Wat Emwnt (testun cyfansawdd)

Wat Emwnt (testun cyfansawdd)

gan Lewis Davies, y Cymer

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Wat Emwnt
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Lewis Davies (Lewis Davies y Cymer)
ar Wicipedia



WAT EMWNT

Gan

LEWIS DAVIES,
Cymer.

Nofel Gymraeg.



Lerpwl:
Yng Ngwasg "Y Brython," 356-60 Stanley Rd.

CYNHWYSIAD


RHAGAIR.

Un o'r ddwy nofel a farnwyd yn gydradd am y wobr gyntaf yn Eisteddfod Pwllheli, 1925, yw "Wat Emwnt." Yr Athro Edward Edwards, M.A., Aberystwyth, oedd y beirniad, a rhydd ef air uchel i'w theilyngdod.

Cyhoeddir hi am bris isel gan ddisgwyl y bydd iddi gylchrediad helaeth. Ceir gan yr Awdur ddisgrifiad byw ryfeddol o'r bywyd Cymreig yn niwedd y ddeunawfed ganrif. Disgrifia'r nofel gyd-fuddugol, "Toriad y Wawr," gyfnod cyntaf yr un ganrif. Rhwng y ddwy ceir cipdrem gyflawn ar fywyd Cymreig y ddeunawfed ganrif yn ei wahanol agweddau.

Chwefror, 1928. Y CYHOEDDWYR


Y FEIRNIADAETH.

Polycarp.—Try'r ystori hon o gwmpas cymeriad difyr "Wat Emwnt" er disgrifio bywyd Cymreig Brycheiniog a Morgannwg yn chwarter olaf y ddeunawfed ganrif. Syrthia Polycarp ar galon ei destun yn y frawddeg gynta, ni chrwydra oddiwrtho tan y diwedd. Amlwg iawn fod crefft y nofelydd byw yn rhedeg drwy y nofel oll. Mae ei druth mor ddifyr a fires nes y teimlwn fy mod yn adnabod Wat Emwnt yn iawn, ac i mi fod gydag o mewn ymladd ceiliogod ac yn dianc rhag y Press Gang. Treuliodd hwyrach, ormod o amser yn yr Amerig,—ond gwir ddiddorol ei daith adre. Darlun byw a chywir ar ochr newydd i fywyd gwlad, dosbarth y gwas fferm, dosbarth yr heliwr a'r sowldiwr. Mae'n wir dda drwyddi o'r dechreu i'r terfyn.

Pryderi.—Hanes "Toriad y Wawr"[1] yn Llŷn,—diwygiad y ddeunawfed ganrif—mewn ffurf hunan-gofiant gan Huw Tomos o Fadryn, anwyd yn 1715. Nofel gampus mewn Cymraeg glân ac arddull ddifyr brawddegau awgrymiadol yn taflu goleuni clir ar gymeriadau yr ardal fel y maent yn fyw ger eich bron. Dadlennir arferion yr oes, ei phechod a'i hanwybodaeth, ei hofergoeledd a'i dyhead, a dylanwad y pregethwyr teithiol a'u hanaws, terau yn effeithiol dros ben. Wrth ddarllen rhannau ohoni teimlwch eich bod yn dal eich hanadl gan mor nerthol iaith a disgrifiad yr erledigaeth. Mae'n faith, ond dymunem iddi fod yn hwy o lawer.


WAT EMWNT

—————————————

PENNOD I
Wrth y Cwpwl

"HYFF! Diolch am dipyn o awyr ffres! Y mae'n bo'th ffyrnig i'r lan ar y cwpwl yna! Be' wyr pobol y pentra am waith calad? Ro'wn i'n gweld rhai o nhw trwy dwll y lowsed yn rhodianna gyda glan yr afon gynneu pan o'wn inna' 'mron rhosto o dan y tô. Mae mwy o waith i gywain y gwair i'w le nag y ma' llawar yn 'i feddwl. O's wir, ac fe weta' unpeth arall hefyd,-aiff dim gwybetyn yn rhacor i'r hen gwpwl yna cyn Calan nesa' fe wna'm llw. Ma'r gwair mor dyn o dan y teils ag y gall gwair fyth fod. Aros, funad, Wat, cyn dechra'r cwpwl nesa' i fi ga'l m'anal am dipyn bach, wnei di?"

"Eitha da, machan i, fe wn inna'n iawn beth yw llanw'r cwpwl dan y tô. Gwn, ar fencos i, a hynny pan o'wn i'n grotyn llai na ti, a'r hen Wil Hwlyn yn tawlu'r gwair i'r lan yn ddicon i'm moci. Gwn yn wir, yr hen ffwlcyn di-ened shwd ag oedd e', yn meddwl am neb arall ond i hunan, a chretu y dylsa' pawb fod mor gryf ag o'dd e', yr hen hwrswn! 'Do's tyfedd yn y byd iddo golli'i synhwyra' yn y diwedd-'doedd dim llawer gydag e' yn y dechre'. Ac o sôn am wiped, y mae un peth gyda'r gwair yma sy' lawn galeted gwaith a stwffo'r cwpwl, ac fe ddywi di i wpod 'ny nes ymla'n."

"Beth yw hwnnw, fe garwn i wpod ?"

"Wel, cwnnu cyn pedwar, a lladd chwarter erw ynghanol y gwiped cyn brecwast. Ma' gwiped y bore'n wa'th na gwiped y nos, w'ost."

"Na wn i'n wir!" ma dy gefam di'n rhy fain yto, ond ti ddywi i wpod machan i! dywi-aros di flwyddyn neu ddwy, dyna i gyd! Be sy'n dy law di? Rho weld!"

"Rhwpath a ffeindias ar ben y wal o dan y tylatha', petha' od ond iefa ?"

"Od wir, ia, a mwy nag od. O's gen't ti ryw gynnyg beth y'n nhw ?"

"Dim y lleia.'

"Wel, rho nhw i fi, ac yna fe weta' wrthot ti."

"Cei, am wn i, ma' nhw'n rhwd i gyd ta' beth. Dydy nhw ddim o fawr gwerth i neb, greta i."

"Ddim 'nawr, 'falla', ond bachan! gaflets y'n nhw! ac fe fu rhain yn 'sgleirio fel yr arian un amser; steel spurs r'hen ffashwn ac yn gwneud hafog yn y pwll c'ilocod, tepig. Glywa'st ti mo enw Moc Bla'n Cadlan yrio'd?"

"Wel do, gan 'y nhad a chan 'y mam hefyd o ran hynny. D'o'dd e' ddim llawer o beth."

"Ddim beth, weta'st ti?"

"Dim llawer o beth i sôn am dano."

"O na! ddim yn 'ffeir'ad a gwynab hir ar Ddy' Sul a gwynab arall ar ddydd arall, os hynny wyt ti'n 'i feddwl. Na, dim Ranter 'chwaith yn 'y ngosod i a'm short yn uffern bob tro y gwela' nhw fi. Fe allwn feddwl ta' Press Gang y lle twym y'n nhw ar f'ened i, gan mor barod y'n nhw i ala dyn'on yno! Ond hen fachan piwr o'dd Moc er gwaetha'r ciwradiaid a'r Ranters i gyd. Ffond o wmladd c'ilocod, dyna i gyd. Ac os o'dd hynny'n bechod, barna di! Bachan! 'd'os dim gwell gwaith yn y byd! Wel' di nhw? y ddou dderyn pert yn barod idd 'i gilydd, ac yn gellwng ati! Dyna i ti giem, dyna i ti blwc, y ddou yn wmladd hyd farw. Os creodd y Duw Mawr game cocks pa'm mae hen fenywod o ddyn'on am eu rhwystro i wmladd wn i? A dweyd y gwir wrthot ti'n onest, dyna'r rheswm i fi dd'od yn was i Nantmaden o gwbwl,-'ro'dd Moc hefyd wedi bod yma yn 'i amser e'. Ac 'rwy'n cretu amball waith fod 'i ysbryd e' yma eto. Ond wela's i ddim yn perthyn iddo yrio'd cyn i ti ga'l y gaflets yma. Fe'u catwa i nhw er cof am dano. Diolch! Dai bach, fe wna' i'r cwpwl nesa' os estynni di'r gwair i'r lan. Ond paid a lladd d'hunan, 'rwyt yn rhy ifanc i farw cyn ffair Castall nedd, ha! ha! At y gwaith gocrelyn bach ! fe

dyf dy spurs ditha' yn y man!"

PENNOD II.
Ranters, Mawr a Bach.

DYNA'r ymgom a fu ar ddydd neilltuol yng nghynhaeaf 1775 rhwng Wat Emwnt, gwas pennaf fferm Nantmaden yng ngodreon Brycheiniog, a Dai Price, y gwas bach o'r un lle.

Yr oeddynt wedi bod yn gyfeillgar o'r cychwyn, ac yn fwy felly yn awr nag erioed, oblegid onid oedd ganddynt gyfrinach arbennig iddynt hwy eu hunain ag a felysai eu sgwrs ar bob rhyw bryd? Y nos honno meddyliodd y ddau lawer am a ddywedwyd y prynhawn hwnnw wrth y "cwpwl gwair," a phan ddaeth i gof Wat fod rhai o berthynasau ei gydwas bach yn lled amlwg ymhlith y bobl a alwasai ef yn Ranters, parodd gryn flinder iddo, oblegid onid caredigrwydd y llanc a roddodd y gaflets gwerthfawr i'w feddiant?

Trannoeth yr oedd yr hin wedi cyfnewid er gwaeth, ac nid oedd nemor i ddim i'w wneuthur namyn cyweirio offer a phethau cyffelyb. Felly, buan y daeth y ddau wâs at ei gilydd eto.

"Etrach yma, Dai bach, d'own i'n meddwl dim drwg y ddoe pan 'weta's wrthot ti am y Ranters, nag o'wn wir. Fe wn fod dy ewyrth Shams yn ddyn mawr gyda nhw, a fe f'aswn wedi cnoi'm tafod cyn dweyd dim pe bawn i'n cofio. Ond dyna, -all neb gario'i berthnasa' ar 'i gefan, yn dda neu yn ddrwg, all e'n awr? Beth wyt ti'n 'weyd?"

"Yr y'ch yn eitha' iawn, Wat. Ond gwell oedd i chi son am y Ranters wrtho 'i nag wrtho fe. Un gwyllt oedd e' yrio'd, Ranter neu b'ido. Ond yn wir, Wat, 'dy'n nhw ddim cyn 'rwg a hynny wedi'r cwbwl."

"Ffordd wyddost ti beth y'n nhw? Wyt ti'n un o'u pregethwrs, gwed ?"

"Na! ond 'rwy'n un sy'n gwrando'u pregethwyr nhw, ac yn meddwl mynd idd 'u hysgol nhw he'd pan gaf fi gyfle."

"Beth 'weta'st ti?-yn mynd at y giwed sy'n meddwl d'od i'r Pompran, ac i ddysgu darllen gyda llaw! Gwêl di yma, foy bach, wela's i ddim daioni o'r scolars yma yrio'd-forgers neu glippers bob un. Da ti, paid â 'merlyd â drwg, a hynny mor ifanc. Beth ma' nhw'n i 'neud yn y Pompran, wyddost ti?"

Darllen y Beibl, fel ma' nhw'n 'neud ymhobman arall."

"Beth! meindio busnes y ffeiraton! Dyna hi eto yn mynd â gwaith dyn arall. Ti gei dy dransporto mor siwr ag i'r c'ilog ganu ar y buarth Y bore yma. Ia, a darllen shwd ma' clippo hefyd, tepig."

Clippo! beth yw hynny, Wat?'

"Ti elli ofyn yn wir. Wyddwn i ddim m'hunan cyn i fi weld scoler yn cael 'i groci am hynny, ddydd Ffair 'Berhonddu ddiwetha'. Torri ymylon y gini, a thoddi'r aur hynny iddo fe'i hunan, hynny yw, dy robbo di a finna' o werth y gini, er na fu llawer gini genny' 'rioed, ma'r nefo'dd yn gwpod. Beth arall ichi'n feddwl 'neud 'blaw dysgu gwaith ffeirad?"

"Canu emyna', ac O, Wat! mae rhai o'n nhw'n dda, n'enwetig rhai Wiliams."

"Hm, 'does dim llawer o ddrwg mewn canu, pe baech yn aros m'ynny. Fe fuo'n i'n canu m'hunan yn nhafarn Criw n'ithiwr, ond pwy yw y Wiliams yma 'rwyt ti'n sôn am dano?"

"'Ffeirad ifanc o dop y shir."

"Mae'r Ranters yn lled gryf yno, 'bycwn i. Ond dyna'r gwaetha' am danoch i gyd. 'Does dim plwc malwoten ynoch chi gyda'ch gilydd. Sefai dim un ohonoch chi 'i dir o fla'n y Ffrenshies neu'r Don Spaniels am foment. Pwy welodd Ranter mewn cot goch yri'od? Ha! Ha!"

""Nawr Wat gan bwyll! Un o'n prif ddyn'on ni yw Harris Trefeca, ac fe fu e' yng nghot goch y Milisha pan o'dd y gelyn yn d'od."

"Cweit reit! Dai bach, dyna un i ti. Fe glywa's inna' hynny, a phe baech chi gyd fel y fe, fe fyddai'ch parch yn fwy gan y dyn'on gora."

"A phwy yw rheiny, Wat?"

"Nid y scolers, ta beth. A chan dy fod yn gofyn mor bendant, fe 'weta iti mai'r dyn'on sy heb ofan o un math y'n nhw. Rhwpath fel ti neu fi, otwy' i'n iawn, boy?"

"Lled dda, Wat, a chan 'y mod i'n un o'r dyn'on gora, ys d'wetsoch chi, fe 'weta' inna 'nawr nad oes dim ofan bod yn Ranter arna' i na cha'l f'ystyried yn un sy'n mo'yn dysgu darllen 'chwaith pan ddaw'r ysgol i'r Pompran, fel ma' nhw'n gweyd y daw."

"Bravo, boy! pob lwc i ti. 'Rwy'n dy leicio er gwaetha'r dwli yr wyt yn 'merlyd ag e'. Ond bydd yn ofalus, 'nei di? 'Charwn i ddim i ti dd'od i ddiwadd drwg. Ond ma'r dydd yn gwella— 'rwy'n cretu 'raf i ladd y weirlod y prynhawn yma, —fe fydd hynny wedi'i 'neud wetyn, ac yn barod erbyn daw'r tywydd yn ol. Dyco mishtir yn d'od ar y gair!"

PENNOD III.
Glannau'r Afon.

ERBYN diwedd y cynhaeaf yr oedd Wat a Dai yn fwy cyfeillgar fyth, ac er yn methu â chytuno ar bwnc pwysig y Ranters, eto â pharch mawr i'w gilydd fel y digwydd yn fynych rhwng pobl a anghytunant mewn un peth.

"Wyt ti'n ffond o bysgota, Dai bach?" ebe Wat wrth ei gydwas un prynhawn ar ddiwedd sgwrs hir.

"Wel, am otw, ma' pawb yn ffond o bysgod, ond be' well wy i o hynny, 'does dim pysgod ar ein bord ni byth. Cawl a lla'th enwyn, lla'th enwyn a chawl yw hi yma'n dragywydd, fel y gwyddoch chi gystal a finna".

"Dai! 'dwyt ti ddim yn arfer bod yn dwp. Ffond o bysgota 'wetes i, nid ffond o bysgod.

"O, 'rwy'n gweld. Wn i yn y byd beth i'w 'weyd, 'rown i'n ffond o bysgota â phin cam yn Llycad Cynon slawer dydd, ond ni fu gwialen reial genny' yrio'd."

Ġwialen ! pwy sy'n sôn am wialen? Pe dwedet ti bawlen ti f'aset yn nes i dy le. Dere ma's genn' i heno i dreio'n lwc!"

"Heno? Shwd bysgod yw y rheiny sy'n ca'l 'u dala yn y nos ?"

"Twp eto, Dai. Ond, 'm bachan—rhwyd a phawlen yn dala naw neu ddeg o'r beauties ar y tro a rheiny'n tampo ar y dorlan fel bantams. Dyna beth yw pysgota, boy, dim o dy bwtio'r dŵr â gwialen fain, ac ymron rhewi drwy'r dydd ar lan yr afon. Dere heno, Dai, iti gael gweld beth yw sbort yn iawn. Ac fe 'weta iti beth arall-naw c'in'og y pownd am danynt i gyd, fach a mawr. Ti gei di dy shâr fel finna'. Dere mlân!"

"Ond ble ma'r bawlen a'r rhwyd, wela's i ddim un yrio'd gyda chi ?"

"Ha! Ha! y gwir a weta'st! Wyt ti'n meddwl mod i'n 'u catw ar y shelf a'r dresser neu'r lein-press? Ti weli di nes ymla'n fod genny' rai petha' erill heblaw pawlen a rhwyd sy' ddim yn y golwg. Dishgw'l yma, Dai, r'wy'n cretu dy fod ti'n true blue, neu wetwn i ddim gair wrthot ti. Ond popeth yn 'i amser 'd iefa? Pysgota heno a mynd â'r sbort i ŵr Tafarn Cryw nos yfory. Dyna ddyn y naw c'in'og, cofia, ac fe gymerai deirgwaith gym'int a ddal'wn ni unrhyw amser."

"Wel, Wat, fe ddwa i heno i lan yr afon ta' beth, ond ddwa i ddim i'r tafarn i werthu'r pysgod."

"Olreit, Ranter bach, pwy ofynnodd iti dd'od i'r tafarn? Nid y fi 'rwy'n siwr. Ond cofia fod yn barod wrth gefan y scupor ar ol bwydo'r cre'duriaid maes law, 'nei di ? Yna fe ddechreuwn wrth Bwll y Ffynnon."

Gwnaethpwyd fel y cytunwyd. Wedi rhoddi ei gyfran i bob creadur ag oedd yn y beudai a'r ystabl, aeth Dai i'r man cyfarfod y tu of i'r ysgubor. Yno yr oedd Wat eisoes yn ei ddisgwyl, ac wedi ei genglu ei hun â rhaff wair am ei ganol, a chyda chapan yn dyn am ei ben. Ar ei ysgwydd, wedi ei thaflu'n llaes drosti, yr oedd ei rwyd, ac ar y llawr yn ei ymyl gorweddai y bawlen y soniwyd cymaint am dani yn ysgwrs y prynhawn."

Cymer hon, a dod hi dros d'ysgwydd," ebe Wat wrth ei gyd-bysgotwr di-brofiad, gan estyn iddo yr un pryd sach a oedd wedi ei phlygu yn bedwran, "fe fydd dipyn yn o'r i ti ar lan y dŵr, a thithe ddim yn gyfarw'dd. Gad i fi ei chlymu i ti ?"

Wedi hynny o orchwyl, a chodi'r bawlen feinhir yn ei law, "Dilyn fi !" ebe ef, ac i lawr dros y waun hir a hwy ill dau hyd at ymyl yr afon.

Ar dorlan Pwll y Ffynnon eisteddasant am ennyd, ac yna y gwelodd Dai fod i'r rhwyd nifer o gylchau a ymlithrai yn hawdd ar hyd ddeuddeng troedfedd y bawlen. Cylymodd Wat y cylch cyntaf yn ddiogel wrth flaen y meinbren, rhoddodd ys- gydwad i'r rhwyd i'w lledu i'w llawn gwmpas, ac aeth i waered i'r dwfr gan wthio'r bawlen a'r rhwyd a hongiai wrthi, o'i flaen i'r pwll.

Er mwyn i Dai fod a llaw yn y gwaith, yn fwy na dim arall, rhoddwyd y fasged-un fawr, ddofn, o wneuthuriad cartre'—ar ei gefn ef. Pan sicrheid hi yno, gwenodd y llanc am ei helaethrwydd a'i dyfnder, a gofynnodd i Wat os credai y delid ei llond unrhyw amser.

"Wyddo't ti byth dy lwc, machan i," ebe'r gwron hwnnw. Rhan fynycha' mae digon o le'n hawdd ynddi i'r pysgod a ddaw o'r rhwyd iddi, ond cred di fi neu beidio, 'rwy wedi ca'l amsera' nad oedd hi ond hannar digon hala'th. Dyna un i'r rhwyd ishws, a whelpyn lled dda hefyd greta i. Hisht 'nawr, paid â wilia rhacor, neu fe'u tarfwn i gyd."

Tawelwch felly a fu am beth amser hyd nes i Wat ar ol pysgota'r llyn yn llwyr, dynnu ei rwyd i dir yn y man y digwyddai fod Dai yn sefyll arno ar y pryd. Taflwyd y ddalfa i'r dorlan, ac yno oedd y brithyllod (neu y bantams, chwedl y pysgotwr) yn gwingo ac yn llamu ar y glâs. Cydiodd Wat ynddynt bob yn un ac yn un, a chan osod ei fys yn safn pob brithyll yn ei dro, gwasgai y pen yn ol at y cefn fel ag i dorri'r gwddf. Yna wedi dal pob un yn ei law am ennyd fel pe i amcansynied ei bwysau, gosodai ef yng ngwaelod y fasged fawr. Dyma'r whelpyn cynta', mi wna'n llw," ebe fe, gan gymryd a dal pysgodyn neilltuol yn ei law— hanner pownd os yw e' owns, pysgotyn glân digynnig.'

"Ffordd gwyddoch chi mai fe oedd yr un cynta?" mentrodd Dai i ofyn.

"Wrth 'i gic, machan i," oedd yr ateb hynod, "Do's dim fel brithyll hanner pownd am wingo. Mae'r rhai llai yn rhy wan, ti'n gweld, a'r rhai mwy yn rhy bwdwr. Dyna'r s'boniad, medde nhw. Chlywa'st ti mo hynny o'r bla'n, tepig."

"Naddo'n wir !"

Ac fe allai Dai ddywedyd yr un peth am lawer o ddywediadau eraill a glywodd ef y noson ryfedd hon. Oblegid yr oedd esboniad gan Wat ar bopeth.

Wedi dal da mewn ambell i bwll torrai allan yn fuddugoliaethus—"fe wyddwn—shure shot bob tro." Yna am lyn arall, llai ei ysbail, "mae'r gwyddau wedi bod yma o'n blaena', weld di, plâg ar 'u penna' nhw!"

Ac eto, wedi chwarter milltir o bysgota teneu, "wnaiff hi mo'r tro, fe eisteddwn i lawr fan hon, mae'n llwytrewi, ti'n gweld, a 'dyw'r pysgod ddim yn cerad ar y llwytrew. Rhaid inni aros iddi wella tipyn."

Ac ar hyn tynnodd Wat ei getyn allan, ac a'i mwynhaodd gyda blas amlwg. Ond hyn oedd hynod i Dai (er na ynganodd ef air am hynny)—- y foment ag y darfyddodd yr ysmygu, cododd y llwydrew hefyd, a physgotwyd o hynny ymlaen gyda chryn lwyddiant.

Tua hanner nos dychwelwyd i'r ysgubor, gosod- wyd y rhwyd a'r bawlen yn eu lle diogel, ac wedi datgan o Wat fod y ddalfa yn naw pwys yn siwr o fod," dygwyd y pysgod hefyd i le diogel, ac aeth y ddau i fyny i'r ty, pob un i'w wely ei hun.

Nos drannoeth nid oedd Wat i'w weld yn unman am rai oriau, ond wedi ei ddychwelyd gwasgodd dri swllt i law Dai yn dawel, ac a gauodd y dwrn bychan am danynt, heb yngan yr un gair yn y weithred.

"Ond Wat," ebe Dai, fuo i ddim yn y dŵr fel chi."

"Taw â sôn, gyfaill bach," ebe yntau, "fe'th elwas di yn true blue on'd do fe? Wel, paid â chretu'n wahanol am dana' inna' wnei di? gair ymhellach felny mae i fod, Nos Da! Rwy'n rhoi tro am y fuwch dost cyn mynd i'r penllawr."

PENNOD IV.
Yr Ysgol a'i Hysgolheigion

TUA Chalan Gaeaf y flwyddyn 177— rhedodd y si o fferm i fferm ac o fwthyn i fwthyn yn ardaloedd Blaenau Nedd a Chynon fod Ysgol Ddarllen i'w chynnal ragblaen am drimis yn y Pompran, a bod athro hynod o lwyddianus i ofalu amdani. Parodd hyn lawenydd mawr am fod pobl Godre'r Bannau, fel pobl llawer ardal arall, wedi eu tanio ag awydd angherddol i ddarllen y Gair drostynt eu hunain. Nid nad oedd yn eu plith rai a fedrent hynny eisoes, oblegid oddiar gyfnod Tomos Llywelyn o'r Rhigos a Dafydd Benwyn o'r Tyle Morgrug, bu tô ar ol tô o feirdd lleol yn ymhyfrydu mewn triban, englyn a chywydd.

Ond ychydig oedd y rheiny a dywedyd y lleiaf. Rhodiai corff y bobl mewn tywyllwch, ac er wedi cefnu ar ddefodaeth ac oerni yr hen eglwysi er ys tro bellach, eto heb fynwesu pethau gwell yn eu lle.

Ond wedi fflachio o fellten eirias yn wybren Llanddowror wele Ddeheubarth yn wefr drwyddi. Yr oedd rhai o frodorion y Blaenau eisoes wedi mynychu'r Ysgolion Teithiol mewn cymoedd eraill. "Ysgolion Teithiol" yn wir oedd y disgrifiad mwyaf tarawiadol ohonynt yn eu perthynas â hwy, oblegid ni chyfrifent naw neu ddeng milltir i'w cerdded er eu cyrraedd yn ddim o'u cymharu â'r breintiau a gaent drwyddynt.

Ond bellach, daeth yr ysgol i'w bro hwy eu hunain. Trefnwyd ty annedd yn y Pompran i'w derbyn, ac yr oedd gwerin niferus wedi datgan eu bwriad o fanteisio ar y cyfle.

Mae'n wir fod ambell un fel Wat Emwnt yn siglo pen, ond dyna arfer yr ysbryd ceidwadol erioed, erioed; ac nid oedd brinder ar broffwydi yn darogan adfyd i'r holl blwyf am fod rhywrai yn ymherlyd â drwg," a dwyn gwaith pobl eraill.

Gwenodd dydd dechreu'r gwaith maes o law, ac o bob cilfach drigiannol yn y rhanbarth daeth allan yn eu hawydd a'u miri blant o bob oed a maint, i gyrchu'r ty yn y Pompren lle trigai'r Gamaliel newydd yn barod i'w derbyn.

Un o hafau bychain yr almanac Cymreig ydoedd hi weithian, pan ymddangosai teyrn y dydd fel am wneud iawn am y cynhaeaf brith a roesai ef ddeufis cyn hynny.

Ond yr oedd cynhaeaf mwy toreithiog wrth y drws heddiw, a'r plant eu hunain oedd yr ysgubau llawn.

