Yr Hen Lwybrau (testun cyfansawdd)

Yr Hen Lwybrau

gan John Davies (Isfryn)

I'w ddarllen pennawd wrth bennawd gweler Yr Hen Lwybrau

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader



YR HEN LWYBRAU

𝕐ℝ ℍ𝔼ℕ 𝕃𝕎𝕐𝔹ℝ𝔸𝕌

gan

Y CANON JOHN DAVIES

(ISFRYN)

Rheithor Penstrowed



Rhagair gan

T. HUGHES JONES





Y CLWB LLYFRAU CYMRAEG

1947



Argraffiad Cyntaf—Hydref, 1947




ARGRAFFWYD GAN J. D. LEWIS A'I FEIBION, CYF.,
GWASG GOMER, LLANDYSUL

CYFLWYNIAD

AR gais y diweddar Mr. Prosser Rhys y
detholwyd yr ysgrifau yn y llyfr hwn, o blith
ysgrifau eraill a gyhoeddwyd yn yr Haul o dro
i dro yn ystod yr 16 mlynedd y bûm yn ei olygu,
ac i goffa annwyl Prosser Rhys
y cyflwynaf y gyfrol hon.

1947. — ISFRYN.

RHAGAIR

Os ewch ar hyd y ffordd fawr o Gaersws i'r Drenewydd yn yr haf, ymhen ychydig ar ôl gadael y "Filltir Hir" gwelwch ar y chwith, wedi i'r ffordd droi dros bont y trên, dŵr eglwys fechan. Y mae'n debyg y gwelwch ŵr lluniaidd ac urddasol yn dod allan o'r ardd sydd ar ymyl y ffordd, ac yn cau'r llidiart. Gwelwch wrth ei wisg mai clerigwr ydyw, ond ni thybiech ei fod yn un o hogiau'r pedwar ugain. Cyn iddo gyrraedd llidiart bach y rheithordy y mae'n debyg y byddwch wedi ei ddal, yna fe dry gan gyfarch gwell i chwi. Os byddwch chwi mewn hwyl cael sgwrs fe ddywed wrthych cyn bo hir eich bod yn cerdded yr hen ffordd Rufeinig o Uriconium i Gaersws, ac efallai y sonia hefyd am y carcharorion rhyfel o'r Eidal a fu'n cerdded yr un ffordd heb wybod bod eu hynafiaid wedi ei cherdded fel concwerwyr. O dipyn i beth ewch i siarad am eich plwyf eich hun, a chewch fod y person yn gwybod llawer amdano, ei hynafiaethau a'i gymeriadau. Os Cardi ydych, bydd yn amser te cyn gorffen y sgwrs, ac yna cewch wahoddiad i mewn trwy'r llidiart bach. Braint fawr a fydd honno, oherwydd byddwch yn cael pryd o de gyda'r Parchedig John Davies (Isfryn), rheithor Penstrowed, deon gwlad Arwystli, a chanon Bangor.

Gŵr o sir Aberteifi yw Isfryn, o ardal Lledrod, lle y mae hen atgofion a hen draddodiadau yn byw yn hir. Ysgrifennodd ei frawd, David Davies (Lledrod), lawer o storïau a choelion y fro i'r "Cymru Coch"; cafodd hwy o enau hen bobl yr ardal; a chyhoeddwyd hwy wedi hynny yn llyfryn, "Ystraeon y Gwyll". Cofia Isfryn siarad â hen wraig a gofiai Ieuan Brydydd Hir yn mynd drwy fuarth Ffos-y-bleiddiaid i gyfeiriad ysgol Ystrad Meurig. Y mae'n rhaid dod â'r ysgol hon i mewn wrth sôn am Isfryn. Nid yw fyth yn blino ar sôn am yr hen ysgol, ei gyd-efrydwyr, a'r hen brifathro enwog, John Jones. Diwylliant ei ardal a roddes i Isfryn ei ddiddordeb mewn llenyddiaeth Gymraeg a thraddodiadau Cymru; ysgol Ystrad Meurig a roddes iddo'r diddordeb mewn llenyddiaeth Saesneg a'r iaith Ladin. Gwelir y diddordebau hyn yn ei ysgrifau, a daw'r cwbl allan yn hollol ddirodres. Rai blynyddoedd yn ôl darlledodd ran o'i atgofion, o Fangor. Gyferbyn ag ef ar yr un bwrdd, yn tynnu'r atgofion allan, yr oeddwn i, a'm teulu o un ochr o ardal Lledrod; yn cyhoeddi, yr oedd Nan Davies, a'i theulu hithau o'r un ardal ; ac ar y ffordd adref, cyn gadael Bangor, dyna daro ar Ambrose Bebb yn dod o un o bwyllgorau'r Cyngor Tref, a mynd i mewn i'w achau yntau, o'r un ardal eto. Cyn gadael Bangor teimlai'r pedwar Cardi eu bod yn perthyn yn agos iawn i'w gilydd.

Bu Isfryn yn gwasanaethu mewn llawer ardal, ac oherwydd bod ei wreiddiau yn niwylliant a hanes Cymru medrodd fwrw gwreiddiau ym mhob lle ac ymddiddori yn ei hanes. Cyn gynted ag y daeth i Benstrowed dechreuodd chwilio i hanes y plwyf hwnnw,—canlyniad hynny yw ei ysgrif ar "Ellis Wynne a Glan Hafren" yn y gyfrol hon. Ac eithrio ardal ei febyd efallai mai'r ardal y sonia fwyaf amdani yw ardal Llanrwst. Yr oedd yno doreth o hanes, cymeriadau fel Elis o'r Nant a Gwilym Cowlyd, a defodau fel Arwest Llyn Geirionydd. Teithiodd lawer ar hyd y wlad o dro i dro, a'i wybodaeth o hanes gwahanol ardaloedd yn gwneud y teithio hwnnw yn fyw iawn. Bu'n fawr ei barch ym mhob lle, oherwydd y mae'n medru cymdeithasu â gwreng a bonheddig, â'r hen a'r ieuanc, yn medru cydlawenhau gyda'r rhai sydd yn llawenychu a chydymdeimlo â'r rhai sydd yn galaru.

Yn eu tro daeth i fywoliaeth Penstrowed rai o wŷr enwog yr Eglwys yng Nghymru, i dreulio'u hwyrddydd yn nhawelwch glannau Hafren; a chewch lythrennau cyntaf enwau ambell un ar y ffawydd tal o amgylch y rheithordy. Bu W. L. Richards yma, y mae ei enw wrth Emyniadur yr Esgob Lloyd; D. Basil Jones; Henry Morris, nai Henry Richard; William Williams, caplan Esgob Bangor; a'r Canghellor Cadwgan Pryce. Y mae gan Isfryn rywbeth i'w ddweud amdanynt oll, ac y mae yntau yn deilwng o'r llinach. Bu'n olygydd "Yr Haul" am dros bymtheng mlynedd, ac yr oedd ar is-bwyllgor geiriau "Emynau'r Eglwys". Arferai Senedd Rhufain nodi ei chymeradwyaeth o rywun a roddasai wasanaeth arbennig drwy ddatgan, mewn penderfyniad swyddogol, ei fod wedi haeddu diolch ei wlad. Hwnnw a fydd fy ngair olaf am Isfryn,—De re publica bene meritus est. Gwn y bydd yn falch fy mod wedi defnyddio'r frawddeg Ladin. Gwn hefyd y dywed gyda chwerthiniad bach, "Dydw i ddim yn haeddu hwnna chwaith". Ond myfi sydd i benderfynu beth fydd yn y rhagair.

T. HUGHES JONES.

CYNNWYS


PENNOD O ATGOFION

EISTEDDWN fin nos wrth y tân heb olwg am neb i ddod i dorri ar fy heddwch am y gweddill o'r hwyrnos. Yr ydoedd yn rhy olau i oleuo'r lamp ac yn rhy dywyll i ddarllen, ac wrth ryw hanner breuddwydio fel hyn fe fynnai'r meddwl redeg yn ôl i'r gorffennol, a chofiais imi gael o hyd i hen gopi o nodion a gadwn flynyddoedd lawer yn ôl. Pan oeddwn yn mudo o un tŷ i'r llall darganfûm yr hen gopi yn awr yn llwyd gan henaint.

Rhedai rhai o'r nodion yn ôl i'm dyddiau ysgol, a deuthum ar draws rhai diddorol iawn. Gair neu enw oedd yn ddigon i ddwyn yr amgylchiadau yn fyw ger fy mron. Yr oedd yr hen gopi yn llawn o gyfeiriadau at hen arferion y wlad, y Cynhebryngau, y Priodasau, y Stafell a'r Neithior, Chwaraeon y plant, a lliaws o fân bethau eraill. Ond y peth a dynnodd fy sylw fwyaf y noson hon oedd y nodion a wneuthum wrth fynd o amgylch â'r papurau cyfrif yn y flwyddyn 1881. Y dosbarth a roddwyd i mi gan y Cofrestrydd oedd Rhos-y-wlad, ac o bob dosbarth hwn oedd y mwyaf a'r mwyaf blin i'w gerdded, gan ei fod yn bur gorsiog. Dyma'r adeg y cefais gip ar nodweddion a chymeriad gwlad o bobl.

Pobl garedig a chroesawus i'r eithaf oedd y trigolion y cefais i'r fraint o fynd o'u hamgylch, ond yn eithriadol o ddireidus ac yn hoff o chwarae triciau smala â'i gilydd, a'r cwbl mewn ysbryd llednais. Clywais lawer stori ddigri ganddynt, a thrysorais hwynt yn yr hen gopi y sy'n awr ger fy mron. Yr oedd ganddynt lysenwau i'w hadnabod wrthynt, a hynny oherwydd rhyw dro trwstan neu anaf ar y corff. Ac y mae hyn yn nodweddiadol o bob gwlad yr oedd yn Rhufain a Groeg, ac yng Nghymru'r Oesoedd Canol rai fel Iorwerth Drwyndwn a enwyd felly oherwydd rhyw anaf ar ei drwyn, a'r un modd Gwilym Bren, coes bren oedd ganddo yntau. Nid o un amarch y llysenwid hwynt, ond o ryw ysbryd direidus a chwareus. Dyma enghraifft fel y cafodd un ei enw. Arferai glymu un goes o dan ei ben-glin â chortyn. Pe clymasai'r ddwy, ni thynasai sylw neb. Ond clymu un goes a dynnodd sylw pawb, ac o hynny allan fe'i galwyd yn Wil Glun Gorden. Pan glywodd Wil hyn fe glymodd y ddwy glun, ond yn rhy ddiweddar erbyn hyn, ac fe lynodd yr enw wrtho hyd ei fedd. Yr un modd y cafodd Wil Difedydd yr enw. Gwrthod â chymryd ei fedyddio trwy drochiad a wnaeth i gael yr enw. Pan glywodd yntau hyn, brysiodd i'w fedyddio, ond er y cyfan i gyd Wil Difedydd a fu yntau er wedi ei fedyddio.

Yr oedd yn Rhos-y-wlad atgo byw iawn am ddigwyddiadau ynglŷn â diwygiad Dafydd Morgan yn 1859. Un o'r tonnau rhyfeddaf a aeth dros y wlad ydoedd hwn, a Rhos-y-wlad a deimlodd ei ddylanwadau fwyaf, a naturiol i sôn amdano aros yn hir yn y rhanbarthau hynny. Dyn bychan ei gyraeddiadau meddyliol oedd Dafydd Morgan, ond yr oedd ganddo ryw ddylanwad aruthrol ar ei wrandawyr. Yr oedd yn fwy wrth holi profiadau na hyd yn oed yn y pulpud. Unwaith y darganfyddai fan gwan yng nghymeriad ymgeiswyr am aelodaeth fe ddiferai ei eiriau fel fitriol ar friwiau noeth. Daeth Benni Bach o dan ei fflangell un tro. Nid am ei fod yn fach o gorffolaeth y cafodd yr enw, nac ychwaith am ei fod yn gymeriad hoffus yn yr ardal, ond am mai Benni oedd ei dad a Benni ei daid, ac felly fe enwyd yr ŵyr yn Benni Bach. Ar ôl un oedfa wlithog fe arhosodd Benni ar ôl, ac fe'i galwyd i fainc yr edifeiriol. Gwelid llygaid Dafydd Morgan yn serennu o dan aeliau trymion. Dechreuodd holi Benni, ac yn fuan trawodd ei law ar fan gwan yn llurig cymeriad Benni, a diferodd geiriau llymach nag un cleddyf daufiniog. Ond fe drodd Benni arno'n ffyrnig. "Welwch chi, Dafi Morgan", meddai Benni, "os ydych chi a minnau am fod yn ffrindiau peidiwch â mynd un cam pellach yn y cyfeiriad yna". Ac nid aed hyd yn oed hanner cam ymhellach.

Rywbeth yn debyg y digwyddodd hi gyda Twm Johnyn. Un o gymeriadau rhyfeddaf y fro ydoedd hwn, ac y mae gennyf gof da amdano. Arferai wisgo het silc lwyd yn debyg i'r rhai a welid ar bennau porthmyn ceffylau mewn ffeiriau. Ymffrostiai Twm yn ei waedoliaeth, canys yr oedd o dras teulu Dolau Cothi. Johns oedd y teulu hwnnw, a Johns oedd Twm, ond ei fod ef wedi mynd yn Johnyn. Un tro arhosodd yntau ar ôl yn un o'r oedfaon. A galwyd ef at fainc y pechaduriaid. Cynnil iawn oedd yr holi ar Twm, a'r dyb gyffredin oedd bod ar yr holwr dipyn o ofn yr holedig. Fe wyddai'r holwr am wendid Twm, a'r gwendid ar y pryd oedd bod Twm a Gwenno yn byw ar wahân, a dywedai'r holwr nad oedd yn 'bosibl ei dderbyn yn aelod heb iddo'n gyntaf gymodi â Gwenno, a'r ateb parod oedd bod ganddo dri rheswm dros beidio â gwneud hynny, ac fe adroddodd ei resymau ; ond gan nad oeddynt yn ddigon yng ngolwg yr holwr, cydiodd Johnyn yn ei het ac allan ag ef, gan ddymuno nos da i'r frawdoliaeth.

O deithio o dŷ i dŷ ar draws corsydd a mawnogydd deuthum at fwthyn to gwellt a breswylid gan un o'r enw Deio Twrc. Dyn un llygad oedd ef, a chlwt glas yn orchudd ar y llall. Curais wrth y drws a chlywais lais fel taran yn gorchymyn imi fynd i mewn a pheidio â churo fel hynny wrth ei ddrws ef. Ufuddheais i'r alwad, a'r gorchymyn nesaf oedd imi eistedd i lawr ac adrodd fy neges. Yr wythnos drachefn gelwais wedyn i gasglu'r papur, a bu raid imi ei lanw fel y gallai Deio weld pa fath ysgrifennwr oeddwn. Cefais dipyn o waith i egluro termau'r gwahanol golofnau. Pan ddaethom at golofn yr idiots a'r imbeciles, ac egluro mai dynion heb fod yn gall a olygid, awgrymais adael hwnnw heb ei lenwi. Ond ni fynnai Deio hynny rhag iddynt yn Llundain, chwedl yntau, dynnu camgasgliadau oddi wrth y distawrwydd. Ei awgrym ef oedd imi roddi i lawr yn Saesneg mai dyn cryf ei feddwl ac iach ei galon ydoedd. "A man of strong mind with sound heart". Yn fy ffwdan gadewais yr 'e' allan o'r heart, ac felly yr arhosodd pethau.

Yr oedd croeso mawr yn f'aros yn y tŷ nesaf yr euthum iddo, a hynny am y rheswm, yn bennaf, imi fod yn yr un ysgol â'u mab, a'u hunig blentyn, yn awr yn ei fedd. Ifan a Mali'r Cnwc oeddynt hwy. Anaml y gwelais i ofid mwy na'u gofid hwy. Bachgen gobeithiol iawn ydoedd eu mab, a dim ond newydd ddechrau pregethu gyda'r Methodistiaid. Ef oedd eu gobaith a gwrthrych eu serch. O'u gweld mor alarus a hiraethlon dywedais ei fod yn bosibl tramgwyddo Rhagluniaeth ddoeth y Nef â gormod o alar. "Odi, odi, y machgen i", oedd yr ateb, "a gobeithio y cedwir ni rhag hynny, beth bynnag".

Y tŷ nesaf imi alw ynddo oedd tŷ y Dr. Rees. Curais wrth y drws, a chlywn lais soniarus y Doctor yn fy ngwahodd i mewn. Agorais y drws, a chroesais y trothwy i weld y Doctor yn eistedd mewn cadair freichiau ger y tân, cap du am ei ben moel, a siaced felfed amdano, a'r wig ar hoel uwchlaw'r pentan i'w chadw'n gynnes pan ddeuai galw amdani. Gwyddwn y caffwn fy holi gan y Doctor, ac ni'm siomwyd chwaith. Ar ôl holi a stilio fel hyn am beth amser estynnodd y Doctor ei law i ddrôr y cwpwrdd, a dangosodd imi ddiploma y D.D. Addefodd y Doctor mai America oedd y wlad gyntaf i'w ddarganfod ef a chydnabod ei deilyngdod. Erbyn hyn yr oeddwn wedi ennill digon o nerth i ofyn un cwestiwn. Aethai si ar led trwy'r wlad iddo ef dorri allan o'r seiad William Richards am iddo brynu ar slei flwch o fatsis Lusiffer yn Aberystwyth. Y tramgwydd oedd prynu blwch ac enw Lusiffer arno. Na, yr oedd y Doctor yn bendant nad oedd y rhithyn lleiaf o wirionedd yn y stori. Da yw gennyf wneud hyn yn hysbys o barch i'r ddau.

Gadewais y Doctor a chyfeiriais fy ngherddediad i'r Ficerdy. A chan ei bod yn dechrau hwyrhau, a'r ffordd ymhell imi fynd adref, cymhellwyd fi i aros yno hyd drannoeth, yr hyn a wneuthum gyda diolch, canys yr oeddwn erbyn hyn wedi llwyr flino. Cawn gysgu yn yr un gwely ag y cysgodd Archddiacon ynddo y noson gynt. Gwelais fod y teulu caredig am dywallt pob croeso ar fy mhen. Ar ôl swper cafwyd ymgom lon am ddigwyddiadau'r dyddiau hynny, ac fe adroddais lawer digwyddiad digrif. Yn dâl am hyn adroddodd y ficer y stori ganlynol am yr Archddiacon a ddigwyddasai hyd yn oed y bore hwnnw.

Pan gododd a dyfod i'r ystafell fwyd, a neb yn yr ystafell ar y pryd ond Johnny bach, o gwmpas pump oed, ac yntau, trodd yr Archddiacon i roi ei sgidiau am ei draed a botymu ei socasau, a Johnny yn edrych arno gyda syndod, ac nid rhyfedd, canys ni welsai neb â socasau o'r blaen. O'i weld yn llygadrythu felly, dywedodd yr Archddiacon wrth yr hogyn bach—"Nid oes gan dy dad di, 'y ngwas i, socasau fel hyn". "Nac oes", meddai Johnny, "ond y mae gen i rai".

Trawodd cloc un ar ddeg, a gwadnwyd hi i fyny i'r ucheldiroedd.

II

YR HEN LWYBRAU

FY mwriad oedd rhoddi un diwrnod yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth, ond wedi dechrau cael blas ar yr Eisteddfod, a chyfarfod â hen gyfeillion, trodd y diwrnod yn ddau, a chefais holl gyfarfodydd yr Ŵyl, ond un, o fore glas hyd hwyr. Gallaswn draethu llawer ar y cyfarfyddiadau hapus a wneuthum ddau ddiwrnod yr Eisteddfod, a'r mwynhad a gefais yng nghwmni cyfeillion, a'r modd y deuthum i adnabod hen gyfeillion yn bersonol am y tro cyntaf. Eisteddais drwy gyngerdd y noson gyntaf yn ymyl cyfaill mynwesol nad adwaenwn yn ôl y cnawd. Gohebwyd llawer â'n gilydd, o dro i dro, heb erioed gyfarfod, ac yno yr oeddem yn ymyl ein gilydd-mor agos ac eto mor bell. Fore drannoeth fflachiodd yr adnabyddiaeth, a 'wiw imi mwyach godi dim ar y llen.

O'r Ŵyl ymaith â mi i hen ardal Ystrad Meurig, ac yn awr nid oedd gennyf ond un diwrnod, am yr haf hwnnw beth bynnag, i dreulio yn yr hen gymdogaeth. Y mae llawer ffordd i dreulio diwrnod hapus ym mro maboed, ond y ffordd a fabwysiedais y tro hwn oedd myned i ben Trysgol-y-ffos, fel y gelwir bryncyn bychan yn yr ardal. Saif y Drysgol yn y canol rhwng tri phentref a ffurfia, megis, dair troed trybedd, Ystrad Meurig, Swydd-ffynnon, a Thyn-y-graig.

Cerddais i ben y Drysgol, ac eisteddais i lawr yn y man uchaf arni. Yr oedd y diwrnod yn bopeth y gellid ei ddymuno; yn wir, yn fil amgenach na dim a fedrai dyn ddyfeisio. Yr oedd natur yn hyfryd, yr hin yn dyner, a charped o fwsog odanaf, a'r lle yn fyw gan sŵn y gwenyn yn hedfan o flodeuyn i flodeuyn, ac ambell iâr fach yr haf ac adanedd amryliw yn dyfod heibio, a hynny mor agos, nes peri i mi symud weithiau rhag iddi daro ei hadanedd ynof, a'u llychwino yn y trawiad. Parhâi un i grwydro o'm cwmpas am gryn amser, a hynny, feddyliwn i, yn groesawgar iawn, eithr wedi canfod nad oedd fawr bleser i'w gael yn fy nghwmni, pwysodd ar ei haden ac ymaith â hi. Ac weithian oddigerth sŵn y wenynen, a mwm rhyw chwilen afrosgo yn symud, nid oedd dim i dorri ar y distawrwydd. Edrychais o gwmpas, ac nid wyf yn meddwl y ceir golygfa fwy arddunol yng Nghymru oll. Amgylchid y fro â rhes o fryniau lled uchel ar ffurf cylch, a'r Drysgol yn y canol. I gyfeiriad Aberystwyth yn unig yr oedd bwlch a thrwy'r bwlch hwnnw gwelwn gip ar y môr, a thrumiau mynyddoedd yr Eifl yn Sir Gaernarfon. Newidiai'r bryniau eu gwedd yn fynych. Un funud ymddangosent yn bygddu, a'r funud nesaf neidiai'r porffor a'r fermiliwn i'r golwg, a cherddid hwy gan gysgodion gwawl-gymylau fel gan adar cyhyrog yn ymlid y naill a'r llall. O'm blaen gorweddai'r Gors Goch, a Theifi araf yn dolennu trwyddi gan hepian a chysgu yn ei phyllau, a sylwais ar yr hen byllau y bûm—yn un o haid o fechgyn—yn ymdrochi lawer gwaith ynddynt, a deuai i'm cof unwaith eto fel y rhedem ar ei glan i'n sychu ein hunain yn yr awelon iach, canys nid oedd eisiau tywel yr adeg honno, ac yna i'r hen Athrofa yn Ystrad Meurig at y Groeg a'r Lladin, cyn iached â'r gneuen.

Gwelwn y ffyrdd a'r llwybrau, ac mewn dychymyg yr ysgolheigion yn cyniwair; a phob un â'i becyn llyfrau dan ei gesail, i Athen Cymru Fu. Adwaenwn bob llwybr a phob ffordd, a gwyddwn am bob tro ynddynt. Sawl gwaith y cerddais ac y rhodiais hwynt! Gwelwn y llwyni y bûm yn llechu yn eu cysgod ar gawod o law, neu rhag tesni'r haul, ac weithiau i ddisgwyl am ryw gydymaith y clywn ei chwibaniad iach yn dyfod oddi draw. Ac wedi'r cyfarfod, O'r llawenydd Yn union danaf gwelwn Ffos-y-bleiddiaid. Hen gartref Llwydiaid Mabws, neu'r May Bush, oedd ef. Ond ba waeth gennyf fi yn awr pwy a fu yn preswylio ynddo. Rhedai fy meddwl yn ôl at yr hen gyfoedion, a fu yno yn ysgol Ystrad Meurig. A dyma'r hen lwybr fel bwcled ar droed y Drysgol a gerddid yn ddyddiol i'r ysgol ac yn ôl. Nid yw mor goch ag y bu, eithr yma y mae yn ddigon gweledig a'r camfeydd y neidid drostynt mor heinyf. Deuent o bob cyfeiriad. O Bontrhydfendigaid a Ffair Rhos, a'r Dderw, lle nad oedd, meddai Edward Richard,

Ond blew garw'n blaguro.

O Dyn-y-graig a Swydd-ffynnon, a draw o gyfeiriad Ysbyty Ystwyth, a chyd-gyfarfyddent yn dyrfa fawr yn hen ysgol Ystrad Meurig. Yr oedd y gymdogaeth yn falch ohonynt, a hwythau yr un mor falch ohoni hithau.

Ond mae'r rhai hyn heddiw ? Am lawer ohonynt y garreg yn unig a etyb. Fel y cofiaf fod yn eu cwmni! Á phe medrai fy llaw ddilyn fy nghof tynnwn ddarlun cywir ohonynt y funud hon. Fel y carwn weled rhai ohonynt, a chael ymgom â hwynt am yr hen amser gynt. Bron nad wyf yn awr yma ar ben yr hen Drysgol yn eu gweled a'u clywed. Rhyngof a llawer ohonynt gwn nad yw'r llen ond tenau iawn, a'm bod yn agosach atynt nag at lawer o'r rhai sydd yn fyw. Gwn am un cyfoed a chyfaill sydd y tu hwnt i'r llen ers llawer blwyddyn, ac am un arall eto'n fyw, a theimlaf fod y cyfaill hwnt i'r llen yn agosach ataf na'r un sydd yr ochr yma i'r llen. Ni wn faint o gyfnewidiad sydd wedi dyfod dros y cyfaill byw, ond am y cyfaill marw dywed rhywbeth wrthyf ei fod ef yr un, a phe cyfarfyddwn ag ef yn awr ar ben y Drysgol, gwn mai'r ymgom a fyddai am yr hen amser gynt, a chryfha'r teimlad ynof y byddai yn well gennyf gyfarfod â'r hen gyfeillion y tu hwnt i'r llen na'r rhai sydd yr ochr yma. Fe fydd tragwyddoldeb yn hyfryd os cawn gyd-gyfarfod eto i fyned dros yr hen amser, a rhodio'r hen lwybrau mewn atgof. Nid oes gennyf amheuaeth fod tragwyddoldeb, a'u bod hwythau yn nhragwyddoldeb, a'u bod yn ymwybodol ohonom ni yr ochr yma i'r llen, fel yr ydym ninnau yn ymwybodol ohonynt hwythau yr ochr draw. Mi a ymdrechais wrando funud yn ôl â'm clust yn dynn wrth y llen, a thybiwn glywed sŵn a chanu, ac mai canu yr oeddynt "gân Moses a chân yr Oen". Er melysed yr atgofion a ddeuai o edrych ar yr hen lwybrau,

Daw diwedd yn ebrwydd ar bob rhyw berffeithrwydd
Ond cyfraith yr Arglwydd i'r dedwydd ŵr da.

Y mae'n hwyrhau, a'r dydd hapus hwn eto yn tynnu tua'r terfyn fel llawer un o'i flaen, a syrthni'r hwyr yn disgyn arnaf fel y gwnâi ar lawer un yn y dyddiau gynt, pan glywid,

Dolef y ddyhuddgloch yn oer ganu cnul y dydd,

o dŵr hen fynachlog Ystrad Fflur. Dua'r wybren tua Chraig-y-Foelallt, ac i bob ymddangosiad,

Mae'n bwrw 'Nghwmberwyn, a'r cysgod yn estyn,
Gwna heno fy mwthyn yn derfyn dy daith,
Cei fara cawl erfin iachusol, a chosyn,
A menyn o'r enwyn ar unwaith.


Caf innau y "bara cawl erfin iachusol a chosyn, a'r menyn o'r enwyn ar unwaith", a chwmni Edward Richard yn ei Fugeilgerddi, ac y maent lawn mor flasus â'r "bara cawl erfin".

Fore drannoeth, sef bore Sadwrn, yr oeddwn mor blygeiniol â'r hedydd, ac yn cychwyn o'r tŷ am saith o'r gloch. Yr oedd gennyf ddigon o amser i ddal y trên yn Strata Florida erbyn wyth o'r gloch. Nid oedd raid prysuro: cerdded wrth fy mhwysau a'm dygai mewn pryd i'r orsaf. Newydd dorri 'roedd y wawr, a'r deigryn eto ar ei grudd. Cerddais ymlaen ar fy mhen fy hunan yn gwbl ddibryder am y trên ond i mi'n unig beidio â sefyllian ar y ffordd. A chan ei bod mor fore nid oedd yn debygol y cyfarfyddwn â neb i arafu na phrysuro fy ngherddediad. Ar ôl y nos, dyma fore newydd eto, a phopeth ynddo yn newydd. Gwelwn y fuches yn gorwedd yn heddychol gan gnoi ei chil yn y caeau, ac yn gymysg â hi y defaid yr un mor heddychol. Codai ambell un yma a thraw i ysgwyd cwsg y nos o'u llygaid a gwlith y wawr oddi arnynt. Croesid y ffordd gan aderyn yn awr ac yn y man, ond yr oedd ei gân wedi distewi, a braidd yn fuan ydoedd hi eto i gantor yr hydref ddechrau tiwnio ei delyn. Gorffwysai rhyw ddistawrwydd santaidd ar yr holl fro. Fel y cerddai'r bore ymlaen casglai ei niwlenni teneuon ynghyd fel y briodasferch wisg ei phriodas, a gwyddwn fod hyn yn arwydd o ddiwrnod braf, ac felly y bu. Draw dacw Ystrad Fflur, a llenni llwydion y niwl yn ymddyrchafu i gyfeiriad Banc Pen-y-bannau a'u godreon wedi eu goleuo fel sidanwe'r pryf copyn. Unwaith neu ddwy disgynnodd cawod drom o wlith, "fel gwlith Hermon, yr hwn oedd yn disgyn ar fynyddoedd Seion". Tynnais fy het, a theimlwn ef yn rhedeg i lawr fel "yr ennaint ar ben Aaron, ac i lawr hyd ymyl ei wisgoedd".

Ond dyma dro yn y ffordd, a dyma'r garreg yr eisteddais arni lawer gwaith i aros hen gyfoedion, neu y prysurwn ati i'w goddiweddyd. Dyma hi yn yr un fan, ac yn yr un lle. A chan mor fyw oedd f'atgof, trois bron yn ddisymwth ac anymwybodol i edrych a welwn fy nghyfaill yn dyfod, a phan nas gwelais, tristeais yn fy meddwl. Faint a gerddwyd ar y ffordd hon! Cerddem hi bedair gwaith bob dydd, haf a gaeaf, oddigerth y gwyliau. Nid oedd un tywydd a'n lluddiai, ac nid oedd eisiau glaw-lenni'r oes honno. Digon i ni oedd llechu yng nghysgod perth, a rhedeg o lwyn i lwyn nes cyrraedd adref. Ac am gob fawr, ni welid angen amdani y dwthwn hwnnw, canys cedwid tymheredd y corff trwy redeg. Ond dacw ddau yn dyfod gan gyd-gerdded â'u llyfrau yn agored yn eu llaw. Heb wneud ei wers y mae un, ac yn ceisio cynorthwyo ei gyfaill i fynd dros y Latin neu Greek Prose cyn beiddio mynd i bresenoldeb yr athro. Dilynir hwy gan ddau arall, llai ac iau. Decleinio yr enwau y maent hwy, a chonjugatio y berfau. Sonia'r proffwyd am "sancteiddrwydd ar ffrwynau y meirch", ac ni ryfeddwn innau fod coed y maes ar y ffordd hon yn sisial-ganu Latin a Greek. Ducpwyd torrwr-cerrig y ffordd i lys barn rywdro yr amser hwnnw i dystiolaethu i'w ysgrifen, a amheuid. Rhoddwyd ef ar ei lw, a gofynnwyd iddo gan y gŵr â'r wig, chwedl yntau, a fedrai ef ysgrifennu. Dyrchafodd yntau ei lais gan bwyso ar ei ddwy ffon, ac yn crynu i'w lwynau, nid o ofn ond o henaint, dechreuodd adrodd—

Arma virumque cano Trojae qui primus ab oris.

Cofiaf glywed yr hen ŵr yn adrodd y tro hwn gyda chryn ddireidi yng nghil ei lygad.

Ond rhaid mynd ymlaen. A dyma ben llwybr y Ffos yn arllwys ei ysgolheigion. Gelwid hwy yn ysgolheigion y Ffos i'w gwahaniaethu oddi wrth ysgolheigion lleoedd eraill: rhifent tua hanner dwsin. Ac yn is i lawr—ar riw Castell—ymunir â hwy gan ysgolheigion Tyn-y-coed, a chyn pen nemor o funudau byddai mynwent Ystrad Meurig yn orlawn o efrydwyr. Dacw'r Prifathro a'r athrawon cynorthwyol yn eu gynau a'u capiau colegol yn dyfod i fyny o Fronmeurig. Tinc neu ddau ar y gloch, a dyna'r fynwent yn wag, a'r ysgoldy yn llawn. Ychydig is i lawr, a dyma orsaf Strata Florida, a'r trên yn chwythu colofnau o fwg a hithau yn bur llaith a mwll, ac yn y tywyllwch rhannol hwn neidiais i mewn a diflannu.

