Dyddanwch yr Aelwyd (testun cyfansawdd)

Dyddanwch yr Aelwyd (testun cyfansawdd)

gan Hughes a'i Fab, Wrecsam

I'w darllen cerdd wrth gerdd gweler Dyddanwch yr Aelwyd

DYDDANWCH

YR AELWYD;

YN CYNNWYS

CANEUON DEWISOL,

O WAITH Y PRIF FEIRDD HEN A DIWEDDAR



"Yn eu mysg y clywir mawl
Alawau'r Bardd teuluawl;
A'i lais yn dylyn ei law,
Mewn hwyl yn tra mwyn eilaw."
IEUAN GLAN GEIRIONYDD.






GWRECSAM:

AR WERTH GAN R. HUGHES A'I FAB , HEOL ESTYN

Dyddanwch Yr Aelwyd

"CYFLAFAN MORFA RHUDDLAN."

Cilia'r haul draw, dros ael bryniau hael Arfon;
Lleni'r nos sy'n myn'd dros ddol a rhos weithion;
Pob rhyw chwa ymaith a gilia o'r llwyni :
Ar fy nghlust draw mae, ust, y dôn yn dystewi;
Dan fy mron clywai'm llon galon yn curo,
Gan fawr rym digter llym, wrth i'm fyfyrio
Ar y pryd pan fu drud waedlyd gyflafan,
Pan wnaed brâd Cymru fâd ar Forfa Rhuddlan.

Trwy y gwyll gwelaf ddull teryll y darian;
Clywaf sî eirf heb ri’arni yn tincian,
O'r bwâau gwyllt mae'n gwau, saethau gan sîo;
A thrwst mawr, nes mae'r llawr rhuddwawr yn siglo;
Ond uwch sain twrf y rhai'n, ac ochain y clwyfawg.
Fry hyd nef clywir cref ddolef Caradawg,"—
Rhag gwneyd brad ein hên wlâd, trown ein câd weithian,
Neu caed lloer ni yn oer ar Forfa Rhuddlan"

Wele fron pob rhyw lon Frython yn chwyddo,
Wele'u gwedd, fel eu cledd fflamwedd, yn gwrido;
Wele'r fraich rymus fry'n dyblu'r ergydion;
Yn eu nwy' torant drwy lydain adwyon:
Yr un pryd Cymru i gyd gyfyd ei gweddi,—
“Dod yn awr nerth i lawr, yn ein mawr gyni,
Boed i ti, O! ein Rhi, noddi ein trigfan;
Llwydda'n awr ein llu mawr ar Forfa Rhuddlan."


Troswyf daeth, fal rhyw saeth, alaeth a dychryn,
Och! rhag bost bloeddiau tost ymffrost y gelyn:
Ond O! na lawenha, fel a wnai orchest;
Nid dy rym, ond dy ri' ddug i ti goncwest,
Ow! rhag braw'r dorf sy draw'n gwyliaw o'r drysau
Am lwydd cad Cymru fad,—rhad ar ei harfau!
Mewn gwyllt fraw i'r geillt fry, rhedy pob oedran,
Wrth wel'd brad gwŷr eu gwlad ar Forfa Rhuddlan.

Bryn a phant, cwm a nant, lanwant a’u hoergri,
Traidd y floedd draw i g'oedd gymoedd Eryri:
Yr awr hon y mae llon galon hen Gymru,
Am fawr frêg ei meib teg, gwiwdeg, yn gwaedu:
Braw a brys sydd drwy lys parchus Caradog;
Gwaeddi mawr fyn’d i lawr flaenawr galluog;
Geilw ei Fardd am ei fwyn delyn i gwynfan,
Ac ar hon tery dôn hen "Forfa Rhuddlan."!

Af yn awr dros y llawr gwyrddwawr i chwilio:
Am у fan mae eu rhan farwol yn huno:
Ond y mawr Forfa maith yw eu llaith feddrod;
A'i wyrdd frwyn, a'r hesg lwyn, yw eu mwyn gofnod,
Ond caf draw, gerllaw'r Llan, drigfan uchelfaith
Ioan lân, hoffwr cân, diddan gydymaith;
Ac yn nhy'r Ficar fry, gan ei gu rian,
Llety gaf,—yno'r af o Forfa Rhuddlan.
—I G Geirionydd


Y MUD A'R BYDDAR.

Pa galon na theimla dros fyddar a mud,
Sy'n nghanol perseiniau heb glywed dim byd?
Yn ofer y sïa'r afonydd i'r rhai'n;
Y dyfnder, er rhuo, ni chlywant ei sain.


Y daran a rwyga yn erchyll uwch ben,
Pan wisgir â phrudd—der wynebpryd y nen,
All drystio nes taro'r greadigaeth â braw,
Y byddar ni wybydd—mae'n dawel gerllaw.

Peroriaeth adar a leisiant o'r llwyn,
Wrth oglais y dymer, sy'n meddu'r fath swyn,
Mae ef yn ei chanol, heb gael rhan o'r wledd,
Yn byw mewn dystawrwydd mor ddystaw a'r bedd.

Y delyn a'r dympan—ni ŵyr beth yw'r rhai'n,
Ym mro'i amgyffredion—ni fu math o sain;
Infydrwydd i Handel, pencerddor y byd,
Oedd meddwl effeithio ar fyddar a mud.

Ni chlywodd lais tyner ei fam wrth ei drin,
Na'i chanu diniwaid pan oedd ar ei glin;
Y lullaby swynol, ni wyddai am hyn;—
Pan fo pawb yn siriol edrycha fe'n syn.

Llais trist a swn llawen sy'r un iddo ef;
Ni ŵyr fod llew'n rhuo, na'r oen yn rhoi bref;
Llais ceiliog ben bore, llef gwyliwr yr hwyr,
A rhybudd yr awrlais o'i gyrhaedd sy'n llwyr.
Cael clywed hyawdledd pencampwyr yr oes,

I'r mud ac i'r byddar, un gobaith nid oes
O'r traeth rhag y llanw nid all llais ei droi,
Na chydfloedd miliynau ei ddychryn i ffoi.
Ni chafodd y fantais o glywed gair Duw,

Na sain y lleferydd sy'n dwyn meirw'n fyw;
Ni chlywodd am nefoedd, nac am wlad y gwae;
Yn ymyl digonedd mewn eisieu y mae.
Mae'r enaid yn berffaith, a'r teimlad yn fyw,
Ond ar y galluoedd ni weithir drwy'r clyw;

Am ddefnydd y tafod a'r clustiau nis gŵyr,
Rhaid agor y meddwl drwy'r llygaid yn llwyr.

Aeth miloedd o'r Cymru oedd fyddar a mud,
Heb weled un cynyg at addysg, o'r byd;
Darpariaeth sy'n ymyl ein gwladwyr, yn awr,
Pwy beidiai roi cymorth mewn gorchwyl mor fawr?
—CALEDFRYN.


FY NGENEDIGOL FRO.

Hoff yw gwen y bore glan,
Gwawr huan a'i phelydron;
Hoff yw gwrandaw'r adar man,
Yn plethu eu caneuon;
Hoff a mwyn yw rhodio'r ardd,
Yn mhlith y rhôs a'r lili;
Ond mil hoffach gan y bardd,
Yw'r fro y'i ganed ynddi.

Hoff yw rhodio, deg brydnawn,
Hyd lwybrau'r gwigoedd gwyrddion;
Hoff yw'r cerddor maws ei ddawn,
A hoff yw gwaith prydyddion;
Hoff yw caingc yr eos bêr
O gylch y lawnt agored;
Ond mwy hoff na dim is sêr,
Yw bryniau'r fro lleʼm ganed.

Hoff yw goleu'r lleuad wèn
I dawel rodio allan;
Hoff yw'r fraith serenog nen,
A holl brydferthwch anian;
Hoff gan rai yw nofio'r lli
I gasglu ' nghyd gynysgaeth;
Ond mil hoffach genyf fi
Yw bro fy ngenedigaeth.
—D. S. EVANS.


CANIAD Y GOG I FEIRIONYDD.

Er a welais dan y ser
O lawnder, glewder gwledydd,
O gwrw da, a gwyr i'w drin,
A gwin ar fin afonydd,
Goreu bir a goreu bwyd
A ranwyd i FEIRIONYDD.

Eidion du a dyn ei did,
Ond odid i ddyn dedwydd;
Idorieigwysardiracâr,
A braenar yn y bronydd,
Goreu tyn, fe'i gwyr y tad,
Morwynion gwlad MEIRIONYDD.

Da ydyw'r gwaith, rhaid dweyd y gwir,
Ar fryniau Sir FEIRIONYDD,
Golwg oer o'r gwaela' gawn,
Mae eto'n llawn llawenydd;
Pwyddysgwyliai canai'r gog
Mewnmawnog yn y mynydd.

Pwy sydd lan o bryd a gwedd,
Ond rhyfedd iawn bentrefydd?
Pwy sy'n mhob hwswiaeth dda,
Yn gwlwm gyda'i gilydd,
Pwy fu'n ymyl dwyn fy ngho',
Morwynion bro MEIRIONYDD


Glan yw'r gleisiaid yn y llyn,
Nid ydyw hyn ddim newydd,
Glan yw'r fronfraith yn ei thy,
Dan daenu ei hadenydd;
Glanach yw, os dywedai'r gwir,
Morwynion tir MEIRIONYDD.

Anwyl yw gan adar byd
Eu rhyddid hyd y coedydd,
Anwyl yw gan faban laeth
Ei famaeth odiaeth ddedwydd,
Ow ! ni ddywedwn yn fy myw,
Mor anwyl yw MEIRIONYDD.

Mwyn yw telyn o fewn ty,
Lle byddo teulu dedwydd;
Pawb a'i benill yn ei gwrs,
Heb son am bwrs y cybydd;
Mwyn y cân o ddeutu'r tân
Morwynion glan MEIRIONYDD.

Er bod fy nghorph mewn hufen byd,
Yn rhodio hyd y gwledydd,
Yn cael pleser mor a thir,
Ni chaf yn wir ' mo'r llonydd,
Myned adre' i m. sydd raid,
Mae'r enaid yn MEIRIONYDD.
—LEWIS MORRIS, YSW.


YR HEN AMSER GYNT.

Bu'n hoff i mi wrth deithio' mhell
Gael groesaw ar fy hynt,
Mil hoffach yw cael henffych well
Gan un fu'n gyfaill gynt;

BYRDWN.


Er mwyn yr amser gynt, fy ffryns,
Yr hen amser gynt,
Cawn wydraid bach cyn canu'n iach,
Er mwyn yr amser gynt.

Yn chwareu buom lawer tro,
A'n penau yn y gwynt,
A phleser mawr yw cadw co',
O'r hyfryd amser gynt:

Er mwyn, &c.

Er dygwyddiadau mwy na rhi',
Er gwario llawer punt,
Tra pob rhyw goll, ni chollais i
Mo'r cof o'r amser gynt.

Er mwyn, &c.

Er curo calon yn fy mron,
Er mwyn ein hylon hynt,
Tra caro i'm gwlad, tra llygad llon,
Mi gofia'r amser gynt:

Er mwyn, &c.

PARCH. J. BLACKWELL, (Alun.)


ALICE GRAY.

Mae'n oll a luniais yn fy nhyb,
Nefolaidd anwyl hi;
Ei chalon eiddo arall yw,
Nis gall fod eiddof fi:
Ond cerais fel y carai dyn,
Diwywo gariad de',
O! Fy mron,-fy mron sy'n tori,
O fy serch i ALICE GRAY.

Ei gloywddu wallt a blethwyd oll,
Dwy ael o wynder llawn;
Ei llygaid glâs sy weithiau brudd,
Bryd arall tanbaid iawn;
Y gwallt ni phlethwyd erof fi,
Y llygaid droes o'r lle,
O! Fy mron, fy mron sy'n tori,
O fy serch i ALICE GRAY.—

Ymwywais dan boeth heulwen hâf,
Ymgrynais mewn oer hin;
Mae'm pererindod trosodd braidd,
A heibio'r ymdrech blin;
Pan doa'r tywyrch gwyrdd fy medd,
Gresyni dd'wed o'r lle,
O! Ei fron, ei fron wnai dori,
O ei serch i ALICE GRAY.

ROBIN DDU ERYRI.


BYWYD YR UNIG.

Mae'm bywyd fel blodeuyn Ha,
Mewn gwridog wisg, yn deg ei wawr;
Ond pan y chwyth un galedchwâ,
Ymsyrth yn llesg a gwael i'r llawr;
Er hyn, ar wely rhosyn brith,
Daw nos a'i gloywaidd ddafnau gwlith;
Fel pe bai'n wylo ddagrau li,
Ni wyla neb am danaf fi.―

Mae'm bywyd fel yr irlas ddail
Sy'n gwisgo'r pren ceuadfrig hardd;
Ymgrinant oll, o'u brig i'w sail,
Yn wywol cwympant draw o'r ardd:
Ond er cwympo'r dail oedd gu,
Bydd cangau'r pren a'u gwisg yn ddu,
A rhyngddynt cwyn awelon si,
Nid oes a gwyn am danaf fi.

Mae'm bywyd fel ysgrifen ffraeth
Neu gerfiad hardd ar dywod man;
Pan dreiglo'r llanw tros y traeth
Ni welir mwy y cerfiad glân:
Er hyn, uwch ben yr oror lom
Fel un drist gan galon drom,
Ymrua'r mor, a'i donau'n gri,
O! Pwy a lef am danaffi.

ROBIN DDU ERYRI.


Y CUSAN YMADAWOL.

Y cusan hwnw, eneth hardd
A ddodaist gynt ar fin y bardd,
A erys yno bythol mwy
I roddi idd ei fynwes glwy.

Adgofio wnaf y dagrau dwys
A dreiglent dros dy ruddiau glwys,
Pan ymgofleidiem enyd fach
Cyn dod yr awr i ganu'n iach.

Adgofiaf am y gwenau cu
Belydrent drwy y cymyl du,
Y rhai ymgasglent ar dy rudd
Fan wnaethom gynt ymado`n brudd.

Adgofio swyn dy eiriau per
A'th lygaid oeddynt fal y ser,
Sy'n gwneud pob siriol fan i mi,
Yn erch ddiffaethwch hebot ti.

Dysgwyliem ddedwydd dreulio'n hoes
Yn siriol ddau heb aeth na loes,
Ond och anedwydd siomiant ddaeth
Ar draws ein ffordd, a'n hysgar wnaeth!

Och'neidio'r wyf am wel'd dy wedd
Can's yn dy gwmni mae fy hedd,
Prysuro'n fuan wnelo'r pryd
Cawn eto gwrdd i fyw ynghyd.

DEWI MON, TY CRISTION.


MYFYRDOD AR LANAU CONWY,

Ar lanau Conwy ar fy nhro,
Pan fyddwy'n rhodio ar hynt,
Ni fedraf lai na dwyn ar go',
Wrth gofio'r dyddiau gynt;
P'le mae fy hen gyfeillion llon,
A'm cyd-chwaryddion res?
Er chwilio yma amser hir,
Ni byddai'n wir ddim nes;—
Ond gwaith ffol;—
Dyddiau'n ol ni wiw eu'morol mwy,

Bu'm yno ganwaith ar fy nhro,
Yn rhodio ar ei hyd,
Pan oedd difrifwch heb fy nal,
Hebofalynybyd;
A'm cyd-gyfeillion, wiwlon wedd,
Un tuedd oeddynt hwy;—
Ffarwel yn awr i'r dyddiau gynt;
Ni welir monynt mwy:—
Ond pa les, nid wyf nes?
Nid oes dim o'u hanes mwy.

Fe ddarfu'm hen gyfeillion hael,
Fy ngadael braidd i gyd;
Mae rhai yn gorwedd dan y gwys,
Ynllwyrobwysybyd;
A'r rhai sy'n fyw, gwasgarent oll,
Ar goll i'r pedwar gwynt;
Mae hyny bron a dwyn fy ngho "

Wrth gofio'r dyddiau gynt,
Aent ar hynt fel y gwynt,
Ac ni welir mo'nynt mwy.
—PYLL, Glan Conwy.


DIOLCH PLENTYN I'W DAD AM EI NODDI

Wrth weled yr amddifad tlawd
Yn grwydryn croenllwm prudd,
Yn goddef newyn cur a gwawd,
A deigryn ar ei rudd;
A minau'n llon mewn dillad clyd,
Yn meddu pob mwynhad
Pryd hyn ce's olwg yn fy mryd,
Mor dda yw nawdd fy nhad.

'R wy'n clywed cri y crwydryn tlawd
Yn gruddfan dan y llwyn,
Heb dad, na mam, câr, chwaer na brawd,
I wrando ar ei gwyn;
Ond wele fi yn nhy fy nhâd,
Dan nawdd fy rhiant llon,
Yn gwledda ar ei roddion rhad,
Heb friwiau dan fy mron.

' R wy'n diolch it' fy anwyl dad,
O barch a chalon bûr,
Am it' fy noddi i mor fâd,
Rhag newyn, poen a chûr;
A thraethu im' am Iesu Grist,
A'r ffordd balmantodd ef,
Im' ddianc byth rhag uffern drist,
Aenddu Teyrnas nef.

—Daniel Jones, Merthyr.


FY ANWYL FAM FY HUNAN.

Pwy a'm hymddygodd, yn ddi lŷs
O dan ei gwregys mwynlan?
Pwy ro'es i'm faeth a lluniaeth llon,
laeth ei bron bêr anian?
A phwy a'm cadwai rhag pob cam?
Fy anwyl Fam fy hunan.

Pwy im' a süai, uwch fy nghryd,
Pan oeddwn wanllyd faban?
A phwy fu'n effro lawer, gwaith,
Drwy'r hirnos faith anniddan;
Pwy a'm gwarchodai rhag pob cam?
Fy anwyl Fam fy hunan.

Pwy a'm dilladai, er fy llwydd,
Bryd diniweidrwydd oedran?
Rhag i mi fawr beryglu f'oes,
Ysigo einioes egwan?
A phwy a'm noddai rhag drwg nam?
Fy anwyl Fam fy hunan.

Er blino'm mam garüaidd iawn,
A digio, na chawn degan,
Hi'n fynych wedi i'm syrthio'n groes
Iachaes fy loes a chusan:
Pwy ni chwenychai i mi gam?
Fy anwyl Fam fy hunan.

A phwy a'm gwyliai ddydd a nos
Rhag syrthio dros y geulan?

Neu gwympo ar yr aelwyd boeth,
Mewn cyflwr noeth a thrwstan:
Pwy a'm golygai rhag drwg lam?
Fy anwyl Fam fy hunan.

Pwy, ond fy mam, dirionaf merch,
O eithaf traserch gwiwlan,
A wylai drosof, waelaf drych,
Pan oeddwn wrthddrych truan;
A pheth ond llaw Rhagluniaeth lon
A ddaliai hon ei hunan.

Pwy a'm cynghorai, bob rhyw bryd,
Rhag arwain bywyd aflan?
Ond parchu enw Duw drwy ffydd,
A chadw ei ddydd sancteiddlan,
Heb wneuthur unrhyw dwyll na cham?
Fy anwyl Fam fy hunan.

Er mwyn i'm hawddgar fam, heb groes,
Ddiweddu oes yn ddiddan,
Wrth iddi blygu bob yn bwyth
Dan ddirfawr lwyth o oedran;
Rhag suddo i'r bedd dan ofal bŵn,
Cymmeraf hwn fy hunan.

Pan fyddo angau llym ger llaw,
Ei phen â'm dwylaw daliaf;
A thrwyddi gras, yn fendith gref,
Fy Ion o'r nef erfyniaf?
A'm serch yn rhaffau heilltion rhed,
Wrth dalu'r ddyled olaf.


Oblegid credu'r wyf fod Duw
Awel,aglywycyfan;
Ei lid o entrych wybren fawr
Melltenai i lawr drwy f'anian,
Pe meiddiwn oddef cynnyg cam
I'm hanwyl Fam fy hunan.

—DAFYDD DDU ERYRI .


BETH YW SIOMIANT.

BETH yw Siomiant? Tywyll ddu-nos.
Yn ymdaenu ganol dydd,
Nes i flodau gobaith wywo,
Syrthio megis deilach rhydd.
Beth yw Siomiant? Pryf gwenwynig
Yn anrheithio gwraidd y pren,
Nes ymdaena cryndod drwyddo,
Er dan iraidd wlith y nen.

Beth yw Siomiant? Llong ysblenydd,
Nofia'n hardd i lawer man,
Wrth ddychwelyd tua 'i phorthladd,
Yn ymddryllio ar y lan.
Beth yw Siomiant? Cwpan hawddfyd
Yn godedig at y min,
Ac yn profi'n fustlaidd wermod,
Yn lle bywiol felus win.

Beth yw Siomiant? Calon dyner,
Drom, yn gwaedu dan ei chlwyf,
Mewn distawrwydd, pan o'i deutu
Y mae pawb yn llawn o nwyf.
Beth yw Siomiant? Cynllun bywyd
Mewn amrantiad wedi troi,

Minau ar ei ol yn wylo,
Yntau wedi bythol ffoi!

Beth yw Siomiant? Tad yn edrych
Ar ei faban tlws,—dinam,
Arno'n gwenu,—yna'n trengu,
Pan ar fron ei dyner fam.
Beth yw Siomiant? Sylwi'n mhellach.
Ar y fam yn wyw ei gwedd,
Ac yn plygu, megis lili,
I oer wely llwm y bedd.

Beth yw Siomiant? Dim ond teimlad
Meddwl claf yn llawn o wae,
Pan yn canfod pob meddygon
Yn ei adael fel y mae.
Beth yw Siomiant? Chwennych bywyd,
Eto methu'n deg a byw;
Yna plygu'r pen i farw
Dan och'neidio—DYNA YW!
—IEUAN GWYNEDD.


DEIGRYN HIRAETH.

Lle bo hiraeth, gwelir deigryn
Ar y rudd yn mynych ddisgyn;
Ac yn llithro drosti'n araf,
Gan arwyddo'r teimlad dwysaf.

Deigryn yw yn tarddu allan
O ffynonell dagrau'i hunan :
Ffyuon nad oes sychu arni
Tra bo hiraeth yn bodoli.

Gwres yr haul a sycha'r deigryn
Gwlith ar rudd y siriol rosyn;
Ond nid oes trwy'r greadigaeth
Ddim all sychu "deigryn hiraeth."
—IONORON GLAN DWYRYD:


BEDD Y MORWR.

I nodi'r fan rhoi'r meini hardd,
Lle hûn rhai hoff mewn hedd,
Ac englyn geir o fri gan fardd
Neu wers i gofio'r bedd :
Ond maen ni cheir er côf na chwyn
I nodi bedd y Morwr Mwyn.

Y'nghladdle'r Llan gwerdd ywen sydd
Yn gwâr gysgodi'r bedd ;
A chesglir perion flodau blydd
I hulio'r gwely hedd :
Ond ywen lâs na blodau'r llwyn
Ni huliant Fedd y Morwr Mwyn.
Cwsg ef y'mhell o'i anwyl frö,
A'i Lan,-O lymed wedd !
Lle mae tymhestloedd lawer tro
Yn rhuthro dros ei fedd !
Ond un ar dir a ddeffry gwyn
Mynwesawl am ei Morwr Mwyn.

Ac aml mae'r un ber ei bron,
Ar lan y môr fin dydd,
Yn dal cyfeillach gyda'r don,
Ei serch hebfarw sydd!
Grudd laith, a llygaid llawn, a chŵyn,
Sydd ganddi am y Morwr Mwyn.

Dymuniad ddaw o'i mynwes lân ,
Lle gwnaeth gwir gariad graith,
I'r wylan ddwyn ei galar-gan
Dros fôr ai donau maith ;
Fy ngeneth taw ! anghofia'th gŵyn,—
Dy lais ni chlyw y Morwr Mwyn.


Na chrwydra, Gwen, y morlan maith
Pob deigryn, ofer yw;
Nis gwyr dy Gariad alar chwaith
Na gwae dy fynwes friw!
Uwch gwely'r heli nid oes gwyn
A ddeffey gwsg y Morwr Mwyn.

Dwg gysur clau—rhyw ddydd a ddaw
Y geilw'r udgorn arno ef
O eigion môr heb boen na braw,
Caiff uno ag eirian blaid y nef;
Dos at yr Iôn, taer weddi i ddwyn,
Cei eto gwrdd a'r Morwr Mwyn.
GWENFFRWD.

PA BETH SY'N HARDD

Beth sy'n hardd? y tyner lili,
'N plygu'i ben dan bwysai 'r gwlith;
Pelydr haul disgleirdeg gwisgi,
'N dawdsio ar fron y rhosyn brith:
Hyn sydd hardd;—ond gwelaf wrthrych
Tecach, harddach nâ hwynt-hwy,
Deigryn merch uwchben amddifad—
Arwydd teimlad dros ei glwy'.

Beth sy'n hardd? y cwmwl golau
'Nofio yn yr awyr fry,
Pan fo disglaer wawr y borau
Yn goreuro'i odre cu:
Hyn sydd hardd;—ond, ah, canfyddaf
Rhywbeth harddach, er mor wiw,
Tremiad geneth yn arddangos
Calon serchog dan ei briw.


Beth sy'n hardd? yr aur a'r perlau,
Sidan, porphor, llïain main,
Addurniadau têg duwiesau,
Gwisgoedd gwychion—golwg gain:
Hyn sydd hardd;-ond càn mil harddach
Agwedd isel, gwylaidd lef,
Boneddiges mewn taer weddi
'N codi' i golwg tua'r nef.

Hed glân angel drwy'r cymylau,
Sathr eu godre, daw i lawr,
Diystyra'r aur a'r perlau,
Pasiai'r blodau glwys eu gwawr;
Cwyd y deigryn— hoffa'r tremiad—
Clyw'r ochenaid—yna chwardd;
Lleda'i edyn, rhwyga'r awel,
A gan sibrwd—"Hyn sydd hardd."
—IEUAN O LEYN.


HIGHLAND MARY.

Chwi fryniau glwys a choed o gylch
Hoff Gastell glân Montgom'ri,
Yn hardd bo'ch gwawr, yn wyrdd bo'ch dail,
Mewn glendid yn rhagori;
Byth yno 'nghynta' gweler haf,
Ac yno'n ola'n gwenu,
Can's yno'r ymadewais i
A'm hanwyl, anwyl Fari.

Mor hardd oedd clôg y fedwen las,
A blodau'r drain mor wynion,
Pan dan eu cudd y gwasgwn i

F' angyles at fy nghalon;
Yr oriau'n bêr aent dros y bardd,
A'r un ag oedd e'n hoffi,
Can's i mi fel bywyd oedd
Fy anwyl, anwyl Fari.

Trwy lawer llw, a'n breichiau ' nghlo,
Bu dyner ein gwahaniad;
Gan addunedu mynych gwrdd
Torasom ein cofleidiad;
Ond O! rew angeu, deifio wnaeth
Fy rhosyn hardd—Fy lili;
Gwyrdd yw'r dywarchen, oer yw'r clai
Sy'n cloi fy anwyl Fari.

O! gwelw yw'r gwefusau pêr
Mor swynol gawn gusanu;
A chwedi caead arnynt byth
Mae'r llygaid oedd mor llongu:
Mae'n llwch a lludw'r galon lân
LMor dyner fu'n fy ngharu,
Ond yn fy nghof a'm serch caiff fyw
Fy anwyl, anwyl Fari.
—DANIAL LAS


LLYGAID GWEN.

