Caniadau Watcyn Wyn (testun cyfansawdd)
← | Caniadau Watcyn Wyn (testun cyfansawdd) gan Watkin Hezekiah Williams (Watcyn Wyn) |
→ |
I'w darllen cerdd wrth gerdd gweler Caniadau Watcyn Wyn |
Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader
CANEUON
WATCYN WYN.
WREXHAM:
CYHOEDDEDIG GAN HUGHES & SON, HOPE STREET.
Y CYNWYSIAD
1—Y Ddaeargryn
2—"Pob un i ofalu am ei fusnes ei hun"
3—Yr Afon
4—"Newyrth Dafydd"
5—Tosturi
6—"Os na wna i, mae arall a'i gwna"
7—"Ac ni bydd nos yno"
8—Teimlad Serch
9–Colli'r Trên
10—Adgofion
11—Y Llew
12—Y Chwalwr Cerryg
13—Daniel yn y Ffau
14—Y Goron Ddrain
15—Cwyn y Cystadleuwr Aflwyddianus
16—"Ac felly'n y bla'n"
17—"De'wch, de'wch"
18—Claf yn y Gwanwyn
19—Ifor Cwmgwys
20—Ffarwel
21—Yr Amser Gynt
22—Marweiddiad ac Adfywiad Anian
23—Y Llenladron
24—"Feallai"
25—"O dipyn i beth"
26—Y Glöwyr
27—Sobrwydd
28—Y Sabath Cristionogol
29—Y Dyn Diwyd
30—"Ar noson oer o gylch y tân"
31—Helynt y Meddwyn
32—Gwefrebydd y Llythyrdy
33—"Y lle gwag o'i ol"
34—Boddiad Pharao a'i Fyddin
35—Marwolaeth y Flwyddyn
36—Gwely marw hen Dadcu
37—Hen Walia Wen
38—Codiad yr Ehedydd
39—Ffyddlondeb Crefyddol
40—Y Wawr
41—Gwlithyn
42—Y Ferch a'r Valentine
43—Yr Excursion Train
44—"O! tyr'd i fy Mynwes"
45—"Brawd mogi yw tagu"
46—Rhyfel Ffrainc a Phrwsia
47—Y Lamp Ddiogelwch
48—Parc Dinefwr
49—Y Gwely
50—Y Melinydd
51—Y Peiriant Dyrnu
52—Y Dagrau
53—Englyn
54—Seren Bethlehem
55—"Ar ol"
56—Efengyl
57—Gobaith
58—"Dy Fodrwy Briodasol"
59—Y Llygad
60—Y Friallen Gyntaf
61—Y Goedwig
62—"Tipyn o go"
63—"Yn ôl"
64—"Myn'd i Garu"
65—"Mor llon ydym ni"
66—Yr Adar
67—"Y Gwcw gynta' eleni"
68—Yr Aderyn Dû
69—Dringo'r Mynydd
70—Esgyniad Elias
71—Pryse, Cwmllynfell
72—Trai a Llanw'r Môr
73—Y Meddwyn
74—"Mae nhw'n d'weyd"
75—Oernad yr Asyn
76—Gaing y Glöwr
77—Priodas y Dywysoges Louise ag Ardalydd Lorne
78—Dystawrwydd
79—Castell Dinefwr
80—Mai
81—Y Fronfraith
82—"Y Ferch aeth â fy Nghalon"
83—"Mae rhywbeth yno i mi"
84—Beddargraff dyn ieuanc
85—"Dy Ddydd Pen Blwydd"
86—"Mae Blwyddyn eto wedi myn'd"
87—"Mary"
88—"Bydded, ac felly bu"
89—Y Côr Mawr
90—Marwolaeth yr Iaith Gymraeg
91—"Chwedl"
92—Yr Enfys
93—Gwell genyf fod ar ol fy hun
94—Ymweliad y Cor Cymreig a Llundain
95—Y Menywod Clecog
CANEUON.
Y DDAEARGRYN.
DYSTAWRWYDD arswyd! wasga anadl anian,
Mae calon crcad fel mewn ofn yn llercian:
Rhyw bryder erfyn—wedi lladd pob cyffro,
A dychryn mud ofnadwy—fel i'w deimlo!
Yr awel sydd mor wan ag anadl baban,
Rhy lesg i symud, ïe 'n ofni cwynfan:
Y ddeilen ysgafn rydd—rhy wan i grynu,
Fel pe ba'i llaw tawelwch yn ei llethu;
Sŵn crychiau'r afon yn ymdòni heibio—
Yn nystaw sŵn eu gilydd yn adseinio—
Clustfeinia'r ffrwd ei llais nes yr ymgolla
Y'ngwagder y dystawrwydd a'i derbynia:
Y môr—o'i dwrf dystawaf wedi tewi,
Yn gwrando'i dònau ar y traeth yn tori,
Yn tori 'n araf, mewn prudd su symudol,
I'r lan yn sibrwd arswyd yn olynol—
Maent ar y traeth fel tònau anghyfarwydd
Yn chwilio am le i orwedd mewn dystawrwydd!
Y nefoedd megys llen o brudd—der tawel,
Heb aflonyddu ei phlygion gan un awel:
Ysmotyn clir, na chwmwl, chwaith, ni welir,
Mewn rhyw unffurfiaeth welw fe'i gorchuddir:
Y lliwiau wedi colli yn eu gilydd,
Y cwmwl gymer arall yn obenydd:—
Gorweddant yno'n llengoedd mud, cymysglyd,
Heb ffurf, na lliw—'n amrywio, nac yn symud!
Y creaduriaid fel yn gwel'd, a theimlo,
Eu sylw gan ddystawrwydd wedi ei ddeffro;
Y ddafad, heb yn wybod baid a phori,—
Edrycha'n wyliadwrus dros y twyni:
Yr eidion gwyd ei ben i'r wybren dywyll,
A naturioldeb cnoi y cîl, yn sefyll:
Rhyw ddieithr fref—o'i anfodd a ddianga,—
A gwanc y gwag ddystawrwydd a'i derbynia—
Fel peth ameuthyn, gan ei gollwng heibio
Yr hen glogwyni adsain, i'w dihuno—
Ei gollwng i ymdreiglo yn ddireol,
I farw'n rhywle yn yr annherfynol!
Ysgydwad aden brán a husia'n eglur,
Wrth ysgafn hedeg trwy y blymaidd awyr:
Ei "chrawc" wrth fyn'd ollynga 'n araf allan,
Mor araf braidd ag yw 'r hen blu 'n ehedfan:
Y graig a dyn yr hen aderyn ati,
A'i chongl adsain wawdia 'r llais i golli!
Gan adael y dystawrwydd i deyrnasu,
Ar orsedd y dystawrwydd dwfn o'i ddeutu.
O gyfwng rhyfedd! beth yw'r aros hyn?
Cylchrediad bywyd saif yn fud a syn:
Pa beth achosa 'i arswyd ar y byd?
Pa beth a wna i bob peth lewygu 'nghyd?
Beth yw 'r ofnadwy bersonola 'i hun,
Gerbron y cread nes y lladd bob ffun?
A oes arwyddion drychin yn y nef?
A welir rhai o blant y dymhestl gref?
A yw y daran wedi rhoi i lawr
Ei sedd ar fynwes yr ëangder mawr?
A yw y mellt yn myn'd i wneyd y nen
Yn faes i chwareu dychryn uwch ein pen?
Na, rhywbeth mwy ofnadwy sydd ar droed
Nag un ystorm dramwyodd nef erioed!
A yw y cyfan ynte 'n myn'd i farw,
I farw 'n dawel, heb un bangfa chwerw?
Yw llaw dihoenedd yn lladrata bywyd
O gyfansoddiad cadarn y cyfanfyd?
Yw grym y byd mewn llewyg diymadferth,
Ai 'n tynu anadl at ryw orchest anferth?
Ond—dyna 'r môr yn blino bod yn llonydd,
Teifl dòn i fesur uchder ei geulenydd!
A dyrcha floedd i alw nerth ei waelod,
Bloedd wna i'r graig—i dori bloedd o syndod!
Ei rym gynhyrfir yn ei wely llydan,
Grym byd anhywaeth wedi deffro 'n gyfan!
Pentyra 'i dònau gwyllt ar gefn eu gilydd,
Nes yr ymffurfiant anferth frigwyn fynydd—
Mynydd o gynwrf am y làn yn rhuo,—
Symuda at y greulon graig i'w herio,
A thery ei gwyneb hen à nerth cynddeiriog,
Ac ar ei chopa dawnsia 'i fryniau tònog!
Ymrolia 'i dònau dyfnaf i'r uchelion,
Nes yw y nef yn canfod ei waelodion;
A hagrwch dieithr dwfn ei ddyfnder erchyll,
Yn tremio ar hagrwch prudd yr wybren dywyll:
Ei lid ei hunan a wnai dori 'r heddwch,'
Mae'r oll o'i ddeutu 'n synu—mewn tawelwch!
Ah! dyna ruad dwfn y' mol y ddaear,
Rhuad a bair ei glywed gan y byddar:
Rhuad a wna i dwrf y môr ddystewi,
Rhu fel rhu taran yn ymdreiglo drwyddi :
Ac ergyd y Ddaeargryn—yn ei tharo—
Nes yw ei chyfansoddiad trwm yn 'siglo'!
Rhyw gryndod gwewyr dreiddia 'i chyfansoddiad,
Grym llewygfeydd ysgydwa bwysau 'r cread;
Fel sigla braich y lloerig un a’i dalio—
Y byd yn llaw daeargryn ga 'i ysgytio!
Ymeifl yn nerth y graig nes yw yn crynu,
A'i law fygythiol wna i'r mynydd lamu;
Y bryniau 'n ceisio ffoi pan nesâ atynt,
Ynysoedd gan ei ofn yn crynu drwyddynt!
Ond dyna 'r ergyd mawr, yr ail yn dilyn,
Mor nerthol, nad oes dim mor nerthol ond daeargryn!
Tarawa 'r ddaear nes y neidia 'r graig
Yn ei gwylltineb dros ei phen i'r aig:
Y bryn, mewn dychryn edy ei oesol sedd,
A naid i'r cwm islaw i geisio bedd:
Y môr—a gilia oddiwrth y làn, mewn braw
A saif yn ol a'i dònau yn ei law:
Ynysoedd—suddant i'r difancoll dyfrllyd,
Ac ereill neidia i fynu am eu bywyd;
Agora fedd i gladdu dinas ynddo,
A theifl y mynydd draw yn gauad arno!
Cyffro Daeargryn yn cyffroi y byd,
Nes yw 'r hen greig digyffro 'n gyffro i gyd:
Yn un gynhyrfus chwalfa o Ddaeargryn
Fel tae gynddaredd bywyd y' mhob gronyn:
Gwallgofrwydd wedi gafael yn y cread,
Bywyd y byd yn gwneuthur hunanladdiad :—
Mewn un ymdrechfa erchyll, rhy ddychrynllyd
I ddim ond byd o'i bwyll wneyd dim mor enbyd
Y graig yn trengu! dyna beth ofnadwy!
Ei hocheneidiau 'n uwch na dim rhuadwy;
Pangfa Daeargryn dery ag un ergyd,—
Bob marwol lwchyn i ymdrechfa bywyd!
Mae'r cyfan drosodd o'r trychineb enbyd,
Y cyfan wedi'i wneyd mewn llai na munyd!
Y byd yn ddiymadferth wedi daro,
Heb wybod yn y byd, yr olwg arno:
Dystawrwydd a deyrnasa enyd eto,
Bywyd yn rhwymau llewyg heb ddihuno:
Mae ymwybyddiaeth wedi colli 'r cyfan,
A'r cyfan wedi colli arno 'i hunan!
I adfer bywyd chwytha anadl awel,
A'r llen oddiar y dinystr dyn yn dawel:
Aiff a'r dystawrwydd yn ei llaw i golli—
'R un pryd a llwch yr ymdrech a'r caledi :—
Adfera i gof i'r dyn sy 'n angof dychryn,
A dengys iddo enw y Ddaeargryn—
A gerfiwyd gynau gan ei llaw anghelfydd
Mewn dwfn lythyrenau yn y graig a'r mynydd;
Yr anrhefn erchyll welir lle bu 'n gweithio,
Cyfnewid mawr y fynyd a aeth heibio!
Ac O! drychineb erchyll a chymysglyd,
Ac anrhefn cyfnewidiol a dychrynllyd:
Agen ofnadwy 'n croesi 'r dyffryn prydferth
Idd ei wahanu fel gagenddor anferth;
Y glesni teg oedd wedi ei asio â meillion,
A dorwyd gan fynediad holltiad creulon:
Yr afon brydferth oedd yn ymhyfrydu,
Ar hyd y dyffryn gan ymdroi o ddeutu:—
A lyncwyd gan y ddaear yn ei syched,
Yngwres yr ymdrech boeth a'r frwydr galed:
A'i cheg anniwall yn agored eto,
A lyncai lanw'r môr pe delai heibio.
Y bryniau fu 'n cydeistedd gyda 'u gilydd,
Oddi ar pan luniwyd hwy gan law Creawdydd;—
Yn chwerthin yn eu hen gadernid oesol,
Mewn nerth digryn yn gwawdio'r storm yn heriol:
Yr hen gyfeillion yna wedi gwasgar—
Y cauri yna wedi ildio 'u daear,
A rhai o'r rhai ysgafnaf yn y teulu—
Byth mwy i wel'd eu gilydd wedi eu taflu:
A'r lleill o'u hystyfnigrwydd hen i gilio,
Ar draws eu gilydd, wedi eu chwalu yno—
Eu chwalu 'n chwilfriw gan "anfeidrol nerthoedd,"
Ië, dyna beth yw "dyrnu y mynyddoedd."
Teyrnasoedd a holltwyd ar draws eu haneri,
Ynysoedd a neswyd oddiar eu gorseddi—
Mor rhwydd a mân bethau symudol:
Hen ymerodraethau ddinystriwyd yn gyfan
A llawer disygl—newidiwyd ei drigfan—
Gan nerthoedd y "breichiau trag'wyddol."
Pa faint o'r bryniau oesol a grynasant?
Pa faint o'r mynyddoedd trag'wyddol ysgydwyd?
Pa faint o'r ansigledig a siglasant,
Pa faint o esgeiriau y creigiau a dorwyd?
Pa faint yw rhi 'r dinasoedd gwych a gollwyd?
Pa faint o'r mynyddoedd fu'n "fynydd teimladwy?"
Pa faint o berthynasau 'r dyn ferthyrwyd
Yn ebyrth i rym y "cadernid ofnadwy?"
Myrddiynau gladdwyd yn y fynyd hòno,
Gydgladdwyd rhoed y bryniau i'w gorchuddio;
Yn gymysg lwch a llwch y cedyrn hyny,
Yn mynwent y daeargryn roed i lechu,
Nes daw'r daeargryn mawr—y cyffro ola'—
I'w taflu ar eu traed o lwch y chwalfa:
Pan oedd y byd yn newid lle ei fryniau,
Newidiwyd byd, myrddiynau o eneidiau;
O hen grynedig lanau, y daearol,
I ansigledig fryniau, y trag'wyddol:
Cyfandir gorsedd Duw oedd yn eu derbyn
Rhy drwm i'w grynu byth gan nerth Daeargryn
POB UN I OFALU AM EI FUSNES EI HUN.
RHAID cauad fy ngenau, a chauad fy nghlust,
Am lonydd i ddechreu rhaid peidio dweyd ust:
Pe gwnawn sibrwd gosteg, cegfloeddiai rhyw un—
Pob un i ofalu am ei fusnes ei hun.
Ei fusnes ei hun yw busnes pob un,
Pob un i ofalu am ei fusnes ei hun.
"Tŷ rhydd, a llonyddwch, dystawrwydd, da chwi,"
Yn llinell ddifeddwl o'r gân, ebe fi:
Ond clywsant fi 'n union a bloeddient bob un,
Pob un i ofalu am ei fusnes ei hun.
Wrth dyfu llinellau i dyfu fy nghân,
Lladratai 'u diofalwch fy meddwl yn lân:
Gwrandawn hwy yn gwrando ar eu gilydd bob un—
Dim un yn gofalu am ei fusnes ei hun.
Mae pob dyn yn fusnes dyn arall i gyd,
Gwneud busnes eu gilydd yw busnes y byd—
A dim busnes neb byth, y 'musnes dim un,
Pob un i ofalu am ei fusnes ei hun.
Daeth un yma â busnes yn fusnes i gyd
Fod "Hwna" 'n busnesa 'n ei fusnes o hyd;
Wel gofyn am gân ydoedd busnes y dyn—
Pob un i ofalu am ei fusnes ei hun.
Atebais, er nad oedd yn fusnes i fi,
Ond jest i gael darfod a'r fusnes, i chwi:
Pwy fusnes i fi yw eich busnes chwi 'r dyn,—
Pob un i ofalu am ei fusnes ei hun.
Gofynai rhyw "enbyd" o fusnes yn dŷn,
Pwy fusnes gwneyd cân o ryw fusnes fel hyn?
Wyt ti 'n croesi 'th destyn, yr hurtyn dilun—
Pob un i ofalu am ei fusnes ei hun.
'Be finau, mewn d'ryswch er mwyn dod yn rhydd,
Wel dyma y fusnes sy' 'nawr yn y gwydd:
Os cana' I 'r gân 'dyw ddim busnes dim un—
Pob un i ofalu am ei fusnes ei hun.
Wrth gefnu o'r ail, dyma 'r trydydd i'r tŷ,
Holl fusnes cym'dogaeth mewn corff dynes hy';
Ar draws busnes hon torais ineu fel dyn,—
Pob un i ofalu am ei fusnes ei hun.
Mae eisiau ergydio ar y fusnes o hyd,
A gwawdus farddoni 'r fath fusnes o'r byd,
Ond mae'r hen ddiareb a'r fusnes y'nglỳn——
Pob un i ofalu am ei fusnes ei hun.
Myn rhai nad oes bosibl gwneyd busnes o'r byd,
Heb, "Bawb dros ein gilydd—Duw drosom i gyd.".
Nid dyna y testyn ond hyn 'n enw dyn
Pob un i ofalu am ei fusnes ei hun.
Pwy fusnes a wneir o hen fusnes fel hyn,
Hen gŵys mor unionsyth mewn gwndwn mor dyn:
Cyd—dynu â'n gilydd, a byw dan yr un—
Pob un i ofalu am ei fusnes ei hun.
Ni chauwn y testyn wrth gauad y gân,
Mae 'r hen frawddeg eto yn wir gloew glân:
Yn fusnes pob penill—a dyma hi 'r un—
Pob un i ofalu am ei fusnes ei hun.
Ei fusnes ei hun yw busnes pob un,
Pob un i ofalu am ei fusnes ei hun.
YR AFON.
YN ei gwely—byth yn cysgu,
Ar ei gyrfa—byth yn gorphwys:
Yn y ffynon—byth yn tarddu,
Yn yr aber—byth yn arllwys:
Gloewi ei drych,
A chânu 'n llon,
O grych i grych,
O dòn i dòn:
Rhwng y ceryg, dros y gro,
Byth yn troi 'n ol yn y tro:
Wedi dysgu ei thònau gwan,
I beidio aros yn un man:
Casglu nerth pwy bella teithia,
Penderfyniad yn y troion;
A diwydrwydd, a glanweithdra,
Yn ei thònau 'n wersi gloewon.
NEWYRTH DAFYDD.
R' OEDD Newyrth Dafydd yn y byd
Cyn geni mwy na 'n haner:
'Ran hyny, cyn ein geni i gyd—
Sy'n iengach nag e lawer:
Yn ol ei gyfrif ef ei hun,
A chyfrif dydd ei oedran,
Er hened oedd,—'r oedd yr hen ddyn
Yn henach nag e'i hunan.
'R oedd Newyrth Dafydd yn y byd
Yn barchus i'w ryfeddu:
Mae pethau hen y byd i gyd
Yn hawlio cael eu parchu;
'R oedd hen chwedleuon ynddo 'n llawn,
Rhai henaf yn y gwledydd;
A phob hen chwedl yn barchus iawn
O barch i Newyrth Dafydd,
'S oedd Newyrth Dafydd â'i ben gwyn,
A'i ddoniau yn ddiddiwedd;
Mae pob rhyw henbeth hen fel hyn
Yn gyfoeth o hyawdledd;
Gwnaeth ffrwd ei ddoniau lawer gwaith
I'r gwir fyn'd dros ei lènydd;
'D oedd neb yn fanwl am y ffaith
Yn chwedl Newyrth Dafydd.
'R oedd Newyrth Dafydd yn hen ddyn
Gonestach na'r cyffredin;
Ni ddygodd ddim—oddiar ddim un,
Dim byd o faint ei ewin;
Ond rhoddodd lawer cetyn, do—
O'r hen wrth gwt y newydd;
A d'wedai rhai mae rhoi bob tro
Oedd pechod Newyrth Dafydd.
TOSTURI
MAE 'r wyneb yn welw, a'r fynwes yn brudd,
A'r galon yn suddo 'n iselach bob dydd;
Y gwyneb gwywedig bob dydd yn pruddhau,
Ac halon trueni o hyd yn trymhau.
Y byd dan law gormes yn gruddfan a gawn,
Carcharau y ddaear gan orthrwm yn llawn;
Ond gwyneb tosturi sy'n gwenu o draw—
Trwy ganol y rhai 'n rhyw JOHN HOWARD a ddaw.
Edrychiad tosturi sy'n llygad y dyn,
Tynerwch tosturi 'n ei eiriau bob un;
Ei fynwes dosturiol yn "galon i gyd
Yn rhanu ei gwaed—i archollion y byd.
Mae 'r baban yn marw ar fynwes ei fam,
A'i chalon dosturiol o'i ol bron rhoi llam;
Do! 'hedodd y bach fel ochenaid yn rhydd,
A deigryn tosturi ei fam ar ei rudd.
Y Darfodedigaeth yn gwasgu y ferch,
Ei hanadl mor dyn a llinynau serch;
Tosturi ei chariad fel angel gwyn yw—
Yn ysgwyd ei aden i'w chadw yn fyw.
Tosturi!—hen fynwes êangaf y byd,
Mor gynes y cura dy galon o hyd;
Mae hanes y truan, mae golwg y prudd,
Yn gloewi dy ddeigryn, yn gwrido dy rudd.
Siriolaf y gweni, po dduaf y brad,
Po ddyfnaf yr archoll, mwy llwyr y gwellhad,
Po drymaf y baich, mwyaf oll yw dy nerth,
Pan yn golli bywyd y teimlir dy werth.
Ymdoraist at ddyn o lawn fynwes yr Iôr,
Y fynwes anfeidrol sy' o honot yn fôr;
Tosturi sy'n llifo o honi o hyd—
Tosturi y nef at drueni y byd.
"OS NA WNA I, MAE ARALL A'I GWNA."
MAE 'r byd yn felldith drwyddo i gyd,
A dyn yn dwyllwr—dyna 'r gwir;
Os bydd dyn gonest felly o hyd
Aiff rhwng y lladron cyn bo hir;
Cynygion drwg sy 'n temtio dyn
Sy 'n ceisio byw yn symol dda;
I dd'wedyd rhyngddo ag ef ei hun,
"Os na wna i, mae arall a'i gwna.'
Mae bys hudoliaeth wrthi o hyd
Yn pwyntio 'r peth sy 'n denu gwanc;
Mor hawdded yr ysgoga 'r byd,
Mae wedi ei arfer er yn llanc;
Wrth ddilyn twyll ac arfer gwneyd
Yr hyn sydd ddrwg, a dim o'r da;
'Doe dim os heddyw braidd wrth dd'weyd
Os na wna i, mae arall a'i gwna.
Mae cystadleuaeth wedi myn'd
I fod yn felldigedig 'n awr;
A dynion da yn d'od yn ffrynd
I ddrwg—ond peidio 'i fod yn fawr;
Mae ysbryd yr "Hen Ysbryd drwg"
Yn cydio dynion megys plâ,
A hyn, yn myned fel y mwg—
Os na wna i, mae arall a'i gwna.
Mae hud yr hen ddiareb ffwrdd
Yn gwibio beunydd ar ei daith;
Ond dyna 'r man lle daw i gwrdd
A dyn fynychaf, yn y "gwaith."
Tro sly, nid hir bydd heb ei wneyd,
Mae'r lle yn llawn o negers da;
Nid oes dim amser yno i dd'weyd,
Os na wna i, mae arall a'i gwna.
Mi fum i'n gweithio mis neu ddau
Ar bwys un o'r rhai "arall" hyn;
A minau "golier" dû, fel tae
Yn ceisio byw yn weddol wyn;
Yn plundro dim, a d'weyd y gwir,
Yn gweithio 'r dydd fel gweithiwr da;
Ond dysgodd hwn fi cyn bo hir—
Os na wna i, mae arall a'i gwna.
Ar gornel rhyw hen "dalcen glo,"
'Roedd cyfle iawn i dynu dram;
Fe daflwyd llawer llygad tro
Wrth basio heibio—gwyddoch pam;
Rheolau'r gwaith waha. ddai 'i gwrdd
A'r cnepyn glo—shwd gnepyn da;
Ond hyn a'i cipiodd ef i ffwrdd,
Os na wna i, mae arall a'i gwna.
Aeth rhyw glep fach i'r "gaffer" mawr,
A thrwyddo 'n garn i feistr y gwaith;
Bu 'r dyn a'i cariai 'n eistedd lawr,
Dan faich ei os wrth fyn'd i'w daith;
Nid oedd y peth ddim fawr o beth,
Ddim fawr o ddrwg na fawr o dda,
Ond aeth i dalu yr hen dreth—
Os na wna i, mae arall a'i gwna.
Nid oes dim chwareu teg i gael,
I fynu ceiniog am ei waith;
I fyn'd i'w le yn fradwyr gwael
Geill gonest gyfri' chwech neu saith;
Os daw rhyw anffawd idd ei gwrdd
Rhaid gweithio ar y cynyg ga;
Mae hyn yn taflu dadl i ffwrdd—
Os na wnai di, mae digon a'i gwna,
Rhaid i ddyn beidio bod fel dyn.
Neu beidio byw yr un a fyn;
Fel rhyw un "arall" mae pob un
Yn ceisio byw y dyddiau hyn;
Rhaid byw y'nghanol tân a mwg,
A chyfri' hyny yn fyd da;
A marchog tôr yr Ysbryd drwg——
Os na wna i, mae arall a'i gwna.