III

PENNOD YM MYWYD ELIS O'R NANT

YM mlwyddyn y tair sbectol (1888) y deuthum i adnabyddiaeth gyntaf â'r gŵr sydd â'i enw uwchben yr ysgrif hon. Yr oedd hynny yn Awst neu Fedi—un o fisoedd ein Gŵyl Genedlaethol, a gynhaliwyd y flwyddyn honno yn Wrecsam. Ar un o ddyddiau'r ŵyl, rhodiannwn yn hamddenol o amgylch y babell, ac yn ddamweiniol hollol deuthum ar draws stondin lyfrau, a thu ôl iddi yr oedd dyn bychan, cringoch, a golwg ddigon sarrug arno. Rhedai fy llygaid dros y gwahanol lyfrau a osodwyd yn drefnus ar y bwrdd, ac wrth gwrs yr oeddynt i gyd yn Gymraeg. Wedi edrych drostynt, ac agor ambell un, pigais ramant hanesyddol ar Gruffydd Ap Cynan gan Elis o'r Nant. Teflais fy swllt i'r bwrdd tra gwichiai'r gŵr bach ei gymeradwyaeth i'm chwaeth lenyddol. Gydag imi droi ar fy sawdl, a'm trysor eto yn fy llaw, dyma Tudno yn cyfarch y llyfrwerthwr wrth ei enw, yr hwn oedd yn neb llai, er fy syndod, nag Elis o'r Nant. Ie, dyna'r hen Elis y deuthum wedyn mor gydnabyddus ag ef. Drannoeth neu dradwy, yr oeddwn yng ngorymdaith y beirdd i'r Orsedd erbyn wyth o'r gloch y bore. Rhagflaenid yr orymdaith gan Glwydfardd, yr Archdderwydd, a chydag ef Hwfa Môn (a gam-gyfieithiwyd yn Eisteddfod Caernarfon wedyn gan y London Illustrated News, yn Half Moon). Dilynid yr orymdaith gan dwysged o feirdd yn driphlith-draphlith. Wrth deithio ymlaen canfyddem rywun yn cysgu, neu yn honni cysgu, yn ochr y clawdd, ac wedi nesu ato gwelem ei becyn llyfrau dan ei ben, a'i ffon yn ei ymyl. Safodd yr Archdderwydd gan ysgwyd ei ben, fel nas gall neb wneud ond Archdderwydd, ac edrychai yn syn ar y cysgadur. Cyffyrddodd ag ef unwaith neu ddwy â blaen ei ffon. "Hei", meddai o'r diwedd, "pwy sydd yma ?" "Elis o'r Nant oedd yma neithiwr", meddai'r cysgadur gan rwbio ei lygaid, ac yn y man yr oedd mor hoyw â neb yn yr orymdaith.

Ymhen dwy flynedd wedyn yr oeddwn yn Llanrwst, ac yng nghwmni Tudno, Gwilym Cowlyd, Gwalchmai, a dreuliai ei hafau y blynyddoedd hynny yn Nhrefriw, ac eraill, ac yn eu plith Elis o'r Nant. Ymwelai Elis yn fynych â'r Prifardd Pendant yn Heol Watling mewn ystafell fechan y tu cefn i'r siop, a'r hon a elwid ganddo yn sanctum sanctorum. Un arall o'r frawdoliaeth oedd Penfro. Unwaith bob blwyddyn cynhelid yr Arwest ar lawnt llyn Geirionydd, dan gysgod Colofn Taliesin Ben Beirdd, gyferbyn â Bryn y Caniadau. Gwilym Cowlyd oedd y Prifardd Pendant, Elis o'r Nant y Cofiadur, a Phenfro yn Fardd yr Orsedd. Ar y pererindodau i'r Arwest ac yn ôl, mwynhad digyffelyb oedd cael bod yng nghwmni'r Prifardd Pendant a'r Cofiadur. Yr oedd Gwilym yn ddifrifolwch hyd flaenion ei fysedd, ac yntau Elis yn byrlymu o ddireidi. Pennid arholwyr i brofi gwybodaeth ymgeiswyr am urddau'r Orsedd. Trosglwyddwyd y beirdd un flwyddyn i ofal Elis a minnau. Y rhai hyn oedd ddisgyblion ysbas, ac yr oedd yr arholiad yn ddigon hawdd. Gofynnid mwy gan y disgyblion cyfallwy. Eisteddwyd i lawr ar garreg droed Colofn Taliesin, a dechreuwyd ar yr arholiad. I'm rhan i y disgynnai eu holi yn y cynganeddion. Ymysg yr ymgeiswyr yr oedd crydd, wedi dyfod yr holl ffordd o Riwabon am urdd bardd, a gofynnodd am ganiatâd i wneud un sylw, a chaniatâwyd iddo gan y Cofiadur ar y telerau ei fod yn fyr ac i bwynt. Dywedodd mai crydd oedd wrth ei alwedigaeth, ac nad oedd ganddo amser i ddysgu'r cynganeddion. Holwyd ef yn ei alwedigaeth yn fanwl gan Elis, a hawliai weled esgid o'i waith cyn y gallai ei gymeradwyo i'r Prifardd Pendant. Dangosodd yntau yr esgid am ei droed, a gyfrifid gan Elis yn gystal ag englyn. Rhoddwyd iddo ysnoden las, a thrwydded i'r Cylch Cyfrin ar Fryn y Caniadau. Ar ei ymadawiad cynghorwyd ef gan Elis i gadw wrth ei last a gadael i'r cynganeddion fod, yr hyn yn ddiamau a wnaeth, oherwydd ni chlywyd byth sôn amdano wedyn, hyd y gwn i.

Un tro yr oeddem i gychwyn yn dra bore i Fryn y Caniadau i arolygu'r Meini Gwynion a'r Gwyngyll. Cyrhaeddwyd preswyl Gwilym oddeutu saith o'r gloch. Yno yr oedd Gwilym yn gwneud y darpariadau angenrheidiol, a'r Cofiadur yn trefnu rhestr yr ymgeiswyr, tra oedd Robin Un Llygad—rhyw fath o factotum i Gwilym—yn paratoi coginio bacwn, a berwi dwfr i wneud cwpanaid o goffi, ac yr oedd y bacwn a'r coffi am y duaf. Ni fynnai Elis am y byd gyfranogi o'r fath bryd. Nid am nad oedd yn hoff o facwn a choffi, ond am fod y ddau yn rhy debyg i liw wyneb a dwylo'r coginiwr.

Cyrhaeddwyd lawnt y llyn yn brydlon, ac ar awr anterth yr oedd y Cofiadur wedi gosod Ceidwad y Meini a Gwŷr y Gwyngyll yn eu safleoedd priodol, ac yng ngŵydd tyrfa bur fawr arweiniodd Gwilym yr Archdderwydd am y dydd i'w le—a'r Archdderwydd y dwthwn hwnnw oedd hynafgwr urddasol o dref Llanrwst. Erbyn deuddeg o'r gloch yr oedd popeth yn barod, a'r gair olaf wedi ei ddywedyd gan Elis. I'r funud am ddeuddeg dyma orchymyn o'r orsedd ar i bawb noethi eu pennau, er ei bod yn annioddefol o boeth. Rhaid oedd ufuddhau canys beth am y canlyniadau. Yr oedd cnwd o wallt ar ben Gwilym ac Elis, ond am yr Archdderwydd, druan ohono, yr oedd ei wallt ac yntau wedi ymadael â'i gilydd ers ystalm o amser. Gwnaed ymdrech i gyfryngu ar ran yr Archdderwydd, iddo gael rhywbeth i guddio ei gorun moel, ond yr oedd difrifolwch Gwilym a direidi Elis yn ormod o wrthglawdd i wthio'r cyfryngiad trwodd. Ofnem am y canlyniadau pan glywyd gorchymyn arall yn dyfod o'r orsedd ar i bawb o fewn y cylch roddi eu llaw ddeau ar eu morddwyd aswy. I gyflawni hyn rhaid oedd ystumio'r corff, a'i gadw yn yr ystum honno am ysbaid hir. Gofynnwyd am heddwch ar lafn noeth y cledd, a chafwyd taranau ohono. Pan weiniwyd y cledd drachefn yr oedd wedi un o'r gloch. Ar ddiwedd y gweithrediadau, da oedd gan lawer ohonom dynnu at lan y llyn i oeri tipyn ar ein pennau yn ei ddyfroedd grisialaidd.

Drannoeth cyfarfûm â phriod yr Archdderwydd, a'n condemniai yn ddigon haeddiannol am gadw hynafgwr moel yng ngwres yr haul am gymaint o amser. Gwaeddai am heddwch yn ei gwsg, ac os na châi ateb boddhaol pwniai ei gymar nes ei bod yn ddu ac yn las.

Ymhen rhyw ddwy neu dair blynedd wedyn yr oeddwn yn gymydog i Elis yng ngwlad y gog, chwedl yr ardalwyr am Ddolwyddelan. Treuliais lawer o amser yn ei gwmni tra oeddwn yma. Arferwn ei weled bron yn ddyddiol, ac nid oedd trai ar ei arabedd a'i ddireidi. Y trosedd mwyaf y gellid ei gyflawni yn ei erbyn oedd holi prisiau llyfrau yn ei siop heb brynu yr un. Un tro yr oedd Proffeswr o Rydychen ar ymweliad â'r lle, aeth i siop Elis, a rhedai ei lygaid dros y silffoedd llyfrau, gan holi pris ambell un. Treuliodd dipyn o amser felly, ac Elis o'r tu ôl i'r cownter yn gwichian ei atebion. O'r diwedd trodd y Proffeswr i ymddiddan am yr ardal. Ac ymysg pethau eraill dywedodd mai'r hyn a'i trawodd ef fwyaf oedd tlodi'r ardal o foneddwyr. "Welais i ddim boneddwr yma o gwbl", meddai'r gŵr dieithr—"I don't know so much about that", oedd yr atebiad. "Fodd bynnag", medd y Proffeswr, "ni welais i yr un er pan wyf yn y lle". "Nid wyf innau", meddai Elis, "yn gweled boneddwr yn awr", a'r funud honno yr oedd ei law yng nghoes y brws, a'r Proffeswr yn ei goleuo hi ar draws y ddôl am ei einioes. Hyfrydwch digymysg oedd clywed Elis yn adrodd yr ystori hon, a gwnâi hynny pan oedd mewn hwyl ag eneiniad, gan roddi rhyw ychwanegiad bychan cryno ati. Yr oedd yn hollol ddirodres, ac mor olau â'r dydd.

Cofiaf ddathliad Diamond Jubilee y Frenhines Victoria. Yr oedd yr ysgoldy yn orlawn o'r trigolion yn trefnu gogyfer â rhoddi te i'r plant a'r oedrannus, ac Elis yn ysgrifennydd. Cyfododd y cwestiwn sut i dreulio'r noson honno mewn undeb â'n gilydd. Awgrymai un y priodoldeb o gynnal Cwrdd Gweddi Undebol. Ar amrantiad dyma Elis ar ei draed ac yn dywedyd "Taw yr ynfyd (ond gair mwy sathredig a ddefnyddiodd ar y pryd), pwy ddaw i wrando ar dy weddi di?--ddo' i ddim". Rhoddodd hyn derfyn ar y Cwrdd Gweddi. Nid taflu unrhyw ddiystyrwch ar Gwrdd Gweddi oedd amcan Elis, oherwydd nid oedd neb yn fwy parchus o bethau cysegredig nag ef yn eu lle a'u hamser priodol.

"Fachgen", meddai un diwrnod, "y mae arnaf ofn y bydd yn rhaid i mi gwrtio hwn a hwn am driswllt. Ond yr wyf yn myned i roddi un cynnig iddo". Gwyddwn yn dda nad oedd dim ymhellach o feddwl Elis na chwrtio, na dim ymhellach o feddwl y dyledwr na chael ei gwrtio. Ymhen ychydig ddyddiau wedyn gwelwn Elis yn wên o glust i glust wedi cael ei driswllt, ac englyn i'r fargen, a phleser oedd clywed Elis yn adrodd yr englyn, yr hyn a wnâi ac eithrio'r drydedd linell—

Rhaid hwylio i'r brawd Elis—ei driswllt,
Neu drysa'i ben dibris ;
Rhaid rhoi i rog ei grogbris
Neu fe brawf yn fwy o bris.


Rhag ofn i drydedd llinell yr englyn direidus hwn adael argraff annheg ar goffadwriaeth Elis, dywedaf yma na fu dim ymhellach o'i feddwl na rogni, na dim ymhellach o feddwl yr awdwr na rogni—englyn hollol ddireidus ydyw. I'r gorlan Fethodistaidd yr arferai Elis fyned ar y Sul, ond pan glywai fod awdur yr englyn direidus uchod i bregethu yn yr Eglwys hwyliai ei hun yn barod i ddyfod yno. Gyda dyfodiad y trên i'r orsaf, gellid ei weled yn dyfod ar bwys ei ffon i'n cyfarfod. Ac ar ganiad y gloch cyfeiriai tua'r Eglwys yng nghwmni y diweddar Mr. Davies, Penlan, un o'r wardeniaid. Ac ni fu dau erioed yn mwynhau'r gwasanaeth a'r genadwri yn well. Rhaid oedd myned gydag ef un diwrnod i Benmachno a'r Cwm heibio i ffriddoedd Tŷ Mawr, yr Wybrnant a Than-y-clogwyn a heibio i'r meini â'r croesau, ar hyd hen lwybr y ceffyl pwn, a oedd mewn rhai mannau wedi hen ddiflannu. Dyma'r fro fynyddig y bu'r Esgob Morgan yn bugeilio defaid ei dad yng nghwmni'r hen fynach hwnnw, a osododd yn ei ddisgybl sylfeini ei ddyfodol, ac a'i gwnaeth ef yn brif gymwynaswr Cymru. Aethom heibio i graig a elwid yn bulpud yr Esgob Morgan, oddi wrth y traddodiad yr arferai bregethu ar y graig honno pan oedd ar ffo. Ie, dyma'r cerrig a'r croesau ynddynt yn llawn mwsogl, a hyn oedd yn arwydd i fam yr Esgob Morgan fod y wlad yn myned yn ddiweddi. Duwioldeb y fam a llafur yr hen fynach a roddodd ei gyfeiriad i'r Esgob Morgan. Cwymp mynachaeth yn Nyffryn Conwy a fu yn foddion anuniongyrchol i roddi'r Beibl yn yr iaith Gymraeg yn gyflawn a chyda'i gilydd. Ymlaen â ni hyd nes dyfod at ffos o ddwfr, ac arhoswyd i ystyried y sefyllfa. Gan fod Elis yn gloff o'i goes dde a wnâi K bob cam, cymerais fy siawns i neidio drosodd yn gyntaf gyda'r canlyniad i'm coes dde innau suddo yn y ffos hyd gymdogaeth y ben-glin. Tra fûm i yn ceisio sychu tipyn arni gwelwn Elis yn brasgamu â'i holl nerth. Gwaeddais arno i b'le yr oedd yn mynd. "I gwrdd â chwi yn Awstralia", meddai yntau yn ddigon direidus.

Yr oedd Elis a minnau ar bwyllgor yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd ym Mlaenau Ffestiniog, ac yn un o'r cyfarfodydd yr oedd dewis beirniaid. Croes i feddwl Elis yr âi pethau ymlaen, a gwelai yn ddigon amlwg y gwifrau, a methu dal a wnaeth, ac allan ag ef fel mellten, gan ysgwyd ei ddwrn yn wyneb rhyw weinidog a fynnai ormod o'i ffordd ei hun yn ôl tyb Elis. Wedi ailgyfarfod ag ef allan, a hithau yn bwrw glaw y Blaenau, a'r ffordd yn lleid-wlyb, "Yr oeddech braidd yn bigog heno", meddwn wrtho. "Fachgen", meddai yntau, "mi pilsiais i nhw", a chyda hyn chwarddodd nes y ffrwydrodd ei ddwy res o ddannedd gosod allan o'i enau ac i'r ffordd, a dyna lle yr oedd Elis yn eu casglu â'i law, a'u rhoddi ym mhoced ei drowsus. Adroddais yr ystori hon wrth yr un englynwr ag o'r blaen, ac yn ddiymdroi adroddodd yr englyn a ganlyn:—

Ai Elis welir isod—yn ei warth
Herwydd chwerthin gormod?
Yn y baw mae'n mynnu bod
I geisio'i ddannedd gosod.

Gellid ychwanegu llawer i'r cyfeiriad uchod, ond teimlaf fod hynyna yn ddigon o fynegiad o gymeriad ein gwrthrych.

Prif nodweddion ei gymeriad oedd:—

i. Direidi hyd at wamalwch. Yr oedd yn Gelt i'r gwraidd, a disgynnai o wehelyth yr Esgob Morgan, ac mewn canlyniad o un o'r llwythau Cymreig. Anodd oedd cael golwg ar ochr ddifrifol ei gymeriad.

ii. Meddai ar allu meddyliol cryf a chrebwyll buan, ac ysgrifennodd rai pethau a bery yn hir yn yr iaith. Y mae ei Nanws ach Robert yn rhagorol. Ychydig o ddisgyblaeth ar ei feddwl afreolus a fyddai wedi ei ddyrchafu yn uwch ym mysg llenorion ei wlad.

iii. Rhyddfrydwr ac Ymneilltuwr ydoedd. Oddi adnabyddiaeth bur fanwl ohono, nid wyf yn meddwl fod Rhyddfrydiaeth ac Ymneilltuaeth ei ddydd yn gydnaws â'i ysbryd aflonydd pe treiddid yn ddigon dwfn i'w fodolaeth i wneud ymchwiliad. Fel llawer un arall, Celt Ceidwadol ac Eglwysig oedd wedi myned ar grwydr, ac wedi colli'r ffordd i ddyfod yn ôl.

iv. Yr oedd yn ddyn caredig a chymwynasgar, parod i gydymdeimlo â'r gwan, a chynorthwyo'r rheidus.

v. Meddai ar ddynoliaeth gref, yn byrlymu o natur dda. Wedi'r helynt a'r direidi, y syrthio a'r sefyll:—

Y bedd oedd diwedd ei daith.

IV

AWEL O'R DYDDIAU GYNT

MAWR oedd fy mwynhad pan anfonwyd fi ar neges i ffair yn Nhregaron a gynhelid yno rhwng y Nadolig a'r Calan, a mi ar y pryd o gwmpas deuddeg oed. Ac yr oeddwn i fynd ar fy mhen fy hun, ac arian yn fy mhoced i godi tocyn trên, ac ychydig geiniogau dros ben, a siars i beidio â gwario'r cwbl, a dychwelyd yn ddi-ffael gyda'r trên pump. Cychwynnais i'm gyrfa yn llon fy ysbryd, a chyrhaeddais Dregaron yn gynnar yn y prynhawn. Rhodiennais o amgylch y dref a oedd yn frith o stondinnau yn gwerthu pob math o nwyddau a moethau. Ar un stondin gwerthid bara sinsir gan hen wraig o Gaerfyrddin, a phrynais dipyn ohono. Ac ar stondin arall gwerthid cnau gan hen ŵr o odre'r wlad, a phrynais geiniogwerth neu ddwy ohonynt hwythau. Ar y sgwâr yr oedd Dic Dywyll, pen baledwr Cymru y dwthwn hwnnw, yn canu cerdd y Blotyn Du, a bwndel o gerddi dan ei gesail, ac yn eu gwerthu am geiniog yr un. Yr oedd mynd mawr ar y Blotyn Du, canys gofynnid iddo ei chanu drosodd a throsodd drachefn, a'r gwragedd a'r merched yn cael rhyw fwynhad rhyfedd wrth sychu eu dagrau a bwyta bara sinsir bob yn ail, ac nid oedd y dynion hwythau yn eu closau pen-glin yn rhyw wynebsych iawn; ac amlwg oedd bod llais y baledwr yn cyffwrdd â llinynnau tyneraf eu calon. Prynais ddwy neu dair o'r cerddi, ac yn enwedig gerdd y Blotyn Du, sydd yn fy meddiant heddiw. Cerddais oddi yno at werthwr almanaciau a thyrfa dda yn ei amgylchu. Gwaeddai ef "Almanaciau'r Miloedd dimeiau'r un' ', a phan estynnid iddo ddimai yn gyfnewid am almanac, ond na, nid dyna a ddywedai ef ond 'dimeiau'r un",—dwy ddimai, a thelid hwy heb omedd ond gan ambell hen gybydd. Prynais innau almanac.

Yn awr, a'r amser wedi mynd, gofynnais faint o'r gloch oedd hi i hen ŵr yn fy ymyl, a dywedodd ei bod wedi troi pedwar. Yr oedd yn bryd gwneud am yr orsaf, ond yr oedd yr arian wedi eu gwario bob ceiniog, ac ni feddyliais godi tocyn deuben wrth gychwyn. Arhosais ar bont Brennig yn syn a mud gan ddyfalu beth i'w wneud. Nesâi'r nos, a disgynnai’r eira yn blu mawrion, a'r ewinrhew ar fy mysedd. Heb wybod b'le i droi, na pheth i'w wneud, dyma John Richards, Ynys-y-bont, heibio, yn fachgen ifanc, glandeg yr olwg, a chadwyn oriawr a sêl ac allweddau yn hongian o boced fach ei drowsus, ac ef oedd fy athro yn yr Ysgol Sul. Daeth ataf, a dywedodd y cawn fynd adref yn ei gwmni ef, ac y byddai'n cychwyn ymhen rhyw ugain munud. Dilynais ef weithian o hirbell rhag colli golwg arno yn ei gyniweiriadau troed aden ar hyd yr heolydd.

Daeth yr ugain munud i ben, a chychwynnwyd, a'r dwyreinwynt yn chwythu'r plu gwlanog yn driphlith-draphlith, ac yma ac acw, nes o'r bron ein dallu weithiau, a'r gorniog loer yn welw a phrudd. Brasgamwyd heibio i'r orsaf ac ymlaen at Picadili, fel y gelwid bwthyn bychan to gwellt ar y llaw chwith rhwng y dref a Phonteinion. Cyn dyfod at y bont, gwelem ddyn yn dyfod allan o gysgod y gwrych yn fwy i'r ffordd. "Hen drempyn ydyw", meddai John, gan afael yn fy llaw a phwyso at fy ochr i. Daethpwyd at y dyn, a ofynnodd yn Saesneg faint o'r gloch oedd hi. "No watch", meddai John, er bod y gorniog loer yn datguddio cadwyn oriawr a sêl ac allweddau yn crogi o boced ei drowsus. "Have you a match?" oedd y cais nesaf, a "No match", oedd yr ateb, a'r tro hwn yn ddigon gwir. "I'll match you", meddai'r tramp, a chyda hyn dyna John fel ewig ofnus dros y bont a'r tramp ar ei ôl, a thrwst y pedair troed fel carlamiad march a ddisgrifir gan Fyrsil,—"Quadrupedentem putrem sonitu quatit singula campum", a bygythion a llwon y tramp yn rhwygo'r awyr ddistaw.

Y peth gorau i mi'n awr oedd rhoddi digon o bellter rhyngof a'r afon rhag i'r dyn yn ei gynddaredd fy nhaflu drosodd, a phrysurais ymlaen i glywed sŵn y tramp yn dychwelyd, ac yn y man yr oeddwn wyneb-yn-wyneb ag ef er fy mawr ddychryn ac ofn. Holodd fi'n awr a oedd gennyf oriawr, ac a oedd gennyf flwch matsis. Datododd wedyn fotymau fy nghôt i weld ai gwir fy atebion. Yr oedd chwant arno, meddai, fy narnio a rhoddi'r tipyn corff a feddwn yn fwyd i'r fall, neu 'nhaflu dros y bont i'r afon, neu 'nghicio i ganol yr wythnos nesaf, a chiliodd gam neu ddau'n ôl i roddi arddangosiad o'i fedr i wneuthur hynny. A dyna fu'r cyfle, a rhoddais fy nhraed yn y tir gymaint ag a fedrwn, canys gwyddwn yn awr y dibynnai fy nhynged ar gyflymder fy nhraed, a chofiais a ddywedodd y Salmydd mewn rhyw gyfyngder cyffelyb—"Gosodaist fy nhraed fel traed ewigod", ac yr oeddwn gryn dipyn yn gyflymach fy nhroed y pryd hwnnw na heddiw. Fy ngobaith yn awr oedd cael y gât o'r ffordd fawr i'r llwybr yn agored, a chedwais olwg graff amdani, a'm hymlidydd wrth fy sodlau â sŵn ei anadlu yn fy nghlustiau.

Oedd, yr oedd y llidiart yn gilagored, canys trwyddo ef yr aethai fy hen athro ; ac yn awr yr oeddwn yn ddiogel a'r tramp wrth yr adwy yn hyrddio bygythion a llwon ar fy ôl nad oedd dim niwaid ynddynt mwy na halogi nos mor ddistaw a santaidd.

O'r diwedd goddiweddais fy amddiffynnydd a'm cydymaith, ac adroddais wrtho fy helynt a'r waredigaeth gyfyng a gefais—megis o "safn y llew", ac iddo ddywedyd y byddai gyda ni eto. Cyd-gerddasom yn ddistaw ymlaen, a'n meddyliau ynghlwm wrth y waredigaeth, nes dyfod ohonom dan Lwyngwinau. Ac yno gofynnodd John a oedd arnaf ofn mynd adref ar fy mhen fy hun gan fod arno awydd dychwelyd a thalu'r pwyth yn ôl i'r tramp, hyd yn oed pe costiai hynny ci fywyd iddo. Ar y gair clywem drwst cerddediad a barodd inni brysuro yn ein blaenau, ac ar frys dros y cwmins a'r bont ar Gamddwr, ac ar lawr cegin Ynys-y-bont yr arhoswyd gyntaf. Yno yr oedd Dafydd y Gwehydd a John Picin yn adrodd am eu hysgarmesau ym myd yr ysbrydion, Dafydd fel y clywodd ei ysbryd ef ei hun wrth y gwŷdd yn Nhancwarel, a John fel y dilynwyd ef gan ladi wen dan yr Hendre wrth ddyfod o Ysbyty Ystwyth.

Adroddodd John ein helynt yn fanwl, ac "oni bai am hwn", meddai, gan bwyntio ei fys ataf gyda rhyw gymaint o ddirmyg, "mi a wnawn â'r tramp fel y gwneuthum â'r wâdd honno a gleddais yn fyw pan oeddwn yn aredig y cae gwenith gaea; mi a'i claddwn yntau yn fyw yn y Gors Goch". Ac yr oedd am fynd yn ôl y funud honno i gyflawni ei fwriad. Rhedwyd i gloi'r drws rhag iddo fynd, a chuddio'r allwedd a bachu'r ffenestri. Perswadiwyd ef o'r diwedd i gymryd cwpanaid o de a ddofodd ei lid i fesur helaeth, a'r ddau ymwelydd yn pwffian colofnau o fwg i'r simnai. A'u barn hwy oedd mai ysbryd a welsom, ac nad oedd o un diben i ymladd ag ysbryd, a chydsyniodd John â'r syniad, canys fe wyddai yntau mai rhwng y Nadolig a'r Calan y cyniweiriai'r ysbrydion.

Rhaid ydoedd i mi'n awr feddwl am fynd adref, ac wynebu croeso na wyddwn yn iawn ei natur, ond gwyddwn yn iawn fy haeddiant am dorri f'addewid i ddychwelyd gyda'r trên pump, a hi'n awr rhwng saith ac wyth o'r gloch, a hithau yn nyfnder gaeaf, a minnau ond o gwmpas deuddeg oed. Yn ffyddlon i'r diwedd fe gododd fy hen athro i fynd â mi adref, a bod o'm plaid pe bai angen. Ac felly yr aethpwyd nes cyrraedd ohonom y sticil sy'n croesi o dir Ynys-y-bont i dir Pen-y-bryn. Gwell, yn ôl meddwl fy hen athro, oedd i mi ei dringo'n gynta' rhag ofn i rywbeth ddyfod o'r tu ôl a'm cipio ymaith fel y cipiwyd y Bardd Cwsg.

Erbyn hyn yr oedd trwch o eira ar y ddaear, a chynfasau gwynion ohono ar y perthi a'r llwyni, a'r lloer yn welw a phrudd, a rhyw ddistawrwydd llethol ar fro a bryn. A ni'n nesu at y sticil, a mi a'm troed ar y ffon isaf iddi, clywem ochenaid fel ochenaid plentyn â'r pâs. Clustfeiniwyd, a chlywyd drachefn riddfan pruddglwyfus yn dyfod o'r berth ddrain, a'r peth cyntaf wedyn oedd clywed trwst rhedeg fy nghydymaith yn ôl, ac ni fûm innau funud yn hwy nag y gallwn heb ddilyn ei esampl. Cyraeddasom y tŷ cysurus y newydd gefnasem arno â dychryn ac ofn yn argraffedig ar ein gwedd, a'n calonnau yn curo fel tabyrddau a'n hanadl yn ein gyddfau. Adroddodd John yr hanes a'r ddau ymwelydd yn llygadrythu o ganol cymylau o fwg, a chredaf i'r ddau smocio ymaith flynyddoedd o'u hoes.

Rhaid ydoedd i mi fynd adref, canys gwyddwn fod yno bryder nid bychan amdanaf, a hwythau wedi fy sarsio i ddyfod yn ôl gyda'r trên pump, ac yr oedd hi'n awr o gwmpas naw o'r gloch.

Yr unig un a gynigiodd ei wasanaeth oedd William Richards, a phenderfynodd y ddau ymwelydd fanteisio ar ein cwmni i fynd adref, a chychwynnwyd i'r daith. Bachgen rhadlon a di-ofn oedd William, ac anghredadun pendant ym myd yr ysbrydion. Yr oeddem yn awr yn bedwar, a William Richards ar y blaen â phastwn celynen yn ei law. Cyrhaeddwyd sticil yr ysbryd; clustfeiniwyd, a chlywyd griddfan ac ochneidio'n debyg i ddafad â'r bendro.

Cyngor Dafydd a John oedd ffoi tra oedd cyfle. Ond nid un i'w ddychrynu ar chwarae bach oedd William, er bod ei gluniau yntau ar y pryd yn dechrau crynu a'i ddannedd yn clecian. Ond er gwaethaf y cwbl fe arhoes ei fwa ef yn gryf a'i fraich yn nerthol. Nesâwyd at y berth a'r ysbryd, a phob un mor agos ag y gallai i William, ac yntau fel craig mewn rhyferthwy. Yr oedd yr eira yn drwch ar y berth, a ninnau fel rhai wedi dyfod o fryniau ia y Gogledd. Erfyniai Dafydd a John ar William i beidio â rhyfygu, ond yn ei flaen yr aeth ef, a minnau a'm gafael yn ymyl ei gôt, ac yn cydio'n dynnach, dynnach, ynddi fel y nesaem, a John a Dafydd yn dilyn lwyr eu cefnau. Ac yno o ganol y berth syllai arnom ddau lygad tân, a'r funud nesaf clywem y ddau ddyn yn rhuthro dros y clawdd gyferbyn, a chŵn Pen-y-bryn yn cyfarth ar eu hôl, ac wrth gyfarthiad y cŵn y gwyddem eu cyfeiriad. Daliodd William, a minnau yn ei gysgod, i syllu ar y ddau lygad tân a gwrando ar y griddfannu. Ofnem fynd yn nes, ond ni fynnai William ffoi cyn datrys ohono'r dirgelwch. Amdanaf i, druan, ni wyddwn pa un ai ar fy mhen neu 'nhraed y safwn, na pha un ai gwaed neu chwys a redai ar hyd pob modfedd ohonof. Ciliodd William gam neu ddau'n ôl, a safodd a'i bastwn celynnen yn ei law, a chyfarchodd y gwrthrych a lochesai yn y llwyn â'r geiriau hyn—"Yr wyfi, William Richards, o Ynys-y-bont, yn enw Gog a Magog, yn dy dynghedu di, pwy bynnag neu beth bynnag ydwyt, dyn ai ysbryd, i ddyfod i lawr o'th lwyfan yn y llwyn a dangos dy hun, neu ar ôl cyfrif tri fe fydd i mi fwrw carreg i'r llwyn, ac efallai i'th ben, ac yn awr yr wyf yn mynd i ddechrau cyfrif". Arhosodd dipyn ar ôl hyn, a dechreuodd gyfrif-"Un, dau, tri. Ac yn awr amdani, a gwylia di dy hun", a thaflodd y garreg â'i holl nerth nes tasgu o'r eira yn gawod o ffluwch. Clywn rywbeth yn disgyn i ochr y clawdd, ac fel pe'n ysgwyd ei adenydd. Nesâwyd yn araf, ac yno yr oedd hen gwdihŵ wedi torri ei haden, nid gan ergyd y garreg, ond rywdro cyn hynny. Cododd William hi, a rhoes hi dan ei gesail, ac ymaith â ni tuag adref.

Mawr oedd y syndod o'n gweld adref mor gynnar, ond mwy oedd ein syndod ni o weld y ddau ffoadur—Dafydd a John—yn ysmygu o flaen tanllwyth o dân ar yr aelwyd, ac yn adrodd stori yr ysbryd, gan ychwanegu ati, ac yn dal i ddywedyd i William a minnau ffoi am ein hoedl i gyfeiriad y bont ar Gamddwr. Yr oeddynt hwy wedi gweld yr ysbryd â'u llygaid noethion, Dafydd wedi sylwi ar y ffwrneisi tân, a John ar ei glustiau, na welodd eu mwy erioed yn ei fywyd, ond ar bennau mulod Dafydd Jones, y Rest. "Wel", meddai William, "y mae'r ysbryd tu allan i'r drws y munud yma, ac mi a ddof ag ef i fewn yn awr i chwi ei weld". "Na, ymswynwch, William", meddai Mari Gam, a'i dau lygad cyn ddued â'r muchudd a gweill yr hosan yn clecian rhwng ei bysedd, ac yn codi un ohonynt i gosi y tu ôl i'w chlust. Fe wyddai hi trwy brofiad beth oedd bod mewn ymryson â macwyaid y nos ar rostiroedd diffaith ac anial heb ddim i'w chysgodi ond ei mantell. "Na", meddai drachefn, "ymswynwch, a pheidiwch â chellwair â galluoedd y tywyllwch". Erbyn hyn yr oedd Dafydd a John yn dirgrynu a gwelwi gan ofnau, ac yn barod i ffoi ar y cyfleustra cyntaf, ond yr oedd William rhyngddynt a'r drws.