Pan fo llifeiriant tynged groes
Yn dwyn fy holl gysuron;
Pan to awyrgylch boreu f'oes
Yn llawn cymylau duon;
Yr unig swyn a gwyd fy mhen
Yw llon edrychiad llygaid GWEN.
—DEWI MON.


DAU BENNILL AR "TRIBAN MORFUDD."

A fedd synwyrau diau dowch,
Ar undeb trowch i wrando
Yn un fwriad gan fyfyrio
Fel mae'n llethrog ddydd yn llithro,
Ni rusir mono i aros mynyd,
Gwalch ar hedfan, edyn buan ydyw'n bywyd
I ba beth y gwnawn ein nyth
Lle na chawn byth fwyneidd-dra?
Llong ar dymestl yw'r byd yma,
Rhyw groes ofid a'n croesawa;
Os heddyw dyddia byr ddedwyddwch,
Cawn gylchynu cyn y fory ag annifyrwch.
Pa beth yw mawrion beilchion byd?
Yr iachol fron a'r uchel fryd,
Y luniog eneth lana' i gyd
Hi ddaw i hirfyd oerfedd;
Ni chymerir parch a mawredd
Mwyn er golud mwy na'r gwaeledd;
Unrhyw brenin a chardotyn,
Unrhyw gwawr y cawr a'r coryn,
Mae gyrfa dyn yn gryf un dynied
yn genlli daw o Eryri'r dwr i waered.
Mae llawer profiad treigliad tro
Ar ddyn o hyd o'i gryd i'r gro,
Mewn rhyfel drud a'r hyd tra b'o,
Gan geisio ynddo gysur;
Ar ei galon ddilon ddolur
Am ail yfed mwy o lafur,
 

Gwneuthur casgl a methu cysgu,
Yn y byd ei fryd hyfrydu,
Y'nghanol hyny ei alw o hono,
Heb un gronyn, da na thyddyn fel daeth iddo.

2. Gwagedd mawr rhoi serch a bryd
Ar olud byd a'i wychder,
Hedeg ymaith y mae'n hamser,
Ar ein hoedl nå rown hyder;
Pa mor ofer yw ymrwyfo
Am ormodedd, yn y diwedd a'n gadawo?
Ffol iddyn roi'i goryn gwan
Yn fiilwr dan ofalon
Tra f'o conglau yn ei galon
Anostegol nid oes digon
Bydol union a'i boddlona,
Pethau'n darfod, ansawdd ammod, hyn sydd yma
Ni wnaed i ni mo'r byd unwaith,
Na ninnau i'r byd awch unfryd chwaith,
Ond er ein twyso ar ein taith
Drwy'r dyrys maith daearol;
Bod yn fyr o'r byd anfarwol
Yw ei flysio'n rhy aflesol;
Dodrefn benthyg oll sydd ynddo,
Mae da'r byd i gyd i'w gado;
Prin cawn o hono, cofiwn hyny
Letty priddfedd i deg orwedd wedi ei garu:
Noeth y daethom megis Io,,
Anoethyrawninythoro,
Ein neges yma trigfa tro
Ail geisio nefol gysur;

Cyn i'n dydd hwyrâu yn rhyhwyr,
Cyn machludo haul ein hawyr,
Yn ein gwisg gochelwn gysgu,
Gwaedd ar haner nos sy'n nesu;
Dyn ni phery mewn hoff hiroes,
Ceisiwn felly, Amen lynu mewn ail einioes.

Peth cyntan y byd a wnaethum oedd wylo,
Ac eraill y'ngwenu fy ngweled i ynddo;
Pan elwyf o'r byd, os eraill a wylant,
Minnau fo'n gwenu y'ngwlad y gogoniant.
—R. DAVIES, Nantglyn.


CYFIEITHIAD O ANACREON

[AWDL XIX. ]

GAN yfed, yf y ddaiar ddu,
A'i hyfed hithau'r coed y sy;
Y môr a yf awelau'r wawr,
A'r haul a yf y cefnfor mawr;
A'r lloer, i wella'i misol draul,
A yf drachefn oleuni'r haul.
Pob peth a yf: a pham ych chwi
Yn grwgnach os yr yfaf fi?
—PARCH. D. S. EVANS


CANIAD I GARIAD.

Cariad[1] unwaith aeth i chwareu
Ar ei daith i blith rhosynau;
Ac yno'r oedd heb wybod iddo
Wenynen fach yn diwyd sugno.

Wrth arogli o honno'n hoew,
Y rhosyn hwn a'r rhosyn acw,
Y Wenynen fach a bigodd
Ben ei fys, ac ymaith hedodd.

A gwaeddodd yntau rhag ei cholyn,
A chan у boen ag oedd yn dilyn;
At ei fam y gwnai brysuro,
A'r dagrau dros ei ruddiau'n llifo.

Gwaeddai,—Mam! yr wyf yn marw
Brathwyd fi yn arw arw,
Gan ryw sarff hedegog felen,
Ac ei henw yw gwenynen.

Ebai Gwener, os Gwenynen,
A’th bigodd di, mor drwm, fy machgen,
Pa faint mwy y saethau llymion
A blenaist ti yn llawer calon.
—TEGID.


CAN Y CRYS.

A bysedd eiddil, blin,
Ac emrynt llawn o gur,
Eisteddai gwraig mewn carpiog wisg,
Gan drin ei nydwydd ddur:
Pwyth—Pwyth—Pwyth,
A ddodai gyda brys,
A chyda llais dan drymaidd lwyth
Hi ganai "GAN Y CRYS."

Gwaith, Gwaith, Gwaith,
Nes toro gwawr y nen;
Gwaith, Gwaith, Gwaith,
Nes t'wyno'r ser uwch ben;
Gwell bod yn gaeth—ddyn erch
Yn nghanol Tyrcaidd dras,
Lle nad oes enaid gan un ferch,
Na dilyn gwaith mor gas!

Gwaith—Gwaith—Gwaith,
Ymenydd ysgafnha,
Gwaith, Gwaith, Gwaith,
Yn ddwl y golwg wna;
Gwniad—cwysiad—clwm,
Am gyflog fechan geir,
Nes uwch botymau cysgu'n drwm,
A'r gwaith mewn breuddwyd wneir.

Chwi fedd chwiorydd teg,
Mamau, a gwragedd gwiw

Cofiwch nad gwisgo llïain 'r y'ch,
Ond bywyd dynolryw!
Pwyth—Pwyth—Pwyth
Mewn tlodi, newyn, chwys,
Ag edef ddwbl pwytho o hyd
Yr amdo fel y crys!

P'am son am angau du?
Drychiolaeth esgyrn dyn!
Nid ofnaf wel'd ei echrys ddull,
Mae'n debyg im' fy hun!
Mae'n debyg im' fy hun,
Yn fy'mpryd dinacâd—
O Dduw paham mae bara'n ddrud,
A chnawd a gwaed mor rhad!

Gwaith, Gwaith, Gwaith,
Fy llafur sy'n parhau;
Beth ydyw'r gyflog? gwely gwellt,
Crystyn, a charpiau brau!
Tô drylliedig, a llawr noeth—
Bwrdd—a chadair wan;
Y muriau gwag a'm cysgod gwael
Yn unig ddelw'r fan!

Gwaith, Gwaith, Gwaith,
Drwy oerfel Rhagfyr hir;
Gwaith, Gwaith, Gwaith,
Pan hin fo'n frwd a chlir;
Odan fargodion, ceir
Nythle gwenoliaid chwim,

A hwy a'u cefnau heulog fydd,
Yn danod gwanwyn im'!
 
O! na chawn arogl chweg
Y blodau tlysaf gaed—
Yr awyr uwch fy mhen,
A'r gwellt-glas dan fy nhrael .
O! am un awr fel cynt
Y bum mewn melus nwyd,
Heb wybod dim am rodfa drist,
A gostiai bryd o fwyd!

O! na chawn orig fach
Yn ngodrau tyner nawn—
Nid serch na gobaith ddenai 'mryd,
Ond gofid monwes lawn!
Ychydig wylo wnai im' les!
Ond grym brwdaniaeth cur
A sych fy nagrau , rhag i ddafn
Rydu fy nydwydd ddur!

A bysedd eiddil, blin,
Ag emrynt llawn o gur,
Eisteddai gwraig mewncarpiog wisg,
Gan drin ei nydwydd ddur :
Pwyth, Pwyth, Pwyth,
A ddodai gyda brys,—
O! na bai'r holl gyfoethog lwyth
Yn deall " CAN Y Crys."
—IORWERTH GLAN ALED


HEDYDD LON

'Rwy'n disgwyl am y dydd,
Hedydd lon, hedydd lon,
O ddwyfron galon rydd;
Hedydd lon,
A phan y daw mi ganaf
A thithau am yr uwchaf,
Yn llawen i'r cynhauaf,
Hedydd lon, hedydd lon.

Mae'r gweiriau ar y llawr,
Hedydd lon, hedydd lon,
Paham nas ceni ' nawr?
Hedydd lon,
Ai'th gywion bach a laddwyd,
A'th nyth gan ddyn wasgarwyd,
A'th fron gan hiraeth dorwyd?
Hedydd lon, hedydd lon.

Os galar ddaw i ti,
Hedydd lon, hedydd lon,
I ddyn pa sail o'i fri?
Hedydd lon,
Os gofid ddal mewn gaf'el,
Un esgyn fry mor uchel,
B'le ffy'r ymdeithydd isel?
Hedydd lon, hedydd lon.


CWYN YR AMDDIFAD.

Oes neb a ystyr wrth fy nghwyn—Amddifad wyf.
Na ! na ! ' does neb â fi gyd-ddwyn—O dan fy nghlwyf.
Y rhai wnai gyd-ymddwyn er hedd,
Er's llawer dydd sy'n wael eu gwedd
Yn pydru'n oerion gellau'r bedd—Yn gaeth o'm gwydd;
Adgofiad o hoff fore f'oes,
Sy'n rhoi i'm calon lymaidd loes,
Y pryd nad oedd na chri na chroes—Ar helynt rhwydd.
 
Bu gynt i minnau gartref clyd—A thad a mam
Yn fawr ei gofal ar bob pryd—Rhag im' gael cam.
Cawn gyfran o bob rhan yn rhad,
Yn nghyd â phob ymgeledd mâd,
Gynt ar hen aelwyd tŷ fy nhad—Ym mhlith y plant:
Gwnawn hau dych'mygion lawer llun,
O bob dedwyddwch im' fy hun,
Ond troes eu ffrwythau'n bläau blin—Tra chwith i'm chwant.

Y bwystfil edwyn anedd glau— Mewn distaw wig;
Mae holltau'r graig, i'r ddraig yn ffau—Lle'n llon y trig;
Ac y mae'r dewfrig goedwig gan
Y mwyngar adar bach yn rhan;
Ond dwysaf modd nid oes un man—I'm derbyn i!
Pa un ai gwych ai gwael fy llun,
Rhaid dwyn pob croes trwy'm hoes fy hun,
'Does genyfgyfaill, nac oes un— A wrendy'm cri.
 
Tywynodd arnaf heulwen hedd—Ar fore'm dydd;
Llawenydd calon oedd ar wedd—Fy siriol rudd:
Ond iach i'r llon gysuron gynt,
Hwy ffoisant ar adenydd gwynt,

Ac ofer disgwyl ar fy hynt—Am danynt mwy.
Y dagrau'n fynych ylch fy ngrudd,
Ar dori mae y galon brudd,
Rhyw dòn ar dòn o hiraeth sydd—Dan lawer clwy'.

Mewn 'stronol fro rwy'n oer fy nghri—Am dir fy ngwlad,
Ond 'sywaeth ni waeth p'le i mi—Heb fam na thad,
Cartrefwn mewn dirgelaidd gell,
Wrth ffrydiau yr anialwch pell,
Pe gwyddwn cawn dawelwch gwell—I'r fron yn wir;
Cyfeilles wnawn o dan fy nghlwy'
O belican yr anialwch mwy;
Cyd-ddwyn â'n gilydd wnaem ein dwy—O dan eir cur.

I'm gwylio yno cawn y lloer—Nos angeu prudd;
A'r awel sychai'r deigryn oer—Oddiar fy ngrudd;
Gan gwyno'n mrig y tewfrig bren,
Lle'r ymollyngwn bwys fy mhen,
Amdoid fy nghorph â deiliog len—Wrth ffrydiawg li,
I fyd siomedig mwy yn iach,
Cawn hedd ar waelod beddrod bach,
Ni chlywid sôn gan gâr nac ach—Am danaf fi.

Can's pob rhyw gâr a chyfaill droes—Eu cefnau'n awr;
Pan mae fy llawen heulwen oes—Dan gwmwl mawr!
Ond f'enaid pruddaidd clafaidd clyw,
Mae Tad'r amddifad etto'n fyw,
Hwn ddichon roi tawelwch gwiw—Ym mhob rhyw loes.
Mae ef o galon dyner fwyn,
Fe wrendy ar amddifad gwyn,
A hwn wna'n unig gyd-ymddwyn—O dan bob croes.

—GUTYN DYFI


BEDD FY NGHARIAD.

Y mae'r ywen werdd yn tyfu
Uwch ben y bedd,
Lle mae 'nghariad bach yn cysgu
Yn llwch y bedd;
Y mae'r rudd a wisgai rosyn
Dan y gwallt oedd fel aur-gadwyn,
At y meirwon wedi disgyn,
Yn llwch y bedd.

Tyner wylo mae'r awelon
Uwch ben ei bedd,
Fel o deimlad, ddagrau'n loewon,
Uwch ben ei bedd;
Y gwynt yn dystaw sio'i chyntun
Yn yr Ywen ledai'i brigyn,
Ac ohoni'r dagrau'n disgyn
Ar lwch ei bedd.

Cangau'r Ywen sy'n telori
Uwch ben ei bedd,
Farw gân alarus iddi,
Uwch ben ei bedd;
Wrth fyn'd heibio bedd y wenfron,
A grudd laith, a llygaid gwlybion,
Rho'i ochenaid mae'r awelon
Uwch ben ei bedd.

Blodau'r haf a dyfant yno,
Ar lwch ei bedd,

Ac a blygant benau i wylo,
Ar lwch ei bedd;
Nid oes dim yn tyfu yno
Ar nad ydyw yn ymdeimlo,—
Gwellt a blodau sy'n cyd-wylo,
Ar lwch y bedd.

Gwylia'r byw, wrth rodio'r beddau,
Rhag rhoi dy droed
Ar ei bedd i blygu'r blodau,
O dan dy droed;
Paid a rhuthro yn ddideimlad,
Bydded ysgafn dy gerddediad,
Paid a sathru bedd fy nghariad
O dan dy droed.

—IONORON GLAN DWYRYD


Y DELYN.

HOFF Elen! dyg dy delyn fwyn
I'm lloni gyda'i İlef;
Ias hiraeth i fy mryd mae'n ddwyn
Am odlau maws y nef.

A phan yw tanau hon mor gu
Yn lleisio ger fy llaw,
Gofidion dwys y gauaf du
Yn siriol giliant draw.

Ac felly pan ddel Gauaf oes,
Llais Rhinwedd lwys mewn hedd,
A bair fy enaid yn ddi—loes,
I wenu ar y bedd.

—GWENFFRWD


HIRAETH Y CYMRO

AM EI WLAD.

TRWM ffarwelio a’m hen gyfeillion,
Gadael bryniau heirdd Tremeirchion;
Pwy all ddweyd mor brudd yw'r galon,
A'r anghysuron sydd?
Gadael fryndiau goleu galwad,
Gadael blodau caerau cariad,
Ifyu'd mewn llafur i Lynlleifiad;
Chwerw brofiad prudd;
Gadael tirion famau,
A gadael dedwydd dadau,
Gadael llon, fryniau hon,
Tremeirchion wiwlon, oleu,
Gadael brodir, cleidir, Clwydfro,
Trwm yw'r galon, gellwchgoelio,
Awch a chyfan wrth ei chofio,
Am gur o wylo’n waeth.

Gadael perthynasau mwynaidd,
A gadael gwlad lle ce's ymgeledd,
Daw rhyw hiraeth arna'i orwedd,
Gwaelaidd salaidd swm;
Gadael gleision, lawnion, lwyni,
A gadaelgwlad lle ce's fy magu:
Mae'r galon unwaith fu'n llawenu
Wedi ei phlethu â phlwm;
Gadael bryniau bronwynt,
Meilliadau, llysiau, lleswynt,
A llwybrau'r fro, lawer tro,
Lle bu’m i yn rhodio ar hyd'ynt,
Gadael Meirchion, wiwlon, helaeth,
Y llanerch ffeindiaf o'r gre’digaeth,
Lle bu'r awen yn ei hafiaeth,
Lawer canwaith gynt.

Gadael man lle bu'm dymuniad,
Beraroglau'r hen Gymreigwlad;
Ar fy nhymnor, beth yw 'nheimlad,
Nid oes un enaid wyr;

Gan swn y Sais i'm haflonyddu,
Mae troell fy natur wedi d'rysu,
A'r awen gynt fu'n cynganeddu,
Wedi ei llethu yn llwyr,
O wlad y Sais, pe gallwn,
Mwyn odiaeth mi ehedwn,
I fryniau iach, Tremeirchion bach,
Lle mwynach ni ddymunwn;
Gwlad oruchel geidw'r iechyd,
Llwyni ganoedd, llawn ei gwynfyd,
Yn ol i rodio y wiwfro hyfryd,
O gwyn i fyď na f'awn.

Yn nghlyw'r ehediaid angenrheidiol,
Amryw leisiau mor ddewisol,
Yn agored megys carol,
I'r anfeidrol Fôd,
Llwyni'r dyffryn fel yn deffro,
Côr nefolaidd yn adseinio:
A nefawl bencerdd yn ymbyncio,
Iddo yn cleimio clod,
A gwedd y ddaear fwyngu
Lon ganiad, fel yn gwenu,
A blodau maith, yn eu hiaith,
Hen arfaeth yn cynhyrfu,
Oll yn gosod awdl gyson,
Efo'u gilydd o un galon,
Fel lleng oleu o angylion,
Llon nefolion fyrdd.

O mor drwm yw cofio'r boreu,
Gadewais Feirchion, wiwlon oleu,
Myn'd o'i gwydd i orfod goddau
Maglau croesau cri,
Taenu'm pabell gyda'r Saeson,
A gadael cwmni'n Cymreigyddion,
I och'neidio'n bruddaidd galon,
Rhwng fy nwyfron i;
Gadael bechgyn gwisgi,
Hil Gomer hyfryd gwmni:
Myn'd heb wad, o dŷ fy nhad,
Yn mhell o'm gwlad, mewn c'ledi;

My'nd o Salem, Eden odia,
Mewn isel dymer i Sodoma,
'Rwy'n nghanol môr o ddyfroedd Mara,
Yn nyffryn Bacca'n byw.

Dyma nôd o gyfnewidiad,
Sy'n awr yn aml ar fy nheimlad,
Collais eilydd gynydd ganiad,
Yn Llynllefiad llawn,
Mae foes yn tynu yn ansertenol,
Fe ddywed natur yn benodol,
Myn'd i Dremeirchion seren siriol,
Yn ol i'w chôl na chawn.
Ai rhaid ffarwelio'n berffaith,
Caersalem Eden odiaeth?
Wrth feddwl hyn mae f' enaid gwyn,
Mewn dygn brofedigaeth:
Trwm i'r meddwl, trwm yw'r moddau,
A chyll fy llygaid ddigred ddagrau,
Ffarwel fo'i siriol freiniol fryniau,
A'm hanwyl gartref gynt.

Hwn yw'r dydd o anedwyddyd,
'Rwyf megis Lazarus yn ei adfyd,
Yn cael odfa o galedfyd,
Nychlyd benyd bwys,
Nes try angau ' i finiog ddager,
A'm dwyn i fyned dan ei faner,
A'm rhoddi i gysgu i'r gwely galar,
Pridd y ddaear ddwys.
Ffarwel i'r dawel orawr,
A gwiwfro Clwydfro glodfawr;
Efallai byth na chaf mewn chwyth,
D'anrhegu di yn rhagor:
' Rwy braidd ffarwelio â'm hen gyfeillion,
Efallai byddai'n mysg y meirwon,
Cyn ceir fy ngweled, trwm fy ngalon,
Yn rhodio yn Meirchion mwy.


MAITH DDYDDIAU ' N OL.

Dybler y Gân nefol lân a fu les,
Maith ddyddiau ' n ol, maith ddyddiau' n ol;
Pan oedd y fron hygar hon yn ei gwres,
Maith ddyddiau ' n ol ddyddiau 'n ol;
Teimlad os cai unrhyw fai ar fy oes,
Penliniai i lawr, anwyl awr, yn ei loes,
Digon oedd llym nerth a grym wrth y Groes,
Maith ddyddiau'n ol, ddyddiau'n ol.

Myned oedd gwaith sain ac iaith Sion gu,
Maith ddyddiau'n ol, maith ddyddiau'n ol;
Cariad a hedd oedd yn wledd iawn i lu,
Maith ddyddiau'n ol, ddyddiau'n ol;
Calon yn dan byw o lân Bibl Iôn,
Enaid yn byw gyda Duw oedd y don'
Hiraeth am faint doniau'r saint, dyna r son
Maith ddyddiau'n ol, ddyddiau'n ol.

Moroedd o ras yn eu blas oedd ein blys,
Maith ddyddiau n ol, maith ddyddiau'n ol;
Derbyn o ddawn heinyf lawn nefol lys,
Maith ddyddiau'n ol, ddyddiau'n ol,
Ond heddyw gwan yw fy rhan fer ei hynt,
Crwydrais yn mhell o le gwell—o flaen gwynt
 
—ROBIN DDU ERYRI .


GALARNAD DAFYDD

AR OL EI FAB ABSALOM.

O Cusi! Cusi!—newydd trwm,
Am Absalom;
Mae'n gwneyd fy nghalon fel y plwm,
O Absalom!
Rhyfedd, rhyfedd gariad tad,
Rhyfedd, rhyfedd ei barhad,
Mor flin gwnai Ioab yn y gad,
I Absalom.
O fab Serfia, blina blaid,
Tan y dderwen pan y caid,
Ei ladd yn rhwym—paham oedd rhaid
O Absalom!

O gwae fi fyw i ddiodde'r farn,
O Absalom!
A thithau'n gorwedd dan y garn,
Fy Absalom!
Na chawswn farw, O! fy Nuw!
A'mmabmewnclod ifodynfyw;
Am Absalom i'm bron mae briw!
O Absalom!
Er it' wallgofi i beri brad,
A bwriad tost, yn erbyn tad,
Rhoiswn rwydd faddeuant rhad,
I Absalom.


O Absalom fy mab, fy mab!
O Absalom fy mab, fy mab!
Fy Absalom!
Mae colyn oer i'm calon i
A hiraeth tad o'th herwydd di
Dy ladd mewn brad, heb lwydd na bri!
O Absalom!
Am f' anwyl fab 'rwy'n dyoddef cur,
Ce'st derfyn dig drwy arfau dur!
Na b'asai ' ngweision i ti'n bur,
O Absalom.

Pa werth yw coron beilchion byd,
Heb Absalom?
Teyrnwialen Israel? gwael i gyd,
Heb Absalom!
Heb brudd—der coffa'i laddfa loes,
Unmynudheddiminidoes!
Ni chaf ond gofid hyd fy oes,
Am Absalom,
Yn ol och'neidio, gwywo gwedd,
I mi yn barod y mae bedd!
Poed Duw i'm plaid—i'm henaid hedd!
O Absalom!

—PARCH. WALTER DAVIES.


CLOD I'R IAITH GYMRAEG.

Dewch gyfeillion o un galon,
Chwi Frython union oll
I ddal i fynu ein iaith o ddifri,
Rhag iddi fyn'd ar goll,
Rhyw lu o betha ' ddaeth o Loegra,
I gyrau gwalia gu,
Gan fygwth sgubo ein Iaith a'i chuddio
Mewn dwfwn angof du.
Iaith Gomer seinber syw,
Iaith gaerog enwog yw,
Rhwng Brodorion Cymru dirion,
Yn burion hi fydd byw,
Does un iaith ddynol,
Wych ragorol,
Fwy buddiol na hi'n bod,
Nag un fwynach iaith bereiddiach,
Na rhwyddach dan y rhod,
Hen iaith a greddf ddigryd,
Ein Tadau a'n penau tud,
Hen iaith Doethion,
Iaith Tywysogion
A bore dewrion byd;
A gaiff y Saeson ddod i fysg Brython
A'u hestron glytiaith hwy?
A gaiff gwiwgu famiaith Cymry
Ddiflanu a methu mwy?
Na, na, ymunwn ni,
Heb gel i'w harddel hi.

Er colli ein tiroedd a'n hiawnderau
A’n breintiau gynt a'n bri,
Ein Nêr a folwn,
A’n hiaith a gadwn,
A gwaeddwn oll i gyd
Cymraeg am dano,ac Enw Cymro
A baro tra bo byd.


CAN Y BARDD WRTH FARW.

GWNEWCH imi feddrod wrth ffrydlif y mynydd,
Na cherfiwch un linell i adrodd fy hynt;
Yno telored glas-donau'r afonydd
Eu cerddi yn gymhlith a chwiban y gwynt!

Na chlywer un och lle mae'r prydydd yn huno,
Na choder un cofnod i ddangos y fan;
Yno na weler un serchawg yn wylo,
I dori a'i ddolef dawelwch y lan!

I bydru fi dodwch heb gwynfan na galar,
Diamdo, dienw ac unig fy ngwedd;
Na wedwch fy mod i mor drist ac edifar,
Wrth deithio i dawel ystafell y bedd!

Pan ddychwel y Gwanwyn,—uwch ben fy ngorweddle
Pored y milyn dywarchen fo gwerdd;
Pan chwyfia y grug yn awelon y bore,
Adar y moelydd a ganant fy ngherdd.

Iesu fy Nuw! yn y preseb a rwymwyd,
Maddeua fy nghamwedd, tro drallod yn hedd;
Ti'r hwn dros ddyn pechadurus croeshoeliwyd,
Cofia fy lludw yn nghilfach y bedd!

Pan seinio yr utgorn trwy'r nen ddychrynedig
Alargan ddiweddaf y ddaear a'r môr,
Gad imi orphwys lle can y gwaredig,
Gathlau i'th foliant—fy Ngheidwad, fy Ior!

—GWENFFRWD.


BUGAIL CWMDYLI YN CWYNFAN

YMADAWIAD EI RIAN.

E DDIFLANODD clog y gwlaw,
Fy anwylyd wiw,
Oedd yn toi Eryri draw,
Fy anwylyd wiw,
Mae yr haul ar hyn o dro,
Yn goreuro bryniau'n bro,
I'r hafotty rhoddwn dro,
Fy anwylyd wiw.

Ni gawn wrando'r creigiau crog,
Fy anwylyd wiw,
Yn cyd-ateb gyda'r gog,
Fy anwylyd wiw ;
A diniwed fref yr wyn,
A'r eidionau ar bob twyn,
A'r ehediaid llon o'r llwyn,
Fy anwylyd wiw.

