Beirdd y Bala (testun cyfansawdd)

Beirdd y Bala (testun cyfansawdd)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
I'w darllen cerdd wrth gerdd gweler Beirdd y Bala

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader

ARGRAFFWYD I AB OWEN GAN R. E. JONES A'I FRODYR,
CONWY

Rhagymadrodd

ARDAL dawel, ac ardal lenyddol a darllengar, yw ardal y Bala—Saif y Bala ei hun ar gwrr dau blwyf, sef Llanfor a Llanycil. Ohoni, dros Lyn Tegid, gwelir dau blwyf arall, sef Llangower a Llanuwchllyn. Pumed plwy Penllyn yw Llandderfel. A'r Bala yw’r man cyfarfod Yn y gyfrol hon, ni roddir gwaith beirdd yr ardaloedd cylchynol. Ni roddir gwaith beirdd Llandderfel, megis Bardd y Brenin, Huw Derfel, a Dewi Hafesb. Ni roddir dim o waith beirdd niferus Llanuwchllyn, megis Fychaniaid Caer Gai, Sion Dafydd Las, ac Ap Fychan. Cyfyngir y gyfrol i feirdd anwyd yn y Bala, fu’n byw ynddi, neu fyddent beunydd yn ei heolydd. Y mae i’r Bala lawer o hanes. Y mae ci Llyn Tegid, meddir, yn cuddio tref hŷn, a foddwyd am ei phechod. Ỳ mae amlder y blaenau saethau cerrig o’i chwmpas yn dwyn ar gof gyfnodau hela a rhyfela. Y mae ei Thomen, yn ôl pob tebyg, er y cyfnod Rhufeinig o leiaf. Yn yr hen ramantau, cysylltir hi ag enw Goronwy Befr ; ac y mae Aber Gwenwynfeirch Gwyddno, lle tlws, teilwng le i bair Ceridwen, ar lan y llyn gerllaw. Yr oedd ynddi gastell yn amser y tywysogion; a chan ei bod yn sefyll ar derfynau Gwynedd a Phowys, bu llawer o ymladd o'i hamgylch. Cafodd siarter gan yr Edwardiaid, ond mae'n debyg na fu erioed yn rhyw annibynnol iawn ar y wlad oddi amgylch. Ynddi y cynhaliai’r goron Court Leet Penllyn. Yn amser gweu gartref yr oedd yn hynod am ei marchnad hosanau, oherwydd eu gwead manwl esmwyth. Ynglŷn a hanes meddwl Cymru, er hynny, y mae’r Bala enwocaf. Hi yw cartre’r Ysgol Sul. Ohoni hi y daeth syniad am Gymdeithas Beiblau i’r holl ddaear ; un o'i beirdd hi oedd wedi dymuno “ Beibl i bawb o bobl y byd.” Bu ci Sasiynau'n gyrchfa i Cymry am flynyddoedd lawer. Y mae’n gartref Cyfarfodydd Llenyddol er’s cenedlaethau. Gwnaeth gwasg Saunderson ac ereill ohoni ddaioni i Gymru nas gellir ei fesur. Ac yn ddiweddarach, bu'n gartref i golegau dau o enwadau pwysicaf Cymru. Yn y gyfrol hon ceir trem ar hanes meddwl y dref o ddechrau’r ddeunawfed ganrif ymlaen. Ym Morus ab Rhobert ceir adlais o'r Diwygiad Puritanaidd a chyfoeswyr Morgan Llwyd. Yn Rowland Huw a Robert William y Pandy ceir cyfuniad o effaith y Diwygiad Puritanaidd ar lenyddiaeth, oedd megis yn fore i ddydd o ddiwygiad Cymreig, ac effaith y deffroad Eisteddfodol ddaeth a’r mesurau caethion i fri newydd. Pan ddaeth y Diwygiad Methodistaidd, clywodd y Bala ei lais yn ei phregethwyr, Simon Lloyd a Dafydd Cadwaladr, ac yn ei gwehyddion Wiliam Jones a William Edwards. Ac yn y dyddiau hynny daeth Charles i’r Bala Pan ddaeth y Deffroad Llenyddol, cynrychiolir ei wahanol gyfnodau gan Ioan Tegid, Siarl Wyn, Tegidon, a Roger Edwards. Mae beirdd eto yn y Bala.

OWEN M. EDẄARDS.
Llanuwchllyn.

Cynhwysiad

Darluniau gan y diwddar John Thomas

POBL Y BALA YN 1792.

CEIR rhestr o brif drigolion y Bala yn yr "Universal British Direetory of Trade, Commerce, and Manufacture " am 1792. Yn y gwahanol lyfrau teithwyr, gelwir sylw at ei Thomen, at y coed sydd ar ochreu ei stryd, at ei hen freintian a'i Hysgol Rad, at y gwyniad yn y Llyn, ac at ei marchnadoedd hosanau a menyg gwlan.

Yn 1792 y prif foneddigion enwir fel rhai a chartrefi yn ei hymyl oedd Syr W. W. Wynn yng Nglan Llyn a Chaer Gai; Richard Tav. Price yn y Rhiwlas, a William Dolben yn Rhiwedog. A dyma'r lleill,—

CLERGY
  • Anwyl Rev. Rice, Rector of Lanyckil
  • Charles, Rev. Mr. Methodist Preacher
  • Lloyd Rev. Simon (F.)
  • Thomas Rev. Mr. Dissenting Minister
PHYSIC
  • Evans Evan, Surgeon
  • Hughes , Surgeon and Apothecary
  • Lancaster. Mr. Inoculator of Small-Pox
LAW.
  • Pierce J. Attorney
  • Rowland David, Recorder
TRADERS, &c.
  • Cartwright John, EVictualler
  • Charles-Grocer, &c
  • Davies Thomas (F.) Victualler (Siwan)
  • Davies Morris, Grocer, &c.
  • Davies John, Sadler
  • Davies Ellis, (F.) Farmer
  • Davies Gabriel, Grocer, &c.
  • Eaglas Ellis, Victualler (Principal Inn)
  • Edwards Roger, Baker
  • Edwards David, Joiner
  • Edwards Richard, Grocer
  • Edwards Humph. Tinman and Glazier
  • Edwards Robert. Peruke-maker
  • Evans Peter, Farmer and Victualler
  • Evans John, Chandler
  • Evans John, Baker and weaver
  • Hughes Hugh
  • Hughes John, victualler
  • Issac Thomas. Shoe-maker
  • Jones Robert, Glover,
  • Jones William, Smith
  • Jones Hugh, Victualler
  • Jones Lewis, Taylor
  • Jones Robert, Glover
  • Jones David, Master of the Free School
  • Jones Evan, Shopkeeper
  • Jones Griffith, Smith
  • Jones Moses, Smith
  • Jones J. Schoolmaster
  • Jones J. Grocer, &c.
  • Jones Eileanor. Victualler
  • Jones David, Gardener
  • Jones Margaret, Gardener
  • Jones John, Baker
  • Jones Richard. Chester Carrier
  • Jones Hugh. Victualler and Glaser
  • Jones Thomas, Skinner
  • Jones Evan, Skinner and Glover
  • Jones Hugh, Sadler
  • Jones Robert. Glover
  • Jones Evan, Web merchant
  • Jones William, Peruke maker
  • Jones Eward, Shoe maker
  • Jones Rowland, Cooper
  • Jones J. Postmaster and Farmer
  • Lloyd Robert, Corn-dealer
  • Lloyd David, Slater
  • Lloyd Robert. Skiner
  • Lloyd William. Butcher
  • Morris William. Peruke maker
  • Morris Robert. Cooper
  • Owen Thomas, Peruke maker
  • Owen Thomas. Cooper
  • Owen Richard, Shoe maker
  • Owen James, Currier
  • Prichard David, Cordiwainer
  • Randles —Peruke maker (White Lion)
  • Richards Anne, Victualler
  • Robert John, Victualler
  • Robert Hugh, Taylor
  • Robert Edward, Turner and Victualler
  • Roberts Henry. Tanner
  • Roberts Edwaed, Butcher
  • Roberts Griffith, Victualler
  • Rowland David, Shoe maker
  • Williams James Tinman and Glazier

—————————————

Llyn Tegid.[2]


Maint Llyn Tegid


MYFI ar lan hafan hir
Dŵr rhyfedd. diau rhifir
Tair mílldir o dir da,
Wych iawn fodd, o'i gychwnfa
'R hyd aber, rwy'n rhyw dybied,
A milldir a lwfir o led.

Tonnau'r lan
Daethum, wrth ryw ymdeithio
Ar ddrycin, i'w fin fo;
Gwelwn donn, geulan dene,
Yn troi i'r lan tan oer le;
A thonn o'i hol, ffrwythol ffres,
Ar ddwad i'w gorddiwes;
A'r drydcdd oedd, floedd flin
Nod aiaith, yno i'w dilin;
Bob yn un, bu boen anian,
Tra mawr lu, yn tramwy i'r lan

Pan elai, mewn poen eilwaith,
Dau naw mil o donnau maith;
'Roedd rhyfedd arwydd rhyfawr
Yr ugain mwy o'r eigion mawr.

Y donn olaf.


Tair ias drom, teriais dro
Yn hwyr iawn yn hir yno
I weled gwedd a diwedd da,
Weithian, y donn ddiwaetha;
Tariwn i hyd hwyr nos
O'i herwydd yno i'w haros;
Nid oedd, orfaith helaeth hynt,
Ddu ddyrnod, ddiwedd arnynt.

Llyn Arall.


Ag ar hyn o gywir hanes,
Cyfleusdra ag odfa a ges
I fyfyrio, tro trwch,
Dyddie'r annedwyddwch
A geiff y dyn cyndyn cas,
A soddwyd gyda Suddas.

Dull y llyn hwnnw.


Gwyliwn byth, gwae el o 'r byd,
I ddalfa tragwyddolfyd
Lle mae'r boen, llwm arw bant,
Archoll gwŷn, erchyll geunant;
Llyn du o dân, llanw di-dorr,
Gwae gan dyn y gagendor;
Llwyr wael fodd, lle'r ail fyd,
Llithrigfa llwyth o ddrygfyd;
Pwll y diawlied, pell y delom,
Bob un draw o'i boen drom;
Pair o dân, pwy red yno,
Dan y gwae, ond dyn o'i go?

Gwae a rediff, garw ydyw,
I gefn tân digofaint Duw;
Wylofain, llefain hyll wedd,
Rhwnc yn dynn, rhincian dannedd
Oerfel trwm ar fil tru,
A rhew anwyd i'w rhynnu;
A gwres byth, lle cras boethan,
Uthrol a dieithrol dân;
A'u dwylaw a'u traed, dial trwm,
Yno i'w cael yn un cwlwm;
Mewn tân, brwmstan, a braw,
Cythreuliaid yn caeth riwliaw;
Yn suddo'n syth byth tra bôn,
Dyna fisdiff, dan y faesdon;
Heb liw dydd, heb le diddan,
Heb lawnt teg, heb wely ond tân;
Heb loer, heb ddŵr oer, aruth',
Heb ffrwyth ŷd funud fyth.

Galar y Llyn Tan


Wylant hwy fwy na môr,
A'u llyged fel hyll ogor,
Yn hidlo dagre'n hedli,
Tragwyddol a greddfol gri
Enaid a chorff heb orffwys,
A'u barn fydd arnynt yn bwys.

"Byth" a Chydwybod.


Ond dau beth, i'm tyb i,
Swydde pen, sydd i'm poeni,—
Y gair "Byth," gwae oer 'u bod,
Och didwyll, a Chydwybod.
Gofynnant, yn gyfan gaeth,
I Gydwybod mawr nod-maeth,—

"Ai byth y rhoddwyd ein barn
O cywir gadael cwyn gadarn?"
Cydwybod fel mil yn ddilyth,
Ddiwid boen, a ddywed "Byth."
"Ti wyt yn siwr yn datsain
Crug lef fel carreg lefain;
Cwyno raid mai cnoi'r ydwyt,
Cry fwystfil di-eiddil wyt,
Blaenllym llais, yn llawn dig,
Blin waew heb le i'w newid,
Na gobaith, Duw sy'n gwybod,
Draw er hyn droi y rhod."
" Gweli yn hir, galon haearn,
Odfa ferr wedi'r farn,
Munudie fel dyddie ar donn,
Ag orie fel misoedd geirwon,
A phob mis, gwyddis ar goedd,
Blin addfed, fel blynyddoedd,
A blynyddoedd fel oesoedd ysig
Dan wialen Duw yn llawn dig,
Ag oesoedd yn filoedd a fâi,
A'u tyniad fel y tonnau;
Godde'n dynn, gweiddi'n dost,
Melldithio'r man lle daethost;
Rhegi'r dydd, oer ludd, ar led.
A'th einioes gynta i'th aned;
Rhegi'th fam, rhy gaeth fodd,
Was gerwin, a'th esgorodd;
Crêu am angeu tene tau,
Er dibenu dy boenau;
Ni wna Ange a'i gledde glas
Gam yno o gymwynas;
Ond byw sydd raid, fy enaid, fyth,
Distyrrwch sy dost aruth;

Angylion, a dynion da,
A'th Dduw wedi, a'th wawdia
Am wrthod dydd rhydd rhad
Ei drugaredd a'i gariad."

Apel y Bardd.


Clyw, ddyn, rhag cwilydd wyneb,
Weithian wyt waeth na neb;
Ai carreg dan freudeg fron,
Dew galed, yw dy galon?
Ai cyff o bren, coffa heb raid,
Plwm dinerth, ple mae d' enaid?
Ai 'nifel gwâr isel gresyn,
Arwydd dost, ar wedd dyn?
Ystyria yn awr, os dyn wyd,
A dewis yn fwy diwyd;
Ofna'r boen yn fawr byth,
Uffern erwin a'r ffwrn aruth';
Ofna Dduw yn fwy, O ddyn,
A dechre cyn amser dychryn;
Gwylia ymroi, galw am ras,
Cei feddyg fo cyfaddas;
Rhed ato, mae'n rhaid iti,
Galw'n llym, ag wyla'n lli;
A dwed,—"Arglwydd rhwydd rhoddfawr,
O madde i mi 'meie mawr;
Clyw weithian un cla athrist
Yma yn crêu, er mwyn Crist,
Am f'achub o'm haflan fuchedd
Cyn y bwy acw'n y bedd;
Na ollwng fi o'th law allan
I uffern dost a'r ffwrn dân."

Morris ap Rhobert a'i Cant.



Llyn Tegid.

Pe buasai'r Llyn goleuwyn gynt
Yn gwrw bir uwch gwarr y Bont;
Y beirdd heirdd dibrudd eu hynt
Hyfoesawl a'i hyfasant.

Mawr y drwg mae'r darogan—helbulus[3]
Am y Bala druan;
Y daw'r môr drwy y Marian,
A'i ddwr fyth i foddi'r fann.

Gwrandewch o mynnwch i mi—rhag angcn
Roi rhyw gyngor ichwi,
I gadw hon, Duw gyda hi,
Rhag diliw rhawg i'w delwi.

Gwna'r Llyn yn gerwyn i gyd,—a berw
A bwrw frâg hefyd,
A galw'r beirdd gloewa o'r byd
Ddewis budd i'w ddisbyddu.

Y gwŷr hyn sy gywreiniach—na Dewi
Os deuant i gyfeddach;
Ar ei lann pa rai lonnach,
Mi a wranta 'r Bala bach.

EDWARD SAMUEL[4]

Eisteddfod y Bala [5]

Dydd Llun y Sulgwyn, 1738.

—————————

i. ANNERCH Y BEIRDD.
Mr. Edward Wynne a'i Cant.


HARRI PARRI.


HARRI fab Harri, purion—yw d' odlau,
Didlawd gynghaneddion;
Dealldwrus, gweddus, gwyddon,
Am seiniad a llusgiad llon.

ROWLAND O'R PANDY


Rowland Sion dirion d' araith —da gwn i
Dy ganiad sydd berffaith;
Mwyn y medri mewn mydrwaith
lawn hwylio ac eilio gwaith.

JOHN JONES, LLANFAIR.


Sion ab Sion, heb ddim swn,—mae'n brydydd
Bwriadol digwestiwn;
Ag undyn ar y gwndwn
Yn dra hardd fo dreia hwn.

DAFYDD IFAN HYNAF


Dafydd, da 'wenydd ei waith—a doethedd
Hyd eitha prydyddiaeth,
Pur eiriau, pôr yr araith
A pher iawn i'w phurion iaith.


GWILYM AB IORWERTH, LLANFOR


Cynghanedd dda sylwedd, nid sal,— heddyw
Nid hawdd gael ei gystal,
Na'i thebig, mae'n waith abal,
Llwyra deyd, llawer a dâl.

ELIS CADWALADR.


Cynghanedd groewedd bob gris,—a geiriau
Rhagorol i'w dewis;
Pe'i chwiliech, ni fynnech, fis,
l'm bryd, ail i'ni brawd Elis.

Athronddysg gronddysg gywreinddoeth,—Meirionddysg
Gyflonddysg gyflawnddoeth;
Nid gwirionddysg, gŵr iawnddoeth,
Tirionddysg, llonddysg, llawnddoeth.

DAFYDD AB IFAN IEUENGAF.


D. ab Ifan fwynlan fant,—y prydydd
Pur odl di-fethiant,
A geiriau da, mae gwarant
Da iawn ei go, dyn o gant.

SIAN ACH IFAN.


Canmoliaeth i'r eneth a ro—beunydd,
Ble bynnag yr elo;
A llwyddiant i'w holl eiddo.
Dedwydd fyd yn y byd tra bo.

Y BEIRDD OLL.


Diolchaf a chanaf i chwi—trwy gilydd
Tro i galon ddiwegi;
Fe ddaw inni ddaioni
Byth yn' Nuw tra bytho ni.

—————————————

ii. Y BEIRDD YN MOLI.

I MR. EDWARD WYNNE

Pen bugel Duw Daniel, dad union—yw Wynn
Ddiwenieth ei foddion;
Oleu eiriau, ail i Aaron,
A'i sylwedd mae fel Solomon.

I JOHN LLWYD RHIWEDOG.


Pen siri inni, enwog,—oes gywir,
Yw sgwiar Fachddeiliog,
A gwir aer i'r glaer aur glog,
Rhi odieth, a Rhiwedog.
Edward Jones, Bodffari

Perl pur lle ei adwaenir, Llwyd enwog,—paen siriol,
Pen siri galluog;
Wr ara glân, aur ar ei glog,
Yw'r aer odiaeth o Riwedog.
David Evans

Pedwerydd John, llon ddull enwog,—o wres dawn,
Aer stad Riwedog;
Tri eryr natur eurog,
Siwra glain, sydd ar ei glog.
Ellis Cadwaladr.

I SYR WATKIN WILLIAMS WYNN.

At Watcin, brigin ein bro,—glau wyneb,
A'r glana o Gymro;
Ceidwad gwych gwlad, a'i chlo,
Deg hyder, Duw a'i cadwo.
Ellis Cadwaladr.

At iechyd hyfryd hwn,—Watcyn
Yw utgorn, debygwn;

Di-faswedd a da ei fosiwn,
O gariad mewn tyniad twn.
Sian Evans.


I JOHN MORGAN.


Cydfolwn, canwn er cynnydd,—i Sion,
A seiniwn fawl newydd;
Paen parodwych, pen prydydd.
Gwir aer ffel' o r cywir' ffydd.
Gwilym ab Iorwerth.

