Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig) (testun cyfansawdd)
← | Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig) (testun cyfansawdd) gan Owen Lewis (Glan Cymerig) |
→ |
I'w darllen cerdd wrth gerdd gweler Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig) |
CANIADAU
OWEN LEWIS (GLAN CYMERIG)
Argaffwyd gan DAVIES ac EVANS, Swyddfa'r SEREN, Y BALA.
1895.
AT Y DARLLENYDD.
Anwyl Ddarllenydd,—
WELE fi yn dwyn ger dy fron lyfr yn cynwys rhai o'm cynyrchion barddonol—ffrwyth llafur caled, ond gwir bleserus, fy oriau hamddenol am rai blynyddoedd. Er fod amryw ohonynt wedi ymddangos cyn hyn yn ngwahanol gyhoeddiadau wythnosol a misol ein gwlad, nid oeddwn yn hoffi iddynt fyn'd ar ddisperod. Hyn, ynghyd a pherswad amryw o gyfeillion llengar, a barodd i mi anturio eu casglu yn llyfr.
Y maent yn amrywiol o ran eu natur—ceir ynddynt y lleddf a'r llon. Y mae amryw o honynt wedi bod yn fuddugol; oes, ddarllenydd, ac y mae rhai ohonynt wedi bod yn aflwyddianus hefyd, er fy ngofid y pryd hwnw. Ond bid fyno am hyny, mawr hyderaf y cei gymaint o bleser wrth eu darllen ag a gefais i wrth eu rhoi wrth eu gilydd.
Dymunaf arnat beidio bod yn llaw-drwm iawn ar y ffaeleddau weli ynddynt, gan gofio mai ar ol llafur a lludded y dydd gyda'm gwaith y bum yn ymboeni uwch eu penau.
Ydwyf, anwyl ddarllenydd,
OWEN LEWIS,
(GLAN CYMERIG.)
Y Bala, Chwefror, 1896.Cynwysiad
At y Darllenydd
Fy Ngwlad
Yr Eos
Cerbyd y Cigydd
John Penri
Thomas Charles o'r Bala
I'r Parch E T Davies (Dyfrig)
I Blas Rhiwaedog
Rhiwaedog Hall
Y Daran
Darlun fy mam ar y Mur
Y Llygaid
Meirionydd
Beth wna Ddyn
Mr T E Ellis, AS
Fy Mam
Caergai
Merch y Morwr
Y Fron-fraith
Y Blodau
Er cof am S J Edwards, merch Mr a Mrs J Edwards, Mt Street, Bala
Odlau Hiraeth am Wyndham, plentyn Mr a Mrs Owen Richards, High St Bala
Os mathrwyd y gelyn
I Lewis E Howel
I Lyfr fy nghyfaill Gwaenfab
Llygaid y dydd
Yr Elor
Y Gwanwyn
Y Baban yn marw
The dying child
Y Cenhadwr
Y Llyfr Gweddi
Cyflwynedig i Mr a Mrs Jones, Bradford House
Y Bedd
Er Cof am Mrs Janet Evans , Bala
Llyn Tegid a'r amgylchoedd
Y Bwthyn Bach yn Meirion
Y doniol W E
Castell Carn Dochan
Y Dwyfol Wared wr
Odlau hiraeth ar ol J Owen, Blue Lion, Bala
Cadeiriad Taliesin Fychan
Odlau hiraeth am Mr E Edwards, Dolgellau
Y Barug
Y Bwthyn ar Waelod y Llyn
Llywarch Hen
Hen Eglwys Llanycil
Y Crwydryn
I'r Sol-ffa
Blodeuglwm ar fedd R Ellis, mab Mr a Mrs E Ellis, Castle St , Bala
Dyffryn Edeyinion
Emyn Dirwestol
Plant y Rhos
Yr Hen Fam
Y Meddwyn
Heddgeidwad
Cyflwynedig i Wyn J Williams ar ben ei flwydd
Mynwent Llanycil
I Constance Mary
St Paul
With Dan o Fawn
Itor Wyn o'r Hafod Ewy (Pugeilgerdd)
Llinellau Dyhuddol am Meyrick, plentyn Mr a Mrs Jones , Trawsfynydd
Cynghor i Lwydlas a Taliesin o Lyfnwy pan mewn dadl
Hen Gloch y Llan
Dathliad priodasol i Mr C E J Owen, Hen
gwrt Ucha a Miss M Vaughan, Nannau
Ymadawiad y Cymro
Blodeuglwm ar fedd E Leary
Cyn i'm huno
Mor ddedwydd ' roeddem ni
I Dewi Meirion , Bala
Aelwyd Bryn y Groes
Er cof am Laura Jane, merch Mr a Mrs C Jones , Beuno View, Bala
O dan y Dderwen
Pryddest Yr Ardd
Jane E Rees, yr hon a hunodd Tach 11еg, 1892
Cwyn y Caethwas
Anerchiad Priodasol i Mr a Mrs Williams, Tynewydd, Llandderfel
Ar finion y Llyn
Y Bwthyn ar Ferwyn
Cerbyd Eira Dr Williams, Bala
I Miss Emily Ellis, Red Lion, Bala
I Mr Reese, Portmadoc
Englyn i faban Mr a Mrs Charles Jones, Llandderfel
I Bwlpud
I Nelly White
Pryddest—Aberth Crist
Nadolig
Crist ein Pasg
L'ongyfarchiad i'r Parch J Williams, BA Rhosygwaliau
Y Parch Silas Evans
Y nhw sy'n dweyd
Maggie, sef anwyl ferch Mr a Mrs R
Roberts, (miller), Ffrydan Road, Bala
I Gymdeithas Ddirwestol
I Wm Humphreys, Gof, Bala
Chwe phenill sylfaenedig ar Phil iii
I Gantores
Beddargraff am Mrs E Jones, Rhosygwaliau
Corn Arian Mr Edwards, BM , Machynlleth
I Lanwddyn ar nos Sadwrn
Englyn i Ivy John
Goresgyniad Gwlad Canaan gan Josua
Udgorn y Jiwbili
Cwyn Coll
CANIADAU GLAN CYMERIG.
FY NGWLAD.
FY ngwlad, fy ngwlad, fy anwyl wlad,
Rhyw Eden hudol yw;
Dy froydd teg, a'th fryniau mad,
Dy ddyfroedd gloewon byw;
Llynoedd gloewon ymddisgleiriant
Fel drychau arian ymddanghosant
Llûn mynyddoedd yn ymgodi,
Ar y bryniau i'r wybreni;
Gydia'n hynys fel cadwyni.
Ag arall fyd.
Fy ngwlad, fy ngwlad, fy anwyl wlad,
Paradwys wyt i mi;
O dan y nef ni chaf fwynhad,
Fel ar dy fronau di;
Hen gartref rhyddid, gwlad y delyn,
Wyt ti er gwaethaf trais y gelyn,
Yn nhawelwch tragwyddoldeb
Awen Cymru, a'i thlysineb,
Unir byth mewn anfarwoldeb
Ag arall fyd.
Fy ngwlad, fy ngwlad, fy anwyl wlad,
'Rwyt ti yn fyd o gân;
A myn Ceridwen roi mawrhad,
Ar awen Cymru lân;
Yn anwyl wlad fy ngenedigaeth,
Y mae pob cwmwd yn farddoniaeth.
Uwch bedd amser a'i flynyddoedd,
Hanes ei hen gymanfaoedd
A gysylltir yn y nefoedd,
Ag arall fyd.
Yr Eos
YN nghesail Berwyn gyda'r nos,
Fe gân yr eos fwyn;
Tra cysga anian ar y rhos,
Tra huna cor y llwyn;
Yn canu, canu y mae hi,
Ei nodau peraidd syw ;
A seiniau nef mae'n swyno ni,
Ei chân sy'n enaid byw.
Brenhines anian ydyw hon,
Brenhines cor y wig;
A phan y cân ar frig y fron,
O'i chylch dystawrwydd drig ;
Yn gwrando, gwrando mae y llu
Asgellog yn y llwyn,
Ar un sydd megis oddifry,
Yn llawn o nefawl swyn.
Aderyn hoff, croesawaf di
I fryniau Cymru lân;
Pa fan yn nghreadigaeth Ior,
Mor deilwng o dy gân?
Y dydd fe wylia'r haul dy lys,
A'r nos fe wylia'r ser,
O brysia eto atom ni,
I byncio'th geinciau per
CERBYD Y CIGYDD
YR asyn oedd ar risio,—a'r cigydd,
Wr cegog oedd yno;
A Dick oedd yn quick o'i go,
Yn adyn yno'n udo.
Trwy rhyw bolyn tri o'r Bala—daflwyd,
Tro diflas oedd hwn'a;
Fan hon 'roedd dynion da
Yn ochain am yr ucha.
JOHN PENRI
PAN oedd Cymru'n nghaddug dudew anghrediniaeth,
Pan oedd pechod yn teyrnasu'n ben;
Wele Penri, seren foreu gwaredigaeth,
Yn disgleirio yn ffurfafen Cymru wen;
Gwelodd pan yn crwydro 'i hen wlad enedigol,
Angen ei gyfoedion annuw am y Gair.
Penderfynodd ef trwy gymorth yr Anfeidrol,
Ddangos gwerth yr Hwn fu gynt ar liniau Mair.
Bu'n hiraethu pan yn ieuanc yn Brycheiniog,
Am ddyfodiad gwawr oleuni ar y wlad,—
Yno teimlodd fod Gwaredwr mor ardderchog,
Yn Gyfryngwr rhyngddo ef a'i nefol Dad.
Bu yn gweddio ar y nefoedd am wybodaeth,
I ddadblygu maint yr Iawn fu ar y Groes;
Ac mae'r nefoedd iddo 'n estyn haul dysgeidiaeth
I'w oleuo, trwy dywyllwch dudew'r oes.
Draw i Gaegrawnt y cychwynodd ef o Gymru,
Yn llawn hyder i lafurio at y gwaith;
Yno 'n ddiwyd am flynyddau bu'n efrydu,
Er mwyn arwain Cymry druain ar eu taith;
Byddai weithian yn dod adref i hyfforddi,
Rhai sychedai am y dyfroedd dwyfol byw.
Yna meiddia wg gelynion dirifedi,
Rhai chwareuent gydag achos mawr eu Duw
Mor ddeniadol oedd ei glywed yn taer erfyn
Am dywalltiad Ysbryd sanctaidd pur y nef.
Fel y byddai yn gweddio dros y gelyn,—
Feiddia wadu Duw ag uchel lef.
O! adfydus Gymru anwyl, mor echryslawn,
Mor ofnadwy oedd dy bechod a dy gri;
Dy drigolion anwybodus, mor anghyfiawn
Oeddynt hwy i farnu dy weithredoedd di;
Ah! mor chwerw oedd y dagrau wylodd Penri,
Wrth dy weled ti yn suddo 'n is o hyd,
I'r dyfnderoedd tros geulanau erch trueni,
I gyfarfod cyflog pechod mewn ail fyd.
Bu yn feddyg i addysgu y trueiniaid,
Ffordd i'r ddinas ddwyfol ddisglaer lle nad oes
Ond molianu gan angylion a cherubiaid,
Wrth orseddfa 'r hwn fu farw ar y Groes;
Mor odidog oedd ei allu i gynllunio—
Addas lwybrau i'r anffodus rai,
Aeth at ddoethion senedd Prydain i ymbilio
Am gyfreithiau i ddinoethi'r erchyll fai
Oedd yn gorwedd ar ysgwyddau gwag estroniaid
Eiddigeddus, heb wybodaeth am yr iaith ;
Trwy ba un i lywodraethu ei anwyliaid
A newynent trwy eu llygredigol waith.
Yn nghrombil ddu y ddaear oer,
Fe'i dodwyd ef i orwedd,
Mewn man nas gallai wel'd y lloer.
Na goleu 'r dydd a'i fawredd ;
Er hyny clywai lais yr Ior,
Yn sibrwd rhwng y muriau
Fod ei drugaredd fel y mor,
Yn golchi 'n wyn 'r holl feiau.
Pe codid cwr o'r ddwyfol len,
Fe welid yr angylion
Yn agor pyrth y nefoedd wen
I'w dderbyn o'i dreialon;
'R oedd yno le ger mainc yr Ior,
Yn disgwyl oedd am dano,
A phawb yn canu heb ddim poen,
A'r Iesu yno'n gwrando.
Mor ddwys gweddiai ar ei Dad
Am atal y llifeiriant
Ofnadwy dreiglai tros y wlad
Yn ddiluw o ddigofaint;
Er iddynt ei garcharu ef
Mewn carchar tywyll unig,
Fe glywai engyl nef y nef
Yn canu 'r nefol odlig.
Ond ust! dyna guro, wrth ddrws y carchardy,
Mae'n clywed swn traed ar y palmant;
Mae'r gelyn yn dyfod a'u lleisiau 'n taranu,
Agorant y drws ac edrychant;
Ac yno canfyddant y gwrol John Penri
A'i ddwylaw yn bleth yn gweddio,
Gan erfyn am gymorth y nefoedd i'w deulu
A'r rhai yr oedd ef yn ymado.
Arweiniwyd ef allan o'i gell dan—ddaearol
I ddioddef wrth stanc oedd yn fflamio;
A'i enaid ehedodd ar lam i'r byd oesol,
I dderbyn ei wobr oedd yno.
THOMAS CHARLES O'R BALA.
EIN Charles dda, i barch mwyhaol,―esgyn
Trwy'r Ysgol Sabbothol;
A'i lyfrau byw lefarol
I oesau fyrdd saif o'i ol.
I'R PARCH. E. T. DAVIES (DYFRIG.)
NOD hoewfron enaid Dyfrig,—a daenwyd
Mewn doniau brwdfrydig;
Ac heno, drwyddo fe drig
Oleudy anweledig.
Eglurodd i ni 'r moddion—i gyraedd
Goror y Nef wiwlon;
Pa ryfedd, i wledd fel hon
Danio eneidiau dynion?
Gwen hudol ei genhadaeth—a erys
Yn goron hardd odiaeth;
Yn myd dyrus ysbrydiaeth,
Dyna'n wir ein denu wnaeth.
I BLAS RHIWAEDOG.
PLAS Rhiwaedog sydd hen balasdy hynod,
Bu gynt yn drigfod tywysogaidd fardd;
Dymunol fan i dremio i'r gorphenol
I bell gyfriniol hanes Cymru hardd ;
Saif yn ddigryn, gofgolofn syn y cynfyd,
Gorwedda arwyr rhyddid dan ei lawr,
Ei enw sy'n goffhad amseroedd enbyd,
A llanerch waedlyd lle bu brwydr fawr.
Bu'r Berwyn mawr drwy chwyldroadau amser,
Yn syllu gyda balchder uwch ei ben;
Gan dremio'n mhell uwchlaw y niwl a'r stormydd
Ar doriad gwawr-ddydd Gwalia wen;
Mae heddyw mewn tawelwch balch yn syllu,
Ar drais yn trengu,—ac yn taflu gwen,
Fel hen dywysog gwladgar uchelfrydig,
Ar gartref cysegredig Llywarch Hen.
Hen blas Rhiwaedog, bu gwroniaid ffyddlon
Yn colli gwaed eu calon bur yn lli,
Yn rhoi eu hunain yn aberthau gwaedlyd
Ar allor rhyddid o dy amgylch di;
Dy enw a gysylltir gan adgofion,
A hanes arwyr glewion Cymru fad,
Er cof am Gwawr a Riryd Flaidd ac Einion,
Cei wisgo coron loew serch dy wlad.
Hen balas syn, ti welaist fonedd Meirion
Yn erlid dynion am bregethu Crist,
Ond gweli heddyw demlau 'n cael eu codi
I enw'r Iesu ar eu beddau trist;
Ti welaist lawer o ddaearol rysedd,
A gwag oferedd rhwng dy furiau clyd,
A gwelaist gleddyf barn yn llaw dialedd
Yn rhoddi diwedd ar y rhwysg i gyd.
Balasdy hen, wyt megis dolen gydiol
Rhwng y presenol a'r gorphenol mud,
Yn aros drwy ystormydd amgylchiadau,
Yn dyst o chwyldroadau fu'n y byd;
'Rwyt tithau yn heneiddio,—a'th ogoniant
Sydd bron mewn ebargofiant erbyn hyn,
Nid oes ond ambell henafieithydd unig
Yn gwybod 'chydig o dy hanes syn.
Hen balas urddasol, mae o'th gylch drysorau
Hanesiol oesau yn gyfrolau cudd ;
Oes ar ol oes a welaist yn myn'd heibio,
Ac yna 'n suddo dros y gorwel prudd;
Trwy gynhwrf oesoedd cefaist ti dy arbed,
A chefaist weled cyfnod toriad dydd,
A Chymru dlos yn gwisgo 'i bronau swynol,
A blodau siriol gwanwyn " Cymru Fydd."
RHIWAEDOG HALL
(Translated by the Rev. M. Williams, Rhosygwaliau.)
RHIWAEDOG Hall, thou very ancient mansion
Wast once the home of a princely bard of fame;
A pleasant spot to trace with admiration,
The mystic history connected with thy name.
Thou standest firm a monument of ages.
Within thy walls heroes of freedom are laid,
Thy name commemorates past time of troubles,
A place where once a fierce battle raged.
The Berwyn tall, through all the revolutions
Of time, watched thee, as saying here I stand,
Looking beyond the storms of persecutions
On rays of freedom gleaming on our land;
To day the Berwyn peacefully is watching
Oppression sore dethroned, and freedom reign,
And casts a smile of joy and resolution
Upon the sacred home of "Llywarch Hen."
Around thy walls, the blood of our ancestors
Was freely shed, yea, shed for liberty;
They unto death opposed those cruel oppressors
Who would redeem their land to slavery.
Thy name is coupled, and it is in union
In history, with the noble and the brave,
In memory of Gwawr and Riryd Flaidd and Einion,
Shalt wear thy country's crown of pure love.
Yea thou hast seen the nobles of Merioneth
Persecuting men for preaching "Christ the Lord,"
But they are gone,—the Gospel still remaineth,
And temples meet are built to worship God.
Ah! thou hast seen within thy courts of old
Great pomp and glory, ancient Hall;
Yes, thou hast seen the sword of judgment bold
In vengeance's hand, putting an end to all.
Thou ancient Hall, art as a link connecting
The present and the past—thou still doest stand,
A faithful witness, in thy way relating
The changes that has happened in the land.
But thou art growing old,—thy former glory
Is now forgotten—they are few
Who know a little of thy mornful story;
Old are thy walls; the generation new.
Upon thy hills and in thy vales lay hidden
Historic treasures of the past in store;
Age after age indeed thou hast been watching
The active life of those who are no more.
Through wars and trials many thou art spared
To see peace hold her sway; thy hills and vales,
Thy smiling meadows, all are sweetly decked
With gay spring flowers of our future Wales.
Y DARAN.
LLAIS Duw Ior, yn llys y daran,—glywaf
Yn glir yma weithian;
Ie Duw! mewn byd o dan
Trwy 'i 'wyllys yn troi allan.
DARLUN FY MAM AR Y MUR
AR noswaith ystormus a thywell,
Mewn 'stafell heb neb ond fy hun,
Eisteddwn i syllu ar ddarlun,
A rhywun yn fyw yn y llun;
Adgofion fy mebyd gyfodent
Adgofion mor felus a phur
Wrth weled y darlun crogedig,
Sef darlun fy mam ar y mur.
'Rwy'n cofio pan oeddwn yn blentyn
Yn chwareu ar lethrau y fron,
Fy enaid yn fyw o lawenydd,
Fy nghalon yn ddedwydd a llon
Ond heddyw mae'r byd a'i ofalon
Yn llanw fy nghalon a chur;
Ond cariad a'i lleinw pan syllaf
Ar ddarlun fy mam ar y mur.
O! ryfedd gelfyddyd anfarwol,
Trech ydwyt nag amser ei hun,
'Rwyt i mi yn dangos mor eglur,—
Y marw yn fyw yn ei lun;
Mae'r darlun fel mam yn naturiol,
A'i wedd yn ysbrydol a phur ;
'Does unpeth i'm golwg mor anwyl
A darlun fy mam ar y mur.
Y LLYGAID.
TREIDDIA gwen dalent delaid,—yn dân byw,
Dawn heb iaith yw'r llygaid;
I'w goleu'n hardd, gwawl a naid
Ar ei union o'r enaid.
MEIRIONYDD
MOR enwog yw Meirionydd—hyfrydaf
Frodir iach ysplenydd;
A gwawr haul dengar a rydd,
Wyneb rhiniol i'w bronydd.
Yr Aran fawr awyrol—orwedda
Yn ei harddwch oesol;
A'i herfeiddiad rhyfeddol,—
Erys hyd dân ar ei stol.
Aberoedd tlysion Berwyn,—a fwriant
Lifeiriol ddwfr brigwyn;
A'i ewynog lif a enyn
Awen a scrch i lesmair syn.
BETH WNA DDYN?
A beth wna ddyn? nid byw yn hen,
A derbyn moethau'r byd;
Mae eisiau rhywbeth mwy na gwen,
A dillad hardd eu pryd;
Nid bod yn falch ar bethau cain
A hoffi ef ei hun;
Na! rhaid cael rhywbeth mwy na rhai 'n
Cyn byth bydd dyn yn ddyn.
Pa beth wna ddyn? nid meddu dawn
A dysg o uchel ryw;
Nid bod yn ddoeth, nid bod yn llawn
O bur wybodaeth syw;
Nid yw holl gyfoeth mawr y byd
Yn ddigon ynddo'i hun;
Mae'n rhaid cael mwy na hyn i gyd
Cyn byth bydd dyn yn ddyn.
Pa beth wna ddyn? nid gallu cryf
I lywodraethu gwlad;
Nid bod yn ddewr, nid bod yn hyf,
Wrth arwain llu i'r gad;
Nid ydyw hyn ond rhan o'r bod
A wnaed ar ddelw'r un
Sy'n gofyn llawer mwy o glod
Cyn byth bydd dyn yn ddyn.
Pa beth wna ddyn? cymeriad pur,
A chred trwy ffydd yn Nuw,
Mae hyn yn ddigon rhag pob cur
All gwrdd y ddynolryw;
Pa beth wna ddyn? ei gariad ef
At bawb fel ato'i hun,
Mae hyn yn ddigon gan y nef
I wneyd pob dyn yn ddyn.
MR. T. E. ELLIS, A.S.
GWRON a phur wladgarwr—a welwn
Yn Ellis ein noddwr;
Hwn i'n saif, mae hyn yn siwr,
Yn addas ddoeth seneddwr.
Dyma arwr, enaid Meirion,—wele
Anwylyd ei chalon;
Rhoddi'i llaw yn rhwydd a llon,
O gariad wnaeth i'w gwron.
Gwr a'i lon'd o diriondeb—gwyl enwog
Haelioni 'n ei wyneb;
A'i ddoniau'n llawn rhwyddineb,
Ei ail yn wir ni wel neb.
FY MAM
FY mam, fy mam, fy anwyl fam,
Mor swynol yw yr enw:
Ha, dysgais hwn cyn rhoddi cam
Mewn byd o boenau chwerw
Hen enw hoff, fe'th gerfiwyd di
Ar lech fy nghalon egwan,
Ac yno mae er pan ow'n i
Yn dwyn yr enw baban.