Ond ar fyrder pa i mi,
Fy anwylyd wiw,
Fydd Cwmdyli hebot ti,
Fy anwylyd wiw ;
Yn iach wrando'th adsain dlos,
Wrth dy wylio dros y rhos,
I odro fore a nos,
Fy anwylyd wiw.

Ac yn nghanol dwndwr tre',
Fy anwylyd wiw,
A dyddanion llon y lle,
Fy anwylyd wiw.
Nac anghofia un a fydd
Ar dy ol, yn wylo'n brudd,
Yn Ngwmdyli uos a dydd,
Fy anwylyd wiw.
—IEUAN GLAN GEIRIONYDD.


"Y LILI GWYWEDIG."

GALAR-GAN MAM AR FARWOLAETH MABAN MYNWESOL.

CAED Lili têg, mewn hyfryd fan,
Ar gorsen wan yn tyfu ;
Ei hawddgar liw, a'i gywrain lun,
Wnai i bob un ei garu,

Ei berchen o anwyldeb âi,
A siriol syllai arno,
Mewn gobaith hoff o'i gadw'n îr
Am dymmor hir heb wywo.

Ond ar ddiwrnod tywyll dû,
Y gobaith cu ddiflanodd;
Daeth awel oer 'nol heulwen haf,
A'r Lili brâf a wywodd!

Mae'n awr yn gorwedd yn y llwch,
Heb degwch yn wywedig;
A'i berchen deimla dan ei bron
Ei chalon yn glwyfedig.

Ochenaid ddwys o'i mynwes wan,
Ac egwan lef sy'n codi,—
"A raid im' golli'r olwg ar
"Fy hawddgar wiwber Lili!

"Flodeuyn hardd! dy golli raid,
"Er dibaid dywallt dagrau!
Llwyr ddiflanedig 'nawr yw drych
"Dy unwaith harddwych liwiau.

"Dy addurnedig wisgoedd brâf,
"Eu gweled ni chaf mwyach!
"Wrth syllu ar dy le, nid wyf
"Ond gwneyd y clwyf yn ddyfnach."

Ar hyn, pan ydoedd natur wan
O dan y groes yn suddo,

I arllwys balm i'r galon brudd
Daeth gwiw Ddyddanydd heibio.

Yn dirion (nid i beri braw)
Ei ddeheu-law estynai;
Cyd-deimlo wnai wrth wrando'i chwyn,
Ac mewn iaith mwyn dywedai,

"Na wyla mwy,―dy Lili hardd
"Sy'n awr yn ngardd paradwys,
"Mewn tawel gynhes nefol fro
"Yn ail-flodeuo'n wiwlwys.

"Ei nôdd, ei ddail, ei arogl pêr,
"Ei liwiau têr a hawddgar,
"Rhagorach fyrdd o weithiau ynt
Nag oeddynt ar y ddaear.

"Ei weled gei ar fyr o dro
"Yn gwisgo harddwch nefol;
"I'r ddedwydd wlad 'dy gyrchu wnaf,
 "Lle t'wyna haf tragwyddol."

—PARCH. SAMUEL ROBERTS. (S.R.)


DEIGRYN Y MILWR.

Ar ael y bryn fe droes i gael yr olaf drem
O'r dyffryn teg, o'r llanerch hoff, a'r deildy harddliw gem;
Gan wrando sain y ffrwd i'w serch oedd felus iawn,
Ymbwysai'r Milwr ar ei gledd—a sychai y Deigryn llawn.

Gerllaw y deildy hardd penliniai geneth lân,
I fynu daliai lain liw'r iâ, hwn nofiai'r gwynt ar da'n;
Gweddïai ar ei rann, nis clywai ef mo'i dawn
Ond safai a bendithiai hi,—a sychai y Deigryn llawn.

Gan droi, gadawai'r bryn, na thybiwch ef rhy brudd,
Mae calon gwron tan ei fron, er dagrau ar ei rudd;
Ar ben y flaenaf lîn, mewn brwydyr enbyd iawn,
Grymusaf yno, dyna'r llaw, a sychai y Deigryn llawn.

—ROBIN DDU ERYRI.


CATHL IDD YR EOS.

PAN guddio nos ein daiar gu
O dan ei du adenydd,
Y clywir dy delori mwyn,
A chor y llwyn yn llonydd;
Ac os bydd pigyn dan dy fron
Yn peri i'th galon guro,
Ni wnei, nes toro gwawrddydd hael,
Ond canu a gadael iddo.

A thebyg it' yw'r Feinir war,
Sydd gymhar gwell na gemau;
Er machlud haul, er hulio bro
A miliwn o gymylau;
Pan dawo holl gysurwyr dydd,
Hi lyna yn ffyddlonaf;
Yn nyfnder nos o boen a thrais
Y dyru lais felusaf.

Er dichon fod ei chalon wan
Yn delwi dan y dulid,
Ni chwyna i flino ei hanwyl rai,—
Ei gwen a guddia'i gofid;
Ni phall ei chan drwy'r ddunos faith
Nes gweled gobaith golau,
Yn t'wnu, megis llygad aur,
Drwy bur amrantau'r borau.

PARCH. JOHN BLACKWELL. (Alun)


CYFARCHIAD I WENOL GYNTAF Y TYMMOR.

WENNOL fwyn, ti ddaethost eto,
I'n dwyn ar go' fod haf ar wawrio,
Wedi bod yn hir ymdeithio,
Croeso, croeso iti;
Nid oes unrhyw berchen aden
Fwy cariadus na'r wenfolen,
Pawb o'th weled sydd yn llawen:
Ebe'r wennol—Twi, twi, twi.

Ha! mi wela'th fod yn chwilio
Am dy nyth o dan ein bondo,
Y mae hwnnw wedi syrthio,
Wennol, coelia di ;
Nid myfi yn wir a'i tynnodd,
Gwynt a gwlaw a gaea' a'i curodd,
Yntau o ddarn i ddarn a gwympodd:
Ebe'r wennol—Twi, twi, twi.

Wennol dirion, paid a digio,
Gelli wneyd un newydd etɔ;
A phe gallwn, gwnawn dy helpio—
Aros gyda ni:
A fu'r oll o honynt feirw,
A'th adael di'n amddifad weddw?
Byddai hynny 'n chwedl arw:
Ebe'r wennol—Twi, twi, twi.


Wennol bach, pa ham diengi
Draw oddiwrthyf? paid ag ofni;
Aros, bydd yn gyfaill imi—
'Rwy'n dy garu di.
Credu 'r wyf fod gennyt galon
Bur, ddiniwed, gywir, ffyddlon—
Peth anfynych ymhlith dynion:
Ebe'r wennol—Twi, twi, twi.

Llawer blinder chwerw brofais,
Er y tro o'r blaen y'th welais,
Wennol fwyn, a llawer gwynais—
P'odd ymd'rewaist ti?
A fyddwch chwi, wenoliaid, weithiau
Yn cyfarfod â blinderau,
Nes troi'ch twi, twi, twi, 'n gwynfannau?
Ebe'r wennol—Twi, twi, twi.

Mi ddymunais, wennol lawen,
Ganwaith feddu ar dy aden,
I allu hedeg yn y wybren
Uwch y byd a'i gri:
Ymryddhau oddiwrth helbulon
Bywyd dynol, a'i ofalon,
Ac fel tithau, 'n iach fy nghalon,
Canu uwch eu pen—Twi, twi.

Mae'th ddyfodiad, addfwyn wennol,
Ini'n dysgu gwersi buddiol,
Ar bob tymor yn olynol,
Yr ymweli â ni.
Wyt yn adwaen dy dymorau,
Ac yn cadw dy amserau—

"Cym'rwch rybudd, gwnewch fel finau,"
Ydyw 'r llais ym mhob twi, twi!

Dyna gamp a ddysgi eto—
Cadw'th wisg yn lân a chrynno,
A thithiau 'n trin y clai a'i ddwbio,
Wrth wneyd dy waith.
Hoffwn inau ddysgu hòno-
Trin y byd, a myned trwyddo,
Heb halogi'm gwisgoedd ynddo,
Na rhoi arno 'm calon chwaith.

—GWILYM HIRAETHOG.


YR YNYS WEN

Hwyrol gysgod, aros ennyd,
Ein hunig lestr gâd heb lèn,
Pan ddaw bore ni chaf hyfryd
Wel'd fy anwyl Ynys wèn:—
Dych'mygaf wel'd rhyw heulog lanerch
Trig Cyfeillion, fawr a bach
Ond wele'r nôs, er maint fy nhraserch,
I'r Ynys wèn rhaid canu'n iach.

Wele'n awr wynebau dedwydd,
Chwarddant hwy o ddeutu'r tân,
Pwy a leinw le y Prydydd?
Ein Cerddi llawen pwy a'u cân?
Trwy y chwa eheda drosom
Clywaf swn yr hwyrol gloch,
Fel rhyw lais fai'n gwaeddi erom
"Gyfeillion hoff, yn iâch y b'och."

Pan bo'r tònau 'n tori o'm deutu,
Pan bwy'n rhodio'r bwrdd fy hun,
Ofer yw i'r llygad dremu,—
Deilen werdd ni welaf un:
Beth a roddwn am gael ymdaith
Gwlad Cyfeillion fawr a bach?
Dwymna fynwes pan fwy'n ymdaith;
I'r Ynys wèn rhaid canu'n iach.


Y FRIALLEN FATHREDIG.

CYFIEITHIAD O GOETHE.

"Briallen welw, dro yn ol,
A unig dyfai ar y ddol,
Nes heibio iddi daeth
Rhyw lodes wridgoch, ysgafn droed,
Un landeg iawn yn mlodau oed,
A'i chân yn ffrydio'n ffraeth.

'Na bawn,' y blodyn gŵylaidd wawr
A waeddai, na bawn i un awr
Yn rhosyn coch, fel cawn
Orphwyso yr orig hòno àr fron
Y wyryf deg, nes marw'n llon
O lesmar yno wnawn.'

Y lodes, yn ddifeddwl, ddaeth,
A sathru ar y blodyn wnaeth;
A chrymodd yntau ei ben;
A chyda'i gwymp uchenaid rhodd,-
'Er marw, marwyf wrth fy modd,
Dàn droed yr eneth wèn!'

—DANIEL SILVAN EVANS.


Y FENYW FWYN.

FENYW fwyn, gwrando gwyn
Dyn sy'n curio er dy fwyn;
Mae i mi ddirfawr gri,
Ddydd a nos o d' achos di.
Wylo'r dw'r yn ail i'r don;
O gwel fy mriwiau dan fy mron:
Nid oes arall feddyg imi
Ond tydi, lili lon:
Dy lon bryd, blodai'r byd,
Sydd o hyd i'm pruddhau:
Cofio'th lendid hyfryd di
Wna i mi fawr drymhau,
'Rwyf fel un mewn carchar caeth,
Drwy fy oes yn dyoddef aeth;
Ac oblegyd saethau Ciwpid,
Darfu'r gwrid, gofid gwaeth.

Derbyn di, wych ei bri,
Hyn o anerch genyf fi:
Mae fel sel fy mod, gwel,
Yn dy garu yn ddi gel:
Dengys it' fy mod yn brudd
O dy gariad nos a dydd:
Dwys och'neidion a gwasgfeuon,
Trwm yw son, i mi sydd:
Ac er bod îs y rhôd
Rhai a'u clod fel tydi,
Eto ti yw'r unig ferch

Aeth a'm serch rymus i:
Ac am hyny, 'r deg ei llun,
Dyro'n awr, i druan un
Air o gysur, gwel fy llafur,
Llaesa'm cur, fwynbur fun.

Rheswm sydd, nos a dydd,
Am fy nwyn o'r rhwyd yn rhydd:—
"Caru bun deg ei llun,
'Rwyt yn fwy na Christ ei hun;
Cofia gywir eiriau Duw,
'Rhai sy'n d'weud am bob dyn byw,
Mai fel blodau neu wyrdd—lysiau
Yw eu clau degwch, clyw.
Aros, O! dyro dro
Tua bro mynwent brudd,—
Gweli yno feddau breg
Rhai fu deg yn eu dydd!
Yn ddiameu yma rhydd
Rhywun d'eulun di ryw ddydd:
Er maint arni a ryfeddu,
Cofia di, felly fydd.".

Ond er hyn, gruddiau gwyn,
Hyn o hyd a'm deil yn dyn;
Trechach yw anian fyw
Na dysgeidiaeth o bob rhyw:
Gwared fi o'm c'ledu clau,
Gwrando'm cwynion heb nacäu,
Gwella'm dyfnion faith archollion,
Dan fy mron, feinir fau;

Ond pa fri yw i ti
Fy mod i yma 'n dwyn
Rhyw hiraethog lidiog loes,
Ar hyd f' oes, er dy fwyn?
Tyr'd i wella'm briwiau hyn,—
Oni ddeui, dos a phryn
Arch ac amdo, er fy nghuddio
O dan glo yn mhridd y glyn.

Ynfyd wyf oddef clwyf,
Drwy ryw ffol anianol nwyf;
A byw cy'd yn y byd,
I ryfeddu'th wyneb-pryd.
O! y drych a welaf draw
Ar dy degwch, pan y daw
I gael arno bridd-glai oernych,
Yn y rhych, efo'r rhaw!
Yna'r gwrid oedd mor brid;
Gwywa i gyd dan y gwys;
Cleidir byddar daear den
Dyn dy ben dan ei bwys;
Yna'r gruddiau goleu, gwiw,
Wnaeth fy nhirion fron yn friw,
A ddaw'n delpyn oer, heb ronyn'
O dy lun na dy liw.
—IEUAN GLAN GEIRIONYDD.


CANIG I'R GORMESWR.

O! paid gormesu'r gweithiwr tlawd
Sy beunydd dan ei bwn,
Os ydwyt ti, hoff blentyn Ffawd,
O paid dirmygu hwn.
Llafuria'n foreu ac yn hwyr,

A'i chwys a fwyda'r llawr,
Efallai heb damaid,—nef a'i gwyr
Am lawer deuddeg awr.

O! paid gormesu'r gweithiwr blin,
Mae ganddo deulu trwm,
Heb neb yn enill ond ei hun;
Rho dro i'w fwthyn llwm—
Mae yno wraig a'i gruddiau n llwyd,
A'i gwisg yn hynod wael,
A'i bychain tlawd yn gofyn bwyd,
Ond Oh! heb ddim i'w gael.
 
O! paid gormesu'r gweithiwr tlawd,
O! gwel mor wael ei lun,
A chofia hyn—mae iti'n Frawd,
Bydd dirion wrtho, ddyn.
Cei di ddanteithion fyrdd yn rhwydd,
Ca yntau grystyn sych;
Drwy lafur hwn cei segur fwyd,
A gwisg a phalas gwych.
 
O paid gormesu'r gweithiwr tlawd;
Efallai try y Rhôd,
Pan welir di dan wgau Ffawd
Heb geiniog yn dy gôd;
Ni charet ddyoddef y pryd hwn
Bwys yr haiarnaidd droed;
O dan ei gwasgiad teimlet, gwn,
Yn ddwysach nag erioed,

O! paid dirmygu'r gweithiwr tlawd;
  Mae cyfoeth gan ei Dad;
Creawdwr bydoedd yw ei Frawd,
Cyn hir caiff yntau 'stat;
O wlad y gormes hed ei gri
I glustiau Cyfiawn Lys;
Ofnadwy fydd dy gyfrif di
Pan ddaw dy olaf wys.

—PEREDUR, Cendl.


EDIFEIRWCH MEDDWYN,
DRANOETH AR OL TERM.

Ow! ow! meddai meddwyn, i'm coryn mae cur,
Sydd debyg i frathiad neu doriad â dur,
Mi weriais fy arian, 'rwy'n cwynfan bob cam;
Mae hyn yn ddu gwmwl yn meddwl fy Mam.
Mam Mam!—O fy Mam!
Mae hyn yn ddu gwmwl yn meddwl fy Mam!

Fy ngwddf sydd yn boethlyd, a chrinllyd, a chras,
A'm safn yn llawn chwerwder gan Hinder drwg flas
Dylaswn i wylio cyn llithro i ddrwg lam;
Mae hyn yn ddu gwmwl yn meddwl fy Mam.
Mam, &c.

Fy nghylla waghäwyd, ac anwyd a g'es,—
Nid oes yn fy nghorffyn i ronyn o wres;
P'le bynag yr elwyf dyn ydwyf dan nam;
Mae hyn yn ddu gwmwl yn meddwl fy Mam.
Mam, &c.

Pe cawn fenthyg chwechyn gan rywun yn rhwydd,
I'r dafarn cychwynwn, mi gerddwn o'i gwydd;
Cawn yno wir fwyniant, mewn nwyfiant di nam,
Er cymaint yw'r cwmwl sy'n meddwl fy Mam."
Mam Mam—O fy Mam!
Er cymaint yw'r cwmwl sy'n meddwl fy Mam.

Pan dderfydd y chwechyn, rhaid cychwyn, tro cas,
A minau'n lled gyndyn, heb flewyn o flas
I fyned i'm llety, 'rwy'n penu paham,—
O herwydd y cwmwl sy'n meddwl fy Mam.
Mam Mam—O fy Mam!
O herwydd y cwmwl sy'n meddwl fy Mam!

Pe cawn help i godi o'm culni brwnt cas,
A chymorth i ofyn am ronyn o ras,
A gado ffol nwyfiant, er cymaint fu'r cam,
Fe giliai'r du gwmwl sy'n meddwl fy Mam.
Mam! Mam!—O fy mam!
Fe giliai'r du gwmwl sy'n meddwl fy Mam!

—A. ROBERTS.


Y LLONG A GOLLWYD.

AETH llong ar hawddfyd hyfryd gynt
Gan rymy gwynt drwy frig y don,
A hwyliai hi yn hardd ar hynt,
Ei rhawd yn gynt na'r wylan lon;
Ond llawer grudd fu'n llaith y dydd,
Tra canu'n iach wnai'u ceraint hwy,
A braw a ddaeth o'r dynged brudd,
Ni welyd fyth mo honynt mwy!

O feibion cun 'r oedd amryw un
Yn hoff gan ferched glân a gwiw;
A gwelais fam,-gwylofus lun,
Ei thestyn-"mab ei mynwes friw!"
Gweddiau glwys gan geraint clau,
Gobeithion teg a fagent hwy;
Ond p'le mae'r llu-y llong p'le mae?
Ni chlywid fyth mo'u hanes mwy!

Pa un ai'r dyfnli', dulas le,
Mewn 'storom hy' a'i 'stwr yn hyll,
Ai'r nen yn dân gan lid y nef,
Ai'r daran gref yn deor gwyllt;
Neu'r gwyntoedd crosh, rai mawr eu grym,
A'i holltodd yn eu hechrys nwy,'
Yn ddrylliad llesg ar grigyll llym,
Ni chlywyd fyth am dani mwy!

Ni wiw ymholi mwy fel hyn,
Cyfrinach tyn eu helynt troes;
A'r môr sy'n dal dirgelion syn,
A gobaith gryn o gura gloes!
Dysgwyliad maith a fu mewn braw,
Heb air o'u hynt—eu beddrod hwy
Sydd yn yr eigion didran draw,
Am danynt ni chawn hanes mwy!

—GWENFFRWD.


Y DIOGYN.

UN bore lled wlybyrog,
Ynghanol gwanwyn gwyntog,
Dygwyddod imi'n ddigon hy'
Fyn'd heibio i dŷ'r gwr diog.

 'Roedd nifer o dda corniog
Yn pori 'r egin brigog;
Yn nen y tŷ'r oedd tyllau gant
A'r wraig a'r plant yn garpiog.

Yr oedd gerllaw segurddyn
Mewn gwely'n troi ar golyn;
Ni wnai efe orchwyl yn y byd
Ond diogi hyd y flwyddyn.

Ni thrwsiai ef mo'r bwthyn,
Pan ydoedd gwlaw yn disgyn;
Ac nid oedd eisiau gryfder gwres
Ysmala, ar hauldes melyn.
 
"Ychydig gwsg a hepian
Cyn myned unwaith allan:"
Hyn oedd ei iaith o bryd i bryd
Yn ynfyd yn ei unfan.

Tra bu y gŵr yn cysgu
Segurud oedd yn garu;
Daeth angen ato ar ei daith
A chanfu ei waith ar fethu.


O herwydd caru'r gwely
Daeth angen glas i'w letty
Y meistr tir yn gwaeddi'n gry—
Dim bwyd mewn tŷ na beudy!

'Roedd dôr y carchar caled
I'r gŵr yn gil agored;
Ni chai mo'r cariad mwy nâ'r ci
Rhwng muriau diymwared.

Mae'r carchar cadarn cryno
Yn ddigon hawdd myn'd iddo;
Ond anhawdd iawn heb aur mewn côd
I ddyn yw d'od oddiyno.
 
A galar ydyw gweled
Y gŵr mewn cyflwr caled;
Trueni gwel'd y llymddyn llywd
Cyn marw yn fwyd i bryfed.

Ni fedraf ddim prophwydo
Pa beth a ddaw o hono:
Ond cyn y delo i rodio'n rhydd
Byd caled fydd rwy'n coelio!

—D. DDU ERYRI.


FY NAGRAU'N LLI.

BACHGENYN Wyf o Walia wiw,
Yn mhell o'i wlad a'i fron yn friw,
Fy meddwl yw mynegu i chwi,
Paham y rhed fy nagrau'n lli!

Gadewais, do, fy anwyl wlad,
Y'nghyd a thirion fam a thad:
Fy mrodyr a'm chwiorydd i
Fydd ar fy ol a'u dagrau'n lli.

Pa le mae'm hen gyfeillion mâd?
Pale, pa le, mae'm hanwyl wlad?
Mae cofio'i thirion fryniau hi,
Yn awr yn dwyn fy nagrau'n lli.

Pa le mae'i dyfroedd glowyn glân?
Pa lemae swn ei hadar mân?
Ai hyn sy'n dwyn, mynegwch chwi,
Yn mhell o'm gwlad fy nagrau'n lli!

Pa le mae'i hoesol gestyll gwiw?
Pa le mae'r lili lân o liw?
Pa le, pale, mae nghalon i;
Pan yma rhed fy nagrau'n Íli.

Pa le mae ' nghangen lawen lwys;
Pa le mae'r fron y rhois fy mhwys?

Pa le mae'r un a hoffais i,
Pan уmа rhed fy nagrau'n lli?

Pa le mae'r llwyn o dan y nen,
Y bum yn rhodio gyda Gwen;
Pa le mae'm hanwyl gariad i,
Pan y gollyngaf ddagrau'n lli?

Pa le, pa le, mae hyfryd gân,
Y delyn fwyn a'i thannau man;
Ond yn y wlad y'm magwyd i,
Pan yma rhed fy nagrau'n lli.

Fy ngwlad! fy ngwlad! fy anwyl wlad!
Ei chofio sydd yn peri brad;
Ac O na ddeuai 'i ħawel hi,
I sychu 'ngloywon ddagrau i.

O na wrandawai hon fy nghwyn,
Rwy' yma'n marw er ei mwyn;
Pan nad oes neb er maint fy nghri,
Ond angeu i sychu 'nagrau i.

'Does ond y bedd, y man rwy'n myn'd;
A ladd fy hiraeth am bob ffrynd;
A thyna'r man mynega'i chwi,
Y sychir fy holl ddagrau i!
—WILIAM WEALTRS.

YR AMDDIFAD

A'M deigryn ar fy ngrudd
Wyf ar fy ngliniau,
Yn ocheneidio'n brudd
Bob hwyr a borau,
Yn unig ar fy hynt
Heb riant tyner;
Yn cwyno gyd a'r gwynt
Er hyny'n ofer.

Ni welaf byth fy Mam,
Mae wedi marw;
Na Thad i arbed cam,
Mewn bedd mae hwnw:
Mae rhyngof fi a hwy
Y wleb ddaearen—
A wylo bydddaf mwy
Ar y dywarchen.

Cyd-chwardded beilchion byd,
Ceir fi yn wylo
Ty walltaf ddagrau drud
A'm gruddiau'n llifo:
Fy Nhad a'm hanwyl Fam,
Ni thosturiant—
Fy nghadw rhag un cam
Byth ni allant.
CADWALDAR, BRYMBO.


Y WLAD SYDD WELL.

CLYwaf di yn son am wlad o ddedwyddwch;
Gelwi ei phobl yn feibion hyfrydwch;
Fy Mam O på le y mae yr oror ysplenydd,
O! na chaem eu meddianu o afael ein cystudd.
Ai lle mae eurlwyni mewn hedd yn blaguro,
A maesydd o berion yn siriol flodeuo?
"O nage! nid yno mae'r ardal hyfrydlon,
Lle gorphwys y dedwydd oddiwrth eu gofalon!"

Ai yn ngwlad y pomgranad a'r palmwydd pereiddiawl,
Lle distyll y gwinodd eu ffrwythau addfedawl,
Neu mhell yn y cefnfor mewn hafaidd werddonau,
Lle chwyth hoff awelon dros erddi perlysiau,
Ac adar hyfrydlais yn odli llawenydd.
Mewn mentyll eurddosawg, a thegwch ysplenydd?
"O nage! nid yno mae'r ardal hyfrydlon,
Lle gorphwys y dedwydd oddiwrth eu helbulon!"

Ai yn mharthau dwyreinfyd, lle dyrch haul y borau,
A threiglynt afonydd ac aur hyd eu glanau
Pelydron arianaidd y gem a ddysgleiniant,
A llethri gan wythi o berl a lewyrchant,
A bronau coethfeini goreurant yn hyfryd-
Ai yno fy Mam! y mae Gwlad y dedwyddyd?
"O nage! nid yno mae'r ardal hyfrydlon,
Lle gorphwys y dedwydd oddiwrth eu gofidion!"

Fy mhlentyn erioed ni chanfyddodd golygon,
Ni chlywodd y glust un o'i chathlau melusion;
Ei thegwch nid all unrhyw freuddwyd ddarlunio,
Gofid nac Angau ni feiddiant fyn'd yno!
Amser ni chwyth ar ei bythawl wyrenig;
Canys uwch y cymylau a daiar lygredig,
Mae Cartref tragwyddawl y dedwydd dduwiolion,
Lle seiniant delynau gorfoledd nefolion!
—GWENFFRWD.


DEDWYDDWCH

D’wed im' adeiniawg wynt
Sy'n swnio o gylch y coed,
A wyddost amryw fan,
Na wylodd neb erioed?
Rhyw fangre ddedwydd lon,
Rhyw ddyffryn yn y de,
Oddiwrthbob poen yn rhydd,
A'r meddwl yn ei le?
Y gwynt atebai yn ei si,
Am le heb ofid nis gwn i.

D’wed i'm, y dyfnder mawr,
Sy'n chwareu’th donau llaith,
A wyddost am ddedwyddol le
Mewn gwlad o bellder maith,
Y geill blinedig ddyn,
Gael trigfan lawn o hedd,
Lle nad oes poen yn bod,
Na ffryndiau'n myn'd i'r bedd?
Y don atebai mewn croch dôn
Am le o'r fath ni chlywais sôn.

Tydi, y lleuad wèn,
A’th wyneb arian teg,
Sy'n edrych ar ein byd
Pan gysga pawb, yn chweg,
D’wed ogylch dy daith
A welaist ti ryw fro,

Lle gall galarus un,
Roi gryddfan byth dan do?
Y lleuad aeth i'r cwmwl du,
Gan dd'weyd, nis gwn am le mor gu.

