Gwaith Goronwy Owen Cyf II (testun cyfansawdd)

Gwaith Goronwy Owen Cyf II (testun cyfansawdd

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Gwaith Goronwy Owen Cyf II Gweler hefyd: Gwaith Goronwy Owen Cyf I (testun cyfansawdd)
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Goronwy Owen
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Owen Morgan Edwards
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Cyfres y Fil
ar Wicipedia


TUA GWLAD MACHLUD HAUL.

"Hir a maith yn ddiau yw'r daith i Virginia." II. 42.


Gwaith
Goronwy
Owen.


CYFROL II.

Llanuwchllyn: Ab Owen.


ARGRAFFWYD I AB OWEN GAN R. E. JONES A'I FRODYR,
CONWY.



Rhagymadrodd.

OFER fu disgwyl Goronwy Owen yn Llundain. Ni chafodd le fel caplan i eglwys Gymraeg, na fawr oddiwrth y Cymrodorion. Ofer y ceisiodd am fywoliaeth Mallwyd, ofer yr hiraethodd am gyfle i gasglu Geiriadur Cymraeg llawnach nag un Dr. John Davies. Digiodd y tri brawd caredig, y Morysiaid, o dro i dro; Lewis Morris oherwydd iddo ymddwyn yn annoeth ymysg y Cymrodorion. William Morris oherwydd iddo gadw y Delyn Ledr yn rhy hir, a Richard Morris oherwydd yr oferedd diamcan a'i cadwai yn dlawd. Ni threuliodd yn Llundain ond Mai a Mehefin 1755.

Ym Mehefin 1755 cafodd guradiaeth Northolt, ym Middlesex, gerllaw Llundain. Yno y bu, yn dlawd, ond yn weddol hapus, am ddwy flynedd.

Yn 1757 cafodd gynnyg swydd athraw mewn ysgol yn perthyn i hen goleg Williamsburg yn Virginia. Temtiodd y cyflog ef i droi, yn llesg a siomedig, tua gwlad machlud haul. Buasai son am gyhoeddi ei waith; ond, pan adawodd ef a'i wraig a'i dri phlentyn Brydain am byth yn Rhag- fyr 1757, nid oedd dim o'i waith mewn argraph. Bu farw ei wraig Elin a'i fab ieuengaf ar y môr; glaniodd yn yr Amerig gyda Robert a Goronwy yn unig. Ail briododd â chwaer Llywydd y Coleg, ond ber iawn fu'r briodas. Bu 'n athraw Lladin a Groeg hyd 1760, pan yr aeth yn berson St. Andrews, Brunswick County. Erbyn 1767 yr oedd wedi colli pob un o'i deulu ond Robert, yr oedd yn briod y drydedd waith, yr oedd wedi clywed am gyhoeddi peth o'i waith ac am farw Lewis Morris. Bu'n berson St. Andrews hyd Gor. 22, 1769, a thybir iddo farw yn fuan wedyn.

Mae rhai o'i deulu eto 'n byw yng nghartref diwedd ei oes. Pan gynhaliwyd yr Eisteddfod yn Chicago, ym Medi, 1893, yr oedd un o'i ddisgynyddion, o'r un enw, yn yr wyl.

Cyhoeddwyd peth o'i waith pan oedd ef yn Amerig gan Hugh Jones o Langwm yn y "Dedwyddwch Teuluaidd," 1763. Yn raddol daeth ei holl farddoniaeth i'r golwg yng Nghorff y Gainc" Dafydd Ddu Eryri yn 1810; yn yr ail argraffiad o'r "Diddanwch Teuluaidd yn 1817; yn "Gronoviana" John Jones o Lanrwst yn 1860; yn "The Poetical Works of the Rev. Goronwy Owen, with his life and correspondence," gan y Parch. Robert Jones, Rotherhithe, yn 1876; ac yn "Holl Waith Barddonol Goronwy Owen," gyhoeddwyd tua'r un pryd, gan Llyfrbryf.

O dipyn i beth daeth darnau o lythyrau Goronwy Owen i'r amlwg, yn enwedig ei lythyrau at y tri brawd o Bentre Eirianell,—yn y "Greal," y "Cambrian Register," y "Cambro Briton," y "Gwyliedydd," "Gronoviana," ac ail gyfrol y Parch. Robert Jones.

Er hyn i gyd nid yw ei wlad wedi gwneyd hanner cyfiawnder ag awen rymusgain Goronwy Owen, nag a'r meddyliau tarawiadol sydd yn ei lythyrau, fflachiadau athrylith gŵr allasai wneyd llawer dros Fon a Chymru heblaw hiraethu am danynt, pe cawsai gyfle.

Bu ei ddylanwad ar Gymru 'n fawr. Tynnodd sylw oddiwrth gerddi rhyddion esmwyth dechreu'r ddeunawfed ganrif at swyn y Gynghanedd. Anodd peidio meddwl na fydd ei ddesgrifiadau o'r farn, o'r diafol, o dlodi, ac o Fon yn rhan o ystôr meddwl pob llenor Cymreig hyd byth.

OWEN M. EDWARDS.
Llanuwchllyn,
Medi 1, 1901.

LLAWYSGRIF GORONWY OWEN.

LLAWYSGRIF GORONWY OWEN.

Mae cystudd rhy brudd i'm bron—'rhyd f' wyneb
Rhed afonydd heilltion;
Collais Elin, liw hinon,
Fy ngeneth oleubleth lon!

Anwylyd, oleubryd lân,
Angyles, gynnes ei gwên,
Oedd euriaith mabiaith o'i min,
Eneth liwser (ni thal sôn:)
Oedd fwyn llais, adfain ei llun,
I'w thad, ys ymddifad ddyn!
Ymddifad ei thad a thwn
Archoll yn ei friwdoll fron,
Ynghur digysur, da gwn,
Yn gaeth o'm hiraeth am hon.




Y Caneuon.

YN OL TREFN EU HAMSER.

BL.CAN
1741 Englynion o Weddi*
Englyn o Gyngor (?)*
1743 Calendr y Carwr rhan 2*
1746 Englyn ar ddydd Calan
1751 Ymddiddan rhwng y bardd a'i awen.
1752 Awdl y Gofuned
Cywydd y Farf
Cywydd y Farn Fawr.
Bonedd yr Awen
Cywydd i'r Awen
Cywydd i Lewis Morris
Marwnad Marged Morris
Cywydd i Ieuan Brydydd Hir*
Cywydd y Gem
1753 Cywydd i'r Calan
Hiraeth am Fon
Cywydd Tyw'sog Cymru *.
Cywydd i ofyn ffrancod*
Cyfieithiadau o Anacreon*
1754 Priodasgerdd Elin Morris..
Englynion i ofyn cosyn*
Marwnad John Owen*.
Brut Sibli*
Cywydd y Cynghorfynt
Caniad y Cymrodorion*
Tri englyn milwr*
I Elisa Gowper *
Marwnad Elin
Awdl Tywysog Cymru*
Psalm cvii
1755 Cywydd i'r Calan
Arwyrain y Nennawr*
Cywydd y Gwahawdd*
Dau bennill gwawdodyn hir*
Cywydd ar wyl Dewi*
1756 Annerch Huw ap Huw*
Cywydd Cryfion Byd*
Awdl i ateb Ieuan Brydydd Hir*
Twm Sion Twm*
Cywydd i Ddiafol*
Cywydd y Cyw Arglwydd*
1767 Marwnad Lewis Morris*


*=Yn y gyfrol hon, y gweddill yn cyfrol 1

Cynhwysiad.


Y Darluniau.

"Tua gwlad machlud haul." Arthur E. Elias.

Wyneb-ddalen. "Ffordd yr Alltud"Winifred Hartley.

Y Diafol. Arthur E. Elias.

Y diafol, arglwydd dufwg.
Ti du ei drem, tad y drwg.

Tlodi, un o dri chryfion byd. Arthur E. Elias,

"Gwiddon ciddilon ddwylaw,
A llem pob ewin o'i llaw."

Ynys Mon. S. Maurice Jones.

"Henffych well, Fon dirion dir,
Hyfrydwch pob rhyw frodir.

"Lle i'm pen tan nennawr." Arthur E. Elias.

"A'i diystyr le distaw
With grochlef yr holl dref draw?"

Ymysg y Cymrodorion.Arthur E. Elias.

"Uthr oedd ganddo weled y bardd 'fal
iar mewn mwg', a'r niwl gwyn yn droellau o
amgylch ei ben, like a glory in a picture."


IV. YN LLUNDAIN.

At William Morris, Meh. 7, 1755.

Y CAREDICAF gyfaill, y mae'n gryn gywilydd gennyf na ysgrifenaswn atoch yn gynt. Wala hai," meddwch chwithau, "dyna esgus pob dyn diog." Ond ymhell y bwyf os oes gennyf rith o ddim i'w ysgrifennu weithion; ac oni bai ofn bod yn ddau eiriog, mi ddywedwn ei bod hi'n rhy fuan i ysgrifennu eto.

Mi fum yn hir yn lluddedig, ar ol fy maith ymdaith o'r Gogledd; ac nid oes eto ddim. gwastadfod na threfn arnaf; ond yr wyf yn gobeithio na byddaf 'chwaith hir heb sefydlu mewn rhyw le, oblegyd fod y Cymrodorion i gyd yn gyffredinol, y ddau frawd yn enwedig, yn ymwrando ac yn ymofyn am le imi.

Wele! dyma fi wedi myned yn un o'r Cymrodorion yn y cyfarfod diweddaf; ond ni welaf eto fawr obaith cael eglwys Gymreig. Pobl wychion odidog, mi rof i chwi fy ngair, yw 'r Cymrodorion, dynion wyneb lawen, glân eu calonnau oll. Mae'n debyg y gyr y pen llywydd, Mynglwyd, i chwi Lyfr y Gosodedigaethau, oni yrrodd eisus. Gwych o hardded yw arfau Llewelyn ap Gruffydd, llun Dewi Sant, a derwydd, &c., sydd o flaen y llyfr, wedi eu torri ar gopr yn gelfyddgar ddigon. Ni welwyd yng Nghymru erioed debyg i'r llyfr hwn.

Y mae pawb yma yn rhwydd iachus, fel yr ych yn clywed, mae 'n debyg, yn o fynych. Mae fy holl dylwyth i yma bob y pen, ond fy merch bach a fynnai aros yn Monwent Walton o fewn deu-rwd. neu dri at y fan y ganwyd hi. Mi wnaethum ryw ddarn o farwnad iddi hi, yr hon mae 'n debyg a welsoch cyn hyn.

Rhowch fy ngwasanaeth at Mr. Ellis yn garedig; a gadewch gael rhyw swm o newyddion o Fon gynta galloch. Chwi a welwch na fedraf ond rhy brin ymodi fy mhin na 'm bysedd i ysgrifenu, ac yn wir nid oes arnaf na Ílun na threfn iawn o eisieu sefydlu mewn rhyw wastadfod fy hun. Gyrrwch cyhyd a'ch bys o lythyr yma. gyntaf ag y galloch, er cariad ar Dduw, ac yno odid na fyddaf mewn gwell cyflwr i'ch ateb y tro. nesaf. Dyma Mr. John Owen yn rhoi llythyr at ei fam yn yr un ffrencyn. Ein gwasanaeth at bawb a'n caro 'n ein cefnau. Byddwch wych.

GORONWY DDU.


ARWYRAIN Y NENNAWR.

THE GARRET POEM

CROESAW i'm diginiaw gell:
Gras Dofydd! gorau 'sdafell.
Golygle a gwawl eglur,
Derchafiad offeiriad ffur.
Llety i fardd gwell ytwyd
Na 'r twrdd wrth y bwrdd a'r bwyd:
Mwy dy rin am ddoethineb
Na gwahadd i neuadd neb.
Hanpwyf foddlon o honod,
Fur calch; ond wyf falch dy fod!
Diau mai gwell, y gell gu,
Ymogel na 'th ddirmygu;
Nid oes—namyn di foes da
Was taer—a 'th ddiystyra:
Ai diystyr lle distaw
Wrth grochlef yr holl dref draw?
Lle mae dadwrdd gwrdd geirddadl
Rhwng puteiniaid a haid hadl,
Torfoedd ynfyd eu terfysg;
Un carp hwnt yn crio, Pysg';
Tro arall Howtra hora';
Crio Pys, Ffigys,' neu Ffa.'
Gwich ben a trwy ymenydd,
Dwl dwfr, trwy gydol y dydd;
Trystiau holl Lundain trosti,
A'i chreg waedd ni charai gi.
Os difwyn—gwae ddi sdafell—
Clywed nid oes gweled gwell;
Gweled ynfyd glud anferth
O'r wâr a fynnych ar werth!
Gwên y gŵr llys, yspys oedd,
Eddewidiwr hawdd ydoedd;

Cledd y milwr arwrwas;
Dwndwr yr eglwyswr glas;
Cyngor diffeith cyfreithiwr;
Trwyth y meddyg, edmyg wr;
Diod gadarn tafarnwas,
Rhyw saig gau ei frwysgwraig fras;
Rhad werth ar pob rhaid wrthaw,
Corff, enaid, llygaid, a llaw;
Ond na cheir gan ddiweirdeb
Prisiau am eneidiau neb,
Ond enaid anudonwr
A'i chware ffals, a chorph hwr.
Dyna'r gair yn eu ffair ffol;
Dedwydd im gell a'm didol
Tua'r nen uwch eu pennau;
Amor it', ymogor mau!
Per Awen i nen a naid;
Boed tanodd i buteiniaid.
Tra fo 'm cell i'm castellu,
Ni 'm dawr a fo i lawr o lu.
Ni ddoraf neuadd arall;
Ni chlywaf, ni welaf, wall.
Heddyw pond da fy haddef,
A noeth i holl ddoniau nef?
Gwelaf waith Ion, dirion Dad,
Gloew awyr a goleuad;
A gwiwfaint fy holl gyfoeth
Yw lleufer dydd a llyfr doeth,
A phen na ffolai benyw,
Calon iach, a chorph bach byw,
Deuryw feddwl di orwag,
A pharaus gof, a phwrs gwag,
A lle i'm pen tan nennawr,
Ryw fath, drichwe' llath uwch llawr.

V. YN NORTHOLT.

BYWYD YN NORTHOLT.

At Richard Morris, Hyd. 7. 1755.

EIN tad yr hwn wyt yn y Nafi,—Arhowch beth! nid oeddwn i'n meddwl am na phader na chredo, ond meddwl yr oeddwn eich clywed yn son y byddai dda gennych gael effrwm o gywion colomenod: a chan na feddwn nag oen na myn gafr, mi a'u gyrrais ichwi 'n anrheg, o'r gorau oedd ar fy llaw, a phoed teilwng gennych eu derbyn. Eu nifer yw chwech; ac yr wyf yn lled ofni y cyst ichwi dalu i borter am eu cludo ar ei ysbawd o Holborn hyd atoch: ond am y cerbydwr, mi dalaf i iddo. Os digwydd ichwi weled y Llew, chwi ellwch ddywedyd wrtho yn hydr ddigon, nad à na phregeth na phregowthen yn mlaen yma nes darfod Cywydd Llwydlo; fod y Lladin agos yn barod ar y mesur a elwir y Sapphic; a'm bod yn dra anewyllysgar i'r Gymraeg fod yn Gywydd Deuair Hirion, canys mai hwnnw yw 'r mesur atgasaf oll, a rhigwm diflas ydyw, fal y gwyddoch chwi a phawb agos. Beth meddech am Gywydd Llosgwrn, yr hwn sydd yn union yr un ddull a Sapphic? Eto bid ewyllys. y Llew ar y ddaear, megis y mae (weithiau) o dan y ddaear. Ond chwedl yn eich clust. Dyma guro wrth fy nrws i am hanner blwyddyn o dreth y goleuad, a chwarter o poor's a church rate. Rwy'n dyall rhaid talu neu wrido tua Dywllun nesaf; pa beth a wneir? Ni ddaeth mo'r dydd tâl eto hyd yma. A allech estyn of ugain swllt i ddeg ar hugain, mewn tipyn o barsel hyd yn Southall? ac onide, Duw a ŵyr, rhaid gofyn ced gan ddyeithriaid. Mae gennyf ychydig tan yr ewin, gwir yw; ond pa fodd y prynir pytatws heb ddimeiau? Pan ddelo Mr. Tai yma, mi a'i hebryngaf hyd atoch gydag anerch. Gofynwch i Sión Owen pa bryd y daw i'm hymweled? Mi gefais hanes y llyfrau a gobeithio eu bod bellach hanner y ffordd i Lundain. Fy ngwasanaeth at bawb a'm carant, a chwi yn y blaenaf.

Oddi wrth eich bachgen a'ch bardd,

GORONWY DDU.

Ond gwrandewch eto. Mae'r delyn o Bentre Eirianell? Dyma Robert, er pan glybu son am dani, wedi troi'r llall heibio; ac yn dywedyd fod yn o fustlaidd ganddo ganu telyn bapur. Yr oedd yn dra hoff ganddo o'r blaen; ond weithion mae 'n how ganddo 'i gweled, ac ni chair mono ati o hyd pigfforch a rhaff rawn, mwy na Dafydd ap Gwilym gynt ar y delyn ledr. Da iawn gan y llanc delyn, ond nid telyn bapur. Telyn like that he saw in Wales (i.e. at Pentre Eirianell) a fyn y dyn. Ac os fi fydd byw fe gaiff ddysgu ei chanu hefyd; oblegid—

Telyn i bob dyn doniawl.—difaswedd
Ydoedd fiwsig nefawl."

"Wele hai!" meddwch, "ai o'r hwyl yr aeth. y dyn? I ba beth y mae yn rhoi negeseuon arnaf?" Byddwch amyneddgar, da chwi. Ni chlywsoch hanner y negeseuon eto. Os chwi fyth ystig, ni bydd arnoch byth brinder swyddau tra bwyfio fewn byd pigfforch atoch.

(At William Morris, Rhag. 29, 1755.)

YR wyf yn byw mewn lle, fal y gwelsoch, a elwir Northolt, yn offeiriad o dan y Dr. Nicolls, Meistr y Deml (Master of the Temple), yn Llundain. Mae yn rhoi i mi ddeg punt a deugain yn y flwyddyn. Lle digon esmwyth ydyw'r lle, am nad oes gennyf ond un bregeth bob Sul, na dim ond wyth neu naw o ddyddiau gwylion i'w cadw trwy'r flwyddyn. A chan nad yw'r plwyf onid bychan, nid yw pob ran o'i ddyledswydd ond bychan bach. Am hynny mwyaf fyth a gaf of amser i ysgrifenu i'm Cymdeithas a phrydyddu, &c., yr hyn hefyd a ddechreuais er ys ennyd, er na chânt hwy weled dim nes ei berffeithio. Yr wyf yn awr yn prysur astudio Gwyddeleg ac yn ei chymharu â'r Gymraeg, ei mam; ac, yn mhell y bwyf, ond yw agos yn rhyfedd gennyf na ddeallem ni bob Gwyddel a ddoe o'r Iwerddon; ond gormod o dro sydd yn eu tafodau hwy wrth arfer ag iaith yr Ellmyn gynt; nid Saesneg ond High German; canys dywedent hwy a fynnont yn nghylch eu gwreiddyn, a dygont eu tadau of Yspaen, Milesia, Gwlad Roeg, neu 'r Aipht, neu 'r man y mynnont, nid ynt ond cymysg o Ellmyn a Brython-yn eu hiaith o'r lleiaf. Mi dybiais. gan waith gynt fod yr Wyddelig yn famiaith, ond camgymeriad oedd hyny, fel y dangosaf, os byddaf byw.

Mae yma yn fy nghymydogaeth ddyn penigamp o arddwr o'n gwlad, un a adwaenech yn dda gynt, a'i enw Owen Williams; ond "Adda" yr ydwyf fi ambell dro yn ei alw. Mi a'i gwelais ddoe, ac yr oedd yn dymuno ei wasanaeth atoch. Gan fod gennyf ardd, o'r oreu o ran tir, mi fum yn cethru arno yn dost am ychydig hadau a gwreiddiach i'w haddurno: ond nis medrodd gael imi yleni oddi ar ddyrnaid o snow—drops a chrocus, oblegid y mae'n achwyn yn dost nad ces na had na gwraidd i'w cael trwy deg na hagr gan waethed a fu'r hin i'w cynhafu. Ni wn i beth a geir y flwyddyn nesaf. Lle iachus digon yw'r lle hwn, ac yn dygymod yn burion â mi ac â'm holl deulu. Os byddwch faddeugar am a aeth heibio, ac mor fwyn a gyrru hyd bys o lythyr, llwybreiddiwch ef fel hyn:—"To me, at Northolt, near Southall, Middlesex, ner London."

CYWYDD Y GWAHAWDD.

ADDRESSED TO MR. WILLIAM PARRY, DEPUTY—
COMPTROLLER OF THE ROYAL MINT.

PARRI, fy nghyfaill puraf,
Dyn wyt a garodd Duw Naf;
A gŵr wyt, y mwynwr mau,
Gwir fwyn a garaf innau.
A thi 'n Llundain, wr cain cu,
Ond gwirion iawn dy garu?
Ond tost y didoliad hwn?
Gorau fai pe na'th garwn.
Dithau ni fynni deithiaw
O dref hyd yn Northol draw,
I gael cân—beth diddanach?
A rhodio gardd y bardd bach;
Ond dy swydd hyd y flwyddyn
Yw troi o gylch y Twr Gwyn,
A thorri, bathu arian,
Sylltau a dimeiau mân.

Dod i'th Fint, na fydd grintach,
Wyliau am fis, Wilym fach;
Dyfydd o fangre 'r dufwg;
Gad, er nef, y dref a'i drwg.
Dyred, er daed arian,
Ac, os gwnai, ti a gai gân;
Diod o ddwr, doed a ddel;
A chywydd; ac iach awel;
A chroeso calon onest,
Ddiddichell;—pa raid gwell gwest?
Addawaf—pam na ddeui?—
Ychwaneg, ddyn teg, i ti:
Ceir profi cwrw prifardd,
A 'mgomio wrth rodio'r ardd;
Cawn nodi, o'n cain adail,
Gwyrth Duw mewn rhagorwaith dail;
A diau pob blodeuyn
A yspys ddengys i ddyn
Ddirfawr ddyfnderoedd arfaeth
Diegwan lor, Duw a'i gwnaeth.
Blodau 'n aurdeganau gant,
Rhai gwynion mawr ogoniant.
Hardded wyt ti, 'r lili lân,
Lliw 'r eira, uwch llaw 'r arian!
Cofier it guro cyfoeth
Selyf, y sidanbryf doeth.