I SIAN EVANS.


Croeso, Sian, hoewlan hawl,—aur belydr,
I'r Bala le grasawl;
Sian wyr maeth synwyr mawl,
Sian Evans, dwysen nefawl.
Ellis Cadwaladr.

SIAN LAURENCE.


Sian, loer oleulan, liw'r lili,—dwyscn,
Dewisol ei chwmni;
Mwyna dynes mewn daioni,
Fel y glain hardd, glân yw hi.
Harri Parri.

I WLLLIAM PRICE Y RHIWLAS.


Yn Rhiwlas mae gras yn gry—i'r Preisiaid,
Pur rasol drwy Gymru;
Mae'r faenol yn dal i. fyny,
Drwy wyrthiau da call un Duw cu.
John Jones, Llanfair.

Mr. Price mewn dyfais da,—o'r Rhiwlas,
Rheolwr mwyneidd-dra;
Mewn awch cu melus mi'ch camola,
Naws heno heb gudd os hynny a ga.


CORBED OWEN.


Aer Rhiw Saeson, lon lwyn,—sy gynnes,
Ac Ynys y Maengwyn;
Rhoed Duw Tad, dygiad digwyn,
Lân aeres i'w fynwes fwyn.

Mae'n barchus weddus wawr,—byw les,
Gyda'i blasau gwerthfawr;
Megis angel hyd elawr,
Perl mwyn sir Drefaldwyn Fawr.
Ellis Cadwaladr.

I'r Gwin Coch.


Potel gron wiwlon a welaf,—ar y bwrdd
Rhwng y beirdd mwyneiddfiaf;
Y gwin coch, gwn o caf,
Fwya gwir, ef a garaf.
Gwilym ab Iorwerth

Apel Ddifri.


Beirddion dyfnion, nad ofnwch—mo'r canu
Mêr cynnydd diddanwch;
Mewn synwyr y mwyn seiniwch,
Ow, un fflam o awen fflwch.

Nid mawl dethawl a doethedd—i ddynion,
O ddeunydd anwiredd;
Ond mawr-glod, trwy wiw-nod wedd,'
I Dduw a'r Oen o ddewr rinwedd.
Robert Lewis.

Cydymdeimlad.


Bardd hwylus, ddawnus ei ddydd,—wyt Robert
At hybarch awenydd;
Nid ofer onid Dafydd,
A genyf fi, egwan fydd.
David Jones' o Drefriw.


Gwahoddiad.


Dowch, Dafydd, gelfydd galon,—a Robert
Oreubarch o foddion;
I dy'r sir, difir dôn,
Bryd addas at brydyddion.
Ellis Cadwaladr.

I Ellis Cadwaladr.


Llawen dda awen ddiwair—wna i Ellis
Iawn eilio dewisair;
A chelfyddyd, groew-bryd grair,
Gorau i gyd gŵr y gadair.
Edward Wynne.

iii. CANMOL Y BALA A LLYN TEGID


Tre'r Bala, llonna llannerch,—tre oediog,
Tre odiaeth ei thraserch;
Tre hynod, tro i'w hannerch,
Trwy eiriau sain troiau serch.

Dwy ffynnon digon degwawr,—daith cydwedd,
Daeth cydiad ffrwyth dirfawr;
Dewr ennwyd y dŵr unwawr,
Difri da fodd, Dyfrdwy fawr.

I Benllyn, irwyn oror,—y rhediff
l'r rhydau sy ym Maelor;
Gyrr longau i Gaer le angor.
Oddiyno mae ei ddwy'n y môr.
Edward Jones, Bodffari.

Tre farchnad y wlad loewdeg,—tre'r Brynllysg
A Bronllwyn eglurdeg;
Tre'r Bala i dyrfa deg,
Tre'r llwyn gwawd, tre'r llyn gwiwdeg.
Ellis Cadwaladr


Dwy ffynnon ddyfnion ddiofnwaith,—radol,
A redan ar unwaith;
Ac i'w galwyd, deg eilwaith,
Dwfwr dwy, diofer daith.[6]
Rowland Sion o'r Pandy.

Serchog ddyfrog ddaufryn—llawn tegwch,
Llyn Tegid, gyferbyn;
Rhwyddgar le'r hawddgar lyn,
Mewn mur panlle mae môr Penllyn.
David Evans

Tre'r Bala brofìa ger bron,—tre gannaid,
Trwy gynnal prydyddion;
Tref enwog tyrfa union,
Mynwes aur am hyn o son.

Tre Rhirid ddilid dda lon,—Flaidd arglwydd,
Floedd eurglod ei ddwyfron;
Gwyrdd arail i gerddorion,
Iraidd gre ar ddaear gron.

Tre Degid enwid union—gardd ganu,
Gerdd Gwynedd, gymdeithion;
Y gân irwydd, gain aeron,
Swydd iawn hedd, sy heddyw'n hon.

Tre Benllyn, gwiwlan galon,—ardderchog
Urdd archiad brodorion,
Rhagorol dan y goron
I hulio cerdd Helicon.

Tre Uwchlyn gyfun gofion,—o bur ddawn
Aber-ddysg athrawon

Hofieiddlwys, hy, a ffyddlon,
Oreuliw bryd ar ael bron.

Tre Ycil, beryl burion,—fan werthfawr,
Fwyn o wyrthiau mawrion;
I'w phennu yn hoew ffynnon,
O rad y ffydd eurad ffon.

Tre Gywer dyner, dynion—a'i galwant,
Galant yw, a thirion;
Trefnus wastad ty weston,
Am eiliad aur mal had onn.

Tre Lanfor agor eigion—dysgeidiaeth,
Dwys gadarn merthyron;
Yn golwg lleng o angylion
Mwy'n ne'n wiw mae nhw yn Ion.

Tre Dderfel dawel Deon—Edmwnd Prys
Diamond prif wir Gristion,
Gorchwyl Duw, goruchel dôn,
Fryd arwydd, frawd i Aron.

Tre dramwy Dyfrdwy deifrdon,—rhedegog
Rhyd ogwydd Caerlleon;
Man dethol am win doethion,
Gwawr ebrwydd i gaer Ebron.

Tre weddedd fawredd Feirion—sir odieth.
Siwr ydyw, disgyblion;
Caer degwych caredigion,
Bair addysg o Beryddon[7]

Tre Eisteddfod hynod hinon,—mwy hylwydd,
Mi alwaf hi Banon;
Bun Gwynedd yn ben ganon,
Modd dyb sydd, medd D. ab Sion.
Dafydd Jones, Trefriw.


G. AB IEUAN.

[Dyma ddarnau o un o ysgriflyrau Rowland Huw. Ysgrifenwyd ar ddiwedd Cywydd yr Haf—'G. ab Ieuan, Bala, a'i cant; yr unfed flwyddyn ar bymtheg o'i oedran']

i. GAEAF AR Y BERWYN

BERWYN, glaerwyn ei glog—gan eira
Gwyn-oer, mae'n afrywiog;
Helaeth, heb fawr le haulog,
Ni chan gan eos na chog

Llydan yw’r mynydd lledoer—maith unig,
Amwyth iawn a phuroer;
Nid rhywiog ennyd rhew-oer
Bwrw niwl ar y Berwyn oer

Oer ddwl oedd nifwl y nos,—a minnau
Am ennyd o ddiddos ;
Oer iawn wg eira ’n agos,
A rhew ar fynydd a rhos.



ii. DIWEDD CYWYDD YR HAF.

Er bod rhai am y gaeaf,
Minnau o hyd mynna haf;
Am y gwanwyn mi gwynaf
Er h'wn daw'n fuan yr haf;
Duw, am hynny dymunaf
Yma o hyd imi haf;
Duw, it geinwych datganaf
Gerdd hyfryd ar hyd yr haf;
A melus dant y molaf
Yr Hwn sy'n rheoli'r haf;
A thant a nabl parablaf
I'r Hwn sy’n goleuo'r haf;
Cynnes i Dduw y canaf
Os rhydd i’m Iesu, a’r haf.


ELIN HUW

[Cyfansoddwyd y ddau bennill hyn gan Elin Huw, chwaer Rowland Huw o'r Graienyn, ar ddiwedd dwy flynedd o afiechyd, Rhag. 31, 1762.]

I

DAW terfyn ar fy ngofid,
Cai fynd yn goncrwr llawn,
Waith Iesu ar Galfaria,
Fu'n talu troswy 'r iawn;
Er teimlo ynw i luoedd
O bob rhyw lygredd llym,
Mi gana i dragwyddoldeb
Er pechod mawr ei rym.

II.
Er bod gofidiau yma,
A'r tonau mawr eu stwr,
Yn rhoddi f'enaid egwan
Yn fynych tan y dŵr;
Er maint yw rhwydau Satan,
A'i saethau mawr eu llid,
Cai lechu yn mynwes Iesu
Tra byddwyf yn y byd.



ROWLAND HUW Y GRAIENYN,

[Ganwyd Rowland Huw yn 1714. Amaethair Graienyn, ar y llethr ar ochr Llangower i'r llyn. Ys oedd yn ystiward hefyd i'r Fach Dddeliog a Rhiwedog. Yr oedd yn enwog ymysg llenorion ei oes, yn athro i feirdd ardaloedd y Bala, ac yn gasglydd llawer o brydyddiaeth ei oes. Aeth Robert Saunderson a rhai o'i ysgrif lyfrau i'r Amerig tuag, 1850. ac wedi boddi hwnw yn afon Alabama, collwyd rhai o'r ysgriflyfrau drwy dan. Ond y mae llawer iawn o'i waith yn aros eto. Claddwyd yn Llangower. ochr y llyn i'r eglwys, Rhag, 16. 1802. Gwel Cymru., 108–197.

Anfonodd rhyw fardd yr englynion hyn iddo.—


Hyn sydd mwyn brydydd mewn bri—oganiad
I gynnig dy holi
Dy enaid a'th daioni
O'm gwir fodd a garaf fi

A'i gwenu a'i gwgu mae gogwydd—rhad byd
Rhaid bod diwydrwydd
A deall gwâr cyfarwydd
I drin dy cysefin Swydd

Adwaen, y cywrain ŵr cu—dy wyneb
A'th ddoniau'n prydyddu
Ni chefais hanes wyf hy
A'i da lot yw dy lety

Ai dedwydd dy dyddyn—a gwelltog
A'i gelltydd ai dyffryn
Ar achos dangos y dyn
A gair o enw y Graienyn



Yn dilyn ceir ateb Rowland Huw.

i. Y GRAIENYN.

GAIR a gefais o gariad—goreu dawn
A gair dwys ymholiad,
Gair prydydd a dedwydd dad,
Gair o annerch gwir ynad.

Hawdd it gael ansawdd gwael unswydd,—nodais
I'th wneyd yn gyfarwydd,
O gyflwr euog aflwydd,
Di-les ac ychydig lwydd.

Tir ac annedd trigianol—ti wyddost
Mai tyddyn ardrethol
Sydd iddo, ansawdd weddol,
Nid mewn bryn, dyffryn, na dôl.


Drysni a meini lle mynnir,—a choed
A chydig weirglodd-dir,
Puraf ardal porfardir,
Lleiat yw'r dorth llafur dir.

Coedydd a derwydd llawn dail,—oer loches
Ar lechwedd, yw'r adail;
Gwael gewyll serfyll eu sail,
Dyrys-gae a drws gwiail.

Galwad sydd yn gyhoeddus—i wemi
Gwr enwog a pharchus;
Nid oeddwn Frytwn, a'i frys,
Llaw ddinerth, yn llwyddiannus.

Gofalon ddigon a ddug—achosion,
A chwysu gan ddiffyg,
A gofal fel pel mewn pyg,
Wr ceulus yn mrig helyg.

Mae'r enw, er mor anial—y lle
A'r lluest cyfartal,
Fel cerbyd ar ergyd âl,
Wawr groendew ar y growndwal.

Un o'r mân raian[8] a rodd—yr enw,
A'r annedd a'i cafodd;
Cai ar gân od yw anodd
Dull ei faint, deall ei fodd.

Mae naw deg yn myn'd o'i ogylch,—troedfedd
Tro edef o'i amgylch;
Llawn iawn gorff llinyn ei gylch
Ef yw eurgain ei fawrgylch.

Uchder o nifer yn wir—tros ethol,
Tri seithwaith a rifir,

Troedirddau golau gwelir,
Iacha lein teg uwchlaw'r tir.

Llyna faen teg, raen digryn,—diamau
Mai dyma'r Giraienyn;
Carreg o'r gwarn i'r coryn,
A ger llaw i gwrr y llyn.

ii. ARWYRAIN YR AWEN.

Ei dull godidog gan dduwiolion yn y wir eglwys, gydag
ychydig o ansawdd y cenhedloedd yn ei cham-ddefnyddio.

i.
Deffro, ddawn uiawn enwawg—boreuol
Ber awen odidawg,
Ymadrodd y beirdd mydrawg,
Fry ar hyn myfyria rhawg.

Nefawl ser, mor bêr y borau—cynnar
Y canant fwyn odlau;
Cae Adda ddawn cywyddau,
Gân wiw glod ag awen glau.

ii.
Doniau rhad, Duw on a'u rhodd,
Un Enos a eneiniodd,
Ac Enoc gynt a ganodd fawl llafar
Oes gynnar esgynnodd.

iii.
Yma bu'n dyst meibion Duw,
Can deilwng cyn y diliw;
O lin i lin meithrin mawl,
Yn briodawl un bri-Duw.


Iob a'i gadarn alarnad,
Aml gwynion a mawl ganiad ;
Hediadau mydr, ddiwydr ddawn,
Gŵr uniawn a gwir ynad.

iv,
Bu badrieirch ddwyfawl eirchion,
Ar brif eglwys loew lwys lên;
Llaws cataidd llais cytun,
Pura côr in per wau cân.

Taflwyd y march i'r gwarch gurf,
Y marchog, tacog, a'u torf;
Cerbydau mewn tonnan twrf,
Llwyra tâl, llaw Ior a'u tarf.

Ond Israel, Duw hael a'u dug,
Trwy ddwfr a thân, â chân chweg;
Cloddiant lyn a'u ffyn heb ffug,
Ffynnon tywysogion teg.

v.
Diau Barac a Debora
Canant emyn gytun gu;
Cawn hanes canai Hanna,
A Dafydd, pen llywydd llu.

vi.
Solomom, sail
Wiwdeg adail,
Olau eiliawd
Fil o folawd.

vii.
Rhodd Duw yw rhwyddwawd Awen
O'i ras hael er yr oes hen,

I rai ethol rhoi weithian
Ag a rydd dragywydd gan;
Ei ysbryd Ef sy'n llefain
Trwy lân awen gymen gain,
Effeithiol ragorol gân
Yn yr eglwys rywioglan;
Brenhinoedd bronnau hynaws,
A lenni nwyd llawn o naws,
Uchelwyr mwyaf achlan,
A phob gradd a gadd y gân;
Canai wragedd rhinweddawl,
Un dull a'u beirdd, fwyn-geirdd fawl;
Cyson adsain llancesau
Emyn i'w mysg i'm Ion mau.
Arddelwyd yr addoliant
Yn eu plith o enau plant.

viii.
Caniad eurwerth cenadwri
O rad enwog a roed ini,
Proffwydi, pur hoff ydoedd;
Llyma geiriau llawn o gariad
A chysgodau i achos Geidwad
Mabwysiad ym mhob oesoedd.

ix.
Angylion eang olud
I'r byd a roe wybodaeth,
Hedd ganwyd, hedd ganan,
Ewch darian iechawdwriaeth;
Yno 'roedd iawn arwyddion
Can gyson cynnyg Iesu;
Etifedd nef y nefoedd,
Gŵr ydoedd i'n gwaredu.


x
Can Simon loewfron wiwlwys,—ac Ana
A iawn arogla yn yr eglwys;
Gair Brenin, deufin gledd dwys—saeth cariad
Bwa, a'i rediad o Baradwys.

Apostolion a'u hapus dalent,
Gywir fawl Addaf gorfoleddant,
Mewn pur addas mwyn pereiddiant—odlau,
Mal un genau mawl Ion a ganant.

xii.
Bu doniau nifer dan y nefoedd,
Mydrau cain odlau, ir cenhedloedd,
Firsil wawdydd a'i fawr sel ydoedd.
A Horas gu addas gyweddodd;
Homer, Pindar pond oedd—i'w gân
Dall dduwinsau dywyll—ddu oesoedd.

xiii
Palfalu canu fal cynt—i'r bydoedd
A'r bodau a welynt;
Achwyn a fydd na chanfyddynt
Y Bod oedd yn llywio hyd iddynt ;
Ond braidd ydoedd y breuddwydynt
I'r Oen addwyn, er na wyddynt
Moi anian hoewlan helynt.—enwedig
Duw unig ni 'dwaenynt.

xiv.
Felly 'r oen ninnan all o'r un anian,
Ymroi i bechu bob mawr a bychan,
Caniadau diflas yn al cnawd aflan
Oedd o goeg agwedd eiddig a gogan;

Estroniaid i'n caid a'u cân—i feddiant
Neu fawl gogoniant y nefol Ganan.

A ni yn dynion lon a luniodd
Drosom o'i gariad, drws a agorodd;
Ei fwyn fugeiliaid, Fle a'u galwodd;
Iawn edifeirwch i ni adferodd,
Mabwysiad ei rad a'i rodd,—Trugaredd
Gras ei rinwedd gwir Iesu a rannodd.

Duniau ardderchog, dyner dda orchwyl,
Bwriad daionus ysbryd Duw anwyl,
Glan achawdwriaeth glynwch hyd arwyl,
Wele ferch Seion, purion ddarparwyd,
Ai thympan hoewlan mewn hwyl—i ganu
Araith i'w dysgu, hiraeth o'i disgwyl.

xv.
Caniad Seion,
Mawr sain aeron,
Mor soniarus;
Dawn gynghanedd,
A gorfoledd
Gywir felus.

Llais y durtur,
Bibau eglur
I bob egliad;
Gair efengyl,
Sain digweryl
Sy'n dy gariad.

xvi.

Dall priodferch,
Unig annerch,
Dinam draserch;

I gyfarfod
Ei gwir briod
Ar ryw ddiwrnod
I'w addurno.

Pob alltudion,
Bychain, mawrion,
Oedd a chalon
I ddychwelyd;
Rhoes Duw nefol
Ras ysbrydol
Edifeiriol
I'w hadferyd.

xvii.
Nawr gwell awen na'r galluoedd,
Addurn ufudd i Dduw'r nefoedd,
Digaeth ryddid a gweithredoedd,
Cyfnewidiad cyfan ydoedd.

xviii.
Dyma (wyn dynier,
Ansawdd o nawdd Ner,
Eur feirdd yn arfer
Gwiwber ganiad;
Oedd awen dduwiol,
Bridwerth ysbrydol,
O ddinam wreiddiol
Ymarweddiad.

xix.
Och, nid felly mae canu cynnen,
Ond dreigiau euog yw drwg awen;
Celwyddog ddiaíol, hudol hoeden,
Dad ei herwyr diwyd a'u harwen.