Fy mam, fy mam, fy anwyl fam,
Mae'r enw'n enyn teimlad,
Nes gwneyd fy mynwes wael yn fflam
Wrth gofio am y cariad
Ddangosaist im' pan oedd y byd
Yn gwgu ar fy llwybrau :
A gwylio wnest uwchben fy nghryd,
Gan dywallt dy weddiau.
Fy mam, fy mam, fy anwyl fam,
Mor felus ydyw cofio
Dy eiriau di—nid rhyfedd pam
Nas gallaf dy anghofio;
O na pe rhoddid llais i'r byd,
I ddweyd un gair yn daran,
Fe gofiwn am y gair o hyd
A ddysgais pan yn faban.
Fy mam, fy mam, fy anwyl fam,
Dy fendigedig enw
A gofiaf pan yn rhoddi cam
O'r byd i fro y marw;
A phan bydd udgorn Duw o'r nef
Yn galw ar y meirwon,
Sibrydaf mam ag egwan lef
Yn nghanol yr angylion.
CAERGAI
HEN gartref hoff Ceridwen,—
A noddfa i deulu'r awen,
A fuost ti Caergai;
O'th ddeutu y Rhufeiniaid
Fu'n ymlid y Britwniaid,
Ond cartref i'n gwroniaid
A fuost ti Caergai.
'E fegaist di dy Werfyl,
Ac iddi cartref anwyl
A fuost ti Caergai;
Mae cof am dy anwyliaid,
Yr anwyl hoff Fychaniaid,
Yn dweyd mai lle bendigaid
A fuost ti Caergai.
Mae'r llyn a'i donau arian
Yn tynu llun yr Aran,
O danat ti Caergai;
Ond beth yw'r darlun hwnw
I'r darlun welir heddyw
Mor fyw 'n y muriau acw—
Dy furiau di Caergai?
Hen gartref i enwogion,
Fu'n colli gwaed eu calon,
A fuost ti Caergai :
Rhoddasant eu bywydau
Yn ebyrth ar allorau
Eu rhyddid rhwng dy furiau—
Dy furiau di Caergai.
Fe sieryd dy hen furiau
Rhyw hanes yn gyfrolau—
Dy hanes di Caergai;
A chydiol ddolen oesol,
O fedd y byd gorphenol:
Ond byw yn y dyfodol
A fyddi di Caergai.
MERCH Y MORWR.
Dernyn Adroddiadol,
MAE'N nos,
A drws y bwthyn wedi 'i gau,
Y mellt yn gwibio ac yn gwau
Oddeutu'r bwthyn unig;
Y gwynt yn chwythu'n groch uwchben,
Taranau certh yn rhwygo'r nen,
Cymylau duon guddia'r llen
O olwg byd anniddig.
Y môr yn lluchio'i ferwawg li
Yn drochion gwyn—a'i erchyll gri
'N arswydo'r eneth unig
Eisteddai yn y bwthyn mad
Gan ddisgwyl clywed llais ei thad,
Yr hwn aeth allan yn ei fâd
Ar frig y don ferwedig.
Bedd-feini ydyw tonau'r môr,
I fyrdd o forwyr mae ei stor
O feddau yn ddi-ri';
Y creigiau crog sydd yma'n fud—
Maent yma er pan seiliwyd byd
Yn gwylio'r morwr yn ei gryd
Uwch dyfrllyd fedd y weilgi.
"Y bâd,"
Y bâd sy'n dod ar frig yr aig
Yn nes, yn nes at gwr y graig,
Heb hwyl, heb law i'w lywio;
Mae'r hwn arferai droi y llyw
Yn mhell, yn mhell o dir y byw,
Yn llywio'i delyn gyda Duw,
Yr hwn a'i rhoddes iddo.
A'i dwylaw'n mhleth ar aelwyd oer,
Heb oleu tân, heb oleu lloer,
Penliniai merch y morwr:
'R oedd dagrau gloewon ar ei grudd
Yn berlau byw, ond perlau prudd
Oedd rhei'ny gawd cyn toriad dydd
Ar ruddiau merch y morwr.
'E godai'r fun unig ei golwg,
A gwaeddai "O Arglwydd fy Ior,
Fy Iesu trugarog, fy Ngheidwad,
Fy Mhrynwr, rheolwr y môr—
O cadw! O cadw!! 'r bâd bychan
Rhag suddo i fynwes yr aig,
O estyn dy law fendigedig
I'w achub o ddanedd y graig."
'Roedd gwrando'r fath weddi nefolaidd
Yn gwneyd yr angylion yn fud,
A safent o gylch y Creawdwr
I ddisgwyl ei genad i'r byd;
Dychmygaf eu gweled yn hofran
Yn gadwen urddasol uwchben,
Gan sisial yr anthem felodaidd
Dragwyddol ddi-orphen y nen.
Ond ust! dyna floedd oddi allan,
Mae'r bâd wedi cyrhaedd y tir;
Pa le! O pa le mae y morwr?
Nid ydyw i'w weled yn wir;
Mae'r bâd ar y traeth yn ddrylliedig,
A'i ochrau yn ddarnau fel dellt,
A chlawr yr erch weilgi i'w weled
Yn eglur wrth oleu y mellt.
'R oedd yno un ar fin y traeth,
A'r tonau geirwon megis saeth
I'w chalon archolledig;
Sibrydai'n wan uwchben y lli,
"Fy nhad, fy nhad, pa le 'rwyt ti?
Fy Nuw, O derbyn—derbyn fi
I'th wynfa fendigedig;
Caf yno wel'd fy hoffus un,
Yn seinio cân i Fab y Dyn,
Am oesau maith diderfyn;
Bydd holl angylion nef y nef,
O gylch ei orsedd eurog ef,
Yn canu mawl ag uchel lef,
I Frenin gwlad y delyn."
Y FRONFRAITH
WI, wi, yw cân y fronfraith seinber,
Sydd fry ar frig y pren:
Mor swynol yw ei chân bob amser,
Wi, wi, myfi yw'r pen;
A'i nefol odlau hon a ddena
Y Gwanwyn yn ei ol?
Yr hwn â mantell werdd a wisga,
Hardd wyneb bryn a dôl.
Cerddorfa'r goedwig sy'n adscinio
Eu hodlau bob yn ail,
A'r awel fwyn sydd yn CYFEILIO
Eu nodau rhwng y dail;
Ond UNAWD y cantorion genir
Gan lais y fronfraith fwyn,
Yr hwn yn fôr o fawl a glywir
Draw, draw yn nghwr y llwyn.
Mae rhywbeth yn ei chân yn lloni
Fy mhrudd ofidus fron.
'Rwyf weithiau fel pe yn gwirioni
Wrth wrando nodau hon;
Wi, wi, fy hoff aderyn anwyl,
Sydd yn fy nenu i
I amheu, ai nid cân yr engyl
Yw'r gân sydd genyt ti?
Y BLODAU
HENFFYCH iti, Wanwyn anwyl,
Esgor wnei ar flodau mwyn,
Per a sawrus yw'r awyrgylch,
Llwythog yw o nefawl swyn
Ar dy fynwes gwelaf emau,
O liw'r enfys deg ei gwawr,
Ac mae'r gwlith geir ar ei gruddiau
Yn eneinio'u gorsedd fawr.
Dacw'r haul o'i orsedd enwog,
A'i belydrau byw yn dod,
Gan ymarllwys ei ogoniant
Ar y blodau rhydd ei nod;
Ac mae tyner law yr awel
'N siglo'r gwlithyn yn ei gryd,
O na cha'em ni fel y blodau
Gau ein llygaid ar y byd.
A chywreinrwydd anfarwoldeb
Wele Duw a'i ddwyfol law
Yma'n paentio'r blodau mirain
Ar y meusydd hoff gerllaw;
Plant y ddaear,—darlun perffaith
O ardd Eden yn ei rhwysg,
yn hen maent eto newydd
Pan ddeffroant hwy o'u cwsg.
Dyma GARPET weuodd natur
Trwy rhyw drefn anfeidrol fawr,
Dyma barlwr demtia engyl
Dan ein traed yn hulio'r llawr;
Dylem gofio pan yn cerdded
Mewn myfyrdod ar y ddol,
Os gwnawn fathru un o'r blodau
Rhaid cael Duw i'w creu yn ôl.
ER COF
Am S. J. Edwards, merch Mr. a Mrs. J. Edwards, Mount Street, Bala.
Mewn mynwent fach ar fin y Llyn,
Mewn tawel fan yn huno,
Mae'r plentyn tlws a fu cyn hyn
Ar fron ei mam yn sugno;
Gerllaw y bedd mae'r ywen werdd
Yn sisial trwy'r awelon;
A'r adar mân yn pyncio'u cerdd,
Mor fwynaidd ei hacenion.
Gofynodd Sarah Jane i'w thad,
A wnewch chwi fy nymuniad?
Gan bwyntio bys ar lecyn hardd,
Tra'r ydoedd hi yn siarad;
Fy nhad! fy nhad! gwnewch i mi fedd
Ar fin y llwybr yma,
'Rwy'n hoffi hwn yn ail i chwi,
A wnewch chwi hyn fy NHADA.
Edrychai yntau arni 'n syn,
Wrth wrando 'i hymadroddion,
'Fy mhlentyn tlws, fy ngeneth fwyn,
Mi wnaf dy holl orchmynion;
Ychydig wyddai ef pryd hyn
Fod angeu erchyll elyn,
Yn chwareu'i gleddyf miniog llym,
Uwch ben ei anwyl blentyn.
Ei theulu hoff, na fyddwch drist
Mae bywyd a thangnefedd
I bawb sydd heddyw'n huno 'Nghrist
Ond gofyn am drugaredd;
A marw ddarfu Sarah fach
I fyw yn mhlith angylion,
A'i cholled yma enill yw
I'r lliaws o'r nefolion.
ODLAU HIRAETH
Am Wyndham, plentyn Mr. a Mrs. Richards, 91, High street, Bala.
FLODEUYN hoff, flodeuyn hardd,
Pa le, pa le 'r wyt ti?
O! WYNDHAM BACH, teg rosyn gardd,
O! dywed wele fi;
Ond ust! ar fraich yr awel gref,
Dychmygaf glywed un
Yn dweyd fod WYNDHAM yn y nef
Yn mreichiau 'r Iesu cun.
Mae edrych ar ei gadair wag
Yn peri poen i'r fam,
Yr hon a roddodd faeth a mag
I'r bychan tlws dinam.
Ha! sychwch chwi eich dagrau prudd,
Mae ef yn well ei le
Yn nghwmni hoff "hen deulu'r ffydd,"
Tan goron aur y ne."
Mor ryfedd ydyw trefn fy Nuw,
Mor ryfedd onide?
Cymeryd wna y blod'yn gwiw
Gan adael yn ei le
Y ceubren crin i ofal byd,
Yr hwn yn ol drachefn
A erys wrth y gwag oer gryd;
Ond dyna yw y drefn.
Nid oes blodeuyn bach ar goll,
Yn nhrefn anfarwol Duw,
Mae ef yn gwybod am yr oll
O deulu 'r ddynolryw.
Os marw wnaeth eich WYNDHAM BACH,
O cofiwch hyn o hyd,
Mae yn y nef yn canu 'n iach
I Dduw mewn arall fyd.
OS MATHRWYD Y CEDYRN
OS mathrwyd y cedyrn tan draed y gelynion
Trwy ormes eiddigedd a brad,
Os gweiniwyd y cleddyf yn ngwaed eu calonau,
Bu'r Cymry yn ffyddlon i'w gwlad,
Os trengu a ddarfuant, mae'u lleisiau'n taranu,
Trwy oesoedd twyllodrus y byd,
Am ini fel cenedl amddiffyn ein rhyddid,
A gwylio 'r gelynion o hyd.
Gwroniaid wyllt Walia, mae'ch enwau 'n gerfiedig
Ar galon pob Cymro dinam;
Sibryda'r babanod eich henwau anfarwol
Cyn gadael mynwesau eu mam.
Adfeilion eich cestyll a saif yn golofnau,
Maent eto mewn urddas a bri;
Tra careg ar gareg fe fydd y gwir Gymro
A'i serch yn glymedig a chwi.
Fe gwympodd byddinoedd Glyndwr a Caradog,
A chwympodd Llewelyn ein Llyw,
Yn aberth tros ryddid hen Gymru fynyddig,
Lle bu ein gwroniaid yn byw,
Os cawsant eu hudo tan fantell bradwriaeth,
A'u cadw gan elyn dan droed;
Mae swn buddugoliaeth yn adsain trwy'r creigiau
Fod Cymru mor fyw ac erioed.
I LEWIS E. HOWEL, LLANFOR
I lys Ior, Lewis Howel—ehedodd
I deyrnas yr angel;
Yn flod'yn gwyn, gyfaill, gwel
Ei osod mewn bedd isel.
I LYFR FY NGHYFAILL GWAENFAB[1]
ΕΙ "Furmuron" tirionwedd—anwylir
Gan luoedd trwy Wynedd;
Yn ei lyfr rhydd i ni wledd,
Gâr enaid mewn gwirionedd.
Dyma uniad—dymunol,—ein Gwaenfab
Mewn gwynfyd barddonol;
Ei ddoniau awenyddol
I oesau fyrdd saif o'i ol.
LLYGAD Y DYDD
LLYGAD y dydd, sydd a'i swyn—dihalog
Hyd y dolydd hyfwyn;
Ynddo ein Duw sydd yn dwyn
Gwenau dwyfol i'r gwanwyn.
YR ELOR
HEBRYNGYDD hyd lwybr angau yw'r elor,
I alwad y beddau;
I ddwyn heb rwysg, wyw ddyn brau,
I lawr isel yr oesau.
Y GWANWYN
GWENU mor dlws wna'r Gwanwyn—a'i urddas
Sy'n harddu y flwyddyn;
Gwelir yn glir ar bob glyn
Wyneb ledodd y blodyn.
Y BABAN YN MARW
Miwsig gan Mr. J. Thorman, (Twrog)
AR aelwyd lan hawddgarol,
Gyda'r nos, gyda'r nos;
Eisteddai'r fam rinweddol,
Gyda'r nos;
Yn gorwedd ar ei gliniau
'Roedd plentyn bach mewn poenau
Mor chwerw oedd y dagran
A dreiglai'i lawr eu gruddiau,
Gyda'r nos, gyda'r nos.
Wrth weled serch ei chalon,
Gyda'r nos, gyda'r nos,
Ar fyn'd i fro 'r angylion,
Gyda'r nos;
Erfynia 'n daer trwy weddi
Ar Dduw ei adael iddi;
Ond angau oddiarni
Gymerodd ei thlws fabi,
Gyda'r nos, gyda'r nos.
Mor debyg i'r hardd flod'yn
Gyda'r nos, gyda'r nos,
Gogwyddai pen y plentyn
Gyda'r nos;
Ond yn y boreu'r gwlithyn
Adfywia'n ol y rhosyn,
Nid felly gyda deigryn
Y fam uwchben ei phlentyn
Gyda'r nos, gyda'r nos.
Fe ddaw y boreu hwnw
Gyda'r wawr, gyda'r wawr,
Pan gyfyd oll o'r meirw
Gyda'r wawr;
Angylion fydd yn dadgan
Eu mawl i Dduw ei hunan,
Ac yn eu plith y baban
Ar edyn nef yn hedfan
Gyda'r wawr, gyda'r wawr.
THE DYING CHILD
Translated by Mr. J. Thorman (Twrog), London.
IN a cottage clean and homely,
With the night, with the night,
Sat a mother sad and lonely,
With the night :
And on her knees reclining,
Her babe in pain was pining,
Whilst she with grief was crying,
To see her dariing dying
With the night, with the night.
At seeing her child's life waning
With the night, with the night,
Tho' heav'n a soul was gaining
With the night,
She prayed to God with weeping
To leave it in her keeping,
But death's rude hand came reaping
And took the child asleeping
With the night, with the night.
How like a drooping flower,
With the night, with the night,
Is the child's fast fading power,
With the night :
The dew howev'r at morning
Revives the flower's adorning,
But the mother's tears and mourning
Bring not the child's returning
With the night, with the night.
That day comes, heav'n be praised,
With the dawn, with the dawn,
When all the dead are raised,
With the dawn;
Bright angels shall be ringing
Their praise to God with singing,
And in their midst are bringing
The child with rapture winging
With the dawn, with the dawn.
Y CENADWR
DAWN gwron, a dyngarwr,—leinw fyw
Galon fawr cenhadwr
Meiddia dân, a stormydd dwr,
Rhuadwy dros Waredwr.
Cwyd ei lef, lys-genad nefol,—am Dduw
A maddenant Iawnol;
A dena fyrdd o'u ffyrdd ffol
Trwy'r newydd, try'r annuwiol.
Dorau t'wyll gyfandiroedd,—agora
I gariad y nefoedd;
Hwnw yn gu wna'n goedd
Yn Iesu'r holl ynysoedd.
Y LLYFR GWEDDI
LYFR hyfedr a diledryw—arweiniad
I'r gwirionedd ydyw;
A gem o lyfr digyfryw
I'r bobl ail i'r Beibl yw.
CYFLWYNEDIG
I Mr. a Mrs. Jones, Bradford House, Bala
AWEL odiaeth rhyw ail Eden—fu hon
I'w Efa fwyn drylen,
A'r gydiol hoff aur gadwen
Una'i byd gwneyd MOI yn ben.
Y BEDD
Y BEDD, y bedd! y du oer fedd,
Mae arswyd lon'd dy enw :
Hen fro'r distawrwydd—tawel hedd
Yw unig gell y marw;
O gyrhaedd swn helbulon byd
Ymlecha'r dawel anedd,
A dyma'r fan yr awn i gyd
Hyd foreu'r farn i orwedd.
Y bedd, y bedd! y dirgel fedd—
Lle distaw i ymguddio,
O swn y hyd mewn tawel hedd,
I Gristion wedi blino;
I fynwes gudd ei fam yr â,
A hithau a'i cofleidia,
'R un fath a'r ddeilen ddiwedd ha'
I'r ddaear y disgyna.
Y bedd, y bedd, gloedig fedd,
Fe gleddir ynot berlau,
Y rhai fu gynt yn hardd eu gwedd,
Ond heddyw rhwng dy furiau:
Hyd foreu'r farn, mewn tawel hun,
Yn nghrombil y ddaearen,
Y bedd, y bedd! yw diwedd dyn—
Y balch, y cryf, a'r llawen.
Y bedd, y bedd! hiraethlawn fedd,
Fe roddir arnat weithiau
Hardd flodau haf i wenu hedd
Ar farwol fynwes angau;
Ond beth yw rhai'n i'r blodau sydd
Yn gwenu mewn sirioldeb
Uwchlaw y bedd mewn bythol ddydd
Yn ngerddi anfarwoldeb?
Y bedd, y bedd! yn mynwes bedd
Y caiff y tlawd orphwyso;
Ac yma'r annuw hyf di—hedd
Am byth a baid a'i gyffro;
I gorph lluddedig wedi byw,
Ac ymladd â thymhestloedd,
Gorphwysfa dawel, dawel yw,
Y bedd rhwng byd a nefoedd.
Y bedd, y bedd! hen farwol fedd,
Dy ddorau a agorwyd
Gan Iesu Grist, tywysog hedd,
Creawdwr bedd a bywyd :
Ar foreu'r farn rhyddheir i gyd
Dy garcharorion dithau,
Mae agoriadau "beddau'r byd "
Gan un orchfygodd angau.
ER COF
Am Mrs. Jannet Evans, Plase, Bala.
CHWITH yw meddwl na chawn eto
Wrando ar ei chynghor hi,
Tystio hyn mae dagrau hiraeth
Geir ar lawer grudd yn lli;
O mor anwyl oedd ei gweled
Yn ei chartref ar ei sedd,
Ah! mor drwm yw'r syniad heno
Ei bod hithau yn y bedd.
Yn yr Ysgol Sul mae gwagder
Ag sydd yn dyfnhau ein clwy',
Tra'n awgrymu gyda phrudd—der
Na ddychwelai yma mwy,
Ac mor anhawdd ydyw imi
'Nawr anghofio 'i siriol wedd,
Ond 'rwy'n gorfod pan yn cofio
Ei bod hithau yn y bedd.
Sibrwd awen ei hoff enw,
Edrych trwy ffenestri ffydd;
Clir oleuni deifl yr hanes,
Gwawr yn adgof haner dydd;
Gobaith edrych dros y gorwel
Drwy syllwydrau ardal hedd,
Ond mae rhywun yma'n sisial
Ei bod hithau yn y bedd.
Nid yn marw mae y Cristion
Wrth feddianu tawel hun,—
Gadael dirmyg ei elynion,
Gwisgo arfau Crist ei hun;
Gwyrdd fydd adgof ei rhagorion,
Deulu hoff mae hi mewn hedd,
Draw yn nghwmni'r pererinion,
Cartre'r saint tu draw i'r bedd.
LLYN TEGID A'R AMGYLCHOEDD.
LLYN Tegid mae'n brid mewn bro,
A'i glawr yn gwir ddisgleirio,
Gwylia'r lloer uwch gwely'r llyn
A'i dullwedd mewn modd dillyn,
Ar ei lif fwria i lawr
Yn uniawn o'i chlaer nenawr:
O'r fath fawredd ryfeddol
Lunia'i gwen er ei lân gol,
I mi'n anwyl mae'n enyn
Hoen a serch a'i swynion syn,
A charaf yr iach oror
Ger y lan mae'r fan yn fôr:
O harddwch yn llawn urddas,
A'r meusydd a'r glenydd glas
Yn hygar iawn o'i ogylch
Ffurfiant eirian gyfan gylch.
Llanycil wrth gil hwn gaf—
Ein henwog Eglwys hynaf,
A mawl Duw yn ei deml deg
Ydoedd i'w gael bob adeg:
Yn ei mynwent is meini
Mae pob oed a roed yn rhi
I orwedd yn eu beddau
Hyd yn glir y clywir clau
Fawr alwad Duw Dad a'i dwg
O'r gwaelod oll i'r golwg.
Draw eto'n y fro ar fryn,
Is gallt geir wedi disgyn,
Garn Dochan—hen fan gynt fu
Yn lloches iawn i lechu
I'n gwir enwog wroniaid
Yn ein plwyf fu'n byw o'n plaid.
Yr Aran draw a erys,
Ac o'i bro cawn bwyntio bys
Dan hwyliog nodi'n hylaw
Yr oesol lyn geir islaw.
Llyn y Bala—ha, mae hwn
Yn haeddol, ni gyhoeddwn,
O ganiad wir ogonawl
Gynal ei fug anwyl fawl.
Y BWTHYN BACH YN MEIRION.
AR fin afonig fechan dlos
Mae bwthyn bach yn Meirion,
Lle bu'm yn chwareu lawer tro
Gerllaw ei dyfroedd gloewon;
Mae hiraeth calon arnaf fi
A'm gruddiau sydd yn wlybion
Wrth gofio am hen aelwyd glyd
Mewn bwthyn bach yn Meirion.
Tu ol i'r bwth mae llwyn o goed
Ar lethrau mynydd Berwyn,
Yn sefyll fel colofnau byw
Uwchben fy anwyl fwthyn;
A cher ei dalcen bychan gwyn
Caf wel'd y meusydd gwyrddion
A'r llwybr cul sy'n arwain i'r
Hen fwthyn bach yn Meirion.