Llyna, fy nghyfaill anwyl,
Ddifai gwers i ddof a gwyl.
Diffrwyth fan flodau'r dyffryn
A dawl wag orfoledd dyn.
Hafal blodeuyn hefyd
I'n hoen fer yn hyn o fyd.
Hyddestl blodeuyn heddyw,
Y foru oll yn farw wyw.

Diwedd sydd i flodeuyn,
Ac unwedd fydd diwedd dyn.
Gnawd i ardd, ped fai 'r harddaf,
Edwi 'n ol dihoeni haf.
Tyred rhag troad y rhod;
Henu mae'r blodau hynod.
Er passio'r ddau gynhauaf,
Mae 'r hin fal ardymyr haf!
A'r ardd yn o hardd ddi haint,
A'r hin yn trechu'r henaint,
A'i gwyrddail yn deg irdda
Eto; ond heneiddio wna.
Mae'n gwywo, 'min y gauaf,
Y rhos a holl falchder haf.
Y rhos, heneiddiodd y rhain,
A henu wnawn ni 'n hunain.
Ond cyn bedd dyma 'ngweddi,
"Amen," dywed gyda mi,
Dybid in' ddyddiau diboen
A dihaint henaint o hoen;
Mynd yn ol, cyn marwolaeth,
I Fon, ein cysefin faeth.
Diddan a fyddo'n dyddiau
Yn unol, ddiddidol ddau;
A'r dydd, Duw ro amser da,
Y derfydd ein cyd yrfa,
CRIST yn nef a'n cartrefo,
Wyn fyd a phoed hynny fo.

CYWYDD I DDIAFOL.

At Richard Morris, Mai 20, 1756.

UN peth, os rhaid cyfaddef, sydd i'm digaloni yn gethin, sef, na chlywais o Allt Fadawg oddi wrth Y Llew na'i nai. Rhyfedd na chlywid oddi wrth Ieuan Owain, Fwynwr, os yw 'n fyw. Am y Llew, yr wyf agos a chanu'n iach iddo; oblegyd fod lle i ofni ei fod wedi digio tros byth bythoedd, o ran na chefais gantho ond sen y llythyr diweddaf byth a welais oddi wrtho. Y mater sydd fal hyn, a mater garw yw hefyd. Digwydd a wnaeth i'r Llew ddal sylw arnaf yn ysmocio fy nghetyn yn nghyfarfod y Cymmrodorion, ac uthr oedd gantho weled y Bardd faliar mewn mwg, a'r niwl gwyn yn droellau o amgylch ei ben, "like a glory in a picture"—dyna 'i air; "ond am Ffoulks, &c., nid oedd ryfedd gantho." Yr oedd yn taeru yr un amser fy mod wedi hanner grapio; ac yn wir mae'n atgof gennyf yfed o honof ran o phialaid o bwins yn nhy y car H. Prys cyn dyfod yno. Ond gadewch i hynny fod, nid aml y bydd y gwendid hwnnw arnaf (goreu fyth po'r anamlaf), a diau yw, fod maddeuant i fwy troseddau na hynny, er ei gymmaint. Sen iachus er fy lles i oedd y sen; a diolchgar ydwyf am dani. Ond eto nid arwydd da ar neb fod yn anfaddeugar. Nis gwn i achos arall yn y byd iddo ddigio a bod mor dyn. Mae gennyf yma yn fy ymyl brophwydoliaeth a "sgrifenwyd cyn gweled o honof Lundain erioed, sy 'n dywedyd, "Mai os fi, pan ddeuwn. yna, a fethwn yn yr hyn lleiaf ddal y ddysgl yn wastad i'r Llew, na wnai ond fy nirmygu a'm cablu a'm coegi, ar air a gweithred byth, heb obaith na chymod, na hawddgarwch, na mwynder, yn oes oesoedd, Amen."

Am gân Arwyrain y Cyw Arglwydd, ni thybiais fod neb yn absen y Llew a'i cyflwynai i wneuthur dim lles â hi, oblegid fod y Llew wedi bod o'r blaen yn son am danaf wrth yr Iarll, yr hyn na bu neb arall ar a wyddwn i; ac odid y cofiai yr Iarll mai fi y crybwyllasai 'r Llew wrtho, oni bai iddo fo ei hun ei chyflwyno a dwyn ar gof i yr Iarll yr ymgom a fuasai yn fy nghylch. Mae hi eto heb ei llawn orffen yn Gymraeg; ond bellach ati hi yn nerth braich ac ysgwydd. Ond yn y cyfamser dyma ichwi ryw erthyl o Gywydd tra bo 'ch yn aros am dani hi:—

CYWYDD I DDIAFOL

DIAFOL, arglwydd dufwg,
Ti du ei drem, tad y drwg,
Hen Suddas, atgas utgi,
Gelyn enaid dyn wyt ti.
Nid adwaen—yspryd ydwyt—
Dy lun, namyn mai diawl wyt;
Od wyt hyll, ys erchyll son
Am danat y mae dynion,
A lluniaw erchyll wyneb,
A chyrn it' na charai neb;
Yn nghyrrau 'th siol anghywraint
Clustiau mul—clywaist eu maint;
Ac aeg fel camog olwyn;
Hychaidd, anfedrusaidd drwyn;
A'th dduryn oedd, waith arall,
Fal trwyn yr âb, fab y fall;
A sgyflfant rheibus gweflfawr,
Llawn dannedd og miniog mawr;

Camog o ên fel cimwch;
Barf a gait fel ped fait fwch;
A'th esgyll i'th ddwy ysgwydd,
Crefyll cyd ag esgyll gwydd;
Palfau 'n gigweiniau gwynias
Deng ewin ry gethin gas;
A'th rumen, anferth rwmwth,
Fal cetog was rhefrog rhwth.
Wfft mor gethin y din dau!
Ffei o lun y ffolennau!
Pedrain arth—pydru a wnel—
A chynffon fwbach henffel;
Llosgwrn o'th ol yn llusgo,
Rhwng dy ddau swrn llosgwrn o;
A gwrthrych, tinffyrch tanffagl
Ceimion, wrth dy gynffon gagl,
A charnau 'n lle sodlau sydd,
Gidwm, is law d' egwydydd,
Er na nodawdd, o nawdd Naf,
Nemor un y mawr anaf.
Dyna 'th bortreiad anwiw,
Anffurfiawg ddelw, leuawg liw.
Rhyw erthyl wyt rhy wrthun;
Diawl wyt os cywir dy lun.

Y mae, os hwn ym mai sydd,
Lle i nodi truth lluniedydd:
Gwir ydyw rhai a gredynt
Yt' ddwrdio Angelo gynt;
Sorri am i hurtni hwn
Ddiwyno mawredd Annwn,
A thyrchu fyth o'r achos
Hyn a wnai 'n nydd yn y nos,
Nes gwneuthur parch, wrth d' arch di,
Satan, a llun tlws iti.


Minnau, poed fel y mynnych.
Dy lun, ai gwrthun ai gwych,
Rhof it' gyngor rhagorawl,
Na ddyd nemawr un i ddiawl.
Gŵr y sy, gwae yr oes hon,
Blaenawr yr holl rai blinion,
Ac yna daw drwy 'th gennad,
Yna rhuthr, onide, 'n rhad;
Canys hyn a fyn fo,
Lewddyn, pwy faidd ei luddio?
Gŵr cestog yw'r taerog tost,
Dinam ti a'i hadwaenost?
A pha raid nod a phryd neb?
Annwn ni dderbyn wyneb;
A godlawd yw coeg edliw.
I'r un ddim o'i lun a'i liw;
Digon o chaid honaid hau,
Gostog ryw faint o'i gastiau.

Dyn yw ond heb un dawn iach,
Herwr ni bu ddihirach;
Gŵr o gynneddf anneddfawl;
Lledfegyn rhwng dyn a diawl:
Rhuo gan wŷn, rhegi wna,
A damio 'r holl fyd yma;
Dylaith i bawb lle delo.
Llawen i bawb lle na bo;
Ofnid ef fel Duw nefawl,
Ofnid ef yn fwy na diawl;
Cofier nad oes neb cyfuwch;
Nid oes radd nad yw SYR uwch.

Marchog oedd ef, merchyg ddiawl,
Gorddwy, nid marchog urddawl.

Marchog gormail, cribddail, cred,
Marchog y gwŷr a'r merched.
Nis dorai, was diarab,
Na chrefydd, na ffydd, na Phab.
Cod arian y cyw diras
Yw crefydd y cybydd cas;
A'i oreudduw oedd ruddaur
A'i enaid oedd dyrnaid aur;
A'i fwnai yw nef, wiwnod;
A'i Grist yw ei gist a'i god;
A'i eglwys a'i holl oglud,
Cell yr aur a'r gloywaur glud;
A'i ddu bwrs oedd ei berson,
A mwynhad ddegwm yn hon:
A'i brif bechod yw tlodi—
Pob tlawd sydd gydfrawd i gi—
A'i burdan ym mhob ardal,
Y'w gwario mwn ac aur mâl,
A'i uffern eithaf aphwys,
Rhoi ei aur mân gloywlan, glwys.
Dyna yt, Suddas dânwr,
Un neu ddau o gastiau'r gŵr;
Rhyw swrn o'r rhai sydd arnaw,
Nid cyfan na 'i draian draw.
Os fy nghyngor a ddori,
Gyr yn ol y gŵr i ni.
Nid oes modd it' ei oddef;
Am hyn na 'mganlyn ag ef.
Nid oes i'r diawl, bydawl bwyll
Ddiawl gennyt a ddeil ganwyll.
Yna os daw, nos a dydd,
Gwelwch bob drwg bwygilydd;
Diflin yw, o chaid aflwydd,
I drin ei gysefin swydd;

Gyr byth â phob gair o'i ben
Dripharth o'th ddieifl bendraphen.
Ac od oes yna gwd aur,
Mål annwn er melynaur.
O gwr ffwrn dal graff arnaw—
Trwyadl oedd troad ei law—
A'r lle dêl gochel ei gern,
Cau ystwffwl gist uffern;
Gyr i ffordd oddiwrth d' orddrws,
A chur o draw, a chau'r drws;
A chrwydryn o chair adref,
Afreidiawl un diawl ond ef.

A glywch chwithau 'r gŵr bonheddig? Yr ych yn cwyno i'r peswch ac yn dwrdio myned i ryw le i'r wlad i roi tro. Pa waeth ynteu fyddai ichwi yma na lle arall? Chwi gaech groeso calon i'r peth sydd yma, a diolch mawr am eich cymdeithas. Chwi gaech wely rhwydd esmwyth a dillad glân tymhoraidd, ond heb ddim curtains; a chwi ellech wneyd eich ystafell cyn dywylled a'r fagddu, os mynnech. Chwi gaech ymbell foliad o bastau colomenod ar droau, ac ymgomio gyda'r Doctor weithiau, os gwelwch yn dda. A chymerwch hyn yn lle gwahawdd, neu beidiwch.

Dyma'r llythyr y talasoch am dano wyth geiniog wedi ei gael. Mae'n dyfod oddiwrth Robert Owen, gŵr fy modryb Agnes Gronow, ac yn rhoi hanes o ryw heldrin rhwng Procatorion Llanfair a fy ewythr Robert Gronow, yn ngylch yr hen dŷ lle ganed fy nhad, a'm taid, a'm hendaid, a'm gorhendaid, etc.; a phed fawn yno, myfi a rown ben ar yr ymryson, oblegid fi y piau 'r ty, a'r gerddi, ac oll sy 'n perthyn iddo, er

"Dyma'th bortreiad anwiw."


na waeth gennyf mo'r llawer pe cai'r cigfrain ef; ond gwell fyddai gennyf i rai o'm gwaed ei gael nag estron genedl, yn enwedig y Deinioels ffeilsion. Ond yw ddigon i'r Panningtons fod wedi llygru 'n cenedl trwy ymgymharu ac ymgyfathrachu â phob cainc agos o honi? a fynnent fwrw'r unig gyw digymysg, diledryw, tros y nyth? Mi fynnaf weled hynny, ac a fynnaf wybod beth. a dalo fy hawl i'r lle, ped fai ond cut mochyn. Nid rhaid ond rhoi 'r peth yn llwyr, yn gywir, ac yn eglur, o flaen y Dr. Nicolls, ac fe geir ateb yn rhad o'r Deml gan wŷr a ŵyr bob cruglyn o'r gyfraith. Ni fu erioed osod nag ernes ar y lle yn amser tad na thaid neb sy 'n fyw heddyw, na thaledigaeth am dano, onid pedwar swllt a chwe cheiniog i Eglwys Llanfair bob blwyddyn; ac fe dâl y lle deirpunt, o'r lleiaf, yn ol y prisiau sydd yn Môn. Pwy piau bob commons yn Môn? Nid yr Eglwys mae'n debyg. Wele, hai! dyma lythyr oddi wrth y brawd Owen ap Owen o Groes Oswallt, yn dywedyd farw fy mam yng nghyfraith. Mi gaf y grasbib yn dyhuddo'r wraig Elin am ei mam. Bellach fe geir gweled a gywirodd fy hen chwegr ei geiriau. Hi fyddai'n addaw y caid ryw rombreth o bethau pan fyddai hi farw; ond yr wyf yn tybio nad oedd yn ei bryd y pryd hynny farw byth. Mae ystad y Brithdir yng Nglyn Ceiriog a addawodd i Robyn? Dyna ichwi gymmaint o newydd a marw gwrach, ond

nid wyf fi yn disgwyl cymaint a grôt oddi wrthi.

CYWYDD Y CYW ARGLWYDD.

At Richard Morris, Mai 28, 1756.

CYWYDD AR ENEDIGAETH SIOR HERBERT, ARGLWYDD
LLWDLO, CYNTAFANEDIG FAB ARDDERCHOG IARLL POWYS

1756.

MOES erddigan a chanu,
Dwg in' gerdd deg, Awen gu;
Trwy'r dolydd taro 'r delyn,
Oni bo'r ias yn y bryn,
O gywair dant, a gyr di
Awr orhoen i Eryri.
Dowch chwithau â'ch hymnau heirdd,
Ddiwair addfwyn Dderwyddfeirdd;
Ni cherdd a foliannoch chwi
Dir angof, er ei drengi;
Prydyddwch, wŷr per diddan,
Anfarwol, ragorol gân;
Fal y cân Corybantau
Y dydd pan y ganed Iau;
Hawdd fodd i'w ddyhuddo fu
O waith beirdd a thabyrddu.
Ganed i ninnau gynnawr,
Un a haedd gân, maban mawr.
Ein tynged pan ddywedynt,
Bu wirdda gair y beirdd gynt;
Coeliaf, o ddynfder calon,
Am yr oes aur eu mawr sôn.
Cynnydd, y maban ceinwiw,
Hil mawrion, wŷr gwychion gwiw!
Cynnydd, fachgen! Gwên gunod
I mi 'n dâl am Awen dod.
Croesaw 'm myd hefyd i ti,
Tirionwaed da rieni;

Gwrda fych, fal eich gwirdad,
A gwych y delych chwi 'n dad
A phoed i'w taid gofleidiaw
Eich meibion llon ymhob llaw
Ac yno boed rhwng gwiwnef
Gyd ddal y gofal ag ef.

Dengys, yn oed ieuangwr
Tra fych, a wnelych yn wr,
Ac ym mysg pob dysg y daw
Gweithred odidog athraw.
Os o hedd melys a hir
Lwyddiant y'ch gorfoleddir,
Neu os eirf iwch a wna son
A siarad yn oes wyrion,
Gwelwch yn ol eich galwad,
Les dysg gan ofalus dad,
I ddilyn ffordd ydd elynt
Herbeirtion gwaywgochion gyn
O deg irdwf haf gwyrda,
A gnawd oedd, o egin da.
Nid oes gel o'n disgwyliad
O'th achles a'th les i'th wlad.

Drwy ba orfod y codi—
Dylid aer gan dy law di—
Pa esgar? pwy a wasgud?
Pwy wyra d' eirf? pa ryw dud?
Duw wnel yt roi Ffrainc dan iau,
Ciwdawd rylawn hocedau;
Didwyll ar dafod ydyw,
Uthr o dwyll ar weithred yw;
Ciwed yw hon nas ceidw hedd,
Dilys y ceiff ei dialedd.

Diau na ladd rhydain lew;
Adwyth i dylwyth dudew
Annog bygylog elyn;
Afraid i Frytaniaid hyn.

Ai arwylion, oer alaeth,
A fyn, giwed gyndyn gaeth?
Trychwaith a ddaw o'u trachwant;
Och o'r gwymp drachwerw a gânt.
I'w llynges pond gwell angor
Na llu i ormesu 'r môr?
Dan ddwylaw Prydain ddilorf
Pa les a wna 'u diles dorf?
Torf yn ffwyr gynt a wyrodd,
Torf anhy a ffy, a ffodd,
Ac a dâl â gwaed eilwaith.
Ffrydiawg, am eu geuawg waith.

Os Sior, oreubor o rym
Ryfelwr, ac eirf Wilym,
A âd ddim i'r do a ddaw
Deled bri Ffrainc i'ch dwylaw;
A deled—Duw a iolaf—
I chwi fyd hawdd a nawdd Naf:
Er Iesu, hir yr oesoch
Wellwell yn eich Castell Coch!
Ac yno cewch deg ennyd
I orphwys o bwys y byd,
I fwynhau llyfrau a llên,
Diwyd fyfyrdod Awen;
Ac oni feth y gân fau,
Syniwch a genais innau,
Fardd dwyiaith, dilediaeth lin,
Lledwael Gymraeg a Lladin.
Trwy bau syw tir Bowys hen
Hyfryd, tra rheto Hafren.

Ac yno tra bo trwy barch
Llin Herbert yn llawn hirbarch,
Yr erys eich arwyrain
I'w ganu trwy Gymry gain.


Northolt, Mai 28, 1756.

Y TAD, A welwch chwi bellach beth yw taro diogi ar draws ei ddannedd? Dyna chwi Ganiad Llwydlo o'r diwedd, a gwnewch yn fawr o honi, os haeddai, neu beidiwch. Ond gwych y mae'r hin hafaidd, araul, fendigaid hon yn dygymmod a'r Awen? Ni feiddiai'r druanes gymaint a dangos ei phig allan o'r blaen, pan oedd yr hin yn oer; ond weithion gwych ganddi ymdorheulo yn yr ardd neu ryw laslwyn ireiddlwys yn y maes, hyd oni bo 'r tes ysblenydd yn ei gwefrio, a hithau'n canu Gwrnan Goronwy, hyd oni sereno ei llygaid.

Y DU O FON.

CYWYDD Y CRYFION BYD.

Pwy fal doethion farddoni,
Neu pa faint na wypwyf fi?
Os hylon a fu Selef,
Mi a wn gamp mwy nac ef;
Dwys yw 'r hawl diau sy rh'om,
Bernwch uniondeb arnom;
Mynnwn gael dadl am ennyd,
A barn yn nghylch Cryfion Byd.

Tri chryf i Selyf y sydd,
Ie diriaid bedwerydd:

Llew anwar, hyll ei wyneb,
Preiddiol, na thry 'n ol er neb;
Milgi hirsafn, ysgafndroed,
Heb wiwiach ci; a Bwch coed.
Ner trech o rwysg na 'r tri chryf,
Os holwn, fu i Selyf;
Brenin a phybyr wyneb,
Erfai, na 's wynebai neb.
Dyna, boed cof am danynt,
Ei bedwar; rhai anwar ynt.

Ni chelaf, gwn na choeliech,
Myfi a wn dri sydd drech:
O honynt dau a henwaf,
Didol un yn ol a wnaf,
O chwant caffael rhoi i chwi
Ddameg i'w hadrodd imi.

O gadarn pwy a gydiaf,
Am gryfder certh, à nerth Naf?
Nis esguswn na 's gesyd
A'i gwnaeth yn bennaeth i'r byd.

Er ised oedd yr Iesu,
O inged yw Angau du!
Dilys i'r Angau dulew
Heb ymladd yn lladd y Llew.
Y Milgi llym, miweilgoes,
A red, ond ni chaiff hir oes;
Uthr Angau—hw!—a threngi;
Ei hynt a fydd cynt na 'r Ci.
Bwch gwyllt yn ebach gelltydd,
Ba hyd i'w fywyd a fydd ?
E gyrraedd Angau gorwyllt
Ebach a gwâl y Bwch gwyllt.


I Dad y dychryniadau
Diflin, beth yw Brenin brau?
Mae Selyf, mwyaf seiliad?
Mae'r llywydd Dafydd ei dad?
Pa gryfach gadarnach dau
I'r ingaf arwr Angau?
Bwriodd ef eu pybyrwch
Mewn un awr i'r llawr a'r llwch!

Nycha Ner, byw 'n wych wna 'r byd?
Hyfawr yw Angau hefyd.
Dduw y gras, wrth y ddau gryf
Saled yw Cryfion Selyf!
O'i helaeth ddysgeidiaeth gynt
Gwyddai mor nerthog oeddynt;
A honai ef eu hynni,
Y Llên maith, yn well na mi.

Y trydydd certh anferthol
Ei nerth y sydd eto 'n ol.
Mi a wybum o'm maboed
Ei rym; ef nis gwybu 'rioed.
Y rhyfeddod hynod hon
Gweddai nad yw ond gwiddon;
A chewch, os dyfelwch hi,
Ei hanes, yn lle 'i henwi.

Eiddil henwrach grebach, grom,
Nythlwyth o widdon noethlom,
Cynddrwg—oes olwg salach?—
O bwynt a llun angau bach.
Bwbach wyw bach yw heb wedd,
Swbach heb salach sylwedd—
Sylwedd na chanfu Selef,
Na gŵr un gyflwr ag ef;

Gwiddon eiddilon ddwylaw,
A llem pob ewin o'i llaw;
Blaenau cigweiniau gwynias,
Blaen llymion rhy greision gras.
Er eiddiled yw 'r ddwylaw,
Ni bu henwrach drymach draw;
Trom iawn a thra ysgawn yw,
Gwrthdd wediad rhy gerth ydyw.
Och! anaf yw ei chynnwys;
O ffei! mi a wn ei phwys.
Beth yw Llew tan ei ffrewyll?
Nis ofna hon ei safn hyll.
Beth yw nerth a phrydferthwch?
Neu beth yw Milgi na Bwch?
Os hwnt ymddengys hi,
Truan nerth un teyrn wrthi;
Tyr dyrrau, caerog cerrig,
Yn deilch lle 'r enyuno 'i dig.
Anghynnes ddiawles ddileddf,
Ni erbyd hi dorri deddf.
Hi ferchyg, ddihafarchwaith,
Hen gwan; pand dihoen ei gwaith?
Gnawd gwrach yn trotian tani;
Gwae hen a farchogo hi!
Ni rydd—mae 'n g'wilydd ei gwaith—
Wilog afrwydd le i gyfraith.
Dir y myn, pand oer i mi?
Gloff arthes, gael ei phorthi.
Ac ni ddiyleh, gne dduwg,
Un mymryn i'r dyn a'i dwg.