Yr oeddwn i eisoes wedi darganfod arwyddion o anfoddogrwydd yn wynebau fy rhieni, a bu bron imi â syrthio yn gelain ar y llawr pan ofynasant imi edrych ar y cloc a bwyntiai ei fysedd at un ar ddeg. Ni ddywedwyd gair, ond yr oedd yr edrychiad yn ddigon, a minnau heb ddim ond hanner tafell o fara sinsir ac ychydig gnau i roddi'n aberth am fy nhrosedd. Gwelodd Mari Gam, coffa da am ei henw, ystyr yr arwyddion, a chynghorodd fy nhad a mam i fod yn ddiolchgar am fod y "bachgen bach" yn fyw ar ôl ymgiprys ohono â theulu'r fall, a thynnodd fi yn nes ati, ac aroglodd fy nillad. "Oes", meddai, "y mae arogl y gwyll arno, ac yr wyt tithau, William, â'th ddillad yn llawn o frwmstan y gwn yn dda amdano". Ar hyn rhedodd William i nôl yr hen aderyn, a dangosodd ef i bobl y tŷ, ond er ei weld ac edrych arno, daliai Dafydd a John a Mari Gam i gredu mai rhith oedd y gwdihw o ysbrydion y nos, a bod William mewn cynghrair â hwynt.


V

CWM HIR A CHEFN-Y-BEDD

UN o'm hamcanion yn mynd i Landrindod oedd ymweld ag Abaty Cwm Hir a Chefn-y-bedd. Cychwynnais yn weddol fore, a tharth a niwl yn gorchuddio bro a bryn, ac yr oeddem fel rhai yn ymlwybro trwy wlad hud a lledrith. Golwg ddigon diflas oedd ar bawb a phopeth a gwrddem neu a basiem nes cyrraedd ohonom Langurig a gweld Pumlumon fel am ymddiosg o'i wisg nos i gyfarch pelydrau bywhaol yr haul. O'r fan honno ymlaen daeth yr haul i chwarae mig rhwng y cymylau, ac ymlawenhâi pawb a phopeth yn ei wenau siriol. Yn awr yr oeddem yn nechrau dyffryn Gwy. Ymlaen â ni trwy Raeadr, a gamy-sgrifennir yn Rhayader, a Nant Mêl, nes cyrraedd ohonom Ben-y-bont ac yn fuan yr oeddem yng Nghwm Hir a saith milltir o deithio i'w gwr uchaf.

Y llwybrau gynt lle bu'r gân
Yw lleoedd y dylluan.

Yn cyd-redeg â'r ffordd a deithiem y mae'r afonig fechan Clywedog, yn murmur-ganu ar ei thaith, a dywedyd yn hyglyw i'r glust a glyw, "Môr, môr, i mi". Y mae afonydd eraill yng Nghymru, o'r hyn lleiaf yng Ngogledd Cymru, o'r un enw swynol. Mor seinber yw enwau afonydd ac aberoedd Cymru—Hafren (brenhines yr afonydd), Dyfrdwy, Elwy, Conwy, Gwy, Wysg, Teifi, Tywi, Dyfi, ie, a Thafwys, ond fel y mynnodd y Saeson ei dwyn a llygru'r enw yn Thames. A swyn yr enw yn ein meddwl, a murmur yr afon yn ein clyw, dyma ni'n amgylchu Seion bro'r Oesoedd Canol yn y rhanbarth rhamantus hwn. Nid oedd fawr i'w weld ond y magwyrydd moel, a sylfeini rhai o'r pileri wedi eu trwsio'n gywrain a'i cerfio â lluniau. Dywedir mai Cadwallon ap Madog, a fu yn Arglwydd y gororau hyn, a'i sefydlodd yn 1143, mai i'r Urdd Sistersaidd y perthynai'r fynachlog, ac mai mynachod y Tŷ Gwyn ar Daf a ddaeth yma gyntaf, a hi oedd fwyaf ei maint yn Lloegr a Chymru, ac eithrio Caerefrog, Caerwynt, a Chaerweir. Dywaid Leland na orffennwyd adeiladu'r eglwys, a gyflwynwyd i'r Wyryf Fendigaid, fel pob eglwys arall perthynol i'r mudiad. Fel y mae cwch gwenyn yn anfon heidiau allan i chwilio am gartrefi newyddion, felly, yn yr un modd codai dwsin o fynachod gydag Abad o un fynachlog i ffurfio cartref newydd—dwsin i gynrychioli nifer yr apostolion. Ymhen tua hanner can mlynedd cododd dwsin o fynachod Cwm Hir, ac Abad yn ben arnynt, i fynd i Gymer yn Sir Feirionnydd. Ac fel hyn yr ymledodd y mudiad trwy'r holl wlad. Bob amser y lleoedd mwyaf neilltuedig a ddewisid i ymneilltuo o'r byd, a oedd yn eu golwg hwy, mor ddrwg ac anodd i fyw y bywyd santaidd ynddo, a'r Eglwys mor ddiymadferth. Protestannaidd cyn Protestaniaeth oedd y mudiad, ond fe'i tynnwyd yng nghwrs amser o dan adain yr Eglwys, a hynny a fu achos ei dranc yn yr unfed ganrif ar bymtheg.

Ar ôl ymsefydlu mewn ardal neilltuedig fel Cwm Hir, codid eglwys nid ar gyfair y frawdoliaeth a thrigolion y fro, ond er gogoniant i Dduw, a hynny a gyfrif am ei maint a'i phrydferthwch. Cedwid yr Oriau Mawl a Gweddi bob taer nos a dydd, ac eithrio tri o'r gloch y bore, ar hyd y blynyddoedd o 1143 i 1536, pryd y dymchwelwyd y mynachlogydd. Tai elusen, gweddi, ac ympryd oeddynt hwy, a chedwid y tair dyletswydd fawr mewn cydbwysedd, a nodid eu trefn fel y'u gosodwyd i lawr gan yr Athro Mawr ei Hun. Nid oes yr un addoliad yn gyflawn heb y tair. Noddfa dihiryn yw gwladgarwch, yn ôl Dr. Johnson; yn yr un modd noddfa'r rhagrithiwr yw gweddi ar wahân i'r ddwy ddyletswydd arall. "Dy weddïau di a'th elusennau a ddyrchafasant yn goffadwriaeth gerbron Duw", meddai'r angel wrth Cornelius. Yr oedd i bob un o'r frawdoliaeth ei orchwyl neu ei grefft, a chanddynt bopeth yn gyffredin yn ôl trefn Eglwys yr Apostolion.

Yr amcan mawr oedd byw y bywyd santaidd. Dihewyd bennaf Cristnogion y canrifoedd cyntaf yn wŷr, gwragedd, a phlant oedd ennill coron y merthyr a'u rhifo yn nifer "Ardderchog Lu y Merthyri", ond fe ddaeth dyhead arall yng ngwawr yr Oesoedd Canol i weithredu ar fywydau a bucheddau, a hwnnw oedd fod yn rhaid byw bywyd y merthyr ac ennill ei goron, a'i fywyd ef oedd fywyd santaidd, a ph'le y gellid byw y bywyd hwn ond trwy ymneilltuo o'r byd i lanerchau neilltuedig fel yr hen fynachlogydd Sistersaidd.

Fe ddaeth y Diwygiad Protestannaidd â syniad arall i ddylanwadu ar gymdeithas, sef, y gellid bywyd santaidd yn y byd ac nid allan ohono mewn cilfachau neilltuedig, ac y mae'r syniad yna'n gryf yn y byd heddiw.

Gwelsom garreg ar bwys mur a'r Esgyniad wedi ei gerfio'n gywrain arni. Piti na ddiogelid hon yn rhywle rhag i wres haf ac oerni gaeaf yng nghwrs amser effeithio arni. Gwir fod copi carreg pur gywir ohoni yn y mur uwchlaw porth yr Eglwys. Hyd y gwelsom nid oedd ond naw o'r apostolion yn ymgrymu'n wylaidd o amgylch y Crist Esgynedig.

Rhed ffordd blwyf ar draws llethrau'r bryniau i gwr uchaf Cwm Elan, ac oddi yno i Bonterwyd, Pont-ar-Fynach, a hi a deithiai'r mynachod ar eu hymweliadau ag Ystrad Fflur a Chymer.

Drannoeth bwriadem ymweld â dau le a fu o bwys cenedlaethol i Gymru, ond ni chyrhaeddais fy amcan ond ag un yn unig. Yn gydymaith imi y tro hwn yr oedd un o urddasolion addfwynaf yr Eglwys yng Nghymru, ac un a rydd urddas ar ei swydd ac a'n tyn i'w gyfarch o bell. Yn fuan yr oeddem ar y ffordd fawr i Lanfair Muallt. Yno daeth i'm cof bennill annerch y Pêr Ganiedydd a wnaeth y gwcw yn llatai iddo:—

Hed, y Gwcw, hed yn fuan,
Hed, aderyn glas ei liw,
Hed oddi yma i Bantycelyn,
Dwed wrth Mali mod i'n fyw;
Hed oddi yno i Lanfair Muallt,
Dwed wrth Jac am gadw'i le,
Os na chawn gyfarfod yma,
Cawn gyfarfod yn y Ne'.

Mor barod ei awen oedd Pant-y-celyn! Ymawyddai un tro wybod p'run ai ei fab neu ei ferch a etifeddai'i dalent ef. I'w profi dywedodd wrth y mab—"Mae deryn yn y llwyn", ac ateb y bachgen oedd, "Mae twll iddo fynd allan". Trodd at ei ferch ac adroddodd yr un llinell, "Mae deryn yn y llwyn", a hithau ar amrantiad a'i hatebodd—"A'i fwriad yn gywir ar gân". Gweld y tyllau a'r materol a wnâi'r bachgen, a hithau'r eneth a welai'r anweledig ac a glywai'r anghlywadwy. Y mae llawer â llygaid ganddynt ond ni welant, a llawer â chlustiau ganddynt ond ni chlywant. Gwêl eraill yr anweledig a chlywant yr anghlywadwy, a thraethant yr anhraethadwy, a hwynt-hwy yw'r cyfrinwyr sy'n dwyn yr ysbrydol mor agos atom.

Ar ôl teithio milltir neu ddwy ar hyd y ffordd a arweinia i Lanymddyfri, dyma ni yn ymyl cofgolofn mewn cae o fewn ychydig lathenni i'r ffordd. Aethpwyd ati a darllenwyd yr ysgrif yma ar blât pres:—

Gerllaw y fan yma
lladdwyd Llewelyn ein llyw olaf,
O.C. 1282.

Yn ymyl yr oedd Gwesty Llywelyn, a chawsom ymgom â'r wraig, a gwyddai hi'r hanes yn lled dda, ac am y traddodiad i Gwm Hir ddwyn ei gorff i'w gladdu ym mynwent yr Eglwys. Erys amheuaeth am hyn, ond nid oes un amheuaeth am anfon ei ben i'w roddi ar y Tŵr Gwyn yn Llundain. NI chawn fod y Cymry yn gwneud anfadwaith a barbareidd-dra o'r natur yma; ymddygent hwy bob amser yn ddyngarol at eu gelynion gorchfygedig. Yr un driniaeth a fesurwyd i Ddafydd, brawd Llywelyn, a'i olynydd yn y Dywysogaeth.

Dywedai'r wraig fod yr enw Cefn-y-bedd yn hŷn na Llywelyn. Gelwir yr ardal yn awr, ac ers llawer blwyddyn, yn Cilmery ar ôl gorsaf y rheilffordd. Oni fyddwn yn dra gofalus fe gyll y wlad ei hen enwau brodorol.

O fewn ergyd bwa neu lai yr oedd tŷ arall ar ymyl y ffordd, ac fe aethom yno i hel gymaint ag a fedrem o hen draddodiadau. Yno yr oedd ganddi hithau rywbeth i'w ddatguddio am Lywelyn na welais gyfeiriad ato o'r blaen. Cyfeiriodd ni at ffynnon yng nghongl ei gardd a llwybr i fynd ati, a thracht o ddŵr y ffynnon honno a ddygwyd i dorri syched Llywelyn yn ei awr olaf. Gwyrasom ninnau i godi llond llaw o'r dŵr grisialaidd i'w dywallt yn ddiolch offrwm am y gwasanaeth hwn o'i heiddo i'n Llyw Olaf, a'r tract arall fe'i hyfasom. Diolchasom i'r hen wraig am y tamaid hwn o draddodiad, a chefnasom arni hi a'r ffynnon.

Cyn ailgychwyn i gyfeiriad Llanymddyfri cwrddasom â dyn ieuanc gyda dau gi yn gyrru dwy fuwch o'i flaen. Cyfarchasom well i'n gilydd yn Gymraeg. Ar ein llongyfarchiad iddo ar Gymraeg mor lân mewn ardal mor Seisnigaidd, dywedodd mai o Langamarch y deuai, a bod y Gymraeg yn flodeuog yno. Cwrddasom ag ef drachefn wrth ddychwelyd.

Yn union ar ôl ymado ag ef, cwrddais â dyn a dynnodd fy sylw at ddyn â rhaw ar ei ysgwydd yn pasio heibio. "A welwch chwi'r dyn yna ?" meddai. "Gwelwn". "Y prynhawn Sul o'r blaen yr oedd ar y cae acw yn gwylio tyrchod daear ac yn eu lladd. Yn pasio heibio ar y pryd yr oedd ei weinidog, ac o'i weld felly ac ar y Sul, galwodd ef ato, a cheryddodd ef yn chwerw. Dywedai ei fod yn synnu ato yn mynd allan ar y Sul ar ôl tyrchod daear, ac meddai yntau, "Beth ma nhw'n dod allan ar y Sul, ynte?" Yr oedd yn rhaid gadael y cwmni diddan a mynd eto.

Yn union deg yr oeddem yn Beula—mor Gananeaidd y mae Cymru wedi mynd gyda'i Hermon, Bethel, Nebo, Ierusalem, Bethania, a llawer eraill.

Cefnwyd ar Beula, ac yn ddiymdroi yr oeddem yn ficerdy Eglwys Oen Duw, ac mewn ymgom ddifyrrus â'r ficer rhadlon a'i ferch siriol. Yr oedd golwg hyfryd ar fynyddoedd Epynt o ffrynt y tŷ. Gwelem hwynt dan haen denau o niwl, rhy denau i'w cuddio, a dyna'r olwg a gafodd Pant-y-celyn arnynt pan ganodd:—

Dros y bryniau tywyll niwlog,
Yn dawel, f'enaid, edrych draw,
Ar addewidion sydd i esgor
Ar ryw ddyddiau braf gerllaw:
Nefol Jiwbil,
Gad im weld y bore wawr.


VI

DIGWYDDIADAU'R FFORDD

AR ôl gosber un nos Sul o Fai rhodiwn lwybrau'r ardd gan fwynhau'r golygfeydd o'm blaen ac o'm hôl, i'r dde ac i'r aswy. O'm blaen yr oedd Cader Idris a'i phum pigyn -Tyrrau Mawr, y Cyfrwy, y Gader ei hun, Mynydd Moel, a'r Geugraig, a mynydd y Gader y tu yma iddynt, a Mawddach fel llinyn arian yn rhedeg drwy'r dyffryn. Machludai'r haul gan ruddo'r cymylau a hofrannai fel adar yn y glesni, ac a lewyrchai ar lethrau ysgythrog y mynydd nes ymddangos ohono fel pres yn llosgi mewn ffwrn. Edrychai'r Gader ymhell ac isel fel pe'n amneidio arnaf i'w dringo. Er nad oedd ei dringo yn fy mwriad, fe ddeffrôdd awydd cryf ynof i fynd am dro am ddeuddydd neu dri a chychwyn fore trannoeth. Gwyddwn am hen gyfaill o amaethwr a chanddo dyddyn lled fawr yr ymffrostiai ynddo, er ei fod mewn rhan anghysbell o'r wlad. Bu ef a minnau yng nghwmni ein gilydd lawer iawn o flynyddoedd yn ôl, ac addewais fwy ag unwaith fynd i'w weld yn y rhan bellenig honno. Gorau'i gyd oedd hynny yn fy ngolwg. Gwyddwn yn bur sicr y cawn ef gartref ym mis Mai.

A thrannoeth yn bur fore hwyliais fy ngherddediad tuag ato. Unwaith y bûm yn y gymdogaeth honno o'r blaen, a'r tro hwnnw ar feisicl. Yn y cyfamser yr oedd cyfleusterau teithio wedi cynyddu fel nad oedd gennyf ond rhyw filltir neu filltir a hanner i gerdded. Ar ôl cyrraedd pen fy siwrnai gyda'r bws, cychwynnais ar fy nhaith ar hyd ffordd blwyf dda ei hwyneb a'r gwrychoedd o'i deutu yn wynion gan y Mai. Nid oedd tŷ na thwlc yn agos. Canai'r adar yn soniarus yn y llwyni, a pharablai'r gog ei deunod ar wib heibio. Aderyn rhyfedd yw'r gog, yn dodwy ei hwyau yn nythod adar eraill, a gadael i'r adar bach hynny fagu ei phlant heb dâl na diolch. Yr oedd y ffordd yn unig, ond ei throfeydd yn ei gwneud yn hynod o brydferth, a rhedai aber fechan furmurol yn ochr yn ochr â hi ac ychydig o lathenni oddi wrthi, a thybiwn mai ei hiaith oedd:—

Men may come and men may go,
But I go on for ever.

For ever—am byth. Y mae'r syniad "am byth" yn reddfol mewn dyn. Rhodder rhodd fechan i blentyn ac fe ofyn yn ostyngedig a gwylaidd a gaiff e' hi "am byth".

Yr oedd unigrwydd i'w deimlo ar y ffordd honno, a'r syniad a ddaw i'r meddwl yw'r "am byth". Bu'r genweiriwr medrus yn rhodio glannau'r afon, ond y mae ef wedi mynd a llawer genweiriwr ar ei ôl, a'r ffwdan i ddal y brithyll ofnus wedi darfod. Y fforddolion llon a phrudd a fu'n gwrando ar furmur yr afon, y maent hwythau wedi mynd, ond y mae hi yn dal i fynd a mwmian-ganu ar y tywod mân.

Ond y mae'n rhaid i minnau fynd hefyd, a mynd a wneuthum nes dyfod ohonof o olwg a chlyw yr afonig. Ac yn y tro hwnnw yr oedd neidr ddolennog ym mol y clawdd. Arhosais i edrych arni. Llygadrythai ar rywbeth. Dynesais yn araf a gwelwn froga yn llygadrythu arni hithau. Estynnai hi ei phen yn araf a cholynnai ef nes ysboncio ohono o dan yr effeithiau, ond ni wnâi un ymdrech i ffoi. Yr ydoedd fel pe wedi ei swyngyfaredd ganddi. Edrychai'r ddau ym myw llygaid ei gilydd. Ofn oedd arno ef i droi ei gefn ac iddi hithau fanteisio ar hynny o gyfleustra. Er ei golynnu fel hyn yn aml, ni wnâi un ymdrech i dalu'r pwyth yn ôl na ffoi chwaith o'r perygl. Ar hyn amlygais fy ffon iddynt, a chiliodd hi yn ôl i'w gwâl, ac yntau y tu ôl i garreg, ac fe euthum innau ymlaen ychydig o gamau. Dychwelais a chefais hwynt yn yr un cyflwr drachefn, y ddau yn llygadrythu ar ei gilydd. Wedi ei swyngyfareddu oedd y broga gan ddisgleirdeb llygad y neidr a'r ofn yn ei fynwes ef ei hun. Picellai hi ef yn chwareus gan adael diferyn o wenwyn ymhob briw i'w gwsno cyn yr act olaf o'i lyncu. Nid oedd modd gwahanu'r ddau heb ladd un ohonynt, ond gan nad oeddwn mewn unrhyw ysbryd dialgar y dydd hwnnw gadewais iddynt gan fynd ymlaen. Hen air Cymraeg a ddywed na thyf porfa ar fedd y dyn dialgar.

Ymlaen â mi ar hyd ffordd gaeadfrig y cwm cul nes dyfod ohonof i dro arall arni, ac yno'r oedd dyn yn eistedd ar ymyl y ffordd yng nghysgod llwyn gwyn gan flodau Mai. Holodd faint o'r gloch ydoedd, ac arwydd oedd hynny am ymgom, a chafwyd ymgom hir. Eisteddais ar garreg tra rhostiai yntau ei facwn wrth y tân, a'r nodd yn diferu'n ei fara Gan mor hyfryd oedd yr arogl a minnau heb brofi tamaid na llymaid ers rhai oriau, amheuwn a allwn wrthod tamaid pes cynigiai, ond ni fu mor foesgar â chynnig, ac ymgedwais innau rhag rhoddi un awgrym o'm chwant. Ar ôl gorffen ohono ei bryd, tynnodd allan getyn clai du a rhyw fodfedd o goes iddo: maluriodd ei faco a llanwodd ei getyn gan ei danio; gorffwysodd ei gefn ar garreg ac â'i freichiau ymhleth dechreuodd ysmygu, a chyfaddefai ei fod yn berffaith hapus.

Un o bererinion y ffordd oedd ef wedi ei gyfarwyddo i'r cwm cul hwn gan arwyddion dirgel a gafodd yn y tro ar y ffordd fawr. Y mae gan y dosbarth hwn o deithwyr y ffyrdd arwyddion dirgel i'w cyfeirio i dai caredigion. Adroddodd ei hanes yn fanwl fel y bu yn y Rhyfel Mawr, a'r India ar ôl hynny. Yr oedd ganddo wybodaeth helaeth a manwl o'r byd, a mesurai deilyngdod gwleidwyr y byd. Yn ei dyb ef yr oedd holl wledydd y byd gwareiddiedig yng nghafaelion chwyldroad mawr a chyrhaeddbell. Hen filwr ydoedd, ac yn awr wedi troi i gerdded y ffordd. Yr oedd yn hoff o'r ffordd, a theithiai o fan i fan yn ôl ei fympwy. Digon iddo ydoedd ambell wythnos o waith. Cadw'r corff yn lân trwy fynych ymolchi mewn dwfr glân a rhedegog, ac un pryd da o fwyd y dydd oedd yn ddigon i gadw iechyd yn y corff. "Dyma fi", meddai, "cyn iached â'r gneuen, a chyn hapused â'r gog' Gwyddai oddi wrth yr arwyddion dirgel a'u tywysodd hyd yma y caffai ychydig ddyddiau o waith yn y fferm yr oedd yn mynd iddi, ac i'r un man yr oeddwn innau'n mynd.

Cyd-deithiasom gan ymgomio, ac yr oedd ei gwmni yn hyfryd, canys yr ydoedd yn ddyn gwybodus, ac o farn aeddfed. Adroddodd ei hanes yn y Rhyfel Mawr, a'r caledi a fu arno yng nghymdogaethau Arras ac Ypres. Na, nid oedd am roddi i fyny gerdded y ffordd, canys dyna oedd ei fwynhad pennaf yn awr. Awgrymais nad oedd hyn i barhau'n hir a'r blynyddoedd yn mynd mor gyflym. Yr oedd wedi trefnu ar gyfair hyn hefyd. Yn llety'r Undeb yr oedd ei daith i orffen, ac ni fyddai ei aros yno ond byr, canys nid oedd neb o'i ddosbarth ef yn byw'n hir, nac yn dymuno byw'n hir, wedi gorffen teithio. Beth wedyn ? "Wel", meddai, gyda dwyster yn ei lais, "yn llaw fy Nhad, a'm tywysodd hyd yn hyn".


Arweiniai'r ffordd ar i fyny yn awr, a chyrhaeddwyd ei thrum uchaf. O'r fan honno cawsom olwg ar gwm cul, nid annhebyg i gwm Llanfihangel-y-pennant, ac afonig fechan yn rhedeg trwyddo a ffermdy yn y pen uchaf iddo mewn lloches glyd, a'r haul yn tywynnu'n hyfryd arno. Yr oedd y gwyrddlesni yn y coed a Mai yn y gwrychoedd, a'r fuches mewn cae'n agos i'r tŷ yn gorweddian yn gysglyd gan gnoi ei chul. Gadawyd y ffordd yn awr am lwybr a oedd yn arwain at y tŷ trwy'r gweirgloddiau. Cyn pen hir curem wrth y drws a oedd yn hanner agored, a llais yn dywedyd, "Jim, dos, ngwas i, mae rhywun wrth y drws", ac fe adnabûm y llais. Beth oedd ei syndod pan euthum i mewn, ac yn enwedig pan welodd fy nghydymaith. Wrth y ford de yr oedd ef a'r gwas a'r forwyn a Jim, y gwas bach. Gwnaed lle i ninnau'n dau wrth y ford, a chyfranogasom o'r bwyd, a mi gydag awch.

Ar ôl y te ymwahanwyd a phawb at eu gorchwyl, a minnau a meistr y tŷ i'r aelwyd am ymgom. Gymaint o holi fu ar ein gilydd yn ystod yr ymgom, a holi helyntion hen gyfeillion, a chant a mwy o bethau tebyg.

Ar ôl yr ymgom fe aethom allan, ef a minnau, ac ef a'i wn dan ei gesail, a Phero wrth ei sawdl. O hir rodio daethpwyd at glwyd ac adwy, ac fe aeth ef yn ddistaw yn ei flaen gyda'r gwrych a'r ci yr un mor llechwraidd yn ei ddilyn. O edrych dros y cae gwelwn gwningen yn pori yn ymyl ysgallen heb fod yn nepell oddi wrthyf. Codai'n fynych ar ei dwy droed ôl i glustfeinio. Troai ei chlustiau i bob cyfeiriad ac weithiau yn wrth-groes i'w gilydd. Yna, plygai drachefn i bori a'i chlustiau yn wastad-dynn ar ei chefn. Yr oedd y ddwy glust fel dau beriscop yn sgubo dros y maes am yr arwydd lleiaf o berygl. Toc, wrth geisio mynd dros y clawdd fe syrthiodd yr heliwr, ac ar amrantiad dyna'r gwningen yn taro ei dwy droed flaen ar y llawr a dwsin neu chwaneg yn ffoi am eu hoedl i'w tyllau yn y clawdd. Y gwningen a wyliwn oedd y sentinel. Ni welais yr un arall yn clustfeinio fel hi, er bod dwsin neu ragor o hyd golwg. Taro'i dwy droed flaen ar y llawr oedd y rhybudd i'r lleill.

Dychwelwyd i'r tŷ yn waglaw, ac yno'r oedd ficer y plwyf wedi dyfod i ymweld â'r teulu. Hynafgwr oedd ef yn byw bywyd tawel a gwasanaethgar, a thŵr o gadernid ydoedd i'r plwyfolion oll ar bob achlysur. Unwaith bu'n fachgen ieuanc yn cipio'r gwobrwyon blaenaf mewn ysgol a choleg.

Drannoeth yr oedd fy nghyfaill i fynd i farchnad i dref heb fod yn nepell, a chefais fy newis i fynd gydag ef neu i dreulio'r dydd yn y ficerdy. Wrth gwrs yr olaf a ddewisais, ac yno yr euthum yn gynnar y bore, a'r ficer eto wrth y ford frecwast. Bu iddo briod a theulu, ond yn awr yr ydoedd wedi ei adael ei hunan. Eto yr ydoedd yn hapus yn ei unigedd. Yr oedd darlun o'i briod ar bared yr ystafell, a'r ddau blentyn a fu unwaith dan ei ofal.

Gan fod yr haul yn tywynnu, a gwasgaru ei wres, aethom allan gyda phob i gadair i eistedd yn ffrynt y tŷ. Yr oedd y wlad yn dra phrydferth, gyda chip o'r môr yn y pellter, a'r mynyddoedd dipyn yn nes yn dyrchafu eu pennau i'r glesni uwchben. Gofynnais iddo beth oedd ei brofiad yn awr, ac yntau wedi dyfod i ddyddiau henaint, ac yn gwybod fod yr awr ymado i ddigwydd unrhyw amser bellach. Dywedodd yntau nad dyna'r tro cyntaf y gofynnwyd y cwestiwn fel y gŵyr pawb a ddarllenodd draethawd Cicero ar henaint, a hynny cyn Cred. Ac os oedd Cato yn medru edrych ar ei ymado gyda thawelwch ysbryd cyn dwyn bywyd ac anllygredigaeth i oleuni, pa faint mwy tawel y dylai ef arfer tawelwch a bodlonrwydd ysbryd i'r glyn wedi ei oleuo gan y llusern na ddiffydd mwy. Cyn pen wythnos ar ôl hyn yr oedd yntau wedi croesi i'r lan draw.

Dyn i Dduw, dyna oedd ef—a'i olwg
A'i galon ar dangnef
Y saint fry yn nhŷ y Nef,
A'i edrych fyth ar adref.

Yno mwy, heb glwy na gloes,
Dydd hen, na diwedd einioes,
Yn iach o bob afiechyd,
Hoyw ei hoen o boen y byd;
Yno, mewn hedd yn mwynhau
Adlais y nefol odlau.


VII

ELLIS WYNNE A GLAN HAFREN

DYWAID Ellis Wynne mai rhodio Glan Hafren ydoedd pan gipiwyd ef i'w drydedd weledigaeth,—Gweledigaeth Uffern. Rhodiannai ei glennydd teg ym mis Ebrill, yn gwrando ar yr adar mân yn pyncio yn y llwyni, ac ar yr un pryd yn darllen Yr Ymarfer o Dduwioldeb. Nid ydyw yn rhoddi'r awgrym lleiaf o'r achosion a'i dug i lannau Hafren, ac nid oes un o'i fywgraffwyr, i'm gwybod i, yn rhoddi yr un gair o eglurhad. Fe allai mai dibwys oedd y lle yn eu golwg hwy o'i gyferbynnu â'r weledigaeth. Ac eto y mae'n rhaid bod rhyw reswm dros iddo gyfeirio at "Glan Hafren".

Pan ddeuthum i dario ar lannau Hafren methwn â chael llonydd i'm meddwl nes mynnu gwybod y cwbl a oedd yn bosibl amdano yma. Ac fe arweiniodd fy ymchwil fi i feysydd tra diddorol na wyddwn fawr amdanynt o'r blaen. Y ddau gwestiwn a'm cymhellai i'r ymchwil oedd, beth a ddug Ellis Wynne i lannau Hafren? a pha rannau o Hafren? oblegid y mae hi yn afon hir, a'r hwyaf yn ynys Prydain. Tardd ar Bumlumon yn ffrwd fechan a phan gyrhaedda Fôr Hafren y mae'n afon fawr, ac wedi llyncu mil a mwy o aberoedd bychain ar ei thaith. Fy nhasg ydoedd chwilio pa rannau o'r afon a rodiai, a pham y rhodiai'r rhannau hynny.

Pa fodd ac ym mha le yr oedd cael gafael ar ben y llinyn i'r ymchwil ? Dechreuais gyda'r Ymarfer o Dduwioldeb y dywedai Ellis Wynne ei fod yn ei ddarllen ar lan Hafren. Gwyddwn mai awdur y llyfr hwnnw oedd Lewis Bayly. Brodor ydoedd ef o Gaerfyrddin. Ordeiniwyd ef yn Lloegr a daeth ymhen amser yn weinidog Evesham, yng Nghaerwrangon. Yr ydoedd yn gaplan i'r Tywysog Henry, aer Iago I. Ac ar farw'r Tywysog Henry penodwyd ef yn gaplan i'r Tywysog Siarl. Gweinyddai hefyd fel gweinidog Eglwys St. Mathew, yn Friday Street, Llundain. Yn ddilynol gwnaeth Iago I ef yn gaplan iddo ef ei hun. Yng Ngorffennaf, 1621, bwriwyd ef i garchar y Fleet, am ba achos nid oes wybod mwy na'r dyb mai rhywbeth oedd ynglŷn â phriodas y Tywysog Henry a'r Infanta o Sbaen. Yr oedd ei glod yn fawr fel ysgolor a phregethwr, ond nid oedd o'r un daliadau gwleidyddol a chrefyddol â theulu'r Stuart, a Laid. Nid un oedd Lewis Bayly i aberthu ei egwyddorion er mantais dymhorol. Gymaint oedd parch Iago I iddo fel y penododd ef yn Esgob Bangor ar farw'r Esgob Henry Rowland. Fe aeth y Practice of Piety trwy 50 o argraffiadau erbyn blwyddyn marw Ellis Wynne yn 1734. Bu'r Esgob Bayly farw Hydref 23, 1631, ac fe'i claddwyd yn Eglwys Gadeiriol Bangor.

Llyfr a hanes iddo yw'r Practice of Piety. Dyma un o'r ddau lyfr a ddug gwraig gyntaf John Bunyan yn waddol gyda hi, a'r llall oedd Llwybr Hyffordd i'r Nefoedd, nad yw o'r un teilyngdod â'r Ymarfer. Pwy fyth a all fesur dyled y byd i'r eneth a briododd John Bunyan yn ei wylltineb a'i rialtwch mwyaf. Dyma rai o'r dylanwadau cudd a ddechreuodd foldio cymeriad prif freuddwydiwr y byd.

Cyfieithiwyd yr Ymarfer i'r Gymraeg gan Rowland Vaughan, Caergai, ym mhlwyf Llanuwchllyn; ac un o hen uchelwyr Cymru ydoedd ef, yn caru ei wlad a'i defion, a'r Eglwys a'i defion hithau. Ar ôl treulio cwrs o addysg ym Mhrifysgol Rhydychen ymsefydlodd ar ei stad i wasanaethu ei wlad, ac yn enwedig ei llenyddiaeth. Gymaint oedd llid Olifer a'i blaid ato fel y llosgwyd Caergai bron i'r llawr. Yr oedd Rowland Vaughan yn deip o'r diwylliant Cymreig, ond o ran hynny yr oedd yr hen foneddwyr Cymreig yn ddieithriad yn enghreifftiau o'r diwylliant Cymreig, a achleswyd gan yr Eglwys dros fil o flynyddoedd. A'r diwylliant Cymreig oedd, Gonestrwydd, Geirwiredd, a Lletygarwch, a dyna yw'r diwylliant Cymreig hyd y dydd heddiw.

