Llyfr Owen (Testun cyfansawdd)

Llyfr Owen

gan Owen Morgan Edwards

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Llyfr Owen

LLYFR OWEN

CYFRES LLYFRAU DEL III

LLYFR OWEN

(Llyfr o Straeon)

GAN

SYR OWEN EDWARDS

—————————————

WRECSAM
HUGHES A'I FAB
1926

AT Y DARLLENWYR

MEWN bwthyn yng Nghymru y ganed Syr Owen Edwards. Carai Gymru â'i holl galon. a gweithiodd yn galed drosti ar hyd ei oes.

Carai blant Cymru, ac ni byddai dim gwell ganddo nag ysgrifennu straeon i'w diddori. Efallai eich bod wedi darllen "Llyfr Del" neu "Lyfr Nest." Dyma i chwi lyfrau eto,—bydd dau ohonynt,—tebyg iddynt hwy, yn llawn straeon.

Wedi i chwi eu darllen, efallai y deuwch i garu Cymru a'r Gymraeg fel y carodd Syr Owen hwy

ar hyd ei oes.

CYNNWYS

I

CARAIMAN

[Yr oedd Carmen Sylva, cyn-frenhines Rwmania, yn hoff iawn o Gymru. Holai'r beirdd pa chwedlau a adroddid gan y werin ar hirnos gaeaf; yr oedd hi ei hun wedi casglu chwedlau Rwmania. Bu yn Eisteddfod y Rhyl, ymhlith y beirdd. Rhoddodd anrhydedd mawr arnaf,—gofynnodd i mi gyfieithu ei chwedlau er mwyn plant Cymru. Y mae blynyddoedd meithion er hynny, ac y mae'r frenhines hoffus yn ei bedd. Nid wyf innau wedi cyflawni f'addewid. Gwell hwyr na hwyrach. Bydd yn dda gan blant Cymru gael rhai o'r chwedlau a adroddir wrth blant Rwmania,—Caraiman, Chlestacoff, a'r Graig Losg.

1 HANNER cylch o fynyddoedd mawr, coediog, a gwastadedd eang o feysydd gwenith yn eu mynwes,?—dyna Rwmania. Yr oedd y mynyddoedd, sef y Carpathiaid, yno erioed. Ond nid oes fawr er pan gododd y dyffryn bras, cyfoethog, o'r môr.

Pan oedd y dyffryn eto'n newydd, yr oedd dyn cawraidd, o'r enw Caraiman, yn byw yn y mynyddoedd. Dywedir llawer wrth blant Rwmania am ei faint,—hyd ei goesau a'i freichiau a'i farf, lled ei ysgwyddau, maint ei lygaid. Ond digon i mi yw dweud am faint yr offeryn a ganai; oherwydd mewn miwsig yr oedd nerth Caraiman.

2. Pipgod oedd ei offeryn. Gwyddoch beth yw honno; hwyrach i chwi weld Ysgotyn yn ei chanu. Wel, yr oedd bôn y bipgod cyhyd a'r binwydden dalaf; ac yr oedd yswigen dan fraich y cerddor i wasgu gwynt iddi ac ohoni, gymaint â thŷ. A phipgod ryfedd oedd honno. Pe chwythai Caraiman fiwsig tyner yn ysgafn gwelid blagur ieuanc, tyner, yn tyfu, a defaid ac ŵyn yn codi megis o'r ddaear, a lluoedd o blant bychain. Pe chwythai Caraiman yn gymedrol gryf, tyfai coed a drain, codai teirw a moch o'r ddaear, a lluoedd o wŷr a gwragedd. Pe chwythai'n gryf. gan wneud miwsig croch, deuai tymhestloedd gerwin, llifogydd dinistriol, a rhyfeloedd enbyd. Dyna'r fath bipgod oedd gan Garaiman.

3. Rhyw fore, wrth edrych i lawr dyffryn Prahofa, o'r Carpathiaid, beth welai'r cawr, yn lle môr fel o'r blaen, ond dyffryn gwastad eang. a'r môr wedi treio oddiarno. A heb feddwl am neb arall, tybiodd mai ef oedd piau'r dyffryn newydd.

"Beth wnaf a'm dyffryn?" eb ef.

Dechreuodd feddwl pa un ai miwsig tyner ynteu miwsig cymedrol, ynteu miwsig brochus a anadlai dros y dyffryn newydd. Gwyddai am effaith miwsig brochus. Deuai daeargryn, a llosgfynydd- oedd, a rhyfeloedd yn enwedig. "Na," meddai. "rhof heddwch i' m dyffryn newydd" Yna meddyliodd am fiwsig cymedrol. Ond cofiodd beth oedd dynion. Cwynent ar blant o hyd, eu bod yn ddrwg ac yn flysig, ac eu bod am bopeth iddynt hwy eu hunain. "Ond," meddai, "y mae pobl yn llawer gwaeth na phlant. Gwnânt ddrygau mwy a dywedant, â wyneb difrifol, fod eu drwg hwy yn dda. Ac ymladdant â'i gilydd hyd farw. Na. nid wyf am bobl i'm dyffryn newydd i." Ac felly anadlodd fiwsig tyner iawn dros ddyffryn Rwmania, o holl gyrrau'r mynyddoedd at yr afon Daniwb a'r Môr Du. Ac yn sŵn y miwsig daeth blagur gwyrdd, tyner, dros y llaid tywodlyd. Yna codai defaid ac ŵyn yma ac acw. Ac yna gwelid torfeydd o blant yn chwarae'n hapus. Rhoddodd y cawr un nodyn ag ychydig o graster ynddo, ac wele nifer o gŵn ffyddlon, diniwed. " Dyna ddigon ar hyn o bryd." A rhoddodd yr offeryn o'r neilltu.

4. Lle dedwydd iawn oedd yno. Medrai'r plant odro'r defaid; ac ar laeth felly yr oeddynt yn iach a chryfion. Yr oedd yno ffrwythau gyda'r glaswellt hefyd,-eirin, grawnwin, mefus,-a'r cwbl ar goed bychain yng nghyrraedd plant. Yr oedd y plant yn garedig iawn wrth ei gilydd, ac nid oeddynt wedi dysgu un gair cas. Am gweryla neu bwdu neu ddigio, ni wyddent beth oedd pethau felly. Os syrthient i'r afon, deuai'r cŵn ffyddlon ar unwaith i'w gwaredu. Mwsogl sych oedd eu gwelyau, dan gysgod craig. Ni byddai yno ystorm; deuai sŵn esmwyth pipgod Caraiman i dawelu pob gwynt, ac i dawelu pob chwa. Nid oedd yno ysgol, nid oedd eisiau i'r plant ddysgu dim. Ac ni bu plant bach dedwyddach na gwell yn unlle erioed.

5. Ond cyn hir tyfasant yn fawr. A daeth newid drostynt. Dechreuodd rhai ohonynt ddweud mai eu heiddo hwy oedd rhyw lecyn, ac na chai neb ddod yno ond hwy; dywedent hefyd mai eu heiddo hwy oedd rhyw ddefaid, ac na chai neb arall

eu godro. A daeth ffraeo, a dig, a chas i'w plith.
ofer yr anadlai Caraiman fiwsig tyner arnynt

o'r mynydd, a gorfu iddo ef ei hun ddod i lawr i'r dyffryn i'w mysg.

Rhannodd y dyffryn rhyngddynt. " Os mynnwch dir," eb ef, " rhaid i chwi ei drin." A gwnaeth ei randir yn ardd i bob un. Ond, os drwg cynt, gwaeth wedyn. Yr oedd rhai o'r plant yn weithgar, a rhai yn ddiog. Yr oedd gerddi y rhai gweithgar yn llawn o bob ffrwythau da, ac yn hyfryd i edrych arnynt. Ond am erddi y rhai diog, nid oedd ynddynt hwy ond chwyn. A fu y rhai diog farw o newyn? Ni chodiaf i fawr. Yr oedd ychwaneg ohonynt nag o rai gweithgar, a mynasant fynd i'r gerddi llawnion, i ddifa ac i ladrata, a chododd rhyfel yn eu mysg.

6. Yn ofer y canai Caraiman ei bipgod. Nid oedd arnynt ei ofn wedi ei weled. "Y mae'n hen," meddent." mwsogl yw ei farf, rhisgl yw ei wisg, a pheth digon diolwg a diles yw ei bipgod." A phenderfynodd y rhai drwg diog fynd â'i ddyffryn oddiarno.

Aethant i'r mynydd, a rhoddasant ei farf ar dân. Ond wrth anadl ei chwarddiad, chwalwyd hwy fel dail gwyw. Ceisiasant rwymo ei fraich, ond â'i fraich arall gwasgarodd hwy ar hyd y mynydd. Ond, o'r diwedd, aeth rhai ohonynt ar hyd y nos, a thorasant dwll yn yswigen ei bipgod.

Ac ar ôl hynny ni ddaeth y miwsig i lawr dyffryn Prahofa mwy. Ni welwyd Caraiman ychwaith, a thybir ei fod yn cysgu dan y mynydd, hyd nes

y daw rhywun heddychol i atgyweirio ei bipgod.

II

Y PIBAU

1. OFFERYN cerdd gwynt yw'r bipgod. Gwneir hi o ledr ystwyth a phibau gyda thafodau iddynt. Chwythir gwynt trwy bib i'r goden ledr; a chwery'r dwylo ar dyllau'r pibau a ddaw allan ohoni, rhwng tair a phump ohonynt.

Y mae'n hen offeryn. Y mae ei hanes yn y wlad hon yn y ddeuddegfed ganrif, gan mlynedd cyn geni Dafydd ap Gwilym. Ond, erbyn heddiw. yn yr Alban, yn enwedig yn yr Ucheldiroedd, y ceir hi. Mae gan bob catrawd Ysgotaidd eu pibyddion yn mynd allan o'u blaenau dan ganu. A hyfryd i glust yr Ysgotyn yw sŵn cysglyd y pibau. Ond ceir y pibau mewn gwledydd eraill. Tybia rhai mai hi yw dulsimer llyfr Daniel, lle y gelwir ar rai i addoli delw aur Nebuchodonosor pan glywent sŵn y cornet, y chwibanogl, y delyn, y dulsimer. y psaltring, a'r symffon. Offeryn cerdd y Caldeaid oedd; ond, yn ôl pob tebyg, ceid hi trwy ddeheudir Ewrop hefyd. Ceir ef yn yr Eidal, hen wlad y cerddorion, hyd heddiw. Llun Eidalwr, o waith Penry Williams, yw'r darlun sydd ar y ddalen arall. Daw pibyddion Ysgotaidd i'r Eisteddfod Genedlaethol ambell flwyddyn. A phan glywir y meistri'n canu'r pibgodau, rhaid addef bod eu sŵn yn gynhyrfus, ac yn apelio at deimladau.

Ond nid yw'r Sais yn ei hoffi.

III

CHLESTACOFF

1. Y MAE Rwmania yn taro ar Rwsia, ac y mae Gogol, un o lenorion mawr Rwsia, wedi adrodd ystori am un o drefydd Rwsia. Yr oedd llawer o orthrwm yn Rwsia. Byddai'r cryf yn gwasgu'r gwan; byddai'r llywodraethwr, y barnwr, yr athro, a phawb mewn awdurdod, yn mynnu llenwi ei bocedau ei hun. Ar ei dro deuai swyddog y Llywodraeth i chwilio pob camwri, ac i geisio gwneud cyfiawnder. A byddai ei ddyfodiad yn ddychryn i'r rhai anghyfiawn. Nid oedd ynteu yn gyfiawn, bid siŵr.

2. Rhyw ddiwrnod, daeth teithiwr i dref. Gwelodd rhai o'r bobl ef rhwng rhigolau drws y gwesty. Ac aeth y si allan,—Mae'r swyddog wedi dod!" Synnwyd pawb, nid oedd neb yn ei ddisgwyl mor fuan, ac nid oedd neb wedi cael amser i guddio ei orthrwm a'i anwiredd.

Ond y gwir oedd nid y swyddog perygl oedd yn y gwesty, ond Chlestacoff. Teithiwr ofer oedd ef, wedi colli pob dimai a feddai ar y ffordd wrth fetio. Ac yr oedd ar ganol ffraeo â gŵr y gwesty. a wrthodai fwyd a diod iddo heb dâl.

3. Pwy ddaeth i mewn yn fawreddog iawn ond Llywodraethwr y dref. Tybiai Chlestacoff ei fod wedi dod i'w ddal ef, greadur afradlon; ond credai'r Llywodraethwr mai'r swyddog perygl oedd, yn cymryd arno mai teithiwr blin oedd. Felly, pan ddywedodd Chlestacoff fod gŵr y tŷ'n ddigon haerllug i godi tâl am ei fwyd a'i ddiod, rhoddodd y Llywodraethwr ei bwrs iddo ar unwaith, ac yr oedd yn falch o'r cyfle.

Gwelodd Chlestacoff sut yr oedd y gwynt yn chwythu, ac yr oedd wrth ei fodd. Deuai llawer o bobl ato i gwyno ar y Llywodraethwr, cymerai yntau'r gŵyn; cymerai rodd gan bob un hefyd, a dodai hi yn ei boced. Yna atgofiai'r Llywodraethwr am ei orthrwm ac am ei fynych ysbeilio; câi roddion gwerthfawr gan hwnnw hefyd. Daeth Chlestacoff yn ŵr mawr yn y lle hwnnw. O'r diwedd, dywod y Llywodraethwr, er ei ddirfawr lawenydd fod Chlestacoff a'i fryd ar briodi ei ferch Mari. Ac eb ef wrth ei wraig,—"Ychydig feddyliaist, wrth fy mhriodi i, y caet fod yn fam yng nghyfraith i uchel swyddog. "A'i freuddwyd yntau oedd,—cael cneifio pobl y dref o bopeth oedd ganddynt, ac edrych i lawr arnynt fel pe buasent dom yr heolydd. Onid ef a fyddai tad yng nghyfraith y swyddog?

Penodwyd dydd y briodas. Dywedodd Chlestacoff fod yn rhaid iddo fynd i ymweled â'i ystâd cyn e briodas. Daeth y dydd, ond ni ddaeth Chlestacoff. Yr oedd wedi anfon llythyr at gyfaill iddo ym Moscow, i adrodd fel yr oedd yn medru trin y ffyliaid. A phan oedd cyfeillion y Llywodraethwr yn disgwyl am y priodfab, wele'r llythyr- gludydd yn dod â'r llythyr hwnnw, yr oedd wedi digwydd ei agor, ac yn ei ddarllen iddynt i gyd. YR oedd y Llywodraethwr fel peth gwallgof. Y llymgi main tlawd hwnnw wedi medru ei dwyllo ef, a'i wneud yn wawd i'r dref i gyd, ac yn enwedig i'r rhai y gwnaeth gam â hwy mewn dull mor drahaus.

Ac i wneud pethau'n waeth eto, wele lythyr oddiwrth y gwir uchel swyddog, yn dweud ei fod yn dod, drannoeth, i ofyn i'r Llywodraethwr roddi cyfrif am lawer o bethau.

IV

Y GRAIG LOSG

1. Yr oedd geneth o'r enw Palma, un hynod brydweddol, yn byw dan gysgod mynydd Bucegi. Yr oedd yn dal ac urddasol yr olwg arni, ac yr oedd ei hurddas fel pe'n cuddio calon gynnes a serchog. Pwy a gerddai mor syth a hoyw â'r brydferth Balma? A phwy a feiddiai gellwair yn ysgafn â hi? Ac yr oedd ei chalon wedi ei rhoi i fugail o'r enw Tannas, a dydd y briodas yn neshau.

Cyn hynny daeth y gelyn dros y terfyn, a bu galw taer ar y gwŷr ieuainc i amddiffyn eu gwlad. Ymysg eraill, aeth Tannas. Beunydd dyheai Palma am hanes o faes y gwaed; a phan glywai fod y Rwmaniaid yn cwympo neu'n cilio, safai â'i phwys. ar graig neu fur hyd nes y peidiai ei chalon â churo. Ddydd a nos, dychmygai weld Tannas yn ing angau, neu'n farw oer.

2. Rhyw noson, clywai guro ysgafn ar ei ffenestr. Yng ngolau'r lleuad tybiai weled wyneb Tannas. Aeth allan, a dyna pwy oedd.

"Tannas!" ebr hi mewn syndod, "ai ti yw?"

"Ie," eb y gŵr ieuanc dychrynedig, gwelw, "oni weli dy fodrwy am fy mys, a'th arwydd ar fy ngwddf? "

"Pwy a ddywedodd wrthyt am adael y fyddin?"

"Neb. Deuthum o honof fy hun."

