yw swydd dy was trafaelus.
'R wy'n ei gymryd megis arwydd
O'm mabwysiad a'th garedigrwydd;
Yn fy nghospi a'm correcto,
Rhag i'm pechod fy andwyo.
Da yw'th waith, O Arglwydd cyfion,
Yn cospi'r corff â'r fath drallodion,
Lle'r oedd fenaid er ys dyddie,
Yn dra chlaf gan ormod moethe.
Tra ces iechyd ni ches weled,
O'm pechodau, er eu hamled;
Ond, yn awr, gwae fi, mewn nychdod
Nid wy'n gweled ond fy mhechod.
O pa nifer o bechode,
Wnaethoi'n d'erbyn, Duw, gwae finne;
Maent yn amlach mewn rhifedi
Nac yw'r ser os ceisia'u cyfri.
Pa fath elyn gwyllt a fuo,
Yn d'wrthwynebu megis Pharo,
Gynt pan oeddit yn ymhwedd,
Am im droi a gwella muchedd.
Arglwydd grasol,'r wy'n cydnabod,
Imi haeddu can' mwy nychdod,
Ac im bechu yn ysgymun,
O'm mabolaeth yn dy erbyn.
Eto gwn dy fod ti'n rasol,
I bwy bynnag fo'n difeiriol,
Ac yn barod iawn i fadde,
I'r galarus eu camwedde.
Er na haeddais ond trallodion,
A dialau, a chlefydion;
Gwna â mi yn ol dy fawr drugared 1,
Ac nac edrych ar f'anwiredd.
Cymer angau Crist a'i ufudd-dod,
Yn dâl iti am fy mhechod;
Cladd fy meie yn ei weli,
Er ei fwyn bydd rasol imi.
N'ad i'm farw yn fy mrynti,
Cyn im wneuthur dim daioni;
Ond rho amser o'th drugaredd,
Imi eto wella muchedd.
Dal dy law, gostega 'nolur,
Llaesa 'mhoen, lleiha fy ngwewyr,
Ac na osod arna'i boene,
Fwy nag allo 'nghorff eu godde.
Er bod fenaid weithie'n d'wedyd,
"Dere Grist, a derbyn f'ysbryd";
Mae fy nghnawd er hyn yn crio,
"Duw, tro'r cwpan chwerw heibio.
Y mae'r cnawd a'r ysbryd eto,
Yn amharod i ymado;
Duw, rho amser im i'w trefn,
O bydd d'wyllys yn cenhadu.
Nid wy'n ceisio gennyd amser,
I fyw'n foethus mewn esmwythder,
Ond i danu dy anrhydedd,
Ac i wella peth o'm buchedd.
Duw, o gweli fod yn addas,
Estyn foes fel Ezecias;
Dyro i mi ryw gyfrwyddyd,
I'm iachau a thorri 'nghlefyd.
Ond o gweli fod yn ore,
Eto 'nghospi dros fwy ddyddie,
Duw, dy 'wyllys di gyflawner;
Ond cyfnertha fi'r cyfamser.
Yn iach ni wnaethum ond dy ddigio,
Yn glaf ni allaf ond ochneidio;
Oni roi dy nefawl Ysbryd
I'm diddanu yn fy nghlefyd.
Arglwydd, cymorth fi'n fy mlinder,
Llaesa 'mhoen, a'm hanesmwythder;
D'wed wrth fenaid yn ei alaeth,
"Myfi yw dy iechydwriaeth"
Tydi, Crist, yw'r mwyn Samariad,
Minne yw'r claf drafaelwr irad;
C'weiria 'nolur, rhwym farchollion,
Dofa 'mhoen, crytha fy nghalon.
Mae dy law yn orthrwm arnaf,
Eto yunod mi ymddiriedaf;
A phe lleddit fi â thrallod,
Duw, mae f holl ymddiried ynnod.
Gennyt ti mae'r holl allwedde,
Sydd ar fywyd ac ar ange:
Ni faidd Angau edrych arnaf,
Nes danfone Crist ef ataf.
Gwna fi'n barod cyn y delo,
Par im ddisgwyl byth am dano;
Fel y gallwyf fynd yn addas.
Wrth ei sgil i'th nefawl deyrnas.
N'ad i bethau'r byd anwadal,
Na'th gyfiawnder ddydd y dial,
Nac i ofan Ange'm rhwystro
Ymbartoi i rwydd ymado.
Tynn o'm calon ofan Ange,
Par im wadu'r byd a'i bethe;
Golch a'th waed fy mhechod sgeler,
Cudd fy mrynti a'th gyfiawnder.
Rho im ffydd yn dy bromeision,
Gobaith cryf am gael y goron,
Dioddefgarwch yn fy nghlefyd,
Chwant ddod atat a datodyd.
Crist, rho d'Ysbryd i'm diddanu,
A'th angylion i'm castellu;
Gwna'r awr ola fy awr ore,
Rho imi'r goron ar awr Ange.
Crist, fy Mugail, cadw fenaid,
N'ad i'r llew o'th law ei scliffiaid,
Tydi i prynaist yn ddrud ddigon
Dwg e' i'r nef at dy angylion.
6.—Rhybudd i'r claf i alw am weinidog a
physygwr, ac i ochelyd swynwr.
Pan glafychech cais offeiriad,
Yn ddiaros ddyfod atad,
I weddio dros dy bechod,
A'th gyfrwyddo i fod yn barod.
Crist a bwyntiodd yr offeiriaid,
Yn bysygwyr doeth i'r enaid,
Ac a roddodd iddynt eli,
I wrthnebu pob drygioni.
Adde'th bechod wrth y 'ffeiriad,
Fel ry iti gyngor difrad;
Fel y gallo roi cyfrwyddyd,
Yn ol naws a rhyw dy glefyd.
Cred beth bynnag dd'weto'r 'ffeiriad,
O Air Duw, yn brudd am danad,
Can's llais Crist ei hun yw hynny,
I'th rebyco neu'th ddiddanu.
Deisyf arno brudd weddio,
Ar i'r Arglwydd dy recyfrio,
I roi iti gyflawn iechyd,
Neu yn rasol dderbyn d'yspryd.
Mae Duw'n addo gwrando'r 'ffeiriad,
Pan gweddio'n ol ei alwad;
Crist a ddyry ei ganlyniaeth,
Oni phwyntiodd dy farwolaeth.
Deisyf arno dy gyfnerthu,
Rhag i Satan dy orchfygu,
A llonyddu dy gydwybod,
Pan y'th fliner gan dy bechod.
Goddef lawnso dy gornwydion,
Godde i'r gair frynaru'r galon,
Fel y gallo fwrw ynddi,
Win ac olew gydag Eli.
Gwell it' adael i'th offeiriad
Ddangos it dy ddrwg ymddygiad,
Fel y gallech edifaru,
Nag o'i blegid gael dy ddamnu.
Ti gei gyngor rhag dy bechod,
Llonyddu dy gydwybod;
Ti gei gomffordd gan y 'ffeiriad,
Os mewn pryd ei gelwi atad.
N'ad y 'ffeiriad heb ei alw,
Nes y b'ech yn hanner marw;
Ni all 'ffeiriad y pryd hynny,
Na neb arall dy ddiddanu.
Oh! pa nifer o Frutaniaid
Sydd yn meirw fel 'nifeiliaid,
Eisiau ceisio nerth y 'ffeiriad,
I gyfrwyddo eu 'madawiad.