'Rwyf fi yn gadael peth fel hyn,
Gwnaed pob un arall yr un petli;
Ac yna daw'r byd dû yn wyn,
O hyn o fai heb arno feth;
Pan ddaw y byd i gyd yn un,
Ni fydd neb arall ynddo'n bla;
Na'r syniad hwn i demtio dyn—
Os na wna i, mae arall a'i gwna.
AC NI BYDD NOS YNO.
Tu hwnt i'r byd,
Tu draw i'r cread mawr i gyd,
Rhy bell i son am gylchdre;
Yn uwch na'r cyfundraethau oll,
Pob cysawd wedi myn'd ar goll:
A'u cysgod wedi blino!
Llonyddwch y cyfandir mawr
Lle rhoed gorseddfaingc Duw i lawr
"Ac ni bydd nos yno."
Gwlad fythol rydd,
O'r cylch, lle dirwyn nos a dydd,
Tywyllu a goleuo.
Dim "boreu a hwyr " yn iaith y ne'
Na haul na lloer yn tremio 'r lle,:
Dysgleirdeb sy'n eu cuddio;
Perffeithrwydd yn goleuo sydd
Heb wyro gradd o "ganol dydd"—
"Ac ni bydd nos yno."
Yr oll fel Duw;
Yr afon bur o ddyfroedd byw:
Fel grisial byth yn llifo;—
A phren y bywyd uwch y dòn,
Heb daflu ei gysgod ar ei bron,
Am na ddaw hwyrddydd heibio;
Y cangau gwyrdd yn tystio sydd,
Dan ffrwythau haf, a "blodau dydd,"—
"Ac ni bydd nos yno."
Lliw dû y nos
Nid oes ar ddim trwy'r Wynfa dlos,:
Lliw gwyn yw lliw'r wlad hòno;
Gwyn yw pob sant yn y gwyn fyd,
A gwynion yw eu gynau' gyd—
Mewn gwyn mae 'r oll yn gwisgo,
D'wed edyn gwynion engyl nen,
A'r gwyn o gylch yr orsedd wen—
"Ac ni bydd nos yno."
Pan fachlud gwawr
Holl oleuadau 'r cread mawr—
Pan d'wyllo'r fynyd hòno;
Pan gaiff y gwyll lywodraeth rydd,
Pan lynco'r nos yr olaf ddydd—
A'r hwyr ddiwedda'n huno!
Ni phyla haner dydd y wlad,
Lle 'r ysgrifenodd bys ein Tad—
"Ac ni bydd nos yno."
Mae Duw yn dân;
A philyga y goleuni glán
I'w droi yn wisg am dano;
Eistedda ar ei orsedd fawr,
A holl belydrau 'r brydferth wawr
O'i amgylch yn dysgleirio!
A'r dydd a dd'wed tra 'r orsedd wen,
A Brenin y goleuni 'n ben—
"Ac ni bydd nos yno!"
TEIMLAD SERCH
TWYSAU teimlad sydd yn gwasgu
Cân, o ddyfnder calon brudd;
Ar y papyr i'th wynebu
Gollwng f' enaid wnaf yn rhydd;
Llethu cariad yn y ddwyfron
Sydd drueni, anwyl ferch;
Mogi pur deimladau'r galon—
Dyna scriw yn gwasgu serch.
Gwasgu llaw, yn llaw anwylyd,
O mor annyoddefol yw;
Pob ysgydwad yn cyrhaeddyd
Calon glwyfus hyd y byw;
Digon poenus ydyw goddef
Gwasgiad tyner law y fun;
Ond rhy boenus rhaid cyfaddef
Yw dirwasgu'm serch fy hun
Cofia fod pob cip—edrychiad
Yn llefaru'n uchel iawn,
Mae pob osgo' yn y llygad,
A phob winc o serch yn llawn,
Ond, os yw dy wên dirionaf
Yn achosi 'chydig gur
Paid a pheidio edrych arnaf—
Edrych wyt ar gariad pur.
Trem ar wyneb un wy'n garu
Sy'n fy ngwanu megys saeth;
Hwnw'n gwrido, ac yn gwenu,
Wna y clwy' yn llawer gwaeth;
Gwên, a gwrid, yn ysgafn ddawnsio
Ar dy brydferth wyneb llon;
Demtia'm calon i'th gofleidio—
I geisio neidio o fy mron!
COLLI 'R TREN.
WEL, do! taw ni marw, mi collais e', do!
Ei golli o fynyd, wel dyma i mi dro;
Mae'r dynion yn edrych mewn gwawd, gyda gwên,
Rhywbeth digwyn hollol yw colli y trên.
Mi collais e', do; mi collais e', do!
Ei golli o fynyd—wel dyma i mi dro!
Er rhedeg a rhedeg yr holl ffordd i gyd,
I geisio cyrhaeddyd y cerbyd mewn pryd,
Er rhedeg nes oeddwn bron tori fy ngwynt,
Dim gwell am na buaswn ryw fynyd yn gynt.
Rhowch weled, a aeth cyn ei amser i ffwrdd?
Os gwnaeth e' dro felly, mi gadwa beth twrdd
Mae'm horiawr a'r aurlais i'r dim yr un man,
Y trên oedd yn iawn, mae'r holl fai ar fy rhan.
Mor bwysig pob gronyn o amser, on'd te,
Fe'n teflir gan fynyd filldiroedd o'n lle;
'Roedd eisieu bod arnaf yn awr yn Cross Inn,
Mae'r trên yno'n dawel a minau man hyn.
Mi wyddwn yr amser cychwynai i'r dim,
Mi wyddwn erioed fod y trên yn un chwim;
Mi wyddwn nad erys i'r ieuanc na'r hen,
A gwn 'n awr trwy brofiad siom colli y trên!
Buasai 'n dda genyf pe buasai rhyw lun,
I roi 'r bai yn rhywle heb arnaf fy hun;
Ni fuasai fy nheimlad pe felly mor gla',
Ond gwn po'dd mae pethau yn bod yn rhy dda.
Mae hyn wedi 'm taflu o'm lle 'n groes i'r graen.
Rhaid myned yn awr yn fy ol yn lle 'mlaen;
Os cwrddaf â llawer o droion fel hyn,
Hi aiff yn lled ddû yn y byd ar ddyn gwyn.
Rhaid myned mewn c'wilydd yn ol tua thre',
Yn engraifft musgrellni trwy ganol y lle;
Mor galed yw'r wers un a'i dysgodd a ŵyr,
Y wers fechan eglur—"rhyw fynyd rhy hwyr."
Mi collais e', do; mi collais e' do,
Wel, do, taw ni marw, mi collais e', do.
ADGOFION.
PAN yw bysedd y blynyddau
Wedi plethu ar fy mhen
Yn sidanaidd laes gydynau
Goron flodau almon wèn;
Ydwyf megys yn breuddwydio
Am y tymor 's llawer dydd;
Ai myfi yw 'r un fu 'n gwisgo
Blodau i'enctyd ar fy ngrudd.
Dros ei ysgwydd heb yn wybod,
Adgof fel yn tremio sydd,
Lawer gwaith yn hyd diwrnod
Ar y dyddiau 's llawer dydd.
Mor gymysglyd yw'r olygfa,
Pan yn edrych ar fy hynt;
Llawer cwmwl ar fy ngyrfa,
Rhyngwyf sydd â'r amser gynt;
Ond mae llanerch boreu bywyd
Byth yn ddysglaer, byth yn glir;
Gallwn feddwl fod haul gwynfyd
Yn tywynu ar y tir.
Ddedwydd oriau! maent yr awrhon
I fy mron yn taflu hedd;
Tremio 'n ol sy'n twymo 'r galon
Ar derfynau oer y bedd;
Mae adgofion ambell eiliad
Yn fy llesgedd ar fin tranc,
Yn fy nwyn, o ran y teimlad,
Yr un fath a phan yn llanc.
Gallwn feddwl fod calonau
Pawb y dyddiau hyny 'n bur;
Nad oedd achos o ofidiau
Nad oedd defnydd poen a chur;
Gwenau serch ar bawb yn disgyn
Fel pelydrau haul ar fryn;
Er nas gallaf ond trwy 'r deigryn,
Edrych ar y dyddiau hyn.
O! flynyddoedd fy ieuenctyd,
Oriau pur o hedd i gyd;
O felusder eich dedwyddyd
Sugnaf gysur yn y byd;
Er i'ch dyddiau hafaidd gilio
Fel y niwl o flaen y gwynt;
Yn fy henaint caf adgofio—
Melus gofio 'r amser gynt.
Dros ei ysgwydd heb yn wybod
Adgof fel yn tremio sydd,
Lawer gwaith yn hyd diwrnod
Ar y dyddiau 's llawer dydd.
Y LLEW.
UWCH deyrn y diffaethwch dû,—o'i orsedd:
Arswyd sy'n teyrnasu;
Llew 'n ei rwysg, a'i ddigllawn ru,
Wna i'r anial mawr grynu!
Y CHWALWR CERYG.
AR ymyl y ffordd
A'i forthwyl a'i ordd,
Yn chwalu 'mlaen:
Ar ei ddeulin heb
Wneyd sylw o neb,
Ond chwalu 'mlaen
Wrth ddilyn ei orchwyl,
Mae ' n dilyn yn ffyrnig;
I ddilyn y morthwyl,
Sy'n dilyn y ceryg,
I'w chwalu 'mlaen.
Yn ymyl y ffos,
O foreu hyd nos,
Yn chwalu 'mlaen
Yr ordd ddaw i lawr
Ar ben y rhai mawr,
I'w chwalu 'mlaen
Hen garn o rhai mawrion
Yw 'rgarn i'w wynebu;
Mor faned a theilchion
O'i ol wedi'i chwalu,
Wrth chwalu 'mlaen.
Er gwaethaf y rhew,
Mae morthwyl y glew
Yn chwalu 'mlaen;
Po lyma' bo'r gwynt,
Ergydia yn gynt,
Ichwalu 'n mlaen;
Pan bo'r ceryg yn eirwon,
Yn drymach, yn gasach,
Disgyna ' r ergydion
Yn gynt ac yn g'letach;
I'w chwalu 'mlaen,
Tydi 'n ieuanc sy'
A'th feddwl yn gry'
I chwalu 'mlaen;
Defnyddia dy ordd
Fel y dyn ar y ffordd,
I chwalu 'mlaen;
Ergydia dy egni
Ar rhyw dalp o fater,
Ar rywbeth fydd iti
Yn enill a phleser,
O'i chwalu 'mlaen.
DANIEL YN Y FFAU.
Y LLEWOD yn y ffau 'n ymdroi oddeutu,
Yr hwyr, a newyn, ddaeth i'w haflonyddu;
Palfalent gylch y lle am ryw ysglyfaeth,
Caledi 'n dechreu deffro rhaib naturiaeth;
Ond taflwyd ysglyf dros y mur i'w canol,
A dyrchai i'w roesawu ru boddhaol!
Ond, dyna 'r oll yn fud—disgynai DANIEL
Ar lawr y ffau, dan gysgod aden angel;
Wrth wel'd ei hurddio saethai o'r nef i'w ddilyn,
A'i gadarn fraich a'i cipiai cyn ei ddisgyn!
Yswatiai 'r llewod â rhyw gil-edrychiad,
Rhag ofn ysgydwad aden ei ddylanwad;
Y cedyrn yn eu cartref oedd yn crynu!
Eu rhwysg, eu rhaib, a'u cryfder wedi eu trechu.
DANIEL yn rhwymau llewyg heb ddihuno,
Ac aden angel yn gwneud anadl iddo
Cyffro yr aden wnai i'r llew lewygu—
Yn cynorthwyo plentyn Duw i anadlu;
Awelon balmaidd, ysgydwadau nefol,
Ail lanwai fywyd yn ei fron lewygol
Ail fywyd pêr-lewygol o fwynhad,
Bywyd a'i anadliadau o wynt y nefol wlad;
Pan ddaeth ei gof a'i hunan-feddiant ato,
Yn nyfnder perygl gwaelod y ffau hòno—
Anadl trugaredd yn ei dyner wylio,
Oedd y peth cyntaf glywodd ef yn cyffro!
Daeth digon o wroldeb i'w olygon,
I'w troi o gylch i weled ei gymdeithion!
Gwynebau llewod, ond edrychiad ŵyn,
Y beilchion hyn yn gwisgo agwedd fwyn;
Y llygaid ffals, llechwraidd, llawn cynddaredd,
Yn lluniau o dynerwch a thrugaredd;
Cerddent o gylch mewn osgo' ymostyngol,
Ac ymddangosiad gwylaidd ond breninol;
Adnabu'r "merthyr" ei fod wedi disgyn
I "ddinas noddfa," o drigfanau 'r gelyn;
Pan daflwyd ef i mewn gan law eiddigedd,
Disgynodd yn y ffau i law trugaredd;
Adnabu nad oedd gelyn iddo yno,
Ond fod calonau 'r teulu o'i du yn curo;
A theimlai wedi dianc trwy'r merthyru
Yn nghwmni dyogel y breninoedd hyny;
lë, dyma deulu, dyma "deulu breiniol,"
Pob un o'i fewn yn frenin gwirioneddol!
Y condemniedig gonest blyg ei liniau,
Y'ngafael â'r hen drosedd a'i carcharai;
Ar allor merthyr yno ei weddi hwyrol
Offryma i Dduw ei Dadau, fel arferol;
Y drydedd waith penlinia am y dydd,
Er yn garcharor, esgyn gweddi 'n rhydd!
Mae gweddi 'n gallu dianc o garcharau
Ni seiliwyd un erioed na's neidia 'r muriau
I entrych nefoedd—dianc o'r lle dyfnaf,
Nis gellir rhwymo 'i throed â'r gadwyn gryfaf
Caledi sy'n ei gwasgu at ei Duw,
Po dryma 'r baich cyflyma i ddianc yw
Y weddi o'r lle dyfnaf aiff gyflyma 'i fynu—
Aeth hon i'r nef cyn darfod ei hanadlu!
Nid oedd un ffenestr yno i'w hagoryd,
I edrych 'n ol i dre', o wyll y gaethglud;
Muriau ei garchar tywyll oedd yn taro
Ei lygaid pan tua Salem' hoff yn tremio;
Ond â ffenestri ei enaid led y pen.
Edrycha a golwg glir i'r nefoedd wen!
Ynghanol gwyll yr hen ffau ddû penlinia,
Y ser yw 'r goleu nesaf a ganfydda',
Ond oddiyno i fynu mae 'n goleuo
Jerusalem y nefoedd sy 'n dysgleirio,
Yn nrych ei weddi, llwyr anghofia 'i flinfyd,
Ei hunan, Babilon, y ffau, y gaethglud.
Mae ffrwd ei ofid prudd yn rhedeg ar i fynu,
Fel deigryn calon bur, i'r llygad yn bwrlymu
Ymgryma yn bechadur llethedig yn y ffau,
A'i faich mewn ocheneidiau'n myn'd i fynu'n ysgafnhau.
Ei galon o gyflawnder ei gofid yn gôrlifo,
A'i Dduw yn nes nag arfer o lawer i'w gysuro
Ymdora gweddi'r Salmydd, yn deimlad byw'n ei lef,
Ei weddi o fol uffern a glywir yn y nef.
Bendith ei Dduw a'i cwyd oddiar ei liniau,
A gwyd ei galon—gwyd ei holl deimladau
Mae'n teimlo'n sicrach yn amddiffyn Duw,
Y brwydra'r llewod er ei gadw'n fyw
Y'nghongl y ffau, y'ngwâl llew, lledorwedda.
Yn teimlo'n awr mor hyf a'r cawr arfera
Ymestyn ei ewynau cryfion yno;
Cyn syrthio i gysgu, syrthia i ymsynio.
"Do, taflwyd fi i mewn i'm dienyddio,
At lewod, a newynwyd er fy llarpio;
Buaswn yn dameidiau gwanc yr awrhon
Pe buasai y bwystfilod yma'n ddynion;
Mae'r dyn a'r bwystfil wedi newid anian,
Bwystfil yn ddyn, a'r dyn yn fwystfil cyfan;
Dynion bwystfilaidd daflai y dieuog
At fwystfilod dynol, llawer mwy trugarog!
Diolch i'r nefoedd, syrthiais ar y llecyn—
Amwyaf o drugaredd trwy holl drigfanau'r gelyn;
Caf lonydd yma i blygu o flaen fy Nuw—
Gweision fy Nhad sydd rhwng y muriau 'n byw;
Do, taflodd fy ngelynion fi i lawr,
I'r man dyogelaf yn holl Babel fawr;
Ni feiddia un o honynt yma nesu,
Arswyd cyfiawnder Duw yn ol a'i tery
Llaw brad ni feiddia estyn bys i'r ffau,
Mae dychryn palf y llew yn ei gwanhau
Ah! bychan ŵyr y gelyn fy mod heno
A'r fath warchodlu cadarn yn fy ngwylio,
Caiff bron luddedig yma anadlu esmwyth hûn,
Heb ofni ei gwasgu allan gan law fradwrus dyn."
Ei feddwl chwery â "fory prophwydoliaeth,"
Mor hawdd a chwareu â "ddoe yr erledigaeth:"
Duw'n gwneuthur ei ddychymyg fel ei go',
I wel'd y fory'r un mor blaen a ddo'
Ei grebwyll wedi ei lanw â phethau y dyfodol,
'Run fath a'i gof â phethau y gorphenol
Y'mlaen o'i afael—gwibia ei phrophwydol feddwl,
Dangosa foreu tranoeth heb un cwmwl
A boreu gwaredigaeth o'r hen ffau,
Yn dangos boreu gwared y genedl yn neshau
Un boreu 'n taflu goleu ar foreu arall mwy,
Hyd foreu—gwaredigaeth y byd o'i farwol glwy'.
Mae gwawr y boreu nesaf i'w godi o'r hen ffau'n rhydd,
Yn gysgod gwan o doriad gwawr Haul boreu 'r trydydd dydd
A boreu dysglaer gwyn y milblynyddoedd—
Dros y bryn pella'—wel yn gloewi 'r nefoedd!
Edrycha' a boreu 'fory trwy ei wawrddydd,
Ar y boreuau yna 'n tori ar ol eu gilydd
Yn y dyfodol pell—fel cylcharlunfa,
Nes gwneyd yr hen ffau ddû mor oleu a gwynfa!
A'i enaid wedi colli yn darllen peth dihanfod,
Y collodd yntau'i hunan mewn hûn yn ddiarwy bod.
Daeth rhwymau cwsg a rhyddid i'w feddyliau,
Rhyddid i baentio llèn gweledigaethau!
Darluniau hun, y golygfaoedd hyny,
A baentia y dychymyg heb eu barnu
Lluniau fel eiddo 'r nos, rhy wyllt, rhy rydd,
Rhaid yw eu plygu heibio gyda'r dydd!
Rhyddid breuddwydio!—dyma ryddid nefol.
Rhyddid yn cyrhaedd dros derfynau rheol
Y'ngharchar fau mae rhyddid i freuddwydio,
Mae rhyddid i freuddwydio am ryddid yno
Yr unig ryddid sydd y'nghyraedd caethyn,
Yn rhyddid breuddwyd, mae mor rhydd ag undyn!
Y duwiol yn y ffau yn cysgu y nos heibio,
Yn treulio nos caethiwed i freuddwydio;
Yr oriau hir yn llawer byrach iddo,
Nag ynt i'r bradwyr wnaeth ei daflu yno,
Gorphwysa'n fil tawelach yn gaeth yn yn ffau'r llewod
Na'r hwn sy'n rhydd, a'i fynwes yn cario ffau cydwybod.
Mae'n huno'n dawel pan ddaw'r boreu heibio
O'r nef i edrych beth yw'r olwg arno
Gwawr boreu ymwared chwery ar ei wyneb,
Gydchwery yno gyda gwên sirioldeb;
A llais ai deffry, braidd cyn deffro 'r awel,
Llef gwaredigaeth yw, yn gwaeddi "Daniel."
Y GORON DDRAIN.
Gwnaed i Eneiniog nen,―y Goron ddrain '
Gerwin ddrych cenfigen
A gwawd byd, yn gwaedu 'i ben,
O drywaniad pob draenen!
CWYN Y CYSTADLEUWR AFLWYDDIANUS.
MAE beirdd a barddoniaeth bron llanw y byd,
Mae cyrddau llenyddol bob wythnos o hyd;
Pob papyr ag enwau buddugwyr heb ri',
Und byth ni chanfyddir fy enw bach i!
Gwae fi yn y byd, gwae fi yn y byd,
Yn cynyg bob cynyg, ond colli o hyd.
'R wy'n cynyg yn fynych, a chynyg yn wych,
'R wy'n canu'n rheolaidd y'ngwyneb y "Drych;"
Ond hyn sydd yn hynod pan ddel dydd y farn,
Fe droir fy nghynyrchion i'r aswy bob darn.
Wrth wneud fy "nghaneuon," 'rwy'n ddedwydd dros ben,
Y'mysg y meddyliau dysgleiriaf is nen;
Ond pan ddel y prawf y dysgleirdeb a ffy,
Maent oll medd y beirniad yn niwliog a dû.
Mae'r oll o'm barddoniaeth yn llawn o'r "peth byw,"
Cynyrchion yr awen ragoraf ei rhyw;
Mae pob llinell drwyddi yn fflamio o dân,
'R wy'n chwysu'n y gwres pan yn nyddu pob cân.
Anfonaf hwy ymaith yn frwd dan yr ha'rn,
I law Mr. Beirniad gael clywed ei farn;
Ond hwnw a dystia'n ddifrifol ei iaith,
Ei fod y'mronsythu wrth ddarllen fy ngwaith.
Pa fodd mae rhigymwyr dienaid yn cael
Gwobrwyo'u cynyrchion oer, sychion, a gwael;
A minau, O druan! sy'n gwneuthur mor ffol,
A chanu'n farddonol bob amser ar ol.
'R wy'n colli fy nghysgu,'rwy'n colli fy chwys,
'R wy'n colli peth amser er gwneuthur pob brys
'R wy'n colli fy mhapyr, fy inc, a fy ngho',
O achos'rwy'n colli y wobr bob tro.
Mi golla'm cymeriad a'm parch, dyna'r gwir,
Mi gollaf a gefais neu enill cyn hir;
Mae rhai'n dechreu pwyntio eu bys ar fy ol,
A'm galw yn grachfardd anffodus a ffol.
Maent hwy yn y teulu yn gofyn mewn gwawd,
"Pa le mae dy wobrau, yr hen boenyn tlawd?"
Mae nghariad yn teimlo yn ddwys, medde hi—
Och! beth yw fy nheimlad fy hun meddwch chwi.
'R wy'n teimlo mewn difrif yn isel iawn, iawn,
Mae calon fy awen o siomiant yn llawn;
Os na fydd honyma'n fyddugol nid wy'
Yn anfon un sill i Eisteddfod byth mwy!
Gwae fi yn y byd, gwae fi yn y byd,
Yn cynyg bob cynyg, ond colli o hyd.
"AC FELLY'N Y BLA'N."
PAN b'oi dipyn yn gwta am getyn o ganu,
Neu ddarlith, neu bregeth, neu frawddeg serch hyny,:
Athrylith dipyn yn dwp,
Hyawdledd wedi myn'd yn stop,
Y geiriau i gyd yn un trwp,
Dim shwd beth a myn'd'mlaen —ddim hop,
Y meddwl trwy'r geg yn rhy stiff i dd'od allan,
A dim byd i gael ond pesychu a hecian;
Dyna lanw mewn araeth, dyna shift dda mewn cân;
Yw llinell fel yma—"Ac felly'n y bla'n."
Mae llu yn byw'n hollol ar gefn rhywbeth felly,
Mae rhyw scil ganddynt hwy i dd'od o bob drysni;
Stori dipyn yn flat,
Y celwydd yn no go;
Wedi anhapo cynyg at
Rywbeth na wna'r tro;
Nhw, troan' a'i troan' yn droion diddiwedd,
Er mwyn iddi ddal heb dd'od'n ol idd eu danedd;
Nhw tynan' hi'n big, nhw darfyddan' hi'n lân,
Ant a hi dan eich trwyn yn rhyw "Ac felly'n y bla'n."
Wyddoch chwi ffordd mae celwydd yn tyfu fynycha',
Mae drwg mawr yn dechreu'i fyd,'yn ddiniwaid ei wala
Ond rho'ir sill mewn gan Shon,
A brawddeg gan Sian,
Dau air wrth y bon,
A thri wrth y bla'n;
A'r hen stori'n ymestyn nes bo'i oddiwrth ei gilydd,
A'r gwir bob yn getyn yn ei gadael rhag cywilydd;
Nes b'o'n fwy o gelwydd na d'weyd fod menyw lan
Wedi bod awr heb wel'd ei llun—"Ac felly'n y bla'n.'
Mae llinell fel yma yn hynod ddefnyddiol,
Heb achos i ddyn ddweyd ei feddwl rhy fanol;
Mae rhai'n holi o hyd
O chwith ac o dde;
Nad oes modd yn y byd
I chwi gauad y ple;
Y ffordd oreu i wneyd a dynion fel yna,
Yw troi cefn arnynt y gair cynta',
A meindio bod eich trwynau chwi a hwy ar wahan,
Ac yn ei cher'ed hi—"Ac felly'n y bla'n."
Mae'n gofyn cael rhywbeth cyn dangos eich talcen,
Hyd yn oed mewn "cwrdd ceiniog" i ganu neu ddarllen;
Mae darllen yn dlawd,
Yn rhy d'lawd yn wir;
A chân ambell frawd
Yn rhy fain hir;
Os cym'rwch chwi gynghor, ni waeth pwy a'i rhoddo,
Peidiwch a d'od a rhagor, os bydd hi'n dechreu flato;
Cer'wch i'r diwedd ar ganol y gân,
A d'wedwch hyd yma—"Ac felly'n y bla'n."
I ni wedi clywed ambell areithiwr;
Yn ymdroi, a phastyno, a chadw mwstwr;
Brawddeg nacaol,
A'i throi o chwith,
Yn un gadarnhaol,
Ac felly am byth;
Yr un peth oedd y pethau trwy'r gwaith ar ei hyd,
'E wnaethai'r un pen y tro yn lle'r penau i gyd;
Buasai'n llawer mwy cryno, cynwysfawr, a glan,
Iddo dd'wedyd wrth ddechreu—"Ac felly'n y bla'n."
Os am dd'od i fyny ar ol dechreu dringo,
Mae'n rhaid i ni ddilyn yn mlaen yn ddi-ildio:
Mae llawer awel groes,
A llawer ergyd gwael;
A llawer cic gan goes
Fer idd ei gael.
Ond os am fyn'd rhagddo, mae'n rhaid peidio lercian,
'Does dim posib' teithio wrth aros yr unman;
Rhaid dilyn heb hidio dyn cas na dyn glán,
Ymroi â'n holl egni—"Ac felly'n y bla'n."