"Ond onid yw'r gelyn yn ein gorchfygu? Onid oes bechgyn eraill yn marw dros eu gwlad? Pa fodd y gellaist eu gadael?"

"Yr oedd arnaf hiraeth am danat. Ac y mae cariad yn gryfach na dim."

Fflachiodd dig a dirmyg o lygaid duon, byw, yr eneth, a dywedodd:

"Ffiaidd gennyf fuasai llwfrddyn yn gariad. Dos yn dy ôl ar dy union i'r gad."

"Yr wyt yn fy ngyrru'n ôl i ddinistr ac angau sicr. Y mae'r rhyfel yn ofnadwy. Ac yr wyt i fod yn wraig i mi."

"Bydd y graig acw wedi llosgi cyn y byddaf yn wraig i ti. Dos cyn i'r dydd dorri. Buasai'n gywilydd gennyf i neb dy weld."

"Ni chaf dy weld byth mwy," ebr y gŵr ieuanc, a dringodd y mynydd ar y Lieder, a'i wyneb tua'r gad. 3. Yr oedd y gelyn yn neshau. Yr oedd brwydr ffyrnig, waedlyd, ar lechweddau Bucegi. Ac er braw a syndod i'r pentref, gwelid y graig wgus i fyny fry yn eirias, yn llosgi'n loyw yn nüwch y nos. Yr oedd angerdd tân yr ymladd yn llosgi'r mynydd ei hun. Ac o! ddioddef a dolefain y marw oedd yno ar ddiwedd dydd y frwydr. "Fy mam," meddai Palma, "yr wyf yn mynd ar daith, ond ni byddaf i ffwrdd yn hir." Gwelai'r fam fod ganddi lestr dwfr, a thorth fechan; ac ni ddywedodd air, ond wylo'n ddistaw.

Dringodd Palma'r mynydd fel yr ewig, ac ar fin nos cyrhaeddodd gwr maes yr ymladdfa. Gwersyllai byddin fawr y Rwmaniaid ar y gwastadedd odditanodd, a thanau y gwylwyr o'u hamgylch. Yr oeddynt wedi hyrddio'r gelyn oddiar y mynydd, ond yr oedd eu lludded mor fawr fel y cysgent yn y lle y safent pan beidiodd y frwydr.

4. Ac ar ochrau'r mynydd, rhwng Palma a hwy, yr oedd maes yr ymladdfa. O'r llethrau hyn ni chlywid dim ond ochain y clwyfedig. Ychydig oedd nifer y meddygon a'r gweinyddesau, ac yr oedd y rhai hynny yn lluddedig yng nghwsg. Ni welid ond ambell anfad wraig yn ysbeilio'r marw. Crwydrodd Palma ymysg y rhai a orweddai, rhai yn hirgwsg angau, rhai mewn cwsg anesmwyth, rhai'n effro gan boen. Edrychai ar wyneb pob un yn graff a phryderus. Yr oedd gwên dawel ar wyneb ambell un, fel pe syrthiasai wrth feddwl am ei gartref. Griddfannai eraill yn eu poen, a idiferodd Palma ddiferynnau oerion peraidd o'i llestr ar enau sychedig, a thorrodd newyn llawer clwyfedig â rhan o'r dorth. Ond ym mha le yr oedd Tannas? Dywedai rhywbeth wrthi ei fod ynghanol y llu mawr a orweddai o'i blaen.

Pan oedd y bore yn dechrau torri, gwelai ladrones yn ceisio tynnu modrwy oddiam fŷs milwr, ond ciliodd honno pan welodd Palma'n dod i'r cyfeiriad. Gorweddai'r milwr ar ei gefn, ac adnabu Palma ei modrwy ei hun. Ond ni buasai'n adnabod yr wyneb. Rhoddodd ergyd cleddyf glwyf hir ar draws ei ddau lygad, ac yr oedd gwaed wedi fferru ar yr wyneb i gyd. Golchodd Palma'r wyneb â dwylo tyner, crynedig. A rhywfodd, dan ei chyffyrddiad, rhedai'r gwaed yn gynnes. Nid oedd Tannas wedi marw, er ei fod ar drengi. Trwy ymdrechion Palma cadwyd ei fywyd, ond ni chafodd ei olwg yn ôl.

5. Daeth y rhyfel i derfyn, a daeth dedwyddwch yn ôl i bentrefydd Rwmania. Daeth dydd priodas Palma â Thannas. Yr oedd hi yn falch iawn o honno. Dyma arwr," meddai, " gwelwch y groes ar ei fynwes."

"A gwelwch hi ar fy wyneb," ochneidiai Tannas.

"Ac ni chaf weld Palma byth mwy."

Ond yr oedd yn ddedwydd iawn. A phan yn hen, dywedai mor arw' oedd y frwydr pan welid craig y Bucegi'n llosgi. A gelwir hi byth yn

Pietra Arsa,—y Graig Losg.

V

HANS CRISTION ANDERSEN

1. YR oedd gŵr enwog unwaith yn ninas Copenhagen, yr hon, fel y gwyddoch, yw prifddinas Denmarc. Ac oherwydd ei enwogrwydd fel llenor, penderfynodd ei gydwladwyr, y Daniaid, godi cofgolofn o fynor gwyn iddo yn ystod ei fywyd. Dangoswyd cynllun y gofgolofn iddo; a phan welodd hi, beth a wnaeth ond gwylltio a blagardio.

Y rheswm oedd eu bod wedi rhoi nifer o blant i sefyll o'i amgylch yn y cerflun, yn ei edmygu ac yn ei anwylo. "Ni fynnaf monynt," meddai. "Ni fynnaf mo'r pethau bach digrif o'm cwmpas. Nid bardd plant wyf i, ond bardd pobl. Ewch â hwy i ffwrdd. Ni fedrwn i byth adrodd ystori a phlant yn gwasgu yn fy erbyn, neu'n dringo ar fy nglin neu ar fy nghefn. Ni fynnaf mo blantos Copenhagen i dyrru o'm cwmpas."

2. Ond fel llenor y plant y cofir am Hans Cristion Andersen. Yr ydych, hwyrach, wedi clywed rhai o'i ystraeon. Un ohonynt ydyw ystori Inger. yr eneth fach falch a roddodd dorth yn y ffos i gamu trosodd, rhag difwyno'i hesgidiau newydd. Un arall yw ystori yr hwyaden fach hyll, a fu dan wawd a dirmyg ymysg yr hwyaid oherwydd hagrwydd ei choesau hirion, afrosgo, ond a ddaeth yn harddach na'r un ohonynt wrth dyfu, oherwydd mai alarch oedd hi. Ef hefyd a adroddodd hanes yr eneth fach a werthai fatsus ac a'u taniodd ar noson eiriog i weled ei ffordd i'r nefoedd.

Ond ychydig o'r plant a adwaeni sydd yn gwybod fath un oedd adroddwr yr ystorìau. A hoffech chwi wybod? Wel, gwrandewch, ynteu.

3. Mab i grydd oedd Hans Cristion Andersen. Ganwyd ef Ebrill 2, 1805; ac yr oedd llawer yn meddwl y buasai yn fwy priodol pes ganesid ddiwrnod yn gynt. Oherwydd bachgen digrif yr olwg arno, a chwerthinllyd o hyll, oedd. Ond ystyriai ef ei hun yn fachgen hardd ac urddasol, llawn o bwysigrwydd ac athrylith; ac wrth ei weld yn cerdded, â'i ben yn y gwynt, chwarddai'r bobl fwy.

Pentref Odense, ar ynys Funen, un o ynysoedd Denmarc, oedd ei gartref. Yr oedd ei dad yn ddyn breuddwydiol; yn byw, nid ynghanol ei dwr esgidiau, ond mewn cestyll yn yr awyr. Ac un felly oedd y bachgen; a thra gwawddi pawb ei gampau anystwyth—y dawnsio, y barddoni. a'r pendroni—fe'i gwelid ef ei hun ar Iwybr llwyddiant a bri anfarwol.

Pan yn bedair ar ddeg oed, newydd ei dderbyn at yr ordinhad, trodd ei gefn ar yr ynys, ac aeth i Copenhagen, i wneud ei fìortiwn. Ac yno y bu, druan, yn gyfì gwawd y cantorion a'r beirdd; ond yn dal i gredu'n ffyddiog ynddo ef ei hun. Ac o'r diwedd dechreuodd pobl gredu bod rhywbeth yn y bachgen rhyfedd, heglog, dilun, wedi'r cwbl. Dechreuodd deithio, a darluniodd ei "Droeon" mewn llyfrau diddorol—gwlad wastad Jutland, mynyddoedd yr Harts, yr Eidal, yr Yswisdir, a Ffrainc. Yna daeth caneuon, dramodau, a nofelau. Ond, pan ddechreuodd ysgrifennu storïau i blant, daeth pawb i'w edmygu. A cheid mab diolwg y crydd o'r ynys bell—un prin y credid ei fod cyn galled a bechgyn eraill—yn un a urddasol groesawid yn llŷs y brenin ei hun.

Caled a didrugaredd fu'r bechgyn eraill wrtho; ac y mae'n debyg na fu ef yn teimlo fel bachgen erioed. Ond medrai daflu rhyw swyn rhyfedd i hen ystraeon plant. Ac oni bai am y rhai hynny, ni buasai neb yn cofìo am ei enw heddiw. Bu farw Awst 4, 1875, yn ei dŷ ger Copenhagen; a galarodd gwlad serchog amdano.

VI

PEN BENDIGAID FRÂN

1. YR oedd y frwydr rhwng y Cymry a'r Gwyddelod yn un galed. Croesodd Cymry Bendigaid Frân Iwerddon i ddial cam Branwen ferch Lŷr a chwaer Brân.

Ymladdai'r Cymry'n bybyr, ond yn ofer. Oherwydd yr oedd gan y Gwyddelod bair neu grochan haearn mawr. Ac wedi cynneu tân mawr dano, taflent eu lladdedigion i'r pair bob nos. A gwelech ryfeddod,—erbyn y bore byddai pob Gwyddel marw wedi dod yn Wyddel byw, ac yn barod i ail ddechrau ymladd. A phan welodd y Cymro, a. achosodd yr anghydfod, sef Efnisien, mor druan oedd hi ar ei gydwladwyr, mynnodd gael ei daflu i'r pair dadeni. A gwnaeth ymdrech i ymestyn yn y pair, nes torrodd y pair yn bedwar darn, a thorrodd ei galon yntau.

Ond nid oedd o Gymry'n fyw ond naw pan yn troi adref o'r Iwerddon, ac o'r naw yr oedd Bdndigaid Frân wedi ei glwyfo'n angheuol â phicell wenwynig. A dywedodd Brân wrth y lleill:

"Torrwch fy mhen oddiwrth fy nghorff, ac ewch ag ef i'r Gwynfryn yn Llundain, a chleddwch ef yno a'i wyneb at Ffrainc. Chwi a fyddwch ar y ffordd yn hir. Byddwch saith mlynedd yn Harlech ar ginio, ac adar Rhiannon yn canu i chwi. A bydd y pen yn gystal cwmni i chwi ag y bum i erioed. A byddwch bedwar ugain mlynedd yng Ngwalas. hyd oni agorwch y drws sydd yn edrych ar Aber Henfelen a Chernyw. A phan agorwch y drws hwnnw, ni ellwch aros yno'n hwy. Ewch i Lundain."

2. Ac aeth yr wyth, a'r pen gyda hwy, i'r môr ar eu ffordd adref. Daethant i Aber Alaw ym Môn. Ac yno edrychodd Branwen yn ôl ar Iwerddon, ac ar Gymru, a dodi ochenaid fawr, a thorri ei chalen. A gwnaed bedd iddi yng nglan Alaw. Daeth y saith oedd yn weddill i Harlech, ac yno y buont ar ginio yng nghwmni difyr pen Brân. Am saith mlynedd. Ac allan ymhell uwch ben y weilgi yr oedd tri aderyn Rhiannon yn canu'n felys ac yn glir fel pe buasent yn eu hymyl.

Ac ar ddiwedd y saith mlynedd aethant tua Gwalas ym Mhenfro. Ac yno yr oedd lle teg brenhinol uwch ben y môr. Ac aethant i'r neuadd, a gwelent dri drws ynddi,—dau yn agored, a'r llall, sef y drws at Gernyw, yng nghaead. " Welwch chwi. ebr Manawyddan, " dacw'r drws na ddylem ei agor."

Ac yno y buont am bedwar ugain mlynedd, a'r pen gyda hwy. Ac ni chawsant amser mwy digrif a hyfryd erioed Oherwydd nid oeddynt yn meddwl nac yn cofio am yr holl anffodion oedd wedi cyfarfod â hwy yn Iwerddon ac wedi iddynt gyrraedd Cymru.

Ond, rhyw ddiwrnod, ebr Meilyn fab Gwynn wrtho'i hun: "Rhaid i mi gael agor y drws acw, a gweled a yw y peth a ddywedir amdano yn wir." Agor y drws a wnaeth, ac edrych ar Aber Henfelen a Chernyw. A chydag iddo wneud hynny, daeth i gof y saith yr holl anffodion oedd wedi cyfarfod â hwy. yn enwedig colli bywyd eu harglwydd Bendigaid Frân.

Ni allent aros yn hwy yng Ngwalas. Aethant ar hyd y daith hir i Wynfryn Llundain, sef y Tŵr Gwyn. ac yno claddasant ben Bendigaid Frân. A thra fo'r pen hwnnw yn cael llonydd, ni ddaw gormeswr byth i orthrymu'r ynys hon.

Dyna fel y byddai'r hen Gymry yn adrodd hanes

pen Bendigaid Frân.

VII

YR ARAN

1. UN o fynyddoedd prydferthaf Cymru yw'r Aran. Y tu allan i gadwyn Eryri, hi yw'r uchaf yng Nghymru. Ymgyfyd ei phen yn ddau drum, sef Aran Benllyn ac Aran Fawddwy. Y mae'r olaf yn 2,970 troedfedd o uchter.

O amgylch godre'r Aran y mae trefydd a phentrefydd y Bala, Llanuwchllyn, Llan ym Mawddwy, Dinas Mawddwy, Dolgellau, y Brithdir, a Rhyd y Main. Yn narlun y gamfa dan y coed, ar y tudalen gyferbyn, ceir golygfa ar Aran Benllyn oddiar un o lwybrau Llanuwchllyn. Hwyrach mai o'r Bala, yn enwedig o lan dawel Llanecil y ceir yr olygfa brydferthaf. Yn union o'ch blaen yno cewch y fynwent hanesiol, lle gorwedd Charles a llu o efengylwyr a beirdd a'r Aran fel angel gwarcheidiol yn syllu'n ddwys a thawel arni dros y llyn.

Y mae dwy ffordd o'r Bala i Ddolgellau, a Llyn Tegid a'r Aran rhyngddynt. Os cymerwch ffordd Lanecil, a thros y Garneddwen, ewch heibio i gefn llydan yr Aran, a bydd Cader Idris yn fawreddog o'ch blaen. Os cymerwch ffordd Langower, a thros Fwlch y Groes, ewch heibio i wyneb yr Aran. Dyna'r olwg fwyaf diddorol arni: creigiau noethIwm a dibynnau unionsyth, a chymylau'r haf hyd eu hwynebau fel mwg yn esgyn.

2. Ar y talpiau creigiau hyn y mae llanerchau gleision, ac y mae'r glaswellt sydd yn tyfu yno yn felys iawn i ddefaid. Weithiau crwydra dafad i lawr, o dalp i dalp, hyd wyneb y graig, a'i hoen gyda hi. Mae'r glaswellt yn felys ar y llecynnau perygl hyn, ac y mae'r ddafad am i'w hoen gael y tamaid melysaf. Nid yw'n cofio na all hi na'i hoen byth ddringo i fyny yn ôl. O'r diwedd, deuant at dalp na allant fynd yn is nag ef,—nid oes ond gwagle erchyll dano. Bwytânt y gwellt melys yn awchus. Cyn hir bwytânt ef i gyd. Yna daw newyn. Gorwedd y ddau yno, yn rhy wan ac ofnus i symud.