Bu i'r Esgob Lewis Bayly bedwar o feibion, Nicolas, John, Theodore, a Thomas. Thomas a'i enwogodd ei hun fwyaf. Bu [1]William Bayly a John Bayly yn rheithoriaid Penstrowed. Cyffrôdd hyn fi i chwilio hanes y plwyf bychan hwn, a hefyd y personiaid a fu'n gweinidogaethu yma. Yn hen lyfrau cofnodion geni, priodi, a marw'r plwyfolion y ceir hanes bob dydd cenedl y Cymry. Pan oedd Cymru'n wenfflam gan ddeffroad y ddeunawfed ganrif, ac yn diystyru pob dyletswydd a gorchwyl, y pryd hwnnw yr oedd yr hen Eglwys fel mam yn ei chartref yn gofalu am y plwyfolion, yn enwedig y tlawd, y bachgen neu'r eneth wirion, y digartref, a'r afradlon. Yn yr hen festrïoedd y mae'r gyfrinach iach yma.

Hawdd y gallasai yr hen Eglwys ganu:—

Myfi sy'n magu'r baban,
Myfi sy'n siglo'i grud.

Ond nid oedd neb yn ei gweld, ac ni ddyrchafai hithau ei llef i dynnu sylw'r cyhoedd ati.

Plwyf bychan yw Penstrowed a'i boblogaeth o dan gant, a nifer y tai yn 23, ac un ohonynt a'i ben iddo. Yn y cyfnod y soniwn amdano'n awr ni allai nifer y tai fod yn fwy na hanner dwsin neu ddwsin. Perthynai i'r fywoliaeth dyddyn o dir brasaf Powys ar lan Hafren. Ac nid oedd dim yn fwy naturiol nag i'r Esgob Bayly roddi'r fywoliaeth i un o'i deulu a chawn William Bayly a John Bayly yn rheithoriaid y plwyf. Bu farw John Bayly yn 1706, a cheir cofnodiad o'i farw yn y Register. Yn y flwyddyn 1703 y cyhoeddwyd Gweledigaethau'r Bardd Cwsg. Yng ngwaelod y plwyf y mae Glan Hafren, plasty o nod y dwthwn hwnnw, ac eto o ran hynny, er ei fod yn fwy o amaethdy yn awr. Bu George Herbert o Bemberton yma droeon pan oedd yn ficer segur yn Llandinam. A cheir weithiau gyfeiriad at Penstrowed fel "Capella de Llandinam". Un o'r eglwysi clas oedd Llandinam.

Nid wyf ond dyfalu, ond a oedd rhyw gydnabyddiaeth rhwng Ellis Wynne a John Bayly y soniasom amdano? Ac a oedd John Bayly yn preswylio yng Nglan Hafren, ac yn gosod y rheithordy i denant? Bron nad yw'r tŷ a'r tai allan yn awgrymu hynny. Yng Nglan Hafren y preswyliai Canon John Arthur Herbert a fu'n rheithor y plwyf am 41 mlynedd. A yw Elis Wyn yn awgrymu mai yma yr ydoedd pan ddywedai mai rhodio glannau Hafren ydoedd yn darllen Yr Ymarfer o Dduwioldeb?

Wrth chwilota fel hyn i borthi ysbryd dyfalu a'm meddiannodd mor llwyr, ac a roddai gymaint o fwynhad, fe ddeuthum ar draws ffaith ddiddorol iawn. A dyma hi yn yr iaith yr ysgrifennwyd hi:

"DOL YSGALLOG. In the Edward Llwyd MSS in the Bodleian Library is a letter to Llwyd containing the following interesting passage:

In the lower part of the above named parish—Penstrowed—is a piece of ground about six acres called Y DDOL YSGALLOG—in which plot of ground is a mere (stone) where the ministers of three parishes (some say three Bishops), viz., PENSTROWED; MOCHDREF (then in the Diocese of St. Davids) and NEWTOWN, having a [2]brandart between them, stood each of them in his own parish and within three dioceses, to wit, BANGOR, ST. ASAPH, and ST. DAVIDS, in three several hundreds LLANDILOES, MONTGOMERY, and NEWTOWN. And in three lordships, viz., ARRUSTLEY, KERRY, and CEDEWAIN".

Gyferbyn â'r Ddôl Ysgallog ar ochr ddwyreiniol Hafren ac ym mhlwyf Llanllwchaiarn y mae dau dyddyn o'r enw Ysgafell yn llechweddu ar yr afon, fel y golyga'r enw, ac ar un ohonynt y mae "Cae'r Fendith", y mae hanes tra ddiddorol yn perthyn iddo.

Y mae deoniaeth Arwystli fel ynys yng nghanol Powys Wenwynwyn yn perthyn i Aberffraw ac nid i Fathafarn, ac i esgobaeth Bangor ac nid i Lanelwy neu Dyddewi. Prif eglwys y ddeoniaeth oedd Llandinam gyda'i chlaswyr a'i phersoniaid. Diddorol yw cofio i George Herbert o Bemberton fod yn un o ficeriaid Llandinam, ond nid oes sôn iddo weinyddu yno. Ymwelai yntau ar ei dro â Glan Hafren, ac ymhen amser fe ddaeth Glan Hafren yn breswylfod i John Arthur Herbert, rheithor Penstrowed am 41 mlynedd a chanon Bangor, a'r Herbert hwn oedd ddisgynnydd o Herbertiaid Powys. Pan ymwelai'r Esgob â'r ddeoniaeth arhosai mewn tŷ o'i eiddo yn Llanwnog, a cheir mai William Bayley oedd ficer Llanwnog yn 1660. Gan nad oedd gan y Lewis Bayley fab o'r enw William, y tebyg yw mai ŵyr iddo oedd y William hwn.

Arweinia'r ffeithiau hyn ni i gasglu y gallasai Ellis Wynne yn hawdd fod yng Nglan Hafren pan gipiwyd ef i'w drydedd weledigaeth, sef Gweledigaeth Uffern.

VIII

ABRAM JONES Y FEDWEN

HEN ŵr 88 oed oedd Abram Jones, a'i breswylfod oedd y Fedwen, tyddyn ar randir o fynydd bedair milltir o'r ffordd fawr, a ffordd blwyf is fynd ato. Serth oedd y ffordd a'r llwybrau at y tŷ, ond wedi cyrraedd yno yr oedd y golygfeydd o ffrynt y tŷ yn ad-daliad da am y dringo a'r chwysu i'w gyrraedd.

Yno y trigai Abram Jones ar ei ben ei hun, ac ef ei hun a gyflawna bob goruchwyliaeth yn y tŷ, ac allan o'r tŷ. Am chwarter canrif ni fu llaw merch na neb arall yn cwrdd â'r un dodrefnyn. Pobai ei fara ei hun ar dân mawn, a'r mawn a gâi o'r gors gyfagos: golchai ei ddillad yn y ffrwd fechan a basiai heibio i'w ddrws. Nid ymwelai â thŷ neb yn y gymdogaeth, ac nid ymwelai neb â'i dŷ yntau er y perchid ef yn fawr. Yr ychydig dir ac meddai o amgylch ei breswylfod a osodai i eraill. Yr ardd yn unig a gadwai, a chodai ddigon at ei gynhaliaeth ohoni. Ychydig iawn oedd ei eisiau, ac ychydig iawn a dyr eisiau dyn, ond iddo roddi heibio borthi ei foethau. Yr unig dro y gwelid ef allan o'i diriogaeth ei hun oedd pan âi i siop neu farchnad i brynu'r ychydig yr oedd arno eisiau.

Edrychid arno yn yr ardal fel meudwy, ac weithiau gelwid ef wrth yr enw hwnnw, ond nid o deimlad drwg a chenfigen ato. Mawr oedd y dyfalu sut y gallai basio heibio'r amser.

Hirddydd haf a hwyrnos gaeaf nid oedd neb i dorri ar ei heddwch, ac nid oedd croeso i neb i aros yn hwy nag oedd eu neges yn gofyn. Yn hyn ni welais i neb yn debycach i Fyrddin Fardd. Gorfu i Fyrddin lawer tro ddweud wrth lawer un, "Fe ellwch chi fynd yn awr".

Clywed yn ddamweiniol fod Abram Jones yn cwyno a barodd imi fynd i ymweld ag ef. Yr ydoedd yn gynnar yn y prynhawn, a hwnnw yn un o'r prynhawnau na allech lai na theimlo ei bod yn werth byw. Ar ôl cerdded milltir neu ddwy ar y ffordd fawr fe dreiais ddringo hen ffordd ceffyl â phwn. Nid oedd yr un ffordd arall y gallwn fynd heb amgylchu rhai milltiroedd. Gwelais amser pan allwn ddringo'r ffordd gan chwiban tôn neu ddwy, ond yn awr nid oedd y fegin yn ddigon ystwyth i'r gwaith. O ddyfalbarhau a mynd o gam i gam cyrhaeddais ben fy siwrnai."

Gwelais yr hen ŵr led cae cyn mynd ato, a sefyll ydoedd yn ffrynt y tŷ. Amneidiodd arnaf i ddilyn y llwybr trwy ganol y cae yn hytrach na'i amgylchu. Prysurais yn ôl ei gyfarwyddyd, a heb fod yn hir cydeisteddwn ag ef ar fainc yn ffrynt y tŷ, a thŷ ydoedd o gynllun tai y ddeunawfed ganrif. Gorchuddid ffrynt y tŷ â dwy goeden rosod yn tyfu o bobtu i'r drws, ac yn ymledu gan blethu eu canghennau yn rhwydwaith ysblennydd trwy'i gilydd. Brithid hwynt gan glwstwr ar glwstwr o rosod cochion a gwynion. Yn gymysg â hwynt yr oedd canghennau coeden winwydd, a'r gwenyn yn ymwáu trwy'i gilydd yn brysur gasglu'r nectar, diod yr hen dduwiau gynt. Yno yr oedd siffrwd fel siffrwd y môr ar hwyrnos haf, neu'r sŵn a glywir ym mrig y morwydd, a hi yn bygwth storm.

Eisteddem gyda'n gilydd ar fainc yn ffrynt y tŷ a'n cefnau ar y pared a sŵn y gwenyn yn ein clustiau. Cyfeirai ef â'i fys at Amwythig; gwelir weithiau drumwydd o'r pinaglau, ac yn enwedig pinagl Eglwys Sant Mair. Heb fod ymhell y mae Hodnet, a chofiais mai yno y bu'r Esgob Heber, yn cyhoeddi a byw yr Efengyl, ac oddi yno yr aeth ef i'r India a glannau Caferi, ac yno y rhoddwyd ei gorff i orffwys cyn i benwynni ymdaenu drosto. Dywedai fy nghydymaith ar y fainc y cofiai ef hen bobl yn Hodnet yn sôn am Heber. Deellais ar unwaith y gwyddai ef am Heber ac am ficerdy Wrecsam, lle y cyfansoddodd yr emyn From Greenland's icy mountains, i'w ganu fore Sul drannoeth yn hen eglwys y plwyf, a'r Esgob yn dadlau dros baganiaid y byd. Ac fe wyddai fy nghydymaith fwy nag a dybiwn, ac fe ychwanegodd hyn fy niddordeb ynddo. Oedd, yr oedd Ceinion Alun ar ei silff lyfrau, ac fe adroddodd ddarnau helaeth o farwnad Alun i'r Esgob Heber.

Cyfeiriai at Uppington a Donnington, meysydd gweinidogaeth Goronwy Owen fel curad unwaith, ac yr oedd ganddo lawer i'w ddywedyd am y ddau le, a llawer iawn am Oronwy. Treuliodd ef rai blynyddoedd yn yr ardaloedd hynny. Dywedai i'r Gymraeg adael ei hôl yn ddwfn ar enwau tai a thiroedd, ac yn wir ar arferion y bobl. Cofiai glywed llawer iawn o Gymraeg hyd yn oed yn Amwythig. Yn amser ei dad, Henry Rees oedd gweinidog y capel Cymraeg yno. Ac i gapel Henry Rees yr âi ei dad, yn un peth am ei fod ef yn hanu o Lansannan, plwy genedigol Henry Rees, a Gwilym Hiraethog ei frawd. Clywais lawer am y ddau frawd hyn.

Yn y pellter o'n blaen gwelem Wrekin, Uriconium y Rhufeiniaid, pan wladychai eu llengoedd yn y fro. Draw eto yr oedd Breidden a'r Mynydd Hir, Caer Caradog, Betws-y-crwyn, a'r Anchor. A dyma wlad Powys Wenwynwyn a'i chastell ym Mhengwern, ac ar ôl hynny ym Mathrafal. Fe elwid Powys yn Baradwys Cymru gyda Hafren yn ymddolennu trwy'r broydd teg a bron yn ddolen am Bengwern. A hon oedd gwlad Beuno Sant cyn mynd ohono i Glynnog Fawr yn Arfon.

Wrth eistedd gyda'n gilydd fel hyn ar fainc yn ffrynt y tŷ gwelem orchudd tenau o niwl llwydwyn yn ymestyn dros y gwastadeddau eang, ac yn brysur esgyn llethrau'r mynydd-dir nes o'r diwedd iddo gyrraedd y llecyn tlws y safem ni arno, a thybiwyd mai gwell fyddai mynd i'r tŷ i lechu rhag y gawod drom o wlith a deimlen eisoes yn defnynnu arnom.

Yn y tŷ digwyddais eistedd gyferbyn â'i silff lyfrau, a bwriais olwg dros y cyfrolau destlus a addurnai'r silff. Ac yno yr oedd y Beibl mewn congl fwy parchus na'r un arall. A Beibl Eglwys ydoedd ef. Tynnais ei sylw at y gyfrol. Tua diwedd y bedwaredd ganrif neu ddechrau'r bumed y rhoed yr enw hwn arno gan Ierôm. Ac o'r amser pell hwnnw yn ôl hyd yn awr nid yw'r Beibl yn gyflawn heb yr Apocryffa, a'r Beibl cyflawn hwn a ddylai fod ar letring a phulpud pob eglwys. Y Feibl Gymdeithas, i arbed traul, a gyhoeddodd y Beibl ar wahân i'r Apocryffa.

Ar yr un silff â'r Beibl yr oedd Taith y Pererin, Yr Efelychiad, Robinson Crusoe, tri neu bedwar o lyfrau A. C. Benson, copi hardd o'r Llyfr Gweddi, Traethawd yr Iawn gan y Dr. Lewis Edwards, a'i Draethodau Llenyddol, Cysondeb y Ffydd yn ddwy gyfrol hardd, gan y Dr. Cynddylan Jones. Yno hefyd yr oedd y Dr. Harris Jones, y Dr. Cynhafal Jones, y Dr. Griffith Parry, ac amryw eraill o'r un dosbarth.

Cyfeiriais atynt a'i ateb oedd mai hwynt-hwy fu'n dyfrhau'r meysydd a heuwyd gan y Diwygwyr fel Rowlands, Harris, Jones Llangan, Thomas Charles, Pant-y-celyn, ac amryw eraill.

Ar hyn trodd ataf a dywedodd, "Pe cawsai'r dynion hyn", a phwyntiai atynt ar y silff, "lonydd, fe fyddai'r Corff Methodistaidd a'r Eglwys yng Nghymru ymhell ar eu ffordd i undeb, os nad wedi ei gyrraedd".

Bu i'r Archesgob Edwards, ac ef ar y pryd yn Ficer Caerfyrddin, ymddiddan â rhai o arweinwyr y Corff Methodistaidd ar y pwnc o undeb. Ond fe ddechreuwyd ymosod ac amddiffyn yr Eglwys, a rhoes hynny derfyn ar y pryd, ac am lawer blwyddyn, am hyd yn oed feddwl am adundeb crefyddol. A geiriau olaf Abram Jones cyn inni ymadael â'n gilydd oedd: "Ni welaf i, ac ni welwch chwithau y Corff Methodistaidd a'r Eglwys yn un, a rhwyg 1811 wedi ei gyfanu, ond fe wêl yr oes sy'n codi y dyddiau gwell y sydd yn ddiogel yng nghôl y dyfodol". Ac fe wêl hefyd gyflawni proffwydoliaeth Eben Fardd, pan ddywedodd, ac ef yn flaenor gyda'r Methodistiaid ar y pryd:

Plethir y capel a hithau—yn un
Nawn y Mil Blynyddau,
Trwy sigdod tyr y sectau,
Y rhif un fydd yn parhau.

IX

O'R GOGLEDD I'R DE

AR ôl aros rai dyddiau yn swyn mynachlog Ystrad Fflur, a mwynhau golygfeydd arddunol y fro; ar ôl ymweld â Phont y Gŵr Drwg, a chlywed yr hen chwedl ynglŷn â chodi'r bont; ar ôl colli'r ffordd i'r Eglwys Newydd a'r Hafod, a dychwelyd gyda glannau Ystwyth, ac i fyny rhiw Trefriw, a cholli amser yno oherwydd colli o'r modur ei anadl bron ar dop y rhiw—ar ôl yr holl droeon hyn, a mwy na fedraf fynegi yma, cyrhaeddwyd mynwent ac eglwys Gwnnws. Y mae'n rhaid teithio ymhell i weld mynwent ac eglwys hafal eu safiad i'r rhain. Cylch crwn yw'r fynwent, ac y mae cylch arall o fewn y muriau. Y peth hynaf yn y fynwent yw carreg fedd, a adnabyddid yn yr ardal, a'r ardaloedd o amgylch, fel carreg fedd Caradog. Y dyb oedd mai yno y claddwyd Caradog, ac islaw y mae cwm a elwir Cwm Caradog, lle y bu Caradog yn ymguddio, ond yn y diwedd ef a ddaliwyd ac a laddwyd. Dyna hen draddodiad y fro, a rhaid yw bod rhywbeth wrth wraidd yr hen draddodiad hwn fel pob traddodiad arall.

Y dyb a goleddir yn awr yw mai carreg o'r cyfnod Goedelig ydyw, ac mai Ogam yw'r ysgrifen sydd arni. Y mae'r garreg yn awr yng ngofal yr Ancient Monuments Society.

Cerddasom trwy'r fynwent, amgylch ogylch, a darllenasom ar y meini-cof enwau llawer hen gydnabod ac anwyliaid lawer. Amgylchynasom yr Eglwys a sylwasom ar ei muriau a'i chlochdy. A chlywem lais dieithriol a chwynfannus yn cyniweirio trwy'r lle, ac yn oedi ar frigau uchaf yr yw, ac yn cwyno'n ddolefus—"Dyma y rhai y'm clwyfwyd â hwynt yn nhŷ fy ngharedigion". "Nid gelyn a'm difenwodd; yna dioddefaswn; nid fy nghasddyn; yna mi a ymguddiaswn rhagddo ef; eithr tydi, ddyn, fy nghydradd, fy fforddwr, a'm cydnabod".

Da oedd gennym gefnu ar y tristwch hwn. Ac ar ôl treulio noson ddiddan dan gronglwyd gysurus yn Llanrhystyd, aed yn blygeiniol drannoeth ar bererindod i Dyddewi, ac i mi y tro cyntaf erioed. Prysurwyd trwy froydd newydd, prydferth ac arddunol. Amhosibl oedd mynd trwy Gei Newydd heb guro wrth ddôr No. 3, Rock Street, ac ysgwyd llaw â'r preswylydd ac edrych yn ei wyneb, a chlywed ei lais gyda mwynhad. Ymlaen â ni, a thrwy Nanhyfer a'r Eglwys, a darllen tabled goffa Penfro, ac i gyfeiriad Tyddewi.

Nesâwyd at y ddinas—nod ein pererindod—a'r modur yn arafu ei olwynion, a'r haul yn gwenu ar fangre mawl a gweddi trwy gydol yr oesau, a ninnau'n llygaid a chlustiau i gyd yn disgwyl am yr olwg gyntaf ar Dyddewi. Nid rhyfedd i Luther syrthio ar ei wyneb i'r llawer ar ei waith yn edrych am y tro cyntaf ar ddinas y Saith Bryn. Yr oedd cysegredigrwydd y fangre neilltuedig hon yn disgyn yn drwch ar ein hysbrydoedd ninnau. Yn y man dyna'r tŵr sgwâr yn dechrau dod i'r golwg, ac yn ddiymdroi daeth yr holl fangre i'r golwg, a chreithiau dyfnion yr oesau arni, a'r fynachlog fawr fel y myrtwydd yn y pant, a'r arogl fel arogl y myrr yn esgyn yn ysgeiniau o atgofion i'n meddyliau a'u melysu â'r ymdrechion ysbrydol a thymhorol a fu ei hanes wrth siglo crud y genedl a'i thywys ar hyd llwybrau moes a chrefydd. Ac nid yw'r genedl yn ei munudau gorau o'i hymwybyddiaeth yn anghofus o'i dyled iddi, a hawdd yw ei chlywed yn sisial yn nyfnder ei henaid "Os' anghofiaf di, anghofied fy neheulaw ganu; glyned fy nhafod wrth daflod fy ngenau, oni chofiaf di goruwch fy llawenydd pennaf".

Disgynnwyd ar hyd grisiau i'r Eglwys orwych i weld y Deon yno, un o "hogiau'r pedwar ugain", yn tywys dosbarth lluosog o ferched trwy'r Eglwys a thrwy ei hanes o ganrif i ganrif, a thrwy fil a mwy o droadau melys a chwerw yn ei hanes hen, ac yn y diwedd ddangos y creiriau santaidd a wnaeth i bob un ohonom dynnu ei anadl ato wrth feddwl iddynt fod unwaith yn rhan o'r corff hwnnw y mae ei ysbryd yn awr yn hofran fel angel gwarcheidiol y lle.

Arosasom ar y ris uchaf i edrych ar y fynachlog orwych dan ei chreithiau dyfnion, a chreithiau a chlwyfau na fedr na natur nac amser eu cuddio. Gwelem eiddew yn ymestyn mewn mannau ar hyd y muriau fel pe'n awyddus i dynnu cochl drostynt, ac yn methu. Yr oedd llygad y Deon yn rhy graff, a'i galon yn rhy gynnes, i adael hyd yn oed i gysgod glaswelltyn guddio briwiau plentyn ei ofal. Eu clwyfo fu tynged cymwynaswyr pennaf y byd; a braint cymwynaswyr pennaf y byd yw cadw'r clwyfau yn agored. Yma yr oeddynt yn agored a gweledig, ac yn parablu i'r neb a wrendy, "Onid gwaeth gennych chwi, y rhai a dramwywch y ffordd? Gwelwch, ac edrychwch, a oes y fath ofid a'm gofid i, yr hwn a wnaethpwyd i mi".

Arweiniodd y ffordd ni wedyn, ond nid yr un diwrnod, i Gribin. A chofiem mai yn y gymdogaeth hon yn rhywle yr oedd Maes-y-mynach, cartref Daniel Ddu o Geredigion, a aned yno tua diwedd y ddeunawfed ganrif, ac a fu farw tua chanol y ganrif nesaf, ac yntau ar y pryd ond prin wedi croesi canol oed. Yr ydoedd ef yn ysgolor gwych, ac yn Gymrawd o Goleg yr Iesu yn Rhydychen. Cyhoeddodd lyfr o'i farddoniaeth dan yr enw Gwinllan y Bardd, ac ni fu llyfr â mwy o ddarllen arno yng Ngheredigion y pryd hwnnw na'r Winllan. Byw i ganu a physgota oedd hoffus waith Daniel Ddu Er hoywed yw yn ei farddoniaeth, gaeth a rhydd, dioddefai'n drwm oddi wrth nychdod ysbryd a'i gorchfygodd yn y diwedd. Cof gennyf weld ei dryfer bysgota dan fondo Capel Croes yn Swydd-ffynnon ynghadw gyda'i hen gludydd arfau a breswyliai yno, ac a hoffai adrodd eu helyntion ar hyd glannau Teifi, ac fel y byddai ei feistr yn ysgrifennu ar dameidiau o bapurau a'u cadw wedyn ym mhoced ei wasgod.

Y cymeriad arall a hanai o Gribin oedd y Dr. Rees, Bronant, y mwyaf ei hiwmor yn ei ddydd. Dyn trwsiadus, lluniaidd o gorff a glandeg ei wyneb oedd y Doctor, a wig felen yn lle gwallt ar ei ben. Bu ei wig a'i hiwmor yn fagl iddo lawer tro, a mynych y bu raid i'w hiwmor amddiffyn ei wig. Arwydd o falchder oedd gwisgo wig, a bu cryn gynnwrf yn y gwersyll. Aeth un o'r Hir Wynebau i siarad â'r Doctor ar y pwnc. "Dyma fi", meddai, "yn foel o glust i glust ac o dalcen i wegil, ac nid oes arna' i eisiau un wig". "Nac oes, 'y machgen i", meddai'r Doctor, "ac nid oes eisiau eu toi ar dai gweigion".

Synnai ar lawer fod y Doctor mor iach ei ffydd, ac yntau wedi ei fagu yn Cribin a'i addysgu mewn ysgol Undodaidd. "Fel hyn yr oedd hi", meddai yntau, "yr oeddwn i yn debyg i ddyn yn byta sgadenyn byta'r cig a gadael y blew".

Ar ôl rhai blynyddoedd o oedi penderfynwyd cyflwyno i'r Doctor ddiploma'r D.D., a phennwyd ar noson mewn capel bychan ar Fynydd Bach. Tybiodd y Doctor mai gweddus fyddai iddo ymddangos mewn het silc newydd. Ac fe aeth i brynu un yn siop Howel yn Aberystwyth. Gofynnwyd seis ei Yma yr oeddynt yn agored a gweledig, ac yn parablu i'r neb a wrendy, "Onid gwaeth gennych chwi, y rhai a dramwywch y ffordd? Gwelwch, ac edrychwch, a oes y fath ofid a'm gofid i, yr hwn a wnaethpwyd i mi".

Arweiniodd y ffordd ni wedyn, ond nid yr un diwrnod, i Gribin. A chofiem mai yn y gymdogaeth hon yn rhywle yr oedd Maes-y-mynach, cartref Daniel Ddu o Geredigion, a aned yno tua diwedd y ddeunawfed ganrif, ac a fu farw tua chanol y ganrif nesaf, ac yntau ar y pryd ond prin wedi croesi canol oed. Yr ydoedd ef yn ysgolor gwych, ac yn Gymrawd o Goleg yr Iesu yn Rhydychen. Cyhoeddodd lyfr o'i farddoniaeth dan yr enw Gwinllan y Bardd, ac ni fu llyfr â mwy o ddarllen arno yng Ngheredigion y pryd hwnnw na'r Winllan. Byw i ganu a physgota oedd hoffus waith Daniel Ddu Er hoywed yw yn ei farddoniaeth, gaeth a rhydd, dioddefai'n drwm oddi wrth nychdod ysbryd a'i gorchfygodd yn y diwedd. Cof gennyf weld ei dryfer bysgota dan fondo Capel Croes yn Swydd-ffynnon ynghadw gyda'i hen gludydd arfau a breswyliai yno, ac a hoffai adrodd eu helyntion ar hyd glannau Teifi, ac fel y byddai ei feistr yn ysgrifennu ar dameidiau o bapurau a'u cadw wedyn ym mhoced ei wasgod.

Y cymeriad arall a hanai o Gribin oedd y Dr. Rees, Bronant, y mwyaf ei hiwmor yn ei ddydd. Dyn trwsiadus, lluniaidd o gorff a glandeg ei wyneb oedd y Doctor, a wig felen yn lle gwallt ar ei ben. Bu ei wig a'i hiwmor yn fagl iddo lawer tro, a mynych y bu raid i'w hiwmor amddiffyn ei wig. Arwydd o falchder oedd gwisgo wig, a bu cryn gynnwrf yn y gwersyll. Aeth un o'r Hir Wynebau i siarad â'r Doctor ar y pwnc. "Dyma fi", meddai, "yn foel o glust i glust ac o dalcen i wegil, ac nid oes arna' i eisiau un wig". "Nac oes, 'y machgen i", meddai'r Doctor, "ac nid oes eisiau eu toi ar dai gweigion".

Synnai ar lawer fod y Doctor mor iach ei ffydd, ac yntau wedi ei fagu yn Cribin a'i addysgu mewn ysgol Undodaidd. "Fel hyn yr oedd hi", meddai yntau, "yr oeddwn i yn debyg i ddyn yn byta sgadenyn byta'r cig a gadael y blew".

Ar ôl rhai blynyddoedd o oedi penderfynwyd cyflwyno i'r Doctor ddiploma'r D.D., a phennwyd ar noson mewn capel bychan ar Fynydd Bach. Tybiodd y Doctor mai gweddus fyddai iddo ymddangos mewn het silc newydd. Ac fe aeth i brynu un yn siop Howel yn Aberystwyth. Gofynnwyd seis ei ben. "Seis fy mhen", meddai'r Doctor yn ddirmygus, "nid oes yr un wlad ond Unol Daleithiau America wedi ei fesur eto". "Dyma het 7¼", meddai'r siopwr. "Rho di I o flaen y 7, ac fe fyddi di yn agosach i'th le", oedd ateb y Doctor. A hynny a wnaed, ac yr oedd yr het yn ffitio i'r dim. "Yn awr, tor di lythrennau blaen fy enw tu fewn i'r het", oedd gorchymyn nesaf y Doctor, a gwnaed hynny eto. "D.R. 7¼ D.D." "Y mae'n rhaid i ti dorri eto, U.D.A., gwaith nid wyf am fy nghyfrif ymhlith pibrwyn D.D.s y wlad hon", meddai'r Doctor eto. Ar hyn dyna bwff o chwerthin o'r tu ôl iddo, a throes y Doctor drach ei gefn, i weld yno neb llai na'r Prifathro T. C. Edwards a oedd wedi ei ddilyn i'r siop yn ddirgelaidd. Edrychodd y Doctor arno o'i ben i'w draed, ac wedyn o'i draed i'w ben, ar draws ac ar hyd, ac wedyn fe ymunionodd nes gwasgu coler felfed ei gôt dan fargod melyn y wig, ac meddai, "Reëlaätive greatness, Tom". "Reëlaätive greatness, y 'machgen i", ac fe aeth y ddau allan fraich ymraich ac i gwrdd â Chynddylan, a'r Doctor a'i cyfarchodd yntau â'i "Reëlaätive greatness", ac fe aeth y tri am dro ar hyd y Parêd. Fe'u gwelwyd gan un o'r Hir Wynebau, a'u hanerchodd dipyn yn chwareus fel y gweddai i un yn hau cyhoeddiadau—"Y mae'n ddiwrnod mawr yn Aberystwyth heddiw, tri o Ddoctoriaid!" Ar gais y Principal cododd y Doctor ei fraich chwith, ac fe'i hestynnodd hi at y môr a oedd yn weirgloddiau llydain ar y pryd, a chyn lased â'r genhinen, a chychod y dref yn hel mwyar duon ar hyd-ddynt. "Ie, wel di", meddai'r doctor, "dyfnder a eilw ar ddyfnder. Ond cofia, Reëlaätive greatness".

Fe wyddai'r Doctor yn iawn sut i yrru'r pruddglwyf o ben a chalon y Principal a garai mor annwyl â'i enaid ei hun.

Yn blygeiniol fore Gŵyl y Banc, a'r brecwast wedi ei baratoi y noson gynt, codasom am bump o'r gloch y bore, a chyn pen awr yr oeddem yn disgwyl am y modur. Ac O fore! a'r haul yn dechrau codi i asur las ddigwmwl. Bore fel hwn a'i gwna'n werth byw mewn byd mor brydferth, a ninnau mewn iechyd ac ysbryd i'w fwynhau.

A ni yn y mwynhad hwn—mwynhad y bore—a'r haul yn graddol esgyn yn ei ysblander, ac yn bwrw ei belydrau yn wreichion i lwyn gwyrddlas ar glawdd yn ymyl nes ei oddeithio yn fflam eirias, a chydymaith fy nheithiau'n paratoi'r modur, trois innau i edrych ar y weledigaeth hon—"y berth yn llosgi a heb ei difa"—a'm calon innau yn llosgi gan ryw dân na fedr fy mhin ei ddisgrifio. Wrth edrych ar y weledigaeth llosgai 'nghalon, a'i llosgfeydd oedd yn felys a hyfryd, a dirgel ddymunais am iddi barhau, canys ni phrofais erioed o'r blaen fwynhad cyffelyb. Ofnwn glywed sŵn y modur yn torri ar ddistawrwydd santaidd yr olygfa, a throis drach fy nghefn, ac ni allai fod yn fwy nag eiliad, ac yr oedd yr olygfa wedi diflannu, a'r berth wenfflam yn awr yn llwyn gwyrddlas. Gwelais y tân a theimlais y presenoldeb. Yn awr yr oedd y cwbl wedi diflannu ond o'm calon ; llosgai'r tân yno o hyd. Ac yn yr ysbryd hwn cipiwyd fi gan y modur trwy froydd prydferth a llanerchau teg, a'r haul yn tywynnu, ac yn Abaty Tintern yr ymddeffroais.

Yno, rhodiasom amgylch oglych yr adeilad gorwych a'i lawntiau teg, a meddwl am y presenoldeb a fu yno, a'r mawl a'r weddi ddi-dor a fu'n esgyn i fyny ar hyd yr oesau—

Pa sawl ave, cred, a phader,
Ddwedwyd rhwng y muriau hyn?


X

DAN ARWYDD Y LLEW COCH

MYND i weld y dyn bodlon ac aros dan arwydd y Llew Coch fu fy hanes tua diwedd Medi 1927. Ac fel hyn y digwyddodd. Daeth ymwelydd bychan heibio na welais ers rhai misoedd. Dawnsiai o gwmpas fel pe i dynnu fy sylw. Y robin ydoedd wedi dychwelyd o'r wlad i'w hen gynefin. Adnabûm ef wrth bluen wen yn ei adain chwith. Deffrôdd yr olwg arno ysfa ynof am fynd am dro i weld hen gydnabod a'r dyn mwyaf bodlon a adwaenwn, a gwyddwn y byddai awr neu ddwy yn ei gwmni yn wir fwynhad. Brysiais i'r bws, ac o'r bws i'r trên ; a disgynnais yn yr orsaf agosaf ato, er bod oddi yno dair neu bedair milltir dda i'w cerdded. Cul a throfaog oedd y ffordd, a honno ar i fyny.

