Caniadau Buddug (Testun cyfansawdd)

Caniadau Buddug (Testun cyfansawdd)

gan Catherine Prichard (Buddug)

Wikiquote
Wikiquote
Mae dyfyniadau sy'n berthnasol i:
Caniadau Buddug
ar Wiciddyfynnu.
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Caniadau Buddug
ar Wicipedia
Ffotograff o Buddug

CANIADAU BUDDUG.


Wedi eu Casglu a'u Dethol

gan ei Phriod.



CAERNARFON: SWYDDFA "CYMRU."

1911.

RHAGYMADRODD.

Yn eglwys Llaneilian, Mon, y mae cerflun o wraig ar ei gliniau o flaen allor. Wrth ei phen y mae'r weddi,—"Nid i ni, Arglwydd, nid i ni, ond i'th enw di." Uwchben hynny y mae llythrennau cyntaf "Iesus Hominum Salvator," —Iesu Gwaredwr dynol ryw.

Y mae'r darlun a'r weddi yn dwyn un arall o ferched Mon,—Buddug a'i gweddi a'i gwaith, i'r meddwl.

Merch oedd Catherine J. Prys i Robert ab Ioan Prys (Gweirydd ap Rhys), y llenor a'r hanesydd diflino, a Gras, ei wraig dawel a dwys. Ganwyd hi yn Llanrhyddlad, Gorff. 4, 1842. Hi oedd yr wythfed o'r plant, ac yr oedd ddwy flwydd yn iau na'i brawd athrylithgar Golyddan. Yr oedd yn blentyn hoffus a gobeithiol, ac yr oedd yn hoff o gân erioed. Darllennai lawer, yn Gymraeg a Saesneg, pan yn blentyn; yr oedd yn hoff o'r hen benhillion telyn; a gwnai ambell rigwm ei hun pan yn ddeg oed.

Yr oedd yn cystadlu pan yn ddeunaw oed. Cyn bod yn ugain yr oedd wedi ennill sylw fel amddiffynnydd anrhydedd ei rhyw dan yr enw Buddug. Urddwyd hi'n fardd gan Glwydfardd yn Eisteddfod Dinbych yn 1860.

Ionawr, 2, 1863, ymbriododd à Mr. Owen Prichard (Cybi Velyn), un o'r un gariad at gân a gwneyd daioni.

Y tu allan i waith rhai o'i theulu athrylithgar ei hun, y mae'n debyg mai Ann Griffiths ac Islwyn a efrydai gysonaf. Nid anghofir hi gan neb a'i clywodd yn darllen ei theyrnged i athrylith Ann Griffiths i'r llu o bobl Maldwyn oedd wedi dod i Lanfyllin i ddathlu can. mlwyddiant eu hemynyddes.

Am y gwlith, a hirddydd tawel, a blodau gardd y meddylir wrth ddarllen caneuon Buddug. Y maent yn bur fel y goleuni, yn naturiol fel nant y mynydd. Cân gwraig garedig, ddwys, a duwiol, tra wrth ei gwaith, ydyw'r gân. Wrth edrych ar hirddydd haf ger gwely ei mam glaf y canodd "O na byddai'n haf o hyd.” Wrth feddwl am ei dosbarth yn yr Ysgol Sul y canodd,—

"Gallaf edrych yn eich wyneb,
Edrych arnoch yn ddi-fraw;
Ysgwyd dwylaw mewn anwyldeb
Yn y tragwyddolfyd draw."

Tra bo chwaeth yn bur yng Nghymru, tra bo serch at fam a chwaer, tra gwelir tlysni bywyd rhian a gwraig, ni ollyngir dros gof awen lednais, dyner, a charedig Buddug.

Bu farw'n dawel, Mawrth 29, 1909; rhowd hi i huno ym mynwent Maes Hyfryd, Caergybi; ai ei bedd rhowd cerrig gwynion glân a cholofn o farmor gwyn. Adroddwyd ei hanes gan R. Mon Williams (Cymru, cyf. xxxix., 223); ond ei chofadail oreu yw ei Chaniadau, gasglwyd gan ei phriod yn 1909, mewn hiraeth am dani.

OWEN EDWARDS.

Llanuwchllyn, Rhag. 23, 1910.

DARLUNIAU.



BUDDUG. O wawl arlun ...... Wyneb-ddarlun.

Cofiwch fy nghyfarfod yno
Pan y del eich awr i ben."

HAF O HYD ...... I wynebu tud. 9

o ddarlun gan W. W. Goddard.

CRANOGWEN, O wawl arlun ...... I wynebu tud. 24

"Dy ryfedd hyawdledd, a'th ddwys dduwiolfrydedd,
A'th ddoniau gwahanol, enillodd fy serch."

YR EHEDYDD ...... I wynebu tud. 33

"Mwyniant rhagorach a ddygir
Gan adar a blodau i mi."

YNYS LAWD ...... I wynebu tud. 65

O ddarlun H. Gastineant.

"Cadw draw ! Neu gwae dydi,
Forwr dewr ar gefn y lli."

SIR FON ...... I wynebu tud 80

Darlun gan S. Maurice Jones.

Ac megis seren mewn gogoniant gwyn yw Mon."

Y FRONFRAITH ...... 112

"Tant y fronfraith fwynber,
Dan awel gwanwyn dyner."

CYNHWYSIAD.
golwg o afon a choed ar ddiwrnod hafaidd

CANIADAU BUDDUG.

O! NA BYDDAI'N HAF O HYD.

O! NA byddai'n haf o hyd,
Awyr lâs uwchben y byd,
Haul goleulan yn tywynnu;
Adar mân y coed yn canu,
Blodau fyrdd o hyd yn gwenu,
O! na byddai'n haf o hyd.

O! na byddai'n haf o hyd,
Dydd diderfyn ar y byd;
Anian mewn perffeithrwydd gwisgoedd,
Bywyd ar bob dalen bythoedd,
Ninnau'n ieuanc yn oes oesoedd;
O! na byddai'n haf o hyd.

O! na byddai'n haf o hyd,
Gaeaf mewn tragwyddol gryd :
Neb yn ofni tywydd garw,
Neb mewn poen, na nychdod chwerw,
Neb yn cwyno, neb yn marw
O! na byddai'n haf o hyd.

BOREU OES.

BOREU einioes. O! brydferthwch,
Eres harddwch, blodau'r byd:
Ceinion natur ymgynghreiriodd,
I gyfarfod yma 'nghyd:
Gwylia'n eiddigeddus drosto
A dilychwin lygad moes,
Rhagymadrodd tragwyddoldeb
Ydyw cyfnod boreu oes!

Pennod fawr yw tragwyddoldeb,
Raid ei darllen yn ddiau:
Ac ar ddiwedd pob tudalen,
Ceir y geiriau "I'w barhau;"
Cofia fod a fynno'th fuchedd
Ym moreuddydd einioes wiw
A chyhoeddi'r gyfrol bwysig
Leinw'th fryd tra fyddo Duw.

Amser ydyw'r memrwn rhyfedd,
Dan oleuni gwyneb Ner,
Sydd yn derbyn argraffiadau
Welir pan y syrth y ser:
Pan gyhoeddir Amser drosodd,
Pan f'o haul a lloer yn sarn,
Adlewyrchir y gweithredoedd
Yno'n fyw ar furiau'r farn.

Ti wr ieuanc, aros ennyd,
Uwch gweithredoedd ienctyd cun,
Dod dy lyfr i'w adolygu
I Awdwr iachawdwriaeth dyn:
Yna'n eofn yn dy yrfa
Dos hyd derfyn dyddiau'th daith,
Ni raid ofni haul byd arall
I dywynu ar dy waith.

BYTHYNOD GWYNION GWALIA.

FEL addurniadau arian,
Puredig gan y tân,
Yw ein Bythynod Gwynion,
Ar fynwes gwlad y gân :
Awgrymant am y purdeb,
Feithrinir mewn cywirdeb;
Ar liniau gwiw moesoldeb,
O fewn eu muriau glân.

Ymffrostied beilch estroniaid,
Mewn adeiladau drud,
Cyfodant uchel dyrau,
I roi eu serch a'u bryd ;
Ymffrostiwn ninnau'n eon,
Yn ein bythynod gwynion,
Lle megir egwyddorion;
A bery'n hwy na'r byd.

Fe wyliodd claer angylion,
Lu o'r anneddau hyn;
Fe safodd anfarwoldeb
Uwch aml fwthyn gwyn;
Parhaed teg wenau Gwynfa,
Yn nawdd ac amddiffynfa,
Bythynod Gwynion Gwalia,
Tra haul a môr a bryn.

MIS IONAWR.

MAE'R adar yn dechreu canu,
Ar frigau y goedwig lom;
Tithau, cod galon i fyny,
Er fod dy galon yn drom,
Chwilio am nodau ei garol,
Y mae yr aderyn mwyn,
Gollodd yn nhywydd gaeafol
Y llynedd, ynghwr y llwyn.

Buan y daw yr awelon
Dros emrynt y gwanwyn syw,
Gweithiant eu tannau yn dynion,
Dyhidlant yn odlau byw;
Tremiad yr heulwen a ddeffry
Alawon uwch llwyn a nant,
Yn asbri y chwaon chwery
Eu rhyfedd berorol dant.

Tithau, os collaist dy gywair,
Mewn trallod a thywydd blin;
Na foed i'th alar roi anair
I heulwen rhagorach hin:
Dyrcha dy olwg i fyny,
O gyrraedd y llwyni a'r llawr,
Dyna rydd fodd i ti ganu,
Edrych yn llygad y wawr.

OLWYNION AMSER.

Troi yn gyflym maent o hyd,
Ninnau ar y cantau'n mynd;
I ba le, fy anwyl ffrynd?
I ryw hafan dawel glyd.

Troed olwynion amser mwy,
Cadwn ninnau olwg fry,
Ni raid ofni rhwystrau lu,
Troant faint a fynnont hwy.

Taflant un o donn i donn,
Canwn ninnau ar y brig,
Collodd brig y donn ei dig
Yn ol troed ein Ceidwad llon.

I FERCH IEUANC YN EI BEIBL.

CROG y llusern fendigedig.
Uwch dy lwybr man lle'r âi;
Wrth ei llewyrch perffeithedig
Cerdd yn fanwl a di fai;
Pan yn tynu'th draed i farw
Ei phelydrau gwerthfawr fydd
Yn goleuo t'w'llwch garw
"Cysgod angau" 'n foreu ddydd.

FFARWEL, AEAF BLIN.

FFARWEL, ffarwel aeaf blin,
Ffarwel ddu dymhestlog hin :
Hardd delynau hoew anian,
Ar yr helyg fu yn hongian,
Ond daw amser gwell yn fuan,
Yna ffarwel, aeaf blin.

Ffarwel, ffarwel aeaf blin,
Tyred hyfryd hafaidd hin,
Gwened haul i adgyfodi,
Ysbryd Duw i adnewyddu,
Gwyneb anian i adlonni,
Yna ffarwel, aeaf blin.

Ffarwel, ffarwel aeaf blin,
Tyn y gwanwyn teg dy fin;
Cân yr adar sy'n adgofio
Fod yn amser dy ffarwelio,
Paid yn wir a brysio eto,
Ffarwel, ffarwel aeaf blin.

Daw er hynny aeaf blin;
Ac ofnadwy arw hin;
Nad oes ond y nef awelon
All liniaru'r stormydd creulon,
A rhoi nerth i ddweyd yn eon,
Ffarwel, ffarwel aeaf blin.

BLODYN YR EIRA.

BLODYn gwyn yr eira glân,
Ydwyt destyn cu i'm cân:
Mae dy hedd yn ymdywynnu,
Mae dy wyneb fel goleuni;
Heb frycheuyn du na chrychni,
Arian wedd yr eira mân.

Gwyn a glân wyt, flodyn cain,
Gwynnach nac un llian main :
Megis alaw yr aderyn
Cyntaf glywir yn y gwanwyn,
Ydwyt tithau, deg flodeuyn,
Swyn rhyfeddol sydd i'r rhain.

Blodyn glân yr eira gwyn,
Testyn cân o bridd y glyn;
Rhwymau tynion rhew ac eira,
Anian ynnot ymagora'n
F'ywyd newydd wedi hyn.

AR DDERBYNIAD BEIBL.

BOED ei Awdwr yn arweinydd,
Trwy'r anialwch dyrus blin;
Ei gynwysiad baro imi,
Fynych, fynych blygu glin;
A phan ddelo awr ymfudo,
Boed ei addewidion per
Yn adenydd im ehedeg
At f' Anwylyd uwch y ser.

AR DDERBYNIAD PWYSI O LILAC.

“Ti wyddost beth ddywed fy nghalon,"
Am bwysi o flodau mor hardd;
A draethant mewn ffraethder mor wiwlon,
Iaith enaid, iaith calon, iaith gardd;
O'r ffasiwn nid ant yn oes oesoedd,
Hen flodau adwaenai fy nain,
Maent heddyw mor newydd a'r nefoedd ;
Mor ddenol, mor gywir, mor gain.

Ni welir anwylach na'r lilac,
O'r Ddyfrdwy hyd Fenai ddi fai;
Ni wenodd erioed ei ragorach,
Er teced holl flodau mis Mai;
Pan ydoedd cariadau Paradwys
Yn rhodio dan gangau y coed,
Diameu fod hwn yn ymarllwys
Persawredd tro cyntaf erioed.

Mae'n debyg mai gwyn oedd pryd hynny,
Cyn dyddiau yr enfys a'r gwlaw;
Cyn pechod liw porphor i ddenu,
A llenwi Gardd Eden å braw;
Na hidiwn os cafodd y lilac
Baradwys heb 'sgarlad yn bod,
Cawn ninnau un arall berffeithiach,
Cyn laned a gwynned a'r ôd.

NODYN CYNTA'R TYMOR.

MAE bronfraith gynta'r flwyddyn
Yn pyncio ar y brigyn
Wrth glywed hon, a'i halaw lon
Anghofia'r fron ei phigyn,
Mae'r gaeaf du yn cilio,
A'r stormydd ar noswylio,
A heulwen braf,
Yn awgrym gaf,
Fod hirddydd haf ar wawrio.

Mae cân y fronfraith dirion,
Uwch mynwent ei chyfeillion,
Yn dweyd yn awr, uwch beddau'r llawr,
Y tyrr y wawr yn union:
Mae nodyn cynta'r tymor,
Yn galw myrdd yn rhagor ;
Gobeithion gwyn,
O lawr y glyn,
Ddechreuant syn ymagor.

Bedyddir dol a dyffryn,
Gan fywyd gwyneb blwyddyn,
A dwg i'r lan, o'r eira cann,
Yr eiddıl gwan eginyn;
Ti fendigedig fywyd,
Agori feddau'r gweryd,
O! enaid clyw,
Cei dithau fyw,
Cyhyd a'r Duwdod hefyd.

Mae tant y fronfraith fwynber,
Dan awel gwanwyn dyner
Yn wir yn dwyn im ryfedd swyn
A'i seiniau mwynion syber;

Mae salm yr adgyfodiad
Ar fin pob gwan flaen-darddiad,
Ac yn eu gwaith 'rol gaeaf maith
Cyhoeddant iaith traddodiad.

NEGES Y BLODEUYN.

'Rwy'n anfon y blodeuyn
I siarad drosof fi;
I gario serch fy mynwes lawn,
Yn uniawn atat ti:
Gwrandawer ei ystori,
Mewn iaith berswynol glir,
Nis gall athrylith blodau'r ardd,
Ond hardd fynegi'r gwir.

Fel perarogledd hyfryd,
Yw serch o galon iach;
Anfonaf finnau ran ddiail,
Rhwng dail y blod'yn bach :
Bydd marw hwn yn ebrwydd,
Edwina'r coch a'r gwyn,
Ond bydd ei genadwri dlos
Yn aros wedi hyn.

Gobeithio byddwn ninnau,
Fel blodau teg eu gwrid,
Yn cwblhau ein gwaith mewn hedd,
A pherarogledd prid;
Bydd raid i minnau farw,
Ond marw i ddechreu byw,
O! am gael bod yn rhai a dardd
Yng ngardd paradwys Duw.

Y BACHGEN IESU YMYSG

Y DOCTORIAID.

(Buddugol).

