Gwaith Gwilym Marles (testun cyfansawdd)

Gwaith Gwilym Marles (testun cyfansawdd)

gan William Thomas (Gwilym Marles)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
I'w ddarllen pennod wrth bennod gweler Gwaith Gwilym Marles

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
William Thomas (Gwilym Marles)
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Owen Morgan Edwards
ar Wicipedia



GWYLYM MARLES

(Ebrill 7, 1834—Rhagfyr 11, 1879)





ARGRAFFWYD I AB OWEN GAN R. E. JONES a'r FRODYR,
CONWY

Rhagymadrodd

WRTH gasglu cyfrol o waith Gwilym Marles, yr wyf yn gadael o'r neilldu bethau pwysicaf ei fywyd, sef crefydd a gwleidyddiaeth. Ymdrechodd ymdrech deg dros oleuni a rhyddid,

"And from the pulpit zealously maintained The cause of Christ and civil liberty As one, and moving to one glorious end."

Yn ei fywydd hawddgar a phrudd, canodd aml gân, a darluniodd lawer golygfa ym more oes. Casgliad o'r rhai hynny,—ambell gipdrem ar hen Eden mebyd drwy ystormydd bywyd,—ydyw y gyfrol hon.

Ganwyd William Thomas (Gwilym Marles) yn Glan Rhyd y Gwiail, ar lan afon Cothi, ym mhlwy Llanybydder, rhwng pentrefydd Brechfa ac Aber Gorlech, sir Gaerfyrddin, yn 1834. Mab y Gelli Grin, ger Brechfa, oedd William Thomas, ei dad; ceir darluniad ohono yn "Pa fanteision gawsoch cbhwi?" Un o deulu Llwyn Celyn oedd Ann Jones, ei fam,—geneth ddeallus a phrydferth, briododd yn ddeunaw oed. Dywedir yn hunangofiant y Parch. Evan Lewis, Brynberian, wrth son am yr ymdrech ddysg yn ysgol Abergorlech,— "Mae yn gof gennyf mai merch Ysger Onnen oedd y dynnaf i mi, sef mam y diweddar Gwilym Marles.' Mabwysiadwyd Gwilym gan fodryb, chwaer ei dad; yr oedd ei gŵr yn ddiacon gyda'r Anibynwyr yng Ngwernogle. Cartref crefyddol oedd cartref mebyd Gwilym Maries a'i wyneb at Haul Cyfiawnder. Ar y Beibl yr oedd myfyrdod y teulu, a thrwythwyd meddwl y bachgen deallgar yn ei ysbryd. Yr Ysgol Sul oedd ei hoff gyrchfan, ar fywyd yr Iesu yr oedd ei feddwl. Dan bren yn y maes, ar lan afon, ymgymunai a'i Dduw uwchben ei Feibl am oriau. "Llawer tro y gweddiais yn yr hen go glau cysegredig, a than y derw urddasol o gylch fy nghartref, ac yr oeddwn yn teimlo y pryd hwnnw a chredaf yn awr i mi fwynhau cymundeb pur a melus yr Ysbryd mawr lawer gwaith. Ac os y glân ei law a'r pur ei galon, os y galon ddrylliog a'r ysbryd cystuddiedig yn crynu wrth ei air, sy gymeradwy gyda Duw, pa fodd nad oes gennyf sail dda i gasglu mai oddiwrtho Ef y deuai yr hyfrydwch a'r hedd a ddylifent i fy mynwes?"

Nid oedd bosibl cael gwell parotoad at ymdrech ei fywyd. Cyfarfyddodd, yn yr ysgol ac yn y coleg, fechgyn yn dod o gartrefi mwy urddasol a llawnach o lyfrau na'i gartref gwledig ef; ond yr oedd yntau wedi ei fagu mewn lle yr oedd Natur ar ei harddaf, a Duw yn ymyl. "Talk of courtly manners," meddai rhywun, "the Christian lives in a Court."

Aeth i ysgol Ffrwd y Fâl, at Dr. William Davies; oddiyno, ym Mehefin, 1852, i Athrofa Bresbyteraidd Caerfyrddin. Dyddiau llawn oedd dyddiau'r coleg,—yr ymdrechi ennill y blaen, y llyfrgell gyfoethog, y chwalu a'r chwilio ar hen dybiau, yr anobaith a'r goleuni. Yn 1856 enillodd ysgoloriaeth Dr. Williams, ac aeth i Brifysgol Glasgow. Graddiodd yn anrhydeddus yno; ac yn 1860 ymsefydlodd yn fugail ar hen eglwysi Undodol Dafis Castell Hywel, sef Llwyn Rhyd Owen a Bwlch y Fadfa. Daeth ei fywyd yn llawn o waith ar unwaith.

Yr oedd wedi ei eni'n athraw. Agorodd ysgol yn Llandysul, ac enillodd serch a pharch ei ddisgyblion fel nad oedd eisiau gwialen na cherydd. Yr oedd un o'i ddisgyblion, James Lloyd wrth ei enw, yn gyd-efrydydd â mi yn Aberystwyth; a chofiaf yn dda fel yr ymylai ei barch i'w hen athraw bron ar addoliad. Bu'n athraw i Islwyn hefyd, yn 1858.

Yr oedd yn llenor bron o'i febyd. Mae ei iaith yn seml gyfoethog, ei deimlad yn ddwys a thyner. Ysgrifennodd lawer i gyfnodolion yr oes, cyhoeddodd gyfrol o brydyddiaeth cyn gadael Glasgow, a golygodd yr Athraw o Medi, 1865. i Awst, 1867.

Ymdaflodd i wleidyddiaeth â holl ynni tanbaid ei wladgarwch ysol. Cyfnod cyffrous oedd hwnnw, rhwng Ail Ddeddf Rhyddfreiniad y Bobl yn 1867 a'r Drydedd. Dyna ddyddiau yr ymdrech chwerw rhwng y tenant a'r meistr tir yng Nghymru, yr ymdrech roddodd fod i Ddeddf y Tugel a Deddf y Bwrdd Ysgol. Arweiniwyd Gwilym Marles gan ei gariad at y werin i fan poethaf yr ymladd. Ac o hynny y cododd profedigaeth fawr ei fywyd; Hydref 29, 1876, trowd ef a'i gynulleidfa o hen gapel Llwyn Rhyd Owen. Ym mynwent y capel hwnnw, erbyn hynny, gorweddai gwraig ei ieuenctyd a'i eneth fach. Clywodd Cymru lais clir y gweinidog dewr, Yr ydys wedi ein gwawdio mai pobl dlodion a dinod ydym. Poed felly. Nid ydym ni, er hynny, yn foddlawn mesur mawredd ac anrhydedd wrth gyfoeth na gwaedoliaeth, na dynol urddas, oni fydd pethau ereill yn cyfateb. Mawr mewn gwirionedd fydd pob cynulleidfa, tlawd neu gyfoethog, yn ol mesur ei ffyddlondeb i egwyddorion uchel, ei hufudd-dod i lais dyledswydd amlwg, ei gwroldeb i faentumio iawnderau naturiol a thragwyddol dyn, ei sel i gyhoeddi'r genadwri roddodd Duw iddi i'w thraethu."

Ni fu Gwilym Marles erioed yn gryf iawn o gorff; amharodd ei iechyd dan bwys y llafur diorffwys. Cyflymodd y troad allan gamrau angau tuag ato. Ofer y teithiodd i'r Alban ac i'r môr i chwilio am adferiad. Rhoddodd ei ysgol i fyny, yna ei ddiadell erlidiedig. Rhagfyr 11, 1879, hunodd yn esmwyth, gan ffarwelio a phoen a gofid am byth. Rhoddwyd ef i orwedd ger ei gapel newydd, capel erys i gofio am gydymdeimlad Cymru gyfan âg ef.

Daw ei fywy pur, ei amcanion uchel, hoffusrwydd ei ysbryd addfwyn, dedwyddwch a phrudd-der cysegredig ei fywyd, ei sel dros y gwir a thros y werin, yn amlwg i'r darllenydd wrth ddarllen y gyfrol hon.

Yr wyf yn ddiolchgar iawn i ferch Gwilym Marles, Miss Marles Thomas, am bob rhwyddineb i gyhoeddi; i'w frawd, Mr. T. Thomas, 185, Aldersgate St., Llundain, am hanes bore ei oes; i Mr. E. B. Morris, Llanbedr, am amryw ganeuon; ac yn enwedig ir Parch. R. Jenkin Jones, M. A., Aberdâr, oddiwrth yr hwn y cefais bron bopeth sydd yn y gyfrol. Nid y peth lleiaf ym mywyd llafurus Mr. Jones, ac yn ei wasanaeth amhrisiadwy i lenyddiaeth Cymru, yw galw sylw Cymru at fywyd prydferth ei hen gyfaill.

OWEN M. EDWARDS.

Rhydychen, Mehefin 26, 1905.

Cynhwysiad

[Rhoddir dyddiad y caneuon, lle y gellir, ar ol eu henwau.]

Y Darluniau

Gwilym Marles

Mynyddoedd Sir Aberteifi, S. MAURICE JONIS.
"Ambell i ffermdy yn wynebol at yr haul; yr oedd y teulu lwn
yn wynebol at Dduw.'

Cartrefi Sir Aberteifi. (Oddiwrth ddarlun gan J. Tuomas)
"Y tewfrig goed yn gylch am danynt.
A haul y nawn yn euro'u to."

Pont Llandysul
(Oddiwrth ddarlun gan J. THOMAS).
"Yr afon ar ei thorchog daith
A hanner hepiai lawer gwaith."

CAPEL LLWYN RHYD OWEN (yr hen) ......I wynebu tud. 57
(Oddiwrth ddarlun gan J. THOMAS).
"Ti roddaist yma'th wyneb,
Adegau, do, heb ri'

CAPEL LLWYN RHYD OWEN (y newydd) ... I wynebu tud. 73
(Oddiwrth ddarlun gan J. Thomas).
"Gwna'n harwain ni i le diogel,
I ail gyweirio'n nyth."

DERWEN LLWYN RHYD OWEN
(Oddiwrth ddarlun gan J. THOMAS).
"Clywsom am dy ryfedd gariad,
Daeth i'n profiad ran o'th ddawn.


BEDD GWILYM MARLES
(Oddiwrth ddarlun gan J. THOMAS).
"Deheulaw'th ras a'm tywys adre,
I wlad y nefol hedd, bryd hyn."


CARTREFI SIR ABERTEIFI

"Mae'r hen aneddau acw'n gorffwys.
Yn dawel, dawel yn y fro."

GWILYM MARLES

DRO YN OL

MAE'R hen aneddau acw'n gorffwys,
Yn dawel, dawel yn y fro,
Y tewfrig goed yn gylch am danynt,
A haul y nawn yn euro'u to;
Y coed hynafol! acw safant,
Yn dystion byw o'r amser fu,
Tra'r dwylaw tyner a'u planasant
Yn llwch yn awr mewn daear ddu.

Mae gwyrdd y pinwydd draw can ddyfned,
A chefn y mynydd draw mor grwn,
Un wedd y llifa dyfroedd croewon
Y ffynnon fach ym mlaen y cwm,
A chynt, pan yn eu gwydd mwynhawn
Freuddwydion mebyd hyfryd wedd
Mae natur fyth yn para'n ieuanc,
Tra oes yn dilyn oes i'r bedd.

O, hen aelwydydd anghofiedig,
Lle treuliwyd llawer hwyr brydnawn,
Pob un a'i stori bêr a'i orchwyl
Wrth siriol dâu o goed a mawn;
Oedd yno'r patriarch yn ei gader,
Yn frenin ar ei deyrnas fach,
A meibion hoew, merched hawddgar,
Ac oll mor ddifyr ac mor iach.

Y tegaidd wrid oedd ar dy ruddiau
Sydd wedi cilio, rian fwyn;
A wyt ti'n cofio gwrando'r gwcw
Yng nghwmni rhywun ar y twyn?
A hela syfi yn y gelltydd,
A blodau o glawdd i glawdd ynghyd?
Ah! gwelaf bellach y'm hadweini,—
P'odd buost, dwed, ys talwm byd?

"Mae f anwyl dad,"—mi wn yr hanes,
Rwy'n cofio ei weld yr olaf dro;
Mae'th fachgen tlws yn ddelw ei ddwyrudd,
Tra hwnnw'n fyw nid aiff o go,
Ond trist cael allan wrth fynd heibio
I lawer annedd, fod yn awr
Y llais cariadus wedi tewi,
Y galon gynnes yn y llawr.

Mae llu o fyfyrdodau bore
Yn rhuthro'n dyrfa i fy mron,
Mae'r niwloedd pell yn cilio ymaith,
Diflannodd ugain mlynedd gron;
Drwy'r cof mi welaf diroedd mebyd,
Rhyw harddwch tego ar allt a dôl,
Ond pe cawn fyw am fil a rhagor,
Ni ddoi'r teimladau gynt yn ol.

Chwi fechgyn glân a merched siriol,
Hoff blant i rai na welir mwy;
Mawrhewch aur—dymor mebyd iraidd,
Dilynwch eu rhinweddau hwy;
Hyd lannau'r hen afonydd anwyl,
Ac ar y bryniau iach a chlir,
Boed bur a melus eich cymdeithas,
Gan garu Duw a pharchu'r gwir.

YN IACH.

FEL tew ddafnau gwlaw dylifol
Ar laith fynwes afon ddu,
Syrthiodd geiriau ymadawo!
Yr un fwyll, nes chwyddo'n lli
Fyrlymiadau hiraeth dybryd
Yn fy mynwes, fu mor glir
A digyffro, tra dedwyddyd
Fy haul hyfryd amser hir.

Pan y gedy irlanc twymfryd
Fro ei dadau, bwth ei ri,
Am ardaloedd gorllewinfyd,—
O yr olaf olwg dry
Ar y cwm, y nant, y bwthyn,
Ar bob twyn a llannerch cun!
Mindau felly, gyda deigryn,
Dremiwn ar fy anwyl un.

Hithau hoffus olwg daflai,
Gyda'i chalon yn ei threm,
Fel yr haul trwy ddyferynau,
Neu wlith-eneiniedig em;
Disglaer oedd ei llygaid, llawnion
O hyawdledd oeddynt hwy,
Gwlycher fi â'r dagrau drudion,—
Hir fydd cyn eu gwelaf mwy.

Nid yw'r wybren hardd, nes brithio
Ser di-rif ei hasur liw;
Nid yw doldir hardd, nes pyngo
Grisial wlith ar laswellt gwiw;
Chwydda dim mo'r rhosyn gwylaidd
Nes y golcha gu law ei ddail;
Ceinder tebyg rydd y deigrynı
I rudd deg yr un ddi-ail.


Per arogldarth serch gymysgai
A phob trem a gair di-wall,
Calon dwyn at galon wasgai,
Nerth y naill oedd yn y llall;
Pwysai ar ei ffyddlawn fachgen,
Ac o'i gylch y plethai'n dynn,
Megis pletha y winwydden
Gylch y llwyn ar odre'r bryn.

Ceisiai boddus ragweliadau
O'r dyfodol swyno ffwrdd
Y cymylog brudd-der bwysai
Ar fy ysbryd—meddwl cwrdd
Ymhen misoedd daflai oleu
Gobaith ar fy llwybyr du
Un gair anwyl,—ffrwd o wenau,—
Gadaf fy angyles gu!



Hen Lwnc Destyn Cymreig.

"I ARAD A DAFAD A LLONG."

"I ARAD a dafad a llong!"
Dewch fechgyn, a drachtiwch y medd!
Heb arad gordyfid â chwynn
Y ddaear, nes byddai yn fedd
I'r cynnyrch o yd a phob grawn
Ddug lawnder i'r hwsmon a'i dŷ,
A chysur i balas a bwth;
Dewch, fechgyn, a drachtiwch yn hy.

"I arad a dafad a llong!"
Ein llethri gan ddefaid ac ŵyn
Y gwanwyn a frithir mor dlws,—:
Lliosog yw teulu pob twyn;
Y ddafad ni omedd ei chnu:,
Sy lawer cynhesach na'r llin;
Ein byrddau a hyrdda â chig,
Sy felus a moethus i'r min.

"I arad a dafad a llong!".
Anhygyrch fa'i dyfnffyrdd yr aig,
Heb gastell ehelaeth a chlyd,
A muriau galeted a'r graig;
Ffrwd masnach ni redai ymlaen,
Gwareiddiad a wylai yn lli,
Ni chlymai brawdgarwch y byd
Heb longau—dewch, yfwch yn ffri !

“I arad a dafad a llong !"
I'r tri ar wahan a chytun;
Doed cenedl y trioedd yn fyw
I yfed i'w thrioedd ei hun;
Dewch, fechgyn y llechwedd a'r ddôl,
A gwŷr y mynyddau un wedd,
A chwi ar dueddau y môr,—
Dewch, fechgyn, a drachtiwch y medd!

Y FEDWEN.

A'R tes yn chwareu uwch y waen
Fel mân ôd uwch y goedwig gref,
A'r gwair persawrus oedd ar daen Y
Yn gwingo dan gusanau'r nef;
Yng nghysgod cangau bedwen ŵyl,
O olwg chwilgar drem y llu,
Dwy galon, mewn ieuengaidd hwyl,
Dan wenau haul siriolach sy.

Chwylfrysia einioes; arall haf
Oreura geinciau'r fedwen dlos,
Ei mwynber lais y fwyalch fraf
A ddyrcha fel dynesa nos;
Dau ymgofleidiant yn y cudd,—
Efe a'i dirion law yn dynn
Am un, dawns llonder ar ei grudd
Fel pelydr lleuad ar y llyn.

Daeth eto Fai; gwerdd wisg ein gwlad
Addawa'r perthi gnwd o gnau,
Yn dirf mae gwisg y fedwen fad
Fel gobaith yr unedig ddau;
Ail iyrches sionc llamreda hi
Fel ped ei chartref i'r hen fan,
Daw yntau,—cofia'r amser fu,—
Ac adgofleidia'n awr ei Ann.


MYNWENT CWMWR DU.

OS caret gael gorweddfa glyd
Ymhell o ddwndwr byd a'i drin,
Ar lan murmurog afon ferth
A choed yn berth ar ei dwy fin;
Pa le caet lannerch fa'i mor gu
A mynwent fechan Cwmwr Du?

Hwy wedant cwsg y byw yn well
Heb fod ymhell o si rhyw don,
Pan ddeffry miwsig per y llif
Ddi-rif freuddwydion tan y fron;
Nis gwn; ond pwy na charai fedd
Lle chwery'r ffrwd ei salm o hedd?

Fe grwydra haf awelon per
Trwy lathraidd dderw'r allt sy draw,
Pob dalen yn cyd-odli'n fwyn
Ar gainc pob llwyn â'r ffrwd islaw;
Ac weithiau yn y gaeaf trwm
Ysguba'r corwynt trwy y cwm.

Mae masnach ar ei diwyd daith,
A dyfais dyn ar waith o hyd,
Newidia llawer man ei wedd,
Anurddir heddwch bore byd;
Ond yma, pe doi'r hen ar hynt,
Caent bob peth agos megis cynt.

Oedd yma fwci 'stalwm byd,
Pan oedd y rhyd heb bont yn groes,
Dyn yn grogedig wrth ei draed,—
Fe rewai'r gwaed weld y ddwy goes;
Pan godwyd pont ar Gloidach ddu,
Fe aeth y bwci gyda'r lli!

Yn iach fwciod! Dilys yw
Na flinwch chwi mor byw yn hwy;
Dydd eich gwasanaeth ddaeth i ben,
O dan y llen gorffwyswch mwy;
Dyn ni chaiff aros yn ei nyth,—
A roir i chwi deyrnasu byth?

O fewn i'r unig wyrddlas bau,
Yn per fwynhau eu holaf hun,
Mae 'chydig o gyfeillion hoff,
Heb faen i goffa am yr un;
Ond am eu gwâr rinweddol foes
Fe bery'r cof o oes i oes.

Fe orffwys yna'r athraw mad,
Na lechai brad o dan ei fron;
A lle y gweli newydd fedd,
Mewn tawel hedd, yn awr mae'r hon
A fu gydmares yn ei gôl,
A'i henw yn hyfryd ar ei hol.

Heddwch i'w llwch! a doed y pryd
Pan gaffwyf gyda mynwes iach
Ymweled weithiau â'r hen fro.
A rhoddi tro trwy'r fynwent fach,
A chyd-addoli gyda'r llu
Yng nghapel bychan Cwmwr Du.

BUGEILIAID SIR ABERTEIFI.

