Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill (testun cyfansawdd)

Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill (testun cyfansawdd)

gan Humphrey Jones (Bryfdir)

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill

BRO FY MEBYD

A

CHANIADAU ERAILL


BRO FY MEBYD


A


CHANIADAU ERAILL

Gan BRYFDIR.





GWASG Y BALA:

ROBT. EVANS A'I FAB.

1929.

Argraffwyd yng Nghymru.



CYFLWYNEDIG I'R
Mri. D. R. Daniel a John Roberts,
LLUNDAIN,

yn atgo hyfryd am oriau heulog hyd darennydd Pentrefoelas.



Cyfarchiad.

DYMA'R ail ddetholiad o'm Gweithiau Barddonol, a'r olaf, yn ol pob tebyg, gerbron y wlad. Diau fod llawer o bethau i mewn a ddylasai fod allan, ac i mi adael allan lawer o ddarnau a ddylasai fod i mewn. Cryn gamp i neb yw bodloni ei hun mewn mater fel hwn; ond y mae bodloni pawb allan o'r cwestiwn. Arfaethais yn wahanol, ond nid eiddo gŵr ei ffordd. Bywyd prysur fu yr eiddof fi, a "cherbyd amgylchiadau" yn olwyno ar draws gerddi fy mreuddwydion lawer tro. Dyma rai planhigion a arbedwyd, er fod llwch y ffordd fawr wedi amharu ceinder llawer blodyn i ryw fesur. Nid eiddof fi Paul nac Apolos Orgraff yr Iaith Gymraeg; ond yr wyf yn prysuro'r gyfrol hon drwy'r wasg, rhag y digwydd cyfnewidiad ysgubol cyn iddi ymddangos. Diolchaf i'r Prifathro R. Williams, M.A., Y Bala, am ei hynawsedd yn edrych dros y proflenni.

BRYFDIR.
Gwanwyn, 1929.

CYNNWYS.

Caniadau

DERYN YR HYDREF.

I.


DAETH Deryn yr Hydref i ganu
Ar goeden ddi-ddail ger fy nhŷ,
A'r llwyni gerllaw yn galaru
A'r storom yn codi ei rhu.
Dolefai y corwynt di-gartref
Wrth guro yn erbyn y mur;
Ond canu wnai Deryn yr Hydref
Dan gryndod a chafod a chur.
 

II.


Cyfeiriais i'r heol gyferbyn,
Dan ruthr di-dostur y glaw;
Gwrandewais ar faled hen grwydryn
A'i sypyn yn llaith yn ei law;
Symudai yn llesg, gan lygadu
Yn ofer am gardod a gwên;—
Aderyn yr Hydref yn canu
A'i ysbryd yn ieuanc a hen.

III.


Dychwelais yn drist i'm hystafell,
Heb haul i'm sirioli na hoen,
A theimlais gortynnau fy mhabell
Yn ildio i henaint a phoen;
Gollyngais fy enaid er hynny
I'r alaw bereiddiaf is nen;—
Aderyn yr Hydref yn canu,
A barrug yr hwyr ar y pren.


SIFFRWD Y DEILIOS.

(Telyneg)

EISTEDDAIS yn nhes Mehefin
Dan brennau yr ardd mewn hedd:
Tawel oedd gwersyll y ddrycin
A'r gwynt wedi gwadu ei gledd;
Am siffrwd y deilios.
Ganolddydd a chyfnos,
Clustfeiniais yn ofer o'm sedd.

Eis yno pan ruthrai yr Hydref
Fel teyrn dialeddol trwy'r wlad;
Dyrchafai y corwynt ei ddolef
I alw'i fyddinoedd i'r gad;
O'r goedlan gyfagos
Do'i siffrwd y deilios,
A'r ddrycin yn brudio eu brad.

Fel clychau aur filoedd, mor firain
Oedd crinddail y coed uwch fy mhen;
Ond canu eu cnuliau eu hunain
A wnaent dan dymhestlog nen;
Mae'r diwedd yn agos
Oedd siffrwd y deilios
Ar gangau crynedig bob pren.

Ni welir gogoniant pennaf
Yr haf pan fo glasaf y berth;
Ni chlywir profiadau pereiddiaf
Eneidiau yn nyddiau ei nerth;
O'r ysbryd anniddos
Daw siffrwd y deilios,
Yn gân drwy'r corwyntoedd certh.


GWEDDW'R MILWR.

CYMERWYD fy nharian i'r gâd,
I sefyll rhwng Prydain a'i chwymp,
Aberthodd ei hun dros ei wlad
O weled agosed ei thymp;
Cymerwyd o'r aelwyd yr haul
Fu'n tywallt ei wenau a'i wres;
Daeth Hydref cyn pryd dros y dail,
Daeth oerni y gaeaf yn nes.

Bu farw ym mhoethder y drin
Ac angeu o'i gwmpas yn fyw,—
Fy enw yn floesg ar ei fin
Fel sibrwd y chwa yn yr yw;
Dychmygu ei brofiad yr wyf
Tra suddai yn llewych y lloer,
Heb neb i roi balm yn ei glwyf,—
Y nefoedd, a'r ddaear mor oer!

I dalfryn disgwyliad yr âf
Ar brydiau yng nghwmni fy mhlant,
Ac er fod pob calon yn glaf
Daw atgo i daro ei dant;
Ond dychwel mewn siomiant a gawn
A llwydni y nawn ar ein gwedd,—
Cynlluniau ar chwâl fel y gwawn,
A phriod a thad yn ei fedd.

Crynhoi wna'r cymylau o hyd,
A chyfle i wae yw pob awr;
I niwl y dyfodol yn fud
Rwy'n myned heb weled y wawr;
Mae 'nghalon ymhell dros y don,
Mae 'nhrigfod heb gysgod na gwên,
Mae bedd yn nyfnderau fy mron,
Rwy'n weddw, rwy'n ieuanc, rwy'n hen!


GWENFRON.

Mwy lluniaidd na meillionen
Wyt ti fy Ngwenfron dlos;
Dy rudd fel y griafolen,
A'th wallt fel eddi'r nos;
Ysgafnach yw dy rodiad
Na'r chwa, fy rhiain lân,—
Dy fron mor lawn o gariad
Ag yw yr haul o dân.

Fy ngwynfyd ydyw treulio
Fy nyddiau er dy fwyn;
Dan angerdd llid a brwydro
Caf saib yn nef dy swyn;
Na omedd im dy galon
A'th law fireiniaf ferch,
Yr wyf i ti yn ffyddlon
Drwy holl dreialon serch.

Poed addfwyn dy atebiad
I gais dy filwr-fardd;
Yr wyf yn glaf o gariad
Nas gellir ei wahardd;
Eleni gyda phorffor,
Pan wisgir twyn a chrug,
A adoi di at yr allor
Yn nhymor blodau'r grug?


CERDD YR ALLTUD.

PROFAIS Swynion gwlad bellennig,
Gwelais degwch llawer bro;
Crwydrais erwau cysegredig
Fel afonig lefn ar dro;
Ond ar lenni fy myfyrion
Erys un olygfa lân,
Am fod Cymru yn fy nghalon
Cymru erys yn fy nghân.

Ysblanderau prif ddinasoedd
Byd edmygais ar fy hynt,
A'u pinaclau yn y nefoedd
Megis cad ar lwybrau'r gwynt;
Rhof y cyfan mewn llawenydd,
Er nad wyf ond crwydryn llwm,
Am y gorlan ar y mynydd,
Am y capel yn y cwm.

Gyda syndod mud gwrandewais
Salmau clodfawr temlau Dysg;
Wrth eu pyrth yn daer deisy fais
Am gael cyfran yn eu mysg;
Eu cyfnewid yn y farchnad
Wnaf ar encil balchter ffol,
Am hen Ysgol Sul fy mamwlad,
A'r Gymanfa ar y ddôl,

Eled rhwysg y byd a'i rodres
Dan faneri lliwgar fyrdd;
Rhowch i minnau yn yr heuldes
Fwthyn ar y llechwedd gwyrdd;
Ni ddymunaf namyn swynion
Cyfareddol Gwalia lân;
Am fod Cymru yn fy nghalon
Cymru erys yn fy nghân.


Y BEDD DI-FAEN.

AR daith dros flin darennydd
Yn Ffrainc, rhwng gwawr a hwyrddydd,
Daeth gŵr o Gymru lonydd
At erchwyn bedd di—faen;
Y graith ar fynwes natur
Arosai'n dyst o'r dolur
Ga'dd rhywun ar ei antur
Wrth frwydro'i ffordd ymlaen.

Bu hiraeth wedi'r cyffro
Yn chwilio'n ddwys am dano,
Ond nid oedd air i'w foddio
Ar fin y bedd di-faen;
Bu serch o dan ei glwyfau
Yn crwydro hirion erwau,
Heb le i roi ei flodau,—
Y blodau teg eu graen.

Nid oedd ond trwch tywarchen
Rhwng brawd a chwaer ddigynnen,
Fu'n chwarae yn eu helfen
Mewn mebyd diystaen;
Agosrwydd aethai'n bellder,
Ansicrwydd yn orthrymder,
Heb neb i leddfu'r pryder
Ar bwys y bedd di-faen.

Dan haul a chafod greulon,
'Does ond y moelydd mudion
Yn aros yn gymdogion
I'r milwr ar y waen;
Ond heibio heb gyfarchiad
Nid aiff yr Adgyfodiad;
Mae Duw yn medru siarad
A'r bedd,—y bedd di-faen!


CARTRE'R PLANT.

I.

BUM yno gyda'r cyfnos,
A'r gaea'n edwi'r ddôl;
Ond oerach lawer oedd y tŷ
Adewais ar fy ôl;
Dau blentyn bach amddifad
Gymerais gyda mi,
A Duw yn syllu drwy y ser
I'r llawr ar ddagrau'n lli'.

Pan gurais ddrws y Cartref,
Yr oedd calonnau dau
Yn curo'n drymach lawer iawn,
A'u dagrau'n amlhau.

II


Agorwyd drws y Cartref
Gan riain hawddgar wedd,
Ond iddynt hwy ni wnaeth y ferch
Ond agor porth y bedd;
Drwy ystafelloedd eang
Cerddasom gam a cham,
Heb weled yno wyneb tad
Na phrofi croesaw mam.

Arhosais yn y Cartref
I'w llonni, awr neu ddwy;
Ond hawdd oedd gweld fod hiraeth trwm
Am aros yno'n hŵy.


III.


Daeth cwsg fel angel heibio,
A'i dywel yn ei law,
Cyn hir i sychu dagrau'r ddau,
A gwasgar ofn a braw;
Er bod y gwynt yn cwyno
Fel alltud ar y rhos,
'Roedd yno dorf mewn corlan glyd
Yn tawel dreulio'r nos.

Dyngarwch wnaeth y Cartref
I blant amddifad, trist;
Os methais weld eu rhiaint hwy,
Mi welais Iesu Grist.

IV.


Gadewais byrth y Cartref,
Wynebais wyll y nos;
Edrychais i'r ffurfafen bell
A gwelais seren dlos;
Goruwch y fan gadewais
Y plant amddifad gynt,
Tywynnu wnai y seren hon
Ar waetha'r nos a'r gwynt.

Mae Duw yn arwain dynion
Drwy'r ser o oes i oes;
Ac nid yw Cartre'r Plant i mi
Ond un o flodau'r Groes.


WEDI'R FRWYDR.

WEDI'R frwydr gwelais filwr
Grymus dan ei graith;
Tuag adref yn orchfygwr
Difyr oedd ei daith;
Edrych arno i'w edmygu
Wnai pelydrau'r haul;
Ysgwyd dwylaw, gorfoleddu
Wnai y coed a'r dail.

Hawdd oedd gadael bro yr ornest
Wedi'r frwydr hon;
Gwyddai hwn am bris y goncwest
Brynwyd ar ei bron;
Hawdd oedd gadael beddau ieuanc
Ar y werddlas ddôl,
Cri ei enaid oedd am ddianc,
Byth i ddod yn ôl.

Gwywo ymaith wnai'i atgofion
Am ororau'r drin;
Balm croesawiad lanwai'r chwaon
Fel costrelau gwin;
Mynd ymhellach oddiwrth ofid
Wnai o gam i gam,—
Mynd yn nes i hedd a rhyddid
Aelwyd tad a mam.

Minnau adref wyf yn nesu
Gyda hwyr y dydd;
Llwch y frwydr wedi gwynnu
'Mhen dolurus sydd;
Miwsig y Tragwyddol Bebyll
Glywaf ar y lan,
Mwyn fydd cyrraedd fry a sefyll,—
Sefyll yn fy rhan.

GWYNFYD MEBYN.

ESMWYTH-DAWEL chwyth yr awel,
Ni ddihuna gŵyn;
Gwrida'r heulwen, cân yr awen
Hwiangerddi mwyn;
Os daw arswyd heibio i'r aelwyd
Diddos yw y cryd;
Rhwng erchwynion hwn mae calon
Fwy ei gwerth na'r byd.

Dechreu sylwi ac ymhoewi
Wna 'run bach, di-nam,
Pryd nas edwyn wyneb undyn.
Edwyn fron ei fam;
Cais barablu, ac er methu
Gorchest yw pob cais;
Mae telynau per yn chwarae
Yn ei dyner lais.

Ni ddaw cwmwl dros ei feddwl
Namyn cwmwl gwyn;
Cwsg yw enw'r cwmwl hwnnw,
Geilw pan y mynn;
Nid oes daran ffrom yn hepian
Ar ei esmwyth fron;
Nid oes fellten ar ei haden
Drwy'r awyrgylch hon.

Gwên a thegan foddia'i anian
Gyda'r bore iach;
Llawenycha, gorfoledda
Yn ei gyfran fach:
Diniweidrwydd a boddlonrwydd
Chwarddant ar ei rudd,
Yn ei lygad sawl dymuniad
Taer yn siarad sydd?


Esmwyth-dawel chwyth yr awel
Dros ei erddi cain;
Caiff babandod dreulio'i ddiwrnod
Heb adnabod drain;
Blwyddi tirion er mor fyrion
Gaiff y mebyn gwyn,—
Pebyll swynion a breuddwydion
Braf wrth droed y bryn.


Y PLENTYN IESU.

GWYLL anghred daena'i edyn—oer, yn nydd
Aer y Nef, yn blentyn;
Crud i hyder credadyn
Yw mebyd aur Mab y Dyn.



LLYGAD Y DYDD.

FRI dolydd dan frwd heulwen,—erw noeth
Dry yn ardd fronfelen;
Eiliw'r siriol aur seren,
Gwsg hyd wawr mewn gwasgod wen.


GWAWR YFORY.

I.


DACW'R hwyr fel cysgod angladd
Dros y bryniau'n dod i'w hynt;
Dacw edn gwan yn ymladd
Am ei fywyd yn y gwynt;
Mae y byd yn newid cywair
Gyda'r hwyr; sawl tant sy'n fud?
Ond mae gwawr yfory'n ddisglair
Ar fy enaid i o hyd.

Nid yw'r ddunos yn pabellu
Ar ffurfafen gobaith gwyn;
Gloewach ydyw gwawr yfory
Po dywyllaf fyddo'r glyn.

II.


Croch yw'r noswynt fel dialedd
Ar ei rawd dros fryniau'r fro;
Rhwyga'r cwmwl fel edafedd,
Dawns ar adfail llawer tô;
Dyma'r caddug wrth dewychu.
Wedi cuddio goleu'r stryd;
Ond mae gwawr yfory'n ddisglair
Ar fy enaid i o hyd.

Cuddio'r agos wrth dywyllu,
Dyna hanes nos y byd;
Dwyn y pell wna gwawr yfory
I agosrwydd claer o hyd.


III.


Ddyfned ydoedd bedd y bwriad
Drengodd yn ei febyd tlws;
Drymed oedd y maen dideimlad
Dreiglodd dichell ar ei ddrws;
Gwelais engyl glân yn gwenu
Ar y maen, dan wg y byd,
A dwyfoldeb gwawr yfory
Digymylau yn eu pryd.

Cysgod angel yn ein dallu
Yw pob trallod gwrddwn ni;
Ar ei adain, gwawr yfory
Ddaw a'i bendith gyda hi.

IV.


Dyma'r flwyddyn yn anadlu
Gweddill ei heiliadau i ffwrdd;
Collwyd tant o gân y teulu,
Cadair wag sydd wrth y bwrdd;
Nid heb obaith af i gysgu,
Os cymylog fu yr hwyr;
Bydd tiriondeb gwawr yfory
Ar fy mreuddwyd, Duw a ŵyr.

Cilio mae y byd gan sangu
Blodau ar ei daith bob cam;
Enfys gain yw gwawr yfory
Ar dymhestloedd tad a mam.

BWLCH GORDDINEN.