Y BACHGEN Iesu! dyna dant!
A dery'n fyw ar glust dynoliaeth;
Gall bysedd bychain bach y plant
Ymgydnabyddu â'r gerddoriaeth;
Pa le mae'r fam na fu erioed
Mewn pryder chwerw am ei phlentyn?
Rhoed drem yn ol i ddeuddeg oed
Yr Hwn orchmynodd fod pob blwyddyn.

Oes neb a ddywed wrth y bach,
Am gofio'i fod ymysg y doethion?
Am gofio ei iselradd ach,
A gwylio ar ei ymadroddion?
Mae holl adnoddau dysg a dawn,
Yn ymgyfarfod yn y ddinas;
A'r byd yn rhoi gwarogaeth llawn,
I ddysgedigion bri ac urddas.

Ond, dacw'r Bachgen gwylaidd mâd,
Yn holi ac yn gwrandaw arnynt,
Nes synnu prif ddoctoriaid gwlad,
Ac agor eu golygon iddynt:
Pa ryfedd? Onid gair yr Un
Agorodd emrynt mawr y wawr-ddydd?
Pa ryfedd ? Onid anadi ffun,
Yr Hwn sy'n agor bywyd beunydd?

Mor debyg yw i'n bechgyn ni,
Ond hynod iawn ymysg doctoriaid;

Ni welent hwy er maint eu bri
Ddim Duw o dan amrantau'i lygaid;
Pan godai'i fys uwchben y ddeddf,
A'i gwisgo â goleuni trwodd,
Ni welent hwy mo'r ddwyfol reddf
A redai drwy y bys a'u creodd.

Hwy synnent at ei fawredd Ef,
Fe synnaf finnau'i fod mor fychan!
Yr Hwn a daenodd ddae'r a nef,
A'i ddeall, fod mor hynod egwan!
Podd gallodd anherfynol Fod,
Ymwasgu 'rioed i'r fath gyfyngder?
Ymguddio mewn rhyw ddeuddeg oed,
O ryfedd wyrthiol Anfeidrolder!

Pan ddirwyn Duw holl flwyddi'r byd
Fel pelen fawr o gylch ei fysedd;
A'u hyrddio i'w diddymol gryd,
I'r tragwyddoldeb pell di-ddiwedd;
Cawn wybod gan yr Iesu glân
Pam rhoes ef ddeuddeng mlwydd am dano,
Mae'n debyg iawn cawn destyn cân
Na dderfydd byth ddadseinio honno.

Y DEIGRYN.

NI raid it gywilyddio,
Na chuddio'th wyneb llaith
Oherwydd colli dagrau,
Na phlygu'th ben ychwaith :
Os ydyw'r byd yn galed,
Yn curo arnat ti,
Cei wylo deigryn distaw,
Ni watwar byth dy gri.

Y Duw a roes Orion,
I hongian yn y nen;
A'r myrdd defnynau gloewon,
Mewn cwmwl uwch fy mhen:
A glymodd wlith y rhosyn
Sy'n tyfu wrth fy nrws;
A rwymodd deimlad benyw
Mewn deigryn bychan tlws.

Ynghanol cwmni ofer,
A welwch chwi y llanc
Yn gwario ei holl eiddo
I geisio porthi 'i wanc?
Ond yn y bri a'r gloddest,
Fe gofia'n sydyn am
Y dagrau oedd yn halltu
Hoff ruddiau'i anwyl fam.

Merch ieuanc deg a heinyf,
Fel llestr ar y donn,
Brysura i'r peryglon
Heb ofnau dan ei bron:

Ond cododd awel iachus,
A'i chalon roddodd lam,
Pa fodd y gallai groesi
Môr dagrau'i hanwyl fam?

Os gweli ddeigryn bychan,
Yn llygaid unrhyw un,
Ni raid it ofni hwnnw,
Mae ganddo deimlad cun;
Mae fel yr aur deyrnwialen,
Yn llaw y brenin sydd,
Cyffyrdda'n eon ynddi,
Y peth a fynni fydd.

Os wyt yn dlawd ac unig,
Mewn gwyntoedd croes chyd,
Cei gysur a diddanwch
Tra deigryn yn y byd ;
Cei gofio mewn tawelwch,
Tra'n llawn o ofid trist,
Am gydymdeimlad anwyl
Sy'n nagrau Iesu Grist.

Y CWPAN.

YFODD Iesu gwpan pechod
Hyd y gwaelod drosot ti;
Troes y gwenwyn yn y gwaddod,
O anfeidrol rin i ni.
Bellach, cwpan gwledd wastadol,
Yw i deulu Seion Duw;
Gwin y Cariad anorchfygol
Ynddi sydd i ddynol ryw.

CENNAD Y DONN.

Ar noson serog dawel
Gan syllu tua'r gorwel,
Y rhodiai geneth heinyf lon,
Mor ysgafn fron a'r awel ;
Ym merw eu difyrion,
Gadawodd ei chymdeithion,
Er mwyn cael bod ynghwmni iach,
Y cregin bach a'r eigion.

Y lloer oedd yn disgleirio,
A'i chalon hithau'n dawnsio,
I fiwsig per y graian glân,
A'r tonnau mân yn tiwnio;
Ehedai ei myfyrion,
Dros nwyfus donnau Neifion,
Ac aent yn union megis saeth,
Ac un a aeth a'i chalon.

Mae cusan felus, felus,
Ei morwr ar ei gwefus,
Gafaela megis angor serch,
Ym mron y ferch hyderus;
Dywedodd wrth ffarwelio
Y deuai ati eto,
Sibrydai hithau y'nghlust y donn,
Am fod yn dirion wrtho.

Ond Ha! y donn anhydyn,
Beth ddygi ar dy frigyn?
Mae angeu yn dy fynwes ddofn,
A braw, ac ofn a dychryn;
Ar ddannedd certh y creigiau,
Mae'r llong yn fyrdd o ddarnau,

Ac aberth i'r rhyferthwy frad
Ei hanwyl gariad hithau!

****

Y llanc ysgrifennodd ei dynged ei hun,
A chostrel a'i dygodd i ddwylaw ei fun!
Llewygodd yr eneth, a'r saeth yn ei bron,
Trywanwyd ei henaid gan gennad y donn.

Mawr ydyw dirgelwch ofnadwy y môr;
Ond mwy ydyw gallu Anfeidrol yr Ior;
Efe sydd yn gwylio curiadau pob bron,
Efe ydyw awdwr tynghed fen pob tonn.

Efe a droes estyll marwolaeth oer erch,
Yn gerbyd i ddychwel cariad-lanc y ferch,
Y bachgen ddaeth yno i'w gwasgu i'w fron,
Rhoes Arglwydd y storom y gennad i'r donn.

CRANOGWEN.

'Rwyf bron a'th addoli, anfarwol Granogwen,
'Rwyt wedi fy synnu, a'm swyno yn lân,
Y mae dy athrylith a'th awen ddisgleirwen,
Yn twymo fy enaid-yn ennyn fy nghân.
Dy ryfedd hyawdledd a'th ddwys dduwiol-frydedd,
A'th ddoniau gwahanol enillodd fy serch :
Pwy bellach faidd wadu nas gall arucheledd
A mawredd meddyliol babellu mewn merch?

————————————————

CRANOGWEN.

"Pwy bellach faidd wadu nas gall arucheledd
A mawredd meddyliol breswylio mewn merch?"

————————————————

SENEDD PRYDAIN FAWR.

TRA haul yn y ffurfafen,
A môr mewn dwyfol gryd;
A llygad yr Anfeidrol,
A'i olwg ar ein byd;
Boed deddfau Prydain anwyl,
Tra bo Prydeinwyr byw,
Yn gadarn sylfaenedig,
Ar nerthol Air ein Duw.

Yn ofer aiff adeilad,
Heb sylfaen gadarn gref;
Ac hanes tŷ y tywod
A fydd ei hanes ef;
Os el di-ras anffyddwyr
I'r Senedd, Brydain, clyw,
Oferedd disgwyl llwyddiant
Mewn gwlad lle nad oes Duw.

Dadleuir dros Ryddfrydiaeth,
Er agor llydan ddôr ;
Ond nid oes borth creedig
Gilgwthia ymaith Ior!
Ar brydferth bren Crist'nogaeth,
Y tyf ein rhyddid syw;
A'r afon bair ei gynnydd
A dardd o fynwes Duw.

Nid rhyddid fyddai gadael,
Diniwed blentyn glân
I chwareu yn ddiofal
A'r cynheuedig dân:
Nid rhyddid gadael plantos
Northampton, druain, wyw,
I gellwair gyda phethau
Y sydd mor llawn o Dduw.


Ein Senedd yw'n gogoniant,
A bri ein Senedd yw,
Fod ynddi ddynion dewrion,
Weithredant yn ofn Duw;
Dirgelwch mawredd Prydain,
Er aml groes a phair,
Yw'r parch a delir ganddi,
I'r Anffaeledig Air.

Na foed i'n sel ryfeddol,
Ein gyrru mor ddi-ball,
I sathru ar uniondeb
Yngrym rhyw bleidiaeth ddall;
Tynhaer rheffynau pechod,
Anffyddiaeth gwaetha'i ryw,
A bloeddiwn uwch Sant Stephan,
"Yr Arglwydd, Ef sydd Dduw."

1905.

1905 sydd flwyddyn i'w chofio,
Blwyddyn i'w chyfrif ar lechres y byd :
1905. Mae'n werth ei chroniclo,
Blwyddyn cynhaeaf eneidiau ynghyd :
Blwyddyn i Grist gael rhifo ei deulu,
Blwyddyn deheulaw Goruchaf yr Ior,
Blwyddyn, er hynny, nas gall Ei ddiwallu,
Nes dychwel y gweddill "o for i for."

BLODAU AC ADAR.

I GWMNI yr adar a'r blodau,
I'r maesydd a'r dolydd ni awn:
I yfed bendithion y bryniau,
A ffrydiant fel nectar yn llawn;
Yr Awen sydd yno bob boreu,
Yn sibrwd i glustiau y gerdd,
A natur yn paentio ei goreu,
Bob cangen a deilen yn werdd.

'Rwy'n hoffi'r aur melyn o Ophir,
'Rwy'n caru enwogrwydd a bri,
Ond mwyniant rhagorach a ddygir
Gan adar a blodau i mi;
Gogoniant v ddaear yw'r blodau,
Gogoniant yr awyr yw'r gân,
Mae nefoedd yn wir yn yr odlau,
Sy'n rhoddi fy mynwes ar dân.

Mae'r gaeaf i ddod gyda'i stormydd,
I dewi holl adar y coed ;
I wywo gogoniant ysblennydd,
Y blodau prydferthaf erioed ;
Er hynny mae'r eos fwyneiddlwys
I ganu dan fantell y nos,
Ac ambell i flodyn pereidd-lwys
I wenu ar feddrod y rhos.

TYRED I GYMRU.

TYRED i Gymru, anwylyd fy nghalon,
Gwlad caredigrwydd a chartref y gân;
Tyred yn ebrwydd, rho ffarwel i'r estron,
Hiraeth am danat orfuodd yn lân;
Croesaw a chariad â breichiau agored,
Sy'n disgwyl dy dderbyn yn gynnes i'w côl,
O! fel y dychlamai fy nghalon wrth weled,
Fod gobaith cael derbyn fy ngwron yn ol.

Tyrd adref i Gymru, anwylyd fy nghalon,
Gwlad caredigrwydd a chartref y gân;
Tyred yn ebrwydd, rho ffarwel i'r estron,
Hiraeth am danat orfuodd yn lân.

Tyred i Gymru, anwylyd fy nghalon,
Cei groesaw mor gywir a man wlith y nos;
Tyred i Gymru, cei gusan dy Wenfron,
Mor wresog a chusan yr heulwen i'r rhos;
Canmil rhagorach yw symledd y bryniau,
Ddyrchafant eu pennau gan gyfarch y nen;
Na chelfyddydau yr estron a'i foethau,
Mae gwenau y nefoedd ar Gymru wen.

Tyrd adref i Gymru, &c., &c.

CAN Y JIWBILI, 1887.

AR Ben urddasol Prydain Fawr,
Y torrodd hyfryd jiwbil wawr:
Cydganed pawb yn ddiwahan
Ei chlod mewn gorfoleddus gân,
Victoria fawr ei bri.

Cydganwn i'w rhagorion mad,
Ei henw da sy'n llanw'r wlad :
Croesawn yr egwyl euraidd hon,
A dyrchwn fawl fel tonn ar donn,
Victoria fawr ei bri.

Ei charedigrwydd hael y sydd,
Fel gemog wlith ar doriad dydd;
A chura dan ei choron ddrud,
V galon oreu yn y byd:
Victoria fawr ei bri.

Caiff goron arall cyn bo hir,
O berlau anfarwoldeb clir;
Sef coron gras, o gariad byw,
Am wasanaethu dyn a Duw,
Victoria fawr ei bri.

BETH YW CARIAD?

Beth yw cariad? Gwlithyn hawddgar
Yn tyneru calon flin;
Beth yw cariad? Cawod hyfryd
Yn adfywio llysiau crin;
Beth yw cariad? Sugndyniad,
Myn ei wrthrych iddo'i hun,
Cwlwm ydyw sy'n cysylltu
Calon dau fel calon un.

Beth yw cariad? Rhosyn siriol,
Blanwyd ym mharadwys wen,
Ar lan afon bur y bywyd,
Geidw byth i fyny'i ben :
Beth yw cariad ? Bwa amryliw,
Yn awyrgylch Cristion gwan,
Sydd yn cynnal nerth yr eiddil,
Byth i fyny ymhob man.

Beth yw cariad? Byw wreichionen
O'r hen “Filam angerddol gref;"
Afon angau byth nis diffydd,
Mae'i gyflenwad yn y nef:
Beth yw cariad? Allor, Aberth,
Iachawdwriaeth i wael ddyn.
Beth yw cariad? Beth yw cariad ?
Cariad ydyw Duw ei hun.

BRWYDR DIRWEST A BACCHUS.

YMARFOGWN, ferched dirwest,
Wele ni mewn rhyfel fawr ;
Nid oes orffwys cyn cael concwest,
Nid oes rhoddi arfau i lawr :
Yngafaelion medd'dod creulon,
Cymru anwyl sydd yn brudd;
Dirwest dyrr y rhwymau tynion-
Yn ei llaw fe ddaw yn rhydd.

Cadarn yw y ddiod feddwol,
Dyn yn unig sydd yn wan;
Byddin gref y llu dirwestol
Sydd am ddwyn y llesg i'r lan;
Merched glân ardaloedd Cymru
Lusgir yn y llu i'r llaid;
Dirwest wen a'u cwyd i fyny,
Gweithiwn, gweithiwn yn ddibaid.

Ysgafn iawn yw rhwymau dirwest,
Dim ond peidio yfed mwy:
Dyna'n unig ydyw'r orchest,
Peidio, felly ni cheir clwy:
Peidio, ferched, dyna'r rhyfel
Drosodd, heb ddim tywallt gwaed,
Peidio, dyna froydd tawel,
A dynoliaeth ar ei thraed.

Peidio profi, peidio edrych,
Dyna dd'wed y Gair yn groch;
Gwylio rhag yr eilun wrthrych,
Pan yr ymddanghoso'n goch:

O! mor goch yw ein haelwydydd,
Gan y gwaed dywalltodd hwn,
Bacchus greulawn—deyrn anedwydd,
Rhwymwn di o dan dy bwn.

Mae yr arfau yn ein dwylaw,
Ferched anwyl, gloewn hwynt;
Peidio yw eu henw hylaw,
Peidio yfed, dyna'r pwynt;.
Peidio cym'ryd, peidio rhoddi,
Laddai fedd'dod yn y fan,
Bacchus druan foddai'n fuan,
Ac ni welai byth mo'r lan.

NODDFA A NERTH

NODDFA a nerth sydd yn ein Duw,
Mae'r frwydr yn ei ddwylaw Ef;
Noddfa a nerth, O! feddwyn clyw,
Dyrchafa ato'n awr dy lef;
Estyn ei fraich anfeidrol werth,
Dyrchafwn ninnau weddi'r ffydd,
Cysylltwn weddi yn y nerth,
Daw'r gwannaf o'i gadwynau'n rhydd.

Concwest ni ddaw o'r dwyrain dir,
Nac o'r anialwch cras-boeth nen;
Nac o'r gorllewin chwaith yn wir,
Duw sydd yn barnu, Ef sydd ben;
O'i enau Ef, ein Duw a'n Tad,
Rwym y cymylau, sych y môr;
Gwaeddwn ar Dduw i sobri'n gwlad,
Cydiwn ein llef wrth allu Ior.