Ymgodai'r bryniau tua'r nen—
Cusanent y cymylau,
A'r afon fywiog ar ei thaith
Sy'n maethu 'i gwyrddion lanau;
'Rwyn gwel'd y fynwent ger y Llan
Yn llawn o'm hen gyfeillion
Chwareuent gynt wrth gareg drws
Hen fwthyn bach yn Meirion.
O fewn y byd nid oes un lle
I'm golwg mor ddeniadol,
Ac ni fedd cymoedd Cymru fad
Wyn fwthyn mor henafol
Os hoff gan frenin balas hardd
Ac urddas mawr ei goron,
Hoffusach genyf yw cael byw
Mewn bwthyn bach yn Meirion.
I'R DONIOL W. E.
UN doniol, a'r gwir am dani―yw hyn,
'Does neb all ddweyd 'stori,
Na hanes mor hynod i ni,
A dyblu hwyl, fel W. E.
CASTELL CARN DOCHAN.
AR noswaith loergan ddiwedd haf,
Er's llawer o flynyddau,
Cychwynai mintai fechan ddewr
Yn llwythog dan eu harfau:
Y lleuad dlos yn gwenu'n llon,
A'r ser yn dawnsio weithian,
O falchder wrth oleuo'r rhain
O Gastell hoff Carn Dochan.
Ceid golwg benderfynol ar
Y cewri cedyrn yma;
A phan yn cofio am y brad,
Eu gwaed Cymreig a ferwa;
A gwenau'r capten ieuangc llon,
Fel mam ar wên ei baban;
Wrth arwain meib hen Walia wyllt
O gastell hoff Carn Dochan.
Ymbletha'i gariad am ei wyr
Fel eiddew am y dderwen,
A llawer gwaith yn ymladd bu'nt
Tan faner y Geninen;
Ond er mor fawr—'roedd cariad mwy
Cydrhyngddo ef a'i rian,
Yr hon edrychai ar ei ol
O gastell hoff Carn Dochan.
Erfynia'r fun trwy weddi daer
Ar Dduw, o'i fawr drugaredd,
Ofalu am y fintai hon
A'i harwain i anrhydedd;
Atebodd Duw ei gweddi daer,
A gwyliodd y gyflafan:
O'u rhengoedd hwy ni chollwyd un,
O gastell hoff Carn Dochan.
Ar noswaith loergan ddiwedd haf,
Er's llawer o flynyddau,
Dychwelai'r fintai fechan hon,
A'r rhuddwaed ar eu harfau;
Y lleuad dlos yn gwenu'n llon,
A'r ser yn dawnsio weithian,
O falchder wrth oleuo'r dewr
Yn ol i Gastell Dochan.
Y DWYFOL WAREDWR.
(Miwsic gan R. O. Jones, Bala,)
DWYFOL Waredwr o'i fodd
A roddodd ei fywyd i'r byd,
Ei gariad yn llymaid a dôdd,
Cyn galw y dyfroedd ynghyd,
Cyn llunio'r planedau uwchben,
Cyn llunio y ddaear â dyn,
Cyn gosod yr haul yn y nen,
Fe roddodd yr Iesu ei Hun.
Y dwyfol Waredwr cyn bod
O bechod yn aberth a gaed,
Maddeuant trwy'r oesau sy'n do'd
Trwy rinwedd anfarwol ei waed;
Yr unig-anedig Fab Duw
Yn agor y nefoedd i ddyn,
Trwy ddyfod i'r ddaear i fyw
Fe roddodd yr Iesu ei Hun.
Y dwyfol Waredwr o'r nef
Fu'n dioddef ar groesbren cyn hyn;
Gorphenwyd,' 'gorphenwyd,' medd ef
Dan hoelion ar Galfari fryn ;
Pechodau holl gyrau y byd
Fu'n pwyso ar Dduw pan yn ddyn,
Ond talwyd y ddyled i gyd
Pan roddodd yr Iesu ei hun.
ODLAU HIRAETH
Ar ol Mr. John Owen, Blue Lion, Bala
YN haf-ddydd ei einioes un eto gymerwyd,
I'r llanerch oer unig ar finion y Llyn,
Yn nghanol ei ddyddiau-gwynebodd yr ail fyd,
Fe groesodd trwy niwloedd caddugawl y glyn;
Nis gall y darfelydd ddesgrifio y teimlad
Sydd heddyw mor amlwg yn rhwygo fy mron,
Mae adgof am burdeb ei hoffus gymeriad
Yn gwanu fy nghalon wrth gofio am John.
Beth, beth yw fy nheimlad i deimlad y weddw,
A welir yn wylo mor drist yma'n awr?
Rhy fychan yw geiriau i ddweyd pa mor chwerw
Yw'r dagrau sy'n treiglo ei gruddiau i lawr;
Ond trwy yr heillt ddagrau mae tad yr amddifad
I'w ganfod yn estyn ei gymhorth o hyd,
Yn nghanol y tristwch mae'n dangos ei gariad
Anfeidrol yn nhrefniad dirgelion y byd.
Mor brydferth yw'r blodau sy'n hulio y beddfan
Lle gorwedd yr anwyl John Owen mewn hun,
Ond llawer prydferthach oedd ef i ni weithian,
Na'r blodau amryliw er hardded eu llun;
Mor brudd ydoedd gweled ei blant bach yn wylo
Eu lagrau fel gwlith yn eneino y fan,
Er colli eu TADA, mor anwyl fydd cofio
Y llecyn lle gorwedd yn ymyl y Llan.
Mor ryfedd a dyrus yw trefn fawr Rhagluniaeth,
Mor annealladwy i fyd yw ei ffyrdd;
Mae'n gadael y ceubren crinedig mewn alaeth,
Tra'n tori'r planhigion pan oeddynt yn wyrdd;
Ond ymaith esgynant o gyrhaedd helbulon
Y byd a'i drueni am fwyniant a hedd,
Fry, fry mae'r planhigion yn berlau yn nghoron
Yr hwn a ddatododd erch ddorau y bedd.
CADEIRIAD TALIESIN FYCHAN
Yn Eisteddfod y Bala, 1893.
TANIODD, swynodd Sasiynau—y Bala
Y byw eilydd goleu;
Ein harwr yw'r gwr fu'n gwau,
Ei hyawdledd nef odlau
Geiriau anwyl y gwr enwog,—a geir
Yn gywrain a lliwiog;
Taliesin wir fardd tlysog,
A'i nefol gân fel y gog.
Yn Tyn y Coed tanio can —a wna ef,
Taliesin Fychan;
A'i awen dirf enyn dân
Yn oleuni hael anian.
ODLAU HIRAETH
Am Mr Edward Edwards, Penbryn Cottage. Dolgellau.
YN Hydrei ei fywyd disgynodd
Fel deilen wywedig i'r bedd,
A'i anwyl hoff deulu adawodd
Mewn galar yn athrist eu gwedd;
Mor chwith ydyw gweled yr aelwyd,
Yn unig a gwag heb yr un
Fu gynt yn gofalu yn ddiwyd
Er cysur i'w deulu trwy'i fywyd,
Ond heddyw mor dawel ei hun.
Os gofyn rhyw estron, beth ddarfu
Ein cyfaill i haeddu'r fath barch?
Caed ateb ar ddiwrnod y claddu,
Yn nifer dilynwyr ei arch;
Pryd hyny fe welwyd cyfeillion
Ei fywyd yn welw eu gwedd,
Wrth gofio am un fu mor ffyddlon
Ac anwyl yn mhlith ei gyd-ddynion,
Yn gorwedd yn fud yn ei fedd.
Eneiniwyd ei feddrod a dagrau,
Ddisgynent fel mân wlith i lawr,
Gan wlychu y prydferth heirdd flodau
Orchuddia ei feddrod yn awr;
Ond adfer y mân wlith y blodau
A welir yn britho y fan,
Nid digon er hyny yw'r dagrau
I adfer yr hwn trwy law angau,
Orwedda yn ymyl y Llan.
O bydded i dad yr amddifaid
Amddiffyn y teulu trwy'i hoes,
A'u harwain i freichiau y Ceidwad,
A'u cadw o gyrhaedd pob loes;
Os collwyd un anwyl o'r teulu,
Mae GOBAITH yn dweyd ei fod ef
Tan ddwyfol arweiniad yr Iesu,
Fry, fry gyda'r engyl yn canu
Hoff anthem dragwyddol y nef.
Y BARUG
LLEN erwin llawn o eira—yw barug,
Y boreu disgyna;
O'n golwg hwn a gilia,
Yn niwl oer yn ol yr ä.
Oer arw rew awyrol—y boreu
Yw y barug deifiol;
Gwen heunen ia gwenwynol
Yno a geir yn ei gol.
Y BWTHYN AR WAELOD Y LLYN
FE ddeffry adgotion fy maboed,
Adgofion am danom yn blant,
Pan oeddym yn fyw ac ysgafndroed
Yn chwareu ar finion y nant;
Ond heddyw, pa le mae y bwthyn
Fu'n llechu yn nghesail y bryn?
Fe ddywed mân donau y dyffryn,
Mae'r bwthyn ar waelod y Llyn.
Gorchuddiwyd a mantell arianaidd
Dlysineb angherddol y ddôl,
Orweddai mewn gwisgoedd sidanaidd
Cyn dyfod o'r afon yn ol;
I grwydro o'i gwely henafol,
Ei thonau a ddywed fel hyn,―
Yn ddistaw mewn iaith mor naturiol,
Mae'r bwthyn ar waelod y Llyn.
Mae'r murmur cwynfanus yn treiddio
I eigion fy nghalon fel saeth,
Mae'r cyfan yn gwneyd i mi gofio
Fod aelwyd y bwthyn yn draeth;
Y pysgod sydd yno yn chwareu
Oddeutu y talcen bach gwyn,
Ond dyna, yn sibrwd mae'r tonau—
Mae'r bwthyn ar waelod y Llyn.
Fe wyrai y coedydd eu brigau
Yn wylaidd, a gwelant eu llûn
Yn dawnsio ar wyneb y tonau
(Y tonau a ddodwyd gan ddyn);
I guddio hen fangre fy mebyd
Mae pobpeth yn sisial fel hyn,—
Ysbrydion fy nheulu sy'n sibrwd,
Mae'r bwthyn ar waelod y Llyn.
LLYWARCH HEN
WELE olion yr hen furiau,
Dyma'r fan lle trigai gynt;
Yma clywodd swn cleddyfau
Ato'n do'd ar fraich y gwynt:
Gwelodd daflu cyrff ei feibion,
Do, yn sarn o dan y traed
Fu'n gormesu broydd Meirion,
'Rhai a gochwyd gan eu gwaed.
Wele'r llecyn lle bu'n sefyll
Mewn myfyrdod lawer tro,
Dacw'r fan lle bu ei wersyll
Yn guddiedig dan y grô ;
Er fod 'stormydd amser wedi
Chwalu yr hen furiau gwiw,
Y mae hanes am wrhydri
Llywarch Hen trwy Gymru'n fyw.
Wele'r glaswellt wedi tyfu
Lle y crwydrai ar ei hynt,
Ond traddodiad dd'wed er hyny
Wrthym am ei lwybrau gynt;
Bu yn cerdded Tre Rhiwaedog
Hyd yr hen Rufeinig ffyrdd ;
Yn lle'r palmant gwych, godidog,
Heddyw gwelir mantell wyrdd.
Wele'r maes lle bu'r ymladdfa
Am yr hon ceir hanes prudd,
Hanes am wroniaid Gwalia
Yn ymdrechu am y dydd :
Ond y gelyn a orchfygwyd,
Ha, mor fawr yr aberth wnaed;
Pedwar mab ar bymtheg welwyd
Yno'n gorwedd yn eu gwaed.
HEN EGLWYS LLANYCIL
HEN Eglwys Llanycil, mae'th furiau henafol,
A'r llanerch lle sefi yn anwyl i mi,
Ac anwyl fu'th enw i'r tadau boreuol
Y rhai fu'n dy gadw mewn urddas a bri:
Dy enw anwylir gan luoedd o seintiau
Sydd heddyw yn canu gylch gorsedd yr Oen,
Mor felus yw cofio mai rhwng dy hoff furiau
Y cawsant eu harwain o gyrhaedd pob poen.
Hen Eglwys Llanycil, mae'th ddelw'n gerfiedig
Ar ddalen fy nghalon, mor fyw ydwyt ti,
Er crwydro o honof i wledydd pellenig
Mae cof am dy enw yn anwyl i mi;
Ac weithian tra'n syllu ar demlau urddasol
Nis gallaf d' anghofio er hardded eu pryd,
Mil harddach i'm golwg yw'th furiau henafol
Na'r muriau urddasol sy'n britho y byd.
Hen Eglwys Llanycil, mae'r cedyrn fynyddau
Fel engyl gwarcheidiol yn aros o hyd
I'th wylio yn ddystaw, ac ateb mae'r creigiau
Swn seinber dy hengloch trwy oesau y byd—
Yr hon am ganrifoedd fu'n galw yn ffyddlon
Blwyfolion Llanycil i wyddfod eu Tad
I ddyfal weddio—i arllwys eu calon
Mewn diolch a moliant am fendith a rhad.
Hen Eglwys Llanycil, mae'r huan yn ceisio
Gwneyd darlun o honot—o'th gysgod dy hun;
Ac yna tan wenu mae'n araf ymgilio,
Draw, draw dros y bryniau, ond beth am y llun?
Diflanu wnaeth hwnw yn nghwmni'r arlunydd,
Yn mhell dros y gorwel, a methu wnaeth e'
Wneyd darlun mor gywir o "Eglwys Llanycil"
A'r hwn sydd ar galon ei saint yn y ne'.
Hen Eglwys Llanycil, mae'r ywen yr awrhon
Yn lledu ei breichiau uwch beddau di-ri',
A'i gwraidd sy'n blethedig am gyrph yr enwogion
Fu gynt yn addoli eu Duw ynot ti :
'Run ffunud a'r ywen, yn lledu dy freichiau,
Anfarwol 'rwyt tithau dros wyneb y tir,
A'th ffydd sy'n blethedig am lu o eneidiau,
Sydd heddyw mor ffyddlon i arddel y gwir.
Hen Eglwys Llanycil, mor chwith ydyw gweled,
Gelynion yn ceisio'th ddirmygu yn awr ;
Bu eraill yn ceisio, ond cefaist dy arbed
Gan allu mwy nerthol na gallu y llawr;
Bydd cof am dy enw, hen Eglwys fendigaid,
Pan gyfyd y meirwon o'n beddau i gyd,
Pryd hyny fe welir dy ffyddlon hoff ddeiliaid
Yn myned i'w cartref tragwyddol yn nghyd.
Y CRWYDRYN
(Dernyn Adroddiadol.)
ER fin y ffordd un noswaith oer
Eisteddai'r crwydryn gwelw,
Tra ar ei ruddiau llwyd, y lloer
Ddangosai lûn y marw;
'Roedd rhywbeth yn ei olwg prudd
Yn hawlio cydymdeimlad,
A dagrau gaed ar ruchiog rudd
Y crwydryn tlawd amddifad.
Oddeutu'r fan 'roedd anian dlos
Yn huno mewn tawelwch,
Y sêr uwchben-cain emau'r nos,
Ddisgleirient yn eu harddwch;
Cydrhwng y sêr, y lleuad wen
Fel rhyw angylaidd genad,
A wylia'n fûd, fry, fry uwchben,
Y crwydryn tlawd amddifad.
Ond ebai'r crwydryn gwael ei wedd,
Fy nghyfaill, tyred gwrando;
Ymylu'r wyf ar fin y bedd,
Cyn hir fe fyddaf yno:
Bum inau gynt 'run fath a ti,
Yn wrthddrych serch a chariad;
Ond heddyw beth, am danaf i—
Y crwydryn tlawd amddifad.
Fy magu'n anwyl gefais gynt
Ar aelwyd fy rhieni,
Ond angau creulon ar ei hynt
Ddatododd y cadwyni—
Fu'n gwneyd y cartref hwnw'n glyd
Yn fan lle cawn dderbyniad,
Ha nid oes cartref yn y byd
I'r crwydryn tlawd amddifad.
Os gwrthodedig gan y byd
Wyfi y crwydryn unig,
Mae yna un uwchben o hyd
Fu gynt yn wrthodedig ;
A thrwy ei ddioddefaint Ef—
Y pur ddilwgr Geidwad,
Agorwyd ffordd trwy byrth y Nef
I'r crwydryn tlawd awddifad.
I'R SOL-FFA
MEDDAL iawn yw y MODD LAH—a swynol
Yn seiniau y raddfa;
A'r sâl ei ffydd o'r Sol-ffa
Yn ochain am yr ucha'.
BLODEUGLWM
Ar fedd R. Ellis, mab Mr a Mrs E. Ellis, Castle Street, Bala.
YM mynwes oer y ddaear ddu
Gorwedda Robert Evan gu,
Mewn tawel fyd o hedd;
Er hardded yw y blodau cûn
Sydd ar ei fedd,—'does yna'r un
O'r rhain mor hardd, mor deg eu llun,
A'r hwn sydd yn ei fedd.
Mor brudd gofynai ef "Paham
Yr wylwch chwi?—'rwy'n marw mam,
Na wylwch troswyf fi";
Mae adgof am y geiriau prudd,
Rwy'n marw mam" yn fyw bob dydd
Ar gof y teulu heddyw sydd
Yn wylo'u dagrau'n lli.
'Does dim ond teimlad tad a mam
A dd'wed yn llawn am fab dinam,
Beth yw eu colled hwy;
Er iddynt edrych draw ym mhell
I arall fyd,—i wlad sydd well,
Mae'u serch o hyd mewn unig gell
Yn mynwent hen y plwy.
I'r teulu, cysegredig fan
Yw'r fangre hoff gerllaw y Llan,
Lle huna'r anwyl un:
Yn bedair blwydd a'r ddeg trwy'r glyn
Aeth Robert bach yn berlyn gwyn
I goron hardd Calfaria fryn.
I goron Crist ei hun.
Yn gynar, gynar, gwywo wnaeth,
A chroesodd y tragwyddol draeth
I fyw mewn arall fyd.
Gadawodd gyfnod amser prudd
I dderbyn gwawl y dwyfol ddydd,
Am byth mor felus iddo fydd
Cael gwen y nef o hyd.
PRYDDEST—
AR DDYFFRYN EDEYRNION.
EDEYRNION henafol, cartrefle y cedyrn,
Fu'n ymladd tros ryddid wyllt Walia;
Edeyrnion urddasol, bu'th blant yn arfogi,
Ymgyrchent dan faner Corwena;
Bu Glyndwr yn crwydro dy fynwes ireiddlawn,
Tywysog anfarwol y Cymry:
Ymladdodd yn erbyn y gelyn anghyfiawn,
Y rhai fu trwy drais yn gormesi,
Fe weiniodd ei gleddyf yn ngwaed eu calonau,
Iawnderau y Cymry a gadwodd;
Edeyrnion anwylgu, bu rhuddwaed yr arfau
Yn lliwio dy fronau a'th gymo'dd.
Paradwys y Cymro yw'th feusydd toreithiog-
Cain ddarlun o Eden urddasol;
Mae'r blodau amryliw yn wea odidog,
Yn berffaith trwy drefn yr anfeidrol,
Yn hulio dy ddolydd mewn dullwedd cywreiniol
Fe welir ol llaw y Creawdwr,
A myrdd o lygadon yn gwenu mor siriol
O garped melfedaidd 'r amaethwr:
Ha! brydferth olygfa, ni welir yn unman
Dy harddach, Edeyrnion hoff lanerch,
Wyt deilwng o barlwr i engyl y wiwlan,—
Nid ydwyf yn deilwng i'th anerch.
Y nentydd tryloew o fynwes hen Ferwyn
Ymdreigla eu dyfroedd grisialaidd,
Murmurant eu ffarwel, cusanant y clogwyn,
Ymdroellant mal llinyn arianaidd :
Ymlafnant drwy'r dyffryn i uno a'r Ddyfrdwy,
Brenhines afonydd teg Feirion,
Mae ynddi ryw urddas i'w weled yn fwy-fwy,
Wrth faethu dy lanau Edeyrnion.
Ar fin y Ddyfrdwy hen,
Lle bu'r derwyddon gynt
'N addoli gyda gwên
Ei dyfroedd ar eu hynt,
Ymrwyfa tua'r môr
I orphwys yn ei chryd
Am enyd gyda 'stor
O ddyfroedd mawr y byd.
Y las-don ar y traeth
Sy'n gwenu arni'n llon,
Y Dyfrdwy ati aeth
I chwareu ar ei bron:
Ymunant yn y fan,
Cychwynant heb ymdroi,
Gan adael tlysni'r lan,
Oddi wrtho maent yn ffoi.
A chrwydrant law yn llaw,
Ymlamant ar eu hynt,
Maent hwy i'w clywed draw
Yn rhuo yn y gwynt
Wrth esgyn tua'r nen
I lenwi'r cwmwl du
Sy'n hofran draw uwchben
Yn yr eangder fry.
Ond daw y Dyfrdwy'n ol
Rhyw foreu atom ni
Yn with ar hyd y ddol
Mewn urddas mawr a bri;
Fel hyn er cread byd,
Er gwawr y cyntaf ddydd,
Yn myn'd a myn'd o hyd
I ddiwedd amser bydd.
'E chwery y brithyll wrth oleu yr Huan,
A gwelir ar waelod y don
Y man ser yn dawnsio yn gymysg a'r graian,
A'r coedydd yn chwareu yn llon,
Y brigau gwyrddleision a chopa y Berwyn
Yn ysgwyd eu dwylaw yn nghyd,
Y pysgod, y defaid, a'r friallen penfelyn—
Y cyfan yn llenwi'r un cryd;
Ymlechai'r mân adar yn mrigau y goedwig
Yn disgwyl am doriad y wawr,
A gwyrai'r glaswelltyn ei ben yn lluddedig
I aros dyfodiad y cawr:
Yn araf, yn araf, daw yntau o'i wawrlys
Gan ymlid tywyllwch y nen,
A lliwiau'r cymylau yn unlliw a'r enfys,
A'r Berwyn goronai yn ben;
Ymlithra'i belydrau ar ddyffryn Edeyrnion,
Ac O! 'r fath groesawiad a ddyd:
Y mân wlith fel gemau o'u gorsedd gwyrddleision,
Yr awel yn siglo eu cryd;
Yr adar yn pyncio eu mwynaidd acenion,
Eu lleisiau 'n telori pob llwyn,—
Eu hanthem felodaidd nis gall ond angylion
Berori perseiniau mor fwyn;
'E godai'r glaswelltyn ei ben i groesawu
Prif arwr mawreddog y dydd,
Ac yna mewn eiliad holl anian a ddeffry
Edeyrnion o drwm—gwsg a drydd.