Arhoswn yn awr ac yn y man i edrych ar fynyddoedd Meirion, ac yn enwedig ar y Gader a ymwisgai ar y pryd â gorchudd o niwl tenau, a chyn deneued â gwawn y gweunydd, a'i cuddiai ac a'i datguddiai bob yn ail. Weithiau codai ei phen fel pe'n ymhyfrydu edrych arni hi ei hunan yng ngwisg gwisgoedd ei gogoniant. Tebyg ydoedd i'r Archoffeiriad ddydd mawr y Cymod yn mynd trwy'r wahanlen i wyddfod yr Anweledig yn y santeiddiolaf ac i wrando ar yr anhraethadwy. Euthum yn fy mlaen ac yn ddyfnach i ryw ddistawrwydd llesmeiriol, a heibio i goedwig a brain ar frigau uchaf y canghennau fel llongau dihwyl ar y cefnfor, Gorweddai'r fuches ar y weirglodd gan gnoi ei chil yn farwaidd ddigon. Distawrwydd a syrthni a orffwysai'n drwm ar fro a bryn. Nid oedd na sŵn aderyn na si chwilen i'w clywed yn unman.

Mewn tro yn y ffordd gwelwn ddyn yn gorwedd ar wastad ei gefn. Dan ei ben yr oedd pecyn mewn cadach glas, a'i ddwy law ymhleth dan ei wegil, a'i ffon yn ei ymyl. Dyn mewn cytgord â natur ydoedd yno'n cysgu. Methais â'i basio heb ei ddeffro; cododd a chyd-deithiodd ran o'r ffordd gan ymddiddan ac ymgomio, ac felly aethpwyd ymlaen nes cyrhaeddyd ohonom bentref.

Wedi cael o hyd i geidwad allwedd yr hen Eglwys euthum i mewn a'r ceidwad gyda mi. Ni fuom yno'n hir nes goleuo o fellten yr Eglwys o gwr i gwr a dangos y groes ar yr

allor yn danbaid, ac o fewn eiliad neu ddwy dyna daran fel pe'n disgyn ar do'r Eglwys ac yn ymrolio a marw yn y pellter, ac ar ei hôl un arall, ac un wedyn, a'r mellt yn gwau'n frawychus. A chyda hyn dyma'r glaw yn disgyn fel petasai cwmwl wedi torri; disgynnai'n syth nes tasgu o'r defnynnau ar y palmant.

Manteisiais ar y cyfleustra cyntaf i redeg am nodded i'r Llew Coch yr ochr arall i'r ffordd ac nid oedd nepell. Cegin hen ffasiwn oedd yno ac aelwyd gysurus, a hen ŵr yn eistedd yn ei gadair freichiau a golwg urddasol a phatriarchaidd arno. Fe'm hysbysodd nad oedd moddion yn y byd yno i'm hebrwng i'r orsaf nac unman arall, a pherygl bywyd fyddai mentro allan ar y fath law, yn enwedig heb ddarparu ar ei gyfer. Amaethdy oedd y Llew Coch yn awr er iddo fod yn dafarndy unwaith a'r hen enw'n glynu wrtho o hyd.

Byw gyda'i ferch ydoedd ef, a hithau'n weddw. Wrth ymgomio â'n gilydd o bobtu i'r tân, a'r gath yn rhyw bendwmpian ar yr aelwyd ac yn deffro i olchi y tu ôl i'w chlust â'i phawen, yn arwydd o ddyfodiad rhyw ymwelydd, daeth y ferch i mewn a phrysurodd i ddarparu cwpanaid o de, ac yng nghwrs yr ymgom o amgylch y ford fach gron deellais i'r hen ŵr fod yn yr un hen ysgol â minnau, ond flynyddoedd yn gynharach.

Pistyllai'r glaw, a derbyniais wahoddiad y teulu i aros yno y noson honno. Yr oedd gwaith y dydd drosodd yn awr, a'r ferch wedi gafael yn ei hosan a dechrau gwau a ninnau'n dau'n ymgomio am yr hen amser gynt.

Yn ôl arwydd y gath daeth cymydog i mewn, a chyn braidd iddo eistedd dilynwyd ef gan un arall. Yr oeddwn yn awr yng nghwmni triawd o hen batriarchiaid diddan a pharablus, a'r crochan â'r uwd yn berwi ar y tân.

Digwyddais ddywedyd mai aelwydydd croesawgar a chysurus oedd hen aelwydydd Cymru. "Ie", meddai hen batriarch y tŷ, "croesawgar o hyd, ond cysurus! Wel, pan oedd y tân ar lawr, yr oedd cysur y pryd hwnnw". Ac yna aeth yn ei flaen i adrodd am ei daid yn ddyn ifanc yn dyfod o Sir Gaernarfon i Sir Feirionnydd, a dwyn gydag ef y tân mewn crochan i gadw'r olyniaeth rhwng yr hen breswyl a'r newydd, ac arwydd o anlwc fuasai i'r tân ddiffodd. Ac ni fu diffodd ar y tân ar aelwyd y Llew Coch hyd o fewn y pum mlynedd ar hugain diwethaf, pryd y gorfodwyd rhoddi grât ar gyfer glo, am fod y fawnog wedi ei gweithio allan. Dyhuddid y tân bob nos, a dadebrid ef bob bore, ac anffawd amheus fuasai iddo ddiffodd. Gosodai'r tân ryw gysegredigrwydd ar yr aelwyd a chreai ryw awyrgylch cyfriniol y gellid ei deimlo, a pha ryfedd pan gofir mai'r tân, yn ôl Darwin, yw prif ddarganfyddiad y byd. Hawdd dyfalu'r gofal i gadw'r elfen gyfriniol hon yn fyw pan ddarganfuwyd hi gyntaf, a'r pryder o'i cholli wedi ei chael, a bu'r pryder yna a'r gofal i'w teimlo o'r amser pell hwnnw y sy'n awr yn ymlochesu yn niwl y gorffennol, hyd ein dyddiau ni. Ac nid rhyfedd i'r cysegredigrwydd hwn barhau cyhyd ag y parhaodd y tân ar yr aelwyd ac iddo ddiflannu gyda dyfodiad y grât a'r glo.

Dan fantell y simnai a thanllwyth ar yr aelwyd, a'r gwynt yn chwibanu yn y simnai, a'r penteulu yn ei gadair freichiau o dderw du, a brenhines yr aelwyd ar gadair arall is gyferbyn, a rhyngddynt hanner cylch o blant yn fechgyn a merched, ac yn gymysg â hwynt ddau neu dri o gymdogion neu gymdogesau—dyna oedd yr aelwyd Gymraeg pan oedd Bess yn teyrnasu, ie, a chyn Bess, a hefyd ar ôl dyddiau Bess.

"Da y cofiaf yr hen aelwyd Gymreig, ac yn wir yr hen aelwyd hon cyn y grât a'r glo", meddai un o'r ddau gymydog, ac yntau'n pwyso'n drwm ar ei bedwar ugain, ac aeth yn ei flaen i adrodd yr hanes.

Noson Gwau Gwryd. Cofiai am wragedd a merched y fro yn dyfod ynghyd, ac ynghyd i'r aelwyd honno, i dreulio noson lawen, ac i wau gwryd. Mesurid yr un faint o edafedd i bob un, a hwnnw o hyd gŵr. Byddai tanllwyth ar yr aelwyd, y crochan llymru yn crogi'n uchel wrth y bach, a channwyll newydd yn Siôn Segur, a dyna ddechrau ar wau.

Am awr dda ni chlywid ond y gweill yn clecian, y crochan yn berwi a chwerthiniad iach ar y straeon chwaethus a digrif a'r dywediadau pert. Y gyntaf a orffennai'r gwryd oedd y gyntaf ohonynt i briodi, ac fe ddigwyddodd hynny unwaith i hen ferch a oedd wedi gweld ei 70, a mawr oedd llawenydd ac ysmaldod y lleill, a hithau yn treio ei chysuro'i hun yn wyneb fath aflwydd trwy ddywedyd, "Wel, wel, dyna'n diwedd ni i gyd".

Gwrandawyd ar stori'r gwau gwryd â chlustiau a geneuau agored, yn enwedig y tri phlentyn a eisteddai o fewn y cylch crwn ar yr aelwyd. Ond beth oedd y syndod pan ddywedodd y cyfaill—distaw hyd yn hyn-mai—Aelwydydd Cymru oedd crud llenyddiaeth ein gwlad a'i deffroadau crefyddol. O glywed hyn distawodd pawb gan droi eu hwynebau at y llefarwr â rhyw ddisgwyliad am chwaneg yn argraffedig ar bob wynepryd. "Ie", meddai, "aelwydydd Cymru yw crud ei llenyddiaeth a'i deffroadau, a dyma ichwi enghraifft deg o un o hen aelwydydd Cymru, nid yn gymaint fel ag y mae hi heno, er bod yr olion yma, ond fel yr oedd hi hyd 25 mlynedd yn ôl pan oedd y tân ar lawr", ac fe aeth yn ei flaen i adrodd fel y cyfarfyddai cymdogion a dieithriaid i adrodd straeon ar y no man's land rhwng rhengoedd y goleuni a'r tywyllwch, yr ysgarmesau blin â brodorion y nos, a'r gweledigaethau brawychus. Oes y rhamant a'r dychmygion oedd yr oes honno, ac nid ofergoeliaeth. A'r rhamant yw dechreuad llenyddiaeth pob gwlad. Ac ar aelwydydd Cymru y stofwyd y Mabinogion a ddylanwadodd gymaint ar drwbadwriaid Ewrop. Ac aelwydydd Cymru a baratôdd y ffordd i'r deffroadau crefyddol. Cofiai ef yn dda am ddiwygiad, neu'n fwy cywir, ddeffroad '59, y pregethau tanllyd yn disgrifio dirdyniadau'r colledigion yn annwn, a beth oedd yn fwy naturiol nag iddynt gynhyrfu meddyliau a oedd eisoes yn eirias o'r ofnadwy. Dyn cyffredin, a llai na'r cyffredin oedd Dafydd Morgan, ond yr oedd ei ddisgrifiad o'r colledigion yn arswydus. Dyna fel yr oedd hi gyda Daniel Rowland, a Howel Harris. Y llyfr a ddarllenid fwyaf o unrhyw lyfr yn y ddeunawfed ganrif oedd Y Bardd Cwsg, a chredid ef bob gair.

Aelwydydd Cymru a arloesodd y ffordd, a hwynt-hwy a fu'n siglo crud llenyddiaeth ein gwlad.

"Yr ydych wedi moli llawer ar aelwydydd Cymru", meddai merch y tŷ, a chododd o'i chadair gan roddi heibio ei hosan, ac ymhen ychydig eiliadau yr oedd lliain gwyn a glân fel pe newydd ddyfod o'r olchfa ar y ford gron a chwpanau pren a llwy bren ymhob un, a'r crochan uwd ar drybedd fechan ar y ford a'r llefrith a'r enwyn mewn dwy jwg yn ymyl, a gwahoddiad i bawb i estyn ati a'i helpu ei hun o swper Cymreig ar aelwyd Gymreig.

Trowyd eilchwyl at y tân a'r ferch yn clirio'r ford ac yn golchi'r llestri ar y ford fawr, ac yn ymgomio â'r plant a eisteddai ar sedd y ffenestr. "Gan mlynedd yn ôl", meddai hen batriarch y tŷ, "tafarndy ydoedd y tŷ hwn fel y gwelir wrth yr arwydd"." Unwaith eto yr oeddem yn glustiau i gyd i wrando arno yn adrodd y modd y daeth yn dafarndy. Medd oedd diod yr hen Gymru, ac fe yfid yn helaeth ohoni yn y gaeaf, ac yn enwedig yn ystod cynhaeaf y mêl, ac o'r gair 'medd' y daw'r gair 'meddwi'. Diod ddinistriol iawn i iechyd oedd y medd. A rhag i'r genedl gyflawni hunanladdiad trwy yfed medd, darparwyd tai fel y tŷ hwn i fragu diod wannach o ffrwyth yr heidden, ac fe geir hen dai fel hyn yn ymyl yr eglwysi, a hwynt-hwy fu'n foddion i sobri'r wlad. Tai dirwest oedd y rhain i ddechrau, a chyflawnasant waith da yn eu dydd.

Ac felly yr aeth y nos heibio fel y canodd Cynddelw—

Yn gwau y mae Gwen,
Gwnaf innau lwy bren,
Mor dawel mae'r nos yn mynd heibio.

Gyda Nos Da i bawb esgynnais risiau o dderi du, ac i wely deri o wneuthuriad cartref, ond cyn mynd ni allwn lai nag anadlu englyn-weddi Eben Fardd:—

Y Duw di-wyrni dod arnaf—hun cwsg
Ac yna y cysgaf,
A fy nheulu cu, os caf,
Dan len Dy aden dodaf.


XI

YSGUB O LOFFION

RHYFEDD yw fel y myn y cof ymryddhau o'r presennol a chrwydro'n ôl i'r gorffennol i loffa ymysg digwyddiadau a fu, a dwyn yn ôl ysgub neu ddwy i'r meddwl ymhyfrydu ynddynt. Hwyrnos gaeaf wrth y tân, neu hwyrddydd haf yng nghysgod llwyn, yw'r adegau mwyaf tueddol iddo gymryd y gwibiadau hyn. Yn ddiweddar daeth cyfaill heibio, a threuliodd noson dan fy nghlwyd, a chan i ni'n dau gyd-drigo yn yr un ardal bellach ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, aed i sôn am yr amser gynt. Brawychaf at nifer y blynyddoedd ! Y noson wedyn yr oeddwn yn yr un ystafell a gwaith y dydd drosodd, ac ar fy mhen fy hun yn mwynhau gwres y tân cyn ymadael am ystafell arall unwaith yn rhagor. A dyna lais, p'run ai dychymyg ai beth ydoedd, yn swnio yn fy nghlyw—

Er llawer coll ni chollais i
Mo gof y dyddiau gynt,

ac ar fy ngwaethaf yn ôl y mynnai'r cof fynd, a'r meddwl gydag ef, ac yr oedd popeth yn ffafriol i'r wibdaith. Ymddiddanion y noson gynt, distawrwydd yr ystafell, sirioldeb y tân, a'r nos wedi cerdded ymhell. Taer oedd y cof a'r meddwl am fynd, ac ni warafunwyd iddynt am dro. A ph❜le'r aent ond i'r lleoedd y buwyd yn lloffa y noson gynt, a'r lleoedd hynny oedd Dyffryn Conwy a thref hynafol Llanrwst. Odid fawr nad y cyntaf a gyfarfyddid yn Llanrwst yr amser pell hwnnw, rhwng deg a deuddeg y bore, fuasai'r Hybarch Archddiacon Hugh Jones, Rheithor Llanrwst. Yn fwy na'r cyffredin o daldra, het silc am ei ben, côb fawr hir amdano, menig am ei ddwylo, a ffon yn ei law, ac yn rhodio canol yr heol, fel y tybiai'r trefwyr, i beidio â dangos mwy o ffafr i'r naill ochr na'r llall. Dyn mawr oedd ef yn ei blwyf, mawr yn y pulpud, a mwy na mawr wrth yr allor. Ond nid gweddus fyddai cymryd un o'i urddas ef ar ein gwibdaith yn awr.

Unwaith yn Llanrwst rhaid oedd ymweled â Gwilym Cowlyd—y Prifardd Pendant—yn ei siop yn Heol Watling. Llyfrau a phapurau o bob math a werthai, ac yr oedd ganddo argraffwasg ac argraffydd. Dewch i fewn i'r Sanctum fyddai'r gwahoddiad, ac i'r Sanctum yr eid. Cegin yng nghefn y siop oedd y Sanctum. Gorchuddid y ffenestrâ rhwyd gwe'r pry copyn. Ar y pared edrychai Ieuan Glan Geirionydd trwy gyfundrefnau o lwch ar ei nai, ac o dan y darlun yr oedd coffr wedi ei orchuddio â hen lyfrau a phapurau yn driphlith-draphlith. Ar ganol y llawr yr oedd bwrdd crwn yn ymddangos fel pyramid gan y pentwr o hen lyfrau a chylchgronau a ddaliai—cornel y bwrdd prin ddigon i ddal cwpan de a soser, oedd at wasanaeth ei brydiau, a'i arffed i ddal y plât. Ar y pentan yr oedd y tebot a'r tegell ar yr aelwyd, a'r gath yn ddolen o flaen y tân. Hen dderwydd oedd Gwilym yng ngwir ystyr y gair, a phrin fusnes oedd ganddo i fyw yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ond fel y mae pethau camamserol yn fynych yn digwydd, a chamamserol oedd yntau. Canlyniad ei gamamseriad oedd ei fod dipyn yn opiniynus, a rhy opiniynus i lanw'r safle a ddylasai. Cwrddais â'r Esgob Lloyd fwy nag unwaith yn y Sanctum, a Llawdden unwaith, a Phenfro yn aml, aml. Weithiau troai Tudno i mewn, a thrigai yntau yn yr un heol, eithr cyfeillgarwch o hyd braich oedd rhyngddynt hwy. Pellhawyd y ddau yn bellach oddi wrth ei gilydd ar waith Gwilym yn gofyn caniatâd Tudno i gladdu ysgerbwd dynol a brynasai mewn arwerthiant, ac i Tudno nacáu heb drwydded oddi wrth y Cofrestrydd i'w ddiogelu pe gorchmynasid codi'r ysgerbwd i wneuthur archwiliad i achos y farwolaeth. Ar ôl hyn ni fu ail i ddim o Gymraeg rhyngddynt. Cwplâwyd y rhwyg gan Dudno yn uno i gynnal Eisteddfod Daleithiol yn Llanrwst ar wahân i'r Arwest, a gwahodd Clwydfardd a Hwfa Môn yno i'w chyhoeddi. Ffregod gableddus oedd hyn yng ngolwg Gwilym, ac aeth i'r cyfarfod i wrthdystio. Tair gwaith y gwaeddodd yr Archdderwydd, "A oes heddwch?" a thair gwaith yr atebodd Gwilym ef, "Beth sy fynnot ti â heddwch? Dos di ar fy ôl i". A'r trydydd tro o'i glywed ymfflamychodd y dorf gan droi yn fygythiol at Gwilym a gwaeddi "I'r afon ag o". Achubwyd eu blaen gan y Prifardd Pendant trwy ffoi i ffau ei Sanctum.

Rai blynyddoedd wedyn, a henaint yn nesu, a sŵn y malu'n isel, tynnodd Gwilym ben arni yn Heol Watling drwy wneuthur arwerthiant ar y cwbl a feddai ac a fforddiai hepgor, ac ymneilltuodd i Heol Scotland, ac i lan aberig fechan a redai ymron heibio i ddrws ei dŷ a enwyd ganddo'n 'Glan Cerith'. Unwaith yr ymwelais ag ef yno. Ychydig o wahaniaeth oedd rhwng y lle olaf hwn a'r Sanctum, gan mai'r un dodrefn oedd yn y ddau. Eisteddai y nawn hwnnw yn ei gadair a oedd hefyd yn fath o wely, ei fwrdd â'i bentwr wrth ei benelin, a'r un hen gath yn canu ei chrwth ar yr aelwyd. Yr oedd hi wedi dilyn ei meistr i'w hunan-alltudiaeth. Llesg oedd yr olwg arno. Y bore hwnnw ymwelwyd ag ef gan Elis o'r Nant a rhyw ddau neu dri o'r trefwyr, a neb yn waglaw. Estynnodd Gwilym y blwch snisin arian yn ôl ei arfer i'w gyfeillion p'run ai y cymerid ef ai peidio. Ysgrifennodd dipyn o Glan Cerith a chyhoeddodd felltithion celyd yn erbyn pob Philistiad a feiddiai groesi defodau Barddas Arwest Glan Geirionydd. Gwanhaodd yn raddol, a chlafychodd, a'i enaid aflonydd a ffodd i dawelwch y byd mawr ysbrydol, a chafodd bawb, ymhell ac agos, yn garedig wrtho. Addolydd cyson a defosiynol ydoedd yn hen Eglwys y plwyf ar lan Conwy, a gwrandawydd mawr. Er wedi marw y mae eto'n fyw yn ei awdl odidog ar "Fynyddoedd Eryri", y dywedai Elfyn iddo luchio mwy o farddoniaeth iddi nag sydd ym mhentwr awdlau arobryn ein Heisteddfodau. Un o glasuron yr iaith yw'r awdl hon, a chafodd y Gadair amdani yn Eisteddfod Genedlaethol Conwy yn 1861, os da y cofiaf. Llawer orig hapus a dreuliwyd yn ei gwmni, er y mynnai ef weld mwy o ddifrifwch yn ei ddisgyblion ysbas a chyfallwy at urddas Gorsedd Glan Geirionydd. Ond rhaid ymatal a gadael yr hen dderwydd, canys dyna ydoedd, i huno ei hun olaf o ran ei gorff yn naear ei hoff ddyffryn, ac yn si'r hen afon sydd, ys dywedodd yntau—

Yn fwcled arian ar esgid Eryri.

I b'le y trown ein hwynebau nesaf i hel ychydig dywysennau i wneuthur yr ysgub yn gyflawn? I b'le n wir, ond dros bont Llanrwst, ac odid fawr na chyfarfyddir yna â Wil Abel, gan y treuliai'i amser o hyd galw i daro murganllaw'r bont â'i ysgwydd nes ei siglo, ac fe siglai'r bont, fel y profwyd lawer tro. Ac o byddai llif yn yr afon neidiai Wil o'r ganllaw garreg i'r afon i godi'i ben fan draw, a dychwelyd i hawlio'r chwecheiniog a enillasai.

Egyr golygfeydd arddunol a rhamantus o'n blaen. Dyma Ddyffryn Conwy ac un o ddyffrynnoedd prydferthaf Cymru, a chyfoethocaf mewn hynafiaethau. Y bont dan ein traed sydd o gynllun Inigo Jones, archadeiladydd mwyaf ei ddydd yn nechrau'r ail ganrif ar bymtheg, a aned yn Pencraig Inco uwchlaw Trefriw, ac a noddwyd' gan Syr John Wynne o Wydir. Ychydig islaw saif Eglwys Blwyfol Llanrwst a Chapel Gwydir—Eglwys sydd yn nodedig am Arwydd y Grog a roddwyd iddi ar ddymchweliad mynachlog Maenan. Yng Nghapel Gwydir y mae delw garreg o Howel Coetmor, ac arch garreg Llywelyn Fawr, a dwy golofn goffa i deulu Gwydir a roddwyd i fyny gan Syr Richard Wynne, mab ac etifedd Syr John Wynne. O fewn llai na dau ergyd bwa mae'r Plas Isa, lle genedigol William Salesbury, cyfieithydd y Testament Newydd i'r Gymraeg, a dim ond enwi un o'i orchestion. Yn is i lawr gwelir olion hen fynachlog Maenan, a symudwyd yno o Aberconwy gan Lywelyn Fawr, ac a waddolwyd mor hael ganddo, na fedr Cymru fesur yn iawn ei dyled iddi hi a'i chwaer fynachlog, Ystrad Fflur yn y De. Gryn dipyn yn is i lawr eto, yng Nghonwy, y ganed Richard Davies, unwaith Esgob Tyddewi, yr Esgob Thomas Davies, a'r Archesgob John Williams, Ceidwad y Sêl Fawr dan deyrnasiad y Brenin Iago I.

Brenin Iago I. Trown wyrdro'n cefn a dacw'r Wybrnant a'r Tŷ Mawr, lle genedigol yr Esgob Morgan, cyfieithydd y Beibl i'r Gymraeg, a gyhoeddwyd yn 1588. Ni chawsai Cymru nac Esgob Morgan na Beibl oni bai am yr hen fynach hwnnw a ffodd am nodded, ar ddymchweliad mynachlog Maenan, i'r Tŷ Mawr at John a Lowri Morgan, rhieni'r esgob, dyweded Syr John Wynne faint a fynno am ddyled teulu'r Tŷ Mawr iddo ef a'i deulu. Y fynachaeth yn ei chwymp yn anfwriadol, ond yn fwriadol i Allu Uwch, a roddodd y Beibl i Gymru—y colynnau cudd hyn mewn hanes sydd yn ddiddorol. Dywed Victor Hugo ei bod yn ddigon tebyg y buasai wyneb Ewrop yn wahanol i'r hyn ydyw heddiw, oni bai am y bachgen o fugail hwnnw yn cyfeirio â'i fys y ffordd agosaf i faes Waterloo i un o gatrodau Napoleon pan oedd Wellington yn gweddïo am y nos neu Blucher. Y pryd hwnnw, fel llawer pryd wedyn, nid y ffordd agosaf yw'r gyntaf. Bys estynedig y bugail hwnnw oedd un o'r colynnau cudd mewn hanes. Ni chynhyrchodd Cymru eto'r un hanesydd a rydd y filfed ran o bwys ar y mân golynnau hyn mewn hanes, a hwythau'n fynych yn cynnwys yr unig eglurhad ar gyfnodau. Gymaint a ysgrifennwyd yn ddiweddar ar y Tadau Pererin, o blaid ac yn erbyn, a hyd y gwelais i, ni welwyd gan yr un ysgrifennydd yr un o'r colynnau cudd a wnâi'r hanes yn ddigon eglur, na fyddai raid i neb gywilyddio na synnu o'u plegid. Y mae Unol Daleithiau America yn gyfiawnhad o fordaith y Mayflower, ac y mae'r olwg bresennol ar Eglwys Loegr yn gyfiawnhad o bolisi Siarl I a'r Archesgob Laud, er i'r ddau gael torri'u pennau gan yr oes honno. Y canlyniad anwrthwynebol o anwybyddu'r colynnau cudd, neu fethu eu gweld, gan haneswyr yw camarwain y werin, a magu ynddi ragfarn, a dyrchafu Llywelyn ein Llyw Olaf yn uwch na Llywelyn Fawr, a'r Tadau Pererin yn fwy na chyfieithwyr yr Ysgrythurau, ac mai tua'r ddeunawfed ganrif, a dechrau'r ganrif ddilynol, y cododd yr haul gyntaf ar Gymru. Nid ar y werin y mae'r bai, ond ar ysgrifenwyr hanes na welir ganddynt mo'r colynnau cudd.

Ar y bont hon—hen bont Inigo Jones—y gwelwn y proffwydi a ddug y cyfnod Protestannaidd, ac nid y lleiaf yn eu plith oedd hen deulu Gwydir, a'r hen Syr John, er mor drahaus, awdurdodol a phenderfynol ydoedd. A dyna'r hen gastell yr ochr arall i'r afon, a fu'n lletya brenhinoedd a breninesau, tywysogion a llywiawdwyr.

Gyda Mary Wynne, y brydferthaf o ferched, aeth y Castell i deulu Ancaster, ac arhosodd yn ei feddiant hyd yr amser y lloffwn ynddo, pryd y daeth i feddiant Arglwydd Carrington, eto trwy briodas o'r un gwehelyth. Ni chafodd na brenin na thywysog y fath groeso ag Arglwydd Carrington a'r teulu ar y tro cyntaf i'w cartref newydd. Arwisgwyd yr hen dref, a phontiwyd yr heolydd â baneri o ffenestr i ffenestr, ac wedyn y ffordd i'r Castell o frigyn i frigyn. I dalu'r pwyth yn ôl gwnaed gwledd yng Nghastell Gwydir i ryw ddeg a ffurfiai'r pwyllgor croeso.

Awr y wledd a ddaeth, ac yn ystafell y derbyn yr oedd Arglwydd ac Arglwyddes Carrington, Mr. McIntyre, goruchwyliwr yr ystad, a rhywun arall. Disgwylid am y gwahoddedigion a'r pyrth iddynt o led y pen. O'r diwedd dyna drwst cerbyd, a throwyd i edrych. Ie, cerbyd y gwahoddedigion ydoedd, yn debyg yr olwg arno i gerbyd adar Ferrari ar Barêd Llandudno, ac un o'r gwahoddedigion yn eistedd ar sedd yn ymyl y gyriedydd. Symudliw oedd yr anifail a adawyd yn ôl yn Llanrwst gan ryw arddangosfa deithiol. Cyn gynted ag y daeth y cerbyd i lawnt y cylch crwn o flaen y castell gyda'r hen ddeial yn y canol, crychodd yr anifail ei glustiau fel mewn awydd mynd trwy ei hen gampau, a hynny a wnâi pe bai chwaneg o ebran yn ei stumog, a mwy o gnawd am ei esgyrn. Yn amddifad o'r ddau beth angenrheidiol hyn ymfodlonodd ar wyro'i ben i lyfu'r gwlith ar y pren bocs. Disgynnodd y gwahoddedigion o'r cerbyd yn debyg fel y disgrifia Goronwy Owen amgylchiad arall—

Try allan ddynion tri-llu Y sydd, y fydd, ac a fu.

A phan y'u gwelwyd, dyna bwff o chwerthin gan yr Arglwyddes. Trodd ei arglwyddiaeth ati gan ddywedyd, My dear". Edrychai ef yn sobr i'r eithaf, er bod cryniadau botymau ei wasgod yn bradychu llosg-fynyddoedd yno ar ffrwydro. Ac yn sŵn y "My dear" diflannodd hi i fyny'r grisiau ac i'r oriel y bydd ysbryd Syr John yn rhodio ynddi. A phwy a allasai beidio â chwerthin wrth weld rhyw ddeg o ddynion yn bentwr mor amryliw eu gwisg â'r hen geffyl brithliw a'u cludodd yno? Yr oedd un mewn het silc a menig gwynion am ei ddwylo, un arall mewn dillad brithion a sgidiau isel a sanau gleision, ac un arall mewn dillad dawnsio. Ai rhyfedd i'r Arglwyddes roi pwff o chwerthin, a diflannu dan edrychiad deifiol ei Harglwydd, ac yn sŵn "My dear" na fedrai'r un dewin blymio ei ystyr !

Hawdd y gallai ef ddweud "My dear", ac edrych yn wgus dan aeliau trymion pan oedd ar ei daith trwy Gymru fel Cadeirydd Dirprwyaeth y Tir oherwydd yr oedd wedi ei ddisgyblu i reoli'r mynyddoedd llosg a godai yn ei fynwes. Digon yw cyfeirio at un amgylchiad fel enghraifft.

Daeth Dirprwyaeth y Tir i Lanrwst, ac eisteddodd yn Neuadd y Cyngherddau i dderbyn tystiolaethau. A'r tyst cyntaf oedd Elis o'r Nant, o goffa annwyl, a ddaeth yn dra bore i'r dref. Ar yr awr benodedig galwyd arno gan yr gwahoddedigion a'r pyrth iddynt o led y pen. O'r diwedd dyna drwst cerbyd, a throwyd i edrych. Ie, cerbyd y gwahoddedigion ydoedd, yn debyg yr olwg arno i gerbyd adar Ferrari ar Barêd Llandudno, ac un o'r gwahoddedigion yn eistedd ar sedd yn ymyl y gyriedydd. Symudliw oedd yr anifail a adawyd yn ôl yn Llanrwst gan ryw arddangosfa deithiol. Cyn gynted ag y daeth y cerbyd i lawnt y cylch crwn o flaen y castell gyda'r hen ddeial yn y canol, crychodd yr anifail ei glustiau fel mewn awydd mynd trwy ei hen gampau, a hynny a wnâi pe bai chwaneg o ebran yn ei stumog, a mwy o gnawd am ei esgyrn. Yn amddifad o'r ddau beth angenrheidiol hyn ymfodlonodd ar wyro'i ben i lyfu'r gwlith ar y pren bocs. Disgynnodd y gwahoddedigion o'r cerbyd yn debyg fel y disgrifia Goronwy Owen amgylchiad arall—

Try allan ddynion tri-llu
Y sydd, y fydd, ac a fu.

A phan y'u gwelwyd, dyna bwff o chwerthin gan yr Arglwyddes. Trodd ei arglwyddiaeth ati gan ddywedyd, "My dear". Edrychai ef yn sobr i'r eithaf, er bod cryniadau botymau ei wasgod yn bradychu llosg-fynyddoedd yno ar ffrwydro. Ac yn sŵn y "My dear" diflannodd hi i fyny'r grisiau ac i'r oriel y bydd ysbryd Syr John yn rhodio ynddi. A phwy a allasai beidio â chwerthin wrth weld rhyw ddeg o ddynion yn bentwr mor amryliw eu gwisg â'r hen geffyl brithliw a'u cludodd yno? Yr oedd un mewn het silc a menig gwynion am ei ddwylo, un arall mewn dillad brithion a sgidiau isel a sanau gleision, ac un arall mewn dillad dawnsio. Ai rhyfedd i'r Arglwyddes roi pwff o chwerthin, a diflannu dan edrychiad deifiol ei Harglwydd, ac yn sŵn "My dear" na fedrai'r un dewin blymio ei ystyr!

Hawdd y gallai ef ddweud "My dear", ac edrych yn wgus dan aeliau trymion pan oedd ar ei daith trwy Gymru fel Cadeirydd Dirprwyaeth y Tir oherwydd yr oedd wedi ei ddisgyblu i reoli'r mynyddoedd llosg a godai yn ei fynwes. Digon yw cyfeirio at un amgylchiad fel enghraifft.

Daeth Dirprwyaeth y Tir i Lanrwst, ac eisteddodd yn Neuadd y Cyngherddau i dderbyn tystiolaethau. A'r tyst cyntaf oedd Elis o'r Nant, o goffa annwyl, a ddaeth yn dra bore i'r dref. Ar yr awr benodedig galwyd arno gan yr Ysgrifennydd; herciodd yntau at ddesg y dystiolaeth. Edrychodd y Cadeirydd yn graff arno, ac arfer Elis oedd estyn ei ên isaf allan gymaint ag a fedrai a chrinsian ei ddannedd gosod, ac arwydd oedd hynny fod ysbryd direidus wedi deffro ynddo. "Ai chwi", gofynnodd y Cadeirydd, "yw Mr. Ellis Pierce?" "Y mae'r Ysgrifennydd", oedd yr atebiad, "wedi dywedyd hynny".