Ond gwêl y bugail hwy. Geilw ar ei gymdogion. Ant i ben y mynydd, lle y dechreuodd y ddafad grwydro i lawr. Rhoddir rhaff am ganol un o'r bugeiliaid. Yna gollyngir ef i lawr yn araf hyd wyneb y graig. O'r diwedd daw at y dibyn craig lle mae'r ddafad a'r oen wedi gorwedd i farw. Ni syfl yr un o'r ddau, gwyddant trwy reddf mai cwympo a wnânt dros y graig i'r dyfnder odditan odd, ac y mae ar hyd yn oed oen ofn marw. Cymer y bugail yr oen yn ei freichiau. Yna tynnir ef a'i faich i fyny gerfydd y rhaff. Yna disgyn drachefn, a daw â'r ddafad grwydredig, ffôl, a gwan, i fyny yn ei gôl. Ceisia'r ddafad a'r oen sefyll, ond y maent yn gwegian uwch ben eu traed gan wendid. Eto, fel rheol, deuant i bori, i gerdded, ac i redeg cyn hir. Ond y mae rhai defaid yn byw yn y creigiau peryglus, ac nid oes neb erioed wedi eu nodi na'u cneifio. Mewn ambell fan y mae coed eirin Mair yn tyfu yn nannedd y creigiau. Rhyw aderyn a aeth a'r hadau yno. Daw blodau ar y coed bob blwyddyn, ac eirin, ond nid oes neb ond adar a fedr fynd yn agos atynt.

3. Y mae eisiau llygad clir, pen sefydlog, a throed sicr i ddringo mynyddoedd yn ddiberygl; ac nid oes ond profiad maith a fedr roddi y rhai hyn. Cerdda un yn ddiogel a didrafferth lle y penfeddwa ac y syrthia'r llall.

Er hynny, siwrnai hyfryd yw'r siwrnai i ben yr Aran, o lawer cyfeiriad; a gall plentyn pedair oed ei cherdded. Gwn am un a wnaeth hynny.

Fel yr eir i fyny, y mae'r golygfeydd yn newid, ac yn ymehangu. Daw bryniau uchel, wedi eu dringo a mynd yn uwch na hwy, yn bethau bychain distadl i lawr odditanom. Daw rhywbeth newydd i'r golwg o hyd. Dacw Lyn Tegid, fel llen hir o arian, a mwg tref y Bala fel cwmwl ysgafn yn ei ben draw. I gyfeiriad arall, wele aber afon Mawddach, a phont Abermo yn rhimyn hir main, yn ei chroesi. Ar un llaw wele fryniau bronnog, gleision, Powys, bron heb rif; ar y llaw arall wele fynyddoedd creigiog Gwynedd, a'r Wyddfa fel brenhines yn eu canol.

4. Mae'r blodau'n newid fel yr awn i fyny. Ar y dechrau gwelem frenhines y weirglodd aroglus, a'i blodau melynwyn, prydferth, yn rhoi rhyw gyfaredd i bob nant; a'r glaswenwyn, yntau yn ei fri yn Awst; a'r pengaled coch; a llu o flodau melyn, coch, a gwyn. Ond, fel yr awn i fyny, ânt yn anamlach. Daw brwyn a chrawcwellt. Ond bron hyd derfyn y daith, gwelwn droadau prydferth y Corn Carw yn y glaswellt byr a llonnir ni gan wên siriol ar wyneb bychan euraidd Melyn y Gweunydd.

5. Mae'r adar yn newid. Y mae ein ffrindiau gyda godre'r mynydd,—y Fronfraith, yr Asgell Fraith, Tinsigl y Gŵys, a llu eraill. Fel yr awn i fyny, odid nad y Gwddw Gwyn a Chlep yr Eithin a Bronrhuddyn y Mynydd a welwn. Ond fel y cyrhaeddwn ben y mynydd, deuwn i gartref adar rhaib,—y genllif goch, aderyn y bod, a'r eryr ei hun amser a fu. Ar ben y mynydd, a'r llechweddau creigiog, serth, is ein traed, mwyn yw edrych ar wibiadau y genllif goch. Rhydd gylch ar ôl cylch odditanom, yna ymsaetha i fyny, yna ehed ar wib yn union atom fel pe ar ei hyrddio ei hunan arnom, ond cyn ein cyrraedd rhydd dro sydyn chwim, ac ymaith â hi drachefn fel saeth. Difyr iawn i ni yw gwylio ei champau; ond y mae'n ddychryn i adar eraill, oherwydd ni wyddant pa funud y disgyn yn sydyn arnynt, gan blannu ei hewinedd cryfion yn eu cnawd.

6. Y mae'r awyr yn newid fel yr awn i fyny. Erbyn cyrraedd pen yr Aran, ni wyddom beth yw lludded. Y mae'n corff fel pe wedi ysgafnhau, rhedwn heb flino, ac y mae'r ysbryd wedi colli ei flinder i gyd. Ar ben uchaf Aran Benllyn y mae llyn hyfryd o ddwfr. Gorwedd Llyn Pen yr Aran mewn padell o graig, a'i finion bron cyrraedd y dibyn un ochr. Hyfryd yw eistedd ar ei lennydd gwyrddion, a theimlo yn awyr bêr y mynydd ein bod yn fwy o enaid nag o gorff.

Pam y cwyd Aran fawreddog yn uwch na'r bryniau o'i chylch? Am ei bod o ddefnyddiau caletach, rhai na fedr nerth y rhew na dyfalwch y glaw eu gwisgo ymaith ond yn rhyfeddol araf. Cerrig tân yw cribau bryniau'r Aran i gyd, a gellir casglu darnau prydferth o risial ymysg ei chreigiau. Ond y mae ganddi glog o garreg feddalach, rhyw lechen ddu, frau, am ei hysgwyddau.

Bu'r mynydd dan gynyrfiadau rhyfedd yn yr amser a fu. Dengys ffurf ei haenau hynny—y maent wedi eu gwasgu a'u plygu fel pe baent bapur. Dywed rhai mai hen losgfynydd oedd y ddwy Aran. Dan Aran Benllyn y mae Llyn Llynbren, ac o honno rhed Twrch i Ddyfrdwy islaw. Dan Aran Fawddwy y mae llyn Lleithnant, ac o honno ef y cychwyn afon Ddyfi.

Hir y cofir ymdaith i ben y mynydd,-ei olygfeydd eang, ei awyr ysgafn, a'r hoen a'r iechyd

a geir yno.

VIII

Y TRWYN AUR

1. Y MAE pawb, i fesur mwy neu lai, yn dymuno am rywbeth nad yw'n eiddo iddo, fel plentyn yn estyn ei law yn ofer at loyn byw.

Pobl gynnil a darbodus iawn yw pobl Ffrainc. Nid oes odid wraig na wna ei gorau i gadw ychydig arian wrth gefn, yn lle eu gwario i gyd. Bum yn nhai y Ffrancod lawer gwaith, ac y mae gennyf gof melys amdanynt,—yr aelwyd lân, gysurus, y cynildeb gonest, a'r bwyd da.

2. Gŵr a gwraig hapus oedd Jean a Marie. Gweithiai Jean yn galed, ac yr oedd yn hapus gysglyd wrth y tân siriol pan elai'n rhy dywyll i weithio. Yr oedd yn foddlon ar ei fyd, ac yn barod i chwerthin yn llawen bob amser. Prin o ddychymyg oedd, gwell oedd ganddo feddwl am bethau fel yr oeddynt, a gwenu.

Yr oedd Marie'n bur wahanol. Codai lawer castell yn yr awyr, a byddai byw yn hapus ynddynt. Adroddai ei dychmygion wrth Jean weithiau, ac ni wnai ef ond gwenu, a dweyd bod ei chwmni hi yn ddigon o foddhad a chysur iddo ef. Rhyw fin nos. gwnaeth breuddwydion Marie iddi deimlo braidd yn anfoddog, ac eb hi wrth Jean: "Troi yn yr un fan yr wyf o hyd, nes y mae bywyd wedi mynd yn undonog. Yr oeddwn yn meddwl heddiw mor braf y buasai arnaf pe bai gennyf ddigon o aur, a digon o ddillad gwychion, a chael bod yn ddynes fawr yng ngolwg pawb. Mor hyfryd fuasai pe bai rhywun yn dweud wrthyf y cawn unrhyw dri pheth a ddymunwn!"

3. Gydag iddi ddweud hyn, dyma oleuni sydyn yn fflachio yn y gegin, mor danbaid fel na welid y tân bach siriol o gwbl. Ac o'r goleuni daeth geneth ryfeddol o brydferth. Ac yr oedd yn amlwg mai un o'r Tylwyth Teg oedd hi.

"Cei dy ddymuniad," ebr hi mewn llais mwyn wrth Marie, " cei unrhyw dri pheth a ddymuni. Ond cymer amser i ystyried yn bwyllog. A phaid â gofyn dim nes y byddaf i wedi mynd o'r golwg, a chwithau heb weld dim goleuni ond goleuni'r tân." Ac yna diflannodd.

Yr oedd Jean wedi rhyfeddu, ac wedi deffro trwyddo, ac eb ef wrth ei wraig,—" Wel, yn awr, fy nghariad i, cymer bwyll. Gallit wneud drwg mawr i ti dy hun wrth ddewis yn ffôl. Yr oeddit yn dweud gynneu am aur a dillad a chrandrwydd. Ond pa dda fuasent i ti pe collit dy iechyd a bod mewn byd o boen? Paid â dymuno dim heno. Cymer amser i ystyried."

Yr wyt ti'n gallach na mi," ebr hithau," pan roddi dy feddwl ar waith. Ni phenderfynaf tan y bore." Ac yna syllodd Marie ar sirioldeb y tân. Gwnâi ei sirioldeb croesawgar ef yn dlysach na gwisg euraidd rhiain y Tylwyth Teg.

4. "Wel di," ebr Marie" mor braf yw'r tân yma. Y mae'n ddigon gwresog i rostio wynionyn wrtho. Ac mor hyfryd y cysgwn ar ôl wynionyn iach caled wedi ei rostio. O mi hoffwn gael wynionyn, nid oes arnaf eisiau un mawr." Prin yr oedd y geiriau oddiar ei thafod, na ddaeth wynionyn bach, caled, i lawr y simnai ar yr aelwyd.

"Wel," ebr Jean, " dyna ti wedi cael dy ddymuniad cyntaf. Nid yw'n llawer o beth, ond gallasit ddymuno un gwaeth." Ond pan welodd y siomiant ar wyneb ei wraig, a'r siomiant hwnnw'n hanner digllon, tawodd â sôn.

5. "Wel, dyma dro," ebr Marie, "mor ddifeddwl ac ynfyd y bum. Yr wyf yn barod i feddwl am unrhyw benyd am fy ffolineb. Bron na ddymunwn i'r hen wynwyn acw fod yn sownd wrth fy nhrwyn, er mwyn i'w arogl_____."

Yna gwelodd bod Jean yn edrych yn syn arni, ac nid oedd yr wynionyn i'w weled yn unlle. "Ar beth wyt ti'n edrych?" ebr hi braidd yn ffrom. "Ar dy drwyn di, fy ngeneth annwyl i."

Rhoddodd Marie ei llaw ar ei thrwyn, a beth a deimlai yno ond yr hen wynionyn. Yr oedd trwyn Marie'n drwyn hardd, heb fod yn rhy smwt nac yn rhy hir nac yn rhy fachog, ond yn weddus a siapus. Ond beth am drwyn yn mynd yn glap crwn yn ei flaen!

Wrth weled ei dychryn, ebr Jean garedig:

"Paid â phoeni, f'anwylyd, mi weithiaf yn galed i ennill digon i gael trwyn aur i ti dros hwnyna."

6. Paid a bod yn wirion. Pwy âi o gwmpas mewn trwyn aur, fel pig y deryn du? Mae gen i un deisyfiad eto heb ei ofyn, ac mi ddeisyfaf hwnnw, gan gofio beth yr wyf yn ei wneud. Mi ddymunaf i'r hen wynionyn budr y felltith yma fynd i'r andros."

Ni wyddai Marie lle'r oedd yr andros, ond yr oedd yn berffaith foddlon iddo gael yr wynionyn yn aberth. Rhoddodd ei llaw ar ei thrwyn, a theimlodd ei fod fel o'r blaen. A lliniarwyd llawer ar ei theimlad wrth weled gwên foddhaus ar wyneb Jean.

Yr oedd Jean yn ddoeth, a Marie yn gariadlon. Penderfynasant yno wrth y tân nad oedd arnynt eisiau dim ond a gaent o ffrwyth eu llafur. Ac hefyd nad oedd aur na dillad gwych nac anrhydedd y byd yn ddim o'u cymharu â chwmni ei gilydd

ar eu haelwyd fach, gysurus.

IX

GWLAD YR HAUL

1. PERSIA yw gwlad yr haul; hi, yn ôl pob tebyg, yw gwlad fwyaf heulog y byd. Yr haul oedd duw yr hen Bersiaid, ac addolent dân fel yr elfen fywydol, bur.

Y peth cyntaf a dyn sylw un dieithr yn y wlad yw disgleirdeb a thanbeidrwydd digwmwl yr haul. O'r ochr arall, pan ddaw Persiad i'n gwlad gymylog a glawog ni y peth cyntaf a ysgrifenna adref ydyw mai gwlad heb haul i'w weled ynddi ydyw Prydain.

Bûm yn darllen hanes boneddiges a dreuliodd rai blynyddoedd yn ninasoedd Persia. Deffrôdd ryw fore, yn hwyrach o awr nag arfer. Synnai nad oedd sŵn neb wedi codi o'i blaen i'w glywed. Daeth i lawr cyn hir. Ond nid oedd yno arwydd am frecwast. Daeth gwas heibio, a gofynnodd hithau paham ynghanol bore felly, yr oedd y tŷ fel pe buasai pawb wedi marw ynddo. Ac ebr y gwas, gan ddal ei ddwylo i fyny : Ond oni wyddoch, madam, ei bod yn bwrw glaw!

Ac erbyn deall, y mae glaw yn beth mor anghyffredin yn y wlad heulog honno, fel y bydd masnach a gwaith a phopeth yn distewi ac yn aros hyd nes peidia'r glaw â disgyn. le, gwlad heulog yw Persia. Yn y gaeaf oeraf y mae'r awyr mor glir fel y tywynna'r haul yn llachar, bron bob dydd. Ac yn yr haf, y peth olaf a welwch bob nos yw haul yn machlud mewn gogoniant annisgrifiadwy, a'r peth cyntaf a welwch yn y bore yw golau tanbaid yr haul yn eich deffro. " Y mae goleuni haul ym mhob man," ebr y genhades dyner-galon y cyfeiriais ati, "ond yng nghalonnau’r bobl."

2. Ond, ar droeon anaml, daw llen dros yr haul, a bydd Persia yn ferw drwyddi draw wedi colli y goleuni y mae beunydd yn byw ynddo. Un peth ydyw diffyg ar yr haul. Y mae diffyg ar yr haul yn ein gwlad ni yn beth eithaf annaearol, a rhyw brudd-der yn ymledaenu bob amser. Ond gwyddom ni beth yw'r achos,—y lleuad sydd yn mynd rhwng y ddaear a'r haul, ac ni bydd yn hir yn myned heibio. Ym Mhersia y mae ganddynt hen goel ofer bod pysgodyn mawr yn ceisio llyncu'r haul. Ac ar unwaith daw pawb allan i wneud y sŵn mwyaf a fedr i ddychrynu'r pysgodyn,—tanio cyflegrau, saethu â gynnau, curo hen bedyll efydd ac alcan. A phan fydd golau'r haul yn cryfhau, bydd yno lawenydd mawr bod y pysgodyn drwg wedi ei ddychrynu oddiwrth yr haul pan ar ganol ei lyncu.

Dro arall, tywylla wyneb yr haul yn sydyn. Ac oni chaewch bob drws a ffenestr a rhigol ar unwaith, dechreua tywod ariannaidd lifo i mewn fel dwfr, a gorchuddio popeth. Ystorm dywod sydd wedi torri dros y wlad. Chwythir tywod yr anialwch gan y trowynt, nes cuddio wyneb yr haul, nes mygu pawb sydd heb gysgod rhagddo, a pheri anghysur mawr hyd yn oed mewn tai.

Unwaith eto, daw cwmwl tywyll, symudol. weithiau rhwng y ddaear a'r haul, gan guddio ei wyneb hawddgar bron. Cwmwl o locustiaid yw. Os disgynnant ar gaeau, cerddant ymlaen fel ton o'r môr, yn llu aneirif, a difant bob deilen, gan droi'r caeau ffrwythlon yn ddiffeithwch llwm. Os disgynnant ar y tywod, trengant, a defnyddir eu cyrff' fel gwrtaith.

3. Ond anaml y cymylir haul Persia. Y mae'n debyg na hoffai rhai sydd wedi arfer â chymylau Cymru fyw dan haul disglair Persia o hyd. Gwn am un gŵr enwog, a fu mewn gwlad debyg iddi na allai ddymuno dymuniad Ann Griffiths mwy :

"Byw heb gwmwl, byw heb boen."

