Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903) (testun cyfansawdd)

Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903) (testun cyfansawdd)

gan Evan Keri Evans

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903)
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Evan Keri Evans
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Joseph Parry
ar Wicipedia

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader





DR. JOSEPH PARRY.

COFIANT
Dr. JOSEPH PARRI


GAN


E. KERI EVANS, M.A.,


GYDA CHYNHORTHWY


CYRIL JENKINS; TOM PRICE;
DAN PROTHEROE, Mus. Doc.; J. T. REES,Mus. Bac.;
L. J. ROBERTS, M.A.,
etc.





The Educational Publishing Company, Ltd.,

Cardiff and London.

1921

RHAGAIR.




Cymar yw'r Cofiant hwn i un D. Emlyn Evans: onibai i mi ysgrifennu hwnnw—a hynny nid ohonof fy hun—ni fuaswn erioed wedi breuddwydio am ysgrifennu hwn. Cefais dystiolaeth cerddorion ac eraill i gofiant Emlyn lenwi gwagle amlwg, ac y byddai cofiant i Dr. Parry yn wasanaeth pellach. Heblaw hyn, rhaid i mi gyfaddef fod atyniad i mi yn y syniad o wneuthur cofiant i artist—un nad oedd yn ddim arall. Credaf fod Cofiant Parry'n werth ei ysgrifennu ar y cyfrif hwn, yn annibynnol ar werth yr hyn a gynhyrchodd. Hoffwn i'r darllenydd ei gymryd fel y cyfryw, gan mai dyna'r rheswm fod cynifer o gyfeiriadau at artists eraill ynddo yma a thraw, lle'r oedd eisiau dwyn allan ryw arwedd neu nodwedd yn fwy llawn a chlir. Tra y mae nofelwyr yn disgrifio cymeriadau dychmygol, cawn yn Joseph Parry deip arbennig o anianawd a bywyd yn rhodio'r ddaear.

Eto, disgwyliwn gael mwy o gymorth ei ddisgyblion nag a gefais: nid oedd gennyf ddymuniad i fod yn fwy na dolen gydiol rhwng rhai ohonynt hwy. Ond nid pob cerddor a fedd ddawn lenyddol fel Dr. Protheroe: efallai y barna'r darllenydd fod ei ysgrif ef ar ran disgyblion Parry yn ddigon. Eto ni allesid gwneuthur heb sylwadau gwerthfawr Mr. J. T. Rees, Mus. Bac. ar gyfnod Aberystwyth. Cefais addewid am ysgrif gan un o ddisgyblion disglair cyfnod Caerdydd na chyflawnwyd mohoni.

Y tu allan i gylch ei ddisgyblion ceir ysgrifau gan ddau o safle cerddorol uchel—Mr. Tom Price yng Nghymru, a Mr. Cyril Jenkins yn Lloegr. Diau y crea ysgrif yr olaf lawer o syndod, os nad dicter, mewn rhai cylchoedd. Eto y mae ganddo hawl i siarad ar gyfrif ei allu diamheuol, a'i safle uchel yn Lloegr, a dylasai ei sylwadau o leiaf ein symbylu i feddwl. Ar y llaw arall y mae i ni gofio bod oes o adweithiad bob amser yn condemnio'r oes flaenorol, ac nad yw ei barn yn derfynol. Rhydd Moderniaeth mewn Cerdd le uwch i'r deallol nag i'r teimladol; yn ol un beirniad cerddorol, nodweddir yr oes gan "disdain for eloquence." O safbwynt ysbryd yr oes yn unig y gallwn gysoni opiniwn Mr. Jenkins ag eiddo eraill yn y Cofiant nad ydynt nac yn ddiddawn nac yn ddiddysg. I gerddor o safle Sir Frederick Bridge y mae mynd i gyngerdd heddyw'n fwy o boen nag o bleser, meddai ef. (Gweler Pennod XXV ar hyn.)

Cefais ganiatâd caredig Mr. L. J. Roberts, M.A. i ddefnyddio'i ysgrif ar Dr. Parry a ymddangosodd yn y "Geninen," a chaniatâd parod perchenogion (neu olygyddion) "Y Cerddor Cymreig " a'r "Cerddor," "Y Geninen," "Baner ac Amserau Cymru," y "Drych," a'r "South Wales Weekly News," ddyfynnu ohonynt hwy. Bûm yn ffodus i gael dau ŵr o ganfyddiad a gallu cerddorol a llenyddol—Mr. David Lloyd, Killay, a Mr. E. R. Gronow, Caerdydd—i roddi hanes dyfodiad Dr. Parry i Abertawe, ac i Gaerdydd.

Y tu allan i'r ysgrifau rhaid i mi gydnabod fy nyled, ymlaenaf oll, i Mr. a Mrs. Waite (Wolverhampton), merch Dr. Parry, a'i phriod, am fenthyg llawer o'i bapurau. Deuthum o hyd i'w cyfeiriad drwy gynhorthwy caredig Mr. a Mrs. Horatio Phillips, Femdale, a phe buasai ffawd wedi fy arwain atynt yn gynt, arbedasai lawer o'r drafferth a'r amser a gymer i archwilio cannoedd o gyfnodolion a newyddiaduron. Efallai mai'r trysor goreu a gefais oedd yr Hunangofiant, er mai gwaith trafferthus oedd ei ddarllen—yn hytrach ei ddehongli—a'i gyfieithu. Ceir gwahanol adrannau hwn ar ddechreu'r gwahanol benodau lle y perthynant—mewn llythyren wahanol, fel y gallo'r darllenydd ei ddarllen drwodd i'r diwedd os myn. Drwg gennym na chafwyd y "rhestri" o weithiau y cyfeirir atynt yn yr Hunangofiant ymysg ei bapurau. Yr hyn a allodd Mrs. Mendelssohn Parry (Hannah Jones), hi a'i gwnaeth.

Cefais bob hwylustod i archwilio llyfrau a chofnodion, a phob help a geisiwn gan y Prifathro J. H. Davies, M.A., a Mr. J. Ballinger, M.A., Aberystwyth; Mr. D. R. Phillips, Abertawe; a'r Parchn. T. C. Edwards, D.D. (Cynonfardd), a D. M. Davies, Abertawe. Cefais ganiatâd parod Mr. D. J. Snell, Abertawe, i archwilio MSS Parry sydd yn ei feddiant ef. Drwy Dr. Protheroe, cafwyd gan Mr. Ted Lloyd, Utica, a nifer o'i gyfeillion, i archwilio'r "Drych" am y cyfnod 1860—1868. Yn y wlad hon cefais help Mr. Alban Davies a Mr. David Jones (yn Aberystwyth), a fy mab Emrys (yn Llundain) i archwilio, a darllen, a chymryd nodiadau.

Am fenthyg llyfrau yr wyf yn ddyledus i Mrs. Denzil Harries, Caerfyrddin, a fy chwaer, Brynderwen, Castellnewydd Emlyn; hefyd i'r Parch. D. T. Glyndwr Richards, B.A., B.D., Mr. Dunn Williams, G. & L., a Mr. John Morris, Caerfyrddin; ac am hanesion, etc. am Dr. Parry i'r Parchn. T. C. Edwards, D.D., H. Elfed Lewis, M.A., D. C. Williams, St. Clears; a Mri. Tom Price, David Lloyd, Conwil Evans, a D. Morgans (Cerddwyson). Cefais hefyd fenthyg darlith Mr. Price ac ysgrifau Mr. Morgans ar Dr. Parry.

Fel gyda chofiant Emlyn bum yn fíodus i gael help un yn cyfuno caredigrwydd cyfartal i'w wybodaeth helaeth o Gymraeg hen a diweddar yn y Parch. Dyfnallt Owen. Darllenodd a chywirodd y proflenni, ac awgrymodd lawer o welliannau. Iddo ef, a darllenydd y swyddfa argraffu, y mae'r clod yn ddyledus am gymaint o lendid oddiwrth wall a mefl a berthyn i'r Cofiant.

Y CYNNWYS


COFIANT DR. JOSEPH PARRY.


I. Cofiant Artist.

SONIA y meddylegwyr am eudeb meddylegol, wrth yr hyn y deallant y dyb y rhaid i ganfyddiad o goch, dyweder, fod yn ganfyddiad coch. Y mae yn rhywbeth tebyg ym myd bywgraffiaeth, pan y tybir y rhaid i fywgraffiad o gerddor fod yn fywgraffiad cerddorol, neu un o wyddonydd yn un gwyddonol. Wrth gwrs, ymae'r ymgais wedi ei wneuthur droeon i gynhyrchu rhywbeth o'r fath gyda'r canlyniad mai cynnyrch cymysg- ryw a geir nad yw y naill beth na'r llall. Y mae gan Munger lyfr felly ar Bushnell. Flynyddoedd yn ol cyhoeddwyd cyfres o lyfrau ar y prif athronwyr oedd yn ceisio cyfuno hanes eu bywyd ag ymdriniad â'u hathroniaeth. Yn ddiweddar gwelsom fywgraffiad i Lord Kelvin yn rhoddi hanes ei fywyd a'i ddarganfyddiadau ar eu hochr fesuronol—llyfr na fedrai neb ond mesuronydd disgybledig ei ddeall. Mor ddiweddar a diwedd y flwyddyn ddiweddaf ymddangosodd cofiant i W. Honeyman Gillespie —dyn a ymgysegrodd i'r gwaith o geisio profi i'r deall fod Duw'n bod—yn cyfuno hanes ei fywyd a chrynhodeb o'i gyfundrefn, a beirniadaeth un o'r prif olygyddion Seisnig arno oedd ei fod yn ceisio cyfuno y bywgraffydd a'r golygydd yn y llyfr—beirniadaeth a ragdybia eu bod i'w cadw ar wahân. Ac ar wahân y ceir hwy fel rheol, y cofiant yn gyntaf, a'r gweithiau a'r ymdrin arnynt wedyn. Ac y mae'r rheswm dros hyn yn amlwg: y mae darllen y ddau yn gofyn ymgyfaddasiad meddyliol gwahanol, ac nid yw yn beth hyfryd newid yr ymgyfaddasiad yn gyson —fel bwyta uwd a thalpiau ynddo. Pan eisteddwn i ddarllen stori, gosodwn ein hunain mewn osgo gyfaddas i stori ar esmwythfainc, a stori ydym am gael ac nid pregeth na rhesymeg: gallai cadair tipyn yn fwy caled fod yn fwy o help i'r olaf!

Ynglŷn â hanes cerddorion—a cherddoriaeth yn arbennig —y mae eu lle i ymdriniadau felly, rhywbeth tebyg i le y traethawd beirniadol ar weithiau rhyw awdur, neu ar raddfa fwy, tebyg i le llawlyfrau ar hanes athroniaeth. Ond nid mewn bywgraffiad y gellir gwneuthur hyn ond y tu mewn i derfynau amlwg, sef lle y byddai unoliaeth yr hanes yn cael ei dorri i'r meddwl cyffredin, a'r celfeiriau a ddefnyddid yn arwain i diroedd disathr iddo ef. Ar y llaw arall, y mae hanes bywyd y cerddor o ddiddordeb diffael iddo, o leiaf, os bydd yn fyw ei hun; ac wrth "hanes ei fywyd" y golygir nid cofnodiad o'r amgylchiadau ar ei wyneb, ond yr ymgais i olrhain tarddellau ei ysbrydoliaeth, sydd â'u ffrydiau yn sirioli'r byd, ei ddelfrydau a'i ddyheadau, gwewyr a gorfoledd ei hunan-fynegiant, ynghŷd â'i frwydr bellach a byd amgylchiadau cwrs, pan wedi mynegi ei hunan ar bapur, i fynegi ei hunan mewn côr a cherddorfa.

Os awn yn ol at rai o'r enwogion a enwyd uchod, y mae yna fywgraffiad arall i'r dyn Lord Kelvin wedi ei ysgrifennu, un ag y gall pawb ei ddeall a chael eu cyffwrdd a'u cyffroi ganddo, nid drwy anwybyddu ei athrylith a'i lafur a'i lwyddiant gwyddonol, ond drwy eu trafod yn eu perthynas a'u gwasanaeth i ddyn a gwareiddiad yn hytrach nag ar eu hochr fesuronol gyfyngedig. Y mae yna gofiant cyffelyb wedi ei ysgrifennu i Dr. Bushnell, nid yn iaith celddysg, ond un sy'n gyfarwydd i ddyn y strŷd. Neu pe cymerem fywgraffiad fel un Thomas Edwards, yr anianydd Ysgotaidd, gan Samuel Smiles; y mae yn un diddorol a defnyddiol i bob dyn, am y ceir ynddo hanes ymroddiad cariad i amcan ag y gall pawb ei werthfawrogi, er i wrthrych y cariad a chyfeiriad yr amcan fod yn gwbl wahanol i'r eiddynt hwy. Ar y llaw arall pe llwythesid y cofiant â thermau gwyddonol collasai ei ddiddordeb i'r dyn cyffredin ac fel bywgraffiad.

Felly, bywgraffiad cerddor i'r dyn cyffredin, ac nid ymdriniad cerddorol i gerddorion, yw'r un presennol; ymgais i atgynhyrchu bywyd Dr. Parry yng ngoleuni ei ddelfryd a'i amgylchoedd, ei amodau mewnol ac allanol. Wrth ddilyn yr hanes bydd yn help i'r darllenydd i gofio mai Cofiant Artist ydyw, un yn meddu ar nodweddion a diffygion artist, a'r diffygion yn codi i fesur mawr o'r nodweddion.

Yn " Consuelo" disgrifia George Sand artist fel un sydd yn ymloddesta mewn bywyd gydag angerddoldeb dychrynllyd. Dylasai'n ddiau ychwanegu y gair "delfrydol" at "fywyd" gan fod yna ddigon yn ymloddesta ym mywyd cnawd a byd na ellir fodd yn y byd eu galw yn artists. Y mae'r artist ar y llaw arall yn atgynhyrchu neu ddehongli delfryd dan amodau "amser a lle," ac i wneuthur hynny, rhaid iddo fynd i ystâd eirias ac angherddol ei hun.

Yr agwedd ddelfrydol hon a osodir allan gan Tennyson yn ei bennill—

The poet in a golden clime was born,
With golden stars above;
Dowered with the hate of hate, the scorn of scorn,
The love of love.

Y mae efe yn wastad yn ei "oes aur," yn unig fod honno i fyny, nid yn ol nac ymlaen—iddo ef.

Dechreua'i ofidiau pan yn gadael yr "aur" am bres a phlwm a phridd y ddaear. Rhaid iddo gymryd amryw gamau o'r nwyfreol i'r materol. Yn y lle cyntaf, rhaid iddo wisgo'i feddylddrychau mewn geiriau neu nodau cyfaddas, a rhoddi i'w

airy nothings
A local habitation and a name

fel ag i fod yn ganfyddadwy i eraill. Yna rhaid argraffu a phrynu a gwerthu, a sicrhau help côr, ac offerynnau tant a gwynt, ac adeilad cyfaddas, a disgyn i fyd cwrs hysbysebiaeth, a cheisio gwneuthur i'r delfryd dalu ar y ddaear! Ac yn y byd hwn y mae'r artist allan o'i gynefin yn lân, ac yn aml yn gorfod dioddef dyrnod y byd, a gwawd a chondemniad "dynion y byd."

Wel, artist oedd Joseph Parry o'i goryn i'w sawdl. Wrth ddywedyd hyn ni olygir o angenrheidrwydd fod ei ddelfryd yr uwchaf yn bosibl, ond ei fod ef yn byw i'w ddelfryd ac i ddim byd arall, a'i fod fel baban ymysg pethau amgylchiadol. Ni awgrymir chwaith ein bod i gymeradwyo neu esgusodi pob dim a wnaeth, a cheisio'i ddyrchafu allan o gyrraedd safonau dynion cyffredin; ond maentumir hyn, na ellir ei ddeall yn iawn, na'i farnu'n gywir, ond yng ngoleuni ei ddelfryd ei hun.

Condemnia dynion y byd ef fel rheol oddiar dri safbwynt, sef eiddo masnach, cwrteisrwydd, a moesoldeb. Anaml y ganwyd cerddor â llwy arian yn ei enau, a phan wnaed hynny, fe'i tynnwyd allan yng nghwrs bywyd, oddigerth i gyfraith gwlad, neu ffrind caredig, ymyrryd. Diau iddo ymdrafferthu'n aml â gorchwylion y byd isod, gan feddwl gwneuthur gwyrthiau—eithr heb lwyddo ond yn anaml.

Bu Parry drwy ei fywyd mewn brwydr ag amgylchiadau, fel rheol yng nghanol gwyntoedd croes, ac yn aml o dan y dẃr. Eto, nid byth y rhoddai i fyny: yr oedd rhyw ystwythder adlamol yn ei natur a'i galluogai i forio ymlaen fel cynt. Ys dywed Dr. Protheroe, " gallai ddal croes-wyntoedd heb dynnu ei hwyliau i lawr."

Fel aml i artist, yn neilltuol y rhai na chawsant ddisgyblaeth bore oes, yr oedd Parry'n ddibris o ofynion cwrteisrwydd. Yr oedd yn gyson yn troseddu yn erbyn rhyw bobol oedd yn byw yn gwbl ar lefel y cwrteisrwydd hwn, ac na feddent ddychymyg i sylweddoli, neu ynteu na arhosent i ystyried mai nid anwybyddu eu hawliau a wnai yn gymaint a'u hanghofio gan faint ei gof o'i waith ei hun. Clywais un ferch ieuanc yn cwyno ei fod yn dymherus a diamynedd fel athro, eto credaf fod ei ddisgyblion ar y cyfan yn dysgu prisio'r ffrwydriadau hyn yn ol eu gwerth, drwy weld yr achosid hwy gan gyffyrddiad a gwrthdarawiad ei ddelfryd artistig ef â'u cyflawniadau anghelfydd hwy. Pan geryddwyd Mr. S. H. Tyng unwaith gan weinidog ieuanc am golli ei dymer, ei ateb oedd, "Ddyn ieuanc, yr wyf fi yn rheoli mwy o dymer mewn pymtheng munud nag a wnewch chwi mewn oes"; ac fe weddai i ni, bobol gyffredin, gofio fod y cerddor mawr, oherwydd ei deimladrwydd mawr, ac yn ol graddau datblygiad y teimladrwydd hwnnw, yn agored i brofedigaethau a phoenau yn gystal ag i bleserau na wyddom ni ddim am danynt. Nid oedd hunan-reolaeth boneddwr mor berffaith a Mendelssohn —un ag y synnai Berlioz at ei amynedd a'i gwrteisrwydd pan yn dysgu ei gôr—bob amser yn drech na rhuthr y teimladrwydd hwn. Tra y cydnebydd Berlioz yn ei hunan-fywgrafifiad ei fod ef ei hun yn euog o erwindeb tuag at foneddigesau y corws mewn cyferbyniad i amynedd a boneddigeiddrwydd Mendelssohn oedd â phob sylw o'i eiddo yn " dawel a hyfryd," dywed am yr olaf ei fod mewn rhai cyfeiriadau cerddorol yn "ddraenog hollol." Gwyddis fod Beethoven yn cael ei gario gan lifeiriaint mewnol oedd yn torri'n drochion yn erbyn rhwystrau'r byd, ac yn agored i dymherau a'i gwnai i ymddangos yn anfoddog a balch; ond gwrandawer ar ei ddisgrifiad ef ei hun o'r ysbryd oedd ynddo: "O chwi sydd yn meddwl neu ynteu yn dywedyd fy mod yn ddygasog, ac yn ystyfnig, ac yn cashau fy nghyd-ddynion, y fath gam a wnewch â mi! . . . O blentyndod i fyny, y mae fy nghalon a'm meddwl wedi eu rhoi i deimladau caredig, a meddyliau am bethau mawr i'w cynhyrchu yn y dyfodol . . . ond er i mi gael fy ngeni gyda thymer wresog a bywiol, yn hofí o bleserau cymdeithasol, gorfodwyd fi yn gynnar i gilio o'r neilltu, ac i fyw ar fy mhen fy hun . . . Maddeuwch i mi, ynteu, os gwelwch fi yn troi ymaith, pan yr hoffwn ymgymysgu â chwi. Y mae fy myddardod yn ddwbl boenus i mi, pan yw yn peri i mi hefyd gael fy ngham- ddeall." Dengys hyn nad yw'r artist i lawr yn y dwfn yr hyn a ymddengys ar y wyneb, a'r hyn a ddywedir am Parry gan un o'i ddisgyblion goreu a mwyaf cyfarwydd yw: " Mor hapus a difyr y medrai fod. Yr oedd cymaint o'r plentyn ynddo, fel yr oedd yn amhosibl digio wrtho am ambell i dro ysmala." Ie, "ysmala"; tebyg mai dyna'r gwaethaf ellid ddywedyd amdano.

Dywedir fod artists yn aml yn bobol anfoesol. Cymer meddylegwyr hyn yn ganiataol, gan roddi fel rheswm dros hynny eu bod yn datblygu eu teimladau ar draul eu hewyllys. Y peth tebycaf i anfoesoldeb y clywsom fod Parry yn euog ohono oedd *ariangarwch. Rhaid mai rhyw ffermwyr ariangar o Sir Gaer neu Sir Aberteifi, yn ei farnu yng ngoleuni eu trachwant eu hunain a wnai ei gyhuddo o hyn. Ffolineb i gyd yw dywedyd fod Parry'n ariangar yn yr ystyr o garu arian er ei fwyn ei hun yn hytrach nag fel moddion: ochr arall ac ochr isaf ei gerddgarwch yn unig oedd ei [1]ariangarwch. Gwnai ef arian a phopeth tymhorol a naturiol yn weision cân. Ni roddwn enghreifftiau o'r nodweddion hyn yn y fan hon; gwneir hynny yng nghwrs y Cofiant: ein hamcan yn awr yw rhoddi i'r darllenydd ryw syniad am safbwynt y Cofiant. Ni cheisiwn ychwaith eu cyfiawnhau yn gymaint a'u mynegi fel ffeithiau y rhaid eu cymryd i ystyriaeth wrth geisio atgynhyrchu'r bywyd.

Y mae yna ddosbarth arall o feimiadaethau amo, nid gan: "ddynion y byd," ond gan ei gyd-gelfyddydwyr, yn troi oddeutu ei berthynas â'i fyd delfrydol, i ba raddau y llwyddodd i ddehongli hwnnw. Bydd yn help i alw sylw atynt yn y fan hon: caiff y cerddorion eu trin yn helaethach yn ol llaw. Cymerant y ffurf o dair "Pe": Pe buasai Parry wedi ei godi mewn amgylchfyd gwahanol; pe buasai wedi ymgadw'n fwy rhag dylanwadau tramor; pe meddai'r ddawn a'r gwroldeb i "chwalu'r gau a chwilio'r gwell," yna buasai ffrwyth ei athrylith yn llawer gwell nac ydyw.

Dywedai Mr. Joseph Bennett amdano, adeg ei farw, pe buasai wedi ei godi mewn awyrgylch cerddorol fel eiddo Binningham, neu Sheffield, neu Manchester, ymhell o sŵn y Salm-dôn Gymreig, yr hon, meddai ef, sy'n andwyo cerddoriaeth Gymreig, y buasai wedi dod i lawer uwch bri fel cerddor. Eto cydnebydd Mr. Bennett yn ei bapur o flaen Cymdeithas y Cerddorion yn 1888, fod i gerddoriaeth Gymreíg nodweddion hollol arbennig y dylid eu diogelu a'u meithrin. Ond ofer yn sicr yw ceisio dilyn y "pe buasai " yma fel rhyw fwch dihangol i'r anialwch. Dioddefodd Parry'n fawr yn ddiau oherwydd anfanteision bore oes, ond oni ddioddefodd pob cerddor Cymreig yn yr un modd, fwy neu lai? Beth "pe buasai" Tanymarian neu Ambrose Lloyd wedi cael manteision Parry hyd yn oed?

Gyda golwg ar ddylanwadau cerddoriaeth dramor arno, y cwestiwn yw, nid a ddaeth ef tanynt—beth fuasai pe heb ddod?—ond a oedd yn ddigon cryf i'w troi'n foddion i'w ddatblygiad ei hunan, neu ynteu a gafodd ei ddawn gynhenid ef, os nad ei llethu, o leiaf ei gorlwytho ganddynt? Mater yw hwn i'r cerddor, a cha sylw yn nês ymlaen. Dyma ddywed Mr. L. J. Roberts, H.M.I.S. ar y ddau " pe " blaenaf yn "Y Geninen" (Hydref 1906): "Gydag ef dechreua goruchwyliaeth newydd, dan yr hon y mae Cymru wedi dod i gyffyrddiad agosach nag o'r blaen â'r byd mawr cerddorol. Ceir yn ei arddull gyfuniad rhyfedd o'r hen a'r newydd, ac o'r Cymreig a'r tramorol. Yfodd ef yn ddwfn o ffynhonnau tramor—o Spohr, Mendelssohn, a Wagner, ac yn enwedig o Rossini a'r ysgol Eidalaidd; ond y mae naws Gymreig yn treiddio drwy ei holl weithiau— ar brydiau gyda nerth angherddol. Er fod adnoddau cerddoriaeth y byd at ei wasanaeth, ac er y nodweddir llawer o'i waith gan newydd-deb a beiddgarwch, eto rhed yr hen dinc Cymreig fel llinyn euraid drwy y cwbl."

"Credai yn gryf y medrai gyfansoddi," meddai Mr. D. Jenkins, "a phe buasai wedi dysgu bod yn fwy llym a beirniadol uwchben ei gynhyrchion, nid oes un cerddor yn Lloegr heddyw, oddigerth Elgar, a fuasai'n rhagori arno." "Yr oedd yn awengar, ond yn rhy ddifater beth osodai i mewn; yr oedd yn afradus ar ei eiddo ei hun ac eiddo eraill, a dyma yr unig beth a'i rhwystrai i fod y cerddor blaenaf a feddai Cymru a Lloegr." "Yr unig beth!" Ond ai nid peth hanfodol ym myd celfyddyd? " Gellir adnabod artist wrth yr hyn a edy allan," meddai Schiller. Onid yw'r uchod agos megis pe dywedasai un, "Yr unig beth a rwystra'r dyn ieuanc o ddelfryd ysbrydol uchel i fod yn sant yw diffyg hunan-reolaeth." O leiaf y mae'n amlwg fod eisiau rhywbeth mwy nag awen neu athrylith i wneuthur artist, a'r peth hwnnw hefyd yn rhywbeth gwahanol i wybodaeth o egwyddorion y gelfyddyd. Galwer y gallu yn rheswm artistig (artistic reason), os mynner, fel y gelwir y gallu i amgyffred a chymhwyso delfryd moesol yn practical reason; ond rhaid cofio fod y naill a'r llall yn wahanol iawn i reswm rhesymegol (logical) yr athronydd cyfundrefnol. Pan ddygir yr olaf yma i mewn i le llywodraethol ym myd celfyddyd, fel ym myd crefydd, y mae'n brawf ac achos o ddirywiad, fel y gwelir yng ngweithiau George Eliot, Robert Browning, a Goethe: credaf hefyd, er nad wyf yn alluog i draddodi bam sicr, fod llawer gormod o athronyddu gan Wagner. Ni ellir artist yn fwy na morwr heb y llif, mae'n wir, eto dengys morwr da ei fedr mewn gwneuthur defnydd o'r llif, fel na bo iddo gael ei gario ar ddisberod. Y mae ysbrydoedd y proffwydi i fod yn ddarostyngedig i'r proffwydi.

Y mae'r gallu yma'n dal perthynas agos â'r dyn a'i gymeriad, nid ag un o'i ddoniau; a phan sonia Ruskin am ei gariad borëol at natur, gan ddefnyddio geiriau Wordsworth:

In such high hour
Of visitation from the living God
Thought was not.

dywed nad oedd gan y teimlad y gallu i ddarostwng yr hyn oedd yn anghyson ag ef; ei fod yn moldio'r dymer, ond nid yn cynhyrchu egwyddor; yn ei gadw fel rheol yn fwyn a hyfryd, eithr heb ddysgu iddo hunan-ymwadu a dyfalbarhau; a'i fod cyn amled yn demtasiwn ag yn amddiffyn, gan ei fod yn ei arwain i grwydro ar y mynydd- oedd, ac ymgolli mewn breuddwydion, yn lle dysgu ei wersi. A phan gynghora Pantycelyn brydyddion i " beidio gwneuthur un hymn fyth nes y byddont yn teimlo'u heneidiau yn agos i'r nef, tan awelon yr Ysbryd Glân," da fuasai iddo ychwanegu—a chofio—" ac y caffont y gallu i brofi'r pethau sydd â gwahaniaeth rhyngddynt."

II. " Bachgen Bach o Ferthyr, erioed, erioed."

Hunan-gofiant:

O DYDI anweledig a byth-symudol amser! Yr wyf wedi fy nghludo ar dy adenydd drwy drigain o'th flynyddoedd buain. Cwyd gwawr blwyddyn arall (1902) y llen, ac yr wyf fel yn byw fy mywyd drosodd eto; daw atgofion hoff a chysegredig ger fy mron, megis mewn breuddwyd. Yr wyf eto yn yr hen gartref annwyl lle'm ganwyd ar yr 2iain o Fai, 1841, a lle y treuliais ddyddiau babandod a bachgendod, sef yr ail dŷ yn Chapel Row, Merthyr Tydfil, Deheudir Cymru. Yr wyf yn blentyn unwaith eto ym mreichiau fy mam, a daw nodau ei chân eto i'm clyw—nodau y gallai engyl genfigennu wrthynt. Yr wyf hefyd yn eich gweld chwithau, fy annwyl dad, fy chwaer Ann, a'm hunig frawd Henry, ac er eich bod oll wedi gadael y bywyd hwn, yr wyf gyda chwi eto, a chyda chwithau, fy nwy chwaer sydd yn fyw. 'Rwy'n gweld y coed poplar tal blannwyd gan ddwylo fy mam yn dyrchafu ymhell uwchlaw pennau'r tai, y blodau hardd, yr hen gamlas y gwaredwyd fi ohoni fwy nag unwaith ("gerfydd fy ngwallt" wedi ei groesi allan); y chwareule hefyd gyda chwi, fy nghyd-chwareuwyr bore, yn sẁn seindorf enwog y Gyfarthfa a ddaw o'r pellter; yna yn eich dilyn chwi, wŷr y seindorf, fel y cenwch gan ymdaith drwy heolydd Merthyr, a'ch cerddoriaeth megis yn diwallu fy enaid yn fwy nag y diwalla bwyd y corff.

Yr wyf eto gyda fy mam yn fy hen fam-eglwys—Bethesda, a minnau yn y côr yn hogyn yn canu alto, a'm dyfodol frawd yng nghyfraith yn arwain. Y mae ei seinfforch eto'n torri'n ddarnau yn ymyl yr hen stove, drwy iddo ei lluchio ataf i a bechgyn eraill yr alto am na ddeuem yn nês at y côr na chil-edrych o ddrws y ffrynt, er mawr flinder iddo. Yr wyf yn naw mlwydd oed ac yn gweithio fel pit boy yn y lofa (Pwll Roblins) am hanner coron yr wythnos, a phan yn ddeuddeg oed yn mynd i waith y Gyfarthfa; ac ar nos Sul, ar ol y gwasanaeth a'r ysgol gân a swper, yn newid fy nillad i fynd i'r gwaith ganol nos. Bob prynhawn Sul yr wyf yn y Temperance Hall yn canu alto yng nghôr Rosser Beynon. Yr wyf hefyd yn bresennol ym mherfformiad Twelfth Mass (Mozart), gyda chyfeiliant offerynnol cyflawn, ac yn canu alto yn un o'r saith côr a gystadleuodd ar ganu " Teymasoedd y Ddaear," pryd y rhannodd y beirniad, Mr. Evan Davies, Abertawe, y wobr o saith gini rhwng y saith.




Medd Mr. Levi (yn 1878):

"Mab ydyw Joseph Parry i Daniel ac Elisabeth Parry, gynt o Ferthyr Tydfil. Yr oedd ei dad yn fab i John Parry, ffermwr parchus o sir Benfro. Symudodd Daniel yn ieuanc i Forgannwg, a bu yn refiner yn y Gyfarthfa (Merthyr) am ddeng mlynedd ar hugain cyn ymfudo i America. Yr oedd Elizabeth, mam y cerddor, yn enedigol o'r Graig, yn ymyl Cydweli, sir Gaerfyrddin—un o deulu Richards o'r Graig, ac yn berthynas pell i Henry Richard, Ysw., A.S. Wedi tyfu i fyny, symudodd i Ferthyr, ac ymsefydlodd yn nheulu yr hen weinidog parchus Methusalem Jones, Bethesda, ac oddiyno y priododd â Daniel Parry.

"Mae Joseph Parry yn ieuengaf ond dau,[2] dybiem, o wyth o blant. Ganwyd ef yn y tŷ isaf ond un, pen deheuol, o 'Dai yr Hen Gapel' Merthyr, Mai 21ain, 1841; felly y mae yn awr yn ddwy flwydd ar bymtheg ar hugain oed. Cafodd Joseph, fel y rhan fwyaf o ddynion nodedig pob gwlad, fam ragorol i'w fagu; dynes gall, grefyddol, a'i henaid yn llawn cerddoriaeth. Byddai hi yn aml, pan na byddai neb i ddechreu canu yn y capel, yn taro y dôn, ac nid oedd neb fedrai wneuthur yn well. Oddiwrthi hi, mae'n debyg, y cafodd y plant eu doniau cerddorol; oblegid y maent oll yn gantorion nodedig—ond daeth Joseph yn deyrn arnynt i gyd.

"Mae Merthyr yn enwog am fagu cerddorion, a chafodd Joseph Parry ei ddwyn i fyny yn blentyn yn y llecyn mwyaf cerddorol yn y lle. Yr oedd rhes ' Tai yr Hen Gapel ' yn llawn cantorion, ac yn gorwedd i ymfwynhau yn wastad mewn cwmwl o seiniau cerddorol."

Am ei fam dywed Cynonfardd ymhellach:

"Bu Betty Parry'n aelod gyda mi yma am rai blynyddoedd. Oddiyma aeth i Portland, Maine, ac yno y bu farw. Er cof am hynny yr enwodd ef un o'i donau yn ' Maine' . . . Clywais hi'n adrodd ei phrofiad aml dro yn y gyfeillach grefyddol oedd yn sicrwydd ei bod yn gyfarwydd â thynnu dwfr o ffynhonnau dyfnaf yr lachawdwriaeth. Clywais hi hefyd yn canu penhillion nes peri hwyl o orfoledd yn y gwrandawyr, a gwlychu llygaid a gruddiau y tyner-galon. Y mae chwaer y Doctor, sydd yn aelod gyda ni yn awr, er yn bymtheg a thrigain oed, yn gantores ragorol. Hi yw yr unig aelod o'r teulu sydd yn fyw heddyw."

Dywed y "Cerddor Cymreig" (Chwefrol 1869): "Y mae Jane yn un o'r sopranos goreu a fedd y Cymry yn America; y mae Betsy'n un o'r rhai goreu fel contralto; ac nid hawdd yw cyfarfod â neb a fedd bereiddiach llais na Henry." Datblygodd Henry i fod yn "broffeswr" cerddorol. Yr oedd Ann, gwraig Mr. Robert James, arweinydd y gân ym Methesda, Merthyr, yn gantores ragorol hefyd.

Tuag adeg geni Joseph Parry, ac ymlaen drwy dymor ei blentyndod, yr oedd tri chanolfan cerddorol amlwg yng Nghymru, sef Llanidloes a Bethesda yn y Gogledd, a Merthyr yn y De.

Yn ystod hanner cyntaf y ganrif ddiweddaf, tebyg mai Merthyr oedd y dref enwocaf yng Nghymru am nifer, os nad am bwysigrwydd ei heisteddfodau. Cedwid hwy agos yn flynyddol, ac ambell i waith fwy nag un y flwyddyn —o leiaf o 1822 ymlaen. Ceid cyfresi ohonynt tan nawdd Cymdeithas Cadair Merthyr, Cymdeithas Cymrodorion Merthyr, ac yn ddiweddarach, Cymdeithas Lenyddol Merthyr. Gwir na roddid lle i gerddoriaeth—ag eithrio canu'r delyn—yn y rhai cyntaf; ond yn Eisteddfod Cadair Merthyr yn 1825, cawn fod ariandlws i'r datganydd goreu, yn gystal ag i'r telynor cyntaf a'r ail oreu.

Ymddengys mai Ieuan Ddu oedd cychwynnydd canu corawl o radd uchel yn Neheudir Cymru. Sefydlodd gôr ym Merthyr tua 1840, a rhoddodd berfformiad cyflawn o'r "Messiah," y cyntaf yng Nghymru'n ddiau. Ar wahoddiad Lady Charlotte Guest rhoddodd ef a'i gôr gyfres o gyngherddau yn Llundain a Lerpwl. Moses Davies— tad Mynorydd, a thaid Dr. Mary Davies—oedd arweinydd galluog arall ym Mhontmorlais, Merthyr. Ganddo ef a Rosser Beynon (Asaph Glan Tâf) y newidiwyd o'r hen ddull o ganu tôn gynulleidfaol—y gwrrywod yn canu'r alaw, a'r benywod y tenor—i'r dull presennol. Gwnaeth Mr. Beynon fwy na neb o'i gydoeswyr yn ddiau dros ganiadaeth gorawl a gwybodaeth gerddorol yn Neheudir Cymru. Heblaw "Côr Llewelyn," ei gôr enwog ym Merthyr, yr oedd ganddo gorau bychain a dosbarthau cerddorol mewn mannau eraill—rhai mor bell a Chaerdydd. Yn 1845 cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf o "Telyn Seion" y flwyddyn ar ol ymddangosiad y "Canor Dirwestol " (Tydfiyn). Yr oedd brawd yng nghyfraith Parry, Robert James, arweinydd y gân ym Methesda'n ddiweddarach, yn ddisgybl i Rosser Beynon, ond nid ymddengys fod Parry ei hun yn mynychu ei ddosbarth, er ei fod yn aelod o'i gôr. Arweinydd y gân yn Soar, ac Ynysgau yn ddiweddarach, oedd Mr. Beynon, tra yr ai Daniel a Beti Parry a'r plant i Fethesda.

Yr oedd y canu cynulleidfaol hefyd o ansawdd uchel. Meddai Asaph Glyn Ebwy yn ei "Adgofion" (1895): "Credaf fod cystal canu o ran quality yn llawer o gapeli ac eglwysi yr hen wlad hanner can mlynedd yn ol ag sydd ynddynt y dydd heddyw. Yr oedd y canu yn hen eglwys Merthyr, ac yng gwahanol gapeli y dref, dan arweiniad Ieuan Ddu, Asaph Glan Tâf, Tydfilyn, Robert James, Daniel Williams, ac eraill nad wyf ar hyn o bryd yn cofio eu henwau, yn treat i undyn ei wrando. ... Singing was singing in those days: nid bloeddio fel Indiaid i'r gad ydoedd, na chwaith garw ac aflafar fel melin gro yn malu cerrig; nage, eithr tyner megis awel falmaidd haf yn adfywio ac yn ireiddio ein hysbrydoedd, ac mor swynol a soniarus a'r delyn deir-res yn nwylo y diweddar enwog delynor Gruffydd, Llanover."

Ymddengys fod yna gyfnod newydd yn hanes caniadaeth y cysegr wedi gwawrio ar Gymru tua 1840—cyfnod a gyrhaeddodd ei godiad haul yn Llyfr Tonau Ieuan Gwyllt— fel y prawf geiriau Asaph Glan Tâf ar ddechreu "Telyn Seion": "Buasai yn llawer mwy boddhaol gan ddosbarth lluosog o'n cantorion pe cyhoeddasid nifer o'r tonau gwylltion afreolaidd hynny sydd mewn arferiad (ysywaeth) mewn llawer parth o'r dywysogaeth, y rhai a lygra chwaeth gerddorol y sawl a ymarfera â hwy i raddau helaeth." Bu'n frwydr rhwng y ddau ddull am hir amser yng Nghymru—y mae i fesur o hyd—yn y fan hon y naill ddull, a'r fan acw y dull arall yn ennill y dydd. Ni wyddom sut yr oedd ym Methesda a chartref Parry, ond ni synnem glywed fod Beti, gyda'i hanianawd fywiog a'i dawn ddramayddol, yn gogwyddo at y dull ysgafn a chwafrol yn fwy na'r un mwy defosiynnol ac urddasol. Os felly, nid rhyfedd os cynhyrchwyd bias cryf ac arhosol yn natur bachgen mor agored i argraffiadau at yr un dull. O leiaf, rhaid fod yna achos dwfn a dirgel i'w serch a'i ogwydd hyd y diwedd at yr "arddull Cymreig" a'r "tân Cymroaidd"—serch nad oedd ei darddell yn yr R.A.M. na Mendelssohn na Wagner, ac oedd, yn wir, yn ddigon cryf i herio pob dylanwad a datblygiad diweddarach.

Cysyllta'i fywgraffwyr—yn y cyfnod hwn—gryn bwys â'r ffaith iddo dreulio dyddiau mebyd yn sŵn, mwy neu lai cyson, seindorf y Gyfarthfa. Dywed Mr. Tom Price: "Y mae yn ffaith i'r ddau gerddor Gwilym Gwent a Dr. Parry gael magwrfa yn ymyl brass bands, a dichon na fu dau gerddor mwy mydryddol (rhythmical), gyda mwy o'r 'mynd' sydd mewn mydr, yng Nghymru. Cafodd Parry ei fagu yn ymyl y fan lle yr arferai seindorf y Gyfarthfa ymarfer, ac fe glywodd yn fore y gerddoriaeth oreu, yn ei gwisg oreu; ac ni wyddom faint fu y dylanwad ar hogyn mor fyw ei deimladau. Yr oedd Gwilym Gwent yn aelod o'r brass band pan yn ddyn ieuanc. Y mae trwst cerddol seindorf y Gyfarthfa yn ei ddarnau milwrol."

Eir â ni i fyd mwy lledrithiol ac anolrheinadwy pan y ceisir cysylltu elfennau yn ei gerddoriaeth â golygfeydd naturiol Merthyr. Diau fod yna gysylltiad agos ond cyfrin rhwng anianawd y cerddor a natur fawr i gyd—nid ei seiniau yn unig: prawf hanes y prif gerddorion hynny. Yr oedd Gluck, Beethoven, Weber, Wagner, ac eraill yn orhoff o gwmni maes, mynydd, a môr. Ac y mae yna gysylltiad mwy pendant na'r un cyffredinol yna: pan ofynnwyd i Mendelssohn gan ei chwaer Fanny am ddisgrifiad o olygfeydd "llwyd" yr Alban, gwnaeth hynny drwy ysgrifennu darn o gerddoriaeth a ddatblygodd wedyn i fod yn un o'i ddamau goreu. Prin y byddai neb ond un o Ferthyr yn honni fod y lle yn brydferth. Yn bresennol y mae gan gwmniau rheilffyrdd lygaid neilltuol o glir i ganfod prydferthwch yng nghymdogaeth eu relwe hwy, ond ni chlywsom fod un o'r cwmnïau yn hysbysebu Merthyr fel beauty spot. Bid siwr, y drwg ym Morgannwg yw fod y llwch glo, a mwg y gweithfeydd haearn yn cuddio tlysni'r wlad ers talm pan glywid stŵr " arianddwr yn y Rhondda." Diau fod Coed-y-Castell a Bannau Brycheiniog yn y pellter wedi gosod eu hargraff ar ddychymyg y llanc; ond y mae'r berthynas yn rhy gyfrin inni fedru ei holrhain, ac ar y goreu ni allai ond rhoddi gogwydd i'r ddawn oedd ynddo.

Os dyna'r amgylchfyd, beth am ymateb y llanc iddo? Nid oes un hanes amdano fel am Verdi, pan yn fachgennyn, yn mynd i glustfeinio yn ymyl plas lle y canai'r ferch y piano ddydd ar ol dydd; neu fel ei gyfaill P. P. Bliss, pan glywodd yntau ganu yr un offeryn mewn tŷ gwych, a fentrodd i mewn i ymyl drws y parlwr, a phan beidiodd y canu, a ymbiliodd, "Oh, lady, play some more." Nid yw yr ychydig a ddywedir amdano ond yr hyn ellid ei ddywedyd am ddegau o fechgyn eraill, a'r ychydig hynny, y mae lle i ofni, yn ddim ond casgliadau o'i flynyddoedd dilynol,—ymgais i wneuthur ffrwd bore oes yn deilwng o'r afon fawr. Y mae gennym dystiolaeth uniongyrch un hen wraig (yn ol Cerddwyson), Mrs. Catherine Williams, yn awr yn 86ain mlwydd oed, yr hon a adwaenai'r teulu'n dda, ac oedd yn y tŷ pan aned ef, sef, y byddai'r cymdogion yn arfer ei wahodd i'w tai pan yn blentyn pedair a phum mlwydd oed i ganu a phregethu, ac yn rhoddi pres iddo am wneuthur hynny. Ond pan ddywedir wrthym ei fod pan tua seithmlwydd oed yn medru chwiban darnau clasurol seindorf y Gyfarthfa bob un, nid tystiolaeth mo hyn, ond enghraifft o'r "darllen yn ol" uchod, gan ei bod yn dra sicr na osododd neb y llanc dan arholiad mor fanwl ag a ragdybir yn y fath faentumiad. Wrth gwrs, y mae'n gwbl bosibl a thebygol hyd yn oed, yng ngoleuni ein gwybodaeth am ei glust deneu a'i gof gafaelgar, ond nid mynegiad syml o ffaith mohono yn y ffurf hon. Rhwydd gennym gredu, hefyd, yr hyn a ddywed Mr. Levi amdano: "Ceid anhawster i'w gadw i ganu y prif lais, ond mynnai o hyd ganu ail lais (seconds) a ffurfiai ei hun ar y pryd, tra fyddai'r athro Robert James yn arwain y bass. . . . Erbyn ei fod yn ddeg oed, yr oedd alto rhannau helaeth o oratorios Handel, Mendelssohn, a Haydn, a ddysgid ym Merthyr ar y pryd, ar ei gof." Nid yw dywedyd ei fod yn dilyn y seindorf drwy'r dref ond yr hyn a ellid ei ddywedyd am ddegau o fechgyn eraill. Y mae, efallai'n fwy nodweddiadol ohono iddo fynd i'r ysgol gân unwaith â'i wyneb yn fudr, gan gymaint ei hoffter o ganu, ac i Mr. Robert James ei yrru gartref i'w olchi; yn hyn, yn ddiau, "y plentyn yw tad y dyn," canys dioddefodd Parry drwy'i fywyd oherwydd gwneuthur y dosbarth o gyflawniadau a gynrychiolir gan "olchi'r wyneb " yn eilradd i gerddoriaeth. Ar amgylchiad dadorchuddio cofgolofn Ieuan Gwyllt gorfu iddo gerdded yr holl ffordd o'r orsaf, a chario'i fag, am ei fod yn gwisgo het jim crow wen—gwall trefnyddol sobr.

Y mae adeg plentyndod dyn, fel eiddo cenedl, yn tueddu i fynd yn gyfnod chwedlonol dan ein dwylo. Nid rhyw lawer o chwedloniaeth sydd yn gordoi hanes borëol Parry, er fod yna wisp ledrithiol yma a thraw. Yr hyn a deimlwn yw nad oes nemawr ddim sicr a nodweddiadol yn cael ei ddywedyd amdano a'n helpa i adnabod a gwerthfwrogi'r dyn a ddaeth allan o'r bachgen. Ond o hyn ymlaen, yn neilltuol o'r pryd yr ymroddodd o ddifrif i wasanaeth cerddoriaeth, y mae ôl ei sang yn fwy dwfn a phendant yn hanes ei wlad, ac y mae gennym hanes go lawn, nid yn unig yng nghof cyfeillion, ond mewn papurau a chyfnodolion o'i symudiadau a'i weithrediadau, a hwnnw'n hanes a ysgrifennid ar y pryd.

Wrth ddilyn ei hanes ar y wyneb, fodd bynnag, fe weddai i'r darllenydd gofio mai i fyd cerddoriaeth y perthynai Joseph Parry, ac mai ei waith cariad yn y byd hwnnw oedd cyfansoddi, uwchlaw popeth arall. Ac fel mai mynyddoedd Arfon a Meirion sy'n ffurfio nodwedd amlycaf Gogledd Gymru, er fod yno ddyffrynnoedd bras ac eang, felly i werthfawrogi[3] gwir ystyr bywyd Parry, rhaid inni ddilyn mynyddresi ei operas a'i oratorios, heb anghofio, bid siwr, y bryniau mwy tlws, a'r llecynnau mwy mirain a geir oddeutu eu godreon.


Tai'r Hen Gapel a'r Camlas.

Ganwyd Dr. Parry yn y tŷ olaf i'r dde (yn y darlun—olaf ond un yn y rhestr).

III. Dros y Werydd.

Hunan-gofiant:

1854, yr wyf yn rhoddi fy nghalon i'w Chreawdwr, ac yng Nghorffennaf yr un flwyddyn cymerir fi, gyda'm brawd a'm chwiorydd Elisabeth a Jane, gan fy mam dros y Werydd llydan i America (Danville, Pennsylvania, lle yr aethai fy nhad o'n blaen y flwyddyn flaenorol). Moriwn o Gaerdydd i Philadelphia yn y llong hwyliau Jane Anderson, ac yr ydym chwech wythnos a dau ddiwrnod ar y dŵr. Yn y fan hon syrth y llen ar dair blynedd ar ddeg cyntaf, fel ar ragware (prelude) fy mywyd. Yn awr daw ail len fy ngweledigaethau gyda'u digwyddiadau am lawn ugain mlynedd. Yr wyf yn y Rolling Mills, a symuda fy llafur ynddynt ger fy mron fel drama fawr o fywyd—o 1854 hyd 1865. Yn y Rolls, drwy ddwy waredigaeth wyrthiol oddiwrth ddamwain (1) drwy ffrwydriad berwedydd, pryd y lladdwyd fy nghydweithiwr yn fy ymyl, a (2) thrwy sidell doredig —arbedir fy mywyd tlawd i fod o ryw wasanaeth i gerddoriaeth gwlad fy ngenedigaeth (yr hyn wyf wedi ceisio ei wneuthur yn awr ers tymor hir).

Yn awr daw 1858 ger fy mron, ac yr wyf yn ol mewn ystafell fechan yn nhŷ fy athro cyntaf (y diweddar Mr. John Abel Jones o Ferthyr), lle y cynhelir ei ddosbarthau i ni hogiau'r felin ar brynhawn Sadwm o dri hyd bedwar o'r gloch, wedi i ni fod gartref wedi gwaith. Dysg ni i ddarllen cerddoriaeth fel aelodau o'r côr meibion. Yr wyf yn ddwy ar bymtheg oed cyn deall yr un nodyn o gerddoriaeth (er i mi ganu mewn amryw berfformiadau o draethganau ac offerennau ym Merthyr).

Yn yr ail chwarter fe dyr gwawr darllen cerddoriaeth ar fy meddwl, a pha beth bynnag a ysgrifenna fy athro ar y black-board bychan, yr wyf yn gallu ei ganu'n union. Gweithia ef a minnau gyda'n gilydd drwy'r nos am flynyddoedd—ef fel poethydd (heater), a minnau wrth y rolls. Yn awr, o'r pryd hwn allan, yr wyf yn gaethwas bodlon i gerddoriaeth. Yr wyf yn cyson dynnu ar ei wybodaeth helaeth ef. Tystia fy nghyfeillion ei fod yn aml yn dywedyd, "Ni ad y diafl bychan lonydd i mi o gwbl."

Daw 1859 ger fy mron, a myn fy nghyd-ysgolheigion i mi ffurfio dosbarth i ddysgu iddynt ddarllen cerddoriaeth a'i gwyddor. Yn awr, yr wyf yn ddeunaw oed, a chynghorir fi i astudio cynghanedd. "Beth yw cynghanedd? " meddwn. "Dysgu'r ffordd i gyfansoddi" yw'r ateb. Meddaf finnau tan wrido. Myfi i wneuthur fel Handel, Mozart, Beethoven, a'r meistri eraill" Rhoddir yn fy llaw holwyddoreg fechan Hamilton ar gynghanedd. Prynaf finnau ysgrif-lech a chrafaf erwydd o bum llinell arni ag un o ffyrch bwrdd fy mam. Cymeraf fy ymarferiadau drosodd yn ddyddiol i'm hathro ar yr ochr arall i'r heol i'w cywiro. Yn 1860, trosglwydda fi i'w gyfaill, Mr. John M. Price, Rhymni, i ddysgu cynghanedd. Af i'w dŷ ef bob prynhawn Sadwrn ar y cyntaf, ond yna fore Sul am naw. Yr wyf yno'n brydlon— yn aml cyn iddo godi.

Yr wyf yn awr yn bedair ar bymtheg oed, ac yn mynychu rehearsals y Pennsylvanians (Male Glee Party), y rhai a gân y canigau Seisnig goreu. Dylanwadodd hyn arnaf fel canigydd. Cynhaliwn lawer o gyngherddau yma a thraw; myfi eto fel alto, ond â'm llais yn cyfnewid. Esbonia (fy athro) i mi lyfr Dr. Marx ar gynghanedd, ac er ei syndod dargenfydd fy mod yn clywed yn feddyliol effeithiau yr holl gordiau y darllen amdanynt. Nadolig y flwyddyn hon gwna i mi gystadlu am wobr mewn dwy eisteddfod: (1) yn Danville, ar yr ymdeithgan ddirwestol. Rhoddir y wobr i mi, ond nid hoff gan y beimiad fy arddull. Y flwyddyn nesaf gwneir i mi gystadlu ar anthem o bwys yn Eisteddfod fawr Utica, ac yr wyf yn curo fy meirniad yn Danville, a'r canlyniad yw gornest newyddiadurol rhwng y cystadleuydd aflwyddiannus a'r beirniad, Mr. J. P. Jones, yn awr o Chicago. (2) Yn Fairhaven, Vermont, ar dôn gynulleidfaol, a rhennir y wobr rhyngof fi a Mr. Pritchard, hen gyfansoddwr. Fel hyn arweinir fi'n ol i ddechreu bore fy nghwrs fel cyfansoddwr ieuanc.

Y fath wynfyd! Yr wyf yn cael fy offeryn cyntaf— melodion bychan pedair wythawd sydd i'm henaid fel organ bibau fawr, neu gerddorfa gyflawn! Cofiaf yn dda y cordiau cyntaf a genais arni, sef y tri chord cyntaf yng nghanig Callcott, "Brenhines y Dyffryn." Y mae'r offeryn yn awr ym meddiant brawd fy ngwraig, Gomer Thomas, Danville, yr hwn a wrthyd ei werthu i mi.

Teifl y cof yn awr ei ffenestr yn fwy llydan-agored. Yr wyf yn yr hen eglwys briddfaen fythol annwyl yn hau hadau crefyddol fy oes ddyfodol—yn ei chôr, a chyrddau'r gwŷr ieuainc a'r Ysgol Sul, ac yn cerdded tri chwarter milltir deirgwaith bob Sul am lawer blwyddyn; yn canu'r melodion yn y côr, ac yna nos Sadwm yng nghyrddau'r gymdeithas ddadleuol, ac yn cario'r melodion ar fy nghefn bob wythnos i gyfeilio'r canu.

1861: Yr wyf yn awr yn fy ugeinfed blwyddyn, pan ddaw Cupid ym mherson fy nghyntaf a fy unig gariad, a'r un sydd i fod yn gymar bywyd i mi mewn llawenydd a thrallod (am ddeugain mlynedd erbyn hyn). Yr haf hwn danfonir fi fel efrydydd i'r cwrs haf o dri mis yn Geneseo, N.Y. Y mae rhai o'm cyd-efrydwyr erbyn hyn yn enwog, sef Madam Antoinette Sterling, Mr. P. P. Bliss, a Dr. Palmer. Efrydaf ganu dan y meistr mawr Eidalaidd, Bassini (cyfaill Rossini) a'r organ, cynghanedd, a chyfansoddiant dan yr Athro Cook. Fis Gorffennaf, tyr y rhyfel allan; â cannoedd o'm ffrindiau ieuainc i'r rhyfel, ac ychydig ddaw'n ol. Syrth y coelbren ddwywaith arnaf fi, a chyst i mi £200 i ddod yn rhydd. Pan ddychwelaf o'r coleg, af eto i weithio yn y melinau.

Yn awr, gorlifa 1862 â'i ddigwyddiadau fy nghof. Enillaf wobrau yn llawer o eisteddfodau'r America. Priodaf ar fy nydd pen blwydd, a chyfansoddaf ganig, "Cupid's Darts," yr hon a genir ar ol y cinio priodas. Gwasanaethaf fel beirniad am y waith gyntaf yn Hyde Park. Mor dda y cofiaf i mi fethu cysgu drwy'r nos oherwydd fy mhryder ynghylch beimiadu'r dydd canlynol.

1863: Gwna fy athrawon i mi gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe. Enillais ar yr oll a dreiais: Y motett (wyth gini); tair canig (pum gini), sef "Man as a Flower" (Male Voice), " Rhowch i mi fynghleddyf " (Male Voice) a "Ffarwel i ti, Gymru fad " (lleisiau cymysg). Yr oedd y canigau adnabyddus "Y Clychau," Yr Haf," a "Nant y Mynydd " yn y gystadleuaeth. Gohiriwyd rhoddi'r wobr o bum gini am y ddwy gorale nes cael prawf pellach o'u gwreiddioldeb. Wedi i mi yrru i mewn Rhif. 1, 2, a 3 o'r deuddeg corale a gyfansoddais y flwyddyn flaenorol, derbyniais y wobr. Nid yw fy nghynrychiolydd yn bresennol yn yr eisteddfod, fel nad yw fy enw fel y buddugwr yn wybyddus hyd nes i'm cyfeillion yn Danville ddanfon atynt. Yr wyf o hyd yn y melinau. (Gwêl. Restr 28 cyfansoddiad y flwyddyn).

1864: 'Rwy'n ennill yr holl wobrwyon yn Eisteddfod Genedlaethol Llandudno (£24 a medal): canon i dri llais, "Nid i ni, O Arglwydd"; y rhangan i leisiau gwrywaidd "Chwarae mae y Chwaon iach ; a'm dau gorawd, "Achub fi, O Dduw," a "Clyw, O Dduw, fy llefain" yn gyntaf ac yn ail.

Yr wyf o hyd yn y melinau—yn awr yn ben roller. (Gwêl. Restr 24 cyfansoddiad am y flwyddyn.)

1865, gyda'i nifer fwy a mwy pwysig o gyfansoddiadau ddatguddir nesaf i mi. (Gwêl. y Rhestr o 32 cyfansoddiad.)

Adlewyrcha drych y cof y cyfnod pwysicaf yn fy mywyd bach. Daw Eisteddfod Aberystwyth yn awr ger fy mron. Y mae fy llwyddiant parhaol yn eisteddfodau America yn gystal ag yn Abertawe a Llandudno yn peri i'm dau athro a'm brawd yng nghyfraith fy nwyn drosodd i'm gwlad a'm tref enedigol, ac i'r tŷ lle'm ganed, ac wrth gerdded rhwng yr hen olygfeydd, y mae fy nghân, "O give me back my childhood's dreams" yn toddi fy enaid i ddagrau. (Y flwyddyn ddiweddaf gyrrais i'r trigiannydd presennol fy narlun, ac yn ysgrifenedig arno, "Ganwyd fi yn yr ystafell hon, Mai 2iain, 1841—Joseph Parry.") Gadawaf fy mhriod a'm dau blentyn yn Danville. Yn New York cyfarfyddaf â brenin fy nghyfeillion dirif, amhrisiadwy, a byth-gofiadwy, sef John Griffiths, "Y Gohebydd," yr hwn, wedi gwylio fy llwyddiant yn Abertawe a Llandudno, fyn gael allan drwy'm cyfeillion hanes fy hynt a'm gorchwyl. Dargenfydd fy mod eto yn y Rolling Mills (yn rolio gini y nos o chwech hyd un o'r gloch), ac ysgrifenna gyfres o lythyrau hirion i'r "Faner." Moriwn yn yr agerlong The City of Washington (yr hon a groesa'r Werydd mewn deuddeg diwmod). Wedi cyrraedd Cymru awn i'r eisteddfod, ac er ein dirfawr syndod deallwn nad oes yr un o'm cyfansoddiadau yn y rhestr a dderbyniwyd gan y beimiaid. Cymerir mesurau yn union i'w holrhain yn y Dead Letter Office, yma ac yn America, ond i ddim pwrpas. (Pa le y maent? pwy a'u medd? ac i ba amcan? Cwestiynau na atebir byth mohonynt). Gwneir y ffeithiau hyn yn hysbys yn yr Eisteddfod, a thrwy'r papurau. Fy motett (buddugol yn Abertawe) yw'r prif-ddam corawl. Gofynnir i mi eistedd gyda'r beirniaid, ac felly y clywais fy nghorawd am y tro cyntaf. Am y waith gyntaf hefyd caf weld, cyfarfod, a siarad â Ieuan Gwyllt, Ambrose Lloyd, Gwilym Gwent, John Thomas (Blaenanerch), John Thomas (Pencerdd Gwalia), Alaw Ddu, Emlyn Evans, Tanymarian, a Rheithor Castellnedd, yr hwn wna i mi wrido wrth fy nghyflwyno i'r dorf anferth, a thywallt ei foliant drosof. Cymerir fi i'r "orsedd," a dwbir fi'n sydyn yn Pencerdd America ganPencerddGwalia. Y mae ysgrifau'r "Gohebydd" yn y "Faner" wedi dylanwadu ar Gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol i'w cael i gynnyg i mi ddwy flynedd o addysg dan Dr. Evan Davies, Abertawe, ac yn y Royal Academy yn Llundain—i gychwyn yn union. Derbyniaf y fath gynnyg mawrfrydig gyda diolchgarwch, a chaniateir i mi ddychwelyd adref at fy nheulu a dod yn ol y flwyddyn nesaf, 1866.

Un o gyfansoddiadau Aberystwyth yw "Ar don o flaen gwyntoedd"; nid oes gennyf gopi ohoni, ond yr wyf yn ei chopio'n union o'm cof, ac yn ei gwerthu i Mri. Hughes a'i Fab, Wrecsam, am 500 o gopiau, ac yn teimlo'n llawen oblegid y fargen fawr! Y mae copiau gennyf o'r gweddill ddanfonwyd i mewn. Am yr "Ar don" arall, a elwir "Gwaredigaeth," enilla hi'r wobr yn Eisteddfod Hyde Park, ar gyfer yr hon yn wir yr ysgrifennais yr un fwy adnabyddus— cenir y ddwy yn America.

Y mae fy nhri chyfaill a minnau'n cynnal cyfres o gyngherddau yng Nghymru, a gwneir y rhaglenni i fyny o ddetholiadau o'm Canigau, Rhanganau, a Chaneuon i fy hun.

Ym Medi dychwelwn adref ar yr agerlong City of New York, ar fôr garw iawn gan chwythiad y gwyntoedd cyhydnosol (equinoctial) am 56 awr, fel y bu rhaid atgyweirio'r llong wedi cyrraedd New York. Wedi cyrraedd, af yn ol at fy ngwaith hyd ddiwedd y flwyddyn.

Mor gerddorol yw eich stŵr, felinau, i mi; siffrwd eich sidellau aruthr, mydr eich peiriannau a'ch olwynwaith: y mae hyd yn oed fflachiadau eich troellau'n arddunol yn fy ngolwg; oblegid yn gymysg â chwi, ac yng nghlwm wrthych y mae fy holl gyfansoddiadau hyd ein hymwahaniad y flwyddyn hon. O! mor dda y cofiaf gyfansoddi fy Nhonau, Caneuon, Rhanganau, Canigau, Anthemau, Corawdau, a hyd yn oed fy Fugues—dygwyd hwy oll i fod yn eich cwmni chwi, sef y Motett, "Ar Don," "Ffarwel i ti, Gymru fad," etc.— ganwyd hwy yn sŵn eich miwsig chwi. Yr wyf yn cael fy hunan yn gweithio allan rai o'r rhannau mwyaf cymhleth â sialc gyda'r llawr haearn yn lle blackboard; ac yn defnyddio amser gorffwys i redeg adref i'n tŷ yn ymyl i'w copio, nes i mi glywed eich peiriannau'n mynd drachefn.

Dyma'n ddiau'r amser prawf dwysaf i iechyd, gyda'i lafurwaith corfforol caled ar y naill law, ac ar y llaw arall efrydiaeth gyson i weithio allan ymarferiadau Cherubini ac Albrechtsburger ar Wrthbwynt a Fugue o mor bell yn ol ag 1862, fel y dengys rhestr y flwyddyn.

Bu Nadolig y flwyddyn hon yn gyswllt mawr ar daith bywyd. Yr wyf yn beimiadu yn Eisteddfod Youngstown, Ohio; ffurfir pwyllgor pwysig mewn cysylltiad â'r Eisteddfod; y mae y "Gohebydd " yn bresennol; cyhoeddir a gwasgerir cylchlythyrau; apwyntir Parry Fund Committee cenedlaethol; gyrrir diolch i Gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol am ei gynnyg haelionus i'm haddysgu, gan ddywedyd ar yr un pryd y gwna Cymry America ymgymeryd â'r holl fudiad. Cyfarwyddir fi i ymneilltuo oddiwrth fy ngwaith blaenorol, gan osod terfyn felly ar fy nghysylltiad â'r gwaith haearn. Fel hyn y dygir i ben y drydedd olygfa bwysig yn nrama fy mywyd. Yr wyf yn ofni methu yn fawr.




Ni ddywed air am y cyfnod o 1854 hyd 1858; un o gyfnodau mwyaf derbyngar bywyd. Yr oll a ddywed Mr. Levi yw: "Wedi symud i America, ni chododd un wawr am fanteision addysg i Joseph Parry am flynyddoedd. Dilynai ei orchwyl yn y felin wrth y rolls yn ffyddlon, heb ddim cyfleusterau i efrydu." Yna, fel Parry ei hunan, pasia ymlaen at 1858, a Mr. J. Abel Jones.[4] Yn ol un hanes, " ymbiliodd " ar i Mr. John Abel Jones roddi gwersi iddo mewn cerddoriaeth; ond dywed ef ei hun, mai ar ddymuniad Mr. Jones yr ymunodd â dosbarth a gychwynasai ynglŷn â'r gweithfeydd haearn yn Danville. Yn y "Cerddor Cymreig" am Mawrth, 1869, mewn llythyr o'i eiddo i Mynorydd, fe ddywed, "Ffurfiodd Mr. Jones ddosbarth o wŷr ieuainc perthynol i'r Rolling Mills, ac ar ei ddymuniad ef ymunais â. hwynt. Dysgodd i mi ddarllen caniadaeth, trawsgyweiriad, etc., a chychwynnodd fi mewn cynghanedd. Pan ddechreuais y rhan hon o'r gwaith cymerodd Mr. Price fi ato, ac a ddysgodd i mi gynghanedd a chyfansoddiant." Dwg yr un dystiolaeth mewn llythyr diolch o'i eiddo yn y bennod nesaf.

Ar ol tair blynedd o astudiaeth, yr oedd yn rhaid iddo yn awr fel Cymro dreio'i ffawd a'i fedr mewn cystadleuaeth eisteddfodol. Yn hyn bu yn dra llwyddiannus y tuhwnt i neb o'i frodyr, pa un bynnag a yw popeth a ddywed yr arwr-addolwr amdano yn wir ai peidio. O leiaf, nid rhaid i'w hanes wrth ormodiaith y gwr hwn, fel nad rhaid i Arthur wrth ffyn baglau. Dywedir—yn wir, dywed ef ei hun—na chollodd wobr erioed mewn cystadleuaeth. Digon posibl: eto dim ond y meddwl cystadleuol amrwd, yn gwneuthur "coronau o ddail crinion" yn achlysur bost fyddai'n cysylltu llawer o bwys â hyn. Clod amheus iawn ydyw. Nid athrylith yn aml sy'n llwyddo yn y busnes hwn. Byddai'n dda gennym pe buasai rhai hyd yn oed o'i weithiau borëol yn ddigon newydd a gwreiddiol i golli'r wobr. Dyna hanes athrylith wir erioed, er i'r beirniaid fod y blaenaf yn eu hoes. Buasai Weber yn cyhoeddi "Eroica" Beethoven yn anheilwng o wobr, ac nid heb gryn betruster—ar y cyntaf—y rhoddasai Beethoven wobr i Schubert. Ni wobrwyasid Berlioz gan Cherubini, na hyd yn oed gan Mendelssohn, ag eithrio'i "ganeuon." Ym myd llên meddylier am y fath dderbyniad gafodd Robert Browning a George Meredith.

Enillodd ei wobr gyntaf yn Eisteddfod Danville, Nadolig, 1860, fel y dywed; a'i ail yn Eisteddfod bwysicach Utica y flwyddyn ddilynol, pan orchfygodd ei feirniad yn Danville, ac ennyn ei ddigllonedd. Yn wir, gorwedd gwerth pennaf ei wobr gyntaf a'i ail yn y ffaith iddynt greu cynnwrf mawr o'i gylch, ac i'r rhai a ymosodai ar ei feirniad am wobrwyo un mor ieuanc, alw sylw ei gydwladwyr ato, a'u symbylu i drefnu ffordd i roddi iddo chwech wythnos o addysg mewn ysgol haf gerddorol yn Geneseo, New York, yn y flwyddyn 1861; lle y daeth dan athrawon medrus, ac i gyffyrddiad â chyfeillion megis P. P. Bliss a Madam Antoinette Stirling, fu o fantais a symbyliad pellach iddo. Cychwynasid yr ysgol dan yr enw "Normal Academy of Music " yr haf blaenorol ym misoedd Gorffennaf ac Awst, dan yr athrawon Perkins, Cook, Bassini, ac eraill. Yr oedd y manteision a gynhygid mewn addysg a disgyblaeth gerddorol yn eithriadol, ac nid rhyfedd eu bod yn ffurfio prif ganolbwnc diddordeb pobol gerddgar y wlad. Y'n ei ddyddlyfr am 1861 ysgrifenna Bliss "Summer at Geneseo, New York, T. E. Perkins, T. J. Cook, Pzchowski, faculty this season." Priodolai Bliss ei fedr fel datganydd yn bennaf i'r ddisgyblaeth wyddonol a dderbyniodd dan Bassini—ffugenw Parry, gyda llaw, yng nghystadleuaeth y deuawd yn Abertawe—a diau y teimlai yn ei ddadleuon â Garcia yn yr R.A.M. fod Bassini y tu cefn iddo. Eto anodd gweld fod eisiau fund gyhoeddus i'w alluogi i fynd i'r academi honno, canys deg doler ar hugain yn unig a farnai Bliss yn ddigon i'w gynnal—y rhai a gafodd gan ei famgu o ryw hen hosan gêl oedd ganddi. Nid hir y byddai'r melinau oedd yn "rolio gini'r nos" cyn gwneuthur y swm hwn i fyny.

Ar ol y tymor byr ond effeithiol a thrylwyr hwn o addysg, a chryn dipyn o ymarferiad pellach yn 1862, mentrodd Parry i faes cystadleuaeth yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghymru "i ymladd â hen geiliogod," chwedl Gwilym Gwent—a'u gorchfygu hefyd, yn neilltuol mewn rhan o'r maes. Yn ol yr hanes yn y "Cerddor Cymreig," ymddengys ei fod yn rhagori yn nhiriogaeth yr Anthem a'r Fotett yn fwy na chyda'r Ganig a'r Dôn. Allan o saith gwobr am gyfansoddi yn Eisteddfod Abertawe, 1863, enillodd ef ddwy, sef am Fotett a thair Canig, tra y rhannwyd y wobr am y Dôn Gynulleidfaol oreu rhyngddo ef a David Lewis, Llanrhystyd, ac am y Deuawd goreu, rhyngddo ef a Gwilym Gwent. Dywedir am ei Fotett ei bod yn "dra rhagorol "; ond dyma ddywed Ieuan Gwyllt ar y "Tair Canig"— 'Y tair canig oreu o eiddo yr un awdur yw eiddo 'Hoffwr Amrywiaeth'; ond os detholwn y tair canig oreu o'r holl gyfansoddiadau sydd yn y gystadleuaeth y maent yn sefyll fel y canlyn: 1, Hoffwr Amrywiaeth, Rhif 1 (J. Parry); 2, Davy (J. Thomas); 3, Hoffwr Amrywiaeth, Rhif 3; Emest Augustus, Rhif 1 (Gwilym Gwent)." Yn hynod iawn, yn y gystadleuaeth am y Chwech Alaw Gymreig oreu, nid y chwech goreu at ei gilydd o eiddo'r un awdur a wobrwywyd, ond tair o eiddo Gwilym Gwent, dwy o eiddo D. Lewis, ac un gan John Thomas, a hynny, er fod y beimiaid yr un ag ar y Canigau a geiriad y testun yn gyffelyb, sef, am y Tair Canig oreu (nid goreu); am y Chwech Alaw Gymreig oreu (nid goreu}. Rhoddasai Ieuan Gwyllt y wobr am y Deuawd goreu i Gwilym Gwent am ei fod yn well drwyddi; ond yr oedd mwyafrif y beimiaid yn ffafr ei rhannu.

Yn Eisteddfod Llandudno, y flwyddyn ddilynol, ef enillodd ar yr Anthem (gwobr gyntaf a'r ail), y Ganig, y Rhangan a'r Canon. Enillwyd ar y ddwy Dôn Gynulleidfaol gan J. Thomas a D. Lewis. Dywedai y beimiaid am anthemau Parry, eu bod "yn ymddyrchu'n annhraethol uwchlaw y lleill i gyd, fel nad oedd ganddynt y petruster lleiaf i'w ddyfarnu'n oreu."

Ni chyrhaeddodd ei gyfansoddiadau ar gyfer Eisteddfod Aberystwyth (1865) ddwylo yr ysgrifennydd o gwbl, fel y gwyddis; ond yng Nghaerlleon y flwyddyn ddilynol[5] terfynodd â choronodd ei yrfa gystadleuol â Chantawd, "Y Mab Afradlon," am yr hon y dywedai y beirniaid ei bod " y cyfansoddiad goreu o lawer a anfonwyd i unrhyw Eisteddfod yn eu cof hwynt."

Gyda golwg ar gyfansoddiadau Aberystwyth, y mae'n amlwg nad oedd gan Parry mor ddiweddar a 1902 unrhyw wybodaeth na thyb bendant beth ddaeth ohonynt. Y dyb fwyaf cyffredin a barnu wrth ei fywgraffiadau yw iddynt syrthio i ddwylo rhywrai a genfigennai at ei Iwyddiant, a cheisio ei rwystro. Ond pwy, tybed, fyddai'n debyg o genfigennu at ei Iwyddiant ond ei gyd-gystadleuwyr, yn neilltuol y rhai oedd yn llwyddiannus yn flaenorol? A phwy oedd y rheiny? Gwilym Gwent, John Thomas, a David Lewis—y tri diniweitiaf, yn ddiau, ar y ddaear! A sut y daethant o hyd i'r cyfansoddiadau?

Llai ffôl yn sicr y ffansi i bysg y gorddyfnderau, ymhell islaw'r don a'r gwyntoedd, gael cyfle i synnu ac ymholi uwchben dieithrwch y fath gampweithiau cymhleth o nodau, a chrychnodau, a gogrychnodau, megis y gwna Hardy iddynt ymholi ym mharlyrau'r Titanic:

Dim moon-eyed fishes near
The daintily gilded gear
Gare querying " What does all this
Sumptuousness down here? "

Dengys ei hanes pellach inni mai y fantais bennaf a ddaeth iddo o'r cystadlu hyn oedd iddo nid yn gymaint ennill gwobrau, ond ennill sylw personau o ddylanwad fel y "Gohebydd," a'r Parch. Thos. Levi, a gwŷr blaenllaw'r eisteddfod mewn llên a chân, a'u galw at ei gilydd i bartoi ei ffordd at fanteision cerddorol mwy nag a gawsai. Rhaid inni hefyd roddi iddo yntau y clod a deilynganid yn unig fel cerddor ieuanc o allu a diwydrwydd, ond fel dyn ieuanc o fenter a challineb i weld ac i gymryd y ffordd a'i cynhygiai ei hun iddo i ddisgyblaeth uwch a bywyd llydanach, gan adael byd bach cystadlu am byth o'i ol.

Yn ol rhai o'i fywgraffwyr gadawodd y gwaith haearn i weithredu fel organnydd eglwys wedi gorffen ei dymor yn ysgol haf 1861. Nid cywir hyn, yn ol ei lythyi* i Ieuan Gwyllt yn 1864 (gwêl. y " Cerddor Gymreig " am Medi). Yn y llythyr dywed: "Oddiwrth yr hyn a ddywedwch yn y "Cerddor," ymddengys eich bod yn tybied mai organnydd ydwyf, ac nid gweithiwr. Ond y gwirionedd ydyw, yr wyf yn mynd ar dair ar hugain oed, ac yn gweithio yn galed bob dydd mewn Rail Mill; ac felly nad oes gennyf lawer o amser nac arian wrth fy llaw."

Yn ddiweddarach, fodd bynnag, gallwn gasglu iddo gael ei apwyntio'n organnydd eglwys yn Danville yn 1866, canys darllenwn yn y "Cerddor Cymreig" am Chwefror, 1869: "O'r diwedd, tua thair blynedd yn ol, cafodd le fel organnydd mewn eglwys Bresbyteraidd; ac o hynny allan rhoddodd i fyny weithio haearn." Gan fod Parry yn ei lythyr at Mynorydd—a ddyfynnwyd eisoes—yn cywiro rhannau o'r ysgrif hon, heb awgrymu fod yr hanes hwn amdano fel organnydd yn anghywir, diau y gallwn ei gymryd fel un cywir. Os felly, cafodd ei gyflogi'n organnydd tua'r un adeg ag y rhoddodd i fyny weithio yn y melinau, neu'n fuan wedyn; ond nid yw'r dyfyniad uchod yn gywir mai cael swydd fel organnydd oedd yr achos. Yr oedd, bid siwr, yn canu ei offeryn bach ei hun, medd ef, cyn hyn—yn y gwahanol gyfarfodydd yn ei gapel ei hun.[6]

IV. Yr Athrofa Frenhinol (R.A M.).

Hunan-gofiant:

TYDI, amser byth-wibiol, y fath gyfnewidiadau a ddygi yng nghwrs ein bywyd brau!

1866 addaw yn awr, ac yr wyf finnau ar daith gyngherddol yn cario allan raglen y pwyllgor. Ymwelaf ag Utica, New York, cartref wythnosolyn Cymraeg America, "Y Drych." Cynhaliaf fy nghyngherddau cyntaf ym mhentrefi gwledig Oneida Co.—y cyngherddau cyntaf i'w cynnal erioed yn yr eglwysi: ni chaniateir argraffu na gwerthu tocynnau— dim ond casgliadau! Y fath ddechreuadau bychain! Casgliadau 10 cent A Teimlwn fod tâl godidog fy melinau troell lawer yn well na'r ymweliadau ofnus hyn â dieithriaid na wyddant ddim, ac na chlywsant erioed amdanaf fi, dylawd! Ymwelaf â'r parthau chwarelyddol, a threfi poblog Ohio, ac ardaloedd mwy cydnaws y gweithfeydd glo a haearn. Derbyniaf garedigrwydd a lletygarwch, bid siwr, ymhob man, ond y mae eich ardaloedd hefyd yn ganolbynciau llawer o haelioni, ac ni bydd i mi anghofio llawer o'ch lleoedd, a chyfeillion, tra yr erys fy nghof ar ei sedd. Yr wyf gyda chwi, gyfeillion Youngstown, cartref y mudiad, a phrif fudiad fy mywyd i, heddyw mor ffres ag erioed, eich pwyllgorau, eich cyngherddau, a'ch swperau; sut y medraf anghofio eich wynebau na'ch enwau hyd yn oed? Y mae Newburgh hefyd fyth yn ffres, y llu o ffrindiau siriol, a'r nifer o wythnosau dedwydd a fwynheais gyda chwi. A llawer i dref arall yn Ohio, a'u llu cyfeillion, yr wyf gyda chwi un ac oll unwaith eto, ac mor swynol ydyw byw y dyddiau hyfryd hynny unwaith yn ychwaneg!

Yma yn Newburgh y gorffennais fy "Mab Afradlon" ar gyfer y wobr o £20 yn Eisteddfod Caer; wedi llafurio wrtho mewn trains, a badau, a chartrefi y mae'n cipio'r wobr. Dyma'r olaf o'm cystadleuaethau, bob tro'n llwyddiannus ag eithrio'r hanner gwobr am Gorale yn 1861. (Anghofia'r deuawd a'r dôn yn Abertawe.) Ni fedraf eich anghofio chwi, gyfeillion Gomer, Ohio, gyda'r sefydlwyr haelionus a lletygar o Lanbrynmair—prawf fy ymweliadau aml â chwi ein cariad y naill at y llall. Dwg fy nheithiau fi hyd afon Ohio, i dreulio dyddiau a nosweithiau ar y Mississippi, yn gystal a'r Hudson fyd-enwog. Yn y breuddwydion effro hyn yr wyf hefyd gyda chwi yn Cincinnati, Chicago, Racine, a Milwaukee, a'ch sefydlwyr yn Wisconsin, a chwithau yn Cambria, mor falch gan fy nghalon adnewyddu ei hatgofion amdanoch oll yna.

Daw Pennsylvania, fy nhalaith fy hun, ger fy mron fel panorama symudol a byw, a Pittsburgh, a Johnstown hyd y Dwyrain—i lygad, a chalon, a chariad, yr ydych fel yn fyw o'm blaen! . . . A thithau hen Ddanville annwyl, a Hyde Park, a Scranton, a Lackawanna Co.—fel y daw eich eglwysi, corau, cyngherddau, eisteddfodau, ac atgofion am ddigwyddiadau, enwau cyfarwydd a wynebau o'm blaen; er fod llawer ohonoch wedi meirw ers llawer dydd, eto yr ydym gyda'n gilydd unwaith eto yn gystal a chwithau sydd eto'n fyw.

Ac nid yw fy astudiaethau colegol yn Danville yn anghof, na fy neuddeng mlynedd dedwydd fel organnydd yn Eglwys Bresbyteraidd Danville, gyda'm Quartette Choir—yr ydych yn benodau hyfryd yn llyfr fy mywyd.

O amser a chof!—y fath wydr-ddrychau ydych! Yma y disgyn y llen eto ar bedwaredd golygfa fy mywyd. Fel y cyffrowch fi, ac y toddwch fi â'ch atgofion!

1868—1871: Gadawaf fy nghartref dedwydd a'm gwraig a'm dau fachgen (Haydn a Mendy) am flwyddyn gyfan i ddod yn y City of Brussels i Lundain i astudio yn y Royal Academy of Music. Nid wyf yn adnabod un enaid yn Llundain; y mae'r ychydig wyf yn adnabod (yn y wlad hon) yng Nghymru. Derbynnir fi i'r dosbarth uchaf mewn cyfansoddiant dan y Prifathro Syr Stemdale Bennett (cyfaill i Mendelssohn); efrydaf ganu'r organ dan Dr. Steggall, a lleisiadaeth dan y byd-enwog Signor Manuel Garcia. Derbyniaf wobr ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf, pryd y gofynna Mrs. Gladstone " Ai Cymro ydych?" ac ar fy ngwaith yn ateb Ie, Madam, ychwanega hithau, "Cymraes wyf innau hefyd, ac y mae'n hyfrydwch gennyf gyflwyno gwobr i chwi fel fy nghydwladwr." Derbyniais wobr uwch ar ddiwedd yr ail flwyddyn, pryd y cyfarchodd (Mrs. Gladstone) fi eilwaith gyda boddhad. Ar derfyn fy nhrydedd blwyddyn enillaf fedal a phasiaf fy arholiad am y radd o Mus. Bac. yng Nghaergrawnt—y Cymro cyntaf i wneuthur hynny.