—————————————

YR EHEDYDD.

Gogoniant y ddaear yw'r blodau,
Gogoniant yr awyr yw'r gân."

—————————————

YR AMDDIFAD.

Pan araf osodir yr olaf dywarchen,
Fel clo ar y beddrod lle gorwedd dan gudd
Y fam gyda'i phriod ym mynwes y ddaear,
Gadewir amddifad i ochain yn brudd ;
A'i law gan yr estron yn wyw a chrynedig,
A'i lygaid yn foddfa gan ddagrau di-rith,
'Does wyr ond y nefoedd beth sydd gynwysedig,
Mewn hylif mor buraidd a gloew a'r gwlith.

Fe gollodd y bychan sydd heddyw'n amddifad,
Fendithion rhagoraf y ddaear i'r llwch :
Fe gladdwyd pob gronyn o'i obaith a'i gariad
Ym medd ei rieni dan lenni oer trwch;
Try'n unig a gwelw ei wyneb plentynaidd,
I'r byd am drugaredd ynghanol ei glwyf,
Ond nid oes gan hwnnw ddim sydd fwy caruaidd,
Na chartref i'r truan yn Nhloty y Plwyf.

Ond, blentyn amddifad, beth pe gwybuasit
Yr eiddo, sy'n eiddo mor gyfiawn i ti;
Dy ddagrau llifeiriol yn fuan sychesit,
Pe gallet ti gredu mor freiniol dy fri!
Pan ydoedd yr arfau ar eirch dy rieni,
A'u twrf yn anafu dy galon fel brath,
'Roedd twrf gan guriadau Anfeidrol dosturi,
Yn uchel ddiaspedain fod Tad i dy fath.

Pwy bynnag a feiddia ddirmygu'r amddifad,
Mae'n meiddio yn erbyn un mwy nag yw ef,
Pwy bynnag a fyddo'n ddiystyr o'i deimlad,
Mae'n poeri yngwyneb Tywysog y nef;

O blentyn amddifad, yr wyt yn gyfoethog,
Ti ydyw yr uchaf o bawb yn y wlad,
Etifedd y ddaear a'r nefoedd doreithiog,
Tydi biau'r cyfan, wyt blentyn dy Dad.

CROES.

Os wyt yn anwyl blentyn Duw,
Yn treulio iddo'th oes:
Dy etifeddiaeth ryfedd yw
Y chwerw, chwerw groes.

Mae croes mor sicr yn y byd,
A thelyn yn y nef;
Ond cofio'r Groes a gwyd dy fryd,
A bwysodd arno Ef.

Na lw frhaed dy galon wan,
Mae Un fu'n fwy ei loes;
A cheir esboniad yn y man,
Ar ddyrys drefn y groes.

Wrth gario'n iawn dy groes dy hun,
Er trymed ydyw hi;
Cei fod dy ysgwydd dan yr un,
A fu ar Galfari.

CYDYMDEIMLAD A'R PARCH. PETER

ELLIS, RUABON.

DAETH yn nos ar y briodas,
Er mor hirfaith fu y dydd;
Dirwyn wnaeth y brydles addas,
Bur, i ben; aeth hithau'n rhydd:
Rhydd i hedeg at yr Iesu,
Priod anwyl gwlad yr hedd;
Rhydd i roi ffarwel i'w theulu,
Hwythau'n rhwym wrth byrth y bedd.

Peidiwch dannod iddi hedfan
I awyrgylch gwlad ddiboen;
Peidiwch grwgnach iddi drigfan,
Yn y gwynfyd gyda'r Oen;
Peidiwch cwyno, os y tybiwch
Bydd ei hanthem hi yn hwy,
Pan ewch yno chwi ganfyddwch
Mai rhyw ddechreu byddant mwy.

Dechreu, ac ail ddechreu wedyn,
Bydd yr Haleliwia lân;
Nes y del ynghyd bob nodyn,
O'r gorthrymus fyd i'r gân:
Yna canu ac ail ganu,
Pechod wedi gado'r dôn,
Ni bydd yno ond emynu
Cynghaneddion cariad Ion.

O gobeithio fod rhyw nodau
Yn yr anthem fawr Amen,
Nas gall seraph pur na seintiau
Fyth eu seinio yn y nen

O! ni gredwn fod telynau,
Yno ymysg yr euraidd lu,
Nas gali bysedd neb eu chwareu
Nes i'r gwynfyd elom ni.

PECHOD.

TYDI yw hanfod anedwyddwch dyn,
Tydi yw unig elyn Duw ei hun;
Tydi yw awdwr poen holl gyrrau'r byd,
Tydi á siglodd drallod yn ei gryd,
Tydi a anadlodd dy ddifaol darth;
A droes ogoniant Eden deg yn warth :
Tydi sy'n tramwy megis cwmwl byw,
Drwy nefoedd dyn i guddio gwyneb Duw,
Neu fel rhyw ysbryd anweledig certh,
Bron, bron gorchfygu'r byd yngrym dy nerth :
Ond, pan anturiaist i Galfaria fryn,
Cyrhaeddaist tithau eitha’th bwynt pryd hyn,
Pan lymaist flaen yr erchyll bicell ddur,
Bwriadaist i'r Anwylyd farwol gur,
Tydi wenwynodd frigau tirf y drain,
Nes i'w Creawdwr waedu dan y rhain!
Ond, yno gwelaf bendigedig ddydd,
Y prynwyd ffordd i mi gael dod yn rhydd:
Pwy byth all ddweyd y taliad drud a gaed,
Pan yno'r Iesu Glân yn bechod wnaed?

YNYS LAWD (SOUTH STACK).

YNYS hynod, ynys hardd,
Wyt yn deg i olwg bardd;
Mae dy safle yn ardderchog,
A dy seiliau yn ddiysgog,
Creigiau certh yn ysgyrnygu,
Tonnau geirwon yn ysgythru,
Er dy fod ynghanol lli,
Eto tawel ydwyt ti.

Ynys enwog, fawr dy fri,
Cartref hedd yngrym y lli:
Trochion gwyn y weilgi lasliw,
A thangnefedd sydd yn ymliw;
Yn dy gylch mae dyfrllyd feddau,
Angau'n curo dy ystlysau;
Eto tawel ydwyt ti,
Er dy fod ynghol y lli.

Ynys ryfedd Ynys Lawd,
Wyt i'r morwr ar ei rawd;
Rwyt yn gwahodd y for wylan,
Ynnot ti i wneyd ei thrigfan,
"Cadw draw" i'r morwr heini,
Ydyw neges dy oleuni,
"Cadw draw" neu gwae dydi,
Forwr dewr ar gefn y lli.

IONAWR ETO.

DYMA Ionawr newydd ini,
Gyda newydd len,
Beth a roddwn ninnau arni
Ddeil oleuni'r nen?
Mae'r llinellau oll yn union,
A'r dalennau'n lân,
Rhoddwn wiw ddymuniad calon,
Rhoddwn fawl a chân.

Ionawr ! Ti agori flwyddyn
Gyfan ger ein bron,
Agor ein calonnau cyndyn
I ddaioni hon;
Ionawr ieuanc, wyneb siriol,
Er dan eira gwyn,
Disgwyl 'rwyt y wen foreuol
Ddaw a haul ar fryn.

Ionawr! Dan dy gwrlid trwchus,
Y mae blodau fyrdd;
Arogl anian yn bersawrus,
Sy'n eu gwyn a'u gwyrdd:
Boed i ninnau ymdebygu,
Er bod weithiau 'nghudd;
Daw yn adeg ymddadblygu
Pan estynno'r dydd.

MEFUS A HUFEN.

A y mefus melus cochion,
Rwyf yn diolch o fy nghalon:
Buont i mi'n iachawdwriaeth,
Well nac unrhyw feddyginiaeth.

Hefyd am yr hufen melyn,
Rwyf yn diolch yn ddiderfyn,
Ond tu hwnt i'r moethau amheuthyn,
Am y cariad sy'n eu canlyn.

Melus fefus yn fy nghlefyd,
Peraidd hyfryd hufen hefyd,
Ond melusach cydymdeimlad,
A phereiddiach cywair cariad.

Darfod wnaeth yr aeddfed ffrwythau,
Darfod wna pob peth fel hwythau:
Ond yn aros mewn eneiniad
Mae diddarfod ffrwythau cariad.

YR "HEN" ANN GRIFFITHS.

ANN GRIFFITHS. Pam yn hen?
Nid oedd ond ieuanc oedran,
Rhyw chwech ar hugain oedd pan aeth
I'r bedd o Ddolwar Fechan!
Bydd rhyw ieuenctyd byth
Ar fynwent Llanfihangel,
Nes daw ei chysegredig lwch
I ateb yr archangel!


Meddyliau nefol hen,
Mor hen a'r Hen Ddihenydd,
A rodd yr emynyddes hon
Mewn gwisg dragwyddol newydd;
Gwirionedd dwyfol Duw,
Fel sanctaidd dân yn ennyn;
A gobaith i bechadur tlawd,
Fel angor ymhob emyn.

CARU YR IESU.

'Rwy'n siwr nad af i uffern drist,
Yr wyf yn caru Iesu Grist;
Ac nid a cariad byth i'r tân;
Pe'r elai, fe ddiffoddai'n lân.

Ni âd fy Iesu i mi fynd,
Mae ef a mi yn ormod ffrynd;
Tra ynnof byddo'i gariad prid,
Fe'm gweryd rhag pob erchyll lid.

Mae cariad Iesu'n gylch o'm tu,
I'm cadw rhag gelynion lu;
A'i gariad yn fy mynwes sydd,
I'm cadw rhag pob drwg a fydd.

Yr wyf yn caru'r Iesu glân,
Rhag i mi fynd i uffern dân;
A mwy, 'rwy'n caru Brenin Nef,
Am fod fy nghalon ganddo Ef.

MIS TACHWEDD.

Mis Tachwedd oerllyd llaith,
Yn prysur wneyd ei waith,
Ar ddail a dyn:
Fe byla llawer gem,
O dan ei awel lem,
Marwolaeth ddwg ei drem,
I lawer un.

Gan adar nid oes gerdd,
Na'r goedwig ddeilen werdd,
O! mae hi'n nos:
Mae'r ceinder wedi ffoi,
Gerwinder yn ymdoi,
A'r gaeaf yn ymgloi,
Ar fill a rhos.

O brysia, heulwen chweg,
Tyrd eto, dywydd teg,
Gwyw yw pob gwedd;
Mae arnaf hiraeth trwm,
A’m calon fel y plwm,
O dan y dirfawr swm,
O fyd a bedd!

MEGIS DEILEN.

MEGIS deilen y gwywasom,
Megis deilen y syrthiasom,
Megis deilen yw ein hynt;
Fel y ddeilen, byw am ennyd,
Yna dygir ni mewn munud,
Megis deilen gyda'r gwynt.


Gwyntoedd croch ein llym anwiredd,
Arnom chwyth yn ddidrugaredd,
Pwy a'n cwyd o'r domen drwch?
Gwaeddwn arnat, Iesu hawddgar,
Gwisgaist ti bridd gwael y ddaear,
Cofia'r tlawd sydd yn y llwch.

Geidwad dyn, mae gobaith eto,
Er fel deilen i ni gwympo,
Planner ni ar lan y lli,
Afon cariad tragwyddoldeb,
Dyna wyrddlas anfarwoldeb,
Yno byth ni wywn ni.

GYDA'R TANNAU.

HOFF yw gennyf sain y delyn,
Ar hyd y nos:
Ymlid ymaith ofn y gelyn,
Ar hyd y nos:
Swynol ydyw ei pher seiniau,
Iaith (yr) enaid ar ei thannau,"
Dyna'n fwyaf garaf finnau,
Ar hyd y nos.

Mae fy nghariad ar y wen donn,
Ar hyd y nos:
Curo drosto mae fy nghalon,
Ar hyd y nos:
Boed i'r ser a'r lloer ei wylio,
Boed amddiffyn nefoedd drosto,
Nes y delo adref eto,
Ar hyd y nos.

"JOSEPH YN HYSBYSU EI HUN I'W FRODYR"

(Buddugol)

PORTREAD bywiol ar anfarwol ddail,
Edrychwch arno mewn dwfn synedigaeth;
A'r lliwiau'n osodedig bob yn ail,
Er mwyn egluro'r darlun i'n dirnadaeth,
Arlunydd sanctaidd, un o ddynion Duw,
Warantwyd fry yn uchaf gyfrin nefol,
Yn trochi'i bwyntil yn y dwyfol liw;
Yn gymlethedig wedyn gyda'r dynol.

A gwelwn ddynol tlws—mor hynod dlws,
Yn nagrau Joseph yn y darlun,
Mae'r argae ryfedd hon yn agor drws
Teimladau pur, i redeg dros y terfyn;
A chludant gyda hwy y brad a'r llid
Ddangoswyd ato gan gyfnesa'i galon;
Ac ynddynt, wele, iachawdwriaeth brid,
Yn ymddylifo iddynt megis afon.

Mae'r llinell arall, Ha! yn dywell ddu,
Nis gallwn ni ddim treiddio trwy ddwyfol-
deb:
Nis gallwn weld caethiwed bachgen cu,
A darllen yno ryddid yn ei hwyneb;
Nis gallwn weld hebryngiad dirgel Duw,
Drwy d'wllwch pechod a dyfeisiau dieflig,
Nis gallwn weld ei lwybr, dyrys yw,
Yn troi y felldith erch yn fendigedig.


Ond gallwn ninnau hwylio'n llestri bach,
Hyd foroedd cariad Joseph at ei deulu;
Pan holai am ei dad, ai byw ac iach?
Pan syrthiai ar eu gyddfau i'w cusanu;
Pan fethodd ag ymatal ddim yn hwy,
Gorch'mynodd allan bawb o'i bresenoldeb,
A'i galon fawr faddeuol bron yn ddwy,
Gan orlawenydd serch ac angerddoldeb.

Ond Och! Ofnadwy adgyfodiad ddaeth,
Heb ganiad udgorn, ac heb lef archangel;
Euogrwydd gwerthu'r gwirion oedd fel saeth,
Anelog i'w teimladau mwyaf dirgel:
Er y gorweddai ugain mlynedd maith
Fel maen seliedig ar eu herchyll gamwedd,
Cydwybod wedi deffro ar un waith,
A'i treiglodd ymaith megis peth disylwedd.

"Na chollwch amser," medd eu hanwyl frawd,
"I ddigio dim nac edliw i'w'ch eich hunain;
Nid damwain ydoedd hyn, na, na, nid ffawd,
Ond Duw drwy bopeth ydoedd yn fy arwain."
Ac nid yw hyn ond eiliw hynod wan,
O'r Sylwedd mawr ac Awdwr Iachawdwriaeth
I godi'r euog damniol tlawd i'r lan,
A chadw bywyd rhag yr ail farwolaeth.

TRYDYDD AR DDEG O DACHWEDD

Priodas Euraidd "Gweirydd ap Rhys" a Mrs. Gweirydd. 1875

MAE hanner cant yn seinio'n hir,
Wrth edrych drwodd i'r dyfodol;
Ond gwelir hwynt yn ddigon clir,
Fel eiliad bychan yn y gwrthol;
Mae'n debyg iawn fod dail yr haf
I'w gweld fel heddyw'r adeg honno,
A Thachwedd megis teyrn y claf,
Yn trawsfeddiannu'r oll i'w gwywo.

O! Dachwedd, 'rwyt yn ber a sur,
Yr wyt yn eli ac yn ddolur!
Yr wyt yn peri poen a chur,
'Rwyt hefyd wedi bod yn gysur;
Mae'n ddydd a gofir gennym oll,
Mewn tristwch prudd ac mewn gorfoledd;
Pa un o honom yrr ar goll
Byth, byth y tri ar ddeg o Dachwedd?

Y tri ar ddeg o Dachwedd oedd
Y dydd i mam anadlu gyntaf;
A dyma'r dydd y gwnaeth yn g'oedd
Ei hateb i fy nhad "Cymeraf;"
Y dydd y rhoddwyd ar ei bys
Arwyddlun bywyd priodasol:
Y dydd y gwnaethpwyd yr "Ap Rhys"
Yn ffyddlawn wr i "Gras Ataliol."
Wel, hanner cant i heddyw oedd

Yr adeg fendigedig honno;
Pe gallwn rhoddwn uchel floedd,
Hwre! Hwre! nes bo’n dadseinio,

Dros Ben y Foel a Phen y Garn,
Mynyddoedd enwog plwyf Llanrhyddlad,
Nid oes ond goleu dydd y Farn
Ddadblyga'n hollol ffrwyth yr uniad.