Draw, draw ar y ddoldir 'e gawn yr amaethwr
Yn heini ac ysgafn ei droed,
Dychmygaf ei glywed yn dweyd wrth y gweithiwr
Fod anian mor fyw ag erioed;
A draw yn y fuches sisialai genethig,
Wrth odro, alawon ein gwlad;
Y bachgen a'r meirch ar y ddol yn aredig,
Ei enaid yn llawn o fwynhad;
Daw'r bugail i'r buarth i alw ar Cymro,
Daw yntau tan hwthio ei drwyn
I ddwylaw ei feistr o falchder wrth wrando
Brefiadau y defaid a'r wyn;
A chripiant i fyny hyd lethrau y Berwyn,
Gan adael Edeyrnion, deg fan,
Yn fyw o lawenydd, a phawb yn y dyffryn
Yn hapus yn gweithio ei ran.
Ar fin y ffrydlif fechan dlos
Mae bwthyn yn Edeyrnion,
A cher ei dalcen mae y Rhos
Yn llawn o berlau tlysion;
Tra'n pasio'r bwth fe ddawnsia'r nant,
Mor glir yw'r dyfroedd gloe won
Sy'n dangos i ni lun y plant
O'r bwthyn yn Edeyrnion.
'Rwy'n cofio am yr amser gynt
Pan oeddwn ar yr aelwyd
Yn gwrando ar udiadau'r gwynt
Yn rhuthro trwy y cwmwd;
Ac O ! mor hoff oedd clywed mam
Yn adrodd hen chwedleuon,
Ah ! dyna'r fan rho'es gyntaf gam
Mewn bwthyn yn Edeyrnion.
Er i mi grwydro gwledydd byd,
A syllu arnynt wedyn,
'Does unman fel y bwthyn clyd
Sy'n nghesail mynydd Berwyn;
O ! na, ni fedd y gwledydd pell,
Nac un o'i hurddasolion,
Un palas fydd i mi yn well
Na'r bwthyn yn Edeyrnion.
O dan fy mron, hen fwthyn clyd,
Mae'th ddelw wedi'i gerfio,
Er i mi grwydro gwledydd byd
Nis gallaf dy anghofio;
Ni fedd y ddae'r ddim byth all fod
Mor anwyl gan fy nghalon,
Aconachawnifywabod
Mewn bwthyn yn Edeyrnion.
Paradwys yw'r dyffryn i gyrph yr enwogion,
A ddodwyd i orwedd mewn hedd
Hyd foreu pan welir myrdd, myrdd o angylion
Yn datod erch rwymau y bedd;
Yn llechu yn dawel mae meibion Ceridwen,
Ond erys eu gweithiau o hyd,
A heddwch fo iddynt o dan dy dywarchen,
Edeyrnion, hyd ddiwedd y byd.
EMYN DDIRWESTOL
(Miwsic gan y Parch J. Allen Jones, Llwydiarth.)
Baner Dirwest fry a chwifiwn
Tra bo'r gelyn yn ein gwlad,
Dan ei chysgod fe ga'r meddwyn
Lechu'n dawel mewn mwynhad;
Swyn y cwpan,-mam trueni
Luchir i'r dyfnderoedd prudd,
Teflir ymaith y cadwyni,
Dirwest ddaw a'r caeth yn rhydd.
Yn lle'r erch gymylau duon,
Gynt fu'n cuddio'r nef uwchben,
Fe ga'r meddwyn wisgo coron
Coron cariad Dirwest wen;
Y mae meddwdod heddyw'n trengu
Ar allorau Dirwest gref,
Ac mae uffern ddu yn crynu
I'w gwaelodion gan ei llef.
Trwy y bryniau a'r clogwyni
Treiddio wna ei nerthol lef,
Nes mae'r adsain yn ymgolli
Draw rhwng muriau aur y nef%;
Yno engyl sy'n adseinio
Odlau Dirwest-dwyfol wledd,
Ac mae'r Iesu yno'n uno
Yn y nefol gân o hedd.
PLANT Y RHOS.
PA le, pa le mae plant y Rhos?
Y plant fu'n chwareu gynt
Ar fin Cymerig fechan dlos
Tra dawnsiai ar ei hynt;
Er chwilio hyd ei glanau hi,
Nis gallaf wel'd ond dau neu dri
O'r plant fu'n chwareu gyda mi—
Hoff blant yr amser gynt.
Pa le, pa le mae plant y Rhos?
Fu'n casglu blodau blydd,
Y briaill hardd—'ddiar war y ffos,
A'r dwyfol lygaid dydd;
Wrth syllu ar y blodau cun
O gylch y fan—'rwy'n gwel'd fy hun
Yn blentyn unig gwael fy llun
Yn welw iawn fy ngrudd.
Pa le, pa le mae plant y Rhos?
Y plant fu'n lloni'r llan
A'u hoffus seiniau gyda'r nos
Wrth fyn'd o fan i fan;
Er gwrando'n astud am y gân,
Ni chlywaf hon—'rwy'n methu'n lân
A chlywed swn y plantos mân
Fu gynt yn lloni'r llan.
Pa le, pa le mae plant y Rhos?
Nis gwn, nis gwn pa le,
Ond murmur yr afonig dlos
A dd'wed mai yn y ne';
Wrth wrando'n ddistaw lais y don
Daw ffrwd o gysur i fy mron,
A gobaith dd'wed yn hyf wrth hon
Fod yno eto le.
YR HEN FAM
(Miwsig gan y Parch. J. Allen Jones, Llwydiarth)
CANFYDDWN draw trwy'r niwloedd du
Hen Eglwys bur ein tadau
Yn ymladd a gelynion lu
Yn nghanol anhawsderau;
Tywyllwch dudew gaed pryd hyn
Yn cuddio gwên y nefoedd,
Ond dacw haul Calfaria fryn
Yn treiddio trwy y niwloedd.
Pelydrau'r haul trwy niwl a ddaeth
I daflu ei oleuni,
Trwy'r goleu hwn diflanu wnaeth
Derwyddiaeth mewn trueni;
Allorau'r derwydd wnaed yn sarn
Yn anwyl wlad y Brython,
Cyfiawnder Duw â chleddyf barn
Agorodd ffordd i'r Cristion.
Ar ael y ddunos gwelwyd fflam
Yn wanaidd, eto'n amlwg,
Efengyl Duw yn llaw'r Hen Fam
Oedd hwn yn dod i'r golwg,
A thorodd gwawrddydd ar ein gwlad
Yn llewyrch y goleuni,
Gau dduwiau gladdwyd mewn sarhad
Yn meddrod mawl a gweddi.
HEDDGEIDWAD
HEDDGEIDWAD hawdd ei gadw-nid ydyw,
Ond wedyn mae hwnw
'N wr o les, ac ar ei lw
Y tyr ef ar bob twrw.
Y MEDDWYN.
Dernyn Adroddiadol
FE gwympodd, fe gwympodd yn aberth i'r ddiod,
Trwy gwympo anghofiodd ei deulu a'i briod,
Melldigawl gadwynau herfeiddiawl y fall
Ymblethant am dano, ac yntau yn ddall.
Nid ydyw yn edrych tros ddibyn anobaith,
Nid ydyw yn edrych ar rym ei anfadwaith,
Mae'n ddall, yn aberthu, 'n aberthu ei blant
I foddio cynddaredd anrhaethol ei chwant;
Ofnadwy olygfa yr euog crynedig,
Yn suddo dan bwysau ei chwant felldigedig.
I fyd y trueni mae'n hyrddio ei hun,
Heb ddrych yn y cread all ddangos ei lun,
O ryfedd demtasiwn, mae'th nerth yn angherddol,
Yn domen aflendid yn nwylaw y diafol;
A llu o ellyllon yn arwain heb ball
Y meddwyn truenus i grombil y fall:
Gadawodd ei gartref, ffarweliodd a'i fwthyn,
Ar fynwes ei briod gadawodd ei blentyn,
Heb un peth i guddio ei noethni ond carpiau,
A newyn yn syllu yn hyf i'w gwynebau,
Cychwynai y fam at riniog y ddor
(Yn ameu bodolaeth trugaredd yr Ior:)
Ond ust!! mae'n gweddio, mae'n erfyn ar Dduw
Anghofio ei chamwedd er dued ei liw.
Udiadau y gwynt oddi allan,
Taranau yn rhuo gerllaw,
A'r fam yn cofleidio ei baban
I'w mynwes mewn dychryn a braw;
Y mellt oedd yn fflachio bob enyd—
Ymddengys y byd fel ar ben:
Yn ngoleu y mellt mor ofnadwy
Oedd duon gymylau y nen.
Ah! noswaith i'w chofio oedd hono
Gan deulu y meddwyn bob un,
'Roedd natur o'u deutu'n ymwylltio,
Gan ddangos ei nerthoedd ei hun;
'Doedd unman ond drws y tyloty
Yn barod i'w derbyn pryd hyn,
Ac yno yn araf 'r ä'r teulu
O'r bwthyn ar lethr y bryn.
Derbyniwyd hwynt yno'n garedig
Gan un lywodraethai y fan,
A safai yn fud a synedig
Wrth estyn cynorthwy i'r gwan,
Eu golwg ar unwaith a dystia
Mai medd'dod adawodd ei ol,
A syrthiodd y fam ar ei gliniau
Gan ollwng ei baban o'i chol.
Gweddiodd ar Dduw ei Chreawdwr,
Sisialai, "O Arglwydd fy Ior,
Fy Iesu trugarog, fy Mhrynwr,
Trugaredd sy'n lliîo yn fôr,
O gwrando ! fy Ngheidwad, O gwrando!
'Rwy'n erfyn am i ti yn awr
Waredu y meddwyn sy'n hyrddio
Ei enaid colledig i'r llawr."
Pa le mae y meddwyn, pa le mae y meddwyn?
Mae breichiau yr Iesu yn barod i'w dderbyn,
Pwy wyr na fydd eto yn addurn urddasol
Yn nghoron y Ceidwad yn addurn anfarwol;
Ni fedd creadigaeth un bod mwy rhagorol
Na'r adyn colledig fo'n ffoi'n edifeiriol:
Mae gwir edifeirwch yn enyn angylion,
Mae'r nefoedd yn adsain yn swyn eu hacenion,
Jehofa a wrendy o'i orsedd oreurog
Ar gwyn edifeiriol y meddwyn du, euog,
Mae môr o drugaredd yn nwylaw ein Duw
I'w roddi ond gofyn i'r duaf ei liw;
Oes, oes, mae trugaredd-mae eto ystor
O hono wrth orsedd anfeidrol yr Ior,
Mae yntau yn barod, yn barod o hyd,
I'w roi i bechadur hyd ddiwedd y byd.
Dirwestwyr, ymleddwch, ymlamwch yn hyf,
Dangoswch—os ydyw eich gelyn yn gryf—
Fod gobaith i'w fathru tan draed cyn bo hir,
A'i daflu yn aberth ar allor y gwir;
Cyhoeddwch eich proffes ar fynydd a dol,
A'r nefoedd a etyb eich geiriau yn ol.
CYFLWYNEDIG
I Wyn J. Williams ar ben ei flwydd, sef mab Mr. a Mrs E. Williams, Coach-Builder, Bala.
EIN Wyn bach, anwylun byd—a fuost
Am flwyddyn ysgatfyd;
Ha, nychu mewn afiechyd
Arw ei hoen ar ei hyd.
Iechyd ar ol hir nychu—a fyddo
Yn feddiant i'r teulu;
Ar ben y flwydd llwydd i'r llu
Yn rasol lwybrau'r Iesu.
MYNWENT LLANYCIL
LLANYCIL uwch y llyn acw—a saif
A swyn lon'd ei enw;
Yma erys ein meirw,
Nawdd y ne' fo'n eiddo nhw.
Nodedig hynod ydyw—y fan hon,
Y fynwent uchelryw;
A'i mawrion—ah, mirain yw,
A gyfraf yn ddigyfryw.
Enwogion o wir ddawn hygar—a roed
'Lawr yma 'n y ddaear;
Yn ngwaith Ion, fel gweision gwar,
Ymddygant mewn grym aiddgar.
I CONSTANCE MARY
Merch Syr W. W. Wynne, Barwnig, anwyd n mhalas Glanllyn, ger y Bala
YMDAENODD gwen o falchder tros y wlad
Pan wenodd Constance Mary ar ei thad,
Mewn palas yn Meirionydd;
Mor hardd disgleiria'r haul ar ael y don—
Ym mraich y gwynt y tonau ddawnsia'n llon,
Mewn cryd gerllaw maent yn croesawu hon
I'r palas yn Meirionydd.
Mae enw hoff Syr W. W. Wynne
I'r Cymry fel yr haul ar donau 'r llyn,
Yn ddisglaer yn ei hanes;
Ni byddai cyfrol hanes Cymru fad,
Yn gyflawn heb y Wyniaid yn ein gwlad,
A'u henwau gedwir genym mewn mawrhad,
Tra'n cofio'r brad a'r gormes.
Adseinia swn llawenydd mewn hwre
O Feirion fad i balas hardd Wynnstay,
O barch i'r fechan siriol;
Yn hyn mae pawb yn llawenhau ynghyd
Pan yn croesawu hon i'r teyrngar gryd,
A Chymru gyfan wylia hwn o hyd
Fel trysor etifeddol.
Bydd Glan—y—Llyn yn hanes Cymru Fydd,
Yn cadarnhau mai un Syr Watcyn sydd
Arddelir gan y Cymry;
Tywysog yw yn haeddu parch a bri,
Fel un yn caru iaith ein cenedl ni,
A bloeddiwn tra bo geiriau ynddi hi,
Byw byth y bo'r hen deulu.
ST. PAUL
AREITHIWR goreu Athen,—a gwr Duw
I agor deddf drylen,
Oedd Paul'r apostol a'r pen,
Urdd ydoedd i graidd Eden
WRTH DAN O FAWN
EISTEDDAI teulu dedwydd iawn
Ar aelwyd lan wrth dân o fawn,
Yn gylch o gylch y pentan;
'Roedd pawb yn llawen ac yn llon
Oddeutu'r tân y noswaith hon.
Heb friw na braw o dan eu bron
Mewn bwth ar odrau'r Aran.
'Roedd gwr y ty yn ddyn o ddawn,
Yn fardd o fri,—wrth dan o fawn
Mor felus ei ganeuon;
Wrth wrando ei ganigau mwyn,
Hudolus oeddynt llawn o swyn,
Ac adgof heno sydd yn dwyn
Eu hecco i fy nghalon.
'Rol gwaith y diwrnod croeso gawn
Gan wraig y ty, wrth dan o fawn
A gwenau teg a siriol;
Yn rhai'n caed môr o wir fwynhad
Wrth weini ar y teulu mad
Tan wenau hon,—d'oes undyn wad
Fod aelwyd mwy dymunol.
Fel pe i wneyd y cylch yn llawn,
Roedd "Bouch "y ci wrth dan o fawn
Yn gorwedd ar yr aelwyd;
Mae hwn yn hawlio parch a bri
Fel un o'r teulu, 'ddyliwn i,
A ffyddlon iddynt fu'r hen gi.
A chyfaill pur trwy'i fywyd.
Gwaith anhawdd ydyw dweyd yn llawn
Y cysur geir wrth dân o fawn,
O gyrhaedd oerni'r tywydd;
Os hardd yw yr aelwydydd drud,
Sy'n urddo cain balasau'r byd,
Mil harddach ydyw'r aelwyd glyd
I'r teulu bychan dedwydd.
IFOR WYN O'R HAFOD ELWY
(Bugeilgerdd)
AR noson oer auafol yn Hafod Elwy lân,
Eisteddai teulu Owen Wyn wrth danllwyth mawr o dân.
Ymdaena gwen o falchder tros wyneb Owen Wyn
Tra'n gwrando ar y plantos mân yn cyfrif rhif y myn,
Adgofiai hyny iddo am flwyddi o fwynhad
A dreuliodd yntau'n moreu'i oes i wylio praidd ei dad;
A chyda llais crynedig, dywedodd wrth y plant
Am lawer o helyntion blin ddigwyddodd ger y nant;
Ac erbyn hyn distawrwydd deyrnasai yn y ty,
Er mwyn cael clywed taid yn dweyd hoff hanes Cymru " Fu.
'Mae,' ebai , ddeugain mlynedd er pan ' own gyda'm tad
Yn eistedd ar y Mynydd Du, yn syllu ar y wlad;
Ac o'r olygfa swynol a welid ar bob llaw,—
Y defaid mân yn chwareu 'n llon ar fron y Moelwyn draw,
Islaw y dyffryn wenai'r un fath ag Eden gynt,
A miwsig yr afonig sydd yn d'od ar fraich y gwynt;
Draw yn y pellter gwelid y Llyn a'i glawr fel drych
Yn dangos y mynyddoedd ban ar lawnt ei donau crych,
Gerllaw, ar fin y tonau ' roedd Eglwys hen y plwy
Yn taflu ei chysgodion hardd o un i fod yn ddwy.
'Ond,' ebai'm tad yn sydyn—'A weli di y llwyn
O goed sydd tu 'cha'r fynwent werdd ar lan yr uwchaf dwyn?
'Rwy'n cofio pan yn fachgen, i'th daid fy anfon i
Ar noson loergan ddiwedd ha', yng nghwmni hoff fy nghi,
I ' nol rhyw yrr o ddefaid o ffermdy Hendre mawr,
Fel gallwn gychwyn adre'n ol ar doriad cynta'r wawr.
Mae'n anhawdd i ti , Owen , ddychmygu'r braw a ges',
Pan welwn na ddoi Cymro'r ci ' run lathen ata i'n nes;
Edrychais o fy neutu,—a gwelais haner cant
O fodau bach mewn mentyll gwyrdd yn llawer llai na'r plant,
Sibrydodd un o honynt, yn debyg iawn i hyn,—
Ai chwi yw aer yr Hafod draw, ai chwi yw Owain Wyn?'
Rhyfeddais wrth ei chlywed, edrychais arni'n deg,
A toc gofynais iddi hi, Ai chwi yw'r tylwyth teg?'
Atebodd eu brenhines, gan wenu arna' i 'n llon,
Nyni yw teulu'r tylwyth teg,' yn ddistaw meddai hon,
'Mae genyın balas gorwych o dan eich daear chwi,
Os mynwch chwithau, Ifor Wyn, cewch ddyfod gyda ni.'
A phan ar gychwyn atynt, i uno gyda'u cais,
Fe glywais rywun atain dod, gwrandewais ar eu llais:
Diflanodd y tylwythion, gan fyn'd o dwyn i dwyn,
A chanfu 'nhad fi ar y llawr yn nghanol swp o frwyn;
Yn ol i'r Hafod Elwy y daethum ni ein dau,
Gan adael y tylwythion teg o dwyn i dwyn yn gwau.
Fy nhad, fy nhad,' medd Ifor Wyn—
Sef Ifor Wyn y nai,
'A ydych chwi yn credu hyn?
Maddeuwch im' fy mai,
Mae cymaint o chwedleuon am
Y Tylwyth Teg trwy'r byd,
Ond dyna sydd yn rhyfedd, pam
Na ddeuant hwy o hyd?'
Fy mab, fy mab,' medd Owain Wyn,
Fy amheu nid oes raid,
Ac oni chlywaist ti cyn hyn
Mai geirwir oedd dy daid?
Ond am y Tylwyth Teg nis gwn
Pa le y maent yn awr,
Ond digon im' fod hwn a hwn
Yn dweyd mai dan y llawr.'
'E deimlai 'r plant yn brudd eu bron
Wrth wrando ar eu tad
Yn amheu fod y chwedl hon
Yr oreu yn y wlad;
Nis gallent hwy amgyffred chwaith,
Er meddwl mwy a mwy,
Paham fod llygaid taid mor llaith
Wrth edrych arnynt hwy.
A dyna dd'wedai cyn bo hir,
'Fy mhlant, na foed i chwi
Anghofio arddel byth y gwir
Sydd yn ein teulu ni;
Ewch oll i ben y Mynydd Du,
A chofiwch hyn bob dydd,
Fod hanes anwyl Cymru Fu
Yn rhan o Gymru Sydd.
Yr haul a'i aur belydrau gusanai gyda gwên
Gan ymlid mantell dywell nos oddi ar y muriau hen—
Y rhai fel dolen gydiol, draw o'r gorphenol mud,
Fu'n uno teulu Ifor Wyn trwy oesau maith y byd.
Hen fangre gysegredig oedd aelwyd lan y ty
I dremio'n mhell tu draw i'r niwl i hanes Cymru Fu;
Edrychai pawb yn hapus wrth danllwyth mawr o dân
Tra un yn nyddu gyda'r droell a'r llall yn trwsio gwlan,
A'r plant o gylch yr aelwyd—yn nwyfus ac yn llon,
Yn gwylio'u tad yn gwneyd llwy bren neu ynteu wneyd ei ffon.
'Rol cadw'r pecinynau, a'r llestri oll i gyd,
Darllenai taid o'r Beibl mawr ryw benod ar ei hyd,
A byddai yn egluro—adnodau ddwy neu dair,
Er mwyn i'r plant gael gwybod beth feddylid wrth y Gair;
Ac yna äi i weddi,—gweddio'n daer wnai ef,
Gan dywallt ei holl enaid glân wrth orseddfainc y nef:
Ar ol y weddi gwelid y plant o un i un
Yn myn'd i fro'r breuddwydion pur, i wlad y melus hûn.
Ac yno gwelant weithian Dylwythau Teg yn fyrdd
Yn dawnsio ar ryw lecyn hardd, yr oll mewn mentyll gwyrdd,
A 'Teida' yn eu canol yn dawnsio 'n ddigon llon,
A Chymro'r ci wrth fòn y gwrych oedd yno'n gwylio'i ffon;
Ac O mor ddedwydd fyddai'r plant wrth ddweyd'r hanesion hyn
Wrth un wrandawsai arnynt oll ar aelwyd Ifor Wyn.
Pan godai'r haul o'i wawrlys i erlid mantell nos,
Fe welid Ifor Wyn a'i gi draw, draw yn croesi'r rhos,
Edmygedd lanwai'i galon wrth syllu ar yr wyn
Yn prancio draw ar ael y bryn uwchben y teisi brwyn;
Fry, fry, yn mror cymylau, fe glywai'r hedydd mwyn
Yn arllwys môr o gân i Dduw, a'i nodau'n llawn o swyn;
A draw ar frig y goeden fe glywai'r deryn du
Yn pyncio mwyn acenion nef yn ymyl drws y ty,
'Roedd hithau'r gwcw werddlas ar gaine y fedwen werdd
Yn dweyd cwcw, cwcw, o hyd ac yn blaenori'r gerdd;
A dacw'r fronfraith seinber fry, fry, ar flaen y pren
Fel pe yn dweyd wrth Ifor Wyn, wi-wi, myfi yw'r pen;
Fel hyn 'roedd cor y goedwig yn adsain rhwng y dail,
Gan foli eu Creawdwr doeth mewn odlau bob yn ail.
Caed hwythau y briallu, a'r dagrau ar eu grudd,
Yn gwenu draw ar war y ffos wrth weled cawr y dydd
Yn dyfod i'w cusanu ; a'r gwlith fel pe ar frys
Ddiflanent trwy'r eangder maith yn ol i'w freiniol lys.
Ha, myrdd o heirdd lygadon a wenant ar bob llaw,
A phob blodeuyn bychan tlws yn dweyd mai dwyfol law
Fu'n paentio eu hymylon; a gwelai Ifor Wyn
Fod Duw yn amlwg yn ei waith yn gwneyd y pethau hyn.