D’wed i'm fy enaid cu
A gobaith, ffydd a gras,
A oes fath le yn bod
Tu draw i angau glas?
A wyddoch chwi am wlad,
Geill meirwon gael y gamp,
A balm a wellai'r clwy,
Heb ddim a ddiffy'n lamp?
Ffydd, gobaith, gras, mewn uchel lef,
Dd’wedasant, oes o fewn i'r nef.

I. H. HARRIES.


YR ASYN ANFODDOG.

Yn ei gut yn nhrymder geuaf,
Cwyno'n dost wnai asyn llwyd,—
"Genyf mae y llety oeraf,
A rhyw wreiddiach sych yn fwyd:
O na ddeuai gwanwyn bellach!
Cysur fyddai hyny'n wir,
Mi gawn wedi'n hîn dymerach,
A chegeidiau o laswellt îr."

Daeth y gwanwyn a'i gysuron,
Do a'i lafur yr un wedd;
Cwyna'r asyn gan orchwylion
Ar y meusydd yn ddi hedd,—

"Gyrrir fi yn awr yn erwin,
Ac esmwythder ddim ni chaf;
Cefais ddigon ar y gwanwyn,
O na ddeuai hyfryd haf!"

Daeth yr haf; a ydyw'r asyn
Wedi caffael dyddiau gwell?
Na, nid yw foddlonach ronyn,
Hawddfyd sydd oddiwrtho ymhell:
Achwyn mae a'r nâd druanaf,—
"Och y gwaith, ac Och y gwres;
O na ddeuai y cynhaeaf
Dyna dymor llawn er lles."

Daeth yr hydref,—ond siomedig
Ydyw'r asyn dan ei lwyth,
"Druan oedd fy nghefn blinedig,
Wedi'r haf rhaid cludo ei ffrwyth,
Cyrchu tanwydd erbyn gaeaf
Cario mawn a chario coed;
Och yn nhymor y cynhaeaf
Blinach ydwyf nag erioed!"

Wedi troedio cylch y flwyddyn,
Mewn anghysur dwys o hyd,—
"Gwelaf bellach," medd yr asyn,
"Nad mewn tymor mae gwyn fyd;
Yn lle achwyn ar dymhorau,
Fel y maent cymeraf hwy;
Dyna fel y daw hi oreu,
Felly byddaf ddiddig mwy!"

Parch. R. EDWARDS.


BEDD Y DYN TYLAWD

Is yr ywen ddu ganghenog
Twmpath gwyrddlas gwyd ei ben,
Fel i dderbyn o goronog
Addurniadau gwlith y nen;
Llawer troed yn anystyriol
Yn ei fathru'n fynych gawd,
Gan ysigo'i laswellt siriol.
Dyna fedd y Dyn Tylawd.

Swyddwyr cyflog gweithdy'r undeb
A'i hebryngodd ef i'w fedd,
Wrth droi'r briddell ar ei wyneb
Nid oedd deigryn ar un wedd,
'Nol hir frwydro a thrafferthion,
Daeth i ben ei ingol rawd:
Noddfa dawel rhag anghenion,
Ydyw bedd y Dyn Tylawd.

Mae'r gareg arw a'r ddwy lytheren,
Dorodd rhyw anghelfydd law,
Gyd-chwareuai ag e'n fachgen,
Wedi hollti'n ddwy gerllaw;
A phan ddelo Sul y Blodau,
Nid oes yno gâr na brawd
Yn rhoi gwyrdd-ddail na phwysiau
Ar lwm fedd y Dyn Tylawd.

Ar sedd fynor nid yw'r Awen
Yn galaru uwch ei lwch,
A chyn hir drwy'r las dywarchen
Aradr amser dyna'i swch;
Un a'r llawr fydd yr orphwysfa,
Anghof drosti dyn ei ei hawd;
Ond er hyny angel wylia,
Ddaear bedd y Dyn Tylawd.
—IOAN EMLYN


CWYNFAN Y MORWR.

O! Bachgen wyf o Gymru bach,
Yn mhell o'm gwlad yn byw,
Ac wedi colli'm llong a'm llwyth,
A boddi wnaeth fy Nghrew.

Fy anwyl gapten, 'nhad oedd hwn,
Mae'n drwm i'm dd'weyd i chwi,
Sydd wedi myn'd i'r eigion dwfn,
Y llanw mawr a'r lli'.

Yn wlyb, yn wan, ce's inau'r lan,
Er saled oedd fy ngwedd;
A'r rhai duon, drwg eu lliw,
Yn barod i'm rhoi'n y bedd.

Ar lan y môr, yn wlyb, yn wan,
Yn cwyno'r ydwyf fi,
Heb neb o'r duon, drwg eu lliw,
Yn cwyno dim i mi.

Pe gwyddai'm hanwyl fam fy hun
Mor drwm yw arnaf fi,—
O! wedi colli'm llong a'm llwyth,
A'i hanwyl brïod hi.

O! bachgen wyf wedi colli'm tad,
Ym mhell o'm gwlad yn byw:
Wrth feddwl am fy anwyl fam,
'Rwy'n marw ac eto'n fyw!


'Rwy'n fachgen ifanc 'ran fy oed,
Ni ŵyr fy nhroed p'le i droi,
A'm pen yn rhydd' a'm calon brudd,
'Rwyf heno wedi'm cloi.

Pe gwyddai'm hanwyl fam fy hun
Ple 'rwyf y noswaith hon'
Fe fydda'i chalon bach yn brudd,
A briw o dan ei bron.

'Rwy'n meddwl am fy anwyl fam,
Bum ar ei deilun hi
Yn sugno llaeth o'i hanwyl fron, —
Mor anwyl oeddwn i.

Er hyn i gyd, 'rwyf yma'm hun,
Yn wael fy llun a'm lliw;
Heb fedru deall iaith y wlad,
Wedi colli'm tad a'm Crew.

Pe gwyddai'm hanwyl fam fy hun
Mor drwm yw arnaf fi,
Ni fedraf lai na meddwl hyn—
Fe dd'rysai'i synwyr hi.

Er hyn i gyd, 'rwyf eto'n fyw,
Trugaredd Duw, 'rwy'n iach:
'S cai long i fyn'd i Loegr dir,
'Dai byth o Gymru bach.

Cytir.—THOMAS OWEN.


Y SIBSIWN CRWYDREDIG.

Nid oes genyf balas ardderchog a drudfawr,
Carpedau rai alaf i'w fritho â hardd-lawr;
Nid oes genyf wely o'r manblu gorfoethus,
Na lleni porphoraidd i'w wneud yn gysurus;
Ond mae genyf hardd-lys o hyd y pedry fan,
A gortho'r ffurfafen yn dô ar y cyfan;
Y mae genyf wely o wyrdd-wellt y maesydd,
A lleni cysgodawl o ir-ddail y coedydd,
Ah! pwy fel y Sibsiwn difeddwl' dialon,
Heb ofal am fywyd' na dim ar ei galon!

Nid ydwyf yn meddu ar erwau mawreddawg,
Na thalgryf fforestydd, na maesydd meillionawg;
Fy mharciau nid ydynt yn llydain gauedig,
Na'm gerddi yn gwrido dan aeron crogedig;
Ond edrych i'r gogledd, i'r dwyrain a'r deau,
A gweli helaethrwydd fy maesydd a'm herwau;
Myfi wyf etifedd cyfoethog daearfyd,
Ni theimlais mewn tlodi un mynyd o adfyd;
Os sylli ar erddi neu barciau mawreddig,
O! d'wed, Dyma eiddo y Sibsiwn Crwydredig.

Mae mawrion gorthrymus yn llunio cyfreithiau,
Gan wasgu trueiniaid mewn tyn lyffetheiriau;
Eu deddfau i mi ydynt fylchau agored
'Rwy'n chwerthin am ben eu dichellion a'u hoced,
Ardderchog ddefodau fy nhadau y'm rheol,
Ac atynt apeliaf mewn pethau cyfreithiol;
Ystyriaf yn eiddo'r hyn oll a chweuychaf,
Er maint a rwgnacha'r uchelion cadarnaf;
Eu caethion fesurau sydd bethau sigledig,
A thestyn gwatwaredd i'r Sibsiwn Crwydredig.

Ymffrostiant frenhinoedd, balchiant arglwyddi,
Yn nghanol y loddest tra'r gwin yn trochioni,
A'r pendefigesau fo'n dawnsio mewn swynion
Tra cano y seindorf eu melus alawon.
A llygaid rhianod fo'n llawn o dân golau,
A'u bochau fo'n gwrido dan arliw rhosynau
Dedwyddwch fo'n llanw yr holl breswylyddion,

Hudoliaeth fo ar wefus pob geneth lan-galon
Pawb fyddo'n meddwi mewn swynion a gloddest,
A balchder a thlysni goroner â gorchest.
Ond gwrandaw ar hanes y Sibsiwn Crwydredig'
A'i loddest gor-rwysgawl mewn 'stafell urddedig;
Ei lampau pelydrawg yn nghrog o'r ffurfafen,
A llygaid balch Nora yn gwatwar y seren;
Y corwynt a'r mellt yw ein gwahoddedigion'
A'r daran yw'r seindorf o fewn ein gloddestion;
I delyn hoff Nora y dawnsiant y coedydd,
A'i mwynlais a egyr amrantau y wawrddydd;
Fy anwyl hoff Nora, er mor iselfrydig,
Mwy dedwydd na Brenin yw'r Sibsiwn Crwydredig.

—COWLYD.


HIRAETH Y BARDD AR FEDD EI GARIAD.

Pa orchwyl yw hyn? 'rwy'n dychryn cyn dechreu!
Pa arwydd, pa eiriau ddefnyddiaf fi'n awr?
'Rwy'n sefyll yn syn yn ymyl glŷn ammhwyll,
Mewn tewaidd niwl tywyll, heb ganwyll na gwawr;
Ces frathiad i'r fron, gyfoedion, claf ydwyf,
Cledd einioes cladd ynwyf, tra byddwyf fi byw;
'Does yn yr oes hon arwyddion o'r heddwch,
Er maint yr hyfrydwch a'r harddwch bob rhyw.

Ow! gorwedd, trwm gwyn, mae'r addfwyn ireiddferch,
Fe'm d'ryswyd o draserch i'r wenferch, mae'n wir;
Tro'i hono, trwy hedd, ei bysedd mewn bwyserch,
I lunio brith lanerch i'm hanerch, dro hir;
Ond heddyw trymhau' ' does geiriau o'r gweryd,
'Rwy'n goddef trwm adfyd tan benyd' tyn bwn;
Y glyd fynwes glau' a'r genau fu'n gweini,
Y llynedd i'm lloni, sy'n tewi'r pryd hwn.

Pan oeddym ni'n nghyd yn myd yr amodau,
'Roedd gwirod ei geiriau i'm genau fel gwin;
Er meddu hyn cy'd, trwy sengyd' troes angau
'R pêr aeron pur eiriau yn bläau trwm blin;
Mae'n gorwedd mun gain, yn gelain mewn gwaelod,
Lle isel preswylfod ei hynod gorff hi;
A mwy o'r bedd main, mun desgain' wiw disgwyl,
Ond llwch mynwent ERFYL mae'n anwyl gan i.


DolgellauDEWI WNION.


NOS SADWRN Y GWEITHIWR

.

Pa beth a welaf!—gweithiwr draw,
A chaib a rhaw mewn rhych,
A phwys a thristwch byd, a'i wg,
A'i gwnaeth yn ddrwg ei ddrych;
Ond er ei fod mor lwm i'w gael,
Yn glytiog wael ei wawr,
Nos Sadwrn deifl ei galed waith,
A'i ludded maith i lawr.

O gwel mor glytiog garpiog yw,
Yn ceisio byw'n y byd;
Heb ond prin ddigon at ei draul,
Yn nghysgod haul o hyd;
Ei gylla weithiau'n gwaeddi'n groch,
Pob dimai goch ar goll;
Ond daw nos Sadwrn;—gyda llôg
Fe gaiff ei gyflog oll.

Mae blin a chaled waith y dydd,
Hyd ffosydd gyda'r ffyrdd,
Bron a gorlwytho'i babell frau,
Mae dan ofidiau fyrdd:
Pa'm mae'n gwirfoddoloddef dan
Ei ffwdan? adyn ffol!
Ah! Mae ei olwg ar ryw lon
Nos Sadwrn eto'n ol.

Cyn codi'r haul y bore rhed,
A'i fwyd a'r fasged fach,
Pib fer yn cuddio rhan a'i mŵg
O'i wridog olwg iach;
Pan fyddo hunawg wŷr mawr glod
Yn bod heb symud bys,
Bydd e'n llafurio'n ol ei drefn
A phen a chefn yn chwys.

Pa beth bob bore sy fel hyn
Yn gyru'r dyn i'w daith,
O hir filldiroedd gyda brys
Anyddus at ei waith;

Gan barhau'n ddiwyd drwy bob hin
Nes darfod blin oes dydd?
Y cyflog melus ddaw i'w ddwrn
Y lon nos Sadwrn sydd.

Gan yr uchelwr mae ei barch
Yn ail i farch neu ful;
Pob un yn cerdded hyd ei ben,
Ail pont-bren ceubren cul;
A phlant ei feistr, c'yd a'i goes,
Rydd iddo loes neu lach;
Ond caiff nos Sadwrn gartre'i hun,
A bod yn frenin bach.

Os ydyw'r gweithiwr gwael tylawd,
Trwy ganol gwawd a gwŷn,
Yn gweithio'i wythnos yn y byd
Yn ddiwyd ddiwyd ddyn,
A llygad dyfal gwlyb a sych
Yn edrych at y nôd:
O! gydymdeithion tua'r bedd,
Beth ddylai'r fuchedd fod?

Os ydyw'r boen ar dònau'r byd,
A'r gofid yn lled gas,
Mae'r Meistr yn eiriol yn y ne',
Fe gyrchir adre'r gwas:
Er bod fy llwybrau'n llawn o ddrain,
Ces f'arwain etto'n fyw:
Yn dawel am gysgodau'r nos
Rhaid aros: wythnos yw.

Wrth ddechreu wythnos einioes fer,
Aeth llawer ar ddydd Llun
I lawr i orwedd yn y bedd,
I'w hannedd oer eu hun:
Dydd Mawrth aeth ambell rosyn pêr,
A Mercher fwy na mwy;
Ond beth ym ni sy'n aros nes,
'Does ond eu hanes hwy.

Dydd Iau a Gwener wedi hyn,
I lawr y bryn yn brid;

Y gewyn nerthol sy'n gwanhau,
Fe gyll y gruddiau'r gwrid;
Ni cheir yn awr ond ambell ddant,
Fy ffyniant aeth i'r ffos;
Mae pyldra'r llygaid im' bob dydd
Yn arwydd am y Nos.

—CAWRDAF.


PLENTYN Y MORWR.
CYFEITHIAD.

Mam' pa le mae'n cartre ni,
Rhyw lanerch i orphwyso?
Gyda choedydd yma a thraw,
A blodau i'w haddurno.

Paham gadawai 'nhad ni'n dau,
Mor hir fel hyn'—mor unig?
Nid ym yn cael ymgom na dim,
I'n lloni—mae'n beth chwithig!

A wŷr o ddim p'le'r ydym ni,
Ai'n ofer chwilia am danom;
Neu yw ef heb ofalu dim
Am ddyfod eto atom?

Fy mhlentyn,—caethwas i'w dy dad,
Gorthrymwyr a'i dyg ymaith;
Och felldith! ust' dystewi a wnaf,
Ni feiaf ddofn Ragluniaeth!


Y brenin' gwr na welsom ni,
Rhag gelyn wnâi arswydo;
A miloedd aeth i ryfel poeth,
A miloedd raid fyn'd eto.

Un noswaith' cyn dy eni di,
Pan oeddym yn mynd adre',
Dy dad a gipient ar y ffordd,
Ac aent i'r môr i rywle.

Gweddïais—ond peth ffol dros ben
Oedd i'm ar frenin erfyn,
Oblegyd gair y brenin oedd
Dros wneud y weithred wrthun!

Ni welais byth' fy mhlentyn bach,
Dy dad' er imi ddysgwyl;
Ni wenodd neb ond Duw a thi,
Byth arnaf yn fy helbul.

Ni welwn gartref byth' byth mwy!!
Mae f'enaid yn ffieiddio
Mawr rwysg breninoedd' balchder dyn,
O achos hyn mae brwydro.

—CALEDFRYN.


CAN YR YMYFWR.

Henffych well' fy ngwydraid siriol!
Genyf fi yn ddiammheuol
Nid oes dim sydd mor ddewisol;
Atat oddiwrth pobpeth äf:
Er y gwn i am dy ddrygau,
Er cael prawf mai twyll yw'th wênau,
Eto wrthyt bob amserau,
O fy ngwydraid' glynu wnâf.

Beth? ymrwymo i beidio yfed
Fy hoff wlybwr sydd felused!
Na! Nid yw fy mhen càn waned!
Dirwest' aed i rywle ymhell:
Gwell yw genyf bob gresyndod
Gwendid corff' ac ing cydwybod,
Nag ymattal rhag y ddiod:
O fy ngwydraid' henffych well!

Am y tipyn blâs a brofaf,
Ymadawn a'm swllt diweddaf;
Boed a fyddo' mi ymyfaf;
O ddioden! Swyn yw hi!
Er i'm gwraig fod heb gysuron;
Yfed wnaf bob nos yn gyson;
Ac er iddi dori ei chalon,
At fy ngwydraid daliaf fi,

Boed fy nheulu yn druenus,
Boed fy enw yn anmharchus,

Mynu wnaf fy niod flasus,—
Beiant hwy—mi yfaf fi:
Och! a fyddaf fi golledig?
Ah! nid oes dim help, mae'n debyg;
Wrth fy chwant wyf yn glymedig:
Wydraid, henffych well i ti!

Parch. ROGER EDWARDS.


MYFYRDOD AR LAN AFON.

Ar nawn awelog yn y dyffryn glwys
Bu imi eistedd newn myfyrdod dwys;
Yn mysg y coed ar lan afonig hardd;
Y cyfryw dawel lê adfywia fardd:
Redegog ddŵr wyt athraw da i mi,
Caf addysg gan dy hardd dryloyw li;
Ymdreigli'n araf dros y werddlas ddôl,
Ac ynfyd yw a gais dy droi yn ôl:
Mân bysg chwareuant yn yr elfen dêr,
A'u nofiad chwai wrth gywrain ddeddfau NER.

O! afon deg' dy gylchau sy ddi rif
Tröedig yw dy lwybrau, ddysglaer lif!
Er hyn anneli'n wastad at y môr,
Deddf eto yw hyn o drefniad doeth yr Iôr.
Dy lif ymdaena'n hardd a thêg ei wawr
Ni flina byth, ni saif un munud awr,
' Rwy'n teimlo grâdd o brudd-der' er yn iâch,
Wrth wel'd dy ddiwyd hynt, afonig fach,
Myfyrio'r wyf am amser, fel y rhêd,
Heb orphwys enyd, mwy na'r llif ar lêd:
Tarawiad amrant ei fyrhâu a wnâ
A f'einioes wywa fel blodeuyn ha';
Meirch ydynt fuain, buan yw y gwynt
Ond wele einioes dyn eheda'n gynt!
O'r bru i'r bedd, mynedfa fer iawn sydd,
Y nos a ddaw, bron gyda gwawriad dydd;
Yn y Fynedfa hon, gwrthrychau fil
Enillant serch a bryd y ddynol hil,
A thra yn syllu arnynt y mae dyn
Picellau angau ynddo sydd ynghlŷn.

—EBEN FARDD.


FY ANWYL FACHGEN MWYN.

NEU ANSICRWYDD TYNGED MERCH.

Y rhai garasant foreu'r oes,
Anfynych cânt gyd fyw;
Gobeithion a ffurfiasom gynt,
Aeth gyda'r gwynt yn wyw;
Gan amser fe'n rheolir oll,
Llawn coll yw bywyd Gwen;
A siawns daw'r ddegfed ran neu rith
O'i dewis byth i ben.

Na feier anwadalwch merch,
Mae pangau serch ' n anhawdd eu dwyn:
Bu'st oer,—ond cofiaf byth dy wen,
Fy anwyl Fachgen Mwyn.

Mi garais fachgen serchog mwyn,
Tra'n forwyn ieuangc iach;
Ac adgof am ei gwmni llon,
Sy'n boen i'm calon bach;
O! fàl y cyd—chwaraem yn rhydd,
Ddiniwaid ddedwydd ddau;
Ond gwadais gwmni'm cyfaill gwiw,
Trwy ryw wallgofrwydd gau.
Na feier anwadalwch merch, &c.

Daeth wed'yn i'm cofleidio, lanc
Llon , ieuangc, llawn o nwy';
Yr hwn a'm llithiodd dan y llwyn,
Ac nid wyf forwyn mwy;
Bu raid ymrwymo gydag e',
Rhag dwyn i'r goleu'r gwall;
Rwy'n wraig i un, waith boddio bâr,!
Fy nhalon gâr y llall.!!
Na feiwch anwadalwch merch, &c.

Mae maban bach im' ar fy nglin,
Yn dechreu d'wedyd "Dad;"

A llygaid byw ei dad i'w ben,
Ei wallt sidanaidd ad—
Lewyrchu'n lwys, fel euraidd wê,
Yn nechreu'i oes ddinam;
A charu 'rwyf fy rhosyn pêr
A mawrder cariad mam .
Na feier anwadalweh merch, &c.

Ond pan — 'gan wenu,' ar fy nglin,
Y cwsg fy mhlentyn cu ;
Aitf serch o ganu "Heili Iwl"
I feddwl am a fu;!
Darlunia wawl yr Aurora—
Bor'alis, ar dy rudd,
Yn chwareu ar gyhurau hon,
Deimladau 'th galon gudd.
Na feier anwadalwch merch, &c

Fy Naf, a ŵyros hyn a fu,
Ordeiniwyd felly i fod;
Rhaid celu'r hynt,—ond dyma'r modd
'R annelodd angau'i nôd.
Deffroes fy maban hoff;—Ffarwel
Bydd wych fy llengcyn llon,
'Does dim ond priddell dèn a dýr
Y frwydyr yn y fron.

Na feier anwadalwch merch,
Mae pangau serch'n anhawdd eu dwyn;
Bu'st oer,—Ond cofiaf byth dy wen,
Fy anwyl Fachgen Mwyn.
—GWILYM COWLYD.


CAN DOLI

DEWI:—
A welaist, a 'dwaenaist ti Doli,
Sy' a'i defaid ar ochr Eryri?
Ei llygad byw llon
Wnaeth friw ar fy mron,
Melusach na'r diliau yw Doli.

HYWEL:—
O do, mi adwaenwn i Doli,—
Mae'i bwthyn wrth droed yr Eryri;
'D oes tafod na dawn
All adrodd yn iawn
Mor hawddgar a dengar yw Doli.

Un dyner, un dawel yw Doli,—
Mae'n harddach—mae'n lanach na'r lili;
'Does enw îs nen
A swnia'n ddisen
Mor ber gyda'r delyn a Doli.

DEWI:—
Ow! ow! nid yw'n dyner wrth Dewi,—
'Does meinir yn delio fel Doli,
Er ymbil â hi
A'm llygad yn lli,
Parhau yn gildynus mae Doli.

Ymdrechais wneyd popeth i'w boddio,
Mi gesglais ei geifr idd eu godro,
Dan obaith yn llwyr
Y cawn yn yr hwyr
Gusanu yn dalu gan Doli.

Mae'i mynwes mor wynned a'r eira,—
Mae'i chalon mor oered mi wiria';
Ar f' elor ar fyr
Fy nghariad a'n ngyr—
O oered a deled yw Doli!

Tri pheth a dim mwy wy'n ddymuno,—
Pob bendith i Doli lle delo,—
Cael gweled ei gwedd
Nes myned i'm medd,—
A marw yn nwylo fy Noli.

—ALUN


Y MILWR IEUANGC IDD EI GARIAD.

Anwylyd dere i'r glas lwyn,—fy nghariad wiw,
Rhodiwn hyd y llwybrau mwyn,—fy nghariad wiw,
Lle mae'r rhosyn coch mor gu
Yn gwyllt darddu ar bob tu,
Y'mhell o dref ai phrysur lu,—fy nghariad wiw,

Ni awn heibio'r bwthyn gwyn,—fy nghariad wiw,
Sydd yn gwenu'n ngodreu'r llyn,—fy nghariad wiw,
Lle cawn wrandaw rhuad certh
Y pistyll dros y mynydd serth,
A chynghanedd fwyn y berth,—fy nghariad wiw.

Ac i'r deildy ir yr awn,—fy nghariad wiw,
Lle cawn adrodd calon lawn,—fy nghariad wiw,
Ceincia'r adar fry'n ddigwyn,
Oedfa gawn o gwmni mwyn,
Plethwn goron blodau'r llwyn,— fy nghariad wiw.

Ond ffarwelio raid, oer friw,—fy nghariad wiw,
Gadael dy gwmniaeth wiw,—fy nghariad wiw,
Canu'n iach â glanau'r llyn,
Y ddol, a'r bwth, a godreu'r bryn,
Lle y crwydrem ni cyn hyn,—fy nghariad wiw,

Tynged arw sydd i'm bron,—fy nghariad wiw,
Hollti, braidd' mae'm calon hon!—fy nghariad wiw,
Cyn i'r weddus wawr ddeffroi
Yfory' rhaid im' ffarwel roi,
Ac o'm cartref anwyl droi,—fy nghariad wiw,

Pan rwy'n mhell mewn estron wlad,——fy nghariad wiw
Ac os cwympaf yn y gâd,—fy nghariad wiw,
Wnei di, Gwen, anwylgu fwyn,
Wylo deigryn er fy mwyn,
Ac er cof gyfodi cwyn,—fy nghariad wiw.

—GWENFFRWD.


HIRAETH Y BARDD AM EI HEN WLAD.

Er cael pleserau yn ngwlad y Sais,
A gweld ei ddyfais wiwber,
Mae gwlad yr awen, geinwen gell,
Er hyny'n well o'r haner;
Ei hawel iach, a'i melus ddw'r,
A chyflwr ei thrigolion.—
Wrth gofio'i Beirdd rhyw hiraeth draidd
Drwy giliau'r wanaidd galon.

Braidd na dd'wedwn yn ddi wad
Mai nefol wlad yw Cymru;
O, na b'ai’nhraed yn sengu ar hon,
Ar finion ceinion Conwy.

Ac O, mor gynar yn ein gŵydd,
Ar bren frig. bydd y bronfraith,
A'i nodau 'n glir, newidiog lef,
Yn moli'r nef mewn afiaeth;
A'r enwog fwyalch, gyda'r dydd,
Ar gan a rydd ogoniant,
Ar frigyn pren, dan glogwyn serth,
Caeadnerth uwch y goednant.

Braidd, &c.

Mae'r Sais yn dangos im' bob dydd,
Mewn gwir, ei rydd hawddgarwch;
A'r nos caf ganddo wely clyd,
A digon byd o degwch;
Ond pan fo’m corph yn ' huno'n ber,
Ar wely tyner madblu,
Fe gwyd fy yspryd, ac fe 'hed
I'mweled a thir Cymru.