Ac yn wir, diwrnod teilwng o'r fath gywain ardderchog ydoedd hi. Cyffyrddasai bys oer yr hydref eisoes a dail y cwm gan wawrio eu gwyrddni haf i bob goliw o felynwaith hydref. Uwchben, taenai'r rhedyn crin ei gwrlid marwydos dros y bronnydd, a mygai llechweddau uchaf y foel eu harogldarth yn groeso i'r dydd a'r oes newydd. Dyma'r un rhanbarth dri chanrif cyn hynny a gasglasai ei nerth i ymgyrchoedd gwaed. Ie, a dyma'r un ardal a fynasai anfon, hyd yn oed yng nghôf teidiau'r genhedlaeth honno, ei gwŷr ieuainc o dan arfau dros Graig y Llyn i anrheithio ffeiriau a marchnadoedd Bro Morgannwg. Ond heddiw gwâg oedd y dwylo o arfau dinistr ac yn rhagoriaeth difesur ar yr hen, yr oedd dyhead mawr ymhob calon fach am yr arf gwell o ddysgu darllen Ŷ Gair.

Wedi cyrraedd y pentre a llanw'r ty darpar hyd y drws dechreuwyd ar y gwaith o addysgu; a pha bethau bynnag oedd yn eisiau er hwylysu'r llafur y diwrnod cyntaf hwnnw, aeth brwdfrydedd a sêl, yn ol eu harfer, dros ben pob rhwystr. Ac i goroni'r cwbl adroddodd yr athro ystori Troedig- aeth Sant Paul i'w gynulleidfa eiddgar cyn ei gollwng am y dydd, a mawr oedd yr asbri o glywed am yr un a fynnai ddrygu eraill yn cael ei daro i lawr ei hun.

Ym min nos aed drwy yr un gwersi drachefn i bobl mewn oed, oedd Ysgol Ddarllen y Pompran bellach ar ei thraed am y tymor cyntaf, ac yn barod i dderbyn pwy bynnag a ddelai iddi.

"Wel, Dai bach, ti fuot yn y Pompran n'ith'wr, shwd o'dd petha' yno ?-canu a brygawthan, tepig." "Lle da iawn, Wat, wir, ond ysgol oedd yno, ac nid cwrdd pregethu o gwbwl."

"O, wel, beth yw'r gwa'nia'th? 'Roedd Mari Wil Dwm yno ta' beth, a nid tawel iawn yw petha' lle bydd hi. Ti ddylsit fod wedi 'i chlywad yn y Mapsant diwetha', ond dyna fe—popeth newydd, dedwydd, da."

"Mae'n wir fod Mari yno, a'r Beibl yn ei llaw hefyd, o ran hynny, ac yn c'is'o darllen tipyn goreu y medrai."

Tipyn lled fach, e', greta i. Ond beth ddysgaist ti d'hunan, Dai?"

"Tipyn bach ddysga's inna' hefyd, ond cofiwch, Wat, mai'r tro cynta' o'dd hi. Ond bachan, glywsoch chi sôn am Saul yrio'd?"

"Naddo i'n siwr. O'dd e yn y Pompran hefyd?"

"P'idiwch wilia felna, Wat. 'Ro'dd e'n byw 'mhell yn ol, ac yn rytag dyn'on Duw lawr fel ch'itha. Ond yr o'dd yn 'sglaig campus 'blaw hynny ac yn gwpod bron cym'int a'i fishtir."

Ho! Ho! 'rwy i wedi gweld rhai felna m'hunan. Beth o'dd'i ddiwedd drwg e? Beth weta'st o'dd ei enw?"

Saul oedd ei enw, ac fel y digwyddws, 'i ddiwadd e' o'dd y peth gora am dano."

"A fenta'n 'sglaig! choelia i fawr! Paid c'is'o twyllo d'henach, Dai!"

Dyna ddwed y Beibl 'i hunan, ac fe glywa's Mr. Winter y 'ffir'ad yn sôn am hynny bwy ddydd 'run pryd ag o'dd e'n sôn am Pedr a'r c'il'og."

O, wel, os d'wetodd Mr. Winter hynny, mae e'n depig o fod yn wir, ond beth am y Pedr yna?- shwd g'il'og oedd e'n gatw?"

A gweyd y gwir wrthoch chi, Wat, 'dwy' i'n gwpod fawr am Pedr, ond pan ddwa i i ddarllen chi gewch glywad y cwbwl am dano."

Olreit, Dai bach! 'stica di mla'n, ond paid ag anghofio Pedr, 'nei di. 'Rwy'n leicio clywad am y gamesters i gyd. Gad i ni dawlu ati 'nawr."

PENNOD V.
Y Pwll Canol.

AR gefn Cadair Arthur (neu'r Gatar, chwedl y brodorion) sef yr ucheldir rhwng cymoedd Hepsta a Chadlan, y mae nifer o byllau beision, a wnaed gan natur rywbryd yn haenau calch yr hen fynydd. Er yn gerigog nid ydynt yn serth ac anhygyrch, a llawer aelod o breiddiau'r ardal a gafodd loches ddiogel ynddynt pan ruthrai'r gogleddwynt i lawr rhwng adwyau'r Bannau.

Perthyn tri o'r pyllau hyn i "rysfa " Nantmaden, a phan ymwelai Wat Emwnt â defaid ei feistr, ar unrhyw ben i'r dydd, nid cyflawn oedd ei waith heb edrych y triphwll hyn ar war y coetcae.

Ond er cymaint gofal Wat bob amser am greadur mud, nid ar ddafad y rhoddai ef fwyaf ei fryd, a mynych y ceryddid ef gan Daniel Morgan, ei feistr, am ddilyn ohono" wŷr y c'il'ocod," sef oedd hynny pob llanc da ei fyd yn yr ardal, ac aml i hen gono o dlotyn hefyd, a ymhyfrydai mewn gosod yr adar game i ymladd â'i gilydd.

Ond o chware teg â Wat, dylid dywedud mai dewrder yr adar oedd a'i denasai yn gyntaf i fynychu'r pit. Yr oedd rhywbeth yn osgo'r ceiliog game a apeliai'n fawr ato. "Etrach arno wir, oedd ei air, on'd yw e'n sefyll fel sergeant of the line? Oti, myn asgwrn i, ac yn wmladd fel un he'd."

O dipyn i beth meddiannwyd ef gan ias yr hapchwaraewr, a llawer hanner coron a ddeuthai yn gyntaf i'w ran o werthu brithyllod Hepsta a newidiodd ddwylo am na chefnogasai ef y sergeant iawn.

Ond prif ymgais Wat ydoedd bod yn berchen ar geiliogod ei hun. Jiawst!" ebe fe, "dim ond i fi gael y strain right, fydda' dim atar yn y wlad a safai o'u bla'n. Pob crib a thacell i ffwrdd, a phob plufyn a gewyn yn 'i le. Ia, a'r hanner coron a'r gini yn y pwrs iawn gyda llaw. Fe fynnaf 'u ca'l, ryw ffordd ne'i gilydd neu Wat Blufyn Gwyn a fyddaf yn sicr."

Ond hawddach oedd i Wat, fel ag i lawer ar ei ol, i chwennych nag i gael mewn gwirionedd. Y pwnc anhawddaf iddo, yn fwy na'r arian i brynu'r adar, ydoedd lle i'w cadw wedi eu prynu. Fe bysgotai ef Hepsta i'w brithyllyn olaf i dalu pris y 'deryn, ond ble oedd walk y ceiliog i fod? dyna'r pwnc!

Gwyddai ef syniad y meistr am dano ef fel gwas a bugail, ond gwyddai gystal a hynny, mai ofer gofyn lle i'r adar game yn Nantmaden,—yr oedd ei feistr yn rhy bendant ei farn ar y mater o lawer.

Ag ef yn ei drafferth fawr am lety'r adar, a'i feddwl yn ceisio dyfalu pa beth i'w wneuthur, dug ei fugeilio ef un bore heibio i'r Pwll Canol ar y mynydd lle'r ymddangosai popeth fel arfer.

Ond ar y foment o'i fyned ymaith oddiyno tarawodd ar ei glyw sŵn cyffro isel, ac o edrych i'r creigle, gwelodd ynolwddwn' wedi ei ddal rhwng dau faen. Brysiodd i waered ato, a chydag ychydig o symud ar y cerrig mwyaf llwyddodd i dynnu'r carcharor yn rhydd, heb fod hwnnw nemor gwaeth o'i gaethiwed.

Wedi gollwng y creadur, arhosodd Wat i chwilio'r agen yn fanylach, gan ddilyn ei chwrs gyda llethr y pwll am tua deuddeg troedfedd. Yr oedd y tyweirch naturiol ar ei phen am yr holl bellter hwnnw, ac yr oedd o leiaf bedwar agoriad iddi rhwng y meini, o wyneb y pwll mawr ei hun. Cerddodd Wat yr un tir droion, gan edrych a oedd unrhyw agoriad o gyfeiriad arall i'r agen neu beidio. Ymddengys ei fod wedi ei foddhau ei hun yn hynny, oblegid, ebe fe'n fuddugoliaethus, "Y peth i'r dim! Fe fydd yma ddeilad yn y freehold bach hwn cyn pen yr wythnos! Wat Emwnt! y machan i! Ti fyddi'n ŵr bonheddig wedi'r cwbwl!"

Yn ystod y dyddiau dilynol bu gofalu arbennig ar y myllt tua Blaen-y-Gatar, ac yn fwy arbennig fyth ar y rhai agosaf i'r Pwll Canol. Cyn hir, nid yn unig yr oedd y man y syrthiodd y llwddwn iddo yn berffaith ddiogel, ond, o gloddio amryw gerrig allan yr oedd yr agen wedi ei lledu o dan y nengraig a dau esgynbren praff wedi ei sicrhau o'r un mur i'r llall. Ni allai neb, hyd yn oed o sylwi'n fanwl, weld fod yno ddim ond a arferai fod, namyn maen ag ychydig fwsogl arno a wasanaethai fel drws.

Dyma'r lle a baratodd Wat yn gartref i'r ceiliogod game, y blysiai ef gymaint am eu cael.

PENNOD VI.
Ceiliog y Mynydd.

A HI yn ddydd marchnad, ymhen tua phythefnos ar ol diogelu o Wat ei aderyn coch yn ei gastell caerog, gwahoddodd y gwron hwnnw ei gydwas bach i edrych y "defaid mynydd "gydag ef.

"O'r gore, fe ddwa, Wat, ond i fi droi'r gwartheg ma's yn gynta'. Peidiwch mynd hebddo i!"

Ac felly y bu. Trowd y gwartheg allan i gae'r adladd ac esgynnodd y ddau i'r mynydd.

Wrth ddilyn ohonynt lwybrau'r defaid gydag ael yr ucheldir, llawer testun ymgom a fu rhwng y cyfeillion, ond diwedd pob ystori o du Wat oedd y pwys o fod yn deyrngar y naill i'r llall, neu yng ngeiriau Wat ei hun, "bod yn true blue" ymhopeth.'

Erbyn hyn yr oeddynt wedi cylchu ffin eu " rhysfa," ac yn dynesu at y pyllau ar eu ffordd yn ol i'r tyddyn drachefn.

"Heist!" ebe Dai, "mi wna'm llw i mi glywed c'il'og yn canu. Rhyfedd fel ma'r sŵn yn cario heddi'!"

Oti, ma' fe gneud hynny'n wastad ar dywydd tawel. Ond chlywa's i m'hono, 'falla' mai c'il'og coch y mynydd glywa'st ti. Ma' llawer o grouse yma w'ith'a', yn dod ar ol hadau'r grug.

"Na, Wat, fe wn i sŵn y c'il'og grouse yn eitha' da—un crycllyd iawn yw e"

"Ia, ond crycllyd yn yr haf yn unig yw e', cofia, ac yr y'm o fewn mis i Nadolig yn awr. Rhyfedd fel ma'r flwyddyn yn mynd."

Gyda hyn yr oeddynt yn nesu at y Pwll Canol ac â hwy ynghanol eu hysgwrs dyna eto ganiad ceiliog, ac yn ddigamsyniol y tro hwn, ac megis wrth eu hymyl. Torrodd Wat allan i chwerthin, ac ebe fe," yr o'et yn eitha reit, Dai bach." Yna gan sobri ei wedd yn sydyn, cydiodd ym mraich y llanc gan ddywedyd, Yr wyt yn true blue, Dai, on'd wyt ti?"

"Otw, wrth gwrs," ebe hwnnw, ac fe ddylech wpod 'ny erbyn hyn!"

Wel, estyn dy law! dyma drue blue yn 'i chymryd i, a dere lawr gen' i iti weld y c'il'og game perta' oddiyma i Fryste. Thwylla's i mohonot ti, wa'th ma' fa'n g'il'og mynydd he'd, os bu c'il'og mynydd yrio'd."

Yr oedd Dai mewn syndod mawr erbyn hyn, ond gwnaeth fel yr erchwyd ef, ac a ddilynodd Wat i waered dros lethr y pwll. Yno, cyn mynd ymhell, canfu'r bugail yn troi llechfaen mawr i'r naill ochr, ac yn myned yn ei blŷg i mewn i ryw wagle a oedd y tu ol i'r drws carreg. Yna ymhen ychydig eiliadau daeth allan drachefn gan ddwyn yn ei freichiau geiliog game o goch a du gloyw.

"Dyma fe!" ebe'i berchennog balch, Beauty of the Beacons,—dyna'r enw, a dyna'r cymeriad hefyd. Beth am dano, Dai?"

'Deryn pert, wir," ebe'r llanc, mae'i bluf yn dishglirio fel yr our. "Ble cesoch chi e'? 'Does dim un c'il'og ar y fferm yn depig iddo."

"Ha! Ha! fe allwn feddwl hynny," chwarddai Wat. Dyma drue blue arall iti. Ia, myn brain i, neu gofyn i wŷr Banwen Byrddin os na chreti di fi. Fe fu'r Beauty a finna' yno, bwy nos Satwrn yn setlo petha'."

"Wmladd, wrth gwrs?"

Ia, beth arall o'et ti'n feddwl, nid pregethu ti ellid fentro. Ond dyna, too bad i fi wilia felna hefyd. Dere 'nawr, Dai bach! beth am y 'deryn? wnaiff e'r tro?"

'Rwy' wedi gweyd ishws 'i fod e'n dderyn pert. 'Rwy'n leico lliw 'i bluf e'n ddigynnig, ond pam yr y'ch wedi torri peth o'i sparduna'?"

Wel, gan nag wyt yn gwpod, rhaid i fi weyd wrthot ti,—yn gwmws am yr un rheswm ag wy' wedi cropp'o'i ben e'. 'Does dim crib na thacell gento ti weli—rhy beryglus o lawer, machan i. Ac o achos fod dur yn g'letach nag asgwrn, dyna'r rheswm torri bla'n y spurs naturiol a chlymu spurs dur wrth y bonion. Dai, bachan, wyt ti ddim yn cofio'r spurs dur o dan y tylatha' r'haf diwetha'? Ti 'dhunan ffeind'ws y gaflets a dyma nhw ar 'y ngair i ym mhoced 'y smock i. Etrach fel ma' nhw'n ffito. Diaist i! fe fydd lwc i'r Beauty ar ol ffito gaflets Moc Bla'n Catlan, bydd, ar f'ened i! A chan 'n bod yn trafod pwyntia'r deryn teimla'i goesa' fe, wnei di? pob gewyn fel tant telyn, a'i wddwg e'r un peth. Hwre! i'r Beauty ar f'encos i! Gweidda! Dai, bachan, gweidda Hwre! yn lle meddwl ta' canu, a darllan a phregethu yw popeth. Ond honar breit, Dai bach, dim offens, cofia. Pobun a'i ddileit, on'd i efa?"

Eitha da, Wat, ond pe bawn i yn 'ch lle ch'i, weiddwn i ddim llawer am y c'il'og.'

"Ho! Ho! oes gen't d'hunan, neu wyddot ti am un a'i maeddiff?"

Na, nid hynny o'wn i'n feddwl, Wat, ond 'ch shars'o rhag ofan i mishtar glywed—dyna gyd."

"O, eitha' da, fantam bach, yr wyt yn eitha' reit. Charwn i ddim iddo fe wpod o bawb. Ma' genny 'ormod o barch iddo. Ond bachan! ta' faint o barch sy gen' i i mishtir, ma' genn' i gariad at y deryn yma. Ac o ran hynny 'weti di ddim ar dri chynnyg pam y gofynna's iti dd'od genny' i'r mynydd heddi'.”

"Does genny' r'un amcan.

"Wel, dyma fe i ti—fel bod rhywun arall, a hwnnw'n un ffyddlon, i estyn tama'd o fwyd i'r 'deryn pe bâi rhwpath yn dicw'dd i fi,—anhap, pwl o ddolur, neu wn i beth."

O, wel, 'chelai'r deryn ddim starfo, fe ofalwn i am hynny, ta' beth ddigwyddai i chi," ebe Dai yn wresog.

Dyna ddicon i fi—estyn dy law, Dai bach, 'wy'n dy gretu ar dy air. Gad inni fynd lawr 'nawr, mae'n mron pryd bwyd."

PENNOD VII.
Mynd i'r Plough.

UN bore yn niwedd yr un wythnos, clywai Dai, am y tro cyntaf erioed, Wat Emwnt yn mwmian canu. Croesi'r buarth yr oedd ef i'r beudai gan ddal i swnio

"Eira gwyn ar ben Craig Llyn
Pythewnos cyn Nadolig,
Dyro fawnen ar y tân
A rho' mi gân yn ddiddig.

Helo, Wat, be' sy'n bod? yr y'ch yn hapus i ryfeddu heddi'. Beth yw enw'r gân?"

"Dai bach, y ti sy' yna? Wel am otw, bachan, yn lled hapus heddi'. Ond weli di mo Craig y Llyn yn ei gap gwyn draw uwchben y Rhicos? Dyna beth wna'th i fi ganu. Wn i ddim ar glawr daear beth yw enw'r gân 'chwaith, dim ond un pennill wn i o honi, er i fi glywed y penillion i gyd yn Nhafarn Cryw, nos Ffair Waun ddiwetha. Ond o wilia am y Rhicos, glywaist ti yrio'd sôn am y Plough?"

"Arad y'ch chi'n feddwl?"

"Nace, bachan, ond Tafarn y Plough ar y Rhicos."

"Naddo i'n siwr, a 'dyw hi ddim gwa'nia'th genn' i am hynny, os ta' tafarn yw e'. Gormod o dafarna' yr y'ch chi'n wpod am dany' nhw, 'ch hunan, Wat, os ca' i 'weud 'y meddwl wrthoch chi."

"Hold on, Dai, ar y tafarna' yna! Er mod i'n 'itha' bolon iti 'weud wrtho i be' fynni di. Ond 'waratêg yw 'waratêg! Ac fe glywa's i Mr. Winter yn gweyd y Nadolig diwetha' ta' miwn tafarn y c'as rhyw Un Mawr iawn ei eni. Ma' tafarna' a thafarna', cofia! 'Nawr, pe dwedet ti air crôs am y 'Cwrw Bach' a phetha' felny, fe fyddwn i gyda thi ar unwaith, ond am y Plough, Hold on! Ac o ran hynny, nid tafarn y Plough 'rown i'n feddwl, a bod yn eitha' manwl, ond pentra'r Plough, y Cwmhwnt—sydd y nacos iddo. 'Ro'wn i'n wir yn mynd i ofyn i ti dd'od gyda fi yno nos yfory—i'r pentra 'rwy'n feddwl. Mae cwpwl o fechgyn y Fforest-o'-Dîn yno, yn meddwl fod ganddi nhw well c'il'og na'm Beauty i, ac 'rwy'n mynd i ddangos gwell iddy' nhw."

Dyn'on Fforest-o-Dîn ar y Rhicos! Beth y'ch chi'n feddwl? 'Ro'wn i'n cretu ta' Cymry oedd gwŷr Rhicos i gyd."

"Na, ond fel hyn y mae'n gwmws. Ma' mishtir gwaith; mawr Cyfartha—Bacon yw ei enw—wedi acor gwaith mwyn ha'rn yno, a ma'r Fforesters wedi d'od gyda fe i w'ith'o o dano. Ma' nhw'n cyfri'u huna'n yn fechgyn lled h'inif he'd, ac wedi ala shalans i fi gyda Shon Tai Cypla i dd'od â'm c'il'og yno nos yfory am gini'r ochor. Ddwi di gyda fi i helpu cario'r Beauty? Paid gweyd Na! Does neb arall yn gwpod ym Mhenderyn fod genny' 'dderyn o gwbwl, a ma isha partner arna' i."

Ffordd gwydda' gwyr y Plough fod deryn gyda chi o gwbwl?"

"O! rhai o honyn' nhw oedd ar Fanwen Byrddin bythewnos yn ol, pan glir'ws y Beauty'r pit i gyd. Dere genny', ffrind bach, fe ddown yn ol erbyn deg yn rhwydd. Paid gweyd Na, wir!"

Rhwng bodd ac anfodd cydsyniodd Dai, ac erbyn tywyllu o ddydd byr Rhagfyr yr oedd Beauty mewn sach yn yr ysgubor yn barod i'w ddwyn i faes yr ymdrech.

Ymhen awr wedi hynny gwelid y ddeuddyn yn dringo Rhiw'r Cyrff wrth eglwys henafol Penderyn fel pe mewn brys mawr. Cyrchu yr oeddynt i ardal Cwmhwnt, Rhigos, fel ag i gyrraedd gwesty'r Plough erbyn chwech, sef yr awr benodedig i ddadorchuddio'r adar yn y pit.

Cyn cyrraedd ohonynt y lle erchodd Wat ar i Ddai sefyll yn ol ryw ganllath o'r dafarn, gan gadw yn ei ofal y sach â'i llwyth gwerthfawr.

"Paid ti â syflyd o'r man hyn nes delo i'n ol i dy 'mofyn oedd orchymyn Wat iddo, "'fe a' i mla'n i weld y lle ac i wrando ar beth glywa' i cyn dangos fy 'neryn. Ma' hen law fel fi wedi gweld llawer o betha' od yn dicw'dd wrth fod yn rhy fyrbw'll. Dyna yw'r fontesh 'n bod yn ddou yn lle un, ti'n gweld."

Ymhen tua chwarter awr dychwelodd Wat, ac wedi datgan fod popeth' byf-bôrd,'" Rho'r deryn i fi," ebe ef. 'Dos dim rhaid i ti dd'od gyda fi os nag wyt ti'n dewish, ond paid â bod ymhell o'r man hyn 'mhen awr a hanner, dyna' gyd. Dyma fi'n mynd, 'rwy'n siwr dy fod yn dymuno lwc i'r Beauty bach. Paid ag anghofio!—ymhen awr a hanner!"

Wedi i Wat fynd oddiwrtho, ni allai'r llanc yn ei fyw lai na'i ddilyn; ac yn y gwyll hawdd ydoedd gwneuthur hynny heb dynnu sylw neb. Yn y modd hwn enillodd Dai dalcen y gwesty, ac wedi troi o hono'r gongl i'r tu cefn yno yr oedd gody helaeth, a goleuni llachar yn taro allan o'r ffenestri. Wrth y drws yr oedd amryw o ddynion fel pe'n anelu am fyned i mewn, a llawer mwy, a barnu wrth eu sŵn, yn yr ystafell eisoes.

Am na sylwai neb yn neilltuol ar neshad Dai cyn belled a hyn, mentrodd groesi'r ddôr, gwthiodd ei hun yn dawel rhwng dau Sais mawr, a gwelai o'i flaen fath ar fwrdd llydan, oddeutu troedfedd oddiwrth y llawr gyda chanllawiau isel ar hyd ei ochrau, a llinellau yn marcio ysgwariau o amryw faintioli hyd ei wyneb. Yn hongian wrth drawst mawr y nenfwd, ac yn union uwch ganol y bwrdd ysgwar yr oedd llestr pres addurnol, gyda dwsin o ganhwyllau wedi eu goleu a'u gosod arno.

O gylch yr ystafell, mainc wrth bob pared, yr oedd lle i'r dynion i eistedd, a thua phedair troedfedd uwch bob mainc, yr oedd astell ar y pared i ddal llestri'r yfed.

Clywsai Dai lawer yn ei amser am lawer lle o'r fath, ond dyma'r tro cyntaf iddo ei weled. Prin yr oedd wedi ennill iddo ei hun le i eistedd nag y clywodd lais o ben pellaf yr ystafell yn dywedyd mewn dull swyddogol: "Gentlemen, we are honoured this evening by the presence of two gentlemen, wellknown wherever good sport is found. I allude to Master Anthony Moore, the nephew of our employer, and Master Thomas Hargreaves, his friend. May they see a rare set-to this evening. Gentlemen! please conclude your bets, so that the birds can take "the pit."

PENNOD VIII.
Yr Ornest.

AR y gair bu tawelwch am ennyd, ond, ar ysgwyd llaw o berchenogion yr adar, a gollwng y ddau geiliog yn rhydd ar y bwrdd, rhedodd ton lafar o edmygedd o gylch yr ystafell. Amlwg oedd fod Cymry, ymron i gyd, ar ochr Wat, ond y Fforesters, yn ddieithriad, gydag ambell Gymro (megis yr un y lladdodd Beauty ei aderyn ef ar Fanwen Byrddin) o blaid ei wrthwynebydd.

Ond dacw'r ddau aderyn yn crychu plu eu gyddfau ac yn wynebu ei gilydd yn ffyrnig. Aden a choes, coes ag aden, y bu hi am ryw ysbaid, gyda gwylio manwl gan y naill am wendid y llall, a'r ddau yn hynod gyfartal. Gweithio'n ol a blaen ar hyd y bwrdd mawr ac eto frathu â'r ysbardun, a thariannu â'r aden, drachefn a thrachefn.

Daliai Dai ei sylw ar ei gyfaill yn hyn oll, ac o bu ias y frwydr mewn llygad dynol erioed, yn nhrem Wat yr oedd y pryd hwnnw. Tua diwedd yr ymosodiad cyntaf dechreuodd y rhegfeydd a'r Ilwon ddyfod i'r amlwg, yn Saesneg ac yn Gymraeg, a'r dorf yn ymysgwyd y ffordd hon a'r ffordd arall, gan ddilyn ffawd yr ymladd yn anymwybodol yn eu hystum corff eu hun.

Ar darawiad chwibanwyd yn uchel gan feistr y chware, cydiwyd yn y ddau aderyn gan y swyddogion a benodwyd i hynny ac yr oedd yr ymgyrch cyntaf ar ben. Trodd pob gŵr at ei beint ar yr astell, yfwyd dracht helaeth ohono, a bu siarad uchel cyn dechreu o'r ail chware.