GWLAD y cloddiau moelion a'r cloddiau cerrig yw rhan fawr o Geredigion. Nid am ei bod na rhy uchel na rhy ddiffrwyth i goed dyfu, ond yn debyg am na chawsant erioed gynnyg. Yr arferiad sydd wedi ffynnu yn gyffredin yw gadael i goed gymeryd eu siawns am dyfu lle y tyfent o honynt eu hunain; neu, a defnyddio geiriau hen Ysgotwr, y rhai a grybwyllir gan Dr. Livingstone, "lle y gosododd y Creawdwr ei hun hwynt ar y cyntaf." Pan oedd y Dr. yn llanc ieuanc yn dechreu astudio daeareg, synnid a blinid ef yn fawr gan y fossils y deuai o hyd iddynt mewn cerrig a chreigiau, a gofynnodd i hen wr o gymydog pa fodd y daethant yno. "Machgen anwyl i," atebai'r hen wr yn dra difrifol, "paid a ffwdanu dy ben ynghylch y fath gwestiynau; Duw ei hun a'u gosododd yna ar y dechreu." Felly, hyd yn ddiweddar, y rhannau o'r sir hon lle y tyfai coed oeddynt y mannau lle y gosodasai'r Creadwr hwynt ar y cyntaf. Mae diwygiad yn hyn, a diwygiad mawr; a gobeithio, ar ragor nag un cyfrif, mai rhagddo yr a.

Mae y diffyg hwn wedi bod yn achlysur i ddosbarth o wasanaeth-ddynion, nas gŵyr llawer rhan o'n gwlad am danynt ond drwy hanes.[1] Tebyg fod cyffelyb ddosbarth i'w gael mewn rhai rhannau o'n siroedd eraill, a dichon fod yr arferion perthynol i'r dosparth yno yn amrywio rhyw gymaint; ond bydd a fynno'r sylwadau hyn â bugeiliaid Sir Aberteifi. Nid y bugeiliaid cyflawn faint ar y mynyddoedd, y rhai a ddilynant eu swydd trwy y flwyddyn, cofier, ond y bugeiliaid bychain ar y ffermydd, neu fel eu gelwir yn fynych, "y bugelydd."

Yn y parth hwnnw o'r sir a ymestyna ar ei hyd o'r ochr isaf i Gapel Cynon i gryn bellder y tu hwnt i Dregaron, mae prinder cloddiau a pherthi, yn enwedig ar y rhannau hynny o'r ffermydd na chawsant hyd yn ddiweddar eu tynnu i mewn, neu ydynt eto yn aros heb eu cauad, yn gorfodi y ffermwyr i gadw bugeiliaid. Dechreuant ar eu gwaith tua mis Ebrill pan y bydd y defaid yn llydnu, a dilynant ef hyd ddiwedd y cynhaeaf neu ganol yr Hydref. Plant crynion fel eu gelwir, ydynt; bechgyn fynychaf, ond weithiau merched. Amrywia eu hoedran o ddeg i dair ar ddeg; ond flynyddau yn ol ceid rhai o bymtheg i ugain wrth y gwaith, ac ym mhellach yn ol na hynny, yr oedd personau na wnaethent nemawr i ddim erioed ond bugeilio. O'r ardal y bydd y plant yn gyffredin, a pherthynant yn fynych i rai o'r tai bach ar y tir. Ond os bydd plant yn y fferm, yn enwedig meibion, caiff pob un o'r rhai hyn yn ei dro, pan yn yr oedran priodol, ymaflyd yn y gorchwyl. Fel hyn y mae y bywyd bugeiliol yn derfyn ar fywyd y bara segur, ac yn ddechreuad y cyfnod pan y gorfydd i bob un gyfansoddi esponiad o'i eiddo ei hun ar yr hen air, "Trwy chwys dy wyneb y bwyttai fara." Mewn amser dyfodol cawn nifer luosog o'n bugeiliaid, cyn priodi, yn wasanaeth-ddynion parchus, ac wedi priodi, yn weithwyr fferm diwyd, yn dwyn i fyny ar eu hennill caled deuluoedd mawrion. Bydd eraill yn dyddynwyr mwy neu lai llwyddianus a chyfrifol, a chanddynt ddeadelloedd lluosog o'r eiddynt eu hunain, pyrsau a choffrau llawnion, a chryn ddylanwad yn yr ardal. Nid bychan ychwaith yw nifer y rhai a fuont unwaith yn bugeilio praidd eu rhieni neu braidd dyeithriaid, ar hyd fryniau Ceredigion, ond a dderchafwyd ar ol hynny, wedi llafur ac ymroad mawr mewn ysgolion a cholegau, a phrif-ysgolion, i fugeiliaeth uwch i borthi praidd Duw, gan fwrw golwg arnynt." Mae llawer o'r cyfryw y dydd hwn yn weinidogion parchus, a rhai o honynt yn enwog am eu dysg, eu doethineb, neu eu hyawdledd, gyda phob enwad o grefyddwyr yn Nghymru.

Mae yr allwedd i ddysg, i barch, a phob rhin,
Yn crogi wrth wregys diwydrwydd di-flin.

Gwaith y bugail yw edrych ar ol y gwartheg, y da hespon— da duon" yr hen fardd o Gastell Hywel—a'r defaid. Bydd weithiau felly dri bugail, ond fynychaf gwneir y tro ar ddau, yn enwedig os bydd godre'r fferm yn gauedig a pherthog: un ar ol y defaid, y llall ar ol y gwartheg neu y da hespon, neu ynte ar ol yr olaf a'r defaid ynghyd. Maent i gadw eu praidd o fewn y terfynau gosodedig, ac i'w gwylied yn neillduol rhag torri i'r caeau ŷd cyfagos. Mae arnynt i ofalu dyfrhau y gwartheg a'r da duon ryw dair neu bedair gwaith y dydd, os na fydd cyfleusderau dwfr ar y tir lle y byddont yn pori. Mae yn debyg nad yw y defaid yn yfwyr mor drwm ag eraill o'r praidd, am eu bod yn llai o faint, ac am y disycheda y gwlith hwynt i raddau mawr; eto, ar dywydd poeth iawn, ceir eu gweled yn rhedeg yn yrroedd mawrion at ryw nant neu ffrwd fechan, ac yno y byddant, druain gwirion, tra yn lluddedu ac yn dyheu gan syched, yn llepian y dwfr yn rhestri hirion gyferbyn â'u gilydd ar bob ochr i'r nant.

Cwyd y bugeiliaid yn awr ychydig cyn pump, ond gynt codent gyda'r haul. Yn union cymerant foreubryd hwylus o sopen caws, wyneb maidd neu laeth glas, gyda bara; gofalant weled eu cwn yn cael eu diwallu; tarewir toc doniol o fara a chaws yn y llogell, a darperir tafell dda i wasanaethu fel anogaeth a gwobrwy i'r cwn hyd hanner dydd; canys ar ol cwrs da, ceir gweled Moss yn dychwelyd at y bugail, ac yn ei iaith yn ceisio tamaid. Y gwaith cyntaf fydd troi'r defaid allan o'r buarth, gynt wedi eu godro, ond yn awr, gan amlaf, heb eu godro, a'u hebrwng i'r banc. Aiff y bugail arall â'r gwartheg i'w porfeldir priodol, neu i hol y da hespon o'r cae nos. Yna erys pob un gyda'i braidd ei hun. Erbyn y bydd yr haul wedi dirwyn ym mhell tua chymydogaeth y de, a phan y mae'r toc eisoes wedi hir ddiflannu o'r golwg, bydd llygad hiraethlawn yn cael ei daflu yn fynych i wylio'r mwg sydd yn awr yn prysur esgyn o simne'r tŷ. Nid oes fymryn o eisiau cloc ar y gwr bach. Nid cloc drwg yw y bola, ac y mae gan Moss gryn amcan am yr amser, a gŵyr y praidd yn lled agos pa bryd y mae adeg canolddydd yn agoshau. Yn awr troir y defaid i'r buarth a'r da i'r cae nos, o leiaf gwneir y blaenaf. Arferid gynt i odro'r defaid a'r gwartheg hanner dydd, ond lled anaml y gwneir hyn yn awr. Wedi ciniaw dechreuir gyda blas ac egni newydd ar ddyledswyddau y prydnawn, a darperir yr un ffunud ag yn y bore ar gyfer angenrheidiau y bugail a'i was ffyddlawn—y ci. Nid yw y defaid yn y prydnawn i gael eu gadael i dramwy a phori yr un ffordd a'r bore. Aiff oriau y prydnawn heibio o un i un, a phan wel y bugail ei gysgod yn hwyhau, a'r haul yn gostwng i fachlud, ymbarotoa i droi ei ddefaid unwaith eto i'r buarth. Hebrynga y llall y gwartheg a'r da hespon i'w gorffwysfa dros y nos.

Un o anhebgorion bugail yw ei gi. Cystal y gallai gof wneyd heb ei forthwyl ai eingion—y teiliwr heb ei nodwydd—yr ysgolhaig heb ei lyfr —yr hwsmon heb ei aradr—a'r bugail heb ei gi. Cwn braf synwyrol yw y rhan fwyaf o honynt; eto, y mae rhai wedi eu bendithio a gwell talentau, a rhagorach manteision dysgu, ac o ganlyniad wedi graddio yn uwch nag eraill. Ond yn y cyffredin, cwn craffus, diniwed, ac yn gofalu am eu gwaith eu hunain ydynt. Maent o bob lliwiau, er y dichon mai y lliwiau amlaf ydynt y coch-ddu, neu lwyd, gydag ysmotiau duon afreolaidd. Rhyw lwyd-oleu yw llygad llawer o honynt. Weithiau bydd gwahaniaeth lliw rhwng y ddau lygad, yr hyn a ddigwydd i ddynion ar brydiau. Un o'r pethau cyntaf a wna bugail yw ceisio dyfod i delerau o ddealltwriaeth a chyfeillgarwch â'i gi. Seremoni lled bwysig yw dwyn ambell i gi a bugail i adnabyddiaeth â'u gilydd, yn enwedig pan fo'r naill neu'r llall, neu bob un o'r ddau, yn yswil, a phwdlyd efallai yn y fargen. Y mae i bob ci bugail ei enw, ys dywedodd yr hen bregethwr am dano ei hun. Yr oedd hen bregethwr unwaith yn cael ei gyhoeddi ar ddiwedd yr oedfa, eithr nid wrth ei enw priodol fel y dylesid, ond trwy ddweyd, "Fe fydd y gwr dyeithr o'r gogledd yn llefaru ym Mwlch Cae Draw am chwech heno;" gyda hyn tynnodd y gwr dyeithr" ryw fwrlwm o cchenaid, a rhwchialodd dipyn yn fygythiol, a chan edrych i lawr yn gilwgus ar y cyhoeddwr, dywedodd, "Y mae i minnau fy enw!" Felly y dywedwn ninnau, "y mae i bob ci bugail ei enw." Megys y mae y Jonesiaid yn y wlad hon, felly y mae y Mossiaid ym mhlith cŵn defaid yr enw mwyaf cyffredin o ddigon. Enwau ereill ydynt Keeper, Cupid, Pincher, Tiger, Quito, Dido, Juno, Flora, Pertus, Fury, Markwell, Cwta, Bolwen, Troedwen, Driver, Thames, Fancy, Tango, Captain, Fan, Parrott; neu fel y galwai llanc ychydig yn dafodtew ef unwaith, o dan dipyn o gynhyrfiad nwydau, ac heb allu seinio y llythyren r, Pechod! Pechod!—enwau yn gofyn mwy o philosophi nag a feddwn ni, er egluro yn foddhaol y rheswm o honynt oll.

Mae i'r bugail ei arfau a'i wisg neillduol. Anaml yr anturia i'w swydd heb gyllell dda, a honno fynychaf wedi ei chlymu â chorden gref wrth un o rwylli neu un o fotymau ei wasgawd. Offeryn defnyddiol yw y gyllell iddo, os digwydd ddyfod o hyd i ryw damaid o bren, pe na fyddai ond bonyn eithinen, i arfer ei scil arno ar funudau segur. Bydd ganddo hefyd bastwn golygus, wedi tyfu dichon gryn filldiroedd o'r man lle y bydd yn bugeilio. Hon yw ei fagl esgob neu ffon gnwpa,—

"Gwae ni cheidw ei gail, ac ef yn fugail,
A'i ffon gnwpa.

Mae iddo hefyd ei wisg offeiriadol—côt y bugail. Côt lwyd drwchus, wedi ei gwneyd o wlan y ddafad yn ei gyflwr naturiol yw, llaes heb fotyman, oddigerth botwm i'w sicrhau o amgylch y gwddf ar dywydd garw, yn cyrraedd i lawr rhwng y groth a'r figwrn. Y meistr yn gyffredin sy'n darparu hon, a disgwylia iddi bara o leiaf dair blynedd. Mae fynychaf heb logell. Ar dywydd gwlawog a thymhestlog, hon yw cyfeilles oreu'r bugail. "Umbrella?" medd rhywun. Umbrella yn wir! Pwy welodd fugail yn ceisio dal y fath beth yn ei law ar fanciau Sir Aberteifi? Gellid yr un mor rhesymol ddisgwyl cwrdd âg arch Noah yno a disgwyl cwrdd â bugail yn cario umbrella. Byddis hefyd weithiau yn codi tŷ bugail—rhyw adeilad drosgl o dyweirch a cherrig yng nghongl cae, yn erbyn dau glawdd, os ceir o hyd i'r fath beth, a thwll yn yr ochr, iddo wthio ei ben a'r rhan uchaf o'i gorff i mewn, gan dybied wedi hyn, fel yr estrys, ei fod yn ddiogel. Gwasanaetha hen gasgen fawr weithiau yn well na'r caban, am ei bod yn symudol. Torrir drws mawr i fyned i mewn iddi, a gyferbyn âg ef yn yr ochr arall torrir drws bychan, yn lle ffenestr, i edrych allan drwyddo. Ond oddieithr mewn amgylchiadau enbyd iawn, ychydig ddefnydd a wneir o un o'r dyfeisiau hyn—eto gwneir weithiau ar dywydd eithaf drwg. A bydd y bugail bach yn ei gaban o dyweirch, pan.

"Mae'r awel yn chwythu uwchben a chwibanu,
Ac acw'r hwrdd torddu yn llechu'n y llwyn" (eithin),

yn llawn mor ddedwydd a didaro, os nad mwy felly, a'r pendefig yn ei balas. Bydd Moss yno yn ysgwyd ei gynffon wleb wrth ei draed, a'i lygad llon gystal a dweyd—tamaid yn awr. Y gwaethaf am dani yw, nad yw y bugeiliaid yn ddigon gofalus am newid, os yn wir y bydd ganddynt ddillad i'w newid, pan elont adref; ac oblegid esgeulusdod o'r fath hyn, dystrywia rhai o honynt eu hiechyd am eu hoes. Ond hwy a fwynhânt eu hunain ar dywydd teg. Ceir hwy yn gorweddach ar bennau y cloddiau moelion, weithiau ar eu cefnau, ac weithiau ar yr ochr arall; a digwydd i'r ddau lygad gau yr un pryd weithiau, a thros yr amser hwnnw Moss fydd yn y gader fugeiliol. Nid yw yn ddiogel er hynny i hepian, gan na ŵyr y bugail "pa bryd y daw ei arglwydd." Peth arferol yw gweled bechgyn wrth fugeilio yn gwau hosanau. Gweuant ryw ddeubar iddynt eu hunain, o leiaf, bob haf, o edafedd a roddir iddynt gan eu meistres. Yr oedd mwy o wau amser yn ol nag sydd yn awr. Y tâl arferol am wau pâr oedd chwecheiniog.

Trinir bugeiliaid yn y cyffredin gyda charedigrwydd mawr, a derbyniant, os yn ofalus, yn ystod, ac ar ddiwedd y tymor, lawer o wobrau mewn ffordd o ddillad neu ddefnyddiau dillad. Amrywia y gyflog am y tymor o chweugain i bunt neu bymtheg ar hugain.


Yn yr hen amser, ac yn nghof rhai eto yn fyw, yr oedd rhialtwch digyffelyb yn cael ei gynnal gyda ffest Awst. Gwledd oedd hon ar ben y banc ar y 12fed o Awst, yn ol y cyfrif newydd; ymgynullai iddi holl fugeiliaid y ffermydd nesaf i'w gilydd, a dygai pob un ei gyfran—picnic bugeiliol oedd. Edrychid ymlaen at hon trwy fisoedd o godi yn fore, a gwres a gwlawogydd, ac ystyrrid hi yn ddigon o dâl am bob trafferth.

O ddamwain, ond yn dra anfynych, gwelir bugeiliaid yn darllen pan fo hamdden ganddynt. Adwaenom hen wr a ddysgodd ddarllen wrth. ymladd â Llyfr Ficer, ac a'i darllenodd drwyddo wrth fugeilio pan tua deuddeg oed. Eto eithriad yn hytrach yw yr arferiad o ddarllen, er fod y nifer luoso.af efallai o'r rhai ydynt dros ddeuddeg oed yn medru, gan y cant fyned i'r ysgol yn y gaeaf. Colled fawr y bugeiliaid yw na chaniateir iddynt, o Ebrill i Fedi neu Hydref o bob blwyddyn, i fyned i na chwrdd nac ysgol. Mae Sul a gwyl yr un peth iddynt hwy. Gormod o gaethiwed yw hyn—camwedd â'r oes sydd yn codi. Yr unig gyfle a gant i dreulio Sabbath gartref yw, pan ddelo tad neu frawd i fugeilio yn eu lle. Rhont dro gartref ar y cyfan unwaith bob wythnos i newid eu dillad, ond yn fynych hwy a orfodir i newid eu crysau bychain ar ben y banciau, yn yr awyr agored.

Bydd rhai o'r bugeiliaid, fel y gellid disgwyl, yn llawer cyflymach nag eraill i adnabod y defaid. Dysg ambell un i adnabod pob llwdn allan o ryw gant neu ddau o ddefaid mewn diwrnod neu ddau. Mae adnabod "nodau " ei ddefaid ei hun, a "nodau" defaid ei gymydogion, yn hanfodol i fugail—pen-lleswch, bwlch temig, cwart, peint, bwlch trithoriad, gyda'r holl amrywiaethau di-ddiwedd o honynt. Un o'r profion goreu o fugail da yw y gŵyr os bydd ond un ddafad ar ddisperod heb rifo, ond gorfydd ar yr hwyrdrwm i rifo. "Parry," ebe meistr unwaith wrth fugail, hytrach pen-feddal, "a rifaist ti y defaid heddyw?" "Pa'm, do meistr, mi rhifes i nhw bob un," atebai Parry, "ond yr hespin gyrnig gnaciog gynllwyn yna, yr hen sprotiast fwya eger yn y pac; 'r o'dd hi yn neid'o yn ol ac yn mla'n, fel 'tasa gyndron ynddi, a 'dalls'wn i yn 'y myw a'i rhifo hi." Ond yr oedd bugail arall, mwy gwirion-ffol fyth, er hynny a thalent odiaeth —er nas gallai rifo rhagor na phump, eto allan o gant neu fwy o ddefaid, adnabyddai yn union os byddai un ar goll. Yr oedd ganddo farc o'i eiddo ei hun ar bob llwdn yn y ddeadell.

Swydd anrhydeddus a hen yw swydd bugail. Mae gan fugeiliaid enwogion lawer i ymffrostio ynddynt. Mae mwynderau luaws hefyd yn perthyn i'r gwaith. Bywyd llawen, iachus, ar y cyfan, yw bywyd y bugeiliaid bychain hyn. Melus yw eu chwibaniad ben bore wrth ymlwybro trwy'r gwlith—iach eu hysbryd wrth yfed yr awelon pêr a dramwyant dros erddi a pherllanau, gwinllanoedd a maesydd ŷd, a thros y moroedd llydain a amgylchant ein daear—ysgafn eu calon wrth ddychwelyd yn yr hwyr gyda machludiad haul i gysgu'n ddifraw a difreuddwyd nes i wawr newydd dorri ar y bryniau. Er hyn oll ni a gredwn, ac o obeithiwn, fod oes y bugeiliaid yn ein gwlad ni yn nesu at ei therfyn. Megis ag y mae peiriannau yn awr yn gwneyd gwaith llifwyr a dyrnwyr, ac aradwyr a medelwyr hefyd mewn llawer man; felly gan bwyll, caiff cloddiau wedi eu coroni â drain yspyddaid, cyll a meillion Yspaen, ynghyd â chŵn da, wneyd gwaith ein bugeiliaid presenol. Tuedd yspryd yr oes, yr hwn nis gellir yn hir ei wrthsefyll, yw cael dyn i dir uwch, rhoddi iddo faes rhagorach i lafurio, gwneyd mwy tuag at ddiwyllio ei feddwl, gwneyd llai o beiriant, a mwy o ddyn o hono. Mae rhy fach o wahaniaeth yn awr rhwng y bugail a'i gi. Trueni mawr nad yw y blaenaf gyda ni yn yr Ysgol Sabbothol, ac na chai yn yr oedran tyner hyn dreulio mwy o'i amser yn yr ysgol ddyddiol. Gwyddom am feistri ein bugeiliaid eu bod, fel rheol gyffredin, yn ddynion synwyrol, a llawn o ddymuniadau caredig i'r rhai sydd o dan eu gofal. Ond gwaith anhawdd yw iddynt ymryddhau oddiwrth hen arferion a welsant erioed. Y cwestiwn pwysig yw, Pa fodd i barotoi y ffordd i gyfnod gwell? Pa fodd i roddi cyfle i'n plant hyn i ymgymysgu gyda ni, haf a gaeaf, yn ein haddoliadau cyhoeddus, a'n hysgolion Sabbothol?