Ac wedi deffro gyda'r dydd,
Mor bruddaidd fydd y galon
Nid daear Cymru fydd fy lle,
Ond canol tre' Manceinion;
Cyn codi'r haul o'r dwyrain draw,
Yr yspryd ddaw i'w lety,
I brudd fyfyrio fel y bu
Yn nghanol teulu Cymru.

Braidd, &c.


Yn nyffryn Conwy mae fy nhad
Yn nghanol mad gyfeillion,
Ac yno bydd nes geilw Duw,
Ar alwad, wyw farwolion:—
Cael benthyg bedd wrth ystlys hwn
A wir ddymunwn inau,
I orphwys nes daw'r meirw'n ol
O garchar ingol angau.

Braidd &c

Llansantffraid JOHN JONES.


"MAE NHAD WRTH Y LLYW."

Draw, draw ar y cefnfor, ar noson ddu oer,
'Roedd cwch bach yn hwylio heb seren na lloer;
A rhuad y tonnau, a'r gwyntoedd, a'r gwlaw,
A lanwai fynwesau y morwyr o fraw.

Ond bachgen y cadben, yn llawen a llon,
A dd'wedai dan wenu, heb ddychryn i'w fron,—
"Er gwaethaf y tonnau awn adref yn fyw:
Pa raid inni ofni?—Mae Nhad wrth y Llyw.

O blentyn y nefoedd! Paham mae dy fron
Mor ofnus wrth weled gwyllt ymchwydd y don?
Mae'r dyfnder du tywyll yn rhuo, gwir yw;
Ond diogel yw'th fywyd—Mae'th Dad wrth y Llyw.

Daw'n fuan orfoledd diddiwedd i'th ran;
Draw'n disgwyl mae'th geraint oddeutu y lan:
Y disclaer lys acw, dy hoff gartref yw;
Mae Canaan yn ymyl, a'th Dad wrth y Llyw.

Cwyd bellach dy hwyliau, mae'r awel o'th du,
'Rwyt bron mynd i fynwes dy fwyn Brynwr cu;
Mae'th angor yn ddiogel, a'th Gadben yn fyw,
Mae'th gwch yn y porthladd, a'th Dad wrth y Llyw.

—Parch S ROBERTS


CAN HEN WR Y CWM.

Wel dyma ŵr ai dy ym mhell,
O mae hi'n oer.
Yn wan a gwael mewn unig gell,
O mae hi'n oer.
Mewnbwthyn oer, pa beth a wnaf,
Hen wr trallodus, clwyfus, claf,
Ar wely gwellt galaru gaf,
O mae hi'n oer.
O dan fy nghlwy yn dwyn fynglais,
Yn glaf a llesg pwy glyw fy llais;
Prudd yw fy nghwyn! pwy rydd fy nghais
O mae hi'n oer!

O sylw'r byd mewn salw barth,
O mae hi'n oer.
Mewn gwlith o hyd mewn gwlaw a tharth,
O mae hi'n oer.
Ar fynydd oer mae f' anedd wael,
Y'nghyrau llwm rhyw gwm i'w gael,
Ac oeraf wynt yn curo f ael,
O mae hi'n oer.
Byw weithiau'n llaith mewn bwthyn llwm
Yn wir y ceir Hen Ŵr y Cwm;
Mae heno'n troi yn rhew-wynt trwm,
O mae hi'noer!

Mae'r gwyntyn'uwch! mae lluwch ger llaw,
O mae hi'n oer.

Er gwaeled wyf' i'r gwely daw,
O mae hi'n oer.
Mae'n arw fod mewn oeraf fan
Rhyw unig wr mor hen a gwan,
Yn welw ei rudd' yn wael ei ran,
O mae hi'n oer.
O na chai hen greadur gwan
Cyn llechu'n llwyr yn llwch у llan
I'w einioes fer rhyw gynes fan;
O mae hi'n oer!

Mewn eira ceir hen Wr y Cwm,
O mae hi'n oer.
Mewn gwynt a lluwch ac yntau'n llwm
O mae hi'n oer.
Er gweled llawnder llawer llu,
Rhag gofid oer y gauaf dû
Ni feddaf lloches gynes gu,
O mae hi'n oer.
O boenau dwys ar ben y daith;
Mewn eisiau'n fud am noson faith
Ar wely llwm mor wael a llaith,
O mae hi'n oer!

Mewn eisiau tost—mewn eisiau tân,
O mae hi'n oer.
Heb wlanen glyd' heb lîn na gwlan;
O mae hi'n oer.
Ar waela'i ran o ddynolryw,
Ar fin y bedd r'wyf fi yn byw,

Yn hen a gwael, yn wan a gwyw,
O mae hi'n oer.
Un mynyd awr i mi nid oes,
Ond chwerw lid a chur a loes;
Ni charaf fyw yn chwerw f' oes,
O mae hi'n oer!

Ni fynwn fyw o fan i fan,
O mae hin'n oer,
Yn llusgo corff mor llesg a gwan,
O mae hi'n oer.
Ar hyd y nos mae'n rhaid yn awr
I'r awel lem fy nghuro i lawr,
Dan boenau dwys bob enyd awr,
O mae hi'n oer.
Er chwennych bod mewn hynod hedd,
Claf yw fy nghorff' cul yw fy ngwedd;
Rwy'n wers i bawb yn nrws y bedd,
O mae hi'n oer!

Mewn blinaf wynt heb lo neu fawn,
O mae hi'n oer.
Heb dân na gwres' heb ŷd na grawn;
O mae hi'n oer.
Pwy ddaw a'i rodd? pwy ddyry ran
O'i ddoniau'n gu i ddynyn gwan,
Nafynaifyn'dofanifan?
O mae hi'n oer.
Ni flina'i neb fel hyn yn hir,
Mae'r bedd ger llaw mewn dystaw dir,

Mae yno'n well nag yma'n wir,
O mae hi'n oer!

Mae cannoedd yn eu lleoedd llawn
Ar noson oer.
Yn llon eu nwyf, yn llawen iawn
Ar noson oer.
Yn glaf a llwm, pwy glyw fy llef?
Ai'r bryniau'n awr? Na' Brenin nef;
Mawr ydyw grym ymwared gref
Ar noson oer.
Gwel Duw fy ngham, clyw Duw fy nghwyn,
Rhyw un a ddaw er hyn i ddwyn,
Elusen fâch, a'i lais yn fwyn,
Ar noson oer.

GWERYDDON.


MI'TH WELAIS YN WYLO.

Mi'th welais yn wylo; a'r deigryn tryloew
Yn araf ymdreiglaw o'th wâr lygad hoew;
A thybied yr oeddwn ei fod yn ymddangos
Fel lili y bore yn dafnu mân wlithnos.

Mi'th welais yn gwenu; a'r gemau teleidion
A welid yn gwelwi o flaen dy belydron:
Mi'th glywais yn siarad; ac àr fy nghlust disgyn
A wnelai dy eiriau fel gwlith àr y rhosyn.

Mi brofais dy gusan; a chynted a'i profais,
Holl fwyniant y ddaear àr unwaith anghofiais:
Mi'th welais wrth allor y llan' ac yn ffyddlawn
Dy law yn rhoi imi;—a'm gwynfyd oedd gyflawn.

D. S. EVANS.


Y BWTHYN MYNYDDIG.

Mynyddau bán ysgythrog sydd
Yn gaerog dorch o gylch fy llanerch,
Lle mae murmurog ffrydlif rydd
Ac adsain megis yn ymannerch.

Yr harddfrith goron uwch y pen,
Yw eira, rhew, a thrwyth cymmylau;
A bolwyn niwl, yn hwyrol len,
Yw gwlanog addurn eu hymylau.

Pan guddia nos y faenol werdd,
A theg lusernau'r nef yn wychion,
Gordroellog gurwynt chwyrn wna gerdd
Yn nghrombil holltau'r creigiau crychion.

Tabwrdd ystorm yw muriau'r ty,
Tra duon aeliau'r hwyr yn cuchio;
Chwim folltau mellt a chenllysg lu,
O'r uchelderau sy'n ymluchio.

Ymrwyga'r nen, ymsigla'r llawr,
A'r lloer mewn caddug yn ymdduo;
Ymhyrdda crôch daranau'n fawr,
A thwrf y corwynt yn ymruo.

Er hyn wrth dân o fawn heb sèn,
Y tylwyth sydd yn ymddiddanu;
Fy mam a'i throell,—gwna'm tad lwy bren,
Tra'm chwaer yn gwau a minau'n canu.

O! dyma grwydryn ar ei daith,
Ac angen arno ei achlesu;
Rhoi iddo fwyd sy hyfryd waith,
Yn nghyd a gwely i'w gynhesu.

A chyda'r wawr daw'r heulwen iach,
A dorau'r dwyrain yn agori:
Caf arwain fy niadell fach
Gerllaw'r grisialaidd ddwr i bori.


Y rheiadr ar ei gwymp a chwardd,
A sibrwd gân wrth ymddylifo;
A natur yn ei lifrai hardd,
Arddengys dlysau uwch eu rhifo.

I blentyn gloddest, swrth a gwan,
Y drem fawreddog sy' ry arw;
Ond rhwng y creigiau,—dyna'r fan,
Y carai Cymro fyw a marw.

ROBIN DDU.


MAM BETH YW HWNA?

Mam, beth yw hwna?
Yr hedydd, fy mhlentyn;
Prin yr agorodd y wawr ei hamrentyn,
Pan gyffry o'i welltog nyth fach gron,
I fyny â ymaith a'r gwlith ar ei fron,
A chân yn ei galon, i'r wybren fry,
I'w seinio yn nghlustiau ei Grewr cu:
Boed fyth, fy mhlentyn, dy foreu gân,
Fel eiddo yr hedydd i'th Grewr glân.

Mam, beth yw hwna?
Y g'lomen, fy maban;
A'i llais gwan, melus, fel gweddw yn griddfan,
A lifa o'i mynwes dirion, byth
Yn ffyddlon a plur wrth ei hunig nyth;
Fel o wrn risialaidd y ffrydia'r dôn,
Am ei hanwyl gymhar y dysgwyl hon:
Byth fel y g'lomen, fy mab, bydd di,
Mor ffyddlon a chywir fel cyfaill cu.

Mam, beth yw hwna?
Yr eryr, fy machgen,
Yn chwareu'n falch yn ei nwyfre lawen;
Yn ngrym ei briod fynyddoedd hydera,
Gwyneba'r ystorm, a'r daran-follt heria;
Ar yr haul ei drem, ar y gwynt ei edyn,

Yn ei flaen â'n syth, ac ni chilia flewyn:
Gad byth, fel yr eryr, fy machgen, fod
Dy hediad fry, yn syth at y nod.

Mam, beth yw hwna?
Yr alarch, fy nghariad,
O'i allt gynhenid i lawr mae ei nofiad;
Heb nythle'n agos, na char iddo 'nawr,
I farw'n unigaidd y nofia i lawr;
Ei lygaid a geuir, a threnga'n lân,
Ond ei olaf yw ei felusaf gân:
Bydd fyw fel y gelli, fy nghariad llon,
Bêr ganu wrth adael y fuchedd hon.[2]

PARCH. D. L. PUGHE.


TERFYN DIWRNOD HAF

Here, scatter'd wild, the lily of the vale
Its balmy essence breathes; here cowslips hangs
The dewy head, and purple violets lurk
With all the lowly children of the shade.
THOMPSON.[3]

Mor hyfryd ydyw rhoddi tro
Ar derfyn d'wrnod ha,
Hyd feusydd têg ryw wledig fro,
Lle nad oes haint na phla.

Ar fin y ffordd mae'r blod,yn bach
A elwir "llygad dydd,"
Yn gwylaidd ofyn, Ydych iach?
A deigr ar ei rudd.

A'r dlôs friallen, hithau sy
Yn cyfarch yn ei hiaith,
Gan ddw,eyd " I'm ffiniau dewch yn hy,
Eich lloni yw fy ngwaith."

Iach lysiau'r maes mygdarthu maent,
Yr hwyrol awel bêr

Ac arlun hardd o gymysg haent
Yw natur gan law Ner.

Yn cathlu mae y durtur fwyn
Ar frig y deliiog bren;
A chân y fronfraith yn y llwyn
Sy'n adsain is y nen.

Yn esgyn mae yr hedydd brith
Uwch ben y ddol-waen werdd;
Gan foli 'i Grewr heb dwyll na rhith,
Mewn mwynaidd gyson gerdd.

Ac mal y gref a'r gyflym saeth,
A'r wenol heibio'n hy,
Gan herio dyn i'w gwneud yn gaeth
Yn lle y Negro du.

Yr ednod mân sy'w gwel'd yn gwau
Yn lluoedd uwch y llawr;
Bob un yn brysur wrth fwynhau
Ei bleser "enyd awr."

Myn'd heibio mae'r wenynen gall
I'w chwch yn llawn o sel,
Gan ddifyr sïo yn ddiball
Wrth gludo 'i stor o fêl.

Draw ar y werddlas ddôl mae'r ŵyn
Yn ymddifyru'n llon,
Gan brancio gylch eu mamau mwyn,
Heb bryder is y fron.

Gwel ogoneddus deyrn y dydd
A'i harddwych ruddgoch wedd,
Wrth fachlud yn pregethu— Ffydd—
O'i freiniawl ddysglair sedd.

Mae pobpeth yn arddangos Duw
Fel gweithydd doeth a da;
Fy enaid gwel a chanmol Dduw
Ar derfyn d'wrnod Ha'

G. GWENFFRWD.


YMDDYDDAN RHWNNG BARDD A HEN WR.

BARDD.
Hen, ŵr hen ŵr, mae'th wallt yn wyn,
Ac oer yw'r awel hon,
Paham y crwydri wlad mor bell,
Oddiwrth d' aneddle lon?

HEN WR.
Mae'r gwynt yn oer, a minau'n hên,
I deithio, blwy, i blwy',
Ond er myn'd dros y byd ni chaf
Aneddle gynhes mwy!
Aneddle gynhes mwy
Ond er myn,d dros y byd ni chaf
Aneddle gynhes mwy!

BARDD.
Mae genyt blant, hen ŵr, ond d'wed
Paham na welaf un,
Yn cynorthwyo tad mor lesg
I ddringo'r creigiau blin!

HEN WR.
Mewn ardal dawel mae fy mhlant,
Ni theimlant loes na chlwy,;
Mewn mynwent maent, ac O! na chawn
Aneddle gyda hwy,
Aneddle gyda hwy,
Mewn mynwent maent, ac O! na chawn
Aneddle gyda hwy.


BARDD
Ond er i angeu fyn,d â rhai
O'th anwyl dyner gôl,
Mae eto weddill bach yn fyw
I wylo ar dy ol.

HEN WR.
Nac oes, mi welais fwrw'r pridd,
A'u cuddio oll mewn bedd,
Darllenais enw hoff pob un
Ar ben ei gareg fedd,
Ar ben ei gareg fedd,
Darllenais enw hoff pob un
Ar ben ei gareg fedd.

BARDD.
Wel dos, hên wr, ac hefyd cais
Dy hen gyfeillion cu,
Rho'nt gysur i dy galon drom,
A'th alar trwm a ffŷ.

HEN WR.
Mewn ardal bell bum ar eu hôl,
'Doedd nemawr iawn i'w cael,
A chalon rhei'ny gefais oedd
Mor oer a'r marw gwael,
Mor oer a'r marw gwael,
A chalon rhei'ny gefais oedd
Mor oer a'r marw gwael.

BARDD.
Yr hên wr syrthiodd gyda'r gair
Yn welwlas ei weydd,

Ac mewn cymylau machlud wnaeth
Goleuni mawr y dydd;
Tranoeth yn ddysglaer ac yn dwym
Cododd yr hauli'r lan,
Ond am yr hen bererin prudd,
Ni chododd byth o'r fan,
Ni chododd byth o'r fan,
Ond am yr hen bererin prudd,
Ni chododd byth o'r fan.

MR. D. CHARLES.


Y LILI.

Blentyn bychan, edrych di
Ar y lili;
Gwylaiddblygu pen mae hi,
Dyner lili;
Gwelodd lesu hon yn wèn,
Ger ei fron yn gwyro'i phen;
Ac fe ddysgodd wers o'r nen,
Drwy y lili;
Blentyn bychan, drwy dy oes,
Dysga dithau wylaidd foes,
Gan y lili.

Blentyn bychan, gwêl y gwlith
Ar y lili;
Perlio mae rhwng blodau brith,
Brydferth lili;
Mae pob gwlithyn yna sy,

O dan lewyrch heulwen fry,
Yn ymffurfio , n goron gu,
Ar y lili;
Blentyn bychan, boed heb rith
Dy foesau da, fel dysglaer wlith
Ar y lili.

Arogl pêr a hyfryd iawn
Ddyry 'r lili,
Yn y maes àr hafaidd nawn,
Serchog lili;
Cyn ei gwel,d dàn gysgod clyd,
Lle blodeua , n dêg ei phryd,
Arogl mwyn a dd'wed o hyd
Lle mae'r lili;
Blentyn bychan, y mae swyn
Mewn enw da, fel arogl mwyn
Gan y lili.

Blentyn bychan, yn y llyn
Gwêl y lili;
Yno tŷf fel rhosyn gwyn,
Brydferth lili;
Pan y cesglir hon o'r lli,,
Chwala 'r dŵr o'i monwes hi,
Fel rhyw berlau cain eu bri,
Perlau'r lili;
Blentyn bychan, gwyn dy liw,
Gâd o'th ôl rinweddau gwiw,
Fel y lili.

—IORWERTH GLAN ALED


CANTRE'R GWAELOD

Y wawr oedd dêg, a gwên yr haul
Yn araul ar y bryndir,
A'r defaid, gyda'r wyn di-rol,
Yn lloni dol a llwyn-dir.

Golygai'r amaeth egin chweg
Ei dyddyn teg a ffrwythlon;
A'r plant yn chwareu'u campau cu,
Neu'n casglu rhôs a meillion,

A llawer lodes deg ei gwawr
A rodiai'r glwyswawr lwybrau;
Gan wrando cainc yr adar cu,
Fal engyl fry ar gangau.

Nis gwyddent fawr fod barn yn d'od
Ar feddwdod y trigolion,
A thawai tôn pob melus dant,
Ar fyr drwy'r Gantref hylon.

Ac wele'r noson twrdd a ddaeth,
I dori'r afiaeth hwyrfryd;
Mal camrau milwyr fyrdd i'r gâd,
Neu ruad taran dromfryd.

"Ust clywch!" medd un o'r ddawns mewn braw
"Pa grochru draw sy'n canlyn"
Ond megis cyn y dylif gynt,
Dylynant lais y delyn.

Y rhai mewn cwsg, deffroant hwy,
Gan godi drwy eu harswyd:
Atebai'r gwynt a'r môr eu llef,—
Eich argae gref a ddrylliwyd!

Oer ddychryn gwrm a ddelwai,u gwedd,
Mal cyrff o fedd edrychent!
Y gwyr a'r gwragedd ffoent y'nghyd,
A'r plant o'r cryd hwy godent.


A rhuthrai'r môr o'u deutu'n rhoch
Gwnai'r glenydd croch ddofn adsain
Pob tòn, fal llew a gorwyllt guwch,
Yn glynu uwch y gelain.

Fe wylltiai'r llu yn llwm eu hynt,
Y gawrwynt a'u gwatwarai;
A gwaeddai'r gwych a llefai'r gwan,
"Fe'n boddir dan y tonau."

Ac yno'r oedd y famaeth wan
A'i baban ar ei dwyfron;
Ond ni fedd nerth na man i ffoi,
Och! rhaid ymroi i'r eigion!

Na! nis gall neb waredu'n awr
Y dorf o'u dirfawr helynt;
Na dim ond gair yr Iôr droi'n ol
Y môr a'i nerthol wrthwynt.

Y farn ofnadwy arnynt ddaeth
Mae'u hafiaeth wedi dirwyn;
Trugaredd rad na gobaith gaid
I'r diriaid ar oer derfyn.

Y boreu ddaeth fel cynt yn deg,
Glwys adeg lawer oesau;
Ond Cantre'r Gwaelod, gynt mor dlusy
Y môr sydd dros ei muriau!

Ei gerddi per i'r pysg sydd bau,
A'r llongau hael yn hwylio;
Ond morwr sar heb wybod sydd
Fod llys a threfydd dano.

O boed in , gofio mai'r un Duw
Sy'n awr yn llywio'r gwledydd,
Addolwn ef,—casawn y drwg,
Nis gyr un gwg i'n gorfydd.

GWENFFRWD


I GYMRU.

Hyfrydawl ydyw caffael drych
Ar faesydd gwyrddion teg,
A gerddi ffrwythlawn Lloegr wych
A'u haddurniadau chweg:
Hyfrytach fil im, golwg i,
O Gymru, yw'th wylltineb di.

A thra hyfrydlon hefyd yw,
Ar fy morëawl hynt,
Gael peraroglau blodau gwiw
Yn nofiaw yn y gwynt;
Ond mil hyfrytach yw gan i,
Un awel o'th fynyddgrug di.

Hyfrydawl ydyw gweled gwaith
Effaith Celfyddyd gain,—
A rhyfedd adeiladau braith
Eirian maith aur a main;
Hyfrytach, Gymru, fil i mi
Dy greigiau llymion noethion di.

A hyfryd gwel,d afonydd maith,
Mal moroedd bychain bron;
A'r llongau gwychion ar eu taith,
Gan ddawnsio ar y don;
Hyfrytach, Gymru, fil i mi
Yw tyrddiad cryg dy ffrydiau di.


A hyfryd yw y ddinas lawn,
A phrysur wib ei llu,
A llon gymysgfa dysg a dawa
A'u bywiol siriol ru:
Hyfrytach, Gymru, fil i mi
Tawelwch dy bentrefi di.

Mi ddringaf draw i ben y bryn
I edrych tua'm gwlad,
Ond gwawd dyeithriaid gaf am hyn
Eu dirmyg a sarhad;
Ni wyddant hwy pa faint i mi
Sydd, Gymru, plith dy fryniau di.

—GLAN ALUN.


Y MOR COCH.

Chwythwch yr udgyrn ar gopa Baalsephon,
Gorchfygodd Iehofah! daeth rhyddid i'r caethion.
Cenwch—ucheldrem y gelyn a dorwyd;
Carlamau'r gwyr meirch yn y tywod arafwyd.
Mor wag oedd eu bost! ni wnaeth Duw ond llefaru,
Dyna fyrdd yn y dòn yn gwingo ac yn trengu!
Cenwch yr udgyrn ar glogwyn Baalsephon,
Marchogodd Tehofah ar wàr ei elynion,
Mawl, mawl i'r Gorchfygydd! Hosana i'r Ior!
Yr ormes a gladdwyd yn meddrod y mor;
Ei air oedd y saeth a ennillodd yr orchest,
Anadl ei ffroenau oedd cleddyf y gonewest.
Pwy ddychwel a'r newydd i'r Aipht am y nifer
A yrodd hi allan yn niwrnod ei balchder?
Edrychodd yr Arglwydd o le ei ogoniant,
A'i miloedd yn nhrochion y llif a suddasant:
Chwythwch yr udgyrn ar aelgerth Baalsephon
Mae Israel yn rhydd! a Pharao yn yr eigion!

—ALUN.


Y DDAU BLENTYN AMDDIFAD.

Fy ngherbyd safai, ar fy nhaith,
Unwaith wrth westty bychan,
Pan oedd gwên oleu'r heulwen glaer
Yn euro caer y dreflan.

Wrth weled pawb o'm cylch â'u bryd
Ar dawel gyd-noswylio,
Aethum i gladdfa oedd gerllaw
I ddistaw ddwys fyfyrio.

Dan briddell las, y tlawd yn llon
Ro'i hun i'w fron glwyfedig;
Ond meini cerf o farmor trwch
A guddient lwch pendefig.

Wrth fedd, dan gysgod ywen grin,
Dau blentyn oedd yn wylo,
Mewn ing a hiraeth ar y pridd,
Lle'r oedd eu mam yn huno.

Er fod y ddau mewn newyn mawr,
Ar lawr 'roedd darn o fara;
Edrychent arno weithiau'n syn,
Er hyn ni wnaent ei fwyta.

"Fy anwyl blant! gwnewch ddweyd i mi
Pam 'rych chwi mewn cyfyngder,
Ac yn gwastraffu'r bwyd eich dau,
A chwithau mewn fath brinder?"

Atebai'r bach, mewn gwylaidd dôn,
A'i heilltion ddagrau'n llifo,—
"Yn wir yr ym mewn eisiau llym,
Heb ddim i'w ofer-dreulio.

"Troi'n eneth ddrwg mae Mair fy chwaer,
 'Rwy'n daer am iddi fwyta;
Ni chafodd damaid heddyw'n wir,
A dir, hi bia'r bara."


Nis bwytâf mwy," atebai hi,
"Nes bwyto Henri dipyn;
Mi gefais i beth bara ddoe,
Ond echdoe cad ef fymryn."

Ar hyn fe deimlwn dan fy mron
Y galon lesg yn gwaedu;
Eisteddais rhyngddynt ar y bedd
I geisio'u hymgeleddu.

Yn dirion gwesgais ddwylaw'r ddau,
Oedd fel y clai gan oerder;
A'r bachgen llwydaidd ataf drodd,
I adrodd eu cyfyngder.

Ein tŷ oedd wrth y dderwen draw,
Gerllaw y dolydd gwyrddion,
Lle'r oeddym gynt yn chwareu o hyd
Yn hyfryd a chariadlon.

Un tro, pan oeddym oll yn llon,
Daeth dynion creulon heibio,
I fynd â'n tad i'r môr i ffwrdd;
Ni chawn mwy gwrdd mohono.

Ni wnaeth ein mam, byth ar ôl hyn,
Ond wylo'n syn a chwynfan,
Gan ddistaw ddweyd, yn brudd ei gwedd,
Yr â'r i'r bedd yn fuan.

Un hwyr, pan ar ei gwely'n wan,
A'i hegwan lais crynedig
Galwodd ni'n dau, mewn tyner fodd,
A d'wedodd yn garedig,—

'Fy anwyl blant! Na wylwch chwi,
Gwnewch dyner garu'ch gilydd:
Dichon daw'ch tad yn ol yn glau,
I'ch gwneyd eich dau yn ddedwydd.


'Ond os na ddychwel byth eich tad,
Cewch Dduw yn Geidwad tyner;
Mae Ef i bob amddifad tlawd
Yn Dad a Brawd bob amser.'

Yna, ar ol ymdrechu'n gu
I sychu'n dagrau chwerw,
Cusanodd ni, wrth droi'i phen draw,
Gan godi'i llaw a marw.

Ein hanwyl fam ni chawn byth mwy
I'n harwain trwy ofidiau;
Ac ofni'r ym, mewn dirfawr fraw,
Na ddaw ein tad byth adre',

Er wylo yma lawer dydd
Mewn hiraeth prudd am dano,
Ac edrych draw a welem neb
Yn dod—yn debyg iddo;

Er clywed fod y môr yn mhell,
Tybiem mai gwell oedd myned,—
Os gallem gyrraedd yno'n dau,
Y caem yn glau ei weled.

Dan wylo aethom, law yn llaw,
Trwy wynt a gwlaw a lludded,
Gan droi yn wylaidd i bob ty
I holi'r ffordd wrth fyned.