O chawn nerth a chynorthwy,
Ni ddygwn 'y mhwn ddim hwy;
Mor fall oedd, mawr yw fy llid
Hirlawn i gael ei herlid;


TLODI.

"Ochaf, ond ni henwaf hi."



Tynnu'r Awen o'm genau,
A'i dwyn hwnt o dan ei hiau!
Ochaf mae 'n amlwg ichwi—
Ochaf, ond ni henwaf hi;
Hawdd ei gwamal ddyfalu,
Poen yw ei dwyn, y pwn du!
Trom iawn yw; ond, tra myn Naf,
Yn ddigwyn hon a ddygaf.


MOLAWD MON.

At William Morris, Awst 16, 1756.

Y CAREDIG GYDWLADWR,—Mi gefais yr eiddoch o Ebrill y trydydd ar hugain, yn nghyd a chywydd gorchestol y Bardd Coch, a diolch ichwi am danynt. Yr ych chwi, ac felly 'r Llew yma hefyd, yn taeru fod yr hen Goch druan wedi rhyw led hurtio; ond erbyn ystyried ol a blaen, glew y gwelwn i yr hen Gorphyn. Nid oes ar y cywydd gamp yn y byd; ond y mae ynddo lai o eiriau segur nag a fyddai yn arferol o fod yn ei gywyddau; ie, ac yn nghywyddau gwŷr dysgedig a sorrent am eu henwi yr un dydd a'r hen Goch. Ac os rhwydd iddynt hwy hepian, ni fyddai rhyfeddod yn y byd i'r Coch drymgysgu a chwyrnu hefyd. Gwrda yr hen geiliog, meddaf i, dywedwch chwi a fynnech. Mae yma ateb gorchestol i'r hen ddyn wedi ei wneyd er ys ennyd; ond mae 'r Llew i'm rhwystro i'w yrru yna, ac onide yr oedd yn fawr fy mwriad i yrru atoch y tro yma. Dyma fal y mae y peth yn bod. Fi a wnaethwn gywydd o ddeucant o linellau neu ychwaneg, a'i ddechreu ydoedd ateb i'r Coch; a hynny yn nghyd a ddeugain neu ddeg a deugain; ac oddi allan yr oedd mawl i Ynys Fon, a chofrestr o'r beirdd hynotaf a fagwyd ynddi gynt, a dysgrifiad prydferth o'r wlad a'i hamryw doreithiau; megis anifeiliaid, pysg, adar, yd, caws, gwlan, mwyn, a chan peth cyffelyb. Mi yrrais y cywydd i'r Llew, ac yntef a yrrodd attaf ddoe fal hyn:—

"It is a pity your Cywydd Mon did not stand upon its own bottom without being tacked to such a worthless piece as that of Bardd Coch's. The man meant well, but it is the worst thing he ever. wrote. But whatever it is, this excellent description of yours of the island should not be read the same day with it, for it is too like feeding a man with stinking meat the first dish, and the second with fresh ortolans."

Felly chwi welwch fal y mae; fe gyst gwahanu y cywydd yn ddwy ran; y gyntaf yn bwt byr of ateb i'r Coch o'r Foel; a'r ail yn glamp o Gywydd Mawl Mon,' a bid sicr ichwi y ddau y tro nesaf. Ie, meddwch chwithau, pa bryd a fydd hynny? Fy ateb yw: Na ewch i ymhel ac ymliw â mi, am fy niogi; canys os diog fi, mi wn pa le mae imi gymar, a moeswch yma eich llaw hyd at yr arddwrn. Ond chwi a'i cewch pan atebwch hwn, ac nid cynt.

CYWYDD ATEBI ANNERCH HUW AP HUW, Y BARDD O
LWYDIARTH-ESGOB, YM MON.
[1756.]

DARLLENAIS awdl dra llawn serch,
Wych enwog fardd o'ch annerch;
A didawl eich mawl im' oedd—
Didawl a gormod ydoedd.

Ond gnawd mawl bythawl lle bo,
Rhyddaf i'r gwr a'i haeddo.
Odidog mi nid ydwyf,
Rhyw sal un, rhy isel wyf.
Duw a'm gwnaeth, da im' y gwnel,
Glân Iesu, galon isel,
Ac ufudd fron, dirion Dad,
Ni oludd fy nwy alwad;
O farddwaith od wyf urddawl,
Poed i wau emynau mawl-
Emynau 'n dal am einioes.
Ac Awen i'r Rhen a'u rhoes.
Gwae ddiles gywyddoliaeth,
Gwae fydd o'i Awenydd waeth!
Deg Ion, os gweinidog wyf,
Digwl y gweinidogwyf.
Os mawredd yw coledd cail,
Bagad gofalon bugail,
Ateb a fydd rhyw ddydd rhaid
I'r Ion am lawer enaid.
I atebol nid diboen;
Od oes barch, dwys yw y boen;
Erglyw a chymorth, Arglwydd,
Fy mharchus, arswydus swydd.
Cofier, ar ol pob cyfarch,
Nad i ddyn y perthyn parch;
Nid yw neb ddim ond o nawdd
Y dinam Ion a'i doniawdd.
Tra'n parcher trwy ein perchen,
O cheir parch, diolch i'r Pen;
Ein Perchen iawn y parcher;
Pa glod sy'n ormod i Ner?
Parched pob byw ei orchwyl,
Heb gellwair a'i air a'i ŵyl,

A dynion ei dŷ anedd
A'i allawr; Ior mawr a'u medd.
Dyna'r parch oll a archaf
Duw Ion a'i gŵyr, dyna gaf.
Deled i'm Ior barch dilyth;
Ond na boed i un dyn byth
Nag eiddun mwy na goddef,
Tra pharcher ein Ner o nef.
Gwae rodres gwŷr rhy hydron!
Gwae leidr a eirch glod yr Ion!
Gocheler, lle clywer clod,
Llaw 'n taro lleu—haint Herod.

Ond am Fon hardd dirion deg,
Gain dudwedd, fam Gwyndodeg,
Achos nid oes i ochi,
Wlad hael, o 'madael â mi.
Cerais fy ngwlad geinfad gu—
Cerais, ond ofer caru!
Dilys Duw yw'n Didolydd:
Mawl iddo a fyno fydd.
Dyweded Ef na'm didol,
Gair o'i nef a'm gyr yn ol.
Disgwyl, a da y'm dysger,
Yn araf a wnaf, fy Ner,
Da ddyfydd Duw i ddofion;
Disgwylied, na 'moded Mon;
Ac odid na cheiff gwedi
Gan Ion Lewis Mon a mi;
Neu ddeuwr awen ddiell
I ganu gwawd ugain gwell.
Lewis Mon a Goronwy,
Ni bu waeth gynt hebddynt hwy:
A dilys na raid alaeth.
I Fon am ei meibion maeth;

Nac achos poen nac ochi,
Na chŵyn, tra parhaoch chwi.

Brodir gnawd ynddi brydydd;
Heb ganu ni bu, ni bydd.
Syllwch feirdd o Gaswallon
Law-hir, hyd ym Meilir Mon.
Mai Gwalchmai erfai eurfawr ?
P' le mae einion o Fon fawr?
Mae Hywel ap Gwyddeles?
Pen prydydd, lluydd a lles,
Pen milwr, pwy un moliant?
Enwog wr ac un o gant,
Iawn genaw Owain Gwynedd,
Gwae 'n gwlad a fu gweinio 'i gledd.
Bwy unfraint â'r hen Benfras?
Gwae fe fyw, ei lyw a las.
Mae'r Mab Cryg oedd fyg pan fu
Ab Gwilym yn bygylu?
Dau gydgwys, gymwys gymar,
Un wedd ag ychen yn âr.
Cafed ym Mon dduon ddau,
Un Robin, edlin odlau,
A Gronwy gerddgar union,
Brydydd o Benmynydd Mon.
Mae Alaw? Mae Caw? Mae cant?
Mae miloedd mwy eu moliant?
Pwy a rif dywod Llifon?
Pwy rydd i lawr wŷr mawr Mon?
Awenyddol iawn oeddynt
Yn gynnar, medd Ceisar gynt.

Adroddwch mae 'r derwyddion,
Urdd mawr, a fu 'n harddu Mon?
I'r bedd yr aethant o'r byd,
Och! alar heb ddychwelyd.

Hapus yw Mon o'u hepil,
Ag o'r iawn had, gywrain hil.

Clywaf arial i'm calon
Am gwythi, grym ynni Mon-
Craffrym, fel cefnllif cref-ffrwd
Uwch eigion, a'r fron yn frwd;
Gorthaw don; dig wrthyd wyf;
Llifiaint, distewch tra llefwyf:
Clyw, Fon, na bo goelion gau
Nag anwir fyth o'm genau;
Gwiried Ion a egorwyf,
Dan Ner, canys Dewin wyf:

"Henffych well, Fon, dirion dir,
Hyfrydwch pob rhyw frodir!
Goludog, ac ail Eden,
Dy sut, neu Baradwys hen;
Gwiwddestl y'th gynysgaeddwyd,
Hoffder Duw Ner a dyn wyd;
Mirain wyt ym mysg moroedd,
A'r dŵr yn gan tŵr it' oedd,
Eistedd ar orsedd eursail
Yr wyd, ac ni welir ail;
Ac euraid wyt bob goror,
Arglwyddes a meistres môr.
Gwyrth y rhod trwod y traidd, stus
Ynysig unbenesaidd.
Nid oes hefyd, byd a'i barn,
Gydwedd yt', Ynys Gadarn,
Am wychder, llawnder, a lles.
Mwnai 'mhob cwr o'th mynwes;
Dyffrynoedd, glynnoedd, glannau;
Pop peth yn y toreth tau:
Bara a chaws, bir a chig,
Pysg, adar, pob pasgedig.

Dy feichiog, ddeiliog ddolydd
Ffrwythlon, megis Saron, sydd;
A phrennau dy ddyffrynoedd,
Crwm lwyth, megis Carmel oedd.

O mor dirion, y Fon fau,
Dillad dy ddiadellau.
Cneifion dy dda gwynion gant,
Dawnus wyt, dien ei sail,
Llydain, a'th hardd ddilladant.
Prydferth heb neb ryw adfail;
A thudwedd bendith ydwyt;
Mawl dy Ner, aml ei dawn wyt
Os ti a fawl nefawl Ner,
Dilys y'th felys foler;
Dawnol fydd pawb o'th dynion,
A gwynfyd ym myd fydd Mon.
Dy eglwyswyr, deg loywsaint,
Ath leygion yn swynion saint,
Cryfion yn ffrwythau crefydd
Fyddant, a diffuant ffydd.
Yn lle malais, trais, traha,
Byddi 'n llawn o bob dawn da,
Purffydd a chariad perffaith-
Ffydd, yn lle cant malchwant maith.
Yn lle aflwydd, tramgwydd trwch,
Digon o bob rhyw degwch,
Undeb, a phob rhyw iawnder,
Caru, gogoneddu Ner;
Dy enw a fydd, da iawn fod,
NEF FECHAN y Naf uchod.
Rhifir di 'n glodfawr hefyd
Ar gyhoedd gan bobloedd byd;
Ac o ran maint, braint, a bri,
Rhyfeddod hir a fyddi."


Bellach f yspryd a ballawdd;
Mi 'th archafi Naf a'i nawdd.
Gwilia rhag ofergoelion
Rhagrith, er fy mendith, Mon.
Poed yt' hedd pan orweddwyf
Ym mron llawr estron, lle 'r wyf.
Gwae fi na chawn enwi nod,
Ardd wen, i orwedd ynod.
Pan ganer trwmp Ion gwiwnef,
Pan gasgler holl nifer nef,
Pan fo Mon a'i thirionwch
O wres fflam yn cirias fflwch,
A'i thorrog wythi arian,
A'i phlwm a'i dur, yn fflam dân,
Pa les cael lloches o'r llaid;
Duw ranno dŷ i'r enaid,
Gwiw gannaid dŷ ogoniant,
Yn nghaer y ser, yn nghor sant
Ac yno 'n llafar ganu,
Eirian eu cerdd i'r Ion cu,
Poed gwŷr Mon a Goronwy,
Heb allael ymadael mwy;
Cyd uned a llefed llu
Monwysion, Amen, Iesu !'


YNYS MON.

"Dy feichiog ddeiliog ddolydd
Ffrwythlon, megis Saron sydd."


COLLI TYMER.

At Richard Morris, Medi 27, 1756.

AM eich llyfrau chwi a fenthycais chwi a'u cewch pan fynnoch. Ni bum erioed ar gyngyd na'u bwyta na'u hyfed, na'u gwerthu, na gwneuthur ffagl o honynt. Ac am y Dafis yna, mae iddo groeso i'r dodrefn sydd heb dalu am danynt pan fynno; nid oes arnynt nemor of geiniogwerth. A phan ddelo amser cyfaddas, mi ddiolchaf i'r wyneb lleuen gadach am ei gastiau llechwraidd. Yr oedd y llechgi brwnt yn ddiswydd ddigon ddyfod yma gyda'r cynrhonyn coesgam hwnnw o fachgen i hel chwedlau; ac yn cydgoethi a chablu arnaf gyda'r dafarnwraig biglas yma, fal y mae hi ei hun yn addef yn awr wedi cymodi o honom.Y BARDD GWYLLT.

PENDERFYNU YMADAEL.

[At yr Anrhydeddus a'r hybarch Gymdeithas o Gymrodorion, Goronwy Ddu, eu Cyfaill a'u Bardd gynt, a'u Gwasanaether a'u Car hyd angau, yn anfon annerch.]

Y PENDEFIGION URDDASOL,—Yn gymaint a'm bod eisus yn dra rhwymedig i'ch hybarch Gymdeithas, a'm bod yn myned yn ddiatreg (Duw ro fordwy dda), yn rhybell i ddysgwyl byth ond hynny weled un wyneb dyn o honoch, mi dybiais nad anghymwys imi, neu yn hytrach fod yn ddyledus arnaf, gymeryd cennad teg gennych oll cyn fy nghychwyn. Ac, fal y mynnai Dduw, dyma 'r adeg orau oll o'm blaen, sef, ar noswaith eich cyfarfod; pryd y mae rhan fawr o honoch wedi ymgynnull trwy undeb a brawdgarwch, yn ol eich Arfsgrif, i gydsynio ar wir les eich gwlad, ac i hwylio yn mlaen amryw eraill o ddibenion canmoladwy eich Cymdeithas. Gweddus a Christionogawl iawn eich gwaith; boddlawn gan Dduw a chysurus i amryw o'i haelodau anghenawg, a chlod fawr yng ngolwg holl ddynolryw; a sicr a fydd eich gwobrwy ddydd a ddaw, gan yr hwn a ddywed, "Gwyn ei fyd a dosturio wrth y tlawd a'r anghenus." Am danaf fy hun, nid allaf ymhonni o ddim rhan o'r fendith yma, er bod yn aelod o'ch urddasol Gymdeithas, gan na roes y Goruchaf im' mo 'r gallu; er y gallaf yn hyderus ddywedyd na bu arnaf erioed ddiffyg ewyllys; ac os Duw a'm llwydda, na bydd byth. Dyn wyf fi, fal y gwyr amryw o honoch, a welodd lawer tro ar fyd, er na welais nemor o dro da; ac mi allaf ddywedyd wrthych, fal y Padriarch Jacob wrth Pharoah gynt, Ychydig a blin fu dyddiau 'ch gwas hyd yn hyn"; ond yn awr yr wyf yn gobeithio fod nef yn dechreu gwenu arnaf; ac y bydd wiw gan yr Hollalluog, sy 'n porthi cywion y gigfran pan lefont arno, roi i minnau fodd i fagu fy mhlant yn ddiwall ddiangen. Er eu mwyn hwy yn unig y cymerais mewn llaw y fordaith hirfaith hon, heb ameu gennyf nad galwad rhagluniaeth ydyw. Hir a maith yn ddiau yw'r daith i Virginia; ond eto mae 'n gysur, pan elir yno, gael dau gant punt yn y flwyddyn at fagu'r plant. Mae hyn yn fwy nag a ddysgwyliais erioed yn Mhrydain na'r Iwerddon; a pha fodd yr atebwn i'm teulu pe gwrthodwn y fath gynnyg drwy lwfrdra a difräwch? Er eu mwyn hwy ynteu mi deflais y dis, gan roi fy einioes yn fy llaw a diystyrru pob perygl a allai ein goddiwes; a hynny, nid yn fyrbwyll, ond o hir ystyried ac ymgynghori â'm carai. Ond er hynny, wedi ystyried ol a blaen, mi welaf yn awr lawer anghaffael na fedrais graffu arno nes bod yn rhywyr. Erbyn cytuno â pherchennog y llong, mi welaf nad yw yr holl arian a gaf at fy nhaith, ac oll a feddaf fy hun, wedi talu i bawb yr eiddo, ond prin ddigon i ddwyn fy nghost hyd yno; ac erbyn caffwyf fy nhroed ar Dir yr Addewid, y byddaf cyn llymed of arian a phan ddaethum o groth fy mam. Gwaith tost yw i bump o bobl fyned, nid i deyrnas, ond i fyd arall, heb ffyrling at eu hymborth! A gwaethaf oll yw, nad a ein llong ni o fewn deg milldir ar hugain i Williamsburg; ac, Och Dduw! pa fodd yr ymlusgir hyd fôr na thir heb arian? Fe ŵyr Duw mor llwm ac anrhwsiadus hefyd yr ydym oll i fyned i'r cyfryw le, ond nid yw hynny ddim os ceir bara.

Dyna 'r achosion, anwyl gydwladwyr, a barodd im' ryfygu gofyn eich cymorth ar hyn i dro; gan wybod yn ddilys na flinaf un o honoch byth rhagllaw. Ond os Duw rydd einioes, mi gydunaf a chwi 'n llawen i gymorth eraill o'n gwlad. Rhowch hefyd im' gennad ar hyn o achlysur, i dalu diffuant ddiolch i chwi am eich parodrwydd i'm cymorth dro arall pryd yr oedd llai fy angen i, er nad llai eich ewyllys da chwi na 'm diolchgarwch innau, er na cheisiais ac na chefais y pryd hynny ddim o'ch haelioni, o fai rhyw aelod blin terfysgus oedd yn eich plith. Ond yn awr yr wyf yn atolwch arnoch, y rhai oeddych mor barod i'm cymorth, ped fuasai raid, fy nghymorth ychydig wrth fy llwyr angenrhaid. Nid wyf yn ameu ewyllys da yr un o honoch ar y cyfryw achos, ond pa un bynnag a wneloch ai ystyried fy nghyflwr ai peidio, myfi a weddiaf ar Dduw roddi ichwi lwyddiant yn y byd hwn a'r hwn a ddaw; yr hyn y pryd yma yw'r cwbl a eill

Eich ufudd Wasanaethwr,

Tachwedd yr ail, 1757.GRONWY DDU.

CYCHWYN.

Ar fwrdd y Trial yn Spithead,

Rhagfyr 12, 1757

YR ANWYL GYDWLADWR,—Dyma ni, trwy ragluniaeth y Goruchaf wedi dyfod hyd yma 'n iach lawen heb na "gwyw na gwayw", na selni môr, na dim anhap arall i'n goddiwes; er caffael o honom lawer iawn o dywydd oer dryghinog tra buom yn y Downs, ac o'r Downs yma. Gwych o gefnocced y mae fy ngwraig i a'i thri Chymro bach yn dal allan heb na chlefyd y môr na chyfog, ond rhyw dipyn o bendro y dydd y daethom o'r Nore i'r Downs, lle 'r oedd y lladronesau Seisnig yma, ie, a'r lladron, ac ambell un o ddynion y llong ar chwydu eu perfeddau allan. Och yn eu calonnau! Dynion bawaidd aruthr yw dynion y môr. Duw fo'n geidwad i ni! Mae pob un o naddynt wedi cymeryd iddo gyffoden o fysg y lladronesau, ac nid ydynt yn gwneyd gwaith ond cnuchio'n rhyferrig yn mhob congl o'r llong. Dyma bump neu chwech o naddynt wedi cael y clwyf. Ac nid oes yma feddyg yn y byd; ond y fi sydd a llyfr Dr. Shaw gennyf; ac ya ol hwnnw byddaf yn clytio rhywfaint arnynt â'r hen gyffiriau sydd yn y gist yma. Fe fydd arnaf weithiau ofn ei gael fy hur wrth fod yn eu mysg. Mi fedyddiais un plentyn, a'i enw oedd. "Francis Trial," ac a'i cleddais ef wedi, a lleidra lladrones heblaw hynny. Heddyw y cleddais y lladrones. A ydych yn cofio fal y dywaid y penbwl yma o Gadpen y cai fy ngwraig i un o'r lladronesau i weini iddi tra bai ar y môr? Y mae yma yn y caban un o honynt, ond i weini i anlladrwydd y gŵr yma, nid i wasanaethu fy ngwraig i, y deuwyd a hi yma. Ni welwyd erioed fwystfil o ddyn gwaeth na'r pennaeth. Y mae yn gorfod arnom er ys pythefnos yfed dwfr drewllyd neu dagu; canys nid oes diferyn o ddiod fain yn y llong; ac edrych arno ynteu'n yfed ei winoedd a'i gwrw rhyngo ef a'i gyffoden, ac yn sipian ei weflau diawl i godi blys arnom, ac yn dywedyd, It is very good. Pa beth, meddwch chwi, a ddaw o honom cyn y pen y daith? Ond mae gennyf inau faril o borter heb erioed ei agor, a pheth rum. Yr ydwyf yn lled ofni iddo ryw dro neu gilydd fy nigio cyn belled, wrth daro rhai o'm plant neu ryw gast arall, fal y mae arno gant o gastiau drwg, a gwneuthur redeg fy nghleddyf tan ei asenau byrion; a diolch iddo roddi imi fenthyg dul o gleddyf cyn flaen llymed. Ond Duw a'm cato rhag drwg. Rhowch fy ngwasanaeth at Mr. John Owen, a dangoswch hwn iddo; ac at y Llew, Parry, Humphreys, &c. Yr ydym yn hwylio pan gyntaf y bo 'r gwynt yn deg gyda 'r rest o'r llynges, yr hon sy 'n cynnwys yn nghylch dau gant o longau.