Cyn gadael Llundain, rhoddaf gyngerdd o'm gweithiau fy hun yn St. George's Hall, yr hwn a ddug i mi £50 o elw. Cynhaliwyd Conversazione hefyd yn Aldersgate St. Hall, pryd yr oedd yn bresennol Henry Richard, A.S., a llawer eraill. Cyflwynwyd tysteb ynghydag oriawr aur i mi, a modrwy ddiemwnt i'm priod—y rhai sydd gennym yn awr.

Yr wyf yn bresennol mewn dau o'r Buckingham Palace State Concerts, ar wahoddiad yr arweinydd, Syr W. S. Cusins, fel un o ychydig nifer; ac yn agoriad yr Albert Hall. Y mae'r holl deulu brenhinol yn bresennol yn y ddau gyngerdd.

Yr wyf gyda'm teulu yn mynychu Capel Annibynnol Hwfa Môn yn Fetter Lane yn ystod y tair blynedd.

Bob Nadolig byddaf yn beirniadu yn y Temperance Hall, Merthyr, ar yr un esgynlawr ag y sangwn arno yn hogyn.

Fel hyn y dygodd edyn euraid (cof) fi drwy'r golygfeydd pwysig hyn yn nrama fy mywyd, a chaiff fy nyddiadur yn y fan hon ail-adrodd coffawdwriaeth blynyddoedd ffrwythlon 1868—70—71. (Gwêl y Rhestr ar y diwedd.)




Ynglyn â'i ddyfodiad i'r Athrofa Frenhinol efallai na ellir dechreu'n well na thrwy'r dyfyniad a ganlyn o anerchiad Brinley Richards yn Eisteddfod Abertawe, 1880:

"Yn Eisteddfod 1863," meddai, "cefais yr anrhydedd o fod yn un o'r beirniaid a derbyniais dros gant o lawysgrifau cystadleuol am y wobr am y Dôn neu'r Goral oreu. Yr oedd y cyfansoddiad i'r hwn y dyfernais y wobr gymaint uwchlawy cyffredin, fel ag yr oeddwn yn awyddus i wybod rhywbeth am y cyfansoddwr, a phan ddeellais mai Cymro ieuanc yn byw yn America oedd, awgrymais y dylid dyfeisio rhyw lwybr er iddo gael addysg yn Lloegr; a'r canlyniad oedd—drwy ddylanwad cyfaill tra theilwng a chenedlgarol adnabyddus drwy yr oll o Gymru fel 'Y Gohebydd'—i nifer o Gymry yn America ffurfio eu hunain yn bwyllgor: casglasant dros 2000 o ddoleri ac anfonwyd y dyn ieuanc i'r Athrofa Gerddorol Frenhinol, lle y cefais y pleser o'i gyflwyno i'r diweddar Syr Sterndale Bennett. Ar ol astudio am rai blynyddoedd yn yr Athrofa, cymerodd ei radd yng Nghaergrawnt. Prin y mae angen ychwanegu mai cyfeirio yr wyf at Dr. J. Parry. Oddiar hynny, y mae wedi cynhyrchu yr Oratorio 'Emmanuel' gwaith mor ysgolheigaidd ac wedi ei ysgrifennu mor dda fel ag i gyfiawnhau y gred y bydd iddo eto yn y dyfodol ychwanegu at yr anrhydedd y mae eisoes wedi ei ennill."

Y mae Mr. Richards yn camu'n fras o'i awgrym ef ar ol Eisteddfod Abertawe yn 1863 i "Drysorfa Joseph Parry" yn 1866. Y mae'n bosibl torri'r cam mawr yna i nifer o rai llai; canys gwyddom i Parry gyfarfod â'r "Gohebydd " am y waith gyntaf yn New York pan ar y ffordd i Eisteddfod Aberystwyth; i lythyr y "Gohebydd," wedi iddo edrych i mewn i'w hanes, ysgogi awdurdodau'r Eisteddfod i gynnyg iddo dddwy flynedd o addysg; ac iddo wedyn gael caniatâd i ddychwelyd i America'n gyntaf. Galluoga "Cofiant y 'Gohebydd'" (gan ei frawd) ni i gymryd cam arall, a hynny ar sail tystiolaeth Parry ei hun, medd y Gofiannydd. Aethai'r "Gohebydd" gyda Dr. John Thomas a Mr. G. R. Jones, Llanfyllin, i gynhadledd fawr Boston yn 1865, fel cynrychiolwyr Annibynwyr Cymru. Arhosodd yno ddwy flynedd, ac yn ystod 1866 (diwedd 1865 fyddai'n gywir) "daeth Parry i New York o Pennsylvania lle y gweithiai." Dywedodd wrth y "Gohebydd" ei fod yn ymwybodol o dalent gerddorol, a bod ei awydd am ei datblygu'n angherddol drwy gael cwrs o addysg yn yr R.A.M., a chymryd ei radd yn Nghaergrawnt. Gofynnodd y "Gohebydd" iddo a oedd yn mynd i Eisteddfod Youngstown (Nadolig 1865). "Yr wyf yn feirniad yno," oedd yr ateb. "Wel, ni gawn weld be wna pwyllgor yr Eisteddfod ynglŷn â chychwyn trysorfa." Cafodd y "Gohebydd" gan y Pwyllgor i gynnal cynhadledd y diwmod dilynol. Cafwyd adroddiad gan y cerddor ieuanc o'r hyn a gymerodd le yn Eisteddfod Aberystwyth, a phasiwyd penderfyniadau o bwys.

Ond cyn dod at y penderfyniadau hyn, y mae anhawster ynglŷn â'r cam o "awgrym" Mr. Brinley Richards i weithgarwch y "Gohebydd." Oblegid yn y lle cyntaf, ni chafodd Parry y wobr lawn am y ddwy Dôn oreu, ond rhannwyd hi rhyngddo a Mr. D. Lewis, Llanrhystyd, medd y "Cerddor Cymreig," yr hwn a ddywed ymhellach: "rhoddid canmoliaeth uchel iawn i'r cyfansoddiadau hyn." Heblaw hyn, gall y dyfyniad uchod o anerchiad Mr. Richards yn Abertawe arwain y darllenydd (fel yr arweiniodd y Cofiannydd) i dybio iddo siarad yn uniongyrch a "Gohebydd," ac felly mai iddo ef (Mr. Richards) yn y pen draw y mae y clod yn ddyledus am addysg Parry, hyd nes darllen y llythyr a ganlyn oddiwrth Mr. Richards i'r "Gohebydd," yr hwn a brawf nad felly y bu, gan y cyfeiria at Parry ac Eisteddfod Abertawe fel testunau na fu siarad amdanynt rhyngddo a'r "Gohebydd" o'r blaen. Y mae'r llythyr yn ddyddiedig Gorffennaf 13, 1871, ac wedi ei ysgrifennu mewn ateb i wahoddiad i gwrdd ffarwel Parry, wedi gorffen ei gwrs yn Llundain:

"Annwyl Ohebydd, Y mae'n bleser o'r mwyaf gennyf i dderbyn eich gwahoddiad i'r cyfarfod y bwriada cyfeillion Mr. Parry roddi eu ffarwel iddo ynddo ar ei ymadawiad am America. Y mae gennyf ddiddordeb personol (mewn ffordd o siarad) yn hanes Joseph Parry. Yr ydych yn ddiau'n cofio Eisteddfod Genedlaethol Abertawe ychydig flynyddoedd yn ol, pryd y cefais, ymysg dros gant o gyfansoddiadau a ddanfonwyd i'r gystadleuaeth, un mor bell uwchlaw'r cyffredin o weithiau o'r fath, fel yr amheuais ei wreiddioldeb,—tybiwn mai lladrad ydoedd! Digwyddais fod yn Eastbourne gyda'm cyfaill Syr Stemdale Bennett, a dangos y cyfansoddiad iddo, Ámheuai yntau wreiddioldeb y gwaith fel fìnnau, ac awgrymodd archwiliad mewn cyfrol o Goralau gan Bach. Trodd pethau allan yn ffafr awdur y cyfansoddiad. Gynhaliwyd Eisteddfod Abertawe ychydig wythnosau wedi'r ymddiddan uchod, ac wrth feirniadu'r cyfansoddiadau, crybwyllais yn fyr yr hyn a ddigwyddasai, a dywedais, os medrai'r ysgrifennydd brofi ei hawl, ac os na chodai amheuon pellach, y caffai'r wobr. Yr awdur ydoedd Joseph Parry. Pan ddaeth i Loegr yn ddiweddarach, cymerais ddiddordeb pellach ynddo, ac ysgrifennais ar ei ran at Syr Sterndale Bennett, Prifathro'r Athrofa Frenhinol . . "

Ni fyddai'n deg â Mr. Richards i'w gyhuddo o hawlio clod na pherthyn iddo, llai fyth o wyrdroi neu hyd yn oed gamliwio ffeithiau. Ni ddywed mewn cynifer o eiriau iddo grybwyll y mater wrth y "Gohebydd" ei hun—fel y dywedwyd, brasgamu y mae, a diau mai'r gwir yw iddo alw sylw cyfeillion y tu mewn i'r cylch eisteddfodol at deilyngdod eithriadol y gwaith a'r awdur. Yr oedd yn llawn o'r peth, mae'n amlwg, gan iddo ei ddwyn i sylw Syr Stemdale Bennett—fel mai'r diwedd fu i "Gohebydd " gymryd at y gwaith o symbylu ei gydgenedl i gyfrannu at addysg Parry.

Aethai'r "Gohebydd" i New York i weld y "bechgyn o Danville " ar eu ffordd i Eisteddfod Aberystwyth, a daeth o hyd iddynt yn Hotel Mr. Eleazer Jones, lle'r oedd " hi'n ganu y pryd hwnnw o'r bore " (chwech o'r gloch). Dywed y "Gohebydd" ymhellach: [7]"Pan gyrhaeddais New York y bore hwnnw o Utica, a phan ddaeth Mr. Eleazar Jones a'r 'Gohebydd' a Joseph Parry at ei gilydd, prin y gallwn gredu mai y llencyn llyfndew difarf hwnnw oedd y Joseph Parry y clywswn gymaint amdano. 'Nid y dyn ieuanc hwn, 'does bosibl' meddwn, 'yw hwnnw a ysgubai wobrau Llandudno o'i flaen—'does bosibl mai hwn ydyw hwnnw.' Gwenodd y llanc, a throdd draw, ac ebe un o'r cwmni, 'Hwn yna ydyw ef, gellwch fod yn eithaf tawel am hynny.' A hwn oedd o. Yn awr, i dorri'r stori'n fyr, y mae gennyf air at gyfeillion yr Eisteddfod ynghylch y Joseph Parry hwn, a dyma fe: dyn ieuanc yw Parry, tair ar hugain oed, genedigol o Ferthyr Tydfìl. 'Dw i ddim yn cofio pa sawl blwyddyn sydd er pan ddaeth drosodd i America, ac ni waeth. Gweithia yn galed bob dydd yn un o weithfaoedd haearn Pennsylvania. Ni chafodd ddiwrnod o ysgol heblaw a gafodd yn yr Ysgol Sul, nac unrhyw hyfforddiant yn y gelfyddyd gerddorol heblaw yn unig a gafodd gan un neu ddau o'i gydweithwyr. Y cwestiwn sydd gennyf i'w ofyn yw hyn—Onid oes modd rhoi rhyw gychwyniad i'r dyn ieuanc hwn, Joseph Parry, fel ag i'w osod mewn sefyllfa ag a fydd yn fwy cydnaws â'r elfen gerddorol sydd wedi ei phlannu yn ei enaid, lle y gall fod o well gwasanaeth i'w genedl, i'w oes, ac i'r byd, na bod yn treulio ei nerth a'i ddyddiau o flaen ffwrneisiau Danville, yn toddi haearn? Dyma ydyw un o amcanion proffesedig yr eisteddfod—un o'i hamcanion mawrion cyntaf—un o'i phríf stock-in-trade: sef cefnogi a chynorthwyo native talent. Dyma Iwmp o 'genius 'does dim un os am hynny. Y mae yn resyn ac yn bechod fod y fath dalent ag sydd yn hwn yn cael ei gwario yn ofer. Oni byddai'n bosibl cynllunio rhyw fesurau fel y gellid ei anfon maes o law o Aberystwyth i'r Athrofa Frenhinol, neu yn hytrach am dymor i gychwyn, o dan addysg Dr. Evan Davies, neu rywun arall, ac wedi hynny i Lundain?

"Nid oes gennyf ond cyflwyno achos ein cyfaill ieuanc a'n cydwladwr talentog, Joseph Parry, i ofal Rheithor Castellnedd, gyda dymuno arno fel cadeirydd Gyngor yr Eisteddfod i gymryd ei achos o ddifrif mewn llaw."

Yn ddiweddarach, ar ol yr Eisteddfod, ysgrifenna:

"Yn gymaint ag mai'r ' Faner ' a ddigwyddodd daflu allan yr awgrym cyntaf ynghylch y peth, goddefer i mi yn y fan hon, droswyf fy hun, i ddiolch yn gynnes i Gadeirydd ac Aelodau Gyngor yr Eisteddfod am eu sylw parod, dioed, a charedig i'r awgrymiad hwnnw."

Cawn hanes llawn o'r hyn a wnaed yng Nghynhadledd Youngstown yn y llythyr a ganlyn o'r "Drych" am Chwefror 13, 1868:

Trysorfa y "Parry Fund"

"Ym Mhwyllgor Cyffredinol Eisteddfod Youngstown am y flwyddyn 1865, a gynhaliwyd drannoeth yr Eisteddfod, yn yr hwn yr oedd 'Gohebydd' Llundain, Aneurin Fardd, Parch. J. Moses, ac amryw enwogion eraill, cymerwyd achos Joseph Parry mewn llaw gyntaf erioed yn y wlad hon, fel y gwŷr y rhan fwyaf o ddarllenwyr y 'Drych.' "Achoswyd hyn gan y cynhygiad a dderbyniodd y Pencerdd pan yn talu ymweliad â gwlad ei enedigaeth, gan bwyllgor yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghymru, yn cynnyg dwyn ei dreuliau addysgiadol yng Ngholeg Normalaidd Abertawe, ac am flwyddyn arall yn yr Athrofa Frenhinol, Llundain.

"Yn wyneb y cynhygiad haelfrydig hwn, barnem fel cyfarfod y byddai yn anfri arnom fel cenedl yn y wlad hon i adael i Joseph Parry dderbyn ei addysg trwy offerynoliaeth Cymry y fam wlad yn gwbl annibynnol ar gymorth ac ymdrechion ei gydwladwyr yn America. Nid oeddem am i'r Pencerdd wrthod cynhygiad haelionus Pwyllgor yr Eisteddfod Genedlaethol, ond barnem y dylai Cymry y Taleithiau Unedig gael rhyw law yn yr achos—y dylent hwy gael mantais i daflu eu hatlingau i'r drysorfa er ei gynorthwyo i ddatblygu talent obeithiol ac ymdrechol ein Pencerdd. Felly mabwysiadodd y cyfarfod dywededig y penderfyniadau canlynol:

"1.—Ein bod fel cyfarfod yn diolch i bwyllgor yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghymru am eu parodrwydd a'u haelfrydigrwydd i gynorthwyo talent obeithiol.

"2.—Ein bod fel cyfarfod yn cymeradwyo Joseph Parry i dderbyn y cynhygiad haelfrydig os byddai hynny yn gydnaws â'i farn a'i deimlad.

"3.—Ein bod fel cyfarfod yn addaw ein cynhorthwy iddo mor bell ag a fydd yn ein gallu, ac hefyd i apelio at garedig- rwydd a haelionusrwydd ein cyd-genedl yn America yn ei achos.

"Mewn canlyniad i hyn neilltuwyd pwyllgor gweithredol o ddynion gweithgar a chenedlgarol y dref a'r cylchoedd, ac hefyd bwyllgor cyffredinol o enwogion y wlad y rhai a feddyliem a deimlent ddiddordeb yn y mudiad, a da gennyf hysbysu iddynt oll oddieithr un gydsynio ac addo eu dylanwad o blaid y mudiad.

"Felly argraffwyd cylch-lythyrau (circulars), a gwasgarwyd hwy ar hyd a lled y wlad. Dechreuwyd y drysorfa yn weithredol trwy i bwyllgor Eisteddfod Youngstown gyfrannu 50 doler tuag ati. Yr amcan mewn golwg oedd codi trysorfa dim llai na thair mil o ddoleri, a da gennyf hysbysu cyfeillion y mudiad nad ydys ymhell o gyrraedd yr amcan, fel y gwelir wrth yr Adroddiad o Sefyllfa Ariannol y Drysorfa.

"Drwg gennym na allwn roddi hanes cynnyrch pob cyngerdd ar ei ben ei hun; buasai hyn yn foddhad mawr i'r amrywiol ardaloedd sydd wedi cydweithredu â'r mudiad mor ardderchog. Gan na allwn roddi cynnyrch pob lle yn arbennig ar ei ben ei hun, yr ydym o dan angenrheidrwydd o roddi yr holl gynnyrch yn gyfanswm.

"Derbynied pob lle a pherson sydd wedi cydweithredu â'r mudiad hwn ddiolchgarwch gwresocaf y pwyllgor gweithiol.

"Am y drysorfa yn y dyfodol, digon yw dywedyd y bydd o dan lywodraeth y pwyllgor gweithiol, bydd y taliadau yn chwarterol yn ol fel y bydd y gofynion, a'r gweddill i'w rhoi ar lôg i'r person neu'r personau a rydd y llôg mwyaf, gyda'r sicrwydd (security) gofynnol amdanynt. "Bwriada y Pencerdd, mae'n debyg, gychwyn i Lundain tua'r haf; ni bydd angen iddo fynd i Goleg Normalaidd Abertawe, gan ei fod yn derbyn addysg ragbaratoawl yn Danville yn bresennol, yn flaenorol i'w dderbyniad i'r Athrofa Frenhinol.

"Dymunwn iddo bob llwyddiant yn ei ymdrechion canmoladwy i gyrraedd pinaclau dysg ac enwogrwydd Bydded o dan nawdd y Goruchaf yn ei fynediad a'i ddychweliad yn ol; caffed iechyd a nerth i efrydu, cured a thafled ei gyd-efrydwyr estronol i'r cysgod, enilled brif deitlau yr Athrofa, deued yn ol yn un o brif blanedau y byd cerddorol, a bydded yn gyfrwng budd a bendith i'w gydwladwyr ac i'r byd gyffredinol.

Joseph Aubrey."

Yn dilyn cawn lythyr diolchgarwch y Pencerdd at ei gyfeillion a'r wlad yn gyffredinol:

"Fy annwyl gyfeillion,—Pan yn ymadael â chwi y tro hwn, yr ydwyf yn teimlo hiraeth mawr wrth wneuthur hynny. Teimlaf fy mod yn ymadael â chyfeillion cywir i mi; ïe, rhai ag sydd wedi profi hynny yn anfesurol tuag ataf. Teimlaf y bydd adeg Nadolig 1865 yn y dref hon, a chwithau fel pwyllgor, a chyfeillion i'r Eisteddfod hon, yn fythgofiadwy a seliedig ar fy meddwl a'm calon, gan mai yr adeg honno oedd yr un fwyaf pwysig a gwerthfawr i mi yn ystod fy mywyd, oblegid y mae eich cynlluniau cenedlgarol yr adeg honno, gobeithiaf, wedi gwneuthur cyfnewidiad pwysig ac annisgwyliadwy yn llwybr fy mywyd, sef fy nwyn o sefyllfa y gweithiwr caled, a rhoddi mantais i mi ddyfod i sefyllfa fwy cyfrifol, defnyddiol, a chyhoeddus mewn cymdeithas; a pha le bynnag y byddaf yn y dyfodol, gallaf eich sicrhau y gwnaf edrych yn ol ac atgoffa am eich henwau a'ch cynlluniau gyda hyfrydwch calon. y Yr ydwyf hefyd yn gwerthfawrogi, ac o dan rwymau neilltuol i'm cenedl dros y wlad yn gyffredinol am eu cydweithrediad yn y mudiad, yn neilltuol y cerddorion, y rhai a ddangosasant bob teimlad da a'u cynhorthwy er cynnal y cyngherddau a phartoi gogyfer â'r cyfryw. Y mae llaweroedd ohonynt yn Nhaleithiau Ohio, Illinois, Wisconsin, New York, Vermont, ac hefyd yn y dalaith hon, y rhai y mae eu henwau yn annwyl i mi, a hoffwn gael eu henwau yn yr erthygl hon, ond byddai yn cymryd gormod o ofod y 'Drych.'

"Cyfiawnder â'm hoff gyfeillion, y Parch. J. Moses, Aneurin Fardd, a'r 'Gohebydd,' a fyddai dywedyd eu bod hwy wedi cymryd rhan helaeth yng nghynlluniad y mudiad gan eu bod yn Youngstown ar y pryd. Daeth y 'Gohebydd' yno i'r unig ddiben o gychwyn y mudiad; a dywedaf yma mai y 'Gohebydd' oedd y dyn a ddechreuodd y mudiad, efe fu yn foddion trwy ei lythyrau at brif ddynion yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghymru ar iddynt roddi y cynhygiad haelionus a chenedlgarol i mi pan oeddwn yno.

"Yr wyf hefyd am y tro cyntaf yn gyhoeddus, yn cydnabod mai fy annwyl gyfeillion John Abel Jones a John M. Price, gynt o Danville (yn awr o Pottsville) ydyw y rhai a fu, trwy eu cymelliadau, yn foddion i ddwyn fy sylw gyntaf at y gelfyddyd gerddorol. Ac hefyd hwy yn unig, trwy eu gwersi a'u llafur diffuant am flynyddoedd, a fu yn foddion i'm dwyn yr hyn ydwyf fel cerddor.

"Yn awr, annwyl gyfeillion, a'm cydgenedl yn gyffredinol, wrth derfynu dywedaf fy mod yn teimlo na allaf byth ad-dalu i chwi am yr hyn a wnaethoch ac a ddangosasoch tuag ataf. Yr unig beth a allaf ei wneuthur yw cyflwyno â chalon gynnes, ac â dagrau yn fy llygaid, fy niolchgarwch gwresocaf am yr oll a wnaethoch i mi. Gyda gobaith y caf iechyd, einioes, a chynhorthwy i gyrraedd yr amcan mawr mewn golwg, ac y bydd i chwi yn y dyfodol wneuthur i eraill yr hyn a wnaethoch i mi, ac y caf yn y dyfodol fod o ryw wasanaeth i'm cenedl, a defnyddio fy nhalent er gwasanaeth yr Hwn a'i rhoes.

Eich cywir gyfaill,
Joseph Parry (neu Pencerdd)."

Y mae braidd yn ddirgelwch sut y pasiodd agos i dair blynedd rhwng Eisteddfod Youngstown a'i fynediad i'r Academi. Ysgrifenna Gwyneddfardd i'r "Drych" am Awst 1, 1867 "fod y Pencerdd yn ail-ymaflyd o ddifrif yn ei gyngherddau ar ol bod yn gorffwys am gymaint o amser, ac yn benderfynol o gario'r symudiad y dechreuodd ymgymeryd ag ef allan i derfyniad llwyddiannus."

Yn rhifyn Medi 26, 1867, cawn hanes un o'i deithiau, ac yn ddigwyddiadol gryn oleuni ar ystyr ac achos v gohiriad:

"Treuliasom amser difyr iawn ar lannau y Susquiehana. Aethom ar hyd ei glannau am filltiroedd. Synnid a swynid ni gan y golygfeydd rhamantus a ddatblygent dro ar ol tro. Talasom ymweliad â Port Deposit, Maryland, ac erioed ni chawsom amser difyrrach. Yr oedd yr awen yn berwi allan weithiau dros ben bob terfynau, ac yn wir, meddyliai pobol dawel, ddigyffro Maryland, mai newydd ddianc oeddym o'r gwallgofdy.

"Bydd pobol dduon Maryland yn cofio am y Pencerdd O genhedlaeth i genhedlaeth, ac hwyrach, yn y dyfodol draw, y bydd rhai o'n halawon cenedlaethol yn cael eu holrhain yn ol i ganiadau byrfyfyr y Pencerdd pan yn ymdeithio drwy eu gwlad. Hynyna am y cyngherddau. "Ar ddymuniad Mr. Parry, yr ydym yn rhoi ar ddeall i'w gyfeillion ar hyd a lled y wlad ei fod yn bresennol yn cymryd ei addysg gyffredinol yn Danville. Ei fwriad unwaith ydoedd mynd i'r Hen Wlad y gwanwyn diweddaf, ond oherwydd ei wasanaeth fel organnydd ac arweinydd y Danville Choral Society, y mae yn cael ei addysg am ddim, a chyflog heblaw hynny.

"Gobeithia, drwy hynny, i adael y Parry Fund fel y mae, a mynd i Lundain y flwyddyn nesaf i'r Athrofa Frenhinol, gyda'r amcan o berffeithio ei addysg gerddorol. Rhwydd hynt i'n cyfaill i ddringo yn uwch o hyd."

Pan ar gychwyn am Brydain, ysgrifenna Parry i'r "Drych " (Awst 13, 1868):

"Annwyl Gydgenedl,—Teimlaf fod rhyw gysylltiad a pherthynas agos rhyngom er y blynyddoedd diweddaf yma; a bod dyletswydd arnaf ddanfon gair i'r ' Drych ' cyn fy ymadawiad. Byddaf yn ymadael â dinas Efrog Newydd dydd Mercher, Awst 19. Pa hyd byddaf yn aros, ni wn; ond, cyhyd y gall y drysorfa fy nghynnal, a minnau yn medru bod oddiwrth y teulu.

"Yr wyf yn teimlo yn wir hiraethus i ymadael â'r wlad hon a'i chyfeillion, fy mherthnasau, fy hen fam, a fy annwyl wraig a'm plant. Gorchwyl annymunol, ac anodd iawn fydd ymadael, ond hynny sydd raid, a hynny wyf yn fodlon ei wneuthur, ac aberthu er cael y fantais werthfawr yr ydych chwi fel cenedl wedi ei hestyn i mi; ïe, mantais yr hon sydd megis yn gosod fy nhraed ar odre'r ysgol, er dringo, os medrwn, ei grisiau gogoneddus a defnyddiol. Diolch calon i chwithau, Olygyddion y 'Drych,' am eich parodrwydd a'ch haelioni o roddi dalennau y 'Drych' am flynyddoedd er gweithio allan y cynllun cenedlgarol. Ni allaf ddywedyd fy nghalon ar y mudiad hwn sydd wedi gweithio mor llwyddiannus, a gobeithiaf y gwna orffen yr un modd—'All's well that ends well'

"Gobeithiaf y gwna yr Hwn sydd â phob gallu yn Ei law weld yn ddoeth ein cadw o dan Ei adenydd dwyfol ac y cawn gyfarfod eto. Ydwyf, eich ufudd was,

"Joseph Parry (Pencerdd America)."

Wedi glanio, ysgrifenna drachefn:

"Medi 11, 1868.

"Annwyl Gydgenedl,—Er mwyn cyflawni yr addewid, dyma fi yn gyrru gair atoch i'ch hysbysu fy mod wedi cael fy nghario ar lydan ysgwyddau yr eigion, a chael fy ngosod yn iach, diogel, a chysurus ar dir hir-ddisgwyliedig Gwalia. Teithiais heibio i olygfeydd rhamantus Cymru, a chyrhaeddais fy nhref enedigol, Merthyr Tydfil. Yr oedd gweld y lle hwn yn sirioli fy llygaid ac yn gwresogi fy nghalon; yn neilltuol gweld y fan lle y bûm yn chwarae lawer gwaith, heb ofid i'm bron. Gweld y tŷ, a chysgu yn yr ystafell y'm ganwyd ynddi—yr oedd hyn yn dwyn ar gof i mi y llinellau hynny:

O! give me back my childhood's dreams,

O give them back to me;

When all things wore the hue of love,

The heart from grief was free.

"Y mae ail fwynhau golygfeydd bore fy oes yn ailfywiogi y teimlad, ac yn agor y llif-ddorau i ffrydlif atgofion lawn y dywedwyd: r Gas ŵr na charo'r wlad a'i maco.' Bydded gwlad ein genedigaeth mor isel neu uchel ag y byddo—waeth pa un—y mae dynoliaeth yn ein gorchymyn i'w charu.

"Yr wyf yn awr yn sir Gaer[8]—sir enedigol fy mam. Y mae gweld yr hen dŷ y ganwyd fy mam ynddo a'r lle bu hithau yn chwarae yn ystod oriau dedwyddaf ei hoes yn llawenydd mawr i'w mab. Go ddifyr i mi oedd gweld merched gwridgoch siriolwedd sir Gaer yn eu besdynau cochion, a'u hetiau mawrion yn ymddyrchafu i'r awyr fel simneuau y tai (ac yn uwch na llawer ohonynt). Ghwarddech yn iachus pe gwelech fi yn bwyta bara haidd ac yn yfed cawl o ffiol bren, gan ymddangos yn gymaint Gardi a'r un ohonynt. Gymaint a hynna am sir Gaer.

"Yr wyf yn cartrefu gyda'r Parch. Thomas Levi, Treforis, yr hwn sydd i mi yn gyfaill cywir ac o wir werth i mi ar fy ngyrfa y tu yma i'r Werydd. 'A friend in need is a friend indeed' Mae Mr. Levi wedi dangos ei garedigrwydd sylweddol drwy drefnu i mi gael cyngerdd yn nhref Abertawe ar yr 17eg o'r mis hwn. Cynorthwyir gan gôr Glantawe, y seindorf bres, a'm hen gyfaill Silas Evans.

"Ar y 18fed o'r mis hwn byddaf yn cychwyn i Lundain gyda'm caib a'm rhaw er twrio i mewn i'r mynyddoedd o rwystrau sydd o fy mlaen. Gan fod y gweithiwr a'r offerynnau mor wael, a'r creigiau mor gelyd, credaf mai anodd iawn fydd gwneuthur llawer o headway.

"Heb eich blino â meithder, terfynaf y tro hwn, gan obeithio y gallaf eich ffafrio â rhywbeth diddorol o'r brifddinas. Pob dedwyddwch a'ch dilyno hyd nes y cawn ysgwyd llaw unwaith eto.

Ydwyf, yn ddidwyll, yr eiddoch,
Joseph Parry."

Mewn llythyr o'i eiddo i'r " Drych " am Tachwedd 26, 1868, wedi rhoddi nifer o fanylion ynghylch ei wersi a'i athrawon, terfyna:

"Myfi ydyw'r unig Gymro yma. A mi yw yr hynaf o'r holl fyfyrwyr. Mor anfodlon ydwyf i hyn, na bawn wedi bod yma ers blynyddoedd, yn lle gadael adeg mor werthfawr o'm bywyd fynd at yr hyn nad oedd fara. Pan y meddyliaf am hyn, mae'r dagrau heb fod ymhell. Paham na bai colegau o'r fath yn llawn o dalentau Cymreig? Paham na bai mwy o uchelgais yn ein bechgyn a'n merched ieuainc? Oh ' that I were a boy again! that I might begin anew my life. Mi allaswn feddwl y mynnwn gael y second edtiion ' yn llawer rhagorach na'r un presennol.

Ydwyf yn wir, eich ufudd was,

Pencerdd America."

Yn Adroddiad yr Ymddiriedolwyr ar ddiwedd ei gwrs, ceir llythyr diolch arall ganddo, ond ni chynnwys ddim newydd nac arbennig.

Daeth drosodd i'r wlad hon ddiwedd haf 1868—heb ei deulu y pryd hwnnw; ac ni bu Cymru'n ol i America yn ei chefnogaeth iddo adeg gwyliau yr Athrofa. "Gellir dywedyd pan y cychwynnodd ar ei deithiau cyngherddol," meddai Mr. D. Jenkins, "i'r wlad godi ar ei thraed i'w gyfarch, a dymuno 'Duw yn rhwydd iddo' " Ni chafodd na chantores na chanwr dderbyniad mor frwdfrydig ag ef. Tarawodd ddychymyg "Young Wales " y dyddiau hynny i raddau eithriadol, fel y dengys sylwadau pellach Mr. Jenkins: "Pan oedd yn yr Athrofa Frenhinol, ac ar ol i ni ymwneud â'i gyfansoddiadau, a darllen ei hanes, yr oedd ein hedmygedd ohono braidd yn ddiderfyn. Yr oedd cerdded un filltir ar ddeg dros fynydd Eppynt o Drecastell i Lanwrtyd i'w weld a'i glywed am y tro cyntaf yn ddim yn ein golwg, a mawr y mwynhad a gawsom yn y gyngerdd, ac ni wnai dim y tro ond ei gael i Drecastell i gynnal cyngerdd a rhoddi'r holl elw iddo."

Heblaw y "Gohebydd" a'r Parch. T. Levi, yr oedd ganddo gyfaill a chefnogydd selog yn Ieuan Gwyllt. Ceir apêl ar ran ei gyngherddau, neu ynteu gyfeiriad atynt yn rheolaidd cyn gwyliau haf a gaeaf yr Athrofa; ac ar ol y gwyliau adroddiad llawn a gwresog amdanynt. Wele'r apêl gyntaf yn Rhagfyr, 1868:

"Mr. Joseph Parry (Pencerdd America).

"Mae yn hysbys i'n darllenwyr fod y cerddor athrylithgar Mr. Joseph Parry wedi dod drosodd o'r America er ys amryw wythnosau, a'i fod yn bresennol yn y Royal Academy of Music yn Llundain. Daeth ei gydwladwyr yn America allan yn ardderchog, a ffurfiwyd trysorfa dda yno er ei gynorthwyo i gael addysg gerddorol; ac ymddengys i ni y byddai ei gydgenedl yng Nghymru yn gosod anrhydedd arnynt eu hunain drwy ddyfod allan i roddi eu cynhorthwy'n galonnog tuag at yr un achos. Y mae traul byw yn Llundain a thraul yr Athrofa yn fawr; a phan ychwanegom fod ei wraig â dau fychan (Joseph Haydn a Mendelssohn) i'w cynnal yn America hefyd, gwelir mai nid swm bychan a'i cynorthwya i gael hyd yn oed ychydig fisoedd o addysg. Deallwn ei fod yn bwriadu cymryd tua mis o wyliau adeg y Nadolig; a bydd yr adeg honno yn fanteisiol i wahanol drefi ac ardaloedd poblog yng Nghymru i weld a chlywed un o gerddorion mwyaf athrylithgar ein cenedl, ac ar yr un pryd i gynorthwyo trysorfa ei addysg."

Cymerer a ganlyn o hanes y gyfres gyntaf o gyngherddau: "Yn ystod y gwyliau daeth Pencerdd America i lawr i Gymru er mwyn cynnal nifer o gyngherddau tuag at ei gynorthwyo i aros am gymaint o amser ag sydd alluadwy iddo yn y Royal Academy of Music. Bu yn beimiadu yn Eisteddfod y Cymrodorion Dirwestol ym Merthyr, a chynhaliodd nifer fawr o gyngherddau yn y De a'r Gogledd, megis Aberdâr, Abertawe, Dowlais, Porthmadog, Waenfawr, Caernarfon, a Bryn Menai. Deallwn fod ei holl gyngherddau yn dra llwyddiannus, a'i fod yn rhoddi bodlonrwydd cyffredinol fel canwr, yn gystal ag fel cyfansoddwr a chwareuwr. . . . Yr oedd y darnau a genid gan y Pencerdd i gyd o'i waith ei hun. Yr oedd y nifer i gyd yn lled fawr, ac yn cynnwys 'Hoff Wlad fy Ngenedigaeth' 'The Gambler's Wife' 'Dangos dy fod yn Gymro' 'Y Trên' 'Y Tŷ ar Dân' 'Jefferson Davies' 'Yr Eneth Ddall' Chwareuai yr harmonium gydag ef ei hun ymhob un o'r damau. . . . Yr ydym yn deall ei fod wedi ennill ffafr neilltuol yn yr Athrofa gerddorol; ac y mae yn dda gennym ddeall fod y galwadau am ei wasanaeth yn ystod gwyliau yr haf y fath fel ag y caiff ei alluogi i aros yno am fwy nag y tybiai pan yn dyfod trosodd." Y mae yr hanes diweddaf a gawn yn y "Cerddor," ar ol gwyliau haf 1870, yn ddiddorol:

"Yn eu hymweliad diweddaf â Chymru profodd Miss (Megan) Watts a Mr. Parry eu bod yn dringo i fyny yn eu celfyddyd ardderchog gyda phrysurdeb a llwyddiant mawr, ac os estyna Rhagluniaeth fawr y nefoedd iddynt fywyd ac iechyd, byddant o wasanaeth dirfawr yn y byd cerddorol, ac yn anrhydedd i'r genedl y perthynant iddi. ' . . . Ei gyfansoddiadau ei hun a ganai Mr. Parry ymron yn ddieithriad; a gŵyr ein darllenwyr mai nid caneuon cyffredin ac ysgafn yw y rhai hyn, ond fod pob un ohonynt yn efrydiaeth ynddi ei hun—yn sein-ddarlun o ddyfeisiad darfelydd cryf, wedi ei weithio gan law fedrus. Ymysg y rhai hyn y mae 'Y Milwr' 'Gwraig y Meddwyn' 'Y Gwallgofddyn' 'Y Danchwa' 'Yr Ehedydd' ac nid y leiaf swynol yw ei Deirawd gysegredig, 'Duw bydd drugarog' Yn wir, y mae hon yn un o'r pethau tlysaf a wnaeth erioed. Yr oedd ei ganiadaeth hefyd yn dra meddylgar a mynegiadol. Yr oedd dyfais a medr y cyfansoddwr yn cael eu heilio gan ddealltwriaeth y canwr. Nid rhaid iddo ryfeddu na theimlo'n siomedig iawn os yw yn gweld 'Lol i gyd ' a chaneuon ysgeifn cyffelyb yn cael mwy o dderbyniad na'i gyfansoddiadau gorchestol ef. Os yw rhai yn meddwl mai eu swydd yw gweinyddu difyrrwch a phorthi ysmaldod a choeg-ddigrifwch, y mae efe a Miss Watts yn cofio mai eu gwaith hwy ydyw addysgu eu cynulleidfaoedd, a'u codi i werthfawrogi y pur, y prydferth, a'r dyrchafedig. Ni ellir dychmygu gwerth cerddorion o'r fath yma trwy ein gwlad, mewn ystyr foesol yn gystal a cherddorol; a hyderwn y bydd eto alwadau mynych am eu gwasanaeth."

Gyda golwg ar ei gynnydd a'i lwyddiant yn yr Athrofa, gyda dywedyd iddo ennill y Bronze Medal, a'r Silver Medal—yr anrhydedd uchaf posibl y pryd hwnnw, ni a adawn i'r canlynol siarad:

"Dydd Gwener, Gorffennaf 23 (1869) cynhaliwyd cyngerdd diweddaf yr Athrofa ar ei thoriad i fyny am wyliau yr haf. Gymerodd Mr. Parry ran arbennig yn y cyngerdd fel canwr. Yn ystod y cyfarfod, cyflwynwyd gwobrau i'r rhai a ystyrrid gan yr arholwyr yn deilwng. Allan o'r pymtheg a thrigain o efrydwyr yr oedd deuddeg wedi pasio i dderbyn gwobrau, ac yn eu mysg yr oedd Mr. Parry. Yr oedd yr un ar ddeg eraill wedi bod yn yr Athrofa, rhai am dair, ac eraill am bedair blynedd, pryd nad oedd y Pencerdd wedi bod yno ond deng mis; ac yr oedd degau o'r efrydwyr wedi bod yno am flynyddoedd heb gael un wobr. Cyflwynid y gwobrau gan Mrs. Gladstone, priod y Prif Weinidog, a phan ddaeth Mr. Parry ymlaen i dderbyn ei wobr o'i llaw, hi a ddywedodd wrtho, 'Yr wyf yn deall mai Cymro ydych.' 'le, mam' atebai yntau. Dywedodd hithau, 'Gymraes drwyadl ydwyf finnau; ac y mae yn bleser mawr iawn gennyf gael cyflwyno gwobr i un o'm cydwladwyr.' " Ei athrawon oedd Sir Sterndale Bennett, mewn cyfansoddi; Dr. Stegall, ar yr organ; a Signor Manuel Garcia, ar y llais. Ceir syniad Syr Stemdale Bennett am- dano yn ei ateb i lythyr un o Ymddiriedolwyr Trysorfa Parry, yn holi hanes ei gynnydd:

"Royal Academy of Music,
Rhagfyr 20, 1869.

"Annwyl Syr,—Gallaf roddi i chwi yr opiniwn uchaf am eich cyfaill Joseph Parry, sydd yn bresennol yn fyfyriwr yn ein sefydliad. Y mae yn meddu ar dalent gerddorol fawr, ac yn dilyn ei holl efrydiau gyda llwyddiant mawr a chynhyddol. Byddai yn anffawd pe na allai aros gyda ni am gryn amser yn hwy; ac yr wyf yn hyderu y bydd i'w gyfeillion ei alluogi i wneuthur hynny. Bydd i bopeth a allant ei wneuthur drosto ddwyn ffrwyth o'r fath oreu. Y mae yn drwyadl, selog, a diwyd, ac yr wyf fi yn disgwyl llawer oddiwrtho.

Ydwyf, annwyl syr, yr eiddoch yn gywir,

Wm. Sterndale Bennett."

Ar ymadawiad Mr. Parry am America yn haf 1871, derbyniodd ysgrifennydd ei gwrdd ffarwel a ganlyn oddiwrth y Prifathro: " Mr. Parry deserves most thoroughly all the friendship and support he obtains. He will go back to America an accomplished musician and an enthusiastic artiste."

Yr oedd Garcia, athro Jenny Lind, a brawd Malibran, yn un o'i gefnogwyr pan yn ymgeisydd am y swydd o Brifathro yn y Guildhall School of Music yn 1896, ar waethaf yr hanes amdanynt a roddir gan Prof. Parson Price yn y "Cerddor" (Gorffennaf 1905). Arferai Mr. Price fynychu dosbarthau Garcia yn 1862-63, a phan alwodd i'w weld ugain mlynedd yn ddiweddarach, gofynnodd iddo a gofiai amdano yn 1862. "No," oedd yr ateb, " but I do remember an obstreperous fellow, Parry, who was a Welshman, and who used to argue with me, and I would not or could not convince him of his faults, but I understand he has turned out to be a good composer." "Adroddais y joke wrth yr annwyl Ddoctor," meddai Mr. Price, a'i ateb oedd: "Yr oeddym bob amser yn ymladd, ond ymladdfeydd godidog oeddynt." Ar waethaf hym—neu oblegid hyn efallai—tystia testimonial Garcia "that you understand the cultivation of the voice," ond y mae'r gair "obstreperous " wedi ei adael allan. Ysgrifennodd ato hefyd y llythyr caredig a ganlyn ar ei ymadawiad:

"R.A.M., Llundain,
Gorffennaf 17, 1871.

"Annwyl Mr. Parry,—Gan fod (tymor) yr Athrofa Frenhinol Gerddorol yn awr yn gorffen cymeraf y cyfleustra hwn i ddatgan fy moddhad yn ffrwyth eich efrydiau. Y mae gennych lais baritone da o gwmpas eang ac ystwythder da, ac egyr eich gwybodaeth o wahanol arddulliau a lleisiau o'ch blaen gwrs o fywyd fel datganydd neu athro. Y blaenaf, yn fy mam i, yw'r mwyaf enillfawr a hyfryd.

"Gan ddymuno i chwi bob llwyddiant,
Gorffwysaf, yr eiddoch yn ffyddlon,
Manuel Garcia."

Rhoddwyd un o'i weithiau, "Choral Fugue," yng Nghyngerdd yr Athrofa ar ddiwedd y tymor gyda chymeradwyaeth: "A well-conceived and scientifically wrought out composition," meddai'r "Daily Telegraph." Yn y cwrdd ffarwel a gynhaliwyd iddo yn Aldersgate Street, cynhygiwyd y penderfyniwyd a ganlyn mewn araith hyawdl gan Mr. Henry Richard, A.S., ac eiliwyd gan Mr. (Syr) Hugh Owen:

"Fod y cyfarfod hwn yn dymuno llongyfarch Pencerdd America ar ei lwyddiant mawr, ac yn dymuno hefyd ar fod i heddwch barhau i ffynnu rhwng trigolion Lloegr ac America."

Pasiodd yr arholiad am y radd o Mus. Bac. yn Athrofa Gaergrawnt, er nad ef oedd "y Gymro cyntaf i wneuthur

hynny."

V Y Celt a'i Gân.

Yr ydym yn awr â'n hwynebau ar gyfnod newydd yn hanes ein gwrthrych. Anodd dywedyd pa bryd y dechreuodd, gan fod cyfnodau'r ysbryd yn dechreu yn y dwfn, ac yna'n codi i'r wyneb. Ond amlwg yw y deuwn yn awr o gyfnod y ddawn fwy a'r ddysg lai, i gyfnod y ddysg fwy, a'r ddawn—os nad lai—a ymddengys yn llai yng nghanol rhwysg y ddysg. Gan mai dyna natur y cyfnod newydd byddai lawn mor briodol gosod y bennod hon cyn cyfnod yr R.A.M. a'r Mus. Bac., a gosod honno yn bennod arweiniol i'r cyfnod newydd, onibai fod hanes ei fynediad i'r Athrofa Frenhinol yng nghlwm wrth gystadleuaethau ei gyfnod borëol. Heblaw hyn, ni adawodd Parry y cyfnod hwnnw ar ol pan aeth i'r Athrofa, yn unig daeth dan addysg a disgyblaeth a ddygodd ei ddawn gynhenid yn fwy dan ddylanwadau tramor, ac a'i cadwodd felly yn hir.

Gallwn edrych ar ei radd (Mus. Bac.) fel uchter y bu ef yn edrych arno, ac yn ymgyrchu ato am flynyddoedd, ac wedi ei gyrraedd a aeth allan oddiarno ar dir uwch i waith bywyd fel cyfansoddwr—ac yn awr hefyd fel athro. Gallwn ninnau felly ei gymryd fel safbwynt cyfleus i edrych yn ol a blaen oddiarno. Y mae yna dair blynedd ar ddeg er pan ddechreuodd Joseph Parry gymryd at gerddoriaeth o ddifrif (yn ol Watcyn Wyn)—neu er pan ddysgodd ddarllen cerddoriaeth (yn ol Mr. L. J. Roberts). Y mae deng mlynedd er pan enillodd ei wobr gyntaf am gyfansoddi ymdeithgan, ac yn ystod y pum mlynedd dilynol enillodd ugain o brif wobrau mewn cydymgais â cherddorion blaenaf ei wlad. Yn ystod yr amser hwn, a chyn hynny, y mae o bwys i ni gofio iddo fod yn gweithio am tua dwy flynedd ar bymtheg yn y gwaith haearn. Nid oes ond chwe blynedd er pan gafodd fantais i ymroddi'n hollol i astudiaeth gerddorol, ac wele ef yn awr yn Mus. Bac. o Brifysgol Caergrawnt.

Caiff y darllenydd help Mr. Tom Price i bwyntio allan natur ac ystyr y gwahaniaeth rhwng ei wahanol gyfnodau fel awdur cerddorol; ond cyn y gwnelo hynny, bydd yn addysgiadol iddo i sylwi—a chadw at y ffug o uchter, ac edrych ar ei weithiau fel mynyddoedd neu fryniau'n codi i'r nef—fod yna gryn wastatir o'n cylch yn ol a blaen; ychydig o weithiau o bwys a ysgrifennodd wedi 1866 ac ymlaen hyd 1878.

Yn ei Hunan-gofiant gofidia am y ffaith, heb roddi un cyfrif amdani.

Wele restr weddol gyflawn o'i weithiau ymlaen hyd 1878. Dywed ef ei hun am ei weithiau gwobrwyedig hyd 1866: "In all, twenty prizes won in National Competitions between 1861 and 1866, Oratorios, Glees, horales, Choruses, Motett, Quartettes, Songs, Canons, and Part Songs."

Wedi'r tymor cystadlu hyd 1870, cyhoeddwyd ei chwe anthem: "Yr Arglwydd yw fy Mugail," "Gweddi'r Arglwydd," "Duw bydd drugarog," "Mor hawddgar yw Dy bebyll," "Hosanna i Fab Dafydd," ac "Anthem Angladdol "; "Te Deum," a Ghanig, "Gwraig y Meddwyn," ynghyda'r Gân, "Gwraig y Meddwyn." Cyhoeddwyd Cân, "My Ghildhood's Dreams," yn 1865, a nodwyd nifer o'r Caneuon o'i waith ei hun a ganai ef ei hun yn nês yn ol.

Ar ol 1870, caed "Cantata'r Adar" yn 1871. Yn 1872 hysbysebid y rhai canlynol yn America: Cân a Chytgan, "Gwnewch bopeth yn Gymraeg,"; Cân a Chytgan, "Dyna'r dyn sy'n mynd â hi"; song, "Slumber lie soft on thy beautiful eyes "; song, " O, give me back my childhood's dreams " (gwêl uchod); song, "All hail to thee, Cambria"; chwech o ganeuon gyda geiriau Cymraeg a Saesneg; Ballad, "The Old Cottage Clock "; Ballad (descriptive), "The Gambler's Wife " (Gwraig y Meddwyn); Ballad, "The Dying Child"; Prize Glee, "Rhosyn yr Haf"; Prize Glee, No. 1, "Ar don o flaen gwyntoedd"; Glee, No. 2, "Ar don o flaen gwyntoedd"; Glee, "The Prayer" (geiriau Cymraeg a Saesneg); Motett (i bum llais), "Gostwng, O Arglwydd" (buddugol yn Abertawe); Anthem, " Achub fi, O Dduw "; Anthem, " Clyw, O Dduw, fy ngweddi "; Chwe Anthem (gwêl. uchod); Trio (Serenade), " Sleep, lady, sleep."

Yn llyfr lorthyn Gwynedd cawn Gân a Ghytgan, "Cymry Glân Amerig." Gelwir y rhestr a ganlyn yn "Y Gerddorfa " am Rhagfyr 1875, yn "Professor Parry's latest and best compositions":

"My Childhood's Dreams" (Soprano and Tenor)"; "The Dying Child" (Soprano and Tenor); Solo and Chorus, "The Old Cottage Clock"; Reveriet "The Old Yew Tree" (Yr Hen Ywen Werdd); Reverie, "The Skylark" (Yr Ehedydd); Descriptive Ballad, "The Sailor's Wife" (Gwraig y Morwr); Quartette, Lullaby, "Sleep, my darling" (mixed voices); "O Lord, abide with me" (mixed voices); Pianoforte, "Maesgarmon" (a descriptive Fantasia); "Grand March de Goncerte," "Druid's March," "Recollections of Childhood," "Recollections of Courtship," "Recollection of Spring": (Easy for children), "Little Willie's Waltz," "Little Eddie's Mazurka"; Grand Chorus for Male Yoices, "Rhyfelgan y Myncod," "Gytgan y Bradwyr" (Chwefrol, 1876).

Dr. Joseph Parry fel Cyfansoddwr Geltaidd.
Gan Tom Price.

Gwaith anodd yw deffinio beth a olygir wrth y gair Celt mewn cyfansoddiant cerddorol; y mae'n hawdd iawn ei deimlo.

Arferir dywedyd fod yr athrylith Geltaidd yn hoff o'r prydferth, y swyngar, a'r ysbrydol; ond y teimladol yw sylfaen yr adeilad. Angerddoldeb llawenydd neu alar yw un o'r nodweddion amlycaf. Ceir y llawenydd yn " Hob-y- deri-dando," a'r dwyster ym " Morfa Rhuddlan." Yn anfynych ceir ergydion o'r cyfriniol megis " Ar Hyd y Nos," etc. Y mae lle i gredu fod yr elfen gyfriniol yn mynd yn brinnach o ddydd i ddydd. "Technique" yw gair mawr y cerddorion diweddaraf; ac wrth gwrs mae ymlid ar ol hwnnw yn elyn anghymodlawn yr ysbryd cyfriniol. Gellir tybio ar brydiau fod llai o'r ysbryd Celtaidd hefyd yn y wlad. Gymharer "Ystorm Tiberias" (Tanymarian) ag "Ystorm" Islwyn gan D. Jenkins; nid wyf yma yn sôn dim am gelfyddyd y ddau gyfansoddiad, nac am alluoedd y ddau gyfansoddwr, ond yn unig yn pwysleisio gwahaniaeth mawr yn yr hyn a feddylir wrth ysbryd Celtaidd.

Yn ddiau mae cyfansoddwyr ac arweinwyr dechreu y ganrif hon yn cael eu blino'n fwy gan ysbrydion allanol y gelfyddyd, nag oedd yr hen gerddorion. Gwelir hyn ar unwaith wrth ddarllen adolygiad ar waith cerddorol tramorol neu gartrefol. Mae y gair "Modern" yn awgrymu hyn. Mae "Music of the Future" Wagner yn beth henafol ddigon er ys llawer dydd.

Nid gwahaniaeth ysbryd yw, ond pethau bychain allanol ac i fesur arwynebol. Mae ysbryd cenedlaethol yn beth arhosol fel y mynyddoedd:

Aros mae'r mynyddau mawr,
Rhuo drostynt mae y gwynt;
Clywir eto gyda'r wawr
Gân bugeiliaid megis cynt.

Un o'r bugeiliaid mwyaf Celtaidd ei ysbryd fu yn tramwyo llechweddau ein mynyddoedd cerddorol oedd Dr. Joseph Parry; yn arbennig pan yn rhydd oddiwrth gadwynau tramoraidd. Dywedir am Wordsworth yr anghofia y genedl Seisnig ei ddarnau meithion, y cyfanweithiau; ond nid ä y sonedau a'r mân-ddamau byth o olwg y genedl. Gellir yn briodol ddywedyd yr un peth am Dr. Parry; yn wir, mae'r genedl eisoes bron anghofio enwau ei brif weithiau; tra y cenir ei fân-bethau yn barhaus. Paham hyn? Yn gyntaf oll yr oedd Parry yn edmygwr di-bendraw o'r Comedau tramor, a'i natur yn ystwyth, a'i gof yn ddiderfyn. Yr oedd yn grogedig wrth ryw gomed neu'i gilydd o hyd pan yn ysgrifennu gwaith cyflawn, Handel a Mendelssohn, pan yn myfyrio ar ryfeddodau yr "Emmanuel" ardderchog (gweler Mendelssohn yn y Cytgan " Yr lôr, Efe sydd Dduw "; Handel yn y Cytgan, "Oantorion y Deml"). Ond daw y Oelt i'r golwg yn hardd yn fynych, megis yr alaw " Wele y dyn, O! mae yn hardd." Hawdd yw i ni dybio mai Rossini a'r ysgol Eidalaidd oedd yn ei feddwl pan yn cynllunio ac yn bwrlymu melodion hyfryd " Blodwen." Wrth sôn am " Blodwen," yn ddios dyma y gwaith cyflawn mwyaf Cymreigaidd o lawer o eiddo Parry. Er fod y cynllun yn Eidalaidd, mae'r melodion yn rhydd fel nentydd Cymru.

Fel y rhan fwyaf o gyfansoddwyr Ewrop tua diwedd y ganrif o'r blaen, fe dalodd warogaeth drom i'r cawr Teutonaidd Wagner; fel y cawn bron ymhob rhifyn o "Saul of Tarsus," etc. Ond diolch i'r drefn, yr oedd yn berffaith rydd, ac yn hollol gywir i'w anianawd Gymreig pan yn ysgrifennu "Cantata yr Adar," ei donau cynulleidfaol, tonau i blant, a chaneuon. Clywais Isalaw yn dywedyd mai "Cantata yr Adar" oedd campwaith cyflawn Parry. Dywediad beiddgar, ond o safbwynt y Celt yr oedd yn gywir. Y wers fawr o hyd mewn byd celfyddyd, fel bywyd cyffredin, yw bod yn rhydd ac yn gywir i'n hamgylchoedd.

Gerddorion hunan-addysgol sydd fwyaf cywir iddynt eu hunain ac i'w gwlad. Yr oedd y gwres cenedlaethol yn llosgi yn ddirfawr ym mynwesau Bach a Wagner; ac felly Elgar yn y wlad hon; ac yn wir Tanymarian a John Thomas yng Nghymru fach. Dichon mai'r pedwar mwyaf Celtaidd o'r holl gyfansoddwyr Cymreig yw Tanymarian, Dr. Parry, John Thomas, ac R. S. Hughes.

Nid yw Ambrose Lloyd, Gwilym Gwent, D. Emlyn Evans, a D. Jenkins yn ein taro mor gryf, er eu safle gogoneddus yn y côr Gymreig. Rhaid i mi enwi rhai o emau Celtaidd Dr. Parry, sydd fwyaf nodedig o ran brwdaniaeth ysbryd; yn gyntaf oll, yr unawd cenedlaethol, "Baner ein Gwlad"; dyma gerddoriaeth Geltaidd berffaith—y chwarae o'r minor i'r major a'r cyffyrddiad cyfriniol ar y geiriau "Mae ysbryd Llewelyn, etc." yn ei gwneuthur yn em werthfawr; y bruddaidd yw'r "Gardotes Fach," ac yn yr un dosbarth "Yr Eos," ac i orffen y triawd minoraidd "Yr Eneth Ddall." Rhaid peidio anghofio "Codwn Hwyl," i feibion, a'r "Myfanwy" ochr arall i'r darlun. Gofod a ballai i mi enwi ei ddarnau i blant ond un sef "Y Milwr Bychan." Dirgelwch ei lwyddiant gyda darnau i blant oedd yr ysbryd Celtaidd sydd yn gwau drwy bob adran; nid yn gymaint eu symlrwydd, ond yr ysbryd rhydd sydd yn gosod newydd-deb ynddynt. Yn ddiamheuol Dr. Joseph Parry oedd y mwyaf llwyr Gymreig a feddem, ac wedi parhau i ledu ei adenydd hyd ddiwedd oes o lafur angherddol.

VI. Danville ac Aberystwyth.

Hunan-gofiant:

YM mis Awst dychwelaf fi gyda'm teulu i'n cartref Americanaidd, ar fwrdd yr agerlong The City of Berlin. Ac yna yr wyf gyda chwi oll eto, fy hen gyfeillion annwyl a pherthnasau. Yr wyf ar daith o 103 o gyngherddau yn ail ymweld â'r holl leoedd a ffrindiau a gynorthwyodd i'm danfon i Lundain. Dwg y daith fi i New York, Illinois, Wisconsin, lowa, Minnesota, Tennessee, ac yn ol trwy Kentucky a Virginia i'm talaith fy hun, Pennsylvania. Yn y fan hon, gorlifir fy meddwl gan atgofion am gyfeillion a charedigrwydd sydd yn argraffedig yn fy nghalon os nad ar y tudalennau hyn.

1871—2—3: Yr wyf yn fy hen gartref yn Danville yn sefydlu'r Musical Institute gyda llawer o Iwyddiant; yn ol hefyd gyda'r un organ, ac eglwys, a chôr.[9] Dengys fy rhestr (o weithiau) mai dyma'r tymor lleiaf ffrwythlon yn ystod fy holl fywyd fel cyfansoddwr, er mawr ofid i mi ac yn groes i ddelfrydau fy mywyd.

1874 a gwyd y llen ar y golygfeydd mwyaf pwysig a by wiog yn fy holl fywyd. Cymeraf daith ffarwel ymhlith fy nghyf- eillion yn America a dychwelaf gyda'm gwraig a'n plant i wlad fy ngenedigaeth i lanw'r swydd o Athro Cerddorol a sefydlwyd er fy mwyn yng Ngholeg Prifysgol Cymru yn Aberystwyth, gan fod yna ddymuniad cryf yn ddwfn yn fy nghalon i gysegru llafur fy mywyd i'r gwaith o ddatblygu a hyrwyddo cerddoriaeth ymhlith cerddorion ieuainc fy ngwlad fel mater o ddyletswydd oblegid eu hymdrechion clodwiw i roddi addysg i mi. Ac yr wyf i yn gystal a llawer o'm cyfeillion anwylaf yn barnu y gallaf wasanaethu achos cenedlaethol cerddoriaeth Gymreig yn well drwy ddychwelyd i Gymru a derbyn y Gadair a wesgir arnaf. Yr wyf yn gwneuthur hynny, er fy mod yn gwybod y golyga aberth ariannol mawr i mi a'm teulu. Yr ydym yn awr fel teulu'n gadael ein llu cyfeillion annwyl,—fy mhriod, ei rhieni, ei chwaer a'i brawd, a minnau, fy mam annwyl yn ei henaint, a'm brawd a'm dwy chwaer. Ac wele ni yn awr unwaith eto ar y Werydd llydan ar fwrdd yr agerlong The City of Brooklyn (?)—fy chweched mordaith. Wedi cyrraedd Lerpwl, derbyniais frysneges yn gofyn i mi feirniadu yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor. Symudasom i Aberystwyth ym Medi, a dechreuais ar fy nyletswyddau colegawl yn Hydref.



Y mae'r byd hwn yn llawn cam-gyfaddasiadau, na ellir mo'u hesbonio ond ar y dyb mai lle disgyblaeth ydyw. Un o'r cyfryw oedd i Parry o'r pryd hwn allan, orfod gwasanaethu fel athro agos yn ddidor—yn Danville, Aberystwyth, Abertawe, a Chaerdydd. Y mae'n gwlad ni heb ddysgu eto fod yn rhaid geni athro, fel geni cerddor. Ganwyd Parry yn gerddor, ond ni anwyd mohono'n athro; er y meddai'r brwdfrydedd angenrheidiol mewn rhannau o'r gwaith, yr oedd yn dra diffygiol mewn nodweddion anhepgor eraill. Dysgodd gryn lawer yng nghwrs bywyd yn ddiau, a gallasai fod wedi dysgu rhagor onibai am ei ymroddiad braidd hollol i gyfansoddi.

Dywed y "diolch" a ganlyn rywbeth am ei fwriadau a'i gyflawniadau pan ddychwelodd i America:

"At y gweinidogion, y cerddorion, a'r Cymry'n gyffredinol drwy y Taleithiau. Annwyl Gyfeillion,—Echdoe y dychwelais adref at fy annwyl deulu ar ol bod am dri mis ar daith gyngherddol yn Ohio, Wisconsin, Iowa, ac Illinois. Blwyddyn i heddyw y dychwelasom fel teulu o Lundain, ar ol bod yno am dair blynedd. Fy nghynllun ar ol dychwelyd ydoedd mynd ar daith gyngherddol drwy y prif sefydliadau (Cymreig yn bennaf) yn y Taleithiau, a dyma fì ar ddiwedd blwyddyn gyfan o deithio a chanu yn Tennesee, Ohio, Pennsylvania, New York, Maine, Wisconsin lowa, ac Illinois, yn iach a chysurus. Cynheliais i gyd 103 o gyngherddau yn ystod fy nheithiau. Yn sicr i chwi, yr oeddwn ar y cychwyn yn ofni, am fod yr anturiaeth yn fawr a pheryglus: ofni cyfarfod â methiant a chroesawiad oer gan fy nghydgenedl; ofni colli iechyd, ac ofni y buasai y llais yn cael ei niweidio gan y fath ganu a theithio. Ond y mae yn llawenydd gennyf ddywedyd fod y cyfan wedi troi allan yn llwyddiant perffaith—yr iechyd y naill ddydd fel y llall heb gymaint a chur yn y pen erioed; yr holl eglwysi (ag un eithriad) â'u drysau'n agored i mi; y gweinidogion yn rhoddi eu ' dylanwad ' ac yn cydweithredu o'm plaid; y derbyniad yn wresog a brwdfrydig, a'r cerddorion un ac oll ymhob man (oddigerth dau le) â'u holl galonnau yn fy nghynorthwyo a gwneuthur yr oll a allent er gwneuthur fy nghyngerdd yn llwyddiant.

"Cefais y cyfeillion hynny a gyfarfûm yn ystod fy nhaith yn 1866 yn gyfeillion eto (gydag ond dau eithriad); ond collais rai a methais ennill edmygedd a dylanwad eraill am na bawn yn byw yn yr un cylch a hwy: pe bawn wedi cytuno â hwy mewn rhai arferion buasai y cyfan yn all right, a buaswn innau yn jolly boy. Er dichon ei fod yn golled i mi golli eu hedmygedd a'u cydweithrediad, gobeithio a chredaf hefyd fy mod drwy y trosedd hwn wedi ennill edmygedd a dylanwad dynion o gylch uwch, purach, a mwy eu dylanwad. . . .

"Felly, gyfeillion hoff, yn eglwysi, gweinidogion, cerddorion, a'r genedl yn gyffredinol, derbyniwch fy niolch gwresocaf am eich mawr garedigrwydd, eich cydweithrediad a'r derbyniad brwdfrydig a roddasoch i mi ar fy ymddangosiad o'ch blaen. Gobeithio y bydd fy nghyngherddau, a fy sylwadau ar nos Sabothau â thuedd ynddynt i godi safon cerddoriaeth ymhlith ein cenedl yn y wlad hon. "Gyda dymuniad i fod o wasanaeth i fy nghydieuenctid yn y gelfyddyd annwyl a nefolaidd hon, a chyda chalon iach yn llawn o ddiolch, ydwyf hyd byth eich cyfaill a'ch ewyllysiwr da,

Joseph Parry (Bachelor of Music; Pencerdd)."

Cyhoeddwyd hwn ddiwedd 1872. Yng nghwrs y flwyddyn ymddangosodd y canlynol:

"Caniadaeth y Cysegr. Mae Joseph Parry, Ysw. (Pencerdd America) Mus. Bac., yn wir deilwng o sylw, parch, a chefnogaeth holl eglwysi a gweinidogion Cymreig America. Llawenychaf yn ei nodweddiad dilwgr fel Cristion gostyngedig a ffyddlon; yn ei dalentau godidog fel cerddor a datganydd, ac yn ei lwyddiant a'i ddyrchafiad yn yr Athrofa Gerddorol yn Llundain, yr hyn a enillodd drwy ei ymdrechion diflino, a'i weithiau gorchestol. "Mae Cymry cenedlgarol talaith Ohio yn haeddu parch mawr am sefydlu yr 'Wyl Gorawl Gymreig '—gall wneuthur dirfawr les; ac y mae ysgrifau Robert James, Ysw., Hyde Park, Pa., yn y 'Drych' ac yn y 'Faner' yn deilwng o sylw holl Gymry America. . . .

"Credaf fod awyddfryd cryf yn Joseph Parry am wneuthur ei oreu dros ddyrchafiad ' Caniadaeth y Gysegr'; mae ganddo alluoedd nodedig at hynny; cyfansoddodd lawer o ddramau cysegredig a beirniadodd lawer o donau cynulleidfaol. Treuliodd y Saboth, Ionawr 28ain, 1872, gyda'r eglwysi Cymreig yn Shenandoah City, Pa. Cytunasant i gadw cyfarfod canu nos Saboth, ac i wrando ar gynghorion gwerthfawr Mr. Parry. Cawsant wledd gerddorol gysegredig. Gallai wneuthur lles mawr felly bob Saboth, ar ei deithiau drwy'r wlad. Ond credaf fod gan yr Arglwydd waith mwy eto ar gyfer Pencerdd Parry."

Yna cawn fel is-deitl:

"Athrofa Gerddorol Gymreig yn America; dan arolygiaeth ac addysg Joseph Parry, Ysw.—Trwy gydymdrech parhaus gallai Cymry America ei chodi a'i chynnal yn anrhydeddus, yn Columbus, Cleveland, neu Cincinnati, O., neu yn Philadelphia, Pittsburgh, neu Hyde Park, Pa.; neu yn New York neu Utica, N.Y.; neu rywle arall a farnont yn fwyaf cyfleus er addysgu cerddoriaeth foesol a chysegredig. Mae yn awr oddeutu 384 o eglwysi Cymreig yn America, a phe cyfrannent 20 doler bob un ar gyfartaledd, byddai y cyfanswm blynyddol yn 7,680,000 doler at y fath achos teilwng. Gyda'r swm blynyddol yna gellid talu cyflog blynyddol anrhydeddus i Mr. Parry, a rhai athrawon eraill cynorthwyol iddo; a dichon y gellid estyn ychydig gynhorthwy i feibion a merched i gael addysg gerddorol yn yr athrofa honno. Yr wyf fi a'm heglwys fechan ffyddlon yn Shenandoah City wedi penderfynu casglu 20 doler yn flynyddol at y fath achos teilwng, ac yn gobeithio y bydd i'r holl eglwysi ymaflyd yn ddioed yn yr achos o ddifrif, a phenderfynu ffurfio pwyllgor cyfrifol ac anrhydeddus i'w ddwyn i weithrediad. Eglwysi a gweinidogion Cymreig America o bob enwad yn ddiwahaniaeth! Penderfynwch o un galon ar unwaith i godi "Caniadaeth y Cysegr" i anrhydedd, drwy roddi cefnogaeth deilwng i Mr. Parry, y gŵr a anrhydeddodd y nef mor fawr, ac sydd yn teilyngu ein parch a'n anrhydedd ninnau."

Gellir gweld yr apêl braidd anghydryw hon ymhlith yr hysbysebau ar ddiwedd "Hanes Cymry America" gan Iorthyn Gwynedd. Y mae'n anodd gweld beth oedd prif amcan ei ysgrifennu, ai "Caniadaeth y cysegr" ai ynteu yr Athrofa Gerddorol Gymreig. Eglura i ni beth olygai Mr. Parry yn ei gyfeiriad at ei "sylwadau nos Sabothau." Ni sonia Parry ei hun o gwbl am yr "Athrofa Gerddorol"; ond gwyddom ei bod wedi ei chychwyn cyn y diolch uchod. Ni wyddom beth a wnaed mewn ffordd o gynhorthwy gan yr eglwysi ar linellau Iorthyn, ond hysbysir ni yn "Y Gerddorfa" am Rhagfyr, 1872, fod Goleg Cerddorol Mr. Joseph Parry, Mus. Bac. wedi ei gychwyn; tra dywed rhifyn Ebrill, 1873, "Gwelwn fod y "Danville Musical Institute", o dan arolygiaeth Mr. Joseph Parry, yn dra llwyddiannus; y mae yno yn bresennol ddau a deugain o fyfyrwyr, a bydd rhaid i Mr. Parry wrth athro cynorthwyol." Diau fod yna wirionedd yn y si na chyrhaeddodd yr ysgol y llwyddiant uchaf o ran trefn a disgyblaeth, ond dengys y llythyr a ganlyn o'r "Gerddorfa" am Hydref, 1873, oddiwrth Mr. H. E. Thomas, fod ei rhagolygon yn dda: "Ar fy nhaith drwy rannau o Pennsylvania, gelwais yn y Musical Institute yn Danville. Cefais gryn ymddiddan â'r cerddor athrylithgar a dysgedig Mr. Parry. Aethai yn union, fel yr oedd yn naturiol, at y gwahoddiad y mae efe wedi ei dderbyn i fod yn athro cerddorol ym Mhrifysgol Cymru. Teimla yn bryderus iawn, a hawdd y gall. Y mae yn gwneuthur yn dda yn Danville. Gwn y bydd yn gryn aberth ariannol iddo ar y cyntaf. Y mae Danville yn harddach nag y tybiais. Yr oeddwn yn benderfynol o'i annog i dderbyn y cynnyg, ond wedi gweld ei le, a chlywed am ei ragolygon yn Wilkesbarre, y dref fwyaf aristocrataidd yn sir Luzeme, yr oeddwn innau yn petruso. Nid wyf yn gwybod yn sicr pa faint y mae yn ennill o gyflog, ond y mae yn gwneuthur yn dda. Gwn fod athrawon cerddorol llawer llai eu bri nag ef yn ennill rhwng tair a phedair mil o ddoleri y flwyddyn yn y ddinas hon. Eto y mae ei galon gyda'i genedl. Gwasanaethu yr Americaniaid y mae yn bennaf yn y man lle mae; teimla mai y Cymry a'i pia ef. Tra thebyg gennyf mai yn Aberystwyth y bydd cyn blwyddyn i heddyw. Os daw, gwnaed y genedl yn fawr ohono. Y mae yn ddyn gwerthfawr ymhob ystyr. Chwarae teg i'r 'Gohebydd'—os llwyddir i gael Mr. Parry i Gymru, bydd y prif glod yn ddyledus iddo ef am ei lygad craff i'w ddethol ef allan, ac i'w ddawn ddeniadol i'w ennill yn ol i 'wlad y gân'"

At yr hyn a ddywed ef ei hun yn ei Hunan-gofìant, tebyg fod yr oll ellir ei ddywedyd ar ei symudiad o Danville yn y llythyr a ganlyn gan y "Gohebydd"(y "Faner,"Medi, 1873):

"Ar ol ystyriaeth bwyllog ac ar ol ymgynghori â'r rhai hynny ag yr oedd pwys i'w roddi ar eu barn ar y mater, cytunwyd y buasai yn bur anodd cael neb ag oedd ar y cyfan yn gymhwysach i ymgymeryd â'r swydd o athro cerddorol na'n cydwladwr talentog Mr. Joseph Parry, Mus. Bac.

"Tua blwyddyn yn ol sefydlodd Mr. Parry athrofa gerddorol yn Danville, Pennsylvania; ac y mae yr anturiaeth hyd yma wedi bod yn dra llwyddiannus. Ac ni bydd ei symudiad i Aberystwyth, mewn ystyr ariannol, o un elw iddo, ond yn hytrach i'r gwrthwyneb. Ond y mae ystyriaethau eraill—yr ystyriaethau y bydd yn Aberystwyth yn dyfod i gysylltiad mwy uniongyrchol â'i gyd-genedl y Cymry, ac y bydd y dalent y mae Rhagluniaeth wedi ei rhoddi iddo yn cael ei chysegru i ddyrchafu cerddoriaeth ymhlith ei genedl ei hun, ynghyd â'r anrhydedd cysylltiedig o lenwi cadair gerddorol mewn sefydliad fel y Brifysgol i Gymru, yn fwy na digon i droi'r glorian, fel y mae yn nesaf peth i sicrwydd yn bresennol y bydd Mr. Parry yn derbyn gwahoddiad y pwyllgor, ac y bydd yn dechreu ar waith ei swydd yn Aberystwyth yn gynnar yn y flwyddyn nesaf. . . ."

Ym "Maner" Ionawr 28ain, 1874, ysgrifenna: "Y mae ein cydwladwr Mr. Joseph Parry, Mus. Bac., Pencerdd America, wedi cydsynio â'r gwahoddiad a roddwyd iddo gan y Pwyllgor i ddyfod i Aberystwyth yn athro cerddorol. Disgwylid—er nad oedd yna sicrwydd hollol am hynny—y buasai Mr. Parry yn gallu ymryddhau oddiwrth ei ofalon fel athro y sefydliad cerddorol y mae wedi ei gychwyn yn Danville, fel ag i ymaflyd yng ngwaith ei swydd yn Aberystwyth ddechreu'r flwyddyn hon; ond ymddengys fod yna rwystrau anorfod ar ei ffordd i ddod â'i deulu trosodd gydag ef erbyn dechreu Ionawr, ac nid oedd o'r tu arall yn teimlo'n barod i ddyfod a gadael ei deulu ar ei ol. . . ."

Ym "Maner" Mehefin 24ain eto: "Bydd ein cydwladwr Mr. Joseph Parry, Mus. Bac. yn cychwyn i'w fordaith o New York yr wythnos olaf yng Nghorffennaf, fel ag i fod yn barod i ddechreu ar ei waith o ddifrif ddechreu'r tymor nesaf yn Hydref. . .

Erbyn Hydref 28ain cawn yr adran gerddorol mewn llawn gwaith.

"Y mae Musical Chair mewn cysylltiad â Choleg yn beth sydd yn hollol newydd yng Nghymru. Ac nid heb bryder ac amheuaeth yr edrychai amryw ar y cynhygiad. Experiment ydyw mewn gwirionedd, ond y mae yn argoeli yn llawer mwy addawol ar y cychwyn na disgwyliad hyd yn oed y mwyaf eiddgar. Y mae gan yr Athro Cerddorol lawer mwy o waith i'w wneuthur nag y mae'n bosibl i un dyn fynd trwyddo, er gweithio'n galed o naw o'r gloch y bore hyd wyth y nos; ac y mae darpariaeth i'w gwneuthur er ei gynorthwyo."

Gychwynnodd yr adran y tymor cyntaf gyda thri ar hugain o efrydwyr. Cynhyddodd y rhif gryn lawer gydag amser, fel erbyn 1879 yr oedd Dr. Parry'n alluog i dystio eu bod yn ffurfio'r "bedwaredd ran o holl efrydwyr y Coleg."

Gwelwn, ynteu, i Dr. Parry ddechreu ar ei waith yng Ngholeg Aberystwyth yn Hydref 1874, "ar wahoddiad y Cyngor, ac ar awgrymiad y diweddar enwog a gwlatgar ' Gohebydd,'" meddai'r Prifathro T. C. Edwards yn ei dystysgrif iddo pan yn ymgeisydd am y swydd o ddarlithydd yng Ngholeg y Brifysgol yng Nghaerdydd. Ac ychwanega, "Os caf ddatgan fy marn, credaf fod yr awydd i gysylltu â'r Coleg Awdur Cerddorol Cymreig o'r fath fri yn pwyso cryn dipyn gyda'r Cyngor pan yn sefydlu'r Gadair Gerddorol."

VII. Ei Gyfnod Aur,

Hunan-gofiant:

1875—6—7: Daw llawer o efrydwyr cerddorol i'r Coleg—tri o America, hyd yn oed.

1878: Af i mewn am y radd o Mus Doc. yng Nghaergrawnt yn llwyddiannus. Derbynia Mr. D. Jenkins y radd o Mus. Bac.—y cyntaf ar fy ol i, a minnau yr unig English Mus. Doc. yng Nghymru, tra y mae agos yr holl gerddorion a fedd radd Cymreig (Welsh Degree Musicians) yn ddisgyblion i mi.

Y mae perfformio Jerusalem ar gyfer y Mus. Doc. yn eglwys St. John's yng Nghaergrawnt gan gôr Aberdâr, y daith o ddeg niwrnod, gyda cholled o £300, a chyhoeddi "Blodwen" am £400, yn ergyd ofnadwy i'm llogell wag! Rhoddir "Jerusalem" a "Blodwen" hefyd yn yr Alexandra Palace, Llundain, ym Mryste, Caerdydd, ac amryw o drefi y Deheudir.





Gelwir honno yn oes aur cenedl pan fo'i delfryd a'i hamgylchfyd yn un â'i gilydd. Yn yr ystyr hon cyfnod Aberystwyth yw cyfnod aur Joseph Parry. Pan ymwelodd â'r Coleg, ac â'r dosbarth cerddorol dan Mr. Jenkins, mor ddiweddar a 1900, ei dystiolaeth ger eu bron ydoedd, mai yno y treuliodd flynyddoedd mwyaf dedwydd ei fywyd." Hawdd gennym gredu hyn, am amryw resymau.

Yn awr yn unig y gallai deimlo ei fod wedi ymsefydlu mewn bywyd, a rhedlif uchelgais ac anturiaeth i fesur wedi ymsefydlogi. Efallai fod yna un tymor blaenorol—wedi dyddiau plentyndod—pryd y teimlai'n fwy neu lai sefydlog, sef pan yn gweithio yn y gwaith haearn yn Danville, a chyn deffro o'i uchelgais cerddorol. Prawf y ffaith iddo ymbriodi na roddai i gerddoriaeth le uwchlaw yr "ail ffidyl" yn ei fywyd, ac na edrychai ati am foddion cynhaliaeth. Eithr wedi ennyn ei nwyd gerddorol, ac iddo yntau ddarganfod fod ganddo ddawn y tuhwnt i'r cyffredin ac ymroddi i'w datblygu a'i disgyblu—"o don i don" fu hi yn ei hanes hyd yn awr. Hyd yn oed wedi dychwelyd i America, a sefydlu ei Ysgol Gerddorol yno, ni ellir dywedyd ei fod wedi cyrraedd unrhyw fath ar "hafan ddymunol"—er yr ymddengys fod ei ragolygon yn dda; rhwng tonnau anturiaeth yr oedd ei gwch ar y goreu, a'r cyfrifoldeb am ei forio yn gwbl ar ei ddawn a'i ddwylo ei hun. Ond wele ef yn awr, er nad oedd ei gyflog yn fawr, yn rhydd o orthrwm y pryder a'r ansicrwydd hwn, i roddi ei holl íeddwl a'i amser i wasanaeth y gelfyddyd a garai.

Yna, er mai i Goleg Aberystwyth y daeth fel athro, ac er na fuasai wedi dychwelyd i Gymru onibai am hynny, eto i Gymru y daeth yn ei weithgarwch cerddorol arall, fel beirniad, datganydd, ac arweinydd: yr oedd yng Nghymru eisoes fel cyfansoddwr. A chafodd ei dderbyn gan Gymru gyfan nid yn unig gydag edmygedd arwr- addolgar, ond gyda serch a breichiau agored. Ni wyddom sut i gyfrif am hyn, ond prin y llwyddodd neb i daro dychymyg Cymru ieuanc yr amser hwnnw, ac i fynd i'w chalon, fel efe. Diau fod yr hanes amdano fel bachgen bach o Ferthyr, ac yna o America, yn gweithio yn y gwaith haearn yn ffurfio rhan o'r swyn; ac yr oedd yr hanes am ei ymgyrchoedd borëol yn yr eisteddfodau gynt, yn dwyn y dorch oddiar gewri fel Gwilym Gwent, yn aros yng nghof y wlad, ac wedi casglu llawer o hud chwedlonol o'i gylch erbyn hyn; yna yr oedd ei enw gorsedd, "Pencerdd America"—felly yr adnabyddid ef yn y dyddiau hynny—yn berchen llawer o gyfaredd, a'r Mus. Bac. yn arbennig, er na wyddem yn iawn beth a olygai (dyna hanner rhinwedd teitl, a da hynny), ond ei fod yn fwy dieithr na'r B.A., yr hwn hefyd oedd yn brin y dyddiau hynny; ac yn ddiweddaf oll, yr oedd rhywbeth yn ei wedd a'i wallt, a'i darawiad buoyant Americanaidd, yn taro'r llygad a'r ffansi ieuanc. Sôn am "dderbyniad tywysogaidd"! Ni fu erioed dywysog a gaffai y fath dderbyniad calonnog ag ef drwy Gymru oll o Gaergybi i Gaerdydd.

Yr oedd yn anghenrhaid fel beirniad ymhob eisteddfod o bwys. Cawn ef yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor yn fuan wedi iddo lanio, ac ym Mhwllheli y flwyddyn ddilynol yn cymryd ei le gyda'r rhai a'i beirniadai ddeng mlynedd yn flaenorol. Deuai yn rheolaidd i brif eisteddfodau Dyfed, ac mi gredaf, i rai Morgannwg a Gwent. "Dyna'r dyn sy'n mynd â hi" ydoedd ei hanes y dyddiau hynny. Er mai efe oedd ein beirniad mwyaf poblogaidd, ni ellir dywedyd yr un peth amdano fel datganydd, gan fod Mynyddog a Morlais ar y maes. Ni feddai naturioldeb dihafal y naill na llais llifeiriol y llall. Y gwir yw nad oedd wedi ei eni yn ganwr er fod dysg wedi gwneuthur llawer drosto. Yr oedd ei lais braidd yn gras, ond parablai'n groyw iawn, mae'n wir, a thaflai gryn lawer o rym dramayddol i'w ganu, ond ni chyffyrddai â'n calon fel y ddau arall. Cofied y darllenydd mai mynegi'r teimlad ar y pryd a wneir yn y fan hon—er y credaf y gwna'r farn gerddorol addfed ei ategu. Erbyn 1875 cawn ef—a'i ddisgyblion erbyn hyn—yn goresgyn esgynloriau eisteddfod a chyngerdd. Yng nghyngherddau Eisteddfod Pwllheli cawn yr U.G.W. ochr yn ochr â'r R.A.M. Yr oeddynt eisoes wedi rhoddi prawf o'u medr a'u cynnydd yng nghyngherddau'r Coleg— cyngherddau o gryn fri a phoblogrwydd.