Cyfansoddwyd hon at wasanaethau "Penny Readings"
"DE'WCH, DE'WCH."
MAE dysg yn cynyddu,
A dyn yn dringo' fyny,:
A'r ddaear yn ymgyrhaedd am y gwir
Mae rhyddid yn blaguro,
A rhinwedd yn blodeuo,
A goleu'r nef yn gwenu ar ein tir;
De'wch, de'wch,
De'wch ie'nctyd, de'wch,
De'wch yn y gân i uno i gyd;
Awn, awn, gyda'n gilydd,
Yn un dyrfa ddedwydd,
Dan gânu, awn dan gânu gyda'r byd.
Uchel-nôd perffeithrwydd,
Ar ben bryn enwogrwydd,
Fo'n taro ar y llygad byth yn glir;
Y'mlaen heb ddiffygio
Mae'n rhaid cyrhaedd yno,
Er fod y ffordd yn ddyrus, serth, a hir;
De'wch, de'wch,
Do'wch ie'nctyd, de'wch, &c.
CLAF YN Y GWANWYN.
MEWN bwthyn llwyd ar waelod cwm,
Wrth lan ddolenog orwyllt gornant;
Hen edyn llwydion creigiau llwm
Yn gysgod iddo ymddyrchafant;
Ymgwyd clogwyni'r Mynydd Dû,
Un uwch y llall wrth gefn y tŷ.
O flaen y drws mae llanerch fach,
A thlysni gwanwyn arni chwardda;
Ac ar ei chanol ffynon iach,
A llwyni gwyrddion hwnt ac yma;
A llwybr cul o ffurf Gymreig,
Ymlusga gyda godreu'r creig!
Fan hyn, y'mhell o dwrf y byd,
Mae'r bwthyn bach heb ond ei hunan;
Yr unig swn sy yno o hyd,
Yw sŵn y gwynt a'r gornant fechan;
Ac weithiau trwy y cwm ar hynt
Daw sŵn y gwaith yn sŵn y gwynt,
O fewn y bwth dymunol hwn,
Y'nghanol blagur tyner gwanwyn;
Eistedda'r Bardd yn brudd dan bwn
Afiechyd gyda gwyneb llwydwyn;
Tynerwch gwanwyn y'mhob lle,
Sydd wywdra hydref iddo fe.
Edrycha drwy ei ffenestr fach
Ar dlysni anian mewn gwisg newydd;
A ffugia'i galon fod yn iach,
Am fynyd teimla fel yn ddedwydd;
Ond cofia haint ef yn y fan,
O'r hydref sy'n ei babell wan.
Mae'n clywed sŵn y gornant hen,
Fel arfer yno'n suo' gânu
I'w wyneb gwelw neidia gwên
Pan glyw y fronfraith yn chwibanu;
Y balm rhagoraf idd ei fron,
Yw'r nodau hapus seinia hon.
Daw'r gog o rywle ar ei thaith
I frig y llwyn o flaen y bwthyn;
Bu'n credu trwy y gauaf llaith
Na chlywai byth ei hen ddeunodyn';
Ond daeth, a chyda'i deunod llon
Daeth gobaith i'w bruddglwyfus fron!
Rhyw gyfnod rhyfedd iawn i'r claf,
Yw misoedd bywgynyddol gwanwyn;
Rhyw gymysgedig aua' a haf,
Yn arllwys iddo win a gwenwyn;
Y ddaear yn blaguro'n fyw,
Ac yntau'n marw'n llwyd a gwyw.
Disgyna'r cynar wlaw i lawr,
Fel rhyw ameuthyn ar y ddaear;
A phob planigyn fach a mawr
Mewn nwyfiant yfant yn ddiolchgar;
A'r claf, mae pob peth dan y nef
Yn ddafnau chwerwon iddo ef.
Edrycha ar y ddôl a'r llwyn,
Mor newydd dlws ymddengys Ebrill;
Nid oes un mis mor lawn o swyn
I wahodd cân, a chymell penill;
Mae'r canwyr goreu yn y byd,
I roesaw hwn yn cânu' gyd.
Ond try ei gof ei olwg 'nol,
Cyn glasu'r llwyn, cyn gwrido'r blodau,
Pan oedd y cyfan ar y ddol
Mor wan, mor wyw, mor llwyd ag yntau;
Ond heddyw gwisga iachus wedd
"Feallai gwellaf finau," medd.
IFOR CWMGWYS.
Geiriau a gyfansoddwyd erbyn y Gyngherdd a gynaliwyd er budd ei Gof-golofn.
MAE "IFOR" wedi marw, a'i gladdu yn nhir ei wlad,
Ond mae "Cwmgwys" ar dir y byw, fel dalen o barhad.
Mae'r llaw fu'n ysgrifenu englynion yn y glyn,
Ond mae yr awen hi ar ol, yn fyw yn y rhai hyn;
Mae hen linellau hynod ei wyneb yn y gro,
Ond ceidw'r wlad ei englyn ef bob llinell yn ei cho';
Mae "Ifor" wedi marw a'i gladdu yn nhir ei wlad,
Ond sa'i farddoniaeth byth yn fyw yn ddalen o barhad.
Mae ton o gefnfor hiraeth yn chwyddo fel trwy drais,
Ac awel adgof dafla hon i chwalu ar draeth fy llais;
Wrth ddim ond swnio'i enw, mae'r llais yn myn'd yn lleddf,
Mae hen gyweirnod galârgân o fewn y fron yn reddf;
Mae pen yr "Hen John Prydydd" yn isel yn y glyn,
A ninau heb ddim uwch ben ei fedd ond wylo can fel hyn;
Mae "Ifor" wedi marw a'i gladdu yn nhir ei wlad,
Ond sa'i farddoniaeth byth yn fyw yn ddalen o barhad
FFARWEL.
MAE miloedd o eiriau mewn siarad ar waith,
Nas gwybydd y galon eu bod yn yr iaith;
Diangant yn ysgafn fel ûs gyda'r gwynt,
Heb gyffro y galon un ergyd yn gynt.
Yn dirion â phethau y teimlad i gyd,
Yn araf, yn brin, gyda geiriau mor ddrud;
Rhyw ambell ffarwel sydd yn ddigon o bwn—
Hen air sydd yn gwylltio y galon yw hwn.
Hen ffryndiau cyfarwydd â siarad eu hoes,
Wahanwyd ryw ddiwrnod gan ryw awel groes;
Cyn d'od â'r ffarwel aeth y cyfan yn fud,
Y gair ymadawol a'r olaf i gyd.
Mab hynaf y teulu sy'n myned i ffwrdd,
Heb ddim ond ansicrwydd byth mwy am gael cwrdd;
Pan ddaeth y ffarwel y gair olaf yn nhre',
Bu agos a lladd holl galonau y lle!
Anwylyd, rhyw anwyl, gan udgorn y gâd
A alwyd i dynu ei gledd dros ei wlad,
I wasgu ac wylo, pob un wnaeth ei ran,
Ond i dd'weyd y ffarwel'r oedd y ddau yn rhy wan.
Mam dyner yn marw, a'i phlant yno'i gyd,
Pob peth ond ochenaid a deigryn yn fud;
Wrth golli ei bywyd ei ffarwel a ddaw,
I'r byd a'i rhai bach y'nghyfodiad ei llaw.
Ffarwel yw arwyddair y byd'rym yn byw,
Ffarwel yn ddidaw, sydd yn swnio'n ein clyw;
Mae adsain y ffarwel wrth erchwyn y cryd,
Yn ymyl y bedd, yn hen ffarwel y byd.
YR AMSER GYNT.
WRTH edrych'n ol, dros ysgwydd oes,
O bedwar ugain mlynedd;
Mae llawer newid, onid oes,
A llawer golwg ryfedd;
Mewn cwrs mor hir, ar gwrs y byd,
Mae'r oes yn wir yn groes i gyd,
Braidd mai yr un yw'r dŵr a'r gwynt,
A'r amser gynt.
Newidia'r oes ei liw a'i llun,
Fel y mae'r gwallt yn britho;
Gall penau gwynion ambell un,
Ar gwrs y byd areithio;
Peth hyawal iawn yw blewyn gwyn,
A theneu iawn y dyddiau hyn,
Mae'r holl wallt gwyn sydd yn y gwynt,
O'r amser gynt.
Barddoniaeth nag sydd gyda ni,
Sydd gyda'r penau gwynion
Fel gwyn gydynau'r gwallt mae hi
'N gyfarwydd â'r awelon;
Awelon glân, heb sawyr drwg,
Cyn cyneu tân, a gwneuthur mŵg,
'D oedd dim ond blodau ar hynt y gwynt,
Yr amser gynt.
Caed holl lenyddiaeth gwlad yn llawn
Ar ambell i hen bentan;
A gwres cysurus tân o fawn
Oedd yn ei thoddi allan;
Ar aelwyd lân hen dŷ tô cawn,
O gylch y tân,'r oedd cylch o ddawn,
Heb ofni dim—ond ofni'r gwynt,
I noethi'r tŷ yr amser gynt.
Barddoniaeth y "canwyllau cyrff,"
A glywid y'mhob "tafarn;"
Pan oedd Cwmgarw'n oleu' gyd,
Gan lewyrch Jack y Lantern;
Y pethau heirdd, dych'mygion cain,
Golygon beirdd, ganfyddai'rhain;
Yn gwibio heb ddiffodd trwy y gwynt,
Yr amser gynt.
Y Mynydd Dû, cyn agor rhych
Yr heol dros ei wyneb;
Cyfarthiad ci, a bref yr ŷch,
A glywai'r garreg ateb;
A dawns a chân y "tylwyth teg,"
Ar ben "Brynmân," a phen "Voel deg,"
Cyn son am waith mewn awel wynt,
Yr amser gynt.
Pan oedd pob un yn heliwr byw,
A'i lais mor glir a chynydd;
A sŵn cŵn hela yn ei glyw,
'N beroriaeth ddihefelydd;
Y llwynog coch o flaen y cŵn,
A phawb yn myned yn y sŵn,
Ar ol yr helfa fel y gwynt,
Yr amser gynt.
Pan oedd y carw's llawer dydd,
Yn yfed dwfr yn "Aman;"
A'i gyrn yn wyllt, a'i draed yn rhydd,
Yn frenin y rhai buan;
Cynu tynu clawdd dros fron y llwyn,
Cyn tori lawr y "Derw lwyn,"
Na ffordd, ond ffordd y dwfr a'r gwynt,
Yr amser gynt.
Fy anwyl wlad! ti wyddost ti,
Hen ddyddiau dedwydd oeddynt;
Hen ddyddiau nad oes genym ni,
Ddim ond y son am danynt!
Maent wedi myn'd a myn'd yn llwyr,
Mor llwyr a'r goleu gyda'r "Hwyr,"
Myn'd bellach, bellach, a chynt, gynt,
MARWEIDDIAD AC ADFYWIAD ANIAN.
UN nawnddydd teg, a grudd yr hwyr yn welw,
Mae un o ddyddiau Hydref prudd yn marw!
Rhyw hirddydd haf oedd—gynau byth yn nosi,
A wthiwyd'n ol a'i ddeupen wedi eu tori,
Fel un yn colli—'n ildio'i hoen a'i wychder,
A'i haul yn myn'd i lawr yn gynt nag arfer;
Yn tynu ei anadl ato fel ochenaid,
Nes gyru îas fel awel dro trwy f' enaid;
Ei anadl olaf chwyth trwy frig y goeden,
Ac yn ei gwywdra ysgafn syrthia deilen—
Y ddeilen gyntaf, gan ymdroi'n grynedig
Ar ffordd i lawr, lle cwympa yn glwyfedig,
Y ddeilen fach a'r dydd gyd-drenga'n araf,
Y ddeilen gyntaf yn ei anadl olaf!
Y boreu nesaf ddaw mewn awel heibio,
A'i drwst yn sathru dail er ysgafn droedio;
Gwywedig ddail yn gruddfan trwy eu gilydd,
O dan gerddediad awel y boreuddydd;
Gorymdaith y'nghynhebrwng yr un gynta',
Yn treiglo am y ffos, y bedd, y gladdfa;
Dangosa goleu llwyd y boreu hwnw
Ar len o ddail fod anian werdd yn marw!
Marwolaeth a dramwya gyda'r awel,
Sŵn pell y gaua' ddaw'n fwy hyf ac uchel;
Y dail yn y gwrthwyneb yn ffarwelio
A'u gilydd, pan yw'r trowynt yn d'od heibio;
Cân adar yn diengyd bob yn nodyn,
Fel y dianga'r dail oddiar y brigyn;
Y nos a'r nef yn llwydo'r heulddydd hawddgar
A'r dydd yn taflu ei ddelw ar y ddaear,
Mae llwydni wedi gafael yn y cyfan,
Mae llaw yr Hydref llwyd yn paentio anian.
Gorlifa gwawr hiroediog un o'r dyddiau
Dros lwydrew yn lle gwlith ar lawr y boreu;
Rhyw îas o auaf cynar wedi disgyn,
Fel hen fradychwr i lwydrewi'r gwlithyn;
Pan gwyd yr haul y llen oddiar y glaswellt,
Y glaswellt! na, gwywedig leng o lwydwellt;
Ni chwyd yr un ei ben pan gwyd yr huan
Ei goron! fel pan gwyd y gwlithyn purlan;
Nid oes yr un edrycha am y nefoedd,
Ond gwyro'u penau am y bedd yn lluoedd;
Marwolaeth yn lle bywyd daenwyd drostynt,
Gwaeth na Gilboa yw yr olwg arnynt.
Y Gauaf yn dynesu mewn ystormydd!
Y boreu a'r hwyr yn crymu at eu gilydd,
Anadl y nos yn hir a'i thrwst yn uchel,
Chwibanu'n ymerodrol wna'r groch awel;
O fron y gauaf daw dan ocheneidio—
Rhuthriadau oerllyd gaiff eu chwythu heibio,
Rhuthr uchel ddaw â rhuthr uwch i'w yru—
Mewn rhuthr ar ruthr mae yn ymddifyru;
Ymrua o eisiau ffordd y'nghonglau'r creigiau,
A thry yn ol i chwerwi ei hanadliadau,
Ysgydwa'r goedwig fawr fel aden bluog,
Ysguba'i changau o'i gweddillion deiliog;
Dynoetha'r oll nes yw'r hen greigiau llwydion
Yn tremio allan rhwng y cangau noethion;
I'w gwel'd'n ol colli eu cysgod cyfnewidiol,
Fel hen ddarluniau Duw o auaf oesol.
Mae'r dymhestl wedi marw mewn llonyddwch,
Y cyffro wedi gladdu mewn tawelwch,
Ond ni ddaw gwên ar ol y gŵg i ddilyn—
Diwedd y storm yw diwedd pob blodeuyn.
Y dydd yn cael ei wasgu i nos Rhagfyr,
A'r gaua'n dod i gwrdd ag ef yn brysur;
Y rhew'n y gogledd hoga fin yr awel,
Gollynga hi o'i law mor llym ag oerfel,
I ladd y cyfan ffordd y bydd yn chwythu,
A chloi y bedd â rhew ar ddydd y claddu;
Rhoi sel ar enau'r bedd â darn o ia,
A dyblu'r sel bob nos o newydd wna;
Mae sicrwydd angau'n amlwg ar y cyfan,
Ac oerni marw sydd i'w deimlo y'mhobman;
Y byd mewn bedd yn mynwent gaua'n huno,
A llen o eira gwyn yn ei orchuddio.
YR AIL RAN.
Gwyneb haul yn ol edrycha,
Gwyneb blwyddyn wanaidd wena
Yr hen Haul a Blwyddyn newydd
Wenant y'ngwynebau'u gilydd.
Daw yr haul yn ol o'r gauaf
Ar ei dro yn araf, araf;
Tafl ei wrid ar wyn yr eira,
Edrych arno nes y todda,
Daw yn nes, yn nes bob dydd,
Mwy o'i des a'i wres a rydd;
Cwyd yn gynt ar ol y wawr,
Saif yn hwy cyn myn'd i lawr;
Gwella a gwrido mae ei bryd,
Lloni mae wrth loni'r byd.
Dena serch y llawr yn hawdd,
Tyn friallen o fòl clawdd,
Egyr un o lygaid dydd,
Daw a gwanwyn ar ei rudd.
Ambell flod'yn yma a thraw—
Deifl pob boreu fel o'i law;
Mae pob dydd yn baentiwr byw,
Paentio'r byd â lliwiau Duw;
Mae disgyniad pob pelydryn
Yn cyfodi newydd flod'yn;
Dan ei traed, rhwng tes a chawod
Tyfa blodau heb yn wybod!
Mae pob cawod o ddefnynau
'N codi cawod dlos o flodau;
Gwyrddlesni'n trawsfeddianu llwydni a'i anrhaith,
"Arwyddion Han blodeuo gauaf ymaith.
Gwawr yn Ebrill—prydferth wawrddydd,
Sy'n ymloewi dros y bryniau;
Boreu newydd, awel newydd,
A dail newydd yn cydchwarau;
Tônau dail a thônau adar
Yn cydganu yn y glaslwyn,
I roesawi'r boreu hawddgar,
Boreu gân—y boreu gwanwyn!
Gwanwyn tyner yn ymdaenu
Dros y byd mewn dail & blodau;
Pob diwrnod yn addfedu,
Yn blaguro, gogoniantau;
Gogoneddu y gogoniant
Ddoe wna y gogoniant heddyw,
Nes yw'r ddaear yn addurniant
Ei gogoniant yn ddigyfryw!
Rhyw amrywiaeth anherfynol,
Rhyw farddoniaeth fyw, symudol,
Byth yn newydd;
Crebwyll Duw yn dyfod allan
I farddoni ar leni anian
Lun yr hafddydd!
Pan ddirwyna llaw pob boreu
Leni'r nos oddiar y goleu,
Teithia'r dyddiau fel darluniau
Yn llaw Naf.
Golygfaoedd cyfnewidiol,
Darlunleni swyngynyddol,
Cylcharlunfa yr Anfeidrol
Yn myn'd heibio yn olynol
Tua'r haf!
Mae pob peth yn newid gwawr,
O'r glaswelltyn ar y llawr,
Fry i frig y goedwig fawr
Dringa glesni!
Egyr blodau yn y gwlith,
Pob amrywiaeth yn eu plith,
Blodau coch, a gwyn, a brith,
Heb rifedi.
Mae pob peth yn newydd—yn newydd adfywiol,
Mae pob peth yn ieuanc—yn ieuanc gynhyddol,
Mae iechyd a bywyd yn dawnsio'n ddianaf
Trwy'r cyfan—pob deilen yn chwareu â'r nesaf;
Yr awel yn cerdded drwy fynwes y blodau,
A'i hanadl mor beraidd ag anadl rhosynau,
Y byd yn adfywio,'n adfywio ei hunan,
Adfywiad yn gyru adfywiad trwy anian;
Cyfodi ei ben y'mysg mil wna'r glaswelltyn,
I edrych y'mlaen am Fehefin y flwyddyn.
Y LLENLADRON.
MAE lladron dychrynllyd yn bod yn y byd,
Mae pawb ond rhai gonest yn lladron i gyd;
Mae lladron yn cario y ddaear, gwir yw,
Ac eto ar gefn dynion gonest yn byw.
Llenladron y byd yw'r testyn o hyd,
Lladratwch y byrdwn a chanwch e' i gyd.
I leidr cyffredin gwna pobpeth y tro,
Ond ei gael ef yn lladrad ni waeth beth y f'o
A lladron llenyddol go debyg yw rhai'n,
Lladratant beth wedi' ladrata o'r blaen.
Lladratant hen beth wedi colli ei nerth,
Hen feddwl difeddwl na fyddo ddim gwerth;
Yr hen bethau t'lotaf a welant i gyd,
Hen bethau'n ymguddio o olwg y byd.
Hen ladron truenus mor frwnt yw eu grân,
Yn byw ar fwyd lladrad a dreuliwyd o'r bla'n;
Er llwyddo i ladrata bwndeli o hyd,
Mor deneu a rhacanau er y cyfan i gyd.
Y "corff" mawr o ladron rhyfedda'n y byd,
Un enaid, feallai, fydd rhyngddynt i gyd,
A hen enaid lladrad fydd hwnw bob darn,
Hen enaid gadawiff nhw rywbryd yn garn!
Peth digrif yw gweled dau leidr mor ffol,
Wedi cydio mewn meddwl yn ormod o gol;
A'i gario i fyny i'r "stage" fel dau gawr,
Ond yno,—"hold on," dal, brain,—dyma fe lawr!
Lladratant ar bawb ond eu hunain, rai gwael,
Lladratent oddiyno tae rywbeth i'w gael;
Ond gwelais yn digwydd fod pump, chwech, neu saith
Yn dala eu gilydd cyn hyn ambell waith.
Hyn a'u gwahaniaetha oddiwrth ladron y byd,
Gwna'r un peth y tro rhwng y lladron i gyd;
Ar ol i'r un cyntaf fyn'd ymaith a chôl,
Bydd yr un peth i'r nesaf, a'r nesaf ar ol.
Cymerwch chwi galon, lladratwch y'mlaen,
Mae'r stock ar eich hol'r un mor llawn ag o'ch blaen;
Lladratwch a alloch yn agos a phell,
Fydd llenyddiaeth ddim gwaeth, fyddwch chwithau ddim gwell.
Llenladron y byd, yw'r testyn o hyd,
Lladratwch y byrddwn a chanwch e'i gyd.
FEALLAI.
FEALLAI, meddwn i,
Y caf i gan yr Awen,
I ganu penill, dau, neu dri,
Os trawiff yn ei thalcen;
Pan glywodd fi wrth fy hun yn dweyd,
Yn sych atebodd hithau,
"Os caf fi destyn gwerth i wneyd
Cân, canaf gân, feallai."
Feallai, meddwn i,
Trwy dy fod di a hamdden,
Y gwnaiff Feallai'r tro i ti
Feallai gwnaiff e, Awen?
Y mae feallai'n destyn da,
A digon o derfynau;
Yn awr am dani, ïe neu na,
"Dim un o'r ddau, feallai."
Feallai, meddwn i,
Y bydd hi'n gân aruthrol!
Bydd tarawiadau ynddi hi
Yn taro'r byd barddonol;
Feallai gallai hyny fod,
Mae hyny'n digwydd weithiau;
Er na wnes i fath beth erio'd,
"A na wnei di byth, feallai."
Feallai bydd hi'n gân
Fuddugol mewn Eisteddfod;
Fe fyddai hyny, Awen lân,
Yn enw i dy hanfod;
Mae beirniad campus, medde nhw,
I bwyso dy feddyliau;
Cei chware teg, mi wna fy llw,
"Ie, chware teg, feallai."
"Feallai cawn fy nhalu'n dda,
Feallai na chawn hefyd;
'R wyf wedi cânu mwy na wnaf,
Feallai, ar dy gredyd;
Mae llawer wedi eu twyllo'mhell,
Pell, feallai genyt weithiau;
Nes bod yn waeth, na bod ddim gwell,
Dim diolch, na dim, feallai."
"O DIPYN I BETH."
WRTH chwilio am destyn i foddio fy hun,
Fi basiais ugeiniau heb gwrdd â dim un;
Yr awen yn methu cael testyn er dim,
Ac eto yn cânu barddoniaeth yn chwim;
Yn pasio'n ddisylw o'r peth hyn ar peth,
Ond yn toncan y penill," o dipyn i beth."
'R wy'n cofio am dana'i ond heb gofio pwy oed,
Yn toncan y rhigwm cul cyntaf erioed;
Ond credais, do, cyn fod ei haner ar ben,
Nas gall'swn ei dwyllo fe byth i'r amen;
Ond o'r arswyd anwyl, ni fu erioed fath beth,
Wy'i wedi doncan'r ol hyny—o dipyn i beth.
Feth enbyd yw toncan yr un peth o hyd,
Fe dyniff eich meddwl er eich gwaethaf i gyd;
Heb feddwl din drwg ar y dechreu, mae'n wir,
Ond dyna lle byddwch, o'ch bodd cyn bo hir;
Mae perygl, fechgyn, o doncan'r un peth,
Y peth hwnw fyddwch chwi—o dipyn i beth.
Mae'r "crotyn" yn llefain am fyn'd tua'r gwaith,
A gadael ei ysgol yn chwe' mlwydd neu saith,
Wrth dincan y mandrel o herwydd ei goes,
Yn y cwt bydd e', druan, trwy gydol ei oes;
Nid oedd dechreu gweithio ddim llawer o beth,
Ond aeth g'letach, g'letach o dipyn i beth.
Feddyliodd neb ddim fod dim drwg yn y ple,
Nid oedd y gair cyntaf ddim llawer o'i le;
Ond tynodd y nesaf y nesaf yn uwch,
Aed i doncan a danod hen bethau'n y lluwch,
Aeth rhwng y ddau gyfaill hoff, wyddoch ch'i beth,
Yn dolcog dychrynllyd o dipyn i beth.
Rhaid hefyd i gariad wrth dipyn o bwyll,
Mae ef er mor wirion a thipyn o dwyll
Wrth doncan rhyw dipyn ar hen delyn serch
Chwi ewch bob yn dipyn mor dyner a merch;
Aeth llawer na chrede' nhw un tipyn o'r peth,
I gânu a dawnsio o dipyn i beth.
Mae'r bachgen a'r ferch yn rhoi ambell i dro,
A'r tro byr yn estyn rhyw dipyn bob tro;
Rhyw dipyn yn hwy wrth bob tro b'o nhw'n cwrdd,
Aiff a nhw bob yn dipyn gryn dipyn i ffwrdd;
Nid oedd y tro cyntaf' nes tro, fawr o beth,
Ond aeth yn dro di-droi-' nol, do, o dipyn i beth.
Dilynwch ryw beth, bydd ei ddilyn yn lles,
Yr hyn ddilyn o ddilyn yw dilyn yn nes,
Dilynwch chwi rywbeth ni waeth drwg ai da,
Ewch gydag ef fel aiff y niwl gyda'r chwa;
Daeth pen hwnt y gân, fel daw pen hwnt pob peth,
A'r wers yn naturiol o dipyn i beth.
Y GLÖWYR.
Y GLÖWYR duon, yn eu gwlad,
Y'ngwlad y gwyll, lle byth ni ddyddia;
Pob un yn byw ar ei ystâd,
Y twll neu'r talcen bach lle gweithia,
Y'mhell o oleu heulwen dlos,
Mewn goror ddû, yn curo'n ddiwyd,
Tynghedwyd hwy i weithio'r nos,
Wrth lewyrch lamp ar hyd eu bywyd.