Gan fod ein lle yn brin ni chawn wneyd rhagor yn awr na diweddu gydag ychydig linellau o brofiad bugeilaidd un o oreuon bugeilaidd Sir Aberteifi:—

"Ar y banc mewn rhedyn tewon,
Rhwng y defaid a'r da duon,
Syrthiais gyntaf ar fy neulin;
Wedi syrthio, ffaelu erfyn;
Edrych fyny, edrych waered
Am wel'd Duw, a ffaelu'i weled;


Codi fyny mewn cyfyngder
Heb ddilwytho gair o'm blinder:
Drymach, drymach 'r a'i 'nghaledi;
Mynych ostwng, mynych godi,
Hyd nes mentrais lefain allan,
A gweddio mewn modd egwan.
Ar ol 'chydig bach o droion
Agorodd Duw fy ngenau a 'nghalon;
Rhoes hyfrydwch imi alw
'N fynych beunydd ar ei enw."



I FRAWD MEWN GALAR.

AETHAI blwyddyn heibio, 'mrawd,
Er pan y'th welswn di;
Y pryd hwnnw bychain draed
A wibient gylch y ty;
Clywid llais ariannaidd
O fore hyd brydnawn,
O ystafell i ystafell,
A chwi'ch dau yn ddedwydd iawn.

Y ddoe es at dy annedd
A churais wrth y drws,
Ac nis gallwn lai na chofio
Am dy drysor bychan tlws;
Dy anwyl wraig a ddaeth,
Ond wrth ei hochr neb,
A chrynedig oedd ei llais,
Ac yr oedd ei grudd yn wleb.

Gwelwn yr esgidiau bychain
O'r neilldu wedi eu rhoi,
Gwelwn fod y gader newydd
O'r neilltu wedi ei throi;
Nid oedd tegan yn y gegin,
Nag yn y parlwr un,
Hi nid oedd yno i chwareu,
Megys hithau cawsent hun.

Bodd neu anfodd doi y dagrau,
Trwyddynt gwelwn uwch y tân
Ohoni arlun bychan
Yn ei gwisgoedd gwynion glân;
Gwên ddifachlud ar ei gwyneb,
Ar ei gwyneb hawddgar llon,
Y fath wên a ddywedai 'bod
Yn rhy dda i'r ddaear hon.


Yr oedd yno'i nodwydd fechan,
Ac ynddi'r edau fain,
Yn ymyl ei gwniadur,
Fel gadawsai hi y rhain;
Ni fynnai cariad mam
Adael dim i fynd ar goll,
Cariad tad a fynnai'n gystal
Ar glawr eu cadw oll.

Pan ddychweli adre, 'mrawd,
Ar derfyn gwaith y dydd,
Ar y trothwy'n siriol
I'th roesaw hi ni fydd ;
Ond O! i'w mam sy gartref
O hyd caletach yw,—
Trigo'n y distawrwydd,
Lle bu gynt lawenydd byw.

Pan aethom tua'r fynwent,
Eich dau a minnau 'nghyd,
Ac y safem uwch ei bedd
Oedd yn flodau drosti i gyd,
Gwelais nad allasai neb ddirnad
Maint eich trallod trwm,
Ond y sawl trwy brofiad wyddant
Mor agos yw y clwm.

Ac eto pan y craffwn
Ar eich gwasgedig wedd,
Mi welwn yno ddelw
O ryw dawel hyfryd hedd;
Gobaith, angyles dirion,
A wnaethai yno'i nyth,
A theimlech fod eich plentyn
Yn fyw, i farw byth.


Y da, y pur, y prydferth,
Hwy barant byth mewn bri:
Yr anwyl un o'ch mynwes aeth,
Anfarwol yw i chwi;
Ac O, mae byd tu hwnt,
Lle'r sawl fuont ar y llawr,
Ddisgwyliant am ddyfodiad
Y rhai sydd yma'n awr.


TRO HYD LAN TEIFI.

(Efelychiad).

YR afon ar ei thorchog daith
A hanner hepiai lawer gwaith,
Wrth oedi dan gysgodau'r gwydd;
A thrwy ryw agen ddeiliog fach,
Agorai weithiau lygad iach,
Ar degwch haul y dydd.

YM MRIG YR HWYR.

CYSGODION nos ymledent dros y tir,
Yr awel hwyrol suai ym mrig y coed,
A rhwng eu tew golfenau'n iach a chlir,
Tywynnai Gwener,—seren serch erioed;
Yr afon dywysogaidd ar ei thaith
Furmurai'n ddiog ar ei gwely gro,
Tra rhyw ddistawrwydd o hyawdlaidd iaith
Yn araf estyn dros y brydferth fro.

Rhyw awr addoliad oedd, a theimlwn fod
Holl anian o fy nghylch ar isel lin,
Ei haelaf fron yn chwyddo'n llawn o glod,
A salm o fawl yn chwareu ar ei min;
Ffrwd beraidd yma'n ateb ffrwd islaw,
Peroriaeth fwyn ym mrigau coed y glyn,
A nenfwd temel yr eangder draw
Yn awr a'i mil o lampau claer ynglyn.

Gorffwyswn a fy mron yn llawn o hedd;
Meddyliau ddoent o diroedd mebyd draw,
A heulog wawr o gariad yn eu gwedd,
A bendith o dangnefedd yn eu llaw;
Ond buan llyncid pob adgofion per
Gan deimlad hyfryd y bresennol awr;
A'r hwyrnos honno, yn llewyrch byw y ser,
Ces, os erioed, flaen brawf o'r nefoedd fawr.



WRTH DDYCHWELYD O ANGLADD.

OER yw ei gwely heno,
Y serchog garedig un,
Gwlyb yw y gwely ac unig
Lle'r huna ei hirfaith hun;
Araf y rhoed hi i orffwys
Dan gawod o ddagrau drud;
Rhoed hi ymhlith ei chyfeillion,
Ond O! y maent oll yn fud!

Adref pan droi, fy nghyfaill,
O ymyl ei newydd fedd,
Unig ac oer fydd yr aelwyd,
Amddifad o'i serchus wedd;
Trannoeth ar ol bod yn claddu
Un anwyl, y mae cyhyd
A'r maith flynyddau dedwydd,
A'u dodi hwy oll ynghyd.

Rhaid yw ei gadael yna,
Yng ngwely cauedig y llawr;
Heulwen ni chyfyd arni,—
Mae nos y du fedd heb wawr;
Gwyntoedd y gaeaf nis torrant
Ei hun, er mor groch eu llef;
Yn ofer y rhua'r daran
Ar bell uchelfannau'r nef.

Gwanwyn a ddaw â'i awelon,
Daw tirion awelon haf,
Mwngial y gwenyn diwyd
O flodyn i flodyn braf;
Miwsig pereiddiaf daear
Ni threiddia ei mynwes hi,
Byddar i'w phlant ei hunan
Pan dorcalonusaf eu cri.


Gwelais y tlawd di-nodded
Yn wylo ar glawr ei harch,
Clywais ei chymydogion
Yn croew ddatganu ei pharch;
Crwydryn digartref, pan ddelo
Fel cynt am ei chardod lwys,
Wyla pan fynegir iddo
Ei chuddio o dan y gwys.

Iach iti, O fad gyfeilles!
Mae 'mywyd o'th blegid yn well;
Blaenaist ychydig arnaf
Ar daith y gororau pell;
Melus fydd y cof am danat
I mi o dan lawer cur,
A pher yw i mi y gobaith
O'th gwrdd yn y gwynfyd pur.


YR HYDREF.

FE ganai bachgen bychan
Wrth grwydro 'mhlith y coed,
Ei ganig fachi Hydref
Pan onid deng mlwydd oed;
Anadl hen ysbrydoliaeth,
Na phaid o oes i oes,
Ysgubai dros ei delyn,
A'i thannau a ddeffroes.
 
Ei lygad craff plentynaidd
A welai dlysni mawr
Yn gwisgo perth a choedwig
Ar ryw brydferthaf wawr;
Cymysgai'r coch a'r melyn
Mewn amrywiaethau fyrdd,
Ac yma a thraw yn deneu
Oedd ambell lain o wyrdd.

Gwrandawai su gwynfannus
Yr awel yn y coed,—
Yr awel oer hydrefol
Sy drist ei chân erioed;
Pob deilen wan yn ysgwyd
Oddiar ei chorsen fach
Ei ffarwel hir i'r gangen,
Lle tyfai gynt mor iach.
 
Wrth weld y dail yn syrthio
O ddwylaw oer y gwynt,
Yn sychion a gwywedig,—
Nid irlas megis gynt,—
I'w gof y deuai'r Gwanwyn,
Y deuai'r Haf di—ail,
A synnai a wnai bywyd
Fyth wywo, fel y dail.


Y cloddiau'n goch o syfi,
Yr allt o lusw'n ddu,
A gofiai gyda thrymaidd
Ochenaid am a fu;
Fe welai nyth y fwyalch,
A'i chân a lanwai'r fro,
Yn awr yn noeth ac unig,
A'r crin-ddail drosti'n do.

Ar fainc o ddail sych—grinion
A rhedyn hanner gwyw,
A'r afon droellog obry
Yn murmur yn ei glyw,
Myfyrgar yr eisteddodd
Am ennyd wrtho'i hun;
Ond o'r rhigymau ganodd
Ar glawr nid oes yr un.

Pan gododd aethai heibio
Ryw dair o oriau chwai,
A haul prydnawn a eurai
Simneiau tal y tai;
Dychwelodd tuag adref,
A chri ei fynwes glaf,—
"Pa bryd daw eto'r Gwanwyn?
Pa bryd yr hyfryd Haf?"


YMWELIAD A HEN GAPEL PANT TEG

Ger Castell Newydd Emlyn, ar Sabbath yn Ebrill, 1864.

[Un o gapeli'r Bedyddwyr Cyffredinol yw Pant Teg, wedi ei godi yn 1764. O bryd i'w gilydd yn ystod y can mlynedd, mae tair o gynhulleidfaoedd o Fedyddwyr Neilltuol wedi myned allan, sef Dre Fach, Castell Newydd, a Rehoboth, ac un o Anibynwyr, sef Capel Iwan Mae y merched oll yn gryfach na'r fam, a rhai o honynt yn lliosog a llwyddiannus iawn. Eto, y mae yn y Pant Teg hyd yn hyn "ychydig enwau" yn aros.]

UN o dlysaf bantau natur,
Teg o hin a theg o rân,
Lle mae'r risial nant yn murmur
Hyd garegog wely glân;
A gwyrdd goleu'r pinwydd llathraidd
Dros y fron uwchlaw yn do,
A'r hen gapel llwyd yn gorwedd
Mewn unigedd yn y fro.

Yn y gwanwyn ar foreuddydd
Bydd y gân yn llond pob llwyn,
A lleddf awel brig y pinwydd
Fel anadliad natur fwyn;
Y coed eithin melyn—flodau
'N trwsio'r perthi yma a thraw,
Ac fel ser ar fin y llwybrau
Briall lliwus ar bob llaw.

Drwy y coed a thros y llethri,
Araf ddisgyn ambell wr,
Ond yn awr, ys amryw flwyddi,
"Nid i'r PANT y rhed y dŵr."
Oedir yn y fynwent ennyd,
Ger y fan lle mae rhyw un
Cu ac anwyl yn ei fywyd
Yn mwynhau yr olaf hûn.


Gyda godre'r llechi llwydion,
Mewn dan gronglwyd yr hen dŷ,
Gyr yr iorwg gangau hirion,
Crogant ac ymsiglant fry,
Fel yn holi'n brudd o galon
Am y tadau,—" B'le maent hwy?"
Tra'r ateba'r seddau gweigion,—
"Aethant, ni ddychwelant mwy."

Dadfeiliedig yw y meinciau,
Ynt yn deneu hyd y llawr,
Rhai'n dwyn enwau hoffus dadau
Nad oes ond eu lle yn awr;
Dros y gynt epiliog Seion
Taen anghyfanedd—dra syn,
Os na ddaw rhyw angel tirion
Eto i gynhyrfu'r llyn.

Frodyr serchus a chwiorydd,
Cofiwch hen addewid Crist,
Ei braidd bychan yn y stormydd
Ef nis gad yn wan a thrist;
Lle cyn hyn bu llu o seintiau
'N diwyd drwsio lampau'u ffydd,
Glynwch yn eich disgwyliadau
Am weld toriad llon y dydd.


AR DDIWEDD CYNHAEAF 1864.

MAE bellach yr yd melyn
O fewn yr ydlan lawn,
A theg yw gwawr y soflydd
Yn llewyrch haul prydnawn;
Ond ambell faes a welaf
A'i gynnyrch ar ei fron,
Fel mam f'ai brudd i mado
A'i holaf blentyn llon.

Mae llawen drwst y fedel
Yn awr yn ddistaw llwyr,
Dan ganu aent y bore,
Dan ganu doent yr hwyr;
Cael llawer stori ddifyr
Wrth grymu uwch y grawn,
Neu orffwys yn y cysgod
Pan boethaf haul y nawn.

Wrth rwymo'r gwellt arianlliw,
A'r brig yn glychau aur,
Yn gyfor ymhob mynwes,
Pa hoen ac egni taer!
Yr eiddil henwr briglwyd
O'i gornel unig daw
I gynnull ambell ysgub,
A'i ŵyr bach yn ei law.

Yn ol ehed ei feddwl,
Yn ol am lawer blwydd,
Ac amal i gynhaeaf
A ddaw i'w gof yn rhwydd;
Wrth gofio'r cnydau hynny
Taen cwmwl dros ei wên,
A thybia braidd fod natur
Fel yntau'n mynd yn hen.


Aeth dyddiau'r lloffa heibio
Pan grwydrai'r plantos mân
Yn dýrrau hyd y grynnau
I gasglu'r tywys glân;
Pob un a'i loffyn adre,
Fel teithiwr ddeuai'n ol
O wlad yr aur bellenig
A'i drysor yn ei gôl.

Yn gynnar lawer bore
I achub blaen y gwlaw,
Neu ar awelog hwyrddydd
A'r nen yn duo draw,
Y menni trystiog welwyd
Mor hwyrdrwm ar eu tro,
Bob un a'i llwyth i lanw
Ydlanau teg y fro.

Mi welais leuad Medi,
Yn ddisglaer ond yn brudd,
Er haf ac er cynhaeaf
Yn drist y par ei grudd;
O grwydro mhlith cymylau
Hi ddychwel, gannaid loer,
Hi ddychwel heb ei gwrthddrych,
Yn unig ac yn oer.

Dros lawer un y gwanwyn
A fu yn diwyd hau,
Fel dros yr had a heuai,
Mae'r irgwys wedi cau;
Ond eto'r ffrwyth ni phallodd,
A boed i ninnau oll
Egniol hau gan wybod
Nad aiff y ffrwyth ar goll.



PA FANTEISION A GAWSOCH CHWI?

FEL yr oedd dau gyd-fyfyriwr yn y Brifysgol gerllaw yn rhodio un prydnawn teg ym mis Ebrill ar lan yr afon Clyde, arweiniwyd hwy i'r ymddiddan canlynol. Dylid coffhau mai wedi ei ffurfio yr oedd y gyfeillach rhyngddynt er y daethant yn adnabyddus â'u gilydd tua hanner y flwyddyn gyntaf o'u harosiad yn y Brifysgol. Nis gwyddent oblegyd hyn hanes foreuol y naill y llall, ac nid oeddynt erioed o'r blaen wedi disgyn ar y rhan hon o hynt eu bywyd.

GERARD. A gawsoch chwi fanteision boreuol da?

PENRY. Anarferol dda; nid yn aml y cafodd neb well.

G. Yr oedd eich rhieni yn gyfoethog, ynte?

P. Nac oeddynt. Yr oedd amgylchiadau fy rhieni, er uwchlaw angen, yn eithaf isel, gan ein bod yn deulu lluosog, ac nid oedd gan fy rhieni ddim i ddechreu eu byd ond yr hyn sy gan ffermwyr bychain yn gyffredin.

G. Yr oedd gennych ryw berthynas cefnog, ynte, i gymeryd atoch?

P. Nac oedd am a wn i. Os oedd, ni ddaeth yr un ymlaen i arddel perthynas pan fuasai reitaf i mi wrthi.

G. Yr ydych yn fy synnu. Hi ddygwyddodd i chwi, efallai, fel y gwnaeth i Samuel Taylor Coleridge pan yn llanc ys llawer dydd? P. Beth oedd hynny? Yr wyf wedi anghofio, os darllenais.

G. O dyna oedd hynny. Pan oedd Coleridge yn llanc tua deuddeg oed, os wyf yn cofio'n dda, yn ysgol Christ's Hospital, yn gydysgolhaig â Charles Lamb a Leigh Hunt, yr oedd un diwrnod yn myned trwy y Strand, heol yn Llundain ag sydd yn wastad yn llawn pobl, fel y gwyddoch, yn llawn myfyrdod a breuddwydion barddonol fel arfer. Wel, yn ddisymwyth dyma ef yn taenu ei freichiau allan ar ddull un yn myned i nofio, pan yn anffodus y daeth un o'i ddwylaw yn agos i logell gwr boneddig oedd yn pasio. Startodd hwnnw, daliodd sylw ar yr hogyn, ac ymaflodd yn ei fraich, gan ddywedyd,—"Ai ie'r gwr bach, yr ydych yn rhy ieuanc eto at ryw waith fel hyn." Gellwch ddychmygu teimladau Sami pan yn cael ei gymeryd fel hyn am un o ladron bychain heolydd Llundain. Safodd fel delw; a phan allodd siarad, dymunodd gennad i egluro i'r boneddwr pa beth oedd yn feddwl oedd yn wneyd ar y pryd. "Meddwl yr o'wn i am 'stori Leander a Hero, ac am Leander yn nofio dwr yr Hellespont (cainc o fôr rhwng Ewrop ac Asia), i weled ei gariad, Hero; ac yn wir, syr, ni wyddwn damaid i mi ledu fy mreichiau o gwbl." Cafodd y boneddwr allan mai gwir a ddywedai y llanc, a chymerodd gymaint o ddyddordeb ynddo, fel y bu yn gwylio drosto, ac yn help iddo i fyned i fyny i'r Brifysgol. A fu hi gyda chwi rywbeth yn debyg i hyna?

P. Naddo, yn wir; ni fuais mor ffodus a hyna ychwaith "Cyfaill cywir, yn yr ing ei gwelir;" a gwelais fy rhieni a rhai o'm perthynasau mor garedig i mi ag oedd yn eu gallu i fod. Ond ni ddisgynnodd un gawod o aur erioed i fy arffed i, nac yn fy mebyd, nac ar ol hynny; a mwy na thebyg yn awr yw nas gwna fyth ychwaith, tae fater am hynny.

G. Eto chwi a ddywedwch i chwi gael manteision rhagorol yn fore. Rhaid fod eich tad yn ddyn o ddysg ac archwaeth, a rhyw gymaint o ddylanwad, i'ch cychwyn a'ch cynorthwyo ymlaen?

P. Na, ychydig iawn o ddysg yn ystyr arferol y gair oedd gan 'nhad. Yr oedd yn un o wyth o blant; saith o honynt yn fechgyn, a thrwy chwys eu gwyneb y bwytasai y teulu yn hen fferm gynnes G—— eu bara. Nid llawer o ysgolion oeddynt i'w cael y pryd hwnnw ym mharthau gwledig y deyrnas, yn enwedig rhwng mynyddoedd Cymru, ac nid llewyrchus iawn oedd yr ychydig hynny. Cafodd 'nhad tua'r un faint o ysgol a phlant ffermwyr yn gyffredin: rhyw ychydig o chwarteri yn y gaeaf, pan y gellid hawddaf hebgor ei wasanaeth gartref. Daeth i ddarllen Seisneg, ysgrifenu, a chadw cyfrifon dipyn yn drwsgl. Wedi tyfu i fyny gwelodd ddiffyg ei addysg foreuol lawer gwaith, hyd yn nod at lanw ei gylch anghyhoedd ef mewn cymdeithas; a gwnaeth ei oreu, yn ol yr amser a'r cyfleusderau oedd ganddo, i ddiwallu'r diffyg. Cadwai ei gyfrifon yn ofalus, darllenai y Beibl yn rheolaidd bob cyfle oedd ganddo, derbyniai gyhoeddiad misol neu ddau, nid oedd nac yfwr nac ysmociwr, ac yr oedd arno awydd i roi mwy o ddysg i'w blant nag a dderbyniasai ei hun.

G. Dichon fod ganddo lawer, neu, dyweder fagad, o lyfrau, o duedd i ddihuno yspryd darllen ac ymofyn ynnoch, ac i ddwyn allan eich cof, eich dychymyg, neu ryw gynneddf arall mewn modd neillduol. Mae hi wedi bod felly lawer gwaith ychydig o lyfrau i gael eu darllen drosodd a throsodd gan ddyn pan yn ieuanc ydynt yn fynych wedi creu cyffro a ddarfu arwain i bethau mawrion. Dyna, fel engraifft, Iolo Morganwg a Robert Burns; dim ond ychydig o lyfrau y cawsant gyfle i'w darllen pan yn ieuainc, ond gwnaethant yn fawr o'r rhai hynny; ac fel hyn cadwyd fflam ymofyngarwch plentynaidd ar gynn nes y deuwyd o hyd i gynnud gwell.