GWAHODDGAR i ysbryd yr awen
Yw Bwlch y Gorddinen erioed,
Cynefin rhamantedd, ac Eden
Breuddwydion heb ddyfod i'w hoed,
Bwlch ydyw mewn gwregys o fryniau
Warchodant ei erwau heb ball,
A chyfle pererin drwy'r oesau
I groesi o un sir i'r llall.

Wrth edrych i lawr ar ei gilydd
Yn nrych Llyn y Ffridd lawer awr,
Mae'r bryniau fel gwersyll dihenydd
Yn gwgu ddiwedydd a gwawr;
Ond canu wna ffrydiau'r mynyddoedd
Wrth dreiglo o lechwedd i lwyn,
Ac oedi wna'r tes a'r drycinoedd
I wrando cynghanedd mor fwyn.

Ein cyfarch trwy haenau o risial
Wna natur o gastell y graig.
A'u trem fel rhianedd cyfartal,
Yn unlliw ag ewyn yr aig;
Anturiaeth mewn ymchwil am olud
Fu'n creithio'r llechweddau yn drwm;
Ond cefnu mewn siom fu ei phenyd
I ddwysion encilion y cwm.

Ceir Ty y Gyfeddach yn adfail
Ar uchaf y bryniau ers tro,
A Dirwest ar orsedd gywirsail
Yn eres frenhines y fro;
Gweddiau hen saint y Diwygiad
Sydd beunydd a byth yn y gwynt,
A'r fendith yn dod i'w chyhoeddiad
O gyrddau yr hen amser gynt.


Bu milwyr Glyndwr ar eu hymdaith
Dros noethni y bryniau diwên;
Mae'r cof am Nant Conwy yn oddaith
Yn ieuanc wrth fyned yn hen;
Ond catrawd o Fechgyn Ffestiniog
Fu'r olaf i groesi'r ffordd hon;
Mae'r darlun yn gain a chymylog,
Mae balchter a gwae dan fy mron.

Tra'n croesi y Bwlch wrtho'i hunan
Sawl cyfaill ddychmygodd cyn hyn,
Ddod ysbryd adduned a chusan
I'w gyfarch o fro mebyd gwyn?
Daw eto dorfeydd i'w fawrygu
O deimlo'i gyfaredd a'i hud,
Ac awen bereiddiach i ganu
Ei folawd, a minnau yn fud.


BLODAU'R EITHIN.

Y FOEL unig felynant;—tres curog
Tros arw glawdd ddodant;
A'u mawredd pawb ymyrant,
Gyda gwên eu gwaedu gânt.


HEN BROFIAD.

SIARAD barddoniaeth ddi-senn
Wnai deuddyn ar daith tua'r coed;
Yr awyr yn las uwch eu pen,
A'r ddaear yn werdd dan eu troed;
Blodeuo mewn gwrid ac mewn gwên
Wnai'r cariad oedd rhyngddynt ill dau,—
Y cariad nas gwyr fynd yn hen,
A phyrth llawer gwynfyd yn cau.

Eisteddent ar garreg ddi-raen
Tan fedwen yng nghyfoeth ei dail,
A'r awel yn ol ac ymlaen
Ro'i alaw a dawns bob yn ail;
'Roedd geiriau Gwenllian yn fêl,
A'i llais i Ednyfed yn win,
Cyn torri ohonno y sêl
Ar drysor fu'n aur ymhob hin.

Ar fodrwy'r ddyweddi daeth gwrid
Diwedydd o ha' cyn bo hir;
Ni fynnai cenfigen na llid
Anafu tangnefedd y tir;
Os llithrodd un deigryn i lawr
Dros ddeurudd Gwenllian bryd hyn,
Troes hwnnw yn berl tlws ei wawr
Dan gusan Ednyfed o'r Glyn.

Breuddwydiol fu'r dychwel i dref,
A'r hwyr dros fynydd-dir a gwaen;
'Roedd seren ar lesni y nef
Na welsant ei harddach o'r blaen;
Mae'r fedwen yn plygu fel cynt
Dros garreg oedrannus ac erch,
Heb neb yn dod heibio ar hynt
I siarad cyfrinion eu serch.


TRWSIO'R TO.

DAETH storom ddi-drugaredd
Dros Brydain ar ei hynt,
A rhuthro fel dialedd
Yn wallgof wnai y gwynt.

'Roedd miloedd o deuluoedd
Dros oriau'r nos yn drist;
A phawb yn son am nefoedd
A Duw ac Iesu Grist!

Caed llawer ty golygus
A'i dô yn deilchion mân;
A llawer bwth oedrannus
Yn ddellt, heb gorn na thân.

A thrannoeth pan ostegodd
Y gwynt fu'n siglo'r fro,
Ymroddai pawb arswydodd
Y storm i drwsio'r to.

Am "gysgod gwell "pa nifer
Bryderai 'dwn i ddim;
Rhy fyrr i ddweud ei phader
Yw hamdden oes mor chwim.

Yn nhreigl ein blynyddau
P'le bynnag byddo'n bro;
Mae'n ddoeth i bawb ar brydiau
Ymroi i drwsio'r tô.


LLWYBRAU MEBYD.

EISTEDDAIS ger y murddyn
Fu gynt yn gartref clyd,
A'r dalar lle bu'r delyn
Edliwiai gyfnod mud;
Gofidiais weld y llwybrau,
A'r awel fel y gwin,
Yn cuddio eu hwynebau
Dan bla o ddanadl blin.

Gwrandewais ganu melus
Hyd erwau Blaen y Nant,
A'r lleisiau yn hudolus
I'r plwy' fel lleisiau'r plant;
Pe rhoisai Duw dafodau
I'r mil pelydrau mân,
Ni chawsai'r llwydion fryniau
Fwynhau amgenach cân.

Hyd lwybrau'r Capel gwledig
A'r Ysgol yn y cwm,
Hen gordiau anghofiedig
Dramwyent heibio'n drwm;
Ar lif o addfwyn fiwsig
Ymollwng wnawn yn rhydd,
A'r byd yn gysegredig
Gan oleu cliriach dydd.

Ar bwys y fagwyr gerrig
Gollyngais ddeigryn hallt,
O synio 'mod mor unig
A'r hwyr ar frig yr allt;—
Heb frodyr i gyd-gysgu
Fel cynt, boed des, boed law,
Esmwythed a'r briallu
Ar fin y nant gerllaw.

Telynau atgof glywais
Mewn hoen ar encil haf;
Cyfoedion mebyd welais
Fel dail 'gylch boncyff claf;
Dychwelais yn fy lludded
A 'ngwallt mor wyn a'r gwlan,
Ystyriais i mi gerdded
"Y llwybrau lle bu'r gân."


Y GRAGEN.

GEM y don ar gwmwd aig,—dwys alltud
Is holltau cadarngraig;
Addurn gardd o ddwrn gwyrddaig,
Llatai swn a llety saig.



PROFIAD MORWR WEDI'R YSTORM.

WEDI'R ing, codi'r angor—a fwynhaf
Yn hedd prydferth oror;
Daw'r gwynfyd o'r eigionfor,
A llwyni mill yn y môr.


HIRAETH AM GYMRU.

PARADWYS y byd yw Cymru o hyd,
Am dani mor hyfryd myfyrio;
Mae'r atgof am hon yn falm i fy mron
Ym mröydd yr estron wrth grwydro.
Mae'r gornant a'r llyn, y derw a'r ynn,
Yng nghesail y glyn sy'n ymlechu,
Ar waethaf pob saeth yn glynu yn gaeth
Gan ddeffro fy hiraeth am Gymru.

At fwthyn fy nhad, a'i symledd di-frad,
Parhau mae fy nghariad yn oddaith;
Os na fedda fri, ei hanes i mi
Dry'n gordial i loni fy ymdaith.
Dychmygaf wel'd mam o hyd yn rhoi llam
I achub fy ngham a'm diddanu;
Er gwell neu er gwaeth, o drothwy i draeth,
Parhau mae fy hiraeth am Gymru.

Nid balchder y byd sy'n swyno fy mryd,
Er gweled ei olud a'i heuliau;
Mae'r pentref di-nôd, a'i furiau lliw'r ôd,
Yn harddach na thrigfod gorseddau:
Mae rhodres y Sais yn codi ei lais,
Trwy deg a thrwy drais cais fy llethu;
Ond ffrwd ei ddawn ffraeth ni chyffry y chwaeth,
Na'r fron sydd mewn hiraeth am Gymru.

Mewn terfysg di—baid, mewn llwch ac mewn llaid,
Pa ryfedd i'm henaid ddymuno
Am wynfyd y waun a'i glesni ar daen
Am lannerch nas adwaen ddim cyffro?
Cyfoded y dref ei thyrrau i'r nef,
A safed yn gref a digrynnu;
Rhaid dychwel yn wan, nid oes i mi ran
Yn unlle tuallan i Gymru.


MAB Y GARNEDD.

YSGAFN oedd cwsg mab y Garnedd
Yn nhre Bangor Deiniol un nos,
A'r gwersi yng Ngholeg y Gogledd
Yn drymach na'r hwyr ar y rhos;
Ystyriodd galedi'r amseroedd,
Ac aberth ei fam er ei fwyn;
Gorweddai ei dad er's blynyddoedd
Ym mynwent oedrannus Ty'nllwyn.

Goleuodd ei lamp ac ymdrwsiodd,
Wynebodd ei wersi fel cawr;
Ar ol eu gorchfygu mwynhaodd
Ogoniant cyfunol dwy wawr;
Swn traed gyda'r dydd ar y palmant
Erglywodd, symudodd y llen;
Canfyddodd ei gyfoed mewn nwyfiant
Yn dilyn Draig Goch Gwalia Wen.

Petrusodd rhwng muriau'r ystafell,
Edrychodd i'r nenfwd a'r llawr;
Cyfleodd bob llyfr ar ei astell
A'i wyneb yn wynnach na'r wawr;
Cyfeiriodd air brysiog i'r Garnedd
Tra crynnai ei anadl a'i law;
Ffarweliodd â Choleg y Gogledd,
A'i drem i'r Cyfandir poeth, draw.

Mae'r stafell yn wag er ys misoedd,
A chalon mam weddw yn llawn;
Cynefin a'i hymbil fu'r nefoedd
Hwyr, bore, ganolddydd a nawn;
Darllennais yn "Rhestr Anrhydedd,"
A chronicl alaethus y gad,
Ddod beddrod i ran mab y Garnedd
Atebodd i alwad ei wlad.


BWLCH Y GWYNT.

HERFEIDDIOL glogwyn syth,
Mawreddog fyth dy drem;
Chwardd balchder oesol ar dy ael
Dan haul ac awel lem;
Dy gyfarch heddiw wnaf
Wrth gofio'r dyddiau gynt,—
Blynyddoedd hyfryd mebyd mwyn
Hen Glogwyn Bwlch y Gwynt.

Yng nghwmni cyfoed llon
Mor ysgafn fron a'r chwa,
Fath wynfyd ar dy goryn gawn
Ar lawer nawn o ha',
Gwasgarwyd llu o'r plant
Dros fryn a phant i'w hynt;
Ni cheir ond atgof am eu swyn
Hen Glogwyn Bwlch y Gwynt.

Catrodau Llafur sydd
Foreuddydd gyda'r wawr
Yn deffro atsain ddyfna'th fron,—
Edmygedd calon fawr;
Daw rhai ar elor drom
Yn ol er siom o'u hynt,
Cei dithau wylo ffrydiau cwyn
Hen Glogwyn Bwlch y Gwynt.

Hen Gloch Sant Dewi sy'
Yn canu wrth dy droed,
A thithau'n gwrando drwy dy hûn
Mor gyndyn ag erioed;
Gweld cau y cyntaf fedd
Gest ti o'th orsedd gynt,
A'r ola'n agor weli'n fwyn
Hen Glogwyn Bwlch y Gwynt.


Daw eraill ar eu tro
A'u bryd ar ddringo'th ben;
Gan dybio fod dy goryn bras
Yn tarro glas y nen;
Tydi yn aros gaf
Pan af i'm olaf hynt;
Rho un ochenaid er fy mwyn
Hen Glogwyn Bwlch y Gwynt.


CRAIG OEDRANNUS.

DYMA graig bob yn demig roed—i lawr,
Dyma lys ei maboed;
Mae yn huno mewn henoed,
Duw ei hun all ddweud ei hoed!



"YR ALLTWEN."

YR ALLTWEN wladgar, hygar Gymreigydd,
Eilun y llenor, mae'i law yn llonydd.
Er troi o gynnes fynwes Eifionydd,
Gwalia a'i hudai o bellder gwledydd,
Tra fo ser Tir-fesurydd—Penbedw
Ga' weld ei enw dan glod awenydd.


MURMUR Y GRAGEN.

CODAIS gragen yn y pentref,
Hwnt i swn y lli;
Ond er pelled oddi cartref
Merch y don oedd hi;
Murmur cyfrin iaith yr eigion
Wnai y gragen wan,
Dan gafodydd a phelydron
Murmur oedd ei rhan.

Plygais gyda'r hafnos dirion
Ganwaith wrth fy nôr,
I ddehongli ei murmuron,—
Alltud fach y môr;
Ofer fu pob cais a chynllun,
Troes fy siom yn ddraen;
Ni wnai'r gragen fechan namyn
Murmur yn ei blaen.

Er ei chipio, èm y waneg,
Hwnt i swn y lli,
Yn ei murmur clywais ddameg
Ar fy ysbryd i,—
Dyma drysor ar ddisberod,
Pechod wnaeth y trais;
Ond mae anadliadau'r Duwdod
Eto yn ei lais!

Beth ond hiraeth cysegredig
Yw ei nodau lleddf?
Beth ond gobaith nef anedig
Yw ei ryfedd reddf?
Er ei faeddu, er ei erlyn,
Er mor drist ei raen,—
Ni wna'r enaid yma namyn
Murmur yn ei flaen.


ELIS O'R NANT.

Cymeriad rhamantus oedd Elis ddi-frad;
Ni welir ei hafal byth mwy yn ein gwlad;
Bu'n coledd llenyddiaeth dan lwydai y wawr,
Cyn geni oraclau sy'n ddeddfau yn awr.
Bu'n llyfrgell symudol, heb reol na threfn,—
Ei Ffon dan ei law, a'r hen "Fag" ar ei gefn;
Hysbysai'i ddynesiad yn hynod o blaen;
Cyrhaeddai ei "floedd " rai milltiroedd o'i flaen!

Os cloff oedd o'i glun, ac os gwyrgam ei goes,
Bu'i dafod yn ystwyth drwy gydol ei oes;
Dywedai ei feddwl heb gysgod o drais,
A'i glychau yn canu ar binacl ei lais.
Os gelyn adwaenai mewn dyn ('doedd waeth pwy),
Ni fynnai gymodi a hwnnw byth mwy;
Rho'i lygad am lygad a dant ro'i am ddant—
Un felly yn hollol oedd Elis o'r Nant.

Os cyfaill—wel, cyfaill drwy'r teneu a'r tew;
Ni fynnai'r" Hen Elis " hel dail na hel blew;
Ychwaneg o'i debyg roesawem yn llon;
Bu'n wreiddiol mewn oes arwynebol fel hon.
Dros Arwest Geirionydd bu'n ffyddlon a brwd,
A chadwodd ei chleddyf yn gleddyf di—rwd;
Mae'r Meini'n amddifaid ar erchwyn y llyn,
A Chowlyd ac Elis dan blygion y glyn.

Ei gôf oedd yn gronfa o geinion ein hiaith;
Mae llewych rhai gemau yn wrid ar ei waith;
Ond gwrando ar Elis gyfrifem yn wledd,
A'r fflam yn ei lygad a'r cuwch ar ei wedd.
Ei anadl oedd fyrr a Glyn Moab yn faith,
Pan welais ei rudd ryw brynawnddydd yn llaith:
Bydd atgof 'mhen blwyddi yn taro ei dant
I alw am bennill i Elis o'r Nant.


RHOSYN AR Y DRAIN.

AR flodau Eden Mebyd
Disgynnodd cafod erch,
A'i chesair yn ymyryd
A thegwch bro fy serch;
Ar waethaf cystudd meddwl,
A llawer dybryd sain,
'Roedd bwa ar y cwmwl
A rhosyn ar y drain.

Mi welais fam yn myned
I'r glyn a'i gruddiau'n glaf;
Mi welais fedd agored
Rhwng llwyni gwyrddion haf;
Ei gweddi dros ei bachgen,—
Ei llef, llef ddistaw, fain,
Sy'n oedi ar ei haden;
'Roedd rhosyn ar y drain.

Gollyngais fab fy mynwes
I'r heldrin dros y don; '
Does neb a ddywed hanes
Pryderon dyfna' mron;
Distawodd twrf cyfanfyd,
Y cledd roed yn ei wain,
Mae'r bachgen yn y Pwlpud
A rhosyn ar y drain.

Dilynnais yn fy rhysedd,
Hudoliaeth nwydau gwyllt;
Wrth gofio'r hen oferedd
Fy nghalon wan a hyllt;
Ym mhabell y cyfarfod
Llareiddiodd gras y rhain,
Daeth enfys ar y gawod
A rhosyn ar y drain.