Duw ro i chwi a ninnau iechyd a rhaith dda!
Mi ydwyf eich ufudd Wasanaethwr,

GRONWY DDU.

VI. O'R GORLLEWIN.

BYWYD YN Y WLAD BELL.

At Richard Morris.

Brunswick, Gorffennaf 23, 1767.

YR ANWYL GYFAILL,—Ar ol cyd-alaru â chwi am farwolaeth eich dau frawd godidog, y nesaf peth a ddylwn ei wneuthur, yw mynegu ichwi pa fodd y digwyddws im' glywed y trist newyddion. Ar fyr eiriau fal hyn y bu. Chwi, fe weddai, a ysgrifenasoch at William Parry yn Middlesex yn y wlad yma, tros saith ugain milltir o'r lle'r wyfi yn preswylio; ac ynteu yn mhen hir a hwyr a 'sgrifennodd yma. Minnau a'i hatebais ynteu drachefn; ond byth gwedi ni chlywais na siw na miw oddi wrtho. Ofni yr wyf fod ryw chwiwgi wedi difrodi fy llythyr cyn ei roi i'r Parry. Nid oes yma ddim post yn myned trwy'r wlad fal yna; dim ond ymddiried i'r cyntaf a welir yn myned yn gyfagos i'r lle; ac weithiau fe fydd llythyr nowmis neu flwyddyn yn ymlwybrin deg milltir ar hugain o ffordd, ac yn aml ni chyrraeth byth mo 'i bennod. Hiliogaeth lladron o bob gwlad yw'r rhan fwyaf o drigolion y fangre hon, ac y mae ysfa ddiawledig ar eu dwylaw i fod yn ymyrraeth â phethau pobl eraill, ac i wybod pob ysmic a fo 'n passio rhwng Sais genedigol a'i gydwladwyr yn Lloegr. Mawr yw 'r chwant sydd arnynt gael gwybod helyntion gwŷr Brydain; a pha un a wnelont a rhoi gair da i'r wlad a'r bobl yn eu llythyrau at eu cydwladwyr ai peidio. Fe gyst imi fyned drugain milltir neu well, i roi hwn o'm llaw fy hun i ryw Gadpen ar fwrdd llong; onide ni ddeuai byth hyd yna, os daw er hynny. Mi 'sgrifennais atoch liaws o lythyrau yn nghylch wyth mlynedd i'r awron. Nis gwn a gawsoch ddim o honynt. Y mae yma, o fewn deugain milltir ataf, un Siôn ap Huw, Cymro o Feirionydd, yn berson mewn plwyf. Hwnnw a ddywaid imi fod fy nghyfaill Lewis Morris wedi cael ei daflu yn y gyfraith, a'i ddiswyddo, a'i ddyfetha, cyn iddo ef adael Cymru, ond nis clywsai mo'i farw. Fe ddywaid hefyd, fod peth o'm gwaith i yn argraphedig, a gwaith y Llew gyda hwynt. Gwych fyddai eu gweled. Do hefyd, fod gwaith Ieuan Fardd yn argraphedig. A ellir byth eu gweled tu yma i'r mor? Ni chaf na lle nag amser i ddywedyd ichwi ddim o'm helyntion ar hyn o dro. weloch yn dda 'sgrifennu, chwi gewch wybod y maint a fynnoch. Yr unig beth sydd imi i'w daer ddeisyf gennych yw, rhoi imi lawn gyfrif pwy yw y rhai o'm cydnabyddiaeth sy'n fyw, a pha le y maent, rhag imi 'sgrifennu at bobl yn eu beddau. Mae'ch nai, Sion Owen, Fwynwr? Mae Parry o'r Mint? Mae'r Person, Mr Humphreys? Ai byw Tom Williams, y Druggist o Lôn y Bais? Os e, yno y mae fyth? Ai byw Huwcyn Williams, Person Aberffraw? Ai byw 'ch tad? a'm chwaer Sian innau, yn Mynydd Bodafon? Mi gefais y newydd farw 'mrawd Owen yn Nghroes Oswallt. Yr wyf fi, i Dduw y bo'r diolch, yn iach heinyf; a'r wlad yn dygymod â mi 'n burion. Nid oes un o'm teulu Seisnig yn fyw ond fy mab Robert; ac y mae ef cymaint a mi fy hun. Yr wyf yn briod a'm trydedd wraig, a chennyf dri o blant a aned yma, heblaw Robyn. Gwlad dda helaethlawn yw'r wlad yma; ond nawdd Duw a'i Saint rhag y trigolion!—oddigerth y sawl o honynt sydd Saeson, ac nid da mo honynt hwythau holl. Anerchwch fy nghyfaill Parry o'r Fint, a Pherson y Twr Gwyn, a Sion Owen, Fwynwr; ie, ac Andrew Jones, a phob wyneb dyn a'm hadwaeno.

Duw gyda chwi oll! Mi fyddaf yn disgwyl llythyr yn mhen chwe mis.

Mi wyf yr eiddoch, etc.,

GORONWY OWEN.

MARWNAD LEWYS MORYS YSWAIN,
GYNT O FON, YN DDIWEDDAR O ALLTFADOG,
YN NGHEREDIGION; PEN-BARDD, HANESYDD,
HYNAFIAETHYDD, A PHILOSOPHYDD YR OES
A AETH HEIBIO; GWIR-GARWR EI FRENIN
A LLES CYFFREDIN EI WLAD; A HOFFWR A
CHOLEDDWR EI IAITH A'I GENEDL.

YN YR AWDL HON Y MAE PEDWAR MESUR AR HUGAIN
CERDD DAFAWD, YN NGHYD A NODAU YR AWDUR AR
RAI PETHAU HYNOD.


Englynion Unodl Union.
OCH dristyd ddyfryd ddwyfron,—Och Geli,
Och galed newyddion,
Och eilwaith gorff a chalon,
Och roi 'n y bedd mawredd Mon.

Mawredd gwlad Wynedd, glod union—ceinwalch,
Cynnor presenolion;
A byw urddas y beirddion,
A'u blaenawr oedd Llew mawr Mon.


Cyd bai hirfaith taith o'r wlad hon[1]—yno,
Hyd ewynawg eigion,
Trwst'neiddiwch trist newyddion,
Ni oludd tir, ni ladd ton.

Mae tonnau dagrau digron—i'm hwyneb
Am hynaws gâr ffyddlon;
Llwydais i gan golledion;
Oer a fu'r hynt i'r fro hon.

Bro coedydd, gelltydd gwylltion—pau prifwig
Pob pryfed echryslon;
Hell fro eddyl llofruddion,
Indiaid, eres haid, arw son!

Soniais, sugenais gwynion,—do ganwaith,
Am deg Wynedd wendon;
Doethach im dewi weithion;
Heb Lewys mwy, ba les Mon?

Galar ac afar gofion—mynych ynt,
Man na chaid ond hoywon;
Nis deryw, ynys dirion,
Loes a fu waeth i lwys Fon.

Cywydd Llosgyrnog ac Awdl—gywydd yn nghyd.

Ni fu 'n unig i Fon ynys
Loes am arwyl Lewys Morys;
Ond erys yn oed wyrion
Ym mhob gwlad achwyniad chwith
O'i ran ym mhlith cywreinion.


Cywydd Deuair Fyrion a Deuair Hirion yn nghyd.

Cynnal cwynion
O dir i don,
Dan gaerau Prydain goron,
Yr ydis an Lewis lon.

Proest Cyfnewidiog Saith—ban.

Yn iach oll Awen a chân!
Yn iach les o hanes hen,
A'i felus gainc o flas gwin!
Yn iach im' mwyach ym Mon
Fyth o'i ol gael y fath un!
Yn iach bob sarllach a swn!
Un naws â dail einioes dyn.

Unodl Grwca.

Teiroes i'r mwyawr tirion,
O ras nef a roesai 'n Ion
O'i ddawn, o chawsai ddynion—eu meddwl
Ar fanwl erfynion.

Unodl Gyrch.

Er eidduned taer ddynion,
Er gwaedd mil, er gweddi Môn,[2]
Ni adfer Ner amser oes:
Rhed einioes, nid rhaid unon.

Proest Cadwynodl.

Duw a'i dug ef, dad y gân,
Cywir i'w ddydd carodd Ion,
Yn ngolau gwledd engyl glân;
Yntau a 'n sant: tawn a son.

Clogyrnach.

Hawdd y gorthaw ddifraw ddwyfron;
Erchyll celu archoll calon;
O raen oer enaid,
Diau bydd dibaid
Uchenaid a chwynion.

Gwawdodyn Byr.

Cair och o'i hunaw, cur achwynion,
A chaeth iawn alaeth i'w anwylion;
Parawdd i ddinawdd weinion—o'u colled,
Drem arw eu gweled, drom oer galon.

Dau Doddaid.

Pa golled—gwared gwirion—o delmau
Ac o hir dreisiau gwŷr rhy drawsion![3]
O frwd ymddygwd ddigon—y diangodd,
Gwen nef a gafodd gan Naf gyfion.

Gwawdodyn Hir.

A fynno gyrraedd nef, wen goron,
Dwy ran ei helynt drain a hoelion,
Pigawg, dra llidiawg fawr drallodion,
Croesau, cryf—loesau, criau croywon,
Erlid a gofid i'w gyfion—yspryd,
Ym myd gwael bawlyd ac helbulon.

Byr a Thoddaid.

Er llid, er gofid, wir gyfion—ddeiliad,
Ef oedd ddilwgr galon;
Duw a folai, da 'i ofalon;
Siôr a garai is aur goron;


Lle bai gwaethaf llu bygythion,
Ni chair anwir drechu 'r union;
Dra gallawdd, nadawdd i anudon—dorf
Lwyr darfu 'r lledneision.

Dau Doddaid.

Bu 'n wastad ddifrad ddwyfron,—ddiysgog
I'w hydr eneiniog Deyrn union;
Rhyngodd ei fodd a'i ufuddion—swyddau
A chwys ei aeliau â chysulion.

Gwawdodyn Byr.

Mesurai, gwyddai bob agweddion,
Llun daear ogylch, llanw dŵr eigion;
Amgylchoedd moroedd mawrion—a'u cymlawdd,
Iawn y danghosawdd, nid anghysson.

Dau Wawdodyn Hir.

Daear a chwiliodd drwy ei chalon;
Chwalai a chloddiai ei choluddion,
A'i dewis wythi, meini mwynion,
A thew res euraid ei thrysorion,
A'i manylaf ddymunolion—bethau ;
Deuai i'r golau ei dirgelion.

Olrheiniodd, chwiliodd yr uchelion,
Llwybrau 'r taranau a'r terwynion
Fflamawg fellt llamawg, folltau llymion,
Is awyr gannaid a ser gwynion;
Nodai 'r lloer a'i newidion ;—hynt cwmwl
O fro y nifwl i for Neifion.

Dau Doddaid eto.

Ebrwyddaf oedd o'r wybryddion—hyglod,
A llwyr ryfeddod holl rifyddion.
Traethai, fe wyddai foddion—teyrnasoedd ;
Rhoe o hen oesoedd wir hanesion.

Gwawdodyn Hir.

Honni a gafodd o hen gofion,
Achoedd dewr bobloedd o dwr Bab'lon,
Coffa bri ethol cyff y Brython,[4]

Gomer a'i hil yn Gymry haelion,
Teithiau da lwythau dilythion,-diwarth,
O du Areulbarth i dir Albion.

Gwawdodyn Byr.

A thrin a thrabludd, lludd lluyddion
Prydain a'i filwyr, pryd nefolion;
A'r lladdiad, gâd ergydion-a oryw,
A gwaed a distryw 'r giwdawd estron.

Huppynt Byr.

Ni chaid diwedd
O'i hynawsedd
A'i hanesion;
Ni chair hafal
Wr a chystal
Ei orchestion.

Tawddgyrch Gyfochrog.

Llon wr gwraidd llawn rhagorau,
Mawrdda 'i ddoniau mor ddiddanion,
Dof arwraidd, difyr eiriau,
Meddaidd enau, wiw 'mddiddanion.

Huppynt Hir.

Glyw defodau
Eisteddfodau,
A'u hanodau,
A'u hynadon;

Eu cyngreiriau,
A'u cyweiriau,
A chadeiriau
Uwch awduron.

Cadwyn Fyr

Uwch awduron a chadeiriawg,
Bur iaith rywiawg bêr athrawon,
A chelfyddon uchel feiddiawg,
A'r beirdd enwawg, eirbêr ddynion.

Huppynt Hir yn nglŷn â Gorchest y Beirdd.

Ef oedd Ofydd
A dywenydd,
Hylwybr ieithydd,
Hil y Brython;
Gan wau gwynwaith,
Tlysau tloswaith,
Orau araith
Aur wron.

Hir a Thoddaid.

Goleuodd wedi ei gywleiddiadon
A gwir hyfforddiant geiriau hoff heirddion;
Athrawai 'n fuddiol a thrwy iawn foddion;
E gaed moes wiwdda gyd à masweddion;
Lle bu 'r diddysg hyll brydyddion,—brin ddau,
Fe rodd ugeiniau o hoywfeirdd gwynion.[5]


Cyrch a Chwtta.

Ar y sydd i'r oes hon
Yn fawrddysg Awen feirddion,
A gwiw les fryd i'w glwys fron,
Bryd arail i'w bro dirion,
Agos oll ynt, dêg weis llon
O ddysg abl, ei ddisgyblion;
A phoed maith goffhâd a mawl
I'w arglwyddawl ryglyddon.

Cyhydedd Naw Sillafog Chwe-ban.

A thra bo urddawl athro beirddion,
A mwyn dysg wiwles mewn dwys galon,
Gwiwdeb ar iaith, a gwaed y Brython,
Ac Awen Gwyndud, ac ewyn gwendon,
Daear a nef a dŵr yn afon,
Ef a gaiff hoywaf wiw goffeion.

Cyhydedd Fer.

Aed, wâr enaid; aed, wr union;
Aed ragorwalch diwair, gwirion,
I fro Iesu fry a'i weision;
I'w gain gaerau a gwen goron.

Cyhydedd Hir.

Ac uned ganu, sant, wiwsant Iesu,
Ef a'i leng wiwlu, fil angylion;
Ein dof Oen difai, lwys wawd EL SADAI,
Musig adwaenai ym mysg dynion.


Gwawdodyn Byr.

Uned ganiad eneidiau gwynion,
Llem araith wrol llu merthyron,
Ni ludd gweli, ni ladd gâlon—ei grym,
Nac ing croywlym, nac angeu creulon.

Dau Wawdodyn Hir.

Gwedi caledi, cyni, cwynion.
Artaith, erchyllwaith ac archollion,
Gwaed ffrau, a ffrydiau dagrau digron,
A chur marwol, a chriau mawrion,
Gwyarlliw fraenfriw oer frwynfron,—nid mud
Mawl cain côr astud mil can Cristion.

Eiddunaf finnau, Dduw Naf union,
Allu im' uno â'u llu mwynion,
Prydu i geisio perwawd gyson
I lwyswawd eirioes Lewys dirion,
Cywyddau cu odlau cydlon—ganu,
Lle mynno Iesu, lleu Monwysion.

Yr Awdl hon a gânt GORONWY OWEN, Person Llanandreas, yn swydd Brunswic, yn Virginia, yn y Gogleddawl America; lle na chlybu, ac na lefarodd hauach ddeng air o Gymraeg er ys gwell na deng mlynedd.

Gorffennaf 20, 1767.

Y NENNAWR.

"Dedwydd im gell a'm didol." II. 12.

ATODIAD I.

(Hyd yn hyn rhoddwyd y rhannau o lythyrau a gwaith barddonal Goronwy Owen sydd yn dangos hanes ei fywyd, a dadblygiad ei athrylith. Yma rhoddir y gweddill o'i farddoniaeth Gymraeg.)

CALENDR Y CARWR.

[Gwel y rhan gyntaf yn Cyf. I., tud. 11—13.]

CYRRAEDD trwyn y clogwyni,
Perthfryn, lle na'm canlyn ci.
Bwriais gyrch hyd Abererch;
Llan yw hon wrth afon Erch
Cerdded rhag ofn gweled gŵyll
Grebach, na bo 'nd ei grybwyll,
Neu gael i 'mafael a mi
Goeg ysbryd, drygiawg aspri.
Torri ar draws tir i'r dref,
Ar ddidro cyrraedd adref;
Wrthyf fy hun eiddunaw
Yn frau, i wellâu rhag llaw.
Cefais o'm serch ddiferchwys
Oer fraw; ac nid af ar frys
I'w chyfarch; ond arch, nid af'—
Diowryd yw a dorraf.
Af unwaith i Eifionydd,—
Unwaith? Un dengwaith yn 'dydd.
Oerchwith gaeth gyflwr erchyll,
Ai "Af," ai Nag af," a gyll.
Bwriadu'n un bryd a wnaf,
Ac â'r ffon y gorffennaf.

Dodaf fy ffon unionwymp
Ar flaen ei goflaen; hi gwymp;
Aed lle 'r el, ni ddychwelaf;
Ar ol y dderwen yr af.

ENGLYN O GYNGOR.[6]

COFIA y Duw byw tra bych—o galon;
A galw arno'n fynych;
Cofia y daw'r rhaw a'r rhych,
Oll yn wael lle ni welych.


PROEST CADWYNODL BOGALOG.

A math o watworgerdd ar yr hen englyn bogalog.

'I wiw wy a weua e
Ieuau o ia, ai e yw?
Ai o au weuau a we,
A'i au i wau ei we wyw?


ENGLYN
A SAIN GUDD YNDDO.

Pwy estyn bicyn i bwll—trybola
Tra bo i'w elw ddeuswllt?
Trasyth fydd perchen triswllt,
Boed sych a arbedo swllt.


CYWYDD I IEUAN BRYDYDD HIR.

WYNFAN a fu o'r cynfyd
Gan y beirdd ar goegni byd;
Tra fo llên, ac awenydd,
A chân fwyn, achwyn a fydd.
Gwyfyn, du elyn dilyth
Awen, yw Cenfigen fyth:
Cenfigen ac awenydd
Ym mhob llin finfin a fydd.
O dwf llawn dwy efell ynt;
O chredi, dwy chwaer ydynt;
Dwy na wnaed i dynnu n' ol;
Dwy ydynt, pwy a'u didol?
Ni wneir o fron anaraul
Ond cysgod, er rhod yr haul.
A diwad ydyw, Ieuan,
Bron sydd na chydfydd â chân.
Wrth Homer wiw gerddber gynt,
Gwyddost, mor eiddig oeddynt;
Hurtaf o ddyn a'i hortiai,
Miwail ei fydr, aml ei fai;
Gwall oedd ei gerdd, pencerdd per,
Os coeliwn Soyl ysceler.
Maro a orug mowrwaith;
Bas y gwyl Bawas y gwaith.
Ni pharchwyd gradd o naddun;
Mawr oedd cas Horas ei hun.
Er Dofydd, pwy wr difai
A fu 'rioed na feio rai?
Bu gylus gwaith Mab Gwilym,
Ai gerdd gref, agwrdd ei grym.
Pawb a'i cenfydd, o bydd bai,
A bawddyn, er na byddai.

A diau, boed gau, bid gwir,
Buan ar fardd y beïir.
E geir, heb law 'r offeiriad,
Gan bron yn dwyn gwŷn a brad;
Milweis eiddig, mal Suddas,
Heb son am Dregaron gas.
Dos trwy glod rhagod er hyn,
Heria bob coeg ddihiryn,
A dilyn fyth hyd elawr
O hyd y gelfyddyd fawr.
Od oes wŷr å drygfoes draw
Afrywiog i'n difriaw,
Cawn yn hwyr gan eu hwyrion,
Na roes y ddihiroes hon.

ENGLYNION O GLOD I'R DELYN.

ELYN i bob dyn doniawl—ddifaswedd
Ydoedd fiwsig nefawl;
Telyn fwyngan, ddiddanawl,
Llais telyn a ddychryn ddiawl.

Nid oes hawl i ddiawl ar ddyn—mwyn cywraint,
Y mae'n curo'r gelyn;
Bwriwyd o Saul ysbryd syn
Diawlaidd, wrth ganu'r delyn.


CYWYDD I DYWYSAWG CYMRU

Gwedi ei gyfieithu o'r un Lladin a ysgrifenwyd gan
Christopher Smart.

Pwy ddysg im'—pa dduwies gain—
Wir araith i arwyrain
Gwraf edlin breninwawr,
Blaenllin Cymru, fyddin fawr?
Ai rhaid Awen gymengoeg
O drum Parnassus, gwlad Roeg?
Cyfarch cerddbêr Bieriaid
Am achles, hoff les, a phlaid?
Ni cheisiaf—nid af i'w dud—
Glod o elldydd gwlad alldud;
Ofer y daith, afraid oedd;
Mwyneiddiach yw 'n mynyddoedd,
Lle mae Awen ddiweniaith,
Gelfydd, ym mhob mynydd maith,
Na wna 'n eglur, neu 'n wiwglod,
Ond da, a ryglydda glod.
Pan danwyd poenau dunych.
A braw du 'n ael Brydain wych,
Pan aeth Fredrig i drigias
Da iawn fro Duw nef a'i ras,
Rhoe Gymru hen uchenaid;
A thrwm o bob cwm y caid
Trystlais yn ateb tristlef
Prydain, ac wylofain lef.
O'r tristwch duoer trosti
Nid hawdd y dihunawdd hi,
Fal meillion i hinon haf
O rew—wynt hir oer auaf;
Iach wladwyr eilchwyl ydym
Oll yn awr, a llawen ym;
Ni fu wlad o'i Phenadur
Falchach, ar ol garwach gur

Llew o udd drud, llewaidd draw,
I ni sydd; einioes iddaw!
Udd gwrawl, haeddai gariad;
Por dewr a ddirprwy ei dad;
Ni bu ryfedd rinweddau
Ym maboed erioed ar Iau;
Arwr a fydd, ddydd a ddaw,
Mawreddog. Amor iddaw!
Hiroes i wâr Gaisar gu,
Di—orn oes i deyrnasu;
A phan roddo heibio hon
I gyrraedd nefol goron—
Nefol goron gogoniant,
Yn oediog, lwys enwog sant,
Poed Trydydd Sior, ein lor ni,
O rinwedd ei rieni,
Yn iawnfarn, gadarn geidwad
I'w dir, un gynneddf a'i dad!
Am a ddywaid, maddeuant
A gais yr Awen, a gant
Hyn o'ch clod mewn tafodiaith
A dull llesg hen dywyll iaith.
Mawr ryddid Cymru heddyw,
Llawen ei chân, llonwych yw,
Trwy ei miloedd, tra molynt
Eu noddwr, hoyw gampiwr gynt;
Llyw diwael yn lle Dewi,
Ior mawr wyt yn awr i ni.
Ti ydyw 'n gwarlyw gwirles;
Ti fydd ein llywydd a'n lles.
Os dy ran, wr dianhael,
A wisg y genhinen wael,
Prisiaf genhin breninwych
Uwch llawrydd tragywydd gwych.