Y glöwyr dewrion!, dyma'r gwyr,
Sy'n disgyn lawr i'r pyllau dyfnion,
A'u breichiau gwydn a'u hoffer dur,
Yn chwalu'r ddaear yn ysgyrion,
Yn dilyn y gwythieni glo,
I fron y graig, a bòl y mynydd;
I ddwyn y cyfoeth sydd y'nghlo.
Daeargell ddofn i wel'd goleuddydd.
Y glöwyr druain! yn eu gwaith
Y'ngafael perygl ar bob eiliad;
A dinystr erch, mae llawer ffaith
Alarus heddyw'n selio'r seiliad;
Bradwrus fflam y tanllyd nŵy,
Sy'n trawsfeddianu'r gwaith ar brydiau;
Ar allor tân, aberthir hwy
I wanc damweiniau'n gelaneddau!
Y glöwyr tlodion! hwy sy'n dwyn
Mewn caled waith y beichiau trymaf;
Mor frwd eu chwys, mor ddû eu crwyn,
Os nad mor gaeth a'r caethion caethaf;
Yn gweithio, ond ei hunain ŵyr
Mor galed, yn y dyfnder dirgel;
Yn toddi fel y ganwyll gŵyr,
Yn difa'u cyrff am gyflog isel!
SOBRWYDD.
YMUNWCH, ieuenctyd, y'mlodau eich oes,
I ymladd dros rinwedd, a sobrwydd, a moes;
Mae'r gelyn mawr meddwdod yn uchel ei ben,
Yn duo cymeriad ein "Hen Ynys Wèn!"
Cydunwch, cydunwch! i guro y cawr,
Sy'n llethu ei filoedd trueiniaid yn fawr,
Ymladdwn a mynwn ei weled ar lawr!
Cydunwn, cydganwn, cydgodwn ein llef,
Yn erbyn drwg meddwdod yn dyrfa fawr gref,
Daw'r ddaear yn debyg i wyneb y nef.
Ymunwch wyr cryfion y'nghryfder eich oes,
I ymladd dros rinwedd, a sobrwydd, a moes;
Mae'r gelyn gwnewch gofio'n ofnadwy o gryf,
A'i fyddin yn feddw! lluosog, a hyf!
Cydunwch, cydunwch, chwi'n gryfion y sydd,
I ollwng hen gaethion y cadarn yn rhydd—
A dymchwel ei orsedd cyn diwedd ein dydd!
Ymunwch, henafgwyr, ar derfyn eich oes,
I ymladd un awr o blaid sobrwydd a moes;
Yr hen law grynedig! yn ysgwyd y cledd,
Y'ngolwg y gelyn, wna welwi ei wedd!
Cydunwn, cydunwn, bob oedran ynghyd,
I ymladd yn ffyddiog dan ganu i gyd,
A'n cân fyddo'n weddi am sobri y byd.
Cydunwn, cydganwn, cydgodwn ein llef,
Yn erbyn drwg meddwdod yn dyrfa fawr gref,
Daw'r ddaear yn debyg i wyneb y nef.
Y SABATH CRISTIONOGOL.
HA! boreu anwyl oedd yr un
Pan y disgynodd Engyl hedd,
I agor carchar Ceidwad dyn,
I dreiglo'r maen oddiar y bedd;
Pan ddaeth Gorchfygwr angau'n rhydd,
Pan adgyfododd Crist mewn bri,
Pan dòrodd gwawr y trydydd dydd—
Y torodd gwawr ein Sabath ni!
Y Sabath hwn wythnosau'r byd
Fydd byth yn gysegredig wyl;
Y Cristion gwan ar hwn o hwn
Dderbynia newydd ieuanc hwyl;
I deulu Duw, rhyw anadl fydd
Y'ngyrfa dyn yr anial dû
Nes y cyrhaeddont oll yn rhydd,
I'r Sabath annherfynol fry!、
O ddedwydd ddydd! dydd enaid yw,
Dydd i ymwneyd â phethau mawr;
Y pethau sydd rhwng dyn a Duw,
Byth bethau'r byd sydd uwch y ilawr;
Dydd taflu'r hen ddaearol bwn,
Sy'n llethu lawr yr enaid trist;
Dydd codi pen yw'r diwrnod hwn—
I gofio adgyfodiad Crist.
Yn mysg y diwrnodau i gyd,
Mor santaidd gysegredig yw;
Fel gallem dybied fod y byd
Materawl yn addoli Duw;
Mae pob peth yn y cread maith,
Fel yn mwynhau rhyw dawel hedd;
Mae'r dydd yn hynod yn y saith,
Rhyw ardeb nefol sy'n ei wedd.
Diwrnod bendigedig yw,
Mae megys darn o'r gwynfyd mawr;
Rhyw engraifft wedi roi gan Dduw
O ddydd y nefoedd ar y llawr;
Y diwrnod hwn mewn santaidd flas,
Holl ddeiliaid Brenin hedd îs nen;
Sy'n plygu glin wrth orsedd gras,
A chodi llef tua'r orsedd wèn.
Hwn yw y dydd mae gweision Duw
'N cyhoeddi y "newyddion da;"
Fod gobaith gwella dynolryw
Yn berffaith iach o'r marwol bla;
Mae holl swyddfeydd y meddyg rhad,
Yn cynyg meddyginiaeth lwyr;
Pa faint o gleifion ga'dd iachad
Y diwrnod hwn? y nef a ŵyr.
Dydd i ddyrchafu mawl a chân,
Dydd i adloni calon sant;
Y dydd disgyna'r nefol dân,
I dwymo crefydd oer y plant;
Bu'r nefoedd ganwaith yn y byd,
Yn hen odfaon mawr yr hwyl!
Y ddaear elai i golli gyd—
Yn nef y Sabath uchel wyl!
Ystyria, anystyriol ddyn,
Y diwrnod hwn sy'n pechu'n rhydd;
Dy fod yn gwawdio Iôr ei hun,
Dy fod yn sathru santaidd ddydd;
Gwna gofio pan y tyr y wawr,
Nad un o ddyddiau'r ddaear yw;
Ond fod y dydd bob mynyd awr,
Yn gysegredig i dy Dduw!
Y DYN DIWYD.
Y DYN diwyd yn dawel—weithia holl
Gyfoeth haf yn ddyogel;
I erfyn misoedd oerfel
Hir, y mae'n trysori mel.
Ei iaith Ef yw gweithio o hyd,—a'i fraich
Yw cryf rym masnachfyd;
Ar ei ysgwydd gref hefyd,
Dyna ben,—mae'n dwyn y byd!
Ei rym nis llethir yma,—i elfen
Ysbrydolfyd treiddia;
Iach olud enaid chwilia,
I ymyl Nêr, y'mlaen â!
"AR NOSON OER O GYLCH Y TAN."
AR noson oer o gylch y tân,
Eistedda'r teulu'n canu cân
Yr eira ar y clos
Yn gwisgo i fantell wen;
A mantell ddû y nos
Yn hongian uwch ei ben;
A gwynt y rhew bron sythu'n lân,
Yn crio y'nhwll y clo,
A'r plentyn ie'ngaf wrth y tân
Yn ei wawdio â "ho lo"
Ysgydwa'r drws, a rhodda floedd,
A throa'n ffyrnig draw
Yr hen astelli mudion oedd
Yn crynu yn ei law;
Ond cânu a chwerthin am ei ben
Mae teulu'r bwthyn tlws;
A'r fam yn gyru "Rhys" a sen
I ffwrdd oddiwrth y drws;
Mor ddedwydd ydyw teulu'r gân
Ar noson oer o gylch y tàn.
HELYNT Y MEDDWYN.
WEL, druan o hono fe, druan, ha! ha!
Wel, O bobol anwyl, ond ydyw e'n dda!
Yn dda iawn o ddrwg,
Yn ddigrif ei hynt;
A'i ben fel y mwg
Yn myn'd fel myno'r gwynt;
Wel, O! be' sy' arno? rhy iach neu rhy gla'?
Wel, O! bobol anwyl, ond ydyw e'n dda?
Wel, O! dyna helynt yw myn'd tua thre`,
Dros heol mor deg, i un trwsgl, fel'fe;
Nis gall gerdded cam,
Na sefyll'r un man;
O herwydd paham?
Rhy gryf neu rhy wan?
Rhy bob un o'r ddau, rhy gryf a rhy wan,
Rhy feddw i sefyll, na symyd o'r fan!
Wel, b'le mae e'n myn'd, neu o b'le mae e'n dod,
Neu dyma lle mae e' yn byw ac yn bod?
Ei fod e mor hoff,
O ganol heol fawr;
Ffordd nad aiff e' off
Neu orwedd i lawr;
"Wedi ei daflu o'r dafarn i maes, mae y ffol,
Dim chwant myn'd tua thre', a dim chwech i fyn'd nol
Wel, druan o hono fe, druan ag e',
Na chele fe rywbeth i'w gludo tua thre;
Ni hidiwn ni ddim
Rhoi chwech i'r hen frawd,
I fyn'd ag e'n chwim
Tua'r tŷ, adyn t'lawd;
"Tae e'n cael chwech i dalu am geffyl a chart,
Ai a hi yn y fynyd i dalu am gwart."
Hold, dyna fe'n cychwyn, fe aiff'n awr i ffwrdd,
Wel, druan, shwd droion sy'n dyfod i'w gwrdd;
Mae'r heol fel I
O'i flaen ar ei hyd;
Ond y'fe fel S sy'
Yn droion i gyd;
Dyna droion cyffredin ei fywyd o'r bron,
Hen droion o'r fath ydyw troion Syr John."
Oh! dacw fe lawr, lawr ar ganol y ffordd,
Wrth gwympo tarawodd y ddaear fel gordd;
A'i ben aeth i lawr
Yn gyntaf i gyd,
Wel, dyna fe'nawr,
Dyna ddiwedd ei fyd.
Mae ei ben wedi cracio, nis gall'sai fe lai,
Dyna ben arno byth!" ond ar ei ben oedd y bai."
Ust! dyna fe'n galw—beth ddywed, e', wys?
"Hei! Ilanwch y cwart yma, llanwch chwi, Miss;
Rho'wch gwart o score 'nawr
I hen fachgen puwr;
A dodwch e' lawr
Fi'ch tala chwi'n suwr."
"Wyt ti ddim yn meddwl byddai'n well ar dy ran.
Na rhoi'r cwart yna lawr, drio dy roi di ar lan."
Wel, druan o hono fe, druan ag e',
Yr helynt a gafodd i fyn'd tua thre';
Pan sobrodd y pen
O! mor sobor o dost;
Mae'r spree i gyd ar ben
Ond prin dechreu mae'r gost;
Rhyw helynt erwinol o dost ac o ddu,
Oedd helynt y meddwyn o'r dafarn i'r tŷ.
GWEFREBYDD Y LLYTHYRDY.
INI'e brynwyd trydan wybrenydd,
Weithiwr hyglodus, yn llythyr gludydd,
Heibio yn awyr chwimwibia newydd,
Llythyrau fil yn dilyn eu gilydd
Hyd wifren y fellten fydd—fel gwreichion,
Rhed doniau dynion ar dân adenydd!
"Y LLE GWAG O'I OL."
MAE'r fynwent fawr yn llanw,
A'r bedd yn myn'd a'r byd;
A'r dynion goreu'n myn'd ar goll
O un i un, o hyd;
Mae'r llwybr ni ddychwela
Yn dỳn gan dyrfa fawr,
Yn gwthio'u gilydd i'w ben draw,
Lle sudda llwch y llawr;
Mae bedd y brenin arian
A cholofn uwch ei ben;
Yn dàl ei goffa uwch y pridd,
A'i enw yn y nen;
A bedd y t'lawd rhinweddol,
A brenin yn ei gôl,
Heb ddim i gadw ei enw ar gof
Ond y "lle gwag o'i ôl."
Fe gleddir tywysogion
Yn gymysg yn y llawr;
Tywysog coron aur ei wlad,
A thywysog meddwl mawr;
Mae enw un yn aros
Ar golofn farmor gwyn;
Ac enw'r llall yn aros sydd
Fel adsain yn y glyn!
Mae'r tywysog aur yn isel,
Ond deil y gareg wen,
Lyth'renau gwych ei enw gwael
Yn uchel uwch ei ben!
Ond bedd y t'lawd rhinweddol
A thywysog yn ei gôl,
Heb ddim i gadw ei enw'n fyw
Ond "y lle gwag o'i ôl."
Mae llais, er wedi tewi,
Yn swnio yn fy nghlyw;
Ac enw, er ei gladdu, byth
Yn rhodio ar dir y byw;
Mae rhinwedd yn llefaru
Yn uwch o lwch y llawr;
Y bedd fel adgyfodiad sydd
I enwau dynion mawr;
Er dyfned yw tir angof,
Er trymed yw y gro;
Yr enw da oddiyno sydd
Yn glynu yn y co';
Mae'r bedd a'r tlawd rhinweddol
Yn dawel yn ei gôl;
Ond saif ei enw'n adsain byth
Yn "y lle gwag o'i ôl."
BODDIAD PHARAO A'I FYDDIN.
"CARLAMWCH y'mlaen!" gwaeddai Pharao yn ffyrnig,
"Y'mlaen neu dianga ein caethion fföedig;
Y'mlaen er mwyn urddas yr Aipht, gref ei gallu,
Y'mlaen a chânt deimlo yr hyn maent yn haeddu;
Y'mlaen! dacw hwynt! y maent oll yn y ddalfa!
De'wch! brysiwch! y môr a'r ddwy graig a'u carchara;
Y'mlaen syrthiant oll i fy ngafael, drueiniaid,
Neu gilio i'r dyfnfôr, a boddi bob enaid."
"Y'mlaen!" medd yr Arglwydd wrth Israel yn dirion,
"Y'mlaen! ni raid i chwi ddim ofni'r gelynion;
Y'mlaen yn fy llaw trwy y dyfnfôr anturiwch,
O afael y creulon diangol a fyddwch."
Y cwmwl arweiniol yn awr a symuda,
A rhwng y ddwy fyddin yn union y nofia
Yn llusern oleulon i'r etholedigion,
Ond niwl a dyryswch i Pharao a'i weision!
Cyfoda Moses ei wïalen wan,
A thery'r môr nes hollta yn ddwy ran;
Holl Israel'n awr y'ngoleu'r cwmwl tân
Symuda mlaen dros balmant tywod glân;
A muriau uchel llyfndeg ar bob tu,
Fel muriau aur y'ngoleu'r cwmwl sy';
Heolydd aur godidog Memphis fawr,
Yn ymyl hon a droai'n llwyd eu gwawr!
Ysblenydd balmant oedd o drefniad Iôr
I ddwyn ei blant i dref trwy ddyfnder môr!
Pa le mae yr Aiphtiaid erlidgar yr awrhon?
Ymlidiant o'u holau fel gwaedgwn erchryslon!
Mae Pharao'n parhau i grochfloeddio "Carlamwch!"
A gyra'n rhyfygus mewn niwl a thywyllwch!
Yr Arglwydd galedodd ei galon ormesol,
Ymruthra i angau yn gwbl anystyriol;
Y'mlaen yn ei gerbyd carlama'n ddiarbed,
Ymlwybra'n ddidaro ar y goriwaered;
Y'mlaen yn ei ryfyg gan regu'r tywyllwch!
O hyd yn crochfloeddio, "Carlamwch! Carlamwch!!"
Y'mlaen y carlama i'r dyfnfedd diobaith,
Y'mlaen yn ei gyfer i safnrwth marwolaeth!
Goleuni gordanbaid yn sydyn ymsaetha
Drwy'r cwmwl!—i Pharao ei gyflwr ddangosa;
Y môr mawr o'i ddeutu fel creigiau aruthrol,
Yn barod i syrthio a'i guddio'n dragwyddol;
A "dinystr anocheladwy"'n gerfiedig
Ar ddysglaer barwydydd y dyfnder rhanedig!
"Yn ol, trowch yn ol!" yn ei ing llefai Pharao,
"Yn ol!" ydoedd lleddfgri y fyddin mewn cyffro;
Yn ol! y mae Arglwydd y lluoedd yn gwgu,
Agorodd ein beddrod yn barod i'n claddu;
Yn ol! ffown yn ol!" yn daranfloedd alarus,
Ymdorai o ganol y fyddin gynhyrfus!
Y'nghanol y llefain a'r cyffro truenus,
Hwy geisient droi'n ol ond yn gwbl aflwyddianus;
Eu cadfeirch ysgafndroed i'r tywod a suddai,
Y'nghanol yr annhrefn dymchwelai'r cerbydau
Dymchwelodd y "Cerbyd Breninol," a syrthiodd
Y brenin i'r llaid, a'i aur goron lychwinodd;
Y meirch, y cerbydau, a'r milwyr anffodus,
Yn gymysg â'u gilydd yn dyrfa druenus!
Y brif—ffordd balmantwyd i'r holl Israeliaid
Sydd weithian yn gors o anobaith i'r Aiphtiaid
Y'mlaen neu yn ol nid oedd neb a symudai—
Y cadarn Jehofa arafodd eu camrau;
Y dyrfa golledig y'nghanol eu hadfyd,
A lefai yn wallgof" Yn ol am ein bywyd!"
"Yn ôl!" ebe llais a gyrhaeddai y galon,
"Yn ol ni ddychwelwch byth mwy fy mhlant beilchion;
Rhedasoch y'mlaen yn rhy bell i ddychwelyd,
Mae'ch angau yn ymyl—terfynir eich bywyd;
Edrychwch, y môr sydd mewn gwanc am eich llyncu,
Mae'r bedd wedi gloddio yn barod i'ch claddu!"
Y môr safnagored oedd fel yn clustfeinio,
Fel cadfarch yn erfyn gorchymyn i ruthro,
Ei donau hirlonydd oedd fel yn ewynu
Yn flysiog wrth erfyn i'r archiad i'w llyncu,
Rhyw su farwol drwyddynt a glywid yn cerdded,
A'r muriau'n gogwyddo i ymollwng i waered!
Cyfodwyd i fyny'r wïalen a'i holltodd,
Ac ar ei gefn tawel yn ysgafn disgynodd!
Ar hyn ei fud-dònau'n gynddeiriog ymchwyddent,
Ac am ben y gelyn yn rhaiadr ymdorent!
Y môr yn rhaiadru ei hunan o'r nefoedd
Yn ffrwd o ddigofaint i bwll ei ddyfnderoedd!
Fel crochdwrf daeargryn, neu fyrdd o daranau,
Rhyw fyd mawr o ddyfroedd yn myned yn ddarnau;
Ymruthrai yn ffyrnig fel llew ysglyfaethus,
Dan ruo yn gymysg ag oerlef wylofus;
Hen Pharao a'i fyddin wedi syrthio'n ysglyfaeth
Yn llu diamddiffyn dan fynwent marwolaeth!
Cyflawnwyd y gorchwyl, y crochdwrf ddarfydda,
Y'nghilfach y graig draw yr adsain ddistawa;
Nis gwelir y bedd, y môr llyfndeg a'i cuddia,
Y dòn uwch y fan yn ei nwyfiant a ddawnsia;
Y môr ymlonydda fel wedi foddloni,
A'r tònau a chwarddant am ben y gwrhydri;
Ac Israel a gân yn iach wedi croesi,
A Pharao a'i fyddin i gyd wedi boddi.
MARWOLAETH Y FLWYDDYN.
MAE'r Flwyddyn yn marw! clywch dafod y gloch
Yn seinio'i galarnad bruddglwyfus;
Yn gymysg a'r awel ei lleddfnodau croch
Gyrhaeddant fy enaid pryderus;
A neidia ochenaid dromlwythog fel tòn
O'm mynwes i chwyddo'r alargan;
Pa beth sy'n cynhyrfu teimladau fy mron!
Marwolaeth yr hen flwyddyn, druan!
Mae'r Flwyddyn yn marw tra'n dawel mewn hun
Y gorphwys cardotwyr ei dyddiau;
Derbynwyr ei rhoddion ni safodd yr un
I wylio i hymladdfa âg angau;
Bu hi â llaw dyner yn dal llawer pen,
I dynu'r anadliad gwan olaf;
Mae hithau yn marw! ond neb dan y nen
Yn ymyl ei gwely nis gwelaf.
Mae'r Flwyddyn yn marw! cyn nos y cryf haul
Rhag gwel'd yr olygfa fachludodd;
Y lleuad wen hithau yn bruddaidd ei hael
Er's oriau o'r golwg ymgiliodd!
Y ser—"y bythffyddlon ser"—safant o hyd,
Ffyddloniaid y nos yw eu henw;
Hwynthwy ar eu oriel a wyliant yn fud
Uwchben yr Hen Flwyddyn yn marw!
Mae'r Flwyddyn yn marw!—adgofion yn llu,
Gydruthirant i'r fynyd ddiweddaf;
Dirwesgir fy enaid yn dyn o bob tu
Gan dorf o'r meddyliau rhyfeddaf;
Rhyfeddu'r myrddiynau darawyd o'r byd,
A dyrnod y Flwyddyn sy'n trengu;
Rhyfeddu fod eiddil yn aros cyhyd,
Wyf fel ar ei beddrod yn sangu.
Mae'r Flwyddyn yn marw!—ein geiriau i gyd,
Argraffwyd yn llawn ar ei gwyneb;
Fe'i cedwir fel cyfrol o hanes y byd
Yn llyfrgell y maith dragwyddoldeb;
Pin amser ysgrifiodd fywgraffiad pob un,
Bob eiliad o'r flwyddyn sy'n marw!
A thr ir ei dalenau gan law" Mab y dyn,"
I'n barnu pan wawria'r" dydd hwnw."
GWELY MARW HEN DADCU.
Y'NGHANOL yr hen ardal,
Y'nghornel yr hen dŷ,
Yn yr hen wely cwpbwrdd " mawr,
Gorweddai hen dadcu;
O'i gylch'r oedd tair cenhedlaeth
Ei blant, eu plant, a'u plant!
Y cynrychioli'r oesau oedd
Yn myn'd a'i fywyd bant;
Rhy wan gan bwysau henaint
I allu cwnu ei ben,
'R oedd hen gydynau gwyn ei wallt
Yn caru'r glustog wen.
Cyfodi ei law dan grynu
Nis gall ei wendid mwy,
Na gwneuthur dim ond taflu trem
Fendithiol arnynt hwy.
Mae'r galon ddiamynedd
Yn curo wrth ddrws y bedd;
A'i einioes hir, a'i anadl fer,
Yn gwelwi, gwelwi ei wedd;
Ar wyneb afon Amser
Bu'n ymbleseru'n hir;
Ond heddyw nis gall droi ei gwch
I groesi at y tir;
"Niagara" tragwyddoldeb
Sydd yn cyflymu'r ffrwd!
Mae'n llithro i golli ar y plant
Y'nghanol dagrau brwd;
Pan ar fyn'd dros y dibyn,
Nis gall'sai wneuthur mwy
Na gollwng deigryn bendith i
Fendithio'u dagrau hwy.
HEN WALIA WEN.
Ar y Dôn "Sleep, Lady, Sleep."
Y NOS yn fwyn, ac awel nef
A'n chwythai'n esmwyth tua thref,
Y môr yn dawel ar ei fron
Dderbyniai'r llong o dòn i dòn;
Y Bardd yn huno mewn mwynhad
Yn swynion breuddwyd am ei wlad;
Ar edyn breuddwyd rhoddai dro
Uwch ben ei enedigol fro;
Ar edyn breuddwyd rhoddai dro
Uwch ben ei enedigol fro;
Ei hen Walia wen, ei Walia wen
Ond llawen floedd y gwyliwr ddaeth
I chwalu cwsg a'i ddeffro wnaeth,
Adseinia'r llais—" Mae tir gerllaw,"
Y tir fel cysgod welir draw;
Mae cribog fryniau Cymru dlos
I'w gwel'd o'r braidd trwy wyll y nos;
Daeth breuddwyd bêr y Bardd i ben,
Ha! wele hwnt ei Walia wen;
Daeth breuddwyd bêr y Bardd i ben,
Ha! wele hwnt ei Walia wen.
Ei Walia wen a thŷ ei dad!
CODIAD YR EHEDYDD.
YR'Hedydd dan chwareu'i adain—o'r nyth
I'r nef ar y plygain;
Ei arwrgerdd i'r wawr gain
Dora'r un pryd a'r Dwyrain!
FFYDDLONDEB CREFYDDOL.
MAE "Coron y Bywyd" draw, draw, y'mro Gwynfa
Yn aros y Cristion, wrth orsedd ei Dad;
Ac arni'n gerfiedig mewn perlau o'r hardda',
"I bawb o'r ffyddloniaid y'm rhoddir yn rhad;"
Mewn man digon uchel mae byth yn y golwg,
Yn holl droion tywyll yr anial i gyd,
A bys y Jehofa'n ei dangos yn amlwg
I bawb o'r rhedegwyr yn rysni y byd.
Mae'r daith tuag ati yn llawn o beryglon,
Mae rhanau yn anial, yn dywyll, yn ddû;
A myrdd o fwystfilod sydd yn y cysgodion
Yn ddigon i ddychryn un gwron â'u rhu;
Rhaid llamu dros rwystrau, rhaid trechu gelynion
A gwylio y galon bob llathen o'r daith!
Ond! golwg o bell ar ddysgleirdeb y goron,
I'r ffyddlon sy ddigon o dâl am ei waith.
Mae'r Diafol i'w wylio bob cam yn yr yrfa,
Fel hen lew rhuadwy ofnadwy o gryf;
A mil o elynion bach, distadl, a'n cwympa,
Bob mynyd yn cynyg yn haerllug a hyf;
'Does eiliad i'w hepian, rhaid ymladd yn ffyddlon,
Mae rhai o'r gelynion yn effro o hyd;
Rhaid rhedeg yr yrfa cyn enill y goron—
"I bawb o'r ffyddloniaid" sy' ar hono o hyd.
Hudoliaeth sy'n brithio ymylon ein llwybrau,
Yn gryfach i'r galon na'r gelyn ei hun;
Mae llaw gyfrwys hûd wedi planu heirdd flodau
I ddenu yr enaid, o bob lliw a llun;
Mae'r ddaear yn dryfrith o bethau heirdd—ffugiol,
Pob dyfais i rwystro crefyddwr sy'n bod;
Mae miloedd erioed wedi drysu'n eu canol,
'Does dim ond "ffyddlondeb" a gyrhaedd y nôd.