Er bod Duw yn abal cadw
Sawl a fynno, heb eu galw,
Nid yw'n cadw fawr o enaid,
Ond trwy swydd a gwaith offeiriaid.
Cais gan hynny, gynta gallech,
'Ffeiriad atad pan glafychech;
I roi pwrg yn erbyn pechod.
'Rhwn yw achos dy holl nychdod.
Yn ol cyngor yr eglwyswr,
Cais gyfrwyddyd y physygwr;
Duw a roes i hwn gelfyddyd,
I'th iachau o lawer clefyd.
Duw ordeiniodd yr offeiriaid,
I iachau doluriau'r enaid;
A'r physygwr a'r meddygon,
I ymg'leddu cyrff y cleifion.
Llawer dyn sy'n marw'n fudur,
Eisiau cymorth y physygwyr,
Gan fyrhau eu hoes a'u hamser,
Yn embeidus eisie eu harfer.
Corff pob dyn yw tŷ ei enaid.
Rhaid reparo hwn a'i drefnaid;
Rhaid i bob dyn, hyd y gallo,
Gadw ei dy ar draed heb gwympo.
Arfer gymorth physygwriaeth,
Yn dy glefyd trwy Gristnogaeth;
Duw ordeiniodd hon yn gysur,
I blant dynion rhag pob dolur.
Y neb wrthoto physygwriaeth,
Y roes Duw er iechydwriaeth,
Mae'n gwrthnebu maeth ei anian,
Ac yn mwrddro'i gorff ei hunan.
Y llysewyn salwa welech,
A'r gyfrwyddyd waela' gaffech,
All roi help a iechyd iti,
Os rhy Duw ei fendith arni.
Swp o ffigys, os bendithia,
All iachau y cornwyd mwya;
A'r gyfrwyddyd ni thal un-rhith,
All roi help ond cael ei fendith.
Ond pe ceit ti balm a nectar,
Cenin Peder, cerrig Bezar,
Olew a myrrh, a gwin a gwenith,—
Ni wnant les heb gael ei fendith.
Nac ymddiried i'r physygwyr,
Nac un fetswn f'ont yn wneuthur,
Rhag dy farw megis Asa,
Eisiau 'mddiried i'r Gorucha.
Nid oes rhinwedd ar lyseuach,
Grym mewn eli, na diodach,
I leihau o'n cur a'n poenfa,
Os yr Arglwydd nis bendithia.
Duw sy'n rhoddi rhad ar lysie,
Grym mewn eli a chyfrddone;
Lle bendithio Duw, hwy lwyddant,
Lle ni fynno Duw, ni thyciant.
Cais gan hynny fendith hyfryd,
Gan dy Dduw ar bob cyfrwyddyd;
Heb ei fendith ni wna'r benna,
Ond troi'n wenwyn yn dy gylla.
Gwachel geisio help gan swynwyr,
Yn dy flinder tost a'th ddolur:
Gado Duw mae'r cyfryw ddynion
Ac addoli gau-dduw Ecron.
Ni chais help i'r corff mor embaid,
Gan y diawl sy'n lladd yr enaid;
Nid oes un physygwr allan
Waeth na'r diawl i helpu'r egwan.
Nid yw swyn ond hug i'th dwyllo,
Gwedi i Satan ei defeisio,
I ddifethu d'enaid gwirion,
Pan y swyner i'th glefydon.
Nid yw'r swynwr ond apostol
Ffalst i'r diawl, i dwyllo'r bobol,
Oddiwrth Grist, mewn poen a thrafel,
I buteinia ar ol y cythrel.
Twyllo'r corff a lladd yr enaid;
Digio Duw, bodloni diawliaid,
Gwrthod Crist, a'r maint sydd eiddo
Y mae'r swyn a'r sawl a'i creto.
Ceisio'r cythraul yn bysygwr,
Ydyw ceisio help gan swynwr;
Ceisio'r diawl i ddarllen tesni,
Yw â dewin ymgynghori.
Ceisio gwir gan dad y celwydd,
Yw ymofyn a drogenydd:
Ceisio help i ladd yr enaid
Ydyw ceisio swyn hudoliaid.
Na châr swynwr mwy na chythrel,
Mae'n dy demtio yn dy drafel;
Glŷn wrth Grist, er maint yw'th flinder
Cais ei nerth, ti gei esmwythder.
7.-Rhybudd i'r claf i wneuthur ei ewyllys
mewn pryd, a dosparthu ei bethau mewn
ofn Duw.
Oni wnaethost eto d'wyllys,
Dod dy dŷ mewn trefen weddus;
Dosparth d'olud megis Cristion,
Yn Gristnogaidd ac yn union.
Cais gan Dduw ei nefawl Yspryd,
I roi iti lawn cyfrwyddyd,
I gyfrannu d'olud bydol,
Yn ol gwyllys dy Dad nefol.
Rho dy enaid bach i'th Brynwr,
Crist a'i piau, dy Iachawdwr:
Rho dy gorff i'r ddaer lle cafad,
Hyd nes delo'r adgyfodiad.
Tynn, fel Jacob, ddefaid Laban,
A da eraill, o'th dda allan;
Rho i bob dyn ei iawn eiddo,
Tal dy ddyled cyn ymado.
Na ddod geiniog yn dy 'wyllys,
O dda eraill yn gamweddus,
Rhag eu taflu yn dy ddannedd,
O flaen Duw, ar ddydd dy ddiwedd.
Ac na chytgam, er dy fywyd,
Roi i'th blant anghyfiawn olud:
Ni wna hynny ond en hela
I gyrwydro a chardota.
Er na feddech ond tair anner,
I roi rhyngthynt trwy gyfiawnder,
Gwell y llwydda hyn i'th epil,
Na thrwy gamwedd pe rhoit deirmil.
Gwell y llwyddodd rhandir Abram
Nag y llwyddodd teyrnas Joram,
A'r gohilion a gas Iago,
Na phraidd Laban gwedi'u hyso.
Fel y bwytodd gwinllan Naboth
Deyrnas Ahab a'i holl gyfoeth,
Felly bwyty'r geiniog sgeler,
Faint a feddech trwy gyfiawnder.
Ceiniog ddrwg, pwy bynna'i caffo,
Sydd fel gwartheg truain Pharo,
Rhai fwytasant ei dda tewion,
Heb fod llawnach eu coluddion.
Rho gan hynny'r hyn sydd union,
Rhwng dy blant, a'th ffrins, a'th weision
Ac na chytgam er dy fywyd,
Roi i neb anghyfiawn olud.
Fel y llwyddodd Duw y manna,
Toes y weddw o Serepta,
Olew'r weddw dlawd a'i meibion,
Felly y llwydda'r gronyn cyfion.
Rho i Isaac, dy etifedd,
Ei difeddiaeth yn ddi-duedd;
A rho i'r lleill o'th blant o bob-tu,
Fodd i fyw yn ol dy allu.
Rho i'th wraig ei chyflawn draian,
Na ro iddi lai na'i chyfran;
O roi 'chwaneg, mae yn rhigyl,
Fod y fath yn nafu'r epil.
Na'd was ffyddlon heb ei wobar,
Rho i'th gar tlawd help o'r heiniar
Na'd dy weithiwr heb ei gyflog;
Crio'n dost a wna'r fath geiniog.
Cofia'r 'fengyl, cofia'r eglwys,
Cofia'r College a'th fanteiniwys;
Cofia'r wlad a'r dref y'th fager,
Os bydd gennyd fodd a phwer.