—————————————



xx
Byd am ryfyg bod ymrafel,
Cynnyg ebyrth Cain ac Abel,
Seion Ion enwog
Rhag saethau gan Gog
A Magog ymogel.

xxi.
Dewis wyryf, dy seren
Wawr a dorrodd o'r dwyren;
Efengyl na fae angen,
Gras Duw a gwersi dien;
Cariad eurwerth cred aren
Ysbrydol is wybr Eden;
Pob duwiol ddawn yn llawn llwydd
Iawn Lywydd anwyl awen.

xxii,
Dod, Ior, dad iaith,
Mwyn gôr mewn gwaith,
Mal môr mawl maith,
A mil mwy
Mwynhau mewn hedd
Ter fau tirf wedd
Dy glau deg wledd,
A di glwy.

xxiii.
Mwy ni flinant, mae yn flaenor
Iesu maelor, weis a'i molant;
Naf a garant, nef yw goror
Caer tŵr Ifor cu cartrefant.

xxiv.
Gwiw Ne gannaid, gynau gwynion
Llys duwiolion, llais dialaeth,

Byrddau euraid a beirddorion,
O newyddion awenyddiaeth;
Telynorion, palmwydd gleision,
Ebyr oerion, wiw beroriaeth;
Dedwydd Seion, gwaredigion,
A chyd aeron iachawdwriaeth.

Cân Moses, felus folant,— cân yr Oen
Cawn rinwedd ei haeddiant;
Cân y ffydd sydd i bob sant
Ar a ddel i'r addoliant.

Dy glod mawr hanfod mor hen,—o newydd
Fy Nuw, a'm gwir berchen,
Tragywyd y trig awen
A llais mawl i'th llys. Amen.

iii. AWDL Y DDANNODD.
Phisygwyr a gwyr o geraint—Brydain
A'm brodyr uchelfraint,
Dewch, mynnwch im enaint,
A dwfr da i adfer daint.

Lluddio hun a lladd henaint—edwindod
Yn dwyn dydd iselfraint.
Diau dyfod dioddefaint
A chwys dwys o achos daint.

Pa greyr, pwy fethyr, pa faint—poenodrist,
Pa nadroedd a llyffeint.
Pa ryw chwil sydd mewn cilddaint
Yn gwywo dyn gan waew daint?

Rhyw gŷn gronyn fel gwraint—o drallod
Yn dryllio fy merddaint,

Cenau aelddu canolddaint
Gwenwyn dart i gonyn daint.

Locust, bry athrist mewn braint,—a llew byw
Yn lleibio fy merddaint;
Bloedd calon ddelff mal celffaint,
Un cenau dig, yn cnoi daint.

Palfog wadd a gadd geuddaint,—i'w dirio
Fel dera neu farchwraint;
Brad arnaf, briw di-enaint,
Cwlwm wŷn dost, clwy mewn daint.

Mwy cryd naws gofid na sgyfaint—poenus,
Ar pen yn anghywraint;
Byrbwyll ag anwyll gymaint,
Cwyn ddir dost cynddaredd daint.

Arafwn, sobrwn fel saint—gwell ydyw
Rhag llid a digofaint;
I'n cyfwrdd, wanna cwfaint,
Mwy ffin ddwys na phoent y ddaint.


iv. I GRUFFYDD HUW AM FAIP.

Cymydog hafog a'i heufaip,—gwiw lwys,
Ymgleddwr melyn-faip,
Rhoddodd, anfonodd im faip,
Rhywiog erfai rhagor-faip.

Gruffydd a orfydd wir-faip,— un hylaw
Yn hulio llafur-faip;
Boreu'n arfer braenar-faip,
A chyn mis yn chwynnu maip.

Cyfaill a rhandir at faip—llawn gwyrddddail,
A gerddi mamogfaip;

Goreu gwr, ffurfiwr ffeirfaip,
Am ymdrin a meithrin taip.

Aed ar led lifed oleufaip—had ferw,
Ryd Feirion yn frasfaip,
Ac yn Arfon gynnar-faip,
A gwlad Fon yn glwyd o fap.

Cal had afrifiad o freu-faip,—a dwg
Im ddigon o goch-faip,
Tirfiaf yn pori ter-faip,
Cael maeth wrth yfed cawl maip.

Ar eu canfed y bo cyn-faip—Gruffydd,
Gŵr hoffus ei blan-faip,
Gwnawn geirdd, wych-feirdd, i'w iachfaip.
Ebrwydd fawl am beraidd faip.


v. YSTYRIAETHAU

Ar addewidion Duw i Israel am Ganan, ac yn ysbrydol pererindod y Cristion i'r Ganan nefol.

Pererin gwael wyf fi o'r llwch
Yn teithio anialwch Paran.
Yn ffoi i'r Aifit rhag Pharo a'i lid,
Ac ennill rhyddid Canan.

Yr hyn nis gallaf ar fy nhaith
O'm nerth a'm gwaith fy hunan,
Y Prenin sydd i'm galw'n nes
I mewn i'w gynnes Ganan.

Efe a draethodd act y gras,
Pan oeddwn gas ac aflan;
Cawn fynd er maint y storm a'r stwr
Drwy ganol wr i Ganan.


Efe a'r dug drwy nerth ei fraich,
Er maint fy maich a'm tuchan,
I gael yr etifeddiaeth rad,
A'm cynnal yng ngwlad Canan.

Fe wna'r dyfnderoedd yn dir sych,
O'r graig fe wlych bob safan,
Nes mynd o'i etholedig blant
I wlad gogoniant Canan.

Chwychwi had Abram oll i gyd,
Plant yr addewid burlan.
Yw'r rhai sydd gennych lygad ffydd
I weled cynnydd Canan.

Y rhai sydd wael heb hawl neu werth,
O'u grym a'u nherth eu hunan;
Ond sydd a'u hetifeddiaeth rad,
Ddigonol, yng ngwlad Canan.

O Seion, irion yw dy wraidd,
Er bod a'th braidd yn fychan
Derbynaist addewidion llawn
Yn gymnar iawn am Ganan.

Etifedd ydwyt i'r wraig rydd,
Mae gennyt fydd yn darian;
Am hyn cei fynd, yng Nghrist a'i hawl.
I ganu mawl i Ganan.

Fy enaid, gorfoledda'n fawr,
Er bod yn awr yn egwan;
Rhoes iti flas o'i ras a'i rin.
Fel sypian gwin o Ganan.

Dy gariad sydd heb dor na thrai,
Tuag at y rhai a'th ofnan;

Pan ddygit fi, gan wrando nghwyn,
Y gwanna o'r wyn, i Ganan.

O Cynnal fenaid gwael yn ol
Dy serch a'th unol anian;
Dwg i trwy'r byd o hyd mewn hedd
I'th wir ogonedd Ganan.



Fydd y Cristion, sef nerth Duw a berffeithir mewn gwendid.

Yr Arglwydd yw fy rhan a'm nerth,
Fe aeth yn aberth drosof;
Ni ad fy Nuw, fy nerth a'm rhan,
Fy enaid gwan yn angof.

Myfi sydd gyfnewidiol iawn,
A'm cnawd yn llawn o bechod;
Sel ddigyfnewid sydd i'm gwawdd,
Fy Nuw, fy nawdd, a'n priod.

Gwan fel Moses yn yr hesg,
A llwfr a llesg fy llusern;
Ond braich fy Mhrynwr sydd fwy cry
Na'r Ddraig a gallu unffern.

Er bod fy nhaith drwy'r moroedd trwch,
A'r tew anialwch niwliog;
Cal fynd i Ganan ddydd a ddaw
Drwy nerth y llaw alluog.

Mae'r Oen a laddwyd ar fy mhlaid,
Boed sicr i'm henaid egwan;
Fe'm dwg i'r lan er gwartha llid
Ac nawd, y byd, a Satan.


Dy arfaeth di, fy Mugail da,
Drwy gariad a thrugaredd;
Sy'n gweithio'm biachawdwriaeth ddrud
O'r dechreu hyd y diwedd.

Tydi a'm ceraist cyn fy mod,
Fy Nhad a'm priod teilwng;
A gwedi'm rhwymo â phechod caeth,
Tydi a ddaeth i'm gollwng.

O llanw fi a'th Ysbryd rhad,
Fy Nuw, fy Nhad, a'm Cyfell,
A thyn fy enaid ar dy ol
O'r hen ddaearol babell.

Yr Arglwydd yw fy rhan a'm nerth,
Fe aeth yn aberth drosof;
Ni ad fy Nuw, fy nerth a'm rhan,
Fy enaid gwan yn angof.

RHOBERT WILLIAM Y PANDY.

[Amaethwr yn y Pandy, ger y Bala, oedd Robert William. Ganwyd ef yn 1744; claddwyd ef yn Llanfor, Medi 1. 1815. Yr oedd yn ddisgybl i Rowland Huw, ac yn athro i Ioan Tegid. Codwyd y darnau sy'n canlyn o ysgrif-lyfr trwchus yn ei Law ef ei hun (dechreuodd ysgrifennu yn 1768), sy'n awr yn meddiant ei deulu. Gwel Cymru II., 21—23.]

i. Y BEIBL.

TYRED, Awen naturiol,—i gynnig
Rhyw ganiad ysbrydol;
Gwan iawn wyt i ganu'n ol
Sail addysg gwyr sylweddol.

Llyfr doeth yn gyfoeth i gyd,—wych lwyddiant
A chleddyf yr ysbryd,
A gair Duw Nef yw hefyd,
Beibl i bawb o bobl y byd.

Maes helaeth mwya sylwedd,—iawn fedrus
Anfeidrol ei rinwedd;
Gair anwyl y gwirionedd
Byd yw hwn, bywyd a hedd.

Rheol ryfeddol o foddion.—dwysgall
Yn dysgu pob dynion;
Goreu braint roddwyd ger bron,
Yn nwylaw annuwiolion.

Perl nefol pur lawn afiaeth,—gwir amod
A grymus ddysgeidiaeth;
'Rhwn oedd, sydd, a fydd iawn faeth,
Yn dirwyn iechydwriaeth.

Gair iawn di ysgog, goreu in dysgu,
Union a grasol, yn ein gwir Iesu

Deuwn o'n gw'radwydd, da i ni gredu
O gyd wiw fwriad, ag edifaru;
Boed in Nef i gartrefu—yn diwedd,
Mwya dawn rinwedd mae Duw'n ei rannu,

ii. BLINDER AC YMDDIRIED.

Rwy'n dechre blino'n awr ar bethau'r ddaear hon
Does wrthrych rhwng y nef a'r llawr a'm gwna f'n llon,
Gwlad well tu draw i'r bedd 'rwy yn ddymuno gael,
A'm henaid mewn tragwyddol hedd, da wedd, di wael.

Rhyw ryfel yma sydd mewn byd rwy'n awr yn byw,
A minne'n siwr o godi'r dydd heb nerth fy Nuw;
Addewid Un a Thri yw nghysur a fy nghân,
Y bydd ei hunan gyda mi, mewn dŵr a thân.

Fe ddwedodd Crist Mab Duw mai gorthrymderau a gawn
Ac O! na byddwn ynddo'n byw, fe yw fy iawn;
Nid ofnwn ar un pryd drallodau mawr a ddaw,
Ond cael, er allo cnawd a byd, fod yn ei law.

Er amled yw fy nghri tan ryw amheuon mawr,
Ac anghredinieth sy' ynnof i'm taflu i lawr;
Disgwyliaf gryfach ffydd, i godi f'ysbryd gwan,
A mwy o nerth yn ol y dydd i nofo i'r lan.

Gweddio wnaf o hyd gael cyn terfynu f'oes
Dystiolacth fadde meiau i gyd, trwy Oen y Groes;

Ei waed ar Galfari sydd digon i'm glanhau,
Par i'm holl glwyfau marwol i gael eu hiachau.
Wrth draed y Meddyg da 'rwy yn dymuno bod,
'Does unlle gwell i enaid cla', caiff ynte'r clod;
Mae'r Iesn'n eiriol fry, a'i hen drugaredd rad,
Yn enw hwn dof finnau'n hy i dy fy Nhad.


iii. GWELEDIGAETH YR ESGYRN SYCHION

Rhyw son an esgyrn sychion cawn, os awn i 'mofyn:
Ac wele hwynt yn amal law, ar wyneb dyffryn;
"Ha fab dyn, fydd byw rhai hyn? yw'r gair ofynnwyd,
Ac er bod mewn myfyrdod syn, ni wyddai'r proffwyd.

Proffwyda am yr esgyrn hyn, a dywed wrthynt,
Er bod yn feirwon sychion syn bob un o honynt—
"Clywch air yr Arglwydd sydd yn dweyd 'Rhof anadl ynnoch,
Fel trwy yr hyn 'rwyf yn ei wneyd mai byw a fyddwch.

Fel hyn y parai'r Arglwydd gynt i'r anadl yma—
Tyr'd oddiwrth y pedwar gwynt, ac anadla
Ar y lladdedigion hyn, a byw a fyddant,
A rhai gânt eto'n cannu'n wyn a orfoleddant.

A phan broffwydodd, swn a fu, a chynnwr hefyd,
A'r anadl a dlaeth i'r holl lu, mewn byr ennyd;
A safent yno ar eu traed yn llu lliosog;
A minne saif, drwy rinwedd gwaed ein brawd trugarog.


iv. Y FARN FAWR[9]

Duw, er mael dyro i mi
Hwyl union o'th haelioni;
Par fywyd, pura f'awen,
Addwyn yw hi, y ddawn hen,
I wau gwiwdeg we gadarn
Yng nghylch y dydd y bydd barn.
Hwn yw'r dydd sydd yn neshau
Draw eisoes wrth y drysau;
Dydd echrys, arswydus son,
Niwlog i annuwiolion;
Dydd chwerwedd dialedd diluw,
Dydd blinder, a digter Duw;
Llid oer naid, fal lleidr y nos,
Mynegwyd mae yn agos;
Dydd o brofiad ofnadwy,
Diwedd mawr, ni bu dydd mwy.
A phwy wyr ai'r hwyr, er hyn,
Y dechreu amser dychryn?
Cof ofnog, ai y cyfnos?
Cynnil nawdd, ai canol nos?
Ai ar y wawr, ddarfawr ddydd?
Cwyn wael ddwys, ai canol-ddydd?
Geirian Naf sy'n gwiriaw,
Goreu dyst, mai gwir y daw;
Gair Iesu mor gu a gaf,
Iach helaeth, pam nva choeliaf?
Daw i bob parth ar wartha
Drwg di-rôl, duwiol a da;

Cynnwrf, a thwrf a therfysg,
Foddau mawr, a fydd ym mysg
Cenhedloedd ag ieithoedd gwâr,
Ddeuant gyrrau'r ddaear;
Annuwiol blant, toddant hwy
Yn gyfan ddydd eu gofwy:
Pob wyneb glân cyfan cu
Heb urddas a gasgl barddu;
Syndod rhyfeddod a fydd
Cwynfawr, a phawb a'i cenfydd;
Ac yna y crynna cred,
Gad gyngraff gyd ag anghred;
A'r holl ddaear fyddar fud,
Gron hoew-fawr, a gryna hefyd.
A'r defnyddiau, geiriau gwir,
Di-dadm gan wres a doddir;
Daear a'i gwaith, dewr faith dw
Anobaith, a lysg yn ulw;
Tywelltir, teflir fel tân
Ar led oll, oer lid, allan;
A'r creigiau, bryniau pob bro,
O gwmpas yn ymgwympo;
Y greadigaeth gry degwch
Cyffry, ag a dry yn drwch;
Natur frau, ddiau ni ddal,
A ddetyd yn ddiatal;
Twrw, wae maith, hyd tir a môr
Ag ing a chyfyng gyngor;
Dynion fydd ar y dydd da
Hyll agwedd, yn llewygu,
Gan ofn a braw draw yn drwm.
A gwarthudd euog orthrwm.
A wedi yr aniddanwch,
Gorthrymder, a'r trymder trwch

Ni rydd haul o'i draul a'i dro
Ei lewyrch i oleuo;
A'r lloer wen uwch ben byd,
Rhyfedd a d'wllir hefyd;
Ser y nef, siwr yw i ni,
Serth adeg, a syrth wedi;
A nerthoedd nefoedd yn wir,
Esgud waith, a ysrydwir.
Yna gwelant Oen gwiwlan,
Ar ei Orsedd loewedd lân.
Gyda ei blaid euraidd wedd,
Llawn o fawl, llu nefoledd;
Yn dwad, codiad cadarn,
Ar y byd i wir roi barn;
Clywir bloedd y cyhoeddwr
O bedwar gwynt byd o'i gwrr;
Galwad i bob gwlad glir,
At gannoedd a utgenir;
E gyrraedd i bob goror
Daear faith, mawr waith, a môr;
Perir i bawb ympiriaw,
A'r meirwon ddynion a ddaw;
Gwelir pawb yn y golwg,
Diau o drem da a drwg;
A rhennir oll y rheini,
Gwir yw, medd y gair i mi;
Ein Rhi eglur yn rhaglaw.
A'r ddau lu ar ei ddwy law;
Rhai cyfon di-drawsion draw,
Dda helynt, ar ddeheulaw;
A'r anauwial o'u hol hwy,
Wawr isel, ar yr aswy.
A'r llyfrau a'u geiriau gwir,
Gu arwydd, a agorir;

A llyfr gair Mab Mair mau,
Gwirionedd gywir enau;
Llyfr ffraeth creadigaeth Duw
I dylwyth cyn y diluw;
A diball lyfr cydwybod
Yn blaen iawn, blin yw ei nod!
I'r rhai euog llwythog llawn,
Cof-lyfr pechodau cyflawn
I'r dieuog pwyllog pur,
Gesyd anrhaethol gysur;
Pob un grasol nefol nod
A burir yma'n barod,
Fodd enwog, a feddianna
Fawr urddas y Ddinas dda;
A gwyn eu byd hyfryd hwy,
Nerthol yw eu cynhorthwy:
Ni ddeall dyn o ddull doeth,
Cofiwn, pa faint y cyfoeth
A rydd Duw Ior, blaenor ei blaid,
Yn wiw elw i'w anwyliaid;
A'r anufudd yn suddaw
Yn fudan mor druan draw;
Gwae ddynion a gwedd anwir,
Nid hwy a safant eu tir;
Anadl yr Ion cyfion cu,
Fodd chwithig, fydd i'w chwythu,
Fely mauus hysbys hynt,
Flina cur, o flaen corwynt.
Y Barnwr, rheolwr hylaw.
Barn gyfion o'i ddwyfron ddaw;
Dywaid wrth y rhai duwiol
Yn fwyn iawn, fo yn ei ol,—
"Dewch chwi, fy mhlant di-wael,
O'r byd mae gwynfyd i'w gael;

Mae'r Deyrnas roed, hel oedi
I'w chael, bartowyd i chwi;
Hoew-fraint ardderchog hyfryd,
Di ball er seiliad y byd;
Meddiennwch mewn modd union
Dirion swydd y Deyrnas hon;
Am mai da gwnaethoch i mi,
Diochel bydd da i chwi."
A'r rhai anwir rhoddir hwy
I fyneliad ofnadwy;
Dywaid Ef,—"Ewch, ni chewch chwi,
Gelynion y goleuni,
Ond uffern gethern i gyd,
Ddalfa dro dragwyddolfyd;
Tywyllwch caeth annrhaethol
O ddig barotowyd i ddiawl."
Yna yr ant, coddiant caeth
Dygyn, i gosbedigaeth;
Annoethedd drwg a wnaethant,
A drwg, oer gilwg, a gânt.
Y duwiol lu di-wael oll
Ddygir i'r nef yn ddigoll,
I ganu clod, a bod byth,
Mewn addoliad mwyn ddi-lyth,
I'w Prynwr a'u carwr cu
Dewisol a'r Duw Iesu:
Sylwedd y Ddinas oleu,
Por yw hwn byth yn parhau;
Boed inni ran gyfan gu,
Da olud, yn ei deulu;
Byw bwy yno bob ennyd
I ganu mawl, gwyn y myd.


v. Y DELYN

Gwledd gorfoledd gwir felus—yw miwsig
A moesau cysurus;
Naturiol, llesol mewn llys,
A'i sain curaid soniarus.

vi. BEDD GENETHIG.