YR INDIAD COCH

X

YR INDIAID CYMREIG

1. TUA chan mlynedd yn ôl sonnid llawer am ryddid dyn, ac am hawl pawb i fod yn annibynnol. Ac wrth fod Indiaid cochion yn America mor annibynnol, mor anhyblyg, mor hoff o ryddid, telid llawer o sylw iddynt, a mawr oedd eu parch.

Yr adeg honno cofiwyd bod y trioedd Cymreig a hen feirdd yn sôn am dywysog a aeth ar goll ar y môr, sef Madog ab Owain Gwynedd. Aeth yn 1170, eb yr hanes, hyd Fôr Iwerddon, ac ymhell i Iwerydd dieithr, a gwelodd bethau rhyfedd. Yn 1172 aeth i'r môr drachefn gyda thri chant o wŷr, a throisant ben y cwch yn syth i'r gorllewin. Ni ddaethant byth yn ôl.

Ond ymhen rhyw chwe chant o flynyddoedd, pan dynnai Indiaid yr America sylw, cofiwyd am ddifancoll Madog ab Owain Gwynedd. A daeth sôn rhyfedd o'r America fod, ymysg yr Indiaid, lwyth neu ddau yn siarad Cymraeg! Bu teithiwr Americanaidd o'r enw Mr. Catlin yn byw gyda llwyth Indiaidd gwaraidd a charedig, a chyhoeddodd fod llawer o'u geiriau yn Gymraeg pur. Ac felly dywedodd y rhai oedd am foli Cymru nad Columbus a ddarganfu yr America, ond Cymro, sef Madog ab Owain Gwynedd, gannoedd o flynyddoedd cynt. A dywedent fod disgynyddion Madog a'i wŷr, sef y Madogwyr, yn byw yn awr ar lannau'r Miswri. A llawer o bethau eraill a ddychmygasant. Yn wir, dychymyg oedd y cwbl.

Ond credodd miloedd o bobl mai gwir oedd, a bu effaith y gred ar lenyddiaeth Saesneg a Chymraeg. Canodd Ceiriog gân, ar alaw Difyrrwch y Brenin, yn darlunio Madog a'i wŷr yn myned i'r môr:

Wele'n cychwyn dair ar ddeg
O longau bach ar fore teg.

Yr oedd "Madog" Robert Southey yn boblogaidd iawn. Ac apeliodd "Ffarwel Madog Dywysog" Mrs. Hemans at genedl o forwyr, sef y Saeson.

2. Ymysg y rhai a gredodd chwedl y Madogwyr yr oedd Cymro ieuanc brwdfrydig a gwladgarol o'r Waen Fawr yn Arfon, o'r enw John Evans. Penderfynodd fynd ar daith anturus i chwilio am ei gydwladwyr, rhag nad oeddynt yn cofio yn glir am yr Iesu. Y mae rhywbeth yn arwrol yn hanes y cenhadwr ieuanc. Crwydrodd fil a chwe chant o filltiroedd i chwilio am ei gydwladwyr. Ond gorfu iddo droi i gaban yn rhywle ar lan Misŵri. dan dwymyn boeth, ac yno y bu farw. Canodd Ceiriog gân iddo ar alaw "Llwyn Onn":

Mae'r haul wedi machlud, a'r lleuad yn codi,
A bachgen o Gymro yn flin ar ei daith :
Yn crwydro mewn breuddwyd, ar lan y Misŵri,
I chwilio am Iwyth a lefarai ein hiaith.
Ymdrochai y ser yn y tonnau tryloywon,
Ac yntau fel meudwy yn rhodio drwy'i hun;
Pa le mae fy mrodyr?" gofynnai i'r afon,
"Pe le mae'r hen Gymry, fy mhobl fy hun '!


Fe ruai bwystfìlod, a'r nos wnâi dywyllu,
Tra'r dwfr yn ei wyneb a'r coed yn ei gefn;
Yng nghaban y coediwr fe syrthiodd i gysgu,
Ac yno breuddwydiodd ei freuddwyd drachefn;
Fe welai Frythoniaid, Cymraeg wnaent lefaru,
Adroddent eu hanes, deallai bob un;
Deffrôdd yn y dwymyn, bu farw gan ofyn,—
"Pa le mae'r hen Gymry, fy mhobl fy hun? "

Ni fu Cymru croengoch ar lannau Misŵri eroed. Ond, er hynny, y mae rhywbeth ym mreuddwydion ac ystraeon yr hen Indiaid yn debyg i rai'r hen Gymry. Hyd y gwelais i hwy, y maent yn dyner a lleddf a chwaethus fel rhai'r Cymry. Yn wir, gallwn dybied bod hanes pen Bendigaid Frân, a hanes pen Tamo yn y gogledd dir, wedi dod o'r

un gwreiddyn.

XI

YR HAUL A'R LLEUADI

1. YR ydych chwi wedi dysgu yn yr ysgol mai pelen aruthrol o dân ydyw'r Haul, ac mai o honno y caiff y planedau a'u lleuadau eu gwres, eu goleuni, a'u bywyd. Yr ydych wedi dysgu hefyd mai byd bychan—oer ac heb fywyd, medd rhai—ydyw'r Lleuad, yn troi o gylch y Ddaear bob mis, a'r ddwy yn troi o gwmpas yr Haul mewn blwyddyn.

2. Pan oeddwn i 'n blentyn fel chwi, dywedid llawer o hanes yr Indiaid Cochion wrthym. Yr adeg honno yr oeddynt yn ymladd yn erbyn yr ymfudwyr gwynion o Gymru a gwledydd eraill, ac yn sicr yr oeddynt yn greulon iawn. Hwy oedd pobl lluosocaf yr America unwaith; ond erbyn heddiw nid erys ond ychydig ohonynt.

Ar hela yr oeddynt yn byw, yn enwedig hela'r ych gwyllt a'r carw. Yr oeddynt yn fuandroed iawn, ac yn saethwyr medrus â'r bwa. Nid oedd eu bath am bysgota ychwaith. Addurnai'r dynion eu pen â phaent a phlu amryliw, yn enwedig pan ymdeithient i ryfel. Yr oedd amryw lwythau ohonynt,—yr Auron, y Siawnî, y Sion, y Traed Duon, yr Obidsewê, ac eraill,—ac yr oeddynt beunydd mewn rhyfel ffyrnig â'i gilydd. Byddai y plant yn dioddef llawer yn y rhyfel, ac yn y gaeafau celyd, pan fyddai'r ymborth yn brin. Ond hyfryd iawn fyddai eu byd pan fyddai'n heddwch a haf. Caent ddigon o gig pan ddeuai'r helwyr adref o hela hyd y paith eang, a chodid digonedd o bysgod o'r afonydd gloywon. Ac ar fin nos haf byddent wrth eu bodd yn chwarae o amgylch y wigwam, sef y babell y cysgent ynddi. Nid oedd ysgolion yn eu mysg, nac athrawon nac athrawesau. Ond eisteddent, yn gymysg â'r cŵn, wrth draed y bobl mewn oed a gwrandawent arnynt yn adrodd ystraeon. Ac yr oedd rhai, yn enwedig y gwŷr doeth (y dewiniaid) a'r gwŷr meddyginiaeth (eu doctoriaid) yn medru llawer iawn.

Pan oedd yr haul yn mynd i lawr ryw hafnos, gofynnodd un o'r plant beth oedd yr haul, a pham yr oedd yn boeth ac yn goch, a'r lleuad mor welw a phrudd. A dechreuodd rhyw hen heliwr esbonio.

3. Yn yr hen amser, meddai, cyn i'n tadau ni ddod i'r wlad hon, nid oedd yma ond deg o ddynion, brodyr cryfion, nerthol, ac un eneth eiddil, ofnus. Bu farw naw o'r brodyr y naill ar ôl y llall ac felly nid oedd yn aros ond yr eneth ac un dyn, a hwnnw yn ddyn nerthol a chreulon. Gofynnodd y dyn a ddeuai'r eneth yn wraig iddo ef. Dywedai hithau na ddeuai, oherwydd yr oedd yn ddrwg ei dymer, yn ddiog, yn gas, ac ni feddyliai am neb ond amdano'i hun. A phenderfynodd hi ddianc y noson honno, er mwyn bod o'i gyrraedd. Rhedai'n gyflym wrth olau leuad, a chlywai ef yn rhedeg ar ei hôl, gan waeddi ar ei gŵn. Gwelai hithau dwll yn y ddaear; ac er ei fod yn edrych yn ddu ac yn ddwfn, llithrodd iddo am ei bywyd. A syrthio, a syrthio a wnaeth, am oriau lawer, yn y tywyllwch.

Pan welodd oleuni, nid wrth ei phen y gwelai ef, ond i lawr dan ei thraed. Yr oedd wedi syrthio trwy'r ddaear i'r ochr arall. Ac fe'i cafodd ei hun mewn byd hyfryd,—afonydd llawn o bysgod, heldir llawn o geirw, a thywydd hyfryd, cynnes. Draw gwelai ŵr tal, myfyriol, yn pysgota. A gwyddai ar ei olwg mai dewin oedd, un yn gwybod meddwl yr Ysbryd Mawr. Erfyniodd arno ei hamddiffyn rhag yr hwn a edrychai am dani, ond bu'n hir iawn cyn cymryd sylw o honni. O'r diwedd, dywedodd wrthi'n swta : "Cei fynd i fyny i dramwyo'r nefoedd; ac os teithi di yn ffyddlon, fel y gweli dy hen gartref bob mis, ni fedr fyth dy ddal."

Aeth yr erlidiwr heibio'r twll yn y ddaear heb feddwl fod y ferch wedi disgyn iddo, ac aeth yn bell oddiyno. Ond yr oedd y cŵn yn dal i gyfarth lle yr aeth hi i lawr. O'r diwedd, mentrodd yntau i lawr, a syrthiodd trwy'r ddaear i'r ochr draw. Gwelodd yntau y dewin yn pysgota. Holai ef a welodd wraig deg, ond gwelw a blinedig, yn dianc fel pe am ei bywyd. Am oriau ni chymerai'r dewin ddim sylw o honno. Ond o'r diwedd, dywedodd : "Cei fynd i fyny i'r wybren i redeg ar ei hôl. Ond, er i ti redeg ar ei hôl am byth, a rhedeg nes bydd dy gorff ar dân, ni fedri ei dal." 4. A dyna pam y mae plant yn hoffi gweld y dydd yn hir, ac yn gwrthod mynd i'w gwelyau, er mwyn gwneud taith yr Haul yn hir. Ond pan welant mor brudd a gwelw yw'r Lleuad, y maent am i'r nos fod yn fer, rhag ofni'r ffoadures brydferth druan, flino'n rhedeg, a gadael i'r Haul ei dal.

XII

Y DYN COCH

1. Y DYN coch, neu'r croengoch yw enw'r Americanwr ar y brodorion a gyfrifid wrth y miliynau gan mlynedd yn ôl, ond sydd erbyn hyn yn prysur ddiflannu o flaen gwareiddiad.

Bu'n ddychryn i'r ymfudwr, llosgai ei gaban, a llofruddiai ei wraig a'i blant. Oherwydd gwelodd yr andwyai y dyn gwyn ei wlad. Ciliai yr hydd a'r ych gwyllt, ac ni ddeuai'r eog i fyny'r afonydd fel cynt. A gorfu i'r dyn coch gilio, yn raddol i'r gorllewin, lle y gallai gael helwriaeth. Oherwydd oni byddai helwriaeth, deuai newyn yn y gaeaf, ac yr oedd newyn yn fwy creulon ac yn fwy angheuol hyd yn oed na'r dyn gwyn.

2. Pe delech at bebyll y dynion coch yn yr haf, ar lan afon neu ar fin coedwig, tybiech eu bod yn ddigon hapus. Gwelech ystyr eu henwau, oherwydd coch, yn ymylu ar gochddu, yw lliw eu crwyn. Y mae'r dynion yn dal ac yn syth, fel y buasech yn disgwyl i helwyr cedyrn fod. Y mae golwg drymaidd ar eu hwynebau, ac y mae eu gwallt yn hir, a syth, a du fel yr huddygl. Ond y mae llawer ohonynt yn tynnu eu gwallt o'r gwraidd bob yn un, gan adael rhyw un topyn ar y corun. Y maent yn hoff o addurniadau, megis cregin tlysion. Y mae'r merched yn brydferth pan yn ieuanc, a byddai sôn hyd ymhell am y rhai eithriadol brydweddol ond byddai caledwaith eu bywyd yn eu hagru a'u camu yn gynnar. Gwaith y dyn oedd rhyfela a hela yn unig; y wraig oedd yn ymorol am danwydd, yn edrych ar ôl y plant, ac yn cario'r babell.

Ond ysgafn a bregus iawn oedd y babell. Nid oedd ynddi ddodrefn ond ychydig offerynnau coginio, a chrwyn eirth i orwedd arnynt y nos. Buan y codid y babell fel y crwydrai'r llwyth o 'heldir i heldir.

Pe delech i'r gwersyll ar hwyrnos o haf, caech y bobl ieuainc a'r plant yn dawnsio'n nwyfus. Ond os byddai'r fwyell yn mynd o babell i babell. i ddweud bod rhyfel wedi ei gyhoeddi, yna gwelech y crochan rhyfel ar y tân yn y gwersyll, a chlywech bawb yn canu caneuon rhyfel o'i gylch.

3. Y mae'r Indiaid hyn yn garedig wrth bobl ddieithr, ac yn lletygar iawn; os bydd ganddynt fwyd, rhoddant ef yn hael. Ond, wedi brwydr, yr oeddynt yn greulon iawn wrth eu carcharorion, a hoffent weled eu dirdynnu. Yr oedd y dyn coch yn fuan, yn gyflym ei lygad a'i glust a'i droed.

Cerddai yn wisgi am ddyddiau; ac nid oedd raid iddo ond wrth ei gyllell a'i garreg dân ar ei siwrneiau hirfaith. Ai o un lle i le pell arall ar linell union heb fethu. Yr oedd ei allu i ddilyn ôl troed dyn neu anifail yn hynod iawn.

Gwyddai lawer iawn am y tymhorau ac am anifeiliaid; ac ar y wybodaeth honno y dibynnai, heb ysgol na map nac almanac. Ond byddai'r gwŷr doethineb yn dysgu'r ieuanc i ymddwyn yn ddewr, a dioddef caledfyd. Byddent hefyd yn feddygon; a dywedent y medrent godi peth ar y llen a guddiai lwybr dyn wedi iddo fynd i'r bedd.

4. Byddai'r dyn coch farw fel y bu byw. Wynebai frenin braw yn dawel a hamddenol. Rhoddai gynghorion i'w blant, ac yna ymadawai at ei hen gyfeillion mewn brwydr a helfa, ac mewn tiroedd hela gwell. Yna, wedi ei farw, gosodid ef i eistedd yn ei babell, a'i arfau yn ei law. A byddai pawb yn gwneud araith o ffarwel iddo. Yna cleddid ef, a chyneuid tân ar ei fedd bedair noson, oherwydd dyna'r amser a gymer iddo deithio i'r heldiroedd hapus draw.

Cred y dynion coch fod Ysbryd Mawr yn bod; ond aneglur ac ansicr oedd eu syniadau. Erbyn hyn, y mae'n debyg eu bod wedi colli llawer o'u hen syniadau. Ond casglwyd llawer o'u hystraeon, a theifl y rhai hynny lawer o oleuni ar eu hanes.

XIII

INDIAID GOGLEDD AMERICA

UNWAITH meddai holl ogledd America, — Canada, yr Unol Daleithiau, a Mecsico,- drigolion annhebyg i'r rhai sydd yno'n awr. Y mae'r Americaniaid presennol wedi disgyn o'r un bobl â ninnau, i raddau pell. Disgynyddion y Piwritaniaid a'r Crynwyr sydd yn nhaleithiau Lloegr Newydd, pobl a adawodd eu gwlad ar awgrym John Penri, i gael rhyddid crefyddol yn ardaloedd dieithr America. Disgynyddion y Cymry sydd mewn llawer o ardaloedd Pennsylfania, llawer ohonynt yn Grynwyr o dueddau Dolgellau a'r Bala. Plant dilynwyr John Wesle sydd yn Georgia a Charolina. Ac y mae miloedd o ddisgynyddion y caethion a werthwyd o Affrica yn y taleithiau deheuol, negroaid duon gwallt crych. Ond y mae ymysg y dyfodiaid hyn rai o ddisgynyddion yr hen breswylwyr eto'n aros, yr Indiaid oedd yno cyn i'r Prydeinwyr na'r Ffrancwyr na'r Sbaenwyr roddi eu troed i lawr ar dir y Byd Newydd.