Yr oeddym ni yn naw o blant,
Ar aelwyd ddedwydd ein rhieni:
Ond ha! Mae bysedd hanner cant
Yn gwneyd grymusder mewn dufenu;
Aeth dau i'r nef heb deimlo grym
Llawenydd byd, na'i ddygn ruddfan,
A thri ar ddeg o Dachwedd llym
A gipiodd ymaith ein Golyddan.

Mae'i fedd yn wyw yn Nyffryn Clwyd,
Ond gwyrdd, ond gwyrdd yw'r cof am
dano;
Pe buasai rhin mewn dagrau brwd,
Fe gawsai'i gadw heb edwino!
Ond ymdawelwn, gan fod dydd,
Cyn treigla hanner cant i heddyw,
Y cawn gyfarfod oll yn rhydd,
Ar fryniau hyfryd bro ddiledryw.

Hawddamor, anwyl fam a thad,
Ar ddydd eich teg briodas euraidd;
Ni chaed gwell rhiant yn y wlad,
Nac unrhyw deulu mwy caruaidd;
Boed ter belydrau nefol fro,
Yn ymlid ymaith bob rhyw gaddug,
Am amser maith cyn mynd i'r gro,
Yw gweddi a dymuniad Buddug.

Y Deigryn


(Buddugol)


HA! dyna fe, yr hylif prydferth drud,
Mor fychan yw ! ac O! mor hynod fawr !
Pwy sydd all ddirnad ei hyawdledd mud,
Mor anorchfygol yw a thoriad gwawr !
Ymguddia yng nghil llygad baban bach,
Rhy wan y rhaiadr i'w gymharu ag ef!
Pwy sydd all ddweyd ei ryfedd, ryfedd âch,
Ei nerth symuda Dduwdod yn y nef!

Gabriel, tydi archangel Gwynfa lân,
Rwyt ti yn byw yn ymyl gorsedd Duw,
A wyddost ti am destyn tlws fy nghân?
Y Deigryn, ie, deigryn, dyna yw,
'Rwyt ti'n cael mwydo'th esgyll gwynion mawr
Ynghanol y gogoniant perffaith wyn:
Cei gennad weithiau i roi tro i'r llawr,
Difera, i leithio y penhillion hyn!

Dychmygaf glywed Gabriel yn dweyd im,—
"Nid ydwyf fi yn gwybod fawr am hwn,
Nis gallaf ddwedyd pa beth yw na dim,
Nid oes un deigryn yn y nef a wn:
Ond mae rhyw drydan rhyfedd ynddo'n wir,
Pan fyddo un o blant fy Nuw ar lawr,
A'i edi feirwch yn ei ddeigryn clir,
Mae'n gallu'r ffordd i'r nef mewn munud
awr."

Mae byd o ofid yn y deigryn prudd—
Mae môr o deimlad yn ei gynnwys drud—
Mae cenllif gorwyllt cariad ynddo 'nghudd,
Llawenydd lifa dros ei geulan glyd;

Belydryn teg, mor gywir yw ei wedd,
Nis gall un rhagrith drigo ynddo fe,
Elfennau dyrys, hanfod twyll, ni fedd,
Ond gem o burdeb yw o dan y ne.

Mae'i rym yn fwy angerddol na grym tân;
Y garreg oer a dry y tân yn llwfr:
Ond dyma rin ynghylch y deigryn glân,
Wna galon adamant fel llyn o ddwfr !
Mae hinsawdd hwn yn falmaidd ac yn chweg,
Fel chwa Mehefin ar y werddlas ddol,
Ni rewa teimlad byth mewn tywydd teg,
Y gwres a dry yr oerni yn ei ol.

Mae fel amrywiol olygfeydd diball
Yn gweithio allan o'r teimladau cudd,
Does neb ond Hollwybodol byth a all
Ddadlennu y cyfrinion ynddo sydd:
Edrycher arno yn disgleirio'n hardd;
Ar ruddiau pur Emanuel ei hun;
Portread bywiol yw gan Ddwyfol Fardd,
I ddangos calon fawr y Duw i ddyn.

MARGARET

GWYDDOST ystyr tlws dy enw,
Pur yw hynny, onide?
Cadw'n fyw yr ystyr hwnnw,
Rho i burdeb gael ei le;
Pur dy foes, a'th lwybrau cyson,
Pur dy ymarweddiad syw:
Gwyddost yr addewid ffyddlon,—
"Pur o galon "—"gweled Duw."

HAFOD LON

HAFOD LON, aneddle lonydd,
Tawel gartref bardd a'i fun,
Oni welwn drwy y darlun,
Lle mae nerth y cawr ei hun?
Gartref, gartref mae'r cyflenwad
Sydd yn gyrru'r dyn yn dân;
Hafod Lon yw'r ffynnon loew,
Sy'n pereiddio'i ddawn a'i gân.

Ei Eliza, lwysaf lawen,
Sydd fel heulwen uwch y fan;
Yntau fel y morwr mwynlon,
Yn llygadu am y lan:
Gwych deimladau mawl a chlodau,
Croesau weithiau'n donn ar donn;
Plenydd fawr ar for y llwyfan,
Mae dy haul yn Hafod Lon!

Bydd y morwr ar y cefnfor,
Weithiau'n colli'r "hyd " a'r "lled;"
Dwr o dano, awyr arno,
Methu gwybod ffordd y rhed:
Yna cwyd ei lygaid syber,
Gyda hyder at yr haul,
Cymer hwnnw, gŵyr bryd hynny
Fod ei lwybr yn ddiffael.

Tithau pan na ddel awelon,
I roi hwyl a blas a min,
Dirwest gyda'i Chapten Plenydd,
Yn y doldrums cas a blin :

Cyfod dy olygon treiddgar
At dy haul i'r Hafod Lon;
Mae cysylltiad o'r fan honno
A rhyw haul sydd uwch pob ton.

****

Aeth rhai bach o'ch mangre iachus,
Ienctyd nwyfus ar bob grudd:
Cododd cwmwl dros yr Hafod,
Troes ar fyrr yn Hafod brudd !
Ond daw heulwen wedi hynny,
Pelydr o'r ardaloedd pell,
Cofiwch chwithau "gymryd hwnnw,
Haul o'r bur baradwys well.

FY NOSBARTH

CHWITHAU, bellach, ewch a dysgwch,
Enw Iesu Grist i'r plant;
Dyna'r addysg oreu feddwch,
Os am roi anfarwol dant;
Tant a chwery pan y syrthio,
Ser y nen yn chwilfriw mân,
Gwyn eich byd os gellwch daro,
Cydsain yn y ddwyfol gân.

Gallaf edrych yn eich wyneb,
Gwenu arnoch yn ddifraw;
Ysgwyd dwylaw mewn anwyldeb
Yn y tragwyddolfyd draw:
Cofiwch fy nghyfarfod yno,
Pan y del eich awr i ben,
Bydd yn bwysig fod yn gryno
Yn y cartref hwnt i'r llen.

CYSUR I'R PARCH. THOMAS WILLIAMS, GWALCHMAI

PAM yr wyli am d'anwylyd?
Pam y mae dy fron yn drist?
Ai gwarafun ei gwmpeini
'Rwyt i'r anwyl Iesu Grist?
Pam y mae dy ddagrau'n heilltion,
Yntau wedi mynd i'r nef?
O! mae'n rhyfedd fel yr wylir
Am un duwiol fel oedd ef!

Wyt ti'n meddwl fod y nefoedd
Felly wedi mynd ymhell?
Tithau wedi gweld dy riant
Pan ar drothwy gwlad sydd well;
Pan ffarweliai ef a'i deulu,
Pan wynebai'r ddaear gudd,
Nid oedd galar yn ei galon,
Nid oedd deigryn ar ei rudd.

Fab tirionaf, cod dy feddwl,
Sycha ddagrau glân dy fam,
Dywed iddi fod y nefoedd,
Lawer nes yn awr, paham?
Bellach cartre'th dad yw Iesu,
Yn ei fynwes mae ei ran,
Edrych arno yn y Ceidwad,
Sydd bresennol ymhob man.

Paid a chofio iddo farw,
Cofia fod dy dad yn fyw;
Un farwolaeth sydd i'w chofio,
Marw Prynwr dynol ryw:

Nef ac uffern rodd i hwnnw
Ddwyfol ac angeuol glwy,
Ond y sawl bwrcasodd Iesu,
Hwy nis gallent farw mwy.

AR DDERBYNIAD DARLUN CYFEILLES


MILOEDD O adgofion melus
Ddeffry yn fy mron
Wrth fyfyrio yn ddifyrrus
Uwch dy ddarlun llon;
Gwisgi dy anwyldeb cyntaf,
A'th gynhennid wên,
Ac un argoel eto welaf
Iddynt fynd yn hen.

Methodd cystudd ag edwino
Y prydferthion hyn;
Angau er dy wneyd i wylo
Dagrau uwch y glyn,
Fethodd bylu yr hawddgarwch
Yn dy lygaid mwyn,
Purdeb cywir cyfeillgarwch
Sy'n eu denol swyn.

PEN BLWYDD OLWEN

OLWEN yw dy enw,
Owen oedd i fod !
(Dyna'r enw goreu
Glywais i erioed):
Ond mae Olwen anwyl,
Yn awgrymu myrdd
O rinweddau hawddgar,
Fyddant byth yn wyrdd.

Cofia hynny, Olwen,
Arwain di bob oed;
Modd y byddo diogel
Dilyn oi dy droed:
Edrych ar dy lwybrau,
Gan ystyried hyn,
Tyfed yno flodau;
Fyddo'n flodau gwyn.

Bydded gwyn dy fywyd,
Bydded gwyn dy fyd,
Bydded gwyn dy lwybrau,
Ar eu hyd i gyd:
Na fydd fel y rhosyn,
Mae gan hwnnw ddrain:
Ond fel lili dyner,
Wen, a theg ei graen.

Bydd fel swynol lili,
'N wylaidd blygu'i phen:
Dan wahanol droion,
Bydd yn lili wen;

Boed i tithau, Olwen,
Feinir firain lon,
Droi dy wedd i'r heulwen,
Gwna'r un fath a hon.

Un peth arall, Olwen,
Fyddai'n well na'r rhain,
Yw cael bod yn lili,
Er ymysg y drain:
Hawdd blaguro'n heinyf,
Pan ynghol yr ardd,
Ond mae'r byd yn arw;
Drain oddeutu dardd.

'Rwy'n dymuno heddyw,
I ti Dduw yn rhwydd;
Un o'th ddyddiau pwysig,
Ydyw pen dy flwydd:
Boed dy holl flynyddoedd,
Fel dy enw glân,
Fel y byddo'th fuchedd
Yn hyfrydol gân.

PENNILL I RUTH.

GWYLIO a gweddio,—dyna'r ddwyffon deg,
Gweithio ac areithio, dyna'r goron chweg;
Bywyd pur, a genau glån, i draethu'n wiw,
Llaw i arwain egwan at ei Dduw.

Y WEDDW

Cydfuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1883

MAE Anian yn gwenu ymhurdeb ieuenctyd
A'r bywyd yn sisial trwy'r glaswellt a'r dail;
Yr adar ymddyrchant i uchder y goedwig,
Cyd—blethant ber seiniau o foliant di—ail:
Mae iechyd yn dawnsio rhwng blod—ddail y
meusydd,
Prydferthwch paradwys deyrnasa'n ddi—drai:
A'r haul wedi sychu y dagrau a lecha
Ar wyneb mawr natur à thywel mis Mai.

Yr wyn a ymbranciant hyd lethrau y bryniau,
Hoenusder a mwyniant hyd ddyffryn a dôl;
Mae cân y forwynig wrth odro'i diadell
Yn adsain ei thyner acenion yn ol:
Y môr ymlonydda mewn hyfryd dangnefedd
Heb unrhyw arwyddion o gilwg na dant;
Yr unig gynhyrfiant yw nofiad y badau,
A'r tonnau a greir gan gerrig y plant!

O! fyd gogoneddus, mor firain dy olwg,
Mor swynol dy ddoniau, mor bur yw dy wedd;
Wrth weld ardderchowgrwydd dy wyneb di
heddyw
Pwy byth a feddyliai fod ynnot ti fedd!
O! draethell d'wyllodrus! A weli y weddw,
Fel delw o farmor, yn sefyll yn syn,
Delfrydedd ei bywyd, ei gobaith a'i chalon,
I gyd yn gloedig dan briddell y glyn.


O fyd trychinebus! Pa le mae'th ogoniant?
Ddoe popeth yn dyner, a phopeth yn hardd;
Ond heddyw dan deimlad o siomiant aruthrol,
Dichlynder a balla ym mlodau yr ardd!
Doe popeth o'i deutu yn hoew a siriol,
A phriod ei mynwes yn frenin ei byd;
Ond heddyw yn unig ynghanol y dyrfa,
A'i holl ragolygon yn chwilfriw i gyd!

O fyd cyfnewidiol! Does heulwen a chysur,
A baentiai bob gwrthrych yn euraidd a mad;
A'r fam y ddedwyddaf ynghalon ei theulu,
A'i theulu y goreu o fewn yr holl wlad!
Ond heddyw cymylau marwolaeth ymdaenodd,
Ac angau ei liwiau ei hunan a ddyd,
Anobaith a ddryllia angorion ei henaid,
Uwchben ei hoff faban, heb dad, yn ei gryd!

Unigrwydd y weddw, pwy all ei ddarlunio
Unigrwydd ynghanol llond aelwyd o blant!
Unigrwydd aderyn diffaethwch, a hiraeth
Yn bwyta ei mynwes, i dorri ei chwant,
Mae bron fel unigrwydd marwolaeth ei hunan,
Cyfeillion hebryngant at donnau y dwr:
Ond yno gadewir y weddw yn druan,
I gladdu ei chalon ym meddrod ei gwr!

Gorffwylledd a leinw ei meddwl yn hollol,
Maddeued y nefoedd orffwylledd ei hing:
Ei henaid a suddodd yn nyfnder ei gofid,
Y tonnau cythryblus yn uchel a ddring;
Gwrandewch ar ei llefau mewn anymwybydd-
iaeth,
Yn erfyn ymwared rhag stormydd mor fawr,
Cyn rho'i y dywarchen i guddio ei wyneb,—
"O! rhowch fy amddifaid a minnau i lawr!


Y wyneb hawddgaraf; a raid ymfoddloni
I weled dy roddi dan briddell mor drwch?
A raid i mi'th adael i orwedd dy hunan
Yn oer fel y ddaear ynghanol y llwch?
Y galon anwylaf a gurodd rhwng dwyfron,
A redodd yn ffrydlif o gariad i'm rhan;
O! fynwent, os gwyddost beth ydyw trugaredd
Gad i mi a mhriod gael bod yr un man!

"Y dwylaw wasgarodd y fath garedigrwydd,
Oedd megis tyneraf awelon yr haf;
A'r wen ydoedd megis ymdaeniad y wawrddydd,
Ei denol gyfaredd byth mwyach ni chaf:
Y llais a chwareuai ar dannau fy nghalon,
O angau creulonaf! ti fuost yn erch,
Pan allit ti ddodi dy lenni alaethus
Dros lygaid belydrodd fath foroedd o serch.

"Fy nydd a fachludodd uwch mangre'th or-
weddfan
Pa fodd y dirwynir y gweddill i ben?
A raid i mi deithio heb haul yn fy nwyfre,
A dim ond cymylau yn llenwi fy nen?
A raid i mi hwylio hyd for amgylchiadau,
Heb lywydd i wylio y llanw a'r trai?
A raid im wynebu'r tymhestloedd fy hunan,
A threulio'r blynyddoedd heb ynddynt fis
Mai?

"Y mis godidocaf o fisoedd y flwyddyn,
Wrth edrych o'm deutu ar dde ac ar chwith;
Adfywiad ganfyddir lle bynnag y syllir,
Mae bywyd yn gloewi yn llygaid y gwlith;
wastraff ar fywyd! 'Rwyf bron cenfigenu
Wrth weld y distadlaf flaguryn erioed,
A darllen yr argraff o fywyd sydd arno
Yn myned yn aberth i wadn fy nhroed!