Ond os yw y fèrdaith trwy ddyffryn marwoldeb,
A'i llwybrau yn ddyrus, a'i rhiwiau yn serth,
Addewid ein Duw sydd y'nglyn â ffyddlondeb—
I weiniaid mewn rhwystrau cyfrana ei nerth;
Ei oleu i'w harwain, ei ras i'w dyddanu,
Ac anadl ei ysbryd i hwylio y gwaith;
Ei win i'w hadfywio pan wedi llewygu,
A gorsedd a'r "Goron" ar derfyn y daith.
Y WAWR
FFRWD O wawl orlifa
Dros y traeth o sêr!
Gwreichion haul arweinia
Ei fawrhydi ter,
Gloewa'r mân belydrau,
Chwydda'r tònau tân!
Y boreu ddaw
O'r dwyrain draw,
Yn ddylif gloëw glân!
Y GWLITHYN.
LWYTHOG fron nef daw'r gwlithyn,—ar rudd
Boreu o haf, dlws ddeigryn;
Eneiniog urdd, ar ben gwyn
Y gwanaidd wyw eginyn!
Y FERCH A'R VALANTINE.
DAETH merch fach lawn o gariad,
Ar noswaith lawn o wlaw;
A'i henaid yn ei llygad,
A'i chalon yn ei llaw;
I geisio i geisio ceisio,
Am ysgrifenu line
O rywbeth wna ("os gwelwch chwi fod yn dda")
I roi ar y Valantine.
"Pa beth," gofynais iddi,
"Pa beth i chwi am dd'weyd?
Pa fath yw'r penill ichwi
Am i mi geisio wneyd?"
Er na che's fawr o reswm,
Darllenais yn y gwrid
Ar y rhosyn coch ydoedd ar ei boch—
"Ei garu e'"—dyna gyd.
"A gaf fi ddweyd y carech
Gael ateb yn yr ol?
Beth i chwi'n feddwl, fyddech
Chwi'n'styried hyny'n ffol?"
'R oedd d'wedyd beth i dd'wedyd
Yn ormod iddi o dreth!
Ond d'wedodd wrth fyn'd am dd'wedyd fel ffrynd,
"I garu fe, ta beth."
Mor wirion ydyw cariad,
Mor onest, hyn yw'r gân;
Er nas gall dd'weyd ei deimlad
Nis gall ei guddio'n lân;
Mae rhywbeth ynddo'n gadarn;
A rhywbeth ynddo'n feth;
Er fod y byd yn ei gelu i gyd,
Dangosa beth, ta beth.
YR EXCURSION TRAINS.
MAE testyn da genyf, yn ddŵr ac yn dân,
Ond dyna'r drwg yw na b'ai gydag e' gân;
Mae'r train mae' mor fuan, a gwibdaith mor hoff,
Cyn cydio I'n y testyn, braidd, dyna fe off;
'Rwy'n colli y train wrth bendroni fan hyn,
A'r awen yn gwneuthur excursion lle'myn;
Wfft i'r rhai'n! ffordd aiff y rhai'n,
Yr awen, y gân, yr excursion, a'r train!
Rhaid cynyg un arall, mae digon i gael,
Mae'r haf a'r excursions yn hynod o hael;
I ganol y ddinas o ganol y wlad
Af am haner coron, ac af ddigon rhad;
Aiff pawb trwy y pentref yn fawr ac yn fân
Ffwrdd gyda'r excursion, ond y fi a fy nghan;
Deui di, wrth yr awen,'be fi,
Ond trip yn groes hollol, er fy ngwaethaf, fyn hi.
Mae train eto'n gadael y dref am y wlad,
Yr un faint yw'r ffordd, ac mae'r pass 'run mor rhad;
Mae'r train yn chwibanu gael myned i ffwrdd,
Yn foreu cyn daw y trains eraill i'w gwrdd;
Pob un yn y cerbyd gymerodd ei stol,
Mae pawb wedi myn'd, ond y cwpwl sy' ar ol!
Myn'd i ffwrdd, i ffwrdd fel y tân,
'R oedd yr hen drain yn'hedfan yn gynt nag un fran.
Mae "trains yr excursions" fel ein holl bethau da,
Byth braidd idd ei gweled ond y gwyliau a'r ha';
A phan ddaw ameuthyn fel hyn idd ein rhan,
Nid yw'n aros dim ond i ffwrdd yn y fan;
Ond i ffwrdd o rhan hyny y rhaid iddo fod,
I chwi'n gwel'd, neu ni fydd dim excursion yn bod;
Bant â hi—ffwrdd aiff y rhai'n,
Mae'r siwrne y'mhell, a rhaid myn'd fel y train.
Y dydd b'ont yn gweithio hwy gweithiant e'n llwyr,
Yn dechreu yn foreu, yn dilyn yn hwyr;
Dros ganol y rheilffordd yn gyru fel ffol,
A'r holl stations mân yn yr ochrau ar ol!
Heb gauad, nac agor y drws i un dyn,
Ant heibio heb alw dim enw dim un;
Pen y daith ydyw eu hiaith,
A rhy lawn o ffoliaid yn awr bedair gwaith!
Mae pob peth sy' a myn'd yn boblogaidd, fel 'tae,
Aiff un o'r trains hyn a mwy o'r byd nag un dau!
Mae'n gwawdio y trains sydd yn galw y'mhob man,
I fegian ar ddynion i ddyfod i'r làn;
Ac yntau a'r miloedd yn myn'd gydag e',
Yn fywyd, yn gânu, yn floeddio hwre!
Mae dyn yn tynu dyn,
A myn'd yr Hen Drain yn eu tynu bob un.
Mae myn'd yr excursion yn rhedeg â'r byd
I ganol eu gilydd, blith draphlith i gyd;
Rhydd lawr yn mhlith Saeson heb Gymro diffael,
Heb un gair o Saesneg ond ei "dicket" i gael;
Dianga å phentref i ffwrdd yn ei chol,
Ond daw ag e' i gyd ond ambell botel yn ol;
Fel brain disgyna y rhai'n
Yn lluoedd sychedig yn ymyl y train.
"O! TYR'D I FY MYNWES."
EFELYCHIAD.
O TRY'D i fy fynwes, O tyr'd anwyl ferch,
Y fynwes feddianodd dy lun, a dy serch;
Y fynwes sy â'i chysur mor agos i mi,
Y fynwes sy a'i chalon mor agos i ti
O tyr'd i fy mynwes, os yw'th le yn wael,
Fy nghalou sy'n unig o eisiau dy gael;
Ond os i fy mynwes anniben y do'i,
Ti gai y lle goreu a fedr serch roi.
O tyr'd i fy mynwes, dy fynwes di yw,
Cei roesaw fy nghalon, tra byddo ni byw;
Ond os i fy mynwes na ddeui, fy ffrynd,
Caiff angau dy le—a dyna fe wedi myn'd.
O tyr'd i fy mynwes, O gwrando fy nghwyn,
Mae congl gysegredig yn wag er dy fwyn;
O tyr'd i fy mynwes yn gwmni trwy'r byd,
I garu, i fyw, ac i farw y'nghyd.
BRAWD MOGI YW TAGU.
'NoL cario ffon llath yn fy llaw trwy y byd,
A wincio dros level cymdeithas;
A mesur pob un ddaw i gwrdd a fi i gyd;
A levelu pob peth o fy nghwmpas;
Mae'r tala' mor fyr, ac mae'r byra mor dâl,
Dyna'r gwir, ond heb un rheswm dros hyny;
Rhowch chwi'r ddau i sefyll yn erbyn y wàl,
A chewch wel'd mai "brawd mogi yw tagu."
Y dyn tàl, mae hwnw mor uchel i'r lan,
Fel mae'r ddot yn ei ben'e wrth gerdded;
A'r edlych a'i goes e mor fyr, ac mor wan,
Fel prin mae e'n symud wrth fyned;
Yn y rhas rhwng y ddau, feallai cwymp y dyn mawr,
Ac yno am dymor cyn cwnu;
A'r un bach yn ei basio fe'n gelain ar lawr—
Dan chwythu, "brawd mogi yw tagu."
Mae un dyn mor deneu, a'i esgyrn i gyd
Yn grwgnach wrth ddilyn eu gilydd;
A'r llall a'i lwyth bloneg yn tuchan trwy'r byd;
A'i wynt mewn llawn waith yn dragywydd;
Mae'r dyn tew a'i gysgod yn scemo i fyn'd i'r lan
I ben tyle gwastad, dan chwythu;
A rhywbeth yn y cysgod yn sibrwd yn wan,
Wel gyfaill," brawd mogi yw tagu."
Mae hwna, ag arian, ryw haner llon'd Banc,
Rhyw ormod o'r haner o ddigon;
A hwna, prin digon i dori ei wanc,
A'i logell mor ysgafn a'i galon;
Ond craciodd y Banc o dan bwysau yr aur,
Nes ydoedd y ddaear yn crynu;
Pan gwrddodd y ddau heb ddim, hyn oedd y gair
A basiodd, "brawd mogi yw tagu."
Mae e'r gweithiwr caled yn enill ei wres,
Os nad yw e'n enill ei fara;
Er nad yw yn berchen rhyw lawer o bres,
Mor hapus a'r dydd y man hwya';
A'r esgus foneddwr heb ddim byd i wneyd,
Ond gwneyd ei ben yn fwy gwag wrth chwibanu
Mae ar y gweithiwr ormod o g'wilydd i ddweyd,
Wrth hwna, "brawd mogi yw tagu."
Rhyw daro i lawr ydyw ergyd y byd,
Cael pob peth fel am yr iselaf;
A mesur y mawr wrth y lleiaf o hyd,
Ac nid yr un bach wrth y mwyaf;
Fe'n cloddiwyd i gyd o wythïen o glai,
Ini'n gydradd i gyd y fan hyny;
A myn yr hen fyd ein cael yno bob rhai,
Yn y diwedd, "brawd mogi yw tagu."
RHYFEL FFRAINC A PHRWSIA.
1870.
LLAIS "tua'r Rhine!" gynhyrfa y ddwy fyddin,
Adseinia'r floedd, o Paris draw i Berlin!
Arllwysa Ffrainc a Phrwsia eu gelynion,
Fel yr arllwysa'r ffrydiau tua'r afon;
Ffrydiau gelynol sydd yn ymddylifo
Yn gronfa fawr fel môr o ddinystr yno!
Angau'n gwynebu angau yn y dyffryn,
Pob un a'i gledd yn dwyn ei enw—"Gelyn!"
Gelyn i ryddid, gelyn undeb gwladol,
Y cleddyf wedi ei hogi i'w darnio'n hollol;
Gelyn dynoliaeth, gelyn cyfeillgarwch,
Y magnel wedi' lwytho i saethu Heddwch!
Gelyn pob cysur—ïe, gelyn bywyd,
Ffroen hyf y gwn i'r fron anela'i ergyd!
Tafod gwallgofrwydd floeddia'r wys i daro!
Nes taro Heddwch lawr y cyntaf yno;
Y taro trwy rhengoedd yn adseinio,
Genau pob gwn fel genau ateb iddo;
Geneuau y magnelau yn ei daflu
O un i'r llall nes yw y glyn yn crynu!
Yn llais y magnel mae y taro ynfyd,
Fel dyrnod angau'n taro yn erbyn bywyd;
Y rhengoedd cedyrn gwympant yn y taro,
Nes taro'r dyffryn teg, nes yw yn gwrido!
Dwy wlad yn taro'u gilydd mewn cyflafan
Nes taro bywyd eu calonau allan,
Dau rym ofnadwy'n taro mor ddiarbed,
Nes taro'r byd i lewyg wrth eu gweled!
Bydd enw Woerth byth mewn gwaed yn aros,
Bydd bryn y lladdfa erchyll yn ei ddangos;
Ei gopa coch yn dyrchu tua'r nefoedd,
Yn golofn y gyflafan yn oes oesoedd!
A Bryniau Gravelot wedi eu porphori,
Mae rhuddwaed wedi golchi eu gwyrddlesni
Oddiar eu daear—rhuad croch y magnel
Byth ni ymedy â'r hen glogwyni tawel;
I gofio'r frwydr mae bryniau wedi tyfu,
Y bryniau o feirwon yno ga'dd eu claddu!
Sedan yw'r'smotyn cochaf yn y llechres;
Mae gwaed ei meibion yn argraffu ei hanes;
Dinystr nas meiddiai dinystr ei wynebu,
Dinystr i ddinystr arall yn rhoi fyny;
Lle cafodd ymerodraeth Ffrainc ei chwalu
Fel y losgbelen gyntaf saethwyd ati;
Bu'n "bwrw gwaed" mor drwm, nes llifai yn nentydd,
I chwyddo'r Rhine fawreddog dros ei glenydd!
Ymdeithia y gorchfygwr dan ei arfau,
Ac ol ei droed o'i ol fel ol troed angau,
March coch y Prwsiad wibia drwy'r llanerchau,
A gwaed pur gwinwydd Ffranc yn lliwio'i garnau,
Yn gymysg â gwaed dynol lladdedigion,
Sydd yn palmantu llwybr ei yrfa greulon!
Y Loir, bydd wedi blino llifo heibio,
Cyn golchi ei glanau o'r gwaed dywalltwyd yno!
Gwaed y byddinoedd ieuaine, truain, tlodion,
Lofruddiwyd yno'n gelaneddau meirwon!
Plwm ryfel sydd yn faich ar gefn y gwledydd,
Y ddwy o dano suddant gyda'u gilydd;
Wrth dori lawr eu gwyr yn tori eu calon,
Yn suddo i ddyfnach bedd na'u lladdedigion.
Y gwarchae erchyll sydd fel hunllef enbyd,
Yn gwarchae anadl masnach trwy yr hollfyd;
Fel cylch o dân rhy boeth i dori drwyddo,
Pob cysur wedi methu, wedi ildio;
Rhyddid yn rhwym yngafael ei galedi,
Pobpeth yn rhwym, ond newyn a thrueni;
Mae newyn a thrueni, a'u cymdeithion
Yn rhodio o amgylch fel bwystfilod rhyddion!
Gan ladd y rhai y metha'r gwn a'u saethu,
A'r cledd rhy fŷr i'w cyrhaedd i'w trywanu;
Pob peth yn marw, ond sŵn marwol rhyfel,
Sŵn ei drueni'n uwch na sŵn ei fagnel.
Y LAMP DDIOGELWCH.
Y WIFRAWL lamp ddigyfryw—i antur
Glöwr—breinteb rhag ystryw,
Goleu i wel'd perygl yw,
A chod diogelwch ydyw.
PARC DINEFWR.
Os gall y Gogledd ymffrostio yn ei Ddyffryn Clwyd, gallwn ninau yn y Deheu ymffrostio yn Nyffryn Towi, ac nid wyf yn credu fod Dyffryn Clwyd i fyny ag ef mewn pob peth. Yn nghanol y dyffryn prydferth hwn y mae Parc Dinefwr, a thref brydferth Llandilo ar ei gwr dwyreiniol, dan gysgod llwyn o'i hen gedyrn dderw. Y mae yn myned ar enw "Arglwydd Dinefwr."
RHWNG llwyni o goed mae'r glasbarc yn gorwedd,
A mantell o dlysni orchuddia ei fron;
I'w harddu y rhoed holl swynion arddunedd,
Yn amledd ei dwyni ymffrostia yn llon;
Rhyw gasgliad o swynion i'r unman grynhowyd,
Rhyw faes cystadleuaeth, prydferthwch, a swyn;
Er cymaint y ceinion i'r Parc a bentyrwyd,
Mae delw amrywiaeth ar wyneb pob twyn.
Y derw o'i gylch fel rhwymyn o gryfder
I wasgu amrywiaeth ei natur ynghyd;
A'r Towi a ylch ei draed yn ei glöewder,
O barch i'w hynafiaeth wrth basio o hyd;
Y coedydd talgryfion ymgwyd yn eu balchder
I ddangos eu hurddas, a gwel'd eu hystad;
Y cangau glaswyrddion ysgydwant mewn hoender
Wrth edrych o gwmpas ar harddwch y wlad.
Mae pen ambell dwyn yn gwyl ymddyrchafu
Ei goryn glaswelltog rhwng cangau y coed;
A'r hydd dros ei drwyn yn hoenus gyflymu,
Yn frenin y corniog a'r ysgafn ei droed;
Y castell a'r palas a daflodd celfyddyd
I ganol prydferthwch rhamantus y lle;
I'r dwyrain mewn urddas mor siriol a gwynfyd,
Y'nghesail dedwyddwch y gorphwys y Dre'.
Mae sangu yn rhydd o fewn ei derfynau,
Yn nerthu y nychlyd a'i ail lawenhau;
Bywiogrwydd yr hŷdd sy'n treiddio'ngewynau
Mae teimlad fy ysbryd i lamu'n cryfhau;
Ymlwybro'r graianffyrdd trwy goedwig gysgodol
Aml-luniau amryliw yn dô uwch fy mhen,
Neu dlws lecyn glaswyrdd na welir o'i ganol
Ond glesni teleidwiw y ddaear a'r nen!
Pob bryn bychan tlws sy'n britho ei wyneb,
Newidia'r olygfa mor aml ac mor hardd;
Pob twmpath yn ddrws i faes o newydd—deb
Llawn swyn a sirioldeb i lygad y bardd;
Ni welir ei harddwch nes disgyn i'w ganol;
Newidia'r olygfa bob llathen o hyd,
Paradwys prydferthwch, prydferthwch amrywiol,
Rhyw un arddangosfa o natur i gyd.
Y Parc fu'n ystâd Tywysogion y Dehau,
Mae'th gofion hynafol yn orlawn o swyn;
Bu bonedd fy ngwlad yn rhodio'th lanerchau,
Bu'r dewr a'r gwladgarol yn troedio pob twyn;
Rhifedi dy dderw canghenog a phreiffion,
Pob llanerch hynafol yn gwisgo rhyw fri;
Pob peth yn dwyn delw hen sedd tywysogion,
Hen bare tywysogol y parciau wyt ti.
Y GWELY.
Y GWELY hen, gwal i huno—lle addas
I roi lludded heibio;
Cawn roi'r byd i gyd dros go'
Yn ei gôl, bydd Duw'n gwylio.
Nos anedd i orphwys enyd—luniwyd
Rhwng gwlenyn esmwythglyd;
Heb awel na thwrf bywyd;
O naws haf, cynes o hyd.
Y MELINYDD.
LLEIDRYN mor deneu a lledrith—er hynny
Hen gyfranwr bendith;
Ei glod ddaw gan rif y gwlith
I'r dyn gwyn, er dwyn gwenith.
Goludog borthwr y gwledydd—enwog
Gyfranwr dihysbydd;
I bawb daw blawd càn bob dydd,
O law wen y melinydd.
Y PEIRIANT DYRNU
NITHIWR iawn a noethwr ŷd—yw'r enwog
Beiriant dyrnu enbyd,
Cryfach nag un cawr hefyd,
Yn deyrn ar bawb dyrnwr y byd.
Y DAGRAU.
EFELYCHIAD.
PAN gynta'n mysg y merched llon,
Y cwrddais dy wên di,
Nis gallwn ddweyd, er credu bron,
Ei bod yn eiddo'i fi;
Ond pan i mi anwylaf ferch,
Dangosaist ddagrau cudd,
Ah, dyna'r pryd y teimlais serch
Yn eu hawlio ar dy rudd,
Wel, edrych di â llygad llon
Ar wên yr oer a'r rhydd;
Ond cadw er mwyn y fynwes hon,
Dy loewon ddagrau cudd.
Y "gareg lwyd " gan eira'n wen
Belydra wenau gwiw;
Er ynghadwyni oer y nen,
Mor siriol ddisglaer yw;
Ond pan ddisgyna pelydr cry',
A'i effaith fel y tân,
Y gwenau ysgafn ymaith ffy
Yn ddagrau gloew glan.
Wel, edrych di a llygad llon,
Ar wên yr oer a'r rhydd,
Ond cadw er mwyn y fynwes hon,
Dy loewon ddagrau cudd.
ENGLYN.
Hardd wead y Gymroaidd awen,—saif
Yn safon Ceridwen;
Enaid bardd mewn gwreichionen,
Neu aur dlws yn yr awdl hen.
SEREN BETHLEHEM.
SERYDDWYR, Doethion, gwlad y dwyrain draw,
Darawyd i ryw berlewygol fraw,
Gan ymddangosiad seren ddieithr, dlos,
Ar fron y nef ynghanol sêr y nos;
Er fod y llèn yn sêr o rif y gwlith,
Hon oedd yn seren hynod yn eu plith;
Llygad pob serydd dremiai arni'n gyfan,
Fel pe'r ffurfafen fawr heb ond ei hunan!
Rhyw seren newydd wedi ei chreu'r nos hono,
Fel pe i gànt y nefoedd newydd neidio!
Seren na wyddai serydd ddim am dani,
Seren ar ddeddf seryddiaeth wedi tori;
Rhyw seren o'r ddiddymdra wedi cyneu
I ddangos y Gwaredwr gyda'i goleu;
Rhyw seren yn serenu gwawr i'r byd,
Seren a mwy o Dduw na'r sêr i gyd!
Eu llygaid fel seryddwyr oedd yn pylu,
Wrth weled ei gogoniant yn pelydru;
Eu llygaid gweiniaid dery ei gwawl yn gibddall,
Rhaid edrych arni a rhyw olwg arall,
A golwg ffydd yr hen broffwydi'n unig
Yr olwg sydd yn gwel'd yr Anweledig.
Y seren a adnabu llygad ffydd,
Adnabu ei llewyrch fel ei "Seren ddydd."
Symuda'r seren fyw fel llygad angel
Yn araf tua phwynt y bwthyn isel,
Lle safodd gyda thremiad hawddgar llonydd
Uwch ben y cryd a ddaliai ei Chreawdydd!
AR OL.
MAE hen gyfeillion goreu'r byd
Yn myn'd o un i un o hyd,
Mae angau bron eu dwyn i gyd,
A ngadael inau yma;
Mae heulwen bywyd lawer dydd,
Yn gorwedd dan gysgodion prudd—
Angladdau fel cymylau sydd,
Yn croesi ar yr yrfa;
Nid oes yn ol ond ambell un
O ffryndiau boreu bywyd dyn,
Mae'r llais bron dweyd—neb ond fy hun,
Yn ol o'r rhai anwyla'.
Mae troion byr yn llwybr y bedd,
A ffordd i groesi i wlad yr hedd,
Yn nes na therfyn llwydo gwedd—
A ffiniau henaint yma;
Er nad yw'r llwybr hwya'n hir,
Mae lluoedd wedi blaenu'n wir,
Yn nhroion byr yr anial dir,
Wrth groesi ar yr yrfa;
Mae teithio mlaen yn orchwyl tŷn,
'Nol colli cwmni hoff fel hyn,
Mae'r llais bron gwaeddi am y glyn—
Ar ol y rhai anwyla'.
EFENGYL.
ANWYL lais Efengyl hedd,—i fyd erch
Tafod aur trugaredd;
Rhydd ras Iôr oddiar ei sedd,—
Yn galw i'w ymgeledd.
GOBAITH.
TI, Obaith anwyl, hen gydymaith dyn,
Dy hanfod fel dy enw, byth yr un;
Yn dilyn trwy holl chwerwderau'r glyn,
Ganolnos ddu yn dangos boreu gwyn;
Yn paentio lluniau ffawd ar wybr ein hoes,
Yn troi y gwynt o'n tu heb awel groes;
Yn nodi'r da, a cheisio celu'r drwg,
Yn dangos siriol wên, a chuddio gwg;
Yn nerthu'r gwan, a gwneyd y llesg yn gry',
Yn dweyd wrth y pen isel, "edrych fry;
Yn lloni'r galon o dan bwys ei chur,
A chwpaneidiau o'th feluswin pur;
I'r llygad gan ei ddagrau'n dywyll sydd,
Dy enw di sydd megys toriad dydd;
Pan yw y byd o'n cylch yn cwympo i'r bedd,
Disgleiria pelydr bywyd yn dy wedd.
Y byd heb Obaith fyddai'n wag a llwm,
Pob awr yn llethu'r oes fel hunllef trwm;
Y byd heb Obaith fyddai'n fan dihedd,
Mwy oer a thywyll na therfynau'r bedd;
Rhyw fynwent eang lawn o brudd—der mud,
Heb son am fywyd, dim ond marw i gyd.
Melusydd einioes—pan yw cysur byd
Yn ffoi a'n gadael, glyni di o hyd;
Tydi yw anadl bywyd llwch y llawr,
Tydi sy'n cadw'n fyw y dyrfa fawr;
Bu llawer pen yn gorphwys ar dy fron,
'Nol colli pobpeth ar y ddaear gron!
Mae oriau'n goddiweddyd marwol ddyn,
Pan na fydd neb yn agos ond dy hun;
Y tlawd, yr unig, a'r trallodus hen,
Sydd yn dy wyneb di yn cwrdd â gwên;
Esmwythi di obenydd gwely'r cla',
Dywedi wrth ei galon y gwellha;
Mae'n codi yn ei eistedd yn dy wydd,
Ac fel yn rhwymau'r bedd anadla'n rhwydd!
Ei law grynedig, wan, estyna hi!
A'i gafael olaf gydia ynot ti!
Tydi yw noddfa olaf bywyd gwan,
Ymollwng i dy fynwes fel ei ran;
Mae gafael bywyd pan heb ildio marw,
Y'ngafael angau,'n hongian wrth dy enw.
Rhaid gadael holl ofidiau ddoe i ddarfod,
Mae heddyw gyda ni a'i ffawd a'i drallod;
Tywyllwch angof guddia y gorphenol,
A goleu'r fonwent ddengys y presenol.
Ond y dyfodol, beth am gaddug hwnw?
Rhy dywyll yw i'r llygad mwyaf gloew
I dreiddio eiliad i'w fynydau duon,
Ei oriau nesaf orwedd mewn cysgodion;
Ond ha! mae gobaith yn ymsaethu iddo,
A gweithia lwybr goleu dysglaer drwyddo;
Yngwyll awyrgylch bygddu y dyfodol,
Chwareui di dy edyn yn gartrefol;
Pelydrau prydferth o dy esgyll dasga,
Y duwch dyfnaf o dy gylch oleua;
O flaen y llygad yn y dû dyfodol,
Dangosi di ysmotiau goleu siriol;
Chwareu yno i ddifyru'r galon,
A denu'r enaid i fwynhau dy swynion;
Hedd, mwyniant, gwynfyd, a'u cymdeithion agos,
A ddeil dy law i fyny i'w harddangos,
Addurni holl barwydydd y dyfodol
A nefol luniau'th grebwyll annherfynol!