Os goludog wyt heb epil,
Ac yn caru Crist a'i 'fengyl,
Adail ysgol rydd yng Nghymru
Lle mae eisiau: dysg sy'n methu.
Cofia Joseph sy'n y carchar,
Rho beth help i borthi Lazar,
Rho yn awr dy rodd tra gallech,
Dyma'r rhodd diwaetha roddech.
Maint y roech i'th blant a'th drase,
Dy wraig, a'th blant, a'th ffrins a'i pie
Y maint y roech i'r tlawd a'r truan,
Storio'r wyt i ti dy hunan.
Dyro'n ol yr hyn a dreisiaist,
Gwna iawn dal i'r rhai orthrymaist,
Tâl dy ddyled cyn dy symud,
Yn y pwll nid oes dymchwelyd.
Dyro'r badell, dyro'r crochan,
Dyro'r tai, a'r tir a'r arian,
Yn eu hol i'r rhai a'u pie,
Rhag dy fynd i'r didranc boene.
Na'd i dyddyn y dyn gwirion,
'Rhwn a dreisiaist yn anghyfion,
Beri it golli teyrnas nefol:
Rho ei dyddyn yn ei wrthol.
'Nawr di elli megis Zache,
Wneuthur iawn am dy drosedde,
Yn y pwll ni bydd i'th bwer,
Dalu'r hatling pan gofynner.
Praw gytuno â'th wrthnebwr,
Cyn dy fynd o flaen y Barnwr,
Rhag dy droi i'r dyngeon isa,
Lle rhaid talu'r halling eitha.
'Nawr ni fynni, mwy na phagan,
Ddilyn cyngor Crist ei Hunan;
Ond ti fwyty gig dy freichie,
Eisiau'i ddilyn cyn mawr ddyddie
Pa sawl mil sy'n nhân uffernol
Eisie rhoddi trais yng ngwrthol,
Rhai a roddent heddyw'r holl-fyd
Yn sarhad i'r tlawd, pes cym'rid?
Os yn erbyn Duw y pechi,
Ti gei bardwn ond difaru;
Os yn erbyn dyn, ni fadde
Duw, nes caffo'r tlawd a ddyle.
Os bu farw'r rhai a dreisiaist,
Rho i'w plant y maint y scliffiaist,
Ond os aethont o'r wlad allan,
Rho eu rhan i'r tlawd a'r truan.
Na ro rhwng dy blant yn angall,
Y peth a bie un dyn arall:
Ni wna hynny ond dy ddamnio
A throi d'epil i gyrwydro.
Na ro rhwng dy blant, trwy wyllys,
Ddim enillaist yn gamweddus,
Trwy usuriaeth, trais, neu ffalstedd;
Drwg y llwyddant yn y diwedd.
Marca blant yr ocrwyr mawrion,
A'r gorthrymwyr a'r carnladron,
Yn ceinioca mewn eglwysydd,
Ac yn dwyn y waled beunydd.
Felly tygfydd i'th blant dithe;
O rhoi iddynt dda anife,
Canys dial Duw yn rhugil
Drais ar dadau, ac ar epil.
Dod di ofon Duw, gan hynny,
O flaen d' wyneb wrth ddosparthu;
Rho i bob dyn ei dda cyfion,
Rhanna'r cwbwl lle bo achosion.
Duw a roddo it' gyfrwydd-deb,
Ac a'th nertho i wneuthur d'ateb;
Duw a'th gatwo rhag camsynied,
Duw fo geidwad ar dy ened.
PECHOD GWREIDDIOL.
Y mugail prudd caredig,
A ddwedwch im yn ddiddyg,
A ddamniwyd pawb o'r byd heb na,
Am bechod Adda'n unig?"
Mae'r gyfraith a'r efengyl,
Mae Crist a'i dystion ddengmil,
Mae cred i gyd, a'n bedydd gwynn,
Yn dangos hyn yn rhugyl.
"A ddamnodd Duw yn Adda
Y byd i gyd, am fwyla
Y ffrwyth gwarddedig yn ei wŷn,
Heb ado i un ddihangfa?"
Yn Adda i gyd y'n llygrwyd,
Yn Adda fe'n condemniwyd ;
Yn Adda collwyd pob rhyw ddyn,
Yng Nghrist ei hun fe'n cadwyd.
"Pa wedd y gellid cospi
Y plant, am fai'r rhieni,
Oedd chwe mil o flynyddau tyn,
A chwaneg, cyn eu geni?"
Fel y gall brenin cyfion,
Ddiddymu plant ac wyrion,
Am y treson blin a'r brad,
A wnelo'r tad anffyddlon.
Pan gwympodd Adda gynta,
Fe gwympodd pawb yn Adda;
Ni ddiangodd dyn o'r byd,
O'i ofid ef a'i draha.
1629.
Can ar y flwyddyn MDCXXIX, pan oedd yr
yd yn afiachus, trwy lawer o wlaw.
Duw Frenhin trugarog, Duw Dad Hollalluog,
Duw Porthwr newynog, na newyna ni;
Sy'n canlyn dy ffafar a chalon edifar,
Ar ol dy hir watwar a'th siomi.
Er mwyn dy drugaredd anfeidrol a'th fawredd,
Er mwyn dy wir 'Tifedd, O dofa dy lid;
Gwrando di'n gweddi, gan faddeu'n drwgnwydi,
A chymorth ein tlodi a'n hadfyd.
Ni a bechasom yn d'erbyn yn daran ysgymun,
Nes tynnu hir newyn a niwed i'n plith;
Ac amryw ddiale sy'n gryddfu'n calonne,
Heb allel hir odde dy felldith.
Ni a dorsom dy gyfraith, sydd gyfion a pherffaith,
Do, lawer canwaith cyn cwnnu o'r man;
Fel rhai a f'ae'n tybiaid na fae gennyt lygaid,
I ganfod fileiniaid mor aflan.
Dy enw gablasom, Dy air y gasausom,
Dy fengyl a droedsom yn ddibris tan drad;
Dy Sabbath halogwyd, Dy demel adawyd,
Dy grefydd a lygrwyd yn irad.
Ni dorsom dy ddeddfau, fel pobol a dybiai
Na ddeuai ddialau am ddilyn ffordd ddrwg
Neu rai a f'ae'n credu na fae gennyt allu,
I'n plago am bechu yn gynddrwg.
Pan heliaist genhadon i faneg ein beion,
A'n troi i'r ffyrdd union yn dirion, yn daer;
Ni gausom ein clustie rhag clywed eu geirie,
Fel neidr a fydde yn fyddar.
Pan yrraist dy weision i'n gwadd ni, rai deillion,
I'th swper yn dirion, i dario'n dy lŷs.
Ni ballsom o'r dwad, ni droesom i'r farchnad,
A'n fferem, yn anllad anhapus.
Ni fynnwn mo'r manna, ni thrig e'n ein cylla,
Ni charwn ni y bara a bery byth;
Ond garlleg ac winwyn, a phanas a phompiwn,
Fel twrchod a garwn ni'n aruth.
Ni fynnwn ni o'r fengyl, sy'n ein cnoi ni mor rhugil,
Ni a drown ein gwegil at hyn lawer gwaith,
Ni chaiff hi'n ceryddu, na'n dangos na'n dysgu,
Mae'n draws yn gwrthnebu ein drygwaith.
Ni adwn ni'r Ysgrythyr reoli'n drwg natur,
Na'th gyfraith gymhesur gymhwyso mo'r traws;
Ond byw wrth ein ffansi, a'n trachwant a'n gwegi,
Heb fynnu rheoli ein drygnaws.