Cofiaf yn dda amdano ef a nifer o'i ddisgyblion yn canu yng Nghyngerdd Eisteddfod Crymmych, ac yn dychwelyd gyda ni i Gastellnewydd, i gynnal cyngerdd yno y nos ddilynol, a ninnau'n rhoddi'r anrhydedd iddo o eistedd— yn y brake— yng nghadair farddol glaslanc o'r lle a'i henillasai yn yr eisteddfod; ac mor ddifyr ydoedd yn ein cwmni, nifer o enethod a llanciau Emlyn, ac fel y mwynhai y noson hafaidd gan alw ein sylw at ei chyfaredd.

Os nad wyf yn camsynied, yr oedd ganddo gyngherddau eraill y nosweithiau dilynol ar y ffordd adref i Aberystwyth. Pa sut yr oedd hynny'n cydgordio â'i ddyletswyddau colegawl fel athro sydd gwestiwn arall, ond un nad oedd yn blino nemawr arno ef.

Ag eithrio'r caneuon a wnaethai ef ei hun, yr oedd yna ogwydd cryf yn y cyngherddau hyn at y dieithr a'r tramorol. Pethau felly ddysgid yn bennaf yn y Coleg. Golygai ef yn ddiau iddynt fod yn foddion addysg uwchraddol i'r myfyrwyr, ond caent hwy, rwy'n siwr, y pleser pennaf ohonynt drwy eu bod yn ein synnu ni, bobol y wlad! Ond codai gohebwyr cerddorol eu dwylo, gan ddatgan y gobaith na wnai'r myfyrwyr "anghofio'u naturioldeb a'u gwreiddioldeb eu hunain a newid y ddawn naturiol oedd ynddynt am rodres golegawl."

Coeliaf mai hwy a ddygodd ganeuon a geiriau Italaidd i'n clyw ni yn Nyfed gyntaf, er fod Parry ei hun yn arfer eu canu pan yn yr Athrofa Frenhinol, fcl y dengys hanes ei gyngherddau. Wedi'r amser hwnnw yr ysgrifennodd Watcyn Wyn ei gân ddynwaredol ddi-ail, ond nid oes dim ellir ei ddywedyd am y cyngherddau hynny a esyd allan eu hawyrgylch a'u hasbri yn well.

Ma 'nhw'n odli, ac yn codli,
Ac yn iapo, a chalapo,
Ninnau'n wylo, a chlapo dwylo
Am fod Gwalia'n troi'n Italia,
Tra môr, tra môr! Oncôr, oncôr!

Gwêl di Ianto a'i gariad ganto,
Wedi talu am gal rali,
Yn llygadu ar y ladi;
Gwêl di'r lelo'n troi'i umbrelo—
"Tip to! tip to! Brav o! Brav o!"

Gwalia, Gwalia, mae Italia
Ar dy sodlau gyda'i hodlau,
Mendia, mendia, tendia, tendia,
Tro, tro! Ffo, ffo! Ha, ha! Ho, ho!


"Beth ti'n whalu! dyna rali!" Rhyfedd na fuasai Parry wedi ysgrifennu cân i'r geiriau yna—efallai ei fod yn teimlo'n euog ei hun! ac y byddai'n "hoist on his own petard." Y mae y ddau beth bychan a ganlyn (o'r "Gerddorfa") yn dangos gymaint ei enwogrwydd y tu mewn a'r tu allan i'r Coleg y pryd hwnnw. Ceir yn y cyntaf hanes un o gyngherddau'r Coleg, yn yr hwn y canwyd gweithiau'r "Meistri Bach, Beethoven, Handel, Haydn, Schubert, Schumann, Weber, Wagner, Mendelssohn, Rossini, Bennett, a Dr. Parry."Gwelir fod Parry eisoes ym marn ei ddisgybl edmygol ymhlith y meistri!

Y llall yw nodyn o gymeradwyaeth ganddo ef yng ngholofn yr hysbysebau—i organ neilltuol ar gyfrif ei "mellow and pipe-like tone, and external appearance"— yn dangos fel y ceisiai masnach ddefnyddio ei safle a'i enwogrwydd—a'i ddiniweidrwydd!

Gyda'r galw cyson oedd am ei wasanaeth fel beirniad, datganydd, ac arweinydd cymanfaoedd canu, ac ar gyfrif y tâl da (da i Gymru) a godai am ei wasanaeth, diau fod y cyfnod yma yn un "aur" mewn mwy nag un ystyr iddo. Eto, a bod yn deg, rhaid i ni briodoli dedwyddwch pennaf y cyfnod nid i'w safle mewn coleg, na'i boblogrwydd mewn gwlad, nac i aur y farced, na gŵn y Doethur, ond i'r ffaith mai yn awr y cafodd fantais i ddangos ei allu creol dan ddylanwad dysg fwy, ac ar ol ysbaid o seibiant cymharol i gasglu nerth.

Fel y mae mynydd-dir Pumlumon yn arllwysfa ddwfr (watershed) gwlad gyfan, yn taflu allan i wahanol gyfeiriadau afonydd mawr a bach, rhai'n ysgafn a hoenus, rhai'n chwyrn a chryf, rhai'n fawreddog ac urddasol—yr Hafren a'r Wy, Towy a Theifi, Ystwyth a Rheidiol, a llu o ffrydiau llai: y mae cyfnod Aberystwyth yn hanes Parry yn rhywbeth tebyg o ran y gweithiau a gyfansoddwyd neu ynteu a gychwynnwyd yno. Ac nid yr hen ffrydiau cân wedi eu gloywi a'u dyfnhau a'u llydanu yn unig geir yma, ond dechreuadau newydd, o leiaf o ran ffurf a phwynt. Yr oedd wedi cyfansoddi "Gantata'r Adar" yn flaenorol, a rhai darnau eraill hawdd a syml, ond yn awr yr ymroddodd i r llinell yma o wasanaeth cerddorol i'r plant a'r werin. Dechreuwyd cyhoeddi "Telyn yr Ysgol Sul" yn 1879, a diau ei fod wedi dechreu cyfansoddi'r tonau flynyddoedd cyn hyn. Ni wyddom a oedd wedi ffurfio golygiad neilltuol ar y mater, ai ynteu greddf gerddorol a'i harweiniai, neu efallai mai canu fel aderyn yr oedd am ei bod yn rhaid iddo ganu. Ni waeth lawer pa un, ond amlwg yw iddo roddi moddion addysg a mwynhad iachus i hen ac ieuanc. Y mae llawer o sôn y dyddiau hyn (dechreu 1921) am y "beastly tunes" a gâr y werin yn ol disgrifiad un o'n prif gerddorion. Wel,"beastly" neu beidio, fe fyn y lliaws donau melodaidd a chanadwy, neu ddim, a'r cwestiwn yw, ai nid yw yn bosibl bod yn felodaidd a syml heb fynd yn israddol a cheap. Credaf mai greddf gerddorol Parry a'i harweiniodd i geisio ateb y cwestiwn yna yn gadarnhaol, a hynny mewn ffordd ymarferol, hynny yw, drwy gyfansoddi tonau a chaneuon syml a swynol. Ym myd barddas rhoddwyd ateb cyffelyb gan Wordsworth yn ei ganiadau syml, a gwyddom hefyd i'w farddoniaeth, mewn diwyg felly, gyrraedd calon un mor brennaidd a John Stuart Mill. Y gwir yw ei bod yn gryn gamp ysgrifennu barddoniaeth a cherddoriaeth felly, a hynny am nad oes fantais i rodres geiriol a choeg-wychter peiriannol i guddio aflerwch syniadol.

Yn ystod y cyfnod hwn y daeth y corawd i gorau meibion i fri, ac i'w fri pennaf o Eisteddfod Caerdydd yn 1879 ymlaen[10] ond i gryn lawer o boblogrwydd cyn hynny. Cenid "Codwn Hwyl" ymhob tref a phentref lle ceid dyrnaid o fechgyn cerddgar yn Nyfed. Yna cawsom "Ryfelgan y Mynachod" ganddo, a "Chytgan y Bradwyr" a'r "Rhyfelgan Gorawl."Dilynwyd ef yn y llinell hon, nid gan ei hen gyfeillion ar lwybrau'r anthem a'r ganig, ond gan rai o'i ddisgyblion ei hun—David Jenkins yn bennaf, efallai. Rhoddodd Emlyn ei wasanaeth yn fwyaf neilltuol i'r corau merched.

Cyfansoddodd rai o'i donau goreu yn Aberystwyth—"Aberystwyth" yn eu plith—ond ni ddechreuodd eto ar ei Lyfr Tonau Cenedlaethol. Hawlia dau o'i ddechreuadau mawr, sef yr Opera a'r Oratorio, bennod iddynt eu hunain.

VIII. "Blodwen" ac "Emmanuel."

DIAU fod Parry wedi ei feddiannu'n ormodol gan y syniad o faintioli. Cof gennyf iddo ddywedyd wrthyf, a mi y pryd hwnnw yn treulio fy ngwyliau yn Henffordd, adeg gwyl gerddorol y tri chôr, mai ei uchelgais ef mewn bywyd oedd gadael ar ei ol gymaint ag a fedrai o weithiau mawr cyffelyb i'r un oedd ar waith ganddo yr adeg honno. Ac nid oedd hyn cyn 1882 o leiaf, fel yr oedd ef y pryd hwnnw dros ddeugain oed, a'i ddelfryd i fesur wedi cyrraedd ffurf derfynol. Tarawodd y fath uchelgais ddyn ieuanc yn dechreu holi cwestiynau ynghylch ystyr ac amcan bywyd braidd yn hynod ar y pryd.

Y mae ei le i bob math ar fawredd—mawredd maintioli yn ogystal a mawredd ansawdd: ond y blaenaf a'n tery gyntaf ac yn raddol yr ymryddha'r meddwl odditan ei orthrwm i roddi'r lle blaenaf i ansawdd.

Peth anodd yw cael gan anwariad i ymroddi i waith o unrhyw faintioli o gwbl, ond peth mwy anodd fyth yw cael ganddo ymdrafferthu gyda'r gwaith a wna. Gwelir hyn yn hanes pob plentyn, neu ynteu yn y tramp a gaiff balu eich gardd; er i chwi ei dalu wrth yr awr ac nid wrth y dasg, rhwyddach ganddo wneuthur llawer yn arw nac ychydig yn ofalus—gall fod eisiau mwy o nerth braich ar gyfer y naill, ond y mae eisiau mwy o ewyllys a gofal ar gyfer y llall. Darllenwn am wragedd yn yr hen amser yn treulio oes i wneuthur darn o frodwaith ede a nodwydd: golygai hynny annhraethol fwy o ymroddiad ac amynedd na gwau milltiroedd o wlanen! Wrth hyn ni awgrymir mai gwau gwlanen gyffredin a wnaeth Parry, ond fod y duedd ynddo i gyfeiriad hyd a lled yn aml yn tynnu oddiwrth uchter a dyfnder ei waith cerddorol: pe buasai wedi "cyfansoddi" llai buasai wedi "cynhyrchu" mwy (chwedl Alaw Ddu). Ni ddymunwn ddibrisio maintioli amser a lle o gwbl: yn sicr nid peth bach yw eistedd i lawr i ysgrifennu'r nodyn cyntaf o filiwn o nodau (hyd "Die Walküre" Wagner)! Ond rhaid i gelfyddyd fel y cyfryw gynhyrchu pethau rhagorol, neu ynteu nid celfyddyd mohoni.

Anghenraid arall i waith celfyddol mawr yw amrywiaeth—amrywiaeth rhannau—fel aelodau yn y corff, ac amrywiaeth lliwiadaeth ddisgrifiadol neu arall. Geilw Robert Hall weithiau John Owen yn "gyfandir o fwd,"am eu bod mor unlliw ac undonog. Gellid cymhwyso yr un feirniadaeth at "Emmanuel" Hiraethog, mor bell ag y mae lliwiadaeth eiriol yn y cwestiwn—ansoddeiriau rhyddieithol amlwg yn cynhyrchu argraff o lwydni (grey) diymwared, gydag ambell i gyffyrddiad o goch a gwyn yma a thraw. O ran hynny, cydnebydd Hiraethog mai rhyddieithol y gwaith fod mewn rhannau arbennig. Daw'r amrywiaeth i mewn gyda'r prif rannau: nid cyfandir gwastad mohono; y mae yna fryniau cribog, a chreigiau rhamantus yn y llwydni. Y mae "Emmanuel" Parry yn sylfaenedig ar rannau o eiddo Hiraethog, wedi eu cyfnewid ambell i waith, a rhai rhannau hollol newydd i gwrdd â gofynion y cerddor—canys yr oedd y cerddor yn aml o flaen y bardd, wrth gyfansoddi "Emmanuel" a "Blodwen." Y cerddorion all ddywedyd i ba raddau y mae gwawr a chysgod cerddorol yn dibynnu ar wawr a chysgod yn y geiriau. Ond gwyddom hyn, fod Parry'n feistr ar holl ffurfiau cân, ac wedi rhagori mewn tôn ac anthem, cân a chanig, deuawd, triawd, a phedwarawd, yn ogystal â'r corawd trwm, cyn meddwl ohono am gyfansoddi nac Opera nac Oratorio; a'i fod yn berchen hefyd i raddau mawr ar y gallu i ddisgrifio holl amrywiaethau bodolaeth, holl deimladau y galon ddynol; fel y dywed Mr. L. J. Roberts (gan gyfeirio at rai pethau a ysgrifennwyd wedi'r cyfnod sydd dan ein sylw'n awr):

"Er mor ardderchog yw rhai o'i donau, nid drwy ei emyn-donau y mae Joseph Parry wedi gwneuthur mwyaf o wasanaeth i gerddoriaeth ei wlad, ond yn hytrach drwy ei weithiau eraill—yr oratorios, y cantawdau, yr operäu, a'r cytganau, anthemau, a rhanganau. Ofer fyddai ceisio hyd yn oed enwi y rhai hyn,—y maent yn aneirif: ond rhaid cyfeirio at ( Blodwen' gan fod hon yn llanw lle pwysig yn hanes cerddoriaeth yng Nghymru. Y mae hon yn opera Gymreig ymhob ystyr—yn ei thestun, ei hysbryd, ei chymeriadau, a'i cherddoriaeth. 'Y mae yn 'Blodwen' medd Mr. Emlyn Evans, 'ddigon o felodi i wneuthur hanner dwsin o operäu o fath y rhai ddeuant o'r Eidal, gyda rhagorach saerniaeth—cynghanedd a rhan-weithiadaeth—na ddaeth i feddwl yr un Eidalwr operataidd y gwn i amdano.'

"Yr oedd Joseph Parry yn medru chwarae ar bob tant o'r delyn,—o'r llon a'r nwyfus hyd ddyfnderoedd tristwch a phrudd-der. Esgynnodd yn aml i uchelderau arddunol. Y mae rhai o'i ddarnau mor llawn o deimlad dwfn ag y gallant ddal: o hyn ceir enghraifft dda—heb sôn am eraill—yn y tonau genir heno, megis y 'Dies Irae' (tôn arddunol, yn rhagori hyd yn oed ar ('Aberystwyth' yn fy marn i, fel cerddoriaeth), 'Pennsylvania' a 'Llangristiolus.' Am ddisgrifiad o hiraeth alltud am ei wlad ni wn am ddim gwell na'i rangan brydferth, 'Ffarwel i ti, Gymru fad' ar eiriau Ceiriog. Yr oedd ef yn gwybod trwy brofiad beth oedd croesi'r Werydd, gan 'adael ar ein holau, beddau mam a beddau tad '; ac y mae ei deimlad wedi ymglymu â geiriau Ceiriog mewn dull anfarwol yn y rhangan ddwys-deimladol hon. Ni wn am ddim mwy erfyniol a defosiynol mewn cerddoriaeth na'r weddi yn 'Ar don o flaen gwyntoedd' Yn yr unawd arddunol yn ei 'Gytgan y Pererinion' y mae wedi esgyn uwchlaw cymylau amser: os bu dyn erioed yn ysbrydoledig yr oedd Joseph Parry yn ysbrydoledig pan ysgrifennodd y gytgan hon, yn yr hon y gesyd wynfydedd gwlad y gwynfyd ger bron ein llygaid.

"Nid af ar ei ol heno drwy ei wahanol ddulliau. Ceir y llon a'r nwyfus yn ei 'Sleighing Glee ' ysgafn a sionc; y siriol a'r tirion yn ( O, na bawn yn seren '; neu ' Dduw, bydd drugarog '; a'r cynhyrfus a'r cyffrous yn ( Y Storm' 0 felyster a mwynder ni ellir cael gwell esiampl na'r anthem genir yma heno-( Yr Arglwydd yw fy Mugail' Am hon ni allaf wneuthur yn well na dyfynnu geiriau Mr. David Jenkins, ei gyfaill mynwesol a'i hen ddisgybl, yn ' Y Cerddor' ar farwolaeth Dr. Parry. ( Crëwyd cyfnod yn hanes cerddoriaeth gysegredig Cymru' medd Mr. Jenkins, ' pan gyhoeddwyd ei ( Chwech o Anthemau '; ac y mae 'Yr Arglwydd yw fy Mugail' yn em ddisglair na lwyddodd un cyfansoddwr, Saesneg, tramor, na Chymreig, i wneuthur cystal. Wrth gwrs, cofiwn drefniad Schubert i leisiau merched; felly nid teg cymharu; eto deil gwaith y Cymro ei dir hyd yn oed yn wyneb darn tlws yr Ellmyn.' Dyna eiriau cryfion, onide? Ond po fwyaf genir ar yr anthem, mwyaf yr edmygir ei ffurf syml, chwaethus, a gorffenedig." Eto nid yr amrywiaeth hwn yn unig sydd ddigon i wneuthur cyfanwaith artistig; y mae'n rhaid i'r gwahanol rannau fod yn fynegiadau o'r un syniad canolog, a bod yn ddarostyngedig iddo, hynny yw, nid bod yn ychwanegiadau ato fel ag i ffurfio pentwr o ddarnau'n perthyn yn allanol a digwyddiadol i'w gilydd, ond bod pob un yn dangos y syniad canolog mewn ffordd neilltuol, gan ei wneuthur yn fwy clir a datblygedig. Pe cruglwyth o rannau fuasai eisiau, rhwydd fuasai i ni bentyrru nifer o ddarnau blaenorol Parry at ei gilydd a'u galw yn opera neu oratorio. Wrth gwrs, y mae'n rhaid wrth unoliaeth ac amrywiaeth ymhob darn artistig, pa mor fach bynnag y bo; yr unig wahaniaeth mewn gwaith mawr yw fod y syniad yn fwy ei gwmpas, a'r amrywiaeth yn fwy cyfoethog; ac yn yr ystyr yma'n unig y gellir ei gyfrif yn ddechreuad newydd yn hanes Parry.

Nid yw y gallu pensaernïol hwn ar raddfa eang yn angenrheidiol i wneuthur cerddor (na bardd), ac ni ellir ei farnu fel artist yn ol ei feddiant ohono: y mae'n angenrheidiol yn unig i fath arbennig ar artist. Hyd yn oed ar lefel syniadaeth rhaid barnu'r artist yn ol ansawdd ei syniad, ei gywirdeb darfelyddol, ei gytgord ag ystyr uchaf pethau, nid yn ol ei faint a'i gwmpas, os bydd ar yr un pryd yn annhaclus ac afler. Yn yr ystyr yma y mae'r syniad o wybedyn yn fwy na'r un o abwydyn- y dderwen yn fwy na'r mynydd, y frongoch na'r dderwen, a dyn na'r byd. Er nad pob un ag a fedr gyfansoddi gwaith bychan perffeithgwbl sydd hefyd yn feistr—gydag ymdrech a dyfalbarhad mwy—gyda'r cyfanwaith mawr, y mae'n un mor wir fod eisiau athrylith o fath neilltuol i ddwyn i fod y bydysawd bychan perffaith ynddo ei hun. Nid yr un fel rheol sy'n gampwr gyda'r stori fer a'r un faith. Dywedir am Schumann ei fod yn feistr yn ei ddarnau byr, ac am ei weithiau mawr, mai nifer o ddarnau byrion wedi eu gosod wrth ei gilydd ydynt. Ni chaniatai iechyd Grieg (yr hwn oedd o ran pryd a gwedd yn debyg i Parry) iddo ymgymeryd â gweithiau mawr, ond yr oedd ganddo ddawn neilltuol i "ddyhidlo" cerddoriaeth fel diferiad diliau mêl. Nid yw rhai o'i ddarnau i'r berdoneg ond tudalen neu ddwy o hyd, ond y maent yn annhraethol uchel o ran prydferthwch a phurdeb.

Yr anhawster yn aml i'r cerddor yw sicrhau'r unoliaeth a'r amrywiaeth angenrheidiol mewn geiriau cymwys. Yr oedd Wagner yn fardd a cherddor, fel yn yr hen amser, a mwy na hynny, cyfansoddai y geiriau a'r gerddoriaeth yr un pryd. Buasai cyfansoddi'r geiriau'n gyntaf a'r gerddoriaeth wedyn, meddai ef, yn golygu iddo gael ei ysbrydoli ddwywaith gan yr un testun, yr hyn na fedrai arno. Y peth nesaf at hyn yw cael bardd a cherddor fo'n deall ei gilydd, ac yn cyfateb i'w gilydd, fel Gilbert a Sullivan. A rhaid cofio nad pob telynegwr fedr ysgrifennu libreto, a dwyn i mewn y symudiadau, y cyfuniadau, a'r cyferbyniadau angenrheidiol. Cafodd Parry gynhorthwy beirdd goreu Cymru, a'n beirniaid cerddorol a ddywed pa faint fu hwnnw, a pha ddefnydd wnaeth ef ohono. Nid yw "Blodwen" ac "Emmanuel" ond y cyntaf o ddwy gyfres o weithiau cyffelyb a fu o hyn allan yn arglwyddiaethu ei fywyd, ac a ddylai gael lle tebyg yn ei hanes. Fel rheol ymddengys un o'r naill gyfres yn ymyl un neu ragor o'r llall, yn amddiffyn i'r llall, neu, efallai, i dorri i lawr ragfarn yn erbyn y llall. Oblegid lle yr oedd posibilrwydd gwrthwynebiad Piwritanaidd i'r Opera, dangosai yr Oratorio fod yr awdur mewn cydymdeimlad ag ochr gadarnhaol y ffydd Biwritanaidd. Ymddangosant hefyd yn fuan ar ol sefydlu o'r awdur mewn lle newydd—"Nebuchadnezzar" ac "Arianwen" yn Abertawe, "Saul" A "Sylvia" yng Nghaerdydd—nid i alw sylw at ddyfodiad dyn o bwys i'r dref, mae'n amlwg, fel pibyddion laird Ysgotaidd, ond fel math ar warogaeth i'r dref, ac hefyd am fod yr awdur wedi cael hamdden i'w cyfansoddi cyn dod.

Cynrychiola'r ddwy gyfres ddwy wythïen o deimlad cryf a chyson yn yr awdur—sef y genedlaethol a'r ysbrydol; ac fel yr oedd gan Gladstone ddwy ffenestr yn ei fyfyrgell a bwrdd ymhob un gyda defnyddiau ysgrifennu arno a roddai iddo fantais i newid ei safle a'i waith—yr oedd gan Parry hefyd ddwy ffenestr fawr a gloyw—bay-window—yn ei natur, un yn edrych at Dduw, a'r llall ar ddyn, heblaw un arall yn edrych at natur a'i hadar, a'i sêr, a'i thymestl, a'i thon, a dynnodd lai o sylw, ond oedd lawn mor swynol a'r lleill.

Yn hanes y genedl gwyddom nad "Emmanuel" yw ein traethgan gyntaf; ac efallai nad iawn galw "Blodwen" yn ddechreuad newydd, gan nad oes dim fel yn dilyn, ag eithrio operäu eraill Parry. Ynglŷn â hyn y mae'n iawn i ni gofio fod yna gyfnodau yn hanes yr ymwybyddiaeth genedlaethol fel ym mywyd yr unigolyn, ac y rhaid i wahanol ffurfiau cân gael eu hadeg eu hun. Ni ellir gwthio ysgerbwd henafgwr i blentyn, a cham dybryd yw treio. Efallai bod cyfnod yr Opera heb ddod—neu wedi pasio?

Bid a fynno am hynny, derbyniwyd "Blodwen" ar y pryd fel pe bai cyflawnder ei hamser wedi dod. Ni fu erioed y fath frwdfrydedd: nid oedd na Phiwritan na Phresbyter na Pherson a safai yn erbyn y llif. Yr oedd y peth mor newydd, mor ffres, mor ddieithr, mor swynol, fel yr hanner gwallgofai y lluoedd. "Chwifiai y bobol eu cadachau yn yr awyr; curent ddwylo; a bloeddient mor uchel nes yr oedd yn rhaid i'r cerddor dysgedig fegio arnynt adael i'r gwaith brysuro yn ei flaen." Profai hyn o leiaf y gall y werin werthfawrogi rhywbeth Heblaw "beastly tunes."

Dechreuwyd yn Aberystwyth yn hwyliog iawn, meddai Mr. David Jenkins. Yna aeth y "Côr Cynrychiol" o gerddorion Aberdâr, Mountain Ash, Castellnedd, ynghyda myfyrwyr y Coleg, dan arweiniad Mr. Rees Evans, ar daith drwy rannau o Gymru a Lloegr i berfformio "Blodwen" a "Jerusalem" (y rhan olaf o "Emmanuel"), a chyda'r amcan mwy neilltuol o roddi'r olaf yng Nghaergrawnt, er nad oedd hyn yn ofynnol er ennill y radd o Ddoethur mewn cerddoriaeth. Yr oedd ieuad "Blodwen" a "Jerusalem" yn ystod y daith hon fel yn arwyddocaol o uniad yr Opera a'r Oratorio yn hanes Parry hyd y diwedd. Meddai un beirniad am "Jerusalem": "Os na wallgofa y bobl, fe a'u gwna yn well: y mae mor ddysgedig, eto mor glir

Derbyniwyd y côr a'r gweithiau gyda chymeradwyaeth cyffredinol yn Lloegr. Yna tramwyodd "Blodwen" drwy'n gwlad ni "megis fflam yn llosgi llin." Dechreuodd rhieni alw eu plant yn "Blodwen," nes peri i un broffwydo y byddai yr enw "Blodwen" mor gyffredin yr oes ddilynol a "Mary" yr adeg honno—proffwydoliaeth a drodd allan yn wir, mi goeliaf. Ymhen tua blwyddyn hysbysebid fod y gwaith wedi ei berfformio hanner cant o weithiau—tuag unwaith yr wythnos ar gyfartaledd. Yn 1896 yr oedd yr awdur yn alluog i dystio fod y gwaith wedi ei berfformio dros 500 o weithiau—mwy nag unwaith pob pythefnos ar gyfartaledd. Ni chlywsom fod un boneddwr pan yn cyflogi gwas yn ei gwneuthur yn amod na fyddai'n medru chwibanu rhannau ohoni, fel y cawn sôn am rai'n gwneuthur ynglŷn â rhannau o "Der Freischütz," ond yn sicr yr oedd yn ddigon poblogaidd i hynny ymron.

Ynglŷn ag "Emmanuel," a'r perfformiad ohoni, bydd yn well gan y darllenydd gael a ganlyn na llu o bethau llai:

"17, Duke Street,
Manchester Square,
Mai 1880.

"Annwyl Dr. Parry,

Derbyniwch fy llongyfarchiadau didwyll ar lwyddiant mawr a theilwng eich Oratorio nos Fercher diweddaf yn St. James's Hall. Gwrandewais ar eich gwaith gyda llawer o ddiddordeb a phleser, oblegid ein hen gysylltiadau yn yr Athrofa Frenhinol, ac hefyd deilyngdod gwirioneddol eich miwsig, yr hwn oedd i mi'n llawn melodi, ffresni, a medr, yn lleisiol ac yn offerynnol, a rhai o'r corawdau wedi eu cynllunio a'u datblygu mewn modd meistrolgar. Yr oedd y perfformiad hefyd yn llawn ysbrydiaeth hyfryd a brwdfrydig, a theimlaf yn sicr iddo roddi i chwi gymaint o foddhad ag a roddai'n amlwg i'r dorf oedd yn bresennol.

"Bydd yn hyfrydwch gennyf ddarllen eich Opera, os byddwch mor garedig a danfon imi gopi ohoni. Gan ddymuno i chwi lwyddiant parhaol a chynhyddol yn eich llafur, yr eiddoch yn gywir,

Alberto Randegger."
Dengys yr adweithiad nerfol yn y rhapsody a ganlyn a gafwyd ymhlith papurau Parry beth olygai iddo i gyfansoddi Oratorio fel "Emmanuel." Ni cheisiwn ei gyfieithu, rhag inni anafu ei ryddid a'i rialtwch.

News! News!! NEWS!!! Ye fowls of the air,— ye creatures that growl, groan, and puff in the mighty deep; Ye beasts of the forest and all things that crawl on the face of the earth; ay, sun, moon, and stars, earth, air, fire, water, and all creation: News! News!! NEWS!!!— Thus the herald screams as he rushes through the universe bearing the glad tidings of some little man who resides at a remote corner of our world, having this day completed the score of his last work, ' Emmanuel' So intense is the news that all things are dumb with astonishment and fright, even paralyzed as the herald's tones and vibrations roll onward and ever onward through space. So now for a while, my poor and feeble brain, nerve and hands may pause awhile and wonder what such a pause means, being so unusual. This silence may contain a symphony of such delicate and delicious strains played by an orchestra of angels, so gentle is their touch, and so soothing the music they produce as their angelic fingers wander to and fro upon their golden instruments; such instruments and effects that even Wagner never heard in his sweetest dreams. I feel that silence may produce the very essence of music. These are some of the thoughts that the author experiences on the completion of his work.

News! News!! GLORIOUS NEWS!!!"

IX. "Yr Awdur Epiliog Hwn,"

"Y MAE yn syn meddwl," meddai'r Athro David Jenkins, "gymaint o waith yr aeth Dr. Parry drwyddo yng nghanol y fath brysurdeb, a'r nifer fawr o gyfansoddiadau a gynhyrchodd yn Aberystwyth. Yma y cyfansoddodd "Codwn Hwyl," "Y Ddau Forwr," "Y Bachgen Dewr," "Y Gardotes Fach," "Yr Eos," "Yr Ystorm," Cantata "Joseph," "Emmanuel," "Blodwen," llawer o "Saul o Tarsus," "Cytgan y Mynachod," "Nebuchadnezzar," a llawer o rai eraill."

Yn 1878 ysgrifennai Mr. Levi:"Mae ei athrylith yn nodedig o gynhyrchiol. Gwyddom ei fod eisoes wedi cyfansoddi dros gant o ganeuon (songs); llawn trigain o anthemau a chytganau; hanner cant o donau cynulleidfaol; nifer mawr o quartettes, trios, duets, glees, a darnau at wasanaeth yr organ ac at wasanaeth offer tannau; pedair o overtures for full orchestra; tair o sonatas i'r piano; ac un grand symphony; pump cantata ac un opera Gymreig."

Dyna doreth rhyfeddol o weithiau amrywiol, mawr a bach! Ond y mae inni gofio fod Dr. Parry yn gyfansoddwr cyflym, fel y dengys y paragraff canlynol o"Musical Opinion"(Mehefin, 1900):"Y mae gan yr anturiaeth ddiweddaraf mewn newyddiaduriaeth ddimai mewn colofn o'r papur dan y teitl, 'The world over,' baragraff ar 'The lightning composer.' Y boneddwr a anrhydeddir â'r disgrifiad hwn yw Dr. Joseph Parry, yr hwn a gyflawnodd y gorchestwaith cerddorol a ganlyn. Pan oedd y Doctor dysgedig yn arwain rehearsal mewn lle o'r enw Briton Ferry awgrymwyd iddo gyfansoddi tôn i'w galw ar enw y lle. Gydag, efallai, ryw bum neu chwe awr i'w athrylith flodeuo a dwyn ffrwyth, llwyddodd Dr. Parry yr un hwyr i gynhyrchu tôn wreiddiol o'i ymennydd; nid y felodi'n unig, ond y rhannau alto, tenor, a bass yn ogystal. Nid rhyfedd bod yr ysgrifennydd talentog yn y 'Daily Express' yn cyfeirio at hyn fel gorchest gerddorol Ar yr un pryd, efallai, y caniateir i ni ymholi a glywodd y newyddiadur crybwylledig sôn erioed am rai enwogion blaenorol, fel Mozart, Schubert, Rossini, a Handel, ac am yr hanesion ynghylch Overture 'Don Juan' y gân a enwir yr 'Erl König' 'Gweddi' enwog, a'r oratorio fwyaf mewn bod." Cyfeirir yma at rai o gampau y cyfansoddwyr uchod mewn cyfansoddi cyflym. Cyfansoddodd Mozart overture "Don Giovanni" mewn llai na chwech awr. Gadawodd un o gyfeillion Schubert y cerddor yn darllen pryddest Goethe, yr "Erl König," am y waith gyntaf; a phan ddaeth yn ei ol mewn llai nag awr, yr oedd y cerddor wedi gorffen ei gân fyd-enwog yn ei ben, ac yn ei phrysur osod i lawr ar bapur. Cyfansoddwyd ei "Serenade" mewn modd cyffelyb, ond fod yr amgylchoedd yn fwy anffafriol, sef tafarndy budr yn Vienna—yno yng nghlindarddach cwpanau a gwydrau a brawl diotwyr, y daeth y gân anfarwol i'r ddaear, yn ei holl ledneisrwydd nefol, fel y daw'r dragon fly allan a'i hedyn heb frycheuyn na chrychni, o ganol budreddi y pwll lleidiog.

Pan roddwyd "Moses" Rossini y waith gyntaf, aeth y perfformiad ymlaen yn llwyddiannus nes dod at groesi'r Môr Coch, pan dorrodd y gwyddfodolion allan mewn chwerthin gwawdus, fel ag i ddinistrio effeithiau cerddorol a llwyddiant y gwaith. Ni wyddai'r rhiolydd beth i'w wneuthur nes i Tottola, y librettist, awgrymu gweddi cyn croesi ac eilwaith yr ochr draw. Ymaflodd y syniad yn Rossini, neidiodd allan o'i wely yn ei wisg nos, a chyda chyflymder anhygoel ysgrifennodd y weddi odidog, heb roddi ond prin amser i'r manager a'r librettist synnu! Rhoddwyd y gwaith ynghyd â'r weddi yr un nos—yr oedd y bobl yn paratoi eu hunain i chwerthin fel arfer, ond gyda bod "Moses" yn dechreu canu a'r côr yn dilyn, trodd yr ysbryd chwerthin yn gywreinrwydd, yna yn astudrwydd, ac wedyn yn gymeradwyaeth byddarol.

Yn ol yr hanes, dechreuodd Handel ysgrifennu'r "Messiah" Awst 22ain, 1741, gan ei gorffen Medi 14eg—mewn tri diwrnod ar hugain!

Daeth Parry dan ddylanwad Rossini yn fawr un adeg yn ei hanes, a hynny'n ddiau am fod yna gydnawsedd ysbryd ac awen rhyngddynt. Ymddengys ei fod yn ymdebygu i Rossini hefyd, yn ei ddull o gyfansoddi, ond ei fod yn meddu ar fwy o hunan-reolaeth, ac yn rhoddi ei hun i fyny'n llai i hunanfoddhad. Cyfansoddodd Rossini ei Opera,"Barbwr Seville" mewn tri diwrnod ar ddeg, heb fynd allan o'r tŷ o gwbl, a heb eillio chwaith! "Rhyfedd," meddai cyfaill wrtho, "i chwi fynd trwy y 'Barbwr' heb eillio." "Pe eillid fi, oedd yr ateb, "buasai'n rhaid i mi fynd allan; a phe awn allan ni ddeuwn yn fy ol mewn pryd." A dywedir wrthym am Parry, pan ddeuai'r divinus afflatus arno, yr arferai "fynd at ei lyfr-rwymydd, gan orchymyn rhwymo nifer o gyfrolau o bapur cerdd, a'i fod wedyn yn brysio i'w llanw i fyny, y rhan offerynnol yn ogystal, gan roddi popeth i mewn fel y deuai, hen a newydd, gwreiddiol neu ddyfynedig, gyda'r canlyniad fod yna lawer o waith medrus a thalentog, ond anghyfartal, ac nid y goreu o'r hyn allasai ac a ddylasai gynhyrchu." Rhydd Cynonfardd yr enghraifft a ganlyn:

"Pan oedd Dr. Parry a minnau yn croesi y Werydd tua New York ar yr agerlong Campania yn Awst, 1898, ceisiodd ef gennyf gyfansoddi geiriau cân iddo allu ei chanu yng nghyngerdd y llong nos drannoeth. Felly bu; rhoddais y geiriau iddo yn y bore, ac yr oedd y gerddoriaeth yn barod erbyn yr hwyr. Awgrymodd ef y mesur."

Nodir "Aberystwyth" ambell i waith fel enghraifft o gyfansoddi cyflym yr awdur: yn ol yr hanes galwodd un o wŷr Hughes & Son, Wrecsam, gyda Parry y Sul gyda chais oddiwrth Tanymarian am dôn ar y geiriau "Beth sydd imi yn y byd?"ac erbyn dydd Mercher yr oedd y dôn yn barod iddo. Yn anffodus, y dyddiad uwchben y dôn yw 1877 (a dywed Parry yn ei Hunangofiant iddo'i chyfansoddi yn 1876), tra na chyhoeddwyd Atodiad Tanymarian cyn 1879, ac yn ol yr hanes yr oedd ar fin dod allan, heb ond eisiau tôn ar y geiriau "Beth sydd imi, etc." pan ddigwyddodd yr uchod. Y tebygrwydd gan hynny yw fod y dôn eisoes yn bod, ac na wnaeth y awdur ond ei chaboli, neu ynteu ei chyfaddasu i'r geiriau.

Yr oedd Parry hefyd yn weithiwr heb ei fath: dywed Mr. Jenkins nad adnabu erioed weithiwr caletach. Mewn beirniadaeth o'i eiddo ar un o weithiau Alaw Ddu, fe ddywed Parry,"Y mae yr awdur yn adnabyddus yn neilltuol yn y Polyphonic (amryw-leisiol) style o gyfansoddi sydd yn fwy o gynnyrch llafur, dysg, ac ymarferiad mawr, na'r Monophonic (melodic) style, sydd yn gynnyrch awen naturiol. "Meddai yntau ystor o ynni ac egni diball i roddi'r wisg i'w feddylddrychau ag y rhaid wrth "lafur, dysg, ac ymarferiad mawr" i'w gwau.

Yr oedd hefyd yn alluog i gynhyrchu mwy o fater am na roddai ond ychydig sylw i gaboli a pherffeithio yr hyn a gyfansoddasai: y mae hyn yn cymryd amser mawr, ond fel rheol y mae'n angenrheidiol, gan mai yn anaml y cwyd cân—llai fyth gyfanwaith—o'r dyfnder fel Minerva o'r môr yn ei llawn arfogaeth. Ag eithrio Mozart, dyna hanes y prif feistri fel arfer. Er fod Haydn yn gyfansoddwr cyflym, eto treuliodd dair blynedd i gyfansoddi ei "Greadigaeth," am, meddai ef, y golygai iddi fyw yn hir. Ymdrafferthodd Gluck yn ddirfawr gyda'i "Armida," ac am y rheswm hwnnw credai fod y gerddoriaeth yn gyfryw nad äi byth yn hen. Dengys notebooks Beethoven yr un peth. Gwyddom fod gan Milton ymdeimlad fod ei "Goll Gwynfa" i barhau, ac am hynny cymerai boen i fod yn ffyddlon i ofynion a sibrydion y tragwyddol perffaith. Ond pan gyd-lafuriai Dewi Môn a Parry ar y "Cambrian Minstrelsie." cwynai y blaenaf wrth gyfaill na fedrai gyd-gerdded—neu gyd-redeg—â Parry, a'i fod yn ofni mai "slap-dash work" a gynhyrchai. Tebyg nad oedd sail i'r ofn hwn, er yn ddiau y buasai'r gwaith yn llawer gwell gyda mwy o ofal.

Eto, nid yn unig yr oedd Parry yn gyfansoddwr cyflym, ac yn weithiwr caled (er nad yn ddigon llym tuag ato'i hun), ond yr oedd hefyd yn gynhyrchydd cyson, a hynny yng nghanol amgylchiadau anffafriol. "Yr oedd mor ddiwyd," meddai ei ferch, "fel nad ydym yn gallu cofio fod unrhyw ran arbennig o'i ddydd yn cael ei rhoddi i gyfansoddi. Meddyliai allan ei destun wrth gerdded a theithio, etc., a throsglwyddai ei gynhyrchion i bapur pan ddeuai cyfleustra." Yr oedd ei allu i "gau ei ddrws" ar bethau allanol, y cyfeiria Mr. J. T. Rees ato, yn help i wneuthur hyn yn bosibl, ac yn angenrheidiol pan fyddai'n ysgrifennu cerddoriaeth. Ond hyd yn oed ar adegau eraill äi y gwaith creol ymlaen yn y gweithdy is-ymwybodol. Gellir deffinio athrylith fel drws agored i'r delfrydol, fel y synhwyrau i'r materol; ac yr oedd yn ei natur ddrws felly oedd agos yn gyson a llydan agored i fodau disglair (chwedl Bunyan) o wledydd pell.

Edrydd y Parch. D. G. Williams, St. Clears, amdano'n mynd i'w ymrwymiad yn Ferndale un prynhawn, ac wedi gadael Caerdydd yn dechreu cyfansoddi tôn, gyda'r canlyniad iddo anghofio newid yn y Porth a gorfod cael cerbyd i'w nol dros y mynydd o ben uchaf y Rhondda. Penderfynwyd galw'r dôn honno'n "Pererin."

Daeth "Llangristiolus" i fod ac yntau o ran y corff mewn gardd yn Llangristiolus, Môn, ac aml i dôn, a chân, a chorawd arall mewn modd cyffelyb.

Help arall iddo yn hyn oedd ei gof cerddorol rhyfedd, fel eiddo llawer cerddor arall o fri. Medd Mr. Levi:"Gellir nodi fod ganddo gof digyffelyb, ag sydd yn nodedig o wasanaethgar iddo. Mae yn cyfansoddi yn barhaus- yn ei wely, yn y gornel, ar hyd y ffordd, ac yn y trains; ac nid oes perigl iddo anghofio yr un frawddeg na nodyn. Nid yw un amser yn dechreu ysgrifennu yr un dôn na chân nes bydd wedi ei gorffen yn ei feddwl. Ni fydd byth yn defnyddio copi i ganu na chwarae mewn cyngherddau, nac yn mynd â hwy oddicartref. Dywedwyd wrthym iddo, ychydig amser yn ol, chwarae ei opera, yr hon a gymerai dair awr i fynd drosti, bob nodyn heb gopi yn ei olwg, a dau neu dri o gerddorion enwog â'r copi ganddynt ar y bwrdd yn dilyn y chwareuwr. Mae hyn bron yn anghredadwy. Dywedai wrthym ryw dro nad yw ef yn hawlio un credyd iddo ei hun am hyn, oblegid 'na all oddiwrtho.' Nid yw cofio yn un orchest iddo. Unwaith y daw i'w feddwl yno y bydd, ac ni all llafur nac amser beri iddo ei anghofio. Dechreuodd arfer ei hun gyda hyn wrth weithio yn y felin. Wrth ei waith o flaen y rolls y cyfansoddai yr oll, ac wedi gorffen cyfansoddi, äi adref wedi gorffen ei waith i'w ysgrifennu.

Tra yr ydym yn gyfarwydd â hanes cof mawr Macaulay, ac eraill, prin y mae y cof cerddorol yn wybyddus i ni, nac yn wrthrych syndod. Meddylier am gof Mozart ieuanc, ac efe eto ond tair ar ddeg oed yn mynd i'r Capel Sistine yn Rhufain i wrando Mass Allegri, y "Miserere" glodus, yr hon nid cyfreithlon ei chopïo, ac yntau yn ei thrysori i gyd yn ei gof! Neu meddylier am Berlioz pan yn ymgeisydd am le yng nghorws opera yn ateb y cwestiwn, tl Pa le mae eich miwsig?" drwy ddywedyd, "Nid yw gennyf, ond medraf ganu popeth a roddwch i mi ar yr olwg gyntaf." "Ond nid oes gennym un llyfr canu yma?" "Wel, beth a fynnwch? Medraf ganu o'm cof bob nodyn o operau Gluck, Piccini, Salieri, Rameau, Spontini, Gretry, Mozart, a Cimarosa." Eto y Berlioz hwn a edrydd gydag edmygedd sut yr arferai fynd pan allan o hwyl (yr hyn a ddigwyddai'n aml) i geisio Mendelssohn i'w gysuro â'i ganu. "Gyda pherffaith dymer dda," meddai "gosodai ei ysgrifbin o'r neilltu wrth weld fy sefyllfa druenus, gan eistedd wrth y piano, a chyda rhwyddineb rhyfeddol i gofio'r scores mwyaf cymhleth, a ganai beth bynnag a ofynnwn iddo."

Pe llosgasid symffonïau Beethoven, gallasai Wagner eu hatgynhyrchu. Yn yr un modd nid oedd eisiau i Mr. Tom Stephens anrhegu Parry a safe i ddiogelu ei weithiau ond fel amddiffyn i'r papur a'r nodau, gan eu bod i gyd gan mwyaf yng nghof yr awdur. Eto, er y darllenwn am gerddorion yn cyfansoddi gwaith cyn gosod nodyn i lawr ar bapur—fel Mendelssohn ei "Walpurgis Nacht— rhaid iddynt, fel rheol, gael amser a chyfle i dderbyn a chadw argraffiadau: gwasanaethgar yw'r cof i'w hatgynhyrchu yn ol llaw, tra nad yw'n ddigonol o gwbl i'r gwaith o ddilyn a chroniclo aneirif donnau a rhediadau gorlif awen pan ddêl; ac felly ä llawer o ddrychfeddyliau gwerthfawr ar goll oherwydd diffyg mantais i'w sicrhau mewn du a gwyn.

Daliodd Parry ati i gynhyrchu hyd y diwedd, er bod yn analluog i gyhoeddi. "Buom yn gwasgu arno," meddai Watcyn Wyn "paham na buasai yn cyhoeddi rhai pethau oeddem am weld; ond dywedai braidd yn ddiamynedd:

Nid fy ngwaith i yw cyhoeddi; fy ngwaith i yw ysgrifennu. "Beautiful, but sad," onide. Dim ond y rhai a "gâr gerdd yn angherddol" ac er ei mwyn ei hun, fedr eistedd i lawr i ysgrifennu gweithiau mawrion fel efe, a llawer cerddor[11] arall, heb obaith gweld eu cyhoeddi na'u canu gan eraill. Eto gwell hyn yma na'r hyn a edrydd Berlioz amdano'i hun: "Breuddwydiais un nos am symffoni. Pan ddeffroais gallwn alw i gof y symudiad cyntaf agos i gyd—allegro yn A leiaf, ond wrth fynd at y bwrdd i'w gosod i lawr meddyliais yn sydyn: 'Os gwnaf hyn, fe'm tynnir ymlaen i gyfansoddi'r gweddill, a chan fod fy syniadau'n wastad yn ymddatblygu aiff y cyfansoddiad yn un annhraethol faith; cymer i mi dri neu bedwar mis i'w gwblhau; ni fyddaf yn abl i yrru fy ysgrifau arferol i'r papur, a thyna ddiwedd ar fy incwm. Pan ysgrifennir y symffoni bydd i mi—mor wan ydwyf—gael rhywun i'w chopïo a mynd i ddyled felly o ryw fil neu ddeuddeg cant o ffrancs. Yna caf fy arwain i roddi cyngerdd i'w pherfformio: ni fydd y derbyniadau ond prin hanner y treuliau, a chollaf arian. Nid oes gennyf arian. Bydd fy mhriod gystuddiedig heb y cysuron angenrheidiol, a threuliau fy mab ar fwrdd y llong heb eu talu.' Gyda theimlad o ddychryn teflais fy ysgrifbin i lawr, gan ddywedyd 'Yfory byddaf wedi anghofio'r symffoni.' Ond ha! Y nos ddilynol dychwelodd y motif ystyfnig yn fwy clir na chynt—gwelwn ef wedi ei ysgrifennu allan. Neidiais i lawr yn gyffrous, gan ei hwmian—ond eto daliodd fy mhenderfyniad fi'n ol, a gwthiais y demtasiwn o'r neilltu. Syrthiais i gwsg, a'r bore dilynol, yr oedd fy symffoni wedi mynd am byth.

"'Y llwfryn!' meddai'r penboethyn ieuanc. 'beiddia'r oll, ac ysgrifenna! Dinistria dy hunan! Heria bopeth! Pa hawl sydd gennyt i wthio'n ol i anghofrwydd waith artistig sy'n estyn allan ei freichiau am dosturi a gweld goleu dydd?'

"Ah! ieuenctid, ieuenctid! ni ddioddefaist erioed fel y dioddefaf fi, onide buasit yn deall a bod yn ddistaw."

X. Gwrthdarawiadau.

Y MAE'R dyfyniad yna o Berlioz lawn mor gyfaddas i ddechreu'r bennod hon ag ydyw i orffen yr un ddiweddaf. Dengys inni yr anawsterau sydd ar ffordd creadigaethau athrylith i ymgorffoli ar y ddaear isod—mor arw yw'r ffordd i'r traed sanctaidd o hyd. Ar un olwg y mae'n drueni na ellid trefnu i blant awen aros ar barnasws o hyd. Nid da iddynt hwy yw goreu'r byd—yn wir, efallai y try goreu'r byd yn waeth na'i waethaf iddynt yn y diwedd. 0 leiaf, dyna ddywed Wagner, mi goeliaf:"Gwyn fyd yr athrylith,"meddai,"na chafodd wenau ffawd erioed. Y mae athrylith yn gymaint iddi ei hunan! Beth allai ffawd ychwanegu? . . . Pan fyddwyf wrthyf fy hun, a llinynnau cân ynof yn ymchwarae, a seiniau gwahanrywiol yn ymffurfio i gyfuniadau o'r rhai yn y diwedd y cwyd y felodi a ddatguddia i mi fy hun fy hunan nesaf i mewn, nes cyffroi'r galon i gydguro â rhediad y mydr, a pheri i'r perlewyg dorri allan mewn dagrau dwyfol drwy lygaid wedi colli eu golygon meidrol—yna y dywedaf yn aml wrthyf fy hun, 'y fath ynfytyn ydwyt i beidio aros yn wastad gyda thi dy hun, i fyw i'r fath felystra digymar! Beth all y cyhoedd yma, â'r croeso mwyaf godidog, ei roddi i ti yn gyfwerth â chanfed ran y perlewyg sanctaidd a dardd oddimewn?' "

Eto i lawr y daw y cerddor a'i gân—ymgnawdoli gais y delfryd o hyd. Ac y mae hyn yn ddiau er mantais i'r cerddor a'r byd—i'r olaf yn ysbrydoliaeth tuag i fyny, a thra yn ddisgyblaeth i'w ysbryd ef, yn rhoddi iddo olwg arall nag a geir ar y bannau:

O ddryslyd diroedd yr iselderau
A'u curlaw gerwin cei'r olwg orau.

Felly y bu gyda Dr. Parry, a chafodd brofiad o ddwy ffordd y byd o dderbyn—ei "groeso godidog" ar y naill law, ac ar y llaw arall, ei groesau chwerw, ei atalfeydd mynych, ei wrthdarawiadau creulon mewn amgylchiadau, cysylltiadau, a theimladau cwrs a chas.

Dywed Dr. Horton yn ei Hunangofiant ei fod wedi cael llawer bendith arbennig mewn bywyd, ond mor wir a bod y fendith yn dod, fod yna groes heibio'r gongl i gadw'r gorfoledd rhag troi'n falchter a hunan-foddhad. Ni wyddom beth fu effeithiau siomedigaethau bywyd ar Dr. Parry—y cerddorion a ddwed a ddaeth i'w gân Ryw newydd lais, fel nawfed ton y môr, fel yr ai'r blynyddoedd heibio. Gwyddom mai cecraeth ac erlid gelynion barodd i Handel adael yr Opera am yr Oratorio, ac na fuasai y "Messiah " wedi ei rhoddi i'n daear, nid yn unig heb Groes y Ceidwad, ond hefyd heb groesau Handel. Gwelsom y fath dderbyniad godidog a gafodd Parry gan ei gydgenedl—gadawer inni'n awr alw sylw at yr ochr arall i'r " darian." Daeth i gyffyrddiad cynnar ag ochr arw, gwerylgar, genfigenllyd yr Eisteddfod. Er iddo gael ei ddewis yn feirniad yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor ei flwyddyn gyntaf yn Aberystwyth—yn wir cyn ymsefydlu ohono yno, anwybuwyd ef fel beirniad ar y cyfansoddiadau cerddorol. Anodd credu mai cenfigen neu hunan-bwysigrwydd yr hen ddwylo oedd y tu cefn i hyn, ond y mae'n amlwg eu bod yn ddiffygiol mewn cwrteisrwydd, a sôn dim am degwch. Hyd yn oed os y swyddogion a fu'n esgeulus, dylasai'r beirniaid eraill brotestio, wedi deall y sefyllfa. Yn lle hyn, bu'n rhaid i gyfeillion Parry—ei gydgerddorion ieuengach—brotestio. Dengys hyn ei fod yn teimlo'r peth a'i fod wedi ei ddatguddio iddynt hwy. Cynhaliwyd Eisteddfod enwog Pwllheli y flwyddyn ddilynol, ac ymddengys iddo ef—a'i ddisgyblion erbyn hyn—gymryd meddiant go lwyr o'r esgynlawr hwnnw mewn eisteddfod a chyngerdd, nes peri i rywrai ei dwbio, os iawn y cofiaf, yn "Eisteddfod y Students"-yr oedd ef ei hun yn un o'r beirniaid, ef a'i ddisgyblion ymysg y datganwyr, disgyblion eraill yn ennill, a rhai'n ennill yn yr eisteddfod ac yn datganu yn y cyngerdd! Yn yr "Herald Cymraeg " ymddangosodd rhestr o " Anghysonderau Eisteddfod Pwllheli," a chawn yn eu plith a ganlyn: " Pencerdd America yn codi ar ei draed i wrthdystio mewn modd difrifol yn erbyn beirniadu chwarae yr harmonium, am fod un o'i bupils ef yn cystadlu (gwobr dwy bunt), ac yn beirniadu yr anthem ac yn gwybod fod un arall o'i bupils yn cystadlu ac yn ennill (gwobr deg punt)." Tebyg fod gan y gohebydd ryw brawf fod Parry "yn gwybod fod un arall o'i bupils yn cystadlu ac yn ennill "; o leiaf buasai'n ddoethach i'r Athro rybuddio ei ddisgyblion y byddai'n well iddynt hwy beidio cystadlu dan ei feirniadaeth ef. Ond yr oedd ef yn llawn o anghysonderau o'r fath hyn—rhai ag y byddai un mwy gofalus am ei reputation ei hun yn gallu eu hosgoi yn rhwydd. Tua thair blynedd wedi'r uchod, cawn ef yn ysgrifennu mewn perthynas â'r bywyd cerddorol oedd drwy'r wlad: " Y mae cymdeithasau corawl yn rhoddi mantais i'n cenedl glywed gweithiau fel ' Ioan Fedyddiwr,' 'Joseph' ' Arch y Cyfamod,' ' Blodwen,' ' Jerusalem,' etc., etc. Cawn hefyd yr un gweithgarwch yn ein cyfansoddwyr yn ymddangosiad 'Jeremiah,' 'Blodwen' hefyd gorffeniad o'r 'Emmanuel' etc., etc." Yna cyfeiria at y lleiswyr da, "megis Lucas Williams, a rhai oddiyma na byddai'n ddoeth i mi eu henwi." "Na byddai'n ddoeth i mi eu henwi," a hynny pan yw wedi newydd wneuthur cyfeiriad go lawn at ei weithiau ei hun, a gwaith ei ddisgybl,—mewn cwmni da—gan farnu "etc., etc." yn ddigon da i'r lleill i gyd!

Lle yr oedd y rhugliadau hyn yn cael eu hachlysuro gan onglau ei ddiffygion ef ei hun, yr oeddynt yn ddiau er lles iddo, ac ni ellir cwyno; ond nid felly y byddai bob amser. Yr oedd ef yn ei elfen yn fwy yn y cyngerdd. Bu cyngherddau'r Coleg yn dra llwyddiannus a phoblogaidd. Mynychid hwy gan gefnogwyr y Coleg o bell ac agos, megis Arglwydd Aberdâr, yr Archddiacon Griffiths, Mr. Hugh Owen, Capt. Verney, y "Gohebydd," "ynghyd â phrif foneddigion a boneddigesau y dref a'r ardal." Eto, deuent i wrthdarawiad â dau deimlad, sef yr un cenedlaethol a'r un gwrthfyfïol: cwynid mai darnau dieithr a thramor yn unig a genid, a rhai y Proffeswr ei hunan—ond yr anwybyddid Cymry eraill. "Cafwyd cyngerdd lled dda ar y cyfan, ac y mae yn amlwg fod yr ieuenctid sydd dan ofal Mr. Parry yn derbyn lles cyflym drwy yr addysg gerddorol uwchraddol a gyfrennir iddynt. Diau fod y caneuon anodd a chaled a ganwyd gan lawer o'r myfyrwyr yn foddion addysg dda iddynt, ond yr oeddynt mewn rhai amgylchiadau y tro hwn ymhell uwchlaw gallu'r datganwyr."

"Credwn yn wylaidd y byddai'n weithred o modesty ar ran y Prof. Parry i beidio introducio cymaint o'i waith ei hun yn y cyngherddau." Yn Chwefrol, 1876, fodd bynnag, rhoddwyd perfformiad o "Llewelyn" (Pencerdd Gwalia) dan arweiniad Parry, ynghyd â " Chytgan y Bradwyr " (Parry), ac meddai'r beimiad: " Y mae mwy o amrywiaeth awdurol yn ddiweddar, ond eto y mae lle. Beth am Lloyd, Stephen, ac O. Alaw? Y maent hwy wedi cyfansoddi ambell i ddarn y gallai hyd yn oed R.A.M. neu U.C.W. edrych drosto i bwrpas."

Dygai ei fyfïaeth ef i wrthdarawiad â hyd yn oed ei gyfeillion goreu. Eto myfïaeth anymwybodol hogyn ydoedd: ni fwriadai sathru ar hawliau cydnabyddedig eraill ond ymddygai fel pe yn hollol anymwybodol ohonynt. "Credai ef yn hollol syml," meddai Mr. Jenkins, " fod holl gerddorion ac arweinyddion Cymru wedi eu creu i wasanaethu arno ef, a disgwyliai iddynt wneuthur hynny, ac fe wnaeth llawer ohonynt, a hynny gyda phleser." ond gwrthodai eraill wneuthur. Gwelsom uchod fel y darfu i'w gyd-gerddorion Cymreig brotestio ar ei ran yn erbyn ymddygiad awdurdodau Eisteddfod Bangor tuag ato. Y mae braidd yn anghredadwy ei bod yn bosibl iddo—yn y dyfyniad dilynol—pan yn sôn am y bywyd cerddorol oedd yn y wlad, gyfeirio braidd yn hollol at ei weithiau ei hun, a'r datganiadau ohonynt, gan eu cwbl anwybyddu hwy, neu ynteu eu cynnwys mewn, " etc., etc." er fod gweithiau pwysig o'r eiddynt wedi newydd ymddangos. Yr oedd hyn yn ormod i gig a gwaed, ac nid syn iddynt daro'n ol; yn wir rhoddai arfogaeth Parry ddigon o gyfleusterau iddynt wneuthur hynny. Yr oedd ei ramadeg yn aml yn dyllog, ei gerddoriaeth yn arwynebol, a'i ymffrost yn ei radd a'i ysnoden yn amlwg.

"Tickets may be had with the students " meddai rhaglen y cyngerdd. "Helo" meddai'r wags beimiadol, "dyma fantais i ferched Aberystwyth i gael gŵr—gallant gael D. Jenkins, neu R. C. Jenkins, neu W. Hopkins yn awr gyda thocyn swllt! "

Yn ei adolygiadau o'i weithiau, yr oedd Emlyn, hyd y gwelaf i, yn wastad yn barchus, er yn feirniadol, fel y dengys y dyfyniad a ganlyn i'r adolygiad ar "Ryfelgan y Myncod" (1875): "Efallai fod Mr. Parry yn teimlo fod mynd i'r 'borfa' am dymor yn llawn mor angenrheidiol i'r meddwl ag ydyw i'r corff, neu hwyrach ei fod yn gweithio yn ddistaw ynglŷn â rhyw chef d'oeuvre ag sydd i'n synnu yn fuan. Pa fodd bynnag y mae yn ffaith mai dim ond prin dal i fyny ei reputation mae wedi ei wneuthur drwy y darnau bychain ag ydym wedi dderbyn o'i law er ys amryw flynyddoedd bellach, ac o ganlyniad yr ydym yn croesawu ymddangosiad y rhangan hon fel rhywbeth uwch a theilyngach o gymeriad yr awdur."

Yr oedd Alaw Ddu yn fwy gwawdus. Am ei " Bedair Anthem Gynulleidfaol " dywed: " Os mai byrder a llithrigrwydd ddylai fod nodwedd yr Anthem Gynulleidfaol (?) y mae y darnau bychain yma yn ateb y diben i'r dim. Ond ofnwn fod ein cerddor yn teimlo mai hawddach yw bod yn fyr a syml, na bod yn urddasol a defosiynol . . ."

Y mae ei " Ryfelgan Gorawl " wedi ei " gweithio allan ar gynllun ac mewn dull sydd yn rhy hoff gan gerddorion Cymreig—digon o go a lle i floeddio."

Gwelwn o leiaf, fod ei gyfeillion wedi colli ofn y Mus. Bac. fel y gwnaethant y Mus. Doc. pan ddaeth. Prawf o'i symlrwydd oedd ei ymffrost hogynnaidd yn ei radd, a'i ymhyfrydiad hogennaidd yn yr ysnoden a berthyn iddo. Gosodai yr olaf ef yn amlwg agored i wawd y direidus. "Yr ydym oll yn gwybod bellach," meddai un gohebydd, "fod y Proffeswr Parry yn ' Mus. Bac., Cantab,' heb iddo wisgo y badge ar y llwyfan gyhoeddus. Yr ydym yn awgrymu hyn yn y modd mwyaf caredig, gan y gwyddom nad oedd y Cambridge gown ond testun gwên i lawer oedd yn bresennol."

Ac er fod ystyr a gwerth i'r gradd ei hun fel sêl ar ysgolheigdod, synnwn fod un o allu creol Dr. Parry, yn cysylltu cymaint o ogoniant ag ef, gan ymheulo ynddo hyd y diwedd. Yr oedd yr hen Handel yn sicr yn fwy agos i'w le pan atebodd y cyfeillion a fynnai iddo dderbyn y radd o Mus. Doc. yn Rhydychen, ar yr amod ei fod yn talu swm bychan: "Vat te tevil I trow my money away for dat vich te blockhead vish? I no vant!" Ymffrostiai gerbron ei fyfyrwyr mai efe oedd "y Mus. Bac. cyntaf, a'r unig Mus. Doc. Cymreig," mor ddiweddar a 1897, nes tynnu'r ateb hwn oddiwrth "Ohebydd Neilltuol " "Y Cerddor": "Ni ddywedaf ddim yma parth ' Canmoled arall dydi' ond yn gyntaf, nid yw yn gywir, fel y gwŷr y cyfarwydd, ac fel y profwyd, ac fel y mae'n ddigon rhwydd profi eto; ac yn ail, petai yn gywir, pa beth a brofa? Dim ond ym Mhrydain (yn Ewrob) y cyfarfyddir â'r graddau hyn, ac nid yw y Saeson eu hunain yn tybio ronyn yn uwch am y dyn a'u medd, tra y mae y prif gerddorion Seisnig yn eu trin gyda'r un dirmyg ag y gwnaeth Handel."

Yr ydym ni yng Nghymru yn pasio drwy benumbra y teitlau ers blynyddoedd bellach, ac yn dechreu dod allan i eglurder parthed y B.A. a'r B.D. Yr ydym yn sicr wedi dysgu na enir bardd o'r B.A., na phregethwr o'r B.D., ond efallai y gellir gwneuthur gwell bardd a phregethwr ond cadw'r ddysg yn forwyn ac nid yn feistres. Rhag ein bod eto heb ddod i weld lle a gwerth teitl cerddorol nid difudd croniclo a ganlyn: "Yn y gystadleuaeth am gyfansoddi tonau a ddygir ymlaen dan nawdd Undeb Ysgolion Sabothol Manchester, ac ynglŷn â'r hwn y cynhygiwyd pedair gwobr o £3 yr un, derbyniwyd 850 o gyfansoddiadau. Ymhlith yr ymgeiswyr yr oedd un ar ddeg Mus. Doc., dau ar bymtheg Mus. Bac., ac un ar hugain F.R.C.O., ond nid oedd yr un ohonynt ymhlith y pedwar buddugol, y rhai oedd Mri. W. Walker, L.R.A.M., Gateshead; G. H. Loud, Toronto, Canada; W. Pearce, Sheffield; a Herbert M. Nelson, Canonbury, Llundain."

Yng nghyfnod Aberystwyth daeth Parry wyneb yn wyneb ag anhawster arall, nad iawn efallai ei alw yn wrthdarawiad, yn gymaint ag yn rhwystr neu atalfa i hunanfynegiant cerddorol cyfiawn. Megis y dywedir fod ysbryd milwrol ac uchelgais gwleidyddol yn ceisio ac yn gwneuthur cyfrwng peiriannol i'w galluogi i ymsylweddoli yn y byd— a phob ysbryd arall o ran hynny—cais awen y cerddor hefyd, nid yn unig bapur a nodau, ond hefyd gôr a chyfleustra datganiadol i gyrraedd hunan-fynegiant cyflawn. Er i ni allu edmygu Parry am ganu ymlaen o gariad at gân, ac er i ni gydymdeimlo ag ef yn ei ymagweddiad ymostyngol a lleddf ar derfyn ei ddyddiau pan yn dywedyd mai ei waith ef oedd cyfansoddi ac nid cyhoeddi, rhaid i ni gofio ei fod wedi ei ddidwyllo gan helynt a siom y blynyddoedd erbyn hyn. Ni feddai addfedrwydd heddychlon y ddoethineb hon yn Aberystwyth; a chawn ef yn dechreu ei ymgyrchoedd o blaid Gŵyl Gerddorol flynyddol. Yng Ngŵyl Gerddorol Harlech yn 1878, cawn ef yn rhoddi anerchiad i'r perwyl hwn. Wedi cyfeirio at yr angen am offerynnau mwy effeithiol ac amherffeithrwydd y canu hebddynt, aeth ymlaen i ddywedyd yr hoffai weld Oratorio Festival flynyddol mewn lle tebyg i Bafiliwn Caernarfon, a phenodi un o'n cyfansoddwyr i baratoi Oratorio at bob blwyddyn. Ni ddywedai hyn am ei fod wedi cyfansoddi yr unrhyw ei hun, ond i symbylu cyfansoddwyr ieuainc i droi i'r cyfeiriad hwn, er dyrchafu caniadaeth Cymru yng ngolwg y byd. Er yn ddiau ei bod yn wir na " ddywedai hyn am ei fod wedi cyfansoddi yr unrhyw ei hun," tebyg ei bod hefyd yn wir mai y ffaith ei fod ef yn awr yn llawn o "Emmanuel," "Nebuchadnezzar," etc., ac yn llawn o ymdeimlad o ddiffyg mantais i'w datganu, a barai iddo bwysleisio yr Ŵyl Gerddorol, a pharhau i wneuthur hynny am flynyddoedd.[12]

Geilw gwrthdarawiad arall a daflodd gryndod drwy ei holl fywyd, am bennod iddo ei hun.

XI. Y Gadair Gerddorol.

Hunan-gofiant:

1879: Yr wyf eto yn Aberystwyth. Y mae'r Coleg yn brin o arian, rhif y myfyrwyr eraill yn fychan a'r efrydwyr cerddorol (yn gymharol) yn rhy luosog, a thros wyneb yr holl wlad y mae mwy o sôn amdanynt yn naturiol nag am y lleill— myfyrwyr pregethwrol gan mwyaf.

(Gwêl. y Rhestr am y flwyddyn.)

1880: Yr wyf yn arwain perfformiad mawr o fy Oratorio, "Emmanuel," gan gôr Cymreig Llundain yn y St. James's Hall. Cofnodir y datganiad gan holl bapurau Llundain gyda chymeradwyaeth. Rhoddwyd amryw berfformiadau rhagorol hefyd yng Ngogledd Cymru.

Yr wyf fi a'm teulu ar fordaith (fy seithfed) i America, i weld ein rhieni, brodyr, chwiorydd, perthnasau (y mae'r oll yn America), a llawer o gyfeillion. Y mae'r fiwyddyn hon yn bennod ddu yn fy mywyd; tyr fy iechyd i lawr; dioddefaf boenau anesboniadwy, ac â fy nghyflwr yn fwy a mwy enbyd. Yn Cincinnati, yn nhŷ cyfaill annwyl, bum yn wael iawn am bythefnos yn y gwely.

Dychwelaf i Aberystwyth, ac oblegid rhesymau neilltuol, er syndod i'r genedl, gwneir i ffwrdd â'r Adran Gerddorol (ynghyd â rhai testunau eraill). Er i mi adael safle fwy enillfawr yn America i gymryd y Gadair—am fy oes fel y deallwn—eto ni ddywedaf ac ni ysgrifennaf air, ond y mae'r holl genedl yn synnu. Y mae yn wastad wedi fy nharo i fod llwyddiant cenedlaethol fy nhôn "Aberystwyth, " a gyfansoddwyd tua 1876, ac a enwyd ar ol y lle, yn dod fel cerydd ar y Cyngor am osgoi ei ddyletswyddau tuag at un o ddoniau mwyaf amlwg y genedl, sef cerddoriaeth, a phan nad oedd y testun yn golygu baich ariannol o gwbl. Yr oedd hyd yn oed llwyddiant cerddoriaeth yn achos tramgwydd a chosb.

Rhoddir detholiadau o "Emmanuel," yn cymryd awr o amser, yn y Crystal Palace: llwyddiant arall.

(Gwêl. Rhestr Aberystwyth.)




Yn 1879, wedi prawf o bum mlynedd, penderfynodd Cyngor Coleg Aberystwyth ddiddymu'r Gadair Gerddorol, yr hyn a barodd lawer o synnu, a phrotestio, a dyfalu, ac nid ymddengys i neb o'r tu allan fynd y tu hwnt i ddyfalu y pryd hwnnw, os yn wir y medrwn ni heddyw wneuthur mwy na hynny.

Dyma lythyr Mr. D. Jenkins i'r "Gerddorfa" ar y pryd:

"Prifysgol Aberystwyth a'r Gangen Gerddorol.

"Yr hyn sydd yn ein synnu yn fawr ynglŷn â bwriad y Cyngor yw, eu bod mor ddifater o ddiddordeb Cymru mewn cerddoriaeth, oherwydd y mae cannoedd o bunnoedd wedi eu casglu at sefydlu dwy ysgoloriaeth mewn cerddoriaeth yn y Brifysgol. . . . Fe ddywedir mai bwriad y Cyngor yw, cyfyngu yr addysg gerddorol o hyn allan i'r classical students. Os yw hyn yn wir, nid yw yn amgen na dull arall o roddi notice to quit i'r Athro cerddorol, oherwydd gwybyddus yw nad oes braidd un classical student yn ymofyn gwers gerddorol. Dylai y Cyngor wybod hyn. A ydynt yn tybied y llwyddant i gael gan Athro cerddorol i aros os gwnant i ffwrdd â'r efrydwyr cerddorol? Sibrydir mai un rheswm gan y Cyngor yw fod yr efrydwyr cerddorol yn tynnu safon y Coleg i lawr. Carwn gael gwybod ymha fodd ac ymha ddull. A ydyw y wybodaeth gerddorol a gyfrennir yn y Coleg wedi bod yn aflwyddiant, neu a yw rhif yr efrydwyr cerddorol mor fychan fel nad ydyw yn werth trafferthu yn eu cylch? Pa reswm all y Cyngor ei roddi dros ddiddymu y Gadair Gerddorol i'n cyfeillion hynny sydd wedi casglu bron digon at gynnal dwy ysgoloriaeth? Gofynnir yn aml paham na fyddai rhywrai profedig ynglŷn â cherddoriaeth ar y Cyngor—rhai fyddai'n gwybod teimlad y wlad ac yn byw ynddi? Gwir fod yna gerddorion Cymreig yn Llundain ar y Cyngor, ond y mae'n naturiol i'w cydymdeimlad hwy redeg i gyfeiriad arall . . .

"Nid oes dim yn rhoddi mwy o bleser i mi na fy mod yn alluog i siarad yn ffafriol am yr addysg gyfrennir yn yr adran gerddorol. Nid wyf mor ddall a chredu mewn popeth a gyflawna yr Athro cerddorol, ond gallaf dystiolaethu i'w allu a'i onestrwydd. Gwaith anodd fyddai i'r Cyngor gael un a lanwai ei le. Mae y ffaith fod cymaint o efrydwyr cerddorol wedi gosod eu hunain dan addysg gerddorol yn y brifysgol, gan ymgydnabyddu â gweithiau y prif feistri, ac wedi ymsefydlu fel athrawon cerddorol yn y wlad, yn sicr o ddyrchafu chwaeth y werin, a gyrru i ffwrdd gerddoriaeth isel a llygredig, yn gystal a phersonau o'r un cymeriad oddiar lwyfannau ein gwlad. Gan hynny, gofynnwn unwaith eto, paham na chaiff y sefydliad lonydd oddiwrth y cyfnewidiadau diddiwedd hyn, fel y gallo gwblhau y gwaith y mae wedi ei ddechreu mor dda ac effeithiol?

Ydwyf,
David Jenkins."

Aberystwyth, Gorff. 14, 1879.

("Ymddengys fod y Cyngor wedi penderfynu fod Dr. Parry i ddysgu cerddoriaeth i'r efrydwyr yn gyffredinol; felly ni fydd mwyach efrydwyr cerddorol yn unig yn y Coleg.") '

Ysgrifenna Alaw Ddu yn "Yr Ysgol Gerddorol": "Y mae yr adran gerddorol wedi ei diddymu; ond y mae Dr. Parry yn parhau yn broffeswr yno o hyd, er nad oes ganddo ddim i'w wneuthur, a hynny am mai yn anaml iawn y bydd efrydwyr mewn canghennau eraill yn ymofyn am wersi mewn cerddoriaeth. . .

"Dygwyd Mr. Parry o bellafoedd y gorllewin, o ganol digon o waith, ac o fynwesau cannoedd o gyfeillion twymgalon, i lenwi y Gadair Gerddorol yn Aberystwyth; ac wedi iddo weithio, ie, a gorweithio ei hunan—mewn amser ac allan o amser—i gyfoethogi cerddoriaeth ei wlad, a rhoddi cyfeiriad a chynhyrfiad i beiriant mawr addysg gerddorol y Dywysogaeth, dyma awdurdodau y Coleg, o'u rhan hwy, yn ei adael allan yn yr oerfel! Symudiad yw hwn a fydd yn sicr o oeri Cymru benbaladr at y Coleg, os na agorir, a hynny'n fuan, y Coleg i ddysgu cerddoriaeth. "Buasai dyn llai penderfynol yn mynd yn ol i'r America, ond y mae Dr. Parry'n cychwyn Coleg Cerddorol ar ei gyfrifoldeb ei hun."

Yr oedd yna deimlad cryf fod y Cyngor yn ymddwyn yn annheg tuag at Dr. Parry: yr oedd yna annhegwch arall y geilw un o'r myfyrwyr (Mr. J. T. Rees) sylw ato yn "Y Gerddorfa": "Y mae'n wybyddus bellach mai nid yr U.C.W. a feddylir wrth yr 'Academy of Music.' Bwriwyd y gangen yma allan fel un annheilwng i'w hastudio wrthi ei hun heb gael Latin a Greek i'w dal i fyny megis, i fod yn deilwng o efrydiaeth. Ond nid hir y bu y golomen yma cyn cael lle i roddi ei throed i lawr, er ei bod wedi ei hamddifadu o'i breintiau am a wyddom ni. Y mae ysgoloriaethau at wasanaeth y gangen yma, ond pa le y maent? Carem weld rhywrai yn ein cynorthwyo . . . Er fod y gangen wedi ei thorri oddiwrth y boncyff, a'i thaflu i'r ffos megis, y mae yn tyfu fel cangen yr helygen."

Gohebydd Neilltuol "Y Gerddorfa" eto:

"Y mae Cyngor Prifysgol Aberystwyth o'u penarglwyddiaeth wedi dwyn eu penderfyniad i weithrediad drwy gau dorau y sefydliad yn erbyn yr adran gerddorol. Bellach ai nid gonestrwydd fyddai i'r awdurdodau ddychwelyd yr arian a gasglwyd at ysgoloriaethau Ieuan Gwyllt a Mynyddog? Gan fod Dr. Parry, fel y deallwn, wedi sefydlu Athrofa Gerddorol ar ei gyfrifoldeb ei hun, tegwch fyddai trosglwyddo yr oll a berthyn i gerddoriaeth i'r sefydliad hwnnw."

Trosglwyddwyd yr arian yn ddiweddarach i'r Athro at wasanaeth y Coleg Cerddorol. Ynglŷn â'r Musical College of Wales yn Abertawe, yr oedd yn alluog i gynnyg tair ysgoloriaeth, er cof am Ieuan Gwyllt, Mynyddog, ac Ambrose Lloyd.

Eto yr oedd—ac y mae—cryn ddirgelwch yn amgylchynnu'r mater, yn neilltuol y "paham" y darfu i'r Cyngor weithredu fel y gwnaeth.

Dyma benderfyniad y Cyngor (Gorff. 29, 1878):

"That measures be taken to alter the position of Prof. Parry in accordance with the following Minute, viz. That the Principal should confer with Prof. Parry on his position at the University College, and propose to him a new arrangement based on his discontinuance of teaching Music to any but the ordinary male students of Art at the College. It has been suggested with the general approval of the Council, that Dr. Parry should retain his Professorship at a salary to be agreed upon for such teaching as above-mentioned. Dr. Parry would be free to give such teaching, of a public or private nature, at Aberystwyth or elsewhere, as he may think proper on his own account, and outside the walls of the College—it being, however, clearly understood that during the Sessions of the College Dr. Parry should not give, nor professionally attend concerts in Aberystwyth or in its immediate neighbourhood."

Yna, Hydref 12, 1880, pasiwyd a ganlyn:

"That the Council in accepting the resignation of Prof Joseph Parry regrets exceedingly the circumstances which have led to the severance of his connection with the College. They desire to express their high sense of the zeal with which he performed his duties and most cordially reciprocate the kindly feeling which he expresses."

Y mae y gair "circumstances" yn un cyfleus i guddio lliaws o achosion, ac efallai, o bechodau; ond y mae'r achosion uniongyrch yn y penderfyniad cyntaf uchod, oblegid y mae'n amlwg fod yna fwriad i ostwng cyflog Parry, i wneuthur i ffwrdd â'r adran gerddorol fel y cyfryw (ac yr oedd hyn, medd Mr. Jenkins, cystal â notice to quit); ac i'w rwystro i gynnal cyngherddau yn y dref a'r ardal yn ystod y tymor (cyngherddau a ddygai iddo gryn elw). Ond y mae'r achosion pellaf yn gorwedd y tu cefn i'r penderfyniad cyntaf.

Nid yw siarad yr ystrŷd, na hyd yn oed cynteddoedd y coleg, yn help i ddod o hyd i'r ffaith mewn mater fel hwn, a phe croniclo ffeithiau noeth fyddai gwaith cofiannydd, iawn fyddai iddo osgoi cyfeirio at storïau pen ffordd. Ond cais y cofiannydd atgynhyrchu cymeriad ei wrthrych a'i amgylchfyd, a chyda'r amcan hwn y mae barn y lliaws ar fater fel yr uchod, a'u hymgais i'w esbonio o gryn bwys, oblegid ceisient gyfrif am weithred y Cyngor, a'i ymddygiad at Parry yng ngoleuni eu syniad hwy amdano ac am yr adran gerddorol. Yn ol Mr. J. T. Rees, Mus. Bac., dyma'r sefyllfa yn Aberystwyth: "Y mae yn sicr fod teimlad yn bodoli y dylasai efrydwyr cerddorol y Coleg gymryd efrydiau eraill yn ogystal. Yr oedd llu cymharol fawr ohonynt—mwy nag yn yr adrannau eraill; ac nid oedd ym mryd neb ohonynt i geisio dim arall yn y coleg ond y canu. Nid syn hyn, gan ei fod yn gyfleustra mor newydd i fechgyn a genethod oedd yn sychedig am wybodaeth gerddorol. Ond nid oedd hyn yn gweithio'n foddhaol yng ngolwg y senedd—ni ddeuai i fyny a'u delfryd hwy, a chreai anniddigrwydd ynddynt. I yrru'r 'llin' hwn oedd yn mygu'n waeth, yr oedd y Doctor yn lled ddibris o'i safle ac o safle y Coleg. Byddai galw mawr amdano i feirniadu a chanu mewn cyngherddau o Gaergybi i Gaerdydd. Byddai yn aml am ddyddiau'n olynol heb fod yn agos i'r lle—yr efrydwyr heb ddim i'w wneuthur ond cerdded yr ystrydoedd -y dosbarthiadau wedi peidio. Yna cwynent wrth y Prifathro nad oeddynt yn cael eu gwersi, ac nad iawn iddynt orfod talu am beth nad oeddynt yn ei dderbyn. Yna galwai'r Prifathro sylw'r Doctor at y mater—at ei ddyletswydd i'r efrydwyr ac i'r Coleg. Ond ni thyciai ddim: dywedai fod ganddo gystal hawl i fynd led y wlad gyda cherddoriaeth ag oedd gan y Prifathro i fynd led-led gwlad i bregethu!

"Bu'n rhaid dwyn y pethau hyn o flaen y 'senedd.' Aeth y 'llin yn mygu' yn fflam. Diorseddwyd y Doctor, a thaflwyd yr adran gerddorol allan o gynllun yr Athrofa yn llwyr. Dyna'r argraff adawyd ar y wlad ar y pryd: pa faint o hyn sydd yn llythrennol gywir, nid wyf yn sicr yn awr."

Er mai "yr argraff adawyd ar y wlad " a roddir i ni gan Mr. Rees, y mae'n cydgordio (fel achos) â'r penderfyniad uchod (fel effaith), hynny yw, a chaniatáu fod yr amgylchiadau fel y'u disgrifir ganddo, nid annaturiol disgwyl iddynt arwain i benderfyniad tebyg i'r cyntaf uchod.

Ond y mae gennym yn ddiweddarach dystiolaethau o'r tu mewn i'r Cyngor, sef eiddo y Prifathro, ynghydag Ysgrifennydd a Thrysorydd y Coleg. Yn y dystysgrif y dyfynnwyd eisoes ohoni, dywed y Prifathro ymhellach: "Rhoddwyd i fyny ddysgu cerddoriaeth yn y Coleg, pryd yr oedd ein trysorfa yn isel iawn i gario'r gwaith ymlaen. Gadawodd yr Athro mewn daeareg am yr un rheswm."