Gwnai rhai, dan wenu, ymaith droi,
Heb roi i ni ddim cymorth;
Och'neidiai'r lleill wrth wrando'n cwyn,
Gan roddi'n fwyn in ymborth.

Ond erbyn gweld y môr mawr draw,
Gwnaeth dirfawr fraw ein llenwi;
Ac ofni'r ydym fod ein tad
Anwylfad wedi boddi.


Ar fedd ein mam 'rym 'nawr o hyd,
Mewn ing a gofid chwerw,
A hiraeth dwys am fod ein dau,
Fel hithau, wedi marw.

A wyddoch chwi ddim p'le mae'n byw
Y Duw sy'n Dad amddifaid?
Pe gallem ni ryw fodd Ei gael,
Mae Ef yn hael wrth weiniaid.

Dywedodd mam mai yn y nef
Yr ydoedd Ef yn trigo:—
A d'wedodd llawer wrthym ni,
Heb os, ei bod hi yno.

 Ac os yw mam 'nawr yno'n byw,
Hi dd'wed wrth Dduw am danom;
A disgwyl 'r ym y llwydda hi
Cyn hir i'w yrru atom.

Gwnaeth hyn im' hoff gofleidio'r ddau,
A sychu'u gruddiau llwydion,
A dweyd,—Fel mam, gofalaf fi
I'ch ymgeleddu'n dirion.

Na wylwch mwy! Dewch gyda mi,
Rhof ichwi fwyd a dillad,
A dysg, a thŷ, a modd i fyw,
A chewch Dduw'n Dad a Cheidwad.

Efe yn fwyn a'm gyrrodd i
I ddweyd i chwi Ei 'wyllys:
A diwedd pawb a'i carant Ef,
Yw mynd i'r nef i orffwys.

—PARCH. S. ROBERTS.


CAN GWRAIG Y PYSGODWR.

Gorphwys dòn! dylifa'n llonydd,
Paid a digio wrth y creigydd;
Y mae anian yn noswylio,
Pa'm y byddi di yn effro?
Dwndwr daear sydd yn darfod,
Cysga dithau ar dy dywod.

Gorphwys for! mae ar dy lasdòn
Un yn dwyn serchiadau , nghalon;
Nid ei ran yw bywyd segur,
Ar dy lifiant mae ei lafur;
Bydd dda wrtho, for diddarfod,
Cysga'n dawel ar dy dywod.

Paid a grwgnach, bydd yn ddiddig,
Dyro ffrwyn yn mhen dy gesig;
A pha esgus i ti ffromi?
Nid oes gwynt yn mrig y llwyni:
Tyrd â bâd fy ngwr i'r diddos
Cyn cysgodion dwfn y ceunos.

Iawn i wraig yw teimlo pryder
Pan bo'i gwr ar gefn y dyfnder;
Ond os cyffry dig dy dònau,
Pwy a ddirnad ei theimladau?
O bydd dirion wrth fy mhriod,
Cysga'n dawel ar dy dywod,


Byddar ydwyt i fy ymbil,
For didostur! ddofn dy grombil:
Trof at Un a all dy farchog
Pan bo'th dònau yn gynddeiriog;
Cymmer Ef fy ngwr i'w gysgod,
A gwna di'n dawel ar dy dywod.

—Alun


ARWYRAIN MEIRION.

Fel 'roeddwn ar foreu'n myfyrio fy hun,
Mewn ardal bellenig mor unig a'r un;
Rhoes hiraeth i'm calon rhyw greulon oer gri,
Wrth gofio mor dirion oedd Meirion i mi.

Wrth edrych i'r caeau a bryniau pob bro
A gwel'd anifeiliaid a defaid yn dô
Er teced, er hardded, er amled eu rhi,
Nid unlle mor dirion a Meirion i mi.

Mae'r wlad lle rwy'n trigo yn ffrydio o bob ffrwyth,
Er hyn nid yw felly'n llonyddu fy llwyth;
Caf 'fonydd, rai dyfnion, a llyfinion eu lli,,
Ond nentydd a bronydd Meirionydd i mi.

Ond dyfroedd'r afonydd sy'n llonydd fel llyn,
Rhai afiach i'w hyfed mewn syched, mae'n syn:
Hoff anwyl ffynonau rai aml eu rhi',
Afonydd glân gloywon gwlad Meirion i mi.

'Rwy'n cael yn bur dirion drigolion y tir,
Cyfeillion daionus, awyddus yn wir.
Mae 'nheulu anwylion, cyfeillion mwyn cu,
Yn llawer mwy boddlon yn Meirion na mi.

Mae imi yn Meirion gyfoedion go fwyn
Rhai bu'm i'n cyd—chwareu yn llanciau 'mhob llwyn:
Wrth gofio'r holl bleser a'r mwynder gaem ni,
Hiraethu mae'm calon am Meirion i mi.


Heb loesau pa lesiant wna mwyniant un man
O gyrau'r greadigaeth, pe'n helaeth doe i'm rhan,
Neu gyfoeth pe'i cafwn, anrhydedd neu fri,
Nid hyny'm gwnai'n foddlon heb Meirion i mi.

Pe rhoddech mewn meusydd nofiedydd y dw'r,
A'i borthi a brasder y ddaear yn siwr,
Nid boddlon gan hwnw ond llanw a lli,;
Gan inau nid boddlon ond Meirion i mi.

Ar brydiau mi fydda'n rhyfedddu'n ddiwâd,
At deulu yn dawel yn gadael eu gwlad;
Dymunwn bob mwyniant— iach lwyddiant i chwi,
Dirwystrau yn ngwlad estron; ond Meirion i mi.

Pe cawn i mor dirion ryw foddion mor fâd,
A dyfais i'm danfon i'r union hen wlad;
Yn llawen boddlonwn, fe'm gwelwn mewn bri,
Cael aros ar fronydd Meirionydd i mi.

Os rhaid i mi rodio neu drigo o dref,
'N hir eto hiraethaf, bydd hyllaf fy llef;
Gobeithio pan ddelo fy ngyrfa i ben,
Caf farw yn ngwlad Meirion— ïe Meirion,—AMEN.

—GWILYM ARAN.


"RHYWUN."

Clywais lawer sôn a siarad
Fod rhyw boen yn dilyn cariad;
Ar y son gwnawn innau chwerthin
Nes y gwelais wyneb RHYWUN.

Ni wna cyngor, ni wna cysur,
Ni wna canmil mwy o ddolur,
Ac ni wna ceryddon undyn
Beri im' beidio caru RHYWUN.


Gwyn ac oer yw marmor mynydd,
Gwyn ac oer yw ewyn nentydd;
Gwyn ac oer yw eira Berwyn,
Gwynnach, oerach, dwyfron RHYWUN.

Er cael llygaid fel y perlau.
Er cael cwrel yn wefusau,
Er cael gruddiau fel y rhosyn,
Carreg ydyw calon RHYWUN.

Tra bo clogwyn yn Eryri,
Tra bo coed ar ben y Beili,
Tra bo dwfr yn afon Alun,
Cadwaf galon bur i RYWUN.

Pa le bynnag bo'm tynghedfen,
P'un ai Berhiw ai Rhydychen,
Am fy nghariad os bydd gofyn,
Fy unig ateb i fydd—RHYWUN.

Caiff yr haul fachludo'r borau,
Ac a moelydd yn gymylau,—
Gwisgir fi mewn amdo purwyn
Cyn y peidiaf garu RHYWUN.

—ALUN



ANFONIAD Y GOLOMEN I FEIRIONYDD

EHED y G'lomen, 'hed yn chwyrn,
Dy edyn cedyrn cais;
Dod wynt i'th fanblu unwaith mwy,
A gwrando'm clwy a'm clais;
Cei gen 'i nghyffes fynwes faith,
Nid yw ond taith i ti;
Os yn dy gilfin dygi hon
I Feirion troswyf fi.
 
Pan y delych ar dy daith,
I'r man bum ganwaith gynt;
Dôs cyn hyf i dŷ fy Nhad,
Cei groesaw rhad ar hynt;
Ond Ow! yr hon a'm cadwai 'n rhwydd,
Rhag cael un tramgwydd trwch;
Ei dwy-rudd sydd, er's llawer dydd,
Yn llonydd yn y llwch.

Wedi hyn ehed mewn hwyl,
At feddrod f' anwyl Fam,
Yr hon fu 'n dyner gynt i'm dal,
A'm cynnal rhag un cam;
Un ateb yno gwn ni's ca'i,
Y beddrod clai a'i cloes,

Mewn gwely pridd, un aelod rhydd,
Na nos na dydd, nid oes.

Ni wyddwn i y dyddiau 'n ôl,
Am un terfysgol fyd;
Yn awr y daw fel tòn ar dòn,
I'r fynwes hon o hyd;
O murain fum yn moreu f' oes,
Heb loes na chroes na chri;
Llawer hwyr a boreu llon
Yn Meirion gaethum i.
 
O gam i gam, o gur i gur,
Tan lawer dolur dwys;
A mhwyll ar lif y'mhell o'r lan,
Bron toddi dan ei bwys,
O Plwm, air trwm, pa le mae troi?
'Rwy wedi 'm cloi mewn clwyf;
A garw frath, o gur i'r fron,
I Feirion estron wyf.

O dôd yn awr dy edyn im',
Yn gyflym âf trwy'r gwynt,
Yn ôl i fraint fy anwyl fro,
Gan gofio'r dyddiau gynt :
Rhyw foreu'n ôl i Feirion âf,
A thawaf yma å thi;
Mwyn i bawb y man lle bo,
O! Meirion fro i mi.

—DEWI WNION.

AMSER.

Cwyno yr wyf ond wyf yn ffol,
Nid cwyno ar ol pleser,
Na chwaith am nerth a thegwch pryd,
Na phethau'r byd, ond Amser.

Os cefais nerth a chlod a pharch,
Caf hefyd arch ar fyrder:
Fy nghur sy am na chaf fy nghais,
Yr hyn a gollais, Amser.

Pa les i mi balasau mawr,
A byw mewn dirfawr wychder;
Ac yn y diwedd fod yn ol,
Wrth dreulio 'n ffol fy Amser?

Pe gwyddwn rîf y sêr bob un,
Eu lliw, a'u llun, a'u pellder;
Gwell gwybodaeth, a mwy braint,
Ystyried maint fy Amser.

Pe medrwn ieithoedd pobloedd pell,
Heb neb yn well eu ffraethder;
Doethineb byd i gyd yn grwn,
Beth dalai hwn heb Amser.

"'Rwy'n goddef cam," medd hwn a'r llall,
Pa beth, ai dall cyfiawnder?"
Na, byr y bydd, daw boreu i ben
Y gwelir dyben Amser.


 
Y truan bach mae troion byd
Mor ynfyd hefyd ofer;
Yn dwyn dy feddwl, beth a wnai;
Nid byth y cai di Amser.

Pwy mor ffol a dd'weda, " y byd
"Sydd imi o hyd yn flinder?"
Ni fydd hyd dy fyd di fawr,
Oes genyt awr o Amser.

Dyfyrwch a phleserau byd,
Eu cael i gyd a'u harfer
Pa beth a dalent, wagedd mawr?
Rhyw fynyd awr yw Amser.

'Dyw oes y byd ond ysbaid bach,
Rhyw leiach yw o lawer
Yr oes a roed i ddyn i fyw,
A hyny yw ei Amser.

Pan nofi hwnt gagenfôr mawr
Mewn chwerw dirfawr drymder,
Y mae rhyw dorf, a'i hechryn gri
Yw, "Gwae fi golli Amser."

Ni fyddaf faith, ni chanaf fi,
Rhag bod i ti yn flinder;
A phe b,ai y gân yn fwyn,
Ni fynaf ddwyn dy Amser.

Mr. ELLIS OWEN.


Y LLONG AR DAN!— (SHIP ON FIRE.)

Y storm tros y moroedd chwyrn hedai'n ei hynt,
Tra'r tonau 'n ewynu yn nhrwst crâs y gwynt;
Yn drymaidd llafuriai y llong yn y don,
Fel cadarn nofiedydd, a'r dwr lyfai'i bron;
A thywyll y nen, ar y morwr a'i drig,
Ond pan yr ymfolltai chwim fellten mewn dig;
Mam ieuangc, ar liniau, i lawr oedd yn gla,
A gwasgai ei baban i'w mynwes lliw'r iâ
Ei llef ar ei Duw, yn y ddryghin, a'i chrî,
Oedd gwêl Dad trugaredd fy mhlentyn bach I!
Aeth heibio'r trwm gorwynt yn orwyllt ger bron,
A'r llong, fel saeth gyflym, a rwygai'r hallt don;
Pob hwyl oedd lwydoleu yn ngwawl gwan y lloer
A'rawel yn uchel chwibianai dôn oer-chwibianai dôn oer.
Caed nwyf yn y llong fel y rhwygai hi'r dwfr,
Pob calon feddyliai am gartre'n ddi lwfr,
Ymwasgai'r Fam ieuangc ei baban i'w hwsg,
A chanai dôn felus, i'w sio'n ei gwsg,
Y gwr a eisteddai gerllaw uwch yr aig,
A siriol edrychai yn ngwyneb ei Wraig,
O dedwydd medd ef, pan fo drosodd y daith
Cawn fyw yn y Bwthyn gerllaw y mor llaith,
Yn barod, mewn meddwl, y gwelaf ei ben,
A'i fwg yn dolennu o'i aelwyd i'r nen,
Ei ardd sy mor wyrdded a'i winwal heb goll,
A'n hanwyl gymdogion i'n croesaw ni oll,
A'r plantos yn chwareu gerllaw'r deri'n llon
Ah hyfryd ymlithrai y Llong hyd y don.
Clywch!—Beth yw hyn?—clywch, clywch ar yr iaith
Tân!—Tân! Yna trwst—pawb i waith,
Mawr gynwrf crochleisiau ymgodai'n y gwynt,
A'r Fam, ar ei gliniau weddiai'n ei hynt,
A'i hymbil ar Dduw, yn ei gofid a'i chri,
Oedd Tad pob trugaredd—O gwêl! O gwêl fy Mach I!
I'w gwr yr ymredodd— ymlynai'n ei fron,
O! ef oedd ei nodded yn ymchwydd y don,
Tân!—Tân!—Oedd gynddeiriog uwchlaw ac i lawr,
Ai gruddiai'r holl forwyr yn welwaidd yn awr,
A'u llygaid oedd wylltion i'w gwel'd yn ei wawr,

 
Oferedd trwy'r anrhaith yw teithio'r don flong,
Y fflam annhrugarog yw Llywydd y llong;
Ai'r mwg yn drwchgrychog uwch uwch ar wahân,
O Dduw, peth ofnadwy yw trengu mewn Tán!
Yn unig mewn trallod, yn unig ar li,
Tad mawrpob trugaredd, ein gobaith wyt ti!
Yn brudd, ac ymroddgar, ond diofn eu bron,
Bad bach ollyngasant, fel brychyn i'r don,
Y Fam elai'ngyntaf, a'i phlentyn mewn llwydd,
Da gwyddai'i chofleidiad ymwềnai'n ei gwydd;
Oer, oer oeddy nos fel y Ilusgid bwy'n rhydd
A niwliog y llewyrch ar wawr fore'r dydd,
Erfynient am oleu;—ond yn y prydnhawn,
Yr haul tros y dyfroedd dywynai'n deg iawn,
Hoil Mae Hwyl! Hoi! Mae Hwyl! Medd dyn uwch y côr,
Hoi! Mae Hwyl! Troisant lygaid yn llawen tros for,
Hi a'n gwêl! Hi a'n gwel! Mae'r arwydd i'r làn,
Mae'n dyfod hyd atom, mae'n dyfod hyd atom
Mae'n dyfod hyd atom, mae'r arwydd i'r làn,
Mawl Dduw! Mawl Dduw! Ym iach!

CYF. R. Ddu.


DINYSTR BYDDIN SENNACHERIB.

O fras fro Assyria, y gelyn, fel blaidd,
Ymdorai i'r gorlan er difa y praidd;
A'i lengoeddmewn gwisgoedd o borffor ac aur,
Wrth hulio glyn Salem, a'i lliwient yn glaer.

Eu harfau o hirbell a welid o'r bron
Fel llewyrch serfyrddiwn ar frig y werdd dòn;
A thrwst eu cerddediad a glywid o draw,
Fel rhuad taranau trwy'r wybren gerllaw.

Eu chwifiawg fanerau, cyn machlud yr haul,
A welid fel coedwig dan flodau a dail;
Eu chwifiawg fanerau, ar doriad y wawr,
Fel deiliach gwywedig, a bulient y llawr,

Daeth angel marwolaeth ar edyn y chwa,
Gan danllyd anadlu i'w gwersyll ei bla,

Nes gwneuthur pob calon, a llygad, a grudd,
Mor oer ac mor farw a delw o bridd!

Y ffrom farch ddymchwelwyd— yn llydan ei ffroen,
Mae'n gorwedd heb chwythu mwy falchder ei hoen,
A'i ffun oer o'i amgylch fel tywyrch o waed:
Llonyddodd ar unwaith garlamiad ei draed!

Ar oer-lawr mae'r marchog, a'r gwlith ar ei farf,
A'r llaid ar ei harddwisg, a'r rhwd ar ei arf;
Nid oes trwy y gwersyll na thinge picell fain,
Na baner yn ysgwyd, nac udgorn rydd sain!

Mae crochwaedd trwy Assur, daeth amser ei thâl,
Mae'r delwau yn ddarnau trwy holl demlau Baal;
Cynddaredd y gelyn, heb godi un cledd,
Wrth olwg yr Arglwydd, ymdoddai i'r bedd!

PARCH. S. ROBERTS.


Y WLAD DDEDWYDDAF.

Eisteddai mewn tafarndy
Ar lan yr afon Rhin,
Rhyw bedwar lon gydymaith
I yfed rhuddgoch win.

A merch y ty a lanwai
Eu meiliau ar y bwrdd;
A hwythau tawel oeddent,
Heb gynhen groes na thwrdd.

Ond pan y ferch ymadodd,
Un Swabiad godai law,
Yn ngwres y gwin, a gwedai,
'Hir oes i Swabia draw.


'Breniniaeth benaf daear
A hi nid cymhar yw,
A'i phybyr wŷr calonog,
A'i serchog ferched syw.'

'Ha', gwaeddai Sacson gwawdus,
Tra'r ffrydiai'r gwin yn lli,
"Gwell genyf fyw yn Lapland
Nag yn dy Swabia di!

"Yr oreu wlad is heulwen,
Hon yw Sacsonia dir!
Lle caf lodesi'n ddibrin,
A mwynaidd ruddiau mir."

"Tewch! tewch eich deuoedd, gwaeddai
Bohemiad hyf ei fron
"Od oes un nef ar ddaear,
Bohemia ydyw hon.'

Cân teiliwr yno'r bibell,
A'r crydd y corn mor fwyn,
A'r mwnwr chwyth yr helgorn,
Tros fryn, a llan, a llwyn,

Daeth merch y ty, a chododd
I'r nef ei llaw'n ddifrad,
Gan ddweyd,—Mwy nac ymddadlweh
Fry mae'r Ddedwyddaf Wlad!

Cyf. D. S. EVANS


CANIG SERCH.

Oddiar y wybr pan y bo,
Cymylau eirian lu,
Yn ffurfio hardd amryliw do,
Troi'm trem yn anhawdd sy.

Anhawdd i'm droi fy nhrem yn ol
Oddiar y dagrau gwlith
Arianant wyneb gwyrdd y ddol
Ar ol y gawod flith.

Mae'n hoff i'm dremio ar y llwyn
Pan fyddo'i wyrddion ddail
O flaen yr awel esmwyth fwyn,
Yn chwareu bob yn ail.

Hoff gennyf weld yr haul o draw
Yn machlud dros y bryn,
A'r llechwedd coediog sydd gerllaw
Mewn ardeb yn y llyn.

Ond balm ni r'ont i'r galon friw
Sy'n cael ei hysu'n gudd,
Gan danbaid serch at eneth wiw,
Swyn yn ei henw sydd.

Mae'n byw mewn bwth yn nghwr y twyn
Mewn swynol fan ddigur,
Lle cân y fwyalch emyn fwyn,
A byw mae symledd pur.


Yr ysgafn droed a'i chynog lwys
Ar draws y waen â'n llon.
Ni wyr oddiwrth y pigyn dwys
Mae'n roi dan lawer bron.

Corelwa llonder ar ei grudd
Dan wallt sydd felyn iawn,
Oddiwrth fursendod mae yn rhydd,
Er bod o serch yn llawn.

Gwynfyd na bai fy nghalon don
Yn eiddo'i chariadllwyr,
A'i braich yn rhydd i'm rodio'n llon
Dan gysgod bron yr hwyr.

A'r lleuad wemp yn ddisglaer iawn
'N cusanu'r blodau mân,
Distawrwydd dwfn arddiwedd nawn,
Yn enyn serch yn dân.

Awn hwnt i'r llwyn dros gwrlid gwyrdd,
Ynmhell o sŵn a chri;
Lle'n tarddu mae briallu fyrdd
O ddeutu'r llwybrau'n llu.

Mewn c'lymau serch wrth rodio 'nghyd
Dan osglawg bren y cawn,
Alltudio ymaith ofn o'm bryd,
A thywallt calon lawn.

Y cyfryw ddedwydd dawel hynt
A wnai falmeiddio'r briw,

A roddwyd gan ei glendid gynt
I'm tyner galon wiw.

Ac ymneillduo i gydfyw
I anedd dawel glud,
Gerllaw y ffrwd sy'n nhroed y rhiw
Yn mhell o dwrf y byd.

I dreulio f'oes, a chael у fraint
O fywyd dedwydd llon,
A marw yno'n un o'r saint,
Dan bwyso ar ei bron.

—PAULINURUS.


MYFYRDOD WRTH WRANDO AR Y FRONFRAITH YN CANU.

Ar foreu teg o'r flwyddyn yr oedd aderyn mwyn
Yn canu gyda'iawen yn llawen yn y llwyn;
Wrth wrando'i lais pereiddlwys, mor gymwys oedd ei gân,
Mi deimlais inau awydd i wasgu'n nes yn mla'n.

Meddyliais am ei holi o ddifri'n nghylch ei ddawn,
A pheth oedd pwys y testyn oedd ganddo'n llinau llawn;
Ai canu 'r wyt ryw fawrglod, fwyn hynod iť dy hun,
Ai ynte i ryw un arall sydd uwchlaw deall dyn?

Atebodd ef i'm tybiaeth " fod ganddo beth o bwys,
A rhoddion heb rifedi i'w loni ef yn lwys,
Yn dod o law haelionus, yn gymwys iddo gael,
Fod dyled ar bob teulu glodfori am y fael.


Cael gwisg o nawdd heb nyddu, na thalu am ei gwau,
Nac angen am ddilledydd i'w llunio'n fwy na llai;
Yn gymwys i'r maintioli, o liwiau heirdd bob un,
Yn sicr iawn o bara cyhyd a mi fy hun.

Cael ty heb raid ei wella, a noddfa yn y nos,
Pan fyddo'r llew a'r cadno yn rhuo yn y rhos;
Cael cysgu heb ddychrynu, na phrofi saeth o Ffrainc,
A'r bore, pan ddihunaf, mi ganaf ar y gainc.

Cael tamaid wrth fy angen, a hwnw'n ymborth iach,
Digonedd o fwyd a diod, heb ormod na rhy fach;
Ni raid im, ond ei gasglu o fore hyd brydnhawn,
Rhagluniaeth sy'n gofalu am wneyd fy lletty'n llawn.

Pan welwyf ddryll yr heliwr, a chlywed mwstwr maith,
Ergydio yn y coedydd gan Ddafydd lywydd llaith,
Mi hedaf ar ryw lechwedd lle tardda rhediad dwr,
Neu ,hedaf am fy hoedl yn mhell uwch gafael gwr.

A phan ddaw tebygolrwydd am deulu bach i'm rhan,
Mae genyf o fy mebyd gelfyddyd yn y fan,
I adeiladu , stafell mewn cell yn nghwr y cae,
Nas gall yr ych na'r ceffyl na'r mul ddim dweud lle mae.

Ni raid im, ragofalu er meddu teulu mân,
Pedwar neu pump o honynt, i gyd yn gerynt glân;
Caf ddigon i'w diwallu heb imi dalu dim,
A'i gwarchod ar bob perwyl sydd orchwyl anwyl im.

Trugaredd sydd yn cynal tylwythau'r goedwig lâs,
'Rwyf inau'n un o rhei'ny sydd wedi profi ei blâs
Trugaredd sydd yn cadw pob un i lanw ei le:
Mi ganaf am drugaredd yn fwynaidd iddo , Fe.

—PARCH. R. BONNER.


Y FENYW DWYLLEDIG.

Y gwynt un noswaith chwythai'n llym,——
Yn drwm disgynai'r gwlaw;
Och'neidiai'r crinion goed yn drist,
Tra heibio'r aeth mewn braw
Rhyw fenyw gyda mynwes flin
Hi ruthrai drwy yr erchyll hin.

Ei gwyneb ieuanc teg a hardd,
Nid ydyw megis cynt;
Y prydferth wallt fu'n ofal mam,
Ymddrysodd yn y gwynt;
Ei dirgel feiau nos a dydd,
Sy'n creulon rwygo'i mynwes brudd.

Ni fedd ei llygaid ddeigryn mwy.
Ymwylltiant yn ei phen;
Ei heuog drem ddyrchafa fry
I'r dywell wgus nen;
A thaer erfynia ar y mellt
I rwygo'i phabell wan yn ddellt.

Yn ddigllawn syllai'r awyr wyllt
Ar adfyd hon islaw,
A'r mellt ddirmygai'igweddi daer
Ymsaethent ym' a thraw;
A taliai'r gwlaw—distawai'r gwynt,
A'r sêr ddoent allan ar eu hynt.


"Ai dyfod ddarfu chwi O! sêr
I syllu arnaf fi;
Encilio wnes mewn gwarth o'r dref—
Amddifad wyf o'm bri;
O'r gwawd a'r dirmyg imi sydd!
Pwy all ddarlunio'm gofid cudd.

Eis heibio i dy'r twyllodrus un
A wnaeth fy mron mor ddu;
Edrychais drwy y ffenestr wych,
A'r tân oleuai'r ty;
Ac yntau'n llon uwchben ei win.
A minau'n dyodde'r tywydd blin.

O'm hôl ar yr auafol nos,
Pelydrai goleu'r dref,
O'm blaen mae llewyrch oer y sêr
Fel llygaid engyl nef;
P'le ffo'f? mae'r nef a'r ddae'r ynghyd,
Yn tremio arnaf fi o hyd.

'Rwy'n adwaen llyn, gwn fod e'n ddwfn,
Dan gysgod helyg lwyn;
Lle gynt yn blentyn, ganwaith bum
Yn plethu'r chwyn a'r brwyn;
Ychydig dybiais y pryd hyn
Mae'm bedd ryw dro a fyddai'r llyn."

Ar ffrwst cyfeiriai tua'r fan,
Ond, ebrwydd safai'n syn;
Nis gallai ddirnad modd y daeth

Y sêr o'i blaen i'r llyn;
Ei chalon dôdd—dyrchafai , i chri—
"O! Arglwydd Iesu cadw fi."