"A oes gyda chwi wrthwynebiad i ddywedyd hynny eich hun?" gofynnodd y Cadeirydd, gan fod mor sobr ei olwg ag oedd modd.

Gyda hyn yr oedd Syr John Rhys yn ei ddwbl, a'i wyneb yn ei ddwylo, a'i gefn yn crynu dan effeithiau rhyw gynyrfiadau. Fe wyddai ef rywbeth am Elis.

"Nac oes un gwrthwynebiad os yw'n angenrheidiol i ddau ddwyn yr un dystiolaeth", oedd atebiad parod y tyst, a chaeai ei ddannedd.

"Cyn y gellir derbyn eich tystiolaeth rhaid yw i'r ddirprwyaeth wybod pwy a pheth ydych, ac o b'le'r ydych, a pha dystiolaeth sydd gennych i'w rhoi".

"I dynnu pen byr arni", meddai Elis yn araf, "myfi yw Elis o'r Nant".

"Pwy yw hwnnw ?" meddai'r Cadeirydd.

"Pwy !" meddai Elis, "pwy yw Elis o'r Nant !"

"Ie, pwy?".

Yn y fan hon pesychodd Syr John gymaint nes tynnu sylw'r Cadeirydd, a bron na chredaf iddo ddywedyd dan ei anadl, "My dear".

"Chlywsoch chwi ddim sôn am Elis o'r Nant?" gofynnodd Elis yn araf a phwysleisiol, gan edrych arno fel gwrthrych tosturi.

"Naddo", oedd yr ateb parod a phenderfynol.

"Wel", meddai Elis cyn baroted â hynny, ond yn bwyllog a thosturiol, "yr wyf yn synnu at eich anwybodaeth".

Hawdd y gallasai gŵr a ddisgyblwyd fel hyn edrych yn sarrug a dywedyd, "My dear" wrth un na chafodd y gyfryw ddisgyblaeth.

Erbyn hyn yr oedd y gwahoddedigion wedi cyrraedd ystafell y derbyn, a chanodd y tympan cinio.

Arhoswyd wrth y cadeiriau i ddisgwyl yr Arglwyddes i mewn A chyn gynted ag yr agorwyd y drws yr oedd ugain o lygaid yn sefydlog arni heblaw llygaid gwgus ei phen a'i phriod, ac yn ei dilyn i'w chadair ar dalcen arall y ford, a hithau yn wrid o glust i glust. Eisteddwyd a gwasgarwyd y bwyd-gerdynnau yn Ffrangeg, ac yr oedd y rhestr yn hir. Oedd, yr oedd yno ryddid i siarad Cymraeg, a chymhellwyd y gwahoddedigion i arfer eu hiaith gan fod y gwesteiwr a'r westeiwraig yn hoffi clywed yr hen iaith yn cael ei siarad.

Ymh'le'r oedd dechrau ar restr o fwyd mor hir, ac a ddisgwylid iddynt fynd trwyddi i gyd, ac ymh'le oedd orau dechrau? Gofynnwyd yn Gymraeg i rywun yn ymyl, a heb fawr feddwl y gweithredid ar ei ateb awgrymodd ddechrau ar y gwaelod a gweithio i fyny. Dechreuodd rhai yn y dechrau, eraill tua'r canol, ac un neu ddau yn y gwaelod a rhoddid croes â phensel ar gyfer pob tamaid a ddygid iddynt, i'w diogelu rhag gofyn am yr un peth ddwywaith. Pan welodd yr Arglwyddes y ffrwythau a'r cwpanau dŵr-golchi-bysedd, ar bîff, a'r pwdin reis, a'r plwm pwdin, yn dyfod i'r bwrdd, gofynnodd iddynt ei hesgusodi i nôl ei chadach poced, a chyn cyrraedd ymron ddrws yr ystafell cafodd ffit ddrwg o besychu. Arbedwyd unrhyw brofedigaeth gyda'r cwpanau dŵr ar waith y gweinidogion yn mynd o gwmpas â dŵr sinsir wedi ei dywallt o boteli llydain eu gwaelod ac yn culhau at y gwddf, a'r dŵr sinsir gorau a melysaf a brofwyd erioed. Dychwelodd yr Arglwyddes i'w sedd, eithr yr oedd rhywbeth yn ei gwddf yn debyg i blentyn â'r pâs, ac nid oedd ei Harglwydd wrth dalcen arall y ford yn rhydd o garthu ei wddf yn fynych. Llenwid y cwpanau â'r dŵr sinsir yn gyson, a llyncid ef cyn gynted ag y'i rhoid, nes llanw yr ystafell â sŵn y corcynnau a dynnid gan y pentrulliad, nes gwneuthur i ddyn feddwl ei fod ar Faes Bosworth.

Tynnwyd at y diwedd, ac ymneilltuwyd i ystafell yr ymgom, y te a'r coffi a'r myglys, a'r gwesteiwr a'r westeiwraig wrth eu bodd yng nghwmni syml ac unplyg natur dda. Drannoeth yr oedd Arwest Glan Geirionydd, a diwrnod arall i'r brenin.

XII

YSGUB ARALL O LOFFION

DRANNOETH i'r wledd yng Nghastell Gwydir yr oedd Arwest Glan Geirionydd, a'r Wŷs a'r Gwahawdd wedi eu hanfon i'r frawdoliaeth gyfarfod yn llety'r Prifardd Pendant yn brydlon erbyn hanner awr wedi saith yn y bore. Cododd yr haul y bore hwnnw ar ddiwrnod na fu ei fath cynt na chwedyn. Suai awelon mwyn Awst gyda digon o fin arnynt i ymlid ymaith bob syrthni, a symbylu hoenusrwydd corff ac ysbryd, oni chreid teimlad ei bod yn werth byw, a byw i fynd i Arwest Glan Geirionydd. Cychwynnais o'r tŷ mewn digon o amser i gyrraedd yn hamddenol y man penodedig. Gwelwn rai o'r frawdoliaeth yma ac acw yn gwneuthur am yr un cyfeiriad. A chennyf ddigon o amser cyfeiriais fy ngherddediad tua'r orsaf, a gwelwn Elis o'r Nant yn dyfod â'i wyneb llon yn bradychu direidi ei galon. Cyd-gerddasom yn ôl i gwrdd â Thudno yn ei gôt fawr hyd ei sodlau ymron, gyda ffon yn ei law a modrwy ar ei fys, ac yn ei gwmni ef aed i lety Gwilym Cowlyd.

Yno yr oedd Penfro ac un neu ddau arall. Ar y bwrdd yr oedd y corn gwlad a'r hen gleddyf yn ei wain yn gorffwys yn ei ymyl, ac yn pwyso ar yr hen gwpwrdd tridarn gyferbyn â'r ffenestr yr oedd ysgub dda o wyngyll. Yr oedd golwg urddasol a difrifol ar y Prifardd Pendant wedi rhannu ei wallt ar ochr ei ben er mwyn bod yn do dipyn tewach ar y corun. Disgynnai ei wallt yn bwythau sythion hyd ymylon colar ei gôt, a chyrliai ychydig yn ei flaenion. Yr oedd pob blewyn yn ei le, ac wedi ei arfaethu gan yr ennaint i gadw ei le am y gweddill o'r dydd hwnnw, beth bynnag. Mynych yr ymwelai'r bys a'r bawd â'r blwch snisin arian a oedd yng nghadw yn ei law aswy, a dyrchafai beth ohono at ei drwyn, a disgynnai peth ohono yn ronynnau gloywddu i lawr ei farf ar hyd ymylon ei wisgoedd. A phawb yn barod ac ar eu traed, ac yn arfog â'r gwyngyll, anerchwyd y frawdoliaeth cyn cychwyn gan Wilym Cowlyd, a dymunai ar i bawb fod yn weddus a difrifol, a llygadai ar Elis, canys yr oeddynt yn mynd i Fynydd y Tŷ. "Mynydd oedd ef ddoe", meddai, gydag oslef mynach o'r Oesoedd Canol, "a mynydd fydd e fory, eithr heddiw y mae'n Fynydd y Tŷ, a gweddus yw i bawb gofio hynny", a thaflodd olwg eilwaith at Elis.

Cychwynnwyd i'r daith yn orymdaith lawen, ac ar bont Llanrwst rhoddwyd bloedd ar y Corn Gwlad onid oedd y sŵn yn atseinio o Garreg y Gwalch. Dilynwyd y ffordd sydd yn arwain i'r ffordd rhwng Betws-y-coed a Threfriw, ac arhoswyd yno yn ymyl hen dderwen ar ymyl y ffordd, a elwid y Pren Gwyn, a pherthynai hanes diddorol iddo. Unwaith ymhell bell yn ôl ymwelai hen wrach yn achlysurol â'r Pren Gwyn, oedd ei hofn a'i harswyd ar yr holl fro. Rheibiai wartheg a defaid a cheffylau, a hyd yn oed y trigolion eu hunain, a daeth yn ddychryn gwlad. Heb fod yn hir ar ôl dymchweliad y mynachlogydd yr oedd hyn.

Cyfnod oedd hwnnw y gollyngwyd llawer iawn o ysbryd-ion drwg yn rhyddion, ac i'r cyfnod hwnnw y perthynai hen wrach y Pren Gwyn. Aeth yr hanes amdani i glustiau Syr John Wynne o Wydir, ac nid un i gellwair ag ef oedd yr hen Farchog wedi yr enynnai ei lid. Penderfynodd waredu'r wlad o'r hen wrach, ac i'r diben hwnnw ymwelodd â'r lle, ac yr oedd y lle yn ymyl ei gastell. O'i weled dringodd yr hen wrach i frigau'r goeden, ac oddi yno taranai felltithion ar ben ei hymlidydd, a rhybuddiai ef o'r dynged a oedd yn ei aros, y byddai i'w enaid gael ei gladdu dan raeadr y Wennol yn Nyffryn Lligwy, ac mai yn ôl lled gwenithen y flwyddyn y dychwelai i'w gastell. Ond beth oedd dwrn y Babaeth at ddwrn yr hen Farchog? Yntau yn gweled nad oedd ei gymhellion yn tycio a gyneuodd dân wrth fôn y Pren Gwyn i fygu'r hen wrach i lawr. Pa un a lwyddodd yr oruchwyliaeth honno ai peidio nid oes a ŵyr yn awr, gan fod tafod traddodiad yn ddistaw ar y pen. Fodd bynnag, cafodd y fro lonydd byth wedyn, ac nid yw'n anodd dyfalu tynged yr hen wrach o feiddio gwrthsefyll un o dymer yr hen Farchog, ond nid heb i'r tân losgi twll dwfn i foncyff yr hen dderwen, ac i'r ceudod hwnnw yr edrychid y bore dan sylw.

Mewn oesau diweddarach trowyd ceudod llosg y Pren Gwyn yn llythyrdy gan herlod y fro o Faethebrwyd, a thir Abad, a Felin-y-coed, i fyny i Gapel Garmon ar un llaw a Maenan ar y llaw arall. Yno y gosodent eu peithynod serch a'u harwyddion cyfrin. Llawer tro y gwelid geneth ieuanc yn yr hen wisg Gymreig, na fu ei thebyg mewn harddwch, yn dynesu'n llechwraidd i deimlo am ei pheithynen neu ei rhoddi yno, ac wedyn yn diflannu fel ewig ofnus, ac yn wrid o glust bwy'i gilydd gan yswildod, ac yn rhyw feddwl bod llygaid y fro arni. Cyn ymron inni orffen adrodd a gwrando yr hanesion hyn gwelem ddyn mewn gwasgod wen yn dyfod o gyfeiriad Betws-y-coed.

Un o wahoddedigion y wledd y noson gynt oedd ef wedi colli ei ffordd adref a mynd i Gapel Garmon, lle y caed ef ar lasiad y dydd yn holi'n flinedig am heol Dinbych yn Llanrwst. Yr oedd yntau wedi derbyn y wŷs i'r Arwest, ond ofnai ymddiried y daith i aelodau mor flinedig ag oedd yn ei gario y bore hwnnw, er bod ei feddwl yn barod. Aeth ef adref a ninnau yn ein blaen ar hyd y ffordd sy'n arwain i Nant Bwlch yr Heyrn. Ac wrth droi ohoni heibio i'r rhaeadr a elwid Cynffon y Gaseg Wen, arhosodd yr Archdderwydd Gwilym, a chyfeiriodd at y Nant, gan ddywedyd i fuddugoliaeth gael ei hennill yno, a daflai frwydr Waterloo i'r cysgod, ac os mynnem, gwnâi adrodd yr hanes wrth rodio ar hyd y darn hwnnw o'r llwybr. Bron nad oedd yr olwg arddunol ar Ddyffryn Conwy y bore hwnnw, ac anian yn casglu ei phylacterau ynghyd i ddatguddio'r afon, yr hen afon, Afon Gonwy, fel sarff arian yn ymdroelli trwy'r dyffryn, nad oes ei harddach yng Nghymru, yn peri inni droi clust fyddar i Wilym, a mwynhau yn hytrach y golygfeydd arddunol a oedd o'n blaen, ond fel arall y bu, ac ni fu'n edifar gennym, canys cawsom glywed ganddo hanesyn a gynhyrfodd ein teimladau hyd at ollwng deigryn.

Dechreuodd adrodd fel yr oedd rai blynyddoedd yn ôl ŵr a gwraig newydd briodi yn dechrau eu byd yn y Nant. Rhyw dyddyn bychan oedd ganddynt. Yr oedd yr amser yn galed, a llawer o ddioddefaint a newynu oni bai am yr hen dirfeddianwyr caredig a maddeugar yn troi'n ôl beth o'r rhenti. Dechreuasant o ddifrif ar eu byd yn y blynyddoedd celyd hynny. Dygent eu nwyddau i farchnad Llanrwst. Cymhellai hi ef i aros gartref, ond ni fynnai ef iddi hi gario'r basgedi ei hunan gan gymaint ei serch ati, ac arhosai yn y dref i gario'r basgedi gweigion yn ôl. Aeth blynyddoedd heibio heb i ddim neilltuol dorri ar eu heddwch mwy na bod mwy o eneuau i'w porthi a chyrff i'w dilladu. Faint oedd ei gofid hi un diwrnod pan welodd arwyddion iddo ef fod dan arwydd y Llew Gwyn a'r Ceffyl Du, ac eto, ni fynnai ddywedyd gair i glwyfo priod mor serchog a thad mor dyner. Cynyddodd yr arwydd yn raddol gydag amser, a daeth y byd i wasgu fwy fwy o'r naill flwyddyn i'r llall, a hithau o hyd yn parhau yn ei distawrwydd rhag clwyfo ei deimladau. Un prynhawn methodd ef â'i chyfarfod hi fel arfer i gario'r basgedi gweigion, ac aeth adref ei hun a'i chalon yn gostrel o ofid. Fe'i cyhuddai hi ei hunan o ddiofalwch, a chyhuddai bawb ond y fo. Ac eto yn ei gofid cadwai'r cwbl iddi hi ei hunan. Un diwrnod marchnad, ac yntau heb ddyfod i'w chyfarfod, mentrodd fynd yn ddistaw trwy ddrws tŷ arwydd y Llew Gwyn, a thrwy gil dôr yr ystafell gwelai ei gŵr yn swrth a'i ên ar ei frest. Trodd hithau yn ei gwrthol, a brysiodd adref i roddi te i'r plant, a'u hwylio i'r gwely rhag gweld eu tad. Golwg dosturus oedd arno y noson honno pan ddychwelodd adref. Fore trannoeth dywedodd fod arno eisiau mynd ar neges i'r dref, a rhoes ryw esgus. Na, nid oedd dim i'w rwystro ond yn unig ei bod hi wedi paratoi ar gyfer corddi yn y prynhawn, ac yr hoffai gael ei help. Atebodd yntau y byddai'n ôl mewn pryd i'r awr gorddi, a bu yn unol â'i air; llonnodd hithau drwyddi, er mai ychydig o help a allai ef roddi. Aeth wythnosau heibio heb un arwydd o ddiwygiad. Gwelai hi erbyn hyn ddinistr y gŵr a garai, a beth oedd bywyd iddi hi, hyd yn oed yng nghwmni ei phlant, hebddo ef? Dydd y farchnad a ddaeth, a'r prynhawn hwnnw aeth hi yn eofn a llygaid llaith drwy ddrws tŷ arwydd y Ceffyl Du. Yno yr oedd ei gŵr yng nghanol ei gymdeithion. Ond O! mor wahanol i'r hyn ydoedd yn ei gartref. Clywodd ei lais garw a oedd yn fiwsig yn ei chlustiau hi gartref, a'r iaith anweddus yn disgyn dros wefusau a oedd felysach ar ei grudd na diferion y diliau. Diflannodd pob pelydr o obaith o ddiwygiad, a chan roddi ei basgedi ar lawr, curodd y bwrdd, a thrawodd y curo y cymdeithion â syfrdandod, a galwodd am yr un peth ag a oedd gan ei gŵr, a thaflodd ddernyn o arian ar y ford. Ond cyn iddi roddi'r gwefusau tyner hynny at y cwpan, neidiodd y gŵr ar ei draed, a chyda'r llais hwnnw a oedd yn fiwsig ar ei chlyw dywedodd wrthi, "Paid, Nans fach, nid dyma dy le di. Tyrd, fy ngeneth i, adref". Ac adref yr aed yn sŵn meddyliau ei gilydd. Y farchnad ddilynol cariodd y basgedi hyd at y Pren Gwyn a throdd yn ei ôl, ac wrth y Pren Gwyn yr arhosai amdani yn y prynhawn, a pharhaodd felly am wythnosau, a daeth hapusrwydd yn ôl i'r tŷ, a llwyddiant yn sglein arno.

XIII

YSGUB ETO O LOFFION

AR ôl i Wilym orffen adrodd ei stori am fuddugoliaeth y Nant a oedd fwy ei maint na hyd yn oed fuddugoliaeth Wellington ar faes Waterloo, yr oeddem wedi dyfod i ben y llwybr a redai yn gyfochrog â Dyffryn Conwy, ond yn droedfeddi lawer yn uwch. Yn y tro hwnnw bwriwyd un olwg ychwanegol dros un o ddyffrynnoedd prydferthaf Cymru. Yr oedd y dyffryn wedi ei ordoi â haenen denau o niwl, a chyn deneued â gorchudd y ddyweddi yn nydd ei phriodas, a thrwy'r gorchudd cyfriniol hwnnw, a guddiai ac a ddatguddiai, gwelem long dan hwyliau ar yr afon, a'r tir oddeutu yn symud i fyny, a chyn arafed â bysedd yr awrlais, a'r haul yn tywynnu ar yr olygfa onid oedd yn debyg i ymadawiad Arthur,—

A speck that bare the king
Down that long water opening on the deep
Somewhere far off, pass on and on, and go
From less to less and vanish into light.

Trowyd yma ar y chwith, ac yr oeddem allan o wres yr haul mewn coedwig fel mewn teml gyda'i cholofnau uchel a'i bwâu cyfriniol o ganghennau irion cyn ysgafned a theneued â Gwallt y Forwyn neu we'r pry copyn, ac yn gwau'n gyfrodedd trwy'i gilydd. Y llawr oedd garped rhwydwaith o fwsog ac eiddew gyda thusw yma ac acw o Sanau'r Gog yn frodwaith iddo. Arafwyd ein camau yma i fwynhau'r olygfa a'i hinsawdd dymherus. Ond dyna waedd oddi wrth un o'r cwmni, a gwelid gwiwer yn dringo'r goeden gan ysboncio i fyny, ac yn rhyw gip-edrych yn llygadlon yn awr ac yn y man ar y cwmni oddi tani, ac yn dyfalu beth oeddynt, a pheth oedd eu neges yn troseddu mor ddiseremoni fel hyn ar ei thiriogaeth hi. Amgylchai rhai y goeden, ond a amgylchwyd hi sydd broblem y rhaid i rifyddiaeth ei phenderfynu. Coediog iawn oedd Dyffryn Conwy yn nyddiau'r hen Farchog o Wydir a chyn hynny, ac mor goediog fel y gallai gwiwer gerdded brigau'r goedwig o Gonwy i Ddolwyddelan heb gymaint â disgyn unwaith.

Allan led cae neu ddau o'r winllan goed daethom at adwy yn pwyso ar drawst o bentan i bentan. Yr ochr arall i'r adwy yr oedd ffordd gul am tua chanllath ac adwy arall. Ni wnaed ond prin cael a chael yr adwy gyntaf nad oedd tarw milain yr olwg ar ein gwarthaf. A lwc dda oedd inni roddi'r trawst yn ôl fel y'i caed. Rhuthrwyd at yr adwy arall am ddihangfa ac Elis yn tywallt melltithion ar ben Gwilym am eu tywys i'r fath le. Erbyn cyrraedd yr adwy honno yr oedd ci mwy mileinig yr olwg yn ein gwylio ac fel pe'n dywedyd "hyd yma y deuwch ond ddim ymhellach". 'Wiw oedd troi'n ôl canys yno yr oedd y tarw yn malu ewyn ac yn ceibio'r tyweirch â'i draed, a phe neidiem dros un o'r ddau glawdd byddem wedyn yn ei afaelion. Yno yr oeddem mewn cul de sac. Rhuai'r tarw ni at y ci, a'r ci yn ein cyfarth yn ôl at y tarw. Yno y buom rhwng megis Pihahiroth, Balseffon, a'r môr, neu Scylla a Charybdis, a hynny am ddigon o hyd i ofni bron cael byw. O'r diwedd gwelem het yn nesu atom, a phob yn dipyn daeth y dyn oedd dan yr het i'r golwg. Ac aeth Elis ato, yn awr yn dra ffyrnig yr olwg, a dywedodd,—"Pam na chedwch chi drefn a dosbarth ar eich bwystfilod, ddyn ?"

Y Dyn. "Pa fwystfilod sydd yn aflonyddu arnoch chi, ŵr dieithr ?"

Elis. "Ŵr dieithr, ai e? Wyddoch chi ddim â phwy ych chi yn siarad, a phwy sy'n siarad â chi? 'Chlywsoch chi ddim sôn amdana' i"?

Y Dyn. "Naddo".

Elis. "Na darllen fy ngwaith?"

Y Dyn. "Darllen eich gwaith, wir; pa waith a all llipryn fel chi neud?"

Elis. "O, mi wela'; un o'r rheiny ych chi sy'n caru'r tywyllwch yn fwy na'r goleuni".

Y Dyn. "Pwy yw'r dynion acw sy'n eu cwrcwd yn yr hesg a'r rhedyn, a beth yw'r ymguddio sydd arnynt ?"

Elis. "Gwilym Cowlyd, a—". Ond cyn i Elis enwi'r lleill, yr oedd y dyn drwy'r adwy ac yn rhedeg i ysgwyd llaw â Gwilym. A phan oedd y ci yn pasio i fynd ar ôl ei feistr, ysgyrnygodd Elis ei ddannedd gan anelu ergyd arno â'i ffon, ac oni bai i'r meistr gyfryngu, buasai dannedd y ci wedi eu plannu yn y tipyn cnawd a oedd am esgyrn coesau Elis.

I'r Arwest yr oedd y dyn yntau'n mynd ond fel y trodd o'r ffordd gan gyfarth y ci a bugunad y tarw. Dywedodd Gwilym wrtho pwy oeddem, yn un ac un—"A dyma Elis o'r Nant", meddai. "A hwn yw Elis o'r Nant?" meddai'r dyn gyda llais cyffrous; "clywais lawer o sôn amdano a darllenais lawer o'i weithiau, ac ni wn i am neb yn fwy", a chan estyn ei law, gofynnodd yn ostyngedig "Sut yr ydach chi, syr ?" Oedd, yr oedd Elis yn iawn ond fod y bwystfilod hynny wedi terfysgu cryn dipyn ar ei ysbryd, a dywedodd hynny wrth y dyn, ac o dan fendith y gawod o ganmoliaeth, ychwanegodd gufyddau at ei faintioli. Yna, trodd y dyn at y tarw gan fwmian rhyngddo ag ef ei hun—"Y'th di yn fwystfil, 'y ngwas i", a chosodd rhwng ei ddau gorn, a'r hen darw yn llyfu ei frest, nid ei frest ei hun ond brest y dyn. "Na, na", meddai gan ychwanegu, "yr ydych yn camsynied, gyfeillion; y mae hwn mor ddiniwed â'r baban". "Wel", meddai Elis, "tyrd Gwilym, dw i yn hidio fawr am fabanod yr ardal", ac ymaith ag ef gan ryw sisial, "Dyn o grebwyll a barn addfed yw hwnacw sydd gyda'i faban".

Ac felly yr aed ymlaen a phawb yn diolch am y waredigaeth a gafodd. Wedi mynd ond ychydig iawn o bellter daethpwyd at dŷ a elwid yn Dyn-y-coed, os nad yw chwarter canrif o amser wedi dileu'r argraff, a'r tŷ hwnnw oedd yr un y ganed Trebor Mai ynddo. Arddunol iawn oedd yr olygfa a gaed o ffrynt y tŷ. Draw ymgodai llechweddau Sir Ddinbych a Mynydd Hiraethog ar y gorwel. Cyfrifid Trebor yn ei ddydd yn Arch-englynydd Cymru, anrhydedd a hawlid i Ddewi Hafesp hefyd. Yr oedd y ddau yn dda. Dyn a gysegrodd ei fywyd i ganu'n syml wrth ei ddiwrnod gwaith oedd Trebor. Gwneud englyn oedd ei hoffusaf peth, a gwnaeth filoedd ohonynt, a llawer yn "bigion englynion ei wlad". Canodd gywydd ac awdl, a phryddest, a llawer iawn o ganeuon a thelynegion, a'r cwbl yn dwyn naws Mai arnynt. Yr oedd Mai yn ei natur a'i gân, ei awdl a'i bryddest, ac yn enwedig yn ei englyn, ac am hynny nid rhyfedd iddo ei alw ei hun yn Drebor Mai er y myn rhai ddadlau mai I am Robert o chwith yw'r enw.

Rhaid oedd brysio weithian, ond pwy a allai fynd heibio i'r hen Lan a gysegrwyd yn y chweched neu'r seithfed ganrif i Rychwyn Sant heb aros orig yn ei chynteddau? Aed i'r fynwent trwy'r porth hynafol, ac o amgylch Seion gan "ystyried ei rhagfuriau", ac edrych yn syn ar yr hen yw â'u cangau cyhyrog a gurwyd gan stormydd llawer canrif. Yn ffodus yr oedd y drws yn agored. Pyrth isel a chulion sydd i'r hen eglwysi yn ddieithriad, ac yn neilltuol felly i'r hen eglwys Geltaidd hon a adeiladwyd fel y cyfryw ar ffurf y Deml ac nid Basilica Rhufain, a throai'r drws ar ei golyn. Iddi hi yr arferai'r dywysoges—priod Llywelyn Fawr ddyfod i addoli o Neuadd Llywelyn yn Nhrefriw, ac ar ei chyfer hi yr adeiladodd ef Eglwys Trefriw i arbed iddi y daith anhygyrch i Lanrhychwyn. A bu yntau ei hun yn plygu ei ben trwy yr un drws, a hwnnw yn ddigon isel a chul, ac yn cadw mewn cof gwastadol y porth cyfyng a'r ffordd gul i wrêng a bonheddig, cardotyn a thlawd.

Wrth sefyll yng nghanol y gafell santaidd dyrchafodd un ei lais gydag oslef mynach o'r Oesoedd Canol a dywedodd,—"Nid oes gyda fi wrthwynebiad i bawb addoli fel y mynnont, ond rhowch i mi yr hen demlau hyn sydd yn ddameg o grefydd a phortread o Gristnogaeth".

Ymadawyd o'r Eglwys, a chymerwyd y llwybr a arweiniai ar draws ychydig gaeau a ffriddoedd i lawnt Taliesin ar lan Llyn Geirionydd, a'r Elis direidus yn rhagflaenu'r cwmni, ac yn gwichian yn awr ac yn y man am inni brysuro gan fod yr awr anterth yn dynesu. Gwilym yntau a ddechreuodd ein hannerch fel un yn ymwybodol mai hwn oedd y tro olaf iddo ef, a phwysai arnom i gario 'mlaen y ddefod o flwyddyn i flwyddyn, a dadlennai gyfrinachau rhyfedd nad yw yn weddus i glustiau'r dienwaededig i'w clywed, a hyderai y byddai i bob un â'i law dde ar ei forddwyd aswy dyngu llw yn y man cysegredicaf ar y ddaear y dydd hwnnw, a phob cylchdro blynyddol o'r dydd, y byddai iddo gadw'r defodau gyda phob manylrwydd, ac yn bendifaddau arfer pob dylanwad i gadw'r ethnig (a llygadai ar Elis) o fewn gweddeidd—dra pan ddarostyngid Pair Ceridwen ar Fryn y Caniadau.

Yng nghwmni Gwilym a'i anerchiad ymadawol yn goglais y clyw hyd at gyffwrdd â llinynnau tyneraf y galon, cyrhaeddwyd lawnt Taliesin a Bryn y Caniadau. Syrthiodd gwŷr y Gwyngyll, bob un i'w le, wrth y meini gwynion a'r porthorion wrth y pyrth, ac yntau, Gwilym, gydag un neu ddau arall ar y Maen Llog yn bennoeth a'r haul yn anterth ei nerth. Yna ymwahanwyd i gynnal yr Eisteddfod ynglŷn â'r Arwest wrth Gadair a Cholofn Taliesin, Pen Beirdd y Gorllewin. Yno'r oedd y delyn a'r crwth wrth eu gwaith.

Aeth un neu ddau ohonom o amgylch y llyn a'i ddyfroedd grisialaidd, a dychwelwyd i'r bryncyn y mae Cadair Taliesin yn ei gesail. Yno'r oedd y delyn, ac eisteddasom yn ei hymyl. Chwythai awel denau ar y pryd, a llanwai croth pob tant o'r delyn â melys leisiau a'n dyrchafodd i fyd y sylweddau tragwyddol.

Those strains that once did sweet in Zion glide.

XIV

TRO YN SGOTLAND

DDECHRAU Awst diwethaf cychwynnodd dau ohonom i fynd am dro i Sgotland, a hynny am y tro cyntaf yn ein hanes. Yr oedd y bore'n braf gyda'r eithriad o haenen denau o niwl yn gorchuddio bro a bryn. Pelydrai'r haul weithiau trwy'r gorchudd tenau gan daflu cysgodion y coedydd a'r gwrychoedd yn emwaith cyfrodedd ar y ffordd. Yr oedd llyn Tegid fel môr o wydr yn adlewyrchu'r bryniau o gwmpas yn ei ddyfroedd grisialaidd. Ymlaen â ni fel hyn fel dynion yn mynd trwy wlad hud a lledrith. Terfyn siwrnai'r dydd cyntaf oedd Caerliwelydd (Carlisle). Ac yr oeddem wedi teithio 232 o filltiroedd neu o gwmpas hynny.

Fore trannoeth cychwynnwyd yn dra bore, a'n hwynebau yn awr ar iseldiroedd yr Alban, a heb fod yn hir daethom i Gretna Green. Yno aethom i'r efail enwog am ei phriodasau dirgelaidd, ond nid yr hynt honno oedd ein neges ni. Gwelsom yr hen eingion a'r morthwyl a benderfynai'r amod, a gwrandawsom ar y gof, os gof hefyd, yn mynd trwy druth o wir ac anwir, a'r gwyddfodolion yn llyncu pob gair a ddiferai dros ei wefusau fel efengyl iachus. O'r fan honno prysurwyd trwy wlad brydferth a'r mynyddoedd uchel yn y pellter draw yn dyfod i'r golwg, ac yn y man yr oeddem yn Ecclefeçhan, pentref genedigol Thomas Carlyle. Yn awr yr oeddem yn ôl traed yr hen Gymry gynt, canys Eglwys Fach yw'r ystyr. Y peth cyntaf a dynnodd ein sylw oedd y tŷ y ganed y Doethor ynddo. Ac yn y fynwent gerllaw yr oedd ei fedd. Bu ef farw ar y 5 o Chwefror, 1881. Cefais ymgom hir ag un a'i cofiai ac a'i hadwaenai'n dda. Ar gwr y pentref yr oedd delw ohono yn eistedd ar gadair mewn dwys fyfyrdod. Darllenais yn ddiweddar erthygl arno gan ŵr o nod a ddywedai mai ef oedd prif bregethwr ei oes, er na fu mewn pulpud erioed. Trwy ei lyfrau y pregethai ef, a hynny yn bennaf yn erbyn ffug a rhagrith. Edrychai ar ei oes fel un arwynebol iawn, a'i ymdrechion oedd deffro'r wlad i ddifrifolwch a gwirionedd. Fe'i gwelir ef yn bur gyflawn mewn un frawddeg o'i eiddo, "Nature is the time vesture of God revealing Him to the wise, and hiding Him from the foolish",—Natur yn datguddio Duw i'r doeth ac yn ei guddio rhag yr annoeth. Fe ddywedwyd yr un gwirionedd gan y proffwyd Eseia, ac fe'i dyfynnwyd gan yr Iesu "Gan glywed clywch, ond na ddeallwch, a chan weled gwelwch, ond na wybyddwch". A fyn wybod meddwl Carlyle darllened ei Sartor Resartus. Cefnasom ar y pentref tawel hwn a'i atgofion hyfryd, a chyfeiriasom ein hwynebau tua Dumfries.