2. Yr enw a roddwyd arnynt oedd Indiaid. Nid oes a fynnont ddim â'r India. Ond pan ddarganfu Columbus yr America, chwilio am ffordd i'r India yr oedd; ffordd newydd, oherwydd yr oedd y Twrc anwar wedi cau yr hen ffordd. A phan welodd ef dir yr America, tybiodd iddo gyrraedd yr India. Ac Indiaid y gelwir y bobl byth. Pan ddarganfuwyd America, yr oedd ynddi genhedloedd enwog,—Obidsewê a'r Tsipewê yn y gogledd, yna'r Hiwron a'r Ciŵ, y Doctô, y Tsitsasô, y Tserocî, a'r Crîc ar ororau Mecsico. Erbyn heddiw nid oes ond ychydig ohonynt yn aros, a thrinnir hwy'n garedig gan yr Unol Daleithiau.

3. Paham y diflanasant mor llwyr? Yn un peth, oherwydd eu rhyfeloedd ffyrnig â'i gilydd. Ond y peth pennaf oedd dyfodiad y dyn gwyn. Ceisiai y dyn gwyn amaethu'r ddaear; ond wrth amaethu dinistriai diroedd hela y dyn coch. Felly y bu rhyfel chwerw; ac yr oedd y ddwy ochr yn greulon iawn. Y ddwy genedl a enillodd barch a serch yr Indiaid oedd y Ffrancwyr a'r Cymry. Ond daeth y dyn gwyn a phethau a anrheithiodd yr Indiaid Cochion yn fwy na'i arfau tân, sef ei glefydon, yn enwedig y frech wen, ac yn fwy na phopeth, y ddiod feddw. Ie, y "dwfr tân," chwedl hwythau, a'u difaodd.

Paham y mae'r negro'n cynyddu mor fuan, a'r dyr coch yn darfod? Dywed athronwyr na all dyn gynyddu mewn gallu a gwybodaeth oni fedr fod yn gaeth a dysgu. Cymerodd y negro yr iau ar ei war a daeth yn bobl luosog; yr oedd y dyn coch yn anhyblyg, ni fynnai golli ei ryddid, na dysgu.

4. Yr oedd llawer peth oedd yn hoffus iawn ym mywyd rhydd a dedwydd y dyn coch, a dangosir hynny yn narlun prydferth Longfellow ohono yn

ei Hiawatha.

XIV

Y PEN BYW

1. YSTORI Indiaid gogledd y Mynyddoedd Creigiog ydyw hon.

Yr oedd brawd a chwaer yn byw mewn caban unig ar fin y goedwig. A daeth amser y bachgen i farw. Ac eb ef: " Fy chwaer, y mae angau wedi cydio ynof, ac y mae yn prysur wenwyno fy nghorff. Cyn iddo ddod at fy mhen, tor ef ymaith â blaen fy mhicell a dyro ef yng ngheg sach, ac yn y sach dyro fy mhaent a'm plu prydferth a'm haddurniadau, a rho fy mwa a'm cawell saethau gerllaw. A chei weled y bydd y pen byw." Ac felly y gwnaeth y chwaer.

2. Ymhell oddiyno yr oedd llwyth o Indiaid yn paratoi i ryfel. A dewiswyd deuddeg brawd dewr i fynd o flaen y lleill. Yr oedd y brawd hynaf wedi gweled mewn breuddwydion nos beth a ddigwyddai iddynt,-arth anferth yn rhedeg ar eu hôl, a'r gelyn yn cau o'u cwmpas. Ond, trwy gymorth swynwyr medrus, yr oeddynt i ennill yn y diwedd.

Pan wawriodd y bore cyntaf ar eu taith, gwelent rywbeth du mawr ar y mynydd rhyngddynt a'r golau, yn cysgu. Arth anferth oedd. Cyn iddynt ei lladd deffrodd, ac edrychodd arnynt â llygaid llidiog. Cychwynnodd ar eu hol, a rhedasant hwythau am eu bywyd. "Rhedwch at y caban acw, lle y gwelwch y mwg," ebr y brawd hynaf, " y mae acw swynwr a all ein hachub." Ac yno yr aethant i erfyn am nodded.

"Ewch ymlaen," ebry swynwr, "mi a'i lladdaf." Ac fe'i gwnaeth ei hun fel cawr, gyda phicell fel coeden. Diangasant hwythau, ond cyn hir gwelent yr arth yn cyflymu ar eu hôl, a gwaed y swynwr ar ei safn.

Y mae swynwr arall draw acw,"ebr y brawd hynaf. "Rhedwch am eich bywyd, y mae'r arth wedi ei chlwyfo, ac yn ffyrnig." A rhedodd y brodyr heinif fel ceirw. Addawodd y swynwr ladd yr arth.

Gwnaeth yntau ef ei hun yn gawr o faint, a chododd bastwn aruthrol, a tharawodd yr arth yn ei phen nes ei syfrdanu. Ond dadebrodd toc, a rheibiodd y swynwr. Ac er eu dychryn gwelai'r brodyr hi yn prysuro ar eu hôl. A gwaeddai'r brawd hynaf:

Y mae un gobaith eto, yr olaf. A welwch chwi'r caban acw ar fin y goedwig? Y mae brawd a chwaer yn byw acw, gwelais hwy yn fy mreuddwyd. Ef yw swynwr mwyaf y wlad."

3. Dadebrodd y pen, a dywedodd wrth ei chwaer : " Y mae deuddeg o wŷr ieuainc yn dod, ac arth ar eu hôl. Dos a dal fì o flaen yr arth." Erbyn hyn yr oedd yn galed ar y gwŷr ieuainc, a'r arth bron wrth eu sodlau. Rhedodd yr eneth, a daliodd y pen i fyny. Pan welodd yr arth y pen byw, syrthiodd yn ôl mewn arswyd, a buan y lladdodd y deuddeg brawd hi. Yna, wedi cael ymborth a gorffwys, gyda'r nos aethant tua thir eu gelynion. Yn y nos clywodd y chwaer floeddiadau anwar brwydr. Yna bu distawrwydd. " Dos a mi borc fory i'r fan yr oeddynt yn ymladd heno," ebr y pen, "ac un o'm saethau gyda thi, a dal hi wrth ben y meirw."

Aethant yn y bore. Beth welent yno ond cyrff meirwon y deuddeg brawd. Ond, pan ddaliodd y chwaer y bicell wrth eu pen, codasant oll i fyny'n fyw.

" Yn awr," ebr y pen, " ewch â mi at fy nghorf. Y mae erbyn hyn wedi ei buro, a'r gwenwyn wedi mynd ohono ym mhridd y ddaear." Aethant ag ef, a'r munud y cyffyrddodd y pen â'r corff, wele'r gŵr ieuanc yn sefyll ar ei draed, yn gan harddach nag yr oedd pan wnaeth i'w chwaer dorri ei ben. Ac eb ef wrth y deuddeg : Yn awr yr ydym oll wedi profi angau. Ni fyddwn marw byth mwy."

Onid yw'n ystori ryfedd? Bu miloedd ar filoedd o blant bach cochion, mewn coedwigoedd pell, wrth

ddrws eu pabell, yn gwrando arni.

XV

MURMURON Y GRAGEN

1 CHWI wyddoch, ond i chwi roi cragen wrth eich clust, y clywch ynddi si pell y môr. Rhoddodd y bardd Glasynys gragen wrth ei glust, a dychmygodd glywed ynddi holl leisiau amrywiol y môr. Clywai waedd y tonnau gwallgof, clywai ddwndwr tonnau'r nos, clywai alaeth llong yn suddo, clywai suo-gân mwynder, dywod lais cariad, a llawer sŵn :

"Sŵn rhyw bellter annirnadwy, eto'n agos, sy'n y môr."

2. Ie, clywodd un o'r môr-forynion yn canu cân forwynol am y gwynt. A oes rhyw fardd Cymreig. ond Glasynys, wedi canu am y môr-forynion?

A dyma a glywodd ef y môr-forynion yn ei ddweud wrtho :

Dos i'r traeth a phiga gragen, dyro honno wrth dy glust."

Beth a glywai?

Clywi ynddi'r Môr-forynion yn clodfori'r tonnog gôr.
Clywi hefyd y cyfrinion sydd ynghadw gan y môr."


Dyma i chwi rai straeon am fôr-forynion ar y

tudalennau nesaf.

XV

Y MÔR-FORYNION

1. Y PETH yw'r tylwyth teg i blant y mynyddoedd a'r llynnoedd, hynny ydyw'r môr- forynion i blant glannau'r môr. Gŵyr y bugail bach am dylwyth teg, sy'n chwarae mig ag ef yn y niwl, a all ei wneud yn berchennog llawer o ddefaid ei hun. A gŵyr y morwr bach am fôr-forynion tlysion a all ei groesawu ac achub ei fywyd pan â ei long yn ddrylliau ar y graig yn y môr.

Bu plant dwy fil o flynyddoedd yn gwrando ystraeon am y môr-forynion, ac yn eu credu yn ffyddiog. Yr oedd sôn amdanynt yn amser y Rhufeiniwr Plinius. Ceir hanes eu dofi ar arfordir- oedd yr Alban a'r Iseldiroedd, ac y mae llawer o hanesion rhyfedd amdanynt o'r gwledydd hynny. Fel rheol dywedir eu bod o'u canol i fyny yn forynion prydferth, ond yn bysgod o'u canol i'w traed. Symudent yn afrosgo ar y tir, ond yn hoyw ysgafn ar y môr. Yr oedd eu prydferthwch yn bennaf yn eu llygaid mawr, gloyw, a thyner. Mewn ambell deulu cedwid hwy fel cydymaith difyr. Ond ni chlywais erioed am neb wedi medru eu dysgu i siarad. Yn 1187—gellwch gyfrif mor bell yn ôl oedd hynny-daliwyd un ar lannau dwyreiniol Lloegr. Bu ymysg dynion am chwe mis, ac nid oedd ddim ond diffyg siarad yn ei gwneud yn annhebyg i'r merched tewion glandeg a ddeuai i edrych arni. Ond, ryw ddydd, diangodd i'r môr, ac ni welwyd mohoni mwy.

2. Gwyddoch fod llawer o'r Iseldiroedd yn is na'r môr, a rhaid gofalu am y gwarchgloddiau sy'n cadw'r tonnau rhag carlamu dros y caeau gwair a'r gerddi ffrwythlon. Yn 1450, torrodd y môr i un o ardaloedd Ffrisland, ac aeth llawer o'r porfeydd dan ddwfr. A byddai raid i'r merched fynd mewn cwch i odro'r gwartheg. Ond fel y cyfannid y dawdd a dorrwyd gan y môr. graddol sychai'r tir yn ei ôl. Rhyw fin nos, pan âi'r merched i odro, gwelent o'r cwch fôr-forwyn yn y llaid, ac er pob ymdrech, yn methu dod o honno. Codasant hi i'r cwch, aethant â hi adref i Edam, rhoddasant ddillad geneth am dani. Dysgodd fwyta. dysgodd nyddu, a dysgodd ryw lun o grefydd, oherwydd gostyngai ei phen pan welai lun croes. Ond ni fedrent ei dysgu i siarad, a byddai yr ysfa am fynd i'r môr yn gryf arni wedi byw am flynyddoedd ar y tir.

A dywedir llawer ystori debyg o wahanol foroedd y byd. Ond yr wyf yn methu eu credu, am nad oes neb yn honni ei fod wedi gweled môr-forwyn yn ddiweddar. 3. Anghofiais ddweud un peth. Mewn llawer hen ystori dywedir bod gwlad hyfryd dan y môr, ond na fedr ei thrigolion ddod i oleuni haul heb gael benthyg croen morio. A chofiais ar unwaith fod boneddigesau ein dyddiau ni, yn y gaeaf, yn hoff iawn o wisgo croen morlo.

Y morlo, yn siŵr gennyf fi, a wnaeth i bobl ddychmygu bod môr-forwyn yn bod. Hawdd y gellid dychmygu, pan welid per morlo, yn codi trwy'r don gyda phen crwn a llygaid erfyniol, mai môr-forwyn oedd yn nofio yno. O dipyn i beth daeth morwyr i wybod am werth eu crwyn. a lledir hwy bob blwyddyn wrth y degau o filoedd. A gwêl pobl Llundain hwy yn chwarae, yn dringo ac yn eistedd ar gadeiriau, ac yn cusanu eu ceidwaid, ond mynd am dro i erddi'r Sŵ.

Ond arhoswch ennyd cyn gadael y môr-forynion. Gwyddoch fod y glaw a'r afonydd yn araf a graddol gludo'r ddaear i'r môr, ac yn gosod y llaid i orwedd ar waelod y moroedd. Os felly, onid yw wyneb y dŵr yn codi? A beth, ymhen miliynau o flynyddoedd, os bydd y dŵr wedi cuddio'r ddaear i gyd?

Os daw i hynny'n raddol bydd dyn wedi ei gyfaddasu ei hun ar gyfer y newid. Medr fyw yn y môr yn ogystal ag ar y tir erbyn hynny. A phan ddaw yr adeg bell honno, oni fydd môr-forynion

mewn gwirionedd?

XVII

Y FÔR-FORWYN FACH

1. TYNNAIS ysgwrs unwaith â nifer o fechgyn nwyfus. Yr oeddynt yn chwarae yn brysur, ond medrais dyn eu sylw, a dechreuais siarad â hwy fel hyn:

"Yr ydych yn hoff iawn o chwarae ar fin nos?"

"Ydym, y mae'n well gennym chwarae na dim."

"Ond rhaid i chwi fod y rhan fwyaf o'ch amser. yn yr ysgol?"

"Rhaid, ni wiw i ni beido i mynd yno."

Ac ni byddwch yn blant da bob amser?"

"Ni fyddwn, a chiawn ein cosbi'n aml."

Ac ni byddwch fyw byth. Y mae rhai plant yn byw i fod yn gant oed, a rhai yn drigain, a rhai yn hanner cant; on y mae rhai yn marw'n blant fel chwi?"

"Oes," ebr y plant yn dwys i distaw.

"Wel, y mae gennyf gynnig i'w ni chwi,—ar un amod. Cewch chwarae o olau i olau. Ni raid i chwi fynd i'r ysgol. Cewch wneud y drwg a fynnoch, ac ni chaiff neb eich cosbi. Cewch chwarae. ar y ddaear neu ar waelod y môr, ac y mae pethau rhyfedd a phrydferth iawn yno. A chewch fyw am dri chan mlynedd."

"Beth yw'r amod?"

"Eich bod yn marw wedyn am byth yn darford fel ewyn a yrrir oddiar y dŵr gan y gwynt, Ni bydd dioddef na chosb wedyn, na chof am danoch gan neb. A ydych chwi'n foddlon i'r amod? " Edrychodd y bechgyn i gyd i lawr yn brudd a meddylgar. O'r diwedd gofynnais :

"A ydych yn foddlon i gael chwarae a gwneud y peth a fynnoch am dri chan mlynedd heb eich galw i gyfrif, yn lle bod mewn gwaith a phoen am ryw ugain neu ddeugain mlynedd, ac yna marw am byth? "

Ac atebodd y bechgyn i gyd gyda 'i gilydd, yn ddwys a phendant, er nad oedd eu gwefusau ond prin symud: " Nac ydym."

2. Yr oedd môr-forwyn fach unwaith yn byw ac yn chwarae'n hapus yng ngwaelod y môr. Y mae'r môr-forynion yn brydferth ryfeddol, ac yn hynaws a charedig bob un. Ond y maent yn annhebyg i'r plant bach tlysaf mewn un peth. Nid oes ganddynt enaid. Cânt nofio'n hapus trwy'r moroedd am dri chan mlynedd, ac yna y mae pob un yn marw, fel bwrlwm ar y dŵr.

Ond yr oedd un fôr-forwyn fach wedi clywed am blant y ddaear, ac wedi gweled rhai ohonynt yn chwarae ar y tywod pan gododd ei phen i edrych o grib y don. A chlywodd hwy'n sôn am enaid, ac am fyw byth.

A daeth rhyw awydd angerddol am gael enaid ar y fôr-forwyn fach. Aeth at y fôr-forwyn hynaf, oedd bron â byw dri chan mlynedd, a gofynnodd iddi a gâi fynd i'r ddaear, i chwarae gyda'r plant, a chael enaid fel hwythau. "Y fach wirion," ebr yr hen fôr-forwyn, " ni wyddost beth yr wyt yn ei ofyn. Y mae bechgyn ar y ddaear, ac y maent yn greulon iawn wrth enethod bach."

Ond yr oedd yr eneth yn daer iawn am gael ei chais, ac o'r diwedd dywedodd yr hen fôr-forwyn :

"Os rhaid, mae ffordd i ti fynd at blant y ddaear. Ac y mae ffordd i ti gael enaid. Ond gad i mi dy gynghori'n ddwys unwaith eto cyn yr â'n rhy ddiweddar,—paid â cheisio un. Ni ddaw â dim ond poen a gwae i ti."