GLAN Y MOR.

O'r phabell aur mae'r Haf
Yn chwerthin ar y bryn,
Ac nid oes ddeilen glâf
Ar un o lwyni'r glyn;
Pwy eilia gerdd, pwy lywia gôr
Mor lon a mi ar lan y môr?

Mae alltud fach y don
Yn segur wrth fy nhroed,
Ond cân sydd yn ei bron
Nas gŵyr ond Duw ei hoed;
Braidd na ddeisyfwn gan yr Iôr
I lunio 'medd ar lan y môr.

Caiff llawer carreg lefn
Hamddena yma mwy,
Ar ol pob 'storm ddi-drefn
Fu yn eu hymlid hwy,
Mynegi wnant, ryfeddol stor,
Ramantau drycin min y môr.

Pa beth yw'r tywod swrth
Sydd yn gwregysu'r lan?
Pa beth a ddywed wrth
Fy ymwybyddiaeth wan?
Y Dwyfol egyr gil ei ddôr
Drwy awgrym mud ar gwrr y môr.

Mae'r ysbryd cudd yn mynd
Yn lleddf ac weithiau'n llon,
Am Borthladd gwell a Ffrynd
Tragwyddol dros y don;
A melus iawn ym mhalas Iôr
Ailuno mwy ar Lan y Môr.


RHWYFO.

I.

ESMWYTHED nawf yr awel;
Daweled cwsg y don;
Brydferthed yw y gorwel
Yng ngwrid yı hafnos hon;
Caiff Nel a minnau hamdden
Oludog o fwynhad,
Wrth ganu dan y lasnen
A rhwyfo'n hysgafn fad.

Mae Nel a minnau'n ieuanc
Fel dail y goedlan werdd,
A Phryder wedi dianc
O'r bad yn swn ein cerdd.

II.


Mae'r hafddydd wedi cilio;
Mae'r Wyddfa dan ei lluwch;
Mae ton yn ymffyrnigo
I ddringo ton yn uwch;
Mae'r ddau fu gynt ym morio
Yn awr yn fam a thad,
Ac wedi cynefino
A byw i rwyfo'r bad.

Mae Nel a minnau'n hynach
Na'r crinddail ar y coed,
Ein serch sydd yn ieuengach
Er hynny nag erioed.

III.


Mae'r wybren dan gysgodau,—
Cysgodau Hydref oes;
Mae barrug hyd y cangau
A'r gwynt yn chwythu'n groes;
Ond yn y bad cydrwyfo
Mae'r ddau fu'n caru gynt,
A dal i garu eto
Ar waetha'r don a'r gwynt.

Os yw y nos yn duo,
Mae'r ser yn britho'r nen,
A Nel a minnau'n rhwy fo
Am borth y Wawrddydd Wen.


YSBRYD Y MOR.

YSBRYD y môr, sibrwd y mae—am nwyf
Nas gall neb ei warchae,
A cherydd geir o chwarae
A'i ddeddf sobr, ei gwobr yw gwae.

Yn ei nerth y berth i bau—ysguba'n
Ei rwysg heibio'r creigiau,
A'r ewyn gwyn, oer yn gwau
Ei donnog ysnodennau!

Heddiw daeth i'w gyhoeddiad,—yfory
Ei fawredd fydd gydstad;
Chwery o'r pell ddechreuad
Ddyfal dôn i'w Ddwyfol Dad.

Nos Calan, 1925.


COED Y GLYN

CRWYDRAIS gyda'r hafddydd ifanc
Drwy gynteddau Coed y Glyn,
Cyn i swynion mebyd ddianc
Fel pelydrau dros y bryn;
Ysgawn fel y chwa a'r ddeilen
Ar y gangen uwch fy mhen,
Oedd fy ysbryd i bryd hwnnw;
A breuddwydion gloyw, gloyw'n
Gorymdeithio drwy fy nen.

Dan y coed, a'r lloer yn codi,
Oedais wedyn lawer pryd,
Cyn i fedd Eluned brofi
Anwadalwch pethau'r byd;
Mwyn fu eistedd ar y boncyff
Llwyd, oedrannus yn ddi-fraw;
Siarad wnawn, gan serch yn eirias,
Am yr allor a'r briodas,
Cyn rhoi'r fodrwy ar ei llaw.

Unig wyf, a'r gwynt yn uchel
Heno, ar y bannau pell;
Profiad gweddw yn ei gornel
Yw fy nghyfran yn fy nghell;
Tystio wna fy wyneb gwelw,
Tystio wna fy nghoryn gwyn,
Fod yr hafddydd wedi cilio,
Minnau'n ysbryd llesg yn crwydro
Drwy gysgodau "Coed y Glyn."


EMYN PRIODAS

TYRED Arglwydd trwy Dy ysbryd,
I'r briodas gyda ni,
Dwyfol o dan lewych deufyd
Fydd y ddefod gyda Thi;
Rho Dy wên yn berl i'r fodrwy,
Rho Dy nawdd mewn tes a glaw;
Bydd pob taith yn haws i'w thramwy
Wedi cychwyn yn Dy law.

Rhwng y blodau, Geidwad tirion,
Eistedd Di wrth fwrdd y wledd,
Rho i ninnau ganfod swynion
Rhosyn Saron ar Dy wedd;
Yn Dy gwmni, Iesu grasol
Nid oes le i bryder blin,
Ti sy'n gwybod, Dad Tragwyddol,
Pryd i droi y dŵr yn win.
 
Boed i'r nefoedd selio'r undeb
Rhwng y ddeuddyn hoff a wnaed,
Trwy y byd i dragwyddoldeb
Llwybrau uniawn fo i'w traed;
Wedi gado'r allor dirion,
A wynebu'r bryniau ban,
Gorsedd uwch a thecach Coron
Lanwo'u calon ymhob man.


AWGRYM.

GAIR cynnil, goreu cennad,—daw ar dro
Drwy drem ac ysgogiad;
Gŵyr gerydd, gwiria gariad,
Llonna fro a chynllwyn frad.


EMYN DIOLCHGARWCH

YMOSTWNG ar ein deulin
A wnawn wrth Fwrdd y Brenin,
A moli'r Iôr am gofio'n gwlad
A'i ddoniau rhad yn ddibrin;
Bu'r haul a'r gwlith a'r gafod
I'w cyhoeddiadau'n dyfod,
I baratoi y cnydau bras,—
Cenhadon Gras y Duwdod.

Dan wenau hael Rhagluniaeth,
Rhesymol yw'n gwasanaeth
Yn rhoi i Dduw ein diolch pur
Am arbed cur dynoliaeth;
Ein calon fyddo'n esgyn
Mewn gweddi daer ac emyn,
Am iddo'n gwared trwy ein hoes
Rhag profi loesau newyn.

Ni phallodd trugareddau
Y nefoedd trwy'r canrifau;
Bob bore deuant at ein dôr
Fel llanw'r môr i'r ffrydiau;
Er crwydro ar ddisperod
Drwy anialdiroedd pechod,
Daw gofal Duw drwy'r gwynt a'r tes
I'n gwasgu'n nes i'w gysgod.

Ei ysbryd gyda'i roddion
Fo inni'n gwmni cyson;
O brofi ei agosrwydd Ef
Cawn oreu'r nef i'n calon;
Na fydded i'n heneidiau
Newynu mewn carcharau,
A Bara'r Bywyd yn y wlad
Dan fendith Tad pob doniau.


MIN YR HWYR.

TANGNEFEDD sydd yn llifo
Dros fedd ddigofeb Cyffro,
A Natur yn noswylio
Yn llaw tawelwch llwyr;
Baneri brwydrau Masnach
Ostyngir, cawn gyfathrach
A'r Dwyfol yng nghyfrinach.
Wahoddgar Min yr Hwyr.

Ysblander haul canolddydd,
Roes aur hyd frigau'r coedydd,
Dan lwydion lenni'r nawnddydd
Dawdd ymaith megis cŵyr;
Daw'r lloer i wylio'r cread
 deigryn yn ei llygad,
A'r sêr i ddistaw siarad
I oedfa Min yr Hwyr.

Y meddwl o'i grwydriadau
A ddychwel yn ei garpiau,
I dderbyn gwisg a gwenau
Ddibrisiodd, Duw a'i gŵyr;
I aelwyd fo'n gyfannedd
Caiff groesaw ac ymgeledd,
Ar waethaf ei afradedd,
Dan adain Min yr Hwyr,

Dof finnau yn lluddedig
Cyn hir o'r brwydrau ffyrnig
Sy'n gwaedu nghalon ysig
A throi fy ngham ar ŵyr;
Bydd melys cael cyfarfod
Y Duw all faddeu pechod,
Yn gwasgar niwl y beddrod
A'i wên ym Min yr Hwyr.


Y PISTYLL.

BLENTYN afradlon yr aig,
Crwydraist ymhell o'th gynefin;
Llyfnion yw gruddiau y graig
Lle gwelir dy ddawns a dy chwerthin;
Sawdl y clogwyn fu'n drwin
Oes ar ol oes ar dy fynwes,
A thithau ar ystlys y cwm
Yn canu wrth wneuthur dy neges.

Llusgaist drwy'r fawnog yn hir,
Fel ysbryd am nef yn ymofyn;
Cyffyrddaist delynau y tir
Wrth dreiglo trwy'r brwyn a thrwy'r rhedyn;
Cyfodaist dy lais a dy li',
I'm cyfarch mewn gwasgod o fwsog,
Aderyn y mynydd a thi
Sy'n para o hyd yn galonnog.
 
Croesaw i grwydryn a roi
Fel i rianedd y pentre,
Mwynder y plant yw crynhoi
I dy gyffiniau i chware;
Clywaist ddistawrwydd y nos
Yn siarad ym mhabell unigedd,
A thithau ar erchwyn y rhos
Yn odli emynau trugaredd.

Brysia ymlaen tua'r môr;
Mae'i hiraeth yn drwm am dy gwmni;
'Rwyf finnau ar daith at y côr,—
Y côr sydd yn canu heb dewi;
Daw rhywun at bistyll Ty'nffrwd
Ar ol i mi adael y broydd;
Llif arall aiff heibio yn frwd,
Ac arall fydd awen y prydydd.


YR ALLTWEN.

[Yn Nhowyn, Meirionydd, yr oeddwn, yn ceisio adferiad iechyd, pan ddaeth y newydd trist am farw'r Alltwen. Yno hefyd y bu Ceiriog, Glasynys, a'r Alltwen yn gwasanaethu flynyddoedd lawer yn ol.]

HYD draethau Towyn crwydrais
Yn swn y waneg ffri;
Wynebau siriol welais.
Mewn atgof ger y lli';
Dilynnais Ceiriog serchus
O'r Orsaf ar ei hynt,
A chlywais lais Glasynys
Fel baled yn y gwynt.

Daeth tirfesurydd llawen
I'r oedfa ar y traeth;
A brwd fu croesaw'r Alltwen—
Yr Alltwen ffyddlon, firaeth;
Er fod yr haul yn llosgi
Gwyrddlesni llwyni llon,
Cynhesach oedd y cwmni
Mewn atgof ger y don.
 
Adroddwyd llawer englyn,
A llawer canig gun,
Nes deffro Craig y 'Deryn
O'i hir freuddwydiol hûn;
Ond Alltwen fwyn, ysmala,
O'n hedyn gymrai'n gwynt
Wrth adrodd gwaith "Bro Gwalia "
A'r hen Gocosfardd gynt.


Daeth trai ar ol y llanw,
A minnau'n alltud mud
Fyfyriwn yno'n welw
Ar droeog gwrs y byd;
Dychwelais ar fy nghyfer
Heb glywed si na saeth,
Ond gwaneg yn y pellder
Yn trengi ar y traeth.

Diflannu wnaeth y cewri
Cymreig dan lwydni'r nawn,—
Y chwa ym mrigau'r perthi
Yn unig gwmni gawn;
Daeth rhywun i'm cyfarfod
A cherdyn yn ei llaw,—
Dirgrynnai gan ei thrallod
Fel aethnen yn y glaw.

"Mae'r Alltwen wedi marw,'
Medd llais crynedig, lleddf;
A chwympai'r cerdyn hwnnw
I'r ddaear fel o reddf:
"Yr Alltwen wedi marw,
Sibrydais yn fy siom;
A thros fy wyneb gwelw
Daeth cafod ddagrau drom.


YR HEN GERDDOR

DAW heulwen ar dy alaw—er curo
O'r corwynt heb beidiaw;
Wedi'r helynt a'r wylaw,
Na fydd drist, mae'r nefoedd draw,


GWERDDONAU LLION.

I.


CLYWAIS glod Gwerddonau Llion
Yn fy mebyd pell;
Profais hud y cain orwelion
A'r ardaloedd gwell;
Deffro ysbryd y pererin
Diflin yn ddioed
Fynnai'r sibrwd, ond mae'r grawnwin
Eto ar y coed.

II.


Mewn myfyrion a breuddwydion
Crwydrais erwau blin;
Chwiliais am Werddonau Llion
Dan anwadal hin;
Cyrchu atynt oedd fy ngwynfyd
Dan wên haul a ser,—
Tybio'u canfod trwy'r ymachlud
Ambell hafnos ber.

III.


Croesais foroedd a mynyddoedd
Ar fy ymchwil hir;
Fy nisgwyliad melys ydoedd
Yn lladmerydd gwir;
Teimlo'n agos yn y pellter
Anfesurol wnawn,—
Teimlo 'nghalon, er ei gwagder,
Lawer tro yn llawn.


IV.


Ni ddaw hûn na chwsg i hanes
Y pererin brau,
Ymwresygodd at ei neges
Cyn i'r wawr ddyddhau;
Cael a gais ar ymchwil ffyddlon
Wnaiff dan wawr pob nef;
Onid yw Gwerddonau Llion
Yn ei galon ef?


Y GWELEDYDD.

GOLUDOG ei welediad,—ei feddwl
Ganfyddai yn wastad
Drwy y gwlith Waredwr gwlad,—
Duw agos y Diwygiad.



BALM I GLAF.

LLWYBYR arall bererin—a drefnwyd
O'r ofnau a'r ddrycin;
Cei fyd gwell, cei yfed gwin
O'r Llaw fu'n toi'r gorllewin.


Y FRIALLEN.

CENHADES blaen y Gwanwyn
A'th wisg fel aden gloyn
Wyt ti, friallen ferth;
Blodeui yn yr oerni,
A chysgod ni chwenychi
Ond cysgod clawdd a pherth.

Edmygi'r haul pan ddelo
Nes mynd yn debyg iddo,
A gwynfyd yn dy wên;
Dy ardd yw'r byd friallen,
A chedwi'r cof am Eden
O hyd heb fynd yn hen.
 
Rhoi fordor aur hyd lwybrau
Tylodion y canrifau,
Addurni'r llethrau llwm,
Adwaena'r plant dy ddeilen
A'th wawr o liw yr hufen
Ar dalar, ponc a chwm.

Mae'r hen yn adnewyddu
Bob blwyddyn i'th groesawu,
Friallen felen, fach;
Proffwydi ar yr erw
Sy'n drom gan lwch y meirw,—
Cawn godi eto'n iach.

Dyrchefi faner gobaith
Ar weryd gaeaf hirfaith
Friallen siriol wedd;
Pan gesglir fi o'm gwaeau,
Boed llaw a'th gasgl dithau
I harddu man fy medd.


LILI'R DWR.

YSNODEN ar fynwes y llyn
A'r merddwr di—swyn ydwyt ti,
Doi allan i'r haul yn dy wyn
A'th ddeilen yn werdd ar y lli;
Sirioli amgylchoedd d-wen
Yw neges dy fywyd di-stwr
Cei farw heb fyned yn hen
Fel duwies ar wyneb y dwr.

Dy wreiddyn i'r dyfnder a draidd
A'th flodyni uchter a ddring,
Y sychwynt dy grino ni faidd,
Edwino dy rudd nis gall ing;
Daw stormydd i siglo dy grud,
Daw chwaon i ganu'n gytun,
Enilli glodforedd y byd
Heb golli d'ogoniant dy hun.

Cystadlu a'r ewyn ni wnei
Am serch a chyfrinach y lli,
Tawelwch cyfeillgar fwynhei
Heb freuddwyd am gariad na bri;
Dyrchefi dy faner wen, dlos,
Yn dawel o fynwes y don,
A chysgi, po dduaf y nos,
A gwynder y wawr ar dy fron.


GWANWYN.

DAETH ysbryd hoyw heibio 'nrws
Rhyw fore glas yn Ebrill;
Yr oedd ei drem yn welw-dlws,
Ac ar ei fin 'roedd pennill.

Edrychodd gyda chalon drom
Dros erwau noeth y weirglodd;
Edrychodd ar y berllan lom,
A'i gân am dro a beidiodd.

Yn araf dringodd lethrau'r bryn
Heb darfu hen freuddwydion,—
Addewid yn ei lygaid syn,
Ac alaw yn ei galon.