Gwel fedd gu ieuengedd gangen—gynnar-dwf—
Gan irder ei deilen;
Genethig fel gwenithen,
Gwers yw hi i'r gwŷr sy hen.


vii. AMCAN Y BARDD.

Fy amcan i, gan hynny,
Oedd ceisio llwyr wrth'nebu
Meddyliau gweigion o bob rhyw,
Os cawn gan Dduw fy helpu.




CHARLES O'R BALA.

[Ganwyd Thomas Charles yn Longmoor, Llanfihangel Abercywyn, Hyd. 14. 1755. Pan yn Rhydychen daeth ir Bala gyda Simon Lloyd (1756-1836), cyd-efrydydd iddo. Yn 1783 priododd Sally Jones o'r Bala: yn 1784. wedi hir geisio lle yng Nghymru "fyth yn anwyl", cafodd guradiaeth Llan-ym-Mawddwy. Yn y Bala bu byw wedi priodi; oddi yno—gyda chymorth rhai fel Simon Lloyd, George Lewis, Thomas Jones o Ddinbych, Robert Jones, Rhoslan creodd gyfnod newydd yn haness meddwl Cymru. Y mae ei gysylltiad â'r Ysgol Sul, Y Beibl Cymraeg, y Gymdeithas Feiblau ac Ordeiniad 1811 yn rhan o hanes Cymru. Yn 1789 daeth yr Hyfforddwr allan yn ei ffurf gyntaf yn Ebrill 1799 ymddangosodd y rhifyn cyntaf y Drysorfa Ysbrydol yn 1801 daeth rhifyn cyntaf y Geiriadur. Yn ei ymgais a'i ynni dygodd Thomas Charles lu o wyr athrylithgar i weithio. Deffrodd Howell Harris gydwybod Cymru, deffrodd Thomas Charles ei meddwl. Yr oedd swyn rhyfed yn ei enw pan fu farw, Hydref 5, 1811. Claddwyd ef ym mynwent Llanecil, wrth dalcen dwyreiniol yr eglwys. Cyhoeddwyd Cofiant cynhwysfawr gan y Parch. D E Jenkins yn 1908.]

DYFAIS TRAGWYDDOL GARIAD.

DYFAIS fawr tragwyddol gariad
Ydyw'r iachawdwriaeth lawn,
Cyfamod hedd yw'r sylfaen gadarn
Yr hwn nis derfydd byth mo'i ddawn;
Dyma'r fan y gorffwys f'enaid.
Dyma'r fan y byddaf byw',
Mewn tangnefedd pur heddychol,
Ymhob rhyw stormydd gyda'm Duw.

Syfled iechyd, syfled bywyd,
Cnawd a chalon yn gytun
Byth ni syfla amod heddwch
Hen gytundeb Tri yn Un;

Dianwadal yw'r addewid,
Cadarn byth yw cyngor Duw,
Cysur cryf sy i'r neb a gredo
Yn haeddiant Iesu i gael byw.

Bum yn wyneb pob gorchymyn,
Bum yn wyneb angeu glas;
Gwelais Iesu ar Galfaria
Yn gwbl wedi cario'r maes;
Mewn cystuddiau rwyf yn dawel,
Y fuddugoliaeth sydd o'm tu,
Nid oes elyn wna i mi niwed,
Mae'r fordd yn rhydd i'r nefoedd fry.

Pethau chwerwon sydd yn felus,
T'wyllwch sydd yn oleu clir,
Mae'm cystuddiau imi'n fuddiol,
Ond darfyddant cyn bo hir;
Cyfamod hedd bereiddia'r cwbl
Cyfamod hedd a'm cwyd i'r lan,
I gael gweld fy etifeddiaeth,
A'i meddiannu yn y man.

Gwelais 'chydig o'r ardaloedd
Yr ochr draw i angeu a'r bedd
Synnodd f'enaid yn yr olwg,
Teimlais anherfynol hedd;
Iesu brynnodd imi'r cwbl,
Gwnaeth â'i waed anfedrol iawn
Dyma rym fy enaid euog.
A fy nghysur dwyfol llawn.


DAFYDD CADWADR

[Ganwyd Dafydd Cadwaladr yn 1752. yn Erw Ddinmael, Llangwm daeth ardal y Bala i wasanaethu yn ieuanc dysgodd y wyddor oddiwrth lythrennau nod ar ochrau defaid: cafodd fwyd i'w ddychymyg yn Nhaith y Pererin a Gweledigaethau Bardd Cwsg. Wedi oes o lafur egniol fel efengylydd, bu farw Gor. 9, 1834. Cyhoeeddwyd cyfrol a gofnodau a dano yn y Bala yn 1836. Claddwyd ef yn Llanecil, ac y mae golygfa ardderchog oddi wrth ei fedd ar Lyn Tegid a'r Aran.]

MARWNAD CHARLES O'R BALA.

O SEION ofnog, paid ag wylo,
Nad im' glywed mwy mo'th lef;
Ca'dd Charles fynd i berffeithiach eglwys,
'Nawr mae'n gorffwys yn y nef
Y cnawd a'r galon oedd yn pallu,
Duw oedd ei ran a'i nerth yn awr;
Fe ymadawodd mewn tangnefedd.
Yn ffrwd yr iachawdwriaeth fawr.

Roedd ei farwolaeth i ni'n golled,
Ond iddo ef yn ennill mawr;
Cawn ninnau fedi o ffrwyth ei lafur,
Tra bo'm ni'n aros ar y llawr:
Yr Egwyddorion ga'dd e' o'r Bibl,
Maent gyda ni heb ddim gwahan:
Caiff myrdd o blant eu maethu drwyddynt,
Hyd onid elo'r byd ar dân.

Mae ei Drysorfa'n llawn danteithion,
I borthi'r ofnog gwan ei ffydd;
Y mae'r Geiriadur mawr fel allwedd,
I ddwyn i'n golwg bethau cudd.
Ei 'madrodd rhwydd, a'i adysg yn uchel,
Egwyddor iach, nefoldeb llawn;
Mae'n cario perlau disglair inni,
Wna bobl Cymru'n brydferth iawn.


Cyfododd un o deulu Gomer,
Wnaeth fwy na neb er dechreu'r byd,
I yrru'r Bibl i bob ieithoedd.
I gasglu eiddo Crist ynghyd;
A hwn dan seiliau teyrnas anghrist,
Er uched yw ei brig yn awr;
Y garreg eifi yn llond y ddaear,
Mae'n rhaid i'r delwau gwympo i lawr.

Dyma'r seren a ddisgleiriodd,
O flaen bore'r Jubil fawr;
Disgwyliwn bellach i'r wawr godi,
Mae'r seren wedi mynd i lawr:
Gwybodaeth Duw a doa'r ddaear.
Bydd mawl yr eglwys yn ei rym.
Cynhulliad pobloedd at y Siloh,
A Babel wedi cwympo'n ddim.

Ca'dd yn ei gorff gystuddiau trymion,
O dan y rhai'n fe gadwai'i le;
A phob dadleuon yn yr eglwys,
A flinai 'i feddwl tyner e;
Ac annuwioldeb ei gym'dogion,
Oedd iddo ef yn ofid llym:
'Nawr fe drow'd y groes yn goron
'D rhaid iddo mwyach ddioddef dim.

'N awr 'rwy'n colli'm golwg armat,
'D wy'n 'nahod din o honot fry
Nid wyt ti swm yr un o'r tywod,
Nid wyt ti bwysau'r un o'r plu';
Nid tebyg wyt i un creadur,
A welwyd mewn daearol fyd;
'Does armat liw, na dull, na mesur,
Er hynny sylwedd wyt i gyd.


A wyt ti'n gweled peth yr awrhon,
O ddwfn ddirgelion Tri yn Un?
P'a fath olwg sy'n y nefoedd,
Ar a gym'rodd natur dyn?
A ydyw rhyfeddodau'r Duwdod,
Yn dod i'th olwg heb ddim rhi',
Neu ynte wyt yn gweld efengyl,
Yn llenwi conglae'n daear ni?

Ai 'n ol darluniad Watts new Baxter
Mae gwaith y nef yn mynd ymlaen:
Gweddio, ymddiddan, a phregethu,
Neu ynte dim ond c'lymu cân?
A yw 'difeirwch, ffydd, a gobaih,
Wedi ymadaw'n llwyr yn awr,
A dim ond cariad yn teyrnasu.
O boethder fflam yr eirias fawr?

A wyt ti'n ysgog fel y fellten,
Ynghanol yr eangder mawr?
A ydyw t'wysogauthau'r netoedd,
Yn adnabyddus it yn awr?
A wyt ti'n 'nabod pawb o'r seintian,
A rhif angylion sydd wahân;
Ai am gre'digaeth neu am brynnu,
Mae'r nifer fwya'n seinio cân?

A wyt ti'n cofio geiriau'r Bibl,
Dy bleser penna! gyda ni?
A yw 'madroddion y proffwydi,
Yn llonni byth dy ysbryd di?
A ydyw gweledigaeth Ioan
Yn awr yn eglur o dy flaen?
Ai ynte wyneb y Jehofah,
Yn unig yw d'orffwysfa lan?


A wyt ti'n gweld dy gorff yn huno
Ym mynwent Beuno dan v pridd?
Oes arnat hiraeth yn y nefoedd
Am weld yr adgyfodiad ddydd?
A wyt ti'n cymhell yr angylion
I gasglu'r saint o gyrrau'r byd;
Ai ynte bod yn ddistaw lonydd,
Ym mynwes Abr'am 'r wyt o hyd?

Chwi'r angylion ddaeth yn lliaws,
A'r n'wyddion da o'r nef i lawr,
Derbyniwch genadwri dirion,
I'w ddwy yn ol i'r nef yn awr:
Cymanfa'r Beibl sydd yn llwyddo,
Gair Duw sy'n seinio i bob lle,
Ysgolion Sabboth sy'n cynbyddu;
Cyhoeddwch hynny iddo fe.

Boed bendith byth ar Sir Gaerfyrddin,
Am tagu'r impyn mawr ei ddawn;
Boed bendith byth ar deulu'r Bala,
Lle cadd ei godi'n uchel iawn:
Boed bendith Duw a'i ras yn helaeth,
Yn dilyn ei hiliogaeth ef,
A llwyddiant i'r efengyl dawel
Ymhlith pob cenedl dan y nef.

Goddefwch bellach air o'm hofnau,
':Rwy' yn ei dd'wedyd gyda braw,
I'r cyfiawn hwn gael dianc ymaith,
O flaen rhyw ddrygau mawr a ddaw.
Yn y wlad neu yn yr eglwys,
Y tyrr rhyw bla fel fflamau byw!
Ond d'wedai'n uchel wrth ymadael,
Mai noddfa dawel iawn yw Duw.


WILLIAM JONES.

[Ganwyd William Jones yng Nghynwyd yn 1764. Daeth i'r Bala yn fachgen, a daeth yn feistr ffactri drwy gymhorth y Parch. Simon Lloyd. Bu farw Mai 2, 1822].

CWYMP BABILON.

MAE'R dydd yn neshau,
Ceir gweled yn glau
Daw Babilon gadarn i lawr;
Mae'r taliad mor ddrud,
Teyrnasoedd y byd
A'n eiddo Emmanuel mawr.

Hen anghrist sydd fawr
Falurir i lawr,
Mae'r garreg a'i threigliad yn rhydd;
Er gorfod cael briw
Daw'r tystion yn fyw,
Haleliwia Bron gwawrio mae'r dydd.

Er cymaint yw'r llid,
Daw'r gaethglud i gyd
C ddyfnder caethiwed yn rhydd;
Fe ddaw'r Jiwbili
I fyny'n llawn rhi,
Haleliwia Bron gwawrio mae'r dydd.

Mae'r dyad yn neshau
Pan ddryllir yr iau,
Oherwydd eneiniad y Pen;
Mae'r amser gerllaw,
Iddewon a ddaw
I garu'r Hwn fu ar y Pren.


Y GWLAW GRASLAWN.

O fy Nuw, a'm tirion Arglwydd,
Rho'r cawodydd pur i lawr,
I ireiddio f'eiddil ysbryd,
Sydd yn sychlyd iawn yn awr;
Dyro'r dylanwadau nefol,
Ennyn bob rhyw ddwyfol ddawn,
Rho dy gariad a'th ymgeledd,
Difa'r llyrgedd sy' ynwy'n llawn.


LLAFUR ENAID.

"O lafur Ei enaid y gwel."

Y Meichiau a wêl,
Ei lafur dan sel
Fe'u mynn hwy o afael y llid,
Hwy garwyd yn rhad,
Fe'u prynnwyd â gwaed,
Fe'u gelwir, fe'u golchir i gyd.

Ar Galfari fryn,
Yn haeddiant Duw-ddyn,
Caed trysor, am dano bydd sôn;
Mae'n gyfoeth mor ddrud,
Fe leinw'r holl fyd;
Clodforedd am rinwedd yr Oen.


WILLIAM EDWARDS.

[Ganwyd William Edwards yn 1773. Nai a disgybl oedd i Robert Wiliam y Pandy; gwehydd wrth ei grefft, ac yn byw dan yr unto a'i dad yng nghyfraith. John Evans. Gwnaeth lawer i helpu Mr. Charles gyda'r Ysgol Sul; ac y mae ei emynnau'n adlais o waith yr Ysgol a gorfoledd y Sasiynau. Bu farw yn 1853. Gwel Cymru III., 77, 96, 162]

CYSGOD ION

Y RHAI o dan dy gysgod, Ion,
Yn gyson a arhosant,
Dan lewyrchiadau'th wyneb pryd
Y rhain fel yr adfywiant.

Blodeuant, tyfant tua'r nen
Fel y winwydden ffrwythlon,
A bydd eu harogl wrth eu trin
Mor bêr a gwin Lebanon.

Lledant eu gwraidd mewn daear fras,
Wrth afon gras y bywyd,
Eu ceinciau gerdd, eu tegwch fydd
Fei olewydd yn hyfryd.


AWELON NE

Ewch ymlaen, awelon grymus,
Chwythwch ar yr anial fyd,
A dadwreiddiwch ar eich cyfer
Gedrwydd cryfa'r ddraig i gyd;
Fel bo'r ddaear
Oll yn eiddo'n Harglwydd ni.

Y mae f'enaid gwan yn gwenu
Wrth eich swn, awelon ne,

Yn gwasgaru anwybodaeth
Cysgod angau o bob lle;
Goleu bywyd
Sydd yn dilyn ar eich ol.

Udgorn grasol yr fengyl
Sydd yn bloeddio yma a thraw,
Beddau floedd gaiff eu hagor,
A'r marwolion allan ddaw,
Geiriau bywyd
Yw lleferydd Mab y dyn.


IESU.

Does neb ond Ef, fy Iesu hardd,
A ddichon lanw 'mryd;
Fy holl gysuron byth a dardd
O'i ddirfawr angeu drud.

Does dim yn gwir ddifyrru f'oes
Helbulus yn y byd,
Ond golwg mynych ar y Groes,
Lle talwyd Iawn mewn pryd.

Mi welaf le mewn marwol glwy
I'r euog guddio 'i ben,
Ac yma llechaf nes mynd trwy
Bob aflwydd is y nen.



GOBAITH SEION.

A heibio'r nos gymylog hon,
Mae'r bore bron a gwawrio;
Bydd Seion Duw, a'i gruddiau'n llon,
Yn magu meibion eto.

O cyfod, Seion, na fydd brudd,
A gwel y dydd yn gwawrio;

Cei ar dy fronnau fagu plant
Mewn ffydd a ffyniant eto.

Er bod ar lawr yn wael dy fri,
Flynyddau'n ddi-epiledd,
Cei blant o groth yr arfaeth gu
I'w magu mewn gorfoledd.

Anrhydedd mawr i ti gael trin
Gwir blant y brenin Alpha,
Y rhai a brynnodd Ef, cyn hyn,
A'i waed ar fryn Calfaria.

Cael gweld y rhain yn tyfu'n hardd
O fewn i ardd Jehofah,
A wna i'th galon lawenhau
Pan fo ei dagrau amla.


YR EFENGYL.

Mae'r iachawdwriaeth glir
Yn dechreu llifo'n wir
Dros anial dir negroaid du;
Pob cenedl, llwyth, ac iaith,
Dros wyneb daear faith,
A welant waith yr Iesu cu.

O fendigedig awr,
Disgleiriodd bore wawr
Ar anial mawr yr India bell;
Ymdaenu mae o hyd
Efengyl deg ei phryd,
Hi leinw'r byd â'i n'wyddion gwell.

Holl anwybodaeth mawr
Y byd a syrth i lawr

O flaen y wawr nefolaidd wiw;.
C'wilyddia'r delwau i gyd,
Bydd Iesu a'i aberth drud,
Yn llanw bryd holl ddynol ryw.


GWELED IESU.

Mae byw mewn gobaith am y dydd
Caf roi fy maich i lawr,
Yn llawenhau fy enaid prudd
Yng nghanol cystudd mawr;
A chael ei weled fel y mae,
Heb orchudd ar ei wedd,
A bod yn debyg iddo byth
Mewn dinas lawn o hedd.



TYRFA WAREDIG.

Mae tyrfa hardd eu gwedd
Yn byw tu draw i'r bedd,
Ar aberth hedd Calfaria fryn;
Rhinweddol yw ei glwy,
Eu gwarth ni welwyd mwy,
Fe'u gwisgodd hwy mewn gynau gwyn.

Dilynwn ninnau 'u hol,
Nes gorffwys yn ei gôl,
Oddiyno'n ol ni ddeuwn byth;
Mewn môr o ddwyfol hedd
Cawn gyd-fwynhau y wledd
Ar siriol wedd yr Oen dilyth.


IOAN TEGID

[Ganwyd John Jones (Ioan Tegid) yn nhref y Bala, Chwefror 10, 1792. Yr oedd yn ddisgybl i Robert William y Pandy. Bu yn ysgol y Parch. D. Peter, Caerfyrddin, cyn mynd i Goleg yr Iesu, Rhydychen, yn 1814. Yn 1819 daeth yn gaplan Eglwys Crist, ac wedyn yn gurad Eglwys St. Thomas. Tra yn Rhydychen gwnaeth lawer o waith dros eglwys a mynwent ac ysgol. Rhwystrwyd ef rhag mynd yn genhadwr i India gan hiraeth am Gymru. Gweithiai dros Gymru hefyd. Golygodd argraffiad newydd o'r Testament Newydd, a buasai wedi golygu'r Beibl i gyd oni bai i'w orgraff,—oherwydd ni ddyblai ei lythrennau,—gedi storm. Cyfieithodd lyfr Esay o'r Hebraeg i'r Saesneg, a bwriadai ei gyhoeddi yn Gymraeg hefyd. Cydolygodd waith Lewis Glyn Cothi â Gwallter Mechain, ac ysgrifennodd ragymadrodd hanesyddol llafurus i'r gwaith. Hiraethai am Gymru o hyd. O'r diwedd, yn 1841, cafodd le, nid ym Meirion fel y dymunai, ond yn Nanhyfer, lle bach tlws megis yn ymnythu uwchben afon Hyfer, yn sir Benfro. Carai ei wlad a'i iaith â holl serch ei galon gynnes. Yr oedd yn wr hoffus, diddan, caredig a chroesawgar. Bu farw Mai 2, 1852; ac y mae ei fedd yn Nanhyfer.]