Ond cynyddu a wnâi taerni'r fechan wedi dywed bod modd iddi gael enaid, ac o'r diwedd cafodd yr hanes hwn :

"Os ei di i'r ddaear, rhaid iti ddioddef llawer iawn. Annhebyg y cei enaid byth. Oherwydd rhaid i ti weld tywysog da a hardd un o wŷr gorau'r ddaear, a'i briodi. A pha dywysog a hoffai ac a briodai beth fach ddistadl fel tydi? A beth pe gwyddai mai môr-forwyn wyt? A pheth arall hefyd. Oni chei dywysog felly yn ŵr i ti, a thithau wedi ei hoffi, byddi farw noson ei briodas cyn toriad gwawr; ac ni chei ddod yn ôl i'r môr. Nid tri chan mlynedd fydd dy oes di felly, ond rhyw un ar hugain. Felly, anghofia dy ddymuniad ffôl.

3. Ond mynd a fynnai hi, yr oedd rhyw swyn mewn enaid iddi. Erbyn iddi ei chael ei hun ar y tir sych, yr oedd pawb yn synnu at ei thlysni deniadol. A bu yn ffodus iawn hefyd. Yr oedd tywysog hardd a da yn yr ardal y daeth iddi, a hofiodd hi ef er pan welodd ef gyntaf. A rhyw ddydd hi welai'r tywysog mewn enbydrwydd am ei fywyd, bron â boddi yn y môr. Ymsaethodd ato, gan nofio'n ysgafn, a daliodd ei ben uwchlaw'r tonnau nes y daeth llong i'w waredu. Gwelodd y tywysog wyneb hawddgar pur yr enethig, ac fel diolch iddi am achub ei fywyd, rhoddodd le iddi fel morwyn yn llys y brenin. Ac yno y bu am flynyddoedd, a phawb yn sylwi ar ei phrydferthwch hawddgar. A llawer gair mwyn a ddywedodd y tywysog wrth yr eneth ddiwyd a da, gan ddangos ei barch iddi beunydd.

O flwyddyn i flwyddyn aeth yr amser heibio. A bron heb iddi feddwl, yr oedd y fôr-forwyn ar fin ei hun ar hugain oed. A rhyw fore, a hi gyda'r morynion eraill yng nghegin fawr y llys, daeth gorchymyn i baratoi gwledd fawr. Oherwydd yr oedd y tywysog yn priodi tywysoges o wlad gyfagos, ac yn dod â'i ddyweddi adref. A phan glywodd y fôr-forwyn hynny, cofiodd ei thynged. Ni allai briodi tywysog byth, a nos priodas hwn—tywysog oedd ymhell o'i chyrraedd—oedd nos ei hugeinfed flwydd ar hugain. Ni chai enaid, a byddai farw am byth, fel ewyn yn disgyn i'r dŵr.

4. Er ei bod wedi ei gadael i chwilio am enaid anfarwol, yr oedd cof am dani ymysg y môr-forynion ar waelod y môr. Oherwydd hi oedd y fôr-forwyn dlysaf a welwyd erioed. A bu holi mawr ymysg y rhai hynaf a oedd rhyw ffordd i osgoi ei thynged, druan. Oedd, yr oedd ffordd. Noson y briodas daeth dwy fôr-forwyn mewn dillad duon i chwilio am eu chwaer, a dywedasant wrthi: " Rhaid i ti farw bore yfory fel rhai sydd yn perchen enaid. Ni chei di dri chan mlynedd hapus dan donnau'r môr fel ni. Pan dorro'r wawr, ei yn ychydig niwl, ac ni byddi mwy. Ond y mae un ffordd i ti ddianc yn ôl i hen fywyd hapus y môr. Dyma i ti gyllell. Gwêl mor finiog a blaenfain ydyw. Pan fydd pelydr cyntaf y bore'n torri, dos at wely'r tywysog a phlanna hon yn ei galon. Yna dianc atom ni i lawenydd y môr."

Cymerodd y fôr-forwyn y gylleth, a chuddiodd hi yn ei mynwes. A phan oedd y bore'n torri, aeth i ystafell y tywysog a'r gyllell yn ei llaw. Clywai ei anadl esmwyth, teimlai'n ysgafn lle'r oedd ei galon yn curo. Yna cofiodd mor garedig oedd, ac na wnaeth ddrwg iddi erioed. Yr oedd gwên ruddgoch gyntaf y bore'n edrych arni tros y môr. A'i chalon fach, garedig, yn curo, wedi dewis marw ei hun yn hytrach na drygu arall, gollyngodd y gylleth o'i llaw. Teimlai ei hun yn mynd yn ddim am ennyd. Yna teimlai freichiau tragwyddol o dani, a llais tyner Tywysog Tangnefedd yn sibrwd wrthi :

"Bydd fyw byth, rhoddais enaid i ti pan aberthaist dy hun."

Gofynnais i'r bechgyn a oeddynt yn credu'r stori. Edrychent arnaf yn swil, ond ni ddywedent

air.

XVIII

Y PYSGOTWR A'R MORWAS

1—LLAWER hanes rhyfedd a geir am y fôr- forwyn a'r môr-ddyn yn Ynysoedd Sietland,—swp o ynysoedd a saif ryw gan milltir i'r gogledd o'r Alban. Yn ôl cred yr ynyswyr hyn, y mae gwlad deg odiaeth yng ngwaelod y môr, a breswylir gan fodau tebyg o ran ffurf a gwedd i breswylwyr daear, bodau o'r prydferthwch mwyaf swynol.

Y mae'r bodau glandeg hyn, fel pysg y dyfnder yn gallu tramwy trwy y dwfr. Meddant hefyd ar alluoedd sydd braidd yn oruwchnaturiol, ond eto maent yn agored i farw fel ninnau.

Am y wlad danforol honno dywedir ei bod o faintioli mawr, ac nid ar waelod y môr y mae, ond tan waelodion y môr, fel y mae llawr y môr a dyfrol fyd y Pysgod yn ffurfio to uwch ei phen. Yn y diriogaeth bell, isfor honno, y mae'r trigolion wedi adeiladu iddynt eu hunain anheddau gwych o gwrel a pherlau'r dyfnfor.

2. Ond eto, sylwer, ni all y bodau tanforol hyn dramwy trwy y dwfr ac anadlu ynddo yn eu ffurf gynhenid eu hunain, yn y ffurf a'r wedd sydd arnynt pan yn byw yn eu gwlad eu hunain; a hynny am y rheswm eu bod yn meddu ysgyfaint fel yr eiddom ninnau i anadlu'r awyr. Ac felly, er mwyn medru tramwy yn ôl a blaen rhwng ein byd ni a'u byd hwythau trwy ddyfnion ddyfroedd y weilgi, y maent yn gorfod gwisgo am danynt groen rhyw greadur dyfrol, rhyw greadur a fedr fyw ac anadlu yn y dwfr.

Y creadur y maent hoffaf o fenthyca ei groen yw'r morlo neu'r moelrhon; oblegid gall hwnnw, fel y llyffant, fyw yn y dŵr lawn cystal ag ar y tir. Ac felly gellir eu gweled, y bodau teg, isfor hyn, yn aml yn dod i fyny o'r dyfnder, ac yn dringo ar ryw graig neu ynys yn y môr, neu i ryw gilfach ddirgel ar y glannau; ac yno yn diosg y wisg fôr oddi amdanynt, ac yn ymddangos yn eu dull a'u gwedd eu hunain.

A golwg wen, lân, a swynol fydd arnynt hefyd y pryd hwnnw, yn eistedd felly ar ryw astell o graig, gan daflu eu golygon hyd wyneb y môr, a syllu ar y glannau gwyrddleision ac anheddau dynion. Ond bodau hynod lednais, gwylaidd ac ofnus ydynt; ac felly yn caru yr encilion a mannau anhygyrch. Y mae un peth arall pur hynod ynglŷn â phob un ohonynt, yn fôrwas ac yn fôrfun,—nid oes ganddynt ond un croen morlo, un gwisg fôr bob un; ac os collant honno pan fyddant yma yn ein byd ni, ni allant ddychwelyd adref hebddi, trwy ddyfnion lwybrau'r môr, a bydd raid iddynt ymfodloni i fyw ar y ddaear.

3. Ac yn awr am y stori. Unwaith, glaniodd llond cwch o ddynion ar un o'r ynysoedd bychain, creigiog, sy'n gorwedd ar Ynysoedd lannau'r Sietland, gyda'r amcan o ddal a lladd y morloi a dorheulai yno. Peth yn symud yn ddigon hwyrdrwm ac afrosgo ar dir yw y morlo; ymlusga ymlaen ar ei dor gan arfer ei adenydd fel traed, a cheisio cyrraedd i'r dŵr cyn i'w erlynydd ei ddal.

Y dull a gymerir i'w dal yw, rhoddi dyrnod drom iddynt ar eu pen, gyda phastwn neu rwyf, yr hyn fydd yn eu parlysu, a'u gwneud yn ddiymadferth. Yna tarewir ati i'w blingo,— oblegid er mwyn y crwyn blewog sidanaidd y byddir yn eu hela felly.

Wel, yr oedd y dynion wedi gorffen eu gwaith am y diwrnod hwnnw, wedi dal a blingo llawer o'r morloi, wedi llanw y cwch a'r crwyn, ac yn paratoi i rwyfo yn ôl am y lan, ac am eu cartrefi ar yr ynys a elwid Papa Stŵr.

Yn sydyn, cwyd y môr a'r llanw yn froch a gwyllt o'u cwmpas, a phawb yn rhuthro'n chwim am y cwch; ac y maent oll ond un, yn llwyddo i neidio iddo; yr oedd yr un hwnnw wedi rhyw hongian yn ôl, yn lle prysuro am y cwch pan welodd y perygl, ac y clywodd waedd ei gymdeithion.

Er i'r morwyr wneud pob ymgais dichonadwy i'w gael i'r cwch oddiar y greiglan, methu fu, er iddynt beryglu eu bywyd yn yr ymgais. Bu raid iddynt adael y truan ar y graig i'w dynged. Dynesodd y nos,—noson ddu, dymhestlog,—ac ni welai yr adyn obaith ymwared o umnan,—dim ond trengi o ryndod a newyn, neu gael ei ysgubo oddiar y graig i'r dyfnder gan y tonnau broch a brigwyn a ruai'n uwch, uwch o'i gwmpas. Ac yntau'n sefyll yno felly, ynghanol gwawch y gwyntoedd a rhu y tonnau, gwelai haid o'r morloi, a llwyddasai i ddianc oddiar ffordd y pysgotwyr, yn dod yn ôl tua'r ynysig greigiog yr oedd ef arni, yn dringo i fyny arni, yn ymddiosg o'r forwisg o groen oedd am danynt, ac yn sefyll i fyny yn eu ffurf a'u gwedd gynhenid, fel meibion a merched y wlad danforol.

4. Y maent yn ddiymdroi yn dechrau chwilio am eu ceraint a'u cydnabod, a oedd wedi eu dyrnodio'n gelain, a'u blingo, ar hyd y lle. Wedi i'r trueiniaid blinedig hyn ddod atynt eu hunain, ymddadebru o'u pensyfrdandod, ymnewidiant i ffurf môrweision a môr-forynion; ac yna dechreuant gwyno ac ochain mewn math ar brudd alargan dorcalonnus, eu bod wedi colli eu mòrwisg.

Ac O! yr oedd eu cân yn swnio'n lleddf gwynfanus yn gymysg â dadwrdd terfysglyd gwynt y môr,—cwyno'n drist ddolefus na chaent ddychwel byth yn ôl i'w hoff a'u hannwyl drigfannau perl a chwrel, tan lasddu ddyfroedd Iwerydd ehangfaith.

Ond ymhlith y dyrfa gwynfanus oedd o gwmpas y dyn a adewsid ar ôl ar yr ynys, prif destun y galar a'r cwyno oedd Olafìtinus fab Gioga. Yr oedd Olafitinus wedi ei ysbeilio o'i groenwisg, ac felly wedi ei ysgaru yn llwyr ac am byth oddiwrth ei deulu a'i garennydd, a'i gondemnio i fyw bywyd yr alltud digartref ar glawr daear. Modd bynnag, dacw eu cân yn tewi yn swta, oblegid canfyddant y dyn, druan, un o'u gelynion, yn ymledu'n rhynllyd, ofnog, ar ddannedd y graig gerllaw. Gwelant yn ei lygad ei fraw a'i anobaith yn yr olwg ar y llanw broch ymddyrchol ruai o'i gwmpas, heb ddim ond boddi yn ei aros.

Pan welodd Gioga ef,—Gioga oedd mam Olafìtinus,—tery i'w meddwl y gallai wneud defnydd o'r dyn hwn i geisio rhyddhad a dihangfa i'w mab o'i alltudiaeth yn y byd uchod.

Ar hyn, y mae yn ei gyfarch, yn fwyn ac yn foesgar, ac yn cynnig ei achub o'i berygl, trwy ei gludo ar ei chefn trwy'r gwynt a'r tonnau i'r lan i Papa Stŵr, ar yr amod ei bod i gael y croen morlo oedd yn fôrwisg i Olafitinus.

Balch oedd y dyn i dderbyn y cynnig; ac y mae Gioga yn gwisgo ei môrwisg amdani yn y fan, ac yn paratoi i nofio am y lan.

Ond yn yr olwg ar wyllt gynnwrf y môr trochionog, y mae'r dyn yn rhyw ofni'r fordaith; ac erfyn ganiatâd y fôrfam i dorri dau dwll yng nghroen ei gwddf, i gael gwell gafael llaw, a dau dwll arall yn ei dwy ystlys yn afael troed. Y mae hithau yn caniatáu hynny, ac yntau yn cymryd gafael gadarn, ewingraff', yn ei farch rhyfedd.

Trwy dduwch y nos, a chynddaredd y dymestl, cyrhaeddant y lan, yn chwim ac yn ddiogel ym mhorthladd Acres Gio yn Papa Stŵr. Yn syth uniongyrch y mae'r dyn yn mynd a Gioga at y crwyndy i Hamna Foe.

Yno, y mae hithau yn pigo allan groenwisg ei mab, Olafìtinus, ac yn troi yn ôl tua'r môr yn hoyw lawen,—y cytundeb wedi ei gadw yn anrhydeddus o'r ddwy ochr. Ac yn fuan y mae Olafitinus yn dychwel, gyda chalon ddiolchgar, tua'r trigfannau dedwydd o berlau a chwrel dan waelodion tawel Iwerydd.

XIX

TY'N Y GWRYCH

1. GER y fferm y magwyd fi ynddi y mae olion Ty'n y Gwrych. Yr oedd y tŷ mewn lle hyfryd iawn. Mae'r masarn a'i cysgodai eto'n aros, ac odditanynt ceir golwg ar rai o fynyddoedd mwyaf Cymru. Odditano dawnsia afon mewn glyn cul rhamantus, gan furmur a sisial. Weithiau wedi glaw mawr ar y mynyddoedd, bydd rhu ddwfn, brawychus, yn y ceunant. Ar gwr y cae y mae pistyll o ddwfr hyfryd i'r genau. Ni welais i neb yn byw yno, er fy mod yn hen. Ni welodd fy nhad neb yn byw yno chwaith, er ei fod ef yn llawer hŷn na mi pan fu farw. Ond unwaith, adroddodd ystori wrthyf, a glywsai gan ei dad ef. Yr oedd rhyfel enbyd yn y byd. Yr oedd hynny cyn rhyfeloedd Boni. Hwyrach mai Rhyfel y Saith Mlynedd oedd.

Yr oedd teulu bach dedwydd yn byw yn Nhy'n y Gwrych. Byddai'r gŵr yn gweithio hyd ffermydd yr ardal, yr oedd yn ŵr da gydag aradr yn y gwanwyn, a chyda ffust yn yr hydref. Yn y gaeaf ef a fyddai'n crasu'r ŷd yn un o odynau yr ardal.

2. Yr oedd porthmon yn dod i'r ardal ar ei dro. Byddai'n troi llawer o amgylch Ty'n y Gwrych, er nad oedd yno na gwartheg na defaid iddo i'w prynu. A phan fyddai hwn yn yr ardal, gofalai gŵr y tŷ am fod gartref, er gwaethaf yr aredig a'r dyrnu a'r crasu a'r cwbl.

Y gwir yw, yr oedd trysor wedi ei guddio yn rhywle ym mwthyn Ty'n y Gwrych. Ni ŵr ei faint, ond buasai'n ddigon i synnu y neb a'i gwelai. Ac fel hyn y daeth yno.