Gan hynny waith troedio Dy gyfraith a'i gado,
Ni aethom ar ddidro yn didranc, gwae ni;
Fel defaid a rede o'r llafur i'r ffalde,
Ar ol llanw eu bolie, i boeni.
Mae'n gloddest a'n traha, fel mawrddrwg Gomorah,
Yn llefain am wasgfa, i wasgu ar ein cest;
Ni thaw byth o'n poene, nes delo diale,
I wasgu ar ein crilie â dirwest.
CASTELL LLANYMDDYFRI,
"Cenais iti'r udgorn aethlyd
O farn Duw, a'i lid anhyfryd."
Mae pob gradd o ddynion, o fychain i fawrion,
Yn pechu yn greulon yn erbyn dy Grist,
Fel pobol wrth raffe, a dynne ddiale,
O'r nef am ein penne, yn athrist.
Mae'r offeiriad yn gadu dy bobol i bechu,
Heb geisio eu nadu i uffern ar naid;
A'r un ag a geisio â'r Efengyl eu rhwstro,
Fe gaiff ei anfrio yn ddiriaid.
Mae'n parchus reolwyr, Och Dduw, yn rhy segur,
Yn godde troseddwyr i drist soddi'r wlad,
Heb gosbi â'r cledde, na'r bobol na'r beie,
Sy'n damsing dy ddeddfe mor irad.
Mae'r bobol gyffredin, fel Israel, heb frenin,
Na 'ffeiriad i'w meithrin, na phroffwyd i'w maeth,
Yn byw yn anhywaith, fel pobol heb gyfraith.
Heb grefydd, heb obaith, ysywaeth.
Mae rheibus swyddogion yn speilio rhai gwirion,
Yn hyfach na'r lladron, llwyr edrych ar hyn;
A'r carliaid yn bwyta y tlodion fel bara,
Neu'r morfil a lynca'r sgadenyn.
Mae'r gweision cyfloge a'r hurwyr yn chware,
Mae'r gweithwyr yn eiste, heb ostwng eu pen,
Yn tordaen, yn blino, heb fynnu o'r gweithio,
Nes delych i'w pricio âg angen.
Mae'r tanner a'r pannwr, a'r barcer a'r bwtsiwr,
Gweydd, gôf, a thaeiliwr, a thiler, a chrydd,
A'r hwsmyn, a'r crefftwyr, a'r diffrwyth uchelwyr,
Yn mynd yn dafarnwyr digrefydd.
Mae'r gwragedd yn gado eu nyddiad a'u cribo,
Eu gwauad, a'u gwnio, i dwymo dwr,
Gwerthasont eu rhode, a'u cyffion, a'u cribe,
I brynu costrele tafarnwr.
Mae'r mwrddwyr, a'r gwibiad, a'r bawdy cnaf anllad,
A'r lleidr, y gwilliad a'r offeiriad ffol,
A Shini a Shanco, a lisens i wtro,
Bir, cwrw, tobacco, heb reol.
Pe ceisie na'r cythrel neu'i fam godi capel,
Wrth ochor dy demel, er dime'n y dydd,
I gadw tafarndy cyhoeddus yng Nghymru,
Fe gae ei genhadu yn ufudd.
Duw, dere o'th arfer, a chyngor ar fyrder,
Torr lawer o'r nifer, sy'n 'nafu'r byd,
Cyn bwytont eu gilydd, cyn 'nafont y gwledydd,
Cyn llygront dy lan grefydd hyfryd.
Mae'r gweision mor ddainti na fynnant hwygorffi
Ond gwyn fara'u meistri, neu fustro a wnant,
A'r merched ar gyflog ond odid yn feichiog,
Am fod yn rhy wresog meddant.
Mae pob rhyw o alwad yn ddibris am danad,
Yn ceisio eu codiad a'u cadw eu hun;
Heb geisio d'ogoniant Di, Arglwydd ein llwyddiant,
Na'th fawr-glod, na'th foliant, na'i 'mofyn.
O achos, gan hynny, fod pawb yn troseddu,
A phob rhai yn pechu, a'u buchedd ar draws,
Ti geisiaist trwy fwyndra, ac ennyd o wasgfa,"
I'n cyffro i wella ein drwgnaws.
Yn fwyn ac yn serchog, fel Arglwydd trugarog,
A fai yn dra chwannog i'n hennill trwy deg,
Ti geisiaist yn dirion, trwy amryw fendithion,
Ein tynnu i'r ffordd union, yn loew-deg.
Pan ffaeliodd dy fwynder i wella'n drwg arfer,
Bygythiaist a chryfder a llymder i'n lladd:
Hogaist dy gledde, golymaist dy saethe,
Partoaist dy arfe i ymladd.
Ond gwedi it ymgweirio, rhoist rybudd cyn clwyfo,
Bygythiaist cyn taro, a'n torri ni i lawr:
Offrymaist i'n ffafar, o byddem ni edifar,
A ninne'n dy watwar yn ddirfawr.
Pan welaist, Dduw cyfion, na thycie fygythion,
Ti yrraist yn llymion dy saethau i'n lladd,
A'n curo, a'n corddi, a llawer o 'fidi,
Na allem na'u dofi na'u gwrthladd.
Gelwaist dy weision, mwstraist d'angylion,
A'th dri meirch mawrion, coch, glas, a du;
A gyrraist hwy'n ddiriaid, a'r holl greaduriaid,
I'n plagio, fileiniaid, a'n gryddfu.
Rhoist ddu-rew digasog, haf poethlyd anffodiog,
Gwynt stormus 'sgethrog, yn scathru yr ŷd,
Llifeiriant i'n soddi, a moroedd i'n boddi,
A chan rhyw ofidi i'n herlid.
Twymyne cynddeiriog, drudaniaeth digasog,
Marwolaeth llym oriog mewn llawer man,
A yrraist i'n cyffro, i brysur repentio,
A'n cathrain i'th geisio yn gyfan.
Pan welaist na alle hyn oll o ddiale,
Ein datroi o'n beie, i wella ein byd,
Ti yrraist drachefen hir newyn a chwarren,
A rhyfel aflawen i'n herlid.
Y chwarren a laddodd ddiarhebrwydd o filoedd,
Mewn amryw o leoedd a gormod llid,
Nes llenwi'r monwentydd, a thlodi'r holl drefydd,
Lle gyrraist dy gerydd i'w hymlid.
A'r rhyfel anffodiog, y ddaeth yn ddigasog,
Cledde yn llidiog, i'n tlodi a'n lladd;
Nes difa'n rhyfelwyr, a'n trysor a'n llafur,
A'n gyrru'n ddi-gysur i ymladd.
Soddaist ein llonge, diddymaist ein plotie,
Troist fin ein cledde, teflaist ni i'r clawdd;
Dallaist ein doethion, dychrynaist ein dewrion,
Gwerthaist ni i'r casion a'n ceisiawdd.
Y cornwyd a'r cleddy y wnaeth i ni grynu,
A dechreu difaru, dau fore neu dri,
A chanlyn a chrio am dynnu'r plag heibio.
Nes iti lwyr wrando ein gweddi.
Pan tynnaist y chwarren a'r rhyfel aflawen,
Ni droesem drachefen dri chufydd i'n hol;
Fel cwn at eu chwdfa, i'th ddigio, a'th hela
I'n dofi a'n difa'n anffafriol.