YMWELIAD Y BARDD.

I dref y Bala yr aeth y Bardd,
I edrych am ei dad;
Aeth dros y tŷ, a thrwy yr ardd,
Gan waeddi "O fy nhad!
Nid yw fy nhad yn unrhyw fan,
Os nad yw yn y bedd;"
Atebai careg iddo'n wan,
Dywedai, "Yn y bedd!"

"Pa le mae Gwen, fy anwyl Gwen,
Fy chwaer pa le'r wyt ti?
Os wyt yn fyw, anwylaf Gwen,
O dywed, Wele fi'

</poem>

Ni chlywaf lais, mawr yw fy mraw,
Wyt tithau yn y bedd?"
Atebai'r gareg oedd gerllaw,
Dywedai, "Yn y bedd!"

"Fy mam, fy mam, anwylaf fam!
A ro'ist im' faeth a mâg,
O dywed' im', fy mam, paham
Mae'r gadair hon yn wag?
Gwae fi, fy mam! fy mam! fy mam!
Wyt tithau yn y bedd?"
Atebai'r gareg ateb gam,
Hatebai: "Yn y bedd!"

"Mae'r tŷ yn dywyll drwyddo draw,
A'r ardd â'i blodau'n wyw;
Na'm tad, na'm mam, na'm chwaer gerllaw,
Ni welaf mwy yn fyw;
Maent hwy yn cysgu'n min y Llyn,
Mewn gwely pridd eu tri;
Mi wylaf dro wrth feddwl hyn,
Mae hiraeth arnaf fi.


LLYN TEGID.

Awn i rodio at y Llyn,
Plant y Bala bach,
Lle y buom ni cyn hyn,
Plant y Bala bach,.
Pereiddiach yw ei ddwr na gwin,
Ac iach yr awel ar ei fin,
Ac O mor hyfryd yw yr hin,
Plant y Bala bach.

Awn i rodio i'r Ro Wen,
Plant y Bala bach;

Tesawg yw yr haul uwch ben,
Plant y Bala bach;
Mae'r ŵyn yn chwareu ar y bryn,
A'r gwartheg blith yn britho'r Llyn;
A llon holl anian gyda hyn,
Plant y Bala bach.

Awn i rodio i'r Cae Mawr,
Plant y Bala bach;
Ar y glaswellt dros un awr,
Plant y Bala bach;
Mae y briallu heddyw'n hardd,
Felly y rhosyn yn yr ardd,
O! clywch bellach rybudd bardd;
Plant y Bala bach.

Ni chawn rodio yma'n hir,
Plant y Bala bach;
Y mae hyn yn ddigon gwir,
Plant y Bala bach;
Berr ein hoes,—a llawn o fraw,
Mal oes yr ŵyn yn chwareu draw;
Machluda'r haul,—a'r nos a ddaw,
Plant y Bala bach.

Berr yw oes pob rhosyn gardd,
Plant y Bala bach;
Berr yw oes briallu hardd,
Plant y Bala bach:
A berr yw einioes pob dyn byw,
Er maint ei rwysg,—un marwol yw,
Cyn hir fe fydd fal rhosyn gwyw;
Plant y Bala bach.


HIRAETH CYMRO AM EI WLAD.

Hiraeth ysywaeth y sydd—i'm dilyn
A mwy dolur beunydd;
Ni ddaw dim yn niwedd dydd
I'r enaid, ond Meirionnydd.

Am Gymru gu a'i theg iaith,
Cwyno'r wyf lawer canwaith;
Ond yn bennaf
Pan feddyliaf
A myfyriaf fi am Feirion,
A'i mynyddau,
A'i theg fryniau,
Gloewiw dyrau ein gwlad dirion.

Yn lle gwenu—synnu sydd—
Trostwyf mae eithaf tristydd,
A wna'm bron dirion dorri,
Wlad ragorol, a'r d' ol di;
Ac ar ol, nid siriol son,
Dethol a hen gymdeithion.
Pob dydd newydd
Y mae beunydd mwy o bennyd,
Mwy o ruddfan,
A mwy uban, o fy mebyd.

A'r nos drysu o wir—naws draserch
Yr wy'; gan lunio rhyw gain lannerch
O'r wlad,—a siarad o serch—yn nefíro
OW! honno heb Gymro i'm hannerch.

Ac os cysgwyf ytwyf eto,
Yn brudd odiaeth yn breuddwydio
Am lawenydd, neu am lunio
Bryn a dyffryn—yna deffro.


Ni fu fwy glwy' o fewn gwlad
Na chur hiraeth a chariad;
Gwna hyll friwiau,
Dwfn weliau
A doluriau, dial irad!
Draw o'r golwg drwy'r galon
I'r eigion—dirfawr rwygiad.

Nid oes gennyf ond dwys gwynion,
Blin wy' a gwael heb lawen galon;
O mae 'n alar, heb ddymunolion;
(O achos hiraeth) na chysuron.

Os wy i ar farw am hen sir Feirion,
Beth am filoedd tros y moroedd mawrion
A gariwyd ymaith i lefydd geirwon
Yn llwyd odiaeth i fod yn alldudion
O dir eu gwlad drwy galedion—lawer
O flinder; flinder ar foel wendon.

Gwae laweroedd mor drwm y galarant
Am nad oes obaith funud o seibiant
O'u poenau—loesion, er pan hwyliasant:
Cymru a geir ac amryw a garant,
Yn eu golwg; mynych gwelant—o'u hol
Y lle dewisol a'r llu adawsant.


MARWNAD ROBERT WILLIAM.

Bardd ac Amaethwr o'r Pandy Isaf, Trefrhiwedog, ger y Bala, ac athraw barddonol yr awdwr. Bu farw Awst, 1815.

O Robert, mae oer uban
A llais trist yn nhre' a llan,
O dy fod yma 'n dy fedd
Yn y gweryd yn gorwedd;

Ochain sydd im o'th achos
Och beunydd yn nydd a nos.

Da gennyf oedd dy ganiad,
Fardd arafaidd mwynaidd mad,
Diddan y rhoddaist addysg
I rai a dderbyniai ddysg;
A mwyach rhoist i minnau
Yn fwyn o'r ddysgeidiaeth fau,
A thra bo chwyth bych bythawl

Dy awen f' awen a fawl.
Ar ol im' fod yn rhodio
Dros ennyd o'r hyfryd fro,
Daethum wrth ryw ymdeithio
I'r Pandy i'w dŷ, do, do;
Ar fwriad fel arferol
Gweled y bardd hardd i'm hol
O draw a'i ddwylaw ar led
Yn fy ngalw am fy ngweled;
Er disgwyl mewn hwyl am hwn,
Ow! alar, ef ni welwn.
Och newydd achwyn awen
Hyll yw ein pyd, colli'n pen;
O chwithdod syndod im' son,
Farw prif-fardd o Feirion.

Aethum oddiyno weithian
Yn ewybr a'm llwybr i'r Llan
At y bedd, rhyfedd yr hynt,
I'w holi am ei helynt.
Er aros yn wir oriau,
Yn hir hir nes cwbl hwyrhau,
Gan ateb nid atebodd
I mi air, Och! marw oedd.


O trymaidd a fydd tramwy
I'r Pandy, o'ch fi! i mi mwy
Ni chaf hwn, och! fi hynny,
O waew dwys! o fewn ei dŷ;
Diamau ei fynd ymaith
I dŷ'r bedd, diwedd ei daith,
O'i fyned i'r nef hefyd
Ac e' yn fardd, gwyn ei fyd.


ARDEB FY MAM.

Ardeb fy mam, fwynfam fach,
Gwiw lun! ni bu ei glanach;
Mam Elen, mam Gwen—ei gwedd!
Rhifir hwn yn llun rhyfedd;
Mam fad offeiriad y Ffydd,
A'r difyr banker Dafydd.



MERCH IEUANC YN Y DARFODEDIGAETH.

Pan welais hi ar ben yr allt,
Yn rhodio drwy y coed,
Coch oedd ei gwrid dan fodrwy gwallt,
Ac ysgafn oedd ei throed;
Oedd hardd o gorff, oedd deg o bryd,
Yn Efa 'n ngolwg bardd;
Oedd degwch bro, oedd degwch bryd,
Mor hynod oedd o hardd.

O graig i graig, o lwyn i lwyn,
Y rhodiai dros y bryn,
Gan daflu llawer golwg mwyn
Yn llon tuag at y Llyn;
A'r Llyn oedd ddisglair is ei throed
A thawel fel mewn hun,
Lle gwelai ddelw'n nghanol coed
A'r ddelw oedd ei llun.


Edrychai dro, ond meddwl prudd,
Rhyw feddwl am y bedd,
A daflai dristwch dros ei grudd,
Nes newid lliw ei gwedd;
Dywedai,—"A! y cysgod draw
A ddwg i'm henaid loes,
E dderfydd toc, mae tonn gerllaw,
Fel hyn terfyna oes.

"Ac megys tonn o flaen y gwynt
Yn claddu'r cysgod draw,
Daw angeu—daw, mae ar ei hynt,
Yn fuan hefyd ddaw."
Rhy wir ei gair—anwylyd wen,
A gwen mewn glendid moes,
Ei gyrfa buan ddaeth i ben,
Bu farw 'n mlodau 'i hoes.


CAN I GARIAD.

(Anacreon.)

Cariad unwaith aeth i chwareu
Ar ei daith i blith rhosynau;
Ac yno 'r oedd heb wybod iddo
Wenynen fach yn diwyd sugno.

Wrth arogli o honno'n hoew
Y rhosyn hwn, a'r rhosyn acw;
Y wenynen fach a bigai
Ben ei fys; ac ymaith hedai.

A gwaeddodd yntau rhag ei cholyn,
A chan y poen ag oedd yn dilyn;
At ei fam y gwnai brysuro,
A'r dagrau tros ei ruddiau 'n llifo.


Gwaeddai, Mam! yr wyf yn marw:
Brathwyd fi yn arw arw,
Gan ryw sarff hedegog felen;
A'i henw, meddent, yw gwenynen."

Ebai Gwener,—"Os gwenynen
A'th bigodd di mor drwm, fy machgen!
Pa faint mwy y saethau llymion
A blennaist ti yn llawer calon?"


MORWYNION GLAN MEIRIONNYDD.

"But what Bala is most famous for is the beauty of its women, and indeed I saw there one of the
prettiest girls I ever beheld."—Lord Lyttleton in his letter to Archibald Bower.

Morwynion glân Meirionnydd!
Eich mawl yn anfarwawl fydd;
Anfarwawl tra mawl ym Mon,
A Morus yn caru Meirion.
Eich clod a fydd beunydd byw,
Mawredig gem aur ydyw.

Llon ynt oll, a hoen ynt hwy,
Pob un fun sydd Fyfanwy,
Uchelfryd, llawnserch, haelfron,
Gwên ddibaid a llygaid llon;
Ond gwŷl er hyn ydyw gwedd
Eu llygaid a'u holl agwedd.
O cymaint eu braint a'u bri,
Miloedd yn eu canmoli.

Na henwer, mae o honynt
Fun goeg, ail Myfanwy gynt,
Na châr, mae'n fyddar i fardd,
Yn anfwyn wrth awenfardd.

Yn more f' oes ym Meirion,
A phen hurt yr hoffwn hon;
A phan hŷn hoffwn o'i hol
Rhoad ei throed ar heol.
Er ei mwyn os anfwyn fydd,
Mor anwyl im' Meirionnydd.

Morwynion glân Meirionnydd!
Eich mawl yn anfarwawl fydd.
Cafwyd gwiwfeirdd i'ch cyfarch,
Goreu beirdd, a gwyr o barch;
A beirdd gwiwfeirdd a gyfyd
I'ch cyfarch, trwy barch, tra byd,
Yn eich heniaith berffaith bur,
Hoffusaidd heb gloff fesur.
O enau bardd hardd yw hon,
Dynodir, llawn deniadon;
 Ond melusach hoffach hi,
Y brifiaith, ond gwiw brofi
Mor drefnus, mor felus fwyn,
Y mera o fin morwyn.

Morwynion glân Meirionnydd!
Eich mawl yn anfarwawl fydd.
Yn hardd llawer bardd a'i bill
A'ch annerch er eich ennill;
A minnau hyn ddymunaf
Tros fy ngwlad, o cennad caf,
Gael gennych chwi hoffi'ch hiaith,
Un hynod yw ein heniaith;
A heniaith yw 'n iaith yn wir
Pur hefyd os ei profir;
Trwyadl, hardd ei chystrawen,
A gwir hardd ei geiriau hen.


Iaith deg, iaith y duwiau gynt,
Dwned Homer am danynt;
Iaith enaid y Celtiaid coeth
Dynion nad oeddynt annoeth;
Iaith derwyddon, dyfnion dysg,
Aur heddyw mêr eu haddysg;
Iaith brenhinoedd, llysoedd llawn,
Iaith hen gyfreithiau uniawn;
Iaith y beirdd doeth eu hurddas
Drwy y byd iaith uchel dras,
Eich iaith, O! mynweswch hi!
A bydded rhwydd-deb iddi.
A'i marw a gaiff ym Meirion?
Marw? O, na! na marw ym Mon.

Daear yn uchel gwelir
Yn lle nef, mae 'n llawn o wir;
Unfodd y try 'r nef wenfawr
O'i lle i le daear lawr;
Cyn marw o'r iaith heniaith hon,
Bleth dinam, o blith dynion.


LLYN TEGID.

Bysgodwyr llennwch eich basgedau—'n llawn
Llennwch o'r pysg gorau;
Mil o hyd sydd yn amlhau
Yn ei dirion ddyfnderau.


O Benllyn! i'th Lyn maith o luniad—teg,
Nid digon fy nghaniad;
Dwfr iach gloew: difyrrwch gwlad,
Yn ei li a'i alawiad.

Alawiad dwnad y tonnau,—mwyn yw
Min nos ar ei lannau;

Ac o'r tir gwelir yn gwau
Gwyn eleirch dan gain hwyliau.

Goror y wybrennog Aran,—ynnot
Mae'r enwog Lyn llydan;
Cronni y lli rhwng pump Llan[10]
Ni elli; rhed afon allan:

Dyfrdwyf! trwy aml blwyf, heb aml blas,— a thref
A thrwy lawer dolfras
Y'th hyrddir, maith y'th urddas,
Draw a mawr glod i'r môr las.

Hawddamawr, Lyn mawr Meirion,—Llyn Tegid,
Neud yndid ei wendon?
Drwyot,[11] er dyddiau'r drywon,
Y rhwyf y Dyfrdwyf ei donn.

Lle bu tref[12] dolef dyli'r—Llyn heddyw,
Llon haddef ni welir;
Mwyniant y pysg ei meini
'R dydd hwn, a'i hystrydoedd hir.


I DANIEL SILVAN EVANS.

(Daniel Las) ar ei fynediad i Goleg Dewi Sant.

Llonna byth o'th fodd yn Llanbedr—asgen
Ni chei; dysg yn hyfedr,
Ac am dy ddysg, a'th gymedr,
Mawl Dduw, nid Pawl, ac nid Pedr.


A Llewelyn, llew olwg,
A'i drem a'th gadwo rhag drwg.
Bydd isel, gochel bob gwyd,
Boddia Dduw, a bydd ddiwyd.


ATEB TEGID.[13]

"I mi bu cyfeillion lawer, rhywiog a chywir, yn deall cyfreithiau
caredigrwydd, ac yn eu cadw yn fanwl;ond UN arbenig
o blith y nifer, gan ragori arnynt oll mewn cyfeillach
ataf,a ymegniai eu blaenu belled ag y blaenynt hwy y sawl
ag oeddynt o gyffredin serch tuag ataf." —ST. CHRYSOSTOM.


Daniel Daniel! paid a'th gyngor,
Nid oes achos d'wedyd rhagor;
Byth ni wel yr India helaeth
Fi o wlad fy ngenedigaeth.

Wrth im' ddarllen dy benhillion,
Gair gwladgarwch rwygai'm dwyfron,
Fel nad allwn er dyrchafiaeth,
Adael gwlad fy ngenedigaeth.

Dy resymau ynt mor gryfion,
Maent i mi mal dur-forthwylion:
Peraist im er pob ystyriaeth,
Fyw yn ngwlad fy ngenedigaeth.

Oni basai i'th fwyn benhillion
Dreiddio draw trwy giliau'r galon,
Buaswn i, wrth bob argoeliaeth,
Yn mhell o wlad fy ngenedigaeth.

Pan ofynwyd i mi gynta,
A awn o'm gwlad i fyw i'r India,

D'wedais awn; ond eto hiraeth
Oedd am wlad fy ngenedigaeth.

Barnu 'r oeddwn i pryd hwnnw,
Mai o Feirion gwell im' farw,
Na gweld plant yr hen waedoliaeth,
Yn gwerthu gwlad eu genedigaeth.

Gofid enbyd oedd i'm calon
Weled Cymry 'n troi yn Saeson,
Gan anghofio iaith dda odiaeth,
Iaith hen wlad eu genedigaeth:

Onid trwm fod Cymro'n gallu
Gwadu iaith ei fam anwylgu,
Gwadu'n hyf, er ei Gymreigiaeth,
Ow! hen wlad ei enedigaeth.

Awn i blith yr Indiaid gwylltaf,
Awn i bellder gwledydd poethaf,
Cyn y gwadwn fy nghym'dogaeth,
Neu iaith gwlad fy ngenedigaeth.

Cymro Cymro ! gwaeddaf allan,
Iaith dy fam pan oeddit faban
Honno cara mewn maboliaeth
Gyda gwlad dy enedigaeth.

Tra fo môr, a thra fo mynydd,
Tra fo'n llifo yr afonydd,
Na foed Cymro mewn gelyniaeth
A hen wlad ei enedigaeth.

Merched Cymru, mwyn galonnau,
Glân o bryd a gwedd a geiriau;
Cerwch iaith eich mam yn helaeth,
Hefyd gwlad eich genedigaeth.


Nid oes mwynach peth na chlywed
Iaith Gymraeg o enau merched;
Y Gymraes, a fyddo famaeth,
Cofied wlad ei genedigaeth.

Pan feddyliwyf fi am Feirion,
Bala bach a'r hen gymdeithion,
Glynu'r wyf, mal oenyn llywaeth,
Wrth hen wlad fy ngenedigaeth.

O mae f'enaid yn ymlynu
Wrth anwylyd lân yn Nghymru;
Gwn na fyn, mwyn yw ei haraeth,
Wadu gwlad ei genedigaeth.

Gyda hon mae ffyddlawn galon,
Gyda hon mae geiriau mwynion,
Pwy rydd imi bob cysuriaeth?
Hon a gwlad fy ngenedigaeth.