Meddai Syr Lewis Morris: "Fel diweddar Ysgrifennydd Mygedol Coleg Prifysgol Cymru, gwn gymaint oedd gofid y Gyngor pryd y gorfodwyd hwy i roddi i fyny adran gerddorol y Coleg, a hynny am resymau na ddalient unrhyw berthynas â'ch safle a'ch llwyddiant chwi fel athro."

Mr. Stephen Evans, y trysorydd, yntau ddywed: "Cododd y penderfyniad i beidio â pharhau yr adran gerddorol o ddiffyg arian, ac yn ystod y saith (pum) mlynedd y buoch chwi yn athro, yr oedd gan y Cyngor bob rheswm dros fod yn fodlon ar eich ynni a'ch medr rhagorol chwi fel cerddor, ac ar gynnydd llwyddiannus y myfyrwyr dan eich addysgiaeth."

Clywais gyfaill i'r Prifathro, a chyd-athro iddo, unwaith yn dywedyd nad yw yn angenrheidiol dywedyd y gwir i gyd pan na byddo galw am hynny. Mewn tystysgrif nid oes galw am hynny: o leiaf, y mae llawer o fedr yn cael ei arddangos gan ysgrifenwyr y cyfryw—fel gan y rhai a etyb gwestiynau anghyfleus yn y senedd—i ddefnyddio iaith yn y fath fodd ag i guddio a datguddio. Rhywbeth felly geir yma. Ni ddywed yr un ohonynt yn bendant mai y rheswm a'r unig reswm dros beidio a pharhau yr addysg gerddorol oedd diffyg arian. Dywed y Prifathro i hyn ddigwydd dan amgylchiadau felly. Ni ddywed ychwaith fod y Drysorfa yn rhy isel i gadw'r addysg gerddorol ymlaen, pe byddai awydd cryf i wneuthur hynny. Yr hyn a ddatguddia Mr. Stephen Evans ini yw i'r penderfyniad godi o ddiffyg arian. A thra y cyfeiria'r tri at allu Parry fel athro, nid oes yna gyfeiriad o gwbl at ddisgyblaeth yr adran gerddorol a'i pherthynas ag eiddo'r Coleg.

Trown yn awr at dystiolaeth Parry ei hun, yr hon a gawn yn ei anerchiad wrth gychwyn y "Musical College of Wales" yn yr Agricultural Hall, Abertawe. Wedi datgan ei obaith y byddai'r coleg yn llwyddiant, ac y byddai rhif y myfyrwyr yn galw am staff o athrawon, ä ymlaen: "Disgwyliwn hyn yn Aberystwyth. Yr oedd rhif yr efrydwyr yn galw am Athro arall, ond yr oedd polisi dinistriol y Cyngor yn gwanychu y llwyddiant drwy ostwng rhif yr efrydwyr cerddorol, a thrwy eu rhwystro i dderbyn ymrwymiadau achlysurol mewn cyngherddau er mwyn eu cynhaliaeth, tra y caniateid i'r myfyrwyr pregethwrol fynd yn wythnosol. Eto, yr oedd y myfyrwyr cerddorol yn ffurfio yn agos i'r bedwaredd ran o'r oll, pryd yr oedd yna naw o athrawon yn y Goleg, a pharhaodd yr adran i fod ymron yn hunan-gynhaliol. A thra y teimlai y wlad ddiddordeb dwfn yn yr adran, a chanddi ysgoloriaethau ynddi er cof am Ieuan Gwyllt a Mynyddog; a thra y codwyd gennym ni-drwy Bazaar—£260 i brynu organ er mwyn cymhwyso'r myfyrwyr i fod yn organyddion, gan gyfeirio ein hymdrechion felly at wella cerddoriaeth yn y cysegr—arian sydd yn gorwedd yn segur ers yn agos i dair blynedd; a thra, ymhellach, yr anrhegwyd yr adran gan gyfaill cerddorol i mi â thros 200 o gyfrolau o weithiau clasurol gyda full scores; eto i gyd, drwy ewyllys nifer fechan o aelodau'r Cyngor, daethpwyd o'r diwedd i'r penderfyniad anesboniadwy i beidio a pharhau yr adran gerddorol yng Ngholeg Prifysgol Cymru, heb air o esboniad i mi nac i'r wlad paham y daethpwyd i'r fath benderfyniad rhyfedd."

"Heb air o esboniad i mi": tebyg i'r Cyngor farnu'n oreu i beidio rhoddi'r gwir esboniad, a phe dywedasid wrtho mai y rheswm oedd diffyg arian, gosodasent eu hunain yn agored i'r ateb fod yr adran agos yn hunan-gynhaliol. Yn ei sylwadau bywgraffyddol ar Dr. Parry (yng "Ngherddor " 1913) ceisia yr Athro D. Jenkins gyfuno y ddau reswm, sef yr un a roddwyd yn ddiweddarach gan rai o aelodau'r Cyngor, a'r un oedd ar wefus y lliaws: "Gwnaeth lawer o droeon ffôl, a chymerodd parti cryf yn Llundain oedd yn llywodraethu Coleg Aberystwyth fantais ar hynny, ac oherwydd sefyllfa ariannol y Coleg, bu rhaid rhoddi'r gadair gerddorol i fyny." Ni ddeil y frawddeg hon, a'r modd y llithrir o'r naill achos i'r llall, i'w helfennu na'i beirniadu; ond am yr un rheswm dengys y modd y ceisid cael rhyw esboniad boddhaus ar yr ymdrafodaeth.

Prawf Hunangofiant Parry a'r dyfyniad uchod o'i anerchiad yn Abertawe ei fod ef ei hun wedi ei ddolurio'n dost, a diau fod cydymdeimlad y bobl gydag ef, oblegid ynglŷn ag agoriad y Coleg Cerddorol newydd, darllenwn: "I'r diben o agor yr ysgol newydd, ac i gydymdeimlo â Dr. Parry yn y cyfwng presennol, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn yr Assembly Rooms pryd y daeth lliaws o'i gyd-drefwyr ynghyd." Ymhlith eraill siaradodd y Prifathro T. G. Edwards yn gryf o blaid y fath Goleg. Ar y llaw arall, rhaid cydnabod fod y Senate a'r Gyngor mewn sefyllfa anodd, a'i bod yn dra helbulus arnynt. Pan wahoddasant Parry o bellafoedd byd i ddod â'i athrylith a'i ddysg i ogoneddu Coleg Aberystwyth, ni fargeiniasant erioed eu bod i gysylltu y Coleg—a'u hurddas hwythau—a chynffon comedi. Tebyg fod yr athrawon yn ei theimlo'n chwith, a'u teimlad o urddas coleg yn cael ei ddolurio, wrth weld cynifer o hogiau a genethod yn dod yno i ganu'n unig, heb unrhyw gysylltiad â'r dosbarthau arferol, a'r rheiny ar y cyfan yn amrwd a di-reol, a chanddynt ddigon o amser i gerdded y strŷd, neu fwynhau y dŵr yn fwy na dysg. A phan at hyn, na fynnai eu Hathro, os gwir y sôn, gydymffurfio ag arferion coleg, aeth y "llin yn mygu," ys dywed Mr. J. T. Rees, yn fuan yn fflam! Nid yw "dyn y strŷd " fel rheol ymhell o'i le ar bethau canolog, a diau fod ei syniad am ymagweddiad Parry tuag at yr awdurdodau colegawl yn weddol gywir. Ni fedr Mr. Rees sicrhau fod yr hyn a edrydd yn llythrennol gywir—wrth ddywedyd hyn awgryma ei fod yn rhinweddol gywir. Y mae yna stori am J. Stuart Blackie, iddo un bore ysgrifennu â sialc ar y blackboard: "Prof. Blackie will not meet his classes to-day." Pan ddaeth y myfyrwyr yno, meddyliodd un ohonynt mai difyr fyddai chwarae joke ar yr Athro, drwy flotio yr "c" allan o'r gair classes, a'i adael yn lasses. Fore trannoeth, pan ddaeth yr Athro i'r ystafell fe welodd y tric yn union, a meddyliodd dalu'r pwyth yn ol drwy ddileu yr "l" o'r gair lasses ynghyd â'r gair not o'r frawddeg. Pan adroddwyd y stori hon unwaith wrth fwrdd cinio yr Athro, dywedodd nad oedd yn wir, ond meddai Mrs. Blackie, "But it is what you would have done." Ac yn yr ystyr yma, tebyg fod yr hyn a ddywedir gan Mr. Rees am y Doctor yn wir. Ac ai nid eco hyn, neu efallai eco agosach at y sŵn gwreiddiol a glywwn yn ei anerchiad, pan y cwynai sut y caniateid i'r pregethwyr fynd i ffwrdd i'w hymrwymiadau wythnosol, yr hyn na chaniateid i'r canwyr. Ymddengys ei fod ef yn hawlio mynd i ffwrdd—ef a'i efrydwyr—yn wythnosol—yr hyn nad oedd yn bosibl wrth gwrs ar y Sul.

Rhaid fod yna resymau tra chryf dros y cyfnewidiad, oblegid os oedd trysorfa y Coleg yn isel eisoes yr oeddynt yn rhedeg risk o'i gwacau'n fwy. O'r cyfraniadau gwirfoddol at y Coleg y pryd hwnnw, cawn fod Eglwys Loegr yn cyfrannu 33 y cant, y Methodistiaid Calfinaidd 29, yr Annibynwyr 24, a'r enwadau eraill 14. Rhaid fod gan y Cyngor ffydd ym mawrfrydigrwydd yr Annibynwyr, neu ynteu gred na byddai diraddiad un yn perthyn i enwad neilltuol yng Nghymru, lle mae'r teimlad enwadol mor gryf, yn ddim ond symbyliad i'r enwadau eraill.

Rhwng popeth, diau fod y senedd yn teimlo'n llai anniddig ac yn fwy diogel a sicr yn eu hurddas, wedi cael gwared ar y Celto-American annibynadwy o'u plith—y Jonah hwn o'u llong.

Gan mai rhywbeth tebyg ar y cyfan fu ei waith fel athro yn Aberystwyth, Abertawe, a Chaerdydd, gallwn ddywedyd yr hyn sydd i'w ddywedyd am y cylch yma o'i weithgarwch yn y fan hon. Cyfeiriwyd uchod at y si oedd ar led ynghylch ei fethiant yn Danville, a'r si gyffelyb ynghylch ei waith yn Aberystwyth, a chlywyd hi, i fesur llai, yn y ddau le arall—sonnid fod yna anhrefn y tu mewn i'r dosbarthau, ac yn Aberystwyth afreolaidd-dra ym mherthynas y gangen gerddorol â'r gweddill o'r Coleg. Ar y llaw arall, y mae gennym dystiolaethau ei ddau brifathro, ei gyd-athrawon yn y ddau Goleg, a nifer o'i ddisgyblion blaenaf, i'w allu a'i lwyddiant fel athro. Ond yr hyn a bwysleisiant yn bennaf yw ei frwdfrydedd, ei ymroddiad, a'i ynni. "Fel athro," meddai'r Prifathro T. C. Edwards, " yr oedd yn frwdfrydig ei hunan, ac yn gallu taflu ei frwdfrydedd i eraill." Dywed y Prifathro Viriamu Jones ei fod yn falch o gael dwyn tystiolaeth " i'w allu fel athro, ac i'r llwyddiant a ddilynodd ei waith " yng Nghaerdydd, gan gyfeirio'n neilltuol at y "brwdfrydedd hunanaberthol" (self-sacrificing ardour) a'i nodweddai. Y mae tystysgrif ei gyd-athrawon yng Nghaerdydd a'i ddisgyblion i'r un perwyl.

Wrth gwrs, ni ddywedir y cwbl mewn tystysgrif: gedy Garcia ei "obstreperous" allan. Beth, ynteu, a ddywed tystion y tu allan i "briodoleddau" y dystysgrif? Dyma ddywed Mr. D. Jenkins, mewn ysgrif amddiffynnol iddo adeg helbul y Gadair: "Nid wyf mor ddall a chredu mewn popeth a gyflawna yr Athro Cerddorol, ond gallaf dystiolaethu i'w allu a'i onestrwydd"; ac yn ddiweddarach (yn 1913): "Ni ystyriem ef yn athro da ond i'r rhai oedd wedi cael rhyw gymaint o addysg gerddorol eisoes. Yr oedd yn rhy wyllt a nwyfus i egluro i'r manylder a'r cyflawnder sydd ei eisiau ar efrydydd ieuanc."

Ac wele lygedyn arall o'r tu mewn gan un o farn a phrofiad Mr. J. T. Rees, Mus. Bac.:

"Nid llawer o drefn oedd arno, fel athro, rhaid cydnabod. Nid oedd yn ei elfen o gwbl. Tebyg fod pob un o'i ddisgyblion ag oedd yn ymdrechu llawer eu hunain gyda'u hefrydiau yn llwyddo. Bid siwr, yr oedd awgrym neu ddau oddiwrth y Doctor yn mynd yn bell i'r cyfryw. Yr oedd yno ' ddaear dda' a'r tipyn had yn cael 'dyfnder daear' Ond druain o'r rheiny a lafuriai yn brin eu hunain!

"Byddai yn fwy cartrefol gyda'r efrydwyr hynny a gymerai gyfansoddiant yn bennaf. Treuliai awr neu ddwy gydag un efrydydd felly. Pan y sonnid am gyfansoddi, collai bob syniad am amser a threfn pethau. Mantais fawr i rai ohonom fu hynny! Cymaint oedd ei afiaith, ei nwyd am gyfansoddi, fel na fedrai roddi'r sylw dyladwy i waith ei ofal. Byr iawn fyddai y gwersi ar y berdoneg a lleisiadaeth! Yn aml ymgollai mewn cyfansoddi pan fyddai un o'r efrydwyr wrth y berdoneg yn derbyn y wers (?). Byddai ef wrth fwrdd ymhen arall yr ystafell mewn 'full cry' yn cyfansoddi cân neu rannau o'i gantodau! Y mae yn ddirgelwch i mi pa fodd yr oedd yn medru cau pob dim allan rhag aflonyddu arno. Ond yr oedd ei awydd anniwall i gynhyrchu yn ei anghymwyso i fod yn athro." Eto nid anfantais i gyd mo hyn hyd yn oed i'r lleiswyr—deuai eu tro hwythau. "Byddai yn ystod hanner flaenaf y term wedi ysgrifennu rhyw gantawd neu ran o Oratorio. Yna treulid y gweddill o'r term i ddysgu'r gwaith, ac yna ar y diwedd trefnid cyngerdd i'w berfformio. Ni fyddai gan y Coleg fel y cyfryw unrhyw law yn y gwaith, a byddai'r elw iddo ef. Yma y deuai yn 'haf' ar y lleiswyr: yr oedd eisiau paratoi yr unawdau a'r deuawdau. Am y rheiny nad oedd yn cymryd 'canu yn eu hefrydiau- wel, byddai'r gwyliau wedi hen ddechreu iddynt. Hawdd canfod wrth hyn nad oedd 'trefn' yn elfen oleu yn y cwrs cerddorol. Eto, er y cyfan oll, llwyddodd llawer o'i ddisgyblion: yn wir ychydig iawn ohonynt fu'n fethiant."

Dyma'r test olaf o effeithiolrwydd addysg gerddorol wedi'r cyfan, sef fod cerddorion a chantorion yn cael eu troi allan, ac fe gydnebydd pawb y deil addysgiaeth Dr. Parry y test yma. Cymerer y rhestr hon o'r "Cerddor " o'r rhai fu'n cael gwersi ganddo: "Mri. T. Maldwyn Price, Wm. Davies (St. Paul's), David Parry, W. T. Samuel, R. C. Jenkins, W. Hopkins, David Davies (America), J. T. Rees, M. W. Griffith, Dan Protheroe, Meudwy Davies, Llew Ebbwy, Cynffig Evans, Hywelfryn Jones, James Sauvage, Maldwyn Evans, D. C. Williams, Maldwyn Humphreys, David Hughes, Meurig James. Ymhlith y merched: Misses Hattie Davies, Cordelia Edwards, Gayney Griffiths, Ceiriog Hughes, Jennie Alltwen Williams; Mrs. Jenkins, Caerdydd; Mrs. Gwynoro Davies; a Mrs. Walter Morgan, Pontypridd (dwy bianyddes ardderchog)—ac eraill na allwn eu cofio ar y funud."

Tra awgrymiadol yw yr hyn a ddywed Dr. Protheroe ar Parry fel athro:

"Fe greodd dyfodiad Joseph Parry gyfnod yn hanes cerddoriaeth Gymreig. Yr oedd yna lu o athrawon unigol yn y prif drefi—ond dyma yr ymgais gyntaf i roi gwedd genedlaethol i addysg gerddorol. Yn fuan fe aeth to o efrydwyr eiddgar ato, rhai a ddylanwadodd yn fawr ar gerddoriaeth eu gwlad. Deuent yno, nid yn unig o Gymru, ond cawn i un, beth bynnag, groesi'r don i eistedd wrth draed y Doethur—David Davies, Cincinnati—yr hwn gafodd yr anrhydedd o ganu yr unawdau yn Oratorio yr 'Emmanuel ' pan ddygwyd y gwaith hwnnw allan. "Dyna'r adeg yr aeth yr Athro David Jenkins i fyny o Drecastell, a'r hwn wedi hynny ddaeth yn un o brif ddylanwadau cerddorol ei oes yng Nghymru, fel cyfansoddwr, beirniad, ac arweinydd cymanfaol. Hoffai Parry gyfeirio yn fynych at yr 'olyniaeth.' Dywedai:, 'You know that Mendelssohn is your musical great-grandfather. It is this way—He was Sterndale Bennett's teacher—Bennett was mine—and I am yours'

"Fe ddywedir am Michael Angelo iddo gyfrannu addysg drwy gael ei ddisgyblion i greu, ac nid trwy feirniadaeth sych. Tynnu allan oedd ei ffordd ef—gwneuthur i'r ddisgyblion arfer eu greddf greol ac nid eu cronni â mil o fân reolau. Yn ol y diweddar Dr. Gunsaulus y mae yna ddwy gyfundrefn addysg yn ein gwlad—cyfundrefn y cronni, ac un y ffynnon yn tarddu: un yn sych ac anniddorol, a'r llall yn gwneuthur i'r disgybl roi o'i oreu, bron yn ddiarwybod iddo. Bid siwr, y mae yn rhaid wrth reolau. Nid oedd Beethoven yn llai artist am y gwyddai reolau cynghanedd a gwrthbwynt. Fe ŵyr y gwir artist faint o gymysgedd o goch a gwyrdd gynhyrcha liw arall. 'The universe is an orderly one'; rhaid wrth reol, ond ni ddylai hyd yn oed rheol fod yn llyffethair. Gwna law-forwyn ddengar i lunio ac nid i orfodi, tywys ac nid gyrru.

"Feallai nad oedd Parry o'r anianawd honno a fedrai gymryd llawer o boen i ddatblygu unrhyw beth. Yr oedd mor llawn o'r awen ei hun, fel yr oedd yn frysiog ar adegau pan yn edrych dros wersi ei efrydwyr. Fe geir amryw athrawon enwog fel gwyddegwyr, rhai yn fanwl yn neddfau a rheolau y gelf, ond yn gwbl amddifad o'r awen. Fe allant ddadansoddi a datrys unrhyw broblem gynganeddol neu wrthbwyntiol, ond ni fedrant greu bar o wir gerddoriaeth.

"Ond os mai neges uwchaf addysg ydyw deffro delweddau, eangu amgyffredion, tynnu allan, rhoi ysbrydoliaeth, cynneu tân ar allor y gerdd, yna yr oedd Parry yn llwyddiannus. Fe ddywed hen ddiareb Chineaidd mai 'Nid cri, ond ehediad yr hwyaden wyllt sydd yn gwneuthur i'r holl braidd ei dilyn.' Dyna nodau y gwir athro.

Oes y specialist yw hi yn awr. Ond yr oedd talentau cerddorol Parry yn amlochrog, a rhoddai wersi ar wahanol ganghennau y gelfyddyd, y piano, yr organ, cyfansoddiant, a'r llais. Yr oedd ganddo efrydwyr llwyddiannus ymhob adran; ond, efallai mai ei ddylanwad ar gyfansoddwyr adawodd fwyaf o argraff. Gellir ategu hyn ond edrych ar lwyddiant ei efrydwyr—David Jenkins, William Davies, Maldwyn Price, J. T. Rees, D. C. Williams, prif gyfansoddwyr Cymreig eu cyfnod."

Dyma ddywed Emlyn, yr hwn oedd feirniad craff a gonest, ac yn un na chanmolai heb reswm, pan yn pwysleisio'r pwynt y dylai ein colegau cenedlaethol fod yn ganolbynciau o addysg a dylanwad cerddorol, ac yn fagwrfeydd athrawon cerddorol i'r wlad: " Prawf yr hyn a gyflawnwyd yn Aberystwyth, a hynny yn wyneb ataliadau lawer, nad ffansi ofer mo hyn."

Wel, ynteu, swm yr oll a glybuwyd yw hyn: "Shakespeare was a genius in spite of his faults." Ni ellir athro heb frwdfrydedd ac ynni; heb y rhain nid yw trefn a deddf ond llythyren farw. Ond y mae eisiau trefn mewn dosbarth i gadw'r brwdfrydedd rhag crwydro ar y dde neu'r aswy law, a gwastraffu ei adnoddau, ac felly i leihau'r llafur a'r lludded. Meddai Parry frwdfrydedd dibendraw, ynghyd â'r gallu i'w atgynhyrchu yn ei ddisgyblion; ond ni ddysgodd erioed ei reoli a'i wneuthur yn is-wasanaethgar i amcan penodol, gyda'r canlyniad fod yna fwy o benrhyddid nac o ryddid yn aml yn ei ymdrechion ei hun, ac yn ei ddosbarth. Diau iddo ddysgu cryn lawer yng nghwrs bywyd, ond hyd yn oed yng Nghaerdydd yr oedd yn aml fwy o ystŵr nac o gerdd yn ei ddosbarth.

Y mae college magazine fel rheol yn dalentog, ac ambell i waith yn oleuol. Wele ychydig lygedynnau allan o un Coleg Aberystwyth ar fater cysylltiad Dr. Parry â'r Coleg: Tachwedd, 1879—"Y mae Dr. Parry yn parhau yn athro yn y Coleg, ac wedi ffurfio dosbarth o fyfyrwyr o duedd gerddorol, tra, i'r rhai sydd yn rhoddi eu holl amser i gerddoriaeth, y mae wedi sefydlu ysgol gerddorol; ac er nad yw hon yn gysylltiedig â'r Coleg, bydd i holl gyfeillion y Coleg, a'r eiddo ei hun, ddymuno iddo bob llwyddiant yn ei anturiaeth."

Rhagfyr, 1880—"Yr ydym oll yn falch o weld Dr. Parry yn ein plith eto, ond drwg gennym oll glywed am ei waeledd blin wedi dod yn ol. Y mae yn fater o ofid fod cysylltiad y Doctor â'r Coleg wedi ei dorri."

Chwefrol, 1881-"Y mae Dr. Parry yn ein gadael; nid ydym yn synnu, ac ni allwn ei feio . . . Y mae Aberystwyth yn gylch rhy gyfyng i'w weithgarwch diflino. Rhoddir cyngerdd ffarwel iddo ymhen rhyw fis, pryd y perfformir ei Opera 'Blodwen.'" Cynhaliwyd y cyngerdd hwn yn y Temperance Hall, a daeth tref a gwlad yn eu miloedd iddo. Yr oedd torf yn disgwyl i'r drysau agor; trowyd cannoedd i ffwrdd am nad oedd yno le iddynt; a chynhaliwyd cyngerdd arall i'r rheiny yn ddiweddarach.

XII. Abertawe.

Hunan—gofiant:

1881—8: Golygfeydd nesaf fy mywyd. Darbwyllodd yr Hybarch Ddr. Thomas Rees, Abertawe, fi i symud yno i sefydlu Coleg Cerddorol i Gymru, ac i fod yn organnydd ei gapel (Ebenezer). Yr wyf yno am saith mlynedd dedwydd o'm bywyd. Ysgrifennaf rai o'm cyfansoddiadau goreu yno. (Gwêl y Rhestr.)

Ymwêl Tywysog a Thywysoges Cymru ag Abertawe i agor y Dock newydd. Gofynnir i mi ysgrifennu[13] "Hail! Prince of Wales " March, ac i arwain y côr o 2000 o leisiau gyda thair seindorf bres: llwyddiant mawr ar waethaf llawer o wrthwynebiad ar ran cymdeithas gorawl leol. Drwy gymhellion cyson Dr. Rees dechreuais ar fy "Llyfr Tonau Cenedlaethol."

Ni chawn arwain perfformiad fy Oratorio, "Emmanuel" yn Eisteddfod Genedlaethol Merthyr: y canlyniad—fiasco! Y mae distawrwydd yn euraid, felly ni ddywedaf ddim yn y fan hon—gwell ei gladdu ym mhair diwaelod holl bethau erchyll y gorffennol (all the dreadfuls of the past}.

Yn 1882 derbyniais fy nghomisiwn cyntaf i gynhyrchu gwaith ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol (yn Lerpwl). Cyfansoddais "Nebuchadnezzar": llwyddiant mawr.





Onibai fod yn rhaid i ni, yn unol â'i dystiolaeth ef ei hun, ac eiddo'i gyfeillion agosaf, edrych ar ei brif weithiau fel asgwrn cefn ei hanes, am eu bod yn arglwyddiaethu ei fywyd, naturiol fyddai cymryd blynyddoedd Abertawe fel yn ffurfio cyfnod newydd yn ei hanes—nid am iddo symud i le newydd, ond am fod yna ffurfiau newydd o weithgarwch, neu ynteu bwyslais newydd ar rai oedd yn bod yn flaenorol, yn dal perthynas â gwasanaeth cerddorol i'w genedl, i'w gweld yn fwy amlwg. Pe dychmygem am y foment fod nant y mynydd yn greadur ymwybodol, a'i bod wedi gadael cyfnod difyr dawns a chân y llethrau a'u "creigiau llathrwyn" yn ymlonyddu i fywyd llai rhamantus, ond mwy gwasanaethgar, y dyffryndir—yn gweld llecyn yn y fan hon ag eisiau ei wyrddlasu, a rhod melin yn y fan draw i'w throi, ac yn cymryd ei harwain i'r sianel ati—byddai yn ddarlun i ni o hanes Parry yn y cyfnod hwn. Diau y byddai geiriau Keats mewn perthynas â rhoddi ffarwel i bleserau mwy sensuous bore oes yn mynegi ei deimlad yntau yn awr:

And can I ever bid these joys farewell?
Yes, I must pass them for a nobler lie,
Where I may find the agonies, the strife
Of human hearts.

Yn wir, nid oedd yn bosibl i neb basio drwy flwyddyn o siom megis ag a dreuliodd ef yn Aberystwyth—ag i ni gofio mai nid blwyddyn o funudau ar y wyneb ydoedd, ond â phob munud yn flwyddyn tuag i lawr—heb orfod ceisio y bywyd uwch sydd y tu draw i "ingoedd" ac "ymryson" y galon ddynol—neu anobeithio. Er fod galluoedd ymadferol ei natur ef yn fawr, nid oeddynt yn ddigon mawr—a da hynny—i'w alluogi i basio drwy y cyfnod hwn yn ddigraith.

Nid oes gennym le i gasglu ei fod o ddifrif gydag addysg yr efrydwyr yng Ngholeg y Brifysgol yn Aberystwyth—yr oedd yno ormod o chware (fun). Cychwynnodd ei ysgol ei hun yno wedyn gyda brys, os nad rhuthr, ac heb hamdden i feddwl, fel y gellir edrych ar y flwyddyn a dreuliodd yn yr Academy of Music fel tymor prentisiaeth. Yn awr, yn Abertawe, y cawn ddelfryd uchel a chwmpasog o goleg ac addysg gerddorol cyn lleted â'r genedl—a ddatblygwyd ac a fagwyd yno—yn dod i hunan-fynegiant ac i hunansylweddoliad dechreuol. Meddiannodd ei ddychymyg, a llanwodd ei galon ag awydd i'w sylweddoli oedd cyn gryfed ymron a'i awydd i gyfansoddi; a diau mai hyn yn fwy na dim arall a'i harweiniodd i Abertawe, fel gwell canolbwnc i'w weithgarwch nag Aberystwyth.

Un ffurf arbennig ar y gweithgarwch cerddorol yr amcanai ei gynhyrchu yn y wlad, yn ychwanegol at yr eisteddfod a'r cyngerdd, a'r gymanfa ganu arferol, oedd yr Wyl Gerddorol, i berfformio prif weithiau gan Gymry, a Chymdeithas y Cerddorion ynglŷn â hi. Efallai y byddai'n fwy priodol galw y rhain—fel y bodolent yn ei syniad ef— nid yn " ffurfiau " ar weithgarwch cerddorol, yn gymaint ag yn drosolion i'w ddyrchafu a'i fwyhau. Gwelsom iddo alw sylw at yr angen amdanynt yn flaenorol, ond yn awr y daeth i'w pregethu a'u hargymell, yn gudd ac yn gyhoedd, drwy air ac ysgrifbin, a cheisio eu gwneuthur yn erthyglau yn y gred gerddorol Gymreig, nes peri i " Gronicl y Cerddor" eu galw yn hobbies y Doctor.

Rhediadau allan o'r un delfryd oedd y gyfres o lawlyfrau bychain cyfaddasi ddechreuwyr ar ddatganu, cynghanedd, etc. a ysgrifennodd yn Abertawe, ac a ddechreuodd gyhoeddi yn 1888 dan yr enw "The Cambrian Series." Ni chredaf fod ei edmygwyr mwyaf yn ystyried Parry yn llenor; hyd yn oed pan yw ei ramadeg yn gywir y mae ei iaith yn fwy celfyddydol na chelfydd, a'i frawddegau yn drwsgl—yn fwy fel arllwysiad gorfodol sugn-beiriant na rhediad ffynnon, fel y gellir bod yn sicr mai poen iddo ef oedd mynegi ei hunan mewn geiriau. Am y rheswm hwn, y mae ei glod yn fwy am iddo ysgrifennu cymaint yn ystod y blynyddoedd hyn ar faterion cerddorol—i'r cylchgronau cerddorol, y "South Wales Weekly News," "Y Tyst a'r Dydd " y "Genedl Gymreig," ac mewn papurau a ddarllenodd o flaen yr Undeb Cynulleidfaol, y Cymrodorion, a chymdeithasau eraill. Dyhead cryf i fod o wasanaeth yn unig a barai iddo wneuthur hyn.

Yn awr hefyd yr ymaflwyd ynddo gan y syniad rhyfedd o lyfr tonau cenedlaethol gan un dyn! Cyfansoddasai aml i dôn odidog yn flaenorol, megis " Aberystwyth " a "Gogerddan," ond tua 1883, fel y gellir casglu, y daeth y syniad o'r llyfr uchod iddo—llyfr i gyfateb yn gerddorol i gasgliad Gee yn emynnol, ac ymrôdd i'w gario allan drwy gyfansoddi tôn bob Sul, ac yn amlach na hynny, os gellir dibynnu ar y dyddiadau sydd uwchben ei donau.

Y mae ei hanes yn Abertawe yn troi o gwmpas y canolbynciau hyn,—a'r pethau eraill oedd yn parhau yr un o hyd, megis cyfansoddi prifweithiau, beirniadu, etc. Daeth Dr. Parry i Abertawe adeg y Pasg, 1881. Eto diau na symudodd oblegid yr alwad o Ebenezer, ond oblegid yr alwad o Ebenezer, Abertawe.

Yn y fan hon da gennym allu cyflwyno i'r darllenydd frasolwg ar weithgarwch Parry yn Abertawe, gan ŵr o sylw a safle, cerddor a llenor, fu'n aelod o'i gôr am saith mlynedd, sef Mr. Dd. Lloyd, Killay—brasolwg a wna'r tro yn iawn fel ffrâm i'r hanes mwy manwl.

Dr. Parry yn Abertawe.

"Creodd dyfodiad Dr. Parry i Abertawe gryn gyffro yn y dref a'r cylch, a disgwylid pethau mawr oddiwrtho. Efe ar y pryd oedd yr unig Gymro gyrhaeddasai y radd o Ddoethur Cerddorol. Ac yr oedd 'Blodwen ' a'r 'Emmanuel ' yn dywedyd fod rhywun mawr wedi ymweld â ni; ac felly yr oedd. Pan ddaethom yn agos ato am y tro cyntaf, tarawyd ni gan fywiowgrwydd digymar ei ysbryd a'i ysgogiadau. Ymddangosai i ni fel pe buasai yn cael ei symud gan reddfau yn fwy na chan reolau, ac na fedrai pe carai dynnu ei hun yn rhydd o'u gafael. Pe byddai yn bosibl i ddyn fod yn llai na'r hyn y mae yn ei gyflawni, i'n golwg ni byddai Parry yn enghraifft o hynny: nid yn yr ystyr—fel y mae yn bod weithiau—o ddyn isel yn dal swydd uchel, ond yn yr ystyr o fod wedi ymgolli yn ei ddelfryd, nes anghofio ac esgeuluso amodau cyffredin bywyd. Hyn, gallwn feddwl, oedd yn cyfrif am yr awyrgylch oedd ei bresenoldeb yn ei greu. Teimlem hyn i fwy o raddau yn ei bresenoldeb ef nag a wnaem ym mhresenoldeb personau oedd yn gyfartal iddo mewn gallu, dysg, a doniau. Ni chawsom le i feddwl y gwyddai Parry ei hun fod y fath beth yn bod yn ei berthynas ag ef o gwbl. "Cyn ei ddyfodiad i'r dref, gwnaethai Silas Evans waith tra chanmoladwy yma ynglŷn â cherddoriaeth gorawl; ac ar ei ol ef Eos Morlais, fel arweinyddion y Swansea Choral Society. Dichon nad oedd perffeithiach ac addfetach côr y pryd hwnnw yng Nghymru. Perfformient y gweithiau goreu yn y modd goreu. Cynorthwyid y côr gan gerddorfa Mr. W. F. Hulley, Gwyddel, ac organnydd eglwys babyddol St. Dewi yn y dref. Yr oedd yr awen wir ynddo yntau, a bydd y dref a'r cylch dan ddyled iddo am amser maith.

"Un o'r pethau cyntaf wnaeth Parry yn y dref oedd rhoddi rhes o berfformiadau o'r Opera 'Blodwen' Hawdd deall gan fod y fath ddefnyddiau cyfoethog at waith o'r fath yn Abertawe ar y pryd, iddynt droi allan yn llwyddiannus iawn. Er fod yn y meddwl Cymreig ar y pryd ragfarn yn erbyn chwarae ar ddull y chwareudy aent i'w gweld yn dyrfaoedd. Y cwestiwn cyntaf pan gwrddai dau Gymro yn y dref a'r cylch y dyddiau hynny ar ol gofyn ' Shwd i chi heddy'? oedd ' Ydych chwi wedi bod yn gweld 'Blodwen'? A'r ateb parod fynychaf oedd ' Ydwyf,' gan ychwanegu, 'ac yr wyf yn mynd i'w gweld eto' Rhoddodd Parry lawer rhes o berfformiadau ohoni ar ol hyn yn y dref, ac yr oedd yn wastad yn dderbyniol gan y bobol. Ac felly y mae heddyw. Rhaid gan hynny ei fod wedi taro y tant iawn yn y portread a rydd ynddi o deimlad a bywyd y genedl.

"Ar y r adeg y daeth yma, ymwelodd Tywysog Cymru â'r dref, i'r amcan o agor y dock elwir ar ei enw. Ysgrifennodd Parry waith cerddorol croesawgar iddo. Yr oedd Parry yn hyn i'r Cymry yn debyg i Poet Laureate y Saeson. Ceisiai gyfieithu teimlad ei genedl ar adegau neilltuol i seiniau cerdd. Ceir enghreifftiau lawer o hyn, megis ei gytgan faith ar * Ganmlwyddiant yr Ysgol Sul yng Nghymru' ei anthem ' Wylwn, wylwn ' ar ol y 'Gohebydd' ei anthem ar 'Orlifiad Glofa Tynewydd' etc.

"Yn fuan ar ol sefydlu yn y dref, agorodd ysgol gerddorol yma a alwai The Musical College of Wales. Tyrrai disgyblion iddi o bob rhan o'r wlad—Gogledd a De. Codwyd ynddi ddatganwyr gyrhaeddodd safle anrhydeddus. Bu y Coleg yn dra llwyddiannus a blodeuog dros y saith mlynedd y bu Parry yn byw yn y dref. Gynorthwyid ef gan ei fab talentog, Mr. J. Haydn Parry. Cynorthwyai Mendelssohn, y mab arall, hefyd, ond nid i'r un graddau a Haydn. Un o wleddoedd cerddorol y dref oedd cyngerdd blynyddol y Coleg. Gofalai Parry fod rhyw un cerddor o fri yn bresennol yn y cyfryw, yr hwn a draddodai anerchiad ar y gelfyddyd yn ei hystyr uchaf, etc. Gwelid Parry yn ei afiaith ar yr achlysuron hynny. "Cartrefodd ef a'i deulu yn Eglwys Ebenezer. Dr. Thomas Rees oedd y gweinidog arni ar y pryd. Anogodd Dr. Rees yr eglwys i wneuthur darpariadau fyddai yn fanteisiol i dynnu allan oreu Parry, sef gosod i mewn organ fawr ac oriel newydd i'r côr. Hyd nes yr oedd y pethau hyn yn barod, chwareuai Parry ar yr harmonium fach mor foddhaus a chydwybodol ag y gwnai drachefn ar yr organ fawr. Cyrchai y bobl yno i'w glywed, yr hyn oedd yn foddion dyrchafol os nad yn foddion gras mewn gwirionedd. Teimlem fod ysbryd Parry yn cael digon o le i ledu ei adenydd pan wrth yr organ. Dichon y dywed cerddorion nad oes llawer o art mewn chwarae emyn-dôn. Ond yn ei fyd ei hun, y mae cryn lawer ynddo. Y mae gwahaniaeth rhwng chwarae a chwarae hyd yn oed emyn-dôn, fel ag y sydd rhwng darllen a darllen yr emyn. Beth bynnag am hynny medrai Parry greu awyrgylch ffafriol iawn i addoli ynddo wrth chwarae y dôn drosti cyn dechreu canu. Cawsom y fraint o fod yn aelod o'i gôr am tua saith mlynedd, ac yr oeddem mewn safle i weld yr argraff wnai weithiau ar y gynulleidfa. Saif un enghraifft yn fyw yn awr ar ein meddwl. Un bore Sul, rhoddodd Dr. Rees yr emyn allan, cyn gweddïo, o lyfr Stephens a Jones:

I fyny at fy Nuw
Fy enaíd, côd dy lef,
Heibio'r angylaidd lu,
Hyd eithaf nef y nef:
Gostwng Dy glust o'r bryniau fry,
O! Arglwydd grasol, cofia fi.

'Carmel' oedd y dôn. Erbyn fod Parry bron gorffen chwarae, gwelem ddagrau ar aml i rudd, a phan ddechreuwyd canu, methem â chael o hyd i'n llais. Parchai bob aelod yn y côr; siaradai yn barchus â ni oll. Diolchai yn gynnes i'r organ blower, yr hwn oedd yn digwydd bod yn un o'r rhai na allai gael côt newydd gyda phob blwyddyn newydd. Ond nid oedd ei gôt yn gwneuthur un gwahaniaeth i Parry. Cyfarchai ef Mr. Jones gan ysgwyd llaw ag ef mor barchus a neb; a braidd na allem ddywedyd y rhoddai Jones ei einioes dros y Doctor pe byddai rhaid. Un o deimlad cynnes, tyner iawn oedd Parry. Gwelsom ef yn tynnu y deigryn i ffwrdd ddeuai i'r golwg o dan ei wydrau pan fyddai Dr. Rees yn cael gafael yn y pwerau tragwyddol, ac yn ceisio ymsythu fel petai dim byd wedi bod yn union drachefn. Canem anthem bob nos Sul, nid y côr yn unig, ond yr holl gynulleidfa. Darparai anthemau o nodwedd addolgar, hawdd i'r gynulleidfa eu dysgu a'u canu, megis 'Y Mab Afradlon.' 'Wele, yr wyf yn sefyll wrth y drws,' 'Gweddi'r Arglwydd,' a lliaws o rai eraill. Ei brif amcan yn yr addoldy ynglŷn â'r canu oedd nid dangos beth ellid ei wneuthur, yn gelfyddydol, ond arwain y meddwl trwy gymorth y sain a'r gair i dir cysegredig addoliad. Clywsom ef yn dywedyd ei fod yn ysgrifennu tôn gynulleidfaol bob prynhawn Sul, pan na fyddai yn mynd i'r Ysgol. Yr oedd gan donau lleddf afael fawr ar ysbryd Parry yn yr addoliad. 'Roedd hyn yn rhyfedd ag ystyried ei fod ef mor llon a bywiog ei ysbryd yn naturiol. Cytunai ef a Dr. Rees yn hyn o beth yn berffaith. Ond yr oedd Dr. Rees yn naturiol leddf a chwynfannus ei lais, er y gallai ef fod yn ddigrif dros ben hefyd. Clywem ef o'r côr yn gofyn i Parry cyn ei fod yn dechreu pregethu, ' Canwch dôn leddf, Doctor '; ac yr oedd yn ei chael. Yn Sir Gaerfyrddin, ni fyddem yn canu 'Diniweidrwydd' byth braidd ond mewn gwylnos neu angladd: nid felly Parry. Yr oedd mewn ffafr ganddo ef yn enwedig yng nghyfarfod yr hwyr, pan fyddai y gynulleidfa yn gref. Cerddai trydan drwy yr holl le gan wresyr organ a'r canu oedd arni ar yr emyn

"O anfeidrol rym y cariad,
Anorchfygol ydyw gras," etc.

"Mynychai yr Ysgol Sul, a chynhaliai Ysgol Gân i'r plant ar y diwedd. Hoffai glywed plant yn canu, a gwyddai yn dda y modd i'w cael i hwyl i wneuthur hynny. Dygai allan y pryd yma rannau newyddion o 'Telyn yr Ysgol Sul'

"Yr oedd nifer o ddoctoriaid yn Ebenezer y pryd hwnnw heblaw Dr. Rees, Dr. Parry, a mab Dr. Rees, yr hwn oedd feddyg galluog. Doctoriaid yn y Beibl oedd y rhai hyn, ac i ddosbarth y doctoriaid yr ai Parry. Ymffrostiai y dosbarth hwn eu bod yn treulio chwech wythnos i esbonio un adnod y n yr Epistol at y Rhufeiniaid. Rhyw dro, trodd cwestiwn y dilyw i fyny, a daeth Parry i enw drwg iawn am ddywedyd, 'Bobol fach, nid ydym i ddeall fod dyfroedd dilyw Noa wedi gorchuddio yr holl ddaear' Dywedai un o'r dosbarth drannoeth 'gall ei fod yn gwybod rhywbeth am ganu, ond ŵyr e ddim am y Beibl' Chwarddai Parry yn iachus am gael ei gyfrif yn

heterodox am y tro."

XIII. Y Coleg Cerddorol

(The Musical College of Wales—M.C.W.).

YR wythnos olaf yn Ebrill, 1881, cynhaliwyd cyfarfod A yn yr Agricultural Hall, Abertawe, i groesawu Dr. Parry, ac i roddi cychwyniad i'r coleg cerddorol. Daeth nifer da o bobl ynghyd, ond nid cymaint ag a ellid ddisgwyl, a hynny, meddir, am na chymerwyd trafferth i hysbysebu r cyfarfod yn briodol.

Gan fod y maer yn analluog i fod yn bresennol cymerwyd y gadair gan Dr. Rees, ac ar ol gwrando ar anerchiad Dr. Parry, pasiwyd penderfyniad: " Gan fod Dr. Parry wedi datgan ei fwriad i sefydlu Coleg Cerddorol Cymru yn Abertawe, fod y cyfarfod yn ymrwymo i roddi iddo bob cynhorthwy yn ei allu, ac yn dymuno yn galonnog bob llwyddiant iddo," ac etholwyd pwyllgor o wŷr blaenllaw Abertawe i hyrwyddo sefydlu'r coleg yn y dref.

Ond gorwedd prif ddiddordeb y cyfarfod i ni yn awr yn anerchiad Dr. Parry, ei syniad ynghylch yr angen am goleg, a'r hyn a amcanai drwyddo. Gan nad yw yr anerchiad ond parhad o'i sylwadau wrth gychwyn ei academi yn Aberystwyth, ni a ddechreuwn gyda'r rheiny.

"Heddyw," meddai'r Doctor, "y mae fy efrydwyr a minnau yn mynd dan gyfnewidiad mawr. Am bum mlynedd buom yn myfyrio o fewn muriau y coleg, ac o dan nawdd y cyngor; ond heddyw dyma ni yn ail-ddechreu myfyrio y tu allan i'r sefydliad agsydd wedi bod, ac a fydd eto, yn agos iawn at ein calon." Yna, wedi galw sylw at ddawn gerddorol Cymru, a'r angen am ei diwyllio, terfynodd drwy ddywedyd: " Yr wyf yn gobeithio fod yr hyn a wnawn yma heddyw yn gam cyntaf tuag at gael coleg cerddorol i Gymru, ac y cynhydda y myfyrwyr mor fawr, fel y gallwyf gael nifer o athrawon galluog mewn lleisio, cyfansoddi, a chwarae'r delyn."

Yn ei anerchiad yn Abertawe dechreuodd ar nodyn o ddwyster drwy ddywedyd ei fod o wir ddifrif am ganolbwyntio ei ymdrechion i ddyrchafu y gelfyddyd gerddorol yng Nghymru. Meddai gwledydd eraill golegau cerddorol, y rhai a droai allan nid yn unig gerddorion dysgedig, ond rhai yn meddu ar allu creol. Yna meddai: "Y mae'r un angen am goleg cerddorol ag y sydd am brifysgol ar Gymru. Y mae cenhedloedd eraill wedi ffurfio arddull neu 'ysgol' genedlaethol, ac yr ydwyf yn clywed ar brydiau fod ein nodweddion cenedlaethol ni yn mynd i golli dan ddylanwadau tramor, yn lle cael eu datblygu. Y mae cerddoriaeth yn gyffredinol, mae'n wir, ac y mae astudiaeth o'i holl arddulliau yn fanteisiol, a hyd yn oed yn angenrheidiol; eto, os cyfrennir yr addysg yn ein gwlad ein hunain, a than ddylanwadau cenedlaethol, ac os argreffir arni ein nodweddion cenedlaethol, y mae'n bosibl cynhyrchu arddull neu ysgol gerddorol fyddo yn sylfaenedig ar y [14]teithi teimladol, addolgar, barddonol, ac uchel—ddramayddol hynny a esyd arbenigrwydd a gwerth ar ein natur. Ni fedraf wneuthur hynny fy hunan—y mae ffrwyth o'r fath yn gynnyrch oesoedd. Dymunaf yn unig daro'r cyweirnod, fel petai, neu ynteu osod i lawr garreg gyntaf yr adeilad. Y mae yn gorffwys arnoch chwi, eglwysi, eisteddfodau, a cherddgarwyr, i wneuthur y fath goleg yn llwyddiant, ac i ddanfon y nifer o efrydwyr iddo, ag a fyddo'n galw am ychwanegiad cyfatebol yn rhif yr athrawon." Yna daw y cyfeiriad at Goleg Aberystwyth a ddyfynnwyd eisoes, a chynhygia ei "wasanaeth gostyngedig" i gwblhau y gwaith—yn ddechreuol. Terfyna trwy bwysleisio mai y prif angen yn bresennol yw'r angen am athrawon disgybledig, a chyfeirio at natur a manylion yr addysg yn y coleg —y byddai arholiadau blynyddol, gwobrwyon a thlysau, tair ysgoloriaeth yn flynyddol mewn canu, offerynnu, a chyfansoddi. Ynglŷn â hyn, gobeithiai y byddai corau blaenaf y dywysogaeth yn cynnyg ysgoloriaethau i gystadlu amdanynt gan brif aelodau o'r corau'n unig, ac y byddai'r eisteddfodau yn dilyn yn yr un llwybr.

Hysbysebid yn ddiweddarach y byddai wyth dosbarth yng ngwahanol ganghennau cerddoriaeth— Cynghanedd, Gwrthbwynt, Cerddorfaäeth, etc.; y byddai pedair gwers yn wythnosol yn yr oll o'r dosbarthiadau yn costio chwe gini, a llai yn ol y nifer; y byddai evening classes, a postal lessons yn nodweddion arbennig.

Wrth ddarllen yr anerchiadau hyn, teimlwn fod Parry yn llygad ei le pan yn pwysleisio'r angen am ddysg i ddatganu'n iawn, i ddehongli'r prif weithiau a bod yn alluog i arwain côr a cherddorfa'n ddeallus, ac yn olaf i gyfansoddi; ond teimlwn ei fod yn mynd braidd ymhell tuag at anwybyddu arloeswyr y gorffennol, pan yn sôn am osod i lawr garreg gyntaf yr adeilad. Ond y mae yn amlwg nad hyn a olygai yng ngoleuni yr hyn a ddywed ychydig yn ddiweddarach yn ei ddarlith o flaen aelodau y Royal Institution, Abertawe, ar ein dyled i'n cerddorion ymadawedig: " Yr wyf yn ofni y dichon fod tuedd ym meddyliau cerddorion ieuainc y dyddiau hyn i ddibrisio gwasanaeth ein cerddorion ymadawedig, a'r rhan a gymerasant yn natblygiad cerddoriaeth Gymreig. Yr ydym yn dra dyledus i'n lleiswyr, ein harweinyddion, a'n cyfansoddwyr ymadawedig; ac yr wyf wedi teimlo'n fynych y byddai'n resyn ac yn gywilydd mawr i ni fel cerddorion y cyfnod presennol adael i'w henwau a'u gwasanaeth amhrisiadwy fynd i ebargofiant, heb gofiant priodol a ffyddlon. A byddai'n dda iawn gennyf weld rhyw eisteddfod yn cynnyg gwobr dda am draethawd teilwng yn rhoddi braslun o'u bywydau a'u ffyrdd gwledig. Yr wyf yn meddwl y dylai pob cerddor Gymreig gael y cyfryw lyfr, yn ffurfio cyfran o'i lyfrgell."

Gan y datgana ei ofn—gerbron y Royal Institution—fod tuedd mewn "cerddorion ieuainc y dyddiau hyn i ddibrisio gwasanaeth ein cerddorion ymadawedig a'r rhan a gymerasant yn natblygiad cerddoriaeth Gymreig," y mae'n amlwg mai'r garreg "gyntaf" mewn adeilad o addysg gerddorol gyfundrefnol a olygir uchod; addysg a fyddai'n pwysleisio a datblygu'r nodweddion cenedlaethol a noda, ac yn ffurfio "ysgol" o gerddoriaeth gydnabyddedig.

Ond pan y sonia am ddiogelu ein nodweddion cenedlaethol, y mae'n naturiol i ni ofyn a oedd Parry'n teimlo'r perigl ynddo ei hunan, oblegid yn ystod y cyfnod hwn yr oedd i raddau mawr—i raddau gormodol meddai rhai beirniaid—dan ddylanwad Wagner? Y mae hefyd yn anodd gweld sut yr oedd y nodweddion hyn i gael eu hamddiffyn a'u datblygu, a'r " Ysgol " Gymreig i gael ei chynhyrchu. A oedd yn ddigon bod yng Nghymru, yn Abertawe? A yw'r nodweddion hyn yn awyr yr hen wlad dim ond eu cael oddiyno, fel y defnyddir planhigion i gymhathu nitrogen o'r awyr? Gofynnwn hyn am fod yna gwyno na roddai Parry ond ychydig le i gerddoriaeth Cymru yn ei gwrs na'i gyngherddau, ag eithrio'i weithiau ei hun. Gwelsom o'r blaen fod yna gwyno oblegid hyn ynglŷn â chyngherddau Aberystwyth, ac eto yn Abertawe yn y Grand Concert cyntaf a roddwyd yn yr Albert Hall, ni chanwyd gymaint ag un darn Cymreig, neu hyd yn oed o waith Cymro, ag eithrio rhyw Ballads newydd o'i waith ei hun. Cyhoeddwyd "Nebuchadnezzar" yn fuan wedi ei ddyfod i Abertawe heb hyd yn oed eiriau Cymraeg. Wrth gwrs, nid mater o eiriau yw teithi cerddorol; eto diau fod yna berthynas rhwng iaith gwlad a'r hyn sy'n genedlaethol yn ei chân. Canai Edith Wynne, Megan Watts, Mary Davies, Eos Morlais, a James Sauvage ganeuon Cymreig ar eiriau Cymraeg, ond yr unig gydnabyddiaeth ymron a dalai Parry i gerddorion Cymru ynglŷn â'i goleg oedd gofyn i rai ohonynt, megis Pencerdd Gwalia, Tanymarian, Emlyn, etc. i ddod yno ddiwedd y tymor i arholi.

Darllenwn gyda diddordeb, bid siwr, am y cyngherddau a'r cystadleuaethau Cymreig a gynhaliwyd yng Nghastell Caerdydd ac yn Abertawe dan nawdd Arglwyddes Llanover ac Ardalydd Bute, gyda Dr. Parry'n beirniadu ac yn arwain, pryd y rhoddid gwobrwyon o £40 am ganu'r delyn, a phryd y canwyd—yn y cyngerdd—"Ar hyd y nos," a "Hob y Deri Dando" gan gôr Cymreig Dr. Parry, a'r holl delynorion Cymreig, gydag effaith gwefreiddiol.[15]

Diau gennym na adawai y delfryd o goleg cerddorol cenedlaethol mo'i afael ar ddychymyg nac ymdrechion Parry, oblegid cawn iddo yn ddiweddarach yrru cylchlythyr i alw ei gyfeillion ynghyd i gydymgynghori ar y mater, am, meddai "Cerddor y Cymry", y teimlai y gallai yr ysgol fod o fwy o wasanaeth i gerddorion Cymru drwy ei gosod ar dir ehangach." "Y mae y sefydliad hwn, hyd yma, wedi bod yn un personol, ac nid yw y Doctor eto yn 'mofyn i neb fynd o dan un cyfrifoldeb ariannol, ond y mae am gyngor neu fwrdd i lywodraethu ac i gynghori, a diau y talai y cyhoedd fwy o sylw iddo pe yn cael ei lywodraethu ar y cynllun hwn." Cynhaliwyd y gynhadledd yn y Guild Hall, Abertawe, dan lywyddiaeth Syr Hussey Vivian, pryd y daeth nifer o wŷr dylanwadol ynghyd, megis Maer Abertawe, y Mri. J. T. D. Llewelyn, T. Freeman, R. Martin, etc., a'r Parchn. Dr. Rees, A. J. Parry, Gomer Lewis, Emlyn Jones, etc. Tybiai Parry fod cryn lawer o deimlad dros gael coleg o'r fath. Yr oedd ieuenctid Cymru'n meddu talent naturiol at gerddoriaeth, a byddai'n beth mawr rhoddi pob cyfleustra iddynt i'w gwrteithio. Dywedai hefyd fod Arglwyddes Llanover (Gwenynen Gwent) yn mynd i sefydlu ysgoloriaeth i'r delyn Gymreig yn y coleg, a bod y diweddar Mr. Powell, o Nanteos, Aberystwyth, wedi gadael gwerth £900 o lyfrau cerddorol i'r sefydliad.

Nid ymddengys fod llawer o ddim wedi dod o'r ymgais hwn i osod y coleg "ar dir ehangach." Gwir mai Parry ei hun a alwodd y gynhadledd, ond y mae n gwestiwn—a diau ei fod felly i'r rhai oedd yn bresennol—a wnai ef drosglwyddo'r coleg a'i hunnan i'r "bwrdd." Tebyg mai ei duedd fuasai eistedd ar y "bwrdd" yn hytrach nag wrtho, neu yn wir y gwnai fabwysiadu (gyda gwahaniaeth) eiriau' Emprwr Ffrengig, "Myfi yw y coleg."

Cawn, fodd bynnag, i'r coleg droi allan yn llwyddiant. Ni wyddom pa gynhorthwy fu "nawdd" nifer o arglwyddi iddo; yr oedd gan yr Ianci oedd yn Parry gryn lawer o dynfa at bethau o'r fath, neu efallai y credai ynddynt fel moddion i dynnu y sylw cyhoeddus y cyfeiria ato uchod. Ond yr oedd yn alluog i hysbysebu yn fuan fod yna gant o fyfyrwyr yn y coleg. Ac er methu sylweddoli ei uchelgais ynglŷn ag ef, ceisiai ei wneuthur yn boblogaidd a gwasanaethgar mewn gwahanol ffyrdd. Ar derfyn un o'i ysgrifau dywed: "Carwn symbylu ein hieuenctid i bartoi ar gyfer arholiadau lleol blynyddol yn ein gwlad gan golegau Llundain. Gan fod gini o draul i'r holl arholiadau uchod, tybed y cawn gefnogaeth gan gerddorion Cymru pe bawn yn ffurfio arholiadau ynglŷn â'r coleg hwn, a hynny am brisoedd iselach-cael y papurau a'r gwersi yn Gymraeg yn ogystal a'r Saesneg, fel y gallo pob Cymro bartoi a sefyll yr arholiadau hyn ym mhrif bentrefi a threfi Cymru. . . . A oes rhyw un a ddywed ei farn, a yw yr awgrym hwn yn deilwng o sylw a mabwysiad"? Ond nid yw'n gwneuthur y peiriant addysgol a sylw'r cyhoedd yn brif bethau, gan anghofio ansawdd a gwir effeithiolrwydd. Yn ei anerchiad yn un o gyngherddau y myfyrwyr yn yr Albert Hall cawn ef yn rhoddi pwyslais arbennig ar efrydiaeth dawel. Wedi dywedyd fod " nosweithiau cerddorol " yn fanteisiol i efrydwyr ieuainc, am eu bod yn eu dysgu i fagu ymddiried ynddynt eu hunain, i " glywed ei gilydd, a bod yn dystion i ragoriaethau ei gilydd yn eu gorymdaith gerddorol "; i ennyn " ymddiried y cyhoedd fel ag i ennill eu cydymdeimlad a'u hymdrechion "; am eu bod hefyd "yn foddion i'w hegwyddori yn y gwahanol arddulliau sydd yn nodweddiadol o wahanol genhedloedd a gwledydd"; ac "yn peri i efrydwyr gymryd mwy o boen i feistroli yr anawsterau celfyddydol sydd yn perthyn i weithiau da ac uchel; gan felly helpu y dehonglydd i fod yn gyfrwng cywir rhwng cyfansoddwr a gwrandawr"; ychwanega, "ar yr un pryd ni charwn i chwi fy nghamddeall; tra yn mawr gymeradwyo yr ymddangosiadau cyhoeddus hyn . . . carwn ddywedyd yn bendant a difrifol, na ddylai hyn gymryd lle ond ar ol astudiaeth hir a dyfal. Y mae pob cynnydd gwirioneddol yn cymryd lle yn dawel gartref, ar ol ennill goruchafiaeth ar anawsterau celfyddydol trwy gyfrwng astudiaeth gydwybodol a chaled; oblegid nid yw yr ymddangosiadau cyhoeddus hyn ond rhoddi mantais i'r efrydwyr i arddangos ffrwyth eu llafur yn y gorffennol. Byddai yn dda i ni gofio fod pob gwaith gwirioneddol yn cael ei ddwyn ymlaen yn dawel: y mae cynnydd iachus gyda cherddoriaeth yn cymryd lle yn dawel ac yn araf, ac y mae pob gweithiwr gonest a gwirioneddol yn mynd yn y blaen yn dawel: dygwyd pob gwaith mawr i fod mewn neilltuedd a thawelwch."

XIV. Eisteddfod Merthyr: Y Beirniad.

ONIBAI i Eisteddfod Genedlaethol Merthyr godi safle a gonestrwydd Dr. Parry fel beirniad i sylw y cyhoedd, a bod yr hanes sydd gennym yn taflu goleuni gwerthfawr ar ei gymeriad, buasai yn fwy hyfryd gadael i gweryl y gantawd ynglŷn â'r eisteddfod honno bydru mewn ebargofiant, fel aml i lygredd arall perthynol i'r eisteddfod.

Yr hanes yn fyr yw hyn: Cynhygid gwobr o £21 gan Gôr Cymreig Llundain, a thlws aur gan bwyllgor yr Eisteddfod, am y gantawd oreu i libretto ar y testun "Cantre'r gwaelod," i'w dwyn allan yn y brif ddinas gan y côr. Y beirniaid oedd Tanymarian, Dr. Parry, a Mr. J. Spencer Curwen. Barnai Tanymarian "Corelli " yn oreu, a chydwelai Mr. Curwen ag ef. Barnai Dr. Parry "Taliesyn Ben Beirdd " yn oreu, a "Corelli " yn drydydd, ond at hynny ni farnai y goreu yn deilwng o'r wobr. Ym Merthyr hysbysodd Dr. Parry Mr. Curwen o'i farn, a phan ddeallodd yr olaf fod ganddynt hawl i atal y wobr, cydunodd yn union â'r Doctor i wneuthur hynny. Yn y cyfamser yr oedd "Corelli," sef Mr. Jarrett Roberts (Pencerdd Eifion) rywsut wedi cael ar ddeall mai efe oedd i gael y wobr, ac wedi dod o Gaernarfon i'w derbyn; yna pan ataliwyd y wobr, trodd ef a'i ffrindiau i chwythu bygythion a chelanedd yn erbyn Dr. Parry'n arbennig. Y mae yn beth tra hynod i rywbeth tebyg ddigwydd ynglŷn ag Eisteddfod Conwy yn 1879, pryd y cydfeirniadai Dr. Rogers, Dr. Parry, a Thanymarian. Ffafriai Tanymarian yr un gŵr (dan yr enw "Clementi") y pryd hwnnw hefyd, tra y barnai y ddau ddoethur Alaw Ddu ("Palestrina") yn oreu, ac efe wrth gwrs gadeiriwyd. Ond mynnodd Pencerdd Eifion yrru'r ddau fotett i Syr Julius Benedict, ac yr oedd ei farn ef ar ochr Tanymarian. Teg dywedyd, ran hynny, mai dim ond "tueddu" i roddi'r wobr i "Clementi" wnai Tanymarian, ac "nad oedd yn dewis penderfynu rhyngddynt." Ymddangosodd math ar her yn "Y Gerddorfa": Y mae Tanymarian a Syr Julius Benedict wedi cyhoeddi eu rhesymau, yn awr dylai'r wlad gael rhesymau y ddau Ddoctor." Yn fuan ar ol hyn cyhoeddwyd beirniadaeth Parry yn " Yr Ysgol Gerddorol," ac ar ol cymhariaeth fanwl o wahanol rannau y ddau gyfansoddiad, terfyna drwy ddywedyd fod "Clementi" o arddull secular llithrig, ac ysgafn, tra y mae "Palestrina " yn fwy aruchel a mawreddog, a'i gerddoriaeth wedi dod o galon fwy cysegredig, ac yn cynnwys mwy o amrywiaeth, gwreiddiolder, ac o ansawdd mwy myfyrgar."

Y mae ei feirniadaeth ar gantodau Merthyr ar yr un llinellau. Wedi cymharu y pedwar cyfansoddiad ddaeth i law ran a rhan, terfyna ei feirniadaeth fel y canlyn:- "Ar ol darlleniad manwl o'r cyfansoddiadau hyn a sylwi arnynt yn gyfochrog drwy bob rhifyn o'r gwaith . . . y cwestiwn mawr a phwysig yn awr ydyw pwyso y goreu yn ol teilyngdod y wobr fawr a'r bathodyn aur a roddir ynghyda'r achlysur pwysig a beirniadol y dygir y gwaith allan yn Llundain gan gôr Cymreig y brif-ddinas. Cyn dyfod at y gorchwyl pwysig o benderfynu hyn chwareuais yr oreu drosodd drachefn, ac ar ol dwys ystyriaeth fy marn ddifrifol a gonest yw, nad oes yn y goreu anadl einioes, ac nad ydyw y wreichionen nefol wedi disgyn i danio yr offrwm ar allor oer celfyddyd, fel y mae fy marn a'm dyletswydd yn fy ngorfodi i wneuthur y gorchwyl blin a thra annymunol o atal y wobr.

"Ar air a chydwybod

"Awst 27, 1881.
JOSEPH PARRY."


Pan hysbyswyd y penderfyniad, dechreuodd y "drin," a chan fod golygydd "Cronicl y Cerddor" yng nghanol yr helynt, ac mewn cyffyrddiad â'r pleidiau, ac yn ŵr o graffter a gonestrwydd, ni a gymerwn ei farn ef ar y mater, ynghyd a'i adroddiad o'r hanes pellach. Yn rhifyn Rhagfyr, 1881, darllenwn:

Justice, though her doom she do prolong,
Yet at the last will make her own cause right.

"Er ein bod yn dra gwrthwynebus i ddwyn unrhyw beth ag sydd yn sawru o fod yn bersonol i faes y 'Cronicl' eto pan y digwydd amgylchiad neu amgylchiadau a hawlia y ddyletswydd hon ar ein dwylo, ni fydd i ni betruso ei chyflawni: un o'r cyfryw ydyw cwestiwn y gantawd ym Merthyr—un o bwys nid yn unig yr adeg hon, ac i'r personau neilltuol sydd yn gymysgedig ag ef, ond un o bwys am holl amser, ac i bob cerddor a beirniad gwir a gonest y sydd neu a ddaw. Am wythnosau lawer y mae colofnau un o'n newyddiaduron—yr un yr honnir ei fod yn 'brif bapur y genedl '—wedi bod at rydd wasanaeth dyrnaid o ddynion yn cael eu harwain gan un a wisga y ffugenw (ymysg eraill) o'r 'Crwydrad,' neu—a theg i Gymru benbaladr wybod pwy ydyw yr oracl newydd hwn parth geirwiredd a gonestrwydd ein prif feirniad cerddorol— Mr. L. W. Lewis, (Llew Llwyfo). Yng ngholofnau y 'prif bapur' hwn ysgrifenna y boneddwr yna na phenderfynodd Dr. Joseph Parry ar atal y wobr cyn dyfod i Ferthyr, ac mai 'ar ei gwybod pwy oedd 'Corelli' y penderfynwyd atal. Yn y 'Cronicl' am fis Hydref cyhoeddwyd beirniadaeth Dr. Parry, fel ag y'i derbyniwyd o'i law gan y golygydd, yn union ar ol y dyfarniad gan Mr. Curwen. Fe wêl y darllenydd ei bod yn dwyn y dyddiad r Awst 27'— dri diwrnod cyn adeg yr Eisteddfod, a bod yr ysgrifennydd y pryd hwnnw (Awst 27)—cyn cychwyn o'i gartref yn Abertawe, ac heb wybod pwy oedd gwir awdur y gantawd a ddygai yr enw 'Corelli' (yr hon oedd wedi ei chopïo gan professional copyist)—wedi penderfynu, ac wedi ysgrifennu fod r ei farn a'i ddyletswydd yn ei orfodi i wneuthur y gorchwyl blin ac annymunol o atal y wobr. I bob boneddwr byddai hynyna yn derfynol ar y pwnc, ac eto ar ol gweld y dyfarniad yna yn argraffedig, yn wythnosol beunydd parha 'Crwydrad ' i ail—ysgrifennu ei haeriadau cyntaf, ac i honni, o ganlyniad, fod Joseph Parry yn dywedyd celwydd, ac wedi gosod forged date wrth ei feirniadaeth! Dyma i gerddorion ieuainc Cymru esiampl o'r hyn ydyw boneddigeiddrwydd, gonestrwydd, a geirwiredd, ym marn rhai pobl! Past all shame—so past all truth! Bellach nid oedd yn aros i Dr. Parry ond, naill ai cwympo dan waradwydd, neu ynteu i brofi ei uniawnder; herid ef yn haerllug i'r ornest; y mae'r her wedi ei derbyn, ac wele gyfran o'r canlyniad:

(CYFIEITHIAD)

'Coleg y Tonic Solffa,
Forest Gate,
Tachwedd 7, 1881.

'Annwyl Dr. Parry,

'Yr ydwyf wedi bod ymaith ar gylchdaith ddarlithiol, felly nid wyf ond newydd dderbyn eich llythyr am y 3ydd.

'Yr ydwyf yn neilltuol o anewyllysgar i ysgrifennu un gair ynghylch unrhyw un o'r dyfarniadau ym Merthyr, oherwydd ymddengys i mi nad yw yn un rhan o ddyletswydd beirniad i egluro neu amddiffyn ei benderfyniadau. Y mae y gwaith yn galed ac yn ddigon pryderus tra y parhao, a phan wedi ei orffen amhosibl i unrhyw ddaioni ddyfod o ymdriniaeth bellach.

'Yr ydych yn deisyf arnaf, pa fodd bynnag, fel ffafr bersonol, i alw i'm cof yr amgylchiadau ynglŷn â'r feirniadaeth ar y cantodau, a dywedwch fod eich cymeriad yn dibynnu ar fod i'r ffeithiau gael eu cyhoeddi. Yr ydych yn eu nodi yn hollol gywir yn eich llythyr. Pan yn ysgrifennu o Lundain wythnos neu felly cyn y cyfarfod (eisteddfod) dywedais wrth y Parch. Mr. Stephen fy mod yn meddwl mai cantawd 'Corelli' ydoedd yr oreu. Pan y cyfarfûm â chwi ym Merthyr, dangosasoch i mi eich beirniadaeth, wedi ei hysgrifennu yn y Gymraeg yn barod, a dywedasoch, os rhoddid y wobr o gwbl, eich bod dros ei dyfarnu i gystadleuydd arall, ffugenw yr hwn wyf yn ei anghofio. Ond ychwanegasoch mai gwell gennych atal y wobr. Nid oedd y dewisiad hwn wedi cynnyg ei hun i'm meddwl i, newydd fel yr oeddwn i'r dasg o feirniadu. Yr oeddwn wedi teimlo, fel y dywedais, pan yn gwneuthur y dyfarniad, y dylai y gantawd fuddugol fod o deilyngdod mawr, ac yr oedd wedi ymddangos i mi nad oedd yr un o'r rhai a ddanfonwyd i mewn yn dyfod i fyny â'r safon. Ond yr oeddwn yn tybied ein bod yn rhwym o ddyfarnu'r wobr, ac felly pleidleisiais dros 'Corelli' yr hwn oeddwn wedi ei osod yn gyntaf. Ond pan yr awgrymasoch atal cydunais ar unwaith, a gwnes hynny gyda llawer o foddineb.

Gyda chofion caredig,
Yr eiddoch yn gywir,
J. SPENCER CURWEN'

"Yr ydym wedi bod yn ymwneud â Mr. Stephen, ac yn cystadlu o dan ei feirniadaeth am flynyddoedd meithion, a chawsom ef bob amser yn onest, yn foneddwr, ac yn ddyn; ac yn y mater poenus hwn, os bydd ganddo unrhyw beth i'w ddywedyd ymhellach, ca—a hynny gyda'r pleser mwyaf yr un cyhoeddusrwydd a'r uchod. Am y lleill, gadawn hwynt i'w—trueni.

Yn y rhifyn dilynol cawn a ganlyn oddiwrth Dr. Parry:

"Dr. JOSEPH PARRY AT EI GYDGENEDL.

Musical College of Wales,

Abertawe,

Tachwedd 15, 1881.

"Fy Annwyl Gydgenedl,

"Yn wyneb yr ymosodiadau bryntion sydd wedi eu gwneuthur arnaf gan bersonau dienw gyda golwg ar fy meirniadaeth ar y cantodau yn Eisteddfod Merthyr, yr wyf yn dymuno gosod ger eich bron y ffeithiau canlynol. Yn gyntaf, fy mod wedi darllen y cantodau drosodd ar wahân yn y modd manylaf bob bar a chord, ac yna bernais bob un yn gyfochrog ymhob rhifyn o'r gwaith, er cael allan yr oreu, a'r canlyniad o hyn ydoedd i mi gael 'Taliesyn Ben Beirdd yn oreu, Romberg' yn ail, a 'Corelli' yn drydydd. Yn ail, dylai'r cyhoedd wybod hefyd mai myfi a gafodd y cyfansoddiadau ddiweddaf, wedi i'm Cydfeirniaid eu darllen; a chymerais ddigon o bwyll i fynd trostynt gyda'r gofal mwyaf, gan nodi allan yr holl wallau a'r diffygion, ac na chefais yr un gwall wedi ei nodi gan y lleill a brofir gan lythyr Alaw Ddu, a chan bob ymgeisydd arall ar bob un o'r testunau. "Yn olaf, euthum dros yr oreu drachefn, gan ei darllen a'i chwarae yn fanwl drwyddi, er penderfynu a ydoedd yr oreu i fyny â'r safon a'r lle yr amcenid iddi gael ei datganu, fel enghraifft deilwng o allu cerddorol Cymru ; a'm barn onest a difrifol ydoedd nad oedd yma deilyngdod digonol o'r wobr. Ysgrifennais fy holl feirniadaethau air am air fel y'u cyhoeddwyd wedi hynny, o lelaf wythnos cyn mynd i'r Eisteddfod, a'm dedfryd o barthed i'r gantawd ydoedd atal y wobr. Nid oedd gennyf ychwaith y ddamcaniaeth leiaf pwy ydoedd 'Corelli."

Yna y golygydd: "Fel prawf anwadadwy fod ei feirniadaethau wedi eu hysgrifennu fel y dywed yr uchod, cyn iddo fynd i Ferthyr, cyflwyna Dr. Parry lythyrau oddiwrth Meistri Hugh Edwards ac Edward Jenkins, ysgrifenyddion y London Welsh Choir; Eos Morlais (fel arweinydd y côr); Mr. David Rosser (Cadeirydd Pwyllgor yr Eisteddfod); Dr. Rees, Abertawe; Alaw Ddu; Dr. Rogers, Bangor; a Mr. D. Emlyn Evans."

Ni atebodd Tanymarian yn y "Cronicl" ond gyrrodd lythyr ymosodol a hunan-amddiffynnol, fel y gallwn gasglu, at Mr. Curwen. Yntau a'i danfonodd, mae'n debyg, i'r golygydd, yr hwn a wna sylwadau beirniadol arno; ond gan na ddaliant berthynas uniongyrch â gwrthrych y cofiant hwn, nid yw yn angenrheidiol eu dyfynnu. Yn unig gan fod enw Tanymarian wedi ei ddwyn i mewn rhoddwn yr hyn a ddywed ef yn wyneb y ddrwg-dybiaeth ei fod wedi datguddio cyfrinach y beirniaid, a sylwadau'r golygydd ar hyn. Cadwasoch fi yn y tywyllwch mor hir," meddai Tanymarian wrth Mr. Curwen, "fel y bu rhaid i chwi ddefnyddio y gwifrau i ohebu â mi. Yr oll a gefais oddiwrthych o'r blaen oedd Yr wyf yn hollol gytuno â chwi.' Gan ei bod felly, pa fodd y gallwn hysbysu na chyfaill na gelyn? Os cafodd ei hysbysu o gwbl, rhaid mai'r rhai oedd yn y gyfrinach a'i gwnaeth." Ar hyn sylwa'r golygydd: "Er nad yw Mr. Stephen mor bendant ag y gallai ei geraint ddymuno iddo fod ar y rhan bwysig yna o'r mater, eto awgryma na fu ganddo na rhan na chyfran yn y busnes gwarthus o ddatguddio cyfrinion beirniadaethol i'r chwilotwyr hyn a sarha ein purdeb eisteddfodol, ac y mae'n bleser gennym groniclo yr hyn a ddywed yma. Diwedda ei lythyr yng ngeiriau gweddi hen iawn': 'Oddiwrth genfigen, dygasedd, a malais, a phob anghariadoldeb, gwared ni, Arglwydd daionus'; yr ydym yn barod i uno ag ef yn hynyna, ond diameu y cytuna ef â ninnau yn wyneb y cymeriadau amheus sydd eto'n rhy aml yn cymylu awyrgylch ein heisteddfodau,' i ychwanegu cymaint a hyn o'r un hen weddi: 'Oddiwrth dwyll y byd, y cnawd, a'r cythraul, gwared ni, Arglwydd daionus!'"

Oddiwrth lythyr Dr. Parry "at ei gydgenedl," ymddengys y cyhuddid ef nid yn unig o newid ei farn wedi gwybod pwy oedd "Corelli," ac o osod "forged date" wrth ei feirniadaeth, ond hefyd o beidio darllen y cyfansoddiadau. Y mae'n alluog i gyfarfod â'r cyhuddiad, ac i alw tystion ei fod wedi eu darllen, ac wedi nodi'r gwallau ar y copïau, yr hyn na wnaeth y beirniaid eraill a'u darllenodd o'i flaen. Nid oedd sail o gwbl i'r cyhuddiad, nac i gyhuddiadau eraill o'r fath, ond yn nychymyg cystadleuwyr drwgdybus a siomedig. Cawn brawf digwyddiadol arall o'i drylwyredd fel beirniad yn ateb Emlyn i gais Mr. Tom Price i fwrw golwg dros gantawd o'i eiddo a fuasai dan feirniadaeth Parry:

"Darllenais feirniadaeth Dr. Parry, ond braidd yn frysiog, ac nid wyf yn awr yn gallu galw i gof ei wahanol bwyntiau; yr oedd braidd yn llym, mae'n wir, ond fe wna beirniadaeth o'r fath lawer mwy o les i chwi nac wmredd o wageiriau. Y mae hefyd wedi mynd drwy'r copi yn fanwl, ac nid pob beirniad sydd yn gwneuthur hynny y dyddiau hyn."

Adroddir neu ynteu awgrymir llawer o bethau amdano fel beirniad ar ddatganu—pethau sydd mor bell ag y mae a fynnont ag egwyddor a'r bwriad i wyro barn mor ddisail a chyhuddiadau "Crwydrad." Gwyddis yn dra chyffredinol erbyn heddyw am gynllwynion cyfrwysddrwg gwibed y gelain eisteddfodol i faglu'r beirniad diniwed; ond ar y cyntaf pwy feddyliai am y fath ystryw? Oni bydd i ni wylio a gweddïo—yr ydym bawb yn agored i gael ein hudo oddiar y ffordd uniawn gan ein hunangariad a'n vanity, pan deifl yr un drwg damaid i'r cyfryw. A hyn a wna y rhai dichellddrwg uchod: nid ymfodlonant ar gystadleuaeth onest; nid ydynt yn ddigon gonest hyd yn oed i gynnyg tâl i'r beirniad; flanking movement yn hytrach na frontal attack yw eu dull o geisio goresgyn y sedd feirniadol—ceisiant ennill ffafr y beirniad drwy ei hunan—gariad. Ynglŷn âg Eisteddfod Llandudno gyrrodd un a gynrychiolai un o brif gorau'r de at ddau o'r beirniaid— Dr. Parry yn un—i ddywedyd y bwriadent gynnal Festival Gerddorol yn y dref honno y flwyddyn ddilynol, yn yr hon y byddai rhai o weithiau y ddau feirniad yn cael lle amlwg, gan broffesu holi ynghylch hyn ac arall o barthed i'r gweithiau er mwyn ffugio amcan i'r llythyr. Ond ni lwyddodd yr ystryw—ac ni enillodd y côr: yr oedd y ddau erbyn hyn yn "hen adar," nad gwiw gosod magl ger eu bron, na cheisio eu twyllo ag us. Eto tebyg fod y tric wedi llwyddo gyda rhywrai rywdro, neu ni byddid yn ei dreio eilwaith ac eilwaith.

Eto nid pob cyfansoddwr sydd yn feirniad da mewn cerddoriaeth yn fwy nac mewn llenyddiaeth. Efallai nad oedd Parry y beirniad goreu ar ddatganu am yr un rheswm na fedrai feirniadu ei weithiau ei hunan: yr oedd o ardymheredd rhy hylifol (fluid), ac ni fedrai ymddidoli oddiwrth lif awen yn ddigonol, ond cymerai ei gario i ffwrdd ganddo. Am yr un rheswm ymgollai ym mhleser a chyfaredd y foment yn ormodol, ac ni chodai i fyny i feirniadu'r cyfan (yn y rhannau): "he could not see the wood for the trees." Yn ol un, ysgrifennai ormod, yn ol un arall siaradai ormod—yn ystod y datganu. Y mae'r ddau olygiad yna ar yr olwg gyntaf, fel yn gwrthdaro, ond nid ydynt mewn gwirionedd: dywed y ddau ei fod yn lle gwrando a beimiadu (yn y ffordd fwyaf effeithiol) yn gwneuthur rhywbeth arall. O'r ddau, bid sicr, y siarad oedd waethaf, nid yn unig nac yn gymaint am ei fod yn ymyrryd â chanolbwyntiad meddwl ei gyd-feirniad, ond hefyd am ei fod yn argymell—drwy awgrym (suggestion)—ei farn ei hunan arno. Fel hyn ceisiai ddileu bodolaeth hwnnw fel beimiad annibynnol, drwy ei ddarostwng iddo'i hunan—a byddai cystal i'r pwyllgor fod heb ei logi, ag fod siarad Parry'n cyrraedd ei amcan—er yn sicr na olygai ef hynny, ac ni freuddwydiai fod yna ochr foesol i'w siarad!

Nid yw yn sicr ei fod bob amser yn cadw'i hunan "gyda'i gilydd," ac yn canolbwyntio'i sylw ar y gystadleuaeth. Megis y byddai wrthi'n cyfansoddi yn ystafell y wers, diau y rhedai'i ddychymyg i ffwrdd ag ef ar esgynlawr yr eisteddfod. Ai nid hyn a brawf yr hanes digrif amdano yn Eisteddfod y Bala, lle y cystadleuai pum merch ar ganu unawd. Fel y digwyddai yr oedd yna bum pennill i'r gân, ond gofynnodd y beimiad iddynt ganu un. Anghofiodd yr arweinydd hysbysu hyn i'r merched, a chanodd y gyntaf y pum pennill, nes peri i Parry dybio fod y pump wedi canu, a rhannu'r wobr rhwng y pump! Prawf da o'i allu beirniadol, gan y gellid disgwyl i'r un fod yn gyfartal iddi ei hunan, ond prawf hefyd ei fod yn ddiffygiol mewn sylwadaeth arall, â'i wits ar wasgar!

Yn y gallu cerddorol sy'n anhepgor i feirniad da, yr oedd, bid sicr, yn rhagori. At hyn—neu ynteu yn rhan o hyn—meddai glust eithriadol o deneu. Dywed Mr. Jenkins amdano y medrai ddarganfod y cysgod lleiaf o anghywirdeb yn natganiad y darnau mwyaf cymhleth. Mewn datganiad o'r gytgan "he never will bow down " yn Eisteddfod Tredegar, nododd tua deugain o wallau. "Gwyddwn ei fod yn iawn," meddai Mr. Tom Price, "canys yr oeddwn yn aelod o'r côr."

Meddai hefyd syniad uchel am swyddogaeth beirniadaeth:

"Y mae beirniadaeth yn iachusol ac yn dra llesol i'r efrydydd ieuanc ac uchelgeisiol. Y mae yn cyfarwyddo, yn cymell, ac yn gwasanaethu fel adlewyrchydd grymus y gall yr ymgeisydd awyddus wahaniaethu gwenith pur oddiwrth yr us diwerth ynddo; gwir deilyngdod oddiwrth ymhoniadau gweigion; gallu creol arweinydd sydd yn meddu grym atyniadol dros ei holl adnoddau lleisiol ac offerynnol; y lleisiwr sydd yn defnyddio pob celfyddyd fel moddion i gyffwrdd y galon; a'r offerynnwr a all gyfleu ei enaid, a churiadau ei galon, i fwrdd—allweddi ei offeryn: y gwir addasedig feirniaid a all ddadansoddi hyn oll, nid ydynt mor hawdd i'w cael; ond y mae llu o bersonau anaddasedig, y rhai sydd yn ymhonni meddu y doniau prinion hyn, yn ein papurau."