Ati eto—y ddau geiliog wedi eu hadnerthu yn y seibiant, ac wedi eu hail-gynddeiriogi gan boen yr ergydion blaenorol. Nid oedd y dorf mor dawel yn yr ail-ymosodiad hwn. Clywid " 'Nawr Beauty bach!"a "Go it Lydney Boy!" o wahanol fannau, ond Wat ni ynganai air, mwy na'r Fforestwr gyferbyn ag ef, am y tybid hi'n doriad ar foesau'r pit i'r perchennog ddatgan ei deimlad un ffordd neu'r llall.

Ond nid oedd yr unrhyw atalfa ar y gweddill o'r cwmni, a gwelodd Dai lawer dwrn yn cau o dan rym dylanwad yr ymdrech.

Cyfartal iawn ydoedd hi y waith hon eto, a llamodd calon y llanc i'w wddf o weled unwaith ysbardun milain y Lydney Boy yn sefyll allan rhwng plu gwddf y Beauty. Ond brathu'r plu yn unig a wnaeth, ac ymladdwyd i ben yr ail ymosodiad yn chwyrn i'w ryfeddu.

Gwelodd Dai oleu newydd yn llygad Wat tua'r amser hwnnw, ac amlwg hyd yn oed i'r llanc dibrofiad ei hun, oedd arwyddion o wanhau'r Lydney Boy pan seiniwyd y chwibanogl unwaith yn rhagor. Erbyn hyn yr oedd pobl y tafarn yn dechreu ail lenwi'r llestri ar yr astell, a chwyddai'r twrw yn fwyfwy fyth.

"To the Pit," ebe'r llais am y drydedd waith, ac wele eto y ddau aderyn yn wynebu ei gilydd gyda'r un dicter ag o'r blaen. Ymladdodd y Lydney Boy mor wrol ag erioed, ond nid oedd yr un grym yn ei ergydion na'r un chwimder i'w amddiffyn ei hun, â'i aden. Ar y llaw arall daliai'r Beauty ati fel pe yn ffres i'r frwydr. Nid oedd ond un terfyn, namyn o ddamwain, i'r fath ymladd, a gwelid hynny'n eglur ddigon yn lleferydd ac osgo'r Foresters a'u cyfeillion Cymreig. Yn ebrwydd daeth y diwedd gydag ysbardun dur Beauty'r Bannau yn ymennydd y Lydney Boy.

Trodd Dai ei olwg at Wat i weld sut yr ymagweddai yn awr ei fuddugoliaeth, ond y cwbl a ganfu ef oedd gweled ei hen gyfaill yn taro un llaw yn y llall ac yn codi a nesu at feistr y chware. Yn ymyl hwnnw oedd y ddau ddyn ieuainc y soniwyd am danynt yn nechreu'r ymgyrch.

"Demned fine bird!" ebe'r cyntaf o'r rheiny, ac "It's ten golden guineas I'll give you for him this instant," ebe'r llall.

Ond gan estyn heibio iddynt er cymryd ei aderyn oddiwrth y swyddog, ebe Wat wrthynt yn ei Saesneg hy bratiog, "Me no sell."

Taer oedd y gŵr ieuanc, serch hynny, ac yn y diwedd dywedodd, "At least, give me your address, for you'll surely change your mind and let me make an offer later. Here's my card!"

Dywedodd Wat mai yn Nantmaden, Penderyn, yr oedd ef yn byw, ond pwysleisiodd unwaith eto, "Me no sell."

"Come along, Anthony," ebe'r gŵr ieuanc cyntaf, "and bide your time. He'll be glad of a fiver later on. Demned fine bird all the same!"

Pan gyrhaeddodd Wat y drws yr oedd Dai eisoes wrth ei ochr, ac yn gofyn am gael cario'r Beauty adre. Ofn oedd ar y llanc y byddai i'w hen gyfaill fynd, yn afiaith y fuddugoliaeth, i'r gyfeddach gyda'r mwyafrif o'r cwmni. Ond yn hynny siomwyd ef i'r ochr oreu oblegid, wedi troi o Wat at y gŵr o Fanwen Byrddin a dywedyd rhywbeth wrtho am "bump o'r gloch yfory," dilynodd ef ei gyfaill bach allan i'r awyr agored, ac i waered i'r heol. Cyn mynd nemor o ffordd esboniodd Wat i'w gyfaill y peth a barodd ei ddyfod mor fuan.

Os wy' i'n mynd i ga'l c'il'ocod da rhaid gofalu am dany'n nhw, ac fe fydd isha bwyd mawr ar y Beauty erbyn cyrhaeddwn ni Nantmaden."

Bydd wir," ebe Dai, ac er mai atgas ganddo holl helynt yr ymladd yn y Plough, teimlai ei hun yn cynhesu at ei gydwas o weld ei ofal dros y ceiliog dewr.

Ychydig fu'r siarad ar y ffordd adre namyn unwaith neu ddwy am wrthydri'r Beauty, a'r braw a deimlwyd yn yr ail ymosodiad o weld ysbardun y Lydney Boy drwy blu'r gwddf.

"Dere i'r scupor ucha gyda fi cyn mynd i'r ty, wnei di?" ebe Wat at ddynesu ohonynt at y fferm. Yno tynnwyd yr aderyn allan o'r sach, ac wedi edrych ei niweidiau yn fanwl, torrodd Wat allan mewn dolef mawr, "Bachan! Bachan! dim ond trwch y blewyn oedd hi!"

Yna gwelodd y llanc fod ysbardun y Lydney Boy wedi torri rhych o glwyf yn wddf y Beauty, a phe bâi ond chwarter modfedd yn nes i mewn byddai wedi darfod am dano. Llongyfarchodd Dai ei gyfaill o galon ar y waredigaeth fawr, a cheisiodd yr hen was guddio ei gyffro ei hun trwy frysio i fwydo'r aderyn â'r mângig a baratoisid ar ei gyfer cyn cychwyn i'r Plough.

Ar ol gosod y ceiliog yn ddiogel dros y nos, nid oedd dim ychwaneg i'w wneuthur ond mynd i'r ty a cheisio ymddangos nad oeddynt wedi bod nac yma nac acw, namyn gyda gorchwylion y fferm.

Cyn cyrraedd ohonynt y ty, teimlai Dai ei fod rywfodd wedi bod yn anheyrngar iddo ef ei hun yn holl weithrediadau'r noson honno, ac ebe fe wrth ei gydwas, "Edrychwch yma, Wat. Mae'n bryd i i ni ddeall ein gilydd. 'Rwy' wedi gwneud popeth a addewais i chi ynglŷn â'r wmladd yma, ac fe gatwaf f'addewid eto i ofalu am Beauty pe digwyddai rhwpath i chi. Ond hyn 'rwy'n 'weyd—rhaid i chi b'idio gofyn i fi dd'od i'r Plough nac i unman arall tepig iddo yto, wa'th ddwa i ddim, a 'rwy'n cretu ta' mishtir sy'n iawn, ac nag o's dim da i dd'od o ddoti dou dderyn diniwed i wmladd am 'u bywyd am fod Duw wedi rhoi plwc di-ild'o iddi nhw."

"Fel y mynnot, Ranter bach, ond ma' pawb yn 'i 'neud e, hynny yw pawb ond y Ranters.

"Wel, cyfrifwch chi fi fel Ranter ynte, ac yna fe fydd popeth yn iawn."

O'r gora', fe gofia i beth wyt ti'n 'weyd, ond gad i ni fynd mewn n'awr—fe glywa's Mali yn galw swper' pan o'wn ni'n y scupor ucha."

PENNOD IX.
Dysgu Darllen.

CREDODD Dai unwaith neu ddwy yn ystod yr wythnos ddilynol fod Wat fel pe wedi digio wrtho am ei siarad plaen noson y frwydr fawr. Ond gorfu iddo'n ddiweddarach gyfaddef wrtho ei hun wneuthur ohono gam â'i hen gyfaill, a da ganddo hynny, oblegid ni charai er dim ddyfod o gwmwl rhyngddynt.

Yn wir, nid oedd heb gredu yn y diwedd fod Wat wedi ei hoffi'n fwy am y geiriau celyd eu hunain.

"Beth am y Pompran, Dai?" ebe fe ryw fore, "Oti'r darllen yn gwella peth gen't ti?"

"Gwella! fe allwn i feddwl hynny.

'Rwy'n gallu mynd 'mla'n yn awr bron wrtho'm hunan, heb lawer o help Mr. Thomas o gwbwl."

"Dyna'r peth glywa's i n'ith'wr yn y pentra, ac nid wy'n meddwl llai am danat ti, am nad ti d'hunan 'wetws 'ny gynta'."

"Diolch yn fawr ich'i Wat!" ebe'r llanc gan wrido ychydig. Ond, bachan! dyna beth ardderchog yw gallu darllen, chretsech chi ddim."

"Creta i wir, wa'th fe leic'wn i allu darllen m'hunan. Ond dyna fe—ffordd arall y mae hi, a thrueni ma' dim ond y chi Ranters sydd yn dysgu dyn'on."

"Wel, dewch yn Ranter'ch hunan!"

"Y fi'n Ranter! Bachan! fe fydda' dim taw ar y sôn o hyn i 'Berhonddu. Ond gad i fi dy glywed yn darllen, mae gen't ti Feibl yn rhywle, tepig."

"O's yn y ty, fe af idd 'i 'nol e'r funud 'ma. Cerwch lan i'r stapal erbyn dwa i ag e ma's."

Aeth Dai i'r ty i ymofyn y llyfr, ac aeth Wat i fyny i'r ystabl yn barod er clywed y darllen.

"Bachan! ma' gen't ti Feibl pert digynnig," ebe Wat ar dynnu o Dai ef allan odditan ei got.

Ai hwn g'est ti'n bresant?"

"Ffordd gwyddoch chi i fi ga'l presant o gwbwl?"

"Clywed yn y Tafarn Isha 'netho i n'ith'wr, ac yr o'dd yn dda genny' he'd."

'Wel, dyma fe, ta' beth, a chystal genny'r ysgrifeniad ar 'i ddechra' â dim. Clywch, Wat, Presented to David Price of Nantmaden, Penderyn, for proficiency in the reading of his Bible.—William Williams.

Nawr, gwe'd yto pwy yw y William Williams yma."

Ond, Wat, bachan, y dyn 'ry'm ni'n canu 'i emyna' fe. Galw h'ib'o oedd e ar 'i ffordd i Abergwesin, wedi bod yn pregethu ym Morgannwg, mewn lle o'r enw Gofwlch, neu Gyfylchi, ne' rhwpath tepig. Dyn golycus dros ben yw e' hefyd, a'i wallt melyn yn hong'an lawr dros 'i ysgwydda'.

"Hold on, Dai, 'does dim rhaid i ti feddwl fod dyn yn un golycus o achos iddo roi llyfyr i ti."

'Rwy'n cytuno â chi, Wat, ond dyn glân dros ben yw e' ta' beth wetwch ch'i."

"Olreit, dwed un o'i emyna' fe i ddechra. Gwell iti b'ido'i ganu ne' fe ddaw Mali ma's i weld be sy ar y mochyn."

"Thenciw, Wat, ond dyma'r emyn ta' beth,

Dros y bryniau tywyll, niwlog,
N'dawel, f'enaid edrych draw,
'R addewidion sydd i esgor
Ar ryw ddyddiau braf gerllaw.
Nefol Jiwbil, Nefol Jiwbil,
Gad im' weld y bore wawr.

H'm, nid drwg! Beth pe cawn i glywed y part o'r Beibl a ddarllenaist ti iddo fe 'nawr.'

"Arhoswch funud ynte, i fi ga'l 'i ffeindio fe. Dyma fe—gwrandewch!"

Yna Dai, gyda phwyslais arbennig a ddarllenodd i bagan Brycheiniog yr adnodau cyntaf yn I. Samuel xviii.: "Ac wedi darfod iddo ymddiddan a Saul, enaid Jonathan a ymglymmodd wrth enaid Dafydd, a Jonathan a'i carodd ef megis ei enaid ei hun. A Saul a'i cymmerth ef atto y diwrnod hwnnw, ac ni adawai iddo ddychwelyd i dŷ ei dad. Yna Jonathan a Dafydd a wnaethant gyfammod, o herwydd efe a'i carai megis ei enaid ei hun. A Jonathan a ddiosgodd y fantell oddi am dano ei hun, ac a'i rhoddes i Dafydd, a'i wisgoedd, ie, hyd yn nod ei gleddyf, a'i fwa, a'i wregys."

"Darllen da, digynnig, Dai, ia'n wir. Cystal â Mr. Winter, a gwell am wn i, er 'i fod e'n 'ffir'ad. Ond diaist i, dyna drwmpyn o'dd y Jonathan yna, sbort yn iawn, 'ddyla' 'i. Chlywa's i ddim sôn am dano fe o'r bla'n. Ond 'dwyn rhyfeddu dim am dano wedi'r cwbwl yn mo'yn bod yn bartner â Dafydd, os ma'r Dafydd yna o'dd y bantam bach 'ny a laddws yr heavy weight—beth o'dd 'i enw fe? slawer dydd—"

"Goliath y'ch chi'n feddwl, tepig—Goliath o Gath."

Ia, dyna fe, ac fe ddylet ti fod yn falch ta' Dafydd yw d'enw di. Do's dim un Wat yn y Beibl, tepig iawn. Ond cofia ma' genn' i ewyrth yn Jonathan, a thylwythyn lled biwr yw ynta' hefyd, fel dy Jonathan ditha'. Dishgwl yma, Dai bach, fe fydda' i'n mo'yn iti ddarllan i fi o hyn i ma's, rhwpath a dipyn o sgarmej yndo, i ga'l cwnnu 'nghalon i 'nawr ac yn y man.

"Olreit!" chwarddodd Dai, "ond, cofiwch, do's dim sôn am wmladd c'il'ocod yn y Beibl."

Wel, ma' wmladd arall ddicon yndo, medde pawb, a ble ma'r gwa'nia'th wn i rhwng dyn a deryn? Ond dyna—gad i ni fynd 'nawr, a chofia gatw dy bresant yn sâff."

PENNOD X.
Cydwybod yn mynnu siarad.

FELLY y trefnwyd, ac felly y gwnaed. Darllenai Dai rannau o'r Ysgrythyr i Wat wrth oleu cannwyll yn yr ysgubor neu'r ystabl, tra rhoddai Wat ei farn annibynnol ef ei hun ar y cymeriadau neu'r gweithredoedd. Sylwodd y darllennydd bach nad oedd air mwyach am frwydrau'r adar, er y gwyddai, o weld Wat yn dringo i fyny yn ddyddiol at y Pwll Canol, fod y Beauty o hyd yn ei gastell mynyddig. Ac un prynhawn mentrodd ef ofyn i berchennog yr aderyn sut yr oedd Beauty wedi gwella ar ol ei friwiau.

O, ma' Beauty gystal ag yrio'd, ond rhwffordd ne'i gilydd do's dim o'r un blas ar betha' 'nawr wedi i fi werthu'r mochyn."

Pwy fochyn, Wat?"

"O, ia, wyddot ti ddim am dano, wrth gwrs. Pan etho i o dy fla'n di i'r Plough y noswa'th hynny, mynnodd perchen y c'il'og ga's 'i ladd gan Beauty ar y Banwen ddala a fi, ei fochyn e' yn erbyn fy ngini i, y wadai'r Lydney Boy 'y nghil'og i. Fe gollws, wrth gwrs, ac fe etho i i mo'yn y mochyn o'i dwlc ar y Banwen nos drannoeth.'

Otych chi'n gweyd ichi gario'r mochyn bob cam oddiyno?"

Naddo, ond fe etho â'r merlyn mynydd a'r car llusg at y gwaith ac fe ddetho â'r mochyn hefyd. Ond, bachan, anghofia i byth wyneb y wraig pan welws hi fod 'i bwyd hi a'r plant wedi ei golli gan y gŵr."

'Dych chi ddim yn arfadd bod yn galad, Wat. Pam oe'ch chi mor galad y pryd hynny?"

"Fel hyn, ti'n gweld. Wela'st ti'r britsh pen lin o'dd y dyn yn 'i wishgo yn y Plough? Wel, fi o'dd 'i berchen e' unwa'th, ac fe colla's iddo fe mewn matsh cyn i fi ga'l y Beauty. Ac fe dda'th i'r Plough yn y britsh hwnnw'n unig er mwyn 'y mhoeni i. Ond dyna fe—fel arall bu hi, fel gwyddot ti, ac fe gollws ynta 'i fochyn."

"Beth 'nethoch chi â'r mochyn wedi'i ga'l e'?"

Mynd ag e' i'r un man â'r pysgod wrth gwrs, ac fe geso gini am dano gan William Lewis, Tafarn Cryw, ond dyna'r gini fwya' diflas geso i yrio'd."

"Beth am dani?"

"Ia, beth am dani'n wir! Ond creta di fi ne' b'id'o, cheso i ddim Ilonydd nes mynd â hi bob cam i'r Banwen a'i rhoi i wraig perchen y c'il'og."

"A 'nethoch chi hynny'n wir, Wat?"

"Do'n eitha' siwr i ti, a diolch am waredu'r hen gini. Pe bawn wedi ei chlippo, ni fyddai 'nghydwybod i'n waeth."

Wel, rhowch 'ch llaw, Wat, ddaw'r mochyn yna ddim yn 'ch erbyn, ta' beth."

"Thenciw i ti am 'weyd hynny, Dai; ond y thenciw gora' geso i oedd yn llycad y wraig pan ddeallws hi mod i wedi d'od i roi'r hen gini gythra'l iddi. Dyna'r gwir i gyd i ti, ond paid sôn rhacor am y peth, 'nei di?"

"Na wna i, os hynny yw'ch dymuniad chi. Ond pam, Wat, na adewch chi'r hen grefft o wmladd yn llwyr?"

"Ma 'want arno i 'neud hynny ambell waith, ond un anlwcus wy' i wedi bod yrio'd."

"Chlywa's i neb arall yn gweyd hynny ond y chi 'ch hunan."

"Mae'n eitha gwir, serch hynny. Ti wyddot nad o's genny' air ar lyfyr, nag un tylwythyn cefnog yn perthyn i fi 'chwaith. Er hynny ma' mryd i yrio'd ar dd'od yn werth arian. Llawer gwaith cyn i ti dd'od yma y buo i'n pysgota Hepsta er mwyn talu am docyn lotri, ond dda'th dim i'm ffordd i un amser. Dyna wâs Cilwiber ym Mlaenglyn, fe brynws e' docyn ac fe ga's fil o bunna' y tro cynta' y mentrws. Ond am dano i—blank bob tro. Wetyn fe wela's ddyn'on yn ennill llawer yn y pit, dyn'on dim gwell na finna' na chystal chwaith i 'napod deryn da. Ac, meddwn i wrth m' hunan, dim ond i fi ga'l 'chydig o'r atar o'r strain iawn, fe ddo'n berchen arian heb ofyn dim i neb. A phan oeddwn i bron wedi d'od i ben y ffordd, dyma mishtir a thitha'n pregethu byth a hefyd wrtho i. Dim ond unpeth eto sy'n ol i fi—wela i—mynd yn lleidr penffordd."

"P'id'wch â sôn, Wat, am hynny, da chi. Do's dim croci am wmladd c'il'ocod, ond os ewch chi'n hw-a-man, dyna ddiwedd arnoch chi, heb un os"

Weta's i ddim yr awn i, do fe? Ond mae'n ddicon i ala dyn, oti, myn asgwrn i. Wn i yn y byd a glywa' i rwpryd o'wrth y dandy hynny yn y Plough a gynhicws ddeg gini i fi am Beauty. Edrycha' hwnnw'n un a llycad at dderyn da, ta' beth, a ma' deg gini'n ddeg gini bob amser.'

"Eitha' gwir, ac fe'm tarews i fel gŵr caretig he'd un a fydda'n ofalus o greatur mud. Ond os ca' i ddweyd fy marn 'do'dd genny fawr golwg ar y pecock arall, dyn y 'demned fine bird.' Bach a fydda'm ffydd i yndo fe unrh'w amser.

"Ac a wyt ti'n cretu y bydda'r llall yn biwr i'r Beauty pe bawn i'n delio ag e'."

"'Do's genny' ddim ond 'y marn, wrth gwrs, ond fe fentrwn i arno fe yn well na'r llall, dyna gyd."

'Rwy'n cretu fel titha', ond, dyna—welwn ni byth m'honw nhw mwy,—wetyn beth dal whilia? Faint o'r gloch yw hi, wn i? Dyma fi'n mynd i 'sbio'r da.

PENNOD XI.
Llythyr Pwysig.

YMHEN tridiau ar ol yr ymgom uchod rhwng y ddau was, bu i Wat gryn gyffro, ar ei ddyfodiad i waered o'r mynydd, o glywed gan Mali'r forwyn fod llythyr iddo ar silff y dresser.

"Ifi! wyt ti'n siwr? I mishtir 'rwyt yn feddwl!" Nace, i ti!—MR. Watkin Edmunds, os gwelwch chi fod yn dda!"

Estyn e' i fi, Mali! ma' nhra'd i'n frwnt i fynd i'r room. Ble ma' Dai?"

"'Roedd e' ar y buarth gynna'. 'Dyw e' ddim ym mhell, MISTER Edmunds!"

"Paid shimplo dy well, MISS Mary Jones! Ond dyco Dai, ar 'y ngair i. Fe whilia i a thi wedi i fi dd'od nol, MISS Jones!"

Aeth Wat allan i'r ystabl, ac wedi dangos yr amlen i'r llanc, a chlywed eto fod y llythyr wedi ei gyfeirio i Mr. Watkin Edmunds, Nantmaden, Penderyn, near Hirwain, erchodd i Dai ei agor, a'i ddarllen allan. Hynny a wnaed, ac i'r perwyl canlynol:

"If Mr. Watkin Edmunds of Nantmaden is willing to sell his game cockerel—Beauty of the Beacons, he will find Mr. Anthony Moore, at present of the Castle Hotel, Brecon, ready to come to terms. Should Mr. Edmunds bring his bird any morning to the above hotel, he must inquire for A. Moore, Esq., who trusts that this missive will lead to business."

"Beth yw missive, Dai?—'rwy'n diall y rest i gyd. Mae e'n mo'yn prynu'r Beauty, dybycwn i.'

Oti, ma' hynny'n blaen, ac ystyr missive yw necas 'rwy'n cretu. Be' newch chi? Dyma shawns ichi werthu ta' beth."

"Wn i yn y byd mawr! Ond dyna sy'n od'rwy' ishws wedi gofyn i mishtir am gennad i fynd i'r dre' drennydd i weld Moc 'y nghendar. Fe fydda'n taro i'r dim i fi alw'n y Castle yr un pryd. Wyt ti'n cretu'n 'itha' siwr y bydde'r dandy bach, Mr. Moore yna, yn gretig i'r d'eryn?"

"Wtw i—fe weta's hynny o'r bla'n."

"Do, fe wn, ond bachan! mae e' shwd g'il'og pert,—cha i byth mo'i depig yto."

Ni roddodd Dai un ateb i hyn am nad oedd ofyniad ynddo, ond amlwg iddo fod Wat mewn cyfyng gyngor ynghylch y cynnyg.

Aeth trannoeth heibio ymron yn llwyr heb gyfeiriad pellach at Aberhonddu a'i westy. Yr oedd Wat yn ddwedwst iawn drwy'r dydd, ac ni fynnai Dai er dim dorri'n anystyriol ar ei daw. Ond pan ar fedr mynd i'r ty dros nos mentrodd y llanc gyfeirio'n gynnil at fyned o'i ffrind i ffwrdd y dydd canlynol.

"Welai mo'noch chi 'fory, Wat, tepig."

Na, Dai, fe fyddai i wedi mynd cyn dydd, ond d'wn i yn 'y myw beth a wnaf â'r c'il'og. Fuo i yrio'd m'wn shwd fix naddo, ar f'ened i."

Teimlai Dai oddiwrth y lleferydd ei fod yn dywedyd y gwir, oblegid nid byth y galwai Wat ar ei enaid yn dyst ond ym munudau ei gyffro mwyaf, gwnai "myn asgwrn" i neu "ar fencos i" y tro ar achlysuron llai.

Teimlai Dai mai gwell hefyd a fyddai iddo ef ei hun fod yn dawedog oblegid pe mentrai ef ar gymeradwyo gwerthu'r aderyn priodolid ef ar unwaith i'w gredo fel Ranter a byddai Wat yn sicr o'i wrthod.

Felly aeth y llanc i'w wely heb fod nemor callach am fwriadau perchen yr aderyn am y dydd canlynol, ac ychydig a feddyliai, pan ymadawai ag ef y noson honno mai hwnnw oedd y tro olaf iddynt weled ei gilydd am rai blynyddoedd.

Bore trannoeth yr oedd lle Wat yn wâg wrth y bwrdd. Nid oedd neb yn y ty yn rhyfeddu dim am hynny, am y gwyddid fod yn ei fwriad i gychwyn cyn dydd. Ond fel y tyfai'r diwrnod daeth i feddwl Dai mai hynod o beth oedd na ofynasai Wat iddo am ofalu am yr aderyn, hynny yw, os ei adael ar ol oedd ei fwriad. Rhaid, wedi'r cwbl, ei fod o'r dechreuad yn benderfynol o'i werthu. "Ond mi af," ebe'r llanc wrtho ei hun, "i'r Pwll Canol y prynhawn yma i ga'l bod yn siwr, ta' beth."

Hynny a wnaeth ar ol cinio, ac yn sicr ddigon nid oedd yn y cwt ar y mynydd na cheiliog nac arall. "Diolch am hynny!" ebe Dai, "ond fe boena' i 'rhen walch wedi'i dd'od 'nol, am 'y nghatw i yn y tywyllwch. Ond hen fachan annw'l yw e' wedi'r cwbwl, er 'i fod mor 'styfnig weitha'".

PENNOD XII.
Mynd i Aberhonddu.

Y BORE hwnnw, rai oriau cyn dydd, curwyd wrth ddrws Tafarn Cryw gan Wat Emwnt o Nantmaden, a rhaid ei fod wedi cychwyn i'w daith tuag yno yn oriau mân y bore, cyn y gallai gyrraedd yno mor gynnar ag y gwnaeth.

"'Be sy' arnoch chi i gyd heddi? Otych chi am droi'r nos yn ddydd? 'Do's dim deng munud odd'ar pan agora's o'r bla'n i Domos Dafi, Tregaron, a o'dd ar 'i ffordd yn ol o Ferthyr. Be sy' genn' ti heddi'? Pysgod neu beth? Fe wela'i sach genn' ti, ta beth."

"'D'os genny' ddim yn y sach i chi heddi', William Lewis. Gweld y gola' 'nes i, ac fe dda'th 'want peint arna' i."

O, felly, yr wyt yn mynd ymhellach, fe dybycwn, gan dy fod wedi cwnnu mor gynnar."