"Ffarwel, fy anwylyd, rhaid troi tua chartref,
Y cartref fu unwaith mor gyfan a mad;
Mae gennyf amddifaid yn galw am danaf,
Rhaid i mi fod bellach yn fam ac yn dad:
Pa beth a ddywedaf pan eilw fy Arthur
Ei Dada—ei Dada, tro cyntaf i gyd!
Pa fodd y dywedaf fod Dada yn ysbryd
Dihalog yn gwylio sigliadau ei gryd!"

Y weddw alaethus, ni fyn ei diddanu,
Ei dagrau wylofus gymysgent a'i llef;
Yn nwysder ei gofid, anghofia bob cysur;
Anghofia am foment fod Duw yn y nef!
Ond trannoeth a wawria ar natur ei chyni,
Tangnefedd byd arall ddisgleiria i'w bron;
Anfeidrol dosturi a ddaw i'w chyfarfod,
I ddangos yr Iesu yn marchog y donn.

Ie, weddw adfydus, os coron o berlau,
Sy'n pwyso dy emrynt urddasol i lawr:
Os ydyw teyrnwialen, a gorsedd, a theyrnas,
Yn llethu dy ysbryd â beichiau rhy fawr!
Neu ynte, os angeu hylldremia dy wyneb,
A dim ond tylot dy yn agor ei ddor,
Mae dagrau y weddw o unrhyw sefyllfa,
Yn cyffwrdd yn dyner yngorsedd yr Ior.

Mae ochain y weddw yn esgyn i fyny
Gan basio'r cymylau a phasio y ser,
A thynnu trugaredd o fynwes Jehofah,
A dwyn cydymdeimlad Tywysog ein Ner:
Mae'i lygad grasusol fel tanllyd amddiffyn,
Yn gwylio ei llwybrau rhag gormes na nam;
Os rhagfarn a feiddia orthrymu ei henaid
Caiff Frenin y nefoedd i arbed ei cham.

AR YMADAWIAD CYFEILLION I'R MAES CENHADOL

O BOED i'r hwn a biau'r gwaith,"
Eich cynnal ar bob cam o'ch taith;
Anghofiwch holl negesau'r llawr
Wrth gofio am eich neges fawr.

Boed i bob cam a ro'wch ynghyd
Gael boed yn bregeth bur i'r byd;
Eich ysgogiadau bob yr un
Gyhoeddo'n deg am Geidwad dyn.

Anghofiwch bob ffarwelio trist,
Anghofiwch bawb ond Iesu Grist,
Ac ynddo Ef cawn ninnau ran,
A chwrddyd eto yn y man.

CARTREF

O! ENW gorswynol, fy nghartref hyfrydol,
Da gen' i dy ganmol heb gyni,
Mae'th lun ar fy nwyfron, yn gosod yn gyson
Beth ddywed y galon heb gulni;
Dymunaf gael aros, ar ferr—nos a hir—nos,
A gorffwys yn ddiddos tra fyddaf
Ar aelwyd fy nghartref a'm teulu mewn tangnef,
Gogonedd fy ngwiwnef a ganaf.

AR FARWOLAETH JANE CATHERINE.

DAETH Haul Cyfiawnder yn ei rym,
Tywynnodd yn ei bron,
A gwnaeth ei hysbryd puraidd hi'n
Rhy dda i'r ddaear hon,
Ehedodd fry uwch llygredd byd
Mewn gwisg ddilychwin wen,
Ac engyl nef ar frys am roi
Y goron ar ei phen.

Blodeuyn prydferth ydoedd hi,
Yn cario lliwiau'r nef,
A pherarogledd rhwng ei ddail,
Pur sawr ei arogl Ef:
Nid rhyfedd i'w rhieni hoff
Ei charu ar y llawr,
Yr un mor fuan oedd i fod
Ym mhwysi'r Brenin Mawr.

MEWN ALBUM

WRTH droi dalennau'r gyfrol hon
Canfyddaf gamrau gwyn athrylith,
A theimlaf gryndod dan fy mron
Rhag ofn rhoi us ymysg y gwenith;
Gan hynny'm diogelaf ran
'Rol gweld y llyfr a'i ddarllen drwyddo
Fydd cael fy nghofio yn y man
Heb ddim ond rhoi fy enw ynddo.

AR BRIODAS

MAE'R byd am rywbeth newydd,
A newydd fyn ei gael.
Yr hen sy'n myned heibio'n chwim,
A'i gyfrif gyda'r gwael,
Ond dyma hen beth newydd,
Priodas mab a merch,
A newydd byth y pery hyn
Tra y parhao serch.

Mae'th gartref enwog dithau
Yn hen a newydd iawn,
Yr hen mewn parch a mawredd pur,
Yn newydd ymhob dawn;
Mae coron hen anrhydedd,
Uwchben y lle'n ddilai,
Ond caredigrwydd yno sydd
Mor newydd a mis Mai.

Hawdd iawn dymuno i ti,
Wyn fyd, O eneth fad,
Wyt deilwng o anrhydedd gwir
Er mwyn hen dy dy dad;
Ond gwell, wyt deilwng wrthrych
Edmygedd it dy hun,
A'r mab a gaiff dy galon lân,
Gwyn fyd, gwyn fyd y dyn.

Taraned y magnelau
Er anfarwoli'r tro,
A rhued yr ergydion llym
Nes siglo yr holl fro;

Fe floeddiwn ninnau'n goreu
Ein cyfarchiadau llon,
Boed llewyrch byth fel enfys deg
Uwch y briodas hon.

MISS A. J. DAVIES

(Bedford Street, Liverpool)

FE gerfiodd ei henw ar lechres anrhydedd,
Anwyldeb a'i paentiodd ar galon ei gwlad;
Gall oesau i ddyfod adnabod pob rhinwedd
Wrth ddarllen ei hanes mewn teilwng fawr—
had.
Mae hanes Miss Davies yn hanes i bara,
Tra enaid yn werthfawr—tra cariad yn ddrud,
Ceir enw ein gwrthrych gan bwyntil na wyra
Ar glawr anfarwoldeb pan dderfydd y byd.

Tywalltodd ei henaid i waith y Gwaredwr,
Y truan, adfydus, gyfrifai yn frawd;
Y meddwyn gyfodai o isder ei gyflwr,
Anghofiai ei hunan yn achos y tlawd.
Hi ydoedd Gamaliel i'r oes gydag addysg,
Hi ydoedd Dorcas i weinion y byd,
Meithrinfa ei chyngor oedd burdeb digymysg,
Elfennau ei haddysg oedd cariad i gyd.


HUNO YN YR IESU

IEUENCTYD tirion, llawen fryd,
Dewch gyda mi am enyd
weled gwir lawenydd byd,
A gwir lawenydd gwynfyd;
Llawenydd bywyd! nis gall fyw
Mor agos at farwoldeb;
Pwy byth yn llawen a all fod
Yn ymyl tragwyddoldeb?

Llawenydd bywyd! Na foed son
Fan yma am lawenydd,
Nis gellir bod yn llawen byth
Mor ddwfn yngwely cystudd;
Mae yma bawb yn wylo'n drist,
Galaru mae'r holl deulu;
Ond dyma un o ffrindiau Crist
Yn dechreu gorfoleddu.

Mae'r tonnau'n uchel o bob tu,
A'r dymestl yn gerwino;
Anadliad ferr y galon wan,
Bron, bron yn methu curo.
Gwrandewch ei sibrwd distaw hi,
Nis gall ond ei sibrydu,
Ond tery dant sydd fyny, fry,
A seinia'n beraidd ganu.

"O! distewch, derfysglyd donnau,
Tra fwy'n gwrando llais y Nef,
Swn mwy hoff a sain mwy hyfryd
Glywir yn ei eiriau Ef.
Fenaid gwrando, f'enaid gwrando,
Llais tangnefedd pur a hedd."


Nid oedd gallu dyn i roi
Tawelwch yn y tonnau,
Ymdrechion pawb yn ofer drodd
I lwgr-wobrwyo Angau,
'Doedd neb yn foddlon ond hyhi
Ei weled yn dod ati,
Ond plygodd hi ei phen yn foes
I'r genllif gario drosti.

Wynebodd arall fyd yn ddewr,
A'r glannau draw yn oleu,
Dim ond noswylio gyda bryd
I godi yn y boreu.
A brysiwch," meddai, ar fy ol, --
Yr ydych yn dynesu,'
A hunodd yn y dwyfol gol,
Gan sibrwd enw Iesu.

IESU YN AGOS


'Rwyf yn galw, Iesu grasol,
Arnat o gyfynder mawr;
Mae fy mhechod llym gormesol
Bron a chael fy mhen i lawr.
Bydd yn Dduw o agos i mi,
Gyrr fy meiau oll ymhell,
Bydd yn agos at fy ngweddi,
Dyro sail gobeithion gwell.

—————————————

YNYS LAWD.


Er dy fod ynghanol lli,
Eto tawel ydwyt ti."

—————————————

FY NGWLAD

Ar gwendid ydyw caru ei wlad ei hun?
Yn well—yn gan mil gwell nac unrhyw un?
Os dyna yw, ymffrostio ynddo wnaf,
O gariad at fy ngwlad yr wyf yn glaf.
O Gymru deg! Yr wyt yn anwyl im,
Fy nghalon atat a ehed yn chwim,
Mae natur wedi'th freintio'n llawer gwell,
Mae'th fryniau bach yn uwch na'r bryniau pell
I mi, mewn hanes y mae rheiny'n fawr,
Ond ffaith weladwy wnaiff y bach yn gawr.
Mae'th eira'n wynnach! ac mae'th adar mân
Yn fil melusach yn eu swynol gan!
O'r braidd na thybiwn fod pelydrau'th haul
Yn fyrdd disgleiriach yn dy fro ddi—ail!
Ac megis seren mewn gogoniant gwyn
Yw Môn, hen famaeth gu y gwledydd hyn,
Gwyn fyd a sang dy dir; beth af i son?
Rwy'n credu fod y nef yn nes i Fon.

MEWN ALBUM

BETH a fyddai yn gof-golofn
Yn eich Cof-lyfr tlws diail?
Beth a ddyry anfarwoldeb
Ar dy enw rhwng ei ddail?
Dweyd fy mod yn caru'r Iesu
O fy mebyd hyd fy oes?
Pery hynny tra parhao
Cof a chân am Angau'r Groes.


Rhywbeth mawr yw Anfarwoldeb,
Rhywbeth hardd ar lan y bedd,
Rhywbeth byw ar lwch marwoldeb,
Dardd yn fythol wyrdd ei wedd!
Os am gaffael meddiant ynddo
Pan yn ulw lyfrau'r llawr,
Rhaid i'm henw'n argraffedig
Fod ynghof-lyfr Iesu Mawr.

"GWAWR."

(Dyfyniad o Riangerdd)

GWAWR y bore ymagorodd,
Gwawr ar f'enaid innau dorrodd;
Gyda'r wawr y ganwyd imi
Eneth anwyl fel y lili.

Troaf tua'r Dwyrain beunydd,
Gyda diolchiadau newydd;
Swniaf fawl a'm seiniau goreu
I Greawdwr gwawr y boreu.

Fel y wawr y byddo'm geneth,
Adlewyrchu'n bur a difeth,
Gan wasgaru teg oleuni,
Fel y wawr ar ddydd ei geni.

O'r fath brydferth awgrymiadau
A gyflea y llythrennau,
Ac i gofio'r gwyn funudyn
Gwawr fydd enw'm hanwyl blentyn.

CENHADWR Y MORWYR

(Caergybi)

NID anghofiodd awel Hydref
Wyro'r blodau mwyaf hardd,
Nid anghofiodd swn ei dolef
Alarnadu uwch yr ardd;
Cwympo'n drist ar ddaear galed,
Nid anghofiodd dail y coed,
Angau gyda'i farwol dynged,
Nid anghofiodd Capten Lloyd.

Nid anghofiodd tlysni natur,
Yn ei dymor harddu'r llawr,
Nid anghofiodd daenu cysur
Gyda'i wyrddlas gwrlid mawr.
Dyma wron nad anghofiodd
Gadw cyfraith Duw erioed,
Dyma'r rhinwedd beraroglodd
Lwybrau bywyd Capten Lloyd.

Pan fa'i gartref ar yr eigion,
Pan fa'i dŷ ar frig y donn,
Pan ynghanol grym peryglon,
Pawb o'i gylch yn brudd eu bron,
Nid anghofiodd y cyfleustra
I rybuddio, doed a ddoed,
Bwrdd ei long a droi'n areithfa
I godi Iesu Capten Lloyd.

Pan y gwgai yr elfennau,
Pan gymylai ar ei hynt,
Cadw'i was mewn cyfyngderau,
Nid anghofiodd Duw y gwynt;

Cledr llaw yr Hollalluog
Yw'r bywyd-fad sicra' 'rioed,
Taflu angor ffydd ddiysgog
Wnaeth yr anwyl Capten Lloyd.

Nid anghofia'r nodwydd bwyntio
Tua'r gogledd o bob man;
Ple mae'r morwr all anghofio
Gwylio'n ddyfal am y lan?
Dyma'r gwr a bwyntiodd gannoedd
Tua'r hafan oreu erioed,
Pwy anghofia tra bo moroedd
"Bethel Flag" y Capten Lloyd?

Nid anghofiodd fyw i farw,
Weithian cafodd farw i fyw;
Nid anghofia godi'n fore
"Ddydd y Farn" ar ddelw Duw:
Ar ei had y byddo'i ardeb,
Nac anghofiont ol ei droed;
Nid anghofia Anfarwoldeb
Gerfio enw Capten Lloyd.

Ni wna Barnwr byd anghofio
Sychu dagrau'r weddw brudd,
Nid anghofia engyl wylio
Tawel fan ei wely pridd;
Ni chadd Mynwent Dwyran gadw,
Yn ei mynwes glyd ni roed
Un hawddgarach, un oedd burach,
Na'r diweddar Capten Lloyd.

MORWYNIG FACH O'R BALA

DAETH morwynig fach o'r Bala,
I Gaergybi i roi tro,
Geneth heinyf, iach ei gwala,
Mae yn fraint ei chael i'r fro;
Dawnsia bywyd ar ei hemrynt,
Harddwch a fantella'i grudd,
Gwên ei genau sydd o danynt,
Ymlid hwnt bob meddwl prudd.

Mwy na hynny, mae athrylith,
Yn ymddangos uwch ei hael,
Na foed lle ynglyn a'r fendith,
I gartrefu meddwl gwael;
Gwell na'r cyfan, mwy o lawer,
Uwch bob croes a siomiant trist,
Yw dy fod, fy ngeneth syber,
Yn anwylo Iesu Grist.

Y mae swn hen Haleliwia
Emynyddes Cymru Lân,
Fyth yn hofran ger y Bala,
Er pan roes y wlad ar dân.
Sanctaidd dân mewn angerddoldeb,
Nid oedd ond morwynig wan,
Tithau, dyro anfarwoldeb,
Ychwanegol ar y fan.

Bydd yn Galvin ran dy grefydd,
Gras am unwaith, gras am byth,
Bydd yn Wesley hefyd beunydd,
Mewn gweithredoedd da di lyth,

Bydd yn Fabtist, dwr rhinweddol,
Glendid mawr i ti a ddwg,
Bydd yn Anibynnol hollol
Ar gynlluniau yr un drwg.

Cerdd ymlaen, enethig wiwlon,
Gwylia dynnu'th nod i lawr;
Cadw'n gynnes dan dy ddwyfron
Gariad at dy Geidwad mawr.
Mae i'th degwch yn dy yrfa,
A'th dalentau gloewon drud,
Neges fawr o law Jehofah,
Dysgu honno yn y byd.

"O FE FYDD YN HAF O HYD."

O! Fe fydd yn haf o hyd,
Lle mae Iesu'n haul y byd,
Lle mae aur delynau'r nefoedd,
Lle mae "Lili y Dyffrynoedd,"
Minnau'n ieuanc yn oes oesoedd,
O! fe fydd yn haf o hyd.

O! fe fydd yn haf o hyd,
Lle mae Iesu'n haul y byd,
Lle blagura "Rhosyn Saron,"
Fan lle mae anniflan goron,
Wedi cyrraedd "Mynydd Seion,"
O! fe fydd yn haf o hyd.