Yr oedd yr wybren uwchben yn las o gwr i gwr a chyn lased â'r genhinen, a chymylau gwynion yn britho'r glesni Ac yn y pellter draw mynyddoedd yr ucheldiroedd yn ymddangos fel yn cwrdd â'r glesni, a'r glesni yn gefndir iddynt. Yn Dumfries fe aethom yn ddi-oed i weld delw-golofn Robert Burns. Ganed ef yn 1796 a bu farw yn 1803 yn ddim ond 37 mlwydd oed. Gadawyd ei fedd ef a beddau ei blant hefyd a'i wraig, ei bonnie Jean. Arosasom am ychydig ar garreg ei ddrws, ac ar y garreg honno y syrthiodd y bardd ffwdanus ac y cysgodd a chaenen wen o eira yn orchudd arno yn y bore. "Yr ydych yn falch o Burns", meddwn wrth ddyn a ddigwyddai aros gerllaw. "Ydym", meddai'r ateb, "ac y mae'r byd yn falch o Burns". Defnyddia Burns y gair bonnie, canys dyna fel yr ysgrifennai ef y gair, ac nid bonny, fel y gwneir yn aml gan ysgrifenwyr. Nid oes gennym ni yn Gymraeg na Saesneg air yn ateb iddo nac yn ei gynnwys. Meddylier am bonnie Dundee ; bonnie, bonnie banks of Loch Lomond; a bonnie Jean. Croeswyd y trothwy, a rhowd tro trwy'r tŷ, a'r ystafell a'r gwely y bu arno, y gegin a pheth o'r dodrefn a berthynai i'r bardd. Ac yno yr oedd delw mewn plastr o'i ben, a phen yr un ffunud â phen Goronwy Owen. Yr oedd yr Iberiad yn gryf yng Ngoronwy ac yntau, a'r Iberiad oedd y bardd, y cerddor, a'r cyfriniwr, a chydoesai'r ddau â'i gilydd, ac un arall o'r un cyfnod oedd Ieuan Brydydd Hir, ond bod y Goidel yn gryfach ynddo ef, ac o ganlyniad yn llai o fardd, ond yn fwy o hynafiaethydd. Dynion a gwendidau amlwg iawn oedd y tri, a'r un mor amlwg â hynny oedd eu rhinweddau, eu hedifeirwch a'u parodrwydd a'u hawydd i wneud iawn am eu beiau. Nid oes yng ngweithiau yr un ohonynt feddyliau isel a di-chwaeth. Trafferthus o ffwdanus fu bywydau'r tri, ond gadawsant ar eu hôl weithiau a restrir ymysg y clasuron. Yr oedd yn rhaid mynd unwaith eto, ac yn awr i gyfeiriad Ayr gyda glannau Nith am ryw ran o'r ffordd.

Ac yma y ganed Burns. Gwelsom ei dŷ, a'r noson honno darllenasom ei "Cotter's Saturday Night", a dyna ddisgrifiad o'i deulu, ei dad a'i fam a'i frodyr a'i chwiorydd. Yn awr yr oedd yn hwyrhau a chan nifer yr ymwelwyr yn y dref brydferth ar lan y môr, nid oedd gwely i'w gael am bris yn y byd a ninnau mor flin. Mynd oedd raid eto, a gwelsom mai ofer oedd colli amser i holi am wely a brecwast. Ar ôl hir deithio cyraeddasom Gaer Alclud (Dunbarton), ac ar ôl croesi Clwyd (Clyde) cawsom lety cysurus.

Fore drannoeth yr oeddem ar lan Loch Lomond ac yn teithio'r ffordd a redai fin-fin ag ef am 25 milltir, a'r mynyddoedd uchel o boptu iddo, ac yn bwrw eu cysgodion i'w lesni distaw a llonydd. Pasiem ynys ar ôl ynys o wahanol faintioli, ac yr oedd 30 ohonynt yn britho'i wyneb. Daethpwyd o'r diwedd i'w derfyn a dechreuwyd dringo'n raddol gefndir o fynydd, ond cyn mynd nepell gwelsom ddyn yn eistedd ar ymyl y ffordd yn cymryd hamdden. Euthum ato ac fe eisteddais yn ei ymyl tra oedd fy nghydymaith yn crwydro o gwmpas. Ie, dyn o'r gymdogaeth ydoedd, ac yn cyfeirio tuag adref. Ar ôl holi ac ateb ein gilydd, gofynnodd imi a fûm i ar ben Ben, gan bwyntio â'i fys at Ben Lomond. Ysgydwais fy mhen yn nacaol. "Ddim ar ben Ben", meddai gyda syndod. Dywedais ei bod yn ormod o'r dydd i mi ddringo i'w ben. Tynnodd yntau glamp o oriawr o'i boced ac addefodd ei bod. Ar ôl ymado ag ef aethom rhagom ar hyd ffordd unig am filltiroedd lawer gan hiraethu am lety a gwely a thamaid a llymaid i dorri ein newyn a'n syched. O'r diwedd gwelsom ryw hanner dwsin o dai heb fod ymhell a modurdy gerllaw, ond nid yn agos. Arhoswyd wrth y modurdy, ac fe aeth John i holi am lety. Yn union wedi iddo droi ei gefn dyma fodur o gyfeiriad arall yn prysuro i lawr ac yn aros wrth dŷ'r modur. Neidiodd y gyriedydd allan ar ffrwst a chan edrych yn llidiog arnaf, gofynnodd pa hawl oedd gennyf adael fy 'merfa' wrth y drws i'w atal ef i mewn. Galw fy Awstin 10 yn ferfa a'm cythruddodd yn aruthr, ac fe edrychais ar y dyn, yn llewys ei grys erbyn hyn, yn dra ffyrnig, ac mor ffyrnig nes llareiddio ohono gryn dipyn. Cyn i ddim pellach ddigwydd yr oedd John yn ei ôl i symud y modur ac yn ei roddi yn y modurdy, canys yr oedd wedi sicrhau llety yn un o'r tai. Yn od ddigon tŷ y dyn hwnnw oedd ein llety y noson honno, a chawsom ymgom hapus ag ef a'i briod a chryn dipyn o hanes y fro a'i thrigolion.

Y lle nesaf y daethom iddo, ar ôl oriau o deithio, oedd Callendar ac ar y ffordd cawsom gip ar Loch Katrine a'r Trossachs. Rhamantus iawn oedd y lleoedd hyn a'r dref ymnythu'n dawel rhwng y mynyddoedd cribog ac uchel. Carem aros yno'n hwy ond yr oedd amser yn ein herbyn, ac am hynny trowyd pen y modur i gyfeiriad Edinburgh. Yn awr yr oedd yn rhaid prysuro canys yr oedd gennym ffordd go bell i fynd. Cyrhaeddwyd yno gyda'r hwyr, ond yn rhy hwyr i weld dim o'r ddinas, fwy na mynd i'r Sŵ i basio heibio ychydig amser cyn mynd i noswylio.

Drannoeth yr oeddem ar ein ffordd i'r Castell trwy'r brif heol a elwir yn Princes Street. Parciwyd y cerbyd ar lawnt y Castell a chawsom arweinydd medrus i'n tywys trwyddo. Adroddodd ei hanes yn fyr a chryno, ac ar ôl gorffen ohono a'n gadael i ni ein hunain, aethom at y War Memorial nad oes ei ail na'i gyffelyb yn unman. Treuliasom gymaint o amser ag a allem i edrych o gwmpas ar yr adeilad gorwych i gofio'r rhai a syrthiasai yn y Rhyfel Mawr. Y mae'n rhaid gweld yr adeilad hwn, a threulio mwy o amser ynddo nag oedd yn bosibl i ni, i weld ei odidowgrwydd a'i fwynhau. Methais â chael neb i ddywedyd wrthyf pwy a'i dyfeisiodd. O ben y Castell cawsom olwg odidog ar y wlad brydferth o amgylch.

Y lleoedd nesaf i ymweld â hwynt oedd mynachlog Melrose ac Abbotsford, ac yn awr yr oeddem yng ngwlad Syr Walter Scott. Aethom i'w dŷ a thrwyddo, neu yn hytrach y rhan honno o'r tŷ a breswyliai ef. Ac yr oedd yn union yr un fath â'r pryd hwnnw, a phopeth yn ei le fel y'i gadawodd y tro olaf. Gwelsom ei lyfrgell fawr o 20,000 o gyfrolau, ac ynddi ei gadair a'i ddesg. Yn y neuadd yr oedd ei ffon a'i het fel pe'n disgwyl am eu perchennog, ac yn yr ystafell yn ymyl, ei wely. Yr oedd yno amryw o ymwelwyr â'r lle. Oddi yno aethom i Dryburgh Abbey i weld ei fedd a bedd Iarll Haig yn ymyl. Carreg a chroes wedi ei thorri arni oedd ar fedd yr olaf yn union deg yr un fath a'r un faint â'r miloedd croesau a welir yn Ffrainc a Fflandrys.

Y noson honno lletyasom yn Kelso, ac fe ymwelsom ag adfeilion yr hen fynachlog. Piti oedd i'r fath ddinistr oddiweddyd yr hen fynachlogydd Sistersaidd hyn. Hawdd y gallasid eu haddasu ar gyfair yr oes newydd a oedd ar y trothwy. Rhaib anniwall yw dinistrio hen sefydliadau fel y rhain, a cholled na ellir ei sylweddoli. Yr un dynged a ddigwyddodd i hen fynachlogydd Cymru y sydd heddiw yn addurn i'n gwlad yn eu hadfeilion, ac yn dystion o'u duwiolfrydedd a'u gofal, yn enwedig o'r tlawd a'r anghenus.

Y lle nesaf i ymweld ag ef oedd Coldstream ac yn y gymdogaeth yma yr oeddem i ymweld â theulu a adwaenem. Ar ôl ymgom hapus â'r teulu, symudasom i Ferwig ar Glwyd (Berwick on Tweed). Yr oedd hyn ar dydd Sadwrn, ac yma fe ddisgynnodd rhyw flinder annisgrifiadwy arnom gweld cymaint, a theithio cymaint, o ddydd i ddydd, collasom bob archwaeth at weld dim mwy. Sychedem am ychydig seibiant i fyfyrio ar a welsom ac a glywsom. Ond ni allem feddwl am aros ym Merwig dros y Sul, a'r cwestiwn oedd b'le i fynd. Yn ystod tamaid a llymaid yn Coldstream penderfynasom droi pen y cerbyd yn ôl—teithiwyd yn ddibwynt fel hyn am lawer o filltiroedd. Yn sydyn trawyd ni â'r syniad mai gwell oedd mynd i Gaerliwelydd o'r lle y cychwynasom, a chyrhaeddwyd yno gyda'r hwyr.

Fore trannoeth aethom i'r moddion yn yr Eglwys Gadeiriol a dyrchafasom ein calonnau mewn diolch i Dduw am ein cynnal a'n cadw ar hyd y daith.

A dyma'n taith ni yn yr Alban drosodd yn union fel y cynlluniasem hi, ond inni ei gwneud mewn llai o amser o ddeuddydd neu dri. Teithiasom trwy wlad Thomas Carlyle, Robert Burns, a Syr Walter Scott, y sydd mor amlwg yn hanes Sgotland a'r byd. Ein tuedd ni yng Nghymru yw aros gartref ormod yn lle mynd o amgylch i ehangu ein meddyliau a gweld gorwelion newydd, a chyfoethogi ein llenyddiaeth trwy ymgydnabyddu â llenyddiaeth gwledydd eraill.

Digwyddiad hollol ddamweiniol oedd inni fynd i ardal y llynnoedd yng Nghumberland, a gwlad Wordsworth. Cychwynnwyd o Gaerliwelydd trwy Penrith, dros y Shap i Kendal, Windermere, Grasmere, Ambleside, Derwent, Bassenthwaite, Maryport, Silloth, ac yn ôl. Fel y mae'r mynyddoedd bwrw'u cysgodion i ddyfroedd grisialaidd y llynnoedd, felly yn yr un modd yr adlewyrchir hwy yn "Excursion" Wordsworth. Y fath fwynhad yw darllen yr "Excursion" ar ôl ymweld â'r wlad a'i gweld hi a'i harferion yn fyw ynddi. Drannoeth, teg edrych tuag adref.

XV

CEIRIOG A'I NEUADD GOFFA

DAETH tyrfa fawr ynghyd i weld agor yn ffurfiol y Neuadd Goffa i Geiriog yn Llanarmon, Dyffryn Ceiriog. Nid oedd raid i Geiriog wrth unrhyw goffa mwy nag i Wren am fonument yn Eglwys Gadeiriol St. Paul, Llundain. Eglwys Gadeiriol St. Paul yw monument Christopher Wren. A Glyn Ceiriog yw monument John Ceiriog Hughes.

Y tro cyntaf y gwelais i Geiriog, a'r tro olaf hefyd, gadawodd ei ddelw ar fy meddwl nes gallu ohonof ei weld yn awr. Yr oedd yn ddyn lluniaidd o gorff, a thrwsiadus ei wisg. Ei wyneb oedd lawn ac agored, a heb linell o grychni arno, a'r wyneb hwnnw yn adlewyrchu'r galon iach a gurai yn ei fynwes. Ei ddau lygad oedd fel dwy seren yn pelydru dan aeliau trymion, a'i dalcen oedd lydan a thal. Yr oedd ei wyneb yn agored i ddylanwad ei feddwl byw, a direidus weithiau, a basiai fel heulwen dros ddyffryn Ceiriog. Ar brydiau, a phrydiau anaml iawn, rhedai cwmwl dros yr wyneb nes pylu o'r sirioldeb gwefreiddiol hwnnw a'i nodweddai. Delweddai ei wynepryd Ddyffryn Ceiriog.

Cofiaf yn dda hefyd y troeon y darllenais ei weithiau gyntaf—Oriau'r Hwyr, Oriau'r Bore, Y Bardd a'r Cerddor. Yr oedd hynny ar aelwyd gysurus yn Sir Aberteifi fin nosau gaeaf, a rhai o'r cymdogion wedi dyfod ynghyd i glywed un o'r darllenwyr penodedig yn darllen Myfanwy Fychan, Alun Mabon, Syr Meurig Grynswth, Y Fenyw Fach a'r Beibl Mawr, Wyres fach Ned Puw, a Ti wyddost beth ddywed fy nghalon, i enwi ond rhai o'i ddarnau'n unig. Yr oedd dylanwad y gwahanol ddarnau a ddarllenid yn debyg i effeithiau'r awelon ar y tonnau yn eu gwneud yn llon, ac yn lleddf bob yn ail, a rhyw bwff o chwerthin iach yn torri weithiau, ac yn union deg y deigryn distaw yn mwydo'r rudd, a llaw greithiog ambell wrandawr yn crwydro'n ddirgelaidd at y llygaid ac yn symud y deigryn. Nid oedd un wyneb sych pan ddarllenid ar goedd,

Mi geisiaf eto ganu cân,
I'th gael di'n ol, fy ngeneth lân,
I'r gadair siglo ger y tân,
Ar fynydd Aberdyfi;
Paham, fy ngeneth hoff, paham,
Gadewaist fi a'th blant dinam?
Mae Arthur bach yn galw'i fam,
A'i galon bron a thorri;
Mae'r ddau oen llawaeth yn y llwyn,
A'r plant yn chware efo'r ŵyn;
O tyrd yn ol, fy ngeneth fwyn,
I fynydd Aberdyfi.

Ni wn am un bardd, hen na diweddar, a ogleisia'r teimladau fel Ceiriog, a hynny a'i rhydd yn rhwydd ar ben rhestr telynegwyr ein gwlad.

Fel yr adlewyrcha'i wyneb cyfoethog Ddyffryn Ceiriog, felly yr adlewyrcha'i delynegion ei bersonoliaeth gref ac iach.

Gwelaf y rhydd Almanac y Miloedd ddydd ei farw ar gyfair Ebrill 23, 1887. Dydd ei eni—Medi 25, 1832, a ddylid roddi ynglŷn âg ef, a gadael dydd ei farw'n blanc, neu fel y gwneid â seintiau'r Oesoedd Canol, a rhoddi Ebrill 23, 1887, renatus.

Cofiaf ddydd claddu'i gorff yn dda. Safwn ar y pryd ar orsaf Croesoswallt, y dwthwn hwnnw'n orsaf newid, ac yng nghwmni dwsin neu lai o hynafiaethwyr yn ymgomio â'i gilydd. Tynnwyd ein sylw at nifer dda o ddynion mewn dillad duon a hetiau top yn dyfod i'r platform i fynd gyda'r tren i Gaer Sws. Ac fe ofynnodd rhywun i b'le y gallent fod yn mynd, ac fe atebodd un o'r cwmni mai i gynhebrwng Ceiriog yn Llanwnog yr aent. "Ceiriog, who is he or who was he?" meddai un o'r ymgomwyr. Ac atebwyd ef

gan hynafiaethwr o fri. "He was a bit of a bard". Gorfu i un neu ddau ohonom gnoi ein tafodau. He was a bit of a bard! Y mae'r hynafiaethwr hwnnw wedi marw, a Cheiriog yn fyw.

O ran y corff gorffwysa Ceiriog ym mynwent Llanwnog, a'r englyn hwn o'i waith ef ei hun ar garreg ei fedd:—

Carodd eiriau cerddorol,—carodd feirdd,
Carodd fyw'n naturiol;
Carodd gerdd yn angerddol,
Dyma ei lwch—a dim lol.


XVI

S. J. EVANS

FEL y dychwelwn o Fangor un tro croesais bont y Borth i Borthaethwy ac Eryl Môr i ymweld â'r gŵr mwyn o ger Menai. Clywswn nad oedd ei iechyd yn dda. Curais wrth ei ddôr, a'r newydd a glywais yno oedd ei fod yn well ar y pryd, ond ei fod ymhell o fod yn dda. Ar ôl aros ychydig o amser gwahoddwyd fi i fyny i'w ystafell wely. Clywais wedyn mai ei ddeffro a wnaeth ei briod i'w hysbysu pwy oedd yno. Pan oeddwn ar drothwy drws ei ystafell estynnodd allan ei law i afael yn fy llaw innau. Daeth llonder i'r llygad siriol hwnnw a gwên hyfryd i'w wynepryd mwyn. Ar hyn daeth pwff o chwerthin drosto, a chwarddodd yn iach am ryw stori ddigri a ddarllenasai ddiwrnod neu ddau yn ôl.

Dywedais wrtho nad oeddwn am aros ond ychydig funudau rhag ei flino, a'm taith innau ymhell. "Na, na, fachgen", meddai yntau yn ei ddull arferol, "y mae gennyf lawer o bethau i siarad â chwi". Yna ceisiodd gennyf dynnu fy nghadair yn nes at erchwyn ei wely. Ac fe adroddodd hanes ei daith ef a Mrs. Evans i Rydychen, ei ymweld â'r meddygon, a'r driniaeth a gafodd, a'i ddyfod yn ôl i Eryl Môr ym Mhorthaethwy. Dywedodd iddo fod yn bur sâl, ac iddo bron golli'r dydd ddwywaith ddiwrnod neu ddau yn ôl. "Ond yn awr", meddai, "y mae fy wyneb at y goleuni, a diolch am hynny". A chyda'r geiriau hyn yn seinio yn fy ysbryd ymadewais â thristwch trwm yn fy nghalon. Mwmiwn â mi fy hunan ar fy ffordd adref a gawn i ei weld ef eto yn y fuchedd hon. Gobeithiwn y cawn, ac eto ofnwn, a'r ofn hwn a godai ddeigryn i'r llygad a chreu rhyw wacter prudd yn y galon.

Teimlwn wrth eistedd wrth erchwyn ei wely fy mod yng nghwmni un a oedd yn y glyn, tywyll a du i ni yr ochr yma, ond iddo ef yr oedd goleuni. A dyma oleuni'r hwyr y sonia Sechareia amdano—"A bydd goleuni yn yr hwyr". Dywedai iddo bron suddo ddwywaith rai dyddiau yn flaenorol, ond yn awr yr oedd pob ofn wedi cilio, a'i brofiad ydoedd eiddo'r Salmydd, "Nid ofnaf niwaid, canys yr wyt ti gyda mi, dy wialen a'th ffon a'm cysura". Ei ffon ef yn y glyn oedd y goleuni a gafodd, a'r goleuni hwnnw a alltudiodd y tywyllwch, a liniarodd y poenau, ac a droes lyn cysgod angau yn olau ddydd. Ymddangosai i mi ar y pryd ei fod ymhell yn y glyn, ac yn edrych yn ôl bron o'r lan draw. Ni soniodd air am y llyfr emynau newydd, y llafuriodd yn galed a diwyd wrtho am tua phedair blynedd, ac yntau yn dad iddo, canys ar ei awgrym ef yr ymgymerwyd â'r gwaith. Ciliai popeth yn awr o'i olwg, ond y goleuni hwnnw y soniodd ddwywaith amdano. Tybiwn ar y pryd mai goleuni adferiad iechyd oedd yn ei feddwl, ond pan fyfyriais ar y geiriau ar fy ffordd adref, a chofio tôn y llais a gwên yr wyneb, deffroais i'r ffaith bod mwy yn y geiriau nag adferiad iechyd. Fe allai iddo roddi'r ystyr o adferiad iechyd i'r geiriau i esmwytháu ein teimladau cynhyrfus ni, canys ni fu neb erioed yn fwy tyner nag ef. Carai wella, a gwnaeth ei orau i wella, canys nid ydoedd ond cymharol ieuanc ac yn alluog i flynyddoedd o waith, a gwyddai fod gwaith pwysig o'i flaen. Ond nid oedd yno ddim grwgnach am fod ei ffyrdd Ef yn y môr a'i lwybrau yn y dyfroedd dyfnion. Rhyw dawelwch a hunan-ymostyngiad hyfryd oedd yno, nes creu awyrgylch nefolaidd yn yr ystafell. Yr oedd ei ystafell wely yn oleuedig gan y goleuni hwnnw a welai ef. Crwydrai angau o gwmpas y gwely, dynesai yn esmwyth iawn, a rhoddai ei law yn dyner ar ysgwydd y cystuddiedig, a sibrydai yn ei glust, “Y mae bron yn bryd inni fynd adref weithian, canys y mae'r nos yn nesu", a thybiwn ei glywed yntau yn ateb, "O'r gorau".

Y tro nesaf wedyn imi ymweld â Phorthaethwy oedd dydd ei gynhebrwng a'i gladdu. Gan fod y cynhebrwng yn breifat yn y tŷ ac yn gyhoedd yn yr eglwys, i'r eglwys yr euthum i gyda'r dyrfa fawr. Y gwasanaeth drosodd yn yr eglwys cludid yr arch a'r un blethdorch gan bedwar ffrind a'r gynulleidfa fawr yn canu'n bruddaidd "Yr awr hon, Arglwydd, y gollyngi dy was mewn tangnefedd". Yn Llantysilio ar ynys fechan ym Menai y rhoddwyd y corff i orffwys ac Archesgob Cymru yn gweinyddu.

Yr oedd Mr. Evans yn M.A. o Brifysgol Llundain, ac anrhydeddwyd ef â'r tair llythyren O.B.E. am ei wasanaeth i'w wlad a'i genedl. Ym myd addysg yr oedd ef yn fwyaf amlwg, a chysegrodd ei fywyd a'i holl egnion i'r gwaith hwn. Bydd hir gofio amdano ynglŷn ag Ysgol Ganolradd Llangefni, y bu yn brifathro arni am ran fawr o'i oes, gan ei dyrchafu yn allu a ddylanwadodd nid yn unig yn y sir, ond hefyd ymhell y tu hwnt i derfynau Môn. Yng nghanol ei waith a'i brysurdeb mynnai fynych egwyl gyda llenyddiaeth ei wlad, ei hanes, a'i hynafiaethau, a bu ei bin yn prysur ychwanegu at eu cyfoeth mewn cylchgronau a llyfrau. Y fath symbyliad a roes ei Ramadeg i fechgyn a merched i ddysgu'r iaith. Heblaw hyn oll meddai ar drwydded yr Archesgob i weinyddu mewn eglwysi, a bu'n ffyddlon a diwyd yn y gwaith hwn fel ymhob gwaith arall. Trylwyredd oedd un o'i nodweddion amlycaf. Yr oedd ymron ar bob bwrdd a phwyllgor, nid yn unig yn yr Esgobaeth, ond hefyd yn y dalaith Gymreig, ac yr oedd yn ŵr doeth o gyngor ar bob achlysur.

Tynnodd gwys hir a honno'n gŵys union a glân i hyfforddi ieuenctid yn yr ystyr ehangaf. Mawr oedd ei ddiddordeb yn ei ddisgyblion, nid yn unig pan oeddynt o dan ei ofal, ond hefyd ar ôl ymado ohonynt i gylchoedd eraill. Credai yn nylanwad esiampl dda i hyfforddi, a chafodd ei ddisgyblion esiampl nad oedd bosibl ei gwell. A phrawf o hyn oedd y llu mawr ohonynt a ddaeth i'w gynhebrwng, a'r teimladau tyner a ddangosid wrth weld ei gludo i'w fedd.

Ni allai ef gyflawni'r gwaith a wnaeth onibai am yr un a fu yn ei ymyl ar hyd y blynyddoedd yn gymorth iddo ac mewn cydymdeimlad â'i ddelfrydau, a chydnabyddai hynny â gwên ar ei wyneb. Yr oedd ef a'r cylchoedd y troai ynddynt o dan ddyled fawr i Mrs. Evans.

Dyna fraslun tra amherffaith o gymeriad cyhoedd Mr. Evans. Ond beth am y dyn yn ei gartref ac ymysg ei gyfeillion? Yno y mae gweld dyn ar ei orau. Cafodd tri ohonom y fraint fawr hon, a braint y bydd yn felys cofio amdani hyd y diwedd.

Fel y dywedwyd eisoes tynnodd gŵys hir, ac wedi dyfod ohono i ben y dalar prynodd dŷ a gardd a lawnt hyfryd ym Mhorthaethwy ar lan Menai. Nid cynt yr ymsefydlodd ef a'i deulu yno nag y meddyliodd am lyfr emynau newydd i'r Eglwys yng Nghymru. Pasiwyd mynd ynghyd â'r gwaith yn un o gynadleddau Esgobaeth Bangor, a chadarnhawyd y penderfyniad gan y Governing Body. Codwyd pwyllgor o bob Esgobaeth, a phwyllgor gweithio o bedwar, a Mr. Evans yn un ohonynt, ac yn ysgrifennydd i'r ddau gydag Esgob Abertawe a Brycheiniog yn gadeirydd. Cafodd weld y casgliad o eiriau wedi ei orffen ac eithrio'r ychwanegu a diwygio y bydd yn rhaid rhoddi sylw iddynt. Pan ddaeth gwaith ei dalar i ben ciliodd oddi wrthym yn dangnefeddus yn sŵn cân yr hen Simeon.

Yn ei gwmni ar ben ei dalar y cafodd tri ohonom y fraint o'i adnabod yn ei dŷ, wrth ei fwrdd, a cher y tân yn y gaeaf ac ar y lawnt ger y tŷ yn yr haf. Wythnosau hyfryd oedd y rhain. Ar gais Mr. Evans, a thrwy ei ddylanwad, bu i Esgobion Cymru, a'r Archesgob ddwywaith, wahodd y pwyllgor gweithiol i'w plasau. Wythnosau nad anghofir yn fuan oedd y rhain. Ond nid oedd yr un tŷ yn fwy dymunol gennym i aros am wythnos ynddo nag Eryl Môr, canys yno yr oedd ef yn ei gartref, a chwith iawn meddwl bod y bennod hapus hon wedi dyfod i ben. Dyma'r pethau bach hynny sy'n melysu bywyd, ac yn ei wneud yn werth ei fyw, canys fe ellir edrych yn ôl at y rhain gyda boddhad. Dyma rai o'i nodweddion y sylwasom arnynt ac y cawsom brawf ohonynt.

Ei garedigrwydd. Yr ydoedd yn eithriadol o garedig heb y drafferth leiaf i ddangos hynny. Teimlid ein bod yng nghwmni dyn syml a naturiol. Ei gartref ef oedd eich cartref chwi wrth aros yn ei dŷ a Mrs. Evans yn rheoli'r tŷ a'r prydiau bwyd i'r amser penodol. Ai ef i'w wely o gwmpas y deg bob nos yn gyson, a gadawai i'w wahoddedigion wneud a fynnent. Ac yn y bore ef a fyddai gyntaf i lawr.

Yr oedd yn weithiwr diwyd a chaled. Ni fynnai wastraffu un awr o amser. Ar ôl gorffen ohonom ni ein gwaith a mynd allan am dro, arhosai ef gyda'i waith. Yn rhai o'r cyfarfodydd diwethaf dangosai arwyddion o flinder, ond ni fynnai gydnabod hynny. Pan aem ni allan am dro, gorffwysai yntau mewn cadair esmwyth. Dechreuai ei afiechyd ddweud ar ei feddwl, ond yr oedd ei benderfyniad mor gryf fel y mynnai aros gyda'i waith. A phan fethai dywedai'n syml, "Wel, fe'i gadawn hi fan yna'n awr".

Yr oedd yn ddyn pwyllgor ac o farn aeddfed a theg. Ni châi'r un emyn fynd i'r casgliad er mwyn plesio'r awdur. Weithiau dywedai yn ei ddull syml, "Na, wir, fechgyn, nid yw hwn i fyny â'r safon". Dro arall dywedai, "Fe fydd canu ar hwn". Pan fyddai'n ansicr ei feddwl am ryw emyn, darllenai ef i Mrs. Evans er cael ei barn hi arno, a meddai hithau farn bur gywir am werth emyn. Dyma'r unig gasgliad o emynau nad oes ynddo yr un emyn i blesio'r awdur. Fe fydd y casgliad newydd yn bur lân o'r bai hwn beth bynnag. Nid ysgolheigion ac emynwyr yw'r beirniaid gorau bob amser ar werth emyn.

Yr oedd yn ddyn llawn o hiwmor. Mwynhâi ddywediad pert a stori ddigri, ond yr oedd yn rhaid iddynt bob amser fod yn lân a chwaethus. Ar ôl gwaith y dydd, fe eisteddid wrth y ford o ddeg y bore hyd wyth yr hwyr ac eithrio'r ychydig seibiannau gyda'r prydiau bwyd. Ar ôl swper tynnid at y tân yn y gaeaf ac ar lawntiau yn yr haf, a llecid ychydig ar linynnau'r bwa, a mynych y dywedai y byddai'r munudau hynny yn gystal a gwell na photelaid o ffisig. Clywaf yn awr ei bwff iach o chwerthin o waelod ei galon.

Arfer Ap Ceredigion, pan godai'r hwyl, oedd codi ar ei draed a'i gefn at y tân a'i wyneb cyn sobred ag wyneb barnwr ar y fainc, ac yn byrlymu arabedd, ac S.J. yn ymrolio gan chwerthin. Tua deg o'r gloch edrychai ar ei oriawr a dywedai’n siriol, "Wel, fechgyn, y mae'n bryd i mi fynd".

Gweithiai tri ohonom gydag ef fel hyn am tua phedair blynedd heb na gair croes na chroesdynnu. Pan fyddai gwahanol farnau am ryw emyn, ac fe ddigwyddai hyn yn aml, fe welai S.J. y sefyllfa, ac yn ddeheuig iawn awgrymai ohirio'r drafodaeth i eisteddiad arall, ac erbyn hynny fe fyddai'r cymylau wedi chwalu a'r wawr wedi torri. Gwn y cytuna Canon W. H. Harris ac Ap Ceredigion â mi na threuliasom flynyddoedd hapusach erioed, ac i S.J. yr ydys yn ddyledus am hyn, ac i S.J. yn fwy na neb arall y mae'r Eglwys yng Nghymru yn ddyledus am y llyfr emynau newydd.

Ni feiddiwn i sangu ar dir mor gysegredig â'i fywyd preifat oni bai am yr olwg agos a gefais arno. Adwaenwn ef yn y gŵys hir o'i fywyd cyhoedd, a darllenaswn bopeth a gyhoeddai, ond ei weld ef o bell yr oeddwn y pryd hwnnw. Ond ar ddyfod ohono i ben ei dalar deuthum i'w weld ef yn ymyl, wrth ei ford a cher ei dân, a deuthum i'w edmygu a'i garu â'm holl galon. Edmygwn ef o bell, ond yn agos carwn ef.

Y tro olaf y gwelais ef yn Eryl Môr ym Mhorthaethwy edrychai 'mlaen i ddyfod i Arwystli, ac i rodio glannau Hafren a red yn furmurol heibio i'm drws. Fe wyddai ef am Hafren a Phowys er pan oedd yn brifathro ysgol ganolradd Trallwm, a byth er hynny yr oedd swynion yr hen afon a'i broydd teg wedi suddo'n ddwfn i'w serchiadau. "Dof, fachgen", meddai, "tua'r Pasg acw i Arwystli am ychydig ddyddiau, a Mrs. Evans gyda mi, ac fe rodiwn lannau Hafren a'r wlad baradwysaidd o amgylch". Dywedai hyn a gobeithia hyn, ond ryw fodd teimlwn ei fod yn ymwybodol ei fod yn rhodio glannau afon arall, a'i draed bron yn cyffwrdd â'i dyfroedd. Fe ddaeth y Pasg ond nid S.J. Erbyn heddiw y mae wedi croesi'r afon, ac ni fu'r croesi'n arw. Pan groesodd pererin Bunyan yr hen afon fe seiniodd holl glychau'r ddinas, a chanodd yr utgyrn—"Gartref o'r diwedd".

XVII

JOHN FISHER, OFFEIRIAD

GWYN ei fyd y dyn nad oes iddo hanes. Dyn felly ydoedd ein gwrthrych. Ni wyddai Cymru fawr amdano, na hyd yn oed yr Eglwys yng Nghymru. Ac eto yn ystod y 40 mlynedd diwethaf ni fu un â gwybodaeth helaethach a chywirach o'i wlad ac eglwys ei wlad nag ef. Fe ellid ei basio ar yr heol, neu ar y ffordd, heb wneud fawr sylw ohono. Nid oedd dim mewn gwisg ac osgo yn ei wahaniaethu oddi wrth unrhyw un arall o'r un alwedigaeth ag ef, gan mor naturiol a diymhongar ydoedd. Enillodd y radd B.A. yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr, ac anrhydeddwyd ef wedyn â D.Litt. gan Brifysgol Cymru, ac yr oedd yn F.S.A.