P. Yn wir, mae yn ddrwg gennyf eich amheu bob tro, ond mae gwirionedd yn gwneyd i mi gyffesu mai lled ysgafn o lyfrau oedd shelves fy nhad. Yr oedd almanaciau llawer blwyddyn yno, llyfr Ficer (argraffiad hen iawn), Hymnau Williams Pantycelyn, Hanes Crefyddau'r Byd Cristnogol, a rhyw dwysged o gyhoeddiadau misol goreu y cyfnod hwnnw. Yr rhai hyn oll a ddarllenais drosodd a throsodd laweroedd o weithiau, ac nid y lleiaf y cyhoeddiadau, y rhai trwy eu hamrywiaeth fuddiol a'm mawr ddifyrrent. O'r diwedd daethai y ffugenwau a wisgai yr ysgrifenwyr yn enwau gwirioneddol i'm golwg i, ac yr oedd gennyf ddychymyg lled eglur, er nad oedd ragor na dychymyg, o lun, a maint, ac oedran, ac annedd pob un o honynt.

G. A oedd dim dynion clyfer a gwybodus yn yr ardal i'ch dodi ar ben y ffordd?

P. Gadewch weled. Oedd, yr oedd yno ryw ddau neu dri a dybiwn i ar y pryd yn gryn Solomoniaid. Siaradent lawer ar ryw fath O bynciau ac am ryw fath o awdwyr. Buont yn foddion i dynnu fy sylw innau at yr unrhyw, a dyna'r gwasanaeth mwyaf a wnaethant i mi, gan y cefais allan heb fod yn faith fod eu sŵn yn fwy na'r sylwedd. Am yr ardalwyr yn gyffredin, heb awgrymu yr un amharch iddynt, a chan gydnabod yn llawen a diolchgar eu bod yn perchen ar luaws o rinweddau, nid hawdd fuasai dod o hyd i ddynion mwy diymgais a didaro i holi ar ol ffrwyth pren gwybodaeth.

G. Yr ydych yn hytrach yn ychwanegu o hyd at fy syndod. Cawsoch yn debyg eich danfon i'r ysgol yn dra ieuanc?

P. Do, o'r fath ag ydoedd. Ond nid oedd ond rhywbeth, os dim, gwell na bod heb ddim. Yr hen wr duwiol, yr hwn a gadwai yr ysgol gyntaf y buais ynddi, ei chadw bob gaeaf a wnai, druan, o ran ffasiwn. Ym meddyliau bechgyn a phlant yr ardal, cysylltir myned i'r ysgol â'r meddwl am rew, ac eira, a gwlawogydd llifeiriog. Ces athrawon eraill, ac yn eu plith offeiriad, un o feibion Anac; dyn pwerus, ysgeiddig, nwydwyllt, gwresog, a charedig o galon, hoff o arddu a ffermo, ond nid wedi ei dorri allan gan ddim os nad gan "dyngedfen ddall" ar gyfer cadw ysgol. Ces athraw ar ol athraw o ryw fath, rhai yn ddrwg a rhai yn waeth, nes i mi fyned at D——. Gwelwn rai o fy nghyfoedion gwell eu byd yn cael eu cymeryd oddiwrthyf i'w danfon i ryw ysgol wir dda; a'r pryd hwnnw do'i un o hymnau yr hen Thomas Williams, Bethesda'r Fro, onide? i fy mryd:—

Adenydd fel c'lomen pe cawn,
Ehedwn a chrwydrwn ymhell,
[I'r ysgol a'r ysgol] yr awn,
I weled ardaloedd sy well.

Ond, fel y dywed y gwr doeth, "Cyfoeth sydd iddo adenydd "—adenydd mewn rhagor nag un ystyr. Nid oedd gennyf fi adenydd, na chyfoeth, na dylanwad i'm cludo i un o ysgolion gramadegol gwir effeithiol y wlad.

G. Maddeuwch i fi, fy nghyfaill, am ddweyd fy meddwl mor eglur. Ond y sicr, yn gwybod am eich safle uchel ac addawus yma yn y Brifysgol, y sylw parod a delir i'r hyn a ddywedwch yn ein cymdeithasau athronyddol, gwyddonol, a dadleuol, y parch a ddangosir tuag atoch gan y pennaf o'r athrawon, ac ymlaenaf dim, yn hyspys, trwy fy hir adnabyddiaeth o honoch bellach, er y cyfarfuom yma, o'ch cyrhaeddiadau, eich dysg, a'ch doniau, disgwyliaswn, pan ofynnais i chwi gynneu, pan ar bwys cofgolofn yr anfarwol Nelson, glywed eich bod wedi bod yn fwy ffodus na'r cyffredin yn eich addysg foreuol a'ch dygiad i fyny.

P. Yr ydych, yr wyf yn ofni, yn rhy ffafriol eich barn am danaf. Ond darfu i chwi arfer y gair "ffodus." Yn awr, yn ystyr arferol y gair, ni fuais o gwbl yn ffodus. Eto, i mi gael egluro fy hun, a dweyd teimlad fy nghalon wrthych, fel fy nghyfaill mynwesol, yr wyf yn cyfrif, mewn ystyr uwch a rhagorach o'r gair, i mi fod yn ffodus iawn. A dyma'r rheswm pam. Er nad oedd 'nhad ond dyn mewn amgylchiadau digon cyffredin, ac wedi derbyn addysg o'r fath fwyaf cyffredin, yr oedd 'nhad yn ddyn da, o egwyddor gywir; yn ddyn gonest, anrhydeddus; o rodiad diargyhoedd; o gymeradwyaeth gyffredinol yn yr ardal; o awdurdod moesol nerthol yn ei deulu a'r gymydogaeth; yn ddyn, mewn gair, ag yr oedd llawer o nerth cymeriad yn perthyn iddo. Yr oedd yn feddiannol, mewn graddau na welais yn aml, ar symlder neu blaender egwyddorol. Nis goddefai ffug, na rhagrith, nac ymddangosiad gwag ynddo ei hun, nac mewn eraill agos ato. Yr oedd yn geryddwr llym o dwyll a dichell. Dywedai yn fynych, "Byddwch yn drue, 'mhlant i." Ac hefyd, "Mae yr hyn sy werth ei wneyd o gwbl yn werth ei wneyd yn dda." Nid oedd dim yn gasach ganddo na'r hyn a adnabyddir yn y wlad dan yr enw rogri (roguery). Ni oddefai neb segur o gylch y tŷ. Arferai pob un o'i blant i fod yn ddiwyd, o'r lleiaf hyd y mwyaf; rhoddai ryw waith cymhwys iddo i bob un. Gweithiwr o egni oedd ef ei hun, a rhedai ei yspryd trwy yr holl dŷ. Nid yn unig yr oedd yn ddyn moesol, fel y dywedir, ond yn ddyn crefyddol; yn ddyn o ddefosiwn pur a dwfn, llawn o barch at bethau crefyddol. Cadwai weddi deuluaidd yn gyson, a gwnelai hyn gyda mawr hyfrydwch, a barnu wrth ei ddull. Fel y dywedais o'r blaen, yr oedd yn hollol syml ei arferion, cymedrol i'r pen, heb wybod beth oedd gloddest nac wtres o un math. Rhwng pob peth, gwn eich bod yn fy neall heb eglurhad pellach, yr oedd awyr foesol a chrefyddol fy nghartref yn iachus a chryfhaol i anadlu ynddi. Fel y dywedwn am ambell i ffermdŷ ei fod yn wynebol at yr haul, felly yr oedd y teulu hwn yn wynebol yn gyfoethog at Dduw. Fel hyn ystyriaf bob amser fy mod wedi fy ngeni yn dda; wedi bod yn ffodus yn ngwir ystyr y gair; wedi cael, wedi'r cwbl, y manteision pennaf, goreu i ddyn, fel dyn ar y ddaear ac etifedd anfarwoldeb. Felly, os gofyn neb i mi ar unrhyw amser, pa fanteision a gefais, fy ateb yw, "Mi a gefais y manteision goreu."

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Comed Donati
ar Wicipedia





COMED 1858.[2]

Mesur,—TRIBAN MORGANWG.

RYW hwyr, a mi yn cychwyn
I 'nghartref yn y dyffryn,
Meddyliais weled yn y nen
Y lleuad wen gyferbyn.

Ond O, y fath ryfeddod
Oedd yno er fy syndod,
Disgleirwyn gorff o deneu dân,
A chynffon lân i'w chanfod.

Mi gofiais ddaroganau
Haneswyr yr hen oesau,
A chofiais glywed gynt fy mam
Yn siarad am gomedau.

Mi gofiais Gomed lwyswedd,
A welsid ddeugain mlynedd
A saith yn ol, mewn llawer plwyf,
Drwy'r nen yn rhwyfo'n rhyfedd.

O'r fath lawenydd hyfryd
A lanwodd fy holl ysbryd,
Am unwaith weled Comed, clywch,
Yn chwyfio uwch daearfyd.

Ymestyn wnai yn ddehau
Ar draws yr uchelderau,

Ac yn ei faes—fwng plannai Arth[3]
Y gogledd barth ei balfau.

A gurai'n gynt mo galon
Y morwr ar yr eigion,
Pan îs ei seren hoff ei hun
Y gwelai lun y gynffon?

Sidellau, uthrawl wrthrych
Ar antur trwy yr entrych,
Y sêr o'i lwybr a droent draw,
A dyn mewn braw yn edrych.

Mae'r dirion leuad arian
Anhapus a dihepian,
Rhag bod y newydd argoel synn
Am ddrygau yn darogan.

Mae rhai yn ofni chwerwedd,
Ymlusgant mewn dir lesgedd;
A gwelant uwch y byd yn awr
Ysgubell fawr dialedd.

Gwêl un o bell heb ballu
Yr arwydd yn gwireddu
Ei freuddwyd hynod ar ryw bryd,
Fod nos y byd yn nesu.

"Nid yw ond ffaglen greulon
Yng ngallu du ellyllon,'
Medd rhywun, "i oddeithio'r nef
Yn danllwyth gref echryslon."

Ym mryd yr ir—lanc llawen,
Mae 'ngwawr y siriol seren

Gymysgliw'r lili a'r rhosyn coch,
A wêl ar foch ei feinwen.

Tra i'r seryddwr cywrain
Y mae yn gorff goleugain,
Hyloew dŵr o niwloedd nen,
Ar dêr lun seren drylain.

Nid yw y craidd serenol,
Fel edrych, yn sylweddol,
Ond disglaer darth a gylchir gan
Fodrwyau annifeiriol.

Y llosgwrn sydd yn llusgo,
Fe ateb inni eto,
Nad yw, mwy na'r gogleddwawl glain,
Ond nifwl cain yn nofio.

Yn aml yn ei hymylon,
Cynfyddwn ddwy ffrwd radlon
O deneu wawl, ond dont heb ddig
Ynghyd o frig y ffynnon.

Pan fyddo gyrfa'r seren
Yn nesu at yr heulwen,
Ei chynffon deg o'i hol ymdaen,
Ond try ymlaen drachefen.

Ar ol ei ado'n ddifrad,
Heb oedi yn ei rhediad,
Ei hwyneb eto fyth y sydd
Fel ped yn brudd o'i gariad.

O hŷd dy walltog gynffon!
O ddyfnder yr eithafion
Y teithi trwyddynt, seren gan,
Nes gwelwa'n wan y galon!


O aros, wibiad eres !
Bydd fad am ganiad gynnes;

Arafa ennyd rwysg dy daith
I hynaws draethu'th hanes.


O ble y deilliaist allan?
O ba ryw oror eirian?
Pa beth a'th yrrodd gyntaf o
Dra hoenus fro dy hunan?


A'i 'n amser dig wrthryfel
Rhyw echdwr croes i ochel,
Y crwydraist ar dy hynt am hedd,
Nes deuai'th sedd yn dawel?


Sawl un o honoch heno
Drwy'r nwyfre bur sy'n hwylio?
Ai plant ieuangaf nefoedd y'ch
Mewn nwyf di-nych yn nofio?


Ple bu dy gwrs hyd yma?
Pa olygfeydd hawddgara
A wne'st yn oleu? Ar ryw bryd
A welaist geinfyd Gwynfa?

O! beth am y planedau
A'r sêr, ynt megys blodau
Hyd eang faes y nef yn frith,
A thi 'n eu plith yn chwarau?


A ydynt breswylfaoedd?
A welaist o'th ucheloedd
Ar wastad lawr a chribog fryn
Wedd bodau yn y bydoedd?


I ble mae mwy dy dynfa?
A chwili am orffwysfa?
Ai ynte teithio'th dynged fydd
Nes gwawrio'r dydd diwedda?


Os wyt ti ar ymado,
Pa bryd y deui eto?

A gawn ni weled byth dy wedd
Cyn troi i'r bedd i huno?


A raid i oesau meithion
Droi ar eu mud olwynion
Cyn gwelir ol lle'r wyt yn awr
A dwyre o'th wawr dirion?


Yn iach it, seren hyfryd!
Y llaw sy' nawr yn ddiwyd,
Nad bryd y delot ar dy hynt,
A wywa'n gynt i'r gweryd.


Y WLAD SYDD WELL.

Cyfieithiad o "The Better Land" Mrs. Hemans.

"Y WLAD sydd well yw dy destyn cu,
Ei phlant a elwi yn ddedwydd lu;
Mam! O pa le mae y disglaer lan?
Na wylom mwy. O am geisio'r fan!
A yw lle blodeua'r eur-afal pêr,
Lle dawnsia drwy'r myrtwydd yr ufel-glêr ?"
"Nid yno, nid yno, fy mab."

"Ai lle dyrch y bluog balmwydden ir,
A'i haeron aeddfeda dan haul nef glir?
Neu 'mhlith gwerddonau y llachar fôr,
Lle llwytha'r per wigoedd y gwynt â'u stôr,
A chlaer ednod rhyfedd, eu plu o sêr
Wisgant â lliwiau bob gwrthddrych têr?"
Nid yno, nid yno, fy mab.

"Ai draw y mae mewn hynafol fro,
Lle llifa'r afonydd dros euraidd ro?
Lle twynna poeth belydr y rubi rhudd,
A'r adamant oleua y gloddfa gudd?
Lle'r perl ddisgleiria o'r gwrel gell,
Ai yno, mam anwyl, mae'r wlad sydd well?"
"Nid yno, nid yno, fy mab."

"Llygad nis gwelodd hi, 'machgen mwyn,
Nis clywodd clust ei soniarus swyn,
Breuddwyd ni luniwyd am fro mor fir,—
Angeu nac aeth ni throedia'i thir;
Amser nis deifia ei bythwyrdd wedd,
'Mhell hwnt y cymylau a hwnt y bedd,
Mae yno, mae yno, fy mab."


ANERCHIAD PRIODASOL

I'r Parch. William James, B.A, o Aberdar,
a Miss Evans o'r Cefn (Gorff. 10fed, 1877).

AWR boed eich llwydd a mawr eich hedd,
O'ch glân briodas hyd eich bedd;
A'r ffurf ond arwydd gwir a nod
Mai un eich bywyd fyth a'ch bod.

Aeth mebyd heibio gyda'i lu
Difyrion a'i ddedwyddwch cu,
A daeth yr awr i chwi eich dau
O ddifrif fyned dan yr iau.

Iau, nid rhy drom, ond hawdd ei dwyn,
Lle calon bur a thymer fwyn;
Lle awydd fo rhwng deuddyn call
Am gynorthwyo'r naill y llall.

Ond iau hi fydd o ymdrech mawr
A phryder tywyll ambell awr;
Daw oriau tristwch dros eich pen,
A chewch y nefoedd las dan len.

Ond pan fo calon un yn llwfr
Ac yn ymollwng megys dwfr;
Y llall a chysur boed ger llaw
Gan weld y nef yn agor draw.

O gylch eich traed yn ddiddan blaid
Plant tyner chwariont yn ddi baid,
Nes teimloch pan ar fynd i'r ne'
Y cwyd eich plant i lanw eich lle.


IN MEMORIAM.[4]

EVAN WALTER GRIFFITH,
ganwyd Ionawr 16eg, 1867; bu farw Ebrill 29ain, 1878

FEL gwaeda 'nghalon gan ei chlwy',
O'th fyned di, ein bachgen mad,
Ag oit yn bopeth mam a thad,
Ac na ddoi 'nol i'r ddaear mwy.

Gwaith caled ydyw canu'n iach,
A meddwl mwy dy weld na chawn
Ar yr hen aelwyd gynnes iawn,
Lle cwrdd y teulu fawr a bach.

Ni ddisgwyliasem bethau mawr
Pan wyliem dwf dy feddwl byw;
Ond mynych y mae trefnau Duw
Yn bwrw ein holl gynlluniau'i lawr.

Fe sydd i ddweyd, mae'th daith ar ben,
Yn llawn mae dalen fach dy ddydd,
A'th bererindod drwyddi sydd;
Dywedwn ninnau, "Felly, Amen."

Cyfeillion goreu'r ddaear hon
Wasgerir oll, a chaled yw
Dweyd,—"Gwnaer d'ewyllys di, O Dduw;
Ond O, rho'th hedd i lanw ein bron."

A chysur nefol inni oll,
O boed y gobaith am ail gwrdd;
Fel llithro'r bywyd hwn i ffwrdd
I'r wlad lle na fydd neb ar goll.


CAPEL LLWYN RHYD OWEN (YR HEN).
(Y Capel y trowd Gwilym Marles a'i gynulleidfa ohono.)

Mae glaswellt ar y llwybrau,
Y llwybrau oent mor lân."


Y PARCH. JOHN EDWARD JONES.

Ebrill 1866.

YN esmwyth a diboen aeth y gwr da hwn i'w hir orffwysfa, dydd Sabbath, Chwefror 25. Dechreuasai ei iechyd ddadfeilio er ys tua dwy flynedd, ac ymneillduasai o ofalon ei swydd er ys tuag wyth mis. Darfu i'w farwolaeth, er nad yn annisgwyliadwy, daenu galar trwy gylch helaeth o gyfeillion a chydnabod.

Ganwyd ef yng Nghaerfyrddin, Gorffennaf 7, 1801. Pan y blentyn, amlygai dalent neillduol i ddysgu, ac yn dra ieuanc, aeth i Ysgol Rammadegol, ag oedd y pryd hwnnw, ac am gryn amser wedi hynny, mewn cysylltiad â'r Coleg Presbyteraidd yn y dref, yr hon a gedwid gan y Parch. David Peter, prifathraw y Coleg. Oddi-yno. pan yn un ar bymtheg mlwydd oed, derbyniwyd ef i'r Coleg. Y pryd hwn Trindodwr oedd o ran ei olygiadau. Yr oedd ei dad yn henadur neu ddiacon yn eglwys Heol Awst. Heb fod yn hir ar ol ei fynediad i'r Coleg, aeth ei olygiadau duwinyddol o dan gyfnewidiad, a chyn. fod ei amser ar ben yr oedd yn Undodwr proffesedig. Buasai ei berthynasau ar du ei fam, yr hon oedd wraig ddeallus iawn, ac a fu fyw i oedran teg, erioed â'u gogwyddiad at Ariaeth—cred a goleddid gan ddosparth lluosog yn hen eglwys barchus Heol Awst yr adeg honno, ac am lawer o flynyddoedd yn flaenorol. Yn ffodus, teyrnasai y fath synwyr a theimlad da yn ei artref, fel na ddarfu i'r cyfnewidiad hwn effeithio dim ar ddedwyddwch y teulu. Y Parch. D. Lewis Jones, o Glunadda, Undodwr trwyadl, oedd yr ail athraw yn y Coleg yr amser hwn. Wedi treulio pedair blynedd fel myfyriwr yn y Coleg, ymsefydlodd ym Mhenybont ar Ogwr, i gymeryd gofal yr eglwys yn y dref honno, ynghyd â'r eglwys yn y Bettws, lle ryw bum milldir oddiyno. Dymuniad y Dr. Abraham Rees, yr hwn a gymerasai ddyddordeb neillduol ynddo fel myfyriwr, oedd iddo fyned i Wrexham, lle y pryd hwnnw yr oedd hen gynulleidfa Bresbyteraidd. Nid oedd ond prin un-ar-hugain oed pan ddechreuodd ar ei weinidogaeth. Yn Saesneg, yn bennaf, y pregethai ym Mhen y Bont, ac yn Gymraeg yn wastad yn y Bettws. Ymddengys iddo agor ysgol yn y dref tua'r un amser, yr hon a ddygodd ym mlaen am dros ugain mlynedd, hyd nes iddo ymuno mewn priodas â Miss Jenkins o'r dref honno.