Ymgripia ci y bugail i ben y mynydd mawr,
Yn swn brefiadau'r defaid mân gan ddod a hwy i lawr;
Edrychai Ifor arnynt fel ar gyfeillion mâd,
A dyna dd'wedai wrtho'i hun, 'Eich gwell ni fedd y wlad;'
Roedd son am deulu'rHafod a'u defaid trwy'r holl wlad,
Fel bugail caed yn Ifor Wyn cain ddarlun byw o'i dad.
Arferiad teulu 'r Hafod, ar Ddydd Gwyl Dewi Sant,
Oedd gwisgo y geninen werdd, 'rhon dyfai'r fin y nant;
A mawr oedd y llawenydd yn Hafod Elwy lân
Pan welwyd Taid ar bwys ei ffon ar fin y dyfroedd glân,
Yn hel yr hardd geninen,—a'r plant o un i un
Ddanghosent iddo yn y dwfr mor anwyl oedd ei lun;
A gwiriwyd y ddihareb—a hyny gyda gwen,
Fod pob hen wr fel Teida Wyn yn blentyn pan yn hen,
'R ol gwisgo pawb o'r cenin dychwelodd Taid yn ol
I'r ty, ac ymaith 'raeth y plant i chwareu hyd ddol:
Ond cyn bo hir fe welsant eu tad yn dod draw, draw,
Yn cario yn ei freichiau oen, a dafad yn ei law;
Fe redent am y cynta i'r Hafod at eu mham
Iddweyd fod tada bach yn dod tros gamdda'r Werglodd gam;
Ac o mor siriol 'roeddynt, rhyw ddarlun prydferth tlws
Oedd gweled teulu Ifor Wyn'n ei ddisgwyl yn y drws.
Ychydig wyddai Ifor Wyn fod angau, brenin braw,
Ar ddod cyn hir i'w anwyl fwth a'i gleddyf yn ei law.
Ymsuddai'r haul i'w wely, a lleni'r distaw nos
Yn araf ddaeth gan daflu'i chlog tros wyneb bryn a rhos,
Ac anian aeth i huno i ddistaw fedd y dydd,
Tra gwyliai'r ser a'r lleuad dlos y dwyfol flodau blydd:
'Roedd taid yn dweyd chwedleuon, er mwyn dyddanu'r plant,
Am wyrthiau rhyfedd wnaed cyn hyn trwy'r wlad gan Dewi Sant,
A dyna'r noson olaf i'r teulu dedwydd hyn
Gael gwrando ar chwedleuon hoff yr anwyl Teida Wyn.
Niwl caddugol yn gorchuddio
'R bryniau pell a mantell ddu,
Haul y boreu yn ymguddio
Draw yn yr eangder fry;
Yr oedd brenin dychryniadau
Wedi gweinio 'i gledd pryd hyn,
Chwerw, chwerw oedd y dagrau
Gaed yn nheulu Ifor Wyn.
Yr oedd gwisgoedd y mynyddau
Fel pe'n dweyd yr hanes prudd
Hefyd gwelwyd ar y blodau
Ddagrau bychain yn mhob grudd;
Draw i'r fynwent fe hebryngwyd
Gorph yr anwyl Teida Wyn,
Dagrau gwlad pryd hyny gollwyd
Gylch ei fedd ar fin y llyn.
Daeth yr haul i sychu'r dagrau
Gaed ar ruddiau blodau'r glyn,
Ond nis gallai 'i aur belydrau
Sychu dagrau Ifor Wyn;
Fe roed blodau haf i wenu
Ar oer wely Teida Wyn,
Dagrau'r teulu wedi hyny
Fu'n eneinio'r blodau hyn.
Rhyw ail-argraffiad rhyfedd o natur ydyw dyn,
Portread cywir wedi'i wneyd ar ddelw Duw ei hun;
Ceir gwanwyn, haf, ac hydref, a'r gauaf gyda loes,
Y gwallt yn wyn, yn lle yr ia, yn addurn diwedd oes;
'E ddaw hoff ddail y gwanwyn i wenu ar y byd,
A daw y plentyn bychan tlws i wenu yn ei gryd;
Fe syrth y ddeilen wedyn i wywo'r fedd yr ha',
A dyna ydyw hanes dyn, yn ol i'r pridd yr a,—
Fel hyn mae y tymhorau yn dod o un i un,
Ac aelwyd Hafod Elwy lân o hyd yn tynu 'u llun,
A blwyddyn ar ol blwyddyn yn myned ar ei hynt
I gadw i fedd amser prudd, ond yma ceir fel gynt
Fugeiliaid yn yr Hafod, a defaid ar y bryn,
A'r wyn yn prancio yma 'thraw yn ngolwg Ifor Wyn,
A chedwir hen arferion yr Hafod eto 'n ir
Gan deulu dedwydd Ifor Wyn, ac arddel maent y gwir;
Y praidd a geir yn pori ar ben y Mynydd Du,
A swn bugeiliol glywir draw oddeutu drws y ty,
Y Beibl mawr ddarllenir—hen Feibl Teida Wyn—
Ac yn y teulu fe geir hwn yn nghadw hyd yn hyn;
Tra bugail yn yr Hafod i wylio 'r defaid mân,
Bugeilio wna'r hen Feibl mawr hyd fryniau Canaan lân.
LLINELLAU DYHUDDOL
Am Meyrick, anwyl blentyn Mr. a Mrs. Jones, Trawsfynydd
WAITH rhy anhawdd yw darlunio
Beth yw colli plentyn mâd,
Nid oes dim all ei ddesgrifio
Ond dwys deimlad mam a thad;
Y mae teulu Pant y Celyn
Heddyw'n gwybod beth yw hyn,
Er fod MEYRICK eu hoff blentyn
Yn y nef yn angel gwyn.
Gwywo, gwywo, wna'r blodeuyn
Dorir ymaith ar y ddol;
Gwywo, gwywo, wnaeth y plentyn
Y galarwn ar ei ol;
Cyn ymagor, cyn difwyno
Ei ddihalog wisg erioed,
Fe aeth MEYRICK bach i urddo
Coron Crist yn bum' mlwydd oed."
Fe adawodd ei deganau
Ar ei ol cyn myn'd i'r nef,
Yno cafodd aur delynau
I'w ddyddanu yn eu lle;
Ah! rieni, nid i'w fagu
Y rhoed ef i chwi gan Dduw;
Na, anwylun i'w anwesu
Fu eich plentyn tra bu byw.
O mor fyw yw'r adgof heno
Am yr anwyl un dinam,
Byth nis gellir ei anghofio
Gan ei hoffus dad a mam :
Pan roed ef mewn bedd i orwedd
Claddwyd eu serchiadau hwy
Gyda'u plentyn mewn unigedd
Draw yn mynwent hen y plwy'.
Dagrau hiraeth sy'n eneinio'r
Blodau cain o gylch y fan
Lle gorwedda MEYRICK heno
Mewn tawelwch ger y llan;
Er mor hardd yw'r prydferth flodau,
Er mor ddwyfol yw eu gwedd,
Harddach i ni ydoedd gwenau
'R hwn sy'n gorwedd yn ei fedd.
Os rhoed blodau hedd i wenu
Ar ei feddrod bychan ef,
Yntau roed yn mreichiau'r Iesu
Fry i wenu yn y nef;
O mor felus ydyw cofio
Beth yw marw i gael byw
Gydag engyl i adseinio
Y dragwyddol gân i Dduw.
CYNGHOR I LWYDLAS A TALIESIN O LYFNWY PAN MEWN DADL.
TAL, bydd gystal roi gosteg,—a llecha
Mewn lloches heb attreg;
Llwydlas, odiaeth gâs dy geg,
Na uda ar 'run adeg.
Mae'r acen wyr mawr acw,—a'i gwead
Yn gywir a llerw;
A thoraf ar eich twrw,
Dim o'ch lol, dyma chwi lw,
HEN GLOCH Y LLAN
HEN gloch y llan, hen gloch y llan,
Yn galw 'rwyt o hyd,
Mae'th gnul yn treiddio'r bryniau ban
Trwy oesau t'wyll y byd:
Ti elwaist, do, ar Beuno gynt,
Pan oedd mewn rhwysg a bri,
Mae'th sain mal trydan yn y gwynt
Yn galw arnom ni.
Hen gloch y llan, hen gloch y llan,
Mae ynot ti rhyw swyn,
A denaist lawer tua'r fan
I wrando'th nodau mwyn;
A gwelaist, do, 'rol to o blant
O oes i oes yn dod,
A gwelaist hefyd lawer sant
Yn eiriol am dy nod.
Hen gloch y llan, hen gloch y llan,
Hudolus yw dy lais,
A chymorth fuost ti i'r gwan
Yn erbyn brad a thrais ;
Os bu'r gelynion erchyll gynt
Yn curo ar bob tu,
I'r Cristion ffyddlon ar ei hynt
Dy gnul, yn ffyddlon fu.
Hen gloch y llan, hen gloch y llan,
Pan byddo 'r byd ar dân,
A'r meirw 'n codi gylch y fan
A'u gwedd yn bur a glân,
A phan ehedant fyny fry
Ar edyn engyl gwiw,
Ffarwelio byddi di a'r llu
Wrth ddor anfarwol Duw.
DATHLIAD PRIODASOL
I Mr. C. E. J. Owen, Hengwrt Uchaf, a Miss M. Vaughan, Nannau.
HENFFYCH rinwedd mawredd Meirion,
Uchel olwg bryd a chalon.
'Hengwrt Ucha' a Nannau 'n union
Unir yn ei nerth;
'E gyfunir hen gofianau,
Ecco rwyga trwy y creigiau,
Daear sieryd am drysorau,
Rhai goreu mawr eu gwerth.
Dathlir gwyl yr undeb,
Calonau glân mewn purdeb,
Mawr eu llwydd y Cymry llon,
Hardd wendon o diriondeb;
Undeb calon dau'r un dynged,
Undeb meddwl, gair a gweithred,
Tra rhed y dwr i'r pant.
Tra brithyll mewn aberoedd,
Tra'n llaith y bydd y dyfroedd,
A thra bo adar yn y coed
A'u hysgafn droed neferoedd ;
Tra bo'n curo arwydd cariad,
Tra bo'n amlwg enaid teimlad,
Nei a noda bur fynediad
Eu galwad gwir i'w phlant.
Tra bo'r Gadair yn ymgodi
Ar y bryniau i'r wybreni,
Adgof geir am wir haelioni
Yr hen deuluoedd hyn;
Tra bo adar yn y goedfron
Yno'n canu mwyn acenion,
Tra gloew ddwfr yr afon Wnion
A physgod yn y llyn,
Bydd cof o'r wyl odidog
Pan unwyd dau mor serchog,
A phawb yn canu ac yn son
Am roddion mor ardderchog;
Hen ac ieuanc yn ymdyru
I hel achau iach y teulu,
Ar y floddest gorfoleddu
Yn dathlu undeb serch;
'E nodir dymuniadau
O eigion pur galonau,
Pawb a'u gweddi ar eu rhan
Mewn tref a llan fo'n ddiau ;
A bydd 'Hengwrt' hoff a Nannau
Yno'n unol eu calonau,
Yma'n hudol dymuniadau,
Pan mae mab a merch.
YMADAWIAD Y CYMRO.
DROS erchyll fynyddau yr eigion,
Fel pe ar adenydd y gwynt,
Cyflymai y City Chicago,
Yn hoyw a hwylus i'w hynt;
Er gwaethaf ystormydd echryslawn,
Er garwed y berw di-ail,
Ymlaen yr ä'r llestr odidog
Fel awel trwy ganol y dail.
Ac yno 'roedd bachgen o Gymro
Yn myned o fynwes ei wlad,
A'i eiriau diweddaf cyn cychwyn
Oedd ffarwel fy mam a fy nhad.
Mor hardd ac urddasol edrychai
Y llong pan yn gadael y lan;
Er hyny cynddeiriog dymhestloedd
Wnai 'mosod ar hon yn y man;
Rhyw amser ofnadwy oedd hwnw
Tra'n disgwyl am doriad y wawr,
A phawb bron gwallgofi gan ofnau
Y suddent i'r dyfnder i lawr.
Ac yno 'roedd bacbgen o Gymro, &c.
Ond torodd y wawr yn ei hadeg,
Tawelodd cynddaredd y môr,
Penliniodd pob enaid oedd yno,
Gweddiau arlwysid yn stôr;
Am enyd distawrwydd deyrnasai
Oedd ail i ddistawrwydd y bedd,
Llawenydd siriolai eu calon,
A gweddi ddanghosai eu gwedd.
Ac yno 'roedd bachgen o Gymro, &c.
Yn awr yn ei anterth yr huan
Ymddyrchai yn frenin y dydd,
Gan wresog sirioli holl anian
A'i lygaid yn fflamllyd y sydd ;
Y wylan o ogylch ehedai,
Rhyw swynol olygfa oedd hon ;
Ac yna i'r dyfroedd disgynai
Gan nofio mor ysgafn ei bron.
Ac yno 'roedd bachgen o Gymro, &c.
Tra'n syllu tros wely yr heli,
Adseiniodd y gair, Wele dir;
Ar hyn y peiriant ddolefai,—
Ei grochlef oedd uchel a chlir ;
'Roedd penau coronog y bryniau
I'w gweled yn eglur draw, draw,
A'r coedydd ireiddlawn cauadfrig
Yn harddu y lle ar bob llaw.
Ac yno 'roedd bachgen o Gymro, &c.
Ha! dacw y porthladd i'w weled,
Baneri yn chwifio'n eu lle ;
A'r City yn dyfod a'i theithwyr
I'w harllwys ar finion y dre ;
Yn nghanol y teithwyr siriolwedd
Fe welid y Cymro dinam,
A sibrwd ei galon y geiriau
"'R'wyn ddiogel fy nhad a fy mam."
Ac yno 'roedd bachgen o Gymro, &c.
BLODEUGLWM AR FEDD MR. EDWARD LEARY
YR Eglwys fel rhyw weddw brudd
Alarai am ei phlentyn,
A dagrau geir ar lawer grudd
Sydd heddyw yn ei ddilyn;
Mae'r oll yn dystion byw di-nam
Fod yma gydymdeimlad,
Ond beth yw hyn i ddagrau'r fam
Sydd heddyw yn amddifad ?
Pwy all ddesgrifio teimlad mam?
Rhy anhawdd ydyw hyny,
Ond melus iddi 'r adgof am
Ei lyniad wrth yr Iesu;
O! boed i'r dagrau chwerwon hyn
Ddiflanu oddi ar y gruddiau,
Mae'r hwn fu ar Galfaria fryn
Yn gwrando ein gweddiau.
CYN IM' HUNO
(Efelychiad)
M bob ffafr ddangoswyd ini
Heddyw gan fy Nuw Ior,
Diolch wnaf i'r Iesu.
O fy Nuw! beth allaf roddi
Am dy fawr ofal di?
Noddwr pob daioni.
Paid a'm gadael byth yn angho',
Boed dy hedd imi 'n rhan
Nes cyrhaeddaf yno.
Tyr'd, ymwel a mi yn ddyddiol,
Tyr'd yn nes,—aros di
Gyda mi 'n wastadol.
MOR DDEDWYDD 'ROEDDEM NI
Yn nhroed y rhiw, ar fin y nant,
Mae bwthyn bychan melyn,
Lle bu'm yn gwrando gyda'r plant
Ar fiwsig hoff y delyn;
Mor anwyl ydoedd gwel'd fy nhad,
Ei fysedd ar y tanau,
Yn geni seiniau swynol byw
O'i delyn pan yn chwareu.
Ac O mor ddedwydd 'roeddym ni
Yn swn ei seiniau nefol,
A chredwyf nad oes yn y nef
Ddim canu mwy dymunol.
'Roedd clywed llais fy hoffus fam
Yn canu gyda'r tanau
Yn creu rhyw nefoedd o fwynhad
I mi a'r plant yn ddiau:
Iaith enaid oedd y miwsig hwn—.
Iaith teimlad yr hen Gymry,
Ac nid oes ond angylion syw
Yn deilwng i'w gystadlu,
Ac O! mor ddedwydd, &c.
Mae gwledydd mawrion yn y byd—
Yn llawn o urddas bethau,
Ond nid oes un ond Cymru fâd
All ganu gyda'r tanau:
Awelon tlysion Gwalia wen―
Hen wlad y telynorion,
Ac nid oes gwlad o dan y nen
Mor fwynaidd ei hacenion.
Ac O! mor ddedwydd, &c.
I DEWI MEIRION, BALA
Ai marw yw Dewi Meirion,—ynteu
Mewn cyntun wr mwynlon,
Neu yw dy lwys awen lon
I'w chaffael yn ei chyffion?
AELWYD BRYN-Y-GROES
CYFEILLION hoff, Nadolig ddaeth,
Mae'r flwyddyn wedi myn'd
Tros geulan amser, yno'r aeth,
A chipiodd lawer ffrynd;
Ond wele ni yn ysgafn fron-
Yn ddi-nam heb un loes,
A phawb yn llawen ac yn llon
Ar aelwyd Bryn-y-Groes.
Danteithion fyrdd sy'n hulio'r bwrdd,
A chroesaw ar ei sedd
Yn cymhell pawb sydd wedi cwrdd
Ymuno yn y wledd;
A gwnawn ein goreu gyda hor,
Gan alw tyr'd a moes,
Mae pawb yn llawen ac yn llon
Ar aelwyd Bryn-y-Groes.
Mae'r cook, fel arfer, wedi bod
Yn drylwyr yn ei rhan,
A'r waitress gawn yn myn'd a dod
Yn siriol trwy y fan;
HUGH EDWARDS hefyd gawn a JOHN
Yn gwenu yn eu moes,
Mae pawb yn llawen ac yn llon
Ar aelwyd Bryn-y-Groes.
Dymunaf flwyddyn newydd dda
I bawb yn ddi-wahan,
Gobeithio bydd hi megys ha'
O hyd, gyfeillion glân;
I Mrs. ROYLE, haelfrydig fron,
Dymunaf hir, hir oes;
A phawb yn llawen ac yn llon
Ar aelwyd Bryn-y-Groes.
ER COF
am Laura Jane, merch Mr. a Mrs. C. Jones, Beuno View, Bala.
FLODEUYN anfarwol! i wynfa'r Creawdwr
Ehedaist o ddwndwr y byd;
Dy fenthyg a gawsom o lys y Cyfryngwr
Am enyd i lanw dy gryd;
Mor rhyfedd yw trefn Rhagluniaeth, mor dywyll
Nis galiwn amgyffred paham?
Fod angau mor greulon yn myned a Laura
O fynwes anwylaidd ei mham.
Ond ha!'r oedd angylion tan len yr eangder
Yn disgwyl, yn disgwyl o hyd,
Am genad yr Iesu o'i orsedd oreurog
I ddisgyn i ferw y byd;
Dychmygaf ei gweled ym mhell tros y gorwel
Yn agor cain ddorau y ne'
I dderbyn ein Laura, ein Laura Jane anwyl,
I'w harwain mewn urddas i'w lle.
Mor chwith ydyw gweled y cryd heb y fechan,
Mewn oergryd yn gorwedd mewn hedd;
Yr Ywen werdd iraidd yn lledu ei breichiau
I warchod ymylon ei bedd;
Murmuron y tonau sy'n suo'n bruddglwyfus,
Yr awel wrth groesi y fan,
Alarai'n wylofus uwchben y cul-anedd
Sy'n llechu wrth furiau y Llan.
Mor debyg oedd Laura i flodyn urddasol
Yn gwyro ei ben tua'r llawr,
Ond codi wna'r blodyn a gwen ar ei ruddiau
Trwy'r mân-wlith ar doriad y wawr;
Er chwerwed y dagrau a dreiglant ein gruddiau,
Nis gallwn ei chodi i'n côl,—
Bu farw i fyw, do, am byth gyda'r Iesu,
Nis gallwn ei galw yn ol.
O DAN Y DDERWEN
DAN y dderwen unig
Eisteddai geneth dlos—
Ei gwallt fel aur plethedig,
A'i dwyrudd fel y rhos,
Ei llygaid glas mor siriol
A'r disglaer ser uwch ben,
Yn gwenu mor naturiol,
Yn llawn o swyn cyfriniol,
Fy hoff angyles wen.
Yn mrig y dderwen unig
PTelorai cor y llwyn
Eu nodau bendigedig
Oedd lawn o nefawl swyn;
Er mwyned oedd y lleisiau
Oedd fry ar frig y pren,
Mil mwynach i fy nghlustiau
Oedd arwyl, anwyl eiriau
Fy hoff angyles wen.
Gerllaw y dderwen unig
Ymlechai bwth fy mun,
Ei furiau 'n orchuddedig
A myrdd o flodau cun :
Amryliw oedd eu lliwiau—
Fel enfys uwch fy mhen;
Er hyn beth oedd y blcdau
I mi yn ymyl gwenau
Fy hoff angyles wen.
Mae tan y dderwen unig.
Yn gysegredig fan
I mi, a'r hoff enethig
Sydd bellach imi 'n rhan;
O dan ei gwyrddlas frigau
Y traethwyd gynt y llen,—
Gwrandawyd ar y geiriau,
Ac unwyd dau hyd angau,
Fy hoff angyles wen,
PRYDDEST.—YR ARDD
YR Ardd, a phwyntel anfarwoldeb Duw'y Tad
A'i ddwyfol law a baentiodd fyrdd
O flodau tirf yn geinwych, a'u gogoniant hwy
A ddeil hyd ddiwedd amser byd ;
Ni fedd mug gelf ddim, ddim mwy cain na'r blodau mân
A'u ffrwythau per sydd yn yr ardd.
Y dydd fe wylia'r haul, a'r nos fe wylia'r ser,
Yn ddistaw, ddistaw, olygfeydd yr eirdd;
A'r awel fwyn ysgydwai 'n llon y ffrwythau ter,
Gan siglo mirain gryd y gemau heirdd,
A'r chweg aroglau yno daenir gan y gwynt,
Ar fraich yr hwn yr ânt i swyno byd;
A chrwydrant law yn llaw a'r awel yn ei hynt,
Gan adael deigryn bychan yn mhob cryd
Yr hwn yn wylaidd erys, gwyrai 'i ben i lawr,
Fel pe yn disgwyl genedigaeth dydd,—
Yr hwn fel angel ddaw ar doriad cynta 'r wawr
I sychu'r dagrau hardd oedd gynt mor brudd ;
I'w freiniol gol yr haul gofleidia'r gemawl wlith,
A gwena ar ei gorsedd swynol hwy.
A draw oi eurog sedd, o wlad y gwawl i blith
Y blodau wenant arno mor ddiglwy';
Fe ddeffry anian dlos a chodai plant yr ardd
Eu penau fel i gwrdd a chawr y dydd;
Croesawant ef, a'r awel rhwng y dail a chwardd
Yn llon, yn llon, yr hon oedd gynt yn brudd.
Ac wedi trwmgwsg, wele natur ar bob llaw
Yn deffro; clywir o eisteddle 'r dail
Y cor asgellog, fel yr engyl yn ddi—fraw,
Yn pyncio 'i nefol odlau bob yn ail,
A'r ardd a wisgir à chain dlysni blodau blydd,
A gwenant yn eu harddwch arnom ni;
Yn siriol iawn, trwy fyrdd o lygaid bach y dydd,
Fe welwn eto Eden yn ei bri.