Mae'r oes yn llawn o ddigalondid prudd,
A rhagofalon lon'd yr enaid sydd;
Yfory nid oes tywydd teg i gael,
Mae niwl gofidiau i fod yn cuddio'r haul;
Yfory'n dywyll a helbulus iawn,
I lygad pryder yn ymddangos gawn;
Blinderau yn eu hagrwch ddaw i'n cwrdd,
Mac dyddiau cysur wedi hedeg ffwrdd;
Cwpanau trallod, a gofidiau blin,
A wermod chwerw, heb ddim melus win;
A dysglau gwag, arwyddion newyn dû,
Yn hulio byrddau y dyfodol sy';
Dyryswch yn olwynion amgylchiadau,
Tylodi'n cau à drain ein ffyrdd o'n blaenau;
Iselder ysbryd yn enhuddo'n dyddiau,
Nes yn ein gwydd ymrithia cysgod angau,
Y bedd, ac angau'n wancus ar ein cyfer,
Yw'r pethau pellaf genfydd llygad pryder.
Ond llygad gobaith wel yr oll yn olau,
Edrychi di uwchlaw yr holl gymylau;
Erioed ni chasglodd cwmwl yn dy awyr,
Erioed ni threiddiodd pryder i dy natur;
Wyt ti yn troi poen, trallod, blinder, adfyd,
Yn hedd, llawenydd, mwyniant, a dedwyddyd.
Ni fu dyferyn chwerw yn dy gwpan,
Ni ffug—newynodd neb o'th deulu'n unman;
Yr isel ysbryd godi i'r uchelder—
Ar aden angof o derfynau prudd—der;
Tu hwnt i gysgod angau, gweli fywyd,
Edrychi trwy y bedd i ganol gwynfyd.
Faint sydd yn pwyso ar dy enw bywiol
Mewn hyder am holl gysur y dyfodol;
Ymddiried ynot megys y'nghwch bywyd,
I'r cefnfor mawr, i wyneb stormydd enbyd;
Ymollwng, ïe, ymollwng gyda'r tònau,
A mordaith trag'wyddoldeb, rhyw hap—chwarau!
Heb ddarn o astell ffydd i gydio'n unman,
Ymorphwys ar dy enw noeth yn gyfan!
Yr Annuw, ïe,'r Annuw gwyneb galed,
Yn rhwysg ei bechod ynot ti ymddiried;
Mae tonau amser yn ei daflu o hyd
Ymlaen i ymyl traeth y bythol fyd;
A stormydd o euogrwydd yn ei guro,
Nes yw y cyfan yn ymddryllio dano,—
Y cyfan yn ymgolli, ond dy enw
Mae'n cadw ei afael trwy'r ystorm yn hwnw,
Gafaela ynddo, pan ar fin y dibyn—
Min dibyn erch yr anobeithiol lynclyn!
Ond yma try dy enw gwag yn siomiant,
A'th addewidion yn dragwyddol soriant;
Y truan gwymp i oror o drueni,
Lle ni ddaw'th gysgod byth i geisio'i godi;
Trwy ymerodraeth eang uffern faith,
Nid oes un sill o'th enw yn yr iaith.
Y Cristion, dyma'th berchen yn dy bobpeth,
Nid dim ond enw gwag, nid rhith nid rhywbeth;
Yn oriau mwyaf tywyll niwl y ddaear,
Wyt gan y Cristion megys llusern hawddgar;
Wyt gymorth iddo yn nhymhestloedd bywyd,
Gobeithia mewn llonyddwch yn "nydd drygfyd;"
Gobeithia yn yr Arglwydd tra bydd byw,
Ei obaith adeilada ar ei Dduw;
Mae gobaith da trwy ras ynghadw ganddo,
Mae'n gallu gorfoleddu dan obeithio;
Gobeithia ymhob dim, y drwg, a'r da,
Yn marnedigaeth Duw, gobeithio wna;
Mae gobaith yr Efengyl lon'd ei galon,
Mae gobaith ganddo'n sicrwydd addewidion;
Gobaith cyfiawnder, gobaith gwynfydedig,
A gobaith etifeddiaeth anllygredig;
A gobaith iachawdwriaeth annherfynol,
A gobaith bywyd, ïe, byw'n dragwyddol;
Gobeithia pan yn marw'n berffaith ddigryn—
A gobaith adgyfodiad yn ei dderbyn!
Gafaela yn dy enw yn ddiysgog,
Ar gefn pob tòn yn mordaith oes dymestlog;
A tithau megys cadwyn anwahanol,
Yn gafael y'nghadernid yr Anfeidrol;
Arweini ef i'r làn i fryniau'r wlad,
Lle try ei holl obeithio yn fwynhad.
"DY FODRWY BRIODASOL."
Modrwy fy Anwyl Briod.
O DY fodrwy, Mary anwyl,
Modrwy aur fy nghariad yw;
Dyma burdeb dysglaer dysgwyl,
Euraidd gylch i ddechreu byw;
Er mor anhawdd ei phwrcasu—
Ei rhoi fynu er mor dỳn;
Er dy wrido, er dy grynu,—
Mil anwylach yw o hyn.
Wedi ei thoddi ar dy gyfer,
Cariad wyddai faint dy fys;
Un yn gwasgu rhy dyn lawer,
I ddod odd'na gyda brys;
Gan mor wylaidd mae'n dy garu,
Cais ymguddio yn dy law;
Yn dy dyner law'n ymgladdu—
Nid oes dim i'n cylch a ddaw.
Un mor gyfan a'th ffyddlondeb,
Un mor ddidwyll a dy serch,
Un mor brydferth a'th sirioldeb,
Un mor bur a rhinwedd merch!
Am gydmariaeth a'i darlunia,
Dyma'r oreu yn fy myw;
Un fel O ein cofio, cofia,
Dyna'n union fath un yw.
Un diddechreu a diddiwedd,
Dilyn di yn ol neu'mla'n;
Wedi' hasio a didwylledd,
Dim modd canfod pen yn lân;
Pelydr pur o serch dywyniad,
Fo'n troi byth o amgylch hon;
Na fachluded heulwen cariad,
Byth o gylch ein modrwy gron.
Y LLYGAD
Y LLYGAD ter, gloew seren,—o harddwch,
Dan urddas y talcen;
Byw o olwg, rhyw belen
O oleu pur, haul y pen.
Y FRIALLEN GYNTAF.
AR fron y clawdd y'ngwyneb haul,
A gwyneb pur yn gwenu;
A llun y gwanwyn ar ei hael,
Fel newydd gael ei dynu;
A phurdeb gloew gwlith y nos,
Fel newydd ei sirioli,
Y boreu gwelsom wyneb tlos
Friallen newydd eni.
Y hi yn unig yma sy,
Ar fywyd yn wynebu;
Gwywedig ddail y gauaf dû
O gylch sydd heb eu claddu;
Y ddaear sydd yn llwyd ei gwedd,
Fel mynwent ddigynhyrfiad;
Ond saif hi'n wyn uwchben y bedd,
Fel angel adgyfodiad.
Y GOEDWIG.
ADEN brydferth gysgodol,—a luniwyd
O lwyni amrywiol;
A cheir yn llechu'n ei chôl—
Un oes faith o nos fythol.
Y goedwig mewn hoen ysgydwa,—ei gwallt
Yn y gwynt a chwifia;
Yn yr awel chwareua
Yn fôr o nwyf ar fron ha'.
"TIPYN O GO."
At wasanaeth Penny Readings.
MAE'r ddaear yn llawn o amrywiaeth,
Mor aml a chlustiau'r preswylwyr;
Mae un clust am gael rhyw ddigrifiaeth,
A chlust arall dipyn o synwyr;
Wrth sefyll i fyny i siarad,
Neu getyn o gân, beth y fo';
Gofalwch fod genych yn wastad
Ryw dipyn, thipyn o go.
Dywedaf fi fan hyn yn gynar,
Fod llawer o glustiau'n fy ngwrando;
Pe chwiliem y nefoedd a'r ddaear,
Na chaem ni ddim byd yn eu taro;
Wn i ddim am ddim byd i glust felly—
Dim ond baso fonclust wna'r tro!
Gofalwch pan fo'ch yn ei roddi
Am fonclust a thipyn o go.
Swn clecs ydyw miwsig rhai clustiau,
I glecs yn agored yn gyfan;
I foddio rhai'n dyna'r peth goreu,
Rhyw glec fach am rywun yn rhywfan;
Os oes yma rai o'r rhai yna,
Yn chwilio am glecs ar eu tro,
Fi wna i gan fach erbyn tro nesa,
Os ca'i glecs a thipyn o go.
Mae rhai clustiau'n hoffi peth diflas,
Gallwn enwi dau clust ydwy'i'nabod;
Maent ar bobo gern fel dau gaethwas,
Wedi' hoelio wrth wefus diflasdod;
Tae ddim ond yr hen glustiau hyny,
Yn clywed fy nghân ambell dro,
'R wy'n sicr y cele nhwy brofi,
Diflasdod a thipyn o go.
Difrio yw miwsig rhai clustiau,
Am glywed difrio'u cyd-ddynion;
Gwrandawent beth felly am oriau,
A'i wrando fe wrth fodd eu calon;
Wel garw na allem ni gasglu,
Rhyw gasgliad o rhain o dan dô;
A sen i gael nerth i fwrlwmu
Difriaeth a thipyn o go.
Am ffrae, neu ryw ddadl, mae rhai clustiau,
Am ddadleu a ffraeo y'mhobman;
Yn ffraeo am dipyn o ddadleu,
A dadleu am dipyn o gecran;
Peth diflas ar ol dechreu badl,
Yw colli'n y diwedd bob tro;
Cyn dadl gofalwch am ddadl
Ddiddadl, a thipyn o go.
Mae rhai byth am rwgnach a chintach,
Wrth eu bodd byth heb gintach a grwgnach;
Yn grwgnach o eisiau lle i gyntach,
A chintach o eisiau lle i rwgnach;
Os cawsoch chwi rywdro gamwri,
Grwgnachwch yn ddoniol am dro;
Chintachwn i ddim wrth gintachgi,
Am gintach a thipyn o go.
Yn awr p'un ai grwgnach ai ffraeo,
Gwnewch bob un mor ddoniol a'r felldith;
Diflasdod difriaeth beth fyddo,
Amcanwch eu bod o ryw fendith;
Gor'chwyliaeth y clecs a'r digrifiaeth,
Neu fonclust os rhaid yn ei dro;
Gofalwch trwy'r pentwr amrywiaeth,
Fod pobpeth a thipyn o go.
YN ÔL
A ysgrifenwyd wedi dychwelyd o lan y mor,
YN ol i'r hen gadair'wyf wedi d'od'nol;
Yn ol i'r hen aelwyd, yn ol i'r hen stol;
'Roedd rhywbeth yn tremio wrth deithio y byd,
Yn ol i'r hen stol a'r hen aelwyd o hyd;
Yn wan a blinedig y'mhell llawer tro
Bu'r meddwl yn dawnsio hyd lwybrau'r hen fro
Bu ffrydiau difyrwch yn eludo fy nghalon,
A rhwyfau hapusrwydd yn fy nhynu i'r eigion;
Bu gwyneb a gwên llawer un yn fy uenu,
A llais i anghofrwydd yn ymyl fy nghanu;
A'm henaid yn gollwng ei hunan i nofio,
I golli i rywle, heb ddim yn fy rhwystro;
Ond ha! i fy nàl dyna freichiau'r hen stol,
'Roedd rhywbeth o hyd yn fy nhynu yn ol.
Yn ol, ië'n ol y mae'r medddwl yn dod,
Yn ol tua thre, yn ol myn e' fod;
Mae twyllo y meddwl bythefnos o dre,
Yn ormod o waith i un dyn tan y ne';
Mae'n haws cadw'r môr mawr heb fyned a dod,
Na chadw y meddwl o'r man myn e fod;
Mae'r ddautroed yn symyd yr hen gorff ymhell,
Ond llusgo y meddwl beth ydych chwi gwell;
Symuda yn fynych i bob man is ne',
Ond naid pan y myno yn ol tua thre';
Yn ol tua thre' gan ado'r dyn, druan,
Ymhell ac yn unig i wylo fel baban!
Rhaid dilyn y meddwl cyn byth fod yn hapus,
Mae hwn i'w gadwyno'n greadur rhy reibus;
Yn ol tua threr oedd y serch yn gogwyddo,
A rhaid oedd ei dilyn—dim modd ei pherswadio;
Os llwyddid i'w chadw yn llonydd fynydyn,
Hi neidiai yn ol heb roi amser i'w dilyn;
Yn ol yn y fynyd pan gofiai am hyny,
Yn ol fel pe buasai rhyw beth yn ei thynu;
Yn ol, dyma finnau yn ymyl y tân,
Yn ol—ïe'n ol, dyma ddiwedd y gân.
"MYN'D I GARU."
A FUOT ti yn llanc erioed,
Yn llanc ac nid yn hogyn;
A chalon ysgafn fel dy droed,
Yn hidio dim am undyn;
Yn dechreu teimlo cariad merch,
A'th farf yn dechreu tyfu;
A fuot ti ar wadnau serch
Erioed yn myn'd i garu?
A fuot ti ar hyd y lle,
Yn cerdded fel dyn segur;
Ond heb un dyn o dan y ne'
Y'nghyd a gwaith mwy prysur;
Yn erfyn ar y lleuad dlos
I beidio dy fradychu;
A deisyf am dywyllwch nos,
'Gael goleu i fyn'd i garu?
A fuot ti o gylch y tŷ,
Yn edrych heibio'r cornel;
Yn ceisio bod yn fachgen hy',
A cheisio bod yn ddirgel;
Yn cadw lle i fyn'd ymlaen
A lle i ffoi yn fwy na hyny;
Mewn lle na fuot ti o'r blaen
Erioed yn myn'd i garu?
Yn erfyn gwel'd anwyl fun,
Ac ofni yn dy galon;
Yn pasio'r ffenestr'r oedd ei llun
Iti bron yn ddigon;
'R oedd cysgod anwyl, d' anwyl ffrynd,
Yn barod i'th ddychrynu;
O achos dy fod wedi myn'd,
Ië, wedi myn'd i garu.
Yn ceisio myned at y lle,
Lle'r aeth y cysgod heibio;
I geisio d'weyd cyn myn'd tua thre'
Ta beth, fod rhywun yno;
Cyn myn'd yn agos gwnaeth dy fys
Di daro'r gwydr dan grynu;
Adnabu'r ferch o fewn ar frys
Dy fod wedi myn'd i garu.
Ni fu'r un llanc wrth oleu lloer,
Mor onest ac mor wirion;
A'r ferch, feallai,'n ddigon oer,
I gellwair a dy galon;
Cyn myn'd o gylch y tai â'th serch
I guro am ei gwerthu;
Cais dd'od i wybod am y ferch
Fo wedi myn'd i garu.
"MOR LLON YDYM NI."
MOR felus yw cânu,
Er gwaethaf y byd,
Cawn ollwng i fyny
Ein gofid i gyd;
Nid erys gofidiau yn unman,
I wrando plant bychain yn taro y cydgan—
"Mor llon ydym ni."
Mae'r goedwig y gwanwyn
Yn gyngherdd o hyd;
A brigau y glaslwyn
Yn gydgan i gyd;
A'r awel yn cerdded â chân pob aderyn,
Yn gymysg a'u gilydd, o frigyn i frigyn
"Mor llon ydym ni."
Mae plant bach yn canu
Emynau'n y byd,
A'u lleisiau'n dyrchafu
I'r nefoedd ynghyd;
A'r adsain yn disgyn fel wedi phereiddio,
A lleisiau nefolaidd y plant bach sydd yno
"Mor llon ydym ni."
YR ADAR.
TELYNORION llon y llwyni—a'u diail
Ber hudolus gerddi;
Pan yn gôr yn telori,
Daw rhyw nef i'n daear ni."
Y GWCW GYNTA' ELENI.
AR ysgafn droed, y wawrddydd wèn
A gerddai drwy y glaslwyn;
A'i llewyrch a ddangosai'r nen,
Yn wyrddlas fel y gwanwyn;
Yr awel gyntaf trwy y dail,
Yn araf grwydro;
Ar brigau'r derw bob yn ail
Ysgydwai'i ddeffro;
A cherddi'r adar mân
Yn tynu eu gilydd
I uno yn y gân,
Y'nghan y boreu newydd;
Y fronfraith a'r aderyn dû,:
'N cystadlu'r boreu hwnw;
A chlywid pig pob perchen plu,
Yn uno yn y berw;
A mil a myrdd o adar mân,
I'r gwanwyn gwyrdd yn chwiban cân;
Ond dyna lais yn d'od o'r coed,
Uwchlaw y cwbl,
A dery'n calon yn ddioed—
Hen nodyn dwbl
Y Gwcw!
YR ADERYN DU.
AR lwyn yn oriel anian—o'r drain daw'r
Aderyn dû allan;
Chwery ei bib aur i chwiban
Ei frig hwyr a'i foreu gân.
DRINGO'R MYNYDD.
DRINGO'r mynydd, hapus daith,
Er mai caled yw y gwaith;
Wedi cyrhaedd idd ei ben,
Cawn ein hanadl yn y nen!
Dringo bron y mynydd serth,
Colli'n hanadl, enill nerth;
Dringo i fyny—fyny o hyd,
Ar ei ben mae gwel'd y byd.
Dringo ochr y mynydd mawr,
Tua'r nef o sŵn yllawr;
Cawn ein talu am ein gwaith,
Wedi cyrhaedd pen y daith.
Dringo' r mynydd fyny o hyd,
Fyddo'nhymgais yn y byd;
Heibio i holl fynyddau' r llawr,
Fyny tua' r nefoedd fawr.
ESGYNIAD ELIAS.
MEWN cerbyd o'r byd dros y bedd,―hwyliodd
Elias uwch llygredd;
Aeth o'r glyn heb frath hir gledd
Angau'n hyf i dangnefedd.
Engyl, heb ddweyd wrth angau,—a'i cododd
Yn eu cedyrn freichiau;
I'w hynt mewn corff ai yntau,
I'r ne' glyd, aeth adreu'n glau.
"PRYSE, CWMLLYNFELL."
ATHRYLITH Cymru gafodd ergyd.marwol,
Areithfa Cymru gafodd golled oesol;
Barddoniaeth Cymru gollodd faich o awen,
Dynoliaeth Cymru gollodd gawr o fachgen;
Llysieuaeth Cymru gollodd naturiaethydd,
A blodau Cymru gollodd eu hedmygydd!
Cwrdd gweddi Cymru gollodd ddawn ei "Salmydd,"
Efengyl Cymru gollodd efengylydd;
Do, collwyd doniau llafar, ac ysgrifell,
Pan gollwyd yr anfarwol PRYSE, Cwmllynfell.
Mae gliniau ein barddoniaeth wan yn crynu
Ar faes ei goffadwriaeth pan yn sangu;
Mae adgof am ei ddawn ysbrydoledig,
Fel ysbryd ar y llanerch gysegredig;
Mae adsain ei bregethau yn ein clyw,
A thôn ei lais y mynyd yma'n fyw.
Ei sŵn sydd fel gwenynen yn ein clustiau,
Yn difyr fwngial cân y'mysg y blodau;
Yn hidlo'i eiriau yn hamddenol,
Yn holi'r blodau ar y werddol;
O gam i gam, o un i un,
Fel heb yn wybod iddo ei hun,
Ymgollai y'mysg blodau Duw,
Ymgollem ninau yn ei glyw;
Fel gallem dybio fod y cae,
Y blodau, a'r gwenyn yno'n gwau;
Pregethai natur yn ei holl agweddion,
Pregethai dywydd teg a hyfryd hinon;
Y gwynt, y dail, yr adar roddai i gânu,
A boreu o wanwyn yn ei wedd yn gwenu;
A chrych y nant, a bwrlwm gloew'r ffynon,
Osodai'i farddoni y'nghlustiau dynion;
Amrywiol dànau telyn creadigaeth
Oedd wrth ei law, a bysedd ei farddoniaeth;
Canodd farddoniaeth bur yn llawn o bobpeth,
Canodd y byd i gyd ar fesur pregeth.
Darluniai yr ystorm, a llun y cwmwl,
Nes codi tymhestl yn awyrgylch meddwl;
Ei lais yn codi a'i law'n myn'd trwy ei wallt,
Y corwynt cryf pryd hyn ddiwreiddiai'r allt;
Y bregeth oedd mor nerthol ei rhuthriadau,
Nes codi'r gynulleidfa oddi ar ei seddau!
Chwareuai â ser mor hawdd a chwareu â blodau,
Fel angel chwim dilynai y planedau;
Y bydoedd sydd fel gwybed trwy'r ëangder,
Ddarluniai fry yn nefoedd eu hysblander;
A dwedai rhai pan ydoedd yn y ne',
Mai dyma'r pryd yr ydoedd ef yn nhre';
A gallwn wrth fyn'd heibio roi i lawr,
Ei fod yn nhref o fewn y nef yn awr.
Pregethai'r difyr nes y byddai'r Capel
A chwerthin yn myn'd drwyddo megys awel;
Gan daflu ei wefus, taflai chwedlau allan
I wawdio pechod, a difrio satan;
Nes bai'r hen Gristion mwyaf pendrist yno,
Yn rhwym o chwerthin allan wrth ei wrando.
Yr hen ddiwygwyr gynt a'r diwygiadau,
Fu ganwaith yn pregethu'n ei bregethau,
Yr "Hen dŷ Cwrdd" tô brwyn a'r seddau moelion,
A'r hen lawr pridd dan liniau'r hen dduwiolion;
Yr hen weddïwyr mawr symudol yno,
A nerth y weddi o gylch y tŷ'n eu cario;
Bu yr "hen gapel" a'r "hen fechgyn" yna,
'N gorfforol ganddo ganwaith yn Gibea,
A DANIEL ROWLANDS, a chwrdd mawr Llangeitho,
Y cwrdd pan y machludodd haul i'w cofio
Am haner dydd! gwynt cryf y diwygiadau,
Yn stormydd nerthol chwythai drwy'i bregethau.
Ond llais ei weddi byth fydd yn ein clustiau,
A lles ei weddi byth fydd ar galonau;
Pan welem ef yn plygu ar ei liniau,
Gallasem baratoi i golli dagrau;
Y dagrau gloewon dyna y dylanwad,
O fôr y galon fyny i ffrwd y llygad;
Yn nerth ei weddi'r oedd ei nerth yn byw,
Yn llais ei weddi clywid llais ei Dduw;
Ni chlywsom ddim yn gallu tynu'r nef
I'r byd erioed mor hawdd a'i weddi ef;
Neu godi'r byd i'r nef, ni wyddom p'un,
'R oedd ganddo ef ryw ffordd i'w gwneyd yn un
Yn nerth ei Dduw, y'nglyn a'i nerth ei hun.
Ond aeth o'r byd i'w wlad ei hun,
At engyl frodyr nef y nef;
Mae'r ddaear heddyw heb yr un
O'i debyg wedi ei golli ef;
Yr hen bregethwr yn ei fri
Gyfododd Duw i ardal hedd;
Nid oes yn aros gyda ni
Ond cof am dano, ei lwch, a'i fedd!
"TRAI A LLANW'R MOR."
ANESMWYTH fôr! yr eigion mawr aflonydd,
Dy dònau pella'n chwareu â dy lenydd;
Dy fudol lanw—mor ofnadwy ryfedd!
Y dyfnder mawr yn nesu i'r làn i orwedd;
O annherfynol fawredd!—mor ddidaro
Y nofi' dros y sychdir i'w orchuddio;
Mor hawdd y tefli'th hunan i fodolaeth!
Dy ysbryd sy'n llawn defnydd creadigaeth;
Y môr yn taflu moroedd i'w gilfachau,
Y dawnsio dros y traeth yn hoen ei dònau;
A'r dyfnder mawr yr un mor annherfynol,
A moroedd wedi eu harllwys fel o'i ganol.
Dy drai! môr ddidrai ryfedd ydyw hwnw,
Yn cilio, ond y dyfnder byth yn llanw;
Yn cael ei lyncu'n ol heb sôn am dano,
I'r dyfnder mawr y tarddodd gynau o hono;
Y tònau o hyd yn nofio yn ei blaenau,
Fel pe yn ceisio glynu wrth y glinau;
Ond llithra'r llanw'n ol idd eu bradychu,
A'u hymdrech yn y trai sydd yn gwanychu;
Y llanw mawr yn cilio'n ddiarwybod,
A hwythau'n colli eu gafael ar y tywod
Y traeth sydd fel yn gweithio'i hunan allan,
A'r môr yn tynu'r llanw i'w fynwes lydan.
Dy lanw ar dy fin yn cynrychioli,
Y teimlad yn dy galon sy'n bodoli;
Dy dymher yn weledig yn dy dònau,
Pob un yn dy fradychu wrth y glànau;
Daw tonau tywydd teg yn rhesi tawel,
Heb wel'd eu gilydd braidd dros gefn y gorwel;
Hyawdledd haf sydd dros eu min yn arllwys,
Yn prin gusanu min y traeth cyn gorphwys;
Heb dwrf dim ond fel anadliadau heddwch,
A'u llyfn wynebau'n lluniau o dawelwch.
Ond gyra'r storm ei helynt tuag yma,
A rhydd i'w hadrodd y tafodau garwa';
Rhyw gawri o dònau noethion, crychiog, gwallgo',
Am dd'weyd yr hanes ar y traeth yn ffraeo;
Mae un o dan ei drylliau'n boddi ei hunan,
Ac arall yn ei chladdu yn y graian;
Y fynwent fawr lle claddi di dy dònau,
A dim ond ewyn i sicrhau eu beddau.
Mor gyson, mor rheolaidd yr ysgogi,
Mor ffyddlon á dy lenydd yr ymweli;
Dy dònau mor amserol a'r mynydau,
Yn myn'd a d'od mor sicr a'r hwyr a'r boreu.
Mor lawn o natur yw dy ysgogiadau,
Dy drai a'th lanw fel dy anadliadau;
Yn chwyddo'th lanw mawr mor hawdd a'i chwythu,
A'i dreio, mor naturiol ag anadlu;
Fel gallem dybio wrth wel'd dy dònau diwyd,
Mae'th drai a'th lanw yw anadliadau'th fywyd.
Mae bywyd fel yn dilyn tònau' th lanw,
A'r traeth ar ol y trai fel anial marw;
Yn gorwedd megys mynwent—llawn marwoldeb,
A hagrwch ei waelodion ar ei wyneb;
A chychod meirw a'u rhwyfau wedi peidio,
Sydd fel yn erfyn llanw bywyd heibio,
Y llongau ar y gwaelod wedi suddo,
Fel rhyw hen gofgolofnau marwol yno;
Ac anadl agerlongau wedi mygu,
A'u rhodlau llawn o ymdrech wedi methu.