Wel, a'm otw, 'rwy'n mynd i'r dre' i weld 'y nghendar Moc. Edrychwch ar hwn, William Lewis, 'newch chi (gan estyn llythyr Mr. Moore i'r tafarnwr) 'falla' gwna' i dipyn o fusnes arall yno hefyd. Llythyr yw e' o'wrth Mr. Anthony Moore o 'Berhonddu."

"Na, darllen di e', Wat, d'wy i ddim sgolhaig. Un peth yw scor'o peint neu gwart ar gefan drws, peth arall yw darllen llythyr gŵr bynheddig."

'R'ych 'run peth a finna'n gwmws ynte, ond cynnyg prynu'r c'il'og mae 'e ta' beth."

"Faint mae e'n fo'lon roi?"

"Deg gini ar'm llaw."

"Da digynnig, 'rwyt yn gwerthu, tepig iawn. A dweyd y gwir wrthot ti, 'rown i'm hunan wedi meddwl cynnyg pump i ti am dano. Ond 'dalla' i ddim cystadlu a gwŷr yr ha'rn. Ti wyddot, wrth gwrs, ma' nai Mr. Bacon o Gyfartha' yw Mr. Moore. Bachan! dal ma's am bymthag, ti cei nhw, rwy'n siwr, wa'th c'il'og da yw'r c'il'og. Galw wrth dd'od 'n ol i ga'l clywed yr hanes. A dim ond iti ddoti'r go's ola' mlaena' ti ddeli Domos Dafi wrth glwyd Blaenglyn 'nenwetig os yw e'n ca'l dipyn o sgwrs gyda'r Hen Binshwner fel arfadd."

Olreit, dyma fi'n mynd!" ar hyn cododd Wat ei beint at ei enau, cydiodd yn ei sach, ac allan ag ef i'r tywyllwch.

Yr oedd William Lewis, Tafarnwr Cryw, wedi barnu'n iawn, oblegid ar neshau o Wat at Glwyd Tyrpig y Mynydd clywai ddau yn ymgomio'n uchel; ac a barnu wrth y siarad, y drofer oedd ar fedr ymadael i'w daith

'Rhoswch funud, Tomos Dafi, 'newch chi," ebe Wat ryw ddeugain llath oddiwrthynt. Pwy sy'n galw, ac mor fore â hyn?" Cyfaill ar daith," ebe Wat drachefn.

"Dewch ymla'n i'r gole' ynte!" ebe'r drofer yn uchel drachefn, ac ebe fe mewn llais isel wrth geidwad y glwyd, sef oedd hwnnw yr Hen Binshiwner, "Paid mynd miwn am funud. Shors, 'dwy i ddim yn leico cyfeillion hewl y brenin i gyd chwaith."

Ar hyn yr oedd Wat wrth y glwyd, ac o fewn cyrraedd y siarad. Yr Hen Binshwner a dorrodd ar y tawelwch gyntaf, ac ebe fe, "Wat! y ti sy' 'na? I ble wyt ti'n mynd yr amser hyn? yn ddiweddar am n'ith'wr ne'n gynnar am heddi', wyt ti, dwed?"

"O, cynnar am heddi'," chwarddodd Wat, gan feddwl am bosibiliadau eraill yn y gair, ac fe glywa's gan William Lewis yn Nhafarn Cryw 'ch bod chi o mla'n i ar yr hewl, ac fe frysia's i'ch dala er mwyn ca'l lifft i'r dre."

"Olreit, Wat, neidia i'r lan! ond pe baet ti heb 'y nala wrth y glwyd a thitha'n galw arno i ma's o'r t'wllwch fe fyddwn wedi dy saethu heb un petruster. Ti fuot yn lwcus am unwaith. Shwd ma' petha' tua Phenderyn yna? 'Rwy'n clywed eu bod yn mynd i 'neud hewl newydd heib'o i chi o Aberdâr i'r dre?"

"Fe glywa's inna' hynny he'd—trwy Hirwaun, y Pompran a Hepsta."

"Ma' nhw'n gweyd fod Bacon, Cyfartha' yn dechra' rhywbeth sha Hirwaun, fe fydd yno le da i werthu moch—ceirt ma's law, tebig iawn"

"Bydd, am wn i, ma 'i w'ith'wrs ymhobman ishws—pudlers ar Hirwaun, calchwyr yn y Pompran, a mwynwyr wrth Graig y Llyn.

"Mae'n amser prysur yno ynte rhwng popeth."

"Prysur! Oti, greta i, gyda dyn'on Fforest-o-Dên wrth y Plough, a'r Ranters dwl yn y Pompran.'

"Be sy'n ddwl ynddi nhw?"

"Canu, a gweddio, a phetha' felny, a 'nawr ma' nhw wedi acor ysgol yn y Pompran i ala'r drwg yn wa'th."

"Ellid di ddarllen d'hunan?"

"Na alla' i, ma'r nefo'dd yn gwpod."

"Leicet ti ddim gallu g'neud hynny? Mae llawer o'r dynion mwya' tluaidd yn ein hardal ni wedi dysgu ers tro."

"Wel, a lwo'r gwir, fe leicwn, a 'falle' nawr ych bod chi'n un o hony' nhw a finna'r whilia fel hyn. Ac fe wn i am un neu ddau o'r Ranters yn y Pompran, m' hunan, sy'n 'itha' tluaidd hefyd."

Teimlai Wat ei fod ar dir peryglus wrth ddal ymlaen yr ymgom yn y cyfeiriad hwn, ac felly o dipyn i beth, trodd yr ymddiddan at foch, a'r galwad mawr am foch 'ceirt' yn ardal Merthyr. Oddiwrth hynny trowd drachefn at lwc ac anlwc gyda lotri, gan ddiweddu gyda'r newyddion cyffrous o'r Amerig lle yr oedd y trefedigaethwyr eisoes yn anesmwyth ac yn bygwth torri i ffwrdd oddiwrth yr hen wlad.

Ac â'r teithwyr yn agoshau at Lanrhyd dechreuodd ddyddio ac erbyn eu bod wrth bont Llanfaes, ac yn myned i mewn i'r dre yr oedd y trigolion yn dechreu myned yn ol a blaen wrth eu gorchwylion.

"Diolch yn fawr ichi, Tomos Dafi, am 'ch lifft, mae wedi arbed naw milltir o gerad i fi. Ddewch chi miwn i'r Fountain am lasad? Mae ichi 'reso!"

"Na, dim heddi', Wat, diolch. A chofia hyn, os cei di gyfle i glywed Jones Llangan neu Hywel Harris Trefeca rywbryd, cer' idd 'u clywed nhw, ac yna fe ga i siarad â thi. Bore da, a dwed wrth dy feistr fod y moch yn mynd i godi, wnei di?"

"Fe wna'. Bore Da!"

PENNOD XIII.
"Hir pob Aros."

"Well, my man, what is it you want?" Dyna a ddywedodd gwas gwesty mawr Aberhonddu wrth Wat Emwnt ar guro ohono ar ddrws neilltuol y tu fewn i'r cyntedd allanol.

"Anthony Moore, Esquire, sir," ebe'r Cymro, gan deimlo llawer o yswildod wrth fod yn y fath le rhwysgus.

"Then you won't see him till after dinner," ebe'r llall drachefn gan lygadu'r gwladwr o'i ben i'w draed. "He went out hunting this morning."

"O," ebe Wat, me come again after dinner."

"Very well, then, but it will be a long time. You can leave anything with me if you like," hyn gydag edrychiad llym ar y sach.

"No, nothing leave," ebe Wat drachefn, gan droi i fynd ymaith gan wasgu'r sach a'i chynnwys gwerthfawr at ei ochr.

"Be' wna i 'nawr?" ebe fe wrtho ei hun, " wela' i mo Moc cyn y prynhawn, a 'dwy i ddim am iddo w'pod am y deryn chwaith. Fe ro' i fwyd i'r Beauty yn gynta' dim, ta' beth wna' i wedyn."

Ar hyn aeth yn ol i'r Fountain wrth y bont, ac wedi galw am yfed iddo ei hun, fe ofynnodd os ca'i ef fynd i fwydo'r aderyn yn y stabl. "'Dyw e' ddim wedi ca'l briwshonyn heddi!"

Cewch, yn enw dyn," ebe'r wraig yn hawddgar, "a dewch yn ol 'ch hunan i ga'l tipyn o fara a chaws wedyn."

"Diolch ichi, Mrs. Prydderch, fe ddwa ar 'ch gair."

Hynny a wnaed, ac wedi gollwng y Beauty yn rhydd yn yr ystabl, a'i fwydo'n ofalus a chigfwyd, a dynnai ei berchennog allan o logell ei gôb, daeth crwt o grŵm, tua deunaw oed, i'r lle ato.

"C'il'og pert ofnadw'!" ebe hwnnw. "Dwedwch wrtho i—a o's wmladd i fod yn y dre heddi'?”

"Nag o's, am wn i, pam 'rych chi'n gofyn?"

Dim, ond bod lot o Saeson diarth yn y bar y funud hon, ac nid yw hi'n ddydd ffair na marchnad chwaith. A dyma ch'itha' a'ch c'il'og yn y man hyn wedyn. Meddwl, 'rown i, fod rhwbeth i fod heddi'."

"Falla' 'i fod e'n wir, ond dyw'm c'il'og i ddim yn mynd i'r pit am rai dyddia' ta' beth."

O, 'rwy'n gweld, ond fe weta i eto, fod gennych chi dderyn pert, o's, byth na chyffro i!"

Oti, ma' Beauty yn eitha' game, ac wedi profi hynny fwy nag unwa'th. Dewch i miwn am las'ad gyda fi!"

I mewn yr aed, ac yno gwelwyd, yn ol dywediad y grŵm, fod amryw o Saeson dieithr yn y lle, ac yn uchel iawn eu swn gyda llaw.

"Go blimey! Talk about your Slasher," ebe un, "Tom Crap's the boy for me! There's nothing in England to touch him!"

Ar hyn aeth y siarad yn uwch fyth, a bu sgwrs hir a gwresog am allu paffiol oreuon y grefft y dyddiau hynny. Un amser ymddangosai fel pe bai cynnyg i fod arni yn y man a'r lle hwnnw. Ac am hynny brysiodd Wat i gwblhau ei bryd o fara a chaws, a chan wacau ei beint, a nodio i'r grŵm a fu mor dda ei chwaeth am aderyn game aeth allan i'r heol unwaith eto, a'i sach o dan ei gesail.

Cerddodd yn araf i gyfeiriad y bont, lle yr oedd amryw o weilch yn syllu i lawr gydag eiddgarwch i'r pwll islaw.

"Dacw fe!" ebe un, a real beauty hefyd." Wrth glywed y gair "beauty," enynnwyd cywreinrwydd Wat, ac o syllu'n fanwl, gwelodd fod yn y dwfr nid yn unig un eog mawr ond tua hanner dwsin eraill hefyd, nad oedd y cwmni ar y bont eto wedi sylweddoli eu presenoldeb.

"Mae run dda eleni," ebe Wat wrth y llanc nesaf ato. "Welwch chi'r ddou arall yco wrth y garreg fawr?"

"Gwela', myn jiawch i, 'ry'ch chi, ddyn diarth, yn gwpod rhwpath am bysgod, 'rwy'n gweld. 'Falla' ta' samwn neu ddou sy'n y ffetan gyda chi'r funud yma. Ma' lot gyda ni'r whippets i ddysgu genny chi old dogs yto, o's, myn jiawch i.'

Chwarddodd Wat ar hyn, a dechreuodd symud ymaith rhag ofn y byddai sports y bont yn profi'n rhy ymchwilgar, ac wedi myned ohono cyn belled â Newton, hen gartre Syr Dafydd Gam, a syllu ar harddwch y gerddi yno, trodd yn ei ol i'r bont drachefn, ac aeth drosti eilwaith i'r dre.

"Tepig y bydd cin'o yn y Castle am un, ebe fe, ac os gofynnaf am y gŵr bynheddig obithtu ddou fe fydd popeth yn iawn, greta i."

Ond pan alwodd ef, wedi cerdded yn ol a blaen hyd yr awr honno, mawr oedd ei siom o gael ateb sarrug gan yr un gŵr ag o'r blaen, "It was after dinner I said, man. Don't you understand English?" Seven o'clock—make sure this time!"

Druan o Wat—canol dydd oedd awr ei giniaw ef drwy'r flwyddyn yn gyfan, a pha fodd y gallai ef wybod fod awr giniaw y gwŷr mawr yn wahanol i awr giniaw Nantmaden? Aeth allan o'r gwesty yn wylaidd iawn, a cherddodd yr heolydd unwaith eto, gan brofi'n llawn mai "hir pob aros." Ond hirach fyth a fyddai onibai clywed a gweled ohono lu o filwyr wrth eu hymarfer ar feili'r castell. Agoshaodd atynt, a diddorol iawn ydoedd gweld y symudiadau rheolaidd a'r troi chwim.

Ag ef ar fedr ymadael â'r beili er rhoi tro arall drwy'r ystrydoedd culion gwelodd fod y Saeson a yfasai yn y Fountain y bore hwnnw hefyd yn y cylch a wyliai'r milwyr. A phan ymadawodd swyddog neilltuol a'r rhelyw o'r milwyr, gan ddyfod i'w cyfeiriad hwy, canfu Wat er ei syndod hwynt oll yn ei gyfarch â saliwt filwrol. Rhyfeddodd y Cymro ychydig am hyn ar y pryd, ond deallodd y rheswm am y saliwt yn fwy eglur maes o law.

PENNOD XIV.
Bargeinio Cyndyn.

PAN dreuliodd y prynhawn hyd at bedwar o'r gloch, a Wat yn troi'r gongl er cyrchu'r Struet unwaith yn ychwanegol, daeth i'w gyfarfod hanner dwsin o fytheiaid ynghyd a thua dwsin eraill ar eu holau yn eu dilyn yn ddeuoedd ac yn drioedd i fyny dros yr heol. Yna nifer o helwyr yn eu cotiau cochion ar eu meirch, a'r holl dre ar y palmant yn syllu arnynt.

"Dyma'r dyn o'r diwedd!" ebe'r Cymro wrthi ei hun, a chyda'r gair wele un o'r helwyr yn troi oddiwrth y lleill ac yn ei gyfarch, The very man! How are you Edmunds? Come to the hotel and I shall see you at once. Prysurodd y siaradwr ar hyn ar ol ei gydhelwyr a phrysurodd Wat ar ei ol yntau.

Erbyn cyrraedd ohono ddrws mawr y gwesty, daeth Mr. Moore, ag ef eto yn ei got goch gyda'i ffrewyll yn ei law, allan i'w gyfarfod, ac ebe fe,

"Follow me," ac a'i dug i ystafell fechan y tu ol i ystafell fawr y giniaw. If you are like me, you are jolly thirsty, let me call for a glass of ale for you before we proceed to business.

"Thank you, sir," ebe Wat yn foesgar, a chyn pen munud yr oedd y ddau wedi eu disychedu ac yn barod i'r siarad pwysig.

"Tis like this, d'ye see,' ebe Mr. Moore, "the gentlemen of Hereford have challenged the gentlemen of Brecon to a main of six brace, and when I first heard of it, I thought of you at once,—hence my letter. Let me have a look at your bird!"

"Hm," ebe fe'n mhellach ar dynnu o Wat y Beauty allan o'i sach, "does not seem much the worse for wear, he's worth five guineas any day. Has he fought since I saw him at that outlandish place of my uncle's?"

No, sir, he no fight since when you offer ten guineas for him."

But, my dear man, that was a month ago, and I own it was rather rash of me to offer you ten guineas then. What do you say now?"

Yr oedd y bargeiniwr wedi gobeithio prynu'r ceiliog cyn ciniaw fel y gallai fostio wrth y cwmni am ei dalent i fasnachu; ond heb ateb dim ar y foment cydiodd Wat yn yr aderyn, a gwnaeth osgo i'w ail-osod yn y sach.

"Come now, be reasonable!" ebe'r gŵr ieuanc drachefn.

"No five, no ten, but fifteen," ebe Wat, "I wait all day to see you and I go home now."

Gwelodd y dyn ariannog fod y Cymro yn gallu bod mor dyn yn ei fargen ag yntau, a rhag colli ohono yr aderyn yr oedd mor chwannog am dano, "for the honour of Brecon" (chwedl yntau) dywedodd o'r diwedd y rhoddai ef saith gini am yr aderyn ei hun, a saith gini arall "for luck," ond nad oedd Wat i yngan yn unman nad seithpunt oedd y llawn bris.

Boddlonodd Wat i hyn, ac wedi cyfrif yr arian ar y bwrdd, ac i'r gwerthwr eu gosod yn ei logell ei hun, canodd y perchennog newydd y gloch, gan alw ei was i mewn i'r ystafell atynt.

"Look here, Stephens," ebe fe wrth hwnnw, "this bird from now on is mine, and is in your charge. Be mighty careful of him, will you? This man,' gan gyfeirio at Wat, "will bring him to the stable with you, and will tell you what to do with him. So just be very attentive to what he says."

"Yes sir, quite right, sir," ebe Stephens wasaidd, "I'll see to that, sir."

Good-bye, Edmunds. I'm going in to dinner. Should you care to have a drink or two after you have finished in the stable, come back, and ask for it at my expense."

"No thank you sir," ebe Wat, "I go home."

"Very well, as you like, and when you have other birds like the Beauty of the Beacons, let me know, that's all."

Yna aeth y perchennog newydd i'r ystafell fawr i frolian fod the honour of Brecon yn eithaf diogel bellach, ac aeth yr hen berchennog yn galon drist i'r ystabl i fwydo'r Beauty am y tro olaf, ac i erchi Stephens yn anad dim i fod yn garedig i'r "best bird that in Brecon ever was."

Pan groesodd Wat yard lydan y gwesty er cyrraedd y porth eang a arweiniai allan i'r dre, clywai dwrw uchel a sŵn gwydrlestri'n clincian o gyfeiriad yr ystafell fawr. Amlwg fod y giniaw yn ei hwyl, ond nid oedd cenfigen ym meddwl y gwladwr am hynny. Bydd pedair treisied ym Mlaen Hepsta yn well na'u twrw i gyd," ebe fe, a chyda hynny ysgydwodd yntau'n ddistaw y pedwar gini ar ddeg yn ei logell ei hun.

"I ble af i 'nawr, wn i?" oedd ei feddwl nesaf. "Mae'n rhy hwyr imi weld fy nghendar heno. Af i aros yn y Fountain am y nos, a gwelaf Foc yn gynnar yn y bore. Yna cysgaf yng Nglanrhyd nos yfory a byddaf yn Nantmaden drennydd. Hei-ho wedyn —Wat Emwnt yn ffermwr ym Mlaen Hepsta, ac yn berchen ar bedair buwch. Hei-ho'n wir!"

Erbyn hyn yr oedd ef drwy y porth yn glir, ac yn tynnu at y bontbren gul a arweiniai dros Honddu i'r Struet. Ag ef a'i droed arni eisoes, ac yn estyn ei law at un o'r canllawiau wele ddeuddyn yn rhuthro arno o gyfeiriad y dre ac yn ei wasgu'n ol oddiar y bont hyd at y prysglwyni yn ymyl y llwybr a arweiniai ati. Mor sydyn oedd yr ymosodiad, ac mor absennol ei feddwl yntau fel na roddwyd iddo amser i'w amddiffyn ei hun i nemor pwrpas, a phan gododd ei fraich o'r diwedd i daro un o'r mileiniaid a'i llindagai tarawyd ef ei hun ar ei ben gyda'r fath nerth nes ei fod yn ddadfyw, a syrthiodd ar y llwybr yn un sypyn diymadferth.

"Quick, Joe, lets carry him back to the granary before anybody comes. He'll make a fine soldier by and by I'm thinking. You should'nt have struck him so hard though—hear him groan!"

"Go blimey! what was a chap to do, when he was half-choking brother Alf all the toime!"

Yr oedd Wat, druan, wedi syrthio i ddwylo'r press gang, ac ar yr awr yr ymddangosai fel ar drothwy bywyd annibynnol a hapus, wele, mewn un munud gynhyrfus, ddryllio ei holl gynlluniau, a'i daflu yntau i gylchynion nad oedd ganddo ond y meddwl prinnaf am eu bod, chweithach eu profi.

PENNOD XV.
Henffordd.

WEDI ysbaid o amser na wyddai Wat mo'i hyd, teimlai ef ei hun mewn rhyw hanner breuddwyd, ac o dan hunllef arteithiol na allai ddirnad am ei natur. Briw ydoedd yn ei holl gorff, a gwaeth na hynny, briw yn ei feddyliau cymysglyd hefyd.

Beth oedd wedi digwydd iddo? Ymha le yr ydoedd? Ac uwchlaw popeth beth oedd y cur anfad yn ei ben, a barai gymaint loes iddo? Ar hyn, cododd ei law at y man a'i doluriai fwyaf, ac i'w syndod yr oedd yno gadach o ryw fath, a chlustogen fechan o ddail odditani yn esmwythyd i'r archoll. Ceisiodd y foment nesaf dynnu'r cwbl i ffwrdd, ond cymaint oedd ias y poen a ddilynodd fel yr ymataliodd.

Erbyn hyn dechreuai sylwi o'i gylch. Nid ffenestr unrhyw ystafell yn Nantmaden yn sicr oedd yr un fawr gyferbyn â'i orweddfan, ac nid ei wely gwellt ei hun oedd a'i cynhaliai ychwaith. Dyna'r muriau moelion gwyngalchog hefyd—perthyn i ba adeilad oeddynt hwy?

Ag ef yn ceisio dyfalu'r holl bethau hyn, clywai'n gyson rês o eiriau gorchmynnol yn dilyn ei gilydd, ambell waith ymhell oddiwrtho, a phryd arall fel pe dan ei ffenestr. Dyna hwy eto,—"By the left! Quick March! Left Wheel! Mark Time! Halt!" Ymhle clywsai ef y rheiny o'r blaen? Y prynhawn hwnnw wrth gwrs ar feili'r castell. Rhaid mai wedi breuddwydio dipyn yn fwy eglur nag arfer a wnaeth ef, a bod y geiriau dieithr hynny wedi gafaelyd yn ei feddwl yn gryfach na'r cyffredin. Fe droai'n ol i gysgu drachefn ac yna byddai'n well arno, ond ar ailosod ohono ei ben ar y glustog, gymaint oedd pang ei boen fel y cododd ef yn ei eistedd gyda llw ar ei fin.

"Hullo! No. 17, what's the trouble?" ebe llais yn ei ymyl. "You won't be much good for the King if you'll always wake the camp like that."

"Camp!" beth oedd hwnnw, a pha beth oedd a fynnai ag ef, Wat Emwnt o Nantmaden? Byddai'n rhaid gofyn am ragor o fanylion am y pethau hyn, ond yn rhyfedd iawn, ag ef eto'n meddwl a llefaru wrtho ei hun, parhau yn ei glustiau o hyd oedd y brawddegau sydyn—"By the left! Quick March! Left Wheel! Mark Time! Halt!" ac nid oedd yn eglur yr un esboniad arnynt.

"Hei!" ebe fe wrth y gŵr a'i galwodd yn No. 17 gynneu, ac a arhosai o hyd wrth droed ei wely,

"Where am I, please? tell me, please?"

"I'll tell you right enough, but whether ut'll please you is a horse of another colour. You are in Hereford Barracks, and ut won't be long 'fore you and the other recruits will be out there, marching it in the yard. Don't yer hear them? So git well at the double quick will ye? But do'nt talk too much yet. Your chance will be better by 'm by."

"Barracks? Recruits? Marching it?" 'doedd e' ddim erioed wedi listo. Fe ai e' adre ar unwaith.

"Hei!" ebe fe wrth yr un dyn drachefn, "Me go home. No barracks for me. Me rise now."

Chwarddodd llall yn uchel am hyn ac ymddangosai fel pe'n cael difyrrwch anarferol yng ngeiriau'r Cymro. Llidiodd Wat yn fawr o glywed ei chwerthin cellweirus a gwnaeth annel at godi.

"Lie down, you fool!" ebe'r llall. "You should have thought of that before taking the King's shilling. But here's the Captain coming. You'd better ask HIM to let you go home."

Ar y gair daeth swyddog mewn còt goch at ymyl gwely'r clwyfus ac a anerchodd Wat yn lled lym, "What do you mean by creating all this disturbance, No. 17? It's a bad start for your sojering." Sojering? me no sojer! me working on farm at Penderyn.'

"What's the good of talking, man? I don't want your family history. You are a soldier now, anyway. Wilkins! search his pockets! he must have the marked shilling about him somewhere."

Daeth y gŵr a gyfarchasai Wat gyntaf eto ymlaen, ac allan o un logell tynnodd allan chwe swllt a cheiniog, ac o un arall bedwar gini ar ddeg.

"Oho," ebe'r swyddog, "farmservant indeed! more like a highwayman, I should say! But look for the marked shilling, Wilkins! Here it is, by Jove! Right—o my man, put your guineas away, and take good care of them! But farmservant or footpad, please consider yourself henceforth a private in the 24th Foot, and mind to obey orders! Sergeant, get him fit as soon as you can, will you?"

"Alright, sir, the whole batch will be in the yard within 3 days, I promise you."

Aeth y swyddog allan gan adael Wat, druan, eto unwaith yng nghwmni'r sergeant direidus. Ond wedi gweld o hwnnw fod Wat yn berchen arian lawer, newidiodd ei dôn yn llwyr, ac anodd gan y gwladwr benderfynu prun oedd atgasaf ganddo, ei sen ddireidus ar y cyntaf ynteu ei gyfeillgarwch gwenieithus mwy diweddar. Cynygiai'r Sais hwn ddangos i Wat bob ystranc a scîl a wnai ei fywyd yn esmwythach yn y Barracks, ac am bob tafarn a phopeth ynglŷn ag ef, y tu allan iddo.

Prin iawn ydoedd geiriau'r Cymro yn hyn oll am na fwriadai manteisio ar y naill na'r llall ohonynt. Ei benderfyniad ydoedd ceisio cefnu ar y bywyd newydd y cyfle cyntaf posibl, a chan y gwyddai'n dda erbyn hyn mai o orthrwm y gwasgwyd ef i'r got goch, ni chyfrifai ei bod yn ddianrhydedd arno i wneuthur ei oreu i fynd allan ohoni hefyd.

Un peth a'i cysurai ychydig, sef, bod y grŵm a edmygai ei Feauty ef yn ystabl y Fountain gynt, wedi ei wasgu i'r fyddin fel yntau. Adroddasant eu helbul y naill wrth y llall, a buont yn gyfeillion mynwesol tra'n perthyn i'r un gatrawd.


PENNOD XVI.
Amser Pryderus.