Rhyw fan ddymunol ydyw 'r ardd i ddyn
I weled natur yn ei pherffaith lun,
Mae enaid anian yno ar bob llaw,
I'r Cristion, cysgod yw o'r byd a ddaw;
Y coedydd ffrwythlawn yno hefyd gawn
Yn gwyro 'i breichiau dan ei lluniaeth llawn:
Mae'r oll yn tystio gwerth y dwyfol Dad
Sy'n gwenu arnom ni o'r nefol wlad.
Pe gwybid beth yw'r ffrwythau mirain cun,
Trwy hyn ceir gwybod beth yw Duw a dyn;
Ond trefn anfeidrol ydyw hon nas gall
Y ddynolryw byth ganfod ynddi wall,
Na'i hefelychu chwaith, na thynu llun
Prydferthwch gardd 'r un fath a hi ei hun.
Pe mathrid dim ond deilen fechan gron,
Mae eisieu rhywun mwy na dyn at hon,
Er iddo trwy fug gelf wneyd pethau hardd,
Mae'n rhaid cael Duw i greu tlysineb gardd;
Er gosod dyn yn frenin byd, nid yw
Ond gwas mewn gair wrth alwedigaeth Duw;
Mae ef 'r un fath a'r ddeilen ddiwedd ha'—
Fe syrth i lawr, yn ol i'r pridd yr a;
Ond cyfyd dyn ar alwad udgorn Daw,
Ar foreu 'r farn fe 'i gwelir eto 'n fyw;
Fel blod'yn bydd y Cristion, O! mor hardd
Ei wedd, wrth draed yr lor, mewn dwyfol ardd.
Fel disglaer fod ar hynt o wlad goleuni,
Yr eira glân yn fantell guddia 'r gerddi;
Mae ynddo ef rhyw swyn dihalog weithian,
Gosoda fyrdd o berlau 'n nghoron anian.
O tan y glog mae'r tyfol fyd yn gorwedd
Mewn tawel hun, neu gwsg mewn unig anedd;
Mor bur yw'th wisg, ymwelydd, mor ddeniadol,
Wyt eilun o dlysineb gwisgoedd nefol.
Ha! eira glân, rhy bur wyt ti, 'rwy'n credu,
I aros yma'n hir mewn byd sy'n pechu;
Ti geidw yn ofalus yr holl hadau
Orweddant danat fel cuddiedig berlau:
Mor llesol ydwyt ti i'n daear, halen,
Anrhaethol werth yw'th rin o law dy herchen.
Ymwelydd hoff, pe deuit yma'n amlach,
Fe argyhoeddet gymeriadau duach
Na'r ffrwythau cain yr ardd, sydd yma,
O dan dy amdo, fendigedig eira.
Daw byd o dân, o'r dwyrain draw i'r golwg,
I doddi'r fantell wen oedd gynt mor amlwg;
Yr hwn a adfer eto wisgoedd sidan,
Trwy hardd belydrau'r haul fe drwsir anian.
A'r ardd' a ddengys fyrdd o fân deleidion,
Mewn tlysni ac aroglau blodau glwysion.
Mor ddestlus ac ardderchog ydyw'r ffrwythau
Sy'n hongian yn y coedydd ar y brigau:
Mor swynol ydyw'r oll i'r garddwr siriol,
Sydd a'i holl egni gyda rhai'n yn ddyddiol
Yn gwylio yn ofalus uwch eu penau,
Ac yn trin y pridd, - yna rhydd yr hadau
Mewn tyfol le, arhosant yno enyd;
Daw yntau o ddydd i ddydd i wel'd y bywyd,
Er nad yw'n deall hwn, mae'n gwel'd'r Anfeidrol
Yn gwneyd yr ardd 'run fath a'r Wynfa Nefol.
Y llysiau draidd i gwrdd a gwres yr huan,
Mae iddynt hwy fel llygad Duw ei hunan.
Daw'r nefol wlith, a'r hyfryd wlad i feithrin,
Ac adnewyddant hwy y tyner egin;
Caiff yntau'r garddwr weled fel mae'r ffrwythau
'N addfedu'n brydlon erbyn eu tymhorau;
Fel hyn, er boreu cynta'r greadigaeth,
Fe welir llaw yr Ior yn estyn lluniaeth,
A merch y nefoedd sydd yn dangos ini
Drugaredd yn ei chynyrch ddirifedi;
Ac O! na allem ddiolch iddo'n gyson
Am ffrwythau anmhrisiadwy sydd yn frithion
O fewn yr ardd; hwy wenant ddiolch iddo
O fyrdd o lygaid gloewon, syllant arno.
Tra safai dyn yn fud, nis gall ef edrych
Yn wyneb Crewr a Chynhaliwr cynyrch,
Amryliw flodau, wenant yn wastadol
O'u gorsedd glaer, fel pe mewn byd estronol,
Mae'r oll yn dangos i ni mor anrhaethol
Yw cariad Duw, at ddyn trwy drefn anianol.
Yng nghanol unigedd y mynydd,
Ar finion dymunol y nant:
Mae'r bwthyn sy'n fyw o lawenydd
Yn swn bendigedig y plant;
Diaddurn yw'r muriau gwyngalchog,
Er hyny ei berchen a chwardd
Wrth weled y gwanwyn toreithiog,
Yn gwenu ar fynwes ei ardd.
'Does unman i'r gweithiwr mor anwyl
A'r llecyn wrth dalcen y ty,
Mae yno mor hapus a'r engyl,
O'i feddwl pob helbul a ffy;
Mae'n gweithio hyd wylnos yn serchog,
A theimla ei hunan yn fardd,
Wrth weled y gwanwyn toreithiog
Yn gwenu ar fynwes ei ardd.
Ha! nefoedd i'r gweithiwr yw'r llecyn,
Sy'n llechu yn ymyl y ty,
Ac yno bob boreu o'r bwthyn
Y crwydrai i weled y llu,
Sy'n gwenu o garpet ardderchog.
Y ddaear mor swynol a hardd,
I'w gweled y gwanwyn toreithiog
Sy'n gwenu ar fynwes ei ardd.
Yr "Ardd," pa fan yn ngreadigaeth dwyfol ?
A hawlia fwy o glod gan yr hil ddynol,
Yn hon dioddefodd Crist, ddiniwed Iesu
Ing enaid, do nes iddo'n waedlyd chwysu.
Y Duw yn creu yr "Ardd," yr Eden swynol
I ddyn i fyw yn ddedwydd, er yn 'feidrol ;
Ond wele'r 'meidrol yn ngardd Gethsemane
Yn rhoi y Duw anfeidrol yno i ddiodde'.
Gwasgfeuon chwerwon, mor ofnadwy ydoedd;
Pan oedd y Ceidwad cyfiawn yn yr ingoedd,—
Yr haul fel pe i wylo, drodd o'i gylchdaith,—
Ymguddio wnaeth o olwg yr erchyllwaith,
A chreigiau crog y ddaear a ddatodwyd
Pan waeddodd Iesu 'i olaf air, Gorphenwyd!!
Gadawodd Duw ei hunan ef am enyd
Yn Aberth tros bechadur am ail fywyd.
Trwy ei ddioddefaint, fe agorwyd ffynon
A ylch yn wyn, y duaf yn mhlith dynion
Trwy rinwedd gwaed yr Iesu, golchi'r pechod,
Yr hwn i'r byd a ddaeth trwy anufudd—dod,
Ufudd—dod perffaith Crist yn Gethsemane
Agorodd ffordd, i'n rhoddi o'n cadwynau,
Fel gallwn gael molianu yn oes oesoedd
Yn Ngardd yr Arglwydd grasol yn y Nefoedd.
ER COFFADWRIAETH
am Jane Evangeline Reese, yr hon a hunodd yn yr Iesu, Tachwedd 11eg, 1892.
FlLODEUYN hardd—anwylaf un
Yr hawddgar hoff EVANGE,
'Roedd rhywbeth yn ei gruddiau cûn
Yn gwneyd i bawb ei hoffi.
Ond gwywo wnaeth y fach ddinam
'Run fath a'r tyner flod'yn
Gadawodd hi ei thad a'i mham
I fyn'd i wlad y delyn.
Y gwlith a gwyd y blod'yn mad
I wenu arnom wedyn,
Ond nid yw dagrau yr holl wlad
Yn ddigon am y plentyn.
Draw yn yr enfys hardd uwchben
Mae'r gwlithyn yn ail wenu
EVANGE hithau yn y nen
Sy'n gwenu yn ngoron Iesu,
Mae adgof am ei gweddi daer,
Yn fyw yn ein calonau;
Ac oh! mor anwyl tros ei chwaer
Erfyniai ar ei gliniau
Ar Iesu Grist ei chadw hi.
Fe ddarfu yntau wrando,
Ond cymrodd oddiwrthym ni
Yr hon oedd yn gweddio.
Ehedeg wnaeth o swn y byd
Yn ol i'r nefol drigfa,
A gwyliodd engyl Duw ei chryd
Tra bu yn aros yma.
O ryfedd drefn! mor fyr fu'r daith,
A dyra oedd ei gweddi,
Fel hyn gofynodd lawer gwaith
A wnaf fi farw, Mami?
A marw wnaeth, ond marw i fyw
A ddarfu 'r hoff EVANGE;
Ac heddyw gydag engyl Duw
Mae hi yn melus foli.
Ond ar ei bedd y blodau sydd
Yn gwenu arnom weithian,
Mil harddach yw y blod'yn cudd
Sy'n gorwedd yn y graian.
Fe hidlwyd dagrau ar ei bedd
Gan rai oedd yn ei charu,
Tra gwenai hithau 'n hardd ei gwedd
Yn nghôl yr addfwyn Iesu,
Mewn gwlad nad oes un poen na chri,
Mewn gwlad yn llawn goleuni,
Ha cofiwch am ei geiriau hi,
'Na wylwch drostwyf, Mami.
CWYN Y CAETHWAS
(Efelychiad)
CAETHWAS wyf o'm cartref dedwydd,
'Rhwn adewais ar fy ol
Er mwyn elw i ddyeithriaid
'Rhai tros foroedd ddaeth i'm hol;
Gwyr o Frydain ddaeth i'm prynu,
Rhoesant olud am fy nerth,
Ac fe 'm rhestrwyd yn eu rhengoedd, -
F'enaid nid oedd hwn ar werth.
Mae fy meddwl yn rhydd eto,
Beth yw rhyddid Prydain Fawr?
Ai llabyddio'r negro druan,
A'i orlwytho ef i lawr?
'Os yn ddu, nis gallaf rwgnach,
Natur imi'r lliw a rodd;
Ond mae'r enaid yr un ffunud
Yn y gwyn a'r du 'r un modd.'
'Ydyw natur wedi rhoddi
Y planhigyn hwn i ni
I'w ddwfrhau a'm dagrau heilltion
'Rhai a lifant arno 'n lli?
Cofiwch chwi y creulon feistriaid
Pan o gylch aelwydydd clyd,
Am y briwiau ddarfych roddi
Ar y caethwas du ei bryd.
'Oes 'na un, fel y dywedwch,
Yn teyrnasu uwch eich pen,
Yn gorchymyn i chwi 'n prynu,
O'i anfarwol orsedd wen?
Ha! gofynwch iddo heddyw
Ydyw'r fflangell greulon gref
Yn cyd-fyned a dyledswydd
Dyn, neu gyfraith fawr y nef.'
'Na, mae'r ateb yn taranu
Yn udiadau croch y don
Pan yn golchi traethau noethlwn
Affric fawr,—mae'r genad hon—
Yn ymlamu trwy'r gwastadedd
Ac yn rhuo Na, o hyd,—
Yr un yw Duw i'r caethwas druan,
Yr un yw Duw trwy yr holl fyd.'
Trwy ein gwaed yn Affric anwyl
Cyn ein dodi yn eich cell,
O'r fath boenau chwerwon gawsom
Pan yn croesi 'r moroedd pell!
Gorfu ini, pan ein prynwyd,
Yn y farchnad ddynolryw,
Ddyodde 'r oll yn amyneddgar
A'n calonau 'n gleisiau byw!
Na chondemniwch mwy y caethwas
Heb resymau o unrhyw,
Rhaid cael achos hefyd cryfach
Na bod ni yn ddu ein lliw;
Elw ydyw gwraidd y pechod—
Elw gaed trwy 'ch gallu chwi,
Profwch ini faint eich cariad
Cyn amheu ein cariad ni.
ANERCHIAD PRIODASOL
I Mr. a Mrs. Williams, Tynewydd, Llandderfel.
DAU anwyl wedi 'u huno,—a'r gydiol
Aur gadwen sy'n urddo;
A llwyddiant heb ball iddo,
A'i Efa fwyn efo fo.
Dau lanwedd yn cydloni—a welwn
Yn William a'i Lizi;
Dau unwyd er daioni
Yn glod a nerth i'n gwlad ni.
AR FINION Y LLYN
TRA 'roeddwn yn eistedd tan goeden y dderwen,
Ar finion Llyn Tegid teg fan,
Canfyddwn o hirbell hen Eglwys addurnawl
Llanycil yn ymyl ei lan;
'Roedd pobpeth o'i amgylch mewn gwisg mor urddasol,
Y coedydd ar lethr y bryn
Yn ysgwyd eu gwyrdd—ddail fel pe yn ymloni
Wrth weled eu llun yn y llyn.
Ymlechai 'r mân adar yn mrigau y goedwig,
A gwyrai 'r glaswelltyn ei ben,
A'r Aran fawreddog ymgodai mor uchel
Nes cyrhaedd cymylau y nen:
A'r nentydd grisialaidd o'i mynwes a darddant,
Ymdreiglant tros greigiau y glyn
I arllwys eu dyfroedd,—i uno 'n y miri
O ddawnsio ar wyneb y llyn.
O brydferth olygfa, —mae rhywbeth yn anwyl
O'th ddeutu yn denu fy mryd:
Y bryniau gwyrddleision fel caerau anfarwol
Yn gwylio 'r hen lyn yn ei gryd;
A draw yn y pellder y Gadair ymgodai
Yn gadarn fe'i gwelid o hyd,
Er gwaethaf ystormydd echryslawn fu 'n curo
Dy fynwes er seiliad y byd.
Mi welaf adfaelion ar ael y bryn acw
O gaerau'r hen Gaer Gai—gynt fu
Yn lloches i lawer hen filwr dewrfydol
Fu 'n ymladd tros Gymru wlad gu;
Mae calon y Cymro 'n ymlamu 'n ei fynwes
Wrth gofio mor erchyll y brad,
A llawer a drengodd a gwên ar ei enau
Tra 'n ymladd tros ryddid eu gwlad.
Y BWTHYN AR FERWYN
MEWN bwthyn mynyddig ar Ferwyn,
Un boreu ar doriad y dydd,
Eisteddai genethig benfelyn
Yn bruddaidd a gwelw ei grudd ;
Fel delw o farmor cerfiedig,
Yn syn a gwywedig ei gwedd,
Distawrwydd o'i deutu deyrnasai
Yn ail i ddystawrwydd y bedd.
'Roedd murmur afonig fach fywiog
I'w chlywed ar aden y gwynt,
Yn brysur ymdroelli drwy'r ceunant
Mor hwyliog a diwyd ei hynt :
Ar glawr y gwyrdd-ddolydd disgleiriant
Fel edau o arian mor gun,
A'r ser yn y nefoedd ymlonent
O ddifri wrth weled eu llun,
Ah! dacw yr huan mawreddog
Yn ngherbyd tanbeidiawl y wawr,
Yn agor chwim ddorau y dwyrain
I ymlid tywyllwch y llawr;
Pruddleni'r tywyllwch wasgarwyd
Gan euraidd danbeidrwydd ei dan:
A'r blodau amryliw ymloewent
Y goedwig oedd ferw o gan.
O brydferth olygfa ogonawl,
Holl anian yn gwenu mor llon
Oddeutu y bwthyn mynyddig,
Anfarwol olygfa oedd hon ;
Er hyny nis gallai 'r enethig,
Er hardded oedd toriad y wawr,
Ei ganfod trwy ddagrau mor heilltion
A dreiglai ei gruddiau i lawr.
Sibrydodd y fechan yn wanaidd
'Fy nhad, pa le mae fy mam?
'R'wyf heno ar fyned i'r nefoedd
At Geidwad a Phrynwr dinam ;
Caf yno y mwyniant tragwyddol
Addawyd er seiliant y byd
I bawb sydd yn credu yn Iesu,
Ei drefn sy'n anfeidrol o hyd.
Gwynebaf yr afon yn dawel,
Ni phery'r tywyllwch yn hir,
Wrth edrych i fyny mi wela'
Fod gwyneb y nefoedd yn glir;
Ofnadwy yw diwedd pechadur
Yn marw i farw mae ef,
Nid felly mae diwedd y Cristion,
Mae'n marw i fyw yn y Nef.
CERBYD EIRA DR. WILLIAMS.
(Gwneuthuredig gan Mr. Evan Williams, Coach Builder, Bala.)
N Nhawelfan, wrth y drws,
Mae cerbyd tlws heb olwyn,
A yn gyflym ar ei hynt
Fel corwynt wedi cychwyn,
Ynddo 'r Doctor cyn bo hir
A welir yn anwylun.
Pwy ddychmygai weled hwn
Yn cychwyn heb olwynion;
Trwy yr eira trwchus gwyn,
Hyd hyfwyn lethrau Meirion;
Rhyfedd gweled peth fel hyn
Fel deryn yn Edeyrnion.
Os bydd clefyd yn y wlad,
Ar alwad fe fydd yno;
Trwy y lluwch a'r eira mân
Yn fuan gall drafaelio;
Gyda'r cerbyd rhyfedd hwn,
Heb olwyn trwstfawr dano.
Methu weithiau wna y tren,
Mewn heunen fawr o eira;
Mignid erwin rydd full stop,
I'w gialop yn y gaua;
Ond fe groesa'r cerbyd hwn
Heb olwyn o dre'r Bala.
Chwith fydd gweled hwn yn ben,
O Rhyd—y—fen yn cychwyn ;
Ar ei daith trwy'r eira gwyn,
Trwy Gelyn fel y coblyn;
Gwarchod anwyl, cyn bo hir
Fe'i gwelir yn Llanuwchllyn.
Mlaen mae'r oes yn myn'd o hyd
Ac hefyd y cerbydau;
Ni ryfeddwn cyn bo hir
Pe'i gwelir heb geffylau,
Yma 'acw hyd y wlad
Yn curo cenad angau.
I MISS EMILY ELLIS, RED LION, BALA.
WEL, dyma alwad i Em'ly—Ellis
Ail ydyw i PATTY!
Ha! ganiad y mae'n geni
Seiniau nef i'n swyno ni.
I MR. REESE, WATCHMAKER, PORTMADOC.
O PORTMADOC pert amodau—a geir
Gan Reese mewn modrwyau;
Anrheg yn deg i bob dau
Ar radd antur rydd yntau.
ENGLYN
I faban Mr. a Mrs. Charles Jones, Plasterer, Llandderfel.
Ni welodd neb 'run mebyn—mwy anwyl,
Mae ini fel rhosyn.
O ddwylaw Duw ar ddelw dyn
Y deilliodd y bychan dillyn.
I BWLPUD.
EIN haddas bwlpud newydd—a haedda
Gyhoeddus fawr glodydd;
Rhyw dda fan i adrodd fydd
Wir hudol am Waredydd.
I MISS NELLY WHITE
YN chwareu tan ei choron—yn y nef
Mae Nellie fach fwynlon;
Naf alwodd ei nefolion
I gadw hwyl gyda hon.
NADOLIG
NOD i elw yw'r Nadolig—a gwyl
I'w gwylio'n arbenig.
A dydd yw heb achos dig,
I'w gadw'n fendigedig.
PRYDDEST—ABERTH CRIST
YR haul ar foreu 'r greadigaeth ddaeth
I daflu gwen ar y tragwyddol draeth,
Ac ymlid mantell ddu'r gaddugawl nos
A wnaeth, gan redeg drwy'r ffurfafen dlos;
Fe giliodd dyfroedd yr eangder mud
Yn ol, pan wawriodd diwrnod cynta 'r byd,
Ac ysbryd Duw 'n ymsymud nwch y don
A roddodd fod i fyd ar fynwes hon.
Fe welodd Duw mai da oedd hyn i gyd,
A chreodd ddyn i arglwyddiaethu'r byd,
A dododd ef i fyw yn 'Eden Ardd'
Yn nghanol myrdd o flodau teg a hardd;
A phwyntel anfarwoldeb Duw ei hun
Fu 'n paentio tirwedd gartref cyntaf dyn.
Ha! cysegredig fan i'r dynol dad
Oedd Eden, darlun byw o'r nefol wlad;
Ond anufudd—dod dyn a'i taflodd ef
Am byth tan wg, ofnadwy wg y nef!
Trwy'r pechod hwn y cread aeth i gyd
I eigion dwfn trueni 'r erchyll fyd!
Ac nid oedd holl drysorau 'r ddaear gun
Yn ddigon gan y nef tros bechod dyn.
Fe drefnwyd ffordd, cyn llunio'r greadigaeth,
Gan Dad, a Mab, ac Ysbryd yn yr arfaeth:
Y cyngor boreu—yr Anfeidrol Drindod—
Fu 'n gosod dwyfol drefn i faddeu pechod;
Pan roddodd Crist i'r byd ei ddwyfol fywyd
Yn 'Aberth,' fe agorwyd ffordd i'r gwynfyd.
O fendigedig Geidwad! pwy ond Iesu
Allasai fod yn ddigon i'n gwaredu?
Ni feddai'r ddaear faith, na'r nefoedd wiwlan,
Un 'Aberth' ond yr Iesu mawr ei hunan
Yn ddigon i ofynion 'Duw y Lluoedd.'
Ac 'Wele fi,' medd arwr byd a nefoedd,
O'anfon fi' fy Nhad, 'rwyf fi yn ddigon
O Aberth, er mor fawr yw dy ofynion,—
O'm bodd yr af i fyd sy'n llawn gofidiau,
Fy mywyd sanctaidd ro'f tros eu heneidiau;
Fy Nhad, fy Nhad, O arbed eu bywydau,
Oedd eiriau fu'n trydanu 'r cyngor boreu.'
Edrychwn i'r gorphenol, tros ysgwyddau
Yr oesoedd gynt, i ddechreu yr 'Aberthau,'
Canfyddwn yno Abraham yn cychwyn
Ar doriad dydd, mewn ateb i'r gorchymyn.
Cychwynodd ef a'i fab, a dau o'i lanciau
I dir Moriah bell—i wlad y bryniau;
Ac wedi teithio'r anial maith anghysbell,
Y trydydd dydd' fe welai'r fan o hirbell,
'Ac Abrabam a gododd ei olygon,'
A braw a dychryn lanwai'n awr ei galon;
A chyda llais crynedig fe sibrydodd,—
Fy ngweision hoff, arhoswch yn eich lleoedd.
Tyr'd Isaac, fe awn acw ac addolwn
I Dduw; I Dduw y Lluoedd fe offrymwn!!