Heblaw bod yn rheithor Cefn, Llanelwy, yr ydoedd yn Ganon yn yr Eglwys Gadeiriol a Changhellor, a gwasanaethai fel Caplan ac Arholydd i'r Archesgob.

Gydag ef, y dyn oedd yn rhoddi anrhydedd ar y swydd, ac nid y swydd ar y dyn. Fe rydd swydd neu radd uchel anrhydedd ar ddyn, ond nid bob amser y rhydd dyn anrhydedd ar ei swydd neu ar ei radd. Gydag ef diflannai pob anrhydedd a swydd o'r golwg gan mor naturiol a diymhongar ydoedd.

Dyna'r cymeriad a ddychwelai o Amwythig, o fod mewn cyfarfod o'r Archaeologia Cambrensis yno, ddydd Sadwrn o Fai. Galwodd ar ei ffordd adref yn nhŷ ei frawd, y Parch. E. J. Fisher, rheithor Pontfadog, ger Wrecsam, ac yno'n sydyn y bu farw, ac ef ar y pryd yn 68 mlwydd oed.

Nid wyf yn meddwl y gŵyr fawr neb fwy na hyn amdano ar wahân i'w symudiadau yn Llanelwy a'r gwaith a adawodd ar ei ôl. A'r argraff a greir arnom yn awr yw i ddyn mor fawr fyw am gymaint o amser yn ein plith a ninnau yn gwybod cyn lleied amdano. Fe fu rhai mwy eu sŵn nag ef yn ystod y 40 mlynedd diwethaf, ond a fu ei fwy sydd gwestiwn arall. Dyn a dyfodd yn araf ydoedd nes dyfod yr hen fedelwr i'w dorri i lawr.

Cawsom y fraint o'i adnabod ar hyd ei yrfa, o'r adeg y cyd-ymaelodasom yng Ngholeg Llanbedr hyd y diwedd. Dau ddylanwad mawr oedd yng Ngholeg Llanbedr y dwthwn hwnnw, y Prifathro Jayne a'r Athro Owen (wedyn yr Esgob Owen). Yr oedd yno athrawon eraill gwych eu doniau yn y ddarlithfa, ond y ddau hyn oedd fwyaf eu dylanwad ar fywydau'r efrydwr. Breuddwyd Jayne oedd gwneud Coleg Llanbedr yn University of Central Wales, a phe byddai ef wrth y llyw pan ddaeth y cyfleustra, o bosibl nad hynny a fyddai. Fe ymledodd dylanwad Jayne yn gyflym drwy holl Gymru, eithr ofnid na fyddai yno'n ddigon hir i weithio allan ei gynlluniau. A'r hyn a ofnid a ddigwyddodd, ond nid cyn i lawer to o efrydwyr ddyfod o dan ei ddylanwad. Anffawd i'r Coleg oedd ymado Jayne, ac anffawd i Jayne oedd ei ymadael. Wyth mlynedd yn unig y bu yn Llanbedr, ond yn ystod yr amser byr hwn enillodd edmygedd Cymru drwyddi draw. A chlywsom ef yn dywedyd ymhen blynyddoedd wedi ei ymado mai dyna'r cyfnod hapusaf yn ei fywyd a'r cyfnod y gwnaeth fwyaf o waith ynddo.

Yr Athro Owen a ddylanwadodd fwyaf ar Fisher. Meysydd ei astudiaeth yn y Coleg ydoedd Llenyddiaeth Gymraeg, a bu'n ddyfal a diwyd trwy gydol y tair blynedd hynny.

Yr ydoedd yn ddyn ieuanc ar ei ben ei hun yn y Coleg, ac ar ei ben ei hun y gwelid ef amlaf, a rhyw lyfr bychan yn ei law neu yn ei boced wrth fynd am dro yn y prynhawnau. Weithiau aem, dri neu bedwar ohonom, gyda'n gilydd am daith go bell, ac yntau yn un ohonom, ac nid oedd neb yn fwy llon a llawen a direidus ei ymadroddion nag ef. Mwynhâi gwmni ei gyd-efrydwyr, a mwynhaent hwythau ei gwmni yntau. Ond hawdd oedd canfod mai maes ei astudiaeth oedd agosaf at ei galon. A chan na ddilynai neb yr un cwrs ag ef yn y Coleg, bu raid iddo fod lawer ar ei ben ei hun, a byw iddo ef ei hun, er y cymerai ran yn holl fywyd y Coleg. Mynychai'r Gymdeithas Ddadlau, a siaradai weithiau, ond nid yn fynych. Gwell oedd ganddo fod yn wrandawydd.

Graddiodd ganol haf 1884, ac ordeiniwyd ef i guradiaeth Pontblyddyn, gerllaw'r Wyddgrug, a gwelwn ef weithiau'r pryd hwnnw, a buom yn aros gyda'n gilydd ar droeon. Symudodd wedyn i Lanllwchaiarn, ger y Drefnewydd, ac oddi yno aeth i Ruthyn, ac yn olaf oll i'r Cefn yn ymyl Llanelwy. A'r un neilltuolion a'i nodweddai ar hyd y blynyddoedd.

Bu am flynyddoedd yn Olygydd Journal yr Archaeological Society, ac fe ysgrifennodd lawer iddo o dro i dro. Ysgrifennodd lyfrynnau ar destunau dieithr a newydd, megis yr un ar grefydd yr Oesoedd Tywyll. Darlithiodd lawer ar hen arferion a hen ddywediadau, ac nid oedd berygl ei ddenu i ddywedyd unrhyw beth er mwyn ei ddywedyd, ac ni thynnai fyth ei fwa ar antur. A chyda llaw, gobeithiwn y crynhoir y darlithiau hyn ynghyd i'w cyhoeddi'n llyfr.

Nid adroddai ddim oni byddai'n sicr o'i ffeithiau. Gofynnais ei farn unwaith ar hanes y Welsh not, gan gyfeirio at yr hyn a ddywedodd hanesydd nid anenwog a gwleidydd enwog hefyd. A'i ateb oedd, "They have an axe to grind, and they don't mean what they say. But the mischief is, other people believe them". Yr ysbryd celwyddog hwn yng ngenau'r proffwydi a wenwynodd y ffynhonnau 40 mlynedd yn ôl. Y mae'r ysbryd hwn yn marw, ond marw'n araf y mae.

Amdano ef, nid oedd ganddo'r un fwyall i'w hogi, na'r un uchelgais am glod ac anrhydedd. Ni ellir gweld y pren weithiau gan y dail, ond gydag ef ni ellid gweld y dail gan y pren. Bu fyw i'r gwirionedd pa un ai derbyniol ai anner- byniol a fyddai. Yr oedd ei ffeithiau wedi eu coethi yn ffwrn- eisi ei ymchwil, a deuent allan ohonynt fel gronynnau o aur wedi eu puro.

Dro arall gofynnais ei farn ar gyfres o erthyglau hanes a ymddangosai ar y pryd, a'i ateb oedd fod yr ysgrifennydd yn gallu gwneud llawer o lastwr o ychydig iawn o laeth.

Gwaith mawr ei fywyd oedd ei bedair cyfrol ef a'r Parch. S. Baring Gould ar y Seintiau Prydeinig. Fe fydd y gwaith hwn yn chwarel i gloddio ohono am amser maith. Bron na ellir dywedyd mai'r cyfrolau hyn yw'r gair diwethaf ar y testun. Dyna'r dyn syml a diymhongar a ymadawodd o'n plith, ac a adawodd enw mor dda a gwaith mor fawr ar ei ôl i lefaru nad yn ofer y treuliodd flynyddoedd ei oes ac y gweith- iodd mor galed. Ac amdano gellir dywedyd-"Dos dithau hyd y diwedd; canys gorffwysi, a sefi yn dy ran yn niwedd y dyddiau".

XVIII

TRO YNG NGHEREDIGION (1)

GYDA dyfodiad yr haf deffrôdd awydd cryf ynof i fynd am dro. Eisteddais i fyfyrio i b'le'r awn. Cynigiai llawer lle, pell ac agos, ei hunan i'm sylw. Yr hyn yn fwy na dim a benderfynodd y cwestiwn oedd y man yr oeddwn ynddo ar y pryd. Eisteddwn un hwyrnos hyfryd o haf mewn cysgod yn ymyl y tŷ. O'r tu cefn i mi yr oedd mynyddoedd yr Eifl, ar yr aswy Eryri a mynydd-gadwyn Meirion, ar fy ne y rhimyn mynydd a dyr Lŷn yn ddwy ran, ac o'm blaen Fae Ceredigion, a thuhwnt iddo yntau drumiau bryniau'r De, a haul y Gorllewin yn eu gwneuthur yn hynod eglur. Ac wrth edrych arnynt yn y pellter draw yng nghysgodion prudd yr hwyr, teimlwn hwynt yn amneidio arnaf i fynd yno am dro. Er mai llanerchau gwledig oeddynt, a minnau ar y pryd yn trigo mewn rhanbarth gwledig, gwyddwn y cawn rai pethau yno na chawn yma. Cawn gyfarfod â hen gyfoedion maboed, a rhodio'r hen lwybrau, gweld yr hen dŷ y'm ganed ynddo, a'r ddau arall y treuliais fy mlynyddoedd cyntaf ynddynt-y blynyddoedd hapus hynny cyn i amser ddechrau rhwygo a gwasgaru; ac o dan y dylanwadau cudd yma,

Out of my country and myself I go.

Fore Llun yr oeddwn ar fy nhaith at y bryniau pell a welswn y noson gynt, ac a deimlwn yn amneidio arnaf. Yn gymdeithion imi ar un llaw yr oedd y môr, aflonydd a distaw y diwrnod hwnnw, ac ar y llall y mynyddoedd uchel a niwl yn ysgeiniau teneuon yn wisg amdanynt. Ymadewais â hwynt heb fod yn hir, ac yn fuan yr oeddwn, nid yn unig yng ngolwg y bryniau pell, ond yn awr yn eu cwmni. A hwyr yr un diwrnod safwn ar y rhimyn uwchlaw mynwent ac eglwys Gwnnws.

Mor arddunol oedd yr olygfa oddi yma! Gwelais hi lawer gwaith o'r blaen ac ar wahanol dywydd ond yn nhawch yr hwyr y noson honno yr oedd yn hollol newydd. Yn y pellter yr oedd cylch o fryniau yn amgylchu'r holl fro gyda'r eithriad o un bwlch. A thrwy'r bwlch hwnnw gwelwn fynyddoedd yr Eifl ar y gorwel, yr Eryri, "a'r Wyddfa gyrhaeddfawr". Ac wrth edrych ar yr olygfa trodd fy meddwl i fyfyrio ar fel mae'r mynyddoedd a'r bryniau a'r dyffrynnoedd yn dylanwadu ar y cymeriad cenedlaethol, a'r unigol o ran hynny. O'r Gogledd a chymdogaeth yr Wyddfa y caed y diwygwyr a "droes agoriadau drws y Gwaredwr", ac o'r Deau y caed y deffrowyr a wasgarodd y peraroglau, fel na raid i'r De genfigennu wrth y Gogledd, na'r Gogledd wrth y De, mwy nag "Effraim wrth Juda, a Juda wrth Effraim". Rhaid oedd wrth y ddau—"Deffro di, ogleddwynt, a thyred ddeheuwynt, chwyth ar fy ngardd fel y gwasgarer ei pheraroglau hi"; "ac felly y daw'r Anwylyd i'w ardd i fwyta ei ffrwyth peraidd ei hun".

Fe aeth yr olygfa hon heibio, ac yr oeddwn mewn awyrgylch arall. Rhodiwn yr hen lwybrau a rodiais ganwaith o'r blaen. Ychydig oedd y gwahaniaeth ynddynt, rhy ychydig bron i dynnu sylw. Gwelais fy hun unwaith eto â llyfr neu ddau dan fy nghesail, a gwelwn yr hen lwyni yr arferwn eistedd dan eu cysgod. Dyma'r hen dŷ y'm ganed ynddo, a'r ddau arall y'm magwyd ynddynt heb ond ychydig iawn o gyfnewidiad i'r hyn oeddynt gynt. Euthum trwy'r cyntaf a'r trydydd, a thrwy eu gerddi, a hen atgofion yn ymwthio ar draws ei gilydd trwy'r cof a'r meddwl. Yr oeddynt hwy bron yr un fath, ond fod eu hen breswylwyr wedi hen ymado.

Teithiwn trwy'r fro yng nghwmni efrydydd ieuanc. Gymaint y gwahaniaeth oedd rhyngom! Yr oedd fy nghlustiau i yn fyw i'r awel-donnau a gludai atgofion o'r amser gynt ac yntau â'i glustiau yn agored i'r presennol. Gwelwn i y rhieni yn y plant, a nodweddion y teulu yn blodeuo mewn ysbrigyn ieuanc. Adnabyddwn i'r plant wrth eu rhieni. Mor rhyfedd a hyfryd oedd edrych ar yr hen foncyff trwy gangau'r olewydden! Er prydferthed oedd y cangau irion a thyner, ar yr hen foncyff yr edrychwn i, a'r cangau irion a thyner a dynnai sylw a serch fy nghydymaith. Na, nid oedd fawr o orffennol i'w hanes ef. Adwaenai ef y rhieni wrth y plant, a minnau'r plant wrth eu rhieni, a chyd-deithiem fel hynny'n hapus gyda'n gilydd: ef yn derbyn cyfarchiad hwn a'r llall ar ein llwybr, a minnau'n gwrando ar leisiau o'r amser gynt. Yr oeddwn i â gorffennol i'm bywyd, ac ar y cyfan ei lawenydd yn gorbwyso ei dristwch ac yn gallu sibrwd wrth fy nghydymaith ieuanc—

Grow old along with me
The best is yet to be,
The last of life for which the first was made.

Buom gryn ysbaid yn yr awyrgylch yma, awyrgylch llwythog o atgofion am hen gyfeillion, a rhai ohonynt yn fwy na chyfeillion, na allaf eu henwi heb golli deigryn o hiraeth ar eu hôl, ond ar y cyfan teimlwn—

'Tis better to have loved and lost
Than never to have loved at all.

Mewn man neilltuol ar y daith fe'm teimlwn fy hun yn cael fy nyrchafu o awyrgylch yr hen atgofion. Yr oedd y fro yn awr yn fwy newydd, a rhaid oedd holi enwau'r tai a'r tiroedd a'r preswylwyr. Ymddangosai'r wlad yn hyfryd dan haul Gorffennaf. Clywn fy nghydymaith yn cyfarch rhai o'r fforddolion wrth eu henwau, a hwythau yn talu'r un deyrnged yn ôl, a minnau'n perthyn i'r oes gynt.

Un o fanteision mynd am dro fel hyn, parhaed y tro ddiwrnod neu wythnos, yw fod y golygfeydd yn newid bron bob awr. Daw golygfeydd newyddion i ddenu'r sylw a bywiogi'r ysbryd yn barhaus. Eir ymlaen trwy olygfeydd hen a diweddar, ac weithiau deuir at hen furddun neu glogwyn a egyr faes eang i fyfyrdod. Pan fyddys ar wyliau, neu'n mynd am dro, rhaid yw bod yn barod i dderbyn yr argraffiadau a gynigir ar y pryd, a gwneuthur y gorau ohonynt. O fynd fel hyn "deuthum", meddai Bunyan, i "fan lle'r oedd ffau, ac yno y gorweddais ac y cysgais, ac y breuddwydiais", a gallai ychwanegu, "a'm calon oedd yn effro". Ac fel yntau deuthum innau i fan neilltuedig. Yno yr oedd aber fechan. I'r Dwyrain a'r De ymgodai rhes o fryniau, ac yn y gongl rhyngddynt ar wastadedd coediog, a hwnnw yn ymestyn ymhell i'r Gorllewin, yr oedd hen furddun, a'r hen furddun hwnnw oedd mynachlog Ystrad Fflur. Môr dawel a neilltuedig oedd y lle! Y mae'r hen fynachlog wedi ysgrifennu ei henw yn ddwfn ar y fro o amgylch. Trysorir ei hanes yn enwau'r tai a'r tiroedd o amgylch, ymhell ac agos. Mynnai'r dychymyg redeg yn ôl i'r Oesoedd Canol, pan oedd y frawdoliaeth yma yn ei bri, a gwaith y dydd wedi ei ddosbarthu’n drefnus, a phawb i'w gwaith. Bu am rai canrifoedd yn dŷ elusen, gweddi, ac ympryd. Ac yn awr nid yw ond hen fagwyr ers dim a dim i bedwar cant o flynyddoedd, ac ni cheir "i dosturio wrth ei llwch hi", ond ambell hynafiaethydd gyda'i gaib a'i raw yn cloddio at ei lloriau, a datguddio’i cholofnau. Y mae ei bil i'r fro, ac i Gymru, yn un hir, a heb ei dalu i gyd eto. Wrth "amgylchu'i thyrau hi", bron na chlywn yr hen fynach hwnnw ar ei dymchweliad wrth grwydro'r llechweddau o amgylch, yn cwynfan—"Daw, fe ddaw dial; daw, fe ddaw”.

Fel y mae teithiwr yn symud o un lle i'r llall yn cael golygfeydd newyddion yn barhaus i ddenu ei fryd, yn yr un modd fe symuda neu fe'i symudir i oesoedd gwahanol, a hyn a ddigwyddodd i minnau fwy nag unwaith ar fy mhererindod. Ymhen ychydig ar ôl cefnu ar "fur Ystrad Fflur a'i phlas", croesais y bont y dywedodd Edward Richard amdani,

Na welwyd un ellyll na bwbach mor erchyll
Erioed yn trawsefyll tros afon.

Ac yr oeddwn yn Ystrad Meurig, ac yn y ddeunawfed ganrif. Gwir fod yma haenau hŷn o hanes, ac yn enwedig ar y bryncyn y safai yr hen gastell arno, a'm tywysai'n ôl i amser y Normaniaid, ac yn ei gerrig sy'n awr ym muriau beudai yr Henblas. Yr oedd yr hen eglwys, a ddisodlwyd gan yr eglwys newydd bresennol, yn cysylltu'r lle â'r hen fynachlog yn yr un modd ag y cysylltir Ysbyty Ystwyth, Ysbyty Cynfyn, a Phont y Gŵr Drwg. Oedd, yr oedd yma haenau ar haenau o hanes, a llawer o'r rheiny yn dangos dylanwad aruthrol yr hen Fynachlog.

Y gwrthrych y teimlwn i ddiddordeb ynddo ar hyn o bryd oedd Edward Richard a'i safle yn y ddeunawfed ganrif. Ond ni ellir ei enwi ef heb gofio ei fugeilgerdd a gyhoeddwyd gyntaf mewn hen almanac. Wrth fynd heibio, diddorol yw canfod tebygrwydd ei brofiad ar ôl ei fam, Gwenllian, i brofiad Tennyson ar ôl ei gyfaill, Arthur Hallam. Weithiau y mae'r ddau yn hynod o debyg yn eu mynegiadau o'u profiad. Pe na chyflawnasai Edward Richard ond hyn, byddai wedi sicrhau lle oesol iddo ei hun yn nheml clod. Eto, ei waith achlysurol yn unig oedd y rhain, a gwreichion yn tasgu oddi ar ei eingion. Ei brif waith oedd sefydlu ysgol ramadegol yn ei ardal, ac yr oedd yn gymaint diwygiwr â Daniel Rowland, a bron yn gymydog iddo, ond ei fod ef yn cefnogi yr ochr addysgol o'r deffroad. Pan oedd Daniel Rowlands yn taranu yn Ffair Rhos, a'r Ffairhosiaid yn dawnsio gan ryw wallgofrwydd crefyddol, gwenu oedd Edward Richard ar yr olygfa. A phan anfonodd Gân y Bont i Daniel Rowland, beirniadaeth hwnnw amdani oedd fod y canu'n dda ond y testun ddim cystal. Cynhyrchion deffroad y ddeunawfed ganrif oedd y ddau, ond eu bod yn perthyn i'r ddwy ysgol wahanol a oedd mewn llawn gwaith ar y pryd. Creid cymaint o sŵn gan ysgol Daniel Rowland nes tueddu'r wlad i anwybyddu gwaith distaw a pharhaol yr ysgol a gynrychiolid gan Edward Richard, y bu i'w lafur distaw, ei hunanaberth mawr, a'i gariad angerddol at ei gyd-genedl, ac at ei fro enedigol, ddylanwadu ar yr ysbryd cynhyrfus ac afreolus a ddeffroisid gan Daniel Rowland. Er nad oedd fawr gydymdeimlad rhwng y naill a'r llall yn bersonol, gwelir yn eglur yn awr fod eu gwaith yn rhedeg yn gyfochrog, a'r ddau yr un mor angenrheidiol i wir gynnydd, a'u bod yn yfed o'r un ysbryd, ac yn offerynnau yn yr un mudiad. Yr oedd teimlad Daniel Rowland yn ddyfnach a mwy angerddol, tra oedd Edward Richard yn fwy pwyllog ac yn gweled ymhellach. Heddiw y mae'r teimlad dwfn a'r gwelediad pell yn ymgymysgu ac yn nesu at ei gilydd i godi'r hen wlad yn ei blaen.

Un o arwyddion addawol y dyddiau hyn yw fod Cymru yn bwrw golwg mwy pwyllog ar y dylanwadau a fu'n cyfeirio'i cherddediad, ac yn eu holrhain yn ôl i'w ffynonellau.

A mi yn y myfyrdodau hyn cododd chwa dyner i ogleisio fy arleisiau, a dyrchefais fy ngolygon i weld yr haul yn tynnu gorchudd tenau dros ei wynepryd, ac yn machlud yn fflamgoch yn y Gorllewin. Syrthiai natur yn raddol i drymgwsg. Distawai holl ferched cerdd. Yn y penelin draw yr oedd yr hen fynachlog yn ymwisgo mewn mantell dew o niwl ac yn ei lledu fel gwrthban dros y llechweddau cyfagos. Yr oedd yn ddistawrwydd a ellid ei deimlo. Ar i fyny yr oedd fy nhaith, a phan edrychais yn ôl o ben fy siwrnai yr oedd yr holl fro wedi ei gorchuddio â brodwaith cywreiniach nag a wisgodd Solomon am ddyweddi ei gân. Bron na allwn benlinio mewn edmygedd o'r olygfa arddunol. Drannoeth yr oeddwn innau yn dilyn yr haul tua'r Gorllewin ond fy mod i ar y pryd yn cael fy nghludo'n gyflymach. Cefais fwy nag a fargeiniais. Yn yr hwyr yr oeddwn yn fy ngardd yn edrych ar y blodau ac yn dyfrhau'r sychedig.

XIX

TRO YNG NGHEREDIGION (2)

ARAFAI'R trên i orsaf Strata Florida un prynhawngwaith tesog o haf, a disgynnais ohono i'r orsaf brydferth ei henw, ac i fwy nag un cyfnod o hanes y fro, a hanes Cymru hefyd, a chip ar hanes Ewrop. Draw yn llechu yng nghesail y mynyddoedd yr oedd adfeilion mynachlog Ystrad Fflur, y galwyd yr orsaf ar ei henw. Symudwyd y fynachlog yn bur gynnar yn ei hanes o lannau blodeuog Fflur i lannau Teifi furmurol. Ac yno yr erys yn ei hadfeilion ar ôl dros bedwar cant o flynyddoedd. Yn nes atom y mae ysgol enwog Ystrad Meurig, y bu iddi restr hir o brif athrawon a roes fri ac anrhydedd ar eu gwlad, ac a rydd ei chymwynasau hyd y dydd heddiw. Ac nid yw Llangeitho'n nepell—crud deffroad crefyddol y ddeunawfed ganrif.

Yr hen fynachlog odidog, fe wasanaethodd y fro yn dda am gyfnod hir, hyd oni chlwyfwyd hi gan yr Wythfed Harri, ac y mae'n wir urddasol o dan ei chlwyfau heddiw. Gwnaed hi yn gydwastad â'r llawr, a gwasgarwyd ei phreswylwyr. Ond y mae natur ac amser fyth yn garedig, ac nid oes neb fel hwynt-hwy am wella briw a chuddio craith. Y mae glannau Fflur yn flodeuog fel cynt, a Theifi'n murmur ar ei thaith heibio i'r adfeilion a draetha'n huawdl fawredd cynt y fynachlog. Bu i'r fynachlog ei dydd, a hwnnw'n ddydd hir, a chyflawnodd waith y bydd cofio amdano, ac nid yw ei dylanwad wedi darfod eto, ac ni dderfydd tra fo'r tai, a'r tiroedd, a'r pentrefi o amgylch yn glynu wrth eu hen enwau. Yn ymyl y mae Pontrhydfendigaid, a thipyn ym mhellach Ysbytai Ystrad Meurig, Ystwyth, a Chynfyn, a'r Capeli Croes, yn Swyddffynnon a'r Berth a Broncapel, at anghenion ysbrydol Bronant a Rhos-y-wlad, a'r mynachdai hen a newydd. Heddiw enwau ydynt hwy, ond enwau ag arogl y dyddiau gynt yn drwch arnynt. I werthfawrogi ei chenadwri y mae'n rhaid bwrw golwg dros gefndir ei hanes, na ellir ei weld yn gliriach nag yn yr hanes am gychwyniad y mudiad Sistersaidd, a ymledodd dros holl wledydd Ewrop gyda chyflymder syfrdanol, ac i Gymru—i Tintern, Nedd, Cymer, Cwm Hir, Aberconwy, ac Ystrad Fflur, a mannau eraill. A'r stori yw i ddau frawd, o deulu urddasol Molesme yn Ffrainc, ddadlennu i'w gilydd y cymhellion a ddaeth atynt i ladd y naill a'r llall ar ei ffordd i dwrnamaint. A phenderfynasant ymneilltuo o fyd mor ddrwg ei feddyliau i fyw bywyd neilltuedig a santaidd, a sefydlasant fynachlog syml a diaddurn yn Citeaux, a ddaeth yn gyrchfan boblogaidd i ddynion o gyffelyb dueddiadau. Bu cynnydd y mudiad yn aruthr o dan ddylanwad y pendefig ieuanc, Bernard, huawdl ei barabl, a thanllyd ei ysbryd yn erbyn tuedd yr oes. Dyma'r dylanwad oedd o'r tu ôl i fynachlog Ystrad Fflur, a sefydlwyd gan y tywysog Rhys ap Gruffydd yn 1164. A chadwodd ei ddelfryd o frawdgarwch a santeiddrwydd i losgi yng ngwres y Presenoldeb Dwyfol ar ei hallorau yn sŵn a sain yr "oriau". Nid tŷ ydoedd hwn a godwyd i gynnwys cynulleidfa, ond i gadw'r Presenoldeb i gymell elusen, gweddi, ac ympryd. Ei noddydd oedd y Wyryf Fair, y dyneraf a'r buraf o famau, a'r mynachod a ymwisgai yn eu gynau gwynion o barch i'w phurdeb. Iddynt ddirywio yng nghwrs amser sydd ddigon posibl, ond nid i'r graddau ag i ddinistrio'r da yn ogystal â'r drwg. Oedd, yr oedd yno rai cyfiawn, hyd yn oed yn yr amser gwaethaf o'i hanes. Eithr tua'r flwyddyn 1536 fe'i dymchwelwyd garreg ar garreg, a maen ar faen, a gwasgarwyd ei phlant ar hyd y bannau a'r ffriddoedd i ddolefain, "Daw, fe ddaw dial".

Ond nid un i ddial yw Rhagluniaeth, mwy na natur ac amser, ond i rwymo a gwella doluriau. Eithr y mae'n rhaid i Ragluniaeth wrth amser i ddwyn trefn o anhrefn, a gwneuthur i ddichellion dyn i'w moliannu.

Nid yng ngholli'r eiddo yr oedd y golled, ond yng ngholli'r Presenoldeb. Nid oedd colli'r eiddo'n ddim o'i gymharu â cholli'r Presenoldeb o allorau'r abaty. Distawodd sŵn y gloch a arferai gyhoeddi'r awr weddi i bell ac agos, ac fe syrthiodd mudandod rhyfedd ar y wlad.

Yr oedd y Presenoldeb wedi cilio, ac 'Ichabod' yn llythrennau tanllyd a gwgus yn crogi uwch ben y lle. Anodd disgrifio teimlad y werin bobl pan ddistawodd hyfryd sain y gloch yn eu galw hwyr, a bore, hanner dydd, i gofio'r awr weddi ac i blygu'u pen, neu droi'u golygon i gyfeiriad y Tŷ. Y mae'r hen bŵerau yn aros hyd y dydd heddiw yn yr hen greiriau a glywir yn aml yn y rhybuddion i 'ymswyno' ac 'ymgroesi', a thynnu croes ar y toes cyn ei roddi yn y popty, neu dynnu'r arwydd cyn bwyta. "Y mae'r wlad wedi mynd yn ddi-weddi iawn", meddai mam yr Esgob Morgan wrth weld mwsogl yng ngherrig y croesau ar ffriddoedd Machno a'r Fedw Deg.

O golli'r Presenoldeb oddi ar yr hen allorau fe agorwyd y llifddorau i ofergoeliaeth lifo dros y wlad fel y gwnaeth y môr dros feysydd teg Cantre'r Gwaelod.

"Fe ddaw dial", dolefai'r mynachod crwydr wrth awelon y bannau. Na ddaw, ac ni ddaeth. Nid Duw'r dial yw Duw hanes, ond Duw sy'n dwyn da o ddrwg, a throi'r groes yn orsedd gweddi.

Mudiad i ddyrchafu cymdeithas a'i phuro oedd y mudiad Sistersaidd ar y dechrau, a'r Babaeth a ledodd ei hadain drosto hynny a fu ei nerth a'i doethineb, ac a ohiriodd awr ei hymweliad am rai canrifoedd.

O'r pryd y diffoddodd y tân ar allorau yr hen fynachlog hyd y pryd y torrodd tân y deffroad allan yn hen eglwys Llangeithio, y mae tua dau can mlynedd. Nid ydym i gasglu oddi wrth hyn fod tân allorau yn hen eglwysi plwyf wedi diffodd. Na, yr oedd y tân yn parhau i losgi arnynt hwy, ond ei fod yn llosgi'n isel. Ni allai lai na bod felly pan gofir dylanwad mawr yr hen fynachlog. Fflam a ddiffoddodd oedd yr hen fynachlogydd, ond tân araf ac yn llosgi'n isel, ac yn isel iawn weithiau, oedd y tân a losgai ar allorau'r hen eglwysi plwy'. Amdanynt hwy y gellir dywedyd,—

Men may come and men may go,
But I go on for ever.

Rhwng dymchweliad yr hen fynachlog yn yr unfed ganrif ar bymtheg a'r deffroad yn y ddeunawfed ganrif ar ei ochr addysgol yn Ystrad Meurig a'i ochr grefyddol yn Llangeitho, y mae dau can mlynedd. Effaith y dymchweliad oedd colli'r Presenoldeb. Yr oedd clychau'r Plygain a'r Gosber a'r Angelus, a gludai'r syniad o'r Presenoldeb, wedi distewi, ac yn y cyfwng gwag gyfleusterau i ysbrydion aflan ddyfod i A hwn ydoedd eu dydd hwy, ac fe ymdyrrai'r trigolion at ei gilydd i adrodd eu hysgarmesau ym myd ofergoeliaeth. Felly yr ydoedd hi yn nyddiau'r Gwaredwr nes dwyn ohono Ef y Presenoldeb yn ôl i fywydau a meddyliau'r bobl. Felly yr ydoedd hi yn yr ardaloedd hyn, hyd oni ddarfu i Edward Richard agor deall y bobl i ddylanwadau addysg, a Daniel Rowland eu calonnau i ddylanwadau crefydd, gyda'r canlyniad i adar y nos ffoi rhag y newyddion gwell. Dwy ganrif o ofergoeliaeth oeddynt hwy, ac ysbrydion aflan wedi meddiannu'r wlad mor drylwyr nes bod ysbryd ymhob llwyn a bwci dan bob coeden, Ymhell yn y deffroad yr oedd y dincod ar ddannedd y plant o achos i'r tadau fwyta grawnwin surion, ac nid yw'r dincod hyd y dydd heddiw wedi llwyr wella.

Gwaith mawr Edward Richard oedd dechrau'r gwaith o lanhau'r meddwl i fod yn drigle ysbrydion gwell. A gwaith mawr Daniel Rowland oedd glanhau'r galon i'r Presenoldeb. Huawdl a thanllyd ei ysbryd oedd y deffrowr o Langeitho, ond yn fyr o weledigaeth. Dyrchafu'r pulpud a wnaeth ef ar draul darostwng yr allor. Mynnodd gadw'r gyffesfa o dan yr enw o seiat, a moddion paratoad oeddynt hwy ar gyfer yr allor. Efallai nad ei fai ef yn gyfangwbl oedd hyn. Nid ar unwaith, y mae'n wir, y darostyngwyd safle'r allor ym mywyd y wlad, ond yn raddol ac o fesur tipyn; ac nid oedd neb â gweledigaeth eglur. O ymbalfalu yn y tywyllwch ysgarwyd rhwng y pulpud a'r allor, y ddau allu mwyaf ar fywyd dyn, y pulpud i ddeffro, a'r allor i santeiddio. Gwir yw i Daniel Rowland ddwyn y Presenoldeb yn ôl i galonnau unigolion, ac iddo fyw a marw yn y gobaith, yn ôl ei gyngor i Nathaniel ei fab, y deuai'r Presenoldeb yn ôl i'r allor y sydd bob amser yn santeiddio'r rhodd.

Yr ymwybyddiaeth o'r Presenoldeb ar yr Allor ac yn y galon yw'r unig allu i gadw calon bur, a'r pur o galon a wêl. Dduw.

Nodiadau golygu

  1. Nid mab i'r Esgob Bayly oedd William canys beth am John, ond y mae'n amlwg bod y ddau o'i deulu. Ysgrifennir yr enw yn Baily a Bailey.
  2. A oes rhywun a ŵyr beth oedd y brandart a'i diben?
 

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.