AR ol ymadawiad Wat i fynd i'r dre i weld ei gefnder aeth tridiau heibio yn Nantmaden heb nemor i ymholiad yn ei gylch. Ond pan aeth y pedwerydd a'r pumed dydd i ben heb na gair oddiwrtho nac arwydd o unmath am ei ddychweliad, dechreuodd ei feistr bryderu am dano. Holodd yn fanwl y forwyn a'r gwas bach am fwriadau eu cydwas cyn ei fyned, ond heb fymryn o oleuni i egluro'r absenoldeb.

"Wela's i mo Wat yn actio'n debig i hyn o'r bla'n," ebe fe. Mae'n wir iddo oedi yn ffair Castellnedd un tro, ond dychwelodd o fewn corff y trydydd dydd y pryd hwnnw er gorfod cerdded pob cam o'r ffordd. Rhaid ei fod yn glaf neu wedi dyfod i ryw anlwc ne'i gilydd. Fe af heddi' cyn belled a thafarn Cryw i weld a ŵyr William Lewis rywbeth yn ei gylch. Mae mwy o alw yn ei dŷ e' gan borthmyn Aberhonddu na'r un ty arall. Falla' y caf fla'n gair am Wat gan rywun yno."

Gwnaeth y meistr yn ol ei fwriad, ac wedi'r awr giniaw, cyfrwyodd ei geffyl, ac aeth dros y waun, â'i wyneb i Gwmtâf mewn ymchwil am ei was cyflog.

'Rwy'n gob'ith'o ar y nefoedd nad o's dim drwg wedi digwydd iddo ta' beth. 'Does dim gwell pladurwr nag e' yn y plwy', ac onibai am ei ddilyn o'r hen "gamblo â'r adar yma sy'n mynd â'i fryd, fyddai mo'i well yn unman am waith ffarm round i'r flwyddyn."

"Gadewch i fi weld," ebe William Lewis, y tafarnwr, o'i holi gan ffermwr Nantmaden, "'rwy'n cretu, ia, 'rwy'n siwr ma' bore' dydd Mawrth diwe'tha' y galws Wat yma am ddiferyn o ddiod ar 'i ffordd i'r dre. 'Roedd e' yma cyn dydd, a dyna'r pam 'rwy'n cofio cystal, achos fod Tomos Dafi, y drofer o Dregaron, wedi'm cnoco i i gwnnu 'chydig bach cyn hynny, ac i fi 'weyd wrth Wat am fwstro, a 'falla' cawsa' fe lifft ganddo ond 'i ddala wrth Glwyd y Mynydd. Dyna'r diwe'tha' wela's i ohono, achos, wedi i fi son am y drofer, fe gytiws Wat yn 'i sach a bant ag e' ar unwa'th. Wn i a ŵyr yr Hen Binshwner rwpath am dano? Rhoswch bum munud, a fe ddwa gyda chi mor belled a'r Glwyd i ga'l gweld."

Do, fe ddaliodd Wat Domos Dafi fel y'ch chi'n dweyd," ebe ceidwad y glwyd, ac fe aeth y ddou ymla'n heb golli amser, am fod hast mawr ar y Drofer i gyrraedd Aberhonddu erbyn naw. Dyna'r cwbwl a wn i am dano, ond i fi glywed Tomos yn dweyd mai da oedd i Wat siarad ag e wrth y glwyd, neu ergyd o ddryll a fyddai hi pe bâi e'n siarad o rywfan arall a hitha'n dywyll fel yr oedd hi. Fe fydd Tomos Dafi yn ol y ffordd hyn fory eto. Tebig y bydd ganddo ragor i 'weyd pan ddaw. Fe ofynnaf iddo am dano."

"Ia, a chofia 'weyd wrtho am alw yn Nhafarn Cryw hefyd, wa'th ma'n rhaid inni weld y peth hyn i'r gwaelod," ebe'r tafarnwr yn ol.

Ar hyn trodd y ffermwr a'i gyfaill ymaith oddiwrth geidwad y glwyd, ac yna yr hysbysodd William Lewis gyntaf am fwriad Wat i werthu ei aderyn i Mr. Anthony Moore yn Aberhonddu, ac am y pris a obeithiai ei gael am dano." Os dewch chi i Gryw nos yfory'n hwyr chi gewch glywed popeth a fydd Tomos Dafi wedi'i 'weyd am ei ran e' o'r daith."

"Eitha' da, fe ddwa' tuag wyth o'r gloch, ac os na fydd brys mawr ar y Drofer, catwch ef yno nes y dwa' i."

Golwg eithaf digalon oedd ar y ffermwr yn dyfod i'w fuarth ei hun yr hwyr hwnnw, ac er ei holi gan bawb yn y ty ychydig oedd y gobaith a roddai ef am ddychweliad buan ei was. Ymhen dwyawr wedi hynny, ac a'r holl deulu wrth y bwrdd am eu hwyrbryd trodd y meistr yn sydyn at Mali'r forwyn, ac ebe fe, "A wyt ti, Mali, wedi bod yn bwydo ieir a cheiliogod eraill yn ddiweddar yn Nantmaden, na sy'n perthyn i'r fferm?"

"Y fi? Na, 'tawn i'n marw, mishtir, beth na'th ichi feddwl hynny? Fe fydda'r 'run man genny' i chi 'weyd 'y mod i'n dwcid wya', bydda'n wir, ac os ta' hynny yw'ch barn am dano i—' "

"Heisht, Mali! dim o'r fath beth, 'y merch i, ma'n ddrwg genn' i fi ofyn i ti."

Ar y foment neilltuol honno, bu cynnwrf disymwth gan y cŵn o dan y ford, a chododd Dai bach, mor ddisymwth â hynny i'w gyrru allan, a chan na ddaeth ef yn ol am beth amser anhysbys iddo oedd diwedd y ddadl rhwng Mali a'i meistr.

Ond wedi cyrraedd ohono'r awyr agored, ebe fe wrtho ei hun, "Dyna ddihangfa!" ac wedyn wrth un o'r cwn, "Dere yma, Moss bach, ti o'dd ffafret yr hen Wat, onide."

Nos drannoeth wele wr Nantmaden unwaith eto yng Nghwmtâf, ac yn y parlwr bach yn Nhafarn Cryw mewn ymgynghoriad sobr â meistr y ty, a'r drofer caredig.

"Y cwbwl a wn i am eich gwas," ebe'r olaf, yw i mi ei gario i'r dre a chael ysgwrs lled hir ag ef am ragolygon Hirwaun a'r cylch o dan Mr. Bacon. Ymddangosai i mi wrth ei siarad nad cymeradwy ganddo waith mawr Mr. Hywel Harris a'i gydweithwyr, er na ddywedodd ef ddim llawer yn bendant yn eu herbyn 'chwaith. Ar ein hymadawiad cynhygiodd yfed imi yn y Fountain wrth y bont, ac er imi wrthod, gwelais ef ei hun yn mynd i mewn i'r ty, a dyna'r ola' peth a wn i am dano.'

Trist iawn oedd osgo'r ffermwr yn cyrraedd ei gartref y waith hon eto o chwilio am Wat, a thybid bellach fod y gwas, beth bynnag oedd ei gyflwr, yn analluog i ddychwelyd ohono'i hun. Yr oedd y

farchnad fawr ar y Mawrth o'r wythnos ganlynol, a phenderfynodd y meistr fynd i'r dre ar y diwrnod hwnnw, er nad oedd ei fusnes yn galw am hynny. Wedi cyrraedd ohono'r dre aeth ar ei union i'r Fountain, sef y lle y dywedasai'r drofer iddo adael Wat ddiweddaf.

'Rwy'n cofio am y dyn yn eithaf da," ebe wraig y dafarn, "wa'th fe ofynnodd i fi am ganiatad i fynd i'r stabl i fwydo ei geiliog game, ac o sôn am ddyn yn ymadael a lle'n ddisymwth, fe wna'th fy nai inna' yr un peth oddeutu'r un amser. Ond pwdu a wna'th e, 'rwy'n siwr a mynd tua thre at ei fam i Lanidlo's, wa'th er cymaint fy siarsio arno i beid❜o ymladd â neb, clywa's i fod e' mewn scarmej yn Llanfaes bron yn union wedyn. Ofn fy wynebu i oedd ar y gwalch, a'i lygaid wedi eu duo, tebig. Aeth adre unwa'th o'r bla'n yr un modd. Ydw i'n 'nabod Mr. Anthony Moore,' wetsoch chi? Ydw wrth gwrs, hynny yw, fel ma' pobun arall yn 'i 'nabod e'—o ran ei weld.

Ac ma' nhw'n dweyd wrtho i heblaw hynny ei fod wedi gwario llawer o arian Cyfarthfa tua'r Castle yna yn y misoedd diweddaf yma. Ydyw e' yno eto? wetsoch chi. Ffordd gwn i? Ewch lan i ofyn, 'dyw y Castle ddim ymhell, ond cofiwch ta' tafarn y gents yw e', a phopeth yn ddwbl bris i'r hen Fountain."

Aeth y meistr i'r Castle yn ol y cyfarwyddyd, ond y cwbl a glybu am hanes Mr. Moore oedd, Went away last week, the Lord only knows where."

Teimlai y meistr ar hyn fod pob gobaith am weld Wat mwy yn fyw wedi diflannu'n llwyr. Ond cyn cyflogi neb arall i fugeilio ei braidd, aeth, serch hynny, bob cam o'r ffordd i Gyfarthfa, er mwyn gofyn i Mr. Bacon ei hun am ei nai. Dangosodd yr hynafgwr diwyd lawer o garedigrwydd tuag ato, a gofidiai am nad allai ddywedyd llawer am symudiadau ei berthynas ieuanc ar hynny o bryd, mwy na'i fod yn swyddog yn y 40th Foot, a bod y gatrawd neilltuol honno ar fedr mynd allan i'r rhyfel ffyrnig rhwng New England a'r famwlad, ac mai prin iawn ydoedd newyddion oddiwrtho ef ar y goreu.

PENNOD XVII.
Ysgwâr y Wharf.

Bu Sergeant Wilkins gystal â'i air i'r swyddog yr addawsai ef wella iddo ei recruits o fewn tri niwrnod, oblegid ymhen yr amser hwnnw, casglwyd at ei gilydd i gwr o feili'r Barracks yn Henffordd un ar ddeg o fechgyn digalon iawn yr olwg. Mud iawn oeddynt hefyd ar y cyntaf, er iddynt ddyfod yn ddigon llafar cyn diwedd y dydd.

"Now then, wake up there!" ebe'r rhingyll a ofalai am danynt. "Show you have a little of the smart sojer in you, will you? Stand at-ease! Stand easy "

A barnu wrth fynegiant yr wyneb pell oedd pob un ohonynt o chwennych ymddangos yn "sojer" o gwbl, heb son am y "smart sojer." Deallodd Wat heb fod yn hir mai y grŵm o Aberhonddu, heblaw ef ei hun, oedd yr unig Gymro yn eu mysg. Gweision ffermydd o ardaloedd Llanandras a Leominster oedd y gweddill—ac er fod Jim Prydderch, sef y grŵm, lawer yn iau nag ef, gwasgodd y ddau at ei gilydd, ac oherwydd eu mynych a helaeth ddefnydd o'r hen iaith buan y llysenwyd hwynt yn Father Taffy a Taffy Junior.

"Paid a hidio, Jim bach," ebe'r Father Taffy un diwrnod wrth ei gyfaill, "os na cha' nhw rwpath gwa'th na'n hiaith yn 'n herbyn fe 'nawn o'r gora'. Ond fe fydd yn rhaid i fi roi bonclust i un o'r Lemsters yna cyn bo hir, mae e'n rhy haerllug. 'Rwy'n ei gweld hi'n d'od, ac fe'i caiff hi hefyd ar f'ened i. Dyw mishtir y Beauty bach ddim i ga'l 'i ddamshal mwy na cha's y Beauty ei hun. On'd o'dd e'n dderyn pert, Jim?"

Ond er cryfed penderfyniad Wat o beidio â chael ei ddamsang gan y recruit Seisnig o Leominster ni ddaeth dim o hynny, oblegid cyn pen nemor o ddyddiau gwasgarwyd y newyddiaid rhai i'r gatrawd hon, ac eraill i orsaf arall.

Ni byddai gwasgaru o'r squad yn blino llawer ar Wat onibai colli ohono Jim o'i fynd i'r 60th Foot. Gofidiodd lawer am hynny, canys heblaw colli ffrind da, collodd ef y modd y trefnasai ef, trwy gymorth Jim, iddynt ill dau ddangos eu gwadnau i'r fyddin am byth. Ef ei hun, bellach, allan o'r un ar ddeg, a arhosodd yn y 24th, a byddai yntau hefyd wedi gadael y gatrawd enwog honno pe daliasai ef ar y cynnyg a roed iddo o ymuno â'r llynges.

"Me no go on the water," ebe fe, gan wybod mai llai a fyddai ei obaith o ddianc o long ryfel nag o unrhyw gatrawd bynnag.

Wedi bod oddeutu deufis yn Henffordd, ag ef yn teimlo'n unig iawn heb Jim, daeth y newydd fod y 24th i'w symud i Fryste. Balch ydoedd Wat o'r newydd oblegid casheai Henffordd a châs perffaith, a thybiai y byddai unrhyw symudiad oddiyno fod er gwell.

Wedi pabellu yn ninas fawr y gorllewin dechreuodd Wat i fwynhau ei hun yn well.

Yn unpeth yr oedd ei Saesneg yn gloywi i raddau, fel y gallai fynegi ei feddwl yn rhwyddach yn yr iaith honno nag y bu. Peth arall, ac un a'i diddorai'n fawr ydoedd bywyd masnachol y lle, y rholiau tybaco, y casgenni siwgr, a'r barilau rum, yn cael eu symud i'r ystordai eang, morwyr clustdlysog yn llwytho a dadlwytho'r llongau, tramorwyr o bob iaith a lliw yn cerdded ochrau'r llongbyrth, a'r ysgwâr mawr wrth ben y porthladd yn llawn o bobl yn prysuro'n ol a blaen beunydd.

Ar yr ysgwâr hwn hefyd yr ymgynhullai torfeydd i wrando ar ddynion yn siarad ar bynciau cyhoeddus, oblegid amser cythryblus ydoedd hi, y famwlad yn mynnu ceryddu ei phlant hwnt yr Iwerydd, a'r plant hwythau yn bygwth torri pob cysylltiad â hyhithau am hynny.

I'r ysgwâr hefyd deuai pobl ddefosiynol i siarad am bethau ysbrydol, am fuchedd dda yn y byd hwn, a choron anniflan mewn byd a ddaw. Ac er nad oedd Wat wedi talu fawr sylw erioed i siarad o'r fath, gymaint oedd sel y siaradwyr ar ysgwar Bryste dros y gwaith, a'u pryder am eu cyd-ddynion, fel y cafodd Wat ei hun ynghanol y tyrfaoedd heb allu nag awydd i ymadael â'r fan.

Un dyn yn neilltuol a brofai'n atyniad iddo. Gŵr syth, gyda gwallt hirllaes dros ei ysgwyddau, a threm gorchfygwr yn ei lygaid, ydoedd hwnnw. Siaradai'n syml a deniadol dros ben, ac amlwg oedd ei fod yn ffefryn y dorf. "There he comes!" ebe pawb ar ei esgyn i'r fen a wasanaethai fel llwyfan, gan ddangos yn y frawddeg eu dyhead am ei glywed. Clywsai Wat ef droion, ac yn y diwedd gymaint oedd awydd y Cymro am ei wrando'n rhagor fel y dygai ei gamau ef i'r Upper Wharf ar bob rhyw dro ag y byddai ef yn rhydd o'r Barracks.

Ag ef ymhlith tyrfa'r Wharf un prynhawn Saboth, mewn gwasanaeth crefyddol yno, a'r dorf yn canu'n hwylus Guide me, O Thou great Jehovah, yr emyn newydd a oedd wedi dechreu tanio cynulleidfaoedd y bobl hyn, credai Wat iddo weld mewn côt goch ar gyrrau pellaf y dorf, un a adwaenai.

"Ia!" ebe fe," yr hen Jim yw e', 'rwy'n siwr," a chyda hynny cerddodd yn dawel ar gylch y tu allan i'r dorf er mwyn dyfod ato. Nid oedd Jim wedi ei weled ef hyd hynny, ac o wasgu o Wat ei fraich, gwaeddodd yn sydyn, "Wat Emwnt, yr hen Father Taffy, byth na chyffro i! Shwd mae hi fachgen?"

"Hush! Hush!" ebe rhai o'r gwrandawyr yn ymyl, ac yna y cofiodd Jim mai mewn gwasanaeth crefyddol yr oedd, a chan ostegu ei lais, arweiniodd ei gyfaill ychydig o ffordd oddiwrth y cylch er cael ymgom pellach.

Nid oeddynt wedi bod gyda'i gilydd ond prin munud, cyn daeth atynt foneddiges ganol oed o osgo urddasol iawn, a chan eu cyfarch, ebe hi,

"Two Cymry, I presume. I am sorry I cannot speak Welsh so well as I ought to, but I recognised it in a moment when you said,Shwd mae hi fachgen?' What part of Wales do you come from, may I ask?"

"We are both from Brecknock, madam," atebodd Jim, "I, from Brecon town and my friend from Penderyn."

"Brecknock! dear old Brecknock! You must come with me please, I want Charles (i.e., my husband) and his brother John, who is preaching now, to talk to you. Don't say me Nay.' I am so delighted to meet you, and serving your country too. Please follow me!

PENNOD XVIII.
Ar y Dwfn.

EDRYCHODD y ddau Gymro i lygaid ei gilydd, ac o unfryd dilynasant y foneddiges i ystafell fechan y tu ol i'r llwyfan. Ac a hwy wedi eistedd am ychydig, clywsant y dorf yn canu emyn ac yna'n ymwasgaru. Ymhen ennyd wele'r pregethwr a dyn arall, sef gŵr y foneddiges yn dyfod atynt.

"My wife has just told me," ebe'r olaf, "that you are Welshmen from her native county and that you attended our meeting. I am very pleased to greet you."

Yna fe a'u cyflwynodd i'w frawd, sef oedd hwnnw y dyn, mawr John Wesley. Yntau a ddatganodd yr un teimladau atynt, a dywedyd ei fod yn falch fod rhai o filwyr y Brenin George yn ymofyn am wasgu at filwyr y Crist, ac mai eithaf posibl ydoedd bod yn filwyr da i'r ddau. Dywedodd ymhellach fod cwmwl du uwchben Lloegr Newydd ar y pryd, a'i bod yn ddyletswydd ar bob dyn teyrngar i ddal breichiau'r brenin yn wyneb ystyfnigrwydd yr Americaniaid.

Rhoddodd yr ymgom argraff ddofn ar feddwl Wat, a theimlodd yn euog 'mron ym mhresenoldeb y gŵr urddasol am y mynnai atgof ddwyn yn ol iddo yr holl eiriau sen a daflasai ef am y Ranters at Dai bach gynt.

"Os byth y gwelaf ef eto," ebe fe, "mi a'u tynnaf yn ol bob un." Ma' mwy na feddyla's i yrio'd yn y bobl hyn wedi'r cwbwl."

Effaith arall a wnaeth yr ysgwrs â Wesley arno oedd ymlid i ffwrdd pob meddwl am ffoi o'r fyddin. Rhaid bellach oedd ei hymladd hi i'r pen, er nad oedd ganddo y ddirnadaeth leiaf pa fath ben a brofai yn y diwedd. Siaradodd y ddau gyfaill a'i gilydd gyda difrifoldeb mawr drwy y prynhawn melys, a chytunent fod rhywbeth tuallan i'w deall hwy wedi eu dwyn at ei gilydd ar y dydd hwnnw, ac i ennill sylw y fath foneddiges barchus a Sarah Wesley a'u geiriau Cymraeg.

Dychwelodd Jim i Bath (canys yno oedd ei gatrawd ar y pryd) cyn hwyrhau o'r dydd, ac aeth Wat i'w hebrwng i'r bad a'i dygai'n ol. Ond cyn ymadael cytunasant i ddal sylw ar symudiadau catrodau ei gilydd, a cheisio, pe fodd yn y byd, ymweld y naill y llall yn y gwahanol orsafoedd. Ond ni ddaeth hynny fyth i ben er gwybod ohonynt droion, eu bod, yn yr ymgyrchoedd yng ngwlad y gorllewin yn gymydogion i'w gilydd.

Y 60th Foot a aeth yno gyntaf, a chyn pen tair wythnos dilynwyd hwy oddiar y Wharf anfarwol gan y 24th yr un modd.

Tyrrodd y dinasyddion i ymyl y dŵr i ddymuno "Lwc Dda i'r gatrawd Gymreig; a'r milwyr hwythau a safodd yn rhengoedd wrth y gynwel, ac ar y dec uchaf i ysgwyd eu dwylo a'u cadachau mewn ateb i'r dymuniadau da.

Ymlithrodd y llestr i lawr yr afon yn rhwysgus dros ben, ac un o'r darluniau mwyaf tarawiadol a welodd Wat erioed ydoedd ei mynediad araf rhwng creigiau'r gorge i ennill afon Hafren yn is i lawr.

Pe bai ef yn gwybod hanes, fe ddeuai i'w feddwl ymgyrch y Cabot i'r gorllewin a llawer argosi arall a aeth i'r un cyfeiriad yn ddiweddarach. Fe ddeuai hefyd, ysywaeth, i'w gof am lawer llestr a nofiai'r adwy brydferth hon gynt ar ei thaith i ddwyn dynion i gaethiwed. Ond ni wybu mo Wat y pethau hyn, ac felly byw yn rhamant y presennol yn unig a wnai ef.

Erbyn y prynhawn yr oedd y llong wedi mynd heibio i'r ddwy ynys y Steep Holm a'r Flat Holm, ac yr oedd hi weithian gyferbyn â Bro Morgannwg. Collwyd golwg ar y tir am beth amser wedyn, ond cyn myned i gysgu eu hun cyntaf ar y dwfn, gweiddodd rhywun allan, "Last sight of Wales," a rhuthrodd y mwyafrif o'r cwmni i'r bwrdd i weld pelydrau ola'r dydd yn goreuro creigiau Gŵyr, Llawer llanc na fu erioed allan, odid o'i blwy' ei hun cyn ei wasgu i wasanaeth y brenin, a deimlodd rywbeth yn cyfyngu ar ei anadl, yn yr olaf olwg hon ar dir ei febyd; a llawer un arall, a fu'n siaradus iawn ddwyawr yn ol, a oedd yn awr yn dawedog dros ben, ac a ddaliai i syllu'n ol at Gymru hyd nes y diflannodd ei glannau yn niwl y gorwelion.

Swper i'r ychydig a'i chwenychai, diffoddi pob goleu ar arch yr utgorn crâs, a gwely cul gydag ambell glustog laith—dyna bennod yr hwyr cyntaf ar y don.

Pwy, a pha sawl un o'r cwmni tybed a ga'i weld traeth Gŵyr yn ei groesawu'n ol? Llawer maes gwaed, a mwy o feddau unig, a allai ateb am lu niferus ar na ddeuent i ddaear Cymru mwy. A gwaeth fyth, Prydeiniwr yn brathu Prydeiniwr, brawd gledd yng ngledd a'i frawd—dyna'r anghlod! —dyna'r drychineb!

PENNOD XIX.
Ergyd i Bwrpas.

PAN laniodd y 24th yn Staten Island wedi mordaith eithriadol deg, cawsant y lle mewn cyffro mawr. Braidd na edrychid arnynt fel gwaredwyr, a'u dyfodiad fel pe o anfoniad arbennig er achub y trigolion. Hyn ydoedd am fod yr Americaniaid, mewn canlyniad i fuddugoliaeth neu ddwy, wedi ymeofni'n fawr, ac wedi gwasgu ar y gwersyll ei hun.

Mae'n wir eu bod yn ddiweddarach wedi tynnu yn ol rywfaint, a bod yn y dre arsiwn yn barod. Ond milwyr wedi eu profi eisoes a'u cael yn brin oedd llawer o'r rheiny. Mewn gair, Hessiaid, wedi eu cyflogi yn yr Almaen, sef oedd hynny, gwlad gysefin y brenin George ei hun, oeddynt, ac yng ngwasanaeth y famwlad, i'w chywilydd bythol, i osod i lawr Brydeinwyr ieuainc y Trefedigaethau.

Dyma'r milwyr a oedd wedi eu profi y dyddiau cyn glaniad y 24th, ac wedi llanw'r cymeriad a rydd yr Hen Air i weision cyflog yn gyffredin, pan ffoisant oddiwrth ddyrnaid o amddiffynwyr penderfynol y tir.

Er hynny i gyd, dyma'r milwyr a ymagweddent gerbron pobl yr ardal fel concwerwyr, gan hawlio iddynt eu hunain y lle blaenaf ymhopeth. Nid rhyfedd felly eu bod yn ffiaidd gan bawb, a chan neb yn fwy na'u cydfilwyr a ddygent arfau Prydain fel hwythau. Yn wir dim ond disgyblaeth filwrol o'r llymaf a rwystrodd derfysg peryglus rhwng y milwyr o'r hen wlad a'r tramoriaid haerllug hyn.

Dyna gyflwr Staten Island ar brynhawn neilltuol pan aeth allan o wersyll y 24th Wat Emwnt a dau o'i gydfilwyr gydag ef. Eu bwriad oedd rhoddi tro i weld y prif aneddau y sonnid cymaint am danynt gan bawb.

Hyn wedi ei wneud, ac a hwynthwy yn teimlo'n sychedig troisant i mewn i westy bychan am lasiad o'r New England Ale, cyn dychwelyd ohonynt at eu dyletswyddau drachefn.

Wedi eu bod hwy yno am beth amser, daeth ar eu holau i'r ty ddau Gorporal o'r Hessiaid ar yr un neges. Yr oedd y tri Phrydeiniwr eisoes wedi yfed hanner eu llestriaid eu hunain pan rodd yr Hessiaid eu harcheb hwythau. Dygodd y weinyddes y ddiod i mewn i'r ddau Almaenwr ac a'i gosododd o'u blaen yn foesgar, gan sefyll wedyn i aros am y tâl.

Dipyn yn hwyrfrydig oedd yr Almaenwr i roddi ei arian, a phan wnaeth y weinyddes arwydd fod brys arni i ymadael gafaelodd y gŵr ynddi fel pe am ei chusanu. Hithau yn anfoddog iawn a geisiodd ddianc oddiwrtho, ond ef ni ollyngai ei afael ynddi er dywedyd o'i gydwladwr wrtho,—"Lasz sie doch frei gehen! Du Narr!"