CYWYDD I OFYN FFRANCOD
GAN WILLIAM FYCHAN, Ysw., O GORSYGEDOL A NANNAU.

Y GŴR addfwyn, goreuddeddf,
Ni wn wr oll yn un reddf;
Gŵr ydych gorau adwaen:
Och! ble y cair un o' ch blaen?
Yn ail i chwi ni welais,
Naws hael, o Gymro na Sais.
Gŵr od, ysgwier, ydych
Ar bawb, a phoed hir y bych!
Ym Meirion lwys am roi 'n lân,
Haelaf achau hil Fychan;
Hael yn unwedd hil Nannau,
Dau enwog hil dinaghâu;
Hil glân a ŵyr heiliaw gwledd,
Blaeniaid ar holl bobl Wynedd.
O chyrchent, rhoech i eirchiaid
Ddawn a rhodd ddien i'w rhaid;
Ni bu nag i neb yn ol,
Na gwad, o Gorsygedol;
Gwir ys henwi 'r Gors honno
Yn Gedol, freyrol fro.
Cors roddfawr, o bwyf awr byw,
Un gedol ddinag ydyw:
Gras a hedd yn y gors hon,
Lle hiliwyd llu o haelion.
Yn y dir 'r wy 'n ymddiried,
A gwn y cair ynddi ged;
A ched a archaf i chwi,
A rhwydd y bych i'w rhoddi.
IIor mau, os wyf o rym sal,
Dyn ydwyf dianwadal,
O serchog, dylwythog lin.
Dibrinaf ddeiliaid brenin;

Ail llanw mor yw y llin mau;
Ceraint i mi 'mhob cyrrau;
Ym Mon, a Llannerch-y-medd,
A Llŷn, a thrwy holl Wynedd;
Yn llinyn yno llanwent,"
Hapus gylch, Powys a Gwent;
Diadell trwy Deaudir,
Rhaid oedd, a thrwy bob rhyw dir.
Ein hynaif iawn wahenynt
Bedair rhan o'r byd ar hynt:
Dwy oludog, dew, lydan;
Duw Ion a ŵyr, a dwy 'n wan.
O gyfan bedair rhan byd
Dwy-ran i mi y deiryd;
Ac aml un yn dymunaw,
Waethaf o'u llin, waith fy llaw;
A rhwydd wyf i'r rhiaidd yrr
Llwythawg i yrru llythyr,
Ond na fedd dyn, libyn lu,
Diles, mo'r modd i dalu.
Gwyn ei fyd egwan a fedd
Wr o synwyr o'r Senedd,
A'i dygai 'n landdyn digost
I selio ffranc, ddisalw ffrost.
Minnau, fy mawr ddymuniad
Yw cael, gan wr hael, yn rhad
Ffrancod eglur Mur Meirion,
O ran mael, i 'Ronwy Mon.
Hefyd nid Ffranc anhyfaeth,
Dyn o dir Ffrainc, dwndwr ffraeth,
O'r rhwyddaf im' y rhoddech
O'r lladron chwiwdron naw chwech;
Er mai gormodd, wr noddawl,
Yw rhif deg rhof fi a diawl,

Deuddeg o chaf ni 'm diddawr,
Ni'ch difwyn, y gŵr mwyn mawr;
Hynny dâl, heb ry sal bris,
Lawer o Ffrancod Lewis.

CYFIEITHIADAU O ANACREON.

NATUR a wnaeth, iawn ytyw,
Ei rhan ar bob anian byw :
I'r cadfarch dihafarchwych
Carnau a roes; cyrn i'r ŷch;
Mythder i'r ceinych mwythdew;
Daint hirion llymion i'r llew;
Rhoes i bysg nawf ym mysg myr;
I ddrywod dreiddio'r awyr;
I'r gwŷr rhoes bwyll rhagorol;
Ond plaid benywiaid—bu 'n ol:
Pa radau gânt? Pryd a.gwedd;
Digon i fenyw degwedd
Rhag cledd llachar a tharian;
Dor yw na thyr dur na thân;
Nid yw tân a'i wyllt waneg
Fwy na dim wrth fenyw deg.



Mae 'n ddiau myn y ddaear
Yfed o wlych rych yr âr;
Dilys yr yf coed eilwaith
Y dwr a lwnc daear laith;
Awyr a lwnc môr a'i li;
Yf yr haul o for heli;
Ar antur yf loer yntau;
Yfont a d'unont eu dau.
Y mae 'n chwi.h i mi na chaf
Finnau yfed a fynnaf.

Gwarthus iwch ddigio wrthyf,
Nid oes dim o'r byd nad yf.



Hoff ar hen yw gwên a gwawd;
Bid llane ddihadl, drwyadl droed;
Os hen an—nïen a naid,
Hen yw ei ben lledpen, llwyd,
A synwyr iau sy 'n yr iad.


ENGLYNION I OFYN COSYN LLAETH GEIFR
GAN WILLIAM GRUFFYDD, DRWS Y COED, A DROS DOMAS HUWS. 1754

DYNYN wyf a adwaenoch—er ennyd,
A yrr annerch atoch;
Rhad a hedd ar a feddoch,
I'ch byw, a phoed iach y boch.
I chwi mae, i'ch cae uwch cyll,
Geifr, hyfrod, bychod, heb wall;
Llawer mynnyn, milyn mwll,
Rhad rhwydd a llwydd ar bob llill.

Mae iwch gaws liaws ar led—eich annedd,
A'ch enwyn cyn amled;
Y mwynwr, er dymuned,
Rhowch i'm gryn gosyn o ged.

Cosyn heb un defnyn dwfr,
Cosyn ar wedd picyn pefr,
Cosyn o waith gwrach laith, lofr,
Cosyn o flith gofrith gafr.

Blysig, aniddig ei nâd—yw meistres,
A mwstrio mae'n wastad;
Ni fyn mwy un arlwyad
Na gwledd, ond o gaws ein gwlad,

Myn Mair, onis cair y caws
Ar fyr, y gŵr difyr dwys,
Ni bydd swydd, na boddio Sais,
Na dim mwy hedd i Dwm Huws.

Os melyn gosyn a gaf,—nid unwaith.
Am dano diolchaf;
Milwaith, wr mwyn, y'ch molaf,
Hau'ch clod ar bob nod a wnaf.


MARWNAD
I'r elusengar a'r anhepcor MR. JOHN OWEN, o'r Plas yn Ngheidio, yn Lleyn.

1. Unodl Union.
WAE Nefyn, gwae Lŷn gul wedd,-gwae Geidio,
Gwae i giwdawd Gwynedd,
Gwae oer farw gŵr o fawredd,
Llwyr wae, ac y mae ym medd.


2. Proest Cyfnewidiog.
Achwyn mawr, och yn y modd!
Nid ael sech, ond wylo sydd;
Gwayw yw i bawb gau y bedd
Ar Sion Owen, berchen budd.


3. Proest Cadwynog.
Cadd ei wraig bêr drymder draw
Am ei gwaraidd, lariaidd lyw,
A'i blant hefyd frwynfryd fraw;
Odid un fath dad yn fyw.


4. Unodl Grwca.
Mawr gwynaw y mae 'r gweinion
"Gwae oll y sut golli Sion";

Ni bu rwyddach neb o'i roddion—diwg,
Diledwg i dlodion.


5. Unedl Gyrch.
Llyw gwaraidd llaw egored,
Rhwydd a gwiw y rhoddai ged;
Mwynwych oedd. (y mae 'n chwith!)
Digyrrith da ei giried.


6. Cywydd Deuair Hirion.
Gwrda na phrisiai gardawd,
Ond o les a wnai i dlawd.


7. Cywydd Deuair Fyrion. Awdl Gywydd.
Cywydd Llosgyrnawg, a Thoddaid, ynghyd.
Ni bu neb wr
Rhwyddach rhoddwr;
A mawr iawn saeth ym mron Sion
Cri a chwynion croch wannwr.
Llawer teulu, llwyr eu toliant
A'u gwall, eisus a gollasant
Sin addient Sion i'w noddi.
Bu ŷd i'w plith a bwyd i'w plant,—eu rhaid
Hyd oni ail-gaid yn y weilgi.


11. Gwawdodyn Byr.
Sion o burchwant, os un, a berchid;
Synwyr goreu, Sion wâr a gerid;
Sion a felus iawn folid,—pan hunodd
Sion Owen gufodd, syn yw'n gofid.


12. Gwawdodyn Hir.
Chychwi y gweiniaid, och eich geni!
A marw 'ch triniwr, mawr yw 'ch trueni.
Pwy rydd luniaeth, pa rodd yleni
Yn ail i Sion, iawn eluseni?

Oer bod achos i'r byd ochi ;—nis daw
Er gofidiaw awr i gyfodi.


13. Byr a Thoddaid.
Ar hyd ei fywyd o'i fodd,—iawn haelwas,
Yn helaeth y rhannodd;
A'i Dduw eilwaith a addolodd;
Wiw baun dethol, a'i bendithiodd.
Diwall oedd a da y llwyddodd ;
Am elw ciried mil a'i carodd;
Hap llesol, pwy a'i llysodd?—Duw un—tri,
Ei Geli a'i galwodd.


14. Hir a Thoddaid.
Wiwddyn cariadus, i Dduw Ion credodd,
Hoff oedd i'w Geidwad, a'i ffydd a gadwodd;
A'i orchymyn i wyraw o chwimiodd;
Da fu y rheol, edifarhaodd.
Ym marwolaeth e 'moralwodd—a'i Ner,
A Duw, orau byw-Ner a'i derbyniodd.


15. Hupynt Byr.
Os tra pherchid,
O mawr eurid,
Am arwredd;
Deufwy cerid,
Mwy yr enwid,
Am ei rinwedd.


16. Hupynt Hir.
Am ei roddion
A'i 'madroddion,
Hoyw wr cyfion,
Hir y cofier!
Ei blant grasol
Gan Dduw nefol,

Fwyn had ethol,
A fendithier.


17. Cyhydedd Fer.
Cu hil hynaws! cael o honynt,
Duw 'n dedwyddwch, Di 'n Dad iddynt,
Yn ymddifad na 'moddefynt
Gyrchau trawster; gwarchod trostynt.


18. Cyhydedd Hir.
I'w gain, fain, fwynhael,
Briod, hyglod hael,
Duw tirionhael,
Dod ti hir einioes;
Rhad ddifrad ddwyfron,
Amledd hedd i hon,
I hwylio 'i phurion
Hir hoff eirioes.


19. Cyhydedd Naw-ban.
Am a wna Wiliam, mwy na wyled;
Diwyd haelioni ei dad dilyned;
A digas eiriau da gysured
Och oer a mawrgŵyn ei chwaer Marged.


20. Clogyrnach.
Os rhai geirwir sy wŷr gorau,
I fyd saint e fudes yntau
Draw, ddifraw ddwyfron,
I fad lwysgad lon
Angylion yn ngolau.


21. Cyrch a Chwta.
Yn wych, byth ddinych, y bo;
Yn iach wiwddyn; och iddo!

Mae hi'n drist am hyn o dre,
Wir odiaeth wr, ei ado.
Ni wiw i ddyn waeddi, "O!
Och wâr Owen!" a chrio;
Dal yn ei waith, dilyn ef
I'r wiw-nef; fe 'i ceir yno.


22. Gorchesty Beirdd.
Nid oes, Ion Dad,
Na 'n hoes, na 'n had,
na maws mwyn.
Na moes, na 'mad-
Dy hedd, Duw hael,
Main fedd, mae 'n fael,
A gwedd ei gael;
e gudd gwyn.


23. Cadwyn Fer.
Yn iach, wrol oen awch araf,
I'r hygaraf wr rhagorol;
Ef i'w faenol a fu fwynaf,
Un diddanaf, enaid ddoniol.


24. Tawddgyrch Cadwynog,
o'r hen ddull gywraint, fal y canai 'r hen feirdd; ac ynddo
mae godidowgrwydd gorchestwaith, a chadwyn ddidor
trwyddo.

Dolur rhydrwm ! dramawr benyd,
Boenau dybryd, ebrwydd ddidol;
Dwl Llŷn a llwm, llai mael Gwyndud
Gan doi gweryd gŵr rhagorol.
Dirfawr adfyd, odfa ddyfryd,
Ddifrif oergryd, fyd anfadol;
Dygn i'w edryd, adrodd ennyd
Ddwyn eu gwynfyd cyd, un cedol.


Arall,

o'r ddull newydd drwsgl ar y groes gynghanedd, heb
nemmawr o gadwyn ynddo; ac nid yw 'r fath yma amgen na
rhyw fath ar gadwyn fyr gyfochr a hupynt hir yn nglŷn
a'u gilydd.

Doluriasant, dwl oer eisiau
Ei rinweddau, wr iawn noddol;
Llai eu ffyniant oll i'w ffiniau
Heb ei radau; bu waredol.
Cofiwn ninnau ddilyn llwybrau
Ei dda foddau oedd wiw fuddiol;
Cawn, fal yntau, i'n heneidiau
Unrhyw gaerau Oen rhagorol.


DARN O AWDL I DYWYSAWG CYMRU.
Ar fesur gwawdodyn hir.

WYRE, wawr fore erfai, arwain
Dymawr dydd eurwawr, da ei ddwyrain,
Dyddwaith ar euriaith i arwyrain
Drudfawr briodawr, eryr Brydain,
D'wysawg llym aerawg llu mirain—Dewi,
Dewr Ri Lloegr wedi llyw goradain,

Dithau, 'r por gorau ddirper gariad,
D'wysawg mawreddawg ymarweddiad,
Deyrnwalch, eurgeinwalch, o rhoi gennad,
Dygwn, cynhyrchwn cu anerchiad;
Derbyn ddwys ofyn ddeisyfiad—maon,
Drudion dirolion dy oreuwlad.

Cymer—nid ofer yw ein defod—
Cymer—anhyber gwyl in' hebod—
Cuaf wlad buraf ddyled barod
Cymru, rywioglu wir oreuglod;
Cymer, ein dewrner, fri 'n diwrnod;—cymer
O ber hyfodd-der ein hufudd-dod.


Argraff
I'w dorri ar gaead blwch tybaco.

CETYN yw 'n hoes, medd Catwg,
Nid ŷm oll onid y mwg;
Gan hyn, os mwg yw 'n heinioes,
Da iawn! oni chair dwy oes?
Mygyn o'r cetyn cwia
Wnai o un-oes ddwy-oes dda.


TRI ENGLYN MILWR.
Yn ol yr hen ddull.

AM ai prydawdd o dawr pwy
Sef ai prydes Goronwy
Neud nid lith na llesg facwy.

Ys oedd mygr iaith gyssefin
Prydais malpai mydr merddin
Se nym lle llawdd nym gwerin.

Neu nym doddyw gnif erfawr
Gnif llei no lludded echdawr
Am dyffo clod gnif nym dawr.


ENGLYNION I ELIS ROBERTS, Y COWPER.

Sef. Ateb, Annerch, a Chynghor y Bardd Coch o Fon i Elisa Gowper, Pastynfardd,
Llanrwst, yn cynnwys athrawiaeth arbennig i ganu'n dincerddawl gymeradwy, yn ol rheol ac
arfer y Gofeirdd godidocaf o'r oes; yn nghyd a thaflen o enwau'r holl drec, cêr, offer, a
pheiriannau angenrheidiol i'r gelfyddyd, na chair mo'r fath mewn un Gramadeg a argraffwyd
erioed; a'r cwbl wedi ei ddychymygu a'i gyfansoddi mewn modd eglur, hawdd ei amgyffred gan
y gwannaf ei ddysg a'i ddeall.

Y BARDD fry ebrwydd ei froch,—Elisa,
Gan na lysaf monoch,
E weddai, er na wyddoch,
Druan nad yw'ch cân ond coch.

Yn fardd os chwi a fyn fod,—o hirddysg
I harddu Eisteddfod,
I hwylio clêr a hel clod,
Ceisiwch yr holl drec isod:

Hyd rhaff rawn o lawn linyn—y seiri
I fesuro'ch englyn;
A rhasgl a dyr bob rhisglyn
Llif fras, a chwmpas, a chŷn.

Os hir y gwelir y gân,—y llafur
Fydd llifio darn allan;
Wrth y cwmpas gloywlas, glân,
Cofiwch, rhaid rhasglio'r cyfan.

Dylech mewn prifodl ei dilyn—rhagoch,
Megis rhigol corddyn,
Heb wyro lled gwybedyn
A'r twybil wiw, gynnil gŷn.

Yn fardd glân buan y bo'ch,—Elisa;
Hwylusaidd y dysgoch;
Doed a ddêl, bid da gwneloch
Anhepgor gyngor Huw Goch.


Ond deliwch sylw,
Os rhaid i byliaid gaboli—rhigwm,
Rhag im' ebargofi,
Gorau o'r cer am beri
Cywreinio cân yw croen ci.


CANIAD
I'r Hybarch Gymdeithas o Gymrodorion, yn Llundain; ac
i'r hen odidawg iaith Gymraeg: ar y pedwar mesur ar
hugain.

1. Englyn Unodl Union.
MAWL i'r Ion! aml yw ei rad,—ac amryw
I Gymru fu'n wastad:
Oes genau na chais ganiad.
A garo lwydd gwŷr ei wlad?


2. Proest Cadwynodl.
Di yw ein Twr, Duw, a'n Tad;
Mawr yw'th waith ym môr a thud;
A oes modd, O Iesu mad,
I neb na fawl, na bo 'n fud?


3. Proest Cyfnewidiog.
Cawsom far llachar a llid.
Am ein bai yma 'n y byd;
Torres y rhwym, troes y rhod,
Llwydd a gawn a llawn wellhad.


4. Unodl Grwca.
Rhoe nefoedd yr hynafiaid
Dan y gosp; a dyna gaid;
Llofr a blin oll a fu 'r blaid—flynyddoedd,
Is trinoedd estroniaid.


5. Unodl Gyrch.
Doe Rufeinwyr, dorf, unwaith.
I doliaw 'n hedd, dileu 'n hiaith,
Hyd na roes Duw Ion, o'i rad,
O'r daliad wared eilwaith.


6. Cywydd Deuair Hirion.
Aml fu alaeth mil filoedd;
Na bu 'n well, ein bai ni oedd.


7. 8. Cywydd Denair Fyrion
ac Awdl Gywydd ynghyd.
Treiswyr trawsion
I'n iaith wen hon,
Dygn adwyth digwyn ydoedd,
Tros oesoedd, tra y Saeson;


9. 10. Cywydd Llosgyrnawg, a Thoddaid ynghyd
Taerflin oeddynt hir flynyddoedd;
Llu a'n torrai oll o'n tiroedd
I filoedd o ofalon;
Yno o'i rad, ein Ner Ion,—a'n piau,
A droe galonnau drwg elynion.


11. Gwawdodyn Byr.
Ion trugarog! onid rhagorol
Y goryw 'r lesu geirwir, rasol?
Troi esgarant traws a gwrol—a wnaeth
Yn nawdd a phennaeth iawn ddiffynol.


12. Gawdodyn Hir.
Coeliaf, dymunaf, da y mwyniant,
Fawr rin Taliesin, fraint dilysiant,
Brython, iaith wiwlon a etholant
Bythoedd, cu ydoedd, hwy a'i cadwant
Oesoedd, rai miloedd, hir y molant—Ner:
Moler; i'n gwiw Ner rhown ogoniant.


13. Byr a Thoddaid.
A dd'wedai eddewidion—a wiriwyd
O warant wir ffyddlon
Od âi 'n tiroedd dan y tacrion,
Ar fyr dwyre wir Frodorion,
Caem i'r henfri Cymru hoenfron,
Lloegr yn dethol llugyrn doethion,
Llawn dawn dewrweilch Llundain dirion,—impiau
Dewr weddau derwyddon.


14. Hir a Thoddaid.
Llwydd i chwi, eirweilch, llaw Dduw i'ch arwedd,
Dilyth eginau, da lwythau Gwynedd;
I yrddweis Dehau urddas a dyhedd,
Rhad a erfyniwn i'r hydrwiw fonedd;
Bro 'ch tadau a bri 'ch tudwedd—a harddoch!
Y mae, wŷr, ynnoch emau o rinwedd.


15. Hupynt Byr.
lawn i ninnau,
Er ein rhadau,
Roi anrhydedd;
Datgan gwyrthiau
Duw, Dwr gorau
Ei drugaredd.


16. Hupynt Hir.
Yn ein heniaith
Gwnawn gymhenwaith.
Gân wiw lanwaith,
Gynnil, union;

Gwnawn ganiadau
A phlethiadau
Mal ein tadau,


17. Cyhydedd Fer.
Moliant wiwdôn.
Mwyn ein gweled mewn un galon,
Hoenfryd eurweilch, hen frodorion
Heb rai diddysg, hoyw brydyddion
Cu mor unfryd Cymru wenfron.


18. Cyhydedd Hir.
Amlhawn ddawn, ddynion,
I'n mad henwlad hon;
E ddaw i feirddion
Ddeufwy urddas
Awen gymen, gu;
Hydr mydr c'i medru ;
Da ini garu
Doniau gwiwras.


19. Cyhydedd Nawban.
Bardd a fyddaf ebrwydd, ufuddol,
I'r Gymdeithas, wŷr gwiw a'm dethol,
O fri i'n heniaith wiw, freninol;
lawn, iaith geinmyg, yw ini 'th ganmol.


20. Clogyrnach.
Fy iaith gywraint fyth a garaf,
A'i theg eiriau, iaith gywiraf;
Iaith araith eirioes,
Wrol, fanol foes,
Er feinioes, a'r fwynaf.