BORE GWANWYN

Ar ol i'r gaeaf suo'n glyd
I'w fynwes er yn llom,
A siglo anian yn ei chryd
Mewn cwsg o ddu—nos drom,
Daeth bore gwanwyn, siriol wawr,
A mil o glychau syw,
I alw ar hen anian fawr,
I ddod o farw'n fyw.

Ffarwel, am dymor, eira gwyn,
Ffarwel, y rhewynt blin,
Daeth wyn i brancio ar y bryn,
Daeth melus, hyfryd hin,
Daeth adar bach a'u cerddi chweg
I ddweyd daw blodau fyrdd,
A "bore da "i anian deg
Yw iaith yr egin gwyrdd.

Mae anian gyda'i doniau hardd
Yn dysgu gwers i ddyn;
Pob blodyn—pob eginyn dardd
Sy'n dwyn ei wers ei hun.
Y bywyd newydd sy'n y dail
Adlewyrch ardal beli,
Gan sibrwd fod i'r Cristion sail
Am adgyfodiad gwell.

O! wanwyn braf,
Croesaw, wanwyn braf,
Iaith y gwanwyn ydyw,—
"Wedi hyn daw haf."

DIRWEST

(I'r Plant).

MAE byddin dirwest ar y maes,
A'r Gobeith Lu yn dod,
A'u gwisgoedd gwynion, prydferth, llaes,
Yn canu clych eu clod.
Rhinweddau fyrdd sy'n crogi'n glau
Wrth odreu rhain i gyd,
A dyna rinc eu tincian hwy,—
Rhaid ydyw sobri'r byd.

CYDGAN.
Rhaid ini sobri'r byd cyn hir,
Rhaid ymladd medd'dod cas;
Ryfelwn a gweddiwn wir,
Ar Dduw i roddi ei ras.

Trueni gweld y ddiod gref,
Yn sarnu dyn i bant,
Mae calon Iesu yn y nef,
Yn gwaedu dros y plant;
Rhieni plant yn feddw sydd,
A'u helynt yn ddirâd,
Duw Cymru fu, y sydd, a fydd,
O! gwared ni a'n gwlad.

Cydgan.

Er dysg am ddim a bwyd yn rhad,
A Beibl ymhob llaw,
Y dafarn sy'n cael llog y wlad,
Gan lenwi'r byd â braw;
Tydi yn unig, Iesu glân,
Ro'ist fywyd dros y byd,
Ymbiliwn arnat, fawr a mân,—
O! cau'r tafarnau i gyd.

Cydgan.

I CHWAER YN EI CHYSTUDD.

ANWYL chwaer, paid digaloni,
Dan dy gystudd blin,
Cuddia'r cwmwl wiw oleuni,
A thynerach hin.
Anwyl chwaer, O, paid a wylo,
Golli cysegr Duw;
Y mae afon Duw yn ffrydio
I'r lle 'rwyt yn byw.

Iesu fu dy gyfaill goreu
Ar hyd dyddiau'th oes;
Braint dy fywyd er yn foreu
Y doedd "Stori'r Groes."
Croes yr Iesu ydoedd honno,
Gariodd er dy fwyn;
Tithau nerth a gefaist yno,
Dan bob croes, i'w dwyn.

Rhoist dy fywyd di dy hunan
Iddo'n ol ddinam,
Gelli gyfri'th dŷ yn gyfan,
Gyda Duw eu mam.
Gwyn dy fyd di, fam yn Seion,
Mwy gwyn fyd dy le,
Er rhwng erchwyn gwely'n gyson,
'Rwyt ynghyfri'r ne.

Gŵyr yr Iesu dy gystuddiau,
Bu yn glaf ei hun,
Cofia heddyw'th gymwynasau,
Iddo bob yr un;

Mae mewn syched, mae'n newynu,
Eto yn ei blant,
Tithau gefaist arno weini,
Trwy ddiwallu'u chwant.

Nodded nef ymdaeno drosot,
Torred arnat wawr,
Gweddi daer sy'n esgyn erot
At y "Meddyg Mawr;"
Mwy yw Ef na phob afiechyd,
Na gwendidau'r byd,
Gall Efe droi'r oll yn fywyd,
Ac yn "Haf o hyd."

ANN GRIFFITHS.

AETH heibio i deganau'r llawr,
Aeth hwnt i ser y nen,
Uwchlaw i'r cymyl, at y wawr
Cartrefa draw i'r llen:
Cyffyrddodd yn y goleu claer
Sydd ar yr orsedd lân
Nes dwyn y Gair yn sylwedd byw,
Tragwyddol yn ei chân.

Nid oedd ond Gethsemane Ardd,
R'odd iddi Faban Mair;
Ei Nardus a'r Phomgranad teg,
A dyfodd yn y Gair.
Ni feddai anian iddi hi
'Run swyn, na bri o'r bron,
Cydgasglodd holl ogoniant byd
I Rosyn Saron hon.

"GWAWR."

(Dyfyniad o Riangerdd)

CYNT na'r eryr ar yr awel,
Cynt na'r wiwer yn y coed,
Cynt na chyflym droed y camel,
Y daeth Gwawr yn ddeunaw oed.
Llithrodd dyddiau maboed heibio,
Megis afon tua'r môr,
Ac efelly yn ymsuddo
I'r anneirif ryfedd stor.

Ond nid felly yr ymgollodd
Caredigrwydd calon Gwawr,
Ei rhinweddau a ymgododd
Fel y gwreichion uwch y llawr.
Nid fel gwrechion yn diffoddi,
Ond fel hynny'n fwy o dân,
Gan gynhesu wrth ymroddi
I was'naethu mawr a mân.

Buan iawn yr aeth ei henw,
Yn ddiareb yn y fro,
Pawb wrth gofio'r enw hwnnw,
Gofiai ryw garedig dro.
'Roedd ei hynod ddiniweidrwydd
Yn ei gwneyd yn ysgafn fron,
'Roedd ei phryd yn llawn serchawgrwydd
Nefoedd yn ei gwyneb llon.

Pan fa'i rhywun mewn cyfyngder
Gwawr oedd gyntaf yn y fan;
Truan tlawd mewn rhyw iselder,
Gwawr a helpai tua'r lan.

Gair oedd ganddi i'r oedranus,
Gwen i'r ieuanc, lawn o swyn,
Olew cysur i'r galarus
Ydoedd gwedd ei gwyneb mwyn.

'Roedd prydferthwch ei gweithredoedd
Yn ei gwneyd i bawb yn hardd,
Nid teleidion natur ydoedd
Yn ei gwneyd fel blodyn gardd;
Er ei bod yn dlws efelly,
Gydag aeliau duon main,
A dau lygad yn pelydru
Byd o degwch drwy y rhain.

Mae y fath wahaniaeth dirfawr,
Yn ein barn ar bwnc y tlws,
Un edmyga rosyn rhwysgfawr,
Llall y briall ger ei ddrws.
Un am lygad fel y saphir,
Arall am y duaf un,
Un am wallt fel aur i'w feinir,
Ail am wineu idd ei fun.

Pawb a gydolygai'n hapus,
Pawb a ddelai i'r un farn;
Ond eithriadau tra dirmygus,
Sydd ry wael i fod yn sarn;
Pawb ond hynny ganai'r cydgan,
Gan ymuno fach a mawr,
Yn y geiriau syml diddan,
Gwyn ei fyd a gaffo Gwawr.

"THE DAFFODILS."

(Wordsworth)

ARALLEIRIAD

FEL cwmwl ar yr awyr chweg,
Y crwydrais unwaith ar fy hynt;
Canfyddais fyrdd o flodau teg
Yn dawnsio yn y distaw wynt,
Ar fin y lle chwareuent gerdd,
Telynau fyrdd dan goedwig werdd.

Cyrhaeddent dan arweiniad Ner
Hyd lan y môr, fel byddin lu
Barhaol, fel afrifed ser,
Wreichionent yn eu llwybr fry;
Mil filoedd welais ar fy nhaith,
Yn ymwefreiddio ar un waith.

Gerllaw fe ddawnsiai'r tonnau can,
Ond ofer oedd eu hymffrost mwy,
Yr euraidd gatrawd ar y lan,
Fachludodd eu dillynder hwy.
'Roedd raid i'r bardd wrth syllu'n syn
Ymhoeni megis oen ar fryn.

A mynych pan yn gorwedd bwyf
Mewn rhyw anhunedd blin a phrudd,
Yn wael fy nhrem o dan fy nghlwyf,
Melltenant ar fy enaid cudd,
Fy nghalon chwery yn y gân,
A dawnsia gyda'r blodau mân.

AR BRIODAS.

GLAN briodas, beth sydd lanach?
Beth siriolach sydd i'w gael?
Gloew fodrwy, beth sydd loewach?
Dim o dan dywyniad haul.
Beth gadarnach ar y ddaear?
Peidier son am rym y graig;
Canmil cryfach cwlwm cymar,
Deuddyn anwyl—gwr a gwraig.

Cefaist ti y goron, Tegian,
Pan y cefaist Mary lân,
Cadw hi yn hoew ddiddan,
Ceidw hithau'n gu dy gân:
Boed disgleirdeb adlewyrchiad
Bywyd pur ar hyd eich hoes,
Yn goleuo rhyw gerddediad
Dyrus lwybrau dysg a moes.

Boed cymdeithas yn amgenach,
O'r briodas brydferth hon,
Boed rhyw awyr yn ysgafnach,
Boed rhyw leddf" yn troi yn llon."
Bydded nefoedd ar eich aelwyd,
Geidw ymaith ysbryd trist;
Cofiwch, dysgwyd chwi yn ddiwyd,
Lwybrau esmwyth Iesu Grist.

MIRIAM FACH

.

MIRIAM fach, heb fam i gychwyn
Gyrfa bywyd yn y byd;
Pwy a'th arwain, anwyl blentyn,
Pwy a sigla'th ddyrus gryd?
Tannau calon pwy gynhyrfa
Wrth dy oslef eiddil wan,
Llygad cyflym pwy'th ddilyna
I'th helbulon ymhob man?

Pwy a wylia'th ysgogiadau,
Clustiau pwy adneba'th gri?
Pwy ddeallath ocheneidiau,
Pwy a sych dy ddagrau di?
Pwyth gerydda pan ddechreui
Ddysgu gyntaf wneuthur bai?
Pwy a ddwed mai drwg a wneli
Pan ddywedi di "Na nai"?

Hidia befo, Miriam dirion,
Gall yr Hwn a ddug dy fam,
Roddi calon mam i estron,
I’th amddiffyn rhag pob cam;
Gall ro'i breichiau tyner cariad
I'th gofleidio, anwyl un,
O ran hynny, gall ddiddanu
Fel diddanai'th fam dy hun.

Blentyn anwyl, rhoddwn enw'th
Fam i ti ar draws ei harch,
Rhodded Duw it ras i'w gadw
Mewn anrhydedd byth a pharch;

Fe'allai gelli di gyfanu
Rhwyg a wnaed gan drefn y nef,
Pan y ffeiriodd gyda "dadi,"
Miriam am ei Firiam ef.

ENW'R IESU

PEIDIWCH maeddu enw'r Iesu
Er un dim sydd yn y byd,
Peidiwch ei ddi-anrhydeddu
Er trysorau prinion drud;
Mae yn enw gogoneddus,
Glanach yw na gwawr y dydd,
Paid a'i faeddu mor ddi-esgus,
Onide cei chwerwedd prudd.

Paid diwyno enw'r Iesu
Gyda pharddu pechod cas,
Enw ydwyt yn broffesu,
Enw wisgir gyda blas;
Gwylia'i bylu gyda brychau,
Chwantau cnawdol, gwirion ffol,
Paid dynodi dy wendidau
Wrth ei gario yn dy gol.
Gwylia rwystro rhai o'r defaid,
Gwylia gloffi rhai o'r Wyn,
Gydag enw mor fendigaid
Sydd yn llawn o nefol swyn;
Gwell ymddiosg oddiwrtho,
Na chynhyrfu llid yr Ior,
Rhag i'r enw mawr dy suddo
I ddyfnderoedd erch y môr.

—————————————

SIR FON.

"Gwyn fyd a sang dy dir! Beth af i son?
Rwy'n credu fod y nef yn nes i Fon.

—————————————

FY ANWYL FFRYND

'RWY'N cenfigenu wrth y bedd
Wrth gofio'i gwyneb dengar,
A meddwl fod ei siriol wedd
Dan glo yng ngraian daear.
O! greulawn fedd, pa bryd, pa hyd,
Cei ddigon o'n hanwyliaid?
Pan gefaist hon, ce'st ddewis byd,
A dewis nef i'th goflaid.

'Rwy'n methu deall ambell dro,
P'odd llygri beth mor buraidd,
Yr ydoedd fel goleuni'r fro,
O'r bron, gan fuchedd sanctaidd.
Ond ha! Wrth gofio'r ysbryd sydd
Yn diogelu'r babell,
Pan gyfyd hwn i 'w elfen rydd,
Rhaid rhoi y pridd i'r briddell.

Wrth fyned heibio'r dawel fan
'Rwy'n methu peidio cwyno,
Er gwybod imi roddi Ann
Mewn diogel obaith yno;
Er credu, pe bae'r gwyntoedd fflwch
Eithafol yn gwasgaru,
Ceid edyn engyl gasglai'i llwch,
Er hyn rhaid im' alaru.

Nid oedd ond ysbaid blwyddyn ferr
Er bore ei phriodas;
Ond angau gyda'i feiddiol herr,
Ar fyrder wnaeth alanas;

'Rwy'n methu sylweddoli'r ffaith
Ond fod rhyw fan neillduol,
Mewn mynwent werdd gerllaw yn llaith
Gan ddagrau ffrynd mynwesol.

Ac nis gall bedd er maint ei rym,
Y dirgel glwm ddad glymu;
Mae argraffiadau serch mor llym,
Nid pridd all eu diddymu;
Ei llygad treiddgar—drych ei bron,
A'i thirion gywir wenau;
Nid ebargofir byth mo hon,
Nes caffo'r beddrod finnau.

Ffarwel, fy anwyl ffrynd ddiffael,
Pan atoch bwy'n dynesu,
Mi wn yn iawn pa le i'ch cael,
Yn rhywle'n ymyl Iesu;
Os gwelwch le yn wag ger llaw,
Pwy wyr nad fi a'i piau,
A dyna fydd ein nefoedd draw,
Cael Iesu Grist a'n ffryndiau.

CYFARCHIAD PRIODASOL

.

BENDITH ar eich uniad glân,
Boed eich oes yn oes o gân;
Boed digonedd o bob dawn,
Iechyd da a chwpwrdd llawn,
Cariad pur yn torri drosodd,
Nefoedd yn y ddeufyd trwodd.

AR YMADAWIAD CYFAILL I'R AMERIG

WRTH adael hen froydd a bryniau dy wlad,
Wrth adael dy liaws cyfeillion,
Wrth adael yr aelwyd dy fagodd mor fad,
A'r fron a'th anwylodd mor dirion,
Gadewi ar unwaith galonnau fel dur,
A gura mewn serch wrth dy gofio,
Gadewi weddiau esgynnant yn bur,
I ofyn am engyl i'th wylio.

Tra llwyddiant a ffynn dy waith dros y donn,
A'th wyneb at dir y Gorllewin,
Esgyned ochenaid o ddyfnder dy fron,
Wrth adael dy lenyrch cysefin.
Ar ol i'th fwriadau di ddyfod i ben,
O boed i dy fynwes gynhyrfu,
A bydded i'th hiraeth dan fendith y nen
Dy hwylio di eto i Gymru.

Y llwybrau a gerddaist ddiferant gan fyrr
Daioni, rhy ddrud i'w bwrcasu,
Arogledd dy enaint yn ddiau a dyrr
Ar ben dyrchafedig yr Iesu.
Wrth godi dy gyd—ddyn crwydredig o'r llaid,
Wrth wasgar dy fynych gymwynas,
Cei anfon i fyny dy weddi ddibaid,
A llefain, "deued dy deyrnas."

Tra pery y Gobaith, y Cariad, y Ffydd,
I ennyn fel tân yn dy fynwes;
Tra gelyn dynoliaeth yn rhodio yn rhydd,
Atalia di gamrau ei ormes:

Parhaed dy berffeithrwydd lle bynnag yr ai,
Parhaed caredigrwydd dy galon,
A Duw tragwyddoldeb a ddyry'n ddi—lai
Barhad ar brydferthwch dy goron.