Ond y funud nesaf yr oedd wedi gorfod ei gollwng yn rhydd, oblegid â digofaint yn melltennu yn ei lygaid, cododd Wat ar ei draed, ac a darawodd y gŵr difoes ar ei arlais nes cwympo o hwnnw ar draws yr Hessiad arall. Ar yr eiliad neidiodd y gŵr a darewsid ar ei draed drachefn, ond yn ei wynebu ac yn barod i ychwaneg o ddyrnu pa bai raid, yr oedd Wat. Ac o weld hynny, ac yn neilltuol o weld ohono ddau Brydeiniwr arall y tu cefn i'w d'rewydd, ymfoddlonodd ar arllwys allan ffrwd o fygythion na wyddai Wat a'i gyfeillion ddim o'u hystyr. Yna gan godi i fyned allan heb yfed ei ddiod ymadawodd y troseddwr yng nghwmni ei gyfaill gan bwyntio, ar ei fyned dros y rhiniog, at y streipiau ar ei fraich.

"Stripe or no stripe," ebe Wat, "he deserved what he have, and more should he get if he brave enough to stand up." Ar hyn daeth y weinyddes yn ol a chan ddiolch yn wresog i'r milwr a'i hamddiffynnodd "there's no living with the disreputable lot these days," ebe hi," thank you ever so much!"

Credai Wat, gan i'r Hessiad gyfeirio at ei streipiau y byddai court martial ar ol hynny, a'r weinyddes o dan yr un argraff, a gynygiodd, pe b'ai galwad arni, i ddyfod i'r gwersyll i fynegi y modd y bu. Ofnai ei ddau gyfaill hefyd y byddai cosb yn sicr o ddilyn, yn enwedig am fod y cadfridog ddeuddydd yn ol wedi gorchymyn yn gaeth nad oedd y King's Units i ymrafeilio â'i gilydd o dan unrhyw amgylchiadau.

Bore trannoeth, fodd bynnag, yr oedd y gwersyll mewn cyffro llawer mwy na threial milwr cyffredin am daro corporal, a hwnnw'n Hessiad, oblegid brysneges a ddaethai fod y Milwriad Clinton mewn cyfyngder mawr ym mherfeddion y wlad, a bod rhaid i'w adgyfnerthu costied a gostiai. Yn y Flying Column a wnaed er ei achub yr oedd y 24th, ac o'r awr y derbyniwyd y newydd hyd amser eu myned allan i'r wlad, ymdaflai'r milwyr, bawb fel ei gilydd, at y gwaith o baratoi.

Pan ddaeth yr awr i gychwyn troediwyd i'r ymgyrch yn lled galonnog, ond po bellaf y cerddent ymlaen, mwyaf i gyd oedd anghyfeillgarwch y trigolion, a chyn nos teimlent er mai'r iaith Seisnig oedd o'u cylch mai yn nhir y gelyn yr oeddynt. Am yr un rheswm, pan arhoswyd i wersyllu dros oriau'r tywyllwch, gosodwyd gwyliadwriaeth ddwbl i ofalu am ddiogelwch y cwbl.

Perthynai catrawd o'r Hessiaid i'r golofn, a chan i rai o'r brodorion glywed y rheiny yn siarad yr Ellmyneg ar y daith, rhedodd y newydd fel tan mewn sofl mai Hessiaid atgas oeddynt oll. Credwyd unwaith yn wir, er nad oedd gwŷr arfog yn y golwg, y byddai i'r bobl gyffredin ymosod arnynt â cherrig, mor ffyrnig oedd eu hosgo at y lobsters, fel y galwent y cotiau cochion.

Wedi deng niwrnod o deithio caled cyrhaeddwyd Trenton, lle yr oedd amryw o gatrodau mewn mawr gynni yn ceisio dal y gelyn yn ol. Ac er mor resynus oedd gwedd y golofn a frysiodd i'r ymwared gwaeth fyth oedd cyflwr yr arsiwn wan a amddiffynnai'r lle pwysig hwnnw. Fel y gallesid disgwyl yr oedd y croesaw i'r dyfodiaid newydd yn fawr, a'r holl wersyll fel pe wedi cael cryfhad calon. A daeth i Wat galondid dyblyg, oblegid i'w lawenydd, clybu fod gwŷr y 60th Foot yn rhan o'r adran fechan a ddaliodd y gwarchae gyhyd. Byddaf yn sicr o weld Jim cyn bo hir," ebe fe, ac wedyn fe fydd genn' i gyfaill eto, a gwd-bei i'r hen unicrw'dd yma wetyn.

Ond er chwilio'r gwersyll i fyny ac i waered, ni chwrddodd â'i hen gyfaill o gwbl, er dywedyd o rai o fechgyn y 60th ei fod yn y dre'n sicr ddigon.

Ha, Wat! ychydig a wybuet ti fod cwpan chwerw yn dy aros, a bod angau yn llygadrythu ar dy gyfaill i'w daro i lawr cyn gafaelyd ohonot yn y llaw Gymreig a ysgydwai dy un di mor onest ar y Wharf ym Mryste.

PENNOD XX.
Ystryw Mileinig.

YN y rhyfel erch rhwng Prydain a'i Threfedigaethau digon gwrthun ar ran y famwlad ydoedd talu tramorwyr o'r Cyfandir i ddwyn cledd yn erbyn ei phlant ei hun. Ond fel yr ai y Rhyfel yn boethach ac yn ffyrnicach, nid gormod fu gan y ddwy ochr i hurio Indiaid Cochion y paith hyd yn oed, at yr anfadwaith. Ac am yr Indiaid eu hunain, druain, llofruddio'n ddirgel a dichellgar a gyfrifent hwy y gamp fwyaf.

Y dydd cyn troedio o'r golofn i mewn i dref Trenton, caed corff un o'r gwyliedyddion Prydeinig a oedd bellaf oddiwrth y gwersyll wedi ei faeddu'n ddychrynllyd. Gwelwyd ar unwaith wrth ol y tomahawk ar y penglog mai gwaith rhyw Indiad neu'i gilydd ydoedd, er na wyddid fod Indiad o gwbl yn yr ardal ar y pryd.

Ond beth am hynny, rhaid wrth wyliedydd ar bob adeg, a daeth i ran Private Prydderch o'r 60th i gymryd lle y truan a laddwyd. Ac am fod Jim ddewr on sentry yn y man peryglus hwn, dyna'r rheswm i Wat fethu dyfod o hyd iddo yn ei ymchwil cyntaf, a phe bai ef ond wedi cyrraedd y gwersyll awr yn gynt, fe a welsai ei gyfaill yn cychwyn i'r llannerch marwol wedi ysgwyd o'i law mewn edmygedd gan gapten ei gwmni.

A'r gwersyll eto rhwng cwsg a dihun yn oriau mân y bore, clybuwyd gwaedd. Neidiodd pob milwr i'w draed gan estyn am ei fwsged, ond pan aethpwyd i'r man y daethai y sŵn ohono, gwelwyd pedwar yn cludo rhywbeth ar astell i ganol y gwersyll.

Y nefoedd fawr! Yr ail wyliedydd eto wedi ei ladd, yn union yn yr un man ac yn yr un modd â'r cyntaf. Nid oedd angen nodi i Wat enw'r truan, oblegid er hacred y clwy, ni allai guddio crychni hardd y gwallt a welsai y Cymro gynt wrth y Fountain yn Aberhonddu.

Belled i'r hen gyfaill trist yr ymddangosai'r amser hwnnw i Wat, ac O! mor unig y teimlai ef yn awr!

Ag ef wedi arfaethu a blysio am gwmni'r gŵr ieuanc a edmygodd ei Feauty ef ar y dydd rhyfedd gynt, wele'r holl gynlluniau'n deilchion a chorff ei gyfaill cywir yn fud ar yr astell.

Nid rhyfedd nad oedd gan Wat air i neb pwy bynnag drwy'r dydd hwnnw, ac y cerddai yn ol a blaen am oriau wrtho ei hun ar lecyn y tu hwnt i'r pebyll pellaf.

Ond er mudandod yr hen gyfaill, llafar iawn oedd y gwersyll drwyddo, a phob un â'i ddamcaniaeth am y peth a ddigwyddasai a'r modd y bu'r drychineb.

Pan ddechreuodd yr haul wyro i ddiwedd dydd arall wele'r Assembly yn swnio, a phob un yn cyniwair i le ei gatrawd a'i gwmni ei hun. Ac wedi'r Stand to Attention cyntaf dyma filwriad y 24th yn dyfod ymlaen at yr A Company, ac yn annerch ei wŷr:

"Men! it has fallen to your honour to supply the outside sentries for the night. You all know what has happened there the last two evenings, and rather than name any man to such onerous posts I am asking for Volunteers for this night only, trusting that before this time tomorrow a satisfactory ending will have been made of the mystery. Who stands forth?"

Gyda'r gair cymerodd Wat gam ymlaen, ac wedi ychydig eiliadau o betruster gwnaeth tri eraill yr un modd.

"Men!" ebe'r milwriad drachefn, "I am proud of you. Sergeant! March these brave men to their posts."

Gofynnodd Wat yn arbennig am le Jim. Ar y naill law iddo oedd Private Jones o Ferthyr, ac ar y llall Lance—Corporal Thompson o Lwdlo. "Boys," ebe fe wrth y ddau hyn, "I shall kill the man who killed my friend. I knew fim before he went soldier. When you hear me fire come at once to help me!"

Ymaith â hwynt pob un i'w le, a'u clyw wedi ei finio i ddal y sisial lleia.

"Pwy a feddylsa," ebe Wat ynddo ei hun, "fod y fath le pert a hwn mor ddanjerus? Wela' i ddim byd tepig i Indian yn unman ar hyn o bryd ta' beth, neu ni 'rhosai y moch gwyllt yco i bori mor dawel. Pŵr Jim! o ble dath yr ergyd iddo wn i? 'Does yma ddim pren ond amball i lwyn i roi cyscod i elyn o un short. 'Chydig a feddylsen ni yn stapal y Fountain slawer dydd am hyn. Ond dyna—rhaid i fi bido dechra meddwl am dano."

Cerddodd y gwyliedydd Cymreig yn ol a blaen ychydig eto gan glustfeinio ac edrych i fyny ac i waered. Dim yn y golwg ond y moch yn twrio yma a thraw o hyd. Dechreuodd cysgodau'r nos dywyllu'r lle, ond dal i gerdded i ben ei lwybr gan sylwi a gwrando'n astud a wnai'r gwyliedydd o hyd. Eto'n dywyllach, ac efyntau yn dal i gerdded, ond un tro yn lle mynd i ben ei lwybr trodd yn ei ol yn sydyn ag ef ond ar ei ganol. Ha! nid cam mochyn oedd hwnco!" ebe fe o weled un o'r haid yn croesi at lwyn bychan y tu ol i ben arall y llwybr. "Na! Jim! Na!!"

Ar hyn cododd Wat ei fwsged i'w ysgwydd, a chyda'r un symudiad braidd, saethodd ei fwled at y baedd gwyllt, ac a redodd yn ol ar hyd ei lwybr at ochr arall y llwyn. Yno yr oedd y creadur wedi ei ladd, ac o gydio yn ei wrych daeth y croen i ffwrdd yn ei law, ac odditano yr oedd Indiad ieuanc gyda'i domahawk yn ei law!

Wedi clywed ohonynt yr ergyd rhedodd y gwyliedyddion agosaf ato i weld Wat yn codi oddiwrth y gelain, ac i weld hefyd ymhen pellaf y llannerch y moch eraill, yn awr ar ddeutroed, yn rhedeg i ffwrdd cyn gynted ag y medrent.

Yr oedd y dirgelwch bellach yn eglur, a llofruddiaeth Jim wedi ei ddial.

Saethwyd i'r awyr gan y ddau wyliedydd arall i dynnu sylw rhagor atynt. A chyn pen chwarter awr yr oedd y prif swyddog, ar ol newid y gwyliedyddion, yn erchi dwyn i'r gwersyll gorff yr Indiad ar yr un astell ag a ddug, ond y bore hwnnw, yr hyn oedd farwol o Jim Prydderch, Aberhonddu.

PENNOD XXI.
Cwrdd a Hen Gydnabod.

ERBYN dychwelyd ohonynt i'r gwersyll, a dwyn y baich erchyll at ddrws pabell y milwriad, yr oedd gofyn mawr pa beth oedd yn bod. Nid oedd alwad ar i'r milwyr ymgynnull oblegid ni atseiniodd yr un utgorn; ond ymgynnull a wnaethant serch hynny, oblegid o babell i babell fe aeth y newydd fel tân—"The mystery cleared—no more murder of sentries."

Wat, wrth gwrs, ydoedd arwr y noson, a rhaid oedd iddo fynd i bresenoldeb y cadfridog a'i brif gapteniaid yn ddiymdroi i adrodd yr helynt yn fanwl. Holwyd, ac ail—holwyd yno, ac atebodd yntau, er ei anfantais iaith, ei oreu i bopeth. A hynny a wnaeth gyda'r fath ddiymhoniad fel ag i fwyhau, os yn bosibl, glod y gamp a gyflawnasai.

"Evidently a Welshman," ebe'r Cadfridog yn y diwedd, and a fine one at that!" Yna gan droi at un o'i swyddogion, ebe fe ymhellach, "Major, you ought to be proud of him, and of being his fellowcountryman."

"I am, general," ebe hwnnw, "although I cannot claim to being Welsh myself even though I dwell in Wales. But I have known Private Edmunds before, General." Yna gan droi at Wat, ebe fe, "How are you, Edmunds? I see you also are game, like the bird you sold me."

Cododd rhywbeth i wddf Wat ar hyn, ac yn enwedig am y cyfeiriad at yr aderyn a ddug ei serch gymaint yn yr hen wlad. Ond ef a'i hadfeddiannodd ei hun wrth droi i saliwtio'r Major, sef oedd hwnnw, Anthony Moore, Yswain, o Aberhonddu.

Sylwodd y cadfridog fod teimladau Wat yn dechreu cael y trechaf arno, ac ebe fe'n garedig, "Sergeant! Private Edmunds will now retire," ac eilwaith wrth y Cymro ei hun, You will probably hear more of your good night's work. It was simply splendid!" Ac ar hyn cododd y gŵr mawr ar ei draed, gwnaeth y cwmni yr un modd, ac aeth Wat allan, ac i'w babell at ei gydradd.

Yn y mess y noson ar ol hynny adroddodd Major Moore yr holl hanes am ymladdfa'r Plough gynt. "Egad!" ebe fe, "you should have seen how the Beacons thrashed the Forest of Dean. It was worth going fifty miles to see." Yna ymhelaethodd am y modd, ag efe yn meddwl prynu'r Beauty am bum gini, y gorfuwyd arno dalu pedwar ar ddeg.

Yr oedd chwerthin mawr am hyn,—am yr Uchgapten yn cyfaddef yn ei erbyn ei hun. Mwynhawyd hynny gan neb yn well na'r Cadfridog, a hwnnw yn ei lawenydd, ac oherwydd ei edmygedd o Wat, a ddyweddod, "Look here, gentlemen! It will be a long time before the reply comes to my report to London. What do you say to a little present on our own, right away to Private Edmunds?"

"Bravo! the very thing!" medde pawb, a chyn pen yr wythnos galwyd y Cymro i'r un babell drachefn, ac yno yng ngwydd y prif swyddogion o bob catrawd rhoddwyd i Wat ugain gini fel teyrnged o edmygedd His Majesty's Officers for a gallant action."'

Ond er cymaint moliant a enillodd Wat yn Nhrenton, pell oedd y rhyfel o fod yn ffafriol i'w wlad, ac o ddwyn gobaith iddo yntau. Gwasgwyd y llu y perthynnai ef iddo, yn ol a blaen rhwng Trenton a Princetown am rai misoedd, brwydrodd fwy hwnt i'r Delaware, ac yn y diwedd wedi ymladd mewn llawer man arall, bu mor anffodus a pherthyn i fyddin yr Arglwydd Cornwallis, ar roddi o hwnnw ei arfau i lawr yn Yorktown yn 1781.

Triniodd yr Americaniaid eu carcharorion gyda llawer o ddyngarwch, hynny yw, lle nad oedd cyhuddiad yn erbyn catrodau neilltuol am rheithio pobl ddiniwed y wlad yn flaenorol. Dyna'r rheswm i'r Hessiaid fod o dan y fath wyliadwriaeth fanwl, yr oedd eu cynhanes mor nodedig drwy yr holl wlad.

Bu i Wat unwaith hefyd ddyfod o dan ddrwgdybiaeth o ysbeilio a lladrata, am i is—swyddog Americanaidd, rywfodd neu'i gilydd, ddyfod i wybod ei fod yn cario cryn arian ar ei berson i ba le bynnag yr ai. Eglurodd yntau yn ddigon wynebagored ei fod yn berchen ar bedwar gini ar ddeg pan laniodd yn Staten Island gyntaf, ac i'r swyddogion yn Nhrenton ei anrhegu ag ugain gini yn ychwanegol.

"That is all very well for you to say," ebe'r milwriad a driniodd yr achos. "Have you any witnesses to prove it?"

"Yes, sir!" ebe Wat yn eiddgar, "Major Moore, late of the King's 40th, is in this very town now. knows all about my money."

Hwnnw, wedi ei holi, nid yn unig a ategodd ddywediad Wat, ond a adroddodd i'r swyddogion Americanaidd yr holl hanes am werthiant yr aderyn yn Aberhonddu, ynghyd â'r amgylchiadau am y rhodd yn Nhrenton.

"I had heard of that exploit," ebe un, " but little did I think of meeting the hero of it. We are much obliged to you, Major, for the information. That decides the matter once and for all."

Trodd y ddrwgdybiaeth yn fantais i Wat yn y pen draw, oblegid aeth yr hanes am dano i glyw pob un o'i geidwaid, a derbyniodd oddiar eu dwylo lawer ffafr a braint, rhagor ei gyd garcharorion.

Gwnaeth yntau ei orau i deilyngu'r parch a enillasai a llwyddodd i'r fath raddau, fel pan ddaeth y cadoediad hir ddisgwyliedig, cyfaddefai'r Cymro i'w hun mai nid rhwymau o gwbl a fu ei gaethiwed ef.

PENNOD XXII.
Ar Dir y Byw.

UN o'r breintiau a werthfawrogai Wat yn fwy na dim yn nhymor ei garchariad ydoedd y cyfle a enillodd ef i'w berffeithio ei hun mewn darllen ac ysgrifennu.

Gwenai yn awr yn yr atgof am dano ef yn Nantmaden gynt yn dylorni ar Dai bach am ei awydd i ddyfod yn ysgolhaig. "Fe oedd yn iawn, a finna' (bron digon hen i fod yn dad iddo) yn hurtyn dwl. Dai bach! beth a ddaethai ohono, wys? Pregethwr gyda'r Ranters, tepig."

Yna daeth i feddwl yr hen filwr am y Ranter urddasol a bregethai ar y Wharf ym Mryste, ac am y foneddiges, mwy urddasol fyth, a gymerasai sylw o hono ef a phŵr Jim ar y prynhawn bythgofiadwy hwnnw. Na, dim gair yn erbyn y Ranters mwyach. Chware teg i bob un addoli yn ei ffordd ei hun.

Daeth ton o deimlad tyner dros Wat ar hyn, ac am gryn amser daliodd i fyfyrio am a fu. Yna gan ddihuno o'i freuddwyd, "Fe wn beth a wna'i," ebe fe," fe ysgrifennaf at Dai i weyd mod i'n fyw, ac i roi tipyn o'm hanes iddo. Mae'n hen bryd, oti wir, ac fe ddylswn cyn hyn fod wedi gofyn i rywun arall i neud hynny droso' i. Ac os bu ryw hen falchter rhag dangos f'anwybota'th, yn 'y nghatw i nol o'r bla'n 'dyw i ddim felny 'nawr. Fe 'sgrifenna' heddi', g'naf ar f'encos i."

Ymhen wythnosau ar ol hyn taflwyd fferm Nantmaden i gynnwrf mawr ar ganol diwrnod o gynhaeaf o ddeall fod David Price y gwas penna (nid Dai bach bellach) wedi derbyn llythyr oddiwrth Wat Emwnt y gŵr y credai pawb ei lofruddio yn y dre gynt.

Darllenwyd ef i'r meistr a Mrs. Morgan yn y room yn gyntaf, ac yna gyda mawr hwyl i'r hen Fali a'r lleill yn y gegin wedyn. Dyma a ddywedai:

"Dear David,

I have thought many times I ought to rite you, and as I can do a bit of it myself now there is no excues for me not to do it. When I went to Brecon

8 years ago the pressgang got me and I have been a solder ever since, and out in this cruel war moast of the time. Thank God I am safe and sown through it all, for I dont think they will be fiting no more. I am a prisner since Yorktown.

I am treted well and it is hear I learned to read and rite. How is master and mistres. I hope they are alive and well as this leves me at presant. Dont rite back for I hope before long to come back myself. There is no cockfiting in America. With kind love to master, mistres, Mali and yourself.

Watkin Edmunds."

Y llythyr fu testun y siarad am ddyddiau ar ol hyn, a mwy nag un o hen gydnabod Wat, wedi gwybod am ei dderbyn, a alwodd "yn unig swydd yn Nantmaden" i'w glywed. Yr oedd Mali ar ei huchelfannau am fod ei henw hi ynddo; a chymaint oedd ei son hi am Wat fel y darfu i Forgan, henwas y Gelli, deimlo dipyn yn llidiog fod y ferch y bwriadai ef ei phriodi cyn gynted ag y caffent "le bach" iddynt eu hunain, yn siarad o hyd a beunydd am y shawdwr, fel y galwai ef Wat.

A'r meistr ei hun, hyd yn oed, wedi gofyn ohono fenthyg y llythyr, a aeth ar daith arbennig, heb neges arall yn y byd, i'w ddangos i wr Tafarn Cryw.

Derdyshefoni, ddyn!" ebe hwnnw, "wel, dyma newydd o'r diwedd, a Thwm Teil'wr yn y ty hyn bwy noswa'th yn brygawthan y gallai e', pe b'ai e'n gwnstab, ddoti 'i law unrh'w ddydd ar y dyn 'i lladdws. Do's dim iws fod yn rhy siwr o ddim, nag o's wir, a hena' i gyd ma' dyn yn mynd, mwya' i gyd sydd i' ddysgu, 'weta' i. Yfwch lasa'd gyda fi, Mr. Morgan, er mwyn yr hen amsar. Rwy'n gw'pod nad y'ch chi'n arfer mynd i dafarn; ond heddi' ma' petha' mor od, a mor ansertannol ma' isha rhwpath ar hen fechgyn fel chi a finna' i'n catw ni'n gryf."

Nid oedd modd gwrthod ar y fath achlysur arbennig ac wedi yfed penderfynwyd y dylai Yr Hen Binshiwner yn y Glwyd gael clywed y newydd da hefyd. Ac am mai diwrnod i'r brenin ydoedd hi gan wr Nantmaden y dydd hwnnw, boddlonodd fyned gyda'r tafarnwr i Glwyd Tyrpig y Mynydd unwaith eto fel ag y gwnaeth wyth mlynedd cyn hynny.

"Ohoi!" ebe ceidwad y glwyd, "Be' sy'n bod heddi'? 'Dwy i byth yn 'ch gweld chi'ch dou gyda'ch gilydd nad o's rhwpath ma's o'r cyffretin yn dicw'dd."

"Mae felny heddi' ta beth," ebe'r tafarnwr.

"Darllenwch y llythyr iddo, Mr. Morgan!"

Hynny a wnaed, ac yr oedd yn amlwg fod Yr Hen Binshwner, fel yr ai y darllenwr ymlaen, yn mynd yn gynhyrfus iawn. Mor gynhyrfus yn wir, fel y ffrwydrodd allan ar y diwedd," Fe wetas! Fe wetas! Dyna ddiwadd ar stori Twm Teilw'r am byth. 'Ro'dd hi'n bryd doti taw arno. Fe wn i am un case o leia, yn union 'run peth a hwn, pan o'wn i ma's gyda General Wolfe, slawer dydd, ond y Ffrensh o'dd wedi dala hwnnw. Twm Teil'wr yn wir! Be' wyr e' am shawdwyr? fu e' 'rioed ma's o'r cwm yma, a'i unig blan of campaign yw ffordd ma' ca'l y peint nesa'!"

Ni wyddis i ba aruchelion y dygai atgofion Yr Hen Binshwner ef, ond ar y foment tynnodd y tafarnwr botel fechan allan o'i gob, ac ebe fe, Rho gwpan neu ddou i fi, 'nei di, a gad Wolfe yn llonydd am dipyn bach. Dipyn o ddwr he'd."

Ac yno, gylch y bwrdd crwn, yfwyd "Iechyd Da" i Wat Emwnt, a Rhwydd Hynt " iddo ddychwelyd i'w wlad, gan y tri, gyda'r Hen Binshwner yn wlatgar iawn yn atodi God save the King.

Yr un prynhawn, ac yn yr un ysbryd rhadlon cododd Daniel Morgan, meistr Nantmaden, i'r mynydd wrth Waun y Gatar er cyrchu ei gartre'n brydlon.

A'r un noswaith gofynnodd i'w was i ddarllen iddo unwaith eto ei hoff Salm, sef yr hon a gymell i "foli'r Arglwydd, oherwydd Ei drugaredd tuag at feibion dynion."

PENNOD XXIII.
"Y Deryn Pur."

PAN gyhoeddwyd heddwch yn niwedd un o'r Rhyfeloedd Cartrefol mwyaf annaturiol a fu erioed, canai clychau Lloegr Newydd yn ddibaid am dridiau. Ac yr oedd llawer yn yr Hen Loegr hefyd, a oedd yn barod i wneuthur yr un peth; oblegid, ar wahan i'w barn am gyfiawnder neu anghyfiawnder yr achos, yr oedd pob Prydeiniwr wedi hen ddiflasu ar fwnglerwch y cadfridogion yr ochr draw i'r Iwerydd, a ffoledd y llys a'r wladwriaeth yr ochr hon.

Dilynwyd cyhoeddi heddwch gan amryw o gyhoeddiadau eraill yn y Taleithiau, a'r mwyafrif ohonynt yn dal perthynas â'r carcharorion niferus a oedd ar hyd a lled y wlad ar ddiwedd yr ymladd. Un cyhoeddiad yn arbennig a anogai bob un ar a arddelai y Brenin George yn deyrn, i dynnu at y porthladd y glaniodd ef ynddo i'w "hysbysu" ei hun i'r awdurdodau yno, ac i aros yn agos i'r lle tan ddyfodiad y llongau o Iwrob i'w gludo adre.

Bu rai miloedd na ofalent am fyned yn ol o gwbl, gan ddewis yn hytrach aros yn y wlad eang a gostiasai gymaint iddynt mewn cur a noethni.

Nid oedd Wat Emwnt ymhlith y rhain. Blysiai ef am fyned at ei gynefin er llwmed oedd, a mwy yn ei olwg ydoedd ucheldiroedd Nedd a Chynon na holl frasleoedd yr Hudson a'r Delaware.