Edrychodd drach ei gefn cyn hir,
Fel llanc wrth droi o garu;
A gwelai erwau maith y tir
A'r coed yn dechreu glasu.

Cyweirio'i delyn ysgafn wnaeth
Yn llys yr awel heini,
A blodau fyrdd o graig i draeth
Yn deffro i wrando arni.

Dihuno gwlad i ddawns a chân
Wnaeth hwn heb neb yn achwyn;
Pelydrau oedd ei wenau glân,
A'i enw ydoedd "Gwanwyn."


CATHL YR ALLTUD.
(Penillion Telyn)

Mi garwn roi tro hyd erwau y fro
Lle cefais fy magu wrth Efail y Go';
Mae'r pistyll a'r nant, cyfeillion y plant,
Yn gwahodd bob amser ar dyner fwyn dant;
Ond dyma fy nghlwy' nid oes onid hwy
Ro'nt seiniau croesawol yn ol i'r hen blwy'.

Mae'r dderwen fel cynt, a'i gwallt yn y gwynt,
Yn gwylio'r blynyddoedd yn myned i'w hynt;
Mae'r hen Garreg Wen yn syllu i'r nen,
Mewn hiraeth am rywrai fu'n dringo i'w phen;
Ond dyma fy nghlwy' nid oes onid hwy,
Estynnant eu breichiau hyd erwau'r hen blwy.'

Ar osper a gwawr, o'r hen glochty mawr,
Galwadau cywirdant a lifant i lawr;
Ond huno mewn hedd yn 'stafell y bedd
Mae 'nghyfoed yn farw a gwelw eu gwedd;
O barch iddynt hwy mi gerddaf dan glwy'
I ogrwn fy nagrau hyd erwau'r hen blwy'.


CYFARCHIAD YN EISTEDDFOD CAERGYBI,
(1927)

Bu eleni ryw blaned—ar ei thaith
Oer, a thes ga'i arbed;
Drwy y gwyll du a'r golled
Haul a hwyl i Holyhead.


Y RHOSYN.

TEYRN yr erwau lliwgar
Ydwyt rosyn prid,
Swynion nef a daiar
Chwarddant drwy dy wrid;
Offrwm teyrnged iti
Gais y gwlith a'r chwa,
Ar dy ruddiau gwisgi
Olud heulwen ha'.

Perarogli'r awel
Wnei heb dâl na chlod;
Wrth dy wefus gwrel
Car y gloyn fod;
Ennill serch a sylw
Wnei heb sibrwd gair:
Rhagfarn syrth yn farw
Wrth dy orsedd aur.

Byw i roi dy hunan
Wnei mewn gwrid a gwên;
Treulio'th fywyd allan
Gei heb fyn'd yn hen;
Aros wedi edwi
Yw dy hanes di;
Mwynder haf adewi
Yn fy nghalon i.


HEN YSGOL LLWYNYGELL.

Er chofio'n babell raenus
Yr wyf ar ben yr allt,
A llawer deryn ofnus
Yn nythu yn ei gwallt;
Daw dyddiau'r hen flynyddoedd
Yn ol, er crwydro 'mhell,
I siarad am amseroedd
Hen Ysgol Llwynygell.
 
Melodedd alaw dyner
Yn lleisiau'r plant fwynhawn,
Wrth uno yn y pader
Foreuddydd a phrynhawn;
Daw'r emyn gyda'r awel
Fel gwr ar daith o bell,
I son am febyd tawel
Yn Ysgol Llwynygell.

Mae Elis Wyn o Wyrfai
Yn fud er's llawer dydd,
A Richards gyda mintai
Yr erw ddistaw sydd;
Ond byw yw'r cof am danynt
Ar fedd pob storom bell,
A byw yw'r parch oedd iddynt
Yn Ysgol Llwynygell.

Daw miwsig yr offeryn
I'm clust ar ambell awr,
Gan wahodd gwên a deigryn
Mor ber a lliwiau'r wawr;
Mae'r bysedd a'i chwaraeai
Yn cwafrio cordiau gwell,
Heb golli'r ddawn ddisgleiriai
Yn Ysgol Llwynygell.


Oferedd holi'r murian
Am gyfeiriadau'r plant
Fu yma am flynyddau
Heb gryndod ar eu tant;
Galaraf dan y fargod,
Nis gallaf wneud yn well,
Am nad oes neb yn dyfod
I Ysgol Llwynygell.

Bydd rhai yn galw heibio
Yng ngherbyd Atgof chwim,
A minnau'n cynnig croeso,
Ond ni arosant ddim;
Yn iach, gyfoedion hyglod,
Yn iach, ieuenctid pell,
Ni chawn byth mwy gyfarfod
Yn Ysgol Llwynygell.


COFIO MILWR.

PAN y paid pob cledd a'i gyffro;
Pan ostega'r rhyfel—gri;
Daw dy dad a minnau heibio'r
Llecyn lle gorweddi di;
Wedi teithio estron—froydd,
Dyma'n hoffrwm ar ein hynt,
Pleth o redyn o Gwmbowydd,
Swp o rug o Fwlch y Gwynt.


LLEDDF A LLON.

RHUDDLIW yr hwyr ar y waneg werdd
Orweddai yn esmwyth fel breuddwyd per;
Petrusai yr awel anadlu ei cherdd
O'r goedlan gyfagos i gyfarch y ser.

Rhwyfo'i gwch bregus i'r eigion liw nos
Fynnai'r pysgotwr gewynnog ei fraich;
Credai fod Duw wedi darpar ystor
Ar gyfer y gwr na fyn ddannod ei faich.

Rhwyfo ymlaen i ddychwelyd wnai ef,
A'i serch yn y bwthyn ar lepan y graig;
Dilyn ei hynt wnai y ser yn y nef,
A moli ei antur wnai tonnau yr aig.

Brysio'n bryderus i dŷ ger y don
Wnaethum, ac adflas y môr ar fy min;
Yno 'roedd rhywun wnai eigion fy mron
Yn gynnwrf, fel goror ffyrnicaf y drin.

Rhuddliw yr hwyr oedd ar ddeurudd fy nhad,
A llesg oedd ei anadl wrth fynd a dod;
Credwn fod Llaw yn cyfeirio ei fâd
Dros foroedd heb fesur i'w dyfnder yn bod.
 
Myned i beidio dychwelyd wnai ef,
Myned ar ymchwil am gilfach a glan;
Collasai ei gwch ar draeth araul y nef,
Daeth gwawr dros yr eigion i'm henaid gwan!


BEDD BARDD BYW.

[Wedi galw heibio i fedd Eifion Wyn ym mynwent Chwilog, ar daith adref o Gaernarfon, nawn Sadwrn, Ebrill 2, 1928.]

I.


'ROEDD gwrid yr hwyr yn llathru'r môr,
A miwsig Côr Sant Beuno,
Ym marw ar y gorwel draw,
A chorn y glaw yn rhuo,
Tra teithiai pedwar gwr yn chwim
Heb falio dim mewn tywydd,
O dan gyfaredd golygfeydd
Hen encilfeydd Eifionydd.

II.


Heneiddio'n gyflym wnai y dydd
Ar waun a mynydd cribog;
Nesaem fel myneich 1leddf ar wyr
At borth yr hwyr cymylog;
O'r ffordd i fynwent Chwilog gain
Heb ddybryd sain yr aethom;
A'r ysbrydoliaeth sydd o Dduw,
Wrth fedd Bardd byw a gawsom.

III.


I ganu'r gloch nid genau'r glyn
Fu'n delyn fwyn i'w dalent;
Safasom ninnau wrth ei fedd
Heb dorri hedd y fynwent;
'Roedd "chwe briallen" ar ei gell,—
Pob un mewn mantell loyw,
Yn tystio'n fud ar erw Duw
Mai bedd Bardd Byw oedd hwnnw.


LLANW A THRAI.

PLENTYN y llanw fûm i trwy fy oes;
Ni wybu fy llongau am un awel groes;
I hafan Dymuniad cyrhaeddent yn llon,
Dan holl farsiandiaeth y gwledydd o'r bron.

Bu'r hwyliau yn trethu pob awel o wynt,
Er mwyn i fy llongau gael dyfod ynghynt;
A minnau ar heulfryn Disgwyliad bob awr,
Heb weld ond disgleirdeb y llanw a'r wawr.

Mor bêr oedd breuddwydio ynghwsg a dihun,
A'r llongau yn glanio'n ddiogel bob un;
Dan liwiau gobeithion fy mynwes ddi—saeth
Y chwifiai'r baneri o dalgraig i draeth,

Ar encil y llanw yn henaint y dydd
'Rwyf weithion ar dywod y glannau yn brudd;
Y llongau di-stŵr wedi llithro i ffwrdd
A phopeth oedd annwyl i mi ar eu bwrdd.
 
Mwynderau fy mebyd a gollais yn llwyr,
Daeth trai yn llechwraidd cyn dyfod yr hwyr; '
Dyw cri y gwylanod a dolef y gwynt
Ond galar fy mron am yr hen amser gynt.

Gweld tlodi y trai a bair gynnydd i 'nghlwy,
Nid oes gynnydd arall i'w ddisgwyl byth mwy
Ond ble'r aeth y llongau fu unwaith mor chwai?—
'Rwy'n falch iddynt ddiane cyn dyfod y trai.


GADAEL CARTREF.

I.


MAE'R bore yn llaith yn fy mhrofiad
Er crwydro ymhell o dref;
A hiraeth yn cadw'i ddechreuod
Gan d'wyllu ffenestri pob nef;
Gadewais fy nghartref ac ing yn fy ngoslef
Yn darllaw ystorom gref.

II.


Hyfryd yw cofio yr Hafod
A'r haul ar y dolydd a'r coed;
Ond tristwch i newid cyweirnod
Fy ysbryd ddaw heibio'n ddioed;—
Gadewais y cyfan ar ol ond fy hunan,—
Bererin bregus ar droed.

III.


Caf gwmni breuddwydion tyner
Wrth symud o lech i lwyn,
A gwrando telynau hyder
Ar ambell i orig fwyn;
Dywedant yn unllef i mi adael cartref
Cyn gadael bro'r rhedyn a'r brwyn.

IV.


Cynghanedd y Cartref di—ofid
Erglywaf mewn emyn a salm,
Ar waetha'r wlad bell a'r cyfnewid,
Mae'r miwsig i'm bron yn falm;
Dof ataf fy hunan ryw ddydd; yn fy anian
Mae Gorsedd a Choron a Phalm.


LLWYBRAU'R MYNYDDOEDD

HYD lwybrau'r mynyddoedd mor dawel
A chwmwl ymlithro a wnes,—
Cynefin yr heulwen a'r awel,
Cynefin yr oerni a'r tes;
Bu'r curwlaw yn golchi wynebau
Y llwybrau a gerddais mewn hoen;
Gwnai ysbryd y storom ar brydiau
Gymwynas â'r ddafad â'r oen.

Ni welir ar dramwy'r ffordd-ma
Ond bugail hamddenol a'i gŵn,
Ac ambell freuddwydiwr ysmala
Gais ddianc ar rodres a sŵn;
Daw'r cadno llechwraidd o'r bryniau
I'w sengi'n ochelgar ei droed,
A'i drem fel pe'n dwyn y pellterau
Gwahoddgar yn nês nag erioed!

Daw deryn y mynydd i ganu
Gerllaw ar ddiwedydd a gwawr,
Heb ymbil am saib i ddyfalu
Pa beth ydyw barn ei wrandawr;
Awgryma'r llythrennau ar feini
Oedrannus fod rhywrai, ar dro,
Yn dewis i'w henwau oroesi
Eu hanes ar fryniau y fro.

Bu'r llwybrau'n croesawu rhyfelwyr
Gwyllt Walia ganrifoedd cyn hyn;
Ysbrydion yw'r unig ymwelwyr
Geir heddiw yng ngwersyll y bryn;
Bu ambell bererin myfyrgar
A wybu am swyn encilfeydd,
Yn gwahodd clogwyni addolgar
I'r oedfa, a doent yn dorfeydd!


Dinodedd a Mawredd gofleidiant
Ei gilydd ar drothwy y ne',
Heb chwennych y clodydd a haeddant,
Y llwybrau a gadwant eu lle;
Daw'r hen olygfeydd yn newyddion
Yn llewych atgofion yn awr,
A thybiaf y gwelaf angylion
Yn dangos cyfeiriad y wawr.
 
Bûm neithiwr wrth wely gŵr difrad
Wynebodd dreialon trwy'i oes;
Ond cerddodd yng nghamre ei Geidwad,
A'i ysgwydd yn friw dan y groes;
Trwy'i gystudd canfyddai y nefoedd
Mor ddisglair a gobaith y sant;
Gŵyr yntau am lwybrau'r Mynyddoedd
Er treulio ei oes yn y pant.


DISGWYL Y TREN.

MEWN pentref bach, llwyd yn y wlad,
A'r lloer dros y bryniau yn dlos,
Y gweithwyr yn dyrfa ddi-frad
Gyfeiriant i'r orsaf fin nos;
Anghofiant eu lludded yn ieuanc a hen
Wrth feddwl am gartref a disgwyl y tren.

Y gwynt yn y llwyni di—ddail
Alarai ar lechwedd gerllaw,
A'r orsaf ddirgrynnai i'w sail
Dan fflangell y cesair a'r glaw;
Ond chware ar wyneb pob gweithiwr wnai gwên,
Wrth feddwl am gartref a disgwyl y tren.

Y dydd a'u gadawodd yn llwyr,
A llafur pob gwr yn ei gol;
Ystyrient dan adain yr hwyr
Y cyfle na ddeuai yn ol;
Na phallai sirioldeb yr ieuanc na'r hen
Wrth feddwl am gartref a disgwyl y tren.
 
Daeth cyffro i'r orsaf ar dro,
A chafod i'r llwyni gerllaw,
Ac wedyn daeth gosteg i'r fro,
A pheidiodd y cesair a'r glaw;
Y ddadl ar lafar a'r ddadl ar lên
Dawelodd yn swn ymadawiad y tren.

Tariais yn hir ger y fan,
A gwynt hwyrddydd einioes yn ffrom;
Ymbiliais am gilfach a glan
Wrth deimlo y ddrycin yn drom;
Gwasgarwyd fy mhryder, i'm hwyneb daeth gwên;
Wrth feddwl am Gartref a disgwyl y tren.


CAPEL Y CWM.

CYFEIRIAIS yn fore i Gapel y Cwm,
A'r gwlith hyd fy llwybrau ddisgynnai yn drwm,
Tywalltai y nef o'i chostrelau ei balm
Mewn gweddi a phregeth, mewn emyn a salm;
Hyfrydwch oedd myned drwy dês a thrwy law
I awyr mor deneu, a chlywed gerllaw
Delynau y gwynfyd yn canu mor ber,
Dan lesni y wawr a disgleirdeb y ser.

Gwrandewais wrth ymdaith brofiadau y saint,
Heb weled fy nghyfle na phrisio fy mraint,
Dan wenau a dagrau clodforent heb gêl,
Aeddfedrwydd y grawn a melyster y mêl;
Ce's gwmni angylion o lechwedd i lwyn,
Heb 'nabod fy ffryndiau er teimlo eu swyn;
A phleser yw edrych yn ol gyda pharch
Ar dŷ Obededom a chartref yr Arch.

'Roedd tynfaen i f'enaid yng Nghapel y Cwm,
A'i dô yn fwsoglyd a'i furiau yn llwm,
Ni wyddwn, bryd hynny fod cymaint o'r nef
O'nghwmpas yn furiau rhag drygau y dref;
Yn sain cân a moliant cyfeiriwn mewn hwyl
I nawdd y cynteddau ddydd gwaith a dydd gwyl;
Canfyddwn hawddgarwch ar babell yr Iôr
Uwchlaw pob golygfa ar dir nac ar fôr.

Mae'r capel a minnau ers tro ar wahan,
Daw'r atgof amdano mewn emyn a chân,
I ddilyn fy nghrwydriad o gwmwd i gell,
Fel mwynder hen alaw bererin o bell;
Caf saib i fy natur wrth wrando yn daer
Ar brofiad fy mam ac ar adnod fy chwaer;
Yn llewych y Moddion ddibrisiodd y byd,
Y gwelais i gyntaf liw'r Perl mwyaf drud.


Tŷ gwledd i fy enaid oedd Capel y Cwm,
Ei fwrdd yn gyfoethog a minnau yn llwm.
Daeth mellt temtasiynau i leibio y gwlith
Fu'n addfwyn ar flodau fy mebyd di—rith;
Ond teimlaf eu persawr a gwelaf eu gwawr
Wrth gerdded ffyrdd eraill dros anial y llawr;
Dan wynder y bore a chaddug yr hwyr,
Mwynhaf eu cyfrinach, y nefoedd a'i gwyr.