Gallwn fyw ar ben y mynydd,
A byd gwael o ddydd bwy gilydd,
Gyda hon, a'r awenyddiaeth,
Yn hen wlad fy ngenedigaeth.

Parchu'r ydwyf ferched Saeson,
Ni chant gennyf eiriau duon;
Ond pwy bia y rhagoriaeth?
Merched gwlad fy ngenedigaeth.

Bellach, bellach, rhaid im dewi,
 Mae fy ngalon oll yn llonni;
Ymaith, ymaith, bob hudoliaeth
A'm dwg o wlad fy ngenedigaeth

Daniel Daniel y mae f'awen
Wrth ei bodd yn fywiog lawen,

Am ei bod yn cael magwraeth
Eto 'ngwlad ei genedigaeth.

Aed i'r India 'r sawl a fynno,
A phob llwyddiant a'i canlyno;
Ceisiaf finnau gael bywiolaeth
Yn hen wlad fy ngenedigaeth.

Gwlad efengyl, gwlad yr awen,
Goreu gwlad o tan yr haulwen,
Gwlad yn profi gwên rhagluniaeth,
Hon yw gwlad fy ngenedigaeth.


YR IAITH GYMRAEG[14]

Gelyn yr iaith Gymraeg, dywed im' pa ham
Y mynnit in' anghofio iaith ein mam?
Nid yw y Saesneg, ddyn, ond iaith er doe.
Tra mae'r Gymraeg yn iaith er dyddiau Noe.

"Y Saesneg sydd yn well, mwy perffaith iaith,"
Yn well! mwy perffaith! nid yw hyna'n ffaith.

"Gwell yw'r iaith Saesneg nag un iaith o'r byd."
Taw; geiriau benthyg ei geiriau bron i gyd.

"Saesneg, boneddig yw, yn haeddu clod."
A hi mor glytiog, sut gall hynny fod?
Foneddig yw'r Gymraeg; a'i geiriau bob yr un,
Ynghyd â'u gwreiddiau, ynt eiddo'r iaith ei hun.

"Ni chlywir yn Gymraeg ond swn Ch ac LI;
Melus yw'r Saesneg; ac mae'n swnio'n well."
O taw a'th glebar; ond it' ddal ar lais,
A si yr S y sydd o hyd yn iaith y Sais;
Cei weled yn y fan mai llawer gwell
Na si si yr S yw sain yr Ch a'r Ll.


"Iaith y Sais, iaith prynu a gwerthu yw."
Ni thwyllai Sais un Cymro yn ei fyw;
E bryn, e werth, â'r Sais mewn unrhyw ffair,
Mae'n deall iaith y farchnad air am air.

"Y Cymry a'r Saeson gwell eu bod yn un."
Hwy allant fod er cadw eu hiaith eu hun.

"Nid da bod dwyiaith mewn un wlad fal hon,"
Gad heibio'r Saesneg, dysg Gymraeg yn llon.

"Mynnwn pe Saeson fyddai'r Cymry oll,"
Saeson fyddant pan el eu hiaith ar goll.

"Daw'r dydd y try y Cymry yn Saeson pur."
Yn y dydd hwnnw y try y mêl yn sur.

"Mae ymdrech mawr, yn wir mae llawer cais,
I gael gan Gymro ddysgu iaith y Sais."
Er maint yr ymdrech, ac er maint y cais,
Cymro fydd Gymro eto; a Sais yn Sais.

"Mae rhai esgobion am ddiffoddi'r iaith."
Ai yn Llandaf mae'r esgob wrth y gwaith?

"Ni waeth i chwi am bwy yr wyf fi'n son.'
Gwaeth fydd i'r wlad o Fynwy deg i Fon.
Os ni chaiff Cymro bregeth yn y Llan
Yn ei iaith ei hun, ymedy yn y fan;
A phwy nis gŵyr fod Cymro'n caffael cam,
Pan ni phregethir iddo yn iaith ei fam?

"Gwyn fyd na chollai yr hen Gymry eu hiaith."
Pe collent hi nid Cymry fyddent chwaith.

Ond pennwn hyn o ddadl, mae yn hwyrhau,
Gan ofyn barn un arall uwch na ni ein dau;
Esgobb Ty Ddewi, gwr o uchel ddawn,
Sy'n deall y Gymraeg yn gywir iawn;

Pregetha gartref, a phan y bo ar daith,
I'r Cymry uniaith yn eu hanwyl iaith;
Mae'n wr o ddysg, yn deall llawer aeg,
Gofynnwn iddo ef ei feddwl am Gymraeg.
Ni fyn efe yspeilio'r Cymry hen
O'u hanwyl iaith: mae'n ateb gyda gwên:—
"Eich iaith, hen Gymry, denodd hi fy mryd;
Iaith wreiddiawl yw, parhaed tra pery'r byd.
'Eu iaith a gadwant,' medd Taliesin fardd,
'Eu Ner a folant: dywediadau hardd.
Dywedaf innau yn ol ei eiriau ef,
Ac arnoch Gymry, disgynned bendith nef.
Eu hiaith a gadwant, er Saesneg a phob aeg;
A'u Ner a folant yn yr iaith Gymraeg."


YMLADD CRESSI, A.D. 1346.
Cyflwynedig i WENYNEN GWENT.

I like the Leeke above all hearbes and flowers;
When first we wore the same, the field was ours;
The Leeke is white and greene, whereby is ment,
That Britaines are both stout and eminent;
Next to the Lion, and the Unicorne,
The Leeke's the fairest emblem that is worn.
HARLEIAN MSS.


Yn ymladd Cressi gwnaed gorchestion
Gan y Cymry, medd hanesion;
O'u blaen gan boethed yr ymladdfa
Y cwympodd Brenin gwlad Bohemia;
Ar ei helm y caed tair pluen
Mewn euraidd grib, â'r gair Ich Dien.

Cadwgan Foel, â chalon lawen,
Ac yn ei law grib tair pluen,
A gerddai at Dywysog Cymru,
Ar ol y frwydr, i'w anrhegu

Gan roddi iddo'r grib tair pluen,
A'i godidawg air Ich Dien.

Cadwgan Foel, rhaid cofio hynny,
Oedd yn gadben ar y Cymry;
A thrwy y Cymry, nid y Saeson,
O dan Cadwgan ddewrwych galon,
Gwenynen Gwent! ond i chwi holi,
Yr enillwyd ymladd Cressi.

Pan ar ei fyddin bu i'r gelyn
Wneuthur ymgyrch waedlyd gyndyn,
Y Saeson oedd o bell yn gweled
Yr ymladdfa waedlyd galed;
Gwenynen Gwent! heb le i helpu
Yn y frwydr fechgyn Cymru.

Y maes oedd lawn o genin gwylltion.
Myrddiynau ar fyrddiynau'n dewion;
Er mwyn gwybod gwedi'r ymdrin
Pa sawl Sais oedd yn ei fyddin,
Gwenynen Gwent! bu i Gadwgan
Roi gorchymyn fal hwn allan,—

Boed i'r Cymry yn fy myddin
Yn eu helmau wisgo cenin,
Yn eu helmau uwch eu talcen;
Ond na wisged Sais geninen."
Gwenynen Gwent! ni chafwyd dano,
Ond naw ar hugain heb ei gwisgo.

Dyma'r pryd dechreuwyd gwisgo
Y geninen gan y Cymro;
Yn Agincourt fe'i gwisgwyd gwedi
Gan filwyr Cymru ar gais Harri,
Gwenynen Gwent! er ymladd Cressi
Gwisgasom genin ar ŵyl Dewi.


Maes pais arfau Owen Tudur
Oedd wyrdd a gwyn yn rhesi eglur;
Ac ar ei darian lydan helaeth,
Arwyddent wlad ei enedigaeth.
Gwenynen Gwent! O! cofied Cymro,
"Cas ni charo'r wlad a'i maco."

Gwisged Sais rosynau cochion
Yn blethedig a'r rhai gwynion; —
Gwisged Gwyddel ei feillionen,
A'r Ysgotiaid eu hysgallen;
Gwenynen Gwent! y Cymro'n llawen
Ar wyl Dewi wisg geninen.

Gwyn a gwyrddlas yw'r genhinen,
Bonyn gwyn, a gwerddlas ddeilen;
 Y bonyn gwyn sydd arwydd purdeb,
A'r ddeilen werdd o anfarwoldeb;
Y Cymry, o byddant bur i'w gilydd,
A flodeuant yn dragywydd.

Cas gan elyn weled purdeb,
Cas gan elyn weled undeb;
Purdeb fyddo'n nghalon Cymro,

A chyda phurdeb undeb cryno,
Gwenynen Gwent! tra'r undeb fyddo
Ni all gelyn drechu Cymro.
I bob Cymro mae'r genhinen
Yn ei law yn llyfyr darllen;
Er haf a gaeaf, gwynt ac oerni,
Ei gwyn fydd wyn, a'i glas yn lesni;
Gwenynen Gwent! ac felly'r Cymry,
Er bob tywydd fyddant Gymry.


AMSER.

Tempus edax rerum.—OVID.

Amser a ehed—a ehed—
E a ehed yn gynt,
Na thonn y môr, er cynted rhed—
Yn wyllt o flaen y gwynt.

Amser a ehed—a ehed
Yn gynt na 'r llong ar daith,
Pan yn gyflymaf hi a red
Dros donnau 'r eigion llaith.

Amser a ehed—a ehed—
Yn gynt na'r eryr cryf,
Pan fo â'i esgyll braidd ar led,
Yn disgyn ar ei bryf.

Amser a ched—mawr fy mraw—
Na'r fellten mae yn gynt,
Pan gwylltaf naid o'r dwyrain draw
I'w gorllewinol hynt.

Cyflymach Amser nas gall iaith
Adrodd gyflymed yw;
Ystyriwn bawb gan hynny'n gwaith.
A'r modd y dylem fyw.

Cyflymed ydym ar ein taith
Ag Amser—onid gwir?
Ein cartref Tragwyddoldeb maith,
Lle byddwn bawb cyn hir.



Amser, amser, sydd yn hedeg,
Minnau'n myned gyd âg ef;
I wlad bell yr wyf yn teithio.
Enw hon yw Teyrnas Nef,

Ysbryd Sanctaidd,
Arwain fi i ben fy nhaith.

Amser, amser, O mor gyflym,
A diorffwys ar ei daith;
Fy rhybuddio mae ef beunydd
Nad yw'm gyrfa yma'n faith;
Ond tragwyddol,
Fydd yr yrfa sydd o'm blaen.


DYDD Y FARN FAWR.

Dydd barn fydd hwnnw, pan fo'r tân
Yn llosgi'r byd yn llwyr;
A'r holl elfennau gan wir wres,
Yn toddi megys cŵyr,
Ofnadwy ddydd! dydd dychryn braw,
Dydd mawr digofaint Duw;
Dydd fydd i Farnwr mawr y byd
Farnu 'r meirw a'r byw.

Llais udgorn Duw, mewn nerthawl floedd,
A draidd trwy'r beddau oll;
Cyfyl y meirw, pawb yn fyw;
Pob un, heb un ar goll.
Ac angeu'n syn yn sefyll fydd,
Pan wêl ei feirw yn fyw,
Yn cael eu cludo o bob cwr
Ger bron gorseddfainc Duw.

A'r holl genhedloedd o bob oes,
O bob rhyw lwyth, ac iaith,
A fernir gan gyfiawnder pur,
Pob un yn ol ei waith.

Gwybodus fydd i'r Barnwr mawr
Pawb oll; pob drwg; pob da;
Cyfiawn ac Hollwybodol yw,
Cyfiawnder Ef a wna.


GALAR Y BARDD.

Wylaf dro; tawaf wedi.—LLYWARCH HEN.

Hiraeth y sydd i'm haros
Beunydd; och! yn nydd a nos;
Llym iawn fal blaen picell yw,
Hawdd gweyd, yr hiraeth heddyw.
Blinir fi yn hir gan hwn,
Miniog yw; ef nis mynnwn.
Hiraeth am dad, ni'm heiriach,
Ac am fam oedd fwynfam fach;
Ac am Gwen, fy chwaer wen oedd,
Mawr y tro, marw y trioedd!
Amddifad o dad ydwyf,
O Dduw ac heb fam ydd wyf.
Ni welaf yr hen aelwyd
Yn llon mwy, ond llwm a llwyd.
Delwodd cyfeillion dilyth,—Yn iach,
Bala! bellach byth;
A Llyn Tegid, hyd a lled,
Eleni ar ei laned.
Yn iach Meirion diriondeg
A roai im bur Gymraeg:
Yn iach fryniau, 'n iach fronnydd;
Hyd f'oes mwy im gofid fydd
Gorfod troi, nid o'm gwirfodd,
O'm hen fan oedd wrth fy modd.

Wylwyd o'u rhoi ar elawr,
Un fodd yn Nghaerfyrddin fawr;

Elen fy chwaer yn wylaw
Yn drwm, a'm brawd Dafydd draw.
Nid oes neb a gollodd dad,
Neu fam gywir, gwir gariad,
Neu chwaer ŵyl, anwyl eneth,
Yn y byd na wyla beth.

Heddwch i'w llwch lle llechant,
Ac angylion gwynion gant
Gwylient ef yno hefyd
Yn y bedd, tan ddiwedd byd;
A'u du fedd gwarchadwent fil
Acw yn monwent Llanycil;
A'u cyrff hwy dygent lle cânt
Fyd gwell pan adgyfodant.

I bawb a barcho eu bedd
Deued da yn y diwedd;
A barcho eu bedd a berchir,
Cyn marw ceiff hwnnw oes hir.
Sawl a blanno arno ir—
Lysiau, ef a hwylusir
Yn ei amcan; buan bydd
Ei glod ef drwy y gwledydd;
A phan fo marw hwnnw 'n hen,
A'i roi yn y ddaearen,
Ei fedd ef un fodd a fo
A gwyrdd ddail teg i'w urddo.


[Ganwyd Charles Saunderson (Siarl Wyn o Benllyn) yn y Bala yn 1819[15]. Un o deulu y Robert Saunderson, ddaethai i'r Bala i argraffu ar anogaeth Mr. Charles oedd. Gwr ieuanc hawddgar ac athrylithgar ydoedd,—

"Ail cwrel ar yr eira gwyn oedd rhosyn tlws dy rudd,
Dy ddawn a gadd wallt aur yn do, O nid anghofio fydd."

Bu farw o'r geri marwol,[16] yn New Orleans, Hydref 24, 1832.]


IOAN TEGID.

IOAN, wr o iawn araith,
Golud ac urdd gwlad ac iaith
Cymru hen, y Cymro hardd,
A gwiw erfai gywirfardd;
Nid er mawl, na d' aur melyn,
Y gwas hardd, y gweuais hyn;
Ond o union fron ddi frad,
Sy'n curo o swyn cariad;
Cariad i fy hen wlad hon,
I Degid a'm cym'dogion;
A thra pery hynny'n hon,
Gyfaill, cei hybarch gofion;
Cefnogydd a llywydd llên #
A fuost i fy awen;
Yn hoff fardd i'm hyfforddi,
A thra mwyn athraw i mi:
Gwna'm mant, am y mwyniant mawr,
Dy foli hyd fy clawr.
Heddyw pwy sy'n fwy haeddawl,
A phwy mwy a gaiff y mawl?
Mwy gwr nid oes am gronni dysg.
A threiddiawl ieithwr hyddysg:

Iaith ei wlad a'i theleidion,
A wyr y bardd, ie o'r bôn:
Hoffi yr wyf ei gân ffraeth,
A'i ber ddawn mewn barddoniaeth.
Ond, Ow'r modd dwedir i mi.
'N gadarn, fod Saeson gwedi
Dwyn ei awen fwyn o fawl,
Mewn rhyw fodd, mae'n rhyfeddawl.
Os gwir yr iasawg eiriau,
Eirian ddyn, gyrr air neu ddau,
Mewn mawr frys i'n hyspysu,
Ioan Fardd, os hynny fu:
Ond os ydwyt, was hoewdeg,
Yn berchen ar d' awen deg;
Os oes ymhlith y Saeson,
Gariad at yr hen-wlad hon,
Gyrr bennill neu bill bellach,
Oddi yna i'r Bala bach.
Ai bras oes mewn bro Saeson,
Sy'n fwy mad na'r hen—wlad hon?
Neu Rydychain, gain ei gwedd,
Na gogoniant gwig Gwynedd?
Mae y llwyni meillionog,
Lle nytha brân, lle cân côg;
A'i rhianedd wawr hynod,
A'r Aran a'r Bala'n bod;
Yr un y Llyn er ein llonni,
'R un hefyd Tegid wyt ti?
Yn wir mae'n rhaid it' ai naill
Eu hanghofio, fy nghyfaill,
Neu o ddig, neu ddiogi,
Fwyn ŵr, ein hanghofio ni;
Na roddit ryw arwyddion
O'th fri hardd i'th wiw fro hon.

Nid o ddig neu gynfigen
Y gyrrais i'r geiriau sen;
Ond o gariad i gywrain
Ddawn cu dy farddoni cain,
Tawaf—gobeithiaf ca'i beth
O'th hoew—blawdd farddwaith hybleth.
Byd hyfryd boed a hoew—fri,
A gwynfyd, Tegid, i ti:
Heb ddolur, heb ddu elyn,
A siriol oes, medd Siarl Wyn.


YSGOL RAD Y BALA.

A fyfyriwyd wrth ymweled ag Ysgol Rad y Bala, yn ol marwolaeth fy hen athraw,
a diffuant gyfaill, Mr. Evan Harries.

Mil henffych iti, orhoffusaf dud!
Anwylach wyt nag unman yn y byd!
Wyt anwyl im, wrth gofio'r athraw cu
A'm dysgai ynnot—yr ieuenctyd lu
O'th gylch chwareuai, 'n nyddiau llon fy rwyf,
Fy ysgafn fron, ddieithr i boen a chlwyf.
Mae pob rhyw lwyn, a phob rhyw garreg bron,
Yn dwyn i'm cof ryw adgofiadau llon,
Neu anhap gas—neu ryw chwar'yddiaeth fwyn
Y digwyddiadau fu yng nghil y llwyn.
 Hyn oll aeth heibio—'n awr eu coffa fydd
Yn llenwi'm bron â pharchedigaeth prudd.
Y wig oedd wech, delwedig ydyw'n awr,
Yr ardd oedd hardd, anurddawl yw ei gwawr,
A llaw 'r gormeilydd Amser, amlwg yw,
Ar oll o'th gylch, ar bob planhigyn gwyw;
Ond uwch pob dim sydd yn anurddo'th wedd
Y mwyaf oll, fod Harries yn y bedd.

Un athraw mwynach, gyfaill purach, gwn
Ni cheid o fewn yr holl fydysawd crwn.
Mor wych cryfhai bob amgyffrediad gwan,
Meithrinai ddeall ei ddisgyblion mân:
Ond angau certh, gormesydd dynol had,
A'i torrodd ymaith—Ow! fy athraw mâd!
Dy golli oedd yn golled mawr i mi,
Ond ennill mawr ac elw yw i ti.
Pa le mae'm cyd 'sgolheigion oll i gyd?
Nid dau o'r gloch a'u cyrcha'n awr ynghyd.
Gofynnais, P'le mae hwn oedd lon ei wedd?"
"Er's amser maith mae ef y'ngwaelod bedd." "
Pa le mae hwn a hwn, oedd un di goll ?"
"Y tad fu farw, a'r teulu chwalwyd oll."
Fy hen gyfeillion gwasgaredig ynt,
Prin y mae tri, y lle bu degau gynt.
Yr athraw gwiw, a'r ysgolheigion oll,
O'r hen drigfannau aethant oll ar goll.
Nid sefydledig ym, ond ar ein taith,
Ein cartref ydyw'r tragwyddoldeb maith.