CANU YN OES OESOEDD

Os mynnwn fod ynghôr y nef,
Yn canu gyda'r seintiau,
Os mynnwn gael y delyn aur,
A'r goron ar ein pennau;
Rhaid i ni garu Iesu Grist,
A charu plant y nefoedd,
O dyna hyfryd, hyfryd waith,
Fydd canu yn oes oesoedd.

Os gorfod arnom ar ein taith
Fydd mynd drwy ddyffryn galar,
Cawn deg arweinydd, Ceidwad cu
A fu yn rhodio'n daear;
Ac yn ei gwmni Ef fynd trwy
Y dy froedd a'r tymhestloedd,
O dyna hyfryd, hyfryd waith,
Fydd canu yn oes oesoedd.

Os mynnwn fod ynghôr y nef,
Rhaid ini fedru'r anthem,
Ac yma mae yr ysgol râd,
I ddysgu carol Bethl'em;
Dewch, anwyl blant, i chwyddo'r dôn,
A seiniwn byth a bythoedd,
O dyna hyfryd, hyfryd waith,
Fydd canu yn oes oesoedd.

I'R BARDD J. T. JOB

"Blwyddyn newydd ddedwydd dda,
Chwenychaf i chwi'n ucha."—(Calenig)


IE boed y flwyddyn newydd
I chwi'n dda o ben i ben,
Pob munudyn ynddi'n ddedwydd,
Heb i gwmwl dduo'ch nen
Oni fydd yn gwmwl goleu
Deifl brydferthwch ar y donn,
Gyda melyn aur ymylau
Adlewyrcha hedd i'ch bron.

Nefoedd anwyl, bydd drugarog,
Wrth dy blentyn, wrth y bardd,
Dyro iddo ddal yn ffyddiog
Er i'r gwyntoedd ddeifio'i ardd.
Dyro iddo ddameg" arall,
Dal ei olwg tua'r wawr,
Torred arno flwyddyn ddiwall,
Nefoedd eilwaith ar y llawr.

Dyro iddo Salmau Seion,
Mewn melusder megis cynt,
Tynn y prudd—nod o'i alawon,
Caned eto ar ei hynt;
Rym yn disgwyl am ei delyn
Fu mor lawn o ysbryd cerdd,
Brysied Job a'i allu dillyn,
Gyda'i awen fythol werdd.

Awyr las uwch ben y byd,
Gofid gadwer yn ei gryd,

Haul y nefoedd fo'n tywynnu,
Blodau cysur fyddo'n gwenu,
Adar amgylchiadau'n canu,
Fyddo'r flwyddyn ar ei hyd.

ANOGAETH I FERCH IEUANC GANU

PAN roddodd Duw beroriaeth,
I'r ehedydd bychan llon,
Rhodd i'r byd ryw etifeddiaeth
I'w ddyrchafu uwch y donn;
Nid uwch ben ei nyth ei hunan
Mae i ganu am ei oes;
Na, mae'i lais fel nefol drydan,
I liniaru llawer loes.

Felly chwithau, eneth siriol,
Rhoed i'ch gofal seiniau hardd,
Cawsoch ffa frau da a doniol,
I'w gwasgaru megis gardd;
Cenwch yn eich cartref dengar,
Ar eich aelwyd—hapus nyth,
Nac anghofiwch ras y gwasgar,
Sylfaen ein Hefengyl byth.

Wrth wasgaru, y mae casglu,
Gwasgar fel yr hauwr mad,
Lluchio'r hadau fel i bydru,
O'r fath wastraff sy'n y wlad!
Na, ni raid i ni bryderu,
Ffynna hyn neu ffynna'r llall,
Yn ein Duw 'rym yn hyderu,
Y mae llwyddiant yn ddiball.

PRIODAS

Miss Kate Jones, Cerrigydrudion, à Mr. W. Rowlands, Emporium, Caergybi, Medi 9fed, 1903

CUPID ga'dd wrthrychau newydd,
I anelu'i gyflym saeth;
Mon a Meirion ar foreuddydd,
Un mewn cariad gwiw a wnaeth;
Meirion gyda'i thamantusrwydd,
Lygad—dynnodd Fon yn lân;
Mon a fynnodd yn dragywydd,
Gael meddiannu'r fun a'i chân.

Rowlands gyda'i wen gantores,
Deuawd oeddynt hwy cyn hyn;
Hymen gyda'i hynod hanes
Roes y ddau mewn cwlwm tynn;
Cydsain bellach fyddo'u bywyd,
Unawd yn y cywair llon,
A pharhad eu hanthem hyfryd,
Megis tonn yn marchog tonn.

O, mor newydd ydyw cariad,
Ac mor anorchfygol yw,
Waeth pa le na pha gyfeiriad
Byddo'r gwrthrych teg yn byw;
Amnaid cariad mewn gwrhydri,
Gludwyd gyda'r awel lefn,
Cerrigdrudion a Chaergybi
Ymhyfrydant yn y drefn.

Peidied gofal byd na theulu,
Yrru ysbryd canu 'mhell,
Cenwch am ogoniant Cymru,
Cenwch am y wlad sydd well;
O'ch talentau gwnewch y gore
Ysgafnhewch ysbrydoedd trist,
Cenwch yn yr hwyr a'r bore,
Cenwch rai at Iesu Grist.

CERDYN NADOLIG

BOED llawenydd diddan diddig
I chwi oll ar Ddydd Nadolig,
Mwy na hynny, boed i'ch llonder
Bara'n hwy na dyddiau'r ddaear.
Bydded i chwi sylweddoliad,
Ar y dydd y ganwyd Ceidwad,
Ceidwad i rai gwael colledig,
Boed ei enw'n fendigedig;
Am ei ddwyfol gariad rhyfedd
Rhoddwn iddo wiw glodforedd.


AROS YN YR IESU.

Aros yn yr Iesu, yn ei gariad drud
Aros yn y dirmyg gafodd yn y byd,
Aros yn ei glwyfau, yn ei farw trist,
Dyna fydd ein Nefoedd, aros byth yng Nghrist.

NEGES JOHN

'DOEDD neb yn meddwl byth
Fod John yn ymyl marw;
'Roedd yma'n dawel a di-lyth
Ar dywydd teg a garw:
Eich plentyn bach oedd John,
Er iddo gyrraedd oedran,
Erioed ni roddwyd sugn bron
I ddiniweitiach baban.

Nis gallai ddarllen gair,
Nis gallai wneyd ei enw,
Er hyn 'roedd enw " Baban Mair,"
A swyn i John yn hwnnw.
Adwaenai lyfr y nef,
A throai ei ddalennau,
Dyrchafai aml ddyfal lef
O fawl i'r uchelderau.

Ni wyddai fawr am Dduw,
Na chwymp ofnadwy Eden,
Ond 'roedd ei galon fach yn fyw
I'r Hwn fu ar y croesbren;
Cyfodai olwg syn,
Sibrydai enw Iesu,
'Roedd Duw y nef yn deall hyn,
A ninnau oll yn methu.

Adnabu'r nefol dant
Pan yma ar y ddaear,
Ac nid oedd seraff gwiw na sant
Sydd heddyw'n uwch ei lafar.

Mae wedi dysgu'r Gair
Yn berffaith yn y nefoedd,
Mae'n darllen heddyw ieithwedd lân,
A chân y goruwch leoedd.

Beth oedd ei neges brudd?
Sydd yn ddirgelwch dyrus,
Paham anfonwyd ef mor gudd
I fyd mor dra adfydus?
Rhyw angel fu i'w fam
Anfonwyd yma i weini,
Ac aeth a'i chalon yn ddinam
I ganol gwlad goleuni.

Mae yno heddyw'n son
Am danoch wrth angylion,
Dan ganu'n glir ei hoffus dôn.
"Oll yn eu gynau gwynion";
Mynd ato ef yw'r fraint
Sydd gennym i'w dymuno,
Ac uno gyda John a'r saint
Sy'n moli'r Iesu yno.

COFFA.

Bu farw ynghanol y rhyfel,
Cyrhaeddodd hyd derfyn ei daith;
Cyflawnodd er hynny yn dawel
Ei neges a'i ran yn y gwaith;
Gorffwysed ei lwch yn ddigyffro,
A nofied ei enaid mewn hedd,
Daw angel ryw foreu i'w ddeffro,
Mae baner y Groes ar ei fedd.

SAMBO A'R BIBELL

"YN TEIMLO'N WYN."

Cyfansoddwyd wedi gweled ei ddarlun.

Ryw ddiwrnod anochelgar,
Ceir Sambo'r bachgen du,
Yn ddigon anichellgar
Yn gwneuthur yn rhy hy',
'Roedd Sambo wedi gweled
Y dyn urddasol gwyn
Yn gyrru mwg chwareus
Obibell wen—fel hyn!

Aeth yntau ryw ddiwrnod
I chwareu tynnu mūg,
Ni thybiodd am y foment
Ei fod yn gwneuthur drwg.
Uchelgais Sambo druan,
Oedd bod yn fachgen gwyn,
A thybiodd mai y bibell,
A'i gwnelai ef fel hyn!

Ond Ocho! Sambo wirion,
Fe gafodd atgas dal,
Wrth chwareu a'r tybaco
Aeth Sambo dlawd yn sål:
Ac O! gruddfanai Sambo, —
"Yr wyf yn teimlo'n wyn,
Ond gwell bod fel y fagddu,
Na bod yn wyn fel hyn!"


Ni welwyd byth mo Sambo
A'r bibell ffalswen hir,
Ca'dd ddigon ar dybaco
'Roedd hynny'n ddigon clir.
Y Negro du diamcan
Roes wers i lawer un,
A dybiai mai y bibell,
Sy'n cyfansoddi dyn!

Boddlonwch chwithau, fechgyn,
A'r dannedd gwynion glân,
Os gwnewch ddefnyddio baco
Fe ant mor ddu a'r frân;
Ca'dd Sambo druan deimlo
Nad troi yn wyn a fu,
Ychwaneg, feibion glandeg,
Mae'n gwneyd y gwyn yn ddu.

DIGON YW

Digon yr Iesu oedd dioddef ei hunan,
A'i enaid yn llwythog dan feiau y byd;
Digon i ninnau yw fod ynddo haeddiant
Yn ddigon anfeidrol i'n prynu i gyd.
Digon ei" Aberth foddlonodd y nefoedd,"
A digon ei fynwes sydd heddyw yn llawn;
Digon o gariad i hwylio colledig,
Hyd foroedd trugaredd at ddigon o "Iawn."

YR ENETH A'R GASGEN.

YR ENETH

PA beth yw'th waith di, gasgen?
Yr wyt o ddefnydd da,
O bren a fu yn tyfu
Yn rhywle 'ngwlad yr Ha!
Ai tybed fod dy fywyd
A roed dan haul y nen,
Yn cael ei deg gyrhaeddyd
A'i ddwyn yn bur i ben?

Y GASGEN

Na, na, yr wyf o'm hanfodd,
Yn gorfod bod fel hyn,
Camarfer mawr a'm gyrrodd
I ledu dorau'r glyn;
Y diafol fu'n cynllunio.
Ni thyr ef gregin gwag.
A dyna pam yr ydwyf
Yn cario diod frâg.

YR ENETH

O! gasgen, druan, druan,
Mae'n ddrwg gen i dy swydd,
Ond beth am ddynion egwan
Sy'n rhoi eu cyrff mor rhwydd,
Yn gasgiau wrth y miloedd,
Trybaeddant hyd y llawr,
Pryd dylent fod yn lluoedd
o demlau i'r Brenin Mawr.

Y GASGEN

O! eneth fach neu fachgen,
Dos dywed wrth y plant,
Am eiriol dros y gasgen
Sy'n aberth drud i chwant;
'Rwyf yma'n dra anfoddog
Yn gwneyd fy mhenyd waith,
Rhybuddia'r plant yn wresog
Na ddont i'm dyrus daith.

YR ENETH.

O! gasgen ddianrhydedd
Yr wyt yn wael dy lun,
Yn cario yn ddiddiwedd
Yr hyn a ddryga ddyn;
Mil gwell fuasai'th dynged,
A mwy fil mil dy barch,
Pe byddet yn ddiarbed,
Yn gwneyd i ddyn ei arch.

Pa beth a wnawn, O! gasgen,
I wella'th gyflwr tlawd?
'Rwy'n teimlo dros dy angen,
Fel pe baet chwaer neu frawd;
Gweddiwn ar Greawdwr
A wnaeth bob pren mor gun,
I newid trefn dy gyflwr,
Trwy newid calon dyn.


HELPU IESU GRIST

AR fore oer yn Ionawr
Pan oedd pob bro a bryn,
Yn orchuddiedig drosto
Gan do o eira gwyn,
Fe welais ryw enethig
A'i dwylaw bach yn llawn,
Yn gwasgar eu cynhwysiad
Ar lian cannaid iawn.

Pa beth a wnai? gofynnais,
Ble'r âi di, blentyn clau,
Nid yw yn bryd llafurio,
Na chwaith yn amser hau;
Gan hynny dwed, atolwg,
Beth yw dy neges ffel,
Ar fore mor aeafol,
Gad glywed, eneth ddel?

Y llances lwys atebodd
Yn llawn hoenusrwydd iach,—
" 'Rwyf heddyw'n helpu'r Iesu
I borthi'r adar bach!
Mae troion rhyfedd natur
Yn rhoi eu bwyd dan glo,
A rhaid i minnau gofio,
Am ran i'r adar to.

"Mae Iesu Grist a minnau,
Yn ffrindiau tyner iawn,
Cyflenwa'm holl anghenion,
A cheidw'm bwrdd yn llawn.
'Rwyf finnau'n casglu'r briwsion,
Mae'i deulu'n fawr eu rhi,
Fe enfyn rai bob bore
Am damaid ataf fi.


"Daw eto wanwyn siriol,
I wenu ar ein tir;
Daw'r adar bach i ganu
Ar frigau'r coed cyn hir;
Bydd gwrando'r sain berorus
Yn falm i lawer trist,
Caf finnau ddweyd pryd hynny
Ces helpu Iesu Grist."

****

Pwy ddwed nad yw athrawiaeth,
Yr eneth bach yn bur?
Mae ganddi egwyddorion,
Ar galon fel y dur,
Mae llawer ffordd i weithio,
A'r gwaith yn fawr ei fri,
Rhoed cymorth i mi ddwedyd,—
Cydweithwyr Duw ym ni.

I'R FERCH AMDDIFAD.

(Ysgrifenwyd mewn Album).

Ti biau'r môr a thi biau'r mynydd,
Ti biau'r afon, a thi biau'r coed,
Ti biau'r awyr, ti biau'r blodau,
Deimlant anrhydedd gael bod dan dy droed,
O eneth gyfoethog! Ti biau'r adar,
Eiddot ti'r cwbl—etifeddes y wlad,
Na ddigalona dy fod yn amddifad,
Ti biau'r nefoedd, wyt blentyn Dy DAD.


COLLI JOHN

Bachgen Mr. a Mrs. Evans, Church Terrace


DYMA destyn hawdd i ganu,
Teilwng iawn o sylw plant,
Un o ffrindiau anwyl Iesu,
Newydd ei berffeithio'n sant;
Brysiodd fry o ganol chwareu,
Braidd na wyliwn ef yn ol,
Beth a'i swynodd o'n gororau,
Ond atyniad Dwyfol gol?

Canwn drwy ein dagrau gloewon,
A ddylifant mor ddiddeddf;
Wylwn, canwn ein halawon,
Dagrau yw ein nodau lleddf.
Dyna'r pryd mae'r rhosyn decaf,
Pan y mân-wlith arno sydd,
Felly mae y gân bereiddiaf,
Pan fo dagrau ar y rudd.

Beth? A yw yn destyn canu
Rhoi anwyliaid yn y llwch,
Rhoi ein hawl o'i serch i fyny,
Wrth eu rhoi dan ddaear drwch?
Na, nid dyna ydyw rhoddi
Saint yr Iesu yn y bedd,
Dyna'r ffordd bu yntau hyd-ddi,
Dyna brif ffordd gwlad yr hedd.

Unwn yn y cydgan hyfryd,
"Haleliwia " âg un llef;
Canai John, fel am ei fywyd,
Beth, yn awr, ynghor y nef?

Lle mae dim ond lleisiau persain
Engyl a seraffiaid glân,
Seintiau gyda'u nodau cywrain,
Yno mewn tragwyddol gân.