Yr oedd y gŵr wedi bod yn was ffyddlon i ŵr bonheddig o deulu uchel. Gorfu i hwnnw ffoi. ar gam, o'i wlad ei hun dros y môr. Cyn myned, daeth ar hyd nos i Dŷ'n y Gwrych a baich trwm ar ei geffyl. Cuddiwyd hwnnw ganddo ef, ac ni wyddai neb ond y gŵr lle y rhoddodd ef. Ac addawodd hwnnw gadw'r gyfrinach, a gwylio'r trysor hyd nes y deuai'r meistr yn ôl.

Aeth rhai blynyddoedd ymaith, ond ni ddeuai na siw na miw oddiwrth y dyn a ddihangodd dros y môr. Ond yr oedd y porthmon dieithr wedi amau, rywsut, fod ei drysor yn Nhy'n y Gwrych. Yr oedd wedi holi'r gŵr lawer tro, ond yr oedd hwnnw wedi bwrw dieithr, oherwydd ei fod yn drwgdybio'r porthmon. Yr oedd yn amser anodd cael gwaith, yr oedd y bwyd yn brin a drwg, yr oedd y rhyfel yn trymhau yn ein herbyn. Yr oedd y cynhaeaf wedi methu oherwydd y tywydd gwlyb, ac ofnid newyn yn y wlad. Er mwyn cadw bywyd ei deulu, aeth gŵr Ty'n y Gwrych gyda'r porthmon i yrru gwartheg teneuon i Loegr. Ffarweliodd â'i wraig a'i blant, gan addo dod yn ôl gyntaf y gallai.

3. Aeth misoedd heibio. Darfu haf a hydref, ac yr oedd gaeaf caled eto yn y cwm. Erbyn hyn yr oedd moddion y teulu wedi darfod, a'r plant yn dioddef eisiau bwyd. Ond disgwylient yn ffyddlon y deuai'r tad adref cyn hir.

Daeth ofn, hefyd, i'r bwthyn. Weithiau tybient glywed rhywun yn y tŷ ganol nos, yn troi a throsi popeth. Erbyn un bore, yr oedd carreg yr aelwyd wedi ei chodi, a phridd dros y llawr. Dro arall, clywent sŵn megis un yn ceibio yn yr ardd; a byddai yno beth tebyg i fedd newydd ei lenwi erbyn y bore.

Rhyw ddydd, daeth y porthmon yno. Wrth ei weld yn dod, llawenhaodd y plant, oherwydd tybient fod eu tad yn dod gydag ef. Ond newydd trist oedd ganddo. Yr oedd y tad wedi ei orfodi i ymuno â'r fyddin, wedi ei anfon dros y môr i Ffrainc, ac yno yr oedd yn ei fedd. Aeth y porthmon oddiyno gan adael y teulu yn nyfnder eu trallod. Gyda'r nos daeth yno drachefn, a dywedodd mai dymuniad y tad oedd iddo ef gymryd ei le, ei fod am aros gyda hwy, ac y byddai drannoeth yn dechrau ceibio holl lawr y bwthyn, i'w ail wneud. Ac wylodd y plant yn chwerwach am fod un mor frwnt yn cymryd lle eu tad hoff a charedig. Yr oedd yn noson olaf yr hen flwyddyn. Noson glir, oleu-leuad, oedd, a rhewai'n galed. Yr oedd yr afon yn blymen o rew; a gwasgai y plant at eu gilydd yn y bwthyn rhag rhynnu gan yr oerfel. Yr oedd y porthmon wedi yfed diod gadarn, codai ei lais yn uwch o hyd; ac o'r diwedd, gan regi, agorodd y drws a dwedodd wrth y wraig a'r plant : Fy nhŷ i yw hwn. Allan â chwi, bob un! Y mae allan yn ddifai le i chwi."

4. Yr oedd dau ddyn yn nesu at y bwthyn. Yr oedd un yn hen ŵr crwm, gwalltwyn; yr oedd y llall yn ddyn cydnerth canol oed. Daethant i'r drws y funud yr agorodd y porthmon ef: a chlywsant ei eiriau.

"I ble'r ânt o'u tŷ eu hun?" ebr y gŵr canol oed.

Gwelwodd y porthmon, a chrynodd ei liniau. Ond tra oedd yr hen ŵr yn edrych a oedd y trysor yn ddiogel, a thra oedd gŵr Ty'n y Gwrych yn edrych a oedd ei drysor yntau'n ddianaf, sef ei wraig a'i blant, dihangodd y porthmon o'u gŵydd. Drannoeth, cafodd bugail ei gorff rhewedig ar Gors y Ddwywern.

A daeth diwedd ar ofnau ac eisiau teulu'r bwthyn.

XX

COFIO'R HAF

1. YN y gaeaf oeraf, pan fo'r gwynt yn finiog a'r ddaear dan rew ac eira, mor fwyn yw cofio bod yr haf yn dod yn ôl. Tipyn o aros, tipyn o ffydd, tipyn o hiraeth eto, ac fe ddaw yr haf.

Y mae y nentydd coediog mor brydferth â gwlad y Tylwyth Teg. Hawdd yw cofio am yr afon yn disgyn dros y creigiau, o ris i ris. Mor wyn yw'r dŵr pan yn torri'n ewyn wrth lamu a disgyn : mor loyw a chlir yw'r dŵr yn y llynnoedd bychain llonydd. Ar y gwaelod graeanog, gwelwch gerrig crynion, gleision, a cherrig gwynion, a'r brithyll hoyw yn chwarae rhyngom a hwy.

2. A dyna gysgod hyfryd y coed rhag gwres y dydd. Lle bynnag y mae brenhines y Tylwyth Teg yn byw, a all ei phlas fod yn fwy ardderchog na llecyn las ar fin afon dan gysgod onnen lydanfrig? A ydych yn cofio aroglau'r haf,—mintys y dŵr, blodau'r drain, mafon cochion? Os teimlwch yn oer ac annifyr yn y gaeaf weithiau, cofiwch fod yr haf yn dod. Os ydych wan neu afiach, mynnwch fyw tan yr haf.

(Gweler y darlun ar y tudalen nesaf.)

XXI

CARU CYMRU

1. Y MAE caru ein gwlad yn beth naturiol iawn i Gymry, oherwydd ei bod yn wlad mor hawdd ei hadnabod a'i chofio. Gwlad o fynyddoedd a moroedd ydyw, ac y mae ysbryd rhyddid yn awelon ei bryniau. Ac y mae hiraeth am dani yn un o nodweddion pob un sy'n ei gadael. Mae'r hiraeth hwn yn rhyfela â phob awydd golud gwledydd pell:

Mae'r llong yn y porthladd yn disgwyl am danaf,
A gwae i mi feddwl ymadael erioed.

2. Y mae un ddihareb yn dweud : "Câr dy wlad, a thrig ynddi." Ond dywed rhai eraill y dylai'r Cymro ennill y byd. "Gwlad i gall, pob gwlad," ebr un. "Gwlad Cymro, pob gwlad," ebr un arall. Ond cred pawb mai "Câs gŵr na charo'r wlad a'i mago."

Gynt, dysgid plant yn yr ysgol i anghofio Cymru; ac os cofient hi, i'w dirmygu. Ni ddioddef y werin beth fel hyn yn awr. Yn y darlun ar y tudalen nesaf, cewch olygfa o ddrama fechan sy'n apelio'n rymus at lowyr Deheudir Cymru.

3. Yn yr hen amser, yr oedd bachgen yn yr ysgol

o'r enw Dewi ab Ioan, os cofiaf yn iawn. Ond mynnai yr athro, oedd yn bur ddiystyrllyd o bopeth Cymraeg, ei alw yn David Jones. Gwrthodai'r bachgen ateb i'r enw hwnnw, er pob gwawd ar ran ei gydysgolheigion a phob cosb a ddeuai oddiwrth yr athro. Yn y darlun gwelir ef yn eistedd ar gornel ei ddesg. Y mae'r athro'n galw "David Jones." Mae rhai o'r bechgyn yn ei wawdio, eraill yn edrych yn sarhaus arno, eraill yn ei gynghori i ateb. Ond eistedd ar gornel y ddesg, a'i freichiau ymhleth a'i ddannedd yn dynn ar ei gilydd, ac nid oes na chosb na gwawd na chyngor a wna iddo ateb.

Y mae'r bachgen yn ystyfnig. Ystyfnig, hefyd, oedd Owain Glyn Dŵr a Martin Luther. A pha ffolineb creulon oedd gwneud merthyr o fachgen oherwydd ei wladgarwch,—un o deimladau mwyaf santaidd a mwyaf dyrchafol dyn?

(Teitl y darlun gyferbyn yw—

Y GWLADGARWR. DAN WAWD.

Fe'i tynnwyd gan Mr. Frederic Evans.)

GOFYNION A GEIRFA

I

1. Ym mha le y saif Rwmania? Dywedwch y cwbl a wyddoch am y wlad a'i phobl.
2. Disgrifiwch bipgod Caraiman.
3. Darluniwch effaith dau fìwsig cyntaf Caraiman.
4. Beth ydoedd effaith y trydydd miwsig?
5. Pa fath wlad y daeth hi pan aeth y plant yn fawr?
6. Beth a wnaethant i Garaiman, druan?


  • GWASTADEDD, plains.
  • MEYSYDD GWENITH, Corn fields.
  • MYNWES, bosom.
  • BRAS, luxuriant.
  • CAWRAIDD, gigantic.
  • BARF. beard.
  • OFFERYN, instrument.
  • PIBGOD, bagpipe.
  • PINWYDDEN, pine. tree.
  • YSWIGEN, bag.
  • CERDDOR, musician.
  • BLAGUR, sprouts, buds.
  • CYMEDROL, moderate.
  • DRAENEN, thorn.
  • GERWIN, severe.
  • LLIF, LLIFOGYDD, flood.
  • TRAI, ebb.
  • BROCHUS, fuming.
  • ANADL, breath.
  • DAEARGRYN, earthquake.
  • LLOSGFYNYDD, volcano.
  • CWYNO, to complaìn.
  • CWR, CYRRAU, end. border.
  • LLAID, mud.
  • TYWODLYD, sandy.
  • CRASTER, harshness.
  • GODRO, to milk.
  • EIRIN. plums.
  • GRAWNWIN, grapes.
  • MEFUS, strawberries.
  • PWDU, to pout, to sulk.
  • DIGIO, to offend.
  • GWAREDU,to save.
  • MWSOGL, moss.
  • CHWA, breeze.
  • DIOG, lazy.
  • CHWYN, weeds.
  • NEWYN, hunger.
  • RHISGL, bark.
  • CHWARDDIAD, laugh.
  • ATGYWETRIO, to mend.

II

1. Disgrifiwch y bipgod, ei chwaraewyr, a'i swn.


  • OFFERYN CERDD, musical instrument.
  • LLEDR, leather.
  • TAFOD, tongue.
  • PIB, pipe.
  • CODEN, bag.
  • ALBAN, Scotland.
  • UCHELDIROEDD, highlands.
  • CATRAWD, regiment.
  • YSGOTAIDD, Scotch.
  • DULSIMER, dulcimer.
  • CHWIBANOGL, flute.
  • SYMFFON, symphon.


III

1. Disgrifiwch wlad fawr Rwsia.
2. Pwy oedd Chlestacoff, a beth ydoedd?
3. Paham yr ofnai'r Llywodraethwr Chlestacoff?
4. Paham y galwai'r Llywodraethwr Chlestacoff yn llymgi main tlawd? "


  • YN TARO, bordering upon.
  • LLENOR, literature.
  • GORTHRWM, oppression.
  • LLYWODRAETHWR, ruler.
  • SWYDDOG, official.
  • DYFODIAD, coming.
  • TEITHIWR, traveller.
  • RHIGOL, crack.
  • GWESTY, hostel.
  • OFER, dissolute.
  • AFRADLON, prodigal.
  • HAERLLUG, impudent.
  • CNEIFIO, to shear.
  • TOM YR HEOLYDD, street mire.
  • PRIODFAB, bridegroom.
  • LLYTHYR GLUDYDD, postman.
  • GWALLGOF, mad.
  • LLYMGI, sorry dog.
  • TRAHAUS, arrogant.


IV

1. Disgrifiwch brydferthwch Palma.
2. Paham y daeth Tannas yn ôl yn y nos? Sut y daeth?
3 Paham y penderfynodd Palma fynd ar daith, a sut yr aeth?


4 Dywedwch paham y cashewch chwi ryfel.
5 Disgrifiwch briodas Palma a Thannas.


  • PRYDWEDDOL, comely.
  • URDDAS ,dignity.
  • CELLWAIR, trifle.
  • GWELW, pale.
  • MODRWY, ring.
  • ARWYDD, token.
  • FFIAIDD, loathsome.
  • LLWFRDDYN, Coward.
  • GAD, battle.
  • LLWYDWAWR, early dawn.
  • FFYRNIG, fierce.
  • LLECHWEDD, slope.
  • EIRIAS, red hot.
  • DOLEFAIN, cry.
  • TORTH, loaf.
  • GWERSYLL, camp.
  • LLUDDED, weariness.
  • CLWYFEDIG, wounded.
  • MEDDYG, doctor.
  • GWEINYDDES, nurse.
  • ANFAD, wicked.
  • GRIDDFAN, groan.
  • LLADRONES, woman thief.
  • FFERRU, to congeal.
  • CYFFYRDDIAD, touch.
  • TRENGI. to expire.

V

1. Paham na ddymunasai Hans Cristion Andersen y gofgolofn a fwriedid ei chodi iddo yng Nghopenhagen?
2. Adroddwch unrhyw un o'i straeon.
3. Dywedwch hanes y dyn rhyfedd hwn.


  • PRIFDDINAS, capital town.
  • MYNOR, marble.
  • CYNLLUN, plan.
  • BLAGARDIO, to rage, to black guard.
  • CERFLUN, sculpture.
  • PLANTOS, little children.
  • DIFWYNO, to spoil.
  • HWYADEN HYLL, ugly duckling.
  • ALARCH, swan.
  • MATSUS, matches.
  • NEFOEDD, heaven.
  • CRYDD, cobbler.
  • CHWERTHINLLYD, laughable.
  • ATHRYLITH, genius
  • PENDRONI, to perplex.
  • ORDINHAD, sacrament.
  • HEGLOG, long legged.
  • EIDAL, Italy.
  • YR YSWISDIR, Switzerland.
  • FFRAINC, France.
  • NOFEL, novel.
  • LLYS, court.

VI

1. Disgrifiwch helyntion Cymry Bendigaid Fran yn Iwerddon, ac yna
2. Wedi iddynt ddychwel i Gymru.


  • GWYDDEL, Irishman.
  • IWERDDON, Ireland.
  • DIAL, revenge.
  • NITH, niece.
  • PYBYR, staunch.
  • PAIR, pot; cauldron.
  • CROCHAN, cauldron.
  • CYNNEU TÂN, to light a fire.
  • LLADDEDIGION, the killed.
  • ANGHYDFOD, disagreement.
  • DADENI, to rejuvenate.
  • CERNYW, Cornwall.
  • GWEILGI, ocean.
  • PENFRO, Pembroke.
  • NEUADD, hall.
  • ANFFAWD, misfortune.
  • GWYNFRYN LLUNDAIN, Tower of London.
  • TŴR GWYN, the White Tower.
  • GORMESWR, oppressor.

VII

1. Disgrifiwch unrhyw fynydd y gwyddoch am dano, gan ddilyn dull Syr Owen o ddisgrifio'r Aran.
2. Ail-adroddwch yn fanwl yn eich geiriau eich hun hanes arbed y ddafad a'i hoen.
3. A ddringasoch chwi fynydd ryw dro? Beth sydd yn anhepgor i bob un a fyn ddringo mynydd?
4. Pa flodau a welir wrth ddringo mynydd? A elhwch chi enwi mwy nag a enwodd Syr Owen?
5. Pa adar a geir? A oes mwy nag a nodir yma?
6. Pa leshad a ddaw i ni o ddringo mynydd?