Felly, wedi ei ryddhad swyddogol, ac wedi ei ffarwelio teimladwy â chyfeillion ei gaethiwed, yn swyddogion ac eraill, gwnaeth y goreu o'i ffordd i Staten Island, a chyrhaeddodd y lle gyda phrydlondeb.

Da iddo ef ei swm arian y pryd hwnnw, oblegid ar y ffordd bu dan orfod i wario dau neu dri o'i aur—ddarnau gwerthfawr, gan mor bell drefi'r Amerig oddiwrth ei gilydd, a phrin y cyfleusterau teithio.

Wedi iddo hysbysu ei ddyfod i'r swyddog priodol a rhoddi ohono iddo fanylion ei lety newydd ger y Wharf aeth Wat am dro drwy yr ystrydoedd y gwyddai am danynt mor dda. Daeth hyn ag ef i gyfer y gwesty lle tarawsai ef yr Hessiad gynt. Chwarddodd am yr amgylchiad, ac o gywreinrwydd yn fwy na dim arall, aeth i mewn gan alw am lasiad iddo ei hun. Nid oedd yno gwmni o gwbl ar ei fynediad, ac ar ol gweini o wr y ty arno am ychydig, aeth hwnnw i ystafell arall gan adael Wat gyda'i lasiad.

Ag ef ar ei godi at ei fin, daeth i glyw'r Cymro sŵn canu gan lais benywaidd, sŵn canu Cymraeg, o rywle yn ystafelloedd y cefn. Gosododd Wat y gwydriad i lawr heb ei yfed, a chlustfeiniodd fel pe bâi ei fywyd yn dibynnu ar hynny. Na, ni wnaeth gamsyniad, canys eto y tarawodd ar ei glust y gerdd,

Y Der—yn pur ar ad ain las, Bydd im—min was di bryd—er

Ar hyn ni allodd ddal yn hwy, ond gan godi'n frysiog, a dilyn cyfeiriad y sŵn, a oedd eto'n parhau, daeth at drothwy ystafell, lle yr oedd y drws yn agored, ac ebe fe gydag angerdd yn llawn ei lais,—

"Er mwyn y nefo'dd wen, dwetwch wrtho i pwy sy'n canu Cymrâg yma!"

Ar hyn gwelai o'i flaen ddynes wrth y bwrdd yn plygu Ilieiniau trwy yrru haearn cynnes drostynt. Yr oedd ei chefn tuag ato ar ei olwg gyntaf arni, ond o glywed ei lais, hi a drodd ato gan wrido'n serchog, a dywedyd " Y fi o'dd yn trio canu. Wyddwn i ddim fod neb yn 'y nghlywed."

Treio canu! ni chlybu Wat erioed yn ei oes ganu mwy soniarus, a dywedodd hynny, gan ofyn iddi gyda llaw i barhau yn y blaen. Ac ymhellach nad oedd ef wedi clywed cân Gymraeg ers wyth mlynedd.

"Dyna'r rheswm," ebe hi'n wylaidd, ond gwell na'm canu i a fyddai siarad â'n gilydd. Fe weta i wrth y boss—un strict dros ben yw e',—ac yna fe fydd popeth yn iawn."

Aeth y Gymraes allan am funud, a phan ddaeth yn ol dug gyda hi lasiad Wat o'r ystafell y bu ef ynddi gyntaf. Popeth yn olreit," ebe hi, 'rwy wedi gweud wrth y boss, a ma' greso ichi aros yn y man hyn faint a fynnwch. Un o ble y'ch chi?" ebe hi i ddechreu'r sgwrs, " 'rwy'n gweld wrth 'ch whilia ta' un o'r Sowth y'ch ch'i, ta' beth."

"O Shir Frycheiniog—gotra'r shir, a'r shir oreu'n y byd," ebe yntau'n siriol."

"O ble yno?"

"Lle bach na wyddoch ch'i ddim am dano, tepig iawn—Penderyn."

'Pen—der—yn! na wn i wir! Gwn yn eitha' da, wa'th un o Gwmnedd wy' inna'."

"Estynnwch law, ynte!" ebe Wat, dyma'r diwrnod mwya' lwcus a geso i ers llawer dydd.

Mae'n dda genny' i fi dd'od miwn. Shawdwr o'wn i'n d'od ma's o Gymru, nid shawdwr o'm bodd, chwaith, cofiwch, ac wedi wmladd bron ymhobman yn New England. Fe geso 'nala'n brisner pan ildiws Cornwallis yn Yorktown. Newydd dd'od yn rhydd wy 'i 'nawr, ac yn aros am long i fynd 'nol i Gymru."

"Pŵr ffelo! shwd mae arnoch chi? O's arian gyta chi? Wa'th ma' genny' beth er ma' morw'n gyflog wy i, ond ch'i a'u cewch a'ch greso.

Hyn oll a ddywedodd hi ar un anadl, ond fel pe â'i henaid yn ei llygaid. Pan gafodd Wat ei dafod, ebe yntau'n gynnes, Can diolch ichi, merch i. 'Do's isha dim arna' i felna. Ond, ar 'fened i, 'rych yn true blue. Anghofia i byth 'ch cynnyg caretig.'

Ar hyn daeth gŵr y ty i'r golwg o rywle, ac ebe'r weinyddes wrtho, "Mr. Van Hart, this gentleman is not only from Wales, but from the valley next to mine. Allow me to introduce him to you.

"But I forget I do not know his name myself yet."

"Edmunds—Watkin Edmunds, late of the Royal 24th," ebe'r Cymro.

"The 24th!"

Let me see, was it not in this place years ago? And since you mention it, fancy I've seen you yourself somewhere before, Mr. Edmunds."

Quite possible—indeed I am certain of it, Mr. Van Hart, for don't you remember that little affair with the Hessian corporal in this very house?"

By Jove! so I do! Shake again, Mr. Edmunds, I am delighted. Miss Williams! please fetch us in two more drinks, will you?"

Balch iawn oedd y weinyddes o glywed yr archiad hwn oblegid pan siaradai'r ddau ŵr a'i gilydd, crynai hi fel deilen, a gwyddai ynddi ei hun wrido ohoni fel genethig benchwiban.

PENNOD XXIV.
Y Wiwer Lwyd.

YMHEN amser pan gyfododd Wat i ymadael, rhoddwyd gwahoddiad cynnes iddo gan ŵr y ty i alw eto, ac er na siaradodd mo'r weinyddes ar y pryd, yr oedd mynegiant ei gwahoddiad hi yn ei llygaid. Hyfryd iawn gan y milwr ydoedd clywed a gweled hyn, a manteisiodd arno y diwrnod nesaf.

"Wetsoch chi mo'ch enw llawn i fi ddoe, Miss Williams," ebe fe.

"Naddo wir," ebe hithau, ro'wn i mor falch o gwrdd â Chymro, a mor ddig wrth m'hunan am ffaelu'ch 'napod chi ar unwa'th fel rhwng popath 'row'n i'n 'itha' hurt. Marged yw'm henw cynta' i. Marged Jones o'wn i cyn prioti.'

"Prioti! Fe greta's i i Mr. Van Hart 'ch galw'n Miss Williams!"

Do, wrth gwrs, ond 'i ddewishad e' yw hynny. A dweyd y gwir i gyd wrthoch ch'i, gwraig briod o'wn i pan ddetho i ma's i Garbondale. 'Ro'dd 'y 'ngŵr wedi d'od o'm bla'n, ac wedi ala i'm mo'yn i ato fe yno. Ond cyn i fi gyrra'dd y lle 'ro'dd y Rhyfel wedi torri ma's a 'fynta' wedi gorffod mynd lan i'r wlad i wmladd. Wela's i mo'no o gwbwl wedi i fi land'o w'ath fe'i lladdwyd e' yn yr wmladd cynta'. Wetyn, 'do'dd dim i 'neud ond 'wilo am rwpath i fi ennill 'y nhoc, a dyma lle'r wy'. Ond cofiwch, ma' gwitw wy' i,—Mr. Van Hart sy'n mynnu 'y ngalw'n Miss Williams. Mae'n swnio'n well, medde fe."

Wel, gwitw neu b'id'o, 'does dim isha ichi fod yn ddig wrtho'ch chi'ch hunan am ddim, ac on'd bai i'chi 'weyd ma' gwraig briod o'ech chi chretswn i neb byw. 'Ro'ech chi'n canu'r "Deryn Pur" ddoe fel crotan ddeunaw o'd, ta' beth, ac fe 'n'ethoch fyd o lês i fi."

"Rhaid ichi weld y doctor, Mr. Edmunds, os oe'ch chi mor glawd a hynny. Ond dyna chi, Shawdwrs, tafod teg yn wastod on'd iefa 'nawr?"

"Mr. Edmunds, wir! galwch fi'n Wat, Miss Williams, fe fydd yn fwy cartrefol o dicyn, bydd wir. Rw'y i ddim yn napod m' hunan wrth y Mr. Edmunds yna, nagw ar f'encos i."

Chwarddodd y weinyddes ar hyn, ac yr oedd yn amlwg ei bod hi a'i chydwladwr ar delerau da iawn. A chyn ymadael yr oedd y Gymraes wedi addo mynd allan gydag ef brynhawn trannoeth i ddangos y parc iddo.

Dangoswyd y parc yn eithaf cydwybodol, ac erioed ni chlywsai Wat adar yn canu'n felysach, na blodau'n sawru'n bereiddiach nag ar y prynhawn hyfryd hwn.

"Chi wetsoch taw o Gwmnedd yr oe'ch chi, on'd do?" ebe Wat, "o ble yno?"

"O bentre'r Lamb and Flag wrth dŷ Aberpergwm."

Dyrdyshefoni! fe wn am dano'n nêt, fe basa's h'ib'o i'r lle lawer gwaith. A meddyl'wch, wir," ebe fe'n mhellach, am dano'n ni'n dou yn d'od ma's yma i gwrdd â'n giddyl am y tro cynta, ynghanol dyn'on diarth. Mae fel b'asa' rhyw blaned yn y peth o's wir. Otych chi'n meddwl mynd 'n ol rwpryd?"

Wel, ma' 'want arno i ambell waith, a phryd arall mae e'n ddicon pell. Gweith'o a fydd raid i yno fel yma, ac 'rwy gyda dyn'on piwr ar hyn o bryd 'falla' ta' gwa'th fi hi'r ochor draw. Mae'n ddicon clawd ar Hannah'm 'wa'r yno ta beth. Wedi prioti dyn sy'n gamblo, a llond ty o blant genti idd'u cwnnu.

"Ond 'dyw pobun ddim yn gamblo, Miss Williams, mae rhai piwr obothtu Penderyn y gwn i am danyn' nhw. O's wir. Leicech ch'i ddim mynd yn ol, o ddifrif 'n awr."

Beth well fydda i o leico?—Hei, 'drychwch ar y wiwer 'co, on'd yw hi n'un bert?"

Ar hynny daeth gwiwer lwyd i lawr un o'r coedydd gerllaw ac a redodd ar y llawr i'w cyfeiriad hwy. Cododd Miss Williams oddiar y sedd, ac ebe hi," Dyna lwc i fi heddi' ta' beth." Ar hynny cododd Wat hefyd i edrych yn graffach ar y creadur bach, ond troi yn ol a wnaeth y wiwer o gael gormod sylw.

Yna adroddodd Miss Williams am y grêd o fod lwc yn dilyn os daw gwiwer i'ch cyfeiriad, ac ymddangosodd fel pe bai hynny'n rhoi llawer o fwynhad iddi.

"Wni yn y byd a oes lwc i finna," ebe Wat mewn tôn ddigalon ar ei waith yn eistedd wrth ei hochr.

"'Falla' fod e', pwy a wyr? Beth garech chi ga'l fwya'?"

"Otych chi o ddifri' yn gofyn y cwestiwn yna i fi?"

"Otw, wrth gwrs, p'am lai?"

"Wel, dyma fe—'ch ca'l chi, Miss Williams, Marged—i dd'od 'nol i'r hen wlad yn wraig i fi.

Fe fydda'n biwr i chi hyd m' ana'l diwetha'. Dyna gyd sy' genny' i weyd."

Yr oedd Miss Williams yn wrid i gyd erbyn hyn. Edrychodd ar y shawdwr piwr, fel pe yn chwilio am eiriau ond yn methu eu cael. Ond dyna, nid amser chwilio geiriau ydoedd hi, a bu cyffro a thawelwch bob yn ail am bum munud gyfan, heb air o gwbl.

Ac yn y cyfamser neshaodd y wiwer atynt eto, a hwy ill dau yn agos iawn at ei gilydd.

Fel yr ai y gwanwyn ymlaen, y dyddiau'n hirhau, a'r llongau heb ddyfod, dechreuodd rhai o'r Prydeinwyr a oedd yn aros yno am eu cludo dros Iwerydd anobeithio a grwgnach. "Yr un fath ag arfer," ebe nhw, diwrnod ar ol y ffair. Rhyfeddwn i ddim nad y'n 'nhw wedi ein hanghofio'n llwyr. Dyma ddeufis cyfan o ddisgwyl eisoes."

Tua'r amser hwn a Wat yn mynd i fyny'r ystryd un dydd, cyfarfu â neb llai na'r Uchgapten Moore ar yr heol yn brysio tua'r llongborth.

"Hullo, Edmunds!" ebe ef, "d'ye know I half expected to find you here, for I knew that the 24th had landed at this place. Kicking your heels to keep yourself warm, I bet, and blasting everybody for delaying the vessels. Too bad of them to keep you so long apart from your little girl at Penderyn, eh, Edmunds?"

"No little girl at Penderyn indeed, sir, for I'm going to be married here tomorrow."

O glywed hyn gwnaeth yr uchgapten chwibaniad hir, ac ebe fe, "Not marrying a Yank surely, Edmunds, I had a higher opinion of you than that. Tho', mind you, some of them are demned smart girls."

Yna adroddodd Wat wrth y swyddog am ennill ohono ffafr Marged Williams, y Gymraes mewn gwlad bell, heb anghofio'r stori am daro'r Hessiad gynt, na'r canu Cymraeg a'u dug at ei gilydd drachefn.

Sounds quite romantic. Yes, by Jove! I wish you luck. Edmunds. And look here (hyn ar ei droi ymaith i fynd tua'r llongborth), should you at any time be out of work in the old country, look me up at Cyfarthfa. I mean to remain there most of my time once I reach the dear old place. Good bye, Edmunds."

"Good bye, sir. Thank you very much."

A chan saliwtio'r uchgapten yn ei arddull oreu, trodd Wat i fyny i'r heol drachefn i ymweld â'i anwylyd unwaith eto, ac i adrodd wrthi y siarad a fu rhyngddo â'r swyddog, ynghyd â'r addewid garedig ynglŷn â'r hen wlad.

PENNOD XXV.
Edrych tuag Adre'.

UN bore heulog yng ngwanwyn 1785, mawr oedd y cyffro yn Staten Island ar ymadael o un o longau'r brenin George am yr hen wlad gan ddwyn gyda hi rai ugeiniau o'r milwyr a fu'n ymladd brwydrau'r teyrn hwnnw yn y trefedigaethau coll.

Wedi'r "ysgydwad llaw" olaf cliriwyd y planciau a'r canllawiau, taflwyd y rhaffau i'r bwrdd, a dechreuodd y llestr symud ymaith oddiwrth y lan.

Wrth y gynwel safai Wat, ac wrth ei ochr y briodferch a enillasai ef mewn ffordd mor hynod yn nhir y rhyfel. Yn ol arfer mordeithwyr yn gyffredin daliasant i syllu ar y lan hyd nes yr ymsoddodd honno o dan yr orwel, gan chwifio eu cadachau cyhyd ag yr atebid hwynt gan y bobl a adawyd ar ol.

"On'd yw'r byd yn un bach wedi'r cwbwl, Watkin?" ebe'r Gymraes wrth ei chymar, er ei fod mor fawr o sylwi arno o'r llong yma? Dyna chi bwy ddydd, yn cwrdd â Major Moore yn New Jersey, ar ol ei weld yn Aberhonddu a'r Plough cyn hynny. A dyma ninna'n dou wedi tynnu at ein gilydd yma ddwywaith, heb wedi gweld 'n giddyl o gwbwl yn yr hen wlad, er ich'i fod droion yn y Lamb and Flag a'r Banwen, a finna'r un peth ym Mhenderyn a Hirwa'n. Hylo! Beth ma'r dyn'on yco'n tyrru at fôn y mast?"

"P'id'wch hit'o am danyn' nhw Marged, dewch am dro round i'r dec gyda fi. Fe fydd yn well i ni fwynhau'r môr tra gallwn ni."

Hyn a ddywedodd Wat am y gwyddai ef mai casglu at ei gilydd i hapchwarae oedd rhai o'r teithwyr. "Hyn a fu rhai ohonoch chwithau, ebe fe wrtho'i hun mewn hunan gondemniad, ond "Diolch i'r nefoedd am oleuni gwell."

Ac felly dygodd ei wraig i ben blaen y llong, ac wedi eistedd i lawr yno, buont drwy y prynhawn yn syllu ar brydferthwch natur o'u cylch, y morgesig yn ymlid ei gilydd gan ysgwyd eu myngau gwynion, a'r gwylanod cyn wynned a hynny yn galw y naill ar y llall wrth farchog yr awel.

Yn y man canodd y gloch yn alwad ar i bawb fynd i'w hwyrbryd yn y prif gaban, ymwasgarodd y cynhulliad wrth fôn yr hwylbren, ac aeth Wat, gyda'i briod yn pwyso ar ei fraich, heibio iddynt er cyrraedd eu lle priodol.

Drannoeth a thrennydd, rhwystrodd y tywydd tymhestlog y teithwyr i fyned i'r bwrdd, a dyna'r rhan anhyfrytaf o'r daith, y llestr yn rholio yng ngafael yr hyrddwynt, a'r bobl, lawer ohonynt, yn sâl gan glefyd y môr, ac yn gaeth yn eu cabanau cyfyng.

Ar y pedwerydd dydd peidiodd y gwynt mawr, ac er ei bod eto yn oer iawn mentrodd nifer i'r bwrdd.

"Otych chi'n meddwl, Marged, y gellwch chi dd'od i'r dec ar 'y mraich i?" ebe Wat wrth ei briod. Mae yno rwpath gwerth i' weld. Dotwch 'ch clocyn yn dyn am 'ch ysgwydda' a dewch lan!"

Wedi cyrraedd y bwrdd synnwyd Marged o weld nifer o rewfryniau arddunol o fewn ychydig bellter iddynt.

"Ond y'n nhw'n bert?" ebe hi, ac mor lân!"

"Ie," ebe Wat, gan wasgu ei chlôg yn dynnach am dani, "ac mor oer hefyd. 'Rwy'n siwr fod yn well gan y capten fod hebddy' nhw, wa'th ma' nhw'n beryclus os do'n nhw'n rhy acos. Ond y maent yn werth idd 'u gweld am unwaith. 'Drychwch ar y twr gwyn mawr yco, mae e' fel clochty eclw's."

Ag ef eto yn siarad syrthiodd y twr pigfain yn deilchion, ac atseiniodd twrf ei gwymp o'r un rhewfryn i'r llall fel pe bai grechwen taran Awst.

"Mae hi'n mynd yn oerach, Marged. Gadewch inni fynd 'nol," ebe'r Cymro, a disgynasant i gyrchu eu caban unwaith eto.

Tecau a wnai'r tywydd y dyddiau wedyn, yn gymaint felly ag i wneud rhodio'r bwrdd yn hyfrydwaith i bawb. Yr oedd pobl bôn yr hwylbren hefyd wedi dyfod at ei gilydd eto, ac yr oedd twr arall o ddynion wrth yr un gwaith yng nghysgod y bâd gyferbyn â hwynt.

"Beth sydd gan y dyn'on yna i'w catw am oria' yn gylch i sylwi ar yr un peth o hyd? 'Does dim un o hon' nhw'n cwnnu'i ben."

O, gamblo, Marged fach. Tawlu disha' am arian y ma' nhw, a'r sharpers yn gofalu i ble ma'r arian yn mynd yn y pen draw. Fe fuo i mor ffol a cholli'm harian wrth yr un peth gynt. 'Ro'dd ennill ne' golli yn y pit er cyn'rwg o'dd hwnnw, yn fil gwell na llawio'r disha', o'dd wir. 'Roech chi'n son am y Banwen gynne'. Wn i a weta's i wrthoch chi am y peth a a'th a fi yno? Na, 'dwy' i ddim yn meddwl i fi 'neud. Wel, dyma fe!"

Yna adroddodd Wat wrth wraig ei fynwes yr holl hanes am Beauty, am ennill ohono y mochyn ar y Banwen, ac am ei ufuddhau i'w gydwybod trwy ddwyn y gini yn ol i wraig y collwr.

Wel, ma' unpeth yn well yn Lloegr Newydd nag yn yr hen wlad, 'do's dim cymaint o gamblo yno o gryn dipyn. Mewn tafarn 'row'n i'n gwasnaethu, fel gwyddoch chi, ond wela's i ddim tawlu disha' cyn d'od i'r llong 'ma. Un strict o'dd Mr. Van Hart mae'n wir, ond ni wela's i neb yn 'nelu at y gamblo 'chwaith. Ond o ran hynny fe glywa's Mr. Van Hart yn dweyd lawer tro fod 'i dad a'i dadcu ef yn strictach hyd 'n o'd nag o'dd e'i hunan, a'u bod wedi d'od ma's o Loegar o achos 'u crefydd, ac fe greta' i hynny'n rhwydd, taw ddim ond am ———

"Land Ahead!" Neidiodd pawb ar eu traed, —Wat, Marged, a'r hapchwaraewyr oll, i syllu i gyfeiriad blaen y llong, er gweld y tir yr oedd pawb mewn cymaint awydd am ei gyrraedd.

Yn rhyfedd iawn rhyddhaodd y waedd dafod pob teithiwr, a siaradai pobl â'i gilydd yn awr na ynganasant air y naill i'r llall cyn hynny.

"We'll make Gower in an hour," ebe un. "Bristol tomorrow morning if this breeze 'll hold," ebe arall. Ac o ddechreu siarad fel hyn, bu siarad am bethau eraill, eu cynlluniau, a'u gobeithion ar ol glanio.

Fe ddaliodd y brisyn yn eithaf ffafriol, a chyn troi o'r Cymry i fynd i'w caban am y nos, yr oedd Wat wedi adnabod ffurf y mynyddoedd a safent yn yr asur y tu ol i gyffiniau Margam a Chastellnedd.

"Dyco Farch Hywel, ar f'encos i, Marged!" ebe fe yn wyllt wrth ei briod, ac er fod y briod honno ond y bore hwnnw wedi ei geryddu am ddywedyd ei "Ar f'encos i, ei fyn asgwrn i, a'i ar f'ened i," gwenodd hithau yn awr mewn boddhad. Oblegid onid oedd March Hywel yn golygu hefyd Gwm Nedd, y Banwen, a'r bwthyn bach wrth y Lamb and Flag?

Deffrodd y teithwyr fore trannoeth o glywed llawer o gerdded yn ol a blaen uwch eu pennau, o glywed llwbian y rhaffau ar eu taflu yn sypynnau yma a thraw, ac o glywed aml glonc y cadwyni yn taro ar y bwrdd.

"Cwnnwch, Marged! Dyma ni yn Bryste, s' dim dowt. Diolch i'r nefo'dd am ddaear Duw unwa'th yto!"

"Ia," ebe hithau, "a diolch am Ei ofal am dano'n ni drwy'r cwbwl i gyd, ond iefa, Watkin?"

"Ia, 'merch i, ia'n wir!" ac am na wyddai yr hen ymladdwr ceiliogod am well ffordd i ddatgan ei ddiolchgarwch ymhellach, fe a ymblygodd at ei wraig, ac a'i cusanodd.

PENNOD XXVI.
Y Rhufeiniaid yng Ngwent.

ARHOSWYD ym Mryste am rai diwrnodiau gan y ddeuddyn hapus, yn ymweled â'r lleoedd mwyaf nodedig yn y ddinas, ac yn arbennig y mannau cysylltiedig â bywyd Wat ynddi gynt.

Gwelsant fod pregethu eto ar y Wharf, ac nid oedd neb mwy defosiynol yn y gwasanaeth a gynhelid ar y pryd na'r cynfilwr a'i briod ar ymyl y dorf. Wedi ymwasgar o'r gynulleidfa dangosodd Wat i'w wraig y man y pregethasai John Wesley gynt, a'r lle yr ymgomiwyd ag ef a Jim gan y foneddiges Sarah Wesley, gwraig Charles ei frawd, ond a oedd cyn priodi yn Sarah Gwynne o'r Garth.

"Pŵr Jim!" ebe Wat, mor llon oedd e' y d'wrnod hwnnw am 'n bod wedi dicw'dd cwrdd! Mi ro'wn lawer am 'i gwrdd yma heddi', yn lle bod ei gorff glân yn gorwedd o dan y pren mawr yn Nhrenton. Os y'ch chi'n folon, Marged, fe awn lan i'r afon i Bath 'fory, y ffordd y da'th e' lawr slawer dydd, ac wedi hynny nid yw wan'ia'th gen i pa mor gynted awn ni'n ol i Frych'in'og."

Hynny a wnaethpwyd, a buont am ran o ddiwrnod ynghanol rhwysg a balchter Bath, lle yr oedd lawer o ysbryd Beau Nash eto'n aros, er marw ohono ef ers chwarter canrif bellach. Mynychid y baddonau a'r chwaraedai o hyd ac nid oedd ddiwedd ar y rhodres a'r gwag ymddangos. Cynhyrfwyd Wat yn fawr gan y ffug-fawredd hwn, ac ebe fe yn ddigllon, "Y pêcocs di'menydd! ddysga' nhw mor wers nes 'i bod hi yn rhy ddiweddar. Dyna nhw wedi colli New England yn barod o achos 'u hurtrw'dd, a ma' nhw'n gweyd 'wrtho i fod gwyr mawr Ffrainc yn wa'th na rhain. Fe ddaw yn full stop arny' nhw i gyd heb fod yn hir, os na newita' nhw 'u ffordd o fyw, ac o drafod petha'. Mor siwr a ma' Wat Emwnt yw'm enw i, gwna'n ar f'en Dewch i ni ga'l mynd 'nol i Fryste, Marged!"

Dychwelwyd i'r dre fawr gyda'r bad nesaf, ac yn eu llety y noson honno paratowyd gogyfer a'r daith drannoeth i Gymru. Deallasant fod carier yn cychwyn bob bore o westy neilltuol er dwyn teithwyr a'u heiddo i'r Old Passage, a chyda hwnnw yr euthant hwythau hyd at afon Hafren.