Ac wedi cyrhaedd yno, fe osododd
Y tad ei fab ar allor adeiladodd;
Ac yn ei law cymeryd wnaeth y gyllell,
Ond ust! dychymygai glywed llais o hirbell—
Nefolaidd lais—yn treiddio trwy'r eangder
Mal trydan y disgynodd o'r uchelder,
Ac angel Duw o'r nef ddywedodd wrtho:
‘Ha, Abraham, na wna ddim niwed iddo—
Dy unig blentyn ydyw 'r hwn aberthi,
Dy fab—dy anwyl fab a hoffi;
Ymatal Abraham, mae nef y nefoedd
Yn llawenhau o herwydd dy weithredoedd.
Trwy'r weithred hon bendithir y 'cenhedloedd'
Am oesau i ddod, medd Arglwydd Dduw y Lluoedd.
Cysgodi 'n wan wnai'r hunan-aberth yma—
Yr Aberth mawr a wnaed ar Ben Calfaria.
Yn britho'r oesau tywyll bu'r prophwydi
Am Aberth Mawr' yr ebyrth yn mynegu;
Cenhadau dwyfol oedd y rhai'n anfonwyd
Tan nawdd y nef cyhoeddent yr ail—fywyd
I fyd oedd wedi disgyn i drueni;
Fel ser y wawrddydd hwy ddangosent i ni
Fod Haul cyfiawnder,' Haul yr hauliau'n dyfod
A meddyginiaeth lawn oddiwrth bob pechod.
O'r golwg y diflanodd y cysgodau
Pan daflodd Haul Cyfiawnder ei beiydrau
Ar ael y ddunos erch fe daflodd olau
Pan ddodwyd Crist yn ddyn mewn gwael gadachau.
Y cyngherdd nefol lanwai yr eangder
O fawl pan ddaeth yr Aberth o'r uchelder;
Rhyw foreu byth—gofiadwy ydoedd hwnw
Pan roddodd Crist i'r byd ei ddwyfol enw
Mor ryfedd ydoedd gweled 'aer y nefoedd'
Mewn preseb tlawd, yn frenin y brenhinoedd.
Ac unig obaith y pechadur truan
Oedd hwn, a ddaeth o'r nef i'r byd yn faban;
Efe oedd sylwedd mawr y Cyngor Dwyfol,'
Efe oedd pris y byd i'r tad anfeidrol.—
Efe oedd ddigon ir gofynion anferth—
Efe oedd hwn addawyd ini 'n 'Aberth.'
Ymdaena gwen o falchder tros wynepryd
Yr hen Simeon dduwiol yn ei adfyd
Pan welodd Mair, ac yn ei breichiau'r Ceidwad
Yr hwn a brynai fyd trwy rym ei gariad,
Canfyddai yn y baban bychan Iesu
Ogoniant Duw ei hunan arno'n gwenu,
Gweddio wnaeth a thywallt ei fendithion
Pan welodd 'Aberth Mawr' yr addewidion.
Pan glybu'r 'Brenin Herod' am y baban Iesu
Fe alwodd am y doethion hyny i'w balasdy
I'w holi'n fanwl am y seren ymddanghosodd;
A chyn i'r doethion fyned ymaith. fe orch'mynodd
Am iddynt anfon ato ef, a pheidio oedi,
Fel gallai yntau ddyfod yno i'w addoli.
Ond angel ddaeth o'r nef mewn breuddwyd at y doethion,
Gan ddangos iddynt arall ffordd i fyned weithion;
Fe ffromodd 'Herod frenin' pan y clywodd hyny,
Nis gall'sai feddwl am yr hwn oedd i deyrnasu.
Ymaflodd yn ei gledd, a galwodd ei fyddinoedd
Ynghyd, ac erlid wnaeth anfarwol Fab y Nefoedd,
Eiddigedd lanwai'n awr ei fynwes a dialedd,
Ac o'r trychineb a ddanghosodd ddidrugaredd!
Llofruddio wnaeth ei filwyr creulon blant diniwaid
I foddio ei gynddaredd hyrddiwyd y trueiniaid
I dragwyddoldeb ; ond baban y tangnefedd
Oedd ddiogel, yn yr Aipht o gyrhaedd ei ddialedd.
Ac yno mewn tawelwch rhwng y bryniau
Bu'r Iesu 'n blentyn gyda'r plant yn chwaren;
Ac nid oedd Nazareth yn edrych arno
Ond fel ar blentyn bychan arall yno;
Fel hyn y tyfodd Ceidwad byd i fyny
Mewn dinod le yn nghwmni ei holl deulu.
Rhyw newydd anian iddo ef oedd gwisgo
Ei hun mewn corph o gnawd mewn marwol amdo,
Ond gydag anfeidroldeb Duw edrychai
Yn ol i'r cyngor boreu, yno gwelai
Ei hun yn cydgynllunio ffordd i faddeu
Cyn bod y byd, na dyn, na dim pechodau;
Ac ynddo ef fe unwyd dyn a Duwdod,–
Ac ynddo ef caed Aberth llawn am bechod.
Mor ryfedd ydoedd gwel'd y bachgen Iesu
Yn holi y doctoriaid, ac yn dysgu
Cyfrinion bethau mawrion iddynt yno,
A hwythau'n fud, nis gallent ddeall m'ono;
Ychydig wyddent hwy mai eu Creawdwr
A safai ger eu bron mewn agwedd holwr.
Cynyddu mewn doethineb wnaeth y bachgen,
Gan ddwys fyfyrio 'n aml am gwymp Eden;
Rhag—welai ef y diwrnod mawr yn dyfod,
Pan â phechodau 'r byd 'roedd i gyfarfod;
Ac i'r dyfodol prudd edrychai'n wrol,
Gan syllu 'n ol i'r arfaeth fawr dragwyddol.
Fel Duw, fe welai ei ogoniant dwyfol
Yn gosod sylfaen byd ar draeth tragwyddol;
Ond wele 'r Duw yn ddyn rhwng y mynyddau,
Ac yno 'n sylwedd mawr yr holl gysgodau..
A phan y dodwyd ef yn yr Iorddonen,
Ei dad o'r nef anfonodd y golomen,—
Dangoswyd ynddi gywir ddrych o hono
O flaen y byd fel un heb bechod ynddo.
Rhyfeddu wnaethant hwy yn anghrediniol
Pan welsant wyrthiau mawrion yr Anfeidrol,
Nis gallent hwy amgyffred am y Duwdod
Orweddai yn y pur, ddilwgr Hanfod.
Na, na! nis gallent hwy ddim canfod ynddo
Ond 'Mab y Saer' fu yn eu plith yn gweithio,
Yr hwn gyflawnodd ryfedd wyrth y torthan
Ac a ddistawodd nerth yr erchyll donau;
Trwy air o'i enau ef, fe welai 'r deillion
Y Duw yn ddyn yn rhodio gyda dynion.
O ryfedd fawredd, gwelwyd ef yn hyrddio
'R ellyllawg leng gythreulig erchyll hono;
Ac wrth yr elor clywyd ef yn galw
A'i wylaidd lais yn adgyfodi'r marw,
Ac hyd ei ruddiau canaid yn Bethania
Ymlifai dagrau gyda Mair a Martha,—
Yr Iesu 'n wylo dagrau! dwyfol Geidwad!
Y Crist yn wylo dagrau cydymdeimlad!
Ni fynai 'r Iesu glod am ei weithredoedd,
Gwell ganddo ef dawelwch distaw leoedd.
0 swn y dyrfa gyda'i hoff ddysgyblion,
Mewn unig fan, yn ymdrin a'i gyfrinion.
Un noswaith, draw ar gopa mynydd Hermon
Gerbron ei Dad, bu'n arllwys ei holl galon
Mewn gweddi daer am gymborth ei Dad nefol
I'w gario trwy yr arw awr ddyfodol.
Anfesuredig yw y dwyfol gariad,
Anasgrifiadwy yn y gwedd—newidiad.'
Pwy all ddesgrifio chwerwon loesion Iesu?
Pan ddaeth Iscariot ato i'w gusanu,—
Y bradwr hyf, yr euog anystyriol—
Y meidrol gwael yn gwerthu yr Anfeidrol.
Rhoed Prynwr byd, yr Aberth mawr tragwyddol,
I sefyll gerbron Pilat mewn llys dynol,
A'r dorf gynddeiriog yn edmygu'r Unig—
Heb neb yn arddel Iesu 'r nef anedig.
Ei watwor wnaethant hwy. heb ganfod ynddo
Un bai na phechod hawliai ei groeshoelio.
Er hyny 'r annuw feiddia wawdio'r Iesu,
Y rhai fu gynt o'i ddeutu yn molianu;
Mor unig oedd yn arw awr ei drallod,—
Hyd nôd yn adawedig gan y Duwdod.
Tra taflwyd arno wawd y dorf derfysglyd,
Yr haerllug wallgof leisiau mor ddychrynllyd
Taranent nes adseinio trwy'r mynyddau,
A'u hecco 'n gwatwar draw o'r uchel greigiau;
A Satan a'i felldigawl lu dieflig
Yn hyrddio eu picellau; taflent geryg
A phoerent i wynebpryd gwelw'r Iesu,
Yr hwn tros erch bechodau byd yn trengu!
O! 'r fath waradwydd i Greawdwr bydoedd,
Ei osod ar y groes rhwng byd a nefoedd;—
Yr haul, fel pe i wylo, drodd o'i gylchdaith,
Nis gallai edrych ar y fath anfadwaith.
Ac engyl Duw ar drothwy'r nef safasant
Yn fud mewn braw a dychryn pan y gwelsant
Y dafnau gwaed yn llifo o ddoluriau
Yr Iesu pur, ac yntau 'n gwaeddi 'Maddeu!'
Sylfeini 'r greadigaeth a ysgydwyd
Pan waeddodd Crist o'i ing y gair 'Gorphenwyd!'
Y creigiau cedyrn welwyd yno 'n hollti,
A meirwon lu o'u beddau yn cyfodi.
O! ryfedd drefn, teyrnasu wnaeth trugaredd
Pan roddwyd Aberth llawn mewn bedd i orwedd.
******
CRIST EIN PASG.
Crist ein Pasg a ddrylliodd rwymau'r
Bedd ar foreu 'r trydydd dydd,
Sylwedd mawr yr holl gysgodau
A'r aberthau ddaeth yn rhydd.
Mewn un aberth cyflawn, perffaith,
Cadd y gyfraith daliad llawn,
A thywynodd gwenau siriol
Cariad dwyfol ar yr Iawn.
Crist ein Pasg, yr hwn fu farw
I gael trefn i'n cadw 'n fyw,
Digon dyn yn mhob cyfyngder—
Digon i gyfiawnder Duw.
Melus ydyw cofio'r taliad,
Cofio 'i gariad, cofio 'i loes,—
Gobaith dynion sy'n glymedig
Wrth ei fendigedig groes.
Crist ein Pasg, mae cof am dano
Heddyw yn sancteiddio'r byd,
Enaid dyn sydd yn adfywio
Pan yn cofio 'r taliad drud:
Cofio awr ei ddyoddefaint
Dan ddigofaint llym ei Dad,
Cofio dydd ein gwaredigaeth
Boreu 'r iachawdwriaeth.
Crist ein Pasg agorodd ddorau
Hen garcharau erch eu gwedd;
Ac o ddwylaw creulon angau
Mynodd agoriadau 'r bedd.
Foreu 'r trydydd dydd agorodd
Ddrysau 'r nefoedd led y pen,
Aeth ei hun yn arch—offeiriad
Trosom ni tu draw i'r llen.
Crist ein Pasg a'i adgyfodiad,
Coron cariad dwyfol yw,
Ynddo 'r ymlonyddaf finau—
O dan wenau cariad Duw.
Ceidwad dyn, gobeithiaf ynddo,
Oen y Pasg diweddaf yw;
Rhuthrodd llengoedd uffern arno,
Ond mae eto 'n Brynwr byw.
Crist ein Pasg, bydd cof am dano
Yn eneinio 'r nefol gân;
Cof am Aberth Pen Calfaria'
Dania sêl y dyrfa lân.
Fe offryma gwaredigion,
Duw eu mawl tu draw i'r llen,
Iddo Ef, gan wylaidd blygu,
Wrth amgylchu 'r orsedd wen.
LLONGYFARCHIAD
I'r Parch. J. Williams, B.A., Rhosygwaliau, ar ei haner can' mlynedd yn y plwyf uchod.
'E CHWERY adgofion fy maboed,
Adgofion pan oeddym yn blant,
Pan oeddym yn fyw ac ysgafn droed
Yn chwareu ar finion y nant:
Pan welem y parchus J. Williams
Yn dyfod o'r pentref neu'r llan,
Fe safai pob plentyn yn ebrwydd
Gan dynu ei gap yn y fan.
Rhyw arwydd plentynaidd oedd hyny,
Rhyw arwydd o barch genym ni,
A dyna ein dull o groesawu
Ein bonedd o urddas a bri;
Ond heno, mae'r plant wedi dringo
Hyd lwybrau a gelltydd y byd,
Er hyny, 'does neb yn anghofio
'R ben arddull o'i barchu o hyd.
O na, mae serch y plwyfolion—
Maent heno mor fyw ag erioed;
Mewn oedran, fel gwyddom mae'n ddigon
Mae'r serch yn haner cant oed.
I ddathlu yr undeb fe roddwyd,
Hardd anerch oreurog a ffon;
Dymuniad pawb yma yw heno
Caiff dreulio blynyddoedd a hon.
Caiff roddi ei bwys arni weithiau
Bydd iddo yn gymorth rhag loes,
A'r anerch fydd iddo yn arwydd
O gariad a serch trwy ei oes.
Fe gerfiodd ei enw ar galon
Hoff blant Rhosygwaliau bob un,
Trysorir ei ddinam gynghorion
Fel perlau angherddol eu rhin.
Boed gwenau Rhagluniaeth yn wastad
Yn gwenu o oriel ein Duw;
A gwylied yr engyl ei lwybrau
Nes caffo eu cwmni i fyw;
Fe gedwir ei enw yn anwyl
Fe gofir ei eiriau dwys ef;
Pan adref yn chwareu ei delyn
Yn nghwini y saint yn y nef.
Y PARCH. SILAS EVANS
WRTH sylwi ar iaith Silas,—a'i araeth
Ddiguro, mor addas
Ydyw y gwr i wneyd gwas
I ddeon y brif—ddinas.
Ond i Dduw, nid i ddeon,—y galwyd
Y goleu wr mwynlon;
Trwy ei waith fe yrr iaith Ion
I'r enaid ar ei union.
Y NHW SY'N DWEYD.
PETH hawdd yw llunio stori
Gyhyd a milldir gron;
Anhawddach yw er hyny,
Gael gwybod pwy wnaeth hon.
Cewch glywed rhyw rai anghall
Yn clebran cyn bo hir;
Wrth sicrhau un arall
Fod hon yn ddigon gwir.
Oherwydd 'nhw sy'n dweyd
Oherwydd 'nhw sy'n dweyd
Does achos am amheuaeth
Mai nhw, y nhw sy'n dweyd.
A dyna sydd yn rhyfedd,
Mae nhw yn fyw o hyd;
'Does unrhyw haint na chlefyd
All ddifa rhain o'r byd,
A dywed dysgedigion
Na fywia neb yn hir;
Pe byddai heb gymysgu
Ychydig ar y gwir.
Oherwydd 'nhw sy'n dweyd.
Mae llu o gymdeithasau,
Ar hyd a lled y byd;
A llawer o gynghorau
Yn myn'd a dod o hyd;
Er cymaint yw rhifedi
Y rhai'n mi gymrai'n llw,
Fod llawer mwy yn perthyn
I'r urdd a elwir nhw.
Oherwydd 'nhw sy'n dweyd.
Mae nhw yn ysgolheigion,
Pob copa cofiwch chwi,
Deallant egwyddorion
Yr hwylus rule of three.
Maent oll am Fultiplio
Pob stori yn y plwy;
A'r answer fydd bob amser
Ychydig bach yn fwy.
Oherwydd 'nhw sy'n dweyd.
Mae nhw yn mhob cymdogaeth
Yn ben ar bawb fel tae,
A hwy sy'n holl wybodol
Mewn dyrus bwnc o ffrae;
Mae ganddynt hwy gynlluniau
Yn ngwyneb pob rhyw fai,
Ond allan dont bob amser
Heb fod 'run mymryn llai.
Oherwydd 'nhw sy'n dweyd.
Pe rhoddid holl Dditectives,
Y cread yn gytun,
I geisio dal y nhw 'ma,
Hwy fethant bob yr un.
Pe buasai modd gwneyd hyny
Fe welid o bob tu
Berth'nasau iddo'n claddu
Mewn gwisg o ddillad du.
Oherwydd 'nhw sy'n dweyd.
MAGGIE
Sef anwyl ferch Mr, a Mrs. R. Roberts, (Miller) Ffrydan Road, Bala.
PAN oedd blodau 'r hâf yn huno
Mewn tawelwch byd o hedd,
Dododd natur arnynt amdo
Hardd o eira ar eu sedd;
Pan orchuddiwyd y teg flodau,
Collodd byd ei brydferth wedd,
Felly collwyd un o berlau
Hoff y teulu—gyda'r blodau,
Pan roed Maggie yn ei bedd.
Pan bydd blodau'r haf yn gwywo,
Geilw anian hwy yn ol,
Gan eu gosod i addurno
Mewn gogoniant ar y ddol;
Deffro, deffro, wna y blodau
I ail wenu ar y byd;
Deffro hefyd ddarfu hithau,
Maggie fechan, fry yn mreichiau'r
Iesu, yno 'i fyw o hyd.
Pan bydd blodau'r haf yn gwenu
Ar ei beddrod bychan hi,
Gwena hithau gyda'r Iesu
Yn yr ardd dragwyddol fry.
Er mor hardd yw'r blodau
Sydd yn gwenu ar y byd,
Harddach ydyw y cain flodion
Sydd yn canu nef acenion
Tragwyddoldeb ar ei hyd.
I GYMDEITHAS DDIRWESTOL.
CYMDEITHAS addas yw'ch eiddo—un wir
A ddeil i'w harchwilio;
Dena fyd, ie, dyna fo,
Ymattal yw ei motto.
Ei motto yw ymattal—ag eres
Gywreinrwydd dihafal,
Nid a doniau anwadal
Y byddi di 'n beiddio 'i dal.
I MR. WM. HUMPHREYS, GOF, BALA.
MNWYL ydyw—hen wladwr,—o nodwedd
Deniadol—chwarauwr;
Gwr gonest a gwir ganwr,
A'i enw da iddo 'n dwr.
CHWE' PHENILL SYLFAENEDIG AR PHIL. III
O! ryfedd ryfeddod fod nefoedd a'i bri,
I'w chael i bechadur mor aflan a mi;
Ac os oes ystormydd a chroesau i ddod,
'Rhoi mawl i'w ogoniant byth mwy fydd fy nod.
Nid cyfoeth, anrhydedd, a moetha y byd.
'Nawr ydyw gwrthddrychau sy'n denu fy mryd,
Na, mae'm pethau penaf o'r blaen wedi bod,
Yn dom ac yn golled yn ymyl fy nod.
Ar hwn yn sefydlog mae'm golwg bob awr,
A thra yn ei wyddfod mae'r holl ddaear fawr;
A'i rhwysg a'i gogoniant yn cilio tan gudd
Fel bydoedd is-raddol yn ngwydd cawr y dydd.
0! nod mor hardd yw galwedigaeth fy Nuw,
Ond cyraedd hwn sy'n gamp uchelaf ei rhyw;
Er hyny d'wed gobaith, a chariad, a ffydd,
Y gwnaf drwy nerth gras ei gyraedd rhyw ddydd.
Mae'n wir fod gelynion o'm hamgylch yn llu,
Yn ymlid fy enaid a chroesau bob tu;
Er hyny mi deithiaf yn mlaen yn ddigoll,
Gan hyf orfoleddu ynghanol yr oll.
Mi welaf fod angau yn sefyll gerllaw,
Ond bellach o'm hanfodd diflanodd pob braw;
A chaf nad yw weithian ond swyddog gan Dduw,
A'm dwg at fy ngwobr i'r nefoedd i fyw.
GANTORES
IRIOL a swynol ei seinian,—hwyliog,
A melus ei thonaU ;
I mi'n wir, nef yw mwynhau
Ei hunodol unawdau.
BEDDARGRAPH—
Am Mrs. Elizabeth Jones, Rhosygwaliau.
YN gorwedd mewn hedd o hyd,—yn dawel
Dan nawdd Duw'n y gweryd;
Yn y bedd, o swyn y byd,
Hyd foreu yr adferyd.
CORN ARIAN
Mr. J. Edwards, B.M., Machynlleth.
'R holl gyrn eraill a gaf,—un adeg
Hwn ydyw 'r rhagoraf;
A rhwydd yn wir rhoddi a wnaf,"
Mawl oesol i'w sain melusaf.
I LANWDDYN
Ar nos Sadwrn
LLE helia'r holl wehilion—i ddiras
Ymdderu lle'r meddwon;
Lle a twrf rhai hyll eu ton
Lle hollawl i ellyllon.
ENGLYN
I Ivy John, mab Mr. a Mrs. H. Evans, Cyl, Llanwddyn
BEDYDDIWYD, fel bod addas,—ein Ivy,
Trwy ddefod llawn urddas;
Hwn o'i gryd i'w fedd mewn gras
A fyddo 'n byw 'n gyfaddas,
GORESGYNIAD GWLAD CANAAN GAN JOSUA
AR ddyffryn Moab gynt y safai gwr
Ddewisodd Duw i'w blant yn gadarn dwr
Am ddeugain mlynedd trwy'r anialwch prudd
Y teithiodd gyda hwy bob nos a dydd.
Arweinydd oedd yn llawn o ysbryd byw—
Arweinydd anfonedig gan ei Dduw :
'Roedd dewrder yn gerfiedig ar ei rudd,
A'i fynwes gref oedd lawn o ddwyfol ffydd,—
Yn ngoleu hwn rhag—welai wlad oedd well,
Fel seren ddisglaer yn y gorwel pell;
Rhag—welai hefyd trwy y niwloedd du
Gymylau anhawsderau draw yn llu;
Ond trwy yr oll canfyddai wyneb Duw,
A chlywodd lais o'r nef yn sibrwd, 'Clyw,
'Josua, ymwrola, cofia di
Fod Arglwydd Dduw y Lluoedd gyda thi.'
Gerllaw yr hen Iorddonen ddofn
Gwersyllai byddin gref,
A'i chedyrn syllai yn ddi-ofn
I fyny tua'r nef;
Dychmygent weled yno un
Fu'n ffyddlon ar ei hynt
Yn crwydro trwy anialwch blin
Yn llywydd arnynt gynt.
Am Moses, wylo'n chwerw wnaeth,
Y rhai'n fel gweddw brudd,
Yn wylo am y plentyn aeth
Fry, fry i wlad y dydd;
Ond trwy eu dagrau gwelant draw
Eu llywydd hoff a'u llyw
Yn seinio cân heb ofn na braw
Wrth orseddfainc eu Duw.
Gadawodd Moses un o'i ol―
Un mwy nag ef ei hun—
I'w harwain hwy i'r hyfryd wlad
Oedd hardd a theg ei llun;
Josua, gyda hwy i'r gad,
Gychwynodd ar ei hynt
I'r wlad addawyd gan eu Tad
I'w tadau oesau gynt.