  • CAMFA, Stile.
  • CADWYN ERYRI. Snowdonia range.
  • YMGYFODI, to rise oneself.
  • TRUM, ridge.
  • GODRE, skirt; borders.
  • TREF, town
  • PENTREF, village.
  • TUDALEN, page.
  • HANESIOL, historical.
  • EFENGYLYDD, evangelist.
  • ANGEL GWARCHEIDIOL, guardian angel.
  • NOETHLWM, bare; exposed.
  • DIBYN, precipice.
  • LLANNERCH, open space; glade.
  • GLASWELLT, green grass.
  • LLECYN, Spot.
  • GWAGLE, empty space; void.
  • ERCHYLL, terrible.
  • RHAFF, rope.
  • SYFLYD, to Stir.
  • GERFYDD, by.
  • CÔL, lap; bosom.
  • GWEGIAN, to sway.
  • GWENDID, weakness.
  • NODI, to mark.
  • CNEIFIO, to shear.
  • EIRIN MAIR, gooseberries.
  • PENFEDDWI, to become giddy.
  • RHIMYN, Strip.
  • YR WYDDFA, Snowdon.
  • BRENHINES Y WEIRGLODD, queen of the meadow; meadowsweet.
  • CYFAREDD, charm.
  • GLASWENWYN, devil's bit; scabious.
  • PENGALED GOCH, red knapweed.
  • BRWYN, rushes.
  • CRAWCWELLT, coarse grass.
  • CORN CARW, buck's horn.
  • MELYN Y GWEINYDD, tormentil.
  • BRONFRAITH, thrush .
  • ASGELL FRAITH, chaffinch.
  • TINSIGL Y GŴYS, wagtail.
  • GWDDWG GWYN, white throat.
  • CLEP YR EITHIN, whinchat.
  • BRONRHUDDYN Y MYNYDD, mountain brambling.
  • ADAR RHAIB, birds of prey.
  • CENLLIF GOCH, kestrell.
  • ADERYN Y BOD, buzzard.
  • ERYR, eagle.
  • HYRDDIO, to hurl.
  • EWIN, claw; nail.
  • LLUDDED, weariness.
  • PADELL, pan.
  • CARREG DÂN, flint.
  • GRISIAL, crystal.
  • HAEN, layer.

VIII

1. Pa dri pheth a ddymunech chwi eu cael yn fwy na dim, a phaham?
2. A ydyw dyn cyfoethog yn hapusach na dyn tlawd?
3. Disgrifiwch sut y credwch chi i'r Tylwyth Teg ymddangos i Jean a Marie.

4. Ysgrifennwch yn eich geiriau eich hun pa dri pheth a ddymunodd Marie, ac yna yr hyn a
ddigwyddodd ar ôl pob dymuniad.


  • GLOYN BYW, butterfly.
  • DARBODUS, thrifty.
  • AELWYD, hearth.
  • JEAN (SION), John (llefarer Jean fel hyn Sîn).
  • MARIE (MARI), Mary (llefarer Marie fel hyn Mari).
  • SLRIOL, cheerful.
  • DYCHMYGION, thoughts.
  • CWMNI, company.
  • BREUDDWYD, dream.
  • UNDONOG, monotonous.
  • TYLWYTH TEG, fairies.
  • CYMRYD PWYLL, to take care.
  • CRANDRWYDD, grandeur.
  • WYNIONYN, onion.
  • PENYD, penance.
  • SMWT, smut.
  • BACHOG, hooked.
  • DEISYFIAD, desire.
  • MELLTITH, Curse.
  • ANDROS, the deuce.
  • ABERTH, sacrifice.

IX

1.Disgrifiwch yr haul ym Mhersia.
2. Pa dri gorchudd a guddia wyneb yr haul yno?
3. A hoffech chwi fyw mewn gwlad heb gwmwl ynddi? Dywedwch pam?


  • DISGLEIRDEB, brightness.
  • TANBEIDRWYDD, glare.
  • ARWYDD, inkling; sign; token.
  • BWRW GLAW, to rain.
  • MASNACH, business.
  • LLACHAR, gleaming.
  • CENHADES, lady missionary.
  • BERW, seething.
  • BEUNYDD, continually.
  • DIFFYG, eclipse.
  • YMLEDAENU, to expand oneself.
  • LLYNCU, to Swallow.
  • CYFLEGR, canon.
  • EFYDD, bronzc.
  • ALCAN, tin.
  • RHIGOL, crack.
  • TYWOD, sand.
  • ANIALWCH, desert.
  • SYMUDOL, moveable.
  • DIFFEITHWCH, wilderness.
  • GWRTAITH, manure.

X

1. Pwy a ddarganfu yr America? A oes sail i gredu mai Cymro a wnaeth?
2. Disgrifiwch, yn eich geiriau eich hun, daith John Evans.


  • ANHYBLYG, Stiff.
  • TRIAWD, TRIOEDD triads.
  • MÔR IWERDDON, Irish Sea.
  • DIFANCOLL, perdition.
  • LLWYTH, tribe.
  • DARGANFOD, to discover.
  • MISŴRI, Missouri.
  • ANTURUS, adventurous.
  • TWYMYN, fever.
  • MACHLUD, setting.
  • YMDROCHI, to bathe.
  • MEUDWY, hermit.
  • HUN, sleep.
  • CROENGOCH, redskin.
  • LLEDDF, plaintive.
  • CHWAETHUS, tasteful
  • GWRAIDD, root.

XI

1. Esboniwch pa beth ydyw'r haul a'r lleuad.
2. Disgrifiwch fywyd yr Indiaid Cochion.
3. Sut yr esboniai yr hen Indiaid yr haul a'r lleuad?
4. Pa un sydd well gennych chwi, ai diwrnod cynnes, heulog, ynteu noson
glir oleu leuad, a phaham?


  • ARUTHROL, immense.
  • PLANED, planet.
  • LLEUAD; LLOER, moon.
  • YMFUDWYR , immigrant.
  • ADDURNO, to adorn.
  • SIAWNI, Shawnee.
  • OBIDSEWE, Obijeway.
  • HELIWR, huntsman.
  • PAITH, prairie.
  • DEWIN, magican.
  • MEDDYGINIAETH, cure.
  • HAFNOS, summer's eve.
  • EIDDIL, slender.
  • HELDIR, hunting country.
  • SWTA, curt.
  • TRAMWY, to wander.
  • ERLIDIWR, pursuer.
  • GWELW, pale.
  • WYBREN, sky.
  • FFOADUR, fugitive.

XII

1. Paham y diflannodd y Dyn Coch bron yn llwyr?
2. Disgrifiwch wersyll y bobl hyn.
3. Darluniwch hwy eu hunain.
4. Pa fath ar gladdedigaeth a roddir i'r Indiaid Coch?


  • BRODOR, native.
  • GWAREIDDIAD, civilisation.
  • ANDWYO, to spoil.
  • HYDD, stag.
  • YCH GWYLLT, bison, buffalo.
  • EOG, salmon.
  • HELWRIAETH, hunting.
  • HUDDYGL, soot
  • CORYN, crown of the head.
  • PRYDWEDDOL, handsome.
  • CAMU, to bend.
  • TANWYDD, faggots.
  • BREGUS, frail.
  • BWYELL, axc.
  • GWERSYLL, camp.
  • LLETYGAR, hospitable.
  • DIRDYNNU, to torture.
  • GWISGI, brisk; nimble.
  • TYMOR. season.
  • CALEDFYD, hard times.

XIII

1. Pwy sydd yn byw yn yr America heddiw?
2. Enwch gymaint o dylwythau'r Indiaid Coch ag a fedrwch.
3. Disgrifiwch yr Indiaid Cochion wedi i chwi ddarllen yr adran hon.
4. Adroddwch hynny a wyddoch o hanes Hiawatha.


  • UNOL DALEITHIAU'R AMERICA, United States of .America.
  • MECSICO, Mexico.
  • CRYNWYR, Quakers.
  • AWGRYM, suggestion.
  • TUEDDAU, district; neighbourhood.
  • CAETHION, slaves.
  • CRYCH, curly; wrinkled.
  • DISGYNNYDD, descendant.
  • PRESWYLIWR, dweller.
  • PRYDEINIWR, Britisher.
  • FFRANCWR, Frenchman.
  • SBAENWR, Spaniard.
  • TWRC, Turk.
  • ANWAR, uncivilized.
  • TSIPEWE, Chipaway.
  • HIWRON, Huron.
  • SIŴ, Sioux.
  • DOCTÔ, Doctaw.
  • TSITASÔ, Chichasaw.
  • TSEROCI, Cherokee.
  • CRIC, Creek.
  • FFYRNIG, fierce.
  • ANRHEITHIO, to devastate.
  • BRECH WEN, small pox.
  • ATIIRONYDD, philosopher.

XIV

1. Beth ydoedd cyfarwyddiadau y brawd i'w chwaer wrth farw?
2. Beth a ddigwyddodd i'r ddau swynwr cyntaf?
3. Adroddwch y campau a wnaeth y Pen Byw.


  • COEDWIG, forest.
  • ANGAU, death,
  • GWENWYNO, to poison.
  • LLID, anger.
  • NODDED, refuge.
  • CAWR, giant.
  • PICELL, javelin.
  • CYFLYMU, to hasten.
  • HEINIF, active; nimble.
  • SYFRDANU, to stun.
  • SAWDL, heel.
  • ARSWYD, dread; terror.
  • BLOEDD, shout.

XV

1. Disgrifiwch unrhyw olygfa ar y môr.
2. A. roddasoch gragen wrth eich clust ryw dro? Beth a glywsoch ynddi?


  • CRAGEN, shell.
  • SU, buzz.
  • CLUST, ear.
  • GWALLGOF, mad.
  • DWNDWR, din.
  • ALAETH, wailing.
  • SUDDO, to sink.
  • SUO-GAN, lullaby.
  • MWYNDER, kindness; gentleness.
  • ANNIRNADWY, incomprehensible.
  • MÔRFORWYN, mermaid.
  • PIGO, to pick up.
  • CLODFORI, to praise.
  • CYFRINION, Secerets.

XVI

1. Os yn y mynydd y mae eich cartref, disgrifiwch y Tylwyth Teg;
os ar lan y môr, disgrifiwch
y môrweision a'r môr-forynion.
2. Adroddwch hanes môrforwyn yr Iseldiroedd.
3. Paham yr aethpwyd i gredu mai môr-forwyn ydoedd y morlo?
4. Tebyg i beth a fyddwn ni pan guddir y tir i gyd gan y môr?


  • BUGAIL, shepherd.
  • CHWARAE MIG, to play hide and seek.
  • DRYLLIO, to wreck to spoil.
  • FFYDDIOG, in faith.
  • RHUFEINIWR, Italian.
  • PLINI, Pliny.
  • ARFORDIR, coast
  • ALBAN, Scotland.
  • ISELDIROEDD, Low Countries.
  • HOYW, sprightly; lively.
  • CYDYMAITH, companion.
  • GWARCHGLAWDD, dyke
  • PORFA, pasture.
  • NYDDU, to spin.
  • YSFA, hankering.
  • CROEN MORLO, sealskin.
  • GERDDI'R SŴ, Zoological Gardens.
  • CYFADDASU, to adapt.

XII

1 A fuasech chwi yn derbyn cynnig Syr Owen? Rhoddioch eich rhesymau tros eich ateb.
2. Beth ydoedd dymuniad y fôr-forwyn fadt? Sut yr oedd i gael ei dymuniad?
3. Dywedwch ei hanes yn ein byd ni.
4. Sut yr achubwyd y fôr-forwyn fach?


  • YSGWRS, chat.
  • NWYFUS, spirited.
  • NI WIW I NI BEIDIO, we dare not.
  • AMOD, condition.
  • EWYN, froth; foam.
  • DWYS, pensive.
  • PENDANT, emphatic.
  • GWEFUS, lip.
  • HYNAWS, good natured.
  • BWRLWM, bubbling.
  • CRIB, crest.
  • ENAID, soul.
  • GWAE, woe.
  • DISTADL. insignificant.
  • GWAWR, daybreak.
  • SWYN, charm.
  • FFODUS, fortunate.
  • ENBYDRWYDD, danger.
  • DIWYD, diligent.
  • CEGIN, kitchen.
  • DYWEDDI, fìancee.
  • ANFARWOL, immortal.
  • OSGOI, to avoid.
  • PERCHEN, possessor.
  • PELYDR, ray.
  • MYNWES, bosom.
  • RHUDD GOCH, ruddy red.
  • DRYGU, to harm.
  • TYWYSOG TANGNEFEDD, the Prince of Peace.
  • SWIL, shy.


XV

1. Disgrifiwch y wlad isfor ger Ynysoedd Sietland.
2. Pa fath ar fodau sydd yno?
3. Pa ddefnydd a wna'r morwr o groen y morlo. A pha ddefnydd a wna'r môrweision ohono?
4. Sut y cafwyd y croen a chollasid yn ôl?


  • SWP, bunch.
  • ODIAETH, exceedingly.
  • UWCHNATURIOL, supernatural.
  • TANFOR, submarine.
  • CWREL, coral.
  • CYNHENID, innate.
  • YSGYFAINT, lungs.
  • DYFROL, aquatic.
  • MORLO, MOELRHON, seal
  • CILFACH, nook.
  • DIOSG, to undress, to take off.
  • LLEDNAIS, modest.
  • ASTELL, ledge.
  • MÔRWAS, merman.
  • MÔRFUN, mermaid.
  • ADENYDD, flippers.
  • PASTWN, cudgel.
  • BLEW SIDANAIDD, fur.
  • BROCH, foam; wrath.
  • CREIGLAN, rocky shore.
  • ADYN, wretch.
  • RHYNDOD, shivers.
  • BRIGWYN, white crested.
  • DYRNODIO, to give blows; to box.
  • PENSYFRDANDOD, dizziness
  • OCHAIN, groaning.
  • DOLEFUS. wailing.
  • YSBEILIO, to plunder.

  • ALLTUD, exile.
  • CLAWR, surface.
  • SWTA, abrupt.
  • YMDDYRCHAFU, to exalt oneself.
  • CYFARCH, to greet
  • MORDATTH, sea voyage.
  • MÔRFAM, mermother.
  • CYNDDAREDD, rage.
  • TYMESTL, storm.
  • CRYNEDIG, trembling.
  • CYTUNDEB, agreement.

XIX

1. Disgrifiwch Dy'n y Gwrych a'i deulu.
2. Dywediuch ym mha ffordd y daeth y trysor i'r bwthyn.
3. Pa fath ar ddyn ydoedd y porthmon? Dywedwch pa beth a wnaeth.
4. Ysgrifennwch gynnwys y paragraff hwn yn ôl fel y tybiwch chwi y digwyddodd.


  • ADFAIL, ruin.
  • GWRYCH, hedge.
  • MASARNEN, sycamore.
  • DAWNSIO, to dance.
  • GLYN, glade.
  • RHAMANTUS. romantic.
  • BRAWYCHUS, frightful. terrible.
  • PISTYLL, cataract.
  • ARADR, plough.
  • GWANWYN, spring.
  • FFUST, flail.
  • HYDREF, autumn.
  • CRASU, to roast.
  • ODYN, kiln.
  • PORTHMON, cattle dealer.
  • GWARTHEG, kine.
  • TRYSOR, treasure.
  • GŴR BONHEDDIG, gentleman.
  • BAICH, load.
  • CYFRINACH, seceret
  • SIW NA MIW, never a word.
  • MODDION, means.
  • AELWYD, hearth.
  • CEIBIO, to pick with a pickaxe.
  • LLENWI, to fill.
  • YMUNO, to join.
  • TRALLOD, sorrow'.
  • PLYMEN, plummet.
  • DIOD GADARN, strong drink.
  • RHEGI, to swear.
  • DIFAI, good enough.
  • CRWM, bent.
  • CYDNERTH, well set.
  • GLIN. knee.
  • DIANAF, harmless.
  • GŴYDD, presence.

XX

1. Disgrifiwch y wlad yn yr haf.
2. Un ai enwch y blodau a welir yn yr hal, neu Ynteu disgrifiwch unrhyw flodyn y gwyddoch
am dano


  • MIINIOG, sharp, biting.
  • RHEW', ice.
  • FFYDD, faith
  • HIRAETH, longing.
  • GRIS, step.
  • GRAEANOG, pebbly.
  • BRITHLYLL, trout.
  • ONNEN, ash.
  • LLYDAFRIG, spreading.
  • MINTYS Y DŴR, horse mint.
  • BLODAU'R DRAIN, blackthorne.
  • MAFON COCHION, rasberries.

XXI

1. Disgrifiwch Gymru. Pa fath wlad yw?
2. Adroddwch y diarhebion Cymreig a ddywed wrthyn am garu Cymru. Esboniwch bob un.
3. Edrychwch ar y darlun, yna ysgrifenwch hanes Dewi ab Ioan.


  • NODWEDD. characteristic.
  • PORTHLADD, harbour
  • GWAE, woe.
  • DIHAREB. proverb
  • DIRMYGU, to despise.
  • GWERIN, democracy.
  • GLOWR, collier.
  • DIYSTYRLLYYD, contemptuous,
  • SARHAUS, insulting.
  • BREICHIAU YMHLETH, Arms folded
  • YSTYFNIG, obstinate,
  • FFOLINEB, folly
  • MERTHYR, martyr.
  • DYRCHAFOL, elevating, exallting

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.