Ac ysgol odidog a fu ganddo. Yr oedd yn feddiannol ar ddawn helaeth fel ysgol—feistr, fel y tystia llawer o'i hen ysgolheigion heddyw yn fyw. Yr oedd ei ddull mor bwyllog a thirion, dodai ei feddwl allan mor glir a phwrpasol, a chariai ym mlaen ddisgyblaeth mor dyner, eto manwl, fel ag y deallwn iddo fod yn llwyddiannus iawn fel addysgydd, a theilwng o gael ei restru gydag athrawon goreu y dywysogaeth. Arferai tua'r amser hwn draddodi darlithiau chwarterol ar seryddiaeth, gyda chymhorth y Magic Lantern, yr hyn oedd beth newydd yn ein gwlad y pryd hwnnw. Nid oedd dim a dueddai i wella a diwyllio pobl ieuainc y dref a'r gymydogaeth nad oedd ef gyda'r blaenaf yn ei bleidio. Pan ddaeth y sôn am y Mechanics' Institutes, o gychwyniad Dr. Berkbeck ac Arglwydd Brougham, gyntaf i'r wlad, cymerodd ddyddordeb mawr ynddynt, a bu yn foddion i sefydlu un yn ei dref ei hun, gyda'r hon y parhaodd yn ffyddlon hyd y diwedd, ac i'r hon yr oedd yn is—lywydd ar adeg ei farwolaeth. Cofiwn yn dda anerchiad bywiog o'i eiddo i'r myfyrwyr yng Nghaerfyrddin, ar ddiwedd yr arholiad yn 1853; cofiwn pan yr anogai ni i lafurio am wybodaeth gyffredinol fel ag i gadw ym mlaen gydag oes y Mechanics' Institutes, ac i fod yn alluogi luosogi y sefydliadau rhagorol hyn, a'u gwneyd yn fwy effeithiol.

Yr oedd yn ysgolhaig rhagorol, ac o chwaeth ac arferion ysgolheigaidd. Dilynasai ei efrydiaethau o'r higher Mathematics yn unig o serch at y wyddor. Yr oedd yn ddarllenwr helaeth a myfyriwr dwfn mewn duwinyddiaeth. Carai ymgydnabod â phob gwaith o bwys a gyhoeddid ar dduwinyddiaeth, nad pa olwg neillduol a gymerid. Nid yn aml y deuid o hyd i feddwl mor ddiragfarn, ac mor abl, o ganlyniad, i edrych ar olygiadau gwahanol i'r eiddo ei hun, o safle neillduol y rhai a'u dalient. Yr oedd mor gadarn ag oedd bosibl yn ei syniadau philosophyddol a duwinyddol ei hun, ond medrai wrando yn deg a phwyllog ar olygiadau hollol wrthwynebol. Yr oedd ei ddeall yn gryf a goleu a disgybledig, a rhagorai fel rhesymwr. Yr oedd ganddo lywodraeth ryfeddol arno ei hun. Ni oddefai i dymer a ffansi ei gario ymaith. Medrai dewi. Ni fu yn gyffredin neb rhyddach oddiwrth ysfa i lefaru ac ysgrifenu. Myfyriodd lawer ar ieithoedd gwreiddiol y Beibl. Yr oedd yn hyddysg neillduol yn yr Hebraeg, a thra chyfarwydd yn nheithi ei iaith ei hun ac eiddo yr ieithoedd Celtaidd cyd-drasol, yn enwedig y Llydawaeg. Apelid ato yn fynych ar faterion ieithyddol ac hynafiaethol, a bu droion yn feirniad ar destynau mewn llenyddiaeth gyffredinol a barddoniaeth. Yr oedd er ys blynyddau lawer wedi ei apwyntio gan y Bwrdd Presbyteraidd yn Llundain yn Arholydd yn y Coleg, yn enwedig mewn Hebraeg a Mesuroniaeth. Yn y swydd bwysig hon rhoddai foddlonrwydd cyflawn i'r Bwrdd ac i'r myfyrwyr. Ni chlywsom fyfyriwr erioed yn achwyn arno fel arholydd angharedig neu fympwyol, neu un-ochrog. Am rai misoedd ar ol marwolaeth y Dr. Davies, o Ffrwd y Fal, cydsyniodd â chais y Bwrdd i fod yn athraw mewn Hebraeg a Mesuroniaeth, ac ni welwyd gwell grân erioed ar y dosparthiadau yn y canghenau hynny nag yn yr arholiad canlynol.

Ond ei brif wasanaeth i'r enwad Undodaidd a fu mewn cysylltiad â'r Ymofynydd. Yr oedd angen hir a gwaeddfawr wedi bod am gyhoeddiad i egluro ac amddiffyn golygiadau duwinyddol y blaid hon, tra yn rhydd i ysgrifau ar bob ochr bynag i unrhyw bwnc. Yn unfryd ac unllais ymddiriedwyd yr olygiaeth iddo ef, a gwasanaethodd hi yn ffyddlawn am dros dair blynedd ar ddeg. Dechreuodd y gyfres gyntaf yn Medi, 1847, a diweddodd yn Ebrill, 1854. Dechreuodd yr ail gyfres Ionawr, 1859, a diweddodd, oblegyd ei lesgedd cynyddol ef, ym Mehefin y flwyddyn ddiweddaf[5] . Fel golygydd yr oedd yn gall a phwyllog a boneddigaidd, ac mor amhleidiol ag i allu dal y glorian mor deg fel nad oedd gan neb sail gyfreithlawn i'w feio ef yn ei swydd. Credwn nad ysgrifenodd air fel golygydd y dewisasai yn ddiweddarach ei alw yn ol. Yr oedd ei erthyglau bob amser yn werth eu darllen ac yn ddarllenadwy; ei arddull yn rhwydd a llithrig, eglur a hollol ddiaddurn. Hawdd canfod bob amser fod ganddo afael sicr ar ei bwne, ac mai o helaethrwydd ei wybodaeth yr ysgrifenai. Pan derfynwyd y gyfres gyntaf o'r Ymofynydd yn 1854, yn hollol groes i'w ddymuniad ef y bu hyn; a phan ail-gychwynwyd yn 1859, siriol ymgymerodd â'r olygiaeth drachefn.

Fel pregethwr, nis gellir dweyd iddo fod yn llwyddiannus iawn, yn ol y safon gyffredin i farnu. Yr oedd ei bregethau yn llawn synwyr, ymresymiad, a nerth, a hoffid ef yn fawr gan yr ychydig deallus. Eto yr oedd cymaint o arafwch a thawelwch yn ei draddodiad, fel na lwyddai i dynnu sylw na chyffroi teimladau y lluaws. Pregethau i'w darllen ac nid i'w gwrando oedd ei bregethau ef yn bennaf. Ni roddwyd pob dawn i un. Dylid crybwyll ei fod yn gyfarwydd iawn â gwleidiadaeth, ac yn cymeryd dyddordeb mawr ynddi, yn lleol a chyffredinol. Yr oedd ei gryn odeb gwleidyddol yn yr Ymofynydd yn wastad yn wir werthfawr. Yn ei dref ei hun yr oedd yn is-gadeirydd i'r Board of Guardians, ac aelod o' Bwrdd Iechyd am flynyddau meithion, a gwnai e; ddyledswydd yn ffyddlawn a medrus ym mhob un o'r ddau. Llwyddai yn fynych trwy ei yspryd mwyn i gymodi pleidiau gwrthwynebol á'u gilydd.

Er ei holl ragoriaethau, a chyda rhai diffygion —pwy sydd hebddynt ?—mae lle ein tad a'n cyfaill ymadawedig yn wâg. Mawr welir e eisiau. Mae ei golli ef yn fwlch ychwanegol, ac yn fwlch mawr yn ein rhengau. Dilynodd ar hyd yr un llwybr â llu o'i gyd—lafurwyr, rhai yn hŷn a rhai yn ieuengach, ag ydynt yn ystod ychydig o flynyddoedd wedi ein gadael: Peter Joseph, Rees Davies, John Davies (Llwynrhydowen,) John Jeremy, Dr. Lloyd, Titus Evans, John Jones, Owen Evans, a David Benyon. Gorffwysant oddiwrth eu llafur, a neb eto ar eu hol yn llanw lle llawer ohonynt. Gweddiwn ar Arglwydd y cynhaeaf i ddanfon gweithwyr newyddion. Mae digon o ddefnyddiau yn ein heglwysi ond iddynt gael magwraeth a chefnogaeth briodol.

Claddwyd gwrthddrych y cofnodion hyn yng Nghaerfyrddin, ei dref enedigol, a thref a garai yn anwyl.

"Into the eternal shadow
That girds our life around,
Into the infinite silence
Wherewith death's shore is bound,
Thou hast gone forth, beloved!—
And it were wrong to weep
That thou hast left life's shallows,
And dost possess the deep."


ANNERCH CYFAILL

I'r Parch. Rees Jenkin Jones ar ei briodas â
Miss Anne Griffiths, "The Poplars," Aberdar.[6]
DAETH terfyn ar dy weddwdod, gyfaill, do,
Er iti yn ei fwynder oedi tro;
Braidd tybiais y doi adeg i dy gwrdd
O luest gweddwdod i dy symud ffwrdd,
Ond y mae newid ar feddyliau dyn—
Ansicrwydd â'i gynlluniau oll yn nglyn.

Dy ganwyll unig hir yn llosgi bu
Ar fychan fwrdd, trwy lawer gaeaf du;
A thi'n myfyrio yn dy feudwy gell
Ar ryw ddyrysbwnc o olrheiniad pell;
Llais tyner benyw gyda'i ryfedd swyn,
Na chri teg faban yn ei hwyrol gwyn,
Ni thorrai fyth ar y distawrwydd prudd,
Gan godi gwrid o obaith ar dy rudd.

Ond, medd hynafol ddysg, mae angel llon
I bob un enir ar y ddaear hon,
'Roedd ar dy gyfer dithau, gyfaill cu,
Ac agos atat am flynyddau bu,
Heb it' ei hadwaen fel 'd angyles di;
Ond bellach adnabuost, hawliaist hi.

O pa mor fynych bydd hi yn y byd,
Dau fywyd fel dwy gomed, wibiog fryd,
Yn hwylio ar draws yr eangderau maith,
A deddf atyniad dirgel wrth ei gwaith,
Nes cwrdd ynghyd, nes uno'u llwybrau hwy
Trwy gyfraith serch yn anwahanol mwy.


Mae'n llawn dy gwpan heno; llawn boed ef;
Mae'r ddaear yn Eden, ac mae'r byd yn nef,
Mae llais a gwên a theimlad tyner law
Rhyw un yn dwyn y drydedd nef ger llaw.

Os yr amheui weithiau ble i droi
Gwnaiff llygad rhywun i amheuaeth ffoi;
Os blin dy galon gan drallodion dwys
Bydd mynwes gynnes iti roi dy bwys,
Fe wlawia rhywun wenau ar dy wedd
Nes llanw'th rychiog rudd â moriog hedd.

Da bo'ch eich dau, da boed d'angyles der,
A da bo'ch plant, a'u plant, hyd rif y ser.


LLYFRAU.

DYWEDIR ddarfod i Xerxes brenin Persia, pan wedi gwneyd prawf o bob pleser adnabyddus iddo, a laru arnynt oll, ofyn yn bryderus, "Pwy a ddyfeisia i mi bleser newydd?" Ein hateb ni iddo a fuasai "Darllen;" pleser na wyddai y teyrn, yn debyg, ond ychydig am dano, a phleser amgenach ddigon na llusgo byddinoedd amrosgo o slafiaid milwraidd ar ei ol o wlad i wlad i oresgyn a difrodi, lladd a llosgi.

Erbyn heddyw y mae llyfrau wedi dyfod i raddau helaeth yn rhan anhebgorol o ddodrefn ein tai yn y wlad hon. Teimlir hyn gan ein gweithwyr deallus ac ymofyngar yn gymaint â chan neb pwy bynnag. Barna llawer o'n ieuenctyd, trwy drugaredd, pan anturiant i'r sefyllfa briod— asol, ei bod hi yn hytrach o fwy pwys i gael ychydig o seldau llawn o lyfrau yn eu tai wrth ddechreu eu byd, na rhesi o seldau wedi eu gwisgo yn daclus à llestri o amryw liwiau, na ddefnyddir efallai deirgwaith mewn oes. Gwelir llawer o'n pobl ieuainc yn rhwymo eu cyhoeddiadau misol yn gyfrolau hylaw, ac yn pwrcasu geiriadur, esponiad, cyfrol neu ddwy o farddoniaeth, gramadeg Cymraeg, gramadeg cerddorol, cyfrol neu ddwy ar hanesiaeth, a chyfrolau ereill yn ol yr archwaeth neillduol. Weithiau hefyd yn gymysgedig â gweithiau Cymreig cawn lyfrau da a buddiol yn yr iaith Seisneg, megys, Evenings at Home, Prydyddwaith Cowper, rhai cyfrolau o Watts neu Channing, Uncle Tom's Cabin, Smiles ar Self-Help—llyfr, gyda llaw, ag sydd grynodeb o'r ffeithiau. mwyaf addysgiadol ac anogaethol i ieuenctyd. Mae hyn oll fel y dylai fod, ac yn ddechreuad cyfnod llawn o addewid yn ein gwlad.

Er y pryd, yn 1473, y gosododd William Caxton i fyny yr argraffwasg gyntaf yn Lloegr, yn Nghysegr Westminster Abbey, rhyfedd y cyfnewidiad sydd wedi cymeryd lle mewn llenyddiaeth ac mewn gwareiddiad yn gyffredinol. Hyd yn hyn nid oedd wrth reswm ond llyfrau ysgrifenedig; a hawdd deall mai gorchwyl arat a chostus iawn oedd copïo cyfrolau meithion. Yr oedd gan y mynachod, y rhai oeddynt y prif ysgrifenwyr yn yr hen amser, gryn lawer o hamdden ar eu dwylaw; eto cyfyngedig iawn oedd nifer y llyfrau a danysgrifid, ac i'r mynachdai y perthynent, ac nid i'r werin. Nid oedd ond y dosparth clerigol yn ymyrryd â llenyddiaeth; i'r werin yr oedd ei chynyrchion gwerthfawr yn ffrwyth gwaharddedig. Os o ddigwyddiad y medrai rhai o'r bobl ddarllen, ac y dymunent wneyd hynny, yr oedd pris y copiau ysgrifenedig yn rhy uchel iddynt eu pwrcasu heb yr aberth fwyaf. Buasai raid i weithiwr dreulio cyflog gyflawn dwy flynedd er gallu prynu un copi o Destament Seisneg Wycliffe, a'i holl gyflog am bymtheg mlynedd cyn gallu dyfod i feddiant of Feibl cyfan. A thrachefn, wedi i'r gelfyddyd o argraffu gael ei dyfeisio, nid oedd o gymaint gwerth tuag at radloni cyfryngau gwybodaeth, nes y deuwyd o hyd i ddefnydd rhad i argraffu arno. Dygwyd y gelfyddyd o wneyd papyr o garpiau o'r Dwyrain gan y Croes-gadwyr yn amser Edward I., ond aeth rhyw gan mlynedd a chwarter heibio er amser Caxton cyn i'r felin bapyr gyntaf gael ei gosod i fyny mewn lle o'r enw Dartford, yn Kent. Erbyn hyn y mae'r llawweithfeydd papyr gyda'r rhai pwysicaf yn y wlad. Cynullir yn ofalus holl garpiau'r wlad ynghyd—nid oes wisg bwbach yn rhy wael—a gwneir o honynt ddefnyddiau ysgrifenu ac argraffu, y rhai ydynt ddiarhebol am eu rhadlondeb. A rhwng pob peth, ni fu llyfrau yn ein gwlad erioed mor gyrhaeddadwy ag ydynt yn awr, fel ag y mae pawb, mor bell ag y mae a fynno'r pris, yn ddiesgus, os yr esgeulusant ddarllen. Yng Nghymru nid yw llyfrau mor rhad ag mewn gwledydd eraill, neu mor rhad ag ydynt yn Lloegr, am nad yw y cylchrediad ond bychan mewn cymhariaeth; ond hyd yn oed yma gyda ni nid oes le i achwyn, ac y mae gennym bob amser le i nesu hwnt i helpu ein hunain o lenyddiaeth doreithiog ein cymydogion y Saeson.

Ni a fostiwn weithiau ym mhurdeb y wasg Gymreig, gan feddwl wrth hynny bod ein llenyddiaeth yn rhydd oddiwrth gyhoeddiadau anffyddaidd, anghysegredig, ac anllad, y fath ymddangosant mewn cryn gyflawnder, yn enwedig ar brydiau, yn yr iaith Seisneg. Hyn sydd wir ffaith, a da iawn gennym o'r herwydd. Ond, fel ffeithiau pleserau eraill, y mae modd gwneyd gormod o honi, ac i ni gymeryd gormod o glod i ni ein hunain fel cenedl oddiwrthi. Pe yn byw o dan yr un amgylchiadau, ac yn agored i'r un profedigaethau a'r Saeson, nid ydym yn gweled un rheswm dros gredu y buasai ein llenyddiaeth ni yn hyn yn wahanol oddiwrth yr eiddynt hwy. Y ffordd y gwneir gennym yn gyffredin yw priodoli i grefyddolder ein cymeriad cenedlaethol, neu i ddwysder a duwioldeb ein hathrawon eglwysig, neu efallai weithiau i ryw ragluniaeth neillduol a ddiogela ein cenedl ni fel "ychydig o enwau" breintiedig, i fod yn esiampl i'r byd o symledd buchedd ac o iachusder athrawiaeth, priodoli i un neu'r oll o'r pethau hyn y ffaith o'r gwahaniaeth hwn yn ein llenyddiaeth ni i eiddo y Saeson a'r Ffrancod a chenedloedd eraill. Ond nad beth am yr ystyriaethau uchod, dilys yw gennym fod ein sefyllfa fynyddig a'n iaith yn ddau brif rwystr o'n tu ni i lenyddiaeth o'r fath. Hyd ddyfodiad y rheilffyrdd yr oedd ein gwlad yn bellenig ac estronol; ac yn awr y mae ein hen iaith fendigedig, mor bell ag nad yw gwybodaeth o'r iaith Seisneg ar ein tu ni yn effeithio cyfnewidiad—canys nid oes raid ofni y rhed y Saeson i ddysgu ein iaith ni—yn fwy o ragfur i ddylifiad heresiau tramor nag a fuasai yr Alps neu yr Himalaya. Oblegid nid ymddengys fod unrhyw swyngyfaredd cenedlaethol yn diogelu y Cymry mwy na chenedloedd eraill rhag heresiau pan y gesyd amgylchiadau hwynt yn agored iddynt. Mae enw Morgan neu Pelagius, o'r bumed ganrif, yr hwn a wrthwyneb— wyd mor egniol gan Augustine a Jerome, yn adnabyddus i bawb. Mynn rhai fod yr hâd drwg hwnnw a hauodd ef heb farw allan o Gymru oddiar hynny hyd yn awr, a bod y nyth bresennol o hereticiaid yn Undodiaid, Ariaid, neu pa enw bynnag a ddygant, yn gywion a ddeorwyd yn y bumed ganrif ganddo ef a'i gyd—lafur wr Coelestius. Nad beth am hynny, dilys yw y dichon i Gymry yn gystal a Saeson droi yn hereticiaid o dan y dylanwadau priodol. Gŵyr pawb mai Cymro o'r Drefnewydd, yn sir Drefaldwyn, oedd y diweddar Robert Owen, un o'r enwocaf a flagurodd erioed yn rhengau y Secularists. Mae yn ffaith hefyd fod yr Undodiaid yn Lloegr wedi, ac yn parhau i gael rhan luosog o'u gweinidogion o Gymru. Ni chrybwyllwn hyn ond yn unig i ddangos fod y gwaed Cymreig, o ran dim a wyddom ni i'r gwrthwyneb, mor agored ag unrhyw waed arall i'r haint o heresi. Ac i nodi un engraifft dra nodedig arall; nid yw yn debyg i'r Mormoniaid fod yn fwy llwyddianus mewn un wlad nag y buont rhwng mynyddoedd Cymru, ymhith cenedl a ymffrostia gymaint yn ei gwybodaeth o'r Ysgrythyrau. Y casgliad a dynnwn yw, mai i'w sefyllfa ddaiaryddol, ac i wahaniaeth iaith, y mae ein gwlad yn ddyledus am ba burdeb bynnag a hawlir i'n llenyddiaeth ni y tu hwnt i eiddo gwledydd eraill. Yr ydym yn llawenhau fod ein iaith mor rhydd o gyfansoddiadau brwnt a thrythyll, a chrach-feddygol ac anffyddol, ac yn dwys hyderu mai felly y parha hyd yr amser, yr hwn sydd yn cyflym nesu, pan y bydd i ledaeniad y Saesneg ei gorfodi i gilio o'r maes. Eto ni fynnem fod gormod yn cael ei wneyd o'r purdeb honedig hwn. Mae ol bysedd duon y diafol ar lawer dalen yn ein llenyddiaeth ninnau hefyd. Gallasai ef o'r goreu dorri ei enw wrth lawer pamphletyn ac ambell gyfrol a ymddangosodd o'r wasg Gymreig. Ni fu cynifer o ddadleuon enwad-gul, ynfyd-boeth, crach-dduwinyddol yn cael eu cario ymlaen efallai mewn un man nag yn ein cyhoeddiadau misol ni yng Nghymru. Mawr y dirdynu a'r llapreio a wneid ar y Beibl yn yr ymgyrchoedd hyn. Saethai y naill blaid eu bwlets papur, ar lun adnodau, yn ddiarbed at y llall o'u cyflegrau bychain. Mae yn debyg na fu crochan y sêl enwadol yn berwi yn ffyrnicach mewn un wlad nag yn y wlad hon ar rai prydiau, fel y tystia luaws o gynyrchion y wasg. Nid o natur bur iawn yw y rhai hyn. Nid arwydd o unrhyw burdeb llenyddol yw y ffregodau, y gor— ganmoliaethau a'r weniaith wrthwyneblyd a ddarllenir gennym mor fynych. A beth am y pregethau annhymig, y traethodau cymysglyd a di-bwynt, y llatheni o bryddestau, o awdlau, ac o gywyddau crai anfarddonol, a'r ugeiniau o hymnau hanner-pan a frithant ein llenyddiaeth? Gall y testyn fod yn dda, tra'r llyfr neu'r cyfansoddiad yn annhraethol o wael. Ac nid llyfrau anllad ac anffyddol, proffesedig felly, yw yr unig rai a wnant niwed. Fel y sylwa Archesgob Whately,—"Mae gweithiau anghysegredig ac anffyddol, a broffesant fod yn gyfryw, y rhai y mae'r oes hon wedi esgor arnynt, yn llawer llai gwenwynllyd na gwaith a broffesa fod yn grefyddol, yr hwn a fo wedi ei ysgrifenu yn y fath fodd ag i gynhyrfu arswvd, a châs, a diystyrrwch, mewn personau o deimlad da ac o chwaeth dda.'