Deulu tyner, mae eich bachgen,
Wedi esgyn bythol fri,
Boed i chwithau fedru darllen
Iaith ei neges atoch chwi;
Daeth i'r ddaear fel ymwelydd,
Ni chadd brofi pwys na gwres,
Yna hedodd ar foreu ddydd
Wedi dwyn y nef yn nes.

I'M HOFF GYFEILLES

(Mewn Album)

'RWY'N hoffi gweld y dolydd teg
Yn dryfrith gan y meillion,
A gweld yr haul a'i wenau chweg
Yn gwrido'r blodau tlysion;
Ond mwy dymunol na'r rhai hyn,
Yw gweled menyw siriol,
Yn gwisgo addurniadau gwyn
o flodau byd ysbrydol.

Y GOLEUDY

MAE'R nos yn ddofn a'r gwynt yn gryf,
A rhuo'n groch mae'r môr yn hyf,
A'r tonnau'n hedeg megis plyf,
I'r glannau gan ewynu.
Mae traethell fawr beryglus draw,
A chraig ysgythrog sydd gerllaw,
Ac arnynt y teyrnasa braw,
A'i wyneb fel y fagddu.
Ond edrych ar y noswaith ddu,
Y storm a'i dwfn angeuol ru,
A gwyneb siriol, disglair cu,
A llawen mae'r Goleudy.

Mae llongau ar y tonnau draw,
Yn crynu fel mewn ingol fraw,
A'r nos a'r storm sy law yn llaw,
Yn parotoi i'w llyncu.
Mae'r porthladd oll yn llaw y nos,
Fel deilen grin yng ngwaelod ffos,
Ac Angau'n nghlust y storm ddwed "Dos,
Cawn heno gyd-orchfygu."
Ond rhwygo y tywyllwch cudd,
A chreu tanbeidiol siriol ddydd,
Yng ngheudod dwfn y noson brudd,
A'i wên y mae'r Goleudy.

Pob traethell ddofn, pob craig sydd draw,
A'r holl beryglon ar bob llaw,
Fel bryniau'r byd i'r golwg ddaw
O fynwes ddofn y fagddu.
A ffordd i'r porthladd geir yn glir,
Heb ofni'r gwynt, y môr, na'r tir;
I'r lan, i'r lan, i'r lan cyn hir,
Daw'r morwyr oll dan ganu.

Angori gânt y noswaith hon,
Heb ofnau i gyffroi eu bron,
O dan belydron gwyneb llon,
A disglair y Goleudy.

Rhyw borthladd cul peryglus yw
Y byd yr ydym ynddo'n byw,
Peryglon mawrion o bob rhyw
Sydd yn ein hamgylchynu,
Mae traethell fawr temtasiwn draw,
A chreigiau pechod ar bob llaw,
A nos o d'w'llwch megis braw,
Sydd drostynt yn teyrnasu.
Ond Iawn y Groes" er hyn i gyd,
Sydd yn pelydru ar ein byd,
Mab Duw, a'i ddwyfol angau drud,
Efe yw ein Goleudy.

O dan belydrau'r Dwyfol Iawn,
Ein ffordd yn glir i'r porthladd gawn,
Angori yn y nef a wnawn,
Wrth edrych ar yr Iesu.
Ei fywyd pur, a'i eiriau Ef,
Ei aberth a'i eiriolaeth gref,
Ei fywyd trosom yn y nef,
A wnaiff ein llwyr waredu.
Er fod y nos yn ddofn a phrudd,
Mae'r Iesu'n gwneyd y nos yn ddydd,
Edrychwn arno Ef trwy ffydd,
Efe yw ein Goleudy.

GOLYDDAN YN EI GYSTUDD

Adnod a ysgrifennodd fy mrawd mewn Album oddeutu Chwefror, 1862.

Llaw yr Arglwydd a gyffyrddodd â mi fel
na allwyf ganu a'm deheulaw; ac y gorfu
arnaf roddi fy nhelyn ar yr helyg."

Yn dilyn dywed "Buddug."

GOLYDDAN sy'n llenwi fy meddwl yn llwyr,
Odoriad gwawr Dwyrain hyd fachlud yr hwyr;
Ei wylio ef beunydd sy'n dwyn fy holí fryd,
Anghofiais yr Awen, anghofiais y byd.

ETO

Dy ingol loes, fy anwyl frawd,
Ymedy'n llwyr â thi;
Yfory bydd dy boenus rawd,
Ymhen mewn nefol fri.

Ni gawsom rodio law yn llaw,
Pan oeddit yma'n byw,
Boed i ti estyn heb ddim braw,
Dy law, pan ddof at Dduw.

Y dagrau heddyw red yn lli,
Wrth feddwl am dy boen,
Ond sychir rhai'n pan fyddi di
Yn dechreu'th gân i'r Oen.

Dydd da, fy mrawd, dydd da,
Nid ffarwel rydd dy chwaer,
Can's cwrddyd eto â thi ga
Mewn nef yn deg a chlaer.

YMSON UWCH BEDD GOLYDDAN

Er i'r hen ddaearen wisgo
Deirgwaith harddwisg natur gain,
Er pan roddwyd John i orwedd
Yn y briddell oer ddisain;
Ond ni wisgwyd ac ni wisgir
Unwaith ddim o'm hiraeth i,
Ac ni threulia amser bellach
Ddim o'r hiraeth ynof fi.

Adnewyddwyd gwyneb anian
Y doedd gynt yn llon a llwyd,
Adnewyddwyd blodau prydferth
I orchuddio Dyffryn Clwyd;
Adnewydda'm hiraeth innau
Tra bo cariad yn fy nghol,
Adnewydda claddu Ioan
Tra ty warchen ar y ddol.

Gwywo eto mae prydferthwch,
Cwympo eilwaith wnaeth y dail;
Natur sydd yn cael tymorau
Haf a gaeaf bob yn ail;
Tymor adnewyddu beunydd
Ydyw ar fy hiraeth i;
Nid oes aeaf fyth edwina
Hiraeth prudd sydd ynnof fi.

GWALIA

(Cyfansoddwyd i Madame Kate Rowlands)

O! RYFEDDDOL serch fy nghalon,
At fy Ngwalia, Gwalia Wen,"
A phe medrwn rhoddwn goron
Eurog, emog ar dy ben,
Gennyf mae 'rwy'n siwr er hynny,
Rywbeth sydd yn fwy ei nerth,
Calon bur yn caru Cymru,
Calon wladgar, dyna werth.

Wylaist, Gwalia, am Lywelyn,
Gwympodd er mor rymus wr;
Wylaist am arweinwyr cedyrn;
Do, galeraist am Glyndwr.
Gwalia, y mae yn dy oror,
Heddyw ddynion—meib dy dir,
Orchfygasant trwy egwyddor,
Safant heddyw ar y gwir.

Walia anwyl, daeth yn oleu,
Ar dy gyflwr erbyn hyn,
Mae ysbrydoedd ein cyndadau
Heddyw'n gweld dy fore gwyn;
Rhyddid wedi gwawrio arnat,
Canu ddylet ti yn awr,
Gormes mewn cadwynau danat,
Canwn bellach am y wawr.

Y CYMRO MEWN GWLAD ESTRONOL

GADEWAIS fy nghartref yng Nghymru,
Ac aelwyd hoffusaf fy nhad;
Er hyn ni adewais fy nghariad,
Fy serch at fy ffrindiau a'm gwlad;
Er cryfed haul crasboeth yr India,
Sy'n gwneuthur fy nwyfiant yn wyw,
Tra dafn o waed Brython yn aros,
Fe garaf fy nghartref a'm Duw.

Meddyliais pe cawswn i groesi
Cyhydedd rhwng deuben y byd,
Fod yno ryw fan fel paradwys,
A llawnder a mwynder ynghyd;
Meddyliais fod hawddfyd a moethau,
Yn tyfu fel ffrwythau y coed;
A golud fel gemau symudliw,
Lle bynnag y rhoiswn fy nhroed.

Ond ha! er fy ngofid alaethus,
Rwy'n gweled mai breuddwyd oedd hyn,
A rhaid oedd i diroedd a moroedd
Fy ysgar o'm cartref bach gwyn;
Rwy'n gweld erbyn heddyw yn eglur
Mai llafur a blinder sydd ben,
A'm hunig uchelgais i bellach
Fydd dychwel i Gymru fach wen.

I FERCH IEUANC

A WELI di yr eneth lon,
Feithrinwyd ar aelwyd glyd,
Yn awr heb bigyn dan ei bron,
A'i llwybrau yn wyn i gyd;
Gofalaeth tad, a chariad mam,
Sy'n gylchoedd o'i hamgylch hi;
Hithau ymddengys mor ddinam,
Yn llawn hoenusrwydd a bri.

Ymlaen yr a, dadblyga'n deg,
Fel blodyn tirionaf gardd,
A pherarogledd rhosyn chweg,
Yn gwasgar o'i bywyd hardd;
Mae engyl gwawr yn gwylio hon,
Fel gosgordd o'r drydedd nef,
A phelydr byw ei llygaid llon,
Gyfeiriant hyd ato Ef.

Blodeuyn prydferth ydoedd hi,
Yn cario lliwiau'r nef
A pherarogledd rhwng y dail
Yn sawru o'i arogl Ef;
Nid rhyfedd i'w rhieni hoff
Ei charu ar y llawr,
Yr un mor fuan oedd i fod
Ym mhwysi'r Brenin Mawr.

Daeth Haul Cyfiawnder yn ei rym,
Tywynnodd yn ei bron,
A gwnaeth ei hysbryd peraidd hi,
Ry dda i'r daear hon;

Ehedodd fry uwch llygredd byd,
A gwisg ddilychwin wen,
Ac engyl nef ar frys am roi
Y goron ar ei phen.

Y BEDD

Y BEDD, O gysegredig fan,
Cartrefle dynol ryw i gyd;
Paham dychryna'r galon wan,
Wrth feddwl am y daith o hyd?

Y fan "lle bu ein Harglwydd glân,
Paham dychmygwn bethau cas?
Prif gyrchfan pawb o fawr i fân,
Yw'r " fan "o dan dywarchen lâs.

Y baban oddiar y fron,
Yr eneth ieuanc heinyf iach,
Y gwr o ganol teulu llon,
A'r fam oddiwrth ei baban bach,—

Mae'r bedd yn gysegredig, pam?
Am mai anwyliaid yno sydd;
I bawb mae brawd, chwaer, tad neu fam,
Ac yno ninnau'n union fydd.

O planner blodau ar bob bedd,
A gwneler y fynwent megis gardd;
Cysyllt-nod yw a'r nefol hedd,
Trwy'r bedd yr Adgyfodiad dardd.

CARIAD GWRAIG Y MEDDWYN

I BETH y cyffelybaf fi
Y cariad rhyfedd sydd gan hon?
Athroniaeth ddofn a'm hetyb i,
Nis gellir byth ddim plymio'i bron;
Ceir myrdd rhesymau a phaham
Y câr y fam ei baban bach.
Rhinweddau fil ddyrchefir am
Ragorion yr un heinyf iach.

Ond, wele'r pentwr, aflan, hyll,
Yw'r adyn meddw yn y llaid,
Da ydyw iddo gael y gwyll
I guddio ei druenus raid.
A heibio yr offeiriad gwych
A'r Lefiad yntau yr un modd,
Gadawant ef i warth yn ddrych,
A'i garedigion gynt a ffodd.

Ond ha! dynesa un drwy'r oll,
Er siglo megis llong yr aig,
Dwys chwilia am ryw un sy'n ngholl,
Pwy ydyw? Ond ei anwyl wraig!
Nid yw yn edliw cwpwrdd gwag,
Na chefnau llwm eu hanwyl blant,
Na'r aberth rydd i'r ddiod frag,
Ar allor wael ei wancus chwant.

Ei serch sydd fel colomen hardd,
Yn hedeg uwch y stormydd blin,
A thra o'i galon bywyd dardd
Bydd deilen gobaith rhwng ei min;

Er curo ar greigiau siomiant erch,
Daw fel y donn drachefn yn ol,
A chyda'r gallu sydd gan ferch,
Anghofia ei holl droion ffol.

Pa ddiolch sydd i'n cariad ni
Ymserchu ar wrthrychau teg?
Anhawsder fyddai atal lli
Atynnol sydd mor hynod chweg;
Ond, gwraig y meddwyn gâr mor hael,
Fel mai'r tebyca'n ddiau yw
I'r cariad at greadur gwael
Y sydd ym mynwes fawr fy Nuw.

IESU GRIST

(Emyn)

Ti Iesu yw fy noddfa glyd,
Rhag pob rhyw storom gref;
Ac ynnot ti yn unig mae
Fy ngobaith am y nef;
Mae bywyd a thragwyddol hedd
Yn enw Mab y Dyn,
Nid oes a leinw f'enaid i
Ond Iesu Grist ei hun.

HEDDYW AC YFORY

(Cyflwynedig i Gyfaill)

GALAR ac wylo, llawenydd a chân
Yw'r bywyd cymysglyd ymhlith mawr a mân,
Tymorau gwahanol, yw'n hoes ar ei hyd,
Neu heulwen a dryghin yw'r cyfan i gyd.

Y llyfnfor sydd heddyw yn dawel ei wedd,
Ei olwg yn wylaidd, a'i wyneb yn hedd;
Ond och! bydd y fory o donn wen i donn,
A'i olwg ffyrnigwyllt yn arswyd i'm bron.

Y dolydd ysblennydd sydd heddyw'n ddi—ail,
Ond fory'n ddisymwth bydd cwympiad y dail
Gan adael y goedwig yn oer ac yn llwm,
A cherfio dwys drymder ar bob dol a chwm.

Rhosynau sydd heddyw yn britho yr ardd,
Yn sawyr eu harogl y galon a chwardd;
Ond fory ceir gweled y lili a'r rhos
Yn dyrrau crinedig yn nyfnder y ffos.

Y dwylaw chwareuodd y delyn hoff swyn,
Y gwyneb a wenodd mor hynod o fwyn;
A ddaliwyd gan ddrannoeth, ac angau du erch
A wywodd y bysedd, a rewodd y serch.

Y ceraint sy'n wylo a'u calon fel plwm,
Eu gofid sy'n chwerw, eu hiraeth yn drwm,
Ond cariad sy'n nerthol, a'r ffydd sydd yn wan,
Aroswch tan 'fory cewch weled eich Ann.

ALICE AR BEN EI BLWYDD

GWENED nefoedd ar dy flwyddi,
Gwened daear ar dy daith,
Cadwed Iesu’th lwybr drwyddi,
Mewn ffyddlondeb gyda'i waith;
Rhinwedd fyddo fyth yn ieuanc,
Er i'th ddyddiau dreulio'n hen,
Yna iti hoender didranc
Dan dywyniad nefol wên.

MEWN BEIBL

DYMA Feibl anwyl Iesu,"
"Dyma rodd " dy anwyl ffrynd,
Mae yr amser yn dynesu,
Pan y bydd hi wedi mynd;
Dyma ffrynd a fydd yn aros,
Gwna yn fawr o'i eiriau glân;
Ymhob tywydd, bydd yn ddiddos
Gysgod yn y dwr a'r tân.


HEDDWCH

HEDDWCH er pob chwerw loes,
Heddwch er pob garw groes,
Heddwch er o dan y donn,
Heddwch Iesu yn fy mron,
Nefoedd er pob troion trist,
Ddyry heddwch Iesu Grist.

"BUDDUG " YN EI CHYSTUDD

(Ei Hemyn Olaf)

Os yw fy ngwaith ar ben,
A'r nos yn taenu'i llen,
Tydi, fy Nuw, a wyr.
Diolch am hyd y daith
A'r cynnal dyfal maith
Mewn mwyniant yn dy waith,
O fore hyd yr hwyr!

Noswylio 'rwyf yn awr
I godi gyda'r wawr,
Mewn gloewach, hoewach fyd.
Mae'n dda yr ochr hyn,
Daw aml lygedyn gwyn,
Beth wedi croesi'r glyn,
Lle bydd yn haf o hyd!

Y blinder oll ar ol,
A diogelwch col
Fy Iesu am danai'n dynn.
Ni raid ffarwelio'n hir,
A'r Ganan deg mor glir,
Cawn gwrddyd yno'n wir
Fy hoff anwylyd gwyn.

O hyfryd, hyfryd fydd
Yng ngwlad tragwyddol ddydd,
Heb ofni'r machlud mwy.
Y teulu yn gytun,
Heb fod yn ol yr un,
A'r Iesu yno'i hun,
I'w diogelu hwy.

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.