Ond daw dy dònau heibio ar ymweliad
A'r llanw mawr i'r lle fel adgyfodiad;
Pob ton yn dawnsio'n llawn o fywyd newydd,
Yn nofio a bywyd dros y marwol lenydd;
Y'mlaen i adgyfodi'r cwch o'r tywod,
A nofio at y nesaf dan ei waelod;
Cwch ar ol cwch yn dechreu chwareu'u hesgyll,
A bywyd yn ymaflyd yn eu hestyll,
Y llanw byw yn codi'r meirw i fyny,
A bywyd dros ei wyneb yn ymdaenu;
Mae masnach fel yn codi ei phebyll yno,
A thref fasnachol brydferth yn blodeuo;
A dyn yn gwneud heolydd fel y myno,
Dros lesni teg y dylif yn ymlwybro;
Agorir agerffyrdd ar hyd y dyfnder,
Lle teithia agerlestri mewn cyflymder;
Mae'r oll yn fyw, mae bywyd wedi llanw
Drwy'r hafan brudd oedd gynau wedi marw.
Y MEDDWYN.
AR ei oreu'n gwario'i arian—o'i fodd
Mae'r hen feddwyn, druan;
Adyn moeth'! nid yw un man
Hapus ond wrth ei gwpan.
"Yfwn fyth," medd ef yn ei fost "gwrw
A gwirod"—dyma ymffrost!
Och! yr adyn ffol chwerwdost,
Heb un tâl ond ei ben tost!
"MAE NHW'N D'WEYD."
MAE nhw'n d'weyd rhywbeth wmbredd o bethau'n y byd,
Mae nhw'n d'weyd, gyda llaw, eu bod yn d'weyd gwir i gyd;
Y'ngwyneb peth felly ini heb ddim byd i dd'weyd,
Pan glywom ni gelwydd ond d'weyd " Mae nhw'n d'weyd."
Mae nhw'n d'weyd fod y môr yn fwy lawer na'r tir;
Mae nhw'n d'weyd wrthym ni eu bod yn d'weyd eitha' gwir;
Mae tir y fan yma i dd'weyd sylw lled wych,
Mae nhw'n d'weyd pethau lawer sy' lawer mwy sych.
Mae nhw'n d'weyd mae yr un yw y lleuad erioed,
A d'weyd ei bod yn newid o hyd bob mis oed;
Os yr un yw, a newid o hyd bob mis oed,
Gallwn ninau dd'weyd, na fu shwd leuad erioed.
Mae nhw'n d'weyd fod y ser yna'n fydoedd i gyd,
Sydd ddim ond fel gwreichion y'ngolwg y byd;
Yn fydoedd o lawer sy'n fwy na'n byd ni,
A fu'rioed shwd beth mae nhw'n dd'weyd, medde chwi.
Mae nhw'n d'weyd fod America'n fwy na'n gwlad ni,
Mae nhw'n d'weyd fod y gweithiwr yn feistr ynddi hi;
'Nol myn'd dros y dŵr, mae nhw'n d'weyd cewch chwi dir,
Am ddim! mae nhw'n dweyd, os y'nhw'n dweyd y gwir.
Mae nhw'n d'weyd fod y byd yma'n myn'd yn ei flaen,
Ond edrych yn ol cawn ni wel'd hyny'n blaen;
A'r hen fyd yn fynych yn d'weyd mai myn'd'n ol,
Wn i ddim p'un ai nhw ai'r hen fyd sydd yn ffol.
Mae nhw'n d'weyd pethau lawer nes yma na hyn,
Mae nh'wn d'weyd lawer gwaith bod peth du yn beth gwyn;
Mae nhw'n d'weyd yn ein cefnau mor ddû ydym ni,
A d'weyd yn ein gwyneb "Mor wyn ydych chwi!"
Mae nhw'n d'weyd wrth eu gilydd ein bod ni fel ar fel,
Gan godi eu dwylaw a d'wedyd "Wel, wel!"
Mae nhw'n d'weyd ein holl hanes i gyd, meindiwch chwi,
A d'weyd tipyn ragor, tae fater i ni.
Mae nhw'n d'weyd, ar ol d'weyd yr hyn sy' i dd'weyd i gyd,
'Nol darfod â'r gwir, mae nhw'n d'weyd, d'weyd, o hyd;
Mae nhw'n d'weyd—wn i ddim faint mae nhw'n dd'weyd ar fai,
Mae nhw'n d'weyd dylai rhai, ta beth, dd'weyd llawer llai.
Mae nhw'n d'weyd pethau call, mae nhw'n d'weyd pethau ffol,
Mae nhw'n d'weyd gwir a chelwydd ymlaen ac yn ol;
Mae nhw'n d'weyd fod pencampwr am dd'weyd stori wneyd,
Yn dechreu bob amser trwy dd'weyd " Mae nhw'n d'weyd.
OERNAD YR ASEN.
OERNAD yn chwareu dernyn—ol a blaen,
Dyblu bloedd ceg asyn;
Dolef ar ddolef ddilyn
O egni teg—rhygnu tỳn.
GAING Y GLOWR
UN fach hwylus gref i chwalu—a'i nherth
Yn wyrthiol o'i chladdu;
Y galed aing yn y glo dû,
O'i gaeth fan, a'i gweithia i fynu.
PRIODAS Y DYWYSOGES LOUISE AG ARDALYDD LORNE
MAE plant yr ucheldir ar flaenau eu traed,
A rhos ar eu gruddiau wrth newid eu gwaed—
Yn bloeddio "hir oes a bendithion di ri',
I'r teulu Breninol, "ein hoff deulu ni";
I Lorne a Louise, hwre, a hwre,
Ac uniad y goron a bachgen o dre',
Boed gwenau y deyrnas, a bendith y ne'.
Mae'r orsedd a'r genedl heddyw y'nglyn,
Y Fodrwy briodas a'u rhwymodd yn un;
Llaw bachgen o ddeiliad, a llaw wen ei serch,
Yn ymyl y goron dderbyniodd y Ferch;
Pan rwymwyd ei law, daeth ei galon yn rhydd,
Mae heddyw yn teimlo yn Frenin ei ddydd,
A chusan breninol yn gwrido ei rudd.
Nid aeth y Dywysoges pan aeth i gael gwr,
I "groesi yr afon i mofyn am ddwr ";
Nid ffwrdd i'r cyfandir cyn dyfod i'w gwrdd,
Ond ffwrdd gyda'r Llanc aeth â'i chalon i ffwrdd;
Priododd ei chariad, a gadael i fod
Arferion breninoedd a merched o nod,
Mae cloch ei dewisiad yn cânu ei chlod.
Mae calon y deyrnas yn curo yn nes,
I'r galon freninol mewn cariad a gwres;
Ar sel y ddwy galon, mae calon pob un,
Yn curo am eu llwydd, fel ei llwyddiant ei hun;
Mae pawb trwy y wlad yn gyd—dylwyth yn awr,
Cawn gyfarch ein gilydd fel un teulu mawr,
Heb edrych i fyny, nac edrych i lawr.
DYSTAWRWYDD.
DDYSTAWRWYDD dieithr, henffych i dy gwmni,
Heb ddim ar y gyfeillach bur i dori;
Pob swn yn alltud o'th derfynau tawel,
I'th aflonyddu ni anadla awel;
Yn ymhyfrydu y'mwynhad dy hunan,
Lle nad yw tafod bywyd byth yn yngan;
Mudandod cysegredig yn teyrnasu,
Yn ymerawdwr ar yr oll oddeutu;
Llewyga cynwrf yn yr effaith rhyfedd,
Un llais ni feiddia dori y gynghanedd;
Amneidi a thawelwch dy ddylanwad
Ar adsain twrf, a threnga wrth nesu atad;
Pob peth yn gwrando,'naros i glustfeinio,
Pob dim, ond calon bywyd—ddim yn cyffro.
Ddystawrwydd drud, mor brinion yw'th fynydau,
Mynyd tra'r byd yn gorfod huno weithiau;
Rhyw fynyd pan fo pobpeth wedi peidio,
Y cyfan ond dy hunan wedi blino;
Rhyw fynyd pan fo cynwrf wedi mygu.
Pan fyddo anadl masnach wedi methu;
Rhyw fynyd wedi ei llethu o'r oriau diwyd,
Yn ddystaw fach yw hyd dy werthfawr fywyd.
Dylanwad dy hyawdledd mor ofnadwy,
Yn gafael yn yr oll mor ansigladwy;
Yn cadw'th gynulleidfa mewn mudandod,
A rhyw ddyheu erfyniol heb yn wybod;
Dy areithyddiaeth nerthol byth yn bloeddio
Lladrata sylw heb na sŵn na chyffro;
Dy sylw di yn gwrando ar dy hunan,
Yn taro'r oll i wrando fel y mudan;
Ni raid i fawredd floeddio fel peth egwan,
Dy ddwfn fudandod floeddia dros ei hunan;
Mae effaith dy dawelwch mor ddychrynllyd—
Treiddia i ddeffro'r sylw mwyaf cysglyd—
Fu erioed yn hepian—sylw y dienaid,
Yn d'wyddfod di ni feiddia gau ei lygaid
Y cynhyrfiadau mwyaf effro'n huno,
A'r sylw mwyaf cysglyd wedi deffro!
Dy ddwfn dawelwch, O! mor ddwfn fyfyriol,
Terfynau dy fwynhad mor annherfynol;
Yr enaid yn ymgolli'n dy gyfeillach,
I'th fynwes fawr yn gwasgu, dynach, dynach;
Yn gwasgu i'th gyfeillach bur ymhobman,
Fel wedi cwrdd â thebyg iddo'i hunan;
Rhyw beth yn hoffi mynyd annibynol,
I bur fwynhau, ei bur fwynhad hanfodol;
Athrylith fud areithia ynghlust enaid,
Ffrwd o'r hyawdledd fwyaf bur fendigaid—
A'i llithra'n angof, i'r hyfrydwch mwyaf,
Dyfnder hyfrydwch y dystawrwydd dyfnaf.
O anherfynol fawredd diddechreuad,
Rhyw annibynol ddim o ran dy haniad;
Dy lanw dystaw ar ei dònau llyfnion,
A nofia'r enaid i fôr mawr dy swynion;
I oror digon tawel i glustfeinio—
Yn ol cyn i'r dystawrwydd cyntaf gyffro;
Dystawrwydd digon dystaw i allu gwrandaw,
Ar y dystawrwydd cyntaf gan mor ddystaw!
Pob tòn ddigynwrf sydd yn cynrychioli,
Rhyw eigion llawn dystawrwydd fu'n bodoli;
Y tonau dystaw'n tori idd eu gilydd,
O eigion llawn dystawrwydd hyd ei lenydd!
Y meddwl hwylia'nol o dòn i dòn—
Ynghwch tawelwch ar y fordaith hon;
Y meddwl a dystawrwydd rwyfa ynghyd,
Yn ol i'r dwfn ddystawrwydd cynta' i gyd;
Y tònau'n cwnu iasau adnewyddol,
I chwilio am y gronfa annherfynol:—
Yn ol, dros lanw dystaw'r storm ddychrynllyd,
Yr arswyd a ragflaena'r cynwrf enbyd;
Dystawrwydd dyfnder nos pan huna'r cyfan,
Pan orphwys bywyd fel ar fynwes anian;
A rhybydd mud effeithiol y daeargryn,
Dystawrwydd i ddysta.wrwydd sydd yn ddychryn,
Rhyw ragfynegydd tawel cyffro mawr,
Dystawrwydd hawlia sylw holl gyrau'r llawr,
O flaen y dinystr rhyw bruddglwyfus genad,
Dan bwys ei genadwri'n methu siarad!
Dystawrwydd wrth ddystawrwydd asia'n ôl,
Cyn asio tonau'r afon trwy y ddôl;
A chyn i'r crychiau adseinio sŵn eu gilydd,
O nant i nant hyd lethrog fron y mynydd;
Cyn i'r dòn gyntaf rolio'n annghyfarwydd,
Fel i fedyddio twrf ar draeth dystawrwydd;
Cyn rhoddi nerth i anadl awel chwalu,
Y lasdon gyntaf gafodd ei rigwynu;
Cyn creu defnyddiau sŵn, cyn llanw'r gwagle,
Cyn gosod clogwyn adsain ar ei safle;
Cyn i beirianwaith Duw wrth gychwyn dyrfu,
Cyn i'r peth cynta' o orsaf creu chwyrnellu;
Cyn i'r llais cyntaf glywed sŵn ei hunan,
Yn disgyn'n ol o'r gwagle mawr yn unman;
Cyn i gerub gael ei lunio,
Cyn i seraph ddechreu byw;
Cyn i angel ieuanc gyffro
Aden yn nystawrwydd Duw!
CASTELL DINEFWR.
CASTELL Dinefwr! hen dŵr y dewrion,
Diogel anedd rhag dig gelynion;
Yn warchae ac urddas llenyrch gwyrddion,
Bu'n nydd ei gaerau'n ben nawdd y goron;
'E ddyry heddyw arwyddion,—rhyw fri,
Wua i enaid foli ei hen adfeilion.
MAI.
UN eginog o anian—yn egin
Heigia'i fywyd allan;
A thŷf o'r gwlith foreu glân,
Flodeuog haf—wlad gyfan!
Y FRONFRAITH.
Y FRONFRAITH, meistres fireinfri—'r adar
Ydyw am ei cherddi;
Uwchlaw'r oll ei chlywir hi
Yn hyglod chwibanogli.
Y FERCH AETH A FY NGHALON.
Y FERCH aeth â nghalon, o galon fy mynwes,
Lladratodd hi gydag edrychiad i ffwrdd;
Ac eto nis gallaf heb deimlo yn gynes,
Yn gynes tuag ati, bob tro b'o ni'n cwrdd;
Mae gwrid yn ymdaenu dros harddwch ei gwyneb,
A llewyrch y gwrid hwnw'n gwrido f' un i;
A dyfnder y gwrid dd'wed, O ddyfnder anwyldeb
Y ferch aeth â nghalon—mor swynol yw hi.
Y ferch aeth â nghalon—sirioldeb a rhinwedd,
Sydd un yn ei llygad, a'r llall yn ei bron;
I lencyn mor ieuanc rhyw fyn'd idd ei ddiwedd
Yw myn'd i gyffyrddiad â llances fel hon;
Rhoi tro yn ei chwmni, O! dyna ddedwyddyd,
Mae milldir fel llathen neu lai, ar wn i;
Hi ai a fi golli, pe na wnai ddychwelyd,
Y ferch aeth â nghalon—mor anwyl yw hi.
Y ferch aeth â nghalon, gaiff lonydd i'w chadw,
Beth gwell wyf o geisio ei cheisio yn ôl;
Ond gweithiaf fy hunan i fyw ac i farw
I fynwes, i galon y ferch ar ei hol;
Am galon fy hunan rhaid peidio gofalu,
Ond cynyg am galon y ferch raid i fi;
Caiff hi gadw'nghalon, a chaf finau ganu—
"Y ferch aeth â nghalon—fy nghariad yw hi."
MAE RHYWBETH YNO I MI.
AR waelod yr hen gwm
Distadlaf yn y byd;
Feallai mwyaf llwm,
O gymoedd Cymru i gyd;
Er na fu cwm erioed
Mor syml i'ch golwg chwi;
Rhwng y llwyni coed, ar y llwybr troed,
Mae rhywbeth yno i mi.
Ar lan y grychiog nant,
Mewn garw wely gro';
Sy'n canu trwy y pant,
Wrth fyn'd o dro i dro;
Feallai nad yw hon
Ond dïeithr iawn i chwi,
Mae pob crych a thòn, megys yn fy mron,:
Mae rhywbeth yno i mi.
Ar ben y weirglodd gam,
O'r golwg yn y pant;
Mae bwthyn'nhad a'mam,
A llon'd y tŷ o blant;
Mae tai yn nes i'r nen
O lawer genych chwi;
Er nad yw ei nen, fawr yn uwch na'mhen,:
Mae rhywbeth yno i mi.
Mae cadair freichiau fawr,
Ar deirclun wrth y tân;
Bum ganwaith gyda'i lawr,
Wrth wneuthur triciau mân;
Feallai nad oes un
Mor arw'n eich tŷ chwi;
Er mor wael ei llun, ac yn gloff o glun,
Mae rhywbeth yno i mi.
Mae tynged trwy y byd,
Yn myn'd a fi'n ei llaw;
Ond tremia serch o hyd,
Tuag yma oddi draw;
Pa swynion yno roed?
Be' sy'no? meddwch chwi;
Lle bu ôl fy nhroed, y tro cynta' erioed,
Mae rhywbeth yno i mi.
BEDDARGRAFF DYN IEUANC.
DIHOENODD bywyd yn ei fron,
A gwywo wnaeth ei wedd;
Y'mlodau oes mae'r hawddgar John,
A blodau ar ei fedd.
"DY DDYDD PEN BLWYDD."
Gwn y maddeua y darllenydd i mi am osod y tair cân hyn i fewn
yn y llyfr, am eu bod yn agos i mi a bod rhyw gyd-darawiad
ynddynt. Ysgrifenais y ddwy gyntaf ar gais fy anwyl briod-un
cyn priodi, a'r llall wedi, a boreu y dydd pen blwydd cyntaf i mi yn
briod, yr oedd hi ar ben ei gyrfa!
Dy ddydd pen blwydd, fy nghariad,
Nid rhyw ddydd arall yw;
Ond dydd bob blwyddyn sydd yn d'od,
I'th gofio'th fod yn fyw;
Tri dydd pen blwydd ar hugain,
Sydd newydd hedeg ffwrdd,
A chyfri' blwyddyn gan bob un
A ddaeth erioed i'th gwrdd;
'R oedd cyfri'r dydd diweddaf,
Dair gwaith ar hugain fwy
Y'nghyfri' dy Gyrhaliwr da,
Na'r cynta' o honynt hwy;
Mae blwyddi'th oes, ti weli,
Yn rhedeg heibio'n rhwydd;
Wyt flwydd yn nes i arall fyd,
O hyd bob dydd pen blwydd.
Dydd dydd pen blwydd, fy nghariad,
Gochela, lleidr yw;
Mae'n cipio blwyddyn gron bob tro,
Mor wir a'th fod yn fyw;
Er nad yw'n d'od yn fynych,
Mae'n d'od yn gyson iawn,
A chauad am ryw lwmp o'th oes,
Mae'i foreu a'i brydnawn;
Er nad yw yn wahanol
I'w wel'd i arall ddydd;
I'th dwyllo, cofia, onest ferch,
Dau gynyg ganddo sydd;
Blynyddau drud dy fywyd,
O'th afael ddug yn rhwydd;
A thithau'n henach, henach, ddyd,
O hyd bob dydd pen blwydd.
Dy ddyddiau blwydd, fy nghariad,
Mae llawer tro'n y byd;
Yn digwydd yn y dyddiau mân
Sy'n asio rhai'n ynghyd;
Curiadau aml dy galon,
Sy'n cyfrif llawer peth;
Nas gall dy fenydd yn ei fyw,
Ei gyfri'n beth di feth;
Mae'r hyn sydd wedi pasio,
O flaen dy gof yn fyw;
Ond y dyfodol sydd dan sêl
'Does neb a'i gwel ond Duw;
Ond teimlad cudd fy mynwes,
Anadla am dy lwydd;
Anadlaf am dy lwydd di-lyth,
Am byth, bob dydd pen blwydd.
MAE BLWYDDYN ETO WEDI MYN'D.
MAE blwyddyn eto wedi myn'd,
I fanc dy flwyddi di;
A wyt ti'n meddwl, anwyl ffrynd,
Gael llog oddiwrthi hi;
Rhyw flwyddyn gofi yn y byd,
Y'mysg dy flwyddi yw;
Y flwyddyn olaf, eto i gyd
Y gynta' i geisio byw.
Mae blwyddyn eto wedi myn'd
At rif dy flwyddi di;
Y flwyddyn ola' i ti, fy ffrynd,
A'r gyntaf gyda fi;
Mae hon y flwydd fendithiol iawn,
I ddechreu byw ynghyd;
Ar ben ein blwyddi wn i a gawn
Ni fendith Duw o hyd.
Mae amser eto wedi myn'd
Ag un o'th flwyddi di;
Y flwyddyn anwyl, anwyl ffrynd,
A'th ddygodd ataf fi;
Mae llawer blwyddyn heb ddim byd,
Yn angof lawer tro;
Ond dyma flwyddyn geidw o hyd
Ei dyddiad yn dy go'.
Mae blwyddyn eto wedi myn'd,
A'i llon'd o'th fywyd di;
Ond diolch byth wyt ti, fy ffrynd,
Yn aros gyda fi;
Mae cyfaill genyt dan bob croes,
Cawn deithio mlaen y'nghyd;
Ar ol i flwyddyn ola'th oes
Dy adael yn y byd.
Mae blwyddyn eto wedi myn'd
I golli arnat ti;
Y flwyddyn hòno, anwyl ffrynd,
Y'th gafwyd gyda fi;
Pa faint o flwyddi o'r flwyddyn hon
I'r flwyddyn hòno sydd;
Bydd un yn cofio â chlwyfus fron—
Y flwyddyn's llawer dydd!
"MARY."
Ganwyd hi yn y Trap, ger Llandilo, Awst y 18fed, 1846. Cafodd flynyddau o ysgol rad y
Glynhirysgol sydd wedi bod yn fendith i ganoedd o ferched tlodion. Priododd Ebrill y 9fed,
1870. Ganwyd merch iddi Chwefror y 13eg, 1871, a bu farw Mawrth y 7fed,
yr un flwyddyn, yn Brynaman.
MARY anwyl, anwyl, anwyl,
Dyma ddechreu caled waith,
Dechreu cân a dim i ddysgwyl,
Drwyddi ond wylo dagrau llaith;
Galar gânu, galar wylo,
Ceisio rhoddi hiraeth lawr;
Ysgrifenu sill i foddio,
Dyfnder teimlad—hiraeth mawr.
Wyt ti'n cofio'r tyner siarad
Am yr un a fa'i ar ol;
Pan ynghafael breichiau cariad,
Y cydrodiem dros y ddol;
Y mae un yn awr yn cofio.
Cofio'r geiriau bob yr un,
Ië'n cofio, ac yn teimlo,
Ac yn wylo, wrtho'i hun.
Wyt ti'n cofio'r diwrnod dedwydd,
Pan o'et ti'n cael pen dy flwydd;
Mor ddigwmwl oedd y tywydd,
Mor obeithiol oedd ein llwydd;
Ond O dyma gyfnewiad!
Boreu dû ystormus llaith;
Boreu dydd pen blwydd dy gariad,
'R oeddet ti ar ben dy daith.
Wyt ti'n cofio'r boreu hinon,
Pan y gelwais heibio i ti,
Pan y rhodd dy law dy galon,
O dy fodd yn eiddo i fi;
'R wyf fi'n cofio boreu arall,
Un gwahanol iawn ei wedd!
Pen y flwyddyn, pan yn gibddall,
Ceisiwn alw heibio'th fedd.
Pan oedd gwên y gwanwyn ola'n
Agor blodau dros y byd;
O mor ddedwydd gwnaem rodiana
Yn ein blodau ar ei hyd;
Pwy feddyliau'r gwanwyn yma,
Wrth y blodau ar dy wedd,
Y buasai'r gwanwyn nesa'—
Yn blodeua ar dy fedd.
Wyt ti'n cofio'r breuddwyd hyny,
Ar ryw foreu ddarfu'm ddweyd,
Fod y gwanwyn wedi methu
Glasu fel yn arfer gwneyd;
O fe gostiodd ei ddeongli
I mi ffrwd o ddagrau drud—
Pan y gwelais yn y glesni,
Bridd dy fedd yn llwyd i gyd.
Rhyw ymgomio â dy ysbryd
Yw'r hyfrydwch penaf gaf,
A breuddwydio ambell fynyd,
Sy'n gwellhau fy nghalon glaf;
Ond chaiff gwendid er ymchwilio,
Ddim i foddio hiraeth serch;
Ddim ond edrych, wyt ti'n cofio
Ar dy lun, a'th anwyl ferch.
Mae hwn yma gallaf wasgu,
At fy mron dy ddarlun mud;
Ond mae'r ysbryd oedd yn caru,
Wedi dianc ffwrdd i gyd;
Mae dy ferch yn gallu gwenu,
Gwenu trwy fy nagrau I;
Ydyw, mae'r un fach yn tyfu,
Fel dy goffawdwriaeth di,
Cofio pethau nad â'n anghof
Yw fy nghysur bron i gyd,
A hen ymweliadau adgof,
Yw fy nhrallod yn y byd;
Cofio am dy wên anwylaf,
Sydd fel hamdden i fy nghlwy';
A fy lladd yr eiliad nesaf,
Pan yn cofio nad wyt mwy.
'R wyf fi'n cofio'r gwely angau,
Wedi i ti anghofio'r byd;
Pan oedd d'enaid ar fyn'd adrau,
Ond yn methu, methu o hyd;
Wedi i heulwen anfarwoldeb,
Bylu'th olwg ar y llawr,—
Pan y tremiet trwy fy wyneb
Ar y tragwyddoldeb mawr.
Dyna'r pryd y syrthiodd gobaith,
Yn rhy wan i godi ei law
Wen, i sychu dagrau hiraeth
A fwrlyment fel y gwlaw;
Est i golli yn yr angau,
I dy gael y'ngw'ad y gân,
Pan o'em ninau yn ein dagrau
Wedi colli'n gwel'd yn lan.
Tynodd dy anadliad olaf,
Dy holl fywyd yno'nghyd;
A dy droion da tuag ataf,
A bentyrwyd yno i gyd;
O bu'r storom chwerw o hiraeth,
Bron fy lladd y fynyd hon;
Byw, a marw, fel ar unwaith,
Yn ymwthio trwy fy mron,
Mary anwyl, pan y'th gollais,
Collais bobpeth yr un pryd;
Nid yw yn un cael na mantais,
Cael fy hunan yn y byd;
Y mae pobpeth yma bellach,
Yn ddigysur a dihedd;
Ond mae rhywbeth mil anwylach,
Yn y nefoedd, yn y bedd.
Mae'r hen lwybrau lle yr oeddynt
Ein hen lwybrau anwyl ni;
A rhyw dynfa i mi ar hyd—ddynt
Eto wedi'th golli di;
Mae'r tyrfaoedd byth yn llawnion,
Mae pawb yma ond dy hun;
Eto rywfodd, teimla nghalon,
Nad oes yma ddim o'r un.