XV. Yr Arweinydd.

"BU y saethyddion cystadleuol yn chwerw wrtho am! i dro, a chlwyfwyd ei ysbryd yn dost gan rai arweinwyr aflwyddiannus. Ei deimlad ef oedd y byddai lawer yn well ganddo gael perfformiad o'i weithiau yn y cyngherddau na beirniadu." Hyfryd oedd ganddo ddod yn ol i'w gartref at ei gyfansoddi a'i ysgol o Eisteddfod Merthyr a mannau eraill, a hyfryd i ninnau ei ddilyn i awyrgylch mwy hynaws a chydnaws â'i anian.

Ond ochr yn ochr â chyfansoddi a chadw ysgol (ynghyda chanu'r organ ar y Sul), rhed ei weithgarwch yn Abertawe o'r cychwyn ymron mewn sianel arall, sef y Gymdeithas Gorawl-un o brif anghenion y cyfansoddwr cerddorol. Gwrandawer arno ef ei hun yn y Royal Institution:

[16]"Y mae'r deisyfiad cynhyddol am gyngherddau oratoraidd yn ein gwlad yn arwydd tra iachus, ac yn deilwng o bob cefnogaeth posibl; ond y mae yn dwyn gydag ef yr hawliau cyfartal am gerddorfäu (orchestras); hefyd am ddosbarth uwch o arweinwyr. Un dasg, a thasg gym- harol hawdd, ydyw addysgu ac arwain lleisiau yn unig, ac mewn un ganig neu gytgan; ond ymgymeriad cwbl wahanol ydyw addysgu ac arwain traethgan gyfan yn yr holl fanylion o gytgan, cerddorfa, ac artists, yn enwedig y rhai hynny gan ysgrifenwyr diweddar, gan y rhai y mae yr adnoddau cerddorfaol yn cael eu trethu mor llymdost, ac yn ffurfio cynseiliau yr holl waith, a chan y rhai y mae arddull y gerddoriaeth mor newydd, mân-ddarniog, ac mor ddyrys, yn eu hymdrechion at gynhyrchu effeithiau newyddion. I gyflawn amgyffred y fath weithiau, heb y gradd lleiaf o syniad na gwybodaeth o ddyrys ac amryfal adnoddau y gerddorfa, ac heb unrhyw wybodaeth, o fath yn y byd, o gyfansoddiad cerddorol, yn ei amryfal fanylion. o arliwiaeth a dringraddebau, sydd or-niweidiol i unrhyw waith a gaffo ei arwain yn ol yr ysgôr lleisiol yn unig, ac heb y wybodaeth uchod. Y mae yn amhosibl i bob aelod o'r gerddorfa gael ei lywodraethu, a bod yn ymunedig yn y cyfanwaith, os na all gydymgynghori a dibynnu ar arweinydd deallus, yr hwn a all wneuthur rhywbeth mwy na defnyddio ffon i gadw amser, trwy nodi'r tarawiadau yn y bar. Y mae yn amlwg, gan hynny, y dylai ein harweinwyr ieuainc gael cyfleusterau i addasu eu hunain fel arweinwyr galluog; a bod i'n safon gael ei dyrchafu yn y cysylltiad hwn. Yn Lloegr, ac ymhob gwlad arall, y mae ganddynt arweinyddion proffesedig, y rhai sydd gyfansoddwyr galluog; ac y mae y swydd yn cael ei llenwi gan gerddorion galluog ac addasedig, fel, yn absenoldeb y cyfansoddwr, y mae ei waith yn nwylo y fath ddynion na fydd un ofn i'w waith ddioddef oddiwrth ddiffyg dehongliad priodol. A'r rheol gyffredinol ydyw i'r cyfansoddwr gael ei wahodd i arwain y perfformiad cyntaf o'i waith, a chael ei dalu yn dda; ond yng Nghymru, fe gafodd cyfansoddwyr eu rhwystro i arwain, pan yn cynnyg eu gwasanaeth yn rhad ac am ddim; ac y mae llwyddiant a thynged gwaith, a allai fod yn llafur bywyd y cyfansoddwr, yn cael ei adael o dan fatwn y fath arweinyddion ag sydd yn analluog i wneuthur cyfiawnder â'r gwaith sydd i gael ei berfformio, â'r artists ac â'r gerddorfa, ac nad yw yn anrhydedd i'r wlad a gynrychiolir."

Gyda'i "Emmanuel" wedi ei orffen, a'i "Nebuchadnezzar ar waith, y mae'n ddiameu fod Parry'n awyddus am gôr a cherddorfa i fod at ei wasanaeth—rhyw Bayreuth ar raddfa fechan; a naturiol tybio fod y posibilrwydd o hyn, at y pethau a enwyd o'r blaen, yn ffurfio un o brif atyniadau Abertawe iddo. Yr oedd cymdeithas gorawl enwog, sef y Swansea Choral Society, yn bod yno eisoes, dan arweinyddiaeth Silas Evans, ac yn gyfarwydd â pherfformio gweithiau goreu y prif feistri, ac efallai fod Parry'n lled-obeithio y celai hon i'w wasanaethu. Ond nid felly y bu, hyd yn oed pan symudwyd Mr. Evans gan. angeu yn Awst, 1881. Ond yr oedd Parry'n gyfarwydd â siomedigaethau erbyn hyn, nid yn unig ynglŷn â beirniadu ond hefyd ynglŷn ag arwain. At hyn y cyfeiria'n ddiau yn ei anerchiad: "ond yng Nghymru fe gafodd cyfansoddwyr eu rhwystro i arwain, pan yn cynnyg eu gwasanaeth yn rhad ac am ddim"; felly y bu yn Eisteddfod Merthyr mewn perthynas ag arwain y perfformiad o "Emmanuel."

Tebyg iddo weld yn gynnar y byddai'n rhaid iddo ffurfio cymdeithas gorawl ei hunan, oblegid cawn "Gronicl y Cerddor" am Mai, 1881, yn dywedyd: "deallwn fod ym mwriad Dr. Parry i gychwyn côr undebol yn y lle." A hynny a wnaeth dan yr enw The Swansea Musical Festival Society. Tebyg mai ffurf ddechreuol ar hon oedd y côr a gasglodd i ganu ei "Hail! Prince of Wales!' o flaen y Tywysog yn Hydref, 1881. Am y partoad ar gyfer hyn edrydd Mr. David Lloyd yn dra diddorol: Gymaint oedd y brys ynglŷn â'r peth fel y dysgai Parry yn yr hwyr i'r côr yr hyn oedd wedi ysgrifennu yn ystod y dydd. Meddai ar allu neilltuol i ddysgu côr yn ei waith ei hun heb ond ychydig notes. Gwyddai ef y gwaith, a chanai ei hun rywfodd gyda phob llais. Cerddai i fyny ac i lawr yr alê gan ganu mor nerthol nes argraffu y nodau yn sicr a diogel ar gof y canwyr. Ar ol gweithio felly yn galed am awr a hanner neu ddwy awr—dywedai dan chwerthin—hyd fanna heno—instalment arall nos yfory.' Ni chawd y darn wedi ei argraffu hyd o fewn dau ddiwrnod i ymweliad y Tywysog, ond yr oedd Parry wedi llwyddo i gael y côr i ganu y gwaith mor dda nes creu syndod edmygol yn y miloedd y dydd hwnnw. Ac nid yw y rhai a'i clywodd wedi ei anghofio hyd y dydd hwn."

Cwyd "Cronicl y Cerddor" gwr y llen ychydig yn uwch: "Ar yr achlysur o ymweliad Tywysog a Thywysoges Cymru â'r dref yn ystod mis Hydref yr oedd y partoadau cerddorol yn dra helaeth. Ar ben yr heol newydd, Alexandra Road, arweinid côr yn rhifo dwy fil gan Mr. Harlington Jones, dilynydd Mr. Silas Evans—y darnau a ddatgenid oedd Anthem Tywysog Cymru' a 'Let the hills resound,' gan Mr. Brinley Richards (y cyfansoddwr yn bresennol ar y llwyfan), ac Ymdaith Gwŷr Harlech 'i eiriau llongyfarchiadol Mr. Manning. Ar y fynedfa i'r Docks ceid côr arall o tua'r un nifer o dan arweiniad Dr. Joseph Parry, a chanent ei ymdeithgan newydd Hail! Prince of Wales! Cynorthwyid y côr hwn fel yr un blaenorol gan nifer o offerynnau, ac ymysg yr olaf yr oedd seindorf enwog y Cyfarthfa, Merthyr. Yn y Neuadd Gerddorol cafwyd gan y Choral Society (Mr. Harlington Jones) y 'Creation (Haydn) un noson, a Chantawd Tywysog Cymru' (Owain Alaw) noson arall. Yn Singleton Abbey, lle yr arhosai'r Tywysog, chwareuid y delyn Gymreig gan Gruffydd, telynor cyffredinol Arglwyddes Llanover ac arbenigol ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru; chwareuid hefyd gan Seindorf y Cyfarthfa dan flaenoriaeth Mr. Livesey. "Wrth edrych drwy y program swyddogol o'r gweithrediadau uchod, syn gennym am absenoldeb dau enw—Dr. Parry ac Eos Morlais, un o'n prif gyfansoddwyr, ac arall o'n canwyr. Paham hyn?

Y flwyddyn ddilynol dechreuodd y gymdeithas ar ei gwaith o ddifrif. Yn y "Cambrian News" am Hydref, 1882, cawn yr hysbyseb:

"The Swansea Musical Festival Society.

Weekly Rehearsals, Monday, 8 p.m.

Mendelssohn's 'Hymn of Praise';

Also Woman of Samaria' (Bennett);

'Emmanuel.'"

Cynorthwyai'r gymdeithas yng nghyngerdd cyntaf y Coleg Cerddorol ddiwedd y tymor gaeaf (1882). Ni chyfyngai Parry, fel y gwelir, gylch y datganu i'w weithiau ei hun. Ni roddwyd "Emmanuel cyn Mawrth, 1884. Am y datganiad hwn dywed "Cerddor y Cymry": "Y mae yn amlwg fod Dr. Parry'n llafurio o dan lawer o anfanteision yn Abertawe. Y mae yno gymdeithas gerddorol gref, a sefydlwyd ac a ddygwyd i sylw gan y diweddar Mr. Silas Evans, ond sydd yn bresennol o dan arweiniad Eos Morlais yn dwyn allan weithiau o bwys yn flynyddol; ond nid y gymdeithas hon ddygodd allan waith Dr. Parry. Llafuriai côr Dr. Parry a'r gymdeithas gorawl felly ar wahân; ac fel cwrs naturiol, y mae yna fath ar gydymgais rhyngddynt, a chyda hynny dipyn o deimlad.

Yr oedd yn amlwg fod y côr yn y perfformiad hwn dipyn yn wan ac ansicr—y mae yn gofyn nerth mawr i ddatganu darnau o'r fath—ac onibai mai yr awdur bywiog a galluog oedd wrth y llyw, buasai y llong yn debyg o suddo ar rai o'r creigiau anodd eu morio yn y gwaith. Ond y cyfansoddwr oedd yn llywyddu, ac yr oedd yn bopeth i bawb yn y côr a'r gerddorfa. Ar yr un pryd, cafodd Dr. Parry gefnogaeth a derbyniad calonnog iawn, a rhaid fod ei galon yn llamu o lawenydd wrth weld y fath gynulleidfa yn ei longyfarch. Curent a chalonogent bob ysgogiad a symudiad o'i eiddo. Yr oeddynt lawer pryd yn rhy frwdfrydig; y mae yn bosibl i gyfeillion, drwy ormod sêl, niweidio yr hwn yr hoffent ei anrhydeddu. Yr oedd effaith amryw o'r symudiadau goreu yn y gwaith yn cael ei golli, i raddau, oherwydd curiadau traed a dwylo dosbarth o'r gwrandawyr, a hynny ar ganol darnau pwysig. . . .

"Er i amryw o rifynnau gael eu gadael allan, parhaodd y perfformiad am dair awr. Y mae hynny'n rhy hir i gynulleidfa gymysg, er i'r mwyafrif eistedd y cwbl allan." Y mae'n amlwg fod y côr cymharol ieuanc yn annigonol i waith o'r fath; dylasai gael côr o trained veterans, rhai wedi eu caledu yn gystal a'u hystwytho gan ddisgyblaeth. galed ac ymarferiad hir i ddal pwysau y fath ddatganiad. Buasai'r gymdeithas henach yn ddiau'n fwy addas i'r gwaith. Deuai rhai o'r aelodau hynny i helpu. Heblaw hyn cai Parry fenthyg nifer o ferched neu ynteu o fechgyn cyfarwydd o'r Tabernacl, Treforris, neu Siloh, Glandwr, fel y byddai'r eisiau. Y mae'n naturiol fod yna ryw gymaint o gydymgais rhwng aelodau dau gôr Abertawe, ond nid oedd rhwng y ddau arweinydd; sicrheir fi fod Eos Morlais bob amser yn barod i wneuthur popeth yn ei allu i gynorthwyo Dr. Parry. Diddorol sylwi yn y fan hon i Gor yr Eisteddfod Genedlaethol, 1891, dan arweiniad Eos Morlais, roddi perfformiad o'r gwaith "Emmanuel " yn un o gyngherddau'r Eisteddfod.

Ond os oedd y côr yn "wan ac ansicr," y mae'n amlwg fod Parry'n alluog a sicr fel arweinydd, a bod hyd yn oed y côr (os nad y gerddorfa) yn rhoddi mantais iddo ddangos ei nerth yn eu gwendid hwy. Meddai ef i raddau helaeth ond annibynadwy yn ei eiriau ei hun-"allu creol arweinydd sydd yn meddu grym atyniadol dros ei holl adnoddau lleisiol ac offerynnol." Yn ol y disgrifiad yna o arweinydd effeithiol, ni ellir arweinydd o bob cerddor, Crea y cerddor gyfuniadau o nodau cerddorol i fynegi ei ddrychfeddyliau, ond gwaith yr arweinydd yw atgynhyrchu y drychfeddyliau hyn mewn seiniau drwy gyfrwng personau cydnaws y rhaid iddo eu hatynnu, neu eu darostwng iddo ei hunan.

Perthynai Parry i linell Wagner a Berlioz o arweinyddion; nid rhai mohonynt hwy yn curo batwn pren mewn modd peiriannol y tu allan i'r côr a'r gerddorfa, ac nid rhai dysgedig a galluog i ddehongli yn unig chwaith; ond rhai a'u rhoddai eu hunain i ddrychfeddwl yr hyn a genid, ac a ddioddefai wewyr esgor newydd wrth geisio atgynhyrchu ei "seiniau tân a'i suon tyner" mewn eraill. Arferai Wagner stormio, hisio, cylchdroi, stampio â'i draed fel ynfytyn, ac yna wenu'n dyner heb braidd symud llaw na throed," fel y byddai'r galw—yn y rehearsals. "Pan fyddo yn gwestiwn o rehearsal gorawl," meddai Berlioz, y mae yna fath ar ddicter yn fy meddiannu; y mae fy ngwddf yn cau i fyny, a rhaid i mi sylldremu ar y cantorion fel y Gascon hwnnw a giciodd hogyn bychan diniwed, a phan feiwyd ef am hynny, am na wnaeth y bychan un drwg, a atebodd, Beth pe buasai wedi gwneuthur! Ond yna pan gaffai ddatganiad wrth ei fodd, methai gynnwys ei lawenydd. "Ah! chwi feirdd!" torrai allan, "nid oes llawenydd i chwi fel y llawenydd o arwain. Carwn gofleidio'r gerddorfa yn ei chrynswth." Meddai wrth Liszt: Meddyliwch am . . .allu chwarae ar orchestra, a chael dan eich llaw offeryn byw ac aruthrol." Yr oedd ei unoliaeth â'r gerddorfa, a'i feistrolaeth arni, rai prydiau mor hollol, fel y dywedodd Tywysog Almaenaidd wrtho, "Nid arweinydd yn unig mohonoch chwi—chwi yw'r orchestra hefyd."

Cafodd Parry brofi o'r gorfoledd hwn rai prydiau, er nad bob amser. Yr oedd naill ai y côr yn "wan ac ansicr neu ynteu byddai ef yn cael ei amddifadu o'r arweinyddiaeth, ac ambell i waith un anfedrus yn cael ei benodi i arwain. Yr haf wedi'r datganiad uchod o "Emmanuel" rhoddwyd ei "Nebuchadnezzar" yn un o gyngherddau Eisteddfod Lerpwl gyda medr a hwyl neilltuol. "Cafwyd perfformiad da ar y cyfan," meddai "Cerddor y Cymry," "a hynny dan arweiniad yr awdur galluog: y gerddorfa yn chwarae yn gampus a'r effaith yn dda. . . Cadwyd y gynulleidfa fawr mewn cyffro drwy'r amser: cafodd ei swyno a'i syfrdanu, ac ar y diwedd nid oedd neb yn gwybod paham. Rhaid cael gallu anarferol i wneuthur hyn. Cafodd yr awdur dderbyniad brwdfrydig, ac yr oedd yn ei haeddu."

Cafwyd perfformiad llwyddiannus o "Nebuchadnezzar" gan gôr Ebenezer (a'u cynorthwywyr) nos Calan 1885, dan arweiniad yr awdur.

Dywedir wrthym ei fod yn "mwynhau popeth a gyfansoddai." Ond y mae'n bosibl gwneuthur gormod o'r diffyg hwn ynddo. Yn y lle cyntaf, y mae pob arweinydd teilwng o'r enw—a phob aelod o'r côr, o ran hynny, a phob gwrandawr a ddaw i mewn i'r hwyl—yn ei afiaith pan yw ysbryd cyfansoddiad yn meddiannu'r cwbl, a phawb yn un â'i gilydd Daw elfen arall o bleser i mewn i gyfansoddwr pan fyddo'n arwain ei waith ei hun, pleser llai pur ond nid llai o bleser serch hynny, yn ol cryfder y fyfiaeth fo mewn dyn. Tebyg fod hon yn dra chryf yn Parry, fel mewn hogiau'n gyffredin, ond pwy sydd hebddi : "Yr wyf yn ofni," meddai'r Athro Edward Caird, un o'r dynion mwyaf pur ac aruchel ei ysbryd, "nad yw y teimlad mai ni sydd wedi gwneuthur rhyw waith byth yn ein gadael."

Heblaw hyn rhaid fod yna fwynhad hollol arbennig yn eiddo'r cyfansoddwr with atgynhyrchu eto unwaith ei ddrychfeddyliau mewn cwmni cydnaws a deallus, a gweld y lledrithiau delfrydol y bu ef mewn unigrwydd yn cwmnïa hwy yn gwisgo cnawd, ac yn ymddangos i eraill mewn gwisg drybelid o seiniau, a chael yr ymdeimlad "mai da oedd." Yr oedd Parry'n agored iawn i swyn cwmnïaeth felly, pan nad oedd cyfle i gôr; pan ai i Wyl y Tri Chôr i Henffordd nid ystyriai hi'n ormod trafferth i gludo rhyw waith mawr o'i eiddo yn ei gist deithio er mwyn cael ei ddatganu gyda'r ffrindiau yno; pan wedi gorffen rhyw gyfran o waith gartref, gyrrai at Mr. Tom Stephens a chyfeillion eraill i ddod yno i'w ganu; ac os na chaffai hynny, gwnai rhyw enethod fyddai'n digwydd galw yn y tŷ y tro i wrando ar ganu darn newydd ar y piano—a disgwyliai i bawb ddod i mewn i'w hwyl ef ei hun, a'i anghofrwydd o dreigl amser.

Yng Nghymanfa Ganu Llanelli mynnodd ganu y dôn a gyfansoddasai ar ol Mr. Haydn Parry, yn oedfa'r bore, a'r prynhawn, ac eto yn yr hwyr.

Ymgollai ef mor llwyr ym mwynhad y gerdd, ai gymaint yn un a llif awen, fel y diflannai ei sylwadaeth gyffredin, ac nid iawn ei farnu yn ol safon dynion llai awengar a mwy gwaedoer. Ynglŷn â pherfformiad o'r "Mab Afradlon" yn Aberystwyth, y gantores ieuengaf yn y coleg oedd y fam, a dyn tra ieuanc yn dad, tra y cynrychiolid y mab afradlon gan ŵr hanner cant oed, yn gloff o'i ddwy glin, ac eto a ganai am ddawnsio yn nhŷ ei dad. Ond "details"—chwedl Tanymarian—oedd pethau felly i Parry, ac nid ymyrrent yn y modd lleiaf â'i fwynhad o'r perfformiad.

"Methai lywodraethu ei hun weithiau," meddai Mr. D, Jenkins, "gan y fath londer oedd yn berwi drosodd pan yn partoi yn ogystal a phan yn arwain yn gyhoeddus." Gallem feddwl wrth y mwynhad, a'r awch, a'r ynni, a'i llanwai wrth berfformio rhai o'i weithiau, mai dyna'i brif bleser." Eto rhaid i ni gofio mai is—wasanaethgar i" gyflawni " ei weithiau fel cyfansoddwr—i roddi ffurf iddynt mewn "amser a lle" oedd hynny iddo ef. Daliai ymlaen trwy bopeth, ac ar waetha'r cwbl i gyfansoddi. Ond cyn dod at yr arwedd honno ar ei weithgarwch yn Abertawe, bydd yn gyfleus i ni yn y fan hon fwrw golwg ar ei ymdrechion llenyddol, gan eu bod yn troi yn bennaf o gylch y ddwy arwedd sydd wedi cael ein sylw eisoes, sef addysgiaeth gerddorol, a chaniadaeth gorawl.

XVI. Y Llenor.

Y MAE nifer o'r prif gerddorion wedi bod yn hyddysg mewn meysydd eraill, megis Athroniaeth a Hanesiaeth, er enghraifft Gounod a Wagner; y mae eraill, megis Mozart a Mendelssohn, wedi bod yn llythyrwyr da; ac ychydig yn llenorion gwych, megis Schumann a Berlioz. Ond hyd yn oed pan feddant ddawn a medr i hyn, anaml y bydd eu calon yn y gwaith; fel y dengys y ffrwydriad a ganlyn o eiddo'r olaf: "Gadewch i mi sefyll drwy'r dydd â'r batwn yn fy llaw, yn disgyblu corws, yn canu'r rhannau fy hunan, a churo'r mesur nes poeri gwaed, ac ymaflyd o'r cramp yn fy mraich; gadewch i mi gario cistfyrddau, double basses, telynau, symud llwyfannau, hoelio ystyllod fel gweithiwr cyffredin neu saer, ac yna dreulio'r nos i gywiro gwallau cerfwyr a chopïwyr. Bûm yn gwneuthur hyn; yr wyf yn ei wneuthur yn bresennol; mi a'i gwnaf eto. Y mae hyn yn rhan o'm bywyd cerddorol, a goddefaf ef heb feddwl amdano, fel y dwg heliwr fil blinderau'r helfa. Ond am sgriblo'n dragwyddol i ennill bywioliaeth!"

Anodd i'r rhai fu'n carlamu gyda'r gwŷr meirch yw arafu a chydgerdded gyda'r gwŷr traed!

Yr oedd Parry'n fwy tebyg i Schubert nac i un o'r gwŷr uchod, heb nemor ddiddordeb mewn dim ond cerddoriaeth, nac amynedd i lythyru, na hamdden na hwyl i ysgrifennu. Ni allwn feddwl amdano'n eistedd i lawr i ohebu: pe byddai ganddo ohebiaeth fawr y byddai'n rhaid rhoddi sylw iddi, yr unig ffordd iddo ef fyddai cael gwasanaeth pin ysgrifennydd buan i gymryd i lawr ei eiriau a'i frawddegau blith-draphlith, ac yntau'n cerdded i fyny ac i lawr yr ystafell.

Pan sylweddolwn hyn, rhyfeddwn iddo ysgrifennu cymaint; ond rhyfeddwn lai pan sylwn fod y cwbl yn troi oddeutu ychydig bwyntiau a phynciau cerddorol ag y teimlai ef ddiddordeb arbennig ynddynt, fel athro a cherddor, megis, yr angen am ddisgyblaeth fwy ar ddatganwyr, arweinyddion, a chyfansoddwyr; yr angen am gerddorfäu, a disgyblaeth offerynnol; yn ddiweddarach, yr angen am astudiaeth galed a thawel yn y tŷ, yn lle canu, canu o hyd; ac yn arbennig yr wyl a'r gymdeithas gerddorol.

Dechreuodd Dr. Parry fwy nag un gyfres o ysgrifau ar y pynciau a nodwyd uchod yn "Yr Ysgol Gerddorol," ac yn ddiweddarach yng "Nghronicl y Cymry"; ond ni wnaeth lawer mwy na'u dechreu. Ni pharhaodd y cyfnodolion yn hir, mae'n wir, eto buont yn fwy hirhoedlog na'i ysgrifau ef. Ni cheir dim yn ei ysgrifau na chafwyd eisoes yn ei anerchiadau ar yr angen am ddisgyblaeth gerddorol; ond cawn sylwadau gwerthfawr ar le astudiaeth yn y fath ddisgyblaeth. Cyffyrdda â'r mater mor bell yn ol a Chwefrol, 1879, yn "Yr Ysgol Gerddorol": "Dymunol iawn," meddai " fyddai gallu troi y diwydrwydd a'r sel a geir yn ein gwlad gyda cherddoriaeth er astudio elfennau y gelfyddyd: gormod o ganu a rhy ychydig o ymgyfarwyddo a'r wyddor sydd yn gyffredin."

Awgryma i arweinwyr canu y cynllun o roddi awr a hanner yr wythnos i ddysgu darllen cerddoriaeth yn yr hen nodiant; ac i'r eisteddfod y cynllun o bartoi papurau cerddorol i'w hateb gan yr ymgeiswyr. Yn ei anerchiad ar ddiwedd tymor 1884 geilw sylw'r myfyrwyr at yr angen am fwy o "astudiaeth dawel"; a hyn yw testun tair ysgrif o'i eiddo yn y " Cronicl" am Rhagfyr, 1883, Mawrth ac Awst, 1884. Wedi cyfarch ei ddarllenwyr fel "Annwyl gerddorion ieuainc," a datgan ei dymuniad am eu llwyddiant fel un sydd yn rhoddi ei holl lafur i gerddoriaeth a cherddorion Cymru," ä ymlaen: "Nid oes ynnof yr amheuaeth lleiaf nad ydych yn rhoddi rhy ychydig o'ch oriau i efrydiaeth gartrefol, a dymunaf awgrymu y fantais, a'r angenrheidrwydd, o gael ystafell fechan yn eich cartrefleoedd yn fyfyrgell,' lle y gellwch, o sŵn y byd, ymddiddan ac ymgyfeillachu ag awduron yng ngwahanol ganghennau celfyddyd . . . Yr ydych yn eich amddifadrwydd o athrawon, yn anocheladwy yn cerdded yr un llwybrau, ac yn ymborthi ar yr un ffrwythau gan eich amddifadu eich hunain o'r ffrwythau blasus eraill; a'r canlyniad pwysig yw eich bod yn cyd—dyfu i'r un cyfeiriad ac nid ydych yn cyfoethogi ein gwlad fel cerddorion ieuainc a gobeithiol yn ein gwahanol anghenion."

Dywed fod ganddo "adnoddau" ar gyfer cyfres of "lyfrau addysgol yn Gymraeg yn barod ers amser, ond oherwydd nad oes gennym fel cenedl argraffydd i'r cyfryw," ca ei "amddifadu o'r pleser o fod yn wasanaethagar fel y carai. Ond gan fod yna lyfrau da a rhad yn y Saesneg, dymuna eu cyfeirio at y goreuon, gan eu cymeradwyo i'w hefrydiaeth yn eu "myfyrgell" ac addawa awgrymiadau ychwanegol o'r eiddo'i hun.

Y mae yr ysgrif gyntaf ar "Ddatganu," a chyflawna ei addewid o gymeradwyo'r llyfrau goreu a rhoddi awgrym— iadau pwysig ei hun. Anodd credu fod ei drydedd ysgrif —(a'i olaf "o'r Fyfyrgell" "i'r "Cerddor ") ar Gynghanedd, Gwrthbwynt, a'r Ehelgan, o help ymarferol ychwanegol at gymeradwyo'r llyfrau goreu. Cynhwysa sylwadau cyffredinol tra gwerthfawr, er enghraifft: "Y mae dealltwriaeth drwyadl o gynghanedd o fewn cyrraedd pawb, ac heb angen o'r dalent leiaf. . . . Cyfrwng yw y wybodaeth hon, a swydd athrylith yw creu a defnyddio'r wybodaeth hon er lliwio'r gerddoriaeth. Ni wna unrhyw gymaint o wybodaeth ddyn yn athrylithgar, eithr rhaid i'r athrylithgar wrth wybodaeth o'r cyfryngau hyn er rhoddi bodolaeth a ffurf i'w feddyliau bywiol ac ysbrydoledig."

Wedi brasgamu drwy y "meysydd cyfoethog," tyr allan "Gresyn na bai ein hieuenctid yn treulio eu nosweithiau i ymborthi ar y braster meddyliol hyn. Carwn allu eu hargyhoeddi fod mil mwy o bleser yn y meysydd cyfoethog hyn nag mewn canu eu hunain bob nos i wyneb— gochni a chrygni." Yna awgryma gynnal dosbarthiadau hwyrol i bartoi ar gyfer arholiadau colegau Llundain. Er fod yr "adnoddau " 'n barod ar gyfer y "llyfrau addysgol yn 1883, ni chyhoeddwyd y cyntaf ohonynt cyn 1888. Y flwyddyn honno dechreuwyd eu cyhoeddi dan yr enw, "The Cambrian Series ""Cyfres o lyfrau cerddorol addysgiadol," gan y Meistri Duncan & Sons, Caerdydd.

Am y cyntaf, dywed "Cerddor y Cymry": "Nodweddir y llyfr hwn gan eglurder, yr hyn sydd yn amhosibl ei ennill ond trwy ymarferiad mawr. . . . Gallwn dystio na welsom gymaint o elfennau y wyddor gerddorol yn cael eu gosod mewn cwmpas mor fychan erioed, a hynny mor ddestlus."

Meddai Parry gryn lawer o ddyfalbarhad i lynu wrth amcan fyddai wedi gafaelyd ynddo, ac i lafurio drosto yn ei ffordd ei hun. Wedi galw sylw at y dymunoldeb of gael gŵyl gerddorol, a cherddorfa genedlaethol, cawn ef yn ysgrifennu ar y mater i'r " Ysgol Gerddorol" y flwyddyn ddilynol, gan ieuo "Cymdeithas y Cerddorion" â'r Wyl. Y pryd hwnnw yr oedd yna ŵyl i fod yn y De, ac un arall yn y Gogledd yn flynyddol; gŵyl y De i fod yn symudol ac i'w chynnal yn Abertawe, Caerdydd, ac Aberdâr, ar yn ail; gwyl y Gogledd i fod ym mhafiliwn Caernarfon, fel y lle mwyaf cyfleus.

Erbyn 1883 y mae ei gynllun dipyn yn wahanol. Yn ei bapur o flaen y Royal Institution, Abertawe,[17] dywed:

"Fe gyrhaeddid canlyniad artistig mawr trwy gyfuno ein prif adnoddau offerynnol a chorawl, ac fe berfformid gweithiau sydd yn llawer tu hwnt i allu unrhyw gymdeithas neu gôr sengl, ac fe fyddai yn foddion i beri gwelliant dirfawr ar bob côr ar wahân. Gellid gwneuthur yr ŵyl yn dairblwyddol, cydrhwng Abertawe, Caerdydd, a Merthyr. Yr wyf yn gwybod fod rhai yn ofni y byddai i'r cyfryw ŵyl filwrio yn erbyn llesiant yr eisteddfod. Ni ddymunwn hynny ar un cyfrif, ac nid wyf yn credu mai dyna fyddai y canlyniad, gan y byddai i'r ŵyl gerddorol gael ei threfnu i beidio ymyrryd â'r eisteddfod. Gallai'r cyfryw ŵyl gael ei chynnal ar yn ail, rhwng Gogledd a Deheudir Cymru, fel, pan gynhelir yr eisteddfod yn y Gogledd, bydded i'r ŵyl gerddorol gael ei chynnal yn y Deheudir, a vice versa. Yr ydym oll yn gwybod mai cerddoriaeth ydyw prif ategydd yr eisteddfod; ond ni fydd i neb honni am foment fod yr eisteddfod yn gwneuthur cymaint er dyrchafu ein celfyddyd ag a wneid gan y fath wyl gerddorol ag a gymhellir. Ni all yr eisteddfod gael yr orchestra angenrheidiol, na chynhyrchu yr amrywiaeth cyfansoddiadau ag a ellid gan ŵyl gerddorol; ac ni fyddai i gorau a wastraffa gymaint o amser gwerthfawr a brwdfrydedd, am lawer o fisoedd, gyda dim ond rhyw gorws neu ddau, dderbyn yr un adeiladaeth a phleser ag a geid wrth astudio rhyw hanner dwsin o gyfansoddiadau cyflawn ar gyfer gwyl gerddorol. A phe dygid gwaith newydd allan, ni fyddai rhaid i'r cyfryw dderbyn y driniaeth greulon a dderbyniodd y cyfryw weithiau ym Mangor, Birkenhead, a Merthyr Tydfil. Byddai i raglen gŵyl gerddorol, yn cynnwys symphony, concerto, ac amryw weithiau o safon uchel, hau hadau da yn naear feddyliol ein cerddorion Cymreig ieuainc a ddygai ffrwyth gogoneddus yn y dyfodol."

Digon posibl fod y syniad am ŵyl o'r fath yn wreiddiol i Parry; ond cafodd syniad cyffelyb agos ei sylweddoli yn 1861. Galwyd "Greal y Corau" dan yr enw hwnnw, am y tybid y byddai hynny'n help i'w wneuthur yn is—wasanaethgar i lwyddiant "Undeb Corawl Cymru." Yn un o gyfarfodydd pwyllgor yr "Undeb" hwn a gynhaliwyd yng Nghonwy, pryd yr oedd yn bresennol Ambrose Lloyd (yn y gadair), Owain Alaw, Eos Llechid, Llew Llwyfo, a Chyndeyrn—apwyntiwyd Owain Alaw yn arweinydd cyffredinol, ac Ambrose Lloyd yn arweinydd mygedol, boneddwr lleol yn llywydd, a'r Parchn. E. Stephen a J. D. Edwards (clerigwr cerddorol) yn is—lywyddion, a Mr. E. W. Thomas, Lerpwl, yn arweinydd y band. Yr oedd yr ŵyl i'w chynnal yng Nghastell Caernarfon, Medi 20, 1861, a Hallelujah Chorus" Handel, a Chorawd o "Ystorm Tiberias" i'w datganu ynddi, ynghyda hymn genedlaethol i'w hysgrifennu'n arbennig ar gyfer yr ŵyl gan Ambrose Lloyd, heblaw anthem yr un gan Lloyd, Owain Alaw, Eos Llechid, a Chyndeyrn, a hen anthemau gan J. Ellis, Llanrwst; a J. Williams, Dolgellau; wedi eu had—drefnu gan Owain Alaw. Pan ychwanegir at hyn nifer o alawon Cymreig wedi eu trefnu i bedwar llais, gwelwn ei bod yn ŵyl Gymreig o'r iawn ryw. Mynnai rhai gau hyd yn oed yr "Hallelujah Chorus " allan. Penderfynwyd gyrru cais parchus at gorau'r De i uno yn yr ymgais i godi safle cerddorol Cymru, gan awgrymu y gallai cantorion Gogledd a De gwrdd mewn rhyw fan canolog, i ymbartoi. Ni ddaeth ateb o'r De, ac ni chlywyd rhagor am yr ŵyl nes i olygydd y "Greal" ffarwelio â'i ddarllenwyr drwy ddywedyd nad oedd angen am y cyhoeddiad mwyach, gan nad oedd yr undeb corawl mewn bod.

Gogleddwyr oedd wrth wraidd y mudiad, ond gyrrwyd cais i'r De am gydweithrediad. Yn rhifyn Tachwedd o'r "Greal" cawn sôn am ffurfio undeb corawl o'r fath yn y De, gyda Merthyr ac Abertawe'n ddau ganolbwnc, a Chaerdydd yn fan cynnal y rehearsals, ond yr ŵyl i'w chynnal yn y Crystal Palace! Tebyg mai dyma ateb y De i'r Gogledd. Ni ddaeth dim o'r naill na'r llall, nac ychwaith o ymdrech Dr. Parry a'i gyfeillion; prin y gellir edrych ar Wyl Gerddorol Caerdydd fel canlyniad, ac nid yw honno ar y goreu ond gwyl yng Nghymru.

Yr oedd y gymdeithas gerddorol i helpu'r wyl, a'r eisteddfod, ac i gael ei chysgodi ganddynt; y bwriad oedd rhoddi cyfleustra i gerddorion Cymru ymgydnabyddu â'i gilydd, a chydweithio i godi safon cerddoriaeth yn y wlad. Gychwynwyd hi yn 1879, ac eto gyda mwy o benderfyniad adeg y Pasg, 1888, yn Abertawe. Sefydlwyd amryw ganghennau y rhai a elwid ar enw rhyw gerddor Cymreig ymadawedig, megis "Cangen Ambrose Lloyd yn Abertawe. Yr oedd Parry'n bresennol yn Llanelli yng Ngorffennaf, pan sefydlwyd cangen yno. Cawn hanes am gyfarfod arbennig o'r pwyllgor yn y Drill Hall, Merthyr, yn Awst, pryd y penderfynwyd, ar gynhygiad Eos Morlais, fod gwyl gerddorol flynyddol i'w chynnal ar Ddy'gwyl Dewi i ddatganu cyfansoddiadau cerddorion Cymreig a phryd y rhoddwyd sêl ar y penderfyniad am y waith honno—drwy ddatganu "Dafydd a Goliath " yn yr hwyr. Yn ystod 1887—1890 ymddangosodd cyfresi o ysgrifau o'i eiddo yn y "South Wales Weekly News," y "Tyst (a'r Dydd)," a'r "Genedl Gymreig"; ond y mae'r cwbl yn troi oddeutu'r pwyntiau uchod, a'u cynnwys yn aml yr un.

Ai Parry o gylch gryn lawer i ddarlithio ar rai o'r materion a ennwyd, megis cenedlaetholdeb cerddoriaeth, ein hanghenion cerddorol presennol, addysg gerddorol, y cyfansoddwr cerddorol a datblygiad ei gelfyddyd,etc. Fel darlithydd, digon yw dywedyd ei fod fel efe ei hun, "ar don o flaen gwyntoedd" yr ysbrydiaeth fyddai'n dod yn aml, yn hollol un â'i bwnc, ambell i waith yn chwerthin yn galonnog, ac yna'n torri i wylo dan ing treialon Schumann, neu rywun cyffelyb.

Ceir cyfeiriadau aml yn ysgrifau ac anerchiadau Parry at gerddoriaeth a chaniadaeth y cysegr. Yr oedd ganddo hefyd ddarlith ar "Gerddoriaeth a Cherddorion yr Eglwys Gristnogol." Darllenodd bapur ar "Hanes Caniadaeth y Cysegr "o flaen yr Undeb Annibynnol yn 1888. Ymddangosodd o leiaf un ysgrif werthfawr o'i eiddo ar y mater, a chan fod ei wasanaeth a'i safle fel cerddor y cysegr i ddod dan ein hystyriaeth yn y bennod nesaf, defnyddiwn rai o'i sylwadau yn y fan hon i gyfeirio'n meddwl at honno. Wedi dywedyd mai "y deml, o bob lle, a deilynga'r pur, a'r coeth, a'r aruchel, a'r gelfyddyd uchaf," geilw sylw at rai pwyntiau o bwys ymarferol megis:

"Y dymunoldeb o ddwyn i ymarferiad cyffredinol ymhob cyfarfod cyhoeddus y salm—dôn, ac yn neilltuol yr anthem gynulleidfaol, fel peth hawdd ac effeithiol iawn gan yr holl gynulleidfa. Nid anthem neu gytgan i gôr yn unig a olygaf, ond anthem fer, syml, addoliadol, a pherffaith gynulleidfaol anthem o ran teimlad, tymer, ac arddull, yn hollol Gymroaidd, fel ein hen donau cynulleidfaol, yn orlawn o'r tân, y moliant, a'r arbenigrwydd hwnnw a berthyn i gerddoriaeth wir Gymreig.

"Y dymunoldeb fod cyd-ddealltwriaeth rhwng y gweinidog ac arweinydd y canu, fel y byddo i'r dôn, y salm-dôn, neu yr anthem a genir, hyd y byddo yn bosibl, gydredeg â phwnc y bregeth, er sicrhau unoliaeth i holl rannau gwasanaeth yr oedfa, nes y byddo yr un ysbryd yn rhedeg drwy y weddi, y canu, a'r bregeth, fel y byddo i'r holl gynulleidfa, drwy y naill a'r llall, gael ei chario i'r un cyfeiriad. . . . Nid yw y côr i wasanaethu yn lle Y gynulleidfa yn yr anthem, ond i gynorthwyo ac arwain." Gyda golwg ar ddatganu cytgan o oratorio "Yr unig le i wneuthur hyn yw ar ddechreu neu ddiwedd oedfa, nid yn y canol, gan y dylasai caniadaeth y cysegr fod yn gyfryw ag y gall yr holl gynulleidfa gyduno ynddo—yr hen a'r profedig gyda'u lleisiau crynedig i roddi cynhesrwydd ac ysbryd; y canol oed i roddi nerth a llawnder; a'r ieuainc i roddi yr ynni, y bywiowgrwydd, a'r deall; a thrwy y gwahanol elfennau hyn fod i'r gerddoriaeth y naws a'r addoliad priodol."

Terfyna drwy alw sylw at le cerddoriaeth ynglŷn â'n Cymanfaoedd pregethu, y Sasiwn, a chyfarfodydd Undeb Annibynwyr Cymru.

Pan yw ugeiniau o weinidogion yr Efengyl wedi cyfarfod i bregethu Efengyl y deyrnas i'r tyrfaoedd, pe yr ychwanegid effeithiau cerddoriaeth drwy ymdrech ragbartoawl gan holl gorau yr ardal yn y tonau, y salm-donau, a'r anthemau; ac i'r corau hyn, o ddau i dri chant mewn nifer, i ddechreu neu i orffen pob cyfarfod drwy ganu un o'r cytganau mawreddog allan o ryw oratorio, byddai yr effaith yn ddwys a dwfn, er cydweithio ag amcanion y bregeth; a byddem drwy hyn yn troi ac yn mabwysiadu cerddoriaeth a cherddorion y genedl yn un gytgan o fawl ar allor crefydd."

XVII. Y Llyfr Tonau Cenedlaethol.

HYSBYSA Dr. Parry mewn cylch-lythyr yn 1898 fod ei Lyfr Tonau Cenedlaethol ar ol pymtheng mlynedd o lafur yn barod i'r wasg, a'i fod wedi ei amcanu fel cydymaith neu ychwanegiad cenedlaethol "i'r casgliadau eraill oedd ar y maes eisoes; ac y dibynna cyhoeddiad y llyfr ar yr atebion dderbynnir oddiwrth bwyllgorau yr holl gyfundebau, sef yr Eglwys, y Bedyddwyr, y Methodistiaid, y Wesleaid, a'r Annibynwyr."

"Ar ol pymtheng mlynedd o lafur": os felly dechreuodd ar y gwaith yn 1883, nid yn yr ystyr, bid siwr, na chyfansoddodd lawer o donau cyn hynny, ond mai y pryd hwnnw, drwy gymhelliad Dr. Rees, y meddiannwyd ef gan y syniad o Lyfr Tonau Cenedlaethol, ac yr ymrodd i'w gynhyrchu[18] (a'i atgynhyrchu). Cynnyg newydd ar eu dwyn allan—yn awr yn orffenedig yn unig a geir yn y cylch-lythyr uchod; canys dechreuodd gyhoeddi ei donau dan yr enw "Llyfr Tonau Cynulleidfaol Cenedlaethol Cymru " yn 1887, ac ymddangosodd pedwar rhifyn. Ynglŷn â hwnnw dywed ei fod ers blynyddoedd wedi amcanu partoi 'Llyfr Tonau Cenedlaethol i'r Cymry,' ac wedi cyfansoddi ugeiniau o donau ar wahanol fesurau angenrheidiol, a bod ganddo dri amcan arbennig, sef, cyfansoddi tonau o arddull Cymreig, llawn o dân a mawl Cymroaidd ; dwyn i mewn i ganiadaeth y cysegr elfennau mydryddol eraill, er mwyn dwyn amseriad darlleniadol mwy amrywiol o'r emynau; a nodi pob llinell a syniad yn yr emyn, er ennill unffurfiaeth ac unoliaeth yn natganiad a darlleniad y dôn a'r emyn.

Yn un o'i ysgrifau yn y "South Wales Weekly News yng nghwrs y flwyddyn hon (1887), wrth gyfeirio at ei lyfr, sieryd Parry gyda chymeradwyaeth am Lyfr Emynau Thomas Gee fel casgliad cenedlaethol, a dywed fod ei Lyfr Tonau ef ei hun—yn yr arddull cenedlaethol—yn un a fwriedir i gyfateb yn gerddorol iddo, yn fath ar gyfaniad cerddorol arno. Erbyn 1898, gwelir fod yr uchelgais hwn wedi cael ei gymedroli'n fawr yn lle bod yn gyfaniad (complement) i Lyfr Emynau Gee, golyga i'w Lyfr Tonau fod yn atodiad (supplement) i'r Llyfrau Tonau oedd yn bod eisoes.

Yn ei feirniadaeth ar y rhifyn cyntaf yng "Ngherddor y Cymry," gesyd Alaw Ddu ei fys yn ddeheuig ar wendid canolog y syniad cyntaf uchod:

"Ni fuasai ond cawr o ddyn yn meddwl am y fath idea a hon—cyfansoddi llyfr cyfan o donau cynulleidfaol! Digon hawdd i gerddor o ymarferiad a gallu gyda thalent y Pencerdd, i gyfansoddi ugeiniau o donau cynulleidfaol; ond peth arall yw cynhyrchu rhai â digon o fywyd ac individuality ynddynt i fyw. Un peth yw cyfansoddi, peth arall yw cynhyrchu tonau. Y mae eisiau llyfr tonau cenedlaethol, hynny yw, un a fydd at wasanaeth y genedl Gymreig, ac nid enwad; ond ni all hwnnw fod yn gynnyrch un meddwl, onide[19] celfyddydol ac arwynebol o angenrheidrwydd a fydd."

Nid yw y syniad ond enghraifft arall o duedd yr awdur i gymryd ei gario gan ryw uchelgais mawr, heb arfer barn o gwbl yn y mater; yn wir ni arhosai—drwy fyfyrdod a darllen yng nghwmni'r syniadau sy'n angenrheidiol i ffurfio barn. Pe buasai wedi ymgydnabyddu â'r syniad o "Unoliaeth mewn Amrywiaeth "mewn cyfnodolion neu ynteu yn y paragraff "Duw, wedi iddo lefaru lawer gwaith a llawer modd," ac aml i baragraff arall, cedwid ef rhag y fath gamhyder ynddo ei hun. Yn sicr, yr oedd Alaw Ddu yn nês at fath uwch ar fawredd pan yn dywedyd, "Ni all un cyfansoddwr wneuthur mwy na hanner dwsin o donau gwir dda ac uchel mewn oes hir"; neu Emlyn pan yn sôn am fenter Ambrose Lloyd yn rhoddi pump a deugain o'i donau yn "Aberth Moliant": "Experiment cynnil i'r mwyafrif o'n cyfansoddwyr fyddai gwneuthur yr un prawf;" gan ychwanegu na fydd rhai ohonynt, "efallai"—allan o'r fath nifer pa gyfansoddwr all obeithio yn amgen—yn ddim ond 'creatures of a day.'"

Ac felly y trodd hi allan gyda Parry. Yn ol yr Athro D. Jenkins nid yw mwyafrif ei donau "ond eco gwan o ddwsin o'i rai goreu." Ac meddai "Cerddor y Cymry" am y rhifyn gyntaf: "Y mae dwy ar bymtheg o donau, un salm—dôn, ac un anthem yn y rhifyn cyntaf hwn; ac fel y gallesid disgwyl, y mae yn eu mysg rai tonau o'r dosbarth blaenaf. . . . O ran yr amrywiaeth melodawl a nwyfus sydd yn rhedeg drwy'r holl leisiau . . . y mae Dr. Parry'n ardderchog. Ond ei ddiffyg yn ei donau, fel rheol, yw diffyg cyfoeth, defosiwn, ac urddas. Y mae yma ddiffyg amrywiaeth hefyd."

Yr oedd y llyfr hefyd i fod yn un cenedlaethol yn "y arddull Cymreig, ac yn llawn tân Cymroaidd." Ar y mater hwn eto, cymerai rhai cerddorion Cymreig eraill olwg wahanol. Ar hyn dywed Emlyn yn "Ỷ Cerddor":

"Nid condemnio naturioldeb a symlder ydym, ond yn hytrach o lawer eu cefnogi. Y mae gwahaniaeth dirfawr rhwng yr hyn sydd yn syml a naturiol, a'r hyn nad yw ond masw ac arwynebol; rhwng yr 'Hen Ganfed,' 'French,' ac 'Wyddgrug,' er enghraifft, a'r tonau diddim nad oes eisiau eu henwi, sydd yn gynwysedig o ychydig felysion wedi eu sefydlu ar gordiau y Tonydd, y Llywydd, a'r Is—lywydd; neu o ddilyniadau gwylltion nad ydynt na thôn, na chytgan, na chanig. Mae y wir dôn gynulleidfaol yn naturiol ei melodi, ei diweddebau a'i chynghanedd yn amrywiaethus a chyfoethog, a'r teimlad fydd yn rhedeg drwy yr oll yn ddefosiynol ac addolgar.

"Ein perigl ni yn awr . . . yw llithro'n ol, mynd i'r anialwch ar ol asynod gwylltion . . . Trueni fyddai i ni yn y dyddiau hyn ddadwneud yr hyn gyflawnwyd mewn cyfeiriadau diwygiadol gan ein rhagflaenwyr; os felly bydd, nid yn unig daw yr ysbryd drwg a daflwyd allan yn ol, ond daw â rhai eraill gwaeth gydag ef, a bydd ein sefyllfa yn fwy gresynus nag erioed."

Eto y mae adolygiad Emlyn ar y rhifyn cyntaf o'r Llyfr Tonau yn y "South Wales Daily News" yn ffafriol iawn—yn ddigon ffafriol i Parry ei drysori yn ei scrap-book.

Am donau Parry dywed Mr. Jenkins eto:

"Y mae yna donau rhagorol gan Dr. Parry, ond fod gormod o'r elfen faledaidd ynddynt, a'u bod yn rhy debyg i'w gilydd. Fel cynganeddwr alawaidd i'r holl leisiau yr oedd Parry yn ddiguro—gweler ei gynganeddiad o'r dôn "Alexander" a thonau eraill—mae yr holl rannau mor ganadwy (vocal) ac nid yn offerynnol, er hyn llithrodd i efelychiadau plentynnaidd Wm. Owen, Prysgol, etc." Alaw Ddu eto:

"A osodir gwin newydd (wel, nid newydd iawn) mewn hen gostrelau? Os gwneir, beth fydd y canlyniad? Cyfansoddodd y diweddar J. Ambrose Lloyd y dôn 'Wyddgrug' ar y cyntaf, yn yr arddull efelychiadol, catiog hwn; ond fel yr oedd addysg gerddorol yn ymeangu, a goleuni gwell yn tywynnu ar ein cenedl annwyl ni, ail— drefnodd hi, gan ei gwisgo mewn dillad newydd— cynghanedd syml, urddasol, a chyfoethog—ei diwyg bresennol yn llyfr Gwyllt."

Sieryd Mr. L. J. Roberts gyda mwy o gydymdeimlad : ac y mae ei sylwadau ar "Aberystwyth " yn gyfryw ag y rhaid i bawb gytuno â hwy:

"Nid oes neb o'n cyfansoddwyr wedi ei feddiannu yn fwy llwyr ag ysbryd yr hen donau Cymreig; anodd yn wir yw gwahaniaethu rhai o'i donau, o ran naws ac arddull, oddiwrth hen donau Cymreig sydd wedi treiglo i lawr o oes i oes. Y mae amryw o'i donau wedi dod mor gynefin i ni a'n bara beunyddiol. Nid oes un dôn—hyd yn oed ymysg ein hen alawon—yn fwy adnabyddus yng Nghymru na'i don fendigedig 'Aberystwyth.' Yn ei ffurf a'i harddull y mae hon yn gynllun o'r emyn—dôn ar ei goreu. Y mae'r alaw yn codi ac yn disgyn yn rhwydd ac yn syml, o ris i ris, heb un naid drwsgl; ac ni anurddir y gynghanedd gan un cord anghyffredin neu ddieithr. Sylwer mor syml yw y frawddeg gyntaf, ac fel y canlynir hi gan yr ail frawddeg fel rhyw gysgod iddi. Yna ail genir y frawddeg gyntaf, ac atebir hi gan linell hynod o syml a rhwydd. Ar ol hyn ceir amrywiaeth hapus daw drychfeddwl newydd yn y bumed linell, a rhoir pwylsais neilltuol arno drwy ganu yn y llinell nesaf yr un alaw dri nodyn yn uwch; ac ar ol cyrraedd teimlad angherddol yn y frawddeg nesaf terfynir yn syml a defosiynol gyda'r frawddeg ganwyd gyntaf yn y dôn. Gwelir yr un nodweddion yn y lleisiau eraill; a cheir rhyw swyn rhyfedd yn y dôn drwy yr ieuad cydnaws rhwng y melodi a'r gynghanedd. Anodd meddwl faint yw dylanwad Joseph Parry drwy y dôn hon yn unig fel ffynhonnell cysur ac hapusrwydd i filoedd o bobl : ddydd ar ol dydd, a nos ar ol nos, cyfyd ei halaw i'r nefoedd o wely unig cystudd, mewn lleoedd anghysbell fel mewn cynulleidfaoedd llawn, ymhob cwr o'r byd."

"Credai Parry," meddai Mr. David Lloyd, "lawer mewn teimlad. Ystyriai ef fel peth yn codi o ddyfnder natur dyn, ac nid fel peth arwynebol. Ysgrifennai gyda'r amcan o gynhyrfu y ffynhonnau dyfnion hyn, ac ychydig iawn o flas a gafael gaffai ar donau sychion, dideimlad. Cof gennym amdano yn arwain cymanfa ganu yn yr Albert Hall; ac fel y bydd rhaglenni cymanfaoedd canu yn gyffredin, yr oedd hon yn dra llawn o gynhyrchion lleol heb fawr o oleu na gwres ynddynt. Troai ddail y rhaglen yn ymchwilgar ond à golwg lled siomedig ar ei wyneb. Eithr yn y man wele y 'Delyn Aur' yn dod i'r golwg, ac fe newidiodd ei wedd. 'Yn awr,' meddai, dyma dôn Gymroaidd ei hansawdd a'i mynegiant, y fath ag a symuda enaid Cymro at y gwaith uchaf.' Cawd amser mawr wrth ei chanu. Yna meddai, Gallwn fyw am beth amser yn awr ar fare lai.' Credai Parry yn null yr hen Gymry o ganu fel y cynhyrfid hwy gan yr Ysbryd Glân yn y diwygiadau crefyddol."

Ni roddir y golygiadau hyn am y barnwn fod y naill na'r llall yn derfynol ar y mater; ond am eu bod yn rhai y rhaid i'r cerddor newydd eu hystyried a'u prisio, ac, o leiaf, yn dangos y dylanwadau oedd yn gweithio yn amgylchfyd Parry. Rhaid fod ynddo ogwydd cryf at yr arddull Cymreig, neu ynteu ganfyddiad a'i meistrolai o'i swyddogaeth a'i hawliau, cyn y buasai'n para am gynifer o flynyddoedd i'w feithrin, a hynny yn wyneb llif barn prif gerddorion ei wlad o'r Millsiaid i lawr.

Yr ydym wedi gweld eisoes iddo gymryd at ysgrifennu cerddoriaeth syml a chanadwy, yn ystod tymor Aberystwyth, er mwyn gwasanaethu'r bobl. Efallai nad oedd y cymhelliad hwn yn absennol o'i waith yn pleidio yr arddull hwn, nid am ei fod yn syml a melodaidd, ond am ei fod yn fwy sensuous, neu anianol, ac felly yn gyfrwng moliant mwy naturiol i'r rhai na sydd eto—fel ar adegau o ddeffroad—yn gallu canu â'r ysbryd. Efallai hefyd a hyn sydd fwyaf tebygol—nad oedd yna unrhyw gymhelliad yn dibynnu ar olygiad o fath yn y byd, dim ond greddf gerddorol, a gogwydd cryf wedi ei etifeddu oddiwrth ei fam, a'i feithrin ym more oes, ac efallai'n ddiweddarach yn 1859-60.

Bid a fynno am hynny, y mae eu lle i'r math yma ar donau ar lefel arbennig o brofiad ysbrydol, ac i fesur, ar bob lefel, er iddynt gael eu condemnio o gadair yr Undeb Cynulleidfaol Seisnig, a chan arm-chair musicians eraill. Y gwir yw, y dylasai y cerddorion a gyfansodda neu ynteu a feirniada donau y bobl, adael eu cadair freichiau'n amlach, a mynychu nid un math ar wasanaeth crefyddol—a hwnnw fel rheol yn un respectable ffurfiol, ac oer, ond pob math ar bob lefel, fel ag í brofi yr amrywiaeth dylanwadau sydd yn gweithio y tuallan i'w rhigol hwy.[20] Gwn am un athro llenyddiaeth yn yr Alban ag yr oedd ganddo wrthwynebiad i ddarllen ysgrifau yr efrydwyr ar wahanol faterion llên, am fod eu harddull clogyrnog hwy'n cyffredineiddio ei un perffeith-gwbl ef! Beth bynnag yw lle dandy fel yna yn y byd llenyddol, nid oes iddo le yn Nheyrnas Nefoedd, ac ni ddylasai fod iddo le ynglŷn â chyfansoddi tonau y Deyrnas.

Bid siwr, y mae yna beryglon amlwg ynglŷn â gwasanaeth o'r fath. Dywed Rowlands Llangeitho mai un o anawsterau ei fywyd ysbrydol oedd llawenhau heb fynd yn ysgafn "too far East is West." A theimlodd Parry yr un anhawster ynglŷn â'i gerddoriaeth. Diau iddo rai prydiau syrthio islaw safon yr hyn a elwir yn "urddas" y cysegr, er na olygai ef hynny. Mewn ysgrif y dyfynnwyd ohoni eisoes dywed "mai y deml o bob lle a deilynga y pur, y coeth, yr aruchel, a'r gelfyddyd uchaf," a chan ei fod hefyd yn bleidiol i'r "arddull Cymreig," y mae'n dilyn y barnai ef ei bod yn bosibl cael "y pur, y coeth, yr aruchel" y tu mewn i'r arddull hwnnw, hynny yw, mai cyfrwng mynegiant o fath gwahanol ydyw, ac nid o ansawdd is, o angenrheidrwydd.

Fe weddai i ni gofio hefyd, ei bod yn bosibl codi uwchlaw yr hyn a elwir yn "urddas," fel y mae'n bosibl syrthio islaw iddo yn fwy cywir, y mae yna urddas ac urddas. Fe ddaeth yr amser pryd yr oedd yna brotest yn angenrheidiol yn erbyn y tonau amrwd a chwerthinllyd oedd mewn bri yn ystod hanner gyntaf y ganrif ddiweddaf—protest a gafwyd yn nhonau a llyfrau tonau y Millsiaid, Ambrose Lloyd, ac Ieuan Gwyllt; eto y mae'n dra sicr fod yna lefel o addoliad yn bod sydd yn uwch na'r hon a eilw Alaw Ddu yr un "urddasol," neu ynteu lle y mae yr hyn a ddeallwn ni wrth "urddas" yn cael ei golli—nid mewn rhywbeth is ond mewn rhywbeth uwch. Y mae yna fath ar "lawenydd anhraethadwy a gogoneddus" yn bod sydd yn gadael "urddas" y gwasanaeth eglwysig arferol yn anfeidrol ar ol yng nghymdogaeth iseldiroedd y cnawd, fel peth rhy negyddol, a rhy stiff a di-waed i ddringo i'r bannau. Nid fod y moliant yn an—urddasol, ond ei fod uwchlaw y gategori honno'n gyfangwbl. Dywed Paul am ryw bethau "na enwer chwaith yn eich plith," am nad ydynt yn perthyn i'r byd newydd yn yr un modd nid lle i sôn am "urddas" yw tŷ y Tad pan ddaw'r mab afradlon adref, pan syrthia'r naill ar wddw'r llall, a phan " ddechreuant fod yn llawen." Chesterton, onide, sydd yn dywedyd fod Duw'n gallu chwerthin, ac y mae hyd yn oed Ysgotyn sych—athronyddol fel Fairburn yn sôn am y nefoedd fel yn llawn the music of multitudinous laughter and tears."

Cyfansoddai dôn bob Sul, ond dengys y dyddiadau wrth y tonau ei fod yn cyfansoddi rai prydiau'n amlach na hynny, fel pe byddai un dôn yn mynnu dwyn chwaer neu ddwy gyda hi; a gobeithiwn hefyd ei fod rai prydiau'n cyfansoddi'n anamlach na phob Sul. Fodd bynnag, gwelir ôl yr ymgais ar y tonau; y maent yn rhy debyg i'w gilydd, fel standardized goods. Ys dywed Alaw Ddu, peth rhwydd i un o allu Dr. Parry oedd cyfansoddi; peth arall yw cynhyrchu; rhaid i bethau byw gael eu geni, nid eu gwneuthur.

Er y sieryd yr Alaw braidd yn ddiystyrllyd hefyd am rai o anthemau Parry, y rhai oedd yn ffrwyth ymgais i roddi cyfryngau moliant syml a chanadwy i'r bobl; dywed yr Athro Jenkins am ei anthemau cyntaf: "Crewyd cyfnod newydd yn hanes cerddoriaeth gysegredig Cymru pan gyhoeddwyd y 'Chwech o Anthemau'; ac y mae Yr Arglwydd yw fy Mugail' yn em ddisglair, na lwyddodd un cyfansoddwr Seisnig, tramor, na Chymreig wneuthur cystal."

Yr oedd yn un o anianawd ddefosiynol, ond ar hyd rhodfeydd cerddorol yn bennaf yr ai ef i gyfarfod y Brenin. Dywed Mr. Lloyd y byddai'n aml yn tywallt ac yn sychu deigryn dan ddylanwad hwyliau Dr. Rees, a rhwydd gennym gredu y byddai hynny'n cyffwrdd ag ef, ac yn dwyn ei sylw'n gaeth. Ond fel rheol nid oedd yn wrandawr astud, yn ol tystiolaeth rhai a'i gwelai'n gyson, ac oherwydd eu diddordeb ynddo, a'i gwyliai yn ystod y gwasanaeth. Os na fyddai rhyw apel eithriadol at ei deimlad, byddai ei feddwl ef ymhell o dref, a dangosai ei absenoldeb drwy ganiatâu i'w law chwith flino a thynnu bys bach ei law dde, fel pe byddai'n ei ddwyn drwy ymarferiadau fel yr eiddo Schumann i geisio 'i wneuthur yn fwy, neu ynteu'n fwy hyblyg.

Er yr anogir ni i weddïo bob amser â phob rhyw weddi, yn ol barn rhai, nid prawf o'r defosiwn uchaf yw ei waith yn dwyn gweddi i mewn i gynifer o'i weithiau, megis Ar don o flaen gwyntoedd," "Y Pererinion," "Y Bradwyr," ""Y Bachgen Dewr," "Y Mynachod," "Cytgan y Derwyddon," "Cambria," "Ceridwen," a'r rhan fwyaf o'i brif weithiau; ac yn arbennig ei waith yn gwneuthur i'r dorf yng ngolygfa "yr Eisteddfod" yn Opera "Y Ferch o Gefn Ydfa" i ganu "Crugybar." Yn sicr, y mae ysgaru rhwng geiriau gweddi neu emyn a'u hamcan addoliadol, gan eu gwneuthur yn gwbl is—wasanaethgar i amcanion

dramayddol yn mynd â ni'n agos iawn at lygru llestri'r deml.

XVIII. "Virginia,' 'Nebuchadnezzar," "Arianwen."

ER cael ei fynych a'i gyson rwystro, ni pheidiodd Parry a rhoddi'r lle blaenaf i gyfansoddi. Mor gynnar a'r Ebrill cyntaf o'i drigias yn Abertawe, hysbysir ni "fod Ceiriog yn brysur wrth libretto newydd i opera, y gerddoriaeth gan Dr. Joseph Parry, ar y testun "Ladi Llyn y Fan." Ni ddywedir a oedd y cerddor wrth ei waith yntau ai peidio byddai ef yn aml o flaen y bardd. Ni wyddom beth ddaeth o'r ymgais hwn ni enwir yr opera ymysg ei weithiau.

Yng Nghorffennaf, 1883, perfformiwyd opera arall o'i eiddo dan yr enw 'Virginia" yn y Theatre Royal, Abertawe. Ysgrifennwyd y geiriau gan Major Jones: disgrifiant rai o arweddion Rhyfel Rhyddhau'r Oaethion yn yr Amerig. Opera fer ydyw, mewn tair act, a mwy ysgafn na "Blodwen." Y prif gymeriadau yw Virginia, Nell (ei morwyn), ac Edgar (ei chariad); nifer o swyddogion milwrol; colonel, major, captain, sergeant, corporal (Paffendorff, Almaenwr), judge advocote, gwleidydd, a pherson, ynghyda hen was o negro (Julius Caesar). Egyr yr act gyntaf yn nyffryn Shenandoah mewn cytgan gan y gwarchodlu milwrol pan ar gael ei newid:

Home and the countersign, love.

Dechreua'r ail o flaen y Swyddfa Rhyfel yn Washington, a'r drydedd ar faes y gwaed yn Virginia. Y mae plot yr opera yn troi o gylch carwriaeth Virginia ac Edgar, ac ymgais y Capten Bragg i'w hennill hi iddo ei hun drwy gyhuddo Edgar o encilio o'r fyddin, a'i ddwyn gerbron y llys milwrol. Arweinia hyn Virginia a Nell i weithio a gadael cartref (a gweddïo bid siwr) dros yr erlidiedig, a'r diwedd yw fod adran o'r fyddin o dan arweiniad Edgar yn gorchfygu byddin y De, ac yntau'n cael ei weld fel yr arwr ydyw.

Y mae mwy o ddoniolwch a "mynd" nag o art yn y geiriau. Yn yr ail act y mae'r gwleidydd a'r person yn troi i ddadleu â'i gilydd, ac fel hyn y'u disgrifir:

That's a sample of the fellows that brought about the war,—
Their tongues are set on swivels, their heads vesicular;
They prate of patriotism, but don't go near a fight,
Their trade is office—seeking, and nothing's ever right!


Gallwn gredu fod y "Quill-driving Chorus" yn y swyddfa rhyfel yn fywiog ar y geiriau :

Work work! early and late—
Such is our cruel, cruel fate;
Scribble, scribble, right or wrong,
Quotas and credit all day long.


Dywedir wrthym fod y gerddoriaeth yn llawn amrywiaeth a melodi'n dilyn melodi fel ag i swyno'r gwrandawyr. Gallai clust sylwgar" meddai un beirniad "gasglu fod cof yn gystal a dychymyg yn bresennol gyda'r cyfansoddwr yn ei funudau o ysbrydoliaeth—heb fod yna ddrwg-dybiaeth o ladrad, oblegid y mae'r cwbl yn eiddo iddo drwy greadigaeth neu driniaeth wahanredol."

Ni chyhoeddwyd mo'r opera hon, ac ni chlywsom iddi gael ei pherfformio wedyn—nid am na chyhoeddwyd mohoni, mae'n sicr, oblegid ni chyhoeddwyd "Arianwen," ac eto medrai'r awdur hysbysu yn 1896 ei bod wedi ei pherfformio gant o weithiau.

Yn ymyl rhyw waith ysgafn—yn foesol a cherddorol—arferai Parry, fel y sylwyd eisoes, roddi i'r cyhoedd waith trymach o ran cyfansoddiad a mwy dwys ei ansawdd. A hynny a gawn yn awr yn "Nebuchadnezzar," gyda "Virginia" y naill ochr, ac "Arianwen" yr ochr arall. Efallai fod hyn yn ddyledus i'w ddull o weithio, yn fwy nag i bolisi. Gŵyr pob gweithiwr meddyliol beth yw blino ar waith trwm, ac eto feddu digon o ynni i wneuthur gwaith ysgafn,—fel Gladstone a'i ddwy ffenestr. Cyfansoddai Parry ambell waith gyda rhuthr, ond ni fedr neb ddal hynny'n gyson; a chan nad oedd ganddo hobby arall, mae'n debyg, ond cerddoriaeth, a chan na fedrai fod yn llonydd, diau fod natur wedi dangos iddo y ffordd o orffwys mewn gwaith ysgafnach. O leiaf, perfformiwyd y tri gwaith hyn y tu mewn i ryw flwyddyn i'w gilydd.

Dechreuwyd cyfansoddi'r gantawd "Nebuchadnezzar" yn Aberystwyth, ond yn Abertawe y'i gorffennwyd. Pan yn cyfansoddi " Blodwen " dywedir wrthym fod Parry dan ddylanwad Rossini a Verdi, ond yn awr, ymddengys fod Wagner wedi diorseddu'r olaf i fesur yn ei olwg a'i astudiaeth. Mewn ysgrif o'i eiddo yn 1884, noda "Wagner, Gounod, a Schumann fel meysydd toreithiog i'w hefrydu yng nghyfoethogrwydd cynghanedd eu cynhyrchion. Dyma un o brif nodweddion y cyntaf yn arbennig, gan y ceir yn ei wybren gerddorol ef gymylau a phlanedau yn ogystal a mellt a tharanau ddigon i foddhau cywreinrwydd cynghaneddol yr efrydydd mwyaf uchelgeisiol, gan fod nodwedd cynhyrchion y dyn rhyfedd hwn yn bennaf yn lliwiad ei gynghanedd, ac offerynnau y gerddorfa." Nid rhyfedd felly fod argraff Wagner yn drwm ar "Nebuchadnezzar." Gwelsom eisoes i'r gantawd gael ei rhoddi yn Eisteddfod Lerpwl, 1884, gyda llwyddiant mawr, ac yn ddiweddarach yn Abertawe, ond pan roddwyd y gwaith yn nês ymlaen yn Llundain, yr oll a ddywed y "Times yw: "Os nad yw Cymru hyd yn hyn wedi cynhyrchu cyfansoddwr mawr, fe wnaeth y cantorion ddal i fyny y safle y mae'r dywysogaeth wedi ennill fel magwrfa lleisiau hyfryd."

Perfformiwyd "Arianwen" yn y Theatre Royal, Caerdydd, yn 1884. Profir iddi "gymryd" gan y ffaith iddi gael ei rhoddi yno wedyn yn 1890, gyda llwyddiant mwy fyth. Disgrifia'r opera fywyd y pentref Cymreig gan mlynedd yn ol. Ymysg y cymeriadau y mae dwy soprano, sef Arianwen merch hen bysgotwr Cymreig, Twm Sion Twm, a Nansi, merch i ffermwr; dwy contralto, sef Peggi Wyllt, gwrach yn byw mewn ogof, wedi ei siomi mewn cariad, ond yn byw i waith da, ac Elspeth (mam Arianwen); dau denor, sef Walter Mostyn, ar y cyntaf yn bysgotwr, ond yn troi allan yn Syr Robert Vychan, a Digri Gwyn, teiliwr teithiol, cymeriad comic yr opera; a dau fass, sef Twm Sion Twm, a Morgan Jones, ffermwr ieuanc o sefyllfa uwchlaw'r cyffredin, ond braidd yn wan yn ei ben. Y mae'r plot yn troi oddeutu ymgais Morgan Jones i ennill llaw Arianwen, tra y mae ei serch hi'n eiddo i Walter Mostyn.

Tra y mae difrifwch yn nodweddu "Blodwen" yn ei syniad a'i gweithiad allan, y mae "Arianwen" yn ddigri, ysmala, ac ysgafn. Y mae'r geiriau gan Dewi Môn yn ddoniol, ond gwna'r gerddoriaeth gyda'i phaent a'i phertrwydd hwy'n fwy doniol fyth. Proffwydai'r beirniaid fwy o boblogrwydd iddi nag i "Blodwen"; nid yw y broffwydoliaeth wedi ei rhoddi tan brawf hyd yn hyn, gan na chyhoeddwyd mohoni.[21] Y mae wedi ei pherfformio'n bennaf gan y Welsh National Opera Company dan arweinyddiaeth Mr. Mendelssohn Parry.

Dywedir ei bod yn werth gweld Dr. Parry'n arwain yr opera hon; yr oedd yn ei afiaith, ambell waith yn chwerthin yn iachus, a'i ysbryd yn cael ei gipio, fel bad ysgafn, gan lif y gân. Diau nad oedd hyn ond atgyn— hyrchiad o'r pleser a gafodd wrth ei chyfansoddi, wedi ei fwyhau, efallai, gan bresenoldeb a chydymdeimlad eraill. Os felly, hyfryd yw meddwl amdano, pan ar ddiffygio gan y daith, ei lludded maith, a'i llwch, yn gallu ymneilltuo i wrando "difyr ddyri dyfroedd arian" y melodion hyn, tra yr ai brydiau eraill gerllaw "dyfroedd tawel" y dôn, neu i lan y môr yn yr oratorio.

Yn 1903, dywed Mr. D. Jenkins i Dr. Parry gyfansoddi "Nebuchadnezzar" a "llawer" o "Saul o Tarsus" yn Aberystwyth. Tebyg iddo ysgrifennu braidd yn frysiog y pryd hwnnw, oblegid ddeng mlynedd yn ddiweddarach (1913) dywed i "rannau o Nebuchadnezzar" gael eu cyfansoddi yn Aberystwyth; ac yn 1914, i "Nebuchadnezzar " a "Saul" gael eu cyfansoddi yn Abertawe. Fodd bynnag, ni chyhoeddwyd mo "Saul" hyd 1892, er bod yr oratorio wedi ei gorffen cyn hynny, canys darllenwn yn y "Cerddor" am Awst, 1891, fod am Awst, 1891, fod "Dr. Parry wedi gwerthu ei oratorio ar delerau manteisiol i gyhoeddwyr Seisnig adnabyddus."

Ni adewai ei brif weithiau hyn—at ei weithgarwch arall—lawer o hamdden iddo i bethau llai, ac y mae ei "Virginia," "Nebuchadnezzar," "Arianwen" 159 hysbysebau o ganeuon, corawdau, etc. tra yn Abertawe, ar yr olwg gyntaf yn gamarweiniol. Gwneir ei "Book of Songs, er enghraifft, i fyny agos i gyd o ganeuon a gyhoeddwyd o'r blaen, neu ynteu rhai allan o "Blodwen" ac "Emmanuel." Y mae'n gynwysedig o bum rhan:

I.—"Cloch y Llan," "Yr Eos," "Y Milwr Dewr," "In dreams I saw a maiden fair."
II. "Wele y dyn," "O! chwi sy'n caru Duw," "O! dywed im', awel y nefoedd," "Rwy'n cofio'r adeg ddedwydd," "Yr Ehedydd."
III.—"Yr Ehedydd," "Fy Mlodwen, f'anwylyd, fy mhopeth," "Tra byddo yr helwyr," "Amcanai'r Tywysog wedi hyn," "Newydd! Newydd! Engyl frodyr."
IV.—"Yr Hen Ywen Werdd," "Gwraig y Morwr," "'Rwy'n cofio'r adeg ddedwydd," "Syr Hywel o'r Wyddfa," "Ai gwir, O! ai gwir."
V.—Rhyfelgan, Niagara," "Y Trên," "Gwraig y Morwr," "Ysbrydion y Dewrion."

Ymysg yr uchod ceir rhai o'r caneuon a ganai ef ei hun pan yn yr R.A.M., ond na chanai ei hunan mwyach. Ymddengys ei fod yn hyn fel ambell bregethwr poblogaidd a ferchyg ambell bregeth allan o wynt i fyny ac i lawr y wlad, ac yna a'i cyhoedda, gan ei gwneuthur felly'n foddion gras ac yn foddion pres fwy neu lai—mwy o'r olaf, a llai o'r blaenaf, efallai. O leiaf yr oedd gan Parry ganeuon eraill at ei wasanaeth ei hun yn awr. Yng nghyngerdd cyntaf y coleg yn Abertawe canwyd pedair ballad newydd o'i waith: "The Golden Grain," "The Telegraph Boy," "Swansea Bells," a "The Gates of old Carlisle"; ynghyd â thriawd, "The Village Blacksmith," ganddo ef neu ei ddisgyblion; ond ni hysbysebir rhain eto. Gwneir ei "Book of Duets "i fyny'n gwbl o ddeuawdau o "Blodwen " ac "Emmanuel," a'i "Gongregational Anthem Book," o'i anthemau adnabyddus, "Ar Lan Iorddonen ddofn," "Wele yr wyf yn sefyll, Wele yr wyf yn sefyll," "Mi a godaf aca af at fy Nhad," "Moliant i'r Iesu," " Ysbryd yw Duw," Yr Utgorn a gân," "Teilwng yw'r Oen," a Hiraethgan (Memorial Anthem).

Geilw sylw pwyllgorau eisteddfodol, etc. at ei gyfres gorawl (choral list) o chwe chorawd a deugain, yr hon a ranna i bedwar dosbarth: (1) yr hawdd; (2) y cymharol anodd; (3) yr anodd; (4) yr anodd iawn. Corawdau yw"r rhai hyn eto gan mwyaf o "Blodwen," "Emmanuel," a "Joseph." Yn y dosbarth cyntaf cawn yr wyth anthem uchod, ynghyd â "Molwch yr Arglwydd," ""Requiem"" (Ieuan Gwyllt), "Bydd Drugarog," "Loyal Hearts," "Reapers" Chorus," "Ddwy flwydd yn ol," "Nid myfi all esbonio," "Joseph a ganfu ei frodyr," "Molwch yr Arglwydd" (o "Joseph"), "Wele y Breuddwydiwr," "Myfi ydyw Joseph eich brawd," Mae"r haul yn machlud dros y bryn," "Taenwn flodau ar y galon," "Rhown fanerau ar y muriau." Yn yr ail ddosbarth ceir: "Yr Iôr, Efe sydd deyrn," "Er plygain amser," "Yr engyl fyrdd," "Llawenhaed y nefoedd," "Y Cynfab Tragwyddol," "Mor ogoneddus yw Dy waith," ac "Yn enw Harri ddewr, Cydganwn, I"r Gad! I"r Gad!" "Chwibanu rhyddion odlau," Cenwch y clychau," "Moliannwn y Nefoedd," a"r Rhyfelgan Gorawl, "Molawd i"r Haul," Nos-gân," "Hoff D"wysog Cymru gu." Yn y dosbarth anodd cawn "Cerddodd aethau drwy holl anian," "Fe gyfyd goleuni," "Disgynnai cawod ddychrynadwy," "Wele Eden, henffych iddi "; ac yn y dosbarth olaf, "Canwn ganiad newydd," "Fy Nuw cyfamodol" (double chorus), ac "O! Jerusalem" (double chorus). Cyfansoddwyd "Molwch yr Arglwydd" ar achlysur gwaredigaeth y glowyr yn Nyffryn Rhondda, 1877; y "Nosgan" ar gyfer Eisteddfod Eryri, 1879; a datganwyd "Molawd yr Haul" gan yr Eryri Choral Union ar ben yr Wyddfa, Awst 22, 1879. Darn newydd a hysbysebir yw "Cwch-gân" (Boat-song) i T.T.B.B. Yn y drydedd ran o "Delyn yr Ysgol Sul" eto ceir amryw gorawdau o "Joseph." Ni fedrwn lai na theimlo rhywbeth tebyg i'r push masnachol yn y dull hwn o gynnwys yr un darnau mewn gwahanol gasgliadau, ambell waith mewn cymaint a thri ohonynt. Beth sydd i gyfrif am hyn? Gwelsom yn nês yn ol fod Parry wedi mynd i ddyled ynglŷn â chyhoeddi "Blodwen "ac "Emmanuel"; a'r esboniad mwyaf naturiol yw ei fod yn gwneuthur pob ymdrech a fedrai i'w thalu. Gwir nad yw'n talu i gyhoeddi cerddoriaeth na llenyddiaeth yn aml yng Nghymru; eto os llwyddir i werthu digon y mae yn talu fel ymhob gwlad arall. O leiaf, nid yw'n hawdd gweld fod un rheswm arall dros frysio i roddi y drydedd ran o "Delyn yr Ysgol Sul" ar y farced drwy drosglwyddo iddi rannau helaeth o "Joseph."

Diau fod yna alw am ddarnau hawdd a byr o bob math. "Y mae galwad amlwg," meddai "Cronicl y Cerddor," "am ddarnau syml ond chwaethus, ac yn sicr dylai ein cyfansoddwyr ni ein hunain fod yn alluog i gynhyrchu yr hyn sydd eisiau, heb fod angen am fynd i na Lloegr nac America." Dyna'n ddiau pam y cychwynnodd "Gôr y Llan," sef "Cyfres Fisol o Ddarnau hawdd a byr, yn y ddau nodiant, gyda geiriau Cymraeg a Saesneg, at wasanaeth corau ieuainc ein gwlad." Daeth y rhifyn cyntaf allan yn 1883 yn cynnwys "Hen Glychau'r Llan," Rhangan ddisgrifiadol gan Dr. Parry.

Cartref, Penarth

XIX. Caerdydd.

Hunan-gofiant:

1888: Cwyd y llen i ddwyn gerbron olygfeydd eraill fy mywyd. Apwyntir fi'n ddarlithydd mewn cerddoriaeth yng Ngholeg Prifysgol Deheudir Cymru a Mynwy yng Nghaerdydd. Caf yma gylch ehangach eto o ddefnyddioldeb. Am dair blynedd arweiniaf y Cardiff Orchestral Society. Rhoddaf amryw ddarlithiau gerbron Cymdeithas y Cymrodorion ar amryw destunau cerddorol—y meistri, eu ffurfiau, eu harddulliau, a'u nodweddion.

GAN fod y lle a rydd Parry yn ei hunanfywgraffiad i'w gysylltiad ag Abertawe yn fach ac annigonol iawn, ychwanegwn a ganlyn o ysgrif o'i eiddo yn y "South Wales Weekly News," ar ei ymadawiad a'r dref:

"Y mae siwrnai bywyd yn un hir, ac i rai ohonom yn amrywiol a diorffwys iawn, llawn cyfnewidiadau sydd yn cario gyda hwy ddigwyddiadau beichiog o atgofion a lŷn wrthym drwy fywyd. Yn Abertawe cefais ran helaeth o bleserau, bendithion, a chyfeillion, sydd yn llonni a llanw'r galon â theimladau o fwynhad a diolchgarwch na fedr amser mo'u dileu'n hawdd-mewn cyngerdd, a chysegr, a dosbarth.

"Gobeithiaf i'm hymdrechion cyngherddol dueddu i'r cyfeiriad iawn o ddiwylliant cerddorol uchel. "Ac am y cysegr yn Ebenezer ac aelodau traserchus y côr, hyderaf yn gryf y bydd i'r oriau dedwydd lawer i ganu a chyd-offrymu ein moliant gael eu cofio'n hir gan yr aelodau, y côr, a minnau. Yr oedd cyfeillgarwch y côr a minnau'n gadwyn ddidor o gydsain felys a brawdoliaeth Gristnogol. Teimlaf fod yna resymau teg dros gredu i lawer o dda gael ei wneuthur drwy ddyrchafu cerddoriaeth ddefosiynnol o'r dosbarth uchaf yn y cysegr, a thrwy ein hymdrech i ddwyn yr anthem i'r gwasanaeth, fel ag i ehangu cylch cerddoriaeth gysegredig capeli ymneilltuol Cymru; canys arferem ganu anthem bob nos Sul drwy'r flwyddyn, gan roddi i'r math yma ar gerddoriaeth, a chanu yn y capel, yr holl oriau oedd gennym i ragbartoi, yn lle eu rhoddi i ymdrechfeydd cystadleuol, fel y mae arfer cymaint o gorau'n capeli.