Wedi'r cwbl offerynau yw llyfrau, hyd yn oed y llyfrau goreu; fel os na wyddis y ffordd i'w defnyddio, nid ydynt o un lles. Mae chwaeth a doethineb yn ofynnol wrth ddewis, a dyfal astudrwydd, a gofal, ac ymchwiliad, wrth ddarllen pob math o lyfr. Mae nodiadau Arglwydd Bacon yn ardderchog;—"Mae rhai llyfrau i'w profi, eraill i'w llyncu, a rhyw ychydig i'w cnoi. a'u treulio: hynny yw, mae rhai llyfrau i gael eu darllen yn unig mewn rhan, eraill i'w darllen, ond nid gyda mawr sylw, a rhyw ychydig i'w darllen yn llwyr, a chyda diwydrwydd a sylw. Gellir hefyd ddarllen rhai llyfrau trwy ddirprwywr, a thrwy ddetholion a wnaed gan eraill; ond ni ddylai hyn fod ond gyda rhesymau lleiaf pwysig, a'r fath waelaf o lyfrau. . . Mae darllen yn gwneyd dyn llawn, cyd-ymddiddan yn gwneyd dyn parod, ac ysgrifenu yn gwneyd dyn manwl; ac o ganlyniad, os mai ychydig a ysgrifena dyn, dylai fod ganddo gof mawr; os mai ychydig a gyd—ymddiddana, dylai fod yn berchen ar synwyr parod; ac os mai ychydig a ddarllena, dylai feddu llawer o gyfrwysdra, er mwyn ymddangos fel yn gwybod yr hyn na ŵyr." Un o goeth ddywediadau Bacon yw a ganlyn hefyd;—" Wrth ddarllen, yr ydym yn cymdeithasu â'r doeth; yn nhrafodaeth bywyd, yn gyffredin â'r ffol."

Mae llawer o ragoriaeth i'r lleferydd dynol byw ar y llythyren argraffedig farw tuag at ddysgu dyn. Gwir. Ond ar y llaw arall, mae llawer o ragoriaeth yn perthyn i lyfrau fel athrawon. Fel y dywed hen awdwr;—"Llyfrau ydynt athrawon a ddysgant heb na gwiail, na rheolau, na llid." Os ewch i ymofyn a hwynt nid ydynt fyth yn cysgu; os holwn ofyniadau iddynt, nis rhedant ymaith; os gwnawn gamgymeriadau, ni ddifriant ni; os byddwn anwybodus, ni chwarddant am ein pen. Mae un peth er hynny, yn ol Bacon, nas gall llyfrau ei ddysgu i ni, sef yw hynny, y ffordd i iawn ddefnyddio llyfrau. Mae yn rhaid i'r myfyriwr trwy ymdrafod â dynolryw ddwyn ei ddamcaniaethau i ymarferiad, a chymhwyso ei wybodaeth at amcanion bywyd. "Y mae llyfrau da," medd Bacon, drachefn, "yn ystorfa oludog er gogoniant i'r Creawdwr, ac er ysgafnhad i gyflwr dyn." Pan oedd llyfrau yn brinion mewn cymhariaeth, dywedai Ciceromai "enaid tŷ yw llyfrau." Gan gyfeirio at y cymorth a rydd llyfrau i ni, ac at y parotoad a'r rhagdueddiad a roddant i ddyn i ffurfio barn am bersonau a phethau, dywedai Dryden am danynt mai gwydrau ydynt i ddarllen natur wrthynt. Os bydd y llyfr yn annheg neu aneglur, nis gallwn weled yn eglur; bydd yr effaith yr unrhyw a phe yr edrychem trwy olyg-wydrau lliwiedig. Ond llyfrau da, agorant ein llygaid, cyfarwyddant ein traed, ysprydolant ein calonau. "Dysgant ni," medd Hare, "i ddeall a theimlo yr hyn a welwn, i ddehongli a sillaffa arwydd-luniau y synwyrau." A sylwa Carlyle yn gyffrous:—"Mewn llyfrau y mae yn gorwedd enaid yr holl amser a aeth heibio, llais croew a chlywadwy yr amser a aeth heibio, pan y mae y corff o hono wedi diflanu yn gyfan—gwbl megis breuddwyd." Mae rhai yn hoff o hen lyfrau, eraill yn dotio ar lyfrau newyddion. "Llyfrau ail-law i mi," meddai Charles Lamb, pethau yn perthyn i'r amser a aeth heibio yw llyfrau." Eraill drachefn, nis gwaeth ganddynt ai hen ai newydd y llyfr; os meddyliant y gallant gael adeiladaeth neu bleser, neu bob un o'r ddau, oddiwrtho, darllenant ef yn awyddus. Dyma'r dosparth goreu. Cynwysiad llyfr ac nid ei oedran, ei awdwr, ei iaith, ei bris, na dim o'r fath, sydd i benderfynu ei werth. Ni a ddywedwn wrth derfynu wrth ein darllenwyr ieuainc, "Darllenwch," a chan gofio cyngor Lessing i ddyn ieuanc, "Meddyliwch ar gam os mynnwch, ond meddyliwch drosoch eich hun;" felly y dywedwn ninnau;—Darllenwch lyfrau da hyd y gellwch eu cael, ond yn enw pob peth darllenwch.
Bedd
Gwilym Marles.
CAPEL LLWYN RHYD OWEN (Y NEWYDD)

"I'r distaw fedd ni chyrraedd sen y ffol,
A rhaib erlidwyr droir am byth yn ol.'


DAN GWMWL.

AR lechwedd meillionog uwchlaw un o'r afonydd bychain a lifant i'r Teifi, safai tyddyndy clyd a glandeg yr olwg, o'r enw Penlan. Yma, ar ol ymuno o honynt mewn glan ystâd priodas, yr aethai Rhys Davies a Sarah Jenkins i drigiannu. Yr oeddynt eill dau yn ieuainc, heb weled ond ychydig o flynyddoedd dros yr ugain. Cawsent y fath addysg bwrpasol a sylweddol ag a dderbynir gan lawer o feibion a merched Ceredigion, yn enwedig yn y rhandir a ymestyna rhwng Teifi a'r môr, yng nghanol—barth y sir. Medrent yr iaith Seisneg yn lled dda; derbynient bapur Seisneg bob wythnos, ynghyd a dau gyhoeddiad misol, un Cymreig ac un Seisneg. Yr oeddynt yn weddol eu hamgylchiadau, yn gymaint â bod i Sarah waddol bychan, a bod tad Rhys yn ffermwr cefnog, a Rhys ei hun yn ddyn ieuanc o ddyfais lew, synwyr cryf, ac o arferion ymröus a chynnil. Cadwai Sarah ei thy yn lân—mor loew a'r swllt, ys dywedai ei mam-yng-nghyfraith. Nid ar ddydd Sadwrn yn unig y meddyliai hi am lanhau ei thy. Cai y llwch yn y gegin ac yn y parlwr hefyd ei symud yn llawer amlach nag unwaith bob wythnos. Mynnai hi awyr ffres yn feunyddiol i bob ystafell, yn neillduol i'r ystafelloedd cysgu. Ni hoeliai y ffenestri i lawr yn dynn, fel y gwna rhai, dan yr esgus o ofn lladron. Credai hi mai y lleidr gwaethaf ym mhob teulu yw afiechyd. Mawr brisiai y bendithion hynny a alwai hen weinidog dysgedig a pharchus yn y sir (yr hwn, ysywaeth, fel y rhan fwyaf o'i gyd-lafurwyr ag oeddynt gyfoedion iddo, sydd er ys blynyddoedd rai wedi tewi yn yr angau) yn rhoddion deheulaw y Goruchaf y pethau mwyaf angenrheidiol i ddyn, tra hefyd y rhataf, sef awyr, dwfr, a goleuni; ac fel yr arferai yr hen wr ychwanegu gyda phwyslais nodedig, yr iechydwriaeth. Curai y ddwy galon ieuanc ynghyd. Yr oedd teimladau cynnes a dedwydd blynyddoedd blaenorol yn para heb oeri yn eu mynwesau. Buasai ddiddanus iawn eu carwriaeth—diwair, diniwed, a phur. Ni fuont wyllt a difwrw, fel rhai, yn eu piodas. Cawsent gydsyniad unfrydol eu rhieni o'r ddwy ochr. Ar ddydd eu priodas ni phroffwydid iddynt ond cysur a hawddfyd gan bawb. Adnabyddid y ddau trwy yr ardal fel o dymer garedig a thangnefeddus, o arferion diwyd, ac o ysbryd crefyddol. Nid ar gyfoeth, nac ar lendid, nac ar fwyniant cnawdol y gorffwysent eu gobaith am gysur yn y dyfodol. Ystyrient fod cyfnewidiad i'r fath elfenau hapusrwydd â'r rhai hyn, a gochelasant adeiladu ar sail mor dywodlyd. Y fath fisoedd, y fath flynyddoedd dedwydd a digwmwl oeddynt rai cyntaf eu bywyd priodasol! Caredigrwydd oedd deddf y teulu. Nid oedd drafferth yn y byd iddynt ddyfod o hyd i weision a morwynion. Hoffai pawb aros yn y lle, gan y ffynnai'r fath gydgordiad rhwng y meistr a'r feistres. Nid slafiaid y mynnent i'w gwasanaeth—ddynion fod, ond ymddygent atynt yn hynaws ac ystyriol. Nid paganiaid ychwaith y mynnent iddynt fod. Cai eu gwasanaethddynion gennad serchog i fyned i'r cwrdd a'r ysgol ar yn ail; pleser mawr oedd ganddynt eu gweled yn darllen, ac anogid hwy i hyn pa bryd bynnag yr oedd cyfleusdra yn rhoi. Treiglodd rhyw bum mlynedd fel hyn heibio yn dra dedwydd. Ganed iddynt ferch fechan, yr hon a enwyd ar enw mam y fam yn Margaret. Ym mhen tua dwy flynedd ar ol hyn rhoddwyd i'w gofal fywyd ieuanc arall, mab bychan, yr hwn a alwyd yn John. Cadwai Sarah ei phlant bychain yn lân a thaclus, a dysgai iddynt o'r dechreu wersi syml o ufudd-dod ac o ymddygiad prydferth. Deallai yn dda y fath ddolen gref o serch a chydymdeimlad rhyngddi hi a'i phriod oedd y plant. Arferai ei merch fechan i fyned allan i roesawu ei thad pan ddychwelai o aredig yn y gwanwyn, neu o fedi yn adeg cynhaeaf. Deuai yntau a hi i mewn i'r tŷ, yn ei freichiau, a rhoddai hi i eisedd yn nesaf ato wrth y bwrdd, a charai edrych yn ei gwyneb hardd ag oedd yn ddarlun o dymer dda a serch bywiog ei mam, yn gystal ag o'r eiddo ef ei hun. Ni fynnai yr un fechan adael côl ei thad o'r pryd y dychwelai yn yr hwyr hyd yr amser iddi i gael ei rhoi yn ei gwely bach. Fel y dywedir, y mae yn arferol os oedd yn anwylach gan y rieni am un o'r plant nag am y llall, y ferch oedd hoffder y tad, y mab oedd hoffder y fam. Ond pwy all fod yn sicr o hyn? Gwenai rhagluniaeth arnynt ym mhob modd. Troent swm penodol o arian heibio bob blwyddyn mewn ffordd o ragbarotoad tuagat addysgu eu plant. Nid oedd hapusach teulu trwy yr holl gymydogaeth. Felly y credai y tylwyth-yn-nghyfraith o'r ddwy ochr; a dyna hefyd oedd cred yr ardal yn gyffredin. Braidd nad oedd rhai yn eiddigeddu wrthynt, ac yn barod i dystio na fyddent yn hir heb i ryw adfyd neu gilydd i'w goddiweddyd. Gan fod y bywyd dynol yn agored i gyfnewidiadau ar bob pryd, nid oedd raid i broffwydi doethion iawn i wneyd y fath ddarogan a hyn. Pa fodd bynnag, yn y pumed gaeaf o'u bywyd priodasol cododd cwmwl du, yng nghysgod yr hwn y gorfu iddynt ymdroi yn alarus am beth amser. Aethai y fam à John bach yn ei llaw i alw un prydnawn mewn ffermdy cyfagos, lle yr oedd dau o'r plant yn sâl, ond o ba glefyd nis gwyddai hi ar y pryd. Nos drannoeth, ar ddychweliad y tad i'r tŷ, sylwodd nad oedd ei fab bychan mor siaradus a chwareugar ag arferol. Treuliwyd y nos honno ganddo yn lled anesmwyth. Yn y bore, dododd ei law fechan ar ei wddf, fel pe yn achwyn poen yno; deuai rhyw iasau o gryndod drosto ar amserau; yr oedd cur yn y pen; nid oedd eisieu bwyd y bore hwnnw, er fod cri parhaus am rywbeth i yfed. Ym mhen tua dau ddiwrnod sylwodd y fam ar ysmotiau cochion ar y ddwyfron a'r breichiau. Nid oedd bellach le i amheu achos y selni; a phan alwodd y meddyg yn y prydnawn, rhoddodd gyfarwyddiadau ar gyfer y dwymyn goch.

I lawer, mae yn debyg, ymddengys gwaith plentyn yn cael ei gymeryd yn y clefyd cyffredin hwn ond ychydig o beth. Dylid cofio, pa fodd bynnag, mai dyma'r afiechyd cyntaf a ymwelasai a'r teulu; a phrofiad chwerw yw ymweliad cyntaf unrhyw afiechyd â theulu ieuanc. Hwn oedd y cwmwl cyntaf a ddarfu ledu ei dywyllwch drosto. Newidiodd agwedd bob peth trwy y ty. Prudd-der a distawrwydd a deyrnasent yno. Yn lle yr acenion clir a chroew yn y rhai yr arferai y gwr a'r wraig ymddiddan â'u gilydd, nid oedd yn awr ond siarad isel cwynfanus, neu sisial pruddaidd. Rhoddai y feistres ei heirchion mewn ton drist, fel un a chalon wedi hanner torri. Yn lle y dull gwrol ac awdurdodol ym mha un yr arferai gwr y tŷ roddi eu dogn benodol o waith i'w weision, yr oedd ei lais yn awr yn egwan a chrynedig. Yn ystod y prydiau bwyd, arferasai pob un fod am y blaenaf gyda rhyw newydd diniwed, neu 'stori lawen, neu air digrif; canys nid y rheol yn y teulu hwn fuasai ceisio dirgymhell rhyw undonrwydd Phariseaidd ac wyneb-bruddaidd ar neb o gylch y tŷ; ond yn awr cydymdeimlent oll â'r ddau oeddynt drwm eu calon, a gwelent eisieu yr un bychan ffraeth wrth y bwrdd. Braidd y gallesid gwybod adeg boreu-bryd, na chiniaw, na swper, oni buasai yr ychydig drwst a gedwid wrth eistedd a chodi, a swn hoelion mawrion yr esgidiau trymion fel y disgynnent ar balmant y gegin a cherrig y drws wrth ddyfod i mewn a myned allan. Symudai y fam yn wylaidd a chrynedig trwy y tŷ, yn angel trugaredd, yn chwilio am rywbeth a dybiai a allai fod er esmwythâd i'w hanwyl un. Yna eisteddai wrth ochr ei wely bychan, gan blygu uwch ei ben, a cheisio ennill gair, neu wên, neu edrychiad a fuasai iddi hi yn fwy o werth na'r byd y pryd hwnnw: ond i ddim diben. Yr oedd ei bachgen ym man gwaethaf y clefyd; y dwymyn. yn yr amgylchiad hwn yn drymach na chyffredin; yn wir yr oedd y bywyd yn y glorian. Ceisiai y tad ddilyn ei waith allan, ond mynych mynych y dychwelai i'r tŷ, a phryder yn argraffedig ar ei wedd, i roi tro i mewn i'r ystafell, ac i edrych yng ngwyneb ei un bychan na wnai yn awr un sylw o hono. Treuliai lawer awr gyfan yn y tŷ, yn eistedd wrth y ffenestr, gan ddarllen weithiau y Beibl, ac weithiau ei hymnau dewisol. Cafwyd y dail wedi eu plygu ar lawer rhan o'r Beibl a ddygai gysur iddo yn ei drallod, megys ar y mannau canlynol.

"Ni'th roddaf di i fyny, ac ni'th lwyr adawaf chwaith."

"Deuwch ataf fi bawb a'r y sydd yn flinderog ac yn llwythog, a mi a esmwythaf arnoch."

Pwy bynag a ddêl, nis bwriaf ef allan ddim." "Gwyn eu byd y rhai sydd yn galaru, canys hwy a ddiddenir."

Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd; fy nhangnefedd yr wyf yn ei roddi i chwi. N thralloder eich calon, ac nac ofned."

"Adfyd a chystudd a'm goddiweddasant; a'th orchymynion di oedd fy nigrifwch."

"Cyfyd goleuni i'r cyfiawn yn y tywyllwch." "Hauwyd goleuni i'r cyfiawn, a llawenydd i'r rhai uniawn o galon."

Ar y dydd Sabbath pan oedd ei phlentyn wannaf, a phan oedd y distawrwydd trwy y tŷ, tywyllwch yr ystafell, am y cedwid y gorchudd dros y ffenestr, ynghyd â phrudd-der dwfn ei phriod, wedi bron hollol orchfygu ei chalon; mor fynych ag y caniatai ei dagrau a'r mân ddyledswyddau o serch y galwai ei un bychan am danynt iddi wneyd, darllenai y fam rai o'r hymnau hynny ag y mae cystudd, fel y gwnai gwialen Moses gynt dynnu dwfr o'r graig, bob amser yn peri i ryw ystyr newydd a llawnach nag o'r blaen i lifo allan o honynt. Yn eu plith yr oedd y rhai hyn :—

Trwy droiai'r byd, ei wên a'i ŵg,
Bid da, bid drwg y tybier,
Llaw Duw sy'n troi'r cwmpas—gylch glân,
Yn wiwlan er na weler."

"Er na weler," meddai, gan ail fyned dros y geiriau.

"Ei gysur Ef sydd yn bywhau
Y pennau gogwyddedig,
Fe sych a'i law y llif sy'n gwau
Dros ruddiau'r weddw unig."

Darllenodd lawer gwaith drosodd y Salm odiaeth honno yn "Salmau yr Eglwys yn yr Anialwch ":—

"Pwy, lle chwiliaf eitha'r bydoedd,
A gaf imi'n gysur byw?
Pwy sydd gennyf, drwy'r holl nefoedd,
Pwy'n amgeledd ond fy Nuw?
Caf ei gariad pur am danaf,
Ym mhob amser, ym mhob lle;
Ar y ddaear ni 'wyllysiaf
Imi'n gyfaill ond y fe."

Ar ol bod yn darllen fel hyn eill dau am dro hir yng ngoleuni gwannaidd un o brydnawnau cymylog y rhan olaf o fis Rhagfyr, ag oedd yn ddarlun cywir o'u teimladau trallodus hwy, aethant eill dau at wely y claf, edrychasant arno, ac yna cyn troi ymaith digwyddodd i'w llygaid gyfarfod, gan lefaru mwy nag a allasai y tafod lefaru, a gorfu iddynt fyned o'r neilldu i roddi rhydd ollyngdod i'w teimladau llwythog.