Yn weddill nid oes o hen gwmni mor ffraeth:
Myfi a adawyd fel ewch ar y traeth;
Mae'r llanw bygythiol yn codi yn uwch,
A minnau at dostur y storom a'i lluwch;
Ond erys cyfaredd fy mebyd o hyd
Yn gysur mewn cafod uwch gwybod y byd;
Ysgafned yw'r baich fu yn llethol o drwm
O droi am awr dawel i Gapel y Cwm.

GADAEL Y CWM.
(Cwm Croesor).

Mi wyddwn ro'i nhad yn y gro,
A mam ar y tyddyn di-raen,
Yn cadw'r hen olwyn ar dro,—
Yr olwyn adawodd ei staen;
Dyfalu yn blentyn a wnawn
Fod pethau yn myned o chwith
Wrth weled ei llygaid yn llawn,
A gweld fynd ei gwallt yn fwy brith.

Edrychai y wawr dros y foel
Ar mam dan ei chawell a'i chur;
A gwrid yr ymachlud ar goel
Ro'i iddi'r holl aur feddai'n bur;
Ond galw ei pherlau yn ol
Wnai'r wawr yn ei hamser ei hun,
Cymerai yr haul yn ei gol
Ei aur, cyn i mam fynd i hûn.

Y "chwalwr i fyny a ddaeth,"
Dyfalwn ei fod ar ei hynt,
A chlywais arwerthwr yn ffraeth
Ei eiriau wrth fur Bwlch y Gwynt,
Gwasgarwyd y dodrefn a'r "da "
Yn hwylus 'mhen dwyawr neu dair,
A ninnau ar encil yr ha'
Heb wrid ac heb wên ac heb air.

'Doedd ddewis ond croesi y waen,
A dringo dros fynydd yn flin;
Ac fel yr Hebreaid o'n blaen,
Salm hiraeth oedd leddf ar bob min;
Edrychais i'r cwm drach fy nghefn,
Cyn myned o'i olwg yn llwyr,
A'r cread mewn awel fach, lefn
Yn canu alawon yr hwyr.

Wrth adael Jerusalem gynt
Yn alltud galarus ei lef,
Sawl Iddew fu'n troi ar ei hynt
Am drem ar binaclau y dref?
Ei enaid ddiferai gan ing
Wrth gefnu ar degwch ei fro;
Coll Gwynfa mewn deigryn a ddring
I ddeurudd y truan ar dro,

Bum innau yn ieuanc, ond hen
Wyf weithian, a'r Hydref yn oer;
Fy wyneb sy'n estron i wên
Fel wyneb galarus y lloer;
Ond erys y cof am yr awr
Y rhois y drem olaf i'r cwm,
Cyn gadael cynefin y wawr
Am nos ar anialdir mor llwm.


Y BALEDWR.

AFREIDIOL yw dychymyg
Na godidowgrwydd iaith;
Ni raid wrth liwiau benthyg
Na choegni addysg 'chwaith;
Ni pherthyn i'r Baledwr
Ond symledd deilen werdd,
Rhesymol i bob gwladwr
Ei 'nabod wrth ei gerdd.

Dyddiadur llawn sydd ganddo
O Ffeiriau gwlad a thref;
Mae llwybrau uwch eu rhifo
Yn hysbys iddo ef;
Drwy gymoedd ac ucheldir
Ni chaiff o dan ei bwys,
Ond ambell garreg filldir
I wrando 'i brofiad dwys.
 
Mae'r wawr yn ei gyfarfod
Yn fynych ar y rhos;
Mae'r ser yn ei adnabod
Hyd unigeddau'r nos;
Mae'n cario 'i etifeddiaeth
Mewn pecyn ar ei gefn,
Heb chwennych gwell swyddogaeth,
Na blino ar y drefn.

Nid gwr yn trethu 'i awen (?)
A meithder ydyw o;
Mae ambell wyneb—ddalen
Yn ddigon ar y tro;
Os metha'r gerdd a dilyn
Ei phwnc ar linnell wen,
Gofala Celf am ddarlun
O'r testun uwch ei phen.


Gweddillion campau'r Cymry
A geidw mewn coffhad;
Am lunio cerdd a'i chanu,
Mae'n hawlio sylw gwlad;
Ei fasnach sy'n sefydlog
Er anwadalwch byd;
Bodlona hwn ar geiniog
A chongl yr ystryd.

Nid cyfoeth ei syniadau,
Ac nid pereidd-dra'i lef
Enilla gynulliadau
I wrando arno ef;
Er hynny wrth ei glywed
Hwy deimlant wres eu gwaed,
A'r heol laith yn myned
Yn gynnes dan eu traed!

Y gawod leithia'i gerddi,
Yr awel droella'i wallt,
Awgrymu ei galedi
Fynn ambell ddeigryn hallt;
Os briglwyd yw ei goryn,
Os yw ei gob yn wael,
Mae llawer gwers amheuthyn.
Drwy d'lodi hwn i'w chael.

Mae "ofn y gynulleidfa "
Yn estron iddo ef;
I wyneb torf edrycha
Heb gryndod yn ei lef;
Ar lawer aelwyd wledig
Mae'r hen Faledwr rhydd,
Yn safon ansigledig
Ar dywyll bynciau'r dydd.


Mae Cymru yn ei arddel
Er's llawer blwyddyn gron;
Os yw ei swydd yn isel,
Mae'n rhan o fywyd hon;
Er na fedd ffrynd ffyddlonach
Na'i gi o dref i dref,
Bydd cenedl yn dylotach
Ar ol ei golli ef.


CROESAW I'R ARCHDDERWYDD.

EIN llyw doeth yn nillad ha',—derbyniad
Arbennig a haedda;
Croesaw dibrin gwerin ga'
Dyfed i bwlpud Hwfa!



GWRID.

DELW iechyd dilychwin,—lifrai haul,
Haf, y rhos a'r purwin;
Gwawr lliwiad y gorllewin
Gyda'r hwyr a gwaed yr hin.


BEDDARGRAFF.

[I'r diweddar Mr. Robert Roberts, Wrysgan.]


BEDD gwr llygadog, gododd gym'dogaeth
O'i chur i lwyddiant mewn Chwarelyddiaeth.
Y Wrysgan hwyliog! goresgyn alaeth
A gaem yn awyr ei hoff gwmniaeth;
At orsedd Ion trosodd aeth—i fyd llon,
Lle mae'r awelon uwch gwyll marwolaeth.


Y GOEDWIG.

Tŷ mawl y gwynt hyf; temel gyntefig
Y derwydd llariaidd heb dwrdd y llurig,
I dorf gu'r adar ryw dref garedig;
Crud aur i bleser creadur blysig;
Cawn bawb ei bren, cawn o bob brig—garol
I ddawnus gydiol ddinas y Goedwig.



"BUDDUG."

Awdures Geiriau'r Gân "O! na byddai'n Haf o hyd."


Y GYWIR Fuddug a'r wraig grefyddol,
Geir yn y gweryd, goron y garol.
Dan nos ei gofid a'i naws gaeafol,
Torrai ei gweddi am Haf tragwyddol;
Wyled gwerin wladgarol—roi ym medd
Ddawn hudai Wynedd a'i nwyd awenol.


Y DIWEDDAR BARCH. TOWYN JONES, A.S.

Towyn oedd goelcerth yn tanio'r perthi,
A gorau'i enaid a'i wladgar ynni;
Galwodd ei addysg, liwiodd a'i weddi,
I dref yn ysbryd, i dorf yn asbri;
Diwygiwr wedi hogi—cledd ei dras;
Senedd y deyrnas swynodd â'i daerni.


ER COF.

[Am y ddiweddar Mrs. Roberts, priod y Parch. J. J. Roberts (Iolo Caernarfon).]

DRWY flin ymdewi hyd dreflan Madog,
O'i chur y dodwyd ein chwaer odidog;
Bu'n lloer hynaws, bu'n llaw i wr enwog.
Drwy hwyr gofidiau a'r awr gafodog;
Yn llewych barn alluog—gwnaethai les;
Gywir genhades a gwraig gweinidog.



MIN YR AWEL.

I DRAMWY erys o drum i orwel,
Ei chŵyn yn iechyd a'i chân yn uchel;
Er rhoddi cerydd ar ruddiau cwrel,
I fodau tywys adfywiad tawel;
Goreu mun yn gwasgar mêl—dan oer glog
Ag emyn rhywiog yw Min yr Awel.


EOS PRYSOR.

GWEITHIWR fawr berchid, gerid drwy'n goror;
Gwawriai ei dalent o'i grud i'w elor.
Goludog urddas y gwledig gerddwr
Pura i'w Iesu roes Eos Prysor;
Y gloyw sant; eglwys Iôr, a llaw rydd
 Ddaw i Drawsfynydd i drwsio'i fynor.


DERYN Y DRYCIN.

(The Stormy Petrel).

TANIO'I gerdd wna'r tonnog gôr—ar anial
Oer, unig y glasfor;
Chwery draserch ar drysor,
A swn amheus yn y mor.

Ar ei adain hir oedi—yw ei reddf
Pan fo'r aig yn berwi;
Yf yr haul efo'r heli,
Aderyn llwyd, deyrn y lli.



WIL BRYAN.

DIREIDUS nwyd ar aden,—ddifyrodd
Fore Daniel Owen;
A chywir lewych awen
Adwaenai wawd yn ei wên.


CERRIG BEDDAU.

BYDDIN o gerrig beddau,—eu gorchwyl
Yw gwarchod hen ffryndiau;
Byddin gwn nas beiddiwn gau
Mur angof am ei rhengau,


Y GAEAF.

Y GAEAF fel pendefig awen—ddaeth
Gyda'i ddwys dynghedfen,
Blaen ei wawr yw'r bluen wen,
Ac ingoedd ar bob cangen.



Y TAEOG.

DYFAL estyn diflasdod—wna'i air bras;
Lluniwr briw a gwarthnod;
Dyn sarrug daena sorod,
A'i dwrw'n farn, druan fôd.



Y BEITHYNEN.

LATHR, riniol lythrennau,—deg gerfiwyd
Mewn dwy garfan forau;
Melodedd serch—deimladau
I dŷ o goed wedi'i gau,


GWYMON.

CNWD yr aig, cennad yr Ion—ar gyfer
Gofid ac archollion;
A châr y sych erwau sôn
Gymaint yw rhin y Gwymon.


GWYFYN.

DIFA pob cain edefyn,—y pren teg
A'r print aur wna'r Gwyfyn;
A'i ddwys fodd eu hysu fynn,
Breuder yw bri ei edyn.



Y PREN CRIAFOL.

EGWAN ei fraich, gwyn ei frig—dan olud
Yn nhalaith y goedwig;
I'r adar bwrdd caredig
Dan wawr gwaed yn awyr gwig.


Adroddiadau

TYNGED Y MARCHOGION.

GADAWODD pedwar marchog lys enwog Arthur Fawr,
Gan dramwy hyd y gwledydd heb ystyr hwyr na gwawr;
Y tân oedd yn eu llygaid a losgai'r awel wynt,—
Fflachiadau eu cleddyfau fu'n heuliau ar eu hynt;
Arswydai'r broydd rhagddynt, a dweud y difrod wnaed
Gan rym y pedwar marchog wnai golosg blin a gwaed.

Gadawsant wynfyd mebyd mewn hoen, a'r gwanwyn hardd
Oedd ar eu gruddiau'n delwi prydferthwch maes a gardd.
Rhy gyfyng oedd Llys Arthur i'w nwydau anfad hwy,—
Rhy bur i'r sawl fodlonai ar glod am roddi clwy';
Gadawsant eu cynefin a gras yr hen Ford Gron
Gan hwylio i'r Cyfandir o lannau'r ynys hon.


Bu hysbys eu hwynebau
Mewn llysoedd a gornestau
Am lawer blwyddyn hir;
A chlod y pedwar marchog
Ar lawer gwefus wridog
Dramwyai estron dir.

Collasant eu prydferthwch,
Collasant eu pybyrwch
Wrth ddilyn dawns a gwin;
Ymrwygodd eu tariannau,
Ac nid oedd fellt ar lafnau
Y cleddau lle bu'r min.

Gadawsant fro'r pellderau
Gan ddychwel dros y tonnau
Dan lawer craith a senn;
Dychwelyd yn flinderog
A thlawd wnai'r pedwar marchog
I draethau Gwalia Wen.


Nid oedd aur y traeth na gleni'r ddôl
Yn dwyn y trysorau gollasant yn ol;
A theimlai y pedwar frathiad y ddraen.
O orfod cardota eu ffordd ymlaen. '
Doedd neb yn eu nabod o gastell i gaer,
Na neb roddai glust i'w ceisiadau taer;
Eu haelwyd gan amlaf oedd mynwes y rhos,
A brwyn yn obenydd drwy gydol y nos.
Ddiwedydd wrth ymdaith daeth rhiain deg
I gyfarfod a'r pedwar o'i chaban breg;
Wrth weled ei gwallt tybiasant yn ffol
Fod yr haul wedi gado'i belydrau ar ol!
Yng nglesni ei llygaid gwel'sant yn glir
Hawddgarwch yr ardal gollasant yn hir.
Symudai ymlaen a symudai yn ol
Fel chwa drwy y gwlith ar flodeu y ddôl;
Os siglai pob gwlithyn, i'w golwg hwy
Fe siglai ei hun i brydferthwch mwy.

Gwahodd y pedwar i'w chaban wnaeth,
I gael seibiant ac enllyn a siarad ffraeth;
Ond safodd ar drothwy ei hannedd lom,
Gan syllu yn daer, ac mor drist a siom.
Cyfeiriodd ei llaw tua'r gorwel lliw'r gwin,
Ac ebai, wrth bedwar pererin blin;—
"Y Dydd yw y Byd sy'n mynd heibio'n ddi-feth;
A'r Nos yw Marwolaeth oresgyn bob peth."

Rhwng muriau'r caban ymgomio'n ffri
Wnai'r pump, a'r hyotlaf o bawb ydoedd hi.
Gwynfydai'r marchogion ar degwch ei gwedd,
Wrth wrando ei chân a chlodfori ei gwledd.
Am law ac am galon y riain deg hon
Dymunai pob marchog yn nyfnder ei fron.
Gomeddai gydsynio er gwybod yn iawn
Fod calon y pedwar o gariad yn llawn;
"Ond cyn ymwahanu yfory," medd hi,
Cyfrinach fy mynwes egluraf i chwi."

Cysgodd pob marchog hyd doriad y dydd,
Heb wely o fanblu, gan gymaint eu lludd.
Deffroi'sant i weled y rhiain drachefn,
Fel gwawr wrth y bwrdd osodasai mewn trefn.
Cyn cychwyn y pedwar ymwelydd i'w taith,
Myfyriodd y rhiain yn fud ac yn faith.
'Roedd bore a hwyr yn ei hosgedd a'i threm,—
Ryw heulwen garedig ac awel oer, lem;
Wrth groesi y trothwy 'rol oedi cyhyd,
Llefarodd yn gynnil nes nosi o'r byd.


"Fy enw ydyw Mebyd, oedd geiriau'r dlos ei hael;
"Chwi gofiwch fy nibrisio, ac nid wyf mwy i'm cael.
"Drwy adfail ffafr a chyfle bydd gweddill taith eich oes;
"Myfi fy hun fradychwyd, ond chwi raid gario'r groes!"


CODI TICAD.

DISGWYLIAI plant yr ardal,
A'r haf yn tramwy'r tir,
Am ddiwrnod heb ei hafal,
Wrth lan y môr cyn hir; '
Doedd nemor un yn gwrthod,
Ei rodd at Drip y Plant,"
Diflannu wnai cybydd-dod,
Yn llwyr o serch pob sant.

Pan ddaeth y dydd tirionaf
I'r plant gael mynd i ffwrdd,
Ni welwyd yn yr Orsaf
Erioed fath lu yn cwrdd,
Ac yn eu plith canfyddais,
Fachgennyn llesg a llwyd—
Un wyddai fel y clywais
Pa beth oedd eisieu bwyd.

Ei fam yng, ngrym ei chariad
Ddywedodd yn ddioed,—
Caiff heddiw "Godi Ticad "
Y gyntaf waith erioed;
Meddyliai Bleddyn lawer
O'r fraint, ar waetha'i fraw,
A'i bres, gan faint ei bryder,
Yn mygu yn ei law.


Ar ol cael y Ticad a cherbyd cyfleus
Cychwynodd y Tren; yr oedd cwmni chwareus
Yn cadw'r fam weddw a'r bachgen bach, llwyd,
Mor siriol a'r blodau ar lawr Dyffryn Clwyd.

Bu'r daith i Landudno ac awel y mor
Yn ormod i Bleddyn; ni chroesodd y ddôr
Ar ol iddo ddychwel i fwthyn ei fam;
Byrhau wnai ei anadl, llesgau wnai ei gam.