Cofiaf, hefyd, am lawer o oriau hapus gyda'r efrydwyr yn y tŷ ac yn y gwahanol ddosbarthau, pryd y mwyn- haem ysbrydoliaeth nefol y prif feistri o bob ysgol a chened!, ac yr archwiliem eu gweithiau, a'u helfennu. Yn y ffordd hon arweinid meddyliau ieuainc yn raddol ond yn gyson i fyny at uchelfeydd eu celfyddyd.

"Caerdydd yw fy maes nesaf: hoffwn wybod am ba hyd."

Nid hawdd gweld beth barodd i Parry, ac efe yn awr yn ŵr hanner canmlwydd ymron, i adael Abertawe am Gaerdydd. Yr oedd wedi gwreiddio'n dra dwfn yno erbyn hyn, ac yn ymganghennu'n llydan dros derfynau'r dref. Heblaw'r ffyniant yn ei gylch addysgol, yr oedd. ganddo gymdeithas gorawl ddisgybledig a chyfarwydd erbyn hyn at ei wasanaeth. Nid mewn dydd na blwyddyn y gellir gwneuthur côr felly, ac wele ef yn awr, ar ol blynyddoedd o ymarfer a pherffeithio, yn ei adael. Ai tybed fod y swydd o ddarlithydd cerddorol yng Ngholeg Caerdydd, gyda thâl o £100 y flwyddyn, yn ddigon o atyniad? Neu ynteu a oedd unrhyw fath ar gysylltiad â Choleg Prifysgol, a'r math ar status sydd ynglŷn â hynny, yn werthfawr yn ei olwg? Yn sicr, nid oedd rhaid i Joseph wrth ffyn baglau felly.

Yn ei bapur o flaen yr Undeb Cynulleidfaol yn 1888, cyfeiria at "Gadair Gerddorol ymhob Coleg" fel un o amodau ffyniant cerddorol Cymru, a diau gennyf yr edrychai ef ar y swydd o ddarlithydd fel y cam cyntaf tuag at hynny.[22] Tra y bu ef yn athro yn Aberystwyth, ni fu eisiau iddo fynegi ei ddelfryd mewn cynifer o eiriau, gan y tybiai ei fod eisoes, a Chymru hefyd, ar linell ei sylweddoliad. Ond yn ei anerchiad cyntaf wrth gychwyn ei academi yno, cawn ef yn cyfeirio at goleg cerddorol i Gymru, a'r un modd wrth gychwyn ei goleg cerddorol yn Abertawe. Gwelsom hefyd yr ymgais a wnaed ganddo i osod y coleg hwn ar "sylfaen changach." Etholwyd pwyllgor ac is-bwyllgor i dreio dwyn hyn oddiamgylch. Y mae y teitl uwchben hanes un o'r cyfarfodydd hyn yn awgrymiadol nid "Musical College of Wales" mwyach, ond "Musical College for Wales." Yr oedd yna anhawster yn ddiau i wneuthur coleg cenedlaethol a choleg Dr. Parry'n un o'r ddau yr oedd yn llai posibl na'i Lyfr Tonau Cenedlaethol. Rhwydd gennym gredu felly ei fod yn edrych ar y swydd ddistadl yng Ngholeg Caerdydd fel drws agored, os bychan, i gyfeiriad ei ddelfryd-os llwybr troed ydoedd, addawai arwain i'r briffordd fawr. Am yr un rheswm nid ydym yn rhyfeddu iddo geisio am yr un swydd, pan sefydlwyd hi, yn 1883, oblegid y pryd hwnnw prin yr ydoedd wedi dechreu bwrw gwraidd yn naear Abertawe. Y mae hanes yr ymgais hwnnw'n boenus ddiddorol i ni yn hytrach ar gyfrif y camwri a wnaeth y Cyngor â dau o feibion glewaf Cymru yn ffafr un o genedl arall, na feddai gymwysterau cyfartal o lawer i'r eiddynt hwy. Y mac cynghorau colegau Cymru wedi bod yn euog o lawer anfadwaith—hollol gydwybodol wrth gwrsyn eu hamser, ond yn sicr ni wnaed dim mwy agored haerllug ac wyneb—galed na'r tro hwnnw. Allan o un ar ddeg o ymgeiswyr, gofynnwyd i bedwar, ac yn eu plith y ddau Gymro Dr. Joseph Parry a Mr. D. Jenkins, Mus. Bac., ymddangos o flaen y cyngor, ond un arall o'r pedwar, yr hwn a eilw "Cerddor y Cymry"" yr efrydydd Templeton a etholwyd. Yn y bleidlais olaf, cafodd Mr. Jenkins naw fôt, a Templeton ddeuddeg. Yr oedd yr olaf yn ysgolor, ac yn B.A. o Gaergrawnt, wedi bod yn astudio ryw gymaint o amser yn y Leipsic Conservatoire, ac yn awr yn athro yn Harrow. "Gwelir felly," meddai'r "Gronicl," "nad yw Mr. Templeton ar y goreu ond yr hyn a elwir yn amateur cerddorol, ac o'i gymharu â'r ddau Gymro ag oedd yn cyd—gystadlu ag ef, y mae'n beth i synnu ato iddo gael ei apwyntio. Ond dywedir ei fod yn ddyn o amgylchiadau da, ac am ei fod wedi cael cefnogaeth rhai personau neilltuol, ac eraill o ddylanwad, llwyddodd." Un o gyfeillion Arglwydd Aberdâr," meddai Mr. Jenkins wrth adrodd yr hanes.

Mr. Joseph Chamberlain, onide, a ddywedai nad yw mwyafrif aelodau pob pwyllgor fel rheol wedi cymryd trafferth i ffurfio syniadau pendant ar y materion sydd i'w trafod, ac nad ydynt o ganlyniad namyn cŵyr parod i dderbyn argraff barn y lleiafrif pendant a phenderfynol, neu ddeunydd hyblyg i'w drin a'i drafod a'i redeg i fold eu hamcanion hwy. Ar gyngor coleg peth rhwydd oedd i ddau neu dri o fedr a phenderfyniad wneuthur llawer o berthynas Mr. Templeton à Chaergrawnt, ac yna â Leipsic (y dyddiau hynny), a llawer—i gyfeiriad arall o brinder manteision addysg bore oes y gweithiwr haearn o Ferthyr a Danville. Nid yw cynghorau o'r fath uwchlaw taro islaw'r belt"—yn ddeheuig, wrth gwrs; ac y mae gennym le i gasglu fod awgrymiadau ac ensyniadau ynghylch cysylltiad Parry ag Aberystwyth, a'i lwyddiant fel athro'n cael eu gwneuthur. Yr oedd ef ei hun yn ymwybodol o hyn, a dyna'n ddiau paham y cafodd gan Brifathro Aberystwyth, a dau o aelodau'r cyngor (naill ai yn awr, neu ynteu yn 1888 ac 1896) i wneuthur cyfeiriad at hyn. Fel hyn y rhed tystysgrif Mr. Stephen Evans, cyn-drysorydd Coleg Aberystwyth:[23]

Llundain, E.C.,
Awst 28, 1883.

"Annwyl Dr. Parry,

Drwg gennyf na chynhaliwyd cyfarfod Cyngor Coleg Aberystwyth i'w gwneuthur yn bosibl i basio penderfyniad o'ch plaid fel ymgeisydd am y swydd o ddarlithydd cerddorol yng Nghaerdydd. Teimlaf yn sicr na fyddai unrhyw anhawster i sicrhau y fath benderfyniad. Yr wyf yn ofni hefyd y byddai teimlad o ledneisrwydd yn rhwystr i Arglwydd Aberdâr a Mr. Lewis Morris i uno â mi i roddi tystysgrif i chwi, gan eu bod yn aelodau o Gyngor Caerdydd. Dan yr amgylchiadau hyn, teimlaf nad yw allan o le i mi gymryd arnaf fy hun y cyfrifoldeb o fynegi i chwi deimladau ffafriol Cyngor Coleg Aberystwyth tuag atoch chwi. Gallaf ychwanegu i'r penderfyniad i beidio a pharhau yr adran gerddorol godi o ddiffyg arian, a bod gan y Cyngor, yn ystod y saith (pum) mlynedd y buoch chwi yn athro bob rheswm dros fod yn fodlon ar eich ynni, a'ch medr rhagorol fel cerddor, ac ar gynnydd llwyddiannus y myfyrwyr dan eich addysgiaeth. Yn bersonol, gallaf ddywedyd fy mod i, fel y rhan fwyaf o Gymry, wedi gwylio'ch cwrs fel artist a chyfansoddwr gyda diddordeb dwfn, a'm bod yn credu y gwna Cyngor Caerdydd adlewyrchu anrhydedd ar eu coleg drwy'ch apwyntio chwi i'r swydd yr ydych yn ymgeisydd amdani.

Yr eiddoch yn ffyddlon.
STEPHEN EVANS."

Beth bynnag, a phwy bynnag, oedd y tu cefn, yr oedd dewis estron o flaen dau Gymro a feddai ar gymwysterau gwell i'r swydd yn sarhad ar y genedl. Gesyd tystysgrif ei gyd-gerddorion Cymreig bwyslais neilltuol ar yr arwedd genedlaethol i'r mater.

Gwelir llawer o Parry, a'i anallu i ddewis a dethol, yn y cynghasgliad amrywiol o bersonau a gafodd i roddi tystysgrifau iddo. Ymddengys ei fod yn credu—os ffurfiodd farn ar y mater o gwbl—mai "trwy lu" yr oedd i orchfygu yng Nghaerdydd; oblegid tra yr ymddengys Mr. Jenkins fel capten catrawd fechan, ond trefnus ac effeithiol, y mae Parry fel arweinydd rabble—rabble respectable efallai—ond rabble serch hynny. Ai tybed ei fod yn credu fod Y.H., neu A.S., neu D.D. ar ol enw, neu Parch., neu Syr, a hyd yn oed Arglwydd o'i flaen yn rhoddi hawl i un i siarad ar gerddoriaeth? Ai ynteu credu yr oedd y byddai show fawr, os nad yn dychrynu, o leiaf yn taro dychymyg aelodau'r cyngor, fel yr hen laird Ysgotaidd hwnnw a ai i'r frwydr

With five-and-twenty men-at-arms,
And five-and-forty pipers.


Codwyd ei dad yn sŵn y stori am laniad y Ffrancod yn Abergwaun, ac efallai ei fod yntau wedi etifeddu'r gred y gwnaiff unrhyw hen wragedd mewn gwlanenni coch y tro i ddychrynu'r Ffrancody prif beth yw'r wlanen goch!

Ar ymddiswyddiad Mr. Templeton yn 1888 gwnaeth adran o'r cyngor ymgais i wneuthur i ffwrdd â'r swydd, yng nghysgod yr hen esgus cyfleus fod y cyllid yn isel, ac ymddangosai unwaith eu bod wedi llwyddo yn eu hamcan; ond cafwyd mewn ail ymgyrch fod y mwyafrif, dan arweiniad Mr. Alfred Thomas (Arglwydd Pontypridd), Dr. Saunders, ac eraill, o blaid y swydd, ac yn haf 1888 etholwyd Dr. Parry iddi. A chan ei fod yn awr dan adain y coleg, ac nad oes le i stŵr ym mhalas dysg, aeth yno heb na sŵn utgorn na sain cornet, na chwrdd croeso trefol, ac ymsefydlodd yn ei lawn waith fel darlithydd yn y coleg, ac yn fuan fel organnydd Ebenezer ar y Sul, ac fel meistr y "South Wales School of Music" ac arweinydd yr "Orchestral Society." Gwelwn fod cylchoedd ei weithgarwch agos yr un ag yn Abertawe, yn unig fod Coleg y Brifysgol yn cymryd lle ei goleg cerddorol ei hun yn y bore, a'r Orchestral Society" eiddo y "Choral Festival Society."

Yr oedd gwaith Coleg y Brifysgol mewn cerddoriaeth y pryd hwnnw'n ysgafn iawn—rhyw bum awr yr wythnos, hyd y gwelaf yn ol yr adroddiad, a'r rheiny'n gyfyngedig i ddyddiau Iau a Gwener. Yn ddiweddarach, ynglŷn â'r graddau cerddorol, trymhaodd y gwaith yn fawr, fel y dengys adroddiad y Coleg.

Heblaw gwaith Coleg y Brifysgol, sefydlodd ef a Mr. Mendelssohn Parry ysgol eu hunain dan yr enw Ysgol Gerddorol y De, a'i thrigfan leol yn y Beethoven Chambers, ar gyfer y Coleg, ac yn ei "Gartref" ym Mhenarth.

Ym Mai, 1889, dewiswyd ef yn arweinydd yr "Orchestral Society" yng Nghaerdydd, swydd a ddaliodd hyd 1892, pan fu farw ei fab ieuengaf, Willie. Dan ei arweinyddiaeth ef, bu'r gymdeithas yn dra llewyrchus, enillodd wobrwyon pwysig yn y prif eisteddfodau (Porthcawl, Aberhonddu, Abertawe,[24] etc.), a bu'r cyngherddau blynyddol, yn y rhai y canai Mesdames Patti, Albani, a Nordica, yn eithriadol lwyddiannus ymhob ystyr.

Ymgymysgodd â bywyd Cymreig ac ymneilltuol y dref yn fuan. Cyn diwedd 1888, cawn ef yn traddodi ei ddarlith ar y prif feistri, gydag eglurebau cerddorol, ger bron y Cymrodorion. Wener y Groglith, 1889, efe oedd arweinydd cymanfa ganu'r Methodistiaid, at yr hon y cyfeirir yn nês ymlaen. Ynddi awgrymodd y dymunoldeb o gael sasiwn ganu undebol—hedyn gafodd ddaear i dyfu ynddi yn y ddinas. Ychydig yn ddiweddarach bu'n arwain cymanfa ganu'r Annibynwyr yno; tra yn niwedd Mai, rhoddodd Undeb Corawl Ebenezer ddatganiad o'r gantawd "Joseph" yn y Park Hall.

Nid hir y bu ei boblogrwydd cyn ennyn cenfigen rhywrai. Gwnawd ymosodiadau bryntion a dialw—amdanynt arno ym mhapurau Caerdydd. Condemniwyd ei gantawd a'r datganiad ohoni; ac yr oedd yn rhaid i ryw ohebydd sarrug lusgo ffrwydriad o'i eiddo yn eisteddfod Towyn i un o bapurau ei dref ei hun, dan y teit! "Y Beirniad mwyaf anffodus yng Nghymru" mewn llythrennau mor fras a'r rhagfarn y tu cefn. Yn lle dyfynnu'r pethau maleisus hyn, da gennym allu cyflwyno hanes awdurdodedig a theg o'i gysylltiad ag Ebenezer, Caerdydd, gan Mr. Gronow, i'r darllenydd:

DR. JOSEPH PARRY YN ORGANNYDD EBENEZER, CAERDYDD.

"Pan ddaeth Dr. Parry i Gaerdydd fel athro mewn cerddoriaeth i Goleg y Brifysgol, yr oedd rhamant o gylch ei enw a'i bersonoliaeth fel un o gerddorion mwyaf Cymru, os nad y mwyaf oll. Ac nid hir y bu yn y dref cyn i eglwys Ebenezer feddwl am ei gael fel organnydd ac arweinydd canu.

"Hyd yma nid oeddis wedi talu i neb am chwarae yr harmonium, a phan soniwyd gyntaf am roddi cyflog am y gwaith hwn, bu cryn lawer o siarad cryf, ac o feirniadu llym gan rai o'r hen frodyr piwritanaidd. Ond gan fod yr elfen ieuanc a radicalaidd yn yr eglwys wedi gosod eu bryd ar Dr. Parry, penderfynwyd gyda mwyafrif mawr i ofyn iddo gymryd at ei waith, a chychwynnodd fel organnydd yn nechreu Rhagfyr, 1888. Wrth feddwl am ei safle uchel fel cerddor, nid oedd deugain punt o gyflog yn un fawr iawn, ond o'r ochr arall pan gofiwn nad oedd yn bresennol ond mewn un cyfarfod ar y Sul, ac yn danfon ei fab Mendelssohn yn ei le y rhan arall, yr oedd yn gyflog rhesymol, yn enwedig pan ystyriwn mai experiment oedd, cyn belled ag oedd yr eglwys yn y cwestiwn.

"Pan gymerodd Dr. Parry at yr harmonium, yr oedd Ebenezer heb weinidog, canys yr oedd y Parch. J. Alun Roberts, B.D. newydd roddi yr eglwys i fyny ym mis Hydref, er galar mawr i'r holl frawdoliaeth.

"I ddathlu ei ddyfodiad i'n plith, gwnaeth y chwiorydd dê croeso i'r Pencerdd, na fuasai ei debyg yn y lle hyd hynny, a thaflwyd brwdfrydedd a gweithgarwch eithriadol i'r holl amgylchiadau.

"Cyn gynted ag y cymerodd ei le fel arweinydd y gân, cafwyd gwelliant sylweddol yn y canu, ac yn fuan iawn ad-drefnwyd a chafwyd ychwanegiad mawr at y côr. Yn naturiol ddigon yr oedd amryw o ddisgyblion y Doctor (y rhai a dderbyniai eu haddysg gerddorol ganddo yn y Coleg) yn dyfod i'r cyfarfodydd ar y Sul, ac yn cynorthwyo gyda'r gerddoriaeth.

Blin gennym ddywedyd mai dim ond blwyddyn yr arosodd yn ei swydd, am y rheswm ei fod yn teimlo gwaith y Sul yn mynd yn feichus, ac fel y dengys y llythyr canlynol, ei fod yn dechreu sylweddoli nad oedd mor ieuanc ag a fu.

"Cartref,'
23, Plymouth Road,
Penarth, Cardiff,
11th Sept., '89.

"Dear Mr Gronow

I did not reply to your letter, because I was seriously thinking of resigning my post as organist and choir master at Ebenezer Chapel. I have now done so, having sent my resignation to Mr. Rees. I find my Sunday's work is really too much a strain upon me, and I also find that I cannot now do what I could twenty years ago. I am very sorry to do this, as I have derived much pleasure from the chapel, especially so from the choir during my connection with them.

I beg to remain,

Cordially yours,
(Signed), JOSEPH PARRY."

Pan ddeellwyd ei fod yn ymddiswyddo o ddifri' yr oedd gofid mawr ymhlith y cantorion yn arbennig, ac hefyd ymysg gweddill yr eglwys.

"Yn ystod tymor byr ei arweinyddiaeth, rhoddodd y côr ddatganiad canmoladwy o'r gantawd 'Joseph' yn y Park Hall, a gwnaed elw i'r eglwys o dros wyth bunt ar hugain.

Wrth fwrw golwg yn ol dros ddeuddeng mlynedd ar hugain, anodd mesur ei ddylanwad, a datgan barn oleuedig am ei gymeriad. Gellir meddwl amdano yn naturiol o dan yr adrannau (a) cyfansoddwr, (b) organnydd, (c) arweinydd, ond nid fy nhiriogaeth i ydyw ceisio gwneuthur hynny yn ffurfiol, pe medrwn. Carwn er hynny daflu fy nghyfran (er mor ddistadl ydyw) i'r drysorfa,

"Ni cheisiaf ddywedyd dim amdano fel cyfansoddwr, ond yn unig hyn y mae rhywbeth yn ei gerddoriaeth sydd yn gafaelyd yn ddifeth yn ysbryd ac anianawd y Cymro, ac y mae y ffaith fod ei dôn 'Aberystwyth' wedi cael ei chipio bron yn gyfangwbl gan y Saeson, yn profi ei fod wedi treiddio i galon y Sais hefyd.

"Fel organnydd yr oedd yn effeithiol iawn. Un peth nodweddiadol ohono oedd y rhannau offerynnol a chwareuai rhwng penhillion yr emyn. Rhoddai hyn awgrym i'r côr sut i ganu y pennill dilynol o hyd, ac yr oedd yn dra chynorthwyol. Wrth ganu yr emyn 'Yn y llwch, Waredwr hael' deuai y nodwedd yma i'r golwg yn arbennig iawn. Ni fentraf ei gymharu ag organyddion eraill (gwaith rhywun profiadol yw hynny), ond gwn ei fod yn gallu taflu rhyw nwyf ac ysbrydiaeth rhyfedd i'r canu trwy gyfrwng offeryn digon gwael, a thynnu allan ohono bob nodyn o gerddoriaeth er cynorthwyo mawl y gynulleidfa. Y peth cyntaf a ddywedodd wrthym yn Ebenezer oedd, y dylem gael pipe organ tu ol i'r pulpud, ond nid am ryw ddwy flynedd ar ol hynny y daeth hynny i ben.

"Un nos Sul, yr oedd ei drên o Benarth yn ddiweddar, a phan ddaeth y Doctor i mewn, yr oeddym yn canu yr emyn agoriadol heb yr organ. Cymerodd ei le yn dawel wrth yr offeryn cyn i ni orffen y pennill cyntaf. Gosododd ei glust wrth y nodau, ac fe ddaeth o hyd i'r cyweimod y canem ynddo, a daeth yr organ i mewn gyda'r ail bennill mor naturiol nes synnu pawb, yn enwedig y rhai na wyddai ei fod wedi cyrraedd.

"Bryd arall, yr oedd yn arwain cymanfa yr Annibynwyr yn Wood Street yn y flwyddyn 1889. Yr oedd gennym fel cyfeilydd y diwrnod hwnnw, fachgen ieuanc a ystyrrid yn organnydd da iawn. Yr oedd tôn o waith Dr. Parry ei hun, 'Ebenezer,' i'w chanu yng nghyfarfod yr hwyr, a phan ddeuwyd at hon, chwareuodd yr organnydd y ddwy linell gyntaf cyn dechreu canu fel arfer. Nid oedd hyn yn boddio y Doctor, ac amneidiodd i'r organnydd dynnu allan ragor o'r stops. Gwnaeth yntau felly, a chwareuodd drachefn. Nid oedd hyn eto yn gwneuthur y tro, ac aeth ein gwron ei hun at yr offeryn, a chan arwain y cantorion â'i ben, chwareuodd yn y fath fodd nes peri i ni feddwl mai organ arall, fwy a gogoneddusach, oedd.

Fel arweinydd, teimlaf mai anwastad oedd yn ei gyflawniadau. Yr oedd ar rai adegau yn ddiflas iawn, ond ar brydiau eraill byddai fel pe yn ysbrydoledig. Yr oedd bob amser yn dueddol i fod yn ddiamynedd, ond credaf fod hyn yn nodweddiadol o wir athrylith. Cofiaf yn dda i ni geisio dysgu ei anthem goffawdwriaethol i'r Gohebydd,' a chymryd mwy o amser nag a dybiai ef oedd eisiau. Disgwyliai i ni ganu y cyfansoddiad prydferth bron ar yr olwg gyntaf, ond nid oedd ein galluoedd fel côr i fyny â'i ddisgwyliad, a'r canlyniad fu i ni roddi yr anthem o'r neilltu.

"Gwelsom ef felly hefyd gyda'r Philharmonic Society yn y Coleg, a phan y byddai y diweddar annwyl Tom Stephens yn ein harwain, gwnaed llawer mwy o waith yn y rehearsal. Am resymau tebyg i hyn yn ddiameu, dywedid yn aml y byddai yn llawer gwell er mwyn gweithiau Dr. Parry pe ceid rhywun arall i'w harwain. Efallai fod hyn yn wir mewn rhan. Ond cofiaf ef yn gwneuthur gwrhydri ar adegau eraill. Ar y Groglith, 1889, yr oedd yn arwain cymanfa y Methodistiaid yng nghapel Pembroke Terrace, Caerdydd, ac yr oedd mewn hwyl nodedig o hapus. Mewn gair, yr oedd awyrgylch y gymanfa trwy'r dydd yn hynod o ffafriol i addoli. Yr oedd y canu yn dda iawn i gyd, ond cyrhaeddwyd y climax wrth ddatganu y dôn 'Gethsemane' (Schop) ar y geiriau Saesneg, 'Rock of Ages, cleft for me.' Ni chlywais gystal canu erioed, ac nid wyf yn disgwyl clywed ei well yn y byd hwn. Erys y canu hwnnw yn fy nghof ac yn fy enaid dros byth, mi dybiaf, ac y mae ers blynyddoedd wedi mynd yn rhan o'm profiad dyfnaf. "Er siomedigaeth fawr, rhoddodd yr hybarch Ddoctor y gwaith yn Ebenezer i fyny bron gyda dechreu, ond gadawodd ei ôl ar y canu cynulleidfaol am ysbaid hir. Heddwch i'w lwch, ym mynwent Penarth, hyd fore'r codi.

E. R. GRONOW."

XX. Storm Biwritanaidd.

NID anaml y cymherir un sy'n hoff o gweryl a gornest i stormy petrel—yr hyn sy'n gam â'r aderyn, ac â'r storm. Y mae rhywbeth sy'n aruchel ac aruthr mewn storm; a phan ddarllenwn am Faraday'n mynd filltiroedd i weld storm daranau, neu am Beethoven yn mwynhau'r mellt a dychmygu'r daran, gwelwn fod yna swyn iddynt hwy mewn gallu a'u codai allan o'u myfiaeth gyfyng eu hunain i'w arucheledd a'i alluowgrwydd ei hun—yr oeddynt hwy'n hoff o'r storm am ei bod yn ateb i ryw arucheledd ynddynt hwy, er mai ei dilyn a wnaent, nid ei rhagfynegi fel y petrel. Ond pan elwir un fel Fred Burnaby, a ai ar draws cyfandir i geisio rhyfel a thywallt gwaed, neu ambell un arall a fynycha feysydd llai gwaedlyd ond nid llai cynhenllyd, yn stormy petrel, y mae hynny, meddwn, yn sarhad ar y storm a'r aderyn.

Ond os caniatawn am y foment fod y ffugr o storm yn gweddu i gweryl a chynnen, ymosod ac erlid, ac os cofiwn mai cael ei ddilyn gan y storm mae'r petrel, yna gallwn alw Joseph Parry'n stormy petrel, gan ei fod, er o ran anian a hoffter yn fab tangnefedd, yn un diniwed ac anymladdgar, eto'n cael ei amgylchynu o'r tu ol a'r tu blaen gan wregys o gwerylon; ar ei waethaf, yr oedd braidd yn gyson mewn rhyw gythrwfl neu'i gilydd. Yr oedd hyn yn ddyledus, rai prydiau, i lif awen; brydiau eraill i'w fyfïaeth; ond byth i'w hoffter ef o dinc cleddyfau.

Ar un olwg y mae'n beth syn i Biwritaniaeth yr oes ohirio'i phrotest mor hir, a'i bod yn rhaid iddo fynd i Gaerdydd cyn i hynny ddigwydd Hyd lannau Teifi, a'r ardaloedd cylchynol yn siroedd Aberteifi a Chaerfyrddin, nid wyf yn cofio cymaint a murmur yn erbyn chwarae "Blodwen " yn ystod cyfnod Aberystwyth; ac yn ddiweddarach yn Abertawe, yn ol Mr. D. Lloyd, ai y bobl yn lluoedd i'w gweld a'i gwrando, ar waethaf rhyw gymaint o ragfarn "yn erbyn chwarae ar ddull y chwareudy." Torrodd y "storm", allan yng Nghaerdydd ynglŷn â pherfformio "Blodwen" ac "Arianwen" yn y chwareudy, yn bennaf drwy enau y Parch. F. C. Spurr, yr hwn a wnaeth brotest gyhoeddus yn erbyn y peth un nos Sul. "Nid wyf," meddai, "yn beirniadu Dr. Parry na'i operäu. Ond yr wyf yn enw Duw yn gwneuthur protest ddifrifol ac angherddol yn erbyn yr holl fusnes." Y mae ei brotest gyntaf fel y rhoddir hi yn y papurau braidd yn amhenodol, gan y dywed nad oes ganddo wrthwynebiad i'r operäu fel y cyfryw; ond ymddengys yn ddiweddarach fod y perfformwyr yn aelodau eglwysig—"genod yn hoff o ganu" o'r gwahanol enwadau, merch i weinidog annibynnol, merch i glerigwr, merched blaenoriaid Methodistaidd, etc., a bod ei brif wrthwynebiad i berthynas y rheiny â'r chwareudy, ei awyrgylch a'i gysylltiadau, Bu ysgrifennu lawer yn y papurau ar y mater, ac ymddangosodd y ddau eithafion, fel arfer: y naill yn cymeradwyo cicio'r bêl droed, etc. ar y Sul, a'r llall yn condemnio dyganu (chanting) yn y gwasanaeth! Cynrychiolir y "golden mean" gan un o olygyddion y "Cerddor": "Tra nad wyf yn credu fod unrhyw un a ddygwyd i fyny yn awyrgylch foesol a chrefyddol Cymru yn debyg o gefnogi'r gŵr parchedig na wel wrthwynebiad i chwarae'r bel droed, cricket, etc. ar y Saboth; y mae yn sicr, lawer ohonom na ânt i eithafion gwrthgyferbyniol y boneddwr a noda ddyganiaeth, cantodau, operäu, operetau, etc. fel rhai o brif ddrygau'r oes. Ni allaf ddyfalu ar ba dir y condemnir y flaenaf; am y rhelyw y mae cantodau a chantodau, operäu ac operäu, etc.; ac os condemnir y ddygan a'r gantawd, paham lai hefyd na wneir yr anthem a'r dôn, y cymanfaoedd canu, a cherddoriaeth yn hollol?

"Ynglŷn â pherfformiadau o'r opera mewn chwareudai y mae cryn lawer i'w ddywedyd o du y gwrthwynebwyr, gan y daw y cysylltiadau' i mewn yma eto; ni allwn gau ein llygaid i'r ffaith fod awyrgylch moesol ein mân chwareudai, a chymeriadau isel llawer o'r mynychwyr, yn gyfryw ag na allant effeithio'n ddaionus ar fechgyn a merched ieuainc dibrofiad yn ffyrdd y byd. Yn yr hwrli-bwrli presennol mewn cysylltiad â pherfformiad diweddar rhai operäu Cymreig rhaid i mi ddatgan fy marn fod cryn dipyn o ffoledd wedi ei ddywedyd a'i ysgrifennu o'r ddau du; ond credaf mai nid drwy fynd i eithafion y gwna ein blaenoriaid crefyddol wasanaethu oreu yr achos sydd yn ddiau yn agos at eu calonnau, ond drwy gymryd sylw o dueddiadau'r oes, a'u cyfarfod drwy foddion doeth. Pe cefnogid cerddoriaeth y cysegr mewn ysbryd hael yn lle ei phrin oddef, a phe, er esiampl, y ceid datganiadau teilwng o weithiau teilwng yn ein haddoldai, mewn ffurf o wasanaeth crefyddol yn achlysurol, teimlaf yn gryf na fyddai yr ieuenctid mor chwannog i fynd i wrando seindorf ar y Sul, nac i fynd i chwareudy yn yr wythnos.

Rhaid dechreu gartref hefyd, a chofio am gysondeb; nid gwiw collfarnu cantodau, a gwrando'n ddigon boddus ar ganeuon iselwael yn ein capeli; na chondemnio mynd i'r chwareudy, tra ar yr un pryd yn caniatâu afreoleidd-dra yn ein tai o addoliad mewn cysylltiad â chyngherddau, eisteddfodau, a chyfarfodydd eraill, na oddefid mewn unrhyw chwareudy trefnus."

Rhydd Mr. Seward, gweinidog annibynnol yng Nghaerdydd, mewn ateb call a chryf, ei fys ar wendid y chwareudy a Phiwritaniaeth. Wedi cyffesu nad oedd ganddo ef ei hun amser i fynd i chwareudy, dywed—gydag Aristotle—fod yna duedd yn awyrgylch y sefydliad i ddatblygu archwaeth at y coeg, yr arwynebol, a'r gwagsaw, i'r Piwritaniaid ei gollfarnu oherwydd ei lygredd wedi'r Adferiad (Restoration), ac i'r dramodwyr dalu'r pwyth yn ol yn eu gwawdluniaeth. "Ond," meddai, "nid yw yn Gristnogol i dynnu llinell na fedr dylanwadau crefyddol ei chroesi. Fy ymgais i yw plannu egwyddorion da i fod yn amddiffyn rhag y llygredd sydd yn y byd yn hytrach nac ymosod ar sefydliadau."

Y mae'n ddiffyg canolog mewn Piwritaniaeth ei bod yn gwneuthur i "burdeb" ddibynnu ar "dynnu llinell " rhwng pethau a phethau, yn hytrach nag ar egwyddor fewnol a'n galluoga i ymwneud â phopeth yn ei le; ac ar yr ochr hon perthyn yn agosach i Iddewaeth nac i Gristnogaeth. Fe gymerodd gryn amser i Paul a Phedr i weld nad yw un creadur a wnaeth Duw yn aflan, ac nid yw Piwritaniaeth gul yn gweld hynny eto. Cynnwys crefydd iddi hi yw ymwneud â phethau crefyddol, nid ymwneud â phopeth, yn yr ysbryd fawn—rhoddi i bopeth ei le ei hun. Nid oedd y pregethwr hwnnw ymhell o'i le, a ddywedai wrth y "brodyr" fod y bechgyn a giciai'r bel droed yn y cae y tu allan i'r capel, gan reoli eu tymer, a hunanymwadu a chydweithredu, yn well Cristnogion na hwynthwy na fedrent drin materion crefydd heb dymer ddrwg a chweryl cyson. Y mae'n ffaith awgrymiadol i'r gweinidogion Cymreig fel corff gymryd ochr Parry—nid am eu bod yn Gymry, nac ychwaith, mi gredaf, am nad oes digon o chwareudai yng Nghymru i gynhyrchu teimlad yn eu herbyn, ond yn hytrach am fod gwirionedd yr Efengyl wedi gloywi golygon y Cymro, tae faint mae wedi gyfnewid ar ei galon—tra y mae y Sais yn para'n fwy o Iddew. Bid sicr, y mae yna lu o bobl y " mynydd hwn a Jerusalem yng Nghymru rhai a gyfrif lawer o'r ddaear sydd y cwbl ohoni'n llawn o'i ogoniant Ef" yn ddiofryd. Gwyddom am rai a gondemnia fynd i gyngerdd! Ni welant mai nid duwioldeb mo hyn, sy'n gyfystyr å dywedyd wrth Dduw, "ni ddylaset fod wedi gwneuthur y creadur hwn"; nac ychwaith mai'r peth logical iddynt hwy yw cau pob da naturiol (yn feddyliol a chorfforol) allan o'u bywyd—barddoniaeth, gwyddoniaeth, hanesiaeth, busnes, priodas, a hyd yn oed bwyd a diod—a chyflawni hunanladdiad!

Ar y llaw arall rhaid i ni gofio mai nid gwaith arbennig yr Eglwys yw bod yn fagwrfa i'r buddiannau llai; ond canolbwyntio ar yr ysbrydol a'r moesol, fel ag i droi allan ddynion fyddo'n alluog i drafod y buddiannau llai yn ol eu lle a'u gwerth cymharol. Ein perigl ni y dyddiau hyn, efallai, yw i'r pethau llai gymryd lle y prif amcan, nid yn unig mewn bywyd, ond hefyd yn yr Eglwys.

Ni welsom i Parry gymryd rhan yn nadleuon y pleidiau gwrthwynebol o gwbl yn fwy na brysio i gyhoeddi "Saul o Tarsus"! Ond cawn iddo roddi sylw—drwy ohebydd a ddaeth i'w weld ar y mater—i ymosodiad arall a wnaethpwyd arno mewn perthynas â'r un operäu.

Bu y perfformiadau yn 1890 yn eithriadol lwyddiannus, y chwareudy dan sang, y canwyr yn eu hwyliau goreu, a'r brwdfrydedd mor fawr fel ag i fod yn fwy o rwystr nag o help ymron. Cariwyd Parry i ffwrdd gan y llif, a phan ymddangosodd ar gais y dorf ar y diwedd, yr oedd yn orchfygedig gan ei deimladau. Ymhlith pethau eraill dywedodd yr arhosai'r wythnos honno byth yn ei gof. a'i fod yn ei chyfrif yn ddechreu cyfnod newydd yn hanes cerddoriaeth Cymru, na chai ef, efallai, mo'i weld yn ei anterth; ei fod ef wedi hir gredu ym mhosibilrwydd ysgol o gerddoriaeth nodweddiadol Gymreig, ac y profai y genedl yn y dyfodol ei bod yn meddu greddf gerddorol a dramayddol arbennig.

Ar bwys hyn, gofynnodd gohebydd cerddorol y "Western Mail" (dan yr enw "Zetus") mewn ysgrif ymosodol, sut na fuasai wedi meddwl am hyn pan gyhoeddwyd "Blodwen" bymtheng mlynedd yn flaenorol (deuddeng mlynedd fyddai'n gywir); ac aeth ymlaen i gyhuddo Dr. Parry o gerdd—ladrad, gan nad oedd Cytgan yr Helwyr," a'r "Dead March" yn gwneuthur dim ond atgynhyrchu rhannau o Rossini. Drwy enau y gohebydd gofynna Dr. Parry i "Zetus" ddatguddio ei hun a'i gred—lythyrau, pa beth a gynhyrchodd, pa ddiploma a feddai? yr hyn a'i gesyd yn agored i'r ateb nad oedd y prif feirniad Seisnig, Joseph Bennett, wedi cynhyrchu dim, ac nad oedd y prif gerddorion Seisnig yn meddu ar deitl o fath yn y byd! Am y gytgan, maentumia Parry mai dim ond y corn sydd yr un gan y ddau awdur, ac mai dim ond ym mrawddeg gyntaf y "Dead March" y mae tebygrwydd. Ymddengys na wyddai "Zetus" am y ddeuawd Eidalaidd ag y mae "Mae Cymru'n barod" yn "rhy debyg" iddi.

Ynglŷn â'r mater hwn dyma ddywed Dr. Protheroe: "Weithiau nid oedd yn orofalus am wreiddioldeb. Fe gafodd lawer o'i feirniadu am hyn. Yr oedd ganddo gof ardderchog—ac ar adegau fe fyddai rhywbeth a chwareuai ar yr organ neu y piano—yn suddo i mewn i'w gof, ac yn aros yno yng nghudd am dymor, ac yna yn dod i'r golwg yn sydyn—fel eiddo iddo ef. Dywedodd wrthyf un tro am ddyddiau ei astudiaeth gyda John Abel Jones a John Price, yn Danville. Yr oedd y cyntaf a chanddo grap go lew ar elfennau gwrthbwynt, a rhoddai wersi yn y gangen honno i'r cerddor bach pybyr oedd wedi newydd ddod i Danville o Ferthyr. Fel un o'i wersi fe ysgrifennodd ehetgan, ac aeth â hi yn llawn hwyl ac asbri at ei athro. Pan welodd hwnnw hi—gofynnodd i Parry paham yr oedd wedi gosod testun o eiddo Cherubini fel un gwreiddiol. Atebodd yntau nad oedd wedi gweld dim o eiddo Cherubini erioed, a bod y testun yn eiddo iddo ef. Ar hynny, dyma'r athro yn dangos iddo gorawd o eiddo'r Ffrancwr enwog. Ymhen rhai dyddiau fe gofiodd Parry iddo fod yn canu alto mewn darn o eiddo Cherubini, yn debyg iawn wedi dysgu'r darn gyda'r glust, ac heb weld copi ohono, na chael unrhyw wybodaeth pwy a'i cyfan- soddodd. Heb fod ymhell o'm hen gartref yng Nghwmtawe y mae tair ogof, ac o un ohonynt fe ffrydia afon. Hyd y gwn i, ni ŵyr neb fan ei tharddiad, nac o ba le y daw y fath gronfa o ddyfroedd grisialaidd. Ond yno y mae, serch hynny. Efeallai ei bod yn y golwg yr ochr arall i'r Mynydd Du: 'does neb a wad y gwelir hi, efallai yn ymddolennu drwy rai o ddyffrynnoedd heirdd gwlad Myrddin, ond, yn sydyn ymguddia dan y Mynydd Du, a rhydd hwnnw amdo o redyn a brwyn amdani, hyd y daw i'r golwg yn ffrwd risialaidd ger Tan yr ogof.

"Fe ganodd y cerddor bach rai o gorawdau y meistri yng nghôr ei hen gynefin; syrthiodd y nodau euraid i'w galon, ac yno y buont yng nghudd am dymor, fel pe baent wedi eu rhoi dan glô gan ebargofiant. Ond yn sydyn, dacw ddorau yr awen yn ymagor, a'r nodau a ganwyd gynt yn dod yn fyw i'r côf, a'r cerddor, yn hollol naturiol, yn priodoli y cyfan i'w awen ei hun, ac wedi llwyr anghofio canu y darnau yn yr hen wlad!"

Rhaid bod yn ofalus cyn cyhuddo neb o lên neu gerdd-ladrad. Y mae hwnnw, bid sicr, yn lleidr, a gymero ac a ddefnyddio waith un arall fel ei eiddo ei hun, heb i hynny gostio dim llafur pellach iddo mewn cymhathu, atgynhyrchu, a rhyw fath ar greu o newydd." Y mae cof gafaelgar—heb fod yn gof manwl—yn gryn rwystr i wreiddioldeb; y mae yna berigl i syniadau, cyfuniadau, melodion, a drysorwyd yn y cof heb yn wybod inni i godi i fyny i'r wyneb gyda holl swyn, a ffresni, ac apêl creadigaethau newydd. Wrth gwrs byddai cof mwy perffaith yn cofio mai nid ein heiddo ni mohonynt. "Gall melodi a glywsom yn nyddiau maboed," meddai Emlyn, "ddod yn ol yn ei chyfanrwydd flynyddoedd ar ol hynny; gall mai ein heiddo ni ydyw, o ran hynny, ond pa mor bell y cydnebydd y byd hynny sydd gwestiwn; eithr ofer yw dywedyd, fel y dywedodd un wrthyf fi, na wyddem yn wahanol." Eto, nid yw y sawl a ddefnyddio eiddo arall felly'n anfwriadol i'w osod yn yr un dosbarth a'r cyntaf uchod a nodwyd.

"Gall mai ein heiddo ni ydyw" beth yw ystyr hyn? A fedr syniad neu felodi ddod i ddau? Gwrandawer ar Wagner. Fel y gwyddis, arferai ef, fel Beethoven, fynd allan gyda'r hwyr i gymuno â natur, a phan ddelai'r ysbrydoliaeth, codai ef i ystâd o berlewyg, llawn o iasau cyfareddol yn yr hon yr agoshai un o gymeriadau'r ddrama fel drychiolaeth ato, nes ambell waith ei ddychrynu. "O'r diwedd," meddai, "symuda'i gwefusau, egyr ei genau, a daw llais o fyd ysbryd, yr hwn a ddywed wrthyf rywbeth hollol wirioneddol, cwbl ddealladwy, ond mor rhyfeddol ddieithr, fel ag i'm dihuno o'm breuddwyd. Yna diflanna'r cwbl, yn unig yng nghlust fy meddwl erys y seiniau—y syniad—y motif cerddorol. Y nefoedd a ŵyr a glywyd yr un peth, neu rywbeth tebyg, gan eraill." Yn ol hyn, y mae'n bosibl i'r un syniad ddod yn annibynnol i fwy nag un o ran dim a'r a ŵyr Wagner.

Yn olaf, i ba fesur y gellir cyhuddo awdur o ladrad pan y mae drychfeddwl yn ei waith wedi ei awgrymu gan waith arall, ond wedi pasio drwy ffwrnes a bâthdy ei ddychymyg a'i ddeall ef ei hun? Gwelsom fod un o feirniaid Arianwen" yn dywedyd fod "y cof yn gystal a'r dychymyg yn bresennol gyda'r cyfansoddwr yn ei funudau o ysbrydoliaeth, heb fod yna ddrwgdybiaeth o ladrad, oblegid y mae'r oll yn eiddo iddo drwy greadigaeth neu driniaeth wahanredol (distinctive treatment)." Os na chaniateir fod y peth olaf hwn ar unwaith yn rhyddhau awdur o'r cyhuddiad o ladrad, yna rhaid i bawb gyfaddef eu bod yn lladron—yr ydym bawb yn ddyledus i'r gorffennol: pa mor ddyledus nid yw'n bosibl dywedyd, gan fod y cysylltiadau mor gymhleth ac anolrheinadwy. Tra y deffinia Myers athrylith fel "the uprush of the subliminal self," ac y cais yr Athro Percy Gardner gael y gair "downrush" i mewn i ddisgrifio ysbrydoliaeth, rhaid i ni gofio fod y naill yn cyfateb i'r llall, a'r ddau'n dibynnu i fesur ar y gorffennol a'i gymhathiad: "i'r hwn y mae ganddo y rhoddir."

Ni fedraf eglurebu'r mater o fyd cerdd; ond ystyried y darllenydd yr enghreifftiau a ganlyn o fyd llên. Y mae'n gof gennyf glywed dyn ieuanc mentrus a ffres o Rydychen yn dywedyd mewn cwmni ym Mhrifysgol Glasgow, wrth siarad am wreiddioldeb Wordsworth: "Wordsworth is only Plato and Christianity," a thynnu'r ateb oddiwrth yr Athro mewn Athroniaeth: "Everything of value is Plato and Christianity," fel nad oes dim ond y ffynonellau hyn yn hollol wreiddiol. Dengys yr Athro Hume Brown, yn ei lyfr diweddar ar Goethe, fod Sir Walter Scott yn nyled Goethe am rai o olygfeydd ei nofelau, heb ei gyhuddo o ladrad am eu bod wedi eu bedyddio i'w ddychymyg ef ei hun. Mewn llyfr pregethau gan un o weinidogion mwyaf poblogaidd yr Annibynwyr Seisnig, ceir pregeth ag y cafodd yr awdur y syniad canolog ohoni—yn ol ei dystiolaeth ef ei hun—ym mhregeth athro mewn coleg Cymreig ni thybiai ef, y mae'n sicr, pan yn gwneuthur y cyffesiad, ac ni thybiai'r athro, mi gredaf, ei fod yn euog o lên—ladrad, gan iddo ddatblygu a gwisgo'r syniad yn ei ffordd ei hun.

Credwn fod yna olygiad tebyg gan Dr. Parry yng nghefn ei feddwl; o leiaf ni fynnai ddiarddel darnau ag y galwyd ei sylw atynt eu bod yn "rhy debyg " i eiddo eraill, megis pan grybwyllodd Mr. Ben Davies wrtho fod unawd Saul yn y carchar yn galw "Star of Eve" Wagner i'w gof. Ac iawn cydnabod fod ganddo hawl i'r rhannau hyn yn ei weithiau nes y bo i gwmni o experts setlo pa le mae'r

clawddffin rhwng gwreiddioldeb a lladrad.

XXI. "Saul" a "Sylvia."

Hunan-gofiant

YN 1892 derbyniaf fy ail gomisiwn gan yr Eisteddfod Genedlaethol. Rhoddwyd "Saul o Tarsus" yn y Rhyl gerbron y dorf fwyaf o lawer o holl gyfarfodydd yr Eisteddfod.

O! Amser! Mam greulon ydwyt, yn rhoddi genedigaeth i ddigwyddiadau ac amgylchiadau prudd a galarus, gan i ti y flwyddyn hon ddanfon dy was angeu i gylch tawel a hapus ein bywyd teuluaidd, gan symud o'n plith ein hanwylaf Willie (William Sterndale), a rhoddi i ni Och! y fath dasg i'w osod yn y bedd tywyll, oer, byth i weld ei wyneb hawddgar a llednais eto, hyd nes y cwrddwn yn y cartref tragwyddol a digyfnewid uchod. Fel hyn bu'r flwyddyn 1892 i ni y fwyaf greulon o'r holl flynyddoedd. (Gwêl y Rhestr.) 1893 Blwyddyn arall o anffodion i'n teulu ni, pryd y dinistriwyd stereotyped plates fy ngweithiau cyhoeddedig a llafur fy mywyd yn nhân y "Western Mail," yn golygu colled o rhwng £800 a £900, heb geiniog o ad-daliad, heblaw'r golled barhaol o beidio gwerthu copiau yn y dyfodol. (Gwêl y Rhestr.)

Y mae fy mab Haydn a minnau'n arwain perfformiad mawr o "Gwen" a "Nebuchadnezzar" yn y St. James's Hall, Llundain: llwyddiant mawr.

1894: O Amser creulon! a'th was angeu! paham yr ymwelwch eto â chylch ein teulu, ac mor fuan, gan ein hamddifadu ni o fab annwyl a thalentog, ei wraig a'i blant o'u cymorth, a'r wlad o'i athrylith? Y mae'th olwyn fyth yn troi, gan ein malu â'i phwysau a llethu'n hysbrydoedd nychlyd. Mor gyfnewidiol ydwyt! yn dwyn llawenydd yn awr, ac yna galar, i'th blant yn ddiwahaniaeth.

Y mae fy mhriod, a Dilys, a minnau unwaith eto ar ein taith i America ar fwrdd yn "Etruria" (fy nawfed mordaith) ar gyfer cwrs o ddarlith-gyngherddau, eisteddfodau, etc., a chyfarfyddwn unwaith eto â pherthnasau a chyfeillion.

ONIBAI am yr angen, y cyfeiriwyd ato eisoes, am wneuthur ei weithiau mawr yn brif landmarks ei hanes, byddai y teitl "Gwawr a Chysgod " neu "Tes a Chawod yn briodol iawn uwchben y bennod hon. Yn ei Hunan-gofiant fe ddywed Dr. Horton, fel y sylwyd, fod yna brofedigaeth ar gyfer llawenydd yn ei fywyd fel rheol, "fel na'i tra dyrchefid"; ond y mae'r un mor ysgrythyrol i ddywedyd fod yna lawenydd ar gyfer profedigaeth hefyd, fel y cân Hiraethog:

Os y ddafad barai flinder,
Poen a phryder fore a hwyr,
Trefnid Tango ar ei chyfer,
Rhag fy nigalonni'n llwyr.

Felly y bu hi gyda Parry: ar ol yr ysgarmes Biwritanaidd ac ymosodiad "Zetus," diau ei bod yn achos o foddhad pur iawn iddo i'w hen gyfeillion a chyd-drefwyr yn Abertawe drefnu agor yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1891 drwy i'r côr ganu ei "Faesgarmon," a gorffen y gweithrediadau drwy ddatganu ei Emmanuel yn y cyngerdd olaf, dan arweiniad Eos Morlais. Yn yr eisteddfod hon hefyd yr oedd "Cytgan y Pererinion (heblaw rhai pethau eraill yn gystadleuol,—cytgan a brawf nad oedd ffynonellau ei ysbrydoliaeth yn pallu gyda threigl y blynyddoedd. Ac er mai claear oedd y clod a roddwyd i'w "Nebuchadnezzar" gan y papurau Saesneg pan ddatganwyd y gantawd yn Llundain ychydig cyn hyn, rhoddwyd gwaith cerddorfaol newydd o'i eiddo yn un o gyngherddau Mr. Stockley yn Birmingham gyda chymeradwyaeth mawr. Darn ydyw yn portreadu cwsg—"Tone Picture"—am yr hwn y dywedai y "Gazette" ei fod "yn sylweddoli y meddylddrych barddonol mewn dull tra hapus, ac iddo gynhyrchu effaith rhagorol, a chael derbyniad neilltuol o ffafriol."

Yn nechreu 1892 penderfynodd pwyllgor Gwyl Gerddorol Caerdydd berfformio Saul o Tarsus" (Parry), gyda'r prif weithiau eraill ("Messiah," "Elijah," etc.); ac ymgymerodd ef, gyda'r Mri. Aylward a Scott â phartoi y côr. Ond gyda'i fod yn dechreu ar y gwaith daeth i'w gyfarfod brofedigaeth chwerw iawn, un barodd iddo friw a loes na ellid ei gynhyrchu gan biwritan na beirniad. Yr oedd ei fab ieuengaf, Willie Sterndale, wedi bod yn gwaelu, "yn araf, araf wywo" ers blwyddyn neu ddwy, ond hunodd yn yr angeu yng ngwanwyn 1892, er galar nid yn unig i'w berthynasau, ond i lu o gyfeillion, ac efe yn awr yn fachgen ugain oed. "Hoffus ydoedd gan bawb," meddai un gohebydd—"enillodd ei dymer addfwyn, ei ymddygiad boneddigaidd, a'i gymeriad dilychwin iddo edmygwyr a ffrindiau lawer. Penderfynodd ddilyn yn ol troed ei dad am ei fywoliaeth. Nid yn unig meddai ar lais da, ond yr oedd wedi ymaflyd ers llawer o amser yn y piano, ac yn ddiweddar mewn cynghanedd a gwrthbwynt. . . . Bu farw fel pe yn mynd i gysgu."

Yr oedd Parry'n ddyn o deimladau tyner, a hoff iawn o'i blant; a diau i'r amgylchiad leddfu llawer ar ei ysbryd, a dofi ei ynni. Prawf o hyn yw iddo roddi arweinyddiaeth yr "Orchestral Society" i fyny, gan roddi ei deimlad briw fel rheswm dros hynny; tebyg fod y gwaith ag yr oedd yn rhaid ei wneuthur yn gymaint o faich ag a allai gario ar y pryd. Ac eto y mae gwaith fyddo'n ennyn ein diddordeb yn pylu min ein gofid—yn arwain y sylw i ffwrdd oddiwrth ei achos gan felly leihau ei artaith. Ac felly y bu i Parry'n ddiau y pryd hwn; yn neilltuol yr oedd y gwaith o ddwyn allan un o'i brif weithiau, a hwnnw'n un oedd yn symud ar lefelau uchel, yn fwy o help nag o rwystr iddo anghofio'i boen.

Gelwir "Saul o Tarsus" ar y copi yn "Dramatic Oratorio, or Scenes from the life of St. Paul." Y mae geiriau'r libretto wedi eu dethol o'r Ysgrythyr, gyda rhai telynegion gan Dewi Môn. Yn yr olygfa gyntaf cawn Saul yn erlid y Cristinogion, y daith i Damascus, a'i droedigaeth. A'r ail â ni at Paul a Silas yn Philippi—y carchar a'r ddaeargryn. Y mae y drydedd olygfa yn Jerusalem—gŵyl y Pentecost, y deml, a'r carchar; a'r olaf yn Rhufain yn diweddu gyda phrawf a dienyddiad Paul.

Rhoddwyd y gwaith am y tro cyntaf yn un o gyngherddau Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl ym Medi. "Yr oedd y perfformiad," meddai un o olygyddion y "Cerddor," yn llwyddiant digymysg, er bod y rhan gyntaf o'r gwaith yn rhagori ar y rhan olaf; ac yr ydym yn tueddu'n gryf i feddwl y byddai'n welliant pe gadewid allan rai o'r symudiadau lleiaf pwysig, y rhai sydd hefyd mewn ystyr yn anghysylltiol." Ac meddai'r llall: "Parth y perfformiad yr ydym yn cydweld â'n cydolygydd; yn unig yr ychwanegwn mai nid yn aml y cafodd gwaith newydd y fath berfformiad rhagorol, ac y mae yr awdur i'w longyfarch yn galonnog ar y gwaith newydd hwn Yr ydym wedi cael y fantais o glywed gweithiau newydd yn ystod y deng mlynedd diweddaf yng ngwyliau Leeds, Henffordd, Birmingham, a Llundain, a da gennym dystiolaethu fod gwaith newydd Dr. Parry'n rhagori ar rai o'r gweithiau a ddygwyd allan yn y gwyliau hyn. Credem y buasai torri tri chwarter o'r gwaith i ffwrdd yn y rhannau olaf, fel na fyddai'r gwahanol olygfeydd mor debyg i'w gilydd, yn welliant . . . Darnau rhy operatic sy'n ei andwyo fel gwaith cysegredig." Am y perfformiad yng Ngwyl Caerdydd ychydig yn ddiweddarach, dywed yr un beirniad: "Rhaid dywedyd na chafwyd agos cystal perfformiad ag a gafwyd yn y Rhyl, a hynny'n unpeth am nad oedd y côr wedi ei ddysgu cystal, ac yn ail am nad oedd yr awdur yn arwain mor sefydlog; a chymerai rai darnau mor gyflym fel ag i'w gwneuthur nid yn operatic, ond yn comical; mae yn sicr ei fod wedi niweidio rhannau o'r gwaith drwy eu cymryd yn rhy gyflym."

Rhoddwyd ail berfformiad o'r gwaith yn Nhachwedd gan yr un côr, dan arweiniad yr awdur—perfformiad llawer gwell, ond ni chefnogwyd yr anturiaeth gan y cyhoedd fel y disgwylid.

Gyda golwg ar y gwaith ei hun, sieryd y "Daily Telegraph" braidd yn wawdus, a dyfynna ddywediad Wagner am gerddorfäeth or-helaeth Berlioz, "ei fod wedi ei gladdu dan adfeilion ei beiriannau ei hun," a gobeithia nad hynny fydd tynged Dr. Parry. Y mae y "Musical Herald " yn dra chlodforus: gwir fod yna ormod o fanylion a'r darlun wedi ei growdio, ond y mae yn waith "rhyfeddol o darawiadol ac effeithiol, a'r rhan offerynnol yn ffres ac edlym." Pan roddwyd y gwaith yn 1895 yn Newcastle- on—Tyne, cymeradwyid rhifyn ar ol rhifyn, a bu rhaid ail—ganu rhai, a disgrifiad y "Newcastle Chronicle" o'r gwaith ei hun yw, a masterly and scholarly production, which entitles the author to rank high amongst eminent modern composers."

Yn nechreu 1893 dechreuodd ar y gwaith o ddwyn allan y "Cambrian Minstrelsie" (Alawon Gwalia) fel cydymaith i'r "Scots Minstrelsie"—dros T. C. & E. O. Jack, Edinburgh. Ei gyd—olygydd oedd Dewi Môn. Ymddangosodd y gyfrol olaf (VI) yn nechreu 1895. Yr oedd yn waith mawr ysgrifennu cyfeiliannau i gynifer o alawon—tua thrigain ymhob cyfrol; ond o ran Parry buasai'r gwaith wedi ei orffen lawer yn gynt. Y mae y rhagymadrodd i'r casgliad yn amherffaith ac annigonol. Ceir hefyd ddwy gân gan y golygydd, un ar y dechreu, ac un ar ddiwedd pob cyfrol, yr hyn yn ddiau sydd yn gamsyniad, er i Brinley Richards ac Owain Alaw wneuthur yr un peth. Am y rhelyw, medd y "Cerddor," "Nid oes brin angen nodi fod ôl llaw y cerddor profiadol a gorffenedig ar y cyfeiliannau; fel rheol y maent yn amrywiaethol a diddorol, ac yn gydnaws â theithi'r alawon, heb fod yn rhy deneu ar y naill law, fel eiddo Brinley Richards yn ei 'Songs of Wales,' nac yn rhy drwmlwythog fel rhai sydd wedi bod o dan ein sylw'n ddiweddar. Ceir un eithriad i hyn yng 'Nghlychau Aberdyfi.' . . . . Cymerir rhyddid hefyd gyda darlleniad yr alaw . . . Alaw arall ag y cymerir rhyddid anwarantedig gyda hi—yr hyn y rhaid i ni fel mater o ddyletswydd tuag at ein hen alawon ei gondemnio'n groyw—yw 'Y Deryn Pur.' . . . Honnwn nad oes gan neb pwy bynnag hawl i wneuthur y cyfnewidiadau mympwyol hyn i foddio 'cywreinrwydd ysgolheigol,' neu ryw deimlad arall; ac os y goddefir y tincera hyn gan un, pa beth sydd i rwystro eraill rhag dod â'u gwelliannau hwythau i mewn? Gydag eithrio hynyna y mae trefniad yr alaw hyfryd hon yn hapus iawn. Ceir yn y casgliad amryw alawon swynol nad ydynt i'w cael wedi eu trefnu i'r llais yn ein casgliadau cyffredin."

Ceir yn y gyfrol olaf, yn ychwanegol at alawon wedi eu trefnu fel unawdau, nifer wedi eu cynganeddu i wahanol leisiau,—cymysg, benywaidd, a gwrywaidd.

Yr oedd hwn yn waith cariad yn gystal ag yn offeryn elw iddo, a phrawf y ffaith ei fod yn troi gwaith mor dda allan gyda chyflymder a wnai i Dewi Môn a'i fagad beirdd ebychu'n dost, ei fod yn cael mawr hwyl wrtho.[25] Ond yng nghanol y mwynhad hwn, a chyda bod y clwy o golli Willie'n dechreu gwella, dyma'r "cnoc bach" ar y drws yn dod eto yn awr i 'nol Haydn, ei fab hynaf, nid ym "mlodau" ei ddyddiau fel ei frawd ieuengaf, ond pan wedi dechreu cynhyrchu ffrwyth o wir werth, a roddai addewid am gnwd toreithiog—yn fab naw ar hugain oed. Pan ofynnwyd unwaith i'r Frenhines Victoria sut y teimlai wrth golli un plentyn ar ol y llall, ei hateb oedd i farwolaeth y Tywysog Albert wneuthur rhwyg digon mawr yn ei chalon i'r lleill syrthio drwodd heb roddi iddi nemor loes. Ond ni ellir dywedyd hyn am Parry: nid oedd y boen of golli Haydn efallai'n fwy llym na'r un o ffarwelio â Willie, ond yr oedd yn fwy llydan a dwys.

Dyma ddywed Mr. D. Jenkins amdano: "Gan ein bod wedi treulio cymaint o flynyddoedd gyda'r teulu yn Aberystwyth, cawsom gyfleustra i weld tueddfryd ei galon, ac mor bell ag y gallem farnu, y piano oedd prif ffynhonnell ei ysbrydoliaeth, a daeth yn gryn feistr ar yr offeryn hwn heb ryw lawer o wersi cyson, ond yn unig trwy rym ymarferiad. Tyfodd i fyny'n chwareuwr yn ddiarwybod iddo'i hun a'i deulu. Nid oedd yn efrydydd caled o gwbl, felly difater fu ynglŷn â'i ddosbarthau a'i wersi. Credwn ei fod wedi dysgu cynganeddu heb wybod yn iawn pa fodd. Yn hyn yr oedd yn hollol wahanol i'w dad athrylithgar, un o'r gweithwyr caletaf y daethom i gyffyrddiad ag ef erioed." "Amlwg ydyw ei fod wedi creu disgwyliad ymhlith rhai o gerddorion Llundain, ac y mae hyn yn llawer i Gymro, lle y mae cymaint o ragfarn yn bodoli." "Yr unig rai (o'i weithiau) ydym wedi weld ydyw y sonata fuddugol yn Eisteddfod Lerpwl, a'r gantawd 'Gwen.' Oherwydd na chlywsom 'Cigarette' a 'Miami' —y rhai a ystyrid yn rhagori ar 'Gwen,' yr oedd yn naturiol i ni feddwl yn uwch am ei dad fel cyfansoddwr." Yr oedd wedi ei benodi i ysgrifennu gwaith ar gyfer Gŵyl Gerddorol Caerdydd, a dywedai wrth Mr. Jenkins ei fod wedi agos ei orffen yn Ionawr; ond yr oedd y cwbl yn ei gof, gan na chafwyd dim ymhlith ei bapurau. Bwriadai i'r gwaith fod o natur hollol wahanol i bopeth a gyfansoddasai'n flaenorol.

Camsyniad yw dywedyd, fel y gwna rhai bywgraffwyr, i "Sylvia" gael ei chyfansoddi yn 1889, a'i gwneuthur yn fath ar "study companion" gwaith y ffenestr arall—i "Saul." Y dyddiad cyntaf ar y copi yw Gorffennaf 24, 1893, a'r olaf Mehefin 25, 1895. Perfformiwyd hi yn y Theatre Royal, Caerdydd, yn 1895. Y mae y libretto—gan Mr. Mendelssohn Parry—yn sylfaenedig ar chwedl boblogaidd ynghylch y Tylwyth Teg, a'u perthynas â llecyn yr arferent ei fynychu yn ymyl pentref. Yn ôl y gân ddechreuol gan Arthur (yr arwr), byddai i neb weld y "Tylwyth" yno ddwyn melltith ar y pentref; byddai dal llygad un ohonynt yn ei gwneuthur yn fod dynol a'i gwisgo â chnawd ac esgyrn; byddai cyffyrddiad yn ei gwneuthur yn eiddo i'r sawl a'i cyffyrddai am byth; a chusan yn ei rhyddhau o'r cnawd eilwaith. Yr "egwyddorion" hyn mewn gweithrediad geir yn y libretto. Y prif gymeriadau yw "Sylvia," elffig (fairy), a droir yn eneth gan edrychiad "Arthur"; syrth y ddau mewn cariad â'i gilydd a gedy ef ei fywyd bugeiliol i'w dilyn; brawd ieuanc i "Arthur" yw "Osmund," a dilyna yntau'r ddau. Y mae y cadfridog Rhufeinig "Severus" mewn cariad â "Sylvia." Y prif gymeriad arall yw "Thurston," yr olaf o'r derwyddon.

Syrth "Sylvia" ac Arthur" i ddwylo'r Rhufeiniaid. Y mae Thurston yn eu dwylo eisoes, a bygythiant ei ladd, ond ar gais "Sylvia" arbedir ei fywyd. Bwriada "Severus" drwy'r hynawsedd hwn brynu serchiadau "Sylvia," ond pan wêl ei siomi, rhydd orchymyn i'w llosgi'n fyw. Partoir y stanc a'r ffagodau, ac y mae'r cwbl yn barod i'r aberth, pan y cusennir "Sylvia" gan ei chariad, gyda'r canlyniad ei bod yn syrthio i lawr yn farw, a'i hysbryd yn dianc i'w gynefin at ei chwmni ei hun, a welir yn ei derbyn â breichiau agored. Perfformiwyd yr opera eilwaith yn 1897 (ynghydag "Arianwen ") gan y Welsh National Opera Company, dan arweiniad Mr. Mendelssohn Parry-gyda llwyddiant hollol ymhob ystyr ond ym mhresenoldeb y cyhoedd.

XXII. O Lundain i Landudno ac yn ol.

Hunan-gofiant:

1896: Bythgofiadwy fydd cyngerdd y Roseberry Hall ynglŷn â'm tysteb genedlaethol: naw o gorau bechgyn goreu'r De a thua naw mil o bobl. Pery effeithiau y corau'n cydganu i adsain yn fy nghlustiau hyd nes y disgyn llen olaf y bywyd hwn.

Derbyniaf fy nhrydedd gomisiwn gan yr Eisteddfod Genedlaethol "Cambria " yn Llandudno—llwyddiant arall; er fod côr yr Eisteddfod mewn perigl o beidio rhoi datganiad canmoladwy, eto sicrheais i'r gwaith lwyddiant a derbyniad da.

Cyflwynir i mi dysteb genedlaethol (£630)—swm a ddefnyddir i brynu fy nhrigle presennol, "Cartref," Penarth. Byddai'r hanes yma'n anghyflawn pe gadewid allan enw'r anrhydeddus Anthony Howells, gan mai efe oedd trysorydd y Parry Fund gyntaf (1866—71) yn Youngstown, Ohio, yn gystal â'r Parry Testimonial Fund; ac yr oedd llwyddiant y ddwy'n ddyledus i raddau helaeth i'w ymdrechion cyson a diflin ef. Y mae'r natur ddynol dlawd hon yn wan a chyfnewidiol gyda llawer, ond nid felly ynnoch chwi, fy nghyfaill ffyddlon, tuag ataf fi.

1897 Daw fy nghorau Tonic Solfa, o Dde a Gogledd Cymru, yn rhifo 3000 o leisiau, i'r Crystal Palace i ddatganu detholiadau o'm gweithiau. Rhoddir hefyd fy Sain—Bryddest (Tone—Poem) i gorws, organ, cerddorfa, a phedair seindorf bres. Drwg gennyf orfod dywedyd nad oedd y corau wedi hanner dysgu'r miwsig.

YN nechreu 1896 ymgeisiodd Dr. Parry am y swydd o Brifathro yn y Guildhall School of Music, Llundain, fel olynydd i Syr Joseph Barnby. Gan ei fod yn awr yn bymtheg a deugain oed, ac wedi dal

Y goleu llym sy'n curo ar orsedd teyrn

am lawer blwyddyn, y mae ei dystysgrifau ar yr achlysur yn rhai y gellir dibynnu arnynt. Dangosant hefyd ei fod wedi dysgu llawer oddiar 1883 yn y mater o ddewis ategwyr, er ei fod o hyd yn methu gwrthod rhai amherthnasol. Oblegid hyn rhaid i ninnau ddethol.

Beth bynnag yw gwerth cerddorol y dystysgrif a ganlyn oddiwrth gorfforaeth Caerdydd, y mae ganddi hawl i le yn y Cofiant; gan y meddai'r aelodau hawl i siarad amdano "fel dyn, dinesydd, a chymydog," ac hefyd fel addysgydd, gan ei fod ers dwy flynedd yn cynnal dosbarthau hwyrol lluosog (dros gant mewn rhif) dan y Technical Instruction Committee—mewn cerddoriaeth wrth gwrs.

"Town Hall,
Cardiff,
3rd March, 1896.

To the Chairman and Committee of the Guildhall School of Music, London.

Gentlemen,

We, the undersigned, the Mayor, Aldermen, and Councillors of the County Borough of Cardiff, being informed that Dr. Joseph Parry is a Candidate for the post of Principal of the Guildhall School of Music in succession to the late Sir Joseph Barnby, beg to most strongly recommend him for the appointment.

"Dr. Parry sustains the highest reputation and is universally esteemed as a musician. He has distinguished himself as an educationist and as a conductor and composer in all the varied and highest forms of musical composition, and he combines most happily the numerous qualifications essential for the complete tuition of musical students.

As a man, a citizen, and a neighbour he is greatly beloved, and he is ever ready to devote himself most assiduously to any work he is called upon to perform."

Arwyddwyd gan y Maer (Lord Windsor) a deuddeg ar hugain o henaduriaid a chynghorwyr.

Y Prifathro Viriamu Jones a ddywed:

"Dr. Joseph Parry is, I understand, a candidate for the post of Principal of the Guildhall School of Music. He has been Lecturer in Music at this College since October, 1888, and I gladly take the opportunity of bearing testimony to his power as a teacher, and to the success which has attended his work here. Dr. Parry is a musician of very varied attainments, and very large experience as a teacher. Others more fitted to pronounce on such a point than I am will speak of his musical compositions, and the power and originality by which they are characterized. He is a man of high character, and he will, I feel convinced, always devote himself with self-sacrificing ardour to any work he may undertake.

"I recommend his candidature very heartily to the most careful consideration of the Electing Body.

J. VIRIAMU JONES, M.A. (Oxon.), B.Sc. (Lond.), F.R.S.,

Principal."

Ei gyd-athrawon eto:

"Learning that our colleague, Dr. Parry, is a candidate for the Principalship of the Guildhall School of Music, we desire heartily to support his application. Of his abilities as a musician we are not entitled to speak, but, from long intercourse with Dr. Parry, we are able to testify, as we do with great pleasure, to the many qualifications, both as a man and as a teacher, which he possesses for such a position as he now seeks.

Dr. Parry is a man of untiring energy and perseverance; to these qualities, directed by a great power of initiative, he owes in a great measure his present position in the musical world, a position which he has attained in the face of very great difficulties. As a student he has put before himself a high ideal of excellence, which he has spared no pains to realize; and as a teacher he has always endeavoured to awaken in his pupils a similar aspiration, and, as far as we can judge, he has succeeded in a marked degree. Dr. Parry is entirely devoted to music ; and it would be difíìcult to find any one of whom it could be more truly said that he lives for his art. Moreover, his enthusiasm is not limited to the compositions which have created his distinguished reputation in Wales and outside; he is no less enthusiastic as a teacher, and he has for many years laboured indefatigably for the advancement of musical knowledge among all classes in the Principality. With beginners, as young composers, vocalists, and pianists, he has always shown much sympathy. Should he be appointed to the post for which he is now a candidate, we feel quite certain that he would apply himself to its duties with the same energy, the same generous devotion, and the same buoyant enthusiasm which have hitherto characterized his work. We venture to add, that in all personal relations Dr. Parry would be found a most pleasant and genial colleague. We beg very strongly to recommend his candidature to the favourable consideration of the electors.

A. L. Selby, M.A., Assistant Prof. of Physics, formerly
Fellow of Merton College, Oxford.
G. Chatterton Richards, M.A ., Prof. of Greek, late
Fellow of Hertford College, Oxford.
Claude M. Thompson, M.A ., D.Sc., Prof. of Chemistry.
R. Seymour Conway, M.A., Prof. of Latin, late Fellow
of Caius College, Cambridge.
H. W. Lloyd Tanner, M.A.,
Prof. of Maths. and Astronomy.
R. H . Pinkerton, M.A., Assistant Lecturer on Maths.
F. T. Arnold, M.A ., Lecturer in German and Comparative Philology.
D. Tyssil Evans, M.A., B.Sc., Lecturer in Hebrew.
T. Raymont, M.A., Normal Master.
A. G . Little, M.A ., Lecturer in History.
Thomas A. Powell, M.A ., Professor of Celtic.
W. N . Parrer, Ph.D., Professor of Biology.
O. Yaughan, M.A ., Professor of English.”


Ei ddisgyblion:

"We, the past and present students of the University College of South Wales and Monmouthshire and of the South Wales School of Music, hereby desire to express our great esteem and appreciation of Dr. Parry, both as a musician and teacher, in his candidature for the Principalship of the Guildhall School of Music.

"We sincerely hope he may be successful, although the loss to us would be very great, and his departure from Wales would be much regretted.

"As a musician and teacher we have always found him most energetic and most thorough, and we believe him to be fully competent to fill so important a post.

Signed on their behalf,

IVOR JOHN, Normal Department.
KATE SAWLE, Technical Department.
D. EVANS, Mus. Bac. (Cantab.), Composition Class.
D. C. WILLIAMS, Orchestral Class.
W. O. JONES, Counterpoint.
A. GERTRUDE DUCKERS,
MABEL H. DAVIES, Form Class
ETHEL LEE, Form Class
W. J. EVANS, Harmony Class.
QUEENIE MARTIN, Harmony Class.
A. M. SETTER, Pianoforte.
CLAUDE THORNEY, Vocal."

A'r "Orchestral Society"

"The Committee of the Cardiff Orchestral Society has much pleasure in testifying to the conspicuous ability displayed by Dr. Joseph Parry during the three years in which he acted as conductor of the Society. The great improvement under his conductorship was acknowledged by the press and the public generally.

On behalf of the Committee,
W. A. MORGAN."

Signor Manuel Garcia:

"Dear Dr. Parry,

If you think that the expression of my great respect and regard for you will in any way assist you to obtain the post of Principal of the Guildhall School of Music, I am too happy that you should make use of it. I hope to hear that the Directors have availed thcmselves of the opportunity of securing your services. I also have great pleasure in stating that you were my pupil in the Royal Academy of Music for three years, and that you not only understand the cultivation of the voice, but have attained a high degree of proíìciency in other musical studies, and through your long experience have thoroughly qualified yourself for the post you desire.

Believe me,
Faithfully yours,
Manuel Garcia."


Mr. E. H. Turpin:

"Although I have previously expressed my interest in connection with certain candidature for the important post of Principal of the Guildhall School of Music, I desire to be permitted to write that I consider my friend, Dr. Joseph Parry, of Cardiff, Professor of Music, University College of South Wales, to be a most desirable candidate for that office. Dr. Joseph Parry is the composer of many important works and the author of several compositions, as oratorios, operas, cantatas, of artistic importance. He is the recognized leader of inusic in Wales and has earned the high esteem in which he is held by his admirable musicianship, his marked skill and success as a teacher, and by the eamestness and diligence he has displayed in all the. responsible work placed in his hands, He would make an excellent Principal of thc great City Music School.

E. H. Turpin."

Ceir y tystiolaethau canlynol oddiwrth bersonau oedd erbyn hyn wedi meirw: Sir George Grove : "Dr. Joseph Parry’s musical abilities and achievements are too well-known to require any testimonial."

Sir G. A . Macfarren: "I have heard a performance of his oratorio “ Emmanuel/ which is a work of high merit, and have inspected other music by him, which also shows remarkable talent."

Sir John Stainer: "Dr. Joseph Parry has proved himself to be an able and sound musician."

H. Weist Hill (Principal, Guildhall School of Music): "I have the pleasure to certify from personal knowledge that Dr. Parry possesses the highest qualifications as a theoretical musician, composer, and excellent conductor. Having heard Dr. Joseph Parry's oratorio Emmanuel,' conducted by him in St. James's Hall, London, I can conscientiously speak of him as a most accomplished musician."

Signor Randegger: "I have watched your career with much interest ever since you were a distinguished student at our Royal Academy of Music, and I consider that as a composer, a conductor, and a learned and enthusiastic musician, you are not only an honour to the Institution where you received your musical education, but also to the principality, which is so rich in musical notabilities."

Yr oedd deunaw ar hugain o ymgeiswyr, ac yn eu plith— heblaw Parry—Lee Williams, Caerloyw, a Roland Rogers, Bangor. Daeth Parry a Lee Williams allan ymysg y deg uchaf yn y pleidleisiad cyntaf; ond y pump a ddewis— wyd wedyn allan o'r deg hyn oedd: W. H. Cummings, A. J. Caldicott, W. H. Thomas, E. H. Turpin, ac F. Sawyer. Yr oedd y balot terfynol rhwng Cummings a Thomas, ac o'r ddau hyn etholwyd Cummings.

Ni wyddom gan ba deimlad neu amcan yr ysgogid Parry i ymgeisio am y swydd hon. Ni allwn ddychmygu am foment ei fod yn troi ei gefn ar Gymru a'i buddiannau'n fwy na llawer o Gymry eraill sydd yn byw'n y Brifddinas; ond efallai y teimlai'n siomedig am na welai obaith sylweddoli ei ddelfryd o addysg gerddorol, nac ychwaith o'i godi yntau o fod yn ddarlithydd i fod yn athro. Beth bynnag am hyn, gallwn fod yn sicr mai hyfryd ydoedd iddo droi ei gefn ar wrthodiad y Saeson o'i wasanaeth, a mynd i Landudno ychydig yn ddiweddarach i dderbyn prawf mewn tysteb o werthfawrogiad ei gyd—genedl o'i wasanaeth iddi hi yn y gorffennol. Datganwyd ei gantawd "Cambria," a chyflwynwyd y dysteb iddo yn yr un cyngerdd, a'r ddau gyda brwdfrydedd. Swm y dysteb oedd £630; ac er nad oedd hyn yn swm mawr i'r genedl, yn neilltuol pan gofiwn i Gymry America gyfrannu dros £100, ni dderbyniwyd hyd yn oed y swm hwn mor ddigymell ag a ellid ddymuno. Bu'n rhaid i'w gyfeillion drefnu nifer o gyngherddau mewn gwahanol fannau i ddod â'r swm i fyny i hyn. Bu'r cyngherddau hyn, fodd bynnag, yn dra llwyddiannus ymhob ystyr. Dywedai'r papurau am un a gynhaliwyd yn y Rosebery Hall, Caerdydd, ei fod y mwyaf, a'r mwyaf llwyddiannus a fu erioed yn y ddinas. Bernid fod tua deng mil yn bresennol, a chymerid rhan gan gorau meibion Abercarn, Aman, Cynon, Hen Feibion (Porth), Pontycymmer, Porth a Chymmer, Rhondda, Treherbert, a Threorci, tra yr unai'r oll o'r rhain ar y diwedd dan arweiniad Caradog i ganu'r "Soldiers' Chorus (Gounod), gyda chyfeiliant milwrol ac offerynnol cyflawn.

Tynnodd y fath amlygiad o frwdfrydedd—yn dod yn fuan ar ol siomedigaeth Llundain—y datganiad a ganlyn oddiwrth Parry fel cyfran o un o'i ysgrifau i'r "South Wales Daily News": "Gymrodyr Cymreig,—Y mae'r arddangosiad nodedig a wnaethoch y Sadwrn diweddaf o barch a mawrygiad ohonof fi fel cerddor Cymreig yn hynod yn hanes cerddoriaeth ein hannwyl wlad, ac wedi cyrraedd hyd at gysegr nesaf i mewn fy enaid, fel na allaf ganiatâu iddo basio heb yr ychydig eiriau eiddil hyn o ddiolchgarwch oddiwrthyf fi. Gadewch i ni gredu fod y mudiad cenedlaethol hwn i dalu gwarogaeth i fywyd a llafur un meidrolyn tlawd a'i ymdrechion gwylaidd yn cael ei ysgogi gan Allu Uwch, ac y bydd ei duedd i'n symbylu a'n harwain i wneuthur mwy eto, ac i ennill llawryfau gwell i'r wlad a garwn mor annwyl. Y mae i'n bywydau eu Gethsemane a'u Mynydd Carmel; ac y mae y fath arddangosiad cenedlaethol ag un y Sadwrn yn creu ac yn taflu pelydrau o lawenydd a diddanwch i ddyfnderau tywyll glynnoedd pruddaidd galar ein bywyd presennol."

Yng Ngwyl Gerddorol Caerdydd yr un flwyddyn, rhoddwyd ei "In Memoriam " dan ei arweiniad ef, ond nid gyda llwyddiant, am nad oedd y cantorion wedi meistroli'r gwaith. Yr un peth raid ddywedyd am y datganiad o'i weithiau yng Ngŵyl Cymdeithas y Tonic Solfa yn y Palas Grisial yn 1897. Yn 1896 neilltuwyd cyfran o'r wyl i ddatganu cerddoriaeth Gymreig, yn bennaf "Psalm of Life" yr Athro Jenkins, a throdd yr anturiaeth allan yn llwyddiant digymysg. Ond nid felly 1897, oblegid gwaith Parry'n trefnu rhaglen fratiog o rannau o'i weithiau, ac esgeulustod arweinwyr a chorau i'w dysgu, ynghyd ag esgeulustod rhywrai i'w gyrru i'r corau mewn pryd. Ynglŷn â hyn daw diffyg callineb Parry i'r golwg—ac wrth gallineb y golygwn ystyriaeth o amgylchiadau fel ag i bartoi ar eu cyfer. Dyma iaith callineb arweinydd yr ŵyl flaenorol (1896) "Ar y dechreu yr oedd gennym amcan go dda beth allasai yr arweinyddion wneuthur oeddem wedi ddewis, ynghyda'r lleisiau oedd yn y dosbarthau; ac y mae'r perfformiad wedi profi ein bod yn iawn. Yr oedd ffyddlondeb yr arweinyddion, ac eiddgarwch y cantorion tuhwnt i amheuaeth, ac ar hyn yr oedd y cwbl yn ymddibynnu.

"Y mae yna ffaith arall wedi dod i'r golwg, nad oes rhaid i gerddorion Cymreig ymddibynnu ar y rhai a ystyria eu hunain yn brif gorau am berfformiad teilwng o'u gweithiau."

Ond yn 1897, er yr hysbysid y rhifai y côr 4000, y gerddorfa 250, ac y byddai wyth seindorf bres yn canu; ni ddaeth ynghyd ond tua 2500 o leiswyr, a phedair o seindyrf, tra yr oedd y gerddorfa ymhell o fod yn llawn. Yn anffodus, hefyd, mynnai Parry rannu'r lleisiau, yn lle eu cadw'n gyfangorff cryf, fel y gwneir yng Ngŵyl Handel, —yr unig ddull effeithiol yn y lle. Ac yn olaf ni fu'n gall yn ei ddewisiad o arweinyddion a chantorion; meddyliai gynhyrchu effaith mawr yn ddiau gyda'i luoedd, ond y gwaethaf yw, nid oeddynt wedi dysgu'r darnau, yn neilltuol Cambria." Ond aeth y "Tone—poem " yn dda, ynghyd â'r darnau adnabyddus "Cytgan y Pererinion," a "Thoriad Dydd ar Gymru."