Hwn fuasai y dydd trymaf eto. Ond pan ryddo hi dywyllaf, mae y wawr ar dorri. Pan alwodd y meddyg drannoeth dywedodd fod y gwaethaf drosodd; a bod gobaith cryf bellach am adferiad graddol John. Eto, ofni a wnai y tad a'r fam, nes gweled arwyddion mwy eglur. Yn awr dechreuodd yr ysmotiau cochion gilio, ac yn fuan digroenodd y wyneb a'r dwylaw a gwadnau y traed. Dechreuai John sylwi yn awr, er nad oedd eto wedi gwenu na llefaru unwaith. Pan ddechreuodd siarad, O'r fath lawenydd! Cerddodd pob anadl trwy y tŷ yn rhwyddach. Dychwelodd yr hen fywyd gynt mewn rhan. Adfywiodd calonau y tad a'r fam fel pe buasai mynydd mawr wedi ei symud ymaith. Yn fuan daeth y dioddefydd bychan yn alluogi adael ei wely am gôl ei fam, a dechreuodd eistedd yn ei ystol fechan wrth y tân. Daeth awydd siarad arno megis cynt; a gofynai wrth edrych allan trwy y ffenestr ar yr eira, o ba le y daethai yr holl halen, ac i ba ddiben yr oedd wedi ei osod yno. Y nos Calan dilynol, pan oedd John wedi bron ei lwyr adferyd, eisteddai y tad a'r fam, eu merch a'u mab bychan ar yr aelwyd yn y parlwr; y fam yn gwnio, a'r tad yn darllen. Rhoddodd y ddau eu gwaith heibio yn ddisymwth o dan ddylanwad teimladau dwysion, ac aethant yn ol dros flynyddoedd eu bywyd priodasol, yn enwedig y flwyddyn olaf; a chan gymeryd John yn ei breichiau a'i wasgu at ei chalon, dywedai y fam: O fy nhrysor anwyl! O fy mab yr hwn a fu farw, ac a aeth yn fyw drachefn!"

"Ie," meddai y tad, a llais crynedig gan deimlad, bu yng nglyn cysgod angau, ond holodd y Bugail Da ef yn ol i ni. Bendigedig fyddo Ei enw!"

Y nos Calan honno ciliodd ymaith ymyl olaf y cwmwl cyntaf hwn ar deulu Penlan, a gadawodd hwynt yn llawn diolchgarwch calon, ac yn barotach ar gyfer cwrdd â thrallodion dyfodol.

ANT O NERTH I NERTH.

A MI yn rhodio hwyr brydnawn,
Hyd ymyl afon ledan lawn,
A'i haraf dreigl yn cymell cân,
Mi welwn ar y ddôl ger llaw,
Rhyngwyf a gwyll y dwyrain draw,
Y tywysogaidd dderw glân.

Fel tyrau oedd eu cygnog nerth,
Di gryn o flaen ystormydd certh,
Eu breichiau'n tanu dros y tir;
Ond bu pob un o'r derw hyn
Yn esen fach ar lawr y glyn—
Fe ofyn mawredd amser hir.

Mi welwn glochdy'r eglwys hen,
Ac ar ei lwydaidd gopa wên –
Claf wên yr ymadawol haul;
O faen i faen yr aeth i'r lan,
Pob egwan wr yn gwneyd ei ran,
A llawer cod yn dwyn y draul.

Yr afon lifai ger fy mron,
A swn awelog ym mhob ton,
O'r bryniau pell y daeth i lawr;
Hi fu'n afonig yn y pant,
A chwyddwyd hi gan lawer nant,
Nes llydan yw ei gwely'n awr.

Ymlaen daw'r nos a'i swynol hedd,
Gan wisgo'r byd ar newydd wedd,
Mor raddol ei gogoniant yw !
Un ar ol un ymddyrch y ser
I chwyddo y gymanfa der
Nes gemu'r nen â llygaid byw.


O gyfaill! derbyn ddysg o werth;
Rhaid mynd ymlaen o nerth i nerth,
A dringo'r rhiwiau'n araf iawn;
Os byddwn ffyddlawn yn ein gwaith,
A diddiffygio ar y daith,
Goreuon bethau Nef a gawn.


EMYN.

AR daith byd, ai byr ai hir,
Duw, boed dy wir i'm tywys;
Fy nef ddaearol ar bob cam
Fo meddwl am dy 'wyllys.

Cartrefed yn fy nghalon barch
At bob rhyw arch o'th eiddo;
Y drwg mor barod i mi sydd,
Dysg fi bob dydd i'w ado.

Fy nhraed cyfeiria Di yn rhwydd
Hyd ffordd dyledswydd danbaid:
Gwrandawaf fyth dy dirion lais
Ag eithaf cais fy enaid.

Rho i'm ymochel rhag pob drwg,
Ai cudd ai amlwg fyddo;
A diosg bob rhyw drachwant ffol
O'th hedd yn ol a'm cadwo.

Y melus brawf o'r nefol wledd
Sy'n dy dangnefedd perffaith,
Boed im, O Dad, o'th rad dy hun,
Trwy rodio'n un a'th gyfraith.

Am lewyrch per dy gariad maith
Ar daith y byd presennol. I ti,
O Dduw pob byw a bod,
I ti boed clod tragwyddol.


POB PETH YN EI FAN EI HUN.

Y MAN y tyfo'r pren yw'r lle a gâr,
Ei frig a yrr i'r nen, ei wraidd i'r dda'r;
Ymlŷn wrth fron ei fam y plentyn bach,
Heb ofni unrhyw gam, â chalon iach.

Yr afon droellog daith a hoffa'n gu
Bob ceulan fechan laith lle'n llifo bu;
Y meddwl hed yn fyw, ar fynych hynt,
Hyd lwybrau tecaf ryw yr amser gynt.

Y gog o dir y de ymwel â ni,
Ond eilwaith tua thre y dychwel hi;
Yr hwn yn alltud fo o dir ei wlad,
Hiraetha roddi tro i'w artref mâd.

Duw imi'r enaid roes, o nefol nwyd,
O blith pob helbul croes, hi ato gwyd;
Yr afon am y môr sy groch ei chri,
A'i gweddi am ei Hior mae f'enaid i.


YR ATHRAW

FFARWEL GOLYGYDD.

At ein Darllenwyr.

TRO hwn y mae gennym air atoch, ddosparthwyr a derbynwyr caredig. Mae wedi bod yn ein bryd i'w ddweyd o'r blaen, ond cyhyd ag y medrem, peidiem. Eithr nid eiddo gwr ei ffordd. Pan ddaethom i'r penderfyniad o ddwyn allan gyhoeddiad bychan i'r ieuainc, aeddfedasem y cynllun ar draethoedd heulog ac yn sŵn tonnau soniarus y Cardigan Bay, ychydig wedi canol haf 1865, yn nedwydd gwmni un nad yw yn rhodio yma mwy. Fel yr elai y flwyddyn ddiweddaf rhagddi, ar ei mynwes fe gasglai cwmwl du, yr hwn a barhai o hyd i fyned yn fwy bygythiol, a'r hwn o'r diwedd a dorrodd ar ein pen yn nechreu y flwyddyn bresennol.[7] Cwmwl arall a gododd drachefn o'r un parth o'r wybren, ac ym mis Mawrth oer a chawodog torri a wnaeth hwn hefyd.[8] Croes iawn hyn oll i gynlluniau a dymuniadau ein calonnau hiraethus ni, eto cadarn yw ein crediniaeth mai tadol gariad perffaith oedd yma yn gweithredu. Teimlem unwaith fod angenrhaid arnom i roi y cwbl i fyny y pryd hwnnw; wedi hynny penderfynasom ei hymladd hi yn mlaen hyd ben tymor, ac felly y bu. Eithr y mae doethineb bellach yn ein rhybuddio mai gwell fyddai i ni ar hyn o bryd ymneillduo o ofal yr Athraw. Ond wrth wneyd hyn dymunem ddychwelyd ein diolchgarwch am y gefnogaeth wresog a gawsom, a'r ffyddlondeb, y tu hwnt i'n disgwyliadau, a brofwyd gennym ar law y cyhoedd darllengar, ar law dosparthwyr hunanymwadol, a rhyw ychydig o gynorthwywyr galluog. Mae dadgan hyn yn ddyled arnom yn gystal ag yn bleser i ni, rhag i neb dybied fod yr Athraw yn cael ei roddi heibio o ddiffyg cefnogaeth: nid felly yn wir. Nid oedd ein cylchrediad mor helaeth ag y buasai ddymunol, ond y mae yn awr ar y diwedd agos i gant yn fwy nag a broffwydai ein cyfeillion brwtaf y byddai iddo ei gyrraedd hyd yn nod wrth gychwyn. Mae yn aros eto i'w benderfynu pa beth a drefnir gan ein cyfeillion tuag at ddwyn allan ryw gyfrwng o'r fath, ond helaethach, yn debyg, a digon sicr llawer galluocach na'r Athraw, ar ol i'r olaf encilio o'r maes. Ond hyn a ddywedwn, megys nad oedd gennym ni wrth gychwyn yr Athraw y bwriad lleiafi orfaelio maes na niweidio anturiaeth neb; felly yn awr bydd yn falchder ac yn bleser gyda ni i wneyd ein rhan tuag at hwylysu dygiad allan unrhyw gyhoeddiad a gychwyno ar sail eang ein Crist'nogaeth rydd. Hyn sydd ddilys, fod galwadau ac anghenion, ac, yn wir, naws ac archwaeth yr oes hon y fath, fel na ddylai mis basio heb i ryw gyhoeddiad o'r ddelw a'r argraff yna wneyd ei ymddangosiad. Nid yw y ffaith fod cyhoeddiadau enwadau eraill yn dyfod, rai o honynt yn enwedig, yn rhyddach ryddach, yn un rheswm i ni dros dynnu ein dwylaw yn ol, eithr yn rheswm yn hytrach paham y dylem ymroi ati, rhag bod i ni, y rhai a broffeswn gymaint o ymlyniad wrth ryddid a rhydd—ymofyniad ein cael, o'n gosod yn y clorianau, yn brinach yn hyn. nag enwadau eraill, yr arferwn siarad am danynt fel gwrthrychau i dosturio wrthynt, oherwydd fod maen melin credoau yn g'lymedig am eu gyddfau.

Cyn terfynu, nis gallwn beidio a chrybwyll ein rhwymau neillduol i un o'n cynorthwywyr, y Parch. R. J. Jones, Hen Dŷ Cwrdd, Aberdar, am ei help ffyddlawn i ni ar lawer dull o'r dechreuad. Hebddo ef, buasai ein dwylaw wedi llaesu er ys tro hir. Mae eraill yn perthyn i'r un dosparth, ond buasai yn fai ynnom i beidio â'i nodi ef, er y gwyddom nad yw ef o bawb yn un a garai i'r cyhoedd wybod am ei rinweddau.

Ac yn awr, gyfeillion serchog, un ac oll, derbyniwch ein hysbysiad hwn y bydd i'r Athraw ar ben ei ail flwyddyn, sef gyda'r rhifyn nesaf, gael ei roi i fyny mor bell ag y mae a fynnom ni âg ef. Mae yn ddrwg gennym orfod dweyd hyn, ond nis gallwn oddiwrtho. Rhad Duw arnoch oll.

Y GOLYGYDD.

Llandyssul, Mehefin 15, 1867.

Y BRAWD A ANED ERBYN CALEDI.

A MI yn eistedd yn y glyn,
Yn gwrando ar sŵn y tonnau'n codi,
Mi welwn wr mewn gwisg o wyn,
Yn araf atom yn dynesu;
Hawddgarwch a thangnefedd måd
Belydrent yn ei deg brydweddau :
Yn ngweithiau paentwyr llawer gwlad,
O'r blaen mi welswn y nodweddau.

I fin y dyfroedd rhagddo daeth,
I mewn i'r dyfroedd fe anturiodd;
Yr hon oedd mewn cyfyngder caeth,
Ei phen uwchlaw y llif cynaliodd;
Yn fwyn ymaflodd yn ei llaw,
Ac yn ei freichiau fe'i cymerodd,
Ac wedi tirio 'r ochr draw,
Rhyw fôr o wawl o'u cylch ymdorrodd.

O'u cylch eill dau ymdorrodd fel pe myrdd
Miliynau tonnau'r mor yn heuliau llachar;
A thrwy y gwawl ymnofient hyd eu ffyrdd,
Nid mwy ar wedd a gosgo plant y ddaear :
A phan eu hunwyd hwy â'r dorf ddi-rif,
Y gwawl rhy danbaid bellach wnaeth fy nallu;
Ond sicrwydd ge's, tra'n brudd ar lan y llif,
Ei bod hi mwy yn ddedwydd gyda'r Iesu.


DERWEN LLWYN RHYD OWEN.

Gwelwn ol yr hen ffyddloniaid.
Ar hyd llwybrau diriaid iawn."


Y FRONGOCH.

Willie,,—
DYWED imi, robin bach,
P'odd treuliaist ti y gaea?
I'm golwg mae dy fron mor iach
A chyn y rhew a'r eira.

Y Frongoch,—
Mi welais eitha garw hin,
Yr awel oedd yn arw,
Y rhew yn llym a'r eira'n flin,
A buais bron a marw.

Willie,,—
A gefaist ambell ddrws i droi
I chwilio am amgeledd?
A gefaist ambell law i roi
Briwsionyn o drugaredd?

Y Frongoch,—
O do, yn ateb i fy nghri,
Rhyw eneth fach mor dirion
Agorai'r drws i nghroesaw i,
A llond ei llaw o friwsion;
A thrwy y ffenest mewn yr awn,
A 'nghalon fach yn crynnu,
A dawnsio ar y bwrdd a gawn
Heb elyn i'm dychrynnu.

Willie,,—
 :Ble cysgit ti, fy mrongoch gu,
Ar y nosweithiau oerion,
Pan dros y coed yr eira'n gnu
A ledai'i esgyll gwynion?


Y Frongoch,—
Ym mol rhyw glawdd y cysgwn i,
A mwswm clyd fy ngwely,
A chlywn yr eira ar fy mhlu
Yn disgyn nes i'm gysgu;

A'r bore awn o 'ngwely glân
I maes i hel elusen,—
Rhyw hadau a phryfetach mân
A bylent fin fy angen.

Willie,,—
Mi deimlwn drosot lawer hwyr
Dy weld mor llwyd dy anel,
A'th aden fach mor llipa lwyr
Yn crynnu yn yr awel.

Y Frongoch,—
Mae'r rhod yn troi, mi wn yn dda
Fod Gwanwyn wedi nesu;
Mae gennyf gymar dros yr ha,
Ac arnaf chwant i ganu.

Willie,,—
Rhwydd hynt i chwi eich deuoedd lân
I fagu'ch teulu hawddgar,
Na ddyged neb eich wyau mân
I beri i chwi alar;
Tua'n ty rho eto ambell dro,
Pan allot gan ofalon,
A chân dy ofid oll ar ffo,—
Mae misoedd haf yn hirion.


GALARGAN Y FWYALCHEN.

MWYALCHEN oedd yn pyncio
Ei chân o alar du
Ar ben yr onnen lathraidd
Gerllaw ei chymar cu,—
"Ni wnaethem ddechreu'r Gwanwyn,
Ag eithaf egni iach,
Mor dlysed nyth a welwyd
Ar lannau'r Cletwr Fach.

'Pob un a ddygai frigyn
Neu gorsen wyw a sych,
A phigaid dda o fwswm.
Ac ambell blufyn gwych;
A dail y coed agorent
Yn brydferth iawn eu bri,
A'r ffrwd gerllaw furmurai
Ei bendith arnom ni.

Rhyw hwyrddydd mwyn ni ganem
Ein deuoedd gân o glod,
Wrth feddwl fod ein llafur
I derfyn wedi dod;
A mi ddechreuais ddeor
Fy wyau spotiog mân,
A 'nghymar yntau'n gwylio,
Gan fynych eilio cân.

"Un bore teg mi glywn
Ryw blantos drwg gerllaw,
A phan yn nes y daethant
Fe grynnai 'mron o fraw;
Hedfanai 'nghymar heibio
Gan amlwg arwydd roi,
Fod peryg yn yr ymyl,—
Mai doethach fyddai ffoi.


"Mi es ychydig bellder
A 'nghalon bron yn ddwy,
I frig hynafol dderwen
I wylio'u neges hwy;
A gwelwn Sal yn dringad
Y clawdd yn union syth,
A Wil y Cwm yn helpu
I dorri'n hanwyl nyth.

"Ar ol i'n braw dangnofi,
A mynd o'r plantos ffol,
Fy nghymar mwyn a minnau
Ddychwelem yn ein hol,
Ond O! yr olwg irad !
Dim wy na nythol clyd,
Yn ofer aethai'n llafur
A'n pryder dwys i gyd.

"Dim ond y man oedd yno,
A hwnnw'n wag a du,
Hoff gryd fy nghywion bychain,
Bedd i'm gobeithion fu;
Ond dere, fanwyl gymar,
Rhed amser ar ei dro,
Ail nyth a godwn eto,
Mewn rhyw hapusach fro.

"Ac O, ti Dad yr adar,
A Thad pob perchen chwyth,
Gwna'p harwain ni i le diogel
I ail gyweirio'n nyth,
Lle na ddaw plantos diriaid
O hyd i beri brad,
A ninnau a'n rhai bychain
A'th folwn di, ein Tad."


PWY GLEDDIR GYNTAF?

PWY gleddir gyntaf yn y newydd fan?
Ai'r ieuanc hoew ynte'r baban gwan?
Neu o dan goron o benllwydni, yr hen?
Neu'r rhian dlos fu â swynion yn ei gwên?
Yr ateb hwn nis gall ond amser roi,—
I bwy'r dywarchen gyntaf gaiff ei throi.

Ond O, ni'm dawr! pwy bynna'r blaenffrwyth fydd,
Ein Tad orffwysfa dawel iddo rydd;
Y blodau tyner dyfant uwch ei ben,
Gan felus yfed maethlawn wlith y nen;
I'r distaw fedd ni chyrraedd sen y ffol,
A rhaib erlidwyr droir am byth yn ol.

Pwy gleddir gyntaf? Adeg ddaw, nad pwy,
Pan hoff serchiadau llawer yu y plwy
Ganolant yn y fan lle'n ceraint glwys
I huno roed o dan y wyryf gwys;
Ymwelwyr ddont o agos ac o bell
At feddau'r rhai ynt yn y wynfa well.

Pwy gleddir gyntaf? Duw a bia'r drefn;
Y bywyd roes, yn ol ei rhown drachefn.
Ein dyled pennaf ydyw gweithio'n daer
Dros achos Duw, tra 'mhlith y byw ein caer;
Ac Ef rydd inni'n fedd ryw anwyl le,
Ar fin y Cletwr fad, neu 'mhell o dre.


YR EGLWYS MEWN ADFYD.

A gyfansoddwyd ar adeg y troad allan o hen Gapel Llwyn Rhyd Owen, 1876.

DUW ein tadau, Duw ein mamau,
Bydd i ninnau'u plant yn blaid;
Trwm yw'r groes a serth y rhiwiau,
Blinion ofnau yn ddibaid;
Rho'th dangnefedd,
Rhad di—ddiwedd wrth ein rhaid.

Cawsom wenau gwanwyn tirion,
Cawsom brofi hirddydd haf;
Gwelsom lawer hydre rhadlon,
Llwythog ei anrhegion braf;
Am dy fwynder,
Mawl, O cymer, nefol Naf.

Erbyn heddyw chwytha drosom
Groes awelon gaeaf du;
Tywyll odiaeth yw yr wybren,.
Ffoi wnaeth seren gobaith gu;
Dad ein hyder!
A ddaw'n ol yr amser fu?

Clywsom am dy ryfedd gariad,
Daeth i'n profiad ran o'i ddawn;
Gwelwn ol yr hen ffyddloniaid
Ar hyd llwybrau diriaid iawn;
Duw y tadau !
Dod i ninnau gymorth llawn.


YMWELIAD A LLWYN RHYD OWEN.

MAE glaswellt ar y llwybrau,—
Y llwybrau oent mor lân,
Ac eto tyf yn araf
A theneu lwyd ei rân;
Fel pe am beidio cuddio
Ol traed y santaidd lu
Arferent gyrchu yma
O fewn yr amser fu.

Mae'n chwith wrth fyned heibio
I weld y drysau 'nghau,
A hyllion gloion egwyd
'N eu diogel sicrhau ;
'Chaiff awyr bur y bore,
Nac awel iach yr hwyr,
'Roesawiad yma mwyach, —
Mae fel y bedd yn llwyr.

Mae'r awrlais wedi aros
Am flwyddyn gyfan bron,
A hongia'r ddwy hen elor
O dan yr oriel gron;
Y corau ydynt weigion.
Yr esgynlawr 'run wedd,—
A fyddai ddim gwell claddu'r
Ddwy elor mewn rhyw fedd?

Rhyw hwyr wrth fyned heibio,
Mi dybiwn glywed llef
O'r demel wag yn esgyn
At Frenin mawr y nef,—
"Rho inni nerth i ddisgwy!
Yn oriau'r tywyllwch du,
Nes torri'n dirion arnom
Deg wawr dy gariad cu.


"Dy freichiau dyro danom
I'n cynnal yn ddi-gryn,
Rhag inni fyth ymollwng
I ofni digio dyn;
Ac, O Dad, maddeu iddynt
Ddig chwerw eu trawsedd ffol,
Ac â rheffynau cariad
Tyn di hwy ar dy ol.