Fe'i cafwyd ryw hwyrnos ar ddeulin yn ddwys,
Yn ymbil am Graig i roi arni ei bwys
Ni wyddai fod neb yn ei glywed, ond Tad
Amddifaid a gweddwon galarus pob gwlad;
Ond agorwyd drws yr ystafell cyn hir,
A daeth llais drwy y gwyll fel telyneg glir—
Be wyt ti'n neud Bleddyn bach, heb na gole, na ffrynd
"Codi Ticad, mam annwyl; ma'r Tren dest a mynd."


ELIAS FAWR O FON.

HYFRYDWCH plant y werin yw son o wyll i wawr
Am arwyr cenedl fu yn gwneud ein Cymru fach yn fawr;
Cant enwi'r neb y mynnont, a'u moli'n frwd eu tôn;
Mae gennyf innau hefyd gawr,—Elias Fawr o Fôn.

Ni chafodd ef ymolchi yn nwfn ffynhonnau Dysg;
Athrylith heb gaboliad oedd yn symud yn ein mysg;
Ond cafodd baratoad amgenach fel mae'r son;
Bu Ysbryd Duw'n bugeilio gwawr Elias Fawr o Fôn.

Ca'dd bersonoliaeth gawraidd, a thrydan yn ei lais;
Ysgydwai gynulliadau dreng fel brwyn heb eiliw trais; '
A'i fys fe barai gyffro, efe oedd broffwyd Ion,
Goleuai'r nef, dirgrynnai'r llawr,—Elias Fawr o Fôn.

Mae'r son am "Oedfa Rhuddlan" fel rhamant yn ein gwlad;
A Phregeth Green y Bala sydd yn arswyd llawer cad;
I'r lluoedd ym Mhwllheli rhoes brawf o wyrthiau'r Ion,
I loywach dydd cyfeiriai gwawr Elias Fawr o Fôn.

A wyddoch chwi fod Capel a Chofeb er ei fwyn,
Yn rhoddi ar ei ynys hen ryw nefol, ieuanc swyn?
Ei goffa sydd yn anthem fuddugol, ber ei thôn,—
Ei haul nid â drwy'r oesau i lawr,—Elias Fawr o Fon.


CWESTIWN BOB.

BLINODD yr Athro ar drethu ei ddawn
I ymbil am sylw'i ddisgyblion ryw nawn;
A chan fod cysgodau'r Nadolig er's tro
Yn dilyn ei gilydd hyd lwybrau y fro,
Galwodd bob Dosbarth yn Ysgol Ty'nllwyn
Ar gyfer ei ddesc, a dywedodd yn fwyn:—
"Gan fod y Nadolig mor agos, a sylwi
Mor bell ydych chwithau o ddilyn eich gwersi,—
Rhof goron o wobr am gwestiwn gan rhywun
Na fedraf ei ateb; bydd coron i blentyn
Yn rhywbeth ar gyfer yr Wyl a'r Eisteddfod,
Yn awr am y cyntaf; oes rhywun yn barod?"


Distawrwydd dwfn deyrnasai
Am dro o fur i fur;
'Roedd rhai o'r plant yn gwenu
A'r lleill yn sbio'n sur;
Ond gwaeddodd bachgen bychan,
Yn wên o glust i glust:—
"Mae gen' i gwestiwn 'rwan! "
A gwaeddai'r Athro, "Ust!"


Dyma'r cwestiwn ofynnodd y bychan, gan deimlo yn gawr,—
"Sut 'rydw i yn debyg i'r Prince of Wales yn awr? "
Edrychai yr Athro yn ddoeth ac yn ffol,
Gan droi a chan drosi ymlaen ac yn ol,
O'r diwedd cyffesodd gerbron yr holl blant,
Na fedrai roi ateb i Bob bach y Nant,
Ac os oedd atebiad i'w gwestiwn yn bod,
Mai fo oedd yn haeddu y goron a'r clod.

Aeth Bob ymlaen yn union ar gais ei Athro cun,
A dyma'r ateb roddodd i'w gwestiwn ef ei hun:—
"Mae'r Prince of Wales yn disgwyl y Goron, medda chỉ,
'Rwyf innau'n disgwyl coron—mor debyg ydan ni?"


GWEDDI A GWAWR.

LLWYD oedd y bwthyn yng nghysgod y graig,
Warchodai hwyr einioes hên wr a hên wraig;
Bu'r ddau yn gyfrannog o helynt y fro—
Ei hawddfyd a'i hadfyd er's blwyddi cyn co;
Ond nid yw ardaloedd yn cofio'u dyledion
I'w hên gymwynaswyr pan ddaw eu treialon.
Ai popeth ymlaen mewn gorfoledd mi wn,
Heb neb yn ystyried hên bobl Ty Crwn;
Ond nid ydyw Henaint yn colli ei ffordd
I dŷ neb pwy bynnag, a disgyn fel gordd
Wnaeth troed y gwr arfog ar riniog y drws
Fu'n dyst o helyntion yr hên fwthyn tlws.

Caledi arweiniodd Sion Pari ryw fore trwy rewwynt ac ôd,
I ddadleu ei hawl, nid ei dlodi, at swyddog goludog ei gôd;
Bu'r henwr a'i law ar olwynion yr ardal cyn geni y dyn,
Sydd heddiw trwy borth ei elusen yn gwadu'i ddyletswydd ei hun.
Troi'n ol i'r Ty Crwn at ei Elen a gafodd yng nghynnydd y dydd,
Heb ddim ond ei ddagrau yn loewon, ynghanol cymylau mor brudd;
Wrth gofio amseroedd addfwynach, ac wrth adolygu eu rhawd,
Ystyrient mor drist oedd wynebu y Diwedd yn hên ac yn dlawd.

Ond galwodd ryw ffrynd gydag awel y nawn
I edrych am danynt; peth rhyfedd iawn, iawn
Oedd gweld neb yn llwybro i'r bwth tan y graig
O fore hyd hwyr ond Sion Pari a'i wraig,
Darllenodd benodau eu hadfyd yn rhwydd, '
Doedd dim ond tylodi yn tremio'n ei ŵydd;
Ystyriodd mor chwith gan eu hunig fab, John,
Fai gweld ei rieni mewn adwy fel hon.

Oferedd yw oedi 'nhy adfyd, cychwynodd y cyfaill i ffwrdd,
Gan adael tystiolaeth o'i galon garedig ar ymyl y bwrdd;
Ymwelodd a Swyddog yr Undeb, anfonodd air bach dros y don,
(Mae awgrym yn ddigon i blentyn) ar wefus y fellten i John.
Trefnodd y Swyddog dreng cyn hir
I symud y ddau i Dyloty'r Sir;—
Eu symud yno mewn henaint gwyw,
I orffen marw, ac nid i fyw.
Symud y ddau o gynefin oes,
I roi eu hysgwyddau dan drymach croes;
Mae sarhad yn drymach na thlodi ei hun;
Nid pawb sydd yn cofio fod calon mewn dyn.

Daeth cysgodau'r noson olaf drostynt yn yr hen Dy Crwn,
Ni fu dau yn ceisio cysgu awr erioed dan drymach pwn,
Ond mae'r Nef yn rhoi ymwared yn adwyon cyfyng oes;
Gweddi daflodd borth agored iddynt hwy o dan eu croes.

Hawdd oedd deffro fore trannoeth,
Nid yw Ing yn cysgu'n drwm;
Edrych arnynt yn wylofus.
Wnai hen furiau'r bwthyn llwm.

Dacw gerbyd yn cyfeirio
At y llidiart, cerbyd hardd
Swyddog yr Elusen ydyw;
Nage! John sy'n dod trwy'r ardd;
Mae ei ddagrau yn aberoedd,
Ond cyhoedda megys cawr:—
"Duw a minnau gaiff eich gwarchod";
Wedi'r Weddi, daeth y Wawr.


CLOCH PEREDUR.

MEWN castell hardd yng Ngwynedd, yng nghyfnod gwaeau anfad,
Cartrefai Marchog gwrol a'i hawddgar ferch, Angharad;
Ychydig wyr dewisol warchodent ar y muriau,
Ond bylchio llawer catrawd ymffrostgar wnaeth eu saethau;
Bu'r son am Gastell Cilan yn arswyd i elynion,
A'r olwg ar ei furiau barlysai fraich a chalon.
Peredur gafodd gartref di-frad yng Nghastell Cilan,—
Y bachgen amddifadwyd o'i riaint mewn cyflafan;
Fel ysgafn gwch di-berchen, weddilliwyd gan y stormydd,
Arosai yn ei hafan gysgodol wawr a hwyrddydd.
Meibion boneddwyr ucheldras; meibion arglwyddi cyfoethog,
Ymbilient am galon Angharad; ond byddar i'w cais fu y Marchog;
Gwyddai Peredur gyfrinach y ferch fu yn fam i'r amddifad,
Gwyddai am drigias tywysog oedd frenin yng nghalon Angharad.
Gwyddai na fynnai y Marchog ei enwi, na deisyf ei lwyddiant,—
Gwyddai fod hwnnw yn ffyddlon, a'i air mor ddiogel a gwarant.
Gwyddai am ffordd i'w hysbysu yn gêl os byth deuai cyfyngder;
Gwyddai fod cyfle yn gwawrio drwy gaddug digofaint a phryder;
Disgwyl yn daer wnai Peredur, disgwyl yn daer wnai Angharad,
Am awr i gymodi y Marchog a'r gwr biodd gorsedd ei chariad.


Yn henaint y flwyddyn a'r gwyll dros y wlad,
Daeth llu yr uchelwyr i ddial sarhad
Y Marchog ystyfnig; 'rol sefyll yn daer
Dan bwys yr ymosod, fe syrthiodd y gaer.
 
Gorchmynodd Arglwyddi'r Cyffiniau bryd hyn
I ganu cloch y Mynachdy syn,
A phan dawai hon ei seiniau croew,
'Roedd y Marchog a'i ferch Angharad i farw.
 
Danfonodd Peredur yn gêl at Geraint i draethu eu trallod;
A dringodd trwy'r ddunos i'r tŵr rhag tewi o'r gloch cyn ei ddyfod.
Canai y gloch yn ddisaib heb neb wrth y rhaff yn egnio;
Crynai'r llofruddion gan fraw; rhy wan oedd y cryfaf i darro.
Tyngu yn groch wnai'r arglwyddi trahaus mewn ysbryd digllawn;
Ond canai y gloch yn y tŵr i oedi marwolaeth anghyfiawn.
Cyrhaeddodd Geraint a'i filwyr fel tonnau dan fflangell y corwynt;
Ysgubwyd y llu dialeddol i'w beddau fel crinddail gan hyrddwynt;
Estynodd y Marchog brawychus ei law a'i ferch i'w waredydd,
A dedwydd yng Nghastell Cilan fu'r ddeuddyn yng nghwmni ei gilydd.
Mae Cloch Peredur wrth ganu o hyd mewn Traddodiad a Rhamant,
Yn dweud fod y Da i orchfygu, a'r Drwg i gael gwobr ei Drachwant.


BREUDDWYD NOSWYL DEWI.

TRA Cwynai y noswynt fel alltud prudd,
Ymroddais i gysgu 'rol lludded y dydd.

Crwydrai 'nychymyg mor hoenus a'r gwynt,
Ond casglai i'w fynwes holl hanes ei hynt.

Ymdreuliodd yr hirnos, dilynnodd y wawr
Arosodd fy mreuddwyd, gwrandewch ef yn awr:—


Gyda chwmni balch eisteddwn
Mewn ystafell deg ei phryd,
A'r wynebau fel y blodau
Hyd y byrddau'n wenau i gyd;
Nid oedd yno siawns i Brinder
Ymlid hoen na tharfu hedd,
Nid oedd gennad i Ddifrifwch
Roi diflasdod ar y wledd.

Gwridai'r gwin mewn ffiol arian
Dawnsiai'r gân a'r araeth lefn,
Chwarddai'r cwmni gan ergydio'r
Byrddau droeon a thrachefn;
Er mor frwd oedd y cynulliad
Er mor swynol oedd y tant,
Methais glywed iaith fy nhadau,
Methais weled Dewi Sant.


Daeth cennad i'm cyrchu ar ysgafn droed;
Gadewais rialtwch y wledd yn ddioed,
Wynebais y gwynt a'r tywyllwch heb fraw,
A'r gennad yn gafael yn dynn yn fy llaw.
Cyrhaeddais ar waethaf y dymestl gref,
I Gartre'r Amddifaid tuallan i'r dref,—
Cyrhaeddais bryd Swper, ac O! mor ddi-stwr
Ac addfwyn oedd pawb gyda'u bara a'u dwr.


Nid oedd blodau na danteithion
Hyd y byrddau ger fy mron,
Nid oedd win i lonni'r galon
Ysig, drwy'r ystafell hon;
Nid oedd yno amledd doniau,
Na mursendod estron aeg;
Dim ond plant y Gorthrymderau'n
"Gofyn bendith" yn Gymraeg.

Clywais fiwsig hen Emynau
Cymru'n disgyn ar fy nghlyw,
A thaerineb y gweddiau
Sydd yn medru'r ffordd at Dduw;
Crefydd yn ei gwisg naturiol
Siriol wenai ar y plant,
Yno'n ysbryd ymaberthol
Cyfarfum â Dewi Sant.


Cwmni'r wledd yn fawr eu hafiaeth gawsant un-nos siriol wedd,
Cefais innau weledigaeth sydd yn aros wedi'r wledd;
Pan ddeffroais, mwyn yw cofio, teimlais yn fy ysbryd chwant
Byw yn deilwng o'r gwir Gymro, wedi 'nabod Dewi Sant.


DWY DEYRNAS.

 
DAETH henwгr, o fro y cysgodau, drwy Gymru'n ddiweddar ar daith,
Ymryson wnai cymysg deimladau yn nyfnder ei lygaid llaith.
Cerddodd drwy bentref ei faboed, y pentref oedd weithian yn dref;
Ymholodd yn daer am ei gyfoed, heb undyn yn ystyr ei lef.
Cyfeiriodd at borth ei hen gartref; ond porth yn agored ni cha'dd,
A theimlo'r dieithrwch fel hunllef wnai'r henwr cyffredin ei radd.
Siglodd y dderwen ei breichiau, dawnsiodd y ffrwd ar ei thaith,
A syllodd y clawdd dan ei greithiau ar rywun fu drosto sawl gwaith;
Dyna fu croesaw yr henwr o wyll y cysgodau i'w fro,
A chrinddail yr Hydref yn bentwr fu iddo'n esmwyth-fainc am dro.


Daeth heibio ddyn ieuanc, a holodd ei hynt
Gan sefyll yn deg rhwng yr henwr a'r gwynt;
Deallodd mor gynnar ar hanes y fro
Y bu'r hen bererin o'r blaen ar ei dro,
A soniodd am gamre pob Dyfais a Gwybod
Nes tarro'r ymwelydd a dwys syfrdandod.
"Chwi glywsoch, ond odid," ebe'r llanc teg ei wawr, "
Fod eich pentref bach, llwyd, yn gorfforaeth yn awr;
A mangre yr aelwyd, lle y siglwyd eich crud,
Yn gyfle i'r ieuainc i ddyfod ynghyd
I ganu a dawnsio. Mae'r cae fu yn dyst
O gewri'r Pwlpudau yn awr dan y flyst,
Yn cael ei lefelu i deulu'r Bel Droed;—
Gweinydda'r oes hon i gyfreidiau pob oed.

Bydd yn syn gennych glywed, ond gwir yw y gair,
Fod pobl yn awr yn cael Prisiau y Ffair
O Lundain a Pharis, heb lythyr na dim,
Heb son am bellebyr sy'n gymaint mwy chwim;
A chwmni fin nos, o'u gofalon yn rhydd,
Yn eistedd i wrando Cyngherddau Caerdydd
Yn eithaf y gogledd fel yma;—wrth son,
Dacw long drwy yr awyr ym mynd am Sir Fon
Heb ddŵr odditani, na hwyliau ar daen;
Ni chlywsoch, mae'n siwr, am y fath beth o'r blaen.
Bydd y glas uwch ein pennau mor boblog cyn hir
A'r ddaear o danom; terfynnau pob Sir
A dderfydd am danynt yn llwyr yn y man
Heb Ogledd na De, heb na Chapel na Llan
I rannu'r boblogaeth; mae'r deyrnas, fy ffrynd,
Yn myned ar gynnydd, a ninnau yn mynd
I ganlyn yr oes sydd a'i chamre mor fras
A'r seren wib welwch yn croesi y glas."

Rhy brin yw fy hamdden i son wrthych chwi
Am longau, o bellter pegynnau y lli,
Yn siarad a'i gilydd dros ymchwydd y don,
Mewn drycin a hindda, yn lleddf ac yn llon;
Mae popeth yn edrych ymlaen fy hen ffrynd,
A'r deyrnas ar gynnydd; mae'n rhaid i mi fynd
Cyn cyffwrdd ond ymyl gwisg cyfnod sy'n llawn
O bob rhyfeddodau, na roddwyd y ddawn
I mi i'w darlunio." Siaradodd yr henwr
A chrinddail yr Hydref o dano yn bentwr;—

"Gwrandewais yn daer ar eich stori lefn;
A cheisiais ar dryblith fy meddwl wneud trefn;
Ond cyn ymwahanu, chwychwi dros y ddôl,
A minnau i fro y cysgodau yn ol;—
Cydnabod y cynnydd ddymunaf yn rhwydd,
Ac edrych yn llawen ar fesur eich llwydd;
Ond a fedrwch chwi ddweud wrth gythryblus fron,
Faint o Deyrnas Dduw sy'n y deyrnas hon?