21. Cyrch a Chwta.
Neud esgud un a'i dysgo,
Nid cywraint ond a'i caro,
Nid mydrwr ond a'i medro,
Nid cynnil ond a'i cano,
Nid pencerdd ond a'i pyncio,
Nid gwallus ond a gollo,
Natur ei iaith; nid da'r wedd—
Nid rhinwedd, ond ar honno.


22. Gorchest y Beirdd.
Medriaith mydrau,
Wiriaith eiriau.
Araith orau,
Wyrth eres
Wiwdon wawdiau,
Gyson geisiau,
Wiwlon olau,
Lân wiwles.


23. Cadwyn Fer.
Gwymp odiaethol gamp y doethion,
A'r hynawsion wŷr hen oesol ;
Gwau naturiol i gantorion
O hil Brython hylwybr, ethol.


24. Tawddgyrch Cadwynog.
O'ch arfeddyd wych, wir fuddiol,
Er nef, fythol, wŷr, na fethoch.
Mi rof ennyd amryw fanol,
Ddiwyd, rasol, weddi drosoch;
Mewn serch brawdol diwahanol,
Hoyw—wyr doniol, hir y d'uno'ch!
Cymru 'n hollol o ddysg weddol,
Lin olynol, a lawn lenwoch.


AWDL
I ateb Pedwar Englyn Milwr Ieuan Brydydd Hir.

Am rhoddes Rheen riaidd anrheg,
Anian hynaws, asgre faws fwyndeg,
Araf iaith aserw, ddichwerw chweg—Awen,
A gorau lleen, llefn Frythoneg.
Neut wyt gyfeillgar, car cywirdeg—ddyn;
Neud wyf gas erlyn, gelyn gysteg.
Mi piau molawd gwawd Gwyndodeg;
Gawd ir a folwyf fawl anhyfreg;
Haws ym llawch hydr no chyhydreg—à mi;
Hanbid om moli mawl ychwaneg.
Ceneist foliant fal nad atreg—ym hwnt
Dy foli, pryffwnt praff Gymraeg.

Wyt berchen Awen ben, baun hoendeg,
Wyt ynad diwad Deheubartheg,
Odid hafal, hyfwyn osteg,—i ti
Blaenawr barddoni, bri Brythoneg.
Gweleis ofeirdd, afar waneg,—o wŷn
Yn malu ewyn Awen hyllgreg.
Neu mi nym dorfu dyrfa dichweg
Beirdd dilym, dirym, diramadeg:
Ciwed anhyfaeth, gaeth, ddigoethdeg—leis;
Sef a'u tremygeis megys gwartheg.
Gweleis feirdd cywrein, mirein, mwyndeg—lu
Moleis eu canu, cynnil wofeg.

Er a rywelais, ceis cysondeg,
Ny weleis debyg dy bert anrheg,
Ieuan, mwy diddan no deuddeg—wyt ym,
Fardd erddrym, croywlym, grym gramadeg.


YMYSG Y CYMRODORION.
"Digwydd a wnaeth i'r Llew ddal sylw arnaf." II. 19.

BRUT SIBLI,
Awdl yn ol dull Meilir Brydydd, pan gant i Drahaiarn fab
Caradawc a Meilir mab
Rhiwallawn, yn iawn ysgrifenyddineth y Gogynfeirdd.

YOLAFI Naf o nef im noddi
Yolaf nys tawaf pi les tewi
Am vap hywel hael hywaet vyg kri
Tawel vap hywel o hil cewri
Dypryd vym pryd ym pryderi lawer.
Am goryw bryder brutieu Sibli
Mi os canaf a syganai hi
Neut (namwyn kelwyt) ti nym coeli
Celwytawc euawe eu broffwydi
Bob nos a dyt a fyt yth siommi
Gorpwyni dank ken trank a Duw tri
Tawaf nys doraf onys dori
Vyg geneu diheu diheur vi ith wyt.
Ys celwyt ni lwyt ny lut drychni
Map hywel gochel gyrch cymhelrhi
Er a droyttynt gynt geu broffwydi
Cyd bwynt hyd nemawr yth uawr voli
Gweckry eu geirieu geu a gwegi
Pan lat lat letir a llauyn llauyn llabir.
Yno y gwelir pwy a goeli
"Cet buyf gwir nyt goreu vi o nep dyn
Y disgogan hyn o gryn gredi
Mal marchawc berthawe yt ymborthi
Mal gwron dragon dreic eryssi
Yg gwynias lleas llew a fethri
Ar yr asp yr yspys dyrcheui
Osswyt yn fwyr a lwyr lethi
Ny ryberis nef nep i'th dofi
Nyth rybar amhar ymhwrt beri
Ny digawn kadyr cyhydrec a thi

Er gwythuawr reityawr ny roti uram
Neut ny maccwys mam map a dori."
Andaw di breityawr brytest Sibli
Rinyeu ei geneu diheu dybi
Yn a egorwyf gwirion wyv i
Yn ethryb casswir pam ym cessi?
"Dieu y dybyd dyt dynysgi
A rewin a thrin a thrwst ynni
A phan yssic lluric llwyr wae di
Can pan yssic lluric llaur a lyi
Diffeith woleith o wael dyli a gai
A chyn tervyn mei mawr egrygi
Neu dygyvyd llew llawn gwrhydri
Lleweit arwreit eryr cymmri
Yn wg digyurwg digyurag a thi
Tithau gan ei dwrf a lwrf lechi
Cyn nos gwener disgoganaf vi
Ucher yth later ti ny leti
A chan anreith gwoleith gwael dy uri
Diardwy abwy abar fyti
Esgyrn dy syrn hyd Sarn Teivi a grein
A byt lawen urein ar uraen weli."

Diwet yr Awdyl, A phoed gwir a vo,
hebai Oronwy Ddu, 1754


ENGLYN I JOHN DEAN.
Y llongwr melynaf yn y deyrnas yma. 1754

MOLIANT am bob peth melyn,—am yr haul,
A mer-helyg dyfrllyn;
Am Sion Den, a chwyr gwenyn,
A mad aur, petai 'maw dyn.


CYWYDD AR WYL DDEWI, 1755.
I'w gyflwyno i'w Freninol Uchelder SIOR, Tywysawg Cymru.
gan yr urddasol Gymdeithas o Gymrodorion yn Llundain.

SLYW digamrwysg gwlad Cymru
A'i chynnydd, llywydd ei llu,
Por odiaeth holl dir Prydain,
Penteulu hen Gymru gain,
Llyw unig ein llawenydd;
Mwy cu in' ni bu ni bydd.
Eich annerch rhoddwch inni,
Ior glan, a chyngan â chwi.
Gwaraidd fych, Dwysawg eirioes,
Wrth ein gwâr ufuddgar foes.
Dychwelawdd, dan nawdd Duw Naf,
Dyddwaith in o'r dedwyddaf,
Diwrnod—poed hedd Duw arnynt—
Na fu gas i'n hynaif gynt;
Diwrnod y cad iawnrad yw
Ym maniar Dewi Mynyw;
Pan lew arweiniodd Dewi
Ddewr blaid o'n hynafiaid ni
I gyrch gnif; ac erch y gwnaeth
Ar ei alon wrolaeth.
Ni rodd, pan enillodd, nod
Ond cenin yn docynod.
Cenin i'w fyddin fuddug
Nodai i'w dwyn; a da 'u dug.
Hosanna, ddiflina floedd,
Didawl ei amnaid ydoedd,
Gan Ddewi, ac e 'n ddiarf,
Trech fu cri gweddi nag arf;
A Chymru o'i ddeutu ddaeth
I gael y fuddugoliaeth.

Hwyntau, gan lwyddo 'u bantur,
A glân barch o galon bur,
Er oesoedd a barasant
Addas wyl i Ddewi Sant,
Ac urddo 'r cenin gwyrddion
Yn goffhad o'r hoywgad hon,
A bod trwy 'n cynnefod ni
Diolch i Dduw a Dewi.
Dewi fu 'n noddwr diwael,
Chwi ydyw ein hoywlyw hael.
Mae'r hanes im', Ior hynod,
A fu, y geill eto fod.
Ar Dduw a chwi, rwydd eich iaith,
Yn gwbl y mae ein gobaith,
Pan gyrch Naf eich dewraf daid
I fynu nef i'w enaid—
I newid gwlad lygradwy
Am berffaith a milwaith mwy,
Iwch gael—pand yw hyfael hyn?
Rheoli pob rhyw elyn,
Gorchfygu talm o'r Almaen,
Taraw 'sper hyd dir Ysbaen,
Cynnal cad, yn anad neb,
Tandwng, yn ddigytundeb,
I ostwng rhyfawr ystawd
Llyw Frainc, fel nad allo ffrawd;
A difa, trwy nerth Dofydd,
Ei werin ffals a'r wan ffydd,
Dannod eu hanudonedd
Yn hir cyn y rhoddir hedd.
Yn ol dial ar alon,
Rhial hardd yw 'r rheol hon:
Gorsang y cyndyn gwarsyth,
Bydd wlydd wrth y llonydd llyth:
Milwaith am hyn y'ch molir,

A'ch galwad fydd TAD EICH TIR,
Gwr odiaeth, a gwaredydd
Yn rhoi holl Ewropa 'n rhydd;
Ac am glod pawb a'ch dodant
Yn rhychor i Sior y Sant.


DAU BENNILL[7] GWAWDODYN HIR,
I Gyfarch y Cymrodorion yn Llundain pan y cyflwynwyd
iddynt Annerch—Gywydd gan Ieuan Brydydd Hir.

Calan Mehefin, hin yn hoeni,
Cein trydar adar, hyar heli;
Cein rhawd cân wasgawd, trawd trwy erddi,
Cein tawel awel o wyrdd lwyni;
Ceinmycach, mwynach i mi—oedd acen
Cân awen lawen lên barddoni.

Canfum ddillynion gyson gerddi
Ceinfoes, cân eirioes, eres odli
Ceinfardd Deheudir Hir hoywfri,
Cywyddwawd moliant a gant ichwi;
Cyfarch hybarch heb eich coddi,—Frython,
Ceidr Gymrodorion dewrwych ynni.

ENGLYNION PROEST CYFNEWIDIOG WYTH BAN
I Twm Siôn Twm.

Twm Siôn Twm, y cidwm cas,
Twm Siôn Twm, blerwm heb les;
Twm, Twm, os codwm os cis;
Twm achrwm a glwm ei glos;
Twm Siôn Twm ruddlwm ni rus;
Twm Siôn Twm drwm droir i'r drws;
Twm Siôn Twm grwm yn ei grys;
Twm, Twm, y cawr hendrwm, hys!

Twm Siôn Twm bendrwm mewn bad,
Twm â rhwyf, ond twym y rhed?
Twm i'r lan hwnt à mawr lid,
Twm a nawf atom i'w nod;
Twm yw 'n twr bob tam o'n tud;
Twm o aine yrr Ffrainc i'r ffrwd,
Twm, Twm, a botwm i'r byd,
Twm freichdrwm, Dwm, dyd! dyd!

Twm Siôn Twm, bonwm a'i bar;
Twm Siôn Twm, gidwm a'i gêr;
Twm lân yw tarian y tir;
Twm, o thry cad fad i for,
Twm yn un cwrwm a'i cur;
Twm ddistaw o daw o'r dŵr,
Twm fwyn yn addfwyn i'w nyr;
Twm ffraeth; i'ch gwasanaeth, Syr.


ATODIAD II.

(Wele rai sylwadau wedi eu pigo o lythyrau Goronwy Owen ar lenyddiaeth ei oes,—oes yr ymdrech rheng ysgol sur feirniadol goeg—ddysgedig Pope ac ysgol addfwyn naturiolach Addison, oes dechreu darganfod mawredd Milton, oes gwawr gyntaf y Cyfnod Rhamantaidd a'r Deffroad Cymreig.)

THE BRITISH AWEN.
[At Richard Morris, Chwef. 21, 1753]

WELSH has its own proper idioms as others have; and, consequently, when it is tied down to keep pace with another, it is strained and fettered, like David in Saul's armour; and like him, would prefer its own sling and stone— the meanest of weapons to being armed cap-à-pie in such armour as it has not proved and knows nothing of. Thus, with regard to translalations, it fares with all languages; but more especially where there is such a very great, I had almost said irreconcilable, difference between the proprieties and idioms of two languages, as confessedly there is between ours and the English. The difficulty, great as it is, is again doubly augmented, when our translation is required to be in verse. There, besides the usual difficulty of making what is a beautiful thought in the one appear like common sense in the other, we are tied to find out and range in order letters and syllables. What an exquisite nicety is required in this "literal" muster, if I may so call it, you very well know; so that it is sufficient for me only to mention it. Perhaps it were to be wished that the rules of poetry in our language were less nice and accurate; we should then undoubtedly have more writers, but perhaps fewer good ones. I would never wish to see our poetry reduced to the English standard; for I can see nothing in that to entitle it to the name of poetry, save the number of syllables which yet is never scrupulously observed, and a choice of uncommon, or, if you please, poetic words, and a wretched rhyme sometimes at the end, and in blank verse, which is the best kind of poetry in English, and no rhyme at all. Milton's "Paradise Lost" is a book I read with pleasure, nay, with admiration and rapture. Call it a great, sublime, nervous, or, if you please, a divine work, you will find me ready to subscribe to anything that can be said in praise of it, provided you do not call it poetry. Or if you do so, that you would likewise allow our "Bardd Cwsg" to take his seat amongst the poets. As English poetry is too loose, so ours is certainly too much confined and limited, not by the Cynghaneddau—for without them it would not be poetry—but by the length of verses, and poems too. Our longest lines do not exceed ten syllables, and have too scanty a space to contain anything great within the compass of six or seven stanzas, the usual length of the Gwawdodyn Byr; and our longest poems are not above sixty or seventy lines the standard measure of Dafydd ap Gwilym's Cywyddau, which is far from being a length adequate to a heroic poem. These, however, are difficulties that will never, I apprehend, be remedied. These models our wise forefathers left us; and these, I presume, they judged most agreeable to the genius of our nation and lan— guage. Some freedom and ease of composition. is, and always was, observed to be productive of happier effects than an over rigid and starched nicety. Thus the Greeks are much less confined as to quantities than the Romans. And not to detract from Virgil's deserved praise, I think Homer may justly be allowed a preference to him, almost in such a measure and proportion as an original writer is to a translator. The Romans had several words, even in their own language, that by reason of their quantities, could not possibly be put into verse. Thus Horace was at a loss to name the town Equotuticum, and was fain to describe it by a round about sort of a paraphrase. And Martial was hard put to it to name the favourite boy, Earinus, Domitian's valet. But, on the contrary, every harsh word sounded smooth in a Greek's mouth. They might sound,

"Ares, Ares,"

with an air, though they made the same syllable in the same word to be first long, and then, with the same breath, short. This Martial wittily observes of them, and at the same time as wittily laments the over—rigid severity of his own country's Muses:—

"Nobis non licet esse tam disertis
Musas qui colimus severiores."

But with all their severity, if Martial had been acquainted with the obstinate, coy, and in-compliant temper of our British Awen, he would certainly have taken the Roman Muses for a bevy of city courtezans. Besides, our Muse, by long disuse, has almost forgot to converse with princes—at least in the manner and language of the present times.


PATRIOTISM.
[At Richard Morris, Awst 10, 1753]

CONCEIVE some hopes of the possibility of retrieving the ancient splendour of our language, which cannot possibly be better done than by the methods pointed out by your Society; viz., by laying open its worth and beauty to strangers, and publishing something in it that is curious and will bear perusing in succeeding ages. Some performances cannot fail to draw on them the eyes and excite the curiosity of strangers:— strangers, did I say? Good God! what if we find our own countrymen the greatest strangers to it? I blush even to think it; but I am afraid. the reflection will be found too just on Cambria's ungrateful, undutiful sons.

An egregious instance of this I met with last week at my own house. For having been invited some time ago to an afternoon's drinking at a neighbouring clergyman's house, according to the custom of this country, I invited him again to my house, and desired he would bring a country-man and a namesake of mine, who is the curate of a neighbouring parish, along with him, for I was desirous of creating and cultivating an acquaintance with him as he was a Welshman and a man of very good character for learning and morals. My desire was accomplished. The gentleman came; and, to complete the happi- ness of the day, Mr. Brooke, my patron, made me a present of some rum and other things, and honoured me with his company. When we were set, the pleasure I expressed at seeing a country-man at this first interview, turned the topic of the discourse upon Wales and the Welsh tongue. Mr. Owen, like an honest Welshman, owned that he was a native of Montgomeryshire, which pleased me well enough. But being asked by my patron, who, though an Englishman, has a few Welsh words which he is fond of, "whether he could speak or read Welsh," I found the young urchin was shy to own either, though I was afterwards that same day convinced of the contrary. Then, when they alleged it was a dying language, not worth cultivating and so on, which I stiffly denied, the wicked imp, with an air of complacency and satisfaction, said, there was nothing in it worth reading; and that to his certain knowledge the English daily got ground of it; and he doubted not but in a hundred years it would be quite lost. This was a matter of triumph to my antagonists; but to me it was such a confounding, overthrowing blow, as would certainly have utterly ruined and destroyed me out of the way, but that I have a queer turn of mind that disposes me to laugh heartily at an absurdity, and to despise ignorance and conceitedness. But he is not the first I met with of that stamp. Let them say so, and wish it so, if they will. But be not you discouraged in your laudable undertaking. And be sure, if I can but contribute my mite towards it, it shall not be wanting. I shall always think it my duty and greatest pleasure so to do.

DAFYDD AB GWILYM.
[At William Morris, Rhag. 18, 1753

I AM under no manner of concern about my works. It is equal to me whether they are printed or continue as I have written them for eighty or a hundred years longer. Let them. take their chance, and shift for themselves, and share the common fate of all sublunary things. If I have not a better immortality than they can procure me, I had even as good have none. Yet they, amongst others, may help to preserve our language to posterity; and so far, and no further, a wise man and a lover of his country ought to regard them.

Y mae'n resynol (chwedl chwithau) weled mor ddigydwybod y mae poblach yn llurguniaw ac yn sychmurniaw gwaith yr hen Ddafydd ap Gwilym druan.

I wish people were once so far in their right minds as to think they could not mend Dafydd ap Gwilym's works; then they would certainly never mar them. Dafydd ap Gwilym, it is true, had his foibles, as well as other mortals. He was extravagantly fond of filching an English word. now and then, and inserting them in his works, which makes me wonder what should induce the judicious Dr. Davies to pitch upon him as the standard of pure Welsh. Whereas he, of all others of that age, seems least deserving of the honour. I know that that babbler, Theophilus Evans, author of Drych y Prif Oesoedd, pretends to say that "Davy" understood never a word of English; but the way he goes about to prove his barefaced assertion, is a sufficient confutation of it, and enough to make the bold assertor ridiculous to boot. How many English words are there to be met with, in those fragments of his only, that are quoted by Dr. Davies? Mwtlai is one of them; and what is that else but the English word "mottley"? Is lifrai a pure Welsh word? And what can you make of habrisiwn, mên, and threbl, and a great many more? I think "livery," "habergeon," "mean," and "trebble," are but indifferent Welsh words for purity. But, all that notwithstanding, I think it would be a notable piece of service to our language, to have his works printed; though it would give to the English a pleasure they have long wanted; I mean of making it appear that we borrowed as many words at least from them, as they did from us, which yet would be true of no one else but Dafydd ap Gwilym himself; for I do not think he made many proselytes to his fond way of blending Welsh and English together; else our language had long before now been a most horrid gibberish.

Digon yw hyn yn nghylch Dafydd. Ond ni ddarfu mi a chychwi eto. Yn rhodd, a fyddwch cyn fwyned yn y nesaf a gadael i mi wybod, pa newydd annghysurus a glywsoch o Gaer Nerpwl; oblegid ni chlywais i ddim rhyfedd sydd nes ati. Gwir yw nis bum yno er ys ennyd. Ond odid i ddim a dalo i son am dano ddigwydd yno na chlywyf mewn amser. Ac am eich Ac am eich gweddi—"Duw o'i drugaredd a ystyrio wrth ein gwendidau," yr wyf yn dywedyd "Amen" o ewyllys fy nghalon, er nas gwn ar ba achos yr ystwythwyd y weddi.

Y PEDWAR MESUR AR HUGAIN.
[At Richard Morris, Ion. 2, 1754]

DYMA fу hen gyfaill anwylaf, y Parch. Huw Williams, yn awr periglor Aberffraw yn Mon, wedi gyrru imi Ramadeg Siôn Rhydderch i'm hyfforddio yn yr hen gelfyddyd. Nid yw 'r Gramadeg hwnnw, e wyr Duw, ond un o'r fath waelaf; eto y mae 'n well na bod heb yr un; canys y mae ynddo engraphau o'r "Pedwar Mesur ar Hugain"; ac y mae hynny yn fwy nag a welswn i erioed o'r blaen. Disgwyl yr oeddwn weled ryw odidog ragoriaeth o gywreindeb gorchestol rhwng gwaith y beirdd o'r oesoedd diweddaraf; sef, Dafydd ap Gwilym ac eraill, a gwaith trwsgl yr hen feirdd gynt yn amser Taliesin, Llywarch Hen, Cynddelw, a'r cyffelyb; ond, i'm mawr syndod, nid oedd hynny ond siomedigaeth.

I find that all the metres, despised and antiquated as they are, were really what all compositions of that nature should be; viz., lyric verses adapted to the tunes and music then in use. Of this sort were the several kinds of Englynion, Cywyddau, Odlau, Gwawdodyn, Toddaid, Trybedd y Myneich, a Clogyrnach, which to any one person of understanding and genius that way inclined, will appear to have in their composition the authentic stamp of genuine lyric poetry, and of true primitive antiquity. As to the rest—I mean Gorchest y beirdd, Hupynt hir a byr—the newest, and falsely thought the most ingenious and accurate I look upon them to be rather depravations than improvements in our poetry; being really invented by a set of conceited fellows void of all taste, and at a time when the tunes of the ancient metres were no more known than those of the odes of Horace are now. What a wretched, low, grovelling thing that Gorchest y beirdd is, I leave you to judge. And I would, at the same time, have an impartial answer, whether the old despised, exterminated, and, I had almost said, persecuted Englyn milwr, has not something in it of antique majesty in its composition. Now, for goodness' sake, when I have a mind to write good sense in such a metre as Gorchest y beirdd, and so begin, and the language itself does not afford words that will come in to finish with sense and cynghanedd too, what must I do? Why, to keep cynghanedd I must talk nonsense to the end of the metre; as my predecessors in poetry were used to do to their immortal shame, and cramp and fetter good sense, while the Dictionary is all overturned and tormented to find out words of like ending, sense or nonsense. And besides, suppose our language were more short, comprehensive, and significant than it is— which we have neither reason nor room to wish— what abundance of mysterious sense is such a horrid, jingling metre of such a length able to contain? an Iliad in a nutshell, as they say. In short, as I understand that it and its fellows were introduced by the authority of an Eisteddfod, I wish we had an Eisteddfod again to give them a dimittimus to some peaceable acrostic land, to sport and converse with the spirits of deceased puns, quibbles, and conundrums of pious memory. Then should I gladly see the true primitive metres reinstated in their ancient dignity, and sense regarded more than a hideous jingle of works, which hardly bear sense. But what would I be at again? I must not expect to see these things till the antiquated crwth a thelyn rawn are in fashion, which I much fear is not likely to be within this century.