"Blodeued achos crefydd,—
Gwir grefydd, yn y fro;
Ffyddlondeb taer y tadau
Na lithred fyth o'n co;
Ti roddaist yma'th wyneb,
Adegau, do, heb ri;
Lle, bellach, rhaid addoli,
O Dad! bydd gyda ni."


YSTORM.

(Bay of Biscay, Hydref 7fed a'r 8fed, 1877).

YM mrig y tal hwylbrenni gwichiai'r gwynt,
Tuchanai, ocheneidiai, fel mewn poen;
Mewn gwewyr oedd y tonnau ar eu hynt,
Ymsuddent i ymgodi'n wyn eu ffroen.
Y llong a ddawnsiai ar y llidiog lyn,
Ar allt erchyllaf angau llithrai'n chwai;
Y nefoedd bygddu gauai arni'n dyn,
Yn gwrlid angau arni gorffwys wnai.

Brycheuyn bach y llong ar awr fel hon,
Abwydyn gwan y capten dewr ei fryd;
Y morwr hen, a'i farf fel brig y don,
Sy'n ofal ac yn bryder drosto i gyd;
A ffurf ei anwyl briod draw yn nhref
Ymrithia fel mewn bywyd ger ei fron;
A'r syn ymfudwyr, hed ei galon ef
At rai adawodd ar ei aelwyd lon.

O, dyma chwthwm rolia'r llestr gu
Nes ar ei hochr y telgynga'n glau;
A chwthwm arall! Arglwydd, achub ni
O'r farwol safn am danom sydd yn cau;

Mae'r du waelodion fel ellyllon certh
O rhwng y tonnau yn hylldremio'n gas,
A'r gwlaw a'r cenllysg mewn llifeiriol nerth,—
O Iesu! gwared ni o'th ddwyfol ras.


GOLYGFA.

DYSTYRCH gwyn y tonnau llidiog
Hyrddid hyd yr asur wybr,
Ac orhwng y llif cynddeiriog
Gwaelod moroedd amlwg lwybr;
Ol a blaen y llong ymsaethai
'N wallgo'n y rhyferthwy gwyrdd,
Ac ysgrechai yr hwylbrennau
Fel ellyllon duon fyrdd.


MEDDYLIAU.

MEDDYLIAU prudd a godent dan ei fron,
O dryblith torf profiadau'r amser fu;
Amcanion unwaith wnaent ei fryd yn llon,
Oent wasgaredig, ysigedig lu;
Fel wedi tymest!, main gorsennau yd,
Yn danfa drist, heb degwch ac heb bryd;

Fel teithiwr a ddisgwyliai gyda'r wawr
Fod draw ymhell cyn gwres y canol ddydd;
Ond ar boeth adeg nawn mewn blinder mawr,
Cloff a lluddedig yn ymlusgo fydd ;
A phan yr haul ar ogwydd tua'r môr,
I gynnar orffwys try, heb nerth yn stor.

Pa beth yw un ar gyfer gwae y byd?
Rhyw un dyferyn yn yr eigion yw;
Fel mewn ystorm llais baban yn y cryd,
Ymysg y dyrfa fawr llais proffwyd byw;
Tyr llawer calon yn yr ymgais boeth
I wneyd y byd yn gyfiawn ac yn ddoeth.

Mae drygau hen fel ysol gancar du
Wrth galon fawr cymdeithas i'w hiachau,
Fel gwreiddiau'r onnen dal, yn ddirfawr lu,
Am amser lledu buont a dyfnhau;
Ond ef, y proffwyd ieuanc, gwyd yn gawr
Fel pe yn meddu'r feddyginiaeth fawr.

Ond fel wrth odre'r graig y cura'r don,
Ei distyrch gwyn yn gafod yn y nef;
Er cilio ennyd, gyda llawnach bron,
Ymddryllia eilchwyl gyda rhuol lef;
Y graig ni syfl, ond saif ar feiddgar foes ;
Ac felly'r drygau ydynt bla ein hoes.


Ac eto treulia'r don y graig ei hun,
Wrth ddiflin guro arni nos a dydd;
Am Alwyddyn pery'r graig o'r braidd yr un,
Ond argraff canrif arni'n amlwg fydd;
Un wedd y proffwyd a'i olynwyr clau
A lwyddant pan yn dyfal ymbarhau.

Ond O, 'r amynedd dawel ŵyr pa fodd,
Trwy'r ddunos hir, i lynu wrth ei gwaith!
Mae'n drysor yn y fynwes, dwyfol rodd
I'w meithrin gyda serch a gofal maith;
Tra'n mreichiau cwsg ynghlo y dyrfa fawr,
Hwnt llawer uchel drum hi wel y wawr.

Fel anwyl blentyn fyddai'n hwylio i daith
O bellter daear tua i gartref clyd,
Heb weld ei dad na'i fam am dymor maith,—
Mae'r llong yn araf, O pa hyd? pa hyd?
Mewn hoff freuddwydion gwel ei fam a'i dad
Yn llamu i'w gofleidio mewn boddhad;

Dymuniad tebyg, yn rhinweddol ias,
Sy'n mron yr hwn a fyn leshad ei hil;
Mynyddog donnau hunanoldeb cas
Ef nis dychrynnant, er eu bod yn fil;
Rhyw dirion Raid, fel tragywyddol ddeddf,
A weithia ynddo yn arhosol reddf.

"Ddiwygiwr ieuanc, iti Duw yn rhwydd,'
Medd un sy'n gwybod am y tywydd blin,
"Yn ol dy lafur gonest bydd dy lwydd,
A chysgod gai ar adeg tostaf hin;
Ond Ffydd, am ddewrach Ffydd, dy weddi boed,
A'r olaf elyn sethri dan dy droed.'


Y FFOL A WAWDIA.

"Y Ffol a wawdia."-Apocrypha.

FFOL a wawdia." Gwawdied;
Hen arfer ffol yw hyn;
Ac wedi gwawdio, gwawdied,
Mor fynych ag y myn.
Ni chwerddir cam yn gymwys
Nes newid dŵr yn dân,
A gweithred front o natur
Ni olchir byth yn lân.

Clindardded hen foncyffion
Diwerth hynafol stad
(Mae'r coed fu'n tyfu arnynt
Ar wasgar hyd y wlad),
Gan chwerthin yr ynfydion
O Gletwr hyd y môr;
Ond camwedd bar yn gamwedd
Nes diffodd haul a llo'r.

Mae gallu mawr gan arian,
Mae gallu mwy gan ras;
Mae gallu gan genfigen
A chan uffernol gas ;
Mae gallu mwy mewn cariad,—
Egwyddor bro yr hedd,
Ac ar y gallu yma
Ni bwyswn hyd ein bedd.

Mae'n hawdd troi dynion allan,
Os cyfle fydd yn rhoi;
Os allwedd at y pwrpas,
Gwaith bychan ydyw cloi;
Hawdd porthi gwŷn dialedd,
A throi mewn rhwysg a rhod,—

Ond O, mae Duw'n y nefoedd,
Mae fory eto i ddod.

I ddyn ni roddwyd meddwl
I blygu'n llwfr i'r llawr,
O flaen ystranciau golud
A rhodres munud awr;
Mae ganddo'n hytrach blygu
Ger mawredd Duw pob gwir,
Yr hwn mae dydd ei farnau
Yn dragwyddoldeb hir.

Aiff heibio heddyw dywyll,.
Mae hyfryd wawr gerllaw;
I berchen glân gydwybod
Un arswyd byth ni ddaw;
A leddir, byth nis lleddir
Ag arfau trais y dydd,
Yr unig angau i'w ofni
A ddaw o wendid ffydd.

Wyryfon teg a llanciau,
Boed ynnoch fyth ynglyn
Y meddwl puraidd hwnnw,—
Fod Duw yn fwy na dyn;
Mai nid ar fara'n unig
Y bydd y cyfiawn byw,
Ond ar bob iawn egwyddor
O blaniad Ysbryd Duw.


Y CEILIOG.[9]

Yn ol dull Heinrich Heine.

GEILIOGOD y fro ni ddeffroant
I gyhoeddi y wawr yr un funud;
Ond doeth dduwinyddion ymroant
Gael dynion i gredu'r un ffunud.

Yn nyfnder nos, pan gwyd meddyliau
Am bethau wedi bod;
Yn nyfnder nos, pan ddaw syniadau
Am bethau eto i ddod;
Pan dew y gwyll yn yr ystafell unig,
A'r hun mor fyrr,
Iach lais y ceiliog ar y caddug
Mor felus dyr.

Pwy roes y reddf yn yr aderyn
I eilio cân?
I ddeffro cyn bod neb yn gofyn,
Mor hardd ei rân?
Undonawl, eto fyth mae croesaw
I salm y wawr,
A balch yw yntau ar yr alaw,
Sy hen yn awr.

drefn sydd yn y cor plygeiniol?
I arwain, pwy?
A yw'r eiddigedd yno'n rheol,
Sy bla pob plwy?
Yn hytrach, yw pob gwych aderyn
Ryw ennyd lwys

Ddim yn ymollwng i'w bêr englyn
Heb boen na phwys?

Mae adar ereill fyth yn canu
Yng ngoleu'r dydd;
Ond ti, pan mae y byd yn fagddu,
Yn canu sydd ;
Y tlawd fyfyriwr yn ei 'stafell
Sy hoff o'th si;
Ond un apostol, heb ei gymell,
Ni'th grybwyll di.

Pa frenin ydwyt yn y bore,
Ar uchel glwyd!
A llawer teyrn fel ti fu'n chwareu
'N y bore llwyd;
Ond ymaith ciliodd y mawreddau
Ar adeg nawn,
A distaw gyfaill ydwyt tithau
'N y goleu llawn.

Ond O, mae 'nghalon yn dy garu,
Wyt rydd o dwyll ;
A phan y bore wyt yn canu,
Diddeni 'mhwyll ;
Ac yn y nos sy hirfaith,
Dy sain sy bêr ;
Pan oeddwn ar fy mordaith
Fy ngheiliog oedd y ser.


BEDD GWILYM MARLES.

Nos angau, yw hi'n ddu a hir?
Yw'r bedd arwyddlun gwir ohoni?"


OCHENAID.

TI fuost bellach lawer noson faith,
O Gwsg! heb ddisgyn ar fy amrant flin;
Mae'r cof fel annedd ddadfeiliedig laith,
Heb ddrws na ffenestr, a thrwy'r muriau crin
Awelon broch yn rhuthro, gan ddeffroi
I fywyd ddrychiolaethau, pruddaidd lu;
Gorffwysfa fyddai'n felus, yn lle troi
Fel drws ar golyn, trwy'r tywyllwch du.

Mae'n felus hun y gweithiwr, cynt nis rhydd
Ei braff aelodau ar ei wely i lawr
Na chan ei ludded cysgu'n dawel bydd,
Heb agor amrant nes y gwnelo'r wawr.
Dymunaf weithiau âg ef newid byd,
Gael gwely'n ymyl y murmurog li,
A choed awelog gylch fy mwthyn clyd,—
Pwy ŵyr na ddygai hynny hedd i mi?

Fe gwsg y morwr ar yr hwylbren fry,
Yn iach ei fron, ynghrog rhwng daer a nef;
Tra'r gwynt yn chwythu yn ei udgorn cry,
Bydd ef mewn breuddwyd gyda'i fam yn nhref;
Wyf finnau'n cofio hirgwsg mebyd mau,
Rol dydd o chware cawn freuddwydion per,
Cysgodau'r hwyr wnaent imi lawenhau,
A gwledd oedd gweld y nos a'i myrddiwn ser.

Daw angau'n fuan, mi gaf felus hun,
Fy mam, y ddaear, rydd im wely clyd;
Yr esgyrn doluriedig hyn, bob un,
A garant orffwys wedi curio cyd;
Yn iach, fy mhlant yn iach, fy mhriod mad!
Caraswn aros yn eich cwmni chwi;
Ond gan nad hyn yw 'wyllys dwyfol Dad,
Mae marw'n well na byw yn awr i mi.


DUW SYDD NODDFA A NERTH I MI.

DUW, rho nerth i gario'r groes,
DU Nad ba chwerwed fyddo'r loes ;
Cnawd ac ysbryd ydynt wan
Yn yr ing i ddal i'r lan.

Maith ac unig yw y nos,
Heb na lloer na seren dlos;
Yn dy dadol ofal mawr
Caf yn unig doriad gwawr.

Pan yn cychwyn ar ein taith,
Ni ddisgwyliem hafddydd maith ;
Cwmwl gododd yn y nen,
Hwnnw dorrodd ar ein pen.

Cawsom lawer profiad per,
Cyson brawf o ofal Ner;
A dderbyniwn ar ei law
Ond yn felus inni ddaw?

Diolch am y rhoddion rhad
A estynnaist inni. 'n Tad;
Bach ystyriem ar y pryd
Mor hyfrydol hwynt i gyd.

Y dyfodol yn ddi-fraw
A adawn yn dy law;
Goreu 'th gariad yn ddiau
Gawn dros bythoedd i barhau.


ANADLIADAU

.

TI, gysgod prudd sy dros fy mywyd,
A ei ddim ffwrdd?
Wyt gwmwl ar fy mhur ddyhewyd,
Er doist i'm cwrdd;
Wy'n cofio'r pryd pan oedd fy nyddiau
Fel ffynnon iach,
Neu'r deigryn gloew ar deg ruddiau
Y baban bach.

Oes raid i fywyd ymddirywio
Wrth fynd yn hen,
Yn lle pob gras yn per adfywio
Ar nefol wên?
A yw atdyniad fyth i waered,
Nid weithiau i'r lan?
A ddaw i druan ddim ymwared,
Lle byddo wan?

Chwi deg a chu angylion bywyd
Rhowch help eich llaw
I rywun ddringo'r rhiwiau enbyd,
Sy glaf o fraw;
O dan y llong sydd ar ymddryllio
Ar arw draeth,
Rhyw donnig, crewch, a'i symudo
I'r cefnfor maith.

Mae adgof bell o ryw baradwys
Ym mron pob da,
Ei wyneb 'nol ni phaid a gorffwys
Nes dychwel wna;

Geriwbiaid, gweiniwch eich cleddyfau,
Gwnewch osgordd lu,
I gael y mab afradlon adrau,
Yn grwydryn fu.
 
Chwi aruthr dynghedfennau bywyd,
Beth ydych? Pwy?
Oddiwrth eich ffrewyll pwy a'n gweryd?
Oes Rhywun mwy?
A oes dim Tad, a'i enw anwyl
Yn uwch na chwi ?
A chu ddyfodiad idd ei breswyl
I wael fel fi?

Ni roddaf fyny, er fy ofnau,
Yn iawn mae'r oll,
Yr hyn sy gam a gwyd o'n drygau
Ac aiff ar goll;
Fel tarth y bore a ddyspyddir
Gan wres y nawn,
Ein beiau oll, O, fe'u ceryddir,
I rinwedd llawn.


MELUS.

MELUS iawn i'r claf yw gwely,
Melus gan y teithiwr lety;
Melus yw i flin ymdeithydd
Ei hen fro a'i gartre dedwydd.

Y morwr dewr ar frig y tonnau
Sy'n ymfrwydro â'r elfennau,
Melus ydyw iddo lanio.
Yn y porthladd mae'n ddymuno.

Melus yw i'r oen fu'n crwydro
Gwrdd â'i fam a chwiliai am dano;
Melus ddychwel at yr eiddo
Y dryw bach a lluniaeth ganddo.

Melus i'r hynafgwr gyrraedd
Pen y rhiw, gan faint ei lesgedd;
A llawenydd gan y baban
Allu cerdded witho'i hunan.

Gwelais lanc o Gymru dirion
Draw ymhell yn ngwlad yr estron,
Mewn twymyn boeth, heb allu canfod
Neb o'i gylch oedd yn adnabod.

Aeth ei fam ar edyn cariad
Ac O! fel taniodd ei ddau lygad
Pan ei gwelodd gerllaw iddo
O wir serch yn gweini arno.
Melus ydyw caffael trysor
Fu yn ngholl am hirfaith dymor;
 Llais hen ffrynd sy felus odiaeth
Wedi blwyddi o ysgariaeth.


Melus yw mewn gwlad estronol
Gwrdd â chyfaill ffraeth a siriol;
Melus iawn i glaf ar fordaith
Yw un anwyl yn gydymaith.

Melus yw ar fynydd unig,
Ym mhlith llwybrau dyrysedig,
Lle bo dyeithr-ddyn yn crwydro,
Gael arweinydd i'w gyfrwyddo.

Melus pan fo llwybrau bywyd
Yn cydgwrdd ar ffiniau'r eilfyd
Fod rhyw lais o fewn yn tystio
Na fu'r bywyd ofer drwyddo.


YMHOLIAD

Nos angau, yw hi'n ddu a hir?
Yw'r bedd arwyddlun gwir ohoni?
A bar hi'n dywyll fel yn awr
Am byth heb siriol wawr i dorri?
Ai dyma eithaf tynged dyn,
Heb ddim tuhwnt ynglyn a'i hanes?
Chawn ni ddim cwrddyd mewn rhyw le,
Fel cynt, ryw fore o wanwyn cynnes?



EMYN.

(Ei emyn olaf)

NID gwiw i feidrol ddyn ffaeledig
I herio gallu mawr y nef,
Na rhoddi ffrwyn i wŷn aniddig,
A rhyfyg balch ei ysbryd ef;
Y galon war fo'n ostyngedig,
A'i hanian mewn ufudd—dod gwir,
Bydd hon yn uchel wynfydedig
Dros ddyddiau anfarwoldeb hir.

Os trefnau'r nef yn llwyr nis gallaf
Amgyffred â fy meddwl gwan,
Er hynny yn fy nghalon credaf
Mai iawn yr oll a syrth i'm rhan;
Os chwerw iawn fydd llawer cwpan,
A llawer croes yn drwm i'w dwyn,
Gwn mai Efe sy'n trefnu'r cyfan,
Mewn perffaith gariad er fy mwyn.

Er pan yn blentyn fe'm harweiniodd
Hyd lwybrau dyrus daear lawr,
A'i dyner ofal fe'm dilynodd
Fel llygad mam bob munud awr;

Y rhan sy'n ol o yrfa bywyd,
Mae honno hefyd yn ei law;
Ac Ef, o'i gariad digyfnewid,
A geidw bob rhyw niwed draw.

I dirion freichiau dy drugaredd
Ymollwng imi'n esmwyth gad,
Doed wedyn alar neu orfoledd,
Ni chollaf afael ar fy Nhad;
A phan y bo tywyllwch angau
Yn cau am danaf yn y glyn,
Deheulaw'th ras a'm tywys adre
I wlad y nefol hedd bryd hyn.


Nodiadau golygu

  1. Erbyn hyn y mae bugeiliaid sir Aberteifi yn adnabyddus trwy'r gwledydd y darllennir Saesneg ynddynt. Trwy ei Welsh Witch a'i nofelau ereill, y mae Allen Raine, un o deulu Dafis o Gastell Hywel, wedi swyno cyhoedd Lloegr â'i darluniadau o fywyd ar fryn ac ar lan môr yn sir Aberteifi.— GOL.
  2. Y gan sydd yn hawlio y flaenoriaeth yn y gystadleuaeth hon yw eiddo Tŵr Tewdws; mae hon yn gan diôs; ambell lygeidyn barddonol yn ei sirioli; ac ambell anadliad awenyddol yn dangos meddwl byw. I Tŵr Tewdws, gan hynny, y dyfernir y wobr."—EBEN FARDD.
  3. Ymddangosai y Seren Wib ychydig islaw y Pwyntyddion y rhai ydynt ddwy seren yn nghydser yr Arth Fwyaf, ac a enwir felly "am eu bod yn cyfeirio neu bwyntio yn wastadol at Seren y Gogledd."
  4. Cyfieithiad o Saesneg R. J. J., brawd—yn—nghyfraith yr ymadawedig.
  5. 1865.
  6. Bu farw Mrs Anne Griffith Jones Mawrth 7fed, 1899, yn 46 mlwydd oed.
  7. Nodyn olaf yr Athraw, rhifyn Ionawr, 1867, sydd fel hyn: Ar y 4ydd o'r mis hwn, yn 37, oed, Mary, anwyl briod Golygydd yr Athraw, gan adael tair merch, a mab, ac yntau, i ddwys alaru eu colled anadferadwy."
  8. MARW GOFION.—Mawrth 12fed, yn naw mis oed, ac ym mhen tua deufis ar ol ei mam, Minnie, plentyn ieuangaf Golygydd yr Athraw. Claddwyd hi wrth gapel y Llwyn ym medd ei mam. Dydd ei hangladd (y 14eg) darllenodd a gweddiodd y Parch. Evan Morgan, Ficer Llandyssul, yn y ty; yn y Llwyn dechreuwyd gan y Parch. John Davies, a phregethwyd gan y Parch. D. Evans, B.A.. ar 1 Pedr 1. 24, 25; a gweddiwyd ar lan y bedd gan y Parch. W. Thomas,
  9. Dyma un o'r darnau cyntaf anfonodd i Islwyn pan oedd yn olygydd y golofn Gymreig yn y South Wales Weekly News.
 

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.