—RHYDWEN.


CERDD FFARWEL CAERLUDD.

Mi ganaf yn iach i dre, Lundain,
Sy ben dinas Brydain mewn bri,
Gwyneddion a'r glân Gymreigyddion,
Cyfeillion fu mwynion i mi,
I Gymru â chanu cychwynaf,
Er na chaf o glera fawr glod,
Ond tra caffwyf gwpan a phentan
Ni roddaf mo nghân yn fy nghod,
Iach oll i dre, Llundain a'i bwydydd,
Diodydd a'i ffrwythydd glan ffri,
Iachusol yw bara ceirch Nantglyn,
Llaeth enwyn a menyn i mi.

Iach hefyd i'w rhwysg a'i hanrhydedd
Gwisg falchedd a'r gwagedd i gyd,
Niferoedd o gelloedd a gwylliaid,
Puteiniaid, lladroniaid, lle drud,
Segurwyr o dwyllwyr hyd allon,,
Chwaryddion arferion rhy faith,
A gau opiniwnau pen weinion,
Iuddewon, Pabyddion, pob iaith,
Cael amlwg bob golwg bwygilydd,
Gwnai fenydd dyn llonydd yn lli,
Mi gym'raf y carnau rhag cornwyd,
Y tir lle fy magwyd i mi.

Iach hefyd i ffair Bartholomi,
A'i holl ofer gerddi di goel;
O'r badell enbydus ei chrechwen,
I'r dyn a'r crwth halen wrth hoel;
Ceir ynddi ryw foddi rhyfeddod,
Gwylltfilod a chathod a cher,
Echrysol niweidiol eu nwydau,
Fu 'rioed fath grygleisiau gan gler;

Nid dyna'r fan gynes i ganu,
Yr awen oer fferu wneiff hi,
Yn Ngwynedd mwy doethedd gymdeithion
Hedyddion mân mwynion i mi.

Iach hefyd i dwrf yn Fleet-market,
A'u llu ceg agored i gyd,
Rhwng tôn y cigyddion a garddwyr,
Pysgodwyr a baeddwyr y byd,
Byddaru wna clustiau'r gwrandawyr,
Rhwng gwylwyr neu wyr ar y wats,
A hen Wyddelesau ceg oerion,
Yn crio rhyw , spredion o sprats;
Haloch i bawb rhag tre Llundain,
Ail Bedlam i'n harwain yw hi,
O dyrfau a nadau anned wydd:
Rhyw fwth yn min mynydd i mi.

Yn iach i'r Orllewin Fonachlog,
Lle delwog cyfoethog go fawr,
Iach hefyd i dri pharc y Brenin,
P'le mae hyd orllewin well llawr,
Iach hefyd i'r tŵr lle mae'r goron,
Rwy'n foddlon i'r Saeson gael sen,
Wrth gofio'n Tywysog Llewelyn,
Godasant i'w bigyn ei ben,
Nid oes im, a wnelwyf a'u cynydd
Ni pherthyn i brydydd gael bri,
Mwy diddan o ran yr awenydd,
Hen greigydd a moelydd i mi.

Iach hefyd i'w holl bedeir—onglau,
Heolau, mawr deiau mor deg,
Eglwys—dai, chwareu—dai, masnach—dai,
Darllaw—dai, dyfroedd—dai, difreg,
A Thames anrhaethadwy drysorol,
Marsiandiaeth tra buddiol o bell,
E dd'wedir fy mod i yn ynfydu,
Os galw allai Gymru'n lle gwell,
Fy nghywion rydd imi groesawiad,
Mewn cariad a'u llygaid yn lli,
Mwy gwerthfawr na Llundain mewn hiraeth
F' anwyl—blant a'u mamaeth i mi.

MR. R. DAVIES

OCHENAID YR HEN WMFFRA AR OL MABOLAETH.

Yr oeddwn yn ngwanwyn fy oes,
A blod'yn fy ie'nctyd yn llon,
Heb wybod am lymder un loes
I chwerwi melysder fy mron;
Na chynal un gofal yn ddyfal am ddim,
Ond chwareu'n galonog wych enwog a chwim.

Ar redeg i'r ysgol yr awn,
Ac yna i drin y "bèl droed",
Ac wrth ddyfod adref prydnawn
Y dringwn hyd gangau y coed;
Awn at y mór eilwaith yn llawen a llon
Esgynwn yr hwylbren—a nofiwn y don.

Yn fuan symudais fy lle,
Gan âdael difyrwch y plant,
A dilyn gwyryfon i'r dre,
I ymofyn difyrwch cerdd dant;
Awenau fy nwydau ollyngwyd yn rhydd
A rhedais yn nghanol pleserau fy nydd.

Ond och fy ieuenctyd mawr werth
Aeth ymaith fel ewyn y dòn,
O'r braidd cefais wisgo fy nerth
Cyn rhoddi fy mhwys ar fy ffon
Drychiolaeth hyll, araf, syn, llwyd, hurt, difri,
A'i enw yw HENAINT, a ddaeth ataf fi.

Cyffroi mewn cenfigen a wnaeth
Pan welodd fi'n chwareu mewn hoen,
Ac O! mor llechwraidd y daeth
I'm gwisgo à mantell o boen;
Ysgytwodd fy mhabell, rhyddhaodd bob hoel,
Mae'm dwylaw'n grynedig a'm coryn yn foel.

Ergydio mae'r gwanwyn yn hardd
Egwyddor o fywyd i frig
Pob coeden—pob maes a phob gardd
A chwarddant;—a gwerdd fydd pob gwisg:
Ond awel lem Hydref a'u gwywa hwy'n nghyd
A gedy y goedwig mewn pruddglwyf i gid.


Yn nhymor fy ie'nctyd fel hyn,
Llawn bywyd, llawn harddwch, llawn nwyf,
Fel ewig ar lethr y bryn
Yr oeddwn;—ond O! fel yr wyf
Daeth awel lem henaint dros fynwent y llan,
A gwywodd fy nhegwch i gyd yn y fan.

Ail wisgo ei blodau wna'r ardd,
Ail ddeilio wna'r coedydd yn nghyd,
Ail egyr y rhosyn yn hardd,
Ail enir holl anian i gyd;
Yr adar fu'n cysgu ail ganant mewn bri,
Ond och! ni ddaw ie'nctyd yn ol ataf fi.

Gostegodd per lais merched cân,
Aeth duwies cerddoriaeth yn fud,
Fe oerodd— diffoddodd ei thân,
A drylliwyd ei holl offer drud;
Y llais oedd bereiddiach na thànau'r holl w!ad
Sy'n awr yn wichedig grynedig oer nâd.

Fe giliodd y gwrid têg o'm grudd,
Fe syrthiodd fy nannedd i gyd,
Y llygad fu'n llon sydd yn brudd,
Adfeilio mae'r babell, o hyd;
Nis gallaf gan henaint braidd godi fy mraich,
Mae'r anadl yn pallu, a'r einios yn faich.

Yn iach i fywiogrwydd a grym,
Yn iach i lawenydd y llawr,
Daeth artaith a gofid tra llym,
I'm llethu a'm nychu yn awr;
Mae angel marwolaeth yn minio ei gledd,
A minnau yn edrych dros geulan fy medd.

Yn fuan, yn fuan mi af
I orwedd i, stafell y glyn,
Eiddunaf drugaredd fy Nâf,
I'm henaid, O! rhodded im hyn:
Fy nghysur mewn henaint yw gobaeth cael byw
Mewn ie'nctyd ac urddas yn ninas fy Nuw.

—HUGH TEGAI.


IAITH A THELYN CYMRU.

Pan oedd diffyg tân ar Gymro
Meddai iaith allasai'i dwymno;
'nawr rhwng tânau a danteithion,
Cyll ei iaith, a chyll ei galon.

Rhowch i mi'n lle gwledd a gwinoedd,
Serch a doniau'r hen amseroedd;
Yna dysgaf, yna canaf
Fel y goreu feirdd a garaf.

Trech na chyfraith, trech nac arfau,
Trech na phob peth can a thanau,
Dyweded ef amheuo hyny,
P'odd mae'n fyw hen Delyn Cymru?

Gan ei byw 'nol syrthio'n cestyll,
Gan i ing gryfhau ei hesgyll,
Tra bo natur, tra bo elfen,
Byw bo'r delyn, byw bo'r awen.

Boed i bob peth gael ei amser,
Ac 'nol hirwaith na boed ofer
I bob Cymro ganu ei deimlad,
Gyda thonau pêr ei Henwlad.

Tybia rhai mai da f'ai claddu
Iaith, a chan, a Thelyn Cymru;
Cyn y dygwydd hyn i Walia,
Gwedi'n nghladdu b'wyf y'nghynta.


MERCH IEUANC MEWN DARFODEDIGAETH.

Wrth edrych ar ei delw hardd,
Ei llygaid, ac ei gwên,
Meddyliwn am flodeuyn gardd,
Cyn henaint oedd yn hên:
Ni welodd hi flynyddoedd gwae,
Er hyny gwywa'i gwedd;
Mal y blodeuyn plygu mae
Cyn henaint tua'r bedd.

Ei llygaid ceisiant fod yn fyw,
Ond angeu ynddynt sydd;
A gwrid ei grudd anwadal yw,
Yn symud nos a dydd.
Ei thirion wedd—angeles wen!
A ddwg i gôf y Bardd,
Am rosyn gwyw yn plygu'i ben
Cyn llechu yn llwch yr ardd.

Mor hoew flwyddau bach yn ol,
Mor ysgafn ar ei throed;
Ar ael y bryn, ar waelod dôl,
Yn hoywaf un o'i hoed.
Ond heddyw prin y symud gam
Gan wayw megis cledd;
Ei dewis waith yn mraich ei mam,
Yw dangos man—ei bedd.

—TEGID.


GAIR OLAF FY MAM.

Angelion glân a ydych chwi
Yn cadw'r dagrau hyny,
Dywalltwyd gan fy anwyl fam
Mewn gweddi dros ei theulu;
O Dduw fy mam,—nis gelli di
Anghofio ei gweddïau,
O! na ddystawed yn dy glust
Ei llwythog ocheneidiau.

Rhyw ddiwrnod tywyll ar fy mam
Oedd diwrnod ein gwasgaru,
Pan aem i ffwrdd, o un i un,
At eraill i was'naethu;
Ein gweld yn myn,d i fyd mor ddrwg
Oedd loes a gofid iddi,
Ond myn'd oedd raid, am hyny mam
A'n hwyliai gyda gweddi.

Mi gofiaf byth y dydd a'r awr
Cychwynodd fy mrawd hynaf,
Fy anwyl dad a âi yn brudd
I'w ddanfon ef yn araf;
Nol iddynt fyn,d o'n golwg ni
Fy mam droes i weddïo,
Nisgallaf fi tra byddaf byw
Anghofio'r weddi hono.


Ond daeth y dydd i minau fyn'd
I ganol byd a'i ferw,
'Rwy'n cofio'n dda bob gair a gwedd
A gaed y diwrnod hwnw;
Ei gair diweddaf wrth im, fyn,d
Sydd yn fy nghlyw bob amser
"O cofia hyn,—bydd fachgen da
A gwna weddio llawer.

Pan hudir fi gan ddynion drwg
I gynllwyn am bleserau,
A minau'n wan, bron bron a rhoi
Ufudd-dod i'w deniadau;
Dych'mygaf glywed llais fy mam
Yn siarad yn y pellder:
"O cofia hyn,—bydd fachgen da
A gwna weddio llawer."

Pan fydd fy enaid yn llesgâu
Mewn croes a siom annedwydd,
Daw'r byd yn deg a gwin a gwên
I gynyg ei lawenydd;
Cyn im, ymollwng gyda'r lli
Ei llais ddaw mewn grymusder
"O cofia hyn,—bydd fachgen da
A gwna weddïo llawer."

—CYNHAFAL


"SAITH Y'M NI."[4]

Mi gwrddais â morwynig wen,
A llawn wyth oed oedd hi;
A'i gwallt y'mhleth o gylch ei phen
Fel coron aur mewn bri.

Roedd ganddi fochau cochion bach,
A dillad gwladaidd glân,
A llygaid ysgeifn, bywiog, iach,
A rhês o ddannedd mân.

"'Sawl brawd, 'sawl chwaer sy' genyt ti?"
Gofynais iddi ar hyn:
Atebai—"'Sawl, syr! Saith y'm ni,"
Gan edrych arnai'i'n syn.

"Yn mha le maent? y deg ei gwawr.
Atebai, "Yr y'm ni'n saith;
Mae dau yn byw yn Nghonwy'n awr,
A dau ar foroedd llaith.

"A dau yn nghŵr y fonwent draw,
Yn gorwedd yn ddinam;
Ac acw yn y bwth gerllaw
'Rwyf finau gyda'm mam.

"Mae dau yn Nghonwy'n byw yn awr
A dau ar foroedd llaith;
Pa fodd y gelli ddweyd, fy mach,
Eich bod fel hyn yn saith?


"O fechgyn a genethod, saith,
(Atebai) ydym ni:
Mae dau o fewn ir fonwent oer,
O dan yr ywen ddu.

"O amgylch ogylch prancio wnai,
A heinyf iawn wyt ti;
Os yn y bedd y gorwedd dau
Yn ddiau pump y'ch chwi.

"Ah! dacw'r bedd, â newydd wedd,
Atebai hi fi'n llon;
A deuddeg llam o ddrws fy mam
Yw yr orweddfa hon.

"I wau fy hosan, acw'r af,
A hemio'r cadach gwyn,
I eistedd ar eu beddau'r hâf,
A siarad â hwy'n sỳn.

"A phan fo'r haul ar fachlud, syr,
A'r awyr faith yn glir:
I fwyta'm cwynos[5] acw'r âf,
Ac eistedd yno'n hir.

"Y gyntaf aeth oedd anwyl Jane,
Fu'n hir mewn dygnawl boen
Hyd nes daeth angel Duw i'w nhol
I gwmni'r addfwyn Oen.

Ac yn y fonwent oeraidd hon
I orwedd rhoisant hi:

O gylch ei bedd chwareuai n llon
Fy mrawd bach John a mi.

A phan oedd eira'n gynfas wen
A rhew yn cloi y lli
Bu farw John- a rhoed ei ben
Yn ymyl ei phen hi.

"Aeth dau i'r nef, fy mechan hoff,
Yn awr sawl un y'ch chwi?"
Atebai ' n llon, y deg ei bron,
"O, meistr, saith y'm ni.'

"Maent hwy'n y pridd,a'u henaid sydd
O fewn i'r nef mewn bri:"
'Doedd hyn ond taflu gair i'r gwynt
Fe fynai ' r fach ei phwnc ar hynt,
Gan dd'wedyd -“ saith y'm ni,"
 
—TEGIDON.


TY FY NHAD.

'Nol treulio blin flynyddau maith,
Fel crwydryn o fy ngwlad,
O pa mor hyfryd dechreu taith,
Tua thawel dŷ fy nhad;
Can's yn ei bwys mae llwyni glas,
Ac adar hoff eu can,
A roesant gynt i'm horiau flas
Wyf 'nawr yn golli'n lan.

Y galon oedd yn ddewr fel dùr,
A chryf ar faes y gwàed,

A gryna fel y ddalen ir,
Wrth weled tŷ fy nhad;
Mi wela'r drws, mi wela'r faingc,
A'r 'stol fawr bedair tro'd,
Ond nid wy'n clywed tyner gâingc
Fy mam wrth droi ei rhòd.

Pa fodd y gallaf fynd ýw clyw,
Pa fodd y rhoddaf gam?
Ac os danghosaf' mod yn fyw,
Pwy ddengys' nhad a mam?
Tynghebaf chwi à thyner gais,
Gartrefol adar bach,
I roi arwydd llon éich llais,
Eu bod hwy'n fyw ac iach.

Mae'r mwg yn wyn o'r simne gul,
Yn taenu gwres trwy'm gwa'd,
Ond gwell f'ai genyf weithiau fil,
Wel'd copa gwyn fy nhad;
I b'le'r aeth pob rhyw wyneb llon?
B'le'r aeth y llysiau mwyn?
A yrwyd pawb hyd daear don,
Fel fi, heb nyth ra llwyn?

Mi wela 'ngorgi bach yn fyw,
A'i groen yn dyn a thlws;
A dacw'r hen berchenog syw
Yn agor iddo'r drws:
O clywch, hen ŵr, un gair gen'i,
Cyn troioch yn eich ol,
Os nad yw'ch ty yn llai na bu,
Awn iddo gol yn nghôl


CWYN CARIAD.

F'ANWYL ferch, delw'm serch, clyw anerch clwy enaid
Tro'ist yn ddu'r cariad cu , a chanu'n ochenaid;
A oedd un llaw drwy'r dref draw i nharaw'n anhirion?
A oedd yn mhléth, at y peth, ddwrn yr eneth union?
Yn wir dy wg dagrau ddŵg i'r golwg o'r galon,
Oni chaf hêdd af i'm bêdd i orwedd yn wirion.

P'le mae'r grêd, gofus gêd, adduned oedd anwyl?
Ai sî a siom yr ammod drom unasom ryw noswyl?
P'le mae'r drem, fel gwawr gem, a luniem dan lwynydd
Torai'n syn swyn y llyn, y delyn, a'r dôlydd:
Yn iach i'th wedd, mi wela' medd, wan agwedd yn agor
Dywed di fy mùn imi,a wyli ar fy elor?
Pan weli sail y bèdd, a'r dail ar adail mor hoywdeg,
Ac uwch y tir, ysgrif hir, o'r gwir ar y garreg,
Mai d'achos di, greulon gri, fy gwelwi'r fau galon;
Ai dyma'r pryd, daw gynta'i gyd, iaith hyfryd o'th ddwy fron?
Gorchwyl gwan, rho'i llef drwy'r llan, troi'r fan yn afonydd
Rhy hwyr serch, felly ferch i'm llanerch bydd llonydd.

—ALUN.


GADAEL CYMRU.

Yn fy mron y mae trychineb,
Wrth adaw'm gwlad,
Rhed afonydd hyd fy wyneb,
Wrth adaw'm gwlad,
Gadael rhïaint hoff caruaidd,
Gadael hen gyfeillion mwynaidd
Gadael gwlad yr Awen lathraidd ,
Wrth adaw'm gwlad.


Gadael gwlad y telynorion ,
Trwm yw i mi,
Gadael glân rïanod Meirion,
Trwm yw i mi,
Gadael Gwenfron, gadael Gwyndyd,
Cadael pob diddanwch hyfryd,
Yn eu lle cael môr terfysglyd,
Trwm yw i mi.

Nac anghofiwch , hen gyfeillion,
Un fydd ym mhell,
Nac anghofiwch Gyfaill ffyddlon ,
Pan fo ym mhell;
Chwi rïeni llawn o rinwedd,
Pan f'och wrth y bwrdd yn eistedd,
Cofiwch un oedd yna llynedd,
Pan b'wyf ym mhell.
 
Ar nosweithiau oer tymhesglog,
Ow! cofiwch fi.
Fydd ar donau môr cynddeiriog,
Ow! cofiwch fi;
Pan bo'r gwynt a'r môr yn swnio,
Mellt yn gwau, taranau'n rhuo,
Gwedwch, "Iach yw Charles gobeithio!"
'N iach oll i chwi.

—SIARL WYN O BENLLYN .

"CAN Y FAM WRTH FAGU EI MAB."

Clyw! clyw fy anwyl fab,
Llais mam a gân i ti,
Aed hwn i'th galon dyner fwyn,
Ac nac annghofia fi,
O wyneb serchog glân,
A delw dy anwyl dad;
Gwerth mil o fydoedd i dy fam,
A'r harddaf fedd Ꭹ wlad.

A glywir byth fy mab
I sŵn y tabwrdd cas,
Neu liw neu lun yr hugan goch
Dy ddenu i'r gwaedlyd faes?
Ona!Ona!fymab,
Gwel ddagrau'th fam yn lli',
Os myn'd yn filwr wnei di byth,
Ti dori' nghalon i.

A'th dad cyn myn'd yn hen
A syrth i lawr i'r bedd;
A'th chwaer a wrthyd gysur mwy,
A wyla'n wael ei gwedd;
A bydd rhyw eneth dêg
Yn tywallt dagrau'n lli',
Yn foddlon rhoi bywydau fil
Er mwyn dy ryddid di.


Os meddwl byth a wnei
Am fyn'd i faes y gâd,
O! cofia'r archoll rodda hyn
I'th fam a'th anwyl dad;
A chofia'th dyner chwaer,
A'r eneth gâr mor gu-
Bydd hyn yn angeu iddynt hwy,
Ant oll i'r beddrod dû.

Pe medrai'r heulwen fry,
Y lloer, a ser y nef,
A bodau y cyfanfyd oll
Am unwaith godi'u llef;
Hwy dd'wedent yn un llais,
"Fab ieuangc, gwrando ni;
Na ddos yn filwr mewn un modd
I dywallt gwaed yn lli'."

Os bydd penaethiad byd,
Breninoedd yn ddifraw,
Yn cwympo allan mewn rhyw fodd,
Ymladdent law yn llaw;
I ymladd drostynt hwy
Nac aed fy mhlentyn mad
I roddi nac i dderbyn clwyf,
Dan ffug dros glod ei wlad.

Mae gwaed y milwr draw,
Ddaw yn dy erbyn di,

Fil-fil o weithiau'n fwy ei werth
Na pherlau'n daear ni;
Os tywallt hwnw wnei,
Ti fyddi'n lleiddiad dyn;
Ond tebyg iawn, fy anwyl fab,
Mai cwympo wnei dy hun.

Mae meddwl am y loes
A roddai'r newydd syn,
Fel cleddyf yn fy mynwes i
I'w deimlo'r funud hyn;
O y anwyl, anwyl fab,
fGwel ddagrau'th fam yn lli'
Os myn'd yn filwr wnei di byth,
Ti dori 'nghalon i.

Mil o gusanau mwyn
A roddaf 'nawriti;
Na ddos yn filwr, fy anwyl fab,
I dori 'nghalon i;
Na ddos yn filwr byth
I dywallt gwaed yn lli',
Na ddos yn filwr, fy anwyl fab,
A dedwydd fyddaf fi.

Tredegar.—CYMRO BACH.

GOFID MAM.

Sylwi'n ddwys ar ddyoddefiadan
Baban nas gall ddweyd ei giwy',
Gwel'd y dagrau'n gwlychu'i ruddia
Heb un modd i'w hatal hwy;
Edrych ar ei agwedd dyner,
Fel yn ceisio dweyd ei gam;
Sychu'i ddagrau—cofio'i Hinder—
Dyna ydyw gofid Mam.

Eistedd wrth ei gryd nosweithiau,
Olrhain llwybrau angeu du,
Gwrando'r gwanaidd aml och'neidian
'Nghyda'i fer anadliad gu ;
Gwylio'r olaf ymdrech farwol,
Teimlo gyda'r bach dinam;
Wedi'r ymdrech, methu'i adael—
Dyna ydyw gofid Mam.

Gwel'd ei thyner rosyn gwiwglod,
Er mor hoff, yn gwywo'i wedd;
Llithro drwy weddiau priod—
Dagrau fyrdd—i oerllyd fedd:
Meddwl am ei roi i huno
Gyda'r pryf, a chofio am
Ei agwedd isel waelaidd yno—
Dyna ydyw gofid Mam.

Ond, pan aiffy dòn fawr heibio,
Pan lonydda cenlli'r fron.
Ffydd a saif gan dawel dremìo
Tua'r nef à llygaid llon;
Dywed, "Draw mewn ardal hyfryd
Mae fy maban—ni chaiff gam;"
Cofio hyn ddiddyma'i thristyd—
Dyma symud gofid Mam.

—IEUAN O LEYN


UCHENAID AM GYMRU.

Ha Gymru i'th fynwes ehed fy uchenaid,
Mewn adgof o'th foelydd yr wyf yn pruddhau;
Ucheldrem dy gedyrn fynyddau a garaf,
Clogwyni'th gadernyd a ddenant fy mryd;
Ymwisgant yn mhlethiad melynwyn niwl araf,
Ireiddion gymylau gusanant yn nghyd.
Yn nghadwen dy enw ymglymodd fy enaid,
Nid oes ond dy gerdded a all ei rhyddhau.

Tryliwiog yw'th ddaear o feillion a bwysi,
Teg emau pefr natur a drwsiant dy fron ;
A'th wyrddfor grisialaidd, ymdorchog ei gwysi,
A chwardd ar dy orchest yn nrylliad ei don.
Didaw ddisgyniadau y rheiydr i'th lenydd,
A felys chwareuant trwy'th nentydd eu sain,
A phelydr goreurog yr haulwen ysplenydd,
A ddawnsiant ar lygaid y grisial yn gain.

Ha Gymro! dy dlysau ŷnt dra gogoneddus,
Pob ogof o'th eiddo sy ddengar ac erch;
Serch feini crogedig uwch ben sy fawreddus,!
Addurnant dy goron, gorlyngcant fy serch
Prid orllwyn a chromlech sydd urdd i'th lechweddau,
Maen chwyf dy Dderwyddon a adgan dy fraint;
Hidl ddagrau tosturi a seliant y beddau
Lle huna dy ddewrion, lle gorphwys y saint.

Ymwibied meib gloddest yn ngrym eu blynyddoedd,
Y destlus wastadedd, a bawddfyd i'w mysg,
Clogyrnog ysgythriad y crychion fynyddoedd,
Ynt benaf anwylion myfyrdod a dysg:
O'm gwydd aed pêr erddi a'u blodau deniadol,
Encilied arogliad y lili wén lân,
I mi rho'wch y moelydd a'r creigiau serchiadol,
Hwynt-hwy a gysegrwyd—i RYDDID A CHAN.

—ROBYN DDU ERYRI.


PENNILLION

A gyfansoddwyd yn Buenus Ayres, Amerig Ddeheuol.

Fy ngwlad! Ow, fy ngwlad, lle trigianau fy nhadau,
Clyw'th blentyn yn llefain am danat dan gur;
Mae meddwl am danat yn tanio'm serchiadau,
Mae'n llosgi fy mynwes à chariad mwyn pur.
Diammau fod yma ryw ddaear gyfoethog
O berlau a ffrwythydd, a llysiau mwyn teg;
Mil gwell gennyf fi ddaear Cymru fynyddog,
A'i ffrwythydd a'i llysiau i'r corph pan fo'n freg.

Ni welir gan rhai'n ond llid a thrallodau,
Er cymmaint eu cyfoeth, trawsineb a brad;
Ond golchwyd pob bradau â gwaed fy nghyndadau
O fryniau hen Gymru, a thi yw fy ngwlad,
Ni fynwn mo'r gwledydd ar hyd De la Plata,
Sy'n cyrhaedd odd' yma i'r India, medd rhai,
Am fywi anghofio trigolion tir Gwalia,
Sy'n fil mwy dymunol od ydyw yn llai.

Rwy'n tybied y clywaf swn pêr dy delynau,
Peroriaeth dy reieidr yn disgyn i'm clyw,
Y gwelaf dy gwmwl-doedig fynyddau,
A'r bwthyn lle mae fy anwylyd yn byw;
Ond, Ow! im' nid ydynt ond gwag ddarluniadau,
A esyd fy meddwl crwydredig ger bron,
Er iddynt am enyd fer loni'm meddyliau,
Mawr dristwch ddilyna yr enyd oedd lon.