O mor unig, mor drallodus,
Mary, heddyw yw fy rhan;
Mae'r hen fyd yn fwy ystormus,
A'th hen gariad yn fwy gwan;
Gallwn feddwl wrth ddisgyniad,
Yr ergydion arnaf fi,—
Ddarfod claddu cydymdeimlad,
Yn y bedd, lle claddwyd di.
Gwyn! O "gwyn eu byd y meirw,"
Ddybla i waeddi yn fy nghlyw;
Nid oes dim ond troion chwerw,
Byth i gael ar dir y byw;
Mae ystormydd wedi curo,
Wedi chwythu ar fy hedd,
Wedi'r storm ofnadwy hono,
Ddydd dy angladd uwch dy fedd.
Mae y cyfan wedi duo,
Yn awyrgylch hyn o fyd;
A chwa hiraeth wedi gwywo'r
Blodau siriol gynt i gyd;
Dim i sychu dagrau hiraeth,
Yn fy nû, nid oes i mi,
Ond fy nghadach gwyn a gobaith,
Am gael eto gwrdd â ti.
"BYDDED, AC FELLY Y BU."
CYN cyneu gwawl,
I dori ar ddiderfyn hawl,
Trag'wyddol nos;
Cyn rhoi'n y caddug dû ei wawr,
Ymdaenai dros y gwagle mawr,
Un seren dlos;
Ymdorai llais o Orsedd Nef,
A "bydded goleu" lon'd y llef.
Atebai gwawr o'r t'w'llwch dû,
Gan chwareu'i hedyn tanllyd cry',
Ac felly bu!
Cyn cychwyn un
O fydoedd hyna'r Crewr ei hun,
I ddechreu'i daith;
Cyn myn'd o dre'
Y crwydryn pellaf yn y ne',
I'w siwrne faith;
Y bydded bydoedd cyntaf oll,
A dreiddiai'r tryblith gwag ar goll,
Nes taro'n erbyn bydoedd lu,
O un i un yn adsain sy',
Ac felly bu!
Cyn rhoi i lawr
I orwedd yn ei wely mawr,
Yr ëang fôr;
Cyn urddo haul na lleuad dlos
Yn ymerawdwyr dydd a nos,
Llywodraeth Iôr;
Sŵn bydded dreiddiai drwy y ne',
A'r haul a'r lloer a neidiai i'w lle;
A'r môr atebai gyda rhu,
O eigion eitha'i ddyfnder dû,
Ac felly bu!
Y bydded mawr,
Mae grym Creawdwr nef a llawr,
Yn llanw 'r llef:
Mae Iôr ei hunan yn y llais,
A bydoedd filoedd yn ddidrais,
A'i hetyb ef.
Jehofa ' n cerdded megis llef,
Lle mae y byd, lle mae y nef;
A threfn o'i ôl yn cerdded sy',
Gan wyro 'i phen i'r bydded cry',
Ac felly bu!
Y COR MAWR.
Y Côr yma o Gymru, a enillodd y Llawryf, gwerth Mil o
Bunnau, yn y Palas Crisial, 1872.
Y COR mawr, dirfawr, ha darfu,—i hwn
Enill clod i Gymru;
Ar ol hyn bloeddia rhyw lu ,
Wel, O ! 'n cenedl a'n cânu.
Wel, ïe,'n cenedl a'n cânu,—cânwyr
Yw 'n cenedl plant Cymru :
Cânu o fath eu cân ni fu
Odlau'n cenedl i'n cwnu .
Odlau 'n cenedl i'n cwnu,—i sylw
Sais eilwaith daw Cymru;
Daw 'n gwlad i'r làn dan gânu,
A'i chân bêr,—daw 'n uwch na bu.
A'i chân bêr daw 'n uwch na bu,—daw yn uwch—
Daw hyd nef â'i chânu;
Yn nwyf ei dôn yr 'Hen Of Du,'
A chyfoeth cân wna 'i dyrchafu.
Ei chyfoeth cân wna 'i dyrchafu,—i ben
Euraidd binacl cânu;
Mae gwŷr sain Llundain yn llu,
Rhag y rhain, yn rhyw grynu!
MARWOLAETH YR IAITH GYMRAEG.
MAE 'r iaith Gymraeg, yn myn'd i fyn'd,
Yn myn'd i fyn'd a'n gadael ni;
'R oedd llawer i'r hen ffrynd yn ffrynd,
Ond er eu gwaetha myn'd mae hi :
Mae 'n myn'd, ffarwelia o un i un,
A thad, a mam, a brawd, a chwaer;
Mae 'n myn'd i fyn'd yn wir i ddyn,
A'n gadael yma heb un gair.
Mae'r hen iaith hoff yn myn'd i fyn'd,
Yn myn'd i fyn'd,—yn myn'd i b'le?
Wel ydyw 'n wir, y mae'r hen ffrynd
Yn myn'd i'r bedd, neu 'n myn'd i'r ne';
Mae 'n myn'd i fyn'd i golli 'n llwyr,
Mae'n myn'd i fyn'd,—o brysur 'n awr.
I b'le mae 'n myn'd, y Seisneg ŵyr,—
Wn i ddim, p'un, ai i'r làn, neu lawr.
Fe welwyd pethau anwyl iawn,
Do, fel ei goleu 'n myn'd o'i blaen;
Yr hen ffasiynau oedd yn llawn
Ar hyd y wlad, pa le mae 'rhai'n?
Ië, llawer i hen "het bob cam,"
A aeth bob cam i ben ei thaith,
Oddiar y coryn rhoddodd lam
Fel canwyll gorff o flaen yr iaith!
Mae'r bais a'r bedgwn wedi ffoi,
Fel i ragflaenu rhywbeth mawr;
A'r 'sanau gleision wedi troi
Yn wynach braidd na'r coesau 'n awr;
Mae'r crysau gwlenyn yn ymroi
I ryw ddefnyddiau main yn llawn;
A'r hen iaith gref yn gorfod rhoi
O flaen ei meinach lawer iawn.
O hen iaith Cymru nid yw 'n deg,
Dy fod yn gorfod myn'd,—myn brain!
Yn cael dy wthio fel i gêg
Hen wrach sy gymaint yn fwy main.
Hi ddylai lyncu 'th bethau cry',
Yn gymysg â dy bethau gwan,
Yr Ch, yr Ll, yr Dd, a'r Ng,
Ond tagai rhai'n hi yn y man!
Mae'r iaith yn myn'd i fyn'd,—yn wir!
Beth wnawn ni fechgyn ar ei hol?
Ni fyddwn heb un gair cyn hir,
'R un fath a'r lloi sydd ar y ddôl,
Yn brefu ar ol ein hunig iaith,
A'r Sais yn Seisneg wawdio 'n cri;
Hi ddaw yn sobor, tyna 'r ffaith,
I garn o flockheads fel y ni.
Os oes rhyw gymaint yn Gymraeg,
Ag eisiau 'i wneyd,—wel, 'n awr yw 'r awr;
Rhyw gân neu benill o'r hen aeg,
Os am ei chanu,—dewch yn awr!
Fe fydd y gwcw cyn bo hir,
A'r ceiliog gyda'i gw-cw-gŵ,
'N ol dysgedigion pena'n tir,
Yn canu Seisnig, medde' nhw.
Wel taw ni 'n marw, marw mae,
Mae geiriau 'n trengu fel y gwynt;
Ond 'r wy'n gobeithio yn fy ngwae,
Y bydd pob Cymro farw 'n gynt.
Gresynys iawn fydd gweled neb,
Yn wylo ar ol ei hen iaith fwyn,
A'i fron yn brudd a'i rudd yn wleb,—
Ond heb un gair i dd'weyd ei gwyn!
Mae'r 'Nos Dawch,' eisioes yn 'Good Night,'
Mae hint fach yna ddalia chwi;
'Pob peth yn iawn' sydd yn 'all right,'
Mae hyn yn wrong feddyliwn I;
Hints ini boys, hints gwir yn wir,
Cyfieithwn bawb ei hun ar frys,
A chadwn ein Cymraeg yn glir,
Fel y 'Ngeiriadur G. ap Rhys.
"CHWEDL."
Efelychiad.
AR foreu teg yn Ebrill,
Pan aethum i'r ystryd,
Rhyw druan carpiog ddeuai i'm cwrdd,
Gan droedio 'lled a'i hyd;
Wnai pob un oedd yn pasio,
Ddim tynu sylw dyn;
Ond hawliai golwg chwithig hwn
Fy llygaid iddo 'i hun.
Wrth geisio gwanu heibio,
Daeth tro ag ef i'm cwrdd,
A bachu yn fy ngholer wnaeth,
Fel na chawn fyn'd i ffwrdd:
Ymbiliai am chwe' cheiniog,
A gwasgai yn fwy tyn;
A thros ei fywyd meddw aeth
Yr adyn meddw hyn.
"Ni raid i ti ddim gwrido
O'm plegid i," 'be fe;
"Mi fûm yn berchen chwech fy hun,
A gwraig a phlant a thre';
'D oedd neb yn Ynys Prydain,
A'i galon yn fwy iach,
Na mi pan o'wn i'n dechreu 'myd,
Ac yfed llymaid bach;
'R oedd Ellen yn fy ngharu,
A mi 'n' charu hi—
Ac O! ni fu yn caru erioed,
Ddedwyddach dau na ni;
Ond llithrais bob yn dipyn,
Fel llithrodd llawer un,
I garu llymaid bach yn fwy,
Nag Ellen fach ei hun.
"Bu genyf etifeddiaeth;
Nid rhywun oeddwn i,
A bu fy nghôt, feallai, gynt
Mor deg a'r eiddot ti;
"'R oedd arian genyf, ddigon
I brynu bryn a phant;
Ond O! beth ydoedd gwerth y rhai'n,
At werth y wraig a'r plant.
Defnyddiais f' etifeddiaeth,
Hi basiodd drwy fy ngheg;
Ond torais galon Ellen hoff,
Chadd hi ddim chwareu teg."
Aeth gafael gref ei syched
Na'm calon wan yn drech,
A chyn i mi gael myn'd i ffwrdd,
'R oedd wedi myn'd am chwech.
Cyn fod y boreu hwnw
Yn cauad yn y nos,
Digwyddais groesi 'r afon ddû
A lifa drwy y rhos;
'R oedd dau o fechgyn cryfion
Yn agos at y fan,
O afael grym yr afon gref,
Yn tynu corff i'r làn.
Dynesais at y dyrfa
A ddaethai at y dŵr;
'D oedd yno neb yn gwybod dim,
Pwy oedd y truan ŵr:
Wrth chwilio am ryw arwydd,
Pwy ydoedd;—yn y llaid,
Ar fron y marw, loced aur,
A'r enw "Ellen" gaid!
YR ENFYS.
GROGEDIG dorch, a harddwch lon'd dy hanfod,
Yn crogi fel ar ael urddasol gawod:
Y nef yn gwisgo ei choronbleth liwiau,
Fel gwisga morwyn ei choronbleth flodau;
Y lliwiau wedi eu plethu â llaw goleuni,
Mor brydferth nes yw'r cain yn gwrido drwyddi.
O nefol ddarlun, ardeb caredigrwydd,
Yn cael ei ddal i'r byd yn ei berffeithrwydd,—
Pob lliw 'n y darlun wedi eu cymysgu,
Yn rhy farddonol dlws i'w gwahaniaethu ;
Ond gall y mwyaf cibddall ganfod ynddo,
Fod lliwiau heddwch yn cydredeg drwyddo—
Yn ymgofleidio, 'n toddi idd eu gilydd
Mewn hedd y'nghanol chwyldroadau 'r tywydd;
A gwefus tangnef yn yr haul belydrau,
Yn gwenu ar y byd drwy nefol ddagrau.
Rhyw ffurfiol fwa 'n cilio ond ymddangos —
Rhyw fwa heddwch heb un saeth yn agos,
Fel hen arf segur, eto 'n ddisglaer hawddgar,
Yn crogi o chwith i anelu at y ddaear;
Llun breichiau cariad at y byd yn estyn,
Fel am gofleidio 'r ddaear megis plentyn.
A'n cryfder yn y nefoedd yn cartrefu,
Lle mae'r cadernid oesol yn gorseddu;
Ar fynwes hedd o fewn y breichiau yma,
Gall daear wenu, dan y cwmwl dua'.
GWELL GENYF FOD AR OL FY HUN.
WRTH wely angau'r anwyl ferch,
A roddodd fywyd yn fy serch,
Buasai marw yn ei lle
'R hyfrydwch penaf dan y ne';
Ond wedi gorfod blaenu o un,
Gwell genyf fod ar ol fy hun.
Wrth ddal ei phen er 'chydig hoen,
Mor felus fuasai dal y poen,
O! buasai 'n well gan i na'r byd,
Ddal dyrnod angau ar y pryd;
Ond eto i ddal helbulon un,
Gwell genyf fod ar ol fy hun.
Buasai dal ei phoenau hi,
Yn fwy na nerth fy mywyd i;
Ond buasai myned yn ei lle,
Lawn cystal i'm a myn'd i'r ne';
Drwy na chymerai 'r nef ond un,
Gwell genyf fod ar ol fy hun.
Hi garai, O! fel carai hi,
Hi garai lawer fwy na fi;
A gwn trwy brofiad rywbeth 'n awr,
Beth fuasai pwys ei hiraeth mawr;
D'wed f' ocheneidiau o un i un,
Gwell genyf fod ar ol fy hun.
Bu siarad rhyngom lawer gwaith,
Am ddiwedd oes a phen y daith,
A phob un yn gobeithio am,
Os oedd rhaid blaenu, flaenu o gam;
'N ol teimlo beth yw teimlad un,
Gwell genyf fod ar ol fy hun.
I geisio rhwyfo gweddill oes,
Drwy dònau cryf a thywydd croes;
Wrth wel'd mor anhawdd, anhawdd yw,
I gadw i forio a chadw 'n fyw;
Na bod fy anwyl, anwyl un,
Gwell genyf fod ar ol fy hun.
YMWELIAD Y COR CYMREIG A LLUNDAIN.
Cân Ddifyr Ddesgrifiadol. Buddugol yn Eisteddfod
Alban Elfed, 1872
MAE'r testyn wedi'i enwi,-
Y Cor Mawr, &c.,
Wel dyma le i farddoni —
Y Cor Mawr!
Pa le mae dechreu arno,
Neu 'n hytrach b'le mae peidio,
Ni waeth pa fan mae taro,
Mae 'n llawn o ganu drwyddo.—
Y Cor Mawr, &c.
Yn Aberdar y ganwyd,—
Y Cor Mawr,
Yn Aberdar y magwyd,—
Y Cor Mawr;
Yn Aberdar gan hyny,
Gwnaf finau ddechreu canu,
Ac yno 'r wyf yn credu,
Y gwnaiff y gân ddibenu,—
I'r Cor Mawr, &c.
Pwy bynag sydd am weled,—
Y Cor Mawr,
Doed gyda fi am fyned,—
Yma 'n awr :—
I Aberdar gyfeillion,—
'N awr glöewch eich golygon,
Edrychwch tua'r Station,
Ar foreu dydd Excursion,—
Y Cor Mawr!
"Nid hwna wyt ti 'n galw,—
Y Cor Mawr,
'D oes neb o'r dyrfa acw,—
'N un Cor Mawr;
Adwaenaf fi rhai yna,
Hen Golliers bach oddiyma,
A dacw Budler fana,
A mawr shwd beth os dyma,—
Dy Gor Mawr!"
Wel, ie, dyna ddefnydd,—
Y Cor Mawr,
A chalon ac ymenydd :—
Y Cor Mawr;
Nid pigion pendefigol,
Na neb o waed daearol,
Ond y gwaed coch cerddorol,
Yw 'r unig beth gofynol,
Yn safon ymherodrol,—
Y Cor Mawr!
Ond gosteg dyna Engine,—
Y Cor Mawr,
Yn rhoddi sŵn i gychwyn,
I'r Cor Mawr;
Nid sŵn i gychwyn canu,
'Caradog' sy'n gwneyd hyny,
Ond sŵn i fyn'd er hyny—
I fyn'd i lawr neu fyny—
Am byth—Anrhydedd Cymru,
Sydd 'n awr rhwng CAEL & CHOLLI,
Y Cor Mawr!
A weli di flaenoriaid,—
Y Cor Mawr,
Yn pacio i fyny ddeiliaid,—
Y Cor Mawr;
'Caradog' a 'Brythonfryn,
A'r blewog 'Ganon Jenkyn,'
A'Doctor Price' fel crotyn,
Yn ceisio gwneuthur pobun,
I deimlo 'n nhre am dipyn;—
A thyna 'r Cor yn cychwyn,—
Ffwrdd yn awr!
Mae Hip Hwre 'n cyrhaeddyd,—
Y Cor Mawr,
A Hip Hwre 'n dychwelyd,—
O'r Cor Mawr
Pob perchen cêg yn gwaeddi,
Yn bloeddio â'i holl egni
A'r Hip Hwre 'n gwasgaru,
Drwy holl Ddeheudir Cymru,
Pawb ond y North 'ran hyny,
Yn teimlo ac yn taflu
Eu Hip Hwre i helpu,—
Y Cor Mawr!
"Fe aeth y Tren i golli,—
A'r Cor Mawr,
Mae'r cyfan wedi tewi,—
Dyna 'i 'n awr."
I golli:—nage i ennill,
Fi fentra bymtheg pennill,
Beth wyddot ti,—ffŵl Ebrill,—
Am Gor Mawr!
Aeth llawer Tren oddiyma,——
Cyn yn awr,
Ond hwna, 'r Tren diwedda',
Oedd y mawr;
Mae sôn am Drens barddonol,
A llawer peth cynffonol,
Ond y prif Dren Cerddorol
Fu erioed yn rhedeg heol,
Oedd hwna, Tren Neillduol,—
Y Cor Mawr!
Mae Trens y llinell hono,—
'Bu 'r Cor Mawr,
Fel wedi'u cerddoreiddio,—
A'r Cor Mawr;
Maent 'n awr yn cadw amser,
A chwiban mewn eglurder,
A'r pwff yn rhywbeth seinber,
A mân welliantau lawer
A ellir ro'i ar gyfer,—
Y Cor Mawr.
Ond rhaid i minnau gychwyn,—
Ffwrdd yn awr,
I 'Paddington' i dderbyn,—
Y Cor Mawr;
Mae'r blaena' 'n awr bron yno,
A rhaid i minau frysio,
Ca'r Telegraph fy nghludo:—
Af finau bid a fyno,
Er undyn fyny i wrando,—
Y Cor Mawr.
Bûm yno 'n aros mynyd,—
I'r Cor Mawr,
Fel estron mewn dieithrfyd,—
Fynyd awr;
Ond dyma'r Tren yn dyfod,
A thaflodd Gymry 'n gawod,
I'r platform heb yn wybod;
Cymraeg oedd ar bob tafod,
Yn mysg fy hen gydnabod,
'R oedd Paddington yn ngwaelod
Morganwg, ar ddiwrnod,—
Y Cor Mawr!
'R oedd Llundain yn llygadu,
Y Cor Mawr,
A chofiwch mae peth felly,—
'N rhywbeth mawr;
Cyn cychwyn ro'wn i'n crynu,
Rhag ofn i'r Cor ddyrysu,
Mewn lle mor fawr a hyny;
Ond, beth a dal dyfalu,
Fe drawsgyweiriodd Canu—
Dref Llundain,— fel i Gymru,
Pan aeth 'Caradog' fyny,—
A'r Cor Mawr.
I'r Palas Grisial cerdda,—
Y Cor Mawr,
Y Stage gerddorol uwcha',—
Ar y llawr;
A theif Caradog yno,
Ei 'Doh' Gymreigaidd iddo,
A thyna fe yn taro,
A'r byd i gyd yn gwrando!—
Y Cor Mawr!
'N awr dyma le i weled,—
Y Cor Mawr,
A dyma fan i glywed,—
Y Cor Mawr;
Rhyw bedwar cant o Gymry,
Yn canu nes dychrynu,
Holl gorau 'r byd 'ran hyny,
I feiddio d'od i fyny,
I gynnyg ymgystadlu,—
A'r Cor Mawr.
Cymmerwyd y Brif Ddinas,'—
Fach a mawr,—
'By Storm,'—fel STORM TIBERIAS,—
Ganddo 'n awr!
A Hen 'Ryfelgyrch' Cymru,
Fu agos iawn a thynu
Y lle yn garn o'i deutu;
Y Palas oedd yn crynu,
A grym y gân yn dyblu,
Fel y tu hwnt i ganu,—
Y Cor Mawr!
Mae'r canu wedi pasio,—
Gosteg 'n awr!'
Mae unpeth i fod etto,—
A pheth mawr.
Mae'r Barnwr ar ei wadnau,
A'r dorf yn llyncu ei eiriau,
Beth ydynt ?—“Y Cor gorau
DRWY'R BYD A'I HOLL ORORAU―
YW'R COR MAWR."
Hwre! am unwaith etto,—
I'r Cor Mawr,
A dorodd allan yno,—
'N fanllef fawr!
Hure! sy'n gwefr—hysbysu,
O Dref i Dref,—drwy Gymru,
Mae'r Telegraph yn crygu,
Wrth Hip—hwre drydanu!
Mae'r Gogledd chwaethach hyny—
Yn awr yn pwffio i fyny,—
Y Cor Mawr!
Dychwelyd 'n awr i Gymru,—
Mae'r Cor Mawr,
A'i enw wedi tyfu,—
'N Gor Mawr MAWR!
Mae croesaw cartref iddo,
'N rhy wresog i'w ddarlunio,
Un llinell gana' i etto,
'R oedd Aberdar yn cario—
'R Cor Mawr MAWR.
Y MENYWOD CLECOG.
WEL wir, nid cân ddifyr yw. cân o fath hon,
Pwysigrwydd y testun sy'n llanw fy mron;
Wyf yma fy hunan heb wybod i'r byd,
Yn bwrw llinellau fy nghan fach y'nghyd;
Ond mentraf fy nghân, gwnaf, mentraf fy mhen;
Daw'r clecog fenywod yn fuan i wybod,
Pwy gwnaeth hi bob llinell o'r dechreu i'r Amen.
'D wy'n meddwl dim drwg wrth wneyd, cân fach fel hyn,
Fe ddylai pob prydydd gael d'weyd peth a fyn,—
Ond peidio d'weyd celwydd. Ond cha' I lonydd fawr,
I dd'weyd y gwirionedd,―mi w'n hyny 'n awr;
Bydd menywod y lle, y rhai clecog o'r bron,
Yn siwr o'm ceryddu,—fy mod wedi canu
Cân i hon a hon, a hon a hon, a hon a hon!
Rhai od yw menywod a d'wedyd yn syth;
A'r rhai sydd yn glecog maent hwy'n odach fyth.
"Dau gynyg i Gymro,"—maddeuwch i mi,—
Rhai diglec sy odaf, maent hwy 'n llai o ri':
Peth od yw peth od, fel y gwyddom i gyd,
Peth od yw cael menyw fel dyn y dydd heddyw;
Ond cael un fel yna, 'n beth od yn y byd.
Mae clec fel 'snodenau yn dilyn y rhyw;
Adwaenaf fi lawer, ar glec maent hwy yn byw;
Fel wedi rhoi fyny bob gwaith yn y byd,
A llwyr ymgysegru i'r glec yma i gyd:
Yn byw ar eu clec, ac yn byw 'n hapus iawn
Y'nghanol digonedd, fel Hen Broffeswragedd,
Yn treulio i fyny eu clecog brydnawn.
Pob math o fenywod sy'n perthyn i'r rhai'n,
'D oes neb yn rhy refus, na neb yn rhy fain.
Amodau derbyniad menywod y byd,
Yw tipyn o hanes yn buwr,—dyna 'gyd;
Ni fu'r fath gymdeithas erioed ag yw hi,
Y lluaws chwiorydd yn gwadu eu gilydd,—
"Mae pobun yn perthyn i'r Clwb ond y fi."
Mae rhai yn eu mysg yn swyddogion i'w cael,
Enillodd eu teitlau mor deced a'r haul;
Menywod cyhoeddus yn addurn i'w swydd,
Ac eraill nas gellwch eu hadwaen mor rhwydd;
Rhai dipyn yn ffals, ond rhai hynod o dŷn,
Ni raid wrth eu henwau, gŵyr pob chwaer o'r gora 1,
Sy'n gwybod y cyfan,—pwy yw y rhai hyn.
Yr hyn yn eu mysg sydd yn ddigrif i mi,
Hwy driniant eu gilydd fel triniant hwy ni;
A gwyddant o'r goreu beth bynag yw'r gwall,
Ei bod hwy mor barod i drin naill y llall.
Hen nodwedd eu credo erioed yn y byd,
Yw rhyw oerfelgarwch—heb fawr o chwaergarwch;
Na, crefydd y pen yw eu crefydd i gyd.
Adwaenwn I ddwy o flaenoriaid y llu,
Enwocach, selocach aelodau ni fu;
'R oedd pobun yn amlach o fewn ein tŷ ni,
Nag yn ei thy ei hunan,—yn trin, welwch chwi,
Faterion eu gilydd ;—a mater go dyn,
I mi y fan hono, oedd peidio dadguddio
Fy mod yn adnabod ond un o'r rhai hyn.
'R oedd un yno heddyw â 'stori o waith hon,
A'r llall yno 'foru a'r un 'stori 'n gron;
Ond nad yw'r awdures yr un, medde hi,
Y llall yw ei mham, medde hon wrthyf fi;
Chwi welwch, fel finau, fod yna ryw gam,
Ni glywsom ni, bobun, am fam â dau blentyn,
Ond nid am un plentyn erioed â dwy fam!
Gadawaf hwy 'n llonydd heb enwi dim un,
Rhag ofn i'm gael myned yn gleci fy hun;
Ond hidiwn I lawer i roi iddynt hwy,
Ar ddiwedd y gân yma glec fach neu ddwy.
Chwiorydd, a wyddoch chwi p'odd ini 'n gwneyd?
Pan glywom ni 'stori, cyn coeliwn ni m'oni;
Gofynwn yn gyntaf,—Pwy ddarfu ei d'weyd?
Yr enw'r awdures; yn gyntaf i gyd,
Mae enw yn llawer o beth yn y byd;
Ac wrth wneuthur novel gwnewch gofio y ffaith,
Yn ol fel bo'ch enw, cymeriff eich gwaith.
Ni chwarddwn yn llawen am ben llawer ffaith,
Rhyw 'stori ddigrifol a gwir yn ei chanol;
Ond—Enw'r awdures wrth gynffon y gwaith.
ARGRAFFEDIG GAN HUGHES A'I FAB, GWRECSAM.
Nodiadau
golyguBu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.