Yn 1897 y cyfansoddodd ei operetta ddigrif, "Cap and Gown," ddisgrifiadol o fywyd coleg.

XXIII. Dinas y Llyn Halen.

Hunan-gofiant:

1898 Cei di, Amser, fi ar yr aden i Eisteddfod Dinas y Llyn Halen (Utah), yn y Mormon Tabernacle (fy unfed mordaith ar ddeg) ar fwrdd y Campania. Unwaith eto ymwelaf â chwi, fy mherthnasau agos, a'm cyfeillion yn Pennsylvania, yn gystal ag yn Ohio; a chwithau fy nghefn— dryd yn Tennessee, eich teuluoedd, a'ch ŵyrion, ar ol saith mlynedd ar hugain o absenoldeb! Y mae y cynulliadau teuluaidd a chanu hen donau Danville, yr ymddiddanion i'r gramaphone—i'w danfon drosodd i Gymru i'm priod a'm plant yng nghanol ein dagrau (ac y mae ein teuluoedd rywsut yn dra theimladol) yn awr yn eu hail-adrodd eu hunain fel adnodau effeithiol ym mhennod faith bywyd. Gadawaf chwi nos Fawrth gyda'r trên wyth am Louisville, Kentucky, gan gymryd fy ngherbyd cysgu fel arfer, a chaf fy mrecwast fore dydd Mercher yn Louisville. Yr ydym ar wib i'r gorllewin, a chyrhaeddwn St. Louis, Missouri, bryd swper yr un dydd. Yma ceir depot godidog o ddim llai na deuddeg trên ar hugain, a dau esgynlawr ar bymtheg, yn barod i gychwyn i bob rhan o Gyfandir enfawr America. Gadawn tua hanner awr wedi wyth; af finnau i'm cerbyd cysgu, a chyrhaeddwn Ddinas Kansas erbyn brecwast y dydd canlynol (dydd Iau). Gan fod gennyf ddwy awr i aros yma, esgynnaf i gar trydan i gael golwg lawn ar y ddinas. Am ddeg ail—gychwynwn ar ein taith tua'r gorllewin, a'u cerbyd ciniawa gyda ni, a thrwy gydol y dydd gwibiwn dros y gwastatir dibendraw, ac mor dywodlyd fel ag i beri blinder mawr i lygaid a chlustiau. Af i'm cerbyd cysgu'r drydedd nos. Fore dydd Gwener am hanner awr wedi saith cyrhaeddwn Denver, Colorado; ac er fy syndod a'm llawenydd y mae yma hanner dwsin o'm cydwladwyr, a hen gyfaill, ynghyd â hen ddisgybl i mi yn Danville, yn fy nghyfarfod gyda cherbyd. Trefnir cwrdd croeso i mi'n union, i gwrdd a'r prif ddinasyddion a'r cerddorion proffeswrol. Cymerant fi o gylch eu dinas dra nodedig. Y mae y Rocky Mountains enwog yn y pellter-yr un fynydd-res yn ymestyn fyth i'r gorllewin am 5000 o filltiroedd. Y mae y fan ag oedd ddeugain mlynedd yn ol yn lle anifeiliaid gwylltion ac Indiaid wedi ei drawsffurfio i fod yn un o'r dinasoedd modern mwyaf swynol, gyda 180,000 o boblogaeth, ac yn meddu parciau, strydoedd, ystorfeydd, gwestai, chwareudai, eglwysi, ysgoldai, ac adeiladau gwladol o'r mwyaf prydferth, ac sydd wedi codi fel drwy wyrth oherwydd y mwnau aur, ac arian, a phlwm sy'n britho'r fynydd-res aruthrol ac annisgrifiadwy am fil o filltiroedd. Y mae'r cyfeillion yma'n orgaredig i mi.

Y diwrnod canlynol (dydd Sadwrn) am un ar ddeg y bore, gadawaf am Colorado Springs, taith o un filltir ar bymtheg a thrigain drwy olygfeydd godidog, ac wedi cyrraedd arhosaf y nos yno . . . Wedi holi, deuaf o hyd i Mr. James, o Gaerdydd, un o'r sefydlwyr cyntaf yma, a Joseph Parry o Ogledd Cymru; ac un o'r Cymry mwyaf hynaws, Mr. Stephens. Treulia'r hwyr gyda mi, a bore Sul hyd gychwyniad y trên—fyth i'r gorllewin.

Yn awr, y mae'r Rocky Mountains mor wirioneddol ryfeddol, y tu hwnt i bob disgrifiad, yn dyrchu i'r nefoedd ymhob ffurf o bentyrau clogyrnog a gwyllt. Pasiwn drwy geunentydd aruthrol, y trên yn cyson ddal ymlaen, gan hawlio mynd fan yma ac acw, yn codi i fyny mor uchel a 14,000 0 droedfeddi uwchlaw lefel y môr, fel yn Leadville. Daw'r os ymlaen, a'i brenhines mewn gwisg arian yn goleuo a hrawsffurfio'r pentyrrau dirif i ddull eglwysi cadeiriol neu estyll Natur. Daw cwsg yntau, a theimla un fel wedi bi groesi, ei synnu, ie, ei luddedu gan ryfeddu at y carneddi wybrennol, fel y mae gwely a chwsg yn felys i mi fel un o fabanod amser. Pan ddaw'r bore, teimlaf fy hun eto'n cael fy mychanu gan yr un fynydd-res. Yr wyf wedi gadael talaith Colorado, ac yn awr yn nhalaith Utah, yn dynesu at Ddinas y Llyn Halen, wedi bod yn teithio y tu mewn i'r mynyddoedd rhyfedd hyn am 716 o filltiroedd. Am ddau y prynhawn cyrhaeddaf ben fy nhaith. Daw dirprwyaeth i'm cyfarfod, ac i'm cludo i'm hotel, lle mae suite o dair ystafell wedi ei sicrhau i mi. Y mae'r ddinas a'i phobl yn nefoedd wirioneddol o garedigrwydd. Cymerir fi drwyddi, gyda'i holl swynion, a'i 80,000 preswylwyr (twf dwy flynedd a deugain). Yn orweddog mewn cawg enfawr ac yn gylchynedig gan y Rockies, gyda'i hinsawdd berffaith, ei strydoedd, ei barciau, ei adeiladau, a'i eglwysi—rhyfeddol yn wir yw'r byd mewnol neilltuedig hwn! Mawr ddifenwir a chamddisgrifir y cyfeillion Mormonaidd, y rhai sy'n enwog am eu lletygarwch a'u haelioni. Y mae eu cartrefi, a'r rhai yr ymwelais yn ddyddiol, yn debyg i gartrefi eraill Ewrob ac America. Y mae y Tabernacl ysblennydd, gyda seddau i 10,000 o bobl, a'r côr, gyda seddau i 600, o nodweddion clywiadol eithriadol, heb na cholofn na hoelen—yn sefyll ar safle brydferth dros ben. Y mae'r Deml hefyd yn nodedig am ei phrydferthwch y tu mewn a'r tu allan.

Cyflogir trên i fynd â mi gyda llawer o ffrindiau i'r Llyn Halen, rhyw dair milltir ar ddeg allan: (mesura) 120 milltir o hyd, ac ugain o led, ac y mae ei ddyfroedd seithwaith mor hallt ag eiddo'r môr.

Gwahoddir fi i ymweld ag Ogden, dwy filltir ar bymtheg ar hugain yn nês i lawr, lle y mae'r gallu trydanol i oleuo'r ddinas; a daw'r Maer a'r Gorfforaeth i'm cyfarfod—un ohonynt yn Joseph Parry arall eto. A'r côr, a'i arweinydd ieuanc galluog â mi am bicnic i'w canyon enwog, pellter o wyth milltir, a chawn bryd llawen yno treulir dydd o'r fath a lŷn ar dudalennau'r cof.

Cynhelir yr eisteddfod yr wythnos gyntaf yn Hydref, yn ystod ein cynhadledd. Y mae o 10,000 i 15,000 yn bresennol. Y mae pump o gyfarfodydd eisteddfodol. Cystadleua chwech côr ar ddatganu fy nghanig "Ar Don"—canu da, fel wythnos o Gymru yn y Rockies.

Traddodaf fy narlith ar y meistri yn y Tabernacl i gynulleidfa fawr, fel y gwneuthum mewn amryw ddinasoedd ar fy nhaith i'r gorllewin. Anrhydeddir fi, hefyd, â pherfformiad arbennig o opera yn eu chwareudy gwych a adeiladwyd ddeng mlynedd ar hugain yn ol. Y mae yr holl gwmni, y corws, y datganwyr, y gerddorfa, yr actio, a'r golygfeydd yn peri i mi deimlo fel pe bawn yn Llundain.

Cyfarfyddaf â dau hen gwpwl o hen gapel Bethesda, Merthyr, y rhai a adwaenent fy nhad a fy mam, fy chwiorydd, fy mrawd, a minnau pan yn fachgennyn. Siaredir Cymraeg ar y strydoedd fel ym Merthyr ac Aberdâr. Y mae darluniau (da iawn) ohonof ar hyd y ddinas i gyd, ac am unwaith yn fy mywyd, myfi yw arwr bach y ddinas, a threfnir gwledd fawr i'm anrhydeddu.

Y mae fy hen gyfeillion annwyl Judge Edwards a'i briod siriol wedi cyrraedd efe yw arweinydd yr eisteddfod, a gŵyr pawb yn dda y fath arweinydd yw.

Amser! yr hwn wyt fyth fel y môr yn dy aflonyddwch, dygi'r ymweliad byth-gofiadwy hwn i derfyn. Rhaid i mi eto eich gadael, fy annwyl gyfeillion, fel yr wyf mewn atgof wedi mwynhau fy ymweliad â chwi. Yr wyf wedi teimlo'ch calonnau cynnes, ac wedi gweld eich wynebau hawddgar unwaith eto. A gaf fi ymweld â'ch dinas eto? Un o'm dymuniadau i yw gwneuthur hynny.

Fore Sul, am wyth o'r gloch, yr wyf yn y trên, a llawer o gyfeillion yn fy ngweld i ffwrdd. Teithiaf y Sul ddydd a nos, y Llun ddydd a nos, Mawrth ddydd a nos, Mercher ddydd a nos, a dydd Iau hyd dri o'r gloch, pryd y cyrhaeddaf New York mewn pryd i ddal fy llong, y Campania, am gartref (fy neuddegfed mordaith). Yr wyf gartref eto ar ol taith fy mywyd—taith o 4000 o filltiroedd.

(Am gyfansoddiadau'r flwyddyn hon, gwêl y Rhestr.) 1899 a'm ca gyda pharti o bedwar (quartette party) ar fy nhrydedd mordaith ar ddeg i America ar fwrdd y Lucania, i roddi cyfres o gyngherddau a rhannau o'm operâu. Bum yn absennol tua deufis. Rhoddwyd cymaint o le i daith y flwyddyn ddiweddaf, fel y rhaid gadael allan hanes y daith hon.

(Gwêl y Rhestr.)

1900: Derbyniaf fy mhedwerydd comisiwn yn yr Eisteddfod Genedlaethol rhoddir "Ceridwen" yn Lerpwl. Gorfodir fi ar y ddeuddegfed awr i arwain y gwaith heb unrhyw ragbartoad gyda'r cor, na chyda'r côr a'r gerddorfa, dim ond un gyda'r gerddorfa a'r artistes. Gan fod distawrwydd yn euraid gwell gadael yr achos heb ei nodi. Eto, gymaint oedd yr atyniad, fel y bu rhaid troi tair mil i ffwrdd. Y canlyniad llwyddiant arall.

Ymddengys "seren fore" ar y gorwel yn ffurfiad pwyllgor ym Mhenarth o gyfeillion ffyddlon ardderchog, gyda'r amcan o gyhoeddi, perfformio, a mynnu rhwydd hynt i'm gweithiau. Penodir Mr. Joseph Bennett gan y pwyllgor i ysgrifennu libretto i opera i mi ar "Y Ferch o Gefn Ydfa," yn y gobaith y gellir ei chwblhau, ei chyhoeddi, a'i pherfformio ddiwedd y flwyddyn. Cynhelir cyfarfodydd mewn mannau canolog gan arweinyddion corawl y De gyda'r amcan o gydweithredu â phwyllgor Penarth, a gwneuthur trefniadau ar gyfer perfformio'r opera gan ryw ugain o gorau'r De. Ond siomir ni i gyd gan oediad y bardd y mae'r flwyddyn a'r ganrif yn marw cyn y genir un llinell o'r libretto.

1901: Genir canrif newydd, ac i rai o'i phlant daw gobeithion newydd, dyheadau newydd, a phenderfyniadau newydd i fywyd uwch a gwell. Beth am amcanion uchel a charedig pwyllgor Penarth? Beth am Mr. Bennett? Daw Mawrth â'i gyfran gyntaf. Dwg y Pasg ef i lawr i Benarth a Chefn Ydfa a Chastell Coity. Daw gobeithion newydd i'r pwyllgor, ac i mi, ac i'r cylchoedd corawl, ac erbyn diwedd y flwyddyn yn sicr gwelwn gwblhau, a chyhoeddi, a pherfformio yr opera hir-ddisgwyliedig. Och! y mae dynoliaeth dlawd, annibynadwy eto'n ei bradychu ei hun, canys y mae'r pwyllgor, y cyfansoddwr, a'r corau, ar ddiwedd ail flwyddyn eto'n cael eu siomi. Dim ond yr act gyntaf a orffennir erbyn Mai, ac hyd ganol yr ail act erbyn diwedd y flwyddyn. Fel hyn y mae'r oediad yn llusgo ein bwriadau a'n hymdrechion i mewn i'r drydedd flwyddyn.

Llenwir amser yr oediad hwn drwy i mi orffen fy seithfed opera "His Worship the Mayor"; ac yna fy wythfed "Y Ferch o'r Scer." Ond y mae oediad yn oeri brwdfrydedd, ac yn rhoddi bod i'r un drwg, i glaearineb, diflastod, a musgrellni.

Daw'r Nadolig eto, ac yr wyf finnau ym Mhontypridd y Nadolig a'r dydd dilynol yn arwain fy nau waith,—"Nebuchadnezzar" a "Ceridwen" (in character); ac er mai dim ond rhesymol yw'r datganiad—fel, yn anffodus, y mae'n gyffredin gyda'm gweithiau i—atynnant gynulliadau mawrion a chymerant yn dda. Dyma fy unfed Nadolig a thrigain.

Fel hyn, o dydi, drên amser! nid yw dy funudau, oriau, dyddiau, wythnosau, misoedd, a blynyddoedd, ond megis cerbydau, a ninnau, feidrolion, yw'r teithwyr. Ac y mae gennyt dy flynyddoedd fel gorsafoedd, neu derfynfaoedd, i ddosrannu a dynodi taith fechan ein bywyd. Ac yna cyn hir ti a'n cludi i'r orsaf olaf a elwir y bedd.

Ddychymyg! ti ddrych y gorffennol, a phroffwyd y dyfodol, ydwyt wedi arddangos ar ganfas fy meddwl holl olygfeydd gorffennol fy mywyd; er eu bod wedi eu claddu ers amser hir ym medd anghofrwydd, ti a ddygaist y cwbl yn ol megis drwy wyrth, i fyw eto yn y presennol fel mewn ail fywyd.

Och! dyma fy ngeiriau olaf, y rhai sydd i'm llygaid, a'm clustiau, a'm calon fel galargân (requiem), canys dynodant oriau marw fy unfed blwyddyn a thrigain. Canys yfory ar fy nydd pen blwydd, byddaf yn dechreu pennod arall yng nghyfrol fy mywyd. Y mae fy mywyd gorffennol a'm llafur yn cynnwys llawer i fod yn ddiolchgar o'i blegid. Y mae fy opera, "The Maid of Cefn Ydfa," hwre! wedi ei gorffen. Y mae Mr. Bennett wedi fy anrhegu â'i libretto odidog fel prawf o'i ddymuniadau da i mi, ac y mae'r pwyllgor, fel prawf o'u ffyddlondeb i mi, a'u hamcanion eu hunain, wedi trefnu drwy Mr. Bennett a Mr. Manners—i berfformio'r opera yma yng Nghaerdydd, Rhagfyr nesaf, gan y Moody-Manners Opera Company. Y mae y ffaith mai dyma fy nawfed opera—yn gwneuthur chwech ar hugain o weithiau, ynghyda fy Llyfr Tonau, a llawer o ganeuon, rhanganau, corawdau gwrywaidd, canigau, anthemau, a cherddoriaeth offerynnol, yn fy nghysuro’n fawr (a’r ystyriaeth) fod fy mywyd bach wedi ei gyflwyno i gynorthwyo cerddoriaeth a cherddorion ieuainc anwylaf wlad fy ngenedigaeth.

Joseph Parry Mai 20, 1902.

XXIV. "Yr Ysgub Olaf."[26]

"CAMBRIA," "CERIDWEN," "KING ARTHUR," "His
WORSHIP THE MAYOR," "BRONWEN (Y FERCH O'R SCER),"
"THE MAID OF CEFN YDFA," "JESUS OF NAZARETH."

RWY'N cofio morio, un hwyrddydd haf, ar un o lynnoedd yr Alban, a gweld y mynyddoedd rhyngom a machlud haul yn ymgodi gyda'i gilydd, y tu cefn i'w gilydd, uwchlaw ei gilydd, gan roddi i'r edrychydd yr argraff o amlder o arucheledd, mawr, amryw," ardderchowgrwydd—yn ychwanegol at y teimladau arferol a ddwg machlud haul, gyda'i

Lif o ogoniant yma,
Llif cyfoethocach draw.

Dyna paham y gosodir y teitlau uchod gyda'i gilydd uwchben y bennod hon, am y dymunwn gynhyrchu argraff cyffelyb ym meddwl y darllenydd yn yr olwg ar y gyfres ryfeddol hon o weithiau—mawrion i gyd, er yn fwy a llai. Yr ydym wedi cael ein synnu eisoes gan doreithter cynhyrchiol Parry, ond cynhydda'n syndod yn awr pan gofiom fod yr awdur erbyn hyn tua thrigain oed. Gwir fod awduron cerddorol eraill wedi cyfansoddi rhai o'u prif weithiau wedi pasio canol oed, a hyd yn oed eu trigain oed, a rhai eu trigain a deg, ond nid yn aml gyda'r fath doreithter a hyn, llai fyth gyda thoreithter[27] cynhyddol fel mae'r blynyddoedd yn pasio. Er i Haydn gyfansoddi ei "Greadigaeth" pan o drigain a phedair i drigain a chwech oed, eto cwyna fod meddylddrychau unwaith yn ei geisio ef, ond ei fod ef yn awr yn gorfod eu ceisio hwy. Hyd yn oed mor ddiweddar a dechreu 1903 cawn Parry yn llawenhau—fel "cawr i redeg gyrfa"—am fod Mr. Bennett wedi addaw libretto arall iddo, ac felly wedi rhoddi cyfle arall i'w ymdrechion.

Ag eithrio "Cambria," ni enwir yr un o'r gweithiau hyn yn y rhestr a ddenfyn i mewn fel ymgeisydd am y swydd o Brifathro yn y Guildhall School of Music yn 1896, fel y gellir teimlo'n sicr nad oeddynt ar gael y pryd hwnnw. Ennwyd "Cambria" mewn pennod flaenorol, ond rhoddwn hi yn y fan hon am ei bod yn perthyn i driawd hanesyddol— gyda Ceridwen" a "King Arthur."

Pan alwyd Parry, wedi perfformio "Sylvia" yn 1895, i ymddangos gerbron y gynulleidfa yn y Theatre Royal, Caerdydd, cyfeiriodd at ei fwriad i ysgrifennu chwareu-gerddi'n dal perthynas â Glyndwr, Llewelyn, ac Arthur, ar linell opera'r noson honno. Gwir fod "Sylvia" 'n dal perthynas â hanes, ond chwedlonol—carwriaethol ydyw'n bennaf. Gellir dywedyd fod "Blodwen" yn dal perthynas â hanes y bedwaredd ganrif ar ddeg, ond eilradd hollol yw'r berthynas hon—yr hyn sydd yn ganolog yn y libretto yw'r nodwedd garwriaethol—filwrol, fel y gellir edrych arni fel yn perthyn i'r un dosbarth a Virginia," yr hon hefyd sydd yn garwriaethol—filwrol, er bod ei golygfeydd a'i chymeriadau'n perthyn i wlad arall. Perthyn y "Ferch o'r Scer" a'r "Ferch o Gefn Ydfa" wedyn i'r un dosbarth—dosbarth y rhamant garwriaethol. Yn yr un modd perthyn "Arianwen" a "His Worship the Mayor " yn agos i'w gilydd, er eu bod yn ymwneud â thestunau tra gwahanol, am mai yr elfen ddigrif sydd yn rhoddi eu cymeriad iddynt.

Pan berfformiwyd "Sylvia" yn 1895, diau fod partoadau ar gyfer Cambria" ar droed, ac fe ellid cysylltu y cyfeiriad at Arthur, Llewelyn, a Glyndwr yn arbennig â hi, a'r lle a gant ynddi; eto cywirach, y mae yn sicr, yw cysylltu'r cyfeiriad â bwriad ehangach o eiddo'r awdur i roddi opera i bob un ohonynt, ac iddo ddechreu'i weithio allan yn ddiweddarach gydag "Arthur a'i Farchogion." Eto perthyn y ddwy gantawd ddramayddol "Cambria" a "Ceridwen" i'r un dosbarth o weithiau "hanesyddol"—hanesyddol, hynny yw, nid yn yr ystyr o fod yn dal rhyw berthynas â hanes Cymru, ond yn yr ystyr o fod yn ymwneud â chymeriadau o faintioli cenedlaetnol, neu ddigwyddiadau oedd ar raddfa genedlaethol. Cymer "Cambria" hanes Cymru ar ei hyd yn destun—ar eiriau gan Syr Owen Edwards—ac am y rheswm hwnnw gellir edrych arni fel math ar sylfaen i'r oll, tra yr ymwna "Ceridwen "—ar eiriau gan Dyfed—â hanes Cymru yn amser y Derwyddon, ymosodiad y Rhufeiniaid, a dyfodiad Cristnogaeth. Yr un ffugr barddonol o nos a gwawr ddefnyddir gan y ddau fardd i osod allan chwyldro hanes, ond y mae eu triniaeth ddeheuig ohono'n rhoddi cyfle arbennig i'r cerddor.

Cyhoeddwyd "Cambria" a "Ceridwen" a pherfformiwyd y ddwy fel y sylwyd eisoes. Gorffennwyd yr opera "King Arthur "ar eiriau gan Elfed—yn 1900, ond nid ydyw eto wedi ei chyhoeddi na'i pherfformio. Daw i fyny â'r safon a nodwyd uchod o fod yn ymwneud â ffugr o faintioli cenedlaethol; ag eithrio hyn, y mae'n fwy chwedlonol na hanesyddol, gyda chorawdau nid yn unig i Farchogion, Gloddestwyr, Mynachod a Lleianod, a Morwynion y llys, ond hefyd i Wrachod, a Syrens, a Bodau anweledig. Y prif gymeriadau yw Arthur a Gwenhwyfar, Lancelot ac Elaine, Merlin a Vivienne.

Gwelir mynd y geiriau yn yr enghreifftiau a ganlyn, a diau fod Parry yn ei elfen yn eu hieuo â miwsig, fel yr oedd Elfed, y mae'n amlwg, wrth eu cyfansoddi:

Y Gloddestwyr:

We know where the world is merry,
We know where a man may laugh,
We are poor and thirsty—very!—
But to-day here is mead to quaff:
So here's to the knight victorious,
And here's to ourselves, say we :
May he oft return as glorious
With all of us there to see!
Good health, all round.

Y Syrens eto
(yn plethu eu gwallt gerllaw ffynnon):

Shine, shine, loverlike sun,
We our tresses plaiting;
Let the moments merrily run,
We our loves relating.
Fal, la, la, fal, la, la, la.

Flow, flow, generous fount,
Glass of charming faces;
Who can tell but a knight or count
May take us for the graces.
Fal, la, la, etc.

Bloom, bloom, flower of life,
Tho' the roses wither;
Who, alas! would be a wife,
Who would not be one either!
Fal, la, la, etc.


Ceir digon o "gysgod"—neu "wawr"—yng nghytgan y mynachod:

For He knoweth our frame,
He remembereth that we are dust,
As for man, his days are as grass, etc.


Er mai yn 1900 y gorffennwyd yr opera, bu yn y gŵydd am rai blynyddoedd, yn wir gryn lawer yn hwy na'r rhan fwyaf o weithiau'r awdur; oblegid ar ddiwedd y tair cyfrol (gydag act ymhob un) cawn a ganlyn:

Cyfrol I—Scored 27th June, 1900.
Cyfrol II—13th February, 1897; Scored 11th July, 1900.
Cyfrol III Finished Monday, p.m., 2nd January, 1899.—J.P.

The last note of the scoring finished now Saturday, 9.30 p.m. 1st September, 1900."

Gwelir wrth hyn iddi gael ei dechreu—os nad yn 1896, o leiaf yn gynnar yn 1897, ac felly ei bod yn berthynas agos i "Cambria a Ceridwen."

Yn y "Cerddor" am Mawrth, 1897, darllenwn a ganlyn: "I bobl mor wladgarol a'r Cymry, nid tebyg y bydd i hanes eu dewrion byth apelio atynt yn ofer. Er hynny, nid ydym wedi gwneuthur yn agos i'r hyn a allesid yn y cyfeiriad olaf. Y mae Talhaearn a Phencerdd Gwalia wedi canu ar 'Llewelyn,' ac Eos Bradwen ar 'Owain Glyndwr, ond ni ellir ystyried fod y naill destun na'r llall wedi ei ddihysbyddu ganddynt. Y mae J. D. Jones, hefyd, wedi bod yn ymwneud â Llys Arthur,' ond y mae Arthur ei hun yn parhau yn ei gwsg hirfaith; tra y mae Caradog a Buddug, Gruffydd ap Cynan, Syr Rhys ap Tomos, Picton, a gwroniaid lawer eraill yn aros ymddangosiad y bardd a ddaw ryw ddydd 'i roddi anadl bywyd ynddynt hwy a'u hanes." I ba raddau y llwyddodd y bardd a'r cerddor i roddi anadl bywyd yn hanes Arthur sydd gwestiwn na ellir mo'i benderfynu eto; ond y mae'n amlwg fod Parry wedi gosod ei "gorn ffraeth o saernïaeth nef," a llawer offeryn arall i'r gwaith o'i ddadebru ef, a gwroniaid eraill hanes Cymru.

Yn ei hunan—fywgraffiad dywed wrthym iddo gyfansoddi "His Worship the Mayor," a'r "Ferch o'r Scer" pan yn aros i Mr. Bennett orffen ei libretto fwy pwysig. Gwyddom eisoes mai amhosibl oedd iddo fod yn llonydd, neu wneuthur dim; ond peth newydd yn sicr, yn ei hanes ef, yw gwneuthur cyfansoddi opera neu ddwy yn fath ar ddifyrrwch oriau hamdden. Ni ryfeddem at ei waith yn troi allan nifer o ganeuon a thonau, neu hyd yn oed rangan. Ond tebyg mai anodd i'r capten llong, pan fo'r llanw wedi dod, a'r awel o'i du, ac yntau wedi lledu ei hwyliau ar gyfer mordaith bell, yw rhoddi'r fordaith bell i fyny, a rhedeg ar negeseuau gyda'r glannau, i borthladdoedd bychain yn ymyl—rhai y gallai smack eu gwneuthur lawn cystal.

Bid a fynno, pleser yw deall ei fod yn gallu "gwenu"— a chwerthin—"ar y stormydd oll," oblegid chwerthin mae'r bardd a'r cerddor ar ben y pwysigrwydd bychan sydd yn troi o gylch swyddi a swyddogion trefol yn ei opera, "His Worship the Mayor" Ar hon dywed awdur y geiriau, Mr. Arthur Mee ("Idris" y "Western Mail"): Yr oedd Dr. Parry a Mr. Lascelles Carr yn dra chyfeillgar, ac ymddengys iddynt gynllunio gwaith o'r fath rhyngddynt a'i gilydd. Yr oedd Dr. Parry'n frwdfrydig iawn yn ei gylch. Cytunwyd mai fi oedd i ysgrifennu'r telynegion, ac aelod arall o staff y 'Mail' yr ymddiddan. Cyfansoddais y penhillion, ac yr oeddynt yn dderbyniol. Gosododd Parry hwy i fiwsig, a miwsig tlws odiaeth ydoedd, yn neilltuol cân y Maer a chân y Town Clerk. Yn anffodus ni fu'r un llwydd gyda'r ymddiddan. Gadawodd y cyntaf a gymerodd at y gwaith am Lundain, a gwnaeth yr ail gawl ohono, fel ag i'n bwriad druan ddiflannu bob yn dipyn mewn mwg. Un noson acaf ddifrifol o oer a llithrig gwahoddodd Mr. Carr Dr. Parry a minnau i'w dŷ i ystyried y mater. Yr oedd yn ganol nos neu ragor pan ymadawsom, a chan fod y trên olaf wedi hen fynd, danfonodd Mr. Carr ni adref mewn cab. Yr oedd y ffyrdd fel gwydr. Disgynnodd Parry ym Mhenarth, ac euthum innau yn fy mlaen i Gaerdydd. . . . Cofiaf ofyn rhai cwestiynau i Parry ynghylch ei dôn Aberystwyth,' ond, er syndod i mi, nid ymddangosai ei fod yn gwybod sut y daeth i fod, nac yn cysylltu llawer o bwys â hi o gwbl![28] Ni wn beth ddaeth o eiriau His Worship the Mayor'—yn wir ni wnaed nemawr ddim oddigerth fy ngeiriau i—a'r miwsig wrth gwrs. Bwriadwyd y peth i fod yn fath ar skit ar fywyd dinesig, a'i arferion—dyna'i ergyd mewn ychydig eiriau."

Da gennym allu hysbysu'r telynegydd a'r darllenydd fod y geiriau a'r gerddoriaeth ar gael. Gwelir eu natur oddiwrth y penhillion a gân y Maer:

A mayor I am of high degree,
They're envious all who speak of me,
An honour surely 'tis to be
The Mayor of Slocum Podger.


Ac yna, wedi derbyn anrhydedd uwch:

Behold his majesty's command,—
The nations hear, I understand—
Proclaimed am I on every hand
Lord Mayor! Lord Mayor! Lord Mayor
Of Slocum Podger!


Diddorol sylwi mai tenor a gân y Maer, tra mai baritone yw'r Town Clerk. Y dyddiadau ar y copi yw 24th Nov., 1900 a 28th March, 1901.

Yr oedd wedi dechreu'r opera "Y Ferch o'r Scer" yn flaenorol oblegid y dyddiad ar y gyfrol gyntaf yw 17th Feb., 1900, ond yn awr y'i gorffennwyd. Y teitl ar y copi yw "Maid of Scer—Bronwen—(A Romantic Opera)." Ond er mai canolbwnc y libretto yw rhamant garwriaethol y Ferch o'r Scer, gorwedd llawer o'i diddordeb yn y disgrifiad a rydd o fywyd gwledig yr oes o'r blaen, a phe perfformid hi, byddai'n sicr o ddod yn boblogaidd ar y cyfrif hwnnw. Dwg yr act gyntaf ni i faes y cynhaeaf, lle y ceir Orchestral Rustic Harvest Dance; yr ail i'r Ffair, lle y cawn Orchestral Fair Dance; a'r drydedd i dŷ'r Briodas, llawn o Bridal Music, a Chorws y Village Bells. Y brif soprano yw'r Ferch, a Twm Ifan y prif denor; cawn ddau faritone poblogaidd yn yr Hen Ganwr Baledau, a'r Cheap Jack (â'i Buffo Song) yn y Ffair, tra y dygir Gipsy i mewn i ganu contralto.

Y dyddiadau ar ddiwedd y gyfrol olaf yw 13th Sept., 1901, ac 9th Oct., 1901.

Ni raid ychwanegu geiriau i chwyddo clodydd y pwyllgor o "gyfeillion yn wir" a gyflogodd Mr. Joseph Bennett i ysgrifennu libretto opera i Parry, a chwmni Moody-Manners i'w pherfformio—"fy mhwyllgor" fel y geilw ef gyda thinc o anwyldeb. Yn ei symlrwydd diystyr disgwyliai'r cerddor i'r bardd fod mor awyddus i gyfansoddi'r geiriau ag oedd ef ei hun i ysgrifennu'r gerddoriaeth, ac y byddai'n mynd at y gwaith yn gyntaf peth. Siomwyd ef yn hyn, ond o'r diwedd fe ddaeth y geiriau, a gorffennwyd yr opera: opera mewn tair act ar hanes adnabyddus y Ferch o Gefn Ydfa, wedi ei drin a'i drosi gan y bardd i'w wneuthur yn gyfaddas i ofynion chwareugerdd.

Cychwynna'r act gyntaf yn aelwyd Cefn Ydfa; ä'r ail â ni, drwy ddyfeisiau i wahanu'r cariadau, i'r Eisteddfod; a dwg yr olaf ni at wely marw Anne. Y mae yr opera, yn ol yr hanes, yn llawn tlysni; unawd Anne ar ei gwely angeu, yn ol un beirniad, yn un o "swyn ysbrydoledig." Y peth a'n tery hynotaf ynddi yw gwaith y cerddor yn gwneuthur i dorf yr Eisteddfod ganu "Crugybar"; dengys hyn ddiffyg barn, beth bynnag am ddiffyg chwaeth, oblegid, hyd yn oed a chaniatâu fod y dôn a'r Eisteddfod yn gydnaws â'i gilydd, a bod "Crugybar" yn bod yn amser Wil Hopkyn, pwy erioed glywodd sôn am ganu tôn yn yr hen eisteddfod? Gwir mai 'alaw' Gymreig yw Crugybar," ond yng nghysylltiadau'r opera tôn ydyw, a thôn ydyw i ni heddyw.

Cafodd Parry—yn gystal a'i gyfeillion ei fodloni'n fawr; oblegid er ei fod wedi gorffen ac arwyddnodi ei hunan-fywgraffiad ym Mai, 1902, cawn a ganlyn ar dudalen unig yn nês ymlaen:

"Ionawr, 1903: Henffych well i ti, flwyddyn arall! Yr wyf yn abl i groniclo llwyddiant mwyaf llafur fy mywyd, sef pum perfformiad o fy opera The Maid of Cefn Ydfa," gan y Moody—Manners Grand Opera Company gyda cherddorfa lawn o 110, corws, a phrif gymeriadau yn y Grand Theatre, Caerdydd, Rhagfyr 15, 1902. Yr oedd fy nghyfeillion cerddorol a'm cydwladwyr yn bresennol o bob parth o'r De, fel yr oedd y chwareudy'n llawn ymhob perfformiad, a derbyniwyd fy ngwaith, a'r canu gyda brwdfrydedd yr oedd yn llwyddiant gwirioneddol. Yr oedd Mr. Bennett ei hun yn bresennol y Sadwrn; a gwell fyth, y mae amcanion fy mhwyllgor yn cael eu sylweddoli i'r eithaf, drwy fod trefniadau wedi eu gwneuthur rhyngddynt a Mr. Manners, i gynnwys fy opera yn repertoire Cwmni A i fynd drwy Loegr a Chwmniau B a C i fynd drwy Gymru.

Ymhellach, y mae Mr. Bennett yn garedig iawn wedi addo ysgrifennu libretto arall ar gyfer Grand Opera i mi. Fel hyn, yr wyt ti, 1903, yn agoryd dy ffenestri gan belydru allan oleuni disglair o obaith mewn cyfleustra newydd i'm hymdrechion. Beth sydd gennyt yn ystôr i mi, fy nheulu, a'm cyfeillion, ti a ddatguddi fel y bydd dy fisoedd yn treiglo ymlaen yn un ac un. Ond y mae gobaith, gwynfyd yr enaid, yn eiddo i mi."

Y mae gennym hefyd dystiolaeth unol rhai o brif aelodau'r cwmni operataidd i ragoroldeb yr opera.

Dywedai Mr. Manners ei bod yn debyg i "Lily of Killarney," ac y byddai'n debyg o fod yn llwyddiannus, am fod y testun yn lleol, y geiriau a'r gerddoriaeth yn syml, a defnydd da'n cael ei wneuthur o'r alawon cenedlaethol."

Madam Fanny Moody: "Y mae fy rhan i'n swynol dros ben; y mae golygfa'r gwely marw'n wirioneddol odidog, ac yr wyf yn methu peidio wylo pan yn mynd drwyddi.'

Charles O'Mara: "Y mae'n llawn melodi, ac yn dangos ôl llaw'r meistr. Y mae'r alawon Cymreig yn fy atgofio o'r rhai Gwyddelig. Y mae hufen y gerddoriaeth wedi ei roddi i mi."

Miss Crichton: "Y mae'r miwsig yn apelio at gymaint o reddf ddramayddol a feddaf."

Miss Lily Moody: "Bydd yn un o'm pleserau mwyaf i ddatganu fy rhan i eto; y mae yn fy nharo i'r dim—y mae cymeriad ynddi.

Y Tenor yntau: "Y mae yna swyn arbennig yn y gerddoriaeth i'r tenor drwyddi i gyd—rhydd bob mantais i'w allu dramayddol."

Dywedai Mr. Eckhold, y Musical Director, fod y miwsig fel yn codi'r bobl allan ohonynt eu hunain. Nid clod bach i'r gerddoriaeth yw fod pob un yn ystyried ei ran ei hun yn oreu.

Ar waetha'r cwbl, collodd y pwyllgor tua £200 ar yr anturiaeth, a pharai hyn ofid iddo yn ei ddyddiau olaf.

Goruwch yr holl fynyddoedd sy
Bydd mynydd tŷ Jehofa.

Ac felly yr oedd hi gyda Parry: golygai ef i "Jesus of Nazareth" ar yr hwn y gweithiai yn ei ddyddiau olaf, fod yn brif waith ei fywyd. Y mae o ansawdd tra gwahanol i "Emmanuel," er ar yr un testun; oblegid tra yr ä yr olaf yn ol, fel Ioan i'r "dechreuad," cychwynna y blaenaf ym Methlehem gyda Marc. Ac y mae yn llawer mwy dramayddol yn wir, yr hyn a wna yw gweithio allan y drydedd ran o "Emmanuel," drwy help "golygfeydd" yn hanes yr Iesu, mewn ffordd ddramayddol. Golygai i'r gwaith gynnwys dwy ran: y gyntaf yn ymwneud â'r hanes hyd y mynediad olaf i Jerusalem, a'r ail â'r digwyddiadau ynglŷn â'r Croeshoeliad. Ni orffennwyd ond y rhan gyntaf. Dyma'r adrannau I, Bethlehem; II, Nasareth; III, Jerusalem; IV, Samaria; V, Nain; VI, Galilea; VII, Capernaum; VIII, Bethania; IX, Y Mynediad i Jerusalem. Sonia'r Beibl am yr Iesu'n canu (gyda'i ddisgyblion)—gesyd Parry Ef i ganu tenor agos ymhob adran. Yna ceir corawdau i'r Bugeiliaid, y Pererinion ar y ffordd i'r wyl, y Samariaid, y Dorf, etc; unawdau soprano gan yr Angel, Mair Magdalen, Mair o Fethanai, tra y cân Martha contralto; a phedrawd ym Methania, gan yr Iesu, Lazarus, Mair a Martha.


Gadawodd fraslun o eiriau ar ei ol a ddengys i ni y llwybr fwriadai ei gymryd yn yr Ail Ran. Wele'r prif adrannau:

I, Y Sanhedrim; II, Bethania (a'r blwch alabaster); III, Y Daith olaf i Jerusalem; IV, Y Swper Olaf; V, Judas gerbron y Sanhedrim; VI, Gethsemane; VII, Iesu gerbron Annas; VIII, Iesu gerbron Caiaphas; IX, Anobaith Judas; X, Iesu gerbron Pilat; XI, Iesu a Barabas; XII, Y Fflangell a'r Goron Ddrain; XIII, Y Ffordd i'r Groes; XIV, Y Croeshoeliad; XV. Yr Adgyfodiad a'r Esgyniad.

Rhydd yr enghraifft a ganlyn (Adran XIV) syniad i'r darllenydd o'i ddull o ddefnyddio'r hanes (y mae'r oll yn Saesneg):

CRUCIFIXION. CAIAPHAS, ANNAS, CENTURION, JESUS, MARY, PRIESTS, NICODEMUS, JOSEPH, PILATE.

CAIAPHAS: This shall be a feast day ever.

ALL: Hail, King of the Jews 1 If thou art he, come down from the cross.

CAIAPHAS: Thou that savedst others, thyself thou canst not save. What, don't you hear?

ALL: Shew thy power, thou mighty King of the Jews!

JESUS: Father, forgive them, they know not what they do. ALL: If thou be Christ, save thyself and the two thieves. JESUS Verily I say unto you, to-day shall ye be with me in Paradise. ALL He speaks to them of Paradise. JESUS Mother, behold thy son. I thirst ALL: Give him vinegar. JESUS Eli, Eli, Lama, Sabachthani! ALL: Hark! he crieth for Elias. Let us see whether Elias will come and save him.

JESUS: It is finished. Father, into Thy hands I command my spirit.

ALL: What a dreadful earthquake! Crashing, falling rocks! Woe be to us! Verily, he is a Son of God. Let us go home. Almighty God, we have sinned; forgive us. The veil of the temple has been rent in twain! Dreadful!

CHORALE: See our Saviour on the cross-see His holy mother, see, see.

Gwelir ei fod yn cyfaddasu, neu gyfansoddi geiriau

yn ol awgrym ac angen ei ddychymyg cerddorol.

XXV. Cerddoriaeth Cenedl a Chenhedlaeth.

Y MAE i gerddor berthynas â'i genedl ac a'i genhedlaeth, a bydd yn help i'r darllenydd ieuanc i gael syniad gweddol gywir am y berthynas hon, i allu prisio'n iawn yr hyn a ddywed y beirniaid am Parry fel cerddor.

Cydnabyddir yn dra chyffredinol heddyw fod gan bob cenedl hawl i ddatblygu ei bywyd goreu ei hunan yn ei ffordd ei hunan (yn gyson â hawliau cenhedloedd eraill wrth gwrs), ac mai dyna'r unig ffordd i'w ddatblygu. Odditan hyn gorwedd y ragdyb fod i genedl ei hanianawd a'i hathrylith arbennig ei hunan, ac felly ei swyddogaeth benodol yn y cyfan; ac y bydd yn gwasanaethu'r cyfan yn gystal a hi ei hun, nid trwy anwybyddu ac esgeuluso ei nodweddion cenedlaethol, ond drwy eu pwysleisio a'u datblygu nid unffurfiaeth a rydd yr unoliaeth cyfoethocaf.

Nid felly y mae wedi bod yn ystod cyfnodau hir a blin teyrnasiad grym ni chydnabyddid hawliau cenedl i hyn mwy nag eiddo'r unigolyn; gwneid pob ymdrech i ddarostwng ei huchelgais cenedlaethol, ac i fathru allan ei nodweddion. Gwir i ddiwylliant y gorchfygedig rai prydiau ennill gwrogaeth y gorchfygwr, ond nid yn aml. Ac nid felly y bu yng Nghymru. Hyd yn oed heddyw, fel yr awgryma Dr. Protheroe, y mae yna duedd yn y Cymro i leoli cartref y safonau yn Llundain—safon perffeithrwydd cerddorol yn eu plith. Eto pan eir yno ceir ei fod wedi ei symud i'r Cyfandir—cyn y rhyfel mawr o leiaf. Pascal, onide, a ddeffiniodd yr Anherfynol, fel un sydd â'i ganolbwnc ym mhobman, a'i amgylchedd ddim yn unman. Wel, gwybydded y cerddor ieuanc fod safon perffeithrwydd ym mhobman, am nad yw mewn un man, na Llundain, na Pharis, na Berlin, ond yn yr uwchleol; ac mai ei waith ef yw mynegi'r ysbrydoliaeth a ddaw iddo ef oddiyno, heb fynd yn slâf i amser na lle.

Yr oedd Parry byth a beunydd yn pwysleisio hyn, yn ei anerchiadau yn gystal ag yn ei ysgrifau: maentumiai fod yna yr hyn a alwai yn germ o athrylith gerddorol nodweddiadol Gymreig yr awyddai ei ddatblygu a ffurfio arddull ac ysgol Gymreig; a phan gyhuddodd "Zetus" ef yn 1890 o fod wedi oedi'n hir cyn galw sylw at hyn, yr oedd yn alluog i dystio ei fod wedi cyfeirio at y peth ar hyd y blynyddoedd. Da gennym fod ein prif gerddorion presennol yn galw sylw at yr un peth.[29]

Eto y mae yn gwestiwn a fu Parry yn ffyddlon i'w weledigaeth yn ei gyfansoddiadau, neu pa mor ffyddlon y bu. Gyda'i ardymheredd hylifol, ei duedd oedd mynd yn ormodol dan lywodraeth awduron eraill; yn ol Mr. Jenkins meddiennid ef braidd yn gyfangwbl gan ryw awdur oedd yn eilun am y tro, yn awr Mendelssohn, wedyn Rossini, ac yna Wagner. Nid mater ydyw, bid siwr, o beidio astudio awduron eraill, dysgu ganddynt, a hyd yn oed sugno ysbrydoliaeth ohonynt, ond o beidio cymryd ein meddiannu ganddynt fel ag i'w heilfyddu a'u hatgynhyrchu'n slafaidd. Ni ellir pwysleisio'n ormodol nac yn rhy aml y rhaid geni pethau byw—nid pethau "o waith llaw" neu "wneuthur" mohonynt. Yn ddeallol yr oedd Parry'n hollol glir ar y pwnc,—lle, er enghraifft y dywed: "Ni wna unrhyw gymaint o wybodaeth ddyn yn athrylithgar, eithr rhaid i'r athrylithgar wrth wybodaeth." Ond yn ymarferol ni ddihangodd rhag y perigl. Yn ol Mr. Price ysgrifennodd ei bethau mwyaf byw, a'r pethau sydd yn debyg o fyw, pan yn rhydd o'r gorthrwm tramor. Gwel y darllenydd gyfeiriadau pellach at hyn yn yr ysgrifau sydd yn dilyn. Ond y mae yna wahaniaethau mewn amser yn gystal ag mewn lle ac anian. "Un genhedlaeth a ä, a chenhedlaeth arall a ddaw," a chenadwri wahanol er i'r anianawd genedlaethol bara'r un. Perigl yr ieuanc yw addoli delfrydau ei oes ei hun a dibrisio'r hyn a fu. Iddo ef y mae Moderniaeth yn safonol, a chanddo allu i godi neu ynteu i fwrw i lawr; lle na chaiff achub y mae'n damnio. O brin y cydnabyddir mawrion y gorffennol hyd yn oed fel arloeswyr, gan gymaint rhuthr a dirmyg y condemniad. Bid siwr, nid yw cerddorion ieuainc mor anghyson a'r diwinyddion ieuainc rai blynyddoedd yn ol, a gondemniai ddiwinyddiaeth y gorffennol yn ei chrynswth er pwysleisio ohonynt Fewnfodaeth Duw yr un pryd! Ni raid i'r cerddorion ieuainc wrth syniad felly am Dduw, eto dylasent hwy weld mai o brin y mae gan y don hawl i farnu a chondemnio'r môr y cyfyd ohono, er iddi fod yn don gribwen.

Ond nid arloeswyr yn unig mo wroniaid y gorffennol, ond meistri; ffurfiant uchafbwyntiau hanes eu hoes nas diorseddir gan yr oesoedd dilynol. Y geudeb syniadol rhwydd sy'n gwneuthur unffurfiaeth yn ddelfryd sy'n cyfrif am y duedd i edrych ar bob oes fel yn is-wasanaethgar i'r rhai dilynol, yn hytrach nac fel un sy'n meddu ystyr, a swyddogaeth, a pherffeithrwydd o'i heiddo ei hun. Gall fod yna gyfnodau o ddirywiad, mae'n wir; a gellir edrych ar aml i gyfnod o adweithiad fel y pantle rhwng dwy don. Arferai Carlyle bwysleisio fod oes o weithgarwch mawr yn cael ei dilyn gan oes o feddylgarwch; gallasai ychwanegu y dilynir honno'n aml gan oes o anfeddylgarwch.[30]

Ond am gyfnodau creol, y mae ganddynt hwy waith ac ysbrydoliaeth sydd i fesur yn annibynnol ar orffennol a dyfodol; arhosant fel mynegiadau o'r tragwyddol ym myd amser a lle. Ni chredaf y breuddwydia athronwyr y byd am allu mynd y tu hwnt i Plato ac Aristotle mewn rhai cyfeiriadau; na'i ddramodwyr ychwaith am allu rhagori ar Shakespeare ond mewn ail bethau. Y mae'r un peth yn wir yn nhiriogaeth arluniaeth, cerfluniaeth, ac adeiladaeth. Ac yng nghanol baldordd addolwyr Moderniaeth y dyddiau hyn, i'r rhai y mae Beethoven out-of-date, a haul Wagner hyd yn oed ar fynd i lawr, da gennym gael y dystiolaeth ddoeth a threiddgar a ganlyn gan Dr. Vaughan Williams:

I find that among the musicians of the younger generation Beethoven does not hold the same place as he did to those of us who were young men in the "nineties." Perhaps this is natural. The "sublimity" which a past generation admired in the middle period of Beethoven seems to date it at once as early nineteenth century—a period with which the younger generation is out of sympathy. But doubtless time will bring its revenges; and even now those who are voluble in their criticism of the early and middle Beethoven are dumb before such things as the Ninth Symphony, the Mass in D, and the C Sharp Minor Quartet. These works belong to no period; they seem not to be the product of any individual intelligence, but to be the manifestations of something which has existed from the beginning of time, and whose materialization in the early nineteenth century is purely accidental.

Yn ol hyn nid yw creadigaethau arhosol yn perthyn i un oes ond i'r oesoedd; y mae eu cysylltiad â chyfnod neilltuol yn ddigwyddiadol yn yr ystyr nad ydynt yn codi ohono yn gymaint ag yn dyfod iddo; ac wedi dod y mae eu arhosiad yn annibynnol ar dreigl amser, ac yn dal ar waethaf llawer oes arwynebol a gwageddus. Yn yr un modd y dywedai Cherubini am Beethoven ei fod wedi cyfansoddi ar gyfer amser i gyd; ac fe gofiwn ddywediad Beethoven ei hun fod gwir gelfyddyd yn anfarwol.

Nid yw creadigaethau gwir, na'u creawdwyr yn aml—yn wir, fel rheol—yn cael eu iawn werthfawrogi gan eu hoes eu hun, a hynny am eu bod yn gosod safon newydd i lawr, ac yn gofyn cyfaddasiad newydd yn y farn, na ellir ei sicrhau heb ryw gymaint o amser. Y Deon Swift, onide, a ganodd

Some say that Signor Bononcini
Compared to Handel is a ninny;
While others vow that to him Handel
Is hardly fit to hold a candle;
Strange that such difference should be
Twixt tweedledum and tweedledee.

Yn yr un modd gosodai llu o'r Parisiaid Piccini uwchlaw Gluck, ac ni welsant fawredd Berlioz o gwbl. Ac nid yw oesoedd dilynol, rai ohonynt, lawer callach; fel nad yw hanes campweithiau arhosol ond cyffelyb i hanes mynydd— oedd daear—heddyw yn y cwmwl tew yng nghudd ac yn anghof, ac fel heb fod, ond wele! yfory, dangosant eu bod ar eu gwadnau o hyd, a'u coryn yn y glesni fel cynt!

Y mae ein hoes ni yn oes o ferw, a chwyldro, a rhysedd—rhysedd dychymyg yn gystal a rhysedd bywyd. Y mae ei beirdd a'i cherddorion a'i harlunwyr fel darganfyddwyr mentrus yn gwthio i foroedd dieithr na fapiwyd mohonynt o'r blaen. Disgrifiant arweddion newydd ar fywyd a phrofiad, a cheisiant gyfuniadau rhyfeddol yn eu creadigaethau. Gwell yr afluniaidd na'r hen; y pechod mawr yw bod yn rheolaidd; ond taro'r dychymyg gellir bod yn baganaidd yn anferth—yn anghenfilaidd! Diau fod yna lawer o gelfwaith gwir, ond mor wir a hynny y mae yna lawer o ffrwyth myfiaeth ronc, wrthwynebol i'r gwir; a gall ein cyfeillion ieuainc fod yn sicr, beth bynnag yw barn yr oes, nad oes yna le i'r myfiol a'r aflan, i'r afluniaidd a'r gwag ym myd gwirionedd a pherffeithrwydd. Cyhyd ag y bo uchelgais a menter yn bod mewn dyn, diau y bydd iddo geisio gwneuthur llwybrau newydd i diroedd disathr, mewn gwyddor a chelfyddyd mewn moes a chrefydd; y cwestiwn yw, a fydd yn cymryd ei ysgogi gan ysbrydiaeth gnawdol oddi isod, neu ynteu gan ysbrydoliaeth ddwyfol oddi uchod. Mewn cyfnodau o orlawnder bywiowgrwydd a nwyfiant, blagura'r dychymyg mewn helaethrwydd amrywiol; ond nid yw wmredd o'r blagur ar y goreu ond math ar arbrawf (experiment)—syrth y mwyafrif mawr i'r ddaear, ac ni welir mohono mwy. Diau fod gan y Meddwl Tragwyddol lawer o feddyliau eto i'w datguddio i ddyn, a llawer i fynegiant o'r Prydferthwch Gwir i'w atgynhyrchu ganddo; ond y mae ganddo hefyd ei ddeddf sy'n "chwalu'r gwael a chwilio'r gwell." Gosododd ddeddf ac nis troseddir hi." Maentumia Arglwydd Inverforth y bydd i "holl eudebau a damcaniaethau gwylltion meddyliau chwyldroadol ddryllio yn y diwedd ar graig Ffaith ddiwydiannol"; ac y mae'r un peth yn wir am berthynas creadigaethau gwyllt ac anferth yr oes a Ffaith y Prydferthwch Gwir. Gwyddom fod cywion pob oes yn crawcian yn hunan-foddhaol gan edrych i lawr ar weithiau'r tadau—a dyna dynged Joseph Parry; ond yr ateb iddynt yw "Hear the roll of the ages—nid y chwi na'ch oes sydd i farnu: gosodir chwi ac yntau gerbron yr un orseddfainc barn."

"Henffasiwn!" meddai'r Arglwydd Shaw yn ei "Letters to Isabel," pan yn sôn am grefydd ei dadau wrth ei ferch. Ond, fy anwylyd, y mae yna ddau beth oddeutu'r ffydd hon: y mae'n gwisgo'n dda, ac yn awr y treial ni phall."

XXVI. Lle Dr. Parry yn Natblygiad Cerddoriaeth Gymreig.

Gan Daniel Protheroe, Mus. Doc.

I—Fe ddywedai rhywun un tro, "nid oes neb yn wir fawr, os mai mawr yn unig yn ystod ei fywyd y bydd "— rhaid iddo gael ei fesur a'i bwyso wrth y dylanwad erys ar ei oes, ac ar y rhai sydd yn dilyn. "Bid glod, bid farw " meddai'r hen ddihareb, ond y mae yn rhaid i wrthrych y clod" er wedi marw, lefaru eto "cyn y bydd ei ddylanwad yn arhosol.

Y mae yna duedd mewn rhai cylchoedd i edliwio i'n cenedl na fagwyd eto gerddorion mawr a byd—enwog yng Nghymru. Ieuanc yw'r gelfyddyd yn ei ffurfiau uwchaf yn ein mysg. Ond eto dyma Tanymarian yn cyfansoddi "Storm Tiberias "—ac Ambrose Lloyd yn rhoi i ni "Weddi Habacuc "—a'i anthem "Teyrnasoedd y ddaear "—a'i rangan, "Y Blodeuyn Olaf "sydd mor llawn o berarogl cerdd hyd heddyw.

Yr oedd y ddau hyn ynghyd ag Owain Alaw yn rhyw fath ar arloeswyr y ffyrdd. Ar ol yr arloeswyr hyn dyma driawd disglair yn dod i'r golwg yn Gwilym Gwent, David Lewis, Llanrhystyd;[31] a John Thomas, Llanwrtyd. Yr oedd hyn tua dechreu y "trigeiniau." Ymunwyd â hwynt gan Joseph Parry—yr hwn oedd wedi ymfudo— rai blynyddoedd cyn hynny, i Danville, Unol Daleithiau. Yn ddiweddarach fyth fe ymddangosodd seren arall yn Emlyn Evans—a bu cerddoriaeth arobryn Cymru yn nwylo y pumawd hyn am dymor.

Dyma adeg y Rhyfel Cartrefol yn y Taleithiau—brawd yn erbyn brawd—teuluoedd yn erbyn ei gilydd, a'r wlad mewn cyni mawr. Abram Lincoln yn y gadair lywyddol yn ceisio cadw yr undeb—dyna ei bwnc mawr ef—yna rhyddhau'r caethion wedi hynny.

Fe greodd y cyfwng hwn aml i don felodus a chyrhaeddgar—aml i gerdd a fydd byw yn hir mewn ystyr wladgarol. Dyma'r adeg y daeth "Marching through Georgia," "Tenting in the old Camp-ground," a'r "Battle Hymn of the Republic" i fri mawr. Ganwyd hwy o gyni'r genedl. Mawrygent serch at y wlad: rhoddent fynegiant i deimladau dwin a'r cyfan yn gwbl naturiol a diorchest.[32]

Pan y cofiwn fod Parry yn llygad—dyst o'r brwdfrydedd a'r cynhyrfiad a feddiannai bawb yr adeg honno, a'i fod wedi cyfansoddi darnau llafurfawr yn barod, y mae yn syn na roddodd fod i felodion poblogaidd, alawon gorym— deithiol y gellid eu canu gyda hwyl, oherwydd yr oedd yn wir awenydd. Ond, gyda'r eithriad o'r gân, "The American Star," yr hon a ddaeth yn boblogaidd wedi hynny yng Nghymru dan yr enw Baner ein Gwlad," ni wn am ddim a ysgrifennodd i roi mynegiant i deimladau angherddol y cyfnod, nac i gyfarfod â'r galwadau mynych am ddarnau gwladgarol. Daliodd Parry i ddatblygu ei bwerau cerddorol, a daeth yn adnabyddus iawn i Gymry'r Taleithiau. Yr oedd Cymry y cyfnod hwnnw yn tyrru fwyaf i Pennsylvania ac Ohio, ac Efrog Newydd, er fod yna lu yn wynebu'r Gorllewin ac wedi ymsefydlu yn y Taleithiau Canol-Orllewinol—a rhai hyd yn oed wedi mentro mor bell a glannau y Tawelfor.

Y mae Cymry'r America yn ddiarhebol am eu caredigrwydd, yn enwedig i ymwelwyr o'r Hen Wlad. Faint o bregethwyr sydd wedi bod yn rhoi tro drwy'r wlad, ac yn cael croeso mawr! Fe ga y cerddorion hefyd eu derbyn â breichiau agored. Naturiol felly oedd i lwyddiant y gŵr o Danville ennyn edmygedd ei gyd-genedl. Ymfalchïent yn ei fuddugoliaethau eisteddfodol.

Ond nid yn aml y daw y fath gefnogaeth ag a gafodd Parry. Fe grewyd trysorfa i'w gynorthwyo. Yr oedd. hyn yn wrogaeth fawr i'w dalent. Fe welir gymaint y mae hyn yn feddwl pan gymerir i ystyriaeth faint y wlad, a'r pellter mawr sydd rhwng y sefydliadau Cymreig. Dyna Dalaith Illinois fil o filltiroedd o Dalaith Efrog Newydd, a phan yr oedd Parry yn byw yma, nid oedd cyfleusterau teithio yr hyn ydyw yn bresennol. Yr oedd y Cymry yn falch o'u harwr, a dangosasant hyn drwy danysgrifio dros ddwy fil a hanner o ddoleri tuag at ei addysg.

Ar ol cwrs llwyddiannus yn yr Academi—a chroeso mawr gan Gymry yr Hen Wlad, dychwelodd i Danville, ac yno agorodd ysgol gerddorol. Aeth amryw o gerddorion gobeithiol ato i dderbyn addysg. Efallai mai y mwyaf adnabyddus ohonynt oll ydyw y cerddor a'i dilynodd fel athro yn Danville, ond yr hwn a ddychwelodd ar ol hynny i'w hen gynefin yn Wilkes Barre, lle y mae heddyw yn fawr ei barch a'i ddylanwad ym myd y gerdd—Doctor D. J. J. Mason, brodor o Drecynon, Aberdâr.

Anodd yn awr ydyw penderfynu faint fu dylanwad Parry ar gerddoriaeth y dalaith, drwy ei ysgol gerddorol yn Danville. Hyd yn oed yr adeg honno, Scranton a Wilkes Barre oedd cartrefle'r gân ymysg ein cenedl, ac yr oedd y trefi cylchynnol, megis Plymouth, Kingston, Pittston yn frwdfrydig dros yr eisteddfod. Yn Plymouth y bu Gwilym Gwent fyw, ac yno y bu farw, ond claddwyd ef yn Wilkes Barre.

Wrth ymddiddan â rhai o gerddorion y cyfnod hwnnw nid oes hanes i Parry gario y dylanwad a allasai ar ddatblygiad y gerdd ymysg ei gyd-genedl.

II. Pan ddeffrôdd y genedl Gymreig i weld gwerth addysg yn ei ffurfiau uchaf,—ac i ddyheadau dyfnaf gwerin Cymru gael eu sylweddoli yn sefydliad ein coleg cenedlaethol cyntaf yn Aberystwyth-yr oedd sefydlu cadair gerddorol o bwys mawr.

Mwy pwysig fyth oedd cael un cymwys i'w llanw. Da gennym nad edrychodd Cyngor y Coleg dros Glawdd Offa. Tuedd sydd ynom i ormod o Sais-addoliaeth, ond yr oedd talentau disglair, galluoedd amlwg, ac ysgolheigdod y cerddor o Danville yn hysbys i'r genedl, ac efe yn naturiol a alwyd i'r swydd. Nid yw y Cymro o'r un anianawd a'r Sais, a rhaid i'r olaf gael ei ail-eni—gyda gwybodaeth gyflawn o'r iaith Gymraeg, cyn byth y llwydda i gario'r dylanwad dyladwy ar y genedl. Eto fe geir, hyd yn oed "yn y dyddiau diweddaf hyn" Gymry sydd yn hoffi cael gwedd Seisnigaidd ar bopeth, gan anghofio tân y Celt, ei ramantusrwydd, ei ddelweddau, a'i frwdfrydedd angherddol.

Ymhob celfyddyd fe geir cyfnodau y ceir artists yn torri tir newydd ynddynt, ac yn dangos i'r byd liw newydd ar hen destunau.

Dyna Rembrandt yn Holland yn rhoddi dehongliad newydd ar gynfas o fywyd y Gŵr o Nasareth, ac yn portreadu gwedd ddynol y Gwaredwr, fel rhywbeth gwrth-gyferbyniol i'r hen artists Italaidd, y rhai a'i gwnai Ef yn un pell, ac anodd dynesu ato—un yn hollol groes i'w eiriau Ef Ei hun: "Deuwch ataf fi, bawb ag sydd yn flinderog ac yn llwythog." Y mae dylanwad y cyfnod yna i'w weld yn amlwg ar yr artists ddaeth ar ei ol. Ym myd y gerdd fe greodd Wagner chwyldro yn y dull o drin chwareu-gerddi, drwy roi testun dynodol i bob cymeriad. Gwir fod Berlioz wedi mynd ymhell yn ei driniaeth o'r gerddorfa, eto fe gyd-grynhowyd yr oll o'r pethau yn Wagner, a roddodd ystyr arall i gynghanedd. Yr oedd ei wrthbwynt yn llifo gyda'r un llyfnder a gweithiau anfarwol Bach, a rhoddodd i ni gerddoriaeth a wnai i ni feddwl am "ddyfnder yn galw ar ddyfnder." Fel pob gwir arloeswr, yr oedd ganddo lu o elynion a beirniaid, y rhai a'i gwawdiai ef yn barhaus; ond erbyn hyn fe gydnabyddir yn bur gyffredinol mai ef yn ddiau oedd cerddor mwyaf athrylithgar y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Hyd ddyfodiad Parry y wedd leisiol a gymerai yr awen Gymreig, a chul iawn oedd ei dychymyg. Gyda'r eithriad o eiddo Tanymarian, Ambrose Lloyd, ac Owain Alaw, anthemau, canigau, a thonau cynulleidfaol oedd y ffurfiau y cyfansoddid ynddynt.

Yr oedd amddifadrwydd y cerddorion o fanteision i wrando cerddoriaeth offerynnol yn milwrio yn erbyn datblygiad yn y wedd hyn o'r gelfyddyd. Tra yr oedd. dinasoedd y Cyfandir â'u cerddorfäu, anfynych y clywid y gerddorfa lawn yng ngwlad y bryniau. Pa le yng Nghymru, tybed, y cafwyd y perfformiad cyntaf o un o symffonïau Beethoven?

Yr oedd cyfeilwyr da, hyd yn oed ar y piano, yn brin, a chanai y rhan luosocaf o'r corau heb gyfeiliant. Nid oedd hyn, efallai, yn anfantais i gyd, oherwydd yr oedd y dôn leisiol yn cael ei choethi, a'r donyddiaeth yn cael mwy o sylw, a'r corau yn medru cadw y traw—heb gymorth ffyn-baglau offerynnol.

Yn y cyfnod hwn dyma Joseph Parry yn ysgrifennu darnau annibynnol i'r offerynnau, yn nyddiau ei efrydiaeth yn yr Academi, ac wedi hynny cawn iddo gyfansoddi cerddi barddonol i'r gerddorfa, gan gymryd ambell i hen stori Gymreig fel sylfaen y gwaith. Yr oedd yn rhaid portreadu drwy sain, heb gymorth geiriau, holl symudiadau y stori.

Mewn un o'i weithiau cerddorfaol fe geisiodd wisgo "Inferno" Dante mewn nodau cerddorol; aeth dros y gwaith i mi un tro. Ymysg ei wahanol draeth—destunau, cymerodd yr hen dôn Gymreig Bangor fel ei sylfaen pan yn rhoi mynegiant i gri y colledigion. Gofynnais iddo a oedd yn tybio mai Cymry yn unig a fyddai yn golledig. Atebodd yntau ar unwaith: "Never thought of it in that way, my boy," a chwarddodd yn iachus.

III. Yn ei gyfnod boreol ysgrifennodd ran—ganau anthemau, motetau, a bu yn fuddugol ar gantawd yng Nghaerlleon. Wedi dychwelyd i Gymru ysgrifennodd nifer o gantodau—" Cantata yr Adar," lle ceir tlysach melodion i blant?" Joseph "—gwaith a fu yn boblogaidd iawn, a gweithiau byrion eraill. Ond ym myd yr opera y cyfrifir ef yn bennaf fel ein prif arloeswr, neu faner-gludydd, pan roddodd i ni "Blodwen," ein opera gyntaf. Hyd yn hyn nid yw y Cymro wedi bod yn llwyddiannus iawn fel cyfansoddwr, lle y mae ystum a golygfeydd yn angenrheidiol. Ac yn wir, rhyw gyffredin yw'r Sais yn y ffurf hon hefyd. Fe ellir rhifo operäu adnabyddus Prydeinwyr bron ar fysedd un llaw. Ac o'r rhai hynny y mae y mwyaf adnabyddus, efallai, "The Bohemian Girl —wedi ei ysgrifennu gan Wyddel—Balfe; a "Maritana".—gan Wallace—Scotyn. Wrth gwrs, ni ddodaf i mewn yma chwareugerddi ysgafn a digrifol Arthur Sullivan—rhai nad oes eu hafal yn y ffurf yna wedi eu hysgrifennu gan neb arall. Y mae rhai cenhedloedd gartref ar y chwareufwrdd. Dyna'r Italiaid y mae eu hawen yn rhedeg yn naturiol at y chwareugerdd. Ymhob tref o bwys yn Italy, fe geir chwareudy, a meithrinir, nid yn unig gantorion dihafal rhai galluog yn y gelf o ystum, ond hefyd gyfansoddwyr ag y mae crefft y chwareudy yn hollol gyfarwydd iddynt. Creant bopeth gyda'r chwareufwrdd yn y meddwl, ac y mae gogwydd eu talentau ar lwyddiant yn y chwareugerdd.

Amlwg i Joseph Parry yfed yn helaeth o arddull Verdi—Verdi yr "Il Trovatore," ac nid Verdi "Aïda." Fe frithir "Il Trovatore" ag alawon canadwy, ac yn "Blodwen hefyd fe geir digon o ddefnydd melodawl i wneuthur hanner dwsin o chwareugerddi.

Yr oedd Parry yn afradlonaidd bron ar ei bwerau melodawl, ac ni phetrusai osod melodion i mewn oedd yn ymylu, a dywedyd y lleiaf, ar ddiffyg gwreiddioldeb. Y mae hyn yn syndod hefyd, pan ystyriom fod ganddo awen mor dereithiog. Fe gyfansoddwyd "Blodwen mewn cyfnod byr o amser—rhyw dri mis—yn ol yr hyn a ddywedodd wrthyf un tro. Weithiau fe ddioddefa ambell i chwareugerdd oherwydd teneuwch y libretto—geiriau trwsgl a diawen, a phlot anniddorol. Fe fu Parry yn ffodus i gael gan Mynyddog ysgrifennu'r geiriau iddo. Yr oedd Mynyddog nid yn unig yn delynegydd hapus— ond hefyd yn medru canu yn dderbyniol, a hawdd felly oedd iddo roi ffurf ganadwy i'r geiriau. Yr oedd y stori yn ddiddorol, ac yn naturiol gyrraedd calon y Cymro.

Yn "Blodwen," fel yn y " Bohemian Girl" a " Maritana," y mae llawer o'r rhifynnau unigol wedi eu canu filoedd o weithiau ar wahân i'r opera. Gogleisiol ydyw yr unawdau i Hywel, y prif gymeriad; ac y mae y ddeuawd i'r cariadon yn swyn gyfareddol. A pha gerddoriaeth fwy enaid-gynhyrfiol mewn cyfarfod gwladgarol na'r ddeuawd, Mae Cymru'n barod"? Gresyn fod hon mor debyg o ran nodau, mydr, a theimlad, i ddeuawd Italaidd adnabyddus. Y mae y corawdau yn "Blodwen " yn orchestol, ond eto collant ryw gymaint mewn nwyf operataidd mwy o naws y llwyfan gyngherddol na'r un chwareuyddol. Yma fe gafodd y cyfansoddwr le iawn i ddangos ei dalent wrthbwyntol eithriadol. Y mae ei drefniad o rai o'r hen alawon Cymreig yn feistrolgar. Telaid tlws ydyw y dull y daw â'r hen alaw, "Toriad y Dydd" i mewn yng nghytgan y carcharorion—a'r effaith godidog a gynhyrcha "Ymdaith Gwŷr Harlech" fel diweddglo.

Yma eto fe welir y duedd i ysgrifennu yn ol y dull corawdol, gan fod y cyfansoddwr yn dwyn ehetgan i mewn. Fe gawn esiampl dda yn "Blodwen "o allu y cyfansoddwr i ysgrifennu darnau ysgafn—yn y waltz briodasol. Y mae yn llawn nwyf ac asbri, a phe wedi rhoi mwy o'r wedd yna i mewn, credaf yr enillai y gwaith mewn amrywiaeth. Rhoddai fwy o brydferthwch, fel gwrthgyferbyniad i dristwch rhai o'r golygfeydd.

Derbyniwyd "Blodwen" gyda brwdfrydedd mawr, ar waethaf y rhagfarn a fodolai yn erbyn actio. Yr oedd yr hen saint yn gryf yn erbyn cefnogi dim ar lun y ddrama. Yr oedd eu sêl Biwritanaidd y fath, fel yr edrychid i lawr ar chwareuon diniwed. Fe gofiaf yn dda am yr adeg y deuai y circus i'n cymdogaeth—y siars ddifrifol gaem gan ein rhieni nad oeddem i fynd yno—ninnau yn llechwraidd yn rhyw fentro i edrych ar yr orymdaith, a'n cywreinrwydd ar ei fan uchaf yn dyfalu sut yr oedd y perfformiad yn y babell. Yna mynd gartref gan ofni fod rhai o'r blaenoriaid wedi ein gweld mor hyf a syllu ar yr orymdaith, ac y caem ein galw i "gownt" o flaen y seiat!

IV.—Fe dreiodd Joseph Parry ei law, bron ymhob ffurf, a dylanwadodd yn iachus ar gyfansoddwyr y cyfnod.

Hyd ei ddyfodiad ef, Gwilym Gwent, ac Emlyn Evans, ac yn ddiweddarach yr Athro David Jenkins, nid oedd neb o'n cyfansoddwyr wedi gwneuthur rhyw lawer i gorau meibion. Yr oedd hyn yn gadael maes eang heb ei wrteithio. Ymysg y Germaniaid y mae sylw mawr yn cael ei dalu i'r Männerchor—cor meibion, ac y mae eu cyfansoddwyr wedi darparu darnau ar eu cyfer. Cyn y Rhyfel Mawr yr oedd y Sangerfest (gŵyl gerddorol) yn boblogaidd iawn. Yn y gwyliau hyn cyfyngid yr holl waith corawl i'r meibion, a hynny, fel rheol, heb gyfeiliant. Yr oedd hyn yn ddiwylliant lleisiol rhagorol, a cheir canu uwchraddol yn y gwyliau hyn. Ni wn a fynychodd Parry tra yn yr America, rai ohonynt, ond diau iddo ddod i gysylltiad ag amryw o'r cerddorion arweiniai y corau. Cyn dychwelyd i Gymru yr oedd wedi ysgrifennu teleidion i leisiau meibion, ac y maent yn fwy ar ffurf y lied German— aidd nag arddull y canigau Seisnig. Yn yr olaf, yr oedd y rhan uwchaf, neu alawol, wedi ei hysgrifennu i'r male alto. Fe geir esiampl ragorol o hyn yn yr hen rangan "Who comes so dark? ac hefyd yng nghanig Gwilym Gwent, "Gwenau y Gwanwyn." Ymysg rhanganau Parry, yr oedd ei rangan dlos ar eiriau Cuhelyn:

Paham mae dicter, O Myfanwy
Yn llenwi'th lygaid duon di ?
A'th ruddiau tirion, O Myfanwy,
Heb wrido wrth fy ngweled i?

Gresyn na fuasai mwy o sylw yn cael ei dalu i ddarnau tlysion o'r fath. Nid oes eu hafal fel diwylliant lleisiol. Dangosant y cain a'r pur—y coeth a'r tyner; a rhoddant i ni o berarogl y gerdd.

Y mae yna ddeffroad amlwg wedi cymryd lle yn ystod y deugain mlynedd diweddaf yn y ffurf gorawdol hon. Nid oes yr un ardal yng Nghymru, bron, heb ei chôr meibion. Yn naturiol fe roddodd hyn symbyliad i'r cyfansoddwyr i bartoi darnau teilwng i'r corau galluog oedd yn y wlad. Ymysg y rhai o'r darnau mwyaf poblogaidd efallai ceir "Iesu o Nasareth," a'r "Pererinion" o eiddo Parry, yr olaf yn eithriadol felly. Yma yr oedd y cyfansoddwr ar ei oreu fel mewn llawer i gyfansoddiad arall o'i eiddo, yma fe'i gwelir ar ei liniau. Y mae yr unawd yn y "Pererinion" yn ysbrydoledig—ffrwd o ymbil ydyw, mewn nodau dreiddia i ddyfnder calon dyn. Y mae y corawd drwyddo yn ddramataidd ac effeithiol. Pwy a anghofia effaith anorchfygol datganiad côr Pontycymer yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 1891? Fe ganwyd yr unawd gan yr hen arwr y diweddar Gwilym Thomas. Fe ddywedai Dr. Parry mai llais Gwilym oedd ganddo yn ei feddwl pan yn ysgrifennu yr unawd.

V.—Y mae cyfansoddiadau cysegredig Parry yn drysorau gwerthfawr i'r genedl. Mor ganadwy, melodaidd, a bugeilgerddol yw ei gerddoriaeth i'r drydedd salm ar hugain, ac fel yr ysgrifennodd yr Athro David Jenkins un tro, "Pa Gymro nad oedd wedi drachtio yn helaeth o'r gwin melys geir yn y deirawd, 'Duw bydd drugarog. Unwaith dangosodd lyfr mawr i mi, a dywedai, "Look here, my boy, I have written more tunes than Dykes." Cofier nid myfiaeth oedd hyn, ond llawenydd plentyn y gerdd. Ond er hynny, credaf ei fod yn gwneuthur camsyniad, oherwydd nid nifer y tonau oedd o'r pwys mawr, ond eu hansawdd a'u gwerth. Dywedai cerddor enwog arall wrthyf un tro ei fod yn mynd i'w study bob dydd ar awr benodol i gyfansoddi, fel petai yr awen yn barod i ddod wrth y cloc. Ond fel y cana Islwyn:

Pan y myn y daw
Fel y sêr dros adfail y cwmwl draw,
Yn llwyr annibynnol ar amser islaw.

Fe greodd poblogrwydd rhai o donau Parry lu o efelychwyr, ac yr oedd ysgol y

yn bur llawn.

Efallai nad oes yr un dôn wedi ei hysgrifennu gan Gymro ag y mae cymaint o ganu arni ag "Aberystwyth." Ymysg y cannoedd troeon y clywais hi, fe saif dau amgylchiad yn glir yn fy nghof. Un tro yr oeddwn yn cerdded yn ymyl Prifathrofa Chicago ar brynhawn tawel. Y mae adeiladau yr athrofa ymhell o ddwndwr a phrysurdeb masnachol y ddinas, ac y mae eu harch-adeiladwaith wedi ei lunio ar ddull colegau Rhydychen. Yn nhŵr y capel y mae clychau soniarus, y rhai a genir bob awr. Yr oedd tawelwch y prynhawn bron yn gyfriniol, ond yn sydyn fe dorrwyd ar y distawrwydd gan seiniau pêr y clychau yn canu y nodau sydd mor gyfarwydd i bob Cymro—y dôn "Aberystwyth." Dro arall, pan ar dro yn yr hen wlad, fe syrthiodd i'm rhan i wrando y dôn yn cael ei chanu gydag arddeliad neilltuol, er mai fel unawd y cenid hi y tro hwnnw, a'r cyfan yn fyrfyfyr.

Yr oedd yn nos Sadwrn y tâl, neu yn ol llafar gwlad, nos Sadwrn y pai. Yr oedd aml i dŷ tafarn yn gwneuthur busnes mawr. Yr oeddwn wedi ymneilltuo am y nos, ac yn mwynhau hun hyfryd, pan y'm deffrowyd gan leisiau yn yr ystryd. Ar ol gwrando ychydig, deëllais mai un dan effaith diod oedd yno, ac wedi camsynied ei dŷ, ac yn ceisio mynd i mewn i'r tŷ nesaf. O'i glywed tu allan i'r drws, dyma wraig y tŷ yn codi, yn mynd allan, ac yn gofyn iddo, "Beth sy arnoch chi?" "O," meddai yntau, Ma nhad a mam wedi 'n'wli mâs o'r tŷ; ma'r gaffer wedi roi y sack i fi; a wa'th na'r cwbwl, ma' ' ngwejan i wedi mynd 'nol arno i." A chyda hyn torrodd allan i ganu nerth ei geg:

Beth sydd i mi yn y byd
Ond gorthrymder mawr o hyd, etc.

Yr oedd y nos mor dawel, fel y gellid yn hawdd glywed ei lais cwynfanus yn diaspedain drwy'r dyffryn.

Er poblogrwydd "Aberystwyth," a'r swyn sydd yn y dôn i'r Cymro, eto nid wyf yn ei hystyried yr un oreu o eiddo Parry. Cyfansoddodd donau rhagorol cyn i "Aberystwyth " gael ei chanu—tonau fel "Llangristiolus," sydd yn llawn o urddas a dyfnder. Yr oedd llwyddiant y tonau hyn yn y cywair lleddf wedi gyrru llawer i gredu mai y lleddf oedd nwyd reddfol y Cymro. Ond y mae digon o brawfion i'r gwrthwyneb mewn tonau fel "Moriah," "Hyfrydol," "Llangoedmor," "Eirinwg," etc.

VI.—Mewn cerddoriaeth gysegredig ei ddau waith mawr yw yr "Emmanuel" a "Saul o Tarsus." Y mae yn ddiddorol i edrych ar y ddau o safbwynt gymhariaethol, ac i nodi awen y cyfansoddwr yn blaguro ac ymddatblygu.

Yn y cyntaf y mae yn dilyn y ffurf fwy neu lai ystrydebol,—unawdau a chorawdau annibynnol, heb ryw lawer o gysylltiad ffurfiol rhyngddynt, oddigerth yn y teimlad sydd yn rhedeg drwy y gwaith. Yn yr ail y mae yna gyfunedd yn y gwahanol olygfeydd mae y cyfan yn gylchau yn y gadwyn.

Gwrthbwyntol i raddau mawr yw un—dramayddol yw y llall. Yn y cyntaf, amlwg yw bod y cyfansoddwr yn edmygydd mawr o Mendelssohn. Gymaint ei edmygedd o gyfansoddwr "Elijah" fel y gwna ddefnydd o alaw o'r gwaith hwnnw fel sylfaen yn ei overture, ac hefyd o'r dôn adnabyddus, "Dusseldorf." Yn "Saul" arddull Wagner sydd yno, ac efelycha Parry y cerddor Germanaidd drwy roi testunau dynodol i'r gwahanol gymeriadau.

Y mae y rhagarweiniad i'r ddau waith yn hollol wahanol. Yn y cyntaf fe gawn overture faith a llafurfawr y gwahanol sylfonau wedi eu gweithio allan yn fanwl—mwy ar ddull yr arweiniad i mewn yn "Elijah," neu'r "Hymn of Praise," nag yn ol ffurf Handel. Yn yr ail ceir tudalen a hanner, ac yna fe ddaw unawd i mewn. Amlwg fod y cyfansoddwr yn efrydu yn barhaus. Ni welir bellach ragarweiniad maith i'r prif weithiau. Cyhoeddir y testun, ac eir ymlaen yn ddiymdroi at y mater, heb ragymadroddi.

Fe geir unawdau rhagorol yn y ddau waith, ac y mae y corawdau yn feistrolgar. Nid oes dim llawer rhagorach mewn llenyddiaeth gorawl Gymreig na'r dull y gweithir y gwrthbwynt, a'r modd y deuir â'r dôn "Moriah" i mewn yn Canwn ganiad newydd" yn yr "Emmanuel." Y mae y cyfansoddwr yn gweu y cwbl gyda llaw sicr: y mae yr edafedd gwrthbwyntol yn rhedeg drwy y gweill gyda rhwyddineb, a'r cyfan yn gwneuthur teisban felodawl ysblennydd. Er yr holl gywreinrwydd y mae pob rhan yn llawn melodi, oherwydd, wedi'r cyfan, dyma'r peth hanfodol. Fe geir gwrthgyferbyniaeth hapus yn y gwaith, a hyfryd ydyw y symudiad bugeilgerddol sydd yn agor y drydedd ran. Fe rydd sain i'r olygfa ar feysydd Bethlehem—rhyw fath ar antiphony rhwng yr angylion a'r bugeiliaid: y llu nefol yn cyhoeddi "Gogoniant yn y goruchaf i Dduw "mewn corawd hyfryd i leisiau benywaidd, a'r bugeiliaid yn ateb: "Ar y ddaear tangnefedd, i ddynion ewyllys da" mewn symudiad llawn urddas a defosiwn, yr hwn a roddir i leisiau meibion. Efallai y gallasai y cyfansoddwr fod wedi cyrraedd graddeb mwy aruchel yn y rhannau olaf, er mwyn dwyn y gwaith i derfyniad mwy mawreddog. Gwir fod cynganeddiad y dôn "Abertawe yn effeithiol iawn, ond dipyn o hanner-graddeb yw yr effaith, er rhagored y trefniad.