Glaniasant yn agos i Gasgwent, lle dywedwyd wrthynt y dygai'r coach mawr hwynt o'r Beaufort Arms yn ystryd serth y dref honno i'r Fenni mewn pedair awr, gyda lwc, ac i Aberhonddu gyda'r hwyr brynhawn.

Gan fod y tywydd yn ansefydlog ar y pryd cymhellodd Wat ei briod i gymryd sedd y tu fewn i'r coach ac yr ai ef y tu allan. "Dim o'r fath beth," ebe hithau, os bydd yn 'lyb i fi fe fydd yn 'lyb i chitha', ond 'y marn i yw y bydd i'r dydd wella. A 'blaw hynny, fe fydd yn well genny' fi fod wrth 'ch ochor i 'wilia gyda chi na bod mor fud a llygoten gyda'r 'istocrats y tu fiwn.

Trefnwyd felly fod i'r ddau eistedd y tu allan, ac fel y digwyddodd daeth proffwydoliaeth Marged yn wir, a bu'r hin yn deg hyd ddiwedd y daith. Balch oeddynt wedyn iddynt drefnu yn y modd hwnnw, oblegid gwlad hardd ydyw Gwent, ac ar ddiwrnod eu taith tonnai blagur yr holl fro o flaen awel fwyn ddechreu Mai. Difyrrwyd hwynt hefyd gan siarad hwylus a helaeth y gyrrwr. Dechreuodd yn eu hysbysu fod castell Casgwent wedi ei adeiladu gan y Rhufeiniaid, neu y Romans (chwedl yntau), ac abaty Tintern yr un modd. Wunnerful people them Romans," ebe fe, "'Twas they made The Tower of London,' d'ye see, and then they comes along here to do other things. They was no stay-athomes I can assure you. And its the stay-at-homes are the very people I can't 'bide. Why! they knows nothing. Some of 'em aint even been to Myrthyr."

So you've travelled I can see," ebe Wat.

"Lor' bless you, sir," eb efyntau, a'i barch yn dechreu ei amlygu ei hun i'r teithiwr dieithr," I've seen summat in my toime. Been to Barnet Fair once, sir, and Bath twoice (gwasgiad ar fraich Wat gan Marged am hyn), "and I very neely went for a sojer to Meriky too (gwasgiad caletach fyth) if m'old man hadna bought me out."

Bu tawelwch am ennyd ar hyn, oblegid nid dewis oedd Wat gymharu hanes ei deithiau ei hun, a throion y gyrrwr siaradus hwn.

Ond y Sais ni fynnai ymdawelu, ac ebe fe er mwyn ailymaflyd yn yr ymgom, As I sez, sir, them Romans was wunnerful people. Some sez that they dug iron in this here Forest-o'-Dean, away there ayond Wye on our right. And some even sez the Foresters now, NOW, are nothing but Romans reely. I'm jolly sarten they be none on 'em English or Welsh. Funny, aint it?"

"Very," ebe Wat, "and what in particular makes you think that they are Romans?"

"O, there's cockfightin' to start, they've been a—doing it for ages and ages, 'fore we English ever thought on 't, and a deuce of a long time 'fore we larnt it to the Welsh."

"Who'd have thought it?" oedd unig ateb Wat i hyn oll, er bod ei feddwl yn gyffrous iawn. Daliai i edrych yn synfyfyriol i'r pellter draw, a theimlai law ei wraig yn gafaelyd yn ei fraich, ac yn ei gwasgu'n dyn.

Dygwyd ei feddwl yn ol o'i hysbysu gan y gyrrwr gwybodus fod Castell Raglan hefyd wedi ei godi gan y Rhufeiniaid. Some sez, sir, that it was Julius Caesar done it, but I 'as my own opinion about that matter, for I can prove twa'nt anything o' the sort. As a matter of fac', 'twas irrected by Romeo Juliet and none other."

Ni bu nodiad ar hyn o du y Cymro, ac ni bu nemor hwyl siarad am "Romeo Juliet" nac arall o hynny i'r Fenni, lle yr oedd ychydig o seibiant a newid ceffylau yn eu haros.

PENNOD XXVII.
Glannau'r Wysg.

YMHEN ychydig funudau yr oedd y Coach mawr yn barod i gymryd yr heol drachefn, gyda'r meirch newydd mewn afiaith anhywaith am gychwyn, a'r prif swyddog gyda'i gorn yn ei law yn anelu at ei godi i'w fin.

Munudau prysur dros ben oedd adeg newid ceffylau'r coach ymhobman. O weld carlamu'r meirch i'r ysgwar o flaen y gwesty yna y byddai i'r pen-ostler agor drws ei ystabl, a chyda'r balchedd hwnnw a ymgyfyd o ddiddordeb byw yn y gwaith, fe a arweiniai ei geffyl cyntaf (wedi ei harnesio'n barod) i gymryd lle yr un a ollyngid gyntaf yn rhydd. A'r un modd arweinid y ceffylau eraill allan gyda'r un hwylustod, a chyn nemor eiliadau yr oedd y pedwar yn eu lle ac yn dangos yn nisgleirdeb gwedd eu crwyn a harnais eu gwisg, y gofal arbennig a gymrid ohonynt.

Hon oedd foment fawr yr ostleriaid yr un a fynegai am eu gwaith a'u medr gerbron y byd; ac felly nid un i'w cholli oedd hi unrhyw amser. A'r un modd y gwestywr a'i weision. Pa ddewin a allai ddywedyd am râdd y bobl a adawent y coach am ennyd er mwyn nawddogi ei dŷ am y tro?

Mewn gair, gweithredai'r coach mawr nid yn unig fel prif foddion trafnidiaeth rhwng " y wlad " a'r byd tuallan, ond ef hefyd oedd brif gyfrwng newyddion a hysbysiadau y gwahanol ardaloedd a'i gilydd.

Nodweddid newyddion y coach mawr gan amlaf gan y gwladgarwch poeth hwnnw a gyfrifai bopeth y tuallan i'n hynys yn elynol, ac mai dim ond y gwylio manylaf a ddiogelai ein gwlad rhag cynllwynion y tramorwyr ffeils.

Ar yr amser neilltuol pan ddychwelodd Wat i'w famwlad y bwganod mwyaf eu dyhirwch oedd Washington, Benjamin Franklin, a Lafayette. Yr oedd Bonaparte eto heb ddechreu brwdfrydu Ffrainc na Daniel O'Connell yr Iwerddon.

Ond digon y dyhirod wrth law, a chlybu Wat a'i briod fwy am fawrddrwg yr Americaniaid yn ystod y "newid ceffylau" yn y Fenni nag a glywsant erioed cyn hynny, ac ni wyr Lafayette hyd heddiw y ddihangfa a gawsai o beidio bod yn agos i ffrewyll gyrrwr y coach yn y Fenni y prynhawn neilltuol hwnnw.

Dywedir i ni mai gwaith a bâr lawer o syched ydyw siarad helaeth, ond ni wybu Wat hynny, tebig iawn. O leiaf ni chynhygiodd ef lasiad o ddim i edmygydd mawr y Rhufeiniaid, a oedd y munudau hynny mor llawdrwm ar Lafayette, a thoc, dyna alwad ar i'r teithwyr gymryd eu lle eilwaith, a'r cyfle wedi myned heibio.

Mudandod mawr a oedd wedi hyn ar nen y coach, heb na gair am hyn nac arall gan neb. Efallai mai arddunedd y mynyddoedd mawr yn ymyl a oedd a'i parai oblegid mawreddog dros ben oeddynt.' Ond efallai, wrth gwrs, mai peth arall, hollol wahanol, a oedd i'w gyfrif am dano. Fodd bynnag am hynny, Marged oedd a dorrodd ar y tawelwch gyntaf, ac ebe hi, " 'Drychwch, Watkin, on'd yw'r mynydda' 'ma'n grand?"

Oti'n," ebe yntau, ma 'nhw'n rhai ffein digynnyg, ond p'idiwch sôn llawer am danyn' nhw, ne'r Rhufeiniaid gaiff y bai am rai'n yto!"

Gwenodd Marged ar hyn, a daliodd ei thafod. Yr oedd y coach wedi gwneud tramwy da o'r Fenni i fyny; a chan adael Cryghywel a'r Bwlch ar ol, dyneswyd bellach at gyffiniau Aberhonddu ei hun.

Teimlai Wat ryw gynhyrfiad meddwl hynod iawn ar ei agoshau i'r dre y bu iddo ef brofiad mor chwerw ynddi gynt. Daeth yn fyw i'w gof wychter y Castle a charedigrwydd y Fountain, tybed a welai ef hwynt yn yr un goleu y tro hwn? Yna daeth i'w feddwl am Major Moore, ond ag ef yn dechreu pendroni am y dyddiau a fu, wele'r coach yn cyrraedd gwaelod y Watton, a'r gyrrwr yn galw ar ei geffylau am ychwaneg o fuandra er mwyn tramwyo'r dre in proper style, ys dywedai ef.

Digwyddai fod ar y pryd gynhulliad o ryw fath yn y Watton, ond beth oedd hynny i'r Jehu gwlatgar hwn? "Nothing but blasted Methodists, I'm thinkin," ebe ef, "They was here Monday night afore, the demned rascals! Let 'em get out of the way if they wants to!"

Ac out of the way y gorfu i'r bobl fynd tra carlamai'r meirch heibio iddynt in proper style i gyfeiriad y Castle.

Dyma ni Marged," ebe Wat, "gadewch i fi'ch helpu i ddisgyn, ond estynnwch y pecyn i fi yn gynta'. Dyna fe. Ni awn yn ol i'r dre 'nawr am dipyn o fwyd wa'th os y'ch chi 'run peth a fi ma'i isha arnoch chi.'

Hynny a wnaethpwyd, a chyn hir yr oedd y ddau wrth y bwrdd yn y Green Dragon yn cyfranogi unwaith eto o luniaeth yr hen wlad.

PENNOD XXVIII.
Hen Atgofion.

DEUBETH oedd ym meddwl Wat i'w hymgymryd drannoeth cyn cefnu ohono ef a'i briod ar y dref i fynd at eu cynefin yng ngodre'r sir. Rhaid oedd ymweld yn gyntaf â Mrs. Prydderch yn y Fountain er ei hysbysu o farwolaeth ei nai, a'i chysuro ymhob modd posibl.

Ei fwriad hefyd ydoedd ymweld â'r Castle fel ag i glywed rhywbeth am symudiadau Mr. Moore.

"Fe Ydw," ebe Mrs. Prydderch, "'wy'n eich cofio'n eitha' da. Sefwch ch'i, mae wyth mlynedd 'ddiar hynny a dyna'r rheswm y mae mor fyw yn 'y nghof i, am imi golli Jim, fy nai, tua'r un amser garwn wybod beth a dda'th ohono, poor boy. Mae arna'i ofn, wir, 'mod i wedi bod yn rhy gâs wrtho ambell waith; ac am hynny d'wy' i ddim wedi bwyta bara iach ers llawer dydd."

"Fe fydd yn dda gennych i glywed, Mrs. Prydderch, i fod ganddo feddwl uchel am danoch chi hyd y diwedd."

"Hyd y diwedd? Wyddoch chi rywbeth am dano ynte? Peidiwch dweyd 'mod i wedi'ch cam ddeall!"

"Gwn wir, Mrs. Prydderch, y cwbwl am dano am wn i," ebe Wat yn drist, "ond gadewch i fi gau'r drws yn gynta".

"Na, dewch miwn yma'ch dou," ebe hi, gan groesi'r gegin ac agor drws y parlwr, "chlyw neb mo'no'n ni yma."

Yna, ym mharlwr y Fountain, yr adroddodd Wat gyda'r tynerwch o'r mwyaf am ei holl ymwneuthur â Jim, gan bwysleisio eu cyfeillgarwch mawr, ac yn arbennig eu cyfarfyddiad hapus ym Mryste, a lliniaru llawer ar erchylltod y diwedd yn Nhrenton.

Ymhell cyn diwedd yr adroddiad o'r hanes yr oedd Mrs. Prydderch yn foddfa o ddagrau, a Marged yn ceisio ei chynnal yn y modd na allai neb ond a brofasant eu hunain ran o chwerwder bywyd ei wneuthur.

"Do," ebe Wat, "fe'i claddwyd yn barchus, a'r holl gamp o'r top i'r gwaelod yn hiraethu ar ei ol."

"Diolch yn fawr ichi, Mr. Edmunds. 'R'ych wedi rhoi llawer o gysur i fi er fod'ch stori ch'i mor sad. Rhaid i ch'i a'ch gwraig garedig aros yma i gin'o gyda fi heddi'. Rwy'n credu y bydda' i'n well o'ch cwmni ch'i, ac fe fydd greso ich'i yn y Fountain bob pryd, tra fydd m'enw i ar y sign. Bydd wir! Poor Jim!"

"Wela's i mo Major Moore ers lawer dydd," ebe hi ymhellach. "Dwy' i ddim yn credu ei fod yn y dre' o gwbwl. Ond fe glywa's 'i fod e' lawer yn wahanol 'nawr i beth o'dd e'n arfadd bod. 'Do's dim junkets mwyach ma'n debig. Trade a busnes yw'r cwbwl 'nawr, medde nhw.

Ciniawyd yn y Fountain yn ol y gwahoddiad, ac yn y prynhawn aeth Wat wrtho'i hun i'r Castle gan adael ei briod yng nghwmni Mrs. Prydderch.

"God bless your soul, sir!" ebe'r swyddog yn y gwesty mawr, "We never see Major Moore now but once in a blue moon. You'll find a great change in him, sir, no doubt, no hunting or cockfighting any more. Almost a Methodist, one might say, sir. The most likely place for you to find him is at Cyfarthfa, I should say. I'm told they are going great guns there just at present."

Diolchodd Wat i'r Sais ac yna aeth yn ol i'r Fountain i edrych am Marged, ac wedi ymgomio ychydig eto â Mrs. Prydderch aeth y ddau allan am dro i'r dre cyn dychwelyd i'w llety yn y Green Dragon.

Ac â hwy yn tynnu at gyfeiriad y Watton gwelent dorf fawr tua chanol yr ystryd honno yn yr un lle ag y gwelsant un arall y diwrnod cyn hynny ar eu dyfod yn y coach mawr heibio.

Ar ofyn o Wat am esboniad am y cynhulliad deallodd mai y blasted Methodists oedd yno yn wir, a'u bod yn arfer mynychu'r lle fin hwyr.

Ar neshad o'r ddeuddyn at y dorf hwy a sylwent fod yno gyffro nid bychan ar y pryd am fod rhai o bobl fachgenaidd y dre ag awydd aflonyddu y pregethwr ieuanc. Hwnnw a ddaliai ymlaen yn wrol gan anwybyddu am beth amser y bechgynnos difoes. Ond o'r diwedd cymaint ydoedd eofndra y rheiny fel y mentrodd dau ohonynt ddringo i'r fen y tu ol i'r pregethwr gan aflonyddu yno.

Yr oedd Wat wedi sylwi ar hyn oll; ac wedi ei gynhyrfu drwodd, fe benderfynodd, delai a ddeuai, osod diwedd ar y peth. Felly gan adael ei briod yn y dorf ymwasgodd ymlaen at y gwatwarwyr ac a ddringodd yntau hefyd i'r fen. Ymddangosai am foment fel pe yn siarad â'r ddeuddyn ffol, ond y foment nesaf yr oedd wedi taro un ohonynt nes ei gwympo o'r fen i'r llawr. Yna gan gydio am y llall gerfydd ei ganol, hwnnw hefyd a fwriwyd oddiar y llwyfan ar ol ei gyfaill.

Fel y gellid tybio, rhwystrodd hyn lawer ar y siaradwr, a chyn y gallai ef ail—gydio yn ei araith anerchodd Wat y dorf.

"Gyd-Gymry!" ebe ef, rwy i newydd dd'od 'nol i'm gwlad ar ol wmladd yn erbyn Yanks a Indiaid yn New England. Mae'n ddrwg genn' i nad o's dim waratêg i Gymro i wilia yn 'i iaith 'i hun ym 'Merhonddu. Fe dawla's i'r ddou ffolyn yna i lawr er dysgu lesn iddyn' nhw. Waratêg yw waratêg. Ewch ymla'n, Mr. Pregethwr, fe fydd llonydd ich'i nawr!"

Hynny a fu. Dechreuodd y siaradwr ieuanc eilwaith ac ymddangosai fel pe wedi ennill hwyl newydd yn y gwrandawiad gwell.

Daliai Wat i sylwi'n astud ar bopeth a ddywedid, a pho fwyaf yr hwyl mwyaf i gyd ei sylw yntau. Canys ymhle y clywsai ef yr oslef honno o'r blaen, ac y gwelsai ef godi'r fraich yn yr unffordd a wnai'r siaradwr ger ei fron?

Gofynnodd yn dawel i un yn ei ymyl am enw'r pregethwr ond hwnnw ni wybu mo hono.

Felly daliodd yr hen filwr i sylwi ac i wrando yn fwyfwy hyd ddiwedd yr oedfa. Ac wedi i hynny ddyfod i ben ac i'r dorf ddechreu ymwasgaru trodd y pregethwr ei hun ato, ac i'w syndod meddai,

'Rwy'n diolch o 'nghalon ich'i, Mr. Watkin Edmunds am eich cymorth."

"Ffordd ichi'n napodi?" ebe yntau yn fwy syn fyth. Ar hyn gwenodd y pregethwr, ac yn y wên deallodd Wat, Wel, o's bosib, nid y ch'i,—nid y ti yw———

"Ia!

fi yw e, Dai Bach, Nantmaden. "Shwd y'ch chi? Fe geso'i llythyr chi, a ma' dishgwl'ad mawr am danoch chi ym Mhenderyn. Ewch yn ol cyn gynted ag y galloch."

Yna cyflwynwyd Marged i'r pregethwr, a mawr oedd yr afiaith ar eu mynd gyda'i gilydd i'r Green Dragon am ychydig o luniaeth.

"Ma' unpeth yn lwcus iawn," ebe'r pregethwr, "Fe fydd Mr. Morgan, Nantmaden, yma yfory, ac yr o'wn i i ddychwelyd gydag ef yno.

Ond rhaid i fi fynd ymla'n i Drefeca. Felny fe gewch chi'ch dou eich cario adre yn'm lle i. Fe fydd yno roesaw tywysog ichi yn Nantmaden, credwch ch'i fi."

PENNOD XXIX.
Cysylltiadau, Hen a Newydd.

GANOL dydd drannoeth, gellid gweld cerbyd Nantmaden yn dychwelyd o'r dre drwy Lanfaes yn gynt nag arfer. Ynddo heblaw'r gyrrwr oedd dyn a dynes, a'r tri, a chyfrif nad oedd yr un ohonynt yn ieuanc iawn, yn afieithus dros ben.

Gadewch i fi weld," ebe Mr. Daniel Morgan, "fe fyddwn wrth Lanrhyd ymhen awr, ac fe gymer awr arall inni gyrraedd Clwyd y Mynydd. Mae'r Hen Binshwner wedi dweyd wrth bawb am eich d'od adre cyn hir, a rhaid fydd treulio peth amser gydag e'. Fe awn wetyn i Dafarn Cryw wa'th ma' William Lewis hefyd yn edrych mla'n at eich d'od sha thre. A ma' Twm Teil'wr, pŵr ffelo, wedi bod dan dipyn o gwmwl am iddo broffwydo'ch bod wedi'ch lladd."

Waratêg i Twm. 'Do'dd e' ddim ym mhell o'i le pe baech chi'n gwpod y cwbwl. Fe weta'r hanes rwpryd wrthoch ch'i, ond nid heddi'. Dydd llawen yw hwn i fod, ond iefa, Marged?"

Gwenodd Marged ei chydolygiad, ac yr oedd yn syndod gymaint o destynau llawenydd a fu y diwrnod hwnnw.

Aeth yr Hen Benshwner heibio iddo ef ei hun yn ei groesaw. "Welcome Home, Wat! Ie, jiawch i, a Welcome Dwpwl-ar-ucian he'd! Ble ma' Twm Teil'wr heddi', wn i? Gofelwch am 'ch dyn, Mrs. Edmunds, 'newch i? Fe ofala's i unwa'th na cha's e' ddim 'i saethu. Do myn jiawch i. Fe wela's i un shawdwr'r amser o'wn i ma's gyda General Wolfe, yn 'i cha'l hi yn yr un ffordd. Do, tawn i' marw, pan ow'n ni'n mynd i symud lan i Montreal, chi'n gweld,—"

"Come, Virgin!" ebe Daniel Morgan wrth ei greadur yn y cerbyd, gan adael yr Hen Binshwner ar ganol ei ystori.

Yna aethpwyd i Dafarn Cryw, lle yr oedd William Lewis, os yn llai llafar ei groesaw na'r Hen Binshwner, eto mor gynnes ag yntau. Ac yn y parlwr bach gofalodd ef osod lluniaeth goreu ei dy o flaen y cwmni llawen.

Ni chyrhaeddwyd mo Nantmaden hyd yr hwyr, ond pa mor hwyr bynnag ydoedd hi arnynt yn cyfranogi o'u swper yno, llawer hwyrach na hynny ydoedd hi arnynt yn ymwahanu am y nos. Oblegid rhaid oedd cael Wat i adrodd cyfran helaeth o'i hanes wrthynt i gyd y noson honno, a rhaid hefyd gan Daniel Morgan ydoedd darllen ei salm arbennig ef unwaith yn rhagor.

Dywed yr awdurdodau ar hanes lleol, na chymerodd Mali yn garedig at Marged y noson gyntaf honno, ac iddi fynegi ei barn nad oedd "dim isha' i Wat fynd mor bell a 'Merica i brioti gwitwfod dicon o'r rheiny yn nes i dre'."

Ond ni wyddai hi'r amgylchiadau pan ddywedai hi hyn, a theg yw ychwanegu iddi yn ol llaw newid ei meddwl, ac i Marged a hithau ddyfod yn gyfeillion mawr.

Arfaethasai Wat gael "lle bach "o dyddyn iddo ef a'i briod ar eu dychweliad, ond nid oedd yr un i'w gael ar y pryd, a mawr oedd ei siom oherwydd hynny. Mewn gair meddwl am Flaen Hepsta neu Hepsta Fechan yr oedd ef, lle gallai ei enillion wrth bysgota ychwanegu at gyllid y tyddyn ei hun.

Cynygiodd Mr. Morgan iddo waith cau ar Nantmaden am dymor, a mynegiant amlwg oedd hynny o'i deimlad caredig at ei hen was, oblegid llunio gwaith oedd ef yn ei gynnyg, a gwyddai Wat hynny yn dda.

Felly, gan ddiolch iddo, a dywedyd y ca'i ef ateb pan ddeuai ef yn ol o'r Banwen, aeth Wat a Marged i'r lle hwnnw i weld tylwyth y wraig.

Ac fel y tybiasai ef gynt ac yr ofnai ef beth yn awr, profwyd mai chwaer Marged oedd y ddynes y dygasai ef ei mochyn o'r twlc wyth mlynedd cyn hynny.

Adnabu Hannah Thomas ef ar unwaith, ac ebe hi, "Allswn i byth anghofio'ch gwynab ch'i wa'th fe gostws 'i weld e ormod o ofid i fi i'ch anghofio byth." Ond gan droi at ei chwaer, ebe hi ymhellach,

Ma' egwyddor yn dy ŵr di, Marged, wedi'r cwbwl, ac 'ro'dd rhwpath yn gweyd wrtho i y b'aswn i'n siwr o'i gwrdd yto, er ma' 'chytig feddyla's i y bydda' fe yn ŵr i'm hunig 'wa'r. Ond dyna fe, ma' troion od i' ga'l. Ac er mor galad a fu hi arna' i' wedi claddu William, fe getwa's y gini trw'r cwbwl er mwyn 'i dangos hi i'm bechgyn pan fydden' nhw wedi tyfu'r lan. 'Rhoswch funud ch'i gewch 'i gweld hi 'nawr.'

Aeth Hannah i 'nol y gini a gostiasai iddi gymaint, a bu cryn firi wrth ei phasio o law i law.

Ond er dewred ei geiriau, nid oedd yn llawer amgenach byd ar Hannah Thomas eto, oblegid nid oedd dim ond ei dwyfraich ei hun i gynnal ei theulu lluosog.

Ac am hynny y dywedodd Wat ymhen diwrnod neu ddau, "Wnaiff hi ddim o'r tro, Marged, inni aros yma'n hir. Ma' un lle arall yto yn aros i fi ei gynnyg. 'Rwy'n mynd i Gyfarthfa 'fory."

I Gyfarthfa yr aethpwyd felly, a phan ddaeth Wat, cyn filwr y 24th, i olwg y Major, gair cyntaf hwnnw iddo oedd, "The very man! How are you, Edmunds? And how's the widow?—I mean your wife? You've come of course to ask for a job, and I say again, The Very Man.' You know all about horses, of course, so you must go to Rhigos to take care of the teams there. Five shillings a day, and your house. What do you say?"

Ar y foment gyntaf yr oedd teimladau Wat ymron ei rwystro i ddywedyd dim, ond llwyddodd ymhen ennyd i yngan, Thank you, Sir."

"Very well, you shall take a note from me, and you can start tomorrow. I shall be over there myself one of these days."

Coron y dydd a'i dŷ! Daeth yn fyd gwyn arno ef a Marged ar unwaith!

Ar groesi ohono ef y mynydd i gyrchu'r Banwen y prynhawn hwnnw, ac eistedd ohono ar ymyl y ffordd i'w ailgryfhau ei hun, anadlodd Wat y weddi bendant, bersonol, gyntaf yn ei fywyd. Hi a ddechreuodd gyda diolch, ac er ei diweddu a phenderfyniad mynnai diolch ymwthio iddi fyth.

Ymhen yr wythnos yr oedd ef a'i wraig yn preswylio yn un o dai'r Plough, ac ni fu hwylusach "gludo mwyn haearn" erioed wrth Graig y Llyn nag a fu pan oedd Wat yn teyrnasu.'

Cyn hir daeth Hannah Thomas i fyw mewn bwthyn yn ymyl a chaed gwaith i'w dau grotyn hena' gan eu hewyrth Watkin."

Gwyddis ddyfod o'r "Ty wrth y Plough yn gyrchfan i oleuadau'r Diwygiad, ac er ei freintio unwaith o leiaf a phresenoldeb y dyn mawr hwnnw Dafis, Castellnedd, ac yn amlach na hynny gan y cewri Jones Llangan, a Williams Pantycelyn, nid oedd letach agoriad na chynhesach croeso i neb nag a oedd i'r Parch. David Price, Cwmwysg, sef oedd hwnnw "Y Ranter Bach," a fynasai fod yn True Blue i'w argyhoeddiad gynt.

Nodiadau

golygu
  1. Gan Morris Thomas (1874-1959), cynhoeddwyd gan Gwasg y Bryrthon, Lerpwl 1928 Bywgraffiadur
 

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.