Gan hynny di yrrest y 'storom a thempest,
Ynghanol y gloddest, i'n plagio â glaw,
Nes nafu'n cynhaua', a defnydd ein bara,
A chospi'n hir draha â churlaw.
Tywalltaist dy felldith mor drwm ac nor dryfrith,
Ar farlis a gwenith, a phob ymborth gwr,
Fel y gwrthneba 'nifeiliaid ei fwyta;
Ni phraw'r cwn mo fara'r llafurwr.
Mae'r march yn ffieiddio, a'r mochyn yn gado
Y llafur sy'n llwydo, a'r egin yn llawn,
Gan gynddrwg aflasus yw'r pilcorn a'r barlis,
A gaed o'r annilys ysgawn.
O Arglwydd, ni haeddson dy felldith yn gyfion,
Ar lafur o'r fisgon, a'r fasged a stor,
A newyn a nychdod, am hir anufudd-dod,
O ddiffyg it ragod ein goror.
Ein dirmyg a'n traha ar ddiod a bara,
A bair i ni fwyta, oni atal Duw,
Y ffacpys a'r callod, ac ymborth 'nifeilod,
A'r crwst ym ni'n wrthod heddyw.
Ni fuom yn poeri y blawd oedd a rhydi,
A'r bara a'r pinni ni bwriem o'n pen;
A'r begers mor foethus yn taeru ar farlis
Ni phrofent ond canis haeachen.
Ni fuom yn bwyta gorfoddion o fara,
Fel pobol Gomorah 'ir camarfer eu byd,
Heb ddiolch am dano, na swper na chinio,
Nes i ni dy ddigio yn danllyd.
Ni fuom yn yfed, nes myned cyn dynned,
Na allem ni gerdded, na myned o'r man,
Nes arllwys ein ceudod, lle'r yfsom y ddiod,
Yn waeth na'r 'nifeilod aflan.
Bu deie'n tafarne yn llawnach y Sulie,
O addolwyr eu bolie, yn addoli diawl,
Nag oedd ein heglwysydd, o ddynion o grefydd,
I'th 'ddoli di'n ufudd, Duw nefawl.
Tair-gwaith o leia, y llanwn ni'r bola,
Bob dydd pan bo byrra, gan bori ein bwyd,
Prin mewn saith die, y cofiwn ni dithe,
Sy'n llanw ein bolie â bras-fwyd.
Ni flinwn yn ebrwydd yn d' eglwys, O Arglwydd,
Er maint yw ein haflwydd, a'n hoflyd tra:
Ni flinwn ni'n aros, mewn tafarn am wythnos,
Er oered o'r hirnos aea.
YN ERBYN CONSURWYR.
Duw, mor dost y pecha Cymry,
Mewn dallineb, trwy gam-gredu,
I ddewiniaeth, swyn-gyfaredd,
Ofer goel, a'r fath anwiredd.
Gynt fe'n chwydodd Duw ni allan,
Fel y bobl o wlad Canan,
O dir Lloegr yma i'r creigydd,
Am ein gwan gred a'n gau-grefydd.
Yn awr nid gwell yw crefydd llawer,
Na'n hen deidiau gynt yn Lloeger;
Er bod 'fengyl Crist yn gyngan,
Gan bawb yn ei iaith ei hunan.
Mwy o gred sydd gan Frutaniaid,
Mewn rhyw luoedd, i ddewiniaid,
Ac i'r swynwyr a'r hudolion,
Nag sy i Grist a'i Apostolion.
Pan ddel dewin neu ryw swynwr,
Och, ni redwn at y twyllwr,
Fel y gwenyn at y gwinwydd,
I roi clust i dad y celwydd.
Beth a ddweto hwnnw o'i enau,
Er nad yw ond celwydd golau,
Ni a'i credwn fel y 'fengyl,
Ac a drown at hon ein gwegil.
Beth a ddweto Crist yn brysur,
Yn y 'fengyl wenn a 'Sgrythyr,
Ni fynn llawer cant o'r Cymry,
Ddim o'i wrando, och, na'i gredu.
Eisiau gwrando'r 'fengyl dirion,
Eisiau credu'r gair yn ffyddlon,
Eisiau 'nabod Duw a'i allu,
Y mae'r wan-gred hon yng Nghymru.
Pe gwrandawent ar y 'Sgrythyr,
Yn condemnio'r fath hudolwyr,
Ni'u herlidiem o'r wlad allan,
Megis apostolion Satan.
Nid yw swynwyr a dewiniaid,
Ond 'spostolion y cythreuliaid,
Sydd yn hudo pobol egwan,
I buteinio ar ol Satan.
Waith bod swynwyr yn ein tynnu,
Ar ol Satan trwy wan-gredu,
Mae Duw'n erchi yn ddialaeth,
Roi'r holl swynwyr i farwolaeth.
Duw ei hun, yng nghyfraith Mosys,
Sy'n gorchymyn lladd pob rheibus,
Lladd y dewin, lladd y swynwyr,
A llabyddio'r holl gonsurwyr.
Duw sy'n gwardd i neb buteinio,
Ar ol dewin, a rhai'n swyno;
Ac yn bygwth torri'n hollol,
Bawb o'r fath o fysg ei bobol.
O bydd gŵr na gwraig o unfath,
Berchen ysbryd o ddewiniaeth,
Lleddwch hwynt, medd Duw, a chlogfaen
A'u gwaed fydd ar eu pennau hunain.
Ni fynn Duw i neb yn ddirgel,
Dynnu eu plant trwy'r tan i'r cythrel,
Nac arferu dim dewiniaeth,
Swyn, na d'rogan, nac hudoliaeth.
Cas gan Dduw, medd geiriau'r 'Sgrythyr,
Geisio hyspysrwydd gan gonsurwyr,
Dewin, swynwr, brud, neu hudol,
Ac ymofyn a dyn marwol.
Tynnu'r plentyn trwy bren crwca,
Neu trwy'r flam ar nos Glangaua,
A'u rhoi ym mhinn y felin uchel,
Yw offrymmu plant i gythrel.
Gwael yw'r cymorth yn ei drafel,
A gaiff Cristion gan y cythrel,
Yr hwn sydd nos a dydd heb gysgu,
Bob yr awr yn ceisio'n llyncu.
Nid yw'r rhain ond rhai sy'n twyllo
Pobol ddeillion i dramgwyddo,
Ac i geisio help y cythrel,
I'w cymffwrddo yn eu trafel.
Duw sy'n erchi lladd â meini,
Duw sy'n gwrafun gwlad goleuni,
Duw sy'n taflu i'r tân uffernol,
Swynwr, dewin, brud, a hudol.
Tro, gan hynny, swynwr heibio,
Megis un sy'n ceisio mwrddro
Dy enaid bach, wrth roi esmwythder,
I'th gnawd egwan yn ei flinder.
Duw fydd dyst, a witnes cyflym,
Duw fydd farnwr tost ac awchlym,
Ar ddewiniaid ac ar swynwyr,
A'r rhai a'u credant, medd y 'Sgrythyr.
Ni chaiff swynwyr na swyn-ddynion,
Medd Sant Paul, na'r nef na'r goron;
Hwy dormentir, medd Sant Joan,
Yn y pwll a'r tân a brwmstan.
Ahazia, brenin Juda,
A ga's farw mewn mawr boenfa,
Am ei wan-gred gynt yn danfon
At y dewin, gan dduw Ecron.
Saul am gredu'r wits o Endor,
Ac am fynd i geisio ei chyngor,
Gas ei roi i dost farwolaeth,
A rhoi i Ddafydd ei frenhiniaeth.