BEDD JOHN EVANS.

A gyfansoddwyd ym Mynwent Llanecil, Ionawr, 1829, wrth weled beddrod yr hybarchus a'r
duwiol John Evans, gynt o'r Bala, heb un bedd-faen arno.[17]


Pan y dychwel rhyw ariannog
Wr galluog balch i'r llawr,
Rhoddir mynor faen arddercheg
Ar ei fedd, yn golofn fawr;
Arni cerfir ei urdd-enwau.
Ei holl achau, nghyd a'i foes,
A chanmoliaeth am rinweddau
Na chyflawnodd hyd ei oes.


Yma gorwedd un mwy 'i urddas
Na bon'ddigion beilchion byd,
Cydetifedd Crist mewn teyrnas
Nefol, gaed trwy aberth drud:
Yma'n gorwedd heb un garreg
Ar ei feddrod yn y llan;
Gellir hyn a dim ychwaneg
Er cof a pharch i'w farwol fan.

Ei enw'n unig fydd yn ddigon,
Ofer cerfio 'i barch a'i glod,
Cerfiwyd hynny ar bob calon
A'i hadwaenai is y rhod:
Nid eill carreg byth m 'r cynnwys
Ei rinweddau tra 'n y byd,
Na cherfier ond ei enw gwiwlwys,
Hwn a'i cynnwys oll i gyd.

Gwn fod llawer yn chwenychu
Gweld ei fedd-faen, o'r rhai fu
Cyd ag ef yn cyd-ddyrchafu
Baner waedlyd Calfari;
Fel y gallai gyd â'i ddagrau
Wlychu a golchi godre hon,
Er parch mwyn i'w deg rinweddau,
Ac ysgafnu'i lwythawg fron.

Ac fe allai aml lencyn
Gadd ei gyngor tadol ef,
I ado'r ffordd oedd yn ei dilyn,
Ac i ddilyn llwybrau nef;
Ga'i ddiddanwch mawr wrth wylo,
Ac wrth roddi arni 'i bwys;
Wrth ei gweled wnae adgofio
Ei gynghorion tirion dwys.


HIRAETH

Bum dan amryw boenau o ddolur meddyliau,
A llidiog drallodau a nwydau llawn aeth;
Ni chefais er hynny un och i'm gwanychu,
Na dim im' amharu fal hiraeth.

Mae hwnnw yn glynu wrth f' esgyrn a'm gwasgu
Mae yn fy nirdynu a'm llethu i'r llawr;
Dy gwmni, ŵr gwiwlon, rydd adwedd i'r galon,
Ped fae fy ffrind tirion ond teirawr.


DOLI.

Tôn: "MORWYNION GLAN MEIRIONNYDD.

Hardd ar fore haf—ddydd teg
Yw'r gwiwdeg haul wrth godi,
Gwych ymhlith y blodau gwiw
Yw hardd oleuliw'r lili;
Harddaf ar y ddaear hon
Yw du-lon lygad Doli.

Anwyl ydyw bydio 'n wych
A llonwych gyfaill heini;
Anwyl perl fo'n hardd ei liw,
Rhai anwyl yw'm rhieni;
Ond na dim y'Nghymru bach,
Anwylach yw fy Noli.

Mwyn yw'r eos ber ei llais,
Hyfrydlais ddifyr odli,
Côr o offer cerdd a rydd
Ryw fawr ddywenydd inni;
Mwynach na'r holl fiwsig hyn,
Neu'r delyn, yw llais Doli.

Diddan yw cael tân mewn ty,
Mae'n glyd mewn du galedi;

Hoffus yw cael gwely gwych,
Rhag hirnych rhew ac oerni;
Da i minnau rhag pob nam,
Fy nwylaw am fy Noli.

Hyfryd yw i'r corff fo'n freg
Gael adeg o'i galedi;
Mwyn ar daith yw'r ty neu'r llwyn
Rydd fwyn orweddfa inni;
Minnau garaf roi'm pen llesg
Rhwng dilesg ddwyfron Doli.

Melus ydyw'r mêl a dyn
Y gwenyn gwibiog heini;
Melus yw'r Tokay i'r min,
Neu flasus win Bwrgwndi;
Mil melusach, yn ddiau,
Yw diliau cusan Doli.

Gwn fod llawer lodes lân
O'r Aran i'r Eryri;
Diarhebol yw'r sir hon
Am lon forwynion heini;
Morwyn deg ym Meirion dir
Ni welir fel fy Noli.


TY FY NHAD.

Er byw mewn anrhydedd, digonedd deg wawr,
A bod im' o roddion, neu foddion, ran fawr,
Gwell ydyw byw'n isel mewn rhyw gwr o'm gwlad,
Na thrigo mewn palas—gwell bwthyn fy nhad.

Tŷ fy nhad—Tŷ fy nhad,
Di-ail Tŷ fy nhad.


Er bod aur ac urddas ym mhalas gwr mawr,
A gwych addurniadau, a gemau teg wawr,
Mae gem mwy disgleirwych, hyf eurwych hardd fâd,
A hon yw boddlonrwydd ym mhwthyn fy nhad.

Tŷ fy nhad—Tŷ fy nhad,
Di-ail Tŷ fy nhad.


Boed i mi gael trigo 'n hyf yno hyd fedd,
Yn foddlon mewn digon, a hoewlon mewn hedd
A boed im anadlu fy olaf yn fâd,
Lle anadlais gyntaf, sef bwthyn fy nhad.

Tŷ fy nhad—Tŷ fy nhad,
Di-ail Tŷ fy nhad.

GADAEL GWLAD.

Ar y dôn "AR HYD Y NOS."

Yn fy mron y mae trychineb,
Wrth adaw 'n gwlad,
Rhed afonydd hyd fy wyneb,
Wrth adaw 'm gwlad,
Gadael rhiaint hoff caruaidd,
Gadael hen gyfeillion mwynaidd,
Gadael gwlad yr awen lathraidd,
Wrth adaw 'm gwlad.

Gadael gwlad y telynorion,
Trwm yw i mi,
Gadael glân rianod Meirion,
Trwm yw imi,
Gadael Gwenfron, gadael Gwyndyd,
Gadael pob diddanwch hyfryd,
Yn eu lle cael môr terfysglyd,
Trwm yw i mi.


TEGIDON.

Ganwyd John Phillips (Tegidon) yn y Bala, Ebrill 12, 1810; prentisiwyd ef yn argraffydd gyda Mr. Saunderson; yna bu yn arolygu swyddfa y Parch. John Parry, o Gaer; tua 1850 symudodd i Borthmadog i arolygu swyddfa cwmni llechau, ac yno bu farw, Mai 28, 1877. "Yr oedd ei fywyd," ebe Glaslyn, "yn llawn o beroriaeth, a diweddodd fel y diweddid anthem, mewn amen dyner a dwys." Rhowd ef i huno ym mynwent Llanecil, dan yw y gorllewin—"Dyma orweddfan y talentog Tegidon." Gwel Cymru VI. 111.

SIARL WYN.

OCH! fyd y gofidiau! man cerdda yr angau,
A'i eirf yn dryloewon, a'i saethau yn llym.
O'i flaen yn yr ymdrech gwroniaid yn ddiau
A gwympant y'nghanol eu dewrder a'u grym:
Pa le mae cyfeillion llon oriau fy mabiaeth.
A hoffwn eu cwmni ym mhob rhyw chwar'yddiaeth?
Yfasant o chwerwon wyllt ffrydiau marwolaeth,
Diang'sant gan gyfrif y byd yma'n ddim.

Ow Siarl! mae y newydd am awr dy farwolaeth
Yn gwneuthur i'm calon och'neidio yn brudd;
A gweled y llwybrau gerddasom ni ganwaith,
Yn dwyn rhyw adgofion i'm meddwl y sydd;
Doe yn ein hafiaeth yn llon ein hwynebau,
Heddyw ar wahan gan rwygiad yr angau;
Doe yr adroddai ei gyfansoddiadau,
Heddyw yn ddistaw mewn gwely o bridd.

Nid dawn na ffraethineb, na glendid wynepryd,
All gadw draw angau, llymfiniawg ei gledd;
Pe gall'sent ni fyddai fy nghyfaill siriolbryd
Yn llechu yn dawel yn ister y bedd.

Pan ydoedd enwogrwydd, a pharch, ac anrhydedd—
Ar fin ei goroni, a rhoi iddo fawredd,
Marwolaeth a'i dygai o'n mynwes i'r dufedd,
Yn rhwym aeth i'w garchar, newidiwyd ei wedd.

Cynghanedd ei awen a sŵn De la Plata,
Wrth olchi ei glannau oedd gymysg ber gân,
Y'nghanol gwlad estron e gofiai fro Gwalia,
A'i serch yn ei fynwes enynnai yn dân:
Meib Cymru a garant hoff sain ei ganiadau,
A chân ei benhillion adseinia ein bryniau;
Ond, O! yn ein calon mae dwysion riddfannau,
Na chawsai ei feddod o fewn ein bro lân.

Hiraethai am gaffael gorweddfan yn dawel,
Mewn mynwent y'nghanol ei frodyr ei hun;
Ond hyn ni oddefai yr Arglwydd goruchel,
Sy a'i ffyrdd yn y cwmwl uwch deall pob dyn:
Yn lle caffael marw yn nhŷ ei rieni,
Yn Orleans Newydd y bu yn ymboeni,
Dan ddyfnion arteithiau dychrynllyd glwy'r geri,
Dibenodd ei yrfa mewn gwaew a gwŷn.

O estron ! O estron ! ein serch a'th dyngheda,
I lwch ein bardd ieuanc boed iti roi parch,
O fewn i dy randir yn dawel y llecha,
Yn fud ac yn llonydd dan gaead ei arch:
Ei ben a orlenwid ag amlder o ddoniau—
Diferai gwin awen oddi ar ei wefusau,
Wrth brofi o hono llon oedd ein meddyliau—
O estron ! O estron ! gwna erom ein harch.

Yn iach i Siarl enwog—pan blethai serchawgrwydd,
Ei llawryf o amgylch ei ruddiau yn fad,

Ow! Ow! a anhuddwyd y'ngwlad y distawrwydd,
Heb gael ei ddymuniad ym mwthyn ei dad.
Ty nghobaith a ddywed fod swn ei awenydd
Ar lan afon bywyd yn seinio'n fwy celfydd,
Na phan y sibrydai ei ganau ar lennydd
La Plata, na Dyfrdwy, na nentydd ei wlad.

SUL CYMUNDEB YN Y BALA.

Mae'r bregeth bwysigawl yn awr wedi gorffen,—
Desgrifiad cyffrous o'r Iesu ar groesbren,
Y cariad anfeidrol, yr iawn mawr a roddwyd,
A'r llwybr i gymod â Duw a agorwyd;
Elias,[18] fel angel yng nghanol y nefoedd,
Yn traethu holl gyagor Jehofa i'r lluoedd.
Y dorf a gydunant mewn emyn ddiolchus,
Ar dôn fechan wledig, ond eto soniarus.
Fe hulir y bwrdd, darllenir rhyw gyfran
Gan wr ysgolheigaidd[19] a golwg fwyneiddlan;
Ac yna ymafla Elias yn ddichlyn,
Yn bwyllog, ac araf, yn llestri y cymun.
Ei eiriau ddiferant fel gwinoedd yn felus;
A hongia y dyria yn fud wrth ei wefus.
Hen wladwyr mynyddig yn selio cyfamod
Yn aberth y groes wrth allor y Duwdod;
Hen wŷr lled fethiantus, am dro yn anghofio
Eu gwendid cynhwynol, ymron iawn a neidio;
Hen wragedd oedrannus adfywient yr awrhon,
Gan ollwng eu lleisiau fel heinyf wyryfon;
Yn ol ac ymlaen ymysgwyd wna'r dyrfa,

Fel gwenith teg, llawndwf, dan awel cynhaea.
Byrddiad ar fyrddiad yn dirif ymwasgu,
Dynion drwy'u gilydd yn gwau heb ddyrysu;
Un rhan newydd dderbyn y nefol arwyddion,
A rhan yn ymwthio i'w derbyn yn dirion;
Dwylaw ar led at ddwylaw'r gweinidog,
Un meddwl mawr, eang, drwy'r dyrfa amrywiog;
Llygaid y dorf ar Elias sefydla,
A'u ffydd yn addoli ar lethrau Calfaria.
Fe borthodd y dorf,—mae rhai ar eu gliniau,
Ac ereill yn canu nefolaidd bêr eiriau,
Yn wylo, yn canu, hyd ddengwaith yn dyblu;
A'u llaw ar eu cern, a'u llygaid i fyny;
Hen bennill melusbêr[20] a ddenodd eu hysbryd
Mewn moment i rywle i ardal y gwynfyd,—

"Gwych sain
Sydd eto am y goron ddrain,
Yr hoelion dur a'r bicell fain,
Wrth gofio rhain caff uffern glwy;
Cadwynau tynion aeth yn rhydd.
Fe gaed y dydd, Hosanna mwy."


DINISTR CARTREF.

"Cartref!" O enw fu'n swynol flynyddau,
"Cartref," lle tyfai sirioldeb a hedd;
Cartref, ysbeiliwyd mewn munud o'i dlysni,
Mae'n oer fel y graig, mae'n ddu fel y bedd.
"Y nefoedd," fy nghyfaill, O ardal fendigaid,
Lle dwedi mae bywyd, a gwynfyd, a hoen;


Cartref fy mhlant, y tlysion anwyliaid,
Lle gorffwys fy mhriod uwch gwendid a phoen.

Do, gwelais rosynau yn agor, yn gwywo,
Do gwelais y donn yn ymdorri ar y graig; '
Rwyf heno o'r herwydd a'm calon ar ddryllio,
Y beddrod yw gwely fy mhlant a fy ngwraig.

Ti ddwedi fod bywyd yn rhywle yn agos,
Mi dybiwn mai angau yw porthor y nef; R
hof fy llaw dan fy mhen yn ddistaw i aros,
Wrth drothwy fy Nhad, a'm nerthu wna Ef.


HEDDWCH FEL YR AFON.

Ar fin Iorddonen ddofn a gwyllt
Eisteddaf mewn gofidiau,
Ar godiad haul mae ing fel byllt
Gan angau i'r pellterau.
Rhaeadrau ar raeadrau'n chwyrn
A gwynt i wynt yn ateb;
A swn fel pe bai mil o gyrn
Yn hafnau tragwyddoldeb;
Fe godai'r dwr, eis innau'n wan
Gan ofn yn llethu 'nghalon;
Ond clywais lais o'r arall lan,—
Mae heddwch fel yr afon.

Ymgodais i groesawu'r sain,
'Roedd swn telynaidd iddo,
A gwelwn wr mewn gwisgoedd cain,
Ac aethum tuag ato;
Gofynnais iddo,—Glywsoch chwi
Ryw swn yn nhorr yr awel?

O do, rhyw air a gipiodd hi
O donau'r deml dawel;
Mae corau fil a miloedd myrdd
Ar lethrau Mynydd Seion,
Yn bloeddio drwy y coedydd gwyrdd,—
"Mae heddwch fel yr afon."

A ga 'nychymyg groesi'r dŵr
I hyfryd fro y nefoedd,
I weld y Bugail, uchel wr,
Yn ddwyn ei ddiadelloedd
At y ffynhonnau bywiol, llawn,
Ar fryniau tragwyddoldeb
Heb boen na lludded fore a nawn,
Na deigryn ar eu hwyneb?
Caf weld, 'rwy'n siwr, ar fryn neu bant,
Ymysg y disglair luon,
Fy mhriod hoff, a'm hanwyl blant,
A'u heddwch fel yr afon.

Wyf wan, wyf isel, ac wyf brudd,
Wyf unig mewn trallodion,
Unigrwydd sydd yn gwlychu ngrudd,
Unigrwydd dyrr fy nghalon;
O na chawn eto godi 'mhen
O'r trallod blin i fyny,
O cha chawn weled eddi wen
Wrth odreu'r cwmwl pygddu;
I leddfu 'mhoen, a'm gwneud yn iach,
Ac i lonyddu 'nghalon,
O na chawn ddafnau bychain bach
O'r heddwch fel yr afon.

IOAN DYFRDWY.

[Y mae hanes y bardd ieuanc hwn ar garreg ei fedd yn Llanecil fel hyn:—

ER COFFADWRIAETH AM

JOHN PAGE,—Ioan Dyfrdwy,—B.B.D.

ac un o sylfaenwyr

CYMDEITHAS LENYDDOL MEIRION,

yr hwn a fu farw

Mehefin 17eg, 1852,

Yn 20 mlwydd oed.


Perchen yr awen wiw rydd—oedd Ioan
O ddiwyd efrydydd;
Eginin cryf ei gynnydd,
Hunai ar daith hanner dydd.

Blodau heirdd a beirdd heb us—yr awel
A'r ywen bruddglwyfus
Addofant yn dorf ddilys
Enw ei lwch ger Beuno lys.


Diau hynotach daw Ioan eto,
Yn wr heb anaf, o hen âr Beuno;
Yn derydd esgyn wedi ei hardd wisgo
A mawredd Salem i urddas cilio,
Cerdd i'w Frawd 'nol cyrhaedd y fro—uwch angen,
A'r bêr ddawn addien heb arwydd heneiddio.

DOCHAN FARDD.]

WEDI'R CWYMP.

(Dyfyniad o'r gân "CREFYDD.")

YR awel a ddywed o frigau y llwyni,—
"Ti dorraist y gyfraith, a marw a fyddi;"
Mae hithau Euphrates o'i cheulan yn galw,
Bwyteaist y gwenwyn, a thi fyddi marw.'
Mae tannau y nefoedd yn awr wedi sefyll,

Gresynant dros Eden a'r mawr godwm erchyll.
Ond, yn y distawrwydd yng ngwlad y goleuni,
Tebygaf y gwelaf y Tad yn cyfodi,
Gan alw cerubiaid, seraffiaid, angylion,
Fel y cydymgynghorai yr holl urddasolion;
Dywedai ar gyhoedd," Dynolryw bechasant,
A minnau heb aberth nis rhoddaf faddeuant;
Dywedwch, O dyrfa sancteiddlawn a hawddgar,
Pa fodd y gwneir cymod rhwng nefoedd a daear."
Ni chlywaf un ateb, ni welaf neb digon,
Nid ydyw eu heinioes yn eiddo'r angylion;
Cyfiawnder y Duwdod sydd wedi ei ddiglloni
Oherwydd i'r gyfraith gan ddyn gael ei thorri.
Ond gwelaí ail berson y Drindod yn codi,—
Gan ddweyd,—Fy anwyl—Dad, mi fentraf, os mynni;
I'r ddaear disgynnaf, a gwisgaf ddynoliaeth,
A iawn i Ti dalaf drwy ddioddef marwolaeth;
A hefyd disgynnaf i ddyfnder y beddrod.
Er trefnu ffordd gyfiawn i faddeu pob pechod,
Mi fynnaf ogoniant i'th enw'n dragwyddol
O rasol achubiad eneidiau anfarwol.'
Ah! Dacw lawenydd anrhaethol yn codi,
Wrth ganfod y wawr-ddydd ysbrydol yn torri;
Mae'r haul yn pelydru, a'r t'wllwch yn cilio,
A thannau y nefoedd drachefn yn adscinio;
Mor felus chwareuant eu tonau newyddion,
Moliannu y Duwdod am achub plant dynion;
Dechreuwyd ar donau na dderfydd eu canu
Tra byddo y Duwdod ei hun yn hanfodi.
A hwythau, ellyllon y pydew diwaelod,
Siomedig y ffoant, yn ddirfawr eu syndod,
Wrth weled y Drindod yn estyn trugaredd
I ddyn pechadurus drwy faddeu ei gamwedd.