ANIBYNIAETH BARN.
[At William Morris, Meh. 25, 1754]

BENDITH DDUW a ffynno iwch' am fenthyg eich Telyn Ledr; na thybiwch y byddaf mor greulawn anghrist'nogawl a'i chadw 'n rhy hir, rhag eich nychu o hiraeth! Och fi, onid gwych a fyddai gael tipyn ychwaneg o'r barddoniaeth yna? Ni flinwn byth bythoedd arno.

Ond dywedwch chwi a ddywetoch, ni wnewch byth i mi hoffi eich câr D. ap Gwilym yn fwy na 'r hen Gyrph. Er hynny i gyd ni ddywedais i erioed, fel yr y'ch chwi yn haeru, fod Gwalchmai wedi gwneuthur imi ffieiddio ar Ddeian, ond ar gywyddau pwy bynnag a'u gwnelsynt. Anacreon. amongst the Greeks and Ovid among the Latins, give to some people of particular complexions the most exquisite pleasure and delight. I do not condemn such people's taste; but give me Homer and Virgil; and, in my poor opinion, so much does Gwalchmai excel D. ap Gwilym and his class, as Homer does Anacreon. But every man to his own taste. I claim no sovereignty over any man's judgment, but would be glad to have the liberty of judging for myself.

Ai e! Cymro oedd Emrys Phylib? F' allai mai e. Ond mi adwaenwn frawd iddo oedd yn werthwr llyfrau yn Nghroes Oswallt nas myn- nasai er dim ei gyfri'n Gymro. Pa ddelw bynnag ni wnaeth yr hen Ddeon mor llawer o gamwri ag ef. He did but expose and ridicule the infantine style for fear it should get in vogue as the taste of the age, and that we should have Iliads written in it; which is no more than I would have done, had I lived in D. ap Iemwnt's time, or in Gytun Gwrecsam's pan gaethiwodd y Braidd Gyffwrdd ac y dychymygawdd Orchest y Beirdd. I own with you that the Distressed Mother', my favourite tragedy, etc., are in esteem to this day, and that deservedly, and I will venture further to say that they will continue so while the English language is esteemed; but as to the preference given him to Pope by Mr. Addison, I can by no means agree with you; that being altogether a genteel sneer and satire upon his Pastorals. Can you read his commendations of Mr Ph***'s pastorals, where he quotes a passage with a How agreeable to nature, etc.!' without discovering the sneer? For my part, when I compare the passage commended with the 'commendation, methinks I see before my eyes the wry face and the grin. And, if he had pleased, he might have said as much of Pope's; for, in truth, I could heartily wish that neither of them had ever attempted to write Pastorals; their genius being much better adapted to greater things. They should have left Pastorals to "gentle Gay", who notwithstanding all his fustian, as it is called, is the only Englishman that deserves the name of a pastoral poet.

When you say, "Dyweded Camden a fynno, ni buasai'n hynafiaid byth yn dyfeisio y fath chwedl heb na lliw na llun, etc.", I cannot forbear smiling (I beg pardon for being so rude). If we have no better proof of our Trojan extraction than the bare veracity of our ancestors, I fear we may drop the argument; for I am afraid that if we say our forefathers neither could, nor would, fib upon occasions, we may be reckoned very great fibbers ourselves. Yet I cannot see what they could propose to themselves by inventing such a tale, unless it were to ingratiate themselves with the Romans by laying claim to the same common ancestors; and indeed that was temptation enough in all conscience. But admitting the story of Brutus to be true, and allowing Geoffrey of Monmouth all the authority and authenticity he can desire, and every other advantage, save infallibility, and I care not much if he had that too, yet it were absurd and even ridiculous to imagine the main bulk of our nation to be his descendants. What would you say were I to affirm that the good people of England were all descended from William the Conqueror, or that they are all Hanoverians, because his present Majesty is one? Brutus was here and was king, if you please, but still he and I are nothing akin.

ATODIAD III.
(Pigion o lythyrau Goronwy, i esbonio ambell gyfeiriad.)

CERYDD CYWYDD Y FARN.
[At Richard Morris, Walton, Gor. 9, 1753.]

SUPPOSING what they allege to be true in the main, that llusg and sain are oftener to be met with than any other cynghanedd, I am not able to comprehend how that comes to be a fault. Had any one taken it into his head to carry on such a piece of criticism on one of his eclogues in Pope's days, he would have had an honourable place in the Dunciad" for it. You might have told Mr. Wynn how very little I know of those little niceties as yet, and then perhaps he would have been less severe. I had no other guide but uncultivated nature, no critic but my own ear, no rule or scale but my own fingers' ends, until you, out of mere pity were pleased to give me some useful hints.


JOHN OWEN, PLAS YN NGHEIDIO.

"Bu yd i'w plith a bwyd i'w plant,—eu rhaid
Hyd oni ail—gaid yn y weilgi." II. 68.

[At Richard Morris, Walton, Ion. 24, 1754]

YN y blynyddoedd tostion hynny, pan oedd yr ymborth cyn brinned a chyn ddruted hyd nad oedd yn gorfod ar lawer werthu eu gwelyau o danynt í brynnu lluniaeth, a phawb a feddai yd yn ymryson am y drutaf a'r caletaf, yr oedd y pryd hynny galon John Owen yn agored cystal a'i ysguboriau, ac yn y Plas yn Ngheidio y cai y rhan fwyaf o dylodion Lleyn eu lluniaeth, yn enwedig y trueiniaid llymion gan bysgotwyr Nefyn. Nid oedd yno ddim nag am yd, bid arian bid peidio. Talent os gallent pan lenwai Duw eu rhwydau; ac onide, fel y dywedai ynteu (mi a'i clywais yn aml), Doed a ddêl, rhaid i bob genau gael ymborth."


CYWYDD GWYL DEWI.
[At William Morris, Walton, Ebrill 1, 1754]

OCH fi! Wrth son am yr Awen, y mae hithau wedi marw hefyd; neu o'r lleiaf, ar ei marw-ysgafyn; ac ni bydd byw 'chwaith yn hir. Hi a'm cywilyddiodd dros fyth, gan fethu ohoni wneuthur cywydd nag awdl i'r Tywysog wyl Dewi diweddaf. Ond paham imi feio ar yr Awen? Oerfel yr hin, a noethni y'r wlad oerllom yma, oedd ar y bai. Dyna'r pethau a fagasant y peswch, a'r peswch oedd mam y pigyn, a'r ddau hynny rhyngddynt a'm lladdasant yn ddifeth, oni bai borth Duw a chyffyriau meddygon.



DAU FRAWD FARDD.
[At William Morris, Ion. 21, 1755]

TAN a'm twymo onid digrif o gorffyn yw Elisa Gowper. Mae'n sicr gennyf ped fuasai'r hychrug arnaf, yn lle'r cryd poeth, na buasai raid im wrth amgen meddyginiaeth nag englynion Elis. Dyn glew iawn yw Dafydd Sion Dafydd o Drefriw, ond ei fod yn brin o wybodaeth. Mi welaf nas gŵyr amcan daear pa beth yw toddaid, oblegid ei fod yn galw y gadwyn hanerog yn ei englynion yn doddaid.

Mynegai.
GYDAG ESBONIAD AR RAI GEIRIAU.

[Dynoda'r llythrennau "G.O." mai Goronwy Owen ei hun a ysgrifennodd y nodyn. Saif "L.M." am Lewis Morris, "R.J am y Parch. Robert Jones, Rotherhithe. Dynoda "J.D." awdurdod pwysig Dictionarium Britannico Latinum Dr. John Davies. o Fallwyd.]

A


Aball, 41, pall, diffyg
Achrwm, 11. 86, cam
Adwedd, 43, ail wedd
Adwrth, 11. 28, niwed, drwg
Acrawg, II. 72, rhyfelgar
Afar, II. So, prudd, trwm
Agwrdd, 41, II. 59. cryf
Anghor, 49, anchorite, ancr
Aine, II. 86, awydd
Albion, II. 53. Enw ar yr ynys cyn dyfodiad Prydain oedd Ynys Albion; a'r Albion hwnnw a'i frawd Bergion a hanoeddynt, fe allai o lin y Titaniaid neu Celtae, cynfrodorion Ffrainc a Phrydain; a meibion oeddynt i Neptun, medd Pomponius Mela ac ereill awduron Rhufeinig; sef llyngesyddion dewrion ac, atgatfydd, môr wylliaid dilesg; yn gymaint ag mai duw y moroedd oedd Neptun. A'u gorchfygu eill dau a wnaed, medd yr un awduron, gan ryw Ercwlif, neu Hercules, nis gwyddis pa'r un, gan fod amryw o naddunt. Ef a allai mai pen-lluyddwr Erewlff oedd Prydain, a gorchfygu o honaw Albion Gawr, a goresgyn ei ynys, a'i galw wrth ei enw ei hun, Ynys Prydain, fel y galwasai 'r llall hi Ynys Albion o'r blaen. Ond coelied pawb y chwedl a fynno." G.O."
Angelo, II. 21, Michael Angelo. Lluniedydd cywraint yn yr Eidal. Ni a ddarllennwn am ffrwgwd a fu rhwng diawl ag ef am wneuthur ei lun mor wrthun; a'r caredigrwydd a'r teuluedd a dyfodd rhyngddynt ar ol i Angelo wneuthur llun prydferth iddo yn ddadolwch am y sarhad o'r blaen." G.O.
Amodi, II. 36, syflyd, symud
Amorth, 63, 71, diffyg porthiant, newyn
Anacreon, II. 65, 96
Anhyfacth, II. 64, So, not well bred
Anisbur, 46, pur

An-nien, II. 66. Gwel dien
Anod, II. 53. ymddadleu cyfreithiol, demurrer
Annwyd, 13, cold. Cynhenir y gair yn "anwyd" ym Mhenllyn
Aphwys, II. 23. abyss, pwll diwaelod
Ardymyr, II. 18, tymheredd
Arail, 11, gofalu am, gwarchod, bugeilio
Areulbarth, II. 53. dwyrain
Arfod, 29, yr hyn dyrr pladur ag un tafliad. Gwaith "arf"
Arial, II. 38, nwyf, ynni
Arien, 89, gwlith. llwydrew
Arab, 22, 66, 67, llon, hyfryd
Arthur ap Urien, 43
Arwyrain, 23; II. 20, 29, cân o fawl
Armerth. 28, yr hyn a ymgymerir ag ef
Arwest, 88, sain cân
Arwylion, II. 29, 49, obsequies
Aserw, II. 80, teg, gloew
Asgre, II. 80, bron, mynwes, cydwybod. "Asgre lân, diogel ei pherchen."
Athrywyn, 23, peth yn cadw ar wahan

B


Bangaw, 53. clir, cain. "Bangaw lais cos dlosaf." D. ab G.
Baniar, II. 83, baner
Banon, manon; 111, queenie
Bar, 11, 86, pen, cangen. Cyd. "Bryn Barlwm," "Berwyn"
Bardd Coch, go, 62; II. 33. Huw ap Huw o Lwydiarth Esgob, Mon. Bu farw 1776, yn 83 oed.
Bardd Cwsg, 57, 78, 88; 11. 88
Bardd Du, so, Goronwy Owen
Bas, 30, shallows
Bawas, II, 59, Bavius, beiwr cenfigenllyd Virgilius a Horatius
Beirdd, II. 26. "Bardi, Britannorum poeta sic dicti Bardi quoque apud veteres Britannos caeterasque Celtica originis gentes, constituebant unum ex triplici druidicae hierarchica ordine, druides, bardi, cubates, sive ovates," G.O.
Bid, 12, byddid
Blerwin, 11. 86, "a noisy madcap." R.J.
Blith, II. 66, llaeth
Bod, II. 39, cartref
Bonwm, II. 86, cyff pren
Braendroch, 62, clwyfedig
Braenfriw, with putrid wound
Bram, 13. swn gwynt, crepitus ventris
Brau, II. 57. buan, parod, toradwy
Brawd, barn; dydd brawd=domesday, 58
Brawsgawn, 24, camargraff am "brasgawn," cawn bras
Breyrol, II, 63, baronial
Brithdir, II. 25, tyddyn bychan yn y Glyn Ceiriog. "Nid oes gan y rhai hynaf yn y Glyn," ebe Cynddelw yn 1861, "adgof yn y byd i'r Brithdir fod erioed yn eiddo i neb o Groesoswallt'
Broch. 43: II. 73, angerdd llid
Brwynfryd, II, 67, pryder, gofid
Brwysgwraig, II. 12, gwraig feddw gwerylgar
Bychodedd, 92, ychydig
Bygwl, 108, bygythiad, menace
Bygylog, II. 28, bygythiol
Bygylu, II, 37, bygwth

C


Caergwydion, 64, y Llwybr Llaethog
Callawr, 30, crochan

Canau, 37, Muses
Cânt, 40, canodd. Ysgrifennid y
gair weithiau fel hyn,-"a'i 100.'
Canwyll corff, 70, corpse candle
Carnbwl, 97, clumsy
Castell Coch, 100; II. 28, cartref ieirll Powys, ger y Trallwm
Ced, 52, 90; 11. 14, 63, rhodd
Cedawl, 107 hael,
Cedrwydd, 63, rhwydd ei gardod
Ceinych, II, 65. ysgytarnog
Ceis, II. 80, ceisiadau
Celi, 11, 65; II. 48, Duw
Cerrig y Borth, 59
Cestog. II. 22, paunchy
Cetog, II. 21, bag, basged
Cetyn, II, 72, ychydig amser, pibell fer
Cethern, 30, diafliaid uffern
Cidwm, 73, blaidd
Cimwch, II. 21, lobster
Ciried, 11. 68, elusen, haelder
Cis, II. 86, ergyd
Ciwdawd, II, 67, pobl, dinasyddion
Clais, maen, 43. marmor
Climach, 73, dyn talgryf
Clol, 91, pen y coryn
Cniff, cnif, II. 83, gofid, dolur
Cnithio, 12, rhwbio, cyffwrdd
Cnuchio, II. 44. ymgaru
Coddi, II. 85, irritate
Coethi, II. 41, enllibio, gyrru ar
Colwyn, 13. so, cenaw ci, ci anwes
Cors y Gedol, II, 63
Costog, II, 22, ci, mastiff
Crai, 38, newydd
Crapio, II, 19, meddwi
Crebach, II. 57. un wedi sychu, gwywedig
Crefyll, 11. 21, shoulder blades
Cribddail, extortion
Crisiant, 23. grisial
Croesoswallt, 75. 94, 98, Oswestry
Cudab, cudeb, 108, affection
Cwfl, 48, cored, penguwch abad
Cwl, 108, drwg, trosedd
Cwlio, 66, tynnu ymaith oherwydd bai
Cwrwm, II. 86, bend, stoop. Yn ei gwrwm stooping
Cyff cler, 68, jesting stock
Cyffoden, II. 44. gwraig ordderch
Cynghorfynt, envy, spite. "Y neb a laddo ddyn o gynghorfyn, taled bedwar gwas a phedair morwyn, a bid rydd o'r gyflafan."
Cyhafal, 42, cystal a
Cyhydlwybr, 46, equator
Cyhydreg, II. So, encounter
Cylch poethlosg, 46, Torrid zone
Cylus, II. 59, llawn bai
Cymlawdd, II. 52, tumult
Cymrodorion, 92, 110; II. 9. 41, 75-79: sefydlwyd Medi, 1751
Cynnor, II. 48, arglwydd
Cynwal, William, 101
Cyrrith, 73. cybyddlyd
Cysolion, II. 52, counsels
Cysteg, II. So, poen, dolur, trafferth

CH


Chwidr, 12; II. 64, anwadal, dibwyll, ofer brysur
Chwimio, II. 69, symud, prysuro
Chwyddawg, 30, ar syrthio, o "ewyddo" (megis yn "gogwyddo," "tramgwyddo"),
ebe Lewis Morris.

D


Dafydd ab Gwilym, 27, 101; II. 89. 92-93.96
Dafydd frenin Israel, 39, 47
Dau. 37, dy
Davies, Dr. John, o Fallwyd, 97. 98, 102: II. 93

Dean, John, II. 82. rhyw lyffant o Sais melyn. GO."
Deiryd, 37: II. 64, perthyn
Dera, 70, 71, fiend, ellyll, y gŵr drwg
Derwyddon, 96
Diadlam, 30, nas gellir mynd drosti'n ol
Diarab, II. 23. surly
Diardwy, II. 8a, diymgeledd
Dichlais. 39, toriad dydd, gwawr
Didawl, 32; II. 34. diderfyn, heb dewi
Didol, 62, alltudiedig: II. 36, 59. gwahanu
Didrwe, 71, heb ball, parhaus
Didwn, 31, heb goll, yn gyfan
Diddawr, 28, dawr, 34, 41, 74: II. 12. bod o ddyddordeb i
Diell, II. 36, tlos
Dien, 32, 52; 11. 30, bythol ieuanc, "di—hen." Cf. Dihenydd
Diferchwys, II. 57. chwys diferol
Dig, 64, malign influence
Digardd, 41, anrhydeddus
Digrain, 62, crwydrol, truan
Digron, digrawn, 72: II. 49. 56. heb gronni, yn llifo, llawn
Digwl, 11. 35. da, difeius
Digyrrith, ga; II. 67, nid cybyddlyd, hael
Dihadi, II. 65, iach
Dihafarchwaith, II. 32. gwaith cryf a chreulon
Dillynion, 63. pethau hardd
Dilorf, II. 28, dewr
Dinidr, 25, diymdroi
Diorn, II. 62, heddychlon
Diowryd, II. 32. 97. diofryd, pen—
derfyniad
Dir, 63, rhaid, naturiol, sicr; II. 63. sicrwydd
Dirperu, 65, hawlio, teilyngu
Disperod, 38, crwydredig, "ser disperod" comets
Dispinio, go, pilio, paratoi
Doddyw, II. 73. daeth. A'm doddyw ddaeth im
Dofydd, 64, Duw

Donnington, 15. 81, 93. 94—Dylwn ddweyd fod yn sir Amwythig ddau le o'r enw Donnington. Mae un, fel y dywedwch, tu hwnt i Shifnal. Mae'r llall bymtheng milldir yn nes i dref yr Amwythig, ac yn agos i Wroxeter (Uriconium). Hwn ydyw'r Donnington lle bu Goronwy. Llawer tro y bum yn edrych yr hen dŷ le bu o fyw, ac yn chwilota o gwmpas, yn hanner breuddwydio gweled Goronwy, Gwn i'r llathen ar Y ffordd fawr lle, yn debyg, Y bu lawer tro yn disgwyl am y Salop waggen. "Hefyd rai blynyddau yn ol, bum yn chwilio cofres—lyfrau yr eglwys yn Uffington (lle tua milldir a hanner o Donning ton). Cefais hyd i beth o law— ysgrifau Goronwy. Fel hyn y mae o yn cofnodi genedigaeth ei ail fab,— 1751 "May 5th Gronoce son of Gronowe Owen clerk & Ellinor his wife was born & privately baptis'd & had publick Bap tism the 5th of June following." D. G. GOODWIN, yn Cymru, XXII. 240

Dorfu, bod o ddyddordeb i
Dori, 42, 63. dyddori

Douglas, John. 18, 81. Amddiffynnydd Milton yn erbyn Lauder; athraw i fab hynaf Iarll Bath, wedi hynny esgob Carlisle a Salisbury. Cyfeirir ato yn "Retaliation" Oliver Goldsmith. Wrth ofyn yn 1754 pwy oedd y "brynteion sothachlyd a'r burgynieit gogleddig yn rhagymadrodd Sion Dafydd Rhys, dywed Goronwy. "Cennad i'm crogi onid yw Douglas, fy hen feistr, yn un o'u hepil hwy, neu'n tarddu o'r un grifft"

Drel, 30, churlish
Dryntol, 13. dolen a chlicied drws
Drudfawr, II. 72, llawn arwriaeth; drudion rhai dewr, arwrol. "Cerrig y Drudion."
Drych y Prif Oesoedd, 98; II. 93
Duddel, 70, caled ddu
Dul, II. 45, darn byr
Duryn, II, 20, pig, beak
Dwsmel. 39. 55. dulcimer
Dwyre, 89: II. 72. 76, codi
Dwywes, 89, duwies
Dychleim, 29, llamu mewn arswyd
Dyfydd, II. 17, tyred,
Dyfyn, 30, citation
Dyffo, II. 73, deuo, delo
Dyhedd, 11, 77, llwyr hedd
Dylaith, II. 22, dinistr, marwolaeth
Dyun, 33, unol
Dyw, 12, dydd