Tra fu Saul yn gwrando Samuel,
Ni chai swynwyr drigo'n Israel,
Nac un dewin, nac un hudol,
I ŵyrdroi a thwyllo'r bobol.
A Josias ynte'n rasol,
A lwyr dynnodd bob rhyw hudol,
Swynwyr, dewin, a ffieidd-dra,
A'r cyffelyb o Judea.
Nid oes neb a barchai'r swynwr,
Na dewiniaid, na chonsurwr;
Ond y rhai di-gred, di-grefydd,
Y mae'r diawl yn ddallu beunydd.
Os yng Nhrist ni fynn dyn gredu,
Fe ad Duw i'r diawl ei ddallu,
Ai lwyr dynnu, heb Grist'nogaeth,
I roi cred i bob gau dduwiaeth.
Y dyn fytho Duw yn wrthod,
A rydd ei gred i'r cyfryw ffregod,
Ac a red mewn blinder diriaid,
I swyno ei gorff, i ladd ei enaid.
Nid gwaeth gan y cythrel ddala
Dyn, trwy gredu'r fath fieidd-dra;
Na phe dalai ddyn trwy fwrddro,
Lladd, a llosgi, a chribddeilio.
Gwachel, gwachel, rwyd y temtwr,
Sy'n dy ladd â gwers y swynwr;
Ac na ddos yn amser clefyd,
At y diawl i geisio iechyd.
Cais gan Dduw leihau dy ddolur,
Yn dy drallod tost a'th wewyr;
Ac na chytgan megis pagan,
Geisio help trwy swyn gan Satan.
O cenhada Duw i'r cythrel,
Dreio'th ffydd trwy boen a thrafel;
Bydd ddioddefgar, cymer gysur,
Nes del Duw i laesu'th ddolur.
Er i Dduw genhadu Satan,
Glwyfo Job a dwyn ei arian;
Nid aeth Job at neb o'r swynwyr,
Ond at Dduw i geisio cysur.
At Dduw y rhedodd Hezekias,
Naaman, Tobit, Dafydd, Jonas,
Yn eu blinder i gael swcwr,
Nid at ddewin, nid at swynwr.
Duw sy'n erchi mewn cyfyngdwr,
Alw arno ef am swcwr,
Ac mewn trafel tost a blinder,
I fynd at Grist i gael esmwythder.
Dwl yw'r dyn a red at swynwr,
Yn ei flinder, i gael swcwr;
Fel pe byddai'r diawl barotach,
Na Duw mawr, i helpu'r afiach.
Nid gwaeth mynd mewn cyflwr cas,
At y diawl nag at ei was:
Y diawl ei hun sy'n rhoi, fel twyllwr,
Yr help a gaffech gan y swynwr.
Mae Duw weithiau yn cenhadu,
I'r diawl flino rhai sy heb gredu,
A lleihau eu blinder weithie,
Er amlhau eu didranc boene.
Os cenhada'r Arglwydd iddo,
Fe all wasgu, fe all beidio:
Ond heb gennad Duw ni ddichyn,
Satan ladd na chadw mochyn.
Och, na welai pawb o'r Cymry,
Fod y swynwyr yn eu tynnu
Oddiwrth Grist, i fynd yn ddirgel
I buteinio ar ol y cythrel.
Och na welent bawb y swynwr,
Dros y diawl yn chwareu'r mwrddewr;
Ac yn lladd yr enaid gwirion,
Cyn y swyner o'i ddolurion.
Och na welent fod yr Arglwydd,
Mewn digofaint a llidiogrwydd,
Yn ymwrthod â'r holl ddynion,
Ag a gredo'r fath hudolion.
CWYMPO ODDIWTH RAS.
Gwn na chwympaf byth yn hollol
Oddiwrth Grist, fy Ngheidwad nefol,
Am fod Duw yn ddianwadal,
Sydd â'i Ysbryd yn fy nghynnal.
Yr un a garo Duw'r gwirionedd,
Hwnnw gâr ef hyd y diwedd;
Yr un a alwo unwaith ato,
Ni chwymp hwnnw byth oddi wrtho.
Cynt y cwymp y byd a'i bethau
Oddiar ei sylfaen a'i bilerau,
Nag y cwymp un detholedig
Oddiwrth Dduw, a'i ras arbennig.
Er bod miloedd o gythreuliaid,
Yn ceisio 'speilio Crist o'i ddefaid,
Ni all uffern, â'i holl allu,
Dwyn un ddafad arno er hynny.
Ni all dyn o'i rym ei hunan,
Lai na chwympo, mae mor egwan;
Duw â'i allu sydd yn addo
Cadw ei blant rhag cwympo oddiwrtho.
Crist yw'r pen, a minnau yw'r aelod,
Pwy gan hynny all fy natod,
Oddiwrth Grist fy mhen a'm Ceidwad,
Gwedi'm himpio yntho'n ddifrad?
Crist yw'r Bugail, minnau ei ddafad,
Crist heb gysgu sydd i'm gwyliad;
Pwy yw'r blaidd all ddwyn o'i eglwys
Un o'r defaid a ddewisiwys?
Ni all cythraul ddwyn un mochyn,
Heb gennad Crist, oddiar baganyn:
B'wedd gall ef ddwyn un ddalad,
O gorlan Crist, heb gael ei gennad?
Duw roes imi ei Lân Yspryd,
Yn brid ernes o'r gwir fywyd;
Duw wna naill ai colli ei ernest,
Ai cwpla'i bromeis à mi yn onest.
Duw bromeisiodd imi fywyd,
Duw a'i seliodd im â'i Yspryd;
Gwedi selio imi'r fargen,
Gwn na newid Duw drachefen.
Crist sy'n 'Ffeiriad yn dragywydd,
Yn gweddïo drosom beunydd,
Er na ffaelio'n ffydd un amser:
Nid aiff gweddi Crist yn ofer.
Ni wrthyd Duw mo'r rhai ddewisiwys,
Fe geidw rhai'n tu fewn i'w eglwys;
Fe'u cynnal hwy â'i fraich yn nerthol,
Ni chwymp un oddi wrtho'n hollol.
DUW SY'N TREFNU POB PETH.
NID oes drwg na da 'mhlith dynion,
Nad Dus grasol sy'n ei ddanfon;
Nid oes llymder, nid oes trwbwl,
Nad bys Duw sy'n trefnu'r cwbwl.
O'i gyfiawnder mae e'n danfon,
Ar y byd ddialau trymion;
O'i drugaredd mae e'n rhoddi
I blant dynion bob daioni.
Nid oes ffawd, na siawns, na fforten,
Yn rheoli ar y ddaearen;
Duw, yn ol ei dduwiol feddwl,
Sy'n rheoli oll a chwbwl.
Da, a drwg, esmwythder, trallod,
Bendith, melldith, iechyd, nychdod,
Heddwch, rhyfel, newyn, amldra,
Sydd wrth bwyntment Duw gorucha.
Duw sydd awdwr cosp a thrallod,
A'r diawl yw tad pob rhyw bechod;
Dyn sy'n pechu, Duw sy'n dial,
A'r diawl sy'n annog dyn anwadal.
Nid yw Duw yn awdwr pechod,
Na drygioni (Duw'n ei wybod;)
Duw sy'n danfon pob dialau,
Pechod dyn y diawl a'i parai.
Mae'n rheoli nef a daear,
Y môr a'r maint sydd ynddo'n hagar;
Ac yn trefnu'n daran garcus,
Fawr a bach yn ol ei wyllys.