Yn "Saul o Tarsus" y mae y cyfansoddwr ar ei oreu, a dyma'r cyfanwaith pwysicaf o'i eiddo. Yr oedd ar linellau gwahanol—rhai oedd yn doriad tir newydd i'r awen Gymreig. Dyma y gwaith Cymreig cyntaf y ceir testunau dynodol ynddo, ac y mae y cyfansoddwr wedi eu rhifnodi. Y mae y gynghanedd yn flaen—fynedol, ac fe ddaw gallu y cyfansoddwr i ysgrifennu y cyfeiliannau i'r gerddorfa yn amlwg yn y gwaith. Y mae "Saul" yn fwy newydd—yn fwy rhydd yn ei ffurf, a thrwy hynny yn rhoi mynegiant effeithiol i deithi y gwahanol olygfeydd.

Eto braidd na farnwn fod y gwaith blaenaf lawn mor wreiddiol, gyda'r eithriad o'i ffurf, a'r olaf. Y mae eiliw Wagner yn gryf mewn amryw fannau, ac y mae tebygrwydd eglur yn yr unawd, "Bow down Thine ear" i gân adnabyddus Wagner, "The Evening Star." Y mae pob nodyn o'r pedwar mesur cyntaf o'r ddwy yr un fath. Ail—adroddir y frawddeg, ac ni all y cyfarwydd lai na synnu. Er hynny, effeithiol iawn yw'r unawd, a rhydd y corawd cyfeiliannol liw hyfryd i orffen yr olygfa. Deallaf i amryw alw sylw Parry at y tebygrwydd oedd yn y gân i un Wagner.

Un o deleidion melodawl y gwaith ydyw'r deirawd hyfryd sydd yn yr olygfa yn y carchar—dau angel yn canu rhyw fath ar hwiangerdd i'r Apostol, pan oedd wedi syrthio i gysgu ar ol treialon y dydd yntau yn deffro, ac yn ymuno â hwy, gan gymryd yr un testun melodawl. Ond er tlysed y gerdd, atgofir ni o un o ganeuon—heb—eiriau Mendelssohn, ac felly anurddir hi gan y bai" rhy debyg." Ond er y brycheuyn yna, y mae y deirawd hon yn deilwng o'i rhestru gyda'r deirawd arall o eiddo Parry, "Duw bydd drugarog," ac ni wn am ddim mwy swynol o ran y defosiwn, y teimlad, a'r naws hyfryd sydd yn rhedeg drwyddynt, yr hyn a'u gwna yn bleser i'w canu.

Y mae y gwahanol motives frithant y gwaith yn ddisgrifiadol. Un hynod o swynol ydyw'r un a rydd fel motive yr haul, melodi syml, ond hollol gydnaws. Fel gwrthgyferbyniad y mae yr un sydd yn awgrymu ysbryd erlidigaethus Saul. Y mae y dull y gweithir allan y gwahanol symudiadau yn effeithiol dros ben, a'r cyfansoddwr yn cadw mewn golwg yn barhaus gyfunedd y darlun; dyfnheir y lliwiau mewn rhai mannau, ond gwneir y cyfan yn felodaidd a chyda sicrwydd y gwir artist. Fel yr ymagora y gwahanol olygfeydd fe gynhydda'r diddordeb, a rhydd y cyfansoddwr ddatblygiad newydd o'i bwerau dramayddol, ac o'i allu rhan-weithiadol a gwrth- bwyntol. Ni phetrusa roi digon o waith i'r gwahanol gorau, fel weithiau y bydd un yn gweddio am waredigaeth, tra fyddo un arall yn galw yn groch am waed Apostol mawr y cenhedloedd.

Fe geir rhywbeth newydd i gerddoriaeth Gymreig yn y dull y newidir y mydr mor fynych, ac yn y defnydd wneir o gyd-grynhoad o'r gwahanol fydryddau, gyda'r dôn "Glan 'r Afon" yn destun cân yr angylion gwarcheidiol, tra y mae rhannau annibynnol gan y benywod gwatwarus, gwylwyr y Praetorium, a'r offeiriaid. Y mae'r cyfan yn feiddgar, ond effeithiol dros ben, ac yn cynhyrchu effaith cynhyrfus. Fe ddengys y cyfansoddwr ei allu i fynd i gyfrinion y gerdd, a gwneuthur i'r holl destunau ganolbwyntio er mwyn dwyn allan galon y darlun.

Wele rai o'r "motives" uchod:

XXVII. Dr. Parry o Safbwynt Cerddoriaeth Ddiweddar.

Gan CYRIL JENKINS.

PAN ofynnwyd i mi roddi fy opiniwn ystyriol ar gerddoriaeth Dr. Joseph Parry, a'r dylanwad a gynhyrchodd hi a phersonoliaeth ei chreawdwr ar fywyd artistig Cymru, teimlwn yn hwyrfrydig i wneud. Yn wir, teimlaf eto'n anewyllysgar am y gwn yn dda y bydd i'r hyn sydd gennyf i'w ddywedyd glwyfo teimladau llawer sy'n parchu ei goffadwriaeth ac a ystyriant fy meirniadaeth o'i gerddoriaeth yn gysegr—anrhaith bwriadol. Eto teimlaf y dylasai rhywun ddywedyd yr hyn sydd i'w ddywedyd mor hyglyw a chyhoeddus ag sydd bosibl; ac os na ddywedir ef gennyf fi, yr erys heb ei ddywedyd gan hynny, credaf ei bod yn ddyletswydd arnaf i dderbyn y cyfle a gynhygir i mi, ac i wneuthur popeth yn fy ngallu i ddinistrio'r traddodiad a'r dylanwad a gynhyrchwyd gan Parry, fel na bo i gyfansoddwyr ieuainc Cymru sydd heddyw yn yr un sefyllfa ag yr oeddwn i ynddi ddeuddeng mlynedd yn ol, ddioddef yr anfanteision ddioddefais i, na chael eu mygu ymron gan yr awyrgylch tawchlawn a gwyd o'i gerddoriaeth.

Caniataer i mi ynteu ddywedyd ar unwaith, nad yw cerddoriaeth Parry ar ei goreu ond eilradd, ac ar ei gwaethaf, islaw sylw. Ni wn am un tudalen a ddwg nodau athrylith. Ar y llaw arall gwn am ugeiniau, ie, cannoedd o dudalennau sy'n druenus o wan, mor dlawd mewn syniadau, mor chwerthinllyd o ddiystyr, fel yr wyf wedi bod yn gwrido wrth eu chwarae, am eu bod wedi eu hysgrifennu gan Gymro, a bod fy nghydwladwyr wedi bod yn eu cyfrif, ac yn parhau i'w cyfrif, yn waith ysbrydoledig athrylith. Ni feddai Parry athrylith. Yr cedd ganddo lawer o ddoniau, ond heb yr uchaf oll. Meddai natur wirioneddol gerddorol, dyfeisgarwch ffrwythlon, ffynhonnell o felodi sy'n hyfryd os nad yn wreiddiol, llawer o deimlad dramayddol, a greddf at deimladrwydd rhwydd a hylifol. At hyn, meddai ddiwydrwydd gwenynen—diwydrwydd a'i gyrrai i gyfansoddi mewn amser ac allan o amser, pryd y buasai'n ddoethach iddo adael i faes ei ddeall i orwedd yn fraenar, ac adfeddiannu ei allu i gynhyrchu. Ei goll mwyaf amlwg oedd diffyg gallu i'w feirniadu ei hunan. Wrth edrych dros ei weithiau teimlaf yn gyson ei fod yn analluogi wahaniaethu rhwng y cyfansoddiadau hynny o'i eiddo sy'n rhesymol dda a'r rhai sy'n wael ddiymwared. Anffawd yw i ddyn fod heb y gallu i'w feirniadu ei hunan; ond y mae iddo fod heb ei feirniadu gan eraill yn drychineb gwirioneddol. Ac ni chafodd Parry erioed ei feirniadu. O'r dechreu i'r diwedd cafodd ei ganmol; ni chodwyd un llais mewn protest; fis ar ol mis, a blwyddyn ar ol blwyddyn cafodd ei ddyrchafu hyd oni chafodd ei hunan o'r diwedd ar droedfainc mewn unigrwydd ysblennydd, wedi ei dwyllo a'i gamarwain gan addoliad ei gydoeswyr, ac heb wybod fod ei gyfansoddiadau'n llygru chwaeth gerddorol hen ac ieuainc, ac yn darostwng greddfau artistig ei gydwladwyr y gallai wneuthur cymaint i'w dyrchafu a'u puro.

Ond nid digon i mi ddywedyd hyn rhaid ei brofi. Wel, y mae y prawf yn y cwbl o'i weithiau mwyaf, ac yn y mwyafrif o'i rai lleiaf. Os dewisaf "Blodwen "i ddangos hyn, ni wnaf hynny am mai'r opera deir-act hon yw'r. waethaf o'i weithiau—mewn rhai ystyron, yn wir hi yw'r oreu—ond am ei bod, y foment yr ysgrifennaf hyn, yn mwynhau prydles newydd ar ei bywyd. Y mae wedi ei hadgyfodi mewn mwy nag un man, ac yn derbyn y clod difeddwl, teimladol hwnnw a ystyriwn ni, y Cymry, yn ddyledus iddi.

Yn awr, y mae cyfyngiadau a meflau "Blodwen mor amlwg ar y wyneb, fel y mae'n syn i mi fod eisiau eu pwyntio allan. Yn gyntaf, y mae'r libretto'n eithriadol o wan, a'r plot yn neilltuol fel y'i gosodir allan yn argument argraffiad 1917, yn dramgwyddus o ddisynnwyr. Nid gwŷr a gwragedd mo'r creaduriaid hyn, Blodwen, Ellen," ""Syr Hywel Ddu," "Arthur o'r Berwyn," a'r gweddill, ond dolls yn cael eu hystercian (jerk) gan fympwy awdur y libretto. Beth bynnag arall oedd Mynyddog, yn sicr nid oedd yn fardd. Nid yw'r geiriau Saesneg gan yr Athro Rowlands nemawr gwell na dogrel. Dylasai fod yn glir hyd yn oed i'r deall gwannaf na ddylasai un cyfansoddwr ysgrifennu cerddoriaeth i eiriau sydd heb ei gyffwrdd yn nerthol swyddogaeth cyfansoddwr y gân yw mynegi mewn sain hanfod ysbrydol mewnol y farddoniaeth sydd yn ffynhonnell ei ysbrydoliaeth. Ond y mae'n amlwg nad oedd gan Dr. Joseph Parry unrhyw deimlad tuag at libretto Mynyddog, ond un o oddefgarwch natur dda. Y mae'r holl stori'n gelfyddydol a chyffredin; nid oes i'r cymeriadau synnwyr nac ystyr meddylegol; ni ddatblyga'r action allan o ddymuniadau ac angenrheidiau'r bobol a gymer ran, ond yn ol cynllun rhagluniedig yr awdur. Mewn geiriau eraill, gwneir i'r cymeriadau ffitio i'r action. Ni chysyllta Parry nemawr pwys, os dim, â'r diffygion hyn yr oedd y stori'n "brydferth," a dyna i gyd oedd eisiau. Tynghedwyd ef i fod yn analluog i ddeall ystyr barddoniaeth; yr oedd unrhyw eiriau braidd yn ddigon da iddo ef.

Y mae ei overture i "Blodwen" yn ddiystyr—nid yw ond cynifer o farrau o gerddoriaeth isradd a allai ragflaenu unrhyw waith arall gyda'r un priodoldeb. Dechreua'r action gydag ymddangosiad negesydd sydd mewn brys mawr, ond a gân yn hamddenol, mewn tempo moderato amlwg, y nodyn G ddeunaw o weithiau ar ol ei gilydd; yna, gan sylweddoli mor undonog yw hyn, a gwyd dôn gyflawn ac a gân A ddim llai nac ugain o weithiau ar ol ei gilydd; o A naid i C, yr hon a adroddir ddeg o weithiau. Recitative yw hyn, ni a dybiwn, ond math ar recitative ydyw a gân y baban yn ei grud; cyd-red â hi frawddeg ddisgynnol gyflym yn y gerddorfa yr hon a roddir mor aml ag y mae ei heisiau i "lanw i mewn." Ceir yn dilyn yn union, gân gan Arglwyddes Maelor, yn chwe bar cyntaf yr hon yr adroddir brawddeg o saith nodyn bedair o weithiau. A hyn yw "melodi"! Nid yw, yn wir, ond tôn fechan drwsgl a disynnwyr, na fedd, mor bell ag y gwelaf fi, y cysylltiad pellaf â'r geiriau; yn wir gwneir i'r un melodi fynegi teimladau mor wrthwynebol a

Yr awen a ddeffry a'r delyn chwareua,
"Lwc dda" i'r pâr dedwydd mewn dawns ac mewn cân.

Dymunaf o'm calon i Arthur ac Elen
Gael bywyd diogel yn nwylo fy Naf.

Ni "phriododd " Dr. Joseph Parry ei fiwsig â'r farddoniaeth a ddewisodd; cafodd ei bod yn llawer symlach gwaith i'w hysgar.

Hyd yn hyn yr wyf wedi ymdrin â deg tudalen cyntaf "Blodwen"; yn yr argraffiad i'r piano y mae 146 tudalen yn rhagor, y cwbl ohonynt o'r un ansawdd israddol a'r deg tudalen blaenorol. Nid oes eisiau i mi elfennu'r gwaith ymhellach. Digon yw dywedyd bod yr opera'n gyffredin am ei bod yn rhagrithiol; na cheir drwy ei holl dudalennau un nodyn o ragoroldeb; a bod ei theimladaeth rwydd a rhad yn dramgwydd i bawb sydd a'u canfyddiad cerddorol wedi ei ddisgyblu i lefel uwchlaw eiddo plentyn.

Yn awr, nid wyf mor ffôl a beio Dr. Parry oherwydd tlodi ei weithiau yr ydoedd yr hyn ydoedd. Ond rhaid i mi bwyntio allan iddo fwynhau llawer o fanteision na syrthiant i ran ond ychydig o gyfansoddwyr Cymreig. Derbyniodd ei addysg gerddorol yn rhannol yn Llundain cymerodd ei radd yng Nghaergrawnt; teithiodd hyd yn oed mor bell ag America; cafodd gyfleusterau lawer i glywed y gerddoriaeth oreu; daeth i gysylltiad â phersonau a feddai alluoedd mwy nag ef ei hun. Mewn gair, cafodd gyfle teg mewn bywyd, ac os methodd (a methu a wnaeth) roddi argraff ei bersonoliaeth ar gerddoriaeth y byd, yr oedd hyn yn ddyledus i'r ffaith nad oedd yn ddigon cryf i wneuthur y fath argraff ar ei oes. Yr oedd ganddo ddilynwyr lawer a brwdfrydig, mae'n wir. Ond pa fath oeddynt? Pobol deyrngar ac ymroddedig iddo o Gymru a feddai gariad mawr a diball at gerddoriaeth, ond heb ddigon o ddiwylliant cerddorol i wahaniaethu rhwng y gwell a'r gwaeth. Os oes bai i'w gysylltu â neb oblegid poblogrwydd aruthrol ei weithiau, y mae i'w gysylltu nid ag ef, ond a'r cyhoedd a'u mwynhai.

Fel y mwyafrif o Gymry fy oes i, codwyd fi i barchu cerddoriaeth a pherson Dr. Parry, ac am rai blynyddoedd derbyniais farn fy hynafiaid heb amheuaeth. Tra yn ennill fy mywioliaeth fel organnydd a chyfeilydd, chwareuwn ei fiwsig yn gyson. Er enghraifft, diau i mi gyfeilio ei 'Wylwn! Wylwn" gannoedd o weithiau, ac y mae Cymru Fydd" drwy ganu parhaus wedi mynd i mewn i'm hesgyrn. Y mae'r ddau gyfansoddiad hyn, yn fy marn i, o ansawdd mor ddrygol fel y bu iddynt, heb yn wybod i mi, helpu i gyffredineiddio fy chwaeth yn nhymor mwyaf derbyngar fy mywyd. Ni allaf gofio pa bryd y dechreuais amheu mawredd Parry, ond yr oedd lawer o flynyddoedd yn ol, ac yr oedd fy neffroad i'r gwirionedd yn raddol ac anodd. Dim ond ar ol cyfnod o hunan- amheuaeth ac astudiaeth galed y rhoddais ef i fyny'n benodol. Yr wyf yn ddiolchgar i Ragluniaeth am i mi gael nerth i wneuthur hynny.

Fel yr astudiwn y meistri mawr-Mozart, Bach, Beethoven, Brahms, Wagner-canfûm yn raddol na chynhwysai ei gerddoriaeth un elfen o wir fawredd, nad oedd mewn gwirionedd yn gerddoriaeth dda, dim ond ymddangosiad a rhith. Ni fu yn fy mynwes un amser deimlad chwerw tuag at Parry ei hun, ond am gyfnod ni allwn lai na theimlo i mi gael fy nhwyllo a'm camarwain gan y rhai oedd yn gyfrifol am fy arwain a'm haddysgu. Gwelaf yn awr eu bod hwy'n ddidwyll ddigon yn eu hedmygedd o'i waith, a gwn fod yr edmygedd hwnnw'n tarddu o'u diffyg profiad, a'u chwaeth hanner gwrteithiedig. Er hyn oll, fel y dywedais, bu Parry'n faen tramgwydd ar fy ffordd pan yr oedd bywyd yn ymdrech a minnau'n ymladd yn galed am addysg, profiad, goleuni, a gwirionedd.

Rhyfedd, onide, fod "Cymru Fydd," "Y Marchog," ac amryw eraill o gyfansoddiadau Dr. Parry'n cael eu rhoddi, gyda phob arwydd o gymeradwyaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni? Wel, felly y rhaid i bethau fod hyd oni thaflom ymaith ein mŵd presennol o hunan-foddhad, ac y llwyddwn i ddwyn ein galluoedd deallol a'n canfyddiadau artistig i'r un lefel ag eiddo pobol ddiwylliedig gwledydd eraill.

Ond nid Dr. Parry na'i gerddoriaeth a saif ar ffordd ein cynnydd, ond yn hytrach ein diffyg gwybodaeth a phrofiad, ein hanwybodaeth o gerddoriaeth Seisnig a thramor, a'r ffaith ein bod heb gerddorfa sefydlog o'r eiddom ein hunain. Yr ydym ni, y Cymry, yn gyflym i ddysgu, a phe rhoddid i ni'r cyfleustra, byddem yn fuan ochr yn ochr â'r amseroedd. Dywedaf pe rhoddid," ond yr hyn a feddyliaf yw pe cymerem. Rhaid i ni wneuthur ein cyfleustra ein hunain, oblegid gallwn fod yn sicr na roddir mohono i ni.

XXVIII. "Bachgen Bach o Ferthyr, o hyd, o hyd."

CYDNEBYDD y darllenydd yn ddiau erbyn hyn fod hanes Parry wedi llanw a chyfreithloni y braslun a roddwyd yn y bennod gyntaf o fywyd artist—o blentyn y byd delfrydol sydd yn fedrus a hapus yn ei froydd ei hun, ond yn anfedrus a ffwdanus ym myd amgylchiadau. Eto cadwodd ef ei ystwythder, a'i hoywder, a'i hyder, hyd y diwedd: "bachgen bach" oedd ef o hyd. Meddai'i unig ferch sydd yn fyw heddyw amdano: "Gartref yr oedd fel un ohonom ninnau, yn ein helpu ni'r plant gyda'n hefrydiau yn uno yn ein chwareuon; yn hoff o gerdded; yn siriol a hapus o dymer. Yr oedd ganddo syniad uchel am ddyletswydd; yr oedd yn ffyddlon i'w gyfeillion, yn gyfiawn ac anrhydeddus yn ei berthynas ag eraill; ac, fel y gwyddoch, yn un o ynní a brwdfrydedd rhyfeddol ynglŷn ag unrhyw destun ag y teimlai ddiddordeb ynddo, a'i 'obaith yn dragwyddol.

Crynhoa'r disgrifiad hwn i gylch bach yr arweddion yn ei gymeriad y rhaid i ni ar ddiwedd y Cofiant—fel math ar ol—olwg—eu galw at ei gilydd. Am ei "ddyn y tu allan dywed Dr. Protheroe: "Bob tro y gwelaf ddarlun o Edward Grieg, y cerddor Norwegaidd enwog, daw Dr. Parry i'r meddwl ar unwaith. Y mae yna debygrwydd mawr yn eu darluniau—y gwallt cuchiog—wedi ei ariannu; y llygaid byw, treiddgar; a'r olwg urddasol berthynai i'r ddau. Ond yr oedd y Cymro yn fwy syth ei gorff, ysgafnach a bywiocach ei gamau na'i gyd—awenydd. Ac am ei ysgafn—galon, yr oedd Parry beunydd yn gwirio yr hen bennill :

Canu 'rwyf, a bod yn llawen,
Fel y gog, ar frig y gangen;
A pheth bynnag ddaw i'm blino
Canu wnat a gadael iddo.
Anghofiai bopeth yng nghyfaredd y gân."


Am ei fywiowgrwydd dywed Mr. Levi: "Mae gweithgarwch, bywiowgrwydd, a chyflymdra yn perthyn i bob gallu a theimlad ym meddwl Dr. Parry, yn gystal ag i bob cymal a gewyn o'i gorff. Nid oes ganddo yr un syniad am ddiogi; ac ni ŵyr nemawr am flinder a lludded. Mae wrthi fel cloc, yn ddiorffwys, naill ai yn canu neu egluro dirgeledigaethau y gerdd i'w ddisgyblion, neu â'i fysedd yn dawnsio ar yr offeryn, neu yn troi dail llyfrau yr hen feistri, neu gyda'i ysgrifell yn pardduo dail gwynion gydag inc fel pe cerddai traed inciog brain drostynt."

Yr oedd fel un o'r plant hyd yn oed wrth y bwrdd. "Rhoddwch fwyd i mi'n gyntaf, Mama fach," meddai'n aml, "i mi gael mynd—ni waeth gan y plant." Ac nid rhyfedd ei fod yn hoffi cyd—chwarae â hwy yr oedd yn wastad yn llawn ysmaldod a direidi. Bum i'n cydaros ag ef yn Henffordd adeg Gwyl y Tri Chór, a chyda'i gyfarch bore estynnai'i law'n llydan-agored ac anhyblyg i mi—un na fedrwn afaelyd ynddi o gwbl; ac felly y gwnai â'r lleill oedd yno, gyda chwerthiniad iach. Yr oedd yno ddwy eneth ieuanc yn bresennol un tro, i'r rhai na adawai nemawr lonydd; a rhwydd fuasai ei ddifenwi petai rhai o gynrychiolwyr y "priodoleddau " 'n bresennol. Yr oedd genod felly'n dra hoff o'i gwmni bachgennaidd a'i chwarae, a phan yn cyd—deithio ag ef yn y trên ar deithiau cyngherddol, caniatâi iddynt blethu a chyrlio'i wallt a llawer difyrrwch diniwed arall. "Un tro," meddai Watcyn Wyn, pan yn gadael Llandrindod, daeth holl gwmni'r Gwalia, bob dyn a dynes, a mab a merch, ag oedd yno, i'w hebrwng i'r orsaf. Aeth y Doctor i'r cerbyd; a phan oedd y trên yn cychwyn, dyma gawod, fel glaw taranau, o offer cerdd ceiniog yr un' i'r cerbyd ato, nes hanner ei guddio—whistles tin, giwgawod, wheels, drums, tambourines, rattles, a phob rhyw gerdd—rhywbeth o law pob un i dalu'r Doctor cerddorol am y difyrrwch mawr oedd wedi ei roi iddynt !" Dim ond â hogyn mewn ymddygiad y byddis yn ymddwyn fel hyn. Dro arall yn Llandrindod unodd ei ffrindiau i brynu het iddo!

Rai prydiau cariai ei ddireidi ef ymhellach. Yr oedd Megan Watts (Mrs. Watts-Hughes) yn un eithriadol o ofnus, a phan yn teithio arferai gario cannwyll gyda hi i'w goleu yn y tunnel, a difyrrwch Parry fyddai ei chwythu allan. Efallai iddo helpu ei hunan-ddisgyblaeth hi felly, ond o brin y gallwn ystyried hynny fel ei amcan.

Ddydd yr Eisteddfod yr oedd yn arferiad gan Emlyn, oblegid ei wendid a'i anallu i fwynhau ei foreubryd, i brynu ychydig luniaeth ysgafn, megis biscuits neu rawnwin, a'i osod ar fwrdd y beirniaid, gan ei gymryd pan ddeuai ysbaid o hamdden. Yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor (1902) cafodd fantais i fynd allan cyn gorffen o'r grawnwin; yna pan ddaeth yn ol, a'u ceisio, yr unig ateb a gafodd oedd gwên siriol yng nghil llygad Parry. "The man who could digest nails," meddai Emlyn, ond mewn perffaith dymer dda. Eto y treuliwr hoelion a syrthiodd gyntaf!

Ceir cyfuniad o'i ddireidi a'i fyfiaeth yn yr hanes a rydd Mr. D. Jenkins amdanynt adeg Gŵyl y Tri Chôr yn Henffordd, "pan y daeth a full score 'Saul o Tarsus' gydag ef, hyd nes i Emlyn fygwth mynd i'r gegin, a Parry fel plentyn yn addo na wnai son rhagor, ond bore trannoeth yn dod â'r gyfrol fawr a'i gosod ar y bwrdd o'i flaen yn llawn direidi."

Ac am ei fyfiaeth, hogynnaidd hollol ydoedd. Meddai Mr. Jenkins eto: "Mwynhai bopeth a gyfansoddai; siaradai am ei weithiau gyda'r fath frwdfrydedd yn ddiniwed fel plentyn." "Credai ef yn hollol syml fod holl gerddorion ac arweinyddion Cymru wedi eu creu i wasanaethu arno ef." Credai'n gryf yn ei allu i gyfansoddi; i gychwyn ysgol newydd o gerddoriaeth Gymreig; i ddwyn allan Lyfr Tonau Cenedlaethol; ac nid hunan—hyder bach oedd eisiau i alw ei ysgol yn Abertawe'n "Musical College of Wales." Ond tuedda'r fyfiaeth naturiol a hogynnaidd hon i fynd yn anghyfiawn ac anfoesol pan y dibrisia ymdrechion eraill, ac y gwrthyd eu cydnabod. Ni roddodd Parry ffordd i'r duedd yma'n hollol, ac ambell i waith meistrolodd hi; fel y prawf ei ysgrifau yn y "South Wales Weekly News" am 1888, yn y rhai y cydnebydd ei gyd—gerddorion yn galonnog, o'u cymharu a'r ysgrif y dyfynnwyd ohoni tra yr oedd ef yn Aberystwyth, yn yr hon y cyfeiria at ei weithiau ei hun yn bennaf fel prawf o fywyd cerddorol yn y tir. Eto amhosibl peidio condemnio ei waith yn gwrthod gweithredu fel un o bedwar ar bwyllgor cerddorol y "Caniedydd," a chyda hen gyfeillion fu'n ffyddlon iddo fel Emlyn Jones ac Emlyn Evans. Gwyddai y celai bob sylw a pharch posibl ganddynt hwy, fel y cawsai'n flaenorol; gwyddai hefyd, bid siwr, na chelai farchog hobi'r "tân Cymreig" yn y dewisiad o donau. Efallai ei fod yn tybio y byddai pwyllgor yr enwad yn rhoddi ffordd iddo, ac y dewisid ef yn unig olygydd, yn hytrach na'i adael allan. Bid a fynno am hynny, nid greatness mo hyn, ond bigness. Beth pe gosodasai un o'r golygyddion emynol i lawr y fath amod!

Y mae'n amlwg nad oedd pethau wrth ei fodd, a thrwy ddyfais y gallwyd cael ganddo ganiatau i nifer o'i donau ymddangos yn y "Caniedydd." Yr oedd Elfed wedi addo cyfansoddi libretto opera ar Arthur" iddo, a chredai y medrai orchfygu ystyfnigrwydd Parry â'r drosol honno, os o gwbl. Cadd ganiatâd y pwyllgor i'w threio; aeth i Benarth yn arfog; cafodd dderbyniad gwresog fel arfer gan Parry, ond pan grybwyllodd fater y "Caniedydd," "O! no, no, no, my dear friend, it is quiteout of the question-anything but that." Yna dyma drosol y libretto 'n cael ei rhoi ar waith. Mi ysgrifennaf fi libretto ar Arthur 'i chwi ar yr amod eich bod yn caniatau i ni gael eich tonau i'r 'Caniedydd.' Ac wele, ymollyngodd yr ystyfnigrwydd, llacaodd gïau yr esgusodion heb nemawr i air! Yr hyn a brawf mai'r gydwybod gerddorol (fyfïol) oedd ben yn Parry.

Y gwir yw, na chymerodd Parry mo'i hun mewn llaw o gwbl, i ddarostwng ei fyfiaeth, a disgyblu ei dymer, na hyd yn oed ei alluoedd meddyliol eraill, wedi iddo roddi ei hunan yn "gaethwas bodlon i gerddoriaeth." A chyn hynny, yr oedd braidd yn ieuanc i wneuthur, oddieithr fod ei amgylchfyd yn fwy ffafriol; fel na ddatblygodd ond ychydig os dim i un cyfeiriad ond yr un cerddorol. Nid oedd yn un o dymherau afrywiog y tu allan i gerddoriaeth, ond, fel y dywed ei ferch, yn naturiol siriol a hapus. A'r tu mewn i gerddoriaeth rhaid i ni gofio yr hyn a ddywed Mr. Byng—a ddyfynnwyd eisoes—sef na wyddom faint dioddefaint a hunanorchfygiad ein gilydd. Un naturiol fwyn oedd Mozart, ond gwyddom na fedrai yntau ddioddef ingoedd cerddorol yn hir heb ffrwydro. Wedi dychwelyd o Leipsic i Berlin un tro, aeth i'r chwareudy i wrando perfformiad un o'i operäu, a daliai'r ail grythen i ganu D lon yn lle D, nes iddo o'r diwedd weiddi allan, "O! ddistryw paham na ellwch chwarae D?" Iddo ef, â'i glust deneu, yr oedd yn annioddefol, ac amhosibl i ni wybod faint ei ddioddef cyn gweiddi ohono. Fe ddealla'r darllenydd nad siarad ydym i gyfiawnhau tymherau fel hyn, ond i'w hesgusodi hyd y gellir, am na ŵyr y cyffredin am rym y brofedigaeth. Ni chredwn am foment ei bod yn rhaid i hyn fod, pan gofiom am Paul â'i "chwythu bygythion a chelanedd," ac Awstin a'i natur nwydwyllt wedyn "heb don ar wyneb y dwr." Ac os na wrendy'n cyfeillion cerddorol ar bregethwr, gwrandawent ar y meddylegwr a'u cynghora i roddi mwy o sylw i ddatblygu'r ewyllys. Fe dalai i'r cerddor i ganu llai er mwyn dyfod yn ddyn mwy; oblegid nid yw'r celfyddydau cain wedi'r cyfan ond megis addurn tŷ—y dyn yw ei gryfder, a pheth go ddiwerth yw tŷ cain sigledig.

Yr oedd Parry'n rhy ddiamynedd i fod yn athro da ar ddosbarth na chôr, a chymerai'r myfyrwyr yn aml, os nad fel rheol, fantais ar ei wendid, a throent y dosbarth yn gyfle ffrwydr a stwr. Tebyg mai ei ddiffyg amynedd, y gallu anfeidrol i gymryd trafferth," a amddifadai'i athrylith o'i mynegiant goreu, a'i greadigaethau o'r perffeithrwydd uchaf. Danzi, onide, a arferai ddywedyd wrth Weber, "I fod yn artist gwir, rhaid bod yn ddyn gwir"—maentumiad ag y mae darllenwyr Ruskin yn gyfarwydd ag ef. Gwelir olion yr un brys hogynnaidd i fynd drwy beth yn ei lawysgrifau llenyddol y mae'n amlwg na chymerai amser i lunio brawddeg cyn ei gosod i lawr, ond treia'r geiriau cyntaf a'u cynhygiai eu hunain, ac os na ddaw'r lleill ar eu hol yn weddol ufudd croesa hwy allan, a threia eraill, ac yn aml gwna'r un peth â'r rheiny wedyn; fel mai nid olion pensaer celfydd yn caboli ei waith a geir ynddynt, ond y prentis yn ymboeni, gwthio, clytio. Y mae ei arddull hefyd yn chwyddedig ac areithyddol fel eiddo hogyn eto; y mae'n hoff o bentyrru ansoddeiriau amlwg, ac agos cyfystyr, ac yna o bentyrru brawddegau y naill ar y llall, sydd fel rheol, a'u cymryd gyda'i gilydd, yn ddiffygiol mewn cystrawen. Wrth gwrs, yr oedd yn llawer mwy o feistr mewn cerddoriaeth, ond gallem ddisgwyl i un fyddai wedi ymddisgyblu i fod yn llednais a glân gyda'i waith cerddorol, i fod yn fwy gofalus a mirain gyda'i ansoddeiriau a'i frawddegau.

Yr oedd ganddo ddychymyg ymarferol bywiog—yn gystal a dychymyg artistig—yr oedd yn llawn dyfeisiau a bwriadau nid yn unig ynglŷn â chyfansoddi, ond ynglŷn â'i goleg, yn gystal a gwerthu a hysbysebu a pherfformio ei weithiau. Ond un peth ydyw i'r gwyddonydd i ffurfio rhagdyb (hypothesis) hanner dwsin ohonynt yn wir—peth arall yw eu gwireddu wrth faen prawf ffeithiau. Ar greigiau ffeithiau ac amgylchiadau yr ai llawer o fwriadau ac anturiaethau Parry hefyd yn ddrylliau, a hynny'n aml oblegid diffyg barn a gofal ymlaen llaw. Ceir enghraifft o hyn mor ddiweddar ag 1897 ynglŷn â'i gyngerdd yn y Palas Grisial. Fel yr awgrymwyd eisoes, bu hwn yn fethiant mewn tri phwynt: (1) rhaglen ry fratiog; (2) cam—ddibyniaeth ar gantorion; ac (3) annibyniaeth ar brofiad rhai cyfarwydd â nodweddion clywiadol y Palas. Bu cyngerdd Mr. D. Jenkins, ar y llaw arall, yn llwyddiant hollol y flwyddyn flaenorol, ond dewisodd ef ei brif waith, "The Psalm of Life," i roddi unoliaeth a chymeriad i'r cyngerdd, a nifer o bethau llai yn fath ar ymylwaith iddo. Yna, yn lle dewis "prif " arweinyddion a phrif" gorau i'w helpu—y rhai na fedrant ganu heb ysbardun cystadlu, neu drip i Lundain, ac a feddyliant fwy am yr olaf nac am ganu—dewisodd arweinyddion a chorau y gallai ymddibynnu ar eu ffyddlondeb, ac ni chafodd ei siomi. Yn olaf, bu'n ddigon call i drefnu'r lleisiau yn unol â chyfarwyddyd rhai cyfarwydd â'r Palas—yr hyn ni wnaeth Parry, gyda menter hunandybus hogyn.

Nid fy lle i yw beirniadu ei waith fel cerddor, ond y mae'n amlwg i'r dyn plaen, mai un peth yw cyfansoddi gwahanol rannau cyfanwaith, peth arall yw eu hunoli a'u gwneuthur yn ddarostyngedig i ystyr yr oll. Ymddengys fod Parry'n ddiffygiol yn y gallu hwn; nodir ef yn y fan hon am ei fod yn perthyn yn agos i'r diffyg "barn" uchod. Ceir yn ei brif weithiau ddiffyg cymesuredd (proportion), a diffyg cysylltiad organaidd a naturiol â'i gilydd ac â'r oll. Dylasai gwahanol rannau cyfanwaith artistig fod fel canghennau mewn coeden lathraidd, yn tyfu allan yn naturiol ohoni, ac ar yr un pryd yn gosod cyflawnder a harddwch arni, heb ddim gormodedd ar y naill law, na diffyg ar y llaw arall. Ond ceir rhai o'i weithiau ef yn mynd yn fain tua'r diwedd, eraill yn fratiog ac anghysylltiol; ac eraill eto wedi eu crowdio'n ormodol i ddangos ystyr y syniad canolog.

Cwyna'i feirniaid hefyd ei fod ar brydiau'n "aberthu gwreiddioldeb er mwyn poblogrwydd." Efallai bod balchter y bywyd " yn yr ystyr hon yn demtasiwn iddo mewn cyfeiriadau eraill yn ogystal. Pan yn ei hunan— fywgraffiad y geilw berfformiad yn "llwyddiant hollol," anodd gweld pa safon arall a gymhwysa na chymeradwyaeth y dorf. Yna cyfeiria gyda math ar fost at y lluoedd a ddeuai ynghyd i wrando ei waith ef, "y dorf fwyaf o lawer o holl gyfarfodydd yr Eisteddfod." Am yr un rheswm yr oedd yn cysylltu gormod o bwys a'r safonau a berthyn i fachgendod y byd—a dyn, megis graddau a theitlau, fel y gwelsom ynglŷn â'i waith yn dwyn llu o'r rheiny i'w gymeradwyo i swydd gerddorol. Da fuasai gennym ei weld, fel Cherubini ac eraill, yn gwrthod plygu i un eilun mewn ffyddlondeb i'w ddelfryd cerddorol ei hun.

Eto, nid oedd Parry agos mor ddifarn a rhai o'i edmygwyr ar fater y llythrennau. Yn ol Louis Engel yn Temple Bar (1889) ymddangosodd nodyn yn un o bapurau Cymru i'r perwyl fod Dr. Parry'n fwy cerddor na Beethoven, am ei fod ef yn Mus. Doc., a Beethoven heb fod! Y dyddiau diweddaf hyn amheuthyn darllen hysbyseb Eisteddfod yn yr hon y beirniada "Edward Elgar" a "Granville Bantock." Tebyg y gallant hwy wneuthur heb ateg i'w henw!

Nid oes gennym le i dybio fod iddo demtasiwn gref ynglŷn â'r ddau ddosbarth arall o'r "pethau sydd yn y byd," sef cnawdolrwydd a bydolrwydd—fel y mae i lawer o wŷr y gân—yn y blaenaf yn enwedig, ac yn enwedig eto yn y ffurf o ymyfed (er nad oedd yn ddirwestwr). A chyda golwg ar ariangarwch, digon yw dywedyd gyda Mr. Jenkins, ei fod "yn ddibris o arian" wrth eu derbyn yn gystal ag wrth eu gwario. Dyna'n ddiau paham y cyhuddwyd ef o fod yn ariangar—hoffai eu cael er mwyn eu defnyddio. Pan adawodd y melinau oedd yn rolio gini'r nos iddo am gasgliadau deg cent Cymry Oneida, cwynai'n hiraethus—fel y brefa'r ych wedi gadael y doldir bras am y bryniau moel. Ac o hynny hyd y diwedd ni phetrusai ofyn am dâl da am ei wasanaeth. Meddyliodd ei gyfeillion a'i berthnasau'n ardal Pontyberem, wedi iddo ymsefydlu yn Aberystwyth, mai peth da fyddai iddynt ei anrhydeddu ef a hwy eu hunain drwy ei gael i arwain eu cymanfa ganu. Cafwyd cymanfa dda—heb sôn am y telerau ariannol. Yr oedd y trysorydd—yr hwn hefyd a'i gyrrai i'r orsaf—yn hen frawd anrhydeddus, a rhag ofn na fyddai pum punt yn ddigon i Mus. Bac., gosododd saith punt yn ei boced, eto heb dybio am foment y byddai eu heisiau. Yna, ar y ffordd, gofynnodd i Parry faint eu dyled iddo. "O, rhoddwch ddeg punt i mi," oedd yr ateb. "Wel," meddai'r trysorydd, "dim ond saith bunt sydd gennyf yn awr—ond gallaf yrru'r gweddill ar eich ol." "All right" meddai Parry, 'gyrrwch hwy; gwnaiff hynny'r tro'n iawn."

Tebyg fu hi yn Beulah, Sir Aberteifi, lle y cynhelid cymanfa ganu a chyngerdd yn yr hwyr gyda'r bwriad o wneuthur ychydig elw i gael elor-gerbyd at wasanaeth yr eglwys. Ond mynnai Parry, er na chyrhaeddodd ar gyfer y rehearsal nos Sul, yn unol â'r dealltwriaeth—gael ei dalu am y ddau wasanaeth ar wahân, gyda'r canlyniad na welodd yr eglwys un elor-gerbyd ond un ei gobeithion. Eto ni fedrai gadw'r arian a dderbyniai, a'u gwybodaeth o hyn a barodd i'w gyfeillion ddefnyddio arian ei dysteb i brynu tŷ iddo ym Mhenarth. Moddion yn unig oedd arian iddo ef, heb fod yn foddion mor effeithiol, ychwaith, ag a fuasai yn nwylo—yn lle "rhedeg drwy fysedd (chwedl yntau)—un mwy gofalus.

Adeg cydolygu'r "Cambrian Minstrelsie," bu ychydig annealltwriaeth rhyngddo a Dewi Môn ynghylch y tâl. Er i'r ddau gael eu cyflogi ar wahân, talodd y cyhoeddwyr am yr holl waith golygyddol i Parry, a phan geisiodd Dewi ei gyfran ef o'r tâl gan y cyhoeddwyr, cyfeiriasant ef at Parry. Yntau ni ddeallai hyn, a gwrthodai dalu ar y cyntaf. Ymddengys fod yna adran yn y cytundeb yn dywedyd mai felly yr oedd i fod, ond y tebygrwydd yw na ddarllenodd Parry erioed mo'r cytundeb; ac er iddo gael ei feio gan rai ar y pryd, y mae'n amlwg mai gwraidd yr holl annealltwriaeth oedd dull hynod y cyhoeddwyr o wneuthur cytundeb â'r golygyddion ar wahân, a rhoddi'r tâl i un. Pan ddeallodd Parry'r amgylchiadau, diau iddo dalu'n union. Oleiaf, ei gyd—olygydd, onide, a ysgrifennodd adeg ei farwolaeth:

Diniweited ei natur—a mebyn:
Mab diflin ei lafur;
Miwsig heb drai na mesur
Lanwai byth ei galon bur.


Y mae'n amlwg fod pob cwmwl wedi mynd erbyn hyn. Yr oedd Parry hefyd yn un a ddeuai i fyny'n nês at y safon Gristnogol o faddeugarwch ac addfwynder na llawer mwy eu honiadau. Credaf y gellid dywedyd amdano, na fachludodd yr haul ar ei ddigofaint. Dyna dystiolaeth ei gyfeillion, ac fe'i hategir gan ffeithiau. Ar waethaf ffrwgwd cantawd Merthyr, a'i anghydwelediad â Thanymarian, ni pheidiodd â mynd yr holl ffordd i'w angladd ac arwain y canu ynddi. A hyd yn oed pan ddadorchuddiwyd cof—golofn Llew Llwyfo, yr hwn a'i difenwodd ar y pryd fel artist, etc., yr oedd Parry'n bresennol, a thraddododd anerchiad. Mr. Jenkins a ddywed y byddai ei ffrindiau, ar ol rhyw "dro trwstan" o'i eiddo, 'n bwriadu siarad yn llym ag ef, ond y byddai ei wên a'i lygad siriol, a'i ddull hogynnaidd diniwed, anghofus o bob trwstaneiddiwch, yn eu diarfogi'n lân.

Ar yr ochr negyddol, dengys gryn lawer o gryfder moesol yn ei waith yn gwrthod siarad hyd yn oed dros ei hawliau ei hun dan amgylchiadau neilltuol—megis pan berfformiwyd "Ceridwen," mewn ufudd—dod i'r rheol, "y mae distawrwydd yn aur."

"Yr oedd ganddo syniad uchel am ddyletswydd "— yn arbennig ei ddyletswydd at "gerddoriaeth gwlad ei enedigaeth,' ac ynglŷn â hon eto at gyfansoddi,—os gwrandawn ar ei hunan—fywgraffiad. Yn ol hwn, edrych ar hyn fel gwaith ei fywyd, ac arno'i hun fel wedi ei alw iddo, mor wirioneddol a'r hen broffwydi gynt. Ac fel y mae wedi ei alw iddo, y mae'n cael ei ddiogelu er ei fwyn: arbedir fy mywyd tlawd i fod o ryw wasanaeth i gerddoriaeth gwlad fy ngenedigaeth (yr hyn wyf wedi dreio fod yn awr ers tymor hir)." Eto y prif dest o ffyddlondeb i waith ei fywyd yw troi allan nifer o gyfansoddiadau, a phan fetha yn hyn, y mae "dwys bigiad" ei gydwybod i'w deimlo. Dengys fy rhestr o weithiau," meddai am dymor 1871—3, "mai dyma'r tymor lleiaf ffrwythlon yn ystod fy holl fywyd fel cyfansoddwr, er mawr ofid i mi, ac yn groes i ddelfrydau fy mywyd."

Nid yw ei hunan-gofiant o gwbl yn gyflawn fel braslun nac yn fanwl gywir mewn llawer man; ond y mae'n ddiddorol a gwerthfawr am y geilw'n sylw at y pethau a wnaeth yr argraff ddyfnaf arno, ac a godai i fyny uchaf yn ei ymwybyddiaeth yn awr ar derfyn oes. Fe sylwa'r darllenydd fod ei ddeupen yn drwm, a'i ganol yn ysgafn, a gall, efallai, gymryd hynny fel prawf o ddadfeiliad oedrannus (senile decay). Diau na roddodd amser i lawer o gyfnodau Abertawe a Chaerdydd i godi i'r wyneb i gael eu hailfyw," gan mai prin y cyffyrdda â hwy; eto prawf yw hyn nad oeddynt yn crowdio'i gof fel amgylchiadau bore oes, marwolaeth ei ddau fab, a'i gyfansoddiadau. Y mae ysbrydoliaeth y Rockies eto'n ffres, er iddynt ei fychanu a'i luddedu, a gwneuthur iddo deimlo fel baban eisiau cysgu. Ond yr unig beth a bery'r un o hyd drwy holl gwrs ei hunan-fywgraffiad yw ei "Restr" o weithiau—ar ddiwedd pob blwyddyn. Ynglŷn â hon, y mae'n werth sylwi, na wahaniaetha rhwng adran ac adran o'i weithiau, ac na cheir awgrym, fel mae'r blynyddoedd yn pasio, ei fod yn cael ei alw o un ystafell i'r llall yn nhŷ'r gân; yr oedd ei wasanaeth ef yn y tŷ i gyd. Gadawodd Handel, Cherubini, etc., yr opera i raddau pell am yr oratorio; a chawn Gounod yn gweiddi allan, "Dim rhagor o operäu i mi ni chyfansoddaf yr un opera byth mwy. Gyda cherddoriaeth gysegredig yr wyf yn meddwl treulio diwedd fy oes." Ufuddhaodd Jenny Lind alwad gyffelyb ynglŷn â datganu. Ond nid oes sôn am alwad nac ateb fel hyn yn hanes Parry. Dengys ei eiriau ysgrifenedig olaf ei fod yn edrych ymlaen yn awyddus at gael libretto newydd i opera gan Mr. Bennett. Yr oedd tŷ'r gân i gyd iddo ef yn ddwyfol, ond fod rhai ystafelloedd yn fwy felly na'i gilydd. Yn hyn yr oedd yn fwy o Roegwr (neu Gelt?) nag o Iddew, a diau y dywedai gydag Islwyn:

Mae'r oll yn gysegredig.

Gelwir sylw at hyn fel mater o ffaith, nid am ei fod yn dangos diffyg yn ei ddatblygiad a'i addfedrwydd cerddorol nac ysbrydol—nac i'r gwrthwyneb; gall ei fod y naill neu y llall. Y Parch. J. H. Jowett, mi goeliaf, a ddywed yn un o'i ysgrifau iddo unwaith fynd i weld un o hen saint ei eglwys ar ei wely angeu, ac iddo ei gael yn darllen "Pickwick," er braw iddo ar y cyntaf, ond er dysg iddo wedyn braw am iddo dybied ei fod wedi ei dwyllo gan ffug—grefyddolder, ond dysg am iddo ddod i weld fod yr hen sant yn cael hamdden oddiwrth lafur ysbrydol—yn gorffwys oddiwrth ei weithredoedd. Ac ar y cyfan dyna hanes y saint—yr unitive way yw rhan ola'r daith: disgynnant o'r uchelfeydd gyda chalon wedi ei goleuo, a llygaid wedi eu gloywi i weld fod Duw'n ddigon mawr i fod ym mhethau cyffredin bywyd; gyda St. Francis cyfrifant bysg ac adar yn frodyr oll. Dichon mai yn yr ysbryd yma—ym myd cân y cyfrifai Parry bob creadur a wnaeth Duw, hynny yw, natur i gyd, yn lân. A hyn sydd sicr, na chanodd erioed i'r un creadur aflan. Pan na chanai i'r Aruchel a'r Tragwyddol, canai yn wastad i'r pur, a'r syml, yr iach, a'r prydferth. Y mae hyd yn oed ei ddigrifwch a'i chwerthin yn iach a glân a diniwed, fel na'n siomir ni pan na ddaw llais i'w alw i gysegru ei awen i wasanaeth yr ysbrydol.

Y prif beth, wedi'r cyfan, yw bod cerddoriaeth ysbrydol yn cael y lle uchaf yn ei feddwl, yn hytrach na'r lle olaf yn ei hanes. Ac eto, fel y mae'n digwydd, y mae'r naill a'r llall yn wir. Sylwodd y darllenydd eisoes ei fod yn rhoddi'r lle uchaf i gerddoriaeth gysegredig. Gwelsom hefyd y bwriadai i "Iesu o Nasareth" fod yn brif waith ei fywyd. Dengys hyn—a'r ffaith iddo, yn ei flynyddoedd olaf, gyfansoddi dau waith arall o bwys dan yr un teitl, sef y Corawd i Fechgyn yn 1898, a'r Gantawd i Blant yr un flwyddyn,—fod ei ddychymyg cerddorol wedi ei feddiannu gan ogoniant "Iesu o Nasareth" (paham o Nasareth bob tro ni wyddom). Ac y mae'r hanesyn cerddorol olaf sydd gennym amdano'n dal perthynas å'r un gwaith—sef iddo, pan yn mynd dros ran o'r gwaith gyda dau o'i ddisgyblion tua chwech wythnos cyn ei farwolaeth dorri i lawr mewn dagrau pan ddaeth at y geiriau "Mother, behold thy son." Adroddwyd yr hanes gan Mr. Tom Stephens, yr hwn yr arferai Parry ei wahodd i fynd dros ryw ran ag y byddai newydd ei gorffen. Y mae'r hanesyn yn taro nodyn yn natur Parry, y gallwn orffen y braslun hwn—a'r Cofiant, arno, a hynny heb ragrith.

Heblaw y goleuni a deifl yr hanesyn ar deimladrwydd crefyddol Parry, y mae o werth ar ddau gyfrif arall.

(1) Gorffennodd y rhan gyntaf yn ol y copi Tachwedd, 1902, ac y mae'n amlwg ei fod yn gweithio yn nechreu 1903 ar yr ail ran, ac ar adran y Croeshoeliad cyn gorffen yr adrannau blaenorol yn ddiau, gan na cheir mohonynt ymysg ei bapurau (nac yn wir y Croeshoeliad hyd yn hyn).

(2) Cyfeiriai Mr. Stephens at gân Mair wrth y Groes fel un ryfedd o doddedig. Os felly, gan nad oes sôn am y gân hon yn y braslun a roddwyd ar ddiwedd Pennod XX, y mae'n amlwg nad oedd hwnnw ond amlinelliad, a bod Parry'n cyfnewid ac ychwanegu wrth fynd ymlaen.

Mwynhaodd iechyd da drwy ei oes, a disgwyliai ei gyfeillion iddo fyw'n hen, a chael hwyrddydd teg ar y ddaear. Ond fel arall y bu. Mwynhâi ei iechyd arferol hyd tua phythefnos cyn y diwedd, pryd y gwelwyd y byddai'n rhaid galw llaw—feddyg i mewn. Gwnaeth hwnnw ei waith yn llwyddiannus, ac ymddangosai yntau fel yn gwella; eithr oherwydd gwenwyno'r gwaed siomwyd gobeithion ei ffrindiau ac ehedodd ei ysbryd awengar i'w fyd ei hun Chwefror 17, 1903. Gallesid braidd ychwanegu "ar edyn cân," oblegid medrodd ganu, neu yn hytrach, ni fedrodd beidio canu yn ei ddyddiau olaf. Fel y bu'n ddiweddar yn priodi geiriau'r Iesu, "Mother, behold thy son" â miwsig—geiriau a ddengys yr hamdden a fwynhai Iesu oddiwrth ei boenau'i hunan ar y Groes i feddwl am Ei fam, yn awr ca yntau hamdden ar ei wely angeu, er gwybod mai gwely angeu yw, i ganu cân ffarwel i'w "gyntaf a'i unig gariad." Prawf y ffaith iddo ysgrifennu "Dead March" i'w chanu yn ei angladd ei fod yn disgwyl y diwedd; ond heblaw hyn, y mae swn ffarwel "yr orsaf olaf" yn y gân:

We've wandered together so long, sweetheart,
That it's hard to be parted now:
When your locks that were dark as the raven, once,
Are white as the drifted snow;
You've borne all my burdens with me, sweetheart,
Through all that have come and gone;
And it pains me to leave you to bear them now—
To bear them the rest of the journey alone.

And, after so long we must part, sweetheart,
For it draweth to eventide;
And we've lightened the toil of one long day's task,
So cheerily side by side.
You'll think of me often, I know, sweetheart,
And the loving ones, too, that are gone!
And the tears that you'll shed will be sadder still,
Because you must weep, you must weep all alone.

Claddwyd ef yng ngwydd llu o gerddgarwyr o bob rhan o'r wlad, ym Mhenarth, lle

Gwnaeth Natur fynwent i'w phlentyn—tan gamp
Ton a gwynt ar benrhyn
Lle cân yr Atlantig brigwyn—ddwsmel
I chwiban awel uwchben ei ewyn.

"A fynno glod bid farw": rhoddwyd tysteb i'w weddw —er cof amdano—oedd ychydig dros ddwbl yr hyn a gyflwynwyd iddo ef yn 1896.

O'r teulu dedwydd a thalentog hwnnw dim ond un— Mrs. Waite (Edna) sy'n fyw yn awr.

Bu farw Dilys—yr ieuengaf—yr hon a gariodd ymlaen y Coleg Cerddorol am beth amser ar ol ei thad—yn 1914; Mendelssohn yn 1915; a Mrs. Parry yn 1918.

Y mae wyres iddo,—merch Mr. a Mrs. Mendelssohn— Parry yn cymryd y prif rannau, er yn dra ieuanc, mewn cwmni operataidd adnabyddus.

Gweithiau Dr. Parry.

Dyma'r rhestr o weithiau Dr. Parry a ddanfonwyd i mewn mewn cysylltiad â'i ymgeisiaeth am y swydd o Brifathro yn y Guildhall School of Music yn 1896.

ORATORIOS. "Emmanuel," produced at St. James' Hall, London, yn 1880, at Crystal Palace, 1880, and on various occasions in North and South Wales.

Saul of Tarsus," or, Scenes in the life of St. Paul, produced at Rhyl National Eisteddfod, 1892, repeated at Cardiff Musical Festival, 1892, Newcastle-on-Tyne and several other places.

"Prodigal Son," composed in 1866.

CANTATAS.

"Nebuchadnezzar," or, Scenes in Babylon (dedicated by special permission to H.R.H. the Prince of Wales), produced at Liverpool National Eisteddfod in 1881.

"Cambria," Historical Cantata, commissioned by the committee of the Llandudno National Eisteddfod, 1896, and to be produced there on 1st July next.

"Joseph and his Brethren," composed in 1880.

The Birds," composed in 1871.

GRAND OPERAS.

"Blodwen," The White Flower. The first Welsh Grand Opera (dedicated by special permission to H.R.H. Princess of Wales), produced in 1880, and performed about 500 times.

Virginia," produced at Swansea in 1882.

"Arianwen," produced at Theatre Royal, Cardiff, in 1884, and performed about 100 times.

"Sylvia," Produced at the Theatre Royal, Cardiff, 1895.

OTHER WORKS. A Tone Poem, for Chorus, Orchestra, Organ, and Four Bands, in three movements:

1.-Night and Sleep.
2. Dream Visions of Hell.
3.-Dream Visions of Heaven.

"Te Deum" (occupying about one hour in performance).

A Psalm (occupying about forty minutes in performance).

Chorales, about 300. An edition of 250 now ready for press.

Anthems, Choruses, Glees, Part Songs, and Male Choral Ballads, a very large number.

Songs, about 300 of various styles and forms. Duets, Trios, and Quartettes.

Welsh National Airs (Six Volumes), edited with new accompaniments and harmonized into four parts, and dedicated by special permission to Her Majesty the Queen.

PRIZE COMPOSITIONS.

In all twenty prizes won in National Competitions between 1861 and 1866-Oratorio, Glees, Chorales, Choruses, Motette, Quartettes, Songs, Canons, and Part Songs.

ORCHESTRAL MUSIC.

Symphony.
Six Overtures.
Ballade, Peredur, the Wandering Knight."
A Tone Picture-" Sleep."
Suite.
String Quartette in D Minor.
Pianoforte Sonatas.

LITERARY WORK. Lectures upon the following subjects:

1.-The Nationalism of Music.
2.-Our present Musical needs.
3.-Musical Education.
4.-The Musical Composer and the development of his Art.
5.-The Science, Art, and Language of Music.
6.-The Music and Musicians of the Christian Church.
7.-Music-its Masters, Styles, and Forms, of the Classic Modern, and Romantic Schools.

Rhestr o Weithiau Dr. Parry[33]

I. Ym meddiant Mr. D. J. Snell, Abertawe.

CANTATAS, OPERAS, AND ORATORIOS.

"The Birds," Cantata.
57th Psalm (1862), MS., Cantata.
"Te Deum " (1862), MS., Cantata.
"Prodigal Son," Cantata.
"Joseph," Cantata.
"Nebuchadnezzar," Cantata.
"The Pioneers," Cantata.
"Nazareth," Cantata for Children.
"Moses," Cantata for Children.
"Cambria," Cantata.
"Ceridwen," Cantata.
"Blodwen," Opera.
"Virginia," Opera.
"Arianwen," Opera.
"Sylvia," Opera.
"King Arthur," Opera.
"His Worship the Mayor," Opera.
"The Maid of Sker," Opera.
"Cap and Gown," Operetta.
"Emmanuel," Oratorio.
Saul of Tarsus," Oratorio.
"Jesus of Nazareth," Oratorio (unfinished)

CHORUSES, GLEES, ANTHEMS, ETC.


Gorsedd Ode, Chorus.
"Bethlehem," Small Chorus.
Boat Song.
Choral Fantasia.
"Village Bells."
"Telyn," Parts 1, 2, and 3.
"Elegie," Anthem.
"Loyal Hearts," Chorus.
"Choral March," Chorus.
"Ode to the Sun," Chorus.
"Molwch yr Arglwydd,"
"Praise to the Lord," Parts 4, 5, and 7; Anthem.
Requiem.
"Hail Prince! " Chorus.
"Worthy is the Lamb,"Anthem.
"Deep Jordan," Anthem.
"Behold," Anthem.
"Emmanuel"; Old Notation and Solfa complete. (No. 27 burnt.)
Tone Poem, " Holy," etc.,
Choral.
"In Memoriam," Choral.
"Dawn of Day," Choral.
"God is a Spirit," Anthem.
"The Rescue."
Prize Glee, "Richmond."
Prize Glee, "Peace."
"The Shepherds and the Fairies."
"Patrons of Appollo's Lyre."
"Greeting."
"Goodnight."
Prize Temperance Glee.
"Bessie's Grave."
"Blessed are They."
"O! Lord God of Hosts."
"O I come, let us sing."
"O! give thanks."
"O! give thanks," D Major.
"Arglwydd, cofia,"

Recit. and Chorus, "Haste We."
"Few and Precious."
"We will rejoice."
"Adieu to dear Cambria," Part Song.
"Molwch yr Arglwydd."
"I will call."
"Teyrnasa."
"Plumlumon."
"The Bard."
"The Swelling Sea."
"Nid i Ni," Canon.
"Y Cychod ar yr Afon."
"Job."
"Cartref y Cedyrn."
"Jubilate."
"Hear, Oh Lord."
"Praise waiteth for Thee."
"Strike the Lyre," Glee.
"Yr Afon Fach," Part Song.
"How beautiful is Night."
"Glory to God."
"Bless the Lord."
"Oh, Mighty Father."
"Through the Storm."
"Temperance Vocal March."
"Come unto Me."
"Vital Spark."
"Holy, Holy."
"Dismission."
"Hallelujah."
"Perfected in Jesus."
"I will arise."
"Remember, Man, thy Creator."
Congregational Anthems.
"Molwch."

For Male Voices.

Serenade.
Monks' March.
"Cambria."
Monologue.
"I arise from dreams of thee."
"Llewelyn."
"Belshassar."
"Hen lan henafol."
"The old story."
"The Village Sexton."
"Merrily chants the soaring lark."
"Cupid's Darts."
"Life as a flower."
"Oh! give me my sword."
"Caradog " (" Caractacus ").
"Pilgrims."
"My Lassie."
"Annabelle Lee."

TRIOS, DÜETS, AND SONGS.

Trios.

"Home."
"Bless the Lord."
"Political Catch."
"The Music
Lesson."

Duets.

"Cambria's Lament."
"Yr Heulwen Glir."
"Teach me Thy way.
"Bow Down."
"Suffer Little Children."
"Cambrian Minstrels."
"The Two Angels."
"Atat Ti."
"Gwenllian."
"Two P
atriots."

Songs.

"Cymru Fydd."
"My Mother."
"The Mother and Child."
"Y Marchog."
"Make New Friends."
"Hen Gloch y Llan."
"Malcombe."
"The Nightingale."
"The Soldier Brave " (Tenor and Bass).

"Baner Ein Gwlad."
"Be kind to the Loved Onea."
"To Charity."
"Thraldom."
"The King's Bride."
"To Lord Roberts."
"Hen Walia elo i fyny."
"Pa le mae Milwyr Arthur? "
"Spring."
"Summer."
"Autumn."
"Winter."
"Christmas Story."
"Sympathy."
"My Heart is Weary."
"Jesus, still lead on."
"Life's Dreams."
"Cerddi Rhyddid Cymru."
"Gogoniant i Brydain."
"Where are the Friends? "
"I know a Maiden fair."
"Hen Gloch y Llan "(2).
"The Telegraph Boy."
"When other hands are clasped in Thine."
International Celtic Song.
"My Friends of old."
"Come back to Me."
"My Heart's Love."
"This Liíe and Mine."
"She knows."
"Those dear Eyes of Thine."
Easter Hymn.
Two Christmas Eves."
"The Skylark."
"The Old Yew Tree."
"The Sailor's Wife."
War Song.
"Niagara."
"The Train."
"St. David."
"The Minstrel."
Lullaby.
"Y Bardd a'r Bala."
"The Sailor's Song."
"Cymru, Cymro, a Chymraeg."
"The Place where we met."
"Ein Tadau, p'le maent Hwy."
"The Old Blind Harper."
"St. Gwyndaf."
"Wanton Gales.'*
"Forget Me Not."
"The Water Mill."
"The Days that are no more."
"Gone for ever."
"Cymru Newydd."
"Guinevere."
"Home of My Childhood."
"Old Swansea Bells."
"Yr Eneth Glaf."
"Excelsior," Tenor.
"Excelsior," Bass.
"Cheer up!"
"The Old Pot Pourri Jar."
"My Captain."
"Adieu, dear Home."
"The Lunatic."
"The House on Fire."
"The Day is done."
The Soldier."
"Ave Maria."
"E'en as a Flower."
"Diamonds hast Thou."
"Go, lovely Fisher Maiden."
"The Moon is fully risen."
"Thine Eyes."
"Thy Cheek."
"Nothing but Leaves."
The Old Cottage Clock."
"The Voice of Conscience."
"Lady Mine."
"Devona's Vale."
"The Mother and Child."
Lincoln's Grave."
"Home of My Soul."
"Storm of Tiberias."
"The Highland Brigade."
"My Love is fair."
"The Druid."
"Cymru."
"As the Stream flows."
"Deio Bach."
"The Auctioneer."
"To Music."
"An Elegy."
"Ti wyddost."
"Dangos dy fod yn Gymro.'
"Mae'n Gymro byth."
"Parting Song."
"Columbia."

"Oh I Lord, rebuke Me not."
"Not every One " (Sacred).
"Where shall My Soul? "
Song without Words.
Mari o Fedwig."
"The Disappointed Lover."
"The Old Harper."
"Y Cymro Pur."
"Y Danchwa."
"The Sad Farewell."
"The Day is cold."
"King Death."
Sleep, My Love " (Lullaby).
"The Charge of the Light
"Brigade."
"Mae'r Tywysog yn dyfod " ("The Prince is coming.")
"The Pauper's Drire."
"Come, Holy Spirit."
"The Two Locks of Hair."
"Life is a Dream."
"A Love Song."
"Of thee, my bleak home."
"The Playing Infant."
"Oh! Lord, abide with me."
"Lead, Kindly Light."
"The Widow's Lullaby."
"Degree Song."
"Am Gymru."
"To my Friend."
"The Shepherdess."
"The Milkmaid's Song."
Eleven songs published in the
"Cambrian Minstrelsie."

VARIOUS PUBLICATIONS (published by others originally).[34]

Six Quartettes.

"Ti wyddost beth ddywed fy nghalon."
"Fy Angel Bach."
"Mi welaf mewn Atgof."
"Evan Benwan."
"I would I were a careless Child."
"Sleighing Glee."

SONGS.

The Gambler's Wife."
"Yr Eneth Ddall."
"The shake of the hand."
"Gwnewch bopeth yn Gymraeg."
"Dyna'r dyn a aiff â hi."
"Y Bachgen Dewr."
"Y Gardotes Fach."
"Y Fenyw Fach a'r Beibl Mawr."
"Atgofion Mebyd."
"Paham mae Dei mor hir yn dod."
"Atgofion."
"Gwnewch i mi Feddrod."
"Glyndwr."
"The Cambrian Maid."
"Arabella"
"My Childhood's Dreams."
"Excelsior."
"Gogoniant i Gymru."
"Y Telynor Bach."
"Thou art passed."
"The old kind friendly feeling," Duet.
"The Two Sailors," Duet.
"Gweddi Gwraig y Meddwyn," Glee.
"Achub fi, O Dduw!" Motette.
"Clyw, O Dduw, fy llefain," Chorus.
"Y chwaon iach," Four-part song.
"Ar don o flaen gwyntoedd," Glee.
"Ffarwel i ti, Gymru fad." Glee.

Six Anthems.

"Mor Hawddgar."
"The Lord's Prayer."
"God, be merciful."
"The Lord is my Shepherd."
Funeral Anthem.
"Hosanna."

"The Sailors' Chorus " (Male Chorus).
"Oh! as fair," Duet.
"Arabella," Part Song.
"Y Cychod ar yr Afon," Part-song.
"Gwaredigaeth," Glee ("Ar Don," No. 2, E flat; published in America).
"Pebyll yr Arglwydd," Anthem.
"The Traitors," Chorus.
"The Storm," Chorus.
"Dwynwen," Male Chorus.
"The Druids," Male Chorus.
"Rowing together," Duet.
"Hoff wlad fy ngenedigaeth," Song.
"Old Memories," Song.
"A voice from the wreck," Song.
"The Warrior's Bride," Song.
"Jesus of Nazareth," Male Chorus.
"Gwen," Male Chorus.
"Llan Henafol," Male Chorus.
Suo-gan, Chorus.
"Merch Cadben y LoliWen," Song.
"The Last Prince," Song.
"The Blind Harper," Song.
"Cymru," Song.
"Oes y byd i'r iaith Gymraeg," Song.
"Plant y Cedyrn," Duet.
"Hen wlad y gân yw Cymru," Duet.
"Teach me Thy ways," Duet.
"Y Tri Aderyn," Trio.
"The Three Singers," Trio.
"The Tangled Skein," Song.
"The Golden Grain," Song.
"My bonnie blue-eyed lass," Song.
"The Miller," Song.
"The Children's Garden," Song.

ORCHESTRAL WORKS, PIANO, ETC.

Orchestral.

Symphony.
Nine Overtures.
Arthurian Ballads.
Three Tone Statuettes (Mirth, Regret, Courage).
A Tone-Picture, " Sleep."
String Quartette.
A Suite.
"The Dying Minstrel" (Cello and Orchestra).
A Dead march.

PlANOFORTE.

Three Sonatas (C Minor, E Minor, and G Major).
Cambrian Rustic Dance.
To Dilys," Parts 1,2, 3, and 4.
Gallop."
"Druids' March."
Maesgarmon Fantasy.
Seaside Reverie.
"To Eddie."
"To Willie."
"Rccollections of Childhood."
"Recollections of Courtship."
"Recollections of Spring."
"Emmanuel," Overture.
"Blodwen," Overture.

Violin and Piano.

Glyndwr March.
Welsh Air Fantasie (Violin and Piano).
Welsh Air Sonata (Violin and Piano).
Welsh Dance.
Welsh Dance

II. Ym meddiant Pwyllgor y "Caniedydd."[35]
TONAU CYNULLEIDFAOL DR. PARRY,

Y rhai y prynwyd yr hawlfraint ynddynt, gydag eithriad neu ddwy gan Bwyllgor y "Caniedydd."


Rhan I.
(o'r " Llyfr Tonau Cenedlaethol ").

"Aberteifi."
"Brycheiniog."
"Caerfyrddin."
"Caernarfon."
"Dinbych."
"Fflint."
"Maesyfed."
"Maldwyn."
"Meirionnydd."
"Môn."
"Morgannwg."
"Mynwy."
"Maine."
"New York."
"Ohio."
"Pennsylvania."
"Penfro."
"Dameg y mab afradlon,"
Chant.
"Gweddi yr Arglwydd"
Anthem.

Rhan II.

"Hiraethus."
"Sirioldeb."
"Eriyngar."
"Y Groesbren."
"Moliant."
"Nadolig."
"Ebenezer."
"Bethesda."
"Golgotha."
"Gethsemane."
"Llanberis."
"Ffestiniog,."
"Machynlleth."
"Eden."
"Portmadoc."
"Llanelly."
"Merthyr."
"Plygeingan."
Salm 1, Anthem.

Rhan III.

"Calfaria."
"Caerdaf."
"Y Tymhorau," Darllen-gan.
"Cwynfanus," Darllen-gan.
"Disgwylfa."
"Gorffennwyd."
"Aberystwyth."
"Y Bugail Da."
"Dydd y Farn."
"Gwyliadwriaeth."
"Bendithiad."
"Yr Adgyfodiad."
"Dies Irae."
"Sancteiddrwydd."
"Morwriaeth."
"Arweiniad."
"Tydi, O Dduw, a folwn,"
Te Deum.
Alaw Hindwaidd (Cynganedd wyd gan Dr. Parry).

Rhan IV.

"Gwengar."
"Wylofus."
"Addoliad."
"Cydweli."
"Cartref."
"Milwriaeth."
"Preswylfa."
"Hosanna."
"Rhagluniaeth."
Mawl-gan.
"Diogelwch."
"Gorfoledd."
"Haleliwia."
"Milwriaeth y Cristion.

"Angyles."
"Pan am seibiant."
"Sanctaidd! Sanctaidd I "
Anthem fer.
Anthem fer i gorau bychain.
"Am fod fy Iesu'n fyw"
(cydmaith i'r anthem " Huddersfield").

Rhestr o'r tonau na chyhoeddwyd yn y Rhannau o'r " Llyfr Tonau Cenedlaethol."

"Omega."
"Emlyn."
"Pontypool."
"Fel yr wyf."
"Dihangfa.
"Myned heibio."
"Blaenafon.
"Sir Benfro."
"Y bobl oedd yn eistedd."
"Rock of Ages.
"Gounod."
"Haleliwia (un o'r enw yn Rhan IV, Rhif 64, ond nid yr un).
"Hendre.
"St. Paul."
"Tangnefedd."
"Dolefus."
"Clodforedd."
"Gwneler Dy ewyllys."
"Deled Dy deyrnas."
"Y Diddanydd."
"Sir Fynwy."
"Ar y Groes."
"Angen."
"Tenby."
"Claddu ein cyfeillion."
"Abercarn," yn nhaflen VIII.
"Iesu, ein Gwaredwr."
"Yr Ysbryd."
"Llandrindod," yn Nhaflen VII.
"Nid yw'n hoes."
"Iesu fy Nuw."
"Anfarwol Gariad."
"Bangor," yn Nhaflen VII.
"Llansawel," yn Nhaflen II.
"There is a green hill."
"Diolchaf am y groes."

RHESTR O DONAU TELYN YR YSGOL SUL, RHANNAU I, II A III.

"Milwyr Duw."
"Y Ceidwad yn Gyfaill."
"Iesu'r Cyfaill goreu gaed."
"Sain Hosanna."
"Y Bugail Mwyn."
"Awn ninnau i'r nefoedd."
"Y Jerusalem nefol."
"Milwriaeth y Cristion."
"Cwymp Babilon."
"Dyddiau Hyfryd."
"Hosanna i'r Iesu."
"Feibl gwerthfawr." Deuawd.
"Dos yn dy flaen yn wrol."
"Mordaith bywyd."
"Crist yw'r Brenin."
"Milwriaeth Crist."
"Y milwr bach."
"Plant caethion Babilon."
"Ei drugaredd a bery yn dragywydd."
"Gad im* aros gyda Thi."
"Yr utgorn a gân " (Anthem).
"Pwy bynnag a ddêl."
"Ai difater gennyt ein colli ni?"
"Duw Daniel."
"Yr Iesu yn erfyn ar yr enaid."
"Y tri llanc."
"Paid â'm gadael, Iesu."
"Yr Arglwydd fyddo gyda chwi."
"Addfwyn Iesu."
"Dos i'th ystafell a gweddîa."
"Cân Joseph yn y carchar."
"Nid amlygwyd eto beth a fyddwn."

"Gwerthfawr waed."
"Iesu'n marchogaeth i Jerusalem."
"Beth a dalaf i'r Arglwydd? "
"Caru'r Iesu'n fwy."
"Neb ond Iesu."
"Llef y paganiaid atom."
"Moliant i'r Iesu."
"Teilwng yw'r Oen " (Anthem).
"Dychweliad y gaethglud."
"Cysgod y Graig."
"Awn Rhagom."
"Os mynni, Ti elli."
"Gwaredigaeth Pedr."
"Hen Lyfr mawr y Bywyd."
"Bartimeus a'r Iesu."
"Pwy sydd yn y nef yn byw? "
"Gweddi'r teithiwr."
"O beiddia fod yn Ddaniel."
"Mae popeth yn dda."
"Yr adgyfodiad."
"Gwerthiad Joseph."
"Carchariad Joseph."
"Joseph gerbron Pharaoh."
"Joseph yn croesawu ei frodyr."
"Joseph yn fyw."

(Eiddo Mr. Snell yw copyright y pump olaf, allan o gantata "Joseph.")



THE EDUCATIONAL PUBLISHING CO., LTD.,
CARDIFF AND LONDON

Nodiadau

golygu
  1. Ymdrinir â cherdd-ladrad ym Mhennod XX.
  2. Ond un meddai'i chwaer. Dim ond at frawd a thair chwaer y eyfeiria Parry yn ei Hunan-gofiant: bu farw y tri arall yn ieuainc.
  3. Dyma'r rheswm na fabwysiedir yr un dosraniad i gyfnodau ag yng Nghofiant D. Emlyn Evans, er y gallesid gwneuthur hynny, canys ymrodd Parry hefyd i wasanaeth lletach o 1880 ymlaen: gwêl. Pennod XII.
  4. Dywed "Y Gerddorfa" am Ragfyr, 1873 am Mr. John Abel Jones ei fod yn "un o'r Cymry mwyaf adnabyddus yn Pittsburgh." Efe oedd yn athro cerddoriaeth yn ysgolion cyhoeddus y dref; ac ef a ddewiswyd i ganu y solos ar agoriad cynhadledd fawr y milwyr a'r morwyr.
    Yr oedd yn werinwr selog, a phan deithiai ef a'i gantorion mewn cerbyd ar adeg etholiad, tarawyd ef ar ei wegil gan briddfaen, yr hyn achosodd ei farwolaeth.
    Dywed Asaph Glyn Ebwy amdano ("Cerddor" Medi, 1894) mai ef enillodd y wobr ar y Solo Bass yn Eisteddfod y "Swan," Ystalyfera, yn 1859, er fod Mr. Silas Evans yn cystadlu.
    Yr oedd yn gefnder i'r Parch. D. Jones, B. A., Merthyr. Nid oedd Mr. J. M. Price mor amlwg, ond gweithiai'n ddyfnach.
  5. Dyna ddywed ef yn ei Hunangofiant; ond yn ol Mr. D. Jenkins enillodd ar y Ganig, "Rhosyn yr Haf" y flwyddyn ddilynol (1867) yn America.
  6. Yn y bennod nesaf cyfeiria Parry at ddeuddeng (12) mlynedd fel organnydd yr Eglwys Bresbyteraidd, ond rhaid mai gwall yw hyn, ac fod yr "1" wedi llithro i mewn drwy ryw lapsus. Byddai gwneuthur yr amser yn ddwy (2) flynedd ar y cyfan yn cydgordio â'r uchod.
  7. Y "Faner," Medi, 1866.
  8. hy Sir Gâr (Caerfyrddin) nid Swydd Gaer (Cheshire)
  9. Dywed Cynonfardd ei fod yn Organnydd yn Eglwys Esgobol Wilkesbarre o 1872 hyd 1874, ac mai i gôr yr eglwys y cyfansoddodd "The Tempest."
  10. Yr oedd dwy o ganigau Parry yn Eisteddfod Abertawe (1863) i leisiau gwrywaidd.
  11. Er i Cherubini gyfansoddi dros bedwar cant o ddarnau, ni chyhoeddwyd ond tua phedwar ugain ohonynt.
  12. Ymddengys i Mr. D. Jenkins alw sylw at yr angen am ŵyl o'r fath i ddatganu gweithiau Cymreig a Chymdeithas y Cerddorion ynglŷn a hi yn 1877, ond yr oedd yr athro a'r disgybl yn deall ei gilydd yn ddiau.
  13. Cyfansoddodd "Â Chalon Lon" ar gyfer yr un amgylchiad, er na cheir sôn am ei chanu.
  14. ''Gems" yw'r gwreiddiol: mentrais ei gyfieithu fel uchod er mwyn osgoi'r hyn a eilw'r beirdd yn gymysgu flugrau; ond efallai mai Datguddiad xxi, 19 oedd ym meddwl yr awdur.
  15. Yr oedd Promenade Concerts Mr. Haydn Parry hefyd yn dra Chymreig gyda "Chôr Cymreig Dr. Parry" 'n cynorthwyo. Y Coleg Cerddorol
  16. O'r "Geninen."
  17. "Y Geninen," Ebrill, 1883.
  18. Yn ôl ysgrif o'i eiddo yn y "South Wales Weekly News" (Tachwedd, 1887): "The writer is now devoting much of his time to composing, compiling, rearranging and better combining hymns and tunes. He is reviving the purely old Welsh Chorale, and expanding and maturing the true Welsh spirit by collecting and arranging all the old Welsh tunes, and composing many of his own in all metres in the same spirit, style, and devotional warmth. In short, he is getting up a national tune book for Wales." 147
  19. Yn yr ystyr o artificial.
  20. When one has seen the exaltation of Copt and Arab in religion, when one has heard the great choric voice of Russia at church, and the splendid purposeful faith of Teutonic hymns, one knows that a calm singing of Praise to the Holiest in the height' is not the only mode of praise."—Stephen Graham yn "Children of the Slaves," tud. 85.
  21. Bwriada Mr. Snell, Abertawe, ei chyhoeddi.
  22. Cym. "cylch ehangach o ddefnyddioldeb" yn ei Hunangofiant.
  23. Gallwn gasglu oddiwrthi i Parry ofyn i Gyngor Coleg Aberystwyth basio penderfyniad o'i blaid fel ymgeisydd yng Nghaerdydd!
  24. Ni arweiniai ef yn Abertawe am ei fod yn feirniad yno.
  25. Wedi marw'i fab hynaf, aeth Parry am daith i'r Amerig, ond nid cyn gorffen ei waith ar y "Cambrian Minstrelsie," ag eithrio un alaw, cyfeiliant i'r hon a ysgrifennwyd gan Emlyn.
  26. "Mae'r ysgub olaf wedi'i chywain 'nawr." (Wil Ifan.)
  27. Gweler hanes Handel, ymysg eraill.
  28. Prawf arall o'r hyn ddywedwyd ar tud. 79, oblegid pe buasai'r dôn wedi ei chyfansoddi dan amgylchiadau eithriadol, diau y buasai'n cofio hynny.
  29. Fel y gwnaeth Dr. Vaughan Thomas yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddiweddaf.
  30. Dygodd cwrs o ddarllen i gyfeiriad neilltuol "History of European Morals (Lecky) ar ol seibiant maith ar y silff-i'm dwylo'n ddiweddar, a chefais fy hun un dydd yn darllen a ganlyn: "The age of genius had closed, and the age of pedantry had succeeded it. Minute, curious, and fastidious verbal criticism of the great writers of the past was the chief occupation of the scholar, and the whole tone of his mind had become retrospective, and even archaic. Ennius was esteemed a greater poet than Virgil, and Cato a greater prose writer than Cicero. It was the affectation of some to tesselate their conversation with antiquated and obsolete words. The study of etymologies had risen into great favour, and curious questions of grammar and pronunciation were ardently debated."
  31. Os ychwanegwn enw Mr. David Lewis at y pump a nodir (Cofiant D. Emlyn Evans) gan Mr. David Jenkins fel prif gerddorion y "deffroad" yng Nghymru, ac enw Mr. Brinley Richards at y pump blaenorol, diddorol sylwi fod tri o'r rhai olaf a nodwyd o'r De, a thri o'r Gogledd, tra y mae'r chwech arall o'r De—tri o Ddyfed (Sir Aberteifi), a thri o "fwg Morgannwg a Gwent,' ond fod rhieni un o'r rheiny eto o Ddyfed (y tad o Benfro a'r fam o Sir Gaerfyrddin).
  32. Yn y Rhyfel Mawr (1914—1918) nid oes braidd ddim parhaol wedi dod allan o'r terfysg erch. Gwir fod yna aml i gerdd farddonol wedi ei hysgrifennu a fydd byw—ond yn gerddorol—pur ddilewyrch ydyw'r cyfansoddiadau. Daear garegog—sych a diddwfr ydyw y rhan fwyaf ohonynt. Efallai y ceir gwaith anfarwol eto pan yr edrychir yn ol, ac y pwysir y delfrydau y gwelir gogoniant y person hwn a'r cyflawniad arall—ac y daw y byd i weld ardderchowgrwydd yr adgyfodiad, ar ol ing a chyni'r croeshoeliad.
  33. Yr wyf yn ddyledus i Mr. D. J. Snell am y rhestr hon.
  34. Ni fyddai o fudd i roddi enwau'r cyhoeddwyr blaenorol ond rhoddir gyda'i gilydd y gweithiau a gyhoeddwyd gyda'i gilydd.
  35. Yr wyf yn ddyledus i'r Parch. D. M. Davies am y rhestr hon.
 

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.

 

[[Categori:Testunau cyfansawdd]