E


Ebach, II, 30, congl, agen
Ebrwy, 34, Hebraeg
Ebyr, so, aberoedd
Ebystyl, 31, apostolion
Echwydd, 39, nawn
Edlin, II. 61, aetheling, o lin ardderchog
Edwo, 39. 43. darfyddo, gwywo
Eddyl, II. 49, llwyth, cenedl
Egru, 12, cryfhau, blaenllymu
Ehedfaen, 19, loadstone
Ehudlorf, zo, gwel "llorf"
Eiddun, II. 36, dymuniad
Eirf, II. 28, arfau
Eirian, II. 43, disglaer dlws
Eirchiaid. 11. 63. rhai'n gofyn
Eirioes, II. 70, 83. 85. prydferth
Eirionyn, 98, ymyl brethyn
El Sadai, 11. 55. "Un o enwau Duw yn Hebraeg, yn ateb yn union i'r gair Groeg Pantokrátor yn Datguddiad iv. 8 (cymhared Esay vi. 3), a Hollalluog neu Hollddigonol a arwyddocâ. Cof yw gennyf mewn rhyw ymddiddan â Mr. Lewis Morris y mynnai ef mai Cymraeg oedd ELL SADAI, sef A ALL SYDD DDA; ac yn wir nis gwn pa sut well y gellid ei gyfieithu." G.O.
Elias, W., Plas y Glyn, 19
19 Elin, 22, 34. gwraig Goronwy Owen, merch Owen Hughes, ironmonger, Croesoswallt Priododd yn weddw ieuanc â Goronwy yn Selatyn, Awst, 1747. Nid oedd fawr o fyw ynddi, druan
Elin, merch Goronwy, 86, 110-112; II. 10
Elis Roberts, y cowper o Lanrwst, 69, 100; II. 74. Claddwyd yn Llanddoged, Rhag. 4, 1789. Yr oedd yn hen fardd lled wych, a gwna Goronwy gam a'i goffadwriaeth. "Pan yn hogyn, yn agos i Landdoged yr oedd fy nghartref i ac mi welais un hen ffarmwr oedd yn cofio Elis y Cowper, ac mi glywais hen bobl eraill yn son llawer iawn am dano; ac ni chlywais un o honynt erioed yn rhoi gair drwg iddo." R. GRIFFITH, yn Cymru, XXII. 240

Ellael, 89, ael
Ellis, Parch. D., B.D., Cymrawd o Goleg yr Iesu, a pheriglor Caergybi, 26, 50, 57. 75 105;
II. 10
Ellyll, 70, enw hen dduw paganaidd, enw ar ysbrydion anhygar, elves. "Tân ellyll," ignis fatuus. "Bwyd ellyllon"=agaric.
Emrys, Phylib, II. 97. Ambrose Phillips, y bardd. Cyfeirir at y cweryl rhwng ysgol Pope ac
ysgol Addison. Yr oedd yr hen Ddeon Swift a Gay o du Pope
Enwyn, II. 66, buttermilk
Erddigan, II. 26, harmony, can
Erddrym, II. 80, grymus, cryf
Erfai, II. 39. 72, llawn bywyd
Ergyr, 38, ymgais, cynhyrfiad, tarawiad
Erthwch, 13, hanner ochenaid, hanner gwich
Esgar, II. 76, gelyn. Can car fydd i ddyn, a chan esgar. II 27, gwahanu, gwrthwynebu
Esgud, II. 78,—cyflym
Ewybr, 39, buan, parod

F


Fau, 23. 25. 47. 62: II. 39, fy

FF


Ffel, 72, cyfrwys
Ffest, 40, cyflym, buan
Ffluwch, 24, gwallt llawn
Fflwch, 48; II. 40, llawn
Ffolennau, II. 21, haunches
Ffrancod. 11.63. franks a French men. Chwery'r prydydd ar y mwysedd
Ffrencyn, 19, 45. frank. Yr oedd arwyddo llythyr gan aelod seneddol yn ei roi yn rhydd
(frank) i fynd trwy'r llythyrdy heb dalu
Ffrau, II, 56, rhediad, llif
Ffraw, 107, teg, hardd
Ffrawd, II. 84, niwed
Ffrawddus, 52, llawn cynnwrf
Ffredrig, mab Sior yr Ail, fu
farw o flaen ei dad yn 175
Ffuant. 47. dychymyg. twyll, rhagrith
Ffull, 13, 38, 40, 46, brys
Ffur, II. 11, doeth
Ffwyr, II. 28, brwydr. Gwell gan J.D. yr ystyr "niwed"

G


Galon, II. 56, 83. gelynion
Garan, 73, creyr glas, heron
Garwfrwyn, 51, garw boen
Gawr, 29. 37. 38. 86, bloedd
Gleifwaith, 11, gwaith cledd
Glyw, 29; 11. 83. llywydd
Gnawd, 59, 111; 11. 18. 27. 35. 37. naturiol, arferol
Gne, II. 32, lliw
Goddau, 28, amcan
Gofuned, 22, 34. adduned, deisyfiad
Golyth, 111, gwan
Goradain II. 72, winged
Gorddrws, threshold, rhiniog, rhagddor
Gorddwy, II. 22, trais
Gorddyar, 30, trwst
Gorfodawglu, 79, troop, retinue
Gormail, 11. 23. trais
Gorthaw, II. 38. 51. taw
Goryw, II. 33, 76, gorfu. "Serch ar Ivor a'm goryw." D. ab G.
Gran, 47, 71, grudd, tan y llygad
Gwaisg, 89, cyflym, ysgafndroed
Gwale, 24, gwallt y pen ar ei sefyll, pen caer

Gwalchmai, II. 96
Gwanaf, 25, rhes, arfod
Gwasgawd-wydd, 22, coed cysgodol
Gwasgud, II. 27, tywyllu, cymylu
Gwastrodedd, 45, 104, meistroli
Gwawd, 41, 66, 88; 11. 36, mawl
Gwecry, 107, gwan, eiddil
Gwelygordd, 31, llwyth, cenedl
Gwener, 65. Venus
Gwiwiach, II. 31, squealing
Gwiddon, II. 32, witch
Gwilog. II. 32, caseg
Gwlydd, II. 84, tyner
Gwmon, 47. hesg môr
Gwofeg, 11. 8o, meddwl
Gwraf, 11. 61, mwyaf gwrol
Gwrdd, go, cryf
Gwyarlliw, lliw gwaed
Gwydlawn, 32, llawn pechod
Gwyll, II. 56, dylluan wen, drychiolaeth
Gwyndodeg, II. 80, iaith Gwynedd
Gwyndud, II. 71, Gwynedd
Gwyrenig, 66, llawn twf, hardd
Gwyros, 89, privet. "Nid unnaws gwyraws a gwern"

H


Hadl, 30, adfeiliedig
Haddef, 32, trigle
Hail, go, libation, llawnder
Hanpwyf, II. 11, may I be
Hawl, achos, prawf
He, 91, torf
Heiliaw, II. 63. paratoi'n ddibrin
Henffel, 74, cyfrwys, long-headed
Heng, 29, threat
Hergod. 70, creadur afrosgo
Hifwr, 25, eilliwr, piliwr
Hir, II. 85. Ieuan Brydydd
Hoewal, 30, gwyneb y môr neu afon
Honaid. 48, enwog
Hortair, as, gair gogan neu athrod
Hortio, II. 59. gogan. diraddio
Hurthgen, 70, blockhead
Hugh Goch, 74. Gwel Bardd Coch
Huw ap Huw, 62. Gwel Bardd Coch
Hwde, 55. II. 74. ar fy llawn, doing my utmost,
Hwrdd, 108, ymosodiad, rhuthr
Hwyntwyr, 87, 96, pobl hwnt i'r Ddyfi
Hyar, II. 85, gwastad, llyfn. Araf haf, hear gweilgi
Hydron, II. 36, 52, bold
Hyfael, II. 84, manteisiol
Hyfriw, 11, hawdd ei briwio
Hylon, II. 29, hapus
Hynaif, II. 64, 83, hynafiaid.

I


Iago, James II; addolwyr Iago, 58, Jacobites
Iau, II. 26, Jupiter
Ieuan Brydydd Hir. 35. 78, 93: II. 47. 59. 80, 85. Ganwyd yn Lledrod, yn 1731; bu farw yn Awst 1789. Bu'n gurad yn Nhowyn, Llanberis, a Llanfair Talhaiarn
Ifor, 43,
Io, 65. Job

L


Lyi, II. 82, lyfi

LL


Llabir, II. 81, cleddyf
Llanandreas, II. 56. St. Andrews, Brunswick County, Virginia

Llas, II. 37, lladdwyd
Llawch, II. So, protection
Llead, 67, darlleniad
Lledfegyn, II. 22, hanner peth, hanner gwyllt hanner dof
Lleir, 31, darllennir
Llemain, 38, neidio
Llerw, 39, esmwyth, meddal
Llew, 61, 109, gwel Lewis Morris; 75. 76, person Walton
Llill, II. 66, gafr
Llith, llyth, II. 73. gwan
Llofr, 11. 66, 77. ffurf benywaidd "llwfr"
Llong, 64
Llorf, 70, shin bone, shank. Legach lorf "of sluggish shank." "Ehudlorf" of nimble shank"
Llosgwrn, 105, cynffon
Llugyrn, 30; II. 76, goleuadau
Llyfr y Ficer, 155
Llysu, II. 68, gwrthwynebu, rhwystro
Llyth, II. 84, gwan
Llywelyn Morris Ddu, gwel Lewis

M


Mab Cryg. II. 37. Gruffydd Gryg
Mab Gwilym, gwel Dafydd II. 37. 59
Macwy, II. 73. llanc
Madws, 13. amser cyfleus
Mael, 47, ennill, gwobr
Maelgyn, 42
Mâl, II. 23, bounty
Maon, II. 72, pobl
Maro, II. 89, P. Virgilius Maro
Marwydos, 70. lludw poethgoch
Masweddion, II. 54. Nodwch yma nad yw'r gair 'maswedd," yn ei briod a'i gynefin ystyr, ddim yn arwyddocau serthedd neu fryntni; ond yn unig rhywbeth ysgafn, digrif, nwyfus, yn wrthwyneb i bethau dwysion pwysfawr." G.O.
Mau, 39, 42, 107: II. 16, 63, ty
Maws, II. 71, hyfrydwch
Meddaidd, II. 53. per fel medd
Meinais, 111, graceful, sylph-like
Mennu, 109, argraffu
Merchur, 12, Mercurius
Merddin. II. 73
Milton, John, 27; II. 88
Miwail, II. 59, gwan
Miweilgoes, 11. 30, of slender legs
Moesen, 11, 31, Moses
Mon, 22, 41. 44. 30. 39, 62-63, 80, 85. 93. 110, 112; II. 18, 36-40
Morris, Elin, 54. 85. 88; priododd Richard Morris, Mathafarn
Morris, Lewis. 34. 35. 42: II. 19. 34.45. 48-56
Morris, Marged. 44. 49. 51. 53
Morris, Rhisiart. 53. 56, o'r Navy Office
Morris, William, 53. 93. "Collector of Customs yng Nghaergybi
Muner, 54 tywysog. Muner nef-Dominus coeli
Musig, II. 55. "Nid wyf yn tybied y ceir mo'r gair 'musig' yn nemawr o'r geirlyfrau Cymraeg; eithr nid wyf yn amau nad oedd yn arferedig yn yr iaith er yn amser y Rhufeiniaid. Pa ddelw bynnag, fe ei harferodd Lewys Morgannwg, er ys gwell na deucan mlynedd, yn ei awdl wrth Leision, abad Glyn nedd,—Arithmetic, music, grymusion G.O.
Mwll, II. 66, llaith-gynnes
Mwnai, II. 23, money
Mwrllwch, 92, mwg neu niwl dudew

Mwyth, II. 65, sleek, delicate
Mwythig, yr, 69, 85, 94, Shrewsbury
Mygr, II. 73. ardderchog
Mynglwyd, 109, Morris Llew, Lewis
Mŷr, 23, 30, ffurt liosog "môr," moroedd
Mythder, II. 65, cyflymder, buandra

N


Neddair, 64, llaw
Nennawr, II. 11, garret
Ner, 11. 30, arglwydd
Neu, neud, II. 78, yn wir
No, 30, Noah
Northolt, II. 13. pentref ym Middlesex, tua deuddeng milltir o Lundain
Nycha, II. 31, wele, gwel
Nydd, 43. 54
Nyr, II. 86, meistri

O


Ofydd, II. 54. "Publius Ovidius Naso, un o brydyddion godidocaf Rhufain, hynod am serchawgrwydd ei destynau, melusder ei gynghaneddol beroriaeth, purdeb ei iaith, a gwastadlyfn lithrigrwydd ei ymadrodd; o achos paham y galwai ein hynafiaid bob nwyfus gywreinrwydd yn Ofyddiaeth. G.O.
Orohian, 89, gair i ddangos llawenydd. To paean
Owain, Lawgoch, 79
Owen, Edward, 106; II. 91. rheithor Warrington yn 1795. cyfieithydd Juvenal
Owen, John, Plas yn Ngheidio, II. 67-72,99

P


Paeled, 63. llafn, plastr
Pand, 28, 37; II. 32, pa nad, mai, fod, onid
Pannwl, 71, hollow
Pau, II. 49 gwlad
Parry, William, o'r Mint, Deputy Comptroller, II. 16, 45, 46, 48
Pedrain, II. 21, crwper
Pefr, II. 66, hardd, disglaer. Cf. Goronwy Befr
Peinioel. go, bara; "toes peinioel," dough; "bara peiníoel," bara cartref
Penllad, 65, summum bonum
Pennaubyliaid, 69, tadpoles
Pendraphen, II. 24. at loggerheads
Pentre Eiriannell, 51, 55: II. 14
Person, II. 23, parson. Ll. personiaid
Pib-ddall, 71, purblind
Pieriaid, II. 61, Pierides, yr Awenau
Pleidwellt, 24, gwellt garw sych
Pond, 42, 47, ponid, 43, onid
Por, II. 72, arglwydd
Posel deulaeth, 58, llefrith wedi ei ferwi, a llaeth enwyn ynddo
Preiddawl, II. 30, predatory
Priodawr, II. 72, un a hawl, tywysog

Prydain, II. 53. "Nid yw Prydain a Brutus ond yr un gŵr i'm tyb i. Ni ddadleuaf ar hyn o dro pa un ai gwir yw hanes Brutus, fel y mae yn Mrut y Brenhinoedd, ai nad e. Hyn, pa ddelw bynnag, sydd ddilys gennyf, nas gelwid mohono Brutus yn ein hiaith ni, namyn Prydain. A pha un ai'r hwn a eilw ein hanesyddion ni Prydain ap Aedd Mawr, ai rhyw un arall o'r un enw, hŷn nag ef, a roddodd ei enw ar yr ynys, nis gwn i, ac ni'm dawr ychwaith; pan yw ddiddadl ei galw Ynys Prydain yn ol enw y gŵr a'i goresgynnodd. pwy bynnag ydoedd." G,O.

Pryffwnt, II. So, prif beth
Prys, archddiacon, 101
Pyd, 32. perygl

R


Rhag, cyn
Rhawd, II. 85. tyrfa
Rhawg y. 30, yn hir
Rhefedd, 29, golud" ebe Dr. John Davies; "tewedd" ebe Lewis Morris
Rhefrog, II. 21, a phen ol mawr
Rhemwth, II. 21, glutton
Rhen, II. 35. Duw
Rhent, 22, cyflog, degwm
Rhial, II. 84. royal, ardderchog
Rhistyll, 71, horse-comb
Rhof, 88, 103, 108, rhyngof
Rh'om, II, 29, rhyngom
Rhombreth, II. 25. wmbreth
Rhumen, II. 21, the paunch
Rhus, 46; II, 86, to recoil
Rhwth, II. 21, ceg-agored, ysglyfaethus
Rhwy, 90, 108, gormod
Rhychor. 100; II. 85, cydmar, yr ych cryfaf o ddau o dan yr iau
Rhydain, II. 28, a fawn
Rhydda, 11, rhy dda
Rhyddiriaw, 22, erfyn
Rhyferig, II. 44. gwaradwyddus
Rhyforio, 105, ymdrechu, ymdaro
Rhyn, 46, cryndod gan oerni

S


San, 52, sy ndod
Sarllach, II. 52, llawenydd, llawen gerdd
Seithug, II, ofer, siomedig
Selef, Selyf, 39, 47, 105; II. 17, 29. Solomon
Sibli, Brut. 81-82. Dynwarediad medrus, direidus
Sin, 91; II. 68, alms
Sine cortice nare, 9, nofio heb gorcyn, ymdaro
Siol, II. 20, rhan uchaf y pen
Sion Dafydd Rhys. 75. 86. Cafodd Goronwy gopi o Ramadeg Sion Dafydd Rhys gan y Parch. D. Ellis, ac ysgrifennodd ei enw ynddo Mehefin 24, 1754
Sorth, 63, ffurf fenywaidd "swrth"
Soyl, II, 59, Zoilus, beiwr cenfigenllyd Homer
Sper, II. 84, spear
Suddas, II. 60, Judas
Swrn, 10, ennyd, ychydig fesur: II. 21, fetlock
Syll, 71, edrychiad
Syr, 91: II. 23
Syrn, II. 82, ffurf liosog "swrn
Sywedydd, 64, athronydd
Sywlyfr, 47. llyfr doethineb

T


Taliesin, 43, 88
Tandwng, II. 84, tan lw
Tau, 37 II. 38, dy
Tau, 71, ymestyn, stretch
Tawl, 46 II. 17, lleihau
Teirf, 42, tarfa

Telyn Ledr, 98, 99, 100; II. 41, 96; casgliad o farddoniaeth Gymreig yn llaw William Morris. Bu cweryl rhwng W. Morris a Goronwy oherwydd i Goronwy golli'r Llyfr. Mae'n awr yn yr Amgueddfa Brydeinig. R. J.
"Er dim a fo," ebe Goronwy yn 1754 "gadewch gael benthyg y Delyn Ledr, gael i mi rygnu ambell gainc arni tra bo'r dydd yn hir a'r hin yn deg. Odid na bydd rhywbeth ynddi a wna imi geisiaw ei ddynwared; neu, o'r hyn lleiaf, mi bigaf rai geiriau tuag at helaethu fy ngeirlyfr, fel yr wyf yn gwneuthur beunydd o'r hen Walchmai ac ereill.
Terrig, 21, chwyrn, llym
Tewdws, 64. Pleiades
Tid, 64, cadwyn, rhes
Toliant, ga; II. 68, eisieu, angen
Tolio, II. 76, lleihau
Tomas Huws, II. 66, mab Huw ab Ifan o Landegai, oedd yn was yn Lerpwl
Ton, II, ffurf fenywaidd "twn"
Trabludd, II. 53. ymboeni'n ddiwyd, bustle
Train, 71, aros, chwedleua. "Chwedl blaenfain fu'ch train a'ch tro"
Trawd, II. 85, mynediad, rhodfa
Trawswch, 25, moustache
Trec, II. 73, implements
Tremygu, II. 80, diystyrru
Trin, 41, 42, rhyfel
Troia, 96, 98
Trwch, II. 39. dybryd, drwg, anhapus
Trwsa, 23, truss, llwyn blew
Trybola, 11. 58, llaid, mire
Trybestod, 64, prysurdeb
Trychu, II. 21, 28, torri, dinistrio
Tud, 22; II. 27, 75, gwlad
Twn, 111, toredig
Twybil, II. 74, arf saer
Tyle, 37, lle
Tymp, 28, amser
Tregaron. Dywedodd y gŵr o Dregaron" nad oedd na iaith na chynghanedd ym marwnad Ieuan Brydydd Hir i Ffredrig, Tywysog Cymru. II. 60, Parch. Daniel Jones
Twm Sion Twm, 86, "a noted. bruiser," L. M. O Ddulas

U


Uchenawg, 52, groaning
Udd, 42; 11. 62, tywysog
Unon, II. 50, ofn
Uppington, 17, sir Amwythig. Gwel Donnington
Urael, asbestos, 89, 91, "Urael yw lleinwisg o'r manweiddiaf o'r maen ystinos, ac a olchid A'r tân wedi y budreddai." Geiriadur Dr. John Davies

W


Walton, ger Lerpwl, 73. 111. "Gwelsom goflyfrau'r eglwys, a llawysgrif Goronwy gweinyddwr priodasau yn un ohonynt yn ddi-dor am dair blynedd. Ni wyr neb ohonynt ddim am fedd Elin fach, ond gwelais ar hen femrwn melyn—The Reverend Mr. Owen's child, died April 11, 1755" CYNDDELW, yn y Brython, dechreu 1862. (Cyf. V., tud. 97)
Williams Parch. H., "person Williams," II. 94

Williamsburg, II. 43. 49. prif dref James City County, Virginia
Wybryddion, II. 52, meteorologists
Wynn, II. 99, Parch. William, o Langynhafal

Y


Ymddygwd, II. 51, ymlafurio, ymboeni, cweryla,
Ymhwrdd, 90, ynni
Yolaf, II. 81, gweddiaf
Ystig, II. 14, dyfalbarhaus
Ystwffwl, II. 24. staple





Nodiadau

golygu
  1. Virginia yn America, lle y mae'r awdwr yn drigiannol, wedi colli y rhan fwyaf o'i deulu ar y môr wrth fordwyo yno o Lundain yn y flwyddyn 1757
  2. Felly Horatius:—
    Labuntur anni; nec pietas moram
    Rugis et instanti senectre
    Afferet, indomitaeque morti."
  3. Hyn, a rhan fawr o'r hyn a ganlyn, sy 'n penodi at ryw ddamweiniau a ddigwyddasant iddo, ennyd cyn ei farw; ac nid rhaid i'w gydnabyddiaeth wrth nodau, amgea na'u coffadwriaeth eu hunain i'w hegluro.
  4. Cyffy Brython. Efe a ysgrifenodd dwysgen ar y testun hwnnw; ond pa un ai bod dim o'r gwaith yn argraphedig, nis gwn.
  5. Mae'r awdwr, gyd â phob dyledus barch i goffadwriaeth Mr. Lewys Morys, yn tra diolchgar gydnabod, mai iddo ef y mae 'n rhwymedig am yr ychydig wybodaeth ym marddoniaeth Gymraeg a ddaeth i'w ran; ac yn ffyddlon gredu—nid er gwaith nac er gogan i neb—y gall y rhan fwyaf o feirdd Cymru, ar a haeddant yr enw, gyfaddef yr un peth. Ac er nad yw les yn y byd i'r Awdwr mewn dieithr wlad dramor, lle nas deall yn oed ei blant ei hun air o'r iaith Gymraeg, eto mae 'n ddywenydd ganddo goffhau iaith ei fam a'i wlad gynhenid yn ei hir alltudedd; a gresyn ganddo na bai lle y gallai wneuthur mwy o les a pharch i'w iaith a'i wlad;—ond a fynno Duw a fydd.
  6. Dywed y Gwladgarwr (Tach., 1840) mai Goronwy Owen wnaeth hwn.
  7. Cafwyd ymysg ysgrifau Ieuan Brydydd Hir, yn dwyn enw Goronwy. Rhoddwyd gan y Parch. D. Silvan Evans i'r Parch. Robert Jones, Rotherhithe. Tybia'r ddau mai gwaith Goronwy yw'r ddau bennill.
 

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.