Dyn ac angel, haul a lleuad,
Pysgod, adar, pob ymlusgiad,
Dw'r a thân, a gwynt a glaw,
Sydd wrth lywodraeth dan ei law.
Mae Duw'n cadw, mae Duw'n cynnal,
Pob creadur trwy fawr ofal;
Mae e'n porthi, mae'n maentano
Y byd mawr a'r maint sydd ynddo.
Mae e'n trefnu, mae e'n gosod,
Mae'n rheoli'r byd yn wastod;
A phob gronyn ag sydd yntho,
Wrth ei 'wyllys fel y mynno.
Mae'n dosparthu oll a chwbwl,
Fawr a bychan wrth ei feddwl;
Fel na ddichon dim ddigwyddo,
Ond y modd y bo'n apwyntio.
Ni ddisgyn ar y ddaear dderyn,
Ni chwymp o wallt ein pennau flewyn,
Ni thyf y gwellt, ni lydna ewigod,
Ond fel y bo Duw mawr yn gosod.
Y peth sydd fwya' i maes o drefen,
Yn ngolwg dyn yn dra anniben,
Mae Duw'n ei droi, o fodd neu anfodd,
I'r un diwedd ag y pwyntiodd.
Nid oes dim a all ddigwyddo,
Ond y dull, a'r modd y mynno;
Y peth a welom ni'n wrthnebus,
Maent hwy'n ol ei ddirgel 'wyllys.
EGLWYS LLANDINGAD-LLE CLADDWYD Y FICER PRICHARD.
"Glawia arni yn gafode
Dy tendithion nes a bore."
Y SABBOTH.
DEFFRO'N fore gyda'r ceiliog,
Ffyst d' adanedd, cân yn serchog
Psalm i'r Arglwydd yn blygeiniol,
Ar bob Sabboth, yn dra siriol.
Gwisg dy ddillad gore am danad,
Ymsancteiddia cyn dy ddwad
O flaen Duw i'r demel sanctaidd;
Hoff gan Dduw ei addoli'n g'ruaidd.
Gwedyn dos a'th dylwyth gennyd
I dŷ Dduw â chalon hyfryd,
I addoli'n Duw'n y dyrfa,
Megis Joseph, Mair, a Josua.
Fe fynn Duw ei addoli'n barchus,
Ar bob Sabboth yn gyhoeddus,
Gyda'r dyrfa yn y demel,
Nid yn ddirgel yn y cornel.
Duw ddibennodd ei holl weithred,
Ar y dydd o flaen y seithfed;
Gorffen dithe bob gorchwylion,
Cyn y Sabboth, od wyt Gristion.
Ymsancteiddia cyn y Sabboth,
Cadw'n lân dy lester boenoth;
Golch dy hun mewn edifeirwch,
Ofna Dduw, a chais ei heddwch.
Cyn y Sabboth rhaid ymgweirio,
A throi pob bydol-waith heibio,
I gael gweithio gwaith yr Arglwydd,
Tra fo'r dydd, mewn gwir sancteiddrwydd.
Gorffwys di, a'th dda, a'th ddynion,
Oddiwrth bob rhyw o orchwylion;
Ac na weithia, ddydd yr Arglwydd,
Waith o bleser na bydolrwydd.
Gwerthu liflod, cario beichie,
Gweithio'n galwad, mynd i siwrne,
Pob ofer-waith pleseredig
Ar y Sabboth sydd warddedig.
Cadw'r Sabboth oll yn brudd,
Fore, a hwyr, a chanol dydd,
Yn dy dŷ fel yn yr eglwys,
Yn gwasnaethu Duw heb orffwys.
Cymer fwy o gare, trech byw,
Weithio'r Sabboth waith dy Dduw,
Nag y gymrech un dydd amgen,
Ynghylch gweithio bydol bresen.
Ar y Sul, mae mor anghenraid
Geisio manna i borthi'r enaid,
Ag yw ceisio, ar ddydd marchnad,
Fwyd i borthi'r corffyn anllad.
Cod y bore ar y wawrddydd,
Am y cyntaf a'r uchedydd,
I gael treulio dydd yr Arglwydd,
Mewn duwioldeb a sancteiddrwydd.
Nid diwrnod ini gysgu,
Nac i dordaen yn y gwely;
Ond diwrnod i'w sancteiddio,
Yw'r dydd Sabboth oll tro gantho.
Nid diwrnod iti loetran,
Nac i feddwi, nac i fowlian,
Ond diwrnod iti weithio
Gwaith dy Dduw, yw'r Sul tra dalo.
Dydd i'w dreulio mewn sancteiddrwydd,
Dydd i weithio gwaith yr Arglwydd,
Dydd i ddarllen a gweddio,
Dydd i addoli Duw a'i gofio,
Dydd i orphwys rhag gwaith bydol,
Dydd i weithio gwaith sancteiddiol;
Ac nid dydd i fod yn segur,
Yw dydd Duw, medd geiriau'r 'Sgrythyr.
Er bod Duw yn erchi coffa
Cadw'r Sabboth yn ddisigla';
Nid ym ninnau'n ceisio cadw
Un gorchymyn mwy na hwnnw.
O'r holl ddyddie nid oes un-dydd
Ym ni'n dreulio mor ddigrefydd,
Mor anneddfol, mor esgymun,
A'r dydd Sabboth tra fo'r flwyddyn.
Dydd i feddwi, dydd i fowlian,
Dydd i ddawnsio, dydd i loetran,
Dydd i hwrian, a gwylhersu,
Yw'r dydd Sabboth gan y Cymry.
Dydd i eiste a dyfalu,
Dydd i ymladd, ac ymdaeru,
Dydd i weithio gwaith y cythrel,
Yw dydd Duw mewn llawer cornel.
Y dydd ddylem ei sancteiddio,
Ym ni fwyaf yn ei 'nurddo,
I amherchu ein Prynwr tirion
A dolurio'i gywir weision.
Treulia'r Sabboth oll yn llwyr
Mewn sancteiddrwydd fore a hwyr;
Ac na ddyro bart na chyfran
O ddydd Dduw i addoli Satan.
Cofia gadw'r Sabboth sanctaidd,
Duw fynn gadw hyn yn berffaith;
'R hwn a dreulio'r Sul yn ofer,
Ni wna bris o ddim orchmynner.
Cadw'r Sabbath, ti a'th gene'l,
Yn dy dŷ fel yn y demel;
Gwna i'th dylwyth fyw mor gymwys,
Yn dy dŷ fel yn yr eglwys.
Tri rhyw waith all dyn arferu,
Ar y Sabboth heb droseddu,
Gwaith duwioldeb yn ddiembaid,
Gwaith cariadol, gwaith anghenrhaid.
Gweithred dduwiol yw trafaelu
I dŷ Dduw i'w anrhydeddu,
Ac i wrando'r 'fengyl hyfryd,
Pet fae 'mhell o ffordd oddiwrthyd.
Gwaith cariadawl ydyw cadw,
Dyn a 'nifel rhag eu marw,
A rhoi ymborth iddynt ddigon,
Ac ymgleddu'r bobol weinion.
Gwaith anghenrhaid, 'r hwn nis galli,
Gynt na chwedi'n ei gyflawni,
Megis cadw tŷ heb losgi,
Gwraig wrth esgor, buwch rhag boddi.
Gwachel ddilyn drwg gyfeillach,
Cyfaill drwg sydd wybren afiach,
Plag yn llygru, pyg yn 'nurddo,
'Y dyn duwiolaf a'i dilyno.