Bro Fy Mebyd.




Testun y Goron yn

Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli, 1925


Beirniaid:

ELFED, EMYR, A CHYNAN.




Gan "HYDREF."




"BRO FY MEBYD."

I.

PABELLA niwl oer ar y bryniau,
A'r hwyr ar y gorwel sy'n llercian;
Mae 'ngwallt fel cnu'r ddafad, a rhychau.
Ar ddeurudd fu'n llyfnach na'r sidan.
Tywylla'r ffenestri fu unwaith
Mor oleu a'r wawrddydd las-lygad;
A mud ydyw telyn fy ngobaith,
Ar adfail pob castell a bwriad.
Cyneddfau y cefais eu cwmni
Cyhyd sydd yn cilio'n llechwraidd;
A murddyn yn dadleu ei dlodi
Yw'r corff welwyd unwaith yn llathraidd;
Ond erys un gân heb ei chanu
Yn nyfnder fy enaid pruddglwyfus,—
Y gân sy'n fwy effro wrth nesu
At fangre hûn ola'r blinderus.
Ni bydd namyn lili ar weryd,
Neu ddeilen ar foncyff fo'n pydru;
Ond canaf ar dant Bro fy Mebyd,
Y gân fu cyhyd heb ei chanu.
 
Cynefin yr awel a'r heulwen
Yw'r Cwm lle y'm ganed i,
Ac adar cerdd ar bob cangen
Drwy'r flwyddyn a'u cathlau yn ffri;
Ni welais i aeaf yno
Yn rhuthro dros fryniau mud,
Tarïa yr haf yn fy atgo;
Mae mebyd yn haf ar ei hyd.

Cysgu mewn gwregys o fryniau
Yn llygad yr haul wna y Cwm,

A'r afon yn rhannu ei pherlau
Heb ddannod hyd erwau mor llwm;
Bu'r Moelwyn a'r afon yn ymliw
A'i gilydd ar lafar v fro,
A chadwodd hen brydydd yr edliw
Ar dreigl drwy lysoedd y co':—

"Igam, ogam, ble'r ei di?"
"Y moel ei ben nis gwaeth i ti; "
"Cynt tyf gwallt ar fy nghoryn i
Nag yr unionir dy lwybrau ceimion di."

Fel priflys Traddodiad a Rhamant
Dadleua pob mynydd ei hawl;
A gwynnach nag ewyn y gornant
Yw llif yr ymryson di-dawl;
Daw'r Cnicht, er mor brin ei amgylchedd
Am fawredd y talaf i'r cylch;—
Y mynydd, ar waethaf ei uthredd
A dagrau y wawrddydd ymylch,

Yr Arddu, fel cefndir Cwm Croesor,
Gyflwyna ei hachos yn glir,
Ymffrostia yn hanes "y trysor"
A gadwodd mewn ogof mor hir;
Mae'r "cawr" wedi gadael y bryniau,
A'r hen Grochan Aur fyth yn gêl;
Nid oes ar gyfrinach canrifau
Wr parod i ddatod y sel.

Am warchod dros feddau'r Rhufeiniaid
Sy'n wrymiau ar fynwes y waun,
Daw'r Foel i'r ymdrafod ar amnaid
Y grug sydd yn achub ei graen;
Cynhadledd y bryniau yw'r eiddynt,—
Cynhadledd heb ddigter na chas,
A'r awel a'r heulwen drwy'r helynt
Yn cadw'r ffurfafen yn las.


Dacw'r fawnog rhwng y bryniau
Megis mynwent dywyll, brudd,
Swn galareb drwy'r cysgodau
Llethol yn tramwyo sydd;
Nid oes gyffro yn y pyllau
Swrth, na'r rhes toriadau syth;
Ond mae cludwyr y cawellau
Heddiw'n cysgu'n drymach fyth!

Dagrau sydd yn llais yr awel
Ddrylliog drwy'r gororau hyn,
Hanes bore Bwlch y Fatel[1]
Gyffry fron breuddwydiol fryn;
Glewion cynnar sydd yn huno
Dan fy nhraed o glawdd i ffos;
Ond eu hysbryd bery'n effro
I flodeuo fel y rhos.

Dilyn llwybyr cul y ddafad
Wnaf o gaer i furddyn llwyd,
Gyda deigryn yn fy llygad,
A fy mron yn fflam o nwyd;
Nid yw'r ffordd ond cyfle ffrydiau
Y mynyddoedd ar eu hynt,—
Ffrydiau galar ydynt hwythau
Am y gwyr fu ddewrion gynt.

Meini segur sydd yn wylo
Yn y cysgod dros y clawdd;
Galw'r gweithwyr mwyach yno,
Nid yw'r dasg i neb yn hawdd;
Saib ar daith dan lasiad gwawrddydd
Gawsant lawer bore Llun,
Ac awelon iach y mynydd
A'u telynau yn gytun.


Gwag yw'r lluest, noeth yw'r meini
Dan y tes a'r gafod oer;
Nid oes neb na dim yn sylwi
Arnynt, ond yr haul a'r lloer;
Poen yw gweled Pen-y-Golwg
Mor ddi-arddel yn parhau;
Nid oes namyn cenn ac iorwg
Wrth y meini'n trugarhau.

Ffynnon Elen sydd yn gwenu
Drwy ei chwsg wrth droed y rhiw,
Tywysoges deg fu'n plygu
Ar ei min, a'i bron yn friw;
Pan ddeallodd ladd ei bachgen
Yn y Bwlch, dyrchafodd gri
Na ostega byth yn acen
Enw'r fro,—"Croes Awr i mi."

Mwyn i mi fu'r daith i'r ffynnon
Gyda'r plant ag ysgafn gol,
Cyn i gyfnod aur breuddwydion
Fynd, i beidio dod yn ol;
Yn ei bordor gwyrdd o fwsog
Hawdd yw syllu arni hi
Gyda chred plentyndod serchog
Ei bod yn fy 'nabod i!

Cam ac eiddil yw y byrgoed
Fethant ddeilio ar ei phwys,
Fel pe'n cofio am fy nghyfoed
I a hwythau,—gofio dwys;
Ni ddaw dyddiau'r hen flynyddoedd
Byth yn ol er gwg na gwên.
Bro fy Mebyd, yswaetheroedd,
Sydd fel finnau'n mynd yn hen.


Croesaf y gamfa, a brig y Maen Bras,
Wynebaf adfeilion Ty Newydd, Cae Glas,
Ty newydd a hen ydoedd hwn cyn i 'nhaid
Roi llechi i'w doi yn lle crinwellt a llaid.
Ei weld yn gyfannedd a wnaf, er mor freg
Yw muriau y bwthyn fu unwaith yn deg;
A gormod o orchest i ddanadl na drain,
Yw cuddio'r gogoniant fu gynneu mor gain.

Mae'r graig "dros ei sawdl " yn taflu yn hy,
Er mwyn rhoi ei chysgod i gefn yr hen dy;
A'r fagwyr o'i flaen mor herfeiddiol ei threm,
Nes dychryn y corwynt a'r gafod oer lem.
Mae'r gwrych wrth ei dalcen, er tyfu'n ddi—lun,
Yn talu yr ardreth a'i bersawr ei hun;
A llwybrau yr ardd wedi glasu er's tro,
Fel cangau yr helyg a'r haf yn y fro.
Efeilliaid yw'r bwthyn a'r beudy o hyd,
A'r naill ar y llall yn ymorffwys yn glyd;
Cysurant ei gilydd o hwyrnos i wawr
A deryn y mynydd yw'r unig wrandawr;
Cofleidiaf y muriau, a thaflaf fy mhwn
I lawr; castell clyd Bro fy Mebyd yw hwn.

Mae ffenestr y siamber fach weithian yn ddellt,
A mil o belydrau ar dreigl fel mellt
O bared i bared; edrychais drwy hon
A'r haul fel diferlif o aur ar y don,
Ar longau yn croesi y Bar ar eu hynt,
A'u hwyliau yn falch o gymwynas y gwynt.
Gorweddai hen Forfa Llanfrothen mewn tarth,
Fel ysbryd awyddus i guddio ei warth;
A'r môr yn y pellter, fel dyfnder ar daith,
Heb neb ond ei Grewr yn deall ei iaith.

Gollyngais fy enaid dros fryniau a choed
I ddilyn y llongau, a'r Cwm dan fy nhroed

Mewn breuddwyd di-gyffro;—mae rhan wedi mynd
I beidio dychwelyd am Borthladd a Ffrynd
Bu fwyn y mordwyo; inae'r ymchwil o hyd
Yn swyno fy enaid wrth gadw ei hud;
A minnau yn beiddio pob tymestl gref
Gan ddisgwyl am hafan ddymunol y nef;
Nid oedd mynwent Ramoth na mynwent y Llan
Yn cyfrif bryd hwnnw: am gilfach a glan
Cyfeiriwn, tuhwnt i orwelion y Cwm,
Mewn gwregys o fryniau a gysgai yn drwm.
Aneddau gwyngalchog, gwasgarog, sy'n rhoi
Cyfaredd i'r llethrau gyferbyn; ymdroi
Wna swyn bywyd gwledig o fuarth i glos,
Ym merw y dydd a distawrwydd y nos.
Mae'r dwylaw fu'n pwytho y muriau yn wyw,
Hiraethu yn gêl a wna'r awel a'r yw
Ar gyfyl eu beddau,—y beddau nad oes
A'u hedwyn yn awr; nid yw'r angof yn loes
I neb ond y byw, ant i mewn ar eu taith
I lafur y tadau heb arddel eu gwaith.

Daeth ysbryd anturiaeth yn fore i'r Cwm,
Ar lechwedd a gweirglodd fe sangodd yn drwm.
Bu'n cloddio yn ddiwyd drwy lasfron a bryn,
Heb ddim ond ei fwg a'i gynddaredd yn wyn.
Dwed pob olwyn segur yn ddyfal er's tro,
Fod Siom wedi dilyn Anturiaeth i'r fro;
A thystia pob tomen sy'n glasu drwy'i hûn
Na chrogir pob allwedd wrth wregys brau dyn.
O'r Moelwyn i Lidiart yr Arian, traidd llef—
Llef ddistaw, fain, yw ddwed fod Duw yn y nef!


Anafu tangnefedd y fro
Ni fynnai na chyffro na gelyn;
Os deuai ymwelydd ar dro
Gofalai fod cân ar ei delyn;

Ar gylchdro mi welais yn dod
Bererin masnachol mewn lludded,
A champwaith pob celf is y rhod
Yn llechu dan gaead ei fasged.

Cyfnewid ei gelfi am fwyd
Wnai weithiau er 'sgafned ei logell;
Ond trefnai i "osod" ei rwyd
Os gwelai fod naid ar y draethell;
Er gwrando ei stori bob gair
Awyddai y teulu am ragor,
Gan gredu fod popeth yn aur
Os byddai yn felyn neu borffor!

Eisteddai wrth danllwyth o fawn,
Ni chredai mewn brys nac mewn ffwdan,
Os byddai y fasged yn llawn
Arhosai yn hir cyn mynd allan;
Gadawai ei fendith ar ol,
A phictiwr neu ddau ar y pared,
A ninnau yn ddoeth ac yn ffol
Yn canmol trysorau y fasged!


Cofiaf un arall, anhepgor y plwy',
Cofiaf ei ddisgwyl am fisoedd a mwy;
Cofiaf ei weld yn cyfeirio drwy'r coed,
A llawer addewid yn sarn dan ei droed.

Main oedd ei goesau a chrwm oedd ei gefn,
A'i gôb fel ei dafod yn llaith ac yn llefn,
Ni phallai ei gamre dan glud oedd yn drwm,
A chraffai fel barcud i giliau y Cwm.

Llwyd oedd ei ddeurudd a theneu ei law,
A'i farf fel cen cerrig ar encil y glaw;
Ond croesaw arhosai Eliasar ar dro,
'Roedd marchog y nodwydd yn frenin trwy'r fro.


Symudai fy mam megis ewig ddi-dwrdd,
Wrth gyrchu y brethyn lliw barrug i'r bwrdd,
Os byddai rhaid atal yr awrlais rhag dweud
Mesurau'r amseroedd, 'doedd ddewis ond gwneud!

'Roedd Labwt y teiliwr hamddenol ei fyd
Yn bren gwaharddedig i'r teulu i gyd;
A chyffwrdd a'r Bodcin, er nad oedd ond darn,
Heb son am Gŵyr Melyn, oedd cellwair a barn.

Bu'n dod am flynyddoedd ar gylchdaith trwy'r fro,
A chwith fu ei golli; mi gofiaf y tro
Diweddaf y croesodd dros riniog y ddor,
A'i ddeurudd dan ddagrau mil halltach na'r môr.

Ei lais oedd yn ddrylliog, a byr oedd ei gam;
Gadawodd ei gelfi yng ngofal fy mam:
Ni alwodd am danynt o daith oedd mor bell,
Cadd wisg ddi-wniad, a gwaith llawer gwell.


Diwrnod mawr rhwng bryniau Croesor
Ydoedd hwnnw, mwyn yw sôn,
Pan ollyngid o'r Ynysfor
Lu'r bytheuaid lleddf eu tôn;
Idlio atsain wnai pob bryncyn,
Codai'r fro ar lanw'r swn;
Braidd na chredem fod Llewelyn
Eto'n galw ar ei gŵn!

Cyniweirient drwy rigolau
Y mynyddoedd ar eu hynt;
Gan arswydo'u cyfarthiadau
Wylo wnai pob awel wynt;
Ni waherddid iddynt darfu'r
Defaid ofnus ar y twyn,
Ni waherddid iddynt sangu'r
Borfa fras, yr ardd, na'r llwyn.


Treiglai'r sain o gorn yr "helsmon
I bob cilfach yn y fro,
Troi yn unfryd i'r ymryson
Oedd y ddefod er cyn co';
Gadael offer gwaith, a gadael
Maes a mawnog wnai pob gwr,
Fel 'rai'r tadau i'r ymrafael
Gynt, dan luman cad Glyndwr.

Treiddiai'r cyffro dan bileri
Creigiau fu ynghwsg yn hir;
A phob agen rwth yn holi
Cwrs y gwewyr rwygai'r tir;
Methai'r cadno fod yn ddiddig
Yn naeargell Blaen y Cwm,
Arogleuai waed-sychedig
Elyn, drwy y terfysg trwm.

Dewis gadael ei ymguddfa
Fel ysbeilydd euog wnai;
Megis lluched ar ei hedfa
Holltai'r awyr ffordd yr âi;
Cŵn a dynion ar ei warthaf
Ruthrai weithian yn ddi-rol,
A'r hen Gwm o'i wely cuaf
Bron a chychwyn ar eu hol!

Rhagddo'n llyfn âi'r cadno gwisgi
Gan ddileu pellterau'n llwyr,
A "Chadernid yr Eryri "
Fyddai'i noddfa cyn yr hwyr;
I genelau yr Ynysfor
Ai'r bytheuaid llesg yn llu,
A do'i cwmni blin i Groesor
I freuddwydio am a fu!


Aros adref fel y bryniau.
Ydoedd rheol y preswylwyr;
Nid oedd twrf na chyffroadau
A'r hen ardal ond ymwelwyr;
Cyfrif arnynt gyda'r wawrddydd
Oedd ddiogel dyddiau'r flwyddyn;
Cyfrif arnynt ar ddiwedydd
Am orffwysdra yn ymofyn.

Unwaith yn y pedwar tymor
Y digwyddai ymadawiad
Mawr, ynghanol gwlad sy'n rhagor
Na dychymyg awen afrad;
Diwrnod Ffair Beddgelert welai
Fro fy Mebyd heb breswylydd,
Gosteg llethol a deyrnasai
Arno'i hun o faes i fynydd.

Drwy'r tawelwch ni symudai
Ond yr afon lefn, hamddenol;
Nid oedd floedd na bref ymyrai
A'r "distawrwydd dwys, ystyriol,"
Drach ei gefn, y Cwm ei hunan
Daflai lawer trem hiraethus,
Ac "ochenaid enaid anian "
Weithiau'n dianc dros ei wefus.

Buarth gweddw, cunnog segur
Ar ei gilydd syllai'n brudd;
Peidio wnai curiadau llafur
Er eu dycned, am y dydd;
Nid oedd droell o fwg yn esgyn
O un simdde yn y fro,—
Bywyd wedi rhoi ei delyn
Ar yr helyg am y tro.