Fy ngwlad Ow, fy ngwlad, fel hyn yr wyf beunydd
Yn llefain am danat dan loosion o nyd,
Wyt fil myrdd anwylach i mi na'r holl wledydd
A welais i etto-Baradwys y byd !
Os dof fi'n ddiangol drwy dân y magnelau
I droedio ym mhlith dy drigolion di sen,
Yn iach, byth yn iach, i Amerig y dehau,
Yn iach i'w gwasanaeth byth mwyach, Amen.

—SIARL WYN O BENLLYN.


ODLIG SERCH.

Cyflwynedig i Rian.

Cyfliw blodau perthi gwynion,
Ydyw gwêdd fy mun lygadlon,
Claer fel caenan manod unnos,
Clain fel manwlith ar y deilios,
Deune'r breïlw, gorne'r wendon
Yw'r Forwynig bïau nghalon:
Och! na chawn yn gyflawn goflaid,
Wasgu MWYNWEN gymmen gannaid:
Yn y glaslwyn mwyn yw meinir;—
MWYNWEN yno a ddymunir.
O! mor swynol yw cusanu,
Gwefus ruddgoch mun lygeittu:
Sugno serch y ferch yn firain,
Lladryw finon, eilw lliwdrain':
Lleddir fi gan fanon feinäel;
Mud i'm ydyw—rhaid ymadael.
MWYNWEN irwen lawen liwus
Clyw fi'n erfyn—r'wyf yn glwyfus :
Dyro gusan fungan fwyngu,
Gwisg diriondeb, tyr'd i'm gwasgu,
Dan y fedwen fonwen fanwallt,
Dal fy mhen yn llwyni'r wenallt;
Moes i'm gusan, ddynan ddenol,
Ing fy enaid sydd angeuol.
Cyn fy mêdd, O clyw fy ngweddi,
"Cyn i'm calon dirion dorri;—

Ust! rho yma'th glust i wrando,
Dir lliw'r hinon, y mae'n dryllio.
Gwrando, clyw y syw fun swynol,
Rho dy wên i'r dyn awenol:
Croenllefn ydyw, fel y crinllys
Ei glwys wenau,"-medd GLASYNYS.


Y FARN A FYDD.

GWNA'n llawen, ŵr, o fewn dy fro,
A chwardd tra dalio dydd;
Nac ofna neb, ac na thristâ,
Ond cofia'r farn a fydd!

Mwynha bob pleser, myn dy chwant,
Na ffrwyna'r trachwant rhydd;
Mewn rhwysg a gloddest treulia'th dda,
Ond cofia'r farn a fydd!

Di'styra grefydd a phob da,
A phoera'n wyneb ffydd;
Oddiwrth foesoldeb ymbellhâ,
Ond cofia'r farn a fydd !

Myn bob difyrwch yn mhob man,
Gwna'n ddyddan yn dy ddydd;
Mewn gwin a gwleddoedd llawenhâ,
Ond cofia'r farn a fydd!


Na wrando ar un cynghor cu,
Na'r ymresymu sydd;
Dirmyga'r ddeddf, a thor bob darn,
Ond cofia'r farn a fydd!

Cais bob llawenydd, na lwfrhâ,
Ymhoewa, rhodia'n rhydd;
Gwna orchymynion Duw yn sarn,
Ond cofia'r farn a fydd!

Y farn!y farny farn a fydd!
O ryfedd ddydd a ddaw!
Y farn! y farn! y farn a fydd!
A'th ddyry'n brudd mewn braw.

Clynog. —EBEN FARDD.


KATHLEEN FANWYLYD.

Kathleen f'anwylyd, mae'r boreu yn gwawrio,
A'r heliwr yn seinio ei gorn yn y llwyn;
Ar edyn yr hedydd mae purwlith yn yerlio,
A tithau yn huno-0 gwrando fy nghwyn;
Ai wyt ti'n anghofio mai 'chydig o oriau
A gaf cyn dy adael, fy mûn deg dy bryd,
Efallai am flwyddyn, efallai hyd angau,
Angyles fy nghalon! paham 'rwyt yn fûd?

Kathleen f'anwylyd, dihuna, dihuna,
Mae'r haul yn goreuro bryn, dyffryn, a dôl;
Rhyfeloedd a'm galwant i'r waedlyd ymladdfa,
A phwy wyr, f'anwylyd, a ddeuaf yn ol?
I lawt byd fy ngruddiau yn hidl rhed dagrau,
Wrth adael fy Nghathleen i ymladd â'r byd;
Efallai am flwyddyn, efallai hyd angau,
Angyles fy nghalon! paham 'rwyt yn fud:

—TALHAIARN.


"Y DERYN PUR."

Y 'Deryn pur a'i aden lâs
Bydd imi was dibryder
O! brysur frysia at y ferch
Lle rhoes i'm serch yn gynnar
Dos ti atti, a dywed wrthi,
Fy mot i'n wylo'r dŵr du heli-
'Mod i'n irad am gael ei gweled,
Ac o'i chariad yn ffaelu a cherdded
O! Duw faddeuo'r hardd ei llun,
Am boeni dyn mor galed.

Pan o'wn i'n hoenus iawn fy hwyl,
Ar ddiwrnod gŵyl yn rhodio,
Canfyddais lodes lana' 'rioed
Ar ysgafn droed yn troedio
Pan y'i gwelais-syth mi sefais
Ac yn fy nghalon mi feddyliais
Dacw'r ddynes lana'r deyrnas
A'i gwedd yn harddu'r oll o'i chwmpas
Ni fyn'swn gredu un dyn byw,
Nad oedd hi ryw Angyles.

MISS WILLIAMS, ÅBERPERGWM.


"O GOLLWNG FI."

O gollwng fi dyneraf fam,
Mae gorchudd angeu dros fy ngrudd;
Na foed i'th galon bur, ddinam,
O'm hachos i ymdeimlo'n brudd;
Fel crogen wan wyf ar y traeth,
A ddygir gan lifeiriol li',
O flaen y gwynt y dòn a ddaeth,
Mae'n sio, clyw, O gollwng fi.

O gollwng fi, pererin wyf
A ddaeth i weled byd o wae;

Wrth wenu arno, rhoes im' glwyf,
A chwerwi fy nysgieidiau mae;
Er gwaetha'r byd, gobenydd gaf
Esmwythach na dy ddwyfron di;
Mewn melus hedd gorphwyso wnať
Yn mynwes Naf, O gollwng fi.

O gollwng fi, mae lleni'r nos,
A'r holl gysgodau'n gado'r llawr;
Mi welaf dros y bryniau, dlos
Wawr dirion tragwyddoldeb mawr
Pinaclau heirdd Caersalem sydd
Yn d'od i'r golwg yn ddiri;
Caiff f'enaid fyn'd o'i rwymau'n rhydd,
Fe ddaeth yr awr, O gollwng fil

O gollwng fi, mae teulu'r nef
Yn dysgwyl wrthyf dd'od i'r ŵyl;
Fy mainge a drefnwyd ganddo ef,
Mae tanau'r delyn oll mewn hwyl.
Mae'r bwrdd yn llawn danteithion pêr,
Y gwestwyr mewn addurnol fri;
A'r lampau fel dysglaerwych ser
Yn harddu'r llys, O gollwng fi.

O gollwng fi, mae cerbyd gwych
O'r nefoedd wedi d'od i'm hol
Dy ddagrau gloewon ymaith sych,
Na wyla funud ar fy ol;
Cei dithau'n fuan rodio'r glyn,
A chroesi gorwyllt rym y lli;
Cawn fod yn nghyd ar Seion fryn,
Bydd iach hyd hyn, a gollwng fi.


Y DDERWEN.

Cydganwn fwyn gerdd i'r dderwen gref werdd,
Brenhines gauadfrig y coed;
Boed iechyd a bri i'w choryn gwyrdd hi,
A boed fel y bu er erioed :
Bydd gwg ar ei hael* ar fachludiad yr haul, *Ael (brus'
Pan fo'i lewyrch yn gadael ei brig;
Hiddengys ei nerth pan fo stormydd certh
Yn chwiban drwy'i cheingciau yn ddig.

Cydganwn yn fwyn i frenhines y llwyn
Ei hail yn y glaslwyn nid oes;
Boed iechyd a bri i'w choryn gwyrdd hi
A channoedd o flwyddi i'w hoes.

Yn yr amser gynt, pan f'ai dail gan wynt
Yn suo rhyw dyner dôn,
Y byddai, medd beirdd, lodesi heirdd
Yn chwarae o gwmpas ei bôn:
Oddydd i ddydd â chalon rydd
Y dawnsient yn llaw a llaw;
Pa le mae y rhain? Mae pob geneth gain
Yn huno yn y fonwent draw.
Cydganwn yn fwyn, &c.

Hi welodd hoyw hynt yr hên bobl gynt
Yn hwylio pob helynt yn hael,
Pau f'ai telyn a chrwth yn mhob palas a bwth,
A chroesaw i'r gwych a'r gwael;
Ond arian yn awr yw'r fwyn ddelw fawr
Addolir gan bawb yn y byd;
Ond yfwn âg un llefi'r hên dderwen gref,
Ei grymusder, ei phrafider, a'i phryd.

Cydganwn yn fwyn, &c.

—TALHAIARN.


Y MESSIA.

DECHREUWOH gân wyryfon Sion werdd;
I bynciau'r Nef y perthyn gwychaf gerdd.
Y ffrwd yn trydar-gwig yn gwatwar gwynt,
Breuddwydion Pindus a'i awenau gynt,
Ni foddiant mwy. Dwyfola di fy nghân
A gwrddaist santaidd fant Esaia a thân.

Gan dreiddio i oesau i ddod dechreuai'r bardd.
Ymddyga Morwyn Fab! Blaguryn dardd
O wreiddyn Jesse, ei flodeuyn pêr
Gwasgara sawr o ddaear hyd y sér.
Y dwyfol Ysbryd ar ei ddail a drig,
A ch'lomen Nef disgyna ar ei frig.
Ti Nen, tywallta dy neithdaraidd wlith,
Mewn gosteg araf hidla gawod flith!
Y llesg, a'r claf o'i rin dderbyniant les,
Nawdd rhag ystorm, a chysgod rhag y gwres
Diflana bai, dilëir yr ystryw lwyd ;
Adchwelol iawnder ei chlorianau gwyd;
Ar garnedd brwydrau tyf olewydd hedd,
Cyfoda purdeb Gwynfa hen o fedd.
Chwim hedwch flwyddau ! dwyre ddedwydd ddydd !
O rwymau nos tyr'd, faban, rhwyga'n rhydd.
Gwel, Anian frysia i ddwyn ei thorchau fyrdd,
A'r holl darth per anadla'r gwanwyn gwyrdd;
Libanus, gwel ei gopa tàl a gryn,
A choedydd chwyfiawg ddawsiant ar y bryn:
Gwel fwg per-lysiau'n derchu o Saron wen,
A Charmel freiliawg grib bereiddia'r nen;
Clywch pa lais ban drwy'r anial mud sy'n bod,
Par'towch y ffordd, mae Duw, mae Duw yn dod?
Mae Duw Mae Duw! ateba llethri'r lef,
Cyhoedda creigiau ei ymweliad Ef.
Gwel! byd a'i derbyn o'r uchelder crwm!
Fynyddoedd soddwch! dwyrëed glyn a chwm:
A brig plygedig, Gedrwydd, talwch ged,
Ymlyfnha graig! lif chwvrn i'th wrthol rhed!

Iachawr sy'n dod ! fel d'wedodd beirdd y Nef,
Clywch Ef fyddariaid! ddeillion gwelwch Ef!
Dwg lygad tywyll o dew gèn yn rhydd,
Ac ar y ganwyll ddwl arllwysa ddydd;
Holl folltau'r glust o flaen ei lais wnant ffoi,
A newydd gainc a'i swyna wrth ddatgloi;
Y mud a gan,-y cloff a ddryllia'i ffyn,
Corelwa'n fwch fel iwrch ar wá y bryn.
Un och na thwrf ni thyr ar hinon byd,
Oddiar bob grudd fe sycha'r dagrau i gyd:
Mewn cadwyn ddiemwnt rhwymir angau mwy,
Certh ordeyrn annwn deimla'i fythol glwy.
Fel'r arwedd bugail da ei braidd o'i ol,
Gan geisio gloewaf nant a gwyrddaf ddol,
Adferu y goll, a chyfarwyddo'r wyr,
Y dydd eu gwarchod, ac eu noddi'r hwyr ;
A'i faethlon fraich yn casglu'r eiddil ŵyn,
Eu porthi a'i law, ac yn ei gol eu dwyn;
Felly Efe a lywia fyd a'i law,
Er addawedig Dad yr oes a ddaw.
Gwlad yngwrth gwlad ni threilia mwy ei grym,
Ni chwrdda milwyr graid & llygaid llym:
Ni hulir aerfa mwy a llachar ddur;
Ni chyffry'r udgorn croch, na chas, na chur:
Pladuriau wneir o'r diles wayw-fyn;
A swch fu'n gledd braenarir godre'r bryn.
Dwyrëa llysoedd, llon orephna'r had
Yr hyn ddechreu'sid gan ei fyr-oes dad;
Y gwinwydd nodda'r hil ar hefin brwd,
Y llaw fu'n hau a fêd, a gluda'r cawd.
Rhyfedda gwr wel'd yn yr anial cras,
Y lili'n tarddu drwy y cwrlid glas;
Synlama, ynghanol diffaeth sych pan glyw
Y llethri'n tyrddu gan reieidr byw
Yn holltau'r graig, lle ffurfiodd draig ei ffau,
Cryn llafrwyn ir, a gwelir hesg yn gwau;
Lle nidrodd drain ar lychlyd ochrau'r glyn,
A chwardd dan urdd o geinhardd dderi ac ynn.
Tyf palmwydd gwyrdd yn mangre'r grinllyd berth,
A myrtwydd prid lle cysgodd cegid certh.
Y Blaidd a'r Oen gyd borant gylch y gail,
Tywysa'r plentyn Lew wrth dennyn dail;

Yr Arth gyd ieua â'r ŷch mewn dinych dang,
A llyfa seirff di-lid y troed a'u sang:
Y baban nwyfus red oddiwrth y fron,
I chware a gwiber hyd y barth yn llon,
A rhifa frychau'r cèn symudliw, hardd,
Try'r colyn fforchog gylch ei fys,—a chwardd.

Cwyd! cwyd yr haul yw'th goron, Salem wen!
Derchafa'th olwg! dwyre'th gaerawg ben!
Gwel hil dirif i'th eang lys yn urdd,
Gwel fyd yn esgor iti feibion fyrdd,
O'th ddeutu tyrant, llu ar lu'n un lef
Erfyniant fywyd ; brysiant am y nef.
Gwel wylltion Lwythau'n toi dy byrth & mawl,
Dy Dduw addolant, rbodiant yn dy wawl.
Gwel wrth d'allorau'n plygu lywion byd,
Can dyru arnynt gnwd Sabæa'i gyd!
I ti anadla llwyni Edom glaer,
I ti esgora bryniau Ophir aur.
Gwel, Nef ei gemawg byrth yn agor sydd,
Ac arnat yn ymdori'n ddylif dydd.
Mwy ni oreura dwyrain haul y wawr,
Ni leinw'r lloer ei harian gorn yn awr,
Ar goll yn dy belydr, gwelwant hwy;
Un llif o rad, un fflam ddigwmwl mwy
Orlanwa'th lys. Tywyna'r Gwawl ei hun
Yn llachar; tyr ddydd bythol Duw ar ddyn !
Try'r Nen yn fwg, hysbydda'r cefnfor trwch,
Y moelydd doddant, syrth clogwyni'n llwch,
Ond sicr ei air, yr un ei allu fydd;
Dy sedd ni syfl, yn deyrn MESSIA sydd.

—Alun


Y LLAFURWR TLAWD.

Mae y gwr yn ymguraw,
A'i dylwyth yn wyth neu naw;
Dan oer rhin yn dwyn y rhaw,—mewn trymwaith
Bu ganwaith heb giniaw.

Aml y mae yn teimlo min
Yr awel ar ei ewin;
A llwm yn ei gotwm, gwel,
Durfing i'w waed yw oerfel:
Noswylio yn iselaidd,
A'i fynwes yn bres oer, braidd.
Ba helynt cael ei blant cu,
Oll agos a llewygu?
Dwyn ei geiniog dan gwynaw,
Rhoi angen un rhwng y naw!
Edrych yn y drych hwn dro,
Gyr galon graig i wylo;
Pob cell a llogell egyr,
A chloiau dorau a dyr.

—DEWI WYN.


Y TRI RHYBUDD.

O brenau'r maes y dyfna'i wreiddyn
I adaw'r llawr yw'r mwyaf cyndyn;
Am hyn bu'r doethion gynt yn doedyd,
Pohwya'r oes melusa'r bywyd.

Efelly'r ydym wrth naturiaeth.
Yn dewis oedi dydd marwolaeth,
Fel un yn rhoi'r peth ddylai gofio
Yn mhell o'i olwg heb ei styrio.

Dir yw Angau, gwnair cyffesu,
Ond etto 'chydig sy 'n ei gredu:
Os hen ddihareb ni wna lwyddo
Mi draethaf hanes gwerth ei gofio.

Pan oedd y ddawns a phawb yn ddiddan,
Ar ddydd priodas Siencyn Morgan,
Pwy ddaeth i mewn pan llona'r chwareu
Ond Henwr penllwyd elwid Angau.

Rhoes alwad i'r Priodfab diwall
A golwg sad i 'stafell arall,
Rhaid it', eb ef, roi heibio 'th Briod,
A chyda mi rhaid iti ddyfod.

Beth! gyda 'th di! attebai Siencyn,
Gyda 'th di ! be sy ar yr Hurtyn!
Mor ieuanc oed, a gado Mhriod,
Ac heb law hyn, 'dw'i ddim yn barod.

Fy meddwl i ar hyn o adeg
Ar bethau eraill sydd yn rhedeg;
Oblegid heddyw ydyw nodol
Dydd fy neithior diddan ethol.

Pa beth a dd'wedodd ef yn mhellach
Ni chefais glywed dim amgenach;
Beth bynag Angau wnaeth ei hebgor
I fyw'n y byd am beth yn rhagor.


Dywedodd Angau'n ddifrifedig,
A'i awr-wydryn yn grynedig,
Yn iach am dro, ni wnaf heb amgen
Ddim tori llwydd dy oriau llawen.

Ac hefyd rhag im' gael fy meio
Am fod yn greulon wrthyt heno,
Rhof amser it' ddarparu 'n mhellach,
I'r byd nesaf yn gymhwysach.

A chyn dy alw i blith y meirwon
Ti gei wahanol Dri Rhybuddion,
Mewn llwyr obaith na rwgnechi,
Ond gadaw'r byd yn foddlon gwedi.

I'r ammod hwn y cyttunasant
Bawb yn foddlawn ymadawsant,
Yr Angau melyn llwm aeth allan,
Ac at ei ddawns a Siencyn Morgan.

Y modd y treuliodd ef ei ddyddiau
Mor faith, mor ddoeth, mor dda ar brydiau,
Mygu 'i bibell a byw 'n llawen
Clywch yn mhellach gan yr awen.

Yn mlaen ag ef mewn llwydd a llafar,
Ei wraig nid croes, ei blant yn gysur,
Treulio 'r dydd yn rhydd ar heddwch,
A llawn eiddo mewn llonyddwch.

Fel hyn flynyddau ar flynyddau
Bu 'n sathru 'n esmwyth yr un llwybrau,
Heb feddwl dim fod Angau'n gwylio,
Na'i wel’d ei hunan yn heneiddio.

Ond er mor ddiofal, er mor ddiddan,
Ni ddaw henaint ddim ei hunan,'
Llithro wnaeth ei oed o'r diwedd
Yn mlaen i bedwar ugain mlynedd.

Ac wele 'n awr, ar ryw ddechreunos,
Yr hen Genad yn ymddangos,
Gan ddweyd nas darfu ddim anghofio
Yma 'n dyner alw am dano.


Heb wel'd yn graff, ac etto 'n ammau,
Adnabu ryw fodd lais yr Angau,
Mewn llewyg braidd, gan fraw a dychryn,
Mor fuan daethost, ebe Siencyn!

Mor fuan meddi, eb yr Angau,
Ai ni wyddost hyd dy ddyddiau?
Mae er pan elwais haner canmlwydd,
Athithau 'n bedwar llawn ugeinmlwydd;

Gwaethaf oll, atebai'r trwsglyn,
Ond gweithred fwyn f'ai achub henddyn;
“ Beth bynag, dylid profi'th warant,
A roes un gywir yn dy feddiant.

Ac heblaw hyn, addewaist anfon
I mi wahanol Dri Rhybuddion;
Am danynt yr edrychais lawer,
Dylâwn gael tâl am golli f'amser.

Nid oes, eb Angau, mi wn yn rhodio
A mi ymdeithydd mor ddi groeso,
Mae gan o'r brenin i'r cardotyn
Ryw oferbeth yn fy erbyn.

Ond, gyfaill, paid a bod yn gecrus,
Can' croeso it' o'th ddyddiau hapus,
Nerth ac iechyd maith i gychwyn
O gylch yn hy eith dŷ a'th dyddyn.

Aros beth, attebai'r henddyn,
Paid a siarad yn rhy sydyn!
Mi gloffais i er's pedair blynedd,
Ni allaf fyned o fy annedd.

Nid syndod mawr eb ef, yr Angau,
Er hyn ti gedwaist dy lygadau :
Gweled ceraint a chyfeillion
A ddwg siriol dda gysuron.

Fe allai hyny, ebai'r henwr
Ond aethum i yn waeth fy nghyflwr,
Bu'n digwydd imi, hyn sydd amlwg,
Er fy ngalar golli 'ngolwg.


Chwedl garw yn wir yw'r geiriau,
Ond mae un cysur, eb yr Angau,
I wneud gwellåd o'r holl golledion,
Ti glywi'n addas bob newyddion.

'Rw'i'n hoffus iawn o wrando newydd,
Ond clwy'r penau ddarfu ddigwydd
Gwneyd fy nwyglust gan fyddared,
A maith yw'r clo, 'rw'i'n methu clywed.

Wel, wel! dywedai'r sad ddrychiolaeth,
Os wyt fel hyn, wrth wir dystiolaeth,
Yn Gloff, yn Ddall, yn Fyddar foddion,
Ti gefaist eithaf Tri Rhybuddion.

Tyr'd gyda mi, mae pobpeth drosodd,
Eb ef, ac ynddo'i saeth a blanodd,
Yn awr ei hun i fyny rhoddes;
Felly y terfyn hyn o hanes.

R. DAVIES, NANTGLYN.


Y GWLITHYN.

MOR dêr, mor glaer yw gwên y bore wlith
A geir ar daen ar hyd y rhosyn brith;
Cyn codiad haul, pan byncia'r adar syw,
Fel gloew ddeigro lygad angel yw;
Neu megys gem o anmhrisiadwy werth,
A harddai fantell befr Aurora ferth.
Ei euraid balas yw'r brïallu cun :
Rhwng bronau'r lili huna ei nosol hun.
Pan boetho huan wyneb daiar faith,
Dyrch yn ei gerbyd i'w awyrol daith;
Yn mro'r cymylau dawusia'r dydd yn llon,
Ymwêl, yr hwyr, drachefn, â'r ddaiar gron,
A thecach trem, ac â phrydferthach lliw
Na gwisg ysblenydd y goleuni gwiw.

PARCH. D. S. EVANS.


DIWEDD Y CYNHAUAF.

TYMORAU ehedant,
A blodau a wywant,
A dail a orweddant
Ar hyd y llawr;
Medelwyr a ganant,
Yd addfed a gludant,
Adar ehedant
Dros y mor mawr.

Ar frys daw'r llym Aua',
Ei wynt a ysgythra,
Pob peth o'i flaen rwyga,
Daw'n dywydd du;
Wrth dân goleuedig,
O friwydd o'r goedwig,
Bydd sionc a methedig,
Yn llechu'n ty.

Ar fyr yr ymlithra
Fel hyn yr oes hwya',
Fe dderfydd yr yrfa,
Gwywa'r hardd wedd;
Dy wanwyn di ddarfu,
Mae'th Haf dithau i fyny;
Down toc i auafu
I dy y bedd.

CALEDFRYN.


MARWOLAETH IEUAN GLAN GEIRIONYDD.

AR làn Iorddonen ddofn
Y mynych grwydraist,
Mewn blys myn'd trwy ac ofn
Ond ti anturiaist!
A'r byw a'th welsant di
Yn croesi' hymchwydd hi,
Yn hedfan uwch y lli',
I'r Ganaan welaist.

Ti wyddit rymy dwr
Cyn myned iddi,
A gwyddet am y Gŵr
Sydd Gyfaill ynddi;
Os teimlet fel yn wàn,
Llwyddianus fu dy ran,
Cyrhaeddaist dawel làn
Bro y goleuni.

A ninnau welwn draw,
Ar fynydd Seion,
Yn iach heb boen na braw,
Y cywir Gristion:
Ar làn Iorddonen gref,
Mewn hiraeth am y nef,
Cân myrdd ei Emyn ef
I'r dyfroedd dyfnion.

—CEIRIOG.


YN FOREU TYR'D I'R YSGOL SUL

 
Os wyt yn caru'th blant,
A thyner galon tad;
Os ewyllysi ar i Dduw
Barħau yn Dduw dy had;
O gwrando ar y llais
Sy'n galw yn ddidaw,—
Yn foreu tyr'd i'r Ysgol Sul,
A'r Beibl yn dy law.

Os wyt yn caru dyn,
Os wyt yn teimlo sêl
Tros addysg a oleua'r ffordd
Yn mlaeni'r byd a ddel,–
Os credaist fod y bedd
Yn ddôr i fywyd draw ,
Yn foreu tyr'd i'r Ysgol Sul,
A'r Beibl yn dy law.

Os wyt yn caru Duw,
A'i achos yn y byd, —
Os hoffet weled dynolryw
Dan faner Crist ynghyd;
A gweled goleu wawr
Trwy wyll y byd a ddaw,
Yn foreu tyr'd i'r Ysgol Sul,
A'r Beibl yn dy law.
—CEIRIOG.


YR ANTHEM WLADOL.

O Dduw! ein Harglwydd da,
Cadw VICTORIA;
Duw cadw hi:
Bydd iddi'n dyner Dad,
Er lles a llwydd ein gwlad,
Rhag y derfysgawl gâd,
Duw cadw hi.
 
A’th ddwyfol waew ffon
Chwâl ei gelynion,
Na chlyw eu cri:
Alltudia'n chwyrn o'n gwlad
Bob terfysg, llid , a brad;
Ein trugaroccaf Dad,
Duw cadw hi.
 
Teyrnased hon yn hir
I gynnal deddfau'n tir,
Duw cadw hi:
Dod iddi ras a dawn,
A gwir ddoethineb llawn,
I lywodraethu'n iawn—;
Duw cadw hi.
TALHAIARN.


CYNWYSIAD

Nodiadau

golygu
  1. Ciwpid
  2. Cyfieithiad o What is that Mother? gan George Washington Doane
  3. The Four Seasons: Spring. James Thompson
  4. gan William Wordsworth
  5. Swper
 

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.