Y RHYFEL MAWR.
A DORRODD ALLAN YN Y FLWYDDYN 1641.
O NA bai fy mhen yn ddyfroedd,
Mi a foddwn eto'r tiroedd,
O maint cymaint yw'r ysgelerder,
Maint yw'r bâr, a'r llid, a'r balchder.
Na bai fy llygaid yn ffynhonau,
Fe ffrydiai o honynt allan ddagrau,
Yn ddibaid bob dydd, bob nos,
Am fod 'nawr ond gormod achos.
Pwy a fu'sai'n meddwl unwaith,
Am y gwyr oedd deg eu baraith,
Fod bradwriaeth mor echryslon,
Yn cael ei meithrin yn eu calon?
Y mae'r neidr las yn gorwedd,
Dan y perthi mwyaf hoffedd!
Lle bo ffrwd y dŵr yn dawel,
Mae yno ddyfnder idd ei ochel.
Yn awr y mae eu hunan gwaedlyd,
Yn dra hyspys iawn i'r holl-fyd,
Gan nad dim ond gwaed y gwirion
A dyrr syched fath genawon.
Llawer gwaith y bu'r Philistiaid
Yn gorthrymu'r Israeliaid,[8]
****
Erioed ni bu y fath beth yma,
Gan farbariaid gwyllt o'r India;
Tebyg gennyf fod y cythrel,
Ym mhob aelod o'r gwrthryfel.
Byth ni thaerai un barbariad,
Mai Duw o'r nef roes iddo gennad,
Ladd a llosgi dynion ufudd
I wir frenin a gwir grefydd.
Ond mae rhai yn mentro dywedyd,
Mai cynhyrfiad y Glân Yspryd,
Ydyw'r achos o'u hymrafel,
A gwisgo am danynt arfau rhyfel.
O fy enaid, na nesa
At gyfrinach y rhai yma,
Sydd yn gablaidd iawn yn gosod
Gwaith tywyllwch ar y Drindod.
Fe fydd gennym fara heno,
Ac erbyn trannoeth wedi ei wanco.[9]
****
Duw a gadwo'n brenin graslon,
Rhag eu brad a'u distryw creulon,
Nertha, O Arglwydd Dduw, ei ddwylo,
Bydd di'n nerth a tharian iddo.
Duw a adgyweirio furiau
Sion ddinas a'i hadwyau,
Ac a helo'r tyrchod allan,
Rhag llwyr ddifa ffrwythau'r winllan.
GWEDDI DROS YR EGLWYS, YN LLAWN O
DDYMUNIADAU GRASOL.
ARGLWYDD grasol, cadw d'Eglwys,
winwydden deg y blanwys
Dy ddeheu-law di dy hunan,
O'r dechreuad yn dy winllan.
N'ad i'r baedd o'r coed ei thurio,
N'ad i'r bwystfil gwyllt ei chropio;
N'ad un gelyn, er mwyn Iesu,
Ei hanrheithio byth na'i sathru.
Bydd yn wal o dân o bobtu,
Ddydd a nos, gan ei chwmpasu;
Bydd a'th lygad arni'n wastad,
A'th fraich rymus yn ei gwarchad.
Cadw hi megis byw dy lygad,
Portha hi fel praidd yn ddifrad,
Trwsia hi fel dy anwyl briod,
N'ad un gelyn byth i gorfod.
Gwella ei gwelydd, cod ei bylchau,
Gwylia ei phyrth a chweiria'i thyrau,
Cadarnha bob barr sydd ynddi,
N'ad un gelyn i difrodi.
N'ad i Dwrc, na Phab, na phagan,
Na'r un pennaeth, waethu'th winllan,
Ond bydd elyn i'w gelynion,
A difetha ei digasogion.
Glawia arni yn gafode,
Dy fendithion nos a bore,
Nes y tano osgle'i gwinwydd,
Dros y byd o'r môr i'w gilydd.
Tafla i lawr, a dryllia'n gandryll,
Rwysg y ddraig, a'i theyrnas dywyll;
Adeilada ym mhob cornel
Deyrnas Crist, a sathra'r cythrel.
Crist, a'th ana'l llwyr ddifetha
Y mab anwir sy'n ymddyrcha;
A'r hen butain goch sy'n yfed
Gwaed y saint, i dorri ei syched.
Gwna i'r 'fengyl wenn farchogaeth,
Trwy'r holl fyd at bob cenhedlaeth,
I gael gorfod a gorchfygu;
A thro bawb o'th blant i'w chredu.
Adeilada o gylch gwmpas,
Ym mhob gwlad dy rasol deyrnas,
Ym mhlith Groegiaid ac Iddewon,
Gwna hwy, Arglwydd, yn Grist'nogion.
I Iddewon gwna drugaredd,
Dangos iddynt dy wirionedd;
Tynn eu hanghrediniaeth ymaith,
Derbyn hwynt i'th gorlan eilchwaith.
A bendithia bob rhyw deyrnas,
Lle addolir Crist yn addas;
Cadw'r 'fengyl sanctaidd iddynt,
Nes del Crist i farnu rhyngddynt.
Nodiadau
golygu- ↑ Cyhoeddwyd y Beibl bach, y Beibl cyntaf y medrai gwerinwr ei feddu, yn 1630. Awydd mawr y Ficer yw gweld pawb yn ei brynu.
- ↑ Codwyd y penillion hyn o gyfrol o lawysgrifau wedi eu hysgrifennu yn nhymor bywyd y Ficer. Cyfrol o ganeuon mawl teulu Moelyrch, yw yn bennaf. Ceir y penhillion hyn fel y cenid hwy yn Nyffryn Tywi. Ni feiddiais newid y caneuon ereill i fod ar lun y rhai hyn, er fy nhemtio i wneyd hynny. Gwelir y ffurfiau "dou" a "lloyad," yn lle "dau" a lleuad" y caneuon ereill.—GOL.
- ↑ Daniel 5:27 "Ti a bwyswyd yn y cloriannau, ac a’th gaed yn brin."
- ↑ Pechais.
- ↑ Dengys y gân hon deyrngarwch Cymru i Siamas (Iago'r Cyntaf), pan oedd yn prysur golli ymddiried Senedd y wlad. Yr oedd ymdrech ffyrnig rhwng y Protestaniaid a'r Pabyddion yn Ewrob; yr oedd teimlad Prydain yn dod yn fwy Protestanaidd bob dydd, ond ceisiai Iago dynnu'n agosach at Spaen Babyddol. Aeth Siarl Dywysog ar daith ffol i Spaen yn 1623, gyda Buckingham benchwiban, i geisio ennill merch y brenin Croeso iddo o'i daith ynfyd yw'r gân hon. Digon prin yr hoffai y Piwritaniaid weddio ar dduwiau paganaidd Delos a Pharnassus, Ond canodd Milton yr un fath iddynt yn ei Lycidas, cyn troi'r duwiau'n gythreuliaid Coll Gwynfa.
- ↑ Anodd peidio cofio mor gyndyn yr ymladdodd Iago'r Cyntaf a'i fab. Prins y Cymry," yn erbyn cadw'r Saboth yn y dull Puritanaidd.
- ↑ Cyfeiriad at John Williams, o sir Gaernarfon, y doethaf o gynghorwyr teulu Stuart. Da y gelwir ef yn "urddas Cymru, llewyrch Lloegr."
- ↑ Gweddill y pennill ar goll.
- ↑ Gweddill y pennill ar goll.
Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.