'Roedd dyfroedd yr Iorddonen gref
Yn ddiluw hyd y wlad,
Tra'r lanau hon y clywid llef
Josua filwr mâd —
Yn anfon yr offeiriaid trwy
Y dyfroedd gyda'r arch,
Yr hon a gariwyd ganddynt hwy
A chysegredig barch.
Y dyfroedd safant—gwylient hon—
Arhosent ar eu taith,
Llonyddu wnaeth y nwyfus don
Wrth wel'd y rhyfedd waith;
Cyd—rhwng y dyfrllyd furiau hyn
Plant Israel, law yn llaw,
Groesasant yr Iorddonen syn
Trwy wyrth, i'r ochr draw.
'Rol iddynt gyrhaedd cyrau'r wlad,
Y dyfroedd oerion llaith
Gusanent ryfedd ol y traed
Wrth fyned ar eu taith;
Y genedl gadwent wyl y Pasg,
Bwytaent y ffrwythau îr
Waharddwyd gynt cyn iddynt ddod
I'r cysegredig dir.
<poem> Ymgodai tyrau mirain Jericho Fel creigiau cedyrn i addurno 'r fro, Tra 'n syllu ar y ceinwych furiau hyn Canfyddai Josua dywysog gwyn Yn dod, a chleddyf noethlwm yn ei law,
Fel milwr dewr heb wybod beth oedd braw,Pan glywodd Josua y genad ddaeth
O'r nef, ymgrymu 'n wylaidd iddi wnaeth;
Cyn hir cyfododd ef, tra gwyliai 'r llu
Ei ysgogiadau rhyfedd ar bob tu.
Ond mae yn galw arnynt hwy yn awr—
Yn mlaen, yn mlaen, cychwynai'r fyddin fawr;
Draw, draw canfyddent gedyrn furiau'r dref
Oedd heddyw tan ofnadwy wg y nef:
Amgylchynasant hon, a'r seithfed dydd
Udganai 'r udgyrn floedd—a'u hadsain rydd
Rhyw arswyd yn nghalonau 'r gelyn oedd
Yn clywed swn yr erch ofnadwy floedd
Fel taran yn dispedain, O!'r fath fraw,—
Eu hecco 'n rhwygo'r muriau ar bob llaw,
Y cedyrn furiau gynt yn sarn tan draed,
A'u gwylwyr yno 'n gorwedd yn eu gwaed.
Er hyn fe welid mawr drugaredd Duw
Yn cadw teulu Rahab oll yn fyw;
I Jericho, arswydus fu y dydd
Pan wnaed ei muriau hardd yn lludw prudd.
Draw yn y pellder gwelid dinas Ai
Fel pe yn gwylio gwaith y cedyrn rai,—
Canfyddent hwy yn dod yn nes o hyd,
A galwodd hithau 'i milwyr oll yn nghyd
Yn barod i wrthsefyll gwyr y gad
Oedd erbyn hyn yn ddychryn i'r holl wlad;
Ond dewrion feibion Ai trwy nerth y cledd
Orchfygodd; hwythau 'n ol â gwelw wedd
Droiasant at eu llywydd hoff a'u llyw,'
Yr hwn a gaed wrth Arch Cyfamod Duw.'
Yn wylaidd wrthynt y dywedai ef,
Mae yma fradwr hyf tan wg y nef,
O rengau'r fyddin Achan ato ddaeth,
A dagrau ar ei rudd amlygu wnaeth
Y brad, trwy'r hwn plant Israel deimlant rym
Ei anufudd-dod ef, ac angau llym
Fu tynghed teulu Achan; claddwyd hwy
Mewn bedd di-nod—eu llais ni chlywyd mwy;
Anghofiwyd hwy-y prudd annedwydd rai-
Yn muddugoliaeth lwyr hen ddinas Ai.
Arhosodd gwylwyr Israel
Yn ninas Ai i wylio,
Tra rhan o'r fyddin i Sichem
A aethant i weddio-
Am gymorth Duw i'w cario trwy
Y brwydrau erchyll welid
Yn syllu eto arnynt hwy
Hoff blant yr 'hen addewid.'
Pan ddaeth Josua yn ei ol
I'r gwersyll gyda'i filwyr,
Canfyddai yno fintai fach
O flin luddedig deithwyr:
'Roedd edrych ar eu gwelw rudd,
A'u carpiog wisg yn tystio
Yn amlwg beth oedd hanes prudd
Y fintai fu yn teithio.
Ychydig wyddai ef pryd hyn
Eu bod hwy yn ei dwyllo;
I'w cadw 'n fyw cymerodd lw
Nas gallai ei anghofio.
Ond am y twyll fe'u cospwyd hwy,
Fe'u gwnaed bob un yn weision
I gario dwfr-i dori coed-
Y rhoed twyllwyr Gibeon.
'Roedd enw'r dewr Josua trwy y wlad
Yn arswyd fel arweinydd mawr y gad;
Edrychid arno ef a'i gadarn lu
Fel anorchfygol fyddin ar bob tu ;
Brenhinoedd welid yn ymgasglu 'o hyd
Yn galw eu byddinoedd dewr yn nghyd.
Yn mrwydr Beth-horon eu gwyr a gaed
Yn disgyn yn gawodau wrth eu traed;
Nis gallent ddianc, na, 'roedd haul y dydd
Uwchben Gibeon, heddyw'n welw brudd;
Ymguddio wnaeth—arhosodd ar ei daith—
Nis gallai edrych ar yr erchyll waith.
Y lleuad dlos—yr hoff genhades wen—
Brenhines wiw y nos―yn gwyro 'i phen
O'r golwg. Ond yn mlaen y milwyr hyf—
Ymruthrent trwy y nos fel corwynt cryf,
Gan hyrddio y trueiniaid ar eu hynt
Fel hyrddir dail yr Hydref gan y gwynt,—
Fel niwl o wydd yr haul ar foreu cun,
Diflanu wnaethant hwy o un i un.
Ar ol y frwydr fyth—gofiadwy hon,
Pump o frenhinoedd rhwysgfawr ddaeth gerbron
Josua, 'r hwn a alwodd ar ei wyr
I'w mathru tan eu traed i'w difa 'n llwyr ;
Saith o frenhinoedd eraill wnaed yn sarn,
Er mwyn cyfiawnder Duw â chleddyf barn
Dinystriwyd eu dinasoedd,—ofn a braw
Deyrnasai ogylch amgylch ar bob llaw.
O! ryfedd drefn !! arswydol erchyll haint
Dialedd Duw, pwy all ddesgrifio 'i faint?
Rhy wan yw iaith, 'does neb ond Duw ei hun
All ddweyd mor fawr yw anufudd-dod dyn.
Hyd lanau Galilea'r fyddin fawr
Gaed yn ddiri fel tywod man y llawr
Wrth ddyfroedd Merom, yr aneirif lu
Wasgarwyd gan blant Israel ar bob tu,
O lethrau hardd Lebanon, ar un llaw,
Anrheithiwyd hwy hyd gyrau Sidon draw.
Gadawyd y dinasoedd hardd eu gwedd
Yn brudd golofnau unig ar eu bedd.
Ond Hazor a ddinystriwyd, nid oedd mwy
Ei muriau wnaed yn gandryll—llosgwyd hwy
Yn lludw, a'i phinaclau yno gaed
Yn disgyn mewn dinodedd yn y gwaed.
Yn llwyr gwasgarwyd hwy, nis gallent fyw
O flaen rhyferthwy mawr cyfiawnder Duw.
Ar ol y brwydrau erch, Josua ddaeth,
A galwodd ei benaethiaid—rhanu wnaeth
Y wlad orchfygwyd ganddynt hwy mor llwyr.
Plant Israel, yr anorchfygol wyr,
Fe roddodd iddynt trwy orchymyn Duw
Eu hetifeddiaeth lawn o ddwyfol ryw,
A heddwch a deyrnasai trwy y wlad;
Ufudd-dod llawn a roed i'r nefol Dad.
Rhyw gysgod cywir o un mwy
Oedd Josua'r arweinydd,
Arweiniodd ef y genedl trwy
Rhyw laws o ystormydd
I'r Ganaan hyfryd teg ei gwawr,
Y Ganaan a addawyd
I'r tadau gynt, eu "Llywydd mawr,"
'N eu plith yn amlwg welwyd.
Yn lle y cysgod sylwedd gaed
I fyd o bechaduriaid,
Yr hwn oedd fwy na'r Aberth wnaed
Yn mrwydrau'r Israeliaid.
Agorwyd ffordd gan Grist ei hun
I'r Ganaan wen urddasol,
Fe rodd i wael golledig ddyn
Y deyrnas fawr dragwyddol.
UDGORN Y JIWBILI
A udgorn y Jiwbili fu gynt yn taranu
Ei oslef alluawg, pwy pwy all ddychmygu?
'R olygfa urddasol pan welwyd y caethion
Yn lluoedd aneirif yn dyfod yn rhyddion,
Erch ddorau 'r carcharan pryd hyn a agorwyd,
A myrdd o gaethweision yn cydgwrdd a welwyd,
Rhyfeddol newidiad-o ryfedd olygfa,
Trwy adsain yr udgorn pob calon ddychlama,
Gofidiau'r caethiwed yn awr a ddiflanant
O olwg y lluoedd, a hwythau gofleidiant
En gilydd o falchder wrth wrando dolefau
Yr Udgorn, yn adsain draw draw trwy'r mynyddau
Eu gwelw wynebau ddanghosant yn eglur
Mae torf y caethiwed fu'n dioddef trwm lafur
A welid yn rhodio trwy'r maesydd toreithiog,
Yn rhodio mewn rhyddid yn dyrfa fawreddog,
A'u lleisiau'n cyfeilio yn melus berori
Beroriaeth felodaidd 'Udgorn y Jiwbili."
*********
Trwy gaddug yr oesau dychmygaf wel'd bwthyn
Yn llechu yn dawel yn nghesail y dyffryn,
A'r plant ar yr aelwyd mewn dychryn yn gwrando
Ac ecco yr Udgorn trwy'r creigiau 'n adseinio,
A'r fam mewn llawenydd yn ceisio desgrifio
I'w theulu mai rhyddid oedd hyn yn arwyddo;
Er hyny 'r plant bychain nis gallent amgyffred
Pa beth a feddylid yn awr wrth gaethiwed.
Cyn hir, dyna guro, a'r drws a agorwyd,
A'r tad at ei deulu yn ol a ddychwelwyd.
O! brydferth olygfa, y croesaw dderbyniodd;
Y teulu yn awr o lawenydd a wylodd,
Trwy'r dagrau fe godent eu golwg i'r nefoedd
I dalu eu diolch i Arglwydd y Lluoedd.
Llawenydd a lanwai pob cwmwd trwy Ganaan,
A'u mawl a gyrhaedda i'r nefoedd ei hunan,
Ac engyl y wiwlan o gylch y wen orsedd
Wrandawant yn astud ar lais hoff trugaredd;
Cerubiaid, seraphiaid, ac engyl yn moli
Ar ganiad anfarwol ‘Udgorn y Jiwbili.
*********
Pan glywyd yr Udgorn trosglwyddwyd meddianau
Yn ol i'w gwir berchen yn swn ei hoff seiniau,
A mawr y llawenydd a welwyd yn mhob man
Pan ddeuai'r alltudion yn ol i wlad Canaan
I dderbyn eu heiddo yn rhad, yn "ddiddyled,"
Y tlawd a'r cyfoethog, yn awr o gaethiwed
Ymlament yn heini, a thaflwyd dialedd
O'r neilldu i drengu ar allor trugaredd,
A RHYDDID gyhoeddwyd trwy'r wlad i'r trigolion
Ar flwyddyn y Jiwbili llanwyd pob calon
A chariad brawdgarol, hyf othrwm ddiflanodd
Fel niwl i ddinodedd o'r golwg a suddodd
Yn swn ber.digedig yr Udgorn arianaidd
A'r flwyddyn a gedwid trwy'r holl wlad yn sanctaidd.
*********
A hithau'r ddaearen a huliodd ei byrddau
Yn llawn o fendithion myrdd, myrdd o berlysiau
A wenant ar fynwes toreithiog y dolydd
O ddwylaw trugarog y Nefol Waredydd.
A hwythau'r gwinllanoedd a blygant yn wylaidd
Tan bwysau eu ffrwythau-aroglant yn beraidd,
Tra'r awel yn llwythog, ymdaena ei mantell
Bersawrus, cyrhaedda ororau anghysbell.
Danghosodd y ddae'r trwy 'i ffrwythau aneiri.
Mai Duw oedd ei hunan yn Udgorn y Jiwbili.
Trwy niwloedd yr oesau ar gerbyd chwim amser,
Yr Udgorn adseinia ei adlais melusber,
Trwy enau'r proffwydi ei nodau a dreiddia
Fel trydan, nes adsain ar gopa Calfaria.
Gwefreiddir yr Udgorn yr holl greadigaeth
Gan felus gyhoeddi i fyd waredigaeth.
Pryd hyny yr engyl farchoga'r cymylau,
Gan seinio yr Udgorn mewn dwyfol gerbydau,
A'r ddaear a'r nefoedd pryd hyn a briodwyd,
Pan roddodd y Ceidwad tros bechod ei fywyd.
CWYN GOLL
Am y diweddar Mr. Thomas Evans (T. ap Ieuan), Trawsfynydd.
TRAWSFYNYDD anwylaf! pa beth yw y cri,
A glywaf yn adsain trwy'th fryniau hoff di?
Paham y mae tristwch yn llanw pob lle,
O'r dwyrain, gorllewin, y gogledd a'r de;
Paham yr wyt heddyw yn gwisgo dy ddu,—
Pa fodd y'th golledwyd fy anwyl wlad gu?
A alwyd dy feibion gan udgorn y gad,
I ryfel i ymladd dros ryddid eu gwlad?
Ai newyn ofnadwy sy'n dyfod gerllaw,
Gan daflu'th drigolion i ddychryn a braw!
Neu ydyw'r awyrgylch mor llwythog gan haint,
Nas gall y darfelydd ddesgrifio ei faint?
Na, na! fe adweiniodd y dewrion y cledd,
A newyn sy'n gorwedd yn fud yn ei fedd!
Mae natur yn gwenu,—yr awel mor glir,—
Chwareua yn nwyfus hyd wyneb y tir.
Nid rhyfel a newyn na haint sydd yn awr,
Yn esgor ar drallod pruddglwyfus y llawr;
Er hyny 'th drigolion sy'n athrist eu gwedd
Am fod T. ap Ieuan yn awr yn ei fedd!
Teyrnasai cyffro pan y clywyd hyn,
A phryder gerfiwyd ar bob grudd trwy'r wlad.
Nid ydyw iaith yn ddigon cref i ddweyd
Yn llawn pa faint a fu y golled hon.
Ond tystio wna yr ocheneidiau prudd
Esgynant fry mai anwyl ydoedd ef
Gan ei gyfeillion. Heddyw gwelir gwlad
Yn wylo dagrau hiraeth ar ei ol :
Mae'r dagrau welir ar y gruddiau llwyd,
Yn dystion gwir o'r cydymdeimlad sydd
A'r teulu yn eu trallod ar ol un
Anwylid ganddynt fel eu hanwyl dad.
Desgrifio colli tad, rhy anhawdd yw:
Oud teimlad ddywed i ni beth yw hyn.
Ei golli ef, y cain awenydd hoff;
Ow eiriau trist! 'Ap Ieuan yn ei fedd!'
Trawsfynydd hen, rhyw ddiwrnod tywyll du,
I ti oedd hwnw pan y collaist ef,
Pa ryfedd fod y Llan mewn galar dwys.
A'r Ysgol Sul yn wylo ar ei ol.
Ei lais ni chlywir mwy,—mor chwith yw gwel'd
Ei sedd yn wâg yn Eglwys hen y Plwyf.
Nid oedd un man yn nghreadigaeth Ior
Mor gysegredig yn ei olwg ef
A'r fangre dawel hon lle bu trwy 'i oes
Yn ffyddlon gydag achos Duw a'i waith.
Mor addfwyn y siaradai ar ei rhan,
Ac iddi bu yn amddiffynwr dewr,
Ac fel y dderwen gref, ni phlygai ef,—
Os collwyd gem o goron brydferth hon,
Mor felus ini ydyw cofio hyn,
Fod hwnw'n berl yn nghoron Iesu'n awr.
Os gofyn rhywun beth a wnaeth
I hawlio coffadwriaeth;
Y beirdd a ddywed, 'Rhoddodd faeth
I fyd mewn pur farddoniaeth;'
A melus ydyw cofio am
Ei odlau swynol weithian;
Ceridwen, collaist fab dinam,
Pan gollaist T. ap Ieuan.
Os gofyn rhywun beth a wnaeth
I haeddu parch mor drylw'r,
Fe dd'wed chwarelwyr er eu haeth
Collasom ein cynghorwr;
Ei ail am ddadleu ar ein rhan
Ni welir mwy yn unman,
Ond gorwedd mae ef ger y Llan,
Yr anwyl T. ap Ieuan.
Os gofyn rhywun beth a wnaeth?
Ateba y plwyfolion
Collasom un o uchel chwaeth,—
Un doeth ei ymadroddion;
Pan ddelai rhyw awelon croes
I chwythu ar yr egwan,
Esmwythid pob rhyw gur a loes,
Os gallai T. ap Ieuan.
Os gofyn rhywun beth a wnaeth
I anfarwoli 'i enw,
Yr ateb ddaw fel hedol saeth
I ddweyd o blith y meirw,
Mai enwog fu am nyddu pill,
A'i gerfio ar y lech lan;
Ac o mor swynol yw pob sill
O eiddo T. ap Ieuan.
Os gofyn rhywun beth a wnaeth
I fod yn ddyn mor hynod,
Cewch ateb yn y rhain a ddaeth
I'w ddilyn at y beddrod.
Yr Eglwys fel rhyw weddw brudd,
Sisialai wrthi 'i hunan,
'Fy mhlentyn hoff, pwy i ni fydd
Mor bur a T. ap Ieuan?
Os gofyn rhywun beth a wnaeth
I beri y fath ddagrau?
Yr ateb yw mai angau ddaeth
I rwygo ein calonau;
Ond, aeth a'n cyfaill hoff i'w le,
At Iesu Grist ei hunan;
Trwy'n colled ni fe gadd y ne',
Yr anwyl T. ap Ieuan.
Nid marw wnaeth y cyfaill, huno mae
Mewn tawel fan, o gyraedd poen a gwae
Y byd. Mae ef yn gwybod erbyn hyn,
Pa beth yw newid byd a chroesi'r glyn
I'r ochr draw i'r llen, lle nad oes cur
Na thrallod i gymylu'r gwynfyd pur.
Ha ddaear, na falchia, 'does ond rhan
O hono 'n llechu ynot ger y Llan;
Mae'r enaid yn Mharadwys, gwlad yr hedd,
Yn canu mawl; y corff sydd yn y bedd!
Mor drist yw meddwl na chawn weled mwy,
Ei ddelw hardd yn Eglwys hen y plwy',
Na chlywed ei soniarus lais mewn cân
Yn ysbrydoli'r dorf yn fawr a mân.
Nid yma'n unig y danghosai e',
Ei hroffes hardd, fel Cristion yn mhob lle:
Yr unrhyw a fu ef o hyd, trwy'i oes,—
Yn filwr pur i grefydd Crist a'i groes.
Er fod ei gorff yn fud, mae ef yn fyw
Yn siarad gyda ni. Mor amlwg yw
Ein Tap Ieuan yn ei odlau cun,—
Mae yno'n fyw 'r un fath ag ef ei hun,
Yn dangos ei gymeriad gloew glân,
Fel un yn gwisgo lifrai 'r Wynfa lân
Chwarelwyr, meib Ffestiniog heddyw sydd,
Fel plant amddifad ar ei ol,—— mor brudd
'R edrychant hwy wrth wel'd mai gwag yw'r fan
Lle gynt y gwelwyd ef yn gwneyd ei ran,
Fel gweithiwr gonest, am flynyddau maith.
Bu'n addurn i'w gyd—ddynion yn y gwaith,
Ac os anghydfod ddeuai rhwng rhyw rai,
Mor dyner y danghosai ef eu bai,
Fel pan 'redychant ar ei siriol wedd,
A gwrando ar ei lais, teyrnasai hedd!
Fel cyfaill nid oedd well o dan y nef,
Nac un yn haeddu mwy o barch nac ef.
Pan byddai 'n dod o'i waith, edrychai'r plant
Ar ddelw T. ap Ieuan, fel ar sant;
Ac o fel carai yntau blant y Llan
Ac anwyl yn ei olwg oedd y fan,
Lle'r ymgynhullent hwy bob Sul yn nghyd,
I son am bethan uwch na phethau'r byd ;
A llawer o'i gynghorion doeth a fu,
Cyn hyn yn foddion i oleuo llu
O blant sydd heddyw yn golofnau byw,
Yn dilyn ol ei droed hyd lwybrau Duw;
Ei wersi fel amryliw flodau mân
Sy'n britho allor serch yn bur a glân;
Trysorir hwynt fel gemau nefol ryw,
Gan lawer mab a merch, sydd hedyw'n byw
Yn mhell o'r fan, lle gynt y dysgwyd hwy
I ofni Duw yn Ysgol Sul y Plwy'.
Bydd enw Glan y Wern, ei gartref clyd,
Yn llawn o swyn ar gof y wlad o hyd
Fel mangre gysegredig.—O mor hardd
Yw'r bwthyn hwn, hen gartref hoff y bardd;
Fe erys hwn fel yn y dyddiau fu,
Ond rhwng ei furiau heddyw, galar du
Deyrnasai dros y fan, Ha gwag yw'r sedd
Lle bu; Ow eiriau trist, mae yn ei fedd!
Ond sychwch chwi eich dagrau deulu mad,
Mae'r oll er gwell yn nwyfol drefn y Tad.
O boed i Dduw eich arwain ato ef,—
Cewch eto gwrdd wrth orseddfainc y nef.
Nid oes angen colofn arno,
Y mae hono yn ei waith;
Er's blynyddau wedi'i gerfio
Yn llenyddiaeth bur ein hiaith,—
A thra treigla dyfroedd gloewon
Prysor, trwy y dawel fro;
Bydd ei enw gan lenorion
Byth yn fyw ar lech y co'.
Gorphwys, gorphwys, gyfaill anwyl,
Boed dy hun yn llawn o hedd ;
Gristion dysglaer, fe fydd engyl
Nef yn gwylio man dy fedd,
Hyd nes treigla oesau'r cread,
Pan ddaw amser byd i ben;
Yna do'i o'r bedd, ar alwad
Duw heb liw 'r ddaearol lẹn,
Pan gadawa lwch Trawsfynydd,
Bydd ei wisg yn hardd ei gwedd;
Pan yn myned mewn llawenydd
Atysainti wlad yr hedd.
Yno bydd mewn anfarwoldeb,
Yn molianu Duw a'r Oen,
Gyda'r Iesu i dragwyddoldeb,—
Byth i deimlo cur na phoen.
Y BALA:
ARGRAFFWYD GAN DAVIES AC EVANS.
Nodiadau
golygu- ↑ Murmuron Awen, Robert Roberts (Gwaenfab), Davies & Evans Y Bala, 1895
Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.