ROGER EDWARDS.

[Ganwyd Roger Edwards yn y Bala yn 1811. Bu farw, wedi bywyd o weithio ac arwain, yn y Wyddgrug, yn 1886. Meddai athrylith i gynllunio pethau newyddion, a nerth i weithio'n ddygn. Efe, yn ei Cronicl yr Oes, gychwynodd lenyddiaeth boliticaidd Cymru'r dyddiau hyn; yn 1845. gyda Dr. Lewis Edwards, cychwynodd y Traethodydd; yn 1846 daeth yn olygydd y Drysorfa. Yr oedd a fyno pobl y Bala lawer a'r Geiniogwerth, gyhoeddid yn Ninbych o 1847 i 1851; ynddi tarawyd tant hollol newydd, fwy naturiol a byw, yn y ddwy gân sy'n dilyn.]

YR AFONIG AR EI THAITH.

AFONIG fechan, fywiog, fad,
Pa le'r ai di?
"Af adref, adref at fy nhad;
Môr, môr i mi!"
Mae'r rhwystrau'n fawr, mae'r daith yn hir,
Mae'r ffordd trwy lawer diffaeth dir;
Gwell iti oedi'r hynt, yn wir;
O aros di!
"Na, na, nid all nac anial maith,
Nac unrhyw fryn na bro ychwaith,
Fy rhwystro i gyrraedd pen fy nhaith:—
Môr, môr i mi!"

Afonig fechan, aros! Paid
A choledd twyll;
Fe all mai troi yn ol fydd raid—
O cymer bwyll;
O'th flaen mae'r mynydd uchel, serth,
A'i ddringo ef nis gall dy nerth,
I'r yrfa hon beth wyt yn werth?
O aros di!

"Er mynydd mawr ni lwfrhaf,
Ond heibio iddo yn ddiddig af—
Môr, môr i mi!"

Afonig fechan, yma yn awr
Da yw dy fod;
A pham y mae am gefnfor mawr
Dy ddyfal nôd?
Mae'th eisieu ar y felin draw,
Ac ar y weithfa wlan gerllaw;
Cyd-ddeisyf wnant yn daer ddidaw,
O aros di.
"Gweinyddaf arnynt wrth fynd trwy,
Ac ar laweroedd gyda hwy,
Er hyn fy llef a fydd fwy, fwy,
Môr, môr i mi!"

Afonig fechan, peraidd sawr
Sydd ar dy lan,
Ac mae'r planhigion gwyrdd eu gwawr
Yn harddu'r fan;
Mae'r helyg ystwyth uwch dy donn,
A'r blodau hoff o'th gylch yn llon,
Yn dweyd, gan bwyso ar dy fron—
O aros di!
"Cant fy nifyrru ar fy nhaith,
Ond myned rhagof fydd fy ngwaith,
Nes myned adref dyma'm iaith,—
Mor, mor i mi !"

Afonig fechan, hardd i ni
Dy wedd yn awr;
Ond beth a ddaw o honot ti
Mewn dyfnder mawr?

Mae'r eigion yn ddirgelwch prudd;
Dychrynna rhag ei geudod cudd,
Ac na ddos iddo mor ddiludd;
O aros di !
"Gwir fod y dwfn yn ddieithr wlad,
Ond hyn a wn—mae'n gartre' nhad;
Caf fy nghroesawn yn ddi—frad,
Môr, môr i mi!"

YR ASYN ANFODDOG.

Yn ei gut yn nhrymder gaeaf
Cwyno'n dost wnai asyn llwyd,—
"Gennyf mae y llety oeraf,
A rhyw wreiddiach sydd yn fwyd;
O na ddeuai gwanwyn bellach,
Cysur fyddai hynny'n wir;
Mi gawn wedyn hin dynerach
A chegeidiau o laswellt ir."

Daeth y gwanwyn a'i gysuron,
Do, a'i lafur yn un wedd;
Cwyna'r asyn gan orchwylion
Ar y meusydd yn ddi-hedd,—
Gyrrir fi yn awr yn erwin,
Ac esmwythder ddim ni chaf;
Cefais ddigon ar y gwanwyn,
O ra ddeuai hyfryd haf!"

Daeth yr haf; a ydyw'r asyn
Wedi caffael dyddiau gwell?
Na, nid yw foddlonach ronyn,
Hawddfyd sydd oddiwrtho ymhell;
Achwyn mae a'r nâd druanaf,—
"Och y gwaith, ac Och y gwres,

O na ddeuai y cynhaeaf
Dyna dymor llawn er lles."

Daeth yr hydref, ond siomedig
Ydyw'r asyn dan ei lwyth,
"Druan oedd fy nghefn blinedig,
Wedi'r haf rhaid cludo ci ffrwyth,
Cyrchu tanwydd erbyn gaeaf
Cario mawn a chario coed;
Och yn nhymor y cynhaeaf
Blinach ydwyf nag erioed."

Wedi troedio cylch y flwyddyn,
Mewn anghysur dwys o hyd,—
"Gwelaf bellach," medd yr asyn,
"Nad mewn tymor mae gwyn fyd;
Yn lle achwyn ar dymhorau,
Fel y maent cymeraf hwy;
Dyna fel y daw hi oreu,
Felly byddaf ddiddig mwy."

IOAN PEDR.

[Ganwyd John Peters yn y Bala, Ebrill 10, 1833. Bu gyda'i dad yn saer melinau, a gweithiodd yn galed i gael addysg. Ymhoffai yn enwedig mewn llysieueg, daeareg, a hynafiaethau. Yn 1859 daeth yn athro i Goleg yr Anibynwyr yn y Bala. Yr oedd yn hoff iawn gan ei ddisgyblion. Bu farw Ion. 17, 1877; hûn yn Llanecil.]

DAEAREG.

(Ovid, Metamorphoses. Liber xv.)

O'R llydan fôr y ganwyd sychdir gwyrdd,
O hyn yn awr ceir sicr brofion fyrdd;
Yn wasgaredig ceir (pa brawf sydd well?)
Y cregyn môr oddiwrth y môr ymhell;
A chafwyd rhydlyd angor hen cyn hyn,
Un trwm a mawr, ar uchaf gopa'r bryn;
O'r dyfnion bantiau ciliai'r dŵr ar daith,
A ffurfid yno heirdd ddyffrynoedd maith;
Yr uchel fynydd lyncid gan y môr,
Y safnrwth gynoedd lyncent eang fôr;
A'r gwlybion gorsydd, gan angerddol dân,
A droid yn sychdir cras o dywod man.


MYFYRWYR Y COLEGAU.

[Bu'r Bala yn gartref i golegau gweinidogion yr Anibynwyr a'r Methodistiaid er dyddiau Lewis Edwards a Michael D. Jones. Y mae Coleg y Methodistiaid yno eto. Tynnodd y colegau hyn wyr fel John Parry, Ap Vychan, Ioan Pedr, Thomas Lewis, Thomas Charles Edwards, a Hugh Williams, i fyw i'r Bala. Tynasant hefyd lu o efrydwyr, llawer o honynt yn feirdd da. Y mae llawer o'r rhain, ac o bregeth— wyr ddeuai ar bererindod i'r fro, wedi canu i'r Bala. Detholir dwy gân; un ddigrif ddireidus, ac un ddwys urdd— asol. Awdwr y gân ddireidus yw Glan Alun. Ganwyd ef, sef Thomas Jones, yn y Wyddgrug yn 1811, bu farw yn 1866. Yr oedd yn llenor gwych, ac y mae ei lyfrau,— Fy Chwaer." a'r Ehediadau Byrion"—yn adnabyddus iawn. Yr oedd yn wr cyhoeddus o rym a dylanwad.

Awdwr y gan ddwys i Green y Bala yw Huw Myfyr. Ganwyd ef, set Hugh Jones, yn Llanfihangel Glyn Myfyr yn 1845. Daeth i'r Coleg yn 1867. Bu yn Llanrhaiadr—ym— Mochnant ac yn Llanllechid, lle bu farw yn 1891. Yr oedd yn fardd melus a dwys.]

PRYDNAWN SADWRN YN Y BALA.

Cyfansoddwyd y llinellau hyn gan y bardd wrth groesi y Berwyn, lle y cyfarfu âg amryw o'r myfyrwyr yn myned i'w taith Sabothol.

"Mor hyfryd ar y mynyddoedd
Yw traed y rhai a efengylant dangnefedd."

FEL yr amgylchid Salem draw,
A'r hen fynyddoedd ar bob llaw,
Felly yn awr mae'r Bala bach
Yng nghanol cylch o fryniau iach;
Hiraethog, Mignynt, Garneddwen," [21]
A'r Berwyn anial oer ei ben,

A bryniau llai yn dringo'r ne,
Fel caerau oesol gylch y lle,
I gadw yr efrydwyr clyd
Yn ddigon pell o swn y byd.
Ac yma maent yn ddygyn iawn,
Yn gweithio o foreu glas i nawn;
Wrth ddiwyd drin yr Hic. Hæc, Hoc,
Hwy ddont yn ysgolheigion toc;
Ac ambell un yn fawr ei fri
A urddasolir â degree.

Ar ol llafurio yn ddifrêg
Trwy'r wythnos am wybodaeth deg,
Mor hyfryd ar y Sadwrn fydd
I'r bechgyn gael eu traed yn rhydd;
A'u gwel'd yn cychwyn yma a thraw,
Gan ymwasgaru ar bob llaw;
A neges fawr pob un fydd dwyn
Hen eiriau yr efengyl fwyn
I glyw trigolion yr holl wlad,
Gan lwyr ddymuno eu lleshad.

Bydd weithiau ddau, neu dri, neu fwy,
A cherbyd clyd i'w cario hwy;
Un arall geir yn dod ymlaen
Gan farchog ar gefn ceffyl plaen,
Ac ambell waith fe gwympa'r march
Gan lwyr ddarostwng gwr o barch;
Mae'n anawdd i'r myfyriwr mwyn
Astudio pregeth a dal ffrwyn.

Un arall mwy diogel ddaw
A ffon brofedig yn ei law,
A'i ddull yn apostolaidd iawn
Yn troedio'n gynnar y prydnawn.

Wynebant oll i'r bi yniau ban
Can's bryniau welir ym mhob man;
 Weithiau anturia mab y daran'
Yn hyf i groesi cwir yr Aran;
Ac weithiau i lawr dros Fwlch y Groes,
 Ni welais i'r fath le'n fy oes.

Wrth deithio ar efengylaidd hynt,
Fel hyn a'u pennau yn y gwynt,
Gwynt iach yr hen fynyddoedd sydd
Y codi eu hysbrydoedd prudd,
Ac yn eu bywioghau'n mhob man,
Yn enwedig yr ysgyfaint gwan;
Fe fagai aml un o'r rhain
Yn ddigon sicr y decline,
Ond fel mae awel y mynyddau
'N eu hadnewyddu y Sabothau.

Mor wych eu gweled ar ddydd Llun,
A bochau cochion gan bob un,
Yn dod yn ol yn llawn o rym,
Am wythnos eto o lafur llym.

Y casgliad yw, mai 'nhref y Bala
Y rhag—derfynwyd lle'r Athrofa;
A bod y rhai a'i mynnant ymaith
Yn gweithio'n gwbl groes i'r arfaeth.

GLAN ALUN.

GREEN Y BALA.

Y BALA, Salem wen,
Gad im dy alw,
Boed bendith ar dy ben,
Ti haeddi'r enw;
Os bu rhyw lecyn mad
O ddaear ein hoff wlad,
Yn deml i Dduw a'r Tad,
Y Green yw hwnnw.

Ein tadau gyda hwyl,
A pher hosanna,
Fel tyrfa i gadw gwyl
A gyrchent yma;
O na chaed eto'r fraint
O weled yn ei maint
Gymdeithas fawr y saint,
Ar Green y Bala.

Nid tem oedd hon ychwaith,
Heb un Shecinah;
Mor amlwg lawer gwaith
Bu gwedd Jehofah,
Ni feiddiai un dyn byw
Mewn rhyfyg balchaf ryw
Ofyn pa le 'roedd Duw
Ar Green y Bala.

Maes lle bu arfau'r nef,
Rhai nad ynt gnawdol—
Er maeddu uffern gref,
Trwy Dduw yn nerthol;
Cythreuliaid heddyw pan
Dramwyant heibio'r fan
A gywilyddiant gan
Adgofion ysol.


Maes cysegredig yw,
Rhyw hynod Fethel;
Lle bu angylion Duw
Yn cyrchu'n ddirgel;
Bu'n borth y nefoedd trwy
Eu rhad wasanaeth hwy,
Yn gweini balm i glwy'
Pechadur isel.

Y ddeufyd ar y Green
Ddoent i gyffyrddiad,
Nes teimlid fod y ffin
Uwchlaw olrheiniad;
Tebygid lawer pryd
Fod yr ysbrydol fyd
Yn hawlio'r maes i gyd
Trwy oresgyniad.

Fel addfed faes o haidd,
Ymdonnai'r dyrfa;
Mewn duwiol nefol aidd
Ar Green y Bala;
Fel trwy addolgar reddf,
Pa chwythai corwynt deddf,
Neu'r awel dyner leddf,
O ben Calfaria.

Wrth gofio'r amser gynt
Ar Green y Bala;
Yr angel ar ei hynt,
Fan hyn orffwysa;
Nes llwyr anghofio'i daith,
Mewn gwledd fyfyriol faith,
Wrth feddwl am y gwaith
Gyflawnwyd yma.


Pery yr enw pan
Y cyll yn Ngwalia,
Yn air teuluaidd gan
Drigolion Gwynfa;
Tra cenir am y gwaed,
A'r bywyd trwyddo gaed,
Fe gofir am a wnaed
Ar Green y Bala.

Yr adgof am a fu,
Ar Green y Bala;
Sydd gwmwl damniol du
Uwch glyn Gehenna;
Defnynna'n gawod boeth,
Ar lawer enaid noeth,
"O na fuaswn ddoeth,"
Mewn ing ddolefa!

Tydi yr hen wrandawr,
Dy hun na thwylla;
Trwy ddisgwyl pethau mawr
Na chêst hyd yma;
Nac oeda ddim yn hwy,
Ni fedd y nefoedd fwy,
Na'r hyn yr aethost trwy
Ar Green y Bala.

Call rhodio'r ddaear las
Ar Green y Bala,
Fod eto'n foddion gras
I blant Jehofah;
Pob anghrediniol traw,
Pan gofiant, giliant draw,
Flynyddoedd deheu law
Y Duw Gorucha,


Ond heddyw dyma yw
Y syndod mwya'—
Cael dyn yn cablu Duw
Ar Green y Bala;
Clyw adyn lef gerllaw,
Fel llais o'r nef a ddaw,
Yn gwaeddi—Cilia draw—
Rhy santaidd yma.

Maes a neillduodd
Duw, O groth diddymdra,
I godi o farw'n fyw
Aneirif dyrfa;
A phan yn ulw mân,
Troir meusydd Cymru lân,
Yr olaf roir i'r tân
Fydd Green y Bala.

HUW MYFYR.



Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.

 
  1. Nid yw'r gerdd hon wedi ei gynnwys yn y llyfr
  2. Ar ddechreu'r ddeunawfed ganrif yr oedd y saer crefyddol a llengarol Morris ab Rhobert y cynrychioli yn y Bala deimlad. y Diwygiad Puntanaidd, i ddeffro drachefn, wedi ei farw of yn 1723. gyda'r diwygwyr Methodistaidd, —ei fab yng nghyfraith John Evans, &c. Gweler ychwaneg o'i waith yng nghyfrol Beirdd y Berwyn. Ni pheidiodd ei ddylanwad dwys ar feirdd y Bala, y maent bron oll wedi ysgrifennu peth o'i waith yn eu llyfrau.
  3. Dywedir fod yr hen Fala dan Lyn Tegid, ac y clywir swn y clychau'n dod drwy'r tonnau. Mae hen ddarogan hefyd y daw'r llyn dros y dref eto,
    Y Bala aeth, a'r Bala aiff,
    A Llanfor aiff yn llyn.'
    .
  4. Gwelodd Edward Samuel (1674-1748) Lyn Tegid aml dro, mae'n ddianeu, pan yn berson yn Metws Gwerfil Goch a Llangar. Cefais yr unglynion hyn gan Myrddin Fardd.
  5. Codwyd yr englynion hyn o fysg liaws rai eraill yn llyfr ysgrif J. Lloyd, twrne llengarol o'r Bala, Rhoddir hwy yma i ddangos beth ganai beirdd Eisteddfod pan oedd Goronwy Owen yn llanc un ar bymtheg oed.
  6. Cyfeiria'r beirdd at gam esboniad ar y gair Dyfrdwy sef "dwfr dwy" o herwydd ei bod yn tarddu o ddwy fynnon ar y Garneddwen. Ond "dwfr dwyf," sef dwfr dwyfol, yw'r wir ystyr. Addolid yr afon hon gynt.
  7. Dyfrdwy
  8. Cymer y Graienyn ei enw, meddir, oddi wrth faen anferth sydd ar y tir.
  9. Codwyd y cywydd hwn o un o ysgriflyfrau Rowland Huw. Y mae'r hen fardd wedi rhoddi cywydd ei ddisgybl gyda chywydd ar yr un testyn gan William Wynn, a chydag un o gywyddau Goronwy Owen.
  10. Llanuwchllyn, Llangower, Llanecil, Llanfor, Llandderfel, —sef pumplwy Penllyn.
  11. Credid fod afon Dyfrdwy yn rhedeg drwy'r llyn heb ymgymysgu â'i ddwr.
  12. Dywedir fod yr hen Fala wedi ei llyncu gan y llyn.
  13. I Ddaniel Ddu o Geredigion, yr hwn yn 1819 a ysgrifennodd benhillion i ofyn i Degid beidio mynd i'r India Ddwyreiniol
  14. Ar ol clywed cyfaill o esgobaeth Llandaf yn lladd ar y iaith Gymraeg, ac yn gweddio am ei difodiad
  15. 1809 sy'n gywir
  16. Colera
  17. Y mae carreg yn awr wedi ei gosod wrth ben beddrod yr henafgwr parchedig hwn.
  18. Y Parch. John Elias o Fôn.
  19. Y Parch. Simon Lloyd, B.A., awdwr yr Amseryddiaeth.
  20. Pennill o waith y Parch. John Roberts, Llangwm (1753— 1834).
  21. Y Garneddwen yw, yn briodol, ac nid y Garnedd Wen. Croesir hi'n awr gan ffordd haearn o Lanuwchllyn i Ddrws y Nant.