Deuai'r nawn yn llwyd i chwilio
Am y tadau, am y plant;
Ond ni chlywai fwyn ymgomio,
Na thaerineb gweddi sant;
Cyrchai'r gwartheg i'w cynefin
Cyn i'r wybren wisgo'i ser;
Ond ni ddeuai'r llaeth ferch ddiflin
Gyda'i stên a'i halaw ber.

Estyn oriau, ymhob teimlad,
At y dydd a drengai'n llwm,
Wnai brwdfrydedd y dychweliad
I gilfachau hen y Cwm;
Oedai'r afon ar y gwastad,
Gwyrai'r bryniau noswyl Fair,
Rhag cyfrgolli sill o brofiad
Hen ac ifanc yn y Ffair.

Gwridai'r llwybrau dan lanternau
Pererinion ysgafn fron,
Gan eu braw symudai'r cloddiau
Fel cysgodau ar y don;
Newydd ddydd wasgarai'r hwyrnos;
Gwên a ddiorseddai ŵg,
A'r direidi fel pe'n annos
Draw am byth bob ysbryd drwg.

Ffurfafennau heb gymylau
Oedd llechweddau'r fro bryd hyn,
Gyda ser, yn ol eu graddau,
Yn disgleirio ar bob bryn;
Wedi adfer trefn a dosbarth,
Wedi gwahodd tangnef llwyr,
Nid oedd gi ryfvgai gyfarth
I anafu hedd yr hwyr!


II.


Ymyl gwisg y fro gyffyrddais,
Heb glych aur wrth honno'n crogi;
Ond 'roedd bywyd nas darluniais.
Yn y Cwm fel dwyfol asbri;
Nid yw hwnnw yn heneiddio
Fel y tai a'r coed a'r bryniau;
Anfarwoldeb sydd yn llifo
Drwy ei wên yn nhranc blynyddau.

Am awyrgylch y Ty Newydd
Diolch wnaf dan Goed yr Hydref;
Er bod ysbryd yr ystormydd
Heddiw'n dawnsio drwy fy hendref;
Crud yr Ysgol Sul yng Nghroesor
Siglwyd ar ei aelwyd erom;
Aeth ei bendith i bob goror
Gyda theulu Obededom.

Cyrchai saint y creigdir yno
Hyd y llwybrau bras a cheimion,
Fel aberoedd yn cyfeirio'n
Wyn gan hiraeth, am yr eigion;
Heb wneud cyfrif o'r milltiroedd
Cerdded wnaent drwy des a drycin,
I gael profi bara'r nefoedd
Yn gytun wrth Fwrdd y Brenin.

Deuai'r meinciau, heb eu cyffwrdd
Bron, o'r daflod i'r Gwasanaeth;
Peidiai'r fuches flith a'i dadwrdd,
Tawai'r clochdar trwy'r gymdogaeth;
Gwenai'r blodau'n bwysi clysion
Wrth y drws rhwng llwyni'r lafant;
Oddimewn 'roedd Rhosyn Saron
Yn Ei wisgoedd o ogoniant.

Crwydrai awel hafddydd ara'
Tua'r fan fel rhiain ffri
Deuai "Awel o Galfaria"
Yno i'w chyfarfod hi;
Nef a daear a ymunent
Yn yr emyn syml, glan,
A'r teimladau brwd gyfeilient

Heb gydnabod deddfau cân.
Perarogli fel y nardus
Ar awelon atgo wna
Gweddi llawer sant oedrannus,
Fyth yn ieuanc a barha:
I'r Ty Newydd mewn gogoniant
Clywir moliant torf ddi-daw;
Cadarn sylfaen yno gawsant
Dan y "Ty nid o waith llaw."


Bu'r eglwys heb demel yn hir yn y fro,
O'sgubor i 'sgubor fe dreiglai ar dro;
Ond llosgai y fflam ar allorau di—lun,
I ddangos y Dwyfol a chuddio y dyn.

Benthyca adeilad gyfrifid yn fraint,
Er mwyn rhoddi swcwr i ysbryd y saint,
Ni theimlai'r ffyddloniaid mewn tlodi yn drist,
Can's crud a bedd benthyg fu cyfran y Crist.

Cynulliad cymysgryw, 'does undyn a wad,
Ga'dd llawer pregethwr rhwng bryniau ein gwlad;
Y bobl a'r cŵn ger ei fron ar y gwellt
A'r gwartheg synedig yn rhythu drwy'r dellt.

'Roedd mangre yr oedfa, fel mangre yr Arch,
Yn hawlio amddiffyn, defosiwn, a pharch;
Mae'r cysgod yn aros, er addef o'r fro,
Fod llwybrau y fenn wedi glasu ers tro.


Ar Fryn y Gelynen ni thawodd y tant,
Er cefnu o'r eglwys fu'n llawen fam plant;
A thros Fwlch y Llaindir yr awel a chwyth,—
Yr awel na phaid ei pherarogl byth.

Mwsogli yn drwm a wna tô Pen yr Allt,
A'r adar yn nythu bob haf yn ei wallt;
Pereiddiach na chân adar llwyni fu swyn
Emynau y saint yn y bwthyn tô brwyn.

Mor fwyn oedd cael dilyn telynau Rhad Ras,
Ar hafddydd mor felyn, dan wybren mor las;
Ai popeth yn ieuanc yn llewych y tân
Lwyr losgodd fy henfro i'w chadw yn lân.

I Gapel y Ceunant, heb bryder am firynd,
A'r Sul yn ei febyd, mor hyfryd oedd mynd;
Teyrnasai rhyw osteg o gastell i graig,
Heb ddim yn ei dorri ond rhuad yr aig.

Disgleiriai y gwlith ar y blodau a'r dail,
Fel cawod o berlau yn llygad yr haul,
A pherlau profiadau y saint ar eu taith
Heb golli eu gwrid na'u cyfaredd ychwaith.

Cyrhaeddent i Elim heb deimlo yn flin,—
I fro a'i ffynhonnau yn llaeth ac yn win,
A llwybrau y Gwernydd yn wynion o'u hol
Fel llwybrau eu bywyd, dros lechwedd a dôl.
 
Gair Duw yn Ei gread oedd iddynt yn falm,
Cyn clywed Ei lais yn y Bregeth a'r Salm;
Ymunent ym moliant y gornant a'r ffrwd
Cyn cwrdd Pantycelyn a'i emyn yn frwd.

Yn ysbryd y Sabath, gorchfygu y byd
Wnaent hwy yn ei gastell ei hunan, a mud

Oedd popeth na fynnai ymuno a'r Côr
Yng ngherdd y Goruchaf o fynydd i fôr.

Mor weddaidd oedd traed hen fforddolion fy mro
Ar daith tua Seion; wrth fyned ar dro
Ar hyd yr hen lwybrau, daw Mebyd yn ôl,
A thelyn y plentyn yn canu'n ei gôl.

 
Cynghanedd esmwyth oedd bywyd
O hafod i gilfach lwyd;
Ni chlywais i seiniau anhyfryd
Yn son am ddialedd a nwyd:
Bodlon oedd pawb ar ei gyfran,
A digon i bawb oedd ei le,
A'r wybren yn las uwch y cyfan
Awgrymai fodlonrwydd y ne'.

Ryw hamdden mawreddog ei anian
Deyrnasai yn addfwyn ddi—ball;
Heb ruthro i mewn na mynd allan,
Na swn gorfoleddu mewn gwall;
Y byd fel gorymdaith gynhyrfus
Symudai'n y pellter yn drwm,
Ond llanw'i helyntoedd digofus
Ni thorrai dros greigiau y Cwm.

Y Bywyd Cymreig yn ei symledd
Diedwin oedd yno, a Duw
Yn edrych i lawr drwy'r taweledd
Ar rinwedd di-hanes yn byw;
Ni chwythai awelon gwenwynig
Dros gorsydd llygredig i'r lle,
Ni feiddiai ysbrydion dieflig
Babellu mor agos i'r ne'.

Bwyd iach oedd yn addurn i'r byrddau
Yn nidwyll geginau y fro;

Bwyd iach oedd ar estyll y llyfrau,
A digon i fyw arno fo;
Nid rhuthro drwy gyfrol yn wallgo'
Oedd arfer y tadau fin hwyr;
Ymborthent ar lyfr nes ei dreulio,
A chael ei gynhaliaeth yn llwyr.

Ysbrydion dadleuon y "Pynciau"
Arosant o gyfnos i wawr,
Ar adfail corlannau'r mynyddau
Gan wylo am nad oes wrandawr;
Mae Gefail y Cwm yn eu disgwyl,
A'r fegin yn segur ers tro;
Disgleiriach na'r tân lawer noswyl
Fu'r ddadl ar lafar y fro.

Grawn addfed oedd ar y llawr dyrnu
Dan ffyst yr hen dadau fu gynt,
Mor frwd oedd y nithio bryd hynny,
Yr us ai i ganlyn y gwynt;
Y grawn droes yn wrid i gyfnodau,
Ond enwau y tadau ni chaf,
Heb gerdded yn ddwys rhwng y beddau,—
Delynor amddifad yr haf.


Wrth fyned ymhellach 'rwy'n dyfod yn nes
I wynfyd fy mebyd, a theimlaf ei des
Yn gwasgar yr oerni fu'n gwarchae mor hir,
Ar babell oedd fregus mewn dieithyr dir.
Ym mywyd y fro adnewyddu a wnaf
Yr hudol ieuenctid a gollais; daw'r haf
Fu'n alltud yn hir, i fy ysbryd yn ol,
Ym murmur yr afon a glesni v ddôl;
A theimlaf y bryniau cymdogol fel cynt,
Yn gysgod rhag difrod y gafod a'r gwynt.

Gadawaf y llaid, gweddill stormydd y byd,
A gesglais wrth grwydro'n afradlon cyhyd,—
Gadawaf yr ewyn fu'n sarrug ei sen,
Ond cymaint o'i liw sy'n gaeafu fy mhen;
Gadawaf y brwydrau a'r cyffro di—rol
Wrth ddychwel i wynfyd fy mebyd yn ol.
Dychwelaf yn llwm fel y troais fy nghefn
Er mwyn cael a gollais yn feddiant drachefn.
Hawddamor awyrgylch falm dawel y tir
Adfywia yr angel newynais mor hir;
Hawddamor y fro na freuddwydiodd am fri;
Bum alltud ymhobman tu faes iddi hi.

Rwy'n byw, nid yn bod, yn ei symledd a'i swyn,
A 'nghan fel y gôg pan fo gwyrddlas y llwyn.
Mae'r llwybrau caregog yn esmwyth i gyd,
Wrth gerdded i mewn i'r Baradwys fu'n fud
I blentyn gaethgludwyd drwy ddŵr a thrwy dân,
A'i ddwylaw a'i delyn yn hir ar wahan.
Os bu'r ymadawiad yn ddolur i mi,
Hyd lwybrau'r dychweliad mae prennau diri
Yn tyfu, a'u dail yn iachau f'ysig fron;—
Gilead y galon amddifad yw hon.

Daw'r hen ddymuniadau fel chwaon drwy'r coed,
A'u lleisiau mor beraidd yn awr ag erioed.
Maent hwy wedi cadw'u dechreuad yn bur
Dan wlith diniweidrwydd fy mebyd di—gur.
Breuddwydiaf freuddwydion y bore drachefn,
A'r haul ar y bryniau a'r awel yn llefn.
Daw pob gweledigaeth ar fynydd a dol
Heb golli eu dwyfol gyfaredd yn ol;
A finnau yn ieuanc dan fedydd y gwlith
Sy'n aros yn goron ar fywyd di-rith.

Tarïaf yng nghysgod y Moelwyn a'r Foel,
Tra'r Arddu a'r Cnicht megis dwy anferth hoel

Ym mhared yr ardal, i grogi'r las nen
Groesawa y wawr mewn sidanwisg mor wen!
A theimlaf belydrau yr haul ar fy ngrudd
Mor fwyn a chusannau awelon y dydd;
Ac ni ddaw ymachlud fin hwyr heb ei wrid,—
Gwrid tyner y rhosyn a'r plentyn di—lid,
A chysgu yn effro bob nos gaf yn nhref,—
Ynghwsg i bob gwae, ac yn effro i bob nef.

Mae'r bobl yn ieuanc wrth fyned yn hen
Yn awyr cymdogaeth mor onest ei gwên;
Ac ysbryd bachgennyn, yr ysbryd sy' o Dduw
Yw ysbryd hynafgwr heb flino yn byw.
Mae'r fam megis rhiain, mor ysgafn ei throed
A'r awel ieuengaf fu'n cellwair a'r coed,
A Natur fel duwies ym mebyd y dydd
Heb wae yn ei mynwes, na gwg ar ei grudd.
O'm tramawr ddisberod, yn ol atynt hwy
Mor hyfryd yw dychwel ar waetha pob clwy'.
Os croeswyd y Cwm gan angladdau ar daith
I'r fynwent lle nad oes dychymyg na gwaith,
Nid erys eu creithiau ar aelwyd na ffridd
I lygad all dreiddio at fywyd drwy'r pridd;
Mae'r cyfan yn aros i mi megis cynt,
A'r awel a'r heulwen yn dilyn eu hynt
O fawnog i fuarth, dros lechwedd a chlos
Dan lasiad y bore a dyfnwrid y nos;
Mae'r cwmni yn gyfan, a chyrrau fy mro
Yn ddawns orfoleddus, a thristwch ar ffo.
 
'Rwy'n byw yn syniadau fy mebyd, a chân
Yn cadw fy ngwefus a'm calon yn lân.
Lliw'r bore ar asgell pob syniad tlws sydd,
A'r gwlith heb ymadael drwy gydol y dydd.
Yn sibrwd pob awel a gweddi pob sant
Erglywaf wahoddiad i nefoedd y plant.

Bum yno yn byw cyn adnabod y byd,
Ac nid aeth yr hiraeth am dani yn fud.
Ar dant y dyhead orchfyga bob clwy'
Doi miwsig y gân na ostega byth mwy.
Heb glud i greu rhwystrau, heb bryder na phoen,
Ymdrwsia fy enaid gan gymaint ei hoen,
I ddilyn y rhan "a gychwynodd ers tro
Wrth weled y llongau, o fryniau'r hen fro
Yn croesi y Bar dan gymwynas y gwynt,
Am hafan Bro Tes;—traethu hanes eu hynt
Ni roddwyd i mi, na fy hanes fy hun,
Ar ol i'r bachgennyn orchfygu y dyn! '
Rwy'n byw goruchafiaeth wrth farw i'r byd,
A'r Tir Pell yn dod yn agosach o hyd;
Mae persawr ei flodau a mwynder ei ha'
Fel alaw hudolus ar wefus pob chwa;
A minnau'n mordwyo o Groesor i'w gwrdd
Heb golli fy mebyd wrth fyned i ffwrdd.


Dameg dlos ar ddechreu cyfrol
Lwyr eglurir hwnt i'r llen,
Oedd fy mebyd cyfareddol
Ym mro decaf Cymru Wen;
Wrth ymdroi ymhlith y blodau
Clywais leisiau dros y lli,
Yn gwahodd i well ardalau,—
Dyna fro fy mebyd i.

"Dechreu canu, dechreu canmol "
Gefais mewn awyrgylch ber,
Nes i wawr y Byd Tragwyddol
Lifo'n ddydd dros draeth y ser;
Gweld mewn drych ogoniant bywyd
Bery byth dan ddwyfol fri:—
Bro'r sylweddau difrycheulyd,
Dyna fro fy mebyd i.


Cysgod y daionus bethau
Ydoedd goreu f'ardal dlos, Brofai'n
Gosen ym myd barnau,
Ac yn ddydd ar hyd y nos;
Tir y grawnwin a'r pomgranad
Swynai f'enaid, ni bu nghri
Ond dyhead am fynediad
Llawn i fro fy mebyd i.

Porth y nefoedd fydd Cwm Croesor
Pan ddaw'r alwad yn y man,
Yno ces feddiannu'r Trysor
Bâr im sefyll yn fy rhan;
Cefais olew yn fy llusern
I fynd adref dros y lli',
Wedi dianc ar bob uffern,—
Dyna fro fy mebyd i.

Bydd y Cwm yn rhan o'r canu
Gorfoleddus ddydd a ddaw,
A'r gwirionedd wedi tyfu
Drwy y ddameg; nid oes fraw
Ar fy enaid wrth gyfeirio
Tua glan y tonnog li',
Goleu'r nef dywynna arno;
Dyna fro fy mebyd i.

Byw yn ieuanc ac yn hoyw
Gaf ar fin y Grisial Fôr,—
Byw mewn angof o bob berw
Namyn berw cân y côr;
Mab y bryniau fyddaf yno,—
Bryniau uwch na'n bryniau ni;
Ni ddiffygiaf wrth eu dringo;
Dyna fro fy mebyd i.



Nodiadau

golygu
  1. Battle.—Ymladdwyd brwydr fyrnig yn y Bwlch lawer canrif yn ol.
 

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1954, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.